Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.39.0-wmf.23
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Gadget
Gadget talk
Gadget definition
Gadget definition talk
I Bob Un Sy'n Ffyddlon
0
5476
38080
10044
2022-08-16T22:07:38Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
[[File:Y Tyst Dirwestol.jpg|bawd|400px]]
Emyn gan [[w:Henry Lloyd (ap Hefin)|Henry Lloyd (ap Hefin)]] (1870-1946) yw '''I Bob Un Sy'n Ffyddlon'''
:I bob un sydd ffyddlon
::Dan Ei faner Ef
:Mae gan Iesu goron
::Fry yn nheyrnas nef
:Lluoedd Duw a Satan
::Sydd yn cwrdd yn awr:
:Mae gan blant eu cyfran
::Yn y rhyfel mawr.
:::I bob un sydd ffyddlon,
::::Dan Ei faner Ef
:::Mae gan Iesu goron
::::Fry yn nheyrnas nef.
:Medd-dod fel Goliath
::Heria ddyn a Duw;
:Myrdd a myrdd garchara
::Gan mor feiddgar yw;
:Brodyr a chwiorydd
::Sy'n ei gastell prudd:
:Rhaid yw chwalu'i geyrydd,
::Rhaid cael pawb yn rhydd.
:::(Byrdwn)
:Awn i gwrdd y gelyn,
::Bawb ag arfau glân;
:Uffern sydd i'n herbyn
::A'i phicellau tân.
:Gwasgwn yn y rhengau,
::Ac edrychwn fry;
:Concrwr byd ac angau
::Acw sydd o'n tu!
:::(Byrdwn)
[[Categori:Henry Lloyd (ap Hefin)]]
[[Categori:Emynau]]
2ioygymwxbkq04ret3gmexrb0t63gfm
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/263
104
11631
38082
21962
2022-08-16T23:23:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Careg Fedd Y Parch David Williams, Llysyfronydd.jpg|bawd|CAREG-FEDD Y PARCH DAVID WILLIAMS, LLYSYFRONYDD.]]
credwn iddo gymeryd lle gryn lawer yn
gynt. Wedi ceisio gwneyd Mr. Williams
yn Annibynwr yn nechreu ei oes, y mae
yr un llyfr yn ceisio ei wneyd yn Annibynwr o'i urddiad yn mlaen. Dywedir iddo
gael ei ordeinio yn ol trefn yr Annibynwyr. Y mae hyn yn anghywir. Y mae
y traddodiad am ei ordeiniad yn gyffelyb i
eiddo Morgan John Lewis. Methai y
ddeadell fechan yn yr Aberthyn a chael
gweinyddiad cyson o'r ordinhadau gan
offeiriad Methodistaidd; yr oedd Davies
heb ddyfod eto i Gastellnedd, a Jones heb
ddyfod i Langan ; nid oedd yr aelodau yn
foddlawn myned i gymuno at offeiriaid
digrefydd yr egiwysi cymydogaethol, ac
felly anfonasant at Daniel Rowland i
geisio cyfarwyddyd. Ei gyngor ef oedd ar
iddynt ordeinio David Williams. Hyny
a wnaethant, a gweinyddodd yntau yr
ordinhadau yn y lle hyd ddydd ei farwolaeth. Nid oes hanes i weinidogion Ymneillduol gael eu galw i gymeryd rhan yn
y ddefod; y mae yn fwy na thebyg mai
cynllun eglwys y New Ìnn a ddilynwyd.
Dengys yr hanes pa mor rhyddfrydig oedd
Daniel Rowland; mor llac oedd y rhwymau
a'u cysylltent wrth yr Eglwys Sefydledig,
a'r modd yr oedd yn gallu ymddyrchafu
goruwch mân ragfarnau yr Eglwyswyr
a'r Ymneillduwyr. Yn yr un dull yn
hollol yr ordeiniwyd Thomas Williams, a
fu am flynyddoedd yn aelod gyda David
Williams yn yr Aberthyn, yn weinidog
Bethesda-y-Fro, fel y dengys cofnod yn
llawysgrif yr hen fardd, John Williams,
St. Athan.
Parhaodd David Williams yn Fethodist
gwedi ei ordeiniad fel cynt, ac eglwys
Fethodistaidd yw yr Aberthyn hyd y
dydd hwn. Gweinyddai swper yr Arglwydd yno yn fisol, ac ar y cyfryw
achlysuron ymgynullai ato liaws o grefyddwyr yr ardaloedd o gwmpas. Ni roddodd
i fynu deithio ychwaith; mynychai y
Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd;
ac elai o gwmpas trwy Gymru i efengylu
yr un fath a'i frodyr. Yr ydoedd yn ŵr
cadarn yn yr Ysgrythyrau. A dywedir
mai efe a ddysgodd ffordd Duw yn fanylach i Jones, Langan, ac a fu yn arweinydd
i'r gŵr enwog hwnw mewn duwinyddiaeth.
Tynerwch a nodweddai ei weinidogaeth.
Nid Boanerges ydoedd, yn sefyll ar goryn
Ebal, ac yn taranu melldithion uwchben
anwir fyd; ond Mab Dyddanwch, yn cymhwyso y Balm o Gilead at glwyfau y
rhai oeddynt yn archolledig a briw. Enillgar ydoedd o ran dawn, a melus
odiaeth o ran llais. Dywed John Evans, o'r Bala, am dano:
Gŵr tirion oedd efe, mwynaidd iawn, a
phregethwr hynod o iraidd a gwlithog."
Gyda golwg arno ef a John Belsher, ychwanega yr un gŵr :
"Bu y ddau hyn yn dyfod atom bob yn
ail dros rai blynyddoedd, yn ngwyneb
llawer o iselder ac anhawsderau, Nid
oeddem ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd
y gallem roddi llety a thipyn o fwyd
iddynt, wedi iddynt, trwy fawr ymdrech,
ddyfod atom. Byddai y brodyr yn y
Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo,
onide nis gallent dalu eu ffordd ar eu
teithiau." Cafodd David Williams lawer
o drafferth yn yr Aberthyn; daeth Sabeliaeth i mewn i'r eglwys, a bu yn achos
llawer o ddadleu ac ymrafaelio. Ond
cadwodd ef ffurf yr athrawiaeth iachus, a
bu farw mewn tangnefedd, gan adael
Bro Morganwg mewn galar ar ei ol.
Gweddus cofnodi fod Mr. Williams yn
frawd yn ol y cnawd i'r enwog fardd, John
Williams, St. Athan, awdwr yr emyn
ardderchog:—
"Pwy welaf Edom yn dod'?"<noinclude><references/></noinclude>
i7aeeyx58fpe31rv8ot95oxkcy06hxe
38083
38082
2022-08-16T23:26:20Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Careg Fedd Y Parch David Williams, Llysyfronydd.jpg|bawd|CAREG-FEDD Y PARCH DAVID WILLIAMS, LLYSYFRONYDD.]]
credwn iddo gymeryd lle gryn lawer yn
gynt. Wedi ceisio gwneyd Mr. Williams
yn Annibynwr yn nechreu ei oes, y mae
yr un llyfr yn ceisio ei wneyd yn Annibynwr o'i urddiad yn mlaen. Dywedir iddo
gael ei ordeinio yn ol trefn yr Annibynwyr. Y mae hyn yn anghywir. Y mae
y traddodiad am ei ordeiniad yn gyffelyb i
eiddo Morgan John Lewis. Methai y
ddeadell fechan yn yr Aberthyn a chael
gweinyddiad cyson o'r ordinhadau gan
offeiriad Methodistaidd; yr oedd Davies
heb ddyfod eto i Gastellnedd, a Jones heb
ddyfod i Langan ; nid oedd yr aelodau yn
foddlawn myned i gymuno at offeiriaid
digrefydd yr egiwysi cymydogaethol, ac
felly anfonasant at Daniel Rowland i
geisio cyfarwyddyd. Ei gyngor ef oedd ar
iddynt ordeinio David Williams. Hyny
a wnaethant, a gweinyddodd yntau yr
ordinhadau yn y lle hyd ddydd ei farwolaeth. Nid oes hanes i weinidogion Ymneillduol gael eu galw i gymeryd rhan yn
y ddefod; y mae yn fwy na thebyg mai
cynllun eglwys y New Ìnn a ddilynwyd.
Dengys yr hanes pa mor rhyddfrydig oedd
Daniel Rowland; mor llac oedd y rhwymau
a'u cysylltent wrth yr Eglwys Sefydledig,
a'r modd yr oedd yn gallu ymddyrchafu
goruwch mân ragfarnau yr Eglwyswyr
a'r Ymneillduwyr. Yn yr un dull yn
hollol yr ordeiniwyd Thomas Williams, a
fu am flynyddoedd yn aelod gyda David
Williams yn yr Aberthyn, yn weinidog
Bethesda-y-Fro, fel y dengys cofnod yn
llawysgrif yr hen fardd, John Williams,
St. Athan.
Parhaodd David Williams yn Fethodist
gwedi ei ordeiniad fel cynt, ac eglwys
Fethodistaidd yw yr Aberthyn hyd y
dydd hwn. Gweinyddai swper yr Arglwydd yno yn fisol, ac ar y cyfryw
achlysuron ymgynullai ato liaws o grefyddwyr yr ardaloedd o gwmpas. Ni roddodd
i fynu deithio ychwaith; mynychai y
Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd;
ac elai o gwmpas trwy Gymru i efengylu
yr un fath a'i frodyr. Yr ydoedd yn ŵr
cadarn yn yr Ysgrythyrau. A dywedir
mai efe a ddysgodd ffordd Duw yn fanylach i Jones, Langan, ac a fu yn arweinydd
i'r gŵr enwog hwnw mewn duwinyddiaeth.
Tynerwch a nodweddai ei weinidogaeth.
Nid Boanerges ydoedd, yn sefyll ar goryn
Ebal, ac yn taranu melldithion uwchben
anwir fyd; ond Mab Dyddanwch, yn cymhwyso y Balm o Gilead at glwyfau y
rhai oeddynt yn archolledig a briw. Enillgar ydoedd o ran dawn, a melus
odiaeth o ran llais. Dywed John Evans, o'r Bala, am dano:
Gŵr tirion oedd efe, mwynaidd iawn, a
phregethwr hynod o iraidd a gwlithog."
Gyda golwg arno ef a John Belsher, ychwanega yr un gŵr :
"Bu y ddau hyn yn dyfod atom bob yn
ail dros rai blynyddoedd, yn ngwyneb
llawer o iselder ac anhawsderau, Nid
oeddem ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd
y gallem roddi llety a thipyn o fwyd
iddynt, wedi iddynt, trwy fawr ymdrech,
ddyfod atom. Byddai y brodyr yn y
Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo,
onide nis gallent dalu eu ffordd ar eu
teithiau." Cafodd David Williams lawer
o drafferth yn yr Aberthyn; daeth Sabeliaeth i mewn i'r eglwys, a bu yn achos
llawer o ddadleu ac ymrafaelio. Ond
cadwodd ef ffurf yr athrawiaeth iachus, a
bu farw mewn tangnefedd, gan adael
Bro Morganwg mewn galar ar ei ol.
Gweddus cofnodi fod Mr. Williams yn
frawd yn ol y cnawd i'r enwog fardd, John
Williams, St. Athan, awdwr yr emyn
ardderchog:—
"Pwy welaf Edom yn dod'?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
aau6eckyuzl5e8jzdbxfvelo90ikbym
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/267
104
11632
38087
21963
2022-08-17T01:22:17Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef i'w dy, gan ei letya fel brenin. "Dychwelais inau adref dranoeth," meddai, " a'r
dagrau yn llifo dros fy ngruddiau,
o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut
y bu yn y sessiwn nis gwyddom. Y tebygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer,
i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was,
a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod.
Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad
allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch.
Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw,
gymeryd plaid Harris; a phan y deallodd fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o
ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks,
o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.
Am John Harry, o Dreamlod, dywedir
mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd,
ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd
i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad
cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn
nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg,
neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno
penderfynwyd fod y brawd John Harry yn
cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel
o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,
[[Delwedd:Beddrod John Harry, Treamlod, Sir Benfro.jpg|canol|300px|BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)]]
tan arolygiaeth y brawd William Richard.
Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd,
Ionawr 28, 1745, penderfynwyd fod y
brodyr John Harry, a John Morris, gan
eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori
gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr
ysgolion. Ymddengys fod John Harry yn
ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar
bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechaduriaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol.
Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid
esgeulusodd rybuddio y rhai a weinyddent
yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres
i'r llances o forwyn oedd yno: "Dos a
botasau y gŵr dyeithr iddo." "Nac af fi,
yn wir," oedd yr ateb. "Paham hyny?
"F'wed wrthw i mod i yn bechadur,"
meddai yr eneth. Prawf diymwad nad
esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni.
Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill
feddwl uchel am dduwioldeb John Harry.
Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre-
amlod, gwedi i'r hen gynghorwr farw;
ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch.
Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd.<noinclude><references/></noinclude>
mdbqs6caczv7ewep8zqwpjwet3rc698
38088
38087
2022-08-17T01:22:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef i'w dy, gan ei letya fel brenin. "Dychwelais inau adref dranoeth," meddai, " a'r
dagrau yn llifo dros fy ngruddiau,
o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut
y bu yn y sessiwn nis gwyddom. Y tebygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer,
i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was,
a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod.
Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad
allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch.
Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw,
gymeryd plaid Harris; a phan y deallodd fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o
ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks,
o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.
Am John Harry, o Dreamlod, dywedir
mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd,
ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd
i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad
cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn
nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg,
neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno
penderfynwyd fod y brawd John Harry yn
cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel
o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,
[[Delwedd:Beddrod John Harry, Treamlod, Sir Benfro.jpg|canol|300px|BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)]]
tan arolygiaeth y brawd William Richard.
Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd,
Ionawr 28, 1745, penderfynwyd fod y
brodyr John Harry, a John Morris, gan
eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori
gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr
ysgolion. Ymddengys fod John Harry yn
ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar
bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechaduriaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol.
Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid
esgeulusodd rybuddio y rhai a weinyddent
yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres
i'r llances o forwyn oedd yno: "Dos a
botasau y gŵr dyeithr iddo." "Nac af fi,
yn wir," oedd yr ateb. "Paham hyny?
"F'wed wrthw i mod i yn bechadur,"
meddai yr eneth. Prawf diymwad nad
esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni.
Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill
feddwl uchel am dduwioldeb John Harry.
Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre-
amlod, gwedi i'r hen gynghorwr farw;
ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch.
Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd.<noinclude><references/></noinclude>
92xcfjn5p1bcwyepwlyqr47pcomkx46
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/261
104
17938
38091
34607
2022-08-17T03:48:39Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn modd difrifol cyhoeddodd Morgan John Lewis yn weinidog dros Grist, i eglwys y New Inn, i gymeryd ei gofal yn yr Arglwydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai Sulgwyn, 1756, y cymerodd hyn le; ond tueddwn i feddwl ei fod yn gynarach.
Parodd yr ordeiniad hwn, un o'r rhai
cyntaf yn mysg y Methodistiaid, gyffro dirfawr. Beiai yr Eglwyswyr y peth mewn
modd chwerw, am yr ystyrient waith neb yn
gweinyddu y sacramentau, heb feddu
ordeiniad esgobol, yn rhyfyg ac yn ysgelerder. Beiai yr Ymneillduwyr y weithred
lawn mor chwerw, am nad oedd unrhyw
weinidog ordeiniedig wedi bod a llaw yn
yr urddiad. Yr oeddynt hwy yn eu ffordd
eu hunain lawn mor gulion a'r Eglwyswyr,
ac yn credu lawn mor gryf mewn math o
olyniaeth apostolaidd. Meddai Morgan
John Lewis, ac eglwys y New Inn,
syniadau mwy rhyddfrydig, a nes at y
Testament Newydd, am osodiad gweinidog ar eglwys. "Llawer o ddyeithrwch,
chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg, a
daflwyd arnom," meddai Mr. Lewis;
"Fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y
cyfle cyntaf a gafwyd. Ond y mae y
ffordd yr ydym ni yn broffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr
efengyl, ac yn ateb y dyben yn well, ar y
dewisiad cyhoeddus, neu ordeinasiwn
gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd
ein cynorthwyo bawb i gydoddef ein
gilydd mewn cariad." Gan mor gynddeiriog oedd yr ystorm a ymosodai ar
eglwys y New Inn, a chan mor anwireddus a disail oedd y chwedlau a daenid
am dani, ac am ei gweinidog, barnodd
Morgan John Lewis yn ddoeth argraffu
math o Gyffes Ffydd, yn yr hon y gosodai
allan mewn modd clir yr egwyddorion
a gredai.
Eglwys Fethodistaidd oedd eiddo y
New Inn dros yr holl amser y bu Morgan
John Lewis yn gweinyddu iddi. Yn wir,
ni wnai eglwysi Ymneillduol y wlad ym-
gyfathrachu a hi; ni ddeuai gweinidogion
yr Anghydffurfwyr yno ar unrhyw gyfrif i
gyflenwi ei phwlpud; cauid hi y tu allan
i'r gwersyll, yr un fath a'r gwahanglwyfus
gynt yn Israel; a gellid tybio ddarfod
iddi bechu y pechod anfaddeuol wrth alw
gweinidog i'w bugeilio yn ol y drefn a
ystyriai hi fwyaf cyson a dysgeidiaeth y
Testament Newydd. Mor gryf ac mor
greulon ydyw rhagfarn! Pa fodd bynag,
deuai y cynghorwyr Methodistaidd yno ar
eu teithiau, gan sirioli calon y gweinidog
a'i gynulleidfa drwy eu hymweliad. Yno y
llafuriodd Morgan John Lewis am O
gwmpas pymtheg mlynedd gwedi, gyda
mawr lwyddiant. Teimlodd yr holl wlad
o gwmpas oddiwrth ei weinidogaeth; ymgasglai dynion i wrando arno bymtheg
milltir o bellder. Eithr daeth ei wasanaeth i derfyn mewn modd hynod iawn. Y
Sabbath olaf y bu yn pregethu yn y New
Inn, aeth yn yr hwyr i gynal gwasanaeth
crefyddol mewn ffermdy yn nghymydogaeth Pontypwl, tua milltir allan i'r dref.
Yn y tý lle y darfu iddo bregethu y lletyai
y noson hono. Dranoeth, cyn iddo godi
o'i wely, daeth perchenog y tyddyn i'r lle,
a rhyw swyddog milwraidd gydag ef, a
chan gyfarch gŵr y ty, gofynai: "Pa le y
mae y pregethwr a fu yn cadw cwrdd yma
neithiwr? Atebwyd yn ofnus iawn ei
fod yn ei wely. "Rhaid i ni gael ei
weled," ebai'r boneddwr; "y mae arnom
eisiau cael ymddiddan ag ef." Cynygiodd
y gŵr ei alw i lawr atynt, ond ni wnai
hyny mo'r tro i'r boneddwyr, eithr rhuthrasant i fynu y grisiau, ac i mewn â hwy i
ystafell wely y gweinidog yn ddiseremoni.
Yno y cysgai gŵr Duw heb freuddwydio
am berygl. Tynodd y swyddog milwraidd ei gleddyf, a chan sefyll wrth ochr y
gwely, a dal y cledd uwchben y pregethwr,
gwaeddodd mewn llais croch: "Heretic,
deffro!" Deffrodd yntau, a'r olwg gyntaf
a ganfu oedd milwr yn dal arf uwch ei
ben, fel pe ar fedr ei drywanu. Yr oedd
yr olygfa mor enbyd, ac yn ymrithio o'i
Haen mor ddisymwth, cyn iddo gael amser
i ymresymu ag ef ei hun, nac i ymbarotoi
ar gyfer y brofedigaeth, fel y bu yn ddigon
i ysgytio ei natur o'i lle, ac i ddyrysu ei
synwyr.
Ymddadebrodd i raddau gwedi
hyn, ond ni ddaeth byth yn alluog i
bregethu. Darfu a bod yn gysur iddo ei
hun, a chollodd ei ddefnyddioldeb i eraill,
ac yn mhen tua blwyddyn ymollyngodd
i'r bedd. Meddai y Parch. John Hughes:
"O ran ymddangosiad, y gelyn a gawsai
yr oruchafiaeth. Y New Inn, a Sir
Fynwy, ie, a Chymru oll, a gafodd y
golled." Duwinydd gwych oedd Morgan
John Lewis; meddai gydnabyddiaeth
ddofn a Gair Duw, a chryn dreiddgarwch
meddwl i fyned i mewn i'w ystyr. Pregethai gyda nerth a hyawdledd, a chrynai
dynion tan ddylanwad ei weinidogaeth.
Yr oedd yn dra difrifddwys yn wastad, a
dywedir na welwyd erioed wên ar ei
wyneb. Gyda hyn oll, yr oedd yn Gristion<noinclude><references/></noinclude>
coysf4wwhi6jzcj5c7vhmhgs4u4c3qt
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/262
104
17939
38081
35890
2022-08-16T22:40:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pur, ac yn ddyn gwir ostyngedig. Bu
farw tua'r flwyddyn 1771, wedi gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid am tua
deng-mlynedd-ar-hugain.
Pregethwr rhagorol, ac un a fu yn dra
defnyddiol, oedd y Parch. David Williams,
Llysyfronydd. Dywedir yn ''Methodistiaeth Cymru'' mai brodor o Landyfaelog, yn Sir
Gaerfyrddin, ydoedd. Y mae yn bur sicr
fod hyn yn gamgymeriad, ac mai o Dregaron yr hanai; mai yno y cafodd ei eni
a'i fagu, ac y cafodd grefydd. Efe yw y
Dafydd William, y cyfeiria Mr. Hughes
ato fel cynghorwr, a breswyliai yn Nhregaron ar gychwyniad yr achos yno. Yn
Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, dywedir
ei fod yn Blaenpenal, a'i fod yn un o
ddisgyblion Phihp Pugh, ond iddo, ar
doriad allan y diwygiad Methodistaidd,
ymuno a Daniel Rowland yn Llangeitho.
I hyn nid oes sail o gwbl; ceisir dal yr
honiad i fynu yn unig ag "ymddengys;"
cyfid oddiar awydd anghymesur am wneyd
holl gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid
yn broselytiaid oddiwrth yr Ymneillduwyr. Y mae y tebygolrwydd yn gryf fel
arall. Nid oedd David Williams ond
glaslanc, dwy-ar-bymtheg mlwydd oed,
pan y dechreuodd Daniel Rowland gynhyrfu ; y tebyg yw ei fod yn gyífelyb i'w
gyfoed, yn ddifater am Dduw a phethau
ysprydol; ac mai nerth angerddol gweinidogaeth y Diwygiwr o Langeitho a'i
torodd i lawr, ac a'i dygodd i feddwl am
grefydd. Yn bur fuan, pan yn ngwres
ei gariad cyntaf, dechreuodd gynghori,
a dygodd ei ddoniau enillgar ef i sylw
Rowland. Yn ail Gymdeithasfa Watford cafodd David WiIIiams ei benodi
yn arolygwr yn Sir Aberteifi ; a oedd holl
seiadau y sir dan ei ofal, ynte ryw gyfran
o honynt, ni ddywedir. Nid yw ei enw
wrth un o'r adroddiadau a anfonwyd i'r
Gymdeithasfa. Pan y penderfynwyd anfon
pedwar o'r pregethwyr enwocaf i Ogledd
Cymru i lafurio, oblegyd fod crefydd mor
isel yno, pob un o honynt i aros am
chwarter blwyddyn, yr oedd David Williams yn un o'r cyfryw. Mor werthfawr
oedd ei lafur, ac mor gymeradwy oedd ei
weinidogaeth, fel y dywedir iddo gael
gwahoddiad taer i ymsefydlu yn y Bala.
Wrth deithio Gwynedd cafodd ei drin yn
arw yn aml. Cawsai ei gyhoeddi unwaith
i bregethu mewn tŷ bychan yn nghymydogaeth Caergwrle, yn Sir Fflint. Daethai
yno yn lled gynar, ond yn min y nos,
rhuthrai merch i'r tŷ, a'i hanadl yn ei
gwddf, gan ddweyd fod llu o erlidwyr gerllaw. Cododd gŵr y tŷ, a chlodd y drws.
Gyda hyny, dyma y dyrfa afreolus yno, ac
yn nghanol rhegfeydd a swn, yn gorchymyn gyru y pregethwr allan. Ni fynai
pobl y tŷ gydsynio. Darfu i'r gwrthodiad
gynhyrfu yr erlidwyr yn fwy, a thyngent
i'r dystryw mawr, oni wnaent yru y llefarwr allan y tynent y tý i lawr am eu
penau. Rhedodd rhai o honynt i gyrchu
trosolion, er mwyn rhoddi eu bwriad
dieflig mewn grym. Penderfynodd David
Williams, ar hyn, yr ai allan i'w mysg.
Pan y ceisid ei atal, dywedai: "Gollyngwch fi; rhaid i mi gael myned." Allan
yr aeth i ganol y dyrfa ffyrnig, a chan
edrych yn ddiofn arnynt, gofynodd: "Yn
enw'r Gwr goreu, beth sydd a fynoch a
dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu
anrhydedd a gaech pe baech yn fy lladd?"
Digwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn
cryf, a rhyw deimlad o anrhydedd heb
ddiffodd yn ei fynwes. Safodd hwn i fynu,
a chyda llonaid ei safn o lwon, gwaeddodd:
"Dyn iawn yw hwn. Mi a fynaf chwareu
teg iddo." Gwelodd David Williams fod
y drws wedi ei agor iddo megys yn wyrthiol i lefaru; cafodd le i sefyll arno wrth
ochr y ffordd, a phregethodd gyda dylanwad mawr wrth oleu'r lloer; a diau na
chuddiodd Haul y Cyfiawnder ei wyneb.
Bu yr erlidwyr mor ddystaw a chŵn yr
Aipht, ac ymadawsant yn heddychol.
Rhydd y Parch. E. Morgan, Syston, yr
hanes ychydig yn wahanol. Dywed efe
ddarfod i'r erlidwyr ymaflyd yn y pregethwr, gan ei gymeryd at ryw lyn, a bygwth
ei foddi. Pan ar gael ei daflu i mewn,
gwaeddodd David Williams: "Bydd yn
warth tragywyddol i bobl Caergwrle,
os boddant hen bregethwr penllwyd, a
ddaethai o eithafion y Deheudir i gyhoeddi
iachawdwriaeth iddynt." A dyma y pryd,
meddai Mr. Morgan, y darfu i'r dyn cryf
gyfryngu rhyngddo a'r gwaethaf.
Ymddengys ddarfod i David Williams
symud i Lysyfronydd, er gofalu am y mân
gymdeithasau a gawsent eu sefydlu yn
Mro Morganwg, ac mai gan Daniel
Rowland y bu y prif law yn ei symudiad.
Yn bur fuan priododd a Miss Pritchard,
Talygarn, yr hon a berthynai i deulu tra
chyfrifol, Pan y cyfododd awydd yn y
cymdeithasau am gael rhai o'r cynghorwyr
yn weinidogion, ordeiniwyd David Williams yn weinidog i eglwys yr Aberthyn.
Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru
mai yn y flwyddyn 1766 y bu hyn ; ond<noinclude><references/></noinclude>
pgrdel0l5fhrrnqq0jop9yzjbtez6ql
Categori:David Charles (1762-1834)
14
19044
38076
36596
2022-08-16T20:38:24Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Emynwyr]]
{{DEFAULTSORT:Charles, David}}
e3vsxyzz8egl2rxri93fxmxmmqmaad1
Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/320
104
19914
38072
2022-08-16T20:20:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|'''393''' ''Ymorffwys ar Aberth y Groes''</br>11. 11. 11. 11.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.
2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.
—William Edwards, Bala (1773—1853)
</poem>
|}
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|6.—EMYNAU CENHADOL.}}
Penodau cyfaddas i'w darllen mewn Cyfarfodydd Cenhadol :-
Salm ii., xix., lxxii., c., cxv., cxxii. Esaia ii., xi., xxxv., xl.,
xlii., xliv., xlix., lii., liii., lv. lx., lxi., lxii., lxv. Jeremia x.,
xxxi. Ezeciel xxxvii. Daniel ii. Mica iv. Matthew xx.
Actau ii., x. Rhufeiniaid x. Datguddiad xx., xxi.
<section end="bbb"/>
<section begin="ccc"/><section end="ccc"/>
<section begin="ddd"/>{{c|'''394''' ''Y Genhadaeth''.</br>M. C.}}}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
:Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
:Lle trigo dynol-ryw.
2 Mynegant am y cymod gwiw
:A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
:Aflendid mwya'r byd.
3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
:Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
:A gaed ar Galfari.
—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834}
</poem>
|}<section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude>
m499ih6xpkf8zutiz2hlei6lgyled6x
38073
38072
2022-08-16T20:27:54Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|'''393'''<ref>Emyn rhif 393, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Ymorffwys ar Aberth y Groes''</br>11. 11. 11. 11.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.
2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.
—William Edwards, Bala (1773—1853)
</poem>
|}
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|6.—EMYNAU CENHADOL.}}
Penodau cyfaddas i'w darllen mewn Cyfarfodydd Cenhadol :-
Salm ii., xix., lxxii., c., cxv., cxxii. Esaia ii., xi., xxxv., xl.,
xlii., xliv., xlix., lii., liii., lv. lx., lxi., lxii., lxv. Jeremia x.,
xxxi. Ezeciel xxxvii. Daniel ii. Mica iv. Matthew xx.
Actau ii., x. Rhufeiniaid x. Datguddiad xx., xxi.
<section end="bbb"/>
<section begin="ccc"/><section end="ccc"/>
<section begin="ddd"/>{{c|'''394'''
<ref>Emyn rhif 394, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Y Genhadaeth''.</br>M. C.}}}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
:Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
:Lle trigo dynol-ryw.
2 Mynegant am y cymod gwiw
:A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
:Aflendid mwya'r byd.
3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
:Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
:A gaed ar Galfari.
—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834}
</poem>
|}<section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude>
2cm8wog9oxefpvc1d6i4s9obop8g6cl
38077
38073
2022-08-16T20:40:17Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|'''393'''<ref>Emyn rhif 393, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Ymorffwys ar Aberth y Groes''</br>11. 11. 11. 11.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.
2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.
—William Edwards, Bala (1773—1853)
</poem>
|}
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|6.—EMYNAU CENHADOL.}}
Penodau cyfaddas i'w darllen mewn Cyfarfodydd Cenhadol :-
Salm ii., xix., lxxii., c., cxv., cxxii. Esaia ii., xi., xxxv., xl.,
xlii., xliv., xlix., lii., liii., lv. lx., lxi., lxii., lxv. Jeremia x.,
xxxi. Ezeciel xxxvii. Daniel ii. Mica iv. Matthew xx.
Actau ii., x. Rhufeiniaid x. Datguddiad xx., xxi.
<section end="bbb"/>
<section begin="ccc"/><section end="ccc"/>
<section begin="ddd"/>{{c|'''394'''<ref>Emyn rhif 394, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Y Genhadaeth''.</br>M. C.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
:Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
:Lle trigo dynol-ryw.
2 Mynegant am y cymod gwiw
:A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
:Aflendid mwya'r byd.
3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
:Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
:A gaed ar Galfari.
—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834}
</poem>
|}<section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude>
31ocozwx70bhhkfyd1lie2wle19r6z0
38079
38077
2022-08-16T20:53:40Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|'''393'''<ref>Emyn rhif 393, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Ymorffwys ar Aberth y Groes''</br>11. 11. 11. 11.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.
2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.
—William Edwards, Bala (1773—1853)
</poem>
|}
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|6.—EMYNAU CENHADOL.}}
Penodau cyfaddas i'w darllen mewn Cyfarfodydd Cenhadol :-
Salm ii., xix., lxxii., c., cxv., cxxii. Esaia ii., xi., xxxv., xl.,
xlii., xliv., xlix., lii., liii., lv. lx., lxi., lxii., lxv. Jeremia x.,
xxxi. Ezeciel xxxvii. Daniel ii. Mica iv. Matthew xx.
Actau ii., x. Rhufeiniaid x. Datguddiad xx., xxi.
<section end="bbb"/>
<section begin="ccc"/><section end="ccc"/>
<section begin="ddd"/>{{c|'''394'''<ref>Emyn rhif 394, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930</ref> ''Y Genhadaeth''.</br>M. C.}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:280px"
|<poem>
1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
:Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
:Lle trigo dynol-ryw.
2 Mynegant am y cymod gwiw
:A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
:Aflendid mwya'r byd.
3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
:Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
:A gaed ar Galfari.
—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834)
</poem>
|}<section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude>
41rj23tn85sopyc2j4a31cbtbmntbwm
Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes
0
19915
38074
2022-08-16T20:28:59Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Header | title = Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes | author = William Edwards, Bala | translator = | section = | previous = | next = | notes = }} [[File:Currier Crucifixion of Christ.jpg|bawd|400px]] <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf" from=320 to=320 tosection="aaa" /> </div> ==Ffynhonnell== <references/> [[Categori:William Edwards, Bala]] [[Categori:Emynau]]'
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes
| author = William Edwards, Bala
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =
}}
[[File:Currier Crucifixion of Christ.jpg|bawd|400px]]
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf" from=320 to=320 tosection="aaa" />
</div>
==Ffynhonnell==
<references/>
[[Categori:William Edwards, Bala]]
[[Categori:Emynau]]
a8msdq8j6lplwvv23a4sam2tdf9jb9h
Categori:William Edwards, Bala
14
19916
38075
2022-08-16T20:33:27Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '[[Categori:Emynwyr]] {{DEFAULTSORT:Edwards, William}}'
wikitext
text/x-wiki
[[Categori:Emynwyr]]
{{DEFAULTSORT:Edwards, William}}
sgi9402sjo499p0urzbmkrm3i5agame
Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys
0
19917
38078
2022-08-16T20:51:05Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Header | title = Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys | author = David Charles (1762-1834) | translator = | section = | previous = | next = | notes = }} [[File:Sefydliad y Congo Bae Colwyn.jpg|bawd|400px]] <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf" from=320 to=320 fromsection="ddd" /> </div> ==Ffynhonnell== <references/> [[Categori:David Charles (1762-1834)]] Categori:Emyn...'
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys
| author = David Charles (1762-1834)
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =
}}
[[File:Sefydliad y Congo Bae Colwyn.jpg|bawd|400px]]
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf" from=320 to=320 fromsection="ddd" />
</div>
==Ffynhonnell==
<references/>
[[Categori:David Charles (1762-1834)]]
[[Categori:Emynau]]
3v650mxitd5ov34cge6wrtyivx9qaq8
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/264
104
19918
38084
2022-08-16T23:44:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ychydig iawn a wyddom am William
Richard, arolygwr seiadau y rhan isaf o
Sir Aberteifi, yn nghyd a'r oll o gymdeith
asau glàn y môr yn Sir Benfro, mor bell a
Thyddewi, ond a geir yn nghofnodau
Trefecca. Un o ddychweledigion Daniel
Rowland ydoedd, a dechreuodd gynghori
yn mron yn union wedi iddo gael crefydd.
Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau
Cyfarfod Misol Llanddeusant, pan y
rhoddwyd nifer o seiadau dan ei ofal.
Cyfeirir ato hefyd yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, lle y dywedir ei fod i
aros fel yr ydoedd hyd Gymdeithasfa
Dygoedydd. Yn Nghymdeithasfa Fisol
Glanyrafonddu, ail-roddir seiadau Blaenhownant, Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, a Llechryd dan ei ofal, a gelwir ef
yn "William Richard o Landdewi-frevi."
A ydoedd yn preswylio yn Llanddewi-brefi
ar y pryd, nis gwyddom; y tebygolrwydd
yw mai oddiyno yr hanai, ond ddarfod iddo
symud ei breswyl cyn hyn i gymydogaeth
Aberteifi. Yn ngweithiau barddonol Williams, Pantycelyn, ceir marwnad i un
William Richard, o Abercarfan, yn mhlwyf
Llanddewi-brefi, yr hwn a fu farw o'r
darfodedigaeth, haf 1770. Y mae amryw
bethau yn y farwnad yn pleidio mai yr un
ydyw a William Richard y cynghorwr.
Dywed y bardd:—
{{center block|
<poem>
"Mae Llanfrynach wan yn wylo
Hyd yn awr, wrth gofio am dano."
</poem>
}}
Gorwedda Llanfrynach yn gyfagos i gydiad
y tair sir, sef Penfro, Caerfyrddin, ac
Aberteifi, ac felly yr oedd yn ymyl y
maes a gawsai ei ymddiried i William
Richard, os nad oedd yn wir yn rhan o
hono. Os ydym yn gywir yn ein dyfaliad,
profasai William Richard bethau cryfion
ar gychwyn ei fywyd crefyddol; buasai
yn neidio ac yn molianu tan weinidogaeth
danllyd Rowland; a chadwodd ei goron
hyd ddiwedd ei ddydd. Fel hyn ei desgrifir gan Williams:—
{{center block|
<poem>
"Gwelais of ar oriau hyfryd,
Yn moreuddydd braf ei fywyd,
Yn molianu, yn prophwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeithio;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo;
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corph yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu.
Mi fum unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth, heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched, hwythau'n wylo cariad ;
Minau f'hun, waclaf ddyn, gwanaidd, yn gwenu,
Ac yn hyfryd ciddigeddu,
Weled plentyn arna i'n blaenu.
</poem>
}}
Y mae y desgrifiad yn nodedig o fyw.
Braidd na welwn ef yn moreuddydd ei
fywyd, gyda dillad tewion, wedi eu gwneyd
o frethyn cartref, yn ol arfer ffermwyr y
pryd hwnw, am dano; y mae y syniadau
am ogoniant y Gwaredwr a ymrithiant
gerbron ei feddwl mor ogoneddus, nes y
mae ei gorph yn gorfod helpu ei enaid i
roddi mynegiant iddynt. Wrth ei fod yn
neidio ac yn molianu, y mae chwys fel
nentydd yn llifo dros ei wyneb, a'i ddillad
yn myned yn wlybion am dano, fel pe
buasai tarth wedi treiddio trwyddynt. A
chan yn amlwg y cyfunai wybodaeth
grefyddol eang, a medr mawr mewn
ymwneyd a'r dychweledigion, nid rhyfedd
fod seiadau glàn y môr mewn rhanau o
ddwy sir yn cael eu gosod dan ei ofal.
Gallwn dybio ddarfod iddo yn mhen amser
symud yn ei ol i Landdewi-brefi, ac mai
yno yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Nid tawel a fu ei fywyd crefyddol yno;
bu mewn dadleuon poethion; eithr safodd
yn ffyddlon trwy bob anhawsder. Meddai
William Williams yn mhellach:—
{{center block|
<poem>
"Ti, Llanddewi, fu'n agosa'
Gneifio'r blew oedd ar ei gopa,
Mwg a thân fu iddo'n galed
Yn y ffrae rhwng Twrcs ac Indiaid;
Ond fe safodd Wil i fynu
Pan oedd Efan laith yn methu."
</poem>
}}
Nis gwyddom beth oedd testun y ffrae, na
phwy oedd y "Twrcs ac Indiaid" a'i
dygent yn mlaen; na phwy oedd yr "Efan
laith" a fethodd sefyll ei dir; ac ofer
dyfalu yn awr. Yr hyn sydd yn bwysig
yw deall ddarfod i William Richard ddyfod
{{center block|
<poem>
"O'r anialwch mawr i fynu,
Heb ei ladd, heb ei orchfygu."
</poem>
}}
Gweinidog Ymneillduol, a ymunodd a'r
Methodistiaid, oedd y Parch. Benjamin
Thomas. Ychydig iawn o'i hanes sydd
genym. Yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, cyfeirir at ddau weinidog
Anghydffurfiol; un yn bresenol, sef y
Parch. Henry Davies, Bryngwrach; a'r
llall yn absenol, sef y Parch. Benjamin
Thomas. Rhoddir eu henwau yn mysg
yr offeiriaid ordeiniedig; gellid meddwl yr
edrychid ar urddiad Ymneillduol fel yn
hollol gyfartal i ordeiniad Esgobol; y mae
enw Howell Harris yn is i lawr, sef yn
mysg y lleygwyr. Rhaid nad oedd y<noinclude><references/></noinclude>
dgpmpykcmqtvpa7y6cr6fojmfhf8h08
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/265
104
19919
38085
2022-08-17T00:55:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tadau Methodistaidd, er eu hymlyniad
wrth yr Eglwys Sefydledig, yn ddynion
rhagfarnllyd. Yr ydym yn cael y Parch.
B. Thomas yn bresenol yn Nghymdeithasfa Trefecca, haf 1743, yn gystal ac yn
Nghymdeithasfa y Fenni y mis Mawrth
dilynol. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd,
Hydref, 1744, penderfynwyd fod y brawd
Benjamin Thomas i gynorthwyo Howell
Harris fel arolygwr dros holl Gymru, yn
lle Herbert Jenkins, yr hwn a ymroddasai
i lafurio yn benaf yn Lloegr.
Teithiai Mr. Thomas lawer, trwy Dde
a Gogledd Cymru, ac ni ddihangodd
rhag erlidiau, mwy na'r gweddill o'i frodyr.
Cawn hanes am dano yn pregethu yn
Minffordd un tro, mewn adeilad wedi cael
ei drwyddedu yn ol y gyfraith i gynal
addoliad. Daeth yno lu o erlidwyr, gyda
ffyn mawrion yn ei dwylaw, ac i un o'r
ffyn hyn yr oedd pen haiarn. Ceisiwyd
taro y pregethwr a'r ffon hon, ond ar un
Howell Thomas, o Blas Llangefni, y
disgynodd yr ergyd; ac yr oedd y tarawiad
mor chwimwth fel y torodd y pen haiarn i
ffwrdd, gan fyned dros y clawdd i'r ffos tu hwnt
hwnt. Dilynodd yr erlidwyr y dorf am
chwarter milltir, gan eu curo a'u baeddu
yn ddidrugaredd, nes yr oedd eu gwaed
yn ffrydio ar hyd y ffordd. Ymddengys,
modd bynag, i B. Thomas ddianc yn
gymharol ddianaf, gan ei fod yn wr cyflym
ar ei draed. Tyner oedd nodwedd pregethu Benj. Thomas; llifai y dagrau i
lawr ei ruddiau wrth gynghori pechaduriaid. Pregethai unwaith yn y Bontuchel,
yn Sir Ddinbych. Daeth dyn i'w wrando
o'r enw Thomas Parry, gwr pwyllog, tra
ymlyngar wrth Eglwys Loegr, a llawn
rhagfarn at y Methodistiaid.
Ond cymhellasid ef gan ei frawd i ddyfod i'r odfa.
"Ti gei weled, Twm," meddai ei frawd,
"y bydd y dyn yn pregethu o'i galon,
canys bydd ei ddagrau yn treiglo i lawr ei
wyneb." Pwnc y bregeth oedd ailenedigaeth. Mawr ddymunasai Thomas Parry
gael pregeth ar y mater hwn; ond nid
oedd y clerigwr a wasanaethai yn yr
eglwys yn cyfeirio un amser at y mater.
Eithr cafodd yn y pregethwr o'r Dê fwy
na boddlonrwydd i'w gywreinrwydd, ac
eglurhad ar bwnc duwinyddol; bachodd
y gwirionedd yn ei gydwybod, a daeth yn
ddyn newydd o'r dydd hwnw allan. Daeth
gwedi hyny yn adnabyddus fel Thomas
Parry, o'r Rhewl, ac yn un o'r blaenoriaid galluocaf a mwyaf defnyddiol yn holl
Wynedd. Nid ydym yn gwybod pa bryd na pha le y terfynodd y Parch. Benjamin
Thomas ei yrfa. Ymddengys, pa fodd
bynag, mai wrth blaid Rowland y glynodd
yn amser yr ymraniad, ac iddo barhau i
efengylu yn mysg y Methodistiaid hyd
ddiwedd ei oes.
Yr oedd dau gynghorwr yn Sir Benfro,
cyffelyb o ran enwau, y rhai y mae eu hanes
wedi eu cydgymysgu yn anobeithiol yn
''Methodistiaeth Cymru''. Un oedd John Harris,
St. Kennox, yr hwn, mor foreu a'r flwyddyn
1743, a benodwyd yn arolygwr ar y
cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast,
Jefferson, Carew, Llandysilio, a Gellidawel. Y llall oedd John Harry, Treamlod, cynghorwr anghyoedd. Y blaenaf
oedd yr enwocaf o lawer. Ymddengys ei
fod yn ddyn siriol, yn bwrlymu o athrylith,
yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin mewn
Cymraeg a Saesneg, a chyda hyn yn
meddu gwroldeb diofn. Er dangos ei
gymeriad, nis gallwn wneyd yn well na
difynu rhanau o'i lythyrau i'r Cymdeithasfaoedd. Fel hyn yr ysgrifena at Gymdeithasfa Fisol Longhouse, Medi 28,
1743, gan gyfarch Daniel Rowland a
Howell Davies: "Anwyl a charedig
fugeiliaid. O'r diwedd, fe'm cymhellir, o
gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu
pa fodd y mae wedi bod arnaf er ein
Cymdeithasfa Fisol ddiweddaf, pryd y
rhoddasoch arnaf ofal amrywiol gymdeithasau. Pan y gofynwyd i mi y pryd
hwnw am fy rhyddid (sef rhyddid i fyned
o gwmpas arolygu y seiadau), atebais
fel y dysgwylid i mi. Ond daeth y syniad
ar unwaith i'm meddwl, pa fodd y gallwn
i, nad wyf ond baban mewn profiad,
ryfygu sefyll i fynu fel clorian i bwyso
eneidiau? Meddyliais ynof fy hun, pe y
digwyddai rhyw amryfusedd ynglyn ag
esbonio, y byddai yn llai niweidiol i enaid
nag a fyddai barnu ar gam rhwng cnawd
ac yspryd, a rhwng gwir a gau gariad.
Pa fodd bynag, fe fu y gair Rhydd' a
atebais i chwi, fel cadwen i fy rhwymo i
edrych beth a gymerais mewn llaw.
Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag im
fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl
Oen, ond yn dristwch i fy hoff athrawon,
ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd Duw, ac
i'w blant. Daeth y baich hwn mor annyoddefol fel ag yr oedd corph ag enaid yn
mron cael eu llethu dano.
Bum yn yr ing
am gryn amser, yn meddwl mwy am y
Gymdeithasfa, lle y gelwid arnaf i roddi
cyfrif o'm goruchwyliaeth, nag am y farn
fawr. Ymroddais i anfon at y<noinclude><references/></noinclude>
jfaholt7r16dgafwovfgvrrh631xr1h
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/266
104
19920
38086
2022-08-17T01:06:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithasau i ymgynull ar amser priodol ac mewn
trefn, gan ymddangos iddynt fel gŵr o
awdurdod." Yn canlyn, ceir adroddiad o
ansawdd y seiadau. Yn sicr, nid dyn
cyffredin a allasai ysgrifenu fel y gwna
John Harris.
Yr un gŵr, sef John Harris, St. Kennox,
sydd mewn llythyr, dyddiedig Mai 12,
1745, yn cofnodi hanes ei ymweliad a
chymydogaeth Tenby. "Nid oes, bellach," meddai, "yr un rhan o'r sir na
fum yn cynghori ynddi, ond tref Penfro,
a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd borthladd tua phump neu chwech milltir o Penfro
Bum yn llefaru o fewn dwy
filltir i'r lle, nos Wener diweddaf. Nid
oes ond un brawd crefyddol yn byw yn
Tenby; mynych y ceisiasai hwn genyf
ddyfod i'r dref i bregethu; yn awr, anfonais ato y deuwn i'w dy i letya, ac os
gwelai efe yn oreu wahodd rhyw nifer o
wyr a gwragedd adnabyddus iddo, ac yn
chwenych fy ngwrando, i fy nghyfarfod, y
gwnawn esbonio ychydig o adnodau yn yr
ystafell gefn. Felly hefyd y gwnaeth y
gwr. Ond pan oeddwn ar ganol y gwasanaeth, daeth y cwnstab i mewn, gan
ddweyd: Syr, y mae yn rhaid i chwi
dewi; gorchymynir i mi gan y maer eich
dwyn o'i flaen yn ddioedi. Dywedais
inau y cydsyniwn a'r cais, ond gan fy mod
ar wasanaeth Meistr arall yn awr, fy mod
yn hawlio caniatad i draddodi fy neges
drosto ef yn nghyntaf. Ar hyn, efe a
adawodd yr ystafell. Eithr cyn i mi
orphen, dyma y cuwrad i mewn, a chydag
ef yr oedd cwnstebli, a phedwar neu
bump o foneddigion. Ceisiai y cuwrad gan
y swyddog fy llusgo i lawr. Atebodd
yntau: Gresyn fyddai hyny, cyn iddo
orphen, oblegyd y mae yn llefaru yn
felus.'
"I lawr ag ef,' ebai y cuwrad, 'onide
mi rof gyfraith arnat ti am esgeuluso dy
ddyledswydd.'
"Er fod y dynion (y cwnstebli) yn haner
meddw, cefais genad i orphen yr odfa; ac
yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy yspryd, ac
ar fy ngwrandawyr hawddgar, y rhai a
rifent tua deugain. Disgynais oddiar y
lle y safwn, a thra yr ymesgusodent (y
swyddogion) wrth wr y tŷ, yr oedd eu
gwedd yn llwyd rhyfedd.
"Nia ddaethom, Mr. Thomas,' meddent,
i weled y darluniau gwych sydd genych.'
"Atebais inau: "Tybygwyf, foneddigion,
mai fi yw y darlun y daethoch i'w weled.'
Ar hyn, y swyddog a roes ei law ar fy
ysgwydd, gan ddweyd: Yr ydych yn
garcharor, Syr, a rhaid i chwi ddyfod o
flaen y maer.'
"Yr wyf yn barod i ddyfod,' ebe finau.
Pan aethom i'r heol, a hyny rhwng naw a
deg o'r gloch y nos, yr oedd yno tua mil
o bobl, yn wyr ac yn wragedd, gyda
llusernau a chanhwyllau yn fy nysgwyl,
ac yn llefain yn echrys: Ymaith ag ef!
Ymaith ag ef!'
"At y maer yr aethom. Hwn, heb
edrych yn fy wyneb, a ofynodd am fy
nhrwydded. Atebais nad oedd genyf yr
un. Gofynodd: 'Pa fodd y meiddiwch
ddyfod i'n tref ni i bregethu?"
"I hyn atebais: 'Ni chyhoeddwyd fi i
bregethu; eithr gwedi i'r bobl wybod am
fy nyfodiad yma i letya, daethant i mewn;
minau a esboniais ychydig adnodau iddynt,
canasom emyn neu ddwy, a gweddiasom."
"Rhaid i chwi,' ebe y maer, 'roddi
meichiau am eich ymddangosiad yma y
cwarter sessiwn nesaf.'
"Da fyddai genyf wybod, Syr, beth
sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.'
"Eich gwaith
yn pregethu,' oedd yr
ateb.
"Os hyny yw y trosedd, Syr, chwi a'u
cewch yn ewyllysgar. Am ba swm y
gofynir hwynt?
"Am ddau cant o bunoedd,' oedd yr
ateb. Yr oedd yno ddau frawd yn barod
i ymrwymo, ond gofynodd rhywrai a safent
gerllaw: A roddech chwi eich gair, pe y
caech fyned yn rhydd yn awr, na ddeuwch
yma i bregethu mwy?'
"Hyny nis gallaf ei wneyd,' ebe finau;'
'er na ddaethum yma i bregethu y tro hwn,
nid oes sicrwydd na fydd raid i mi bregethu yma cyn y fory, oblegyd nid oes
genyf awdurdod arnaf fy hun."
"Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod
arnoch?' gofynai gwraig y maer.
"Dan awdurdod fy Meistr yr wyf.'
"Pwy yw eich meistr? Ai y diafol?'
Nage. Y mae fy Meistr i yn feistr
ar y diafol, ac arnoch chwithau yn ogystal.'
"Ust,' ebe y maer wrth y wraig, 'tewch
a son." Gyda hyn, galwyd arnaf i lawarwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi
yn rhydd."
Dyma adroddiad John Harris o helynt
Tenby. Pan aeth allan i'r heol yr oedd
yno dorf o derfysgwyr yn ei ddysgwyl, yn
ffyrnig eu gwedd, ac yn barod i ymosod
arno. Ond amddiffynwyd ef yn annysg
wyliadwy gan ryw ynad, a deimlai yn
garedig at y Methodistiaid, a chymerodd<noinclude><references/></noinclude>
lg5oxcwb8v3fdbuwadzpz2rbh66gfvf
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/268
104
19921
38089
2022-08-17T01:32:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wrth ymadael, dywedai: "Os ewch
chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi
at John Harry, a dywedwch fy mod
inau hefyd yn dyfod." Dro arall, galwodd
wyr i John Harry, sef y Parch. T.
Harris, Hwlffordd, yn nhy Mr. Hill yn
Llundain. "Pwy ydych chwi?" ebai
Mr. Hill. "Yr wyf yn wyr i'r diweddar
John Harry, o Dreamlod," atebai yr
ymwelydd. Ar hyn, ymunionodd Mr.
Hill; sefydlodd ei lygaid ar y dyn ieuanc,
ac meddai, mewn llais llawn o deimlad:
"Os oes un dyn o'n byd llygredig ni yn y
nef, y mae yr hen John Harry yno.
Efallai mai ei berthynas a'r hen John
Harry a barodd i Mr. T. Harris gael ei
ddewis gwedi hyn i fod yn weinidog
Wooton-under-Edge, lle yr arosodd am rai
blynyddoedd. Gyda Rowland y glynodd
efengylydd Treamlod yn yr ymraniad, a bu
yn nodedig o ddefnyddiol yn nghylchoedd
Methodistaidd Penfro hyd ddiwedd ei oes.
Pregethai unwaith yn y mis yn nghapel
Woodstock. Gelwid y Sabbathau yno yn
ol enw y pregethwr a fyddai yn gweinyddu.
"Sul Rowland " y gelwid Sul pen y mis;
"Sul John Harry" oedd yr ail; "Sul
Henry Richard," tad Eben a Thomas
Richard, oedd y trydydd; a "Sul William
Griffith "oedd yr olaf. Bu John Harry
farw yn y flwyddyn 1788, yn nhŷ offeiriad
Trefdraeth. Yn ei angladd, pregethwyd
gan Sampson Thomas, oddiar y geiriau:
Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn
marw yn yr Arglwydd." Pregethwyd
hefyd ar yr amgylchiad yn eglwys Treamlod, gan Mr. Rowland, oddiar y geiriau :
"Ac os o braidd y mae y cyfiawn yn
gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" Nid yw yr hen John
Harry heb fod rhai o'i hiliogaeth yn
gweinyddu mewn pethau sanctaidd, yn
mysg y Methodistiaid, hyd y dydd hwn.
Mab iddo oedd y Parch. Evan Harris, a
gafodd ei ordeinio yn mysg y fyntai gyntaf
yn Llandilo Fawr, yn y flwyddyn 1811.
Mab iddo yntau oedd y Parch. Thomas
Harris, gwr o ddoniau arbenig, ond a
derfynodd ei yrfa mewn cysylltiad a'r
Eglwys Wladol. Gorwyr i John Harry
yw y Parch. James Harris, Clarbeston
Road; ac yr ydym yn deall fod mab iddo
yntau eto wedi cychwyn gyda gweinidog-
aeth y Gair.
Un o gynghorwyr hynotaf Penfro oedd
William Edward, Rhydygele. Darllenwn
am dano yn nghofnodau Trefecca yn
cael caniatad i ymweled a chymdeithasau
Tyddewi, Penrhos, a Mounton, yn wythnosol, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa
ddyfodol. Yr oedd yn llawn tân a chyffro,
a meddai lawer o dalent naturiol, a medr
i gyfarch pechaduriaid, ond ei fod yn
drwsgl ac yn dra anwrteithiedig. Methodist ydoedd; dan weinidogaeth Howell
Harris y cawsai ei argyhoeddi; ond ymgymysgai gryn lawer a'r Ymneillduwyr,
ac yn eu cyfarfodydd arbenig, eisteddai bob
amser yn mysg y swyddogion. Edrychent
hwy arno ef fel un rhy danbaid, a rhy
ddireol; credai yntau eu bod hwy yn rhy
farwaidd ac anefengylaidd. Gyda llawer
o ffraethineb, dangosai iddynt unwaith y
gwahaniaeth rhwng ei ddull ef yn pregethu, a'r eiddynt hwy, trwy gymhariaeth
o dộ ar dân. "Eich dull chwi," meddai,
"yw dweyd: Wrth deithio yn y nos, yn 1af,
Mi a ganfum dân. Yn 2il, Mi a welais
fwg. Yn 3ydd, Mi a ddeallais fod y tý
yn llosgi. Yn 4ydd, Mi a wybum fod y
teulu ynddo mewn trwmgwsg.
Yn 5ed, Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw
allan, rhag eich dyfetha. Fy null inau,
wedi deall fod y ty ar dân, a'r teulu yn
cysgu, yw gwaeddu, heb na chyntaf nac
ail: Iwb! Iwb! Hawyr! Hawyr! Deffrowch! Deuwch allan ar frys, y mae y
ty ar dân, onide fe'ch llosgir yn lludw!"
Saer oedd William Edward wrth ei
grefft. Arweiniwyd ef unwaith, wrth
ddilyn ei gelfyddyd, i fysg y Saeson a
breswyliai ran o Benfro, a hyny mewn
palasdy, lle yr oedd pobl dra boneddigaidd
yn byw. Yn fuan, aeth y si allan fod y
saer yn bregethwr. Gwedi ei holi, a
chael fod y chwedl yn wir, trefnodd y
foneddiges fod iddo gael anerch y teulu y
Sul canlynol. Y Sul a ddaeth, ac esgynodd
William Edward i ben ystôl, er mwyn bod
yn uwch na'i wrandawyr. Tynodd lyfr
allan o'i logell, gan ddarllen yn Saesneg o
hono fel testun: "Pwy bynag a yr ei was
neu ei forwyn i godi pytatws, neu i dori
bresych, ar foreu Sabbath, a ddemnir dros
byth." "Dyma fy nhestun, madam,"
meddai; "yn awr, gyda'ch cenad, mi a
af yn mlaen." Eithr cyffrodd y foneddiges yn enbyd; nid oedd yn ddieuog yn
ngwyneb y cyhuddiad; a bloeddiodd yn
groch: "Nag ewch ddim yn mlaen, yr
adyn; dewch i lawr ar unwaith; dim
ychwaneg o'r fath gleber!" Ac i lawr y
bu raid iddo ddod, heb wneyd rhagor na
darllen y testun, a therfynodd y cyfarfod.
Dengys yr hanesyn fod tân a zêl yn
yspryd y cynghorwr, ond yn fynych fod y<noinclude><references/></noinclude>
5kzf9lp58c9v50ngav5wuij04pi4h9v
Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/269
104
19922
38090
2022-08-17T01:59:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfryw yn tori allan yn wyllt, heb gael eu
llywodraethu gan yspryd pwyll.
Byddai ei dymer yn aml yn fagl iddo.
Unwaith, aeth yn ddadl rhyngddo a
Thomas Hooper, ei gymydog; aeth yr
ymryson yn enbyd o boeth, ac yn y cyffro
rhoddes William Edward wth i'w wrthwynebydd, nes y syrthiodd yn sybyrthol
yn erbyn rhyw arf, gan gael archoll ddofn
ar ei dalcen. Dyma y si allan fod William
Edward, Rhydygele, pregethwr efengyl,
wedi taro ei gymydog a chaib, fel yr
oedd ei ymenydd yn y golwg. Gellir yn
hawddach ddychymygu na darlunio y
gofid a barodd y chwedl i'r cyfeillion
crefyddol. Dygwyd y mater yn mlaen yn
y seiat. Gwadai yntau iddo daro Tom
Hooper. Eithr ni chredai ei gyd-aelodau;
ymddangosai yr archoll yn profi yn wahanol. Penderfynwyd ei ddiarddel. Cyn
myned allan, gofynai ganiatad i fyned i
weddi. Yr oedd y weddi yn un ryfedd;
gruddfanau yr hen bererin mewn edifeirwch wrth yr orsedd, gan grefu am
faddeuant, ac apeliai at hollwybodaeth y
Goruchaf nad oedd wedi gwneyd yr hyn y
cyhuddid ef o hono. "Y mae fy mrodyr
yn gwrthod fy nghredu," meddai, "eithr
gwyddost ti, Arglwydd Mawr, na tharewais mo Tom Hooper yn ei dalcen a'r
gaib." Gorchfygwyd ei gyd-aelodau, a
chwedi eu hargyhoeddi yn drwyadl nad
oedd yn bwriadu drwg, caniatasant iddo
aros yn eu mysg. Bu y tro yn wers iddo
am ei oes; daeth gwedi hyn mor hynod
am ei larieidd-dra a'i arafwch ag oedd yn
flaenoro! am ei fyrbwylldra. A gorphenodd ei yrfa yn fawr ei barch gan bawb
a'i hadwaenai.
Bellach, rhaid i ni adael y cynghorwyr,
er mor ddifyrus ac addysgiadol eu hanes.
Yr amser a ballai i ni fynegu am John
Richard, Llansamlet, yr hwn oedd yn wr
gwresog ei yspryd, a gonest ei galon, ac er
tramgwyddo wrth arweinwyr y Gymdeithasfa oblegyd cyfyngu o honynt ar ei faes
llafur, a ddaeth i'w le yn fuan, gan gyfaddef ei ffolineb, a gofyn am faddeuant;
am Howell Griffith, Trefeurig, yr hwn
oedd yn ŵr dysgedig, ac mewn amgylchiadau da, ac a fu o fawr ddefnydd i achos
yr Arglwydd yn ngymydogaethau Llantrisant, Tonyrefail, a Bro Morganwg, ac
nad oedd uwchlaw derbyn cerydd yn
garedig gan ei frodyr, pan y teimlent ei
fod yn tueddu i fyned ar gyfeiliorn; am
James Williams, arolygydd y seiadau yn
Sir Gaerfyrddin, adroddiadau pa un o sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan ei
ofal sydd yn awr ar gael, ac yn dra
dyddorol eu cynwys; am Milbourn Bloom,
a breswyliai yn Llanarthney, yn nhŷ yr
hwn y cedwid y Cyfarfod Misol nodedig,
pan y disgynodd Yspryd Duw fel fflam
i fysg ei bobl, nes gwresogi eu calonau, a
pheri iddynt folianu ei enw; am Morgan
Hughes, a fu unwaith yn arolygydd seiadau
Sir Drefaldwyn, a chwedi hyny, mewn
undeb a Williams, Pantycelyn, yn arolygydd seiadau rhan uchaf Sir Aberteifi, yr
hwn, am ei waith yn myned o gwmpas i
efengylu, a wysiwyd i frawdlys Aberteifi,
yn y flwyddyn 1743, ond erbyn myned
yno, a ddaeth yn rhydd am nad oedd neb
i'w erlyn; ac am amryw eraill. A'u
cymeryd fel dosbarth, dynion ardderchog
oedd yr hen gynghorwyr. Eu hunig
wendid, os gwendid hefyd, oedd awydd
am gael eu hordeinio, fel y gallent weini yr
ordinhadau megys gweinidogion yr Ymneillduwyr. Ychydig o gydymdeimlad
oedd rhwng y nifer fwyaf o honynt a'r
Eglwys Sefydledig; yr oedd eu cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr yn fwy. A
phan na fynai yr arweinwyr ganiatau
ordeiniad iddynt, aeth amryw trosodd at
yr Ymneillduwyr, gan gymeryd gofal
eglwysi a gwasanaeth eu Harglwydd a'u
cenhedlaeth yn ffyddlawn. Dyma fel y
collodd y Cyfundeb Evan Williams, y
crybwyllasom am dano yn dianc o'r
Gogledd oblegyd poethder yr erledigaeth;
a John Thomas, a ymsefydlodd yn y
Rhaiadr; a Richard Tibbot, Herbert
Jenkins, Milbourn Bloom, ac amryw o
ddynion talentog eraill. Eithr glynodd y
nifer fwyaf yn ffyddlawn, er pob temtasiwn
i gefnu. Ond yr ydym yn colli golwg ar
amryw o honynt yn amser yr ymraniad, a
pha beth a ddaeth o honynt, nis gwyddom.
Aeth rhai yn Annibynwyr; cyfeiliornodd
eraill oddiwrth y ffydd, gan ffurfio mân
bleidiau, a gosod eu hunain yn ben arnynt;
ond am y nifer fwyaf, ymlynasant wrth
Rowland, Howell Davies, a Williams,
Pantycelyn, a buont farw ar y maes fel
medelwyr diwyd, a'u crymanau yn eu
dwylaw.
Yr ydym yn dyfod yn awr at adrodd-
iadau y cynghorwyr, a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd, yn desgrifio sefyllfa yr
eglwysi a osodasid dan eu gofal. Y mae
yr adroddiadau hyn mor lliosog, fel nas
gallwn ond difynu ychydig o honynt, a
hyny megys ar antur. Yr adroddiad
cyntaf yn nghofnodau Trefecca yw eiddo<noinclude><references/></noinclude>
s4fa84obcglt1wo1ghnnvittayepz8l
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)
0
19923
38092
2022-08-17T03:49:48Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Header | title = [[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]] | author = John Morgan Jones | translator = | section = Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf | previous = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)]] | next = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu"...'
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]]
| author = John Morgan Jones
| translator =
| section = Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
| previous = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)]]
| next = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu" from=261 to=261/>
</div>
{{DEFAULTSORT:Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)}}
==Nodiadau==
<references/>
[[Categori:Y Tadau Methodistaidd]]
37tye2ytw6jt8tpob8ulw7jlir7k1zi
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)
0
19924
38093
2022-08-17T03:51:47Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Header | title = [[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]] | author = John Morgan Jones | translator = | section = Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf | previous = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)]] | next = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21)]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu"...'
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]]
| author = John Morgan Jones
| translator =
| section = Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
| previous = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)]]
| next = [[../Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21)|Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21)]]
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu" from=262 to=262/>
</div>
{{DEFAULTSORT:Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)}}
==Nodiadau==
<references/>
[[Categori:Y Tadau Methodistaidd]]
bf0kwx4z23751yu271rpabfjt8b53sj