Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.39.0-wmf.23
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Gadget
Gadget talk
Gadget definition
Gadget definition talk
Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau
2
10285
37746
37731
2022-08-10T00:38:00Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
==Wedi eu Cyhoeddi==
#[[Llenyddiaeth Fy Ngwlad|Llenyddiaeth Fy Ngwlad gan Thomas Morris Jones (Gwenallt)]]
#[[Aildrefniad Cymdeithas|Aildrefniad Cymdeithas gan R J Derfel]]
#[[Yny lhyvyr hwnn|Yny lhyvyr hwnn gan John Prys]]
#[[Ban wedy i dynny]]
#[[Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia]]
#[[Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011]]
#[[Cymru Fu|Cymru Fu gan Isaac Foulkes]]
#[[Coelion Cymru|Coelion Cymru gan Evan Isaac]]
#[[Mesur Addysg (Cymru) 2011]]
#[[Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)]]
#[[Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014]]
#[[Lewsyn yr Heliwr (nofel)]]
#[[Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2010]]
#[[Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd]]
#[[Ar y Groesffordd]]
#[[Caniadau ac ati]]
#[[Caniadau Buddug]]
#[[Cerddi a Baledi]]
#[[Cyflafan Ofnadwy Dolgellau]]
#[[Gwaith Ann Griffiths]]
#[[Gwaith John Davies]]
#[[Gwaith Thomas Griffiths]]
#[[Gwaith John Hughes]]
#[[Gwaith John Thomas]]
#[[Rhan o waith mewn Cernyweg Canol (Add. Ch. 19491)]]
#[[Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)]]
#[[William Jones (Nofel)]]
#[[Cartrefi Cymru, O. M. Edwards]]
#[[Cerddi'r Eryri]]
#[[Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg]]
#[[Chwedlau'r Aelwyd]]
#[[Gwaith Dewi Wnion]]
#[[Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo]]
#[[Plant Dic Sion Dafydd]]
#[[Telynegion Maes a Môr]]
#[[Tro yn Llydaw]]
#[[Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron]]
#[[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]]
#[[Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd]]
#[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 1]]
#[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 2]]
#[[Bywyd a Gwaith Henry Richard AS]]
#[[Gwaith Ceiriog]]
#[[Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)]]
#[[Y Siswrn]]
#[[Gwaith Dafydd ap Gwilym]]
#[[Diarhebion Cymru]]
#[[Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth]]
#[[Cân neu Ddwy]]
#[[Llyfr Nest]]
#[[O Law i Law]]
#[[Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
#[[Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai]]
#[[Gwaith S.R.]]
#[[Oll synnwyr pen Kembero ygyd]]
#[[Ceris y Pwll]]
#[[Gwaith Alun]]
#[[Straeon y Pentan]]
#[[Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr]]
#[[Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone]]
#[[Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia]]
#[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf I]]
#[[Griffith Ellis Bootle, Cymru Cyf 23, 1902]]
#[[Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910]]
#[[Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron]]
#[[Llyfr Del]]
#[[Rhai o Gymry Lerpwl]]
#[[Y Gelfyddyd Gwta]]
#[[Rhyfeddodau'r Cread]]
#[[Yn y Wlad]]
==Wedi eu cyhoeddi heb sgan==
#[[Yr Hwiangerddi (O M Edwards)]]
#[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf II]]
#[[Pascon Agan Arluth]]
#[[Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg]]
==Wedi eu prawfddarllen heb eu cyhoeddi==
#[[Indecs:Daffr Owen.pdf]]
#[[Diliau Meirion Cyf I]]
#[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]
==Rhannau wedi eu cyhoeddi==
#[[Enwogion Sir Aberteifi]]
#[[Enwogion Ceredigion]]
#[[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]]
#[[Indecs:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf]]
#[[Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I]]
==Angen eu prawfddarllen==
#[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]]
#[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf]]
#[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]]
#[[Indecs:Ystoriau Siluria..pdf]]
#[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]]
#[[Indecs:Cantref Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.pdf]]
#[[Indecs:Yr athrawes o ddifrif.pdf]]
#[[Indecs:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu]]
#[[Indecs:Ap-Vychan-CyK.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]]
#[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Caneuon Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant James Davies Radnor O.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf]]
#[[Indecs:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu]]
#[[Indecs:Hunangofiant Rhys Owen, Gweinidog Bethel.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf]]
#[[Indecs:Oriau'r Hwyr.pdf]]
#[[Indecs:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu]]
#[[Indecs:Y trydydd cynyg Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Yr ail Gynnyg, Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Profedigaethau Enoc Huws.pdf]]
#[[Indecs:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf]]
#[[Indecs:Tri chryfion byd.pdf]]
#[[Indecs:Caniadau John Morris-Jones.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu]]
#[[Indecs:Methodist Cymru Cyfrol II.djvu]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu]]
#[[Indecs:Aleluia - neu, lyfr o hymnau (IA aleluianh00will).pdf]]
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf]]
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 2 (IA pantycelyn gweithiau2).pdf]]
#[[Indecs:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf]]
#[[Indecs:Llyfr emynau (IA llyfrem00jone).pdf]]
#[[Indecs:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf|Mabinogion J M Edwards Cyf 2]]
#[[Indecs:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf]]
#[[Indecs:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]]
#[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu]]
#[[Indecs:Cwm Eithin.pdf]]
#[[Indecs:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf]]
#[[Indecs:Diliau Meirion Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Môn.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]]
#[[Indecs:Iolo Goch (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Yr Ogof.pdf]]
#[[Indecs:Taith y pererin darluniadol.pdf]]
#[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Owen.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]]
#[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]]
#[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.pdf]]
#[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Morganwg (IA hanesmorganwg00morggoog).pdf]]
#[[Indecs:Wil Brydydd y Coed.pdf]]
#[[Indecs:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (IA bywgraffiadydiwe00evan).pdf]]
#[[Indecs:Camrau mewn grammadeg Cymreig (IA camraumewngramma00apiw).pdf]]
#[[Indecs:Hanes Cymru America.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]]
#[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]]
#[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]]
#[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]]
#[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]]
#[[Indecs:Emrys (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]]
#[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]]
#[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd, Llanystumdwy.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]]
#[[Indecs:Er mwyn Iesu - pregethau, &c t (IA ermwyniesupreget00jone).pdf]]
#[[Indecs:Traethodau ac Areithiau R J Derfel.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1320 hyd 1650.pdf]]
#[[Indecs:Er Mwyn Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Y Cychwyn.pdf]]
==Wedi sganio efo peiriant Wiki UK==
#[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]]
#[[Indecs:Yn y Wlad.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]]
#[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]]
#[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Del (OME).pdf]]
#[[Indecs:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]]
#[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:O Law i Law.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Cwm Eithin.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]]
#[[Indecs:Iolo Goch (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Ceris y Pwll.pdf]]
#[[Indecs:Yr Ogof.pdf]]
#[[Indecs:Penillion Telyn.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Owen.pdf]]
#[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]]
#[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]]
#[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.pdf]]
#[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]
#[[Indecs:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf]]
#[[Indecs:Y Gelfyddyd Gwta.pdf]]
#[[Indecs:Rhyfeddodau'r Cread.pdf]]
#[[Indecs:Ar y Groesffordd.pdf]]
#[[Indecs:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf]]
#[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]]
#[[Indecs:Ystoriau Siluria..pdf]]
#[[Indecs:Daffr Owen.pdf]]
#[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]]
#[[Indecs:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]]
#[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]]
#[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]]
#[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]]
#[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]]
#[[Indecs:Emrys (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]]
#[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]]
#[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd, Llanystumdwy.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]]
#[[Indecs:Y Cychwyn.pdf]]
===Saesneg===
#The History of The Great European War Vol 1 [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_The_Great_European_War_Vol_1.pdf]
#The History of The Great European War Vol II [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_II.pdf]
#The History of The Great European War Vol III [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_III.pdf]
#Kalendars of Gwynedd [https://en.wikisource.org/wiki/Index:Kalendars_of_Gwynedd.pdf]
#Speeches and addresses by the late Thomas E. Ellis M.P. [https://en.wikisource.org/wiki/Index:Speeches_and_addresses_by_the_late_Thomas_E_Ellis_M_P.pdf]
kvaw6whxvof52ak99s99dgqlcm5ger4
Testunau sydd angen eu gwirio
0
11210
37745
37730
2022-08-10T00:37:04Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
#[[Indecs:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf]]
#[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]]
#[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]]
#[[Indecs:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf]]
#[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]]
#[[Indecs:Ystoriau Siluria..pdf]]
#[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]]
#[[Indecs:Tri chryfion byd.pdf]]
#[[Indecs:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]]
#[[Indecs:Cantref Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf]]
#[[Indecs:Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.pdf]]
#[[Indecs:Yr athrawes o ddifrif.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu]]
#[[Indecs:Ap-Vychan-CyK.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]]
#[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Caneuon Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant James Davies Radnor O.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf]]
#[[Indecs:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu]]
#[[Indecs:Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion cymru Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Hunangofiant Rhys Owen, Gweinidog Bethel.pdf]]
#[[Indecs:Oriau'r Hwyr.pdf]]
#[[Indecs:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu]]
#[[Indecs:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu]]
#[[Indecs:Y trydydd cynyg Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Yr ail Gynnyg, Mynyddog.djvu]]
#[[Indecs:Profedigaethau Enoc Huws.pdf]]
#[[Indecs:Caniadau John Morris-Jones.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu]]
#[[Indecs:Methodist Cymru Cyfrol II.djvu]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu]]
#[[Indecs:Aleluia - neu, lyfr o hymnau (IA aleluianh00will).pdf]]
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf]]
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 2 (IA pantycelyn gweithiau2).pdf]]
#[[Indecs:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf]]
#[[Indecs:Llyfr emynau (IA llyfrem00jone).pdf]]
#[[Indecs:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf|Mabinogion J M Edwards Cyf 2]]
#[[Indecs:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]]
#[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu]]
#[[Indecs:Cwm Eithin.pdf]]
#[[Indecs:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf]]
#[[Indecs:Diliau Meirion Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Môn.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu]]
#[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf]]
#[[Indecs:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf]]
#[[Indecs:Iolo Goch (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Yr Ogof.pdf]]
#[[Indecs:Taith y pererin darluniadol.pdf]]
#[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]]
#[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]]
#[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.pdf]]
#[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]
#[[Indecs:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Wil Brydydd y Coed.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Morganwg (IA hanesmorganwg00morggoog).pdf]]
#[[Indecs:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (IA bywgraffiadydiwe00evan).pdf]]
#[[Indecs:Camrau mewn grammadeg Cymreig (IA camraumewngramma00apiw).pdf]]
#[[Indecs:Hanes Cymru America.djvu]]
#[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]]
#[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]]
#[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]]
#[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]]
#[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]]
#[[Indecs:Emrys (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]]
#[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]]
#[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd, Llanystumdwy.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]]
#[[Indecs:Er mwyn Iesu - pregethau, &c t (IA ermwyniesupreget00jone).pdf]]
#[[Indecs:Traethodau ac Areithiau R J Derfel.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1320 hyd 1650.pdf]]
#[[Indecs:Er Mwyn Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Y Cychwyn.pdf]]
f6anwvp4vt79owctygarqcvxasxy95x
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/63
104
19729
37733
2022-08-09T21:00:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wele ffordd gul yn fy arwain i mewn i fryniau
Meirionnydd, i un o'r glynnoedd sy'n awr yn ymagor
ar y morfa marw ond a fu gynt yn agor ar y môr
byth aflonydd. Cerddais, am nas gwn i faint,
wedi ymgolli yn nhlysni blodau ochrau'r ffordd
a glesni'r mynyddoedd mawr yn eu tawelwch
pell. A pha ryfedd? Onid diwedd haf oedd hi,
a'r amaethwyr yn cludo olion gwair oddiar y
ffriddoedd a thoraeth euraidd yr yd o'r caeau
islaw? A chanai clych yr eos ogoniant yr hydref.
Ond, ar y dde, yn ochr y ffordd, dyma fynwent.
Y mae mur cadarn, trwchus ac uchel, o'i hamgylch,
rhyngddi a'r ffordd odditanodd a rhyngddi a'r
llechwedd oddiarni. Medrais ddringo iddi, i annedd
dawel y marw. Ac wedi i mi edrych o'm cwmpas,
yr oeddwn megis wedi dringo i brydferthwch y
nefoedd.
Edrychais i ddechre dros y ffordd y dringaswn ohoni.
Odditanaf yr oedd llawr Aber Glaslyn,
a throsto codai'r Wyddfa i'r nen o ganol ei theulu
cawraidd. Troais i'r ochr arall, ac yr oedd yno
lechwedd creigiog, coediog, uchel, yn ddarlun o
gadernid. Ar y dde yr oedd perllan a choedydd
yn codi o gaeau gwyrddion; ar yr aswy gwelwn
lethrau creigiog Croesor a'r Cnicht pigfain dieithr.
Ac o'm hamgylch yr oedd beddau. Eto, er y
gellid clywed su esgyll gwybedyn heb glustfeinio,
yr oedd y distawrwydd fel pe'n orlawn o leisiau
a'r tawelwch fel pe'n orlawn o fywyd.
Yn y gornel ar y dde, a'r graig yn gysgod iddo,
cefais y bedd yr oeddwn wedi dod i chwilio am
dano. Symledd a chadernid oedd nodweddion
y bedd, carreg las o'r mynydd gerllaw yn gorwedd<noinclude><references/></noinclude>
tu6emjd8rznwm355hrwbbdcp8mkwz9z
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/64
104
19730
37734
2022-08-09T21:06:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar gerrig celyd y fro. A dyma'r ysgrif sydd arno,
wedi ei cherfio'n eglur a dwfn,—
{{canoli|Yma y gorwedd hyd yr}}
{{canoli|Adgyfodiad, Gorph}}
{{canoli|JOHN RICHARD JONES,}}
{{center block|
<poem>
wedi treulio yn agos i 34n o flynyddau
yn FUGAIL diwyd, ffyddlon, a
llafurus: i'r EGLWYS gynnulledig
yn y lle hwn; gan ymdrech yn
ddiysgog o blaid yr EFENGYL
hyd ei ddiwedd; a goddef cystydd
am air Duw, a thystiolaeth Iesu, &c.
Gorphenodd ei waith a'i Yrfa
Mehefin y 27n 1822, ei oedran 57.
</poem>
}}
</br>
{{center block|
<poem>
Pregethwr pur, ac ieithydd; hyd ei farw
::Adferwr gwir Grefydd;
:Pur ei araeth, Ferorydd,
:Un hoff iawn, iach yn y ffydd.
O'r gro pan ddeuo ryw ddydd, gyda'r OEN
::Caiff gadw'r wyl dragywydd;
:Ail einioes o lawenydd,
:A hir saif, i'w aros sydd.
</poem>
}}
</br>
A dyma'r lle hyfryd y gorwedd J. R. Jones o
Ramoth ynddo, wedi bywyd ymdrechgar llawn o
agor bydoedd newydd y meddwl a thragwyddoldeb
o flaen gwerin gwlad. Canmolais ef unwaith wrth
yr hwn sydd erbyn heddyw yr enwocaf o'i bobl,
a'i enw ledled y byd. Ac atebodd yn chwareus,
nid oedd ond llanc y pryd hwnnw,—"Buasai'n
well iddo o lawer fynd i Lundain, lle cawsai ei
alluoedd chware teg yn lle aros yn y fan yma,
i gario mawn ar ei gefn o'r mynydd." Ond gall
dyn mawr weithio mewn cylch bychan, ac y mae'n
rhaid i rywrai aros yn y wlad. Y mae ffrwyth
llafur yr efengylwr diofn a difloesgni, meddylgar<noinclude><references/></noinclude>
bdzjbo3rzd2mxsbftyust7zao3uldds
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/65
104
19731
37735
2022-08-09T21:12:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac ysgolheigaidd yn aros eto, a chynhydda o gynhaeaf i gynhaeaf. Gorwedd yma fel Arthur yn
ei ogof, a'i farchogion o'i amgylch,—wele eu beddau
hwythau'n llu gerllaw.
Bum yn ymgomio hyd ffyrdd y fro swynol,
ers llawer o flynyddau, â phobl J. R. Jones.
Bob blwyddyn dyfnheir yr argraff gyntaf wnaethant
arnaf, fod tri nodwedd iddynt,—boneddigeiddrwydd,
gonestrwydd, a gwybodaeth o'r Beibl. Dylaswn
nodi y nodwedd olaf yn gyntaf, hwyrach, oherwydd
mai hi yw sylfaen ac achos y lleill. Ac yma y mae
eu blaenoriaid yn huno, a'r bugail yn eu mysg.
Y mae'r fynwent ar y llechwedd fel gorffwysfa
milwyr ac offeiriaid rhyw Urdd Ioan, wedi eu dydd
o ymladd a gwaith, dygir hwy yma i huno gyda'i
gilydd. Y mae'r cerrig yn hanes byw. Gorwedd
hon ar fyfyriwr o Goleg Normalaidd Bangor, llanc
o Ffestiniog, wywodd wrth hogi ei gryman ar gyfer
cynhaeaf mawr,—
{{center block|
<poem>
"Arwyddfan uwch gorweddfa—y diwyd
::Owen Jones geir yma ;
:Gŵr o addysg orwedda,
:Ac un o deg enw da."
</poem>
}}
A chydag ef huna ei dad o'r un enw, "a alwyd
yn dra sydyn," fel y gwneir yn y chwarelau ambell
dro,—
{{center block|
<poem>
"Tad hawdd ei hoffi, gwir serchog briod,
A hoff was Iesu, sy'n gorffwys isod;
Daeth oes o ymdrech yn erbyn pechod
Yn sydyn i derfyn.—gwaith yn darfod;
Ond gwyddai am gyfamod—a ddeil mewn bri
Yn hwy na meini cedyrn y Manod."
</poem>
}}
Dyma golofn i chwarelwr laddwyd yn chwarel
Oakeley, "godwyd o barch gan ei gydweithwyr."<noinclude><references/></noinclude>
s5q71mdghccsn8ol2634e1aiqd26cuo
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/66
104
19732
37736
2022-08-09T21:13:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ac fel yr eir o'r naill garreg las i un arall, o golofn
i golofn, ceir yma deulu crefyddol o wŷr a gwragedd
o feddwl disgybledig ac o chwaeth bur. Am un
bedd yn unig yr holais, bedd newydd oedd wedi
ei gau ddoe, bedd y blodau gwylltion, wedi eu
casglu gan blant, eto heb wywo arno. Bedd
cenhades ieuanc oedd, fu'n cyhoeddi'r efengyl
ar Fryniau pell; ond daeth hithau adre i huno.
Yr oedd su dyner yn y fynwent, alaw awel wedi
ehedeg o'r môr, gan gludo arogl y gwair cynhaeafus
a'r gwenith gwyn ar ei hedyn. A disgynnodd
rhyw ddedwyddwch tawel dros fôr a mynydd,
a thros fy enaid innau. Os mai ystormydd canrifoedd sydd wedi rhoddi ei harddwch i'r fro hon,
ysbrydoedd dynion mawr sydd wedi rhoddi eu
cadernid hoffus i'r cenedlaethau sy'n gweithio
eu dydd, ac yna'n huno, y naill genhedlaeth ar
ol y llall.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ensds2vh2d71g472zga3qek83pv7bvp
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/83
104
19733
37737
2022-08-09T21:17:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><big>FFARWEL I'R MYNYDDOEDD</big>
NIS gwn am ddim rydd fwy o nerth i ddyn i
wneud ei waith nag aros mis yn y mynyddoedd. Os nad oes ganddo fis rhaid boddloni
ar wythnos; os nad oes ganddo wythnos, y mae
un diwrnod yn y mynyddoedd yn werth gwneud
llawer o aberth i'w gael.
Y mae bywyd yn fwy pryderus, yn fwy cyffrous,
ac yn fwy llafurus nag y bu erioed o'r blaen. Rhaid
i bawb weithio yn awr, nid oes le i'r segurddyn;
ac os yw oriau gwaith yn fyrrach, y maent oherwydd
hynny yn galetach. Y mae'r bywyd llonydd a
hamddenol a fagai athronwyr yn diflannu o'r byd;
cywilydd, ac nid anrhydedd sydd i'r hwn fedr
fod heb waith, ac a fedr fod yn foddlon heb waith.
Nid bywyd hir, ond bywyd llawn yw bywyd y
dydd hwn.
Ychydig yn awr fedr fyw mewn unigedd, ymhell
o sŵn y boen sydd yn y byd. Y mae dibyniaeth
cynhyddol dynion ar ei gilydd yn gwneud iddynt
gyd-ddioddef. Nid ysgarmes bell, i feirdd ddweyd
am dani flynyddoedd wedyn, ydyw rhyfel<ref>Y Rhyfel Mawr 1914-1918.</ref> erbyn
hyn y mae'r ing i'w deimlo yng nghilfachau
Eryri neu ar lannau Oregon fel y mae ym mhentrefydd difrodedig Ffrainc. Pan fo gweithydd glo
y Deheudir yn segur oherwydd fod cyfalaf a llafur
yn camddeall ei gilydd, nid gwŷr cyfalaf na gwŷr
llafur deimla'r wasgfa gyntaf, ond cartrefi pell<noinclude><references/></noinclude>
j9pz5nt04dtnsso3ha1i5clq4mhqbcv
37738
37737
2022-08-09T21:21:05Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|<big>FFARWEL I'R MYNYDDOEDD</big>}}
NIS gwn am ddim rydd fwy o nerth i ddyn i
wneud ei waith nag aros mis yn y mynyddoedd. Os nad oes ganddo fis rhaid boddloni
ar wythnos; os nad oes ganddo wythnos, y mae
un diwrnod yn y mynyddoedd yn werth gwneud
llawer o aberth i'w gael.
Y mae bywyd yn fwy pryderus, yn fwy cyffrous,
ac yn fwy llafurus nag y bu erioed o'r blaen. Rhaid
i bawb weithio yn awr, nid oes le i'r segurddyn;
ac os yw oriau gwaith yn fyrrach, y maent oherwydd
hynny yn galetach. Y mae'r bywyd llonydd a
hamddenol a fagai athronwyr yn diflannu o'r byd;
cywilydd, ac nid anrhydedd sydd i'r hwn fedr
fod heb waith, ac a fedr fod yn foddlon heb waith.
Nid bywyd hir, ond bywyd llawn yw bywyd y
dydd hwn.
Ychydig yn awr fedr fyw mewn unigedd, ymhell
o sŵn y boen sydd yn y byd. Y mae dibyniaeth
cynhyddol dynion ar ei gilydd yn gwneud iddynt
gyd-ddioddef. Nid ysgarmes bell, i feirdd ddweyd
am dani flynyddoedd wedyn, ydyw rhyfel<ref>Y Rhyfel Mawr 1914-1918.</ref> erbyn
hyn y mae'r ing i'w deimlo yng nghilfachau
Eryri neu ar lannau Oregon fel y mae ym mhentrefydd difrodedig Ffrainc. Pan fo gweithydd glo
y Deheudir yn segur oherwydd fod cyfalaf a llafur
yn camddeall ei gilydd, nid gwŷr cyfalaf na gwŷr
llafur deimla'r wasgfa gyntaf, ond cartrefi pell<noinclude><references/></noinclude>
sil9j54b38iopyc6gqq3ky9tovcdso4
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/84
104
19734
37739
2022-08-09T21:32:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar y bryniau, o'r lle y daeth teuluodd y gweithwyr
ryw genhedlaeth yn ol. Bu'r cartref yn hunangynhaliol bron. Yn yr amaethdy mynyddig
cysurus, yng nghysgod ei goed talfrig, gwenith
neu geirch neu haidd wedi ei godi oddiar y gweirdiroedd o'i amgylch oedd grawn yr ymborth; cig
wedi ei halltu gartref a physgod o'r afon a fwyteid;
yr oedd llysiau bwyd a saig a meddyginiaeth yn
tyfu yn yr ardd; yr oedd mawn a choed yn danwydd
glân a digôst at y gaeaf. Ond, erbyn heddyw,
nid oes amaethdy yn y wlad nad yw'n dibynnu
am anhebgorion ei gysur, os nad ei fywyd, ar bron
bob gwlad yn y byd. Lle bynnag y mae eisiau
neu ddioddef, y mae dynolryw i gyd yn teimlo'r
boen. Ac oherwydd fod dyn yn dod beunydd yn
aelod cyflawnach o frawdoliaeth y byd, y mae
cyfnewidiadau cymdeithasol mawrion gerllaw.
Rhaid dod a rhyddid a deddf yn gysonach â'i
gilydd, fel y try olwynion cyd-ddibynnol diwydiant
yn esmwyth, heb lethu neb ac heb fynd yn ysgyrion
eu hunain.
Yn y dyddiau hyn, dyddiau rhwng yr hen
anibyniaeth tawel a'r gymdeithas gymhleth
newydd, dyddiau rhwng yr hiraeth am yr hen
wedi i'w ddiffygion fynd yn angof a'r newydd
sydd eto heb ddadlennu ei fendithion, y mae'r
meddwl yn agored i boen a phryder dau gyfnod
llawn sy'n rhyfedd doddi i'w gilydd. Ni fu erioed
gyfnod yn galw am gymaint o gryfder meddwl,
o benderfyniad diysgog, o dawelwch yn wyneb
siom a dioddef; ac nid rhyfedd fod llawer meddwl
yn ymollwng dan y baich. "Na'ch sigler yn fuan
oddiwrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer,"—
ond pa help fedrir roddi i wneud hynny?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jqww17lndqs82blkwrkd7n116h3vfvv
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/85
104
19735
37740
2022-08-09T21:50:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn ddiameu y mae'r byd pryderus yn troi at
Dduw yn y dyddiau hyn, nid dyn yma a dyn acw,
ond dynion yn dyrfaoedd ac yn genhedloedd.
Nid dychweliad yr afradloniaid unig yw nodwedd
yr oes, ond cymdeithas yn dwyseiddio ac yn troi
ei hwyneb at Haul Cyfiawnder. Y mae cynnydd
ein ffydd yn Nuw a chynnydd cariad pob un o
honom oll tuag at ein gilydd yn hanfodol at ddeall
a setlo y cwestiynau cymdeithasol sydd o'n blaenau,
os nad ydym i syrthio i anhrefn a chasineb a llofruddiaeth y Chwyldroad Ffrengig neu'r Chwyldroad
Rwsiaidd wrth geisio ymwthio trwy'r nos tua'r
dydd. Un o arwyddion mwyaf gobeithiol yr oes
yw ei pharodrwydd i aberthu dros eraill, a'r crefyddolder cynhyddol sy'n gwneud ei gwelediad yn glirach a'i chamrau'n fwy sicr. Dyma angor.
Yn y blynyddoedd pryderus diweddaf hyn,
y mae'r hiraeth am y mynydd a'r môr wedi bod
yn gryfach nag erioed, ac y mae'r ymgynnull
iddynt yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd.
Fel y mae anghenion y cartref a phroblemau
cymdeithas yn dod yn fwy gwasgedig a dyrys,
y mae eangderau tawel y mynydd a'r môr yn
dod yn fwy croesawgar. Dyna le i ddianc o bryder;
dyna le i wella wedi briw. Sudda'r tawelwch
yn gryfder i'r enaid, y mae'r awel oddiar y grug
melys neu'r môr heli fel anadl einioes. A phan
ffarwelir â'r mynydd, a throi'n ol i'r dref boblog,
i'r fasnach ansicr ac i'r byd cynhyrfus, erys golygfeydd y mynydd yn y meddwl, gellir dianc iddynt
mewn atgof pan fo'r amgylchiadau'n gwasgu a'r
pryder yn llethu. Teimlir drachefn yr awel oddiar
y gwaendiroedd neu oddiar y môr, a meddyginiaeth
ar ei hesgyll; gwelir drachefn y copâu, y nefoedd,<noinclude><references/></noinclude>
ajlxhnt1ioqcftnsrd9bbz3tft3vbnh
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/86
104
19736
37741
2022-08-09T22:02:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r cefnfor a'u tragwyddol heolydd. A theimla
dyn na fedr neb gyfyngu ei feddwl, sylweddola
ei ryddid, a cha'r cryfder enaid a'i ceidw yn ddiysgog
lle gynt yr ofnai gynhyrfiadau dydd ac awr.
Y mae gwlad fynyddig yn Eryri y mae llai o
gyrchu iddi, hwyrach, nag i'r Wyddfa ar un ochr
ac nag i Garnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn
ar yr ochr arall. Rhyngddi a'r Wyddfa y mae
dyffryn cul Llanberis a llynnoedd Peris a Phadarn;
rhyngddi a'r ddwy Garnedd y mae'r dyffryn
rhamantus arall dorrodd yr Ogwen yn ffordd iddi
ei hun, a Bethesda ar ei glan; a rhyngddi a Moel
Siabod i'r dwyrain y mae Nant y Gwrhyd a Llyn
Mymbyr. O fewn y cymoedd hyn y mae tyrfa
ardderchog o fynyddoedd yn sefyll yn gadarn
ac urddasol. O'r Fronllwyd tua'r de ddwyrain
ceir hwy, Carnedd y Filiast a'r ddwy Elidir,
y Foel Goch a'r Garn a'r ddwy Glyder,—beth yn
is na'u cymdogion o bobtu mewn troedfeddi,
ond yn codi i'r cymylau mor frenhinol a hwythau,
neu'n gorwedd mor fawreddog ar ddyddiau digwmwl
y tes. I'r mynyddoedd hyn deuthum, bererin
egwan dan ei bwn, ddechre Gorffennaf eleni.
Disgynnodd tawelwch Llanberis garedig a chroesawgar ar fy ysbryd blin a lluddedig, suodd sŵn hyfryd ei
rhaeadrau fi i gysgu, a gwahoddodd ei mynyddoedd
fi i fyny fry i dawelwch tangnefeddus yr uchelderau.
Dros bedwar ugain mlynedd yn ol daeth Clwydfardd drwy'r fro, clywodd y rhaeadrau, ac ebai
ef,—
{{center block|
<poem>
"Rheieidr ar reisidr, dyruant,—a'u sŵn
::Adseinia trwy'r wylltnant ;
:Cynnwrf sydd yn mhob ceunant;
:Bron na ffy pob bryn a phant.
</poem>
}}
</br><noinclude><references/></noinclude>
osiufn3foxd3co1aoozcx03t1je1vzz
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/87
104
19737
37742
2022-08-09T22:17:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block|
<poem>
Trystiaw a ffriaw'n dra ffroch—a chwyrnu
::Wna'i chornant uchelgroch;
:Twrw o hagrgri tra egr—groch;
:Twrw'n y graig fel taran groch."
</poem>
}}
Digiodd Gutyn Peris wrth Glwydfardd am
ddynwared sŵn rhaeadrau ei fro mor gras a hyn
a rhoddodd su yn lle rhoch iddynt,—
{{center block|
<poem>
"Un rhaiadr mawr sydd yn rhuo—o fewn
::Y faenol gled honno;
:A naws awel yn sio
:Mewn ffrydiau hyd fryniau'r íro.
"A sain a styb eu si,—ar elltydd
::Y mynydd o'r meini;
:Ail cydgor yn perori,
:Sain creigiau a lleisiau tti."
</poem>
}}
Ar fy nghlyw diamynedd i, graddol drodd yr hagrgri egr—groch yn naws awel yn sio. A chlywaf
fas dwndwr y dyfroedd a brefiadau'r defaid mewn
atgof, yn hyfryd foddi lleisiau llafur a rhyfel,
hyd yr awr hon.
Cerddais i ddechre hyd odre'r mynyddoedd,
i dalu'm gwarogaeth iddynt. Cerddais dros Fryn'r
Efail at lan y Galedffrwd loyw, a dilynais hi heibio i
Glwt y Bont ac Ebenezer hyd y gwaendir mynyddig
maith sy'n mynd uwchlaw Llyn y Mynydd, ac
yna i Fethesda. Ffrwd fwyn yw Caled ffrwd;
ac er na welais hi erioed o'r blaen, yr oedd blodau
ei glannau ac enwau ei chartrefi yn ei gwneud mor
hoff i mi ag afonydd Dyfrdwy. Gwlad ryfedd
yw y wlad, gwlad o greigiau a blodau, gwlad
a'r mynyddoedd a'r môr yn gwahodd ac yn denu,
gwlad o dai bychain a chapelydd mawrion, gwlad
o ffermydd nad ydynt ond ychydig gaeau rhwng
talpiau craig, a gwlad yn dibynnu ar un chwarel<noinclude><references/></noinclude>
632acub67v3ejpy93xefb5h200jul6j
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/88
104
19738
37743
2022-08-10T00:20:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anferthol. Synnwn fod ardaloedd mor enwog mor
agos i'w gilydd; ac ni chlywn enw ardal na ddeuai
a rhyw fardd neu bregethwr i'm meddwl, llawer
o honynt yn gyd-efrydwyr a mi flynyddau meithion
yn ol, ac wedi llenwi gobeithion maboed i'r ymylon.
Ac wrth edrych ar y wlad, nid rhyfedd ei bod yn
fagwrfai athrylith. Wrth deithio i fyny at Ebenezer
ymwasgai'r tai yn fwy at ei gilydd, nes bod yn
bentrefydd. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur.
Ond ar ddiwrnod poeth, yr oedd y ffenestri i gyd
yng nghau. Gofynnais i chwarelwr mwyn beth
oedd y rheswm am hyn, ac atebodd gyda direidi
yng nghil ei lygad," Y mae llawer iawn o bobol
ddieithr yn dod ffordd hyn, welwch chwi, rhaid i
ni fod yn bur ofalus beth a wnawn a'n ffenestri."
Wedi esgyn o'r caeau i'r mynydd yr oedd y gog
yn canu dros y wlad, er ei bod wedi cilio o'r ardaloedd
eraill. Hyfryd iawn oedd y gweunydd unig, eu
byrwellt a'u gruglys. A mwyn oedd y golygfeydd
ymagorai o'm blaen, hafnau mynyddig y Marchlynnoedd, porfeydd defaid maith Cwm Llafar
ac Afon Caseg, a'r môr yn disgleirio ar Draeth y
Lafan, yn ol fel y trown fy ngolwg.
Yn lle disgyn yn ol yr un ffordd cerddais hyd
lethr y bryniau, gan gadw ar ochrau Elidir. Odditanaf yr oedd gwlad lawn o bobl, a phawb wrthi
yn y caeau gwair. Ar y ffordd, oedd fel rhodfa
ffasiynol, yr oedd lluoedd o chwarelwyr a'u teuluoedd
ym min hyfryd yr hwyr, yn gwylio ac yn beirniadu
y cweirwyr gwair odditanynt. Cerddais trwy Waen
Gynfi, hyd y ffordd uchel ac i Ddinorwig. Erbyn
hyn yr oedd yn dechre nosi, ac arogl hyfryd y
gwair yn llenwi'r awel hwyrol falmaidd. Troais
yn ol i edrych ar lethrau Elidir, a thybiais na<noinclude><references/></noinclude>
gw6e3c9lohs84jep2u8zg1bd9hp8eb3
Indecs:Y Cychwyn.pdf
106
19739
37744
2022-08-10T00:35:47Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Y Cychwyn
|Author=T Rowland Hughes
|Publisher=Gwasg Aberystwyth
|Year=1947
|Source=pdf
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=
}}
[[Categori:PD-old-70]]
lhcy96ssbydfp16deph8blaxousqbzq
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/100
104
19740
37747
2022-08-10T01:02:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am y tymor byr o hyny i ddiwedd ei oes, yn eglur i bawb. Bu
farw yn lled sydyn, a theimlai yr eglwys a'r ardal fod
gweithiwr difefl wedi myned i'w orphwysfa.
Y blaenoriai presenol ydynt, Mri. Hugh Vaughan, Morris
Jones, David Humphreys, a Meyrick Roberts. Mae y Parch.
John Owen wedi ymsefydlu yn weinidog yma er Mehefin 1885.
O'r ardal hon y cyfododd y pregethwr cyntaf yn y Dosbarth,
William Hugh, Llechwedd. Cychwynodd tri eraill wedi hyny
o'r eglwys yma oddeutu yr un flwyddyn (1872), y Parchn.
William Williams, Dinasmowddwy; David Jones, yn awr o
Lanllyfni, ac R. W. Jones, yn awr o Towyn.
''Y Parch Ebenezer Jones''.—Yma y treuliodd yn agos i'r
ugain mlynedd olaf ei oes. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi.
Daeth i Gorris i gadw ysgol ddyddiol tua 1854. Ymhen
ysbaid ar ol iddo briodi a myned i gadw teulu, rhoddodd yr
ysgol i fyny, ac ymgymerodd â chadw shop yn yr ardal.
Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn Nghorris ac Aberllefeni a'r amgylchoedd yn ystod y 10 mlynedd y bu yn aros
yno, gan fod gweinidogion a phregethwyr yn brinion y blynyddau hyn. Tra yn aros yn Nghorris yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Dolgellau yn y flwyddyn 1857. Y Parch. Griffith
Ellis, M.A., Bootle, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda, a
ddywed am dano: "Gorfuwyd ni lawer gwaith i deimlo gofid
oherwydd rhyw bethau a wnai, ond ni chollasom i'r diwedd y
gwir barch iddo, a'r serch calon tuag ato, â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei ddysgeidiaeth. Yr ydym yn teimlo
parch calon i'w goffadwriaeth, a hyfryd ydyw genym ddwyn tystiolaeth i'w ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris
a'r amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc,
a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na fyddai ef yn
gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr
adnodau yn ol a blaen iddi, fel y rhoddai bawb mewn mantais i<noinclude><references/></noinclude>
629wyh3kowdl3kmw128q2fgmqnkactg
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/200
104
19741
37748
2022-08-10T01:04:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones uchod yn gyfeillion mawr—yr oeddwn yn teimlo serch
ac anwyldeb mawr tuag ato, a gwyddwn fod ganddo yntau
ofal mawr am danaf finau." Ychwanegwyd darn rywbryd at
hen gapel y Gwalia, fel y dangosai y ddwy golofn oeddynt
wedi eu gosod o flaen y pulpad, i ddal y tô i fyny.
ddengys fod dyled y capel hwn wedi ei chlirio yn y flwyddyn
1839.
Ychydig sydd o hanes Lewis William, yr hen ysgolfeistr,
mewn cysylltiad â Thowyn. Ond yr oedd ef yma yn cadw
ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1818, a chanddo 92 o blant yn
yr ysgol. Y mae enwau pob un o'r rhai hyn ar gael yn llawysgrif L. W., a'u hoedran, a'u "graddau mewn dysg." Amrywia
eu hoedran o 5 i 14. Nid oedd dim ond 10 o honynt yn
dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu
Testamentau; 66 yn yr A B C, sillebu, a darllen yn y llyfr
corn, Dim un yn yr ysgol wedi myned mor bell ag i ddysgu
rhifyddiaeth.
Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau,
yr oedd llawer o bregethwyr dieithr yn teithio trwy Towyn.
Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am
ymweliad cyntaf Mr. Williams, o'r Wern, a'r dref. "Aeth
dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a
chyfarfyddasant à gŵr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a
difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r
ddau aethant i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gŵr
dieithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo.
Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gŵr dieithr sydd i
bregethu gyda'r dissenters heno? 'Ie,' ebe fe, 'beth am
hyny? O, dim, syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.'
Aeth ef a'r ddau arweinydd ymlaen, ac erbyn cyraedd y dref,
digwyddodd amgylchiad eto o flach tŷ penodol a barodd iddynt
ameu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasant
ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr.
Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd<noinclude><references/></noinclude>
r560zu5tyn71kqaxtg5y6nb5aqw0lbi
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/89
104
19742
37749
2022-08-10T01:06:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>welswn erioed fynyddoedd mor dal, mor serth,
mor ddieithriol, ac mor frawychus.
Ac eto, yr oeddynt hwythau yn gwahodd,-"Tyrd i fyny
yma, y mae awel eto sy'n fwy adfywiol na'r un
deimlaist ti, a nef fwy gorffwysol." Ond i lawr
yr oedd fy llwybr, drwy goedwig a chwarel; ac
mewn myfyrdod a breuddwyd y dringais yr Elidir
ac y chwiliais am Arthur.
Erbyn dechre Hydref y mae'r rhai fu'n ceisio
gorffwys ar fynydd a môr wedi troi adref at eu
gwaith. Cawsant fwy na gorffwys oddiwrth ludded;
cawsant ysbrydoliaeth at y dyfodol. Byddant
yn gryfach, yn fwy ffyddiog, ac yn well. Medrem
wneud ar lai o chwareudai ac arlundai, a gwnawn
ar lai o dafarnau a gwallgofdai, pe rhoddid modd
i bawb ddod i gymundeb a'r mynydd. Teimlai'r
gwan orfoledd iechyd, teimlai'r pryderus gryfder
ffydd, teimlai'r trwmlwythog nerth cawr, teimlai'r
diobaith mor lawn yw bywyd, wrth ffarwelio a'r
mynyddoedd.<noinclude><references/></noinclude>
8m12318vvt82zg89pixdiiu53ghr4xr
Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/90
104
19743
37750
2022-08-10T01:10:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|<big>PRIFYSGOL Y GWEITHWYR</big>}}
NID yw yr amser wedi dod eto i ysgrifennu hanes sefydlu
Prifysgol Cymru. Pan ddaw, ceir goleu diddorol ar ymdrechion llawer
un dros addysg ein gwlad, megis Gladstone a
Iarll Rosebery, ac yn enwedig Arthur D. Acland
a Thomas E. Ellis.
Nid oedd y Brifysgol, yn y ffurf roddwyd iddi,
wrth fodd pawb; yr oedd llawer o'r Cymry mwyaf
cenedlgarol yn dymuno i'w chylch fod yn eangach,
a'i hysbryd mewn cyffyrddiad amlach ac agosach
â'r werin. Erbyn hyn y mae'n hyfryd meddwl
fod y Brifysgol yn hollol genedlaethol, ni all neb
ddweyd fod lliw plaid na sect arni, ac y mae'r
amrywiaeth sy'n hanfodol i Brifysgol yn ei bywyd.
Ond ni phroffwydid hyn gan bawb ar y dechre,
a mynnent sicrhau o fewn cylch ei bywyd agweddau
ar addysg ystyrient hwy yn rhan o fod Prifysgol
berffaith.
Erbyn hyn y mae'n bosibl ymdrin â'r agweddau
hynny heb beri tramgwydd i neb. Ac eithaf
peth fyddai rhoi grym defnyddiol a pharhaol i
ambell ddathlu gwyl Dewi trwy ymdrin â hwy
yn yr ysbryd brawdol caredig sy'n nodweddu'r
dydd hwn. Galwaf sylw fy nghydwladwyr at
un agwedd arbennig, ac at un yn unig.
Beth yw'r berthynas rhwng Prifysgol Cymru
â gweithwyr Cymru? Addef pawb fod y Brifysgol
yn brifysgol y werin; er, hyd yn hyn, mai prin yw'r
ddarpariaeth at gynorthwyo plant ysgol<noinclude><references/></noinclude>
4hhq8dp0or5hqnqy89loh0p8hnrrui3