Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.39.0-wmf.21 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Gadget Gadget talk Gadget definition Gadget definition talk Tudalen:Cwm Eithin.pdf/70 104 19127 36821 36820 2022-07-20T00:20:10Z AlwynapHuw 1710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>isio i swper heno, blant, gael i chi fynd i'ch gwlâu?” Gofynnem ninnau un am y peth yma a'r llall am y peth arall; a phan na fyddai ein mam mewn hwyl i wneud rhagor nag un math o fwyd, dyna a glywem: "Mae eisieu eich anfon at Beti'r Ceunant." Yr hanes oedd fod Beti Jones wedi hen flino yn coginio gwahanol fwydydd i'r plant. Yr oedd ganddi bump ar hugain ohonynt, ac ar bob un eisiau rhywbeth gwahanol i'w swper. Cymerodd yn ei phen y rhoddai ddiwedd ar yr helbul, trwy ffordd wreiddiol o'i heiddo ei hun. Dechreuodd ofyn i'r plant, o'r hynaf hyd yr ieuengaf, beth a gymerent i'w swper, ac aeth drwyddynt oll yn y drefn a ganlyn: {{Center block| <poem> "Robin, be gymi di i dy swper heno?" "Uwd." "Nel, be gymi di?" "Siot." "Mari, be gymi di?" "Posel." "Dic, be gymi di?" "Bara llaeth cynnes." "Sian, be gymi di?" "Maidd." "Twm, be gymi di?" "Llymru." "Sionyn, be gymi di?" "Siot oer." "Cit, be gymi di?" "Bara llefrith." "Dei, be gymi di?" "Potes gwyn." "Abraham Ephraim, be gymi di?" "Bara mewn diod fain." "Jacob Henry, be gymi di?" "Tatws a llaeth." "Hannah Deborah, be gymi di?" "Griwel blawd ceirch." "Ruth Salomi, be gymi di?" "Picws Mali." "Charles Edward, be gymi di? ""Potes pig tegell." "Humphrey Cadwaladr, be gymi di?" "Maidd torr." "Claudia Dorothy, be gymi di?" "Brywes dŵr." "Margaret Alice, be gymi di?" "Posel dŵr." "Goronwy, be gymi di?" "Bara llaeth oer." "Arthur, be gymi di?" "Brwchan." "Blodwen, be gymi di ?" "Potes." "Gwladys, be gymi di?" "Siot bosel." Rhys, be gymi di?" "Brywes." "Corwena, be gymi di?" "Gruel peilliad." "Caradoc, be gymi di ?" "Bara llaeth wedi ei grasu." "Llewelyn, be gymi di, fy myr i?" "Mi gyma i uwd yr un fath â Robin." </poem> }} </br><noinclude><references/></noinclude> r4girellmsh7pr0h7dx9ymas0p80uph 36823 36821 2022-07-20T00:21:16Z AlwynapHuw 1710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>isio i swper heno, blant, gael i chi fynd i'ch gwlâu?” Gofynnem ninnau un am y peth yma a'r llall am y peth arall; a phan na fyddai ein mam mewn hwyl i wneud rhagor nag un math o fwyd, dyna a glywem: "Mae eisieu eich anfon at Beti'r Ceunant." Yr hanes oedd fod Beti Jones wedi hen flino yn coginio gwahanol fwydydd i'r plant. Yr oedd ganddi bump ar hugain ohonynt, ac ar bob un eisiau rhywbeth gwahanol i'w swper. Cymerodd yn ei phen y rhoddai ddiwedd ar yr helbul, trwy ffordd wreiddiol o'i heiddo ei hun. Dechreuodd ofyn i'r plant, o'r hynaf hyd yr ieuengaf, beth a gymerent i'w swper, ac aeth drwyddynt oll yn y drefn a ganlyn: {{Center block| <poem> "Robin, be gymi di i dy swper heno?" "Uwd." "Nel, be gymi di?" "Siot." "Mari, be gymi di?" "Posel." "Dic, be gymi di?" "Bara llaeth cynnes." "Sian, be gymi di?" "Maidd." "Twm, be gymi di?" "Llymru." "Sionyn, be gymi di?" "Siot oer." "Cit, be gymi di?" "Bara llefrith." "Dei, be gymi di?" "Potes gwyn." "Abraham Ephraim, be gymi di?" "Bara mewn diod fain." "Jacob Henry, be gymi di?" "Tatws a llaeth." "Hannah Deborah, be gymi di?" "Griwel blawd ceirch." "Ruth Salomi, be gymi di?" "Picws Mali." "Charles Edward, be gymi di? ""Potes pig tegell." "Humphrey Cadwaladr, be gymi di?" "Maidd torr." "Claudia Dorothy, be gymi di?" "Brywes dŵr." "Margaret Alice, be gymi di?" "Posel dŵr." "Goronwy, be gymi di?" "Bara llaeth oer." "Arthur, be gymi di?" "Brwchan." "Blodwen, be gymi di ?" "Potes." "Gwladys, be gymi di?" "Siot bosel." Rhys, be gymi di?" "Brywes." "Corwena, be gymi di?" "Gruel peilliad." "Caradoc, be gymi di ?" "Bara llaeth wedi ei grasu." "Llewelyn, be gymi di, fy myr i?" "Mi gyma i uwd yr un fath â Robin." </poem> }}<noinclude><references/></noinclude> 0im4tuesm1vumgbk8b2i2fp91kcp6cb Tudalen:Cwm Eithin.pdf/71 104 19128 36822 2022-07-20T00:20:58Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Center block| <poem> "Da machgen i. Mae Llewelyn am fynd yn ddyn." "Nage, mi gyma i faidd 'r un fath â Siân. Nage, llymru'r un fath â Twm." "Ceith o, ngwas i." </poem> }} Ar ôl derbyn yr holl gyfarwyddiadau, ymneilltuodd Beti i'r briws, yn hollol dawel, heb ddywedyd y drefn fel arfer, yr hyn a barodd gryn syndod i'r plant, nes peri iddynt edrych ar ei gilydd yn awgrymiadol, a cheisient ddyfalu beth a allai fod. Bu Beti y... proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block| <poem> "Da machgen i. Mae Llewelyn am fynd yn ddyn." "Nage, mi gyma i faidd 'r un fath â Siân. Nage, llymru'r un fath â Twm." "Ceith o, ngwas i." </poem> }} Ar ôl derbyn yr holl gyfarwyddiadau, ymneilltuodd Beti i'r briws, yn hollol dawel, heb ddywedyd y drefn fel arfer, yr hyn a barodd gryn syndod i'r plant, nes peri iddynt edrych ar ei gilydd yn awgrymiadol, a cheisient ddyfalu beth a allai fod. Bu Beti yn y briws am gryn amser yn paratoi y gwahanol ddysgleidiau. Ymhen encyd daeth yn ei hôl i'r gegin a'r badell dylino yn ei breichiau, a gosododd hi ar ganol y bwrdd mawr, yna dechreuodd gario'r tanceri a'u cynnwys i mewn, dau ym mhob llaw. Ar ol dyfod â hwy i gyd ar y bwrdd tywalltodd gynnwys pob un i'r badell. Ar ôl gorffen, cymerodd yr uwtffon a throdd gynnwys y badell fel yr arferai droi yr uwd â holl nerth ei braich, nes oedd wedi ei gymysgu'n dda. Yna cymerodd y tanceri, a chyda chwpan glust llanwodd hwy o un i un, rhai yn hanner llawn a rhai tua thri chwarter llawn, a rhai yn llawn hyd yr ymyl, yn ôl gwybodaeth fanwl Beti o allu'r plant i glirio eu bwyd. Dechreuodd eu gosod yn un pen i'r bwrdd lle yr eis- teddai Robin, ac aeth ar hyd un ochr i'r bwrdd rownd un talcen ac ar hyd yr ochr arall lle'r oedd meinciau. Edrychai'r plant yn wirion arni gan feddwl ei bod wedi drysu. Yna gafaelodd Beti yn yr uwtffon; cododd hi uwch ei phen, t'rawodd ei throed yn y llawr a'r bwrdd â'i dwrn, a gwaeddodd gydag awdurdod: "At eich swper bob un, a'r un gair o geg yr un ohonoch. Bwytewch eich swper bob tamaid; mi ddysga i chwi gymryd be gewch chi i'ch swper. Welsoch chi rotsiwn beth â'r plant, deudwch? Beth ydech chi'n feddwl ydw i?” Ymlusgodd pob un yn araf i'w le, a gosododd pob un ei benelin chwith ar y bwrdd, a'i ben i orffwys ar ei law, gan hel ei dancer o dan ei enau. Golygfa i'w chofio oedd honno. I dorri ar yr unffurfiaeth, digwyddai nad oedd llaw ddehau pob un o'r plant yr un ochr, felly, yn lle bod pob un â'i wyneb at wegil y nesaf ato, gwelid weithiau ddau â'u hwynebau at ei gilydd, a dau arall wedi troi eu cefnau at ei gilydd fel pe wedi syrthio allan. Golwg athrist oedd arnynt oll. Buont yn hir fwyta, gan edrych o dan eu cuwch dros ymyl y tancer a oedd ffordd o waredigaeth. Ond safai Beti yn ddisyf wrth dalcen y bwrdd<noinclude><references/></noinclude> i8nbhscqqtkcc9thczkvyuhp7oytts7 36824 36822 2022-07-20T00:25:28Z AlwynapHuw 1710 /* Proofread */ proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block| <poem> "Da machgen i. Mae Llewelyn am fynd yn ddyn." "Nage, mi gyma i faidd 'r un fath â Siân. Nage, llymru'r un fath â Twm." "Ceith o, ngwas i." </poem> }} Ar ôl derbyn yr holl gyfarwyddiadau, ymneilltuodd Beti i'r briws, yn hollol dawel, heb ddywedyd y drefn fel arfer, yr hyn a barodd gryn syndod i'r plant, nes peri iddynt edrych ar ei gilydd yn awgrymiadol, a cheisient ddyfalu beth a allai fod. Bu Beti yn y briws am gryn amser yn paratoi y gwahanol ddysgleidiau. Ymhen encyd daeth yn ei hôl i'r gegin a'r badell dylino yn ei breichiau, a gosododd hi ar ganol y bwrdd mawr, yna dechreuodd gario'r tanceri a'u cynnwys i mewn, dau ym mhob llaw. Ar ol dyfod â hwy i gyd ar y bwrdd tywalltodd gynnwys pob un i'r badell. Ar ôl gorffen, cymerodd yr uwtffon a throdd gynnwys y badell fel yr arferai droi yr uwd â holl nerth ei braich, nes oedd wedi ei gymysgu'n dda. Yna cymerodd y tanceri, a chyda chwpan glust llanwodd hwy o un i un, rhai yn hanner llawn a rhai tua thri chwarter llawn, a rhai yn llawn hyd yr ymyl, yn ôl gwybodaeth fanwl Beti o allu'r plant i glirio eu bwyd. Dechreuodd eu gosod yn un pen i'r bwrdd lle yr eisteddai Robin, ac aeth ar hyd un ochr i'r bwrdd rownd un talcen ac ar hyd yr ochr arall lle'r oedd meinciau. Edrychai'r plant yn wirion arni gan feddwl ei bod wedi drysu. Yna gafaelodd Beti yn yr uwtffon; cododd hi uwch ei phen, t'rawodd ei throed yn y llawr a'r bwrdd â'i dwrn, a gwaeddodd gydag awdurdod: {{Center block| <poem> "At eich swper bob un, a'r un gair o geg yr un ohonoch. Bwytewch eich swper bob tamaid; mi ddysga i chwi gymryd be gewch chi i'ch swper. Welsoch chi rotsiwn beth â'r plant, deudwch? Beth ydech chi'n feddwl ydw i?” </poem> }} Ymlusgodd pob un yn araf i'w le, a gosododd pob un ei benelin chwith ar y bwrdd, a'i ben i orffwys ar ei law, gan hel ei dancer o dan ei enau. Golygfa i'w chofio oedd honno. I dorri ar yr unffurfiaeth, digwyddai nad oedd llaw ddehau pob un o'r plant yr un ochr, felly, yn lle bod pob un â'i wyneb at wegil y nesaf ato, gwelid weithiau ddau â'u hwynebau at ei gilydd, a dau arall wedi troi eu cefnau at ei gilydd fel pe wedi syrthio allan. Golwg athrist oedd arnynt oll. Buont yn hir fwyta, gan edrych o dan eu cuwch dros ymyl y tancer a oedd ffordd o waredigaeth. Ond safai Beti yn ddisyfl wrth dalcen y bwrdd<noinclude><references/></noinclude> blrld2lwpwm7xsm2dg9u5752c6gucac Tudalen:Cwm Eithin.pdf/72 104 19129 36825 2022-07-20T00:26:55Z AlwynapHuw 1710 /* Proofread */ proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â'r uwtffon i fyny gan wasgu ei dannedd. Disgwyliai Beti eu clywed yn crafu gwaelod y tancer â'r llwy bren. Cyrhaeddodd ambell un yn agos i'r gwaelod; ond cyn hir gwelai Beti glustiau ambell un yn dechrau gwynnu. Gwaeddodd hithau, "I'ch gwlâu bob un," ac yn sicr ni fu gwell ganddynt erioed fyned i'w gwlâu na'r noson honno. Pan fygythid swper Beti arnom, arferem swatio ar unwaith, a chymryd a gaem, er y gwyddem yn bur dda ynom ein hunain na fuasai ein mam yn cymryd llawer am roi swper Beti'r Ceunant i ni. Yr oedd y frân wen wedi ein hysbysu na chymerasai Beti lawer am wneud yr un peth eilwaith, oherwydd Robin, Siân a Thwm oedd yr unig rai a allodd godi i odro bore drannoeth. Bu llu ohonynt yn eu gwlâu am ddyddiau. Bu agos i nifer o'r plant canol golli'r fatel, oherwydd yr enwau a roddodd Beti arnynt a'r bwyd a roddodd iddynt. Ond er credu stori'r frân wen ni fu gennym erioed ddigon o wroldeb i sefyll dros ein hawliau i gael y peth a fynnem i'n swper. Ymostwng i'r trefniadau y byddem bob amser<noinclude><references/></noinclude> rh78xltg4ojymkr28o9kv2f4utisrv2