Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.39.0-wmf.25
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Gadget
Gadget talk
Gadget definition
Gadget definition talk
Hafan
0
1360
39239
38561
2022-08-22T00:10:20Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
{{mawr|''Croeso i '''Wicidestun''', y llyfrgell rydd!''}}
{| cellspacing="5px"
| width="60%" align= style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#FFE4C4; padding:1em;" class="plainlinks"; valign="top"|
<div style="float:left;margin-left:0.3em;margin-right:0.7em"><br/>
[[Delwedd:Carl Spitzweg 021.jpg|150px]]
</div>
Mae '''Wicidestun''' yn storfa o destunau gwreiddiol sy'n [[w:en:Public domain|eiddo cyhoeddus]] neu o dan dermau [[w:cy:Cynnwys rhydd|trwydded agored]] [[:w:cy:Wicipedia:Hawlfraint|CC-BY-SA]]. Mae'r prosiect hwn yn rhan o deulu ehangach [[:en:Sefydliad Wikimedia|Wicimedia]] gan gynnwys [[:en:Creative Commons|Comin Wicimedia]], [[:d:cy:Wiciadur|Wiciadur]] a [[:w:cy:Wicipedia|Wicipedia]]. Erbyn hyn mae gennym ni '''[[Special:Statistics|{{NIFEROERTHYGLAU}}]]''' o weithiau. Gweler [[w:Wicipedia:Cymorth|tudalen help]] a chwaraewch yn y pwll tywod i ddysgu sut allwch '''chi''' olygu ac uwchlwytho testun.
<br/>
'''Rhai o'n llenorion:'''
: [[:Categori:Ehedydd Iâl|Ehedydd Iâl]]
: [[:Categori:Iolo Goch|Iolo Goch]]
: [[:Categori:Dafydd Nanmor|Dafydd Nanmor]]
: [[:Categori:Lewis Glyn Cothi|Lewis Glyn Cothi]]
: [[:Categori:Ann Griffiths|Ann Griffiths]]
: [[:Categori:Owen Morgan Edwards| O .M. Edwards]]
: [[:Categori:I. D. Hooson| I. D. Hooson]]
'''Rhai o'n Categorïau:'''
<br/>
*[[:Categori:Llyfrau|Llyfrau]]
*[[:Categori:Barddoniaeth|Barddoniaeth]]
*[[:Categori:Rhyddiaith|Rhyddiaith]]
*[[:Categori:Testunau crefyddol|Testunau crefyddol]]
*[[:Categori:Adolygiadau|Adolygiadau]]
*[[:Categori:Llyfrau Ab Owen|Cyfres y Fil a Llyfrau Ab Owen]]
*[[:Categori:Testunau cyfansawdd|Testunau cyfansawdd]] (Y modd gorau i lawrlwytho testynau ar gyfer e-ddarllenwyr)
'''<big>[[Testunau sydd angen eu gwirio]]</big>'''
'''Mesurau:'''
[[:Categori:Englynion|Englynion]] -- [[:Categori:Englynion Milwr|Englynion Milwr]] -- [[:Categori:Cywyddau|Cywyddau]] -- [[:Categori:Awdlau|Awdlau]] - [[:Categori:Cerddi Caeth|Cerddi Caeth]] -- [[:Categori:Cerddi Rhydd ar Fydr ac Odl|Cerddi Rhydd ar Fydr ac Odl]] -- [[:Catagori:Cerddi Caeth ar Fydr ac Odl|Cerddi Caeth ar Fydr ac Odl]] -- [[:Categori:Y Wers Rydd Di-gynghanedd|Y Wers Rydd Di-gynghanedd]] -- [[:Categori:Y Wers Rydd Gynganeddol|Y Wers Rydd Gynganeddol]]
| rowspan="2" width="30%" style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#FFFFFF; padding:1em;" valign="top"|
{|width="*"
|
'''Rhai o'n gweithiau diweddaraf:'''
*[[Bywyd a Llafur John Wesley|Bywyd a Llafur John Wesley gan Hugh Humphreys]]
*[[Tro Trwy'r Gogledd|Tro Trwy'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards]]
*[[Tro i'r De|Tro i'r De gan Owen Morgan Edwards]]
*[[Yn y Wlad|Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards]]
*[[Llenyddiaeth Fy Ngwlad|Llenyddiaeth Fy Ngwlad gan Thomas Morris Jones (Gwenallt)]]
*[[Aildrefniad Cymdeithas|Aildrefniad Cymdeithas gan R J Derfel]]
*[[Yny lhyvyr hwnn|Yny lhyvyr hwnn gan John Prys]]
*[[Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia|Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia gan Abraham Mathews]]
*[[Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011]]
*[[Cymru Fu|Cymru Fu gan Isaac Foulkes]]
*[[Coelion Cymru|Coelion Cymru gan Evan Isaac]]
*[[Mesur Addysg (Cymru) 2011]]
*[[Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)|Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn) gan John Gwyddno Williams]]
*[[Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014]]
{{c|🙝 🙟}}
<gallery>
Ll Du C Bawd.png|'''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'''
Delwedd:Llyfr Aneirin.png|'''[[Llyfr Aneirin]]'''
</gallery>
{{c|🙝 🙟}}
... a nifer o gerddi:
*[[Yr Wylan]] gan Dafydd ap Gwilym
*[[Y Drindod]] gan Dafydd ap Gwilym
*[[Beibl]]
*[[Y Nefoedd Uwch fy Mhen]] gan Ehedydd Iâl
*[[Stafell Gynddylan]]
*[[Syr Hywel y Fwyall]]
*[[Cystal am ofal im yw]]
*[[Y Llafurwr]]
*[[Hen Benillion]]
*[[Ar ôl i fy Nghariad Farw]]
*[[Wrth y drws, un a'i grwth drwg]]
*[[Marwnad Siôn y Glyn]] gan Lewis Glyn Cothi
*[[Ymddiddan Rhwng Dau Fardd]]
*[[Ymddiddan Rhwyng Cymro a Saesnes]]
*[[Gorhoffedd (Hywel ab Owain Gwynedd)]]
*[[Englynion y Beddau]]
{{c|🙝 🙟}}
'''Cymuned'''<br />
[[Wicitestun:Y Sgriptoriwm|Y Sgriptoriwm]]
<br />
|----
|}
|-
| style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#EEE9E9; padding:1em;" valign="top"|
'''Ychwanegwch:'''
[[Delwedd:Flag of Wales (1959–present).svg|200px|right]]
Mae ar y safle hwn nifer o destunau o weithiau agored, di-hawlfraint neu weithiau lle mae eu hawlfraint wedi hen orffen. Os ydych am ychwanegu cerddi neu ryddiaeth gwnewch hynny - os ydych yn gwbwl sicr mai chi yw perchennog eu hawlfraint neu fod yr awdur wedi marw ers dros 70 o flynyddoedd. Am ragor am yr hyn y cewch ei gynnwys yma, darllenwch [[Wicidestun:Beth i'w roi ar Wicidestun?]]
Os mai dod yma i bori ydych - mwynhewch y wledd!
|}
9sy79sqaj993lauuzmsttf3x68hh26v
Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau
2
10285
39240
38563
2022-08-22T00:11:10Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
==Wedi eu Cyhoeddi==
#[[Bywyd a Llafur John Wesley|Bywyd a Llafur John Wesley gan Hugh Humphreys]]
#[[Tro Trwy'r Gogledd|Tro Trwy'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards]]
#[[Llenyddiaeth Fy Ngwlad|Llenyddiaeth Fy Ngwlad gan Thomas Morris Jones (Gwenallt)]]
#[[Aildrefniad Cymdeithas|Aildrefniad Cymdeithas gan R J Derfel]]
#[[Yny lhyvyr hwnn|Yny lhyvyr hwnn gan John Prys]]
#[[Ban wedy i dynny|Ban wedy i dynny gan William Salesbury]]
#[[Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia|Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia gan Abraham Mathews]]
#[[Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011]]
#[[Cymru Fu|Cymru Fu gan Isaac Foulkes]]
#[[Coelion Cymru|Coelion Cymru gan Evan Isaac]]
#[[Mesur Addysg (Cymru) 2011]]
#[[Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)|Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn) gan John Gwyddno Williams]]
#[[Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014]]
#[[Lewsyn yr Heliwr (nofel)]]
#[[Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2010]]
#[[Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd]]
#[[Ar y Groesffordd]]
#[[Caniadau ac ati]]
#[[Caniadau Buddug]]
#[[Cerddi a Baledi]]
#[[Cyflafan Ofnadwy Dolgellau]]
#[[Gwaith Ann Griffiths|Gwaith Ann Griffiths gan John Hughes]]
#[[Gwaith John Davies|Gwaith John Davies gan John Hughes]]
#[[Gwaith Thomas Griffiths|Thomas Griffiths gan John Hughes]]
#[[Gwaith John Hughes|Gwaith John Hughes gan John Hughes]]
#[[Gwaith John Thomas|Gwaith John Thomas gan gan John Thomas, Lerpwl]]
#[[Rhan o waith mewn Cernyweg Canol (Add. Ch. 19491)]]
#[[Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)]]
#[[William Jones (Nofel)]]
#[[Cerddi'r Eryri]]
#[[Chwedlau'r Aelwyd]]
#[[Gwaith Dewi Wnion]]
#[[Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo]]
#[[Plant Dic Sion Dafydd]]
#[[Telynegion Maes a Môr]]
#[[Tro yn Llydaw]]
#[[Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron]]
#[[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]]
#[[Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd]]
#[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 1]]
#[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 2]]
#[[Bywyd a Gwaith Henry Richard AS]]
#[[Gwaith Ceiriog]]
#[[Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)]]
#[[Y Siswrn]]
#[[Gwaith Dafydd ap Gwilym]]
#[[Diarhebion Cymru]]
#[[Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth]]
#[[Cân neu Ddwy]]
#[[Llyfr Nest]]
#[[O Law i Law]]
#[[Rhodd Mam i'w Phlentyn]]
#[[Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai]]
#[[Gwaith S.R.]]
#[[Oll synnwyr pen Kembero ygyd]]
#[[Ceris y Pwll]]
#[[Gwaith Alun]]
#[[Straeon y Pentan]]
#[[Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr]]
#[[Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone]]
#[[Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia]]
#[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf I]]
#[[Griffith Ellis Bootle, Cymru Cyf 23, 1902]]
#[[Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910]]
#[[Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron]]
#[[Rhai o Gymry Lerpwl|Rhai o Gymry Lerpwl gan Anhysbys]]
#[[Y Gelfyddyd Gwta|Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones]]
#[[Rhyfeddodau'r Cread|Rhyfeddodau'r Cread Gwilym Owen (1880 - 1940)]]
#[[Cartrefi Cymru, O. M. Edwards|Cartrefi Cymru gan Owen Morgan Edwards]]
#[[Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg|Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg gan Owen Morgan Edwards]]
#[[Llyfr Del|Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards]]
#[[Tro i'r De|Tro i'r De gan Owen Morgan Edwards]]
#[[Yn y Wlad|Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards]]
==Wedi eu cyhoeddi heb sgan==
#[[Yr Hwiangerddi (O M Edwards)]]
#[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf II]]
#[[Pascon Agan Arluth]]
#[[Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg]]
==Wedi eu prawfddarllen heb eu cyhoeddi==
#[[Indecs:Daffr Owen.pdf]]
#[[Diliau Meirion Cyf I]] (Testun yn gywir ond angen gwrio y cystrawen cyhoeddi)
#[[Indecs:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf]]
# [[Enwogion Ceredigion]]
# [[Indecs:Er Mwyn Cymru.pdf]]
==Rhannau wedi eu cyhoeddi==
#[[Enwogion Sir Aberteifi]] 13/187
#[[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I]] 235/524
#[[Indecs:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf]] 37/360
#[[Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I]] 31/683
==Angen eu prawfddarllen==
#[[Indecs:Tri chryfion byd.pdf]] 13/58
#[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]] 19/40
#[[Indecs:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf]] 0/49
#[[Indecs:Diliau Meirion Cyf II.pdf]] 36/98
#[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]] 0/68
#[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]] 11/82
#[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]] 15/100
#[[Indecs:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf]] 11/99
#[[Indecs:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf]] 108/149
#[[Indecs:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf]] 20/116
#[[Indecs:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf]] 47/119
#[[Indecs:Ap-Vychan-CyK.djvu]] 26/121
#[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]] 33/135
#[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]] 12/121
#[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]] 0/106
#[[Indecs:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf]] 0/146
#[[Indecs:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf]] 59/160
#[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]] 32/128
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]] 45/130
#[[Indecs:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf|Mabinogion J M Edwards Cyf 2]] 0/116
#[[Indecs:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf]] 33/139
#[[Indecs:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu]] 23/126
#[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]] 19/131
#[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]] 15/123
#[[Indecs:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf]] 12/137
#[[Indecs:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf]] 18/135
#[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]] 1/127
#[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]] 0/116
#[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.pdf]] 7/136
#[[Indecs:Profedigaethau Enoc Huws.pdf]]124/356
#[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]] 6/140
#[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]] 5/168
#[[Indecs:Ystoriau Siluria..pdf]] 1/160
#[[Indecs:Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.pdf]] 0/182
#[[Indecs:Yr athrawes o ddifrif.pdf]] 10/170
#[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]] 1/131
#[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd, Llanystumdwy.pdf]] 0/128
#[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]] 0/116
#[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.pdf]] 0/128
#[[Indecs:Caneuon Mynyddog.djvu]] 10/140
#[[Indecs:Oriau'r Hwyr.pdf]]2/144
#[[Indecs:Y trydydd cynyg Mynyddog.djvu]] 0/138
#[[Indecs:Yr ail Gynnyg, Mynyddog.djvu]] 18/144
#[[Indecs:Caniadau John Morris-Jones.djvu]] 55/213
#[[Indecs:Cwm Eithin.pdf]] 91/260
#[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]] 5/136
#[[Indecs:Iolo Goch (Ab Owen).pdf]] 2/128
#[[Indecs:Aleluia - neu, lyfr o hymnau (IA aleluianh00will).pdf]] 0/184
#[[Indecs:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf]] 40/202
#[[Indecs:Camrau mewn grammadeg Cymreig (IA camraumewngramma00apiw).pdf]] 0/168
#[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]] 0/136
#[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]] 0/176
#[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]] 24/90
#[[Indecs:Emrys (Cyfres y Fil).pdf]] 0/140
#[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]] 0/140
#[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]] 0/134
#[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]] 0/135
#[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]] 0/196
#[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]] 0/134
#[[Indecs:Wil Brydydd y Coed.pdf]] 0/182
#[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]] 0/202
#[[Indecs:Yr Ogof.pdf]] 7/247
#[[Indecs:Cofiant James Davies Radnor O.djvu]] 0/246
#[[Indecs:Y Cychwyn.pdf]] 0/254
#[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]] 0/226
#[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf]] 8/272
#[[Indecs:Er mwyn Iesu - pregethau, &c t (IA ermwyniesupreget00jone).pdf]] 0/266
#[[Indecs:Traethodau ac Areithiau R J Derfel.pdf]] 0/288
#[[Indecs:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu]] 28/304
#[[Indecs:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu]] 7/316
#Indecs:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu
#[[Indecs:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf]] 69/388
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf]] 3/344
#[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 2 (IA pantycelyn gweithiau2).pdf]] 0/349
#[[Indecs:Llyfr emynau (IA llyfrem00jone).pdf]] 1/340
#[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]] 0/388
#[[Indecs:Taith y pererin darluniadol.pdf]] 14/323
#[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]] 0/324
#[[Indecs:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (IA bywgraffiadydiwe00evan).pdf]] 0/314
#[[Indecs:Hunangofiant Rhys Owen, Gweinidog Bethel.pdf]] 0/434
#[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu]] 0/432
#[[Indecs:Methodistiaeth Môn.pdf]] 0/416
#[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]] 100/554
#[[Indecs:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu]] 11/329
#[[Indecs:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu]] 0/574
#[[Indecs:Hanes Morganwg (IA hanesmorganwg00morggoog).pdf]] 0/586
#[[Indecs:Hanes Cymru America.djvu]] 0/575
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf]] 0/588
#[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf]] 0/556
#[[Indecs:Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1320 hyd 1650.pdf]] 0/504
#[[Indecs:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf]] 1/624
#[[Indecs:Cantref Meirionydd.pdf]] 39/630
#[[Indecs:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu]] 31/683
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu]] 14/640
#[[Indecs:Methodist Cymru Cyfrol II.djvu]] 0/624
#[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu]] 0/626
#[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]] 20/666
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf]] 30/775
#[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf]] 14/772
#[[Indecs:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf]] 8/884
#[[Indecs:Teithiau yng Nghymru Pennant.pdf]] 0/800
#[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.pdf]] ffeil wedi ei llygrio
==Wedi sganio efo peiriant Wiki UK==
#[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]]
#[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]]
#[[Indecs:Yn y Wlad.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]]
#[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]]
#[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Del (OME).pdf]]
#[[Indecs:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]]
#[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:O Law i Law.pdf]]
#[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Cwm Eithin.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]]
#[[Indecs:Iolo Goch (Ab Owen).pdf]]
#[[Indecs:Ceris y Pwll.pdf]]
#[[Indecs:Yr Ogof.pdf]]
#[[Indecs:Penillion Telyn.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Owen.pdf]]
#[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]]
#[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]]
#[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.pdf]]
#[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]
#[[Indecs:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf]]
#[[Indecs:Y Gelfyddyd Gwta.pdf]]
#[[Indecs:Rhyfeddodau'r Cread.pdf]]
#[[Indecs:Ar y Groesffordd.pdf]]
#[[Indecs:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf]]
#[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]]
#[[Indecs:Ystoriau Siluria..pdf]]
#[[Indecs:Daffr Owen.pdf]]
#[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]]
#[[Indecs:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf]]
#[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]]
#[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]]
#[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]]
#[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]]
#[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]]
#[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]]
#[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]]
#[[Indecs:Emrys (Cyfres y Fil).pdf]]
#[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]]
#[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]]
#[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd, Llanystumdwy.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]]
#[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]]
#[[Indecs:Y Cychwyn.pdf]]
#[[Indecs:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf]]
#[[Indecs:Tro Trwy'r Gogledd.pdf]]
===Saesneg===
#The History of The Great European War Vol 1 [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_The_Great_European_War_Vol_1.pdf]
#The History of The Great European War Vol II [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_II.pdf]
#The History of The Great European War Vol III [https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_III.pdf]
#Kalendars of Gwynedd [https://en.wikisource.org/wiki/Index:Kalendars_of_Gwynedd.pdf]
#Speeches and addresses by the late Thomas E. Ellis M.P. [https://en.wikisource.org/wiki/Index:Speeches_and_addresses_by_the_late_Thomas_E_Ellis_M_P.pdf]
piksnog7nigshzeo7uilik6pn3gjtqt
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/1
104
11872
39245
22329
2022-08-22T02:47:15Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[File:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf|center|600px|page=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
96hcsld8179owsyyzyks98lp0ru8pvv
39246
39245
2022-08-22T02:47:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[File:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf|center|600px|page=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ncafylq9sjc3ttgs0ny7dihhl5z4xcd
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/6
104
11877
39254
22334
2022-08-22T10:07:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|ARGRAFFWYD GAN W. SPURRELL A'I FAB, CAERFYRDDIN}}<noinclude><references/></noinclude>
du50yxfbwtnpsb3p4ue3oove3o1gd40
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/48
104
11925
39243
22396
2022-08-22T02:43:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Erbyn hyn, ni aethem i olwg adeilad deg tros ben. o,
mor ogoneddus ydoedd! Ni fedd neb yn y Ddinas Ddienydd,
na'r Twrc<ref>Y Sultan, neu ymherawdwr y Tyrciaid.</ref>, na'r Mogul<ref><ref>Ymherodraeth y Mogul y gelwid yr ymherodraeth hòno a sylfaenwyd yn Hindwstan, gan Baber, un o olynwyr Timwr neu Tamerlan, yn yr 16fed ganrif. Yr olaf a ddug yr enw hwn ydoedd Shah Alwm; a chyda'i farwolaeth ef, yn 1806, y terfynodd yinherodraeth y Mogul Mawr.</ref>, na'r un o'r lleill, ddim eilfydd i hon.
'Wel, dyma'r Eglwys Gatholig,' eb yr Angel. 'Ai yma mae
IMMANUEL yn cadw ei lys?' ebr fi. 'Ie,' ebr ef, 'dyma ei
unig freninllys daiarol ef.' 'Oes yma nemor tano ef o benau
coronog?' ebr fi. Yehydig,' ebr yntau. 'Mae dy frenines
di, a rhai tywysogion Llychlyn<ref>Y gwledydd sy'n terfynu ar y Môr Baltig, megys Denmarc, Sweden, &c.; gogledd Ewrop: Scandinavia.</ref> a'r Ellmyn<ref>Yn briodol, yr Almaeniaid, trigolion yr Almaen, neu Sermania; ond yma, arferir y gair am yr Almaen, neu wlad yr Ellmyn; a defnyddir ef yn yr un ystyr yng Ngweledigaeth Uffern.</ref>, ac ychydig o fân
dywysogion ereill.' Beth yw hyny,' ebr finnau, 'wrth sy dan
Belial fawr? wele ymherodron a breninoedd heb rifedi." 'Er
hyny i gyd,' eb yr Angel, 'ni all un o honynt oll symmud
bys llaw heb gynnwysiad<ref>Caniatâd, cenad, goddefiad.</ref> IMMANUEL; na Belial ei hunan
chwaith. O blegid IMMANUEL yw ei union Frenin yntau, ond
darfod iddo wrthryfela, a chael ei gadwyno am hyny yn
garcharor tragwyddol; eithr mae e'n cael cenad eto tros
ennyd fach i ymweled â'r Ddinas Ddienydd; ac yn tynu pawb
a'r a allo i'r un gwrthryfel, ac i gael rhan o'r gosp: er y gwyr
ef na wna hyny ond chwanegu ei gosp ei hun; eto ni ad malais
a chenfigen iddo beidio, pan gaffo ystlys cenad: a chan ddäed
ganddo ddrygioni, fe gais ddifa'r ddinas a'r adeilad hon, er y
gŵyr e'n hen iawn fod ei Cheidwad hi yn anorchfygol.'
Ertolwg,' ebr fi, 'fy Arglwydd, a gawn i nesäu i gael
manylach golwg ar y breninlle godidog hwn?' (canys
cynhesasai fy nghalon i wrth y lle, or y golwg cyntaf.) Cei
yn hawdd,' eb yr Angel, 'o blegid yna mae fy lle, a'm siars,
a'm gorchwyl innau. Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y
rhyfeddwn uchod, gryfod a hardded, laned a hawddgared, oedd
pob rhan o honi; gywreinied y gwaith, a chariadused y
defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethawl, oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hyny, wedi eu gosod
a'u cyssylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un<noinclude><references/></noinclude>
a52fb3nyyitsqp9qxvoxgla4xah4j84
39244
39243
2022-08-22T02:44:10Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Erbyn hyn, ni aethem i olwg adeilad deg tros ben. o,
mor ogoneddus ydoedd! Ni fedd neb yn y Ddinas Ddienydd,
na'r Twrc<ref>Y Sultan, neu ymherawdwr y Tyrciaid.</ref>, na'r Mogul<ref>Ymherodraeth y Mogul y gelwid yr ymherodraeth hòno a sylfaenwyd yn Hindwstan, gan Baber, un o olynwyr Timwr neu Tamerlan, yn yr 16fed ganrif. Yr olaf a ddug yr enw hwn ydoedd Shah Alwm; a chyda'i farwolaeth ef, yn 1806, y terfynodd yinherodraeth y Mogul Mawr.</ref>, na'r un o'r lleill, ddim eilfydd i hon.
'Wel, dyma'r Eglwys Gatholig,' eb yr Angel. 'Ai yma mae
IMMANUEL yn cadw ei lys?' ebr fi. 'Ie,' ebr ef, 'dyma ei
unig freninllys daiarol ef.' 'Oes yma nemor tano ef o benau
coronog?' ebr fi. Yehydig,' ebr yntau. 'Mae dy frenines
di, a rhai tywysogion Llychlyn<ref>Y gwledydd sy'n terfynu ar y Môr Baltig, megys Denmarc, Sweden, &c.; gogledd Ewrop: Scandinavia.</ref> a'r Ellmyn<ref>Yn briodol, yr Almaeniaid, trigolion yr Almaen, neu Sermania; ond yma, arferir y gair am yr Almaen, neu wlad yr Ellmyn; a defnyddir ef yn yr un ystyr yng Ngweledigaeth Uffern.</ref>, ac ychydig o fân
dywysogion ereill.' Beth yw hyny,' ebr finnau, 'wrth sy dan
Belial fawr? wele ymherodron a breninoedd heb rifedi." 'Er
hyny i gyd,' eb yr Angel, 'ni all un o honynt oll symmud
bys llaw heb gynnwysiad<ref>Caniatâd, cenad, goddefiad.</ref> IMMANUEL; na Belial ei hunan
chwaith. O blegid IMMANUEL yw ei union Frenin yntau, ond
darfod iddo wrthryfela, a chael ei gadwyno am hyny yn
garcharor tragwyddol; eithr mae e'n cael cenad eto tros
ennyd fach i ymweled â'r Ddinas Ddienydd; ac yn tynu pawb
a'r a allo i'r un gwrthryfel, ac i gael rhan o'r gosp: er y gwyr
ef na wna hyny ond chwanegu ei gosp ei hun; eto ni ad malais
a chenfigen iddo beidio, pan gaffo ystlys cenad: a chan ddäed
ganddo ddrygioni, fe gais ddifa'r ddinas a'r adeilad hon, er y
gŵyr e'n hen iawn fod ei Cheidwad hi yn anorchfygol.'
Ertolwg,' ebr fi, 'fy Arglwydd, a gawn i nesäu i gael
manylach golwg ar y breninlle godidog hwn?' (canys
cynhesasai fy nghalon i wrth y lle, or y golwg cyntaf.) Cei
yn hawdd,' eb yr Angel, 'o blegid yna mae fy lle, a'm siars,
a'm gorchwyl innau. Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y
rhyfeddwn uchod, gryfod a hardded, laned a hawddgared, oedd
pob rhan o honi; gywreinied y gwaith, a chariadused y
defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethawl, oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hyny, wedi eu gosod
a'u cyssylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un<noinclude><references/></noinclude>
pv93m436siy2aa7me8pn73y92cnp1yu
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/49
104
11926
39247
22397
2022-08-22T03:24:24Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le
ei hun. Gwelwn un rhan o'r eglwys yn taflu allan yn groes<ref>Yr hyn a elwir transept gan adeilyddion Seisonig. Yn yr ystyr hwn, arferir y gair, fel y gwneir yma, yn yr ystlen wrywol.</ref>
glandeg a hynod iawn; chanfu yr Angel fi yn ysbio arno.
A adwaenost ti y rhan yna?' ebr ef. Ni wyddwn i beth i
ateb. 'Dyna Eglwys Loegr,' ebr ef. Mi gyffroais beth; ac
wedi edrych i fyny, mi welwn y Frenines Ann<ref>Tan ei theyrnasiad hi, yr hwn a dlechreuodd Mawrth 8, 1702, ac
a derfynodd Awst 12, 1714, y cyhoeddai yr awdwr y gwaith hwn.</ref> ar ben yr
eglwys, â chleddyf ym mhob llaw; un yn yr aswy a elwid
Cyfiawnder, i gadw ei deiliaid rhag dynion y Ddinas Ddienydd; a'r llall yn ei llaw ddeheu, i'w cadw rhag Belial a'i
ddrygau ysbrydol: hwn a elwid Cleddyf yr Ysbryd, neu Air
Duw. O tan y cleddyf aswy yr oedd llyfr Ystatut<ref>Deddflyfr, llyfr cyfraith.</refr> Loegr;
tan y llall yr oedd Beibl mawr. Cleddyf yr Ysbryd oedd
danllyd, ac anferthol o hyd; fe laddai ym mhellach nag y
cyffyrddai'r llall. Gwelwn y tywysogion ereill â'r un rhyw
arfau yn amddiffyn eu rhan hwythau o'r eglwys; eithr tecaf
gwelwn i ran fy mrenines fy hun, a gloewaf ei harfau.
Wrth ei deheulaw hi, gwelwn fyrdd o rai duon, archesgobion,
esgobion, a dysgawdwyr, yn cynnal gyda hi yng Nghleddyf yr
Ysbryd a rhai sawdwyr, a swyddogion, ond ychydig o'r
cyfreithwyr, oedd yn cydgynnal yn y cleddyf arall. Ces genad
i orphwyso peth wrth un o'r drysau gogoneddus, lle yr oedd
rhai yn dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin, ac Angel
tal yn cadw'r drws: a'r eglwys oddi mewn mor oleu danbaid,
nad oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo'i hwyneb; eto hi
ymddangosai weithiau wrth y drws, er nad aeth hi erioed i
mewn. Fel y gwelais i, o fewn chwarter awr, dyma Bapist,
oedd yn tybio mai'r Pab a pioedd yr Eglwys Gatholig, yn
cleimio<ref>Claim: honi hawl, arddelwi, honi.</ref> fod iddo yntau fraint. Beth sy genych i brofi
eich braint?' ebr y porthor. Mae genyf ddigon,' ebr hwnw,
'o Draddodiadau'r Tadau, ac Eisteddfodau yr Eglwys; ond
pam y rhaid i mi fwy o sicrwydd,' ebr ef, 'na gair y Pab sy'n
eistedd yn y gadair ddisiomedig?' Yna yr egorodd y
porthor lwyth o Feibl dirfawr o faint. 'Dyma,' ebr ef, 'ein
hunig lyfr Ystatut ni yma; profwch eich hawl o hwn, neu
ymadewch.' Ar hyn fe ymadawodd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4604j9p8el75vtu1buw2234bdapa6km
39248
39247
2022-08-22T03:30:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le
ei hun. Gwelwn un rhan o'r eglwys yn taflu allan yn groes<ref>Yr hyn a elwir transept gan adeilyddion Seisonig. Yn yr ystyr hwn, arferir y gair, fel y gwneir yma, yn yr ystlen wrywol.</ref>
glandeg a hynod iawn; chanfu yr Angel fi yn ysbio arno.
A adwaenost ti y rhan yna?' ebr ef. Ni wyddwn i beth i
ateb. 'Dyna Eglwys Loegr,' ebr ef. Mi gyffroais beth; ac
wedi edrych i fyny, mi welwn y Frenines Ann<ref>Tan ei theyrnasiad hi, yr hwn a dlechreuodd Mawrth 8, 1702, ac
a derfynodd Awst 12, 1714, y cyhoeddai yr awdwr y gwaith hwn.</ref> ar ben yr
eglwys, â chleddyf ym mhob llaw; un yn yr aswy a elwid
Cyfiawnder, i gadw ei deiliaid rhag dynion y Ddinas Ddienydd; a'r llall yn ei llaw ddeheu, i'w cadw rhag Belial a'i
ddrygau ysbrydol: hwn a elwid Cleddyf yr Ysbryd, neu Air
Duw. O tan y cleddyf aswy yr oedd llyfr Ystatut<ref>Deddflyfr, llyfr cyfraith.</ref> Loegr;
tan y llall yr oedd Beibl mawr. Cleddyf yr Ysbryd oedd
danllyd, ac anferthol o hyd; fe laddai ym mhellach nag y
cyffyrddai'r llall. Gwelwn y tywysogion ereill â'r un rhyw
arfau yn amddiffyn eu rhan hwythau o'r eglwys; eithr tecaf
gwelwn i ran fy mrenines fy hun, a gloewaf ei harfau.
Wrth ei deheulaw hi, gwelwn fyrdd o rai duon, archesgobion,
esgobion, a dysgawdwyr, yn cynnal gyda hi yng Nghleddyf yr
Ysbryd a rhai sawdwyr, a swyddogion, ond ychydig o'r
cyfreithwyr, oedd yn cydgynnal yn y cleddyf arall. Ces genad
i orphwyso peth wrth un o'r drysau gogoneddus, lle yr oedd
rhai yn dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin, ac Angel
tal yn cadw'r drws: a'r eglwys oddi mewn mor oleu danbaid,
nad oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo'i hwyneb; eto hi
ymddangosai weithiau wrth y drws, er nad aeth hi erioed i
mewn. Fel y gwelais i, o fewn chwarter awr, dyma Bapist,
oedd yn tybio mai'r Pab a pioedd yr Eglwys Gatholig, yn
cleimio<ref>Claim: honi hawl, arddelwi, honi.</ref> fod iddo yntau fraint. Beth sy genych i brofi
eich braint?' ebr y porthor. Mae genyf ddigon,' ebr hwnw,
'o Draddodiadau'r Tadau, ac Eisteddfodau yr Eglwys; ond
pam y rhaid i mi fwy o sicrwydd,' ebr ef, 'na gair y Pab sy'n
eistedd yn y gadair ddisiomedig?' Yna yr egorodd y
porthor lwyth o Feibl dirfawr o faint. 'Dyma,' ebr ef, 'ein
hunig lyfr Ystatut ni yma; profwch eich hawl o hwn, neu
ymadewch.' Ar hyn fe ymadawodd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hri95bao9spp0a5w91m3wksn3lqhndr
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/50
104
11927
39249
22398
2022-08-22T08:46:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn hyn, dyma yrr o Gwaccriaid,<ref>Crynwyr, y Cyfeillion.</ref> a fynai fyned i mewn â'u
hetiau ar eu penau; eithr trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu moes. Wedi hyny, dechreuodd rhai o dylwyth yr ysgubor<ref>Yr Ymneillduwyr Gwel t. 38.</ref>, a fuasai yno er ys ennyd, lefaru. "Nid oes genym
ni," meddent, 'ond yr un Ystatut â chwithau; am hyny dangoswch i ni ein braint.' 'Aröwch,' ebr y porthor dysgleirwyn,
gan graffu ar eu talcenau hwy, 'mi a ddangosaf i chwi
rywbeth.' 'Dacw,' ebr ef, 'a welwch chwi ol y rhwyg a
wnaethoch chwi yn yr Eglwys i fyned allan o honi heb nac
achos nac ystyr? ac yr awran, a fynech chwi le yma? Ewch
yn ol i'r porth cyfyng, ac ymolchwch yno yn ddwys yn
Ffynnon Edifeirwch, i edrych a gyfogwch chwi beth gwaed
breninol a lyncasoch gynt;<ref>Cyfeiriad at ddienyddiad y Brenin Carl 1.</ref> a dygwch beth o'r dwfr hwnw i dymmeru'r clai at ail uno y rhwyg acw; ac yna croeso
wrthych.'
Ond cyn i ni fyned rwd<ref>'Rwd'=Seis. ''rood'': chwarter erw, pedwaran o dir. 'Rwyd' yw darlleniad agos yr holl argraffiadau, ond y cyntaf (1703), un y Mwythig, 1774, ac un Caerfyrddin, 1767.</ref> ym mlaen tua'r Gorllewin, mi
glywn si oddi fyny ym mysg y penaethiaid, a phawb o fawr i
fach yn hel ei arfau, ac yn ymharneisio,<ref>Ymwisgo, gwisgo ei arfau, ymarfogi.</ref> megys at ryfel: a
chyn i mi gael ennyd i ysbio am le i ffoi, dyma'r awyr oll wedi
duo, a'r ddinas wedi tywyllu yn waeth nag ar eclips,<ref>Diffyg (ar yr haul neu'r lleuad).</ref> a'r
taranau yn rhuo, a'r mellt yn gwau yn dryfrith, a chafodydd
didor o saethau marwol yn cyfeirio o'r pyrth isaf at yr Eglwys
Gatholig; ac oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn y
picellau tanllyd, a bod y graig sylfaen yn rhy gadarn i ddim
fanu arni, gwnelsid ni oll yn un goelcerth. Ond och! nid oedd
hyn ond prolog,<ref>''Prologue'': rhagaraeth, rhaglith, rhagymadrodd.</ref> neu damaid prawf, wrth oedd i ganlyn:
o blegid ar fyr, dyma'r tywyllwch yn myned yn saith dduach,
a Belial ei hun yn y cwmwl tewaf, a'i ben-milwyr daiarol ac
uffernol o'i ddeutu, i dderbyn ac i wneyd ei wyllys ef, bawb
o'r neilldu. Fe roesai ar y Pab,<ref>Clement XI. a eisteddai y pryd hwn yng nghadair Pedr.</ref> a'i fab arall o Ffrainc,<ref>Lewis XIV.</ref> ddinystrio Eglwys Loegr a'i brenines; ar y Twrc a'r Mos-<noinclude><references/></noinclude>
62t9cwz5331u2wz9ohlj0652wii1rvb
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/51
104
11928
39250
22399
2022-08-22T08:57:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>coviaid<ref>Y Rhwssiaid, hen drigolion Rhwssia.</ref> daro y rhanau ereill o'r Eglwys, a lladd y bobl, yn enwedig y frenines, a'r tywysogion ereill, a llosgi'r Beibl yn anad dim. Cyntaf gwaith a wnaeth y frenines, a'r seintiau ereill, oedd troi ar eu gliniau, ac achwyn eu cam wrth Frenin y Breninoedd, yn y geiriau yma: "Mae estyniad ei adenydd ef yn llonaid lled dy dir di, O IMMANUEL!" ''Esa''. viii. 8. Yn ebrwydd, dyma lais yn ateb, Gwrthwynebwch ddiawl, ac fe ffy oddi wrthych. Ac yna dechreuodd y maes<ref>Brwydr, cad, rhyfel, ymladdfa, gwaith</ref> galluocaf a chynddeiriocaf fu erioed ar y ddaiar. Pan ddechreuwyd gwyntio cleddyf yr Ysbryd, dechreuodd Belial a'i luoedd uffernol wrthgilio; yn y man dechreuodd y Pab lwfrhau, a Brenin Ffrainc yn dal allan; ond yr oedd yntau ym mron digaloni wrth weled y frenines a'i deiliaid mor gytunol; ac wedi colli ei longau a'i wŷr,<ref>Wrth ymladd yn erbyn ymherodraeth yr Almaen, Holand, a Lloegr Yr oedd Lewis yn bleidiwr wresog i Iago II; ac ymdrechodd lawer i'w adsefydlu ef ar orsedd Prydain.</ref> o'r naill du, a llawer o'i ddeiliaid yn gwrthryfela, o'r tu arall; a'r Twrc<ref>Y Sultan Mwstaffa II, mab Mohammed IV, a ddechreuodd deyrnasu yn 1695, ac a ddiorseddwyd yn 1703.</ref> yntau yn dechreu llaryeiddio. Yn hyn, och! mi welwn fy anwyl gydymaith yn saethu oddi wrthyf fi i'r entrych, at fyrdd o dywysogion gwynion ereill; a dyna'r pryd y dechreuodd y Pab a'r swyddogion daiarol ereill lechu a llewygu, a'r penaethiaid uffernol syrthio o fesur y myrddiwn, a phob un cymmaint ei swn yn cwympo (i'm tyb i) a phe syrthiasai fynydd anferth i eigion y môr; a rhwng y swn hwnw, a chyffro coll fy nghyfaill, minnau a ddeffroais o'm cwsg; a dychwelais o'n llwyr anfodd i'm tywarchen drymluog; a gwyched, hyfryded oedd gael bod yn ysbryd rhydd, ac yn sicr yn y fath gwmni, er maint y perygl. Ond erbyn hyn, nid oedd genyf neb i'm cysuro, ond yr Awen, a hòno yn lledffrom; prin y ces ganddi frefu i mi yr hyn o rigymau sy'n canlyn.
.<noinclude><references/></noinclude>
agftrma3lb20hhndakibkpshuuwi2fs
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/52
104
11929
39251
22451
2022-08-22T09:02:27Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|AR FESUR 'GWEL YR ADEILAD.'}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
1. Gwel, ddyn, adeilad hyfryd,
O'r llawr i'r nen yn unyd,<ref>Cyflawn, llwyr, cyflwyr, hollol</ref>
:Daiarfyd dirfawr;
Ei Phensaer a'i Pherchenog
Yw'r Brenin Hollalluog,
:A'i Llywyd tramawr;
Y byd, ei gaer, a'i gyrau i gyd,
:O do'r ser cànaid
:Hyd farth,<ref>Llawr, y llawr. Y mae y gair ar gyffredin arfer yng Ngwent a Morganwg, ac mewn rhai parthau o Wynedd. Defnyddir parth weithiau yn yr un ystyr.</ref> ysgrubliaid,
:Pysg, ac ymlusgiaid,
::A'r hediaid fwy na rhi’,
:A roed, O ddyn! yn ddeiliaid,
::Er teyrnged fach i ti:
I ddyn, ac yntau iddo'i hun,
:Y gwnaeth IEHOFAN
:Yr adail yma,
:Fel ail nef leia',
::Tan lawen heulwen ha’,
:A'r cwbl, eithaf terfyn,
::A wyddai ddyn<ref>'A wyddai ddyn'=a wyddai dyn</ref> oedd dda.
2. Ond cyntaf blysiodd wybod
Y drwg, a chael o bechod
:Gynnwysiad bychan,
Hi aeth yn anferth gawres,
Gwae ddynion faint gwyddanes,<ref>Gwyddanes, ''gwyddones'', neu ''gwyddan'' (o ''gwŷdd''), yn briodol a ddynoda un yn meddu ar wŷdd neu wybodaeth; un wybodus; ond yn gyffredin, arferir y gair, megys yn y lle hwn, mewn ystyr drwg, am un wybodus neu hyddysg yn y gelfyddyd ddu; dewines, swynwraig, gwrach, gwyll, ellŷlles. Yn yr ystyr hwn, ''gwiddan, gwiddon, gwiddanes'', yw y dull cywiraf i ysgrifenu'r geiriau. ''Gwyddanes'' (=duwies y coed) a ddaw o'r gwreiddyn ''gwŷdd'' (=coed)</ref>
:I dd'wyno'r cyfan :
</poem>
|}<noinclude><references/></noinclude>
3i8qfatkurunfd2x3bnvj7e6dkxk1t0
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/53
104
11930
39252
22401
2022-08-22T09:19:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
Pob rhan o'r adail aeth yn wan;
::Mae'r eil<ref>Ymddengys fod y gair hwn wedi peri peth dyryswch i gyhooddwyr argraffiadau blaenorol; canys darllen rhai 'ail,' ereill "sail,' ac ercill 'ael'. Ond diau mai ''aisle'' (=asgell neu ystlys adeilad) a olygir; ac os llythyrenir ef ''eil'', arddengys sain y gair Seisoneg yn well, a bydd lai agored i gael ei gamddeall na phed ysgrifenid ef ''ail'' neu ''ael'', er mai y blaenaf yw y ffurf a geir yn argraffiad yr awdwr ei hun.</ref> a'r seler,
::Trwy frad y dyfnder,
::Yn crynu'n 'sgeler,
::Mewn llawer llesmair llesg,
::A'r barth perllanog llawnwyn,<ref>'Llawnwyn' (o llawn, a gwyn, hyfryd, dymunol; hyfrydwch)=llawn a hyfryd; llawn hyfrydwch. Llownwyn' yw llythyreriad arg. 1703 a 1774; 'llownwyd yw darlleniad dau argraffiad Durston, ac un 1768, yr hwn, wedi ei newid i 'llanwyd,' a ddilynwyd gan yr holl argraffiadau diweddar, ond un Caernarfon, yr hwn a'i trodd i 'llonwyn,' 'Llanwyd' yw darlleniad y Dr. ''Puw'', yr hwn (d. g Perllanawg) a gyfieitha y lle fel hyn: 'Every part of the structure, on a region abounding with orchards, was filled, without producing any thing but weeds and reeds."</br>Ond gan fod llawnwyn' yn dygymmod yn llawn cystal a 'llanwyd' ag ystyr y lle, ac yn llawer gwell a'r mydr a'r cyfodliad, nid ymddengys un rheswm pa ham y dylid ymadael â darlleniad yr awdwr, fel ei gwelir yn yr argraffiad cyntaf.</ref>
:::Heb ddwyn ond chwyn a hesg.
:Mae'r gaer, a'r muriau, cleimiau<ref>Os yw 'cleimiau claer' (o'r Seis. claim) yn ddarlleniad cywir, nid yw yr ymadrodd amgen na geiriau llanw, i helpu'r mesur a'r gynghanedd. Buasai ''clemiau claer'' yn rhoddi rhyw fath o ystyr.</ref> claer,
::A'r to, ar ddadmer,<ref>Dadlaith, dadleithio, ymddattod, meiriol.</ref>
::Er maint eu cryfder,
::Anfeidrol uchder,
:::A'u gwychder, frithder fry;
::Mae'r dreigiau yn darogan
:::Fod perygl tân yn ty.<ref>'Yn ty'=yn y ty: yr un fath ag 'yn tân, yn y Beibl Cymraeg, yn lle ''yn y tân, mewn tân'', neu ''i'r tân''.</ref>
3. Gwel, ddyn, adeilad fawrwych,
O'r eigion mawr i'r entrych,
::Ar untroed enbyd;
Mae'r llawr i gyd ar d'ollwng,
Maluriwyd hwn hyd annwn,
Yn donen ddybryd:
</poem>
|}<noinclude><references/></noinclude>
jr9wq4559x7a0ta0ue9wr4qnea2apvh
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/54
104
11931
39253
22402
2022-08-22T09:30:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
O ddyn! dy bechod di dy hun
::A boerodd ddiluw,
::Chwyth eto ddistryw
::O wreichion hyllfyw,
:::A'r hollfyd aeth yn fanc;
::Ei dithau'n waeth, fyd bychan,
:::Byth, byth, ar druan dranc.
Ond mae un lle i ochel gwae,
:::Un llys trugaredd,
:::Ac yn dy gyrhaedd;
:::Cais yno annedd,
::::Rhag myn'd i'r sugnodd syth;
:::Ac onid ei di yno,
::::Gwae di dy eni fyth.
4. Gwel di'r adeilad hòno,
:Gadarnach nag y gallo
::Fyth golli'r diwrnod;
:Un well na'r hollfyd cyfrdo,<ref>Cyfan, cryno, cyflawn, perffaith</ref>
:Ddiogel i ddiwygio
::A ddygodd pechod;
Caer gron ar wasgar daiar don,
::Yn noddfa nefol,
::Craig anorchfygol,
::A meini bywiol,
:::Gôr breiniol, ger ei bron;
::Yr Eglwys Lân Gatholig
:::A'i thylwyth ydyw hon:
Er maint ein pechod, hynod haint,
::Cawn yno bardwn,
::Os ufudd gredwn;
::Yn hon ymdynwn
:::A brysiwn i gael braint;
::A hyn a'n gwna'n ddaiarol
:::A nefol siriol saint. Amen.
</poem>
|}<noinclude><references/></noinclude>
en3m0b2tn1zyx8j69xzcg9jg4msyfsd
39255
39253
2022-08-22T10:09:45Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;width:310px"
|<poem>
O ddyn! dy bechod di dy hun
::A boerodd ddiluw,
::Chwyth eto ddistryw
::O wreichion hyllfyw,
:::A'r hollfyd aeth yn fanc;
::Ei dithau'n waeth, fyd bychan,
:::Byth, byth, ar druan dranc.
Ond mae un lle i ochel gwae,
:::Un llys trugaredd,
:::Ac yn dy gyrhaedd;
:::Cais yno annedd,
::::Rhag myn'd i'r sugnodd syth;
:::Ac onid ei di yno,
::::Gwae di dy eni fyth.
4. Gwel di'r adeilad hòno,
:Gadarnach nag y gallo
::Fyth golli'r diwrnod;
:Un well na'r hollfyd cyfrdo,<ref>Cyfan, cryno, cyflawn, perffaith</ref>
:Ddiogel i ddiwygio
::A ddygodd pechod;
Caer gron ar wasgar daiar don,
::Yn noddfa nefol,
::Craig anorchfygol,
::A meini bywiol,
:::Gôr breiniol, ger ei bron;
::Yr Eglwys Lân Gatholig
:::A'i thylwyth ydyw hon:
Er maint ein pechod, hynod haint,
::Cawn yno bardwn,
::Os ufudd gredwn;
::Yn hon ymdynwn
:::A brysiwn i gael braint;
::A hyn a'n gwna'n ddaiarol
:::A nefol siriol saint. ''Amen''.
</poem>
|}<noinclude><references/></noinclude>
65ojvblu4eburwst1r5xmghy2fztfag
Caniadau Buddug (Testun cyfansawdd)
0
12263
39237
23017
2022-08-21T20:36:45Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Caniadau Buddug]]
| author = Catherine Prichard (Buddug)
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =
}}
{{wikiquote|Caniadau Buddug}}
{{wicipedia|Caniadau Buddug}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Caniadau Buddug.pdf" from=1 to=118/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Caniadau Buddug]]
[[Categori:Barddoniaeth]]
[[Categori:Llyfrau Ab Owen]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
8kpx7i2a1y7q46mcg4ncpuot89ziz37
39242
39237
2022-08-22T00:29:53Z
AlwynapHuw
1710
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Caniadau Buddug (Testun cyfansawdd)]]
| author = Catherine Prichard (Buddug)
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =
}}
{{wikiquote|Caniadau Buddug}}
{{wicipedia|Caniadau Buddug}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Caniadau Buddug.pdf" from=1 to=118/>
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Caniadau Buddug]]
[[Categori:Barddoniaeth]]
[[Categori:Llyfrau Ab Owen]]
[[Categori:Testunau cyfansawdd]]
qxbjdmjkn6hcxwi3l14ftk6abne3lnm
Indecs:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf
106
20452
39222
2022-08-21T14:21:39Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Bywyd a Llafur John Wesley
|Author=Hugh Humphreys, Caernarfon
|Publisher=Hugh Humphreys, Caernarfon
|Year=1876
|Source=pdf
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist
1=1/>
|Remarks=
}}
e9oxpzd2nbmo00x69w15vm601ev3idk
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/1
104
20453
39223
2022-08-21T14:42:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|HANES BYWYD A LLAFUR}}
{{c|<big>JOHN WESLEY</big>}}
[[File:Bywyd a Llafur John Wesley (page 1 crop 1).jpg|bawd|chwith]]
{{Initial|[[File:Bywyd a Llafur John Wesley (page 1 crop 2).jpg|50px]]}}MAE JOHN WESLEY yn un o'r dynion
mwyaf hynod mewn duwioldeb a llafur a
ymddangosodd ar y ddaear er dyddiau Paul
yr Apostol, ac nis gall byr hanes ei fywyd
lai na bod yn fendithiol i'n darllenwyr. Ni
chaniatâ gofod i ni roddi ond crynodeb byr
ac amberffaith o'i hanes, a hyny yn benaf o'i lafur a'i
erlidigaethau. Mab ydoedd i'r Parch. Samuel Wesley,
a Susanah ei wraig. Llafuriai ei dad yn mhlwyf Epworth, fel gweinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Disgynai ei rieni, yn ochr ei dad a'i fam, o fonedd
uchelfri. Ganed iddynt bedwar-ar-bymtheg o blant,
a'n gwrthddrych ydoedd eu pymthegfed plentyn. Ganed
ef Mehefin 17eg, 1703, yn mhersondy Epworth, a
bedyddiwyd ef yn mhen ychydig oriau yn John Benjamin. Yn gynar iawn dropiwyd Benjamin o'i enw. Magwyd ef yn y modd mwyaf rheolaidd a gofalus. Yr
oedd ei fam yn un o'r mamau rhagoraf, a'i dad yn wr
o dalent, dysg, a duwioldeb diffuant.
Yn y flwyddyn 1709, pan nad ydoedd John Wesley
ond chwe' mlwydd oed, llosgwyd y persondy am yr
ail waith; a bu agos iawn i'w fywyd fyned yn ysglyfaeth i'r flamau echryslawn. Un
noson, pan oedd y teulu oll wedi myned i dawel hûn, deffrowyd y clerigwr gan lais o'r
heol yn gwaeddi Tân, tân!" Pan ddeallodd efe ystyr y waedd, cyfododd ac agorodd
ddrws ei ystafell wely, a gwelai fod y ty ar dân, a'r to ar syrthio i mewn. Yn ddiatreg, galwodd ei deulu i fyny, ac ar unwaith i ddiange allan am eu heinioes; ac yn mhen
ychydig funudau, wedi diange o honynt, rhai drwy y ffenestri, a'r lleill drwy ddrws yn
yn nghefn y tŷ, wele y tad a'r fam, y plant a'r morwynion, allan o gyrhaedd y perygl.
Ond wedi ymbwyllo ac edrych, och yr oedd John bach ar ol! Ymddengys fod
Charles, y baban dau fis oed, tair chwaer bach, John eu brawd, a'r fagwraig, oll yn
cysgu yn yr un ystafell pan dorodd y tân allan. Yn ei dychryn a'i brys, wedi cipio y
baban yn ei breichiau, a gorchymyn i'r plant ereill i'w dylyn, rhuthrodd y llangces
allan, gan adael John ar ol, heb gofio ei ddeffro. Pan welwyd ei golli, yr oedd eu
braw yn ddirfawr! Ar hyn clywyd gwaedd plentyn yn nghanol y tân. Rhuthrodd y
tad drwy y mŵg a'r tân i mewn drwy y drws, gan geisio dringo y grisiau i achub ei
blentyn; ond torodd y grisiau llosgedig o dan ei draed. Pan welodd hyn penliniodd yn
y cyntedd tanllyd i gyflwyno ei blentyn i ofal Gwaredwr y tri llange. Yn y cyfamser,
deallodd y bachgen ei berygl, dringodd ar y ffenestr, a thaflodd hi n agored. Yna
gwelwyd ef ond pa fodd y gellid ei achub Nid oedd ysgol yn agos, nac amser i
gyrchu un o bell. Angenrhaid yw mam dyfais. Mor gyflym ag ymdaith y fellten,
safodd un dyn cryf wrth y pared dan y ffenestr, dringodd dyn arall i fyny ar ei
ysgwyddau; a phan oedd y to ar syrthio, a'r gwyddfodolion yn dal eu hanadl, achubwyd y plentyn, "fel pentewyn o'r tân!" Arweiniwyd y fam feddylgar gan yr amgylchiad hwn i gasglu fod gan Dduw waith o bwys i'w mab achubedig i'w gyflawni; a gwnaed argraff ddofn o ddifrifwch ar ei feddwl yntau hefyd, yr hon a barhaodd am weddill ei oes.
Dygwyd ef i fyny yn ofalus a deheuig, a dechreuodd ymddadblygu yn fore mewn
dealltwriaeth a chrefyddolder. Yn ei wythfed flwyddyn, derbyniodd y cymun o law ei
dad; a phan oedd yn ddeng mlwydd a haner, efe a anfonwyd oddi cartref i'r yagol. Fel
ei holl frodyr a'i chwiorydd, addysgwyd John Wesley yn elfenau addysg gan ei fam.
Yn y flwyddyn 1714, anfonwyd ef i Ysgol y Charterhouse, yn Llundain. Yn yr
ysgol hono yr addysgwyd Addison a Steele, a Barrow a Blackstone, ac amryw
enwogion ereill. Er fod John Wesley yn derbyn ei ddillad a'i addysg yn rhad yno,
dyoddefodd gryn galedi a cham oddiar law y bechgyn mawr, ac ofnai y buasai ei
iechyd wedi pallu oni bai am yr arferiad oedd ganddo o redeg dair gwaith o gwmpas<noinclude><references/></noinclude>
2lohga33mrtwxu0473bnkytt891jlis
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/2
104
20454
39224
2022-08-21T14:55:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'yr ardd bob bore, yn or gorchymyn pendant ei dad. Tra yr ydoedd efe, a Charles ei frawd, yn y, Charterhouse, mawr flinid eu teulu yn Epworth gan rywbeth a aflonyddai ar y persondy. Cyfeirir at hyn gan ei holl fywgraffwyr, a chynygia y naill a'r llall at esbonio y dirgelwch. Dywedir y clywid yn ac oddeutu y ty ryw swn dyeithriol—yn awr fel gruddfanau trymion, ac yna fel curiadau uchel, a thrachefu yn debyg i swn traed dyn yn...
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ardd bob bore, yn or gorchymyn pendant ei dad. Tra yr ydoedd efe, a Charles ei
frawd, yn y, Charterhouse, mawr flinid eu teulu yn Epworth gan rywbeth a aflonyddai
ar y persondy. Cyfeirir at hyn gan ei holl fywgraffwyr, a chynygia y naill a'r llall at
esbonio y dirgelwch. Dywedir y clywid yn ac oddeutu y ty ryw swn dyeithriol—yn
awr fel gruddfanau trymion, ac yna fel curiadau uchel, a thrachefu yn debyg i swn
traed dyn yn disgyn ac yn esgyn y grisiau. Clybuwyd pethau o'r fath yma gan holl
deulu y tŷ, y dydd fel y nos, drachefn a thrachefn, am oddeutu dau—fis, a pharodd
anghysur dirfawr iddynt.. Ond pa gyfrif oedd i'w roddi am dano? Priodolai Isaac
Taylor y cwbl i ofergoeledd y teulu. Ond credai Wesley ei hun ei fod yn rhyw beth
gwrthddrychol a goruwchnaturiol; ac amddiffynir ei olygiad yn fedrus gan y brenin-
fardd Southey, a chan Tyreman, ei fywgraffydd diweddaraf a rhagoraf. Modd bynag
gwnaeth ''"Old Jeffrey,"'' fel y gelwid y bwgan, argraff annileadwy ar ei feddwl ef a'i
deulu o barth i fodolaeth ac agosrwydd y byd ysprydol. Wedi treilio wyth mlynedd
yn y Charterhouse—y tymhor mwyaf y gellid aros yno—etholwyd ef i Goleg Eglwys
Crist yn Rhydychain, lle y bu hyd ar ol ei ordeiniad yn y flwyddyn 1725. Nid
ydoedd ond ieuange pan aeth yno. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth a dysg;
a phan yn dair mlwydd ar hugain oed, etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Lincoln,
yr hyn oedd yn anrhydedd iddo, ac yn ffynonell o elw arianol blynyddol iddo tra y
parhaodd yn ddibriod. Llonwyd ei dad yn ddirfawr pan glywodd am hyn. Ar ol
enill ei gymrodoriaeth, bu yn gurad i'w dad am ddwy flynedd mewn lle o'r enw Wroote;
ond ar gais Dr. Morely, rector Coleg Lincoln, cefnodd ar y guradiaeth, a dychwelodd
i Rydychain, lle y daeth yn athraw ac yn gymedrolwr y dadleuon a gynelid yn y
neuadd chwe' gwaith yn yr wythnos. Ac yno y bu nes yr ymfudodd i Georgia yn
1735. Dylid manylu ychydig yma, oblegyd fod yr wyth mlynedd dylynol i'w etholiad
i gymrodoriaeth Lincoln yn un o'r cyfnodau pwysicaf yn mywyd ein gwrthddrych, yn
ogystal ag yn hanes crefydd yn y deyrnas hon. Dyma y pryd y ffurfiwyd y "Gymdeithas Sanctaidd," fel y gelwid hi, o'r hon yr ymddadblygodd y Methodistiaid; ac yn
fuan, y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr. Cyfansoddwyd y gymdeithas hono gan
gynifer o fyfyrwyr ieuainge duwiolfrydig a ymwasgent ynghyd i anog eu gilydd i
gynyddu yn ngras a gwybodaeth yr efengyl, ac i ymarfer gyda dyfalwch neillduol
ddefosiynau yr Eglwys. Boreu—godent, gan neillduo oriau penodol i ymarferion dirgelaidd. Cyfranogent o'r cymun yn rheolaidd bob Sabbath, ymprydient bob dydd
Mercher a dydd Gwener, ac ymgyfarfyddent bob prydnawn i efrydu y Testament
Groeg, ac i gyfoethogi eu hunain mewn gwybodaeth grefyddol trwy gyd-ddarllen
llyfrau da ereill. Ymgysegreat gyda sêl i weithredoedd o gymwynasgarwch ymarferol
trwy ymweled â charcharorion, egwyddori plant yn y Catecism, cyfranu elusenau i'r
tylodion, ceisio lleshad ysprydoly myfyrwyr ereill, ac achub pob cyfleusderau i dderbyn
a gwneuthur daioni. Oherwydd fod cynllun, cysondeb, a rheol i'w gweithrediadau,
galwyd hwy oddiar wawd yn ''Drefnyddion'' (Methodists), yr hwn enw a lynodd hyd y
dydd heddyw wrth ddysgyblion Wesley a Whitfield. Pedwar oedd nifer yr ''"Holy Club"''
ar y cyntaf; wedi hyny chwyddodd eu rhifedi i naw. Heb roddi enwau yr oll
honynt, dylid nodi fod James Harvey, George Whitfield, a Charles Wesley yn aelodau
amlwg; ond enaid a llywydd y gymdeithas oedd John Wesley. Achlysur ei sefydliad
ydoedd sefyllfa isel y brifysgol mewn moesoldeb. Teimlai gwyr ieuaingc cydwybodol
nad oedd modd iddynt fyw yn y fath le, yn agos fel y dylid, heb ymneillduo oddiwrth arferion a chymdeithas y myfyrwyr ereill. Cafodd ei sylfaenu ar egwyddor
gaeth Eglwysaidd a sacramentaidd. Buasai yn cyd—daraw yn hollol â golygiadau
Keble a Pusey; a phe na buasai cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle ar ol hyny yn
marn a chyflyrau ei aelodau, diau mai diwerth, os nad niweidiol fuasai dylanwad y
Methodistiaid hyny ar y byd. Ond ynglŷn a'r gwaith da a wnaed ar y cyfiyrau ar ol
hyny, profodd ffurfiad a dylanwad y gymdeithas yn rhagbarotoad gwerthfawr iddynt
hwy at waith eu hoes, ac o fendith fawr i grefydd. Yn y cyfnod yma, effeithiwyd ar
feddwl John Wesley gan lyfrau dau neu dri o awdwyr oedd yn cario cryn ddylanwad
ar ddosparth o ddarllenwyr y pryd hyny. Pan yn ddwy ar hugain oed, daeth dan
ddylanwad Thomas à Kempis a Jeremy Taylor, trwy ddarllen "Dylyniad Crist" o
waith y cyntaf, a "Byw a marw yn sanctaidd" gan yr olaf. Yn fuan wedi hyny,
daeth i gyffyrddiad a llyfrau William Law, yn enwedig yr "Alwad Ddifrifol", a'i
"Berffeithrwydd Cristionogol;" a chydweithiai yr holl ddylanwadau hyn i wneuthur
o hono Uchel-Eglwyswr defodol, cyfriniol, a hunan-gyfiawn!
Yn mis Ebrill, 1735, bu farw ei dad; ac aeth yntau yn y cyflwr a nodwyd, 'a'i frawd
Charles yn genadon i Georgia, gyda'r amcan penaf o ddychwelyd yr Indiaid Americ-<noinclude><references/></noinclude>
5izk6b1i7rfbsm6gf40qr0lqa0wygwr
39225
39224
2022-08-21T14:56:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ardd bob bore, yn or gorchymyn pendant ei dad. Tra yr ydoedd efe, a Charles ei
frawd, yn y, Charterhouse, mawr flinid eu teulu yn Epworth gan rywbeth a aflonyddai
ar y persondy. Cyfeirir at hyn gan ei holl fywgraffwyr, a chynygia y naill a'r llall at
esbonio y dirgelwch. Dywedir y clywid yn ac oddeutu y ty ryw swn dyeithriol—yn
awr fel gruddfanau trymion, ac yna fel curiadau uchel, a thrachefu yn debyg i swn
traed dyn yn disgyn ac yn esgyn y grisiau. Clybuwyd pethau o'r fath yma gan holl
deulu y tŷ, y dydd fel y nos, drachefn a thrachefn, am oddeutu dau—fis, a pharodd
anghysur dirfawr iddynt.. Ond pa gyfrif oedd i'w roddi am dano? Priodolai Isaac
Taylor y cwbl i ofergoeledd y teulu. Ond credai Wesley ei hun ei fod yn rhyw beth
gwrthddrychol a goruwchnaturiol; ac amddiffynir ei olygiad yn fedrus gan y brenin-
fardd Southey, a chan Tyreman, ei fywgraffydd diweddaraf a rhagoraf. Modd bynag
gwnaeth ''"Old Jeffrey,"'' fel y gelwid y bwgan, argraff annileadwy ar ei feddwl ef a'i
deulu o barth i fodolaeth ac agosrwydd y byd ysprydol. Wedi treilio wyth mlynedd
yn y Charterhouse—y tymhor mwyaf y gellid aros yno—etholwyd ef i Goleg Eglwys
Crist yn Rhydychain, lle y bu hyd ar ol ei ordeiniad yn y flwyddyn 1725. Nid
ydoedd ond ieuange pan aeth yno. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth a dysg;
a phan yn dair mlwydd ar hugain oed, etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Lincoln,
yr hyn oedd yn anrhydedd iddo, ac yn ffynonell o elw arianol blynyddol iddo tra y
parhaodd yn ddibriod. Llonwyd ei dad yn ddirfawr pan glywodd am hyn. Ar ol
enill ei gymrodoriaeth, bu yn gurad i'w dad am ddwy flynedd mewn lle o'r enw Wroote;
ond ar gais Dr. Morely, rector Coleg Lincoln, cefnodd ar y guradiaeth, a dychwelodd
i Rydychain, lle y daeth yn athraw ac yn gymedrolwr y dadleuon a gynelid yn y
neuadd chwe' gwaith yn yr wythnos. Ac yno y bu nes yr ymfudodd i Georgia yn
1735. Dylid manylu ychydig yma, oblegyd fod yr wyth mlynedd dylynol i'w etholiad
i gymrodoriaeth Lincoln yn un o'r cyfnodau pwysicaf yn mywyd ein gwrthddrych, yn
ogystal ag yn hanes crefydd yn y deyrnas hon. Dyma y pryd y ffurfiwyd y "Gymdeithas Sanctaidd," fel y gelwid hi, o'r hon yr ymddadblygodd y Methodistiaid; ac yn
fuan, y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr. Cyfansoddwyd y gymdeithas hono gan
gynifer o fyfyrwyr ieuainge duwiolfrydig a ymwasgent ynghyd i anog eu gilydd i
gynyddu yn ngras a gwybodaeth yr efengyl, ac i ymarfer gyda dyfalwch neillduol
ddefosiynau yr Eglwys. Boreu—godent, gan neillduo oriau penodol i ymarferion dirgelaidd. Cyfranogent o'r cymun yn rheolaidd bob Sabbath, ymprydient bob dydd
Mercher a dydd Gwener, ac ymgyfarfyddent bob prydnawn i efrydu y Testament
Groeg, ac i gyfoethogi eu hunain mewn gwybodaeth grefyddol trwy gyd-ddarllen
llyfrau da ereill. Ymgysegreat gyda sêl i weithredoedd o gymwynasgarwch ymarferol
trwy ymweled â charcharorion, egwyddori plant yn y Catecism, cyfranu elusenau i'r
tylodion, ceisio lleshad ysprydoly myfyrwyr ereill, ac achub pob cyfleusderau i dderbyn
a gwneuthur daioni. Oherwydd fod cynllun, cysondeb, a rheol i'w gweithrediadau,
galwyd hwy oddiar wawd yn ''Drefnyddion'' (Methodists), yr hwn enw a lynodd hyd y
dydd heddyw wrth ddysgyblion Wesley a Whitfield. Pedwar oedd nifer yr ''"Holy Club"''
ar y cyntaf; wedi hyny chwyddodd eu rhifedi i naw. Heb roddi enwau yr oll
honynt, dylid nodi fod James Harvey, George Whitfield, a Charles Wesley yn aelodau
amlwg; ond enaid a llywydd y gymdeithas oedd John Wesley. Achlysur ei sefydliad
ydoedd sefyllfa isel y brifysgol mewn moesoldeb. Teimlai gwyr ieuaingc cydwybodol
nad oedd modd iddynt fyw yn y fath le, yn agos fel y dylid, heb ymneillduo oddiwrth arferion a chymdeithas y myfyrwyr ereill. Cafodd ei sylfaenu ar egwyddor
gaeth Eglwysaidd a sacramentaidd. Buasai yn cyd—daraw yn hollol â golygiadau
Keble a Pusey; a phe na buasai cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle ar ol hyny yn
marn a chyflyrau ei aelodau, diau mai diwerth, os nad niweidiol fuasai dylanwad y
Methodistiaid hyny ar y byd. Ond ynglŷn a'r gwaith da a wnaed ar y cyfiyrau ar ol
hyny, profodd ffurfiad a dylanwad y gymdeithas yn rhagbarotoad gwerthfawr iddynt
hwy at waith eu hoes, ac o fendith fawr i grefydd. Yn y cyfnod yma, effeithiwyd ar
feddwl John Wesley gan lyfrau dau neu dri o awdwyr oedd yn cario cryn ddylanwad
ar ddosparth o ddarllenwyr y pryd hyny. Pan yn ddwy ar hugain oed, daeth dan
ddylanwad Thomas à Kempis a Jeremy Taylor, trwy ddarllen "Dylyniad Crist" o
waith y cyntaf, a "Byw a marw yn sanctaidd" gan yr olaf. Yn fuan wedi hyny,
daeth i gyffyrddiad a llyfrau William Law, yn enwedig yr "Alwad Ddifrifol", a'i
"Berffeithrwydd Cristionogol;" a chydweithiai yr holl ddylanwadau hyn i wneuthur
o hono Uchel-Eglwyswr defodol, cyfriniol, a hunan-gyfiawn!
Yn mis Ebrill, 1735, bu farw ei dad; ac aeth yntau yn y cyflwr a nodwyd, 'a'i frawd
Charles yn genadon i Georgia, gyda'r amcan penaf o ddychwelyd yr Indiaid Americ-<noinclude><references/></noinclude>
o2qiipblxm1ny94mpypud2dohpsmden
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/3
104
20455
39226
2022-08-21T15:21:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anaidd. Dyddorol yw cofio mai yn yr adeg yma y daeth George Whitfield i gydnabyddiaeth âg ef gyntaf, ac y rhestrwyd ei enw yn mhlith Methodistiaid Rhydychain.
Derbyniasid Whitfield fel gweinydd (servitor) i Goleg Pembroke dair blynedd cyn hyn;
ac yr oedd er's peth amser wedi dechreu gweddio a chanu salmau bum' gwaith yn y
dydd, yn mawr edmygu y Wesleys, ac ereill, ac yn awyddus iawn i ffurfio cydnabyddiaeth âg aelodau y "Gymdeithas Sanctaidd." Ond gan nad oedd ond gwas bach i'r
myfyrwyr, ac yn ieuange, pallai ymwthio i'w sylw. Modd bynag, ynglŷn â rhyw
helynt a fu yn y tloty cyfagos, mewn canlyniad i ymgais rhyw wraig oedd yno i
gyflawni hunanladdiad, cafodd Whitfield gyfleusdra i ddyfod i sylw Charles Wesley.
Gwahoddwyd efi frecwesta gyda'r brodyr; ac mewn canlyniad i hyny, derbyniwyd ef
i'r cylch a fawr ddymunasai.
Pan oedd John Wesley yn ewyllysgar i adael Rhydychain, ac Epworth wedi cau yn
ei erbyn, daeth iddo ymwared e le arall. Y pryd hyny, yr oedd ymdrech ar droed yn
y deyrnas hon i sefydlu trefedigaeth yn America, a alwyd ar enw y brenin yn Georgia.
Cymerid dyddordeb mawr yn y symudiad gan ein dyngarwyr, yn enwedigol felly gan
Dr. John Burton, o Rydychain. Ymddengys fod y wasgfa a oddiweddasai y wlad
hon mewn canlyniad i fethiant y South Sea Bubble yn galw am ryw ddarpariaeth o'r
fath rhag suddo i fethdaliad cyffredinol. Cynllun Dr. Burton ydoedd sefydlu trefedigaeth Georgia i dyfu llin, a chywarch, a sidan. Caniatawyd breinlen gan Sior II.;
penodwyd ymddiriedolwyr i ddal y lle mewn ymddiried i'r tylodion am un mlynedd
ar hugain, a ffurfiwyd cronfa o £36,000 mewn amser byr osod y cynllun mewn
gweithrediad. Yn mhen pum' mis ar ol arwyddiad y freinlen, yr oedd y fintai gyntaf
o ymfudwyr, yn cynwys chwech ugain o eneidiau, yn hwylio tua'r gorllewin, gyda
James Edward Oglethorpe fel eu llywydd bwriadedig, a'r Parch Henry Herbert,
clerigwr, fel eu gweinidog. Yn fuan ar ol tirio, gwelodd Oglethorpe, fel y tybiai, fod
y drws yn agor i efengyleiddio yr Indiaid brodorol, os gellid sicrhau cenadwr i lafurio
yn eu plith fyddai yn abl i ddysgu eu hiaith. Cyn hir dychwelodd y llywydd i Loegr,
gan ddwyn i'w ganlyn un Tomo-Chici, ac Indiaid ereill, gyda'r bwriad o enill cydymdeimlad Cristionogion â'r amcan a goleddai i'w hefengyleiddio. Cafodd ei ddymuniad yn hyn, canys cymerodd "Cymdeithas Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd
Tramor y pwngc mewn llaw, ac anfonwyd y Parch S. Quincy drosodd i Georgia fel
cenadwr. Yn ngwyneb dymuniad y cenadwr hwnw i ddychwelyd, ceisiwyd gan
John Wesley gymeryd le. Wedi ymgynghori a'i gyfeillion, a chael cydsyniad ei
fam, efe a aeth yno. Rhoddodd ei fam ateb nodweddiadol iawn ar yr achos hwn,
trwy ddatgan "Pe buasai genyf ugain o feibion, llawenychaswn wrth weled pob un
o honynt yn dylyn gwaith mor dda" (llafurio fel cenadon mewn gwledydd tramor).
Ar y 14eg o Hydref, 1735, ar fwrdd llong hwyliau o'r enw ''"Simmonds,"'' wele ef yn y
cymeriad o genadwr, yn nghyda Charles ei frawd yn y nodwedd o ysgrifenydd i
Oglethorpe, yn cychwyn am Georgia. Yn mhlith y teithwyr yr oedd mintai fechan
o Forafiaid; ac i'r dyben o fedru ymddiddan â hwynt, ymgymerodd yn ddiatreg â
dysgu yr Almaenaeg, yn yr hon y daeth, yn mhen blwyddyn ar ol hyny, yn ddigon
cyfarwydd i gyfieithu emynau o honi i'r Saesneg, ac i ymgydnabyddu cryn lawer â
llenyddiaeth Germany. Chwech ar hugain oedd nifer y Morafiaid hyn, rhwng Mr. D.
Nitscham, eu gweinidog. Buont bedwar mis yn croesi y Werydd. Pan oeddynt
tua thaith pythefnos i'r làn ar yr ochr draw, y môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. Waeth-waeth yr elai, torai y tonau dros y bwrdd, drylliwyd yr hwylbren, a
rhuthrai y môr yn afonydd i mewn trwy ffenestri y caban. Parhaodd y dynhestl am
ddyddiau yn olynol, gan gynyddu mewn gerwindeb.
Ar y chweched dydd, torodd ton dros ben Wesley a dihangfa gyfyng a gafodd am ei fywyd ym mhen wyth niwrnod, ymgynddeiriogodd y dymhestl i gyflwr dychrynllyd. Rhuodd y gwynt, gan
rwygo yr hwyliau, mygai y môr fel pe buasai ar dân, flamiai yr awyr gan fflachiadau
y mellt, a chwyrndefid y llestr gyda'r fath rym hyd nes ofnid bob eiliad iddi ymollwng yn ysgyrion. Ond y pryd yma, pan yr oedd y dwylaw mewn braw, y teithwyr Saesonig yn gwaeddi ac yn llewygu gan ofn, a John Wesley ei hunan yn crynu
gan ofn mawr, yr oedd y Morafiaid duwiol yn canu salmau yn uwch na holl chwiban
y drycin, gan ymddangos yn berffaith ddedwydd a hunan-feddiannol. Synwyd y
clerigwr ieuange gan hyn; ac mor fuan ag y gostegodd y dymhestl, prysurodd atynt,
gan ofyn, "A oedd arnych ddim ofn?" Atebasant, "Nac oedd, diolch i Dduw." "A
oedd ar y gwragedd a'r plant ddim ofn?" gofynodd yntau eilwaith. "Nac oedd
(meddai), ac nid oes arnynt hwythau chwaith ddim ofn marw," oedd yr atehiad a
gafodd. Synodd yn fwy pan glywodd hyn, a gwnaeth ymholiadau pellach, pryd y<noinclude><references/></noinclude>
prbzt4r2ngehim5sj2py7o0lkcec2nc
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/4
104
20456
39227
2022-08-21T17:20:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cafodd allan mai y dirgelwch o hyn oll oedd yr adnabyddiaeth brofiadol a feddai y
bobl o ffufr Duw. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl, a chyfranodd ryw gymaint
tuag at greu ynddo anesmwythder a arweiniodd i gyfnewidiad mawr yn ei feddwl
a'i olygiadau crefyddol. Yn ddioed ar ol glanio yn Georgia, ar y 5ed o Chwefror, 1736, sefydlwyd ein gwrthddrych mewn tref a elwid Savannah, i breswylio
yn y persondy coed, ac i fugeilio y trefedigaethwyr. Hon oedd y dref Saesonig
fwyaf yn y sefydliad, er nad oedd yn cynwys namyn deugain o dai coed; ac
yn mhen oddeutu dwy fynedd ar ol hyn, nid oedd yno ond rhyw haner dwsin o
trefydd Saesonig yn Georgia, un o'r rhai mwyaf o ba rai oedd Frederica, yr hon a
safai gan' milldir i'r dehau o Savannah. Nid oedd ond ychydig o'r tir wedi ei arloesi:
oedd y gweddill o'r sefydliad yn goedwigoedd, corsydd, a phrairie, a feddiennid gan
yr Indiaid cochion a bwystfilod gwylltion. Dyma faes llafur John Wesley yn y byd
gorllewinol. Dydd Sabbath, Mawrth 7fed, dechreuodd ar ei waith, gan gynal gwasanaeth am naw yn y bore, yna am ddeuddeg, ac un arall yn y prydnawn; ac ar derfyn
y dydd, cyhoeddodd ei benderfyniad i fynychu hyny bob Sabbath rhag llaw, ynghyd
â gweinyddu y cymun unwaith bob Sabbath, a phob dydd gwyl. Llafuriodd yn ol
y drefn uchod fel gweinidog i'r trefedigaethwyr am oddeutu blwyddyn a haner. Fel y
nodwyd eisoes, amcan John Wesley yn croesi y môr oedd llafurio fel cenadwr yn
mhlith y brodorion; a dylid nodi yn y fan hyn y rhesymau a'i lluddiodd i gario allan
yr amcan hwnw. Ar un llaw, yr oedd gweinidog penodedig y Saeson wedi ymadael
o'r diriogaeth, a'r plwyfolion fel defaid heb fugail arnynt: ac ar y llaw arall, yr oedd
y Ffrangcod a'r Yspaeniaid yn peri cymaint o flinder i'r Indiaid, fel mai hollol ofer
oedd i ddyn gwyn geisio cymhell yr efengyl arnynt y pryd hyny. Yn ngwyneb hyn,
cydsyniodd Wesley â chais yr awdurdodau i dreulio yr holl amser y bu yn Georgia i
fugeilio y trefedigaethwyr, yn hytrach na llafurio fel cenadwr yn mhlith y paganiaid
brodorol. Ymroddodd o ddifrif, yn ol y goleuni a feddai, i lafurio yn ei blwyf, er na
bu ei lwyddiant ond bychan.
Yr oedd sefyllfa iechyd Charles wedi ei orfodi ef i ddychwelyd rai misoedd cyn hyn.
Ymddengys fod meddwl John Wesley y pryd hwn mewn cyflwr o anesmwythder
mawr am weled goleuni, a byw. Ysgrifenodd yn ei ddyddlyfr, "Aethum i America i
ddychwelyd yr Indiaid—ond Och! pwy am dychwel i? Pwy yw efe a'm gwared i oddiwrth fy nghalon ddrwg o anghrediniaeth?...Y mae hi yn awr yn ddwy flynedd, ac
agos i bedwar mis, er pan adewais wlad fy ngenedigaeth i ddysgu Cristionogaeth i
Indiaid Georgia—ond pa beth a ddysgais i yn y cyfamser? Hyn (y peth olaf a
feddyliaswn o ddim)—sef, fy mod i, yr hwn a aeth i America i ddychwelyd ereill,
heb gael fy nychwelyd at Dduw erioed." Dyma ei eiriau a'i gyflwr yn yr argyfwng
pwysig yma. Yn ddiatreg ar ol cyrhaedd Lloegr, cyfarfu â Peter Böhler, gweinidog y
Morafiaid oedd newydd gyrhaedd Llundain o Germany, yr hwn yn garedig a "agorodd
iddo ffordd Duw yn fanylach." Er cael mwynhau cyfeillach a chyfarwyddyd y bobl
hyn, a'u gweinidog, efe a ymsefydlodd yn Llundain, a bu yn cyfarfod gyda'r Morafiaid
yn Fetter Lane am oddeutu dwy flynedd, yr hyn a brofodd yn fuddiol i'w hyfforddi
yn dda yn egwyddorion crefydd fewnol. Buan y daeth yn ymofynydd pryderus am
dani, er y bu am lawer o amser heb brofi gollyngdod. Yn yr ystyr yma, yr oedd
Charles, ei frawd, yn Nghrist o'i flaen efe. Mai 24ain, 1738, aeth i gyfarfod a gynaliai
y Morafiaid yn heol Aldersgate, gyda chalon drom a phryderus; ond pan oedd un or
brodyr yn darllen rhagdraeth Luther i'w Esboniad ar y Rhufeiniaid, profodd yntau
ddarfod ei symud o farwolaeth i fywyd. "Oddeutu chwarter cyn naw," ebe fe,
"teimlais fy nghalon yn gwresogi yn hynod; teimlais fy mod yn ymddiried yn Nghrist
yn unig am iachawdwriaeth; a derbyniais sicrwydd ei fod ef wedi cymeryd ymaith
fy mhechodau!—Ie, yr eiddof fi!—ac iddo fy 'rhyddhau oddiwrth ddeddf pechod a
marwolaeth." Dechreuodd hyn gyfnod newydd yn hanes ei fywyd fel Cristion a phregethwr. Arweiniai fywyd diargyhoedd a phregethai lawer o'r blaen. Ar ei ddychweliad o America, gwahoddid ef i bregethu mewn amryw eglwysydd yn Llundain
a'r cyffiniau, ac ymgasglai y bobl i wrandaw arno; ac ar gyfrif y son oedd am dano
fel cenadwr a fu yn pregethu i'r Indiaid gwylltion, yn ogystal a'i dalent fel pregethwr.
daeth yn boblogaidd ar unwaith. Cynygiwyd bywioliaeth iddo yn swydd Lincoln,
yr hon (gyda llaw) a wrthododd, a thelid gradd dda o barch iddo yn y brifildinas. Ond
ar ol y cyfnewidiad ysprydol a nodwyd, "wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd."
Gwnaed ef yn ddyn o yspryd arall, a phregethai gyda nerth cwbl ddyeithr a newydd.
Yn mhen naw mis ar ol hyn, efe a ymwelodd a'r Morfinid yn Germany. Byth ar ol
eu cyfarfod ar y fordaith yn Georgia, mawr ddymunai gael golwg ar y sefydliad oedd<noinclude><references/></noinclude>
nmvetcqwaw33eciwqwthdx3kgf9di5g
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/5
104
20457
39228
2022-08-21T17:31:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd ganddynt yn eu gwlad eu hunain. Ond nis gallwn yma ddysgrifio yr hyn a welodd
ac a glywodd yno. Digon yw nodi iddo dderbyn cryfhad i'w ffydd yno, a symbyliad
newydd i ymroddiad Cristionogol. Pan ddychwelodd i Lundain, enynai ei enaid gan
sêl Duw, a phregethai dan arddeliad mawr, gan amcanu adfywio Cristionogaeth ysgrythyrol yn yr Eglwys Sefydledig. Ar yr adeg yma, nid oedd ganddo un amcan
pellach. Glynai mewn cymundeb i'r Eglwys Sefydledig hono, a pharhaodd i gyfyngu
ei weinidogaeth i'w hadeiladau cyhyd ag y cadwyd ei drws yn agored iddo.
Charles, ei frawd, a Whitfield, dan yr un bedydd ysprydol, ac yn cydlafurio yn egnïol
gyda golwg ar yr unrhyw amcan—i adfywio crefydd bur yn yr Eglwys. Cyn hir, cauwyd llawer o'i phuipudau i'w herbyn, fel nad oedd ganddynt ddim i'w wneuthur
namyn pregethu yn yr awyr agored. Y cyntaf i gymeryd y cam beiddgar, ond gwerth—
fawr, hwn oedd Whitfield. Yn y flwyddyn 1739, yn ol esiampl a thrwy anogaeth
Whitfield, torodd John Wesley hefyd drwyddi, a phregethodd allan yn Bristol i dair
mil o wrandawyr. Creodd hyn gyfnod newydd yn hanes y Methodistiaid, fel eu gelwid.
Cyn hyny, dygid hwy yn gaeth gan y syniad defodol o sancteiddrwydd lleol; ac addefodd Wesley y golygai y pryd hyny y buasai braidd yn bechod achub enaid, os na
wnelsid hyny tu fewn i furiau cysegredig. Ond rhoddwyd terfyn bythol ar yr ofergoeledd hwn pan ddechreuasant bregethu allan; ac oni buasai yr oruchafiaeth hon,
diamheu genym na fuasai eu llwyddiant fel diwygwyr yn agos y peth yw, na Threfnyddiaeth Wesleyaidd, fel y mae, erioed wedi dechreu bodoli. Bellach, ar ol cael ei
hyfforddi gan y Morafiaid yn ffordd iachawdwriaeth, cafodd adnabod yr iachawdwriaeth hono yn bersonol, yn nghyda bwrw ymaith un o erthyglau sylfaenol ei ucheleglwysyddiaeth; a dechreuodd John Wesley ar waith mawr ei oes gyda dwylaw
rhyddion, a gweithiodd o ddifrif. Er nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i sylfaenu sect
'r tu allan i gyffin yr Eglwys Wladol, eto, fel canlyniad naturiol, os nad anocheladwy,
i'w lafur a'i lwyddiant, daeth enwad felly i fodolaeth yn mron er ei waethaf. Dan
nerth ei weinidogaeth ef a Whitfield, cynhyrfwyd y deyrnas; ac yn eithaf naturiol,
ymwasgodd y bobl a ddwysbigwyd yn eu calonau at y diwygwyr am ymgeledd
ysprydol; ac ar gais y bobl hyn, ffurfiodd Wesley gymdeithas grefyddol yn y flwyddyn
1741, o'r hon y tyfodd yr enwad lluosocaf o Ymneillduwyr sydd ar wyneb y ddaear.
Dechreuwyd yr achos yn Bristol, a chyfodwyd yno gapel, a phrynwyd hen foundry
yn Llundain, i'r gymdeithas oedd yn y brifddinas i ymgartrefu ynddi. Fel y lluosogai
y dychweledigion, amlheid y cymdeithasau hyn, a dosparthwyd hwynt yn rhestrau
dan ofal blaenoriaid. Darfu ymeangiad y gwaith greu angenrheidrwydd am drefniad
pellach a manylach. Bu raid penodi swyddogion cyllidol, a sefydiu llysoedd eglwysig;
adeiladu addoldai, a rhanu y maes yn gylchdeithiau; galw allan, ac yn y man ordeinio
cynorthwywyr, cynal cynadleddau blynyddol, a thynu allan weithredoedd cyfreithiol;
ac yn ganlynol, ffurfiwyd y cyfundeb sydd yn aros hyd heddyw. Ac wedi dechreu fel
hyn ar ei waith fel efengylwr, gan ddylyn cyfarwyddyd rhagluniaeth Duw yn ei drefniadau, a chymhelliad cariad Crist yn ef brofiad, efe a ymhelaethodd mewn llafur, gan
deithio, pregethu, ysgrifenu, dysgyblu, a chyfundrefnu fwy na mwy am 65 mlynedd.
Bellach, ar ol rhoddi i'r darllenydd syniad am deulu a manylion gyrfa bywyd ein
gwrthddrych, ni a ymdrechwn fanylu ychydig gyda'r ymgais o gyfleu rhyw drem ar
helaethrwydd ei lafur, meithder a lluosogrwydd ei deithiau, yn nghyda'r amharch a'r
erlidiau a ddyoddefodd fel Cristion oddiwrth gaseion crefydd a brodyr gau yn mlynyddoedd cyntaf ei oes; ac yna rhoddwn grynodeb o'i wasanaeth i lenyddiaeth fel
awdwr a chyhoeddwr, hanes ei ddadleuon, teithiau, ei gymeriad, cyrchnod terfynol ei
fywyd, yn nghyda chrybwyllion am ei safle, ei yni, a'i brofiad yn niwedd ei oes.
Dygwyddodd dau amgylchiad yn lled fuan ar ol iddo dori allan fel efengylydd y
dylid eu nodi; ac hwyrach mai doeth fyddai gwneuthur hyny yn y fan yma. Cyfeiriasom at fam rinweddol a thalentog ein gwrthddrych. Cafodd hi fyw i weled dechreuad y Diwygiad Methodistaidd, a dwfn oedd y dyddordeb a gymerai ynddo. Yn 1739, pan
brynwyd ac y neillduwyd yr hen foundry yn Llundain i bwrpas crefyddol, symudwyd
hi yno, i fyw yn y tŷ oedd yn gysylltiol a'r capel, a mynychai y moddion a gynelid
ynddo hyd ddiwedd ei hoes. Ond dydd ei hymddatodiad hithau a nesaodd. Gorphenaf y 23ain, 1742, pan oedd ei phump merch, a'i mab John, o amgylch ei gorweddle, bu farw mewn tawelwch mawr; ac yn ol ei chais diweddaf, canasant Salm
mor gynted ag yr ehedodd ei hyspryd ymaith. Y Sabbath canlynol, claddwyd ei
gweddillion yn nghladdfa enwog Bunhill Fields, yn mhresenoldeb tyrfa fawr o bobl.
Darllenwyd y gwasanaeth claddu gan ei mab; a phan y defnyddiodd'efe y geiriau "fy
mam," yn lle y chwaer ymadawedig," torodd y dorf allan mewn wylofain mawr. Pre—<noinclude><references/></noinclude>
mx5e9l794hhryaqgs98md2771mqmj7p
39229
39228
2022-08-21T17:39:23Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd ganddynt yn eu gwlad eu hunain. Ond nis gallwn yma ddysgrifio yr hyn a welodd
ac a glywodd yno. Digon yw nodi iddo dderbyn cryfhad i'w ffydd yno, a symbyliad
newydd i ymroddiad Cristionogol. Pan ddychwelodd i Lundain, enynai ei enaid gan
sêl Duw, a phregethai dan arddeliad mawr, gan amcanu adfywio Cristionogaeth ysgrythyrol yn yr Eglwys Sefydledig. Ar yr adeg yma, nid oedd ganddo un amcan
pellach. Glynai mewn cymundeb i'r Eglwys Sefydledig hono, a pharhaodd i gyfyngu
ei weinidogaeth i'w hadeiladau cyhyd ag y cadwyd ei drws yn agored iddo.
Charles, ei frawd, a Whitfield, dan yr un bedydd ysprydol, ac yn cydlafurio yn egnïol
gyda golwg ar yr unrhyw amcan—i adfywio crefydd bur yn yr Eglwys. Cyn hir, cauwyd llawer o'i phuipudau i'w herbyn, fel nad oedd ganddynt ddim i'w wneuthur
namyn pregethu yn yr awyr agored. Y cyntaf i gymeryd y cam beiddgar, ond gwerth—
fawr, hwn oedd Whitfield. Yn y flwyddyn 1739, yn ol esiampl a thrwy anogaeth
Whitfield, torodd John Wesley hefyd drwyddi, a phregethodd allan yn Bristol i dair
mil o wrandawyr. Creodd hyn gyfnod newydd yn hanes y Methodistiaid, fel eu gelwid.
Cyn hyny, dygid hwy yn gaeth gan y syniad defodol o sancteiddrwydd lleol; ac addefodd Wesley y golygai y pryd hyny y buasai braidd yn bechod achub enaid, os na
wnelsid hyny tu fewn i furiau cysegredig. Ond rhoddwyd terfyn bythol ar yr ofergoeledd hwn pan ddechreuasant bregethu allan; ac oni buasai yr oruchafiaeth hon,
diamheu genym na fuasai eu llwyddiant fel diwygwyr yn agos y peth yw, na Threfnyddiaeth Wesleyaidd, fel y mae, erioed wedi dechreu bodoli. Bellach, ar ol cael ei
hyfforddi gan y Morafiaid yn ffordd iachawdwriaeth, cafodd adnabod yr iachawdwriaeth hono yn bersonol, yn nghyda bwrw ymaith un o erthyglau sylfaenol ei ucheleglwysyddiaeth; a dechreuodd John Wesley ar waith mawr ei oes gyda dwylaw
rhyddion, a gweithiodd o ddifrif. Er nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i sylfaenu sect
'r tu allan i gyffin yr Eglwys Wladol, eto, fel canlyniad naturiol, os nad anocheladwy,
i'w lafur a'i lwyddiant, daeth enwad felly i fodolaeth yn mron er ei waethaf. Dan
nerth ei weinidogaeth ef a Whitfield, cynhyrfwyd y deyrnas; ac yn eithaf naturiol,
ymwasgodd y bobl a ddwysbigwyd yn eu calonau at y diwygwyr am ymgeledd
ysprydol; ac ar gais y bobl hyn, ffurfiodd Wesley gymdeithas grefyddol yn y flwyddyn
1741, o'r hon y tyfodd yr enwad lluosocaf o Ymneillduwyr sydd ar wyneb y ddaear.
Dechreuwyd yr achos yn Bristol, a chyfodwyd yno gapel, a phrynwyd hen foundry
yn Llundain, i'r gymdeithas oedd yn y brifddinas i ymgartrefu ynddi. Fel y lluosogai
y dychweledigion, amlheid y cymdeithasau hyn, a dosparthwyd hwynt yn rhestrau
dan ofal blaenoriaid. Darfu ymeangiad y gwaith greu angenrheidrwydd am drefniad
pellach a manylach. Bu raid penodi swyddogion cyllidol, a sefydiu llysoedd eglwysig;
adeiladu addoldai, a rhanu y maes yn gylchdeithiau; galw allan, ac yn y man ordeinio
cynorthwywyr, cynal cynadleddau blynyddol, a thynu allan weithredoedd cyfreithiol;
ac yn ganlynol, ffurfiwyd y cyfundeb sydd yn aros hyd heddyw. Ac wedi dechreu fel
hyn ar ei waith fel efengylwr, gan ddylyn cyfarwyddyd rhagluniaeth Duw yn ei drefniadau, a chymhelliad cariad Crist yn ef brofiad, efe a ymhelaethodd mewn llafur, gan
deithio, pregethu, ysgrifenu, dysgyblu, a chyfundrefnu fwy na mwy am 65 mlynedd.
Bellach, ar ol rhoddi i'r darllenydd syniad am deulu a manylion gyrfa bywyd ein
gwrthddrych, ni a ymdrechwn fanylu ychydig gyda'r ymgais o gyfleu rhyw drem ar
helaethrwydd ei lafur, meithder a lluosogrwydd ei deithiau, yn nghyda'r amharch a'r
erlidiau a ddyoddefodd fel Cristion oddiwrth gaseion crefydd a brodyr gau yn mlynyddoedd cyntaf ei oes; ac yna rhoddwn grynodeb o'i wasanaeth i lenyddiaeth fel
awdwr a chyhoeddwr, hanes ei ddadleuon, teithiau, ei gymeriad, cyrchnod terfynol ei
fywyd, yn nghyda chrybwyllion am ei safle, ei yni, a'i brofiad yn niwedd ei oes.
Dygwyddodd dau amgylchiad yn lled fuan ar ol iddo dori allan fel efengylydd y
dylid eu nodi; ac hwyrach mai doeth fyddai gwneuthur hyny yn y fan yma. Cyfeiriasom at fam rinweddol a thalentog ein gwrthddrych. Cafodd hi fyw i weled dechreuad y Diwygiad Methodistaidd, a dwfn oedd y dyddordeb a gymerai ynddo. Yn 1739, pan
brynwyd ac y neillduwyd yr hen foundry yn Llundain i bwrpas crefyddol, symudwyd
hi yno, i fyw yn y tŷ oedd yn gysylltiol a'r capel, a mynychai y moddion a gynelid
ynddo hyd ddiwedd ei hoes. Ond dydd ei hymddatodiad hithau a nesaodd. Gorphenaf y 23ain, 1742, pan oedd ei phump merch, a'i mab John, o amgylch ei gorweddle, bu farw mewn tawelwch mawr; ac yn ol ei chais diweddaf, canasant Salm
mor gynted ag yr ehedodd ei hyspryd ymaith. Y Sabbath canlynol, claddwyd ei
gweddillion yn nghladdfa enwog Bunhill Fields, yn mhresenoldeb tyrfa fawr o bobl.
Darllenwyd y gwasanaeth claddu gan ei mab; a phan y defnyddiodd'efe y geiriau "fy
mam," yn lle y chwaer ymadawedig," torodd y dorf allan mewn wylofain mawr. Pre-<noinclude><references/></noinclude>
2ooygeg6agg0ti9w39154ot6f688vh1
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/6
104
20458
39230
2022-08-21T18:25:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>getbodd yn y capel ar yr achlysur i gynulleidfa yn hynod ddifrifol. Yn mhen deuddeng mis ar ol hyn, ymwelodd âg Epworth, ei hen gartref, a mynai y plwyfolion iddo
bregethu. Ond gan na chaniatâi y curad yr eglwys at ei wasanaeth, gwasgai y bobl
arno i bregethu ar y fynwent; ac am chwech o'r gloch un prydnawn Sabbath, efe a
safodd ar feddfaen ei dad, ac a bregethodd yr efengyl gyda dylanwad mawr ar y pryd;
a dylynwyd yr oedfa hono gydag effeithiau bendigedig.
Wedi planu cymdeithasau crefyddol yn Llundain, Bristol, a Kingswood, fel y prif
orsafon cenhadol, efe a ymroddodd i amdeithio yr holl deyrnas, gan bregethu, ffurfio
cymdeithasau, a chyfundrefnu, i ba le bynag yr elai. Pregethai ar gyfartaledd, yn
ystod yr haner can' mlynedd dylynol, oddeutu ugain o weithiau yr wythnos, a theithiai
yn ol pum' mil o filldiroedd yn y flwyddyn. Fel hyn, a thynu allan o'r cyfrif swm da
ar gyfer ei arafwch yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, bernir iddo bregethu oddeutu
deugain mil o weithiau, theithio yn agos i chwarter miliwn o filldiroedd yn y
deyrnas hon yn ystod ei lafur fel efengylwr. A dylid cadw mewn côf ddarfod iddo
bregethu gynifer a hyny o weithiau dan amgylchiadau anfanteisiol yn fynych, a phan
oedd ganddo lawer o bethau ereill i'w cyflawni-a theithio y cyfanswm enfawr o filldiroedd a nodwyd cyn i'r agerlong a'r ager-gerbyd gael eu dyfeisio, pryd yr oedd ffyrdd
goreu y deyrnas yn anhygyrch a drwg, ac heb gymaint a stage coach yn teithio yn uwch
tua'r gogledd na dinas York; ie, a darfod iddo deithio y rhan fwyaf ar gefn ei geffyl;
ac y byddai y rhan amlaf, yn maint ei benderfyniad i brynu yr amser, yn darllen with
farchogaeth. Un o'i deithiau cyntaf a wnaed yo 1742, i ogledd Lloegr, ar gais John
Nelson a'r Arglwyddes Huntingdon, pryd y dechreuwyd yr achos yn Newcastle.
Yn y flwyddyn 1743, efe a dreuliodd oddeutu pedair wythnos ar ddeg yn Llundain,
deng wythnos yn Bristol, tair wythnos ar ddeg yn Newcastle, tair wythnos yn Cornwall, a deuddeng wythnos yn ngogledd Lloegr. Yr oedd yn ddyn aeddfed, oddeutu
deugain oed, y pryd yma, ac yn dechreu o ddifrif ar ei lafur amdeithiol. Yn ystod y
flwyddyn hono, ceir ei hanes hefyd yn ymweled â rhanau o Gymru. Gofod a ballai
i'w ddylyn gyda math yn y byd o fanylwch o flwyddyn i flwyddyn, er y buasai yn
angenrheidiol gwneuthur hyny cyn y gellid cyfleu syniad cyflawn i'r darllenydd am
helaethrwydd ei lafur a'i deithiau; ond ceir rhyw drem arnynt pan nodir mai ei arferiad am y rhan fwyaf o'i oes ydoedd ymweled a'r holl eglwysi unwaith yn y flwyddyn,
ac na byddai byth yn dychwelyd o'i deithiau heb sefydlu rhai gorsafau newyddion.
Am yr un mlynedd ar bymtheg cyntaf, teithiai ei frawd Charles gryn lawer i'w gynorthwyo; ond o 1757 hyd derfyn ei oes, yn 1788, cyfyngodd efe ei wasanaeth i Bristol
a Llundain. Yn 1747 y talodd John Wesle ei ymweliad cyntaf â'r Iwerddon.
Croesodd yno o Bristol, a glaniodd yn Dublin. Gwnaeth hyn ar gais un o'r enw
Thomas Williams, yr hwn a lwyddasai i ffurfio cymdeithas yn y ddinas oedd yn rhifo
280 o aelodau. Glaniodd yn ninas Dublin yn mis Awst, a chroesawyd ef yn nhŷ Mr.
Lunell, y banker, yr hwn a gyfranodd wedi hyny £400 at adeiladu capel Whitefriar
street. Treuliodd bythefnos yno, cychwynwyd achosion yn yr ynys yn ddiatreg,
dechreuwyd cydnabyddiaeth ddymunol rhwng ein gwrthddrych a'r Gwyddelod. Aeth
yn hoff neillduol o honynt, a chroesodd y Cyfyngfor ddwy a deugain o weithiau er eu
mwyn; a phe y gosodid ei holl ymweliadau ynghyd, treuliodd dros chwe' blynedd oi
fywyd prysur yn yr Iwerddon. Yn 1751, ymwelodd y waith gyntaf ag Ysgotland.
Ni fwriadai bregethu yno o gwbl y tro hwnw; ond ar gais tyrfa o bobl a ymgasglent
at dy y cyfaill a'i lletyai, efe a bregethodd droion iddynt, gan adael Mr. Hopper, un
o'i gynorthwywyr, yno ar ei ol, a'r hwn a laturiodd yno am bythefnos. Fel y mae yn
hysbys, ni chafodd Wesleyaeth nemawr o afael yn mhlith yr Ysgotiaid o gwbl oddigerth yn Edinburgh a Glasgow, felly ni theithiodd John Wesley yn agos gymaint yno
ag yn rhanau ereill y Deyrnas Gyfunol, er na pheidiodd efe ymweled âg Ysgotland
drachefn a thrachefn.
Gyda maes mor eang i'w lafurio, a'r .ath anghyfleusderau ac annybendod i deithio ar
for a thir, a mynychder yr oedfaon a gynaliai, y mae yn anhawdd ffurfio dirmadaeth
am faint ei lafur mewn blwyddyn o amser. Cymerer un er engraifft. Efe a dreuliodd
ddau fis cyntaf y flwyddyn yn Llundain. Yna, ddechreu Mawrth, cychwynodd am
yr Iwerddon. Marchogodd o Lundain i Gaergybi, gan bregethu dair neu bedair o
weithiau bob dydd ar hyd y ffordd. Hwyrach y cedwid ef yn Nghaergybi, naill ai i
ddysgwyl am long neu am hindda, am lawer o ddyddiau, pa rai a dreuliai goreu y
gallai i bregethu yn y dref, ac yma a thraw yn Ynys Môn. Wedi cael cyfleusdra i
groesi y mor, treuliai rai misedd i deithio, pregethu, a chyfundrefuu yn yr Iwerddon.
Oddiyno cyfeiriai am Bristol, gan dreulio, hwyrach, bedair wythnos yno mewn llafur
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5qj00vu6l18cs2brnxudilmfbr2pcd2
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/7
104
20459
39231
2022-08-21T18:47:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>diball Yna elai i lawr i Cornwall am fis, ac oddiyno trwy y siroedd deheuol yn ol i
Lundain. Yna dringai i fyny trwy siroedd Bedford a Northampton a chanolbarth y
wlad i sir York yn eithafoedd y gogledd, ac weithiau croesai y Tweed i Ysgotland.
Yna dychwelai i Lundain erbyn y gauaf, gan wneuthur pump neu chwech o deithiau
wythnosol oddiallan i'r brifddinas i wahanol gyfeiriadau. Ac fel hyn, nid oedd nemawr i eglwys, neu "gymdeithas," fel y dewisai efe ei galw, nad ymwelai â hi unwaith
yn y flwyddyn o ddydd ei sefydliad hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd
ei arolygiaeth dros yr holl waith yn bersonol a thrwyadl. Os gogwyddai yr achos yn
rhywle at benrhyddid, ymrafaelion, neu farweidd—dra, cyn y gallai adfeilio llawer
trwy ddiofalwch swyddogion neu ymgecraeth aelodau, galwai John Wesley heibio,
gan rybuddio a dysgyblu, neu os byddai raid, diarddel yr afreolus; a thrwy y ddysgyblu
aeth a weinyddai, a'r pregethau miniog a nerthol a draddodai, efe a gasglai gynulleidfa, a lluosogai yr eglwys, ac yn gyffredin adferid trefn a brawdgarwch, purdeb, a
bywyd i'w plith cyn eu gadael. A diau mai i'w ymdrechion diflino i ymweled a'r
eglwysi, ai lafur mawr personol yn eu mysg, y dylid priodoli cyfran helaeth o lwyddiant y cyfuneb mawr a sefydlwyd trwyddo. Ond pwy ond efe a allasai ymgynal
dan y fath lafur? Eto, nid oedd ei weinidogaeth amdeithiol ond rhan o'i lafur ef.
Aeth trwy lafur dirfawr, a chyflawnodd wasanaeth amhrisiadwy fel awdwr, cyhoeddwr, a threfnydd. Yn ngoleuni dysglaer ei sêl fel efengylydd, a'i fedrusrwydd fel
trefnydd, collir golwg ar ei gyrhaeddiadau a'i wasanaeth fel llenor. Fel y dengys ei
nodiadau yn ei ddyddlyfr, yr oedd John Wesley yn ddarllenwr mawr. Darllenai lawer
ar bron bob cangen o wybodaeth, a gwnelai hyny yn drwyadl a beirniadol. Ceir
cyfeiriadau yn ei ddyddlyfr at brif weithiau Locke, Peter Browne, Bolingbroke, Reid,
Leibnitz, a Butler, a'r rhan fwyaf o awdwyr goreu y cyfnod ar athroniaeth naturiol,
feddyliol, a moesol, yn nghyda'r prif weithiau a geid y pryd hwnw ar athroniaeth
crefydd. Darllenai lawer o farddoniaeth glasurol a diweddar. Mawr edmygai arwrgerdd Fingal gan Ossian. Ceir enw bron bob awdwr o bwys ar restr y llyfrau a
ddarllenodd ar hanes yr eglwys. Rhoddodd gryn lawer o'i sylw i feddygiaeth. Ymgydnabyddodd yn helaeth a bywgraffiadau cymeriadau cyhoeddus, yn nghyda hanes
teithiau ar dir a dwfr. Hoffai hynafiaethau a hanesiaeth yn fawr. Wrth gwrs,
efrydiai weithiau duwinyddol, yn enwedig yr adran ddadleuol. Arferai ddarllen wrth
farchogaeth, a darllenodd gannoedd o gyfrolau felly ar ei deithiau. Ac nid yn arwynebol, anghofus, a darniog y darllenai efe; ond yn ddeallus, yn drwyadl, ac i bwrpas. Yr olaf oedd ei ffordd gyda phobpeth. Cadwai ei lygad yn agored, ac edrychai
lyfr drwyddo cyn ei ollwng o'i law. Ceir llawer o nodiadau beirniadol, miniog, a
gwerthfawr ar lyfrau yn ei Journals.
Pan feddylir am ei deithiau, ei lafur gweinidogaethol, a chylch ei ddarllenyddiaeth,
y syndod yw, pa fodd y cafodd amser i ysgrifenu dim; ac o'r tu arall, pan olygir swm
ei ysgrifeniadau, y syndod yw pa fodd y cafodd amser i wneyd dim arall. Prin y gallem
gredu fod y fath beth yn bosibl i unrhyw ddyn, hyd nes y deuwn i wybod am ei
gyflymder a'i ddiwydrwydd. Codai am bedwar o'r gloch yn bore, treuliai ei amser
ai waith yn y modd goreu, a gwnelai y goreu o ddeunaw awr allan o'r pedair ar hugain.
"Leisure and I have taken leave of one another," meddai. Yr oedd ei ddiwydrwydd
yn ddihafal; a rhaid ei fod yn meddwl ac yn ysgrifenu yn gyflym, fel y ceir gweled,
ond ystyried byrdra yr amser a gymerai i barotoi ei lyfrau i'r wasg. Pan yn haner
can' mlwydd oed, pallodd ei iechyd, a bu yn analluog i bregethu am bedwar mis—yr
unig fwlch yn ei oes. Ond yn ei gystudd, pan y gwellhaodd ychydig, dechreuodd
ysgrifenu ei nodiadau ar y Testament Newydd. Treuliai un awr ar bymtheg arno
bob dydd; ac yn mhen deng wythnos, yr oedd yn barod ar y pedair efengyl; a rhyw—
bryd yn ystod y flwyddyn ddylynol (1755), dygodd allan ei holl Esboniad ar y Testament Newydd, yn gyfrol bedwarplyg, 762 tudalen. Buasai gorchwyl fel hyn yn
llawn ddigon o waith i'r cyffredin o ddynion yn nghanol iechyd a nerth; ond aeth efe
drwyddo, o leiaf y rhan fwyaf o hono, yn ei waeledd a'i wendid. Ac yn ychwanegol
at ei Esboniad ar y Testament, chwe' blynedd a gymerodd i dalfyru hen gyfrolau unplyg mawrion, eu hadysgrifenu oll, a'u cyhoeddi mewn ffurf gryno a destlus, dan yr
enwad o "Christian Library," mewn haner cant o gyfrolau deuddegplyg. Nid ychydig
oedd y gwaith o ysgrifenu yn unig yn y fath ymgymeriad, heb sôn am y gwaith meddwl
a threfnu a gynwysid ynddo. Cyhoeddodd lawer iawn o lyfrau yn ei oes, rhai o
honynt of awduriaeth ei hun, a'r lleill yn dalfyriadau neu yn argraffiadau newyddion
waith awdwyr ereill, a ddygid allan dan ei olygiaeth, ac ar ei draul ef. Yn y
flwyddyn 1774, cyhoeddodd ei waith ei hun mewn 32 o gyfrolau deuddegplyg, yn<noinclude><references/></noinclude>
bxj2sx2sttz2rraz3zbkec4ocuh11c7
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/8
104
20460
39232
2022-08-21T19:04:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>BYWYD A LLAFUR JOHN WESLEY.
cynwys traethodau, a chant a deugain ac un o bregethau. Cyhoeddodd nodiadau ar yr
Hen Destament yn dair cyfrol pedwarplyg; ei waith ar athroniaeth naturiol mewn
pum' cyfrol deuddegplyg; ac yn y flwyddyn 1778, cychwynodd gyhoeddiad misol—yr
Arminian Magazine—yr hwn a ddaeth allan yn rheolaidd a difwlch tra bu Wesley byw.
Arno ef ei hun y disgynai y rhan fwyaf o'r llafur mewn ysgrifenu a golygu y cyhoedd—
iad hwn. Ysgrifenai a chyhoeddai ei Journals o bryd i bryd, sydd yn cynwys cof—
nodau manwl am waith a helyntion pob dydd yn ei ddydd, o adeg ei ymfudiad i
Georgia, yn 1735, hyd fis Hydref, 1790, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Wedi eu
casglu ynghyd, cyfansoddant bedair cyfrol mor ddyddorol i'w darllen a dim o'r fath
sydd yn yr iaith Saesonig. Dygai ymlaen ohebiaeth gyfrinachol eang, a llafurus
weithiau, ar hyd ei oes; ac ysgrifenai bob llythyr a'i law ei hun. Cymerodd ran
helaeth yn nadleuon ei oes, ac ysgrifenodd lawer yn mhob modd i amddiffyn ei olyg—
iadau athrawiaethol, yn ogystal a'r cwrs a gymerai mewn materion o ffurflywodraeth
eglwysig. Bu mewn cryn ddadl gyda'r Morafiaid yn nechreuad ei ffordd; ac yn fuan
wedi hyny, aeth yn ymwahaniad rhyngddo a'i gyfaill mynweaol Whitfield, oblegyd eu
hanghytundeb mewn barn ar etholedigaeth. O'r un ffynonell, tarddodd dadleuon
rhyngddo â Hervey, a Toplady, ac ereill.
Ac nid bychan oedd y gwaith oedd ganddo i amddiffyn Methodistiaeth yn ngwyneb yr ymosodiadau tanllyd a wneid arni gan glerigwyr yr Eglwys Wladol. Ac at yr oll, ysgrifenodd draethawd maith a galluog ar "Bechod Gwreiddiol," mewn gwrthwynebiad i waith Taylor, o Norwich, ar y pwngc.
Gwnaeth ddefnydd mawr o'r wasg hefyd i ryfela yn erbyn pechod, anwybodaeth, a
chyfeiliornadau. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i gyhoeddi llyfrau yn rhifynau, i gyfarfod amgylchiadau y werin; a mynych y bu hefyd yn casglu arian oddiwrth y
cyfoethog i bwrcasu llyfrau i'r tylawd.
Ond beth am ei fedr a'i ymroddiad fel trefnydd? Addefir ar bob llaw fod ei fedr
at hyn yn ddihafal, a'i ymroddiad iddo yn ddiflino; ac y mae y cyfundeb a adawodd
ar el ol yn arddangosiad o'r llwyddiant a ganlynodd. Ac nid wedi ei ymadawiad y
bu yr holl lwyddiant chwaith; canys yn y flwyddyn 1790, ychydig fisoedd cyn ei
farwolaeth, ceir yr ystadegau canlynol:—pregethwyr teithiol, 541; cylchdeithiau,
240; aelodau eglwysig, 134,549. Yn y flwyddyn 1744, gwysiwyd y Gynadledd
gyntaf i eistedd; ond o hyny allan, cynelid hi yn flynyddol; ac am wyth mlynedd a
deugain bu ef yn llywyddu yn bersonol. Yn 1739, chwanegwyd ei ofal yn fawr trwy
adeiladu ysgolion Kingswood. Whitfield oedd wedi sylfaenu yr adeilad hono, ac
wedi dechreu casglu at ei hadeiladu; ond Wesley a'i cwblhaodd, ac a gasglodd yr
holl arian i dalu y draul, oddieithr y swm o £60. Mawr ydoedd ei gyfrifoldeb arianol
ynglŷn â dyledion y capeli. Yr oedd mwyafrifo'r aelodau yn weithwyr tylodion, fel nad
allent hwy eu hunain gyfranu nemawr; a chan fod cynydd y diwygiad mor gyflym,
rhaid oedd codi addoldai eang ar hyd a lled y deyrnas gyda'r brys mwyaf, serch ben—
thyca arian ar log i wneuthur hyny. Ac ato ef yr edrychai yr holl ofynwyr am y
llogau a'r hawl; a bu agos i'r baich ei lethu fwy nag unwaith. Ond trwy ei fedr i
lunio mesurau cyfaddas, ei ddiwydrwydd diymod i'w cario allan, a bendith Pen yr
eglwys ar yr oll, llwyddodd i gyfarfod pob gofynion o'r fath yn yr adeg, ac i ddwyn
ei feichiau trymion i'r làn heb dynu y gwaradwydd lleiaf arno ei hun, na pheri ceiniog
o golled i neb arall.
Wedi cael cymhorth gan Dduw, aeth trwy y llafur enfawr a nodwyd, ac ymgynaliodd dan ei gyfrifoldeb a'i ofal pan yn wrthddrych anhunedd yn fynych, amharch a
gwrthwynebiadau, erlidigaethau a pheryglon, a phob math o anhawsderau. Prudd
yw meddwl mai un o brofedigaethau chwerwaf ei fywyd oedd priod ei fynwes. Bu
yn hynod o anhapus yn ei briodas. Yr oedd fel pe wedi ymddyrysu yn y mater yma.
Bu ar fedr priodi fwy nag unwaith cyn cyfarfod Mrs. Vazeille, ond lluddiwyd ef trwy
ymyriad annoeth cyfeillion. Gwraig weddw ydoedd hon i fasnachwr cyfoethog, gyda
phedwar plentyn, a gwaddol o £10,000, ac o ddiwylliant uwchraddol; ac yn ol pob
ymddangosiad ar y pryd, yn un eithaf cyfaddas i'w sefyllfa newydd. Erbyn hyn, yr
oedd efe yn 48ain oed, ac wedi ffurfio arferion anghydnaws â bywyd priodasol. Cafwyd cyd—ddeall perffaith rhyngddynt cyn eu hymuniad priodasol, nad oedd y cysylltiad i leihau dim ar ei ddefnyddioldeb cyhoeddus ef, nac i ymyraeth mewn un modd
drefniadau amdeithiol. Ar y cyntaf, teithiai Mrs. Wesley gyda'i gwr i'r gogledd,
ac i Cornwall, &c.; ac am gyfnod byr, gellid tybied y buasai yn gymhorth ac yn
gysur iddo. Cyn hir, cyfnewidiodd yn hollol, a daeth yn bob peth ond hyny iddo.
Oddiar dymher afrywiog, ddilywodraeth, a drwgdybus, dangosodd pob angharedig—
rwydd tuag ato, a dywedodd bob drygair am dano. Cynyrchai ddrwgdeimlad<noinclude><references/></noinclude>
1qza5fby75tul18vk3giwnaj24reppv
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/9
104
20461
39233
2022-08-21T19:31:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhyugddo â'i berthynasau a'i gyfeillion hyd y gallai, a chynghreiriai i'w erbyn gyda'r
elynion. Drwgliwiai ei lythyrau cyfrinachol, a ffugiodd lythyrau yn ei enw ef i'r
wasg, o bwrpas i'w ddarostwng yn marn y cyhoedd. Pentyrai eiriau câs ar ei deimladau yn ei adegau mwyaf anghenus am gydymdeimlad a chysur cartref; ac yn
nghynddaredd dieflig ei chalon, gosododd ei dwylaw ar ei berson, gan ei daflu i lawr
ai lusgo gerfydd ei hirwallt o amgylch yr ystafell; a dyoddefodd yntau yr holl
gamdriniaeth fel Cristion! Bu ei enw da mewn enbydrwydd mwy nag unwaith trwy
ei chreulondeb ynfyd hi; ond puredd a gaed ynddo, a gofalodd Duw Daniel am dano
yntau. Wedi ei boenydio, ei ddynoethi, a'i faeddu am ugain mlynedd yn adeg prysuraf ei fywyd, hi a'i gadawodd ef; a bron na themtir ni i ysgrifenu mai dyna y
caredigrwydd mwyaf a ddangosodd y ddynes anhydrin a chreulawn hon yn ei hoes.
Y mae pob gwaith da yn sicr o gyfarfod â gwrthwynebiadau. "Anghenrhaid yw
dyfod rhwystrau." Heblaw yr anhunedd teuluol hwn oedd mor anghysurus iddo,
cyfranogodd Wesley yn lled helaeth o erlidigaethau crefyddol ei oes. Dyma oedd
rhan Howell Harries a'i gyd—weithwyr yn Nghymru, a Whitfield a Wesley yn Lloegr,
yn enwedig yn nechreuad eu ffordd. A phan ystyrir mor isel oedd crefydd ysprydol
yn yr eglwysi gyda phob cangen, ac mor anfoesol a llygredig oedd y byd annuwiol o'r
tu allan, nid oedd hyn yn rhyfedd. Gofod a ballai i roddi manylion yr erlidigaethau
a ddyoddefodd ein gwrthddrych. Mynych y bu ei fywyd mewn perygl—yr archollwyd ef â cheryg—y baeddwyd ac y llusgwyd ef gan fileiniaid anwybodus a phenboeth
ar hyd heolydd cyhoeddus a chafodd ei ddwyn ger bron ynadon, a'i wahardd
bregethu mewn trefi yn y wlad, a'i ddifenwi gan offeiriaid ac esgobion. Nid anfynych
yr arweinid y dorf a ymosodai arno gyda llwon a dyrnodiau gan ŵr urddedig, fyddai
bron mor anwybodus ac annuwiol a hwythau; ac nid anaml y difyrai yswain gwledig
ei hun trwy yru ei feirch a'i gŵn hela i ganol ei gyfarfodydd crefyddol, neu hwyrach mai minteioedd o weithwyr anhywaith fyddai yn cynllwyn ar ochrau y ffyrdd
i osod eu dwylaw ar yr efengylwr, a'i lusgo drwy y llaid i'w daflu i'r afon. Yn
1748, mewn lle o'r enw Oakhill, ac mewn lle arall o'r enw Roughlee, cafodd efe a'i
ddylynwyr driniaethau creulawn. Llogasid ysgubion y bobl i'w dderbyn i'r dref
gydag wyau pydredig, a phob amharch, ac i'w arwain drwy yr heolydd gan heddwas meddw o flaen mintai arfog gyda fyn yn eu dwylaw, a diod gadarn yn eu
cylla. Lluchid ei ddylynwyr â chawodydd o geryg; a flusgid rhai honynt drwy
y llaid gerfydd gwallt penau, heb arbed na rhyw nac oedran; gollyngwyd cynddaredd yr erlidigaeth ar hen wyr a hen wragedd, gwyryfon gweiniaid a phlant;
curid rhai â ffyn yn ddidrugaredd, a gorfodwyd un o'r dychweledigion i neidio oddiar
graig uchel i'r afon! Yn Bolton, ger Manchester, ymgasglodd torf frochus, gan waeddi
a chablu o amgylch y tŷ y lletyai. Taflasant gyfaill iddo a aethai allan i ymliw â
hwy i'r llaid, gan ei sathru dan eu traed; torasant ddrws y tŷ, a rhuthrasant i mewn;
ac y mae yn anhawdd dyfalu pa beth fuasai y canlyniad, oni buasai iddo ef eu
gwynebu gyda dewrder a'u daliodd â syndod, a'u tawelu gyda'i atebion parod a'i
bresenoldeb parchedig. Mewn lle arall, tarawyd ef â chareg yn ei dalcen pan yr oedd
ar ganol pregethu; ond gyda nerth goruwchddynol, ar ol sychu y gwaed o'i lygaid,
aeth yn mlaen gyda'i bregeth. Yn Wednesbury, amgylchwyd ei lety gan y terfysglu
a waeddent, "Dewch â'r pregethwr allan: rhaid i ni gael y pregethwr allan!" A rhag
iddynt losgi neu ddinystrio ty ei gymwynaswr, aeth allan atynt, fel cen i ganol bleiddiaid; ac och! y driniaeth a gafodd! Llusgwyd ef yn amharchus am filldir ffordd
trwy wlaw trwm, ar noson dywyll, at dy yr ynad heddwch. Ar y ffordd, yr oedd
terfysglu Walsall yn ymosod ar derfysglu Darlaston; ac aethan ymladd am dano fel
bwystflod rheibus am ysglyfaeth, a chariwyd ef i ddwylaw yr ymosodwyr newyddion
hyn. "Ofer," meddai, "oedd ceisio siarad â hwynt, canys yr oedd y sŵn ar bob llaw
fel rhuad y môr." Llusgasant ef yn ol i'r dref; a phan amcanodd ddiangc oddi
arnynt trwy droi i mewn i ddrws tŷ mawr a pharchus oedd yn agored ar fin yr heol,
daliwyd ef gan ryw ddyhiryn wrth wallt ei ben, gan ei lusgo yn ol i'w dwylaw. Ar
hyn, tarawyd ef yn ei enau nes y ffrydiodd y gwaed allan, a chariwyd ef dros bont,
gerllaw afon ddofn, gan ofni bob munud gael ei daflu iddi a'i foddi: ond cyfryngwyd
ar ei ran, a diangodd yn fyw o'r enbydrwydd yno, fel pob un arall cyffelyb cyn ac ar
ol hyny! A dywedir fod ei hunanfeddiant, ei ddewrder diymollwng, ai yspryd maddeugar ac efengylaidd, yn nodedig yn ngwyneb y triniaethau creulawn hyn oll. Gwelwyd hyfdra annuwiol ymosodwyr yn gwywo dan awch ei eiriau parod a chyfeiriadol,
ac nid unwaith y diffrwythwyd eu dwylaw gan ei hunanfeddiant a'i ddewrder. Bu
yn cerdded trwy ganol terfysglu brochus, gan ddangos y tath wroldeb fel na feiddiai<noinclude><references/></noinclude>
g7s3jnfgtirwe6i8lzaqfybuch8ya0l
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/10
104
20462
39234
2022-08-21T19:45:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neb ei gyffwrdd, er eu bod wedi ymgasglu o bwrpas i'w ddal a'i ddyfetha. A llawer
gwaith y dychwelodd erlidwyr o'r oedfaon dan weddio.
O ran ei berson, nid oedd gan John Wesley ond corph bychan—ychydig byrach
na'r taldra canolig, ond fod hwnw o'r defnyddiau goreu, ac o'r gwneuthuriad mwyaf
hylaw a chymesurol i'w alluogi i gyflawni gwaith mawr ei oes yn y modd esmwythaf
iddo ei hun. Yr oedd ei lywethau fel gwiail haiarn o ran gwydnwch; nid oedd ganddo ronyn o gnawd afreidiol o'i gwmpas, ac yr oedd adnoddau ei yni anianyddol yn
—ddihysbydd. A diau fod ei arferiad o foreu—godi, newid awyr, teithio ar geffyl, a
phregethu yn bore, ynghyda'i reoleidd—dra perffaith mewn llafur, ymborth, a
chwag, wedi caledu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, a sefydlu ton uchel o iechyd iddo,
i fesur anhygoel. Ac fel y mae yn hysbys, bu fyw i fyned yn hen, ac yn anarferol
hoyw a llafurus yn ei hen ddyddiau. Arfaethodd i ymweled âg America yn ei
67ain mlwydd oed; a buasai wedi cyflawni ei fwriad oni bai fod yn amhosibl iddo
adael yr holl eglwysi oedd dan ei ofal yn y deyrnas hon. Ysgrifenodd air yn ei
ddyddlyfr i'r perwyl "nad oedd wedi colli un noson o gwsg yn ystod y 70ain mlynedd."
Ymwelodd â Holland ddwy waith ar ol pasio ei 80ain oed. Pan yn 82ain,
cawn ei hanes yn cychwyn am yr Iwerddon. Pregethai ar hyd y ffordd o
Lundain i Liverpool, a phregethai ddwy neu dair gwaith yn y dydd yn
yr Ynys Werdd tra y bu yno. Dychwelodd i Lundain yn mhen dau fis, ar ddydd
Gwener; a'r Sabbath canlynol, pregethodd ddwywaith yn City Road, a chyfarfyddodd
A chynulleidfa aruthrol o blant yn yr un lle am bump o'r gloch y bore dranoeth.
Cyfansoddai bregethau newydd gyda chywirdeb neillduol pan yn 86ain. A phan yn
87ain, tynodd allan iddo ei hun blan pregethu am dri mis, a chadwodd bob cyhoeddiad
oedd arno, a chryn lawer o oedfaon achlysurol heblaw hyny. Dywedir fod llyfinder a
gloywder dyn deugain oed yn prydferthu ei rudd, a dysgleirdeb a bywiogrwydd llengcyn
ugain oed yn gwreichioni yn ei lygad, pan yr oedd eira pedwar ugain gauaf yn gorphwys ar ei ysgwyddau! Goroesodd brydles yr hen foundry, a phregethodd yn Kings
wood dan gysgod coed a blanwyd yno â'i law ei hun! Pan fu farw, deuddeng mlynedd
oedd rhyngddo a bod yn fab can' mlwydd! Rhaid fod gan ddyn a lafuriodd mor
galed, a ddyoddefodd mor fynych, ac er pob peth, a fu byw mor hir, gorph o'r defnyddiau a'r gwneuthuriad goreu.
Yn y corph bychan hwnw, preswyliai enaid uwchraddol a choeth. Tra na ddylid
rhestru John Wesley gyda Francis Bacon, Isaac Newton, a Joseph Butler, yn y dosparth uchaf â roddwyd iddo gan rai o'i fywgraffwyr. Y mae yn amheus a oes neb o'i flaen mewn
teilyngdod yn y dosparth olaf. Meddai athrylith o radd uchel, yn yr hon y cyfarfyddai llawer o alluoedd mewn cymesuredd rhagorol. Yr oedd athrylith mawr
yn ei deulu, ar du ei dad a'i fam, er's cenedlaethau lawer; a diau ei fod yntau
yn berchenog athrylith gref ac amrywiaethog, a nodweddid gan graffder, treiddioldeb, a chyflymdra. Dichon nad oedd ei grebwyll ond cyffredin, er nad oedd yn
amddifad o'r gallu gwerthfawr hwnw; ond nid yn hyn y llechai ei ragoriaeth. Y
mae y dyb fod trefniadau eang a manwl y cyfundeb a sefydlodd yn ffrwyth dychymyg
rymus oedd wedi tori cynllun yn mlaen llaw, yn seiliedig ar syniad hollol gyfeiliornus
am nodwedd meddwl John Wesley. Nid un felly oedd efe mewn un modd. Rhagwelai i'r dyfodol yn mhellach na llawer, a hyny mewn goleuni clir iawn; ac yr oedd
yn ddihafal o fedrus i adnabod y ffordd oreu ar y pryd i droi pethau sydyn ac anocheladwy yn wasanaethgar i amcanion ei alwedigaeth nefol. Ond cyfodai hyn oll oddiar
graffder a chyflymdra ei feddwl i ddirnad pa fodd yr oedd pethau yn sefyll yn eu
perthynas â'u gilydd ar y pryd, a pha fodd i weithredu ddoethaf yn eu gwyneb, yn
fwy nag oddiar allu creadigol uchelryw a chyrhaedd bell i dynu allan gynlluniau cyfrwys a phellgyrchol flynyddau yn mlaen llaw. Ni feddai Wesley y cymhwysder
lleiaf oll i wneuthur y dydd—freuddwydiwr Utopaidd a ffrwythlawn. Ond mewn
craffder i weled i mewn i bwngc, ei ddosparthu i'w elfenau cyntaf, a'i adnabod yn ei
burdeb syml a'i berthynasau troellog, a hyny mewn amser byr, saif John Wesley yn
arbenig a diguro. Gan nad beth fyddai natur y pwngc, neu ei ddyeithrwch— pa un
bynag ai cyfrinion y Mystics, Principia Newton, neu Plays Shakspeare, fyddai testyn
el ymchwiliad yr oedd llygad ei feddwl mor loyw, ei gyllell arddansoddol mor finiog,
ei afael mor sicr, a'i ergydion mor gywir, cyflym, a diarbed, fel na ddiangai dim a
syrthiai i'w ddwylaw cyn cael ei chwilio yn llwyr a'i adnabod yn drwyadl. Meddai
gof cyflym a gafaelgar, fel y dywedir fod testyn gwreiddiol y Testament Newydd ar
benau ei fysedd. Arddengys gryn lawer o alluoedd a thueddfryd y beirniad;<noinclude><references/></noinclude>
fdvvm6byn8ybgbghv5xh7jdg6rwwhj8
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/11
104
20463
39235
2022-08-21T20:00:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymddengys fod anianawd ei feddwl yn tynu at yr athronyddol. Ceir gweithiau Locke,.
Reid, a Browne yn mhlith ei lyfrau dewisol. Blinwyd et ar adegau gan ryw amheuon
meddyliol, na wyr ond dynion meddylgar ddim am danynt; a da fod ei angor o'r tu fewn
i'r llen. Ac at y cwbl, yn yr oll o'i weithrediadau, yr oedd ei feddwl yn gwbl ymarferol..
Nid y damçanwr awyrol a dibwrpas ydoedd ef; ond ceisiai yn wastad ddarostwng ei
ymchwiliadau i olygiadau ereill, yn ogystal a'i fyfyrdodau ei hun, i ffurfiau ymarferol.
Fel aml i ddyn mawr, amlochrog ei athrylith, ceid rhai teithiau croesymdynol yn
nghymeriad ei feddwl; megys amheuyddiaeth ac efergoeledd, yr athronaidd a'r
ymarferol, hoffder at yr eglur ac at y cyfriniol. A dichon y ceir esboniad ar hyn, ond
ymofyn am rai o honynt yn ngogwyddiadau ei galon, a'r lleill yn maes cynhenid ei.
ddealltwriaeth. Diau na saif neb o'i flaen yn yr ail ddosparth o feddylwyr.
Derbyniodd addysg dda, o ran cylch a chyflwyredd. Dechreuwyd cwrs ei addysg
gan ei fam yn yr adeg a'r modd goreu yn bosibl. Treuliold saith mlynedd a haner
dan addysg yn y Charter House, yn Llundain; ac yna bu am chwe' blynedd fel
myfyriwr, a blynyddau lawer fel athraw, yn Mhrifysgol Rhydychain. Ac y mae ei
lwyddiant i enill ysgoloriaeth, a'i radd o Athraw y Celfyddydau, ynghyda chymrod—
oriaeth yn Oxford, ei hyddysgedd mewn cynifer o iethoedd, a'r feistrolaeth a feddai
dros resymeg a meintonaeth, yn dangos ddarfod iddo werthfawrogi ei fanteision, a
dyfod yn ysgolhaig da. Yn Lladin y byddai efe a'i frawd Charles yn ymddiddan pan
wrthynt eu hunain. Cyhoeddodd ramadegau at wasanaeth ysgolion Kingswood yn yr
ieithoedd Saesonig, Ffrangcaeg, Hebraeg, Groeg, a Lladin. Cyfieithodd wyth ar hugain
o hymnau o'r iaith Germanaeg; a dywedir y gallai ddarllen a siarad yr ieithoedd
Yspaenaeg, Italaeg, a'r Isellmynaeg. Ystyrid ef yn gyffredin yn feirniad da yn yr
ieithoedd clasurol. Bu yn athraw mewn rhesymeg, yn ''Greek lecturer'', ac yn gymedrolwr y dosparthiadau yn Rhydychain am rai blynyddau. Cydnabyddid ef yn un o
resymwyr goreu y brifysgol y tymhor hwnw. Mewn gair, trefnodd Rhagluniaeth fod i
John Wesley gael yr addysg oreu y gallai y byd ei rhoddi i ddyn ieuangc yn y canrif
diweddaf; a gwnaed ef yn ystyr priodol y gair yn ysgolhaig.
Oran ei ddaliadau athrawiaethol, coleddai Wesley yr hyn y gellir ei alw yn "Arminineth Efengylaidd." Dysgai ef yn groyw fod cadwedigaeth pechadur o ras, tra y
gwasgai ar y dyn i weithio allan ei iachawdwriaeth "trwy ofn a dychryn." Nodwedd
amlycaf ei weinidogaeth a'i gyfundrefn dduwinyddol ef oedd crefydd y galon—megys
cyfiawnhad trwy ffydd, tystiolaeth yr Yspryd, adenedigaeth, a pherffeithrwydd Cristionogol. Dichon nad oes neb wedi traethu yn fwy pendant ar y pyngciau hyn nag
efe. Dygasid ef i fyny yn Eglwyswr selog; ac yn moreu ei oes, diau ei fod yn
Uchel—Eglwyswr, o ran barn ac ymarferiad; a choleddai barch mawr i'r Eglwys, ac
ymlyniad proffesedig wrthi hyd ei fedd. Ond camsyniad dybryd yw golygu y
coloddai yr un syniadau am dani, ac y safai yn yr un berthynas â hi ar ol ei droadigaeth yn 1738, ag a wnelsai cyn hyny. Dengys ei waith yn pregethu ar dir
anghysegredig, yn gweinyddu y sacrament mewn capeli, yn ordeinio lleygwyr i waith
y weinidogaeth, ac yntau heb fod yn esgob, yn cynal cynadleddau blynyddol, ac yr
tynu allan weithred gyfreithiol i ddyogelu nawdd llywodraeth y wlad dros y cyfundeb
yn ei hanfodiad gwahaniaethol, fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn ei feddwl;
herwydd bu adeg pan y buasai yn ei ystyried bron yn bechod achub enaid, os na
chymerai le mewn eglwys. Os mynir ei hawlio fel Eglwyswr, canfyddir y gwneir
hyny ar draul ei wneuthur yr Eglwyswr mwyaf anghyson âg ef ei hun y clybuwyd am
dano erioed. Ar y llaw arall, hollol anghywir fyddai sôn am John Wesley yn rhwygo
yr Eglwys er mwyn furfio sect o ddylynwyr iddo ei hun. Yr oedd hyny mor bell o
fod yn amcan ganddo ag ydyw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Nid yn hyn y ceir
yr agoriad i'w fywyd cyhoeddus, ond yn hytrach yn ei gwbl ymroddiad i "efengylu
ir tylodion." iachawdwriaeth y werin ydoedd arwyddair ei fywyd. Dewisodd yr
amcan yma yn gynar, ac ymwerthodd iddo— hyd derfyn ei oes. Hyn sydd yn cyfrif
am symledd ei arddull, nodwedd ei gyhoeddiadau, a helaethrwydd ei elusenau. A
chanlyniad ei lwyddiant yn hyn a roddodd fodolaeth i Drefnyddiaeth Wesleyaidd.
Ymddegys fod ei olwg hyn cyn ei droadigaeth. Dyma a'i cymhellodd i ymweled
â charcharorion pan yn Rhydychain, yn gystal ag i groesi y môr gyda'r bwriad o
lafurio fel cenadwr yn Georgia. Yn apostol y werin y treuliodd ei fywyd cyhoeddus.
Yn gyson â'r amcan hwn, ceir fod nodwedd y llyfrau a gyhoeddodd, o ran maintioli,
pris, ac arddull, yn iswasanaethgar i'r un amcan. Trefnai ei oriau pregethu am bump
o'r gloch yn y bore, ac am saith yn yr hwyr; ac i'r un perwyl y cynaliai yr holl
sefydliadau elusengar a feddai yn Llundain, a manau eraill. Sefydlodd Dispensary a<noinclude><references/></noinclude>
1chdt4jtem9c0zxab66ifxhptwmt5ux
Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/12
104
20464
39236
2022-08-21T20:34:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''poorhouse'', ysgol ddyddiol, a thrysorfa fenthycol; a chynaliai apothecari a llawfeddyg
yn Llundain at wasanaeth y tylodion.
Ond dylid cofio mai sylfaen ei holl allu a'i lwyddiant fel trefnydd a diwygiwr ydoedd
ei ddoniau pregethwrol. Nid oedd mor enwog a'i gyfaill Whitfield; a pha ryfedd,
oblegyd yr oedd hwnw yn un o bregethwyr goreu Cred. Mewn cymhariaeth iddo
collai Wesley mewn llais, dull, a nwyd; ond tybiai llawer y rhagorai arno o ran definyddiau, trefnusrwydd, dillynder, a chyfeiriad ei bregethau. Mynych y byddai
Wesley yn cyfarch miloedd, gan siarad mewn llais cryf, treiddgar, yn hyglyw iddynt
oll. Os byddai amser yn caniatâu, pregethai yn faith a llafurus, fel dyn yn
methu gollwng y dyrfa ymaith; ac ni byddai neb yn blino arno. Agor yr Ysgrythyrau
trwy eu hesbonio, a delio gyda deall ei wrandawyr trwy ymresymu, gan gymhwyso y
cyfan at y gydwybod mewn apeliadau cyfeiriadol a grymus, y byddai efe wrth bregethu;
a mynych ddylynid ei weinidogaeth â difrifwch ofnadwy a derfyhai mewn argyhoeddiadau dwysion a dychweliadau lawer. Cerddai ei eiriau miniog fel saethau trwy y
tyrfaoedd aruthrol a ymgasglent i wrandaw arno; ac er na chodai efe ei lais, ac nad
oedd ei ddull yn ddrychebel (dramatic) i'r mesur lleiaf, cwympai dynion cryfion
megys meirwon, fel pe wedi eu taraw âg ergyd magnel; a theimlid oddiwrth yr oedfaon a gynaliai am flynyddoedd, gan mor ddwfn oedd yr argraffiadau a wneid.. Y
mae yn anhawdd barnu oddiwrth ei bregethau argraffedig beth oedd min, grym, ac
awdurdod ei weinidogaeth gyhoeddus, os na cheir awgrymiad yn niweddglo ei bregeth
ar "Rad Ras." Prin y credwn fod rhai o'i fyfyrwyr wedi cyfleu syniad cywir am
dano fel pregethwr. Hwyrach mai y brenin-fardd Southey a wnaeth fwyaf o degwch
ag ef yn hyn. Yr oedd y tyrfaoedd a ymdyrent i'w wrandaw, meithder y pregethau a
draddodai heb flino y bobl, yr effeithiau dwysion, ofnadwy ddwysion, a ddylynent ei
weinidogaeth yn yr awyr agored, a'r gwaith mawr bendigedig a gwblhawyd trwy ei
offerynoliaeth, yn dangos y rhaid ei fod yn bregethwr rhagorol.
Cafodd dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn nghanol parch ac edmygedd cyffredinol.
Taflwyd drysau eglwysig, a gauwyd unwaith i'w erbyn, yn agored o'i flaen; cyrchai
llenorion a seneddwyr i wrando arno yn pregethu, a llenwid drysau y tai âg edrychwyr pan glywid fod "John Wesley yn myned heibio." Estynwyd ei nerth, a
gwasanaethodd ei synwyrau a'i gyneddfau meddyliol iddo yn rhyfedd hyd o fewn
ychydig ddyddiau i'w farwolaeth. Llywyddodd y gynadledd (un 1790) a gynaliwyd
yn Bristol o fewn chwe' mis i'w ymddatodiad. Treuliodd dair wythnos ar ol y
gynadledd yn Nghymru, gan bregethu yn fynych. Pregethodd dreion ar ei daith
i Lundain, a chymerodd rai teithiau byrion allan o'r brifddinas cyn terfyn y flwyddyn,
gan drefnu a phregethu yn mhob man yr ymwelai. Erbyn hyn, teimlai fod ei
fywyd bron rhedeg i ben, a threfnodd ei dy gogyfer â hyny. Tynodd allan "Deed
Poll" i ddyogelu nawdd dros y cyfundeb, a gwnaeth ei "ewyllys olaf" ar ei eiddo
personol. Ysgrifenodd amryw lythyrau tra dyddorol yn ystod dau fis olaf ei oes; aï.
lythyr diweddaf oll oedd ar "Gaethwasiaeth," yn gyfeiriedig at Wilberforce, i'w
gefnogi yn ei ymgais i ddileu y fasnach felldigedig hono. Pregethodd am y waith
olaf yn nhŷ anedd heddynâd, o fewn saith niwrnod i'w farwolaeth. Yn mhen deuddydd ar ol hyn, cyflym wanychai. Galwyd am y meddyg, ond yn ofer; canys yr
oedd olwynion ei gyfansoddiad bron sefyll, a'i nerth wedi ei dreulio allan. Cyfododd
i'w gadair bore Sabbath y 27ain; edrychai yn siriol, ac adroddai un o benillion ei
frawd, Charles. Dydd Llun, cynyddai ei wendid, a threuliodd y rhan fwyaf o'r
dydd mewn cwsg. Yr ychydig a siaradodd oedd mewn tôn isel, am "waed Iesu
Grist, fel yr unig ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf." Ar ol noson anesmwyth, pan
ofynwyd iddo bore dydd Mawrth, a oedd yn dyoddef poen, torodd allan i ganu.
Wedi hyny, gofynodd am bapur ac ysgrif-bin-fod arno eisiau ysgrifenu. Ond wedi
eu cael, yr oedd ei olwg yn rhy bŵl, a'i law wedi anghofio ei medr, fel nas gallai efe
ysgrifenu. "Gadewch i mi ysgrifenu i chwi," ebai Miss Ritchie; "dywedwch wrthyf
pa beth a fynech ei roddi i lawr." "Dim," atebai yntau, "ond hyn, Y GOREU OLL
YW, Y MAE DUW GYDA NI." Torodd allan drachefn i ganu, a chododd unwaith eto
i'w gadair. Ond buan y pallodd ei nerth, a rhoddwyd ef yn ol ar y gwely—byth i
godi drachefn! Ac wedi cynghori, a chanu, a gweddio, a ffarwelio â'i gyfeillion, pan
yr oedd un ar ddeg ohonynt ar eu gliniau o gwmpas ei wely, tynodd Wesley ei
draed i'r gwely, a bu farw, heb ochenaid, am ddeg o'r gloch bore dydd Mercher,
Mawrth yr 2il, 1791, yn 88ain oed! Claddwyd ei weddillion yn mynwent City Road,
Llundain, ar y 9fed o'r mis, yn ngwydd torf aruthrol, am bump o'r gloch yn y bore,
mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol.<noinclude><references/></noinclude>
r7yfosdd933qh59uenbrmf0px77ck9v
Bywyd a Llafur John Wesley
0
20465
39238
2022-08-21T20:43:00Z
AlwynapHuw
1710
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Header | title = [[Bywyd a Llafur John Wesley]] | author = Hugh Humphreys, Caernarfon | translator = | section = | previous = | next = | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Bywyd a Llafur John Wesley.pdf" from=1 to=12 /> </div> {{PD-old}} [[Categori:Bywyd a Llafur John Wesley]] [[Categori:Hugh Humphreys, Caernarfon]] [[Categori:Llyfrau Ceiniog Humphreys]] [[Categori:John Wesley]] C...'
wikitext
text/x-wiki
{{Header
| title = [[Bywyd a Llafur John Wesley]]
| author = Hugh Humphreys, Caernarfon
| translator =
| section =
| previous =
| next =
| notes =
}}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Bywyd a Llafur John Wesley.pdf" from=1 to=12 />
</div>
{{PD-old}}
[[Categori:Bywyd a Llafur John Wesley]]
[[Categori:Hugh Humphreys, Caernarfon]]
[[Categori:Llyfrau Ceiniog Humphreys]]
[[Categori:John Wesley]]
[[Categori:Charles Wesley]]
[[Categori:George Whitfield]]
brw5fnvkn03vffkppsa0xqyrvves4zq
Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/90
104
20466
39241
2022-08-22T00:17:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>frawddeg ydoedd hyn,—"Tebyg iawn 'rydw i yn ei wel'd o i
ryw fachgen yn ceisio symud ''balk'' flawydd—y cwbl mae yn ei
wneyd ydyw, ysgwyd tipyn ar un pen iddo." Yr oedd ef,
modd bynag, yn ddarllenwr cyson, ac o hyny cafodd lawer o
hyfrydwch a budd yn niwedd ei oes.
{{c|SABBOTH YN MHENNAL}}
{{c|Gan y Parch. T. C. Williams, Gwalchmai.}}
Mewn llythyr o Rydychain, yr hwn a ymddangosodd yn y
''Goleuad'', Rhagfyr 1af, 1893, rhydd y Parch. T. Charles Williams, Gwalchmai, hanes dyddorol am Sabboth a dreuliodd yn Mhennal. Gan fod y darluniad a geir am Llwynteg,
a'r teulu, mor gywir a phwrpasol, rhoddir ef i mewn yma yn
llawn:—
"Chwith, a chwith iawn hefyd i mi oedd clywed am farwolaeth y patriarch o Bennal,—un o'r rhai galluocaf a mwyaf
gwreiddiol o leygwyr y Cyfundeb. Unwaith erioed y daethum
i i gyffyrddiad ag ef. Aethum i daith Pennal ryw Sabboth yn
niwedd y flwyddyn 1892, o un pwrpas er mwyn ei weled ef
a'i wraig. Yr oeddwn wedi fy nghyfarwyddo ganddo i dd'od
yno o Fachynlleth nos Sadwrn; ond gan ei bod yn noson
ystormus, nid aethum yn mhellach na Phenrhyn Dyfi hyd foreu
Sul. Yr oedd hyny wedi rhoi mantais iddo i roi dangosiad
teg o'r elfen chwareus oedd mor amlwg yn ei gymeriad. Ymddengys fod Mrs. Rowland yn fawr ei phryder am fy mod heb
gyraedd, yn llwyr gredu fy mod wedi colli y ffordd yn y
tywyllwch, neu fod rhyw ddinystr anaele wedi fy ngoddiweddyd. Gwyddai yntau hyny, ac aeth allan tua deg o'r gloch mor
ddistaw ag y gallai, ac yna aeth o gylch y ty, ac i ddrws y
ffrynt, gan guro ya dra awdurdodol. Diflanodd gofalon Mrs.
Rowland ar unwaith, ac wedi taro rhywbeth yn frysiog ar y
bwrdd, aeth i'r drws i groesawu y pregethwr, ond wedi myned<noinclude><references/></noinclude>
s5cv48oeon4syadrwn7n9ecbk2iiqap
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/55
104
20467
39256
2022-08-22T10:20:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|II}}
{{c|GWELEDIGAETH ANGEU YN EI FRENINLLYS ISAF.}}
PAN oedd Phoebus<ref>Enw cyffredin ar yr Haul gan brydyddion Groeg a Rhufain: yr un ag Apolo.</ref> unllygeidiog ar gyrhaedd ei eithaf benod
yn y Deheu, ac yn dal gwg o hirbell ar Brydain Fawr, a'r holl
Ogledd-dir; ryw hirnos gauaf dduoer, pan oedd hi yn llawer
twymnach yng nghegin Glyn Cywarch<ref>Plasdy, yn sefyll yng ngeneu neu agorfa glyn coedog, o ddeutu 3 milltir o dref Harlech, ar ffordd Maentwrog. Tua hanner y ffordd rhwng Glyn Cywarch a Harlech, y mae'r Lasynys, treftadaeth a phreswylfod awdwr y Bardd Cwsg.</ref> nag ar ben Cader Idris, ac yn well mewn ystafell glyd gyda chywely cynhes,
nag mewn amdo ym mhorth y fonwent; myfyrio yr oeddwn i
ar ryw ymddyddanion a fuasai wrth y tân rhyngof fi a chymmydog, am ''fyrdra hoedl'' dyn, a sicred yw i bawb farw, ac
ansicred yr amser;<ref>Cymharer yr ail a dechreu'r bedwaredd o Weledigaethau ''Cweredo''</ref> a hyn, newydd roi fy mhen i lawr, ac yn
lled-effro, mi glywn bwys mawr yn dyfod arnaf yn lledradaidd
o'm coryn i'm sawdl, fel na allwn symmud bys llaw, ond y
tafod yn unig; a gwelwn megys mab ar fy nwyfron, a merch
ar gefn hyny. Erbyn craffu, mi adwaenwn y mab wrth ei
aroglau trwm, a'i gudynau gwlithog, a'i lygaid mol-glafaidd,
mai fy Meistr Cwsg ydoedd. 'Ertolwg, Syr,' ebr fi, tan
wichian, 'beth a wnaethym i'ch erbyn pan ddygech y wyddan<ref>Gwel y sylw ar Gwyddanes, t. 48, n. 4.</ref>
yna i'm nychu?' Ust,' ebr yntau, 'nid oes yma ond fy
chwaer Hunllef;<ref>Hunlle, arg. 1703 ac ereill.</ref> myned yr ŷm ni ein dau i ymweled â'n
brawd Angeu: eisieu trydydd sy arnom; a rhag i ti wrthwynebu, daethom arnat (fel y bydd yntau) yn ddirybudd.
Am hyny, dyfod sy raid i ti, un ai o'th fodd ai o'th anfodd.'
Och,' ebr finnau, 'ai rhaid i mi farw?' 'Na raid,' eb yr
Hunllef; ni a'ch arbedwn hyn o dro.' 'Ond trwy eich
cenad,' ebr fi, 'nid arbedodd eich brawd Angeu neb erioed
eto a ddygid i'w ergyd ef; y gwr o aeth i ymaflyd cwymp ag
Arglwydd y Bywyd ei hun; ond ychydig a ennillodd yntau ar<noinclude><references/></noinclude>
tpla501iehjopv3k88gkvr3ps1fzkb5
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/56
104
20468
39257
2022-08-22T10:35:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr orchest hòno.' Cododd Hunllef ar y gair yma yn ddigllon, ac a ymadawodd.
Hai,' ebr Cwsg, 'tyred ymaith, ni bydd
i ti ddim edifeirwch o'th siwrnai.'Wel,' ebr fi, 'na ddêl byth
nos i Lan-gwsg, ac na chaffo'r Hunllef byth orphwys ond ar
flaen mynawyd, oni ddygwch fi yn ol lle y'm cawsoch.' Yna i
ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy goedydd, tros foroedd
a dyffrynoedd, tros gestyll a thyrau, afonydd a chreigiau; a
pha le y disgynem ond wrth un o byrth merched Belial, o'r tu
cefn i'r Ddinas Ddienydd; lle gwelwn fod y tri Phorth Dienydd
yn cyfyngu yn un o'r tu cefn, ac yn agor i'r un lle: lle
mwrllwch oerddu gwenwynig, llawn niwl afiach a chymylau
cuwchdrwm<ref>Trwm ei guwch; trwm a chuchiog; gygus nen sarig yr olwg arno.</ref> ofnadwy. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa le yw'r
fangre hon?'
'Ystafelloedd Angeu,' ebr Cwsg. Ni ches i
ond gofyn, na chlywn i rai yn crio, rhai yn griddfan, rhai yn
ochain, rhai yn ymleferydd,<ref>Siarad fel dyn gwallgof neu orphwyllog; bod allan o bwyll; ynfydu, gwallgofi.</ref> rhai yn dal i duchan yn llesg;
ereill mewn llafur mawr, a phob arwyddion ymadawiad dyn;
ac ambell un ar ei ebwch<ref>Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.</ref> mawr yn tewi; a chwap<ref>Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.</ref> ar hyny,
clywn droi agoriad mewn clo. Minnau a drois wrth y swn i
ysbio am y drws; ac o hir graffu, gwelwn fyrdd fyrddiwn o
ddrysau yn edrych ym mhell, ac er hyny yn fy ymyl. 'Yn
rhodd, Meistr Cwsg,' ebr fi, 'i ba le mae'r drysau yna yn
egor?'
Y maent yn agor,' ebr yntau, 'i Dir Anghof, gwlad
fawr tan lywodraeth fy mrawd yr Angeu; a'r gaer fawr yma
yw terfyn yr anferth Dragwyddoldeb.' Erbyn hyn, gwelwn
Angeu bach wrth bob drws, heb un yr un arfau, na'r un enw
a'u gilydd; eto, gwyddid arnynt mai swyddogion yr un brenin
oeddynt oll; er y byddai aml ymryson rhyngddynt am y
cleifion; mynai'r naill gipio'r claf yn anrheg trwy ei ddrws ei
hun, a'r llall a'i mynai trwy ei ddrws yntau. Wrth nesäu,
canfum yn ysgrifenedig uwch ben pob drws, henw'r Angeu
oedd yn ei gadw; ac hefyd wrth bob drws, ryw gant o
amryw bethau wedi eu gadael yn llanastr,<ref>Yn annhrefnus, mewn annhrefn; blith draphlith; yn gymmysg.</ref> arwydd fod brys
ar y rhai a aethent trwodd.
Uwch ben un drws, gwelwn Newyn; ac eto ar lawr yn ei
ymyl byrsau a chodau llawnion, a thrynciau<ref>'Trynciau'=''trunks'': cistiau, blychau, coffrau.</ref> wedi eu hoelio.<noinclude><references/></noinclude>
51f7f4s0lxkz0neeyh4nb6rbpf76qkm
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/57
104
20469
39258
2022-08-22T11:07:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Dyma,' ebr ef, 'Borth y Cybyddion.' 'Pwy,' ebr fi, 'pioodd
y carpiau yna?' Cybyddion, eb ef, 'gan mwyaf, ond mae
yna rai yn perthyn i segurwyr, a hwsmyn tafod,<ref>Hwsmyn tafod'=dynion tafodiog, siaradus, neu chwedlengar; rhai a fyddont byth a hefyd yn siarad am faterion a negesau pobl ereill; ofersiaradwyr, gwagsiaradwyr, baldorddwyr. Presently after these appeared a consort of loud and tedious talkers, that tired and deafened the company with their shrill and restless gaggle.—''L'Estrange's Visions of Quevedo, 10th Edit. p. 29.''</ref> ac i ereill, tlawd ym mhob peth ond yr ysbryd, oedd well ganddynt newynu na gofyn."
Yn y drws nesaf yr oedd Angeu Annwyd; gyfeiryd â hwn clywn lawer hydyd—ydyd—cian<ref>Dychymmygair, neu air gwneuthur, wedi ei ffurfio er dynwared llais crynedig dyn pan fo ar fferu gan annwyd. Dychymmygair, yn ol ''Henri Perri'', yw, pan fo yr areithiwr yn dychymmyg enw i ryw beth wrth ddynwared sain y peth y bo, drwy gyffelybrwydd, yn ei arwyddocäu. ''Egluryn Ffracthineb, t. 24, arg. 1807.'') Felly ''Wiliam Lleyn'', i fen:—</br>{{c|''Wich wach'', yn ol chwech ychain}}.</br>
A ''Dafydd ab Gwilym'', i'r biogen:—</br>{{c|''Cric crec'', ni'm dawr pe crocid.}}</br>
A thrachefn, i ddynwared un yn yfed:—{{c|Cue cue yn yfed sucan.}}</br>Yr un modd, ''Rhys Cain'', i'r gwyddau:—</br>{{c|Cywion ar dor afon deg,</br>Crygion, yn crio wegeg.}}
Ar yr un egwyddor y mac ''Aristophan'', y Cymwawdiwr Groeg, yn efelychu crawciad llyffaint â—</br>{{c|Βρεκεκεκέξ kόαξ kόαξ</br>}}Ac ''Ennius'' (yn ol ''Servius'') a ddynwared sain udgorn a'r gair ''taratantara''; a cheir llawer o gyffelyb anghreifftiau yn y rhan fwyaf o ieithoedd, hen a diweddar.</ref>; wrth y drws hwn yr oedd llawer o lyfrau, rhai potiau a fflageni, ambell ffon a phastwn, rhai cwmpasau, a chyrt, a chêr llongau. Fe aeth ffordd yma ysgolheigion,' ebr fi. 'Do,' ebr yntau, 'rai unig a dihelp, a phell oddi wrth amgeledd a'u carai, wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddi arnynt.'<ref>Nay, many times they are stript, ere they are laid, and destroyed for want of clothes to keep them warm.—''Estrange's Visions of Quevedo, p. 41.''</ref>3 'Dyna,' ebr ef (am y potiau) 'weddillion y cymdeithion da, a fydd â'u traed yn fferu tan feinciau, tra bo eu penau yn berwi gan ddiod a dwndwr: a'r pethau draw sy'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd eiryog, ac i farsiandwyr y Gogledd-for.'<noinclude><references/></noinclude>
ke1rlustfwdmklkuc6emldz0wx4y2xu
39261
39258
2022-08-22T11:47:58Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Dyma,' ebr ef, 'Borth y Cybyddion.' 'Pwy,' ebr fi, 'pioodd
y carpiau yna?' Cybyddion, eb ef, 'gan mwyaf, ond mae
yna rai yn perthyn i segurwyr, a hwsmyn tafod,<ref>Hwsmyn tafod'=dynion tafodiog, siaradus, neu chwedlengar; rhai a fyddont byth a hefyd yn siarad am faterion a negesau pobl ereill; ofersiaradwyr, gwagsiaradwyr, baldorddwyr. Presently after these appeared a consort of loud and tedious talkers, that tired and deafened the company with their shrill and restless gaggle.—''L'Estrange's Visions of Quevedo, 10th Edit. p. 29.''</ref> ac i ereill, tlawd ym mhob peth ond yr ysbryd, oedd well ganddynt newynu na gofyn."
Yn y drws nesaf yr oedd Angeu Annwyd; gyfeiryd â hwn clywn lawer hydyd—ydyd—cian<ref>Dychymmygair, neu air gwneuthur, wedi ei ffurfio er dynwared llais crynedig dyn pan fo ar fferu gan annwyd. Dychymmygair, yn ol ''Henri Perri'', yw, pan fo yr areithiwr yn dychymmyg enw i ryw beth wrth ddynwared sain y peth y bo, drwy gyffelybrwydd, yn ei arwyddocäu. ''Egluryn Ffracthineb, t. 24, arg. 1807.'') Felly ''Wiliam Lleyn'', i fen:—</br>{{c|''Wich wach'', yn ol chwech ychain}}.</br>
A ''Dafydd ab Gwilym'', i'r biogen:—</br>{{c|''Cric crec'', ni'm dawr pe crocid.}}</br>
A thrachefn, i ddynwared un yn yfed:—{{c|Cue cue yn yfed sucan.}}</br>Yr un modd, ''Rhys Cain'', i'r gwyddau:—</br>{{c|Cywion ar dor afon deg,</br>Crygion, yn crio wegeg.}}
Ar yr un egwyddor y mac ''Aristophan'', y Cymwawdiwr Groeg, yn efelychu crawciad llyffaint â—</br>{{c|Βρεκεκεκέξ kόαξ kόαξ</br>}}Ac ''Ennius'' (yn ol ''Servius'') a ddynwared sain udgorn a'r gair ''taratantara''; a cheir llawer o gyffelyb anghreifftiau yn y rhan fwyaf o ieithoedd, hen a diweddar.</ref>; wrth y drws hwn yr oedd llawer o lyfrau, rhai potiau a fflageni, ambell ffon a phastwn, rhai cwmpasau, a chyrt, a chêr llongau. Fe aeth ffordd yma ysgolheigion,' ebr fi. 'Do,' ebr yntau, 'rai unig a dihelp, a phell oddi wrth amgeledd a'u carai, wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddi arnynt.'<ref>Nay, many times they are stript, ere they are laid, and destroyed for want of clothes to keep them warm.—''Estrange's Visions of Quevedo, p. 41.''</ref> 'Dyna,' ebr ef (am y potiau) 'weddillion y cymdeithion da, a fydd â'u traed yn fferu tan feinciau, tra bo eu penau yn berwi gan ddiod a dwndwr: a'r pethau draw sy'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd eiryog, ac i farsiandwyr y Gogledd-for.'<noinclude><references/></noinclude>
6jf76r0hil9kxgxru56xnub78f47uif
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/58
104
20470
39259
2022-08-22T11:39:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn nesaf oedd ysgerbwd teneu a elwid Angeu Ofn; gellid
gweled trwy hwn nas meddai'r un galon; ac wrth ddrws
hwn hefyd godau, a chistiau, a chloiau, a chestyll. I hwn yr
air llogwyr, a drwg wladwyr, a gorthrymwyr, a rhai o'r
mwrdrwyr;<ref>'Mwrdrwyr'=''murderers'': llofruddion, murnwyr.</ref> ond yr oedd llawer o'r rhai hyny yn galw heibio i'r drws nesaf, lle yr oedd Angeu a elwid Crog, â'i gortyn
parod am ei wddf.
Nesaf i hyny oedd Angeu Cariad, ac wrth ei draed fyrdd
o bob offer a llyfrau miwsig<ref>''Music''—cerddoriaeth, peroriaeth, alaw.<ref>{{c|Mwyna' cerdd ym min gwerddon}}</br>{{c|Ym mysg llu'n gwau minsig llon.}}</br>{{c|::—''D. ab Gwilym.''}}</ref> a cherdd, a llythyrau mwynion,
ac ysmotiau a lliwiau i harddu yr wyneb, a mil o ryw siabas<ref>'Sciabas' (arg. 1703)=siabas. Siabas deganau=teganau diwerth, gwael, oferwag, neu ddiddefnydd; pethau bychain diles; ffrilion; sothach.</br>{{c|Cnau, ac eirin, a phob ''siabas'',}}</br>{{c|
Afalau, rhwnyn, a rhai crabas.}}{{c|::—''Huw Morus.''}}</ref>
deganau i'r pwrpas hwnw; a rhai cleddyfau. 'A'r rhai hyn,'
eb efe, y bu'r herwyr<ref>Gwel t. 26.</ref> yn ymladd am y feinwen, a rhai yn
eu lladd eu hunain.' Mi a welwn nad oedd yr Angeu yma
ond cibddall.
Y drws nesaf yr oedd yr Angeu gwaethaf ei liw o'r cwbl a'i
afu wedi diflanu; fo'i gelwid Angou Cenfigen. 'Hwn,' ebr
Cwsg, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr, ac ambell
farchoges a fydd yn ymwenwyno wrth y gyfraith a barodd i
wraig ymddarostwng i'w gwr.' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, beth
yw marchoges? Marchoges,' ebr ef, 'y gelwir yma y
ferch a fyn farchogaeth ei gwr, ei chymmydogaeth, a'i gwlad,
os geill; ac o hir farchogaeth, hi ferchyg ddiawl o'r diwedd,
o'r drws yna hyd yn annwn.'
Yn nesaf yr oedd drws Angeu Uchelgais, i'r sawl sy'n
ffroenio yn uchel, ac yn tori eu gyddfau eisieu edrych tan eu
traed; wrth hwn yr oedd coronau, teyrnwiail, banerau, a
phob papyrau am swyddau, pob arfau bonedd a rhyfel.
Ond cyn i mi edrych ychwaneg o'r aneirif ddrysau hyny,
clywn lais yn peri i minnau wrth fy henw ymddattod. Ar y
gair mi'm clywn yn dechreu toddi, fel caseg eira yng ngwres yr
haul; yna rhoes fy Meistr i mi ryw ddiod
gwsg, fel yr hunais;<noinclude><references/></noinclude>
dn951zdb2hrh36mtw1usws985l5fnpr
39260
39259
2022-08-22T11:43:59Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn nesaf oedd ysgerbwd teneu a elwid Angeu Ofn; gellid
gweled trwy hwn nas meddai'r un galon; ac wrth ddrws
hwn hefyd godau, a chistiau, a chloiau, a chestyll. I hwn yr
air llogwyr, a drwg wladwyr, a gorthrymwyr, a rhai o'r
mwrdrwyr;<ref>'Mwrdrwyr'=''murderers'': llofruddion, murnwyr.</ref> ond yr oedd llawer o'r rhai hyny yn galw heibio i'r drws nesaf, lle yr oedd Angeu a elwid Crog, â'i gortyn
parod am ei wddf.
Nesaf i hyny oedd Angeu Cariad, ac wrth ei draed fyrdd
o bob offer a llyfrau miwsig<ref>''Music''—cerddoriaeth, peroriaeth, alaw.</br>{{c|Mwyna' cerdd ym min gwerddon</br>Ym mysg llu'n gwau minsig llon.</br>::—''D. ab Gwilym.''}}</ref> a cherdd, a llythyrau mwynion,
ac ysmotiau a lliwiau i harddu yr wyneb, a mil o ryw siabas<ref>'Sciabas' (arg. 1703)=siabas. Siabas deganau=teganau diwerth, gwael, oferwag, neu ddiddefnydd; pethau bychain diles; ffrilion; sothach.</br>{{c|Cnau, ac eirin, a phob ''siabas'',</br>
Afalau, rhwnyn, a rhai crabas.</br>—''Huw Morus.''}}</ref>
deganau i'r pwrpas hwnw; a rhai cleddyfau. 'A'r rhai hyn,'
eb efe, y bu'r herwyr<ref>Gwel t. 26.</ref> yn ymladd am y feinwen, a rhai yn
eu lladd eu hunain.' Mi a welwn nad oedd yr Angeu yma
ond cibddall.
Y drws nesaf yr oedd yr Angeu gwaethaf ei liw o'r cwbl a'i
afu wedi diflanu; fo'i gelwid Angou Cenfigen. 'Hwn,' ebr
Cwsg, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr, ac ambell
farchoges a fydd yn ymwenwyno wrth y gyfraith a barodd i
wraig ymddarostwng i'w gwr.' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, beth
yw marchoges? Marchoges,' ebr ef, 'y gelwir yma y
ferch a fyn farchogaeth ei gwr, ei chymmydogaeth, a'i gwlad,
os geill; ac o hir farchogaeth, hi ferchyg ddiawl o'r diwedd,
o'r drws yna hyd yn annwn.'
Yn nesaf yr oedd drws Angeu Uchelgais, i'r sawl sy'n
ffroenio yn uchel, ac yn tori eu gyddfau eisieu edrych tan eu
traed; wrth hwn yr oedd coronau, teyrnwiail, banerau, a
phob papyrau am swyddau, pob arfau bonedd a rhyfel.
Ond cyn i mi edrych ychwaneg o'r aneirif ddrysau hyny,
clywn lais yn peri i minnau wrth fy henw ymddattod. Ar y
gair mi'm clywn yn dechreu toddi, fel caseg eira yng ngwres yr
haul; yna rhoes fy Meistr i mi ryw ddiod
gwsg, fel yr hunais;<noinclude><references/></noinclude>
e8cci7rh8n7hua7nmc4bh1cjz7fsjsm