Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.1
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Indecs:Ty Capel y Cwm.djvu
106
84402
164139
2026-05-06T19:00:17Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda ""
164139
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Ty Capel y Cwm
|Author=Robert David Rowland (Anthropos)
|Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam
|Year=1905
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:Ty Capel y Cwm]]
[[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]]
[[Categori:Nofelau]]
[[Categori:Llyfrau 1905]]
[[Categori:PD-old-70]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
sm9ikyne69j4s7osa5z0e14a1kcaabb
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/1
104
84403
164140
2026-05-06T19:01:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164140
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Ty Capel y Cwm.djvu|canol|600px|tudalen=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hv1p3yvxivb8x7alwaecxgzwhnlgnqn
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/118
104
84404
164141
2026-05-06T19:02:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164141
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Ty Capel y Cwm.djvu|canol|600px|tudalen=118]]<noinclude><references/></noinclude>
070y2skf1bn45qh09la55c1qubr17eq
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/117
104
84405
164142
2026-05-06T19:02:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164142
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/116
104
84406
164143
2026-05-06T19:02:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164143
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

{{c|GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rj6rstyce5gd9nardissx9o3t7p5rlz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/2
104
84407
164144
2026-05-06T19:03:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164144
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/3
104
84408
164145
2026-05-06T19:03:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164145
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/4
104
84409
164146
2026-05-06T19:07:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164146
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Ty Capel y Cwm (R D Rowland, Anthropos).jpg|canol|400px|bawd|{{c|Y PARCH. R. D. ROWLANDS (Anthropos).}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1y46giy5d2pl3o8665aw4lqmxn46jqb
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/5
104
84410
164147
2026-05-06T19:11:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164147
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>::CYFRES "Y PORTH PRYDFERTH."—IV.

{{c|{{Mmm-mawr|TY CAPEL}}
{{bach|Y}}
{{Mmm-mawr|CWM:}}}}

{{c|{{bach|GAN}}
{{Mm-mawr|ANTHROPOS,}}}}
{{c|AWDWR "Y PORTH PRYDFERTH," [[Oriau Gydag Enwogion|"ORIAU GYDAG ENWOGION]],
CAMRAU LLWYDDIANT, &C.}}}}

{{c|GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1905.}}

<noinclude><references/></noinclude>
ppxxketr9krlv77da88d620q8axuxzp
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/6
104
84411
164148
2026-05-06T19:15:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164148
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|I TI!}}}}
{{center block|
<poem>
Fy nidwyll ffrynd, dy ddenol ddawn,
A'th wên yn ysbrydoliaeth gawn,
Cefnogaist lawer ymgais wan,
Gan ddweyd,—"Dos rhagot!" yn y man
Daw hwyl a goleu hyfryd, clir,
Fel bore haf ar fôr a thir;
Ah! llawer awr ddigalon, brudd,
A wnaethost im' yn euraidd ddydd!
A phan yn hwylio'r llyfryn hwn
Fel bâd i nofio ar y llî,
Cyflwynaf ef, ni ddigi, gwn,—
</poem>

{{c|{{mawr|I TI!}}}}

<noinclude><references/></noinclude>
gwnet9zl1s7soldlwci8to5x3tmm6as
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/7
104
84412
164149
2026-05-06T19:24:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164149
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGYMADRODD.}}}}
{{center block|
<poem>
Y CHWERY'R haf ar "Foel y Rhedyn,"
Megis yn y dyddiau gynt,
Cluda'r awel ar ei hedyn
Sû y "Ddeuddwr" ar ei hynt;
A phan fyddo'r storm yn rhuo,
Pan deyrnasa'r gaeaf llwm,
Gydag Adgo, hoffwn grwydro
Llwybrau mebyd yn y Cwm!
</poem>

MAE'N ffaith hysbys fod y "Capel" a'r "Eglwys" wedi cael sylw nid bychan gan ysgrifenwyr Cymreig, a bod desgrifiadau manwl wedi eu rhoddi ohonynt, ac o'r cymeriadau amryfal y sydd, ac a fu yn arfer eu mynychu. Ond prin y gellir dywedyd hynny am y sefydliad â elwir ar lafar gwlad—"Ty'r Capel," yr hwn, fel rheol, sydd yn debyg i dy Justus. gynt,—"yn cyffwrdd a'r synagog." Ynddo ei hun, nid yw'r "Ty Capel," y rhan fynychaf, yn meddu nemawr o addurn na thegwch fel adeilad. Gellid meddwl,<noinclude><references/></noinclude>
3h3synaggfe95mj7me98pi9bx4sar5d
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/8
104
84413
164150
2026-05-06T19:25:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164150
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ambell waith, mai gweddillion coed â cherrig yr addoldy a gawsant eu casglu yn frysiog at eu gilydd, a'u gosod, gore gellid, ar ffurf ty annedd! Yn yr amser a fu, yr oedd llawer o'r mannau hyn yn ddolur llygad i bob perchen chwaeth, ac yn lleoedd difri i aros ynddynt yn nhrymder gaea,-y tô yn rhwyllog, a'r mwg yn llenwi yr ystafelloedd cyfyng a dwl. Ychydig o'r dosbarth hwn sydd yn aros heddyw, a phrysured yr adeg pan fo y diweddaf o'r murddynod anolygus wedi myned i ffordd yr holl ddaear!
Ond ar gyfer y rhai'n, y mae aml "Dy Capel" yng nghanol gwlad, ag y mae'n hyfryd gennym feddwl am dano. Gellid ysgrifenu y gair "Cysur" uwchben y drws; y mae yr aelwyd yn lân a chynnes, a'r croesaw yn ddiffuant. Dibynna hyn i gryn raddau ar y sawl fyddo yn gofalu am dano. Dawn werthfawr, a lled brin, ydyw y ddawn i "gadw" y "Ty Capel." Ceir rhai yn boenus o dawedog; eraill yn dra siaradus, ac yn tybied mai amcan bywyd ydyw mynegi neu wrando "rhyw newydd." Ceir dosbarth arall sydd yn llanw y swydd gyda lledneisrwydd a doethineb; yn gymdeithasgar a siriol, ac yn gwir ofalu am gysur pob ymwelydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
cl6b49wt0l6nrc7kpqsut0grg387szg
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/9
104
84414
164151
2026-05-06T19:26:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164151
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Portreadu un o'r rhai'n,—y math ore o "Dy Capel" y gwyddai yr awdwr am dano,—ydyw neges yr ystori seml sydd yn dilyn. Nid ffug ydyw y darlun. Yr oeddym yn adwaen "Marged Parri," ac yn falch o fod dan ei chronglwyd, ac yn swn ei dawn! Gosododd urddas ar ei dyledswyddau, a chadwodd y "Ty Capel " yn y Cwm yn lle cysegredig. Ni roddai achles i chwedleuydd segur, ac ni chaffai cyhuddwr y brodyr" groesi y trothwy. Mynychid y lle gan gymeriadau goreu yr ardal, ac yr oedd ymddiddanion yr aelwyd, yn ddyddan a nawsaidd, ac ysbryd dyn yn mynd yn well yn y gymdeithas.
Ac yn awr, wrth feddwl am danynt, y mae iâs o hiraeth yn ymdaenu dros fy nghalon. Yn iach! frodyr a chwiorydd caredig, mwyn. "Bydd melus fy myfyrdod am danoch." A phan fo y byd yn oer a diserch, caf eich cennad i ddod, ym mraich Adgof, am orig o ymgom ac adloniant i'r hen gynefin,—"TY CAPEL Y CWM."
{{c|Yr eiddoch oll,
{{bwlch|7em}}ANTHROPOS.}}
::Caernarfon,
:::''Rhagfyr, 1905.''<noinclude><references/></noinclude>
i5kv6r2f4ojv5opbld8w0c38h5e0y5f
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/10
104
84415
164152
2026-05-06T19:28:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Y CYNHWYSIAD. I. RHAGARWEINIAD II. AR FORE SABBOTH III. ELSIE MEREDYDD IV. Eos GWERFYL V. YR ORUCHWYLIAETH NEWYDD"
164152
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y CYNHWYSIAD.
I. RHAGARWEINIAD
II. AR FORE SABBOTH
III. ELSIE MEREDYDD
IV. Eos GWERFYL
V. YR ORUCHWYLIAETH NEWYDD<noinclude><references/></noinclude>
8v526ijtwewyidf8fp49wcjjj2irukj
164154
164152
2026-05-06T19:38:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164154
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNHWYSIAD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
[[Ty Capel y Cwm/Rhagarweiniad|I. RHAGARWEINIAD]]
[[Ty Capel y Cwm/Ar Fore Sabboth|II. AR FORE SABBOTH]]
[[Ty Capel y Cwm/Elsie Meredydd|III. ELSIE MEREDYDD]]
[[Ty Capel y Cwm/Eos Gwerfyl|IV. EOS GWERFYL]]
[[Ty Capel y Cwm/Yr Oruchwyliaeth Newydd|V. YR ORUCHWYLIAETH NEWYDD]]
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ro2hiersuu8r476etoe4judd5sw3coe
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/11
104
84416
164153
2026-05-06T19:36:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda " VI. "GŴR DIARTH O'R DE" VII. "SEIAT YR YMWELWYR" VIII. ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES IX. "DAFYDD TY'R CAPEL" X. YMADAWIAD YR EOS XI. NEWYDDION DA XII. Y NOSON OLAF"
164153
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>
VI. "GŴR DIARTH O'R DE"
VII. "SEIAT YR YMWELWYR"
VIII. ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES
IX. "DAFYDD TY'R CAPEL"
X. YMADAWIAD YR EOS
XI. NEWYDDION DA
XII. Y NOSON OLAF<noinclude><references/></noinclude>
te7f9z79cx5f2l8voqe6ei1soqqwiq9
164155
164153
2026-05-06T19:38:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164155
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
[[Ty Capel y Cwm/Gŵr Diarth o'r De|VI. "GŴR DIARTH O'R DE"]]
[[Ty Capel y Cwm/Seiat yr Ymwelwyr|VII. "SEIAT YR YMWELWYR"]]
[[Ty Capel y Cwm/Adgofion y Parch. Jacob Davies|VIII. ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES]]
[[Ty Capel y Cwm/Dafydd Ty'r Capel|IX. "DAFYDD TY'R CAPEL"]]
[[Ty Capel y Cwm/Ymadawiad Yr Eos|X. YMADAWIAD YR EOS]]
[[Ty Capel y Cwm/Newyddion Da|XI. NEWYDDION DA]]
[[Ty Capel y Cwm/Y Noson Olaf|XII. Y NOSON OLAF]]
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
1j978fbtocscww7ov4yw9b0f3mqtsn7
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/12
104
84417
164156
2026-05-06T19:44:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164156
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYMERIADAU.}}}}
{{center block|
<poem>
MARGED PARRI, Ty'r Capel.
DAFYDD, ei bachgen.

| ROLANT OWEN,
| rowspan=3|{{brace2|4|r}}Blaenoriaid.

| JOSEPH JONES,

| EDWARD Puw,
|}SHON WILLIAM, y Crydd.
EOS GWERFYL, Arweinydd y Côr.
PARCH. JACOB DAVIES, Pentre Gwyn.
PARCH. MORGAN REES, Sir Aberteifi.
MR. JAMES MORRIS, Ysgolfeistr.
MR. MEREDYDD, Plas y Wern.
ELSIE MEREDYDD.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
sdgv98metnbyz3mjlw6taljh9xjloij
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/13
104
84418
164157
2026-05-06T19:57:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164157
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c{{Mmm-mawr|TY CAPEL Y CWM.

{{c|{{mawr|PENNOD I. RHAGARWEINIAD.}}}}
HEN sefydliad, bellach, yn ein gwlad ydyw y Tŷ Capel. Pa bryd, neu pa fodd y daeth i fodolaeth, nid ydyw haneswyr eglwysig wedi penderfynu. Yn wir, hyd yma, ychydig a ddywedir ganddynt ar y pwnc. Y mae gennym hanes capelau ac eglwysi mewn cyflawnder, ond pwy sydd wedi ymgymeryd âg ysgrifennu mewn trefn hanes a datblygiad y Tŷ Capel? Ac eto y mae yn ddiddadl fod yna ddefnyddiau hanes,―hanes dyddorus a gwerthfawr yn gorwedd yn y fangre hon. Onid yno y mae llawer o waith yr "achos" yn cael ei gychwyn? Dyma fan cyfarfod y swydd- ogion a'r aelodau. Ynddo ef y treulia y<noinclude><references/></noinclude>
mybjx7chvx1qvisqk9yo7dm18mypt0c
164158
164157
2026-05-06T19:58:50Z
AlwynapHuw
1710
164158
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|TY CAPEL Y CWM.

{{c|{{mawr|PENNOD I. RHAGARWEINIAD.}}}}
HEN sefydliad, bellach, yn ein gwlad ydyw y Tŷ Capel. Pa bryd, neu pa fodd y daeth i fodolaeth, nid ydyw haneswyr eglwysig wedi penderfynu. Yn wir, hyd yma, ychydig a ddywedir ganddynt ar y pwnc. Y mae gennym hanes capelau ac eglwysi mewn cyflawnder, ond pwy sydd wedi ymgymeryd âg ysgrifennu mewn trefn hanes a datblygiad y Tŷ Capel? Ac eto y mae yn ddiddadl fod yna ddefnyddiau hanes,―hanes dyddorus a gwerthfawr yn gorwedd yn y fangre hon. Onid yno y mae llawer o waith yr "achos" yn cael ei gychwyn? Dyma fan cyfarfod y swydd- ogion a'r aelodau. Ynddo ef y treulia y<noinclude><references/></noinclude>
a0qn50kksky8tjrziarzjbw0i1zadpg
164196
164158
2026-05-06T22:10:00Z
AlwynapHuw
1710
164196
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|TY CAPEL Y CWM.

{{c|{{mawr|PENNOD I.
RHAGARWEINIAD.}}}}
HEN sefydliad, bellach, yn ein gwlad ydyw y Tŷ Capel. Pa bryd, neu pa fodd y daeth i fodolaeth, nid ydyw haneswyr eglwysig wedi penderfynu. Yn wir, hyd yma, ychydig a ddywedir ganddynt ar y pwnc. Y mae gennym hanes capelau ac eglwysi mewn cyflawnder, ond pwy sydd wedi ymgymeryd âg ysgrifennu mewn trefn hanes a datblygiad y Tŷ Capel? Ac eto y mae yn ddiddadl fod yna ddefnyddiau hanes,―hanes dyddorus a gwerthfawr yn gorwedd yn y fangre hon. Onid yno y mae llawer o waith yr "achos" yn cael ei gychwyn? Dyma fan cyfarfod y swydd- ogion a'r aelodau. Ynddo ef y treulia y<noinclude><references/></noinclude>
lbp33hxs3m5fvuudzamlnhzz0i5pg80
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/14
104
84419
164159
2026-05-06T19:59:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a di- gysur fel y mae aro...
164159
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a di- gysur fel y mae aros ynddo yn ddigon i fagu y pruddglwyf ar hirddydd haf. Ceir un arall sydd yn peri i'r ymwelydd adgofio geiriau Petr,-"Da yw i ni fod yma;' rhyw dangnefedd a hedd sydd yn parotoi ei ysbryd at waith y cysegr.
yn
Meddyliau o'r fath oedd yn fy meddiannu pan yn cyrchu, ar nawn Sadwrn, i Dŷ Capel y Cwm. Er mwyn yr anghyfar- wydd, hwyrach y caniateir i mi ddweud gair neu ddau am ddaearyddiaeth yr ardal. Y mae ei llinynau wedi disgyn yn un siroedd Gogledd Cymru,-sir enwog am ei bryniau a'i mân-ddyffrynnoedd. Rhwng y bryniau gwyrddleision hynny, cein cymoedd tawel, neillduedig, ac afonydd gloewon yn dwndwr trwyddynt. Ac un
Q
o'r afonydd tlysaf y gwyddom am dani ydyw y " Ddeuddwr;" mae yr olwg arni yn yr haf yn gwirio darlun y bardd,—
"Elfen deneu, ysblennydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd."
Gyda glan y Ddeuddwr y mae'r ffordd henafol sy'n dirwyn i bentref y Rhyd; ac oddi yno, dros y mynydd i'r dyffryn ag y mae ei enw, fel yr eiddo ambell ddarlithydd, yn fyd-enwog.
Y mae'r capel yn agos i filldir ar y naill ochr i'r pentref. Y rheswm am hynny, yn ol traddodiad credadwy, ydoedd y ffaith fod y gynulleidfa yn dra gwasgarog; a rhag i'r pentrefwyr ymddangos yn rhy hunangeisiol, aed â'r capel tua hanner y ffordd i gyfarfod y bobl oedd yn dod o'r wlad. Capel hen ffasiwn, wrth gwrs; muriau ysgwar, buarth lled helaeth o flaen yr addoldy, ac ar ei dalcen, er yn llai ei faintioli, y mae'r "Tŷ Capel." O ran ei ymddanghosiad allanol, y mae yn hynod lanwedd a thwt; gardd fechan o bobtu'r drws, lle y tyf y rhosmari, rhosynau, "hen ŵr," y Sweet William, a'r pansi.
Gan fod yr hin yn braf, y mae y ddor
Q
yn hanner-agored, a chath ddu, fawr, yn pendwmpian ar y rhiniog. Ond gyda bod ein troed ar y buarth, dyna'r gath yn codi yn ei meingefn, yn troi i'r tŷ, ac yn mewian. Pe buasid yn aralleirio ei nodau i'r Gym- raeg, gellid tybied mai eu hystyr oedd hyn,—"Dowch yma, meistres; y mae'r pregethwr yn dwad at y tŷ." Fodd bynnag, yr oedd Marged Parri yn y golwg mewn eiliad, ac yr oedd "croesaw calon" yn argraffedig ar ei gwedd

Dowch i mewn rhag ych blaen. Sciet ene gath! mae hon o gwmpas traed rhyw- un o hyd. Edrach ar y blode yr ydech ch'i? Piti na fasech ch'i yma pan oedd y rhosys' ar y goeden bella ene. Yr oedd 'i hogle nhw yn llenwi'r tŷ! Ydech ch'i wedi blino, deudwch? Mae'r hen ffordd ene yn hir, a welis i neb yn mynd i'r dre' heddyw, neu mi fasech yn siwr o lift. Oes arnoch ch'i isio bwyd garw? Oes, mi wn. Wel, mi gewch 'gypaned' rhag blaen. Nês i ddim tân yn y 'parlwr;' gobeithio na chewch ch'i ddim anwyd ar ol cerdded. Dyma'r slippers; mi af i roi y llestri yn barod." Ac ymaith â hi.
Parlwr y Tŷ Capel! Gan y byddwn yn
Q
son cryn dipyn am dano, ac yn debyg o gyfarfod âg amryw o'r "cymeriadau" sydd yn arfer ei fynychu, dichon mai yma y dylid rhoddi disgrifiad byr o hono. Y mae yn perthyn i bob Tŷ Capel, hyd y gwyddom. ryw fath o barlwr. Arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall; ac y mae rhai, dybygid, heb unrhyw ogoniant o gwbl. Ond y mae parlwr Tŷ Capel y Cwm yn perthyn i'r dosbarth goreu. Nid oes dim addurniadau ynddo,-dim gwych- der celfyddydol. Dodrefn plaen a chadarn, bwrdd mawr yng nghanol yr ystafell, nifer o gadeiriau derw y gallai y "corff trymaf o dduwinyddiaeth" eistedd ynddynt yn ddiberygl, cwpbwrdd yn y gornel, lle y cedwir dirgelion yr achos yn y lle, ac astell yn cynnwys nifer o lyfrau y cyfundeb. Ar y muriau o amgylch ceir darluniau o enwogion y pulpud yng Nghymru, megis Daniel Rowland, Llan- geithio; Pantycelyn; Charles o'r Bala; John Elias o Fôn, &c.
A chan ein bod yn adrodd hanes yr hyn sydd, weithian, wedi myned heibio, ni byddai y disgrifiad yn gyflawn heb i ni gyfeirio yn gynnil at nifer o bibelli, yn amrywio mewn lliw ac oedran oeddynt yn
Q
gorwedd yn daclus ar y silff uwchben y tân. Erbyn hyn, fel y gwyddis, y mae y pethau yna wedi eu diarddel o'r Tŷ Capel, a gobeithio nad oes yna ddim gwaeth wedi cymeryd eu lle.
Ond dyma Marged Parri wedi mynd drwy y parotoadau; y tecell wedi berwi, a hithau yn gosod y llian gwyn ar y bwrdd. Y mae pawb sydd yn byw yn y Cwm, a llu o bregethwyr ar hyd a lled y byd, yn adnabod Marged Parri, Tŷ Capel. Y mae yno ers blynyddau. Dynes fyrdew, wridog, lanwaith ydyw Marged Parri, ac yn llanw ei swydd gyda'r gofal mwyaf. Y mae hi, bellach, yn weddw ers blynyddau, ac iddi un mab yn fyw,—"Dafydd Tŷ Capel" fel y byddid yn ei alw. Ymfudodd i'r America tua deng mlynedd yn ol, ond nid ydyw yn anghofio ei fam. Y mae ei lythyrau a'i bresantau mynych yn melysu llawer ar ei bywyd, er y dywed fod "hireth am Dafydd" bron a'i llethu ambell ddiwrnod.
"Mae'n dda gen' i," meddai, wrth i ni fwyta ein swper y noswaith honno, "y mae'n dda gen' i ych bod yn credu mewn dwad i'ch taith yn weddol gynnar ar nos Sadwrn. 'Dwy i ddim yn meddwl y dyle'r
Q
un pregethwr aros yn hwyr, os na fydd rhyw anghaffael wedi digwydd iddo. Dene fel y bydde yr hen weinidogion yn wastad. Mi wyddwn i i'r funud bron pryd i ddisgwyl John Jones, y Rhiw, a Dafydd William, y Llwyn. Ond am y to ifanc yma, ŵyr neb ar wyneb y ddaear pwy adeg y do nhw. Bythefnos yn ol yr oeddwn i'n disgwyl, ac yn disgwyl, a dim hanes am y pregethwr. Ond wedi i mi fynd i ngwely, dyma guro wrth y drws, a'r hen gath yma yn mewian dros y tŷ, a phwy oedd yno ond y fo.
Mi nes y ngore, fel y medrwn i, er fod y tân wedi mynd allan, a hithe yn tynnu at hanner nos."
"Mae yn debyg fod yna ryw eglurhad ar y mater," meddwn, "a bod yn ddrwg ganddo roddi trafferth i chwi ar y fath adeg."
"O diar oedd. Yr oedd o yn hollol ddiarth yma o'r blaen. Bachgen o sir Gaernarfon ydi o, ddyliwn, ac mi gamgymerodd rwsut wrth y peder croesffordd sydd tu draw i Cwm Llan, a wybu o ddim byd nes oedd o yn ymyl capel y "Sentars ymhen arall y plwy'. Yr oedd o wedi blino yn anwedd erbyn dwad yma, a
Q
hwyrach fod gynddo fo dipyn o ofn hefyd."
"Synwn i ddim. Ond yr wyf yn sicr eich bod wedi maddeu y cwbl, fel arfer."
"Maddeu wir! 'Doedd hynny ddim yn annodd. Mi gofies fod gen' i fachgen fy hunan, ymhell oddi cartre', a'i fod yntau wedi cael llawer o garedigrwydd gan estroniaid. O ran hynny, yr oedd o yn ddigon tebyg i Dafydd cyn iddo fynd i ffwrdd. Ac wedi i mi ddallt pethe yn iawn, yr oedd gynno fo gefnder yn byw yn yr un dre' a Dafydd, ac mi ddeudodd y b'ase fo yn 'sgrifennu ato fo, ar ol iddo fo gael rhwbeth oedd yn alw yn exam. oddiar 'i feddwl."
"Mi welaf eich bod wedi mynd yn benna ffrindia, Marged Parri."
Wel, do, welwch ch'i, ac yn enwedig ar ol i mi ei glywed o yn pregethu fore Sul. Yr adnod honno oedd y text,—'A'i asgell y cysgoda efe drosot, a than ei adenydd y byddi diogel.' Yr oedd y bregeth yn fy nharo i yn anghyffredin. Mi ges ryw olwg ar amddiffyn Duw dros y weddw a'r amddifad oedd yn peri i mi glosio i gysgod yr
Q
Hollalluog. Ac yr oedd yn dda gen i weld ei fod o wedi plesio pobol y 'sêt fawr' yma hefyd. Y peth cynta' glywes i ar ol dwad i'r tŷ oedd un o'r blaenoriaid yma yn gofyn am 'gyhoeddiad.' Ac wrth iddo fo fynd i ffwrdd, dyma fo yn deud, 'Mi fydda' i yn gwybod y ffordd y tro nesa', ac mi ddof yma yn gynnar, gewch ch'i weld!"
Wn i ddim oedd hi'n siarad ar ddamhegion a'i peidio, ond mi ddaethum i'r pen- derfyniad fod athroniaeth Marged Parri yn cynnwys y ddau osodiad a ganlyn,—
1. Mynd i orffwys yn gynnar ar nos Sadwrn.
2. Codi yn brydlon fore Sul.<noinclude><references/></noinclude>
cbctdyk3d0qr0ljalq1it88s5fu1nv6
164160
164159
2026-05-06T20:00:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164160
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a di- gysur fel y mae aros ynddo yn ddigon i fagu y pruddglwyf ar hirddydd haf. Ceir un arall sydd yn peri i'r ymwelydd adgofio geiriau Petr,-"Da yw i ni fod yma;' rhyw dangnefedd a hedd sydd yn parotoi ei ysbryd at waith y cysegr.
Meddyliau o'r fath oedd yn fy meddiannu pan yn cyrchu, ar nawn Sadwrn, i Dŷ Capel y Cwm. Er mwyn yr anghyfar- wydd, hwyrach y caniateir i mi ddweud gair neu ddau am ddaearyddiaeth yr ardal. Y mae ei llinynau wedi disgyn yn un siroedd Gogledd Cymru,-sir enwog am ei bryniau a'i mân-ddyffrynnoedd. Rhwng y bryniau gwyrddleision hynny, cein cymoedd tawel, neillduedig, ac afonydd gloewon yn dwndwr trwyddynt. Ac un<noinclude><references/></noinclude>
ei5xdcx8vn6thf904autnkks5oigtrq
164163
164160
2026-05-06T20:05:03Z
AlwynapHuw
1710
164163
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a digysur fel y mae aros ynddo yn ddigon i fagu y pruddglwyf ar hirddydd haf. Ceir un arall sydd yn peri i'r ymwelydd adgofio geiriau Petr,—"Da yw i ni fod yma;' rhyw dangnefedd a hedd sydd yn parotoi ei ysbryd at waith y cysegr.
Meddyliau o'r fath oedd yn fy meddiannu pan yn cyrchu, ar nawn Sadwrn, i Dŷ Capel y Cwm. Er mwyn yr anghyfarwydd, hwyrach y caniateir i mi ddweud gair neu ddau am ddaearyddiaeth yr ardal. Y mae ei llinynau wedi disgyn yn un siroedd Gogledd Cymru,—sir enwog am ei bryniau a'i mân-ddyffrynnoedd. Rhwng y bryniau gwyrddleision hynny, cein cymoedd tawel, neillduedig, ac afonydd gloewon yn dwndwr trwyddynt. Ac un<noinclude><references/></noinclude>
l0b76a2z9i5fnxptpx67yaikwjdbfp1
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/15
104
84420
164161
2026-05-06T20:02:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164161
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r afonydd tlysaf y gwyddom am dani ydyw y " Ddeuddwr;" mae yr olwg arni yn yr haf yn gwirio darlun y bardd,—
{{center block|
<poem>
"Elfen deneu, ysblennydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd."
</poem>

Gyda glan y Ddeuddwr y mae'r ffordd henafol sy'n dirwyn i bentref y Rhyd; ac oddi yno, dros y mynydd i'r dyffryn ag y mae ei enw, fel yr eiddo ambell ddarlithydd, yn fyd-enwog.
Y mae'r capel yn agos i filldir ar y naill ochr i'r pentref. Y rheswm am hynny, yn ol traddodiad credadwy, ydoedd y ffaith fod y gynulleidfa yn dra gwasgarog; a rhag i'r pentrefwyr ymddangos yn rhy hunangeisiol, aed â'r capel tua hanner y ffordd i gyfarfod y bobl oedd yn dod o'r wlad. Capel hen ffasiwn, wrth gwrs; muriau ysgwar, buarth lled helaeth o flaen yr addoldy, ac ar ei dalcen, er yn llai ei faintioli, y mae'r "Tŷ Capel." O ran ei ymddanghosiad allanol, y mae yn hynod lanwedd a thwt; gardd fechan o bobtu'r drws, lle y tyf y rhosmari, rhosynau, "hen ŵr," y ''Sweet William'', a'r pansi.
Gan fod yr hin yn braf, y mae y ddor<noinclude><references/></noinclude>
4q9cw24x09rf0cn10klbzqet8qxkwfs
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/16
104
84421
164162
2026-05-06T20:03:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164162
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn hanner-agored, a ''chath ddu'', fawr, yn pendwmpian ar y rhiniog. Ond gyda bod ein troed ar y buarth, dyna'r gath yn codi yn ei meingefn, yn troi i'r tŷ, ac yn mewian. Pe buasid yn aralleirio ei nodau i'r Gym- raeg, gellid tybied mai eu hystyr oedd hyn,—"Dowch yma, meistres; y mae'r pregethwr yn dwad at y tŷ." Fodd bynnag, yr oedd Marged Parri yn y golwg mewn eiliad, ac yr oedd "croesaw calon" yn argraffedig ar ei gwedd,—
Dowch i mewn rhag ych blaen. Sciet ene gath! mae hon o gwmpas traed rhywun o hyd. Edrach ar y blode yr ydech ch'i? Piti na fasech ch'i yma pan oedd y rhosys' ar y goeden bella ene. Yr oedd 'i hogle nhw yn llenwi'r tŷ! Ydech ch'i wedi blino, deudwch? Mae'r hen ffordd ene yn hir, a welis i neb yn mynd i'r dre' heddyw, neu mi fasech yn siwr o lift. Oes arnoch ch'i isio bwyd garw? Oes, mi wn. Wel, mi gewch 'gypaned' rhag blaen. Nês i ddim tân yn y 'parlwr;' gobeithio na chewch ch'i ddim anwyd ar ol cerdded. Dyma'r slippers; mi af i roi y llestri yn barod." Ac ymaith â hi.
Parlwr y Tŷ Capel! Gan y byddwn yn<noinclude><references/></noinclude>
8mf9t9m2y1fh8ja0lxdt4aet7oognd5
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/17
104
84422
164164
2026-05-06T20:07:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164164
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>son cryn dipyn am dano, ac yn debyg o gyfarfod âg amryw o'r "cymeriadau" sydd yn arfer ei fynychu, dichon mai yma y dylid rhoddi disgrifiad byr o hono. Y mae yn perthyn i bob Tŷ Capel, hyd y gwyddom. ryw fath o barlwr. Arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall; ac y mae rhai, dybygid, heb unrhyw ogoniant o gwbl. Ond y mae parlwr Tŷ Capel y Cwm yn perthyn i'r dosbarth goreu. Nid oes dim addurniadau ynddo,—dim gwychder celfyddydol. Dodrefn plaen a chadarn, bwrdd mawr yng nghanol yr ystafell, nifer o gadeiriau derw y gallai y "corff trymaf o dduwinyddiaeth" eistedd ynddynt yn ddiberygl, cwpbwrdd yn y gornel, lle y cedwir dirgelion yr achos yn y lle, ac astell yn cynnwys nifer o lyfrau y cyfundeb. Ar y muriau o amgylch ceir darluniau o enwogion y pulpud yng Nghymru, megis Daniel Rowland, Llangeithio; Pantycelyn; Charles o'r Bala; John Elias o Fôn, &c.
A chan ein bod yn adrodd hanes yr hyn sydd, weithian, wedi myned heibio, ni byddai y disgrifiad yn gyflawn heb i ni gyfeirio yn gynnil at nifer o bibelli, yn amrywio mewn lliw ac oedran oeddynt yn<noinclude><references/></noinclude>
h4m4u7vo94f3nmc1kre3i074zdo09b9
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/18
104
84423
164165
2026-05-06T20:07:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164165
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gorwedd yn daclus ar y silff uwchben y tân. Erbyn hyn, fel y gwyddis, y mae y pethau yna wedi eu diarddel o'r Tŷ Capel, a gobeithio nad oes yna ddim gwaeth wedi cymeryd eu lle.
Ond dyma Marged Parri wedi mynd drwy y parotoadau; y tecell wedi berwi, a hithau yn gosod y llian gwyn ar y bwrdd. Y mae pawb sydd yn byw yn y Cwm, a llu o bregethwyr ar hyd a lled y byd, yn adnabod Marged Parri, Tŷ Capel. Y mae yno ers blynyddau. Dynes fyrdew, wridog, lanwaith ydyw Marged Parri, ac yn llanw ei swydd gyda'r gofal mwyaf. Y mae hi, bellach, yn weddw ers blynyddau, ac iddi un mab yn fyw,—"Dafydd Tŷ Capel" fel y byddid yn ei alw. Ymfudodd i'r America tua deng mlynedd yn ol, ond nid ydyw yn anghofio ei fam. Y mae ei lythyrau a'i bresantau mynych yn melysu llawer ar ei bywyd, er y dywed fod "hireth am Dafydd" bron a'i llethu ambell ddiwrnod.
"Mae'n dda gen' i," meddai, wrth i ni fwyta ein swper y noswaith honno, "y mae'n dda gen' i ych bod yn credu mewn dwad i'ch taith yn weddol gynnar ar nos Sadwrn. 'Dwy i ddim yn meddwl y dyle'r<noinclude><references/></noinclude>
jce6vvpl5no47vsacthn0ul91gyjefq
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/19
104
84424
164166
2026-05-06T20:08:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164166
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un pregethwr aros yn hwyr, os na fydd rhyw anghaffael wedi digwydd iddo. Dene fel y bydde yr hen weinidogion yn wastad. Mi wyddwn i i'r funud bron pryd i ddisgwyl John Jones, y Rhiw, a Dafydd William, y Llwyn. Ond am y to ifanc yma, ŵyr neb ar wyneb y ddaear pwy adeg y do nhw. Bythefnos yn ol yr oeddwn i'n disgwyl, ac yn disgwyl, a dim hanes am y pregethwr. Ond wedi i mi fynd i ngwely, dyma guro wrth y drws, a'r hen gath yma yn mewian dros y tŷ, a phwy oedd yno ond y fo.
Mi nes y ngore, fel y medrwn i, er fod y tân wedi mynd allan, a hithe yn tynnu at hanner nos."
"Mae yn debyg fod yna ryw eglurhad ar y mater," meddwn, "a bod yn ddrwg ganddo roddi trafferth i chwi ar y fath adeg."
"O diar oedd. Yr oedd o yn hollol ddiarth yma o'r blaen. Bachgen o sir Gaernarfon ydi o, ddyliwn, ac mi gamgymerodd rwsut wrth y peder croesffordd sydd tu draw i Cwm Llan, a wybu o ddim byd nes oedd o yn ymyl capel y "Sentars ymhen arall y plwy'. Yr oedd o wedi blino yn anwedd erbyn dwad yma, a<noinclude><references/></noinclude>
ioffdhtn5kztlekrcl3d7iedkn7d66d
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/20
104
84425
164167
2026-05-06T20:09:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164167
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwyrach fod gynddo fo dipyn o ofn hefyd."
"Synwn i ddim. Ond yr wyf yn sicr eich bod wedi maddeu y cwbl, fel arfer."
"Maddeu wir! 'Doedd hynny ddim yn annodd. Mi gofies fod gen' i fachgen fy hunan, ymhell oddi cartre', a'i fod yntau wedi cael llawer o garedigrwydd gan estroniaid. O ran hynny, yr oedd o yn ddigon tebyg i Dafydd cyn iddo fynd i ffwrdd. Ac wedi i mi ddallt pethe yn iawn, yr oedd gynno fo gefnder yn byw yn yr un dre' a Dafydd, ac mi ddeudodd y b'ase fo yn 'sgrifennu ato fo, ar ol iddo fo gael rhwbeth oedd yn alw yn exam. oddiar 'i feddwl."
"Mi welaf eich bod wedi mynd yn benna ffrindia, Marged Parri."
Wel, do, welwch ch'i, ac yn enwedig ar ol i mi ei glywed o yn pregethu fore Sul. Yr adnod honno oedd y ''text'',—'A'i asgell y cysgoda efe drosot, a than ei adenydd y byddi diogel.' Yr oedd y bregeth yn fy nharo i yn anghyffredin. Mi ges ryw olwg ar amddiffyn Duw dros y weddw a'r amddifad oedd yn peri i mi glosio i gysgod yr<noinclude><references/></noinclude>
5l71rwstd0zvntomcdq04szfd6k2ulm
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/21
104
84426
164168
2026-05-06T20:09:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164168
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hollalluog. Ac yr oedd yn dda gen i weld ei fod o wedi plesio pobol y 'sêt fawr' yma hefyd. Y peth cynta' glywes i ar ol dwad i'r tŷ oedd un o'r blaenoriaid yma yn gofyn am 'gyhoeddiad.' Ac wrth iddo fo fynd i ffwrdd, dyma fo yn deud, 'Mi fydda' i yn gwybod y ffordd y tro nesa', ac mi ddof yma yn ''gynnar'', gewch ch'i weld!"
Wn i ddim oedd hi'n siarad ar ddamhegion a'i peidio, ond mi ddaethum i'r pen— derfyniad fod athroniaeth Marged Parri yn cynnwys y ddau osodiad a ganlyn,—
::1. Mynd i orffwys yn gynnar ar nos Sadwrn.
::2. Codi yn brydlon fore Sul.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0mvx7swwt5czmmybvl8vtbu7oydr6kp
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/22
104
84427
164169
2026-05-06T20:21:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164169
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II.
AR FORE SABOTH.
BORE Saboth yn y wlad! mor wahanol ydyw i Saboth y dref! Dim rhuthro i mewn ac allan; dim swn na chyffro o fath yn y byd. Bid siwr, y mae llawer yn dibynnu ar y tywydd, a chwrs y tymhorau. Pa bryd y mae Anian glysaf oll? Ai yn nechre'r Gwanwyn, pan fo blodau'r drain yn perarogli ar ol cawod o wlaw, a'r egin glâs yn gorchuddio y meusydd? Ai yn Awst, pan fo yr ŷd aeddfed, euraidd, yn ymdonni o flaen awelon, a'r afalau cochion ar goed y berllan? Ai ynte ar ambell ddydd o Auaf, pan fo yr eira,—eira un-nos,—ar y bryniau,—a'r dderwen ar y ddol dan gnwd o eira gwyn, yn disgleirio yn yr haul fel darn o risial byw?
Ond gadawn y cwestiynau hyn i'r arlunwyr a'r beirdd. Diwrnod o haf ydyw<noinclude><references/></noinclude>
r5jpsisjux9ovryflb7soi5mjkcpjze
164170
164169
2026-05-06T20:21:59Z
AlwynapHuw
1710
164170
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD II.
AR FORE SABOTH.}}}}
BORE Saboth yn y wlad! mor wahanol ydyw i Saboth y dref! Dim rhuthro i mewn ac allan; dim swn na chyffro o fath yn y byd. Bid siwr, y mae llawer yn dibynnu ar y tywydd, a chwrs y tymhorau. Pa bryd y mae Anian glysaf oll? Ai yn nechre'r Gwanwyn, pan fo blodau'r drain yn perarogli ar ol cawod o wlaw, a'r egin glâs yn gorchuddio y meusydd? Ai yn Awst, pan fo yr ŷd aeddfed, euraidd, yn ymdonni o flaen awelon, a'r afalau cochion ar goed y berllan? Ai ynte ar ambell ddydd o Auaf, pan fo yr eira,—eira un-nos,—ar y bryniau,—a'r dderwen ar y ddol dan gnwd o eira gwyn, yn disgleirio yn yr haul fel darn o risial byw?
Ond gadawn y cwestiynau hyn i'r arlunwyr a'r beirdd. Diwrnod o haf ydyw<noinclude><references/></noinclude>
aigy4ssdlfk0dhd5tk98xisb25s9dq5
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/23
104
84428
164171
2026-05-06T20:23:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164171
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heddyw, ac yr ydym yn cael yr hyfrydwch o'i dreulio yn y Cwm. Rhoddodd Marged Parri ''gno''c ysgafn ar ddrws yr ystafell, a cheisiasom gofio gwers y noson cynt; ond o ran hynny, nid oedd yn gofyn llawer o ymdrech i ateb yr alwad yn "gadarnhaol." Onid oedd yr haul yn tywynnu yn siriol drwy y ffenestr, a'r adar yn cynnal cyngerdd—''sacred concert''—yn y llwyn gerllaw? Onid ar fore fel hwn y canodd Pantycelyn ei emyn dlos,—
{{center block|
<poem>
O deffro'n fore, f'enaid gwan,
:Ar doriad cynta'r dydd,
A llwyr gysegra ddyddiau d'oes
:I'r gwrthrych gore sydd.
</poem>

Ar ol boreufwyd, a "dyledswydd," yng nghwmni Marged Parri a'r gâth, aethum allan i fwynhau awelon y wlad. Mor dawel ydoedd y frô! Yr oedd pob bryn a gwerglodd yn eu dillad gore.
Porrai y defaid ar y llethrau gwelltog, a gorweddai y gwartheg wrth eu bodd dan gysgod y coed ar fin yr afon. Yr oedd y mwg glasliw yn esgyn o swmerau y pentre,—yn esgyn yn syth i'r ffurfafen, ac yn peri i ddyn feddwl am linellau Ann Griffiths,—
{{center block|
<poem>
"O am dynnu o'r anialwch,
:I fyny fel colofnau mwg!"
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
mg582qx6i6m8vs087kzu2f768xrdax7
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/24
104
84429
164172
2026-05-06T20:26:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164172
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hyfryd oedd cerdded ar hyd y ffordd gysgodol, rhwng gwrychoedd o o flodau gwylltion a gwyddfid, a syllu ar y "Ddeuddwr" islaw, yn llithro yn esmwyth ar ei hynt.
"Os ewch i gyfeiriad Tŷ Gwyn," ebai Marged Parri, "yr ydech chi'n siwr o gwarfod Rolant Owen. Gyno fo y mae'r ffordd bella o bawb, ond os na fydd rhwbeth go od, y fo ydi'r cynta yma bob amser."
Ac felly y bu. Gwelwn yr hen frawd yn dod, ar bwys ei ffon; ac wedi cyfarch gwell, daethom yn ol at y Capel efo'n gilydd. Y mae pob pregethwr sydd wedi bod yn y Cwm yn adwaen Rolant Owen, Bryngoleu. Efe ydyw y diacon hynaf, ac er ei fod yn lled fusgrell ers tro, y mae ei feddwl mor fywiog, a'i ysbryd mor ifanc, a phe buasai yn hogyn deunaw oed. Wrth i ni gydgerdded dywedai,—
"Mi wela fod Marged Parri wedi eich troi dros y drws yn lled gynnar. Chware teg iddi! Peth ''iach'' i bregethwr, a phawb arall, o ran hynny, ydi dod allan ar fore tyner fel hwn; mi geiff ryw ysbrydoliaeth i'w feddwl, ond odid. Y mae yn llawer<noinclude><references/></noinclude>
scpd83e5asp627z7vuj2blvszw32vfz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/25
104
84430
164173
2026-05-06T20:28:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164173
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>callach, beth bynnag, nac i ddyn fod a'i ben yn ei blu yn y Tŷ Capel."
"Ydech chi ddim yn meddwl felly mod i'n torri'r Saboth wrth fynd allan am dro, Rolant Owen?"
"Dyn anwyl! nac ydw i ddim yn meddwl ffasiwn beth, os bydd ''ysbryd y Saboth'' yn y galon. Dyna y pwnc mawr. Onid yr un Un ydyw Awdwr Natur a Gras? Ac onid wrth edrach ar weithredoedd Duw mewn Natur y cafodd y Salmydd gynt rai o'i bethau gore? Arglwydd ein Iôr ni! mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaear!' Fydda i'n meddwl mai wrth fynd i'r gwasanaeth ar fore Sul y daeth gair fel ene i bêrganiedydd Israel. Yr ydw inne, ran hynny, er yn gloff fel yma, wedi cael ambell i air ar yr hen ffordd yma, fu yn help i mi addoli Duw yn ei gysegr."
"Ryfeddwn i ddim nac ydech chi wedi cael un bore heddyw, Rolant Owen. Pwy oedd yn gwneyd swn ''canu'' draw ene, ys gwn i?"
Canu wir! Paid a chyboli, fachgien. Fedra i ganu lun dim ers talwm. Ond hwrach mod i yn "hymio" yr hen bennill hwnnw,—
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
kfe770suzl6fbch6utuirj01bletukz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/26
104
84431
164174
2026-05-06T20:28:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164174
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block|
<poem>
"Mi bellach goda' i maes
:Ar fore glâs y wawr."
</poem>

Wedi cyrraedd y tŷ, eisteddodd Rolant Owen yn ei gadair yn y Parlwr. Yn ei gadair a ddywedais, canys y mae cadeiriau'r Ty Capel yn dod yn fath o eiddo personol yn nhreigliad amser. A dyna "gadair" Rolant Owen; 'doedd neb arall yn meddwl eistedd ynddi pan y byddai efe yn bresennol.
"Y mae Marged Parri mewn hwyliau da heddyw," meddai. "Mae'n debyg ei bod hi wedi cael llythyr o'r Mericia, oddiwrth Dafydd. A pheth arall, yr ydech chwithe wedi codi yn brydlon. Ei chas beth hi ydyw gorfod cadw'r llestri brecwast pan fydd y bobol yn dwad i'r capel. Sut mae'r achos gore efo chi acw? Yden nhw yn dwad yn o gryno i'r odfa bore Sul?"
Symol, Rolant Owen. A phe buasem ni yn y dre acw yn dechre am hanner awr wedi naw, fel yr ydech chi yn y Cwm yma, mae arnaf ddigon o ofn na fuasai acw neb."
"Ië, fel ene y mae hi'n ddigon siwr. Yr ydech chi'n aros ar ych traed mor hwyr nos Sadwrn fel mae'n amhosibl i chi gadw'r Saboth fel y dylid. Mi eis i, ryw flwyddyn<noinclude><references/></noinclude>
jyftwsl8nod8nvq3wiyym4lqw1iejif
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/27
104
84432
164175
2026-05-06T20:30:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164175
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ol, i edrych am 'Pitar,' y bachgen acw, i Manchester; a doedden nhw ddim yn dechre y moddion yn y capel yno tan ''un-ar-ddeg'',—yr adeg pan y byddwn ni yn troi adre! Yr oeddwn i allan o f'elfen yn lân, ac y mae arnai ofn na ches i fawr o 'fendith.' Ond rwy'n meddwl mai y ni sy'n reit; ac mai dyna ystyr blaen y pedwerydd gorchymyn, 'cadw y ''dydd'' Saboth,—nid ''darn'' o hono fo, ond y ''dydd'' i gyd."
Erbyn hyn yr oedd y blaenoriaid ereill wedi dod i fewn,—Edward Puw, y Ffridd, y dechreuwr canu; Joseph Jones y Siop y cyhoeddwr a a thrysorydd yr eglwys. Cwestiwn cyntaf Edward Puw ydoedd,—"A yw yr ''emynau'' yn barod gennych?" Bydd ambell bregethwr yn ateb yn nacaol, a gwelir Edward Puw yn mynd allan yn lled swta, a fydd dim llawer o hwyl arno yn y gwasanaeth hwnnw. Gwaith Joseph Jones fydd galw sylw at y "casgliad," a gofyn beth fydd i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Yr oedd papyr wedi dod i'r Tŷ Capel oddiwrth gyfeillion "Salem" yn gofyn iddynt gyhoeddi y ''Concert'' oedd i fod yno nos Fercher.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
530wlnck2xb2orvb2gqlt58mka4ya60
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/28
104
84433
164176
2026-05-06T20:32:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164176
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nos Fercher!" ebai gŵr y Siop; "dyna noson y ''Seiat'', a dydw i ddim yn cydweled â chyhoeddi cyfarfod mewn capel arall, a'r ''Seia''t gynon ni."
"Well i ni neud, Joseph Jones," meddai Rolant Owen. "Y mae y brodyr yn 'Salem' yn arfer cyhoeddi ein cyfarfod pregethu ni, ac yn dwad yma hefyd. Mi ddylen fod yn anrhydeddus efo'n gilydd, ac yr ydw i yn cynnyg fod y seiat i fod yr wythnos hon ar nos Iau."
Cyn i ni gychwyn i'r Capel daeth Mr. Meredydd, Plas y Wern, i'r tŷ. Efe ydyw y ffermwr mwyaf yn y frô. Y mae yn warcheidwad y plwy, ac yn ŵr o ddylanwad yn y byd amaethyddol. Cafodd ei alw'n "flaenor" flynyddau'n ol, ond gwrthododd dderbyn y swydd, ac eto y mae yn un o brif golofnau'r achos yn y Cwm. Gŵr gweddw ydyw efe, ac iddo un ferch, gwir ddelw ei mham, ac nid oes ei charedicach yn y wlad. Y mae gweddwon ac amddifaid y Cwm yn hanner addoli Elsie Meredydd. Hi sydd yn gofalu am y "mis" hwn yn y Tŷ Capel. Son am "gadw'r mis," ond rhaid gadael hynny hyd y bennod nesaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
7n44782egv9nsq76fst2vslywjcl8zi
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/29
104
84434
164177
2026-05-06T21:14:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164177
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III. ELSIE MEREDYDD.}}}}
I'R sawl a wyddant rywbeth am y gyfundrefn deithiol ymysg yr Ymneillduwyr yng Nghymru, y mae'n hysbys fod amryw drefniadau yn bod ar gyfer lletya y gweinidogion a'r pregethwyr.
Un o honynt ydyw,—myned ar gylch i .wahanol aneddau yn y gymdogaeth lle y byddo y capel, neu y "daith." Y mae hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwasgarog, yn golygu llawer o gerdded yn ol a blaen. Er engraifft,—eir i ginio i Ffridd Wen, tua dwy filltir i'r gorllewin; ac wedi mynd i gapel arall at y prynhawn, eir am gwpaned o dê i Bryn Du, dwy filltir i'r dwyrain. Hwyrach y bydd y swper yn disgwyl am danoch yn Tyddyn Llwyd, tua dwy filltir neu fwy i gyfeiriad y pegwn gogleddol! Dyna'r hen ''system'', ac, o drugaredd, y mae'n graddol ddiflannu.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
esfj4k182vahmywqwz3bvnqex730bhh
164195
164177
2026-05-06T22:09:08Z
AlwynapHuw
1710
164195
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III.
ELSIE MEREDYDD.}}}}
I'R sawl a wyddant rywbeth am y gyfundrefn deithiol ymysg yr Ymneillduwyr yng Nghymru, y mae'n hysbys fod amryw drefniadau yn bod ar gyfer lletya y gweinidogion a'r pregethwyr.
Un o honynt ydyw,—myned ar gylch i .wahanol aneddau yn y gymdogaeth lle y byddo y capel, neu y "daith." Y mae hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwasgarog, yn golygu llawer o gerdded yn ol a blaen. Er engraifft,—eir i ginio i Ffridd Wen, tua dwy filltir i'r gorllewin; ac wedi mynd i gapel arall at y prynhawn, eir am gwpaned o dê i Bryn Du, dwy filltir i'r dwyrain. Hwyrach y bydd y swper yn disgwyl am danoch yn Tyddyn Llwyd, tua dwy filltir neu fwy i gyfeiriad y pegwn gogleddol! Dyna'r hen ''system'', ac, o drugaredd, y mae'n graddol ddiflannu.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5w4a03eecodlpjv6bbscral3zth0got
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/30
104
84435
164178
2026-05-06T21:16:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164178
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dull arall oedd yn y Cwm. Gan fod y ffordd ymhell i amryw o'r aelodau, byddai rhyw deulu neu gilydd yn dod â'r "trugareddau" gyda hwy i'r Tŷ Capel, a gelwid hynny yn "gadw'r mis." Ac ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd gyda'r gorchwyl caredig hwn yr oedd Miss Meredydd, Plas y Wern. Yn y ddawn hon, yn ogystal a phethau ereill, yr oedd wedi etifeddu ysbryd a thiriondeb ei mam. A phan ddelai ei thro hi i "gadw'r mis" yn y Cwm, byddai yn gofyn i nifer o hen frodyr a chwiorydd dreulio y Saboth gyda hi yn y Tŷ Capel, fel y gallent fwynhau y wledd a'r "moddion" drwy y dydd. Dyddorol fyddai sylwi arni yn eu "gwadd" ym muarth y capel.
"Dowch efo fi heddyw, Gwen Jones; a chwithe, Harri Dafydd{{bar|2}}"
"Na wir, Miss Meredydd, yr ydw i yma o hyd."
"Peidiwch a hel dim esgusawd. Ewch i'r parlwr ar eich union.
Mi fydd y cinio'n barod ar unwaith."
Y mae llawer o son am ''social Christianity'', ac y dylai yr eglwys feithrin yr elfen<noinclude><references/></noinclude>
e86lfqv6zezb1bzohcicyxx0ntdyipl
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/31
104
84436
164179
2026-05-06T21:16:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164179
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gymdeithasol, a chofio fod gan bobl gyrff yn gystal ag eneidiau. Ond yr oedd eglwys y Cwm, pan fyddai Miss Meredydd yn "cadw'r mis," yn actio yr efengyl ymarferol hon ers blynyddau. Ar yr adegau hynny byddai Mr. Meredydd, ei thad, yn aros yn y Tŷ Capel amser cinio. Efe fyddai yn "carvio," a chyflawnai y swydd bwysig honno gydag urddas a haelfrydedd. Ac yn sicr ddigon, yr oedd llygaid diolchgar y gwahoddedigion yn dâl cyflawn i unrhyw fôd rhesymol Gofynnid i Harri Dafydd ofyn bendith," ac yr oedd yn foddion gras i'w wrando yn gwneud hynny. Codai ar ei draed yn bwyllog, a chyda llais crynedig, diolchai i "Dad y Trugareddau i gyd" am ddarparu lluniaeth a llawenydd i rai anheilwng, a gofynai yn daer am ei fendith Ef ar y cyfan, ac ar "waith y dydd."
Ar ol "clirio y byrddau," fel y dywedir, byddai y chwiorydd yn ymgynnull i'r gegin, a'r brodyr yn y "parlwr," yn trafod pethau "trymaf y gyfraith." Cychwynai yr ysgwrs gyda phethau amgylchiadol digwyddiadau yr ardal, &c., a byddai Mr. Meredydd yn cymeryd rhan flaenllaw. Ond cyn bo hir dyna Shon William, y<noinclude><references/></noinclude>
m4epahxbc19m99toi1jvjjow7b9xi9q
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/32
104
84437
164180
2026-05-06T21:17:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164180
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>crydd, yn gofyn rhyw gwestiwn duwinyddol, ac yna cofiai Mr. Meredydd fod yn rhaid iddo fynd adref ar ryw achos neu gilydd. Nid oedd ganddo lawer o flas ar bynciau duwinyddol." Ond dyna oedd "pethau" Shon William; a'i hoff orchwyl ydoedd "cateceisio " y pregethwr fyddai yn gwasanaethu am y Saboth,—nid er mwyr. gwybod dim yn bersonol, ond er cael sicrwydd fod y "genau cyhoeddus" yn iach yn y ffydd. Ac yr oedd pasio arholiad Shon William yn gryn beth yn y dyddiau hynny. Yr oedd llawer yn galw gydag ef yn y gweithdy, ar gwr y pentref, ac os byddai pregethwr y Saboth wedi pasio y "porth cyfyng,"—wel, yr oedd bron mor bwysig a phasio y "B.D." yn y ganrif hon! Fel y dywedwyd, yr oedd ganddo ei farn ei hun ar bob cwestiwn, ac yr oedd honno yn cydredeg â barn "Dr. Edwards y Bala" ar yr un pethau.
Byddai Dr. Edwards yn dod i bregethu i daith y Cwm unwaith yn y flwyddyn, ac yr oedd yn adwaen Shon William yn dda,—hwyrach yn well nac yr oedd efe yn ei adwaen ei hun. Modd bynnag am hynny, y mwynhad daearol pennaf i'r hen grydd fyddai cael ei wahodd i'r Tŷ Capel i gael cinio a thê gyda Dr. Edwards y Bala.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a1iey1cr6ool6cwolqil24yf0r1eqa0
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/33
104
84438
164181
2026-05-06T21:18:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164181
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, John Williams," ebai'r Doctor, "mae'n dda gen' i eich gweled yn dal mor gadarn gyda'r athrawiaethau mawr yma. Beth am y pregethwyr ifainc? A ydynt hwy yn lled iach yn y ffydd yn awr?"
"Y mae y rhai sydd yn dal arnoch chwi, Dr. Edwards, yn dod ymlaen yn gampus, ac mi fyddaf inne yn taflu ambell i gwestiwn i edrych ydyn' nhw yn dallt y pethe."
"Da iawn, John Williams.
Yr ydych yn llygad eich lle.
Ewch rhagoch, a rhyngoch chwi a finne, hwyrach y deuant i wybod rhywbeth yn y man."
Ychydig fyddai Rolant Owen yn ei ddweud ar bynciau duwinyddol. Pethau syml yr efengyl oedd yn ei gyffwrdd ef Yr oedd yn hoff o gymhariaethau, ac yn gweled y gwirionedd drwyddynt lawer pryd.
"Mi ges i flas neillduol y Sul diwedda"," meddai, "yn gwrando y gŵr o{{bar|2}} yn pregethu ar Ganiad Solomon,—Gwelwyd blode ar y ddaear,'—dene oedd 'i destun,—adnod glws iawn. Ac yr oedd o'n d'eud yn ffeind iawn am werth y blode, a'u<noinclude><references/></noinclude>
e011ztk8rfaxp2uujzkv9imxp4zrmjy
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/34
104
84439
164182
2026-05-06T21:18:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164182
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dylanwad ar feddwl dyn. Yr oedd o'n son am ryw Gymro yn y 'Mericia. Yr oeddwn i'n meddwl am Dafydd y Tŷ Capel yma wrth 'i glywed o [erbyn hyn yr oedd Marged Parri yn clustfeinio â'i holl egni, ac mi dybiais i weled tòn fechan o wrid yn codi i wyneb Miss Meredydd], ond hwyrach mai rhywun arall oedd o, o ran hynny; ond mi 'sgrifennodd at ryw ffrind iddo yn y wlad yma, ac medde fo,—'Pan fyddi yn anfon y tro nesa', dyro dipyn o lygad y dydd i mewn yn dy lythyr. Weles i yr un ers blynyddoedd, ac y mae gen' i hireth am lygad y dydd.' Ddyliwn i nac yden' ahw ddim yn tyfu yn y 'Mericia; ac wrth i mi fynd adre' o'r capel, yr oeddwn i bron a mynd ar y nghlinie yn ymyl y clawdd i ddiolch i'r Tad nefol am yr hen Gwm yma, ac am 'i lenwi fo efo llygad y dydd."
"Ie, ie," meddai Shon William, "ond rhaid i ch'i gofio hyn,—'does dim duwinyddiaeth mewn pethe fel ene."
"Duwinyddiaeth!" meddai Rolant Owen, gan godi ei lais. "Wyt ti'n meddwl, Shôn, nad oes dim duwinyddiaeth yng ngwaith yr Hwn a ddywedodd, Ystyriwch y lili!' Tyrd am dro i Bryn Goleu acw, Shon bach,<noinclude><references/></noinclude>
l7tsmm3y3l4g9c8qbddopf46he6wryt
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/35
104
84440
164183
2026-05-06T21:19:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164183
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gael i ti weld duwinyddiaeth llygad y dydd!'"
Pe y buasai Rolant Owen yn deall y cysylltiadau," yr oedd y pregethwr yn ddyledus am y gymhariaeth i'r hyn a glywsai gan Marged Parri, nos Sadwrn; ond ei fod wedi newid tipyn ar ffurf yr ystori. A phe gwybuasai y "dirgelion oll." yr oedd bocs bychan, a llythyr ynddo, wedi ei anfon i'r 'Mericia, nid o'r Cwm, ond o dref C{{bar|2}}
Yn y bocs hwnnw yr oedd rhosynau gwyngoch o ardd fechan y Tŷ Capel, a blodeuglwm o "lygaid y dydd.' Os gofynnid i'r rhai'n, wedi cyrraedd pen y daith, "O b'le y daethoch?" gallent ateb yn ddistaw,—"Cenhadon ydym ni, wedi dod i gadw cwmni i rosynau'r ardd. Buom yn tyfu unwaith yn ardal y Cwm; nid ar lechweddau Bryn Goleu, ond ar y werglodd dlos gerllaw y "Ddeuddwr," y ffordd yr elych i Blas y Wern!"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3qqxi373qeqpcso1ht356jn9iird5kl
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/36
104
84441
164184
2026-05-06T21:31:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164184
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IV. EOS GWERFYL.
DECHREUWR canu ers blynyddoedd yn y Cwm ydoedd Edward Puw. Meddai ar gymhwysderau amlwg i lanw y swydd. Yr oedd yn gerddor da, yn lleisiwr rhagorol,—llais ystwyth, melodaidd, a digon o gwmpas ynddo i lanw unrhyw addoldy. Pan ddaeth y son am "offeryn cerdd" i'r capelau, dywedai Rolant Owen ar ryw ysgwrs,—"Fydd arno ni ddim eisio yr un o honyn nhw yn y Cwm yma. Mae Edward Puw yn ddigon o. organ ynddo ei hun."
Ond er cystal ydoedd fel arweinydd canu, yr oedd rhywrai yn awgrymu, weithiau, ei fod yn ormod o ''autocrat'', ac mai ychydig oedd y gefnogaeth a roddai i neb arall. Efe oedd Alpha ac Omega y canu, ac yr oedd pawb yn eithaf boddlawn<noinclude><references/></noinclude>
efwqidwxhk5ed77m0hxzys4kl43cjse
164194
164184
2026-05-06T22:08:08Z
AlwynapHuw
1710
164194
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IV.
EOS GWERFYL.}}}}
DECHREUWR canu ers blynyddoedd yn y Cwm ydoedd Edward Puw. Meddai ar gymhwysderau amlwg i lanw y swydd. Yr oedd yn gerddor da, yn lleisiwr rhagorol,—llais ystwyth, melodaidd, a digon o gwmpas ynddo i lanw unrhyw addoldy. Pan ddaeth y son am "offeryn cerdd" i'r capelau, dywedai Rolant Owen ar ryw ysgwrs,—"Fydd arno ni ddim eisio yr un o honyn nhw yn y Cwm yma. Mae Edward Puw yn ddigon o. organ ynddo ei hun."
Ond er cystal ydoedd fel arweinydd canu, yr oedd rhywrai yn awgrymu, weithiau, ei fod yn ormod o ''autocrat'', ac mai ychydig oedd y gefnogaeth a roddai i neb arall. Efe oedd Alpha ac Omega y canu, ac yr oedd pawb yn eithaf boddlawn<noinclude><references/></noinclude>
lfsl2hljd5u2j1dbh2l83sfrtn50x9x
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/37
104
84442
164185
2026-05-06T21:32:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164185
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iddo fod felly; ac eto yr oedd y syniad yn dyfnhau nad ydoedd y bobl ieuainc yn cael chware teg, ac y dylesid gwneud mwy yn y cyfeiriad hwnnw. Ond ychydig o flas oedd gan Edward Puw ar y gorchwyl o addysgu ereill, a bu y diffyg hwn, yn ol llaw, yn brofedigaeth iddo ynglŷn â chyflawniad ei swydd.
Yr oedd gŵr dieithr wedi dod i aros i'r gymdogaeth fel goruchwyliwr i gwmni oeddynt wedi cychwyn "gwaith" ym Moel y Rhedyn. Aeth i letya at Joseph Jones, y Siop, ac ymaelododd yn eglwys y Cwm. Ei enw ydoedd John Powell, ond adwaenid ef yn fwyaf cyffredin wrth yr enw "Eos Gwerfyl," oherwydd yr ydoedd yn ddatganydd, ac wedi ennill llawer wobrwyon mewn cylchwyliau llenyddol Yr oedd dyfodiad Eos Gwerfyl i'r Cwm yn ddechreu cyfnod newydd. Daeth yn ffafryn gyda'r bobl ieuainc, ac yr oedd amryw ohonynt yn cael eu gwahodd i barlwr y Siop i weled y ''medals'', ac i glywed yr Eos yn canu.
Ym mhen peth amser, daeth rhywrai yn ddigon hyderus i gynnyg cael cyfarfod canu yn y capel, ar nos Sul, dan arweiniad<noinclude><references/></noinclude>
e2iney7r7c0h5ep488kqq5uv2u6xiw3
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/38
104
84443
164186
2026-05-06T21:33:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164186
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eos Gwerfyl. Daeth hyn i glustiau Edward Puw, ac nid oedd y peth yn dda yn ei olwg. Yn wir, yr oedd gradd o eiddigedd wedi ei feddiannu wrth weled estron,—"dieithriad a dyfodiad,"—fel Eos Gwerfyl yn meiddio sangu ar derfynau ei randir ef. Ac i wneud pethau yn waeth yr oedd Joseph Jones, y Siop, yn canmoli yr Eos ym mhob man; ac yr oedd Rolant Owen, gyda'i ysbryd rhyddfrydig, yn tueddu i feddwl mai peth da oedd "torri gwaith" i'r bobl ieuainc, er mwyn iddynt fedru symud ymlaen gyda'r oes.
Ac felly fu.
Cyhoeddwyd cyfarfod canu ar ol y seiat, nos Sul. Aeth Edward Puw adref y noson honno heb gymaint a dod i'r Tŷ Capel i ysgwyd llaw â'r pregethwr.
"Mae arna i ofn fod Edward wedi taflu 'i gylche heno," meddai Rolant Owen. "Yn tydi yn biti, na wele dynion mai peth da efo phopeth ydi rhannu y gwaith?"
"Gadewch iddo," ebai Joseph Jones; "y mae o wedi cael digon o fantais i gychwyn cyfarfod canu ei hunan. Yr ydym wedi awgrymu hynny iddo lawer gwaith. A<noinclude><references/></noinclude>
p0jg6t5u0z0nl4qse6c21uzxkuxtks9
164187
164186
2026-05-06T21:34:31Z
AlwynapHuw
1710
164187
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eos Gwerfyl. Daeth hyn i glustiau Edward Puw, ac nid oedd y peth yn dda yn ei olwg. Yn wir, yr oedd gradd o eiddigedd wedi ei feddiannu wrth weled estron,—"dieithriad a dyfodiad,"—fel Eos Gwerfyl yn meiddio sangu ar derfynau ei randir ef. Ac i wneud pethau yn waeth yr oedd Joseph Jones, y Siop, yn canmoli yr Eos ym mhob man; ac yr oedd Rolant Owen, gyda'i ysbryd rhyddfrydig, yn tueddu i feddwl mai peth da oedd "torri gwaith" i'r bobl ieuainc, er mwyn iddynt fedru symud ymlaen gyda'r oes.
Ac felly fu. Cyhoeddwyd cyfarfod canu ar ol y seiat, nos Sul. Aeth Edward Puw adref y noson honno heb gymaint a dod i'r Tŷ Capel i ysgwyd llaw â'r pregethwr.
"Mae arna i ofn fod Edward wedi taflu 'i gylche heno," meddai Rolant Owen. "Yn tydi yn biti, na wele dynion mai peth da efo phopeth ydi rhannu y gwaith?"
"Gadewch iddo," ebai Joseph Jones; "y mae o wedi cael digon o fantais i gychwyn cyfarfod canu ei hunan. Yr ydym wedi awgrymu hynny iddo lawer gwaith. A<noinclude><references/></noinclude>
hpfj2z1ny8oddw084ibflz51qq1ayl8
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/39
104
84444
164188
2026-05-06T21:36:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164188
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'rwan, wedi i frawd cymhwys ddod yma, llawn o ysbryd a thalent, dyma fo yn mynd i'w grogen. Ond hwyrach y daw o i weld ei gamgymeriad."
Wedi i'r blaenoriaid ymado, ac i'r cyfarfod canu fynd drosodd, daeth Eos Gwerfyl i'r Ty Capel, a dechreuodd draethu ei feddwl.
Welsoch chwi Edward Puw yn mynd allan? Y mae o yn meddwl, debyg, fy mod i am fyned a'i le! Onid ydyw pobl yn ''jealous'' dros ben?
Ond y gwir ydyw, mae y canu yma flynyddoedd ar ol yr oes. Megis yr oedd yn y dechreu,' &c. A pha ryfedd? 'Doedd yma neb yn ceisio dysgu y Sol—ffa, nac yn diwyllio dim ar leisiau y bobl ieuainc. Ac eto, y mae yma ddefnyddiau rhagorol, ond i rywun gymeryd trafferth i'w diwyllio yn briodol. Wel, yr ydym wedi cychwyn, ac yr oedd yma griw da wedi aros yn y cyfarfod. Ac mi ddwedaf beth arall,—cyn y dowch chwi i'r daith y tro nesaf, mi fydd yma ''offeryn'' yng nghapel y Cwm. Nos da."
Ar ol iddo fyned ymaith, ac i ni gael swper, ebai Marged Parri,—"Be oedd y dyn ene yn 'i ddeud wrth fynd allan? Son am ryw 'offeryn,' ynte? Ydi ''o'' yn meddwl<noinclude><references/></noinclude>
8dthx33oox63ivv74mtiel186tgx58n
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/40
104
84445
164189
2026-05-06T21:42:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164189
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bod yn offeryn i neud rhyw ddioni, ys gwn i?"
"Gobeithio hynny, Marged Parri, ond son am 'offeryn' cerdd yr oedd y brawd, a'r priodoldeb o gael un felly yn y capel."
"Brensiach anwyl! Dyn diarth fel y fo yn meddwl am beth felly! Be ddywed Shon William, tybed? Ac y mae arna i ofn fod Edward Puw wedi dampio' yn barod. Marciwch chi 'y ngeiriau i, mi fydd y dyn ene,—Eos' rhwbeth mae nhw yn ei alw,—yn siwr o godi cynwr' yn yr eglwys yma, a ŵyr neb be fydd diwedd hynny."
Gyda'r daroganiad hwn, ymneillduodd Marged Parri, ac wedi i mi gael y "Parlwr" i mi fy hun, aethum i fyfyrio ar yr hyn oeddwn wedi ei weled a'i glywed. Anodd ydyw cysgu ar nos Sul; o'r hyn lleiaf, dyna fy mhrofiad i. Y mae meddwl dyn fel môr yn dygyfor,—y corff yn flinedig, ond y meddwl yn effro, effro. Ac ar oriau o'r fath y mae "Parlwr" y Ty Capel yn dod yn lle rhyfedd, lawer pryd. Dyna'r bobl wedi mynd ymaith, a'r pregethwr, fel Jacob gynt, wedi ei adael ei hunan Y mae<noinclude><references/></noinclude>
7bff6e2cotvo9j1vyjtx0c3qkp0b07y
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/41
104
84446
164190
2026-05-06T21:44:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164190
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>awel y nos yn lleddf-suo yn y coed oddi-allan; ambell swn troed ar y ffordd gerllaw y ty, a thipiadau rheolaidd, cyfundebol, yr hen gloc yn y gegin. Braidd nad ydyw y darluniau ar y mur yn dod yn ddelweddau byw. Dyma nhw yr hen weinidogion anwyl sydd, bellach, wedi noswylio, ac wedi dod yn enwau cysegredig ar lafar gwlad. Bu rhai ohonynt, fel finnau, yn Nhy Capel y Cwm. Caraswn eu holi,—
Sut y byddech chwi, frodyr cu, yn teimlo ar nos Sul? Beth oedd eich myfyrdodau pan wedi eich gadael yn yr hen 'Barlwr' hwn? Fyddech chwi yn cael ambell oedfa fflat? A oedd y pruddglwyf yn ymdaenu dros eich meddwl, ac yn peri i chwi amheu a oeddych wedi eich galw at y gwaith? A fyddai ambell adnod yn dod heibio, fel colomen Noah, a gair o gysur yn ei chylfin? A gawsoch chwi ambell weledigaeth tra yn gwrando swn yr awel yn y coed? neu pan yn syllu ar y fflam yn llosgi yn isel ar yr aelwyd? Ai ynte rhyw feddyliau anelwig oedd yn dod heibio,—fel mintai o sipsiwn,—ac yn diflannu yn ddistaw i froydd hud a lledrith?
{{c|"Folding their tents, like the Arabs,
And as silently steal away."}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k7m3o60ihwj07qe91bd9rqodvlwhv58
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/42
104
84447
164191
2026-05-06T21:45:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164191
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond mudandod oedd yn teyrnasu! Aethum i feddwl am eiriau yr Eos, ac am y syniad o gael offeryn cerdd yn y Cwm. Beth a barodd i Marged Parri edrych ar y peth fel trychineb? Paham y mae crefyddwyr, yn fynych, mor amharod i groesawu pob newydd-deb? A phaham y mae offeryn cerdd" wedi bod yn gymaint bwgan i laweroedd? Ai olion Piwritaniaeth lym-feirniadol ydyw y peth? yr ysbryd hwnnw sydd yn ystyried y celfau cain fel pethau esgymunedig? Fodd bynnag, yr oeddwn yn lled—dybied y noson honno y byddai Eos Gwerfyl, fel y dywedai Marged Parri, yn "offeryn" i wneud rhywbeth yn y Cwm. Beth fyddai ffrwyth ei lafur? A gedwir undeb yn nghwlwm tangnefedd? Amser a ddengys.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nab5kmjub6z9a9ksu71vnutpmp12oa5
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/43
104
84448
164192
2026-05-06T22:07:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164192
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD V.
YR ORUCHWYLIAETH NEWYDD.}}}}
LLWYDDODD Eos Gwerfyl i roddi ysbryd newydd yn y canu. Daeth y cyfarfod nos Sul yn boblogaidd, er fod rhai o'r hen frodyr yn ysgwyd eu pennau, ac yn dweud nad oedd y bobl ieuainc yn meddwl am ddim ond canu.
Ym mysg pethau ereill caed modulator, ac yr oedd hwnnw yn cael ei gadw ar un o barwydydd "Parlwr" y Tŷ Capel. Bu hynny yn dramgwydd i rai o'r saint fyddent yn arfer dod yno ar y Sul.
"Be' mae rhywbeth fel ene da?" ebai Shôn William, y crydd. Fydde'n well iddyn nhw roi eu hamser i ddarllen ''Geiriadur Charles'', na phendroni efo rhyw "Apocrypha" fel hyn. Be' ddywed Dr. Edwards, ys gwn i, pan wel o ryw "ffigiari " o'r fath yn y Tŷ Capel?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jjkv83148wrl81a7vzwjafc11mjofl5
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/44
104
84449
164193
2026-05-06T22:07:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""O, mi fydd wrth ei fodd gewch ch'i wel'd," meddai Rolant Owen. "Fase yn dda gen' i daswn i wedi cael mantais i'w ddysgu pan oeddwn yn ifanc. A dydw i'n synu dim fod y plant acw wedi darn wirioni efo fo. 'Do, re, mi,' sydd i'w glywed ganddyn' nhw o'r bore gwyn tan nos. Dene sydd gan y gweision yn y stabal, a ryfeddwn i ddim na na fydd y cyffyle yn medru Sol—ffa cyn y 'Dolig!" Ymhen peth amser wedi hyn, daeth rhestr testunau cyfar...
164193
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"O, mi fydd wrth ei fodd gewch ch'i wel'd," meddai Rolant Owen.
"Fase yn dda gen' i daswn i wedi cael mantais i'w ddysgu pan oeddwn yn ifanc. A dydw i'n synu dim fod y plant acw wedi darn wirioni efo fo. 'Do, re, mi,' sydd i'w glywed ganddyn' nhw o'r bore gwyn tan nos. Dene sydd gan y gweision yn y stabal, a ryfeddwn i ddim na na fydd y cyffyle yn medru Sol—ffa cyn y 'Dolig!"
Ymhen peth amser wedi hyn, daeth rhestr testunau cyfarfod llenyddol Salem i'r Cwm. Yr oedd y prif destun cerddorol fel y canlyn,—
"Am y datganiad goreu o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear,' gan gôr yn perthyn i un gynulleidfa (heb fod dan 30 o nifer). Gwobr, Pum Gini, a bâton i'r arweinydd."
Gwelodd Eos Gwerfyl ei gyfle, ac ar ddiwedd y cyfarfod canu y nos Sul dilynol, galwodd sylw arbennig at y gystadleuaeth.
"Yr wyf yn credu y dylem ddangos beth allwn ei wneud," meddai.
"Y mae yma leisiau da, ac os gwnewch chwi oll eich goreu yn ystod yr wythnosau nesaf,—wel, raid i ni ddim ofni mentro i'r llwyfan."
{{nop}}Cafodd y syniad ei dderbyn yn frwdfrydig, a threfnwyd i gael cyfarfod canu bob nos Iau, ac addawodd yr Eos roddi benthyg ei harmonium at wasanaeth y côr. Yr wythnos ganlynol dygwyd yr offeryn i Dŷ'r Capel, er mwyn iddi fod yn hwylus i'w chludo i'r addoldy yn ystod y practice. 'Doedd Marged Parri ddim yn foddlawn iawn ar y dechreu, ac yr oedd Shon William yn troi ei gefn ar y "newyddian yn y ffydd" bob tro y deuai efe i'r "Parlwr." Ond yr oedd Miss Elsie Meredydd yn llawen o weled yr adnewyddiad amlwg oedd wedi cymeryd lle ynglŷn â chaniadaeth gysegredig.
"Mae'n hawdd gwybod pryd y mae yn ddydd Iau 'rwan," meddai, "heb edrych ar yr Almanac! Mi fydd y morwynion acw yn codi heb i neb eu galw, ac yn gweithio â'u holl egni drwy'r dydd, er mwyn bod yn barod i fynd i'r cyfarfod canu gyda'r nos."
Un Saboth rhoddodd Miss Meredydd wahoddiad i Edward Puw ac Eos Gwerfyl i aros yn y Tŷ Capel i gael cwpaned o dê. Ceisiai Edward Puw ymesgusodi, ond nis gallai wrthod heb daflu sarhad ar garedigrwydd merch y Plas.
{{nop}}"Mi fydd gennych chwi eich dau lawer i'w ddweud wrth eich gilydd," meddai Miss Meredydd, gyda gwên swynol, "o achos yr ydech chwi mor hoff o ganu. Sut mae'r côr yn dod ymlaen, Mr. Powell?"
Wedi i'r tê fynd drosodd, gofynodd i Eos Gwerfyl ganu tôn i'r cwmni.
"Prun fydd hi?" meddai yntau wrth Edward Puw.
"Chwi ŵyr oreu," ebai Puw, yn lled sychlyd.
"Wel, beth fyddai i ni ganu yr hen 'Danycastell?' Mae'r chwiorydd yma yn hoff o enw John Jones, Talysarn."
Eisteddodd wrth yr offeryn. Ond dyna Shon William yn chwilio am ei het ac yn myned allan. Aeth yr Eos rhagddo heb gymeryd arno ei weled, ac yr oedd ei lais toddedig yn gwefreiddio'r gwrandawyr. Gwelid un hen chwaer yn chwilio am ei chadach poced, a gorfu i Marged Parri eistedd i lawr ar ganol cadw y llestri tê. Yr oedd Rolant Owen wedi cau ei lygaid yn dỳn, ac yn siglo fel coeden o flaen y
Q
gwynt. Ac yn sicr ddigon, dyna Edward Puw, heb yn wybod iddo ei hun, yn dechreu canu tenor. Aed dros yr hen dôn anwyl lawer gwaith, ac ereill ar ei hol.
Wedi i'r canu ddistewi, edrychodd Rolant Owen ar y cloc.
"Yn diar mi," meddai, "mae hi bron yn chwech o'r gloch. Weles i 'rioed mo'r amser yn mynd mor gyflym. Yn tydi canu yn beth ardderchog iawn! 'Doedd o ryfedd yn y byd i'r hen fardd ddeud y ddwy linell yma,—
"'Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechreu."
Cyn ymwahanu, gofynnodd yr Eos i Edward Puw dalu ymweliad â'r "cyfarfod canu." "Mi fedrwch chwi roddi inni awgrymiadau gwerthfawr, a gwerthfawr, a bydd yn llawen gennym eich gweled."
"Ie, wir," meddai Miss Meredydd, "yr ydych yn llygad eich lle, Mr. Powell. Ac mi rof fy ngair y daw o, hefyd. wnewch addo mynd, oni wnewch chwi, Edward Puw?"
Mi
'Doedd neb fedrai ateb Miss Meredydd yn y modd nacaol. "Hwyrach yr âf," meddai, ac ymaith a hwy i'r capel.
36
TY CAPEL Y CWM.
Yr oedd Edward Puw yn ei hwyliau gore y nos waith honno, ac yn canu yn ardderchog, fel yn y "dyddiau gynt."
Ond nid oedd neb yn deall y gyfrinach, ond y sawl oedd wedi bod yn llygad-dystion o'r olygfa yn Nhŷ'r Capel.X ym mha le yr oedd Shon William? Nid ydoedd yn ei le arferol yng nghongl y sêt fawr.
Wedi hir ddisgwyl a pharotoi, daeth adeg cyfarfod llenyddol Salem. Yr oedd pedwar neu bump o gorau yn cystadlu, ac un neu ddau ohonynt yn gorau enwog, wedi arfer mynd "i nol y wobr," fel y dywedir. Ond y noswaith honno, enillwyd y wobr, gyda chanmoliaeth uchel y beirniad, gan gôr y Cwm, o dan arweiniad Eos Gwerfyl. Mawr y llawenydd!.
Rhoddodd Mr. Meredydd swper i'r côr buddugol yn y Plas; ac yn ystod y gweithrediadau, cyfeiriodd yr Eos at y dymunoldeb o gael "offeryn" i'r addoldy, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi taro tant oedd yn cyffwrdd calon y gwyddfodolion.
{{nop}}Wedi hynny, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel i longyfarch y côr ar eu buddugoliaeth ysblennydd. Y llywydd ydoedd Mr. Meredydd, a gwnaed cyfeiriadau priodol at yr adnewyddiad amlwg oedd ar y canu cynulleidfaol yn y Cwm. Rhoddwyd datganiad o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear," a chynygiwyd diolchgarwch i'r arweinydd, yr hyn a basiwyd yn unfrydol. Wrth gydnabod y bleidlais, â'r baton newydd yn ei law, cyfeiriodd yr Eos at yr ymdrech a wnaed gan aelodau y côr; y cynhorthwy gwerthfawr oeddynt wedi ei gael gan Edward Puw, a dywedodd eu bod wedi cytuno i drosglwyddo y wobr,—sef pum gini,—tuag at gael "offeryn" i'r addoldy [cym.]. Cododd Mr. Meredydd i ddweud ei fod yntau yn rhoddi pum punt at yr amcan [cym.], ac y byddent yn ddiolchgar am addewidion gan eraill.
Daeth amryw ymlaen ar y diwedd, a chyn pen ychydig wythnosau, yr oedd harmonium brydferth wedi dod i'r Cwm, ac wedi ei gosod yn daclus gyferbyn â'r "sêt fawr." Ond, fel arfer, yr oedd rhyw nifer wedi cymeryd tramgwydd; ac yn eu plith, Shon William y crydd. Deuai i'r
Q
capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas.
"Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan yn galw yn y gweithdy. "Mae arno ni eisio eich gweled ch'i yn fawr; ac mi fyddwn yn son am danoch efo'n gilyad. A pheth arall, y mae'ch tro ch'i i holi yr Ysgol Sul jest yn ymyl 'rwan. Dowch i ni gael mynd ymlaen efo'r bennod honno yn y 'Fforddwr, i edrych yden ni yr un farn ag oedd ganddo ni'r llynedd. Fydda i ddim yn gweld dim byd yn curo'r 'Fforddwr i holi'r ysgol, ac mi 'rydech ch'i yn reit gartrefol yn o fo o'i ddechre i'w ddiwedd."
"Wna i ddim byd byth," meddai, "tra y bydd yr hen beth ene yn cadw swn drwg. Yr ydyw i'n synnu atoch chi, Rolant Owen, mor chwim-chwam, yn troi
Q
efo phob awel. Beth sydd i'w gael i enaid neb mewn rhyw swn gwag? Mae crefydd yr oes wedi mynd yn chware plant, a does neb yn meddwl am yr athrawiaethe mawr."
Ond os oedd yr offeryn" wedi gyrru Shon William allan o dune, yr oedd gan Ragluniaeth offeryn arall i adfer ei ysbryd ̧ ac i ddwyn ei galon i gywair drachefn,—fel "telyn Dafydd ar yr wyl."<noinclude><references/></noinclude>
5bwc7dajqwws4jr096my52a70dhst07
164197
164193
2026-05-06T22:11:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164197
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"O, mi fydd wrth ei fodd gewch ch'i wel'd," meddai Rolant Owen.
"Fase yn dda gen' i daswn i wedi cael mantais i'w ddysgu pan oeddwn yn ifanc. A dydw i'n synu dim fod y plant acw wedi darn wirioni efo fo. ''Do, re, mi,'' sydd i'w glywed ganddyn' nhw o'r bore gwyn tan nos. Dene sydd gan y gweision yn y stabal, a ryfeddwn i ddim na na fydd y cyffyle yn medru Sol—ffa cyn y 'Dolig!"
Ymhen peth amser wedi hyn, daeth rhestr testunau cyfarfod llenyddol Salem i'r Cwm. Yr oedd y prif destun cerddorol fel y canlyn,—
"Am y datganiad goreu o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear,' gan gôr yn perthyn i un gynulleidfa (heb fod dan 30 o nifer). Gwobr, Pum Gini, a bâton i'r arweinydd."
Gwelodd Eos Gwerfyl ei gyfle, ac ar ddiwedd y cyfarfod canu y nos Sul dilynol, galwodd sylw arbennig at y gystadleuaeth.
"Yr wyf yn credu y dylem ddangos beth allwn ei wneud," meddai.
"Y mae yma leisiau da, ac os gwnewch chwi oll eich goreu yn ystod yr wythnosau nesaf,—wel, raid i ni ddim ofni mentro i'r llwyfan."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
orirdp3nbgdfwfqm7pu97r01p1kq8li
164198
164197
2026-05-06T22:12:58Z
AlwynapHuw
1710
164198
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"O, mi fydd wrth ei fodd gewch ch'i wel'd," meddai Rolant Owen.
"Fase yn dda gen' i daswn i wedi cael mantais i'w ddysgu pan oeddwn yn ifanc. A dydw i'n synu dim fod y plant acw wedi darn wirioni efo fo. ''Do, re, mi,'' sydd i'w glywed ganddyn' nhw o'r bore gwyn tan nos. Dene sydd gan y gweision yn y stabal, a ryfeddwn i ddim na na fydd y cyffyle yn medru Sol-ffa cyn y 'Dolig!"
Ymhen peth amser wedi hyn, daeth rhestr testunau cyfarfod llenyddol Salem i'r Cwm. Yr oedd y prif destun cerddorol fel y canlyn,—
"Am y datganiad goreu o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear,' gan gôr yn perthyn i un gynulleidfa (heb fod dan 30 o nifer). Gwobr, Pum Gini, a bâton i'r arweinydd."
Gwelodd Eos Gwerfyl ei gyfle, ac ar ddiwedd y cyfarfod canu y nos Sul dilynol, galwodd sylw arbennig at y gystadleuaeth.
"Yr wyf yn credu y dylem ddangos beth allwn ei wneud," meddai.
"Y mae yma leisiau da, ac os gwnewch chwi oll eich goreu yn ystod yr wythnosau nesaf,—wel, raid i ni ddim ofni mentro i'r llwyfan."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
np5qjcez0cyeczd745yvxvh0c6q8x7f
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/45
104
84450
164199
2026-05-06T22:13:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164199
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cafodd y syniad ei dderbyn yn frwdfrydig, a threfnwyd i gael cyfarfod canu bob nos Iau, ac addawodd yr Eos roddi benthyg ei harmonium at wasanaeth y côr. Yr wythnos ganlynol dygwyd yr offeryn i Dŷ'r Capel, er mwyn iddi fod yn hwylus i'w chludo i'r addoldy yn ystod y practice. 'Doedd Marged Parri ddim yn foddlawn iawn ar y dechreu, ac yr oedd Shon William yn troi ei gefn ar y "newyddian yn y ffydd" bob tro y deuai efe i'r "Parlwr." Ond yr oedd Miss Elsie Meredydd yn llawen o weled yr adnewyddiad amlwg oedd wedi cymeryd lle ynglŷn â chaniadaeth gysegredig.
"Mae'n hawdd gwybod pryd y mae yn ddydd Iau 'rwan," meddai, "heb edrych ar yr Almanac! Mi fydd y morwynion acw yn codi heb i neb eu galw, ac yn gweithio â'u holl egni drwy'r dydd, er mwyn bod yn barod i fynd i'r cyfarfod canu gyda'r nos."
Un Saboth rhoddodd Miss Meredydd wahoddiad i Edward Puw ac Eos Gwerfyl i aros yn y Tŷ Capel i gael cwpaned o dê. Ceisiai Edward Puw ymesgusodi, ond nis gallai wrthod heb daflu sarhad ar garedigrwydd merch y Plas.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
kjp1gngj5kjvt4iba880u8gdxzksdll
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/46
104
84451
164200
2026-05-06T22:15:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164200
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mi fydd gennych chwi eich dau lawer i'w ddweud wrth eich gilydd," meddai Miss Meredydd, gyda gwên swynol, "o achos yr ydech chwi mor hoff o ganu. Sut mae'r côr yn dod ymlaen, Mr. Powell?"
Wedi i'r tê fynd drosodd, gofynodd i Eos Gwerfyl ganu tôn i'r cwmni.
"Prun fydd hi?" meddai yntau wrth Edward Puw.
"Chwi ŵyr oreu," ebai Puw, yn lled sychlyd.
"Wel, beth fyddai i ni ganu yr hen 'Danycastell?' Mae'r chwiorydd yma yn hoff o enw John Jones, Talysarn."
Eisteddodd wrth yr offeryn. Ond dyna Shon William yn chwilio am ei het ac yn myned allan. Aeth yr Eos rhagddo heb gymeryd arno ei weled, ac yr oedd ei lais toddedig yn gwefreiddio'r gwrandawyr. Gwelid un hen chwaer yn chwilio am ei chadach poced, a gorfu i Marged Parri eistedd i lawr ar ganol cadw y llestri tê. Yr oedd Rolant Owen wedi cau ei lygaid yn dỳn, ac yn siglo fel coeden o flaen y<noinclude><references/></noinclude>
5xyfxrmlp158or95myov3y7owf3dm4t
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/47
104
84452
164201
2026-05-06T22:16:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164201
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwynt. Ac yn sicr ddigon, dyna Edward Puw, heb yn wybod iddo ei hun, yn dechreu canu tenor. Aed dros yr hen dôn anwyl lawer gwaith, ac ereill ar ei hol.
Wedi i'r canu ddistewi, edrychodd Rolant Owen ar y cloc.
"Yn diar mi," meddai, "mae hi bron yn chwech o'r gloch. Weles i 'rioed mo'r amser yn mynd mor gyflym. Yn tydi canu yn beth ardderchog iawn! 'Doedd o ryfedd yn y byd i'r hen fardd ddeud y ddwy linell yma,—
{{center block|
<poem>
"'Mhen oesoedd rif y tywod mân,
:Ni bydd y gân ond dechreu."
</poem>

Cyn ymwahanu, gofynnodd yr Eos i Edward Puw dalu ymweliad â'r "cyfarfod canu." "Mi fedrwch chwi roddi inni awgrymiadau gwerthfawr, a gwerthfawr, a bydd yn llawen gennym eich gweled."
"Ie, wir," meddai Miss Meredydd, "yr ydych yn llygad eich lle, Mr. Powell. Ac mi rof fy ngair y daw o, hefyd. Mi wnewch addo mynd, oni wnewch chwi, Edward Puw?"
'Doedd neb fedrai ateb Miss Meredydd yn y modd nacaol. "Hwyrach yr âf," meddai, ac ymaith a hwy i'r capel.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l861cb14xbochjkoxzm4jlq7f6v8f9x
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/48
104
84453
164202
2026-05-06T22:20:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164202
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd Edward Puw yn ei hwyliau gore y nos waith honno, ac yn canu yn ardderchog, fel yn y "dyddiau gynt."
Ond nid oedd neb yn deall y gyfrinach, ond y sawl oedd wedi bod yn llygad-dystion o'r olygfa yn Nhŷ'r Capel.X ym mha le yr oedd Shon William? Nid ydoedd yn ei le arferol yng nghongl y sêt fawr.
{{***|5|3em|char=O}}
Wedi hir ddisgwyl a pharotoi, daeth adeg cyfarfod llenyddol Salem. Yr oedd pedwar neu bump o gorau yn cystadlu, ac un neu ddau ohonynt yn gorau enwog, wedi arfer mynd "i nol y wobr," fel y dywedir. Ond y noswaith honno, enillwyd y wobr, gyda chanmoliaeth uchel y beirniad, gan gôr y Cwm, o dan arweiniad Eos Gwerfyl. Mawr y llawenydd!.
Rhoddodd Mr. Meredydd swper i'r côr buddugol yn y Plas; ac yn ystod y gweithrediadau, cyfeiriodd yr Eos at y dymunoldeb o gael "offeryn" i'r addoldy, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi taro tant oedd yn cyffwrdd calon y gwyddfodolion.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nwec6f5tftasv4lzf46xntb0tm2gvq3
164205
164202
2026-05-06T22:24:26Z
AlwynapHuw
1710
164205
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd Edward Puw yn ei hwyliau gore y nos waith honno, ac yn canu yn ardderchog, fel yn y "dyddiau gynt."
Ond nid oedd neb yn deall y gyfrinach, ond y sawl oedd wedi bod yn llygad-dystion o'r olygfa yn Nhŷ'r Capel. Ond ym mha le yr oedd Shon William? Nid ydoedd yn ei le arferol yng nghongl y sêt fawr.
{{***|5|3em|char=O}}
Wedi hir ddisgwyl a pharotoi, daeth adeg cyfarfod llenyddol Salem. Yr oedd pedwar neu bump o gorau yn cystadlu, ac un neu ddau ohonynt yn gorau enwog, wedi arfer mynd "i nol y wobr," fel y dywedir. Ond y noswaith honno, enillwyd y wobr, gyda chanmoliaeth uchel y beirniad, gan gôr y Cwm, o dan arweiniad Eos Gwerfyl. Mawr y llawenydd!.
Rhoddodd Mr. Meredydd swper i'r côr buddugol yn y Plas; ac yn ystod y gweithrediadau, cyfeiriodd yr Eos at y dymunoldeb o gael "offeryn" i'r addoldy, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi taro tant oedd yn cyffwrdd calon y gwyddfodolion.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hcq04cr4xd6bj1v93cni6ochc2r5l1t
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/49
104
84454
164203
2026-05-06T22:23:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164203
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi hynny, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel i longyfarch y côr ar eu buddugoliaeth ysblennydd. Y llywydd ydoedd Mr. Meredydd, a gwnaed cyfeiriadau priodol at yr adnewyddiad amlwg oedd ar y canu cynulleidfaol yn y Cwm. Rhoddwyd datganiad o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear," a chynygiwyd diolchgarwch i'r arweinydd, yr hyn a basiwyd yn unfrydol. Wrth gydnabod y bleidlais, â'r baton newydd yn ei law, cyfeiriodd yr Eos at yr ymdrech a wnaed gan aelodau y côr; y cynhorthwy gwerthfawr oeddynt wedi ei gael gan Edward Puw, a dywedodd eu bod wedi cytuno i drosglwyddo y wobr,—''sef pum gini'',—tuag at gael "offeryn" i'r addoldy [cym.]. Cododd Mr. Meredydd i ddweud ei fod yntau yn rhoddi ''pum punt'' at yr amcan [cym.], ac y byddent yn ddiolchgar am addewidion gan eraill.
Daeth amryw ymlaen ar y diwedd, a chyn pen ychydig wythnosau, yr oedd harmonium brydferth wedi dod i'r Cwm, ac wedi ei gosod yn daclus gyferbyn â'r "sêt fawr." Ond, fel arfer, yr oedd rhyw nifer wedi cymeryd tramgwydd; ac yn eu plith, Shon William y crydd. Deuai i'r<noinclude><references/></noinclude>
sajc55qxgetovz53kosy75wimywn9ed
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/50
104
84455
164204
2026-05-06T22:23:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas. "Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan...
164204
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas.
"Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan yn galw yn y gweithdy. "Mae arno ni eisio eich gweled ch'i yn fawr; ac mi fyddwn yn son am danoch efo'n gilyad. A pheth arall, y mae'ch tro ch'i i holi yr Ysgol Sul jest yn ymyl 'rwan. Dowch i ni gael mynd ymlaen efo'r bennod honno yn y 'Fforddwr, i edrych yden ni yr un farn ag oedd ganddo ni'r llynedd. Fydda i ddim yn gweld dim byd yn curo'r 'Fforddwr i holi'r ysgol, ac mi 'rydech ch'i yn reit gartrefol yn o fo o'i ddechre i'w ddiwedd."
"Wna i ddim byd byth," meddai, "tra y bydd yr hen beth ene yn cadw swn drwg. Yr ydyw i'n synnu atoch chi, Rolant Owen, mor chwim-chwam, yn troi
Q
efo phob awel. Beth sydd i'w gael i enaid neb mewn rhyw swn gwag? Mae crefydd yr oes wedi mynd yn chware plant, a does neb yn meddwl am yr athrawiaethe mawr."
Ond os oedd yr offeryn" wedi gyrru Shon William allan o dune, yr oedd gan Ragluniaeth offeryn arall i adfer ei ysbryd ̧ ac i ddwyn ei galon i gywair drachefn,—fel "telyn Dafydd ar yr wyl."<noinclude><references/></noinclude>
d0ijqyiezifq3g8ea91mqej3ay9lut9
164206
164204
2026-05-06T22:26:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164206
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas.
"Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan yn galw yn y gweithdy. "Mae arno ni eisio eich gweled ch'i yn fawr; ac mi fyddwn yn son am danoch efo'n gilyad. A pheth arall, y mae'ch tro ch'i i holi yr Ysgol Sul jest yn ymyl 'rwan. Dowch i ni gael mynd ymlaen efo'r bennod honno yn y 'Fforddwr, i edrych yden ni yr un farn ag oedd ganddo ni'r llynedd. Fydda i ddim yn gweld dim byd yn curo'r 'Fforddwr i holi'r ysgol, ac mi 'rydech ch'i yn reit gartrefol yn o fo o'i ddechre i'w ddiwedd."
"Wna i ddim byd byth," meddai, "tra y bydd yr hen beth ene yn cadw swn drwg. Yr ydyw i'n synnu atoch chi, Rolant Owen, mor chwim-chwam, yn troi<noinclude><references/></noinclude>
obb99t6wlkig9nkyuv5zezisjydvvaq
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/51
104
84456
164207
2026-05-06T22:27:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164207
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>efo phob awel. Beth sydd i'w gael i enaid neb mewn rhyw swn gwag? Mae crefydd yr oes wedi mynd yn chware plant, a does neb yn meddwl am yr athrawiaethe mawr."
Ond os oedd yr offeryn" wedi gyrru Shon William allan o ''dune'', yr oedd gan Ragluniaeth offeryn arall i adfer ei ysbryd ̧ ac i ddwyn ei galon i gywair drachefn,—fel "telyn Dafydd ar yr wyl."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sb8pmhx8ouho6kfoj80k2ewyendfija
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/52
104
84457
164208
2026-05-06T23:12:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164208
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VI.
GŴR DIARTH O'R DE.}}}}
UN o foethau crefyddol y Cwm ydoedd "ceyhoeddiad" cyfnodol gweinidogion enwog o siroedd ereill, ac yn enwedig o'r South. Byddent yn dod, fel rheol, ar noson waith; ac os na byddai yn "gynhaua' gwair," neu y tywydd yn rhy "fawr," deuai cynhulliad lluosog ac astud i'r capel i glywed y "gŵr diarth."
Un o'r rhai mwyaf derbyniol gan y frawdoliaeth ydoedd y Parch. Morgan Rees, o sir A{{bar|2}}. Yr oedd efe wedi cael oedfa rymus yn adeg y Diwygiad, ac amryw wedi dod i'r seiat o dan ei weinidogaeth. Ymysg edmygwyr mwyaf y pregethwr gwlithog hwn yr oedd Shon William y crydd. Pan yn sioncach ar ei droed, byddai yn ei ddilyn o'r naill gapel i'r llall am ddyddiau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hhtjxb8jrfbvgxhg76641vu7okdc3fp
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/53
104
84458
164209
2026-05-06T23:13:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164209
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Daeth y Parch. Morgan Rees at ei gyhoeddiad yn gynnar, wedi cael ei ddanfon gyda cherbyd o'r lle yr ydoedd yn pregethu y noson cynt. Yr oedd Marged Parri yn llawn ffwdan yn disgwyl am dano, ac wedi gwneud tân yn y Parlwr, gan fod yr hin yn dechreu oeri. Gwyddai fod y gŵr da yn agored i un gwendid bychan,—yr oedd yn hoff o "fygyn," ac yr oedd yno bibell wen, hir, yn disgwyl am dano. Digwyddais fod ar ymweliad â'r Cwm y dyddiau hynny, a chefais innau wahoddiad i ddod yno i "gadw cwmpeini i'r pregethwr diarth. Yr oedd Marged Parri yn un o'r saint hynny sydd yn dirgel gredu mai nid diogel ydyw gadael y "pregethwr" ar ei ben ei hun; ac y dylai fod rhywun yn gyfleus i ddal pen rheswm iddo yn wastad. Ac yr oedd y Parch Morgan Rees yn " fôd cymdeithasgar." Yr ydych yn ei gofio, onid ydych? Gŵr cyd-nerth, llydan ei ysgwyddau; gwyneb crwn, gwridgoch, dau lygad gloew, ac yn gwedd-newid gan arabedd a dwysder, bob yn ail. Yr oedd ei olwg allanol yn urddasol a boneddigaidd, ond yr oedd ei ddull siriol a charedig yn peri i'r sant symlaf deimlo yn gwbl gartrefol yn ei gymdeithas. Wedi i Marged Parri ddod â'r tê ar y bwrdd,<noinclude><references/></noinclude>
gacz0035qzrpopsl7exvofktp4dd4lf
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/54
104
84459
164210
2026-05-06T23:15:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164210
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dechreuodd ei holi yn gynnil am ansawdd yr achos yn y Cwm.
"Sut y mae achos crefydd yn yr ardal yma 'nawr, Mrs. Parri? A oes tipyn o lewyrch ar y moddion?"
"Na wir, Mr. Rees, digon bethma ydi hi efo ni ers tro."
"Felly'n siwr, nid dydd ac nid nôs fel y dywed y proffwyd."
Wel, ie, am wn i. Y mae 'ma rwbeth, —''hamorniam'',—peth at ganu, wyddoch,—ac y mae rhai o'r brodyr wedi peidio dwad yma o'r achos."
"Tewch son! Offeryn cerdd ydych yn ei olygu," ebai Mr. Rees.
"Ie, siwr; ond ''hamorniam'' y mae nhw yn ei alw fo yma."
"O, peidiwch a dychryn dim, wraig fach. Y maent i'w cael yn aml yn y South acw Yr oeddwn innau yn teimlo peth rhagfarn ar y cyntaf; ond 'nawr yr wyf yn eu hoffi yn nobl.
'Does dim amheuaeth nad ynt yn help i'r canu, a rhaid symud ymlaen<noinclude><references/></noinclude>
j6e856at7fgn93r24wh2a5hjx0ro0dp
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/55
104
84460
164211
2026-05-06T23:15:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164211
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyda'r oes. Ond pwy wedsoch ch'i oedd wedi cymeryd tramgwydd gyda'r mater, Mrs. Parri?"
Wel, un ydi y brawd Shon William y crydd. Yr ydech ch'i yn ei gofio, mi wranta, Mr. Rees."
Hawyr fach! ac y mae'r offeryn cerdd wedi ei yrru e' allan o ''dune''. Mae e'n para i ddod i'r capel, mi obeithiaf."
Ydi yn weddol; ond dydi o ddim yn eiste' yn y sêt fawr, a neiff o ddim byd yn gyhoeddus, fel tae. Mi fydde'n arfer a dwad i'r Parlwr 'ma at y pregethwr bob Sul, ond er pan ddaeth yr hamorniam .ene, dydi o ddim wedi croesi y rhiniog. Wn i ddim a ddaw o yma heno, er y mod i yn gwybod ei fod yn ffond iawn o'ch clywed ch'i bob amser."
Ond tra yr ydoedd Marged Parri ar ganol myned dros hanes yr achos, pwy ddaeth at y drws ond—Shon William y crydd! Adwaenai Marged swn ei draed, a gwaeddai o'r parlwr,—
"Dowch i mewn rhag ych blaen. Yr oedden ni yn son am danoch ch'i 'rwan."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
n0j70nh35yy70s6unhukhiyivpinjao
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/56
104
84461
164212
2026-05-06T23:16:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164212
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Hym! 'doedd gynoch ch'i ddim llawer o dda i ddeud, os y fi oedd y testun."
Cododd y Parch. Morgan Rees o'r gadair, a chan ysgwyd llaw yn gynnes, dywedodd,—
"Shiwd yr y'ch ch'i, yr hen ffrynd! Mae'n bleser gennyf eich gweled yn edrych mor sionc. A ydych yn dal ati efo'r achos goreu?"
"Na wir, digon dilewyrch ydi fy hanes i," meddai Shon William. "Ond fedrwn i yn fy myw beidio dod yma i'ch gweld ch'i syr, er mwyn yr adeg dedwydd pan oedd pyncie duwinyddol mewn bri yn y wlad."
"Ie, amser hyfryd oedd hwnnw, fel y dywedwch, ac y mae'n felus gennym gofio am dano. Ond dylech gofio hyn,—mae duwinyddiaeth dda yn angenrheidiol o hyd, ac y mae ''divine'' fel y chwi o werth mawr gyda chrefydd."
"Na, Mr. Rees, y mae hynny wedi mynd drosodd. 'Offeryn' ydi'r pwnc yn y dyddiau hyn, ac nid 'cyfiawnhad.'
"Ie, y mae cerddoriaeth yn llawforwyn<noinclude><references/></noinclude>
99akojemqk5262na5pbg1fct1ais2fs
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/57
104
84462
164213
2026-05-06T23:18:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164213
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ardderchog i grefydd yr Arglwydd Iesu; ond y mae duwinyddiaeth yn hanfodol i bob cyfnod. Yr oeddwn yn ymddiddan gyda Dr. Edwards, y Bala, pwy ddydd, ac yn dweud wrtho fod gennyf oedfa yn y Cwm. 'Da iawn,' ebai'r Doctor, "'does unman y byddaf yn hoffi pregethu yn well na'r Cwm. Y mae yno bobol sydd yn deall athrawiaethau yr efengyl. A wnewch chwi fy nghofio yn garedig at y frawdoliaeth, ac yn enwedig at yr hen frawd, Shon William. Gobeithio ei fod yn dal i gateceisio y pregethwyr ieuainc. Y mae wedi gwneud llawer o les."
"Diar mi," ebai Shon William, yn gyffrous.—ac yr oedd Doctor Edwards yn gofyn am dana' i wrth fy enw!"
"Peidiwch rhyfeddu dim," ebai Mr. Rees, a gwên ar ei enau, "fydd Doctor Edwards ddim yn anghofio dyn os bydd rhywbeth ynddo. A wnewch chwi ddechreu yr oedfa heno?"
"Na—wir—fedra'i ddim—heno. Yr ydw' i wedi gadel fy spectol gartre'. Mi wneiff y brawd yma yn fy lle."
Aed i'r capel, ac yr oedd yno gynulliad<noinclude><references/></noinclude>
f779sakaumlprkctdmso8wvqsrvvwfk
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/58
104
84463
164214
2026-05-06T23:19:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164214
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ardderchog. Pregethodd y "gŵr diarth" ar hanes Elias yn yr ogof. "Pa beth a wnei di yma, Elias? Wedi dy ado dy hunan a ddywedaist? Dim o'r fath! Y mae yna saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. Pa beth a wnei di yma? A ddywedaist ti fod dy waith ar ben? Yr wyt yn camsynied eto! Nid pen Carmel ydyw pen draw dy yrfa. Y mae eisieu i ti eneinio brenin a phroffwyd newydd."
Yna aeth rhagddo i ddangos fel y mae pobl dda eto,—y bobl ''oreu'' yn fynych,—yn cael eu tynu i'r ogof,—ogof amheuon, ogof rhagfarn, &c. Ond lle tywyll iawn yw yr ogof," ebai y pregethwr, "'does yno ddim goleuni na chysur i neb.
Ac y mae Duw yn gofyn i ambell un heno,—Pa beth a wnei di yma?' Y mae dy eisieu eto i gyflawni gwaith drosto ef."
Ar derfyn y bregeth galwyd seiat, a chaed fod dau neu dri wedi aros o'r newydd,—peth pur amheuthyn yn y Cwm ers cryn amser. Wedi ymddiddan yn dyner â'r dychweledigion, a rhoddi iddynt gynghorion priodol, gofynnodd y y "gŵr diarth" i Shon William ddweud "gair.' Ac er syndod i bawb, cododd ar ei draed,<noinclude><references/></noinclude>
7n9sb6xj9hgam6iphp0f7svvuqzl4o3
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/59
104
84464
164215
2026-05-06T23:20:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164215
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>daeth at y sêt fawr, a dywedodd rywbeth yn debyg i hyn,—
"Wel, gyfeillion, y mae yn syn gan lawer o honoch fy ngweled i yn dod ymlaen i'r fan yma. Ond yr oedd y bregeth heno yn dweud fy hanes i'r dim. Yr ydw' inne wedi bod yn yr ogo' ers tro, ac yn ddigon anesmwyth fy meddwl. Ond y mae'r gair ene wedi glynu yn fy enaid.—'Beth a wnei di yma?' Hwyrach fod gan yr Arglwydd rywbeth i minne i'w wneud dros ei Enw cyn mynd o'r byd."
Cafodd geiriau Shon William effaith ryfedd ar y cynulliad. Yr oedd teimlad dwys yn meddiannu pawb, a deigryn yn llithro oddiar lawer grudd. Canwyd yr hen bennill ar y diwedd gyda blas,—
"Trig yn Seion, aros yno,
Lle mae'r llwythau'n dod ynghyd."
A bu yr oedfa honno yn cael ei chofio yn hir, oherwydd mai dyna'r noson y daeth Shon William allan o'r ogof!
Yr oedd Rolant Owen fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Dyna oedd ganddo wedi dod o'r capel i'r ty,—" Yr oedd yn werth i chi ddwad yma bob cam, Mr. Rees bach, i<noinclude><references/></noinclude>
1d617h9unom6m6b70ji2o0yyj53b6g8
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/60
104
84465
164216
2026-05-06T23:20:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164216
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gael yr hen ffrynd Shon William allan o'r ogo.
Yr oeddwn i bron a neidio ar y nhraed, pan oedd o yn siarad yn y seiat, a gwaeddi 'Diolch Iddo!' dros y lle,—oeddwn wir. Os gwel yr Arglwydd yn dda, mi gawn amser dedwydd efo'n gilydd eto. Yr yden ni wedi dadleu llawer erioed, ond yn ffrindie calon. Ac fel yr oeddech chi yn deud gyne, y mae Shon William yn ddifèin' campus, ac wedi profi blas pethe yr Efengyl. Mi fum i yn teimlo lawer tro fod sgwrs y Ty Capel yma, ar ddydd Sul yn cael ei chodi i lefel uchel pan fydde Shon William yn siarad ar byncie duwinyddol, ac y mae yn dda gen i feddwl fod Dr. Edwards, y Bala, yn synied yn uchel am ei waith. Wel, y mae plant yr Arglwydd yn colli eu lle yrwan ac yn y man, ond dydi O ddim yn eu gadel yn yr ogo. 'Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, ac o ddyfnder y môr.'
"Y mae hi yn bryd i mi droi tua chartre, ac yr ydw' i yn cychwyn heno yn fwy ysgafn fy meddwl nac y gwnes i ers talwm. Diolch yn fawr i chi am ddwad ato ni, Mr. Rees. Y mae yn dda gyno ni y'ch gweled, a’ch clywed yn wastad. Gobeithio y cewch chi bob cysur ar y'ch taith drwy'r wlad<noinclude><references/></noinclude>
2urtlor936ntadgy6039n2zauz11r5q
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/61
104
84466
164217
2026-05-06T23:21:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164217
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yma, a phan ewch yn ol i'r Bala, cofiwch ddeud wrth Doctor Edwards fod y brawd Shon William wedi dwad yn ffrindie efo'r offeryn cerdd, a bod yma lawenydd mawr.
"Nos dawch, Marged Parri. Mi fydd gyno'ch chwithie rwbeth gwerth i'w anfon at Dafydd i'r Mericia y tro nesa. Cofiwch ddeyd hanes yr odfa heno, a gofynwch i Dafydd ydi o wedi llwyddo i dyfu blode ' llygad y dydd' yn y wlad bell."
"Rhoswch funud, mi ddof gyda chwi cyn belled a'r Bont Bren," ebai llais o'r gegin.
A chafodd Rolant Owen gyfleusdra i fyn'd dros hanes yr oedfa wedyn ar ei ffordd adref yng nghwmni diddan Elsie Meredith.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1odu3m4n8mh9l4hp219rooe9atijhwl
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/62
104
84467
164218
2026-05-06T23:21:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164218
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VII.
"SEIAT YR YMWELWYR.}}}}
UNWAITH bob tair blynedd, byddai Cyfarfod Misol D{{bar|2}} yn trefnu ymweliad cyffredinol â'r eglwysi. Ac ymysg digwyddiadau crefyddol y Cwm, un o'r rhai mwyaf dyddorus ydoedd Seiat yr Ymwelwyr." Ar y nos Sul blaenorol, byddai Joseph Jones, wrth gyhoeddi, yn galw sylw arbennig at y ffaith.
"Yr ydym yn disgwyl yr "ymwelwyr" yma nos Fercher, ac yn gobeithio y bydd i bawb wneud ymdrech i ddyfod i'r Seiat, er mwyn i'r brodyr weled ein bod yn gwerthfawrogi eu dyfodiad atom fel cenhadon y Cyfarfod Misol."
Yr ymwelwyr disgwyliedig y tro hwn ydoedd Mr. Prydderch, Tremydon; Mr. Tudor Lloyd, Bryn Derw, a'r Parch. Jacob Davies, Pentre Gwyn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3mzls5ue11tdlgw8oh0f315ekdz2sae
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/63
104
84468
164219
2026-05-06T23:22:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164219
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gŵr cymharol ddieithr yn yr ardal oedd Mr. Prydderch. Yr oedd wedi bod yn fasnachydd llwyddiannus yn nhref C{{bar|2}} ac wedi ''retirio'' ers blwyddyn neu ddwy, ac yn byw mewn palasdy bychan o'r enw Tremydon. A chan ei fod yn "ddyn o fusnes," ac yn llawn o ysbryd gwaith, byddai yn cael ei benodi ar y rhan fwyaf o bwyllgorau y Cyfarfod Misol.
Ffermwr ydoedd Mr. Tudor Lloyd, pur gefnog ei amgylchiadau, ac yn ŵr amlwg mewn ffair a marchnad. Dichon mai ei ofalon bydol oedd un rheswm ei fod heb gael hamdden i chwilio am gydmar bywyd. "Hen Lanc Bryn Derw" oedd ei enw cyffredin yn yr ardal, ac, fel llawer o'i dras, yr oedd yn lled sensitive ar bwnc ei oedran.
Yr oedd y Parch. Jacob Davies wedi bod yn weinidog yn y Pentre Gwyn ers rhai blynyddau, ac yn cael ei gydnabod yn fugail gofalus a thyner, hynod o boblogaidd gyda'r plant a'r bobl ieuainc. Ac nid rhyfedd, yr oedd nwyfiant a llonder yn llenwi ei ysbryd, ac yn ei wneud yn gwmni dyddan a mwyn. Yr oedd ganddo gryn ffordd o'r Pentre Gwyn i'r Cwm; ond efe oedd y cyntaf i gyrraedd yno y diwrnod<noinclude><references/></noinclude>
8x5q9z0b1emsz8rjmzhi07og1pu15zz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/64
104
84469
164220
2026-05-06T23:23:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164220
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnnw. Yr oedd wedi cerdded dros Foel y Rhedyn, ac wedi galw yng ngweithdy Shon William, y crydd, am dipyn o ymgom; ac, hwyrach, er mwyn cael gwybod sut yr oedd y "gwynt yn chwythu." Syndod iddo oedd gweled yr hen frawd mewn tymer mor addfwyn, ac wrthi yn brysur yn gorffen pâr o 'sgidiau, er mwyn dod i'r Seiat.
Yna daeth Mr. Davies at y. bont sydd yn croesi y "Ddeuddwr," a rhoddodd ei bwysau ar y canllaw, i fwynhau yr olygfa. Diwrnod O wanwyn ydoedd,—diwrnod tyner, clir, ar ol cyfres o ddyddiau dwl ac ystormus. Yr oedd y coed yn dechreu deilio, y briallu yn gwenu ar ochrau y cloddiau, a'r perthi drain yn adgofio llinell Ceiriog,—
{{"Y gwanwyn a drodd, a ''gwynodd'' y drain."}}
Daeth rhagddo at y Ty Capel, ac wedi cyfarch gwell i Marged Parri, a chanmol yr "ardd bach," eisteddodd yn y parlwr. Gyda hyn, dyna'r gath yn dechreu ymrwbio yn ei goesau, ac yn gwneud y swn melfedaidd hwnnw sydd yn arwydd ei bod ar delerau da â'r ymwelydd.
"Yn wir, ma'r hen gath yma fel dase hi<noinclude><references/></noinclude>
1hizzo0r79nemz1s586ivac7nlwt8xa
164221
164220
2026-05-06T23:25:02Z
AlwynapHuw
1710
164221
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnnw. Yr oedd wedi cerdded dros Foel y Rhedyn, ac wedi galw yng ngweithdy Shon William, y crydd, am dipyn o ymgom; ac, hwyrach, er mwyn cael gwybod sut yr oedd y "gwynt yn chwythu." Syndod iddo oedd gweled yr hen frawd mewn tymer mor addfwyn, ac wrthi yn brysur yn gorffen pâr o 'sgidiau, er mwyn dod i'r Seiat.
Yna daeth Mr. Davies at y. bont sydd yn croesi y "Ddeuddwr," a rhoddodd ei bwysau ar y canllaw, i fwynhau yr olygfa. Diwrnod O wanwyn ydoedd,—diwrnod tyner, clir, ar ol cyfres o ddyddiau dwl ac ystormus. Yr oedd y coed yn dechreu deilio, y briallu yn gwenu ar ochrau y cloddiau, a'r perthi drain yn adgofio llinell Ceiriog,—
{{c|"Y gwanwyn a drodd, a ''gwynodd'' y drain."}}
Daeth rhagddo at y Ty Capel, ac wedi cyfarch gwell i Marged Parri, a chanmol yr "ardd bach," eisteddodd yn y parlwr. Gyda hyn, dyna'r gath yn dechreu ymrwbio yn ei goesau, ac yn gwneud y swn melfedaidd hwnnw sydd yn arwydd ei bod ar delerau da â'r ymwelydd.
"Yn wir, ma'r hen gath yma fel dase hi<noinclude><references/></noinclude>
rgy61a72ukqklpmdfek31wwexwown2z
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/65
104
84470
164222
2026-05-06T23:26:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164222
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ych nabod chi," meddai Marged Parri. "Pan ddaw ambell bregethwr i'r parlwr yma, mi fydd yn dengyd am i hoedel, a wela i moni am oriau."
"Dyna brawf ei bod yn nabod y natur ddynol," ebai Mr. Davies. "Ond y mae yn rhaid fod ei chof hi yn bur dda hefyd,—hwyrach ei bod yn cadw Dyddiadur!'
"Welsoch chi mo'r ddau ddyn arall ar ych siwrne?" ebai Marged Parri.
"Yr ydw i yn nabod Mr. Lloyd fel yr ydw i yn ych nabod chithe. Sut un ydi Mr. Prydderch deudwch? Mi glywes i fod o yn byw mewn plâs, ac ma gen i ddigon o ofn na fedra i ddim rhoi tendars fel y mae o yn arfer gael."
"Peidiwch a phryderu dim," meddai y gweinidog. "Gwnewch gwpaned o de, fel arfer, a mi ofala i am Mr. Prydderch."
Gyda hyn, dyna Mr. Tudor Lloyd yn prysuro i'r ty, wedi cerdded o farchnad C{{bar|2}} ac yn chwys diferol.
"Sut yr ydech chi, Marged Parri? Holo! Dyma Mr. Davies wedi cyrraedd yma yn barod Pwy newydd sydd o'r Pentre acw, frawd?'
"Wel, y newydd diweddaraf,' fel y<noinclude><references/></noinclude>
ic49st96fce7uxb9s527b4sh0zny0zj
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/66
104
84471
164223
2026-05-06T23:28:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164223
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bydd y papyre yna yn deud, ydyw fod Mr. Lloyd, Bryn Derw, yn mynd i gael ''gwraig''!"
"Celwydd noeth! Pwy fase mor ffol a chymryd rhyw greadur trafferthus fel yfi?"
"Does neb fedr wneud hynny heb gae ''gofyn'' iddi," ebai Marged Parri.
Ond ar ganol y sgwrs, dyna gerbyd Mr. Prydderch yn dod at y buarth. Prysurodd Marged Parri i agor drws yr ystabl; ond yr oedd gwas Plas y Wern wedi cyrraedd yno o'i blaen, efo ''feed'' o geirch i'r anifail.
Cyn pen ychydig yr oedd y te yn barod. a'r llestri goreu wedi eu gosod ar y bwrdd, Yr oedd Mr. Davies yn sylwi fod Marged Parri braidd yn ''nervous'', ac er mwyn ei chael i gywair, dywedodd,—
"Mi wela fod yma depot" newydd, Marged Parri, ac un ''crand'' iawn, hefyd. Yr ydw i just a meddwl mai i Mr. Prydderch yr ydym yn ddyledus am hyn. Y mae yr ymweliad â'r eglwysi yn gwneud llawer o bethau, yn "anuniongyrchol," fel y dywed yr athronwyr mawr yna; ac<noinclude><references/></noinclude>
h5de3a9zj7vxj6ffozfwxad9genx3fz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/67
104
84472
164224
2026-05-06T23:29:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164224
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymysg pethau ereill, y mae yn achlysur i gael "tepot" newydd i'r Ty Capel!"
"Mae yma bethe rhyfeddach na ''thepot'' newydd," ebai Marged Parri,—"dase ddim ond yr offeryn,—yr ''hamorniam'' ene,—sydd yn y capel." Ac yna aeth dros y stori, sut y daeth Shon William o'r ogof, ac yr oedd Mr. Prydderch yn porthi y gwasanaeth gyda blâs.
Yn y cyfamser, daeth y blaenoriaid yno. Aed dros lyfrau yr eglwys, a gofynwyd llawer o gwestiynau am y dull yr oedd y gwaith yn cael ei gario ymlaen.
Daeth amser y Seiat, ac er fod y tywydd wedi newid yn ystod y prynhawn, daeth cynulliad rhagorol ynghyd.
Dechreuwyd gan y Parch. Jacob Davies, ac yr oedd eneiniad amlwg ar y gwasanaeth. Yna cododd Mr. Prydderch, a dywedodd fod yn dda ganddo gael y fraint o dalu ymweliad personol ag eglwys y Cwm. Yr oeddynt wedi bod dros y llyfrau, ac yn cael fod y cyfrifon yn cael eu cadw yn drefnus a chlir. Nid oedd yr holl gasgliadau Cyfundebol yn cael eu gwneud ganddynt, a hyderai y byddai y swyddogion yn<noinclude><references/></noinclude>
ahwjjjgzbg4xnovkyo7jroht2ka7q2a
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/68
104
84473
164225
2026-05-06T23:33:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164225
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymdrechu rhoddi pob casgliad gerbron y gynulleidfa, a hynny yn ei adeg briodol.
Ar ei ol ef cododd Mr. Tudor Lloyd, a dywedodd mai yr hyn oedd wedi ei ymddiried iddo ef ydoedd y canu, a'r Ysgol Sul. Yr oedd yn dda ganddo ddeall fod yr Ysgol Sul yn y Cwm yn dal ei thir; ond awgrymai y priodoldeb o wneud mwy o ymdrech i gael esgeuluswyr i'r Ysgol, yn enwedig ym mhentref y Rhyd.
Am y canu; yr oedd yn eu llongyfarch ar eu gwaith yn ffurfio ''côr'' oedd yn anrhydedd i'r ardal. Yr oedd yn falch o weled a chlywed yr "offeryn" oeddynt wedi ei gael i'r capel. Adwaenai Edward Puw ers blynyddoedd, a gwyddai fod ei galon yn y gwaith.
Dilynwyd ef gan y Parch. Jacob Davies, yr hwn a draethodd yn felus ar y "Pwysigrwydd o gael y bobl ieuainc i weithio gyda chrefydd."
Yna gofynwyd i'r blaenoriaid ddweud gair. Wedi peth cymell, cododd Rolant Owen, a dywedodd fod yn dda ganddo fod yno yn gwrando sylwadau a chynghorion yr ymwelwyr. Credai mai eu hangen mawr ydoedd ''Adnewyddiad'' ysbrydol.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bhwtcvsy4xhy61gmzal413dimz3lcba
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/69
104
84474
164226
2026-05-06T23:38:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164226
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd y gwahaniaeth rhwng yr eglwys a'r byd wedi mynd yn annodd ei ganfod.
"Un o'r dyddie diwedda," meddai, "fe ddaeth ''fleet'' o wylanod y môr i'r cae acw, i ganol y brain. Mi fyddan yn arfer a dwad ar ryw fath o dywydd. Ond doedden nhw ddim yn medru cytuno efo'u gilydd, ac mi gododd y cwbl ar eu hedyn, a dene lle'r oeddynt yn gwau drwy eu gilydd yn yr awyr uwchben. Ond yr oedd y wybren mor gymylog fel na fedrwn ni ddim gwneud allan y gwahaniaeth rhwng y gwylanod a'r brain! Yr oedd y du a'r gwyn, rywsut, wedi mynd yr un lliw. Ond dase y diwrnod yn fwy clir mi fase yn ddigon hawdd gwybod prun oedd y ''wylan'', a phrun oedd y ''frân''. Felly y bydda i yn i gweld hi efo chrefydd. Ar ambell adeg digon anodd ydyw gweld y gwahaniaeth rhwng yr eglwys a'r byd. Ond pe cawsem dipyn mwy o lewyrch oddi fry, mi altre popeth yn union deg.
{{center block|
<poem>
'Ceir gweld gan bwy mae'r sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir.'
</poem>

Yr oeddwn i'n meddwl am y gair hwnnw,—'Fy etifeddiaeth sydd i mi fel aderyn brith.' Hwyrach y down ni yn ''wyn'' yn y man. 'Pan wasgarodd yr Hollalluog<noinclude><references/></noinclude>
rafkz46mu5041esl87e0pr6alxezsyw
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/70
104
84475
164227
2026-05-06T23:39:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164227
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.' Am y bobol ifainc yma, yr oedd fy nghalon i yn cynhesu wrth ych clywed yn son am danynt. Mae isio rhoi mwy o waith iddynt, ac os byddant yn mynd ymlaen yn siarpach na ni, rhaid inni gofio mai y nhw, yn ol y Beibl, sydd yn gweled gweledigaethau, a ninnau, yr hen bobl, yn 'breuddwydio breuddwydion. Mi glywsoch, yn ddiau, am dipyn o helynt fu yma efo'r canu, a'r offeryn sy'n awr yn cael ei arfer yn y gwasanaeth. I'r bobol ifainc yr ydym yn ddyledus am dano, ac erbyn hyn y mae popeth wedi dod i'w le. Fu Edward Puw erioed yn canu yn well, ac y mae'r hen frawd, Shon William, fel y gwelwch, yn eistedd, fel arfer, yng nghornel y set fawr."
"Yn toedd yr hen Rolant Owen yn ''dda''!" meddai'r bobl, wrth fyned allan. "Mi geiff o ddweud pethe na fuasent yn gweddu i neb arall, ac mi ddeudodd y gwir bob gair."
Yr oedd llawer o ganmol ar y Seiat honno yn y Cwm, ond yr hyn ydoedd wedi glynu ddyfnaf ym meddyliau y gwrandawyr oedd dameg Rolant Owen,—"Y Gwylanod a'r Brain."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jcjw3d2id16m8sftyoyr067onvizyqw
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/71
104
84476
164228
2026-05-07T00:22:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164228
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VIII.
ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES.}}}}
AETH Mr. Prydderch, Tremydon, a Mr. Lloyd, Bryn Derw, bob un i'w ffordd ei hun yn union ar ol y Seiat y soniwyd am dani yn y bennod o'r blaen. Ond arhosodd y Parch. Jacob Davies am "damaid o swper" yn y Tŷ Capel, a gwahoddwyd finnau i aros gydag ef. Wedi i hynny fyned drosodd, dywedodd Mr. Davies fod yn rhaid iddo gychwyn tuag adref.
"Na," meddai Marged Parri, 'dydi o ddim iws i ch'i feddwl mynd i ffwrdd heno, Mr. Davies.
Mae hi yn rhy dywyll i neb fynd allan o dŷ, heb son am groesi yr hen fynydd ene i Pentre Gwyn. 'Rhoswch yma ych dau. Mi fyddwch yn gwmpeini i'ch gilydd, ac mi gewch fynd i'r gwely pan y mynnoch."
Ac, a dweud y gwir, nid oedd llawer o waith perswadio ar y cyfaill, oherwydd yr oedd ganddo dipyn o "ofn y nos." Wedi i<noinclude><references/></noinclude>
7fq46pvd0tlsdcpnyyrg8ungbg81der
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/72
104
84477
164229
2026-05-07T00:23:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164229
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni gael y parlwr i ni ein hunain, aethom i siarad am y Bala, a'r cyfnod dedwydd oeddym wedi ei dreulio yn y Coleg,—y cyfnod dedwyddaf, mae'n debyg, yn hanes y rhan fwyaf o bregethwyr. Hwyrach nad ydyw yn ymddangos felly ar y pryd; ond wedi iddo fyned heibio, y mae yna ryw ''after-glow,'' fel pelydrau haul yn y gorllewin ar hirddydd haf. Nid oeddym wedi bod yn euog, ill dau, o ddod â llawer o wybodaeth glasurol gyda ni o'r Bala, ond yr oedd gennym ''adgofion'' na fuasem yn eu gwerthu am unrhyw bris.
"Fel yr oeddwn yn dweud," ebai fy nghyfaill, y noswaith honno, ymhlith llawer o bethau dyddorol ereill, "fe aethum i'r Bala cyn diwedd fy mlwyddyn brawf, ac yr wyf yn cofio fy hun yn dod i'r daith yma ar 'Saboth' yr hen weinidog o Lwyn Celyn. Yr oedd gen' i dipyn o ofn yr hen frawd, oherwydd yr oedd o yn cael y gair o fod yn lled lawdrwm ar yr hogie fyddent yn dechre pregethu. Mi gerddes o'r Bala ar ol tê ddydd Sadwrn; ond mi ddaeth yn nos arnaf,—noson oer ym mis Chwefrol, ac mi drois at fy ewyrth John, i'r Cae Du, ac yno y bum i dan fore Sul. Wel, erbyn hynny, yr oedd y ffordd wedi rhewi yn<noinclude><references/></noinclude>
5cl406a5bzr2oqsh3lrqludmjvl1xip
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/73
104
84478
164230
2026-05-07T00:30:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164230
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blymen,' a phan gyrhaeddais yma yr oedd yr hen weinidog wedi dechreu yr oedfa, ac wedi cymeryd ei destun. Yr oeddwn yn teimlo yn reit anifyr ar ol mynd i'r capel, rhag ofn iddo fy nwrdio am fod yn hwyr. Ond ddaru o ddim. Aeth yn ei flaen yn bwyllog, fel arfer; a toc, dyna fo yn deud fod yn rhaid iddo ddibenu, er mwyn rhoddi lle i'w frawd! Meddyliwch am yr hen Lwyn Celyn yn deud peth felly am hogyn ar ei brawf!
"Ond er mor ddigywilydd oeddwn, ni chymeraswn y byd yn grwn am dreio pregethu ar ei ol. Terfynodd yr oedfa, ac fel mae'n rhyfedd deud, mi ges fwy o ddiolch am beidio gwneud dim yn y gwasanaeth hwnnw nac a ges byth wed'yn am bregethu fy ngore glas! Mi fydde yr hen frawd, fel y gwyddoch, yn pregethu yn bur faith,—byth o dan awr, neu awr a chwarter. Dyna fyddai ei arfer ar y tywydd oera, pan fydde y bobl yn gwyneb-lasu o'i flaen. Mi glywais am un carictor go hoff o ddiod yn taeru, ar fore Sul oer, fod yn rhaid fod gan yr hen Lwyn Celyn frandi yn ei esgidie! Yr oedd hynny, os yn wir, yn gompliment yn ei ffordd. 'Doedd neb yn meddwl fod yr hen weinidog<noinclude><references/></noinclude>
n3kkvcxll05wxme9aocav1r7uzqolpt
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/74
104
84479
164231
2026-05-07T00:31:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164231
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llafurus yn defnyddio ''brandi''—ond yn ei esgidie! Ond y bore hwnnw, bu fy nyfodiad diweddar i'r capel yn foddion i fyrhau hyd y gwasanaeth, ac am hynny yr oedd y bobl yn ddiolchgar.
"Aethum gydag ef i gapel y Rhiw at y prynhawn, ac yn ol i'r Cwm at oedfa'r nos. Beth bynnag am fy mhregethau, yr oeddwn wedi cerdded cryn lawer yn ystod y dydd. Daeth yr hen weinidog yma ataf nos Sul, wedi pregethu deirgwaith, ac wedi cerdded milldiroedd, er yn agos i bedwar ugain oed. Aed i orffwys yn gynnar, a chysgais i yn drwm,—cwsg difreuddwyd bore oes! Ond, rywbryd, mi glywais dwrw yn yr ystafell, ac wedi gwneud ymdrech dêg i agor fy llygaid, beth a welwn ond yr hen weinidog yn gwisgo am dano wrth oleu'r ganwyll.
Ydi hi yn amser codi?" meddwn, rhwng cysgu a deffro.
Nag ydi, machgen i, ond yr ydw i wedi addo bod gartref yn lled gynnar heddyw. Bore da i ti, a chofia fynd i dy gyhoeddiad yn brydlon y Saboth nesa'!'
Cysgais drachefn, ac erbyn i mi ddeffro<noinclude><references/></noinclude>
ln5egqpof42caoc5koafrrtwx0679kj
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/75
104
84480
164232
2026-05-07T00:32:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164232
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr oedd yr haul yn tywynu ar y ffenestr. Daethum i lawr y grisiau, ac yr oedd bysedd yr hen gloc yna ar un ar ddeg!
"P'nawn da,' meddai Marged Parri, yn lled goeglyd, "gobeithio ych bod ch'i wedi gorffwyso digon, bellach.'
"Pam na fasech yn galw arnaf, Marged Parri, yn lle gadael i mi gysgu mor hwyr?'
Wel, mi faswn wedi gwneud ers meityn o'm rhan fy hun, ond yr oedd Mr. Williams wedi siarsio arna'i beidio.' 'Mae'r bachgen ene wedi blino yn enbyd,' medde fo, 'gadewch iddo fo gysgu faint a fyno.'
"Beth oedd hi o'r gloch pan oedd o yn mynd i ffwrdd,' meddwn innau.
"Yr oedd hi tua phedwar, bygwn i, ac yn oer ofnadwy. Ond yr oedd yn rhaid iddo fo gael cychwyn, a synnwn i ddim blewyn nad ydi o adre' cyn hyn, wedi cerdded dros ugain milldir o ffordd.'"
"Wyddoch ch'i beth," meddai fy nghyfaill, mae gen' i barch i lwch yr hen Lwyn Celyn! Mor ddiarbed o hono ei hun! ac mor garedig wrth fachgen dinod ar ei brawf!"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mtwbull13v1uf9iglq7h4fe4t8bhqbp
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/76
104
84481
164233
2026-05-07T00:33:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Sut y bu hi arnoch efo y ceffyl hwnnw," meddwn, ''"thoroughbred y Crown?"'' Mi glywes rai o'r ''students'' yn deud eich bod wedi cael ffugenw y tro hwnnw,—'John Gilpin,' ynte?" "O, mi glywsoch y stori, ai dô? Mae'n debyg ei bod, fel llawer ystori arall, wedi chwyddo yn nhreigliad amser. Ond y mae'r ''original'' yn debyg i hyn,— "Yr oedd hi yn ymyl adeg yr ''Exam''., a finne wrthi yn crammio nos a dydd. Y Sadwrn a ddaeth, ac yr...
164233
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Sut y bu hi arnoch efo y ceffyl hwnnw," meddwn, ''"thoroughbred y Crown?"'' Mi glywes rai o'r ''students'' yn deud eich bod wedi cael ffugenw y tro hwnnw,—'John Gilpin,' ynte?"
"O, mi glywsoch y stori, ai dô? Mae'n debyg ei bod, fel llawer ystori arall, wedi chwyddo yn nhreigliad amser.
Ond y mae'r ''original'' yn debyg i hyn,—
"Yr oedd hi yn ymyl adeg yr ''Exam''., a finne wrthi yn crammio nos a dydd. Y Sadwrn a ddaeth, ac yr oedd arnaf eisieu mynd i daith Bwlch Mawr,—taith bell ac unhygyrch dros y mynyddoedd. Mi ês i chwilio am un o gyffyle Reis,' ond yr oedd pob un wedi ei addo yn flaenorol, a 'doedd dim i'w wneud ond mynd at wr y Crown i geisio bargeinio am anifail. Yr oedd ganddo ef un neu ddau o gyffyle rhagorol, ond nid oedd yn arfer eu llogi i students. Yr oedd y pris yn rhy uchel; ac yr oedd gormod o waed' ynddynt i fod yn ddiogel i'r sawl na wyddent nemawr am farchogaeth. Byddai ambell un yn cwympo oddi—ar gefn un o'gyffyle Reis,' ond byddai y creadur caredig yn aros yn llonydd fel delw nes y codai y marchogwr drachefn! Ond meirch buan-droed oedd yn y Crown,
Q
wedi arfer â'r steeple-chase, ac yn cael eu porthi yn y modd goreu.
"Oes, mae gen' i geffyl yn yr ystabl,' ebai y gŵr, ond a wyddoch chwi rywbeth am farchogaeth?'
"Atebais yn gadarnhaol, ac yr oedd hynny yn eitha' gwir. Yr oeddwn wedi bod am gyfnod yn stable-boy yn y Maes Mawr. Ar ol cytuno ar y pris, dywedai y byddai y march yn barod yn ebrwydd, ar un amod,—fy mod i ddychwelyd adre' nos Sul.
"Yr oedd y 'bechgyn' oedd gartref wedi synnu braidd glywed fy mod yn cael ceffyl y Crown; a daeth rhai o honynt i weled 'Jacob' yn cychwyn i'w daith, ac yr oeddynt yn 'ffarwelio' â mi yn ddefosiynol iawn, rhag ofn na ddeuwn byth yn ol!
Mi eis drwy y dref yn eithaf respectable, gan ddal y ffrwyn yn dyn yn fy llaw. Croeswyd y mynydd, a chyrhaeddais fy llety yn ddiogel.
"Nid yr un o gyffyle Reis ydyw hwn,' meddai y ffermwr, a rhoddodd ef yn yr ystabl oreu.
Cyn cychwyn i'r capel at oedfa'r hwyr,
Q
dywedais fod yn rhaid i mi fynd adref y noswaith honno, a daeth y gwas â'r ceffyl at ddrws yr addoldy ar derfyn y gwasanaeth.
"Noson o haf ydoedd, ac awel hyfryd yn chwythu dros y meusydd. Cyn hir, yr oeddwn wedi gadael y tai, ac yn dod i ffordd gul oedd yn arwain i'r mynydd unig a maith. Tra yr oeddwn yn myned yn lled ddiofal ar hyd y ffordd hon, gwelwn ddyn o fy mlaen, yn cerdded i gyfeiriad y llidiart ar gŵr y mynydd. Nid oedd gwisg Sabothol am dano, a thybiais ar yr olwg arno mai crwydryn ydoedd. Yr oedd llawer o'r dosbarth hwnnw yn cerdded y wlad ar y pryd, ac wedi ymosod ar bersonau mewn mannau anghysbell. Yr oeddwn yn agoshau ato, a throes yntau i edrych ar ei ol. Nid oeddwn yn hoffi ei wyneb. Yr oedd golwg mileinig arno,—gwyneb ''criminal'' yng ngwir ystyr y gair. Meddyliwn ynnof fy hun, y byddai y ''tramp'' wrth y llidiart yr un adeg a minnau. Ac yn ol trefn pethau, gorfodid fi i ddisgyn, ac yna, buasai yn ymosod arnaf, yn lladrata y ceffyl, ac yn dianc i ffwrdd! Beth oedd i'w wneud? Tybed y medrwn gael gan y ceffyl neidio y llidiart? Cyffyrddais âg ef â blaen y
Q
chwip, ac i ffwrdd â ni! Yr oedd y dyn erbyn hyn yn ymyl y llidiart, ac yn disgwyl am danaf. Ond pan welodd y ceffyl yn dod ar garlam gwyllt, neidiodd o'r neilldu, a neidiodd y ceffyl yn glir dros y llidiart, i'r mynydd, ac ymaith âg ef fel pe buasem yn hela llwynog! Yr oeddwn yn y Bala ar fyrder, a'r ceffyl, druan, yn foddfa o chwys."
"Adroddais yr hanes wrth wr y Crown Edrychodd yn gyffrous. 'Be dasech ch'i wedi methu neidio y llidiart, ac wedi lladd y ceffyl?'
"Y dydd canlynol, yr oedd gŵr y Crown yn ail-adrodd hanes fy anturiaeth efo'r 'crwydryn,' ac yn sicrhau y buaswn yn ennill enwogrwydd drwy y wlad pe cawswn ''chance'' i ddilyn cwn hela Syr Watcyn! Gorfu i minnau fynd dros y stori fwy nag unwaith yn y cylch cyfrin gyda'r nos, a braidd nad oeddwn yn mynd i ddechreu meddwl rhywbeth o honof fy hun. Ond peth ansicr iawn ydyw pob enwogrwydd daearol. Y Saboth dilynol, yr oedd y brawd Evan Gruffudd, cyd-efrydydd, i fod yn nhaith y Bwlch Mawr. Yr oedd Evan a minnau yn dipyn o ''rivals''
Q
yn y dosbarth duwinyddol, ac yn sefyll yn lled agos i'n gilydd yn arholiadau y Coleg. Pan ddaeth efe yn ol, ddydd Llun, galwodd yn fy llety, a hanner dwsin o'r bechgyn mwyaf direidus yn ei gwmni. Meddyliwn ar eu gwynebau fod rhywbeth yn bod. Ebai Evan Gruffudd, yn bur ddifrifol,—
"Mae y frawdoliaeth yn y Bwlch Mawr yn anfon eu cofion goreu at yr hybarch' Jacob Davies, ac yn llawenychu yn ei orchestion fel marchogwr. Ond wedi deall yr holl amgylchiadau, nid ydynt yn barnu fod unrhyw achos yn galw am iddo beryglu ei einioes ei hun na'r anifail oedd ganddo.'
"Sut hynny?' meddwr yn gràslyd a'r bechgyn yn mwynhau yr olygfa.
"Wel,' ebai Evan Gruffudd, 'y maent yn gwybod pwy oedd y tramp a barodd y fath ddychryn i'r pregethwr. Peidiwch a digio am i mi ddweud y gwir, ond 'doedd y dyn a welsoch chwi yn neb amgen na gwas Ty Hen yn mynd i edrych y defaid yn y mynydd. Fel y dywedais eisioes, y mae cyfeillion y Bwlch Mawr yn edmygu y Parch. Jacob Davies fel marchogwr, ond yn gobeithio y bydd iddo, yn y dyfodol
Q
ddangos mwy o graffder, a pheidio cam-gymeryd gwas fferm diniwed am grwydryn penffordd!'
"Yr oedd chwerthiniad y bechgyn yn lled annodd ei oddef, ac yr wyf yn ofni i'r peth fy nghyrru allan o hwyl ar gyfer yr Exam. Sefais yn is nag arfer, tra yr oedd Evan Gruffudd ar dop y rhestr. Daeth y peth i glustiau yr hen Ddoctor,' oherwydd yn ei anerchiad ar ddechreu y tymor dilynol, dywedai ei fod yn gobeithio mai amcan pawb o honom yn dod i'r Bala oedd rhagori fel efrydwyr, ac nid fel gwŷr meirch!"
Erbyn hyn, yr oedd y tân wedi llosgi allan, ac aderyn gerllaw y tŷ yn dechreu canu.
"Wyddoch ch'i be?" meddai Jacob Davies, "mae hi bron a dechreu dyddio. Well i ni fynd i orffwys am dipyn bach neu mi fydd Marged Parri yn galw at frecwest."<noinclude><references/></noinclude>
2ck8t1fg96b02gywjmxl2shnucw88jm
164234
164233
2026-05-07T00:59:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164234
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Sut y bu hi arnoch efo y ceffyl hwnnw," meddwn, ''"thoroughbred y Crown?"'' Mi glywes rai o'r ''students'' yn deud eich bod wedi cael ffugenw y tro hwnnw,—'John Gilpin,' ynte?"
"O, mi glywsoch y stori, ai dô? Mae'n debyg ei bod, fel llawer ystori arall, wedi chwyddo yn nhreigliad amser.
Ond y mae'r ''original'' yn debyg i hyn,—
"Yr oedd hi yn ymyl adeg yr ''Exam''., a finne wrthi yn crammio nos a dydd. Y Sadwrn a ddaeth, ac yr oedd arnaf eisieu mynd i daith Bwlch Mawr,—taith bell ac unhygyrch dros y mynyddoedd. Mi ês i chwilio am un o gyffyle Reis,' ond yr oedd pob un wedi ei addo yn flaenorol, a 'doedd dim i'w wneud ond mynd at wr y Crown i geisio bargeinio am anifail. Yr oedd ganddo ef un neu ddau o gyffyle rhagorol, ond nid oedd yn arfer eu llogi i students. Yr oedd y pris yn rhy uchel; ac yr oedd gormod o waed' ynddynt i fod yn ddiogel i'r sawl na wyddent nemawr am farchogaeth. Byddai ambell un yn cwympo oddi—ar gefn un o'gyffyle Reis,' ond byddai y creadur caredig yn aros yn llonydd fel delw nes y codai y marchogwr drachefn! Ond meirch buan-droed oedd yn y ''Crown'',<noinclude><references/></noinclude>
1k3ficlkxji5ibjczptzkwlieh8mygz
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/77
104
84482
164235
2026-05-07T01:00:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164235
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi arfer â'r ''steeple-chase'', ac yn cael eu porthi yn y modd goreu.
"Oes, mae gen' i geffyl yn yr ystabl,' ebai y gŵr, ond a wyddoch chwi rywbeth am farchogaeth?'
"Atebais yn gadarnhaol, ac yr oedd hynny yn eitha' gwir. Yr oeddwn wedi bod am gyfnod yn ''stable-boy'' yn y Maes Mawr. Ar ol cytuno ar y pris, dywedai y byddai y march yn barod yn ebrwydd, ar un amod,—fy mod i ddychwelyd adre' nos Sul.
"Yr oedd y 'bechgyn' oedd gartref wedi synnu braidd glywed fy mod yn cael ceffyl y Crown; a daeth rhai o honynt i weled 'Jacob' yn cychwyn i'w daith, ac yr oeddynt yn 'ffarwelio' â mi yn ddefosiynol iawn, rhag ofn na ddeuwn byth yn ol!
Mi eis drwy y dref yn eithaf respectable, gan ddal y ffrwyn yn dyn yn fy llaw. Croeswyd y mynydd, a chyrhaeddais fy llety yn ddiogel.
"Nid yr un o gyffyle Reis ydyw hwn,' meddai y ffermwr, a rhoddodd ef yn yr ystabl oreu.
Cyn cychwyn i'r capel at oedfa'r hwyr,<noinclude><references/></noinclude>
9sij774qugbg5fi0t8417ykyjseoiwl
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/78
104
84483
164236
2026-05-07T01:01:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164236
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywedais fod yn rhaid i mi fynd adref y noswaith honno, a daeth y gwas â'r ceffyl at ddrws yr addoldy ar derfyn y gwasanaeth.
"Noson o haf ydoedd, ac awel hyfryd yn chwythu dros y meusydd. Cyn hir, yr oeddwn wedi gadael y tai, ac yn dod i ffordd gul oedd yn arwain i'r mynydd unig a maith. Tra yr oeddwn yn myned yn lled ddiofal ar hyd y ffordd hon, gwelwn ddyn o fy mlaen, yn cerdded i gyfeiriad y llidiart ar gŵr y mynydd. Nid oedd gwisg Sabothol am dano, a thybiais ar yr olwg arno mai crwydryn ydoedd. Yr oedd llawer o'r dosbarth hwnnw yn cerdded y wlad ar y pryd, ac wedi ymosod ar bersonau mewn mannau anghysbell. Yr oeddwn yn agoshau ato, a throes yntau i edrych ar ei ol. Nid oeddwn yn hoffi ei wyneb. Yr oedd golwg mileinig arno,—gwyneb ''criminal'' yng ngwir ystyr y gair. Meddyliwn ynnof fy hun, y byddai y ''tramp'' wrth y llidiart yr un adeg a minnau. Ac yn ol trefn pethau, gorfodid fi i ddisgyn, ac yna, buasai yn ymosod arnaf, yn lladrata y ceffyl, ac yn dianc i ffwrdd! Beth oedd i'w wneud? Tybed y medrwn gael gan y ceffyl neidio y llidiart? Cyffyrddais âg ef â blaen y<noinclude><references/></noinclude>
1papgn32kvv0l1d7niser30uinyjmhn
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/79
104
84484
164237
2026-05-07T01:02:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164237
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwip, ac i ffwrdd â ni! Yr oedd y dyn erbyn hyn yn ymyl y llidiart, ac yn disgwyl am danaf. Ond pan welodd y ceffyl yn dod ar garlam gwyllt, neidiodd o'r neilldu, a neidiodd y ceffyl yn glir dros y llidiart, i'r mynydd, ac ymaith âg ef fel pe buasem yn hela llwynog! Yr oeddwn yn y Bala ar fyrder, a'r ceffyl, druan, yn foddfa o chwys."
"Adroddais yr hanes wrth wr y ''Crown'' Edrychodd yn gyffrous. 'Be dasech ch'i wedi methu neidio y llidiart, ac wedi lladd y ceffyl?'
"Y dydd canlynol, yr oedd gŵr y Crown yn ail-adrodd hanes fy anturiaeth efo'r 'crwydryn,' ac yn sicrhau y buaswn yn ennill enwogrwydd drwy y wlad pe cawswn ''chance'' i ddilyn cwn hela Syr Watcyn! Gorfu i minnau fynd dros y stori fwy nag unwaith yn y cylch cyfrin gyda'r nos, a braidd nad oeddwn yn mynd i ddechreu meddwl rhywbeth o honof fy hun. Ond peth ansicr iawn ydyw pob enwogrwydd daearol. Y Saboth dilynol, yr oedd y brawd Evan Gruffudd, cyd-efrydydd, i fod yn nhaith y Bwlch Mawr. Yr oedd Evan a minnau yn dipyn o ''rivals'' y<noinclude><references/></noinclude>
lxqvngntd76d39u7mof1bm952epa2zg
164238
164237
2026-05-07T01:02:51Z
AlwynapHuw
1710
164238
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwip, ac i ffwrdd â ni! Yr oedd y dyn erbyn hyn yn ymyl y llidiart, ac yn disgwyl am danaf. Ond pan welodd y ceffyl yn dod ar garlam gwyllt, neidiodd o'r neilldu, a neidiodd y ceffyl yn glir dros y llidiart, i'r mynydd, ac ymaith âg ef fel pe buasem yn hela llwynog! Yr oeddwn yn y Bala ar fyrder, a'r ceffyl, druan, yn foddfa o chwys."
"Adroddais yr hanes wrth wr y ''Crown'' Edrychodd yn gyffrous. 'Be dasech ch'i wedi methu neidio y llidiart, ac wedi lladd y ceffyl?'
"Y dydd canlynol, yr oedd gŵr y Crown yn ail-adrodd hanes fy anturiaeth efo'r 'crwydryn,' ac yn sicrhau y buaswn yn ennill enwogrwydd drwy y wlad pe cawswn ''chance'' i ddilyn cwn hela Syr Watcyn! Gorfu i minnau fynd dros y stori fwy nag unwaith yn y cylch cyfrin gyda'r nos, a braidd nad oeddwn yn mynd i ddechreu meddwl rhywbeth o honof fy hun. Ond peth ansicr iawn ydyw pob enwogrwydd daearol. Y Saboth dilynol, yr oedd y brawd Evan Gruffudd, cyd-efrydydd, i fod yn nhaith y Bwlch Mawr. Yr oedd Evan a minnau yn dipyn o ''rivals''<noinclude><references/></noinclude>
025qvvy9rx4rrof3or70q1rnyllp147
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/80
104
84485
164239
2026-05-07T01:03:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164239
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y dosbarth duwinyddol, ac yn sefyll yn lled agos i'n gilydd yn arholiadau y Coleg. Pan ddaeth efe yn ol, ddydd Llun, galwodd yn fy llety, a hanner dwsin o'r bechgyn mwyaf direidus yn ei gwmni. Meddyliwn ar eu gwynebau fod rhywbeth yn bod. Ebai Evan Gruffudd, yn bur ddifrifol,—
"Mae y frawdoliaeth yn y Bwlch Mawr yn anfon eu cofion goreu at yr hybarch' Jacob Davies, ac yn llawenychu yn ei orchestion fel marchogwr. Ond wedi deall yr holl amgylchiadau, nid ydynt yn barnu fod unrhyw achos yn galw am iddo beryglu ei einioes ei hun na'r anifail oedd ganddo.'
"Sut hynny?' meddwr yn gràslyd a'r bechgyn yn mwynhau yr olygfa.
"Wel,' ebai Evan Gruffudd, 'y maent yn gwybod pwy oedd y tramp a barodd y fath ddychryn i'r pregethwr. Peidiwch a digio am i mi ddweud y gwir, ond 'doedd y dyn a welsoch chwi yn neb amgen na gwas Ty Hen yn mynd i edrych y defaid yn y mynydd. Fel y dywedais eisioes, y mae cyfeillion y Bwlch Mawr yn edmygu y Parch. Jacob Davies fel marchogwr, ond yn gobeithio y bydd iddo, yn y dyfodol<noinclude><references/></noinclude>
haayiessc87af5474phc00fmt2porr5
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/81
104
84486
164240
2026-05-07T01:04:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164240
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddangos mwy o graffder, a pheidio cam-gymeryd gwas fferm diniwed am grwydryn penffordd!'
"Yr oedd chwerthiniad y bechgyn yn lled annodd ei oddef, ac yr wyf yn ofni i'r peth fy nghyrru allan o hwyl ar gyfer yr ''Exam''. Sefais yn is nag arfer, tra yr oedd Evan Gruffudd ar dop y rhestr. Daeth y peth i glustiau yr hen Ddoctor,' oherwydd yn ei anerchiad ar ddechreu y tymor dilynol, dywedai ei fod yn gobeithio mai amcan pawb o honom yn dod i'r Bala oedd rhagori fel efrydwyr, ac nid fel gwŷr meirch!"
Erbyn hyn, yr oedd y tân wedi llosgi allan, ac aderyn gerllaw y tŷ yn dechreu canu.
"Wyddoch ch'i be?" meddai Jacob Davies, "mae hi bron a dechreu dyddio. Well i ni fynd i orffwys am dipyn bach neu mi fydd Marged Parri yn galw at frecwest."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nq415ypvx90lteqw63v94riz72u5rgr
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/82
104
84487
164241
2026-05-07T11:50:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164241
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawR|PENNOD IX.
"DAFYDD TY'R CAPEL."}}}}
YR ydym wedi crybwyll droion, yn y penodau blaenorol, am lythyrau "Dafydd" at ei fam, a'i anrhegion iddi o'r ''"Far West."'' Nid oedd Marged Parri yn rhyw siarp iawn gyda darllen llythyr ei hun; a hwyrach mai dyna y rheswm fod Miss Elsie Meredydd yn arfer mynd ati yn un swydd ar y diwrnod y byddai llythyr "Dafydd" wedi cyrraedd, er mwyn iddynt ei ddarllen efo'u gilydd. Hwyrach fod yna reswm arall mwy personol, ond 'doedd neb yn gwybod am hwnnw ond Miss Meredydd ei hun. Ond yr oedd hyn yn sicr, er fod "Dafydd" mewn gwlad bell, nid oedd wedi cael ei anghofio gan bobl y Cwm.
Yr oeddwn innau wedi fy magu yn yr ardal mewn bwthyn o'r enw Tŷ Coch, ar dir y Llwyn. Byddwn yn arfer mynd i<noinclude><references/></noinclude>
4evedxoj6h42l9hqfxhjlo4ee7ljks3
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/83
104
84488
164242
2026-05-07T11:51:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164242
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysgol ddyddiol y Rhyd, yn nyddiau yr hen athraw clodwiw,—Mr. James Morris. Yr oedd Dafydd yn yr un dosbarth, ac yn ddysgwr rhigl ar bopeth.
Yr oedd yr ysgolfeistr yn meddwl y byd o "Dafydd Tŷ'r Capel," ac yn proffwydo iddo ddyfodol disglaer, er nad ydoedd ar y pryd ond hogyn tlawd, a mab i wraig weddw. Ac nid rhyfedd hynny, oherwydd yr ydoedd yn ddysgwr campus; ac er yn llawn o asbri bachgenaidd, ni byddai byth yn chwareu ''truant,'' ac yn absenoli ei hun o'r ysgol.
Yr oedd Elsie Meredydd a'i brawd yn ysgol y Rhyd yr un adeg, a byddem yn cydgerdded tuag adref ar derfyn y dydd. Bachgen cryf, dibris, oedd Arthur Meredydd, pur hoff o "gwffio," os caffai rywun i dynnu'n groes iddo. Yr oedd Dafydd a minnau ychydig yn llai o gorffolaeth na mab Plas y Wern, ac yr oedd arnom dipyn o'i ofn. Yr wyf yn cofio un diwrnod fod gan Dafydd ''gap'' newydd; ac ar y bont sydd yn croesi y Ddeuddwr, cydiodd Arthur yn sydyn yn y cap, a thaflodd ef i'r afon. Torrodd Dafydd i grio, ond daeth Elsie ato, ac wedi dweud rhywbeth wrtho yn ddistaw, edrychodd yn ddigofus ar ei brawd, a<noinclude><references/></noinclude>
c6rgxmza3gspjnf0tq16igd4d4q7jcs
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/84
104
84489
164243
2026-05-07T11:53:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164243
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhedodd tuag adref. Drannoeth yr oedd gan Dafydd ''gap'' newydd spon,—''cap'' â phig gloew, ac yr oeddwn yn meddwl fod yno ryw edmygedd yn llygad glas Elsie wrth edrych arno yn dod i'r iard ganol dydd. Ni chafodd Arthur y Plas ddyfod i'r ysgol am dros wythnos, a chlywais fod ei dad wedi ei geryddu yn dost.
Ond er nad ydoedd Dafydd yn ymladdwr, nid oedd yn fachgen llwfr. Meddai wroldeb digymysg pan welai rywun arall mewn perygl. Yr wyf yn cofio un prawf o hynny cystal a doe. Yr oedd ceffyl rhyw foneddwr wedi "rhedeg" oddiwrth westy y Rhyd, ac yn carlamu i gyfeiriad yr ysgol pan oedd y plant yn dod allan. Yr oedd dau o'r rhai lleiaf ar ganol y ffordd, a'r lleill yn gwaeddi arnynt i ddianc. Ond yr oeddynt fel wedi dyrysu gan fraw. Ond pan oedd y ceffyl gwyllt o fewn ychydig latheni i'r fan, neidiodd Dafydd ymlaen ac ymaflodd ynddynt, un ym mhob braich, a rhuthrodd yr anifail heibio a'r tân yn fflachio o'i garnau. Ni fuasai Arthur y Plas byth yn anturio gwneud peth fel yna, a 'doedd neb yn gwybod hynny yn well nag Elsie, ei chwaer.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
82wz31uuyu28czrx2uc46y20f2ec92n
Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/85
104
84490
164244
2026-05-07T11:58:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164244
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cyn hir, daeth Dafydd i gael ei ystyried fel yr ysgolhaig goreu yn yr ysgol; ac er fod Marged Parri yn dweud ei bod yn llawn bryd iddo fynd i "ennill ei damed,' yr oedd Mr. James Morris yn crefu arni ei adael dipyn yn hwy yn yr ysgol.
"Mae Dafydd yn sicr o dalu yn iawn am ei addysg," meddai, "ac fe ofala Rhagluniaeth am danoch chwithau."
Daeth proffwydoliaeth Mr. Morris i ben, a hynny mewn ffordd wahanol i'r hyn yr ydoedd ef, na neb arall, wedi dychmygu am dani. Ac eto yr oedd gan yr ysgolfeistr gryn dipyn o le yn y ddrama oedd yn dilyn. Ac fel hyn y bu. Pan oedd Dafydd tua phymtheg oed, digwyddodd fod cefnder i Mr. Morris ar ymweliad â Chymru, wedi bod am flynyddau yn y Gorllewin, y tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog. Yn ystod ei hynt, daeth i'r Cwm i edrych am ei berthynas. Cyrhaeddodd yno ryw gyda'r nos, pan oedd Dafydd yn cael ''private lesson'' gan ei athraw. Rhoddwyd y wers heibio yn ddiymdroi, ond yr oedd y bachgen wedi tynnu sylw y gŵr dieithr. Cafodd ei hanes yn lled fanwl gan yr ysgolfeistr, ac wedi gwrando yr adroddiad, dywedodd,—
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
m1glbnkpt3mqwa7ajnef6limtqduzl9