Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.1 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/29 104 33242 164137 164136 2026-05-05T16:10:48Z ~2026-27360-57 4135 164137 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>a'i newydd-deb yn ddisglair. Wrth syllu yn graffach ar y tri dyn gwelodd fod pob un ohonynt yn gwisgo mwgwd du. Y gŵr oedd yn y canol a siaradodd gyntaf, ac wrth glywed ei lais daeth i feddwl yr yswain iddo ei gyfarfod o'r blaen. "Os rhoddwch chwi'r ysgrepan ledr yna i ni yn ddi-dwrw, cewch chwithau fyned ymlaen heb niwed." "Oho!" meddai'r yswain, oedd wedi arfer di-brisio perygl. "Yn ddi-dwrw, aie? Pwy ddywedodd wrthyt ti fod gennyf ysgrepan ledr o gwbl?" "Gwyddom yn dda amdani," atebodd y lleidr. "Gwyddom beth sydd ynddi. Waeth heb wastraffu mwy o amser." Chwarddodd Morys, a'i lais mawr yn diasbedain yn nhawelwch yr hwyr. "Beth a ddwedi di, Lewys?" meddai'n chwareus, ond heb dynnu golwg oddi ar y lladron. Gweryrodd y ceffyl yn gyffrous, a dechreuodd symud ei draed yn awyddus. Sylwodd Morys bod un o'r lladron yn ddyn mawr corffol, ym marchogaeth merlyn mwy nag eiddo'r lleill. Nesaodd y lladron at ei gilydd. Tynhaodd yntau ei afael yn yr afwyn. Trosai a throai'r march du yn ddiamynedd. "Yr ydym yn disgwyl," meddai'r gŵr canol. "Waeth i chwi yn awr nac eto. Mae rhywun arall yn eich aros ymhellach ymlaen. Fydd yn y fan honno ddim gwastraffu geiriau. Cymerwch fy ngair." "Ai felly?" meddai yntau, a'i waed yn dechrau twymo. "Mae hi'n gwella, Lewys." "Paid â hel dail efo fo," meddai'r mwyaf o'r tri lleidr, yn fochynnaidd, ac ar y gair cofiodd Morys iddo weld y gŵr hwnnw wrth simdde fawr Tafarn y Cwch noson yr wyl mabsant. "Ie," meddai, "gorchwyl diflas yw hel dail." Ac ar hynny teimlodd Lewys yr ysbardun, a neidiodd ymlaen, fel pe na buasai merlynod y lladron ond pryfetach yr haf yn ei lwybr. Ac yn y cythrwfl aeth<noinclude><references/></noinclude> 1yshnhlf8bwaiirwjfbmc2s2cusdr04 Tudalen:Madam Wen.djvu/30 104 33243 164138 69034 2026-05-05T16:33:32Z ~2026-27360-57 4135 164138 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>un o'r merlynod i lawr, a thaflwyd y tri i anhrefn, ac meddai Wil Llanfihangel mewn ffwdan a siom, "Tân arno fo, Robin!" Clywodd Morys sŵn ergyd megis wrth ei sawdl, a charlamodd Lewys Ddu i lawr y ffordd fel carw o flaen cŵn, a'i bedolau mawr yn taro tân o'r cerrig fel gwreichion oddi ar eingion gof. Ac yn y pellter o'i ôl clywid trwst yr ymlidwyr. Cyn hir gwelodd llygad craff y march fintai arall o wŷr ar geffylau, digon mewn nifer i lenwi'r ffordd fel nad oedd modd myned rhagddo. Ac ni welai Morys y perygl. Arafodd Lewys ei gamre a gweryrodd yn gynhyrfus, fel pe dywedai nad oedd popeth yn iawn. Ac fel y nesâi, edrychai ar dde ac ar aswy am lwybr o ddihangfa. A deallodd ei feistr fod tramgwydd o'u blaenau. Nid oedd amser i'w golli ychwaith. Yr oeddynt wedi eu dal fel adar mewn rhwyd a'r lladron o'r ddeutu ar eu gwarthaf. Gollyngodd Morys yr afwynau. "Cymer y ffordd a fynni di, Lewys," meddai. Ar y dde yr oedd gwal gerrig a rhes o goed drain duon, ond ar yr aswy yr oedd clawdd pridd ac arno wrych, pum troedfedd o naid. Dewisodd Lewys y clawdd, a'r lladron ar ei sodlau. Gall mai'r cyffro a'i drysodd, neu hwyrach mai culni'r ffordd oedd yr achos. Trawodd garn ymhen y clawdd a syrthiodd bendramwnwgl i'r ffos yr ochr draw, a Morys yn ymdaenu ar wyneb y maes. Ond ni bu'r yswain yn hir cyn codi. Neidiodd i fyny a safodd yn ymyl ei farch, a'i ddryll yn ei law, a'i waed yn boeth. Ffroenai frwydr, ac nid oedd ofn arno, ond pryderai wrth weled Lewys yn oedi codi. Pan welodd y lladron faint yr helynt, teimlent yn hy. Ac nid oedd brys ar Wil ar ôl cael y llaw uchaf fel y tybiai. Coegai ar draul yr yswain, gan ddannod iddo mai ceisio dianc ar draws y meysydd a amcanai. Parhai'r march du i orwedd yn y fan y syrthiasai, ac aeth Morys i deimlo pryder dirfawr. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> gpo8xcx42pfm386emstzinfpy523gvl