Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.1 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Hafan 0 1360 164312 164132 2026-05-07T18:05:00Z AlwynapHuw 1710 164312 wikitext text/x-wiki {{mawr|''Croeso i '''Wicidestun''', y llyfrgell rydd!''}} {| cellspacing="5px" | width="60%" align= style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#FFE4C4; padding:1em;" class="plainlinks"; valign="top"| <div style="float:right;margin-left:0.5em;margin-right:0.5em;margin-top:0.5em"> [[Delwedd:Carl Spitzweg 021.jpg|150px]] </div> Mae '''Wicidestun''' yn storfa o destunau gwreiddiol sy'n [[w:en:Public domain|eiddo cyhoeddus]] neu o dan dermau [[w:cy:Cynnwys rhydd|trwydded agored]] [[:w:cy:Wicipedia:Hawlfraint|CC-BY-SA]]. Mae'r prosiect hwn yn rhan o deulu ehangach [[:en:Sefydliad Wikimedia|Wicimedia]] gan gynnwys [[:en:Creative Commons|Comin Wicimedia]], [[:d:cy:Wiciadur|Wiciadur]] a [[:w:cy:Wicipedia|Wicipedia]]. Erbyn hyn mae gennym ni '''[[Special:Statistics|{{NIFEROERTHYGLAU}}]]''' o weithiau. Gweler [[w:Wicipedia:Cymorth|tudalen help]] a chwaraewch yn y pwll tywod i ddysgu sut allwch '''chi''' olygu ac uwchlwytho testun. <br/> '''Rhai o'n llenorion:''' {{Div col}} : [[:Categori:William Jones (Ehedydd Iâl)|Ehedydd Iâl]] : [[:Categori:Iolo Goch|Iolo Goch]] : [[:Categori:Dafydd Nanmor|Dafydd Nanmor]] : [[:Categori:Lewis Glyn Cothi|Lewis Glyn Cothi]] : [[:Categori:Ann Griffiths|Ann Griffiths]] : [[:Categori:Owen Morgan Edwards| O. M. Edwards]] : [[:Categori:I. D. Hooson| I. D. Hooson]] : [[:Categori:Elizabeth Mary Jones (Moelona)|Moelona]] : [[:Categori:William Williams, Pantycelyn|William Williams, Pantycelyn]] : [[:Categori:Richard Griffith (Carneddog)|Richard Griffith (Carneddog)]] : [[:Categori:Dafydd ap Gwilym|Dafydd ap Gwilym]] : [[:Categori:Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] : [[:Categori:T Rowland Hughes|T. Rowland Hughes]] {{Div col end}} '''Rhai o'n Categorïau:''' <br/> *[[:Categori:Llyfrau|Llyfrau]] *[[:Categori:Barddoniaeth|Barddoniaeth]] *[[:Categori:Rhyddiaith|Rhyddiaith]] *[[:Categori:Testunau crefyddol|Testunau crefyddol]] *[[:Categori:Adolygiadau|Adolygiadau]] *[[:Categori:Llyfrau Ab Owen|Cyfres y Fil a Llyfrau Ab Owen]] *[[:Categori:Testunau cyfansawdd|Testunau cyfansawdd]] (Y modd gorau i lawrlwytho testynau ar gyfer e-ddarllenwyr) '''<big>[[Testunau sydd angen eu gwirio]]</big>''' | rowspan="2" width="30%" style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#FFFFFF; padding:1em;" valign="top"| {|width="*" | '''Rhai o'n gweithiau diweddaraf:''' *[[Ty Capel y Cwm|Ty Capel y Cwm gan Anthropos]] *[[Bugail y Cwm|Bugail y Cwm gan Anthropos]] *[[Hanes y Ffydd yng Nghymru|Hanes y Ffydd yng Nghymru gan Charles Edwards]] *[[Cymru a'r Gymraeg|Cymru a'r Gymraeg gan E. T. John, Dyfnallt ac Arthen]] *[[Rhwng Gwg a Gwên|Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index)]] *[[Ystorïau Bohemia|Ystorïau Bohemia cyf T. H. Parry-Williams]] *[[Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy|Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gol O. M. Edwards]] *[[Hanes Plwyf Llanegryn|Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies]] *[[Yr Argyfwng|Yr Argyfwng gan William Ambrose Bebb]] *[[Toriad y Wawr|Toriad y Wawr gan Morris Thomas, Dolwyddelan]] *[[Plant y Goedwig|Plant y Goedwig gan Moelona]] *[[O Gylch Carn Fadrig|O Gylch Carn Fadrig gan John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)]] *[[Gwreichion y Diwygiadau|Gwreichion y Diwygiadau gan Carneddog]] *[[Cofiant David Davies, Bermo|Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl]] *[[Gŵr y Dolau|Gŵr y Dolau gan William Llewelyn Williams]] *[[Y Ddeddf Uno 1536|Y Ddeddf Uno 1536 gol William Ambrose Bebb]] *[[Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II|Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys]] {{C|🙝&nbsp;🙟}} <gallery> Ll Du C Bawd.png|'''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]''' Delwedd:Llyfr Aneirin.png|'''[[Llyfr Aneirin]]''' </gallery> {{c|🙝&nbsp;🙟}} ... a nifer o gerddi: *[[Yr Wylan]] gan Dafydd ap Gwilym *[[Y Drindod]] gan Dafydd ap Gwilym *[[Beibl]] *[[Y Nefoedd Uwch fy Mhen]] gan Ehedydd Iâl *[[Stafell Gynddylan]] *[[Syr Hywel y Fwyall]] *[[Cystal am ofal im yw]] *[[Y Llafurwr]] *[[Hen Benillion]] *[[Ar ôl i fy Nghariad Farw]] *[[Wrth y drws, un a'i grwth drwg]] *[[Marwnad Siôn y Glyn]] gan Lewis Glyn Cothi *[[Ymddiddan Rhwng Dau Fardd]] *[[Ymddiddan Rhwyng Cymro a Saesnes]] *[[Gorhoffedd (Hywel ab Owain Gwynedd)]] *[[Englynion y Beddau]] {{c|🙝&nbsp;🙟}} '''Cymuned'''<br /> [[Wicitestun:Y Sgriptoriwm|Y Sgriptoriwm]] <br /> |-- |} |- | style="border: 1px solid #6688AA; background-color:#EEE9E9; padding:1em;" valign="top"| '''Ychwanegwch:''' [[Delwedd:Flag of Wales (1959–present).svg|200px|right]] Mae ar y safle hwn nifer o destunau o weithiau agored, di-hawlfraint neu weithiau lle mae eu hawlfraint wedi hen orffen. Os ydych am ychwanegu cerddi neu ryddiaeth gwnewch hynny - os ydych yn gwbwl sicr mai chi yw perchennog eu hawlfraint neu fod yr awdur wedi marw ers dros 70 o flynyddoedd. Am ragor am yr hyn y cewch ei gynnwys yma, darllenwch [[Wicidestun:Beth i'w roi ar Wicidestun?]] Os mai dod yma i bori ydych—mwynhewch y wledd! |} 58s9hsn5xx8jq9bc9ch4bit3cigi361 Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2 10285 164314 163919 2026-05-07T18:06:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi eu Cyhoeddi */ 164314 wikitext text/x-wiki ==Wedi eu Cyhoeddi== {{Div col}} #[[Ty Capel y Cwm|Ty Capel y Cwm gan Anthropos]] #[[Bugail y Cwm|Bugail y Cwm gan Anthropos]] #[[Hanes y Ffydd yng Nghymru|Hanes y Ffydd yng Nghymru gan Charles Edwards]] #[[Cymru a'r Gymraeg|Cymru a'r Gymraeg gan E. T. John, Dyfnallt ac Arthen]] #[[Rhwng Gwg a Gwên|Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index)]] #[[Ystorïau Bohemia|Ystorïau Bohemia cyf T. H. Parry-Williams]] #[[Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy|Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gol O. M. Edwards]] #[[Hanes Plwyf Llanegryn|Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies]] #[[Yr Argyfwng|Yr Argyfwng gan William Ambrose Bebb]] #[[Toriad y Wawr|Toriad y Wawr gan Morris Thomas, Dolwyddelan]] #[[Plant y Goedwig|Plant y Goedwig gan Moelona]] #[[O Gylch Carn Fadrig|O Gylch Carn Fadrig gan John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)]] #[[Gwreichion y Diwygiadau|Gwreichion y Diwygiadau gan Carneddog]] #[[Cofiant David Davies, Bermo|Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl]] #[[Gŵr y Dolau|Gŵr y Dolau gan William Llewelyn Williams]] #[[Y Ddeddf Uno 1536|Y Ddeddf Uno 1536 gol William Ambrose Bebb]] #[[Cerdd Allwyn|Cerdd Allwyn gan Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)]] #[[Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II|Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys]] #[[Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I|Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I gan Edward Morgan Humphreys]] #[[Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion|Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir]] #[[Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill|Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan J. Machreth Rees]] #[[Clasuron Rhyddiaith Cymru|Clasuron Rhyddiaith Cymru gan Edward Edwards, Aberystwyth]] #[[Diliau Meirion Cyf II|Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill)]] #[[Rhwng Rhyfeloedd|Rhwng Rhyfeloedd gan E Morgan Humphreys]] #[[Ceulan y Llyn Du|Ceulan y Llyn Du gan E Morgan Humphreys]] #[[Blacmel|Blacmel gan John Pierce]] #[[David Lloyd George (E M Humphreys)|David Lloyd George gan E Morgan Humphreys]] #[[Dychweledigion (Ibsen)|Dychweledigion (Ibsen) cyf gan T Gwynn Jones]] #[[Llen Gwerin Sir Gaernarfon|Llen Gwerin Sir Gaernarfon gan John Jones (Myrddin Fardd)]] #[[Yng Ngwlad y Gwyddel|Yng Ngwlad y Gwyddel gan John Morgan Edwards]] #[[Y Wers Olaf|Y Wers Olaf gan Alphonse Daudet cyf Moelona]] #[[Dal y Lleidr (drama)|Dal y Lleidr (drama) gan Joseph Jenkins]] #[[Tudur Aled (JMJ)|Tudur Aled gan John Morris-Jones]] #[[Dan Lenni'r Nos|Dan Lenni'r Nos gan John Pierce]] #[[Llofrudd yn y Chwarel|Llofrudd yn y Chwarel gan E Morgan Humphreys]] #[[Dyddlyfr 1941|Dyddlyfr 1941 gan W Ambrose Bebb]] #[[Elfennau Beirniadaeth Lenorol|Elfennau Beirniadaeth Lenorol gan Joseph Harry]] #[[Yr Ysgol Gymraeg|Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen]] #[[Mêt y Mona|Mêt y Mona gan Robert Lloyd Jones]] #[[Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands|Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington]] #[[Diwygwyr Cymru|Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans]] #[[Manion|Manion gan T. Gwynn Jones]] #[[Hen Ffrindiau|Hen Ffrindiau gan Edward Tegla Davies]] #[[Gwaith William Ambrose (Emrys)|Gwaith William Ambrose (Emrys) gol O. M. Edwards]] #[[Siaced Fraith|Siaced Fraith gan Elizabeth Williams]] #[[Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad|Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir]] #[[Llwyn Hudol|Llwyn Hudol gan Hugh Emyr Davies (Emyr)]] #[[Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18|Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon)]] #[[Cofiant y Parch David Adams (Hawen)|Cofiant y Parch David Adams (Hawen) gan Evan Keri Evans a William Pari Huws]] #[[Erthyglau, Pregethau a Chaniadau|Erthyglau, Pregethau a Chaniadau gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)]] #[[Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill|Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts]] #[[Blagur Awen Ben Bowen|Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin)]] #[[Tir y Dyneddon|Tir y Dyneddon gan Edward Tegla Davies]] #[[Dirwyn Edafedd|Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams]] #[[Drain a Blodau|Drain a Blodau gan Arthur Morgan]] #[[Cymru'r Oesau Canol|Cymru'r Oesau Canol gan Robert Richards]] #[[Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)|Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) gan Moelwyn]] #[[Yr Hen Gyrnol|Yr Hen Gyrnol gan Evan Isaac]] #[[Ceiriog (Darlith y BBC 1939)|Ceiriog (Darlith y BBC 1939) gan W. J Gruffydd]] #[[Yr Haf a Cherddi Eraill|Yr Haf a Cherddi Eraill gan R. Williams Parry]] #[[Cerddi'r Bugail|Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn]] #[[Ynys y Trysor|Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones]] #[[Cerddi Edern a Cherddi Eraill|Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan J Glyn Davies]] #[[Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad|Hanes Mynachdai Gogledd Cymru gan David David Williams]] #[[Drysau Eraill|Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones]] #[[Ystoriau Siluria|Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer]] #[[Addysg yng Nghymru 1847-1947|Addysg yng Nghymru 1847-1947 gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg]] #[[Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru|Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg]] #[[O Gors y Bryniau|O Gors y Bryniau gan Kate Roberts]] #[[Yr Efengyl yn ôl Sant Luc|Yr Efengyl yn ôl Sant Luc cyf William Morgan]] #[[Gemau Doethineb|Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion)]] #[[Y Drws Agored|Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones]] #[[Ffrwythau Dethol|Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg]] #[[Straeon Gwerin Affrica|Straeon Gwerin Affrica gan Robert Griffith, Madagascar]] #[[Caneuon Mynyddog|Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog)]] #[[Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill|Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards]] #[[Pentre'r Plant|Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Y Ddau Adda|Y Ddau Adda gan Dafydd Rhys Williams (Index)]] #[[Gweithiau Eben Fardd|Gweithiau Eben Fardd gol O. M. Edwards]] #[[Ystên Sioned|Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon)]] #[[Gwilym a Benni Bach|Gwilym a Benni Bach gan William Llewelyn Williams]] #[[Bugail y Bryn|Bugail y Bryn gan Moelona]] #[[Bil y Gymraeg ac Addysg|Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 gan Senedd Cymru]] #[[Y Fainc Sglodion|Y Fainc Sglodion gan John William Jones]] #[[Beirdd y Berwyn 1700-1750|Beirdd y Berwyn 1700-1750 gol O. M. Edwards]] #[[Y Geilwad Bach|Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer]] #[[Murmuron Awen|Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab)]] #[[Clawdd Terfyn|Clawdd Terfyn gan Robert Dewi Williams]] #[[Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II|Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II gan Owen Wynne Jones (Glasynys)]] #[[Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I|Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys)]] #[[Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych|Cofiant y Parch. Thomas Jones, Dinbych gan Thomas Jones, Dinbych]] #[[Chydig ar Gof a Chadw|Chydig ar Gof a Chadw gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)]] #[[Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd|Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd gan Zachary Mather]] #[[Siôn Gymro (llyfr)|Siôn Gymro (llyfr) gan Ben Davies, Pant-teg]] #[[Cofiant Watcyn Wyn|Cofiant Watcyn Wyn gan Penar Griffiths]] #[[Yr Awen Barod|Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)]] #[[Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos|Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos gan Goronwy Jones, Prestatyn]] #[[Hunangofiant Tomi|Hunangofiant Tomi gan Edward Tegla Davies]] #[[Caniadau (T. Gwynn Jones)|Caniadau gan T. Gwynn Jones]] #[[Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1|Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 (Mynwy, Meirion, Maldwyn) gan gan Thomas Rees a John Thomas]] #[[Hanes Gwareiddiad|Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards]] #[[Dail y Dderwen|Dail y Dderwen gan William J Richards]] #[[Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)|Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant) gol Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Am dro i Fadagascar|Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones]] #[[Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun)|Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun) gan Idris Lewis]] #[[Caniadau Gwili|Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili)]] #[[Yng Ngwres y Dydd|Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)]] #[[Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill|Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan T. Gwynn Jones]] #[[Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill|Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan T. Gwynn Jones]] #[[Hanes y Lleuad|Hanes y Lleuad ffug awdur Syr John Herschel]] #[[Llinell neu Ddwy|Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen)]] #[[Yn Llefaru Eto|Yn Llefaru Eto gan Anhysbys]] #[[Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III|Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Emrys ap Iwan]] #[[Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II|Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Emrys ap Iwan]] #[[Methodistiaeth Cymru Cyfrol I|Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl]] #[[Y Trefedigaethau|Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans]] #[[Telyn Bywyd|Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Cathlau Bore a Nawn|Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon)]] #[[Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)|Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel) gan Robert David Morris]] #[[Ifor Owen (nofel)|Ifor Owen (nofel) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)]] #[[Ysgrifau (John Breese Davies)|Ysgrifau gan John Breese Davies]] #[[Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I|Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I gan Emrys ap Iwan]] #[[Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig|Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig gan Thomas Jones-Humphreys]] #[[Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)|Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes]] #[[Y Ddau Frawd|Y Ddau Frawd gan Nel Wyn (sef Llew Tegid)]] #[[Anturiaethau Robinson Crusoe|Anturiaethau Robinson Crusoe cyf gan William Rowlands, Porthmadog]] #[[Cofiant D Emlyn Evans|Cofiant D Emlyn Evans gan Evan Keri Evans]] #[[Telynegion (Silyn a Gruffydd)|Telynegion gan R Silyn Roberts a W. J. Gruffudd]] #[[Gwaith Hugh Jones, Maesglasau|Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gol O. M. Edwards]] #[[Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill|Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys]] #[[Beddau'r Proffwydi (drama)|Beddau'r Proffwydi (drama) gan W. J. Gruffydd ]] #[[Storio a Chadw dogfennau Ewyllys Crynodeb Gweithredol o Ymateb y Llywodraeth]] #[[Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad|Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU]] #[[Nansi'r Dditectif|Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands]] #[[Cyfrol Goffa Richard Bennett|Cyfrol Goffa Richard Bennett gol. D Teifgar Davies]] #[[Brut y Tywysogion (Ab Owen)|Brut y Tywysogion (Ab Owen) gol O. M. Edwards]] #[[Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig|Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd]] #[[Gwaith Huw Morus|Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog)]] #[[Wat Emwnt|Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer]] #[[John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith|John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith gan Llyfrbyf]] #[[Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)|Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)]] #[[Adgof am Ieuan Glan Geirionnydd|Adgof am Ieuan Glan Geirionnydd gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Caniadau Barlwydon Llyfr 1|Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon)]] #[[Barlwydon (Cymru 1896)]] #[[Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig|Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)]] #[[Llewelyn Parri (nofel)|Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)]] #[[Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)|Caniadau gan Owen Lewis (Glan Cymerig)]] #[[Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd|Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd gan David Morgan, Llangeitho]] #[[Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam|Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam gan Edward Francis]] #[[Gwaith Dewi Wyn|Gwaith Dewi Wyn gol O. M. Edwards]] #[[Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar|Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar gan John Davies, Llandysul]] #[[Athrylith Ceiriog|Athrylith Ceiriog gan Howell Elvet Lewis (Elfed)]] #[[Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig|Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig gol. Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Gwaith Iolo Goch|Gwaith Iolo Goch gol Thomas Matthews]] #[[Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn|Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau]] #[[Gwaith Sion Cent|Gwaith Sion Cent gol Thomas Matthews]] #[[Dyddanwch yr Aelwyd|Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam]] #[[Gwaith Ieuan Brydydd Hir|Gwaith Ieuan Brydydd Hir gol O. M. Edwards]] #[[Gwaith yr Hen Ficer|Gwaith yr Hen Ficer gol O. M. Edwards]] #[[Am Dro i Erstalwm|Am Dro i Erstalwm gan Index]] #[[Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill|Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir)]] #[[Ceiriog a Mynyddog|Ceiriog a Mynyddog gan John Morgan Edwards]] #[[Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon|Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon gan William Williams (Cromwell)]] #[[Awdl Dinystr Jerusalem|Awdl Dinystr Jerusalem gan Eben Fardd]] #[[Nedw|Nedw gan Edward Tegla Davies]] #[[Dros y Gamfa|Dros y Gamfa gan Fanny Edwards]] #[[Diwrnod yn Nolgellau|Diwrnod yn Nolgellau gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)]] #[[Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr)|Awdl ar yr Adgyfodiad gan Evan Jones (Ieuan Ionawr)]] #[[Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern|Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern gan William Rees (Gwilym Hiraethog)]] #[[Tri Wyr o Sodom a'r Aipht|Tri Wyr o Sodom a'r Aipht gan William Williams, Pantycelyn]] #[[F'Ewythr Tomos: cân ddyri|F'Ewythr Tomos: cân ddyri gan Eben Fardd]] #[[Hynafiaethau Nant Nantlle|Hynafiaethau Nant Nantlle gan William Robert Ambrose]] #[[Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard gan Henry ac Edward W Richard]] #[[Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion|Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion)]] #[[Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion|Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa]] #[[Wil Ellis, Porthmadog-Cymru Cyf 29 1905]] #[[Hanes Niwbwrch|Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson]] #[[Teulu Bach Nantoer|Teulu Bach Nantoer gan Moelona]] #[[Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)|Barddoniaeth Goronwy Owen gol Isaac Foulkes (Llyfrbryf)]] #[[Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I|Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I gan John Morgan Jones]] #[[Hwian-gerddi Cymraeg F' Ewyrth Huw|Hwian-gerddi Cymraeg F' Ewyrth Huw gan O. M. Edwards]] #[[Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn|Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn gan David Morris (Eiddil Gwent)]] #[[Hanes Sir Fôn|Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)]] #[[Holl Waith Barddonol Goronwy Owen|Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gol Isaac Foulkes]] #[[Adgofion am John Elias|Adgofion am John Elias gan Richard Parry (Gwalchmai)]] #[[Tro Trwy'r Wig|Tro Trwy'r Wig gan Richard Morgan (1854-1939)]] #[[Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog|Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog)]] #[[Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)|Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) gan Owen Gaianydd Williams]] #[[Dafydd Jones o Drefriw, Cymru 1903]] #[[John Evans, Eglwysbach (Cymru 1897)|John Evans, Eglwysbach (Cymru 1897) gan Walter Daniel]] #[[Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain|Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain gan y Gwyneddigion]] #[[Cerdd coffa Goleufryn|Cerdd coffa Goleufryn gan J. T. Job]] #[[Adgofion am Goleufryn|Adgofion am Goleufryn gan Evan Williams, Llanfrothen]] #[[Goronwy Owen a'r Morrisiaid|Goronwy Owen a'r Morrisiaid gan Owen Gaianydd Williams]] #[[Yr Efengyl yn ôl Sant Marc|Yr Efengyl yn ôl Sant Marc gan y Fibl Gymdeithas Americanaidd (1894)]] #[[Llythyrau Goronwy Owen|Llythyrau Goronwy Owen gol John Morris-Jones]] #[[Diliau Meirion Cyf I|Diliau Meirion Cyf I gan gan Morris Davies (Meurig Ebrill)]] #[[Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch|Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch gol Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Gwaith Joshua Thomas|Gwaith Joshua Thomas gol O M Edwards]] #[[Glan Cledwen (Cymru 15 Rhagfyr 1897)]] #[[Dringo'r Andes|Dringo'r Andes gan Eluned Morgan]] #[[Naw Mis yn Nghymru|Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus)]] #[[Ysgrifau Puleston|Ysgrifau Puleston gan John Puleston Jones]] #[[Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau|Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau gan Robert Thomas (Ap Vychan)]] #[[Rhigymau'r Ffordd Fawr|Rhigymau'r Ffordd Fawr gan Dewi Emrys]] #[[Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams|Coffadwriaeth y Parch John Williams, Pantycelyn gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt]] #[[Fy Mhererindod Ysbrydol|Fy Mhererindod Ysbrydol gan Evan Keri Evans]] #[[Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew|Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew gan y Fibl Gymdeithas Americanaidd (1894)]] #[[Beirdd y Bala|Beirdd y Bala gol O. M. Edwards]] #[[Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)|Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gol O. M. Edwards]] #[[Can newydd yn rhoddi hanes dienyddiad Richard Lewis|Can newydd yn rhoddi hanes dienyddiad Richard Lewis gan Dic Dywyll]] #[[Gwyllllis yn Nayd|Gwyllllis yn Nayd gan Dr William Price]] #[[Gwroniaid y Ffydd|Gwroniaid y Ffydd gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Tanchwa yn Cilfynydd|Tanchwa yn Cilfynydd baled gan awdur Anhysbys]] #[[Damwain echrydus Glofa Carnant, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin]] #[[Blodau Drain Duon|Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)]] #[[Telyn Dyfi|Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans]] #[[Cyfrinach y Dwyrain|Cyfrinach y Dwyrain gan David Cunllo Davies]] #[[Oriau yn y Wlad|Oriau yn y Wlad gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Branwen Ferch Llŷr (Tegla)|Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies]] #[[Prif Feirdd Eifionydd|Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands]] #[[Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol)(Cymru) 2020]] #[[Rhys Llwyd y Lleuad|Rhys Llwyd y Lleuad gan E Tegla Davies]] #[[Oriau Gydag Enwogion|Oriau Gydag Enwogion gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi|Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi gan John Evans, Abermeurig]] #[[Hanes Alexander Fawr|Hanes Alexander Fawr gan Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I|Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I gan Emrys ap Iwan]] #[[Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II|Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II gan Emrys ap Iwan]] #[[Y Lleian Lwyd|Y Lleian Lwyd gan Moelona]] #[[Cenadon Hedd|Cenadon Hedd gan William Jones, Cwmaman]] #[[Dagrau Hiraeth|Dagrau Hiraeth gan William Jones, Pontsaeson]] #[[Saith o Farwnadau|Saith o Farwnadau gan William Williams, Pantycelyn]] #[[Storïau o Hanes Cymru cyf I|Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Moelona]] #[[Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris|Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris gan Griffith Jones (Glan Menai)]] #[[Hanes Bywyd Pio Nono|Hanes Bywyd Pio Nono gan Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Caniadau Watcyn Wyn|Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)]] #[[Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth|Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig]] #[[Gwrid y Machlud|Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)]] #[[Yr Hwiangerddi (O M Edwards)|Yr Hwiangerddi gan O M Edwards]] #[[Noson o Farrug|Noson o Farrug gan Robert Griffith Berry]] #[[Meini Gwagedd|Meini Gwagedd gan James Kitchener Davies]] #[[Y Tri Brenin o Gwlen]] #[[Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon|Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon gan William Hobley]] #[[Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)|Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans]] #[[Rhobat Wyn|Rhobat Wyn gan Awena Rhun]] #[[Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry|Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry gan Thomas Lewis Jones, Machen]] #[[Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd]] #[[Cerddi Hanes|Cerddi Hanes gan Thomas Gwynn Jones]] #[[Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur|Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur gan John Eiddion Jones]] #[[Patrymau Gwlad|Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)]] #[[David Williams y Piwritan|David Williams y Piwritan gan Richard Thomas, Bontnewydd]] #[[Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer, Pontypwl|Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer, Pontypwl gan Ellis Hughes, Penmaen]] #[[Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern|Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones]] #[[Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price|Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price gan Benjamin Evans (Telynfab)]] #[[Llyfr Haf|Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards]] #[[Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896)|Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896) gol O. M. Edwards]] #[[Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr|Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr gan William Hobley]] #[[Beryl|Beryl gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)]] #[[Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog|Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog gan William Hobley]] #[[Breuddwydion Myfanwy|Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)]] #[[Lloffion o'r Mynwentydd|Lloffion o'r Mynwentydd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)]] #[[Cofiant y diweddar Barch Robert Everett|Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn)]] #[[Y Wen Fro|Y Wen Fro gan Ellen Evans]] #[[Cerrig y Rhyd|Cerrig y Rhyd gan Winnie Parry]] #[[Gwaith Edward Richard|Gwaith Edward Richard gan Edward Richard, Ystrad Meurig]] #[[Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun]] #[[Humphrey Jones a Diwygiad 1859|Humphrey Jones a Diwygiad 1859 gan Evan Isaac]] #[[Adgofion Andronicus|Adgofion Andronicus gan John Williams Jones (Andronicus)]] #[[Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill|Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill gan Morris Davies (Meurig Ebrill)]] #[[Cofiant Richard Jones Llwyngwril|Cofiant Richard Jones Llwyngwril gan Evan Evans, Llangollen]] #[[Profiadau Pellach|Profiadau Pellach gan G M Ll Davies]] #[[Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol]] #[[Hanes y Bibl Cymraeg|Hanes y Bibl Cymraeg gan Thomas Levi]] #[[Pererindod Heddwch|Pererindod Heddwch, G M Ll Davies]] #[[Tan yr Enfys|Tan yr Enfys gan D J Lewis Jenkins]] #[[Yr Ogof|Yr Ogof gan T Rowland Hughes]] #[[Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau]] #[[Profedigaethau Enoc Huws (1939)]] #[[Dyddgwaith|Dyddgwaith gan Thomas Gwynn Jones]] #[[Salm i Famon a Marwnad Grey|Salm i Famon a Marwnad Grey gan John Morris-Jones]] #[[Madam Wen|Madam Wen gan William David Owen]] #[[Dan Gwmwl|Dan Gwmwl gan Awena Rhun]] #[[Atgofion am Dalysarn]] #[[Cerddi'r Bwthyn|Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys]] #[[Capelulo]] #[[Y Pennaf Peth]] #[[Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth]] #[[Yr Hen Lwybrau|Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn)]] #[[Gwaith Gwilym Marles]] #[[Gwaith ap Vychan]] #[[Gwaith Gwilym Hiraethog]] #[[Cadeiriau Enwog]] #[[Y Cychwyn]] #[[Cofiant Hwfa Môn]] #[[Hynafiaethau Edeyrnion]] #[[Aildrefniad Cymdeithas]] #[[Ar y Groesffordd]] #[[Astudiaethau T Gwynn Jones]] #[[Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014]] #[[Brethyn Cartref]] #[[Brithgofion]] #[[Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)]] #[[Bywyd a Gwaith Henry Richard AS]] #[[Bywyd a Llafur John Wesley]] #[[Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach]] #[[Cân neu Ddwy]] #[[Caniadau'r Allt]] #[[Caniadau Buddug]] #[[Caniadau ac ati]] #[[Cartrefi Cymru, O. M. Edwards]] #[[Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910]] #[[Catiau Cwta]] #[[Cerddi'r Eryri]] #[[Cerddi a Baledi]] #[[Ceris y Pwll]] #[[Chwedlau'r Aelwyd]] #[[Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg]] #[[Coelion Cymru]] #[[Cofiant Dafydd Rolant, Pennal]] #[[Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau]] #[[Cwm Eithin]] #[[Cyflafan Ofnadwy Dolgellau]] #[[Cymeriadau (T. Gwynn Jones)]] #[[Cymru Fu]] #[[D Rhagfyr Jones (o Dywysydd y Plant 1901)]] #[[Daff Owen]] #[[Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors)]] #[[Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc|Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc gan Francis Jones, Abergele]] #[[Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012]] #[[Diarhebion Cymru]] #[[Drama Rhys Lewis]] #[[Drych yr Amseroedd]] #[[Er Mwyn Cymru]] #[[Griffith Ellis Bootle, Cymru Cyf 23, 1902]] #[[Gwaith Dewi Wnion]] #[[Gwaith Alun]] #[[Gwaith Ann Griffiths]] #[[Gwaith Ceiriog]] #[[Gwaith Dafydd ap Gwilym]] #[[Gwaith John Davies]] #[[Gwaith John Hughes]] #[[Gwaith John Thomas]] #[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 1]] #[[Gwaith Mynyddog Cyfrol 2]] #[[Gwaith S.R.]] #[[Gwaith Thomas Griffiths]] #[[Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)]] #[[Gwialen Fedw Fy Mam]] #[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf I]] #[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf II]] #[[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I]] #[[Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II]] #[[Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia]] #[[Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant]] #[[Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo]] #[[Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone]] #[[Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai]] #[[Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia]] #[[Hen Gymeriadau Dolgellau]] #[[Hynafiaethau Edeyrnion]] #[[I'r Aifft ac yn Ol]] #[[Llenyddiaeth Fy Ngwlad]] #[[Lewsyn yr Heliwr (nofel)]] #[[Llio Plas y Nos]] #[[Llyfr Del]] #[[Llyfr Nest]] #[[Llyfr Owen]] #[[Mabinogion J M Edwards Cyf 1]] #[[Mabinogion J M Edwards Cyf 2]] #[[Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl]] #[[Mesur Addysg (Cymru) 2011]] #[[Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011]] #[[Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008]] #[[Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008]] #[[O Law i Law]] #[[Oll synnwyr pen Kembero ygyd]] #[[Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron]] #[[Plant Dic Sion Dafydd]] #[[Rhai o Gymry Lerpwl]] #[[Rhamant Bywyd Lloyd George]] #[[Rhan o waith mewn Cernyweg Canol (Add. Ch. 19491)]] #[[Rhodd Mam i'w Phlentyn]] #[[Rhyfeddodau'r Cread]] #[[Adolygiad o lyfr Sadie "Twilight Hours"]] #[[Seren Tan Gwmwl]] #[[Storïau Mawr y Byd]] #[[Straeon y Pentan]] #[[Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu]] #[[Tanchwa ddychrynllyd yn Nyffryn Rhondda, ger Pontypridd]] #[[Telynegion Maes a Môr]] #[[Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd]] #[[Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau]] #[[Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr]] #[[Tro Trwy'r Gogledd]] #[[Tro i'r De]] #[[Tro yn Llydaw]] #[[Trwy India'r Gorllewin]] #[[Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)]] #[[William Jones (Nofel)]] #[[Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron]] #[[Y Gelfyddyd Gwta]] #[[Y Siswrn]] #[[Yn y Wlad]] #[[Yny lhyvyr hwnn]] #[[Yr Hwiangerddi (O M Edwards)]] #[[Yr Hynod William Ellis, Maentwrog]] #[[Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala]] #[[Ysgrifau (Dewi Emrys)]] #[[Yr Eneth Ga'dd ei Gwrthod]] #[[Myfyrdod mewn mynwent|Myfyrdod mewn mynwent gan John Parry, Llaneilian]] #[[Dyrif etholiadol Ceredigion 1892]] #[[Canmlwyddiant Marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A., Mawrth 3ydd, 1891]] #[[Er cof am Joseph Meredith, Adelaide Villa, Llandudno|Er cof am Joseph Meredith, Adelaide Villa, Llandudno D. S. Thomas (Glan Pair)]] #[[Deuddeg penill coffadwriaethol i'r diweddar Barch. John Hughes, Carneddau|Deuddeg penill coffadwriaethol i'r diweddar Barch. John Hughes, Carneddau gan Ellis Isfryn Williams]] #[[Hanes Brwydr Waterloo|Hanes Brwydr Waterloo gan Hugh Humphreys, Caernarfon]] #[[Galar gan, er coffadwriaeth am y ddamwain yn ngwaith glo Landshipping Chwefror 14eg, 1844]] #[[Galargan ar ol y Mochyn Du]] #[[Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach]] #[[Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias]] #[[William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant)]] #[[Hen Fibl Fawr fy Mam]] #[[Tanchwa ofnadwy yn Abersychan]] #[[Y Ffeiriau Hynotaf yn Ddeuddeg Sir Cymru]] #[[Henry Kirke White (Trysorfa y Plant Ebrill 1891)]] #[[Mynwy yng Nghymru (Cymru Cyf X Rhif 57)]] #[[Rhanau o'r Corff (Fanny Edwards)]] #[[Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917]] #[[Huw Morus—Dadorchuddiad Ei Golofn Goffadwriaethol, Pont Y Meibion, Awst 26 1909]] #[[Owain Aran (erthyglau Cymru 1909)]] # [[Lewys Aran (Cymru Tachwedd 1918)]] #[[Owen R Lewis (Glan Cymerig) Perl y Plant 1910]] #[[John Puleston Jones (Trysorfa y Plant 1906)]] #[[Dafydd Jones o Gaio (Cymru 1898)|Dafydd Jones o Gaio (Cymru 1898) gan David Cunllo Davies]] #[[Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer]] #[[Ioan Madog (Cymru 1896)]] #[[Llofruddiaeth Thomas Watkins gan Benjamin Jones, Aberdâr 1866]] # [[Ròseen-Dhu|Ròseen-Dhu gan William Sharp (Fiona Macleod) wedi'i gyfieithu gan Owen Griffith Owen (Alafon)]] #[[Son-days (Henry Vaughan)|Son-days gan Henry Vaughan wedi'i gyfieithu gan Robert David Rowland (Anthropos)]] #[[Can Coffadwriaethol Tanymarian|Can Coffadwriaethol Tanymarian gan John Henry Hughes (Ieuan o Leyn)]] #[[Morwynion Glan Meirionydd|Morwynion Glan Meirionydd gan Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn)]] #[[A Poison Tree gan William Blake|A Poison Tree gan William Blake wedi'i gyfieithu gan John Jenkins (Gwili)]] #[[Dewi Idris (Cymru 1899)|Dewi Idris (Cymru 1899) gan Carneddog]] #[[John Jones (Ioan Eifion) Cymru 1896]] #[[Cwyn Lewis Rees a'i chwaer Ann am eu halltuddiaeth am ladrad yn Nolgellau|Cwyn Lewis Rees a'i chwaer Ann am eu halltuddiaeth am ladrad yn Nolgellau gan John Jones (Pyll)]] #[[Llofruddiaeth Caerfyrddin, Thomas yn cael ei grogi]] #[[Baled am drychineb gwaith glo Dinas y Cymer, Pontypridd, 1844]] #[[Baled am bechod William Evan, Trefddyn (1737)]] {{Div col end}} ==Wedi eu cyhoeddi heb sgan== #[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf II]] #[[Pascon Agan Arluth]] #[[Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg]] #[[Y Tri Brenin o Gwlen]] ==Wedi eu prawfddarllen heb eu cyhoeddi== # [[Enwogion Ceredigion]] ==Rhannau wedi eu cyhoeddi== #[[Enwogion Sir Aberteifi]] 13/187 #[[Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I]] 31/683 ==Angen eu prawfddarllen== {{Div col}} #[[Indecs:Llyfr Darllen ac Ysgrifennu.djvu]] #[[Indecs:Cymraeg y Mabinogion.djvu]] #[[Indecs:Y Llyfrgell yng Nghymru ac Efrydiau Cymreig.djvu]] #[[Indecs:Addysg Wledig yng Nghymru (1948).djvu]] #[[Indecs:Y Cwrs Addysg a'r Gymdeithaqs yng Nghymru.djvu]] #[[Indecs:Blodau'r Gynghanedd.djvu]] #[[Indecs:Llyfr y Ddau Dwyll.djvu]] #[[Indecs:Llyfr y Ddau Brawf.djvu]] #[[Indecs:Llyfr y Dyn Pren.djvu]] #[[Indecs:Llyfr Pawb.djvu]] #[[Indecs:Album Aberhonddu.djvu]] #[[Indecs:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu]] #[[Indecs:John Jones (Ioan Eifion) Cymru 1896.djvu]] #[[Indecs:Dafydd ab Gwilym o Fuallt.djvu]] #[[Indecs:John Wesley, ei fywyd a'i llafur.djvu]] (angen ei ail lwytho) #[[Indecs:Caniadydd 1841.djvu]] #[[Indecs:Archaeologia Lleynensis.djvu]] #[[Indecs:Y Gestiana.djvu]] #[[Indecs:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu]] #[[Indecs:Camrau mewn grammadeg Cymreig (IA camraumewngramma00apiw).pdf]] #[[Indecs:Caniadau Cymru.djvu]] #[[Indecs:Caniadau Hiraethog.djvu]] #[[Indecs:Caniadau John Morris-Jones.djvu]] #[[Indecs:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf]] #[[Indecs:Ceinion Emrys.djvu]] #[[Indecs:Yr Ysgol Farddol.djvu]] #[[Indecs:Ystorya de Carolo Magno o Lyfr Coch Hergest.djvu]] #[[Indecs:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf]] #[[Indecs:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu]] #[[Indecs:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu]] #[[Indecs:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu]] #[[Indecs:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf]] #[[Indecs:Cofiant James Davies Radnor O.djvu]] #[[Indecs:Cofiant Thomas Gee.djvu]] #[[Indecs:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu]] #[[Indecs:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu]] #[[Indecs:Cwm Glo.djvu]] #[[Indecs:Cyfystyron y gymraeg - sef y casgliad buddugol yn Eisteddfod Genhedlaethol Gwrecsam, 1888 (IA cyfystyronygymra00jone).pdf]] #[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf]] #[[Indecs:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf]] #[[Indecs:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu]] #[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]] #[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu]] #[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd 1902.djvu]] #[[Indecs:Emynau a'u Hawduriaid.djvu]] #[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf I.pdf]] #[[Indecs:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf]] #[[Indecs:Er mwyn Iesu - pregethau, &c t (IA ermwyniesupreget00jone).pdf]] #[[Indecs:Ffynnonloyw.djvu]] #[[Indecs:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu]] #[[Indecs:Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion cymru Cyf II.pdf]] #[[Indecs:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf]] #[[Indecs:Geiriadur ysgrythyrol- yn cynnwys hanesiaeth, duwinyddiaeth, athroniaeth ... (IA geiriadurysgryt03chargoog).pdf]] #[[Indecs:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf]] #[[Indecs:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf]] #[[Indecs:Gwaith Caledfryn.pdf]] #[[Indecs:Gwaith Glan y Gors.djvu]] #[[Indecs:Gwaith Lewis Glyn Cothi.djvu]] #[[Indecs:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu]] #[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf]] #[[Indecs:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 2 (IA pantycelyn gweithiau2).pdf]] #[[Indecs:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 02.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 03.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 04.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 05.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 06.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 07.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 08.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 09.pdf]] #[[Indecs:Gwyddoniadur Cyf 10.pdf]] #[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]] #[[Indecs:Hanes Cymru America.djvu]] #[[Indecs:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf]] #[[Indecs:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf]] #[[Indecs:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 4.pdf]] #[[Indecs:Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf V.djvu]] #[[Indecs:Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1320 hyd 1650.pdf]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Dyffryn Clwyd-Dosbarth Rhuthin.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf III.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf II.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Sir Fflint.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth yn Nosbarth Trefffynon 1750-1910.djvu]] #[[Indecs:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu]] #[[Indecs:Hanes Plwyf Ffestiniog.djvu]] #[[Indecs:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu]] #[[Indecs:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu]] #[[Indecs:Howel Harris yn Llundain.djvu]] #[[Indecs:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf]] #[[Indecs:Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.pdf]] #[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]] #[[Indecs:Llenyddiaeth y Cymry - llawlyfr i efrydwyr.djvu]] #[[Indecs:Llyfr emynau (IA llyfrem00jone).pdf]] #[[Indecs:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf]] #[[Indecs:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf]] #[[Indecs:Llyfr Pawb ar Bob-peth.pdf]] #[[Indecs:Llyfr y Tri Aderyn.pdf]] #[[Indecs:Llynnoedd Llonydd.djvu]] #[[Indecs:Megys Trwy Dan.djvu]] #[[Indecs:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf]] #[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol II.djvu]] #[[Indecs:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu]] #[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]] #[[Indecs:Methodistiaeth Môn.pdf]] #[[Indecs:Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay.djvu]] #[[Indecs:O'r Bala i Geneva.djvu]] #[[Indecs:Odl a Chynghanedd.djvu]] #[[Indecs:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu]] #[[Indecs:Oriau'r Hwyr.pdf]] #[[Indecs:Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl, gair a gweithred croes i ewyllys Duw a elwir yn bechod (IA wg35-1-172).pdf]] #[[Indecs:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1.djvu]] #[[Indecs:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 2.djvu]] #[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]] #[[Indecs:Prydnawngwaith y Cymry.djvu]] #[[Indecs:Red Book of Hergest - Jesus College MS 111.djvu]] #[[Indecs:Robert Owen Apostol Llafur Cyf 1.djvu]] #[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]] #[[Indecs:Taith y pererin darluniadol.pdf]] #[[Indecs:Tecel gan Gabriel Parry, cyhoeddwyd yn 1854.pdf]] #[[Indecs:Tecel gan Gabriel Parry.pdf]] #[[Indecs:Teithiau yng Nghymru Pennant.pdf]] #[[Indecs:Testament Newydd (1894).djvu]] #[[Indecs:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu]] #[[Indecs:Traethodau ac Areithiau R J Derfel.pdf]] #[[Indecs:Twm o'r Nant Cyf I.pdf]] #[[Indecs:Wil Brydydd y Coed.pdf]] #[[Indecs:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu]] #[[Indecs:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf]] #[[Indecs:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu]] #[[Indecs:Y Digrifwr Cymraeg.djvu]] #[[Indecs:Y Mabinogion Cymreig-sef, Chwedlau rhamantus yr hen Gymry.pdf]] #[[Indecs:Y Monwyson.djvu]] #[[Indecs:Y Pigion.djvu]] #[[Indecs:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu]] #[[Indecs:Y trydydd cynyg Mynyddog.djvu]] #[[Indecs:Yr ail Gynnyg, Mynyddog.djvu]] #[[Indecs:Yr athrawes o ddifrif.pdf]] #[[Indecs:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu]] #[[Indecs:Yr Iaith Gymraeg 1785 1885 1985.djvu]] #[[Indecs:A pocket dictionary, Welsh-English.djvu]] #[[Indecs:Aleluia - neu, lyfr o hymnau (IA aleluianh00will).pdf]] #[[Indecs:Argraphiad newydd o eiriadur beiblaidd (IA argraphiadnewydd00browuoft).pdf]] {{Div col end}} ==Angen testun cyfansawdd== {{Div col}} #[[Gwaith Ann Griffiths]] #[[Gwaith John Davies]] #[[Gwaith John Hughes]] #[[Gwaith S.R.]] #[[Gwaith Thomas Griffiths]] #[[Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant]] #[[Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo]] #[[Hanes Cymru O M Edwards Cyf II]] #[[Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai]] #[[Oll synnwyr pen Kembero ygyd]] #[[Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron]] {{Div col end}} <br> ==Wedi sganio efo peiriant Wiki UK== ■ Wedi cyhoeddi ▲ Rhannau wedi eu cyhoeddi ●Problemau cyhoeddi {{Div col}} #[[Indecs:Ystorïau Bohemia.djvu]]■ #[[Indecs:Yr Argyfwng.djvu]]■ #[[Indecs:Toriad y Wawr.djvu]]■ #[[Indecs:O Gylch Carn Fadrig.djvu]]■ #[[Indecs:Gŵr y Dolau.djvu]]■ #[[Indecs:Y Ddeddf Uno 1536.djvu]]■ #[[Indecs:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu]]■ #[[Indecs:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu]]■ #[[Indecs:Rhwng Rhyfeloedd.djvu]]■ #[[Indecs:Ceulan y Llyn Du.djvu]]■ #[[Indecs:Blacmel.djvu]]■ #[[Indecs:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu]]■ #[[Indecs:Dychweledigion (Ibsen).djvu]]■ #[[Indecs:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu]]■ #[[Indecs:Y Wers Olaf.djvu]]■ #[[Indecs:Dal y Lleidr (drama).djvu]]■ #[[Indecs:Tudur Aled (JMJ).djvu]]■ #[[Indecs:Dan Lenni'r Nos.djvu]]■ #[[Indecs:Llofrudd yn y Chwarel.djvu]]■ #[[Indecs:Dyddlyfr 1941.djvu]]■ #[[Indecs:Mêt y Mona.djvu]]■ #[[Indecs:Siaced Fraith.djvu]]■ #[[Indecs:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu]]■ #[[Indecs:Dirwyn Edafedd.djvu]]■ #[[Indecs:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu]]■ #[[Indecs:Beibl Plant Ysgol.djvu]] #[[Indecs:Drain a Blodau.djvu]]■ #[[Indecs:Yr Hen Gyrnol.djvu]]■ #[[Indecs:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf]]■ #[[Indecs:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu]]■ #[[Indecs:Cerddi'r Bugail.djvu]]■ #[[Indecs:Ynys y Trysor.djvu]]■ #[[Indecs:Cerddi Edern a Cherddi Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Cymru'r Oesau Canol.djvu]]■ #[[Indecs:Hen Ffrindiau.djvu]]■ #[[Indecs:Drysau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Tir y Dyneddon.djvu]]■ #[[Indecs:O Gors y Bryniau.djvu]]■ #[[Indecs:Y Drws Agored.djvu]]■ #[[Indecs:Blodau'r Gynghanedd.djvu]] #[[Indecs:Yr Ysgol Gymraeg.djvu]]■ #[[Indecs:Pentre'r plant.djvu]]■ #[[Indecs:Straeon Gwerin Affrica.djvu]]■ #[[Indecs:Gwilym a Benni Bach.djvu]]■ #[[Indecs:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu]]■ #[[Indecs:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu]]■ #[[Indecs:Hunangofiant Tomi.djvu]]■ #[[Indecs:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu]] #[[Indecs:Hanes Gwareiddiad.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu]]■ #[[Indecs:Am dro i Fadagascar.djvu]]■ #[[Indecs:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu]]■ #[[Indecs:Caniadau Gwili.djvu]]■ #[[Indecs:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu]]■ #[[Indecs:Yng Ngwres y Dydd.djvu]]■ #[[Indecs:Y Fainc Sglodion.djvu]]■ #[[Indecs:Cathlau Bore a Nawn.djvu]]■ #[[Indecs:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu]]■ #[[Indecs:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Llyfr 2.djvu]] #[[Indecs:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu]]■ #[[Indecs:Nansi'r Dditectif.djvu]]■ #[[Indecs:Nedw (llyfr).djvu]]■ #[[Indecs:Ystoriau Siluria.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu]]■ #[[Indecs:Teulu Bach Nantoer.djvu]]■ #[[Indecs:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu]] #[[Indecs:Ceiriog a Mynyddog.djvu]]■ #[[Indecs:Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu]]■ #[[Indecs:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu]]■ #[[Indecs:Oriau Gydag Enwogion.djvu]]■ #[[Indecs:Prif Feirdd Eifionydd.djvu]]■ #[[Indecs:Y Lleian Lwyd.pdf]]■ #[[Indecs:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu]]■ #[[Indecs:Meini Gwagedd.djvu]]■ #[[Indecs:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf]]■ #[[Indecs:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu]]■ #[[Indecs:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu]]■ #[[Indecs:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu]]■ #[[Indecs:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu]]■ #[[Indecs:Blodau Drain Duon.djvu]]■ #[[Indecs:Bugail y Bryn.djvu]]■ #[[Indecs:Y Wen Fro.djvu]]■ #[[Indecs:Ffynnonloyw.djvu]]● #[[Indecs:Breuddwydion Myfanwy.djvu]]■ #[[Indecs:Beryl.djvu]]■ #[[Indecs:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu]]■ #[[Indecs:Patrymau Gwlad.djvu]]■ #[[Indecs:Pererindod Heddwch.djvu]]■ #[[Indecs:Profiadau Pellach 01.djvu]]■ #[[Indecs:Tan yr Enfys.djvu]]■ #[[Indecs:Ysgrifau Puleston.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu]]■ #[[Indecs:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant Watcyn Wyn.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant D Emlyn Evans.djvu]]■ #[[Indecs:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu]]■ #[[Indecs:Gwreichion y Diwygiadau.djvu]]■ #[[Indecs:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu]]■ #[[Indecs:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu]]■ #[[Indecs:Gwrid y Machlyd.djvu]]■ #[[Indecs:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu]]■ #[[Ysgrifau (Dewi Emrys)]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf]]■ #[[Indecs:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf]] #[[Indecs:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf]]■ #[[Indecs:Yn y Wlad.pdf]]■ #[[Indecs:Hanes Plwyf Llanegryn (1948).djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Mynachdai.pdf]]■ #[[Indecs:Cerddi Hanes.pdf]]■ #[[Indecs:Beirdd y Bala.pdf]]■ #[[Indecs:Noson o Farug.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Joshua Thomas.pdf]]■ #[[Indecs:Plant y Goedwig.djvu]]■ #[[Indecs:Llyfr Del (OME).pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Dewi Wyn.djvu]]■ #[[Indecs:Brethyn Cartref.pdf]]■ #[[Indecs:Eben Fardd (Ab Owen).pdf]]■ #[[Indecs:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf]] #[[Indecs:Gwaith Gwilym Marles.pdf]]■ #[[Indecs:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf]]■ #[[Indecs:O Law i Law.pdf]]■ #[[Indecs:Cwm Eithin.djvu]]■ #[[Indecs:Gwaith Huw Morus.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Iolo Goch.djvu]]■ #[[Indecs:Ceris y Pwll.pdf]]■ #[[Indecs:Yr Ogof.pdf]]■ #[[Indecs:Penillion Telyn.pdf]]■ #[[Indecs:Llyfr Owen.pdf]]■ #[[Indecs:Seren Tan Gwmwl.djvu]]■ #[[Indecs:Llyfr Haf.pdf]]■ #[[Indecs:Tro Trwy'r Wig.pdf]]■ #[[Indecs:Tro i'r De.pdf]]■ #[[Indecs:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf]]■ #[[Indecs:Y Gelfyddyd Gwta.pdf]]■ #[[Indecs:Rhyfeddodau'r Cread.pdf]]■ #[[Indecs:Ar y Groesffordd.pdf]]■ #[[Indecs:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf]]■ #[[Indecs:Wat Emwnt.pdf]]‎■ #[[Indecs:Daffr Owen.pdf]]■ #[[Indecs:Y Geilwad Bach.pdf]]■ #[[Indecs:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf]]‎■ #[[Indecs:Cofiant David Davies, Bermo.pdf]]‎■ #[[Indecs:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf]] #[[Indecs:Gwaith Sion Cent.pdf]]■ #[[Indecs:Rhobat Wyn.pdf]]■ #[[Indecs:Prif Emynwyr Cymru.pdf]] #[[Indecs:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf]]■ #[[Indecs:Iolo Morganwg (Cadrawd).pdf]] #[[Indecs:Diwrnod yn Nolgellau.pdf]]■ #[[Indecs:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf]]●(angen ei ail sganio) #[[Indecs:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf]]■ #[[Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith yr Hen Ficer.pdf]]■ #[[Indecs:Capelulo (Elfyn).pdf]]■ #[[Indecs:Dr W Owen Pughe.pdf]] #[[Indecs:Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy.djvu]]■ #[[Indecs:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu]]■ #[[Indecs:Gwaith Edward Richard.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf]]■ #[[Indecs:Y Cychwyn.djvu]]■ #[[Indecs:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf]]● #[[Indecs:Tro Trwy'r Gogledd.pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf]]■ #[[Indecs:Gwaith Glan y Gors.djvu]] #[[Indecs:Hanes Plwyf Ffestiniog.djvu]] #[[Indecs:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu]]■ #[[Indecs:Robert Owen Apostol Llafur Cyf 1.djvu]] #[[Indecs:Gwaith Edward Morus.djvu]] #[[Indecs:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu]]■ #[[Indecs:Ap-Vychan-CyK.djvu]]■ #[[Indecs:Cyfrinach y Dwyrain.djvu]]■ #[[Indecs:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu]]■ #[[Indecs:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu]]■ #[[Indecs:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu]]■ #[[Indecs:Trwy India'r Gorllewin.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf III.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu]] #[[Indecs:Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf II.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Dyffryn Clwyd-Dosbarth Rhuthin.djvu]] #[[Indecs:Brithgofion.djvu]]■ #[[Indecs:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu]]■ #[[Indecs:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu]]■ #[[Indecs:Ifor Owen.djvu]]■ #[[Indecs:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu]]■ #[[Indecs:Storïau Mawr y Byd.djvu]]■ #[[Indecs:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf]]■ #[[Indecs:Cwm Glo.djvu]] #[[Indecs:Llwyn Hudol.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth Sir Fflint.djvu]] #[[Indecs:Hanes Methodistiaeth yn Nosbarth Trefffynon 1750-1910.djvu]] #[[Indecs:Chwalfa.djvu]]■ #[[Indecs:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu]]■ #[[Indecs:I'r Aifft ac yn Ol.djvu]]■ #[[Indecs:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu]]■ #[[Indecs:Howel Harris yn Llundain.djvu]] #[[Indecs:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Manion.djvu]]■ #[[Indecs:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu]]■ #[[Indecs:Dyddgwaith.djvu]]■ #[[Indecs:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu]]■ #[[Indecs:Y Trefedigaethau.djvu]]■ #[[Indecs:Caniadau Cymru.djvu]] #[[Indecs:Odl a Chynghanedd.djvu]] #[[Indecs:Cerddi'r Bwthyn.djvu]]■ #[[Indecs:Emynau a'u Hawduriaid.djvu]] #[[Indecs:Bugail Geirf Lorraine.djvu]]■ #[[Indecs:David Williams y Piwritan.djvu]]■ #[[Indecs:Telynegion (Silyn).djvu]]■ #[[Indecs:Ffrwythau Dethol.djvu]]■ #[[Indecs:Trystan ac Esyllt.djvu]]■ #[[Indecs:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu]]● (tudalenau ar goll) #[[Indecs:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu]]■ #[[Indecs:Siôn Gymro.djvu]]■ #[[Indecs:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu]]■ #[[Llio Plas y Nos|Llio Plas y Nos gan R Silyn Roberts]]■ #[[Indecs:Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II.djvu]]■ #[[Indecs:Caniadau'r Allt.djvu]]■ #[[Indecs:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu]] #[[Indecs:Diwygwyr Cymru.djvu]]■ #[[Indecs:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu]]■ #[[Indecs:Blagur Awen Ben Bowen.djvu]]■ #[[Indecs:Ceinion Emrys.djvu]]● (angen ail sganio) #[[Indecs:Cadeiriau Enwog.djvu]]■ #[[Indecs:Catia Cwta.djvu|Catiau Cwta]]■ #[[Indecs:Yr Awen Barod.djvu]]■ #[[Indecs:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu]] #[[Indecs:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu]]■ #[[Indecs:Chydig ar Gof a Chadw.djvu]]■ #[[Indecs:Roosevelt.djvu]] #[[Indecs:Llinell neu Ddwy.djvu]]■ #[[Indecs:Telyn Bywyd.djvu]]■ #[[Indecs:Oriau yn y Wlad.djvu]]■ #[[Indecs:Cofiant Hwfa Môn.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu]]■ #[[Indecs:Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf V.djvu]] #[[Indecs:Yr Hen Lwybrau.djvu]]■ #[[Indecs:Y Pennaf Peth.djvu]]■ #[[Indecs:Atgofion am Dalysarn.djvu]]■ #[[Indecs:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu]]■ #[[Indecs:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu]]■ {{Div col end}} ===Saesneg=== #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_The_Great_European_War_Vol_1.pdf The History of The Great European War Vol 1] #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_II.pdf The History of The Great European War Vol II] #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_III.pdf The History of The Great European War Vol III] #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:The_History_of_the_Great_European_War_Vol_IV.djvu/Index:The History of the Great European War Vol IV.djvu] #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:Kalendars_of_Gwynedd.pdf Kalendars of Gwynedd] #[https://en.wikisource.org/wiki/Index:Speeches_and_addresses_by_the_late_Thomas_E_Ellis_M_P.pdf Speeches and addresses by the late Thomas E. Ellis M.P. ] 4n9ir2d76a4b3zlqnpzu6iwzdjsu218 Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2026 2 77518 164313 164133 2026-05-07T18:05:46Z AlwynapHuw 1710 164313 wikitext text/x-wiki {{header | title =Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2026 | author = | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2025]] | next = [[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau 2027]] | notes = Llyfrau a gyhoeddwyd gan Alwyn ap Huw ar Wicidestun yn 2026 }} {{c|[[Defnyddiwr:AlwynapHuw/Llyfrau]]}} #[[Ty Capel y Cwm|Ty Capel y Cwm gan Anthropos]] #[[Bugail y Cwm|Bugail y Cwm gan Anthropos]] #[[Hanes y Ffydd yng Nghymru|Hanes y Ffydd yng Nghymru gan Charles Edwards]] #[[Cymru a'r Gymraeg|Cymru a'r Gymraeg gan E. T. John, Dyfnallt ac Arthen]] #[[Rhwng Gwg a Gwên|Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index)]] #[[Ystorïau Bohemia|Ystorïau Bohemia cyf T. H. Parry-Williams]] #[[Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy|Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gol O. M. Edwards]] #[[Hanes Plwyf Llanegryn|Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies]] #[[Yr Argyfwng|Yr Argyfwng gan William Ambrose Bebb]] #[[Toriad y Wawr|Toriad y Wawr gan Morris Thomas, Dolwyddelan]] #[[Plant y Goedwig|Plant y Goedwig gan Moelona]] #[[O Gylch Carn Fadrig|O Gylch Carn Fadrig gan John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)]] #[[Gwreichion y Diwygiadau|Gwreichion y Diwygiadau gan Carneddog]] #[[Cofiant David Davies, Bermo|Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl]] #[[Gŵr y Dolau|Gŵr y Dolau gan William Llewelyn Williams]] #[[Y Ddeddf Uno 1536|Y Ddeddf Uno 1536 gol William Ambrose Bebb]] #[[Cerdd Allwyn|Cerdd Allwyn gan Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)]] #[[Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II|Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys]] #[[Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I|Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I gan Edward Morgan Humphreys]] #[[Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion|Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir]] #[[Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill|Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan J. Machreth Rees]] #[[Clasuron Rhyddiaith Cymru|Clasuron Rhyddiaith Cymru gan Edward Edwards, Aberystwyth]] #[[Diliau Meirion Cyf II|Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill)]] #[[Rhwng Rhyfeloedd|Rhwng Rhyfeloedd gan E Morgan Humphreys]] #[[Ceulan y Llyn Du|Ceulan y Llyn Du gan E Morgan Humphreys]] #[[Blacmel|Blacmel gan John Pierce]] #[[David Lloyd George (E M Humphreys)|David Lloyd George gan E Morgan Humphreys]] #[[Dychweledigion (Ibsen)|Dychweledigion (Ibsen) cyf gan T Gwynn Jones]] #[[Llen Gwerin Sir Gaernarfon|Llen Gwerin Sir Gaernarfon gan John Jones (Myrddin Fardd)]] #[[Yng Ngwlad y Gwyddel|Yng Ngwlad y Gwyddel gan John Morgan Edwards]] #[[Y Wers Olaf|Y Wers Olaf gan Alphonse Daudet cyf Moelona]] #[[Dal y Lleidr (drama)|Dal y Lleidr (drama) gan Joseph Jenkins]] #[[Tudur Aled (JMJ)|Tudur Aled gan John Morris-Jones]] #[[Dan Lenni'r Nos|Dan Lenni'r Nos gan John Pierce]] #[[Llofrudd yn y Chwarel|Llofrudd yn y Chwarel gan E Morgan Humphreys]] #[[Dyddlyfr 1941|Dyddlyfr 1941 gan W Ambrose Bebb]] Ebrill 30, 32 7n0l9g6shu36qhgy7qx2hp62szsngkr Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/8 104 84268 164278 163969 2026-05-07T14:54:53Z AlwynapHuw 1710 164278 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|LLYFRAU ANTHROPOS.}} {{c|Cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam.}} {{center block| <poem> Oriau Hamdden 6ch. Y Porth Prydferth 1/-, a 6ch. [[Oriau Gydag Enwogion|Oriau gydag Enwogion]]. Gyda Darluniau. 1/-, a 6ch. [[Ty Capel y Cwm|Ty Capel y Cwm.]] 1/-, a 6ch. Y Golud Gwell 1/-, a 6ch. Merch y Telynor. 1/-, a 6ch. Y Pentre Gwyn. Gyda Darluniau. 1/- Bugail y Cwm. Gyda Darluniau... 1/- </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 0ynskjin3vw1bgtre6aj79956y0ohao Tudalen:Bugail y Cwm.djvu/9 104 84269 164279 163970 2026-05-07T14:55:39Z AlwynapHuw 1710 164279 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGAIR YR AWDWR.}}}} TRWY gydgyfarfyddiad amgylchiadau na raid manylu arnynt, hyd—ddenwyd ni i roddi tro i'r ardal wledig y ceisiwyd portreadu rhai o'i phobl a'i helyntion, mewn ystori flaenorol,—[[Ty Capel y Cwm|TY CAPEL Y CWM.]] Yn y cyfamser, yr oedd yspaid o flynyddau wedi treiglo heibio, a llawer o bethau wedi newid, ond yr oedd amryw o'r hen drigolion yn aros, a'r sawl oedd yn blant, yng nghyfnod y Tŷ Capel cyntaf, wedi dod yn bennau teuluoedd eu hunain, ac yn gosod eu delw ar fywyd a chynnydd yr ardal. Ni ddiorseddwyd yr hen bethau eto, ond ymwthiai blaen llanw cyfnod newydd i wahanol gyfeiriadau. Amcanwyd desgrifio y cyfnewidiad yn yr ystori sydd yn dilyn,—y modd y symudwyd ymlaen gyda'r "achos," a hynny heb beri anghydfod na thramgwydd. Erbyn hyn, y mae cyfnewidiadau mwy yn cael eu cynllunio, a'r Cwm yn graddol golli ei neilltuolion cyntefig, ac yn dyfod yr un fath a phobman arall. Ar y cyfrif hwn, y mae'n fwy na thebyg mai dyma'r waith olaf i ni son am dano. Gweddus ydyw gadael ei "ddatblygiad" dyfodol i nofelydd arbennig yr ugeinfed ganrif. Dichon y gall ein braslun syml wasanaethu fel rhagymadrodd" i waith mwy a gwell. Yr ydym yn ddyledus i garedigrwydd arferol Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi ein "llyfr bychan," ac i'r Parch. D. O'Brien Owen am ganiatad i ddefnyddio'r darluniau sydd ynddo. Ac wrth gefnu ar y Cwm, a syllu ar "Foel y Rhedyn dan lewyrch machlud haul, yr ydym yn sibrwd geiriau'r Salmydd, —" Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr—Heddwch fyddo i ti." {{c|ANTHROPOS.}} ::''Rhagfyr'', 1913. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> did509e4y962peo62b5zb884h3r8r6e Indecs:Ty Capel y Cwm.djvu 106 84402 164282 164139 2026-05-07T15:06:58Z AlwynapHuw 1710 164282 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Ty Capel y Cwm |Author=Robert David Rowland (Anthropos) |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1905 |Source=djvu |Image=1 |Progress=V |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:PD-old-70]] [[Categori:Tudalen Indecs]] bncfutecnv5mf2bvcis2pglqqm1nnni 164310 164282 2026-05-07T18:01:58Z AlwynapHuw 1710 164310 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Ty Capel y Cwm |Author=Robert David Rowland (Anthropos) |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1905 |Source=djvu |Image=1 |Progress=V |Pages=<pagelist 1=clawr 2-3=- 4=llun 5to12=roman 5=1 13=1 117=- 118=clawr /> |Remarks= }} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:PD-old-70]] [[Categori:Tudalen Indecs]] qg4nxsgylw9metbx4r0ookt5voin2hq 164311 164310 2026-05-07T18:02:16Z AlwynapHuw 1710 164311 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Ty Capel y Cwm |Author=Robert David Rowland (Anthropos) |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1905 |Source=djvu |Image=1 |Progress=V |Pages=<pagelist 1=clawr 2to3=- 4=llun 5to12=roman 5=1 13=1 117=- 118=clawr /> |Remarks= }} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:PD-old-70]] [[Categori:Tudalen Indecs]] 4whi3pdrs522jroom3wzjwccguruf42 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/4 104 84409 164284 164146 2026-05-07T15:10:41Z AlwynapHuw 1710 164284 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude> <br> <br> <br> [[Delwedd:Ty Capel y Cwm (R D Rowland, Anthropos).jpg|canol|400px|bawd|{{c|Y PARCH. R. D. ROWLANDS (Anthropos).}}]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fj8m5zzb4uaydigr3hmh8dfpooqpf3g Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/5 104 84410 164281 164147 2026-05-07T15:06:22Z AlwynapHuw 1710 164281 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>::CYFRES "Y PORTH PRYDFERTH."—IV. <br> <br> {{c|{{Mmm-mawr|TY CAPEL}}<br>{{bach|Y}}<br>{{Mmm-mawr|CWM:}}}} <br> <br> {{c|{{bach|GAN}}<br>{{Mm-mawr|ANTHROPOS,}}}} {{c|AWDWR "Y PORTH PRYDFERTH," [[Oriau Gydag Enwogion|"ORIAU GYDAG ENWOGION]],<br>CAMRAU LLWYDDIANT, &C.}} <br> <br> <br> {{c|GWRECSAM:<br>HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.<br>1905.}} <br> <br><noinclude><references/></noinclude> c6x3f972mihpxxm2648k1wz77kssuxb Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/9 104 84414 164289 164151 2026-05-07T15:25:33Z AlwynapHuw 1710 164289 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Portreadu un o'r rhai'n,—y math ore o "Dy Capel" y gwyddai yr awdwr am dano,—ydyw neges yr ystori seml sydd yn dilyn. Nid ffug ydyw y darlun. Yr oeddym yn adwaen "Marged Parri," ac yn falch o fod dan ei chronglwyd, ac yn swn ei dawn! Gosododd urddas ar ei dyledswyddau, a chadwodd y "Ty Capel " yn y Cwm yn lle cysegredig. Ni roddai achles i chwedleuydd segur, ac ni chaffai cyhuddwr y brodyr" groesi y trothwy. Mynychid y lle gan gymeriadau goreu yr ardal, ac yr oedd ymddiddanion yr aelwyd, yn ddyddan a nawsaidd, ac ysbryd dyn yn mynd yn well yn y gymdeithas. Ac yn awr, wrth feddwl am danynt, y mae iâs o hiraeth yn ymdaenu dros fy nghalon. Yn iach! frodyr a chwiorydd caredig, mwyn. "Bydd melus fy myfyrdod am danoch." A phan fo y byd yn oer a diserch, caf eich cennad i ddod, ym mraich Adgof, am orig o ymgom ac adloniant i'r hen gynefin,—"TY CAPEL Y CWM." {{c|Yr eiddoch oll,<br>{{bwlch|7em}}ANTHROPOS.}} ::Caernarfon, :::''Rhagfyr, 1905.'' {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0wfoxpdiv0k5yhou0weqqildwzziz9x Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/11 104 84416 164309 164155 2026-05-07T17:57:23Z AlwynapHuw 1710 164309 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem> [[Ty Capel y Cwm/Gŵr Diarth o'r De|VI. "GŴR DIARTH O'R DE"]] [[Ty Capel y Cwm/Seiat yr Ymwelwyr|VII. "SEIAT YR YMWELWYR"]] [[Ty Capel y Cwm/Adgofion y Parch. Jacob Davies|VIII. ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES]] [[Ty Capel y Cwm/Dafydd Tŷ'r Capel|IX. "DAFYDD TY'R CAPEL"]] [[Ty Capel y Cwm/Ymadawiad Yr Eos|X. YMADAWIAD YR EOS]] [[Ty Capel y Cwm/Newyddion Da|XI. NEWYDDION DA]] [[Ty Capel y Cwm/Y Noson Olaf|XII. Y NOSON OLAF]] </poem> {{Div end}} <br><noinclude><references/></noinclude> 7vd9wywtu37s3v4tji6k2nncr90qc9s Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/12 104 84417 164291 164156 2026-05-07T15:30:08Z AlwynapHuw 1710 164291 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYMERIADAU.}}}} {{center block| <poem> MARGED PARRI, Ty'r Capel. DAFYDD, ei bachgen. {| | ROLANT OWEN, | rowspan=3|{{brace2|4|r}}Blaenoriaid. |- | JOSEPH JONES, |- | EDWARD PUW, |}SHON WILLIAM, y Crydd. EOS GWERFYL, Arweinydd y Côr. PARCH. JACOB DAVIES, Pentre Gwyn. PARCH. MORGAN REES, Sir Aberteifi. MR. JAMES MORRIS, Ysgolfeistr. MR. MEREDYDD, Plas y Wern. ELSIE MEREDYDD. </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 2v9g7ouolzagz7t9fj76kkwgw0qth3d Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/52 104 84457 164298 164208 2026-05-07T17:30:18Z AlwynapHuw 1710 164298 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VI.<br>GŴR DIARTH O'R DE.}}}} UN o foethau crefyddol y Cwm ydoedd "cyhoeddiad" cyfnodol gweinidogion enwog o siroedd ereill, ac yn enwedig o'r South. Byddent yn dod, fel rheol, ar noson waith; ac os na byddai yn "gynhaua' gwair," neu y tywydd yn rhy "fawr," deuai cynhulliad lluosog ac astud i'r capel i glywed y "gŵr diarth." Un o'r rhai mwyaf derbyniol gan y frawdoliaeth ydoedd y Parch. Morgan Rees, o sir A{{bar|2}}. Yr oedd efe wedi cael oedfa rymus yn adeg y Diwygiad, ac amryw wedi dod i'r seiat o dan ei weinidogaeth. Ymysg edmygwyr mwyaf y pregethwr gwlithog hwn yr oedd Shon William y crydd. Pan yn sioncach ar ei droed, byddai yn ei ddilyn o'r naill gapel i'r llall am ddyddiau. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> dfrbi3hofp0ala0ahtx2a93qwhc35p5 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/82 104 84487 164302 164241 2026-05-07T17:37:35Z AlwynapHuw 1710 164302 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX.<br>"DAFYDD TY'R CAPEL."}}}} YR ydym wedi crybwyll droion, yn y penodau blaenorol, am lythyrau "Dafydd" at ei fam, a'i anrhegion iddi o'r ''"Far West."'' Nid oedd Marged Parri yn rhyw siarp iawn gyda darllen llythyr ei hun; a hwyrach mai dyna y rheswm fod Miss Elsie Meredydd yn arfer mynd ati yn un swydd ar y diwrnod y byddai llythyr "Dafydd" wedi cyrraedd, er mwyn iddynt ei ddarllen efo'u gilydd. Hwyrach fod yna reswm arall mwy personol, ond 'doedd neb yn gwybod am hwnnw ond Miss Meredydd ei hun. Ond yr oedd hyn yn sicr, er fod "Dafydd" mewn gwlad bell, nid oedd wedi cael ei anghofio gan bobl y Cwm. Yr oeddwn innau wedi fy magu yn yr ardal mewn bwthyn o'r enw Tŷ Coch, ar dir y Llwyn. Byddwn yn arfer mynd i<noinclude><references/></noinclude> s24svm2b9cd6r6ri3x8kysoa6kni24u Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/86 104 84491 164245 2026-05-07T12:00:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164245 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mae'n resyn i fachgen mor dalentog gael ei adael heb gefnogaeth. Pe deuai yn ol gyda mi i'r Gorllewin mi wnawn ddyn o hono." Yr oedd Mr. James Morris yn cydweled yn hollol, ond yn ofni na fuasai ei fam yn medru dygymod â'r syniad. Ond yr oedd yr ymwelydd wedi gosod ei fryd ar y drychfeddwl, a'r dydd dilynol aeth i'r Ty Capel i siarad gyda Marged Parri ei hun. Ar y dechreu ni fynnai son am y peth. Mi dorrwn fy nghalon heb Dafydd, a phwy a ŵyr be ddeuai o hono fo ynghanol estroniaid." Ond wedi cael hanes y wlad, a chael pob sicrwydd y caffai Dafydd gartref cysurus, ac y gosodid ef ar y ffordd i ddod yn ddyn da a defnyddiol, ac yn enwedig wrth weled awyddfryd y bachgen, toddodd calon Marged Parri, a rhoddes ei chydsyniad, er fod y dagrau yn llifo dros ei grudd. Nid oedd gan Dafydd ond ychydig amser i wneud ei hun yn barod ar gyfer y daith. Aeth i ffarwelio â'i hen ffrindiau yn y fro. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sfh3iwll5rho21qq9l35g0l40e7umqk Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/87 104 84492 164246 2026-05-07T12:01:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164246 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Bendith arnat ti! Dafydd bach," ebai Rolant Owen, Bryngoleu. "Duw fyddo gyda thi! Paid ag esgeuluso dy Feibl, a chofia ysgrifennu yn amal at dy fam." Aeth i Blas y Wern, a chafodd gynghorion da, ond o ''standpoint'' gwahanol, gan Mr. Meredydd. Nid oedd Elsie yn y tŷ, a theimlai yn bur siomedig. Ond wrth iddo ddod at yr hen bont bren, ar y llwybr sy'n arwain drwy'r Dolau Gleision, gwelodd hi yn sefyll dan gysgod y perthi drain. Nid oedd ond bachgen pymtheg oed, ond yr oedd yn mynd i ffwrdd i'r Gorllewin pell, ac yr oedd Elsie Meredydd wedi dod yno i ddweud "Ffarwel!" Suai yr awel yn y drain; murmurai yr afon dan yr hen bont bren, a machludai yr haul dros Foel Rhedyn. Dyna'r olygfa,—golygfa y bu Dafydd yn ei hadgofio, lawer min nos, y tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog! "Mi faswn inne yn leicio cael gair oddi wrthyt, Dafydd," ebai Elsie, dan wrido, "just i wybod sut y byddi di yn dod yn dy flaen. Ond,—hwyrach na fase nhad ddim yn foddlon." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kovjfq6xf4ye2g512cpmspbhrah8672 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/88 104 84493 164247 2026-05-07T12:03:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164247 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Disgynai ei geiriau fel peroriaeth ar glust yr ymfudwr ieuanc. Gwyddai nad ydoedd Mr. Meredydd yn ei ystyried ef ond megis bachgen tlawd a chyffredin; ond yr oedd goleuni disglaer yn ei lygaid pan ate bodd,— "Byddaf yn sicr o anfon at mam, a chan eich bod chwi, Elsie, wedi bod mor garedig ag addaw mynd yno ambell dro i ddarllen fy llythyrau iddi hi, hwyrach na wnewch chwi ddim digio os anfonaf dipyn o fy hanes i chwithau,—yn llythyr fy mam!" Cyn i Elsie gael amser i ddweud ychwaneg, gwelodd rywun yn dod ar draws y Dolau Gleision; ond yr oedd ei llygaid yn llefaru, a chan sibrwd ''"Good—bye,"'' croesodd y bont bren, ac aeth ar hyd y llwybr troed i Blas y Wern {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ojwmyr256xex807ebmq84hn2hekg5m2 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/89 104 84494 164248 2026-05-07T12:04:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164248 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD X.<br>Y MADAWIAD YR "EOS." }}}} AETH Dafydd Tŷ'r Capel i ffwrdd i'r Gorllewin, ond cyflawnodd ei adduned. Nid oedd mis yn myned heibio heb fod llythyr â marc post "New York" arno yn dod drosodd at ei fam. Ac, wrth gwrs, byddai llythyr yn mynd yn ol dros y Werydd, yn cynnwys hanes y Cwm, wedi ei ysgrifennu yn llawysgrif brydferth Miss Meredydd, ''private secretary'' Marged Parri. Bryd arall byddai Dafydd yn anfon anrheg i'w fam, a hithau yn ofni ei fod yn gwario ei gyflog i gyd. Un tro anfonodd iddi awrlais bychan, mewn câs arian, ac ''alarum ynddo''. Caed hwyl anferth gyda Marged Parri ar ol iddi dderbyn yr anrheg hon. Ebai Dafydd yn ei lythyr,— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fvj6dtplx10mgp4rke90hylumzwnqrg 164305 164248 2026-05-07T17:50:06Z AlwynapHuw 1710 164305 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD X.<br>Y MADAWIAD YR "EOS." }}}} AETH Dafydd Tŷ'r Capel i ffwrdd i'r Gorllewin, ond cyflawnodd ei adduned. Nid oedd mis yn myned heibio heb fod llythyr â marc post "New York" arno yn dod drosodd at ei fam. Ac, wrth gwrs, byddai llythyr yn mynd yn ol dros y Werydd, yn cynnwys hanes y Cwm, wedi ei ysgrifennu yn llawysgrif brydferth Miss Meredydd, ''private secretary'' Marged Parri. Bryd arall byddai Dafydd yn anfon anrheg i'w fam, a hithau yn ofni ei fod yn gwario ei gyflog i gyd. Un tro anfonodd iddi awrlais bychan, mewn câs arian, ac ''alarum ynddo''. Caed hwyl anferth gyda Marged Parri ar ol iddi dderbyn yr anrheg hon. Ebai Dafydd yn ei lythyr,— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> qicu19cmqr0st55h0330v1sugad79v9 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/90 104 84495 164249 2026-05-07T12:06:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164249 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mae arnaf ofn fod yr hen gloc yna, mam, wedi myned allan o ''repair''. Dyma i chwi ''Ianci'' o gloc, a dim ond i chwi roddi y '''larum'' i fynd yn iawn, mi gŵyd y pregethwr mwyaf cysglyd yn y wlad. 'Chewch chwi byth drafferth i godi neb gyda'r cloc ffasiwn newydd." Yr oedd yn eglur fod Dafydd yn dod yn ei flaen yn ardderchog yn y wlad bell. Nid oedd yn dweud llawer am dano ei hun yn ei lythyrau adref, ond yr oedd Mr. Morris, yr ysgolfeistr, yn cael yr hanes gan ei gefnder. Dyma ddarn o un llythyr,— "Mi ges lawer o bethau gwerthfawr yn ystod fy ymweliad â'r Hen Wlad, ond y peth goreu a gefais ydoedd,—Dafydd Tŷ'r Capel. Y mae yn deall y busnes gystal a finne, yn taflu ei holl galon i'w ddyledswyddau, a gallaf fentro mynd oddi cartref yn ddibryder, gan adael yr holl goncern o dan ei ofal ef." Ond er fod Rhagluniaeth yn gwenu ar y bachgen oedd oddicartref, ac ac er fod y newyddion am dano, ac oddi wrtho, yn gwbl gysurus, yr oedd calon ei fam weddw yn hiraethu am dano; ac nid oedd ar Marged<noinclude><references/></noinclude> ae0nc6cavkm4me3olpdlymoxhsvjdi1 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/91 104 84496 164250 2026-05-07T12:08:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164250 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Parri eisieu cynhorthwy Almanac i gofio yr adeg yr aeth Dafydd i ffwrdd. Pan byddai rhywun yn crybwyll am ddigwyddiad lleol yn ei chlyw,—"Ie," meddai, "yr oedd hynny ymhen dwy flynedd ar ol i Dafydd fynd i'r 'Merica." Fel yna y fyddai hi yn mesur amser, ac yn lleoli helyntion yr ardal,—yn ol eu pellder neu eu hagosrwydd at yr adeg yr aeth Dafydd o'r Cwm. Pa gofiadur fel calon mam? Nid oes "tir anghof" yn ei mynwes gynnes hi! Yr oedd ereill yn anghofio, a'r Cwm yn cyfnewid yn ei drigolion a'i bethau. Yr oeddwn i, ac ereill o gyd-ysgolorion Dafydd, megis yntau, wedi gorfod gwynebu'r byd, a chenhedlaeth arall o blant oedd yn cyrchu i ysgol y Rhyd, lle yr oedd yr hen athraw, er yn "gwyraw at lawr allt tan y gwallt gwyn," yn cyfrannu addysg i blant y plwy', ac yn eu hannog i efelychu y bachgen oedd wedi bod yn addurn i'r ysgol, ac yn anrhydedd i'r ardal lle y cafodd ei fagu,—Dafydd Parri! Bellach y mae yn agos i ddeng mlynedd er pan y mae Dafydd yn yr America, ac y mae yn son am ddyfod adref,—hwyrach i aros, ond y mae hynny yn dibynu ar un<noinclude><references/></noinclude> 8g8wu8nj9sz9zfwfb8ar8txle79jgjv Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/92 104 84497 164251 2026-05-07T12:19:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164251 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neu ddau o bethau sydd hyd yma yn ansicr. Dyma fel y dywed yn un o'i lythyrau diweddaf,— "Y mae yn dda gennyf fod fy hen gyfaill, Shon William, wedi dod i'w le yn y capel. Deudwch wrtho am wneud par o esgidiau cryfion i mi. Mae o'n gwybod mesur fy nhroed cystal ag y gŵyr o fesur troed y stiwdents fydd yn arfer a dod i'r Cwm. Cofiwch fi yn garedig at Rolant Owen. Drwg gennyf ei fod yn methu dilyn y moddion. Ai gwir eich bod yn meddwl am gapel newydd? Yr oedd fy hen athraw anwyl, Mr. James Morris, yn awgrymu rhywbeth felly yn un o'i lythyrau ataf. Wel, dichon fod y peth yn angenrheidiol, gan fod yr achos wedi cynhyddu llawer ar ol i mi adael yr ardal. Ond, yn wir, mi hoffwn weled yr hen gapel cyn iddo gael ei dynnu i lawr. A pheidiwch a synnu llawer, mam, os deuaf i edrych am danoch i'r Cwm cyn y Nadolig." Pan oedd Marged Parri a Miss Meredydd yn darllen y llythyr uchod wrth y tân ar fin nos, dyna gnoc ar y drws. Cododd Marged Parri i edrych pwy oedd yno, a thra yr ydoedd yn gwneud hynny, rhoddes<noinclude><references/></noinclude> pe2e3441af04bkdqulg8bd2649mexa4 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/93 104 84498 164252 2026-05-07T13:04:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164252 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Miss Meredydd envelope arall yn ei llogell, ac aeth allan yn swta drwy ddrws y cefn. Yr ymwelydd ydoedd Eos Gwerfyl. "A ydyw Miss Meredydd yn digwydd bod yma?" ebai yr Eos. "Mae hi wedi bod yma," meddai Marged Parri, "ond mi a'th adre<nowiki>'</nowiki> ''jest'' <nowiki>'</nowiki>rwan. Oedd arnoch ch'i isio ei gweld hi yn ''barticlar''?" "O, na, dim ond rhywbeth ynghylch yr offeryn, Marged Parri. Nos dawch." Aeth yr Eos rhagddo tua Phlas y Wern. Pan yn agos i'r bont bren gwelodd rywbeth gwyn ar fin y llwybr. Cododd ef i fyny, ac yng ngoleu y lloer darllennodd yr ''address'',— "Miss Elsie Meredydd" Yn y fan cafodd ei lanw gan gywreinrwydd ac eiddigedd. Pwy oedd wedi anfon y llythyr? Beth oedd ei gynnwys? Troes i feudy gerllaw y tŷ, a thrwy gynhorthwy y ''matches'' oedd yn ei logell, darllennodd y llythyr, llythyr serch! Terfynnai gyda'r geiriau,— {{c|"Yr eiddoch yn ffyddlawn,<br>"Dafydd." }} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hjpgpt6xnhqj6zv15tokf8gzxgcw5iw Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/94 104 84499 164253 2026-05-07T13:05:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164253 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pwy oedd hwnnw, tybed? A oedd Miss Meredydd wedi cael y llythyr i'w llaw, ac wedi ei golli ar y ffordd? Aeth i'r Plas, a chafodd ymgom gyda. Mr. Meredydd am y gwaith ym Moel 'Rhedyn, &c. Arhosodd i swper, a thra yr oedd Mr. Meredydd wedi myned allan i weled rhyw anifail oedd wedi cyfarfod â damwain, cafodd yr Eos gyfleustra i siarad gair gydag Elsie, ac i ddweud yr hyn oedd yn ei feddwl. Dechreuodd yn dyner a mwynaidd. Tystiodd ei fod yn ei hoffi, ie, yn ei charu, er y dydd cyntaf y gwelodd hi yng nghapel y Cwm. Gofynnai iddi ystyried ei gais, ac y byddai yn sicr o'i gwneud yn ddedwydd. "Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich syniad am danaf, Mr. Powell, ond y mae yr hyn a geisiwch yn awr yn amhosibl." "Sut hynny, Miss Meredydd? Ai nid ydych yn ystyried fy mod yn deilwng o honoch?" Na, nid ydyw peth felly wedi croesi fy meddwl am eiliad; ond y mae gennyf reswm sydd yn— eiddo i mi fy hun." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 8r3spw6xxn0ttdmyjt6pise2t12zpep Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/95 104 84500 164254 2026-05-07T13:06:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164254 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Aeth gwyneb yr Eos yn fflam. "Rheswm!" meddai. "Felly'n siwr! Ac yr wyf innau yn digwydd ei wybod cystal a chwithau. Dyma fo! [a daliodd y llythyr a godasai yn ei law]. Beth pe bawn i yn dangos hwn i'ch tad!" "Yr ydych yn anghofio eich hun, Mr. Powell! Fy eiddo i ydyw y llythyr yna, er fod yn amlwg eich bod chwi wedi ei ddarllen. Ond yr ydych yn camgymeryd yn eich bygythiad llwfr. Son am ddweud wrth fy nhad! Os ydych yn parchu eich hun, gwell i chwi ymadael cyn iddo ef ddod i'r tŷ. Nid oes gennyf unrhyw gyfrinach ag y mae arnaf gywilydd i fy nhad wybod am dani." Gyda hyn yr oedd swn troed Mr. Meredydd ar y buarth. Taflodd yr Eos y llythyr ar y bwrdd, ac aeth allan. Ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn wybyddus i'r trigolion, er na wyddai neb y rheswm paham, fod Eos Gwerfyl wedi diflannu o'r Cwm. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jq6xmircs08tlv4a9r216r2c344xchb Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/96 104 84501 164255 2026-05-07T13:13:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164255 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XI.<br>NEWYDDION DA.}}}} WEDI i'r "Eos" ymadael o'r Plas, ac i Mr. Meredydd gymeryd ei eisteddle arferol ar yr aelwyd, sylwodd fod Elsie yn edrych yn welw a lluddedig. Wyt ti ddim yn iach, y ngeneth i?" meddai, mewn llais tyner. "Y mae dy wyneb di yn llwyd iawn. Ddeudodd Powell rywbeth wrthat ti? Yr oedd o wedi gofyn i mi gawse fo siarad gair â thi, a dene'r p'am yr eis i allan. Ddaru ti addaw {{bar|2}}?" Naddo, nhad, a f'aswn i ddim yn gwneud y fath beth heb ymgynghori â chwi. Fel y gwyddoch, ar ol colli f'anwyl fam, 'does gen' i neb ond y chwi, nhad," a thorrodd i wylo yn hidl. Yr oedd llygaid Mr. Meredydd, erbyn hyn, yn llaith, a dywedodd wrthi,— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2ee6ail6dvdc2f7rdj2exzy0jlis5h2 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/97 104 84502 164256 2026-05-07T13:42:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164256 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mi elli ''drustio'' dy dad, Elsie bach, os wyt ti mewn rhyw anhawster." "Mae'n dda gen' i'ch clywed yn siarad fel yna, nhad, ac y mae un peth y caraswn gael eich cydsyniad chwi iddo. Mi wyddoch fod Dafydd,—Dafydd Tŷ'r Capel,'—a finne yn ffrindie er yn blant, ac wedi iddo fynd i'r America mi fyddwn yn cael ei hanes yn llythyre ei fam, ac mi wn ei fod yn meddwl am dana' i drwy'r blynyddoedd. Erbyn hyn y mae o wedi dwad yn ei flaen yn rhagorol, fel y gwyddoch, ac y mae arno fo "Eisieu i ti fynd yno i fyw, debyg, a fy ngadel inne yn fy hen ddyddie{{bar|2}}" "Nage, nhad bach. Mae gan Dafydd ddigon o o fodd i fyw yn unrhyw fan bellach; ond y mae arno ofn na f'asech chwi,—sydd yn ei gofio yn fachgen tlawd, ddim yn caniatau{{bar|2}}" "O, mi welaf sut mae pethe yn bod, Wyt ''ti'' wedi gwneud dy feddwl i fyny, dywed?" Eisteddodd Elsie ar lin ei thad, a chuddiodd ei hwyneb yn ei fynwes. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nt0mkyyvj8wjhzglbj2begig9qmmwcv Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/98 104 84503 164257 2026-05-07T13:44:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164257 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Paid a chrio, ngeneth i. Fedra i ddim dal peth fel ene. Dywed wrth Dafydd am ddod adref cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddo; a dywed hefyd na raid iddo ddim ofni dod i edrych am danom ni i Blas y Wern." {{***|5|3em|char=O}} Yr oedd pwyllgor y capel newydd yn cyfarfod bob wythnos, ac yr oedd pawb yn unfryd unfarn y dylesid cael addoldy hardd a gorffenedig, teilwng o'r achos yn y Cwm. "Ond ''capel'' ydyw i fod," ebai Rolant Owen, "nid eglwys 'rwan; y mae un eglwys yn ddigon yn y plwy'." Yr oedd Edward Puw yn selog dros gael "set ganu" helaeth, ond ofnai Joseph Jones y buasai hynny yn cyfyngu ar y "set fawr." Yr oedd rhai yn dadleu dros "ostwng" y pulpud, ond yr oedd Shon William yn credu yn gryf y buasai hynny yn tueddu at ostwng safon y weinidogaeth. Dadleuai ereill dros gael vestry gyfleus ar gyfer cyfarfodydd yr wythnos, ac er<noinclude><references/></noinclude> ra1hlrntch6zt1h4k3zfnsd30lq6ota Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/99 104 84504 164258 2026-05-07T13:46:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164258 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwyn cael lle cyfaddas i gynnal y Cyfarfod Misol. Ond y cynhygiad mwyaf ''sweeping'', fel y dywedir, oedd eiddo yr arch-adeiladydd. "Mi fyddwch yn galw bugail cyn bo hir," meddai, "ac onid gwell i chwi wneud i ffwrdd â'r Tŷ Capel,' ac adeiladu 'Tŷ Gweinidog,' fel y mae pobl y Dyffryn wedi gwneud yn barod?" Cafodd y mater hwn ei ddadleu yn frwd am wythnosau. Ond yn y diwedd yr oedd y "mwyafrif" o'i blaid, ac ysgrifenwyd paragraff i'r newyddiadur i hysbysu fod pobl y Cwm yn myned ati i adeiladu capel newydd a thŷ gweinidog yr un ffordd. Bellach, yr oedd y trefniadau yn barod, a'r gwaith wedi ei ymddiried i ''contractor'' adnabyddus. Wrth gwrs, anfonwyd y newydd i'r America at Dafydd, a dywedai Marged Parri, yn lled gynnil, y byddai yn "chwith ganddi fod heb y Tŷ Capel." Ac wrth adrodd ei phrofiad ei hun, yr oedd yn mynegi syniad distaw yr ardal oll. Onid oedd y Tŷ Capel yn ddarn o'r Cwm, ac yn dyst o hanes yr Achos am<noinclude><references/></noinclude> 2atsi6whau8i41z63kdnavwqzt003ft Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/100 104 84505 164259 2026-05-07T13:47:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164259 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>flynyddau maith? Y mae'n wir y byddai "Tŷ'r Gweinidog" oedd yn yr arfaeth, yn ateb pwrpas y Tŷ Capel yn ei bethau amgylchiadol; ond nis gallai lanw y drych-feddwl, a'r adgofion lawer, oeddynt wedi cysegru y llanerch, ac wedi ei gwneud yn fath o "hafan dawel, glyd," i aml bregethwr ar ei daith. Beth bynnag am fannau ereill ar hyd a lled y wlad, gwyddai pawb a fuont yno nad oedd raid ofni cael "gwely damp," nac unrhyw anffawd arall o'r un nodwedd, yn y Cwm. Yr oedd Marged Parri, o fawr ofal calon am gysur "Cenhadon Hedd," wedi gwneud pob ystafell mor glyd a nyth y dryw. Ah! llawer noson ystormus, a'r gwynt yn rhuthro fel gwallgof ar hyd y Cwm, y bum yn diolch am glydwch a thangnefedd o dan blygion tew o wrthbannau y Tŷ Capel! Nid wyf yn son am foethau, nac yn malio am danynt, ond y mae gyrfa llawer pregethwr wedi ei byrhau o ddiffyg y cysuron syml, ond gwerthfawr oedd yn perthyn i Dŷ Capel y Cwm. Byddai gan lu o honom "chwithdod" a hiraeth am dano; ond neb yn fwy felly na Marged Parri ei hunan. Yr oedd hi wedi treulio blynyddau hirfaith yng nghynteddau y deml. Gallai plant yr ardal<noinclude><references/></noinclude> ocwogu7dho7lf2xe1mmwypxmso9wbdu Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/101 104 84506 164260 2026-05-07T13:52:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164260 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfaddasu geiriau Glan Alun, a dweud,— {{center block| <poem> "'Roedd Marged Parri fel y coed Yn rhan o'r 'Capel Mawr.'" </poem> }} Beth ddeuai o honi, tybed? llawer Yr oedd yn gofyn y cwestiwn, ond nid oedd gweledigaeth eglur ar y pwnc. Yn y cyfamser, daeth llythyr oddiwrth Dafydd ei hun, neu fel y byddai Mr. James Morris yn arfer anfon ato,— {{Right|''"David Parry, Esq.,''{{bwlch|23em}}}} {{r|''Box 321,''{{bwlch|20em}}}} {{r|''Orange City."'' {{bwlch|15em}}}} Dywedai ei fod yn llawenychu yn fawr wrth ddeall am y cydweithrediad a'r brwdfrydedd oedd yn bod gyda'r capel newydd. Yr oedd yntau yn cefnogi y symudiad â'i holl galon, ac yn amgau £50 fel tanysgrifiad personol i'r drysorfa. Bwriadai gyfrannu rhagor, ond yr oedd yn gwneud trefniadau i ddychwelyd i Gymru, ac yn disgwyl cael yr hyfrydwch o dreulio y Nadolig yn ardal ei enedigaeth. Yng ngwyneb hyn, a fyddai yn ormod<noinclude><references/></noinclude> 9b07t8fjbr02d48mse7jxbr8cg8o32s Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/102 104 84507 164261 2026-05-07T13:54:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164261 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iddo ofyn un ffafr i'r pwyllgor,—A fuasent yn gadael pethau fel yr oeddynt hyd nes y deuai efe yn ol? Carasai gael gweled yr hen gapel, a'r "Tŷ Capel" lle y cawsai ei fagu, am unwaith cyn iddynt gael eu tynnu i lawr. Gwnaed ei ddymuniad yn hysbys i'r frawdoliaeth, ac yr oedd pawb yn cyd-synio yn llawen, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am ei rodd anrhydeddus. "Mae'n amlwg fod Dafydd yn meddu hoffder at yr hen gapel," meddai y brodyr wrth fyned allan y noson honno. Hysbyswyd y peth i Rolant Owen. Campus wir!" meddai yr hen sant gloew. "Mi fum i yn cysidro llawer am ddyfodol Marged Parri. Ond y mae'r Brenin Mawr yn siwr o ofalu am y sawl sydd yn ffyddlon efo'i Achos ar y ddaear. Ac y mae Dafydd eisio gweld yr hen gapel cyn iddo fo gael ei dynnu i lawr! Synwn i ddim blewyn nad oes ganddo fo rywbeth arall mewn golwg. Yr ydw i bron a meddwl fod,—un hirben oedd Dafydd bob amser." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 79y7zqrb25qa35sqt2v3z5a0gfvpdc8 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/103 104 84508 164262 2026-05-07T13:54:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164262 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Beth ydi o, nhad?" ebai Jane, y ferch "Wel, mi fu Mr. Meredydd yma yn edrych am dana' i y diwrnod o'r blaen, ac mi daflodd ryw hint. Ond hwyrach mod i yn camgymeryd; ac eto, mae'n syn gen' i os na cheiff yr hen gapel wneud un peth go bwysig cyn iddo fynd i ffordd yr holl ddaear." "Yr ydech chi'n siarad ar ddamegion, nhad," ebai Jane. "Yd'w, ngeneth i, a'r neb y mae ganddo glustie—gwrandawed!" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hfahzjxw81v4flq3l8dabrq20h37jps Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/104 104 84509 164263 2026-05-07T14:01:41Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>Y NOSON OLAF.}}}} GLANIODD "Dafydd Tŷ'r Capel" ym mhorthladd Lerpwl ym mis' Tachwedd. Ac ar un o'r dyddiau dilynol gellid gweled Joseph Jones y Siop yn gyrru'n brysur i dref C{{bar|2}} i gyfarfod y 'bachgen ddychwelai i'w wlad." Yr oedd deng mlynedd o absenoldeb, a hynny yn hinsawdd frŵd y Gorllewin, wedi gwneud cryn wahaniaeth yn ei ymddangosiad allanol. Prin yr oedd gŵr y Siop yn ei adwaen pan ddisgynodd... 164263 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>Y NOSON OLAF.}}}} GLANIODD "Dafydd Tŷ'r Capel" ym mhorthladd Lerpwl ym mis' Tachwedd. Ac ar un o'r dyddiau dilynol gellid gweled Joseph Jones y Siop yn gyrru'n brysur i dref C{{bar|2}} i gyfarfod y 'bachgen ddychwelai i'w wlad." Yr oedd deng mlynedd o absenoldeb, a hynny yn hinsawdd frŵd y Gorllewin, wedi gwneud cryn wahaniaeth yn ei ymddangosiad allanol. Prin yr oedd gŵr y Siop yn ei adwaen pan ddisgynodd o'r cerbyd. Ond yr oedd tôn ei lais yn ddigon i ymlid pob amheuaeth i ffwrdd. "Sut yr ydech chi, Joseph Jones? A sut y mae mam?" {{nop}}Yr oedd gan y gŵr diarth beth wmbreth o luggage, a 'doedd ryfedd yn y byd fod y porters yn ei "syrio" bob yn ail gair. Yng ngorsaf y rheilffordd, fel llawer man arall, yn ol ei luggage y bernir y dyn! Fedrwn ni byth roi yr holl focsus' yma yn y cerbyd," ebai Joseph Jones. "Y peth gore ydyw eu gadael yn y stesion, ac mi gaiff y gwâs ddod i'w nhol y peth cynta bore foru." Ac felly fu. Cychwynwyd i ardal y Cwm. Ac wedi dod i olwg y "Ddeuddwr," yr oedd Dafydd fel dyn mewn perlewyg. Yr hen afon anwyl!" meddai. "A dacw Moel y Rhedyn,—weles i erioed mohoni mor glws!" Toc, daethant i olwg y "Tŷ Capel." Yr oedd Marged Parri yn cerdded ol a blaen i'r buarth ers meityn, ac yn disgwyl am sŵn y cerbyd. Ni cheisiwn ddarlunio y cyfarfyddiad rhwng Dafydd a'i fam. Yr oedd dagrau llawenydd yn treiglo i lawr ei gruddiau,—dagrau melus iawn, fel cawodydd Mai! Aeth Joseph Jones yn ei flaen. "Mi ddof yma eto," meddai, "wedi i chi gael amser i fynd dros bethe efo'ch gilydd." {{nop}}Wedi holi "cant a mil" o gwestiynau ar draws eu gilydd, cofiodd Marged Parri fod ganddi rywbeth yn y pobty. "Yr anwyl fawr!" meddai, "dyma fi wedi anghofio y deisen. Mae arna i ofn i bod hi wedi llosgi yn golsyn! Ond 'doedd hi ddim. A dyna ddechreu ar y wledd oedd wedi ei darparu ar gyfer yr ymwelydd. Eisteddai y "gath" ar gornel y pentan, mor agos ag y gallai at ddrws y pobty, o'r lle y deuai perarogl y deisen a'r "tôst." Taflai ambell edrychiad llawn o gywreinrwydd ar y "gŵr diarth," fel pe buasai yn ceisio gwneud allan pwy a beth allai efe fod, er nad oedd hi, bid siwr, ond un o ddisgynyddion y "gath" fyddai yn arfer bod yn y Tŷ Capel pan aeth Dafydd i ffwrdd oddicartref. Ond yr oedd hi yn clywed ei enw bob dydd, ac yn amlach na hynny. "Mae'r hen gath yma fel dase hi yn fy nghofio i, mam. Sylwch fel mae hi yn ysbio arnaf." {{nop}}"Ie, yn reit siwr. Ond nid yr hen gath, druan, ydi hon, weldi, ond cath reit ifanc, ac un gampus am lygod. Ond yr oedd yn ddigon bethma i ti ddyfalu ma'r hen gath oedd hi, hefyd; ma nhw mor debyg i'w gilydd. Mi wyddost fel y bydde yr hen gathi mor gysetlyd. Dae hi ddim yn agos at ambell i bregethwr yn y parlwr yma. A rhyw Sul oer yn y gaua, mi 'roedd y Parch. Wmphre Jones yn y daith, ac mi ffôdd yr hen gath am 'i bywyd. Welis i byth mohoni, a chredu yr ydw i iddi farw Ond bobol anwyl, i be yr yn yr oerni. ydyw i yn cyboli efo'r gath, a thithe ar ganol byta. Sciet ene! I be yr wyt ti yn llygadrythu fel daset ti heb ddim bwyd er's wsnos!" "Sut mae'r hen ffrynd, Shon William. Ydi o wedi gorffen fy 'sgidie newydd, tybed?" "Ydi, machgen i, mi ddoth a nhw yma ddoe. Fydd o byth yn torri ei air, fel y mae rhai o'r un 'trâd,' a theilwriaid hefyd, o ran hynny. Ma arno fo eisio dy wel'd di yn anwêdd. Ac er 'i fod o wedi bod dipyn ar y clwt, ma Shon William yn un o'r 'plant,' 'does gen i ddim dowt" {{nop}}"Sut y mae hi rhyngddo a'r 'offeryn' erbyn hyn?" "Be, yr ''harmorniam'' ene? Wel, mae o a finne yn debyg ar y mater ene,—ddim yn hitio llawer am dano yn y capel, weldi. Ond y mae wedi dysgu tewi, fel y dyn hwnnw y sonir am dano yn yr Hen Lyfr. Oes yna bethe fel ene yn y 'Mericia, Dafydd?" "Wel, oes, mam; ond yr enw a roddir arnynt yno ydyw organs; ac y mae rhai ohonynt yn grand iawn." "Bendith arnat, Dafydd, paid a sôn am danyn nhw wrth y 'comiti,' ne mi raid iddyn nhw gael un i'r capel newydd! Ac mi ŵyr pawb fod y peth sydd yma wedi codi digon o stŵr. Ond mi gei yr hanes yn daclus gan Shon William, a hanes y dyn hwnnw aeth i ffwrdd yn sydyn,—'Eos' rywbeth,—ac mi fydd morthwyl yr hen grydd yn rybedio, fel dase y creadur ei hunan ganddo fo ar y lapston! "Ond 'does bosib gen i dy fod yn rhoi y gore iddi, 'rwan. Yn wir, d'wyt ti yn byta gwerth dim byd." {{nop}}"Dyma'r pryd gore ges i er pan aethum i ffwrdd," ebai Dafydd, a darn o'r deisen yn ei law. Ond nid oedd Marged Parri yn ei weled yn gwneud dim tebyg i "gyfiawnder â'r trugareddau." Estyn at y tôst yma, 'ngwas i, yr wyt ti heb ddim bwyd ers oriau." Sylwodd Dafydd fod yno swp o flodau tlysion ar y bwrdd. "O ble daeth y rhai'n, mam? Ai o'r ardd fach?" Nage wir, weldi; 'does ene yr un blodyn ers tro. Miss Meredydd ddaeth a nhw yma neithiwr. Yr oedd hi'n meddwl y baset ti yn leicio'u cael nhw ar y bwrdd." Wedi i'w fam fynd i'r gegin, tynnodd Dafydd un o'r blodau, a rhoddodd ef yn labed ei gôt. "Tra byddwch chi yn clirio y llestri, mam, mi af allan am dipyn bach. 1 wedi stiffio yn y trên." "Wel, paid a bod yn hir iawn. Yr ydw Ma gen<noinclude><references/></noinclude> gd91f51jtvt9k0qpe8y4yagokf18ft7 164264 164263 2026-05-07T14:30:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164264 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>Y NOSON OLAF.}}}} GLANIODD "Dafydd Tŷ'r Capel" ym mhorthladd Lerpwl ym mis' Tachwedd. Ac ar un o'r dyddiau dilynol gellid gweled Joseph Jones y Siop yn gyrru'n brysur i dref C{{bar|2}} i gyfarfod y 'bachgen ddychwelai i'w wlad." Yr oedd deng mlynedd o absenoldeb, a hynny yn hinsawdd frŵd y Gorllewin, wedi gwneud cryn wahaniaeth yn ei ymddangosiad allanol. Prin yr oedd gŵr y Siop yn ei adwaen pan ddisgynodd o'r cerbyd. Ond yr oedd tôn ei lais yn ddigon i ymlid pob amheuaeth i ffwrdd. "Sut yr ydech chi, Joseph Jones? A sut y mae mam?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hde1kuvgne0wpa5xx15694lzlds69xg 164265 164264 2026-05-07T14:30:29Z AlwynapHuw 1710 164265 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>Y NOSON OLAF.}}}} GLANIODD "Dafydd Tŷ'r Capel" ym mhorthladd Lerpwl ym mis' Tachwedd. Ac ar un o'r dyddiau dilynol gellid gweled Joseph Jones y Siop yn gyrru'n brysur i dref C{{bar|2}} i gyfarfod y 'bachgen ddychwelai i'w wlad." Yr oedd deng mlynedd o absenoldeb, a hynny yn hinsawdd frŵd y Gorllewin, wedi gwneud cryn wahaniaeth yn ei ymddangosiad allanol. Prin yr oedd gŵr y Siop yn ei adwaen pan ddisgynodd o'r cerbyd. Ond yr oedd tôn ei lais yn ddigon i ymlid pob amheuaeth i ffwrdd. "Sut yr ydech chi, Joseph Jones? A sut y mae ''mam''?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> qccenuugqzemxcxs27031twxvttneln Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/105 104 84510 164266 2026-05-07T14:31:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164266 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd gan y gŵr diarth beth wmbreth o ''luggage'', a 'doedd ryfedd yn y byd fod y ''porters'' yn ei "syrio" bob yn ail gair. Yng ngorsaf y rheilffordd, fel llawer man arall, yn ol ei ''luggage'' y bernir y dyn! Fedrwn ni byth roi yr holl focsus' yma yn y cerbyd," ebai Joseph Jones. "Y peth gore ydyw eu gadael yn y stesion, ac mi gaiff y gwâs ddod i'w nhol y peth cynta bore foru." Ac felly fu. Cychwynwyd i ardal y Cwm. Ac wedi dod i olwg y "Ddeuddwr," yr oedd Dafydd fel dyn mewn perlewyg. Yr hen afon anwyl!" meddai. "A dacw Moel y Rhedyn,—weles i erioed mohoni mor glws!" Toc, daethant i olwg y "Tŷ Capel." Yr oedd Marged Parri yn cerdded ol a blaen i'r buarth ers meityn, ac yn disgwyl am sŵn y cerbyd. Ni cheisiwn ddarlunio y cyfarfyddiad rhwng Dafydd a'i fam. Yr oedd dagrau llawenydd yn treiglo i lawr ei gruddiau,—dagrau melus iawn, fel cawodydd Mai! Aeth Joseph Jones yn ei flaen. "Mi ddof yma eto," meddai, "wedi i chi gael amser i fynd dros bethe efo'ch gilydd." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4vyopjmiy3wgjl4c55hwia9d3375rul Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/106 104 84511 164267 2026-05-07T14:32:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164267 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi holi "cant a mil" o gwestiynau ar draws eu gilydd, cofiodd Marged Parri fod ganddi rywbeth yn y pobty. "Yr anwyl fawr!" meddai, "dyma fi wedi anghofio y ''deisen''. Mae arna i ofn i bod hi wedi llosgi yn golsyn! Ond 'doedd hi ddim. A dyna ddechreu ar y wledd oedd wedi ei darparu ar gyfer yr ymwelydd. Eisteddai y "gath" ar gornel y pentan, mor agos ag y gallai at ddrws y pobty, o'r lle y deuai perarogl y deisen a'r "tôst." Taflai ambell edrychiad llawn o gywreinrwydd ar y "gŵr diarth," fel pe buasai yn ceisio gwneud allan pwy a beth allai efe fod, er nad oedd hi, bid siwr, ond un o ddisgynyddion y "gath" fyddai yn arfer bod yn y Tŷ Capel pan aeth Dafydd i ffwrdd oddicartref. Ond yr oedd hi yn clywed ei ''enw'' bob dydd, ac yn amlach na hynny. "Mae'r hen gath yma fel dase hi yn fy nghofio i, mam. Sylwch fel mae hi yn ysbio arnaf." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 52193lktcqznngs1teuqutk6q9nyf31 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/107 104 84512 164268 2026-05-07T14:33:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164268 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ie, yn reit siwr. Ond nid yr ''hen'' gath, druan, ydi hon, weldi, ond cath reit ifanc, ac un gampus am lygod. Ond yr oedd yn ddigon bethma i ti ddyfalu ma'r hen gath oedd hi, hefyd; ma nhw mor debyg i'w gilydd. Mi wyddost fel y bydde yr hen gathi mor gysetlyd. Dae hi ddim yn agos at ambell i bregethwr yn y parlwr yma. A rhyw Sul oer yn y gaua, mi 'roedd y Parch. Wmphre Jones yn y daith, ac mi ffôdd yr hen gath am 'i bywyd. Welis i byth mohoni, a chredu yr ydw i iddi farw Ond bobol anwyl, i be yr yn yr oerni. ydyw i yn cyboli efo'r ''gath'', a thithe ar ganol byta. Sciet ene! I be yr wyt ti yn llygadrythu fel daset ti heb ddim bwyd er's wsnos!" "Sut mae'r hen ffrynd, Shon William. Ydi o wedi gorffen fy 'sgidie newydd, tybed?" "Ydi, machgen i, mi ddoth a nhw yma ddoe. Fydd o byth yn torri ei air, fel y mae rhai o'r un 'trâd,' a theilwriaid hefyd, o ran hynny. Ma arno fo eisio dy wel'd di yn anwêdd. Ac er 'i fod o wedi bod dipyn ar y clwt, ma Shon William yn un o'r 'plant,' 'does gen i ddim dowt" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ncl87h3q6jybqe94niwhywarhe5x157 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/108 104 84513 164269 2026-05-07T14:34:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164269 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Sut y mae hi rhyngddo a'r 'offeryn' erbyn hyn?" "Be, yr ''harmorniam'' ene? Wel, mae o a finne yn debyg ar y mater ene,—ddim yn hitio llawer am dano yn y capel, weldi. Ond y mae wedi dysgu tewi, fel y dyn hwnnw y sonir am dano yn yr Hen Lyfr. Oes yna bethe fel ene yn y 'Mericia, Dafydd?" "Wel, oes, mam; ond yr enw a roddir arnynt yno ydyw organs; ac y mae rhai ohonynt yn grand iawn." "Bendith arnat, Dafydd, paid a sôn am danyn nhw wrth y 'comiti,' ne mi raid iddyn nhw gael un i'r capel newydd! Ac mi ŵyr pawb fod y peth sydd yma wedi codi digon o stŵr. Ond mi gei yr hanes yn daclus gan Shon William, a hanes y dyn hwnnw aeth i ffwrdd yn sydyn,—'Eos' rywbeth,—ac mi fydd morthwyl yr hen grydd yn rybedio, fel dase y creadur ei hunan ganddo fo ar y lapston! "Ond 'does bosib gen i dy fod yn rhoi y gore iddi, 'rwan. Yn wir, d'wyt ti yn byta gwerth dim byd." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tnsoqeq34h4bfo2piresp3rbt5mdnqg Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/109 104 84514 164270 2026-05-07T14:35:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164270 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Dyma'r pryd ''gore'' ges i er pan aethum i ffwrdd," ebai Dafydd, a darn o'r deisen yn ei law. Ond nid oedd Marged Parri yn ei weled yn gwneud dim tebyg i "gyfiawnder â'r trugareddau." Estyn at y tôst yma, 'ngwas i, yr wyt ti heb ddim bwyd ers oriau." Sylwodd Dafydd fod yno swp o flodau tlysion ar y bwrdd. "O ble daeth y rhai'n, mam? Ai o'r ardd fach?" Nage wir, weldi; 'does ene yr un blodyn ers tro. Miss Meredydd ddaeth a nhw yma neithiwr. Yr oedd hi'n meddwl y baset ti yn leicio'u cael nhw ar y bwrdd." Wedi i'w fam fynd i'r gegin, tynnodd Dafydd un o'r blodau, a rhoddodd ef yn labed ei gôt. "Tra byddwch chi yn clirio y llestri, mam, mi af allan am dipyn bach. Yr ydw i wedi stiffio yn y trên." "Wel, paid a bod yn hir iawn. Ma gen<noinclude><references/></noinclude> 56nure6bwilqu4fyt9qan4s4eeovum5 Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/110 104 84515 164271 2026-05-07T14:37:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164271 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i filoedd o bethe i'w deud a'u gofyn, 'dawn i wedi tacluso 'chydig ar y lle 'ma." Yr oedd y dydd bron yn darfod pan aeth Dafydd allan am dro, a'r lloer yn codi'n dawel dros ysgwydd Moel y Rhedyn. Aeth at y "bont bren," a syllodd ar y perthi drain. Cofiai am danynt yn eu blode,—ddeng mlynedd yn ol! Aeth rhagddo yn araf i gyfeiriad Plas y Wern. Yr oedd ei droediad yn ysgafn, er fod ei galon yn curo yn gyflym. Cyrhaeddodd y llidiart sydd yn ymyl y ty, a gwelai RYWUN, mewn ''shawl'' wen, yn dod ar hyd y lawnt i'w gyfarfod,— "Elsie!" "Dafydd!' Sibrydai awel y nos yn y llawryf ger—llaw, a gwenai y lloer arianaidd drwy gangau'r coed. Pa sawl cyfrinach a welodd hi er dyddiau Eden Ardd hyd heno? Ac y mae hi wedi "cadw" y cyfan ar hyd yr oesau. Gwnawn ninnau yr un modd. Tyrd i'r ty 'rwan," ebai Elsie. "Mae nhad yn disgwyl am danat." Tipyn o ''ordeal'' i Dafydd oedd gwynebu gŵr y Plas.<noinclude><references/></noinclude> g443ontlq5fdexxz7xyzax4ergq9bkw Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/111 104 84516 164272 2026-05-07T14:46:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164272 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ond bu Mr. Meredydd yn un a'i air, a rhoes dderbyniad cynnes a siriol i'r boneddwr,—ie, dyna'r gwir,—''boneddwr'' oedd yn sefyll ger ei fron, yn ystyr oreu y gair. Mynnai iddo aros i swper, ond ymesgusodai Dafydd y noswaith honno,— "Mae ''mam'' yn disgwyl am danaf heno; ond os caf alw yma eto, byddaf yn dra diolchgar." Rhyngoch chwi a'ch gilydd, 'rwan,' ebai Mr. Meredydd, dan wenu; "ond gellwch fod yn sicr y bydd yma groeso calon bob amser." Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y ''luggage'' o'r station, a chafodd Marged Parri gryn drafferth i wneud lle i'r cwbl yn y Tŷ Capel. "Fu 'rioed ffasiwn beth!" meddai. "Yr ydw i bron a chredu dy fod wedi dwad a mwy na hanner y 'Mericia i dy ganlyn." Ym mysg y "presantau" yr oedd ''ffon'' â phen arian i Rolant Owen, Bryn Goleu; ''spectol aur'' i Shon William y crydd; ''llyfrau'' gwerthfawr i Mr. James Morris, yr ysgolfeistr;<noinclude><references/></noinclude> 2w7cxd8svoabqga9u7qrdblu79ki6mn Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/112 104 84517 164273 2026-05-07T14:50:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164273 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''shawl'' ardderchog, a chist o dê i Marged Parri, a {{bar|2}}. Ond hwyrach na fuasai yn hoffi imi ddweud beth oedd ei anrheg i Elsie Meredydd. Cyn pen ychydig amser yr oedd y sî wedi mynd drwy'r ardal fod yno briodas yn debyg o gymeryd lle ym Mhlas y Wern. Daeth Jane, y ferch, a'r newydd i Bryn Goleu. Chwarddodd Rolant Owen, a chan daro ei ffon yn y llawr, meddai,— "Mi ddeudes i wrthat ti, ers dyddie, dase ti yn dallt. Mi wyddwn i amcan fod gan Dafydd ''rwbeth'' mewn golwg pan oedd o'n gofyn i ni beidio tynnu'r Hen Gapel i lawr nes y deuai adre. Yno y mae o'n meddwl ''priodi'',—dene y rheswm! Wyt ti'n gweld y ddameg 'rwan?" {{***|5|3em|char=O}} Cefais innau fy ngwahodd i'r briodas, er mai y Parch. Jacob Davies, Pentre Gwyn, oedd i uno y ddeuddyn ynghyd. Cyrhaeddais yno gyda'r nos, ac yr oedd rhyw deimlad rhyfedd yn fy meddiannu wrth feddwl mai dyna y noson olaf a gawn ei threulio yn yr hen anneddle ddyddorol,—<noinclude><references/></noinclude> 5ppai8h2s58pfqvw4rl28uvzs5cj86o 164274 164273 2026-05-07T14:50:23Z AlwynapHuw 1710 164274 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''shawl'' ardderchog, a chist o dê i Marged Parri, a {{bar|2}}. Ond hwyrach na fuasai yn hoffi imi ddweud beth oedd ei anrheg i Elsie Meredydd. Cyn pen ychydig amser yr oedd y sî wedi mynd drwy'r ardal fod yno briodas yn debyg o gymeryd lle ym Mhlas y Wern. Daeth Jane, y ferch, a'r newydd i Bryn Goleu. Chwarddodd Rolant Owen, a chan daro ei ffon yn y llawr, meddai,— "Mi ddeudes i wrthat ti, ers dyddie, dase ti yn dallt. Mi wyddwn i amcan fod gan Dafydd ''rwbeth'' mewn golwg pan oedd o'n gofyn i ni beidio tynnu'r Hen Gapel i lawr nes y deuai adre. Yno y mae o'n meddwl ''priodi'',—dene y rheswm! Wyt ti'n gweld y ddameg 'rwan?" {{***|5|3em|char=O}} Cefais innau fy ngwahodd i'r briodas, er mai y Parch. Jacob Davies, Pentre Gwyn, oedd i uno y ddeuddyn ynghyd. Cyrhaeddais yno gyda'r nos, ac yr oedd rhyw deimlad rhyfedd yn fy meddiannu wrth feddwl mai dyna y noson ''olaf'' a gawn ei threulio yn yr hen anneddle ddyddorol,—<noinclude><references/></noinclude> g90yyydoazeizj6jlqewucxtwiel74y Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/113 104 84518 164275 2026-05-07T14:50:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164275 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Tŷ Capel y Cwm!" Ac er nad oedd y distawrwydd arferol yn teyrnasu yno, cafodd Dafydd a finnau dipyn o egwyl i ymddiddan am hen bethau, ac am y pethau a fyddent ar ol hyn. "Mi wyddost," meddwn wrtho, "fy mod yn bur hoff o holi 'hanes yr achos,' fel y dywedir. Pa bryd y y dechreuodd yr 'achos' rhyngot ti ag Elsie, tybed? fum i'n meddwl mai yr adeg honno, ers talwm, pan ddaru Arthur daflu dy gap dros y bont i'r afon." "Wn i ddim, wir," ebai Dafydd. "Ond wyddost ti? Mi ddaeth Arthur adref heddyw, ac mi soniodd am yr un peth yn union,— "Wyt ti wedi maddeu i mi,' meddai, 'am daflu dy gap di i'r afon ers llawer dydd? O ran hynny, hwyrach mod i wedi gwneud cymwynas ''in disguise.'' " "Ac mi ddaethom yn ffrindie ar unwaith. Y mae Arthur, fel finnau, wedi dod dipyn yn gallach erbyn hyn. Mae O, fel y gwyddost, mewn busnes yn Lerpwl, ac yno yr erys, yn ol pob tebyg. Mae<noinclude><references/></noinclude> 96v6uq5bahew5idpn80jjnfdmxscnvr Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/114 104 84519 164276 2026-05-07T14:51:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164276 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Meredydd yn dechreu heneiddio, a chan fy mod i wedi cael tipyn o ymarferiad gyda ffarmio yn y ''West'', y mae yn bur awyddus imi fynd ato ef ac Elsie i Blas y Wern. Yr oeddwn i yn lled amharod ar y cyntaf; ond y mae Arthur wedi rhoddi y ddeddf i lawr heddyw, ac yn dweud yn bendant mai felly y rhaid i bethau fod." "Beth am dy fam?" ebwn wrtho. "O, 'does dim perygl imi anghofio fy mam. Ddaw hi ddim i Blas y Wern, oherwydd y mae yn credu y dylai pawb gael ei "aelwyd ei hun," a hwyrach ei bod yn iawn. Ond mi wyddost am y ty bychan gwyngalchog ar fin y ffordd yna. Yr ydw i wedi cymeryd hwnnw i mam, a chan ei bod hi mor hoff o flode, mi a'i galwaf yn Rose Cottage, ac mi fydd yno ardd ddel iddi o flaen y drws. Ond mi wn y bydd arni hiraeth am yr hen Dŷ Capel, a chwmpeini y pregethwyr." "Digon tebyg," meddwn, "ac y mae yn sicr y bydd gan y pregethwyr eu hunain hiraeth am garedigrwydd diragrith Marged Parri." Wedi siarad fel hyn, ar draws ac ar hyd,<noinclude><references/></noinclude> jybba9qynb776dmluuwmo24bo093lye Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/115 104 84520 164277 2026-05-07T14:53:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164277 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aethom i orffwys pan oedd yr hen gloc ar y grisiau yn taro hanner nos. Ond yr oedd fy meddwl yn rhy aflonydd i fedru cysgu o gwbl. Yr oeddwn yn teimlo fy hun megis rhwng dwy oruchwyliaeth,—yr ''hen'' a'r ''newydd''. Meddyliwn am lawer Saboth a dreuliwyd yn y Tŷ Capel. Ymrithiai golygfeydd y gorffennol ger fy mron. Ac er mwyn tawelu ychydig ar fy myfyrdodau, aethum i geisio llunio rhyw fath o gân i'r amgylchiad dyddorol oedd i gymeryd lle bore drannoeth,—priodas Dafydd ac Elsie,—y seremoni olaf, yn ol pob tebyg, a weinyddid oddifewn i furiau yr Hen Gapel cysegredig! Nid wyf yn cofio nemawr o'r gân, ond yr oedd ynddi ryw ddau bennill fel hyn,— {{center block| <poem> Hen Gapel y Cwm! cyn it fynd :O'r golwg, i randir adgofion; Cei wneud un gymwynas i'm ffrynd,— :Fe'th garai o ddyfnder ei galon. Hen Gapel y Cwm! cyn it fynd, :Cei glywed acenion llawenydd; Rho dithau dy ''fendith'', hen ffrynd, :I Dafydd ac ELSIE MEREDYDD! </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 5rk00lhhf2a0t2z9vvwbp3dpym3li2p Categori:Ty Capel y Cwm 14 84521 164280 2026-05-07T15:05:01Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "[[Delwedd:Ty Capel y Cwm.djvu|bawd|tudalen=1]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:PD-old-70]]" 164280 wikitext text/x-wiki [[Delwedd:Ty Capel y Cwm.djvu|bawd|tudalen=1]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:PD-old-70]] b3bdmbubm950vqyxqiebiv67yfiot84 Ty Capel y Cwm 0 84522 164283 2026-05-07T15:08:31Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="..." 164283 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=4 to=6 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] 8d01gfqqi4jsq3eeguq3nhvx0rtaq8k 164286 164283 2026-05-07T15:12:55Z AlwynapHuw 1710 164286 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Rhagymadrodd/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=4 to=6 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] lewlbug5wnnbheksdec09zbiddn7cfg Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd) 0 84523 164285 2026-05-07T15:11:14Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd) | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Ty Capel y Cwm]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=1 to=1..." 164285 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd) | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Ty Capel y Cwm]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=1 to=118 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] 2hxkpt0igikmrlzbwo9n7lrx77l5kia 164287 164285 2026-05-07T15:13:37Z AlwynapHuw 1710 164287 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd) | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =I'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Ty Capel y Cwm]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Robert David Rowland (Anthropos)}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=1 to=118 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] [[Categori:Robert David Rowland (Anthropos)]] [[Categori:Llyfrau 1905]] [[Categori:Llyfrau'r 1900au]] [[Categori:Nofelau]] swajchnirubo8yfxspyzjs4d79gwp0e Ty Capel y Cwm/Rhagymadrodd 0 84524 164288 2026-05-07T15:22:52Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../]] | next = [[../Y Cynhwysiad|Y Cynhwysiad]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=7 to=9 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagymadrodd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164288 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../]] | next = [[../Y Cynhwysiad|Y Cynhwysiad]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=7 to=9 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagymadrodd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 71cqym8q74xulrc9q25z1gz3etncgcm Ty Capel y Cwm/Y Cynhwysiad 0 84525 164290 2026-05-07T15:26:13Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]] | next = [[../Y Cymeriadau|Y Cymeriadau]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=10 to=11 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cynhwysiad}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164290 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagymadrodd|Rhagymadrodd]] | next = [[../Y Cymeriadau|Y Cymeriadau]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=10 to=11 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cynhwysiad}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 7szixm4aqxsl2ucvedojjbwuw8tql6u Ty Capel y Cwm/Y Cymeriadau 0 84526 164292 2026-05-07T16:22:18Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cynhwysiad|Y Cynhwysiad]] | next = [[../Rhagarweiniad|Rhagarweiniad]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=12 to=12 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cymeriadau}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164292 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cynhwysiad|Y Cynhwysiad]] | next = [[../Rhagarweiniad|Rhagarweiniad]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=12 to=12 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cymeriadau}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 83rggji7vtrdtxe7ab2kportb0e5ld5 Ty Capel y Cwm/Rhagarweiniad 0 84527 164293 2026-05-07T16:27:39Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cymeriadau|Y Cymeriadau]] | next = [[../Ar Fore Sabboth|Ar Fore Sabboth]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=13 to=21 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagarweiniad}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164293 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cymeriadau|Y Cymeriadau]] | next = [[../Ar Fore Sabboth|Ar Fore Sabboth]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=13 to=21 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagarweiniad}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 8i626jl4l5ve4ddmh213x0u9wmvuowq Ty Capel y Cwm/Ar Fore Sabboth 0 84528 164294 2026-05-07T16:36:49Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagarweiniad|Rhagarweiniad]] | next = [[../Elsie Meredydd|Elsie Meredydd]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=22 to=28 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Ar Fore Sabboth}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164294 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagarweiniad|Rhagarweiniad]] | next = [[../Elsie Meredydd|Elsie Meredydd]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=22 to=28 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Ar Fore Sabboth}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] cerukeokmewnxlzz1oytc5w5dbvbx62 Ty Capel y Cwm/Elsie Meredydd 0 84529 164295 2026-05-07T16:47:08Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Ar Fore Sabboth|Ar Fore Sabboth]] | next = [[../Eos Gwerfyl|Eos Gwerfyl]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=29 to=35 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Elsie Meredydd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164295 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Ar Fore Sabboth|Ar Fore Sabboth]] | next = [[../Eos Gwerfyl|Eos Gwerfyl]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=29 to=35 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Elsie Meredydd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] rn1hgofthj8o2cxvwphwl2zutq2wjr5 Ty Capel y Cwm/Eos Gwerfyl 0 84530 164296 2026-05-07T17:00:09Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Elsie Meredydd|Elsie Meredydd]] | next = [[../Yr Oruchwyliaeth Newydd|Yr Oruchwyliaeth Newyddl]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=36 to=42 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Eos Gwerfyl}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164296 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Elsie Meredydd|Elsie Meredydd]] | next = [[../Yr Oruchwyliaeth Newydd|Yr Oruchwyliaeth Newyddl]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=36 to=42 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Eos Gwerfyl}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] nl2hdfbiy7c3cmikme3t3iz865g0fn8 Ty Capel y Cwm/Yr Oruchwyliaeth Newydd 0 84531 164297 2026-05-07T17:22:47Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Eos Gwerfyl|Eos Gwerfyl]] | next = [[../Gŵr Diarth o'r De|Gŵr Diarth o'r De]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=43 to=51 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Yr Oruchwyliaeth Newydd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164297 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Eos Gwerfyl|Eos Gwerfyl]] | next = [[../Gŵr Diarth o'r De|Gŵr Diarth o'r De]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=43 to=51 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Yr Oruchwyliaeth Newydd}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] pyh9uf3ejxyvp19euutc6fe58jbqtzn Ty Capel y Cwm/Gŵr Diarth o'r De 0 84532 164299 2026-05-07T17:30:40Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Yr Oruchwyliaeth Newydd|Yr Oruchwyliaeth Newydd]] | next = [[../Seiat yr Ymwelwyr|Seiat yr Ymwelwyr]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=52 to=61 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Gŵr Diarth o'r De}} Categori:Ty Capel..." 164299 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Yr Oruchwyliaeth Newydd|Yr Oruchwyliaeth Newydd]] | next = [[../Seiat yr Ymwelwyr|Seiat yr Ymwelwyr]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=52 to=61 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Gŵr Diarth o'r De}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] q7658m1lb2wabl0wvtlbnxwcl1vorxj Ty Capel y Cwm/Seiat yr Ymwelwyr 0 84533 164300 2026-05-07T17:32:29Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Gŵr Diarth o'r De|Gŵr Diarth o'r De]] | next = [[../Adgofion y Parch. Jacob Davies|Adgofion y Parch. Jacob Davies]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=52 to=61 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Seiat yr Ymwelwyr}} Cat..." 164300 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Gŵr Diarth o'r De|Gŵr Diarth o'r De]] | next = [[../Adgofion y Parch. Jacob Davies|Adgofion y Parch. Jacob Davies]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=52 to=61 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Seiat yr Ymwelwyr}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] rzqhhgo8zgjdmr38i6a8dxjcw2ypbjt 164301 164300 2026-05-07T17:36:46Z AlwynapHuw 1710 164301 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Gŵr Diarth o'r De|Gŵr Diarth o'r De]] | next = [[../Adgofion y Parch. Jacob Davies|Adgofion y Parch. Jacob Davies]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=62 to=70 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Seiat yr Ymwelwyr}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] ijo6y7zgyvinal7q448p2l5uh5f67wu Ty Capel y Cwm/Adgofion y Parch. Jacob Davies 0 84534 164303 2026-05-07T17:40:30Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Seiat yr Ymwelwyr|Seiat yr Ymwelwyr]] | next = [[../Dafydd Tŷ'r Capel|Dafydd Tŷ'r Capel]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=71 to=81 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Adgofion y Parch. Jacob Davies}} Categori:Ty Cape..." 164303 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Seiat yr Ymwelwyr|Seiat yr Ymwelwyr]] | next = [[../Dafydd Tŷ'r Capel|Dafydd Tŷ'r Capel]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=71 to=81 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Adgofion y Parch. Jacob Davies}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] q6u6cic6nrwfflup9net0kddr5dl2qu Ty Capel y Cwm/Dafydd Tŷ'r Capel 0 84535 164304 2026-05-07T17:46:52Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Adgofion y Parch. Jacob Davies|Adgofion y Parch. Jacob Davies]] | next = [[../Ymadawiad Yr Eos|Ymadawiad Yr Eos]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=82 to=88 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Dafydd Tŷ'r Capel}} Catego..." 164304 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Adgofion y Parch. Jacob Davies|Adgofion y Parch. Jacob Davies]] | next = [[../Ymadawiad Yr Eos|Ymadawiad Yr Eos]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=82 to=88 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Dafydd Tŷ'r Capel}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] rjarq382ze25am59y3zl11y1a4aej74 Ty Capel y Cwm/Ymadawiad Yr Eos 0 84536 164306 2026-05-07T17:50:31Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Dafydd Tŷ'r Capel|Dafydd Tŷ'r Capel]] | next = [[../Newyddion Da|Newyddion Da]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=89 to=95 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Ymadawiad Yr Eos}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164306 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Dafydd Tŷ'r Capel|Dafydd Tŷ'r Capel]] | next = [[../Newyddion Da|Newyddion Da]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=89 to=95 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Ymadawiad Yr Eos}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 9mrkq0r356d15uj1k6q73hyul184g0u Ty Capel y Cwm/Newyddion Da 0 84537 164307 2026-05-07T17:54:12Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Ymadawiad Yr Eos|Ymadawiad Yr Eos]] | next = [[../Y Noson Olaf|Y Noson Olaf]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=96 to=103 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Newyddion Da}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164307 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Ymadawiad Yr Eos|Ymadawiad Yr Eos]] | next = [[../Y Noson Olaf|Y Noson Olaf]] | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=96 to=103 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Newyddion Da}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] 4xnixu2udeuxc31sggb9mcu8vtmmwty Ty Capel y Cwm/Y Noson Olaf 0 84538 164308 2026-05-07T17:56:12Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Newyddion Da|Newyddion Da]] | next = | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=104 to=116 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Noson Olaf}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]]" 164308 wikitext text/x-wiki {{header | title =Ty Capel y Cwm | author = Robert David Rowland (Anthropos) | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Newyddion Da|Newyddion Da]] | next = | notes = }} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Ty Capel y Cwm.djvu" from=104 to=116 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Noson Olaf}} [[Categori:Ty Capel y Cwm]] psviyv6592cfqnl8a9hnars86isuhft Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/5 104 84539 164315 2026-05-07T18:39:01Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "BYWGRAFFIAD Y PARCH. THOMAS RICHARD." 164315 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>BYWGRAFFIAD Y PARCH. THOMAS RICHARD.<noinclude><references/></noinclude> 3w6soyd9to93c6nu0v70gjdp40gkyau 164355 164315 2026-05-07T19:38:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164355 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br> <br> {{c|{{Mmm-mawr|BYWGRAFFIAD}}<br><br>Y<br><br>{{Mmm-mawr|PARCH. THOMAS RICHARD.}}}} <br> <br><noinclude><references/></noinclude> l72v8j74izne7hxnnxfm82h9mw084m6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/6 104 84540 164316 2026-05-07T18:39:11Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164316 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/7 104 84541 164317 2026-05-07T18:39:20Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164317 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/8 104 84542 164318 2026-05-07T18:39:46Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Y PARCH. THOS. RICHARD, ABERO WALN. LONDON W.DICKES. SC. 5.OLD FISH ST" 164318 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y PARCH. THOS. RICHARD, ABERO WALN. LONDON W.DICKES. SC. 5.OLD FISH ST<noinclude><references/></noinclude> 7orat8smg8pcr00id6makxnu6w92roy Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/9 104 84543 164319 2026-05-07T18:40:12Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "BYWGRAFFIAD Y PARCH. THOS. RICHARD, ABERGWAEN; NODIADAU ARNO FEL DYN, CRISTION, A PHREGETHWR; PENODAU OI YMADRODDION DETHOLEDIG, YN NGHYDA PHIGION O'I AREITHIAU, LLYTHYRAU, &c. GAN EDWARD MATTHEWS. "Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddiwrth anwiredd," Malachi ii. 6. ABERTAWY: ARGRAFFWYD GAN JOSEPH ROSSER, HEOL HEA... 164319 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>BYWGRAFFIAD Y PARCH. THOS. RICHARD, ABERGWAEN; NODIADAU ARNO FEL DYN, CRISTION, A PHREGETHWR; PENODAU OI YMADRODDION DETHOLEDIG, YN NGHYDA PHIGION O'I AREITHIAU, LLYTHYRAU, &c. GAN EDWARD MATTHEWS. "Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddiwrth anwiredd," Malachi ii. 6. ABERTAWY: ARGRAFFWYD GAN JOSEPH ROSSER, HEOL HEATHFIELD. MDCCCLXIII,<noinclude><references/></noinclude> 7oeehzz98usdv295bl914zpols2jidd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/10 104 84544 164320 2026-05-07T18:40:22Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164320 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/11 104 84545 164321 2026-05-07T18:41:10Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "RHAGDRAETH. PREGETHWYR A PHREGETHU CYMRU. PREGETHWYR A PHREGETHU sydd eiriau bob dydd a braidd pob ymddyddan yn Nghymru. Siarad cyffredin tai ydyw pregethwyr a phregethu; ïe, dyna y prif bethau siaredir ar hen aelwydydd Cymru. Geiriau cysegredig ydynt gan y genedl; delir hwynt mewn parch goruwch-naturiol, a gwarogir iddynt pa bryd bynag eu clywir gan y mwyafrif. Nid yw hyn yn rhyfedd; canys y mae meddyliau y bobl wedi derbyn pethau... 164321 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>RHAGDRAETH. PREGETHWYR A PHREGETHU CYMRU. PREGETHWYR A PHREGETHU sydd eiriau bob dydd a braidd pob ymddyddan yn Nghymru. Siarad cyffredin tai ydyw pregethwyr a phregethu; ïe, dyna y prif bethau siaredir ar hen aelwydydd Cymru. Geiriau cysegredig ydynt gan y genedl; delir hwynt mewn parch goruwch-naturiol, a gwarogir iddynt pa bryd bynag eu clywir gan y mwyafrif. Nid yw hyn yn rhyfedd; canys y mae meddyliau y bobl wedi derbyn pethau mawrion trwy eu pregethwyr; ïe, wedi derbyn eu cwbl oll. Yma y cawsant eu cysuron penaf mewn gofidiau, eu dinas noddfa mewn peryglon, eu tŵr cadarn yn enw yr Arglwydd yn nhir y gelyn, a'u gobeithion am ddiangfa byth gan eu Barnwr y tu draw i'r byd presenol. Yn y pregethu y teimlodd y tlodion gyfoeth yn dyfod i'w rhan hwythau; ïe, anrhydedd a bywyd yn dragywydd. Yn yr amddifadrwydd o lawer o gysuron y byd hwn, ac heb obaith eu cyrhaedd byth, cawsant eu gwala a'u gweddill yn yr efengyl, nes "gorfoleddu mewn gorthrymderau," ïe, neidio yn aml "o dan obaith gogoniant Duw." Y. geiriau glywyd yn y pregethu, yr adnodau esboniwyd ac a weithiwyd trwy y pregethau at feddyliau y bobl, oedd y ceryg deimlasant o dan eu traed yn afon yr Iorddonen, nes bloeddio concwest yn nghanol y dyfroedd. Clywodd y ferch ei mam yn gorfoleddu yn angau wrth gofio adnod yn mhregeth y Parch. Ebenezer Morris, John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, y ddau Richard, a chanoedd gyda hwy; y mae yr hen adnod yn cydio yn hono, ac yn y bachgen sydd yn sefyll yn yr ymyl; ac y mae y pregethu barodd i'w mam orfoleddu yn yr afon yn myned yn dra chysegredig yn eu meddyliau, ac yn siarad teuluol trwy yr holl berthynasau. Peth cyffredin yn Nghymru yn y nos, yn y gauaf trymaidd, fydd siarad am yr hen bregethwyr, y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymanfaoedd er ys llawer<noinclude><references/></noinclude> ebjd4v4657el9jdb4fseypd0fcu280t Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/12 104 84546 164322 2026-05-07T18:41:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164322 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dydd; pwy oedd yn pregethu ynddynt, eu testunau, rhanau o'r pregethau, y teimladau, a'r cynhyrfiadau o dan hwn a'r llall; a phwy ddaeth at grefydd wedi y Gymanfa hono. Byddai y tad yn aml yn dechreu son am ryw Gymanfa, yn twymno wrth siarad ac wrth gofio, nes y byddai y gwrandawiad mwyaf astud yn y teulu; pawb fel pe baent ar eu heithaf yn ceisio dal. Elai gwr y tŷ yn y blaen yn ddoniol dros ben, gan gyfeirio at amser cynaliad y Gymanfa, y lle, y pregethwyr, y gynulleidfa, yr effeithiau yn y gwahanol odfaon, a pha beth fu y canlyniadau. Byddai gwr y tŷ yn cyfeirio yn awr ac eilwaith at y wraig pan y byddai eisiau help i gofio, neu ynte am ei chydsyniad â'r hyn a ddywedai. "Mari," meddai, a wyt ti yn cofio am y Gymanfa hono yn Llangeithio, pan oedd Jones, Edeyrn; Thomas Jones, Dinbych; John Elias, a Richard, Abergwaen, yn pregethu yno. Yr oedd Richard y nos gyntaf, os wyt yn cofio, gyda gwr dyeithr o'r Gogledd?" "Cofio!" ebe Mari, "ydwyf yn burion; yr wyf yn cofio cystal a doe, a mi gofiaf byth hefyd; tua chwech mis ar ol geni Margaret oedd hi, wyth mlynedd ar ugain i'r haf hwn. Nid oedd Mr. Richard ond llanc ieuane y pryd hwnw, main a theneu, a'i ddau lygad mawr yn serenu yn ei ben; yr oedd golwg brydferth iawn arno. Yr oedd llawer yn cydymdeimlo ag ef yn y Gymanfa hono wrth ei weled mor ieuanc, a chymaint o'r hen ychain cryfion o'i gwmpas; ond cymerodd yn destun, 'A gwaed y taenelliad;' ac yn mhen tipyn dyma hi yn dod, nes oedd yr holl le yn floeddiadau o ben bwy gilydd. O ryfedd! Dyna'r peth mwyaf a welais erioed. Yr oedd yno filoedd yn neidio ac yn gorfoleddu, heb wybod yn y byd yn mha le yr oeddynt. Yr wyf yn cofio gweled pedwar dyn mawr yn y cornel uchaf o'r cae yn gorfoleddu, nes iddynt gwympo yn deg, dan ganu y gair hwnw <poem> 'Gwaed y groes sy'n codi fyny 'R eiddil yn goncwerwr mawr; Gwaed y groes sydd yn darostwng Cewri cedyrn fyrdd i lawr; Gâd im' deimlo Awel o Galfaria fryn.' </poem><noinclude><references/></noinclude> f8kyfg0c4c4eg11g7626xv6ig8enhfo Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/13 104 84547 164323 2026-05-07T18:42:54Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "A bregethodd y gwr hwnw o'r Gogledd wedi'n, nid wyf fi ya cofio dim yn y byd am hyny." "Do, do, fe bregethodd yn sicr; yr wyf yn cofio ei destun yn burion; yr oedd yn pregethu yn nghylch y blaguryn yn y Prophwyd Zechariah. Pregethwr neillduol ydoedd hefyd; ond aeth Richard â'r hwyl i gyd o'i flaen ef. Yr wyf yn cofio yn burion iddo droi oddiwrth y bobl ag oedd yn yr hwyliau, ac aeth y lleill o'i flaen, gan adael y gorfoleddu ryw ychy... 164323 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A bregethodd y gwr hwnw o'r Gogledd wedi'n, nid wyf fi ya cofio dim yn y byd am hyny." "Do, do, fe bregethodd yn sicr; yr wyf yn cofio ei destun yn burion; yr oedd yn pregethu yn nghylch y blaguryn yn y Prophwyd Zechariah. Pregethwr neillduol ydoedd hefyd; ond aeth Richard â'r hwyl i gyd o'i flaen ef. Yr wyf yn cofio yn burion iddo droi oddiwrth y bobl ag oedd yn yr hwyliau, ac aeth y lleill o'i flaen, gan adael y gorfoleddu ryw ychydig i'r cefn. Yr oedd hi yn bregeth fuddiol, ond yr oedd y gwynt wedi myned." "Dyn anwyl, Thomas bach, nid wyf fi yn cofio un tipyn erioed am yna." "Am na; pa fodd y gelli di gofio, Mari fach? oblegyd yr oeddit ti c'uwch dy gloch a neb; a thyna lle y buasit eto, am wn i, oni fuasai i mi dy gario i'r pentref. Cwrdd da iawn hefyd oedd cwrdd chwech y boreu, o dan yr hen Ishmael Jones; yr oedd yr hen ddyn yn dân poeth, a bu gryn orfoleddu yr odfa hono. Am ddeg, pregethodd John Elias; nid wyf yn cofio yn iawn pwy oedd gydag ef, os nad Thomas Jones Caerfyrddin. Beth bynag, y mae yn gofus genyf am yr odfa hono, a mi gofiaf byth, yr wyf yn meddwl. Yr oeddwn yn meddwl fod ei wyneb yn dysgleirio; yr oedd y bobl yn cwympo fel derw o'i flaen; a'r pregethwyr yn wylo ac yn llefain fel plant ar ben y stage. Yr oedd Mr. Ebenezer Morris yno, a Mr. Richard, Tregaron; yr oeddynt yn wylo fel y gallasech eu golchi â dagrau. O ryfedd! y fath olwg oedd ar y dorf fawr; yr wyf yn meddwl fy mod yn eu gweled y fynyd hon. Yr oedd yno filoedd wedi annghofio eu ciniaw, a'r cyfarfod dau yn dechreu cyn bod y llall yn dybenu. Pregethodd John Roberts o'r Gogledd, a William Morris am ddau; ac yr oedd yn gwella o hyd; parhaodd y gorfoleddu hyd nos; torodd diwygiad allan wedi y Gymanfa hon, a cherddodd drwy yr holl wlad. Daeth miloedd at grefydd yn y tymhor hwnw; llawer o honynt sydd wedi myned i'r nefoedd yn eu cariad cyntaf, ac y mae canoedd yn aelodau hardd drwy yr holl eglwysi. Diwygiad rhyfedd oedd hwnw hefyd; welais i erioed bethau mor nerthol." Byddai y wraig yn gofyn aml gwestiwn, y plant hwythau yn holi yn nghylch y pregethwyr, pwy oeddynt, a ydynt yn fyw yn awr, a llawer o bethau eraill, nes yr arweiniai hyny at ymddyddan diddarfod yn mron. Byddai y plant mor gydnabyddus ag enwau yr hen bregethwyr a'u hanes a phe magesid hwynt yn eu plith. Byddent yn siarad am danynt fel rhan o'u heiddo, neu fel rhai yn dal yr undeb agosaf a hwy. Ië, pregethwyr a phregethu yn Nghymru sydd yn siarad tŷ, yn ymddyddanion aelwydydd, yn ymrafaelion weithiau, yn heddwch a mwynhad brydiau eraill; yn ddadleuon creulon, yn gytundeb hapus, yn llafur a lludded gwŷr a gwragedd, ac yn chwareu plant. Yr oedd pregethu yn aml yn myned yn destum dadl mor boeth, nes y codai ymrafael gwyllt o hono; ond wed'yn yr oeddynt yn dyfod i gytundeb yn yr un man. Llawer o fechgyn wedi codi fyny gyda chrefydd, ond wedi troi yn wyllt, pe clywsent ryw rai yn taflu dirmyg ar eu pregethwyr hoff, byddent yn barod i golli eu gwaed mewn moment. Nid peth annghyffredin fyddai ffrae lled boeth rhwng gwr a gwraig yn nghylch talentau a doniau pregethwyr; ond darfyddai y ffrae yn fuan mewn cytundeb hapus o dan deimlad o effeithiau cysurol y weinidogaeth ar eu meddyliau. "Wel," meddai y wraig, "nid oes genyf fi ddim i ddyweyd ond hyn: mi deimlais i fy meichiau i gyd yn myned i lawr, y rhai oedd yn pwyso arnaf fel mynyddoedd o blwm cyn y cwrdd." "Ië, ïe," ebe y gwr, "dyna'r cwbl, ferch, yw hyny yn y diwedd, cael y fraint o deimlo y weinidogaeth yn ein cynorthwyo i fyned drwy y byd, ac i obeithio am fywyd tragywyddol; y mae hyn yn well na 'miloedd o aur ac arian." Fel hyn chwi welwch fod yr ymrafaelion yn nghylch y pregethu yn wahanol i lawer peth; y maent yn ymdoddi i hapusrwydd tawel yn y teimlad o'u rhinwedd. Llafur penaf llawer gwr a gwraig dduwiol yw cael lle cysurus i'r pregethwyr, gan eu lletya fel angylion. Y maent yn llafurio gyda'r byd yn ddiwyd, er mwyn cael peth i gyfranu, er gwneyd achos crefydd yn brydferth a llwyddianus yn eu teuluoedd a'u hardaloedd. Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, fyddo gydag ysbryd oedd y cyfryw, ac a'u cadwo i fywyd tragywyddol. Yn ddiddadl y mae genym lawer o'r cyfryw heddyw, er bod dynion yn barod i feddwl mai wedi myned heibio y mae pob peth da. Na; o drugaredd mae lluoedd eto heb blygu eu gliniau i Baal, y rhai sydd yn gwasanaethu Duw yn eu cyrph ac yn eu hysbrydoedd, yn gorfoleddu yn Nghrist, heb ymddiried yn y cnawd. Pan y bydd peth mewn bri uchel mewn gwlad, fe welir y plant o bob oedran yn ymaflyd ynddo. Gwelsom chwareu bando yn flodeuog; y pryd hwnw gwelsech y dynion ieuainc yn pentyru at eu gilydd i'r caeau, i chwareu o foreu hyd nos; yr hogiau hwythau mewn man arall yn chwareu am fywyd; y plant hefyd, y rhai sydd heb fod yn gallu gwneyd nemawr ond cerdded, oedd yn gwneyd pob ymdrech i ymaflyd mewn bando, a chwareu gymaint y medrent. Ymddengys fod rhyw ysbryd yn perthyn i wahanol bethau, ac y mae hwnw yn cymeryd pawb ar amserau, fel y maent yn gweithio am fywyd o dan ei ddylanwad. Bid a fyno, gellir deall cyn hir beth sydd mewn bri mawr yn y wlad wrth weled y genedl yn ymgymeryd yn fywiog ag ef, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf. Nid peth annghyffredin yw gweled pregethu yn chwareu plant yn Nghymru, yr hyn sydd yn myned yn mhell i egluro mai un o brif bethau Cymru yw eu pregethwyr a'u pregethu. Gwelir plant canoedd o deuluoedd, eu prif chwareu yw chwareu cyrddau bach. Byddant yn ymgrynhoi at eu gilydd, a'u llyfrau ganddynt; un yn rhoi hymn allan, yn dechreu canu, yn darllen, yn myned ar eu gliniau, pawb mor ddystaw a'r bedd; yn codi, yn canu eilwaith, un o honynt yn myned i ben ystol, yn pregethu yn ei lwybr ef, tra y byddai yr holl blant yn ddystaw a defosiynol iawn eu hymddangosiad. Efallai ar ddiwedd y cyfarfod y byddai rhyw un yn codi ac yn cyhoeddi rhyw bregethwr adnabyddus i fod yn pregethu y Sabbath nesaf. Y maent yn gwneyd pob peth fel y gwneir yn y capel; ac y mae y pregethwr a'r pregethu mewn bri uchel ganddynt. Pan yr elo rhyw beth yn chwareu plant mewn gwlad, y mae yn sicr fod cryn fri ar hwnw gan y rhieni, canys cynhyrfir y plant gan yr hyn a glywant yn cael ei siarad gartref. Llawer iawn o bregethwyr enwog Cymru sydd wedi bod yn chwareu pregethu yn blant, wedi dal yr ysbryd hwnw er eu cof cyntaf, ac y mae heb ymadael byth. Elai y tad a'r fam yn mhell i wrando pregethu, trwy lawer o lafur a lludded, a'r plant hwythau yn chwareu pregethu o gwmpas y tŷ; a pha beth a wyddom ni na ddaliodd llawer o honynt ysbryd pregethu o'r amser hyny, ac y bu rhyw neillduaeth arnynt o'u mebyd at waith y weinidogaeth? Fel gwlad orchfygedig, ac yn ddarostyngedig i lywodraeth estronol mewn cymhariaeth, dyoddefodd Cymru lawer o gam a cholled am oesoedd; ac amddifadwyd hi o ragorfreintiau y dylasai fwynhau fel rhanau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Nid yw y llywodraeth wedi gwneyd yn deg å Chymru; nid ydyw wedi cael y sylw priodol gyda golwg ar addysg; y mae yn haeddu university, a llawer o bethau eraill, lawn cystal a'r Iwerddon, 'does posibl, os nid ychydig yn well; ond wedi ei hesgeuluso y mae yn ddirfawr, a hyny i fesur helaeth gan ei meibion ei hunan. Eithr yn yr amddifadrwydd o lawer o ragorfreintiau a fwynheir gan genedloedd eraill, y mae Cymru wedi ei breintio a'i bendithio â phregethu mwy pur, mwy tanbaid, ac efengylaidd, er gwneyd i fyny am yr holl golledion hyn, ïe, a mil mwy. Yr oedd y Brenin tragywyddol, Brenin y breninoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yn codi, yn donio, ac yn cymhwyso dynion i bregethu yr efengyl, nad oedd neb ond ei hunan allasai wneyd y cyfryw. Gwaith y Duw Goruchaf, a gweision y Duw Goruchaf, oedd y dynion hyn, y rhai a neillduwyd i'r unig bwrpas, i fynegi i'w cydgenedl ffordd iachawdwriaeth. Taflodd yr Arglwydd lygad tosturiol ar ein gwlad dlawd, yr hon oedd yn ymdrybaeddu yn ei gwaed, a dywedodd, "Yn dy waed bydd fyw." Cododd iddi athrawon wrth fodd ei galon, ac wrth fodd ei chalon hithau hefyd, y rhai oedd iddi fel cân cariad yn canu yn dda. Llafuriodd y dynion anwyl hyn ar eu traul eu hunain, trwy lawer o dlodi ac erledigaethau, i bregethu yr efengyl a chodi Ysgolion Sabbathol, er gwareiddiad ac efengyleiddiad y genedl. Llwyddodd Duw eu llafur caled; ac er na feddent ryw lawer o ddysg na nemawr o aur, gwnawd hwynt yn allu mawr er daioni yn y dalaeth; ac erbyn heddyw y mae Cymru yn dechreu dyweyd wrth y byd fod yma fywyd eto. Yr oedd pregethwyr Cymru yn ol urdd Melchisedec, yr urdd nad oedd dim dyn yn cyfryngu rhwng Duw a hwy; yr oeddent yn derbyn eu swyddau drwy alwad uniongyrchol oddiwrtho; ac argraff ddwyfol oedd ar ei gweinyddiad. Dyma oedd yn gwneyd Cymru yn uchel, hyn oedd yn gwneyd ei heddwch fel yr afon, a dyma y peth oedd yn ei dal i fyny yn ei gorthrymderau, ac yn peri iddi orfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Do, do, gwelodd ein Harglwydd yn dda i fendithio Cymru a phregethu heb fod yn ail i un wlad dan haul. Eu llwch sydd yn gysegredig yn meddwl y genedl; ac y mae hi yn falch o'i meibion sydd heddyw yn chwythu yn yr udgorn, gan alw byddinoedd y Duw byw yn nghyd. Yr ydym yn gwybod y gall gwledydd eraill ymffrostio yn eu hathronwyr, eu hareithwyr hyawdl a dysgedig, eu hastronomyddion, eu cyfreithwyr, eu deddfroddwyr, eu gwladeiddwyr, eu llenorion, a'u celfyddydwyr, yn fwy na Chymru; a hyny o herwydd y manteision helaeth a fwynheir ganddynt uwchlaw Cymru. Nid ydynt yn rhagori o ran galluoedd gwreiddiol; canys yr ydym yn gweled pan y bydd y Cymro yn cael yr un manteision a'r Sais neu ryw genedl arall, ei fod yn gyffredin yn rhagori ar ei gymydogion. Cedwch hyny yn ddystaw hefyd, peidiwch a gadael iddo fyned allan; nid oes eisiau canu y gloch uwchben pob peth; y mae rhyw bethau o'r goreu rhyngoch chwi a ninau, na fyddent yn edrych cystal pe baent yn myned rhwng pawb. Y mae ambell beth yn ddigon cysurus rhyngom ni a'n gilydd mewn ffordd o gyfeillach a mwynhad, heb yn wybod iddynt hwy; canys digon cyfiawn i ninau, fel pawb eraill, gael rhyw bethau ar ein penau ein hunain weithiau, er mwyn bod yn gyfeillgar, a chael tipyn o gymydogaeth dda. Wedi yr holl ganiatau a wnaethom o herwydd manteision,<noinclude><references/></noinclude> medxojz87lyqyhghyvonrwf7vsgprc7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/18 104 84548 164324 2026-05-07T18:43:50Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "nid ydym wrth hyny yn rhoi fyny y cwbl oll. Y mae gyda ni ein hathronwyr, ein hieithwyr, ein hastronomyddion, ein cyfreithwyr, ein gwladeiddwyr, ein llenorion, ein celfyddydwyr, y rhai sydd yn alluog i gystadlu â'n cymydogion, yn enwedig os cawsant yr un manteision a hwythau; eithr am ein pregethwyr, yr ydym yn barod i herio yr holl greadigaeth. Nid ydym yn diystyru am foment Athen a'i hathronwyr a'i beirdd, na Rhufain a'i chadfridog... 164324 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid ydym wrth hyny yn rhoi fyny y cwbl oll. Y mae gyda ni ein hathronwyr, ein hieithwyr, ein hastronomyddion, ein cyfreithwyr, ein gwladeiddwyr, ein llenorion, ein celfyddydwyr, y rhai sydd yn alluog i gystadlu â'n cymydogion, yn enwedig os cawsant yr un manteision a hwythau; eithr am ein pregethwyr, yr ydym yn barod i herio yr holl greadigaeth. Nid ydym yn diystyru am foment Athen a'i hathronwyr a'i beirdd, na Rhufain a'i chadfridogion a'i cherfwyr; yr ydym yn eu parchu, ac yn edmygu eu heneidiau mawrion; eithr yr ydym yn dal allan Gymru a'i phregethwyr yn ngoleu haul a llygad goleuni, heb gywilyddio eu dangos hyd derfynau eithaf y ddaear. Pa fodd y gall hyn fod? oblegyd darllenir y traethodau mwyaf dysgedig a champus, ac argreffir hwynt yn gyfrolau teilwng o astudiaeth yr efrydwr dyfnaf. Y mae hyn oll yn wir; ac yn hyn nis gallasai pregethwyr Cymru gystadlu a hwy; eithr y mae rhyw beth mewn pregethu heblaw darllen traethawd dysgedig; ac yn hyn yn gyffredin y bydd pobl yn ymddyrysu ac yn ymrwystro. Dynion annysgedig yw poblogaeth y byd, y werin; ac y mae y nefoedd wedi darpar yr efengyl i achub dyn; nid dyn dysgedig, eithr dyn fel y cyfryw. Yn gymaint, gan hyny, fod yr efengyl yn drefniant i'r dyben hwnw, yr oedd yn angenrheidiol fod y datguddiad dwyfol mewn ffurf mor syml fel y gallai yr annysgedig ei ddeall, a chael lles drwyddo i fywyd tragywyddol. Felly y mae. Er yn guddiedig oddiwrth y doethion a'r deallus yn aml, y mae yn amlwg ac yn ddealladwy i rai bychain, y rhai sydd yn ei dderbyn ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth lawer. Yr ydym yn teimlo anhawsder mawr i ddyweyd beth yw pregethu yr efengyl; ond y mae yn ddigon amlwg mai nid darllen lecture ddysgedig ar ryw ran o dduwinyddiaeth; y mae y rhai hyny yn fuddiol i ryw ddosbarth eu darllen; ond nid oes nemawr o rinwedd ynddynt fel pregethau i'r dyben o achub dyn rhag colledigaeth, nerthu y gwan, cysuro y galarus, a dwyn heddwch i gydwybod yr euog. Na, rhaid cael rhyw beth heb y Bampton Lectures at hyn. Dywedwch a fynoch am bregethu fel proffesiwn ddysgedig, ymddengys fod rhyw beth gwahanol ynddi i broffes o'r gyfraith neu physigwriaeth; yr ydym yn rhwym o feddwl fod rhyw beth dwyfol uniongyrchol yn cymhwyso y meddwl at ei phregethu, a goruchwyliaethau trymion beunydd ar y meddwl, er mwyn cadw dyn o dan argraff briodol i'w phregethu. Nid traethodwr mawr oedd Whitfield, ond pregethwr mawr; nid ydyw ei bregethau argraffedig ond y pethau symlaf; ond yr oedd rhyw beth yn ei bregethu ag oedd yn peri i wallt areithwyr a ffug-chwareuwyr penaf Llundain sefyll ar eu penau yn syth. Yr oedd Duw fel yn llenwi ei enaid â theimlad yr efengyl a bregethai, nes oedd geiriau yn codi yn naturiol allan o'r cynhyrfiad hyny, ac yn disgyn fel tân poeth ar feddyliau y gwrandawyr, nes cynyrchu teimlad nad oedd neb yn gallu ei effeithio ond Duw ei hun. Duw yn unig all wneyd pregethwr mawr. Pe gosodech ddeng mil o ddynion o flaen y Bampton Lecturer, ni wnaent gymaint a gwrando arno; ond gosodwch John Elias, yr hen Gristmas, Ebenezer Morris, neu un o'r Richards o'u blaen, dacw allu! dacw effeithiau! Y mae rhyw beth yn myned, ys dywed y bobl; rhyw wynt nerthol fel yn cerdded trwy yr eneidiau; yn eu hysgwyd hyd eu gwraidd; a'u cyrph yn cael eu hysgwyd o'u penau i'w traed hefyd. Beth ydyw? Goruwch natur ydyw, goruwch dysgeidiaeth ddynol; ïe, goruwch pob peth ag sydd yn y byd hwn. Dynion ydyw y rhai yna wedi eu gwneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl i'r werin er eu hachubiaeth; dynion ydynt o dan oruchwyliaeth Ysbryd Duw yn gyson, er mwyn eu cadw o dan argraff briodol i'w phregethu; a dynion o dan ddylanwad dwyfol yn traddodi; a'u hunig amcan yn eu llafur oll, ïe, yn mhob pregeth, i droi rhyw rai o gyfeiliorni eu ffyrdd, a chadw eneidiau rhag angau. Dyweyd fel y mae y cwestiwn duwinyddol yn sefyll, gyda golwg ar ei hanesyddiaeth, a'i athroniaeth, a llawer o bethau cyffelyb, y mae y Bampton Lecturer; ond siarad â'r eneidiau y mae y weinidogaeth yna; cario cenadwri uniongyrchol o orsedd Duw i eneidiau mewn gwlad bell; ymaflyd ynddynt a'u gosod i sefyll o flaen y Barnwr; yn trin eu hachos yno, yn cu condemnio byth yn eu pechodau, yn eu trosglwyddo i gosp dragywyddol, ac yn cloi y carchar arnynt byth. Y mae y dynion yn teimlo hyn oll yn myned yn y blaen yn eu heneidiau; yn gwaeddi allan am drugaredd, ac yn gweddio am ddiangfa; gyda hyny dyma genadwri o faddeuant pechodau yn gyfeiriol at yr eneidiau hyny sydd yn teimlo eu colledigaeth, ac yn cael ei harllwys i mewn fel balm i'w calonau drylliedig. Duw ysbrydoedd pob cnawd sydd yn teyrnasu yn y byd ysbrydol, ac yn cynyrchu effeithiau ysbrydol drwy ei Ysbryd; nid yn unig y mae yno hollalluawgrwydd yn gweithio, ond hollwybodaeth hefyd, canys canfyddir y teimlad pell a dwfn yn y galon, a chyfeirir cenadwri at hyny. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno; a thi a glywi ei swn ef; ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd." Nid yw y gwynt yn ymddibynu ar ewyllys dyn, nac wrth ei ewyllys; oblegyd ef, fe chwyth lle y myno. Eithr y mae ewyllys, serch hyny, yn uwch nag ef, ar yr hwn y mae yn ymddibynu, ac yn ol yr hwn rhaid iddo chwythu; canys y mae efe yn ei ddal yn ei ddwrn; ei swn ef a'i effeithiau glywir ac a welir; efe ei hun sydd yn guddiedig. Dacw y coed draw yn rhwygo fel dellt; ïe, lluaws o honynt yn cwympo i'r llawr o flaen yr ystorm gref; ond pwy all ei alw i gyfrif? Yr ydych yn gweled y coedydd yn rhwygo; eithr nid ydych yn gweled yr achos; nid ydych yn clywed dim ond swn. Rhaid yw fod peth felly yn ngoruchwyliaeth yr efengyl; nid oes amheuaeth nad yw Duw yn wir yn y pethau hyn, mewn ffordd o ddylanwad uniongyrchol ar feddyliau. Goruchwyliaeth yr Ysbryd ydyw; ysbryd a bywyd yw y geiriau; byd ysbrydol yw byd y meddwl, lle y bydd Duw yn eistedd, ac yn goruchwyliaethu. Y mae rhyw ddynion yn mhob oes wedi bod o dan ddylanwad Duw mor fawr, a than ei gyfarwyddiadau anffaeledig, fel ag y maent yn cael ffordd i ymerodraeth y meddwl, a'r agoriadau ganddynt, yn agor y drysau, ac yn myned i mewn i'r celloedd tywyllaf. Y maent yn eu gweinidogaeth yn gallu myned i mewn, a gwysio y troseddwr ger bron Duw, yn ei gondemnio i gosp dragywyddol; ac ar ei edifeirwch eilwaith yn myned i mewn â llonaid cawg eu gweinidogaeth o waed y taenelliad, yn cyhoeddi y troseddwr yn rhydd, ac yn glanhau yr aflan oddiwrth ei holl aflendid. Wel, y mae llawer o swn i bethau fel hyn weithiau; bydd y cyffroadau anweledig yn y byd ysbrydol neu feddyliol yn ysgwyd y corph bron yn chwilfriw, fel y bydd y gwynt yn ysgwyd y dderwen gref. Nid yw y dderwen gryfaf ond fel brwynen neu gorsen ysig o flaen y gwynt nerthol yn chwythu; a phan y delo Ysbryd Duw gyda gweinidogaeth yr efengyl, nid gwiw siarad am weddeidd-dra a boneddigeiddrwydd, a rhyw res o eiriau gardd-flodau y cnawd; yn chwilfriw yr å y cwbl o'i flaen yn anwrthwynebol. Yr ydym yn ofni mai aflwyddianus y byddwn wedi ein holl drafferth, i roi rhyw lawer i ddeall yr hyn yr ydym yn amcanu; pwnc tywyll ydyw i'r cyffredin. Bydd llawer yn deall fod gwahaniaeth annghyffredin rhwng gwir bregethu yr efengyl a darllen traethawd dysgedig, ond nid ydynt yn gallu cyfrif am y peth mewn modd yn y byd. Yr unig ffordd y maent hwy yn deall, yw y gwahaniaeth annhraethol yn eu teimladau o dan y naill a'r llall. Y mae y traethawd yn darllen yn dda, yn ffrwyth ymchwiliad mawr, ac yn ymborth i'r deall, ond yn rhyw fodd nid ydyw yn cydio yn yr enaid, a'i ysgwyd ger bron Duw, yn ei rwymo, yn ei gondemnio, yn ei ollwng yn rhydd, yn cyhoeddi maddeuant, nes ei godi o ddyfnderoedd i'r lan. Gweinidogaeth yn gwneyd hyny yw dirgelwch y peth. Gall fod pregeth o'r cyfansoddiad goreu, yn unol a'r rheolau goreu; yn llawn synwyr cyffredin, a synwyr Biblaidd, a beirniadaeth ysgrythyrol fuddiol, ac yn cael ei darllen neu ei thraddodi yn weddus ac mewn trefn; pob pen yn daclus, a'r holl gasgliadau ar flaen y gynffon yn drefnus; eto corph heb enaid ydyw. Nid ydym yn amcanu dysgu nad oes eisiau y pethau uchod, eithr ymdrechu yr ydym i ddangos fod rhyw beth ag sydd yn fwy a thu hwnt i hyny mewn gwir bregethu. Nid mawredd pregeth Luther, fel cyfansoddiad ysgolheig aidd, oedd yn ei wneuthur y pregethwr ofnadwy ag oedd yn cydio yn ngyddfau ymerawdwyr, a'u hysgwyd fel plant; yn peri i Harri yr Wythfed edrych fel ffwl, ac ysgwyd gorsedd Prydain o dano; yn cydio yn ngwallt y pab, ei dynu yma ac acw wrth ei gudyn, yn lluchio hetiau y cardinaliaid am draws eu gilydd, ac yn peri i'r offeiriaid waeddi allan yn groch, Beth ddaw o'n Diana ni? Yr oedd gweinidogaeth Luther yn bwrw cestyll i'r llawr, yn lluchio dychymygion i'r pedwar gwynt, yn tynu y bobl ar ei ol, ac yn eu hachub oddiwrth eu pechodau. Nid penau pregeth, nid tlysni cyfansoddiad, oedd yn gwneyd hyn, ond ysbryd gweinidogaeth yn cael ei chynaliaeth mewn cymdeithas a Duw, ac yn tori allan yn sel danllyd dros y Gwr fu farw, ac yn dosturi at eneidiau dynion. Rhai felly oedd ein tadau ni; hyn oedd eu prif enwogrwydd; ac y mae yn ddigon tebyg na fendithiwyd gwlad erioed â mwy cyflawnder o weinidogaeth ysbrydol na Chymru dlawd. O drugaredd y mae heb ymadael eto; y mae y peth hwnw heb ymatal; cyfrenir ef gan y Bod Goruchaf yn ein dyddiau ni fe allai gymaint yn Nghymru ag un wlad arall dan haul. Wel, a chymeryd pob peth o dan sylw, gall Cymru ymffrostio eto, er yn amddifad o lawer o bethau, mai ynddi hi y mae y pregethu goreu yn y byd; ac ynddi hi hefyd y lletya y teimlad cryfaf at wrando pregeth. Pa bethau bynag a gollir eto, cadwer hyn yn fyw yn mhlith ein cenedl ac yn ein gwlad hyd y dydd olaf. Pan y teithir tiroedd Lloegr, yr ydym yn cyffesu yn rhwydd fod yno well tir, gwell tai, ac fe allai gwell bywioliaeth; ond a oes yno well pregethu? A ydyw tlodion Lloegr yn gwybod cymaint am yr efengyl a thlodion Cymru? A ydynt wedi eu dysgu fel yn Nghymru, i ddysgwyl cysuron cryf drwy yr efengyl? A ydynt yn pentyru i wrando pregethu, gan ddylyn pregethwr am ddiwrnodau? Ah, y mae hyn oll yn beth dyeithr iddynt hwy. Gwelir fod gwerin Lloegr, ar y cyfan, yn esgeulusedig, yn ymdroi mewn arferion isel, ac mewn cryn anwybodaeth o'r efengyl. Bwyta ac yfed yw eu prif efrydiaeth hwynt, a chael y Sabbath yn ddiwrnod<noinclude><references/></noinclude> 0zgqgegxeqfxbw488ms456vgq323t0z Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/23 104 84549 164325 2026-05-07T18:44:47Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ysbleddach a llonedigaeth. Y mae eisiau pwys o beef steak, a can of Burton, and recreation, beunydd arnynt hwy. Nefoedd bwyta, yfed, ac ymddifyru yn gnawdol, yw eu nefoedd hwynt. Am y Cymry tlodion, byddant yn foddlon i redeg a chrwstyn sych yn eu dwylaw heb yr un giniaw, yn hytrach na methu clywed rhai o'u pregethwyr mwyaf dewisol. Y maent hwy yn cael digon o recreation wrth deithio dwy a thair gwaith yr wythnos dwy a thair milldir... 164325 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysbleddach a llonedigaeth. Y mae eisiau pwys o beef steak, a can of Burton, and recreation, beunydd arnynt hwy. Nefoedd bwyta, yfed, ac ymddifyru yn gnawdol, yw eu nefoedd hwynt. Am y Cymry tlodion, byddant yn foddlon i redeg a chrwstyn sych yn eu dwylaw heb yr un giniaw, yn hytrach na methu clywed rhai o'u pregethwyr mwyaf dewisol. Y maent hwy yn cael digon o recreation wrth deithio dwy a thair gwaith yr wythnos dwy a thair milldir o ffordd i foddion gras, ac yn cael iechyd corph ac ysbryd yn y canlyniad. Clywir y Sais yn siarad wythnos yn nghylch ciniaw dda, neu swper dda; ond am y Cymro, pregeth dda yw testun ei siarad ef. Fe gaiff y glwth Saesoneg y cwrw, y steaks, a'r recreation; a bydd y Cymro yn foddlon ar fwyd a diod gyffredin; ond bydd yn rhaid iddo gael pregethu annghyffredin. Os ydyw yn ymfoddloni yn weddol heb ddanteithion y byd, ni cheir ganddo fod yn dawel er dim heb ddanteithion goreu yr efengyl. O na, rhaid iddo gael "gwledd o basgedigion" yma, o "basgedigion breision, a gloyw win puredig." Wel, y mae miloedd yn Nghymru a gydsyniant â ni pan yn datgan ein boddlonrwydd iddynt gael gwell tir, gwell tai, gwell bwyd, ond yn unig i ni gael cadw gwell pregethu. Fe ddichon y bydd rhai yn barod i ddyweyd mai rhyw sel ddall yw peth fel yna-nad oes dim ynddo mewn gwirionedd. Nid ydym am gablu y cyfryw; nid ydynt yn wrthddrychau i'w cablu, ond i dosturio wrthynt. Yr ydym yn ymryddhau yn llwyr oddiwrth bob teimlad cenedlaethol pan yn siarad fel hyn, oblegyd nid ydym yn rhoi y goreu i'n gwlad a'n hiaith mewn dim ond eu cysylltiadau â'r efengyl yn unig. Saesoneg yw iaith masnach ein gwlad, a iaith llysoedd ein gwlad, ïe, iaith yn agos pob peth ein gwlad; ac y mae yn un dda iawn hefyd; fe allai yn rhagori yn mhell; nid ydym yn dadleu dim ar y fath bwnc, am hyny gwelwch ein bod yn ddigon rhydd oddiwrth sel daleithiol; eithr barn deg, tebygem ni, yw dyweyd fod rhyw beth yn y Gymraeg fel iaith ag y mae yr efengyl a hithau yn ymdoddi i'w gilydd mor dyner, nes peri rhyw ragoriaeth, buom bron a dyweyd anfeidrol; beth bynag, cymaint o ragoriaeth fel y mae yn anhawdd ei ddesgrifio. Pa brydferthion neu anmhrydferthion bynag ddichon fod yn yr iaith Gymraeg, nid ydym yn ewyllysio ymwneyd dim â hyny; eithr dywedyd yr ydym fod pregethu yr efengyl ynddi yn rhyw brydferthwch a gallu annghydmarol; a bod yn werth y drafferth o'i dysgu er mwynhau hyny. Y mae digon o ddynion i gael ag sydd yn gwybod Saesoneg lawn gystal a Chymraeg, a gwell am hyny; eithr nis gallent gael yr un teimlad hyfryd wrth wrando pregeth Saesoneg ag un Gymraeg. Clywsom amryw o'r fath yn dywedyd, "Y mae yn well gyda ni Saesoneg at bob peth ag sydd yn y byd, ac y mae yn well gyda ni ddarllen Saesoneg; eithr y mae yn hyfrytach genym wrando un o brif bregethwyr Cymru yn pregethu yn Gymraeg nag ugain o Saeson." "Wel, hawyr, rhyw beth digrif dros ben yw peth fel hyn, onide?" Ië, gellir galw y peth yn ddigrif, am ddim a wyddom ni, ac eto yn wirionedd hollol. "Yr un peth yw pregethu Crist yn mhob iaith, onide?” Yr un peth yw athrawiaeth y groes yn Gymraeg ag yn Saesoneg; a rhyw beth o'r un natur yw credu yn hyny hefyd, tebygem. Ië, felly y mae; nid oes dim i ddyweyd yn erbyn y gwirionedd yna, canys yr un yw Crist, yr un yw angau y groes, a'r un yw credu ynddo, yn Gymraeg a Saesoneg; ac eto, wedi y cwbl, y mae pregethu yr efengyl yn Gymraeg yn llawer mwy hapus a mwy effeithiol nag yn Saesoneg. Gellid meddwl fod yr iaith, bywiogrwydd y genedl, hynodion y cymeriad Cymroaidd, wedi cael bod i ddybenion efengyl; y maent yn rhyw fodd yn taro eu gilydd, ac yn dra chydnawsol. Y pethau hyny a edrychid arnynt yn gywilyddus yn Saesoneg mewn cysylltiad â phregethu yr efengyl, sydd yn ogoneddus yn y Gymraeg. Dyma y llais, y donaeth, ag sydd yn swyno Cymry y ffordd y mae yn cerdded, a ystyrid yn farbariaeth perffaith mewn cysylltiad a phregethu Saesoneg. Ac fe fyddai hefyd; oblegyd peth perthynol i bregethu Cymraeg ydyw; a phan ceisir ei gario i un iaith arall, barbariaeth yw. Nid oes gan y Saeson un drychfeddwl am seiniadaeth (intonation) y Gymraeg; ac y mae yn anmhosibl iddynt ffurfio drychfeddwl cywir ond trwy ddysgu yr iaith a gwrando pregethu ynddi. Pan toddai ysbryd Richard, pan tynai ei law dros y cap du oedd ar ei ben, a'i thaflu allan bob yn ail, pan ymddyrehafai ei lais o dan y teimladau toddedig hyn, ac y gollyngai allan ei floeddiadau melusber, dan gario y cwbl o'i flaen yn deg, nid oedd yr un Cymro, bydded yn ddysgedig neu yn annysgedig, a gyfrifai hyny yn farbariaeth. Ah, na, cân cariad ydoedd i'w clustiau a'u calonau, yn eu swyno ac yn codi eu meddyliau yn mhell pell uwchlaw gwrthddrychau daear. Bydd rhai dynion yn meddwl mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd peth felly; a phan y delo dynion i sefyllfa uwch o ddiwylliant, y bydd yn farbariaeth yn eu barn. Nid ydym yn meddwl hyny. Yr ydym yn cyffesu fod llawer yn gwneyd eu hunain yn ffyliaid, ac yn gwneyd eraill yn annghysurus wrth wneyd ystumiau annaturiol, a lleisiau ansoniarus ac annymunol. Byddai llawer dylluan dwl, wrth geisio efelychu per-acenion yr eos, yn myned yn fwy dylluanaidd byth; eithr nid am y cyfryw yr ydym yn dywedyd. Yr oedd Cymry dysgedig yn gwrando Elias, Richard, a Jones Talsarn, ac yn edmygu eu talentau; ïe, yn myned fel plant o dan eu gweinidogaeth. Pwy fuasai yn anturio dyweyd, sydd yn deall Cymraeg, mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd bloeddiadau treiddgar Jones Talsarn, pan gynhyrfid ef gan wir deimlad yr efengyl? Pan y bydd diffyg teimlad, pan na fydd dim ond adroddiad sych, a dibrisdod o wirioneddau yr efengyl, y mae yno ffurfioldeb i'r pen; ymddengys y dyn fel pe bai wedi ei osod yn dyn mewn cadwynau gan ddiafol a chnawd. Dyna lle y bydd yn bwyta ei eiriau, yn gwneyd ystumiau, a bron hollti o falchder a hunanoldeb; bydd peth felly yn atgas. Ond dyna, fe gaiff rhyw un felly bregethu iddo ei hun, oddieithr iddo ddarpar ciniaw dda Nadolig i ychydig o hen wragedd a phlant. Edrychwch ar Jones Talsarn, yn dechreu gwresogi yn yr ysbryd; edrychwch arno yn ysgwyd yr hen bwlpud, nes ydoedd mewn perygl o ddyfod yn ganddryll; clywch ei floeddiadau yn treiddio drwy y dorf, nes oedd eneidiau gwreng a boneddig megys yn ymddolenu weithiau, yn llamu brydiau eraill, yn curo dwylaw, ac yn gorfoleddu, ac yn fynych ddim yn deall eu hunain beth i wneyd, na pha beth yr oeddent yn ei ddweyd ar y pryd. Chwychwi sydd yn gwybod Saesoneg gystal a Chymraeg, dywedwch yn awr, a glywsoch chwi bregethu yn Llundain ag oedd yn effeithio arnoch fel hyny? Pell yw hen floeddiadau Jones Talsarn, oddiwrth fod yn farbariaeth. Ond caniatewch fod yr un dynion yn gystal Saeson a Chymry, a phregethu yr un bregeth ac yn yr un dull yn Saesoneg ag y maent yn Gymraeg, a fyddai hyny yn boblog i'r Saeson? Y mae yn ddigon tebyg na fyddai; ni oddef y Saesoneg ddullwedd na theimlad y Gymraeg; dyna sydd yn gosod y fath gymhwysder yn y Gymraeg at bregethu yr efengyl. Digon tebyg, pe anturiai rhyw un i gario allan holl hynodion y Gymraeg yn Saesoneg, y meddyliai y Saeson am ei osod i lawr mewn sefyllfa o orphwylldra, ac y danfonent yn uniongyrchol at ei berthynasau agosaf yn Nghymru i edrych ato. Yn wir, dan gofio hefyd, y mae pregethu Cymraeg mewn dull a threfn Saesoneg yn lled ddiflas. Nid yw yn edrych nemawr gwell na "modrwy aur yn nhrwyn hwch." Ymddengys fod yn rhaid gwneyd pob peth yn ei drefn ei hun cyn y bydd rhyw lawer o lewyrch arno. Clywsom ambell un wedi iddo fod yn yr ysgol am flwyddyn neu ddwy, ac wedi cwympo mewn serch a chariad â'r Saeson, yn pregethu yn Nghymraeg mewn dullwedd Saesoneg: a dyna un o'r pethau mwyaf atgas ac annyoddefol a glywsom yn ein bywyd erioed. Yr ydym wedi clywed ysgrechfeydd adar ysglyfaethus yn oriau trymaidd tywyllwch y nos, yr ydym wedi clywed moch yn tuchan yn y twle, ac wedi dychrynu yn ddirfawr wrth glywed eu lleisiau ansoniarus pan y byddai y gyllell yn eu cegau; yr ydym wedi clywed oernadau echrydus asynod; eto wrth ymdrech gallwn gyd-ddwyn a hwy yn weddol; canys er fod yno seiniau digon annymunol, nid ydynt yn annaturiol. Na, y maent yn perthyn i ryw ran o'r greadigaeth isod; ac fe ddichon yn rhyw gymaint o ddaioni ynddi. Nid ydys, fel y gwyddoch, yn dysgwyl dim oddiwrth fochyn ond y peth sydd yn fochynaidd; nid ydys yn dysgwyl lleisiau soniarus na cherddoriaeth felus oddiwrth asynod; oernadau asynaidd a ddysgwylir; a phan y bydd yn rhoi allan ei lais, ac yn canu yn ei udgorn, ei lais ei hun a'i udgorn ei hun ydyw; felly y bydd pawb yn dysgwyl iddo fod, fel nad oes neb yn cael eu siomi. Ond pan y bydd Cymro yn pregethu yn Gymraeg yn nullwedd Saesoneg, bobl anwyl, y mae yn anferth! Nid oes yr un mochyn yn y byd yn haner mor fochynaidd; nid oes yr un asyn yn debyg mor asynaidd; nid oes o fewn y greadigaeth faith ddim i'w gydmaru ag ef am anferthwch; nid oes dim genym i ddyweyd ond fod ei annymunoldeb yn annhraethadwy. Edrychwch yn awr; y mae efe yn sefyll o'ch blaen yn syth, fel haner gwr boneddig; ei wallt fel gwrŷch mochyn cynhyrfiedig, ei wyneb yn chwerw-ddefosiynol, heb yr arwydd leiaf o wylder; ei got wedi ei botymio i fyny hyd y gwddf yn y modd mwyaf testlus, a'i lais yn iach ac yn orchymynol, heb yr arwydd leiaf o deimlad yn ei doddi i ffurf yr efengyl, a'i holl agweddiad yn benderfynol a beiddgar. Wel, dyna y gwalch; beth feddyliech am hwnw, Thomas Jones? "Y mae ei olwg yn ddigon i mi," meddai Thomas; "nid oes arnaf eisiau clywed un gair byth o enau hwna; yr wyf yn meddwl fod gweled hwna yn ddigon heb glywed un gair; pregethu ei hunan ydyw ei waith ef, nid pregethu Crist." Y mae yn un go bert yn sicr; gellir meddwl ei fod yn llawer o'r ladies' man, ys dywed y Sais; ac ymddengys hefyd ei fod mewn heddwch a chariad mawr ag ef ei hun. Gellir meddwl wrth ei darawiad ei fod yn edmygu ei hun yn fawr; efe yw y tecaf o feibion dynion yn ei farn ef; nid yw yn gweled neb o'r cyffelyb feddwl na'r cyffelyb gorph; y mae wrth fodd ei galon ei hun. Y prif beth sydd yn flinderus iddo yw na bai pawb eraill yn gweled lygad yn llygad ag ef yn y materion hyn. Yn rhyw fodd, nid ydyw y bobl ac yntau yn<noinclude><references/></noinclude> 90lsx3p1ouln59tjcyygsxynzxiba68 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/28 104 84550 164326 2026-05-07T18:50:41Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "gallu cydfarnu, am hyny yn myned bob un i'w ffordd ei hun, ac yn aml iawn y ffyrdd hyny yn myned am draws eu gilydd, ac yn peri blinder beunydd. Beth bynag, byddai cystal i chwi, gan i chwi ddyfod i'r fan a'r lle, aros i gael ei glywed yn pregethu, canys bydd genych ddwy siawns i'w farnu wed'yn-wrth yr olwg ac wrth y clywed. Nis gellwch ddyweyd eto ond "yr hyn a welsom;" ond ar ol ei glywed gellwch ychwanegu "a'r hyn a glywsom;" bydd... 164326 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gallu cydfarnu, am hyny yn myned bob un i'w ffordd ei hun, ac yn aml iawn y ffyrdd hyny yn myned am draws eu gilydd, ac yn peri blinder beunydd. Beth bynag, byddai cystal i chwi, gan i chwi ddyfod i'r fan a'r lle, aros i gael ei glywed yn pregethu, canys bydd genych ddwy siawns i'w farnu wed'yn-wrth yr olwg ac wrth y clywed. Nis gellwch ddyweyd eto ond "yr hyn a welsom;" ond ar ol ei glywed gellwch ychwanegu "a'r hyn a glywsom;" bydd y dystiolaeth yn gryfach o lawer iawn. Dan gofio, dywedir wrthym am beidio barnu "wrth yr olwg, eithr barnu barn gyfiawn." Gall dyn, digon tebyg, gael ei dwyllo wrth yr olwg weithiau; canys bydd ambell beth yn troi allan yn well na'r olwg, a'r llall yn waeth. Da iawn yw arfer pwyll, a cheisio barnu barn gyfiawn. Wel, dacw ef yn dechreu ymlwybro at ein hanerch, Thomas; y mae wedi carthu ei geg ddwywaith, ac wedi myned drwy y seremoni o chwythu ei drwyn deirgwaith yn y neisied boced wen. Beth sydd ar gymalau ei gefn? Gellid meddwl eu bod wedi colli eu holew, canys nid yw yn plygu yn fwy na pholyn; nid yw yn symud y naill ffordd na'r llall, mwy na phe bai wedi ei hoelio wrth y llawr. Mor ddystaw y mae yn siarad, yn union fel pe bai yn dyweyd cwnsel wrth ryw rai, ac yn dymuno arnynt er mwyn pob peth na ddywedent wrth neb. Syndod! a oes rhyw un yn clywed diwedd y brawddegau yna? Heblaw ei hun, nid ydym yn deall fod neb yn eu clywed, gan mor ddystaw, mor syw, ac mor foneddigaidd y bydd yn ymadroddi. Wel, y mae yn wr boneddig! Y mae yn rhyw fodd, ys dywed y dynion, yn bwyta ei eiriau cyn eu bod yn dyfod o'i enau. Ydyw, felly y mae; efe ac nid neb arall sydd yn eu bwyta; ymddengys ei fod ef yn cael blas arnynt; am bawb eraill, y maent yn lled ddigonol. Hi fydd weithiau fel hyny; dyn yn cael blas mawr arno ei hunan, a phawb arall yn ei chwydu allan; a phrydiau eraill pawb yn cael blas, a phawb yn gwledda, a'r dyn ei hunan yn methu cael dim blas arno ei hun, eithr yn "ffieiddio ei hun mewn llwch a lludw." Help mawr, serch hyny, i ddyn fyned yn y blaen yw ei fod yn meddwl yn uchel am dano ei hun, ac yn cael blas mawr arno ei hun; y mae yn naturiol iawn iddo ef feddwl fod pawb yn meddwl am dano fel y bydd ef yn meddwl am dano ei hun. Cynorthwyir ef, gan hyny, i fyned rhagddo yn galonog o dan ddylanwad teimlad felly; a chan fwynhau ei hun yn ddirfawr, gan dybied ei fod yn well na neb arall, â rhagddo dan ganu yn fuddugoliaethus. Bydd ef, druan, yn troi mewn byd o'i greadigaeth ddychymygol ei hun, wedi cael allan bob meddwl ond ei feddwl hunan-ddiwylliedig. Am ba beth ydym yn siarad? yr ydym bron wedi myned y tu hwnt i ni ein hunain, neu wedi ymgolli mewn anialwch gwag erchyll. Wel yn wir, erbyn cofio, nid rhyfedd ychwaith, canys yr hynt hon sydd yn un lled ddyrys; canys yr ydym yn erlid creadur trwy y coedydd a'r dyrysni, gan geisio ei ddal a'i ddyfetha, ond methu yr ydym yn rhyw fodd. "Pa greadur?" Ond Cymro gwyllt yn nghroen Sais, fel pe tai dyn yn ceisio pregethu Cymraeg yn nullwedd Saesoneg; creadur dyeithr i'r dalaeth ydyw; blaidd sydd yn difa y defaid ydyw; ïe, anghenfil sydd yn ddychryn i'r holl braidd. Pan y gwelwch Gymro yn siarad yn null Sais, Cymro gwladaidd yn Saesonegeiddio y Gymraeg, y mae yn debyg i ddyn tlawd wedi cael cot ddu a choler melfed wedi haner ei threulio ar ol rhyw wr boneddig. Bydd pawb yn gwybod mai nid ei got ef ydyw, mai dyn tlawd wedi cael cardod yw y dyn sydd yn ei gwisgo yn bresenol. Trueni annhraethol fyddai gweled creadur tlawd mor ddwl a myned yn falch a thrwyn-uchel, gan dybio ei hun yn wr boneddig, wedi cael gafael ar hen got seimlyd a choler melfed arni. Ië yn wir, byddai yn wrthddrych teilwng iawn o dosturi, ac yn berson cymhwys dros ben i wneyd gwallgofdy yn artref. Wedi y cwbl, ar ol defnyddio pob cydmariaethau, y mae pob peth yn syrthio yn fyr i weithio allan anferthwch y Cymro mewn dillad Sais yn pregethu yr efengyl. Y mae yn syn i'r pen gweled dyn yn ddylach na phawb wrth geisio bod yn gall. Gwneir pob math o luniau, o ystumiau, o leisiau, ac o wynebau, er mwyn bod yn Seisnigaidd; ac yn y diwedd y Sais a'r Cymro yn myned i golli yn yr anghenfil. Edrychwch, clywch; os nad ydych wedi cael digon ar y gwrthddrych eisoes, ac os nad yw wedi myned yn rhy ffiaidd i chwi allu aros yn hwy yn ei bresenoldeb. Aroswch dipyn er mwyn cywreinrwydd, ac er ychwanegu gwybodaeth hefyd, canys goreu gyd ein bod yn deall pethau, er eu bod yn fynych yn ddigon atgas ac annymunol. Anogir ni i wneyd rhai pethau er "mwyn cydwybod;" ac y mae llawer o bethau eraill yn ddiau, er nad ydynt yn flasus yn y byd, eto y maent yn dda eu gwybod, canys dygwydd na fyddant o ddefnydd mewn rhyw amgylchiad yn y byd. Wel, gwrandewch; dacw y dyn yn dechreu siarad eto. Mor fun-sych, mor fun-sur, onide? A glywsoch chwi beth mor fwngleraidd o'r blaen? Wel, y mae yn greadur rhyfedd yn ceisio ymlwybro yn y blaen, onid ydyw? Gallem ni feddwl ei fod ef ei hun yn bur annedwydd ac annyddan, heblaw ei fod yn gwneyd pawb eraill felly ag sydd wedi bod mor anffortunus a syrthio o dan y gospedigaeth i orfod gwrando arno. Gadewch iddo; "codwn ac awn oddiyma," a diolchwn lawer am ryddid cydwybod, ein bod yn gallu troi ein cefnau arno, a myned lle y mynom. Gobeithiwn na fydd neb mor fyrbwyll a meddwl ein bod yn ceisio taflu dirmyg ar y Saeson, a'u hiaith enwog; pell iawn ydym ni oddiwrth ddim o'r fath; yr ydym ni yn caru y Sais a'r Saesoneg, ond cael Sais a Saesoneg, cofiwch; nid Cymro yn gwisgo hen ddillad llaprog Sais: gwaeth na hyny, yn ceisio clytio Cymraeg a Saesoneg yn nghyd, nes colli rhagoriaethau y naill a'r llall. Eithaf peth yw Saesoneg, fel Saesoneg; ond peth tlawd iawn yw Saesoneg yn nullwedd Gymraeg, ac y mae Cymraeg yr un mor dloted yn nullwedd Saesoneg; pob peth yn ei drefn ei hun sydd oreu. Pan y byddis yn rhoi delweddau Saesoneg ar y Gymraeg, nid yw nemawr gwell na rhoi "gwin newydd mewn hen fotelau, neu lain o frethyn newydd ar hen ddilledyn;" fe dyr y gwin newydd y potelau, ac fe â i golli, ac fe rwyga y brethyn newydd yr hen ddilledyn, ac felly y rhwyg a wneir yn waeth. Y mae y fath gysylltiadau rhwng iaith a phob peth cenedl, fel y mae yn rhan o honi ei hun. Nid yw yn bosibl rhwygo y naill oddiwrth y llall heb ddinystrio y cwbl; rhaid trawsnewid y genedl, a'i suddo i mewn yn raddoli genedl arall, fel ag i gymeryd yn llwyr holl elfenau ac arferion y genedl hono. Y mae yr iaith yn gyfrwng y teimladau cenedlaethol, yn trosglwyddo yr awgrymiadau cenedlaethol yn hapus ac yn arwyddocaol: mewn gair, y mae holl hanfodion a theimladau cenedlaethol yn ymweithio drwyddi, ac yn gymhlethedig ynddi. Mae y genedl a'r iaith wedi tyfu yn nghyd, wedi ymgymysgu yn eu gilydd a thrwy eu gilydd, wedi eu cydwau wrth gael eu magu yn nghyd, ac wedi ymgordeddu y naill yn y llall. Tebyg ydynt i'r ddaear a thyfiant, y naill sydd yn ymwreiddio yn y llall, fel y mae y ddau yn un, yn hollol naturiol, heb na thrais na gorchest. Trais na gorchest yn siwr! na, yn hollol wahanol; bydd yr hen ddaear yn arllwys maeth a rhinwedd o honi ei hun i'r gwreiddiau mân, hwythau yn sugno bronau yr hen fam dyner a chymwynasgar, nes ffrwythloni ar ei gwyneb, a'i gwisgo â phrydferthion ieuenctyd bob blwyddyn. Ah! y maent yn gorfoleddu yn nghyd; nid oes dim grwgnach na thuchan; nid oes dim gorchestion tuag at newid gwyneb prydferth natur, na'i hiaith ardderchog i ffurf rhyw blaned arall. Na; gadawer hi fel y mae; harddwch a phrydferthwch annghydmarol ydyw; ei lleferydd hefyd sydd yn "hyfrydlais," ac yn iaith ddealladwy i holl drigolion y byd. Mae y bobl yn deall ei hiaith, ac yn deall ei hawgrymiadau, ac yn curo dwylaw yn llon gyda holl goedydd y maes. Iaith yr hen Gymry, eu mynyddoedd cribog, certh, a mawreddus, sydd yn gymhlethedig drwy eu gilydd; y maent wedi eu cydfagu, ac yn caru eu gilydd fel rhieni a phlant. Dacw y bardd ieuanc yn dechreu cael ei wefru wrth draed y bryn draw, sydd yn codi i fyny ac yn cuddio ei ben yn y nefoedd fry. Enaid y bardd sydd yn codi yn raddol gydag ef, yn ei ddringo yn araf, ond yn benderfynol, nes ymgodi o hono i'r nefoedd uchod, a chyrhaedd yr ystafell lle y mae y 2 mynydd tywysogaidd yn golchi ei wyneb â'r gwlith boreuol. Oddiyno, gyda'r bardd Dyer ar fryn Grongar, y mae mil a mwy o ddrychfeddyliau yn ymgodi yn yr enaid, y rhai sydd yn dyrchafu yn uwch na'r bryn y sefir arno, y rhai sydd yn cynyrchu iaith goeth, ac yn ei henyn â than seraphaidd. Ar fryn y Grongar, yn Nyffryn Towy, yr eisteddai y bardd Dyer yn nyddiau ei ieuenctyd, yn edrych ar fryn yn codi uwchlaw bryn, dan saethu y tu cefn i'w gilydd i'r cymylau ar un llaw, <poem> "Silent Nymph, with curious eye, Who the purple evening lie, On the mountain's lonely van, Beyond the noise of busy man, Painting fair the form of things, While the yellow linnet sings; Or the tuneful nightingale Charms the forest with her tale; Come with all their various hues, Come and aid thy sister Muse; Now while Phœbus riding high Gives lustre to the land and sky! Grongar Hill invites my song, Draw the landscape bright and strong; Grongar, in whose mossy cells Sweetly musing quiet dwells; Grongar, in whose silent shade For the modest muses made; So oft I have, the evening still At the fountain of a rill, Sate upon a flowery bed, With my hand beneath my head; While stray'd my eyes o'er Towy's flood, Over mead and over wood, From house to house, from hill to hill, 'Til contemplation had her fill. About his chequer'd sides I wind, And leave his brooks and meads behind, And groves and grottoes where I lay, And vistas shooting beams of day: Wide and wider spreads the vale As circles on a smooth canal; The mountains round (unhappy fate)! Sooner or later, of all height, Withdrew their summits from the skies, And lessen as the others rise; Still the prospect wider spreads, Adds a thousand woods and meads; <poem><noinclude><references/></noinclude> 5a0ucbgc6o084x4ja45zvk6vsh9ywqm Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/33 104 84551 164327 2026-05-07T18:52:08Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "a dyffryn prydferth Towy o dano ar y llaw arall, a'r afon droellog, brydferth yn llifo i lawr drwyddo, gydag awdurdod breninol, i ddyfrhau ac i adloni y baradwys ardderchog. Eisteddodd Dyer ieuanc ganoedd o oriau ar y Grongar, i edmygu y golygfeydd mawreddus a phrydferth hyn, nes i'w enaid ymgolli yn fynych ynddynt, a'r awen yn cymeryd tân oddiwrth y gallestr nes gwreichioni a fflamio hyd entrych nen, Wele engraifft yn y ddwy iaith,... 164327 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a dyffryn prydferth Towy o dano ar y llaw arall, a'r afon droellog, brydferth yn llifo i lawr drwyddo, gydag awdurdod breninol, i ddyfrhau ac i adloni y baradwys ardderchog. Eisteddodd Dyer ieuanc ganoedd o oriau ar y Grongar, i edmygu y golygfeydd mawreddus a phrydferth hyn, nes i'w enaid ymgolli yn fynych ynddynt, a'r awen yn cymeryd tân oddiwrth y gallestr nes gwreichioni a fflamio hyd entrych nen, Wele engraifft yn y ddwy iaith, ar gyfer eu gilydd : "Ah! Eigren fud a'th gywraint drem, Borphora'r nawn â gwridog hem, Ar lonydd gôb unigol fryn, Uwch cyrhaedd 'stwr ffwdanus ddyn; Arliwi wedd pob peth yn dêr, Tra cathla'r felen linos bêr; Neu'r eos fwyn yn eiliaw cerdd A swyna'r oll o'r goedwig werdd, Dwyrea a'th amryfal sain I gynorthwyo'r Awen gain; Tra'r huan claer o'i orsedd fry Fantella'r nef a'r llawr mewn bri! Hardd fryn y Grongar huda'm cerdd, I dynu'r dirwedd lwys a gwerdd; Yn dy fwswog gelloedd cu Llonyddwch mewn pêr fyfyr sy'; Ac yn dy gysgod fwyna'i nawd, Llys addas i'r awenau wnawd; A mynych yn nhawelwch nawn At ffrwd arianliw'th ffynon awn, Gan orwedd ar flodeuog len, A'm llaw yn esmwyth dan fy mhen; Tra tremio wnawn ar Dywi deg, Ar elltydd llawn, a broydd chweg; O dŷ i dy, o fryn i fryn, Gwledd i fyfyrdod byth oedd hyn. Ei ddringo wnaf, gan adael dôl, A'r neint trydanol ar fy ol, A'r ffauau dail, lle awn yn rhydd, Rhag poeth belydrau teyrn y dydd; Eanga gwyneb glwys y glyn, Fel cylch y don ar dawel lyn; Y bryniau gylch (annedwydd ffawd)! Eu cobau o bob uchder wnawd, Sarheir eu balchder, draw fe gwyd Rhai'u penau'n uwch i'r asur glwyd; Y drem eanga yn fwy taen, Gan amlu coed a broydd cain; Still it widens-widens still, And sinks the newly-risen hill; Now I gain the mountain's brow- What a landscape lies below! No clouds, no vapours intervene, But the gay, the open scene, Does the face of nature show In all the hues of heaven's bow! And, swelling to embrace the light, Spreads around beneath the sight." Ni a welwn yn y llinellau uchod fod Saesoneg Dyer yn dda, a Chymraeg y Bardd Teilo yn dda a phrydferth; ond y peth yr ydym yn ceisio ei ddangos ydyw, anferthwch yr arferiad o bregethu Cymraeg mewn dullwedd Saesoneg. Y mae y Gymraeg mor hapus i bregethu yr efengyl ynddi, fel mai trueni yw ei therfysgu trwy daflu am ei thraws ryw elfen elynol. Y mae ei heddwch gyda'r efengyl fel yr afon; a bydded barn cydwybod ar bwy bynag a derfysgo yr heddwch hwn. Mor dawel y mae yr hen iaith yn gorwedd ac yn ymestyn ar lechweddau y bryniau, yn chwerthin ar wylltineb y golygfeydd gyferbyn, yn chwareu â'r awen megys â'i chyntafanedig, ac yn canu yn y cysgod, yn nhrigle dystawrwydd. Y mae yn anhawdd iawn i neb ddeall ei llais ond ei defaid ei hun. Fe ddichon y gellir dywedyd fel hyn am lawer cenedl; ond gellid meddwl fod y Saesoneg yn un o'r eithriadau mwyaf; canys ymddengys mai rhyw gaboliad celfydd ydyw o wahanol ieithoedd, a cheisio gwneyd rhyw un o lawer, er mwyn cyfleusdra a dyben masnachol. Iaith masnach yn benaf yw iaith y Sais; iaith efengyl yw iaith y Cymro. Oni bai yr efengyl, yr ydym yn petruso yn fawr, ac ystyried pob peth, a fyddai yn werth cymeryd trafferth wrthi i'w chadw o dan amgylchiadau presenol. Ond er mwyn yr efengyl y mae o werth ei charu a'i chadw; canys y mae rhyw beth ynddi mewn cysylltiad â'r efengyl na cheir ddim o hono o fewn holl derfynau y Saesoneg; gellid meddwl weithiau ei bod yn gysegredig, ac wedi ei chadw yn ofalus gan Ragluniaeth i ddybenion yr efengyl. Y mae llawer o ddynion mwyaf y byd mewn pregethu wedi eu codi yn Nghymru, heb Ymledu wna yn dêl a ffraw, Nes una fel â'r gorwel draw; Cyrhaeddais grib y bryn heb ludd- Fath orwemp dirwedd danaf sydd! Ni lwyd gyfrynga niwl-darth dwys Rhyngwyf a'r deg olygfalwys; Ymddengys gwyneb anian gref Yn nhlysion liwiau enfys nef! Ymewydda i gofleidio'r gwawl, A daen o gylch ei fri didawl." fod yn gwybod nemawr ond yr iaith Gymraeg; ac y mae yn amheus genym a fuasai hyny yn beth posibl yn Saesoneg. Nid yw yr iaith a'r rheolau caethion yn rhyw fodd yn gallu goddef rhyw lawer o deimlad, o ddawn, ac athrylith naturiol, heb fyned yn chwilfriw; a thanau gant mewn moment yn rhedeg, ac yn gwaeddi, Peidiwch a lladd yr iaith, hawyr; peidiwch a gwneyd cam â Saesoneg ei Mawrhydi. Gofal am y Saesoneg yn benaf sydd gan y Sais, nid am y meddyliau mawrion sydd fel afon gref yn llifo allan, yn treiglo i lawr, yn cwympo yn ogoneddus heb drefn drwy y creigiau certh a llafraidd, gan ymuno â'r byd dyfrllyd islaw, lle y preswylia ac y llonydda. Na, y Saesoneg yw ei gwbl ef; gofalwch am y Saesoneg, beth bynag ddaw o Grist ac eneidiau dynion. Os dygwyddodd i chwi glywed Saeson yn siarad wedi dyfod o gyfarfod crefyddol, nid siarad am y bregeth, yr athrylith, yr effeithioldeb, neu y meddyliau mawrion y maent, ond am y Saesoneg. Yr oedd y Saesoneg yn dda neu yn ddrwg, yn ardderchog neu yn wael, yn farddonol neu yn sâl, yn hedegog neu yn domenaidd. Ychydig iawn sydd gan lawer o honynt ond Saesoneg y cwrdd. Y Saesoneg, nid y meddwl, yw eu bwyd; y maent yn bwyta Saesoneg, ac yn gadael Iesu Grist. Pobl o archwaeth ryfedd ydynt; yn tynu y plisgyn Seisnig sydd o gwmpas pob peth, ac yn bwyta hwnw, ac yn gadael y cynwysiad, serch ei fod yn fêl, i bwy bynag a ewyllysio ei gymeryd. Byw sal iawn yw byw ar Saesoneg, bydded cystal ag y byddo. Y mae yn ddigon tebyg mai rhyw archwaeth fel hyn sydd wedi dwyn yr efengyl i ffurf yn Lloegr, fel y mae uwchlaw y werin, ac felly y tlodion wedi myned i golli iddo. Nid yw gwerin Lloegr ond y peth nesaf at baganiaid, mewn cydmariaeth i werin Cymru; nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am ddim ond am eu gwaith, a bwyta ac yfed. Pan yr ydym yn son am baganiaeth, dealler mai mewn cysylltiad â'r efengyl yr ydym yn siarad, canys nid ydym yn trin dim ond yhi. Fe ddichon fod Lloegr, ar y cwbl, o flaen Cymru ryw gant neu ddau o flynyddoedd; y mae ei manteision hi wedi bod yn fawr pan yr oedd Cymru yn esgeulusedig, heb ysgolion na mantais i ddysgu dim. Y mae ganddynt fwy o wybodaeth gyffredinol; y maent yn fwy cydnabyddus â'r byd yn gyffredinol, â masnach, â chelfyddydau, ac â llenyddiaeth. Y mae yn rhaid i bob math o Sais yn mron ar brydnawn Sadwrn i gael a can of beer and the "News of the World." Ond beth yw eu gwybodaeth am yr efengyl? pa beth a wyddant am dduwinyddiaeth? Beth yw eu gwybodaeth am y Bibl a'i hanes? Mor sier ag yr ydych yn fyw, y mae y werin Saesoneg yn baganiaid yn ymyl y Cymry yn y materion hyn. Y pregethwr Saesoneg sydd yn astudio ac yn siarad iaith glasurol nad ydyw y bobl yn deall; ac felly siarad â'r ysgolheigion y bydd y pregethwr, nid â'r tlodion; ceisio dangos Saesoneg ogoneddus yn y bregeth, nid Crist gogoneddus. Ond am y pregethwyr Cymreig, yr oeddynt yn siarad iaith y bobl, yr oeddynt yn eu canol-yn eu teimladau, yn eu calonau, ac yn dyfod ag efengyl Crist i gyffyrddiad â'u teimladau bob dydd, fel yr oeddynt yn ei mwynhau, yn ei chofleidio, ac yn derbyn eu cysuron a'u gobeithion penaf oddiwrthi. Goddefai y Gymraeg ei hestyn allan gyda theimlad ac athrylith y pregethwr; yr oedd yn ymeangu, nid yn tori, i dderbyn llifogydd mawrion ar ol y gwlaw taranau; yr oedd yn ystwytho ac yn ymestyn gyda phob cynhyrfiad. Nid oedd y bobl yn meddwl nemawr am yr iaith, ond yn ei gadael hi i ofalu am dani ei hun, gan dderbyn ei chynwysiad i'w heneidiau, o dan ddylanwad pa un y gorfoleddent dan obaith gogoniant Duw. Byddai y pregethwyr hyn yn codi yn uchel iawn mewn areithyddiaeth efengylaidd, ac yn cario y cwbl o'u blaen heb yn wybod iddynt eu hunain. Byddent weithiau fel y rhaiadr, yn disgyn yn ofnadwy, nes boddi pob swn arall; weithiau fel yr afon ddofn, yn araf, ond yn gryf ac yn brydferth; weithiau fel y cornant wedi cael cawod o wlaw y tu cefn iddi, yn ffrochwyllt yn rhedeg i lawr i'r glyn, nes ymarllwys i ddwr mwy llonydd a gloyw. Byddai eu pregethu yn ofnadwy weithiau, a phechaduriaid fel yn ymollwng o'u blaen; yn fwyneidd-dra efengylaidd brydiau eraill, nes denu y meddwl allan o bob peth at hynawsedd Crist; ac er yn ffrochwyllt ar ryw amserau, eto yn terfynu mewn dyfroedd tawel yn nghyflawnder y Duwdod yn Nghrist Iesu. Ah, fe gofir Ebenezer Morris gan y rhai a'i clywsant tra y byddont byw; pregethai nes y byddai cynulleidfa o ddeng mil yn ymgolli yn eu teimladau, fel plant yn ymwylltu, heb wybod i ba le i fyned am noddfa. Ebe cyfaill wrthym unwaith, "Yr oeddwn yn ei wrando yn nghapel Aberteifi; gallaswn gymeryd fy llw fod y planciau o dan fy nhraed yn myned yn ddellt." Efengylai eilwaith nes codi yr holl deimladau cythryblus yn dawel at Iesu, ac yno yn eu gadael yn ei fynwes i ymesmwythau. Nid yw yn debyg fod mwy pregethwyr wedi bod mewn un wlad erioed na'r dosbarth hyn o bregethwyr Cymru; yn wir, y maent yn sefyll ger ein bron fel gwyrthiau dwyfol. Yr ydym wedi bod yn dyweyd fod rhyw beth yn yr iaith yn fanteisiol, ac yr ydym yn caniatau iddynt yr holl fanteision sydd yn hyny; ond ar yr un pryd, cofier mai nid hyny oedd y cwbl hefyd. Dymunem roi gwerth ar hyny, a llawn werth hefyd; ond dymunem beidio rhoi rhagor na'i werth. Yr ydym am edrych arni fel cyfrwng da, os nid y goreu, i drosglwyddo yr efengyl yn ei theimladau a'i phrydferthion; eithr y mae rhyw allu a chymhwysder y tu cefn i hyny, onide ni buasai y dynion hyny byth y peth oeddynt. Gwelwn fod yr iaith yn cael ei siarad y dyddiau hyn gan ganoedd, mewn llwybr o bregethu, ac eto y pregethwyr mor ddirmygedig ag mae yn ddichonadwy i un creadur fod. Nid oes na phryd na thegwch ynddo; a gwaeth na'r cwbl, y mae yn anafu y pethau ag y mae pryd a thegwch ynddynt, wrth roi ei fysedd<noinclude><references/></noinclude> opd8kns5k7h4pyo5yzq5uvcxpkwba8o 164328 164327 2026-05-07T18:54:07Z AlwynapHuw 1710 164328 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a dyffryn prydferth Towy o dano ar y llaw arall, a'r afon droellog, brydferth yn llifo i lawr drwyddo, gydag awdurdod breninol, i ddyfrhau ac i adloni y baradwys ardderchog. Eisteddodd Dyer ieuanc ganoedd o oriau ar y Grongar, i edmygu y golygfeydd mawreddus a phrydferth hyn, nes i'w enaid ymgolli yn fynych ynddynt, a'r awen yn cymeryd tân oddiwrth y gallestr nes gwreichioni a fflamio hyd entrych nen, Wele engraifft yn y ddwy iaith, ar gyfer eu gilydd : "Ah! Eigren fud a'th gywraint drem, Borphora'r nawn â gwridog hem, Ar lonydd gôb unigol fryn, Uwch cyrhaedd 'stwr ffwdanus ddyn; Arliwi wedd pob peth yn dêr, Tra cathla'r felen linos bêr; Neu'r eos fwyn yn eiliaw cerdd A swyna'r oll o'r goedwig werdd, Dwyrea a'th amryfal sain I gynorthwyo'r Awen gain; Tra'r huan claer o'i orsedd fry Fantella'r nef a'r llawr mewn bri! Hardd fryn y Grongar huda'm cerdd, I dynu'r dirwedd lwys a gwerdd; Yn dy fwswog gelloedd cu Llonyddwch mewn pêr fyfyr sy'; Ac yn dy gysgod fwyna'i nawd, Llys addas i'r awenau wnawd; mynych yn nhawelwch nawn At ffrwd arianliw'th ffynon awn, Gan orwedd ar flodeuog len, A'm llaw yn esmwyth dan fy mhen; Tra tremio wnawn ar Dywi deg, Ar elltydd llawn, a broydd chweg; O dŷ i dy, o fryn i fryn, Gwledd i fyfyrdod byth oedd hyn. Ei ddringo wnaf, gan adael dôl, A'r neint trydanol ar fy ol, A'r ffauau dail, lle awn yn rhydd, Rhag poeth belydrau teyrn y dydd; Eanga gwyneb glwys y glyn, Fel cylch y don ar dawel lyn; Y bryniau gylch (annedwydd ffawd)! Eu cobau o bob uchder wnawd, Sarheir eu balchder, draw fe gwyd Rhai'u penau'n uwch i'r asur glwyd; Y drem eanga yn fwy taen, Gan amlu coed a broydd cain; Still it widens-widens still, And sinks the newly-risen hill; Now I gain the mountain's brow- What a landscape lies below! No clouds, no vapours intervene, But the gay, the open scene, Does the face of nature show In all the hues of heaven's bow! And, swelling to embrace the light, Spreads around beneath the sight." Ni a welwn yn y llinellau uchod fod Saesoneg Dyer yn dda, a Chymraeg y Bardd Teilo yn dda a phrydferth; ond y peth yr ydym yn ceisio ei ddangos ydyw, anferthwch yr arferiad o bregethu Cymraeg mewn dullwedd Saesoneg. Y mae y Gymraeg mor hapus i bregethu yr efengyl ynddi, fel mai trueni yw ei therfysgu trwy daflu am ei thraws ryw elfen elynol. Y mae ei heddwch gyda'r efengyl fel yr afon; a bydded barn cydwybod ar bwy bynag a derfysgo yr heddwch hwn. Mor dawel y mae yr hen iaith yn gorwedd ac yn ymestyn ar lechweddau y bryniau, yn chwerthin ar wylltineb y golygfeydd gyferbyn, yn chwareu â'r awen megys â'i chyntafanedig, ac yn canu yn y cysgod, yn nhrigle dystawrwydd. Y mae yn anhawdd iawn i neb ddeall ei llais ond ei defaid ei hun. Fe ddichon y gellir dywedyd fel hyn am lawer cenedl; ond gellid meddwl fod y Saesoneg yn un o'r eithriadau mwyaf; canys ymddengys mai rhyw gaboliad celfydd ydyw o wahanol ieithoedd, a cheisio gwneyd rhyw un o lawer, er mwyn cyfleusdra a dyben masnachol. Iaith masnach yn benaf yw iaith y Sais; iaith efengyl yw iaith y Cymro. Oni bai yr efengyl, yr ydym yn petruso yn fawr, ac ystyried pob peth, a fyddai yn werth cymeryd trafferth wrthi i'w chadw o dan amgylchiadau presenol. Ond er mwyn yr efengyl y mae o werth ei charu a'i chadw; canys y mae rhyw beth ynddi mewn cysylltiad â'r efengyl na cheir ddim o hono o fewn holl derfynau y Saesoneg; gellid meddwl weithiau ei bod yn gysegredig, ac wedi ei chadw yn ofalus gan Ragluniaeth i ddybenion yr efengyl. Y mae llawer o ddynion mwyaf y byd mewn pregethu wedi eu codi yn Nghymru, heb Ymledu wna yn dêl a ffraw, Nes una fel â'r gorwel draw; Cyrhaeddais grib y bryn heb ludd- Fath orwemp dirwedd danaf sydd! Ni lwyd gyfrynga niwl-darth dwys Rhyngwyf a'r deg olygfalwys; Ymddengys gwyneb anian gref Yn nhlysion liwiau enfys nef! Ymewydda i gofleidio'r gwawl, A daen o gylch ei fri didawl." fod yn gwybod nemawr ond yr iaith Gymraeg; ac y mae yn amheus genym a fuasai hyny yn beth posibl yn Saesoneg. Nid yw yr iaith a'r rheolau caethion yn rhyw fodd yn gallu goddef rhyw lawer o deimlad, o ddawn, ac athrylith naturiol, heb fyned yn chwilfriw; a thanau gant mewn moment yn rhedeg, ac yn gwaeddi, Peidiwch a lladd yr iaith, hawyr; peidiwch a gwneyd cam â Saesoneg ei Mawrhydi. Gofal am y Saesoneg yn benaf sydd gan y Sais, nid am y meddyliau mawrion sydd fel afon gref yn llifo allan, yn treiglo i lawr, yn cwympo yn ogoneddus heb drefn drwy y creigiau certh a llafraidd, gan ymuno â'r byd dyfrllyd islaw, lle y preswylia ac y llonydda. Na, y Saesoneg yw ei gwbl ef; gofalwch am y Saesoneg, beth bynag ddaw o Grist ac eneidiau dynion. Os dygwyddodd i chwi glywed Saeson yn siarad wedi dyfod o gyfarfod crefyddol, nid siarad am y bregeth, yr athrylith, yr effeithioldeb, neu y meddyliau mawrion y maent, ond am y Saesoneg. Yr oedd y Saesoneg yn dda neu yn ddrwg, yn ardderchog neu yn wael, yn farddonol neu yn sâl, yn hedegog neu yn domenaidd. Ychydig iawn sydd gan lawer o honynt ond Saesoneg y cwrdd. Y Saesoneg, nid y meddwl, yw eu bwyd; y maent yn bwyta Saesoneg, ac yn gadael Iesu Grist. Pobl o archwaeth ryfedd ydynt; yn tynu y plisgyn Seisnig sydd o gwmpas pob peth, ac yn bwyta hwnw, ac yn gadael y cynwysiad, serch ei fod yn fêl, i bwy bynag a ewyllysio ei gymeryd. Byw sal iawn yw byw ar Saesoneg, bydded cystal ag y byddo. Y mae yn ddigon tebyg mai rhyw archwaeth fel hyn sydd wedi dwyn yr efengyl i ffurf yn Lloegr, fel y mae uwchlaw y werin, ac felly y tlodion wedi myned i golli iddo. Nid yw gwerin Lloegr ond y peth nesaf at baganiaid, mewn cydmariaeth i werin Cymru; nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am ddim ond am eu gwaith, a bwyta ac yfed. Pan yr ydym yn son am baganiaeth, dealler mai mewn cysylltiad â'r efengyl yr ydym yn siarad, canys nid ydym yn trin dim ond yhi. Fe ddichon fod Lloegr, ar y cwbl, o flaen Cymru ryw gant neu ddau o flynyddoedd; y mae ei manteision hi wedi bod yn fawr pan yr oedd Cymru yn esgeulusedig, heb ysgolion na mantais i ddysgu dim. Y mae ganddynt fwy o wybodaeth gyffredinol; y maent yn fwy cydnabyddus â'r byd yn gyffredinol, â masnach, â chelfyddydau, ac â llenyddiaeth. Y mae yn rhaid i bob math o Sais yn mron ar brydnawn Sadwrn i gael a can of beer and the "News of the World." Ond beth yw eu gwybodaeth am yr efengyl? pa beth a wyddant am dduwinyddiaeth? Beth yw eu gwybodaeth am y Bibl a'i hanes? Mor sier ag yr ydych yn fyw, y mae y werin Saesoneg yn baganiaid yn ymyl y Cymry yn y materion hyn. Y pregethwr Saesoneg sydd yn astudio ac yn siarad iaith glasurol nad ydyw y bobl yn deall; ac felly siarad â'r ysgolheigion y bydd y pregethwr, nid â'r tlodion; ceisio dangos Saesoneg ogoneddus yn y bregeth, nid Crist gogoneddus. Ond am y pregethwyr Cymreig, yr oeddynt yn siarad iaith y bobl, yr oeddynt yn eu canol-yn eu teimladau, yn eu calonau, ac yn dyfod ag efengyl Crist i gyffyrddiad â'u teimladau bob dydd, fel yr oeddynt yn ei mwynhau, yn ei chofleidio, ac yn derbyn eu cysuron a'u gobeithion penaf oddiwrthi. Goddefai y Gymraeg ei hestyn allan gyda theimlad ac athrylith y pregethwr; yr oedd yn ymeangu, nid yn tori, i dderbyn llifogydd mawrion ar ol y gwlaw taranau; yr oedd yn ystwytho ac yn ymestyn gyda phob cynhyrfiad. Nid oedd y bobl yn meddwl nemawr am yr iaith, ond yn ei gadael hi i ofalu am dani ei hun, gan dderbyn ei chynwysiad i'w heneidiau, o dan ddylanwad pa un y gorfoleddent dan obaith gogoniant Duw. Byddai y pregethwyr hyn yn codi yn uchel iawn mewn areithyddiaeth efengylaidd, ac yn cario y cwbl o'u blaen heb yn wybod iddynt eu hunain. Byddent weithiau fel y rhaiadr, yn disgyn yn ofnadwy, nes boddi pob swn arall; weithiau fel yr afon ddofn, yn araf, ond yn gryf ac yn brydferth; weithiau fel y cornant wedi cael cawod o wlaw y tu cefn iddi, yn ffrochwyllt yn rhedeg i lawr i'r glyn, nes ymarllwys i ddwr mwy llonydd a gloyw. Byddai eu pregethu yn ofnadwy weithiau, a phechaduriaid fel yn ymollwng o'u blaen; yn fwyneidd-dra efengylaidd brydiau eraill, nes denu y meddwl allan o bob peth at hynawsedd Crist; ac er yn ffrochwyllt ar ryw amserau, eto yn terfynu mewn dyfroedd tawel yn nghyflawnder y Duwdod yn Nghrist Iesu. Ah, fe gofir Ebenezer Morris gan y rhai a'i clywsant tra y byddont byw; pregethai nes y byddai cynulleidfa o ddeng mil yn ymgolli yn eu teimladau, fel plant yn ymwylltu, heb wybod i ba le i fyned am noddfa. Ebe cyfaill wrthym unwaith, "Yr oeddwn yn ei wrando yn nghapel Aberteifi; gallaswn gymeryd fy llw fod y planciau o dan fy nhraed yn myned yn ddellt." Efengylai eilwaith nes codi yr holl deimladau cythryblus yn dawel at Iesu, ac yno yn eu gadael yn ei fynwes i ymesmwythau. Nid yw yn debyg fod mwy pregethwyr wedi bod mewn un wlad erioed na'r dosbarth hyn o bregethwyr Cymru; yn wir, y maent yn sefyll ger ein bron fel gwyrthiau dwyfol. Yr ydym wedi bod yn dyweyd fod rhyw beth yn yr iaith yn fanteisiol, ac yr ydym yn caniatau iddynt yr holl fanteision sydd yn hyny; ond ar yr un pryd, cofier mai nid hyny oedd y cwbl hefyd. Dymunem roi gwerth ar hyny, a llawn werth hefyd; ond dymunem beidio rhoi rhagor na'i werth. Yr ydym am edrych arni fel cyfrwng da, os nid y goreu, i drosglwyddo yr efengyl yn ei theimladau a'i phrydferthion; eithr y mae rhyw allu a chymhwysder y tu cefn i hyny, onide ni buasai y dynion hyny byth y peth oeddynt. Gwelwn fod yr iaith yn cael ei siarad y dyddiau hyn gan ganoedd, mewn llwybr o bregethu, ac eto y pregethwyr mor ddirmygedig ag mae yn ddichonadwy i un creadur fod. Nid oes na phryd na thegwch ynddo; a gwaeth na'r cwbl, y mae yn anafu y pethau ag y mae pryd a thegwch ynddynt, wrth roi ei fysedd<noinclude><references/></noinclude> 3atv36qvyvckljujaww5ulw5t9oh9en Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/38 104 84552 164329 2026-05-07T18:55:23Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "duon ac annghelfydd arnynt. Bid a fyno, ni adawn hwn, canys nid oes ond y peth nesaf i ddim o bleser i siarad am dano, i edrych ychydig ar y lleill. Edrychwch ar Christmas Evans, yr hen Gristmas anwyl; dyna ddyn wrth ychydig o addurniadau dysgeidiaeth, ond fel y darfu iddo lafurio a diwyllio ei feddwl ei hun; gwnaeth lawer o hyny, fel nad oedd yn sefyll yn annghyfrifol yn mysg llawer ag oedd wedi cael manteision gwell; ond edrychwch... 164329 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>duon ac annghelfydd arnynt. Bid a fyno, ni adawn hwn, canys nid oes ond y peth nesaf i ddim o bleser i siarad am dano, i edrych ychydig ar y lleill. Edrychwch ar Christmas Evans, yr hen Gristmas anwyl; dyna ddyn wrth ychydig o addurniadau dysgeidiaeth, ond fel y darfu iddo lafurio a diwyllio ei feddwl ei hun; gwnaeth lawer o hyny, fel nad oedd yn sefyll yn annghyfrifol yn mysg llawer ag oedd wedi cael manteision gwell; ond edrychwch arno fel pregethwr, a dangoswch ryw un yn ngwlad y Sais yn gyffelyb iddo. Hawyr! ni thyfodd un o'r fath erioed yno. Tebyg iawn fod Kent ac Essex yn wledydd da iawn i dyfu gwenith, nid gwiw i'n gwlad dlawd ni gystadlu a hwynt yn hyny; ond ni thyfodd yr un Christmas erioed yn y tir hwnw. Hen Gymru sydd yn tyfu Christmasiaid; yhi sydd wedi magu y pregethwyr mwyaf gwreiddiol, talentog, athrylithgar, a nerthol o wledydd y byd. Wrth gofio anfanteision Christmas Evans, ac edrych arno yn anerch deng mil ar ddydd y Gymanfa, y mae yn sefyll o'ch blaen y peth nesaf at wyrth. Y dyn aew wrth un llygad, ond un llygad rhyfedd ydyw, y mae fel y seren ddydd, yn dysgleirio ac yn llewyrchu fel pe byddai yn barod i gymeryd tân, ac i roi y byd ar dân mewn eiliad. Yr un llygad yna sydd yn treiddio i bob peth, yn edrych dyn yn ei wyneb gyda'r fath awdurdod nes y mae yn barod i lesmeirio ger ei fron. Yr un llygad yna sydd yn fwy tarawiadol ac arwyddocaol na deng mil o lygaid ag sydd yn edrych arno. Y mae rhyw beth mawr y tu cefn i'r llygad yna; nid ydyw ond fel rhyw arwydd o beth yn yr ystafelloedd mawrion y tu draw. Nid yw y llygad treiddgar ond rhyw ddangoseg o feddwl treiddgar a goleuedig. Pan yn pregethu, teflir y meddwl hwnw allan gydag effeithioldeb annghydmarol, yn mhob lliw, ac yn holl ffurfiau y byd naturiol a dychymygol. Arglwyddiaethai ar bob teimlad yn y natur ddynol, a byddai dynion yn llai na phlant yn ei law. Cyffyrddai â'r gydwybod trwy bortreadu dychrynfeydd uffern mewn lliwiau dychrynllyd, nes y byddai pawb yn brudd, yn sobr, yn ofnus, a dychrynedig. Cyffyrddai eilwaith â'r serch hiadau, nes y byddai pawb yn ymdoddi, ac yn wylo fel plant, ada neu yn bloeddio cân a gorfoleddu yn ddiarbed. Taflai y bobl i chwerthin mewn moment trwy ryw ddesgrifiad bywiog a anw gwreiddiol; taflai hwynt y foment nesaf i ryw bangfeydd o Onde wylo; felly o deimlad i deimlad yr arweiniai hwynt, trwy mae olygfeydd newyddion a phrydferth, nes y byddai amser yn nt mys cael ei lwyr annghofio. Dywedir fod dynion wedi eu dwyn che i mewn i gylch y tylwyth teg, a dawnsio am bythefnos cyfan, a phan yn dychwelyd adref, yn meddwl mai rhyw le o gwmpas pum mynyd yr oeddynt wedi bod o gartref. Yr oedd gan dnt Christmas Evans ryw gylch tra swynol; ac unwaith yr âi dyn at i mewn, gallai fod yno dro; weithiau yn llefain, weithiau yn chwerthin ei oreu, weithiau yn neidio, weithiau yn llesmeirio, wed weithiau yn canu, weithiau yn dawnsio; ac yn y cwbl mor lith ddedwydd fel nad oedd cyfrif amser. Yr oedd y gallu annhraethol i gynyrchu y gwahanol deimladau hyn yn cael ei droi yn gwbl at wasanaeth yr efengyl; cysegrwyd y cwbl i'r weinidogaeth fawr, fel y bu yn allu er bendith i ganoedd a edi miloedd yn Nghymru. sion la fat y -dd ad dd cht Dyna Elias o Fon yn dyfod drosodd i'r Ynys o Sir Gaerdar narfon, pryd oedd y campau yn eu grym a'u gogoniant; yr eth ymladd ceiliogod a chŵn, gyrfaoedd ceffylau, a rhedegfeydd dynion, yn nghyda'r bando a'r bêl mewn bri ac anrhydedd mawr, a phawb yn rhedeg ar eu hol. Mae efe yn codi ei lais fel udgorn yn erbyn yr holl bethau hyn, nes oedd y cestyll yn crynu ger ei fron, ac yn dyfod yn ganddryll i'r llawr. Ei bregethu sydd yn tynu y wlad allan i'w wrando a'i ddylyn o gwmpas o fan i fan, gan adael y campau annuwiol. Nid oedd dim arall yn y byd fuasai yn cynyrchu y fath effeithiau, ac nid oedd dim pregethu allasai ei wneyd ond pregethu o'r fath hyny. Yr oedd y dyn mewn cymundeb a Duw yn ei weinidogaeth, a thrwy hyny yn dyfod i gymundeb â dynion; ac felly yn sefyll rhwng Duw a dynion yn siarad oddiwrth un at y llall. Yr oedd ei ddylanwad yn annhraethol, gan hyny; yr oedd Ysbryd Duw arno; ac yr oedd yn ddifrifol yn ei orchwyl; ei ddyben unigol oedd achub pechaduriaid, a W [ocr errors][ocr errors] 1 chodi Iesu Grist i fri ac anrhydedd yn meddyliau dynion. Yr oedd gweinidogaeth fel hyn, ag oedd yn llosgi fel tân yn enaid y gweinidog, yn rhwym o losgi yn nghydwybodau y gwrandawyr hefyd. Byddai llawer yn darllen pregethau yn yr amser hwnw bob Sabbath yn gyson, a phregethau digon iachus hefyd fe ddichon; ond pawb yn meddwi, yn chwareu pêl, yn rhedeg ceffylau, ac yn byw yn annuwiol, yn ddirwystr. Ond byddai gweinidogaeth aruthrol Elias yn tynu teyrnas Satan yn ganddryll i'r llawr; yr oedd yn anmhosibl byw yn ei swn hi, a byw yn ddigywilydd mewn pechod. Yr oedd un o wyl-mabsantau penaf y wlad yn Llanbedr ar fynydd, yn Sir Forganwg; bu am oesau yn cynyddu fwyfwy, nes ydoedd yn dipyn o bob peth-yn ffair, yn farchnad, yn siopau, a thafarndai. Byddent ar ddydd Sul y mabsant yn llanw y mynydd, a masnach y crymanau, y bladuriau, y cwrw, y dawnsio, yn nghyda phob rhialtwch yn myned yn y blaen yn hwylus. Yr oedd nid yn unig yr holl fynydd, ond yr holl wlad hefyd yn meddiant y cythraul. Yr oedd darllen pregethau bob dydd Sul yn yr amser hwnw; ond nid oedd yn effeithio dim ar y mabsant, na neb yn amcanu gwneyd hyny ychwaith, am ddim a wyddom ni. Yn yr amser annuwiol hyn, pan yr oedd Satan yn teyrnasu yn ddirwystr, daeth dyn ieuanc yn offeiriad i Langan, yr hwn oedd o dan eneiniad Ysbryd Duw, ac wedi ei wisgo yn brydferth â chymhwysderau gweinidogaethol; y mae efe yn dechreu codi ei lais yn erbyn llygredigaethau yr oes, ac fe glywir y llais hwnw yn treiddio i galon lygredig yr oes. Ei weinidogaeth sydd yn dyfod i gyffyrddiad â chydwybodau y werin; y maent yn sefyll yn sydyn, ac yn ymwrando. Yr eglwys sydd yn llanw o wrandawyr; ac yn fuan gwelir ef yn myned allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, i'w cymhell i ddyfod at Iesu Grist. Ar Sul gwyl mabsant Llanbedr, penderfyna i fyned yno i bregethu i ganol y campau, i ben y mynydd. Yr oedd yn gryn anturiaeth; ond waeth beth a fo, bydd y dynion ag y mae Ysbryd Duw arnynt yn teimlo eu hunain y peth nesaf at fod yn hollalluog pan yn ymroddi i'w wasanaethu ef, o dan deimlad o gydwybodolrwydd, a pherffeithrwydd dybenion. Beth bynag, i ben y mynydd yr aeth, a safodd yn eu canol ar gareg fawr ag oedd yn dygwydd bod yno, yr hon oedd yn ateb y pwrpas i'r dim; ac atebodd y pwrpas am flynyddau wed'yn, oblegyd efe a gyrchai yno ar Sul gwyl mabsant yn gyson hyd y parhaodd. Cafodd y gareg yr enw anrhydeddus, "Pwlpud Jones, Llangan." Oddiar y gareg hon y dechreuodd bregethu i'r dorf annuwiol hyn, yn nghanol gwawd, chwerthin, tafod drwg, ac ymddygiadau anweddus miloedd. Yr oedd y pregethwr yn teimlo ei hun yn gryf ac yn ddedwydd, serch hyny; a byddai ei ddull serchog, a'i floeddiadau tyner a melusber, yn mynu gwrandawiad, er gwaethaf penderfyniadau calonau llygredig. Yn mhen ychydig, enillodd pregethu Jones y werin oddiwrth y campau; aeth y mabsant lai-lai, a'r gwrandawyr fwyfwy, nes i'r mabsant ddarfod yn llwyr, a throwyd hi yn gwrdd pregethu. Dyna ddyn wedi ei wneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl; a phwy all ddatgan byth werth un dyn felly mewn gwlad? canys nid yn unig y mae yn werth yn ei oes, ond y mae gwaith ei oes yn effeithio ac yn gweithredu ar oesoedd dyfodol, fe allai hyd ddiwedd y byd. Yr oedd hwn yn un o'r pregethwyr nad oes neb ond Duw yn gallu eu gwneyd; am hyny yr oedd efe trwy Dduw yn gallu gwneyd pethau anhygoel yn y weinidogaeth. Coffadwriaeth y diweddar Barch. John Jones, Talsarn, sydd yn awr yn newydd ar feddyliau miloedd, ac y maent yn cofio y gallu annhraethol oedd yn y dyn hwnw i bregethu yr efengyl. Yr oedd yn ddiffygiol mewn llawer o bethau ag sydd yn dda eu meddianu; ni chafodd fanteision addysg foreuol; yr oedd digon o ddynion bach yn gwybod mwy nag ef mewn gwybodaeth gyffredinol; ond dewch at dduwinyddiaeth, lle yr oedd ef yn canolbwyntio ei feddwl, yr oedd yn gyf. rifol, ïe, yn rhagori. A dewch at bregethu, ac yna yr ydych yn ymgolli mewn syndod. Gosodwch y dynion yna sydd yn gyfrifus mewn gwybodaeth o herwydd manteision boreuol yn ei ymyl gerllaw y pwlpud; hawyr! dyna rai pitw bach; nid yw deng mil o honynt yn werth un Jones, Talysarn. Nid llawer o'r fath y bydd y Nefoedd yn greu; un yn awr ac eilwaith sydd yn ymweled â'r ddaear; y maent fel ymweliadau angel, few and far between. Yr oedd natur a gras wedi gweinyddu eu doniau a'u rhagoriaethau yn afradus ar y dyn hwn, nes nad oedd yr un diffyg yn y golwg. Pa ddiffygion bynag allasai fod o herwydd anfanteision, yr oedd natur a gras wedi penderfynu eu cuddio yn llwyr, trwy roi helaethrwydd o'u doniau digymhar hwy. Yr ydym ni, beth bynag, yn dawel iawn yn ein meddyliau na fu gwell pregethwyr yn y byd erioed na phrif bregethwyr Cymru. Fe ddichon hefyd fod yn Nghymru rai mor saled ag sydd yn y byd; nid ydym yn amheu yn y mesur lleiaf; eithr nid am y rhai hyny yr ydym ni yn dywedyd. Yr oedd Whitfield yn ddyn mawr; hyny yw, yn bregethwr mawr; yr oedd llaw Duw arno, ac y mae yn ddigon tebyg na fu yn Lloegr erioed bregethwr y gallesid ei gystadlu ag ef, Yr oedd yn ardderchog, yn hyawdl, yn ddoniol, yn areithyddol. fel yr oedd hyd yn oed Garrick, a lluaws eraill yn yr un dosbarth, yn colli hunan-feddiant wrth ei wrando; yn codi yn sydyn ar eu traed yn anwybyddus iddynt eu hunain, ac yn dywedyd, "That is super-human." Wel, peth super-human, neu oruwch-ddynol, ydoedd hefyd. Yr oedd Whitfield yn ardderchog o ran cymhwysderau naturiol; ond pan y cymerai ei areithyddiaeth dân oddiwrth gariad Crist yn cymhell, a phan fflamiai hwnw i uchder nefoedd, nes tywyllu yr haul, gan losgi a goleuo i ddyfnder calon pechadur, yr oedd yno deimladau cymysgedig o edmygiad ac arswyd, nad oedd dim tebyg iddo o fewn y greadigaeth. Fe ddichon fod Garrick y chwareuyddwr, a rhai o'i gyfeillion, yn gymaint mewn doniau naturiol ag yntau; a gallasent wneyd pethau rhyfedd ar y teimladau dynol; eithr dynol oedd y cwbl; nid oedd dim super-human yn eu hareithyddiaeth hwynt. Ond dyna sydd yn ardderchog, nid yn unig fod olew natur yn llosgi yn fywiog ac yn glir, ond fod Ysbryd Duw yn tywallt olew gras a gweinidogaeth, nes fflamio deng mil uwch nag y gall fflamiau natur gyrhaedd. Y peth goruwch-ddynol yma sydd yn codi<noinclude><references/></noinclude> qs40b254mz9j6eo9907bnrkuwx0mss7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/43 104 84553 164330 2026-05-07T19:03:10Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "at Dduw i'r nefoedd. Yr ydym yn tueddu i feddwl, er holl ardderchawgrwydd a gallu Whitfield, pe buasai yn Gymro, a phregethu yn yr iaith oedd yn gymaint yn fwy cydnawsol a'i ysbryd tanllyd a'i fater na'r Saesoneg, y buasai yn uwch ac yn fwy gwresog nag ydoedd; ac y buasai yn llawn cymaint os nid yn fwy na'n pregethwyr goreu ni. Yr oedd ei ysgolheigdod mewn cysylltiad a natur yn beth mawr er mwyhau cylch ei ddefnyddioldeb, ac ychwaneg... 164330 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at Dduw i'r nefoedd. Yr ydym yn tueddu i feddwl, er holl ardderchawgrwydd a gallu Whitfield, pe buasai yn Gymro, a phregethu yn yr iaith oedd yn gymaint yn fwy cydnawsol a'i ysbryd tanllyd a'i fater na'r Saesoneg, y buasai yn uwch ac yn fwy gwresog nag ydoedd; ac y buasai yn llawn cymaint os nid yn fwy na'n pregethwyr goreu ni. Yr oedd ei ysgolheigdod mewn cysylltiad a natur yn beth mawr er mwyhau cylch ei ddefnyddioldeb, ac ychwanegu at ei ddylanwad; ond fel pregethwr yn unig nid oedd yn fwy, os cymaint, a'n rhai ni. Nid oes genym fwriad i fyned i mewn i gymeriadau yr enwogion a enwasom, ond yn unig gwneyd cyffyrddiad megys ag ymylon eu gwisgoedd, er mwyn esiamplau. Gobeithio ein bod trwy hyny wedi bod yn alluog i egluro rhyw gymaint ar bwne tywyll. Ein gorchwyl ni yn awr yw neillduo un o bregethwyr mawr Cymru, ac ymdrech goreu y gallom i gyfrif am nerth a mawredd hwnw. Wrth edrych gyda manylwch dros hanes Richard, Abergwaen, o'i febyd, a chanfod mor ychydig mewn cymhariaeth oedd ei fanteision, nis gellir lai na synu wrth ei gymhwysderau at y pwlpud a holl waith yr Arglwydd; ei rym aruthrol, ei dalentau annghyffredinol, ei ddoniau helaeth, a'i athrylith ryfeddol. Yn ddiau yr oedd y dyn hwn, yn mysg llawer eraill, yn un o wyrthiau ei oes. Barn gyffredinol pob gwlad yn Nghymru yw fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Nid ydym yn caru byth gwneyd dyn yn dduw, a myned i'w addoli; ac ni charem ddyweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf yn ei oes; byddai peth felly yn blentynaidd. Dywedyd yr ydym, ac y mae hyny yn sicr o fod yn wir, fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Mewn gwirionedd, yr oedd mor fawr fel nad oedd yn bosibl gwneyd dyn bach o hono. Nid ceisio bod yn fawr, cofiwch; bydd rhai felly yn bur aml yma a thraw ar hyd y greadigaeth yma; nid ydynt yn guddiedig chwaith rhag llygaid y craffus; ac yn wir, y maent yn gweithio eu hunain i'r amlwg o flaen pawb yn fuan; canys nid yw peth felly yn para yn hir byth. Un o'r pethau ydyw sydd "dros amser," eithr yn gwywo yn fuan; y troion cyntaf oedd y goreu. Gwelir pregethwyr mawr yn oychwyn, ac yn myned lai-lai bob tro. Ymddangosant fel pe baent wedi cychwyn oddiwrth y "gamp uchel," ac yn tynu cymaint ag y gallant tua'r isel. Y maent fel dynion yn rhedeg cymaint byth y gallant, ac wedi colli y pwynt. Fe ddichon y gall fod cryn lawer o ffolineb yn ngwahanol gylchoedd cymdeithas yn y byd yma; ond ar y cwbl nid mor ffoled ag y bydd llawer coegddyn yn lled-dybio; nid yw mor hawdd eu twyllo ag y mae efe wedi meddwl; bydd yn rhaid cael gwell peth at eu twyllo na'i ûs ef. Rhaid iddynt gael profion gweddol gryf cyn rhoi cydsyniad i honiadau dynion. Nid yw y cwbl ag y bydd pob quack yn roi ar y bill yn cael ei gredu gan y cyffredin. Os oes ambell un dwl yn credu y gall wella pob dolur ag sydd îs y nefoedd â'r un bilsen, nid yw pawb yn meddwl fel hyny; ond yn dra gwahanol. Ond pan y byddo ffeithiau digonol er profi, a phob peth mewn amser yn egluro gwirionedd unrhyw beth, a hyny yn naturiol a diorchest wedi enill ffydd a chrediniaeth ynddo, bydd yn anhawdd iawn dadwneyd hyny. Gwelwn fod cymdeithas yn wydn iawn i annghredu y peth y mae wedi ei gredu unwaith; rhaid cael pethau cryfion i droi hyny yn ol. Yr ydym yn meddwl fod Mr. Richard fel pregethwr wedi argyhoeddi Cymru yn llwyr a hollol ei fod yn bregethwr mawr; yr oedd y pwnc hwn wedi ei benderfynu yn meddwl y cyffredin, ac fel llawer o bethau o'r fath, wedi ei roi heibio yn dawel yn hen gist y pethau penderfynedig, nad oedd dim eisiau ail droi mwy yn eu cylch. Bydd pethau yn cael eu hamheu am dro, eu hail edrych, eu dadleu, a dynion yn methu cydweled am dymhor hir; y mae y rhai hyn, cyn cael eu cadw o dan ystyriaeth felly, heb eu penderfynu; ond unwaith y daw peth uwchlaw amheuaeth, penderfynir arno, troir ef y naill ochr i'r gist, ac yno yr erys, oddieithr i ryw beth annghyffredin gymeryd lle, fel y bydd yn rhaid chwilio yr hen bapyrau o'r newydd. Yr ydym yn meddwl nad oedd dim dadl mewn unrhyw gylch cymdeithasol am Mr. Richard fel pregethwr; byddai pawb yn ddiwahan yn ei ystyried yn bregethwr mawr; yr oedd hyny wedi ei benderfynu drwy gydsyniad cyffredinol, ac wedi ei droi i blith y papyrau annadleuol. Beth bynag yn y byd y buasai cenfigen, atgasrwydd, neu ryw beth arall yn dewis ddyweyd am dano, nid oeddent yn beiddio, ar berygl erledigaeth gyffredinol, i daflu cymaint ag awgrymiad allan nad oedd yn bregethwr mawr. Byddai pobl, o dan wahanol deimladau, yn dyweyd braidd pob peth am dano; dywedai rhai ei fod yn rhy chwerw, eraill ei fod yn rhy benstiff, yn rhy dra-arglwyddaidd, ac yn rhy Doriaidd, yn nghyda llawer o bethau eraill anhawdd i'w cofio a'u cyfrif; ond ni feiddient ddywedyd nad oedd yn bregethwr mawr. Nid ydym yn cofio, yn wir, yn mysg yr holl bethau a glywsom siarad am dano, i ni glywed neb yn ceisio dyweyd ei fod yn bregethwr bach. Buasai yn bosibl, fe ddichon, rhoi y byd i gredu y gallasai fod rhyw gymaint o wir yn y cyhuddiadau uchod; ond buasai yn anmhosibl cael ganddo i gredu un iot na thipyn, pe cyhuddid ef o fod yn bregethwr bach. Beth pe anturiai rhyw ffwl i ddyweyd nad oedd yn bregethwr mawr -mai pregethwr bach ydoedd, a dyn bach hefyd yn mhob ystyr; pa beth fyddai tynged hwnw? Pa beth a ddeuai o hono? I ba le yr elai am noddfa? I bwy y gadawai ei ogoniant? Pa gysgod fyddai o fewn y greadigaeth i'r penwan dwl? Tynai y coedydd tewfrig eu cysgod oddiwrtho, gan ei fygwth â gwyneb sarug; rhedai pob anifail rhagddo, a byddai cywilydd ar afresymoliaid daear ei arddel fel aelod o'r frawdoliaeth. I ba le, ynte, yr âi am gynorthwy? Nid oes yr un lle i gael; byddai pawb a phob peth mewn arfau angeuol uwchben hwn, ac yn gwaeddi yn groch, Os nad ydyw Richard yn bregethwr mawr, pwy ydyw, dywed? Pa fodd y gellir ei osod yn mhlith y pregethwyr bach? pa fodd yr ymddangosai yn y fan hono? A fyddai y fath le yn ei weddu? A fyddai efe yn gweddu y fath sefyllfa? "Clyw, y dyhiryn, y ti sydd yn fach, ac yn anfeidrol fach, cyn y gallesit ddyweyd y fath beth." Yn ddiddadl byddai yn berygl bywyd i ddyn ddyweyd y fath ffolineb a bod Mr. Richard yn bregethwr bach; ni wnai ddim ond codi gwaed cymdeithas i'w wyneb, a'i gyru yn wallgof mewn ffyrnigrwydd. Dyweyd y cyfryw beth hefyd fyddai y moddion effeithiolaf i ddyn wneyd ei hun yn fach yn ngolwg pawb. Rhaid yw cyfaddef ei fod yn bregethwr mawr; ei fod yn mhlith y rhai mwyaf ei oes, ac yn sefyll yn anrhydeddus yno hefyd. Do, do; fe ddarfu iddo guddio gwaeledd Cymanfa y Methodistiaid lawer gwaith; boed coffa da am dano. Nid yn unig yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr plaid, ond hefyd yn bregethwr mawr gwlad; nid oedd yn gyfyngedig i sect, canys pregethwr cenedl ydoedd. Mae pregethwyr mawr pleidiau i'w cael; nid ydynt yn codi mor fawr nes hollti holl rwymau cyfundebol, a throi allan yn ddynion cenedl. Bydd y bobl hyn yn ddefnyddiol yn eu cylch, a'u brodyr yn edrych i fyny atynt; eithr y mae tywod mân y cyfundeb yn ddeddf dragywyddol iddynt, ac yn dywedyd wrthynt, "Hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach." Yr oedd Richard yn tori dros y tywod oedd yn ffin cyfundebol, yn ymledu drwy holl gymdeithas, crefyddol ac annghrefyddol, bach a mawr, tlawd a chyfoethog-yn bregethwr cenedl, nid yn bregethwr sect. Byddai pob sect yn ei wrando ef, yn saint ac yn bechaduriaid; a phawb yn ddiwahan yn ei roi i lawr yn bregethwr mawr; canys nis gallent, er chwilio, gael un man arall i'w osod. Bydd dynion weithiau yn ffurfio rhyw fath o undeb, er ceisio myned yn fawr, amcanu twyllo y byd i gredu eu bod yn fawr; ond yn rhyw fodd, peth anhawdd iawn yw gwneyd dim yn fawr yn ngolwg y byd, os na fydd felly mewn gwirionedd. Bydd William yn canmol Dafydd, a Dafydd yn canmol William; er hyny oll nid yw y byd yn awchus i dderbyn eu tystiolaeth am eu gilydd. Y mae yn rhaid i William wrth dystiolaeth fwy na Dafydd, a Dafydd wrth dystiolaeth fwy na William, cyn y bydd yn debygol y derbynir y dystiolaeth. Yr ydym yn darllen am "dystiolaeth ynddo ei hun;" a digon tebyg fod. yn rhaid cael rhyw beth cyffelyb yn y mater hwn. Nid yw bod dynion yn cosi cefnau eu gilydd yn myned yn mhell bellach; rhaid cael rhyw beth fyddo yn cyrhaedd cydwybodau, ac yn gwneyd ei hun yn hysbys yno. Cyn bod yn wir fawr rhaid bod yn alluog i wneyd pethau mawrion; canys gweithredoedd sydd yn cyfiawnhau, ys dywed Iago. A phan y byddo yn gwneyd gweithredoedd mawrion, nid yw holl siarad y byd yn gallu gwneyd hwnw yn fach. Yr oedd Paul yn gwneyd ei hun yn "hysbys yn nghydwybodau dynion. Yr oedd Mr. Richard hefyd yn bregethwr mawr yn nghydwybodau y werin; yr oedd y cwestiwn wedi ei benderfynu a'i sefydlu mewn llys pwysig iawn, y llys uchaf ar y ddaear, y llys nad oes dim posibl ag apelio oddiwrtho ond at Farnwr pawb. Byddai yr afael ag oedd gan ei weinidogaeth ar y wlad yn cael ei egluro yn amlwg yn maint y cynulleidfaoedd a godai i'w gwrando. Byddai y wlad pan y delai drwyddi yn codi yn bur lwyr i'w wrando; ac yn gyffredin byddai rhyw les yn dylyn hyny. Yr oedd peth mwy yn Mr. Richard na gallu codi cynulleidfa wrth fyned unwaith neu ddwy drwy y wlad; yr oedd efe yn gallu eu cadw. Cadw rhyw beth wedi ei gael yw y prawf o fawredd, yn enwedig cadw y cynulleidfaoedd. Gwelwyd ambell un yn codi cynulleidfaoedd am dro, ond yn methu eu cadw, daethant o herwydd rhyw swn, eithr ni ddaethant wedi hyny; cawsant eu siomi, eu twyllo, a'u diflasu. "Unwaith am byth yn ddigon," meddent; ac ymaith a hwy, un i'w "faes, ac arall i'w fasnach;" ac yr oedd yn rhaid cael rhyw un heblaw efe i'w cyrchu oddiyno eilwaith. Eithr am Mr. Richard, nid codi cynulleidfaoedd i'w siomi wnaeth efe, ond i'w cadw. Cadwodd hwy nes i'w nerth ballu; a chadwodd hwy yn ddifyr hefyd. Bydd ambell un yn burion os bydd hwyl, ond yn druenus heb hyny; eithr am Mr. Richard, hwyl neu beidio, yr oedd yn ddigon galluog i ddysgu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi, a rhoi digon o foddlonrwydd i bawb am eu trafferth, fel, pan y deuai eilwaith, byddent yn ei ddysgwyl yn serchog, gan obeithio cael rhyw beth ganddo. Ië, "hwy a wrandawent arno, ac a ddysgwylient; dystawent wrth ei gynghor; a'i<noinclude><references/></noinclude> q31ef3q5z1qjnlnlkloh3nvf624yr0h Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/48 104 84554 164331 2026-05-07T19:04:06Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ymadrodd a ddyferai arnynt hwy. A hwy a ddysgwylient am dano fel am y gwlaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-wlaw." Gwell yw peidio udganu yn yr udgorn o flaen dynion, gadewch iddynt ganu eu hunain nes y byddo y bobl yn clywed, onide byddant yn sicr o gael eu siomi. Cenir udgorn o flaen ambell un nes y bydd yr holl wlad yn codi; ac erbyn y delo y pregethwr, dacw y bobl yn troi eu cefnau yn siomedig, ac yn gosod y pregethwr i l... 164331 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymadrodd a ddyferai arnynt hwy. A hwy a ddysgwylient am dano fel am y gwlaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-wlaw." Gwell yw peidio udganu yn yr udgorn o flaen dynion, gadewch iddynt ganu eu hunain nes y byddo y bobl yn clywed, onide byddant yn sicr o gael eu siomi. Cenir udgorn o flaen ambell un nes y bydd yr holl wlad yn codi; ac erbyn y delo y pregethwr, dacw y bobl yn troi eu cefnau yn siomedig, ac yn gosod y pregethwr i lawr yn mhlith yr allanolion. Pe codai un oddiwrth y meirw i geisio perswadio dynion fod rhyw un yn bregethwr mawr, ni chredant, oddieithr ei fod ef ei hun yn gallu gwneyd hyny yn ei weinidogaeth. Nid oedd eisiau un cymwynaswr i chwythu yn yr udgorn pan y deuai Mr. Richard; yr oedd yn llawn digon i ddyweyd yn araf a dystaw; byddai y bobl yn sicr o fod yno yn ei ddysgwyl. Yr oedd Shon o'r Scubor, hen bregethwr o ardal Llangeitho, wedi danfon cyhoeddiad drwy ryw wlad, a chlywodd fod y Parch. Ebenezer Morris yn myned y ffordd hono; dywedodd Shon wrth Mr. Morris, "Yr wyf yn clywed eich bod chwi yn myned trwy y wlad lle mae fy nghyhoeddiad i; er mwyn dyn, os dygwydd i chwi ei weled yn ymlusgo ar hyd ochr y cloddiau ar hyd y ffordd, gwnewch ei chwipio yn y blaen, canys yn lled anhwylus, fas-dygwydd y bydd yn trafaelu; am eich cyhoeddiad chwi, pe bai yn mhig y frân, y mae yn sicr o fyned. Peidiwch chwi a gofalu am eich cyhoeddiad eich hun; chwipiwch Shon o'r Scubor yn y blaen." Yr oedd llawer o wir yn ymadroddion yr hen Shon, ac yг oedd llawer o synwyr yn Shon, gan ei fod ef yn deall peth felly; canys mae llawer yn yr un sefyllfa a Shon, ond heb erioed wedi cael agoriad llygaid i weled hyny. Gellir dywedyd yr un fath am gyhoeddiad Mr. Richard ag oedd Shon yn dywedyd am yr eiddo Mr. Morris; byddai yn sicr o fyned yn gyflym, ac i'r pen draw; a chodai y wlad o unfryd calon ar ei ol. Fe allai fod cymaint a hyny o ddyweyd yn gystal ag ychwaneg, er mwyn dangos fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei ddydd. Bydd ambell bregethwr yn bregethwr mawr ei ddydd, ac yn addurn i'w oes, ond nis gellir dyweyd y buasai yn bregethwr mawr yr oes ddyfodol. Y mae ei fawredd, i fesur mawr iawn, i'w briodoli i anwybodaeth a thywyllwch yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ymddengys y buasai Mr. Richard yn bregethwr mawr mewn unrhyw oes: yr oedd y Nefoedd wedi ei ddonio mor fawr â chymhwysderau gweinidogaethol, fel nad allasai gymeryd lle bach yn un man, nac un amser. Buasai yn bregethwr mawr yn awr yn Nghymru yn mhlith pob enwad; ïe, gyda'r mwyaf sydd ar y maes; ac yn bregethwr mawr yn yr oes nesaf hefyd, a'r un ar ol hono. Yr oedd wedi ei greu i fod yn fawr; nis gallasai fod yn ddim ond yn fawr, ac nis gallasai neb ei wneyd yn fach, er gwneyd eu heithaf at hyny. Pe buasech yn cyfarfod ag ef heb ei adnabod, buasech yn meddwl mewn moment ei fod yn rhyw un allan o'r cyffredin, a buasech yn sicr o ymholi yn ei gylch. Yr oedd ei lygaid mawrion, prydferth, arwyddocaol, yn peri i chwi edrych, a throi yn ol i edrych wed'yn; a byddai y galon yn sicr o sibrwd yn ddystaw, "Nid yw hwnw yn rhyw un cyffredin." Pe buasai Sais yn ei weled yn rhyw fan, er heb glywed son am dano erioed, buasai hwnw yn sicr o holi yn union, "Who is that gentleman?" Yr oedd yn anmhosibl peidio, canys ymddangosai fel tywysog mewn llu yn mhob man; a byddai ei olwg dywysogaidd yn tynu sylw unrhyw ddyn, bydded ef yn Sais neu yn Gymro, neu yn rhyw genedl arall ag sydd dan y nef. Yr oedd pob awgrym, pob symudiad, pob gair, a phob ystum, yn cynorthwyo y meddwl mewn moment i ffurfio y penderfyniad ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Daeth Esgob Tyddewii'r penderfyniad hynar unwaith. Yr oedd cyfarfod offeiriadol, rhyw fath o ymweliad, pryd y cyfarfyddai yr esgob å holl offeiriaid ei esgobaeth, i'w cyfarch yn nghylch pethau perthynol i'w gweinidogaeth. Dygwyddodd Mr. Richard fod yn Nhyddewi ar y pryd, ac aeth i'r cyfarfod. Yr oedd yn barchus iawn o'r Eglwys Sefydledig; ni chlywid ef un amser yn siarad yn isel a dirmygus am dani fel y bydd llawer; ond yr oedd yn ddigon mawr i weled daioni yn yr Eglwys hono, ac yn y gwahanol enwadau Ymneillduol, ac hefyd i beidio edrych ar yr un o honynt wedi cyrhaedd perffeithrwydd. Yr ydym yn edmygu hyn ynddo yn fawr; ac y mae yn myned yn mhell iawn i brofi yr hyn y buom yn son er ys meityn-ei fod yn bregethwr ac yn ddyn mawr. Bydd ambell ddyn pitw bach yn dirmygu ac yn poeri ar bob peth nad yw o fewn terfynau y sect y mae efe gyda hi; bydd efe yn gweled anmherffeithrwydd yn mhob cyfundraeth grefyddol ond ei gyfundraeth Utopaidd ei hun; ac nid yn unig anmherffeithrwydd, ond cymaint o anmherffeithrwydd, fel nad ydyw yn ddichonadwy iddo ef gydnabod y gall eglwys i Dduw fodoli o gwbl yn y gyfundraeth hono. Druan! cylch bychan iawn yw yr un y bydd ei enaid ef yn troi ynddo: nid yw byth yn tori allan y tu hwnt i derfynau sect. Yr oedd Mr. Richard yn Fethodist, fel y dywedir; ar yr un pryd ni welodd berffeithrwydd erioed mewn Methodistiaeth; eithr gwelodd lawer o ddaioni yno, fe allai fwy nag yn un man arall, onide buasai yn myned wrth gwrs i'r man y gwelai fwyaf o ddaioni. Nid oedd yn Annibynwr, yn Fedyddiwr, yn Wesleyad, nac yn Eglwyswr; eto yr oedd yn gweled daioni mawr yn mhob un o honynt, a pharchai hwynt am eu bod yn gydweithwyr Duw. Chwi welwch ei fod yn ddigon mawr i gymeryd i mewn egwyddorion haelfrydig fel yna; ac yn sicr bydd dyn felly yn llawer dedwyddach mewn cymdeithas na rhyw grebychyn diras a disynwyr. Ond yr oeddym yn dyweyd, yn gymaint a bod Mr. Richard yn Nhyddewi yn amser y cyfarfod, aeth yno i wrando yr esgob. Yr esgob a edrychai arno yn aml iawn; nis gallasai er dim beidio edrych tuag ato, er na wyddai yn y byd pwy ydoedd. Eisteddai ryw gymaint naill ochr, mewn eisteddfa wrtho ei hun, yn syml a difrifol, gan dalu y parch dyledus i'r gwasanaeth. Yr oedd yr esgob da yn methu deall pwy a pheth allasai fod; ond nid oedd yn gweled un dyn o fewn yr eglwys gadeiriol gyffelyb iddo mewn mawredd. Sylwai y prelad dysgedig ar ei dalcen uchel a lluniaidd, ei wynebpryd llewaidd a phenderfynol, yn cynwys llinellau o foneddigeiddrwydd prydferth, yn nghyda'i lygaid eryraidd a threiddgar, nes y daeth i'r penderfyniad yn y pwlpud ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Sylwai y bobl fod llygaid yr esgob ar y bregeth ac ar wyneb Mr. Richard bob yn ail; yr oedd fel pe buasai yn darllen y ddau gyda difrifwch mawr. Aeth y cyfarfod heibio, a phawb yn dechreu ymwahanu, pryd y nesaodd yr esgob at ryw berson adnabyddus o'r wlad, a gofynodd, "Syr, a ellwch chwi ddyweyd wrthyf pwy oedd y gwr boneddig hwnw oedd yn eistedd naill ochr, a chap melfed ar ei ben?" Gwenodd yr offeiriad, a dywedodd, "Wel, fy arglwydd esgob, fel chwithau mae y gwr hwnw. Efe yw esgob y Methodistiaid Calfinaidd; mae efe, fel chwithau, wedi ordeinio llawer iawn at waith y weinidogaeth." "Wel," ebe yr esgob, "pwy bynag ydyw, y mae yn sicr o fod yn ddyn allan o'r cyffredin yn mhell; yr oedd mwy o fawredd i'w weled arno na neb ag oedd yn yr eglwys heddyw." Mewn gweinidogaeth yr eglurwyd y mawredd hyn; dyna'r gamlas trwy yr hon yr amcanodd y nefoedd egluro y talentau naturiol ac ysbrydol mawrion hyn. Yr oedd ei wisgo â chymaint o gymhwysderau gwreiddiol yn rhagbarotoad yn ddiau i'w alwedigaeth i fod yn bregethwr. Nid dygwydd yw galwad i bregethu yr efengyl; fel pe bai Ysbryd Duw yn neillduo rhyw un ar y pryd, a rhoi pob cymhwysder iddo ar unwaith, naturiol ac ysbrydol. Na, na; y mae y pregethwr mewn amcan gan y Creawdwr; ac y mae efe wrth ei lunio, a gwneyd gwaith Creawdwr arno, yn ei ddarpar ar gyfer y gwaith a fwriedir iddo ei wneuthur. Creadigaeth barod a chymhwys y bydd yr Ysbryd Glân yn ei chymeryd i wneyd gwaith ysbrydol arni, er ei chymhwyso yn llestr etholedig i ddal ac i gario trysorau gras i bechaduriaid. Dacw y Creawdwr yn estyn y llestr i'r Gwaredwr; y Gwaredwr yn ei estyn i'r Santeiddydd, a'r Santeiddydd yn ei lanw a doniau y nef, a'i estyn at fyd o bechaduriaid. Dyma y trysor mewn "llestr pridd, fel y byddo godidawgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni;" ac fel yr efengylid yn mhlith y Cenedloedd, "anchwiliadwy olud Crist." Nid ydym yn cofio gweled erioed fwy o gymhwysder naturiol i bregethu yr efengyl nag oedd yn Mr. Richard; yr oedd braidd pob peth ag y gallesid dymuno ynddo. Nid oedd un man ond y pwlpud yn ei weddu; ni edrychai yn dda yn un lle arall. Pe buasech yn ei roi mewn siop, ymddangosai yn chwithig yno; ni byddai y siop ac yntau yn gydnawsol, nac yn gydrywiog ychwaith, tebygem; byddent yn lled debyg i ieuo ých ac asyn yn nghyd i aredig. Rhyw siopwr lledchwith iawn a wnelai; ond dyna, y mae yn fwy na thebyg na fuasent yn gallu cydfyned yn hir gyda'u gilydd; byddai yr asyn yn cicio yr ŷch, neu yr ŷch yn cornio yr asyn beunydd, nes y lladdai un y llall, a diane o un o honynt o gaethiwed. Pe baech yn meddwl am ei roi yn dafarnwr, gwaeth byth fyddai; ni wnaech dafarnwr yn oes oesoedd o hono, canys nid oedd ynddo weniaith; ni wyddai pa beth oedd hyny; ac yr oedd yn ei chasâu cymaint nes oedd yn tynu yn mhell at y terfynau i'r ochr arall. Ac y mae yn fwy na thebyg y byddai wrth y bobl o hyd yn nghylch yfed gormod, ac nid eu cymhell yn y blaen, gan ddangos mewn iaith ac ymarweddiad nad oes dim yn ein byd ni sydd gyffelyb i gwrw mewn rhinwedd. Ond ni raid myned y ffordd yna, canys ni chrewyd ef erioed at fod yn dafarnwr; nis gellid gwneyd tafarnwr o hono. Y mae yn debyg, fel y gwelir yn y Bywgraffiad, iddo feddwl am fod yn ffermwr; ond rhyw ffermwr afler, digwmpas, difedr i'r pen ydoedd. Bu yn ffermu, eithr yn hytrach yn ymdrybaeddu, nes iddo bron myned dros ei ben a'i glustiau i'r "pridd tew a'r clai tomlyd." Nid oedd efe yn edrych yn dda yn un man ond yn y pwlpud; yr oedd fel tywysog yno; canys at hyny yn ddiau y neillduwyd ef o groth ei fam, ac y galwyd ef drwy ras. Pan y bydd pethau yn eu lle priodol, ymddangosant yn brydferth a hawddgar; eithr unwaith yr ant allan o'u lleoedd priodol, nid oes na phryd na thegwch ynddynt. Pan elo menyw yn wrywaidd, a chymeryd lle gwryw, neu wryw yn fenywaidd, a chymeryd lle menyw, у maent yn anmhrydferth ac yn annefnyddiol; ond pan y bydd pob un o honynt yn troi yn eu lle, yn eu cylchoedd cym<noinclude><references/></noinclude> hjhe39bmd3v1lrm12x9aj4l8ewyihph Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/53 104 84555 164332 2026-05-07T19:06:11Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "deithasol a phriodol, y maent yn brydferth, yn hardd, ac yn ddefnyddiol. Felly nid ydym yn meddwl fod yr un lle yn nghreadigaeth Duw y buasai Mr. Richard yn ymddangos yn brydferth ynddo ond y pwlpud. Yma yr oedd gartref; ac yma yr oedd pawb yn foddlon iddo gael bod; ac oni bai eu bod yn ofni temtio Duw, buasent yn gweddio am iddo gael bod yno dros ddyddiau y ddaear. Ond yn gymaint ag mai llestr pridd ydoedd fel ei holl frodyr, rhaid... 164332 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>deithasol a phriodol, y maent yn brydferth, yn hardd, ac yn ddefnyddiol. Felly nid ydym yn meddwl fod yr un lle yn nghreadigaeth Duw y buasai Mr. Richard yn ymddangos yn brydferth ynddo ond y pwlpud. Yma yr oedd gartref; ac yma yr oedd pawb yn foddlon iddo gael bod; ac oni bai eu bod yn ofni temtio Duw, buasent yn gweddio am iddo gael bod yno dros ddyddiau y ddaear. Ond yn gymaint ag mai llestr pridd ydoedd fel ei holl frodyr, rhaid oedd iddo fyned o dan yr un dynged-cael ei ddryllio gan angau, a myned i'r briddell i orwedd. Eto o drugaredd nid yw y trysor oedd ynddo yn myned- yno; y mae hwnw yn cael ei osod mewn rhyw lestr darparedig arall; rhaid i'r weinidogaeth aros yn elfen anfarwol ar y ddaear hyd ddiwedd y byd, mewn llestri newyddion o genedlaeth i genedlaeth. Cynwysiad. PENOD Í. Dyddiau boreuol Mr. Richard-ei argyhoeddiad a'i ddygiad i wybodaeth y gwirionedd PENOD II. Dychweliad Mr. Richard at grefydd PENOD III. Tu dal. 1 10 Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol PENOD IV. cysylltiad â'r amgylchiadau hyn Claddu ei dad-ei ordeiniad-claddu ei fam, a'i deimladau mewn PENOD V. Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig-yn ei chael, ac yn priodi PENOD VI. 23 83 94 Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol yn y blynyddau hyny 104 [merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors] [blocks in formation] Cyfamodau Mr. Richard & Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd PENOD XIV. Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c. 176 189 PENOD XV. Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr. 196 PENOD XVI. Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio-cyflwyno Tysteh iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth-ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw PENOD XVII. Ychydig o ymadroddion annghysylltiol ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas. 202 209 , PENOD XVIII. Penod arall i bawb 219 PENOD XIX. Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith-ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas 230 PENOD Xx. Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth-ei areithiau dirwestol. 244 PENOD XXI. Llafur Mr. Richard gyda'r Ysgol Sabbathol. 252 PENOD XXII. Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddo-Coleg Trefecca. 257 PENOD XXIII. Cwynfan glanau yr Iorddonen, yn cynwys ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono 262 PENOD XXIV. Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu-marwolaeth Mrs. Richard 270 PENOD XXV. Mr. Richard yn cael ei adael mewn unigolrwydd-pryderwch rhosydd Moab. [blocks in formation] BYWGRAFFIAD Y PARCH. T. RICHARD. PENOD I. Dyddiau boreuol Mr. Richard-Ei argyhoeddiad, a'i ddygiad i wybod aeth y gwirionedd. Y MAE Duw mewn dystawrwydd dwfn ac anweledig yn fynych yn cario gwaith mawr yn y blaen, neu ynte yn darparu at waith mawr, yr hyn sydd yn gyfystyr, yn nghanol twrf a therfysg y byd a'i amgylchiadau. Pan y bydd dynion yn fynych yn gweled dim ond gwae a dinystr, fe allai y pryd hwnw y bydd Duw yn cario yn y blaen y pethau mwyaf gogoneddus er helaethiad a lles ei deyrnas yn y byd"pethau i'w datguddio ar ol hyn." Bydd y datguddiad yn esboniad ar filoedd o ddirgeledigaethau blaenorol. Gwelir fod cynddaredd dyn yn troi yn fawl, a theimladau drwg a melldigedig y rhai oedd yn bygwth llyncu y ddaear a'i thrigolion, yn ymdoddi i "ganiadau ymwared." Yr oedd Duw yn gwneyd rhyw beth gyda'r deml yn nghanol yr amseroedd mwyaf blin, a hyny yn dyfod i eglurdeb gogoneddus yn y dyfodol. "Gwybydd, gan hyny, a deall y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerusalem, hyd y Blaenor Messiah, saith wythnos, a dwy wythnos a thriugain; yr heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewn amseroedd blinion. Ac wedi dwy wythnos a thriugain y lleddir y Messiah, ond nid o'i achos ei hun; a phobl y tywysog, yr hwn a ddaw a ddinystria y ddinas a'r cysegr; a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinystr annhraethol; ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn haner yr wythnos y gwna efe i'r aberth a'r bwyd-offrwm beidio, a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y dyben terfynedig ar yr anrheithiedig." Ni a welwn wrth yr ymadroddion uchod fod terfysg, chwyldroadau, a phethau ofnadwy yn cymeryd lle yn llywodraethau y byd; eithr yn nghanol y cwbl yr oedd y llywodraeth ddwyfol yn darparu y byd trwy hyn i dderbyn rhodd anfeidrol yn nyfodiad y Messiah. Y mae yr heol a'r mur yn cael eu hadeiladu, er fod yr "amseroedd yn flinion." Tra y B bydd breninoedd y ddaear yn ymderfysgu, yn bygwth, ac yn ymladd â'u gilydd am eangu eu llywodraethau, bydd Duw yn ddigynhwrf ac yn anweledig ar y pryd yn rhoddi y llywodraeth i'w saint. "Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y freniniaeth, ac a feddianant y freniniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd." Yn nghanol terfysg y cenedloedd a meddyliau ofer y bobloedd, pan oedd cymdeithas yn siglo drwyddi, a dirmyg ar grefydd wedi codi yn uchel, yr oedd y Bod Goruchaf y pryd hwnw yn sefydlu gorsedd Immanuel, gan osod ei Frenin ar Sion, ei fynydd santaidd. Yn yr amser y ganwyd Napoleon Bonaparte, a thra yr oedd yn ymddarparu, yn Brienne a Paris, gogyfer a bywyd cyhoeddus, ac yn codi i fyny fel arch-derfysgwr y byd, nes oedd pawb yn crynu yn eu cartrefleoedd, yr oedd hefyd bregethwr gwladaidd a diymhongar, ar lan môr St. Sior, yn Sir Benfro, yr hwn a adnabyddid yn y gymydogaeth yr oedd yn byw wrth yr enw Henry Richard. Pan yr oedd enw Napoleon yn berwi y byd, wedi myned yn air teuluaidd, ac yn arswyd hefyd ar bob aelwyd, nid oedd nemawr son am Henry Richard, ond yn unig ei fod yn cynghori pechaduriaid yn awr ac cilwaith, ac yn pregethu tangnefedd trwy waed y groes. Yn nghanol holl derfysg rhyfelgar y byd, cyhoeddi heddwch ac ewyllys da Duw i ddynion a wnai Henry Richard, yn ol hyd ei ddawn. Yr oedd yn un o gynghorwyr cyntaf y diwygiad Methodistaidd o dan Rowlands; Jones, Llangan; Williams, Pantycelyn, a'r offeiriaid eraill ag oedd mewn cysylltiad â hwy. Nid oedd yn bregethwr mawr; bychan mewn cymhariaeth oedd ei ddawn; ac nid oedd ei wybodaeth ychwaith yn rhyw eang iawn. Nid oedd yn ddoniol, eithr yn lled sylweddol; nid oedd yn ehedeg yn uchel, ond yn hynod o fuddiol; nid oedd yn boblogaidd, ac eto yn lled gymeradwy. Ymddengys mai pregethwr bach yr ystyrid Henry Richard, ond ei fod yn Gristion go fawr; neu ynte, fel y bydd rhai yn dewis dyweyd, "yr oedd yn un bach ffyddlon." "Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Canmolai ei weithredoedd ef yn ddirfawr yn mhob man, canys yr oedd yn ofni yr Arglwydd yn sicr, ac yn ei wasanaethu mewn gwirionedd. Trigianai mewn amaethdŷ bychan, isel a gwylaidd ei ymddangosiad, mewn pentref bychan heb fod yn rhyw enwog yn y byd am ei balasau a'i dyrau. Na, safai y pentref gwladaidd yn nghanol creigiau llwydion, yn agos i'r mor, yr hwn odditano sydd yn rhuo, yn curo yr hen greigydd, ac yn ymddangos fel yn benderfynol i lyncu y cwbl iddo ei hun. Er hyn oll, dyna lle y mae yr hen bentref byth, ac yntau, y môr gerwyn, yn ymddangos yn yr un dymher gynddeiriog ag yn nyddiau y tadau. Y pentref hwn sydd yn eistedd yn dawel a llonydd, ac yn hollol ddigyffro ar y graig uwchben y weilgi; ac ymddengys fel pe bai yn trigo mewn perffaith ddyogelwch heb ofni niwed. Yn rhywle tua chanol y pentref y mae amaethdy Henry Richard, hen bregethwr y Methodistiaid Calfinaidd. Amaethwr a phregethwr, neu bregethwr ac amaethwr, nid gwaeth pa un, ydoedd Henry Richard. Nid oedd neb yn y dyddiau hyny yn gallu gwneyd allan beth oedd pregethwr, heb ei fod yn rhyw beth arall. Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynid i bregethwr yn y dyddiau hyny, ac wedi hyny hefyd, oedd, Dyn o ba alwad ydych chwi? A oes gwraig gyda chwi? A oes plant? pa sawl un? Ond i ragflaenu cwestiynau felly, yr ydym yn dyweyd mai amaethwr a phregethwr oedd Henry Richard; a bod gwraig ganddo; dwy, yn wir, dan gofio; ond cofied y darllenydd mai nid yr un pryd; wedi claddu un y cymerodd y llall. Bu yn ffortunus iawn, y mae yn debyg, yn ei wragedd; cafodd gysuron lawer mewn cysylltiad â'r ddwy. Yr oeddent ill dwy yn dda. Yr oedd hyny yn beth digon rhyfedd hefyd, canys y mae cael un dda yn gryn gamp, ac yn beth ag y mae llawer wedi methu; eithr cafodd Henry Richard ddwy wraig, a dwy dda. Ymddengys fod iddo blant o'r ddwy,-dau fab o'r cyntaf, a dau fab a merch o'r ddiweddaf; ac y mae gwrthddrych ein Cofiant ni yn awr yn un o'r meibion o'r ddiweddaf, sef y diweddar Barch. THOMAS RICHARD, Abergwaen. Y mae yn debyg fod Hannah, gwraig Henry Richard, a mam y Parchn. Ebenezer a Thomas Richard, yn wraig tra hynod o ran synwyr a duwioldeb, fel yr ymddengys yn eglur wrth ddyddlyfr gwrthddrych ein Cofiant, yr hwn a roddwn ger bron ein darllenwyr yn fuan. Pan oedd holl Ewrop yn berwi fel crochan, a phan oedd Napoleon eto yn laslanc o goleg i goleg, heb ymddadblygu fel rhyfelwr mawr, y Duc Wellington heb ddechreu eillio ei farf eto, a'r crochan heb ferwi yn hollol drosto, yn y pentref gwladaidd a dystaw, ganwyd dyn bach ar y 5ed o Ragfyr, 1781; a galwyd ei enw EBENEZER. Y mae yn ddigon tebyg fod y trugareddau a'r gwaredigaethau dwyfol a dderbyniwyd gan Henry a Hannah yn yr amgylchiad hwn yn gystal ag<noinclude><references/></noinclude> jv8ii9xjpr3pfrexp7hhk7tnsic0e1f Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/58 104 84556 164333 2026-05-07T19:07:00Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "amgylchiadau eraill, wedi peri iddynt feddwl am godi maen coffadwriaethol yn y bachgen hwn, gan ei enwi yn Ebenezer ; neu "hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd ni." Aeth y teulu duwiol yn y blaen gyda'u galwedigaethau, gan "ddiolch i Dduw a chymeryd cysur," a chan ymddiried eu cwbl i ragluniaeth ddwyfol. Yr oedd Henry Richard yn pregethu yn ffyddlon efengyl rad, ac yn byw wrth ei orchwylion amaethyddol. Aeth hen amser yn y blaen yn debyg... 164333 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amgylchiadau eraill, wedi peri iddynt feddwl am godi maen coffadwriaethol yn y bachgen hwn, gan ei enwi yn Ebenezer ; neu "hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd ni." Aeth y teulu duwiol yn y blaen gyda'u galwedigaethau, gan "ddiolch i Dduw a chymeryd cysur," a chan ymddiried eu cwbl i ragluniaeth ddwyfol. Yr oedd Henry Richard yn pregethu yn ffyddlon efengyl rad, ac yn byw wrth ei orchwylion amaethyddol. Aeth hen amser yn y blaen yn debyg i'w arfer, gan droi llawer o bethau at yr hen, a dyfod â llawer o bethau newyddion i'r golwg. Yr oedd swn rhyfel yn y pellder; ond yr oedd pentref Trefin yn sefyll yn wylaidd ar y graig uwch ben y weilgi, fel pe na buasai yr un ystorm i fod, na dim dryc-hin yn môn y gwynt. Yr oedd y môr yn rhuo ac yn terfysgu islaw; ond yn gymaint mai felly yr ydoedd yn arfer, nid oedd neb yn cyffro, mwy na phe buasai maban yn cael ei ysgwyd yn ei gryd. Byddai Henry Richard yn pregethu tangnefedd i ddynion, ac yn amaethyddu yn ddiddig, a Hannah y wraig yn bob cysur a chynorthwy iddo gyda'r ddau orchwyl. Tra yr oedd pob peth yn myned yn y blaen fel hyn yn dra llyfn, y mae Hannah yn anrhydeddu Henry Richard a'r byd â mab eto; a galwyd ei enw ef THOMAS, yr hwn yw gwrthddrych y llyfr hwn. Chwefror yr 1leg, 1783, y cafodd y byd yr anrhydedd o weled gwyneb Thomas Richard; ac ar y 3ydd o Ionawr, 1856, у cafodd y nefoedd y pleser o weled ei enaid anfarwol yn dyfod i mewn yno, i gyduno â'r dyrfa sydd "wedi golchi eu gynau, a'u cànu yn ngwaed yr Oen." Ganwyd merch ar ol hyn, a galwyd ei henw yn Mary; a throdd hon allan yn wir grefyddol, ac yn addurn i achos Iesu yn ei holl ymarweddiad. Yn fuan gwelwyd Eben a Tommy yn hogiau bychain yn chwareu ar hyd greigydd Trefin, yn casglu cregin ar lan y môr, gan neidio a llamu fel ŵyn defaid. Yr oeddent fel un enaid, yn frodyr yn wir, er yn wahanol iawn eu tymherau naturiol. Yr oedd y bachgen Ebenezer yn fwy llwfr, llariaidd, gwarog, a gwar-ffals; ac felly yn fwy araf ei symudiadau. Yr oedd Tommy, o'r tu arall, yn wyllt, yn gyflym, yn anwyliadwrus, yn dyweyd y peth casaf yn gyntaf, ac yn myned i dymher ddrwg mewn moment; ac mewn tymher dda y foment nesaf eilwaith. Dan redeg i'r ysgol gyda'u gilydd, a chwareu o fryn i fryn, ac o dwyn i dwyn, y daethant yn fuan yn hogiau cryfion. Pwnc mawr y dydd erbyn hyny oedd Napoleon a'r rhyfeloedd, yn nghyda'r arswyd oedd ar bawb rhag iddynt dirio yn ein gwlad. Hwn oedd testun siarad pob aelwyd y dyddiau hyny, a hyn, wrth gwrs, oedd y prif bwne yn mysg y plant. Os byddai ychydig o longau yn dygwydd tramwy llwybrau y moroedd gyda'u gilydd heibio glanau Sir Benfro, byddai hen ac ieuainc yn edrych, yn hylldremu, os nid yn ymholi yn bruddaidd, "Beth ydyw y rhai acw?" Felly yr oeddent o ddydd i ddydd, nes o'r diwedd galedi o honynt, ac aethant braidd i feddwl fod y Ffrancod wedi myned o'r byd, a bod y peryglon drosodd. "Pan y dywedant, Tangnefedd a dyogelwch," yn fynych "y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf." a Hawyr! ar yr eilfed ar ugain o Chwefror, yn y flwyddyn 1797, canfyddwyd llynges fechan y Ffrancod ar fôr-gyffiniau Sir Benfro. Y mae yr holl wlad mewn cyffro, gwryw a benyw, hen wŷr a gwragedd, bechgyn a merched, oll yn wylltion yn rhedeg yma ac acw, gan waeddi yn groch, "O dear anwyl, dyma'r French yn dyfod." Byddai cynyg rhoi desgrifiad o'r cyffroad aruthrol o dan y fath amgylchiad hyn, yn sicr o droi yn fethiant cywilyddus. Yr oedd y gwylltineb, y rhedeg yma a thraw, ysgrechfeydd y benywod, Ilefain y plant, a baldorddiad y gwrywiaid, yn profi yn eglur fod y wlad yn nghynhyrfiad y foment wedi ei tharo â gorphwylldra. Yr oedd pawb yn siarad, a neb yn gwybod beth i wneyd. Beth bynag, oddiar arfordir Sir Benfro edrychai miloedd o lygaid ar y llynges Ffrengig yn nofio yn araf gyda'r glanau, ac yn dyfod heibio Dinas Dewi, gogyfer Trefin, yr hwn le oedd ryw beth o gwmpas haner y ffordd o'r Ddinas i Abergwaen. Yn mhlith y lluaws eraill o edrychwyr, yr oedd Tommy Richard, y pryd hwnw yn llanc o gwmpas pedair ar ddeg oed. Agorai ei lygaid mawrion mewn syndod, a gwelai long fechan Brydeinig, cutter, yr hon a wasanaethai y custom house, yn ddiarwybod yn dyfod i gyfarfod y llynges Ffrengig. Penderfynodd gwŷr y cutter ymladd pe ymosodid arni; a gwnaethant bob darpariaeth, trwy roi eu drylliau mewn trefn, yr hyn pan welodd y Ffrancod, aethant heibio, rhag, y mae yn bosibl, aflonyddu y wlad, fel y gallent dirio yn fwy dyogel. Aeth y llongau Ffrengig yn y blaen, angorasant ar gyfer Llanwnda, yn agos i Abergwaen, a thiriodd pedwar cant ar ddeg a dwy fenyw, ac ymaith yr aeth y llongau a'u dygasant yn ol i'w gwlad. Wedi gwneyd peth ystranciau a cholledion, daeth milwyr i'r dref, a gosodasant eu harfau i lawr ar draeth Wdig, ddydd Gwener, Chwefror 24ain. Cyfar fyddasom å Mr. Richard yn Wdig ychydig o flynyddoedd cyn ei farwolaeth, a bu yn adrodd yr helynt hyn wrthym yn bur ddoniol. Gwnaeth ei frawd, Ebenezer Richard, gân o ddiolchgarwch ar yr achlysur, yr hon, er nad oes ynddi ddim sydd yn teilyngu yr enw o farddoniaeth, sydd yn ddangoseg o dalent, yn enwedig crefydd, bachgen syw oedd ar y pryd rhwng 15 ac 16 oed. Yr oedd Mr. Jones, Llangan, wedi priodi boneddiges yn Sir Benfro, ac yn byw yno yn yr amser hyn, mewn lle a elwir Maenorowen, yn agos i draeth Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr. Buont o gwmpas tŷ Maenorowen, ond cyfryngodd trugaredd ddwyfol, fel na wnaethant nemawr o niwed. Yn ganlyniad i hyn cadwyd cyfarfod ar draeth Wdig, yn goffadwriaethol am y waredigaeth, yr hwn a barhaodd yn gyfarfod blynyddol am amser maith. Pregethwyd yn y cyfarfod cyntaf gan Mr. Jones, Llangan, y pryd hyn o Maenorowen, a Mr. Griffiths, Nevern. Gellir gweled y pwlpud a wnawd at y cyfarfod hwn yn awr yn Abergwaen, a gobeithiwn y gofelir am dano o oes i oes, o herwydd ei gysylltiadau hanesyddol. Trwy yr amser terfysglyd hyn ar lanau môr Sir Benfro, y cyfaneddai yn mhentref Trefin ddau fachgen bach syml a disylw gyda'u tad a'u mam, y rhai wedi hyn a ysgydwasant Gymru trwy ddylanwad daionus, yn fwy nag y gallasai y Ffrancod ei hysgwyd trwy ddrygioni ac arfau angeuol. Cynhyrfwyd un o honynt i ganu am y waredigaeth goreu y gallai; ond am y llall trigodd mewn dystawrwydd anadnabyddus. Nid oedd neb yn gwybod dim am dano, ond yn unig o fewn cylch bychan ei g gymydogaeth ei hun am flynyddau wedi hyn. Yr ydym wedi cyffwrdd â rhai pethau, yn enwedig dyfodiad Mr. Jones, Llangan, i fyw i Maenorowen cyn amser tiriad y Ffrancod, yn gymaint ag y bydd Mr. Richard yn dyfod i gyffyrddiad â'r pethau hyny eto yn ei fywyd mwy cyhoeddus. Aeth helynt y Ffrancod heibio, ac yr ydym yn cael Henry Richard, yr hen bregethwr duwiol, yn myned yn y blaen yn ddystaw a'i waith yn ngwinllan yr Arglwydd Iesu, gan wneyd ei oreu i lesoli ei gydgenedl, ac yn amaethyddu bob yn ail, gan wneyd ei oreu i gynal ei deulu. Ni adawyd yr hen bregethwr wrtho ei hun gyda'r gorchwylion hyny, canys yr oedd ganddo gydmar, bron heb ei hail, er ei gynorthwyo i fyw yn dduwiol, i bregethu, ac i drin y byd. Ymddengys mai benyw hynod dros ben oedd Hannah Richard. Y mae efe ei hun yn cyfeirio at ei fam yn ei ddyddlyfr, gyda pharch mawr iawn; ac yn priodoli ei argraffiadau boreuol iddi, ac yn dywedyd, "Nid ant byth o'm cof." Yr oedd Hannah Richard mewn rhyw bethau fel Hannah yr Iuddewes, yn enwedig yn nghyflwyniad ei bechgyn i Dduw holl ddyddiau eu heinioes. Bydd rhai yn meddwl fod rhagluniaeth ddwyfol yn aml, pan y bydd ganddi ryw waith mawr i ddyn wneyd, yn gofalu am fam gymhwys i gynorthwyo i'w gaboli. Y mae rhyw beth yn hyn, yn sicr, heblaw dychymyg. Y mae gyda'r plant yn wastad; ac heblaw hyny, y mae rhyw beth toddedig, cariadus, hynaws, yn nhymher benyw dda, nes gwneyd calonau a theimladau y plant yn dyner, nes y mae yn gallu rhoi yr argraff arnynt na annghofir byth. Yr argraff hyny a wneir mewn cariad pur sydd yn anmhosibl ei dileu; y mae wedi myned yn rhan o ddyn ei hunan; rhaid dinystrio ei fod cyn y gellir dyddimu yr argraff. Gosododd Hannah Richard argraff annileadwy ar feddwl ei mab; yr oedd yn ei gof a'i deimlad hyd ddydd ei ymddatodiad. Byddai ei gofal am ei phlant yn angerddol; cynghorai hwynt å dagrau yn aml, a gweddiai yn ddibaid drostynt, yn ddirgel a chyhoeddus, canys bob amser pan na byddai Henry Richard gartref, byddai Hannah Richard yn ymgymeryd â'r offeiriadaeth, ac yn offrymu moliant i Dduw drosti ei hun a'r teulu. Yn yr amgylchiadau hyn clywid hi yn gweddio dros y plant gyda thaerni rhyfeddol; ïe, gweddio yn y fath fodd nes ylgadawyd argraff ar eu meddyliau byth mai gweddiau gwirioneddol oeddynt, ac i'r Nefoedd eu hateb yn eu hachubiaeth, ac yn y defnyddiad rhyfeddol wnawd o honynt mewn cysylltiad å gwaith yr Arglwydd mewn blynyddoedd dyfodol. Ymdrechodd yn rhyfeddol gyda Tommy i'w gael i'r cyfarfodydd, canys yr oedd pan yn fachgenyn yn mhell o fod yn dduwiol. Wylodd lawer, eb efe, uwch ei ben, gan ei gynghori, a dymuno arno gyda dagrau i ddyfod gyda hi i'r cwrdd; cafodd hyn argraff annhraethol ar ei feddwl, ac arosodd gydag ef am ei oes. Y mae yn amlwg, oddiwrth ei ysgrifeniadau, ei fod yn cofio hyn yn aml ac yn awchus, canys bydd yn cyfeirio yn aml at lafur a lludded ei fam anwyl, a'i hymdrechion duwiol gydag ef pan ydoedd yn fachgenyn. Ymddengys ei fod yn llane gwyllt, afrywiog, tymherog, a phenderfynol, ac yn meddwl ei fod mewn caethiwed tost wrth orfod myned i'r cwrdd, amgen i blant eraill ag oedd yn cael rhedeg o gwmpas, tori Sabbath, a bod yn benrhydd. Yr holl bethau hyn a gynwysir mewn ychydig eiriau o'i eiddo ef ei hun, yn nechreu ei ddyddlyfr; ac fe allai y bydd yn well eu gosod i lawr fel y maent. Y mae yn cychwyn ei ddyddlyfr fel y canlyn:"Fe'm ganwyd yn Trefin yn mhlwyf Llanon, Sir Benfro, yn Nghymru, o rieni duwiol, ac fe'm dygwyd i fyny gyda llawer o hyfforddiadau crefyddol, ac mewn poen mawr i'm rhieni, oblegyd fy annuwioldeb a'm hystyfnigrwydd; er hyny ni roisant heibio gweddio drosof, ac ymbil am fy nhywys i'r ffordd dda. Llawer gwaith y bu fy anwyl fam dduwiol yn wylo dagrau uwch fy mhen am ddod gyda hi i'r society,一 cyfeillachau neillduol; minau yn gwrthwynebu ar wastad fy nghefn ar y llawr, fel y mae y dylluan yn arfer ymladd, yn llawn llid a chynddaredd: fel hyn y parheais mewn pob gwylltineb ac ynfydrwydd, yn maeddu ac yn gorchfygu pawb, hyd oddeutu pedair ar ddeg oed." Ni a welwn gyfrolau yn y geiriau uchod. Y mae llawn ddigon wedi ei ddyweyd i ddangos y bachgen drwg yn gwrthwynebu mam dyner a duwiol hyd yr eithaf; yr oedd mor galed a'r gallestr, fel nad oedd dagrau poethion y fam anwyl yn toddi dim o hono. Y fath arlun! Y bachgen drwg ar ei gefn yn gwrthwynebu, a'i faglau i fyny fel dylluan, a'i fam deimladwy yn doddedig yn ymbil uwch ei ben, ar iddo ddyfod i'r cyfarfod. Tommy yn codi ei goesau i fyny gan grochlefain, "Ni ddeuaf, ni ddeuaf, cerddwch eich hunan os mynwch;" a chalon y fam anwyl a duwiol yn ymdoddi ac yn ymarllwys allan yn ddagrau trwy y llygaid, mewn tosturi at, a gofal am fachgen drwg. Gellir meddwl wrth ei ysgrifeniadau fod llais crynedig ei anwyl fam uwch ei ben, yn dywedyd, "O Tommy, dewch i'r cwrdd, fy nghariad," wedi aredig ei galon ganwaith; a pheri iddo ei gweled yn sefyll uwch ei ben, ac yn tywallt dagrau, yn mhen blynyddau wedi iddi hi fyned i orphwys oddiwrth ei llafur. Fel hyn yr aeth pethau yn y blaen hyd bedair ar ddeg oed, pan yr ymddengys i gyfnewidiad o bwys gymeryd lle. Yr ydym yn ei ganfod yn llanc arall i'r hyn ydoedd, canys nid yw am beidio myned i'r cyfarfodydd crefyddol mwy, eithr yn hytrach yn ymdrech hyd yr eithaf i gyrhaedd pob cwrdd oedd yn y gymydogaeth. Nid oedd gan ei anwyl fam y drafferth leiaf yn awr i'w berswadio i fyned; yr oedd hyny wedi dyfod yn duedd ynddo; yr unig waith fyddai ganddi hi bellach oedd ei barotoi i fyned; ac yr oedd yn gwneyd hyny dan ganu. Yn nghyfnewidiad amlwg y bachgen hwn yr oedd tristwch y fam dduwiol wedi troi yn llawenydd, a'i<noinclude><references/></noinclude> ddfjoon5rusf77ua6hmqm3f5mtzynbf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/63 104 84557 164334 2026-05-07T19:09:19Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "gruddfanau poenus yn ganiadau gorfoleddus. Mor swynol y byddai yn dodi ei breichiau am wddf Tommy, ac yn ei gusanu dan wylo. Rhyw fath o wylo hapus ydoedd, -wylo o lawenydd, nid tristwch; neu fel y dywed y Salmydd, "llawenhau mewn dychryn." A'i breichiau am ei wddf y dywedai Hannah Richard, "Dros y bachgen hwn y gweddiais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo. Minau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd yr holl ddy... 164334 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gruddfanau poenus yn ganiadau gorfoleddus. Mor swynol y byddai yn dodi ei breichiau am wddf Tommy, ac yn ei gusanu dan wylo. Rhyw fath o wylo hapus ydoedd, -wylo o lawenydd, nid tristwch; neu fel y dywed y Salmydd, "llawenhau mewn dychryn." A'i breichiau am ei wddf y dywedai Hannah Richard, "Dros y bachgen hwn y gweddiais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo. Minau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd yr holl ddyddiau y byddo efe byw." Dyna undeb newydd yn cael ei ffurfio rhwng Tommy a'i fam, ag sydd yn gryfach na'r undeb cyntaf, ac a bery yn hwy; pery pan y bydd natur wedi malurio yn Ilwch, a chyfamodau dynol wedi eu datod am byth. 10 PENOD II. Dychweliad Mr. Richard at grefydd. Y MAE yn dyfod yn helynt bwysig yn awr am grefydd, a mater bywyd tragywyddol; a pha le, tebygech, y mae yn troi am gyfarwyddyd? Ah, at ei anwyl fam; y fam hono fu yn ymdrechu ei gael i'r odfaon, yr hon a wylodd allan ei chalon dyner, ac yntau yn galed a dideimlad; yr hon a ymbilodd mewn gweddi ar Dduw drosto, ac yntau yn "ymladd fel dylluan," fel y dywed, gan ymosod yn erbyn ei chymhellion tyner. Eithr pan ddaeth yn deimlad ofnadwy am gyflwr, pan y gwelodd ei fod yn sefyll mewn peryglon tragywyddol, pan agorodd uffern ei safn yn anferth, a phan edrychwyd yn ei wyneb gan Farnwr y byd, dacw ef yn gostwng ei ben. yn cuddio ei wyneb â'i ddwylaw, ac yn rhedeg am gyfarwyddyd at fynwes mam dyner. Y mae yn debyg, o herwydd gwylltineb ac anufudd-dod, ei fod wedi tynu gwg ei dad, a bod ei dad wedi myned i gadw draw oddiwrtho, gan ymddwyn tuag ato yn hytrach yn sarug; felly yr oedd yn teimlo yn bur yswilgar ac ofnus i nesu at ei dad. Ond ei fam, pan oedd yn nghanol ei wylltineb mwyaf, ni chadwai draw oddiwrtho; eithr tynai ei ben ati, a gwasgai yn ei mynwes gynes; a chan chwareu a'i wallt a'i llaw, dywedai a chalon dyner a llygaid yn llawn o ddagrau, "Tommy bach, paham y byddwch yn fachgen drwg?" Pan y daeth yn galed arno, gan hyny, pan y daliwyd ac y rhwymwyd ef å chadwynau newyddion, ac yntau yn ceisio ymysgwyd, ac heb wybod pa beth i wneyd, gwyddai fod mynwes gynes a groesaw calon iddo mewn mam dyner; ac yno y mae yn troi i geisio nodded. "Llawenydd mwy na hwn" nis gallasai hithau byth gael tu yma i'r nefoedd, sef gweled fod ei mab cyndyn ac anufudd yn ymgais am rodio yn y gwirionedd. Dyma yr had ag y bu er ys ychydig yn ol yn ei hau mewn dagrau, nid yn unig yn dechreu tyfu, eithr yn dechreu addfedu, a hithau yn cychwyn ar "fedi mewn gorfoledd." Pan yr ydych yn hau had gwerthfawr yn meddyliau y plant, ni wyddoch pa mor gynted y rhydd Duw yr anrhydedd i chwi ddychwelyd ar hyd y grynau yna, i gasglu ysgubau y ffrwyth toreithiog. Rhaid i ni eto droi i'r dyddlyfr, gan adael iddo ef ddyweyd yr hanes yn ei ffordd ei hun. "Pan yn bedair ar ddeg oed y dechreuwyd sobri fy meddwl, nes gorfod arnaf amlygu hyny i fy mam, er nas gwyddai neb; ac yr oeddwn am le yn mhlith y brodyr. Ond nis gwyddwn pa fodd i'w amlygu i'm tad, am fy mod yn ofni ei anfoddlonrwydd oblegyd fy nrygioni." Y mae yr ychydig eiriau yna yn dyweyd llawer. Gellir casglu yn naturiol nad oedd ryw lawer o gymdeithas gariadus rhwng y tad a'r mab, ac nid oedd yn ddichonadwy iddi fod ar y tir ag yr oedd Tommy wedi bod yn rhodio hyd yn hyn. Eithr pan hysbysodd y fam i'r tad y teimlad newydd hwn, a bod y bachgen mewn tywydd garw am ei gyflwr, a chwant ymwasgu at y dysgyblion, braidd y gwyddai yn mha le y safai; yr oedd yn orlawn o lawenydd; nid oedd dim gorchest i faddeu i Tommy ei holl anufudd-dod a'i ystyfnigrwydd; y mae gwawr byd newydd yn codi mewn mynyd. Yr oedd yr hen Henry Richard, y pregethwr a'r amaethwr, yr un peth yn union a thad yr afradlon yn y ddameg; yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn debycach; yn wir, am ddim a wyddom ni, fe allai mai Henry Richard oedd hwnw; canys mor gynted ag y gwelodd ei dad y teimlad hwn, dyma fe yn maddeu y cwbl iddo mewn moment, yn rhedeg i'w gusanu, yn foddlon iddo gael y peth goreu oedd yn ei feddiant, "y wisg oreu;" ac er ei fod wedi cilio oddiwrtho mewn mesur, y mae yn ail adnewyddu y gyfeillachyn gwneyd cyfamod newydd, ac yn rhoi y fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; lladdwyd y llo pasgedig, a dechreuwyd bod yn llawen. Ai nid Henry Richard oedd y tad yn y ddameg, wys? Y maent yr un peth yn eu teimladau yn union, bid a fyno. Beth bynag, yr oedd yn ddigon naturiol i'r tad a'r fam lawenychu yn nghyd, gan eu bod o'r un teimladau crefyddol wrth weled cyfnewidiad yn cymeryd lle yn y bachgen gwyllt; nid yw hyn ond y peth y gallesid ddysgwyl. Ar foreu y gyfeillach neillduol, neu y society, fel y gelwid y cyfarfod, gwelwn Henry Richard ac Hannah ei wraig yn ymddyddan å Tommy bach, ac yn ei galonogi a'i gysuro, ac yn rhoddi pob cyfarwyddiadau angenrheidiol iddo i fyned yn y blaen. Y bachgen yntau nid yw yn dyweyd yr un gair, canys y galon sydd fel yn chwyddo yn y fynwes, yn myned yn rhy fawr, fel y gellid meddwl ei bod yn codi i'r gwddf, a bron yn ei dagu, a'r llygaid yn methu gweled yn glir gan ddagrau. Y tad a'r fam anwyl ydynt yn sefyll uwch ei ben, yn cydymdeimlo, ac yn fynych yn cydwylo, gan geisio yn mhob rhyw fodd ei gysuro, a'i arwain allan o'i ofnau a'i ddyryswch, trwy ddangos Crist wedi marw dros bechaduriaid, a bod maddeuant i'r pechaduriaid penaf trwy ei waed. Y maent oll yn ymostwng ar eu gliniau ger bron Duw, ac y mae Henry Richard yn cyfarch yr orsedd, ac yn cario Tommy yn neillduol yn mreichiau ei weddiau at "waed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Wedi hyn, yn gymaint a bod amser y cwrdd eglwysig yn agosâu, dacw Hannah ei fam yn ei gymeryd yn ei llaw, gan ddywedyd, "Tyr'd gyda mi, i gael ymolch dy wyneb, Tommy bach, ac i rói siaced arall am danat i gael myned i'r cwrdd." Yn llonydd a marwaidd y gwelir ef yn awr yn dylyn ei fam, i'w barotoi i fyned i'r cyfarfod; nid gwaeddi ac ysgrechian ar wastad ei gefn, yn ei gwrthwynebu fel cynt; na, gwelir cyfnewidiad mawr ynddo heddyw; beth bynag ydyw, amser yn unig a ddywed. Wedi ei ymolch a rhoi rhyw beth yn ei gylch, dacw Hannah anwyl yn ymaflyd yn ei law, gan ei ddwyn ef gyda hi, "fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo yno byth." Tra yr ydym yn myned yn y blaen, cedwch eich golwg ar y bachgen, canys y "bachgen yw tad y dyn." Peidiwch a meddwl, os gellwch, am y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen, eithr am Tommy bach yn myned yn llaw Hannah ei fam i dŷ yr Arglwydd, a'i galon dyner yn rhy friwedig i'w chyffwrdd. Peidiwch a meddwl am hyawdledd Mr. Richard, fel y clywsoch ef yn Nghymanfaoedd Cymru; eithr edrychwch am dipyn bach ar y bachgen Tommy yn fud o flaen hen flaenoriaid eglwys Trefin, mewn ofn a braw yn methu dyweyd dim. Edrychwch yn weddol fanol ar y bachgen cyn dyfod at y dyn; fe allai y byddwch yn alluog i adnabod y dyn yn well o hyny. Yr oedd cysylltiad agos, fel y gwyddoch, rhwng y "bachgen Samuel" a'r prophwyd Samuel. Yr oedd y prophwyd Samuel yn adnabyddus "o Dan i Beerseba," mai "prophwyd ffyddlon i'r Arglwydd ydoedd;" eithr ychydig iawn o'r holl werin hyny wyddai nemawr am y bachgen Samuel, am yr hwn y gweddiodd Hannah, yr hwn a ddygwyd ganddi i fyny i dŷ yr Arglwydd yn Siloh, gyda thri bustach, un epha o beilliaid, a chostrelaid o win, yn offrymau. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu yr Arglwydd ger bron Eli, cyn bod y prophwyd Samuel yn adnabyddus o Dan i Beerseba. Cyn bod Cymru, o Gaerdydd i Gaergybi, yn adnabod y Parch. Thomas Richard, yr oedd iddo fywyd annghyhoedd mewn cysylltiad a thad a mam dduwiol; ac y mae perthynas agos rhwng Tommy yn myned yn llaw Hannah ei fam i'w gyflwyno i eglwys Trefin, â'r Parch. Thomas Richard, Abergwaen, a adnabyddwyd wedi hyny fel prif bregethwr Cymru. Ond dyna, gadawn bob peth yn llonydd, nes y byddont yn dyfod i'n golwg yn naturiol, canys y mae ffrwyth anaddfed yn gyffredin yn afiachus. Y mae y bachgen yn myned i'r society, ac yno yn sefyll yn fud, heb allu dyweyd un gair. Y dyn welwyd wedi hyny heb ddiwedd ar ei ffraethineb yn manau mwyaf cyhoeddus Cymru, sydd yn awr yn methu gan deimlad a thywyllwch ag agor ei enau. "Pwy a ddiystyra ddydd y pethau bychain?" Gellid meddwl fod digon o brofion bellach mewn hanesyddiaeth fod pethau bychain yn cynwys ynddynt hadau pethau mawrion, ac y dylai hyny fod yn ddigon o reswm i beidio eu diystyru. Pwy yn y byd fuasai yn meddwl y diwrnod yr oedd Tommy yn myned yn llaw Hannah i dŷ yr Arglwydd, y diwrnod yr oedd yn sefyll yn fud o flaen y rhai oedd yn ei holi, yn methu gwneyd dim ond wylo, mai hwnw fyddai y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen? Mor ychydig yr ydym yn ei wybod; "na fernwch ddim cyn yr amser," ac na chymerwch arnoch eich bod yn brophwydi, rhag eich cael yn gelwyddog. Y mae yn bosibl y byddai yn ddewisol gan ein darllenwyr i roi ychydig o'i eiriau ef ei hun ar y mater hwn, canys yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd drosto ei hun gymaint ag sydd yn bosibl yn y Gwaith hwn. "Aethum i'r cyfarfod; a phan dechreuwyd fy holi, yn ol trefn y Corph, nid oedd genyf ond ychydig iawn i ateb gan fy ofn, canys yr. oedd hi i mi fel lladdfa; felly y treuliais lawer o fy amser mewn tywyllwch ac anwybodaeth dan amrywiol fath ar dywydd." "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ystyriwch y frawddeg yna yn fanol; y mae rhyw beth ynddi, ac fe ddaw rhyw beth mawr o honi, chwi gewch weled. "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ië, lladdfa oedd hi hefyd; ac nid oes nemawr o ddaioni yn nghrefydd neb os na ddechreuodd mewn lladdfa. Mewn lladdfa y mae egin byw byth yn ymwreiddio; mewn lladdfa y bydd gwraidd defnyddioldeb mawr yn ymledu; mewn lladdfa y gwelir cydymdeimlad crefyddol yn cael bod; ac mewn lladdfa y gwelir datguddiad o ddiangfa yn dyfod i'r golwg. Dynion cyfain, hunanol, penuchel, hunan-ddoethion yw y dynion sydd heb fod yn y lladdfa, yn siarad llawer, ac yn gallu gwneyd dim. Pan y dygir dyn i'r lladdfa, daw i ddeall rhyw beth wedi hyny, a bydd yn debyg o fod a rhyw<noinclude><references/></noinclude> q3eo6i9ln64hjlfrvxre01kv60qkdow Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/68 104 84558 164335 2026-05-07T19:14:40Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "beth i ddyweyd wrth bechaduriaid. Mawr y cyfnewidiad oedd yn Saul yr erlidiwr wedi bod yn y lladdfa ar y ffordd i Damascus. Yr oedd yn dyfod allan o honi yn ddyn arall; lladdwyd Saul yr erlidiwr, a chladdwyd ef am byth; ni chlywyd son am dano mwyach; a daeth Paul yr apostol yn fyw i fyny o'r llwch. Daeth y gorchymyn, fe adfywiodd pechod, ac yntau a fu farw; fe fu yn y lladdfa; a dyma y rheswm ei fod yn gallu dyweyd cystal wrth eraill... 164335 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>beth i ddyweyd wrth bechaduriaid. Mawr y cyfnewidiad oedd yn Saul yr erlidiwr wedi bod yn y lladdfa ar y ffordd i Damascus. Yr oedd yn dyfod allan o honi yn ddyn arall; lladdwyd Saul yr erlidiwr, a chladdwyd ef am byth; ni chlywyd son am dano mwyach; a daeth Paul yr apostol yn fyw i fyny o'r llwch. Daeth y gorchymyn, fe adfywiodd pechod, ac yntau a fu farw; fe fu yn y lladdfa; a dyma y rheswm ei fod yn gallu dyweyd cystal wrth eraill am yr amgylchiad mewn amser dyfodol. Nid oes neb all ddweyd gystal am wahanol leoedd a'r sawl fu yno, nac am amgylchiadau fel y sawl fu ynddynt. Ni a welwn fod crefydd Tommy yn dechreu yn dda; nid ychwanegu at yr hen fywyd, neu adeiladu ar yr hen sylfaen, ydyw; ond yn lladd pob bywyd blaenorol, ac yn rhoi bywyd newydd, calon newydd, anian newydd; a malurio yr hen sylfaen yn llwch, ac yn gosod sylfaen newydd, gan adeiladu pob peth o'r newydd ar y sylfaen hyny. Nid oes dim hen ddefnyddiau i fod yn yr adeilad newydd, canys dinystrir yr hen yn hollol, fel na fydd maen ar faen a'r nis datodir, a chodir y newydd ar sail ac o ddefnyddiau newyddion. Y grefydd sydd yn dechreu mewn lladdfa, sydd yn sicr yn y diwedd o ddybenu mewn bywyd. Yr ydym yn gweled, wrth ddarllen yn y blaen yn y dyddlyfr, mai o laddfa i laddfa y bu am dymhor maith. Er iddo fyned at grefydd, a chael pob tynerwch oddiar ddwyław y cyfeillion crefyddol, ni ddarfu iddo dawelu, eithr yn hytrach myned waethwaeth. Y mae yn rhyfedd gweled bachgen pedair ar ddeg oed yn myned trwy gymaint o dywydd meddwl; ond pan edrychwn ar amcan y Brenin mawr, yr hyn a ddaeth i'r golwg yn amlwg wedi hyny, esbonia yr holl ddirgelwch ar unwaith. Yr ydoedd yn cael ei ddarparu gan law Duw ei hun, yn llestr cymhwys i ddal gweinidogaeth yr efengyl, a'i phregethu i'w gydwladwyr. Yr oedd y goruchwyliaethau dwyfol y dygwyd ef drwyddynt yn ei gaboli, ac yn ei harddu a'i brydferthu erbyn amser dyfodol. Ni fuasech byth yn gweled ac yn clywed y Parch. T. Richard, Abergwaen, oni buasai fod Tommy wedi bod yn y lladdfa; ac o laddfa i laddfa am hir amser hefyd. Y brofedigaeth gyntaf a ymosododd yn ddirfawr ar ei feddwl wedi dyfod at grefydd, oedd ofni nad oedd wedi ei ethol. Yr oedd hyn yn gwasgu ei enaid i lawr, nes ymylu anobaith; a digon tebyg hefyd fod y gelyn yn gwneyd y defnydd goreu o'r amgylchiad i'w demtio i ddigalondid, neu ei ddyrysu a'i wneyd yn ddiddefnydd. Gadewir iddo ddyweyd eto drosto ei hun:"Bum yn ofni na'm hetholwyd; ond oddiwrth hyn fe'm gollyngwyd trwy y gair hwn a'r cyffelyb: Ioan vi. 37, 'Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi; a'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Yr oedd y bachgen yn dechreu adnabod ei lais ef eisoes, ac yn teimlo pan lefarai Duw fod ei holl gadwynau yn myned yn rhyddion. Yr ydym yn cael yn fuan wedi iddo gael ei ryddhau o brofedigaeth yr ethol, ei fod yn cyfarfod ag un arall, yr hon fu yn danllyd iawn, ac a lynodd yn ei feddwl yn hir. Yn y lladdfa yr oedd y llanc; yr oedd y gyllell yn ei wddf, a byddai yn ei theimlo yn tori yn awehus yn aml; a thori a wnaeth, nes gollwng yr holl hen waed allan yn llwyr. Y brofedigaeth y cyfeiriasom ati oedd, iddo yn fuan syrthio i ofn dirfawr fod ei bechodau yn anfaddeuol. Bu mewn tywydd garw a helbul nid bychan yn nghylch y mater hwn; yr oedd wedi gwasgu cymaint ar ei feddwl, fel yr oedd wedi ei annghymhwyso at bob peth y bywyd hwn dros dro. Yr oedd y cyfnod hwn eto o'i fywyd yn rhyw gymhwysder erbyn amser i ddyfod i drin profedigaethau y saint, a chymhwyso y feddyginiaeth briodol atynt. Pwy allasai drin hyn o glwyf yn fedrus, ond rhyw hen "gydymaith mewn cystudd?" Byddai y pregethwr enwog wedi hyn (clywsom ef lawer gwaith) yn cymeryd y drafferth fwyaf i drin profedigaethau ac amheuon y saint, gan gymhwyso atynt dystiolaethau ac addewidion balmaidd yr efengyl, nes lloni y galarus, dyddanu y gwan eu meddwl, a pheri i dafod y mudan seinio cân yn nghanol holl brofedigaethau y byd. Byddai llawer yn rhyfeddu pa fodd yr oedd y pregethwr mawr, yr hwn a dybid ei fod yn byw uwchlaw hen wýr a hen wragedd yn y dyfnder, yn gwybod am holl helyntion mân profedigaethau a themtasiynau satan, grym llygredigaethau y galon, "a thwyll pechod." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled ei fod "wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a chwithau;" ac fe allai yn helaethach na'r cyffredin, "fel y gallai gynorthwyo" yn ei weinidogaeth "y rhai a demtir." Bu y geiriau "ni faddeuir iddo" yn ei ddylyn yn ddidor am amseroedd, ac yn swnio yn ei feddwl fel cloch farwol bob dydd. Beth bynag a wnelai, pa un ai darllen neu weddio, myned i wrando pregeth neu i'r gymdeithas neillduol, nid gwaeth beth, yr un swn fyddai yn treiddio trwy ei feddwl o hyd, - "Ni faddeuir iddo." Pan yn yr helbul mawr a'r tywydd garw hyn, a'r geiriau "ni faddeuir iddo" yn swnio yn ei glustiau, aeth i Dyddewi i ymweled â hen fodryb iddo, yr hon oedd yn wraig dduwiol iawn, a'r hon yn llaw Duw fu yn offerynol i'w waredu allan o'r brofedigaeth, canys dychwelodd adref wedi iachau yn ei gorph a'i ysbryd. Y mae Tyddewi, fel y gwyddoch, wedi bod yn lle enwog iawn am saint, ac y mae yn enwog eto am ddim a wyddom ni; ond yn mhlith y lleill, bydded son am yr hyn a wnaeth hon hefyd hyd ddiwedd y byd; eithr am dragywyddoldeb, y mae son yn sicr o fod yno, canys byd ydyw hwnwuwchlaw annghof. "Nid yw Duw yn annghyfiawn, fel yr annghofio eich gwaith;" na, bydd y "cyfiawn byth mewn coffadwriaeth." Wel, bydded hon yn "fendigedig yn mhlith gwragedd" tra fyddo y byd; canys gwnaeth weithred dda ar ei nai, hi a'i hachubodd ef, yn offerynol, "rhag disgyn o hono i'r clawdd." Aeth ymddyddan rhyngddo a'i fodryb am ei ofnau; ac y mae yn debyg fod yr hen Gristionoges wedi bod yn yr un blinderau yn nhir y gelyn, ac felly yn hen ddysgybles wedi ei dysgu i deyrnas Dduw, ac yn gyfarwydd ac yn fedrus i "lefaru gair yn ei bryd wrth yr enaid diffygiol." Mor dda yw gair yn ei amser. Mae fel "afalau aur mewn gwaith edau cerfiedig; megys oerder eira yn amser cynhauaf, yw cenad ffyddlon," y mae yn esmwythau, yn lloni, ac yn dadluddedu. Arweiniodd rhagluniaeth ddwyfol y llanc i'r lle iawn am feddyginiaeth, a bu hyny yn waredigaeth iddo. Dywedir yn awr gan y doethion fod y meddygon yn lladd wrth geisio gwella lawn gymaint, os nid rhagor, nag y maent yn eu gwella. Nid oes genym nemawr i ddyweyd am y meddygon naturiol, eithr eglur yw fod y meddygon ysbrydol yn aml yn hytrach yn annghelfydd yn trin doluriau a chlwyfau ysbrydol. Yr ydym yn darllen am y diweddar Dr. Williams o Rotherham, pan yn llanc yn Nghymru yn yr ysgol gydag offeiriad, yn cael ei gymhwyso at y swydd hono, iddo syrthio mewn profedigaeth arw wrth gael ei gam-gyfarwyddo trwy anwybodaeth y person. Y mae yn ymddangos nad oedd y person wedi ei ddysgu yn fanwl i deyrnas Dduw; ac o ganlyniad ei fod yn lled annghyfarwydd i ddysgu eraill. Yr oedd rhieni y bachgen am wneyd offeiriad o hono, ac yntau yn tueddu yn hytrach ffordd arall, fel nad oedd pethau yn myned yn y blaen yn hwylus yn y byd. Ond i fod yn fyr ar hyn o beth, y mae yn debyg fod meddwl Williams ieuanc yn myned o dan gyfnewidiad mawr iawn ar y pryd; yr oedd wedi bod yn gwrando pregethau tanllyd yr Annghydffurfwyr, y rhai oedd wedi gwneyd argraff ddofn ar ei feddwl. Yr oedd pechod yn dechreu ymddangos, nid yn rhyw wendid bychan yn y ddynoliaeth, eithr mewn lliwiau mwy dychrynllyd, yn "dra phechadurus," ac yn ddamniol. Aflonyddwyd ei feddwl gymaint nes ydoedd bron yn wallgof; ac yn gymaint ag nad oedd yn canfod un ffordd o ddiangfa, dywedodd ei gwyn wrth y person parchedig. "Pw, pw,' ," ebai hwnw, "peidiwch a meddwl am bethau fel yna; byddwch yn galonog ac yn chwareugar; beth dâl meddwl am ryw bethau fel yna? meddyliwch am ryw beth arall." Dyna gynghor person i ddyn o dan argyhoeddiad; ond nid un o'r personiaid goreu, cofiwch, oedd hwnw, eithr y gwaethaf yn hytrach. Pe baech yn cyfarfod â'r goreu, caech gyfarwyddiadau cystal ag sydd i'w cael yn y byd hwn. Ond dyna-aeth y person yn y blaen i'w gyfarwyddo i ddarllen o dan y fath helbul meddwl; cynghor da iawn oedd hwnw. Ond dyna lle y collodd yr offeiriad hi, tebygem ni, yn lle ei gyfarwyddo i ddarllen Bibl, cynghorodd ef i ddarllen "Tale of a Tub," rhyw chwedl ddigrif o eiddo Dean Swift. Pwy fuasai yn meddwl am gynghori dyn o dan argyhoeddiad i ddarllen "Tale of a Tub,” meddwch chwi? Wel, felly y bu mewn gwirionedd; nid oedd yr offeiriad hwnw yn rhyw un celfydd iawn yn nghylch teyrnas Dduw; ymddangosai yn gyfarwydd a chartrefol yn nghylch teyrnas y diafol. Yr oedd hen wraig Tyddewi yn well doctores ganwaith at ysbryd cystuddiedig nag efe; un dda oedd yr hen fenyw hon; yr oedd wedi treulio llawer o flynyddau yn y clafdy ysbrydol, ac wedi teimlo iechyd yn ei hysbryd, yn ganlyniad i'r moddion a ddefnyddid yno. Hon, yn llaw Duw, nid y pregethwr mawr, a ddefnyddiwyd i fod yn waredigaeth i'r bachgen ieuanc a thyner rhag un o brofedigaethau llymaf ei fywyd crefyddol. y Dychwelodd o Dyddewi wedi cael iechyd yn ei ysbryd, a Haul Cyfiawnder yn tywynu arno. Rhoddwn yma eto ychydig o'i eiriau ei hun ar y mater hwn; bydd yn dda gan lawer o'r saint eu clywed; - "Aethum i ofni ddarfod i mi bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân y pechod anfaddeuol. Yn wyneb hyny deuai y geiriau hyny i fy meddwl, 'A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod,' 1 Ioan i. 7. Yn wyneb hyn yr oedd y gair hwn eilwaith yn dyfod i'r meddwl fel taran-follt, Ni faddeuir iddo;' yr hyn a gynyrchai aeth drom. Ond fe ddygwyddodd i mi fyned i dref gerllaw y lle yr oeddwn yn byw, a elwir Tyddewi, at hen fodryb i mi, chwaer fy mam, yr hon oedd hen wraig dduwiol iawn, ac a wyddai lawer am rym crefydd, a rhyfel ysbrydol y Cristion; ond wrth ymddyddan am bethau crefydd, hi adroddodd iddi hithau gael ei churo yn nghylch y pechod anfaddeuol, yr hyn fu yn ofid mawr iddi; ond aeth i wrando un yn pregethu, ac ar ei bregeth dywedai nad oedd neb wedi ei bechu ag oedd yn ofni hyny; yna fe'm rhyddhawyd oddiwrth y brofedigaeth hono yn ail adroddiad y bregeth gan fy hen fodryb." Y fath drugaredd annhraethol iddo yn y brofedigaeth lem hon i gael ei arwain at yr hen fodryb yn Nhyddewi; gallasai gyfarfod â llawer canon yn Nhyddewi yn y dyddiau hyny fuasai yn cynyg "The Tale of a Tub," fel meddyginiaeth; canys yr oedd crefydd yn isel iawn yn y dyddiau hyny, ac hyd yn oed swyddogion eglwysig yn mhlith pob enwad yn lled dywyll, yn wahanol iawn i'r hyn yw yn bresenol. Byddai yn anhawdd i chwi gael yr un offeiriad yn awr, na phregethwr ychwaith, a gynygai i ddyn o dan argyhoeddiad dwfn y fath lyfr a hwnw. Beth bynag, ni a welwn fod goruchwyliaethau Duw yn rhyfedd, canys darperir ganddo y naill beth ar gyfer y llall; pan y mae yn clwyfo, trefnir y feddyginiaeth hefyd; ac ar gyfer pob temtasiwn y mae diangfa hefyd, fel y gellir ei dwyn. Trefnir cigfrain ar gyfer angenion Elias; a hen wraig yn Sarepta wed'yn pan y darfyddodd gweinidogaeth y rhai hyny; ac ni a welwn ddarparu o hono hen wraig yn Nhyddewi i dynu y swmbwl o gnawd ac ysbryd Tommy. Dychwelodd adref yn ddyn arall, gan ddiolch i Dduw a chymeryd cysur, ac ymuno â'i dad i gario yn y blaen gorchwylion amaethyddol. Tybiodd y llanc, fel y bydd lianciau yn dueddol o dybied, fod y tywydd garw wedi myned heibio, y gauaf wedi diflanu, ac nad oedd dim ond blodau i fod ar y ddaear mwy. Pan yn y cadwynau gan yr ofnau o bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân, canai yr hen benill, "Tebygwn pe bai 'nhraed yn rhydd O'r blin gaethiwed hyn, Na wnawn ond canu tra f'wyf byw Am ras Calfaria fryn." Dechreuodd ar ganu yn hwylus wedi iddo gael ei ollwng yn rhydd, ac yn meddwl yn y gwres hwnw na fuasai y gân yn darfod byth; eithr yn fuan y dysgodd profiad bethau eraill iddo, "fod rhwymau yn ei aros yn mhob dinas;" ac mai<noinclude><references/></noinclude> r4oscaaar9bphmym9733f8f0nifbcsl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/73 104 84559 164336 2026-05-07T19:15:44Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw." Yn fuan gorfu iddo newid y gân, symud o'r gorfoleddus i'r galarus, a dywedyd, "Swn y frwydr, swn y frwydr Ydyw'r man 'rwyf eto'n byw." Wedi i brofedigaeth y pechod anfaddeuol fyned heibio, ac y daeth i gredu yn ddiysgog fod ei iachawdwriaeth yn bosibl yn wyneb yr efengyl, y mae y brofedigaeth yn cymeryd ffurf arall. Aeth i ofni, er fod ei bechodau yn faddeu... 164336 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw." Yn fuan gorfu iddo newid y gân, symud o'r gorfoleddus i'r galarus, a dywedyd, "Swn y frwydr, swn y frwydr Ydyw'r man 'rwyf eto'n byw." Wedi i brofedigaeth y pechod anfaddeuol fyned heibio, ac y daeth i gredu yn ddiysgog fod ei iachawdwriaeth yn bosibl yn wyneb yr efengyl, y mae y brofedigaeth yn cymeryd ffurf arall. Aeth i ofni, er fod ei bechodau yn faddeuadwy, ei fod heb dderbyn yn rhinweddol gyfiawnhad a maddeuant oddiwrth Dduw fel Barnwr cyfiawn; ei fod eto yn annuwiol. Bu mewn terfysg aruthrol am hir amser yn y brofedigaeth hon, yn ol ac yn y blaen, i lawr, ac weithiau ond yn anaml i fyny; ymdrybaeddu ydoedd mewn pridd tew a chlai tomlyd. Ymdrechai Henry Richard ei gyfarwyddo yn mhob dim, ac nid oedd dim yn ol yn yr anwyl Hannah i geisio ei gysuro, a chodi ei feddwl o'r dyfnder; yn fynych gwasgai ei ben at ei mynwes gan ddywedyd â dagrau," Ymgysura di, Tommy bach, 'canys trugarog iawn yw yr Arglwydd, a thosturiol." " Ni chuddiodd efe ei wyneb yn hir erioed oddiwrth y rhai ag oedd yn ei geisio; "dros brydnawn yr erys wylofain, erbyn y boreu y bydd gorfoledd." Fel hyn y byddai yr hen bobl yn ymdrechu yn mhob modd i'w gysuro yn ei brofedigaethau, canys yr oeddent yn ei weled ef mewn tywydd garw iawn, yn mhell y tu hwnt i'r cyffredin; ac ofnent yn aml y suddai o dan ei brofedigaethau i afiechyd ac angau. Gadewch i ni ei glywed ef ei hun yn dyweyd gair neu ddau ar hyn, canys gwyddom fod ein darllenwyr yn teimlo groesaw calon iddo siarad drosto ei hun bob amser:-" Bryd arall y clywn och yn fy meddwl nad oeddwn wedi fy nghyfiawnhau, ać oblegyd hyny nad oeddwn yn gymeradwy, na dim ag oeddwn yn ei wneuthur, yr hyn a'm mawr ofidiai, ac a'm gwnelai i edrych ar Dduw fel un dig wrthyf, hyd nes i mi gael nerth i gredu ac ymddiried ynddo. Fel hyn y treuliais fy nydd terfysglyd, nid dydd ac nid nos dywyll, ond ychydig o oleuni rhwng y cymylau. Yr oeddwn yn dra anwrol mewn ffydd, gan amheu pob peth, ac yn treulio llawer o fy amser ar lwybr yr hen gyfamod. Ond o radd i radd fe oleuwyd ychydig ragor ar fy neall mewn pethau crefyddol, sef athrawiaeth, profiad, a dysgyblaeth. Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth." Nid oedd y daith yn hir o'r argyhoeddi i'r weinidogaeth, eithr yn arw ac yn anhygyrch dros ben. Yr oedd ei argyhoeddiad yn drwm; lladdfa oedd hi, fel y dywed ef ei hun; yr oedd mor amlwg fel y gallai pob dyn ganfod y cyfnewidiad yn ddigon hawdd. Profedigaethau tanllyd oedd ei brofedigaethau; aeth drwy gymaint yn y pump neu chwech mlynedd rhwng ei argyhoeddiad a dechreuad ei weinidogaeth ag y mae llawer mewn haner cant, a'r rhai hyny yn ddynion da hefyd. Yr oedd hyn yn angenrheidiol er ei ddarparu yn fuan at weinidogaeth yr efengyl, a gweinidogaeth annghyffredin hefyd. Y mae llawer yn pregethu yr efengyl-yn siarad geiriau pregethwr bid a fyno-heb deimlo dim triniaethau o'r natur hyn, ac nid oes neb yn teimlo rhyw lawer o danynt. Pregethu adroddiadol ydyw, yn rhyw beth tebyg i hogyn yn adrodd penod, yr hwn sydd heb ei deall, na'i theimlo; os ei hadrodd yn foddhaol, dyna y cwbl o'i ddybenion ef wedi ei gyrhaedd. Y mae y bobl yn gwybod nad ydyw y dyn yn teimlo dim, ac y maent yn barod i droi eu cefnau arno tra y mae efe yn siarad. Gall fod yno synwyr, gall fod yno ddawn, eithr nid oes yr un genadwri; y mae y pregethwr yn farw i weinidogaeth yr efengyl. Dyn ydyw hwn heb fod yn y lladdfa; dyn heb ollwng yr hen waed allan; dyn heb fod yn cael ei ysgwyd uwchben uffern; dyn heb weled y tân anniffoddadwy; dyn heb glywed bloeddiadau erchyll damnedigion; dyn heb ei gipio i baradwys, a gweled a chlywed pethau annhraethadwy; dyn heb deimlo anobaith o herwydd pechu yn erbyn yr Ysbryd Glân; dyn heb fyw misoedd yn swn y geiriau "ni faddeuir iddo;" dyn heb ei ollwng yn rhydd o'r cadwynau hyn trwy yr efengyl, dyn heb deimlo, ο herwydd hyny, fawl i Dduw yn dyrchafu ei enaid i fyny i'r nefoedd; dyn heb ei ddal gan ofn ei fod yn annghymeradwy gyda Duw, a bod y cwbl y mae yn wneyd yn annghymeradwy, ac yn haeddu digofaint byth; dyn heb ei waredu, trwy ffurfio gobaith bywyd tragywyddol yn ei galon, yn swn geiriau Duw yn dyfod yn genadwri ato, gan ddywedyd, "Gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Mae efe yn gwneyd pregeth fel dyn yn gwneyd erthygl ar fferylliaeth neu ryw beth arall, heb ystyriaeth fod ysbrydoliaeth ddwyfol er achub a chysuro pechaduriaid yn yr efengyl. Dyn marw ydyw hwn, a gweinidogaeth farw ydyw ei weinidogaeth. Y mae dirgelwch yn y mater hwn i'r byd, ond fe allai mai dirgelwch a ellir ei egluro ydyw. Paham y mae rhai yn gallu pregethu, nes y mae tystiolaeth yn mhawb mai pregethu ydyw, fod y fath bregethu yn cymeryd gafael ar feddyliau dynion yn mhob sefyllfa ac agwedd, ac yn eu trafod, gan adael tystiolaeth yn y mwyaf annuwiol fod rhyw beth sydd yn fwy na dynol yn hyny, ac mai gweision y Duw goruchaf ydynt? Sylwch ar dywydd garw Mr. Richard yn nechreu ei grefydd; edrychwch fel yr oedd Ysbryd Duw yn ei arwain trwy y profedigaethau, i beri iddo ddeall; edrychwch arno yn y lladdfa, ac yn y ddiangfa, a chewch weled fod hyny yn ei ffurfio i gydymdeimlad a'r efengyl, nes y mae y naill yn ymdoddi yn y llall, a gweinidogaeth fywiol yn ymgodi ac yn dylifo o'r undeb hyn. Ond, yn gymaint ag y bydd yn rhaid i ni ymdrafod yn helaethach a'r cwestiynau hyn eto wrth fyned yn y blaen, gadawn hwynt yn awr ar gymaint a hyny. Gallwn edrych ar yr ychydig flynyddoedd hyn, sef o'r argyhoeddiad i ddechreuad ei weinidogaeth, yn rhai ystormus iawn, eto y maent, o dan lywyddiaeth y Llywydd dwyfol, yn ddarpariaeth iddo ef, yn gymhwysder at waith mawr, ac yn lles i Gymru, fe allai, hyd ddiwedd y byd. Ymddengys y daith fechan hon fel pe safech ar ben y creigydd uwchben y môr yn Drefin, yn edrych ar long fechan wedi cychwyn allan o borthladd cyfagos, yn dechreu ymdrechu mewn difrif â thywydd garw. Ah, dacw hi fel pe bai wedi ei chuddio yn hollol rhwng y tonau yn y dyfnder mawr, y rhai sydd yn fwy tebyg i fynyddau Alpaidd na thonau Culfor St. Sior. I'r lan eilwaith y mae yn codi, nid yn araf, eithr yn saethu megys bollt o'r dyfnder, rhwng y tonau i'r cymylau duon uwchben, pryd y bydd y gwynt ystormus yn ei gyru yn y blaen fel ar encil tragywyddol; y mae y gwynt fel pe bai yn rhuo mewn cynddaredd arni, y cymylau yn gwneyd golwg guchiog, a'r nefoedd fel wedi penderfynu ei chwalu yn yfflon. Yn mhen tipyn, dacw y gwynt yn ymgyfarfod yn rhyw fodd, a throell sydyn yn cymeryd lle, nes y gwelir y llong fechan yn "ymdroi ac yn ymsymud fel meddwyn," a holl ddoethineb y llywydd yn pallu. O'r diwedd, yn y tywydd garw y mae calon y morwr gwan yn pallu, y mae ei enaid eiddil yn suddo, ac yna yn ymollwng i farw. Ond, wedi iddynt ddarfod gobeithio cael byw trwy ddim a allasent wneyd eu hunain, dacw hwynt yn "galw ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Gyda hyn wele y cymylau duon yn dechreu troi yn leision, y gwynt chwerw fel baban tyner yn myned i gysgu yn dawel yn ei gryd, yr haul yntau yn estyn ei wddf i yspio beth sydd : yn bod, ac yn taflu gwên dawel ar y llong fach, fel pe bai yn dywedyd, "Cymer gysur, myfi yw." Daew y cadben yn rhoi y llywyddiaeth i fyny i ddwylaw Arglwydd nef a daear, Llywodraethwr yr holl elfenau, a'r morwyr yn gwneyd eu dyledswyddau, gan ddysgwyl wrtho; ac wele yr un fechan yn dechreu hwylio yn dawel ar frig y don, gan chwareu fel pysgodyn yn y weilgi dwfn, a'i chyfeiriad at yr hafan draw, lle y mae y dwr yn llonydd, lle y gall orphwys ar wely tawel, a lle y mae y creigydd oesol, fel caerau a rhagfur, yn ddyogelwch rhag tywydd garw. Dacw hi yn dyfod, y mae yn ymwneyd yn frysiog am y porthladd; hi fydd yn trigo mewn dyogelwch eto yn y man, er yr holl helynt mewn môr garw ac ystormydd chwerwon. Hi ddaeth i mewn i'r "hafan a ddymunwyd," ac nid oes neb all ddyweyd yn well am natur y môr yma a'r peryglon na'r rhai a waredwyd. Mordaith fer ydoedd, y mae yn wir, ond gerwyn anferth. Rhyw beth tebyg i hyn oedd helynt Tommy; ond ymddengys fod hyn wedi ei weithio i'r un penderfyniad a llywydd y llong fach, o roi y llywyddiaeth i fyny byth mwy i'r Hwn sydd ag awdurdod ganddo yn y nefoedd uchod, a'r ddaear isod, y môr, a'r hyn oll sydd ynddo. Daeth "trwy y tân a'r dwfri le diwall," a dechreuodd deimlo iachawdwriaeth Duw yn gaerau ac yn rhagfur o'i amgylch yn nghanol pob ymosodiadau. Yr ydym yn ei gael bellach yn ymgysuro llawer, er nad heb dywydd garw; ond fod trefn achub wedi dyfod yn fwy goleu i'w feddwl, ac yntau wedi ei gynorthwyo i ddeall yr efengyl yn well. 23 PENOD III. Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol. Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod newydd, ac un pwysig iawn, yn mywyd Mr. Richard, am yr hon yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd llawer iawn ei hun. Yn gymaint a bod ei ddyddlyfr yn cynwys hanes ei bregethu, ei deithio, a'i deimladau gyda'r gwaith, nid ydym yn gweled y gwnawn gyfiawnder ag ef, nac â'n darllenwyr, heb ei roi yn lled gyflawn fel y darfu iddo ef ei gyfansoddi; ond yn unig y carem wneyd ychydig o sylwadau rhagarweiniol. Chwi welwch wrth y dyddlyfr crybwylledig, iddo ddechreu ar waith y weinidogaeth pan yn ugain oed, rhyw bump neu chwech mlynedd wedi ei gychwyniad gyda chrefydd. Wrth ddarllen y dyddlyfr hwn yn ystyriol a meddylgar, bydd llawer o'r dirgelion ag sydd yn cyfansoddi pregethwyr mawr yn cael eu hegluro; daw y pwnc hwnw i oleuni llachar, tebygem, wrth ddylyn Mr. Richard yn fanol ac ystyriol yn rhoi, mewn dull syml a diaddurn, ei hanes ei hun. Bydd pobl yn deall rhyw bethau am bregethwr mawr; eithr y pethau hyny lle y mae ei nerth aruthrol a chuddiad ei gryfder sydd yn aros iddynt hwy yn ddirgelwch anamgyffredadwy. Y mae pobl yn deall fod pregethwr mawr yn gallu siarad yn weddol dda; fe allai fod gydag ef lais purion, ac fe allai nad yw gystal; ei fod yn ddyn go gall, nad ydyw byth yn gallu siarad rhyw lawer o ffolineb, a phethau cyffelyb. Bydd y pethau uchod yn ymddangos ar y wyneb, yn ngolwg pob dyn; eithr beth am y lleill? nid dyna y cwbl, na'r haner ychwaith. Yr ydys yn gwybod am eraill yn gallu siarad yn burion, yn medru lleisio yn dda; rhai yn canu, eraill yn ocheneidio, ac yn y blaen, yn ol fel y dygwyddo i bethau fod; eithr wedi hyny nid yw y pregethwr mawr yno. Yn mha le y mae y pregethwr mawr? Dyna lais pregethwr mawr, clem pregethwr mawr, tôn pregethwr mawr, ocheneidiau pregethwr mawr; pob peth pregethwr mawr, tebygem ni; ac eto nid yw y pregethwr mawr yno yn rhyw fodd. Yr oedd gan Mr. Richard lawer o edmygwyr mewn pregethwyr pan oedd yn ddyn ieuane, y rhai oeddynt yn ei ddynwared yn lled dda mewn siarad ac ystumiau; a byddai y bobl yn eu clywed yn geirio, yn lleisio, ac yn ystumio yn debyg<noinclude><references/></noinclude> ieip65x1qrle26jl7l01azjk7opagsb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/78 104 84560 164337 2026-05-07T19:16:42Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "iawn i Tommy; ond wedi hyny nid oedd efe yno. Ymholai y bobl mor ddifrifol, Pa le y mae Tommy? Yr oeddent yn bur debyg yn y pwnc hwn fel yr oedd Isaac yn nghylch Jacob ac Esau; nid oedd yn bosibl a pherswadio yr hen wr mai Esau oedd yno, er gwisgo y blew a gwneyd pob peth fel Esau; ac fe ddarfu iddo roi y fendith pan oedd eto ar dir amheus yn nghylch y mater. "Pwy wyt ti, fy mab?" ebe yr hen wr. "A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw... 164337 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iawn i Tommy; ond wedi hyny nid oedd efe yno. Ymholai y bobl mor ddifrifol, Pa le y mae Tommy? Yr oeddent yn bur debyg yn y pwnc hwn fel yr oedd Isaac yn nghylch Jacob ac Esau; nid oedd yn bosibl a pherswadio yr hen wr mai Esau oedd yno, er gwisgo y blew a gwneyd pob peth fel Esau; ac fe ddarfu iddo roi y fendith pan oedd eto ar dir amheus yn nghylch y mater. "Pwy wyt ti, fy mab?" ebe yr hen wr. "A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntafanedig; gwnaethum fel y dywedaist wrthyf; cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithi. Ac Isaac a ddywedodd, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Ai Esau ydwyt mewn gwirionedd? Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab, ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. A nesaodd Jacob at Isaac ei dad; yntau a'i teimlodd, ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob, a'r dwylaw, dwylaw Esau ydynt." Er fod yr hen wr yn ddall, yr oedd yn amheus iawn yn nghylch y peth, canys yr oedd y llais yn llais Jacob o hyd, er fod y dwylaw wedi eu gwneyd yn flewog fel dwylaw Esau. Yr oedd yn haws ffugio y dwylaw na'r llais; gallesid rhoi blew am y dwylaw, ond nis gallesid ffugio y llais cystal. Gwnewch fel y mynoch, y mae yn anmhosibl gwneyd un dyn fel un arall, nes y bydd yn anmhosibl adnabod y naill oddiwrth y llall, oddieithr fod dyn yn ddall, neu wedi colli ei reswm. Y mae yr annhebygolrwydd yn fwy rhwng y peth y mae Ysbryd Duw yn ei wneyd ar feddwl dyn a'r peth y mae dyn yn ceisio gwneyd er mwyn ei efelychu. Y gwahaniaeth hyn sydd gymaint ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear. Gwelir rhyw fath o ffurf, y mae yn wir, ond beth yw hyny at y sylwedd a'r bywyd ei hun? Mor ddiflas yw gweled y bobl yn troi ymaith oddiwrth ryw efelychwr cywraint, gan ddywedyd, "Pw, pw, nid yw Thomas yno; pa le y mae, dywedwch?" Yr oeddent yn holi am Tommy er nad oedd neb o honynt å drychfeddyliau goleu yn nghylch y pethau ag oedd yn ei wneyd yn Tommy. Gall dyn annuwiol gyfansoddi yn gampus, traddodi yn brydferth, dechreu a dybenu yn weddus, a llawer math o wrandawyr yn siarad yn lled uchel am y pregethau, fel yn gryno, yn ddestlus, yn feddylgar, ac yn gyson, eithr nid ydynt yn myned nemawr pellach. Pellach? Beth sydd i ddyweyd yn mhellach? O oes, llawer hefyd; nid yw cymaint a yna ond ychydig o'r allanol, nid oes yna ond dwylaw Esau, a'r rhai hyny hefyd wedi eu ffugio; oddiallan, y llais sydd fel llais Jacob o hyd, yr hwn ar hyny o bryd oedd y twyllwr. Ah! nid yw Tommy yno; nid oes yno ond ei lun, a hyny yn bur anmherffaith. Nid ydym yn amheu nad yw dynion annuwiol yn pregethu, a dynion bychain mewn crefydd yn pregethu; ond ni phregethodd dyn annuwiol erioed, na dyn bach mewn crefydd erioed fel Tommy. Paham? Wel, cewch y dirgelwch allan yn fuan, yr ydym yn meddwl, wrth ddarllen ei ddyddlyfr. Gwnawd Ioan Fedyddwyr mor debyg i Elias yr Hebread, fel y gelwid ef yn Elias, yr hwn oedd i ddyfod yn ysbryd a nerth y prophwyd hwnw. Duw, cofiwch, oedd wedi ei wneyd yn debyg; nis gallasai neb arall ei wneyd. Gallasai wisgo'r "dillad o flew camel, a gwregys am ei lwynau;" eithr ni thalai hyny, heb allu rhoddi tystiolaethau grymusach na gwregys a blew; yr oedd yn rhaid dangos yr "ysbryd a'i nerth." Ni fuasai y byd yn derbyn dim fel credentials o genadwri ddwyfol ond hyn. "Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth." Fe wna ryw beth fydd yn tystiolaethu i ddwyfoldeb ei ddanfoniad, fydd yn sel nefol wrth ei genadwri mai o'r nef, ac nid o ddynion ydyw. oedd gan brophwydi Baal dduwiau; yr oeddent yn gweddio yn daer arnynt; yr oeddent yn tori eu hunain â chyllill, ac yn gwneyd pob ystranciau yn y byd; eithr difa eu hunain oeddent, nid difa yr aberth, a lleibio y dwfr. Elias yn unig oedd yn gallu tynu tân o'r nef i wneyd yr holl bethau hyny. Nid oedd gweddi Elias yn hir, nid oedd yn ymddangos yn ddim gorchestol; er hyny dyna y weddi oedd yn esgyn i fyny, ac yn tynu tân Duw i lawr o'r nef. O dan y gwregys croen am y lwynau a'r dillad blewog yr oedd nerth ofnadwy yn cartrefu, nad oedd dim posibl ei efelychu. Ni efelychwyd ef erioed, ac ni efelychir ef byth; y mae naill ai yr un ysbryd a'r un nerth, neu nid ydyw yn ddim ond yn dwyll a chelwydd. Yr Yr ydym yn cyffesu fod graddau yn hyn; ar yr un pryd, lle y mae ychydig y mae yn ddarllenadwy mewn cenadwri, a bydd y byd yn teimlo ar brydiau ychydig nerth. Eithr lle byddo llestr mawr, etholedig at gyrhaedd dybenion goruchel, rhaid tymheru hwnw â phethau cyfaddas i ddal ac i gyfranu y trysor i'r byd. Llestr etholedig oedd Paul i dderbyn y gras gweinidogaethol, ac i bregethu y gras hwnw yn mysg yr holl genedloedd. I roi y cymhwysder angenrheidiol i ddal y poblogrwydd a'r defnyddioldeb yr etholwyd ef iddynt, bu yn aml mor isel a phorth uffern, ac oddiyno yn ol ac yn y blaen, C hyd nes codi weithiau cyfuwch a'r drydedd nef, a gweled a chlywed "pethau annhraethadwy." Eilwaith disgynai fel yn bendramwnwgl o'r nefoedd fry oddiwrth bethau tra gogoneddus i blith yr ellyllon haerllug, y rhai a'i symbylent ef yn ddidrugaredd, ac a'i cernodient mewn llid dieflig. Yr oedd efe yn gweled tipyn o waethaf pob peth, fel y gallai fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Ni wnawd un Tommy Richard erioed yn Rhydychain nac un Rhyd arall; ac ni wneir un byth, canys llaw Duw yn unig sydd yn ei wneyd. Y mae athrofeydd yn gymhwysder ychwanegol os bydd gwir bregethwr yno eisoes, wedi ei wneuthur gan law Hollalluog; eithr ceisio gwneyd gwir bregethwr trwy y pethau a ddysgir yno sydd yn ynfydrwydd. Gwelir llawer o'r ysgolheigion goreu yn y deyrnas y pregethwyr gwaelaf yn y deyrnas; nichlywyd erioed eu diflasach; nid ydynt mewn gwirionedd yn werth dim yn y pwlpud. Gallent fod o werth mawr i ryw beth arall, eithr i bwlpud nid ydynt yn werth rhoi bwyd iddynt, a gadael fod hwnw yn lled wael. Y mae holl ddysgeidiaeth yr Aipht yn wir dda i wlad Canaan, os bydd Moses o dano; ond os na fydd yno Moses yn sail i adeiladu arno, ni bydd dysgeidiaeth yr Aipht ond tywyllwch yn ngwlad yr addewid. Yr oedd Mr. Richard yn ddysgedig yn ei gylch; ond y mae yn wir fod y cylch hwnw yn gymhariaethol fach; a phe buasai yn fwy buasai yn fantais iddo ef, beth bynag am ei wrandawyr. Nid yw yn bosibl i ddyn fod yn bregethwr mawr fel Mr. Richard, heb fod yn ddysgedig mewn duwinyddiaeth, a phethau eraill sydd yn gymydogol i hyny, canys nid yw o bwys pa fodd y mae dyn yn cyrhaedd ei ddysgeidiaeth, pa un ai trwy gynorthwy athraw, ai heb athraw, -trwy hunanymroddiad. Y mae llawer wedi bod yn Nghymru, er na fuont erioed mewn athrofa, er hyny wedi cyrhaedd tir uchel trwy lafur diflino, ac ymroad annghredadwy. Felly gellwch edrych ar Mr. Richard yn ddysgedig yn y cylch y darfu iddo ef lafurio; er ar yr un pryd, pe buasai y cylch yn eangach, fel y dywedasom, digon tebyg y buasai yn well, canys nid oes gormod o wybodaeth; ac unwaith y delo o dan lywyddiaeth gras, gellir gwneyd defnydd mawr o hono. Yr oedd Mr. Richard yn llafuriwr mawr dros ei oes, a chasglodd lawer; gwnaeth y goreu o'i amser o dan anfanteision lawer; ond gogoniant y cwbl ydyw gweinidogaeth fywiol oddiwrth Dduw at ddynion yn yr enaid; ac yr oedd hyny yn cyrhaedd. eneidiau dynion eraill. Nid dyweyd rhyw beth oedd efe; ond dyweyd y peth oedd eisiau; nid dyweyd er mwyn dyweyd, ond dyweyd a dyben wrth ddyweyd; a dyweyd nes cyrhaedd y dyben hwnw. Yr oedd yn dyweyd nid yn unig am ddynion, ond wrth ddynion; a dywedai nes y clywent. Bydd rhai yn treulio amser mawr i ddysgu elocution, ac yn y diwedd nid oes ganddynt ddim i ywddeyd; peth cryn ddwl yw hyny, fod dyn ag eisiau deall hyawdledd, ac yn y diwedd dim i siarad. Y mae peth felly fel pe byddai dynion yn tori y ffordd i ddwy neu dair afon i ddyfod yn nghyd at rod melin, a dim ganddynt i falu wedi y cwbl. Y peth goreu i ddysgu dyn i ddyweyd yw fod ganddo ryw beth i ddyweyd, ac yn teimlo cymhelliad cryf i'w ddyweyd; nid yn aml y bydd y cyfryw yn methu. Fe fyn y dwfr sydd yn croni le i fyned i ryw le, serch myned â'r cwbl o'i flaen. Yr oedd gan Tommy beth i ddyweyd, a theimlad angerddol i'w ddyweyd; am hyny fe ddysgodd elocution yn y ffordd yna, a hyny yn lled berffaith hefyd. Yr oedd yn pregethu, ys dywed Mr. Jones, Llangan, fel angel pan oedd o ugain i ddwy ar ugain oed, ac felly y parhaodd. Ond yn gymaint a'n bod yn meddwl gwneyd rhyw sylw o hono fel pregethwr ar ol ei weled yn myned trwy y dyddlyfr, nid awn yn mhellach ar y ffordd hono. Y peth yr oeddem am alw eich sylw ato yn benaf mewn cysylltiad a'r dyddlyfr, oedd ei fod yn egluro y dirgelwch mawr paham yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr, a pha fodd yr oedd yn gallu tynu pobl ar ei ol, ac ymddyddan â'u calonau. Y mae hyn yn ddirgelwch, ac yn beth na ddysgwyd yn holl golegau y byd. Rhyw beth yw hyn sydd yn cael ei ddysgu "nid gan ddyn, eithr gan Dduw;" a'r ffordd y bydd Duw yn dysgu hyn yw trwy drwytho y meddwl yn dda yn mhrofedigaethau y byd, helbul yn nghylch achos yr enaid, a gofal am waith Duw. Gwelir llawer yn ymburo fel aur trwy y pethau hyn, ac yn dyfod allan yn y diwedd fel "aur wedi ei buro seithwaith." Pan edrychwch ar Tommy yn llanc ieuanc yn dechreu ei daith yn y weinidogaeth yn obeithiol, ac yn mhen ychydig yn nerthol, nis gellwch gyfrif am hyny yn dda nes yr ymgydnabyddir a'i fywyd dirgelaidd. Pan y gwelir fod y llanc ieuane yn y fath bryder yn nghylch ei bregethu, yn gwneyd y fath sylw ar lwydd ac aflwydd ei ysbryd, yn nodi gwres ac oerfel y dwfr gyda'r fath fanylwch, nid rhyfedd fod pethau mawrion yn dyfod i'r golwg. Bydd yn trin yr achosion rhyngddo a Duw cyn eu trin rhyngddo a E dynion, o ganlyniad y mae yn genad gwirioneddol yn dyfod allan oddiwrth Dduw at ddynion. Chwi welwch wrth ei ddyddlyfr ei fod yn dysgu ufudd-dod yn ieuanc, trwy y pethau yr oedd yn myned trwyddynt. Dysgodd oddiwrth odfaon trwm a chaled mai Duw oedd gwrthddrych ymddiried; ac oddiwrth odfaon da a hwylus ei fod yn haeddol o fawl. Yr ydym yn ei weled yn cael ei glwyfo a'i feddyginiaethu yn aml gyda'r pregethu, fel yr oedd pob pregeth yn ddysgyblaethol iddo; yr oedd yn dysgu mwy am bregethu wrth bregethu nag oedd yn bosibl yn holl lyfrau y byd. Pe bai holl bregethwyr ieuaine y byd yn myned allan i bregethu o dan ddylanwad y pump ofn a ganlyn, byddai y byd yn sicr o fod yn well o'r pregethu: - "Yn 1. Yr wyf yn ofni rhag myned heb fod a galwad. Yn 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. Yn 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. Yn 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. Yn 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na fyddai fy enaid fy hun ddim gwell." Onid yw y pethau yna yn dyweyd llawer i gychwyn, pan ystyriwn mai profiad llane dwy ar ugain oed ydynt, yn cychwyn ei daith gyntaf i Sir Aberteifi? Y mae llawer, ysywaeth, yn cychwyn fel meirch i'r frwydr, heb ystyried dim ond myned, a gwneyd rhyw fwstwr am danynt eu hunain; heb feddwl ond ychydig iawn am eu heneidiau eu hunain, nac eneidiau neb arall. Yn awr, er mwyn i chwi gael gweled yn mha le yr oedd cuddiad cryfder Mr. Richard, rhoddwn y dyddlyfr ger bron yn lled helaeth; ac ar ol craffu arno dipyn yn fanwl trwy hwnw nes claddu ei fam, byddwn yn gwneyd ychydig o sylwadau pellach. "Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth, yr hyn oedd yn y flwyddyn 1803, yr hyn oedd yr ugeinfed flwyddyn o'm hoed, yn y lle y'm ganwyd, ar foreu dydd Sabbath, pryd nad oedd neb yno i bregethu. Fe'm hanogwyd i gymeryd y Bibl; hyny a wnaethum, ac a ddarllenais y gair hwn yn destun, Job xvi. 21. Y tro hwn fe'm cadwyd rhag dywedyd o'm lle, er boddlonrwydd i'r bobl. Ar ol hyn goddefais gystudd meddwl yn fawr. Fe'm hanogwyd gan y brodyr yr ail waith. Mi gymerais yn destun Num. xi. 6. Hon a dreuliwyd dan lewyrch i ryw raddau. O hyn allan cefais sirioldeb a gwen y brodyr. Erbyn hyn yr oeddwn yn agored i amryw brofedigaethau, neu demtasiynau<noinclude><references/></noinclude> auowd7l63d7c52iqhulbuhtuad6dtck Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/83 104 84561 164338 2026-05-07T19:18:52Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "satan. Ond, moliant i Dduw, fe'm cadwyd rhag i bethau gwaradwyddus dori allan, er maint yr anffyddlondeb a'r anonestrwydd oddifewn, ond nid yn ddiofid o'u herwydd; ac nid heb ryw faint o arddeliad. Diolch i Dduw am hyny. "1805.-Dygwyddodd i mi, ar ddeisyfiad y brodyr, fyned trwy Sir Aberteifi, yn yr eilfed flwyddyn ar ugain o'm hoedran. Yna yr oeddwn gadarn trwy Dduw. Pan y byddwn ar y llawr, dyna y pryd yr eglurhäai Duw ei hun. Pan... 164338 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>satan. Ond, moliant i Dduw, fe'm cadwyd rhag i bethau gwaradwyddus dori allan, er maint yr anffyddlondeb a'r anonestrwydd oddifewn, ond nid yn ddiofid o'u herwydd; ac nid heb ryw faint o arddeliad. Diolch i Dduw am hyny. "1805.-Dygwyddodd i mi, ar ddeisyfiad y brodyr, fyned trwy Sir Aberteifi, yn yr eilfed flwyddyn ar ugain o'm hoedran. Yna yr oeddwn gadarn trwy Dduw. Pan y byddwn ar y llawr, dyna y pryd yr eglurhäai Duw ei hun. Pan y byddwn gryf, dyna y pryd y cawn dreio fy hun. Ond erbyn yr ail odfa, mi fyddwn ar lawr wedi'n. Ond, O ryfedd Dduw, a Duw o ddaioni, Duw fel tad at ei blentyn, yn cynesu ac yn ymgeleddu. Llawer gwaith y bum mor ffol, wedi i Dduw arddel rhyw wirionedd, i feddwl mai hwn dal'sai ei ddyweyd mwy, ac nid dim arall; ond oblegyd tybied hyny, erbyn myned i'r pydew yr ail dro, pydew wedi sychu fel hyn, y'm dysgwyd i ymddiried mwy yn Nuw a llai ynof fy hun, ac i weled mai yr arddeliad yw coron y gwaith, ac nid rhyw ran o'r gwirionedd mwy na'r llall. O'r tro hwn y dychwelais yn ddiofid mewn un modd. O hyny hyd heddyw y treuliais fy amser mewn mawr bleser yn astudio yr athrawiaeth, a'i phregethu dan ryw faint o arddeliad. Boed y diolch iddo i gyd. "1806. Y flwyddyn hon mi a wynebais ein Cymanfa Chwarterol. Cyn myned i'r daith hon, yr oeddwn yn mawr ofni amryw bethau. Un peth, yn ofni rhag myned heb fod a galwad Duw. 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na byddai fy enaid fy hun ddim gwell. I'r daith yr aethum, dydd Iau, sef yr 8fed o Fai H. Yma y bu harddwch allanol ar y gwaith, a'r bobl yn iraidd; ond nid felly fy ysbryd i. Dydd Gwener am ddeg bu y gwaith dan ei harddwch allanol, ac ychydig yn iraidd. Aethom i odfa y prydnawn, yr hon oedd sych a thrymaidd. Oddiyma aethom i B-. Yr odfa hon bu Duw yn dda wrthym wrth lefaru a gwrando, oddiwrth yr un gair, Heb. xii. 2. Y noswaith hon bu y ceffyl yn anhwylus, yr hyn a barodd dristwch i fy meddwl. Dydd Sadwrn yr oeddym yn well; aethom yn y blaen tuag at Narberth. Yr odfa hon ni bu boenus iawn, Heb. xii. 2. Oddiyma y cychwynasom i -. Yr odfa hon ni bu rwydd iawn. Oddiyma aethum ar fy nhraed gydag offeiriad Llanbedr, yr hwn gyfeillach fu i mi yn ddiofid. Oddiyma aethom i'r D gyda llawer o lesgedd corph a meddwl; ond yr Arglwydd a fu dda iawn i mi yma. Yma "Boreu Sabbath, aethom i Ll. Dd. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond dieffaith iawn ar y gwrandawyr, oddieithr ar rai. Oddiyma ni a aethom i'r B. Yma cefais gymhorth i ddyweyd y gwir, ac nid yn gwbl ddieffaith; clod i Dduw. Oddiyma aethom i Gaerfyrddin, nos Sul, yn ddifeddwl o lefaru oblegyd clywed fod dau offeiriad o Forganwg yno; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Diolch iddo am ei holl Adoniau. Dydd Llun aethum allan i le a elwir-. y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma aethum o Ll yn groes i'r afon i le a elwir Ll-d-. Yma y cefais nerth gan yr Arglwydd oddiwrth Mat. xiii. 30. Ni a dreuliasom noswaith gysurus yn nhŷ ein brawd H. Dydd Mawrth cychwynasom tua'r B- gyda gwraig y lle, yn bur anhwylus o ran fy nghorph. Yma y cyfarfum â'r brawd W. Williams. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma ni ein dau a'r wraig a gychwynasom erbyn y prydnawn i le a elwir Llanedi. Yma bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Y prydnawn hwnw ni a gychwynasom yn nghyd dros lawer o ffordd, er nad i'r un lle. Yma, wedi ymadael, mi ac un arall a aethom yn nghyd i le a elwir Llanfihangel, lle y cyfarfum â'r Parch. Mr. Jones. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Moliant iddo byth! "Dydd Mawrth yw boreu yr Association. Cyfarfuwyd am ddeg,-y gweinidogion yn unig, lle yr ymddyddanwyd amrywiol o bethau buddiol i rai oedd yn gweini y gair. Dybenwyd ein cyfarfod. Cyfarfuwyd am ddau,-blaenoriaid yr eglwysi i gyd. Ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol yn unig. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Edward. Yr odfaon cyhoeddus a gynaliwyd am dri y prydnawn, yr hin yn annghysurus. Fe weddiodd y brawd W. Havard. Pregethodd y brodyr Dafydd Parry oddiwrth Salm lxxxv. 7; John Rees, oddiwrth Job xxxiii. 25; Mr. Gray, Mat. xiii. 7. Cyfarfuwyd am 8 dydd Iau. Gweddiodd y brawd Watkin Williams. Pregethodd T. R. a David Evans. Dybenwyd ein cyfarfod gyda mawl. Cyfarfuwyd yn y capel, cyfeillach neillduol. Ymddyddanwyd llawer o bethau buddiol. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi gan y brawd Mr. Gray. Am 11, pregethodd y brodyr Eb. Morris oddiwrth Mat. xxviii. 20; student Huntingdon yn Saesneg oddiwrth 1 Pedr i. 19; a'r Parch. Mr. Jones. Dybenwyd yr odfa trwy fawl. Prydnawn pregethodd y brodyr Mr. W. a Mr. Jones. Dybenwyd yr Association. Ni a gychwynasom, sef Mr. Harris a minau, i Talley y nos hono, lle y profasom yr Arglwydd yn dda i ni ac i'r bobl. "Dydd Gwener mi a'm cyfaill Marc a gychwynasom i le a elwid Tal-. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Cychwynasom i le a elwir Llangadog. Yma bu harddwch allanol y gwaith yn amlwg, ond nid mor fyw ar fy ysbryd inau. Dydd Sadwrn cychwynasom i le a elwir Llanddeusant. Yma cefais rym i ddweyd y gwir. Cychwynasom yn yr hwyr i le a elwir Bronwydd bach, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, ac y cyfarfuasom â'r brawd Dafydd Edward. Dybenwyd ein wythnos mewn lludded. Dydd Sul cychwynasom i'r lle a elwir Crai, lle y bu yr Arglwydd yn haelionus dros fesur. Prydnawn daethum i Drecastell. Bu yr Arglwydd yn ymddangos yma hefyd. Ac oddiyma i Landilo. Bu yr Arglwydd yn dda yma hefyd. Mae y dydd hwn yn deilwng o godi maen am dano. "Dydd Llun i le a elwir Defynog. Yma y profais adnewyddiad grym, yn fwyaf enwedig yn y gymdeithas brifat. Cychwynasom i dŷ un o'r brodyr. Yma yr ymadawsom â'r brawd Dafydd Edward. Cychwynasom i Cwmtwynog (?). Dydd Mawrth cychwynasom i le a elwir Gorwydd, lle y cyfarfuasom â Mr. Jenkins. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Cychwynasom oddiyma i Lwynmadoc gyda llawer o iselder meddwl ac annhebyg i gael dim; ond yma y perffeithiwyd nerth Duw mewn gwendid, a'i wyneb oedd ar y lle. Diolch iddo. Dydd Mercher cychwynasom i'r Bont ar Ar lawr yma y gallwn ddyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Oddiyma i le a elwir Llwynderw. Ni'm llwyr adawyd yma chwaith. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Iau cychwynasom i le a elwir Bronyrhelem. Yma hefyd, er nad oeddym ond ychydig nifer, eto yr Arglwydd a fu dda iawn wrthym, y tu hwnt i'n dysgwyliad. Oddiyma i'r Dinas bach, lle bu yr achos dan ei harddwch allanol, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd. Dydd Gwener ni a gychwynasom i le a elwir-. Nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor llewyrchus ar fy ysbryd, oddiwrth Salm Ixviii. 13. Ar ol ychydig o gyfeillach brifat, cychwynasom i Ystradwallter. Yma teneuodd yr awyr ychydig yn bur siriol. Diolch iddo yn y llwch. Dydd Sadwrn cychwynasom mewn modd tra chysurus i Lanymddyfri. Yno bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Fe'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ac er effaith fawr ar y dorf. Yma y cyfarfuasom ag amryw o gyfeillion o wahanol fanau yn dra chysurus; ond nid heb peth annghysur oblegyd llwfrdra meddwl fy nghyfaill. Oddiyma ni a aethom yn gysurus i le a elwir, lle yr oeddym i fod y noson hono. Yma y cyfarfuasom â'r brawd Arthur Evans. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma, ac nid wrthyf fi yn unig, ond i'r gwrandawyr hefyd. Diolch. "Dydd Sul. Y mae heddyw yn Sabbath. Ni a aethom i ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais lawer o help i roi ein hachos, ac achos y dydd, i'r Arglwydd. Cychwynasom tua'r lle addoliad yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion yn dra chysurus. Enw y fan yw Caio. Gwresog iawn yr hin; lluosog iawn oedd y dorf. Minau a nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o hyfder a gwroldeb ysbryd. Dybenwyd ein cyfarfod trwy ganu gair o hymn, a llawer o foli. Cychwynasom erbyn odfa dau i Lansawel. Yma yr ymwelodd yr Arglwydd a'r odfa mewn modd neillduol, a llawer o'i bresenoldeb. Cychwynasom erbyn yr hwyr i'r Bryn, lle ein dylynwyd â'r un dylanwadau. Dybenwyd yr odfa gyda dawnsio a moli Duw. "Dydd Llun yw hi heddyw arnom. Aethom i'r ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais ychydig rwyddineb i ledu fy achos ger bron Duw. Cychwynasom i le a elwir New Inn, lle bu yr Arglwydd yn dda wrthym, yn enwedig yn y gyfeillach brifat. Oddiyma y eychwynasom i Gastellnewydd. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd ar fy ysbryd. Dydd Mawrth cychwynasom yn gysurus i Blaenanerch. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, yn gyhoeddus ac yn neillduol. Diolch i Dduw. Cychwynasom yn nghwmni Mrs. E., mi a'm cyfaill, i Aberteifi, lle bu yr Arglwydd yn dda dros ben i mi a'r dorf. Yma y cefais lawer o garedigrwydd brawdol, fel yn mhob man arall, ac yn nhŷ y Cadben B. I'r Arglwydd y byddo yr holl glod. Cadwed finau yn y llwch. Dydd Mawrth. Y boreu hwn ar ddyledswydd ni bu mor llewyrchus, o eisiau gwylied arnaf fy hun. Cychwynasom tua'r Capel Newydd. Yma y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Derbyniwyd pump at y gyfeillach o'r newydd yma, o nifer y rhai a fyddant byth gadwedig, gobeithio. Cychwynasom i'r Eglwyserw, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn i ni, uwchlaw ein dysgwyliad. "Dydd Iau.-Ymadawodd fy nghyfaill a minau heddyw. Daethum adref yn iach, dan ymgeledd yr Hollalluog. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau, yn rhagluniaethol ac yn ysbrydol! Diolch iddo. "Mai 13. Un wythnos a dreuliais mewn llawer o farweidddra ysbrydol, ac yn gwynebu ar daith fechan o'r newydd. Cadwed Duw fi wrth ei draed. Dybenais y dydd gydag ychydig bleser yn ngwaith yr Arglwydd, uwchlaw fy nysgwyliad. "Mehefin 1, 1806. - Mi a gefais un Sabbath yn ychwaneg i wynebu ar y gwaith mawr yn mhlith brodyr yr Annibynwyr, mewn lle a elwir Trefgarn, lle y cefais rym i ddyweyd y gwir gyda harddwch allanol ar y gwaith. Diolch i Dduw am hyny o drugaredd i un mor wael. Aethum i dŷ un o frodyr yr Annibynwyr i giniawa; ac oddiyno yn y prydnawn i'r lle addoliad a elwir Rhydgele yn ein plith ein hunain. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir yn y weinidogaeth gyhoeddus, a mwy pleser yn y gyfeillach neillduol. Oddiyma daethum adref dan amddiffyniad Duw. Diolch iddo. Yr wythnos hon a dreuliais dan deimladau cryfion o rym fy llygredd, ac nid yn ddideimlad o bethau ysbrydol. Nos Lun, bum yn gwrando Ebenezer Morris yn ei daith trwy ein sir, ac yr oedd dan arddeliad mawr, oddiwrth y gair hwnw, 'Cariad Crist sydd yn ein cymhell ni.' Sylwodd ar gariad Crist mewn dau olygiad: 1. Cariad oedd yn Nghrist erioed, ac a amlygwyd tuag atom ni yn ngwaith y prynedigaeth. 2. Yr egwyddor o gariad oedd wedi cael ei phlanu yn yr enaid. Yn wyneb hyn soniodd am yr elyniaeth sydd mewn dyn yn erbyn Duw. Yr oeddwn yn teimlo lles dan yr athrawiaeth hon. Diolch i Dduw am hyny. Dranoeth yr oeddwn yn dyfod i Trefin i gyfarfod â Mrs. Bevan. Yma y pregethodd E. Morris oddiwrth y gair hwnw, 'A phob peth sydd o Dduw.' Gwnaeth y sylwadau hyn: 1. A phob peth ymgysurol, mewn rhagluniaeth. 2. Yn yr iechydwriaeth. 3. Yn ngwaith yr Ysbryd Glân. Nid aeth yr odfa hon heibio yn ddiles i mi hefyd. Diolch i Dduw am hyny. Yr wythnos hono a dreuliais mewn llawer o gymysgedd oblegyd anwyliadwriaeth ar fy ysbryd, a gwrthgiliadau yn fy ysbryd. Ond ger bron yr Arglwydd y byddwn rydd, a chawn ireiddio. Mae hyny yn dangos fod cynydd yn yr agosrwydd at Dduw, ac mai ynom ni mae yr achos o'n diffrwythder, ac nid o Dduw.<noinclude><references/></noinclude> 0dzjnyg423tp24vtn6zh9mdy0hi5eun Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/88 104 84562 164339 2026-05-07T19:19:50Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Mehefin 7.-Mi a gychwynais erbyn y Sul. Nos Sadwrn, yn nhŷ un o'r brodyr, cefais rym i ddyweyd y gair, er nad oedd yn llewyrchus annghyffredin, nac yn dywyll iawn. 8fed. Y mae heddyw yn Sabbath. Ar ol ein dyledswydd deuluaidd ni a gychwynasom i'r lle addoliad a elwir Tyddewi. Yma hefyd y'm nerthwyd gydag ychydig bleser, ac eiddigedd am lwyddiant y gair, oddiwrth y gair hwn, Salm lxviii. 11. Ar ol yr odfa hon y treuliasom, ac amryw o... 164339 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mehefin 7.-Mi a gychwynais erbyn y Sul. Nos Sadwrn, yn nhŷ un o'r brodyr, cefais rym i ddyweyd y gair, er nad oedd yn llewyrchus annghyffredin, nac yn dywyll iawn. 8fed. Y mae heddyw yn Sabbath. Ar ol ein dyledswydd deuluaidd ni a gychwynasom i'r lle addoliad a elwir Tyddewi. Yma hefyd y'm nerthwyd gydag ychydig bleser, ac eiddigedd am lwyddiant y gair, oddiwrth y gair hwn, Salm lxviii. 11. Ar ol yr odfa hon y treuliasom, ac amryw o'r brodyr yn nghyd, ein cyfeillach yn nghylch trefn eglwysig. Y prydnawn cychwynasom i'r ail gyfarfod, i le a elwir Caerfarchell. Yma y cyfarfuwyd ag ychydig brofedigaeth. Ar ol darllen y gair yn Ioan xi. 32 yn destun, dechreuais lefaru gydag ychydig deimladau o sel a pharch i'r gwirionedd; ond wrth ddechreu myned i drin rhan athrawiaethol y gair, fe dorodd fy ngwaed o'm ffroenau, nes fy rhwystro yn y gwaith, a rhoddi heibio am ychydig. Ceisiais gan y brawd David Thomas i roi gair i ganu; hyny a wnawd; a phan ddarfyddwyd, fe'm hadferwyd inau. Clod i Dduw! Cefais rym i fyned trwy y gwaith gyda gradd o sel, ac nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd yr Hollalluog. Moliant iddo am hyny. Cychwynasom oddiyma yn nghyfeillach amryw o'r brodyr at odfa yr hwyr. Yr oedd fy meddwl mewn trafferth pa beth i lefaru; ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais fawr serch am lwyddiant y gair, ac at eneidiau fy ngwrandawyr. Fel hyn y treuliais y dydd a'i waith. Diolch i Dduw am ei ymgeledd tirion i un mor wael. Boreu dydd Llun galwyd y teulu i ddyledswydd. Cefais ryddid wrth orsedd gras. Diolch, diolch byth i'r Arglwydd mawr am ei diriondeb. Daethum adref y dydd hwn. Cefais y teulu dan ymgeledd Duw yn y modd goreu. Diolch am hyny hefyd. Yn yr hwyr aethum i gyflawni y gwasanaeth crefyddol; mi a'i teimlais yn sych iawn, megys heb wlithyn, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith, oblegyd fy mhellder oddiwrth yr Arglwydd, ac anwyliadwriaeth ar fy ysbryd; am hyny anfedrus yn y ffordd at Dduw y byddwn, a thywyll iawn. Bu genym gyfarfod nos Fercher gartref cyfarfod gweddi. Teimlais ryw faint o wlith ac ireidd-dra cyn y diwedd. Derbyniwyd un i'r gyfeillach brifat. Cafwyd cynorthwy i ddyweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd wrth ymddyddan â hi. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Morris. Treuliais y rhan ganlynol o'r wythnos mewn rhyw ddyryswch, ond nid yn ddilafur. Cychwynais boreu dydd Sadwrn tuag Abergwaeń i gyfarfod â'r brodyr mewn society am ddau. Dechreuwyd y cyfarfod gan y brawd Mr. Thomas. Ymddyddanwyd ychydig gan amryw rai, amryw ffordd-am bethau egwyddorol ac am bethau profiadol. Gwelwyd, wrth i Mr. T. holi egwyddorion, fod galw uchel ar flaenoriaid yr eglwys at y gwaith o egwyddori. Cafwyd ychydig foddlonrwydd wrth holi profiadau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl. Teimlais, o drugaredd Duw, ychydig wlith ac ireiddiwch. Oddiyma aethom, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd, i Drehowel, lle y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas i mi fy hun a'r gwrandawyr. Y mae yma arwyddion o waith newydd gan yr Arglwydd. Diolch iddo am yr arwydd lleiaf. "Cyfodais y boreu dranoeth, sef y Sabbath. Galwyd y teulu yn nghyd i'r ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd y brawd Mr. T. heb godi oblegyd ei lesgedd. Darllenais salm, a chanwyd mawl. Teimlais fy ysbryd yn iraidd iawn. Cydunwyd mewn gweddi, lle y teimlais ryddid ac egni i ryw raddau. Diolch iddo am ei dynerwch. Cychwynais oddiyma at odfa y boreu, i'r Dinas. Yma y cyfarwyddwyd, yn ol barn y brodyr, at wirioneddau perthynol i'r lle. Cefais ryw faint o help a chymhorth; clod i Dduw am hyny. Ymadawsom at yr odfa brydnawn. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, a pheth tystiolaeth fod yr Arglwydd yn foddlon, a pheth arwydd fod y gair yn gafaelyd yn y gwrandawyr. Cychwynasom oddiyma at odfa yr hwyr, lle y cyfarfu amryw yn nghyd, ac y'm nerthwyd gyda gradd o bleser i draddodi y genadwri, ac nid heb ryw arwyddion llwyddiant. Diolch i Dduw am hyn. Daeth yn Llun arnom. Cyflawnwyd yr addoliad teuluaidd gyda gradd o rwyddineb. Cychwynasom i Abergwaen i wrando Mr. Lloyd, lle yr oedd amryw yn nghyd, ac y pregethodd oddiwrth Esay liii. 1. Oddiyma daethum adref. Treuliais yr wythnos hon yn ddigynydd iawn mewn pethau ysbrydol; ond mewn llawer o ffwdan daearol, ac nid yn ddifyfyrdod ar bethau buddiol, nac ychwaith yn ddiflas. Diolch i Dduw am hyn. Yn nghorph yr wythnos hon bu ein breintiau yn aml. Bu dau weinidog heibio i ni: Thomas Edward. Dan yr odfa hon teimlais sychder mawr. Y noswaith hono cyfarfu Thos. Ed. ac Arthur Evans yn Caer. * * Yma bu ychydig ireiddiach ar fy ysbryd i a'r bobl yn gyffredin. Tranoeth daeth Arthur atom ni. Yr odfa a fu drymaidd iawn; ar ol yr odfa cadwyd cyfarfod prifat. Yma bu ychydig yn siriol. Diolch i Dduw am hyny hefyd. Yr wyf yn diweddu yr wythnos hon gyda gofid a hiraeth; gofid am na allwn fyw yn fwy duwiol a ffrwythlon, er gogoniant i Dduw, a pheth hiraeth am fod felly. "Y mae heddyw yn ddydd Sabbath arnaf. Cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd gartref cyn myned i'r capel, yr hwn oedd yn y pentref. Aethom at y gwaith mawr o gwmpas deg. Teimlais yr odfa yn bur drymaidd hyd at ei diwedd, pan y profais fawr help a chymhorth, ac ireiddiwch wrth gymhell pechaduriaid at yr Iesu. Dybenwyd yr odfa yn dra chysurus. Diolch i Dduw am hyn. Bu cyfarfod am ddau gan ddau wr dyeithr, Wm. Havard a Thos. Price. Yr odfa hon a fu gaeth iawn ar y ddau lefarwr; nid heb ryw beth yn cyffroi ar serchiadau dynion. Aethum gyda'r ddau wr dyeithr at odfa y nos. Yma bu yn dda iawn ar y ddau,-rhyw beth yn effeithio yn gyffredinol ar y bobl, ac nid yn ddideimlad fy hun. Diolch i Dduw am ei holl roddion! Dydd Llun yn dra chymylog, ond nid heb ryw faint o lewyrch a thynerwch ysbrydol. Dydd Mawrth pregethodd Mr. Jenkins yma gydag ireiddiwch annysgwyliadwy oddiwrth Salm xlii. 11. Nos Fercher cawsom gyfarfod gweddi, lle daeth amryw yn nghyd. Yma teimlais ryddid ger bron yr Arglwydd, a thaerni ysbryd am lwyddiant i'r efengyl; cafodd fy meddwl ei berswadio yn ddiweddar fod gan yr Arglwydd ryw waith newydd i wneyd yn ein hardaloedd, oddiwrth y commisiwn sydd gan y gair ar y gwrandawyr, ac ychydig ddechreuad yn Mhencaer yn nhylwyth Mr. Mortimer, mewn lle annysgwyliadwy iawn: ond Gweithiwr rhydd yw Duw. A diolch am yr arwydd lleiaf fod a fyno Duw â'n gwlad; a diolch am gael rhoi anadl o du y gwaith. Llawer o ddaioni Duw a welsom yr wythnos hon fel teulu, yn ei gymhorth i ni, a'i ofal am danom. Clod iddo byth bythoedd. Aethum i daith erbyn y Sabbath; ac at odfa yn yr hwyr hwnw, lle y teimlais ychydig yn gaeth, ac yn ddieffaith iawn ar y gwrandawyr, i'm golwg i. Daeth yn Sabbath arnaf. Cefais ychydig gymhorth i nesu at yr Arglwydd yn y dirgel. Diolch iddo am hyny. Hi a barhaodd trwy y dydd yn hytrach yn sychlyd hyd yr hwyr. Yn odfa yr hwyr profais ddaioni Duw tuag ataf mewn amryw ystyr-yn yr harddwch allanol, ac yn yr ymgeledd dufewnol. Diolch iddo am hyn. Daethum adref erbyn amser odfa. John Williams o Gaer bregethodd oddiar y gair hwnw, 'Canys meirw ydych.' Yr odfa hon a dreuliwyd yn gyffredin, heb ryw arddeliad neillduol, nac ychwaith yn galed iawn. Clod am hyny hefyd. "Gorphenaf 2, 1806. - Cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi wythnosol, lle y gweddiodd amryw o'r brodyr dyeithr. Teimlais ychydig flas ar y gwaith. Ar ol yr odfa gyhoeddus cynaliwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd ag un wraig a ddiarddelwyd o'r cymundeb am ymrafael ag un arall o'r society. Wrth ymddyddan, ni chawd ond ychydig foddlonrwydd ynddi. Ymddyddanwyd ag un arall, merch o forwyn, neu wasanaeth-wraig. Wrth ymddyddan â hon, cawd lle i feddwl fod rhyw ymryson da ar ei meddwl. Er mai ychydig gawd ganddi, cawd tystiolaeth ei meistr am dani yn ei gwydd, yr hwn oedd yn steward ein society. Dywedodd ei fod yn gobeithio fod y gwaith da wedi ei ddechreu arni, a'i bod yn rhodio yn fwy sobr nag oedd: bu dda genym glywed hyn. Ar ol hyn soniwyd am Ysgolion Sabbathol Cymraeg. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi a mawl gan y brawd Mr. Williams, un o stewardiaid y lle. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos nid dyddanus nac annghysurus iawn, ond ychydig fyfyrdodau yn athrawiaethau Crist, gyda rhyw faint o lonyddwch. "Gorphenaf 5.-Aethum trwy dywydd pur arw wyth milldir ar fy nhraed at odfa yn yr hwyr. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gwrandawyr. Yr oedd yn iraidd iawn, a'r gair fel pe buasai yn gafaelyd. Diolch, diolch am hyn o arddeliad. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethom at y ddyledswydd deuluaidd; yma y bu yn hytrach yn sych. Aethom at yr odfa am wyth. Yma bu heb ddim arwyddion neillduol o lwyddiant, eto y gwaith dan eu harddwch allanol. Diolch am hyn yn wyneb gwaeledd. Daethom at yr odfa ddau, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Yma y'm nerthwyd mewn corph a meddwl, a llawer o ddaioni Duw wedi ei amlygu yn bur gyffredin. Aethom at odfa yr hwyr; yr oedd yn llewyrchus yma. Diolch am bob tywydd. Cefais lawer o garedigrwydd yn nhŷ Mr. Thomas, hen weinidog yr efengyl. Daethum adref yn gysurus heddyw, a chefais y teulu yr un modd. Diolch i Dduw am hyn. "Gorphenaf 7, 1806.-Aethum at odfa heno yn agos gartref. Mi a brofais fod yr Arglwydd yn y lle, ac yn dda iawn i ni. Mae ei ddaioni yn fy nylyn i, y creadur gwaelaf o bawb, yn toddi ychydig ar fy nghaledwch. "Gorphenaf 8.-Bu cyfarfod gweddi genym, ac amryw yn nghyd; a chyn ymadael gwnawd yn amlwg fod yr Arglwydd yn y lle. Ar ol ein cyfarfod gweddi cynaliwyd cyfeillach. Ar ol ychydig ymddyddanion profiadol gan rai o'r gyfeillach, ymddyddanwyd â dwy ferch oedd yn cynyg eu hunain yn aelodau i'n cyfeillach. Yr oedd yr olwg arnynt yn friw, ac arwyddion pur neillduol fod yr Arglwydd â'i law arnynt. Dywedasant ychydig am foddion eu cyffroad, yr hyn oedd y weinidogaeth gyhoeddus. Yn wyneb hyn yr oedd meddwl y gyfeillach yn bur siriol, gan obeithio, wrth weled cwmwl fel cledr llaw gwr yn codi o'r môr, ei fod yn arwydd gwlaw mawr ar ol hir sychder ar yr eglwys. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn gysurus iawn. Yn nerth y bwyd hwn trafaelais at ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn.-Aethum at y society i Abergwaen. Cyfarfuwyd am dri, ac amryw o'r brodyr yn nghyd. Rhoddwyd arnaf ddechreu y cyfarfod. Darllenais benod, canwyd hymn, a gweddiwyd. Profais cyn diwedd gweddio nerth a goleu wrth siarad â'm Duw. Clod am hyny. Ymddyddanwyd pethau profiadol ag amryw. Cafwyd grymi ddyweyd y gwir wrthynt. Cyn diweddu ymddyddanwyd ag un oedd yn cynyg ei hun yn aelod i'r gyfeillach, ar ol bod dan ofid am ei gyflwr am lawer o fisoedd. Cafwyd boddlonrwydd ei fod dan ryw faint o oruchwyliaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn dra chysurus, ac yn ddiofid meddwl. Diolch i Dduw am ei holl ddaioni yma. Aethum at odfa y nos i le a elwir C. Yma profais ei bod yn sych ac yn galed, ond nid heb rym i ddyweyd y gwir, ac harddwch allanol ar y gwaith. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Ar ol cyflawni dyledswydd deuluaidd yn bur gyffredin, aethum at odfa y boreu i Tredafydd. Yma teimlais sychdwr mawr yn fy ysbryd, ond nid heb help i ddyweyd y gwir. Diolch am hyny. Aethum at odfa y prydnawn i Abergwaen. Yma profais egni a sel wrth lefaru y gwirionedd, a phleser hefyd. Dybenwyd yr odfa mewn tawelwch. Aethum at odfa yr hwyr at Drehowel. Bu yn bur lewyrchus yma ar ein hysbrydoedd wrth lefaru a gwrando. Clod i Dduw am hyn byth. Tranoeth yr oedd yn ddydd Llun. Daethum yn nghyfeillach Mr. Mortimer tuag adref. Bu amryw ymddyddanion rhyngom, ond yn ddiddolur iawn. Ar ol treulio y dydd gyda fy ngalwedigaeth mewn lludded a llesgrwydd, aethum at odfa yn yr hwyr yn agos gartref. Bu yr Arglwydd yn dda iawn yma, tros ben fy nysgwyliad a'm hofn. Daethum<noinclude><references/></noinclude> 31y5q97didmlp3yzohbyih5n14j1yz8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/93 104 84563 164340 2026-05-07T19:21:35Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "adref yn dra chysurus ar ol gwen Duw yn yr addoliad. Cofio hyn fyddo yn creu diolch byth dan fy mron am ei sylw o greadur mor ddrwg. Diolch, diolch byth. Treuliais un wythnos yn ychwaneg, a chenyf achos i ofidio oblegyd fy mawr bechu. Teimlais fy llygredigaethau mor fyw a chryf gynddeiriog ag erioed, gormod syrthni ac anwyliadwriaeth, yr hyn yn ei effeithiau sydd yn gwanhau ac yn aflwyddo fy enaid mewn pethau ysbrydol; acer hyn i gyd... 164340 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adref yn dra chysurus ar ol gwen Duw yn yr addoliad. Cofio hyn fyddo yn creu diolch byth dan fy mron am ei sylw o greadur mor ddrwg. Diolch, diolch byth. Treuliais un wythnos yn ychwaneg, a chenyf achos i ofidio oblegyd fy mawr bechu. Teimlais fy llygredigaethau mor fyw a chryf gynddeiriog ag erioed, gormod syrthni ac anwyliadwriaeth, yr hyn yn ei effeithiau sydd yn gwanhau ac yn aflwyddo fy enaid mewn pethau ysbrydol; acer hyn i gyd, o ras y nefoedd, profais fod daioni rhyfedd Duw yn tyneru peth ar fy nghalon galed, uffernol inau. Diolch i Dduw am na roddodd fi i fyny i galon-galedwch, i feddyliau annghymeradwy. Felly y treuliais yr wythnos hon. "Y mae heddyw un Sabbath ychwaneg. Aethom i ddyledswydd deuluaidd. Yma, wrth dywallt fy enaid ger bron Duw, profais gymaint o'i ddaioni nes oedd fy nghalon galed yn briwio. Cofio ei ddaioni hwn fyddo yn ail ddryllio fy nghalon, ac yn ei llanw a diolchgarwch. Am ddeg aethum i'r tŷ cwrdd gartref at yr odfa. Y rhan fwyaf o hon a aeth heibio yn bur sychlyd, ond nid i gyd. Yn y prydnawn, am un, cadwyd ysgol Gymraeg, lle yr oedd amryw yn nghyd. Treuliasom ddwy awr yma. Dybenwyd trwy weddi a mawl, mewn brys i fyned at yr odfa yn y pentref am dri, gan yr Annibynwyr, i fedyddio plentyn. Llefarodd y gwr yn iach, a gwirioneddau angenrheidiol. Ar ol hyn yr oedd yr amser yn galw at odfa yr hwyr, yr hon oedd yn Mathry. Bu yr Arglwydd yn dda iawn i mi yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum adref heddyw yn gysurus, ond, gan ryw drafferth fydol, yn ddiegni iawn at fyfyrdodau nefol. Yr Arglwydd a faddeuo fy syrthni a'm segurdod am bethau ysbrydol. Arglwydd, trugarha wrthyf. Nos Fawrth, wrth gyflawni y ddyledswydd deuluaidd, teimlais fy ysbryd mewn graddau o ryddid ger bron yr Arglwydd. Coder yma faen o goffadwriaeth mewn diolchgarwch. Cyfarfuwyd nos Fercher mewn cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Yr odfa a dreuliwyd yn bur sych. Cadwyd society. Torodd yn wawr yma tu hwnt i'n dysgwyliad. Ymadawyd mewn heddwch. Treuliais y ddau ddydd canlynol yn bur gyffredin, o ran tywydd fy ysbryd, yr hyn oedd yn fawr ofid i mi. Nos Wener, cefais ychydig o fy anadl drachefn yn y ddyledswydd deuluaidd. Clod am hyn hefyd. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Aethum i wrando E. Morris. Pregethodd yn odidog iawn oddiwrth Daniel ix. 26. Yr odfa hon a dreuliwyd yn bur sychlyd, er bod dan harddwch allanol; ac yma y prydnawn ar y gair hwn, 'Gan ddysgu iddo ffordd Duw yn fanylach.' Yr odfa hon fu dipyn yn llewyrchus arnaf. Y nos aethum i'w wrando drachefn, lle y pregethodd oddiar y gair hwnw, 'Yr hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw; yr hwn a roddes i ni ernes yr Ysbryd.' Yr odfa hon fu yn bur gyffredin imi. Daeth yn Sabbath. Aethum drachefn at odfaon E. Morris a Dafydd Parry. Yma y teimlais ychydig ireidd-dra. Oddiyma aethum at odfa y prydnawn i Rydygele. Teimlais yn gaeth iawn yma. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i dý gweinidog yr Independiaid. Yma y teimlais ychydig yn rhwyddach, o ddaioni Duw. Pan y byddwn slac mewn gweddi, byddai yn gur ar fy ysbryd; pan y byddwn daer, cawn fy ngwrandaw. Mae y sylw lleiaf o un mor wael, gan Dduw, yn anfeidrol drugaredd. Clod am fy nylyn! Daethum adref yn gysurus heddyw at odfa Dafydd Parry; ar y gair hwn y pregethodd: 'Yr Arglwydd a rydd ddaioni, a'r ddaear a rydd ei ffrwyth.' Teimlais ychydig ireidd-dra. Cadwyd cyfarfod neillduol. Bu yn iraidd iawn yma hefyd. Diolch i Dduw am hyn. Aethom heno at odfa Dafydd Parry. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. "Awst 1, 1806. - Cychwynais oddicartref tua'r Association. Aethum y noswaith gyntaf i Drefdraeth. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond yn ddieffaith iawn ar y bobl. Oddiwrth yr odfa hon cefais achos diolch a griddfan -diolch am yr help lleiaf; griddfan am yr aflwydd. Aethum at odfa y boreu i Nefern dranoeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Cefais help i ddyweyd y gwir gydag ychydig lewyrch. Cadwyd ychydig society yma. Siaradodd Mr. Griffiths ag amryw, ac a adroddodd ei brofiad yn iraidd ac yn flasus iawn. Yr Arglwydd a wnaeth yn dda â'n henaid. Cawsom achos dywedyd cyn ymadael mai da oedd bod yma. Aethom oddiyma at odfa yr hwyr. Bu yn sych iawn ar fy ysbryd yma, er nid yn ddifudd i'r bobl. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu i Landudoch. Teimlais lawer o sychder ysbryd yma hefyd, ond nid yn gwbl ddiwlith. Aethum at odfa dau. Yma cefais lawer o help i'r gwaith. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y cefais lawer ynof fy hun ac eraill; ac eto nid oedd hon yn ddilewyrch. Diolch am hyn hefyd. Dydd Llun aethum at odfa erbyn deuddeg i gyfarfod Dafydd Parry. Treuliwyd yr odfa hon yn bur sych. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd amryw bethau da a buddiol. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr. Yma y profais ei bod yn galed iawn, ond nid yn ddiles i mi. Cefais odfa yma boreu dranoeth. Gollyngwyd ychydig arnaf. Aethum at odfa y prydnawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Gollyngwyd fi yn rhydd. Clod byth i'r Arglwydd. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i'r Gelli. Yma y'm nerthwyd, ac y cefais gymhorth. Diolch i Dduw am hyn. "Y 6fed. Aethum yn nghyd i'r Association i Langeitho. Am naw o'r gloch cadwyd society i'r gweinidogion, lle yr adroddwyd profiadau gan amryw o'r brodyr. Sylwyd gan un brawd y gallasai ein hagweddau fod yn anaddas, fel gweision Duw, yn wyneb ein sefyllfaoedd yn y byd. Sylwyd gan frawd arall y gweddai i rai yn athrawiaethu fod yn hyddysg yn y gwirionedd, ac yn ei brofi eu hunain, a mawr hiraeth am ei lwyddiant. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Cymerwyd ychydig luniaeth. Cynaliwyd, am ddau, gyfarfod neillduol rhwng blaenoriaid yr eglwysi i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph yn ei amrywiol gangenau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Aethom i'r odfaon. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethom at odfaon saith boreu dranoeth. Yr oedd ychydig drymach; ond mae genym achos diolch ei bod fel y mae. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymdriniwyd ag amryw bethau buddiol mewn perthynas i alwad a swydd y bugeiliaid. Triniwyd hyn yn dra helaeth. Aethom i'r odfaon un ar ddeg. Bu wyneb Duw yn bur amlwg yma. Dybenwyd y cyfarfod mewn tangnefedd a sirioldeb mawr. Gwasgarodd amryw tuag adref. Minau a ddaethum y nos hono lawer o ffordd at odfa, ond yn ddiffygiol iawn; ond, yn ol ei addewid, amlhaodd gryfder i'r dirym; rhoddodd ei arddeliad arnom. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Gwener aethum at odfa ganol dydd. Treuliais hon dan lawer o lesgedd ysbryd a chorph. Aethum oddiyma at odfa y nos i Gastellnewydd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyma aethum at odfa naw. Cefais ychydig gymhorth. Diolch am hyn. Aethum at odfa dau. Cefais yma ychydig lewyrch wyneb Duw. Aethum at odfa y nos. Yma ni'm gadawyd yn llwyr. Diolch i Dduw. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa wyth yn Nefern. Cadwyd fi rhag dyrysu yma. Diolch am hyn; ond yn aniraidd iawn. Aethum at odfa dau. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o wroldeb yn fy ysbryd. Aethum oddiyma at odfa y nos i Abergwaen. Bu yr Ar glwydd yn dda iawn wrthyf a'r gynulleidfa. Diolch byth am ei holl ddoniau i greadur mor ddrwg, a gwrthgiliedig, a hunanol. Daethum adref heddyw dan diriondeb Duw. Cefais y teulu yn gysurus iawn. Diolch i Dduw byth. Ond y mae genyf achos cwyno a gofidio ar ol y triniaethau da hyn am fy anffyddlondeb a'm pellder oddiwrth Dduw. Diolch am fy nylyn hyd yma. Treuliais un wythnos yn chwaneg; ac yn yr wythnos hon cyfarfyddais ag amryw dywydd. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yn y ddyledswydd deuluaidd amryw weithiau. Clod i Dduw am hyn. Yn yr wythnos hon bu ein breintiau yn helaeth ac yn aml dros ben. Pedwar o weinidogion o'r Gogledd heibio, y diwrnodau nesaf i'w gilydd. Teimlais sychder mawr dan yr odfaon cyntaf; a meddyliais, ar ol ei phrofi fel hyn gwpl o odfaon, wrth weled eraill yn mwynhau, fy mod wedi fy rhoddi i fyny i galedwch. Yr ail ddydd, dan athrawiaeth J. Roberts, teimlais ymgeledd Duw ar fy ysbryd, yn dwyn y gwirionedd adref gyda goleu at fy ysbryd er gollyngdod. Oh, beth a dalaf, beth a dalaf am fy ngollwng! Clod, clod iddo byth, byth am ei ymweliadau. O na allwn fyw er ei glod fy holl fywyd! Help i ymddiried yn y Duw hwn byth ac yn dragywydd. "Y mae yn Sabbath arnaf heddyw. Yr wyf, o ran fy nheimlad, yn bur sych. Aethum i'r odfa gyntaf. Profais yr Arglwydd yn dirion uwchlaw fy nysgwyliad a'm teimlad. Yn y prydnawn cadwyd ysgol. Yr oedd amryw yn nghyd. Holwyd, canwyd, a gweddiwyd gydag ychydig flas. Gwasgarwyd, oddieithr ychydig. Ymddyddanwyd am amryw bethau profiadol, ysbrydol. Gweddiwyd, ac ymadawyd mewn tangnefedd. Diolch i Dduw am hyn. Teimlais fy ysbryd yn y ddyledswydd deuluaidd yn cael ei nesu at Dduw. Codaf faen yma hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra chymysglyd; ambell dipyn o lewyrch, ond llawer o dywyllwch. Nos Fercher bu genym gwrdd gweddi. Cafwyd help a llewyrch yr Ysbryd ynddo uwchlaw ein dysgwyliad. Cadwyd cyfarfod prifat. Ymgynygodd pedwar o'r newydd i'r gyfeillach, yr hyn oedd fawr londer i fy meddwl i. Cyn ymadael bu yr Arglwydd yn dda wrthym: cawsom le i feddwl fod Duw yn y lle. Dybenwyd y cyfarfod gyda sirioldeb mawr. Yn wyneb hyn o waith newydd, teimlais fy meddwl yn bur gysurus am yr eglwys; ond nid heb lawer o bryder ac ofn am fy meddwl fy hun. Aethum dydd Sadwrn at odfa yr hwyr. Teimlais fod yr Arglwydd uwchlaw fy nysgwyliad yn y lle hwn. "Daeth y Sabbath. Aethum at odfa wyth i'r Nefern. Cefais yma gymhorth i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas. Aethum at odfa y prydnawn. Teimlais yma yn farwaidd ae yn drwm. Aethum at odfa y nos. Cefais yma fy nerthu dan ychydig wlith. Daethum adref yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Diolch i'm Duw da am hyn. Fy holl ymddiried a gaiff fod ynddo byth, bythoedd. Treuliais y diwrnodau cyntaf o'r wythnos yn bur gyffredin, er fy mawr ofid, heb ymweliadau neillduol. Dydd Mercher cyfarfuwyd yn y cyfarfod gweddi. Y cwrdd hwn a fu yn bur gyffredin. Bu genym gyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd yma amryw bethau profiadol. Siaradwyd â rhai oedd o'r newydd yn cynyg i'r gyfeillach, a chawsom le i feddwl fod rhyw ymryson gan Dduw arnynt. Derbyniwyd hwynt mewn llawenydd, gyda llawer o bleser eu gweled yn wynebu ar dŷ Dduw, gan obeithio ei fod yn wynebu da, ac arwydd o ragor. Dybenwyd yr odfa trwy weddi a mawl, dan ryw faint o wlith. Diolch i Dduw am hyny. Treuliais yr Iau mewn darllen. Cefais fy meddwl yn bur esmwyth at hyn, oddieithr ambell don. Dydd Gwener gwrandewais John Ellis yn pregethu oddiwrth 1 Ioan iv. 19. Y gwr a bregethodd wirioneddau pur ac angenrheidiol, eto o ran fy mhrofiad yn sych ac yn galed iawn. Y prydnawn ar ol y bregeth teimlais ryw nesu syml at fy Iesu, a chwant i'w garu yn fwy nag erioed, a byw iddo; hyn caniataed. Aethum oddicartref dydd Sadwrn. Aethum yn gysurus at odfa y nos. Yma y bu yn bur gyffredin arnaf. Teimlais yn dra chysurus y nos hon yn nghymdeithas gwr a gwraig dduwiol oeddwn yn eu tŷ. "Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnom. Ar ol y ddyledswydd deuluaidd aethom yn nghyd at odfa y boreu am wyth. Profais yn sych iawn ar fy ysbryd yma hefyd. Penderfynais mai eisiau cadw gyda Duw oedd yr achos. Ar ol yr odfa bu amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Ymddyddanwyd amryw o bethau buddiol a chrefyddol. Profwyd fod y gyfeillach yn lles ac yn elw. Ymadawyd i gael ychydig luniaeth. Aethum â dau o'm cyfeillion i dŷ pobl ddigrefydd ar eu cais i giniawa. Cadwyd ein golwg ar santeiddrwydd y Sabbath. Gwelsom nad oeddym o honynt hwy. Oddiyma aethum, ar ol caredigrwydd mawr y teulu, at odfa y prydnawn, a bu yma ychydig yn ireiddiach. Aethum oddiyno at odfa y nos,<noinclude><references/></noinclude> ehhrtnf6nzmza2jo13oqvanvj8nq5mi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/98 104 84564 164341 2026-05-07T19:22:39Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthym, uwchben ein dysgwyliadau. Codaf yma faen o ddiolchgarwch. Daethum adref dydd Llun. Cefais fy mam yn gystuddiol iawn. Aethum at fy ngalwedigaeth. Cadwyd fy myfyrdod yn y gair. Profais hyny yn elw mawrimi. Nos Fercher, cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yn bur gyffredin o ran fy nheimlad arnaf. Cadwyd cyfarfod neillduol. Cynygodd tri o newydd. Cawsom rym i ddweyd y gwir wrthynt. Aeth... 164341 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthym, uwchben ein dysgwyliadau. Codaf yma faen o ddiolchgarwch. Daethum adref dydd Llun. Cefais fy mam yn gystuddiol iawn. Aethum at fy ngalwedigaeth. Cadwyd fy myfyrdod yn y gair. Profais hyny yn elw mawrimi. Nos Fercher, cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yn bur gyffredin o ran fy nheimlad arnaf. Cadwyd cyfarfod neillduol. Cynygodd tri o newydd. Cawsom rym i ddweyd y gwir wrthynt. Aeth hyn heibio hefyd yn ddilewyrch iawn. Dybenwyd trwy weddi a mawl. Diolch i Dduw am bob cyfleusdra i ddysgwyl wrtho. Treuliais ddydd Iau yn bur ddielw mewn myfyrdodau; mae hyn yn galw am i mi dristâu yn dduwiol. Nos Wener yr oedd John Evans yn pregethu gyda ni. Profais fod yr Arglwydd yn arddel ei was, a'r weinidogaeth drwyddo, i'r gynulleidfa a'm hysbryd inau. Dydd Sadwrn aethum i'w wrando drachefn. Profais yma bleser, ond nid mor fwynhaol a'r odfa arall. Boreu Sabbath teimlais fy meddwl yn wasgaredig iawn. Aethum i'w wrando y boreu. Fe'm gadawyd yn sych iawn. Aethum at odfa y prydnawn: hi fu mor sych arnaf yma nes yr oeddwn bron mewn anobaith. Aethum y noswaith hono yn nghyfeillach brawd cu genyf i dŷ hen weinidog o'n pobl ni; yma bu rhyngom (sef ni ein dau a hen wraig y gweinidog, yr hon oedd fam yn Israel, profiadol a deallus iawn,) lawer o ymddyddanion crefyddol. Gyda mawr hyfrydwch awd at y ddyledswydd deuluaidd. Profais fy ysbryd yn cael gronyn o'i nesu at yr Arglwydd. Boreu dranoeth, ar ol bod dan gysgod yr Hollalluog trwy y nos, aethom at ddyledswydd deuluaidd. Profais nerth newydd yn fy ysbryd i ymaflyd am Dduw mewn gweddi. Mi ddymunwn gael calon i fod yn ddiolchgar i Dduw am hyn i un mor wael. Codaf faen yma hefyd. Daethum adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Treuliais ddydd Mawrth yn astudio pethau duwiol. Dydd Mercher cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf ynddo. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ar ol dywedyd tipyn o'n helynt, tarawodd un o'r rhai oedd newydd eu derbyn i mewn i'r gyfeillach i ddweyd; dywedodd mor effeithiol nes yr enynodd y gyfeillach yn dân. Cawsom achos i ddweyd wrth ymadael mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Cyfarfuwyd nos Wener. Yma hefyd y torodd Duw yn ei ddylanwadau arnom tu hwnt i'r hyn oeddym yn ei feddwl, nac yn ei ddymuno. Gwnawd ein llestri yn llawn iawn cyn ymadael. Clod iddo, clod iddo. Codwn yma faen o goffadwriaeth. Treuliais y dydd Sadwrn lawer o hono mewn myfyrdodau ar bethau duwiol. Daeth yn Sabbath arnaf. Aethum at odfa y boreu gartref. Yma y gwelais fod y gair yn effeithio yn bur ryfedd ar y gwrandawyr, er bod fy ysbryd fy hun yn bur ddilewyrch. Teimlais oddiyma ofid meddwl oblegyd sychder fy ysbryd. Cadwyd ysgol y prydnawn. Daeth amryw yn nghyd, a chadwyd ni yn sobr. Aethum at odfa y nos. Gwnaeth yr Arglwydd yno y tu hwnt i'r hyn oeddwn yn ei ddysgwyl. Clod iddo am hyn. Daethum adref heddyw yn dra chysurus, dan aden trugaredd Duw, ond fy mhla yn fy mlino. Ys truan o ddyn wyf fi, pwy a'm gwared oddiwrth gorph y farwolaeth hon? "Dydd Mawrth aethum at y Cwrdd Misol y sir i Rydygele, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn nghyd. Ymddyddanwyd yno yn y cyfarfod neillduol am amryw bethau buddiol. Pregethodd Mr. Jones a Mr. Harries. Dychwelais adref wedi teimlo adeiladaeth. Nos Fercher, daethom yn nghyd gartref at gwrdd gweddi. Gwenodd yr Arglwydd ar y gyfeillach; er fy mod yn sych iawn, diolch yr un pryd am ei ddaioni i'r gyfeillach; ond nid heb lawer o ofnau fy mod yn cael fy rhoi i fyny i galedwch: ond cyn diwedd yr wythnos newidiwyd fy nhywydd wrth orsedd gras. Parhaodd yn awyr deneu arnaf hyd ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn aethum yn nghyfeillach brawd at odfa y nos. Y gyfeillach a brofais yn dra buddiol a dyddorol. Wrth fyned trwy yr odfa hon profais fy ysbryd ychydig yn iraidd. "Daeth y Sabbath. Aethom gyda'r teulu i ddyledswydd deulaidd; aethom oddiyma at odfa y boreu. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma. Clod byth am ei sylw ar un mor wael. Aethom at odfa y prydnawn. Profais yma ddaioni Duw hefyd. O, beth a dalaf am fy nylyn? Aethum at odfa y nos. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda blas. Daeth y Llun. Aethum at odfa y society. Teimlais ireidddra wrth lefaru, yn fawr. Aethum at odfa y nos. Cadwyd cyfeillach brifat. Teimlais ireidd-dra yma, ac yn yr odfa ganlynol. Clod i Dduw sydd mor helaeth ei drugaredd. Dydd Mawrth aethum at odfa deuddeg yn bur lwfr a digalon; yma y bu yn bur galed a sych arnaf, a llawer o ddyrysni. Aethum at odfa y nos. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda llawer o help a gwlith. Gallaf yn awr ddyweyd, Hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi. Daethum adref heddyw at gwrdd gweddi: teimlais ynddo lawer o sychder a chaledwch. Derbyniwyd amryw i'r cymundeb erbyn y Sabbath nesaf. Moliant iddo am hyn. Treuliais ddydd Iau a Gwener yn amrywiol o ran tywydd fy meddwl. Dydd Sadwrn y bu society o flaen y cymun genym. Daeth Mr. Jones atom, ac yr oedd yn fendithiol iawn yn ein plith. Dydd Sabbath yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, a'r cymunwyr yn aml, a'r gwaith yn bleserus iawn. Aethum at odfa y prydnawn. Cefais fy nerthu yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd. Aethum at odfa y nos. Teimlais fy ysbryd yn cael ei gynesu, ac ychydig wlith ar yr athrawiaeth. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn gysurus. Diolch iddo am hyn. Treuliais y dydd hwn yn dra chymylog. Dydd Mawrth, teimlais yn bur gyffelyb mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden at bethau duwiol. Nos Fawrth bu genym gwrdd gweddi, lle yr oedd amryw iawn yn nghyd. Teimlais fy ysbryd yn bur dyner wrth ganu. Dybenwyd y cwrdd gyda gradd o ireiddiwch. Cadwyd cyfeillach neillduol, lle yr ymgynygodd tair o'r newydd i'r gyfeillach. Ni chafwyd ond ychydig foddlonrwydd mewn dwy o honynt. Barnwyd, os oedd yr Ysbryd yn dechreu gweithio, mai dechreu yr oedd; yn wyneb tywyllwch y naill, a chaledwch y llall, gadawyd iddynt, ar ol dyweyd y gwir wrthynt, i Dduw a'i amser. Siaradwyd â gwraig arall. Cafwyd lle i feddwl ei bod mewn gofid a hiraeth am Achubwr ac achubiaeth. Egniwyd i ddweyd wrthi am yr Arglwydd Iesu, i'r hyn y cafwyd help. Dybenwyd y cyfarfod yn bur gysurus. Dydd Mercher profais fy meddwl yn bur llwfr a digalon wrth feddwl ymadael â fy mrawd. Dydd Iau, bum dan yr un amgylchiad heddyw eto, yn dra llwythog gan hiraeth: ond O na ddygai pob peth fi yn fwy agos at Dduw, a llai ataf fy hun. Hyn fyddo ddo y fendith ar bob peth. "Hydref 6fed, dydd Sadwrn. Aethum i Abergwaen at y society. Cefais help a phleser mawr yma ar ol amryw ymadroddion. Dybenwyd y cyfarfod ag achos i ddyweyd mai da oedd bod yma. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y teimlais lesgedd mawr oblegyd gwendid fy natur; a theimlais gryn boen trwy y nos; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf. Clod, clod iddo byth, am ymgeleddu un mor wael. Daethum adref dydd Llun. Cefais y teulu yn gysurus. Dydd Mercher bu genym gyfarfod gweddi. Teimlais yma yn bur gyffredin. Cynygiodd un o'r newydd i'r gyfeillach. Cafwyd help i ddweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd ei bod hi wedi ei dryllio. Dybenwyd y cyfarfod yn dra thawel. Dydd Iau aethum i angladd. Teimlais fy ysbryd yn ymblethu yn yr athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum at angladd arall y prydnawn i Langloffan. Yma teimlais sychder; daethum adref y noswaith hono yn gysurus. Aethum dranoeth i ffair. Teimlais lawer o'i gwagedd o'm mewn; ond fe'm cadwyd rhag un gwaradwydd. Diolch i Dduw am hyn. Heddyw eto yr wyf yn teimlo fy meddwl yn awyddus i redeg i ryw ran o bethau Duw, ac yn profi fy llygredd yn fawr. Daeth Sabbath arall. Cefais fy nerthu yn odfa y boreu gartref. Y prydnawn cadwyd ysgol; bu yma yn bur gyffredin. Aethum at odfa y nos. Profais yr odfa hon yn galed ac yn sych iawn. Treuliais yr wythnos mewn llawer o ddyryswch a thywyllwch. Aethum oddicartref dydd Gwener. Aethum at odfa yr hwyr. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Sadwrn aethum at odfa deg; cefais rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o flas. O, dyma Dduw yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau, yn ol ei bethau goreu. Aethum at odfa dau i'r Nefern. Gwnaeth yr Arglwydd â mi yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Clod iddo byth bythoedd. Daethom oddiyma yn gysurus, dan ymgeledd Duw a dynion, at odfa yr hwyr, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Dyma ryfeddodau Duw tuag at y gwaelaf o bawb. Aethum yn nghyfeillach fy mrawd a'm cyfarfu yno, ac un cyfaill arall i Aberteifi, lle y cawsom bob ymgeledd. "Daeth yn Sabbath arnaf. Aethom yn nghyd at odfa y boreu i'r Capel Newydd. Profais yr Arglwydd yn dda iawn. Dychwelais at odfa y prydnawn. Cefais yma fy nerthu â gradd o arddeliad yr Arglwydd. Clod iddo am hyn. Aethum at odfa y nos. Profais yn galed iawn yma, ond nid heb yr harddwch allanol. Dranoeth aethum i'r odfa i Bwlchygroes. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Aethum at odfa y nos i Lanfyrnach. Profais yma ddaioni Duw. Dydd Mawrth daethum i Abergwaen, dan ymgeledd trugaredd Duw, wedi fy ngwared rhag profedigaeth am y ceffyl, yr hwn a aeth yn gloff iawn wrth fyned i fyny, ac a gefais yn iach pan ddychwelais. Clod i Dduw am hyn. Daethom at odfa y nos. Profais ddaioni a thiriondeb Duw yn fawr tuag ataf, er nid mor rhydd ag y teimlais lawer gwaith. Dydd Mercher, daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Clod byth bythoedd i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau. Treuliais yr wythnos hon mewn ychydig lafur yn ngwirioneddau y gair. Dydd Sadwrn aethum at angladd i Dyddewi, trwy lawer o erwindeb hin. Cefais yma radd o help i ddyweyd y gwir. Dychwelais at odfa y nos. Profais yr Arglwydd yn dda wrth fy ysbryd. "Aethum y boreu Sabbath at odfa gartref; profais ireidd-dra yma hefyd. Aethum at odfa y prydnawn: bu yma yn lled gyffredin. At odfa y nos; rhyw beth yn debyg; pregethwyd gan fy mrawd, a'r harddwch allanol ar y gwaith. Daethom adref. Cefais y teulu yn gysurus. Clod byth bythoedd i Dduw am hyn hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra therfysglyd a chymysglyd. Weithiau yn cael ychydig hamdden i astudio; bryd arall, gan rym fy llygredigaethau, fel un o flaen corwynt. Yn wyneb hyn mi deimlwn ofn syrthio dan eu traed. Yna, dan yr amgylchiad yma, mi ymdrechwn anfon erfyniau at Dduw am gymhorth i sefyll a marweiddio fy llygredd. Hyn oedd fy helynt gyffredin. Nos Fercher yr oedd genym gwrdd gweddi: cyn myned i'r cwrdd cefais ychydig gythrybliad o uffern. Tybiais y buasai yn dywyll ac yn niwlog arnaf; ond y Duw hwnw sydd yn gwneyd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim ydym ni yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl, a fu dda wrthyf. Bendigedig yn oes oesoedd fyddo ei enw mawr am gofio am greadur mor wael. Treuliais ddydd Iau i ddarllen journal y Parch. R. Hill. Yn hyn y cefais lawer o bleser wrth weled ffydd, cariad, sel, a ffyddlondeb a hunan-ymwadiad y gwr da hwnw dros ei Arglwydd. Nos Iau aethum i wrando gweinidog dyeithr. Teimlais yn galed iawn yma; ac nid fy neimlad i yn unig oedd, ond yr oedd yn ymddangos felly yn gyffredinol. Bu genym gwrdd dydd Gwener gan yr un gweinidog: yma hefyd y bu y cwrdd yn bur sych. Cefais ychydig dreial eto, yr hyn a'm gosododd yn bur isel. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Yr Arglwydd a ŵyr pa fodd y treuliaf ef. Heno aethum i Lan-o, i wrando John Bowen. Dangoswyd tiriondeb mawr i mi yma gan Dduw a dynion. Treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn yn nghyfeillach y brodyr. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath newydd arnaf. Fy nheimlad oedd yn gnawdol ac yn ansantaidd iawn. Ar ol dyledswydd deuluaidd ac ychydig luniaeth cychwynasom at odfa y boreu, lle y pregethodd John Bowen oddiwrth Luc viii. 18. Yma y teimlais fod y gwirionedd dan arddeliad yn gyffredinol, ac ni<noinclude><references/></noinclude> q2ur9wov0uuftkeinvwy9hhm9sirwfr Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/103 104 84565 164342 2026-05-07T19:23:41Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "bu yn ddieffaith i minau. Clod i Dduw am hyn. Ar ol yr odfa hon teimlais fy hun yn myned i lawr dan draed gelynion fy nhŷ fy hun; yr oeddwn bron ffaelu anadlu. Aethum at odfa i mi fy hun y prydnawn; profais yr Arglwydd yn un â'i air yma, yn cyfodi y tlawd o'r llwch, oddiwrth 1 Bren. vii. 38. Aethum at odfa y nos. Profais yma ryddid, a dysgwyd i mi ymddiried yn Nuw. Pan oeddwn wan, yna yr oeddwn gadarn. Aethum i dŷ Mr. Thomas i gysgu.... 164342 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bu yn ddieffaith i minau. Clod i Dduw am hyn. Ar ol yr odfa hon teimlais fy hun yn myned i lawr dan draed gelynion fy nhŷ fy hun; yr oeddwn bron ffaelu anadlu. Aethum at odfa i mi fy hun y prydnawn; profais yr Arglwydd yn un â'i air yma, yn cyfodi y tlawd o'r llwch, oddiwrth 1 Bren. vii. 38. Aethum at odfa y nos. Profais yma ryddid, a dysgwyd i mi ymddiried yn Nuw. Pan oeddwn wan, yna yr oeddwn gadarn. Aethum i dŷ Mr. Thomas i gysgu. Cefais gyfeillach ddymunol a diddolur yma. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Ar ol lluniaeth cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd: cefais ryddid ger bron yr Arglwydd yn fy ysbryd wrth ymbil. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd, a'm brawd wedi dod i ymweled â ni; ac yr ydym yn mwynhau y dydd hwn dan nodded Duw. Beth a dalaf am ei holl ofal am danaf, a'i roddion i mi? Am nad oes genyf ddim i dalu, phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Nos Lun bu genym odfa, a'm brawd yn pregethu; yn yr odfa gwelwyd effeithiau bod y gair yn cael ei dderbyn; fy nheimlad i oedd sych a thrwm. Dydd Mawrth cychwynasom yn foreu iawn i'r Association i Abergwaen, erbyn naw o'r gloch i society y llefarwyr. Triniwyd amryw gangenau o'r ddysgyblaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Edwards. Ar ol ychydig luniaeth, awd i'r society arall, lle yr oedd yr holl flaenoriaid yn cwrdd. Triniwyd amryw bethau oedd yn perthyn i'r Corph. Awd at odfaon cyhoeddus, lle y pregethodd y brawd oddiwrth Gal. ii. 21; y brawd Thomas Jones oddiwrth Actau xxvi. 18; a'r brawd Peter Roberts oddiwrth Dat. xxii. 1. Dybenwyd gwaith y dydd. Cafwyd lle i feddwl fod Duw yn foddlon i'r gwaith. Rhoddodd dywydd da yn nghanol tywydd garw; a gwlithodd trwy y weinidogaeth. Boreu dranoeth yr oedd odfa gyhoeddus am saith o'r gloch. Gweddiodd y brawd Watkin Williams: pregethodd y brawd Dafydd Evan, Ephes. i. 19; a'r brawd Edward Watkin oddiwrth Mat. iii. 6. Awd i'r society. Triniwyd amryw faterion yn ddoeth dan lawer o gyfarwyddyd. Awdi'r odfaon un ar ddeg. Gweddiodd y brawd Lewis Morris. Pregethwyd yn Saesoneg gan John Rees; yn Gymraeg gan Mr. Williams. Canlynodd Ebenezer Morris. Am ddau, pregethodd David Rees oddiwrth 1 Pedr i. 19, a'r brawd John Evans oddiwrth Ephes. iii. 19. Ymadawyd mewn tawelwch. Cafwyd achos i ddywedyd fod yr Arglwydd yno. D "Daethum heno, nos Fercher, o'r Association i'r Felindre, i wrando Lewis Morris ac Edward Watkins. Profais fwy o hamdden i wrando na llawer gwaith, ond yn ddiffygiol gan flinder. Lletyais yn y lle hwn; treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn. Boreu dranoeth aethom at odfaon y boreu. Pregethodd Edward Watkins gyda blas neillduol i fy meddwl i. Daethum adref at odfaon y prydnawn. Wrth wrando teimlais dynerwch mawr wrth fyfyrio ar Berson. Crist. Heddyw, dydd Gwener, a dreuliais yn wyllt fy meddwl, heb allu ei gasglu at bethau crefyddol: mae hyn yn galw am alar duwiol. Dydd Sadwrn a dreuliais mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden iawn i bethau ysbrydol. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Fy Sul i gartref oedd hwn. Profais fod yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Cadwyd ysgol y prydnawn: daeth amryw yn nghyd. Ymadawyd at odfa y nos: lle y dangoswyd trugaredd i mi rhwng danedd annghrediniaeth, tu hwnt i'r dymuno a'r chwenych. O am rym i roi enaid a chorph iddo! Daethum adref heddyw yn dra chysurus. Heddyw eto sydd yr un fath. Moler Duw byth am hyn! "Tachwedd 10, 1806.-Bum yn bur glaf mewn twymyn. Yn anhwylus yr 1leg, yr hwn oedd ddiwrnod y Cwrdd Misol yn fy nghartref i. Dranoeth, y 12fed, yr oeddwn i gychwyn ar fy nhaith tua Bryste; ond oblegyd fy nghlefyd yn annhebyg iawn i allu myned. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd adferyd fy iechyd yn dda iawn. Cychwynais oddicartref oddeutu un ar ddeg o'r gloch; daethum at odfa y noswaith hono dan beth llesgedd; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma; ond er hyn, fy meddwl oedd yn dra llwythog wrth feddwl am fy nhaith. Cychwynais dydd Iau yn foreu iawn, canys yr oedd genyf daith fawr. Teimlais yn sych iawn ar fy ysbryd, ond nid yn ddiachos. Diolch am yr harddwch allanol ar y gwaith. Cychwynais fy hun at odfa dau i Bwlchygroes, oddeutu wyth milldir. Cefais arwyddion yma o fod y gair yn lles, ac yn cael lle gyda meddyliau dynion. Aethum oddiyma yn gysurus, yn nghyfeillach Mr. Davies ac un arall, i Lanfyrnach i dŷ Mr. Davies. Gwnaeth yr Arglwydd ymweliad neillduol â fy enaid i, ac a'r gwrandawyr. Codaf yma faen hefyd. Cefais gyfeillach ddigon diddolur gyda Mr. Davies. Dydd Gwener cychwynasom at odfa deuddeg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma yn mhob ystyr, yn ysbrydol ac yn naturiol. Aethum oddiyma at odfa y nos i Cwmbach, Sir Gaerfyrddin; gwnaeth yr Arglwydd yn rhyfedd iawn i mi yma, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Cefais gyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Dafydd Evans. Dranoeth edrychais i waith Ainsworth: tywynodd pethau rhyfedd ar fy meddwl oddiwrth y gair hwnw, 'o'r chweched hyd y nawfed awr.' Cychwynais dydd Sadwrn at odfa i Mydrim. Tywynodd yr Arglwydd arnom, er nad oeddym ond ychydig, yn rhyfeddol iawn. Aethum at odfa y nos i Gynwyl. Erfyniwyd arnaf gan y cyfaill i bregethu yr un gwirioneddau; cefais fy meddwl at hyny. Dangosodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd i hyny. Bu yn wledd fawr ar eneidiau amryw. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Cychwynais yn nghyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Arthur Evans. Aethom yn nghyd i Gaerfyrddin. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma, o ran pob harddwch allanol ar y gwaith, ond nid yn neillduol iawn ar fy ysbryd fy hun. Aethom amryw yn nghyd i'r Cross Inn. Yma y cyfarfyddais â Dafydd Rees o Lanfynydd. Fe'n nerthwyd ein dau i bregethu dan ryw faint o wlith. Aethum oddiyma i Landilofawr. Fy nheimladau cyn dechreu yr odfa oeddent sychion iawn, ac wrth ei threulio, hyd yn agos i'r diwedd, pan tynerodd fy nghalon ychydig. Felly y dybenais Sabbath cyntaf y daith hon dan nawdd ac ymgeledd yr Arglwydd. Boreu dydd Llun, aethum ddeuddeg milldir at odfa deg i Lanymddyfri. Teimlais sychder mawr yma. Awd at odfa. Ymwelodd yr Arglwydd yn neillduol â ni yma, yn wyneb llesgedd corph ac ysbryd. Cadwyd society. Cafwyd help a chyfarwyddyd yma. Ymadawsom i fyned at odfa y nos. Cadwyd harddwch allanol ar y gwaith yn wyneb llawer o lesgedd corph. Yma y cyfarfyddais â dyn o Sir Frycheiniog, a ddaeth yn gyfaill i mi trwy y sir hon. Aethom oddiyma i'r Bontrhydybere, trwy wlaw mawr iawn. Casglodd amryw yn nghyd; a mwy na'r cwbl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyma i Gefnygorwydd, a'r hin yn dymhestlog iawn; ond ymwelodd yr Arglwydd â ni, a gwnaeth y lle yn llawn. Cychwynasom ddeuddeg milldir dros fynyddau at odfa y nos i Ferthyr cynog; yma y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, er fy lludded. Dydd Mercher, cychwynasom i'r Llandeilo-fân. Codaf yma faen, canys gwnaeth yr Arglwydd yn rhagorol iawn. O dyma ryfeddod, ei fod yn sylwi ar y fath greadur! Aethom i Drecastell. Cyfarfyddais yno â dau wr dyeithr o'r Gogledd,Peter Roberts a'i gyfaill. Bu yr odfa dan y gwlith yma. Ymadawsom å'n gilydd yno. Aethum i Defynog. Cefais help, goleu, a gwres yn yr odfa hon. Fel hyn mae yr Arglwydd yn dangos ei anfeidroldeb, ei drugaredd, a chyfoeth ei ras, yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau. Dydd Iau daethum i Aberhonddu. Ychydig yn nghyd. Fy meddwl yn isel iawn wrth ddechreu, ac felly trwy yr holl odfa, er nad oedd yn ddiarwyddion lles i'r bobl. Aethom oddiyno i'r Bwlch. Cefais yma fy helpu a'm nerthu. "Cychwynasom oddiyma i Sir Fynwy i dŷ John Morris. Cefais help, blas, a phleser neillduol yma yn wyneb digalondid mawr. Aethum oddiyma gyda thri o'r cyfeillion, wedi gorfod ymadael â'm cyfaill fy hun, at odfa nos Wener, yr odfa ddiweddaf yn Nghymru. Cefais ychydig ymgeledd i fy ysbryd, yr hyn oedd drugaredd fawr. Er nad oedd yno ond ychydig bobl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethum dydd Sadwrn ilan y Passage, a'r tywydd yn ffafriol iawn. Aethum i Bryste erbyn dau o'r gloch. Cefais bob caredigrwydd, eto fy meddwl oedd orthrymedig iawn. Gwelais gymaint o garedigrwydd y brodyr nes y siriolwyd ychydig ar fy ysbryd. Dydd Sabbath pregethais am haner awr wedi deg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi ac wrth y bobl. Pregethais am haner awr wedi dau, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Am saith, daethom yn nghyd drachefn: gwlithodd yr Arglwydd arnom. Cawsom achos i ddweyd mai da oedd dysgwyl wrth yr Arglwydd. Cefais foddlonrwydd mawr am fy nyfodiad i Bryste. Society nos Lun. Derbyniwyd gwr a gwraig oedd wedi gwrthgilio. Cafwyd help i ddyweyd y gwir wrthynt. Gwawriodd ychydig arnom, nes oeddym wrth ein bodd. Ymadawsom wedi cael achos dyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Dydd Mawrth aethum yn nghyfeillach un o'r brodyr at Mr. Evans, gwr boneddig yn Queen Square, sydd yn talu rent y tŷ cwrdd, i siarad yn nghylch rhyw beth o concern y tŷ. Cefais fy ngwahodd ganddo i giniaw; cefais bob caredigrwydd, yr hyn oedd yn rhyfedd i un mor wael. Daethum adref at odfa y nos, yr hon oedd am saith o'r gloch. Yr oedd amryw iawn yn nghyd: siriolodd yr Arglwydd arnom yn neillduol iawn. Cefais lawer o diriondeb rhagluniaethol Duw neithiwyr. Heddyw eto y mae daioni Duw wedi fy nylyn. Clod diddiwedd iddo am ei gariad a'i drugaredd yn dylyn ar ol y fath greadur 1 gwrthnysig, nad yw wedi haeddu dim ond fy namnio, eto yn mwynhau llawer. "Nos Fercher aethum i'r Tabernacl i wrando Mr. Berry, yr hwn a bregethodd oddiwrth hanes Samson. Yr addoliad hwn a aeth heibio yn ddifywyd iawn. Nos Iau aethum i gapel Lady Huntingdon, i wrando Mr. Emery: cawsom bregeth dda oddiwrth Rhuf. xv. 13. Aethum i'r vestry-room. Cefais ychydig gyfeillach ag ef, yr hyn a barodd i mi feddwl ei fod yn ddyn byw yn ei ysbryd, ac yn gweled pethau yn dda; ond rhyw bethau heb eu gweled ganddo. Nos Wener aethum at ein hodfa. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac nid wrthyf fi yn unig, ond wrth y gynulleidfa hefyd. Dybenais yr wythnos hon a chenyf achos gofidio mor lleied o amser a dreuliais gyda Duw. "Boreu Sabbath teimlais derfysg yn fy meddwl am genadwri i'r bobl. Aethum at yr Arglwydd am dani. Tueddwyd fy meddwl at destun ac athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, er nad oedd fy ysbryd mewn cymaint hwyl a'r wythnos o'r blaen. Aethum at odfa dau. Teimlais fy ysbryd yn fwy rhydd a gwrol yma na'r boreu. Clod i Dduw am ei diriondeb mawr. Aethom at odfa saith. Teimlais yma ychydig yn gaethach; cyn darfod torodd ychydig o wawr. Dychwelais i'm llety yn flinedig, wedi cael achos dywedyd, Yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais lawer o drafferth meddwl y nos hon, a pheth anhwyldeb corph; ond clod diddiwedd am adferiad trugareddau. Cefais heddyw eto yn foreu tawel. Diolch i Dduw byth am hyny. O na bai fy holl fywyd yn ddiolch, ac yn agosach at Dduw. Nos Lun aethum i'r society; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Aethum at odfa nos Fawrth; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Clod diddiwedd am hyn. Dydd Mercher a dreuliais oddiamgylch; nos Fercher aethum i'r Tabernacl. Pregethodd Mr. Berry yn dda iawn. Dydd Iau aethum i gyfarfod Nathaniel William, yr hwn oedd yn myned i Lundain. Daeth amser yr odfa. Pregethodd dan arddeliad mawr iawn. Cefais ei gyfeillach yn dra chysurus. Aethom yn nghyd i edrych am y coach, ac i hebrwng Nathaniel. Ar ol treulio y dydd gyda rhai cyfeillion, daethum at yr odfa saith. Yma hefyd y llanwodd y gwlaw y llyn. Bum boreu heddyw, sef boreu dydd Sadwrn, yn gweled yr Iuddewon yn addoli. Teimlais, yn wyneb eu hagwedd, ormod o ysgafnder. Dychwelais adref yn gysurus y boreu hwn.<noinclude><references/></noinclude> ipd0adi1t6foyts47d2pp8s8cesbmg6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/108 104 84566 164343 2026-05-07T19:25:19Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Pregethais dair gwaith ar Heb. xii. 2. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn i mi. Tybiais fod y bobl yn profi yr un peth. Nos Sul, ar ol yr odfa, cadwyd society o ffarwel i'r cyfeillion. Teimlais yn wyneb ymadael undeb a rhwymau rhyngof a hwynt, a hwythau a minau. Boreu dydd Llun aethum yn gysurus i lan y passage. Erbyn myned drosodd, yr oedd dyn i'm cyfarfod; hyn oedd dynerwch mawr oddiwrth yr Arglw... 164343 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Pregethais dair gwaith ar Heb. xii. 2. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn i mi. Tybiais fod y bobl yn profi yr un peth. Nos Sul, ar ol yr odfa, cadwyd society o ffarwel i'r cyfeillion. Teimlais yn wyneb ymadael undeb a rhwymau rhyngof a hwynt, a hwythau a minau. Boreu dydd Llun aethum yn gysurus i lan y passage. Erbyn myned drosodd, yr oedd dyn i'm cyfarfod; hyn oedd dynerwch mawr oddiwrth yr Arglwydd. Aethum erbyn odfa tri i'r Tabernacl, un o gapelau yr Independiaid yn Sir Fynwy. Teimlais rwyddineb a phleser mawr gyda'r gwaith yma oddiwrth Heb. xii. 2. Noswaith hono i'r Bowdown, lle yr oedd fy ngheffyl. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf yma. Boreu dranoeth aethum i'r Casnewydd. Teimlais yma fwy o gaethiwed, ond nid yn ddiflas. Oddiyma i odfa dau i; fy nheimladau oedd da i mi, ond marwaidd wrth fyned yma; ond yr Arglwydd a wnaeth yn dra rhagorol drosof ac i mi. Aethum at odfa chwech. Cyfarfyddais à Thomas Edward yn dod i'm cyfarfod, yr hwn a fu yn gyfaill ffyddlon yn Sir Forganwg. Hon oedd yr odfa ddiweddaf i mi yn Sir Fynwy. Rhoddodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd arnom yn dra mawr. Nid wyf yn dywedyd hyn o ymffrost, ond o gydnabyddiaeth i Dduw am ei fawr ymgeledd i'r annheilyngaf o bawb. Galwaf y fan hon yn Ebenezer. Boreu dranoeth yr oeddwn i a'm cyfaill caredig, T. Edward, i fyned i Gaerdydd. Cefais help yma hefyd uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyma i Dinaspowys; nid oedd yn rhwydd iawn yma, ac hefyd nid oedd yn gwbl ddiflas. Aethum oddiyma i Drehill. Fy meddwl wrth fyned yma oedd eiddil iawn; ond cefais achos dywedyd gyda'r apostol, 'Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.' Dydd Iau i St. Ffagans. Cefais fy nerthu yma uwchlaw fy nysgwyliad; nid â rhyw harddwch allanol ar y gwaith yn unig, ond ag ymgeledd ysbryd oddifewn. Aethum oddiyno gyda'm cyfaill caredig i Bentyrch, lle y teimlais lawer o sychder, ond er hyn cefais les. Aethom i Whitchurch. Pregethais oddiar Heb. xii. 2. Aethom oddiyno dranoeth i -. Bu yr Arglwydd yn dra thirion o honof yma. Aethom oddiyno i Gaerphili, cartref fy nghyfaill. Yr oedd hi yma yn yma yn dywyniadau rhwng cymylau. Dydd Sadwrn i le a elwid y Felin. Codaf yma faen am ddaioni yr Arglwydd. Aethum yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion i Merthyr Tydfil, at odfa chwech. Yma yr oedd diwygiad mawr a grymus; prin y cawswn lefaru. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd. Boreu dydd Sul yr oeddwn i bregethu yma eilwaith. Cadwyd society; derbyniwyd saith. Cafwyd lle i feddwl fod yr Arglwydd yn ein plith. Profais yn yr odfa gyhoeddus beth mwy rhyfedd nag yn fy oes hyd yma; ac nid yma, ond yn gyffredin yn y tro. Ymadewais oddiyma at odfa dau i Lanfabon. Profais yma lawer o sychder. Aethum oddiyma i Lanwyno. Teimlais fy hun yn ddiegni iawn at y gwaith, yn wyneb gweled y gwrandawyr mor farwaidd a diegni. "Dydd Llun aethumi Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf ac ar y gynulleidfa. Clod iddo am hyn hefyd. Aethum oddiyma i'r Brychtwn, dan deimladau isel iawn; ond yr Arglwydd, yn ol ei arfer, a fu yn haelionus iawn i mi. Aethum oddiyma i Salem. Cyfarfyddais yma ag Ellis Roberts. Tywynodd yr Arglwydd yma rhwng y cymylau. Dydd Mawrth i Benybont. Teimlais fwy o gadwynau yma, ond nid yn ddilewyrch. Oddiyma i'r Pil; cefais fy helpu yma mewn modd neillduol. Oddiyma i'r Dyffryn, lle yr oedd diwygiad mawr; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhyfedd i mi. Dranoeth ymadewais a'm cyfaill caredig, Thomas Edward, yr hyn roddodd i mi fawr deimlad. Aethum oddiyma i Lansamlet. Yma hefyd yr oedd gwaith newydd gan Dduw, ac hawdd iawn oedd i mi lefaru yma. Aethum oddiyma i Abertawy erbyn un o'r gloch, dan gryn deimlad o ddolur. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd fy ysbryd a llawer gwaith. Aethum oddiyma i'r Goppa, y lle diweddaf yn Morganwg. Teimlais fy meddwl yn isel iawn ar ol dod yma; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol yma, y tu hwnt i ddim yr oeddwn yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl. Dydd Iau aethum i Lanelli. Treuliais yr odfa yn boenus yn herwydd anhwyldeb, ond gyda llawer o bleser, a help, a blas, a llewyrch. Cyfarfyddais â fy mrawd oedd ar y môr. Teimlais lawer o dosturi at enaid fy mrawd, yn wyneb y peth oeddwn yn ceisio llefaru wrth eraill. Aethum i Broadway. Treuliais yr odfa fel hyny hefyd, ond nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd oddiwrth yr Arglwydd. Treuliais y noswaith hon mewn llawer o boen. Boreu dranoeth aethum i Landefeilog. Treuliais yr odfa hon yn boenus iawn fy nghorph, ond nid heb ddyddanwch yn fy meddwl. Aethum erbyn dau i Gaerfyrddin. Teimlais fy meddwl yn dra llwythog. Treuliais yr odfa hon yn bur galed arnaf. Aethum oddiyma i Lanstephan. Yr oedd fy mhoen wedi ychwanegu erbyn yr odfa hon. Teimlais beth ireiddiwch yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum oddiyno i dŷ un o'r brodyr i letya. Cefais bob ymgeledd, a bu yr ymgeledd, dan fendith Duw, yn lles i'm corph. Dranoeth yr oeddwn i fyned i Lacharn. Yr oedd yr afon yn rhy arw i'w chroesi. Arosais yno hyd dri o'r gloch prydnawn. Aethum oddiyno, a daethum i Rogersbrook (?), o gwmpas ugain milldir o ffordd, yn flinedig, ond fe'm nerthwyd yn dra rhyfedd. "Aethum boreu Sabbath i Woodstock. Ni chefais yma gymaint o rwyddineb ysbryd, er cael hyny mewn geiriau. Aethum oddiyno at odfa dau i Dreamlod. Profais yma lawer o serch at eneidiau; llewyrchodd yr Arglwydd ar fy mhabell. Aethum y noswaith hono i Lantyddewi. Teimlais lawer o sychder; ond gwawriodd cyn y diwedd. Aethum oddiyno i Gastell blaidd, i gael myned i Gastell newydd i'r cyfarfod mawr fu rhwng y tair sir, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, ar achos brawd oedd yn rhodio yn afreolus. Soniwyd ar ei achos y prydnawn cyntaf yn ddiymryson. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Evans. Daeth amser yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Dafydd Evans eilwaith. Pregethodd y brawd Thos. Morgan, Llanddewi, a minau. Ni'm gadawyd yn ddilewyrch. Clod iddo am hyn. Boreu dranoeth cyfarfuwyd am wyth. Gweddiodd y brawd Evan Harris o Dreamlod; pregethodd Mr. Lloyd a John Evans gyda graddau o arddeliad. Cyfarfyddodd y society ar ol yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Mr. Griffiths o Nefern. Cawsom le i feddwl i'r Arglwydd dywallt ysbryd gras a gweddi ar y society. Triniwyd achos y brawd afreolus yn ei bresenoldeb yn ddidderbyn wyneb, gyda concern mawr, a serch at ei adferiad. Cafwyd lle i gredu o'r newydd fod yr Arglwydd yn Wrandawr gweddiau, a'i fod yn trigo gyda'u bobl. Eisteddodd gras mawr ar y cynghor, fel y tybiwyd na bu y fath gyfarfod yn Nghymru erioed. Ymadawsom bawb yn llon ei feddwl, wedi cael achos dywedyd, Da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Daethum y noswaith hono i Gastell blaidd, ac adref boreu dranoeth. Cefais y teulu yn iach i gyd, a phob peth yn dda. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi! Phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos yn bur flinedig ar ol fy nhaith. "Boreu dydd Sul gwrandewis Mr. Lloyd gyda ni. Profais faeth i fy enaid drwyddo. Yn odfa y prydnawn ni phrofais ryddid i fy ysbryd yma, er bod harddwch allanol ar y gwaith. Daethum i Garnachwen i wrando Richard Jones a William Hughes. Profais yr athrawiaeth yma yn lles. Boreu dydd Llun daeth atom ni. ni. Profais yma les; er nid peth oedd yn cysuro cymaint. Diolch am bob goruchwyliaeth sydd yn tueddu i'n cael yn lân. Treuliais yr wythnos hon mewn chwilio rhai athrawiaethau. Aethum nos Sadwrn i Gastellblaidd. Diolch am hyny o help a gefais yma. Boreu Sabbath aethum i Woodstock. Bu yr Arglwydd yn dyner iawn wrthyf yma. Aethum oddiyma i Ffynongain. Yr oedd yn bur sych yma. Oddiyma i Forehill (?). Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Oddiyma boreu dydd Llun i Broadway, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Felinnewydd. Teimlais yma fwy o sychder. Oddiyno i Lysyfran. Profais yma gymaint o ddaioni yr Arglwydd ag mewn un man. "Boreu dydd Mawrth yr oedd Cwrdd Misol yn Woodstock. Cadwyd society ar faterion amgylchiadau allanol. Gweddiodd y brawd John William. Pregethodd Mr. Jones, John Rees, a'm brawd. Daethum i Garnachwen y noswaith hono. Gwrandewais Thos. Meredith: cawsom gyfeillach dra buddiol y noson hono. Boreu dranoeth daeth atom ninau; pregethodd yn flasus iawn. Yr oedd genym gwrdd gweddi a society. Cawsom help i ddyweyd y gwir yn ddidderbyn wyneb. Clod am hyn. Heddyw a dreuliais yn ddihamdden at bethau ysbrydol, gyda rhyw ffwdan daearol. "Yn awr yn dechreu y flwyddyn newydd (1807) yn llawn iawn o'r hen bethau. 'Dysgwyl y dydd, a'r dydd heb ddod, I gael fy meiau dan fy nhro'd.' Henffych Borau {{***|5}} "Heddyw, Sadwrn, a dreuliais mewn gwrando gwr dyeithr ar ei dro. Fy nheimlad oedd sych a chaled iawn y ddwy odfa. Yr wyf heno ag achos dywedyd, 'Cuddiais dy wyneb, a bum helbulus;' a gallaf ddywedyd mai yr amser hwn mae fy mawr bla fel pe bai yn cynddeiriogi. Oh, am help i'w farweiddio trwy yr Ysbryd. Tranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu. Fy nheimlad oedd sych a thrymaidd iawn; teimlais lawer o galedwch ar ol hon. Aethum at odfa ar fy nhaith i'r Gymanfa i Aberteifi. Yma hefyd y bu yn gyffelyb arnaf. Aethum at odfa y nos. Yma hefyd y bu yr un tywydd. Yn yr odfa hon cyfarfyddais a gwr dyeithr a welais o'r blaen. Dybenais fy Sabbath gyda mawr ofid. Dranoeth aethom at odfa un ar ddeg. Cefais fy anadl yn fwy. Clod i Dduw am hyn. Aethom yn ol i Lwyngwair. Treuliasom y prydnawn mewn peth difyrwch, a chanu gyda blas. Aethom yn nghyd at odfa y nos i Eglwyserw. Fy nheimladau oedd dipyn yn felusach na'r dydd o'r blaen. Dranoeth yr oedd dydd y Gymanfa. Aethom gyda'r brodyr i Sir Aberteifi. Awd i society y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn. nghylch commisiwn i'r weinidogaeth. Traddodwyd gocheliadau rhag gau ddybenion. Dybenwyd cyfarfod y gweinidogion. Teimlais y pethau a ddywedwyd yn fendith i fy ysbryd. Cefais yma glwyf y boreu hwn na chefais ei fath erioed o'r blaen, wrth glywed am gwymp un o'r brodyr yn y weinidogaeth. Terfysgodd fy meddwl mor fawr, fel nas gwn pa fodd mae codi fy mhen. Am ddau yr oedd society i flaenoriaid yr eglwys, lle y triniwyd pethau dysgyblaethol yn unig gyda llawer o gydgordiad ac undeb brawdgarwch. Y prydnawn hwnw pregethodd tri. Fy nheimlad y prydnawn hwn oedd yn dra chanolig. Dranoeth y boreu y gweddiodd un, ac y pregethodd dau, dan raddau o arddeliad. Fy serchiadau yma oedd yn dra siriol. Awd i'r society am naw. Ymdriniwyd â phethau ysbrydol. Teimlais hyn yn dra buddiol i mi. Am 11, pregethodd Mr. James a Mr. Jones dan lawer o arddeliad. Profais y rhai hyn yn fendith i mi hefyd. Am 2, yr oedd dau eraill i bregethu: yr oedd fy nheimladau yn drymaidd iawn yma. Am 6, daeth odfaon eraill. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dybenwyd y Gymanfa dan rwymau i ddiolch i Dduw am ei diriondeb mawr. Boreu dydd Iau, cyfarfu profedigaeth â mi, ond ni pharhaodd awr o amsercolli fy ngheffyl; ond fe'm gwaredwyd yn dra buan. Clod i'r Gwaredwr mawr am ei diriondeb. Daethom yn gysurus i Gastell y blaidd; cadwyd society yno; cafwyd help mawr yno, a goleuni newydd ar rai pethau. Dybenwyd y cyfarfod yn dra chysurus. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn dra chysurus. Clod diddiwedd i Dduw am hyn i mi, yr annheilyngaf o bawb. Dydd Gwener a dreuliais mewn darllen. Dydd Sadwrn yn gyffelyb, ond gyda llawer o feddyliau gwamal. Nos Sadwrn aethum i wrando gwr dyeithr o'r Gogledd. Pregethodd yn oleu ac yn flasus iawn. Teimlais fy meddwl a'r gwir yn gafaelu yn eu gilydd.<noinclude><references/></noinclude> rgxg6xsvt644llvg2wsj6w7xpcondgb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/113 104 84567 164344 2026-05-07T19:26:31Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Dranoeth, y Sabbath, gwrandewais yr un gwr. Pregethodd yn odidog iawn. Teimlais faeth trwy y gwirionedd. Diolch i Dduw am hyn. Prydnawn gwrandewais yr un gwr, a gwr enwog arall o'r Gogledd. Cefais fwy trwy hwnw yr odfa hono na'r llall. Aethum i'w wrando drachefn. Teimlais fwy o sychder yma. Dydd Llun cyfarfu y gwr hwn ac un arall o'r un wlad yn fy nghartref. Teimlais bleser mawr yma. Aethum i'w wrando drachefn. Mi debygwn y gallaf d... 164344 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Dranoeth, y Sabbath, gwrandewais yr un gwr. Pregethodd yn odidog iawn. Teimlais faeth trwy y gwirionedd. Diolch i Dduw am hyn. Prydnawn gwrandewais yr un gwr, a gwr enwog arall o'r Gogledd. Cefais fwy trwy hwnw yr odfa hono na'r llall. Aethum i'w wrando drachefn. Teimlais fwy o sychder yma. Dydd Llun cyfarfu y gwr hwn ac un arall o'r un wlad yn fy nghartref. Teimlais bleser mawr yma. Aethum i'w wrando drachefn. Mi debygwn y gallaf ddyweyd i mi brofi bendith yma hefyd. Diolch i Dduw am ei fawr ddoniau heddyw eto, yn cael y fraint o wynebu ar y moddion. Profais o ran fy nheimlad yn bur gyffredin dan yr odfaon. Yn y society teimlais yn fwy rhwydd. Derbyniwyd dau i'r society. Cafwyd help i ymddyddan a hwy gyda gradd o oleuni. Clod i Dduw am hyn. Treuliais y rhan hon o'r wythnos mewn tipyn o lafur meddwl mewn ffordd weinidogaethol. Dydd Sadwrn aethum i angladd. Profais beth help yma, er fod y testun newydd ei gael. Aethum y noswaith hono at odfa. Teimlais gymhorth yma hefyd. "Dranoeth, y Sabbath, aethum at y ddyledswydd deuluaidd. Ni phrofais ryddid mawr yma. Aethum at odfa wyth. Ni chefais ryddid mawr yma. At odfa tri: ni chefais ryddid fel arferol yma. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf o'r dechreu i'r diwedd. Daethum adref heddyw yn llesg o ran fy nghorph: cefais y teulu yn gysurus. Gwynebu ar yr wythnos. Help fi, Arglwydd, i rodio gyda thi, ac yna mi fyddaf ddyogel. "Treuliais yr wythnos hon mewn llawer o helbul bydol, ac ychydig o enill ysbrydol; dan lawer o galedwch, eto dysgwyliaf wrth yr Arglwydd. Dydd Gwener a dydd Sadwrn yr oeddwn mewn anhwyl corphorol. Daethum ychydig yn well erbyn nos Sadwrn. Aethum at odfa. Teimlais boen mawr wrth fyned trwyddo gan yr anwyd, ond yn oleu, o ddaioni Duw, yn y gwaith. Boreu dranoeth aethum at odfa wyth i Dyddewi. Ni bu gul arnaf yma, er mor boenus y teimlais. Aethum at odfa i Gaerfarchell. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf, ac ar y gynulleidfa. Fy enaid a'r cwbl sydd ynof fyddo yn y llwch yn cydnabod Duw am ei sylw ar yr annheilyngaf o'i weision. Daethum adref prydnawn erbyn odfa tri o'r gloch mewn llawer o lesgedd corph. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda blas, ond heb lawer o ôl ar y gwrandawyr, nes yn agos i'r diwedd y gwelodd Duw yn dda lewyrchu tipyn trwy y gwirionedd. Dybenwyd y Sabbath, a chenyf achos i fyned i'r llwch a dywedyd i Dduw wneyd yn dra rhagorol i mi, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Dechreuais wythnos arall gyda llawer o anhwyldeb corphorol, a llawer o ffwdan yn fy ngalwedigaeth, ac yn ddilewyrch iawn yn mhethau ysbrydol, oblegyd fy ngwendid a'm babandod, yn methu medru casglu fy meddwl at bethau ysbrydol gan rym pethau bydol. Dydd Mercher yr oedd genym gwrdd gweddi. Teimlais fy meddwl ynddo yn aros ychydig ar bethau ysbrydol, er yn gnawdol 1awn. Cadwyd society: ymddyddanwyd ynddi am y gwahaniaeth rhwng ffydd a rhyfyg. Soniwyd fod gwahaniaeth rhyngddynt yn eu natur a'u heffeithiau. Am natur ffydd, soniwyd ei bod yn ddi-ildio am ei gwrthddrych, er bod yn grynedig fel y wraig a'r dyferlif, tra y mae rhyfyg yn cael digon cyn cael Crist. Effeithiau ffydd yw darostwng yr enaid i hunanymwadiad, pan y mae rhyfyg yn gadael yr enaid mewn meddwl chwyddedig. Dybenwyd trwy fawl a gweddi yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. Treuliais heddyw yn rhy segur fy meddwl, am hyny yn ddigynydd mewn gwybodaeth, ac yn ddielw erbyn yr hwyr, er och a galar i fy ysbryd. O am nerth i dreulio y rhan sydd yn ol o'm dyddiau yn nes at Dduw, ac yn fwy er ei glod. Dydd Gwener, ar ol llawer o ryw helynt fydol, aethum oddicartref prydnawn yn dra anhwylus gan ddolur yn fy ngwddf. Ar ol dyfod i'r lle, cwrddais ag ychydig o dreial i fy meddwl am i mi gamgymeryd yr amser. Fe'm nerthwyd i fyned trwy y gwaith, nid yn ddiofal am eneidiau y gwrandawyr, er nid mor llewyrchus ar fy meddwl ag y dymunaswn. Dranoeth aethum oddiyno, gan feddwl fod odfa am 10 yn Nefern. Cyfarfyddais yn Nhrefdraeth â John Young a John Thomas: cefais yma fy nghadarnhau fy mod wedi cam-gymeryd wythnos. Dychwelais yn fy ol i fyned tua Woodstock. Aethum y noswaith hono i Dreamlod. "Dranoeth, Sabbath, aethom i ddyledswydd deuluaidd. Profais y drws yn agored. Diolch byth am hyn. Aethum i Woodstock erbyn odfa deg. Teimlais yr Arglwydd yn dra thirion wrth fy ysbryd, ac yn Helpwr yn y gwaith. Clod iddo byth am hyn. Aethum erbyn odfa tri i Forehill. Cefais yma fy nerthu uwchlaw fy nysgwyliad. Codaf yma faen hefyd. Dychwelais i Dreamlod dan lawer o lesgedd anwyd. Profais yma fwy o lesgedd mewn corph ac ysbryd na'r odfaon eraill. Dybenais fy Sabbath mewn ychydig o lesgedd corph, a gofid am fy nghnawdolrwydd. Dydd Llun Pasg, aethum at odfa deg. Teimlais yma yn fwy sych a thrymaidd. Aethum at odfa tri. Teimlais fy meddwl dan fwy o lewyrch yma. Clod i Dduw am y tywyniad lleiaf. Daethum adref, a'r anwyd yn gwaethygu arnaf. Cefais y teulu yn iach, dan nodded Duw. Heddyw yr wyf yn profi angen rhodio yn nes at Dduw, fel y caffwyf ei feddwl, ac y dibrisiwyf y byd, ac y marweiddier fy llygredd. Treuliais yr wythnos hon dan lawer o anhwylder corph, a pheth trafferth fydol. * [blocks in formation] * [blocks in formation] 2. "Teimlais betrusder yn y dirgel ar fy meddwl. Goleuodd ychydig yn y ddyledswydd deuluaidd. Aethum at odfa naw i'r Castell blaidd. Profais lawer o drymder yn fy meddwl. Aethum oddiyno at odfa tri o'r gloch. Profais fy meddwl yn fwy siriol yma. Diolch am y llewyrch lleiaf. Aethum oddiyno ar feddwl dychwelyd adref. Fe'm hanogwyd gan y brodyr, a chytunasom fyned i Gastell y blaidd i ymddyddan am y pechod gwreiddiol. Y cwestiynau a ofynwyd yn nechreu y cyfarfod oedd-1. Pa beth oedd pechod gwreiddiol. Cytunwyd mai anufudd-dod i gyfamod Duw gan ddyn oedd. 2. Ei brofi o'r gair. Cytunwyd fod y weithred a wnawd gan y dyn yn cael ei nodi yn Gen. iii. 6; yr holiad a wnawd gan Dduw, Gen. iii. 11; y gosp a'r felldith a ganlynodd ar y dyn a'r holl greadigaeth, Gen. iii. 14, 15, 17. Yn 3. A oedd hwnw a wnelai â ni? Cytunwyd ei fod. Profwyd hyny trwy dri rheswm. Yn 1. Tystiolaeth amlwg y gair. Arglwyddiaeth angau dros holl ddynolryw. 3. Profiad y saint yn yr oesoedd. Pa fodd? Cytunwyd mai trwy gyfranogiad a chyfrifiad; a'r cyfranogiad hwnw wedi dod i ni oddiwrth Adda, fel pen y cyfamod, oedd yn cynnrychioli yr holl fyd: nid oddiwrth Adda fel yr oedd yn dad yr holl fyd, heb allu cenedlu ond peth brwnt, fel y mae yr holl fyd eto; ond yr oeddem ni yn Adda; cyfranogi oeddym o bechod Adda fel pen i'r cyfamod, ac nid fel yr oedd yn dad i ni; canys nid oeddym yn gyfranog o un o bechodau eraill Adda. Os yw yr enaid yn adgenedlig, pa fodd mae yr enaid yn aflan, ac na buasai ond y natur; canys â'r holl ddyn y gwnawd y cyfamod, ac a dynion ynddo-eneidiau a chyrph; ac anufudd-dod ar y cyfamod hwnw ddygodd Adda, gorph ac enaid, a'i had ynddo. Nid bwyta yr afal, ond trwy ei fwyta, ac wrth ei fwyta. Dyma y cyfranogiad. Cytunwyd, gan hyny, ei fod yn gyfiawnder yn Nuw, yn unol â'i gyfamod, i gyfrif i ni y peth yr oeddem yn gyfranog o hono. Dybenwyd y cyfarfod trwy gyfaddef ein ffolineb a'n babandod yn mhethau mawrion yr Arglwydd. Yna aethom i orphwys. Boreu heddyw cefais ychydig dreial-cadwyd fy meddwl rhag iselu llawer. Collais fy ngheffyl. Nis gwyddwn nad oedd wedi ei yru; ond gwaredwyd fi yn dra buan. Cefais y ceffyl. Daethum adref yn gysurus. Cefais fy nhad, a'm mam, a'm chwaer yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. [blocks in formation] "Heddyw yn dechreu fy nhaith tuag at y Gymanfa, a'r Arglwydd a'm nertho. Aethum at odfa y noswaith hono: teimlais yn bur gysurus. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Woodstock. Pregethais o flaen Mr. Jones. Fy nheimlad oedd yn dra thrymaidd, ond yn yr ordinhad teimlais beth gollyngdod. Aethum oddiyma i Sir Gaerfyrddin erbyn pedwar o'r gloch. Pregethais allan. Cefais anwyd mawr yn fy mhen. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Aethum at odfa deg i dŷ cwrdd yr Independiaid. Profais fy meddwl yn dra llon yma. Ymadewais, ac aethum at odfa deuddeg i Benyrallt. Cefais fy nerthu yma á help cyffredin, ac â'r harddwch allanol. Clod i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Lanfyrnach; fy nheimlad yma oedd yn dra thrymaidd. Ymadewais dranoeth i fyned i Lanwinio i angladd. Cefais rym a chymhorth lawer yma. Cefais fy ngalw gan frawd yn y weinidogaeth. Bu ein hymddyddan yn ddiglwyf. Aethom yn nghyfeillach amryw i Mydrim. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthym yma. Clod byth i Dduw am ei diriondeb i un mor wael. Dranoeth aethum gydag amryw o'r brodyr tuag at Gyfarfod Misol Sir Gaer. Pregethais ar y ffordd yn Gynwyl. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf yma. Aethum gydag amryw o'r gweinidogion i'r Cwrdd Misol i'r Forge. Yr oedd yn society am ddau. Dechreuwyd yr addoliad trwy fawl, darllen, a gweddio gan y brawd Dafydd Evan. Ymddyddanwyd yn nghylch y cyfeiliornadau oedd yn ymdaenu y dyddiau hyn. Penderfynwyd eu bod yn bethau i brofi y saint. Ar ol amryw ymddyddanion buddiol, awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd D. Bowen. Pregethodd y brodyr Thomas Edward o Forganwg, a D. Evan; a'r lle yn siriol. Dranoeth cyfarfuwyd am naw. Ymddyddanwyd am brofiad, a phethau ysbrydol eraill. Dechreuwyd yr odfaon cyhoeddus am un ar ddeg. Gweddiodd y brawd D. Rees. Pregethodd Mr. Lloyd a minau. Cawsom le i feddwl fod wyneb Duw arnom. Aethum oddiyno i Gaerfyrddin. Cefais gymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad; bydded yr holl glod i Dduw am ei diriondeb mawr i un mor wael. Lletyais heno yn nhŷ hen wr duwiol oedd yn flaenor ar y society. Cefais adeiladaeth oddiwrth ei gyfeillach. Cychwynais dranoeth i'r Pantgwyn. Cefais bethau yn bur gyffredin. Aethum at odfa dau. Teimlais lawer o lesgedd yma oblegyd anhwyldeb. Cadwyd ychydig society. Cefais ryddid, a'r maes yn oleu yma. Clod i'r Arglwydd am hyn. Aethum oddiyno i Lanfynydd, lle y profais yr Arglwydd yn dirion. O na bai genyf galon ddigon hunan-ymwadol i ddiolch a chanmol Duw. Dranoeth i'r Cross Inn. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma tu hwnt i fy nysgwyliad; ac oddiyno i dŷ anedd yn y gymydogaeth. Cefais rym i ddyweyd y gwir, a'r harddwch allanol ar y gwaith. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i le yn Sir Gaerfyrddin a elwir Cefnberach, lle y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Jones. Cefais fy meddwl yn bur siriol, a'r Arglwydd yn rhoi arwyddion o'i foddlonrwydd ar y gynulleidfa y tro hwn hefyd, yr hyn a barodd i fy meddwl synu wrth ddaioni Duw yn dylyn y fath greadur gwael. Aethum gyda'r brawd Thomas Jones i Landilo erbyn dau: bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ond nid oedd fy nheimlad mor ymgeleddgar. Aethum oddiyno yn nghyfeillach amryw o'r brodyr i Talyllychau erbyn 6, yn bur lluddedig o ran fy nghorph. Yma y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Edwards, brawd a chyfaill anwyl. Yr oedd hi yma arnaf yn dywyniadau rhwng cymylau, o ran fy mhrawf; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dda iawn i'r gynulleidfa. Oh na bai fy nghalon yn fwy yn y llwch na neb am ei fawr ddaioni ataf. Dranoeth am 8 dydd Llun cadwyd society. Rhoddodd yr Arglwydd lawer o'i gymhorth a'i oleu. Ymadawsom yn dangnefeddus. Aethom erbyn 12 i Lansadwrn, Thomas Edwards a minau, ac eraill o'r cyfeillion. Teimlais fy meddwl yn well na llawer gwaith pan oedd yn well ar y bobl. Cadwyd society. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym yma. Oddiyno erbyn 6 i Langadog, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn ein taith i'r Gymanfa. Gweddiodd y brawd Thomas Jones. Pregethodd y Parch. Davies o Gynwyl a minau. Profais help oddiwrth yr Arglwydd yma, yr hyn sydd yn peri i'm fawr ryfeddu eto. Lletyasom yn yr un lle ein tri, a phob peth yn dawel iawn. Dranoeth aethom i Landdeusant erbyn 10. Gweddiodd y<noinclude><references/></noinclude> ph23jiq7snxxzn9ctjr40qntu1g9ilp Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/118 104 84568 164345 2026-05-07T19:30:25Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "brawd Thomas Edwards: pregethodd Davies a minau. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd, a'r odfa a drodd yn gysurus iawn. Aethom erbyn odfa y nos i Sir Frycheiniog amryw o honom yn nghyd. Ymadawsom yn mhen ychydig, Thomas Edward a minau ein hunain, ac un arall a ddaeth yn ein herbyn. Aethom y noson hono i Crai, lle darfu i ni gyfarfod â dau frawd o'r Gogledd, John Ellis a Wm. Hughes. Profais yr Arglwydd yn dirion annysgwyliadwy. "Aethum d... 164345 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brawd Thomas Edwards: pregethodd Davies a minau. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd, a'r odfa a drodd yn gysurus iawn. Aethom erbyn odfa y nos i Sir Frycheiniog amryw o honom yn nghyd. Ymadawsom yn mhen ychydig, Thomas Edward a minau ein hunain, ac un arall a ddaeth yn ein herbyn. Aethom y noson hono i Crai, lle darfu i ni gyfarfod â dau frawd o'r Gogledd, John Ellis a Wm. Hughes. Profais yr Arglwydd yn dirion annysgwyliadwy. "Aethum dranoeth i'r Gymanfa i Drecastell. Cyfarfuwyd am 10 gan y gweinidogion. Y cyfarfod fu yn adeiladol iawn ac yn fuddiol, yn nghylch amgylchiadau y gweinidogion. Society arall am ddau, lle bu ystyried pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph. Yr addoliad cyhoeddus am 4. Gweddiodd y brawd Nathaniel Williams. Pregethodd y brodyr John Jones, Caergwrle, a Dafydd Rees, Llanfynydd, a'r gwaith dan ei goron. Dranoeth am 7 gweddiodd y brawd Wm. Hughes o'r Gogledd. Pregethodd Mr. Lloyd a minau, a chawsom le i feddwl fod wyneb Duw yn y lle. Society am 11. Siaradwyd llawer o bethau amgylchiadol a buddiol, ysbrydol. Cefais achos i ddiolch i Dduw am yr Association. Daeth amser yr odfaon. Gweddiodd y brawd Mr. Howells, Morganwg. Pregethodd y brawd John Ellis ac Ebenezer Morris, dan arddeliad mawr. Clod i Dduw y Gymanfa am dani. Aethum oddiyma at odfa y noswaith i Lanymddyfri, lle y gwenodd yr Arglwydd arnaf. Codaf yma faen hefyd. Aethum dranoeth i Gilycwm erbyn 10. Nid oedd fy nhraed mor rhydd yma, eto daioni Duw oedd i'w weled mewn modd neillduol. Cadwyd ychydig society. Ymadawsom ar ffrwst, i fyned i Gaio, lle yr oeddwn i gyfarfod Ebenezer Morris. Gwenodd yr Arglwydd yn anarferol yma. Aethum oddiyno i Lansawel, a bu ymgeledd yr Arglwydd yn dra rhyfedd yma. Clod i Dduw am hyn. Dranoeth aethum i'r New Inn yn gysurus iawn dros y mynydd yn nghwmpeini dau frawd; a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yn y lle, er fy mod o ran fy meddwl yn fwy rhwym na llawer gwaith wrth ymdrin â'r un gwirioneddau. Aethum oddiyno i Glosygraig; llawer o drymder a brofais yma, eto y gwaith dan ei harddwch allanol. Esgyned mawl i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Gastell newydd. Cefais ychydig o fy anadl yma. "Dranoeth, y Sabbath, cefais fy meddwl yn dra siriol yn y ddyledswydd deuluaidd. Cychwynasom i'r Capel Newydd. Cefais radd o help. Oddiyno i Nefern. Siriolodd yr Argl wydd ar fy ysbryd. Aethum oddiyno i Abergwaen. Cefais rym uwchlaw fy nysgwyliad. Daethum adref y Llun yn iach; a'r teulu oll felly hefyd. Clod i Dduw am hyn. Yr wythnos hon a dreuliais mewn llawer o ffwdan gan fy ngalwedigaeth, heb nemawr amser darllen nac ysgrifenu. Cadwyd cwrdd gweddi nos Fercher. Teimlais lawer o sychder yma. Mae hyn yn galw arnafi weddio a gwylio; yr Arglwydd a'm nertho. Yr wyf yn dybenu un wythnos yn rhagor gan waeddi, Aflan, aflan. [blocks in formation] "Heddyw yr wyf yn myned i daith dros yr Arglwydd mawr. Ei ofn, ei ogoniant, a'i gariad, yn nghyda'i wyneb grasol, fyddo fy rhan. Dechreuais fy nhaith brydnawn dydd Sadwrn, a'r hin yn annhymherus iawn. Aethum at odfa y noswaith hono. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Cefais achos i ddyweyd unwaith eto, Lle yr wyf wan, yna yr wyf gadarn, Dranoeth, y Sabbath, awd at y ddyledswydd deuluaidd. Cefais rwyddineb a goleu. Clod i Dduw am hyn. Aethum at odfa naw. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethum at odfa tri. Bu yma yn fwy tywyll arnaf o ran fy mhrawf. Daethum oddiyno i Eglwyserw; cefais rwyddineb gyda'r gwaith yma. Clod i Dduw am ymgeledd i greadur gwael. Heddyw eto yn mwynhau fy iechyd yn dra chysurus, ac yn gwynebu ar noswaith arall; a'r Duw sydd yn gofalu am y gweiniaid fyddo fy Mugail. Dydd Llun aethum i Rhydygele at odfa deuddeg; bu yr harddwch allanol ar y gwaith, ond nid oedd fy ysbryd mor iraidd. Aethum at odfa dau i Landudoch; yma hefyd bu yn lled debyg. Aethum oddiyno i Aberteifi; yma cyfarfyddais â brawd o'r Bala, John Peters, Teimlais fy ysbryd yma dan ddylanwadau i ryw raddau, a'r Arglwydd yn dangos ei diriondeb i'r gynulleidfa hefyd. Dydd Mawrth aethum i'r Cwrddais yma â'm cyfaill M. D. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith. Clod i Dduw am hyn. Aethom erbyn dau i Blaenanerch. Llewyrchodd yr yr Arglwydd mewn modd rhyfedd yma. Diolch am ei sylw drugarog o bechadur gwael ei lun. Aethum oddiyno i Benmorfa. Goleuodd yr Arglwydd arnaf yma hefyd. O, beth dalaf i'r Arglwydd am fy nylyn! Dranoeth aethum i'r Twrgwyn; cwrddais â'r brawd John Jones yno. Teimlais yn galetach yma. Aethum oddiyno erbyn dau i Bensarn. Profais yma yr un fath; ac oddiyno i Benywig. Ymwelodd yr Arglwydd drachefn yma. Dydd Mercher aethom i Lanarth erbyn naw. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn yma yn wyneb teimladau isel, nid yn unig i'r bobl, ond i minau. Clod i Dduw am gael ymborth fy hun. Aethom erbyn dau i Ffosyffin. Yma teimlais yn dra chymylog. Yr oedd hyn hefyd yn lles i'm galw at Dduw. Aethum y noswaith hono i Benygareg. Torwyd yma dros ben ein hannheilyngdod yn dra neillduol. Dranoeth aethom i Landdewi erbyn naw. Gwelodd yr Arglwydd yn dda sirioli arnaf yma. Teimlais fy ysbryd yn wlithog. Codaf yma faen hefyd; galwaf ef Ebenezer. Aethum oddiyno i Lanon. Fy nheimladau oeddynt gelyd, a llawer iawn o lesgedd yn fy nghorph; bu hon yn lles i mi hefyd. Aethum oddiyno i nos Iau. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ac effeithiau lawer ar y bobl, ond fy mhrofiad fy hun oedd yn isel iawn. Daethum neithiwyr i dŷ ein brawd Nathaniel Williams. Cawsom bob caredigrwydd a chyfeillach fuddiol. Heddyw eto yn dechreu ar ein Sadwrn. Oh, am ei dreulio yn nghyfeillach Duw, fel y marweiddier fy llygredd, ac y bywheir fi yn ei waith. Aethom, mi a'm cyfaill, ac amryw eraill, i Lanrhystyd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol, tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethom oddiyno i Langwyryfon. Bu cymaint o'r arddeliad yma, fel prin y cefais bregethu. Dybenais fy wythnos, a'm meddwl yn dra siriol; ac och hefyd am fy nghnawdolrwydd gyda'r gwaith. "Aethum heddyw, y Sabbath, o ran fy meddwl yn dra chrynedig at y gwaith erbyn naw i Aberystwyth. Profais yr Arglwydd yma yn dra thirion. Aethum oddiyno i Rydyfelin. Aeth hon drosodd yn gyffredin iawn. Aethum erbyn odfa chwech i Lanfihangel, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Dybenais fy Sabbath yn dra chysurus o du Duw, ac yn dra gofidus o'm tu i. Dydd Llun aethum i Benllwyn. Gwelodd yr Arglwydd yn dda y boreu newydd hwn i sirioli arnaf. Aethum oddiyno i Cynon. Teimlais fwy o drymder yma; ond nid oedd y gwir yn ddiarwyddion effeithiau. Aethum oddiyno i Lanilar. Cefais gynorthwy a nerth yma, ond nid oedd mor neillduol ar fy meddwl. Dybenais fy niwrnod mewn tawelwch. Dranoeth aethum i Ledrod. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd tra thirion. Aethum oddiyno i Swyddffynon dan lawer o lwfrhad meddwl, eto gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim a feddyliais. Aethum y noswaith hono i Dregaron. Bum fwy yn y cyffion yma, eto nid heb harddwch. Dydd Mercher aethom, mi a'm cyfaill, a'r brawd John Bevan, i Landdewi. Gwenodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol o ran fy ysbryd, ac ar y gynulleidfa. Diolch. Aethum oddiyno i Lwynypiod. Yr oeddwn yma yn fwy yn y carchar, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith. Aethum oddiyno i Lanpenal. Yno y cyfarfu pump o honom yn ddyeithr; dau o'r Gogledd, a thri o'r Deheubarth. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol. Diolch iddo yn ddiddiwedd. Aethum at odfa wyth dranoeth i Rydypandy. Cefais gymhorth yma. "Aethum i'r Association. Dechreuwyd am ddeg. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol perthynol i'r gweinidogion. Dybenwyd gan y brawd Mr. Gray. Cyfarfyddwyd am ddau yn y society, lle yr oedd y blaenoriaid oll, i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r amrywiol eglwysi. Daethum i'r odfaon cyhoeddus. Pregethodd y brodyr John Roberts a Thomas Jones, o'r Gogledd. Cafwyd lle i feddwl fod wyneb Duw ar y cyfarfod. Dranoeth am wyth, gweddiodd y brawd Ishmael Jones, pregethodd y brodyr Michael Roberts a John Jones, dau o'r Gogledd. Am ddeg, awd i'r society. Trodd hon yn adeiladol iawn, canys pethau buddiol buwyd yn eu trin. Dybenwyd trwy weddi gan y brawd E. Morris. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd William Hafard; pregethodd y brodyr John Elias a Mr. Jones, Llangan, gyda llawer o foddlonrwydd Duw arnom. Awd at odfa dau, Gweddiodd y brawd Thomas Jones o'r Gogledd, pregethodd y brodyr John Ellis a Dafydd Parry. Dybenwyd yr Association yn dra chysurus. Aethum, mi a'm cyfaill, gyda John Elias a'i gyfaill, i'r Gelli. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Dranoeth i Lanbedr. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf. Yma hefyd y cwrddais a John Roberts. Oddiyma i Gapel Drindod. Cefais yr Arglwydd yn dirion yma. I'r Castell Newydd erbyn chwech. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof yma. Diolch byth am ei diriondeb i mi. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Blaenanerch i wrando John Elias. Cefais yma lawer o bleser a chysur. Dylynais ei wrando hyd oni ddaethum adref dydd Mawrth dan amrywiol dywydd. Clywais fy mod wedi fy ngwneyd yn filwr gan y llywodraeth cyn dod adref. Terfysgwyd fy meddwl yn dra mawr; ond erbyn dod adref, yr oedd Rhagluniaeth y nef wedi darpar. Oh, beth a dalaf i'r Arglwydd! Cadwyd society dydd Mawrth am ddau. Treuliwyd y cyfarfod yn nghylch dysgyblaeth am ieuo yn annghymharus. Triniwyd hyn gan y brawd John Elias gyda deheurwydd ac mewn doethineb mawr. Pregethodd John Elias a'i gyfaill. Ymadawsom dan nawdd Duw. Diolch diddiwedd iddo. Dranoeth am naw cadwyd society i'r blaenoriaid. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol, ysbrydol ac adeiladol. Pregethodd yr un rhai dan arddeliad mawr. Treuliais brydnawn y dydd yn gwrando John a'i gyfaill. {{***|7}} "Nos Sadwrn dechreuais fy nhaith tua yr Association, i Gaerfyrddin. Aethum y noswaith hono i Dreamlod: cefais diriondeb mawr yno yn y gwaith ar law yr Arglwydd. Dranoeth, y Sabbath, aethum i wrando Mr. Jones a Michael Roberts. Teimlais ireiddiwch yn fy meddwl yma, a pheth sobrwydd wrth ymdrin â'r ordinhadau. Aethum oddiyno i Gastell newydd bach. Fy nheimlad yma oedd yn sych a thrymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gastell Henry. Fy nheimlad oedd iraidd a blasus. Clod i Dduw am beidio fy Ilwyr adael. Aethum oddiyno i gysgu i Forehill. Cychwynasom yn foreu dranoeth at odfa deg, deuddeg milldir o ffordd. Cwrddais ag ychydig brofedigaeth ar y ffordd, yr hyn a derfysgodd fy meddwl yn dra mawr. Yn yr odfa nerthwyd fi i ddyweyd y gwir. Diolch am hyn hefyd, er nad oedd mor llewyrchus arnaf. Aethum oddiyno gyda'm cyfeillion i Bancyfelin. Erbyn myned oddiyno cefais ychydig o fy siomi. Dranoeth yr oedd dydd yr Association, a'r tywydd yn arw gan eira mawr. Aethum trwy y gerwindeb i Gaerfyrddin. Awd i society y gweinidogion, yr hon a dreuliwyd i drin mater brawd wedi troseddu, a'i roddi dan ddysgyblaeth. Cyfarfuwyd am un. Triniwyd pethau amgylchiadol i gyd, perthynol i'r Corph. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gosodwyd fi i ddechreu. Pregethodd y brawd John Thomas ac Ebenezer Morris; yr oedd y gwaith dan ei lewyrch. Dydd Mercher am 7, gweddiodd y brawd Richard James; pregethodd y brawd Dafydd Parry a minau. Teimlais fy hun yn derbyn cymhorth. Society am un ar ddeg. Areithiodd Mr. Charles yn helaeth ac yn odidog dros ben am yr Ysgolion Sabbathol. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Rees, gyda diolchgarwch am ein bod yn clywed y pethau oeddym yn eu clywed. Am 11 pregethodd Mr. Jones a Mr. Charles yn dra odidog. "Aethum oddiyno i Landilo. Fy nheimlad yma oedd yn drymaidd ac yn isel. Dranoeth aethum i Langadog. Teimlais<noinclude><references/></noinclude> 2qoymuv85bfya9bsfr02u6hxybeaco4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/123 104 84569 164346 2026-05-07T19:31:22Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "yma fwy o ireiddiwch. Aethum oddiyno i Lansadwrn. Teimlais ryddid yma, a'r gwaith dan ei harddwch allanol. Dranoeth aethum i Gilycwm, a'r tywydd yn oer ac yn galed, oddifewn ac oddifaes. Cwympodd y ceffyl danaf. Yr Arglwydd a'm cadwodd, ac a'm gwaredodd. Yn y gwaith cyhoeddus teimlais fy ysbryd dan ymgeledd, a'r Arglwydd yn siriol ar y gynulleidfa. Cadwyd society. Dywedais yn achos yr Ysgolion Sabbathol, a Bristol. Aethum oddiyno i Y... 164346 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yma fwy o ireiddiwch. Aethum oddiyno i Lansadwrn. Teimlais ryddid yma, a'r gwaith dan ei harddwch allanol. Dranoeth aethum i Gilycwm, a'r tywydd yn oer ac yn galed, oddifewn ac oddifaes. Cwympodd y ceffyl danaf. Yr Arglwydd a'm cadwodd, ac a'm gwaredodd. Yn y gwaith cyhoeddus teimlais fy ysbryd dan ymgeledd, a'r Arglwydd yn siriol ar y gynulleidfa. Cadwyd society. Dywedais yn achos yr Ysgolion Sabbathol, a Bristol. Aethum oddiyno i Ystradwalter. Fy ysbryd yn dra llwythog a thrymaidd. Dranoeth aethum i Lanymddyfri. Cefais beth o fy anadl yno. Aethum oddiyno i Sir Frycheiniog i dŷ Richard Winstone. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Y Sabbath, ar ol dyledswydd deuluaidd, aethum i'r Bont. Gwelodd yr Arglwydd fod yn dda i harddu y gwaith yma. Clod iddo am ei ras. Aethum oddiyno i'r Gorwydd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma. Teimlais fy meddwl dan ymgeledd. Daethum oddiyno i Lwynderw. Teimlais gymhorth yma yn wyneb llesgrwydd. Yr wyf heddyw yn iach. Clod i Dduw am ei ofal am danaf. Yr wyf heddyw eto yn ymgyflwyno o'r newydd i Dduw a'i waith. Yn wyneb holl guro fy meddwl, yr wyf yn dymuno dy gwmni, anwyl Arglwydd. Daethum i Lwynmadoc. Cymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyno i Aber. Teimlais beth neillduol i fy meddwl. Oddiyno i Lanfairmuallt. Yr oedd hi arnaf yma yn galed a thrymaidd iawn. Dranoeth aethum gyda'm cyfaill ac un arall, i'r Capel Isaf ar ddydd ffair. Ni chawsom ond ychydig wrandawyr, eto siriolodd yr Arglwydd arnaf, ac ar y bobl. Aethom i Aberhonddu y noswaith hono. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma, ac a estynodd ei gymhorth. Dranoeth, sef dydd Mercher, aethom i'r Trallwm. Cyfarfum yno â dau wr dyeithr eraill. Profais yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyno i Lanfihangel. Teimlais yn fwy caeth yma. Oddiyno i Beilu du. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Dydd Iau, yn dywydd garw iawn gan eira. Aethum i Drecastell. Cwrddais yma ag amryw o'r brodyr, Lewis Morris a'i gyfaill. Fy nheimlad yma oedd yn fwy trymaidd, eto yr oedd harddwch allanol ar y gwaith. Aethum i'r Browydd (?). Cefais gymhorth. Dranoeth aethum i Crai. Cwrddais yno â'r un cyfeillion. Teimlais yma yn fwy rhwym a chaeth. Aethum oddiyno i Defynog, trwy dywydd garw gan yr eira, eto yr Arglwydd oedd dda wrthyf. Aethum oddiyno i Aber-, teimlais yn fwy caeth, eto nid yn ddiwlith. "Dydd Sadwrn aethom gyda brawd arall, Henry Jones, dros fynydd ac eira trwm i le a elwir Glyn. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gefncoedcymer. Teimlais hwylusdra yma. Aethum oddiyma i Merthyr y noswaith hono, a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac wrth y gynulleidfa. Pregethais yno eilwaith boreu Sabbath am naw, ar ol y society am saith. Cefais harddwch allanol ar y gwaith, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd i. Aethum oddiyno i Lanfabon. Teimlais fy meddwl yn siriol iawn yma. Aethum oddiyno i Caerphili. Ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol, yn fwy felly nag a welais yn fy nhro. Clod i Dduw am sylwi ar un mor wael. Dydd Llun aethum i Sir Fynwy i le a elwir Risca, a'm brawd caredig, Thos. Edward. Dydd Sadwrn, yn Risca, teimlais fwy o gaethiwed. Aethum oddiyno i'r Morfa du. Cefais gymhorth a phleser yma yn wyneb iselder meddwl. Dranoeth aethum i Gasnewydd. Bu yr harddwch yn allanol ar y gwaith. Oddiyno i'r Casbach. Cwrddais â phrofedigaeth yma trwy ddyoddef anhwylder wrth lefaru. Aethum yn mlaen yn y gwaith yn fuan wedi hyny. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Laneirwg. Llewyrchodd yr Arglwydd yn dra rhyfedd cyn i'r odfa fyned drosodd. Dydd Mercher dychwelais i Sir Forganwg, i Gaerdydd. Cefais bleser yma wrth drin y gwirionedd. "Aethum oddiyno gydag amryw o'r cyfeillion i Gwrdd Misol y sir i Trehil. Ymddyddanwyd yno amryw o bethau am gymdeithas â Duw. Pregethodd y brodyr Henry Jones a Richard James. Nid oedd ymweliadau neillduol yma. Dranoeth daethom yn nghyd am naw i'r society. Treuliwyd hi i gyd yn nghylch tŷ ewrdd Bristol. Gosodwyd Dafydd Bowen a mi i bregethu. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyma i'r Eglwys newydd y noswaith hono, a'r Arglwydd a fu yn dda wrthyf. Dranoeth aethum i Bryntirion gyda'm cyfaill a'm hanwyl frawd, Thomas Edward. Teimlais yn drymaidd iawn yma. Aethum oddiyno i Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol. Daethum i St. Ffagan, lle yr wyf heddyw yn ysgrifenu fy nheimladau. Yma yr oedd yn sych. Cefais bleser mawr i son ac anog yr Ysgolion Sabbathol Cymreig, a'r Arglwydd yn dangos ei foddlonrwydd ar y gwaith. Oh, pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau! O am nerth i rodio wrth ei draed. Aethum oddiyno i Dinaspowys; nerthwyd fi yma, a chefais le i feddwl fod yr Arglwydd yn bendithio y gwir, eto fy nheimladau oeddynt dywyll a sychlyd iawn. Oddiyno i Aberddawen. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i'r Brythyn, i gyfarfod ag Edward Coslett; yr oedd wedi dybenu pregethu cyn i mi ddod yno. Bu yma arnaf megys tywyniadau haul ar ddydd cymylog. Oddiyno i Salem. Teimlais fy ngwendid yma yn fawr iawn, eto nid yn ddibleser. Clod i Dduw am hyn hefyd. Oddiyno i Benybont. Gorfu arnaf lefaru yn y ffenestr. Tybiais y cawswn anwyd mawr, ond cadwyd fi yn dda. Dranoeth i Drelales. Pregethais allan yma, a'r Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Pil. Gwlithodd yr Arglwydd arnaf yma. Oddiyno i'r Dyffryn, dan lawer o lesgedd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma, ac ar yr holl gynulleidfa. Gwrandewais dri o blant yn dyweyd y 53ain o Esay yn dda ac yn gywir iawn. Dranoeth daethum i Langynwyd. Profais diriondeb yma eto, ond nid mor llewyrchus a llawer gwaith. Oddiyma i Benhydd. Fy nheimladau oedd isel, ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Oddiyno i Bontrhydyfen i dŷ y gweinidog a'r brawd Richard James. Rhoddodd yr Arglwydd ei nawdd yn helaeth ar y cyfarfod. Oddiyno i'r Ynysfach. Bu yma yn gyffredin iawn. Oddiyno i Cwmnedd. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof. Oddiyma i Ystradgynlais. Cefais gymhorth yma, ond nid mor heulog. Oddiyma i'r Creunant. Fy nheimlad yn dra thrymaidd. Oddiyma, mi a'm cyfaill, i Fonachlog. Siriolodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf yma. Clod diddarfod fyddo oddiwrthyf i'r Arglwydd. Oddiyno y noswaith hono i Lansamlet. Arddelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol yr odfa hon. Oddiyno i Abertawy erbyn deg. Cefais gymhorth a phleser yn y gwaith. Erbyn dau i Dreforis. Teimlais fwy o gaethiwed yma. Oddiyno i'r Goppa. Fy nheimladau yma oedd isel a thrymaidd ar y cyntaf; ond gwenodd yr Arglwydd mewn modd rhyfedd iawn arnaf. Codaf faen yma hefyd. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i Lanelli. Bu yn galed iawn arnaf yma. Briwodd yr odfa hon fy meddwl a'm corph. Oddiyno i Gydweli. Cefais fy anadl yma. Moliant i'r Arglwydd am hyn. Oddiyma i Landefeilog. Tywalltodd yr Arglwydd arnom yma ddylanwadau helaeth o'i gariad. Dydd Llun ymadewais â'r cyfaill fu genyf trwy y daith. Oddiyno i Lanstephan. Gwrandewais Mr. Davies yn yr eglwys. Aethum inau at y gwaith am ddau. Fy nheimlad oedd yn drymaidd iawn. Cadwyd society; ychydig, a'r hin yn oer, ac yn eira mawr. Oddiyno i Ben. Cefais gymhorth yma i lefaru. Yr oeddwn i fod yn Lacharn erbyn naw. Methais fyned nes oedd yn ddeg o herwydd yr hin. Pregethais am 3 ac am 6. Yr oedd yn drymaidd arnaf am 3; agorodd ychydig arnaf am 6. Oddiyno dydd Mercher i Forehill. Dranoeth pregethais yno am 9. Daethum adref y noswaith hono yn iach; cefais y teulu felly hefyd. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei annhraethol ddoniau i lwch y llawr. Bod yn wastad yn y llwch sydd yn gweddu, diolch yn ddibaid, ac ofni Duw a'i wasanaethu byth fyddo fy mraint. Dydd Gwener a dreuliais mewn gwrando: yn y boreu Dafydd Evans o Lanwinio; am 2, Lewis Morris a John Williams. Yn y boreu, teimlais fy meddwl a'r gwirionedd yn gafaelu â'u gilydd. Y prydnawn fy nheimlad oedd yn fwy trymaidd. Dydd Sadwrn a dreuliais gyda fy helyntoedd bydol, a'm meddwl yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd da a thirion. Maddeued i mi, a nesâed fi yn fwy ato ei hun, i aros yn ei gymdeithas. "Dydd Sabbath, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, aethum i'r Ysgol Gymraeg. Bu genym ysgol fawr. Adroddwyd dros bymtheg penod allan o'r llyfr, ac arwyddion cynydd ar y gwaith, tu hwnt i'm dysgwyliad. Pregethais am 3; wrth ddechreu, fy nheimlad oedd yn isel a thrymaidd iawn; ond cyn y diwedd llewyrchodd arnaf. Aethum oddicartref i Garnachwen; fy ngwendid oedd yma i'm teimlad yn fawr iawn, eto cefais gymhorth. Dybenais fy Sabbath yn dra thawel, a gradd mwy o sobrwydd na llawer gwaith. Clod i Dduw am y radd leiaf. "Yr wyf yn dechreu ar wythnos arall. O am nerth i'w threulio yn fwy mewn llafur ysbrydol. Yr wythnos ganlynol a dreuliais mewn astudio, rhan o honi, ac mewn helyntoedd bydol: ond yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd, ac amryw o deimladau gofidus o ran fy mhrawf mewn pethau ysbrydol; felly y treuliais fy wythnos. Dydd Sul, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, yr hon oedd yn fwy trymaidd na llawer gwaith, aethum i'r odfa, lle yr oedd Mr. Jones o Langan i bregethu yn fy nghartref. Pregethodd nes yr oeddwn yn teimlo budd, oddiwrth Ioan ii. 17, ac ar yr ordinhad teimlais fy meddwl yn llawn gorfoledd yn wyneb y peth oedd yn ei ddyweyd. Cefais achos i fendithio Duw am ei diriondeb. Prydnawn aethum i'r Hall i bregethu pregeth angladdol i fab un a fu farw yn sydyn ar y maes. * * * * * * * "Heddyw yr wyf yn myned i daith. Dy wyneb, O fy Arglwydd, fyddo arnaf, er mwyn dy enw. Nos Sadwrn teimlais fy meddwl yn dra gofidus. Y Sabbath aethum at odfa naw. Fy nheimlad yma oedd yn dra chysurus. Ar ol dybenu y cwrdd, cefais brofedigaeth yn achos fy ngheffyl. Aethum, mi a'm cyfaill, erbyn dau i Landdowror. Cwrddais â threial yno: nid oedd yno gyhoeddiad, eto cawsom odfa. Aethom erbyn saith i Gaerfyrddin. Cefais bleser mawr yn y gwaith yma, wrth holi y plant, a gwrando penodau. Dranoeth codasom yn foreu iawn. Aethom i Abertawy-wyth milldir ar ugain o ffordd, a'r ceffyl yn anhwylus iawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyno i LansamletCefais gymhorth yma, a phleser mawr wrth holi y plant. Dranoeth i Gastellnedd. Teimlais gymhorth mawr yma. Oddiyno i'r Dyffryn. Erbyn myned yno yr oedd yr odfa wedi dybenu, a Mr. Charles wedi pregethu. Aethom yn nghyd, amryw o honom, i'r Pil. Cefais gymhorth a help yn y lle hwn. "Daethom dranoeth i Bontfaen i'r Association. Am 10, cyfarfyddodd y gweinidogion. Ymddyddanwyd ag un oedd yn ymgynyg i'r weinidogaeth, ac amryw bethau eraill. Cwrdd am ddau i flaenoriaid. Ymddyddanwyd am bethau perthynol i'r Corph. Pregethodd John Rees a Mr. Lloyd am bedwar, a'r gwaith dan ei harddwch. Dranoeth Ishmael Jones a Dafydd Rees. Y society am naw a dreuliwyd yn dra buddiol. Am un ar ddeg pregethodd Mr. Charles ac Ebenezer Morris; a'r Arglwydd a'i wyneb ar y gwaith. Ar ol lluniaeth, pregethodd Thomas Jones a minau. Dybenwyd yr Association yn dra chysurus. "Oddiyno i Benybont. Cefais bleser mawr yma wrth holi y plant; a phregethu. Oddiyno i'r Dyffryn: yn fwy caeth. Oddiyno i Dreforis. Cefais help yma. Dranoeth i'r Goppa. Cefais gymhorth yn y lle hwn. Oddiyno i'r Bettws. Nerthwyd fi yno hefyd. Oddiyno i Lettygariad. Yr oeddwn wedi fy ngorchfygu yma gan lesgedd. Dranoeth, y Sabbath, i Landilo. Cefais bleser yn y gwaith yma. Oddiyno i Gynwyl. Teimlais yn fwy caeth gyda'r gwaith. Oddiyno i E<noinclude><references/></noinclude> kio3smq692eno6bfpphetg7m92gbs4q Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/128 104 84570 164347 2026-05-07T19:32:29Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cross Inn. Teimlais fy llesgedd yn fawr yma. Oddiyno i'r Pentwyn, a'm llesgedd yn cynyddu. Dranoeth i Lanpumsaint. Cefais gymhorth yma gyda'r holl waith. Oddiyno i Nant yr olchfa. Cefais fwy yma na'm dysgwyliad. Dydd Mawrth at odfa deuddeg. Oddiyno i Lanfyrnach, mewn anhwyldeb mawr o ran fy nghorph, a chynyddu a wnaeth. Dranoeth i Gwrdd Misol Bwlchygroes, a'r anhwyldeb yn fawr. Cadwyd society am naw. Pregethodd Dafydd Evans a minau,... 164347 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cross Inn. Teimlais fy llesgedd yn fawr yma. Oddiyno i'r Pentwyn, a'm llesgedd yn cynyddu. Dranoeth i Lanpumsaint. Cefais gymhorth yma gyda'r holl waith. Oddiyno i Nant yr olchfa. Cefais fwy yma na'm dysgwyliad. Dydd Mawrth at odfa deuddeg. Oddiyno i Lanfyrnach, mewn anhwyldeb mawr o ran fy nghorph, a chynyddu a wnaeth. Dranoeth i Gwrdd Misol Bwlchygroes, a'r anhwyldeb yn fawr. Cadwyd society am naw. Pregethodd Dafydd Evans a minau, a phob arwydd o sirioldeb ar y gwaith. Dranoeth am naw ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol. Pregethodd Evan Harries ac Ebenezer Richard, a'r gwaith dan ei goron. Aethum i Landudoch y noswaith hono; cefais bleser mawr yno gyda'r holl waith. Dranoeth i agor tŷ cwrdd Glanrhyd, a'r Arglwydd yn gwenu. Y noswaith hono i Drefdraeth, a'r gwaith dan ei wawr. Dranoeth adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Boreu Sabbath holais y plant yma gyda phleser. Yn ganlynol pregethodd Evans. Oddiyno i Gaerfarchell. Holais y plant yma gyda phleser mawr. Oddiyno i Dyddewi. Pregethodd ; holais inau y plant gyda phleser mawr. Dychwelais adref ddydd Llun yn o gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei holl ddoniau. Dydd Mercher bu genym gwrdd gweddi a society. Teimlais fy meddwl yn dra siriol gyda'r gwaith. Sadwrn at odfa yr hwyr, dan ryw faint o brofedigaeth. Cefais gymhorth i ddyweyd y gwir. * * [blocks in formation] * "Cychwynais Mai yr 16eg am dro i'r Gogledd. Teimlais lawer o lesgrwydd yn fy natur, ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf; cefais arwyddion ei fod heb fy rhoi i fyny. Clod byth iddo am hyn. Dychwelais heddyw, Mehefin 27, yn dda fy iechyd. Cefais y teulu felly hefyd. Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei ddoniau i mi, y gwaelaf o bawb! Mawrth, gwrandewais Ebenezer Morris gyda llawer iawn o bleser, a'm hysbryd dan y gwlith oddiwrth y gwirionedd. Dydd Iau gwrandewais ddau wr dyeithr eraill. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Nos Wener bu genym ysgol dda iawn. Cefais y plant lawer iawn gwell nag y meddyliais. Sabbath holais y plant am wyth, am Grist, gyda phob pleser. Cefais y fraint o fod dan yr un llewyrch wrth lefaru. At odfa dau. Cyfarfyddodd plant y tri lle. Holais yn gyntaf ar y Drindod; yn nesaf, holais rai eraill am ddyfodiad Crist i'r farn; yn drydydd, eraill ar wyrthiau Crist. Dybenwyd y Y cyfarfod gyda phleser meddwl. At odfa yr hwyr. Holais y plant yno, a phregethais, nid yn ddiwlith. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Oh am nerth i rodio er clod y Duw hwn, sydd mor rhyfeddol o dda i un mor annghyffredinol o ddrwg. Nos Fercher, pregethais yn Carnachenwen. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Gwener aethum i'r Felindre. Profais gymhorth yno yn wyneb cynygiadau i ddigaloni. Oddiyno i Abergwaen i gadw society erbyn deg. Teimlais gymhorth rhwyddineb tu hwnt i'm dysgwyliad. Y noswaith hono a aethum i Drellan. Cefais gymhorth yno. "Boreu dydd Sabbath aethum i gladdu brawd anwyl i mi. Aethom oddiyno at y gwaith, ond nid gyda chymaint o wlith. Am ddau ceisiwyd genyf i bregethu ar destun ar ddeisyfiad y marw. Cefais gymhorth i wneyd hyny, a'r Arglwydd yn gwenu. Holais y plant, a'r gwlith yn disgyn. Oddiyno i Drehowel. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dydd Llun aethum i'r Dinas. Cefais rwyddineb yma. Aethum oddiyno i Drefdraeth. Cefais gymhorth yma hefyd, yn neillduol gyda'r plant. Dranoeth i'r Eglwyserw. Cefais help yma hefyd. Oddiyno i Gilgeran, lle yr oedd Cwrdd Misol. Cafwyd cymhorth yn y prifat. Cefais gymhorth yn y cyhoedd, a'r Arglwydd yn arddel; arosodd dros y cyfarfod oll. Cefais anwyd mawr. Dydd Iau, daethum i'r Nefern erbyn 12. Teimlais fy meddwl yma yn dra siriol. Oddiyma i Abergwaen. Cefais gymhorth ac arwyddion neillduol o foddlonrwydd. Daethum adref heddyw yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Sabbath, am ddeg, holais y plant, a phregethais. Profais yr Arglwydd yn dirion. Oddiyma i Gaerfarchell. Teimlais yma fwy o galedi. Oddiyma i Dyddewi. Teimlais yn fwy rhydd yma. Boreu dydd Llun teimlais fy afiechyd yn cynyddu. Adref nos Lun yn fawr fy mlinder. Nos Wener yn yr ysgol i holi y plant yn yr egwyddorion. Nos Sadwrn pregethais yn Carnachenwen. Teimlais rwyddineb a help yn y gwaith. Aethum y Sabbath i Gymanfa y plant i Abergwaen. Holwyd yno bedair ysgol gyda llawer o foddlonrwydd. Pregethwyd yn ganlynol. Y pwnc cyntaf oedd profi nodau y galon. 2. Dyfodiad Crist yn y cnawd. 3. Nodau rhagrithiwr. Cyfarfuwyd am ddau. Dechreuwyd trwy fawl, gweddi, a darllen. Holwyd tair ysgol. Y gyntaf, am nodau dyn annuwiol; yr ail, ar Dduwdod Crist; y drydedd, am ddyndod Crist. Pregethwyd. Cafwyd achos dywedyd mai da oedd bod yma. Adref y noswaith hono. Y Sabbath diweddaf holais y plant gartref am waith yr Ysbryd Glân. Pregethais. Teimlais ddaioni Duw, a llid satan yr un pryd. * * [blocks in formation] * [blocks in formation] "Dydd Llun, aethum i'r Cwrdd Misol. Pregethais yn Drellan, nos Lun. Dydd Mawrth yn y Dinas am naw: prydnawn yn y Cwrdd Misol. Ar ol y gyfeillach gyffredinol gweddiodd D. Griffiths. Pregethodd E. Morris a minau. Dranoeth cyfarfuwyd am 9. Ymddyddanwyd amryw bethau perthynol i'r Corph, yna dechreuwyd yr odfa gan E. Richards. Pregethodd E. Morris a Mr. Jones, a'r gwaith dan ei goron. Am 6, holais y plant, a phregethais. Dranoeth i Eglwyserw, gyda Mr. Jones, i agor tŷ cwrdd. Daethum oddiyno i Abergwaen. Holais y plant, a phregethais mewn mawr gaethiwed o ran fy nghorph. Daethum adref heddyw dan rwymau i roddi diolch i Dduw am ei diriondeb ataf gyda'i waith, ac yn y teulu. Boreu Sabbath yn yr ysgol gartref. Y prydnawn i Rydygele; cefais gymhorth gyda'r gwaith yma. Oddiyno i Solfach. Cymhorth a help yma. Heddyw daethum adref yn dra chysurus, a'r teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei annhraethol ddaioni. "Dydd Mawrth aethum i'r Association i Abergwaen. Cyfarfu y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn dra buddiol. Cyfarfuwyd wedi hyny ychydig wedi un. Triniwyd pethau amgylchiadol, perthynol i'r Corph. Am dri gweddiodd David Evans. Pregethodd Thomas Jones a Mr. Jones. Dranoeth am saith gweddiodd D. Thomas. Pregethodd Watkin William ac Arthur Evans. Awd i'r society. Cafwyd achos cwynfan oblegyd clwyfo y frawdoliaeth oddiar fethu cydweled. Am 11, gweddiodd B. Williams. Pregethodd John Thomas, Mr. Bennet, a D. Rees. Am 2, gweddiodd John Williams; a phregethodd E. Richards a Nathaniel Williams. Yn yr hwyr gweddiodd Nathaniel Williams, a phregethodd William Hafard, a holodd Ebenezer Richard y plant. Ymadawyd yn dra chysurus. Dydd Sul gwrandewais Mr. Jones. Oddiyno aethum i Gaerfarchell, ac oddiyno i Dyddewi. Holais y plant, a'r Arglwydd yn dirion iawn. Oddiyno i Solfach. Holais y plant, a'm meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Garnachenwen. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Yr wyf heddyw yn parotoi i fyned i Fryste. Ei wyneb grasol fyddo arnaf, bryfyn gwael, annheilwng." Yr ydym wedi gosod darn go fawr o'r dyddlyfr i mewn, fel y caffo y darllenydd fantais i weled pa mor fanol yr oedd Mr. R. yn sylwi ar, ac yn cofnodi y gwahanol dywydd yr elai drwyddynt yn nechreu ei fywyd cyhoeddus. Hwyrach y bydd rhai yn barnu ein bod wedi rhoi gormod o hono i mewn; ond nid oeddem yn gweled y gallasem wneyd tegwch ag ef na hwy, ond trwy ddyfynu yn helaeth o'r llyfr sydd yn cynwys helyntion amryw flynyddoedd. Beth yw y casgliad naturiol, debygwch chwi, y dylem wneyd ar ol darllen y tudalenau uchod? Yr ydych yn ei weled yn suddo i mewn megys i ffwrn boeth yn nechreu y llyfr, ac yn y diwedd yn dyfod allan nid fel Ephraim, yn debyg i "deisen heb ei throi," eithr yn fara iachus, cras, blasus, a bwytadwy. Yr ydych wedi ei weled yn nodi allan ei deimladau mewn cysylltiad â'r holl symudiadau, yn gwneyd sylw ar y gwres a'r oerfel mewn cysylltiad â phob cwrdd ac a phob pregeth; yn llawenhau pan y rhoddai Duw wedd ei wyneb; yn gofidio pan y cuddiai ei wyneb; yn ofni rhag nad ydyw yn gywir; yn llawenhau mewn gobaith ei fod yn gymeradwy brydiau eraill. Wel, a ydyw yn bosibl i chwi lai na meddwl fod dyn ieuanc fel hyn yn rhwym o fod yn dduwiol iawn? Onid yw yn rhesymol i ni gasglu ar unwaith ei fod dan law Duw, yn cael ei lunio yn was iddo? Pwy ddarfu gael eu harwain erioed ar hyd y llwybrau y noda y dyddlyfr hwn allan, ond y cyfryw ag oedd o dan driniaethau nid yn unig i fod yn gadwedig, ond hefyd i ddal gweinidogaeth amlwg er cadwedigaeth y byd? Nid oes yr un ganwyll a all oleuo, heb losgi o hyd. "Canwyll yn llosgi ac yn goleuo" ydoedd ef, a miloedd yn Nghymru yn "gorfoleddu yn ei oleuni." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled y ganwyll yn llosgi; edrychwch i gymdeithas, a chewch ei gweled yn goleuo, megys ar ganwyllbren, i bawb a'r sydd yn y tŷ. Yr oedd y gair yn llosgi ynddo, nes fflamio allan yn oleuni i bawb o gwmpas. Yr ydym yn edrych ar y dyddlyfr fel allwedd i agor y gwahanol gloion, nes dyfod i ddirgelion cymeriad Mr. Richard. Yr oedd yn fawr mewn cymdeithas am ei fod yn fawr gyda Duw; yr oedd yn wr cadarn nerthol, am ei fod mewn cymundeb â'r Hollalluog; yr oedd yn drugarog, ac yn medru cydymdeimlo â'r tlawd a'r gwan, o herwydd ei agosrwydd i'r "Duw trugarog a graslawn." Bydd y dynion ieuainc, wedi darllen y dyddlyfr, yn gweled fod y byd wedi treiglo gryn dipyn yn y blaen oddiar gychwyniad Mr. Richard hyd yn awr, er nad yw hyny ddim yn amser maith. Nid yw ond o haner cant i driugain mlynedd oddiar y dechreuodd bregethu hyd yn bresenol, ac eto yn hyny o amser mae y byd wedi newid amryw weithiau; a'r pregethwyr wedi newid fwy o weithiau na hyny, canys nid oes iddynt oes hir iawn, yn enwedig os byddant ryw werth; oblegyd, fel y gwyddoch, os bydd y ganwyll yn llosgi, y mae yn rhwym o gael ei difa yn bur fuan. Yr ydych wedi darllen yn y dyddlyfr enwau pregethwyr na welsoch erioed o honynt; ac yn wir, ychydig sydd yn fyw a'u gwelodd, er mor fyr yw yr amser. Yr ydych yn darllen am Gymanfaoedd, a phwy oedd yn pregethu ynddynt; ond pa le y maent heddyw, ïe, a tho ar ol to wedi hyny? Nid oes enw-yr un yr ydych chwi yn ei adwaen heddyw yn y dyddlyfr; nac oes un. Yr enwau bendigedig yr ydych yn eu darllen yno yw, Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelig (Howells, Longacre, wedi hyny); Ebenezer Morris; David Evans, Aberaeron; Jno. Evans, Llwynffortun; Arthur Evans; Charles o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin; Thomas Jones, Caerfyrddin; John Elias, Mon; Lloyd, Beaumaris; Wm. Lloyd, Henllan, a lluaws eraill rhy faith i'w henwi. Ond y cwestiwn yw, "Ү prophwydi, pa le y maent hwy? y tadau, a ydynt hwy fyw byth?" Ah! y maent yn ddystaw er ys llawer o flynyddau, yn gorphwys o dan rwymau angau, yn "dysgwyl adgyfodiad gwell." Y rhai hyn oeddynt ddefnyddiau teml gyntaf y Methodistiaid; y rhai nad yw y bobl ieuainc yn eu cofio, nac yn gwybod ond ychydig am danynt, a hyny trwy draddodiad. Y maent hwy yn hapus gyda'r ail deml, gan feddwl fod hon yn gymaint ei gogoniant a'r gyntaf, os nid mwy, yn gymaint ag na ddarfu iddynt weled gogoniant y gyntaf erioed. Eithr yr hen bobl anwyl, gweddillion angau dwy oes, y maent hwy yn wylo y dagrau wrth edrych ar salwch yr ail deml, yn gymaint a'u bod yn cofio y gyntaf. Yr oedd yn bryd i'r hen Christmas Evans farw gryn amser cyn iddo wneyd hyny, canys yr oedd Cymanfaoedd yn myned yn bethau diflas ganddo, yn gymaint a'i fod yn gydnabyddus å'r hen Gymanfaoedd er ys llawer dydd. Gwaeddai allan ryw dro wrth wrando pregethau, ac yn cofio yr hen bregethu Cymanfaol, "Hawyr, beth yw'r sparbles hyn? yn mha le y mae yr hen hoelion wyth?" Yr hen hoelion wyth sydd i'w<noinclude><references/></noinclude> nn6r08h3wvwmtfofynxph8mgi35yeum Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/133 104 84571 164348 2026-05-07T19:33:18Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "cyfarfod y rhan fynychaf yn y dyddlyfr, yn enwedig ar ddydd Cymanfa. Bydd ambell sparblen yma ac acw ar brydiau eraill. Bydd yr hen bobl yn dyweyd nad oes nemawr o hoelion wyth yn cael eu gwneyd yn awr,-fod yr hoelion i gyd yn sparbles. Os felly, pa ryfedd eu bod yn wylo? Na, gadewch iddynt, yr hen dadau anwyl, canys y mae yn ddigon rhesymol iddynt wylo pan yn cofio am Sion yn ei gogoniant gynt, ac edrych arni yn awr yn nesaf peth i... 164348 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfarfod y rhan fynychaf yn y dyddlyfr, yn enwedig ar ddydd Cymanfa. Bydd ambell sparblen yma ac acw ar brydiau eraill. Bydd yr hen bobl yn dyweyd nad oes nemawr o hoelion wyth yn cael eu gwneyd yn awr,-fod yr hoelion i gyd yn sparbles. Os felly, pa ryfedd eu bod yn wylo? Na, gadewch iddynt, yr hen dadau anwyl, canys y mae yn ddigon rhesymol iddynt wylo pan yn cofio am Sion yn ei gogoniant gynt, ac edrych arni yn awr yn nesaf peth i adfeiledigrwydd; "canys y mae y gweision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Wel, wylwch chwi, fe allai y bydd eich dagrau yn had gwerthfawr dry yn ffrwythlonrwydd eto i'r byd. Nid siarad yr hen bobl yw hyn i gyd, oblegyd ymddengys yn eglur fod rhyw beth yn y siarad, a mwy ynddo nag y bydd llawer yn dewis meddwl. I ba le yr ewch i edrych heddyw yn Nghymru am bregethwyr fel Jones Llangan, Evans Llwynffortun, Elias, Ebenezer Morris, y ddau Richard, a lluaws eraill? Edrychwch lle y mynoch, edrych ofer fydd, canys nid ydynt i'w cael heddyw: y mae yr oruchwyliaeth wedi newid yn rhyw fodd, a'r offeiriadaeth hefyd. Yr ydys yn awr yn yr ail deml; ond gobeithio serch hyny nad ydyw hon i'w dinystrio, eithr y bydd rhyw drydedd yn deilliaw o honi yn fwy gogoneddus na'r gyntaf. Ond y peth goreu i ni yw dylyn ein ffordd yn y blaen yn araf a phwyllog, a pheidio aros yn rhy hir gyda dim. Wrth edrych ar y rhan o'r dyddlyfr ag yr ydym wedi roddi o flaen ein darllenwyr, ni a welwn fod gwrthddrych y llyfr mewn llawn llafur, Sul, gwyl, a gwaith, gyda gweddio, hunanymholi, cyrddau gweddi, cyfeillachau, holi ysgolion, gwrando pregethau, a phregethu ei hunan. Nid oedd ganddo nemawr o amser i fod yn segur, canys yr oedd o gyfarfod i gyfarfod, o Sul i Sul, o Gymanfa i Gymanfa, o daith i daith beunydd. Nid oedd ganddo amser i siarad am ddim braidd ond am grefydd; sef am bregethu, am weddio, am Gymanfaoedd, ac am Sabbathau. Mae yn cyffwrdd yn ei ddyddlyfr weithiau am ei geffyl, ei fod yn cael ei daro yn anhwylus ar y daith, onide prin y cawsem wybod fod ganddo geffyl o gwbl. Erbyn ystyried, crefydd yw hyny hefyd, canys y mae yn dyweyd helynt ei feddwl, a'i brofedigaeth yn yr amgylchiad. Oblegyd, fel yr ydych yn deall, nid gwerthu ceffyl, porthmona ceffyl, gwneyd rhyw elw o geffyl yw y cwestiwn, eithr ceffyl yn myned yn sâl pan oddicartref ar daith yn pregethu. Nid rhyfedd yn y byd fod peth fel hyn yn brofedigaeth danllyd, o herwydd yr oedd ei gyfleusderau i fyned yn y blaen gyda'r cyhoeddiad yn ymatal ar unwaith, canys yn y dyddiau hyny nid oedd dim gwell, na chystal, i fyned trwy y byd a cheffyl. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg, fel nad oedd yn bosibl eu teithio mewn cerbydau; a phe buasent yn weddol dda, nid oedd cerbydau i'w cael; yr oedd y trethi i'r llywodraeth mor fawr, fel nad oedd neb yn eu cadw ond dynion arianog iawn. Ceffyl oedd y peth goreu o lawer i deithio y byd y pryd hyny, ac ar geffylau y byddent yn teithio; o ganlyniad nid yw yn beth rhyfedd ei glywed ef yn cwyno, ac mewn profedigaeth chwerw, o herwydd anhwyldeb y ceffyl. Yr oedd pethau mawrion iawn wedi ymlapio mewn clefyd ceffyl pregethwr yn y dyddiau hyny. Yr oedd y pregethwr yn methu myned ar ei gefn; ac os na allasai fyned ar ei gefn, nis gallasai fyned o gwbl. Yn y fel hyn yr oedd atalfa ar y cyfan; y pregethwr yn cael ei atal, y bregeth yn cael ei hatal, a'r daioni yn cael ei atal oddiwrth y byd. Chwi welwch fod pethau mawrion yn y peth, er yr ymddengys wrth ei ddarllen yn beth lled ysgafn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl a cheffyl, fel sydd rhwng seren a seren; canys bydd ceffyl sydd yn cario pregethwyr yn fwy pwysig yn y glorian, ac yn fwy gwerthfawr yn y farchnad, na cheffyl melin neu fferm; gall y rhai hyny syrthio i'r dyffryn fel y bydd anifeiliaid eraill yn gyffredin, heb fod yn nemawr pwys ond i'w perchenogion; eithr am geffyl pregethwr, bydd ei salwch ef, chwaithach ei drengu, yn bwys i filoedd. Ac yn wir, y mae peth arall i'w ystyried yn y cwestiwn; canys ar ol i bregethwr golli ceffyl, bydd yn anhawdd iawn iddo gael un arall yn ei le. Yr oedd Mr. Richard yn hynod dyner o'i geffyl; yr unig fai oedd arno oedd ei fod yn rhy dyner o hono; yr oedd yn rhy drugarog wrth ei anifail; yr oedd yn ei ladd â thrugaredd. Dywedir am ambell fam yn lladd y plant wrth roi gormod o foethau iddynt; felly Mr. Richard yn lladd y ceffyl wrth fod yn rhy drugarog wrtho. Peth trwm iawn yw trugaredd; os eir i ddangos gormod o honi i gefn ceffyl y mae yn sicr o'i dori i lawr. Nid ydym yn cofio clywed iddo ef ladd ceffyl erioed wrth ei yru yn ormodol, ond clywsom ei fod wedi lladd rhai wrth wneyd i ddynion roi gormod o geirch iddynt. Dywedir fod gormod o fêl yn ddrwg, ac y mae yn debyg fod gormod o geirch felly; ond ni fynai efe gredu fod gormod i fod, os gallasai yr anifail ei fwyta. Yr oedd yn hyn fel y dyn ag oedd yn cymeryd moddion doctor, yn penderfynu cymeryd y gostrelaid i gyd ar unwaith, a'r box pills hefyd, gan ddywedyd, "Os yw ychydig yn dda, y mae llawer yn dda;" ac i fyny a hwy ar hyny; eithr gwelwyd yn y canlyniad fod llawer yn sicr o fod yn ddrwg, pa un a oedd ychydig yn dda ai peidio, canys bu y dyn farw; a marw wnaeth ceffyl Mr. Richard hefyd wrth roi gormod o geirch iddo. Dywedir i efryddiaeth ei gymeryd yn ei draed; dringodd i'r corph, nes iddo drengu; a'r ddedryd ar y trengedig oedd, "Iddo farw o dan ddylanwad gormod o geirch." Nid oedd dim yn effeithio arno yn fwy na cholli y ceffyl; nid oedd yn bosibl cael ganddo wneyd dim yn y byd nes ei gael drachefn. Yr ydym yn cofio clywed iddo golli y ceffyl o'r cae yn Nghymanfa Cendl, Sir Fynwy; ond ni symudai mwy na mynydd nes ei gael. Byddai y bobl yn ceisio ei berswadio i fyned gyda hwy at y cyhoeddiad tra fyddai eraill yn chwilio am y ceffyl; ond ni symudai gam; a gofynai yn barhaus, "Yn mha le y mae y ceffyl? Dewch chwi a'r ceffyl i mi; paham na ffeindiwch chwi y ceffyl? Ar ol i chwi ddyfod a'r ceffyl, minau ddeuaf." Yr ydym yn cofio ei weled yn dyfod at gapel bychan; yr oedd ceffyl a cherbyd ganddo y pryd hwn, ac yn cael ei gyfarfod gan ddyn ag oedd yn edrych ar ol pethau, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Disgynwch, Mr. Richard." "Disgyn," ebe yntau, "yn mha le yr ydych yn rhoi y ceffyl a'r cerbyd?" "Yr wyf," ebe y dyn, 66 yn rhoi y ceffyl yn yr ystabl yma; nid wyf yn gwybod yn iawn yn mha le y gosodir y cerbyd; ond yr wyf yn meddwl y ceir lle gan y ffermwr sydd yn byw yw yn y tŷ hwnt acw." "A ydych wedi bod yn gofyn? Cerddwch i ofyn yn awr, os na fuoch." "Wel mi af," meddai y dyn; "ond dewch chwi i lawr yn gyntaf; mi ofalaf fi am y cerbyd gystal a phe baech gydag ef eich hunan, syr." "Y chwi yn gofalu am fy mhethau i gystal a mi fy hun," meddai; "anwyd ddim o'r dyn hwnw eto; cerddwch a gofynwch i'r dyn am le i roi y gig i mewn." Eisteddodd heb symud dim, nes yr oedd pob peth yn barod i roi y gig a'r ceffyl mewn lleoedd priodol. Mae byd o synwyr hefyd yn y frawddeg, "Anwyd ddim o'r dyn hwnw eto;" sef y dyn fuasai yn gofalu am ei bethau ef gystal ag ef ei hun. Na, ac ni enir ef byth ychwaith; ac y mae y dynion sydd yn ymddiried gormod i eraill yn debyg iawn o syrthio i'w dwylaw, a chael eu trin yn annhrugarog ganddynt. Os na fydd dyn yn gofalu am dano ei hun, pwy arall a ofala drosto? Ac yn wir, pa ddyledswydd sydd ar ddyn i ofalu am bethau dyn arall, yn fwy nag y mae y perchenog ei hun yn dewis gwneyd? Y mae y dyddlyfr yr ydym wedi ei roi ger eich bron yn cynwys ei flynyddoedd boreuol, cyn ei fod yn ddeg ar ugain oed. Wrth roi y rhan arall o hono, ni a welwn amgylchiadau pwysig iawn yn dyfod i'w gyfarfod, y rhai y tybiodd lawer gwaith, neu o leiaf yr ofnodd yn ddirfawr y buasai yn myned yn llongddrylliad am y ffydd a'r weinidogaeth. Gwelir ei fod yn teimlo yn ddirfawr ei fod megys yn y ffwrn dân; ond o drugaredd ni losgodd; yr oedd Mab y dyn gydag ef yn myned trwy ei brofedigaethau chwerwon, y rhai, yn lle ei ddifa a'i ladd, ni wnaethant ond ei buro a'i gadw yn fyw ynddynt. Duw a ddywedodd, "Ni'th roddaf i fyny;" ac y mae yn wastad at ei air i'r cyfryw sydd yn ymddiried yn yr hyn a ddywed. 83. PENOD IV. Claddu ei dad-ei ordeiniad-claddu ei fam, a'i deimladau mewn cysylltiad â'r amgylchiadau hyn. PAN yr oeddech yn darllen y dyddlyfr, yr oeddech yn dylyn Tommy Richard yn ei gylchdeithiau a'i wibdeithiau; weithiau ar y Sabbathau yn Sir Benfro, weithiau yn holi ysgolion yma ac acw, weithiau mewn Cyfarfodydd Misol, weithiau ar deithiau i Gymanfaoedd, ac mewn Cymanfaoedd, weithiau yn mherfeddion Gogledd Cymru, weithiau yn Bristol, brydiau eraill yn Llundain, ac o hyd yn codi fwyfwy i ddylanwad a phoblogrwydd, nes ydoedd ei enw wedi dyfod yn air teuluaidd yn Nghymru. Pan oedd yn ddyn ieuanc, Tommy y byddent yn ei alw ef, canys felly y galwyd ef gan ei dad a'i fam; a phan cyhoeddid Tommy Richard i bregethu yn rhyw le, dyna ddigon am hyny; nid oedd dim gofal am wrandawyr, byddai mwy o wrandawyr nag oedd o le i'w cynwys yn gyffredin. Yr oedd llawer o bregethwyr duwiol a da yn dyfod o gwmpas y pryd hwnw, fel sydd yn awr, ond y mae gwaith cymhell dynion i ddyfod i'w gwrando; ïe, hyd yn oed aelodau crefyddol, yn enwedig os bydd yr odfa ganol dydd gwaith. Ond pan y byddai Tommy Richard i bregethu am ddeuddeg o'r gloch y dydd, nid oedd eisiau i neb eu cymhell i'r cwrdd; pwnc pawb oedd, gwneyd y goreu o'i draed, fel y gallai fyned i mewn a chael lle i sefyll. Pan y delai yr amser yn agos, byddai yr ardal lle y byddai yr odfa yn y cyffro mwyaf drwyddi; y ffermwr yn gollwng y ceffylau oddiwrth yr aradr; y saer yn taflu y fwyall naill ochr; y gof yn diffodd y tân; y crydd yn tynu yr arffedog ledr, a'i thaflu naill ochr, fel pe na buasai ei heisiau byth mwyach; y menywod yn troi pob peth heibio, gan addaw gwneyd y cwbl ar ol y cwrdd; ac yna gwelsech hwy o bob cyfeiriad yn ei dywadnu hi tua'r cyfarfod; ac ymddangosent fel pe buasent wedi annghofio pob peth ond myned i'r cwrdd. Wedi myned yno, pregethai iddynt fe allai am ddwy awr, a phan y dybenai, nid oeddent yn gallu credu eu bod wedi bod yno ond rhyw ddeng mynyd neu chwarter awr; a'r unig deimlad gofidus oedd ynddynt na fuasai yn pregethu trwy y dydd. Gan gymaint y blas, yn lle myned i orphen y gwaith gartref ar ol y cwrdd fel yr addawsent, y maent yn unfryd yn dechreu ymbarotoi i fyned ar ei ol ryw chwech neu saith milldir o ffordd lle y byddai<noinclude><references/></noinclude> d0qrz6dinugyr9f3elvwxqu6x154rtq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/354 104 84572 164349 2026-05-07T19:34:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164349 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu|canol|600px|tudalen=354]]<noinclude><references/></noinclude> 862tb8f8b16v2rrv63q55h9n8g7wnv5 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/353 104 84573 164350 2026-05-07T19:34:49Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164350 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/1 104 84574 164351 2026-05-07T19:36:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164351 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> q7paid7zlexp7vump7sl02x4pxqpq6r Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/2 104 84575 164352 2026-05-07T19:36:43Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164352 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/3 104 84576 164353 2026-05-07T19:36:57Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164353 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/4 104 84577 164354 2026-05-07T19:37:06Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 164354 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/138 104 84578 164356 2026-05-07T19:43:56Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn pregethu y noson hono. Rhyw beth fel hyn y byddai pethau yn myned yn y blaen y dyddiau hyny, pan oedd Tommy fel angel cryf, dysglaer yn "ehedeg yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo;" ac weithiau fel y fellten yn tywynu nes synu a dychrynu pawb o'i gwmpas. Tra yr oedd Tommy a'i enw yn ymgodi uwch uwch i benau y mynyddoedd, yr oedd ei dad anwyl, yr hen Henry Richard, eto yn fyw, ac yn ymdrybaeddu llawer yn ngwaelodion y... 164356 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn pregethu y noson hono. Rhyw beth fel hyn y byddai pethau yn myned yn y blaen y dyddiau hyny, pan oedd Tommy fel angel cryf, dysglaer yn "ehedeg yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo;" ac weithiau fel y fellten yn tywynu nes synu a dychrynu pawb o'i gwmpas. Tra yr oedd Tommy a'i enw yn ymgodi uwch uwch i benau y mynyddoedd, yr oedd ei dad anwyl, yr hen Henry Richard, eto yn fyw, ac yn ymdrybaeddu llawer yn ngwaelodion y dyffrynoedd obry, bron wrtho ei hun mewn unigrwydd dystaw. Gan y bloeddio ar ben y mynyddoedd gyda Tommy, nid oedd braidd swn i'w glywed yn y dyffrynoedd gyda'r hen Henry. Ni fuasai son erbyn heddyw, digon tebyg, am Henry Richard, Trefin, oni buasai Tommy a'i frawd; anfarwolwyd ef am ei fod yn dad i'r ddau fachgen yna. Pregethwr bach oedd Henry Richard, tipyn o bregethwr gwlad, cyffredin; yn myned a dyfod yn ol ac yn y blaen yn ddigon tawel ar y ceffyl bach, ac edrych ar ol y tir yn yr wythnos. Nichlywyd am dano ef yn Bristol a Llundain, yn y Gogledd nac yn y Cymanfaoedd; ac ni chlywyd am dano byth ond mewn cysylltiad â'i ddau fab enwog. Yr oedd Henry Richard yn bregethwr da, o bregethwr gwlad; dywedai dipyn yn flasus am Iesu Grist, a gweddiai yn gynes ac yn wlithog, fel yr oedd pawb yn ei garu fel hen wr duwiol a chrefyddol iawn. Er nad oedd yn bregethwr mawr, dywedir ei fod yn fuddiol, yn enwedig i'r saint, oblegyd tipyn at y profiad fyddai ganddo; rhyw beth i loni mewn gorthrymderau, ac i fyned yn y blaen mewn hyder yn yr yrfa ysbrydol. Byddai y saint yn caru ei glywed yn awr ac eilwaith; eithr am y pechaduriaid, nid oeddent hwy yn cael blas ar ryw bregethau fel yr eiddo Henry Richard; ond pan y byddai Tommy y mab yno, gwelsech y rhai hyny yn ei cherdded hi yn lled ystwyth. Yn ddystaw fel hyn yn y cymydd dyfnion gyda "Rhosyn Saron a lili y dyffrynoedd" y treuliodd yr hen Henry Richard ei fywyd yn dangnefeddus, heb ofni y pechod anfaddeuol, fel Tommy, na chlywed Sinai yn rhuo, yn mygu, ac yn llosgi gan dân, gan fygwth lladd yn farw pwy bynag ddelai i gyffyrddiad ag ef. Na, yn lled ddystaw fel Cristion llyfn y teithiai Henry Richard, gan arwain bywyd duwiol, a gwneyd tipyn o ddaioni, os gallai, mewn ffordd ddystaw. Gwnaeth ddaioni mawr trwy ddwyn ei blant i fyny yn addysg ac ofn yr Arglwydd, a gwelodd rhai o honynt yn addurn i grefydd a chymdeithas flynyddoedd lawer cyn ei ymadawiad ef â'r fuchedd hon. Y mae yn debyg iddo fyw yn hen iawn, a phregethu dipyn bob Sabbath hyd yr anadliad olaf. Pregethodd y Sabbath diweddaf y bu fyw. Wrth ddyfod adref o'r daith Sabbath y bu farw trwy anaf. Er fod Henry Richard yn bregethwr bach, edrychai Tommy i fyny ato fel tad gyda'r parch mwyaf. Yr oedd yn caru ei rieni yn fawr, ac yn dymuno fod yn gysur iddynt yn mhob peth, yr hyn hefyd a fu tra y buont byw. Yn gymaint a'i fod ef ei hun yn rhoi hanes amgylchiad marwolaeth ei dad yn ei ddyddlyfr, gosodwn hyny i lawr yn ei eiriau ei hun, canys gwyddom fod iddo roesaw i siarad. "Henry Richard a fu farw yn y flwyddyn 1813, nos Sabbath, Rhagfyr y 6fed, yn 83ain mlwydd oed, yn mhlwyf St. Lawrence. Achlysurwyd ei farwolaeth trwy dori ei glun, oblegyd i'r ceffyl syrthio dano ar ael bryn ar ddadlaethiad rhew ar foreu dydd Llun, ar ei daith adref o'i daith Sabbath y dydd o'r blaen." Pregethodd yn Woodstock am dri o'r gloch ar y gair hwnw yn Ioan i. 29: "Tranoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." A'r noson hono eilwaith yn y Blaengwern, ar y gair hwnw yn Heb. vii. 25: "Am hyny efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Dygwyd ef adref i'w dŷ ei hun y dydd Mawrth canlynol i'w farwolaeth, a chladdwyd ef dydd Iau yn mynwent Llanrian, i orphwys hyd ddydd ei adgyfodiad. Pregethwyd yn yr angladd gan Evan Harries. Rhag i neb gam-feddwl yn nghylch yr Evan Harries yma a bregethodd ar yr angladd, byddai yn burion i ni ddyweyd mai nid y Parch. Evan Harries, Merthyr, oedd hwn; ond hen bregethwr ag oedd yn Sir Benfro ar y pryd, sef tad y Parch. Thomas Harries, Sir Benfro, yr hwn sydd yn offeiriad parchus yn awr yn yr Eglwys Sefydledig. Wel, dyna yr hen Henry Richard duwiol wedi marw, ac wedi ei gladdu; ac y mae ei gnawd yn gorphwys mewn gobaith adgyfodiad gwell. "Beth eto?" Wel, ar ol darfod claddu, bydd y byd eto, chwi gewch weled, mor frysiog ag erioed; bydd un gyda'i faes, ac arall gyda'i fasnach yn bur fuan. "O bydd, digon tebyg; ond nid oes a fynom ni ryw lawer â helynt y byd hwn; helynt Tommy a'i fam sydd arnom ni eisiau wybod wedi claddu yr hen Henry Richard." Ië, dyna y pwnc yn awr. Yn y blynyddoedd rhwng claddu ei dad a'i fam, sef o'r flwyddyn 1813 hyd 1818, yr ydym yn ei gael yn ymroi yn annghyffredin at astudio a phregethu, gan gan gario yr holl wlad o'i flaen, yn hytrach yn ei thynu ar ei ol. Yr oedd fel yn cael tir newydd yn barhaus, a'i boblogrwydd yn cynyddu, a'i enw yn ymledu trwy y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn ganlynol i farwolaeth ei dad, sef Awst 17, 1814, yn Nghymanfa Llangeitho yn Sir Aberteifi, pan ydoedd yn ddeg ar ugain mlwydd oed, yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Y mae Bywgraffwyr Mr. Ebenezer Richard yn dyweyd mai yn y flwyddyn 1812 y claddwyd Henry Richard; os felly, yn mhen dwy flynedd y cymerodd ei ordeiniad le; ond nid oes genym ni ddim ond myned yn ol dyddlyfr Mr. Thomas Richard, yr hwn sydd o'n blaen. Y mae camsynied arall hefyd yn bod rhyngddynt; y mae y naill yn gosod y dyddiad Rhagfyr 6fed, a'r llall y 7fed. Nid yw y pwys yn nemawr oblegyd hyny, ond yn unig, fe allai, fod yn dda nodi yr annghysondeb, ac mai eu hannghysondeb hwy ydyw. Cymerodd ordeiniad Mr. Thomas Richard le yn mhen tair blynedd wedi yr ordeiniad cyntaf yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd; cymerodd hwnw le yn y flwyddyn 1811, yn Llandilo, Sir Gaerfyrddin, pryd, yn mhlith eraill, yr ordeiniwyd ei frawd, y Parch. E. Richard. Yn yr ordeiniad cyntaf hyn, un neillduwyd o Sir Benfro, sef Evan Harries, y pregethwr bregethodd yn angladd Henry Richard, fel y clywsom o'r blaen. Yr oedd Tommy yn ieuanc, y mae yn wir, yn amser yr ordeiniad hwn, -o gwmpas saith ar ugain oed, ac yn rhyw saith mlwydd o bregethwr; ond er y cwbl yr ydym yn synu yn ddirfawr wrth chwaeth yr hen bobl, yn gadael angel fel hyn heb ei neillduo; canys yr oedd yr amser hwn yn trydanu Cymru o benbwygilydd. Ond dyna fel y byddai yr hen bobl yn meddwl ar yr un pryd, coffa da am danynt; ac y mae yn anhawdd iawn i ni o'r man yr ydym yn sefyll yn bresenol i ddeall eu rhesymau yn berffaith. Dichon eu bod hwy yn rhy araf, a ninau yn rhy gyflym; a pheth anhawdd iawn felly yw cael dynion i gyfarfod â'u gilydd byth. Ordeiniwyd wed'yn yn Llandilofawr yn y flwyddyn 1813, ac ordeiniwyd un o Sir Benfro y tro hwn hefyd, sef John Evans; a'r unig reswm y gellir rhoi am hyn yw, fod John Evans yn henach na Tommy Richard. Nid ffolineb i gyd yw cadw oedran a phrofiad mewn golwg; ond yr oedd yr hen dadau ar rai prydiau yn gyru i eithafion, fel y byddys gyda'r rhan fwyaf o bethau eraill. Ond y flwyddyn ganlynol, yn Llangeithio, ni a welwn fod Tommy a Dafydd Griffith yn cael eu hordeinio o Sir Benfro-y ddau erbyn heddyw wedi eu rhifo yn mhlith y meirw. Fel y canlyn y mae efe ei hun yn rhoi hanes yr amgylchiad hwn: "Awst 17, 1814, yn Association Llangeithio, yn 30 mlwydd oed, cefais fy neillduo trwy alwad cyffredinol y Corph Methodistaidd yn Nghymru i weini yr ordinhadau. Dechreuwyd y gwaith gan y Parchedig Thomas Jones, Dinbych, trwy ddarllen 1 Tim. iii., a gweddiodd yn dra difrifol. Gofynodd y Parchedig Williams, Lledrod, y cwestiynau oedd yn cynwys pynciau ein ffydd; gweddiodd y Parchedig William Howells, Morganwg, ac arwyddion amlwg o foddlonrwydd Duw ar y gwaith. Galwyd arnaf i fedyddio baban ar fy ffordd adref, yn Pensarn yn Sir Aberteifi." Y Parchedig William Howells, Morganwg, oedd Mr. Howells, Llwynhelig, curad Jones, Llangan, yr hwn wedi hyny a symudodd i Lundain, ac a fu yn gweinidogaethu yn enwog a llwyddianus hyd ddydd ei farwolaeth yn Longacre. Yn y flwyddyn ar ol hon, sef 1815, yr ydym yn cael Mr. R. yn ehedeg fel angel cryf o sir i sir, o dref i dref, ac o Gymanfa i Gymanfa, yn ofnadwy yn ei weinidogaeth, ac yn cynyddu mewn poblogrwydd bob dydd. Yn y flwyddyn hono yr oedd Cymanfa yn Nghaerdydd, yn Morganwg; daeth yntau iddi; clywsom lawer o son am y Gymanfa hono, ac am ei bregethu yntau; y mae pobl yn fyw yn awr ag sydd yn cofio ei ddull, ei destun, rhanau o'r bregeth, a'r effeithiau anferthol oedd yn gydfynedol â'i weinidogaeth. Cyfeiria at y flwyddyn hon a'i ymweliad å Chaerdydd yn ei ddyddlyfr, ar ychydig eiriau: "Yn y flwyddyn 1815," meddai, "aethum i Association Caerdydd, yr hon a gynaliwyd Hydref 17 a 18. Pregethais ar fy nhaith tuag yno ac oddiyno ar y testunau canlynol: Heb. i. 3 a 11; Esay xxx. 8; Job xxxiii. 27, 28; Heb xii. 24, 25. Dychwelais trwy ranau o Frycheiniog ac Aberteifi. Daethum adref yn gysurus, a chefais y teulu yn iach. Moliant i Dduw am hyny." Yn nghanol ei lwyddiant mawr, a'i boblogrwydd anarferol, yr oedd o hyd fel plentyn gyda'i fam. Yr oedd yn colli y pregethwr mawr mor gynted ag yr elai at drothwy tŷ ei fam. "Mam fach," dywedai; "Tommy bach," dywedai hithau; a dyna'r ddau yn cofleidio eu gilydd, fel y bydd mam a phlentyn bach. Cartrefodd gyda'i fam anwyl a duwiol hyd nes i angau eu gwahanu oddiwrth eu gilydd, a mawr mor anhawdd oedd gydag ef ymadael â hi yn y diwedd; teimlai y rhwymau a'r cylymau mor dỳn ag erioed ar ddydd yr ymddatodiad. Bu ei fam fyw ar ol ei dad o gwmpas chwech mlynedd, a chartrefodd Tommy gyda hi, gan ei chysuro yn mhob modd y gallai, a diamheu iddo fod yn gysur mawr iddi yn ei chystudd a'i helbulon. Er fod cymaint o alwad am dano yn mhob gwlad i bregethu, ni symudodd nemawr o gartref y flwyddyn olaf o fywyd ei fam. Bu yn sâl iawn yn hir; a chymaint oedd ei gariad ati, a'i ofal a'i bryder am dani, fel nad aeth nemawr oddiwrthi yr holl amser hwnw. Gellid meddwl fod ei fam wedi teganu gryn lawer arno; pet ei fam ydoedd; ymddangosai mewn llawer o bethau bychain fel rhyw blentyn wedi cael ei anafu gan ei fam; eithr yn wahanol iawn i lawer o'r cyfryw, ymddygodd mab erioed yn fwy ufudd a chariadus iddi na Tommy. Yr oedd yn dyner ac yn anwyl gan ei fam, y mae yn wir; ac mor wired a hyny yr oedd hithau yr un mor dyner ac anwyl ganddo yntau. Beth bynag, wedi cystudd hir, yr ydym yn gweled fod ei fam anwyl yn marw yn y flwyddyn 1818, pedair blynedd ar ol ei ordeiniad. Nid ydym yn gweled dim yn well na'i adael ef ei hun i ddyweyd yr hanes; a'r galon hono na theimla nid yw ddynol, a'r llygaid na wyla ddeigryn, sydd naill ai wedi wylo y ffynonau yn sychion, neu ynte heb ddysgu wylo erioed. Fel hyn y mae yn dywedyd: "Y fl. 1818 y rhan fwyaf gartref, o achos y cystudd trwm a fu yn y teulu ar fy anwyl fam a'm chwaer. Fy chwaer a wellhaodd, a'm tirionaf fam a waethygodd hyd ddydd ei marwolaeth, yr hyn, er mawr alar i mi, a gymerodd le Awst 22, rhwng pump a chwech y prydnawn dydd Sadwrn, ac a gladdwyd prydnawn, rhwng 3 a 4, ar ol i Wm. Llewelyn bregethu wrth y tŷ oddiwrth Preg. vii. 1. Hannah Richard, dyma enw nis annghofiaf byth. Gallaf fentro ddyweyd, nid oddiar serch dynol a naturiol yn unig, bod ei choffadwriaeth yn werth ei hysgrifenu mewn llythyrenau o aur, mewn adamant â phin o haiarn ac â phlwm. Yr oedd o ran person yn hardd ei gwedd, o dymherau gwylus; a'r rhan ddiweddaf o'i hoes o ysbrydoedd naturiol isel. Yr oedd y fam dyneraf fagodd blant, ac yn yr agwedd dduwiolaf yn ei gofal drostynt; yn ei gweddiau taerion dibaid y tywalltai ei. henaid mewn dagrau nes cael ei hatal i dori geiriau ar eu rhan. Hyn oedd ei harfer bob amser. Nid wyf yn gwybod<noinclude><references/></noinclude> 7b1wys02zxoonjfdd2loiiebpjp56qa Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/143 104 84579 164357 2026-05-07T19:44:40Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "am unwaith erioed iddi fod ar ei gliniau heb ffrydio dagrau yn llu. Mynych y meddyliais nas gwyddwn ddim am ddelio å Duw, wrth edrych ar ei hagwedd dyner. Oh, y golled a gawsom ar ol ei gweddiau difrifol. Hi a'n hebryngai, hi a'n cylchynai, ac a'n dychwelai â'i gweddiau. Hi a'n llanwai â chyfoeth gweddiau bob amser. Buasai yn well genyf fod heb ganoedd o bunau yn y flwyddyn, pe buasent genyf, na bod heb ei gweddiau. Pan geisiwn gandd... 164357 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am unwaith erioed iddi fod ar ei gliniau heb ffrydio dagrau yn llu. Mynych y meddyliais nas gwyddwn ddim am ddelio å Duw, wrth edrych ar ei hagwedd dyner. Oh, y golled a gawsom ar ol ei gweddiau difrifol. Hi a'n hebryngai, hi a'n cylchynai, ac a'n dychwelai â'i gweddiau. Hi a'n llanwai â chyfoeth gweddiau bob amser. Buasai yn well genyf fod heb ganoedd o bunau yn y flwyddyn, pe buasent genyf, na bod heb ei gweddiau. Pan geisiwn ganddi gofio am danaf mewn gweddi, ei hateb a fyddai, 'Tommy, Tommy, nid ydych byth yn myned oddiar fy meddwl.' Neu, 'Oh fy machgen bach, yr wyf yn gwneyd hyny bob amser fel y gallwyf, beth bynag ddelo o honof; mi wn 'does dim o hyny yn ol. "Ei bywyd crefyddol o ran ei phrofiad oedd derfysglyd ac amrywiol, ac weithiau yn ddyddanwch cryf, ond yn wastad yn gwybod y tywydd yr oedd hi ynddo. Hi allasai ddyweyd rheswm am ei galar ac am ei gorfoledd. Nid oedd ei hofnau na'i chysur yn bethau arwynebol. Ni dderbyniai ei chysur heb seiliau sound, naill ai rhyw destun pendant o'r Bibl, neu ryw ddarn o'r weinidogaeth gyhoeddus. Yna byddai lawen yn yr Arglwydd, a'i hegwan gorph gofidus, afiach yn bywhau, ac eto yn ofni yn wyneb pob mwynhad dyddanus bod rhyw dreial a phrofedigaeth o'i blaen. Ymwelai yr Arglwydd yn aml iawn â'i henaid yn y nos, pan fyddai yn ei gwely yn effro. Ei harfer yn wastad tuag at ei phlant fyddai eu cynghori mewn symlrwydd a sobrwydd gyda dagrau a deffroad, fel un yn ymyl y perygl, gydag arferiad o'r geiriau hyn:-'Oh y cryndod sydd arnaf am danoch chwi; yr wyf yn crynu llawer am danoch. Llefwch lawer am y graig. Peth ofnadwy yw cario twyll i'r farn; hi fydd yn rhyw ddiwrnod mawr.' Pan glywai am ryw annuwioldeb yn y wlad, ei gair syml hi fyddai, Yn wir yr wyf yn crynu rhag y farn; ydych chwi ddim yn crynu? Yr wyf fel pe bawn yn ei dysgwyl hi bob dydd.' Ei chlefyd oedd y dropsi. Yr oedd hyn yn anhwylder allanol mewn natur oedd yn ei thrymhau oll. Gwaethaf y gelyn a gafodd o ddydd cyntaf ei phererindod hyd ddiwedd ei oes. Mynych y dywedai ei bod yn meddwl fod y gelyn yn fwy prysur wrthi hi na neb. Dywedai yn ei chystudd diweddaf, ei bod yn meddwl na chai fod dan ei draed byth. Hi gafodd lawer o bleser yn y 14eg o Ioan. O fel yr ymddigrifai yn athrawiaethau sylfaenol crefydd, megys y dangosir hwy yn y benod hono, gan dori allan, 'Y Duw mawr mewn cnawd! Person mawr wedi dod , yn ddyn fel ninau! "A ydwyf fi cyhyd o amser gyda thi, ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a'm a'm gwelodd i a welodd y Tad." Un diwrnod, yn ei heistedd yn y gwely, hi dorodd allan mewn llefain a dagrau, gan ddywedyd, 'Mae Crist yn werthfawr iawn. Oh, bendigedig a fyddo, pe bai yn fy mwrw ymaith byth!' Felly gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, wedi cael gwaethaf satan a'i bicellau, byd a'i gyfnewidiadau, y cnawd a'i wyniau, dynion a'u siomedigaethau, brodyr gau a'u celwyddau, nes gostwng ei henaid ynddi. "Y saethyddion a fuont chwerw wrthi, er hyny arhodd ei bwa yn gryf trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob." Fe fullu yn ei gorfod hi yma; ond hithau a orfu o'r diwedd; ffydd yr hon anwyl, nertha fi, O Arglwydd, i'w dylyn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad." Wel, beth ydych yn ei feddwl yn awr am yr alarnad hon am ei fam? Y mae gweledigaeth go fawr yma, tebygem ni; trowch eto, ac edrychwch arni. Dacw Tommy Richard, yr hwn sydd yn ymddadblygu yn gyflym, debygol o ddyfod yn un o bregethwyr mwyaf Cymru, os nad ydyw heddyw, yn wylo fel plentyn uwchben mam anwyl wedi marw. Dacw y dyn y gallech feddwl, pan yn edrych arno yn y pwlpud, ei fod yn debyg i lew, na theimlai ddim pe bai y byd yn myned yn benben, yn wylo yn hidl uwchben corph marw ei fam. Dacw y pregethwr sydd fel angel Duw yn chwythu yn yr udgorn, nes y mae ei swn yn treiddio i ddyfnderoedd cymdeithas, yn gollwng dagrau, a bron tori ei galon uwchben mam ymadawedig. Y mae yno galon i deimlo; oes, oes, un lled dyner hefyd. Os oes yno wyneb llew ar brydiau, y mae calon dyn yn cyfaneddu o dano. Bydd rhai yn meddwl mai arwydd o blentynrwydd yw gweled dyn mawr yn wylo, nes bron llesmeirio uwchben hen wraig o fam; eithr yr ydym ni yn meddwl mai arwydd o ddiffyg mawredd ynddynt hwy yw barnu peth felly. Y mae gwir fawredd yn gallu codi i'r nefoedd, a chofleidio y ddaear hefyd. Y mae yr Iesu yn gallu wylo; a phwy wylodd mor effeithiol? a phe buasai ei fam farw o'i flaen, dygwydd na fuasem yn ei weled yn wylo uwch ei phen, gan gofio am ei holl garedigrwydd. Cofiai am ei thynerwch iddo yn y ffoedigaeth i'r Aipht, a'i arosiad yno; y dychweliad drachefn, a'r gofal a'r pryder pan y collwyd ef yn mhlith y doctoriaid, a llawer o bethau eraill. Ond efe fu farw gyntaf; eto wrth drengu cofiodd am dani; ac yr oedd teimlad plentyn heb farw yn 1 Hwyr yn ei galon y pryd hwnw. Y mae rhyw beth mawr yn y rhan fwyaf o bob peth dynion mawr; oes yn wir, y mae fel pe bai rhyw beth mawr yn ffolineb dyn mawr, a phethau mawrion yn mhethau bychain dynion mawr. "Wel, wel, dyna athrawiaeth newydd!" Wel yn sicr i chwi y mae. Dacw Richard yn wylo uwchben corph marw ei fam anwyl; nid fel plentyn dwl y mae yn wylo; ymddengys peth mawr yn yr wylo yna. Y mae yn wylo, y mae yn wir, fel plentyn; ac y mae y plentyn yno hefyd; ond yn rhyw fodd nid plentynaidd yw y wylo; ac y mae y teimlad yn dyfod ag ymadroddion allan o'i enau, y rhai a leferir o ddyfnder y galon, haeddai eu hargraffu mewn aur, pe byddent yn rhyw beth gwell o hyny. Clywch arno yn dyweyd, "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth." Dyna eiriau o ddyfnder calon; dyna eiriau sydd yn awgrymu deng mil rhagor nag y gellir dweyd. Clywch fel y mae yn prisio ei gweddiau hi; syndod fod pregethwr mawr fel efe yn gosod cymaint o bwys ar weddiau hen wraig ei fam. Gellid meddwl fod y bachgen tair ar ddeg ar ugain, oedd wedi ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth, ac yn gwefru Cymru a'i athrylith, uwchlaw meddwl am weddiau ei fam. Wel, y mae yn naturiol ddigon i feddwl hyny, canys bydd llawer ynfytyn yn edrych i lawr ar beth felly fel sothach. Eithr nid felly y gwelir y dyn mawr hwn, Dychymygwn ein bod yn ei weled ef yn darparu i fyned at gyhoeddiad, wedi gwisgo ac wedi myned allan dros y trothwy, yn troi yn sydyn yn ol, ac yn estyn ei ben trwy y drws, ac yn dywedyd, "O mam, gweddiwch drosof." Beth ydyw ei hateb hithau? "Tommy, Tommy, nid ydych byth oddiar fy meddwl;" neu, "Yr wyf yn gwneyd hyny bob dydd." Ni a welwn fod y gwr ieuanc yn teimlo y gwaith yn drwm, a'r cyfrifoldeb yn ofnadwy, pan y mae yn troi at fam dyner i ofyn am help ei gweddiau. Nid ymgodi, ymfalchio ar ei lwyddiant a'i boblogrwydd, eithr yn ymostwng o dan deimlad o feichiau trymion, ac yn wylaidd, â dagrau ar ei ruddiau, yn dywedyd, "O mam, gweddiwch drosof." Y mae arwyddion cryf o synwyr a duwioldeb ynddi hithau hefyd, canys nid yw yn myned yn ynfyd wrth weled llwyddiant ei mab; ond yn ofni ac yn crynu rhag y profedigaethau yr oedd yn agored iddynt, a rhag iddo, yn nghanol poblogrwydd mor fawr, syrthio i brofedigaeth a magl fuasai yn effeithio yn ddrwg nid yn unig arno ef, ond hefyd ar grefydd Mab Duw yn y wlad. Buasai llawer mam wedi myned yn benben, yn benwan, ac yn benysgafn, gan siarad ddydd a nos am ei phlant; eithr ni a welwn yr anwyl Hannah a'i gwefusau yn chwareu ger bron Duw drostynt beunydd, ac heb siarad â dynion nemawr o'u plegyd. "Tommy bach," meddai, "nid ydych un amser oddiar fy meddwl; yr wyf yn gweddio drosoch o hyd." Yr oedd Tommy yn teimlo hyder mawr yn ngweddiau ei fam; credai fod ganddi ddylanwad helaeth yn y nef, canys fel y dywedodd, "Ni chymeraswn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Dyna ddywediad y mae yn anhawdd os nid yn anmhosibl dyweyd ei gynwysiad. "Ni chymerwn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Dyna ddyn ieuanc hynod, onide? ac y mae yn rhaid fod rhyw beth hynod yn nghrefydd y fam hon hefyd, cyn y gallasai roi y fath argraff ffafriol ar fab am ddaioni ei chrefydd, a phwys mawr ei gweddiau. Syndod! Yn wir, y mae y frawddeg yn peri i ni grynu. Beth! dyn ieuanc yr hwn oedd yn synu y wlad a'i ddoniau, ei athrylith, a'i dalentau, yn dyweyd fod gweddiau ei hen fam yn fwy yn ei olwg na chanoedd o bunau yn y flwyddyn, ac na chyfnewidiai y naill am y llall. Pe bai holl bregethwyr ieuainc y byd yn cychwyn gyda'r fath deimlad a hyn, byddai y weinidogaeth Gristionogol ar ben y mynyddoedd yn fuan, a llygaid pawb i fyny at y pregethwyr fel gweision y Duw Goruchaf. Gwelir llawer llanc, ysywaeth, a werthai weddiau yr holl eglwys Gristionogol am lai na phunt, chwaithach canoedd o bunau; ac am weddiau mam a thad, ni wnaent ond chwerthin am eu penau. "Beth! ac yn bregethwyr hefyd?" Ië, ac yn bregethwyr hefyd. Ychydig o ganoedd o bunau yn y flwyddyn fyddai yn llawn ddigon nid yn unig i werthu yr holl weddiau, eithr hefyd yr holl bregethau gyda hyny. Eithr edrychwch ar fachgen Hannah, y mae hwn yn "ddrych i'r byd, i ddynion, ac i angylion." Yr oedd yn teimlo cymaint o bwys y gwaith, ac yn teimlo hefyd ar brydiau gymaint o bleser ynddo, fel ag yr ydoedd yn dymuno help o bob man, yn enwedig am i'r anwyl Hannah i gadw ei gwefusau yn chwareu beunydd ger bron Duw drosto. "O nad ysgrifenid y geiriau hyn yn awr! nad argreffid hwynt yn y graig am byth." "Ni chymerwn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Os yw hyn yn wir, fel yr ydym yn benderfynol ei fod, y mae yn rhaid fod llawer o wirioneddau pwysig yn gorwedd o dano. Yr oedd hyn yn arwyddo calon yn ei lle, yn credu yr efengyl, yn credu yn effeithioldeb gweddi, yn credu tystiolaethau ac addewidion dwyfol; ac oddiar y grediniaeth hono yn myned allan i berswadio pechaduriaid i edifarhau. Astudiwch y dyddlyfr yn dda, ac yr ydym yn meddwl y gwelwch ynddo resymau cedyrn am fywyd cyhoeddus Mr. Richard. Y mae rhyw beth prydferth annghyffredin yn ei wylo uwchben bedd ei fam. "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth," meddai. Yr oedd yn agos yn nerth ei ddydd y pryd hyn, yn nghanol ei boblogrwydd annghyffredin; er hyn i gyd dacw ef yn wylo fel plentyn uwchben corph marw mam anwyl. Mor brydferth y gwelir natur a chrefydd yn ymblethu am eu gilydd, ac yn cofleidio eu gilydd, fel chwiorydd wedi ymgyfarfod ar ol ymadawiad hirfaith. O, fel y maent yn ymgofleidio ac ymgusanu; gadewch iddynt, ni wnant ddim niwed y naill i'r llall; ni ddinystriant eu gilydd, canys cariad ydyw. Nid yw crefydd yn dinystrio natur, na natur yn dinystrio crefydd; chwiorydd ydynt, sydd yn ymgofleidio, gan fwynhau eu gilydd yn yr Arglwydd. Chwi a welwch nad yw crefydd na gweinidogaeth Mr. Richard wedi dinystrio y plentyn; canys er fod y pregethwr mawr yn codi y byd ar ei ol, dacw fe hefyd yn tywallt dagrau yn hidl uwchben bedd ei fam. Gwella natur y mae crefydd, nid ei dinystrio. Gwneyd y tad a'r fam yn well rhieni, a'r bechgyn a'r merched yn well plant. Oddiwrth nodiadau Mr. Richard, bydd yn hawdd iawn i bawb weled hyn, canys y mae yr hen Henry Richard a Hannah, yn dad a mam rhagorol a duwiol; a'r plant hefyd yn troi allan yn grefyddol, fel yr oedd dedwyddwch ac hapusrwydd crefydd yn gwneyd i fyny am absenoldeb llawer o bethau eraill. Gwelsom yr hen bobl yn syrthio mewn "heddwch i'r bedd," wedi gweled plant eu plant, a thangnefedd ar Israel; gwelsom hefyd y plant yn wylo uwch eu penau, yn eu hebrwng i'r gladdfa gyda pharch, ac yn tywallt eu holew penaf ar y bedd. Wel dyna, y mae yr hen Henry Richard wedi pydru bellach, a dacw Hannah wedi ei roi i orwedd ar ei lwch; rhaid i Tommy fyw heb weddiau y naill a'r llall bellach. Rhaid i ni droi yn ol o'r fonwent, gan adael y meirw yn eu preswylfeydd dystaw hyd udganiad yr udgorn, i edrych pa beth a welwn yn mhlith y byw. Y mae y byd yn dechreu cyffro eto; dacw y dyn yn myned allan i'w waith fel o'r blaen, gan adael y marw ar ol, a dechreu gwregysu ei lwynau i redeg ei yrfa yn mhlith ei gyd-ddynion yn nhir y rhai byw.<noinclude><references/></noinclude> 0txjrn0rvn2xew3ncej83bdg8oj9c7u Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/148 104 84580 164358 2026-05-07T19:47:35Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD V. Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig-yn ei chael, ac yn priodi. YMDDENGYS fod y cyfnewidiadau mawrion achoswyd trwy farwolaeth Mrs. Hannah Richard wedi effeithio yn fawr ar wrthddrych ein Cofiant, ac wedi ei daflu i ddyryswch a thywyllwch anarferol. Yr oedd yn ymdeimlo bel unigolrwydd ac amddifadrwydd, hiraeth annghydmarol yn parhau ar ol ei fam anwyl. Yr oedd erbyn hyn yn debyg i "belican yr anialwch... 164358 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD V. Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig-yn ei chael, ac yn priodi. YMDDENGYS fod y cyfnewidiadau mawrion achoswyd trwy farwolaeth Mrs. Hannah Richard wedi effeithio yn fawr ar wrthddrych ein Cofiant, ac wedi ei daflu i ddyryswch a thywyllwch anarferol. Yr oedd yn ymdeimlo bel unigolrwydd ac amddifadrwydd, hiraeth annghydmarol yn parhau ar ol ei fam anwyl. Yr oedd erbyn hyn yn debyg i "belican yr anialwch, neu ddylluan y diffaethwch;" neu fel "aderyn y tô, yn unig ar ben y tŷ." Gwelir yn aml fod ychydig iawn o gyfnewidiad yn taflu dyn i fyd newydd hollol. Bydd y meddwl yn myned o dan gyfnewidiad, y teimladau yn cyfnewid; ïe, ymddengys pob peth ar y ddaear fel yn hollol newydd. Yn nghanol y newydd-deb hyn, dacw yr hen bethau yn myned heibio, fel y bydd yn llawn bryd ceisio ymaflyd mewn rhyw beth newydd, onide bydd yn beryglus i ddyn gael ei adael heb ddim. Y mae yn dyfod i'n cof yn awr am un pan yn ymyl marw yn dyweyd wrth ei nai am daflu llygad ar y weddw, a cheisio gwneyd rhyw gymhorth iddi; "canys," eb efe, "bydd fel gwydd unig ar lan afon, yn edrych yma a thraw, a phob fowler ddaw heibio yn anelu ati." Gwelsom ffolach gydmariaeth na hona lawer gwaith; oblegyd, fel y gwyddoch, peth go ddwl yw gwydd wrthi ei hun yn sefyll ar lan afon, heblaw ei bod yn agored i ymosodiadau beunydd. Wedi i angau amddifadu Mr. R. o'i fam anwyl, yr oedd yntau wedi ei amgylchynu â chyfyngderau o bob tu; a pha beth i ddewis nis gwyddai. Y mae yn codi boreu dranoeth wedi yr angladd, yn edrych o'i gwmpas, yn gweled yr haul yn tywynu fel arfer, ac mor gawraidd ag erioed yn rhedeg ei yrfa ogoneddus. Y creigydd geirwon gyferbyn sydd yn dawnsio mewn llawenydd o dan dywyniad haul tesog; y ddaear, a phob peth sydd arni, yn arwyddo bywyd didranc. Yr oedd angau fel pe buasai wedi ei ymlid i'w le ei hun y ddoe; a heddyw nid oedd Mr. Richard yn gweled dim ond bywiogrwydd yn teyrnasu o'i gwmpas. Y fath gyfnewidiad! Y ddoe yn edrych yn bruddaidd i lawr i'r bedd; heddyw yn codi ei olygon i fyny, a'r cwbl yn ymddangos yn un chwareufa o fywyd. Dacw y môr yntau odditano, yn lled chwareugar heddyw; nid ydyw fel llawer gwaith, mewn amrafael â'r gwynt ystormus a'r dymhestl, ac o herwydd hyny yn curo yn erbyn y creigydd fel pe bai am ddial ei lid ar y rhai hyny. Na; y mae y gwynt fel baban mewn cawell yn cysgu; ond yn anadlu yn dyner, yn ddystaw, ac yn ddiorchest; yr hen weilgi yntau sydd yn rhedeg yn ol ac yn y blaen trwy У creigiau; nid yn eu curo yn ddigofus, eithr fel mam anwyl yn cusanu y plant, ac yn eu trafod yn chwareugar. O dan dywyniad haul, ymddengys brig y don fel arian byw; yn ymgodi yn brydferth tua'r nef, ac fel pe dywedai yn ei iaith, "Llefara, Arglwydd; y mae dy was yn clywed." Wel, y mae Mr. Richard yn sefyll ar hen dwyn Trefin, yn nghanol golygfeydd bywyd, iechyd, a phrydferthwch; ac nid fel y ddoe, yn sefyll uwchben bedd tywyll, pruddglwyfus, a llygredig. Yn gymaint a'n bod yn nghanol bywyd, rhaid i ni feddwl am fyw yn gystal a meddwl am farw, canys fel y dywed Solomon, "Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd. Amser i eni, ac amser i farw; amser i blanu, ac amser i dynu y peth a blanwyd; amser i ladd, ac amser i achub; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu ceryg ymaith, ac amser i gasglu ceryg yn nghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; amser i rwygo, ac amser i wnio; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; amser i garu, ac amser i gasâu; amser i ryfel, ac amser i heddwch." Chwi welwch fod llawer o bethau wedi cael eu henwi gan y gwr doeth, a'r pethau hyny nad ydynt yn cael eu henwi, cynwysir hwynt oll yn yr ymadrodd, "Y mae amser at bob peth." Yr ydym yn synu peth na fuasai sai y gwr doeth, wedi dywedyd fod amser i garu, yn dywedyd hefyd y mae amser i briodi; ond nid ydyw yn yngan un gair am hyny. Peth digon rhyfedd yw hyn hefyd; ond dyna fel y mae hi yn bod. Digon tebyg fod hyny fel pethau eraill, yn cael eu cynwys yn gryno yn yr ymadrodd arweiniol. Wel, yn gymaint a bod "amser i bob peth," prydferthwch annghyffredin sydd yn ymddangos mewn gwneyd pob peth yn ei amser. Gair yn ei amser sydd yn dda dros ben; ïe, a phob peth yn ei amser. Pan y bydd y ffrwyth yn rhy anaddfed, y maent yn leision, yn surion, ac yn anfwytadwy; a phan yr elont dros ben bod yn addfed eilwaith, y maent yn rhy wydn, fel na fydd yn bosibl eu cnoi a'u treulio. Fel hyn rhyw dymhor byr yw yr amser rhwng cyn neu wedi yr amser. Yn gymaint a bod pethau yn sefyll felly, rhaid arfer cryn lawer o reswm, a bod yn gryn lygeidiog, onide bydd perygl o golli wrth fod yn rhy wyllt, a myned i wneyd rhyw beth cyn yr amser, neu ynte bod yn rhy ddof, a'i adael hyd nes ar ol yr amser, ac felly yn syrthio i brofedigaeth a magl ar bob llaw. Bydd cryn ddyryswch ar ddynion yn aml yn nghylch amser i briodi, canys, ysywaeth, byddant yn myned i briodi bob amser. Fe allai mai dyna y rheswm na ddywedodd y gwr doeth fod amser i briodi, yn gymaint a'i fod yn gweled dynion yn priodi bob amser, heb reol yn y byd. Gellir dyweyd rhyw beth am amser hau, ac am amser medi; eithr am amser priodi, bydd peth fel hyny yn myned y tu hwnt i ddirnadaeth y cryfaf eu galluoedd; ac yn wir, a dyweyd y cwbl, bydd dynion call yn aml yn myned yn ffolach na ffyliaid yn y mater hwn,-fel pe tarewid hwynt ag ynfydrwydd, fel y maent yn rhedeg yma acw yn erbyn y mur hyn, ac am draws y llall, nes yr arweinir hwynt at yr allor, ac wedi hyny byddant yn debyg i Nebuchodonosor, yn dychwelyd yn sydyn i'w synwyrau, ar ol i ryw saith amser o annghydwybodolrwydd fyned dros eu penau. Wrth edrych ar yr hanes sydd o'n blaen, yr ydym yn gweled fod Mr. Richard, yn nghanol yr holl olygfeydd bywydol ag oedd yn ymsymud o'i flaen, yn dechreu meddwl am "forwyn." Yr oedd hyn yn beth purion ddigon, canys yr oedd yn amser; nid cyn nac wedi yr amser; ond yr amser. Yn hyn o beth fe ddarfu iddo "wybod yr amser." Yr ydoedd yn ddyn yn awr mewn llawn addfedrwydd, ac heb fod yn rhy addfed. Wedi claddu ei fam, ymddengys fel aderyn wedi colli ei nyth, yn ehedeg yma a thraw, yn trydan ar hyd y llwyni, yn methu penderfynu yn mha le i osod nyth i lawr eilwaith. Fe allai fod Mr. Richard wedi meddwl am y forwyn cyn hyn, eithr nid gyda'r un angerddoldeb ag yn awr. Yr oedd yn awr yn meddwl yn ddifrifol, yn sobr; ac yn meddwl am wneyd cartref, a sefydlu yn y byd, ys dywed y dynion; meddwl cymeryd gwraig, a byw yn gomfforddus, deallwch. Wel, y mae yn ddigon tebyg, wrth gymeryd gwraig, y bydd y rhan fwyaf yn rhyw dybio bywyd comfforddus, er fod hyny weithiau, fel y rhan fwyaf o bethau daearol eraill, yn troi yn chwithig. Y mae pwnc go bwysig arall hefyd yn dyfod yn naturiol o dan sylw yn y cysylltiadau presenol; sef, ar ol meddwl yn nghylch cymeryd gwraig, canlyniad naturiol ydyw yr ymholiad, yn mha le y ceir hi? Ië, yn wir hefyd; ymwthia y pwne yna o angenrheidrwydd i'n hystyriaeth; oblegyd fel y dywed y ddiareb, "Rhaid cael dau i briodi." Canfyddwn wrth y dyddlyfr fod Mr. Richard yn gwneyd nodiad byr o'i briodas, ond nid ydyw yn ein hysbysu yn nghylch y foneddiges, pwy ydoedd, na dim arall. Ar ol i ni osod y peth y dywed ef ei hun ar y mater hwn ger bron ein darllenwyr, bydd yn rhaid i ni ei adael ef am dipyn, i gasglu ychwaneg o wybodaeth ar y cwestiwn hwn nag y mae efe yn roi. Lled gwta ydyw ar bwne y priodi yma; pa un a ydyw hyny yn fwriadol ai yn anfwriadol nis gwyddom; ond beth bynag, angenrhaid yw i ni wybod ychwaneg ryw gymaint yn nghylch y mater hwn. Cyn myned yn mhellach, beth bynag, gosodwn ei eiriau ei hun ar y mater hwn hefyd: "Yn mis Ebrill, y dydd diweddaf o'r mis, 1819, y'm priodwyd yn eglwys fy mhlwyf, Llanrian. Gallaf fentro dyweyd, yn y naill amgylchiad ar llall, (sef claddu ei fam a phriodi) na fu fy enaid yn ddigymdeithas a Duw. Ni threuliais erioed y fath amser ar fy ysbryd, gan ddyddanwch yr ysgrythyrau, ag amser cystudd a marwolaeth fy mam. Ni byddwn un amser mewn gwasgfa, na byddai rhyw ran o'r ysgrythyr yn cael ei chymhwyso at fy meddwl er ymwared. Yr oedd fy hiraeth a'm gofid yn achos fy anwylaf fam bron a dryllio fy nghnawd; ond yr Arglwydd o'i drugaredd a'i hynawsedd anfeidrol fyddai i mi yn gymhorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Pan fyfyriwn ar angau, mynych y cefais bleser yn y gair hwn, 'Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth.' Siriolodd fy enaid wrth gofio y gonewest fawr hon. A phan feddyliwn am yr adgyfodiad, byddai y gair hwnw o ddefnydd i mi, 'Fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.' Fel hyn yr ategai fy Arglwydd daionus fy meddwl gorthrymedig dan yr amgylchiadau cyfyng oedd arnaf o herwydd cystudd fy anwyl fam yn y flwyddyn 1818. Ac yn yr amgylchiad arall o newid fy sefyllfa, yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf, cefais gynaliaeth aml yn addewidion Duw, nes bod yn ddyddanus yn eu canol. Oh, pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni tuag ataf, abwydyn gwael." Byr ydyw yr hanes a roddir ganddo ef yn nghylch y priodi, chwi welwch; ar yr un pryd y mae rhyw beth gryn arwyddocaol yn y frawddeg, "yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf." Gellid meddwl fod llong Mr. Richard F wedi cyfarfod â chroes-wyntoedd enbyd, ac â thywydd creulon ar y fordaith briodasol; "ond o drugaredd," fel y dywed, cafodd daflu angor i addewidion Duw. Fe allai y byddai yn dda i ni edrych ychydig i'r amgylchiadau hyn, fel y gallom yn y diwedd roi rhyw gyfrif am yr hynt fordwyol, a chyrhaeddiad y porthladd dymunol. Mewn dyffryn ag sydd yn rhedeg i fyny o fôr-gilfach Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr o flaen peisiau cochion Sir Benfro, yr oedd palasdy bychan gyfrifus ei ymddangosiad, a elwid Maenorowen. Y mae y palasdy yno eto, ond ei fod wedi myned o dan gryn gyfnewidiad os nid wedi ei wneyd oll o'r newydd. Yn y palasdy hwn trigai boneddiges o'r enw Mrs. Parry, a nith fechan gyda hi, yr hon a elwid Miss Bridget Gwyn. Yr oedd Miss Gwyn megys merch iddi; ac yr oeddynt ill dwy yn ymgysuro yn fawr yn nghwmpeini eu gilydd. Llawer diwrnod hapus aeth dros eu penau, ac yn nheimlad y foment addunedasant fyw a marw yn nghyd, heb ymwahanu, yn mhalas tlws a dystaw Maenorowen. Ond fel y gwelir yn aml, y mae cyfnewidiadau mewn amgylchiadau yn peri cyfnewidiadau yn y teimladau hefyd. Y mae yn anhawdd iawn i ddynion ddyweyd mewn amgylchiadau presenol pa beth a wnaent o dan amgylchiadau gwahanol. Mor rhyfedd y bydd y naill beth yn darpar ar gyfer y llall, ac yn rhedeg i'w gilydd! Pan oedd y teimladau hyn, a'r addunedu i weddwdod yn Maenorowen ar lan môr St. Sior, yr oedd mewn pentref gwledig yn Sir Forganwg, a elwir Llangrallo, yn agos i Langan, foneddiges yn sâl iawn, ar drancedigaeth. Bu farw o'r clefyd hwn, a chladdwyd hi yn mynwent Salem, capel y Methodistiaid Calfinaidd, yn yr un plwyf. Y foneddiges hon oedd Mrs. Jones, Llangan. Wedi claddu Mrs. Jones, y mae cyfnod newydd yn dechreu yn mywyd yr efengylydd, ac y mae yntau, cyn hir iawn, yn dechreu ymdeimlo ag unigolrwydd. Yr oedd y plant wedi ei adael, a ffurfio cartrefleoedd iddynt eu hunain, a dyma y wraig eto yn cael ei chipio o'i fynwes, a'i gosod mewn bedd dystaw. Y mae yr hen efengylydd yn ymysgwyd, yn edrych yma ac acw am noddfa i guddio ei ben; ond wedi edrych ar y tu deheu ac ar y tu aswy, a dal sylw, y mae nodded fel yn pallu; y mae yn teimlo ei hun fel aderyn y tô; neu fel rhyw hen long wedi ei gadael gan y môr ar y traeth, i suddo yn y llaid, a'i chwilfriwio gan dywydd garw. Yn wyneb fod unigolrwydd bron yn dyfod yn glefyd<noinclude><references/></noinclude> 33e5xqe1rmht997z8eqck7egogdy1vf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/153 104 84581 164359 2026-05-07T19:48:33Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "peryglus arno, a theimladau pruddglwyfus yn ymdaenu dros y meddwl fel tywyllwch y bedd, cyfeiriwyd ei sylw drwy ryw oruchwyliaeth i lan môr Sir Benfro, ac i'r palasdy bychan lle y trigianai y foneddiges weddw a'i nith Miss Gwyn. Syrthiodd yr hen offeiriad mewn cariad â'r fodryb; ac wedi ychydig o ymddyddan esmwyth a serchus, gwnawd y foneddiges weddw ac offeiriad Llangan yn un trwy lân briodas. Wedi y briodas symudodd Mr. Jones o For... 164359 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>peryglus arno, a theimladau pruddglwyfus yn ymdaenu dros y meddwl fel tywyllwch y bedd, cyfeiriwyd ei sylw drwy ryw oruchwyliaeth i lan môr Sir Benfro, ac i'r palasdy bychan lle y trigianai y foneddiges weddw a'i nith Miss Gwyn. Syrthiodd yr hen offeiriad mewn cariad â'r fodryb; ac wedi ychydig o ymddyddan esmwyth a serchus, gwnawd y foneddiges weddw ac offeiriad Llangan yn un trwy lân briodas. Wedi y briodas symudodd Mr. Jones o Forganwg i Sir Benfro i fyw, lle y treuliodd y rhan olaf o'i oes. Parhaodd Miss Gwyn i fyw gyda hwy hyd farwolaeth Mr. Jones, yr hyn a gymerodd le Awst, 1810. Bu Mr. Jones fyw yn Maenorowen wedi priodi Mrs. Parry, tuag un ar bymtheg o flynyddau. Gogyfer a phalasdy Maenorowen, yr ochr arall i'r ffordd fawr, y mae eglwysdy Maenorowen, lle y mae llwch yr efengylydd yn gorwedd. Ymwelasom â'i feddrod er ys ychydig yn ol, ac yr oeddem yn synu mor ddiaddurn a gwael yw y man lle y gorwedd y dyn fu yn un o'r offerynau mwyaf defnyddiol yn efengyleiddiad y Dywysogaeth. Eglwysdy bychan, hirgul, heb fod nemawr uwch na phen dyn, yw Maenorowen, mewn agwedd wael, lwydaidd, ac esgeulusedig, fel pe bai daear a nefoedd hefyd wedi troi eu cefnau, a'i adael i drugaredd rhyw fodau anweledig nad ydynt yn gymwynasgar i grefydd. Y mae y fynwent yn fawr, ac yn nghanol unigolrwydd a dystawrwydd gwladaidd; yr hyn sydd yn cydweddu â sefyllfa y meirwon. Yr ydych wrth fyned heibio yn teimlo fel pe baech yn rhodio yn nglyn cysgod angau, neu fro drymaidd marwolaeth. Yn gymaint a bod tref Abergwaen o fewn rhyw ddwy filldir i'r fynwent wladaidd, mae llawer o gladdu yno. Gellid meddwl fod swn angau yn uwch o lawer na swn bywyd o gwmpas yr eglwysdy hwn. Fe allai mai gweinidogaeth angau yw y weinidogaeth a ymddiriedwyd i'r lle hwn, mai at dderbyn y meirw, a rhoi lle tawel iddynt i orwedd hyd ddydd yr adgyfodiad, wedi myned trwy holl drafferthion bywyd, ydyw ei swydd arbenig. Y mae yn debyg fod gweinidogaeth bywyd ac angau i gael, a bod dynion a lleoedd yn cael eu cymhwyso yn fwy neillduol at y naill a'r llall. Nis gwelsom erioed arlun mwy perffaith o fro marwolaeth na Maenorowen; yr ydych fel pe bai teimlad pruddglwyfus yn eich cymeryd wrth ddyfod i gyfer yr eglwysdy. Y tŷ bychan, llwydaidd, llychlyd, y fonwent lawn o feddau, y cofadail yn eich edrych yn eich gwyneb o bob cyfeiriad, ac yn eich hysbysu am farwolaeth y gwr, y wraig, y tad tyner, y wraig rinweddol, y plentyn hoff, a'r gweinidog ffyddlon, sydd yn peri nad ydych yn ymdeimlo â dim ond â byd marwol. Yr haul sydd o dan gwmwl du, y gwynt yn chwythu yn drymaidd yn awr ac eilwaith, yn fwy tebyg i ruddfanau nag anadliadau; ac weithiau fel yn dystewi yn brudd, megys pe byddai yn anadlu y diweddaf yn mrigau y coedydd. Y mae yn drymaidd iawn! Yr ywen fawr acw sydd yn gwasanaethu i wneyd y trwm yn drymach, a'r du yn dduach; canys nid yw yn awgrymu dim ond angau, nid ydyw yn ymddangos yn gartrefol ond yn mhlith y meirw; a phan ydym yn sefyll o dani, y mae ei chysgod fel cysgod angau. "Pa le y mae bedd Mr. Jones, dyna y pwnc, onide?" Wel ïe; at hyny yr ydym yn ceisio cyfeirio ein camrau, y mae yn wir. Yr ydym wedi synu hefyd, nid yn unig iddo gael ei gladdu yn Maenorowen-na fuasai wedi ei ddwyn i Salem, Sir Forganwg-ond iddo gael ei gladdu o dan y gyfargod. O dan y tô, braidd y tu cefn i'r eglwysdy, y mae bedd yr efengylydd, yn un o'r lleoedd mwyaf gwael ac anmharchus o fewn y fonwent. Pell ydym oddiwrth feddwl fod yr un bwriad yn hyn; ond felly y mae wedi dygwydd; ac erbyn heddyw, y mae yr ymddangosiad yn rhyfedd i bawb sydd yn gydnabyddus â hanes Mr. Jones, Llangan. Uwchben ei lwch y mae careg lwydaidd, yn cynwys arni ychydig o lythyrenau yn dyweyd ei enw, a pha bryd y bu farw. Yn gymaint a bod y defni yn syrthio yn barhaus arni, braidd y mae y geiriau yn ddarllenadwy; a sicr ydyw, cyn nemawr o flynyddoedd bellach, na fydd dim i ddyweyd pa le y gorwedd llwch efengylydd Llangan! Gwarthus! gwarthus! A oes dim posibl cynhyrfu meddyliau y wlad, i godi colofn o ryw natur yn monwent Salem, lle y gorwedd gweddillion ei wraig gyntaf, i goffadwriaeth yr anfarwol Jones, Llangan? Salem ydyw y capel a adeiladodd efe, lle y byddai y tyrfaoedd yn dyfod i addoli mewn cysylltiad â Llangan, lle y byddai y miloedd yn gorfoleddu o dan ei weinidogaeth, y rhai sydd yn awr o ran eu heneidiau yn cydwledda gydag ef yn y nefoedd, ac o ran eu cyrph lawer o honynt yn gorwedd yn hen fonwent Salem. Heddwch, heddwch i'w llwch! Maddeued y darllenydd i ni am fyned ryw gymaint o gwmpas i wneyd y fath awgrymiad, ond ein teimladau cynes at yr hen dadau sydd wedi huno, y rhai "trwy ffydd ac amynedd a etifeddasant yr addewidion, a'n harweiniodd felly. Wedi claddu Mr. Jones, yn mhen rhyw gymaint o flynyddoedd, o gwmpas wyth fe allai, y bu farw Hannah Richard, mam Mr. R.; a'r man y trodd yntau am gysur, fel y diweddar Barch. D. Jones, Llangan, oedd Maenorowen. Daeth y lle hwn yn rhyw fodd i fod yn ddinas noddfa i'r gorthrymedig, ac yn gysur cryf i'r rhai oedd ar ddarfod am danynt. Mor rhyfedd yw trefn Rhagluniaeth! fel y mae yn trefnu y naill beth ar gyfer y llall! Mor anhawdd yw dyweyd beth sydd yn dda a pheth sydd yn ddrwg yn y byd hwn! Yr oedd y ferch fechan, Miss Gwyn, ag oedd yn byw gyda Mrs. Jones, Llangan, neu Mrs. Jones, Maenorowen, yn hytrach, erbyn hyn wedi tyfu yn foneddiges ieuanc, at yr hon y trodd llygaid Tommy fel yr unig un allasai lanw le ei fam dyner, a pheri i'w galon orphwys, a chael seibiant drachefn. Yr oedd y Miss Gwyn hon yn ferch i frawd Mrs. Jones, sef Mr. Gwyn, Kilkifeth, wedi hyny Cwrt Llanllawer, lle y cyfanedda brawd iddi yn awr, yr hwn sydd yn foneddwr parchus, ac yn feddianydd y palas a'r tiroedd cylchynol; wrth yr hyn y gwelwch fod Miss Gwyn yn foneddiges ieuanc o deulu lled urddasol. Yr oedd Mr. Richard, fel y gwelsom, o deulu cyfrifol hefyd, ond nid i'r un graddau o ran sefyllfa fydol a theulu y Gwyniaid. Fe ddichon i lawer o'i brofedigaethau mewn cysylltiad â'i briodi gyfodi oddiwrth yr ystyriaethau hyn. Yr oedd Mrs. Jones, a'r Gwyniaid oll, yn eithaf croes iddo gael Miss Gwyn; ond yn rhyw fodd yr oeddynt wedi myned i garu eu gilydd, fel nad oedd dim ond angau a allasai eu gwahanu; ac yn wir, angau yn unig a ddarfu eu gwahanu yn y diwedd. Bu y perthynasau yn eithaf diwyd yn taflu dwfr ar y cariad hwn; ond er pob ymdrech yn y byd, methwyd a'i foddi; er ei wasgu o dan yr elfen wlybaidd, nes y meddyliwyd llawer gwaith ei fod wedi trengu, gwelid ef eilwaith, o anfodd pawb, yn codi ei ben uwchlaw y don, gan waeddi "Wele fi." Yn wyneb hyn, nid oedd dim i wneyd ond ceisio credu y Bibl ar y pwnc hwn hefyd, yr hwn sydd yn dywedyd, "Dyfroedd lawer nis gallant ddiffoddi cariad." Byddai Mrs. Jones yn dyweyd wrth y foneddiges ieuanc yn aml, "Biddy, beth wyddoch chwi yn nghylch rhaffo defaid? Os priodwch chwi Tommy Richard, rhaffo defaid fydd eich gwaith wed'yn; ac nid ydych chwi wedi cael eich codi at waith felly." " Y mae yn beth cyffredin yn Sir Benfro i gylymu y defaid wrth eu gilydd â rhaffau gwellt, i'w cadw ar y tir pori; ac yr oedd Mrs. Jones yn dyweyd wrth Miss Gwyn mai gwraig fferm y buasai, ac y byddai yn rhaid iddi fyned i raffo defaid, wedi ei chodi yn yr ysgolion goreu; ac y byddai hyny yn ddarostyngiad mawr iddi. Ond y mae yn debyg nid gwaeth beth a ddywedid, "priodi a fynent." Yr oedd Mrs. Jones, a'r Gwyniaid oll, yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ferch ieuanc, serch hyny, gan benderfynu ei rhwystro i fyned yn wraig i Tommy Richard, os oedd modd yn y byd. Yr oeddynt yn golygu na ddylasai neb gael Miss Gwyn heb gariad ac arian; heb arian, bid a fyno. Nid oedd Tommy yn gyfartal mewn arian, y mae yn debyg; eithr am gariad yr oedd yno gyflawnder, yr hwn oedd yn angerddol ac anniffoddadwy. Yr oedd yno ddigon o gariad i'w gwisgo mewn tlysau o'r pen i'r traed, pe buasai cyfoeth yn gyfartal i hyny; eithr o ddiffyg hyn, yr oedd y mater yn sefyll. Yn y sefyllfa hon y mae hi yn gyfyng arno o bob tu; a pha beth i wneyd nis gwyddai. Ymddengys yn debyg i long wedi ei thynu i mewn i ddeufor-gyfarfod, ac yn cael ei churo yn ddidrugaredd gan y tonau gwylltion o bob tu, nes yr oedd pawb ar y bwrdd wedi rhoi pob gobaith am fod yn gadwedig i fyny. Yn wyneb yr amgylchiadau a ddesgrifiwyd, gellwch esbonio yn weddol ei eiriau yn gyfeiriol at y mater hwn. "Ac ar yr amgylchiad o newid fy sefyllfa, yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf, cefais gynaliaeth aml yn addewidion y Bibl, nes bod yn ddyddanus yn eu canol." Y mae "trallodau o lawer parth yn ymosod arnaf," yn eiriau lled arwyddocaol mewn cysylltiad â'r mater hwn; canys mewn ystyr deuluol yr oedd yn chwythu o bob parth lle yr oedd teuluoedd y Gwyniaid yn cyfaneddu. Gan mor fanol y cedwid gwyliadwriaeth ar y foneddiges ieuanc, yr oedd yn anhawdd dyfalu pa fodd yr oedd yn bosibl cael cyfleu i briodi; oblegyd yr oedd caniatad oddiwrth y teulu yn beth anobeithiol. Yr unig beth, gan hyny, ag oedd yn ymddangos yn bosibl, oedd ei lladrata oddiar ei modryb liw nos. Yn gymaint a bod yr amgylchiadau yn annghyffredin, nid oedd dim i wneyd ond defnyddio moddion annghyffredin i'w cyfarfod; ac felly y gwnawd. Yr oedd dyn ieuanc cyfrifol, o'r enw Vaughan, a rhyw un arall, cymydogion a ffryndiau i Tommy, wedi anturio at y gorchwyl hwn yn bur selog, ac wedi penderfynu, os oedd modd yn y byd, na chai cariad ddim cam oddiar ddwylaw bydolion, os oedd ffordd i gael i atal hyny, bydded trwy y tew, neu bydded trwy y teneu. Ymffurfiodd y cyfeillion hyn yn eisteddfod, ystyriwyd y mater yn ddifrifol, penderfynwyd ar gynllun eu gweithrediadau, a phenderfynasant nad oedd dim ond angau fuasai yn eu hatal rhag eu cario allan. Yr oedd dealltwriaeth trwyadl rhwng y foneddiges ieuanc a hwythau ar y mater, canys gwyddent yn burion at ba ffenestr i fyned cyn symud o gartref. Yn nyfnder y nos y maent yn taro allan tua chyfeiriad Maenorowen, ac yn fuan, mewn o gwmpas awr a haner neu ddwy awr, y maent yn sefyll o flaen y ffenestr lle yr oedd y foneddiges ieuanc; ac y mae hithau yn ffyddlon i'w hymrwymiad yn barod i'w derbyn. Nid ydym yn gwybod pa foddion a ddefnyddiwyd i'w chael allan, pa un ai ysgol, neu ryw beth arall; ond yr ydym yn sicr mai nid mewn "basged y gollyngwyd" hi, canys buasai yn angenrheidiol fod rhai oddifewn yn ei chynorthwyo. Beth bynag, yn rhyw fodd daeth i freichiau Vaughan yn ddyogel, a chynorthwyodd yntau hi i ddyfod i lawr i'r gwaelod; ac felly y diangodd o ddwylaw ei modryb i ddwylaw ei gwr. Yr oedd hyn ar y 29ain o Ebrill, 1819; a boreu dranoeth, y 30ain, y priodasant yn Llanrian, plwyf trigianol Mr. Richard. Fel y gellir deall, yr oedd yn foreu tywyll a chymylog iawn yn Maenorowen y 30ain o Ebrill, wedi cael allan fod Miss Gwyn wedi dianc; yr oedd yr holl dŷ mewn cyffro, a Mrs. Jones yn nghanol llewygfeydd cyson. Tra yr oedd ystorm echryslawn yn chwythu yn Maenorowen, yr ydoedd yn foreu teg, dysglaer, a thawel yn Llanrian, pan yr oedd Mr. Richard a Miss Gwyn yn ymrwymo mewn glân briodas. Clywsom lawer o bethau yn cael ei ddyweyd fel hyn ac fel arall yn nghylch priodoldeb ac anmhriodoldeb y mater hwn, ond fe ddichon nad oedd y rhai hyny yn gwybod rhyw lawer mwy na ninau yn nghylch peth felly. Gwyddom gymaint a hyn drwy hanes, mai peth poenus iawn yw i ddyn ffaelu cael ei gariad; ond am y ffordd y dylid myned yn y blaen gyda pheth fel hyn, nid ydym yn proffesu fod yn ddigon hyddysg. Beth bynag, a gadael pob cywreinrwydd duwinyddol, ac athronyddol hefyd, y mae un peth yn digon amlwg bellach, -fod Mr. Richard a Miss Gwyn yn wr a gwraig hyd oni wahano angau hwy.<noinclude><references/></noinclude> f0jdqkgao2qakwv3fg6h04bh2qlhivm Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/158 104 84582 164360 2026-05-07T19:49:14Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "104 PENOD VI. Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol y blynyddau hyny. WEDI dydd y briodas y mae pethau yn myned yn y blaen yn weddol o lyfn am dro, ac yr ydym yn ei weled yntau yn dra chysurus, ac yn ymroi i'w hoff waith o bregethu yr efengyl yn mhell ac agos. Chwi ddarllenwch y pigion... 164360 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>104 PENOD VI. Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol y blynyddau hyny. WEDI dydd y briodas y mae pethau yn myned yn y blaen yn weddol o lyfn am dro, ac yr ydym yn ei weled yntau yn dra chysurus, ac yn ymroi i'w hoff waith o bregethu yr efengyl yn mhell ac agos. Chwi ddarllenwch y pigion canlynol o'i ddyddlyfr tra y byddom yn cymeryd ein hanadl; ac wrth hyny cewch weled y dyn yn desgrifio ei hun, ac yn ymddadblygu yn naturiol o flaen eich llygaid. "Mai 19. Mae hwn yn amser i dreio fy ffydd a'm hymddiried yn yr Arglwydd. Nid wyf yn cael fy ngadael yn ddibleser a dirinwedd yn y gwaith hyfryd o ddysgwyl wrth Dduw. Mynych y cynorthwyir fy nghalon yn wyneb treialon gan y gair gwerthfawr hwnw, 'Ni waradwyddir neb a ddysgwyliant wrthyt ti.' Gallaf oddiar brofiad ddweyd fod gair yr Arglwydd i mi yn fwy gwerthfawr nag aur, ie, nag aur coeth lawer; melusach hefyd na'r mel, na dyferiad diliau mel. Fy holl hyder a'm cysur yw ei fod yn derbyn pechaduriaid, o ba rai penaf ydwyf fi. "Mehefin 24-Pythefnos i heddyw dechreuais fy nhaith i Gymanfa y Bala. Ar ol taith gysurus a Chymanfa tra orfoleddus, oblegyd fod nerthol dywalltiadau yr Ysbryd o'r uchelder ar Siroedd Gogledd Cymru yn y flwyddyn hon, dychwelais i Abergwaen, oblegyd yno yr wyf yn awr yn lletya. O ddaioni yr Arglwydd cefais fy anwyl wraig yn dra chysurus. Hyd yma cynaliodd yr Arglwydd fi. Molianus fyddo ei enw santaidd ef. "Gorph. 3, 1819.-Symudais fy mhabell, gyda fy anwyl wraig, i'r Court, yn mhlwyf Llanllawer, lle y treuliais rai misoedd mor gysurus ag wyf yn dysgwyl treulio byth ar y ddaear. Mynych y profais orsedd gras yn dra gwerthfawr, a'r Bibl yn felusach na'r mel. Nis gallaf byth annghofio yr amser melus a deimlodd fy enaid mewn dyledswyddau teuluaidd yn y Court. Rhifedi y pregethau a bregethais, os gallaf eu galw felly, yn y flwyddyn hon, yw 213. Bum mewn pedair Cymanfa-Aberystwyth, Llanfairmuallt, Bala, a Llangeitho. Bu diwygiadau y flwyddyn hon trwy holl Siroedd y Gogledd, a llawer lle mewn llawer o Siroedd y Deheu. Yn wyneb y cwbl y mae genyf achos i gwyno fy anffrwythlondeb, ac i ryfeddu daioni ac amynedd Duw tuag ataf. Trefnodd Rhagluniaeth unwaith eto i mi symud pabell o'r Court i Drellewelyn, Maenorowen. Daethom yma yr 17eg o Fawrth, 1820. Yma y ganwyd fy mhlentyn cyntaf ar y 3ydd o Fehefin, yn mhen dau fis a thair wythnos wedi dod i'r lle hwn, ar ol cystudd trwm a phoenau dirfawr. Meddyliais y cawswn fy ymddifadu o fy anwyl wraig; ond yn mhen dau ddiwrnod o gystudd trwm, pum mynyd cyn chwech prydnawn, ganwyd mab, plentyn golygus, hardd, perffaith. Yma llanwyd fy ysbryd â thestunau diolch i fyned at orsedd gras, nid yn unig am ryddhad fy ngwraig, ond am Dduw yn Wrandawr gweddi. Gofynais ganddo fab, os yn ol ei ewyllys; yn ol ei drugaredd caniataodd hyn hefyd. Dyma ryfeddod. Dyma fel yr hebryngir creadur gwael o dan y don gan drugareddau; fel tonau y môr yn nofio llong y nofir finau gan drugareddau Duw. "Gadewais y lle hwn yn 1821. Daethum i'r Cnwcca yn agos i Drefdraeth, yn Mehefin, oddeutu canol y mis, i gynal tyddyn, mewn llawer o ofid ac ofn. Yr wyf wedi aros yma flwyddyn yn drafferthus iawn. Ni ellais drafaelu fawr y flwyddyn hon oblegyd y gofal sydd arnaf. "Mehefin 2, 1822. - Yr wyf yn ofni yn fy nghalon rhag fy mod wedi dyfod i'r fan hon i fod yn waradwydd i'r efengyl. Y Duw trugarog hwnw a'm gwaredodd mewn chwech a saith o gyfyngderau, wyf yn gobeithio a'm gwared i eto ragllaw. Arglwydd, cadw fi, darfu am danaf. Dros y ddwy flynedd, 1823 a 1824, bum mewn helbul mawr yn fy mywioliaeth, yn dal y tyddyn a enwyd, a hono yn rhy ddrud o lawer o ugeiniau o bunau. Yn y diwedd symudais unwaith eto i Abergwaen, yr hyn oedd waith poenus iawn. Cefais fwy o afiechyd yn y flwyddyn hon, 1824, nag arferol. Ni theithiais ond ychydig, a'm llafur gweinidogaethol fu yn artrefol fwyaf. "Mae heddyw arnaf y 4ydd dydd o'r flwyddyn 1825. Cefais, dydd Sadwrn diweddaf, y cyntaf o'r flwyddyn, gymhorth i adnewyddu fy nghyfamod â'r Arglwydd, ac a'm teulu bach. Yn cychwyn oddicartref at waith y Sabbath cefais y fraint o ddechreu y flwyddyn yn yr un man ag y dechreuais y Sabbath cyntaf yn y flwyddyn ddiweddaf; a hefyd yr oedd yn Sabbath cymundeb yn y Capel Newydd a Cilgeran. Yn y boreu yn Capel Newydd cefais raddau o gymhorth i bregethu, ond nid oedd mor llewyrchus ar fy meddwl ag y bu llawer gwaith. Ond wrth weinu yr ordinhadau, bedydd a swper yr Arglwydd, gwelodd yn dda lewyrchu yn helaethach. Teimlais fy meddwl yn ymeangu, a'm calon yn cynesu wrth feddwl am barodrwydd a chariad Duw, ac wrth adnewyddu ein cyfamod â'm Duw wrth y bwrdd. Oddiyno i Gilgeran. Cefais gymhorth newydd yma i draethu y gair: ond wrth y bwrdd, gyda swper yr Arglwydd, gwnaeth yn dra rhagorol. Rhoddwyd i mi ac eraill y fath olwg ar yr iawn mawr, a'r boddlonrwydd gafodd Duw, nes oeddym oll fel eglwys mewn dagrau a gorfoledd mawr; ac felly y parhaodd tra y buom wrth y bwrdd. Diolch byth am ei fod yn ymddangos trwy y ddellt i'r gwaelaf a'r annheilyngaf ar ddaear Duw. Oddiyno i Aberteifi. Yr oedd hi yma yn fwy caled ac afrwydd i'm teimlad. Adref dydd Llun. Cefais fy nheulu bach yn gysurus dan nodded a chysgod Duw. Ac yr wyf yn awr yn ysgrifenu â'm llaw, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a mi a'm teulu a wasanaethwn yr Arglwydd, trwy nerth ei ras. O fy Nuw, caniata yn nechreu y flwyddyn hon dywallt dy gariad yn fy nghalon, fy addurno â grasusau a dylanwadau yr Ysbryd, er fy ngwneyd yn fwy llewyrchus a defnyddiol nag un flwyddyn yn fy mywyd. Nifer y pregethau yn y flwyddyn 1824 oedd 188. Yn y flwyddyn 1825 teithiais gryn lawer, a chefais gryn lawer o afiechyd. "Mawrth y 3ydd, dechreuais fy nhaith i'r Association yn Aberystwyth; oddiyno i Gymanfa Pontypool; dychwelais adref Ebrill 6. Pob math o brofiadau yn y daith hon, ond nid oedd dim yn werth son am dano, ond yr oll o'r mawr ddaioni a gefais gan yr Arglwydd yn mhob ystyr. Bum yn anhwylus ryw ysbaid ar ol y daith hon, anwyd trwm. Bum yn y wlad hyd mis Awst. I ffynonau Llandrindod am fy iechyd; bum yno bythefnos. Ni theimlais ond ychydig les. Cefais anwyd mawr yno ac wedi dod oddiyno, yr hyn a'm hanhwylusodd yn fawr. Cefais brawf yn fy natur y flwyddyn hon nas cefais erioed o'r blaen, diffyg anadı. Dychwelais o'r ffynonau Medi 14. Medi 16 cychwynais daith i'r Gogledd, lle na bum am naw mlynedd o'r blaen. Cefais daith rwydd, dibrofedigaeth am bump wythnos. Cefais fy iechyd yn well a'm hysbryd yn well nag erioed o'r blaen; a'r Arglwydd yn ei anfeidrol drugaredd yn dda iawn bob odfa; mwy o'i wyneb nag arferol. Cefais yn y daith hon bedair Cymanfa. Y gyntaf yn Towyn, Meirionydd, lle y pregethais y nos o'r blaen ar Sal. xxxii. 3, 4; a thranoeth oddiar Sal. xxxii. 5. Un arall yn Pwllheli, Sir Gaernarfon. Pregethais ar Sal. xxxii. 6. Cefais fwy o gymhorth na chyffredin yma. Un arall yn Beaumaris. Mon. Y nos o'r blaen ar Sal. lxxiv. 17. Cefais lawer o diriondeb yma. Dranoeth oddiwrth Act. x. 11-16. Yr oedd hi yma yn galetach. Oddiyma trwy ran o Sir Dinbych, Meirionydd, Trefaldwyn, a Maesyfed, at y bedwaredd Association i Talgarth. Pregethais yma bregeth ar ddymuniad y Committee ar farwolaeth E. Morris a D. Evans, oddiar Galar. iv. 2. Dychwelais adref Hydref 26. Cefais fy nheulu yn dra chysurus, yn nodded y Duw trugarog y gadewais hwy yn ei law. O ffyddlondeb, O ymaros, O dosturi, O raslonrwydd digyffelyb yn wyneb anffrwythlondeb mawr. Treuliasom hyd mis Tachwedd yn dra chysurus gyda'r gwaith crefyddol, yn y wlad oddiamgylch cartref. Ar yr 8fed ymwelodd yr Arglwydd â mi a chlefyd trwm, yr hwn a drymhaodd am amser. Ydwyf heddyw wedi fy nghaethiwo oddiwrth y weinidogaeth Sabbathol. Yr wyf yn taer ddymuno nerth i ymostwng dan alluog law Duw. * * "Y 24ain, dechreuais daith at Gymanfa yn Penybont yn Morganwg. Cefais fy iechyd yn weddol, a llawer o gymhorth yn y gwaith mawr. Yr oedd y daith hon yn 160 milldir erbyn bod yn nhref. Pregethais y flwyddyn 1825 280 o bregethau, a theithiais yn agos i saith mil o filldiroedd. Yn wyneb hyn mae genyf i gwyno fy ngwaeledd a'm hanffyddlondeb. Pwy a gredodd? A pha ogoniant a gafodd Duw? Yr wyf yn foddlon i ymdreulio hyd fy marw, ond i enw yr Arglwydd gael gogoniant. "Gweddi. O Arglwydd fy Nuw, yr hwn o'th fawr amynedd a'th hir ymaros a gyd-ddygodd un flwyddyn yn mhellach ag un o'th annheilyngaf weision mewn oerfelgarwch, anffrwythlondeb, a gwywdod, i'r graddau mwyaf, yr wyf yn atolwg, O Dduw trugarog a graslawn, i ti edrych ar wyneb dy Eneiniog Fab ar fy rhan, ac er ei fwyn maddeu fy anwireddau o ddechreu hyd ddiwedd 1825, at yr aneirif feiau o'r blaen, yn enwedig anwiredd fy mhethau santaidd; fy nghnawdolrwydd, hunanoldeb, a chymaint amser a dreuliais yn ngwlad dynion. Maddeu fy anwiredd, er mwyn dy enw, canys mawr yw. Ymostyngaf wrth dy draed. Mi atolygaf yn mhellaclı yn enw y Cyfryngwr heddyw, Ionawr 17, 1826, arnat, O fy Nuw, yn y flwyddyn hon bob ymgeledd ysbrydol at fy mhersonol santeiddhad, pob gras a doethineb at lywodraethu a maethu fy nheulu yn ofn yr Arglwydd, a helaethach dylanwadau fel tanllyd farwor ar fy ysbryd at waith mawr y weinidogaeth: a'th Ysbryd santaidd, O Dad, fo yn cydweithio er achubiaeth llawer, trwy Iesu Grist. Amen. "Teithiais o ganol Ionawr hyd y 7fed o Chwefror oddeutu cartref 157 o filldiroedd; nid yn hollol ddigymhorth yn y gwaith, ac eto heb fawr o argoel llwyddiant. O Arglwydd, tydi biau llwyddo; bod yn ffyddlon yw fy nyledswydd. Galluoga fi trwy dy ras i hyn hyd angau. au. Mis Mawrth a dreuliais fwyaf yn Sir Benfro. Bum y mis hwn yn Association Ystradgynlais. Cefais radd o gymhorth wrth fyned a dod, ac yno yn y gwaith, er i mi deithio y tro hwn mewn anhwyl corphorol oblegyd anwyd. Dychwelais adref i'm teulu, a chenyf achos newydd i alw yn ngeiriau y Salmydd, 'Fy enaid, mola di yr Arglwydd.' Y Sabbath diweddaf oedd y 1af yn Ebrill. Yn odfa y boreu, cauodd arnaf yn dywyll iawn, nes oeddwn bron llewygu. Prydnawn tywyllodd am nerth. Teithiais Mai a Mehefin i * * * * * * 0 Bryste, ac oddiyno i Ogledd Cymru. Cefais dair Cymanfa yn y daith hono. Tredegar, Bala, Llanerchymedd. Treuliais chwech wythnos yn y daith. Llawer o amrywiol dywydd, ran fy meddwl, gyda'r gwaith. Dychwelais adref y dydd diweddaf o fis Mehefin. Cefais fy nheulu yn dra chysurus, ar ol hir absenoldeb. O am gymhorth i folianu enw yr Arglwydd. O Arglwydd, fy Nuw tra molianus, yr ydwyf wrth dy draed mewn diolchgarwch yn dymuno byw dan yr eneiniad, a helaethach tywalltiad o'r Ysbryd Glân nag erioed, er mwyn Crist Iesu. Amen. "Awst 5ed, 1826, cychwynais i Gymanfa Llangeitho, yn fy ffordd i'm taith i Lundain, yr hwn le a gyrhaeddais y 12fed. Arosais yno lleg o Sabbathau. Pregethais 59 o bregethau; dau Gwrdd Misol. Gweinais y Swper ddwywaith; bedyddiais dri; cleddais dri. Cefais lawer o gymhorth yn y gwaith yma, yn wyneb pob gwaeledd ynof fi. Gallaf ddywedyd o galon rwydd, 'Nid i mi, nid i mi, ond i'th enw dy hun dod ogoniant.' Gadewais, Llun, Hydref 22, yn wael fy iechyd: cyrhaeddais adref Hydref 25, ar ol taith faith. Cefais fy anwyl deulu dan aden dirion fy Arglwydd, i'r hwn y bum yn anffyddlon. O maddeu, O maddeu i'r anffyddlonaf. "Hydref 30, cymerwyd fy merch ieuangaf, yn 16eg mis oed, yn glaf; bu farw yr ail ddydd. Hebryngasom hi i'r bedd Tachwedd 3ydd, i Maenorowen. Dechreu ein symudiad i'r bedd o'r sefyllfa hon yw yr amgylchiad hwn. Pe buasai yn<noinclude><references/></noinclude> 7u4q8jcwh5jalwmucunmgomefwr5965 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/163 104 84583 164361 2026-05-07T19:50:20Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "dygwydd pythefnos yn gynt buasai yn dra annghysurus. Yr oeddwn yn Llundain, a'm hanwyl wraig yn ei gofid wrthieihun. Cefais ddod adref cyn y gofid hwn. Molianus fyddo enw yr Arglwydd. Yr oedd fy chwaer gyda hi yn ein gofid, a'm brawd wedi dod o'r Gymanfa, i ddod atom i'n cysuro. 0, pa beth a dalwn i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau!" Yn awr yr ydych wedi darllen ychydig o dudalenau o'r dyddlyfr yn ei eiriau ef ei hun, yr ydych yn ba... 164361 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dygwydd pythefnos yn gynt buasai yn dra annghysurus. Yr oeddwn yn Llundain, a'm hanwyl wraig yn ei gofid wrthieihun. Cefais ddod adref cyn y gofid hwn. Molianus fyddo enw yr Arglwydd. Yr oedd fy chwaer gyda hi yn ein gofid, a'm brawd wedi dod o'r Gymanfa, i ddod atom i'n cysuro. 0, pa beth a dalwn i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau!" Yn awr yr ydych wedi darllen ychydig o dudalenau o'r dyddlyfr yn ei eiriau ef ei hun, yr ydych yn barod am ychydig o sylwadau arno yn mhellach. Y mae yn symud i Gwrt Llanllawer yn y lle cyntaf, lle y cafodd lawer o gysuron, a gwyneb Duw yn helaeth. Cwrt Llanllawer yw palasdy y Gwyniaid, lle y mae Mr. Gwyn, brawd Mrs. Richard, a'i chwiorydd, yn byw yn bresenol. Y mae o gwmpas dwy neu dair milldir o Abergwaen, mewn dyffryn o dlysni annghyffredin. Mae y Creawdwr wedi bod braidd yn afradus ar ei ogoniant yn y dyffryn hwn, fel pe byddai wedi rhoi gormod o dlysau yma, a rhy fach mewn manau eraill. Yr oedd y lle hwn yn hyfryd i fyfyriwr fyw; gallasai wrth cyn lleied o drafferth i ollwng ei fyfyrdod allan i'r coedydd, y creigydd, i fysg y blodau, ac ar hyd yr afon Llawer, ar ol blino yn y fyfyrgell gyda llyfrau llwydion. Fel hyn yr oedd llyfrau natur a llyfrau yr hen dduwinyddion yn cael eu cymysgu yn y myfyrdod, a phregethau gwychaf y byd yn cael eu cynyrchu. Gellir meddwl, wrth fod Mr. Richard yn byw yn y Cwrt, lle perthynol i deulu y Gwyniaid, fod y digofaint wedi myned heibio, a heddwch yn dechreu cael ei adferu rhwng y teuluoedd. Yn wyneb fod Mrs. Jones mewn gofid oblegyd y briodas, darfu i lawer fyned yn lled bell mewn difrio Mr. Richard, gan feddwl y byddai hyny yn ei boddloni hi; ond clywsom wed'yn ei bod yn teimlo o herwydd hyny, ac yn dyweyd nad oedd dim rhaid iddynt ddyweyd fel hyny am dano, ei fod yn ddyn ieuanc o gymeriad da, ac yn gyfrifol, fel nad oedd yn iawn iddynt siarad yn isel am dano. Y mae Mrs. Jones yn siarad yn lled arwyddocaol yn awr; y mae yn arwydd teg fod y gauaf ar fyned heibio, a'r gwlaw yn pasio yn gyflym; gwelir blodau heddwch ar ei daear hi cyn hir bellach; a bydd yr holl adar, bach a mawr, yn canu caniadau serchogrwydd. "Y mae yn wir," meddai Mrs Jones, "nad o'wn yn foddlon iddo gael Biddy (Bridget); ond 'does ganddynt hwy un hawl i'w redeg i lawr; os gwnaeth ddrwg i ryw rai, i mi y gwnaeth, nid i neb arall." Nid oes eisiau dyweyd nemawr yn mhellach, gallem feddwl, canys gellir darllen heddwch a dymuniadau da yn nhôn Mrs. Jones. Bu yr hen Mr. Gwyn, Kilkifeth, ei thad, yn lled chwerw am dymhor; ac arferai ddyweyd fod y tair merch ryfeddaf yn y byd ganddo ef; fod un o honynt wedi priodi gwas Duw, y llall gwas y cythraul, ac un arall ei was yntau; a'i fod ef o'r farn mai ei was ef oedd y goreu o'r tri gwas. Ond nid hir y bu cyn fod gwas Duw yn cael edrych i fyny ato gan bawb o'r teulu. Ond y mae mel y Cwrt yn darfod yn fuan, ac y mae yn symud i Drellewelyn, yn ymyl hen dŷ Maenorowen, lle y cafodd y wraig; ac yma y ganwyd ei gyntafanedig. Y mae yn awgrymu yma at ryw gyfamodau a wnaeth ar enedigaeth ei fab, ac amgylchiadau eraill. Mae y cyfamodau hyny genym; ond yr ydym yn meddwl eurhoi yn gyflawn mewn penod arall, ac nid eu gosod un ac un wrth fyned yn y blaen. O Drellewelyn y mae yn symudi'r Cnweca, gerllaw Trefdraeth, i gadw fferm. Yma y gwelir fod ei ofidiau yn dechreu mewn prysurdeb. Edrychwch ar y dyn da a'r gweinidog ffyddlon yn cael ei lethu o dan faich o fasnach a thrafferthion. Y mae yn ofni iddi fyned yn llongddrylliad ar yr amgylchiadau, y weinidogaeth a'r cwbl. Druan, y mae yn methu pregethu yr amser hwn. Dywedodd rhyw foneddiges wrtho yn yr amser hwn, "Yr ydych wedi myned i ffaelu pregethu, Mr. Richard; y mae y fferm wedi anafu y pregethwr." Yr oedd hyny yn ddigon gwir, eithr ni wyddai hi nemawr am y tywydd mawr yr oedd y pregethwr ynddo; a'i long fach yn nghanol môr garw, yn methu, er gwneyd ei oreu, ei chael i mewn i'r hafan a ddymunai. Y mae yn wir fod gan Mrs. Richard ychydig yn flynyddol; ond beth oedd hyny tuag at gadw teulu? Yr oedd yn help, ond nid haner digon i fyw; am hyny yr oedd yn rhaid cael ymgyrchfa at gadw fferm. Byddai pobl anwybodus yn meddwl fod Mr. Richard wedi cael digon o gyfoeth gyda'r wraig i fyw fel gwr boneddig; ac wrth ei weled yn gwneyd ymddangosiad gweddol gyfrifus, meddylient nad oedd arno eisiau dim. Nid oedd yn derbyn ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth; y mae arnom gywilydd dyweyd pa faint, er y gallem fyned yn mhell yn y cyfeiriad hyny; ond ymataliwn er mwyn gweddeidd-dra. Yn gymaint . nad oedd yn cael llawer, meddyliodd am fyned i gadw fferm; ac wrth ffermu, y mae yn gyru pethau yn waeth yn lle gwell. Yr oedd y fferm yn lladd y dyn ac yn lladd y pregethwr ar unwaith. Tra yr oedd y bobl yn edrych ar y pregethwr yn y pwlpud, gan feddwl nad oedd dim ar ei feddwl ond pregethu yr efengyl, y mae yntau a'i enaid bron yn llesmeirio ynddo, a'i gorph eiddil braidd yn methu dal pwys yr enaid a byw, o dan faich amgylchiadau y bywyd hwn. Yr ydym yn gweled ein gilydd; ond mor ychydig y gwyddom pa fodd y mae y naill a'r llall yn byw. Yr oedd y tir-feddianwyr mawrion yn mwynhau gweinidogaeth gystal a feddai Cymru, yn ymbleseru yn ei swn hi, yn edmygu y pregethwr, ac eto yn ei adael i ryfela ar ei draul ei hun! Y fath bregethwr a Richard ddim yn cael ei gynal wrth y weinidogaeth! O Gymru, yr wyt wedi lladd y prophwydi! Oni buasai mai mewn anwybod y gwnaethost hyn, buasit yn haeddu cael dy amddifadu o swn pregethau am byth. Eithr y dynion Duw hyny a ymwadasant a hwy eu hunain er mwyn pregethu yr efengyl i bechaduriaid, er eu hesgeuluso ar y ddaear, "mawr yw eu gwobr yn y nefoedd;" y maent yn derbyn taledigaeth y gwobrwy gyda'r Iesu mewn gogoniant anamgyffredadwy. Gorphwyswch, gorphwyswch bellach. Dywed Mr. Richard, os darfu i chwi sylwi, "Bum mewn helbul mawr yn y flwyddyn 1823-4 am fy mywioliaeth; yr oedd y fferm yn rhy ddrud o lawer." Geiriau torcalonus ydynt; trueni fod gwr o'i fath ef mewn helbul am ei fywioliaeth mewn cysylltiad â fferm. Ar yr un pryd, nid ydym yn sicr mai o achos fod y fferm yn rhy ddrud yr oedd felly; gallasai fod yn werth yr arian yn weddol iawn, ac eto y ffermwr mewn helbul am ei fywioliaeth. Bydd yn dygwydd weithiau fod y bai ar y ffermwr, ac nid ar y fferm; ac y mae hyny yn ddigon hawdd ei gredu mewn cysylltiad â Mr. Richard. Yr oedd y pregethwr mawr, wrth bob tebyg, yn ffermwr bach; oblegyd fel llwybr cyffredin, nid yw y ddau mawr yna yn cydgerdded. Nid yw y masnachwr mawr a'r pregethwr mawr yn cyduno yn wych yn yr un enaid; y maent fel cnawd ac ysbryd, bob amser yn gwrthwynebu eu gilydd. Mae yr ysbrydoedd yn annghydmarol; nid ydynt yn cydredeg, yn cydweithio, yn cydymdeimlo, nac yn cydfwynhau. Nid oedd efe wedi ei greu at fod yn ffermwr; yr oedd digon o ffermwyr i gael hebddo ef; at y pwlpud yr oedd ef wedi ei wneyd, ac nid oedd un man ar y ddaear hon yn ei weddu yn gystal a'r pwlpud. Ymddangosai Mr. Richard yn ddyn chwithig yn nghanol ffair, marchnad, masnachdy, neu arwerthfa; byddai pob dyn yn teimlo yn y fynyd ei fod allan o'r lle y dylai fod. Gofynai pawb iddo wrth ei weled yn y cyfryw leoedd, "Pa beth ddaeth a chwi yma? beth yr ydych chwi yn geisio mewn lle fel hyn? Yr ydych yn edrych fel dyn wedi colli y ffordd, ac wedi hurtio mewn ffyrdd dyrys, neu fel dafad wedi myned ar gyfeiliorn, heb wybod pa fodd i ddychwelyd." Ond pan welid Mr. Richard yn y pwlpud, a miloedd o'i flaen yn cael eu hysgwyd fel gallt o goed ar wynt cryf, dyna fe yn ei le, dyna fe gartref, dyna fe yn y man y dylai fod; dyna fe yn y man sydd yn gweddu iddo. Y mae pawb yn ei weled yn ei le, ac am iddo fyw byth i bregethu yr efengyl. O, y fath drueni na fuasai rhyw drefn i gynal dynion o'i fath ef i bregethu yr efengyl; canys anaml y mae y cyfryw i'w cael. Nid hir y bu yn y fferm cyn symud i Abergwaen, lle y treuliodd ei ddyddiau olaf. Chwi welwch fod holl helbulon y fasnach yn cael eu cynwys mewn amser byr, rhyw beth o gwmpas pedair blynedd. Yn 1819 y mae yn priodi, ac yn symud yn ol i Abergwaen yn 1824 neu 1825. Taith fer ydoedd, ond hynod o arw; y blynyddoedd garwaf o'i fywyd, digon tebyg. Gwelir pob peth fel yn dyfod am draws eu gilydd yn y pedair blynedd yna; y gwynt fel pe bai yn chwythu ar bedair congl y tŷ. Yr amgylchiadau yn ei wasgu yn ddirfawr, mwy o glefyd nag arferol, ac hefyd y pethau hyn yn ei rwystro bron yn hollol i ddylyn ei waith hoff o bregethu yr efengyl. Blynyddoedd tywyll a du yn ei hanes oedd y rhai hyn. Y maent yn ddigon drwg i edrych arnynt o bell; ond pa beth yw hyny at fod ynddynt, yn yfed eu dyfroedd chwerwon, yn bwyta eu bara lefeinllyd, ac yn dyoddef eu rhew oer, a'u gwyntoedd geirwon? O drugaredd, ni sylweddolwyd ei holl ofnau; ni ddaeth yr hyn a fawr ofnodd yn hollol arno; gwaredwyd ef o'r ffwrn dân; cipiwyd ef o safn y llew a phalfau yr arth cyn ei ddinystrio yn llwyr; ond O! mor agos y bu i bwll dinystr. Pe buasai dyryswch amgylchiadau yn dyfod arno, cawsai, ond odid, ei farnu hyd yn oed gan ei gyfeillion crefyddol megys pechadur, a thrwy hyny ei weinidogaeth werthfawr, anmhrisiadwy yn cael ei cholli i'r byd. Eithr y mae yn debyg fod gan y bwriadau dwyfol bethau gwell wedi eu rhoi i gadw iddo; canys fel y gwelsom, er iddo fod ar ymyl dinystr, amgylchynwyd ef â chaniadau ymwared, a daeth iachawdwriaeth â "chaerau a rhagfur" anweledig o'i gwmpas, er ei gadw yn "fyw yn amser newyn." "Efe a ddiangodd;" do, do, "efe a ddiangodd;" ond cofiwch, dim ond dianc, serch hyny; o'r braidd y bu yn gadwedig. Gallasai yntau ddyweyd wrth fyned ar ei daith yn ol i Abergwaen, "Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nanedd y diengais." Y mae yn fwy na thebyg na ddaeth gydag ef nemawr ond efe ei hun a'i deulu; ac yr oedd yn teimlo gryn dipyn o ddedwyddwch, diau genym, fod pethau fel yr oeddent, oblegyd gallasai fod yn llawer gwaeth. Yr ydym yn dyfod i gymod â cholledion, pan yr ofnwyd y buasai yn llawer gwaeth; yr ydym yn gweled ein hunain wedi ymdaro yn dda wrth ystyried y peryglon, ac yn teimlo awydd, er yr holl golledion, "i ddiolch i Dduw, a chymeryd cysur" mewn pethau fel y maent. Dacw long yn myned allan o'r porthladd, yn llawn o drysorau gwerthfawr; y mae yn foreu teg yn mis Mai, y gwynt yn ffafriol, ac yn llanw ei hwyliau yn dyner a dystaw, a hithau yn nofio yn hwylus, ac yn falchaidd ei hymddangosiad, fel brenines yn ysgwyd teyrnwialen yn ei hymerodraeth ddyfrllyd, a dywedyd yn ei hiaith, "Myfi sydd yn llywodraethu ymchwydd y môr." Y cadben yntau sydd yn cerdded yma ac acw ar ei bwrdd yn falch o'i drysor, ac y mae yn myned i ryw ddinas i farchnata ac enill, a dychwelyd yn ddyn annibynol. Nid oes dim llai na hyn yn ei fryd; nid oes dim islaw y nod hyn a'i foddia; dirmygai unrhyw awgrymiad gwahanol. Y tywydd sydd yn deg eto, a'r llong yn myned mewn hwyl ardderchog, o don i don dros y cefnför mawr, fel meistres ar holl elfenau natur yn nghyd. Yn mhen ychydig amser clywir y morwyr yn dyweyd fod yr haul yn codi llawer o ddwfr, a bod argoel, wrth ryw arwyddion o'r eiddynt hwy, y bydd dryc-hin yn fuan. Dacw y nefoedd yn dechreu duo draw, ac yn fuan gwelir y cymylau yn ymdaenu dros yr holl nefoedd; y gwynt yntau sydd yn dechreu chwythu yn erwin. Ah! y mae yn chwyrnu fel pe bai yn ddigofus wrth y llong a phawb sydd ynddi; y mae y môr yn dechreu curo yn ddiarbed, fel pe buasai rhyw gytundeb sydyn rhwng yr holl elfenau i ddinystrio y llestr byth bythoedd. Yn nghanol y cythrwfl hyn, dacw'r llong ag oedd er ys meityn fel brenines yn nofio ar frig y don, yn cael ei tharo yma ac acw fel pêl, yn cael ei baeddu, ei thrin a'i throi, nes y mae pawb yn dyrysu. Edrychwch! dacw ei hwylbrenau yn myned. Clywch! dyna ergyd ofnadwy! Y mae wedi taro wrth ryw graig. Ust! dyna swn gwrthdarawiad dychrynllyd! Bydd yn chwilfriw cyn nemawr amser, cewch weled. Wele y<noinclude><references/></noinclude> d0k7z7kd1qocto9s6vfz3rfyq0l9pom Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/168 104 84584 164362 2026-05-07T19:51:13Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "morwyr yn taflu rhyw beth allan i'w hysgafnhau; y maent yn taflu llawer allan. O, suddo y mae! Y maent yn taflu allan am eu bywydau; ond suddo y mae. Y maent yn ceisio achub y pethau gwerthfawrocaf i gael diane; ond suddo y mae! Dacw hi yn mron myned o'r golwg. Gyda hyn dyma waedd y cadben yn dywedyd, "Gadewch bob peth i fyned, gwnewch y goreu am y bâd, i geisio dianc â'n bywydau." Cafwyd y bâd, a thrwy ymdrech caled awd iddo, heb dd... 164362 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>morwyr yn taflu rhyw beth allan i'w hysgafnhau; y maent yn taflu llawer allan. O, suddo y mae! Y maent yn taflu allan am eu bywydau; ond suddo y mae. Y maent yn ceisio achub y pethau gwerthfawrocaf i gael diane; ond suddo y mae! Dacw hi yn mron myned o'r golwg. Gyda hyn dyma waedd y cadben yn dywedyd, "Gadewch bob peth i fyned, gwnewch y goreu am y bâd, i geisio dianc â'n bywydau." Cafwyd y bâd, a thrwy ymdrech caled awd iddo, heb ddim ond y dillad oedd am danynt; buont allan drwy y nos mewn tywydd garw, yn mron sythu a newynu; ond erbyn y boreu nid oedd dim gobaith, yr oedd y môr yn parhau yn arw, a dim un llestr o fewn golwg; trwy y dydd wed'yn y buwyd yn ymdrech yn erbyn tywydd garw, newyn, a noethni, ac enbydrwydd, nes yr oedd pawb yn mron llesmeirio, ac ar roi fyny i farw. Ond cyn trengu yn lân dyma long yn y pellder yn dyfod i'r golwg, a gwelid eu hwynebau oll yn dechreu sirioli o dan ddylanwad gobaith. Y mae yn tynu yn nes atynt, yn eu gweled cyn hir, yn ymwneyd at y bâd er eu hachub, yn dyfod ato, er trwy orchest dirfawr, ac yn llwyddo i godi y dynion haner marw i fyny. Wedi eu hymgeleddu yn dirion, y maent yn dadebru, ac yn diolch yn wresog am sefyll eu bywydau; nid ydynt yn teimlo dim, nac yn siarad dim am y llong a'i thrysorau gollwyd, ond am eu bywydau gwerthfawr a achubwyd. Rhyw debyg i hyn y mae Mr. Richard yn dychwelyd o Drefdraeth i Abergwaen, wedi colli y cwbl, eto yn teimlo yn bur ddedwydd er y cwbl, canys yr ydoedd yn llawer gwell nag yr ofnwyd; achubwyd y bywyd yn yr hynt fordwyol, beryglus hon. Yr ydym yn ei weled yn awr, efe a'i deulu, wedi symud i Abergwaen, wedi ymryddhau oddiwrth y fferm a'i helyntion gofidus. Gellir meddwl fod yr angel yn y fl. 1825 yn ehedeg yn fwy nag arferol, ac yn ysgwyd ei adenydd mawrion er mwyn eu glanhau yn hollol oddiwrth hen glai fferm y Cnwcca, ger Trefdraeth. Chwi welwch wrth y pigion o'r dyddlyfr ei fod yn ehedeg o Gymanfa i Gymanfa yn y Deheu a'r Gogledd, yn ymweled â Llundain, yn teithio miloedd o filldiroedd, ac yn pregethu canoedd o bregethau. Ehedodd "yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo;" efengylodd i'r "rhai oedd yn trigo ar y ddaear;" bloeddiodd dangnefedd i ddynion; udganodd yn yr udgorn mawr nes oedd llwch Trefdraeth wedi myned yn llwyr o'i geg. Do, ysgydwodd ei adenydd hefyd yn y flwyddyn un fil a phump ar ugain, nes yr oedd holl bridd fferm y Cnweca wedi ei lanhau yn llwyr; nid oedd dim o hono i'w weled yn niwedd y flwyddyn hono. Ië, yr oedd huddygl hen grochanau fferm y Cnwcca wedi ei ddileu; canys, "er gorwedd o hono yn mysg y crochanau," daeth ei esgyll wed'yn "fel esgyll colomen wedi ei gwisgo ag arian, a'i adenydd fel aur melyn." Yn 1826 y mae yn cyfarfod â phrofedigaethau teuluaidd trwy gladdu merch fechan; ond fel y gwelir, y mae y teimlad o ddaioni yr Arglwydd yn dyfod ag ef adref cyn yr amgylchiad i fod yn help i'r fam dyner, yn suddo y gofid o'r golwg. Yr oedd colli y plentyn yn ofid mawr; eithr y teimlad o drugareddau dwyfol yn wyneb yr amgylchiad sydd yn gysur cryfach na'r gofid. Y mae hon yn agwedd meddwl Cristion gostyngedig. Mor brydferth, onide, yw gweled yr angel mawr hedegog, y pregethwr sydd yn peri i'r byd blygu o flaen ei weinidogaeth, yn ymsuddo i mewn i berthynasau teuluaidd fel dyn arall? Y llew yn y pwlpud yn ymgymysgu a'i wraig dyner yn ei thrafferthion, ac yn ymdrech yn mhob modd yn y byd i'w chysuro; yn wylo fel tad tyner uwch bedd plentyn, yn codi i fyny at drugareddau dwyfol fel Cristion, ac yn mwynhau Duw ei iachawdwriaeth yn ngwahanol helyntion y bywyd hwn. Y mae llawer o bobl yn meddwl fod pregethwr mawr, wrth ei glywed yn y pwlpud, uwchlaw pethau teuluaidd a phethau cyffredin y bywyd hwn; ond y gwirionedd yw, nid oes neb yn teimlo yn fwy mewn pethau felly; ac y mae eu bod yn teimlo felly yn gymhwysder at gyflawni eu gweinidogaeth. Nid oes neb yn medru cyd-ddyoddef gyda'r temtiedig ond y rhai sydd wedi eu temtio yn mhob modd yr un ffunud â hwythau. Mae llyfrau yn dda i bregethwr, eithr os bydd pregethwr wedi ei wneyd i gyd trwy lyfrau, darllen llyfr yn gyffredin yw pregethu y dyn hwnw; nis gall bregethu heb lyfr, nis gall weddio heb lyfr, ac nis gall wneyd dim heb lyfr. Eithr y mae gan Dduw lawer o lyfrau a dosbarthiadau i fyned trwyddynt, cyn y cymhwysir dynion i deyrnas Duw fel pregethwyr yr efengyl. Yr ydym yn meddwl ein bod wedi dangos hyn yn eglur trwy roi pigion mor helaeth allan o ddyddlyfr Mr. Richard; hyn oedd ein dyben; canys er fod gryn dipyn o'r un peth, wrth roi hanes ei deimladau mewn cysylltiad â'i waith, er hyny y maent yn egluro i foddlonrwydd ddirgelwch nerth pregethwr mawr. Yr oedd yn anmhosibl i ddyn ag oedd yn sylwi ar bob ysgogiad meddwl, a phob teimlad ysbrydol, lai na chynyddu yn mhob rhyw fodd gyda'i grefydd a'i weinidogaeth. Clywir ef weithiau yn griddfan uwchben odfa galed; yn diolch am un iraidd; yn gwneyd sylw manol, hyd yn oed mewn crefydd deuluaidd, ar dymher ac agwedd ei ysbryd, ac a oedd yn beth tebyg fod y meddwl wedi bod mewn cymundeb â Duw ai nid oedd. Dywed yn aml fod prydferthwch allanol mewn geiriau, ond fod y meddwl yn methu ffeindio ffordd at Dduw, wedi y cwbl. Yr oedd Mr. Richard yn pwyso ac yn mesur yr awyr ysbrydol gyda manylwch a gofal mawr. Sylwai yn fanol ar yr oerfel a'r gwres yn mhob odfa; yr ydoedd yn cario hinfesurydd yn ei fynwes ei hun. Fel y canlyn y bydd yn nodi allan y graddau ar yr hin-fesurydd; odfa dywyll, ddilewyrch; odfa i ddyweyd y gwir a dyna gyd; odfa mewn prydferthwch allanol, heb deimlad mewnol cysurus; odfa a thipyn o lewyrch arni tua'r diwedd; odfa heb wybod beth i ddyweyd, na pha beth a ddywedwyd wedi dyweyd; odfa dim ond diane rhag dyrysu, a cholli y cwbl; odfa hwylus, yn myned fel llong gyda'r gwynt a'r llanw, a'r miwsic yn chwareu ar ei bwrdd; odfa o dan ddyryswch barnol; odfa mewn tywyllwch dudew; odfa ag ychydig help; odfa â thywyniadau aml rhwng y cymylau; odfa sych iawn; odfa drymaidd iawn; odfa a llewyrch ei wyneb yn amlwg; odfa o dan gymhorth Duw, coder Ebenezer i fyny yma; odfa o sychder mawr yn Llanfabon; odfa ddiegni yn Llanwyno; odfa o dan deimlad o help yn y Pil; coder maen yma hefyd; odfa ryfedd yn y Dyffryn; llefaru yn beth hawdd yma. Wel, dyma fel y mae yn myned yn y blaen yn bur gymysglyd; weithiau ffordd hyn, ac weithiau ffordd arall; llawer o bleser ambell dro, llawer o ofid dro arall; i lawr yma, i'r lan mewn man arall, a'r bobl yn meddwl, fe allai, nad oedd dim yn bod ond i'r lan o hyd, yn fuddugoliaethus bob brwydr. Nid pawb ag sydd yn pregethu ŵyr am deimladau o'r fath yma; nid ydynt erioed wedi sylwi a meddwl am bethau felly; nid ydynt yn ddigon mawr, nac yn ddigon duwiol, nac yn ddigon o dan ddylanwad ysbryd y weinidogaeth i fyned i mewn i'r celloedd yna. Yn y rhai yna, serch hyny, y darperir mel yr efengyl i eneidiau dynion. Dichon y bydd y pigion a roddwyd o'r dyddlyfr, yn nghyda'r sylwadau a wnawd arnynt, yn ddigon er egluro duwioldeb uchel a chydwybodolrwydd Mr. Richard gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, fel na fyddo i ni gael rhyw lawer o ymgyrchfa at y dyddlyfr eto, oddieithr ambell sylw yn awr ac eilwaith. Oblegyd fel y gwelsoch ef yn y pigion o'i ddyddlyfr a roddwyd, yn ei deithiau a'i bregethu y parhaodd hyd nes i afiechyd ei luddias; mewn llafur caled yn y fyfyrgell, mewn llafur caled yn teithio at gyhoeddiadau, mewn llafur caled yn y pwlpud, ac mewn llafur caled mewn gweddiau nos a dydd. Wedi llafurio yn galed, yn y gwahanol ffurfiau hyn, hyd ddiwedd y flwyddyn 1828, a ganlyn ydyw ei eiriau ar ddiwedd y flwyddyn hono. "Tachwedd 27, 1828. Fy nghyffes onest am danaf fy hun yw, 1. Y creadur tlodaf, a'r pechadur mwyaf ydwyf. 2. Y Cristion gwanaf. 3. Y gwas gwaelaf. Fy holl ddymuniad sydd gynwysedig mewn dau beth; sef, Cymod â Duw, a delw Duw. Fy mhrofiad presenol yw, fod genyf deimlad o bob trueni sydd mewn bod ynof fy hun; ond nis gallaf, er hyny, wadu nad oes ynof egwyddor i ofni Duw, a gweithredu cyfiawnder." Nid ysgrifenwyd y profiad hwn erioed ond mewn gwir deimlad o hono; ac y mae yn dyweyd llawer. Dyma un o brif bregethwyr Cymru yn plygu ei ben ger bron Duw yn y dirgel, ac yn dywedyd wrtho, "Myfi yw y creadur tlotaf, a'r pechadur mwyaf; y Cristion gwanaf, a'r gwas gwaelaf." Gwnaeth yn dda i ysgrifenu ychydig o'r pethau fu rhyngddo a Duw, onide ni fuasem yn eu gwybod, a buasem yn debyg iawn o feddwl am ryw bethau eraill; nid am bethau fel hyn. Ond y mae yn debyg iddo gael ei gyfarwyddo a'i dueddu i'w hysgrifenu, fel y byddont "er addysg i ni." 118 PENOD VII. Adolygiad ar ei flynyddoedd priodasol hyd 1828. DAETHOM hyd y flwyddyn 1828 yn y benod o'r blaen; ond y mae rhai pethau yn y blynyddoedd hyny, yn enwedig genedigaeth ei blant, y byddai yn dda eu coffa, yn gymaint ag y bydd yn angenrheidiol i ni gyffwrdd â hyny eto wrth fyned yn y blaen. Dyma naw mlynedd o fywyd priodasol, yn y rhai yr aeth Mr. Richard drwy lawer o dywydd garw. Er yr ymddengys yr amser o 1819 i 1828 ond byr iawn, eto yr oeddynt yn oes hir gyda golwg ar amgylchiadau. Fel y gwyddoch, y mae llawer blwyddyn o brofedigaethau yn hwy, ac yn effeithio fwy ar y cyfansoddiad na deg o flynyddoedd cymedrol eu hamgylchiadau. Gwelir dyn yn aml wedi bod mewn ychydig fisoedd o brofedigaethau tanllyd; y mae y cyfnewidiadau mor fawr i'w canfod, fel y bydd y bobl yn dyweyd, "Y mae efe wedi tori mwy yn y tywydd garw yna nag yn y deng mlynedd diweddaf, a'u gosod gyda'u gilydd." Pan edrychom ar y naw mlynedd hyn o fywyd Mr. Richard, yn enwedig wyth-fe allai i'r flwyddyn gyntaf dreiglo yn weddol lyfn-yr ydym yn ei ganfod, os edrychwn arno fel morwr a'r blynyddoedd hyn yn fordaith, ar för garw iawn. Gwelwn ef yn cychwyn ar ddiwrnod hafaidd, mewn llong fechan, allan o borthladd cyfagos i Drefin, ar fordaith ddarganfyddiadol; heb ddarlun o'r gwledydd, na gwybodaeth sylweddol o un natur. Yr oedd y dealltwriaeth yn dyweyd, o herwydd rhyw arwyddion dealltwriaethol, fod gwledydd meithion i'w cael, eangach na chyfandiroedd mawrion Columbus; yn fwy haulog, yn gyfoethocach, ac o ganlyniad yn rhagori yn mhell mewn ffrwythlondeb. Mynyddoedd y gwledydd hyn sydd yn gyfoethocach na dyffrynoedd Columbus, a phen eu bryniau uchaf sydd yn cynyrchu ffrwythau pereiddiach na gerddi gwrteithiedig y gwledydd hyny,-gwledydd lle y bydd pob awel boreuol yn dwyn iechyd, a'r nos yn dylyn y dydd yn ddystaw heb ystorm guchiog na thywyllwch erchyll; eithr yn dawel a mwynaidd, gyda chwsg balmaidd yn ei llaw. Wedi rhoi y plant i gysgu yn dawel yn eu cawellau, y mae yn eistedd i'w gwylio, ac yn anadlu yn ddystaw a thyner rhag eu dihuno cyn bod Sol yn dyfod â'r ganwyll i'w goleuo. Dyma wledydd! Y maent yn brydferth! Y maent yn ddymunol! Yr awyr sydd yn deneu, yn dyner,<noinclude><references/></noinclude> pdggi7oo9qzta8mis3ai5pqdx9d1nvv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/173 104 84585 164363 2026-05-07T19:58:53Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ac yn iachusol; ei daear yn fwy cynyrchiol na dim a welsom; ei choedydd yn fawrion, cysgod-frigog, ac fel tyrau gwyrddleision yn codi i fyny i entrych nen; ei hafonydd yn fawrion, ond yn brydferth, yn ymddolenu yn ogoneddus drwy wledydd llawn o ffrwythlondeb; gwledydd lle mae haf yn parhau beunydd, a'r holl fryniau yn ber-lysieuog. Gwlad dda iawn yw hon; y mae miloedd wedi taro allan ar daith ymchwiliadol; eithr wedi dychwelyd, ar ol... 164363 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yn iachusol; ei daear yn fwy cynyrchiol na dim a welsom; ei choedydd yn fawrion, cysgod-frigog, ac fel tyrau gwyrddleision yn codi i fyny i entrych nen; ei hafonydd yn fawrion, ond yn brydferth, yn ymddolenu yn ogoneddus drwy wledydd llawn o ffrwythlondeb; gwledydd lle mae haf yn parhau beunydd, a'r holl fryniau yn ber-lysieuog. Gwlad dda iawn yw hon; y mae miloedd wedi taro allan ar daith ymchwiliadol; eithr wedi dychwelyd, ar ol llawer o helynt, yn bur aflwyddianus; nid yn unig wedi methu ei darganfod, ond hefyd wedi colli llawer, ac ambell un y cwbl, yn yr anturiaeth. Mewn cysylltiad â Miss Gwyn, Maenorowen, y mae Mr. Richard yn penderfynu hwylio allan o un o borthladdoedd Sir Benfro, mewn ymchwil am wlad yr haf, gan feddwl, fel y mae pawb, mai iddo ef y cadwodd Rhagluniaeth y fraint o fod yn ddarganfyddwr. Yr oedd y môr dipyn yn arw ychydig o ddiwrnodau cyn hyny ar fin traeth Wdig, ac yn lluchio i fyny hyd at Maenorowen, fel yr oedd Mrs. Jones, modryb Miss Gwyn, yn hytrach yn glaf o herwydd arogl y dwfr hallt; yr oedd dwfr mwy croyw na hwnw yn cytuno yn well â chyfansoddiad Mrs. Jones. Beth bynag, aeth yr ystorm hono heibio fel y rhan fwyaf o ystormydd o'r fath. Yn blygeiniol dranoeth, dacw y ddau yn ymuno mewn glân briodas, fel y cam cyntaf ar daith ddarganfyddiadol. Dacw y llong fechan yn codi hwyliau yn yr hafan, ac yn cychwyn yn araf i'r fordaith bell, am y gwledydd heulog draw. Mae yn myned yn hwylus; y gwynt yn deg, y môr yn llyfn, a morio yn ymddangos weithian yn dra chysurus; wrth bob tebyg bydd wedi myned yn mhell cyn nemawr amser; ac wedi cyrhaedd y tir pell a dymunol yn dra dirwystr. Yn fuan collwyd golwg arni yn y pellder, fel yr oedd pawb yn troi cefn arni a myned gartref, gan adael iddi wneyd y goreu drosti ei hun. Aeth hen amser ar ei yrfa yn y blaen, aeth cymdeithas rhagddi fel arferol, nes i'r amser ddyfod i ddysgwyl llythyr oddiwrth Mr. Richard, ei fod ef a'i briod wedi gwneyd y darganfyddiad, a'u bod wedi dechreu meddianu y wlad. Aeth ychydig o siarad yn awr ac eilwaith am lythyr, ac awd i gyfarfod pob llythyr-god i edrych am dano; eithr nid oedd un i'w gael, fel y tybiwyd mai llongddrylliad oedd wedi cymeryd lle, ac fel llawer eraill eu bod wedi colli eu bywydau, a'u claddu mewn gwely dyfrllyd. Ond ar foreu tywyll ystormus iawn canfyddwyd llong fechan yn agos i draeth Wdig, yn ymyl Abergwaen, mewn cyfyngder, ar fyned yn ganddryll o flaen y gwynt, yn taro yn erbyn y creigydd oedd yn gorwedd i'r ochr aswy. Ymdrechodd y morwyr â'u holl egni i fyned ati; ac wedi ei chyrhaedd, pwy oedd yno ond ein cyfaill Mr. Richard a'i wraig gariadus, wedi cyfarfod â môr garw iawn, ac ystormydd enbyd; wedi colli y cwbl yn agos ond eu hunain. Fel hyn y gwelir pawb yn taro allan, ac yn dechreu myned i mewn i fyd dychymygol, mewn ymchwiliad am wledydd a dedwyddwch dychymygol, nes y daw siomedigaethau a phrofedigaethau y byd sylweddol i ddysgu mai yn ofer ac am ddim y treulir y nerth. Os nad ydym ni yn deall mai nid yma mae ein gorphwysfa, fe ddaw yr hen fyd i'n dysgu a'n dysgyblu yn fuan. Ni a welsom Mr. Richard yn myned yn gryf iawn i amaethyddu i ymyl Trefdraeth, gan feddwl wrth gwrs gwneyd yn dda, fel pawb eraill; ond rhwng fod y tyddyn yn rhy ddrud, ac yntau yn bur ddiddefnydd gyda pheth o'r fath, y mae ei brofedigaethau yn dechreu yn awchus. Y mae yn ofni i bob peth fyned yn ddrylliau yn llongddrylliad am y byd, y grefydd, a'r weinidogaeth. Ah, y mae hwn yn amser enbyd. Dyma wynt cryf, dyma fôr garw! Y mae yn methu myned nemawr o gartref, y mae yn methu pregethu! Ei ysbryd sydd yn llesmeirio; y dyn duwiol, a'r gweinidog ffyddlon sydd yn mron tori ei galon; a'i anwyl wraig, wrth geisio ei gysuro, yn sefyll yn llwydaidd a gwelw uwch ei ben. Gwelwch ef yn gweddio, clywch ei ruddfan ar Dduw, yr hwn oedd abl i'w waredu o'r awr hono. Pa galon all edrych heb waedu? Yn y cyfyngderau hyn cyfryngodd Rhagluniaeth ddwyfol, rhyddhawyd ef o'i gadwynau, achubwyd ef a Mrs. Richard o'r llong ddrylliedig; ond am y taclau, a'r rhan fwyaf o'r llwyth, collwyd hwynt yn y dyfnder. Fe allai, serch hyny, fod lles os nid mel yn ysgerbwd y llew hwn, canys fel yr ydym yn deall, y mae profedigaethau amserol yn troi yn fynych yn llesâd a gogoniant tragywyddol. Heblaw llawer o brofedigaethau mawrion yn ysbaid y blynyddau hyn, cafodd beth cysuron hefyd; canys er cynddrwg yw profedigaethau y byd, nid profedigaethau yw y cwbl; y mae cysuron lawer i'w cael, onide byddem yn anobeithiol bob amser, ac o ganlyniad yn ddiwerth i ni ein hunain ac i gymdeithas. Pan y mae y wybr yn ddu ac yn guchiog, yn bygwth gwlaw mawr i foddi yr holl fyd, bydd man glas megys lled llaw yn ymddangos yn rhyw le yn arwydd tywydd teg eto, ac na foddai y ddaear y tro hwn. Fel y gwelsom er ys ychydig yn ol, dymunodd lawer gwaith ar ei liniau gael mab yn gyntafanedig, a llawer gwaith wedi hyny am i'r mab hwnw gael ei achub, a'i neillduo at waith yr Arglwydd, a rhodio ger ei fron holl ddyddiau ei fywyd mewn ephod lian. Yn Drellewelyn, Maenorowen, Mehefin 3, 1820, anrhegwyd ef â mab yn ol dymuniad ei galon, a galwyd ef David Jones, ar ol y Parch. David Jones, Llangan, yr hwn, fel y gwelsom, oedd yn briod â modryb Mrs. Richard, gyda'r hon y cadwyd hi, a chyda'r hon ydoedd pan briododd. Yr ydym yn meddwl i Mr. Richard gael ei ail ddymuniad hefyd mewn perthynas i'r mab hwn, sef ei fod yn dduwiol, ac yn gysegredig i waith yr Arglwydd drwy ei wasanaethu yn ngweinidogaeth yr efengyl. Cafodd Mr. Richard weled hyn mewn rhan, er nad yn gwbl oll, cyn ei ymadawiad. Cafodd weled Mr. David Jones yn ddyn ieuanc duwiol, gwybodus, dysgedig, a phrydferth cyn ei angau; eithr wedi hyny y dechreuodd ar waith y weinidogaeth. Y mae yn debyg fod tuedd Mr. D. Jones Richard at y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, ac astudiodd at hyny; ond yn gymaint nad oedd ei dad yn cydymdeimlo â'r amcan, ni chymerodd ei ordeinio nes ar ol ei farwolaeth, er ei fod wedi myned trwy ei astudiaeth ychydig o flynyddoedd cyn hyny. Yr oedd hyn yn dangos gwir fawredd mewn parchu teimlad tad. Beth bynag, wedi marw ei dad, cymerodd ei ordeinio yn ol trefn Eglwys Loegr, lle y mae yn awr yn weinidog cyfrifol. Er fod y Parch. David Jones Richard yn cael ei ystyried yn ddyn call, gwybodus, a dysgedig, er hyny nid yw yn perchenogi dawn a galluoedd pregethu ei dad anrhydeddus. Y gwirionedd yw, pwy sydd yn perchenogi y gallu i bregethu ag oedd yn Richard, Abergwaen? Y mae yn anffortunus iawn i ddyn ieuanc a fo yn cychwyn ar bregethu i fod yn fab, nac yn frawd ychwaith, i un ag oedd wedi codi i fod yn ddyn oes a chenedl, canys y mae y bobl yn myned i gydmaru y dyn ieuanc â'i dad, nid â dynion ieuainc eraill. Pan y bydd dynion ieuainc eraill yn cael siarad am danynt, cydmerir hwynt â'u cyfoedion yn gyffredin; ond pan eir i edrych ar ddyn ieuane sydd yn fab i un o enwogion oes, eir i edrych am holl fawredd y tad yn y mab; ac os na cheir hyny dywedir, "O, nid yw yn debyg i'w dad, ac ni fydd byth;" a dyna hwnw wedi ei gondemnio, nid am nad yw yn gyfartal i'w gyfoedion, ond am nad yw gystal a'i dad. Y mae peth fel hyn yn dra anfanteisiol i ddyn ieuanc, ac eto yn rhyw fodd, G y mae yn beth rhyfedd na fyddai hen ddynion yn gosod eu synwyrau ar waith wrth farnu, gan ystyried pethau fel hyn. Symudodd Mr. Richard o Drellewelyn, fel y gwelsom, i'r Cnwcca, yn agos i Drefdraeth, lle y bu yn helynt y tyddyn hwnw, a lle y cafodd, fe allai, ei ofidiau mwyaf; ond gyda llaw cafodd yno ryw gysuron hefyd; canys Chwefror 3ydd, 1822, y ganwyd Bridget Hannah, ei anwyl ferch, yr hon fu yn gysur iddo hyd y diwedd. Hon yw ei anwyl Bridget y sonia mor fynych am dani, ac am yr hon y cawn glywed ychwaneg yn fuan o'i enau ef ei hun, canys yr ydym am ei osod, hyd y medrom, i ddyweyd pob peth drosto ei hun. Yr oedd hon yr un ffunud a'i thad; ni welsom ferch erioed mor debyg i ddyn ag oedd Bridget i'w thad. Yr oedd ei thrwyn yr un peth; braidd na fuasech yn meddwl wrth ei gweled ei bod wedi cipio ei drwyn ef, a'i roi ar ei gwyneb ei hun. Yr oedd y llygaid hefyd yr un peth, a'r un ffurf; yn fawrion, treiddgar; ar y wyneb yn dangos meddylgarwch, synwyr, a threiddgarwch. Yr ydym yn cofio ei gweled mewn cynulleidfa o ddau neu dri chant o bobl am y tro cyntaf, ac nid oedd yn bosibl peidio ei hadnabod. Yr oedd pob symudiad, gwefus a llygad, yn ddelw Mr. Richard, Abergwaen. Yr hyn oedd yn fwy na'r cwbl, trodd allan yn ferch ieuane dduwiol, hoff o foddion gras a dyledswyddau crefydd, ac yr oedd ei gofal am ei thad a'i mam y fath, nes yr oedd yn teimlo pleser mewn gwneyd ei hun yn aberth i'w cysur. Dau lygad ei hanwyl dad ydoedd, ac ni bydd yn coffa braidd byth yn ei ysgrifeniadau am dani ond o dan yr enw, "Fy anwyl Bridget." Wedi symud yn ol o'r fferm hono i Abergwaen, lle y terfynodd ei ddyddiau, ganwyd yn Mehefin 6, 1826, merch arall, yr hon a alwyd Margaret, yr hon a gladdwyd Hydref 31, 1826. Gwelwn, gan hyny, mai dau blentyn godwyd i faintioli, David Jones a'i anwyl Bridget. O'r flwyddyn 1828 hyd y flwyddyn 1850 y mae bywyd Mr. Richard yn fwy llyfn, er iddo gyfarfod â llawer o brofedigaethau, ond profedigaethau oeddynt gan mwyaf mewn cysylltiad ag achos crefydd; yn lleol ac yn gyfundebol. Siomedigaethau mewn dynion, dyoddefiadau oddiwrth hen gyfeillion, a llawer o bethau cyffelyb; y llythyrau mewn cysylltiad â'r cyfryw bethau ni wnant les i neb, am hyny yr ydym yn eu dedfrydu i ebargofiant. Darllen, myfyrio, a phregethu oedd prif orchwylion ei fywyd yn y blynyddoedd hyny; ac yn wir, nid ydoedd o werth at ddim arall ychwaith. Wrth edrych trwy ei ysgrifeniadau, yr ydym yn ei gael weithiau yn Llundain, Bristol, a threfydd Lloegr; weithiau yn y sir hon, ac weithiau y sir arall yn Neheudir Cymru, a'r holl wlad yn ymdyru i wrando; weithiau ar gyhoeddiad trwy y Gogledd, yn y Gymanfa hon ac yn y Gymanfa arall; dyna fel y treuliai y blynyddoedd hyn. Byddai y bobl yn teimlo siomedigaeth wedi myned i Gymanfa, os na fyddai ef yno; ac yn wir, yr oedd yn anmhosibl i laweroedd ei glywed byth os na chlywsant ef mewn Cymanfa. Digon tebyg fod dynion yn cerdded ugeiniau o filldiroedd i Gymanfaoedd y dyddiau hyny gyda'r dyben o glywed y ddau Richard a Mr. Evans, Llwynffortun, yn pregethu; ac yr oedd yn anhawdd iddynt wneyd gwell gwasanaeth o'u traed. Llafuriodd Mr. Richard hyd y gallodd, a llawer mwy na'i allu hefyd, i bregethu yr efengyl; ond yr ydym yn teimlo yn annedwydd na fuasai ryw beth yn fwy cyfartal i'w lafur a'i deilyngdod yn cael ei ddarpar. Eithr felly yr oedd pethau y pryd hwnw, ac nid oes genym ddim i wneyd ond wylo, yr hyn sydd yn ddigon hawdd uwch ben ei fedd; ond wylo mewn gobaith serch hyny fod ei "wobr yn fawr yn y nefoedd." Yr oedd llawer yn meddwl fod Mr. Richard yn gyfoethog, wrth weled ei ymddangosiad cyfrifol, a chlywed hefyd, y mae yn ddigon tebyg, iddo briodi gwraig gyfoethog, ac nad oedd arno eisiau dim. Mae yn wir fod ychydig yn flynyddol gan Mrs. Richard, ychydig mewn cymhariaeth; ac oni buasai hyny, y mae yn fwy na thebyg na fuasent uwchlaw angen; canys ni dderbyniodd haner digon erioed oddiwrth y weinidogaeth i'w gadw yn fyw. Yr oedd efe yn rhy fawr i fyned o gwmpas ond mewn ffordd anrhydeddus, am hyny yr oedd yn ddarostyngedig i lawer o ofidiau. Beth bynag, ni lwfrhaodd; daliodd yn gryf yn nghanol anhawsderau mawrion, ac fel angel nerthol ehedai yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. Yn gymaint a'n bod yn awr yn rhyw le o'r flwyddyn 1828 i 1850, pan oedd yn nghanol ei boblogrwydd, fe allai na fydd yn annyddorol i ni wneyd ymgais at ddesgrifiad o Mr. R. fel dyn ac fel pregethwr; ac felly symudwn at y benod nesaf.<noinclude><references/></noinclude> ifr1fxfpm92srn6voh622u26perqqup Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/177 104 84586 164364 2026-05-07T19:59:36Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD VIII. Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes. Y MAE miloedd yn awr yn ymylu ar fod yn hen grefyddwyr yn Nghymru, ie, yn y Deheudir chwaithach hyny, na chlywsant y Parch. T. Richard, Abergwaen, yn pregethu erioed. Er nad yw wedi ymadael â'r fuchedd hon ond rhyw chwech neu saith mlynedd, eto cenedlaeth arall welir yn rhodio y ddaear, y rhai nid adwaenent Richard. Y mae yn wir iddo fethu myned nemawr o gartref gan afiechyd a... 164364 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD VIII. Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes. Y MAE miloedd yn awr yn ymylu ar fod yn hen grefyddwyr yn Nghymru, ie, yn y Deheudir chwaithach hyny, na chlywsant y Parch. T. Richard, Abergwaen, yn pregethu erioed. Er nad yw wedi ymadael â'r fuchedd hon ond rhyw chwech neu saith mlynedd, eto cenedlaeth arall welir yn rhodio y ddaear, y rhai nid adwaenent Richard. Y mae yn wir iddo fethu myned nemawr o gartref gan afiechyd amryw flynyddoedd cyn ei ymadawiad, fel y gellir dweyd iddo farw i gymdeithas Fethodistaidd ryw ddeng mlynedd cyn hyny; ac y mae, fel y gwyddoch, ryw ugain mlynedd yn gwneyd gwahaniaeth rhyfeddol yn nghylchoedd cymdeithasol ein byd cyfnewidiol ni. Ah! y mae cymaint a hyny yn troi bron pob peth wyneb i waered, gan roi gwedd newydd i gymdeithas wladol a chrefyddol. Ugain mlynedd! y mae y rhai oedd yn hen ar ddechreu yr ugain mlynedd diweddaf bron wedi marw allan i gyd, y rhai oedd yn ieuane y pryd hwnw ydynt heddyw yn hen; a'r rhai oedd yn blant sydd yn awr yn ddynion ieuainc. Mor chwyrn y mae hen gerbyd amser yn gyru ei olwynion! ac unwaith yr eir o danynt, yr ydys yn suddo i ebargofiant buan. Yn mhen ychydig o flynyddoedd eto, ni fydd neb i gael glywodd Mr. Richard yn pregethu; yr enw anwyl ag oedd yn codi y miloedd o bob cyfeiriad i'w wrando, ni bydd neb yn gwybod dim am dano ond mewn traddodiad, ac ar ddalenau hanesyddiaeth. Wel, felly y mae hen amser yn gyru yn y blaen, fel mewn brys gwyllt, at ryw gyfnewidiad, i fwy o sefydlawgrwydd. Y mae yn rhaid i ni ymdrech, gan hyny, i wneyd darluniad mor berffaith ag y medrom o'r dyn a'r pregethwr, fel y gallo y cyfryw na welodd ac na chlywodd ef ffurfio rhyw ddirnadaeth o hono. Y mae yn anmhosibl, tebygem ni, gael gwell darlun o'r dyn na'r un sydd yn nechreu y llyfr hwn-y tebygolrwydd sydd yn ymylu ar berffeithrwydd. Cenfydd yr edrychydd ar unwaith fod hwn wedi ei wneyd pan ydoedd yn hen, wedi ystormydd yn agos i driugain a deg chwythu yn gryf arno, ac yn agos cymaint a hyny o lafur diorphwys ac ymroddgar gyda gwaith mawr y weinidogaeth. Yn y darlun hwn chwi welwch ei ysgwyddau yn ymgrynhoi, ei war yn plygu, ei ben yn gogwyddo tua'r ddaear, a'r pren almon yn ei lawn flodau. Dewisasom hwn, am mai fel hyn yr adnabyddasom ni ef, ac felly yr adnabyddodd y rhan fwyaf sydd ar y ddaear yn bresenol ef hefyd. Mae ychydig yn ei gofio yn nerth ei ddydd, yn ddyn cryf, coch, glân, gwrol; ond yn wir y mae y dosbarth hwnw o ddynoliaeth wedi myned yn hynod deneu. Y mae darlun o hono ar gael pan o gwmpas deugain oed, a dywedir fod hwnw yn dda iawn; ond pan y gosodir y dyn deugain a'r dyn triugain a deg yn ymyl eu gilydd y mae y gwahaniaeth rhyngddynt yn rhyfeddol. Beth bynag o gysur all fod wedi dyfod i'r ddynoliaeth trwy ddarganfyddiadau newyddion mewn tynu lluniau, nid ydym yn mhell o gredu fod peth annghysur hefyd, yn enwedig i'r dynion eu hunain. Gall fod yn bleser i gymdeithas; gall dynion gael hyfrydwch mewn edrych a nodi allan y gwahaniaeth sydd rhwng y darlun gymerwyd eleni a'r un gymerwyd er ys deng mlynedd yn ol, ond nid yw hyny ond cysur gwan i'r dyn ei hunan. Cyn i'r gelfyddyd o arlunio ddyfod mor rhad, yr oedd dynion yn heneiddio yn raddol o ddydd i ddydd, ac yn teimlo eu hunain yn ieuanc o hyd; nid oeddynt yn meddwl fod nemawr o gyfnewidiad ynddynt; a phan edrychent mewn drych, yr oeddynt er ys llawer dydd wedi hen annghofio pa fath rai oeddynt yn nyddiau eu hieuenctyd. Yr oedd dynion yn teimlo yn fwy cysurus o lawer felly, tebygem. Eithr yn awr, fel y gwelwch, dacw lun wedi ei wneyd er ys ugain mlynedd yn ol, a dyna un arall a wnawd eleni; y cyntaf yn fachgen bochgoch, pen-felyn, y diweddaf yn hen wr llwyd, penwyn, crebychaidd, yn ddigon i beri i ddyn grynu wrth edrych ar ei lun ei hun. Y mae rhyw fanteision yn y peth i gymdeithas, yn enwedig ar ol i'r dyn farw, canys y mae pobl yn cael lle teg i farnu pa fath ydoedd o ran ei gorph; ac yn wir, y maent yn dyweyd fod rhyw beth yn y corph ag sydd yn pregethu y meddwl yn lled effeithiol. Yr oedd Mr. Richard o daldra cyffredin; nid yn fyr, ac nid yn dal iawn, rhyw le tua phump troedfedd a naw modfedd, o wneuthuriad cadarn, yr holl gorph yn hytrach yn arwyddo cryfder. Felly yr oedd yn nerth ei ddydd. Yr oedd yn un o'r dynion prydferthaf, o ran ymddangosiad corphorol, a welwyd mewn oes, neu yn mhlith cenedlaeth o ddynion. Yr oedd ei ymddangosiad cyntaf yn y pwlpud, neu ar esgynlawr y cae yn y Gymanfa, yn sefydlu pob llygad arno mewn mynyd. Yr ydym yn cofio y tro cyntaf y gwelsom ef erioed iddo dynu ein sylw mewn moment, pan yn gwneyd ei ymddangosiad ar yr esgynlawr mewn Cymanfa; ac nid yn unig nyni, ond pawb. Y Gymanfa gyntaf y buom erioed ynddi oedd hono, ac nid oedd yntau y pryd hwnw uwchlaw wyth a deugain oed. Pregethodd hen wr parchus o'r Gogledd yn gyntaf yn hynod flasus, yn awr ac eilwaith; ac yr oeddem yn meddwl oll ei fod yn bregethwr mawr; yr oeddem yn teimlo yn gysurus; ar yr un pryd nid oedd dim mawr iawn yn ein taro, nes ein synu, a bron myned yn ddwl wrth odidawgrwydd y gweledigaethau. Ond ar ei ol dacw wr boneddig yn codi i fyny gyda'r prydferthaf a welsom erioed, ac yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron rhyw bymtheg mil o ddynion. Yr ydym yn meddwl yn sicr mai Mr. Evans, Llwynffortun, ac yntau oedd y ddau mwyaf prydferth yn symud ac yn dyfod i wydd torf o bobl o neb a welsom. Yr oedd y pryd hwnw yn sefyll yn syth, yn llawn, heb fod yn dew iawn, a'r cap du ar ei ben, fel y gwelir ef yn y darlun yn nechreu y llyfr. Y mae yn sefyll o flaen y dyrfa fel angel wedi disgyn oddiuchod; canys ymddangosai yn ei holl agweddiad fel cenad anfonedig oddiwrth Dduw. Ei wyneb oedd yn hardd iawn; gwefusau tlysion, a rhes o ddanedd fel ifori yn ymddangos pan siaradai. Ei lygaid oedd yn fawrion, ac yn amlwg iawn ar wyneb y croen, ond yn safon o brydferthwch; a phan y taflai hwynt yn esgeulus yma a thraw, yr oedd fel pe buasai meddylgarwch yn melltenu ac yn saethu o bob cyfeiriad. Yr oedd ei brydferthwch yn greadigaeth, ac nid oedd wedi ei andwyo drwy arferion annaturiol. Na; yr ydoedd yn gwisgo creadigaeth yn weddus, heb ei dirdynu na'i hanafu. Y mae llawer pregethwr, er ei fod wedi cael dyn oddiallan gweddol dda gan y Creawdwr, a phe gwisgid natur yn naturiol, byddai yn ymylu af brydferthwch; ond yn lle gwneyd hyny, y mae yn ei thynu hi ar hyd ac am draws, nes y mae y peth nesaf at anmhosibl i ddeall beth oedd y ffurf gyntefig arni. Gwnaed y Creawdwr fel y myno yn y byd, bydd rhyw bobl yn meddwl y gallant wella hyny; a dyna lle y maent yn gwneyd pob lluniau yn y byd arnynt eu hunain, nes y mae yn anmhosibl braidd a dyfalu beth oedd ffurf greadigol wyneb ac ysgwyddau y dyn. Bydd rhai fel pe baent am wneyd eu gyddfau yn hwy, rhai am droi eu trwynau ar gam, yn haner cau eu llygaid, ac yn gwneyd y gwynebau mwyaf cuchiog a welsoch erioed. Gadewch bethau fel y maent, canys nis gwnewch hwynt byth yn well wrth fyned i ryfel a threfn natur fel yna. Edrychwch ar Mr. Richard yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron miloedd; dyna ddyn prydferth; dyna dlws! Dyna ddyn natur; nid yw yn ymladd nac yn ceisio gŵyrdroi naturiaeth i'w dinystr ei hun; na, dacw hi yn ei phurdeb naturiol, yn rhedeg fel yr afon loyw. Mor naturiol y mae y llygad yn edrych, ond yn syml; mor naturiol y mae y gwefusau yn chwareu, ac mor naturiol y gwelir y wên siriol yn chwareu fel adenydd angel ar ei ruddiau. Dyna yn sefyll o'ch blaen y Parch. T. Richard, Abergwaen, un o brif bregethwyr Cymru, un o brif addurniadau y pwlpud Cymraeg. Y mae wedi ei greu at y pwrpas; a gras wedi ei gymeryd mewn llaw i orphen ei lunio at waith mawr y weinidogaeth yn Nghymru. Y mae bron yn oferedd i ni ddyweyd ei fod yn bregethwr mawr; canys gobeithio eich bod wedi ei ddylyn gyda ni o'r dechreu; ac yna yn ddiamheu yr ydych yn argyhoeddedig nad oes ryw lawer o bethau bychain o'i gwmpas. Yr oedd pob peth o'i gychwyn, a phob ffordd y teithiodd o dan argraffiadau o'i fawredd. Yr oedd yn anmhosibl gwneyd dyn fel hyn yn fach, canys yr oedd wedi ei greu at fod yn fawr, a than lawer o anfanteision cododd i fod yn un o brif bregethwyr Cymru. "Y pwnc, os gwelwch yn dda, cewch fyned y ffordd hon eto. Mr. Richard yn pregethu yw y pwnc, canys gwnawd rhyw fath o ddesgrifiad o'i berson, a gwelsom ef yn codi ac yn dyfod yn y blaen ar yr esgynlawr i'r man amcanedig at yr areithfa; eithr ni chlywsom ef yn dyweyd un gair." Wel, y mae desgrifio Mr. Richard yn pregethu yn beth anhawdd iawn i'r rhai na chlywsant ef. Yr ydym yn ofni cychwyn gyda'r gorchwyl rhag ofn methiant, canys y mae hyny yn llawer mwy tebyg na llwyddiant. Gwyn fyd na fuasai pawb wedi ei glywed, fel y gallem ymesgeusodi, a throi i'r cysgod, a'ch gadael mewn dystawrwydd i gofio hen odfaon y dyddiau gynt, pan yr oeddech weithiau yn crynu fel dail y coed, weithiau yn dychrynu fel ewigod, weithiau yn wylo o lawenydd, weithiau yn neidio heb fedru ymatal, weithiau yn gorfoleddu o dan obaith gogoniant Duw, weithiau yn gwaeddi concwest uwch pob ofnau, o dan ddylanwad gweinidogaeth nerthol dyn Duw. I chwi a'u clywsant, byddai hyny yn well nag un desgrifiad ag mae yn bosibl ei wneyd a phapyr ac inc. Yr ydym mewn lle cyfyng iawn yn awr; yn rhyw beth fel pe baem yn myned i ddesgrifio gogoniant y mellt i ddyn dall, swn ofnadwy y daran i ddyn byddar, mawredd ac ymchwydd y môr i ddyn mynyddig na welodd för erioed; eto gwell yw ceisio dyweyd rhyw beth wedi ein harwain i'r fan hyn. Dacw Mr. Richard o'ch blaen yn ddyn natur, ac yn ddyn byw; nid dyn celfyddyd, a dyn marw. O dyna brydferth! Mae celfyddyd yn burion; ond nid yw yn dyfod yn agos at natur; caboliad ydyw, nid creadigaeth; gwaith dynion, nid gwaith Duw; marwolaeth ydyw, nid bywyd. Cyn bod y pregethwr sydd yn awr ger eich bron yn agor ei enau, y mae y miloedd yn edrych arno fel rhyw un wedi disgyn o'r bydoedd fry; y mae pob llygad arno, a phob perchen anadı fel wedi darostwng ei unig anadl o dan ddysgyblaeth lem, canys yn ddystaw iawn rhaid iddo fod, araf rhaid iddo gerdded, a gofalu na fyddo y fath beth a phesychiad i aflonyddu y dystawrwydd dwfn. Ymwasgai y dyrfa yn annghydwybodol yn y blaen, tua chyfeiriad yr esgynlawr, pan y clywid y pregethwr yn tori y dystawrwydd trwy roi hymn allan, gyda llais clir, peraidd, naturiol, heb na chlem na chesail, na bwyta na chnoi ei eiriau, na gwneuthur un math o wynebau. Y mae pawb trwy y dorf yn ddystaw, a phawb yn clywed; ac y mae hyd yn oed rhoddiad y penill allan yn cynwys rhyw fawredd, ac fel yn rhagddarparu y gynulleidfa ar gyfer y peth sydd yn canlyn. Clywsom lawer yn rhoi y penill yna o'r blaen, "O anfon di yr Ysbryd Glân," &c., ond nid neb fel efe; yr oedd fel pe treiddiai y geiriau drwy y nefoedd yn ei ddull ef o'u dyweyd. Gyda llais clir, heb yr un dôn na llusg, y mae yn darllen y testun ddwywaith, ac yn araf yn ei egluro a'i osod yn ei gysylltiadau priodol, gan ei ranu i wahanol benau yn hynod o ddeheuig. Ond y peth welsoch chwi o'r cychwyn oedd gwas Duw yn chwilio am weinidogaeth y testun hwn at ddynion. Y mae ei hunan-feddiant a'i gartrefolrwydd yn ardderchog. Nid yw mewn brys, nid yw yn wyllt, nid yw byth yn ymddangos yn derfysglyd; ymddengys heb bryder na braw, heb ddiffyg nac eisiau dim, pob peth wrth law, a llaw i gydio yn mhob peth. Y mae yn gartrefol hollol yn pregethu; fel meistr mawr ar y gwaith, nid fel egwyddorwas; fel yn ei elfen naturiol, yn debyg i'r aderyn yn codi i fyny yn ddiorchest i'r awyr dan ganu, neu fel y pysgodyn o dan dunelli o ddwfr, eithr yn "chwareu ynddo." Boddi ynddo fuasai pob peth nad oedd yn perthyn i'r elfen ddwfr, eithr chwareu ac ym<noinclude><references/></noinclude> c2h0efcjpl2hz5k2faor9imgdudsyzr 164366 164364 2026-05-07T20:02:18Z AlwynapHuw 1710 Amnewidiwyd y cynnwys gyda "" 164366 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 491m8739jwlpxcta2lagmxbnsqcrle8 164368 164366 2026-05-07T20:03:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164368 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wrth edrych trwy ei ysgrifeniadau, yr ydym yn ei gael weithiau yn Llundain, Bristol, a threfydd Lloegr; weithiau yn y sir hon, ac weithiau y sir arall yn Neheudir Cymru, a'r holl wlad yn ymdyru i wrando; weithiau ar gyhoeddiad trwy y Gogledd, yn y Gymanfa hon ac yn y Gymanfa arall; dyna fel y treuliai y blynyddoedd hyn. Byddai y bobl yn teimlo siomedigaeth wedi myned i Gymanfa, os na fyddai ef yno; ac yn wir, yr oedd yn anmhosibl i laweroedd ei glywed byth os na chlywsant ef mewn Cymanfa. Digon tebyg fod dynion yn cerdded ugeiniau o filldiroedd i Gymanfaoedd y dyddiau hyny gyda'r dyben o glywed y ddau Richard a Mr. Evans, Llwynffortun, yn pregethu; ac yr oedd yn anhawdd iddynt wneyd gwell gwasanaeth o'u traed. Llafuriodd Mr. Richard hyd y gallodd, a llawer mwy na'i allu hefyd, i bregethu yr efengyl; ond yr ydym yn teimlo yn annedwydd na fuasai ryw beth yn fwy cyfartal i'w lafur a'i deilyngdod yn cael ei ddarpar. Eithr felly yr oedd pethau y pryd hwnw, ac nid oes genym ddim i wneyd ond wylo, yr hyn sydd yn ddigon hawdd uwch ben ei fedd; ond wylo mewn gobaith serch hyny fod ei "wobr yn fawr yn y nefoedd." Yr oedd llawer yn meddwl fod Mr. Richard yn gyfoethog, wrth weled ei ymddangosiad cyfrifol, a chlywed hefyd, y mae yn ddigon tebyg, iddo briodi gwraig gyfoethog, ac nad oedd arno eisiau dim. Mae yn wir fod ychydig yn flynyddol gan Mrs. Richard, ychydig mewn cymhariaeth; ac oni buasai hyny, y mae yn fwy na thebyg na fuasent uwchlaw angen; canys ni dderbyniodd haner digon erioed oddiwrth y weinidogaeth i'w gadw yn fyw. Yr oedd efe yn rhy fawr i fyned o gwmpas ond mewn ffordd anrhydeddus, am hyny yr oedd yn ddarostyngedig i lawer o ofidiau. Beth bynag, ni lwfrhaodd; daliodd yn gryf yn nghanol anhawsderau mawrion, ac fel angel nerthol ehedai yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. Yn gymaint a'n bod yn awr yn rhyw le o'r flwyddyn 1828 i 1850, pan oedd yn nghanol ei boblogrwydd, fe allai na fydd yn annyddorol i ni wneyd ymgais at ddesgrifiad o Mr. R. fel dyn ac fel pregethwr; ac felly symudwn at y benod nesaf.<noinclude><references/></noinclude> nt5q0v7c57w0qmitgxxq6hsodfwv5ja Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/183 104 84587 164365 2026-05-07T20:01:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164365 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brancio ynddo y bydd y pysgodyn. Yr oedd Richard yn pregethu yn debyg iawn i'r pysgodyn yn y dwfr; yr oedd yn chwareu yn yr elfen anfarwol; ïe, ymbranciai ynddo. Nis gallai efe ymollwng i chwareu ac ymbrancio yn afonydd a ffrydiau dyfroedd y byd, yr oedd yn colli ei anadl yno, nid oedd gartref yn y manau hyny: yn nyfroedd pur gweinidogaeth yr efengyl yr oedd ei enaid ef yn myned yn chwareugar. Nid oedd eisiau gair byth arno, er y mae yn wir, byddai yn gwneyd defnydd anmhwrpasol iawn o eiriau yn fynych; yr oedd wedi arfer ei hun felly, fel yr oedd wedi myned yn fai, ac yn archwaeth isel yn ngolwg llawer; ond gwaeth beth a fo, yr oedd hyd yn oed y pethau a edrychid arnynt yn feius yn ei weddu ef, neu wedi dyfod felly trwy arferiad. Ni fuasai Mr. Richard yn Mr. Richard heb y pethau hyn, yn gymaint a'i fod wedi arfer eu gwisgo. Yr oedd ei ffraethineb a'i arabedd y peth nesaf at fod yn annherfynol; siaradai bob peth, ac am bob peth, heb orchest na thrais ar natur. Eithr, fel yr awgrymasom, ymddangosai y pregethwr yn ei fynediad yn y blaen fel yn chwilio yn ddyfal am weinidogaeth y testun at y bobl, oblegyd dyna oedd ei brif bwnc ef, dyfod â'r efengyl a'r bobl at eu gilydd. Wrth fyned yn araf yn y blaen, gwelsech ef yn gweithio y ddau nes nes at y naill y llall yn gyson, nes o'r diwedd taflu y naill i'r llall, nes oedd y cwbl yn ymferwi yn ffrochwyllt, ac yntau yn berwi gyda hwynt. Os efengylu a wna, y mae ei ysbryd toddedig yn treiddio drwy ei lais melusber, nes codi deng mil o ddynion ar eu gwadnau; os taranu a wna, y mae hyd yn oed yr annuwiolion mwyaf yn crynu ger ei fron. Yr oedd ei lais mor beraidd a dim glywsoch chwi erioed, ac yr oedd yntau yn arglwydd arno; nid oedd yn gwaeddi fel dyn gwallgof, heb na threfn nac amser; nid oedd yn canu, fel dyn ar ben ffair; nid oedd yn oernadu ac yn gwneyd rhyw ystumiau defosiynol. Na; yr oedd yn arglwydd ar ei waeddi, ar ei ganu, ac ar ei holl symudiadau. Pan y bloeddiai, byddai yn ofnadwy o gyrhaeddgar; a phan y tarawai rhyw dant seiniadol, yr oedd fel pe byddai mynyddoedd o rew yn toddi ar unwaith, a haf yn cael ei wysio i mewn cyn bod y gwanwyn wedi cael amser i gilio i'r cysgod. Pan y gwelsech ei law yn myned i fyny i'w ben, a'i thynu i lawr dros y cap du, ei thaflu yn esgeulus fel o'r tu ol, a'i thynu eilwaith dros y cap, yr oedd ei ysbryd ei hun yn myned o dan doddiant yr amser hwnw; ac yn y teimlad hwnw rhoddai ei lais peraidd allan yn grynedig gan deimlad, a thrwy hyny greu yr un teimlad mewn deng mil o ddynion. Byddai miloedd yn wylo fel y gwlaw heb wybod am beth, ond yn unig fod rhyw deimlad wedi ei gynyrchu sydd yn rhy hapus i chwerthin; wylo yw yr hapusrwydd mwyaf o dan yr effeithiau. Eithr y mae yno filoedd, serch hyny, yn mwynhau yr efengyl bur, heddwch drwy waed y groes, drwy ei weinidogaeth hyfryd. Y peth tebycaf erioed a welsoch i gawod o wlaw mis Ebrill oedd cwrdd fel hyn, pan fyddai Mr. Richard mewn llawn hwyl. Pan y byddo cawod Ebrill yn disgyn yn boeth yn mron o'r nefoedd, y gwelir holl brenau y coed yn curo dwylaw, a phob glaswelltyn yn codi ei ben crymedig, a than effeithiau y gawod yn gwaeddi allan a llais gwanaidd ond dealladwy, "Mi a fyddaf fyw byth." Rhyw beth cyffelyb y byddai yr eneidiau o dan athrawiaeth wlawiog Mr. Richard; yr oeddynt yn ymgolli mewn hwyl, yn curo dwylaw, ac yn curo traed hefyd; yn gwaeddi concwest dragywyddol o dan effeithiau y gawod, ac fel y glaswellt, yn codi eu penau i fyny, ac yn gwaeddi yn wyneb gorseddfaine Duw, "Ni a fyddwn byw byth." Byddai yn taranu ar brydiau, a gwnelai hyny yr un mor effeithiol; treiddiai ei lais gydag awdurdod i ddirgelion eneidiau dynion, nes y byddai yr annuwiol a'r pechadur fel plant o'i flaen. Clywsom ef felly ein hunain; am hyny gallwn dystiolaethu i'r gwirionedd. Yr ydym yn cofio yn dda am Gymanfa gynaliwyd yn Morganwg mewn lle a elwir Caerphili, a ni gofiwn byth am hono, er fod llawer un ddiweddarach wedi myned i ebargofiant. Yr oeddem y pryd hwnw yn fachgenaidd iawn, newydd gychwyn gyda chrefydd. Yr oedd yn un o'r Cymanfaoedd mwyaf effeithiol ag y buom ynddi erioed. Yr oedd y Cymro Gwyllt yno, yn pregethu ar y gair, "Efe a roes i ni feddwl," gyda'r peth mwyaf effeithiol a welwyd; ae yr oedd ef ei hun yn dyweyd mai rhyw ddwywaith o'r blaen y teimlodd efe y fath beth yn ei oes. Pregethodd Mr. Harris, Hwlffordd y pryd hwnw, ar y gair, "Tra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac aew, efe a ddiangodd;" odfa annghyffredinol oedd hon hefyd. Ond yr ydym yn cofio am ddeg o'r gloch, pan gododd Richard i fyny, a'r miloedd pobl o'i flaen ar dwyn Caerphili, o flaen y capel, fod rhyw olwg sobr iawn arno; yr oedd yn edrych fel angel Duw wedi dyfod i waered o'r nefoedd â chenadwri bwysig i'n byd ni. Amser y Gymanfa hono oedd y tro cyntaf i'r geri marwol (cholera) dori allan yn ein gwlad ni; ac yr oedd yn lladd yn ofnadwy, yn enwedig yn y gweithfeydd a'r trefydd. Yr oedd hyny hefyd yn weledig i bawb, mai y dynion mwyaf meddw oedd yn syrthio yn ebyrth gan mwyaf i'r clefyd dinystriol hwn. Beth bynag, wedi rhoi emyn i ganu, cymerodd ei destun yn araf, ond â llais treiddgar, fel yr oedd pawb trwy y dorf yn ei glywed, "Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd." Pregeth ofnadwy oedd hon; ac nid oedd neb, tebygem, beth bynag oedd eu cyflwr, nad oedd yn ei theimlo yn ofnadwy. Yr oedd y bobl gryfaf yn y dorf yn methu gwybod yn mha le yr oeddynt yn sefyll ar y pryd, tra yr oedd y pregethwr yn bloeddio fel udgorn, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." Yr oedd tafarn yn agos ar gyfer yr esgynlawr, ac yr oedd rhyw ddyhirod wedi myned i mewn yno i yfed ac ysmocio yn amser y cyfarfod; ond treiddiodd ei lais drwy y cwbl i mewn atynt; yr oeddynt yn ei glywed bob gair yn mhen tipyn, a'r nerth yn ofnadwy. Pan oeddynt uwch ben eu cwrw yr oedd yn danfon y testun gydag awdurdod atynt, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd," nes yr aeth pawb mor ddystaw a'r bedd. "Dyn ofnadwy yw hwna," ebe un; "dewch allan i ni gael ei weled;" ac allan a hwy yn benderfynol i sefyll yn gryf. Aethant â'u pibellau yn eu penau, a safasant dan ysmocio o flaen drws y dafarn, yn edrych tua'r stage. Y mae fel pe buasai yn cael ei gyfarwyddo ar unwaith i gyfeirio atynt; y mae yn troi ei wyneb tua chyfer y dafarn, yn estyn ei law allan tuag yno gan waeddi, "Mi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd;" nes oedd y dynion yn gwelwi, ac yn colli eu teimladau. "Yna," eb efe, "chwi y meddwon, chwi y rhai y mae eich holl fryd mewn tafarndai, chwi y rhai sydd yn eistedd yn eisteddfa y gwatwarwyr, clywch, y mae Duw y nefoedd yn dechreu anelu ei ddryll atoch yn y cholera ofnadwy sydd yn lladd wrth y canoedd. Fe gwymp llawer un fe allai, ond atoch chwi y meddwon y mae yn anelu; y mae blaen y dryll yn uniongyrchol yn gyfeiriol tuag atoch." Gyda hyny yr oedd ei lais yn treiddio drwy yr awyr, a'i floeddiadau i'w clywed yn mhell, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." Syrthiodd y pibellau o benau y dyhirod hyny heb yn wybod iddynt, ac yr oeddynt yn gwrando fel pe buasent wedi eu gwysio i wydd Duw, wedi colli pob teimlad ac ymwybodolrwydd. Mae cynyg desgrifiad ar y dyn mawr hwn yn ffaeledd. Fe allai y rhydd y sylwadau hyn ryw ddychymyg am dano. 132 PENOD IX. Penod i Bregethwyr. YMDDENGYS fod Mr. Richard yn dra hoff o ddywediadau byr a chynwysfawr ar bob peth, ac y mae ganddo luaws o honynt ar wahanol bethau y bywyd hwn a'r nesaf. Byddai yn gam â chymdeithas i beidio rhoi llawer o'r cyfryw ddywediadau yn y bywgraffiad, canys heblaw eglurhad o'r meddwl treiddgar, y maent yn wir berlau ynddynt eu hunain. Y maent fel ser dysglaer yn y ffurfafen feddyliol, ac y maent hefyd yn aml iawn o ran rhifedi. Gwelir hwynt yn serenu yn glaer, yn llachar, a gloyw, trwy ei holl ysgrifeniadau. Goleuadau ydynt, nad ydynt byth yn gwneyd eu hymddangosiad ond mewn cylchoedd mawrion; ac nid ydynt i'w gweled yn mhob oes. Yr oedd meddwl Mr. R. y fath, fel yr oedd yn llewyrchu allan, yn ddiorchest, dywyniadau ardderchog o oleuni ysblenydd yn barhaus. Ymddangosai cyfoeth ac amrywiaeth ei feddwl mor aruthrol, fel yr edrychid arno y peth nesaf i anhysbyddedig. O blith ei ddywediadau byrion a diarebol, yr ydym wedi casglu a ganlyn, ar bregethu a phregethwyr, am hyny yr ydym wedi galw y benod hon yn "Benod i bregethwyr." Fe all gweithiwr difefl, sydd yn iawn gyfranu gair y gwirionedd, fethu cael drws agored; fe all gweithiwr meflus, annhrefnus, gael drws agored. Nid yw methu cael drws agored yn un rheswm na phrawf yn erbyn iawn gyfranu; ac nid yw cael drws agored gan annhrefnus gyfranu, yn un rheswm na phrawf drosto; canys y mae Ilawer am y drws agored a gyfrifir gan ddynion, ar lawer math o amgylchiadau allanol yn unig; ond gall hyny fod heb gael drws agored gan Dduw i draethu ei holl gynghor. Eto dylid deall y gwahaniaeth ahwng drws agored nerth dynol, a drws agored nerth Ysbryd Duw yn cydweithredu a nerth a galluoedd dynol; y mae yn rhaid wrth y ddau at fod yn gyfan. Ni welwyd, ac ni welir yn bresenol, y defnyddiol iawn ond lle y mae profedigaethau mawr; canys y mae profedigaethau at dymheru ac at gyfansoddi, fel tymheru llestr i ddal ynddo; ac at ei gyfansoddi, a'i helaethu, canys y maent yn awchu y meddwl, yn esbonio y gair, ac yn egluro dirgelion. Nis gall llong o un maint fod heb fallast ynddi; mae y ballast i fod yn ol maint y llong. Er ei fod yn llai na'r llwyth, mae o gymaint defnydd, fel nas gellir bod hebddo at y Ilwyth mwyaf a'r gwerthfawrocaf. Felly y mae defnydd profedigaethau at ddefnyddioldeb. Megys bleiddiaid yn ngwisgoedd defaid yw pob math o ragrithwyr; a'r rhai gwaethaf, mwyaf eu niwed, yw pob math o bregethwyr annuwiol. Un math yw y rhai sydd mewn cyflwr annuwiol, yn ceisio dyweyd y gwirionedd mewn dull o bregethu, a'r dull hwnw yn tystio yn amlwg nad ydynt yn ei ddeall, ei gredu, na'i brofi, yr hyn sydd yn tueddu i galedi pawb a'u clywo. Math arall yw y rhai a gyfeiliornant oddiwrth yr ysgrythyrau, gan eu gŵyrdroi i'w dinystr eu hunain ac eraill. Math arall yw y rhai haerllug, rhyfygus i wrthwynebu gair yr Arglwydd â'u syniadau cnawdol eu hunain. Pregethwyr cnawdol yn ymdrin a phethau ysbrydol yw yr hawddaf, a'r cymhwysaf, a'r amlaf i bob cyfeiliornad. Y mae yn rhaid cael adnabyddiaeth o ysbrydolrwydd y gair at ysbrydoli y meddwl, at wreiddio a selio ynddo gymhwysder ysbrydol at bregethu. Dymuniadau enaid gwir bregethwr yw eredu ei bregeth yn fwy na neb, ymarfer ei bregeth yn fwy na neb, mwynhau ei bregeth yn fwy na neb. Mae yn gysur iddo fod y gwirionedd a draddodir yn lles i eraill; ond y mae yn llawer mwy cysur ei fod yn lles iddo ei hun. Mae y cysur ei fod yn lles i eraill heb fod yn lles iddo ei hun, yn profi fod y cysur hwnw yn gnawdol. Y ddau gyda'u gilydd yw yr iawn. Fel goruchwyliaeth y famaeth-cymeryd lluniaeth i roddi magwraeth. Mae cymaint o eisiau medru gwybod at ddeall pregeth ag at bregethu pregeth, canys yr un peth yw deall y ddau; fe all teilyngdod wrth ddamwain gael cymeradwyaeth, ond at iawn farn rhaid fod rheswm yn rheol. Pregeth yw athrawiaeth y testun, amrywiaeth y testun, gwreiddiolrwydd y testun, yn cael ei weithio allan; harddwch pregeth mewn traddodiad yw cof, hyawdledd, a threfn ymadrodd. Y mae cysylltiad achos ac effaith rhwng testun a phregeth; nid oes un testun i gael heb bregeth, ac nid oes bregeth i gael heb destun; yn y testun y mae defnyddiau cynwysiad pregeth. Testun a phregeth yn wahanol i'w gilydd yw anmhrydferthwch pregeth, ac sydd anadnabyddiaeth am anfoniad i bregethu; nid yw yr arferiad yn un rheol rheswm, canys y mae rheswm yn rheol i bob arferiad. Gwneyd gwaith dyledswydd heb esgeuluso, a gobeithio yn Nuw am lwyddo, yw trefn Duw am ei foddlonrwydd, am ei wyneb, am ei arddeliad, ac am lwyddiant; canys felly y dywed, "Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda, felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau." Ni ddylai un gradd o ymddibyniad fod ar y gwaith dyledswyddol, ac ni ddylai yr holl ymddibyniad ar Dduw leihau nac esgeuluso mewn un modd ar waith dyledswyddol, fel y dysgir ni gan osodiadau Duw yn y byd; canys y mae y gwaith a'r tymhorau ar gyfer eu gilydd. Nid yw y tymhor heb y gwaith, na'r gwaith heb y tymhor, na'r ddau yn nghyd, y tymhor a'r gwaith yn eu lle priodol, heb yr Arglwydd; am hyny rhaid ymddibynu arno yn unig; felly hefyd am weinidogaeth yr efengyl. Y mae yn waith mawri feddwl. Mae yr ymddibyniad i fod i gyd ar Dduw am ddefnyddiau meddwl; ac am drefn at ddefnyddiau meddwl, ac am ymadrodd cymhwys i ddangos trefn y cof; ac am y dylanwad priodol, i fod yn fwynhad ysbrydol a blasus, trwy ymadrodd y genau, ac am unioni y dyben gyda'r gwaith hwn, a thrwyddo logoneddu Duw, mewn dychweliad pechaduriaid at Dduw. Y mae hyn oll yn dangos yr angenrheidrwydd mawr am gwbl ymddibyniad ar Dduw yn unig. Fe ddylai pob pregethwr, os bydd yn gallu, ddechreu y cwrdd ei hunan trwy weddi, canys y mae peidio gwneyd hyn yn dangos diffyg synwyr dynol, ac yn dangos diffyg mewn trefn grefyddol, a diffyg<noinclude><references/></noinclude> ma10osz9nn9vuetensi0zv9lhko7nio 164369 164365 2026-05-07T20:04:38Z AlwynapHuw 1710 164369 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brancio ynddo y bydd y pysgodyn. Yr oedd Richard yn pregethu yn debyg iawn i'r pysgodyn yn y dwfr; yr oedd yn chwareu yn yr elfen anfarwol; ïe, ymbranciai ynddo. Nis gallai efe ymollwng i chwareu ac ymbrancio yn afonydd a ffrydiau dyfroedd y byd, yr oedd yn colli ei anadl yno, nid oedd gartref yn y manau hyny: yn nyfroedd pur gweinidogaeth yr efengyl yr oedd ei enaid ef yn myned yn chwareugar. Nid oedd eisiau gair byth arno, er y mae yn wir, byddai yn gwneyd defnydd anmhwrpasol iawn o eiriau yn fynych; yr oedd wedi arfer ei hun felly, fel yr oedd wedi myned yn fai, ac yn archwaeth isel yn ngolwg llawer; ond gwaeth beth a fo, yr oedd hyd yn oed y pethau a edrychid arnynt yn feius yn ei weddu ef, neu wedi dyfod felly trwy arferiad. Ni fuasai Mr. Richard yn Mr. Richard heb y pethau hyn, yn gymaint a'i fod wedi arfer eu gwisgo. Yr oedd ei ffraethineb a'i arabedd y peth nesaf at fod yn annherfynol; siaradai bob peth, ac am bob peth, heb orchest na thrais ar natur. Eithr, fel yr awgrymasom, ymddangosai y pregethwr yn ei fynediad yn y blaen fel yn chwilio yn ddyfal am weinidogaeth y testun at y bobl, oblegyd dyna oedd ei brif bwnc ef, dyfod â'r efengyl a'r bobl at eu gilydd. Wrth fyned yn araf yn y blaen, gwelsech ef yn gweithio y ddau nes nes at y naill y llall yn gyson, nes o'r diwedd taflu y naill i'r llall, nes oedd y cwbl yn ymferwi yn ffrochwyllt, ac yntau yn berwi gyda hwynt. Os efengylu a wna, y mae ei ysbryd toddedig yn treiddio drwy ei lais melusber, nes codi deng mil o ddynion ar eu gwadnau; os taranu a wna, y mae hyd yn oed yr annuwiolion mwyaf yn crynu ger ei fron. Yr oedd ei lais mor beraidd a dim glywsoch chwi erioed, ac yr oedd yntau yn arglwydd arno; nid oedd yn gwaeddi fel dyn gwallgof, heb na threfn nac amser; nid oedd yn canu, fel dyn ar ben ffair; nid oedd yn oernadu ac yn gwneyd rhyw ystumiau defosiynol. Na; yr oedd yn arglwydd ar ei waeddi, ar ei ganu, ac ar ei holl symudiadau. Pan y bloeddiai, byddai yn ofnadwy o gyrhaeddgar; a phan y tarawai rhyw dant seiniadol, yr oedd fel pe byddai mynyddoedd o rew yn toddi ar unwaith, a haf yn cael ei wysio i mewn cyn bod y gwanwyn wedi cael amser i gilio i'r cysgod. Pan y gwelsech ei law yn myned i fyny i'w ben, a'i thynu i lawr dros y cap du, ei thaflu yn esgeulus fel o'r tu ol, a'i thynu eilwaith dros y cap, yr oedd ei ysbryd ei hun yn myned o dan doddiant yr amser hwnw; ac yn y teimlad hwnw rhoddai ei lais peraidd<noinclude><references/></noinclude> 8vnhfle2wggd86jjktvgdcutigly0xe Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/178 104 84588 164367 2026-05-07T20:02:34Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD VIII. Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes. Y MAE miloedd yn awr yn ymylu ar fod yn hen grefyddwyr yn Nghymru, ie, yn y Deheudir chwaithach hyny, na chlywsant y Parch. T. Richard, Abergwaen, yn pregethu erioed. Er nad yw wedi ymadael â'r fuchedd hon ond rhyw chwech neu saith mlynedd, eto cenedlaeth arall welir yn rhodio y ddaear, y rhai nid adwaenent Richard. Y mae yn wir iddo fethu myned nemawr o gartref gan afiechyd a... 164367 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD VIII. Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes. Y MAE miloedd yn awr yn ymylu ar fod yn hen grefyddwyr yn Nghymru, ie, yn y Deheudir chwaithach hyny, na chlywsant y Parch. T. Richard, Abergwaen, yn pregethu erioed. Er nad yw wedi ymadael â'r fuchedd hon ond rhyw chwech neu saith mlynedd, eto cenedlaeth arall welir yn rhodio y ddaear, y rhai nid adwaenent Richard. Y mae yn wir iddo fethu myned nemawr o gartref gan afiechyd amryw flynyddoedd cyn ei ymadawiad, fel y gellir dweyd iddo farw i gymdeithas Fethodistaidd ryw ddeng mlynedd cyn hyny; ac y mae, fel y gwyddoch, ryw ugain mlynedd yn gwneyd gwahaniaeth rhyfeddol yn nghylchoedd cymdeithasol ein byd cyfnewidiol ni. Ah! y mae cymaint a hyny yn troi bron pob peth wyneb i waered, gan roi gwedd newydd i gymdeithas wladol a chrefyddol. Ugain mlynedd! y mae y rhai oedd yn hen ar ddechreu yr ugain mlynedd diweddaf bron wedi marw allan i gyd, y rhai oedd yn ieuane y pryd hwnw ydynt heddyw yn hen; a'r rhai oedd yn blant sydd yn awr yn ddynion ieuainc. Mor chwyrn y mae hen gerbyd amser yn gyru ei olwynion! ac unwaith yr eir o danynt, yr ydys yn suddo i ebargofiant buan. Yn mhen ychydig o flynyddoedd eto, ni fydd neb i gael glywodd Mr. Richard yn pregethu; yr enw anwyl ag oedd yn codi y miloedd o bob cyfeiriad i'w wrando, ni bydd neb yn gwybod dim am dano ond mewn traddodiad, ac ar ddalenau hanesyddiaeth. Wel, felly y mae hen amser yn gyru yn y blaen, fel mewn brys gwyllt, at ryw gyfnewidiad, i fwy o sefydlawgrwydd. Y mae yn rhaid i ni ymdrech, gan hyny, i wneyd darluniad mor berffaith ag y medrom o'r dyn a'r pregethwr, fel y gallo y cyfryw na welodd ac na chlywodd ef ffurfio rhyw ddirnadaeth o hono. Y mae yn anmhosibl, tebygem ni, gael gwell darlun o'r dyn na'r un sydd yn nechreu y llyfr hwn-y tebygolrwydd sydd yn ymylu ar berffeithrwydd. Cenfydd yr edrychydd ar unwaith fod hwn wedi ei wneyd pan ydoedd yn hen, wedi ystormydd yn agos i driugain a deg chwythu yn gryf arno, ac yn agos cymaint a hyny o lafur diorphwys ac ymroddgar gyda gwaith mawr y weinidogaeth. Yn y darlun hwn chwi welwch ei ysgwyddau yn ymgrynhoi, ei war yn plygu, ei ben yn gogwyddo tua'r ddaear, a'r pren almon yn ei lawn flodau. Dewisasom hwn, am mai fel hyn yr adnabyddasom ni ef, ac felly yr adnabyddodd y rhan fwyaf sydd ar y ddaear yn bresenol ef hefyd. Mae ychydig yn ei gofio yn nerth ei ddydd, yn ddyn cryf, coch, glân, gwrol; ond yn wir y mae y dosbarth hwnw o ddynoliaeth wedi myned yn hynod deneu. Y mae darlun o hono ar gael pan o gwmpas deugain oed, a dywedir fod hwnw yn dda iawn; ond pan y gosodir y dyn deugain a'r dyn triugain a deg yn ymyl eu gilydd y mae y gwahaniaeth rhyngddynt yn rhyfeddol. Beth bynag o gysur all fod wedi dyfod i'r ddynoliaeth trwy ddarganfyddiadau newyddion mewn tynu lluniau, nid ydym yn mhell o gredu fod peth annghysur hefyd, yn enwedig i'r dynion eu hunain. Gall fod yn bleser i gymdeithas; gall dynion gael hyfrydwch mewn edrych a nodi allan y gwahaniaeth sydd rhwng y darlun gymerwyd eleni a'r un gymerwyd er ys deng mlynedd yn ol, ond nid yw hyny ond cysur gwan i'r dyn ei hunan. Cyn i'r gelfyddyd o arlunio ddyfod mor rhad, yr oedd dynion yn heneiddio yn raddol o ddydd i ddydd, ac yn teimlo eu hunain yn ieuanc o hyd; nid oeddynt yn meddwl fod nemawr o gyfnewidiad ynddynt; a phan edrychent mewn drych, yr oeddynt er ys llawer dydd wedi hen annghofio pa fath rai oeddynt yn nyddiau eu hieuenctyd. Yr oedd dynion yn teimlo yn fwy cysurus o lawer felly, tebygem. Eithr yn awr, fel y gwelwch, dacw lun wedi ei wneyd er ys ugain mlynedd yn ol, a dyna un arall a wnawd eleni; y cyntaf yn fachgen bochgoch, pen-felyn, y diweddaf yn hen wr llwyd, penwyn, crebychaidd, yn ddigon i beri i ddyn grynu wrth edrych ar ei lun ei hun. Y mae rhyw fanteision yn y peth i gymdeithas, yn enwedig ar ol i'r dyn farw, canys y mae pobl yn cael lle teg i farnu pa fath ydoedd o ran ei gorph; ac yn wir, y maent yn dyweyd fod rhyw beth yn y corph ag sydd yn pregethu y meddwl yn lled effeithiol. Yr oedd Mr. Richard o daldra cyffredin; nid yn fyr, ac nid yn dal iawn, rhyw le tua phump troedfedd a naw modfedd, o wneuthuriad cadarn, yr holl gorph yn hytrach yn arwyddo cryfder. Felly yr oedd yn nerth ei ddydd. Yr oedd yn un o'r dynion prydferthaf, o ran ymddangosiad corphorol, a welwyd mewn oes, neu yn mhlith cenedlaeth o ddynion. Yr oedd ei ymddangosiad cyntaf yn y pwlpud, neu ar esgynlawr y cae yn y Gymanfa, yn sefydlu pob llygad arno mewn mynyd. Yr ydym yn cofio y tro cyntaf y gwelsom ef erioed iddo dynu ein sylw mewn moment, pan yn gwneyd ei ymddangosiad ar yr esgynlawr mewn Cymanfa; ac nid yn unig nyni, ond pawb. Y Gymanfa gyntaf y buom erioed ynddi oedd hono, ac nid oedd yntau y pryd hwnw uwchlaw wyth a deugain oed. Pregethodd hen wr parchus o'r Gogledd yn gyntaf yn hynod flasus, yn awr ac eilwaith; ac yr oeddem yn meddwl oll ei fod yn bregethwr mawr; yr oeddem yn teimlo yn gysurus; ar yr un pryd nid oedd dim mawr iawn yn ein taro, nes ein synu, a bron myned yn ddwl wrth odidawgrwydd y gweledigaethau. Ond ar ei ol dacw wr boneddig yn codi i fyny gyda'r prydferthaf a welsom erioed, ac yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron rhyw bymtheg mil o ddynion. Yr ydym yn meddwl yn sicr mai Mr. Evans, Llwynffortun, ac yntau oedd y ddau mwyaf prydferth yn symud ac yn dyfod i wydd torf o bobl o neb a welsom. Yr oedd y pryd hwnw yn sefyll yn syth, yn llawn, heb fod yn dew iawn, a'r cap du ar ei ben, fel y gwelir ef yn y darlun yn nechreu y llyfr. Y mae yn sefyll o flaen y dyrfa fel angel wedi disgyn oddiuchod; canys ymddangosai yn ei holl agweddiad fel cenad anfonedig oddiwrth Dduw. Ei wyneb oedd yn hardd iawn; gwefusau tlysion, a rhes o ddanedd fel ifori yn ymddangos pan siaradai. Ei lygaid oedd yn fawrion, ac yn amlwg iawn ar wyneb y croen, ond yn safon o brydferthwch; a phan y taflai hwynt yn esgeulus yma a thraw, yr oedd fel pe buasai meddylgarwch yn melltenu ac yn saethu o bob cyfeiriad. Yr oedd ei brydferthwch yn greadigaeth, ac nid oedd wedi ei andwyo drwy arferion annaturiol. Na; yr ydoedd yn gwisgo creadigaeth yn weddus, heb ei dirdynu na'i hanafu. Y mae llawer pregethwr, er ei fod wedi cael dyn oddiallan gweddol dda gan y Creawdwr, a phe gwisgid natur yn naturiol, byddai yn ymylu af brydferthwch; ond yn lle gwneyd hyny, y mae yn ei thynu hi ar hyd ac am draws, nes y mae y peth nesaf at anmhosibl i ddeall beth oedd y ffurf gyntefig arni. Gwnaed y Creawdwr fel y myno yn y byd, bydd rhyw bobl yn meddwl y gallant wella hyny; a dyna lle y maent yn gwneyd pob lluniau yn y byd arnynt eu hunain, nes y mae yn anmhosibl braidd a dyfalu beth oedd ffurf greadigol wyneb ac ysgwyddau y dyn. Bydd rhai fel pe baent am wneyd eu gyddfau yn hwy, rhai am droi eu trwynau ar gam, yn haner cau eu llygaid, ac yn gwneyd y gwynebau mwyaf cuchiog a welsoch erioed. Gadewch bethau fel y maent, canys nis gwnewch hwynt byth yn well wrth fyned i ryfel a threfn natur fel yna. Edrychwch ar Mr. Richard yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron miloedd; dyna ddyn prydferth; dyna dlws! Dyna ddyn natur; nid yw yn ymladd nac yn ceisio gŵyrdroi naturiaeth i'w dinystr ei hun; na, dacw hi yn ei phurdeb naturiol, yn rhedeg fel yr afon loyw. Mor naturiol y mae y llygad yn edrych, ond yn syml; mor naturiol y mae y gwefusau yn chwareu, ac mor naturiol y gwelir y wên siriol yn chwareu fel adenydd angel ar ei ruddiau. Dyna yn sefyll o'ch blaen y Parch. T. Richard, Abergwaen, un o brif bregethwyr Cymru, un o brif addurniadau y pwlpud Cymraeg. Y mae wedi ei greu at y pwrpas; a gras wedi ei gymeryd mewn llaw i orphen ei lunio at waith mawr y weinidogaeth yn Nghymru. Y mae bron yn oferedd i ni ddyweyd ei fod yn bregethwr mawr; canys gobeithio eich bod wedi ei ddylyn gyda ni o'r dechreu; ac yna yn ddiamheu yr ydych yn argyhoeddedig nad oes ryw lawer o bethau bychain o'i gwmpas. Yr oedd pob peth o'i gychwyn, a phob ffordd y teithiodd o dan argraffiadau o'i fawredd. Yr oedd yn anmhosibl gwneyd dyn fel hyn yn fach, canys yr oedd wedi ei greu at fod yn fawr, a than lawer o anfanteision cododd i fod yn un o brif bregethwyr Cymru. "Y pwnc, os gwelwch yn dda, cewch fyned y ffordd hon eto. Mr. Richard yn pregethu yw y pwnc, canys gwnawd rhyw fath o ddesgrifiad o'i berson, a gwelsom ef yn codi ac yn dyfod yn y blaen ar yr esgynlawr i'r man amcanedig at yr areithfa; eithr ni chlywsom ef yn dyweyd un gair." Wel, y mae desgrifio Mr. Richard yn pregethu yn beth anhawdd iawn i'r rhai na chlywsant ef. Yr ydym yn ofni cychwyn gyda'r gorchwyl rhag ofn methiant, canys y mae hyny yn llawer mwy tebyg na llwyddiant. Gwyn fyd na fuasai pawb wedi ei glywed, fel y gallem ymesgeusodi, a throi i'r cysgod, a'ch gadael mewn dystawrwydd i gofio hen odfaon y dyddiau gynt, pan yr oeddech weithiau yn crynu fel dail y coed, weithiau yn dychrynu fel ewigod, weithiau yn wylo o lawenydd, weithiau yn neidio heb fedru ymatal, weithiau yn gorfoleddu o dan obaith gogoniant Duw, weithiau yn gwaeddi concwest uwch pob ofnau, o dan ddylanwad gweinidogaeth nerthol dyn Duw. I chwi a'u clywsant, byddai hyny yn well nag un desgrifiad ag mae yn bosibl ei wneyd a phapyr ac inc. Yr ydym mewn lle cyfyng iawn yn awr; yn rhyw beth fel pe baem yn myned i ddesgrifio gogoniant y mellt i ddyn dall, swn ofnadwy y daran i ddyn byddar, mawredd ac ymchwydd y môr i ddyn mynyddig na welodd för erioed; eto gwell yw ceisio dyweyd rhyw beth wedi ein harwain i'r fan hyn. Dacw Mr. Richard o'ch blaen yn ddyn natur, ac yn ddyn byw; nid dyn celfyddyd, a dyn marw. O dyna brydferth! Mae celfyddyd yn burion; ond nid yw yn dyfod yn agos at natur; caboliad ydyw, nid creadigaeth; gwaith dynion, nid gwaith Duw; marwolaeth ydyw, nid bywyd. Cyn bod y pregethwr sydd yn awr ger eich bron yn agor ei enau, y mae y miloedd yn edrych arno fel rhyw un wedi disgyn o'r bydoedd fry; y mae pob llygad arno, a phob perchen anadı fel wedi darostwng ei unig anadl o dan ddysgyblaeth lem, canys yn ddystaw iawn rhaid iddo fod, araf rhaid iddo gerdded, a gofalu na fyddo y fath beth a phesychiad i aflonyddu y dystawrwydd dwfn. Ymwasgai y dyrfa yn annghydwybodol yn y blaen, tua chyfeiriad yr esgynlawr, pan y clywid y pregethwr yn tori y dystawrwydd trwy roi hymn allan, gyda llais clir, peraidd, naturiol, heb na chlem na chesail, na bwyta na chnoi ei eiriau, na gwneuthur un math o wynebau. Y mae pawb trwy y dorf yn ddystaw, a phawb yn clywed; ac y mae hyd yn oed rhoddiad y penill allan yn cynwys rhyw fawredd, ac fel yn rhagddarparu y gynulleidfa ar gyfer y peth sydd yn canlyn. Clywsom lawer yn rhoi y penill yna o'r blaen, "O anfon di yr Ysbryd Glân," &c., ond nid neb fel efe; yr oedd fel pe treiddiai y geiriau drwy y nefoedd yn ei ddull ef o'u dyweyd. Gyda llais clir, heb yr un dôn na llusg, y mae yn darllen y testun ddwywaith, ac yn araf yn ei egluro a'i osod yn ei gysylltiadau priodol, gan ei ranu i wahanol benau yn hynod o ddeheuig. Ond y peth welsoch chwi o'r cychwyn oedd gwas Duw yn chwilio am weinidogaeth y testun hwn at ddynion. Y mae ei hunan-feddiant a'i gartrefolrwydd yn ardderchog. Nid yw mewn brys, nid yw yn wyllt, nid yw byth yn ymddangos yn derfysglyd; ymddengys heb bryder na braw, heb ddiffyg nac eisiau dim, pob peth wrth law, a llaw i gydio yn mhob peth. Y mae yn gartrefol hollol yn pregethu; fel meistr mawr ar y gwaith, nid fel egwyddorwas; fel yn ei elfen naturiol, yn debyg i'r aderyn yn codi i fyny yn ddiorchest i'r awyr dan ganu, neu fel y pysgodyn o dan dunelli o ddwfr, eithr yn "chwareu ynddo." Boddi ynddo fuasai pob peth nad oedd yn perthyn i'r elfen ddwfr, eithr chwareu ac ym<noinclude><references/></noinclude> c2h0efcjpl2hz5k2faor9imgdudsyzr Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/184 104 84589 164370 2026-05-07T20:05:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164370 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>allan yn grynedig gan deimlad, a thrwy hyny greu yr un teimlad mewn deng mil o ddynion. Byddai miloedd yn wylo fel y gwlaw heb wybod am beth, ond yn unig fod rhyw deimlad wedi ei gynyrchu sydd yn rhy hapus i chwerthin; wylo yw yr hapusrwydd mwyaf o dan yr effeithiau. Eithr y mae yno filoedd, serch hyny, yn mwynhau yr efengyl bur, heddwch drwy waed y groes, drwy ei weinidogaeth hyfryd. Y peth tebycaf erioed a welsoch i gawod o wlaw mis Ebrill oedd cwrdd fel hyn, pan fyddai Mr. Richard mewn llawn hwyl. Pan y byddo cawod Ebrill yn disgyn yn boeth yn mron o'r nefoedd, y gwelir holl brenau y coed yn curo dwylaw, a phob glaswelltyn yn codi ei ben crymedig, a than effeithiau y gawod yn gwaeddi allan a llais gwanaidd ond dealladwy, "Mi a fyddaf fyw byth." Rhyw beth cyffelyb y byddai yr eneidiau o dan athrawiaeth wlawiog Mr. Richard; yr oeddynt yn ymgolli mewn hwyl, yn curo dwylaw, ac yn curo traed hefyd; yn gwaeddi concwest dragywyddol o dan effeithiau y gawod, ac fel y glaswellt, yn codi eu penau i fyny, ac yn gwaeddi yn wyneb gorseddfaine Duw, "Ni a fyddwn byw byth." Byddai yn taranu ar brydiau, a gwnelai hyny yr un mor effeithiol; treiddiai ei lais gydag awdurdod i ddirgelion eneidiau dynion, nes y byddai yr annuwiol a'r pechadur fel plant o'i flaen. Clywsom ef felly ein hunain; am hyny gallwn dystiolaethu i'r gwirionedd. Yr ydym yn cofio yn dda am Gymanfa gynaliwyd yn Morganwg mewn lle a elwir Caerphili, a ni gofiwn byth am hono, er fod llawer un ddiweddarach wedi myned i ebargofiant. Yr oeddem y pryd hwnw yn fachgenaidd iawn, newydd gychwyn gyda chrefydd. Yr oedd yn un o'r Cymanfaoedd mwyaf effeithiol ag y buom ynddi erioed. Yr oedd y Cymro Gwyllt yno, yn pregethu ar y gair, "Efe a roes i ni feddwl," gyda'r peth mwyaf effeithiol a welwyd; ae yr oedd ef ei hun yn dyweyd mai rhyw ddwywaith o'r blaen y teimlodd efe y fath beth yn ei oes. Pregethodd Mr. Harris, Hwlffordd y pryd hwnw, ar y gair, "Tra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac aew, efe a ddiangodd;" odfa annghyffredinol oedd hon hefyd. Ond yr ydym yn cofio am ddeg o'r gloch, pan gododd Richard i fyny, a'r miloedd pobl o'i flaen ar dwyn Caerphili, o flaen y capel, fod rhyw olwg sobr iawn arno; yr oedd yn edrych fel angel Duw wedi dyfod i waered o'r nefoedd â chenadwri bwysig i'n byd ni. Amser y Gymanfa hono oedd y tro cyntaf i'r geri marwol<noinclude><references/></noinclude> f0bg9a1clyfg183zimgzeaza8b6wysh Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/185 104 84590 164371 2026-05-07T20:06:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164371 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''(cholera)'' dori allan yn ein gwlad ni; ac yr oedd yn lladd yn ofnadwy, yn enwedig yn y gweithfeydd a'r trefydd. Yr oedd hyny hefyd yn weledig i bawb, mai y dynion mwyaf meddw oedd yn syrthio yn ebyrth gan mwyaf i'r clefyd dinystriol hwn. Beth bynag, wedi rhoi emyn i ganu, cymerodd ei destun yn araf, ond â llais treiddgar, fel yr oedd pawb trwy y dorf yn ei glywed, "Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd." Pregeth ofnadwy oedd hon; ac nid oedd neb, tebygem, beth bynag oedd eu cyflwr, nad oedd yn ei theimlo yn ofnadwy. Yr oedd y bobl gryfaf yn y dorf yn methu gwybod yn mha le yr oeddynt yn sefyll ar y pryd, tra yr oedd y pregethwr yn bloeddio fel udgorn, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." Yr oedd tafarn yn agos ar gyfer yr esgynlawr, ac yr oedd rhyw ddyhirod wedi myned i mewn yno i yfed ac ysmocio yn amser y cyfarfod; ond treiddiodd ei lais drwy y cwbl i mewn atynt; yr oeddynt yn ei glywed bob gair yn mhen tipyn, a'r nerth yn ofnadwy. Pan oeddynt uwch ben eu cwrw yr oedd yn danfon y testun gydag awdurdod atynt, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd," nes yr aeth pawb mor ddystaw a'r bedd. "Dyn ofnadwy yw hwna," ebe un; "dewch allan i ni gael ei weled;" ac allan a hwy yn benderfynol i sefyll yn gryf. Aethant â'u pibellau yn eu penau, a safasant dan ysmocio o flaen drws y dafarn, yn edrych tua'r stage. Y mae fel pe buasai yn cael ei gyfarwyddo ar unwaith i gyfeirio atynt; y mae yn troi ei wyneb tua chyfer y dafarn, yn estyn ei law allan tuag yno gan waeddi, "Mi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd;" nes oedd y dynion yn gwelwi, ac yn colli eu teimladau. "Yna," eb efe, "chwi y meddwon, chwi y rhai y mae eich holl fryd mewn tafarndai, chwi y rhai sydd yn eistedd yn eisteddfa y gwatwarwyr, clywch, y mae Duw y nefoedd yn dechreu anelu ei ddryll atoch yn y cholera ofnadwy sydd yn lladd wrth y canoedd. Fe gwymp llawer un fe allai, ond atoch chwi y meddwon y mae yn anelu; y mae blaen y dryll yn uniongyrchol yn gyfeiriol tuag atoch." Gyda hyny yr oedd ei lais yn treiddio drwy yr awyr, a'i floeddiadau i'w clywed yn mhell, "Myfi biau dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." Syrthiodd y pibellau o benau y dyhirod hyny heb yn wybod iddynt, ac yr oeddynt yn gwrando fel pe buasent wedi eu gwysio i wydd Duw, wedi colli pob teimlad ac ymwybodolrwydd. Mae cynyg desgrifiad ar y dyn mawr hwn yn ffaeledd. Fe allai y rhydd y sylwadau hyn ryw ddychymyg am dano. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bd7qkuuhejjahzklhtacbuffc1ynuu2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/186 104 84591 164372 2026-05-07T20:07:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164372 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD IX.<br>Penod i Bregethwyr.}}}} YMDDENGYS fod Mr. Richard yn dra hoff o ddywediadau byr a chynwysfawr ar bob peth, ac y mae ganddo luaws o honynt ar wahanol bethau y bywyd hwn a'r nesaf. Byddai yn gam â chymdeithas i beidio rhoi llawer o'r cyfryw ddywediadau yn y bywgraffiad, canys heblaw eglurhad o'r meddwl treiddgar, y maent yn wir berlau ynddynt eu hunain. Y maent fel ser dysglaer yn y ffurfafen feddyliol, ac y maent hefyd yn aml iawn o ran rhifedi. Gwelir hwynt yn serenu yn glaer, yn llachar, a gloyw, trwy ei holl ysgrifeniadau. Goleuadau ydynt, nad ydynt byth yn gwneyd eu hymddangosiad ond mewn cylchoedd mawrion; ac nid ydynt i'w gweled yn mhob oes. Yr oedd meddwl Mr. R. y fath, fel yr oedd yn llewyrchu allan, yn ddiorchest, dywyniadau ardderchog o oleuni ysblenydd yn barhaus. Ymddangosai cyfoeth ac amrywiaeth ei feddwl mor aruthrol, fel yr edrychid arno y peth nesaf i anhysbyddedig. O blith ei ddywediadau byrion a diarebol, yr ydym wedi casglu a ganlyn, ar bregethu a phregethwyr, am hyny yr ydym wedi galw y benod hon yn "Benod i bregethwyr." Fe all gweithiwr difefl, sydd yn iawn gyfranu gair y gwirionedd, fethu cael drws agored; fe all gweithiwr meflus, annhrefnus, gael drws agored. Nid yw methu cael drws agored yn un rheswm na phrawf yn erbyn iawn gyfranu; ac nid yw cael drws agored gan annhrefnus gyfranu, yn un rheswm na phrawf drosto; canys y mae Ilawer am y drws agored a gyfrifir gan ddynion, ar lawer math o amgylchiadau allanol yn unig; ond gall hyny fod heb gael drws agored gan Dduw i draethu ei holl gynghor. Eto dylid deall y gwahaniaeth ahwng drws agored nerth dynol, a drws agored nerth Ysbryd Duw yn cydweithredu a nerth a galluoedd dynol; y mae yn rhaid wrth y ddau at fod yn gyfan. Ni welwyd, ac ni welir yn bresenol, y defnyddiol iawn ond lle y mae profedigaethau mawr; canys y mae profedigaethau at dymheru ac at gyfansoddi, fel tymheru llestr i ddal ynddo; ac at ei gyfansoddi, a'i helaethu, canys y maent yn awchu y meddwl, yn esbonio y gair, ac yn egluro dirgelion. Nis gall llong o un maint fod heb fallast ynddi; mae y ballast i fod yn ol maint y llong. Er ei fod yn llai na'r llwyth, mae o gymaint defnydd, fel nas gellir bod hebddo at y Ilwyth mwyaf a'r gwerthfawrocaf. Felly y mae defnydd profedigaethau at ddefnyddioldeb. Megys bleiddiaid yn ngwisgoedd defaid yw pob math o ragrithwyr; a'r rhai gwaethaf, mwyaf eu niwed, yw pob math o bregethwyr annuwiol. Un math yw y rhai sydd mewn cyflwr annuwiol, yn<noinclude><references/></noinclude> o2j0gfnmrrv1aiarl25cxe6fxwd0alk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/187 104 84592 164373 2026-05-07T20:07:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164373 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ceisio dyweyd y gwirionedd mewn dull o bregethu, a'r dull hwnw yn tystio yn amlwg nad ydynt yn ei ddeall, ei gredu, na'i brofi, yr hyn sydd yn tueddu i galedi pawb a'u clywo. Math arall yw y rhai a gyfeiliornant oddiwrth yr ysgrythyrau, gan eu gŵyrdroi i'w dinystr eu hunain ac eraill. Math arall yw y rhai haerllug, rhyfygus i wrthwynebu gair yr Arglwydd â'u syniadau cnawdol eu hunain. Pregethwyr cnawdol yn ymdrin a phethau ysbrydol yw yr hawddaf, a'r cymhwysaf, a'r amlaf i bob cyfeiliornad. Y mae yn rhaid cael adnabyddiaeth o ysbrydolrwydd y gair at ysbrydoli y meddwl, at wreiddio a selio ynddo gymhwysder ysbrydol at bregethu. Dymuniadau enaid gwir bregethwr yw eredu ei bregeth yn fwy na neb, ymarfer ei bregeth yn fwy na neb, mwynhau ei bregeth yn fwy na neb. Mae yn gysur iddo fod y gwirionedd a draddodir yn lles i eraill; ond y mae yn llawer mwy cysur ei fod yn lles iddo ei hun. Mae y cysur ei fod yn lles i eraill heb fod yn lles iddo ei hun, yn profi fod y cysur hwnw yn gnawdol. Y ddau gyda'u gilydd yw yr iawn. Fel goruchwyliaeth y famaeth-cymeryd lluniaeth i roddi magwraeth. Mae cymaint o eisiau medru gwybod at ddeall pregeth ag at bregethu pregeth, canys yr un peth yw deall y ddau; fe all teilyngdod wrth ddamwain gael cymeradwyaeth, ond at iawn farn rhaid fod rheswm yn rheol. Pregeth yw athrawiaeth y testun, amrywiaeth y testun, gwreiddiolrwydd y testun, yn cael ei weithio allan; harddwch pregeth mewn traddodiad yw cof, hyawdledd, a threfn ymadrodd. Y mae cysylltiad achos ac effaith rhwng testun a phregeth; nid oes un testun i gael heb bregeth, ac nid oes bregeth i gael heb destun; yn y testun y mae defnyddiau cynwysiad pregeth. Testun a phregeth yn wahanol i'w gilydd yw anmhrydferthwch pregeth, ac sydd anadnabyddiaeth am anfoniad i bregethu; nid yw yr arferiad yn un rheol rheswm, canys y mae rheswm yn rheol i bob arferiad. Gwneyd gwaith dyledswydd heb esgeuluso, a gobeithio yn Nuw am lwyddo, yw trefn Duw am ei foddlonrwydd, am ei wyneb, am ei arddeliad, ac am lwyddiant; canys felly y dywed, "Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda, felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau." Ni ddylai un gradd o ymddibyniad fod ar y gwaith dyledswyddol, ac ni ddylai yr holl ymddibyniad ar Dduw leihau nac esgeuluso mewn un modd ar waith dyledswyddol, fel y dysgir ni gan osodiadau Duw yn y byd; canys y mae y gwaith a'r tymhorau ar gyfer eu gilydd. Nid yw y tymhor heb y gwaith, na'r gwaith heb y tymhor, na'r ddau yn nghyd, y tymhor a'r gwaith yn eu lle priodol, heb yr Arglwydd; am hyny rhaid ymddibynu arno yn unig; felly hefyd am weinidogaeth yr efengyl. Y mae yn waith mawri feddwl. Mae yr ymddibyniad i fod i gyd ar Dduw am ddefnyddiau meddwl; ac am drefn at ddefnyddiau meddwl, ac am ymadrodd cymhwys i ddangos trefn y cof; ac am y dylanwad priodol, i fod yn fwynhad ysbrydol a blasus, trwy ymadrodd y genau, ac am unioni y dyben gyda'r gwaith hwn, a thrwyddo logoneddu Duw, mewn dychweliad pechaduriaid at Dduw. Y mae hyn oll yn dangos yr angenrheidrwydd mawr am gwbl ymddibyniad ar Dduw yn unig. Fe ddylai pob pregethwr, os bydd yn gallu, ddechreu y cwrdd ei hunan trwy weddi, canys y mae peidio gwneyd hyn yn dangos diffyg synwyr dynol, ac yn dangos diffyg mewn trefn grefyddol, a diffyg<noinclude><references/></noinclude> 8c9u591qr1ao3tcgkhy217pkcv0v0b2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/188 104 84593 164374 2026-05-07T20:08:45Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "adnabyddiaeth o'r fraint ysbrydol; canys y mae myned at Dduw mewn gweddi fel trin a defnyddio allweddau i agor y clo. Yn ol fel y byddo mynediad at Dduw mewn gweddi, mae cael mynediad at ddynion mewn pregethu. Y mae yr holl ddefnyddiau at fod dros Dduw i'w cael mewn gweddi gyda Duw. Nid oes dim mewn pregethu ond a fyddo yn effaith cymdeithas a Duw, wedi ei gael gan y pregethwr ei hun mewn gweddi ger bron gorseddfainc Duw. Gweddier, c... 164374 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adnabyddiaeth o'r fraint ysbrydol; canys y mae myned at Dduw mewn gweddi fel trin a defnyddio allweddau i agor y clo. Yn ol fel y byddo mynediad at Dduw mewn gweddi, mae cael mynediad at ddynion mewn pregethu. Y mae yr holl ddefnyddiau at fod dros Dduw i'w cael mewn gweddi gyda Duw. Nid oes dim mewn pregethu ond a fyddo yn effaith cymdeithas a Duw, wedi ei gael gan y pregethwr ei hun mewn gweddi ger bron gorseddfainc Duw. Gweddier, canys yn atebiad i weddi yr addewir bendithiad ysbrydol. Y mae anallu i weddio yn nechreu yr odfa i bob pregethwr ystyriol yn fwy o faich a gofid nag yw o ddymuniad. Y mae hefyd yn gam â'r eglwys yn y lle, ac a'r gynulleidfa hefyd. Y mae pregethu yn gyfrifoldeb mawr, yn enwedig i bregethwyr a diaconiaid. Fe ddylai y bregeth fod i'r pregethwr yr un fath a gwydd Duw yn ei farnu; dylai pob gofal gael ei gymeryd fod ei bregeth yn cynwys cenadwri Duw at ddynion, gyda'r dyben o gael dynion at Dduw; a chan mai y diaconiaid sydd i ofalu am weinidogaeth yn y lle, dylai hyn beri y pryder mwyaf iddynt hwy i gadw gwir bregethu, nid enw, yn y lle bob amser. Nid ambell waith, ond bob amser, fel y gallont ateb cydwybod i Dduw, hyd y gallont hwy wybod ei bod yn genadwri oddiwrth Dduw, yr hyn yn unig a all fod yn fuddiol i ddynion; yr hyn sydd i'w deall, nid wrth deimladau, cofiwch, nac unrhyw serch a theimlad dynol, ond trwy gydmaru pethau ysbrydol â'u gilydd, yn nrych a chlorian gair yr Arglwydd. Un o hynodion yr oes bresenol yw y siarad gwag, ofer, plentynaidd, cnawdol, a disail, yn ol holl air yr Arglwydd, am olyniaeth apostolaidd. Nid oes yr un rhan o'r ysgrythyr yn caniatau y fath ffurf o ymadrodd; geiriau wedi eu dyfeisio ydynt gan ryfyg a balchder Eglwys Rufain, er cryfhau blaenoriaeth y Babaeth, llety cythreuliaid, yr hyn nid yw yn ormod i'w ddyweyd, canys y mae yr athrawiaeth a ddysgant yn gwbl groes i'r athrawiaeth yn ol duwioldeb, yr hon a drinir gan Paul yn ei epistolau at Timotheus a Titus. Fe ddengys hyn o hono ei hun pa un ai yr olyniaeth ai y gelyniaeth sydd yn amlwg ynddo. I gael cuddio y twyll hwnw, y maent wedi dirdynu yr ysgrythyrau rhwng ewinedd pabau, ac wedi gwneyd ysgrythyrau iddynt eu hunain, ac wedi eu cordeddu â chelwyddau ar y tadau. Fe ddylai fod cywilydd defnyddio geiriau o'r fath, oddiar sail mor ddirmygus a dieflig, ac o eneuau mor ffiaidd, gan neb dynion a elwir yn Gristionogion; yn enwedig gan yr eglwys hono y taera Eglwys Rufain yn y dyddiau hyn am dani mai hi yw y mwyaf lladronig, rhyfygus, ac ysbeilgar o bawb; ond yn lle dangos anfoddlonrwydd i Babyddiaeth yn y peth hwn, arllwysa yr eglwys hono lysnafedd Pabaidd am draws y rhai ag y mae llawer mwy o hanfod ac ysbryd Cristionogol ganddynt nag sydd yn un o honynt hwy. Haera y rhai hyn mai Esgobyddiaeth wedi ei sefydlu gan y gyfraith wladol sydd olyniaeth apostolaidd. Yn mha le yn y Testament Newydd y gwelir yr awgrym lleiaf am y fath beth mewn eglwys, mewn un swyddog yn yr eglwys, nac mewn un sefydliad gwladol ac eglwysig? Yr hyn a ddangosir yn athrawiaeth a dysgeidiaeth Crist a'i apostolion ar y mater hwn yw, saint yn eglwys, nid pawb yn ddiwahaniaeth, heb wybodaeth, trefn, na dysgyblaeth. Gwr Duw yn esgob, nid gwr y diafol, na gwr y byd, na gwr y cnawd; gwr duwiol, ysbrydol, gweithiwr difefl, na raid iddo gywilyddio. Esgob, bugail i ofalu am eglwys Dduw. Nid oes dim ag sydd yn wladol yn hanfodol i eglwys Crist. Mynu tadogi yn ddisail ddefodau allanol ar olyniaeth apostolaidd, tra na wneir ond ychydig sylw ar egwyddorion, athrawiaeth, a duwioldeb yr apostolion. Y mae y ddau bobl hyn yn dangos eu bod o'r un ysbryd, yr un egwyddor, ac o dan yr un swyn ansantaidd. Dywedir fod yr oes hon wedi ei goleuo; ond nid yw mor oleu eto. Y mae y tywyllwch yn fwy na'r goleuni. Olyniaeth Babaidd yn cael ei galw yn Nghymru aml ei phregethu yn olyniaeth apostolaidd; ai goleu yw hyn? Y mae yn rhaid cael rhyw beth i wneyd pregethwr heblaw olyniaeth Babaidd, nac esgobaidd ychwaith, onide bydd heb ei wneyd byth ond yn unig gan ddynion, ac nid yw hwnw yn was i Dduw. Mae mabwysiadu unrhyw ddull mewn dynwaredol, mewn ystum, llais, neu eiriadu wrth bregethu, yn rhoddi cymeriad pregethwr, gweinidogaeth pregethwr, ac anfoniad pregethwr o dan gwmwl, iddo ei hun ac i eraill; canys y mae yn dynoethi gwendid, y mae yn cuddio anian, ac yn dirmygu Awdwr natur. Os bydd hyn yn wastadol a pharhaus, er y gall y naill fod yn debyg i'r llall, y mae digon o wahaniaeth rhwng y peth sydd yn debyg yn naturiol a'r hyn sydd yn debyg dynwaredol; gwel y craffus hyn, ond cam-fernir hyn gan y cenfigenus. Pan y gwelir dynwarediad o ddyn yn ei bethau mwyaf cysegredig, y mae yn anhawdd iawn ei oddef; oblegyd pa nesaf at Dduw o ran ymarferiad y byddo unrhyw agwedd gnawdol, mwyaf poenus ydyw i anian dduwiol. Y gair sydd i'w bregethu, canys y gwirionedd sydd i ddangos pawb a phob peth, heb eisiau enwi personau, enwadau, na neb ymarferiad; canys y mae hyny yn effeithio gwrthwynebiad i'r gwirionedd; ac heblaw hyny, nid oes raid i'r gwirionedd am neb ategion dynol i'w eilio. Y gwirionedd yw sail a grym pob rheswm, am hyny oddiwrth y gwirionedd raid ymresymu am bawb a phob peth, heb wneyd un cyfeiriad a fyddo yn debyg o gyffroi un gwrthwynebiad i'r gwirionedd. Y gwirionedd sydd at ddangos pob peth pan nas gall pob peth ddangos y gwirionedd, ond fel y byddo yn cyd-dystiolaethu a'r gwirionedd. Cymaint o wirionedd sydd yn y byd sydd gymaint o gyd-dystiolaethu â'r gwirionedd sydd ynddo. Un o'r pethau trymaf yn ymddangos yn y dyddiau hyn yw, mor lleied o arwydd gweinidogaeth oddiwrth Dduw at ddynion sydd yn yr holl bregethu; a phan y byddo tebyg i nerth, nes cael cymeradwyaeth, nid oes, tebygem, arddeliad arni nes byddo yn y canlyniad son am dani yn trin y cyflwr, ond fel pe bai y cwbl yn syrthio i'r ddaear yn farw, ac i ebargofiant tragywyddol. Y mae hyn yn peri ofni fod math o bregethu yn bod heb anfoniad, wedi syfrdanu y gwrandawyr; a bod cynefindra â phob gwirionedd, ac â phob dull o'i ddyweyd, wedi gyru yr holl wlad i gysgu; neu bod yr Ysbryd Glân wedi ei dristâu, ac wedi ymadael â'i bobl; ac na rydd ei wyneb, oblegyd rhodio o'i bobl yn wrthwyneb iddo. O amgylchiadau trwm! "Amser blinder yw hwn i Jacob." Wylwn, offeiriaid a phobl, rhwng y porth a'r allor, am iddo eto, yn ol ei air, roddi ei wyneb ar ei gysegr anrheithiedig, er mwyn ei enw. Mae bod ffydd, profiad, a mwynhad, gymaint yn llai na'r bregeth yn achos pryder. Nid maint ffydd yw mesur y bregeth, ond maint y bregeth yw mesur ffydd. Nid mesur profiad yw mesur pregeth, ond y bregeth yw mesur y profiad sydd i'w geisio. Nid mesur y mwynhad o'r bregeth gan y pregethwr yw mesur y bregeth, na'r rheol i'w phregethu, er y byddai mwynhad o honi yn fawr gymhorthi i'r gwaith; fel bwyta o dan yr iau; eithr y bregeth yw mesur y mwynhad. Y mae ffydd, profiad, a mwynhad i gynyddu; ond nid yw y bregeth i gynyddu dim, canys tystiolaeth y gwirionedd ydywyr hwn sydd i ymestyn ato am ei gredu yn fwy, am ei brofi a'i fwynhau yn fwy; yr un peth, gan hyny, yw pob cyfranogiad o ras i bregethwyr ag i wrandawyr; yr un modd y mae y gwirionedd yn foddion i achub y naill fel y llall. Nid yw pregethu gras yn achub y pregethwr ond yn yr un modd ag y mae yn achub y gwrandawyr; ei gyd-dymheru a ffydd yn y ddau yw hyny. Duw gyda genau y pregethwr: "Mi a fyddaf gyda'th enau;" hyny yw, rhoddi cenadwri yn eu genau, ei chadw hi heb ei halogi trwy ei chymysgu â dim o eiddo dyn ei hunan a'r genau, a'i harddel mewn cyflawniad yn ol y genau. Fe all dawn ymadrodd gael ei roddi lle na byddo hyn: ac y mae yn debyg fod hyny yn cael ei roddi lle byddo hyn; ond nid y naill yw y llall; ac fe all y naill fod heb y Illall; lle na ddealler hyn fe ddyrysir. Nid mewn medru ateb yr holl wrthddadleuon a roddir gan anffyddwyr, a phob math o elynion yn erbyn y wir athrawiaeth, mae Ilwyddiant na rhinwedd pregethu, er bod hyny yn hardd, ac a all fod o ddefnydd ile byddo wedi ei drwytho ag ysbryd Cristionogaeth; ond yr efengyl sydd i'w phregethu; hyny yw, "yr ymadrodd am y groes;" i'r rhai colledig ynfydrwydd yw, ond i'r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw. "Yr ymadrodd am y groes" yw pregethu Crist wedi ei groeshoelio, "i'r Iuddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb; ond i'r rhai a alwyd, Iuddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw." Y mae yr ymadrodd am y groes yn meddwl pob gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, Gelwir hyn yn ymadrodd am y groes oblegyd mai croeshoeliad Crist oedd cyflawniad, seliad, a gorpheniad gwaith yr iachawdwriaeth. Y mae pob gwirionedd am Grist yn y groes, ac y mae y groes yn mhob gwirionedd am Grist, canys trwy y groes y daeth ei osodiad yn iawn drosom, ac y gwnawd ef i ni yn gyfiawnder, yn santeiddrwydd, ac yn brynedigaeth; fel, megys y mae yn ysgrifenedig, "Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd." Y mae cystudd yn analluogi i bregethu. Y mae anallu yn gwanhau, yn cymylu, yn tywyllu, yn lleihau, ac yn diflasu gwirioneddau wrth eu llefaru. Y mae harddwch ymadroddi yn gofyn nerth i roddi pob ymadrodd yn ei le, a'i le priodol i bob ymadrodd, mewn aceniad, sain, a phwys. Mae pethau cyffredin yn ymddangos yn hardd lle y byddo hyn, a'r pethau mwyaf yn ymddangos yn anhardd heb hyn. Yn ddiau ysbryd i bregethu yw enaid y gwaith; eto, y mae yn anhawdd cario yr ysbryd hyny allan heb y pethau a nodwyd. Ni ddylai cael bara beunyddiol, neu fywioliaeth naturiol, fod yn brif ddyben mynediad i'r weinidogaeth gydag un enwad o ddynion, eto ni ddylai neb fyned i bregethu yr efengyl heb sicrwydd yn ffordd ei ddyledswydd am ei fara beunyddiol; nid yn unig tra fyddo yn abl i bregethu, ond hefyd tra parhao ei fywyd, os bydd iddo fethu pregethu; canys y mae gogoniant Duw yn nglŷn â hyn. Pa le yn wyneb hyn y mae ymddiried yn yr Arglwydd? Nid oes ymddiried yn yr Arglwydd yn bod ond yn ffordd ein dyledswydd, yn ol gair yr Arglwydd am hyn ac am bob peth arall. Iawn farn am hyn wnelai drefn ar Gristionogaeth yn mhlith dynion, yr hyn sydd yn dra diffygiol. Mynu ein ffordd ein hunain, yn ol tuedd gnawdol a bydol, a barha drawsedd tra parhao dynion. Cael pregeth gan Dduw yw cael gwirionedd yn genadwri; a phregetha y bregeth a lefarwyf wrthyt, Jonah. Gwneuthuriad pregeth yw athrawiaeth y gair oddiar fyfyriad, wedi ei threfnu a'i ffurfio mewn geiriau cymeradwy. Y mae adnabyddiaeth a chynefin chynefindra o awdwr yn gwneyd darlleniad ei ysgrifeniadau, neu wrando ei draethodau, i'w gydoeswyr yn debyg i aredig mewn tir caregog, -ataliadau yn aml; a'r cwbl mewn hunan a balchder. Yr ataliad cyntaf yw, Nis mynem iddo fod yn fwy na ni, mewn gras, deall, dysg, na dawn. Yr ataliad arall yw, Nis mynem iddo fyned o'n blaen yn ngolwg neb dynion. Ataliad arall yw, Mesur ei bob peth ef wrth ein pob peth ein hunain. A'r ataliad arall yw, Na fynwn neb ond ein hunain. Mae y rhai hyn yn hunangeisiwyr, er eu bod yn grefydd-ymarferwyr; yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Y mae llawer a ystyrir yn gampwyr o bregethwyr, heb fod ond rhai bach, os dim, yn gwneyd pregethu yn gamp, ond heb wneyd y gamp o bregethu: llawn o weddi, llawn o ffydd, llawn o'r gair, llawn o'r Ysbryd Glân, yn llawn yn ngweinidogaeth y gair, yw y campus mewn gwirionedd. Nid y campus mwyaf wrth bregethu yw y pregethwr mwyaf ar y gamp uchel hon. Rhaid i'r gamp gael ei rhedeg yn iawn; y mae yn angenrheidiol fod presenoldeb Duw, gwerth eneidiau, a'r farn dragywyddol, yn wastad yn y golwg. Ý mae hyn yn hanfodol i iawn agwedd gyda'r gorchwyl pwysig hwn. Un o bethau hynod yr amser hwn, yn y flwyddyn hon, 1850, yw bod pregethwyr y Cyfundeb Methodistaidd o dan ddylanwad cryf a dyeithr; hyf, heb wylder, i gymhell eu hunain i leoedd i bregethu, yr hyn oedd yn beth dyeithr i'r Cyfundeb hwn flynyddau yn ol; llawer o'r cymhelliad taer, ïe, i gyd, oedd o du yr eglwysi; ond yn awr y mae i gyd o du y pregethwyr; llawer o honynt, beth bynag, nid i gyd oll, o drugaredd. Wele yma gyfnewidiad hynod, sydd yn dangos peth hynod o flaen hyn yn yr achos o hono. Y mae hyn yn hynod ynddo ei hun hefyd, yn enwedig i'r hen, a adwaen y symudiad gwahaniaethol hwn. Mae ac fe fydd yn hynod yn ei ganlyniadau, fel y caiff rhyw rai weled a theimlo, pa un a ddeallant ai peidio. O Arglwydd, pa beth fydd diwedd y pethau hyn? Peth hynod arall sydd yn y Cyfundeb, o ran cyfnewidiad, ac a wiria yn amlwg yr hen ddywediad hwnw, "Un eithafed a effeithia eithafed arall." Oddeg i ugain mlynedd yn ol ni roddid i bregethwyr y Cyfundeb wrth gymdeithasu a hwy, ac wrth eu cyhoeddi, eu henwau priodol a roddwyd iddynt pan eu bedyddiwyd, ond weithiau chwarter yr enw ac weithiau yr haner; ac os byddai yn gelfyddydwr, cyhoeddid ef gan rai wrth ei enw a'i gelfyddyd ar gyhoedd y werin. Y mae yn debyg fod yr arfer front hon yn codi oddiar dri neu bedwar • bethau. Oddiar amgylchiadau bydol isel y pregethwyr, oddiar arferiad annhrefnus, diddysg, a diddysgu, unffurf, anfoes, nesaf i anwar, yr un modd gyda phethau crefyddol ag arfer fydol, gan ei ystyried yn symlrwydd, yn sobrwydd, yn onestrwydd, ac yn ostyngeiddrwydd, mewn gwrthwynebiad ar falchder, ac ymosodiad arno ef; ac oddiar falchder a hunan gan eraill; ac am hyny nis gallent oddef dim yn debyg o ddangos parch, rhag eu tybied yn uwch na hwynt; ac hefyd i gael cadw y flaenoriaeth, a rhoddi yr uchafiaeth i'r rhai oedd yn offeiriaid, ac a alwyd felly yn y Cyfundeb; canys felly y rhyngodd bodd iddynt hwy. Y pellafoedd ar yr ochr arall yn y Cyfundeb hwn, sydd yr amser hwn yn rhedeg fel tân gwyllt, yn enwedig yn wynebau eu gilydd, ac mewn cyhoeddiadau-rhoi Meistr wrth bob pregethwr, a Pharchedig wrth rai. Ni wneir y sylw hwn i feio y naill pellafoedd na'r llall, er bod y ddau yn feius; canys y mae y pellafoedd yn ol eu natur felly; ond am ei fod yn gyfnewidiad mor fawr ac amlwg, a bod pethau o'r fath yn dangos ffolineb a gwendid; ac i ddysgu eu gochel, canys y mae pob eithafed yn dangos gwyllt, gwamal, a ffol. Eithafoedd arall yn y Cyfundeb hwn a gofir: pan gymerodd ordeiniad le yn y Cyfundeb, yr oedd anhawsdra mawr i gael neb i'w hordeinio, dyna un pellafoedd; yn bresenol nid oes un anhawsdra i ordeinio pawb. Mae y pellafoedd cyntaf yn dangos mawr wendid, oddiar lawer cymysgedd; y mae yr ail yn dangos hunanolrwydd, annealltwriaeth, annhrefnusrwydd, a gwendid gwrachaidd. Pa beth fydd diwedd hyn? Pa beth fydd y pellafoedd nesaf amser a ddengys; ond y mae yn ddiau fod y pethau hyn yn galw am wyliadwriaeth a gweddi at Ben mawr yr eglwys am ei ofal am dani, rhag, wrth golli y cwrs yn aml, i'r llong fyned ar y graig o'r diwedd yn ddrylliau. 1. Goruchwyliaeth ailenedigaeth sydd yn rhoi profiad. 2. Dylanwadau yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi adnewyddiad. 3. Arweiniad yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi cynaliad. Y cyntaf yn braenaru, yr ail yn maethu, a'r trydydd yn addfedu. Gall hyn wneyd gwas defnyddiol dros Dduw, heb ddysgeidiaeth; ond nis gall dysgeidiaeth heb hyn; ond hyn a dysgeidiaeth sydd wedi gwneyd gweision o'r defnydd mwyaf. Mae anmharch ar ddysgeidiaeth, oblegyd y gellir bod yn ddefnyddiol hebddi lle bo y pethau a enwyd, yn gamddeall; mae pwyso hefyd ar ddysgeidiaeth am ddefnyddioldeb heb y pethau a enwyd, yn gamgymeriad; canys y mae i'r naill a'r llall eu lleoedd priodol; ac mewn ystyr nis gall y naill fod yn lle y llall; eto gall y cyntaf fod yn well heb yr ail na'r ail heb y cyntaf. Mae bod yn ngweinidogaeth yr efengyl yn meddu y cyntaf heb yr ail yn fawr anfantais; ac yn meddu dysgeidiaeth heb y tri pheth cyntaf, yn farw, farw, farw; neu heb feddu yr un o'r ddau yn dra rhyfygus. Gwir brofion am wir anfoniad ar ddyn i bregethu:-1. Bod y weinidogaeth yn ddefnydd ymwneyd rhwng y dyn a Duw am dani. Yn (1.) Am gael y genadwri sydd yn weinidogaeth. Yn (2.) Am gynaliaeth gweinidogaeth: iawn wirionedd, iawn ymadrodd, iawn ysbryd a thymher, iawn ddyben ymwneyd â Duw am gynaliaeth diwyr yn y gwaith. 2. Bod y gwaith o bregethu yn weithiad difefi yn ol gair yr Arglwydd. "Iawn gyfranu," na byddo raid cywilyddio, ïe, pe byddai rhaid goddef goganau a chenfigenau. 3. Hollol ymddibyniad y pregethwr am faddeuant ac am lwyddiant ar Dduw i<noinclude><references/></noinclude> b7y02ro71ulo0zgiwugm7y9nhvmug1g Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/193 104 84594 164375 2026-05-07T20:16:28Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "mae hyn, ac yn aml hwynt, yn debyg i anfoniad, canys mae ynddo gydnabyddiaeth o eisiau gwisgo â nerth o'r uchelder. "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" Nis gall Cristion bach fod yn bregethwr mawr; at fod yn bregethwr mawr mae yn rhaid bod yn Gristion mawr. Llais uchel, bloeddfawr, a swn cryf gan Gristion bach, neu ddim Cristion, sydd fel swn mewn corn, neu mewn ogof wag. Pregethwr mawr a Christion bach sydd fel pledren wedi ei c... 164375 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae hyn, ac yn aml hwynt, yn debyg i anfoniad, canys mae ynddo gydnabyddiaeth o eisiau gwisgo â nerth o'r uchelder. "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" Nis gall Cristion bach fod yn bregethwr mawr; at fod yn bregethwr mawr mae yn rhaid bod yn Gristion mawr. Llais uchel, bloeddfawr, a swn cryf gan Gristion bach, neu ddim Cristion, sydd fel swn mewn corn, neu mewn ogof wag. Pregethwr mawr a Christion bach sydd fel pledren wedi ei chwythu, neu ddyn yn y dropsi; y naill yn llawn o wynt heb ddim ynddi, a'r llall yn llawn o ddwfr a gwynt, yn waeth na dim ynddo. Fe ellir bod yn Gristion mawr heb fod yn ddim o bregethwr. Fe ellir bod yn bregethwr mawr ar lawer cyfrif, yn enwedig yn nghyfrif llawer, heb fod yn ddim Cristion: pregethwr yn cynyddu a Christion yn erthylu sydd brawf o fod heb fod yn Gristion na phregethwr; Cristion a phregethwr yn cydgynyddu a wna y ddau yn fawr, ac sydd brawf am wirionedd y ddau. Os gellir cyfrif fel y gwnawd, ac y mae esiamplau o hyn, fod pregethau pregethwr megys dan yr arddeliad mwyaf, ac yntau yn byw mewn pechodau gwaradwyddus yr un pryd, megys godineb, meddwdod, balchder, cybydd-dod, celwydd, yr hyn a ddaeth yn amlwg i'r golwg wedi hyny, mae yn rhaid fod hyny, a barnu wrth reol santeiddrwydd, yn un o ddau beth; naill ai yn effaith cyfansoddiad dynol, megys y gwelir mewn plays, neu yr hyn a gynwysir, os yw ar wahan, mewn ymrithio gan weinidogion satan yn ol satan ei hunan. Yr ydym yn edrych ar y benod uchod o ddywediadau byrion ar bregethu a phregethwyr fel yn cynwys ychwaneg na llawer cyfrol. Maent yn dangos y sylw manylaf, craffder rhyfeddol, dealltwriaeth yn ymylu ar berffeithrwydd yn nghylch natur y gwaith. Nid rhyfedd fod llawer yn ofni pregethu yn ngwydd dyn fel hwn, pan y gwyddent fod ei lygad yn treiddio i waelodion yr holl gymeriad, ac yn alluog i'w ddarllen gyda'r manylwch a'r cywirdeb mwyaf ag oedd bosibl i ddyn wneyd. Yr ydym yn meddwl fod darllen y benod uchod yn taflu mwy o oleuni ar ei symlrwydd, ei sobrwydd, ei ddifrifoldeb, gyda'r gwaith o bregethu, na phe ysgrifenem gyfrolau ar hyny. Un dyn a deimlai yn nghylch pregethu fel efe, a feddyliai fel efe, a edrychai ar ei bwysigrwydd fel efe, ac ymroddi mor llwyr ag efe i'r gwaith, sydd yn sicr o fod yn rhyw un mawr. 140 PENOD XI. Penod i'r Doethion. Yr ydym wedi galw y benod hon wrth yr enw uchod yn gymaint ag mai diarebion synwyrgall ydynt; ac y mae eisiau peth synwyr i ddeall synwyr rhai o hynynt, gan gymaint o synwyr sydd ynddynt. Y maent yn cynwys llawer o synwyr mewn ychydig eiriau, ac nid ychydig o synwyr mewn llawer o eiriau, fel y byddis yn aml. Nid ydym yn gallu rhoi ond ychydig o honynt fel engraifft; perhoddem y cwbl o'r dywediadau fel sydd yn y benod hon, byddent yn cynwys rhyw filoedd yn chwaneg; byddent yn llyfryn bychan eu hunain. Gwell fyddai dyfod â pheth felly allan mewn rhyw ffurf arall nag mewn gwaith o'r natur yma. Beth bynag, gwelir fod gan Mr. Richard hoffder mawr mewn cyfansoddi dywediadau byrion a chynwysfawr; ac y mae y rhai a'i clywsant ef yn pregethu yn cofio yn dda ei fod yn taflu allan ymadroddion felly yn awr ac eilwaith. Calon esgeulus wna fuchedd annhrefnus. Tymher santaidd ar yr enaid wna harddwch santeiddrwydd ar y fuchedd. Mae'r gorchymyn wedi uno ein gofal a'n cysur yn nghyd; meddylfryd ar Dduw, a thangnefedd heddychol yn Nuw. Bod yn ostyngedig mewn llwyddiant yw un o'r pethau penaf yn y byd. Edifeirwch yw newid o anufudd-dod i ufudd-dod. Mae gwrthgilio yn halogi enw yr Arglwydd. Fe ddylai pob peth addysgu dyn i wrando geiriau Duw. Mae anystyriaeth yn dangos naill ai diffyg dyn neu ddiffyg duwiol, ac weithiau pob un o'r ddau. Y peth nad yw yn golled ei golli, nid yw yn enill ei feddu. A ymddiriedo i'w ddeall ei hun a syrth i'w bydew ei hun. Gwybodaeth gyffredinol heb ddim yn gymhwysiadol nid yw fuddiol. A fyn ei ffordd a fyn ei therfyn. Diofal yw diafael. Ni fyn ofalu a fyn wastraffu; a fyn wastraffu a fyn dlodi; a fyn dlodi a fyn ei anmharchu. A fyn angen, a fyn gragen. Gwybod i bawb ond iddo ei hun, yw y callaf o bawb a'r ffolaf o neb. Y neb ni chymer addysg a ddyfethir o eisiau gwybodaeth. Nid oes dim a rydd ddyn i lawr ond efe ei hun; na dim rydd ei hun i lawr ond ei bechod. Meddwl mawr am dano ei hun a fyn ddangos ei hun yn fawr. Harddwch dyn ato ei hun yw cuddio ei hun. Y fedr fwyaf i ddyn yw ymwadu ag ef ei hun. Iawn ymddygiad dyn at Dduw yw rhoddi ei hunan i Dduw. Gwely priodas a oero, nid hawdd ei dwymno; fe ddylai fod yr olaf i oeri, canys mae yr anhawddaf i'w gynesu. Y cyntaf a orchfygodd ddyn yw y diweddaf a orchfygir ganddobalchder. Mae fel calon y cwbl; y cyntaf yn fyw, a'r diweddaf yn marw. Gostyngeiddrwydd yw rhinwedd Crist, ac ysbryd Crist, unig addurn a harddwch Cristion, -unig blanigfa a meithrinfa Cristionogaeth. Mae mor bell oddiwrth fod yn niwed i un gras, fel y mae yn ei gysgodi rhag rhuthr a drwg; am hyny nid anmhriodol yw ei alw yn noddwr gras. Mae yr hwn a gario rasusau eraill heb ostyngeiddrwydd fel cario powdwr heb orchudd drosto mewn gwynt. Ychydig ŵyr neb am ei eisiau nad yw yn aml mewn gweddiau. Ychydig o weled daioni sydd lle nad oes moli. Mae cariad y creadur yn troi yr enaid yn ddaear. Calon dan reolaeth hunan-elw sydd bob amser yn anesmwyth. Mae hunan yn drallodwr poenus. Santeiddrwydd mewn Cristion yw delw Duw; rhagrithiwr yn ei ddynwared nid yw ddim ond delw Cristion. Os na ddylynir santeiddrwydd, peidier ei erlid. Fel mae enw yr Arglwydd, felly mae ei ffyrdd; i gyd yn rhyfeddol. Mae pob dyledswydd a orchymyn yr Arglwydd â'i addewid yn gysylltiedig wrthi. Pa beth yw archiadau Duw i'w blant ond ei addewidion cuddiedig? Addewidion Duw mewn effaith yw y rhwymiad y mae yn ei arddodi arno ei hun. Gair yr Arglwydd yn llaw ffydd yw ffon pererindod; ar hon mae pwyso pan yn diffygio, ac ymgysuro mewn ofn. Fe all ffydd gyflawni eisiau pob peth tymhorol. Mae ffydd yn fedd i ofal. Yr unig fel i bawb at bob peth yw eu dyledswydd. Mae cymaint o eisiau amynedd i ddysgwyl, ag sydd o eisiau olew ar y lampau. Gwir gariad Duw yn enaid dyn, yr hyn yw brawdgarwch diragrith, yw caru cyfaill yn Nuw, a charu gelyn o herwydd Duw. A gesglir trwy gybydd-dra a wasgerir mewn llwfrdra. Cryfder gyda chrefydd yn groes i ysbryd crefydd sydd ryfyg erchyll. Grym gwirionedd a bregethir yw ei oleuni, ei resymeg, a'i santeiddrwydd. Y rhagoriaethau mwyaf bâr y genfigen ffyrnicaf. Pa fwyaf tanbaid bo'r gwirionedd, mwyaf amlwg fydd yr anwiredd. Y mwyaf ysbrydol yw y mwyaf anoddefol. Nesâu at ffau, nesâu at lewod. : Mwyaf dros Dduw yw y mwyaf yn erbyn y diafol; a'r mwyaf yn erbyn y diafol a wrthwynebir fwyaf gan y diafol. Pleidwyr mwyaf diafol yw rhith crefyddol, a'r mwyaf rhith crefyddol yn bleidiwr i satan yw y cnawdol yn meddu y manteision mwyaf yn grefyddol; megys dysg, dawn, gwybodaeth, a swyddau. Y peth sydd yn dyrysu y byd bach hwn yw bod pethau da lle mae arglwyddiaeth pechod, a llawer o bethau drwg lle mae arglwyddwyddiaeth gras. Mae arglwyddiaeth pechod lle nad oes edifeirwch am bechod. O bob twyll, y twyll mwyaf yw y gwaethaf. O bob colled i natur yn y byd, colli y bywyd yw y mwyaf; o bob colled i ddyn, colli ei enaid yw y mwyaf. Unig reol iawn farn am bob peth yw gair Duw. Gelyn mwyaf dyn yw ef ei hunan; cariad mwyaf dyn ato ei hun yw ei berygl mwyaf iddo ei hun. Nid oes dim mor rhagorol a daioni, na dim daioni mor deilwng a'r hwn sydd unigol, neillduol, canys mae hyn yn dangos purdeb ac ardderchawgrwydd egwyddor. Yn ol argyhoeddiad ein barnau y penderfynir ein hymddygiadau. Wrth weled y nifer sydd yn barhaus ac yn gyson wrandawyr pregethu yr efengyl, fe ellid meddwl eu bod yn wir addolwyr Duw; ond pan dylynir hwy i'w tai, fe welir nad ydynt ddim gwell na phaganiaid, na chystal; canys mae gan y paganiaid eu delwau teuluaidd a addolir ganddynt bob dydd yn ddinacad; ond mae y rhai hyn yn fwy digrefydd yn eu teulu na'r ŷch yn y beudy. Os Cristionogion, byddwn Gristionogion; os Israeliaid, byddwn Israeliaid yn wir. Mae boddloni am grefyddol ar ymarferiadau eglwysol, megys proffesu, darllen y gair, gwrando, pregethu, canu, gweddio, a chymuno, heb ddim crefydd deuluaidd, yn gyfeiliornad damniol. Megys nas gellir rhanu Crist, nis gellir rhanu Cristionogaeth; mae yn rhaid iddi fod yn gyfan mewn rhanau neu fod yn ddim. Mae rhai tymherau dynol i gyd yn eithafion; os bodd, coroniad; os anfodd, croeshoeliad; hyn yw eu holl ymddygiad. Mae gofyn cwestiynau crefyddol i'r rhai hunan-ddoeth cnawdol yn dra pheryglus a niweidiol. Gweddi heb daerni sydd fel cloch yn canu-i gyd yn swn heb ddim sylwedd. Mae yn ymddangos fod tri pheth prin yn mhrofiadau Cristionogion yn y dyddiau hyn; yn 1. Goruchafiaeth ffydd ar y byd. 2. Gorfoledd yr iachawdwriaeth. 3. Y fuddugoliaeth sydd yn Nghrist Iesu ar angau a'r bedd. Y cymhwysaf i fyw yn y byd yw yr hwn a ŵyr na fedr; y cymhwysaf i fyw mewn eglwys yw y mwyaf adnabyddus; y cymhwysaf i fyw mewn teulu yw y mwyaf dyoddefus; y cymhwysaf i fyw ato ei hun yw y mwyaf ofnus am dano ei hun; y cymhwysaf i fyw at Dduw yw y mwyaf gwylaidd. Celfyddwr yw iawn ymddwyn yn ffordd dyledswydd am gysur. Llaw a llygad sydd iawn drefniad. Cael ysbryd gweddi yw y cael mwyaf yn nhaith Cristion, canys y mae yn effaith cymod â Duw, ac yn ernes am holl addewidion Duw. Ofni pechod yn mhob peth, yn mhob man, bob amser, sydd effaith ofni yr Arglwydd; a phechu yn erbyn Duw sydd yn ei achosi. Myfyrdod yw mamaeth cof; cof yw mamaeth cadw; cadw yw mamaeth cynydd. Na fyno gynghor ni fyn addysg; na fyno addysg ni fyn wellhad. Gwraig ddrwg sydd felldith i'w theulu; gwraig dda sydd fendith; Nid oes un dyn heb feiau; mae nodi beiau i leihau rhinweddau yn sicr nodau balchder a chenfigen. mae y naill yn dystrywio, mae y llall yn adgyweirio. Mae y peth nad yw ei eisiau, ar y ffordd. Mae arnaf ofn pawb, mae arnaf ofn pob peth, mae arnaf ofn pob man, heb Dduw gyda mi. Mae magl mewn dyn heb Dduw ynddo. Mae profedigaeth yn mhob man heb Dduw ynddo i waredu; mae anallu at bob peth heb Dduw i nerthu ato. Yn nghyfeillach ymwelwr na fydd ddarllenwr; mewn cyfeillachu gwylia ar lefaru. Gochel dy dwyllo gan agwedd fo'n swyno. Nid wrth fwynder geiriau y mae adnabod tymherau; yr arafa ei agweddau yw y poethaf ei nwydau. A ddygo ei hun ni raid wrth arall; na ddygo ei hun nis gall arall. Santeiddiedig gystuddiau sydd ysbrydol ddyrchafiadau. Llyfr egwyddorion yw y Bibl, nid llyfr dadleuon. Mae medru atal y tafod y fedr fwyaf i ddyn. Mae gwybod amser i dewi ac amser i lefaru y wybodaeth oreu mewn cwmpeini. Iselu mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi adgyfodiad i feiau; codiad mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi codiad i rinweddau, pan y gall mewn gwirionedd na byddo'r naill na'r llall. A feio bawb ond ei hun a feïir ei hun gan bawb; a feio ei hun nis beïir gan neb. Serchiadol a defnyddiol yw goreu gwraig mewn gwaddol. Rhinwedd yw rhagoriaeth, teilyngdod yw canmoliaeth. Nid oes un rheswm heb reol, nac un rheol heb wirionedd. Gwell yw cariad nag aur; arian a ateb i bob peth, ond ni cheir cariad er arian. Gwell yw cariad heb aur, nag aur heb gariad. Cariad heb aur wna lety oer yn gynes; aur heb gariad wna lety cynes yn oer. Yr hwn ni wel fraint mewn gweddi ni ddylai gael pregethu. Gyda'r dig na hir drig. Mae cenfigen fel cnoi esgyrn, yn tori danedd ac yn chwanegu pydredd. Iawn ddeisyfiad yw, Gwared fi rhag pob dyn, yn enwedig rhagof fy hun. Nid oes neb a obeithia yn Nghrist ond sydd yn anobeithio ynddo ei hun. Ni wel neb y nefoedd sydd yn Nghrist ond a wel yr uffern sydd ynddo ei hun. Nid yw y weledigaeth fwyaf o hyn ond dechreu gweled, a'r gweledydd mwyaf am hyn a ŵyr hyn fwyaf. Ochrog sydd wyrog; y canol yw'r cymhwys. Dydd byr a ffordd hir i'w theithio bâr lesmeirio. Llawer o waith ac ychydig am dano bâr i'r cryfaf i ddiffygio. Yr hwn ni adwaen hunanol yn ei oreuon sydd a'i oreuon yn hunanol. Prif dangnefedd crefydd yw gwaed Crist; prif drysor crefydd yw cyflawnder Crist; prif obaith crefydd yw eiriolaeth Crist; prif ddymuniad crefydd yw gogoneddu Crist; prif nefoedd crefydd yw bod gyda Christ. Undeb a Christ yw yr unig beth angenrheidiol sydd raid i bob dyn ei feddu at farw yn dduwiol; gras adnewyddol sydd raid i bob duwiol gael yn yr amgylchiad hwnw at farw yn gysurol,<noinclude><references/></noinclude> ax5fk9f1mm2aiqjwu2b2wz1owv3osj4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/198 104 84595 164376 2026-05-07T20:18:43Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae barn fwhwmanllyd yn dangos ffydd hunanllyd. Haws yw gweled gwall na'i wella. Mae mynu yr ufudd yn fwy na'i allu; mae gallu yr anufudd yn fwy na'i fynu. Diddysgu, diddysg; na ddysgo tra parhao ei fywyd a fydd farw yn ynfyd. Tymher mewn dyn na chymero addysg yw un o'r tymherau mwyaf anhyfryd, os nid y fwyaf, i gydfyw â hi. Y mwyaf ei wybodaeth a adwaen ei anwybodaeth fwyaf. A chwarddo mewn dygasedd yw y gwaethaf annhymeredd.... 164376 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae barn fwhwmanllyd yn dangos ffydd hunanllyd. Haws yw gweled gwall na'i wella. Mae mynu yr ufudd yn fwy na'i allu; mae gallu yr anufudd yn fwy na'i fynu. Diddysgu, diddysg; na ddysgo tra parhao ei fywyd a fydd farw yn ynfyd. Tymher mewn dyn na chymero addysg yw un o'r tymherau mwyaf anhyfryd, os nid y fwyaf, i gydfyw â hi. Y mwyaf ei wybodaeth a adwaen ei anwybodaeth fwyaf. A chwarddo mewn dygasedd yw y gwaethaf annhymeredd. A chwarddo pan fo ddicaf, yw y dig gwaethaf. Dig mewn chwerthin yw gwaetha'r gelyn. A chwarddo â'u geneuau a llid yn eu calonau sydd brif addasrwydd at fradwriaethau. Genau yn gwenu a'r galon yn ysgyrnygu yw cusanu a brathu, fel gwisgo du a gwyn, a dangos angel gan gythraul. Iawn adnabyddiaeth ar ddyn yw peidio ofni un dyn ond efe ei hun. A ofno ei hun yn iawn ni raid iddo ofni dim ar neb. A ofno bawb o'i blegyd ei hun a ofna ei hun yn fwy na phawb. Dyweyd gwir a chynghorion da yw y ffrwythau goreu yma. A wertho wir sydd ynfyd. A chwarddo am ben synwyr sydd ffolaf o'r ffyliaid. A dalo ei ddyled yn fach nid aiff byth yn fawr. Mae dwl synwyrau yn obeithiol, mae dwl dymherau yn anobeithiol. Pa ffurf bynag a ddefnyddir nid yw ddim amgen na ffurf; y dyben sydd yn hyn, fel pob peth arall, yn coroni y weithred. Y ffurf oreu ar bregethu yw y goreu i egluro, a'r goreu i gofio. Mae barn rwym wrth bersonau yn slaf i agweddau, a gwaeth na diffyg synwyrau; canys ni wel na rhinwedd na gwaeledd. A wneir a fydd. A lwyddir a lwydda. Nid oes un cryf heb wendid. Ni bu un ar y ddaear erioed a foddhaodd bawb, a bod ynddo wir rinwedd i bawb. Y gair yw y datguddiad, ffydd yw y defnyddiad, yr Ysbryd Glân yw y rhinweddiad, gweddi yw yr arferiad. Mae cynaliaeth o'r gair mewn profedigaethau yn brawf o rasusau, ac yn fwy ei werth na pherlau. Un o orchestion ffydd yw dal llwyddiant yr annuwiol heb genfigenu, ac aflwyddiant y duwiol heb lewygu. 145 PENOD XII. Penod i bawb. Yn gymaint a bod yr ymadroddion a ganlyn, y rhai a gyfansoddant y benod ddylynol, yn cynwys dywediadau cyffredinol ar gynifer o bethau, crefyddol a chymdeithasol, yr ydym yn cyfeirio y benod hon at bawb; ac y mae croesaw i bob un gymeryd cymaint ag sydd yn perthyn iddo, a myned rhagddo; fe allai y daw rhyw un i gymeryd at ryw bethau ag y mae efe yn eu gadael yn ol. Y maent yn ymadroddion tlysion, buddiol, a ffraeth, ac yn dyweyd llawer iawn am ddullwedd yr awdwr, mwy fe allai nag a fyddai yn bosibl ei ddyweyd trwy ddesgrifiad hebddynt. Yr ydym yn eu rhoddi gan hyny er cyrhaedd dau ddyben; sef yn gyntaf, i ddesgrifio ei briod-ddull, ac hefyd er buddioldeb cyffredinol. Fe welir, yn ddiamheu, y byddant yn werth eu darllen lawer gwaith drostynt ynddynt eu hunain, ar wahan oddiwrth y Cofiant. Holl wybodaeth y grefydd Gristionogol yw gair yr Arglwydd; ei holl adnabyddiaeth, y ffydd; ei holl rinwedd yw tywysiad yr Ysbryd Glân. Adnabyddiaeth o'r Arglwydd yw planiad delw Duw ar yr enaid. Mewn cymdeithas â'r Arglwydd mae yr holl natur yn cael ei santeiddio, yr hyn yw tebygoli i Dduw; ac mewn pob gradd o gydffurfiad ag ewyllys Duw, yr hyn yw ei air, mae tangnefedd yn cael ei fwynhau. Callineb, arafwch, a gostyngeiddrwydd yw prif addurn dyn. Mae hyn heb na defnyddiol iawn na duwiol iawn, yn gwneyd y perchenog i fod yn barchedicaf mewn cyfundeb. Pump annghysur mewn teulu yw teulu o annghysur:-1. Anwybodus. 2. Annefnyddiol. 3. Anfedrus. 4. Anserchiadol. 5. Anufudd. Lle mae hyn nid oes fesur ar y gofid. 1. Rhyfel poethaf y Cristion yw hunan-ymwadiad. 2. Gelyn penaf Cristion yw annghrediniaeth. 3. Gwaith hyfrytaf Cristion yw gweddio. 4. Dyledswydd fanylaf Cristion yw gwylio. Cyfoeth meddylfryd yw, amrywiol, trefnol, gwreiddiol, a naturiol. Hyn, dan ddylanwad ysbryd yr efengyl, yw duwiol a defnyddiol, a phrin iawn yn yr oes bresenol. Yr ydwyf yn dri phechadur mewn un: 1. Pechadur naturiol, euog, ac aflan. 2. Pechadur crefyddol. Mae fy holl gyfiawnderau megys bratiau budron. 3. Pechadur swyddogol-pechadur pregethwrol. Nid wyf yn abl gweled dim yn wyneb y tri hyn yn haeddedigaeth i mi ond damnedigaeth; am hyny yr wyf â'm holl H galon am fod fy holl fywyd yn ffoedigaeth i'r Noddfa, trwy gyson a dibaid roddiad arnaf fy hun i Geidwad y colledig, a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai penaf ydwyf fi. Y Tad a'm tyno; Crist a'm golcho; yr Ysbryd Glân a'm selio; yr hyn yw fy unig obaith am fywyd. Nid hanes na dysg yw hyn, ond profiad; er na bu genyf brofiad erioed oedd yn ddigon dwys a phrofiadol. Un o ryfeddodau mwyaf y nef, os nid y mwyaf, fydd i mi fod yn ddigywilydd. Nid oes arnaf ofn un gelyn ond hunan, nac ofn digio neb ond yr Arglwydd, nac ofn un drwg ond pechod. Pedwar cael a cholli yw y nefoedd yr wyf yn ei cheisio. 1. Colli llygredd mewn santeiddrwydd. 2. Colli hunan yn Nuw. 3. Colli ofn mewn cariad. 4. Colli gwendid mewn nerth; a chan mai dyfroedd y bywyd yw hyn, a gafwyd trwy waed Crist, a chroesaw i bawb a sychedo ac a ewyllysio eu cymeryd, paham y byddaf finau hebddynt? Sylw wnaeth y Parch. Daniel Evans, Harlech, yn Wdig wrth bregethu ar y salm, "Wele ceraist wirionedd oddifewn;" hyny yw, egwyddor meddwl syml a diragrith. Dywedai y gallai dyn fod yn broffeswr uchel, parchus gan bawb, pawb yn ddiddig ato, heb wirionedd oddimewn; ond mai y peth oedd diafol yn cynddeiriogi wrtho fwyaf oedd y gwirionedd hwn oddimewn, a'i fod yn gwneyd ei holl egni i gynhyrfu pawb yn erbyn y person a'i medd. Y mae fel lleidr, yr hwn ni anturia ddim lle y mae y pwrs yn wag, pan yr anturia ei fywyd at un llawn, fel y gwna y mwnwr yn gwasgar y llwch ac yn dryllio y graig, i gael gafael ar y wythien; nid at y pridd na'r ceryg y mae ei amcan ef, ond at y wythien. Fe gynhyrfodd pawb yn erbyn Job; nid at ei feddianau oedd y llid, ond at ei uniondeb a'i berffeithrwydd, -"gwirionedd oddimewn." Bu hyn yn gymaint bendith i mi a phe daethai yn llythyr seliedig o'r nefoedd. Dymunol gan bob credadyn fyddai cofio holl weddiau Dafydd, holl ddiarebion Solomon, holl athrawiaeth Paul, holl gynghorion Pedr, Iago, ac Ioan. Yn wyneb pob methiant am hyn, y peth cyflawnaf yw ofn Duw yn y galon. Gwell cariad nag aur. Gwell heddwch na thrysor. Gwell rhinwedd na meddiant. Gwell diddig na dawn. Gwell ofn Duw na meddu byd. Maint egwyddor gwir wir grefydd yw santeiddrwydd. Maint gwir wybodaeth yw ffydd. Maint gwirionedd crefydd yw cariad sydd yn y gair, cariad sydd at y gair, santeiddrwydd sydd yn ol y gair. Y gwahaniaeth sydd rhwng ffydd hanesiol a ffydd gadwedigol yw fod yr hanesiol yn ymchwyddol, a'r llall yn ymostyngol; a rhwng cariad cnawdol a chariad ysbrydol yw, fod y naill at amgylchiadau y gair, a'r llall at burdeb y gair. Tri dymuniad: -Credu yn gywir yn Nghrist, ymddiried yn gywir yn Nghrist, rhoddi yr holl ogoniant yn gywir i Grist, trwy ras Crist, a chymeradwyaeth yn Nghrist. Mae holl afrwydd ac aflwydd Cristion yn ei ddaearoldeb, -edrych ar y pethau a welir; mae ei holl rwydd a'i lwydd mewn nefoldebedrych ar y pethau ni wėlir. Syniad y cnawd, daearoldeb yw; syniad yr ysbryd, nefoldeb a thangnefedd yw. At feddu y syniad hwn mae yn rhaid meddu bywyd ysbrydol, yr hyn yw anian dduwiol; ameddu llygaid ysbrydol, yr hyn yw ffydd; a goleuni ysbrydol, yr hyn yw nerth ysbryd Duw; ac nid yw hyn heb ymdrech. Trefn yr iachawdwriaeth yw noddfa pechadur, gras yr Arglwydd yw cysur pechadur, Crist yr Arglwydd yw digonedd pechadur, enw yr Arglwydd yw dyogelwch pechadur, Ysbryd yr Arglwydd yw lladmerydd y pechadur, trugaredd yr Arglwydd yw concwest y pechadur, efengyl yr Arglwydd yw trysorfa y pechadur, delw yr Arglwydd yw harddwch pechadur, bodd yr Arglwydd yw cyfoeth pechadur, gair yr Arglwydd yw y golofn i bechadur, tŷ yr Arglwydd yw trigfan pechadur, gwaith yr Arglwydd yw gwasanaeth pechadur, pobl yr Arglwydd yw perthynasau pechadur, nefoedd yr Arglwydd yw cartref pechadur, wyneb yr Arglwydd yw goleuni pechadur. Hyn mewn ffydd yw credo pechadur sydd gredadyn. Defnyddio y Gwaredwr yw rhoi yr holl ofal arno, yn enwedig gofal ein profedigaethau oddiwrth bicellau tanllyd y fall, a rhag ein temtio uwchlaw yr hyn a allom, a rhag awr chwyrn, ryferthol y brofedigaeth; a gofal ein hofnau am gyflwr, rhag bod heb ein symud o farwolaeth i fywyd; ac am ffydd, rhag nad yw yn ddiffuant-yn ffydd gyfiawnhaol; ac am ein gweddiau, rhag eu bod yn rhai ysgafn, rhagrithiol, a hunanol; ac oblegyd hyny yn y cnawd, heb allu rhyngu bodd Duw; ac am ein hadnabyddiaeth o'r Arglwydd, rhag nad yw yr adnabyddiaeth sydd genym yn ei adnabod ef, a Iesu Grist, yr hwn a anfonodd. Rhoddi yr holl ofal am hyn arno ef yw bwrw ein baich ar yr Arglwydd, i roddi y gogoniant iddo, ac ymddiried ynddo, fel y mae yn Waredwr; mae hyn mewn arferiad parhaus yn dangos bod heb dwyll. Prawf sicr o adnabod yr Arglwydd, er mewn llawer o ofnau, yw rhodio yn ofn yr Arglwydd. Rhodio yn ei ofn yw crynu wrth ei air; crynu wrth ei air yw dymuniad a gofal am ufudd-dod dyn i'w holl air. Nerth i gynal yn wyneb marw yw nerth i ymddiried yn yr Arglwydd; hyny yw, nerth i ddysgwyl wrth ei air, sydd yn dangos trefn iachawdwriaeth i gadw colledig. Fe ddichon y bydd profiadau gwahanol lle byddo hyn, a hyny lawer gwaith oblegyd llawer o amgylchiadau, a hefyd yn ol ewyllys Duw, rhai yn fwy gorfoleddus, ac eraill yn fwy ofnus. Mae cynal meddwl mawr am ei drugaredd yn y glyn yn fwy ei werth na'r holl fyd. Ymarfer i ymwrthod â phob meddwl cul am Dduw trwy ffoi at ei enw mawr gogoneddus sydd dŵr cadarn. Mae pethau crefyddol duwiolion dan effeithiau mawr oddiwrth eu pethau dynol, megys iechyd ac afiechyd, amgylchiadau, sefyllfaoedd bydol llwyddianus, aflwyddianus, neu helbulus; tymherau naturiol, dygiad i fyny, llwybr ac arferiad y meddwl, helaethrwydd neu brinder gwybodaeth ac amgyffrediad. Mae effeithiad gan y pethau hyn ar bethau crefyddol duwiolion yn debyg o achosi camsyniadau oddiwrth eraill am eu duwioldeb. Harddwch dyn yw gostyngeiddrwydd. Nid oes un dyn ar y ddaear yn rhy isel, beth bynag fyddo ei iselder, i fod yn un hardd, os bydd yn ostyngedig. Nid oes un dyn ar y ddaear yn ddigon uchel, beth bynag fyddo ei uchder, i fod yn hardd, os bydd yn falch; ond mwy na phob anharddwch y balch yw fod Duw yn wrthwynebwr iddo; a mwy na phob harddwch y gostyngedig yw, ei fod yn wrthddrych i roddi gras iddo. At obeithio yn unig yn Nuw, mae yn rhaid cael yr olwg yn unig ac yn llwyr oddiwrth bawb a phob peth i gyd at drefn yr iachawdwriaeth, heb edrych dim yn ol ar a fu yn achos y goreu o ddynion, heb edrych dim ar y sydd yn perthyn i'r goreu o ddynion, ac heb edrych dim ar a fydd am y goreu o ddynion; canys y mae yn hanes pawb o ddynion, y duwiolaf, ddigon i ddyrysu y doethaf. Yr olwg hon gan hyny yw dystewi yn yr Arglwydd, a dysgwyl wrtho; ymffrostio yn unig yn yr Arglwydd, a bod a'r holl ymddiried yn unig a byth ynddo; canys er bod y cwmwl tystion i'w ddefnyddio fel arwyddion ffordd, nid oes neb ond Iesu i edrych arno at redeg yr yrfa a osodwyd o'n blaen. Mae y cwbl am y nefoedd mewn hawl, cymhwysiad, a mwynhad, yn cael ei feddu yn ernes gan bawb a wnelo drefn yr iachawdwriaeth eu noddfa. Mae yr hawl mewn cyflwr, mae y cymhwysder mewn anian, mae y mwynhad mewn dymuniad nas digonir ond gan ddelw Duw. Mae y cwbl am y nefoedd ond a geir yn nghynwysiad hyn, yn tueddu yn fwy at ddychymygion cnawdol a syniadau dynol nag at olygiadau ysbrydol sydd i'w hadnabod yn unig wrth air Duw. Pe chwanegid llawer o flynyddoedd at a gafwyd, nid oes dim i wneyd na wnawd, ac a wneir yn barhaus bob dydd at gyfarfod yr awr y daw Mab y dyn; hyny yw, rhoddi y penaf pechadur, yn wyneb cymhwysder trefn yr iachawdwriaeth, i Dduw yn ol ei orchymyn. Rhoddwch eich hunain i Dduw; yr hyn a wneir mewn defnyddiad o weddi y publican, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi bechadur;" ac o ddesgrifiadau Dafydd, "Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ol dy drugarogrwydd; yn ol lluaws dy dosturiaethau dilea fy anwireddau;" ac o'r un cais a'r apostol Paul, "A'm cair ynddo ef." Os bod yn Nghrist yw hyn, mae y gwrthddrych hwn ynddo-nid heb lawer o ofnau. "Dim ond diolch yw fy lle." Pan byddo eraill yn cyfarth, minau ddiolchaf; os cawsant hwy eu gwenwyno, mi a gefais fy nghysuro, nid cymaint gan y rhodd a chan ei hachos. Mae cael bod yn gydddinesydd â'r saint, ac yn un o deulu Duw, y fraint uchaf yn y byd. Mae bod yn foddlon i farw yn yr amser terfynedig i hyny, gan ddysgwyl yn unig wrth drugaredd yr Arglwydd, yn ol ewyllys Duw, am fywyd tymhorol a thragywyddol. Mae gofyn yn barhaus faddeuant am bob bai, yn unol â threfn Duw am ei drugaredd i bechadur. Mae iawn synied am yr hyn a gyfrifir yn wendidau i ddynion yn angenrheidiol at beidio cyfeiliorni am hyn. Nid yw bod y fuchedd hon i bob dyn yn sefyllfa o bechadurusrwydd ac anmherffeithrwydd<noinclude><references/></noinclude> 0stmc78retyu5g38duj9j9o8xn32ww3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/203 104 84596 164377 2026-05-07T20:20:20Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "na newydd na dyeithr i bawb sydd yn adnabod y gwirionedd; ac nid yw y gwahanol dymherau sydd yn perthyn i bob dyn ond y peth sydd yn hanfodol i'w gyfansoddiad; ac am hyny nis gellir yn briodol eu nodi yn wendidau i'w beio. Yn ol cysondeb barn rheswm, y gwendidau i'w beio yw yr hyn sydd yn llygredigaethau mewn un yn llygru eraill, ac a fyddo yn demtasiynau i lithio eraill, a'r cyfeiliorni fyddo yn caledu eraill, megys annghyfiawnder,... 164377 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na newydd na dyeithr i bawb sydd yn adnabod y gwirionedd; ac nid yw y gwahanol dymherau sydd yn perthyn i bob dyn ond y peth sydd yn hanfodol i'w gyfansoddiad; ac am hyny nis gellir yn briodol eu nodi yn wendidau i'w beio. Yn ol cysondeb barn rheswm, y gwendidau i'w beio yw yr hyn sydd yn llygredigaethau mewn un yn llygru eraill, ac a fyddo yn demtasiynau i lithio eraill, a'r cyfeiliorni fyddo yn caledu eraill, megys annghyfiawnder, dichell, twyll, celwydd, a phob rhyw anfoes bucheddol. Mae gwahanol dymherau yn wastad yn gweled y gwahaniaeth yn ngwendidau y naill y llall, ond heb weled neb gwendidau yn eu tymherau eu hunain. Nid unrhyw dymherau yw rheol a rheswm barn am wendidau na rhinweddau, ond gwirionedd. Os yw gwirionedd yn arglwyddiaethu ar ddyn i beri darostyngiad iddo, yn rheol i droedia wrthi, ac yn nod i ddyn gyrchu ato, mae mor rhydd oddiwrth wendidau i'w beio a'u henwi ag y gellir dysgwyli ddyn gyrhaedd yn y bywyd hwn. Mae mynu credu yn yr Arglwydd er cymaint fyddo yr annghrediniaeth, mae mynu caru yr Arglwydd er cymaint fyddo yr anwybodaeth, mae mynu gobeithio ynddo er cymaint fyddo yr anobaith, mae mynu dysgwyl wrtho er cymaint fyddo y diffygio, mae mynu ymddiried ynddo er cymaint fyddo yr ofnau, mae mynu diolch iddo, er cymaint yw dyfais diafol i geisio dangos gwaredigaethau a thrugareddau a geir yn atebiad i weddiau yn ddygwyddiadau damweiniol; ewyllysio byw yn dduwiol yw y mynu hwn. Nid oes dim a geidw y credadyn heb lewygu wrth feddwl am gyflwr yr annuwiol yn marw, yn enwedig am berthynas naturiol yn y cyflwr hwnw yn marw, ond cymaint o nerth a gras a roddir i'r dduwiol anian ynddo i bleidio ewyllys Duw; a thewi mewn ymostyngiad iddo, canys cafodd gyfiawnder, yr hyn yw iaith anian Duw yn ymostwng iddo. Isel ger bron Duw, a diolchgar yn mhob dim i Dduw, yw yr iawn agwedd ar bechadur tuag at Dduw. Mae hyn yn llawer mwy mewn dymuniad nag y gall fod mewn cyrhaeddiad. Mae deall hyn yn fawr fraint; mae camddeall hyn yn fawr golled. Prawf am ei wirionedd yw ofni bod heb ei feddu; prawf bod heb ei feddu yw anystyriaeth am dano. Mae yn rhaid cael ffydd Crist at gredu holl wirionedd gair Duw. Prif waith ffydd yw credu yn Nghrist, canys mae holl berthynasau yr Adda cyntaf yn mhob dyn, yr hyn yw hunan-gyfiawnder. Mae gosod hwn i fyny yn gais gan bawb sydd heb adnabod cyfiawnder Duw, ac heb ymostwng iddo, ond yn profi yn barhaus wrthwynebiad iddo, gan geisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, er yn ol eu barn y gwyddant nad oes un i'w gael; eto mae hunan-gais yn duedd feunyddiol, fel mae y priodoldeb mwyaf i'r rhai sydd yn Nghrist, oblegyd y gofid a deimlant o herwydd y duedd hon yw yr un cais, i'w pharhau dros eu holl fywyd, ag oedd Paul yr hwn oedd yn Nghrist yn ei geisio, "Ac y'm cair ynddo Ef!" Ni fyn y Gwaredwr neb ond pechadur; ni fyn pechadur neb ond Gwaredwr. Rhodd Duw yn yr efengyl yw Crist i bechadur. Bod dyn yn ol yr efengyl yw pechadur i Grist. Duw a phechadur yn cyfarfod â'u gilydd yn Nghrist yw hyn. Mewn undeb â Christ, pechadur yn ei le, Duw yn ei drefn, yw sicrwydd am fendith. Y cwbl at Dduw yw edifeirwch; cwbl pechadur at Grist yw ffydd, cwbl pechadur ato ei hun yw hunan-ymwadiad. Mae y cyntaf yn ddychweliad at Dduw, yr ail yn ymorphwysiad ar drefn Duw, y trydydd yn ffoedigaeth oddiwrth hunan at Dduw. Cynwysiad egwyddorion gwir grefydd yw trugaredd, pechadur, a gweddi. Trugaredd yw gobaith bywyd, pechadur yw profiad bywyd, gweddi yw arferiad bywyd. Fynghwblam danaf fy hun fel dyn, fel crefyddwr, ac fel pregethwr yw gwaeleddau. Os oes gan ryw ddyn ryw beth dynol i ymffrostio ynddo, nid myfi; os oes gan ryw grefyddwr ryw beth crefyddol i ymffrostio ynddo, nid myfi; os oes gan ryw bregethwr ryw beth pregethyddol i ymffrostio ynddo, nid myfi. Nid oes dim yn gymhwys i mi ond fy nghael ynddo Ef. Lle mae y Jehofa yn wrthddrych blaenaf dymuniad, a Christ yn bob peth at gyrhaedd y dymuniad hwnw, a'r nefoedd yn unig wlad a chyflwr i fwynhau y dymuniad hwnw, y mae yno anian dduwiol. Mae cymaint o gymysgedd, gwendid, ac anmherffeithrwydd yn nglyn â phob dymuniad, fel nad oes dim yn bod heb ofnau am dano sydd ysbrydol tra byddis yn y cnawd: effaith gnawdol yw ofnau. Mae yr Arglwydd yn ddiau trwy weinidogaeth y gair yn y dyddiau hyn yn gweithio y gwaith da mewn dynion; ond am nad yw yn gweithio yn yr un dull a modd ag yr oedd yn y blynyddoedd aethant heibio, mewn ofn a braw, pan oleuid hwy gyntaf am berygl eu cyflwr, nes llefain allan pa beth i wneyd i fod yn gadwedig, nid yw mor amlwg yn y dyddiau hyn a'r dyddiau hyny. Fe all dau beth fod yn achos o hyny: y gwelliant sydd ar addysg er helaethiad gwybodaeth a deall, nad oedd y dyddiau hyny; ac i waredu rhag ymddiried mewn profiadau, ac nid yn y gras sydd yn Nghrist Iesu. Mae yn debyg mai nid pell o feddwl y rhai a brofasant bethau nerthol, am grefydd ac am grefyddwyr na phrofodd yr un pethau yn yr un dull, eu bod yn ddim, a'u bod heb ddyfod i'r iawn, heb gael gwir symudiad, na meddu gwir grefydd. Er fod profiad yn peri gobaith, nid profiad yw gwrthddrych gobaith na defnydd gobaith, ond rhinwedd i nerthu gobaith, fel mae rhinwedd ymborth i nerthu natur trwy ymborth. Ofni yr Arglwydd yw prawf sicr am wir grefydd; ac nid holl berthynasau crefydd heb hyny. Prawf sicr am ofni yr Arglwydd yw crynu wrth ei air. Prawf sicr am grynu wrth y gair yw ufudd-dod i'w holl air, er yn anmherffaith yn wyneb rhan o'r gair. Prif ddymuniadau credadyn bob dydd o'i fywyd yw, cymod â Duw yn Nghrist, bod wrth fodd Duw trwy Grist, a mwynhau Duw trwy ysbryd a gair Crist; canys y mae Crist wedi ei wneyd yn bob peth i bechadur, ac y mae y pob peth hyny i bechadur. Mae bod yr holl sylw ar y peth y dylai ymddygiadau eraill fod tuag atom ni, ac heb un sylw ar y peth ddylai ein hymddygiadau ni fod at eraill, yn fwy o hunanol na dynol na chrefyddol. Canys mae yn effaith gweled y beiau i gyd yn eraill, a dim ynom ein hunain. Nid yw hyn yn dangos fod beiau pawb yn gydradd, na bod rhai ymddygiadau yn fwy eu colliadau na'u gilydd; ond yn sicrhau bod y rhai sydd yn treulio fwyaf o'u hamser am y pethau y dylai pawb fod atynt hwy yw y rhai lleiaf yn y peth y dylent hwy fod at bawb. Gostyngeiddrwydd yw y brif wers i'w dysgu, a'r prif nod i brofi, a'r prif rinwedd i harddu, a'r prif ragoriaeth i ragori, a'r prif archiad at yr Iesu. Yr oedd ei holl athrawiaeth a'i holl fywyd yn ddefnyddiau i ufuddhau i'w gais a'i orchymyn: "Dysgwoh genyf, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon." Mae yn rhaid geni o Dduw at fod yn dduwiol; mae yn rhaid geni oddiuchod at serchu yn y pethau sydd uchod; mae yn rhaid geni o'r Ysbryd at fod yn ysbrydol; mae yn rhaid geni o had anllygredig at fod yn sant; mae yn rhaid creu yn Nghrist at fod yn greadur newydd. Mae geni a chreu yn eiriau cyffelybiaethol am waith ysbrydol a grasol, a wneir gan Dduw yn unig. Ei waith ef yw hyn; mae y pob peth hyn o Dduw, yr hwn sydd yn gweithio hyn yn eneidiau dynion, ac i'w gael gan Dduw pan yr ofnir bod hebddo. Mae "pa beth a wnaf fel y byddwyf gadwedig?" yn mhob peth gwir grefydd, fel mae y gwaed trwy yr holl gorph. Er na ddywedir y geiriau mewn arferiad, eto mae ei gynwysiad mewn pob gwir ochenaid, pob gwir hiraeth, pob gwir deimlad, pob gwir ddymuniad, pob gwir ymarferiad; canys y mae yn effaith adnabod pla calon, ac o wybodaeth iachawdwriaeth. Nis gall bod yn ofyniad oddiar fod heb wybod am drefn iachawdwriaeth yn ngwlad yr efengyl, ond lle mae yn wirioneddol, oddiar angen am ei meddu; canys ffoi o hono ei hun oddiar adnabyddiaeth o'i golledigaeth ynddo ei hun yw ei gynwysiad. Mae yr Arglwydd yn gymaint o Wrandawr gweddi ei bobl yn wyneb eu drwg ag yn wyneb eu da, canys nid eu da a'u drwg yw na sail, na rheol, na grym i weddio, ond trefn Duw yn Nghrist i dderbyn pechadur; eto mae y gradd lleiaf o barchu pechod yn y galon yn atal gweddi ger bron Duw. Parchu pechod yn y galon yw dyn yn cuddio ei bechod, yn ei wadu, ei fychanu, a pheidio ei gyffesu. Credu heb ddiffygio, er cymaint annghrediniaeth; caru yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint ansanteiddrwydd; edifarhau heb ddiffygio, er cymaint pechadurusrwydd; hunan-ymwadu heb ddiffygio, er cymaint hunanolrwydd; gobeithio heb ddiffygio, er cymaint yn erbyn gobaith; dysgwyl wrth yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint yr erys; ymddiried yn yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint yw y gwendid; a'r cwbl trwy ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, yw gwir ddymuniad enaid y penaf o bechaduriaid yn ymyl angau. Yn unig er mwyn bodd Duw, canys felly y gogoneddir Duw yn hyn o ran. Caru Duw yw caru ei berffeithiau; caru Crist yw caru ei rasusau; caru yr Ysbryd Glân yw caru ei weithrediadau; caru gair yr Arglwydd yw caru purdeb; caru eglwys Dduw yw corph duwioldeb; caru y nefoedd yw caru santeiddrwydd; rhoddi serch ar y pethau sydd uchod yw caru cyflwr duwiol, a'i berthynasau. Fe ellir cael lluaws o wahanol gangenau ac aralleiriau am y pethau hyn, yr hyn sydd fwy o orchwyl i bregethu nag i ddyfynu. Dyledswydd benaf Cristion yw hunan-ymwadiad; braint benaf Cristion yw ymddiried yn unig yn Nghrist; act benaf Cristion yw crynu wrth y gair; gofid penaf Cristion yw ei ddiffyg yn mhob un o honynt; ofn penaf Cristion rhag nad yw yn meddu pob un o honynt; gorchwyl penaf Cristion yw gwneyd hyn yn fater gweddi. Mae adnabyddiaeth o bechadurusrwydd yn wastad yn mhob peth o ddefnydd i Gristion; at gadw y meddwl mewn agwedd ostyngedig, edifeiriol tuag at Dduw. Y sant mwyaf dros Dduw yw y pechadur mwyaf mewn cydnabyddiaeth ger bron Duw. Yr un egwyddor sydd at y ddau; mae yn rhaid gan hyny mai cynydd mewn santeiddrwydd yw hyn, cynydd adnabyddiaeth o halogrwydd; am hyny pwy nesaf fyddo at y nefoedd, mwyaf i gyd yw ei hunan-ffieiddiad. Pwy fwyaf goleu, mwyaf welir; pwy fwyaf o oleuni, lleiaf i gyd o dywyllwch. Mae llawer o ddiffyg Cristion, er ei ofid, am nad yw yn sylwi ar weithrediad egwyddorion y rhai sydd yn dangos eu gilydd: fel y mae y sant yn y Cristion yn myned yn fwy, mae ei bechadur hefyd yn myned yn fwy mewn teimlad. Gwneuthur yr Arglwydd yn noddfa, sef y Goruchaf yn breswylfa, yw galw arno yn mhob trallod, gobeithio ynddo bob amser, ymddiried ynddo byth; pan ddeallir mai braint i gredinwyr yw hon, amheuir nad yw iddynt hwy, am yr amheuant eu bod yn gredinwyr. Os ewyllysir gwneyd hyn, os ymdrechir gwneyd hyn, os dymunir gwneyd hyn, mae hyn yn profi credinwyr yn gwneyd hyn. Y peth sydd yn gwneyd hyn yn rhan o orchest y filwriaeth yw methu gwneyd yn ol y dymuniad, a methu cael yn ol y dystiolaeth. Yr un peth a diafol yw pechod. Pechod wnaeth angel yn ddiafol, a diafol wnaeth bechod. Cyfansoddiad diafol yw pechod, ac a wnaeth bechadur a phechod. Mae pechod yn gynnrychiolaeth weledig o ddiafol anweledig. Er mai gwirionedd pob gwir wybodaeth am hyn, fel am bob peth arall, yw gair yr Arglwydd, eto mae hyn yn brawf anwadadwy am ddiafol yn natur, egwyddor, cynwysiad, a niwed pechod, ac nis gall lai na bod, canys achos ac effaith ydynt. Mae yn hyn ddefnydd cryfach o ymresymiad nag y gall annghrediniaeth mewn tegwch ei wadu, canys y mae yn dangos ei hun ac yn profi ei hun yn mhob dyn ac at bob dyn yn y duedd a'r hawsdra iddo, ac yn yr annhuedd a'r anhawsdra i bob rhinwedd, yr hyn yw gwrthwyneb iddo. Os gwadir nad oes un diafol yn bod, fe wadir Bod anweledig, yr hwn a brofir yn bod, gan ei fod ei hun yn weledig. Yr un peth a Duw yw gras; hyny yw, pob gras. Efe yw Duw pob gras. Effaith o Dduw, rhinwedd o Dduw, delw Duw, yw gras; gan hyny cynnrychioliad o Dduw ar y ddaear yw gras Duw mewn dynion. Wrth air yr Arglwydd mae adnabod pob gras, ac wrth bob gras mae adnabod Duw pob gras, ac wrth bob gras Duw mae adnabod grasol. Os gwadir Duw a'i air gan annghrediniaeth annghredinwyr, fe wadir achos a brofir yn anffaeledig gan ei effaith. Ond peidied neb ryfeddu am y gwadu hwn, canys hyny yw egwyddor llygredigaeth y natur ddynol yn mhob dyn. Mae yr un llygredigaeth yn aros ac yn perthyn i'r natur ddynol mewn cyflwr duwiol ag mewn cyflwr annuwiol; mae calon pob un o honynt yn llawn o bla. Y gwahaniaeth sydd rhyngddynt yw bod y naill yn ei adnabod, a'r llall heb ei adnabod. Lle yr adwaenir mae yn brif ofid, lle nis adwaenir nid yw ddim gofid. Fe wyr y rhai sydd yn gwir adnabod nad oes yn satan nac yn y taerwyr haerllug a mwyaf eu cableddau a'u hannghrediniaeth, ond yr un annuwiaeth ag sydd yn eu calonau hwy, a bod rhaid am gynaliaeth parhaus o air yr Arglwydd at atal crochan y pla i ferwi trosodd yn gableddau, ac i barhau bywyd ysbrydol. Mae galw ar yr Arglwydd yn mhob trallod, gobeithio ynddo am bob mwynhad, ymddiried ynddo yn mhob ofn, ymddigrifu ynddo yn mhob gofid, bwrw y baich i gyd arno, rhoi y gofal i gyd iddo, yn ei wneyd yn noddfa ac amddiffynfa yn rhodiad ffydd a buddugoliaeth ffydd, yr hyn sydd i'w gael trwy weddi ddyfal a nerth yr Ysbryd Glân o'r gras sydd yn Nghrist Iesu. Pedwar peth am y groes:-1. Gwybod na ellir dim bod hebddibod yn rhaid ei chael. 2. A bod yr hyn a roddir yn groes yn oreu i ni. 3. Ei chodi, ac nid ei damsang, yr hyn yw cynenu â hi. 4. Gogoneddu yr Arglwydd dani, mewn iawn ystyriaeth, teimlad priodol, ac ymostyngiad addfwyn. Mae cymaint o gnawdolrwydd yn nglŷn â phob ymarferiad crefyddol, yn dufewnol ac yn allanol, yn y Cristionogion goreu, fel y mae yn anhawdd y boddlonir hwy am wirionedd neb o'u cyflawniadau, pan yr ystyriant eu cariad at Dduw, gan mor gnawdol eu deall y maent, a'r duedd sydd ynddynt i'w fesur a'i farnu wrth gariad at wrthddrychau cnawdol, pan nad yw yr un natur, na'r dylanwad yr un peth. Cariad ysbrydol yw, ac ysbrydol yw ei ddylanwad: ac felly hefyd am ffydd. Pan feddyliont am edrych ar y peth ni welir, maent yn teimlo cymaint yn fwy yw effaith golwg arnynt na ffydd, a syniad cnawdol na syniad ysbrydol; a chymaint yn fwy yw effeithiau nwydau arnynt nag ymddiried yn unig yn yr Arglwydd, fel y teimlant mai priodol fyddai dyweyd wrthynt, "Pa fodd nad oes genych ffydd?" Felly hefyd am amynedd ac arafwch: mae cymaint o wylltineb, terfysg, a byrbwylldra, nes mae y grasau hyn allan o'r golwg. Felly y teimlant am eu holl ymarferiadau. Gwrando y gair, gweddio, cymuno, canu, mae cymaint o gymysgedd cnawdolrwydd gyda phob peth, fel prin y gwelant ddim ynddo ond hyny. Mae hyn yn dangos fod gwyliadwriaeth, gweddi, ofn, ac ymddiried yn Nghrist, i'w hymarfer yn wastad gyda phob cyflawniad, at addoli yr Arglwydd mewn ysbryd a gwirionedd. Arosiad ysbryd yr Arglwydd gyda'i bobl, yr hyn yn unig sydd i fod yn ol ei air, yw eu holl fywyd, eu holl harddwch, eu holl lwyddiant, a'u holl gysur. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y mater hwn: "Yn ol y gair a amodais â chwi, felly yr erys fy Ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch." Prif ddyledswydd Cristion yw hunan-ymwadiad; prif ofn Cristion yw na fedr hunan-ymwadiad; prif ddymuniad Cristion yw am ddysgu hunan-ymwadiad; prif gydymaith pob Cristion yw, Gwared fi rhagof<noinclude><references/></noinclude> 97m2ji8vgqrj64sk58vz01nwtqgjcd2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/208 104 84597 164378 2026-05-07T20:22:30Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "fy hunan; canys nid oes dim a wneir ganddo heb hunan yn nglŷn ag ef. Ofnir gan hyny rhag ei fod y blaenaf o'r cwbl. Mae hyn yn rhoddi defnydd parhaus i'r cydymaith hwn. Ceidwad i'r colledig, Gwaredwr i bechadur, Achubwr rhag pob peryglon, yn enwedig rhag pechodau rhyfygus, a themtio uwchlaw yr hyn a ellir (canys y mae y cyntaf oddiwrth ruthr llygredigaeth cnawd pechadurus, mae y llall oddiwrth ruthr temtiwr galluog, gelynol, a chyfr... 164378 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy hunan; canys nid oes dim a wneir ganddo heb hunan yn nglŷn ag ef. Ofnir gan hyny rhag ei fod y blaenaf o'r cwbl. Mae hyn yn rhoddi defnydd parhaus i'r cydymaith hwn. Ceidwad i'r colledig, Gwaredwr i bechadur, Achubwr rhag pob peryglon, yn enwedig rhag pechodau rhyfygus, a themtio uwchlaw yr hyn a ellir (canys y mae y cyntaf oddiwrth ruthr llygredigaeth cnawd pechadurus, mae y llall oddiwrth ruthr temtiwr galluog, gelynol, a chyfrwys) yw y defnydd fydd o'r Arglwydd Iesu yn barhaus tra parhao y bywyd. Mae pob dyn yn ysgrifenu hanes ei fywyd yn ei gymeriad. Darllen cymeriad dyn yw darllen hanes ei fywyd. Mae cymeriad i ddyn fel rhuddin mewn pren. Calon y pren, beth bynag fyddo ei amgylchiadau, yw ei ruddin: calon buchedd dyn, beth bynag fyddo ei amgylchiadau, yw ei gymeriad. Mae yn isaf, o dan y cwbl a berthyn i ddyn; mae ei gwbl yn troi oddeutu y canolbwynt hwn. Cyfansoddiad defnyddioldeb yw Cristion profedigaethus yn genad dros Dduw. Mae yn rhaid sathru y grawnwin i gael gwin; am hyny mae syrthio i amryw brofedigaeth i'w gyfrif yn llawenydd, oblegyd y peth mae yn ei beri. Nid oes raid dysgu at fod yn falch, ond mae yn rhaid dysgu at fod yn ostyngedig; fe ellir bod yn falch heb ddysgu dim; nis gellir bod yn ostyngedig heb ddysgu y cwbl yn barhaus. Mae balchder yn naturiol, ac am hyny yn enedigol gyda phob dyn i'r byd yn ol Ilygredigaeth ei natur, er nad yw yn hanfodol i'w natur, canys bu yn hanfodi hebddo. Mae balchder yn fwy o grynodeb llawn i ddangos y cwbl am lygriad y natur ddynol yn nghwymp dyn nag unrhyw bechod, er fod pob pechod yn llygredigaeth dyn, canys efe yw gwreiddyn y llygriad, egwyddor y llygriad, a phrif nod y llygriad, fel y gall pob dyn wybod wrtho ef ei hun, os bydd yn ei adnabod ei hun. Mae gostyngeiddrwydd yn ras goruwch-naturiol, i'w gael yn unig trwy barhau i'w ddysgu. Mae dysgeidiaeth i ostyngeiddrwydd i barhau i ddyn tra byddo balchder ynddo, ac y parhao ei santeiddiad. Cynydd ar santeiddrwydd yw cynydd ar ostyngeiddrwydd. Perffeithio mewn santeiddrwydd yw perffeithio mewn gostyngeiddrwydd. Perffeithrwydd mewn gostyngeiddrwydd fydd perffeithrwydd oddiwrth falchder, yr hyn a geir yn unig lle y mae bwrw coronau o'i flaen Ef yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaino, ac sydd yn byw yn oes oesoedd. Mae i bob canlynwr i Grist ei groes. Adnabod ei groes, a'i bod hi yn groes i Grist, sydd angenrheidiol at ei chodi. Mae medru codi ei groes y fedr fwyaf. Cariad Duw, eiriolaeth Crist, arweiniad ysbryd Crist, ffydd Crist, gair Crist, yw cynwysiad holl ranau hanfodol yr iachawdwriaeth; ei effeithiad, ei gweithrediad, ei chymhwysiad, ei chynaliad, ei chyfranogiad, a'i pherffeithiad. Mae y cysylltiad sydd rhwng y rhanau hyny a'u gilydd yn cael ei ddefnyddio gan ffydd yn nghyfranogiad o'r iachawdwriaeth pan yn credu y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. Mae y credu yn gywir pan y byddo oddiar weled cymhwysder y rhan dda, yr hyn yw yr un peth angenrheidiol. 1 Os bydd ofn Duw o flaen ei lygaid, mae y ffydd yn gywir, er na byddo y teimlad yn dyner ac yn frawychus. Fe all na bydd profiadau yr holl Gristionogion yn mhob peth yr un fath mewn hyder ac mewn ofn; ac fe all hyny fod oblegyd gwahanol amgylchiadau, yn bersonol mewn cyfansoddiad dynol, iechyd, gewynau, a thymherau a gwahanol brofedigaethau, yr hyn sydd yn effeithio yn fawr ar y Cristionogion cryfaf; a gwahanol sefyllfaoedd y mae dynion wedi eu gosod ynddynt. Mae profiad yn ofynol at feddu gwybodaeth at y sefyllfa a'r swydd mae y dyn ynddi. Mae yr ystyriaeth hon yn angenrheidiol i beidio ar y naill law wadu profiadau uchel am nad ydym yn eu meddu, ac ar y llaw arall i beidio & goruwch edrych profiadau ofnog, isel, llwfr, a digalon, y rhai y gall y cryfion yn hawdd eu deall, myned heibio iddynt, a'u goruwch edrych. Credu yn Nghrist, rhodio yn Nghrist, marw yn Nghrist, yw llofrudd yn y noddfa rhag dialydd, pechadur yn yr arch rhag boddi, bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw, rhag cyfiawnder gofynol, rhag y diafol gelynol, a rhag hunan dinystriol. Gwyn fyd y dyn gaffo y ddoethineb hon, ac a ddygo y deall hwn allan. Mae goruchwyliaethau yr Arglwydd weithiau tuag at ei bobl, ac at y rhan dduwiolaf o honynt, yn gyfryw ag nas gallant wneyd dim yn eu gwyneb ond tewi. Felly y bu ar Aaron: "A thewi a wnaeth Aaron." Llaw Duw yn tewi archoffeiriad Duw; y llefarwr croywaf yn peidio llefaru dim; yr hwn oedd i lefaru dros Dduw wedi tewi wrtho a throsto. Mae hyn yn dangos 1. Fod dirgelwch, dyeithrwch, a rhyfeddodau all fod yn perthyn i'w ffyrdd yn ddigon i dewi yr ymadroddwr penaf. 2. Nad yw y cryfaf ond gwan yn wyneb hyn, a'r doethaf ond anwybodus, a'r hoywaf ond anfedrus. 3. Ac yn wyneb hyn mae yn dangos enaid gostyngedig yn ymddarostwng dan alluog law Duw. 4. Mae tewi yn act o ddyoddefiad mewn dystawrwydd am gyfiawnder a barn ffyrdd a gweithredoedd yr Arglwydd. 5. Mae tewi yn wyneb goruchwyliaeth yn ymroddiad i Dduw; rhoddi i fyny iddo Ef am y cwbl, gadael y cwbl yn ei law, am ei fod yn ddoeth o galon ac yn alluog o nerth. 6. Mae y tewi hwn yn gogoneddu Duw, canys mae yn cydnabod mai Efe sydd Dduw, a'i fod y fath Fod Anfeidrol ag ydyw. Mae yn ddangosiad helaeth mewn adnabyddiaeth o Dduw a dyn, o adnabyddiaeth fawr arno, ac agosrwydd mawr ato, a chyfranogiad mawr o hono. Mae gweled trefn y cymod yr unig un gymhwys i fod yn obaith bywyd tragwyddol i bechadur, yn cynwys ynddi yr awr hon dderbyn y eymod. Gorfoleddu yn Nuw trwy Iesu Grist yw y mwynhad uchelaf a effeithir gan hyn. Mae y diffyg am hyn yn peri ofni na dderbyniwyd y cymod. Y peth sydd rhwng Duw a'r pechadur am drefn y cymod yw derbyniad y cymod; y peth sydd trwy ewyllys Duw yn ol ei ddoethineb at amgylchiadau y pechadur yw y gorfoledd hwn a roddir ganddo. Megys mai yn Nghrist y mae cymodi, trwyddo ef hefyd y mae derbyn y cymod; trwyddo ef hefyd mae gorfoleddu yn Nuw wedi ei dderbyn. Mae y pethau hyn, er eu bod yn wahaniaethol, eto yn anwahanol, ac i'w cael i gyd yn un mewn noddfa i lofrudd, ac arch rhag boddi; canys yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth yn mhawb; yr un yw Crist sydd oll yn oll, ac yn cyflawni oll yn oll, fel y byddo Duw oll yn oll. Mae bodd Duw y nod blaenaf i'w geisio, y dymuniad blaenaf i'w ddymuno, a'r prif beth i'w geisio; am hyny gellir dweyd am dano, "Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw." Trefn y cymod yw bodd Duw i elyn; trefn ei ewyllys yw bodd Duw am ei gymdeithas i'w blentyn; dewis yr hyn a ewyllysia yw trefn ei ewyllys-un ewyllys iddynt ill dau, efe a'i blentyn: trefn ei addoliad yw ei fodd i'w wasanaethu. Yn y drefn hon y mae tair rhan:-Y gyntaf yw ysbrydol, ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Yr ail yw agweddol; gwylder a pharchedig ofn yw yr agwedd wrth fodd Duw mewn addoli. Y drydedd yr ordeiniadol, hyn sydd i fod yn ymarferol; hyny yw, yr hyn a dderbyniwyd gan yr Arglwydd, ac a draddodwyd i ni gan y rhai a'i derbyniodd. Yn ol hyn y mae ymddwyn yn nhây Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd am drefn, addoliad, am swyddogion, am swyddau, am osodiad mewn swyddau, am foddion wedi eu hordeinio i'w hymarfer yn yr eglwys, yr hyn yw addoliad, yr hyn yw pregethu y gair, bedyddio, cymuno, darllen, canu, a gweddio. Dyma ei ordinhadau y rhai sydd yn cyfansoddi ei addoliad. Mae ychwanegu atynt neu dynu oddiwrthynt yn ei anfoddloni, canys hon yw yr un rheol sydd i bawb gerdded wrthi, at synied yr un peth, yr hwn sydd yn mhell iawn o fod, ac yn mhellach y bydd tra byddo traddodiadau cnawdol yn cael eu coleddu dan ddylanwad chwantau bydol. Mae yn gymaint at gael crop ar dymher y tir ag ar dymher yr had, ar dymher i wrando ag ar y peth a wrandawir. Mae parodrwydd meddwl i wrando y gair mor angenrheidiol at dderbyn y gair a pharodrwydd meddwl i draddodi y gair. Mae y gwahaniaeth mawr sydd rhwng meddwl rhydd a meddwl rhwym yn gwrando y gair yn wahanol iawn. Mae y naill yn rhedeg o'i fodd, mae y llall yn llwyr o'i anfodd; a bod mwy o'r fath olaf nag o'r cyntaf sydd i'w ofni. Yr un peth yw pechod, pwy bynag a'i gwnelo; ond nid yr un peth yw pob un sydd yn ei wneuthur. Mae gwahaniaeth rhwng sant a phechadur yn gwneyd yr un pechod; mae y naill yn gwneyd yr hyn sydd dda ganddo, a'r llall yr hyn sydd gas ganddo. Mae y naill yn wneuthurwr pechod, mae y llall yn llithrwr i bechod. Ond er y gwahaniaeth hwn, nid oes ond yr un feddyginiaeth i'r ddau. Nid ei fod mewn cyflwr duwiol pan bechodd a'i meddyginiaetha; ond yr un peth ag sydd rhaid i'r annuwiol gael yn feddyginiaeth i'r un pechod -edifeirwch a maddeuant i'r naill fel y llall; ond bod edifeirwch a maddeuant i'r credadyn yn ddwbl, pan nad ydynt i'r pechadur ond sengl. Un o brofedigaethau mwyaf taith y pererinion yw, bod rhagluniaethau mewn golwg yn croesi yr ysgrythyrau, ac yn croesi gweddiau. Addewidion y gair a gweddiau y credadyn a'u hwynebau un ffordd, a goruchwyliaethau yr Arglwydd yn ffordd ei ragluniaeth yn gwbl ffordd arall. Mae y fath rym yn hyn, fel y mae tuedd ynddo i ddyrysu y cwbl, a meddwl bod y cwbl yn ofer. Fel hyn yr oedd ar Dafydd: "Dywedais, yn ofer y glanheais fy nghalon;" eto y mae y rhai a adwaenant Dduw yn ei addef yn gyfiawn, er bod y fath oruchwyliaeth atynt yn peri iddynt synu. Fel y gwelir iddo fod ar Jeremiah," Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi, er hyny mi a ymresymaf â thi am dy farnedigaethau. Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffyna yr anffyddloniaid oll? Yn wahanol i hyn mae arnaf fi, er dy fod yn fy adwaen a'm gweled, a phrofi fy nghalon tuag atat." Fel hyn yr ymresymai â'r Arglwydd am yr oruchwyliaeth, yr hon oedd yn dywyll iddo. Nid yw yn rhyfedd ei bod yn dywyll i ni. Ni ellir adnabod hyn gan neb ond yn nghysegr Duw, lle y deallodd Dafydd hi. Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw heddyw, Hydref 5, 1845, mewn corph llawn o lesgedd, a meddwl llawn o brofedigaethau, cael fy ngwisgo yn nghyfiawnder Duw, yr hwn sydd o ffydd Crist; a'm golchi yn ei werthfawr waed, i'm glanhau oddiwrth bob pechod, yr hyn yw pob annghyfiawnder; ysbryd Crist, i'm harwain a thrigo ynof, a'm cynal â'i air, fel y byddwyf byw, ac na chywilyddiwyf am fy ngobaith. Mae Mae acto dau, un yn y cefn a'r llall yn y wyneb, heb fod yn un; canys nis gall dau fod yn un mwy nag y gall un fod yn ddau. un, pa lun bynag, yn well un nag acto dau, y goreu eu llun. Mae amheuaeth ac ofnau yn fwy am hawl a gafael nag y mae am ddigonoldeb, cymhwysder, ac addewid yr iechydwriaeth; mae yn mhob peth sydd sydd yn perthyn iddi y cwbl sydd yn eisiau ac a ellir ei ddymuno; ac ni ellir, er cymaint o wendid sydd, amheu dim am gymhwysder y drefn, ac nad yw y meddwl yn dawel yn yr olwg ar hyn ac am hyn bob amser; eto nid yw yr ofnau a'r amheu am feddiant gwirioneddol o honi yn peidio; mae hyn yn isaf o dan y cwbl o hyd. At ddod trwy y dyryswch hwn feddylid ystyried amryw bethau. Pa fodd y deuwyd i weled cymhwysder y drefn trwy y dystiolaeth am dani, bod "Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddyn iddynt eu pechodau." Mae pob peth a ddangosir am Grist yn y gair yn diwallu y meddwl â chymhwysder y drefn i berffaith foddlonrwydd. Paham nad yw tystiolaeth y gair am ras Duw yn nhrefn y cymhwysiad, yr hyn sydd gymaint o ras a'i gwneuthuriad, yn ddigon i dangnefeddu y meddwl am ei dderbyniad? Yr ateb i hyn yw, Mae y cyntaf heb un act i'r pechadur; mae y llall ar lwybr ufudd-dod. Y pechadur sydd yn edifarhau, yn credu, yn derbyn Crist. Am y pethau hyn y mae ofnau yn codi. Mae y gras a ddengys alwad yr efengyl ar y pechadur, a'r gras a roddir at y cyfranogiad gan y pechadur: mae llygad ar y dystiolaeth am hyn, a gweddi am y gras at hyn, yn gymaint o ddefnydd boddlonrwydd meddwl am yr hawl ag am y drefn. Heblaw hyn, mae gweled cymhwysder y drefn, yn ol natur y gweled, yn cynwys hawl iddi. Yr un ffydd ag sydd yn credu y cymhwysder sydd yn gwneuthur y derbyniad: yn yr un goleu mae y ddau; yr hwn sydd yn peri y naill sydd yn peri y llall, a'r cwbl at y cwbl i'w gael trwy ei geisio yn wastad, a heb ddiffygio. Nid oes dim ond gweithrediad Duw yn y drefn; mae dyledswyddau i ddyn at feddu yr hawl. Mae cymaint o gadernid Duw yn nhrefn y cymhwysiad ag yn nhrefn y gwneuthuriad. Mae yr holl wendidau ac ofnau am hawl o du y pechadur. Fe ellir camgymeryd, mae yn wir; ond mae yr ofnau yn σ fwy oddiar wendid ffydd nag oddiar fod yn cyfeiliornu. Yn yr Ar glwydd yn unig y mae yr hyder i fod am yr hawl fel am y drefn. Os bydd holl fywyd dyn yn yrfa o ffoedigaeth i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd yn yr efengyl o flaen pechaduriaid, mae hyny yn brawf fod ffoedigaeth yr yrfa yn iawn ffoi; canys mae achos parhaus am barhad hyn oddiwrth breswyliad pechod, grym llygredigaethau, cyfrwysdra temtasiynau, a nerth mawr profedigaethau, ac amlhad ofnau. Ofnir oddiwrth y pethau hyn am arglwyddiaeth pechod, rhag ei fod yn teyrnasu; ac am farweiddiad pechod, rhag ei fod heb ei ddirymu; ac am ei nerth, rhag iddo yn y diwedd orchfygu. Mae hyn yn gwneyd holl fywyd Cristion yn un yrfa o ffoedigaeth, heb ddim yn obaith iddo ond trefn Duw yn Nghrist: yn noddfa, ac ofn yn ei galon bod yn fyr o'i chyrhaedd; oblegyd parodrwydd pechod i'w amgylchu, bron methu anadlu i geisio ei ei waredu. Mae cymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, -yr hyn sydd ar y ddaear, canys y mae yn perthyn i fynydd Sion, yr hwn a ddangosir mewn cyferbyniad i fynydd Sinai, -y nesaf at y nefoedd, a'r tebycaf i'r nefoedd, ac yn rhan o'r nefoedd: mae bod ynddi yn wir aelod o honi, y fraint fwyaf dan y nefoedd, yr hyn sydd i'w hadnabod mewn undeb â hi. Mae hwn yn undeb cariad, undeb teimlad, undeb llawenydd; a'i hundeb hithau â'r aelod sydd yn yr un pethau. Mae rhinwedd undeb yn nghwlwm tangnefedd yn cael ei brofi a'i fwynhau yn eglwys Dduw yn rhan o'r mwynhad uchelaf, os nid yr uchelaf i gyd, o'r nefoedd sydd i'w fwynhau ar y ddaear. Cadarnheir hyn yn amlwg gan effeithiau hyn, yr hyn yw preswyliad yr Ysbryd, presenoldeb Duw, llewyrch ei wyneb, cynydd gras, a llwyddiant yr eglwys: a hefyd gan effeithiau gwrthwyneb i hyn, yr hyn yw tristâu yr Ysbryd Glan, llwfrhau, digaloni, a nychu y saint; aflwyddo, poeni, a llethu eglwys Dduw, peri iddi rodio yn alarus dan orthrymder y gelyn; am hyny edrycher yn ddyfal na byddo dim diofrydbeth yn y gwersyll, yr hyn sydd yn digio yr Arglwydd, ac yn blino ei bobl, canys yn ol ei gyfamod yn ei air a'i bobl yr erys ei Ysbryd yn eu mysg, ac y maent yn ddyogel, llwyddianus, a chysurus; canys felly y dywed efe, "Yn ol y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aipht, felly yr erys fy Ysbryd yn eich mysg; nac ofnwch." Ewyllys yr Arglwydd yw idd ei Ysbryd drigo ynddynt. Mae wedi ei ddigio a'i anfoddloni yn fawr pan ymadawo; ei foddlonrwydd mwyaf yw ei drigiad; ei anfodd mwyaf yw ei ymadawiad. Mae yn trigo gyda gwendidau ac anmherffeithiau na fyddo yn ysgymunbeth, yn beth melldigedig, yr hyn a waherddir yn bendant; ac oblegyd hyny yn dirmygu yr Arglwydd, ac yn gwmwl ar ei ogoniant. Os peidir ysgymuno y peth sydd dan felldith, mae yn peri melldith lle mae. Fe ddylai ffyddlondeb Duw i'w air wroli ei bobl at eu gwaith yn wyneb pob rhyw aflwyddiant fyddo yn ymddangos. Mae wyneb at Dduw mewn galw arno, dysgwyl wrtho, gobeithio ac ymddiried ynddo, er y tywyllwch a'r caledwch y gellir ei deimlo, ofnau yn wyneb pob amgylchiadau yn llwytho, gwendid a methiant meddwl yn suddo, llygredigaethau pla y galon i'r teimlad yn ymchwyddo, yn wir adnabyddiaeth o Dduw, ac yn dangos nerth<noinclude><references/></noinclude> qmkcxgw8xfqh08cokkho86m4zlpdsd7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/214 104 84598 164379 2026-05-07T20:26:13Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "mawr mewn bywyd ysbrydol, er mai yn gwbl groes i hyny y bernir gan ei berchen. Mae cymaint o angen gwaredu oddiwrth bechodau yn y diwedd ag yn y dechreu. Mae parodrwydd pechod i amgylchu yn peri defnydd parhaus ar Waredwr, a gwaith parhaus i Waredwr, a llefain parhaus i fod ar Waredwr. Mae cynaliaeth adnewyddol gras yn fwy angenrheidiol mewn henaint a methiant nag mewn un amgylchiad ar fywyd dyn. Mae natur yn gwanhau, y serchiadau y... 164379 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mawr mewn bywyd ysbrydol, er mai yn gwbl groes i hyny y bernir gan ei berchen. Mae cymaint o angen gwaredu oddiwrth bechodau yn y diwedd ag yn y dechreu. Mae parodrwydd pechod i amgylchu yn peri defnydd parhaus ar Waredwr, a gwaith parhaus i Waredwr, a llefain parhaus i fod ar Waredwr. Mae cynaliaeth adnewyddol gras yn fwy angenrheidiol mewn henaint a methiant nag mewn un amgylchiad ar fywyd dyn. Mae natur yn gwanhau, y serchiadau yn oeri, yr holl synwyrau yn pylu, ac yntau yn colli ei egni. Os na roddir gras yn gymhorth cyfamserol, mae llygredigaethau yn cryfhau lle mae natur yn gwanhau. Mae hyn yn dangos perygl am ddau beth; os bydd gwreiddyn y mater heb ei gael, fe all y bydd yr amgylchiad hwnw yn hollol syrthiad ymaith; ac os bydd wedi ei gael, os na cheir gras yn gyfatebol i'r amgylchiad hwnw, fe all yr amgylchiad fod yn debyg i longddrylliad ar y ffydd fyddo y cyfryw yn ei phroffesu. Mae yn rhaid gan hyn hyny i'r bywyd ysbrydol gael cynaliaeth parhaus at fyw yn ysbrydol, yn enwedig mewn angylchiad mor fethedig ar natur a henaint. Am hyn yr ofnai Dafydd yn fawr. Yr oedd arno ofn ei fwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni, a'i wrthod pan ballai ei nerth; am hyny y llefai yn barhaus am gynaliaeth, gan ddangos ymddibyniad ei fywyd ysbrydol yn hollol ar hyny. "Cynal fi yn ol dy air, fel y byddwyf byw; ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith." Mae crefydd pob dyn yn ol y lle sydd i Dduw yn y meddwl: lle nad yw yn yr holl feddyliau, nid oes dim crefydd. Lle mae yn anaml yn y meddwl nid oes fawr o grefydd. Lle mae amlaf yn y meddwl mae mwyaf o grefydd. Duw yn y meddwl yw bod yr hyn yw Duw yn effeithio y meddwl yn ol hyny; effeithiad y meddwl gan yr hyn yw Duw, yn effeithio ar bob peth dyn, yw duwioldeb; ei gyfiawnder, ei santeiddrwydd, ei gariad, ei ddoethineb, a'i ddaioni. Argraff hyn ar bob peth dyn yw rhodio yn ofn yr Arglwydd. Duw yn y meddwl bob amser yw gwir ddymuniad Cristion. Annghof o Dduw yn y meddwl yw un o brif ofidiau Cristion. Rhodio gyda Duw yw rhodio yn ol gair Duw am bob peth, a rhodio mewn cymdeithas & Duw yn mhob peth: hyny yw gobeithio ynddo bob amser, tywallt y galon ger ei fron bob amser, galw arno yn mhob trallod bob amser, dysgwyl wrtho bob amser, ymddiried ynddo am bob peth fyddo yn eisiau bob amser, ymddigrifu ynddo bob amser, diolch iddo yn mhob dim bob amser, ymddarostwng dan ei alluog law bob amser, bwrw ein holl ofal arno bob amser; a gwneyd hyn oll yn enw yr Arglwydd Iesu bob amser. Mae yr agwedd hon yn rhodiad gyda Duw, er pob anmherffeithrwydd yn y cyflawniad. Mae mwynhad bywyd ysbrydol a thragywyddol, wrth fyw ac wrth farw, mewn gobaith. Holl ddefnydd yr ysgrythyrau yw, fel y gallom gael gobaith. Mae pob profiad i fod yn feithriniad i obaith, ac yn brofiad i obaith. Mae Duw yn Dduw y gobaith, mae Crist yn obaith, mae yr efengyl yn obaith, mae trefn iachawdwriaeth yn obaith, addewidion y gair yn obaith. Dangosir groesaw i obeithio, gorchymynir gobeithio. "Gobeithiwch yn Nuw bob amser." Mae mwy o gadernid yn hyn, os ystyrir ef yn iawn, nag y mae gobaith yn cael ei 1 ddeall yn gyffredinol-fel peth llaes a gwan, ar ddarfod am dano, bron colli ei anadl. nadl. Mae gwir obaith a holl gadernid Duw ynddo. Mae yr un nerth mewn ffydd a chariad, canys gras Duw ydyw, fel pob gras arall, ac mor sicr o gyrhaedd ei ddyben a'i nod, yr hwn sydd i fod yn fwy yn ddyfodol nac yn bresenol. Canys yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn. Mae pob peth a gynwysir yn ofn yr Arglwydd a gobaith cadarn ynddo, yn gysylltiedig wrtho. Y duwioldeb sydd ag addewid o'r bywyd syd sydd yr awr hon ac o'r hwn a fydd yw hyny. Gobaith cadarn yn y pethau hyn, nid am danynt, ac nid hebddynt, ond ynddynt, ynddynt, yw ofn yr Arglwydd, yn ei egwyddor, ei chynwysiad, a'i ymarferiad. Mae sefyllfa holl ddynolryw tuag at Dduw yn ol eu meddwl am Dduw. Mae pob meddwl cyfeiliornus am Dduw yn groes i bob amlygiad am Dduw, yn ei weithredoedd, ei lywodraeth, ei air, a'i enw, y rhai ydynt amlygiadau anwrthwynebol o hono; er hyny y mae yn haws gan natur lygredig feddwl yn fach, yn galed, yn gul, am dano, er bod hyny yn groes i bob amlygiad y mae yn ei wneyd yn barhaus o hono ei hun tuag at bawb; canys daionus yw efe i bawb: "Hir-ymarhous yw efe tuag at bawb." "Tosturiol a thrugarog iawn yw yr Arglwydd." Mae yn Dduw yr heddwch, yn Dduw yr amynedd, yn Dduw y cariad. Mae yn Dduw maddeugar, yn Dduw y gobaith, yn Dduw pob gras. Mae wedi cyhoeddi hyn oll am dano ei hun yn ei enw, yr hyn sydd yn ei ddangos yn Dduw yr iachawdwriaeth. Fel hyn y tystiolaetha ei enau ei hun am dano ei hun. Mae holl drefn fawr yr iachawdwriaeth, yr hon sydd yn dangos anchwiliadwy olud ei ras, yr amlygiad mwyaf o'i drugaredd, a'i raslonrwydd, a'i gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu. Caru â chariad tragywyddol, "fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol;" a'r cwbl yn ddefnyddiau meddwl mawr am yr Arglwydd, ac nad yw yn bosibl meddwl yn ddigon mawr am dano. Pa fodd y meiddia neb feddwl yn fach a chul am dano! Maddeu, maddeu y duedd leiaf at hyn erioed. Mae duwiolion dynion yn amrywiol, pan nad yw duwiolion Duw ond un. Duwiolion rhai yw y rhai elwir yn bregethwyr. Duwiolion eraill yw y rhai o'r un farn a'r enwad crefyddol a hwy. Duwiolion rhai eraill yw y rhai a wnant broffes o grefydd. Duwiolion rhai yw y rhai bucheddol, heb ddim yn eu bywyd yn anfoesol. Duwiolion rhai eraill yw y rhai haelionus, parod i gymwynasgarwch. Duwiolion rhai eraill yw y rhai dystaw, esmwyth eu tymherau, heb wneyd niwed i neb. Er bod y pethau hyn yn berthynasau i dduwiolion, nid y pethau hyn eu hunain yw hanfod duwioldeb; am hyny nid ydynt ddigonol brawf bod neb yn dduwiolion. Mae y tybiau hyn yn cael eu dangos amlaf mewn angladdau am y rhai fyddo wedi marw. Clywir yn aml farnau dynion yn rhydd am dduwiolion ar yr achlysur hwn. Duwiolion Duw yw y rhai a arweinir gan ei Ysbryd, y rhai sydd wedi eu dysgu gan yr efengyl i ymwadu â chwantau cnawdol, ac i fyw buchedd dduwiol. Ymwadu yn ol ei gwaharddiadau, ac ymarfer yn ol ei chyfarwyddiadau yw duwiol Duw. Lle mae gwrthwynebrwydd yn dymher naturiol, mae yn rhaid 1 natur ddarfod cyn y peidia, Yr unig feddyginiaeth sydd mewn bod i'r pla greddfol hwn yw creadigaeth newydd; ond lle byddo hyn mae ei olion i'w adnabod tra byddo yn y byd, fel mae ôl clefyd trwm yn byllau ac yn greithiau ar y wyneb yn amlwg i bawb a edrychant arno. Trysorfa gwybodaeth iachawdwriaeth yw gair yr Arglwydd. Trysorfa gras yr iachawdwriaeth yw Crist yr Arglwydd. Trysorfa cymhwysiad yr iachawdwriaeth yw Ysbryd yr Arglwydd; yr unig allwedd at agor y trysorfeydd hyn yw ffydd; yr unig law sydd at ddefnyddio yr allwedd hon yw gweddi. Gweddi y ffydd yw yr agoriad yn y llaw. Yn Nghrist yn unig mae cymeradwyaeth, yn yr Ysbryd Glân yn unig mae cynaliaeth, mewn ffydd a gweddi yn unig y mae offerynoliaeth. Gwlad lle nad oes pechod yw yr unig wlad lle nad oes ofni. Y mae yn anmhosibl, lle yr adwaenir pechod, i beidio ofni. Ofni pechu yw ofni yr Arglwydd. Ofni yr Arglwydd yw duwioldeb. Perffeithrwydd duwioldeb yw y nefoedd, yr unig wlad heb bechod ac heb ofn. Pechod yw y gofid mwyaf: ofn yw yr annghysur mwyaf. Duw yn Nghrist yw trefn yr iachawdwriaeth. Ei threfn yw ei holl rym, ei holl rinwedd, ei holl ddyogelwch, a'i holl gysur; ac nid bod dyn yn Nghrist yw na'i grym, na'i rhinwedd, na'i dyogelwch, na'i chysur; ond ei fod yn gadwedig yn y drefn sydd yn mhob un o honynt. Felly yr oedd yr arch a'r noddfa; eu trefn oedd yn cadw ynddynt. Er na ellir bod yn gadwedig ond yn y drefn, eto nid yw bod ynddi yn un rhan o hanfod y drefn, ond ei dyben yn cael ei ateb trwy gymhwysiad. Nid yw credu yn Nghrist yn un rhan o drefn yr iachawdwriaeth, er mai trwy gredu mae dod i fwynhad o'r drefn. Mae yn angenrheidiol deall hyn at beidio rhoddi y naill beth yn lle y llall-credu yn Nghrist yn lle y drefn yn Nghrist, na'r drefn yn Nghrist yn lle credu yn Nghrist. Mae y drefn yn berffaith, ac mor berffaith cyn dod ag wedi dod, er nad oes neb yn gadwedig ond ynddi, yr hyn yn unig yw trefn y cymhwysiad. Yn Nghrist mae yr iachawdwriaeth: ei meddu yw credu ynddo. Yn yr arch a'r noddfa yr oedd holl drefn cadw: dyfod iddynt oedd bod yn gadwedig. Mae llawer mwy o ofn am gredu yn Nghrist nag am gadwedigaeth credinwyr yn Nghrist. Nid oes dim amheuaeth am ddyogelwch yn y noddfa, ond amheuir yn aml am fod ynddi. Yr unig sicrwydd am fod ynddi yw iawn ddyfod iddi-ffoi yw hyny, dan ddylanwad cydwybod euog, ofn dial, gobaith bywyd, yr hyn a gysgodwyd yn y noddfa a osodwyd o flaen y llofrudd; dan ddylanwad teimlad i ryw raddau o'r fath hwn yw credu yn Nghrist. Yr oedd dau fath o ddylanwad yn effeithio dyfodiad i'r arch. Un oedd tuedd wyrthiol ar greaduriaid afresymol; y llall oedd dylanwad crediniol trwy Noah. Yr oedd cadwedigaeth yn nhrefn Duw yn nglŷn â phob un o honynt. Mae yn debyg nad yw yr holl gredinwyr yn mhob peth yr un modd: mae gwahanol bethau, a gwahanol raddau, a gwahanol effeithiau, yn y rhai a gredant. Pa ddull bynag y dygwyd hwy i gredu yn Nghrist, mae pawb ynddo yn gadwedig; ac y mae yn debyg fod pawb sydd yn gwir ewyllysio credu yn Nghrist yn credu ynddo; "A'rhwn sydd yn ewyllysio, cymered o ddwfry bywyd yn rhad." Mae llawer mwy yn well ganddynt weled ffaelu na gweled gallu; mae hyn yn debyg i'r un drwg, y diafol, gelyn mawr Duw a dynion, yr hwn y mae ei holl amcan i niweidio, canys balchder yw yr achos o hono, rhag bod neb yn uwch na ni, yn well na ni, ac o'n blaen ni: mae hefyd yn dangos cenfigen ac ymddial, y rhai yw prif egwyddorion diafol. Mae yn debyg mai ychydig yw y rhai a wir ofidiant ac a gydymdeimlant ac a weddiant dros y rhai temtiedig a phrofedigaethus, yr hyn yw rhodio yn nghyfraith yr Arglwydd. Mae yn debyg mai un o brif arwyddion yr amser presenol yw y cynydd amlwg sydd ar falchder, trwy yr hyn y mae yn amlwg wrth air yr Arglwydd fod cwymp, darostyngiad, a dinystr yn rhwym wrtho. Mae y cynydd hwn yn gyffredinol, o'r penaethiaid i'r cardotwyr, amaethwyr, masnachwyr, celfyddydwyr, a phob enwad o grefyddwyr. Er yr holl bethau daionus sydd yn yr un amser, a hir-ymaros amynedd Duw, ei allu a'i ewyllys i wneyd yr hyn a fyno, yr hyn sydd yn anadnabyddus i blant dynion, ond fel ei cyflawnir; a pha raddau eto a ddyoddefir yn ychwaneg ar yr haint ysbrydol hwn sydd yn lledu fwyfwy, a pha oruchwyliaeth a graddau yn yr oruchwyliaeth a ddefnyddia yr anfoddlonrwydd dwyfol i ddangos ei hun o'i herwydd, sydd anamlwg nes ei weled. Mae y cwbl sydd yn perthyn i Grist yn dangos yr un peth am dano. Yr athrawiaeth oedd yn ei dysgu, a'r oll a wnelai, yn cydweddu â dyben ei ddyfodiad i'r byd, yr hyn oedd achub y byd, daioni y byd. Mae tuedd gref, groes i athrawiaeth Crist, yn brawf cryf o lygredigaeth y natur ddynol, a gwrthwyneb i santeiddrwydd. Mae llawer mwy o duedd i gasâu y gelyn na'i garu, i'w felldithio na'i fendithio, gwneyd drwg i'n caseion, na gwneuthur da iddynt, a gweddio yn erbyn y rhai a wnel niwed ini, ac a'n herlidiant, na gweddio drostynt, er mai llawer gwell fyddai o'r ddau gwneyd yn ol fel y gorchymynir. Byddai caru y gelyn yn debyg i'w enill i garu yn ol; yna fe fyddai yn enill i'r ddau; ac os na enillid, mae y peth ynddo ei hun yn dâl i'w berchenog. Mae bendithio yn llawer gwell na melldithio; lle mae bendithio mae bendigedig; lle mae melldithio mae melldigedig. Mae y naill yn swnio nefoedd, mae y llall yn swnio uffern. Mae gwneyd da yn dangos Duw da; mae gwneyd drwg yn dangos satan yn un drwg; mae gweddio dros y niweidwyr a'r erlidwyr yr unig ffordd i'w newid. O gymaint gwell yw hyny na niweidio ac erlid, fel hwythau. Byddai y naill yn achub, mae y llall yn amlhau colledigion. Mae y naill yn debyg i Dduw ein Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd; mae y llall yn debyg i ddiafol, yn dangos diafol yn dad; canys ei weithredoedd ef ydynt: os mynwn eu gwneuthur, efe yw ein tad ni. Mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, ac i bawb, er bod ei holl ddyledswyddau yn ymdrech gorchestol oblegyd llygredigaeth. Y croesi mwyaf ar gnawd yw yr enill mwyaf i'r ysbryd; y mwyaf gwrthwyneb i ddyn pechadurus yw y mwyaf tebyg i'r Duw bendigedig. Fe ddylai cynwysiad duwioldeb fod yn ganmoliaeth fuddugoliaethus i ddarostwng yr holl fyd o'i blaen, a'i enill i'w chofleidio, oblegyd ei rhinwedd rhagorol ei hun. Mae holl gynwysiad hanfod gwir grefydd i gyd yn oruwchnaturiol, am hyny fe ddylai yr ymddibyniad i gyd fod ar Dduw yn Nghrist, a'r ymddiried i gyd fod ynddo, a'r dysgwyliad i gyd i fod wrtho, am bob cyfranogiad sydd yn perthyn iddi. Mae ei hysbrydolrwydd yn ei gwneyd hi i gyd yn ddirgelwch, mae ei santeiddrwydd yn ei gwneyd i gyd yn dduwioldeb, mae ei thragywyddoliaeth yn ei gwneyd i gyd yn ofnadwy, canys y mae perygl tragywyddol mewn pob cyfeiliornad am dani. Y cwbl at hyn yw gair Duw, a gweddi; canys mae yr ystyriaeth hyn i fod am dani yn ei pherthynas â'i holl orchymynion a'i haddewidion, gan fod ei phob peth hi i fod o Dduw. Y mater mawr at farw yw bod yn barod: mater mawr bywyd yw bod yn barod i farw: at hyn fe ddylid ateb dau gwestiwn. Y cyntaf yw, Pa beth yw bod yn barod? Yr ateb yw bod yn dduwiol, yn eiddo yr Arglwydd, yn ei heddwch, ac ar ei ddelw. Y cwestiwn arall yw, Pa fodd y mae bod yn barod? Mae cael y parodrwydd hwn trwy ofyn, cael, a derbyn; felly y dangosir trefn cyfranogiad rhwng y Cyfranwr a'r derbynwyr: "Ceisiwch, a chwiagewch; gofynwch, a rhoddir i chwi; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys yr hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, a'r hwn sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn curo yr agorir iddo." Mae yn debyg nad oes geiriau yn yr holl lyfrau yn fwy amlwg na'r rhai hyn am drefn y Duw anfeidrol i roddi trugaredd a gras i bechadur tlawd sydd i fyw yn unig ar dderbyn y cwbl. Mae taith y pererin yn llawn o ofnau o bob natur, canys trwy anialwch gwag erchyll-gwag o bob trefn a chysur, llawn o elynion o bob math, bwystfilod ysglyfaethus o bob rhyw yn teithio. Maę ynddo lew rhuadwy yn myned oddiamgylch, gan geisio y neb allo lyncu; mae yno fleiddiaid blinion, a chwn mudion; ac oblegyd fod y cwbl yn ddyeithr, mae pob peth yn cael ei ofni, yn enwedig am y ffordd, rhag na ddowd iddi yn iawn, rhag heb fod arni yn iawn. Mae rhyw faint o olwg a sylw ar holl berthynasau y ffordd; ond ofnir am y cwbl nad yw yn iawn. Ofnir am ei holl ymdrin â'r gair, nad yw mewn ffydd; am ei holl ymdrin ag ordinhadau yr eglwys, nad ydynt mewn teimlad ysbrydol; yn enwedig ofnant nad yw eu teimlad o'u hangen yn ddim, gan mor annheimladwy y gwyddant eu bod, a chan mor lleied ydyw. Gwell ganddynt ei enwi yn weled na'i enwi yn deimlad; haws ganddynt addef eu bod yn gweled mwy o gymhwysder yn Nghrist iddynt nag maent yn deimlo o angen am Grist arnynt. Mae hyn oblegyd deall am deimlad yn ol y cnawd. Mae gweled cymhwysder Crist i bechadur yn gweled angen y pechadur am Grist; er nad oes dim a welir nag a brofir ond llawer llai nag a ddysgwylir ac a ddymunir; eto mae y cwbl sydd wirionedd yn effeithiad yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio yn y saint. Mae llawer o brofedigaethau yn ymosod ar weddiwyr pan byddo llawer o amser rhwng gweddi a'i hatebiad, yn enwedig yn achos rhai deisyfiadau, oblegyd rhai amgylchiadau perthynol iddynt; megys ofni nad yw y gweddiwr yn berson cyfiawn, am hyny nad yw ei weddi yn gymeradwy, ac nad yw yn weddi y ffydd, a bod ei annghrediniaeth yn ei hatal, nes gwanhau ei hyder yn yr Arglwydd; a bod mwy o ddylanwad ewyllys y cnawd yn ei weddi na dylanwad ewyllys Duw, nes peri dyweyd, Nid oes obaith, yr wyf yn blino yn llefain; pallodd nodded i mi. Yn yr amgylchiad hwn fe ddylid cofio<noinclude><references/></noinclude> r206b3avu0vdd5i9il43w65et7e5jts 164384 164379 2026-05-07T20:33:59Z AlwynapHuw 1710 164384 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddeall yn gyffredinol-fel peth llaes a gwan, ar ddarfod am dano, bron colli ei anadl. nadl. Mae gwir obaith a holl gadernid Duw ynddo. Mae yr un nerth mewn ffydd a chariad, canys gras Duw ydyw, fel pob gras arall, ac mor sicr o gyrhaedd ei ddyben a'i nod, yr hwn sydd i fod yn fwy yn ddyfodol nac yn bresenol. Canys yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn. Mae pob peth a gynwysir yn ofn yr Arglwydd a gobaith cadarn ynddo, yn gysylltiedig wrtho. Y duwioldeb sydd ag addewid o'r bywyd syd sydd yr awr hon ac o'r hwn a fydd yw hyny. Gobaith cadarn yn y pethau hyn, nid am danynt, ac nid hebddynt, ond ynddynt, ynddynt, yw ofn yr Arglwydd, yn ei egwyddor, ei chynwysiad, a'i ymarferiad. Mae sefyllfa holl ddynolryw tuag at Dduw yn ol eu meddwl am Dduw. Mae pob meddwl cyfeiliornus am Dduw yn groes i bob amlygiad am Dduw, yn ei weithredoedd, ei lywodraeth, ei air, a'i enw, y rhai ydynt amlygiadau anwrthwynebol o hono; er hyny y mae yn haws gan natur lygredig feddwl yn fach, yn galed, yn gul, am dano, er bod hyny yn groes i bob amlygiad y mae yn ei wneyd yn barhaus o hono ei hun tuag at bawb; canys daionus yw efe i bawb: "Hir-ymarhous yw efe tuag at bawb." "Tosturiol a thrugarog iawn yw yr Arglwydd." Mae yn Dduw yr heddwch, yn Dduw yr amynedd, yn Dduw y cariad. Mae yn Dduw maddeugar, yn Dduw y gobaith, yn Dduw pob gras. Mae wedi cyhoeddi hyn oll am dano ei hun yn ei enw, yr hyn sydd yn ei ddangos yn Dduw yr iachawdwriaeth. Fel hyn y tystiolaetha ei enau ei hun am dano ei hun. Mae holl drefn fawr yr iachawdwriaeth, yr hon sydd yn dangos anchwiliadwy olud ei ras, yr amlygiad mwyaf o'i drugaredd, a'i raslonrwydd, a'i gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu. Caru â chariad tragywyddol, "fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol;" a'r cwbl yn ddefnyddiau meddwl mawr am yr Arglwydd, ac nad yw yn bosibl meddwl yn ddigon mawr am dano. Pa fodd y meiddia neb feddwl yn fach a chul am dano! Maddeu, maddeu y duedd leiaf at hyn erioed. Mae duwiolion dynion yn amrywiol, pan nad yw duwiolion Duw ond un. Duwiolion rhai yw y rhai elwir yn bregethwyr. Duwiolion eraill yw y rhai o'r un farn a'r enwad crefyddol a hwy. Duwiolion rhai eraill yw y rhai a wnant broffes o grefydd. Duwiolion rhai yw y rhai bucheddol, heb ddim yn eu bywyd yn anfoesol. Duwiolion rhai eraill yw y rhai haelionus, parod i gymwynasgarwch. Duwiolion rhai eraill yw y rhai dystaw, esmwyth eu tymherau, heb wneyd niwed i neb. Er bod y pethau hyn yn berthynasau i dduwiolion, nid y pethau hyn eu hunain yw hanfod duwioldeb; am hyny nid ydynt ddigonol brawf bod neb yn dduwiolion. Mae y tybiau hyn yn cael eu dangos amlaf mewn angladdau am y rhai fyddo wedi marw. Clywir yn aml farnau dynion yn rhydd am dduwiolion ar yr achlysur hwn. Duwiolion Duw yw y rhai a arweinir gan ei Ysbryd, y rhai sydd wedi eu dysgu gan yr efengyl i ymwadu â chwantau cnawdol, ac i fyw buchedd dduwiol. Ymwadu yn ol ei gwaharddiadau, ac ymarfer yn ol ei chyfarwyddiadau yw duwiol Duw. Lle mae gwrthwynebrwydd yn dymher naturiol, mae yn rhaid 1 natur ddarfod cyn y peidia, Yr unig feddyginiaeth sydd mewn bod i'r pla greddfol hwn yw creadigaeth newydd; ond lle byddo hyn mae ei olion i'w adnabod tra byddo yn y byd, fel mae ôl clefyd trwm yn byllau ac yn greithiau ar y wyneb yn amlwg i bawb a edrychant arno. Trysorfa gwybodaeth iachawdwriaeth yw gair yr Arglwydd. Trysorfa gras yr iachawdwriaeth yw Crist yr Arglwydd. Trysorfa cymhwysiad yr iachawdwriaeth yw Ysbryd yr Arglwydd; yr unig allwedd at agor y trysorfeydd hyn yw ffydd; yr unig law sydd at ddefnyddio yr allwedd hon yw gweddi. Gweddi y ffydd yw yr agoriad yn y llaw. Yn Nghrist yn unig mae cymeradwyaeth, yn yr Ysbryd Glân yn unig mae cynaliaeth, mewn ffydd a gweddi yn unig y mae offerynoliaeth. Gwlad lle nad oes pechod yw yr unig wlad lle nad oes ofni. Y mae yn anmhosibl, lle yr adwaenir pechod, i beidio ofni. Ofni pechu yw ofni yr Arglwydd. Ofni yr Arglwydd yw duwioldeb. Perffeithrwydd duwioldeb yw y nefoedd, yr unig wlad heb bechod ac heb ofn. Pechod yw y gofid mwyaf: ofn yw yr annghysur mwyaf. Duw yn Nghrist yw trefn yr iachawdwriaeth. Ei threfn yw ei holl rym, ei holl rinwedd, ei holl ddyogelwch, a'i holl gysur; ac nid bod dyn yn Nghrist yw na'i grym, na'i rhinwedd, na'i dyogelwch, na'i chysur; ond ei fod yn gadwedig yn y drefn sydd yn mhob un o honynt. Felly yr oedd yr arch a'r noddfa; eu trefn oedd yn cadw ynddynt. Er na ellir bod yn gadwedig ond yn y drefn, eto nid yw bod ynddi yn un rhan o hanfod y drefn, ond ei dyben yn cael ei ateb trwy gymhwysiad. Nid yw credu yn Nghrist yn un rhan o drefn yr iachawdwriaeth, er mai trwy gredu mae dod i fwynhad o'r drefn. Mae yn angenrheidiol deall hyn at beidio rhoddi y naill beth yn lle y llall-credu yn Nghrist yn lle y drefn yn Nghrist, na'r drefn yn Nghrist yn lle credu yn Nghrist. Mae y drefn yn berffaith, ac mor berffaith cyn dod ag wedi dod, er nad oes neb yn gadwedig ond ynddi, yr hyn yn unig yw trefn y cymhwysiad. Yn Nghrist mae yr iachawdwriaeth: ei meddu yw credu ynddo. Yn yr arch a'r noddfa yr oedd holl drefn cadw: dyfod iddynt oedd bod yn gadwedig. Mae llawer mwy o ofn am gredu yn Nghrist nag am gadwedigaeth credinwyr yn Nghrist. Nid oes dim amheuaeth am ddyogelwch yn y noddfa, ond amheuir yn aml am fod ynddi. Yr unig sicrwydd am fod ynddi yw iawn ddyfod iddi-ffoi yw hyny, dan ddylanwad cydwybod euog, ofn dial, gobaith bywyd, yr hyn a gysgodwyd yn y noddfa a osodwyd o flaen y llofrudd; dan ddylanwad teimlad i ryw raddau o'r fath hwn yw credu yn Nghrist. Yr oedd dau fath o ddylanwad yn effeithio dyfodiad i'r arch. Un oedd tuedd wyrthiol ar greaduriaid afresymol; y llall oedd dylanwad crediniol trwy Noah. Yr oedd cadwedigaeth yn nhrefn Duw yn nglŷn â phob un o honynt. Mae yn debyg nad yw yr holl gredinwyr yn mhob peth yr un modd: mae gwahanol bethau, a gwahanol raddau, a gwahanol effeithiau, yn y rhai a gredant. Pa ddull bynag y dygwyd hwy i gredu yn Nghrist, mae pawb ynddo yn gadwedig; ac y mae yn debyg fod pawb sydd yn gwir ewyllysio credu yn Nghrist yn credu ynddo; "A'rhwn sydd yn ewyllysio, cymered o ddwfry bywyd yn rhad." Mae llawer mwy yn well ganddynt weled ffaelu na gweled gallu; mae hyn yn debyg i'r un drwg, y diafol, gelyn mawr Duw a dynion, yr hwn y mae ei holl amcan i niweidio, canys balchder yw yr achos o hono, rhag bod neb yn uwch na ni, yn well na ni, ac o'n blaen ni: mae hefyd yn dangos cenfigen ac ymddial, y rhai yw prif egwyddorion diafol. Mae yn debyg mai ychydig yw y rhai a wir ofidiant ac a gydymdeimlant ac a weddiant dros y rhai temtiedig a phrofedigaethus, yr hyn yw rhodio yn nghyfraith yr Arglwydd. Mae yn debyg mai un o brif arwyddion yr amser presenol yw y cynydd amlwg sydd ar falchder, trwy yr hyn y mae yn amlwg wrth air yr Arglwydd fod cwymp, darostyngiad, a dinystr yn rhwym wrtho. Mae y cynydd hwn yn gyffredinol, o'r penaethiaid i'r cardotwyr, amaethwyr, masnachwyr, celfyddydwyr, a phob enwad o grefyddwyr. Er yr holl bethau daionus sydd yn yr un amser, a hir-ymaros amynedd Duw, ei allu a'i ewyllys i wneyd yr hyn a fyno, yr hyn sydd yn anadnabyddus i blant dynion, ond fel ei cyflawnir; a pha raddau eto a ddyoddefir yn ychwaneg ar yr haint ysbrydol hwn sydd yn lledu fwyfwy, a pha oruchwyliaeth a graddau yn yr oruchwyliaeth a ddefnyddia yr anfoddlonrwydd dwyfol i ddangos ei hun o'i herwydd, sydd anamlwg nes ei weled. Mae y cwbl sydd yn perthyn i Grist yn dangos yr un peth am dano. Yr athrawiaeth oedd yn ei dysgu, a'r oll a wnelai, yn cydweddu â dyben ei ddyfodiad i'r byd, yr hyn oedd achub y byd, daioni y byd. Mae tuedd gref, groes i athrawiaeth Crist, yn brawf cryf o lygredigaeth y natur ddynol, a gwrthwyneb i santeiddrwydd. Mae llawer mwy o duedd i gasâu y gelyn na'i garu, i'w felldithio na'i fendithio, gwneyd drwg i'n caseion, na gwneuthur da iddynt, a gweddio yn erbyn y rhai a wnel niwed ini, ac a'n herlidiant, na gweddio drostynt, er mai llawer gwell fyddai o'r ddau gwneyd yn ol fel y gorchymynir. Byddai caru y gelyn yn debyg i'w enill i garu yn ol; yna fe fyddai yn enill i'r ddau; ac os na enillid, mae y peth ynddo ei hun yn dâl i'w berchenog. Mae bendithio yn llawer gwell na melldithio; lle mae bendithio mae bendigedig; lle mae melldithio mae melldigedig. Mae y naill yn swnio nefoedd, mae y llall yn swnio uffern. Mae gwneyd da yn dangos Duw da; mae gwneyd drwg yn dangos satan yn un drwg; mae gweddio dros y niweidwyr a'r erlidwyr yr unig ffordd i'w newid. O gymaint gwell yw hyny na niweidio ac erlid, fel hwythau. Byddai y naill yn achub, mae y llall yn amlhau colledigion. Mae y naill yn debyg i Dduw ein Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd; mae y llall yn debyg i ddiafol, yn dangos diafol yn dad; canys ei weithredoedd ef ydynt: os mynwn eu gwneuthur, efe yw ein tad ni. Mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, ac i bawb, er bod ei holl ddyledswyddau yn ymdrech gorchestol oblegyd llygredigaeth. Y croesi mwyaf ar gnawd yw yr enill mwyaf i'r ysbryd; y mwyaf gwrthwyneb i ddyn pechadurus yw y mwyaf tebyg i'r Duw bendigedig. Fe ddylai cynwysiad duwioldeb fod yn ganmoliaeth fuddugoliaethus i ddarostwng yr holl fyd o'i blaen, a'i enill i'w chofleidio, oblegyd ei rhinwedd rhagorol ei hun. Mae holl gynwysiad hanfod gwir grefydd i gyd yn oruwchnaturiol, am hyny fe ddylai yr ymddibyniad i gyd fod ar Dduw yn Nghrist, a'r ymddiried i gyd fod ynddo, a'r dysgwyliad i gyd i fod wrtho, am bob cyfranogiad sydd yn perthyn iddi. Mae ei hysbrydolrwydd yn ei gwneyd hi i gyd yn ddirgelwch, mae ei santeiddrwydd yn ei gwneyd i gyd yn dduwioldeb, mae ei thragywyddoliaeth yn ei gwneyd i gyd yn ofnadwy, canys y mae perygl tragywyddol mewn pob cyfeiliornad am dani. Y cwbl at hyn yw gair Duw, a gweddi; canys mae yr ystyriaeth hyn i fod am dani yn ei pherthynas â'i holl orchymynion a'i haddewidion, gan fod ei phob peth hi i fod o Dduw. Y mater mawr at farw yw bod yn barod: mater mawr bywyd yw bod yn barod i farw: at hyn fe ddylid ateb dau gwestiwn. Y cyntaf yw, Pa beth yw bod yn barod? Yr ateb yw bod yn dduwiol, yn eiddo yr Arglwydd, yn ei heddwch, ac ar ei ddelw. Y cwestiwn arall yw, Pa fodd y mae bod yn barod? Mae cael y parodrwydd hwn trwy ofyn, cael, a derbyn; felly y dangosir trefn cyfranogiad rhwng y Cyfranwr a'r derbynwyr: "Ceisiwch, a chwiagewch; gofynwch, a rhoddir i chwi; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys yr hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, a'r hwn sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn curo yr agorir iddo." Mae yn debyg nad oes geiriau yn yr holl lyfrau yn fwy amlwg na'r rhai hyn am drefn y Duw anfeidrol i roddi trugaredd a gras i bechadur tlawd sydd i fyw yn unig ar dderbyn y cwbl. Mae taith y pererin yn llawn o ofnau o bob natur, canys trwy anialwch gwag erchyll-gwag o bob trefn a chysur, llawn o elynion o bob math, bwystfilod ysglyfaethus o bob rhyw yn teithio. Maę ynddo lew rhuadwy yn myned oddiamgylch, gan geisio y neb allo lyncu; mae yno fleiddiaid blinion, a chwn mudion; ac oblegyd fod y cwbl yn ddyeithr, mae pob peth yn cael ei ofni, yn enwedig am y ffordd, rhag na ddowd iddi yn iawn, rhag heb fod arni yn iawn. Mae rhyw faint o olwg a sylw ar holl berthynasau y ffordd; ond ofnir am y cwbl nad yw yn iawn. Ofnir am ei holl ymdrin â'r gair, nad yw mewn ffydd; am ei holl ymdrin ag ordinhadau yr eglwys, nad ydynt mewn teimlad ysbrydol; yn enwedig ofnant nad yw eu teimlad o'u hangen yn ddim, gan mor annheimladwy y gwyddant eu bod, a chan mor lleied ydyw. Gwell ganddynt ei enwi yn weled na'i enwi yn deimlad; haws ganddynt addef eu bod yn gweled mwy o gymhwysder yn Nghrist iddynt nag maent yn deimlo o angen am Grist arnynt. Mae hyn oblegyd deall am deimlad yn ol y cnawd. Mae gweled cymhwysder Crist i bechadur yn gweled angen y pechadur am Grist; er nad oes dim a welir nag a brofir ond llawer llai nag a ddysgwylir ac a ddymunir; eto mae y cwbl sydd wirionedd yn effeithiad yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio yn y saint. Mae llawer o brofedigaethau yn ymosod ar weddiwyr pan byddo llawer o amser rhwng gweddi a'i hatebiad, yn enwedig yn achos rhai deisyfiadau, oblegyd rhai amgylchiadau perthynol iddynt; megys ofni nad yw y gweddiwr yn berson cyfiawn, am hyny nad yw ei weddi yn gymeradwy, ac nad yw yn weddi y ffydd, a bod ei annghrediniaeth yn ei hatal, nes gwanhau ei hyder yn yr Arglwydd; a bod mwy o ddylanwad ewyllys y cnawd yn ei weddi na dylanwad ewyllys Duw, nes peri dyweyd, Nid oes obaith, yr wyf yn blino yn llefain; pallodd nodded i mi. Yn yr amgylchiad hwn fe ddylid cofio<noinclude><references/></noinclude> 3m28cylnvmp0yiuhhyxizjem24l770k Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/219 104 84599 164380 2026-05-07T20:27:56Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "fod gweddi yn ddyledswydd i'w pharhau yn ddibaid, heb ddiffygio, heb fod dan ddylanwad neb amgylchiadau, ac er pob ofnau; canys addewidion Duw, ei wirionedd a'i ffyddlondeb, yw y sail, y rheol, a'r anogaeth i barhau i alw arno, a gadael yr atebiad yn gwbl yn ei law ef. Pa fwyaf y dysgwylir wrtho, mwyaf o ogoniant a roddir iddo, a rhoddir holl haeriadau profedigaethus yr amgylchiad yn gwbl ger ei fron ef, gan ymdrechu i obeithio ynddo... 164380 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod gweddi yn ddyledswydd i'w pharhau yn ddibaid, heb ddiffygio, heb fod dan ddylanwad neb amgylchiadau, ac er pob ofnau; canys addewidion Duw, ei wirionedd a'i ffyddlondeb, yw y sail, y rheol, a'r anogaeth i barhau i alw arno, a gadael yr atebiad yn gwbl yn ei law ef. Pa fwyaf y dysgwylir wrtho, mwyaf o ogoniant a roddir iddo, a rhoddir holl haeriadau profedigaethus yr amgylchiad yn gwbl ger ei fron ef, gan ymdrechu i obeithio ynddo bob amser, a thywallt y galon ger ei fron ef, canys Duw sydd noddfa i'r rhai hyn. Fe all y weddi, pan bo y cnawd wanaf, fod y weddi gryfaf yn yr ysbryd. Er mai wrth ofyn mae derbyn, gofyn yw ein gwaith ni. Mae ein derbyn i fod o Dduw, yr hwn sydd barotach i roddi na neb i ofyn. Mae atebiad buan i weddi y cryfhad mwyaf i enaid y gweddiwr. Nid yw yn hawdd desgrifio y nerth a rydd hyn; mae yn dryllio holl gadwynau yr enaid, mae yn goleuo ei holl awyr, yn chwalu ei holl ofnau, gwneyd eu mynydd yn gryf fel mynydd Sion, cwympo eu gelynion yn wysg eu cefnau; mae yn eu gwneyd yn fuddugoliaethwyr, ac yn fwy na choncwerwyr, canys nerth Duw ydyw, yn cael ei berffeithio mewn gwendid: "Yr hwn sydd yn amlhau cryfder i'r dirym." Mae atebiad gweddi mor sicr yn yr addewid ag yw y cyflawniad. "Ni fethodd gweddi daer erioed." Y peth sydd yn ddyrys am yr atebiad i'r gweddiwr y rhan amlaf yw, bod yr amser i ateb, a'r modd i ateb, a'r peth a roddir yn atebiad, yn wahanol, yn ol doethineb Duw, i ddeall ac ewyllys dyn, Mae aros yn barhaus wrth orseddfainc y gras, gan barhau mewn gweddi ddibaid am fywyd i'r colledig, mewn trugaredd a gras, yn effaith meddu bywyd, ac yn brawf sicr o'i feddu, canys y mae yn aros yn nghariad Duw; hyny yw, yn nhrefn ei gariad, gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol. Mesur crefydd yw undeb, mesur undeb yw cariad, mesur cariad yw cymdeithas, mesur cymdeithas yw dewisiad, mesur dewisiad yw egwyddor, mesur egwyddor yw deall, mesur y deall yw mesur y dyn. Mae y mesurau hyn, os byddant yn gywir, yn fesurau cywir am grefydd y dyddiau hyn, fel yn mhob dyddiau. Ni waeth faint fo'r myfyrio, os na ellir cofio; heb fyfyrio nid oes dim i'w gofio; a heb gofio sydd fel heb fyfyrio. Mae y ddau, y myfyrio a'r cofio, i fod yn ymddibyniad ar santeiddiad yr Ysbryd yn y gwirionedd. Mae trefn yr iachawdwriaeth yn noddfa o drefniad Duw i bechadur ymorphwys arni, ac ymddiried ynddi. Ymroddiad iddi yw bod ynddi: gwybod hyny yw adnewyddol ras Crist yn egluro ei hun, er na byddo y dylanwad yn brofiad o orfoledd. Mae y fath agosrwydd a pherthynas rhwng cyfiawnhau a santeiddio, fel nad yw y Cristion allan o berygl i osod y naill yn lle y llall. Cyfiawnhau sydd yn cymeradwyo, santeiddio sydd yn cymhwyso. Lle mae ufuddhau i'r gair, gwneuthur y gair, a chrynu wrth y gair, hyny yw ofni y gorchymyn, mae santeiddiad yr Ysbryd, hanfod gwir grefydd mewn meddiant, er maint y llygredigaeth a'r diffygion. Lle mae hyn fe ddylid gochel a gwylio rhag ei osod am ein cymeradwyaeth, yr hwn yn unig sydd i fod yn nghyfiawnder Crist, ac yn brif berl ei goron-cyfiawnhau yr euog. Mae santeiddiad pechadur yn cael ei ddangos yn y gair yn waith graddol. Yr Arglwydd yw y Santeiddydd, trwy neillduad, deddfiad, a chyfranogiad. Yn y gwirionedd y mae i'w santeiddio: ei air sydd wirionedd; yn ngwybodaeth y gair, yn ysbryd y gwirionedd, yn ngras y gwirionedd, yn ffurf y gwirionedd. Mae y gwaith hwn yn dechreu yn fach, fel hedyn mwstard, myned yn bren mawr, fel ychydig lefain, ond yn lefeinio yr holl does; fel eginyn, ond yn myned at fod yn llawn yn y dywysen. Yn dechreu yn blentyn, yn dybenu yn hen ddyn fel bachgen yn dechreu, ond myned a dybenu yn hen wr. Mae y gradd hyn ar santeiddiad yn dra phrofedigaethus, canys y mae yn dra anadnabyddus. Mae yn waith parhaol, tra parhao y bywyd, ac yn brif ddyben i'r bywyd. Lle mae wedi dechreu nid yw yn anmhriodol dweyd am dano, tra parhao y bywyd y mae heb ei orphen, a phrif ddyben holl oruchwyliaethau Duw at y cyfryw yn rhagluniaethol yw, fel y byddont gyfranogion o'i santeiddrwydd ef. Yr holl ffrwyth yw tynu ymaith eu pechod; a hefyd yn rasol, yr hyn yw dyben a defnydd y gair, a holl ordinhadau yr efengyl. Y mae yr holl ysgrythyr wedi ei rhoddi at hyn-i athrawiaethu; hyny yw, i ddysgu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi: dyma y moddion sydd at berffeithio dyn Duw, santeiddio y duwiol. Lle y mae hyn trwy y gair y mae santeiddio; lle nad yw hyn, pa ymdrin bynag a wneir a'r gair, nid yw yn santeiddio. Pan byddo un o'r bendithion hyn trwy bregethu, er na byddo ond un o honynt ar y pryd, ni ddylid meddwl nad yw yr athrawiaeth yn gywir, a bod moddion santeiddio hefyd felly. Fe ddywedir weithiau nad oes fawr o grybwyll mewn pregethau yn y dyddiau hyn am y peth a'r peth; fe all hyny fod yn dod oddiwrth fwy o anystyriaeth am y gwahanol bethau mae yr ysgrythyr yn fuddiol iddynt, nag o un diffyg mewn pregethu. Defnydd holl gynwysiad y deyrnas ddisigl yw, fel y byddo genym ras. Mae holl ordinhadau yr efengyl at gael gras, a chynyddu mewn gras, nes perffeithio gras mewn gogoniant. Mae yn waith cynyddol. Mae y cynydd hwn i fod yn eglur i bawb-iddo ef ei hun ac i eraill. Iddo ef ei hun mewn helaethach adnabyddiaeth o hono ei hun, a mwy o ymddiried yn yr Arglwydd nag erioed. Mae cynydd ar hyn yn gynydd mewn santeiddio; mae cynydd mewn adnabyddiaeth ar elynion, drwg y byd, dichellion a nerth y diafol, pob cyfeiliorni; purdeb, gwirionedd, gogoniant gwir dduwioldeb; mae cynydd yn y pethau hyn yn gynyddu mewn gwir santeiddrwydd, hawdd i ddyn ei hun ei adnabod, ac a adnabyddir, er nid yn hawdd, ac a addefir yn gynydd mewn santeiddrwydd, lle mae y cynydd. Am hyny ei lais parhaus yw, "Golch fi, santeiddia fi, glanha fi oddiwrth bob annghyfiawnder. Crea galon lân ynof; dod dy gyfraith yn fy nghalon; gwna fi yn greadur newydd." Mae ceisio hyn yn brawf o santeiddiad. Mae santeiddiad yn amlwg i eraill; yn enwedig i'r saint mwyaf, er ei fod yn cael ei gamddeall gan rai heb fod yn saint amlwg. Cyfrifant arafwch a phwyll yn blentynrwydd; cyfrifant ddeall a barn yn wendid henaint; cyfrifant fwyneidd-dra doethineb yn ymollyngdod pleidiol, heb ddeall fod dyn sydd dan law y Santeiddydd hwn yn cael ei ffurfio yn fwy i ddelw y gwirionedd, a'i newid i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, a hyny yn amlwg i eraill. A all dyn fyddo yn caru ei bechod geisio maddeuant? Gall, ond nis gall ei gael, canys nid yw yn ei ofyn yn nhrefn Duw i'w roddi, yr hyn yw rhoddi edifeirwch a maddeuant. Dyn yn caru ei bechod yw dyn yn ei bechod; dyn yn ei bechod yw dyn heb edifeirwch; canys edifeirwch yw dychweliad oddiwrth bechod. Mae dau ddyn yn mhob Cristion, hen a newydd. Nid yw y ddau yn caru yr un peth: maent yn caru ac yn casâu yn groes i'w gilydd. Mae yr hen ddyn yn caru pechod, canys caru ei hun yw hyny. Nis gall y dyn newydd ei garu, canys casâu ei hun fyddai hyny. Pa un o'r ddau garu yw y dyn yr ewyllys a etyb. Gwneuthur yn ewyllysgar yn nydd ei nerth yw gwneuthur dyn newydd. Y dyn newydd, gan hyny, yw ei ewyllys; am hyny mae caru a chasâu yr hen ddyn yn ormes ar y dyn, lle mae; eto mae y fath agosrwydd a pherthynas rhwng llygredigaeth a chnawd, fel nad oes dim ond y gwaredu sydd trwy Grist a all achub rhagddo. Nid wyf yn gwybod ond am un peth y mae yn dda genyf gael byw cyhyd er ei fwyn; hyny yw, edifeirwch. Nid oes un man y bumi ynddo, nac un peth y bum yn ymwneyd ag ef, na neb y bum yn ymwneyd â hwy; fy holl feddyliau, fy holl eiriau, fy holl agweddau, nad oes arnaf gywilydd yr awr hon o'u plegyd, cyn dyfod at grefydd, gyda chrefydd, ac wrth bob newidia da symudiad gydag ymarferiadau crefydd; ac nid heb wir achos am lawer mwy o hono nag y sydd. Nid oes un anhawsdra i ddweyd, Du ydwyf fi, pechadur. Mae syrthio yn waradwyddus gan un yn proffesu crefydd, yn enwedig os bydd iddo ryw enw mwy na'r cyffredin, fel agor bwlch yn nghlawdd llyn llawn o ddwfr, trwy yr hwn y rhed llifeiriant gyda rhuthr rhyferthwy, nid yn unig oddiwrth rai digrefydd, ond hefyd yn fwyaf oddiwrth rai digrefydd gyda chrefydd, y rhai nis ceir un gair oddiwrthynt am bethau ysbrydol, pethau mwyaf crefydd; sydd fel pe bai eu tymhor hwy wedi dod i ddangos eu hegwyddor yn ol eu helfen; ac am fod y gwaradwyddus yn ysgymunedig, wedi ei ddiarddel, dan gerydd eglwysig, ac felly, mor bell a hyny, allan o'u cyrhaedd hwy. Hwy fynant â'u holl egni gynhyrfu achwyniadau beius ar swyddogion yr eglwys, y rhai yn ofn yr Arglwydd sydd yn ymarfer i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion yn wastadol: gwneyd yn ol dywediadau pawb sydd yn dyweyd ar yr achos hyn fyddai gwneyd peth mae pawb yn ddweyd, ac yn peidio gwneyd dim yn iawn. Mae caniatad i ofyn gan Dduw yn ei addewid, ac ni chaniateir ond a addewir: wrth ofyn mae yr addewid am gael: nis ceir ond a addewir, ac nis ceir a addewir heb ofyn. Wrth yr addewid mae cenad i ofyn, ac wrth y gofyn mae addewid am gael: "Gofynwch, a rhoddir i chwi." Mae caledu wedi syrthio i bechod yn waeth na'r cwymp; fe all godi wedi syrthio, ond os caleda nis gall godi byth, canys y mae yn groes i'r unig ffordd sydd at godi. Mae canlyniad cwymp yn brawf o'r peth oedd y dyn cyn ei gwymp, pa un ai yn y cnawd ai yn yr ysbryd yr oedd. Os caledu yw y canlyniad, mae yn brawf bod yn y cnawd, a'i fod dan farn. Os tyneru, mae yn brawf o edifeirwch, a'i fod yn deml i'r Ysbryd Glân, er iddo gael ei lygru. "Yr hwn a lygra deml Dduw, Duw a lygra hwnw." Mae ceisio trugaredd yn wir weddi, er na byddo un drugaredd neillduol yn cael cyfeirio ati, canys mae pob peth yr Arglwydd yn nhrefn ei ras i'r annheilwng, yn drugaredd i'r truemus: mae trugaredd yn meddwl ei holl ddaioni yn ei heddwch, canys y mae yr oll ag yw a'r oll a fedd yn ei gymod. "Os plant, etifeddion hefyd:" os heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab, pa faint mwy i'n hachubir trwy ei fywyd? Mae esiampl am hyn mewn rhan fawr o weddiau Dafydd, ac yn mhortreiad gweddiau yr holl Gristionogion hyd ddiwedd y byd, yr hon a elwir gweddi y publican. Ni bu achos yr Arglwydd mewn un man erioed yn y byd ond mewn gwendid ac anmherffeithrwydd mawr: mae yn rhaid bod addolwyr perffaith at fod yr addoliad yn berffaith, yr hyn nid yw i'w gael yn y byd hwn. Y gydnabyddiaeth fwyaf o anmherffeithrwydd yn bersonol ac yn eglwysol, yw y nesaf at wirionedd. Ymddiried yn yr Arglwydd yn ol ei air, a dysgwyl wrtho am gyflawniad ei air, yw ffydd yn rhoddi y gogoniant i Dduw. Fe allai mai nid y peth a ddeallir nac yr ymofynir fel y dylid am ei ddeall yw yr iawn ymddygiad gan eglwys, yn enwedig ei swyddogion, at y rhai fyddo wedi syrthio i bechodau gwaradwyddus, rhag bod un ymddygiad at y cyfryw rai yn tueddu i'w caledu a'i iachau, i edrych yn fach ar eu pechod, ac i leihau eu hedifeirwch; ac, ar y llaw arall, rhag dangos un math o gasineb, sarugrwydd, diystyrwch, nac ymddial, yr hyn sydd yn ei natur i galedu, i gyndynu, i bellhau, ac i lethu y profedigaethus. Mae yn amlwg fod gwahaniaeth yn y rhai sydd yn syrthio. Nid Dafydd yw pob un sydd yn syrthio i odineb; am hyny nid ei ymddygiad ef wedi syrthio yw ymddygiad llawer un a syrthiodd i'r un bai, er nid agos yn yr un modd. Yn wyneb hyn yr esiampl ddwyfol sydd i'w dylyn: bod yn ddylynwyr Duw fel plant anwyl. Y mae yn ddigllon beunydd wrth yr annuwiol; nid yw yn gwneyd dim i'w blant ond yn ol y berthynas, a'i oruchwyliaeth ar ei deulu yn ei dŷ. Mae yn drugarog, yn dosturiol, ac yn ddaionus i bawb; yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, yn gwlawio ar y cyfiawn a'r annghyfiawn. Mae yn gwasgaru ei roddion creadigol a rhagluniaethol yn gyffelyb i bawb, heb wneyd un gwahaniaeth. Pechadur sydd wedi ei ddigio, ac nid y creadur heb bechu. Ei ras a'i drugaredd i bechadur, i ddinystrio ei bechod, a'i waredu o hono. Codi y syrthiedig o'i fai yw yr esiampl a roddir i'w dylyn, heb ei gasâu o'i herwydd, ond tosturio wrtho, ymddwyn yn ol hyn ato, a gweddio drosto. Y parotaf i son am gwympiadau eraill yw y nesaf a'r tebycaf i gwympo eu hunain, canys nid ydynt yn adnabod eu hunain. Mae hunan-adnabyddiaeth yn peri rhyfeddu na fuasent hwy wedi syrthio dros y dibynau buont yn chwareu arnynt, ac yn peri gwyleiddio, tewi, a diolch am eu gwaredu; ac yn effeithio gwylio a gweddio nad elont i brofedigaeth, mewn tosturi at y rhai sydd wedi syrthio, a gweddio yn barhaus drostynt. Gwir edifeirwch yn y cwympedig yw cydnabod ei gamwedd, hyny yw, cyffesu yn ei erbyn ei hun ei anwiredd i'r Arglwydd. "Pechais, gŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;" a'i bechod yn wastad ger ei fron. Lle mae hyn y mae maddeuant Duw. Prawf o faddeuant Duw i bechadur yw anfaddeuant y pechadur iddo ei hun. Pan byddo ef yn taflu pechodau tu ol i'w gefn, mae y rhai hyny yn wastad ger bron y pechadur, ac o flaen ei wyneb. Mae yr Arglwydd yn fwy o faddeuwr i'r pechadur y maddeu efe iddo, nag y mae y pechadur iddo ei hun. Maddeu am byth y mae efe; ond ni faddeu y pechadur byth iddo ei hun. Mae eu coffa yn wastad yn drwm, pa un bynag ai gan eraill ai ganddo ef ei hun. Mae poeni yn wastad gyda phob newidiad lle bu toriad asgwrn. Maedrylliad esgyrn lle bo edifeirwch, a maddeuant a iacha yr esgyrn a ddrylliwyd. Mae y cwymp yn ol y lle y cwympir o hono. Os bydd y lle yn uchel, bydd y cwymp yn fawr, a'r drylliad yn erchyll, a'r anhawsdra i godi yn fwy: ac os bydd y lle y cwympir o hono yn uchel cyhoeddus, mae yn annhebyg y codir ef byth iddo, er bod yr Arglwydd wedi maddeu iddo, canys mae wedi ei wanhau, a drylliad ei esgyrn gan Dduw fydd yn deimlad o wendid ynddo, fel na allo ddal yn wyneb cyhuddiadau ei gydwybod fyddo yn gydgyhuddol gan uffern, cnawd, a byd. Un gryf yw cydwybod euog; hi bâr i'r barnwr newid lliwiau pe bai yn y llys ar ei orsedd. Nid yw Dafydd na Pedr yn esiamplau am hyn, oblegyd goruchwyliaeth ac amgylchiad. Mae hanfod gwasanaethu Duw yn yr Ysbryd yn effeithiad tri pheth. Effaith credu y dystiolaeth am dano; effaith cariad ato, ac ufudd-dod iddo; ac a gyflawnir mewn newydd-deb ysbryd-ysbryd wedi ei adnewyddu: ac yn wresog yn yr ysbryd; hyny yw, a'r holl galon, ond bob amser yn llai na'r dymuniad. Mae gwir ffydd yn Nghrist yn y ffolaf a'r annysgedicaf yn cynwys holl ddefnyddiau bywyd ysbrydol; pan mae y doethaf a'r dysgedicaf yn dysgu hebddi. Goleuni a nerth ysbrydol yw y naill, goleuni a nerth cnawdol yw y llall. Mae y naill yn ymostyngiad tlawd yn yr ysbryd; mae y llall yn ymofyniad rheswm cnawdol, balchder ysbryd. Mae mor ddyogel yn Nghrist ag yw yn y nefoedd. Crist yw y nefoedd, a'r nefoedd yn Nghrist yw y nefoedd. Mae yn Nghrist ar y ddaear yr hyn nid yw yn y nefoedd-saint heb eu perffeithio. Nid perffeithiad yw eu dyogelwch, er y bydd hyny iddynt yn dragywyddol ddedwyddwch; ond eu cyflwr yw bod yn Nghrist. "Nid oes yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu; y rhai sydd yn rhodio, nid yn ol y cnawd"-nid efe yw eu blaenor, ond eu blinwr-"eithr yn ol yr ysbryd." Efe maent yn ddylyn, er eu bod yn ol yn mhell; y rhai hyn yw y rhai sydd yn Nghrist. Dymuniadau: -Trwy ffydd yn Nghrist yn unig gyflwr; yn y llwch mewn edifeirwch yn unig le i fod ynddo: gwasanaethu Duw wrth ei fodd yn unig waith; gorfoleddu yn Nghrist Iesu yr unig obaith, heb ymddiried dim yn y cnawd un amser, yr unig agwedd. Lle mae hyn yn wirioneddol mae Cristion, faint bynag fyddo o wendid yn y dymunwr. Mae cwbl yr Arglwydd yn ngoruchwyliaeth gras yn nghymhwysiad yr iachawdwriaeth trwy ei ysbryd; efe yw y Dadguddiwr, yr Esboniwr, y Mynegwr, y Tywysydd, yr Arweinydd, yr Adferwr, a'r<noinclude><references/></noinclude> knsnptjgkpojqf2hitrhz87siischtk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/224 104 84600 164381 2026-05-07T20:31:08Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Bywhawr, a'r cwbl yn ol cyfamod Duw a'i bobl yn ei air am ei Ysbryd. Mae anufuddhau i air yr Arglwydd yn digio yr Arglwydd, yn tristâu ei Ysbryd, yn peri ei atal, ei ymadawiad, a bod hebddo, yr hyn yw achos holl aflwyddiant ac annghysur ac ofnau pobl yr Arglwydd. Llawer gwaith, os nid bob amser, y gwelwyd yn ngoruchwyliaeth yr Arglwydd tuag at ei bobl y peth a gyfrifent yn groes drom arnynt, a bod hyny oll yn eu herbyn, oedd y gwared... 164381 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bywhawr, a'r cwbl yn ol cyfamod Duw a'i bobl yn ei air am ei Ysbryd. Mae anufuddhau i air yr Arglwydd yn digio yr Arglwydd, yn tristâu ei Ysbryd, yn peri ei atal, ei ymadawiad, a bod hebddo, yr hyn yw achos holl aflwyddiant ac annghysur ac ofnau pobl yr Arglwydd. Llawer gwaith, os nid bob amser, y gwelwyd yn ngoruchwyliaeth yr Arglwydd tuag at ei bobl y peth a gyfrifent yn groes drom arnynt, a bod hyny oll yn eu herbyn, oedd y gwaredu mwyaf arnynt, a'r gofal mwyaf am danynt, a'r daioni mwyaf iddynt. Mae hyny yn cael ei wybod ganddynt yn y bywyd hwn weithiau, yr hyn sydd i lawer o ddybenion da iddynt er eu santeiddiad, i ffieiddio eu hunain, a gweled mor ffol y buasent yn gwingo yn erbyn y symbylau oedd at eu cadw rhag myned yn rhy hoff o'r creadur, a rhy ymchwyddus ynddynt eu hunain; ac i barhau mewn gweddiau, gan ymddiried yn unig yn yr Arglwydd; ac wedi deall hyn yn gallu dyweyd, Drosom ni mae hyn oll, am yr hyn y dywedwyd, Yn ein herbyn ni mae hyn oll. Er cymaint sydd o annghrediniaeth ac anymddiried yn yr Arglwydd, mae mor sicr a'i lefaru, y caiff "pob peth gydweithio er daioni y rhai sydd yn caru Duw." Pe bai holl feddyliau mwyaf, eangaf, a helaethaf holl dduwiolion y byd, o'i ddechreu i'w ddiwedd, am ras, trugaredd, a thosturiaethau Duw yn Nghrist i bechadur yn cael eu cysylltu cysylltu wrth eu gilydd, i wneyd un llen o honynt, ni byddent ond megys defnyn mewn cydmariaeth i'r môr, a llawer llai; yr hyn yn unig sydd obaith am fywyd tragywyddol. Duwioldeb sydd yn gynwysedig mewn tri pheth:-Y cyntaf yw gwasanaethu yr Arglwydd, yr ail yw ei fwynhau, y trydydd yw ei ogoneddu. Hyn yw enaid y byd; mae heb hyn yn wag, yn wan, ac yn farw. Hyn yw sylwedd y byd; mae heb hyn fel cysgod, fel lliw -dim ond twyll. Hyn yw boddlonrwydd y byd; mae heb hyn yn wancus, anniwallus, ac annghysurus. Ac yn ddyben y byd; mae heb hyn yn debyg i wallgofddyn, yn llawn awyddau, seiniau, a broliau, dadwrdd annhrefnus, terfysglyd. Y darn mwyaf ymarferol o arfogaeth y Cristion yw gweddi; mae i'w hymarfer bob amser-peidio gwneyd dim heb weddi, gwneyd pob peth trwy weddi, gwneyd pob peth yn ddefnydd gweddi, gwneyd gweddi yn ddiwedd pob peth. Mae y priodoliaethau a roir i weddi yn fwy nag i ddim a berthyn i Gristion. Rhoir gwaeddi wrthi, llefain, galw, ceisio, gofyn, curo, taerni, ymgodi, ymdrechu, myned. Gweddi yw y daith a'r gwaith at, ac wrth orsedd gras. Ffaeledd mawr ar Gristion yw annhrefn am weddi: mae rhy fach o feddwl am weddi, o weddi, o hyder mewn gweddi, o anwyldeb at weddi, o obaith mewn gweddi, o afael mewn gweddi, o gysur mewn gweddi, ac o'r sicrwydd sydd am ffrwyth gweddi. Ofnir mwy rhag nad yw y gweddio yn iawn, na rhag bod gweddio yn rhy fach. Ychydig a ofnir am weddio rhy fach. Pa fwyaf o weddio, mwyaf o gyfoeth. Lle mae Crist yn bob peth i ddyn, mae pob peth Crist yn meddiant dyn. Mae ysbryd Crist ganddo mewn meddwl, mae gair Crist ynddo mewn llywodraeth, mae esiampl Crist iddo mewn dysgeidiaeth. Crist yn bob peth i ddyn mewn amser yw y sicrwydd y bydd Duw oll yn oll iddo wedi amser. Gwybodaeth sicr am bethau ysbrydol yw datguddiad y gair yn unig. Y cwbl a wyddys am y nefoedd yw, tebyg a mwynhau. Cyffelyb i Grist yw holl debyg y nefcedd; holl fwynhad y nefoedd yw Duw. "Y byddwn gyffelyb iddo, oblegyd ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Ymwynhad i gyd fydd Duw; canys at hyny y mae y cwbl yn myned: "fel y byddo Duw oll yn oll." Pan roddom ein hunain i fyny i'r dwyfol ewyllys, heb ymgadw dim, yr ydym yn dra sicr o gael ein gwaredu oddiwrth ein gofid. Y mae genym esiamplau i'w gweled am hyn yn ein Gwaredwr bendigedig. Efe a gymerwyd o garchar ac o farn; ond pa fodd yr ymddygodd dan yr amgylchiadau trallodus hyn? Efe a weddiodd, gan ddywedyd, "Dy ewyllys a wneler." Yr oedd hyn megys pont yr aeth ef drosti, heibio i genllif ing a thristwch. Felly y mae hefyd gan ei ganlynwyr; fe fydd ffordd yn sicr o agor ei hun os dywedwn o'n calonau mewn cyfyngder, Ewyllys yr Arglwydd a wneler; canys ni fwriada ewyllys Duw ein dinystr, ond ein cadwraeth. Duw, yr hwn a ganiata ein temtio, a wna ffordd i ni gael diangfa, ac a egyr ffordd hyfryd o obaith i ni trwy ddyffryn tywyll dyoddefiadau. Digon a sicr brawf am y bod o Dduw, pe na byddai dim arall, yw y gwrthwynebiad sydd mewn dyn i Dduw. Pe bai gan ddyn iawn adnabyddiaeth o hono ei hun, fe adwaenai bob gwirionedd ac anwiredd wrtho ei hun. Digon o brawf, pe na buasai dim arall, am falchder ysbrydol dyn mewn deddfoldeb a hunan-gyfiawnder, yw y gwrthwynebiad pendant, gelynol sydd ynddo at Grist, ac i ymofyn mewn gwir ymostyngiad y bywyd sydd ynddo. Sicr a digon o brawf iddynt bod yr ysgrythyrau yn air Duw yw ei groesder iddynt. Sier a digon o brawf i ddyn am ddrwg ei gyflwr a llygredigaeth ei natur yw yr egwyddor a'r duedd sydd yn ei natur. Sicr a digon o brawf bod Iesu yn Fab Duw, yn anfonedig y Tad, yn Grist Duw, yn Iachawdwr. y byd, yn iawn dros bechodau y byd, yw y gwrthwynebiad sydd yn mhob dyn iddo fel y cyfryw. Sier a digon o brawf am elyniaeth dyn yn erbyn Duw yw y fantais a fyn gymeryd oddiwrth bob peth yn y greadigaeth a'i deddfau yn erbyn gwybodaeth gair Duw. Sier a digon o brawf i ddyn bod ef ei hun ei brif elyn, ac mai ei brif ddyledswydd yw ymwadu ag ef ei hun, yw y balchder a ddengys pob dyn mewn hunangais am hunan glod. Tri o ddirgelion gwir grefydd: 1. Gwir Dduw heb ddychymyg. 2. Gwir ffydd heb olwg. 3. Gwir fwynhad mewn gobaith. Dyledswydd dyn at iachawdwriaeth: --Diwyd ymarfer â goruchwyliaeth gair Duw. 2. Diwyd ymegniad y meddwl wrth ymarfer â moddion gras i ddeall a derbyn yr hyn a draddodwyd trwy y gair fel meddwl ac ewyllys Duw. 3. Gweddio parhaus am y pethau y mae Duw yn gorchymyn i ni eu gwneuthur, nas gallwn; y mae genym addewidion am iddo ef i'w gwneyd. 4. Dyfal olwg ar reol gair Duw i'w dylyn. Mae cynydd aelodau mewn ychwanegiad at y wir eglwys, a'r rhai hyny yn ddioruchwyliaeth ac yn gnawdol, a hefyd amlhad a lluosogiad ar sectau fyddo grym eu hanfodiad ar ddulliau ac allanol gyflawniadau, yn farn ysbrydol ar y wlad lle byddo, ac yn arwydd o farn dymhorol ar y wlad hono. Defnyddiau y gymdeithas ysbrydol rhwng dyn a Duw o du yr Arglwydd, yw ei fod yn peidio tewi wrtho; am hyny ei ddymuniad parhaus yw, Na thaw wrthyf; ac hefyd nerthu yn y ffydd i roddi ufudd-dod i'r gorchymyn; a chadw ffydd, rhag diffygio mewn profedigaethau, ac ateb gweddiau; mae hyn yn cadarnhau a nerthu yr enaid i ddysgwyl am atebiad buan: "Ý dydd y llefais arnat y'm gwrandewaist;" ac y'm cadarnheaist a nerth yn fy enaid. Defnyddiau y gymdeithas o du y pechadur yw myfyrdod ar Dduw yn ol ei air, a rhodio yn ofn Duw yn ol ei air, gweddio ar Dduw yn ol ei air, yr hyn sydd trwy Grist yn yr Ysbryd Glân. Lle nid oes cariad nid oes calon; lle nid oes ewyllys nid oes gallu; lle nid oes meddwl nid oes medr; lle nid oes Bibl nid oes gwybodaeth; lle nid oes ffydd nid oes crefydd; lle nid oes Duw nid oes dim; lle nid oes dysg nid oes dawn; lle nid oes Crist nid oes bywyd. Galwad yr efengyl yw unig obaith pechadur; credu yn Nghrist yw bywyd i bechadur; adnewyddiad yr Ysbryd Glân yw cysur pechadur. Mae egwyddorion a hanfod diwygiad y mil blynyddoedd i'w weled yn ol gair yr Arglwydd mewn pump peth: 1. Mewn dymchweliad Iuddewaeth, Rhuf. xi. 23, 4, 5, 6, 7, 8, 31, 32. 2. Mewn dymchweliad Pabyddiaeth, 2 Thes. ii. 6-12; Dat. xiv. 8. 3. Acmewn diwygiad ar Gristionogaeth, Zec. xiv. 20, 21. 4. Mewn dymchweliad Mahometaniaeth. 5. Mewn dymchweliad ar Baganiaeth: ewyllys yr Arglwydd yn cael ei wneyd ar y ddaear megys mae yn cael ei wneyd yn y nefoedd; llenwi y ddaear â chyfoeth y nefoedd, santeiddrwydd yw hyny; yr hyn fydd holl ogoniant y mil blynyddoedd. Unig ddefnydd gwir wybodaeth grefyddol ac ysbrydol gwir dduwioldeb yw yr ysgrythyrau; yr unig sicrwydd am wybodaeth yr ysgrythyrau mewn meddiant personol yw ffydd; nerth gwybodaeth ffydd yn unig sydd yn yr Ysbryd Glân; mae yn rhaid i hyn fod yr un peth yn yr holl gredinwyr; mae y gwahaniaeth er hyny sydd mewn credinwyr yn y gwahaniaeth yn yr oruchwyliaeth fu arnynt yn mhlaniad ffydd. 2. Ac ar gyfarfyddiad dynol dymherau a gewynau. 3. Ac ar amgylchiadau personol: claf neu iach, gweddw neu briod, cyfoethog neu dlawd. 4. Ac ar oruchwyliaethau rhagluniaethol tuag atynt. Nis gall y gwir hyder uchelaf fod yn ddim ond profiad y ffydd; ac y mae hyder lleiaf gwir ffydd yn brofiad. Gwirionedd cymhwysiadol at enaid angenus yw cymaint o adnabyddiaeth o wrthddrychau anweledig a ellir ddysgwyl yn y fuchedd hon, canys y mae yn cynwys sail, sicrwydd, a defnydd gwir ffydd. Ymarweddiad yn y nefoedd yw ymarweddiad nefol, y meddwl yn cymdeithasu â phethau y nefoedd ar y ddaear, trwy Grist yn y gair -rhoddi ein serch ar y pethau sydd uchod. Y serch yw prif ddylanwad at gymdeithas a Duw. Pethau sydd uchod-pethau ddaeth oddiuchod-y pethau mae eu cynwysiad uchod, ac uchod eu perffeithiad. Lle bo serch mae ceisio, Gwir serch bâr wir gais. Serchu a cheisio pethau nefol sydd yn y gair, yw ymarweddiad yn y nefoedd heb ddychymygion. Pa fodd y deallir buddioldeb personol oddiwrth y gair a wrandawn? Ateb. Ein bod ni yn unig wrthddrych iddo wrth ei wrando, a'i wrando i ni ein hunain, a'i ddefnyddio at ein holl achos ein hunain; canys y mae hyn yn brawf o egwyddor o gariad, ffydd, ac ufudd-dod, er na byddo y serchiadau ddim yn fflamllyd, canys y mae deall y lleferydd yn peri gwrando yr ymadrodd. Mae cariad yn peri ufudd-dod. Mae derbyn y rhybyddion yn peri cadw y gorchymynion. "Ynddynt hwy y rhybyddir dy was: o'u cadw y mae gwobr lawer." At gael cymdeithas â Duw, a mwynhau ei wyneb mewn ymarferiad ag ordinhadau cyhoeddus, mae yn gysylltiedig a hyn bod grasusau yr Ysbryd yn weithredoedd parhaus gan ddirgel ddyn y galon. Nid yw wyneb Duw ond lle mae ei Ysbryd, ac nid yw ei Ysbryd yn un lle yn gweithredu nac yn dylanwadu ond lle mae ei rasusau yn cael eu gweithredu, na'r grasusau yn cael eu gweithredu ond lle cedwir ei air. Mae holl bethau ein hiachawdwriaeth yn fawrhad ar ei air, a'i air yn mawrhau ei wyneb, a'i wyneb i'w gael trwy ei Ysbryd, a'i Ysbryd yn ei rasusau. Grasusau yr Ysbryd yw y gair yn weithredoedd; ffydd yw credu y gair; cariad yw cadw y gair; amynedd yw ymaros o herwydd y gair; gobaith yw dysgwyliad wrth y gair; gostyngeiddrwydd yw ymostyngiad o herwydd y gair. Lle bo y pethau hyn, ac yn aml hwynt, maent yn peri na byddo eu perchenog na segur na diffrwyth yn ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Mae perygl mawr rhag camsynied, trwy feddwl eu bod yn ddor rhyngom a Duw, a ninau yn rhydd oddiwrth air Duw. Rhydd oddiwrth y gair yw pawb nad yw y gair yn peri acto grasusau yn ol yr holl amgylchiadau, cyfnewidiadau, profedigaethau, a'r llygredigaethau sydd yn gwneyd i fyny fyny fywyd credinwyr dinwyr wrth fyned trwy y fuchedd hon. Ni ellir cael cymdeithas â Duw y pechir yn ei erbyn bob dydd, a phob awr o'r dydd, heb edifeirwch tuag at Dduw; nid yn unig yn gyffredinol, am gamweddau nas deallir, ond hefyd yn neillduol, am gamweddau cuddiedig, a phechodau profedigaethau neillduol. Mae yn debyg y gall rhyw gors fod yn y peth hwn i filoedd-efryddion, heb fynu eu hadnabod, ac am hyny heb eu meddyginiaethu trwy eu holl fywyd. Llawer iawn ydynt yn byw mewn balchder ysbryd, ysl yn ariangar, yn ffrostwyr, mewn llid, dig, cenfigen, ac ymddial; mewn meddwdod a chyfeddach, diota, ysgafnder meddwl, bydoldeb, yr hyn yw rhodio yn ol y cnawd mewn cysylltiad â phroffes o grefydd, dd, dros eu holl fywyd, nes caledu y galon, serio y gydwybod, gan wrthod pob argyhoeddiad, gan feddyginiaethu eu cydwybod â gweniaith eu wybod a gwenia celwyddau eu hun, ac nid trwy edifeirwch, a dychweliad at Dduw am y y pethau hyn. Lle nid oes edifeirwch tuag at Dduw nid oes ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, nac un o rasusau yr Ysbryd mewn gweithrediad. Edifeirwch yw meithrinfa y grasusau. Edifeirwch sydd fel agoriad pyrth at gario yr holl fasnach yn mlaen; y mae yr ysbryd anedifeiriol yn atal cymundeb rhwng yr enaid a Duw. Ni a ddylem gofio, gan hyny, a sylwi nad oes cymdeithas â Duw ond trwy rasusau Ysbryd Duw. Enaid a hanfod cymdeithas â Duw yw gweithredu y grasusau rhwng enaid a Duw. "Edifeirwch debyg y gall tuag at Dduw a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist," dyma gynwysiad gweinidogaeth iachawdwriaeth yn yr Hen Destament a'r Newydd. "Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled," yw cenadwri yr Hen Destament. "Edifarhewch a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau," fel y mwynhaoch ei bresenoldeb, yw cynwysiad cenadwri y Testament Newydd. Y fath siomedigaeth yr arwain y camgymeriad hwn iddo; sef meddwl fod crefydd mewn meddiant dan feithriniaeth egwyddorion croes iddi ! Pedwar peth mawr eu twyll mewn gwlad Gristionogol ywamlwg gysylltiad cnawdol a chrefyddol, megys tremiau beilchion a chyflawniadau allanol crefydd-ysbryd anefengylaidd ac allanol ymarferion efengylaidd y cenfigenus yn ymddangos yn orfoleddus a hyderus-y dialgar yn seingar mewn pregethu, canu, gweddio, a gwrando-y cybyddlyd yn rhagfarnllyd-y cybydd mwyaf yn erlidiwr mwyaf ar gybydd-dod-y meddwyn yn dangos duwiolddyn -yr hunanol yn ymrithio yn ymostyngol-y gwenieithus yn ymddangos yn wylus-y pleidgar yn ymddangos yn uniongar. Rhith duwioldeb yw hyn, eithr wedi gwadu ei grym hi. Pan bo hyn mae barn driphlyg. Yn 1. Ar y person ei hun, mewn cydwybod ddrwg wedi ei serio. Yn 2. Ar yr eglwys a'i goddefo, canys y mae goddef y rhai drwg yn digio yr Arglwydd. Yn 3. Ar y byd digrefydd, i'w caledu mewn annghrediniaeth. Yr ail beth sydd yn gwneuthur mawr niwed mewn gwlad Gristionogol yw gŵyrdroi yr ysgrythyrau, trwy geisio geisio dangos meddwl iddynt nad yw ynddynt, trwy eu defnyddio at bethau a gwrthddrychau cnawdol-trwy ddefnyddio gwirionedd i wrthwynebu gwirionedd: tadogi, llunio, a chadarnhau heresiau ac anwireddau, a chamddefnyddiad o'r ysgrythyrau o eisiau eu deall. Y trydydd, meddwl fod y pethau sydd dros y gwirionedd yn erbyn y gwirionedd. gwirionedd. Y pedwerydd, Meddwl y pethau sydd d yn erbyn y gwirionedd dros y gwirionedd: anianol, heb yr ysbryd, sydd yn achosi y benbleth hon, a llawer ychwaneg. 1. Yn wyneb adfyd ymgysurwn yn yr Arglwydd. 2. Yn wyneb hawddfyd ymddigrifwn yn yr Arglwydd. 3. Yn wyneb eisiau ymddiriedwn yn yr Arglwydd. 4. Yn wyneb ofnau ymguddiwn yn yr Arglwydd. 5. Yn wyneb dyryswch dystawn yn yr Arglwydd. 6. Yn wyneb tristwch gorfoleddwn yn yr Arglwydd. Gwnawn hyn oll mewn gweddi yn ol ei air. Amen. "Canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw." Dyma galon ac arch gyda'u gilydd, mewn undeb a'u gilydd; lle mae hyn fe bâr byth, fel y gwelir am y gwr hwn, trwy bob cyfnewidiad, amgylchiad, a phrofedigaeth yr aeth trwyddynt; eto ar ol y cwbl, a thrwy y cwbl, yr oedd ei galon yn gryno gyda'r arch. Arch gyda'r galon bâr galon gyda'r arch. Os bydd yr arch gyda'r galon, fe fydd y galon yn ofni am arch Duw yn wyneb amgylchiadau, rhag ei dal gan y Philistiaid. Yr oedd llawer o bethau yn yr amgylchiad y pryd hwnw oedd â pherthynas agos rhyngddynt a'r gwr hwn allasai fod yn naturiol achos ofn iddo am Israel, ei bobl, ei genedl-unig bobl Dduw-a'u hymdrech y pryd hyny ar faes y frwydr â'r Philistiaid dienwaededig, gelynion Duw ac Israel, cenedl anhawddgar a ffiaidd ganddo; ei feibion hefyd yn y frwydr-teimlad tadol atynt. Yr oedd ei achos<noinclude><references/></noinclude> rjmr3digxkmswrij26wjm1z04vnyq66 164382 164381 2026-05-07T20:32:04Z AlwynapHuw 1710 164382 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn oll iddo wedi amser. Gwybodaeth sicr am bethau ysbrydol yw datguddiad y gair yn unig. Y cwbl a wyddys am y nefoedd yw, tebyg a mwynhau. Cyffelyb i Grist yw holl debyg y nefcedd; holl fwynhad y nefoedd yw Duw. "Y byddwn gyffelyb iddo, oblegyd ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Ymwynhad i gyd fydd Duw; canys at hyny y mae y cwbl yn myned: "fel y byddo Duw oll yn oll." Pan roddom ein hunain i fyny i'r dwyfol ewyllys, heb ymgadw dim, yr ydym yn dra sicr o gael ein gwaredu oddiwrth ein gofid. Y mae genym esiamplau i'w gweled am hyn yn ein Gwaredwr bendigedig. Efe a gymerwyd o garchar ac o farn; ond pa fodd yr ymddygodd dan yr amgylchiadau trallodus hyn? Efe a weddiodd, gan ddywedyd, "Dy ewyllys a wneler." Yr oedd hyn megys pont yr aeth ef drosti, heibio i genllif ing a thristwch. Felly y mae hefyd gan ei ganlynwyr; fe fydd ffordd yn sicr o agor ei hun os dywedwn o'n calonau mewn cyfyngder, Ewyllys yr Arglwydd a wneler; canys ni fwriada ewyllys Duw ein dinystr, ond ein cadwraeth. Duw, yr hwn a ganiata ein temtio, a wna ffordd i ni gael diangfa, ac a egyr ffordd hyfryd o obaith i ni trwy ddyffryn tywyll dyoddefiadau. Digon a sicr brawf am y bod o Dduw, pe na byddai dim arall, yw y gwrthwynebiad sydd mewn dyn i Dduw. Pe bai gan ddyn iawn adnabyddiaeth o hono ei hun, fe adwaenai bob gwirionedd ac anwiredd wrtho ei hun. Digon o brawf, pe na buasai dim arall, am falchder ysbrydol dyn mewn deddfoldeb a hunan-gyfiawnder, yw y gwrthwynebiad pendant, gelynol sydd ynddo at Grist, ac i ymofyn mewn gwir ymostyngiad y bywyd sydd ynddo. Sicr a digon o brawf iddynt bod yr ysgrythyrau yn air Duw yw ei groesder iddynt. Sier a digon o brawf i ddyn am ddrwg ei gyflwr a llygredigaeth ei natur yw yr egwyddor a'r duedd sydd yn ei natur. Sicr a digon o brawf bod Iesu yn Fab Duw, yn anfonedig y Tad, yn Grist Duw, yn Iachawdwr. y byd, yn iawn dros bechodau y byd, yw y gwrthwynebiad sydd yn mhob dyn iddo fel y cyfryw. Sier a digon o brawf am elyniaeth dyn yn erbyn Duw yw y fantais a fyn gymeryd oddiwrth bob peth yn y greadigaeth a'i deddfau yn erbyn gwybodaeth gair Duw. Sier a digon o brawf i ddyn bod ef ei hun ei brif elyn, ac mai ei brif ddyledswydd yw ymwadu ag ef ei hun, yw y balchder a ddengys pob dyn mewn hunangais am hunan glod. Tri o ddirgelion gwir grefydd: 1. Gwir Dduw heb ddychymyg. 2. Gwir ffydd heb olwg. 3. Gwir fwynhad mewn gobaith. Dyledswydd dyn at iachawdwriaeth: --Diwyd ymarfer â goruchwyliaeth gair Duw. 2. Diwyd ymegniad y meddwl wrth ymarfer â moddion gras i ddeall a derbyn yr hyn a draddodwyd trwy y gair fel meddwl ac ewyllys Duw. 3. Gweddio parhaus am y pethau y mae Duw yn gorchymyn i ni eu gwneuthur, nas gallwn; y mae genym addewidion am iddo ef i'w gwneyd. 4. Dyfal olwg ar reol gair Duw i'w dylyn. Mae cynydd aelodau mewn ychwanegiad at y wir eglwys, a'r rhai hyny yn ddioruchwyliaeth ac yn gnawdol, a hefyd amlhad a lluosogiad ar sectau fyddo grym eu hanfodiad ar ddulliau ac allanol gyflawniadau, yn farn ysbrydol ar y wlad lle byddo, ac yn arwydd o farn dymhorol ar y wlad hono. Defnyddiau y gymdeithas ysbrydol rhwng dyn a Duw o du yr Arglwydd, yw ei fod yn peidio tewi wrtho; am hyny ei ddymuniad parhaus yw, Na thaw wrthyf; ac hefyd nerthu yn y ffydd i roddi ufudd-dod i'r gorchymyn; a chadw ffydd, rhag diffygio mewn profedigaethau, ac ateb gweddiau; mae hyn yn cadarnhau a nerthu yr enaid i ddysgwyl am atebiad buan: "Ý dydd y llefais arnat y'm gwrandewaist;" ac y'm cadarnheaist a nerth yn fy enaid. Defnyddiau y gymdeithas o du y pechadur yw myfyrdod ar Dduw yn ol ei air, a rhodio yn ofn Duw yn ol ei air, gweddio ar Dduw yn ol ei air, yr hyn sydd trwy Grist yn yr Ysbryd Glân. Lle nid oes cariad nid oes calon; lle nid oes ewyllys nid oes gallu; lle nid oes meddwl nid oes medr; lle nid oes Bibl nid oes gwybodaeth; lle nid oes ffydd nid oes crefydd; lle nid oes Duw nid oes dim; lle nid oes dysg nid oes dawn; lle nid oes Crist nid oes bywyd. Galwad yr efengyl yw unig obaith pechadur; credu yn Nghrist yw bywyd i bechadur; adnewyddiad yr Ysbryd Glân yw cysur pechadur. Mae egwyddorion a hanfod diwygiad y mil blynyddoedd i'w weled yn ol gair yr Arglwydd mewn pump peth: 1. Mewn dymchweliad Iuddewaeth, Rhuf. xi. 23, 4, 5, 6, 7, 8, 31, 32. 2. Mewn dymchweliad Pabyddiaeth, 2 Thes. ii. 6-12; Dat. xiv. 8. 3. Acmewn diwygiad ar Gristionogaeth, Zec. xiv. 20, 21. 4. Mewn dymchweliad Mahometaniaeth. 5. Mewn dymchweliad ar Baganiaeth: ewyllys yr Arglwydd yn cael ei wneyd ar y ddaear megys mae yn cael ei wneyd yn y nefoedd; llenwi y ddaear â chyfoeth y nefoedd, santeiddrwydd yw hyny; yr hyn fydd holl ogoniant y mil blynyddoedd. Unig ddefnydd gwir wybodaeth grefyddol ac ysbrydol gwir dduwioldeb yw yr ysgrythyrau; yr unig sicrwydd am wybodaeth yr ysgrythyrau mewn meddiant personol yw ffydd; nerth gwybodaeth ffydd yn unig sydd yn yr Ysbryd Glân; mae yn rhaid i hyn fod yr un peth yn yr holl gredinwyr; mae y gwahaniaeth er hyny sydd mewn credinwyr yn y gwahaniaeth yn yr oruchwyliaeth fu arnynt yn mhlaniad ffydd. 2. Ac ar gyfarfyddiad dynol dymherau a gewynau. 3. Ac ar amgylchiadau personol: claf neu iach, gweddw neu briod, cyfoethog neu dlawd. 4. Ac ar oruchwyliaethau rhagluniaethol tuag atynt. Nis gall y gwir hyder uchelaf fod yn ddim ond profiad y ffydd; ac y mae hyder lleiaf gwir ffydd yn brofiad. Gwirionedd cymhwysiadol at enaid angenus yw cymaint o adnabyddiaeth o wrthddrychau anweledig a ellir ddysgwyl yn y fuchedd hon, canys y mae yn cynwys sail, sicrwydd, a defnydd gwir ffydd. Ymarweddiad yn y nefoedd yw ymarweddiad nefol, y meddwl yn cymdeithasu â phethau y nefoedd ar y ddaear, trwy Grist yn y gair -rhoddi ein serch ar y pethau sydd uchod. Y serch yw prif ddylanwad at gymdeithas a Duw. Pethau sydd uchod-pethau ddaeth oddiuchod-y pethau mae eu cynwysiad uchod, ac uchod eu perffeithiad. Lle bo serch mae ceisio, Gwir serch bâr wir gais. Serchu a cheisio pethau nefol sydd yn y gair, yw ymarweddiad yn y nefoedd heb ddychymygion. Pa fodd y deallir buddioldeb personol oddiwrth y gair a wrandawn? Ateb. Ein bod ni yn unig wrthddrych iddo wrth ei wrando, a'i wrando i ni ein hunain, a'i ddefnyddio at ein holl achos ein hunain; canys y mae hyn yn brawf o egwyddor o gariad, ffydd, ac ufudd-dod, er na byddo y serchiadau ddim yn fflamllyd, canys y mae deall y lleferydd yn peri gwrando yr ymadrodd. Mae cariad yn peri ufudd-dod. Mae derbyn y rhybyddion yn peri cadw y gorchymynion. "Ynddynt hwy y rhybyddir dy was: o'u cadw y mae gwobr lawer." At gael cymdeithas â Duw, a mwynhau ei wyneb mewn ymarferiad ag ordinhadau cyhoeddus, mae yn gysylltiedig a hyn bod grasusau yr Ysbryd yn weithredoedd parhaus gan ddirgel ddyn y galon. Nid yw wyneb Duw ond lle mae ei Ysbryd, ac nid yw ei Ysbryd yn un lle yn gweithredu nac yn dylanwadu ond lle mae ei rasusau yn cael eu gweithredu, na'r grasusau yn cael eu gweithredu ond lle cedwir ei air. Mae holl bethau ein hiachawdwriaeth yn fawrhad ar ei air, a'i air yn mawrhau ei wyneb, a'i wyneb i'w gael trwy ei Ysbryd, a'i Ysbryd yn ei rasusau. Grasusau yr Ysbryd yw y gair yn weithredoedd; ffydd yw credu y gair; cariad yw cadw y gair; amynedd yw ymaros o herwydd y gair; gobaith yw dysgwyliad wrth y gair; gostyngeiddrwydd yw ymostyngiad o herwydd y gair. Lle bo y pethau hyn, ac yn aml hwynt, maent yn peri na byddo eu perchenog na segur na diffrwyth yn ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Mae perygl mawr rhag camsynied, trwy feddwl eu bod yn ddor rhyngom a Duw, a ninau yn rhydd oddiwrth air Duw. Rhydd oddiwrth y gair yw pawb nad yw y gair yn peri acto grasusau yn ol yr holl amgylchiadau, cyfnewidiadau, profedigaethau, a'r llygredigaethau sydd yn gwneyd i fyny fyny fywyd credinwyr dinwyr wrth fyned trwy y fuchedd hon. Ni ellir cael cymdeithas â Duw y pechir yn ei erbyn bob dydd, a phob awr o'r dydd, heb edifeirwch tuag at Dduw; nid yn unig yn gyffredinol, am gamweddau nas deallir, ond hefyd yn neillduol, am gamweddau cuddiedig, a phechodau profedigaethau neillduol. Mae yn debyg y gall rhyw gors fod yn y peth hwn i filoedd-efryddion, heb fynu eu hadnabod, ac am hyny heb eu meddyginiaethu trwy eu holl fywyd. Llawer iawn ydynt yn byw mewn balchder ysbryd, ysl yn ariangar, yn ffrostwyr, mewn llid, dig, cenfigen, ac ymddial; mewn meddwdod a chyfeddach, diota, ysgafnder meddwl, bydoldeb, yr hyn yw rhodio yn ol y cnawd mewn cysylltiad â phroffes o grefydd, dd, dros eu holl fywyd, nes caledu y galon, serio y gydwybod, gan wrthod pob argyhoeddiad, gan feddyginiaethu eu cydwybod â gweniaith eu wybod a gwenia celwyddau eu hun, ac nid trwy edifeirwch, a dychweliad at Dduw am y y pethau hyn. Lle nid oes edifeirwch tuag at Dduw nid oes ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, nac un o rasusau yr Ysbryd mewn gweithrediad. Edifeirwch yw meithrinfa y grasusau. Edifeirwch sydd fel agoriad pyrth at gario yr holl fasnach yn mlaen; y mae yr ysbryd anedifeiriol yn atal cymundeb rhwng yr enaid a Duw. Ni a ddylem gofio, gan hyny, a sylwi nad oes cymdeithas â Duw ond trwy rasusau Ysbryd Duw. Enaid a hanfod cymdeithas â Duw yw gweithredu y grasusau rhwng enaid a Duw. "Edifeirwch debyg y gall tuag at Dduw a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist," dyma gynwysiad gweinidogaeth iachawdwriaeth yn yr Hen Destament a'r Newydd. "Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled," yw cenadwri yr Hen Destament. "Edifarhewch a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau," fel y mwynhaoch ei bresenoldeb, yw cynwysiad cenadwri y Testament Newydd. Y fath siomedigaeth yr arwain y camgymeriad hwn iddo; sef meddwl fod crefydd mewn meddiant dan feithriniaeth egwyddorion croes iddi ! Pedwar peth mawr eu twyll mewn gwlad Gristionogol ywamlwg gysylltiad cnawdol a chrefyddol, megys tremiau beilchion a chyflawniadau allanol crefydd-ysbryd anefengylaidd ac allanol ymarferion efengylaidd y cenfigenus yn ymddangos yn orfoleddus a hyderus-y dialgar yn seingar mewn pregethu, canu, gweddio, a gwrando-y cybyddlyd yn rhagfarnllyd-y cybydd mwyaf yn erlidiwr mwyaf ar gybydd-dod-y meddwyn yn dangos duwiolddyn -yr hunanol yn ymrithio yn ymostyngol-y gwenieithus yn ymddangos yn wylus-y pleidgar yn ymddangos yn uniongar. Rhith duwioldeb yw hyn, eithr wedi gwadu ei grym hi. Pan bo hyn mae barn driphlyg. Yn 1. Ar y person ei hun, mewn cydwybod ddrwg wedi ei serio. Yn 2. Ar yr eglwys a'i goddefo, canys y mae goddef y rhai drwg yn digio yr Arglwydd. Yn 3. Ar y byd digrefydd, i'w caledu mewn annghrediniaeth. Yr ail beth sydd yn gwneuthur mawr niwed mewn gwlad Gristionogol yw gŵyrdroi yr ysgrythyrau, trwy geisio geisio dangos meddwl iddynt nad yw ynddynt, trwy eu defnyddio at bethau a gwrthddrychau cnawdol-trwy ddefnyddio gwirionedd i wrthwynebu gwirionedd: tadogi, llunio, a chadarnhau heresiau ac anwireddau, a chamddefnyddiad o'r ysgrythyrau o eisiau eu deall. Y trydydd, meddwl fod y pethau sydd dros y gwirionedd yn erbyn y gwirionedd. gwirionedd. Y pedwerydd, Meddwl y pethau sydd d yn erbyn y gwirionedd dros y gwirionedd: anianol, heb yr ysbryd, sydd yn achosi y benbleth hon, a llawer ychwaneg. 1. Yn wyneb adfyd ymgysurwn yn yr Arglwydd. 2. Yn wyneb hawddfyd ymddigrifwn yn yr Arglwydd. 3. Yn wyneb eisiau ymddiriedwn yn yr Arglwydd. 4. Yn wyneb ofnau ymguddiwn yn yr Arglwydd. 5. Yn wyneb dyryswch dystawn yn yr Arglwydd. 6. Yn wyneb tristwch gorfoleddwn yn yr Arglwydd. Gwnawn hyn oll mewn gweddi yn ol ei air. Amen. "Canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw." Dyma galon ac arch gyda'u gilydd, mewn undeb a'u gilydd; lle mae hyn fe bâr byth, fel y gwelir am y gwr hwn, trwy bob cyfnewidiad, amgylchiad, a phrofedigaeth yr aeth trwyddynt; eto ar ol y cwbl, a thrwy y cwbl, yr oedd ei galon yn gryno gyda'r arch. Arch gyda'r galon bâr galon gyda'r arch. Os bydd yr arch gyda'r galon, fe fydd y galon yn ofni am arch Duw yn wyneb amgylchiadau, rhag ei dal gan y Philistiaid. Yr oedd llawer o bethau yn yr amgylchiad y pryd hwnw oedd â pherthynas agos rhyngddynt a'r gwr hwn allasai fod yn naturiol achos ofn iddo am Israel, ei bobl, ei genedl-unig bobl Dduw-a'u hymdrech y pryd hyny ar faes y frwydr â'r Philistiaid dienwaededig, gelynion Duw ac Israel, cenedl anhawddgar a ffiaidd ganddo; ei feibion hefyd yn y frwydr-teimlad tadol atynt. Yr oedd ei achos<noinclude><references/></noinclude> ceuybmvuq23jfhf1ntxypmag69v9r2g Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/223 104 84601 164383 2026-05-07T20:32:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164383 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bywhawr, a'r cwbl yn ol cyfamod Duw a'i bobl yn ei air am ei Ysbryd. Mae anufuddhau i air yr Arglwydd yn digio yr Arglwydd, yn tristâu ei Ysbryd, yn peri ei atal, ei ymadawiad, a bod hebddo, yr hyn yw achos holl aflwyddiant ac annghysur ac ofnau pobl yr Arglwydd. Llawer gwaith, os nid bob amser, y gwelwyd yn ngoruchwyliaeth yr Arglwydd tuag at ei bobl y peth a gyfrifent yn groes drom arnynt, a bod hyny oll yn eu herbyn, oedd y gwaredu mwyaf arnynt, a'r gofal mwyaf am danynt, a'r daioni mwyaf iddynt. Mae hyny yn cael ei wybod ganddynt yn y bywyd hwn weithiau, yr hyn sydd i lawer o ddybenion da iddynt er eu santeiddiad, i ffieiddio eu hunain, a gweled mor ffol y buasent yn gwingo yn erbyn y symbylau oedd at eu cadw rhag myned yn rhy hoff o'r creadur, a rhy ymchwyddus ynddynt eu hunain; ac i barhau mewn gweddiau, gan ymddiried yn unig yn yr Arglwydd; ac wedi deall hyn yn gallu dyweyd, Drosom ni mae hyn oll, am yr hyn y dywedwyd, Yn ein herbyn ni mae hyn oll. Er cymaint sydd o annghrediniaeth ac anymddiried yn yr Arglwydd, mae mor sicr a'i lefaru, y caiff "pob peth gydweithio er daioni y rhai sydd yn caru Duw." Pe bai holl feddyliau mwyaf, eangaf, a helaethaf holl dduwiolion y byd, o'i ddechreu i'w ddiwedd, am ras, trugaredd, a thosturiaethau Duw yn Nghrist i bechadur yn cael eu cysylltu cysylltu wrth eu gilydd, i wneyd un llen o honynt, ni byddent ond megys defnyn mewn cydmariaeth i'r môr, a llawer llai; yr hyn yn unig sydd obaith am fywyd tragywyddol. Duwioldeb sydd yn gynwysedig mewn tri pheth:—Y cyntaf yw gwasanaethu yr Arglwydd, yr ail yw ei fwynhau, y trydydd yw ei ogoneddu. Hyn yw enaid y byd; mae heb hyn yn wag, yn wan, ac yn farw. Hyn yw sylwedd y byd; mae heb hyn fel cysgod, fel lliw —dim ond twyll. Hyn yw boddlonrwydd y byd; mae heb hyn yn wancus, anniwallus, ac annghysurus. Ac yn ddyben y byd; mae heb hyn yn debyg i wallgofddyn, yn llawn awyddau, seiniau, a broliau, dadwrdd annhrefnus, terfysglyd. Y darn mwyaf ymarferol o arfogaeth y Cristion yw gweddi; mae i'w hymarfer bob amser—peidio gwneyd dim heb weddi, gwneyd pob peth trwy weddi, gwneyd pob peth yn ddefnydd gweddi, gwneyd gweddi yn ddiwedd pob peth. Mae y priodoliaethau a roir i weddi yn fwy nag i ddim a berthyn i Gristion. Rhoir gwaeddi wrthi, llefain, galw, ceisio, gofyn, curo, taerni, ymgodi, ymdrechu, myned. Gweddi yw y daith a'r gwaith at, ac wrth orsedd gras. Ffaeledd mawr ar Gristion yw annhrefn am weddi: mae rhy fach o feddwl am weddi, o weddi, o hyder mewn gweddi, o anwyldeb at weddi, o obaith mewn gweddi, o afael mewn gweddi, o gysur mewn gweddi, ac o'r sicrwydd sydd am ffrwyth gweddi. Ofnir mwy rhag nad yw y gweddio yn iawn, na rhag bod gweddio yn rhy fach. Ychydig a ofnir am weddio rhy fach. Pa fwyaf o weddio, mwyaf o gyfoeth. Lle mae Crist yn bob peth i ddyn, mae pob peth Crist yn meddiant dyn. Mae ysbryd Crist ganddo mewn meddwl, mae gair Crist ynddo mewn llywodraeth, mae esiampl Crist iddo mewn dysgeidiaeth. Crist yn bob peth i ddyn mewn amser yw y sicrwydd y bydd Duw oll<noinclude><references/></noinclude> t0d323i7v2ria8wi587f3th2g0cbbub Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/213 104 84602 164385 2026-05-07T20:34:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164385 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mawr mewn bywyd ysbrydol, er mai yn gwbl groes i hyny y bernir gan ei berchen. Mae cymaint o angen gwaredu oddiwrth bechodau yn y diwedd ag yn y dechreu. Mae parodrwydd pechod i amgylchu yn peri defnydd parhaus ar Waredwr, a gwaith parhaus i Waredwr, a llefain parhaus i fod ar Waredwr. Mae cynaliaeth adnewyddol gras yn fwy angenrheidiol mewn henaint a methiant nag mewn un amgylchiad ar fywyd dyn. Mae natur yn gwanhau, y serchiadau yn oeri, yr holl synwyrau yn pylu, ac yntau yn colli ei egni. Os na roddir gras yn gymhorth cyfamserol, mae llygredigaethau yn cryfhau lle mae natur yn gwanhau. Mae hyn yn dangos perygl am ddau beth; os bydd gwreiddyn y mater heb ei gael, fe all y bydd yr amgylchiad hwnw yn hollol syrthiad ymaith; ac os bydd wedi ei gael, os na cheir gras yn gyfatebol i'r amgylchiad hwnw, fe all yr amgylchiad fod yn debyg i longddrylliad ar y ffydd fyddo y cyfryw yn ei phroffesu. Mae yn rhaid gan hyn hyny i'r bywyd ysbrydol gael cynaliaeth parhaus at fyw yn ysbrydol, yn enwedig mewn angylchiad mor fethedig ar natur a henaint. Am hyn yr ofnai Dafydd yn fawr. Yr oedd arno ofn ei fwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni, a'i wrthod pan ballai ei nerth; am hyny y llefai yn barhaus am gynaliaeth, gan ddangos ymddibyniad ei fywyd ysbrydol yn hollol ar hyny. "Cynal fi yn ol dy air, fel y byddwyf byw; ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith." Mae crefydd pob dyn yn ol y lle sydd i Dduw yn y meddwl: lle nad yw yn yr holl feddyliau, nid oes dim crefydd. Lle mae yn anaml yn y meddwl nid oes fawr o grefydd. Lle mae amlaf yn y meddwl mae mwyaf o grefydd. Duw yn y meddwl yw bod yr hyn yw Duw yn effeithio y meddwl yn ol hyny; effeithiad y meddwl gan yr hyn yw Duw, yn effeithio ar bob peth dyn, yw duwioldeb; ei gyfiawnder, ei santeiddrwydd, ei gariad, ei ddoethineb, a'i ddaioni. Argraff hyn ar bob peth dyn yw rhodio yn ofn yr Arglwydd. Duw yn y meddwl bob amser yw gwir ddymuniad Cristion. Annghof o Dduw yn y meddwl yw un o brif ofidiau Cristion. Rhodio gyda Duw yw rhodio yn ol gair Duw am bob peth, a rhodio mewn cymdeithas & Duw yn mhob peth: hyny yw gobeithio ynddo bob amser, tywallt y galon ger ei fron bob amser, galw arno yn mhob trallod bob amser, dysgwyl wrtho bob amser, ymddiried ynddo am bob peth fyddo yn eisiau bob amser, ymddigrifu ynddo bob amser, diolch iddo yn mhob dim bob amser, ymddarostwng dan ei alluog law bob amser, bwrw ein holl ofal arno bob amser; a gwneyd hyn oll yn enw yr Arglwydd Iesu bob amser. Mae yr agwedd hon yn rhodiad gyda Duw, er pob anmherffeithrwydd yn y cyflawniad. Mae mwynhad bywyd ysbrydol a thragywyddol, wrth fyw ac wrth farw, mewn gobaith. Holl ddefnydd yr ysgrythyrau yw, fel y gallom gael gobaith. Mae pob profiad i fod yn feithriniad i obaith, ac yn brofiad i obaith. Mae Duw yn Dduw y gobaith, mae Crist yn obaith, mae yr efengyl yn obaith, mae trefn iachawdwriaeth yn obaith, addewidion y gair yn obaith. Dangosir groesaw i obeithio, gorchymynir gobeithio. "Gobeithiwch yn Nuw bob amser." Mae mwy o gadernid yn hyn, os ystyrir ef yn iawn, nag y mae gobaith yn cael ei<noinclude><references/></noinclude> 8zbm8vif75tq3wdssltg5owggvflizv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/228 104 84603 164386 2026-05-07T20:37:54Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "teuluol mewn perthynas agos â'r amgylchiad sobr hwn; ond ni ddywedir fod ei galon yn ofni am ddim ond arch Duw, yr hyn sydd yn dangos mawredd ei dduwioldeb. Y galon yw eisteddfod duwioldeb. Mae ofni calon am arch Duw yn brawf o'i eisteddfod yn y galon, canys ei wir effaith ydyw. Mae arch Duw yn Israel byth; ond fe all Israel a'r arch fyned i gaethiwed. Ei arch a'i Israel yn bresenol yw ei enw mawr a phobl ei enw. Fe all ei bobl fod y... 164386 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teuluol mewn perthynas agos â'r amgylchiad sobr hwn; ond ni ddywedir fod ei galon yn ofni am ddim ond arch Duw, yr hyn sydd yn dangos mawredd ei dduwioldeb. Y galon yw eisteddfod duwioldeb. Mae ofni calon am arch Duw yn brawf o'i eisteddfod yn y galon, canys ei wir effaith ydyw. Mae arch Duw yn Israel byth; ond fe all Israel a'r arch fyned i gaethiwed. Ei arch a'i Israel yn bresenol yw ei enw mawr a phobl ei enw. Fe all ei bobl fod yn llygredig, gwrthgiliedig, adfeiliedig, dirywio yn mhob ystyr, fel y gwelir am eglwysi Asia, a llawer o eglwysi yn mhob gwlad mewn amseroedd oedranus ar Gristionogaeth, nes bo enw yr Arglwydd mewn pob golwg i'r rhai sydd yn meddwl am ei enw ef yn debyg o fyned dan gwmwl, yr hyn sydd yn peri i'w calon ofni am ei enw mawr fel yr ofnodd Eli. Yr oedd y gwr hwn yn oedranus, dim yn abl na symud na syflyd. Nid oedd yn abl bod o'r defnydd lleiaf yn y rhyfel ar faes y frwydr, o blaid Israel yn erbyn y Philistiaid; ond gartref yn eistedd ar ei eisteddle, gerllaw y porth, yn hen wr trwm, pwlei olwg, mewn man cyfleus i ddysgwyl am hanes y rhyfel, oddiar ofn calon oedd arno am arch Duw; ac feddaliodd yr holl newyddion trymion o faes y frwydr, am y lladdfa fawr, a'r ffoi mawr. Ei ddau fab hefyd, Hophni a Phinecs a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd. "A phan grybwyllodd efe am arch Duw, fe rwygodd ei galon ofnus, ac yntau a syrthiodd, a'i wddf a dorodd, ac efe a fu farw." Fe all arch Duw, ас у mae, yn nes at galonau llawer sydd yn methu na llawer sydd yn gallu. Nid oes amgylchiad a all rhwystro calon y rhai agos at Dduw i ofni ar rai amserau am arch Duw; er bod undeb allanol ag enwadau a chymdeithasau crefyddol, a llawer o sel a ellir ddangos trwy hyn ac at hyn heb fod yn un prawf o galon yn ofni am enw yr Arglwydd. Y mae y galon sydd yn ofni am enw yr Arglwydd yn ofni am dano yn wyneb tebyg i gwmwl arno. Pa Gyfundeb bynag y bydd, fe all fod mwy o ofni am enw yr Arglwydd mewn ystafelloedd nag sydd mewn Cymanfaoedd; mwy yn bersonol gan bersonau neillduol, nag sydd yn gynulleidfaol. Fe allai nad oedd un galon ar faes y frwydr yn yr amgylchiad hwnw mor ofnus am arch Duw a chalon Eli, oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain, yr hwn oedd hefyd bell iawn oddiwrthynt. Mae hyn yn wir effaith perthynas â Duw, a sicr brawf o hono. Mae yr olwg ar yr awyrgylch yn y dyddiau hyn yn peri i galonau ofni am arch Duw; ymrysonau a chynenau mewn eglwysi; cnawdolrwydd a hunanolrwydd yn cynyddu, swyddogion iach, balch, a bydol yn amlhau yn yr eglwysi; pwysigrwydd, sobrwydd, a symlrwydd, ac ysbrydolrwydd, yn ymado fel cwmwl y boreu; ffydd a phrofiad y saint yn lleihau; gweinidogaeth yr efengyl yn fwy defodol gan eglwysi na gwir angenrheidiol air a gwaith yr Arglwydd; fel pe bai yn myned yn faich rhy drwm i'w ddwyn. Mae fel pe bai gwendid darfodedigaeth yn yr holl gyfansoddiad; rhuthr o eondra at weinidogaeth yr efengyl gan ieuenctyd, heb ond ychydig o arwyddion duwioldeb yn allanol, a llawer llai mewn profiad ac ysbryd, gan awydd dysgeidiaeth trwy gyfleusderau athrofaol, er mwyn esmwythder a dyrchafiad bydol, yr hyn sydd yn debyg i heigio y wlad â phregethwyr cnawdol, dirinwedd i eglwysi Duw, a chaledwch barnol i'r byd. Swyddogion beilchion, yn tristau yr 1 Ysbryd Glan, a'r Duw mawr yn cuddio ei wyneb, fel y gellir yn briodol ddyweyd y dyddiau hyn, "Tydi wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel, yr Achubwr." Mae y pethau hyn yn peri i galon yr ystyriol ofni am arch Duw. Ni wna bloedd gydag arch Duw yn ngwersyll yr Hebreaid, a dychryn yn ngwersyll y Philistiaid o herwydd yr arch, droi y fuddugoliaeth o du Israel. Mae yn rhaid cael Duw gyda'r arch, Duw gyda'i enw, neu y Philistiaid a orfyddant; ni wna cadw cymanfaoedd, pregethu Sabbathol a theithiol, ysgolion, cyrddau gweddi, ac ysgolion i ganu; cynefinir â phob peth; gwywo wna y cwbl. Y cnawd, y byd, a satan gaiff yr holl wlad, naill ai trwy rym llygredigaeth yn allanol, neu rith crefydd yn eglwysol, heb gael Duw gyda'r arch-ei wyneb gyda'i enw; a phan ddalier arch Duw, bydd y gogoniant wedi ymadael. Pan êl enw Duw yn bêl droed trwy bregethu cnawdol a bucheddau crefyddwyr anfoesol, heb ddim gwahaniaeth rhwng byd ac eglwys, -ysbryd y byd wedi llanw eglwysi Duw, a hwnw yr un ysbryd cyffredinol yn mhawb, nes bo arch Duw wedi ei dal, enw Duw dan draed; yna, mewn rhyw oruchwyliaeth anadnabyddus, fe bleidia ei arch yn nhŷ Dagon, ac a wna rymusder bâr i'r Israeliaid a'r Philistiaid wybod mai efe yw yr Arglwydd; ond bydd llawer ofnus am arch Duw wedi marw y pryd hyn. 176 PENOD XIII. Cyfamodau Mr. Richard â Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd. CYN rhoi y cyfamodau ger bron, yr ydym yn tybio fod ychydig sylwadau blaenorol yn angenrheidiol. Mae y cyfamodau hyn yn cael eu hadnewyddu o flwyddyn i flwyddyn am o gwmpas ugain mlynedd, a chwaneg. Y mae yn anmhosibl edrych arnynt, heb gydnabod ar unwaith fod y dyn yn credu bod Duw, a bod ganddo feddwl uchel am y Duw hwnw. Y mae Duw yn cael lle mawr yn ei feddwl; gwelir ef yn plygu yn ostyngedig ger ei fron, yn wylaidd ac isel, gan ei gydnabod yn Dduw mawr, yr hwn a wnaeth nef a daear, y moroedd, a'r hyn oll sydd ynddynt. Yr oedd ganddo grediniaeth ddiysgog mewn rhagluniaeth ddwyfol, yn ymgyflwyno iddo yn ei holl gysylltiadau â'r presenol ac a'r dyfodol. Edrychwch ar y cyfamodau un ar ol y llall, a gwelwch y difrifoldeb mwyaf ag sydd yn bosibl fod yn enaid dyn ger bron Duw. Ger bron gorseddfainc Duw, mewn unigolrwydd a dystawrwydd, dacw ef yn ymgrymu; dacw ei enaid mewn ofn santaidd yn cyflwyno ei hun, ei wraig, a'i blant i ofal a chadwraeth Duw tragywyddoldeb. Yr oedd Ilawer yn rhyfeddu wrth weled a theimlo nerth mawr Richard yn y pwlpud; ond y mae y cyfamodau, a'r cyffelyb bethau, yn dyfod â chwi i edrych ar ddirgelwch y nerth hwnw, a "chuddiad y cryfder." Yr ydych yn ei weled yn awr yn yr ystafell, wedi cau y drws, heb neb ond efe a Duw, mewn modd na welsoch ef erioed o'r blaen. Gwelsoch ef o'r blaen yn ddiofn, yn cyfarch deng mil o ddynion, a'r rhai hyny mewn cyffroad fel gallt o goed ar chwa o wynt cryf; ac yntau fel brenin mewn llu, neu arglwydd ar feddyliau dynion. Fel yna y darfu i chwi ei adnabod. Ond ar ol hyny yr oeddech yn colli eich golwg arno; nid oeddech yn ei adnabod mwyach yn ei lwybrau dirgelaidd yn y cysgod, wedi tynu o wydd dynion i wydd Duw. Yr oedd y bywyd hwn yn ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun a'i Dduw, o ran ei hanfod; ei effeithiau yn unig yr oeddech chwi yn gydnabyddus ag ef. Eithr yn awr yr ydym yn myned i godi y clawr oddiar y gist ddirgeledig a chysegredig; neu dynu y llen hono yn ol ag oedd rhyngoch a chysegr santeiddiolaf Richard, Abergwaen. Gwelsoch Richard ar ei draed ar yr esgynlawr o flaen y miloedd lawer gwaith; ond yma yr ydym am eich arwain i'w weled ar ei liniau ger bron Duw. Dewch i'r ystafell nesaf i mewn, i'r cysegr santeiddiolaf. Edrychwch, dacw y pregethwr mawr wedi crymu yn un bach ger bron Duw. "Beth! ai dyna Richard, Abergwaen, prif bregethwr Cymru?" Ië, dacw fe, yn sicr i chwi; yn un bach, nid yn unig wedi crymu, ond wedi syrthio ar ei wyneb ger bron yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. Beth y mae yn ddyweyd? Clywch ei ruddfanau! Clywch ei ocheneidiau! Y mae yn gydwybodol ei fod o flaen y Duw mawr sydd yn gwybod ac yn gallu pob peth. Clywch ef yn cyffesu o flaen Duw mai efe yw y pechadur mwyaf ar y ddaear, y gwaelaf o ddynion, y distadlaf yn mhlith y saint. Y mae yn edrych ar ei bregethau yn ffaeleddau mawrion, a'i weddiau yn gyflawniadau gwaelion; ïe, ei holl wasanaeth crefyddol yn dra annheilwng o'r Duw yr oedd yn ei wasanaethu. Nid Mr. Richard ar yr esgynlawr o flaen dynion, mewn cryfder gweinidogaethol, yw y Richard ar ei wyneb yn y cysegr o flaen Duw. Ei ymddangosiad ar yr esgynlawr sydd yn llewaidd; yn y cysegr yn oenaidd a gwylaidd. Mor ddiolchgar y mae yn cydnabod Duw am ei drugareddau a'i waredigaethau; mor daer y mae yn gofyn bendithion naturiol ac ysbrydol; ac mor llwyr y mae yn ymgyflwyno iddo! Edrychwch arno yn myned i adnewyddu y cyfamod â Duw, ac yn cario yr holl deulu anwyl yn ei freichiau, i'w cyflwyno iddo, ac i adnewyddu ei gyfamod mewn cysylltiad â hwynt. "O wr anwyl!" mor daer, mor syml, ac mor ddifrifol y clywir ef yn siarad â Duw! Wedi myned ar ei liniau, a chyflwyno ei hun i Dduw, ac adnewyddu ei gyfamod ag ef, y mae yn myned â'i wraig yn ei freichiau ger bron Duw yn gyntaf, ac yn eiriol yn daer ar ei rhan, am i'r Arglwydd ei chysuro hi, ei harwain, a bod gyda hi holl ddyddiau ei bywyd. Gallem feddwl ein bod yn ei weled yn dal Mrs. Richard yn ei freichiau ger bron y Mawredd, gan ddywedyd yn ostyngedig, "O Arglwydd, cofia Bridget, fy anwyl wraig; cynorthwya hi i ddal yn y blaen, ac i fyw yn dduwiol; ïe, cadw ac amddiffyn hi hyd y diwedd." Wedi hyny dacw ef yn cymeryd ei fab anwyl yn ei freichiau yr un modd, gan ymbil ar ei ran, ae yn dywedyd, "O Arglwydd, cofia Dafydd fy mab, gwna ef yn dduwiol yn moreu ei ddyddiau, ie, gwna ef fel Samuel gynt, i dy wasanaethu dros ei holl fywyd mewn ephod lian." Yn ddiweddaf oll, dacw ef yn dal ei anwyl ferch yn ei freichiau ger bron Duw, a'i galon fel llyn dwfr, a'i lygaid mawrion fel ffynonau yn tywallt dagrau, ac yn dywedyd gyda sel a gwresogrwydd, "O Arglwydd, cofia Bridget Hannah yn dragywydd; neilldua hi at dy wasanaeth, a gwna hi yn golofn yn dy dy byth. O bydded iddi gyda Mair ddewis y rhan dda na ddygir byth oddiarni; ac fel Elisabeth, hoffi trigfan dy dŷ." Fe allai eich bod yn ein gweled yn hir cyn eich arwain i'r cysegr santeiddiolaf, at yr arch a'r cyfamodau, ond gadewch i mi ddyweyd un peth yn gyntaf, cyn myned i mewn. Wrth ddarllen ac edrych i mewn i grefydd ddirgeledig Mr. Richard, y mae yn peri i ni gywilyddio, eithr yn dymuno am fwy o'r peth mawr hwnw ag oedd ganddo ef. Yn ymyl crefydd mor fawr, mor syml, mor ddifrifol, mor bwysig, ac mor gydwybodol, yr ydym o angenrheidrwydd yn gweled ein hunain yn rhai bychain iawn. Ac wrth edrych ar ei grefydd fawr, dirgelaidd, yr ydym yn gallu cyfrif, i fesur helaeth, am ei fawredd cyhoeddus. Yr oedd Duw yn gwneyd yn y dirgel at y cyhoeddus. Nis gall neb wneyd dyn Duw ond Duw. Rhaid iddo ddyfod oddiwrth Dduw at ddynion, cyn y bydd ei weinidogaeth yn effeithiol i alw dynion oddiwrth bechod a diafol at Dduw. Ni a welwn Mr. Richard yn cael ei doddi ger bron Duw mewn teimladau gymaint, nes yr oedd delw Duw yn eglur ar ei weinidogaeth ger bron dynion. Bydd llawer yn dymuno cyrhaedd tir Richard, fel pregethwr ger bron dynion; ond nis gwneir hyny byth heb gyrhaedd ei dir ger bron Duw hefyd. Caniatewch fod y ddawn gymaint, yr hyn sydd yn dygwydd ond yn dra anaml; caniatewch fod y wybodaeth a'r gallu i lafurio a chynyrchu meddyliau gymaint; eto, er hyn oll, oni fydd y triniaethau ysbrydol yno hefyd, anmhosibl yw bod yn gymaint pregethwr. Y mae y cyfamodau yr ydym yn awr yn eu gosod ger eich bron, yn dweyd cyfrolau am nerth aruthrol Mr. Richard. Chwi welwch ynddynt y dyn duwiol, duwiol iawn; y dyn gonest yn ei grefydd ddirgelaidd; y gwr tyner a ffyddlon yn ei eiriolaeth ddiflino dros y wraig; y tad teimladwy yn nghyflwyniad ei blant anwyl mewn dagrau i ofal parhaus "Dad yr ysbrydoedd, a byw." Y mae pob tebygolrwydd i Dduw wrando ei weddiau, y rhai a gynwysir yn y cyfamodau hyn, ar ei ran ei hun, ei wraig, a'i ddau blentyn; a phe na buasai hyn yn bod, byddem yn rhwym o feddwl iddo fyned i wydd ei Farnwr wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac o ganlyniad yn rhydd oddiwrth waed pawb oll.<noinclude><references/></noinclude> pejp51wu0e613cq8zpxakqb3lo77ziu Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/233 104 84604 164387 2026-05-07T20:42:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164387 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Oddiar yr ystyriaeth mai mewn bywyd a iechyd, cyn del angau, brenin y dychryniadau, a'r rhyfel mawr hwnw lle nad oes bwrw arfau ynddo, lle gall fy holl synwyrau fod wedi dyrysu, a'm holl natur wedi methu gan ddygn boenau angau, mae sicrhau a chadarnhau rhyngwyf a'r Arglwydd, gan wneuthur fy marn a'm mater yn dda, yr wyf heddyw, y 26ain o Mehefin, yn y flwyddyn 1834, a'r 51 o'm hoedran, yn ymgyfamodi â'm Harglwydd, ac a'm llaw fy hun yn ysgrifenu y cyfamod hwn a'm Duw, a chyffesu â'm genau gan ddywedyd, O Arglwydd Dduw y nefoedd a'r ddaear, yr hwn a wnaethost y môr, a'r sychdir, a'r ffynonau dyfroedd; Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, a Jacob, yr hwn a waredaist dy bobl o wlad yr Aipht trwy law Moses ac Aaron, ac hefyd yn ngwlad Babilon dan ddwylaw Nebuchodonosor a Darius, ac yn yr amser gosodedig o wlad Babilon; yr hwn hefyd, o'th anfeidrol drugaredd a'th ras, yn nghyflawnder yr amser a anfonaist dy unig Fab Iesu Grist i'r byd, wedi ei wneuthur o wraig ac o dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad; yn dy wydd, yn dy bresenoldeb, a cher dy fron, megys y byddai dy bobl yn mhob oes pan yr ymgyfamodent â'u Duw, yr wyf, yn gyntaf-Yn cyffesu cyflwr euog fy mherson,-yn wrthddrych cyfiawn damnedigaeth dragywyddol, a halogedigaeth fy natur drwyddi oll, fel nad oes un man glân na chyfan o'r coryn i'r gwadn; yn droseddwr gwreiddiol a gweithredol mewn enaid a chorph bob mynyd o'm bywyd ar dy gyfraith gyfiawn a santaidd. Yn ail-Nid oes genyf obaith am iachawdwriaeth oddiwrth ddim ydwyf, a feddaf, neu a allaf fy hun, am hyny yr wyf yn taer ddymuno nerthoedd dwyfol dy Ysbryd Glân i weithio ynwyf megys y mae yn y rhai sydd yn credu, fel yr ymddiriedwyf yn ddiysgog yn dy iachawdwriaeth yn unig, yr hon sydd yn Nghrist Iesu, ei ufudd-dod i mi yn gyfiawnder, ei waed ef i mi yn lanhad, ei Ysbryd ef i mi yn breswylydd ac yn arweinydd, ei enw ef i mi yn dŵr at fy nyogelwch, ac i'm cynal yn ddigwymp, a'm gosod yn ddifeius ger ei fron ef; fel hyn yr wyf yn dymuno yn ostyngedig yn y llwch (lle mae fy lle) fod yn ddiragrith. A ydwyf ddim yn clywed yn llef o'r nef o enau fy Arglwydd mewn atebiad, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol a thi, sef sicr trugareddau Dafydd. Mi a fyddaf foddlon iddo. Mi a lawenychaf ynddo. Mi a'i derbyniaf ef. Mi a fyddaf yn dad iddo, ac yntau a gaiff fod yn fab i mi, medd yr Arg1wydd hollalluog; a'r hwn a ddel ataf nis bwriaf ef allan ddim." O syndod, o enau Duw wrth greadur mor wael! Yn drydydd-Yr wyf yn cwbl roddi fy hun, corph ac enaid, amser a meddianau, i ti, O fy Nuw, ac at dy wasanaeth yn unig. Caniata i mi gael bod yn dy law at fod yn ddyogel ac yn ddefnyddiol, ac wrth dy draed at fod yn fy lle, wrth dy fodd, a than dy harddwch, ac i dderbyn o'th eiriau at bob doethineb a chyfarwyddyd, ac at bob cysur a mwynhad. Os rhedais heb fy anfon, maddeu, maddeu, atolwg; a chan fod eisiau gweithwyr i'r cynhauaf, wele fi, anfon fi yn amlwg, yn nerthol, aç yn ddiamheu. O fy Arglwydd, a gaf fi, ïe, myfi y gwaelaf o bawb, glywed o'th enau santaidd, "Wele roddaf fy ysbryd arno; wele myfi a fyddaf gyda'th enau di, ac a roddaf fy ngeiriau yn dy enau yn dân?" A gaiff hyn fod rhyngom ni yn gyfamod am orchwyl mawr fy ngweinidogaeth? O na ddigied fy Arglwydd os plediaf dy allu y a'th ffyddlondeb a'th addewidion hyn yn blaid i mi yn y gorchwyl pwystawr pwysfawr yma. Mi a bwysaf ar dy air am dy foddlonrwydd yn hyn. Yn bedwerydd-Yr ydwyf yn cyflwyno fy anwyl wraig i fyny i'th ofal byth, yr hwn a ddywedaist dy fod yn Farnwr i'r gweddwon yn dy breswylfa santaidd. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i ti farnu ei barn hi, barnu am dani, barnu drosti, a barnu iddi. Yr wyf yn ostyngedig yn cymeryd y gair a ddywedaist, "Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, efe a'i rhydd i chwi," yn ateb i mi yn cyfamod hwn. Yn bumed-O Arglwydd, onid dy air di sydd yn dywedyd, "Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd; ei wobr ef yw ffrwyth y groth?" Gan hyny, yn ol dy air, yr wyf yn dymuno yn ostyngedig orchymyn y ddau blentyn a roddaist ti i mi, wrth eu henwau Dafydd a Bridget, i ti i fod yn eiddo neillduol, yn blant i Dduw trwy alwedigaeth effeithiol a grasol yr efengyl, ac i fod yn golofnau yn nheml Dduw byth. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i'r bachgen Dafydd gael bod fel y bachgen Samuel, i wasanaethu ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei fywyd; ac i fod wrth fodd calon Duw megys yr oedd Dafydd, pêr ganiedydd Israel; ac i fod yn ffyddlon i Dduw fel Shadrach, Mesech, ac Abednego; ac i fod yn anwyl gan Dduw fel Daniel, wr anwyl; ac i fod yn ddylynwr Duw fel plentyn anwyl; ac yn ddisgybl anwyl i Grist fel yr oedd Ioan, yr hwn a bwysai ar fynwes ei Arglwydd. Yn wyneb hyn, onid oes i mi ddefnydd cyfamod oddiwrthyt ti, fy Arglwydd, yn dy air santaidd, yn dywedyd, "Byddaf Dduw i ti ac i'th had ar dy ol; cysegra i mi bob cyntafanedig; dod i mi y cyntafanedig o'th feibion, canys eiddo fi yw pob cyntafanedig." O fy Arglwydd, cymer ef; wele fi yn myned i gyfamod newydd â thi am dano, mewn adnewyddiad o'r hen, yr hwn a wnaethum â thi ar ddydd ei enedigaeth; wele fi yn ymddiried ynot, yn cwbl ddysgwyl wrthyt, ac yn Ilwyr ymorphwys arnat am dy rad drugaredd iddo trwy y Cyfryngwr Iesu Grist. O na ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i fy unig ferch Bridget, er mwyn yr Arglwydd Iesu, iddi gael bod fel Miriam i flaenori mewn mawl i Dduw, ac fel Sarah i fod yn fam yn Israel; fel Deborah i ganu am iachawdwriaeth yr Arglwydd; fel Hannah yn nhŷ yr Arglwydd; ac fel Bathsheba, o'r hon yr hanodd yr Arglwydd; fel Mair, mam yr Arglwydd, yn cuddio ei hymadroddion yn ei chalon; ac fel y Mair hono wrth draed yr Arglwydd, yn eu golchi a'i dagrau, a'u sychu a gwallt ei phen. O Arglwydd, onid oes i mi ddefnydd cyfamod am yr eneth hon rhyngof a thi yn y geiriau a ddywedaist, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd?" O na ddigied fy Arglwydd wrthyf, a mi yn llwch ac yn lludw, am i mi yn y modd hyn fyned i gyfamod â thi yn awr. Yr wyf yn gadael fy hun, mewn amser, yn angau, ac i dragywyddoldeb, yn dy law, fy fy ngwraig a'm dau blentyn. Yr un modd gan ddymuno dy fod yn Dduw maddeugar yn Nghrist i mi a hwythau byth bythoedd. Amen ac Amen. O Arglwydd, yr awr hon o flaen gorsedd gras, mewn amser cymeradwy a dydd iachawdwriaeth, yr wyf yn ymgyfamodi â thi yn fy achos fy hun a'm teulu, yn ol arfer dy bobl, yn ol galwad dy efengyl, ac yn ol rheol dy air, gan ostyngedig gydnabod dy ryfedd ras a'th drugaredd yn goddef, yn caniatau, ac yn ymhyfrydu yn y fath orchwyl rhyngot ag abwydyn gwael y llwch, ac wedi gwrthryfela yn dy erbyn; ac oni buasai dy gyfamod tragywyddol am iachawdwriaeth epil syrthiedig Adda, ni buasai genym byth un sail i na chymod na chyfamod; ond trwy rinwedd hwn sydd wedi ei selio â gwaed, yr hwn a elwir gwaed y cyfamod tragywyddol, mae drws agored i'r ddau; gan hyny i'r hwn a ddichon ein cadw yn ddigwymp, a hefyd cadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, a'u gosod yn ddifeius ger ei fron ef, y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.Arwyddwyd genyf â'm llaw fy hun, THOMAS RICHARD. O fy Arglwydd a'm Duw, yr wyf yn dymuno am gymhorth i ymlynu wrth dy draed, ac i adnewyddu y cyfamod uchod rhyngof a thi mewn symlrwydd a phurdeb duwiol, yn enw dy Fab, yr Arglwydd Iesu, heddyw, y dydd diweddaf o'r flwyddyn hon, Rhagfyr 31, 1838; a maddeu fy holl anwireddau; ar dy faddeuant yr wyf yn dymuno gorwedd fy hun i lawr mewn ffarwel â'r flwyddyn hon am byth. O Arglwydd fy Nuw, wele fi unwaith eto heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1839, yn cael dechreu blwyddyn newydd arall. Yr wyf yn dymuno o'm calon fod yn ddiragrith, i gysegru fy hunan, corph ac enaid, synwyrau ac amgylchiadau, yn gyfan ac yn gwbl oll i'th wasanaeth ac i'th ogoniant yn unig; a hefyd fy anwyl deulu wrth eu henwau; caffed fy hoff wraig Bridget aros holl ddyddiau ei bywyd wrth dy draed, i gael parhaus dderbyn o'th eiriau; ac yn dy law, fel y byddo ddyogel rhag ewyllys ei holl elynion. Caffed fy anwyl fachgen, Dafydd, os rhynga bodd yn dy olwg, wisgo ephod lian, i weini ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei einioes. Caffed fy anwyl ferch, Bridget, ei bendithio goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell, yn mhabell Arglwydd y lluoedd, ac yn ei phabell ei hun yn mysg dynion, a'i derbyn byth i'r tragywyddol bebyll. Amen. Amen. O Arglwydd fy Nuw, rhyfeddol fel ti dy hun yw dy amynedd, wedi cyd-ddwyn i oddef gyda'r gwaelaf o'th holl greaduriaid i derfynu y deunaw cant ac un a deugain, yr hwn a orchymynaist i gymeryd geiriau, a dychwelyd at yr Arglwydd, a dywedyd wrtho, wele fi, O fy Nuw, a mi yn llwch ac yn lludw, yn dywedyd wrthyt â'r geiriau a roddaist, "Maddeu yr holl anwiredd; derbyn fi yn ddaionus, a thalaf i ti loi fy ngwefusau." Yr wyf heddyw, Ionawr y 7fed, 1842, yn dymuno o'm calon yn ddiragrith wrth droed y groes, i adnewyddu y cyfamod uchod, yn ol ei anmherffaith gymod â'r hwn a ddywedodd, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd," yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion; yr wyf yn ostyngedig am ymgyflwyno, ymgysegru, a chwbl roddi fy hunan a'm teulu i Dduw, ïe, i ti, O fy Nuw; fel, pa un bynag ai byw, i'r Arglwydd y byddom byw; ai marw, i'r Arglwydd y byddom farw; pa un bynag ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Amen. Amen. Yr wyf yn selio y cyfamod hwn, ac yn dymuno ei fod yn dy foddloni; er mwyn dy Fab yr Arglwydd Iesu â'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1842. Yr wyf yn dymuno, oddiar egwyddor union, o galon newydd, roddi fy hunan i Dduw heddyw yn adnewyddol, yn ol y cyfamod uchod, yn ol dy orchymyn dy hun, yr hwn sydd yn dywedyd, "Rhoddwch eich hunain i Dduw." Yn bersonol a'm ceir i ynddo ef fel mewn arch a noddfa, heb ddim o fy eiddo fy hun, canys nid oes dim i gael ond gwarth a chywilydd; ac yn weinidogaethol i fod fel dy enau di, dan dy law, ac wrth dy draed; a hefyd bod fy nheulu yn gwbl eiddo i ti, gyrph, eneidiau, ac amser, amgylchiadau, angau, a thragywyddoldeb, wedi ein gwaredu oddiwrth ein pechodau, i'n cynal yn ddigwymp yn y byd sydd yr awr hon, yn hyderus yn angau, ac i'n derbyn i'w dragywyddol deyrnas. A'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1843, THOMAS RICHARD, O Arglwydd fy Nuw, yr wyf yn ddiragrith y boreu hwn, y dydd cyntaf o Ionawr, 1845, wedi plygu fy ngliniau, fel y gweli fy mod, atat ti, yr hwn wyt Dad fy Arglwydd Iesu Grist, yn ei enw ef yn adnewyddu fy nghyfamod â thi, gan ddymuno dyfod yn hyderus at orseddfainc y gras, oddiar fod i mi y fath Arch-offeiriad, fel y derbyniwyf drugaredd, ac y caffwyf ras yn gymhorth cyfamserol at fy holl ddyledswyddau personol atat ti, O Dduw, ac at bob dyn, yn deuluol, eglwysol, a gwladol. Yr wyf yn awr yn ostyngedig gydnabod ger dy fron fy holl waeleddau, gan gyffesu yn fy erbyn fy hun fy holl gamweddau i'r Arglwydd, ac yn dymuno adnewyddu fy nghyfamod â thi yn achos fy nheulu, fy ngwraig a'm dau blentyn wrth eu henwau, Bridget Ann, David Jones, a Bridget Hannah, gan ddymuno â'm holl galon, a'r oll wyf yn ddymuno iddynt, yn ol dy addewid, i fod yn Dduw iddynt, ac i enwaedu eu calonau i garu yr Arglwydd eu Duw, a'u cynal yn ddigwymp hyd yn nheyrnas nefoedd; ac yn ol dy air yr wyf yn dymuno tywallt fy nghalon ger dy fron yn ngeiriau dy weision Dafydd a Daniel, "Atolwg, na chofia bechodau fy ieuenctyd na'm camweddau; yn ol dy drugaredd meddwl di am danaf, canys gwnaethost i mi heddyw éu meddianu, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd." Amen. Amen. Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwel fy holl achos, personol a theuluol, nid oblegyd fy nghyfiawnder fy hun, canys yn wir nid oes tebyg i hyny i'w gael. Yr wyf yn tywallt fy ngweddi yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn ger dy fron; eithr o herwydd dy aml drugareddau di yr wyf yn ymffrostio, gan ddiolch fod hyn yn ddigon at ddileu beiau amlach na'r gwlith, gwellt, a'r tywod, y bum yn euog o honynt yn y flwyddyn wyf yn awr wedi ei therfynu, 1844, gan ddywedyd, Clodforaf yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Amen. Amen. Na ddigied fy Arglwydd am i mi, a mi yn llwch ac yn lludw, y waith hon yn chwaneg chwanegu llefaru ac ymgyfamodi yn ei wydd. Yr wyf yn selio fy ngobaith bod i mi Eiriolwr gyda'r Tad. Amen.-T. R. O Arglwydd fy Nuw, yr wyf, a mi yn llwch ac yn lludw, y dydd hwn, y laf o Ionawr, 1846, y gwaelaf o holl ddynolryw, ac am fod yn wir Gristion, ond y gwanaf o honynt oll; ao am fod yn wir genad drosot, ond yr annheilyngaf annheilyngaf o'th holl weision, yn ymroddi ac yn ymgyflwyno o lwyrfryd calon, gorph ac enaid, fy ngwraig a'm dau blentyn, amser a meddianau, i ti yn unig, yr hwn a ddichon gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, gan ddymuno fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, yr hwn sydd yn lanhau oddiwrth bob pecho pechod, ac na byddo i ti fy mwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni; na wrthod fi pan ballo fy nerth, a chaffael o honof rodio yn llewyrch dy wyneb hyd angau; ac yn yr amgylchiad mawr, sobr hwnw, dy wialen a'th ffon a'm cysuro. Maddeu, atolwg, fy holl anwireddau, y rhai sydd amlach na gwallt fy mhen; a nertha fi i'm holl ddyledswyddau personol, teuluol, gogoneddwyf dy enw yn Nghrist Iesu. Na ddigied fy Arglwydd am i mi mewn pob adnewyddu fy nghyfamod y waith hon eto, gan ei arwyddo â'm llaw fy hun y dydd cyntaf o'r flwyddyn dyn hon. -T. R. I ti, O Dduw, yr hwn wyt Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1848, yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; ac mewn diragrith ddymuniad, bod fy anwyl deulu, fy ngwraig Bridget, a'r ddau blentyn a roddodd Duw i mi, Dafydd a Bridget, yn unig eiddo iddo ef, heb fod ewin o honynt yn ol. O caniata yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn a wneir gan dy greadur gwael, y penaf pechadur, yr annheilyngaf o'th holl weision, i mi gael yn ostyngedig ofyn a derbyn mwy o'th wyneb i'w fwynhau yn y flwyddyn hon nag a gefais erioed o'r blaen. Mewn gwir ystyriaeth o'th ryfeddol, ïe, tebyg i wyrthiol ddaioni a gyfrenaist yn y flwyddyn 1847, a derfynwyd ddoe, yr wyf yn dymuno galw ar fy enaid, a'r cwbl sydd ynof, sydd ynof, i folianu enw yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef, yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau, yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd, yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddystryw, yr hwn sydd yn dy goroni a thrugaredd ac â thosturi. Na ddigied fy Arglwydd os gofynaf y fendith a ofynodd Jabez. Yr hwn a ganiataodd ei ddymuniadau, a ganiatao i minau, fy ngwraig, a'm dau blentyn- blentyn-O na lwyr fendithit ni, na eangi ein terfynau, bod dy law gyda ni, i'n cadw rhag drwg, fel na'n gofidier, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen. Amen. I'th law y gorchymynaf fy hun am byth, ac i gyfarfod â'r holl bethau sydd i'm cyfarfod yn y flwyddyn hon sydd oll yn ddirgelion y dydd hwn, canys ti yw Duw fy ngherddediad. --Ardystiaf y cyfamod hwn, T. R. 1850.-Y mae heddyw yr 1leg o Chwefror, yr hon a gyfrifir i mi yn ddydd genedigaeth yn y fl. 1783. Yn ol hyn yr wyf yn 67 mlwydd oed. Mae yn hyn, pe byddai medr, ddefnyddiau traethawd helaeth. O Arglwydd, pa beth a ddywedaf? Canys yr wyf yn teimlo rhyw beth yn debyg i fel y dywedai dy santaidd brophwyd Daniel, "A mi a adawyd fy hunan, ac ni thrigodd nerth ynof; canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth." Mi a ddymunwn ysgrifenu a'm llaw fy hun ar y dydd hwn y peth a gaffai ardystiad dy foddlonrwydd, O fy Nuw, yr hwn a'm dygaist hyd yma. Yn gyntaf oll, dymunwn godi yma fy ngholofn Ebenezer, canys hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi, mewn llawer o wendidau ac anmherffeithiadau, cyfnewidiadau, a phrofedigaethau. At hyn dymunaf yn ail gofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd fi<noinclude><references/></noinclude> m9ebpwprriq3r1knlcpbnqadcimyh3u 164388 164387 2026-05-07T20:43:57Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen */ 164388 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Oddiar yr ystyriaeth mai mewn bywyd a iechyd, cyn del angau, brenin y dychryniadau, a'r rhyfel mawr hwnw lle nad oes bwrw arfau ynddo, lle gall fy holl synwyrau fod wedi dyrysu, a'm holl natur wedi methu gan ddygn boenau angau, mae sicrhau a chadarnhau rhyngwyf a'r Arglwydd, gan wneuthur fy marn a'm mater yn dda, yr wyf heddyw, y 26ain o Mehefin, yn y flwyddyn 1834, a'r 51 o'm hoedran, yn ymgyfamodi â'm Harglwydd, ac a'm llaw fy hun yn ysgrifenu y cyfamod hwn a'm Duw, a chyffesu â'm genau gan ddywedyd, O Arglwydd Dduw y nefoedd a'r ddaear, yr hwn a wnaethost y môr, a'r sychdir, a'r ffynonau dyfroedd; Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, a Jacob, yr hwn a waredaist dy bobl o wlad yr Aipht trwy law Moses ac Aaron, ac hefyd yn ngwlad Babilon dan ddwylaw Nebuchodonosor a Darius, ac yn yr amser gosodedig o wlad Babilon; yr hwn hefyd, o'th anfeidrol drugaredd a'th ras, yn nghyflawnder yr amser a anfonaist dy unig Fab Iesu Grist i'r byd, wedi ei wneuthur o wraig ac o dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad; yn dy wydd, yn dy bresenoldeb, a cher dy fron, megys y byddai dy bobl yn mhob oes pan yr ymgyfamodent â'u Duw, yr wyf, yn gyntaf-Yn cyffesu cyflwr euog fy mherson,-yn wrthddrych cyfiawn damnedigaeth dragywyddol, a halogedigaeth fy natur drwyddi oll, fel nad oes un man glân na chyfan o'r coryn i'r gwadn; yn droseddwr gwreiddiol a gweithredol mewn enaid a chorph bob mynyd o'm bywyd ar dy gyfraith gyfiawn a santaidd. Yn ail-Nid oes genyf obaith am iachawdwriaeth oddiwrth ddim ydwyf, a feddaf, neu a allaf fy hun, am hyny yr wyf yn taer ddymuno nerthoedd dwyfol dy Ysbryd Glân i weithio ynwyf megys y mae yn y rhai sydd yn credu, fel yr ymddiriedwyf yn ddiysgog yn dy iachawdwriaeth yn unig, yr hon sydd yn Nghrist Iesu, ei ufudd-dod i mi yn gyfiawnder, ei waed ef i mi yn lanhad, ei Ysbryd ef i mi yn breswylydd ac yn arweinydd, ei enw ef i mi yn dŵr at fy nyogelwch, ac i'm cynal yn ddigwymp, a'm gosod yn ddifeius ger ei fron ef; fel hyn yr wyf yn dymuno yn ostyngedig yn y llwch (lle mae fy lle) fod yn ddiragrith. A ydwyf ddim yn clywed yn llef o'r nef o enau fy Arglwydd mewn atebiad, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol a thi, sef sicr trugareddau Dafydd. Mi a fyddaf foddlon iddo. Mi a lawenychaf ynddo. Mi a'i derbyniaf ef. Mi a fyddaf yn dad iddo, ac yntau a gaiff fod yn fab i mi, medd yr Arg1wydd hollalluog; a'r hwn a ddel ataf nis bwriaf ef allan ddim." O syndod, o enau Duw wrth greadur mor wael! Yn drydydd-Yr wyf yn cwbl roddi fy hun, corph ac enaid, amser a meddianau, i ti, O fy Nuw, ac at dy wasanaeth yn unig. Caniata i mi gael bod yn dy law at fod yn ddyogel ac yn ddefnyddiol, ac wrth dy draed at fod yn fy lle, wrth dy fodd, a than dy harddwch, ac i dderbyn o'th eiriau at bob doethineb a chyfarwyddyd, ac at bob cysur a mwynhad. Os rhedais heb fy anfon, maddeu, maddeu, atolwg; a chan fod eisiau gweithwyr i'r cynhauaf, wele fi, anfon fi yn amlwg, yn nerthol, aç yn ddiamheu. O fy Arglwydd, a gaf fi, ïe, myfi y gwaelaf o bawb, glywed o'th enau santaidd, "Wele roddaf fy ysbryd arno; wele myfi a fyddaf gyda'th enau di, ac a roddaf fy ngeiriau yn dy enau yn dân?" A gaiff hyn fod rhyngom ni yn gyfamod am orchwyl mawr fy ngweinidogaeth? O na ddigied fy Arglwydd os plediaf dy allu y a'th ffyddlondeb a'th addewidion hyn yn blaid i mi yn y gorchwyl pwystawr pwysfawr yma. Mi a bwysaf ar dy air am dy foddlonrwydd yn hyn. Yn bedwerydd-Yr ydwyf yn cyflwyno fy anwyl wraig i fyny i'th ofal byth, yr hwn a ddywedaist dy fod yn Farnwr i'r gweddwon yn dy breswylfa santaidd. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i ti farnu ei barn hi, barnu am dani, barnu drosti, a barnu iddi. Yr wyf yn ostyngedig yn cymeryd y gair a ddywedaist, "Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, efe a'i rhydd i chwi," yn ateb i mi yn cyfamod hwn. Yn bumed-O Arglwydd, onid dy air di sydd yn dywedyd, "Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd; ei wobr ef yw ffrwyth y groth?" Gan hyny, yn ol dy air, yr wyf yn dymuno yn ostyngedig orchymyn y ddau blentyn a roddaist ti i mi, wrth eu henwau Dafydd a Bridget, i ti i fod yn eiddo neillduol, yn blant i Dduw trwy alwedigaeth effeithiol a grasol yr efengyl, ac i fod yn golofnau yn nheml Dduw byth. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i'r bachgen Dafydd gael bod fel y bachgen Samuel, i wasanaethu ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei fywyd; ac i fod wrth fodd calon Duw megys yr oedd Dafydd, pêr ganiedydd Israel; ac i fod yn ffyddlon i Dduw fel Shadrach, Mesech, ac Abednego; ac i fod yn anwyl gan Dduw fel Daniel, wr anwyl; ac i fod yn ddylynwr Duw fel plentyn anwyl; ac yn ddisgybl anwyl i Grist fel yr oedd Ioan, yr hwn a bwysai ar fynwes ei Arglwydd. Yn wyneb hyn, onid oes i mi ddefnydd cyfamod oddiwrthyt ti, fy Arglwydd, yn dy air santaidd, yn dywedyd, "Byddaf Dduw i ti ac i'th had ar dy ol; cysegra i mi bob cyntafanedig; dod i mi y cyntafanedig o'th feibion, canys eiddo fi yw pob cyntafanedig." O fy Arglwydd, cymer ef; wele fi yn myned i gyfamod newydd â thi am dano, mewn adnewyddiad o'r hen, yr hwn a wnaethum â thi ar ddydd ei enedigaeth; wele fi yn ymddiried ynot, yn cwbl ddysgwyl wrthyt, ac yn Ilwyr ymorphwys arnat am dy rad drugaredd iddo trwy y Cyfryngwr Iesu Grist. O na ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i fy unig ferch Bridget, er mwyn yr Arglwydd Iesu, iddi gael bod fel Miriam i flaenori mewn mawl i Dduw, ac fel Sarah i fod yn fam yn Israel; fel Deborah i ganu am iachawdwriaeth yr Arglwydd; fel Hannah yn nhŷ yr Arglwydd; ac fel Bathsheba, o'r hon yr hanodd yr Arglwydd; fel Mair, mam yr Arglwydd, yn cuddio ei hymadroddion yn ei chalon; ac fel y Mair hono wrth draed yr Arglwydd, yn eu golchi a'i dagrau, a'u sychu a gwallt ei phen. O Arglwydd, onid oes i mi ddefnydd cyfamod am yr eneth hon rhyngof a thi yn y geiriau a ddywedaist, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd?" O na ddigied fy Arglwydd wrthyf, a mi yn llwch ac yn lludw, am i mi yn y modd hyn fyned i gyfamod â thi yn awr. Yr wyf yn gadael fy hun, mewn amser, yn angau, ac i dragywyddoldeb, yn dy law, fy fy ngwraig a'm dau blentyn. Yr un modd gan ddymuno dy fod yn Dduw maddeugar yn Nghrist i mi a hwythau byth bythoedd. Amen ac Amen. O Arglwydd, yr awr hon o flaen gorsedd gras, mewn amser cymeradwy a dydd iachawdwriaeth, yr wyf yn ymgyfamodi â thi yn fy achos fy hun a'm teulu, yn ol arfer dy bobl, yn ol galwad dy efengyl, ac yn ol rheol dy air, gan ostyngedig gydnabod dy ryfedd ras a'th drugaredd yn goddef, yn caniatau, ac yn ymhyfrydu yn y fath orchwyl rhyngot ag abwydyn gwael y llwch, ac wedi gwrthryfela yn dy erbyn; ac oni buasai dy gyfamod tragywyddol am iachawdwriaeth epil syrthiedig Adda, ni buasai genym byth un sail i na chymod na chyfamod; ond trwy rinwedd hwn sydd wedi ei selio â gwaed, yr hwn a elwir gwaed y cyfamod tragywyddol, mae drws agored i'r ddau; gan hyny i'r hwn a ddichon ein cadw yn ddigwymp, a hefyd cadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, a'u gosod yn ddifeius ger ei fron ef, y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.Arwyddwyd genyf â'm llaw fy hun, THOMAS RICHARD. O fy Arglwydd a'm Duw, yr wyf yn dymuno am gymhorth i ymlynu wrth dy draed, ac i adnewyddu y cyfamod uchod rhyngof a thi mewn symlrwydd a phurdeb duwiol, yn enw dy Fab, yr Arglwydd Iesu, heddyw, y dydd diweddaf o'r flwyddyn hon, Rhagfyr 31, 1838; a maddeu fy holl anwireddau; ar dy faddeuant yr wyf yn dymuno gorwedd fy hun i lawr mewn ffarwel â'r flwyddyn hon am byth. O Arglwydd fy Nuw, wele fi unwaith eto heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1839, yn cael dechreu blwyddyn newydd arall. Yr wyf yn dymuno o'm calon fod yn ddiragrith, i gysegru fy hunan, corph ac enaid, synwyrau ac amgylchiadau, yn gyfan ac yn gwbl oll i'th wasanaeth ac i'th ogoniant yn unig; a hefyd fy anwyl deulu wrth eu henwau; caffed fy hoff wraig Bridget aros holl ddyddiau ei bywyd wrth dy draed, i gael parhaus dderbyn o'th eiriau; ac yn dy law, fel y byddo ddyogel rhag ewyllys ei holl elynion. Caffed fy anwyl fachgen, Dafydd, os rhynga bodd yn dy olwg, wisgo ephod lian, i weini ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei einioes. Caffed fy anwyl ferch, Bridget, ei bendithio goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell, yn mhabell Arglwydd y lluoedd, ac yn ei phabell ei hun yn mysg dynion, a'i derbyn byth i'r tragywyddol bebyll. Amen. Amen. O Arglwydd fy Nuw, rhyfeddol fel ti dy hun yw dy amynedd, wedi cyd-ddwyn i oddef gyda'r gwaelaf o'th holl greaduriaid i derfynu y deunaw cant ac un a deugain, yr hwn a orchymynaist i gymeryd geiriau, a dychwelyd at yr Arglwydd, a dywedyd wrtho, wele fi, O fy Nuw, a mi yn llwch ac yn lludw, yn dywedyd wrthyt â'r geiriau a roddaist, "Maddeu yr holl anwiredd; derbyn fi yn ddaionus, a thalaf i ti loi fy ngwefusau." Yr wyf heddyw, Ionawr y 7fed, 1842, yn dymuno o'm calon yn ddiragrith wrth droed y groes, i adnewyddu y cyfamod uchod, yn ol ei anmherffaith gymod â'r hwn a ddywedodd, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd," yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion; yr wyf yn ostyngedig am ymgyflwyno, ymgysegru, a chwbl roddi fy hunan a'm teulu i Dduw, ïe, i ti, O fy Nuw; fel, pa un bynag ai byw, i'r Arglwydd y byddom byw; ai marw, i'r Arglwydd y byddom farw; pa un bynag ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Amen. Amen. Yr wyf yn selio y cyfamod hwn, ac yn dymuno ei fod yn dy foddloni; er mwyn dy Fab yr Arglwydd Iesu â'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1842. Yr wyf yn dymuno, oddiar egwyddor union, o galon newydd, roddi fy hunan i Dduw heddyw yn adnewyddol, yn ol y cyfamod uchod, yn ol dy orchymyn dy hun, yr hwn sydd yn dywedyd, "Rhoddwch eich hunain i Dduw." Yn bersonol a'm ceir i ynddo ef fel mewn arch a noddfa, heb ddim o fy eiddo fy hun, canys nid oes dim i gael ond gwarth a chywilydd; ac yn weinidogaethol i fod fel dy enau di, dan dy law, ac wrth dy draed; a hefyd bod fy nheulu yn gwbl eiddo i ti, gyrph, eneidiau, ac amser, amgylchiadau, angau, a thragywyddoldeb, wedi ein gwaredu oddiwrth ein pechodau, i'n cynal yn ddigwymp yn y byd sydd yr awr hon, yn hyderus yn angau, ac i'n derbyn i'w dragywyddol deyrnas. A'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1843, THOMAS RICHARD, O Arglwydd fy Nuw, yr wyf yn ddiragrith y boreu hwn, y dydd cyntaf o Ionawr, 1845, wedi plygu fy ngliniau, fel y gweli fy mod, atat ti, yr hwn wyt Dad fy Arglwydd Iesu Grist, yn ei enw ef yn adnewyddu fy nghyfamod â thi, gan ddymuno dyfod yn hyderus at orseddfainc y gras, oddiar fod i mi y fath Arch-offeiriad, fel y derbyniwyf drugaredd, ac y caffwyf ras yn gymhorth cyfamserol at fy holl ddyledswyddau personol atat ti, O Dduw, ac at bob dyn, yn deuluol, eglwysol, a gwladol. Yr wyf yn awr yn ostyngedig gydnabod ger dy fron fy holl waeleddau, gan gyffesu yn fy erbyn fy hun fy holl gamweddau i'r Arglwydd, ac yn dymuno adnewyddu fy nghyfamod â thi yn achos fy nheulu, fy ngwraig a'm dau blentyn wrth eu henwau, Bridget Ann, David Jones, a Bridget Hannah, gan ddymuno â'm holl galon, a'r oll wyf yn ddymuno iddynt, yn ol dy addewid, i fod yn Dduw iddynt, ac i enwaedu eu calonau i garu yr Arglwydd eu Duw, a'u cynal yn ddigwymp hyd yn nheyrnas nefoedd; ac yn ol dy air yr wyf yn dymuno tywallt fy nghalon ger dy fron yn ngeiriau dy weision Dafydd a Daniel, "Atolwg, na chofia bechodau fy ieuenctyd na'm camweddau; yn ol dy drugaredd meddwl di am danaf, canys gwnaethost i mi heddyw éu meddianu, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd." Amen. Amen. Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwel fy holl achos, personol a theuluol, nid oblegyd fy nghyfiawnder fy hun, canys yn wir nid oes tebyg i hyny i'w gael. Yr wyf yn tywallt fy ngweddi yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn ger dy fron; eithr o herwydd dy aml drugareddau di yr wyf yn ymffrostio, gan ddiolch fod hyn yn ddigon at ddileu beiau amlach na'r gwlith, gwellt, a'r tywod, y bum yn euog o honynt yn y flwyddyn wyf yn awr wedi ei therfynu, 1844, gan ddywedyd, Clodforaf yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Amen. Amen. Na ddigied fy Arglwydd am i mi, a mi yn llwch ac yn lludw, y waith hon yn chwaneg chwanegu llefaru ac ymgyfamodi yn ei wydd. Yr wyf yn selio fy ngobaith bod i mi Eiriolwr gyda'r Tad. Amen.-T. R. O Arglwydd fy Nuw, yr wyf, a mi yn llwch ac yn lludw, y dydd hwn, y laf o Ionawr, 1846, y gwaelaf o holl ddynolryw, ac am fod yn wir Gristion, ond y gwanaf o honynt oll; ao am fod yn wir genad drosot, ond yr annheilyngaf annheilyngaf o'th holl weision, yn ymroddi ac yn ymgyflwyno o lwyrfryd calon, gorph ac enaid, fy ngwraig a'm dau blentyn, amser a meddianau, i ti yn unig, yr hwn a ddichon gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, gan ddymuno fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, yr hwn sydd yn lanhau oddiwrth bob pecho pechod, ac na byddo i ti fy mwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni; na wrthod fi pan ballo fy nerth, a chaffael o honof rodio yn llewyrch dy wyneb hyd angau; ac yn yr amgylchiad mawr, sobr hwnw, dy wialen a'th ffon a'm cysuro. Maddeu, atolwg, fy holl anwireddau, y rhai sydd amlach na gwallt fy mhen; a nertha fi i'm holl ddyledswyddau personol, teuluol, gogoneddwyf dy enw yn Nghrist Iesu. Na ddigied fy Arglwydd am i mi mewn pob adnewyddu fy nghyfamod y waith hon eto, gan ei arwyddo â'm llaw fy hun y dydd cyntaf o'r flwyddyn dyn hon. -T. R. I ti, O Dduw, yr hwn wyt Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1848, yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; ac mewn diragrith ddymuniad, bod fy anwyl deulu, fy ngwraig Bridget, a'r ddau blentyn a roddodd Duw i mi, Dafydd a Bridget, yn unig eiddo iddo ef, heb fod ewin o honynt yn ol. O caniata yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn a wneir gan dy greadur gwael, y penaf pechadur, yr annheilyngaf o'th holl weision, i mi gael yn ostyngedig ofyn a derbyn mwy o'th wyneb i'w fwynhau yn y flwyddyn hon nag a gefais erioed o'r blaen. Mewn gwir ystyriaeth o'th ryfeddol, ïe, tebyg i wyrthiol ddaioni a gyfrenaist yn y flwyddyn 1847, a derfynwyd ddoe, yr wyf yn dymuno galw ar fy enaid, a'r cwbl sydd ynof, sydd ynof, i folianu enw yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef, yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau, yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd, yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddystryw, yr hwn sydd yn dy goroni a thrugaredd ac â thosturi. Na ddigied fy Arglwydd os gofynaf y fendith a ofynodd Jabez. Yr hwn a ganiataodd ei ddymuniadau, a ganiatao i minau, fy ngwraig, a'm dau blentyn- blentyn-O na lwyr fendithit ni, na eangi ein terfynau, bod dy law gyda ni, i'n cadw rhag drwg, fel na'n gofidier, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen. Amen. I'th law y gorchymynaf fy hun am byth, ac i gyfarfod â'r holl bethau sydd i'm cyfarfod yn y flwyddyn hon sydd oll yn ddirgelion y dydd hwn, canys ti yw Duw fy ngherddediad. --Ardystiaf y cyfamod hwn, T. R. 1850.-Y mae heddyw yr 1leg o Chwefror, yr hon a gyfrifir i mi yn ddydd genedigaeth yn y fl. 1783. Yn ol hyn yr wyf yn 67 mlwydd oed. Mae yn hyn, pe byddai medr, ddefnyddiau traethawd helaeth. O Arglwydd, pa beth a ddywedaf? Canys yr wyf yn teimlo rhyw beth yn debyg i fel y dywedai dy santaidd brophwyd Daniel, "A mi a adawyd fy hunan, ac ni thrigodd nerth ynof; canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth." Mi a ddymunwn ysgrifenu a'm llaw fy hun ar y dydd hwn y peth a gaffai ardystiad dy foddlonrwydd, O fy Nuw, yr hwn a'm dygaist hyd yma. Yn gyntaf oll, dymunwn godi yma fy ngholofn Ebenezer, canys hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi, mewn llawer o wendidau ac anmherffeithiadau, cyfnewidiadau, a phrofedigaethau. At hyn dymunaf yn ail gofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd fi<noinclude><references/></noinclude> f6n7petdyygjsbu0zu7d95xbmtb1wsw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/238 104 84605 164389 2026-05-07T20:46:54Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ynddi y saith mlynedd a thriugain hyn trwy yr anialwch. Y niferi lluosog o bregethwyr y gair, -y rhai a dybid yn golofnau gras yr efengyl, ac o ddiaconiaid eglwysi, a phenau teuluoedd crefyddol, a rhai oedd gyfoedion i mi yn y byd ac yn yr eglwys, oeddynt y rhan fwyaf o honynt, ac agos i gyd, os nid oll i gyd, yn debycach i fyw ar fy ol i na mi ar eu hol hwy; ond hwy a gymerwyd, a mi a adawyd. Mae trefn llywodraeth yr Anfeidrol yn hy... 164389 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynddi y saith mlynedd a thriugain hyn trwy yr anialwch. Y niferi lluosog o bregethwyr y gair, -y rhai a dybid yn golofnau gras yr efengyl, ac o ddiaconiaid eglwysi, a phenau teuluoedd crefyddol, a rhai oedd gyfoedion i mi yn y byd ac yn yr eglwys, oeddynt y rhan fwyaf o honynt, ac agos i gyd, os nid oll i gyd, yn debycach i fyw ar fy ol i na mi ar eu hol hwy; ond hwy a gymerwyd, a mi a adawyd. Mae trefn llywodraeth yr Anfeidrol yn hyn yn annirnadwy i ni, canys ni adwaenir na chariad na chas wrth y pethau hyn; ond nid yw hyn i'w gofio, ond cofio damwain a dygwydd y byd. Pa le mae ei hen aneirif drugareddau, ei barhaus aneirif freintiau crefyddol, ei aneirif ryfeddol waredigaethau; a'r aneirif anfesurol ddylif o bechodau, y rhai y mae eu coffa yn drwm, a'u pwysau megys baich trwm, rhy drwm i mi! Ond yn y trydydd lle, a ddymunwn eu cyffesu, eu cyfaddef, yn ol trefn a gosodiad y Duw anfeidrol y pechais yn ei erbyn. O nertha fi i wneyd y cyfaddefiad hwnw a fyni yn dy air, yr hwn a ddywed, "Os cyfaddwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein hanwireddau, ac y'n glanhao oddiwrth bob annghyfiawnder." Nis gallaf eu cyffesu trwy gofio, canys pwy a edwyn ei gamweddau? nis gallaf eu cyfaddef yn barhaus, yn ddibaid, bob amser, yn mhob peth, ac yn mhob man, trwy eu rhifo, canys amlach ydynt na gwallt fy mhen; nis gallaf eu cyfaddef trwy eu mesur, canys nis gallaf fesur yr Hwn y pechais yn ei erbyn. Pechadur yn y cwbl; priodol i mi yw dyweyd, ïe, mor briodol ag i'r prophwyd Dafydd, "Yn dy erbyn di, tydi dy hunan y pechais, ac y gwnaethum y drwg hwn yn dy olwg." Nis gallaf trwy eu pwyso, canys trymach ydynt na phwysau yr holl greadigaeth, canys nid oes gyffelybrwydd rhwng pwysau pechod a phob pwysau eraill; yr unig iawn farn ar ei bwysau, a'r iawn olwg ar ei fawredd a ellir gael yn yr olwg ar Iesu, pen Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Priod-fab, a'r uniganedig o fynwes Duw ei Dad, yr hwn a'i hysbysodd ef, wedi ei wneuthur yn bechod ac yn felldith drosom ni; yn drist ei enaid hyd angau: yn chwysu y gwaed yn Gethsemane, yn yfed y cwpan a roddes y Tad iddo i'w yfed. Fy enaid, edrych ar Iesu yr hwna wanwyd gan dy bechodau, fel y byddo duwiol dristwch yn alar edifeirwch i ffrydio o dy fynwes galed di. Yn nesaf mae yma ryfeddodau aneirif, yn ddefnydd i'w ryfeddu byth. O fy enaid, gwel yma anfeidrol hir amynedd Duw, ïe, Duw yr amynedd wedi goddef yr anffrwythlondeb mwyaf ar ei ddaear i anadlu yn ei awyr, a chyfranogi o'r fath gyflawnder o drugareddau, gwaredigaethau, a breintiau. Trugaredd, daioni, a thosturi sydd wedi dy lwytho y saith mlynedd a thriugain hyn. Rhyfedd amynedd Duw oddefodd genyf cyhyd. Pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi! Yn nesaf, wrth edrych dros yr ugeiniau hyn o flynyddoedd, nid oes yn perthyn i mi ond cywilydd wyneb, wrth gofio pob man y bum ynddo, Cymru a Lloegr, pob peth a wnaethum o'm hieuenctyd fel dyn, yn fy mherthynas a phawb, yn mhob sefyllfa ac oedran, ac fel crefyddwr gwael ac annheilwng. O mor annhebyg i Grist mewn ysbryd, meddwl, ac agwedd, y treuliais y nifer mawr hyn o flynyddoedd! ac o dan yr enw o ryw fath o bregethwr; yr wyf yn teimlo cywilydd y fynyd hon i gymeryd y fath enwad i un mor wael. Mae pob testun a gymerais, a'r cwbl a ddywedais, gan faint [ocr errors] y gwaeledd gyda phethau santaidd, yn peri gloes ac ochenaid bob tro wrth eu darllen ac wrth eu cofio; ac oni bai modd a threfn i olchi y person a'r gwasanaeth yn ngwaed Crist, byddai raid i mi y dydd hwn suddo i anobaith. Ond am fod ganddo drugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honof i'w erbyn, a bod arnaf gywilydd codi fy wyneb at fy Nuw, a chywilydd wyneb a berthyn i mi; eto cyfiawnder a thrugaredd a berthyn iddo Ef; ac am fod ei drugaredd mor fawr, gobeithiaf ynddi, galwaf am dani, oddiwrth yr hwn a gwblha a mi. Yn nesaf, mewn gwir edifeirwch tuag at Dduw; yn ol yr holl flynyddoedd hyn a gefais, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, am fywyd ynddo. Yr wyf yn taer ddymuno i ti fy nerthu mewn gwir wylder a gostyngeiddrwydd a pharchedig ofn, ar ddechreu fy wythfed flwyddyn a thriugain, mewn uniondeb a diragrithrwydd calon, i wneuthur ac i adnewyddu fy nghyfamod, creadur gwael, a'r penaf bechadur. O, pa beth yw dyn gwael i ymgyfamodi â'r Duw mawr! O na ddigied fy Arglwydd wrthyf am anturio at hyn unwaith eto, canys mae yn ol dy air, yn ol arfer dy holl bobl Israel, gan Abraham, a'i holl blant ysbrydol yn meddu yr un ffydd hyd ddiwedd y byd; gan hyny minau, y gwaelaf o bawb, unwaith eto ar ddiwedd fy mywyd a gymeraf yr Arglwydd i fod yn Dduw i mi, i rodio yn ei ffyrdd, ac i gadw ei ddeddfau a'i orchymynion a'i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. O rho i mi y cyfryw galon fel y'th ofnwyf, y rhodiwyf yn dy ffyrdd yn ol y gair hwn. O Arglwydd, nid ydwyf yn rhyfygu i ddefnyddio dy eiriau o enau dy was, gan ddywedyd, "Cymerodd yr Arglwydd dithau heddyw i fod yn un o'i bobl briodol iddo ef, megys y llefarodd wrthyt, ac i gadw ei holl orchymynion, O fy Nuw, ar dy air ffyddlon di." Yr wyt yn dywedyd, "Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn: gogwyddwch eich clust a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid; a mi a wnaf gyfamod tragywyddol â chwi, sef sier drugareddau Dafydd." Mae y geiriau hyn yn dangos fod gwneuthur cyfamod â'r Arglwydd yn ol gair yr Arglwydd, yr hyn sydd yn dangos ei foddlonrwydd, fel y gellir dyweyd y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd; a chan fod yr Anfeidrol, yr hwn sydd wedi cymeryd yr Amen arno, yn rhoddi ei hun anfeidrol yn Amen wrth hyn, minau wrth ei draed a ddywedaf ac a ardystiaf, ac a arwyddaf a'm llaw-ysgrifen, y 12fed o Chwefror, 1850, wrth y cyfamod hwn, Amen. Amen. Amen. 0 Arglwydd Dduw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a dystiodd ei fod wedi ei lwyr foddloni ynddo, ac i wrando arno, ynddo ac o'i gyflawnder yr wyf am dderbyn at gadw y cyfamod hwn. Amen. Amen. Amen. Wele fi yn eiddo arall. Rhagfyr 31, 1850.-Mae y dydd hwn yn cael ei nodi i setlo cyfrifon y flwyddyn a derfynir heddyw â'r Meddianydd. Mae yn fantais at wneyd cyfrif nad oes ond un meddianydd yn perthyn i long amser. At wneyd hyn yn drefnol am yr holl flwyddyn, y dydd diweddaf o'r flwyddyn, mae yn ofynol fod yn fanol gyda'r llyfrau i gadw cyfrif bob dydd am bob amgylchiad; heb hyny ni all fod ond cywilydd o herwydd yr esgeulusdod. Y llyfrau sydd i fod gyda hwy bob dydd trwy gorph y flwyddyn yw gair yr Arglwydd a chydwybod; a'r swyddfa i drafod y rhai hyn ynddi y naill yn wyneb y llall, yw mewn gweddi wrth orsedd gras. Yn y cabin hwn, ystafell ddirgel, y mae Cristion effro fel llywydd llong gofalus am ei gyfrifon, gyda'i lyfrau yn cadw mewn golwg bob dydd diweddaf yn y flwyddyn, yr hwn yw y dydd at gyfrif-y farn gyffredinol-rhyngddo ef a'i Feddianydd. At y cyfrif hwn y mae yn ofynol fod mewn cof, yn dylyn y meddwl yn barhaus bob dydd, os nid mewn geiriau mewn ofn yr Arglwydd, egwyddor y geiriau sobr hyny, "Ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Mae gadael y llyfrau heb eu trefnu hyd ddydd y cyfrif, wedi troi llawer un allan o'i le mewn gwarth a chywilydd, heb un fywioliaeth. Gan nad pa fodd y bu trwy ddyddiau y flwyddyn a derfynir heddyw, wele y terfyn wedi dod; ac wrth gofio ac edrych yn ol pa fodd y treuliwyd y flwyddyn hon, yr unig obaith yw iachawdwriaeth yr Arglwydd. Trefn hon yn wyneb pob diffygion, ïe, dim ond pechodau, yw edifeirwch, cyfaddefiad, maddeuant, a glanhad. "Edifarhewch, a dychwelwch, fel y dilëer eich pechodau," yw galwad rasol Duw ar droseddwyr. Seilir yr alwad hon ar raslonrwydd Duw: "gan yr Arglwydd ein Duw mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i'w erbyn." Trefn y cyfranogiad hwn yw cyfaddef ein pechodau. Lle mae hyn mae ffyddlondeb a chyfiawnder Duw yn cael eu gogoneddu wrth faddeu i ni ein hanwiredd, a'n glanhau oddiwrth bob annghyfiawnder. Mae gwerth annhraethol yn yr athrawiaeth hon yn ngair yr Arglwydd; eto y mae yn rhaid ei chael yn gymhwysiadol i gyfrifon y flwyddyn hon gael ei setlo yn iawn. Mae yn rhaid meddu edifeirwch, gwneyd cyfaddefiad, derbyn maddeuant, a phrofi glanhad; a chan mai gras Duwi amlhau yw y pethau hyn i'r pechadur, y mae yn rhaid eu bod i'w gofyn mewn gweddi, yn enw Crist, yr hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i'w rhoddi. Mae edifeirwch yn act pan byddo yr olwg ar ein ffyrdd yn peri i ni gydnabod ein pechodau, a'u bod yn wastad ger ein bron; a bod ein dirgel bechodau yn ngoleuni wyneb Duw; ac oddiar yr edrychiad hyn gan Dduw arnom, yn peri i ni gyfaddef, "Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi." Mae hon yn agwedd wir edifeiriol, ac y mae sylweddol faddeuant yn gysylltiedig wrtho. "Efe a wared ei enaid rhag myned i'r clawdd, a'i fywyd a wel oleuni." O Arglwydd, wrth dy orsedd rasol yr wyf, y penaf bechadur, yn dymuno am y dydd nodedig hwn, yr holl edifeirwch sydd atat, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, fel y byddwyf wir edifeiriol am fy holl aneirif bechodau, y rhai sydd mor aneirif mewn amrywiaeth ag mewn rhifyddiaeth; amlach ydynt nag y gellir eu rhifo, trymach ydynt nag y gellir eu pwyso, croesach ydynt nag y gellir eu goddef; ond er hyn oll nid mwy nag y gellir eu maddeu. canys ti wyt Dduw maddeugar, yn Dduw parod i faddeu, ac nid oes neb yn maddeu anwiredd ond tydi. Am hyny efe a faddeu fy anwiredd er mwyn ei enw, er mai mawr yw: gwybydd a chlyw, O fy Nuw. Onid iaith fy nghalon yw, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur? Nid wyf deilwng i'm galw yn Fab i ti ar gyfrif hen berthynas Eden: mae lle y gwas cyflog i mi yn ras; ond nid yw yn ddigon i mi o ras; rhaid i mi wrth y gras a'm mabwysiado yn blentyn: nid wyf deilwng ddyfod o hono ataf, canys dyn pechadurus ydwyf fi. Nid wyf deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd, llawer llai ddyfod o honof dan dy gronglwyd di; er hyny, gwell bod heb un, na heb fod dan ei gronglwyd ef. O Arglwydd, yn y llwch, mewn hunan-ffieiddiad edifeiriol, yr wyf yn dybenu y flwyddyn hon yn ngeiriau dy was, "Nid wyf yn rhyglyddu y lleiaf o'th drugareddau;" ond o herwydd dy aml drugareddau di yn gofyn cael byw byth ger dy fron, os na welaf un flwyddyn arall yn dechreu; a dybenu yr wyf yr awr hon, yn rhoddi fy hunan i Dduw i fod yn eiddo iddo byth, er nad yw hyn ddim i ti; ac yn dy gymeryd i fod yn Dduw i minau, ar ol canoedd o weithiau o'r blaen, yr hyn yw adnewyddu fy nghyfamod, O fy Nuw. Amen. Mae heddyw yr lleg o Chwefror, 1851, yr hwn a gyfrifir i mi yn ddydd genedigaeth, yr hyn sydd yn dangos fy oed yn 68 mlwydd, yr hyn sydd yn peri i mi fawr bryder. O Arglwydd, pa beth a ddywedaf? canys treuliais y niferi hyn o flynyddoedd megys chwedl. O'm calon y dywedaf, Y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun, ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw. Yn wyneb yr oll a fum, a'r oll ydwyf, a'r oll a wnaethum, o fewn yn fy nghalon, o faes yn fy holl fuchedd, crefyddol ac annghrefyddol; yr unig beth cymhwys i mi yw edifeirwch tuag at Dduw. O fy mhechod, fy mhechod! Dy orchymyn di yw, Edifarhewch a dychwelwch. Fy nymuniad inau a'm holl galon yw, i'r Hwn a ddyrchafodd Duw a'i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau, ei roddi i minau, canys yn ei erbyn ef ei hunan y pechais, ac y gwnaethum pob drwg yn anifeiriol. Ac O, na chofia bechodau fy ieuenctyd, na'm camweddau, eithr yn ol dy drugaredd meddwl am danaf, er mwyn dy wirionedd. Yr wyf yn taer erfyn edifeirwch am 68 mlynedd o bechu pob math o bechodau. O dyma ddyledion! Mae yn anmhosibl gwybod pa faint ydyw. Os creffi arnynt, nid oes posibl i mi sefyll. Yr wyf yr awr hon gan hyny yn gofyn genyt y maddeuant sydd gyda thi, fel y'th ofner; ac yn ol dy enw a gyhoeddaist i ti dy hun, Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd, yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; ac yn ol fel y dysgaist i mi weddio arnat, yr wyf y fynyd hon, a'm pin yn fy llaw, pan yn ysgrifenu yr hyn a roddaist yn ddeisyfiad, o'm calon hefyd yn ei ddeisyf, "A maddeu i mi fy nyledion." A chan dy fod yn Dduw parod i faddeu, gallaf bod yn sicr y dywedi oddiar orseddfainc dy ras, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. O Arglwydd, mae arnaf ofn cnawdolrwydd wrth ysgrifenu hyn; gan ddymuno bod yn ddiragrith mi a'i gadawaf wrth dy draed, er pob ofnau a duon-gyhuddiadau, gan wybod oni olchir fi, nad oes i mi gyfran a thydi. Gan hyny golch di fi, a byddaf wynach na'r eira; mi a ddymunwn fod fy wythfed mlwydd a thriugain yn cael ei nodi fel prif golofn i ysgrifenu arni yr aneirif waredigaethau, yr aneirif drugareddau, a'r aneirif freintiau a fwynhawyd genyf yn y blynyddoedd meithion hyn. O y gras, y tiriondeb, a'r daioni sydd byth i'w rhyfeddu, a ddangoswyd i mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y parotaf i gyfeiliorni a syrthio i ddyrysni, a'r mwyaf anffrwythlon, er pob achlesu. Fy enaid, yr wyf yn galw arnat i fendithio yr Arglwydd, a chwbl sydd ynot ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef; yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau,-gogoniant iddo-ac yn iachau dy holl lesgedd. Gogoniant iddo; mae hyn yn ddigon at lanio o'r ystormydd a'r holl donau, yn iach yr ochr draw i angau a'r bedd. Gobeithiaf gael aros dros yr ychydig ddyddiau sydd yn ol dan yr ystyriaeth ddifrifolaf o'm gwaeledd a'm hannheilyngdod ynof fy hun am bob peth, a'm hollol ymddibyniad ar Dduw am bob defnyddiau, a chynaliaeth am bob peth, yn wyneb fy holl eisiau amserol, at bob achos perthynol i'r bywyd hwn; ac ysbrydol, personol a chrefyddol, perthynol i mi fel aelod eglwysig, a thragywyddol, berthynol i fywyd tragywyddol ac i fyd tragywyddol, y byd mawr dyeithr, annghyfnewidiol, ac annherfynol yr wyf ar fyned iddo; ac os o fewn y flwyddyn hon y bydd hyny, ewyllys yr Arglwydd a wneler; yn unig caffer fi yn Nghrist, wedi ei adnabod ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, ac wedi fy nghydffurfio â i farwolaeth ef. Yn ol dy addewid, Ti a elwi arnaf, ti yw fy Nhad, fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth, yr wyf yn adnewyddu y cyfamod drachefn, yn ol fy arfer, ac mae yn debyg y tro olaf byth. Na ddigied fy Arglwydd am yr ychwanegiad hwn; canys nid o herwydd fy rhinwedd, ond o herwydd dy fawr drugaredd yr wyf yn ei wneuthur, gan roddi fy hunan yn fy 71 oed i ti, O Dduw, a'r oll a feddaf, i'm gwisgo, a'm golchi, a'm cymeradwyo yn unig yn Nghrist, yr hon yw y drefn i mi am obaith bywyd tragywyddol. Yr wyf yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Chwefror 8, 1854, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, T. RICHARD. Yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Fawrth, yn 72 oed, yn adnewyddu fy nghyfamod â thydi, fy Arglwydd a'm Duw, mewn mwy o waeledd, afiechyd corphorol, nas gŵyr neb ond tydi, gan bwyso yn unig ar hawliau Crist am gymeradwyaeth, fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, gan roddi fy holl ofal arno ef mewn bywyd, angau, a thragywyddoldeb, gan arwyddo â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, THOMAS RICHARD.<noinclude><references/></noinclude> 4sue1qn29m85yunf1s6f54ta30nosft Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/243 104 84606 164390 2026-05-07T20:59:02Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD XIV. Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c. Yn gymaint a bod y cyfamodau yn y benod o'r blaen yn cynwys amryw o flynyddau o fywyd Mr. Richard, a llawer o bethau pwysig wedi dygwydd yn ysbaid y blynyddoedd hyny, y mae yn angenrheidiol i ni fyned yn ol, ac adolygu ryw gymaint ar amgylchiadau yr amser hwnw. Gwelsom yn well i roi y cyfamodau o'r bron, ac nid eu dadrys oddiwrth eu gilydd, er mwyn cadw amseriad, a'u cysylltiad â... 164390 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD XIV. Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c. Yn gymaint a bod y cyfamodau yn y benod o'r blaen yn cynwys amryw o flynyddau o fywyd Mr. Richard, a llawer o bethau pwysig wedi dygwydd yn ysbaid y blynyddoedd hyny, y mae yn angenrheidiol i ni fyned yn ol, ac adolygu ryw gymaint ar amgylchiadau yr amser hwnw. Gwelsom yn well i roi y cyfamodau o'r bron, ac nid eu dadrys oddiwrth eu gilydd, er mwyn cadw amseriad, a'u cysylltiad â phethau eraill. Gallwn fyned yn ol, a nodi y rhai hyny allan eto, ac y mae rhai gryn bwysig yn ei gysylltiadau teuluol. Fe welir wrth ei Gyfamodau fod ei ofal am ei deulu yn angerddol; clywir ef yn diolch llawer i Dduw am ei drugareddau i'w deulu, yn ymbil llawer ar eu rhan, ac yn eu cyflwyno oll wrth eu henwau o flaen gorsedd trugaredd. Y mae ei wraig a'i ddau blentyn yn gyson yn ei freichiau o flaen Duw, yr hyn sydd yn dyweyd mwy na chyfrolau cyfain am ei dduwioldeb uchel, yn ei gysylltiadau personol a theuluol. Yr ydoedd yn ddyn Duw yn mhob man: ac yn wir, oni buasai felly yn ei fanau dirgelaf, ni buasai ychwaith yn ei fanau cyhoeddusaf, canys oes fer sydd i'r doniol a'r talentog, heb y duwiol a'r difrifol y tu cefn iddo. Lle y byddo y diweddaf y tu cefn, bydd yn asgwrn cefn i'r pregethwr, yn llwyddiant gwirioneddol, ac yn oes hir iddo o ddefnyddioldeb yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Cysylltiad meddwl â Duw mewn cymundeb, yw cryfder y pregethwr, a defnydd ei barhad. Y meddwl hwnw sydd yn ymwreiddio yn ddyfnach dyfnach yn nhrefn achub, sydd yn cynyddu mewn gallu gweinidogaethol. Bydd llawer glâs-lanc yn ymddangos yn wyrdd, yn bert, yn dlws, os nid yn flodeuog, am dipyn; ond nid oes ganddo wreiddyn yn y tir da, am hyny mae yn gwywo yn fuan. Pan y bydd gwraidd pren yn myned i dir drwg, gwenwynllyd, gwelir y brigau yn crino, ac yna y mae yn darfod ffrwytho; nid yw efe mwy yn werth dim ond i'w losgi; ond os bydd y gwreiddiau yn myned ddyfnach dyfnach i dir da a bras, nis gall beidio a ffrwytho, ïe, mewn henaint a phenllwydni hefyd. Fel y dywedasom, yr oedd ei ofal am ei deulu yn fawr, a'i weddiau yn daerion drostynt; a digon tebyg i'r nefoedd eu troi yn fendithion tragywyddol ar eu penau. Y mae David Jones Richard yn troi allan yn ddyn ieuanc da, ac y mae ei anwyl Bridget yn ferch ieuane brydferth, synwyrol, a chrefyddol. Yr oedd Miss Bridget yn edrych gymaint i fyny at ei thad, yn ymhyfrydu mor fawr yn ei gysur a'i ddedwyddwch, yn gwneyd pob peth ag oedd o fewn cylch eu gallu i'w wneyd yn gysurus, a thrwy hyny hefyd yn cysuro ei mam trwy ei rhyddhau hi i fesur mawr oddiwrth ofalon a thrafferthion teuluol. Ymddangosai Miss Bridget fel un wedi ei danfon i'r byd i wneuthur ei rhieni yn gysurus. Gellir gweled oddiwrth lyfrau bychain sydd ger ein bron yn ei llaw-ysgrif ei bod yn gofalu am bob peth teuluol, ac yn ymdrechu dyfod â'r cwbl o gwmpas yn y ffordd rataf. Gosodir i lawr yr hyn a brynir am yr wythnos, pris y gwahanol nwyfau, a pha beth a dreuliwyd yn ychwaneg neu yn llai un wythnos na'r llall; yr hyn sydd yn dyweyd llawer am ferch ieuanc. Gwyddai nad oedd gan ei thad ond ychydig yn dyfod i mewn, am hyny y mae ei synwyr a'i theimlad da yn ei chyfarwyddo i fesur ei chamrau yn gyfatebol, ac ymdrech dyfod â phob peth yn gysurus i'w rhieni o fewn y cylch hyny. Felly yr oedd yn gwneuthur, ac yn fwy cysurus hefyd na llawer oedd â phedair gwaith gymaint at fyw. Y mae merch dda, serch ei bod heb ddim, yn llawer gwell nag un ddrwg, ddiog, ddifeddwl, ddiamcan, a digais, er ei bod yn werth ei phwysau. Canys, fel y gwyddoch, bydd merch dda yn cynyddu mewn pwysau wrth fyned yn y blaen, a'r llall yn myned yn ysgafnach ysgafnach, ac yn ddigysur a diserch gyda llaw. Ond dyna, gadawn hyny, rhag ofn i ni fyned i eithafion, canys yn anaml y cyfarfyddir â maes helaethach na hwnw; ac os ymollyngwn iddo gallwn fod yn hir cyn dychwelyd. O herwydd rhinweddau rhagorol Miss Bridget, daeth yn orchudd llygad ei thad a'i mam; ac iddi hi yr ymddiriedent y cwbl. Gwnaeth ei hun yn aberth i gysur ei thad, a chyfranogai yn helaeth o'i holl deimladau. Nid oedd yr un gofid arno nad oedd hi gydag ef hyd y gwddf, bydded hyny yn dymhorol neu yn grefyddol. Cafodd lawer o brofedigaethau oddiwrth ddynion yn ei flynyddoedd olaf, yr hyn sydd yn dygwydd yn aml i ddynion mawr, yn gymaint ag y bydd eisiau eu lle ar ryw rai eraill, ydynt yn anamyneddgar i aros troellau olwynion rhagluniaeth. Bu Christmas Evans mewn pair fel hyn, a'r hybarch Jay o Bath a waharddwyd gan blaid i'r pwlpud y bu yn pregethu ynddo am driugain mlynedd. Nid yw pethau fel hyn mewn rhyw ystyr yn bethau i'w rhyfeddu gymaint, canys y maent yn arferol o fod. Ymddengys i'r cyfryw bethau gwneyd poen mawr i Mr. Richard, a bu mewn profedigaethau a dyfroedd dyfnion mewn cysylltiad â hwynt, eto yr oedd ei anwyl Bridget yn cydymdeimlo ag ef, yn nghanol y dyfroedd gydag ef; ac yn ei holl gystudd ef, hithau a gystuddiwyd. Tynerwyd calon ei thad anwyl lawer gwaith yn nghanol ei helbulon a'i erledigaethau, pan y tynai ei llaw dyner dros ei ben almonaidd, y troai ei wallt gwlanaidd oddiar ei dalcen, ac a'i cusanai, gan ddywedyd, "Nhad bach, peidiwch a gofidio; y mae yr Arglwydd yn sicr o'ch amddiffyn." Treiglai y dagrau mawrion dros ei ruddiau, ymlonyddai yn nghanol saethau gelynion, mewn cariad yn ei anwyl Bridget. Do, hi fu yn gysur mawr iddo yn ei henaint. Yr oedd yn help iddo fyned o gartref, ac yn dangnefedd iddo wedi dyfod adref drachefn. Byddai ei ddillad yn wastad yn barod iddo, pob peth yn ei le, a'i le i bob peth. Nid gwaeddi pan delai yr amser, Pa le y mae y peth hyn, a pha le mae y peth arall? "A welsoch chwi yr hosanau? Beth ddaeth o'r crys hwnw?" Bydd rhyw ymdrafodaeth o'r natur hyny yn ddigon i beri i un dyn fyned yn wallgof, a cholli ysbryd pregethu am wythnos o leiaf. Yr oedd ei anwyl Bridget â phob peth yn barod, heb eisiau cadw ystwr yn nghylch y peth hyn a'r peth arall; ac nid yn unig a phethau yn barod, ond hefyd yn barod i wasanaethu arno, a'i gynorthwyo i'w gwisgo. Y mae yn ddigon tebyg na charodd neb dad yn fwy erioed, ac amlwg yw hefyd na charodd dad ferch yn fwy ychwaith. Y mae Mr. Richard yn mhen amser maith, ar amgylchiad neillduol, yn datgan ei farn am ei anwyl Bridget, ac y mae y farn hono yn uchel iawn. Dywedir fod "cariad yn ddall;" ond rhag i neb feddwl fod cariad yn dallu barn, y mae yn dywedyd, "Nid yw y ganmoliaeth i fy anwyl Bridget yn codi oddiar dymher a serch naturiol, eithr oddiar farn bwyllus ar ei harferion teuluol a chrefyddol." Hyd yn hyn felly yr oedd pethau yn sefyll; ac ni wyddai Miss Bridget am un gwrthddrych o dan haul a garai gymaint a'i thad. Ond fel y mae Ilawer o bethau newyddion yn dyfod i'r golwg gyda rhediad amser, daeth goleu newydd hefyd ar y mater hwn; canys er na leihaodd ei chariad at ei thad anwyl, eto dangoswyd fod rhyw dymhor mewn bywyd ag y mae yn ddichonadwy i ddyn fyned i garu rhyw un yn fwy na thad na mam. Cyfarfyddodd Miss Bridget a phrofedigaeth fel hyn, canys syrthiodd i gyfeillach â dyn ieuanc cyfrifol o'r enw Mr. Hugh Davies, yr hyn a derfynodd y pymthegfed dydd o Hydref, 1850, mewn glân briodas. Gellit meddwl fod amgylchiad priodi Miss Bridget yn un o bethau mawrion bywyd Mr. Richard, canys gwelir fod ei enaid mawr yn myned o dan gynhyrfiad i'w waelodion. Nid am fod dim ganddo yn erbyn y dyn ieuane, canys y mae yn caniatau yn rheolaidd; nid yn erbyn priodi, canys y mae yn ddigon call i weled mai dyna gwrs natur, ac mai hyny a wnaeth ei hun; ond yr oedd datod undeb mewn mesur, y teimlad o fyw heb ei anwyl ferch, yn rhwygo ei galon. Dacw ef yn eistedd i lawr wrth y ddesg y diwrnod hwnw mewn pryder mawr, a'r dagrau gloywon yn treiglo y naill ar ol y llall, nes gwlychu y papyr yr amcanai ysgrifenu arno. Dacw ef yn troi hwnw heibio, yn cymeryd papyr arall, yn methu cadw hwnw eilwaith heb ei lychwino â dagrau; yn ymaflyd yn y trydydd, ac yn dechreu arllwys ei deimladau allan mewn ysgrifen gystal ag y gallasai. Eithr y mae yn rhaid i ni feddwl mai ychydig o deimladau calon eang y gallasai papyr ei ddal; eto yr ydym yn ddiolchgar am y papyr, yn gymaint a'i fod yn ddangoseg o sefyllfa y dyn oddimewn. Yr ydym yn gallu gweled gweithrediadau mewnol y dyn, symudiadau yr olwynion mwyaf dirgelaidd yn y peiriant, drwy y pethau hyn. Edrychwch ar ei ben gwyn, a'r cap du arno, yn plygu yn araf at y ddesg; mae yn rhoi y gwydrau yn awr, yn cydio yn y pwyntyll, a chydag ochenaid brudd yn ysgrifenu fel y canlyn: Mae heddyw, y 15fed dydd o Hydref, 1850, yn un o'r dyddiau mwyaf pryderus o holl ddyddiau fy mywyd gwael, canys ar y dydd hwn y priododd fy unig a'm hanwyl ferch, yn naw mlwydd ar ugain oed. Y gwir gymeriad ellir roddi iddi, ac nid oddiar ddylanwad tymher naturiol, na gormodedd o serch cnawdol, na rhinwedd perthynas ddynol, ond oddiar resymau anwrthwynebol, yw synwyrol, serchiadol, gwylaidd, a defnyddiol; ac, mor bell ag y gellir barnu achos oddiwrth effaith, yn wir grefyddol, yn ofni yr Arglwydd, yn meddwl am ei enw ef. Ei harfer-air oedd, Gobeithio cawn ni fyned i'r bedd heb waradwyddo enw yr Arglwydd. Ni ddangosodd gymaint ag unwaith erioed un math o anhawsdra, annoethder, annghyfleusdra, nac un gwrthduedd anfoddlon at ddyledswydd deuluaidd, pa drafferth bynag a fyddai. Mynai roddi heibio bob peth ar unwaith i gael agor y ffordd at wasanaeth yr Arglwydd. Ni esgeulusodd erioed foddion gras. Ei hyfrydwch penaf oedd myned i dŷ yr Arglwydd; ac wedi myned gwyddai y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael, rhwng yr us a'r gwenith, rhwng seiniau a gwirioneddau, rhwng mwngleriaeth ac athrawiaeth, rhwng defod dyn a dawn Duw; er mai ei hateb hunanymwadol yn wastad oedd, pan 1 1 ofynwyd iddi, Nid ydwyf yn deall dim, mae arnaf fi ofn dweyd; canys pa beth a allaf fi wybod? Yr oedd ei holl fywyd yn ufudd-dod gwirfoddol, cyson i anrhydeddu ei thad a'i mam. Hapus yw y dyn ieuanc sydd yn ei chael yn wraig, nid yn unig oblegyd a gaiff ganddi, ond oblegyd a gaiff ynddi; ac oblegyd ei bod yn etifeddes i addewid Duw, yr Hwn Anfeidrol a ddywed yn barhaus o ddechreu y byd wrth holl blant y byd, hyd ddiwedd y byd, Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. Mae yr apostol at yr Ephesiaid yn dweyd fod hyn yn gyfiawn; ac mai hwn yw y gorchymyn cyntaf mewn addewid. "Fel y byddo yn dda i ti." Mae hyn yn ddaioni heb na mesur na therfyn iddo; canys hyn sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd yn dda-well-pleasing-wrth ei fodd ef yn fawr. Mae fy anwyl Bridget, sydd yn newid ei sefyllfa, wrth ei fodd ef yn fawr. Mae hyn yn well i mi filiynau o weithiau na miloedd o arian ac aur. Mae cael un o'r desgrifiad hyn yn wraig yn annhraethol well, pe gorfyddid myned i ochr y clawdd gyda hi, na chael miloedd o arian ac aur heb hyny. Mi a'i cefais yn rhodd gyflawn, fel nad allaswn ddymuno ei bod yn ddim chwaneg nag ydoedd; wedi ei gwneuthur yn gyfansoddiad grasol gan Dduw, yn ddawn cymhwys i mi. Yr wyf heddyw â'm holl galon yn dymuno yn y llwch i ddiolch tra byddwyf byw am ei gwneyd gan Dduw, yr hwn yn unig a'i gwnaeth, canys yr oedd yn debyg i un o'i wyrthiau rhyfeddol ef, yr hyn fe allai na ddichon neb ei ddeall ond a adwaen yr amgylchiad; ac am roddi y fath rodd i un oedd yn haeddu y gwrthwyneb. Yr ydwyf yn dymuno na chaffo neb, unrhyw greadur, y lle yn fy nghalon a'm serch a ddylai yr Arglwydd yn unig ei gael. Nid perygl mawr a fu i mi yn hyn oddiwrth un creadur ond oddiwrth fy anwyl Bridget. Ond nid o'm plegyd i yr oeddwn yn ddiberygl, ond oblegyd y gofal fu am danaf. O na allwn rodio o'r dydd hynod hwn allan i ryngu bodd Duw. O na allwn folianu yr Arglwydd am ei holl ddoniau i mi heddyw, ac o ddechreu yr amgylchiad hwn hyd heddyw. Mae cael doethineb yn atebiad i weddi at brofedigaethau mewn amgylchiadau yn gyflawniad addewid Duw, yr hwn a ddywedodd, "A hi a roddir iddo ef." Ac nid hyd heddyw mae ei drugaredd yn parhau i mi, ond heddyw a hyd byth. Mae mwy o werth yn yr un gair hyfryd heddyw i fyned a dod gyda'r amgylchiad sobr hwn nag a ddeall neb, canys mae yn debyg i gau safnau llewod. Am hyny, fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef. Amen. Amen. CYNGHORION I'W BLANT PAN YN NEWID SEFYLLFA, 1850. 1. Rhodiwch yn ofn yr Arglwydd yn wastadol, a'ch holl fryd fyddo am ei heddwch, a rhodio i ryngu ei fodd. Gosodwch ef yn wastad ger eich bronau ac ar eich deheulaw, fel na'ch ysgoger; canys yr Arglwydd a fydd gyda chwi tra fyddo chwi gydag Ef. Os gwrthodwch chwi Ef, yntau hefyd a'ch gwrthyd chwithau. 2. Cofiwch mai yr unig ffordd i ymwneyd â Duw yw trwy Gyfryngwr, yn ol ei air.<noinclude><references/></noinclude> 848rfvqa9nnqnubvv0u9zer8k06rwr9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/248 104 84607 164391 2026-05-07T21:00:12Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "3. Gochelwch bob dychymygion am Dduw. Meithrinwch feddyliau mawr am Dduw yn Nghrist. 4. Llafuriwch i ddeall yr unig a'r holl yrfa a osodwyd i'w rhedeg o flaen pawb sydd yn myned i'r nefoedd; ac mai ymdrech ffydd yw ei rhedeg, a bod yr holl gynaliaeth trwy edrych ar Iesu, yr hyn yw dysgu ganddo i fod yn wir ddysgyblion iddo. 5. Gwnewch air yr Arglwydd eich unig reol a'ch cynghor. 6. Gwnewch weddi yn brif orchwyl eich bywyd, ac ewyl... 164391 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>3. Gochelwch bob dychymygion am Dduw. Meithrinwch feddyliau mawr am Dduw yn Nghrist. 4. Llafuriwch i ddeall yr unig a'r holl yrfa a osodwyd i'w rhedeg o flaen pawb sydd yn myned i'r nefoedd; ac mai ymdrech ffydd yw ei rhedeg, a bod yr holl gynaliaeth trwy edrych ar Iesu, yr hyn yw dysgu ganddo i fod yn wir ddysgyblion iddo. 5. Gwnewch air yr Arglwydd eich unig reol a'ch cynghor. 6. Gwnewch weddi yn brif orchwyl eich bywyd, ac ewyllys Duw, yr hyn yw ei air, yn brif reol eich gweddi. 7. Na anturiwch un amser at un rhan o waith yr Arglwydd, yn bersonol, yn deuluol, nac yn eglwysig, heb yn gyntaf ofyn yr Ysbryd Glân, yn enw Crist, yn ol addewid y Tad am dano. 8. Ymddiriedwch yn yr Arglwydd yn wastadol, fel nad ofnoch ddyn. 9. Ofnwch falchder yn mhob ffurf, yn enwedig mewn bryd uchel. "Na fyddwch uchelfryd, eithr ofnwch." 10. Cofiwch mai hunan yw eich prif elyn; ac mai balchder yw prif beth hunan. 11. Gwyliwch a gofalwch gadw eich cymeriad; fe ofala eich cymeriad eich cadw chwithau. 12. Ymwadwch â chwi eich hunain, chwi a gewch eich hunain; ceisiwch eich hunain, chwi a gollwch eich hunain. 13. Cofiwch yn wastadol nad oes dim a all eich darostwng ond balchder, na dim eich dyrchafu ond gostyngeiddrwydd. Pryf yn ysu yw y naill; rhinwedd yn meithrin yw y llall. 14. Cedwch yn ddigon pell oddiwrth bawb, chwi a gewch bawb yn ddigon agos; ewch yn rhy agos, chwi gewch bawb yn rhy bell. 15. Gwnewch y gwirionedd yn rheol barn am bob peth, chwi a gewch bob peth yn ol barn y gwirionedd. 16. Byddwch ddiog i lefaru; byddwch barotach i wrando. Deallwch farn wrth yr holl wir, ac nid wrth na gwedd, na gweled, na chlywed. 17. Cofiwch na all cariad ddim byw heb gynaliaeth. Medru cynal cariad yw y medr mwyaf rhwng cyd-greaduriaid. 18. Gochelwch bellafoedd yn y dechreu, canys y maent yn sicr o gyfnewid cyn y diwedd. 19. Dysgwch barchu pawb yn ei le, chwi roddwch barch yn ei le i bawb. 20. Aberthwch bob peth i gariad ond y gwir. 21. Peidiwch gadael i neb fyned rhyngoch, na thad, na mam, na brawd, na châr, na chyfaill. Dangoswch bod eich cysylltiad yn anwahanol. 22. Dysgwch oddefiad ac ymroddiad; heb hyn mae yn anmhosibl cynal cariad. 23. Cofiwch mai gwely priodas wedi oeri yw yr anhawddaf byth i gynesu. 24. Cofiwch mai y naill yn dysgu gan y llall yw y ffordd i'r naill ymgeleddu y llall. 25. Na fydded tuedd mewn na gair nac agwedd gan y naill na'r llall i ddangos arglwyddiaeth, ond yn wastad parchedigaeth. 26. Pan bo y naill yn gynhyrfus, gwylied y llall fod yn oddefus. 27. Byddwch yn ddirwestwyr digellwair. Mawrhewch gael bod; nid yn unig nac ofnwch ddirmyg, ond ymogoneddwch yn yr anrhydedd. 28. Peidiwch myned yn bartneriaid â neb mewn un fasnach, os gwelwch eich ffordd yn agored heb hyny. Gwell, wedi ymgynghori â'r Arglwydd, i chwi dreio eich hun. 29. Peidiwch rhoi benthyg arian i neb byth heb gael llawn foddlonrwydd am eu dyogelwch. Cofiwch yr esiamplau a gafwyd yn mhlwyf - - a -, a llawer lle arall; a chyda phob dyledswydd cofiwch, oni cheidw yr Arglwydd, ofer y gwylia y ceidwaid. 30. Peidiwch a meichnio dros neb pwy bynag un amser na thros un amser, canys y mae yn dwyll, yn anunion; a pha fodd nas gall fod, pan mae yn bechod, yn groes i air yr Arglwydd? 31. Nac ymddiriedwch ddim i'ch deall eich hun, ond yn yr Arglwydd byth; canys yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragywyddol. 32. O, cofiwch mai byw i farw ydych, ac mai yr unig beth sicr yr ydym yn byw iddo yw marw; a'r peth mwyaf ansicr o ran amser, a pheth mwyaf bywyd natur yw ei ddiwedd-marw. 33. O cofiwch mai dyben penaf bywyd yw parotoi at farw mewn byw i Dduw a'i ogoneddu. 34. Gwnewch ef yn benderfyniad ymroddol yn nechreu eich bywyd y bydd i chwi a'ch teulu wasanaethu yr Arglwydd aed y byd ffordd yr elo. 35. Gwyliwch, yn wyneb gofid a therfysg teuluol ac amgylchiadol, na byddo dyledswyddau crefyddol teuluaidd ddim yn cael eu hesgeuluso mewn un modd, rhag y bydd yn ddechreu gwrthgiliad, ac i'r Arglwydd ymado oddiwrthych. 36. Cofiwch y geilw Duw chwi i'r farn am hyn oll, ac y caiff pob un drosto ei hun roddi cyfrif i Dduw; canys gosodir ni oll ger bron gorseddfainc Crist. 37. Cofiwch fod y cynghorion hyn wedi eu rhoddi gan eich tad ar fin y bedd i chwi eich dau, ac i bawb fyddo mewn cysylltiad â chwi yr un modd. 38. Cofiwch mai rhinwedd pob cynghor yw bendith; bendith yw ffydd a'i ffrwythau. 39. Na roddwch enllib ar neb, ac na dderbyniwch enllib am neb, canys felly y mae gwrthwynebu diafol. 40. Cofiwch mai gwell gofid am ddywedyd rhy fach nag am ddyweyd gormod. 41. Adnabyddwch wahaniaethau, a chelwch hwynt. 42. Cofiwch beidio gwneyd dim heb arfer gweddi am dano. 43. Cofiwch beidio arfer gweddi am ddim ond sydd yn ol ewyllys Duw; ei air yw hwnw. 44. Peidiwch anfon gweddi at Dduw ond yn enw Crist, trwy yr Ysbryd Glân, yn ol y gair. 45. Cofiwch mai trwy lawer o orthrymderau mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw, a bod y cysur i gyd yn wyneb hyny yn Nghrist yn unig. : 2 196 PENOD XV. Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr. WRTH edrych ar Mr. Richard yn ei ddull cyffredin o dreulio ei amser, ymddengys ei fod yn un o'r dynion mwyaf llafurus, diwyd, ac ymdrechgar yn yr oes. Byddai bob amser pan gartref yn darllen ac yn ysgrifenu; nid oedd ganddo hamdden at ddim arall. Er cymaint fyddai yn ddyweyd, wrth bregethu, mewn Cyfarfodydd Misol, a Chymanfaoedd, nid oedd yn dyweyd nemawr heb feddwl am dano yn mlaen llaw, er bod y bobl yn tybied mai antur oedd llawer o'r dywediadau tlysion a ddelai allan o'i enau. Na; yr oedd yn ysgrifenu y cwbl; pa bryd bynag y byddai rhyw feddwl yn ei daro yn nghylch unrhyw beth, rhoddai ef i lawr yn union, fel y gellir gweled yn eglur oddiwrth ei bapyrau, y rhai sydd yn cynwys rhyw doraeth anferthol o ddywediadau, rhy aml i osod y ddegfed ran o honynt mewn gwaith o'r natur hyn. Y mae ei bregethau hefyd wedi eu hysgrifenu oll, ac yn bur feithion; darpar pregethau i'w pregethu oedd gwaith mawr a hyfrydwch ei fywyd; a phan y deuai allan i'w pregethu i'r bobl, gwyddai yn burion beth yr oedd yn myned i ddyweyd. Nid oedd Mr. Richard yn meddwl ryw lawer am ddim ond pregethau a phregethu; dyma ei graig a'i gastell ef. Nid ydym yn gallu gweled fod ynddo gymhwysderau gwych at hyrwyddo achos crefydd yn y blaen mewn gwlad; ac nid cymaint, gallem feddwl, y byddai yn ymdrech yn y cyfeiriad hyny, ond mor bell ag oedd pregethu yn dal perthynas â'r cwestiwn. Yr oedd ei weddiau a'i bregethu yn cynwys achubiaeth yr holl fyd; ond nid oedd ei ddarpariaethau at gynwys y byd mewn cysylltiad â chrefydd cymdeithasol yn cael ond lle bychan yn ei gyfundraeth. Pan ymneillduodd y Trefnyddion Calfinaidd oddiwrth yr Eglwys Wladol, cynwysai yr ymneillduaeth hyny luaws mawr o deuluoedd cyfrifol a pharchus iawn yma a thraw drwy Sir Benfro, y rhai a fu yn ymgeleddgar iawn i achos crefydd. Byddai yn pregethu yn y tai, ac ymffurfiodd cynulleidfaoedd mawrion mewn cysylltiad â'r anedd-dai hyn. Pan y byddai cyhoeddiad gwr dyeithr yn cael ei ddarllen trwy Sir Benfro, gallasech feddwl fod yno beth anferth o gapelau; ond erbyn edrych, nid oeddynt ond amaethdai, a thai tir-feddianwyr cyfrifol, y rhai trwy arferiad oeddynt wedi myned yn gysegredig, ac edrychid arnynt fel lleoedd addoliad yr ardaloedd. Trehowel, Hall, Garnachenwen, ac felly yn y blaen, enwau cysegredig iawn gynt, lle y mwynhaodd yr hen bobl lawer o ddaioni a chysuron yr efengyl. Ar yr un pryd, ymddengys fod glynu wrth y lleoedd hyn yn lle adeiladu capelau yn agos atynt, wedi gwneyd mwy o ddrwg nag o les. Ni ddarfu yr hen breswylwyr feddwl ryw lawer am achos crefydd y tu draw i'w hoes a'u cenedlaeth hwy; am hyny yr oeddynt yn teimlo eu hunain yn gomfforddus i fwynhau yr efengyl yn eu tai. Er fod y lleoedd hyn ar y pryd yn ymddangos yn drugareddau, yn gymaint a bod yr efengyl yn cael drws agored i ardaloedd tywyll ac annhysbell; eto, a chymeryd y cwbl o dan sylw, ymddengys wrth yr effeithiau mai nid felly ydoedd. Ymlynwyd wrthynt nes oedd y teuluoedd yn cyfnewid, ac erbyn hyny nid oedd yr un capel na lle i fyned, ac felly collwyd yr ardaloedd i Fethodistiaeth. Pe na buasai y tai yma i gael ar y cyntaf, taflesid y bobl allan o honynt eu hunain i chwilio am le i arch Duw, a buasent fel pawb eraill, er trwy lawer o drafferth, yn cael lle iddi. Beth bynag, felly y bu hi; a gwaeth na hyny, darfu i olynwyr yr oes hono gyfranogi yn helaeth o'r un meddwl a dull, fel na wnawd un ymdrech tuag at lanw y wlad â chapelau; ond yn hytrach ymdrechwyd, os oedd eisiau ymdrech hefyd, yn groes i hyny. Yr oedd hen Fethodistiaid Sir Benfro yn freeholders cyfrifol yn y wlad; yr oeddynt yn ystyried myned i ddyled yn warthus, am hyny yn cadw crefydd mewn ffordd respectable yn eu tai gartref, fel gwŷr boneddigion. Y mae yn debyg i Mr. Richard ac eraill gyfranogi yn helaeth o'r ysbrydiaeth yma, yr hyn yn ddiau sydd yn awr yn dwyn grawnwin surion. Yr oedd y ddau Richard, er eu bod yn feibion ill dau i'r hen Henry a Hannah Richard, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt o'u mebyd ag a fu rhwng dau ddyn erioed. Yr oedd tebygolrwydd yn eu personau; gallasech adnabod mai brodyr yn yn ol y cnawd oeddynt, onide, am y rhan fwyaf o bethau eraill, yr oeddynt fel yn sefyll ar begynau cyferbyniol y byd. Yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn ol cynllun John Wesley; a Mr. Richard, Abergwaen, yn ol George Whitfield. Pregethu, ac achub dynion trwy hyny, oedd cwbl Whitfield, heb feddwl ond ychydig am ddarpariaethau tuag at eu derbyn a'u cadw; eithr am Wesley, ymenydd y peirianydd oedd yn berwi yn ei ben ef fwyaf. Er fe ddichon fod Wesley yn bregethwr da; ond nid yn hyny yr oedd ei ragoriaeth; y mae ei drefniadau yn sefyll hyd y dydd hwn y peth nesaf i wyrth. Yr oedd Whitfield yn dân poeth yn pregethu yr efengyl, a'r miloedd yn ei edmygu, ac yn cael eu hachub hefyd drwyddo. Wesley yntau yn araf a dystaw yn gwneyd rhwydau i gael y pysgod i gyd i dir. Nid pell oddiwrth hyn oedd y ddau frawd. Pregethu heb ddim ond hyny oedd un, a'r llall hefyd yn pregethu yn felus a thoddedig; ond gyda llaw yn cynwys ynddo ychydig o'r peirianydd, ac yn gwneyd cynlluniau tuag at hwylusu achos erefydd yn y byd ar ol ei ymadawiad ef. Y mae maes llafur y Parch. E. Richard yn llawn o gapelau mawrion, ac adeiladau cyfleus eraill o'u cwmpas; tra y mae maes llafur y Parch. T. Richard yn dra amddifaid o'r holl bethau hyny. Yr ydym yn rhwym o gyfaddef fod Mr. Richard, Tregaron, yn y pethau uchod yn tra rhagori; onide am bob peth arall yr ydym yn rhoi y blaen i wrthddrych ein Cofiant. Fe allai, serch hyny, fod hyn yn fater o archwaeth; ond oddiar ein cof cyntaf o honynt byddai y gwr o Abergwaen yn sefyll yn llawer uwch yn ein meddwl fel pregethwr na'r gwr o Dregaron; ond fel llywodraethwr, yr ydym yn rhwym o ymostwng a rhoi y goreu i'r llall. Yr ydym am roi pob peth yn y goleu priodol, a rhoi eiddo pawb iddynt; nid codi un ar draul gostwng y llall; y mae y peth a elwir yn hero worship i'w osgoi yn hytrach na'i ddylyn. Gobeithio y gwel ein darllenwyr ein bod yn gwneyd hyn, ac nid ydym wedi ein gwerthu i ddim ond y gwirionedd. Y peth oeddym yn ei ddyweyd oedd, fod prif fawredd Mr. Richard mewn meddwl a dyweyd, astudio a phregethu; ac nid oedd y galluoedd peirianol gymaint ag y buasai yn ddymunol iddynt fod er llesoli crefydd wedi iddo ef fyned i gysgu yr hûn olaf. Ond dyna, y mae yn anhawdd cael pob peth yn yr un dyn; y syndod yw fod cymaint mewn llawer un. Yr oedd Mr. Richard yn meddwl ac yn tynu allan ryw fraslun mewn ysgrifau o bob peth a ddywedai yn gyhoeddus; ond wedi hyny yr oedd ei alluoedd a'i ddawn siarad mor annghyffredin, fel yr oedd pob gair ysgrifenedig yn chwyddo i ddeg o leiaf. Nid ydym yn cofio neb â mwy, os cymaint, o allu siarad ar bob peth erioed. Yr oedd ei siarad yn naturiol, nid yn orchestol; yn ddynol, nid yn anghenfilaidd; fel dwfr yn rhedeg o'r ffynon, nid yn cael ei sugniedyddu (pumping); fel dyn byw, nid fel creadur haner marw; fel dyn gwreiddiol, nid fel efelychydd dwl. Yn ddiau yr oedd ei allu anarferol i siarad pob peth yn brofedigaeth iddo yn aml, ac yn achos o<noinclude><references/></noinclude> e6cy5fsqzo0fnixisndxtfi0lgr5jq0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/253 104 84608 164392 2026-05-07T21:01:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164392 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ofidiau mawrion yn ol llaw; canys dylynai ryw ddrychfeddwl digrif yn ol ac yn y blaen, am draws ac ar hyd, yn ei holl liwiau a'i luniau; ac os na fyddai ei liwiau a'i luniau yn myned yn ddigon pell, fe gynorthwyai lawer er eu gyru yn mhellach. Peth rhwydd iawn iddo ef fuasai gosod dynion i chwerthin nes yn rhy wan i gyffro; ac yn fuan eilwaith i wylo fel plant; yr oedd yn medru arglwyddiaethu ar holl deimladau y natur ddynol. Pan y cymerai ryw frawd pur ddiniwed mewn llaw, a chwareu yn ddigrifol o'i gwmpas, nes y byddai pawb yn methu dal, byddai hyny yn ofid mawr iddo eilwaith, a throdd ar y cwbl yn anfanteisiol iddo, canys yr oedd dynion yn cael eu clwyfo, a'u ffryndiau hefyd, er nad oedd dim niwed yn cael ei amcanu. Y mae llawer iawn o hanesynau o'r natur hyn am dano; ond yn gymaint ag y byddai i ni gysylltu enwau personau ag sydd yn awr yn fyw â hwynt, a hefyd nad ydynt ond plyf llaes yn ei gymeriad, yr ydym yn eu troi oll ymaith, ac yn dylyn ei bapyrau ef ei hun. Y siarad hyny o eiddo Mr. Richard a gyfrifid yn ofer a dibwrpas, yn ymylu ar fod yn gellwair, sydd yn cynwys ynddo fawredd, ac nid oedd neb ond dyn mawr allasai siarad felly; buasai yn well genym wrando ar ffolineb Mr. Richard na synwyr goreu llawer iawn o ddynion go gall; oblegyd, a chaniatau ei fod yn dywedyd ffolineb ar brydiau, neu yn myned i eithafion mewn siarad, eto yr oedd cymaint o fawredd yn y dull o ymdrafod y peth, fel yr oedd y pethau gweinion yn myned yn gryfion, gryf a'r pethau eithafol yn dyfod i ymddangos yn weddus ac mewn trefn. Beth bynag, fel y dywedasom o'r blaen, y mae yn eglur ei fod yn meddwl llawer am bob peth ag oedd yn ddyweyd; ond o herwydd helaethrwydd bron anfesurol o ddawn siarad, dygid ef ymaith megys â llifeiriant, yn nghynhyrfiadau y foment. Yr ydym yn canfod wrth ei bapyrau ei fod yn darpar gogyfer a phob amgylchiad, nid yn unig ar gyfer rhyw gyfarfodydd mawrion, a gogyfer â'r pwlpud, ond cyfarfodydd gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf, cyfarfodydd ymostyngol yn wyneb rhyw arwyddion barnol, a'r cyffelyb. Yn yr amser yr oedd y cholera yn fflangell ofnadwy ar y wlad, cadwyd cyfarfodydd ymostyngiad yn mhob man i gydnabod llaw Duw, ac i ddeisyf trugaredd ac arbediad; ac yn mhlith ei bapyrau yr ydym yn gweled areithiau byrion a draddodwyd yn Abergwaen ac Wdig yn y cyfryw gyfarfodydd. Nid oedd y bobl yn meddwl dim ond fod pob peth yn dyfod fel y môr, fel y dywedir, a bod gan Mr. Richard digon i ddyweyd ar bob peth. Nid oeddynt hwy yn meddwl fod y pethau yr oedd yn eu dyweyd, a'r pethau yr oeddynt hwythau yn cael lles mawr drwyddynt, yn ffrwyth llafur caled y gweinidog ffyddlon pan y byddent hwy yn trin y byd ac yn enill arian. Yr oedd yr ŷch ag oedd yn dyrnu yr ŷd iddynt, er diwallu eu hangenion ysbrydol, yn ddyoddefydd mawr yn aml o eisiau tipyn o ŷd daearol i'w gynorthwyo i fyned yn y blaen gyda'r dyrnu ar yr ŷd goruwch ddaearol. Ond fel yna y byddai y bobl yn meddwl, fod pob peth yn dyfod fel y môr, heb eisiau llafurio dim, ond myned i'r capel i dderbyn y dwfr. Yr ydym yn rhoi y ddwy araeth ganlynol, un a draddodwyd yn y cwrdd gweddi yn Abergwaen, a'r llall yn Wdig, er mwyn egluro y pethau y buom yn eu dyweyd: i Rhagorfraint gwir adnabyddiaeth o'r Arglwydd yw ei gydnabod ef yn ei holl ffyrdd ef a'n holl ffyrdd ninau; canys felly y gorchymynir: "Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau." Ni ellir ei gydnabod heb ei adnabod. Mesur y naill yw mesur y llall. Y ddau beth hyn, ei adnabod a'i gydnabod, yw rhodio yn ei ofn, yr hyn yw rhodio gydag ef; a rhodio gydag ef yw ei fwynhau; ei weled yn mhob peth, ei gydnabod yn mhob peth, yw gydag ef yn mhob peth. Felly y rhodiodd Enoch a Noe gydag ef. Mae cymaint o undeb achosol rhwng yr Arglwydd a phob peth ei lywodraeth, fel y gellir yn briodol eu henwi yn eiddo iddo. Os cleddyf, cleddyf yr Arglwydd; os newyn, newyn yr Arglwydd; os bwystfil niweidiol, efe sydd yn ei ddanfon; os haint, efe sydd yn ei ddanfon. "Fy mhedair drygfarn, pan ddanfonwyf hwynt yw y rhai hyn," medd efe am danynt. Mewn man arall gelwir hwy yn bedwar o gerbydau a meirch. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion; yn yr ail gerbyd, meirch duon; yn y trydydd, meirch gwynion; yn y pedwerydd cerbyd, meirch gwineuon, brithion. Dyna gerbydau hardd; dyma grandeur bonedd a mawredd. "Cyfiawn yw efe yn ei holl ffyrdd, a santaidd yn ei holl weithredoedd." "O ba le y daethant?" Hwy a ddaethant allan oddirhwng dau fynydd; a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres; daethant allan yn llawn o allu a dysgleirdeb, ac mewn gallu anwrthwynebol. I ba le y daethant? I'r gogledd, i'r deheudir, ac i gyniwair trwy y ddaear. Pwy yw llywydd y rhyfel-gerbydau ardderchog hyn? Eu Perchen yn ei berson ei hun yw Prif Flaenor y gâd. Mae ei gleddyf noeth yn ei law, ac yn cyhoeddi o flaen ei lu, Yn Dywysog llu yr Arglwydd y daethum. Pwy yw hwnw? Fe ellir meddwl wrth ei siarad mai Preswylydd y berth yw efe, canys yr oedd yn gofyn yr un ymddygiad gan Josua ag a ofynwyd gan Moses. Efe yw y Mab a roddwyd i ni, y Bachgen a aned ini. Gelwir ei enw, Rhyfeddol, a bydd y llywodraeth byth ar ei ysgwydd ef. Mae yn ysgwydd rhy uchel i neb ei chyrhaedd a fyno, ac yn rhy gref i neb i'w threisio o honi, na diffygio byth dani; gan hyny ato ef y mae myned. Am hyny awn ato ef, yr hwn a ddywedodd, "Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, hyny a wnaf," (Y sylwadau a draddodwyd yn Wdig.) Mae holl feddiant y Jehofa yn eiddo i Grist. Rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear; am hyny efe yw Arglwydd pawb oll. Os yw efe yn Arglwydd pawb oll, ei weision ef yw pob peth. Nid geiriau yn unig sydd am hyn; ond prawfiadau trwy esiamplau ar ddwfr a thân, môr a thir, dynion a chythreuliaid, pob clefydau ac afiechyd, heintiau a phläau: ceryddu y gwynt a'r môr â'i eiriaugwialen ei enau; gostegu a dystewi, a bu tawelwch mawr. "Dyn ydwyf finau hefyd, a chenyf oruchwylwyr danaf. Pan ddywedwyf wrth y naill, Dos, efe a â; ac wrth y llall, Tyred, efe a ddaw. Mae y clefyd, dy was di, bron lladd fy ngwasi; yn unig dywed y gair, a iach fydd fy ngwas." Dy was di yw y cleddyf niweidiol: dywed di iddo ddychwelyd i'r waun, efe a ddychwel, ac a lonydda; ond ni ddychwel, ac ni lonydda, er i bawb eraill ddyweyd wrtho; canys pa fodd y llonydda efe, gan i'r Arglwydd ei orchymyn ef? canys gwas yw efe, a gwas dan siars, ac ni ddychwel pe bai yr holl fyd yn dyweyd wrtho, hyd oni orpheno ei waith. Felly yr haint hwn. Gwas yw ef, dan orchymyn pendant am, ac at gospi ei elynion, a dial cam ei bobl, a cheryddu ei bobl. Yimweled â'u camwedd â gwialen, a'u hanwiredd â ffrewyllau; canys lle yr amlha anwiredd, fe oera cariad llawer. Dwr yw y naill, tân yw y llall: un yn cynyddu, y llall yn lleihau. Cynydd y naill yw lleihad y llall. Profer nad yw anwiredd yn amlhau, fe brofir yr un pryd trwy yr un peth nad yw cariad yn oeri. Y peth mwyaf ffiaidd ger bron Duw yw y peth uchelaf yn gyffredinol ger bron dynion; hyny yw, balchder. Mae yn haint gyffredinol, o'r mwyaf hyd y lleiaf, o'r cyfoethocaf i'r tlotaf, oddifewn ac oddiallan. Bryd uchel, trem uchel, golwg uchel: mae y ffrwd hon mor gref, prin y beiddia neb sefyll yn ei herbyn; a phan wrthwynebir, efe a watwarir. Ond fe ffieiddir gan Dduw, canys efe a'i hadwaen o bell; mae yn gas ganddo, ac fe fyn ei ddarostwng. Ymostyngwn ger bron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr, edifarhawn a hunan-ffieiddiwn, edrychwn ar ein huchder balch, a dysgwyliwn ein cwymp mawr, a'n medi fel glaswellt. Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd; dychwelwn at yr Arglwydd. Dyrchafwn ein calonau at Dduw yn y nefoedd. Yr ydym wedi myned yn fras, yn mhob llwyddiant i wingo yn erbyn yr Arglwydd, heb wrando ar ei lais, ond dirmygu cynghor y Goruchaf. Nyni yw y bobl sydd yn anufuddion ac yn feilchion; ond os na elwir y gwas yn ol bydd yn hawdd siarad cyn nemawr o ddyddiau â rhai na oddefir siarad llawer â hwy yn awr. "Ceisiwch yr Arglwydd holl rai llariaidd y ddaear; y rhai a wnaethant ei farn ef, ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint." PENOD XVI. Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio-cyflwyno Tysteb iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth-ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw. Bu Mr. Richard flynyddau lawer yn anhwylus gan beswch a diffyg anadl, yn methu teithio i'r Cymanfaoedd, hyd yn oed pan y byddent yn ei sir ei hun. Yr ydoedd yn pregethu ryw gymaint o gwmpas cartref yn aml ar y Sabbathau, ac ambell waith mewn llawn hwyliau, er fod natur o angenrheidrwydd yn rhwym o deimlo yr effeithiau. Ond pan y caffai efe ei draed o dano, ychydig o ymgynghori a chig a gwaed fyddai y pryd hwnw; ymollyngai ati fel yn nyddiau ei ieuenctyd, heb feddwl am ganlyniadau. Gallesid meddwl wrth ei weled yn dringo grisiau y pwlpud dan besychu a chwythu, ei fod lawer yn fwy cymhwys i fedd nag i bwlpud; ond pan y byddai y pesychu yn gwella wrth siarad, a'r anadl fel yn gwellhau yn raddol, teimlech chwant fyned i weddi am i'r Nefoedd ei anfarwoli i bregethu yr efengyl. Ymddangosai yn berffaith gartrefol yn y pwlpud, yn ei le ei hun, y lle ag oedd yn ei weddu ef, enaid a chorph. Byddai yn Abergwaen yn fisol, ac yn Trefin, lle y ganwyd ac y magwyd ef, yn amlach na hyny, yn gymaint a bod y lle yn agos; ond fel y dywed cyfaill wrthym ag oedd yn arfer ei wrando, "yr oedd yn ddyn newydd bob Sabbath." Do, parhaodd ei lafur hyd y diwedd; yr oedd yn gwneyd pregethau newyddion hyd y gallasai eistedd i fyny; ac yr oedd yn dyweyd wrth gyfaill, "Yr wyf gystal ag erioed i wneyd pregeth; gallaf gyfansoddi mor hwylus yn awr a chynt; ond dyna y diffyg, pan yr elwyf i'w pregethu, yr wyf yn methu eu cofio fel cynt." Y mae yn rhaid fod rhyw beth rhyfedd yn y pregethu yma, cyn bod dynion yn ymdrechu cymaint i bregethu. Yr oedd Christmas Evans, meddant, yn gofyn i'r meddyg a oedd dim gobaith i wella erbyn y Sabbath i gael pregethu; dywedir fod Elias yn dymuno bedd yn union ar ol ffaelu pregethu; ac yr oedd Mr. Richard, er ei holl beswch a diffyg anadl, yn gwneyd ymdrech parhaus i bregethu. Adroddir ei fod am chwech, hwyr Sabbath, mewn man yn myned i bregethu, ac yn dringo grisiau y pwlpud dan beswch a thuchan, yn sål iawn; ac yn gymaint a bod y dydd yn hytrach yn rhy fyr i barhau hyd ddiwedd y cyfarfod, byddai y brawd ag oedd yn gwasanaethu y swydd hono yn arfer cyneu y canwyllau yn nechreu y cwrdd, fel ag i beidio aflonyddu yn y canol; yr oedd hyny yn fwy o synwyr nag sydd yn mhen llawer un. Beth bynag, wrth fod Mr, Richard yn dringo o ris i ris dan beswch, y mae yn canfod y dyn yn cyneu y canwyllau, ac yn dywedyd wrtho, "Peidiwch a chyneu y canwyllau; 'does dim o'u heisiau; dyn marw sydd yma, nid dyn yn gallu pregethu." Gadawodd y dyn y goleu yn y fel yna, oblegyd gallesid meddwl wrth ei weled yn ceisio dringo na fuasai eisiau goleu arno ef, y buasai y dydd yn ddigon hir iddo dreulio hyny o nerth ag ydoedd ynddo. Beth bynag, y mae yn rhoi hymn allan o dan beswch, ac wedi canu hono yn cymeryd testun yn rhyw fodd, ac yn dechreu dweyd o dan chwythu yn anferth, a phawb yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Ond yn mhen tipyn y mae yr hen frest fel yn clirio, y peswch yn myned yn llai, y llais yn pereiddio, ac yntau yn dechreu tynu ei law dros y cap du, yr hyn oedd yn arwydd sier fod y gwynt yn myned i chwythu yn deneu; erbyn hyn dyma fe yn gwaeddi allan, "Yn mha le y mae y dyn a'r goleu yna? paham na oleuwch y canwyllau, y dyn? cerddwch a goleuwch hwynt. Pa fodd yr ydych yn meddwl y gall dyn bregethu yma yn y tywyllwch heb i ni allu gweled ein gilydd?" Y mae hwnw yn dechreu gweini ei swydd mor gynted ag y gallo, a chyda phleser hefyd, canys y mae yn sicr o gael haner awr, os nid tri chwarter o bregeth yn ychwaneg na'r dysgwyliad. Fel hyn y byddai yn sâl wrth fyned i bregethu, yn gwella wrth bregethu, ac yn myned yn sâl wedi hyny ar ol pregethu; eto gwneyd pregeth newydd a'i phregethu hi oedd holl gysur ei fywyd hyd derfyn eithaf ei allu. Yn y blynyddoedd hyn, nid oedd yr un Gymanfa yn myned heibio na fuasid yn holi cyfeillion Sir Benfro yn nghylch iechyd Mr. Richard; a mawr y fath son oedd am dano, a chydymdeimlo ag ef yn ei gystuddiau; gan basio penderfyniad i'r Ysgrifenydd anfon llythyr cynes ato oddiwrth y Gymanfa o gydymdeimlad ag ef yn mhob ystyr; yr oedd pawb yn ddibetrus yn codi llaw. Ond er ei fod wedi ffaelu, ac er fod dyn felly ag eisiau mwy o gysuron na chynt, ac er nad oedd gydag ef i fyw ond yr ychydig blwydd-dâl ag oedd gan Mrs. Richard, nid ydym yn cofio clywed fod y Gymanfa, na Sir Benfro ychwaith, wedi meddwl dim am hyny, ond ei adael yn llwyr i ofal trefn Rhagluniaeth, a'r Bod mawr y darfu iddo ei wasanaethu mor ffyddlon. Peth hyfryd yw<noinclude><references/></noinclude> 2yesi2xlc0594cen4xdbxq2k4vk6xv8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/258 104 84609 164393 2026-05-07T21:02:18Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ffydd fawr mewn Rhagluniaeth ddwyfol; y mae wedi arbed llawer o arian i filoedd, o dan amrywiol amgylchiadau bywyd. Y peth sydd yn ein synu ni yn fawr yw, os gallesid gadael ei ofal yn llaw Rhagluniaeth yn nghylch angenrheidiau y bywyd hwn, paham nad allesid ymddiried y cwbl i ragluniaeth? Pa eisiau oedd codi llaw a danfon llythyrau o gydymdeimlad? onid oedd Un yn y nefoedd yn "medru cyd-ddyoddef?" am hyny paham nad allesid ymddiried... 164393 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffydd fawr mewn Rhagluniaeth ddwyfol; y mae wedi arbed llawer o arian i filoedd, o dan amrywiol amgylchiadau bywyd. Y peth sydd yn ein synu ni yn fawr yw, os gallesid gadael ei ofal yn llaw Rhagluniaeth yn nghylch angenrheidiau y bywyd hwn, paham nad allesid ymddiried y cwbl i ragluniaeth? Pa eisiau oedd codi llaw a danfon llythyrau o gydymdeimlad? onid oedd Un yn y nefoedd yn "medru cyd-ddyoddef?" am hyny paham nad allesid ymddiried y cwbl i'r un Gwr? Fe ddichon nad oes dim yn hyn, ar yr un pryd y mae rhyw beth ynddo nad yw mor hawdd ei ddeall a llawer peth. Y mae yn ddigon tebyg mai ei lafur caled gyda phregethu i gynulleidfaoedd mawrion ddygodd yr anhwyldeb yr ydoedd yn llafurio o dano i'w gyfansoddiad. Weithiau mewn lleoedd bychain gwresog yn chwysu nes y byddai ei ddillad yn wlybion, yna allan i lwydrew y nos, ac adref drwy hwnw ryw chwech neu saith milldir. Weithiau ar faesydd, yn pregethu i ddeng mil o ddynion, pryd y byddai yn aml y gwynt a'r gwlaw fel yn cyduno i ryfela yn erbyn yr efengyl. Yr oedd pethau fel hyn yn ddigon i ladd un dyn; a digon tebyg mai pethau cyffelyb oedd wedi achosi ei ddolur yntau. Galwodd gweinidog parchus, perthynol i'r Wesleyaid gyda brawd parchus o ddiacon Methodistaidd i'w weled yn ei gystudd; yr oedd y gweinidog heb ei weled erioed cyn hyny, ond yn unig clywed am y pregethwr cawraidd, yr hwn yn awr oedd yn dechreu cael ei rwymo gan henaint a chystudd. Wedi cyfarch gwell, a throi o gwmpas dipyn, gofynodd y gweinidog, "Pa beth yw natur eich afiechyd, Mr. Richard?" "O, gwaeddi gormod sydd wedi dyfod ag ef; a ydych chwi yn gwaeddi llawer? Dyna fel yr oedd dynion yn meddwl er ys llawer dydd-mai y dyn allasai waeddi fwyaf oedd y pregethwr goreu; felly byddai pawb yn ymdrechu gwaeddi ei oreu, bid a fyno. Yr wyf fi wedi gwaeddi nes ydwyf wedi methu gwaeddi; yr wyf yn pregethu ambell waith yn awr; ond nid wyf yn gallu gwaeddi yr y'ch chi'n deall; a bydd y bobl yn dyweyd, wrth ddyfod o'r cwrdd, 'Pregethwr da yw Richard hefyd;' ond y dynion hynaf, y rhai sydd wedi fy nghlywed yn gwaeddi, a atebent yn surllyd, 'Pw, pw, 'chlywsoch chwi ddim o hono ef yn ei brime; dyna pryd yr oedd e'n ogoneddus, pan glywsom ni ef gyntaf, pan oedd yn ei brime.' Yn awr, yr y'ch chi'n deall, prime gwaeddi oedd y prime, nid prime pregethu. Peidiwch a gwaeddi llawer, onide ewch yn fuan i beidio gwaeddi dim. Nid pregethwr mawr sydd yn eisiau ar y bobl, ond gwaeddwr mawr; y dyn allo waeddi digon sydd eisiau arnynt hwy." Beth bynag yn y byd am y gwaeddi, y mae yn amlwg fod llawer o lafur o'r fath ddesgrifiad wedi dyfod å nychdod mawr arno ef; ac yr ydym yn synu na fuasai rhyw rai yn meddwl y buasai yn beth purion i'r gweithiwr gael bwyd wedi iddo fethu gweithio ryw lawer; ond yn rhyw fodd ni ddygwyddodd i hyny daro i feddwl neb. Yr oedd yn ddrychfeddwl newydd yn y Cyfundeb, y mae yn wir; ond er hyny nid oes nemawr o oes nad oes dynion gwreiddiol yn bodoli ynddi; eithr dygwyddodd nad oedd neb ar hyn o bryd yn alluog i fyned i mewn i ddirgeledigaethau y cwestiwn hwn. Beth bynag, yn nghanol yr holl ymholi ar ol iechyd Mr. Richard, y codi llaw a'r ysgrifenu llythyrau cydymdeimladol, meddyliodd rhyw un mai peth digon priodol yn nglŷn a hyny fyddai cael i fyny ryw gymaint o arian fel tysteb i gyflwyno iddo; ac yn wir at hyny yr awd, er fod peth felly yn ddigon disynwyr o dan amgylchiadau o'r fath, oblegyd nid peth yn lle yr hyn sydd ddyledus yw tysteb, ond yn ychwaneg at hyny, fel arwydd o barch neu gydymdeimlad. Fe welir, serch hyny, pan y deuir at araeth y gweinidog ffyddlon, ar achlysur derbyniad y dysteb fel ei gelwir, ei fod ef yn edrych ar y peth fel arwydd o garedigrwydd tuag ato yn ei wendid. Yr oedd hyny yn beth purion, ac yn beth uchel ynddo ef, canys yr oedd yn arwydd o'r teimlad gwylaidd a gostyngedig hwnw ag y mae y rhan fwyaf ag sydd yn adnabod eu hunain yn gydnabyddus ag ef. Nid oedd efe yn gweled ei hun yn werth dim; yr oedd yn synu pa fodd yr oedd y Gymanfa yn ymholi am greadur mor wael; gan hyny yn edrych ar y dysteb fel yn dyfod allan o ymysgaroedd trugareddau. Mor bell ag y mae y teimladau hyn yn dal cysylltiad â Mr. Richard ei hun, da iawn; eithr os ydynt mewn cysylltiad â rhyw rai eraill, drwg iawn. Y mae yn ddiau fod llawer, yn symlrwydd eu calonau, yn edrych ar yr ychydig a gyflwynwyd iddo y pryd hwnw yn wobr, nid yn dâl. Beth bynag, os gwobr y dewiswch ei alw, yr ydym yn meddwl, mewn barn cariad, nad oedd y wobr hono "o ras, ond o ddyled." Wedi rhoi peth felly o flaen cymdeithas, yr ydym yn synu y tu hwnt i bob peth, pa fodd y dygwyddodd iddo fod cyn Ileied. Y mae yn rhaid mai ar y cyfarwyddwyr, nid ar y bobl, yr oedd y bai, canys pe buasai y bobl yn cael un awgrym mewn ffordd briodol, buasent yn ddiau fel un gwr yn codi ati; ac nid y swm iselwael o driugain punt fuasai y canlyniad. Na, na; y mae teimlad tyner yn meddyliau y bobl at y dynion hyny oedd fel cân cariad iddynt, geiriau pa rai oedd fel mêl i'w safnau; "ïe, yn felusach na mêl, ac na dyferiad y diliau mêl;" athrawiaeth pa rai a ddyferai fel gwlaw tyner a ffrwythlon ar dir sychedig, nes ei wneyd fel Eden mewn ffrwythlondeb. Ond dyna, y mae yn rhaid gadael pob peth fel y mae, canys nid oes cyfle mwy i wella unrhyw gyfeiliornad mewn cysylltiad â'r marw; eto fe allai y dichon nodi allan rai pethau fod yn effeithiol i alw sylw mwy priodol o dan amgylchiadau tebyg, os dygwyddant yn y dyfodol. Y mae hen amser yn rhedeg mor gyflym, yn myned heibio fel eryr cryf a chyflym, gan gau pob peth ar ei ol, fel nad oes cyfle i wella cyfeiliornadau; rhaid iddynt fod fel y gwnaed hwynt, er yn ysmotiau duon ar y papyrlen; ac os ceir amser yn y dyfodol, ceisio eu gwella mewn cysylltiad â gwrthddrychau newyddion. Dydd Mawrth, y 9fed o Ionawr, 1855, dyma ryw gymaint o bersonau yn myned â'r triugain punt yn eu llogellau, gan feddwl yn ddiamheu fod ganddynt gronfa weddol, o holl Siroedd y Deheubarth, yn anrheg rasol i Mr. Richard. Cadwyd cyfarfod, areithiwyd a chyflwynwyd y triugain punt iddo, fel pe cyflawnasid rhyw weithred ryfedd o ras ar y dyn claf. Syndod! y mae tywyllwch yr oes yn fawr hefyd, wrth ystyried pob peth. Beth! dynion yn llafurio o dan gymaint o dywyllwch moesol yn y ganrif hon! Hawyr! rhaid i chwi fyned adref, a dychwelyd a'r deg cymaint o arian a hyny cyn y bydd genych ddigon i dalu yr hyn sydd ddyledus i Mr. Richard, heb son dim am anrheg. Telwch y ddyled yn gyntaf; byddwch yn onest, frodyr, a siaradwch wedi hyny faint a fynoch am fod yn haelfrydig. Ond da chwi, er mwyn pob peth, ceisiwch a bod yn weddol gyfiawn yn gyntaf. Tebyg iawn, yn gymaint a bod diwygiadau yn ehedeg ar adenydd y gwynt yn y dyddiau hyn, fod yr oes wedi myned llawer yn y blaen mewn diwylliant oddiar gyflwyniad y dysteb, a'r pethau ag oedd braidd yn anweledig yn ngwyll y boreu hwnw sydd yn awr yn ddigon amlwg, gan fod y dydd yn tynu yn agos i'w ganolbwynt. Ond i adael y dysteb, fel ei gelwir, y mae rhyw beth o werth sylwi arno yn y dull y mae efe yn ei derbyn. Nid ydyw yn gweled dim ynddi ond caredigrwydd, trugaredd, a chariad brawdol; y mae efe yn ei gweled yn ardderchog, yn ddangoseg o serch, brawdgarwch, a Christionogaeth i'r pen pellaf, gan ei ystyried ei hun yn annheilwng o'r fath rodd haelfrydig. Nid ydym yn meddwl ychwaith fod un amcan ond caredigrwydd a Christionogaeth yn nghyflwyniad y dysteb; eithr rhyfeddu yr ydym at dywyllwch y bobl, na fuasent yn meddwl fod cymaint a hyny yn ddyledus bob blwyddyn, ac ychwaneg hefyd. Yn hytrach na myned i fanylion, yr hyn fe allai na fyddai yn edrych gystal, digon yw dyweyd na dderbyniodd Mr. Richard nemawr o ddim am ei lafur, eithr treuliodd oes o ddefnyddioldeb mawr i'w genedl, gan lafurio yn galed gan mwyaf ar ei draul ei hun. Ar y diwrnod nodedig i gyflwyno y dysteb, cyfarfyddwyd yn Abergwaen, ac awd drwy y gorchwyl mewn cysylltiad â Chyfarfod Misol a gynaliwyd yn y lle yr un amser. Cyflwynwyd yr arian iddo yn un o'r cyfarfodydd, yr hyn a dynodd allan yr araeth fach ganlynol: Mae pob peth newydd yn peri pryder. Mae pob symudiad awd trwyddo mewn bywyd wedi bod mewn pryder. Pan awd at grefydd gyntaf yr oedd yn amgylchiad pryderus; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny. Pan deuwyd at fwrdd yr Arglwydd y tro cyntaf yr oedd pryder yn hyny; ond yr oedd gradd o ragolwg am hyny. Pan ddechreuwyd ar y gwaith mawr nad oes un dyn ar y ddaear yn ddigonol iddo, fe barodd ryw beth cymaint o bryder y pryd hyny, nes ymgrino ar y ddaear, ac nid heb achos; ond yr oedd rhyw faint o ragolwg ar hyny. Pan dderbyniwyd i aelodiaeth y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa, yr oedd y rhai hyny yn amgylchiadau pryderus; ond nid heb ryw ragolwg arnynt; a phan y cawd lle i fod yn y gwaith llawn, rhwng gwendid gewynau a phob rhyw waeleddau, yr oedd y pryder mór fawr nes bod ar ymddyrysu; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny cyn myned ato. Ond am yr amgylchiad hwn, nid yw heb bryder, ac nid oedd un rhagolwg arno; canys ni welwyd fel hyn o'r blaen genym ni. Mae y pethau heddyw yn anhygoel. Pan wybuwyd am hyn gyntaf, heb allu gwybod beth fyddai y cynwysiad na'r canlyniad, fe feddyliwyd rhoddi nacâd pendant iddo; ac oni buasai ofni balchder wrth ei wraidd, ac ofni pechu yn erbyn Crist wrth bechu yn erbyn y brodyr, fe fuasai wedi ei roddi. Parodd synedigaeth nid ychydig; yn un peth oblegyd fod llafur a gwaith y Gymanfa wedi dyblu a thryblu at y peth oedd pan gofir am dani gyntaf, a llawer blwyddyn wedi hyny. Synwyd, wrth feddwl am y fath brysurdeb, y gallesid cael meddwl, cof, nac amser i synied am y fath beth, yn enwedig am un mor absenol, mor ddyeithrol, ac annefnyddiol, allan o'r golwg ac o'r clyw er ys llawer blwyddyn; ond heb allu, ond yn un lle, dan lethu, yn llusgo. Yn awr wele fe wedi dod, ond nid heb ofnau am dano y mae, -ofni rhag bwrw ymaith ar hyn, canys fe wobrwyir am gymaint a chwpanaid o ddwfr i ddysgybl. Ni fydd yr Arglwydd yn nyled neb, er, wrth edrych dros flynyddoedd yr ymdaith, nid oes un agwedd a welir mor gymhwys, ïe, yr unig un gymhwys, ond edifeiriol; ac ni wyddys am unrhyw beth sydd mor dda i gael byw cyhyd er ei fwyn ag edifeirwch-ofnir rhag ymchwyddo o herwydd hyn. Os bydd dropsi yn y cyfansoddiad, mae perygl oddiwrth bob peth, rhag iddo gynyddu. Os oedd perygl i'r sant mawr Paul i dra dyrchafu o herwydd ei gipio i'r drydedd nef i baradwys Duw, tu draw y llen, pa faint mwy perygl i bechadur mawr a gipiwyd fel pentewyn i baradwys Duw ar y ddaear? Ofnir rhag bod ystorm i ganlyn hyn; megys y bydd tawelwch ar ol ystorm, bydd weithiau ystorm ar ol tawelwch; a rhag i don y brofedigaeth soddi y pen dani, na chodo mwy; canys ni bu erioed ond eiddilwch a gwendid mawr mewn man ofidiau. Oddiar ostyngeiddrwydd diffuant, mor bell ag yr adnabyddir, dymunir cyflwyno diolchgarwch diragrith trwy ddwylaw y dirprwywyr hyn i'r Gymanfa a'ch danfonodd; ac hefyd i chwithau sydd ddirprwywyr yn yr oruchwyliaeth hon yr un peth yn yr un modd; canys ni ellir cyffelybu y gorchestwaith hwn a wnaethoch i ddim ond i ymwroli fel rhai yn gweled yr anweledig; canys nis gallasai y fath orchwyl gael ei gwblhau yn y fath fodd heb lafur, ymdrech, serch, egni, a diwydrwydd dibaid: ond yn gan cymaint, ïe, yn gan cymaint drachefn a hyn, yr hyn nid yw yn un iselhad nac iselder ar hyn, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb, y Ilonir ac y llawenheir am y peth y mae cynwysiad hyn yn ei ddangos, yr hyn yw egwyddor Cristionogaeth, ysbryd Cristionogaeth, undeb, cariad, a serch Cristionogaeth, yr hyn yw hanfodau Cristionogaeth; yr hyn sydd lawer mwy o brawf fod ysbryd yr Arglwydd yn aros yn mysg ei bobl na phob cyflawniad cyfan yn allanol heb hyny. Lle mae hanfodau Cristionogaeth yr erys, ac nid yn un lle heb hyny; "Canys yn ol y gair a amodais â chwi yr erys fy Ysbryd yn eich mysg." Mae rhyw faint o gymhwysder yn ngeiriau gwraig y mynydd-dir, os nid y mwyaf cymhwys yn wyneb hyn oll ar yr achlysur presenol: "O ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy arglwydd ataf fi?" Fe ellir gwneyd hyn yn gymhwysiadol yn ol gair Crist, yr hwn a ddywedodd am "yr hwn a ewyllysio wneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam;" os felly, wele frawd, chwaer, a mam Crist yn bresenol. Dywedwch wrth y Gymanfa y taer ddymunir arnynt i beidio â gadael ar hyn, er cymaint yw hyn; tra na chlywont fod y terfyn wedi ei gyrhaedd, i roddi lle i un tebyg i'r creaduriaid a welwyd yn y llen-llian a ddangoswyd i Pedr, yn llen-llian eu gweddiau; a rhwymer am dano, nesaf ato, weddi y publican, at ei gymeryd i fyny i'r nef; ei weled yno, os byth y daw, fydd un o'r rhyfeddodau mwyaf am neb a ddaw yno. Mae cael cwympo i'r bedd o fynwes gweddiau eglwys Dduw, O gymaint gwell yw na chwympo yno oddiar orseddfeinciau uchelaf y byd. Gwlad heb bechu, a gwlad heb ofni yw yr unig wlad sydd i'w hoffi. Amen fyddo gyda phawb, pawb yn ddiwahaniaeth heb un sylw ar wahaniaethau plentynaidd dynion, y rhai a gollir oll yn angau. Yr unig undeb a ddeil yno yw undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw. Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru yr Arglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Wrth hyn rhoddir o galon Amen, Amen, Amen, er cymaint yw ei phla.<noinclude><references/></noinclude> scgy1p1q7rsomdgveqxb7751t9nuref Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/263 104 84610 164394 2026-05-07T21:03:09Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD XVII. Ychydig o ymadroddion annghysylltiol, ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas, Y MAE peth anferth o ddywediadau Mr. Richard mewn cymdeithas, y rhai fydd yn anmhosibl i ni eu cofnodi; a digon tebyg y clywir y bobl yn siarad, "Nid yw y peth hwn yn y llyfr, ac nid yw y peth arall ynddo;" ond pe gosodem y cwbl a ddywedodd, a'r cwbl a ddywedir am dano yn y llyfr, beth, tebygech chwi, fyddai maint y llyfr hwnw? Byddai yn rhai... 164394 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD XVII. Ychydig o ymadroddion annghysylltiol, ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas, Y MAE peth anferth o ddywediadau Mr. Richard mewn cymdeithas, y rhai fydd yn anmhosibl i ni eu cofnodi; a digon tebyg y clywir y bobl yn siarad, "Nid yw y peth hwn yn y llyfr, ac nid yw y peth arall ynddo;" ond pe gosodem y cwbl a ddywedodd, a'r cwbl a ddywedir am dano yn y llyfr, beth, tebygech chwi, fyddai maint y llyfr hwnw? Byddai yn rhaid cael lle go fawr i'w gynwys, a bod yn siwr i chwi hefyd. Ond er mwyn ceisio gweithio allan gymeriad Mr. Richard yn mhob peth, yr ydym am roi ychydig o engreifftiau o'r pethau sydd yn draddodiadol. Gofynwyd iddo am ryw bregethwr ag oedd y pryd hwnw yn Sir Benfro, ond sydd yn awr er ys llawer blwyddyn yn wrthgiliedig, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn myned yn y blaen gyda chwi, Mr. Richard?" "Myned yn y blaen," ebe yntau; "nid ydyw yn myned yn y blaen, nac yn ol ychwaith, llwyr ei ochr y mae yn myned, fel cranc." Pysgodyn boglog, chwithig yw y crane; pan y mae yn ceisio myned y mae yn ymlwybro mor lledchwith, fel y mae yn ymddangos yn taro yn erbyn, ac am draws bob peth. Gofynwyd iddo am yr un gwr dro arall, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn pregethu gyda chwi, Mr. Richard?" "O," meddai, "y mae yn swnio yn debyg iawn i swllt drwg." Yr oedd yr hen weinidog ag amcan deg ar swn Duw yn y weinidogaeth; er fod rhyw gymaint o olch dynol ar y wyneb, yn ceisio gwneyd yr arian yn debyg i rai da; ond wrth eu taro yr oedd swn metel drwg. Y mae llawer o bethau yn gron fel swllt, a chymaint a swllt, ond nid pwysau ac nid swn swllt. Yr ydym yn cofio clywed am ddyn yn troi oddiwrth yr Annibynwyr at y Methodistiaid yn Penmorfa, a dygwyddodd hyny pan yr oedd Mr. Richard yn y lle. Arferiad cyffredin oedd galw cwrdd eglwysig yn ol wedi y bregeth, i gael y pregethwr yn y cwrdd hwnw. Felly gwnawd y tro hwn yn Mhenmorfa; a dygwyddodd hefyd i'r brawd hwn aros yn ol, yr hwn a ddarostyngwyd o dan holiad manwl ac ymchwilgar. Nid mor rhwydd oedd gan yr hen Fethodistiaid dderbyn aelod oddiwrth enwadau eraill, rhag, digon tebyg, fod rhyw gau ddybenion neu ryw beth cyffelyb. Holwyd y brawd hwn mor agos gan yr hen ddiaconiaid, nes iddo fyned yn anoddefol; collodd ei dymherau yn enbyd; fe allai ei fod yn dra gwyllt yn naturiol; nid ydym yn gydnabyddus gymaint a hyny. Pan welodd Mr. Richard ei fod wedi tanio, a'i bod yn enbyd i'r tân ymledu, cododd, a dywedodd, "Yn awr, frodyr bach, gwell fyddai i chwi na siarad chwaneg adael y brawd am wythnos neu ddwy i oeri; y mae ar hyn o bryd yn rhy boeth i wneyd dim o hono; gadewch iddo oeri, a gadewch iddo gael amser i hyny, wythnos neu ddwy, a chadwch lygad ar ei ol ef yn y cyfamser, canys y mae perygl, y mae y brawd yn wyllt iawn, a gall, o ddiffyg triniaeth briodol, fyned i beryglon mawrion. Edrychwch chwi, ffrynds, a deallwch fod gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl dall, diog, dihwyl, diysbryd, digalon, a dyddim, a cheffyl dall metelus. Gellwch ollwng y cyntaf yn rhydd ar ganol y ffordd; dyna lle y bydd dranoeth o fewn ychydig latheni, symud e ddim nemawr o gamrau; fel nad oes dim perygl, nac eisiau gofalu am dano. Ond deallwch, y mae ceffyl dall metelus yn wahanol iawn i hyny; peidiwch a gollwng ceffyl dall metelus yn rhydd mewn lleoedd peryglus, onide fe allai mai dros ei ben mewn rhyw chwarel y bydd mewn moment; canys fel y gwyddoch, bydd ceffyl dall metelus yn sicr o fyned i ryw le. Yn awr, ffrynds, ceffyl dall metelus yw y brawd hwn, rhaid i chwi fod yn bwyllog gydag ef, ac yn ofalus o hono; peidiwch a'i ollwng yn rhydd i fyned llwyr ei ben, canys y mae yn fetelus iawn; fe â na ŵyr nebi ba le mewn ychydig amser; y mae ynddo ysbryd uchel a gwresog iawn; y mae yn dra metelus, am hyny peidiwch a'i ollwng yn rhydd i ben heol; ond gadewch iddo fod yma am ychydig wythnosau i edrych a wna oeri, fe allai y gellir gwneyd rhyw beth o hono. Čeffyl dall metelus yw e, yr ych chi'n deall." Byddai yn trin cyflyrau blaenoriaid weithiau, dan siarad am geffylau; a byddai pawb yn deall pwy oedd y naill a'r llall wrth yr ymddyddan; er na fyddai efe yn siarad dim â'r dynion, ond am y ceffylau, "Ceffyl da yw Jack," meddai, "ond nid cystal a Phopet; y mae Popet yn haws i'w drafod, ac yn fwy ewyllysgar i wneyd pob peth. Onide y mae Jack yn geffyl da, cryf, pwerus; ond fe dry weithiau yn anewyllysgar a phenstiff; pan y bydd eisiau ei wasanaeth fwyaf, fe allai mai y pryd hwnw y bydd waethaf. Fe dyn Jack ddigon, deallwch chwi; ond y mae yn rhaid iddo dynu yn ei le ei hun, ac yn ei ffordd ei Y hun, onide thŷn ef ddim. "Thyn Jack yn un man ond yn y blaen; dodwch chwi ef yn y bôn, neu yn y canol, aiff i ymbrancio, a thynu yn ol, a gwneyd mwy o ddrwg nag o les. mae yn rhaid i Jack gael y blaen, deallwch, oblegyd ni thỳn e ddim pwys ond yn y blaen. Un da iawn ydyw, ond iddo ef gael tynu yn y blaen, ac yn ei ffordd ei hun; braidd nad yw yn ddigon cryf i dynu y llwyth ei hun. Gwneyd pob peth neu ddim y bydd Jack yn gyffredin; a pheth sydd yn beryglus iawn os na chaiff ei ffordd, try i gicio, nes y bydd y rhai olaf mewn perygl o gael eu coesau wedi eu tori. Ar y cwbl, yr ych chi'n deall, y mae Jack yn geffyl da, ond bydd rhyw gnaciau ynddo ar brydiau; pe gellid tynu y rhai hyny o hono byddai yn rhagorol; ond anhawdd iawn yw tynu cnac o hen geffyl. 'Dyw e ddim fel Popet, serch hyny; y mae Popet yn un ewyllysgar iawn; er fe allai nad yw mor bwerus a Jack; ond y mae yn haws ei drafod; nid ydyw mor ysgythrog ac yscaprwth, yn oicio a chnoi, ac yn pallu tynu dim ond o'r blaen. Fe dyn Popet, yr y'ch yn deall, yn mhob man; fe wnaiff ei oreu lle bynag y gosodir ef. Gosodwch ef yn y blaen, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y canol, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y bôn, fe dyn Popet yno hefyd. Gosodwch bwn ar ei gefn i fyned i'r felin, fe aiff e yn ewyllysgar o dan hwnw; gosodwch ddau neu dri o'r plant i fyned ar ei gefn i'r ysgol, fe wnaiff e hyny hefyd. Un rhyfedd yw Popet, fe wna efe gymaint ag y gall yn mhob man; ond am Jack, er ei fod yntau yn geffyl da yn ei ffordd, nis gellir ymddiried yn dda iddo wneyd pob peth. Gwell peidio mentro rhoi cŵd ar gefn Jack i fyned i'r felin, na'r plant i fyned i'r ysgol, rhag iddi droi yn brofedigaethus; gwell mentro ar Popet." Digon tebyg fod pawb yn gwybod pwy oedd Jack a phwy oedd Popet, o ddechreu yr ymddyddan. Cafodd allan fod rhyw chwech neu saith wedi bod yn ei drin ef yn arw wrth ysmocio yn ymyl rhyw danllwyth yn nhŷ cymydog, fel y bydd weithiau. O bell y cymerodd ei ddameg, y cyfleu cyntaf; a gwnaeth ddesgrifiad mor fanwl, fel ag yr oedd yn anmhosibl peidio deall yr holl drafodaeth. Rhostio Shôn y mae yn galw y drafodaeth hono. Fe fydd ambell dy hefyd, rhyw fath o bobdy moesol ydyw, lle y byddys yn ymgrynhoi i rostio cymeriadau gwell o lawer na hwynt eu hunain. Y mae yn debyg mai Mr. Richard ddygwyddodd fod o flaen y tân y tro hwn, a rhyw chwech neu saith wrth y gorchwyl, rhai yn cyneu y tân, eraill yn tywallt saim arno, ac eraill bob yn ail yn troi y bêr. Wedi iddo roi desgrifiad go glir o'u personau a'r lle, dywedodd, "Wel, ac fe ddarfu i chwi rostio Shôn; do y mae yn debyg; y mae Shôn wedi bod yn rhostio. 'Pwy oedd yn rhostio Shôn? pa sawl un oedd yn ei rostio?" 'Hwn a hwn; a hwn a hwn.' 'Neb arall?' 'Nag oedd; chwech oedd yno.' 'Na, yr oedd un arall.' 'Un arall; nag oedd, chwech oedd yno.' 'Nage, yr oedd saith.' 'Ni welsom ni ddim ond chwech.' 'Fe allai hyny; ond yr oedd saith yno.' 'Pwy oedd yno, ynte?' 'Pwy! yr oedd diafol yno, ffrynds; yr oedd y cythraul yno; oblegyd dynion yn ei law ef oedd yn rhostio Shôn. Wel, yr oedd y cythraul yno yn rhostio Shôn. Pwy hefyd?' 'Nid oedd neb arall.' 'Oedd; yr oedd un arall.' 'Pwy?' 'Yr oedd Duw yno yn edrych. Er nad oedd efe ddim yn rhostio Shôn, ond yr oedd ei lygaid yn edrych ar y weithred." Fe fydd Shôn yn cael ei gario i'r pobdŷ yn aml; ond yn gyffredin y rhai sydd yn ei ddwyn sydd yn llosgi, a Shôn yn diane; ond yn unig llosgi ei rwymau. "Dyn un-llygeidiog i chi," meddai wrth flaenor cyfrifol; "nid ydych yn gweled ond un-ochrog. Y mae ochr arall i gael, yr ydych chwi yn ddall o'r ochr hono." Yr oedd dyn bach o ddiacon go dda ond penderfynol yn ei ffordd yn Glanrhyd, a byddai Mr. Richard yn myned heibio yn awr a phryd arall, ac yn troi at Thomas bob amser i gael ceirch i'r ceffyl, ond nid oedd yn rhoi Sabbath un amser i bregethu, y mae yn debyg. Yr oedd Thomas yn annedwydd yn nghylch hyny, ac yn meddwl nad oedd yn degwch; ac eto yn methu cael digon o gryfder i ballu ceirch o herwydd y rheswm hwnw hefyd. Eithr wedi hir-oddef mewn cysylltiad â'r mater hwn, cyrhaeddwyd y pen draw i amynedd Thomas, a phenderfynodd ddyweyd y genadwri oedd yn gwasgu ar ei feddwl. Daeth Mr. Richard eilwaith heibio, a throdd at Thomas i dŷ y capel, gan ymholi yn nghylch ceirch. "Thomas bach," meddai, "ffordd yr ydych chwi heddyw? a oes tipyn o geirch i'r ceffyl i gael heddyw?" "Un tamaid," meddai Thomas. "Beth! dim ceirch, Thomas?" "Dim un tamaid," ebe Thomas; "nid oes yma ddim ceirch i neb ond y sawl sydd yn dyfod yma ar y Sabbath; cerddwch chi' i 'mofyn ceirch lle yr ydych yn myned ar y Sabbath." Meddyliodd Mr. Richard mai digrifwch Thomas oedd hyn; ond cafodd allan yn fuan ei fod yn ddifrifol; ac i'w ffordd y cafodd fyned hefyd, heb damaid o geirch. Galwodd Mr. Richard yno ar ol hyn i bregethu, ac wedi y bregeth yr oedd cyfarfod eglwysig, fel y byddid yn arferol gadw, er mwyn cael cynorthwy a chyfeillach y pregethwr. "Wel Thomas," meddai Mr. Richard, "beth sydd i fod yma heddyw? beth sydd genych ch'i, Thomas bach, ag eisiau siarad? Dyma'r bobl wedi aros yn ol, fel yr ydych chwi wedi dymuno arnynt; beth sydd a fynoch chwi a hwy? A oes genych ryw beth i ddyweyd wrthynt, neu ryw beth i roi iddynt? Beth sydd genych chwi yn awr mewn golwg, Thomas bach?" "Wel," ebe Thomas, "os gwelwch yn dda, syr, anogwch hwynt i ddyfod yma yn amlach, a bod yn fwy ffyddlon i'r cyfarfodydd; yn enwedig y cwrdd eglwysig." "Oh; a ydynt ddim yn dyfod, Thomas?" "Nac ydynt, ddim yn gyson." "Oh; pa fodd y mae hyny, Thomas? a wyddoch chwi ddim paham y mae y bobl yn peidio dyfod i'r society? beth sydd yn rhwystr i wybod hyny? Mae yn ddigon amlwg. Yr oedd dau amaethwr yn myned gyda eu gilydd i farchnad Aberteifi; ac ar y ffordd un yn gofyn i'r llall, Yn mha le yr ydych chwi yn rhoi i fyny yn awr acw?' 'Wel yn siwr i'r Black Lion yr wyf fi yn myned ers tro hir.' 'I'r Black Lion? wel, ai nid i'r Red Lion yr oeddych yn arfer myned?' 'Wel, ïe, ond i'r Black Lion yr wyf fi yn myned er ys lawer dydd.' 'Pa fodd y darfu i chwi newid? Y mae y Red Lion yn dŷ da iawn.' 'Ydyw yn weddol, ond nid cystal ag y bu; i'r Black Lion yr wyf fi yn myned, ac y mae yn ddigon tebyg mai yno yr af hefyd, oddieithr rhyw gyfnewidiad. Y mae y Red Lion yn burion; ond mi ddywedaf i chwi, nid oes nemawr o drefn yno, fe allai y cewch fwyd blasus weithiau, o ddygwydd; ond yn gyffredin diflas yw'r bwyd yno. Bydd y mutton yn haner digon, fe allai; y pytatws yn oerion, a phob peth o gwmpas yn fudr-nid oes dim cysur yn y byd yn y Red Lion er ys lawer dydd, am hyny yr wyf fi wedi gadael, ac yn myned i'r Black Lion yn awr; y mae lle cysurus iawn yno yn wastad. Cerddwch pryd y mynoch, bydd digon o dân yn yr aelwyd, a phob peth o'i gwmpas yn lanwaith, bwyd mewn mynyd yno, os bydd eisiau; pob peth yn dwymn ac yn ei flas, heb na gwaeddi-na mwstwr. Y Black Lion yw fy nhŷ i yn awr.' 'Wel yn wir,' ebe y llall, yr wyf fi yn meddwl y dof fi gyda chwi i'r Black Lion hefyd.<noinclude><references/></noinclude> m0imj2qhp7mykfxxr4jqg69t6dobnfc Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/268 104 84611 164395 2026-05-07T21:07:31Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""A ydych chwi yn deall, Thomas bach, fod y bobl yn myned lle y mae rhyw beth i gael. Nid oes eisiau eu cymhell i fyned i'r Black Lion, y maent yn myned eu hunain, ac yn gadael y Red Lion, oblegyd fod rhyw beth gwell i gael yn y Black Lion. Yr ydych chwi am anog y bobl hyn i ddyfod i'r society; gwaeth eu hanog hwy na pheidio, ni cheir ganddynt ddyfod, os nad oes yno ryw beth i gael. Y mae yn ddigon tebyg, Thomas bach, mai rhyw dŷ fel... 164395 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"A ydych chwi yn deall, Thomas bach, fod y bobl yn myned lle y mae rhyw beth i gael. Nid oes eisiau eu cymhell i fyned i'r Black Lion, y maent yn myned eu hunain, ac yn gadael y Red Lion, oblegyd fod rhyw beth gwell i gael yn y Black Lion. Yr ydych chwi am anog y bobl hyn i ddyfod i'r society; gwaeth eu hanog hwy na pheidio, ni cheir ganddynt ddyfod, os nad oes yno ryw beth i gael. Y mae yn ddigon tebyg, Thomas bach, mai rhyw dŷ fel y Red Lion yr ydych chwi yn ei gadw yma; nid oes genych ddim i roi ger bron y bobl. Pan y bydd eisiau bwyd arnynt, nid oes genych chwi ddim i'w osod ger eu bron, a'r ychydig sydd, oer iawn ydyw-ni fynant ei fwyta. Cedwch chwi dŷ da, a bwyd blasus a thwymn, Thomas, fe ddaw y dynion, onite gwaith anog mwy na pheidio. Peidiwch a bod fel Mali; yr un god at bob peth. Y mae Mali yn gwneyd tê, yn gwlychu y toes, yn golchi, yn smwddio, yn gwneyd teisen, yn golchi'r llestri, ïe, yn gwneyd pob peth ar yr un ford fach. Byddwch yn fwy taclus gyda'r grefydd, ffrynds; peidiwch a gwneyd pob peth mewn ffordd afler ac annyben; cofiwch fod pethau Duw yn bethau santaidd." Y mae y bai i gyd yn syrthio ar ben Thomas; ac fe allai fod helynt y ceirch wedi arwain gryn dipyn at hyny. Yr oedd dau bregethwr wedi taro allan i bregethu, a'r amser wedi dyfod i ben i siarad â hwynt yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd y ddau druain yn sefyll, neu yn eistedd, yn bur wylaidd heb fod yn mhell oddiwrtho. Y mae yntau yn codi, yn edrych yn mhell y tu hwnt iddynt hwy, ac yn gofyn, "A ydyw Thomas a Dafydd yma? a oes rhyw un yn gwybod a ydynt i mewn, a ydynt yn y capel, neu ar fedr dyfod? A oes rhai o honoch chwi yn deall y ffordd acw?" "Dacw hwynt," meddai rhyw un, "yn eich ymyl, Mr. Richard." "O felly; y maent yma, da iawn; gwell siarad ychydig â hwynt; pwy sydd yma a ymgymer å hyn o orchwyl, siarad tipyn â Thomas a Dafydd? dewch, byddwch yn frysiog; gofynwch ryw beth iddynt hwy. Y maent hwy yn bregethwyr yn awr; pregethwyr da iawn hefyd; y mae y bobl yn eu canmol. Y maent yn canmol Thomas yn annghyffredin; y maent yn canmol Dafydd hefyd am hyny, ond nid cymaint a Thomas: Thomas yw y pregethwr mwyaf, yr y'ch chwi yn deall. Y mae Dafydd yn bregethwr lled fawr hefyd, y maent yn dyweyd; mae efe o'r braidd yn ddyfnach na Thomas; ac y mae ceffyl da, a chwip dda, a chlogyn da gan Dafydd; y mae Dafydd yn ddyn go fawr. Aeth Dafydd i lawr i Dyddewi ar y ceffyl mawr, ac yn y clogyn mawr, ac a'r chwip fawr yn ei law, a phregethodd bregeth fawr ar ostyngeiddrwydd; ond aeth gartref dydd Llun eilwaith yr un ffordd, heb fod yn ostyngedig iawn wed'yn, 'roedd y bobl yn dweyd. Thomas yw dyn y bobl, efe y maent hwy yn caru glywed yn annghyffredin. Y mae y bobl yn fwy am Thomas nag am Dafydd; y mae rhyw beth ag sydd yn fwy deniadol yn Thomas, y maent yn dyweyd; yn fwy swynol, yn fwy soniarus, ac yn fwy serchus; un melus iawn yw Thomas. Y mae Dafydd yn bur dderbyniol hefyd, yr y'ch chi'n deall; ond nid mor dderbyniol a Thomas. Thomas yw eu dyn hwy, deallwch. Y mae rhyw beth yn llais Dafydd nad yw mor hyfryd a Thomas, er fod gan Dafydd lais, eithr nid mor soniarus a Thomas; Thomas yw eu dyn hwy. Mae Dafydd yn bur barchus gan lawer, yn pregethu yn dda; ond y peth sydd yn ei erbyn e yw, ei fod yn gryn graslyd; mae llais Dafydd, yr y'ch chi'n deall, yn gryn graslyd a sychlyd; nid oes dim soniarus a seimlyd ynddo, am hyny Thomas yw eu dyn nhw. Y mae Thomas yn gallu canu, ei lais sydd yn hyfryd; y mae yn fwyn, yn feddal, ac yn felus. Efe yw dyn y bobl." Aeth y cwrdd heibio heb siarad nemawr a hwynt, ond am danynt; a'r trueiniaid yn chwysu gan fraw a chywilydd. "Gwylder, beth yw gwylder? nid diffyg synwyr yw gwylder, nid diffyg bywiogrwydd, nid diffyg ymroddiad a llafur. Gellir bod yn wylaidd ac yn fywiog, yn wylaidd ac yn ymroddgar, yn wylaidd ac yn llafurus. Bydd ambell ddyn yn wylaidd ac yn wlanenaidd, yn wylaidd, gwylanaidd; ac felly gwylaidd, gwlanenaidd, a gwylanaidd yw hwnw. Bydd un arall yn fywiog, ond yn fachog, yn finiog, a gwydrog. Gellir bod yn fywiog heb fod yn fachog a miniog, ffrynds; a gellir bod yn wylaidd heb fod yn wlanenaidd ac yn wylanaidd." Byddai Mr. Richard yn cael peth difyrwch yn fynych ar draul Saesoneg Casgwys. Byddai yn myned i bregethu weithiau yn Saesoneg i Gasgwys, a manau eraill o leoedd Seisnig Sir Benfro. Ychydig o bobl, heblaw eu hunain, y mae yn debyg, sydd wedi meistroli Saesoneg Casgwys; y mae y wlad wedi bod am oesau yn haner cauedig i bawb ond hwy eu hunain; gellid meddwl nad oedd Mr. Richard ei hunan wedi ei meistroli yn llwyr, canys, fel yr ydym yn deall, yr oedd ef a hwythau yn methu deall eu gilydd bob amser. "Y mae yn rhaid cael dyn Casgwys at Saesoneg a Saeson Casgwys," meddai; "nid gwiw i neb fyned i siarad Saesoneg Casgwys, a siarad â dynion Casgwys, ond dyn Casgwys. Y ddau Llewelyn yw yr unig gampwyr ar Saesoneg Casgwys; y maent hwy yn ddynion Casgwys, wedi dysgu iaith Casgwys, yn gallu siarad â phobl Casgwys, a gwneuthur pob peth yn Gasgwysaidd. Saesoneg yr unfed ganrif ar bymtheg yw Saesoneg Casgwys, yr y'ch chi'n deall." Dywedir fod Mr. Richard yn myned i bregethu yno unwaith, ac iddo gymeryd yn destun, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." "Open thy mouth wide, and I will fill it." Yr oedd yn pregethu ychydig yn Gymraeg ac yn Saesoneg. "Sylwn," meddai, "yn y lle cyntaf, Y llanw; yn 2. Y Llanwr; 3. Y llanwedig. Ond yn gyntaf, y llanw. Y mae rhyw beth yn cael ei roi i mewn, chwi welwch. Llanw â phethau da. Yn ail, y Llanwr eto. Y mae rhyw un yn llanw. "Myfi." Yn drydydd, Y llanwedig. Pwy ydynt hwy? Y bobl a gyferchir fel y rhai a ddygwyd i fyny o'r Aipht." Y mae yn debyg mai wrth roi cyfieithiad llythyrenol yг aeth i ryw gymaint o dywyllwch y tro hwn. "From the words of the text," meddai, "we shall endeavour to notice the following particulars. In the first place, The fill; secondly, The filler; and thirdly, The filled." Yr oedd gwŷr Casgwys yn agor eu llygaid yn enbyd, fel pe buasent heb ddeall y cwbl. "An excellent sarmon, was'nt it?" meddai un o honynt; "but I could not understand what he meant by the 'fill." Beth bynag, penderfynwyd mai rhyw air dysgedig oedd y fill, y tu hwnt i ddirnadaeth gwŷr Casgwys. Er fod Mr. Richard yn gwneyd rhyw beth fel hyn weithiau, yr oedd yn deall yn burion pan y byddai wedi myned i ddyryswch. Oblegyd pan yr ydym yn edrych ar ei gyfansoddiadau Saesoneg, y rhai a ddarparwyd erbyn rhyw gyfarfodydd penodol, yr ydym yn synu at eu perffeithrwydd. Yr oedd dyn yn Abergwaen yn rhyw haner call, ac eto, fel y bydd y cyfryw yn fynych, yn lled gyfrwys a chyflym mewn rhyw bethau. Yr oedd yn perthyn i'r capel, ac un o'r rhai mwyaf ffyddlon a gwresog yn ei ffordd ef ag oedd yn perthyn iddo. Beth bynag, syrthiodd Robyn mewn profedigaeth enbyd un diwrnod, trwy fod y bechgyn ar hyd yr heol yn ei wawdio, gan ddywedyd rhyw bethau wrtho nad oedd yn eu hoffi. Ond yn anffortunus, yn lle gwylio a gweddio, syrthiodd Robyn i'r brofedigaeth o regu; a thyngu yn enbyd a wnaeth wedi myned i natur ddrwg felly. Wrth gwrs, yn gymaint a'i fod yn perthyn i'r achos crefyddol, nis gallesid edrych dros ben y bai heb wneyd rhyw gymaint o sylw arno. Mewn amser cyfaddas, pan oedd y frawdoliaeth wedi dyfod yn nghyd, galwyd Robyn ger bron i gael rhoddi rhyw gyfrif am dano ei hun. Daeth yn ewyllysgar ac yn fywiog, ac ni chynygiodd roi un amddiffyniad ger bron, eithr syrthiodd yn onest, a chyfaddefodd wirionedd y cyhuddiad. Yn gymaint a bod cerydd yn angenrheidiol, a cherydd trwm hefyd am fai mor ysgeler, dyma un o'r blaenoriaid yn codi â chwip go drom, ac yn dechreu ei rhoi hi i Robyn yn lled chwimwth. Nid oedd Robyn, mwy na llawer eraill, yn teimlo y "cerydd dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd," am hyny y mae yn siglo, ac yn cynhyrfu, ac yn dyweyd wrth y gwr a'r chwip, "Chwi sydd yn gallu siarad, ai ïe? Pwy oedd y gwr giliodd o Sir Aberteifi â .?" Wedi taro y diacon hwn ar ei drwyn ac ar ei fan tost, cododd un arall, i lachio ar Robyn, gan ddal ei drosedd mewn lliwiau aruthrol o'i flaen. Yr oedd y brawd hwn wedi dygwydd saethu at ryw un ag oedd yn dyfod o gwmpas y tŷ heb roesaw, ac y mae yn debyg i ychydig o'r shots fyned i dewder ei forddwydydd, a pheri cryn gynhwrf. Yr oedd Robyn yn gryn gydnabyddus â helynt y gymydogaeth, hen a diweddar, fel y gwyddai am bob ysmotyn du ar bawb, hwy a'u hynafiaid. Pan yr oedd hwn yn y weithred o arllwys ei felldithion ar Robyn am dyngu a rhegu, "Ah, ah," meddai Robyn, "pwy oedd y gwr saethodd y dyn pan yr oedd yn ymofyn y ferch, wn i yn y byd?" Wedi taro hwn ar ei fan gwan, a'r bobl yn methu dal y brofedigaeth, ond yn hollti allan gan chwerthin, dyma Mr. Richard yn codi yn sobr a difrifol iawn, gan ddywedyd fod y peth o bwys, ac na ddylid ei gymeryd yn ysgafn, yn gymaint a bod Robyn yn aelod, ac iddo syrthio i'r brofedigaeth o regu yn gyhoeddus; y dylid rhoi rhyw gerydd arno, er dangos anfoddlonrwydd ar y cyfryw ymddygiadau, fel y gweddai i Gristionogaeth. "Ah, ah," ebe Robyn, "pwy oedd y gwr ladratodd y wraig drwy y ffenestr?" Os drwg cyn hyn, aeth yn llawer gwaeth wed'yn, fel y gorfuwyd adael Robyn wrth ychydig o gerydd. Byddai Mr. Richard, o herwydd ei allu i siarad, ac yn yr arferiad o siarad cymaint, yn fynych yn cario allan lawer o bethau yn mhell y tu hwnt i derfynau gweddeidd-dra; ond rhyw bluf lleision yn nghyfansoddiad ei gymeriad oedd y rhai L hyny, pan y delai allan i gymdeithas o ganol astudiaeth ddwfn a phryderwch calon. Onide, a'i gymeryd yn y cwbl, pwysigrwydd, prudd-der, gofal am bob peth, llafur diflino, a phenderfyniad diysgog, oedd elfenau ei gymeriad ef. Gwnai digrifwch weithiau, ar draul ambell ddyn, nes yr oedd yn anmhosibl i neb fod yn sobr, a gwneyd ei eithaf; ond er hyny nid oedd neb yn gofidio cymaint ag ef yn y canlyniad. Dywedir y byddai yn ocheneidio yn brudd pan y gwelai ei fod wedi cario pethau allan yn rhy bell, a thrwy hyny gynyrchu ysgafnder gormodol. Yn gymaint ag nad ydym yn meddwl ymwneyd ryw lawer â phethau traddodiadol am Mr. Richard, fe ddichon fod yr ychydig engreifftiau a roddwyd yn llawn ddigon er egluro rhyw beth dygwyddiadol oedd o gwmpas ei gymeriad, canys nid ydynt yn cyfansoddi un brif elfen, neu egwyddor hanfodol yn y cymeriad. Hefyd, mae y cyflawnder, bron diderfyn o ddefnyddiau sydd ger ein bron, yn gosod angenrheidrwydd arnom i dalfyru yn fwy nag y dymunem yn aml.<noinclude><references/></noinclude> sylmw1dh6uj4d18ubo8lgh6g2ebraku Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/273 104 84612 164396 2026-05-07T21:08:23Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD XVIII. Penod arall i bawb. DIGON tebyg y bydd y rhai a elwir yn feirniaid yn dweyd y dylai y benod fechan hon fod gyda'r benod arall i bawb; yr ydym wedi dewis amrywio ychydig ar bethau, trwy ranu yr ymadroddion dewisol hyn o eiddo Mr. R., a gosod rhyw faint o bethau eraill rhyngddynt. Nid ydym yn gweled fod llawer o bwys yn y mater; ac os yw rhai o'r gwŷr call yn dewis barnu yn groes i ni yn hyn, nid oes drwg yn y byd yn hyn... 164396 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD XVIII. Penod arall i bawb. DIGON tebyg y bydd y rhai a elwir yn feirniaid yn dweyd y dylai y benod fechan hon fod gyda'r benod arall i bawb; yr ydym wedi dewis amrywio ychydig ar bethau, trwy ranu yr ymadroddion dewisol hyn o eiddo Mr. R., a gosod rhyw faint o bethau eraill rhyngddynt. Nid ydym yn gweled fod llawer o bwys yn y mater; ac os yw rhai o'r gwŷr call yn dewis barnu yn groes i ni yn hyn, nid oes drwg yn y byd yn hyny. Fe wel y darllenydd nad oes dim yn diane rhag meddwl grymus a sylw craffus Mr. Richard. Bydd y rhan fwyaf o bethau yn eu tro yn syrthio o dan lymder ei feirniadaeth; weithiau y byd hwn, weithiau sefyllfa boliticaidd y deyrnas a'r byd, weithiau yr Eglwys Wladol, weithiau y gwahanol sectau; brydiau eraill pregethwyr a diaconiaid, a'r Cyfundeb y perthynai iddo yn neillduol. Byddai pawb yn eu tro yn dyfod o dan ei sylw; ac yn gyffredin iawn yn cael chwareu teg oddiar ei law. Nid ydym yn meddwl fod ynddo un amcan am wneyd cam â'r byd, yr eglwys, personau neillduol, na dim arall; eithr yn hytrach rhoi barn gyfiawn ar ba beth bynag ddelai o flaen ei sylw; ac yn gymaint a bod y fath graffder yn ei feddwl, a'r fath annhueddrwydd yn ei farn, nid yn aml y mae yn methu cyrhaedd y nod. Byddai llawer yn digio yn aethus wrtho, fel pe buasent wedi cael halen ar eu clwyfau; ond waeth beth yn y byd, digio wrth y gwirionedd oeddynt. Bydd rhai pobl gall yn meddwl y gallesid cymeryd gwell ffordd i ddyweyd, rhyw lwybr esmwythach ati; beth bynag am hyny, yr oedd y gwirionedd yn sicr o fod yn elfen rymus yn y dywediadau; ac nid yn unig ryw wirionedd, eithr y gwirionedd angenrheidiol yn wyneb yr amgylchiadau. Yr ydys yn dyweyd yn fynych fod ffordd ar ddyweyd gwirioneddau. Wel, oes y mae; ond pa ffordd yw hono, wed'yn? Y mae eisiau penderfynu y pwne hwn. Ffordd rhai yw dyweyd, a pheidio dyweyd; siarad rhyw beth, ac nid y peth. Dyweyd er mwyn i'r dyn beidio teimlo, ac eto y mae eisiau iddo deimlo; ni wna dyweyd les, ond wrth iddo deimlo. Pwnc mawr ambell un yw dal ei hun i fyny yn barchus gyda phawb, ac o ganlyniad nid ydyw yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, wrth neb, nac wrtho ei hun ychwaith. Yr oedd Mr. Richard yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, er mwyn iddo gael ei effeithiau priodol ar y rhai y perthynai iddynt, ac er mwyn iddo ef ei hun hefyd fod yn "rhydd oddiwrth waed pawb oll." Y mae hwn yn bwne y dylid talu peth sylw iddo; a'r dyn ag sydd yn talu sylw priodol i hwn, nis gall lai na syrthio yn ysglyfaeth yn aml i dafodau dynion; ond wed'yn, fel pob gwynt arall o'r fath, y mae hwnw yn myned heibio yn fuan, a'r gwirionedd yn cymeryd ei le yn dawel yn nghydwybod cymdeithas. Y mae gan gymdeithas gydwybod; ac ar ol ychydig o helynt gyda'r peth hyn a'r peth arall, y mae yn dyfod o'r diwedd i gael ei brofi a'i benderfynu at gydwybod cymdeithas, y llys mawr hwnw lle y mae brenin yn gystal a deiliad yn sefyll ger ei fron; dedryd yr hon yn gyffredin sydd yn bur gywir, ac anhawdd ei throi yn ol. Yn nghynhyrfiad y foment, pan y bydd cymdeithas yn berwi fel crochan, y mae llawer un wedi goddef cam a cholled; eithr wedi i'r hen grochan ymlonyddu, a gwylltineb y foment wedi myned heibio, y mae yr achos eilwaith yn cael ei wysio i lys cydwybod cymdeithas; y tystiolaethau oll yn cael eu gogrynu i'r gwaelod, ac yn fynych barn fyrbwyll y cynhyrfiadau yn cael ei throi yn ei hol. Bu Mr. Richard yn cael ei brofi ganwaith yn chwil-lys y cynhyrfiadau, a'r barnwr cenfigen ar yr orsedd, am ddyweyd mwy o wir nag oedd pobl yn gallu dal; a chondemniwyd ef mor aml i ddirwy, carchar, a fflangellau; eithr erbyn heddyw y mae cydwybod cymdeithas wedi ei ryddhau, wedi ei gymeradwyo, ac wedi cyhoeddi dedryd mai efe oedd yn iawn, mai efe oedd yn cyflawni ei ddyledswyddau, ac yn gwasanaethu ei Arglwydd a'i genedlaeth. Gwelir heddyw fod ei eisiau, ond nid ydyw i'w gael; cyfeirir at ei ddefnyddioldeb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, ei onestrwydd, a'i ddidueddrwydd, fel pethau ynddo wedi myned i golli, a cholled nad ellir dyweyd ei maint ydyw. Ychydig iawn o ddynion mawr sydd yn cael cyfiawnder oddiar law cymdeithas yn eu dydd. Y maent, trwy ryw beth neu gilydd, yn effeithio cynhyrfiadau parhaus mewn cymdeithas, a hono yn berwi i fyny bob peth am draws eu gilydd, a'r cwbl am draws eu hewyllysiwr goreu. Eithr pan ymlonydda yr ymferwad, bydd y sylweddau trymion yn sefydlu i lawr ar y gwaelod. Yn awr, yn mhen dau can mlynedd, y mae yr anfarwol Cromwell yn dechreu cael cyfiawnder. Ar ol bwrw llwch arno am ychydig oesau yn y cylchoedd mwyaf cynhyrfus, ac ar ol i hen grochan breninol Lloegr daflu dwfr berwedig malais arno am oes, y mae cydwybod oleuedig ein hoes ni yn cael yr anrhydedd o gondemnio ei erlidwyr, a gwneyd cyfiawnder å dyn mwyaf ei oes, os nid mwyaf unrhyw oes, gan roi ei le priodol iddo yn hanesyddiaeth ei wlad. Y mae Mr. Richard yn awr, pan yn gorwedd yn y bedd, yn dechreu cael ei gydnabod yn ddyn o ddefnydd mawr yn ei oes; canys wedi ei golli y gwelwyd ei eisiau; canys nid oes neb wedi dyfod i'r golwg hyd yn hyn allasai lanw ei le. Cyn iddo fyned, braidd na fuasai llawer ysgogyn yn barod i ddyweyd na fuasai yn golled yn y byd ar ei ei ol ef; ond rhyw un oedd ag eisiau rhagor o le oedd hwnw. Dyna y lle yn wag yn awr; ond yn mha le y mae y dyn sydd yn teimlo ar ei galon i neidio iddo? Pe bai y fath ynfytyn i gael, ni fyddai yno yn hir, canys byddai fel pêl yn cael ei droedio gan gymdeithas, neu fel asyn gwyllt yn cael ei hela nes ei ddifa yn llwyr. Chwi welwch (yn ei ddywediadau ar wahanol faterion) ei farn gywir am bethau, yn nghyda'i ofal manwl dros y gwirionedd. Mae ei feddylgarwch parhaus, a manylwch ei sylw yn dyfod i'r golwg yn mhob brawddeg; am hyny yr ydym yn eu gosod i egluro hyny yn benaf, heblaw eu bod yn wir werth i'r darllenydd. Yr ydym yn gosod Mr. Richard i ddyweyd llawer drosto ei hun, yn gymaint a'n bod yn meddwl nad oes yr un desgrifiad yn y byd o hono all wneyd hyny mor effeithiol. Gan ei fod yn cael siarad am bob peth yn ei eiriau ac yn ei ddull ei hun, bydd cyfleustra teg gan ein darllenwyr i weled gwahanol linellau ei gymeriad, a thynu eu casgliadau eu hunain oddiwrth y cwbl. Dysgu gan Grist sydd yn gwneyd dysgyblion i Grist. Mae y ddysgeidiaeth i gyd mewn un wers; hyny yw, gostyngeiddrwydd; hon yw y wers gyntaf i'w dysgu, ac y mae i'w pharhau holl ddyddiau ein bywyd. Hon yw y wers fwyaf; mae y lleill i gyd yn hon; hon yw y flaenaf a'r uchaf yn ysgol Crist; cyrhaedd hon yw cyrhaedd y class uchelaf yn ngholeg yr Iesu. Prawf am y dysgwr goreu yw gweled nad yw wedi dysgu dim. Wrth bob tebyg y mae rhyw gyfnewidiad mawr i gymeryd lle heb fod yn mhell iawn yn y byd crefyddol, naill ai cyfyngu rhyddid trwy gaethiwed erledigaeth, neu ei helaethu trwy rym ysbryd Cristionogaeth. Mae fel pe bai gwaeyw dirdyniad yn y deyrnas hon mewn pethau crefyddol; am hyny edrychwn at yr Arglwydd, yr hwn sydd yn cuddio ei wyneb oddiwrth dŷ Israel. Dysgwyliwn wrth Dduw ein hiachawdwriaeth, canys efe a wrendy ei bobl, canys ynddo ef mae gobeithio bob amser. Duw yn Dad yw y cwbl am berthynas a gofal; Duw yn Dduw yw y cwbl am addoli; Duw yn Nghrist yn graig iachawdwriaeth yw y cwbl am fywyd tragywyddol; iaith hyn yw, A'm ceir ynddo ef! Ffugio cenad a chenadwri dros Dduw yw y ffugiad mwyaf sydd yn bosibl yn yr holl fyd; mwyaf ei berygl, a mwyaf ei ganlyniad. O gwared fi, Arglwydd daionus. Mae cymaint o eisiau Gwaredwr at fedru cynal a pherffeithio bywyd ysbrydol, ag sydd at ei roddi. Nid oes dim ond gwaredu yn achub. Mae yn rhaid am Grist yn Waredwr bob mynyd o fywyd credadyn, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y defnydd hyn o hono yw y gogoniant mwyaf arno. Llaw y Gwaredwr yw cwbl y colledig, nid yn unig i waredu oddiwrth bechodau, ond hefyd i gynal, i nerthu, ac i ddysgu i gyflawni dyledswyddau; i waredu oddiwrth ffordd y celwydd, gyda phob peth crefyddol, ac yn raslawn rhoddi ei gyfraith yn egwyddorion crefyddol. Mae yr amseroedd dyeithr a rhyfedd hyn dan bregethiad y gair yn dangos ac yn galw ar bawb Cristionogion at ddyledswyddau arbenig. Yn gyntaf ar bregethwyr y gair, i edrych yn ddyfal eu bod yn gywir, yn iawn gyfranu gair y gwirionedd; eu bod yn gywir yn y gwaith, fel y gweddai i Dduw, yn gynnrychiolwyr Crist; a'u bod yn gywir am ddyben y gwaith, yr hyn yw cadw, trwy gredu y gair a bregethir. Yn ail, ar henuriaid llywodraethol, i edrych yn ddyfal na byddo eglwys Dduw, yr hon yw tỷ Dduw, ddim yn cael ei oddef i fod yn ogof lladron. Yn drydydd, ar bawb a wisgant enw Cristionogion yn gyffredinol i beidio a chydffurfio â'r byd hwn, yr hyn yn amlwg a wneir i helaethrwydd mawr mewn ysbryd, geiriau, agweddau, ac arferion. Os clywir yr alwad uchel sydd at y dyledswyddau hyn, parotoir ffordd yr Arglwydd i'w rasol ymweliad; os na wneir, fe ellir dysgwyl moddion goruchwyliaeth arwach, a bâr i gnawdolrwydd y byd Cristionogol wybod pwy yw yr Arglwydd, yr hyn sydd warthrudd i Gristionogaeth y dyddiau hyn. Mae penarglwyddiaeth mewn cyflawni arwyddion; mae holl ofal Cristionogion i fod am eu dyledswyddau; mae y naill i ddynion, i Dduw mae y llall. Mae Pharisead a phublican yn mhob Cristion. Pharisead yw yr Adda cyntaf, hen ddyn y Cristion. Y publican yw yr ail Adda, y dyn newydd; nis gall y rhai hyn fod heb wrthwynebu eu gilydd; canys gwrthwyneb i'w gilydd yw eu holl gynwysiad, eu hegwyddorion, eu hunain, a'u hanfod oll. Mae yr elyniaeth sydd rhwng y ddau had yr un peth o ddechreu i ddiwedd y byd, heb newid, heneiddio, na gwellhau dim. Mae Cain yn lladd Abel yn barhaus; mae dawon Lot yn ei ddirmygu yn barhaus; mae Ahab yn blino Israel yn barhaus; mae Jezebel yn erlid Elias yn barhaus; mae Saul yn erlid Dafydd yn harhaus; mae taflu y llanciau i'r ffwrn danllyd yn barhaus; mae taflu Daniel i ffau y llewod yn barhaus; mae Herod yn ceisio lladd yr Iesu yn barhaus; mae Herod yn tori pen Ioan Fedyddiwr yn barhaus; mae Paul a Silas yn cael eu carcharu yn barhaus. Ambell waith y gwelir hyn; ond aml waith y mae hyn. "Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Mae yr un peth i'w bobl trwy holl oesoedd y byd, o'i ddechreu i'w ddiwedd; os nid yn yr un dull llythyrenol, eto yr un peth o ran cynwysiad rhinweddol. Mae yn gwaredu ei Lot o Sodom a'i Israel o'r Aipht; a'i gigfrain yn porthi Elias; mae yn gwaredu ei lanciau o'r ffwrn dân, a Daniel o ffau y llewod, a Job oddiwrth ei gam gyhuddwyr, a Moses oddiwrth ei genfigenwyr, a Dafydd oddiwrth ei watwarwyr, a Jeremiah oddiwrth ei ddirmygwyr, a Paul oddiwrth ei gernodwyr. Mae hyn yn cael ei wneyd yn barhaus; a hyn yw holl amddiffyn ei bobl brofedigaethus, ag sydd yn cadw meibion Jacob rhag eu dyfetha, "Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Ofnir yn nghylch gweddi rhag heb fod yn Nghrist, ac felly heb fod yn weddiwr; rhag bod heb weddio yn yr Ysbryd Glân, rhag nad yw ewyllys Duw yn gynwysiad gweddi, rhag nad yw dyben a nod gweddi yn ysbrydol, ac heb ddyfod at Dduw trwy Grist: oblegyd hyny, os gwneir yr ofnau hyn yn hysbys ger bron Duw, ni'n siomir, canys gorchymynir gwneyd ein deisyfiadau yn hysbys ger bron Duw am bob peth. Cymdeithasu â'r Arglwydd yn mhob peth yw bod yn ddiolchgar iddo am bob peth a fwynheir, ymostwng iddo dan bob peth a ddyoddefir, ymddiried ynddo yn wyneb pob peth a ofnir, dysgwyl wrtho am bob peth a ofynir. Mae natur y gymdeithas mewn mwynhad, i fod yn ol gweithrediad y gymdeithas. Nid yw ymostwng dan ddyoddefiadau, ac ymddiried ynddo yn wyneb ofnau, a dysgwyl wrtho am ateb deisyfiadau, mor ddyddanus cymdeithas a molianu yr Arglwydd am fwyniant cysurus; eto mae mor sylweddol gymdeithas, canys y mae yn ufudd-dod ffydd. Mae y fath beth ag i gydwybod bur wybod bod ei phob peth yr un peth a gwir Gristion, am gyflwr, am egwyddor, am ewyllys, am ddymuniad, am wirionedd yr athrawiaeth; am ddyledswyddau crefyddol, am fuchedd ymarweddol; ac eto mewn ofnau oddiwrth rym llygredigaethau, a byr brofiadau, grym annghrediniaeth, a thuedd gryf hunanoldeb, rhag nad yw y gwirionedd edd sydd sydd yn achubol ddim wedi ei feddu; yn wyneb hyn y mae hunan-ymholiad, gwyliadwriaeth, a gweddi i barhau mewn ymarferiad tra parhao y bywyd. Purdeb yr ysgrythyrau yw rheol a nod purdeb yr athrawiaeth; perffeithrwydd yr athrawiaeth yw rheol a nod ffydd gwir Gristion i gredu ac ymestyn i'w gyrhaedd; ac oblegyd mor lleied a gyrhaeddir mae yn peri ofn rhag bod heb gyrhaedd dim; eto fe ddylai gweiniaid yn y ffydd sydd yn wastad yn ofni pob peth, ystyried mai mewn rhan ac mewn ymdrech gorchestol y cyrhaeddir y perffeithrwydd hwn gan bawb yn y bywyd hwn. Mae dymuniadau a gweddiau am ei gyrhaedd yn brawf o'i feddu; er y dichon mai mewn rhan yr adwaenir hyn. Mae yn rhaid bod yn Gristion neu fod yn ddim; nid Cristion oblegyd enw, fel y gwneir gan feilchion cnawdol, ond enw oblegyd<noinclude><references/></noinclude> ib0kdvmal2us7qxyo0l99564xoiov6b Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/278 104 84613 164397 2026-05-07T21:09:38Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Cristion, pa beth bynag fyddo yr enw. Mae Pabydd yn Gristion, os gall y fath beth fod, yn well nag enw Protestant heb fod yn Gristion. Mewn sylwedd mae rhinwedd, nid mewn enw. Mae medru iawn agwedd yn wyneb colli trwy angau rai defnyddiol yn brin, a hyny lawer iawn oblegyd anystyriaeth, a diffyg iawn ystyried; canys mae amser terfynedig i ddyn ar y ddaear. Ni eir dros hwnw gan neb. Mae hyn i dewi pawb; maemarw yn ddygwydd i bob dyn.... 164397 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cristion, pa beth bynag fyddo yr enw. Mae Pabydd yn Gristion, os gall y fath beth fod, yn well nag enw Protestant heb fod yn Gristion. Mewn sylwedd mae rhinwedd, nid mewn enw. Mae medru iawn agwedd yn wyneb colli trwy angau rai defnyddiol yn brin, a hyny lawer iawn oblegyd anystyriaeth, a diffyg iawn ystyried; canys mae amser terfynedig i ddyn ar y ddaear. Ni eir dros hwnw gan neb. Mae hyn i dewi pawb; maemarw yn ddygwydd i bob dyn. Yn wyneb hyn mae cymeryd ymaith o flaen drygfyd yn annealladwy i'r rhan fwyaf. Fe all y bydd barn a thrugaredd yn y symudiad hwn: trugaredd i'r hwn a symudir, a barn i'r rhai y symudir oddiwrthynt. Gwell i'r eglwys fyddai i rai defnyddiol gael aros ynddi, er mai gwell i'r defnyddiol fod gyda Christ yn y nefoedd, na bod dros Grist ar y ddaear; ac os deallir y bydd rhyw ganlyniadau niweidiol, fel bleiddiau i blith y praidd wedi ei ymadawiad, ni ellir peidio ofni pan byddo tebyg i hyn. Mae gwirionedd yn mhob un o'r ystyriaethau hyn, ac i'r rhai byr eu golwg mae yn anhawdd deall pa un sydd yn bod pan symudir offerynau defnyddiol o eglwys Dduw, canys y mae i bob un o honynt eu lle priodol. Mae syniad cywir am y peth sydd yn perthyn i'r amgylchiad, fel y mae yn ddeall arwyddion yr amserau. Priodol yw gofyn yn aml yn wyneb hyn, "Oni fedrwch arwyddion yr amserau?" Peth angenrheidiol at fod y gair yn fuddiol wrth wrando, yw iawn dymher ar y meddwl i wrando, yr hyn yw pob parodrwydd meddwl. Mae gwrando y gair heb ddim parodrwydd meddwl yn anystyriaethyn ddiystyr o hono. Mae haner parodrwydd meddwl yn effaith rhagfarn at y gair. Pob parodrwydd meddwl yw yr iawn dymher. Cynwysiad hyny yw, chwenych didwyll laeth y gair, at gynyrchu trwyddo y budd sydd i'w gael trwy y gair, y defnydd sydd yn y gair at fod yn fuddiol; chwenych y gair oblegyd buddioldeb ei ddefnydd, yw chwenych didwyll laeth y gair, er mwyn cynyddu trwyddo. Cael pob peth gan Dduw yn ei gymod, cael pob peth gyda Duw wrth ei fodd, cael pob peth Duw i'w ogoneddu, yw pob cael yr wyf yn ei geisio ag sydd yn eisiau i mi i'w gael. Y mae math o dymherau yn perthyn i'r natur ddynol, yn rhai dynion sydd yn annhebyg i'w meddyginiaethu; canys ni chymerant un amser addysg, gan na chynghor, esiampl, na chyfarwyddyd. Asyn yn dechreu byw, ac asyn yn dybenu. Mae yn anhawdd adnabod effeithiau gras ar y rhai hyn lle mae. Yr un rheswm sydd am bob peth yn nghynwysiad yr iachawdwriaeth; hyny yw, y maddeuant sydd gyda Duw. Y rheswm am gymeradwyaeth personol trwy gyfiawnhad yw ei drefn yn maddeu. "Gwyn fyd y dyn y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod;" hwnw yw, yr hwn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac nid oes dichell yn ei ysbryd. Felly hefyd yw y rheswm am waith yr Ysbryd Glân yn santeiddhad y natur-gosod ei gyfreithiau yn y meddwl, a'u hysgrifenu yn y galon, a bod yn Dduw iddynt, a hwythau yn bobl iddo yntau; a hwn yw y rheswm, "Canys trugarog fyddaf wrth eu hannghyfiawnderau hwynt, a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach." Y ffordd i feddu hyn yw gwneyd fel mae yr Arglwydd yn gorchymyn am hyn: ac y mae wedi rhoddi ei addewid am lwyddiant sicr wrth hyn. "Neu ymafled yn fy nerth i," yr hyn yw trefn fy nghymod i; "fel y gwnelo heddwch â mi; ac efe a wna heddwch â mi," yw yr addewid fawr rasol, sicr, ac anffaeledig. Mae ysbrydol a thragywyddol yn ddirgeledigaethau nas gellir eu hamgyffred: yr holl wybodaeth a ellir gael am danynt sydd trwy gredu tystiolaeth gair yr Arglwydd. Mae tystiolaeth y gair yn ol ei santeiddrwydd, ei ysbrydolrwydd, a'i wirionedd, a phregethiad pob cangen o'i athrawiaeth, a gwaith yr Ysbryd Glân yn y saint, a chyffes eu gobaith, ac ymarweddiad addas i'r efengyl, i fod yn unffurf ac yn gydffurf; mor amlwg mewn ymddangosiad, fel nas gellir dangos un annghydgordiad rhyngddynt mewn dim, canys nid oes dim yn ei hegwyddor, ei chynwysiad, na'i dyben, ond purdeb, sobrwydd, a gwirionedd. Mae y gwŵyriad lleiaf oddiwrth hyn yn pechu yn erbyn Duw; mewn ysbryd, mewn tymher, mewn geiriau, mewn gwisgiadau, mewn agweddau, mewn neb rhyw dremau gydag ymarferiad o'r gair, mewn unrhyw fodd; yr hyn yw yr anmharch mwyaf arno. Offeiriadaeth Crist yw fy oll am gymeradwyaeth gyda Duw yn wyneb fy euogrwydd, fy halogrwydd, a'm condemniad; breniniaeth Crist yw fy oll am oruchafiaeth ar fy holl elynion, tu fewnol ac allanol, byd, cnawd, ac uffern; prophwydaeth Crist yw fy oll am ddysgeidiaeth yn wyneb fy mawr dywyllwch, fy mawr anwybodaeth, fy mawr gyfeiliorni am bob peth ysbrydol. Mi ddymunwn gau fy hunan, trwy nerth Ysbryd Duw, yn y noddfa hon, a'r deisyfiad hwnw rhyngof a myned allan byth o honi, "A'm ceir i ynddo Ef." Yn ol cyfraith mae adnabod pob peth. Wrth gyfraith yr Arglwydd mae adnabod dyn; wrth gyfraith y deyrnas mae adnabod y deiliaid; wrth y gyfraith mae adnabod y cyfreithiwr. Mae dysgu y gyfraith a'i thori gan yr un, pa beth bynag fyddo yn ei beri, yn gwadu iddo y swydd a'r enw. Mae pregethu y gwirioneddau, a byw yn groes iddynt, yn dangos heb fod yn wir bregethwr. Ofni yr Arglwydd yw enaid a sylwedd pob peth sydd yn y byd. Yr efengyl mewn nerth a sicrwydd mawr yn mhlith dynion a geidw rhag paganiaeth; yr hyn yw elfen llygredigaeth. Atebiad i weddiau a geidw fywyd mewn Cristionogion ac mewn dyledswyddau Cristionogol. Nerthu o wendid, nerth i'r diffygiol, amlhau cryfder i'r dirym, hyn yw eysur bywyd pererinion. Mae hyder gau obaith wedi ei ddangos lawer gwaith yn gryfach na hyder gwir obaith, a hyny yn wyneb marw, mewn eilun-addolwyr, a phob math o gyfeiliornwyr; mae hyn oblegyd bod heb gredu y gair, a bod yn haws i natur lygredig gredu celwydd na chredu gwirionedd, a bod cryfach dylanwad gan bob peth cnawdol dan wisg grefyddol ar natur yn y cnawd yn unig, nag sydd lle mae cnawd ac ysbryd yn gwrthwynebu eu gilydd; ac oblegyd y duedd sydd yn mhob dyn at hunan-achubiaeth, a'r effeithiad mwy sydd gan olwg plaeth, a theimlad ar ddyn yn ol hyny na ffydd, ac a ddefnyddir gan y temtiwr i hyn. Mae porth angau yn wahanol iawn i'r meddwl cyffredin am dano. Mae yn y porth hwn holl gynwysiad a therfyniad y bywyd presenol, a holl gynwysiad a dechreuad byd tragywyddol; ac y mae y ddau, naill ai gwae neu wynfyd, yn gysylltiedig adnabyddus yn y porth hwnw i bob un. Mae y ddau hyn yn gwneyd y meddwl am farn yr un mwyaf pwysig. O am noddfa, O am noddfa! Gwir ddymuniad am ffydd yw at gredu y gair, i gael rhoddi y gogoniant i gyd i Dduw; ac am y ffydd gryfaf at roddi y gogoniant mwyaf i Dduw; mae hyn yn dangos anian dduwiol, anniwallus ei hawydd am air Duw, ac i gredu er mwyn Duw. Efe yw gwrthddrych pob peth y duwiol: gwrthddrych yr holl ysgrythyrau, gwrthddrych yr holl rasusau, gwrthddrych ei holl gyfiawnderau, a'i ddymuniadau. Wrth fodd Duw yn nghyfiawnder Duw, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd Crist; wrth fodd Duw yn ffyrdd Duw; wrth fodd Duw yn llewyrch wyneb Duw, yw y cwbl yr wyf yn ei ddymuno i fyw, i farw, a byth. Tri chynghor credadyn; dywed wrth dy Offeiriad dy holl bechadurusrwydd a'th druenusrwydd; dywed wrth dy Frenin am dy holl elynion, oddifewn ac oddiallan; dywed wrth dy Brophwyd am dy holl ffolineb a'th holl anwybodaeth, at fyw, at bawb yn y byd hwn, at farw, ac at Dduw a thragywyddoldeb; canys y mae dy Frenin yn hollalluog, mae dy Brophwyd yn unig ddoeth Dduw, mae dy Archoffeiriad yn Iawn, yn Gyfryngwr, ac yn Eiriolwr. Defnyddio swyddau Crist yw rhodio yn Nghrist, a'i wneyd yn noddfa ac yn amddiffynfa. Duw mewn dyn, ei anian, ei ofn, a'i ewyllys, yw dyn duwiol; Crist mewn dyn, ei ysbryd, ei feddwl, a'i air, yw Cristion; y nefoedd mewn dyn, ei hegwyddor, ei gwaith, a'i dymuniad, yw nefol mewn daearol. Ysbrydolrwydd mewn dyn, yw ysbrydol mewn cnawdol. Caru duwioldeb er mwyn Duw, caru duwiolion er mwyn duwioldeb, caru Cristionogaeth er mwyn Crist, caru Cristionogion er mwyn Cristionogaeth, caru y gair er mwyn ei burdeb, caru y nefoedd er mwyn ei hegwyddor; mae y caru hwn yn wir garu Duw er ei fwyn ei hun. Balchder yw hunan-ddinystr dyn. Yn hyn dinystriodd efe ei hun gyntaf, yn hyn mae ei ddinystr yn para. Balchder yw gwreiddyn holl bechodau holl blant dynion yr holl fyd; balchder yw gwreiddyn holl gyfeiliornadau yr holl fyd; balchder yw gwreiddyn holl ofn, aflwydd, ac annghysur holl dduwiolion y byd; balchder yw holl annedwyddwch holl blant dynion y byd yn mhob sefyllfa, amgylchiad, ac oedran. Dymchwelyd balchder yw nod a dyben holl drefn iachawdwriaeth, ei Hawdwr, ei gwneuthuriad, a'i chymhwysiad. Perffeithrwydd gostyngeiddrwydd yw Crist, ei ymddangosiad yn y cnawd, ei ymarweddiad yn y byd, a'i athrawiaeth i'r byd. Gostyngeiddrwydd yw holl ddysgeidiaeth Crist; am hyn mae efe yn gorchymyn dysgu, gan ddysgu gostyngeiddrwydd gan Grist yw holl ddysgyblaeth Crist, holl ganlyn Crist, holl egwyddor crefydd Crist, a holl debygolrwydd i Grist. Nod a dyben y cwbl a gynwysir yn nghyfansoddiad yr iachawdwriaeth, fel nad ymffrostio ac na orfoleddo un cnawd ger ei fron ef; a'r ymffrost i gyd yn yr arwydd, canys y mae cwbl y drefn o hono ef yn Nghrist Iesu. Nod a dyben ei holl gynwysiad yw hunan-ymwadiad; hyny yw, tynu dyn oddiwrth ei waith, ac i guddio balchder oddiwrth ddyn. Prif orchwyl ei ddoeth lywodraeth ar y byd yw darostwng y balch, canys y mae efe yn gas ganddo, mae yn ei ffieiddio, mae ei wyneb ef yn ei erbyn, er mor anadnabyddus y gall hyn fod yn bresenol, o herwydd doethineb anfeidrol ei oruchwyliaeth yn rhoddi rhan yn y bywyd yma i ddynion. Ein prif ddyledswydd, gan hyny, yn wyneb y drefn ddoeth ar y byd, yr hon mae ei diwedd a'i dechreuad gyda'u gilydd iddo ef, yw ymddarostwng dan alluog law Duw, fel ein dyrchafer mewn amser cyfaddas, yr hwn yn unig a adwaen yr amser cyfaddas, yr amser cymhwys i wneyd hyny. Mae cynwysiad dyledswyddau crefydd mewn tri pheth. Y cyntaf yw galw ar yr Arglwydd; mae efe yn gorchymyn hyn: "a galw arnaf fi." O, y fath drugaredd mae hyn yn ei dangos. Galwad gan yr Anfeidrol, yr hwn sydd a'i glustiau yn agored i lefain ei bobl, yr hwn a nesâ atynt yn mhob dim y galwant arno, ac a'u gwared o'u holl drallodau: "a mi a'th waredaf." Mae galw arno yn cynwys cwbl ei wasanaeth. Y peth arall yw ymddiried yn yr Arglwydd: mae hyn yn cael ei orchymyn. "Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth;" ac mae yn cynwys holl gysur crefydd, canys mae yn ymwared rhag pob annghysur; oddiwrth angen a pherygl; ac at gael pob cyflawnder i lanw pob eisiau. Y trydydd peth sydd yn y cynwysiad yw dysgwyl wrth yr Arglwydd: yn hyn y mae holl obaith crefydd. Y dysgwyliad hwyaf yw y gobaith cryfaf; yw yr ateg gryfaf i'r galon, a'r gogoniant mwyaf i Dduw. Trefn Duw sydd yn cymodi, trefn Duw sydd yn cyfiawnhau, ei drefn ef sydd yn santeiddio, ei drefn ef sydd yn cynal, a'i drefn ef sydd yn perffeithio ffydd; yr holl ddymuniad a'r holliachawdwriaeth mae yn ddangos yw, eisteddwn wrth draed yr Iesu i ddysgu ganddo. Mae pobl Dduw a'r byd ar wahan, a'r gwahaniaeth rhyngddyntnid y naill yw y llall; acam eu bod wedi eu gwahaniaethu yn amlwg yn ngair yr Arglwydd, ni ddylent gael eu cysylltu. Mae eglwys Dduw yn y byd; ond nid yw o'r byd, canys y mae wedi ei galw allan o'r byd; am hyny, pa bellaf allan o'r byd, a gaseir fwyaf gan y byd. Na ryfeddwn, gan hyny, os yw y byd yn eich casâu, canys y mae yn ol arfer y byd at Ben yr eglwys: "Chwi a wyddoch gasâu o hono fyfi o'ch blaen chwi." Mae yn debyg fod yr eglwys i fesur mawr i gael yr un driniaeth a'i Phen. Ni ddylai ymddygiad o un math ddylanwadu mewn un modd i nesâu yr eglwys at y byd. Fe ddylai pob gofal a difrifoldeb fod ar yr eglwys, mewn gwyliadwriaeth, gweddi, ac ymarferiad, i gadw a chynal y gwahaniaeth hwn yn barhaus, yr hyn nid yw agos cymaint ag y bu pan yr oeddynt yn amlwg bobl, yn preswylio eu hunain, heb eu cyfrif gyda'r byd mewn ysbryd, ymddyddanion, nac ymarferiad, yn yr hyn nid oes ond ychydig o wahaniaeth, gyda rhai eithriadau, yn y dyddiau hyn. Mae y cedyrn yn cilio fel eraill; mae y nerth yn gwywo; mae y muriau yn rhwygo; mae y cloddiau yn andwyo; mae agos pawb fel pe baent yn ymlithro, naill ai rhag ofn dygasedd, neu trwy ymollyngdod a llwfrdra, oblegyd y grym sydd yn y llifeiriant llygredig; neu trwy ddiofalwch a gwrthgiliad trymgwsg ysbrydol; ac oblegyd y pethau hyn a'u cyffelyb, y cwbl a all eneidiau syml mewn llawer o eglwysi ei wneyd yw ocheneidio o herwydd yr anwiredd hwn. Pa beth bynag fyddo y canlyniad, fe gymer Pen yr eglwys ofal am y rhai hyn. Mae y niwed mwyaf oddiwrth y gymysgfa rhwng byd ac eglwys: mae ynddo yr annghyfartalwch, yr annghysondeb, a'r gwrthdarawiad mwyaf; fel pe byddai heb un bod i'r naill na'r llall, gan fod prydweddau y naill yn y llall mewn rhanau a graddau. Gellid meddwl weithiau bod y dibroffes yn grefyddol, oblegyd rhyw effeithiad oddiwrth berthynas â phethau crefyddol; gellid meddwl bryd arall fod y proffesedig yn hollol ddigrefydd, oblegyd bod ei agwedd yn dangos yn amlwg fydoldeb, cnawdolrwydd, a hunanoldeb. Mae y gymysgfa hon a'i chyffelyb yn peri bod yr anadnabyddiaeth yn llawer. Mae rhyw beth yn debyg fel pe bai yr eglwys yn myned i'r byd; hyny yw, i ysbryd y byd, i dymher ac elfen y byd, ac i arferion y byd; neu y byd yn myned i'r eglwys; hyny yw, dynion y byd, heb eu galw o'r byd i fod yn saint, yn aelodau yn eglwys Dduw, heb ddim arwyddion amlwg arnynt o argyhoeddiad o bechod, nac edifeirwch, na ffydd, nac ofn yr Arglwydd o flaen eu llygaid. Yn mhen ychydig amser, fe allai y bydd y rhai hyn yn swyddogion yn yr eglwys, yr hyn a bâr fod eu hysbryd bydol a chnawdol yn dylanwadu yn effeithiol, yn ol ei ryw, ar yr eglwys yn gyffredinol, er niwed a gofid mawr iawn. Os bydd llawer o'r fath hyn yn yr un eglwys, hwy a nesânt at eu gilydd, hwy a adnabyddant eu gilydd, hwy a bleidiant eu gilydd, hwy lyfant ac a gasânt eu gilydd; ac yn wyneb pob diffyg o gydweled, hwy gynhyrfant eu gilydd i annghydfodau, i ymrysonau, ac ymraniadau, nes rhoi enw yr Arglwydd yn bêl-droed mewn tafarnau, wrth bentanau, ac mewn ffeiriau, fel y mae mewn llawer ardal yn y dyddiau hyn. Nid yw hyn yn rhyfedd, canys o'r cnawd y daeth y gymysgfa hon. Weithiau er mwyn cyflog, ac weithiau er mwyn enw a sel bartiol, a mwyaf tebyg fod y ddau beth gyda'u gilydd, canys y maent o'r un natur. Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog; ond os bydd y gyflog yn dylanwadu i ansanteiddrwydd, mae yn dangos cnawdolrwydd; ac os er mwyn bywioliaeth y llenwir eglwys Dduw o ddynion didduw, nid rhyfedd cael y gofidiau mwyaf yn ffrwyth i hyn, canys medi yr hyn a hauwyd ydyw. Nid yn unig y mae o'r cnawd, ond hefyd y mae yn y cnawd, yr hyn yw cnawdol, canys y mae yn dangos syniad daearol am y tŷ ysbrydol. Gwelir oddiwrth hyn yn amlwg y fath beth niweidiol yw fod eglwys y Duw byw yn ymgymysgu â'r byd; nid yn unig oblegyd ei fod yn arwain i'r fath ganlyniadau gwaradwyddus, ond hefyd oblegyd ei natur, yr hyn sydd gwbl groes i dduwioldeb, yn dlodi gorthrymus i'r rhai sydd dano, ac yn nychdod amlwg yn yr holl eglwys lle mae. Pa fodd y gall fod yn amgen, pan y mae yn gorchuddio wyneb y nefoedd, fel nad oes tywyniad haul un awr o'r dydd i adfywio wyneb gwinllan Arglwydd y lluoedd? Mae y pethau hyn yn digio yr Arglwydd, ac yn ei yru yn mhell oddiwrth ei gysegr.<noinclude><references/></noinclude> r5k2eag4l1bt6cn3ght8kizg9zt33mq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/283 104 84614 164398 2026-05-07T21:14:02Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae pob haerllugrwydd yn ei eglwys yn groes i'w air, yn tristâu ei Ysbryd; a phob peth sydd yn tristâu ei Ysbryd yn peri cuddio ei wyneb; a phob cuddiad o'i wyneb, os heb ei deimlo gan y rhai a wybu am dano, yn rhyw radd o galedwch barnol. Fe ddylai pob gofal a difrifwch gael eu hymarferyd gan yr eglwys i gadw a chynal y gwahaniaeth hwn i fyny yn barhaus. Mae y niwed mwyaf iddynt oddiwrth gymysgu; mae yr enill mwyaf iddynt beidio. Y... 164398 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae pob haerllugrwydd yn ei eglwys yn groes i'w air, yn tristâu ei Ysbryd; a phob peth sydd yn tristâu ei Ysbryd yn peri cuddio ei wyneb; a phob cuddiad o'i wyneb, os heb ei deimlo gan y rhai a wybu am dano, yn rhyw radd o galedwch barnol. Fe ddylai pob gofal a difrifwch gael eu hymarferyd gan yr eglwys i gadw a chynal y gwahaniaeth hwn i fyny yn barhaus. Mae y niwed mwyaf iddynt oddiwrth gymysgu; mae yr enill mwyaf iddynt beidio. Ymddidoled eglwys Dduw, a deued allan o ganol y Babiloniaid hyn, heb gyffwrdd â dim aflan. Yn nglŷn a hyn mae boddlonrwydd y Pen Bugail, yr hwn a ddywedodd, "A mi a'ch derbyniaf chwi." Mae wedi eu galw allan o'r byd, o'u cyflwr, o'u hysbryd, o'u harferion, ac o bob cyfeillach ond a fyddo yn angenrheidiol. Eu galw i fod yn saint yw hyn, yr hyn sydd briodol yn ol natur yr hwn a'u galwodd, nid i aflendid, ond i santeiddrwydd. Mae Efe wedi neillduo y duwiol iddo ei hun, ac ni bydd ranog â neb am dano; "canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfiawnder?" gan fod y rhai hyn yn effeithiau egwyddorion. Nid yw egwyddorion gras yn gyfeillachol: "a pha gymundeb sydd rhwng golėuni a thywyllwch?" Nid oes undeb rhyngddynt. Hanfodiad y naill yw difodiad y llall. "Pa gysondeb sydd rhwng Crist a Belial," eneiniog Duw a gelyn Duw? nis gall fod cysondeb rhwng y rhai hyn mwy nag y gall fod rhwng byd ac eglwys. "Pa gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod?" Nid oes neb i fod yn nheml Duw ond efe ei hun. "Teml y Duw byw ydych chwi." "Mia breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi." O addewidion anmhrisiadwy, yn unig i eglwys ddidoledig Duw! Eglwys yn nesâu at y byd yw eglwys yn pellhau oddiwrth Dduw. Y neb sydd o'r byd, y byd a'u piau, a'r byd yw eu lle, ac yn y byd y dylent fod. Yr unig beth rydd le iddynt yn eglwys Dduw fydd eu galw allan o'r byd, yr hyn hefyd a'u gwna yn rhan o honi. Nid oes i neb le yn eglwys Dduw ond sydd yn rhan o honi. Mae yn y lle hwn dri syniad: yn Nghrist, yn Nuw, ac yn yr eglwys. Lle mae y naill yn wirioneddol, mae y llall yno hefyd. 230 PENOD XIX. Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith-ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas. YMDDENGYS, er fod Mr. Richard yn rhoi help llaw gyda gwahanol ranau y gwaith, nad oedd yn gwneyd dim heb ddarpar defnyddiau priodol at y rhanau hyny. Nid oedd yn myned i bregethu heb ddarpar pregeth, nac i areithio heb ddarpar araeth. Fel y dywedwyd o'r blaen, ar ba beth bynag y bwriadai ddyweyd, yr oedd gydag ef ddarpariaeth gymhwys at hyny. Er ei fod yn dyweyd llawer, eto nid oedd yn dyweyd nemawr ar antur, canys gwelwn ei ddarpariadau ar gyfer pob peth. Pe buasai rhyw beth ag eisiau dyweyd mewn cwrdd gweddi, yr oedd yn barod at hyny; nid yn barod heb feddwl, ond wedi meddwl yn barod, ac wedi meddwl i'r pwrpas. Byddai llawer yn tybied y gallasai Mr. Richard siarad drwy y dydd a thrwy yr wythnos yn ddigost ac yn ddidrafferth. Yr oedd hyn yn gamsynied mawr. Y mae yn wir y gallasai siarad cystal ag un dyn, a gweithio drychfeddwl allan i ryw eithafion annghredadwy; er hyny ffrwyth meddwl dwfn ydoedd, a rhag-ddarpariaeth ofalus. Caniatewch fod y felin yn dda, ac ynddi y peirianau goreu ag sydd allan; nid yw yn canlyn y gall hono falu blawd heb roi dim gwenith ynddi. Hi fâl yn rhagorol; ond y mae yn rhaid cael rhyw beth ynddi i falu. Gollyngwch hi i weithio heb roi rhyw beth ynddi, bydd yn ysgrechian ac yn malu ei hun yn ganddryll. Gall fod gallu siarad gan ddyn; ond ar yr un pryd rhaid cael rhyw beth i siarad, os siaredir, onide bydd dawn siarad yn fil gwaeth na bod heb y dawn hwnw; canys y mae bod yn ddystaw pan nad oes dim i ddyweyd, yn llawer mwy gogoneddus na gallu dyweyd llawer yn nghylch dim. Mae y dyn sydd yn siarad llawer, a meddwl ychydig neu ddim, yn debyg iawn i'r felin yn malu, a dim ynddi; y mae yn wastad yn malu ei hun yn llwch wrth siarad yn nghylch dim. Pe buasai Mr. Richard, er yn berchen dawn ac athrylith gyda'r mwyaf yn Nghymru, yn feddyliwr bach, ac yn dweyd pob peth fel y delai, yn lle bod y dyn parchedicaf, buasai y dyn anmharchedicaf o fewn y dalaeth. Yr oedd efe yn ddyn o feddwl mawr, o ddawn mawr; ac i lanw hyny i fyny, yr oedd hefyd yn ddyn o lafur mawr. Nid yw efe yn rhoi dwfr ar y felin a'i gollwng hi, heb ddarpar ŷd i'w roddi ynddi. Nid yw yn cael ysgrechian yn ansoniarus; nid yw yn cael malu ei hun yn ganddryll, eithr bob amser yn malu ebran pur, defnydd bara iachus i ddynion. Yr ydym wedi synu wrth weled y cyflawnder mawr o ddefnyddiau sydd ar ol Mr. Richard, heblaw ei bregethau, y rhai a ddarparesid ganddo at wahanol gyfarfodydd. Byddai yn darpar nodiadau byrion ar gyfer y cyfarfod, yn ol ei natur, ac yna yn eu taflu i mewn i'w felin, ac yn ei falu yn fân, a'i ddanfon drwy ograu sidanaidd, nes ydoedd yn beilliad cymhwys i'r farchnad oreu, ac yn ddefnydd bara digon da i'r brenin. Yn gymaint a'i fod yn selog gyda'r gwahanol gymdeithasau daionus, byddai yn dyweyd bob amser yn eu cyfarfodydd; ond nid heb ddarpar rhyw beth i ddyweyd. Dyna y Gymdeithas Fiblaidd: nid oedd neb yn fwy selog nag ef gyda hono; a phan y delai ei chylchwyl flynyddol, yr oedd yno, ac yn siarad, a phob amser yn meddwl cyn dechreu siarad beth a siaradai. Yr oedd, pan yr elai i ddyweyd, yn gwybod pa beth yr oedd ar fedr ei ddyweyd, a pha fodd y dywedai, ac i ba ddyben y dywedai. Y mae dyweyd na wyddys dim pa beth, a dyweyd heb un amcan, yn gyffredin yn gefeilliaid, ac yn hynod gyda'u gilydd, law yn llaw yn wastadol. Bydd llawer yn dechreu siarad yn debyg i Abraham yn cychwyn ar ei daith o Ury Caldeaid, "heb wybod i ba le yr oedd yn myned." Ond yr oedd rhyw beth serch hyny yn Abraham yn fwy esgusodol, canys gwyddai efe fod ganddo Arweinydd cyfarwydd a ffyddlon, ac y gwyddai yr Arweinydd hwnw yn burion i ba le yr oedd yn myned. Y dyn sydd yn myned heb arweinydd, heb nod, heb wybod cyn pen pum mynyd yn mha le y mae, nac ar ba beth y mae ei wyneb, sydd debyg i long fechan wedi ei gwthio i'r môr, heb na chadben na morwr, yn cael ei thaflu yma ac acw gan y tonau geirwon; a'i chwythu gan y gwyntoedd tymhestlog; weithiau yn y dyfnder, weithiau ar frig y don, yn aml ar fin y creigiau daneddog, yn cael ei gyru yma a thraw yn ddireol, ac yn ddiddyben; a thebygolrwydd bob mynyd mai suddo yn y dyfnfor a wna. Pan y bydd dyn yn siarad yn y cyflwr hyn, teimlir yr un fath gan y gynulleidfa ag y teimlir wrth weled llong mewn perygl, yn cael ei gyru gan y dymhestl. Y pryder sydd gymaint nes cynyrchu teimlad yn y fynwes yn ymylu ar orphwylldra. Bydd anadl pawb fel yn eu dyrnau, eu calonau yn curo gan fraw, a phob cam yr eir yn y blaen yn cynyddu y teimlad hwnw fwyfwy. O, yn y cyfryw amgylchiadau y fath ddiangfa yw clywed yr Amen. Dyna yr Amen melusaf glywyd erioed; y mae fel balm i'r holl glwyfau; fel gollyngiad carcharorion o garchar tywyll; fel datodiad mil o gadwynau oddiam yr enaid; fel magl yn tori, a'r adar yn dianc i'w rhyddid awyrol, i chwareu yn eu helfen naturiol. Y gair melusaf erioed oedd y gair Amen; diolchwyd lawer gwaith a chymerwyd cysur, am gael gafael arno yn rhyw le, a rhyw fodd, canys bu yn ddiangfa rhag marwolaeth aml dro. Nid yw byth yn dda pan y bydd y bobl yn chwysu mewn cydymdeimlad â gwaeledd y pregethwr; ond pan y mae y pregethwr yn chwysu mewn cydymdeimlad â chyflyrau y bobl, ac yn traddodi iddynt ffrwyth myfyrdod dwfn, gwelir hyn bob amser yn fendigedig, canys y "mae yr hwn sydd yn hau a'r hwn sydd yn medi yn llawenychu yn nghyd." Nid oedd neb yn cydymdeimlo à Mr. Richard pan y byddai yn siarad rhyw beth; nid oedd neb yn dysgwyl yr Amen; buasai awr yn myned heb yn wybod i chwi, pe na buasai y peth y bydd y bobl yn ei alw yn hwyl ond siarad cyffredinol. Cadwai gynulleidfa â'u llygaid arno yn gyson, heb fod braidd neb yn gweled y naill y llall. Elai a'r dynion gydag ef lle yr elai yntau; ac er iddo siarad dwy awr weithiau, pan y delai yr Amen teimlai y bobl yn siomedig, ac yn ddigon dig i hyrddio yr Amen i ganol y môr. Yr oedd y dynion yn teimlo yn debyg i Jacob pan yn gwasanaethu ar Rahel; aeth y saith mlynedd heibio, "ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig o ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi." Mae yr areithiau byrion a gyfansoddai ar gyfer cylchwyliau y Fibl Gymdeithas yn Abergwaen, yn egluro yr hyn a ddywedasom. Gwyddai y buasai yn rhaid iddo ddyweyd rhyw beth; am hyny yr oedd yn ofalus am gael rhyw beth i'w ddyweyd. Sylwedd areithiau bychain a draddodai yw y darnau da hyn: digon tebyg ei fod wrth siarad yn gweithio y meddyliau a gynwysent mewn llawer ffurf. Daethom yma heddyw yn achos y peth mwyaf yn y byd-y Bibl, gair Duw, meddwl Duw. Duw mewn datguddiad yw y Bibl; llyfr Duw, perffaith ac anffaeledig dystiolaeth. Yr ysgrythyr nis gellir ei thori; nid posibl myned gair Duw yn ddirym; "ond gair ein Duw ni a saif byth." "Fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim." Dyma haul y byd; dyma holl oleu a gwres y byd; digon i'r holl fyd, a dim gormod i ni. Ond y mae rhan fawr o'r byd heb yr haul hwn; byd tywyll, byd anial, byd oerllyd, byd Pabaidd, byd Mahometanaidd, byd paganaidd, byd annuwiol, ie, byd damniol yw byd heb Fibl. A oes dim i wneyd yn chwaneg? a wnawd pob peth? a ellir dim gwneyd mwy at anfon y Bibl i oleuo y byd? A wnawd pob peth gan forwyr a ellir wneyd? a wnawd pob peth gan dirwyra ellir wneyd? A oes dim mewn gwisgoedd, bwydydd, a diodydd, a ellir eu hatal, i gael rhoi gair Duw yn llaw paganiaid, i oleu hwn oleuo y byd? Dyma feistr y byd, deddfwr y byd, rheolwr y byd, trefnwr y byd, a chyfarwyddwry byd; i wrthsefyll llygredigaethau natur, i ddangos cyfeiliornadau yr amseroedd, ac i ddymchwelyd pechodau yr oes. Barnwr y byd yn y byd, barnwr dynion yn mhlith dynion. Tragygwyddoldeb y byd mewn map yw y Bibl, llyfr Duw. A oes dim i wneyd yn chwaneg at a wnawd, at anfon map tragywyddoldeb i'r holl breswylwyr? Peth a rwymo ac a ryddhao hwn ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo a'i ryddhau yn y nefoedd. Nid oes dyryswch am dragywyddoldeb a'r byd a ddaw, ond edrych yn fanwl ar hwn. Mae cyflyrau pawb, mae bywydau pawb, mae tragywyddoldeb yn amlwg yn hwn. A gysgwn ni, a ddiogwn ni, a esgeuluswn ni, mewn amser o weithio, mewn cynhauaf mor fawr, mewn tymhorau mor fanteisiol, a miloedd o filoedd yn newynu heb fara y bywyd, yn trengu o eisiau gwybodaeth, ac yn suddo byth i golledigaeth o eisiau clywed am y Ceidwad? Dyma fodd i orchfygu'r byd-fe orchfygodd y cryfaf; dyma fodd i oleuo y byd-fe oleuodd y tywyllaf; dyma fodd i achub y byd-fe achubodd y penaf. Hwn a redo nes na bo man heb iddo fyned iddo o dan yr holl nefoedd. Y dirgeledigaethau mwyaf yn y byd, a'r pethau mwyaf rhyfedd yn y pethau lleiaf eu sylw gan y byd. 1. Un o honynt yw gweled Perchen pob peth mewn ystyr mewn eisiau am y pethau hyn; yr hwn a ddywedodd, "Eiddof fi yr aur a'r arian, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd," ag eisiau meddianau dynion arno. Os oes genym ddoethineb i wybod yr amserau a'r dyddiau, ni a allwn wybod fod eisiau arian yn awr ar Grist. Duw yn ei achos mewn eisiau, yw eisiau arian at y Bibl Gymdeithas. 2. Rhoddwr pob peth yn myned oddiamgylch i gardota, ac yn gofyn cynorthwy wrth bob un o'n drysau. Ystyried pawb pan ofynir dim er mwyn yr Arglwydd, mai yr Arglwydd a roddodd; fe fydd hyn yn allwedd i ddatgloi y coffr, ac a ddetyd ar unwaith gylymau calonau a phyrsau, A adawn ni eisiau ar Grist? a gaiff Duw fod mewn eisiau, gan mai Duw roddodd i ni yr hyn sydd genym? 3. Arglwydd nef a daear yn rhoddi ei hun yn rhwymedig i'w greadur, yn wrthddrych cael tamaid i'w fwyta, yfed, a gwisgo, a dyfod ato-ymweled ag ef. Mae Crist yn dyweyd wrthym ni yn Mat. xxv. am ei eisiau, ei dlodi, a'r modd a'r pryd mae ef yn cael ei gynorthwyo; ac fel mae ef mewn eisiau yn ei aelodau, mae ef mewn eisiau yn ei holl achos. Amcan y cyfarfod hwn yw dyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd; ac na thriged ewin yn ol. 4. Y goruchwyliwr yn gwrthod rhoddi i'w arglwydd ei bethau ei hun, gan honi hawl iddynt, a'u galw ar ei enw ei hunan, Y fath haerllugrwydd! Eglur yw na ddygasom ni ddim gyda ni i'r<noinclude><references/></noinclude> 7p964liptg18l2bb23m0qwd8f5jhpbe Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/288 104 84615 164399 2026-05-07T21:15:04Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen */ 164399 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byd, ac eglur yw na ddygwn ddim oddiyma. Un o'r cyfryw oedd Nabal y Carmeliad. Yr oedd y dyn yn ei holl berchenogaeth: "Fy mara, a'm dwfr, a'm cig." Nid oedd erioed wedi meddwl fod gan Dduw un hawl mewn dim a feddai, am hyny ni roddai i was Duw, am hyny ni roddai i Fibl Duw. Beth ddaw o hwn pan ddywedo ei Arglwydd, Dyro gyfrif, canys ni elli fod mwy, heb un i gyfryngu rhyngddo a'r dialydd? 5. Cynydd y gareg yn ninystr y delwau; peri i ddwylaw ceimion gelynion i weithio union gynghor Duw i'w dinystr eu hunain; gwrthwynebiadau a rhwystrau yn gynorthwyau; ffwrn i godi a llosgi; llewod i ddarnio ac i ddryllio; croni y dwfr i gael y llif yn gryfach; rhwystro y Bibl i gael rhoi awydd cryfach am dano. Peidiwch difrio gormod ar ymerawdwr China; croni y dwr y mae ef i gael gwneyd y llif yn gryfach; hi grona nes tori y cwbl o'i blaen; yn anwrthwynebol, gan bwys ei natur. Merthyru i gael gorchfygu. Concwest i achos Crist yn y byd oedd merthyrdod; Ilosgi i gael achlesu, carcharu i gael ysgrifenu, cadw o bwlpudau i gael eu llenwi a'u cyfoethogi. Pwy fwyaf o ruthro fydd ar y Bibl, mwyaf i gyd a lwydda; swp o rawn ydyw-wrth ei wasgu ceir y gwin; yn wyneb y gwrthwynebiadau ar y deyrnas y llwyddodd hi fwyaf erioed. Prynwyd Bibl i gael ei losgi; huliodd o ludw hwn ugeiniau o Fiblau i gadw rhag llosgi byth, fel y gwnaeth offeiriad Pabaidd yn Iwerddon wrth brynu y Bibl. Tri gair anogaethol. 1. Yr Arglwydd a roddo ystyriaeth o hyn, a'n gwna yn ewyllysgar i roddi iddo. Y rheswm fod llawer yn anewyllysgar i roddi dim i Dduw yw, oblegyd ni fynant ddeall eu bod dan rwymau i Dduw am y cwbl. Pe gellid eu perswadio am eu derbyniadau oddiwrtho, araeth fach a'u perswadiai i roddi iddo yn ei achos, yn enwedig pan mae yn deisyf ganddynt, pan y gall orchymyn iddynt; mae yn foddlon eu derbyn yn hynaws, pan y gall anfon am danynt mewn awdurdod. 2. "A pha beth sydd genyt a'r nas derbynjaist?" Rhodd Duw yw yr oll a feddom. Ystyriwn hyn, fel y syrthio balchder islaw y llwch. Rhoddwch chwithau yr eiddo Duw i Dduw; a dywedwn fel Dafydd yn 1 Cron, xxix. 14. Syr, Dyma y pedwerydd cyfarfod yn y lle hwn o'r cyfarfodydd gogoneddus hyn, a mwy fwy gogoneddus y byddont fel yr amlhaont. Y pumed cyfarfod ar ugain blynyddol i'r fam gymdeithas yn mis Mai diweddaf oedd un o'r cyfarfodydd mwyaf gogoneddus, os nid y mwyaf a welwyd yn y brif ddinas erioed. Yr oedd nawdd yr orsedd freninol drosto, pendefigion o'r senedd ynddo; pedwar o esgobion a naw o weinidogion, a chymaint o arogl ysbryd y Bibl yn eu hareithiau ardderchog fe allai ag a welwyd mewn areithio erioed; yr hyn sydd yn achos mawr lawenydd. Mae yn hyfrydwch gweled cymaint unfrydedd yma heddyw, gan obeithio fod y dyben yn dda i natur y cyfarfod. Mae i'r cyfarfod yma dri dyben-clywed, gweled, a rhoddi. Gobeithio ein bod ni i gyd wedi dod yma i glywed a rhoddi; ac mae yma un at y lleill-gweled. "Yr hwn a eisteddodd gyferbyn a'r drysorfa i edrych pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa." Y peth mwyaf dan ei sylw oedd y modd, odd, y dull. Os y modd y rhoddir yw y peth mwyaf, fe all y rhodd fwyaf fod y lleiaf, a'r lleiaf fod y fwyaf. Nid ar faint y rhodd mae cymeradwyaeth yn sefyll, ond ar y modd, y dull. Mae pedwar peth yn cael eu cynwys yn y modd y dylid rhoddi. 1. Calon ewyllysgar; 2. Tymher lawen oddiar feddwl siriol; 3. Rhoddi cydwybodol; 4. Dyben union. Dyma edrych i weled, dyma weled i adnabod, dyma adnabod i waelod pob peth-calonau a phyrsau. II. Nid yw dewisiad dwyfol dan dywysiad Ilinyn rheswm dynol, ond ei ewyllys ei hun; am hyny ffyddlondeb a ofynir oddiwrthym ni mewn ufudd-dod i ewyllys Duw. Peth rhyfedd fyddai gweled môr yn myned i ymofyn dwr i'r afon; gweled ffynon yn myned i ymofyn dwr i'r ffrwd; gweled haul yn myned i ymofyn goleu at fagïen; gweled elephant yn ymofyn cymorth gan abwydyn; gweled lefiathan yn myned i ymofyn plaid gan y shrimp; gweled yr auraidd eryr yn ymofyn darpar gan y dryw bach; ond dyma annghydmarol fwy-gweled Perchen pob peth yn gofyn i ddyn i gadw yr achos mwyaf yn y byd mewn moddion-y Bibl; yn myned at ei effaith am ei effeithio. Y Bibl sydd wedi dwyn y drefn sydd ar ein gwlad ragor i wledydd eraill sydd hebddo. Effaith y Bibl yw yr holl Fibl Gymdeithasau; effaith y Bibl yw y rhoi at y Bibl; a lle bo y Bibl wedi effeithio fwyaf, y rhoddir fwyaf at Fibl, ac y rhoddir oreu; a'r rhodd oreu yw y rhodd fwyaf. Os bydd y lleiaf, mae hyn yn debyg i fam yn byw gyda'i phlentyn, heb ddim gan y plentyn i fyw arno ond a gaiff gan ei fam; hi biau yr eiddo, y Bibl biau yr eiddo. III. Pe bawn yn gymhwys i roddi arwyddair, y motto hwn gai fod:Y cyntaf i'r Arglwydd. Cymhorth mawr at roddi i'r Arglwydd yw cofio mai efe biau y cyntaf. Efe biau y cyntaf: 1. Canys efe yw y cyntaf. 2. Efe yw achos cyntaf pob daioni. 3. Mae gorchymyn cyntaf deddf ein natur yn gofyn y cyntaf iddo oddiwrthym. (1.) Cyntaf o ddyn. (2.) Cyntaf anifail. (3.) Cyntaf o ffrwyth addfed. (4.) Cyntaf o'r pethau gwlybion. (5.) A'r deisen gyntaf. Y cyntaf i'r Arglwydd, gan wneuthur y peth a orchymynodd, a dysgwyl am y peth a addawodd; byw trwy ffydd, ac nid trwy deimlad, i roddi y presenol i'r Arglwydd mewn hyder am ad-daliad i ddyfod. Rhoi y cyntaf a'r olaf a feddom yw y ffordd i'r olaf fod yn gyntaf. Rhoi olaf y weddw yn gyntaf i'r prophwyd, barodd gyntaf y prophwyd fod heb olaf i'r weddw. (1.) Rhoddwn i'r Arglwydd, am i'r Arglwydd roddi i ni. (2.) Rhoddwn i'r Arglwydd o'r hyn a roddodd yr Arglwydd i ni. (3.) Rhoddwn i'r Arglwydd fel y rhoddo yr Arglwydd i ni. (4.) Rhoddwn ein holaf, y diweddaf a feddom, i'r Arglwydd yn gyntaf, a'r Arglwydd a rydd ei gyntaf, ei anwyl Fabi ni yn olaf ac am byth. Nid oes genym ni ond teisen fach, a dyrnaid bạch iddo fe; mae ganddo fe fendith fawr o lawnder mawrini; gogoniant yn gymhorth mewn caledi, a dechreu lle yr ydym ni yn diweddu, IV. Camgymeriad y byd am ffordd i gyflawnder. Nid cael ac nid cadw yw y ffordd i gyflawnder; ond rhoddi, rhoi swllt i gael gini, rhoi gini i gael ugain. Trugaredd yr Arglwydd a gorona ein haelioni â bendith o amldra. Fe fuasai y weddw wedi newynu oni buasai iddi roddi; ac wrth roddi, hi gafodd ei diwallu; gan hyny nac annghofiwn roddi a chyfranu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. (1.) Rhoddwn nid yn athrist, nid trwy gymhell, ond yn llawen, fel y byddom wrth fodd Duw, gan gofio mai dedwyddach yw rhoddi na derbyn. (2.) Rhoddwn ddiolch mai ni sydd yn cael anfon atynt hwy, ac nid hwy atom ni; ac am ddyweyd wrthym fod eisiau rhoddi, ac am beidio dyweyd, "Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti." (3.) Rhoddwn dan gofio fod yr hwn sydd yn gweled ein calonau, ein pyrsau, ein dwylaw, a'n rhoddion, yn edrych arnom. (4.) Rhoddwn ein rhoddion yn y canol, o fewn, rhag eu colli, wedi eu troi i fyny mewn gweddi, megys mewn llieiniau, at fyned i galonau; a Rhoddwr pob gras a roddo ei fendith yn dra helaeth. Amen. Y peth sydd yn cyd-dystiolaethu â gwirionedd y llyfr-gwrthddrych y cyfarfod hwn, am waeledd a llygredigaeth y natur ddynol, yw bod rhaid yn barhaus gymhell, a thaer gymhell at beth sydd yn ei gymhell ei hun, megys y mae yr achos hwn, mewn egwyddor, mewn natur, mewn cynwysiad, a dyben. Mae arnom rwymau i roddi a chyfranu yn ol ein perthynas a Pherchen ac Awdwr y gair; efe yw y Llafurwr, ac mae yn Berchen y tir. Y byd a'i gyflawnder ydynt eiddo iddo; ac y mae yr eiddo hyn wedi ei roddi yn eiddo i Grist, -yr holl genedloedd a therfynau y ddaear i'w feddiant. Efe hefyd biau yr had, yr hwn yw gair Duw, am hyny a bery yn dragywydd; canys nid yw bosibl myned gair Duw yn ddirym, a'r ysgrythyr nis gellir ei thori. Nid yw yr had i'w gadw yn yr ystordy, yn y ffetan, a'r had-lestr, ond i'w hau. Onid at hau yr had yma y gelwir arnom ni i gyfranu heddyw? Holl offer y fferm, a'r da, faint bynag sydd gan neb, fe'u piau ar fil o fynyddoedd; efe a'u rhoddes, efe sydd yn eu cynal, ac fe all eu cymeryd pryd y myno, heb na rhwystr na rhwymau. Fe biau yr aradr a'r og, yr aur a'r arian: "Eiddo fi yr aur, eiddof fi yr arian." 1. Yn rhan o'i greadigaeth. 2. Yn rhoddion eu rhagluniaeth. 3. Yn nghyfrifon ei farnedigaeth. Pabeth sydd genym a'r nas derbyniasom? ac os derbyniasom, paham yr ymddygwn fel pe baem heb dderbyn? A pha beth sydd genym a'r nas byddwn hebddo? a pha beth sydd genym na raid rhoddi cyfrif am dano? Fe biau yr hauwr; yn ei wasanaeth Ef mae y gwas. Mae hwn dan rwymau i fod yn ffyddlon; [ocr errors] canys beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fêd efe." Am hyny ni ddylai fod yn ddioglyd was; mewn gwneuthur daioni na ddiogwn; ac ni ddylai ddiffygio, "canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddi1 ddyla ffygiwn;" ac ni ddylai hau yn brin, canys "yr hwn sydd yn hau yn brin, a fêd hefyd yn brin." A phwy hawl sydd gan neb i fod yn brin ar had y Gwr ei hunan, i'w dir ei hunan? Hefyd, mae arnom rwymau yn ol ein perthynas â gwrthddrychau y gair, canys yr ydym wedi ein danfon yma i wasanaethu ein cenedlaeth yn ol ewyllys Duw. Pa fodd y gallwn wasanaethu ein cenedlaeth yn ol yr ewyllys, heb roi yr ewyllys iddynt? Pa fodd y gellir gwneyd hyn heb ei roi yn eu hiaith, ac yn eu gwlad? Pa fodd y gellir gwneyd hyn heb draul fawr, fel y clywir gan oruchwyliwr y gymdeithas? Ein dyledswydd ni yw hyn, yr ydym dan ddyled i hyn -dyled cyfranogiad. Mae Duw yn cyfranu i ni gael rhoddi; rhoddi tuag at roddi yw rhoddi Duw i'r holl greadigaeth. Rhoddi i'r cymylau iddynt hwythau gael rhoddi i'r ddaear; rhoddi i'r ffynonau at gyflenwi y ffrydiau; rhoddi i'r môr er mwyn iddo lesâu y tir. Y nefoedd yn rhoddi i'r ddaear, i'r ddaear gael rhoddi i'r nefoedd; Duw [ocr errors] yn rhoddi i ddyn, i ddyn gael rhoddi i Dduw, ac nid myned â'r cwbl iddo ei hunan. Mae y cybydd yn waeth na'r creadur ysglyfaethus; mae hwnw yn ysglyfaethu at gario y cwbl i'w loches, at ei ddefnydd ei hun; ond mae y cybydd yn llusgo y cwbl i'w dwll, ac nis defnyddia ei hun. Ni chaiff na Duw na dyn ddim ganddo; mae hyn yn mhell oddiwrth ddyled dyn. Mae yn ddyled goruchwyliaeth i gyfranu; mae holl oruchwylwyr Duw yn dwyn perthynas ag eraill. Pan mae yn rhoi talentau, maent at enill; pan yn rhoi arian, maent i fyned i'r bwrdd cyfnewid. Mae cyfranu a rhoddi yn ddyled dyn. Nis gallwn fod yn bobl gyfiawn heb dalu ein dyled. Mae yn ogoniant i Dduw ein hiachawdwriaeth; yn ddinystr i ddiafol, dinystriwr dynion; ac yn iachawdwriaeth dragywyddol i ddynion. Mae braint i ni yn hyn, canys dedwyddach yw rhoddi na derbyn. Er mai derbyniwr yw y rhoddwr, mae rhoddi yn awgrymu cyflawnder, ond mae derbyn yn dangos prinder; mae rhoddi yn dangos mawr, mae derbyn yn dangos bach; mae rhoddi yn debyg i Dduw, mae derbyn yn debyg i ddyn. Mae yn ddedwyddach i roddi Bibl na bod heb yr un, ac eisiau cael; mae yn ddedwyddach cael rhoddi cardod, na bod mewn eisiau cael un, er mai cardod o gardod yw yr oll a allwn ni ei roddi i'r Arglwydd. Rhoddodd yr yd i'r tyddynwr, a'r tyddynwr i'r goruchwyliwr, a'r goruchwyliwr i'r cardotwr; a'r cwbl yn dangos dedwyddwch. Dedwyddwch y Rhoddwr cyntaf sydd ynddo ei hun, mewn egwyddor o gariad a daioni tragywyddol; dedwyddwch yr ail roddwr sydd yn ei debygolrwydd i Dduw, yn rhoddi oddiar gariad at ei gymydog. Mae y Duw mawr mewn anfeidrol ddoethineb wedi trefnu y cwbl yn gyfanwaith cyson, i ddybenu yn fraint i ddyn. Mae y greadigaeth yn pwyso ar eu gilydd, ac i gyd ar Dduw. Haul a daear, gwynt a gwlaw, haf a gauaf, mae y rhai hyn fel pe baent yn cynorthwyo eu gilydd, a'r cwbl yn dibynu ar Dduw. Felly y mae yn nhrefn fawr yr iachawdwriaeth, ac felly y mae y grasusau-ffydd trwy gariad, a chariad trwy ffydd; felly mae moddion o ras, y cymdeithasau yma-y genadol at y Bibl, a'r Bibl at y genadol; y Bibl at ddirwest, a dirwest at y Bibl. Yresiampl i'r fraint hon yw gras Crist: "Chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist," &c. Yr agwedd yn llawen. Nid yn athrist, ac nid trwy gymhell, ond o barodrwydd meddwl. Y dyben yw gogoniant yr Arglwydd. Gogonedder ef heddyw yn yr amlygiad o'ch haelioni at yr achos da hwn! Mae amgylchiadau yr amserau presenol ar y byd crefyddol, fel pe bai pob peth agos yn sefyll; ac yn yr agwedd hon mae gogwyddiad llawer o bethau yn fwy tebyg i fyned yn ol nag yn mlaen, yr hyn yn unig a ellir ei wybod wrth y Bibl, yr hwn yw yr unig safon i fod yn rheol barn a gwir wybodaeth i blant dynion; ac nid dymuniadau, dygwyddiadau, na nwydau, yr hyn sydd yn tywys yn wastad i wrachïaidd chwedlau, gwag-ddywediadau, a chyfeiliornadau. Gan hyny, at y gyfraith ac at y dystiolaeth yn uniongyrchol, ac nid at ddim arall am wir oleuni i adwaen pob peth, canys mae ysbryd y gwirionedd i dywys i bob gwirionedd. Mae cychwyniad llawer o bethau sydd yn wir dda yn y blynyddoedd hyn yn ymddangos yn fwy gobeithiol a chalonog nag y maent mewn amser ar ol hyny. Fe fu ar y gymdeithas hon well agwedd yn y blynyddoedd cyntaf nag sydd arni yn bresenol; nid yn unig yn y lle hwn ond trwy yr holl wlad yn gyffredinol. Fe all fod llawer o bethau yn achos o hyn nad yw yn fai. 1. Mae llawer o amrywiol gangenau ychwanegol trwy yr holl wlad, nad oedd yn nghychwyniad y gymdeithas gynorthwyol hono. 2. Ac y mae peth ymwahaniad oddiwrthi. Ond nid hyn yw y cwbl, ac nid hyn yw y prif beth sydd yn achosi yr adfeiliad hwn. 3. Ond y dylanwad y byddir dano. Pan byddo newyddion dyeithr a digrif yn dylanwadu, ni phâr hyny yn hir, ac nid â yn mhell, canys mae yn ei natur yn rhy wan, fel mae bwydydd rai; nid ydynt at weithio; maent o'r goreu i ddynion segur Ac y mae yn ei amgylchiadau yn ansicr; mae y newyddion yn heneiddio, y dyeithr yn cynefino, a'r digrif yn myned yn gyffredin. Ac nid hyny yw y gwir beth at effeithio yn briodol at achos santaidd ac ysbrydol, ond ei egwyddor. Hyn yn dylanwadu geidw yr un sel, egni, a ffyddlondeb at y gwrthddrych tra parhao ei hegwyddor, yr hon sydd mor barhaus a'r gwrthddrych-y Bibl; yna ni barhawn yr un peth at y gymdeithas, yr hyn yw cynwysiad y Bibl: mae hwn yn anfeidrol. Paham yr ymollyngwn ni? A newidiodd y gymdeithas ei hegwyddor? a wanhaodd egwyddor y gymdeithas? Naddo, ac nis gwna byth; nid posibl myned gair Duw yn ddirym. Paham y diflaswn? a ddarfu egwyddor y gymdeithas? Os yw yn anfeidrol, mae yn anfesurol ac yn annherfynol. Mae yma bob cyflawnder; cyflawnder o bob peth, ac i bob peth, ac i bob un. Paham y llaeswn ac yr absenolwn? Y dyben a ddylai y gymdeithas ei ddylanwadu yw iachawdwriaeth byd colledig mewn amser, a bywyd tragywyddol yn y byd a ddaw. Mae y pethau hyn yn wir ddefnyddiau gwir ddylanwadau, ac a gadwant ddyn mewn cywir a ffyddlon agwedd at y gymdeithas hon. Colli yr olwg ar y pethau hyn yw yr achos o'r agwedd fursenaidd, ddrelaidd, ddwl, sydd i'w gweled arnom yn y trefydd ac yn y gwledydd. Mae pob math o esgeulusdod a diflasdod ar foddion gras naill ai yn brawf o grefydd ddrwg, neu wrthgiliad mawr mewn dynion da. "Fe fyddai yn dda genyf fod yno; ond nid oes genyf ddim i roddi." Ni ddylai hyny fod yn un achos i neb beidio dod. Os nad oes dim i'w gael nid oes dim i'w ofyn, ac y mae yma beth i'w roi heb ddim i'w dderbyn; hyny yw, gwybodaeth, sydd yn cynwys gras i fywyd tragywyddol, adnewyddiad grasusau a defnydd dylanwadau ysbryd gras ac ysbryd gweddiau. "Nid oes genyf ddim i gael." Down yma i gael. Mae yn well llonaid tŷ o ddynion heb roi dim, pan nas gellir, na llonaid tŷ o ddynion yn rhoddi yr hyn nis mynir. Pa bryd y gwelwyd cael blas at waith heb flas at weithio? Gwir at galonau bâr haelioni o bocedau. "Peth sydd yn rhwystr i mi ddod yw, nad oes genyf fawr i'w gael at roddi: mae yn gas genyf roi ychydig." Nid oes dim yn wir gas ond sydd yn bechod. Nid yw yn bechod roi ychydig, os na ellir rhoddi ychwaneg. Mae y modd y rhoddir yn fwy yn ngolwg yr Arglwydd na'r peth a roddir. Rhoddwr llawen mae yr Arglwydd yn ei garu, faint bynag fydd ei rodd. Maeswn balchder yn yr amgylchiad hwn. Gâd dy falchder, a thyred, offrwm dy rodd, bydded ychydig neu lawer.<noinclude><references/></noinclude> 8dpwnz22pwrrtvyknlxl50dd29budh5 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/293 104 84616 164400 2026-05-07T21:15:57Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Mae yn well genyf gwrdd pregethau na chwrdd areithiau. Nid wyf yn colli un bregeth byth." Fe allai. Gallech feddwl ei fod mor grefyddol a'r Pharisead, a'i fod mor ddiniwed a'r oen, a'i fod yn myned rhag blaen i'r nefoedd. Hawyr! ai nid gwir yw yr areithiau? ai nid gwir a ddylai gael ei ddyweyd? ac nid gwir sydd raid ei ddyweyd? ai nid yr un gwir ag a bregethir? Amheuwn ein blas at wir bregethau os ydym ddiflas at wir areithiau. Gwra... 164400 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mae yn well genyf gwrdd pregethau na chwrdd areithiau. Nid wyf yn colli un bregeth byth." Fe allai. Gallech feddwl ei fod mor grefyddol a'r Pharisead, a'i fod mor ddiniwed a'r oen, a'i fod yn myned rhag blaen i'r nefoedd. Hawyr! ai nid gwir yw yr areithiau? ai nid gwir a ddylai gael ei ddyweyd? ac nid gwir sydd raid ei ddyweyd? ai nid yr un gwir ag a bregethir? Amheuwn ein blas at wir bregethau os ydym ddiflas at wir areithiau. Gwrando; bydd onest; ai nid ofn y plate sydd arnat ti? Ymogelwn rhag cybydd-dod yn mhob rhith, a derbyniwn addysg. Mae pob peth sydd o'n hamgylch mewn undeb â'r gymdeithas hon, mewn cyfnewidiadau, mewn gwrthwynebiadau oddiwrth Babyddiaeth, ac anffyddiaeth a phethau tebyg. Y mae siomedigaethau yn llefain yn uchel arnom, Llafuriwch yn ddibaid; ymwrolwch; ewch yn mlaen; na oddefwch i'ch galwedigaethau bydol, na'ch dyledswyddau crefyddol, i'ch llaesu na'ch oeri at y gymdeithas hon, beth bynag fydd ei phrofedigaethau, "canys o'r bwytawr y daw bwyd, ac o'r cryf felusderau." Beth bynag fyddo raid i'r gymdeithas hon gyfarfod ar ei thaith, cofier mewn llawenydd mai Awdwr y Bibl, Gwrthddrych y gymdeithas, yw cynaliwr y gymdeithas. Ein dyledswydd a'n braint at y gymdeithas hon, prif golofn y nefoedd yn nghanol yr oesoedd, yw, gweddi ddyfal drosti a ddetyd ei rhwymau, ac a egyr byrth ei charcharau; ei hysbryd ei hun wrthi; cywir a ffyddlawn lafur ati. Yr aradr yw prif ofal y garddwr. Nis gall laesu y gwynt nac atal y gwlaw, ond aros wrth yr ařadr yw ei waith ef. Glynwn wrth yr aradr; dyma hi; hi rwyga i fyny ddiffaeth-leoedd Ethiopia, China, Asia, ac Affrica, America, holl gyfandir Ewrop, a holl ynysoedd y môr; mae ei swch hi yn naear yr holl wledydd hyn. Ni thynir mo honi allan mwy nes braenaru yr holl fyd; a'r maes yw'r byd. Y llong yw prif ofal y morwr; nis gall dawelu y gwynt, na gostegu'r môr; gofalu am y llong yw ei waith ef, a dihuno y Gwr mawr sydd wrth ei ochr. Ni fyddai hyn yn un eondra; mae wedi dyweyd am beidio gadael llonydd iddo: "Na ddystewch, ac na adewch lonydd iddo." "Fe sudda'r llong!" Na wna byth, tra byddo efe ynddi. Mae'r lefain yn y blawd; mae yn fach; mae'r dechreuad yn fach. Ydyw; ond y mae yn furym cryf iawn. Dyna lefain cryf yn Ffrainc annuwiol; ni orphwys mwy nes rhoi holl diriogaethau anialdir Ffrainc yn ddirdynol trwyddo. Mae y draul yn fawr, mae y llafur yn llawer. Ydyw; yn llawer iawn mwy nag a ŵyr neb yma. Mae y teulu yn lluosog; ond y mae gobaith cryf y ceir digon. Mae'r lefain yn y blawd; mae ei swn yn suo; y mae i'w weled yn chwyddo o un gongl o'r ddaear i'r llall, yn ddystaw ac yn dawel. Buddugoliaeth merched y gele yw buddugoliaeth ein Testamentau; fe sugna waed y ddraig nes trengu ar ei thraed, a'r toes sydd yn awr wedi ei lefeinio yn fara blasus, meithrinol i'r holl deulu dynol. Ein calonau, ein hymddygiadau, a'n pocedau a ddywedo Amen. Caniateir i ni unwaith eto un o'r cyfarfodydd mwyaf gogoneddus a geir ar wyneb yr holl ddaear; ond nid oblegyd amgylchiadau, canys nid oes yma ond pob gwaeleddau; ond oblegyd ei hanfodau. Nid ydyw nac antur, na rhuthr, na rhyfyg, na rhwysg; canys nid yw oddiar fesuriad gwahaniaethol ar ogoniant neb o'r ordinhadau dwyfol. Mae yn debyg mai pregethu y gair yw y prif ordinhad am iachawdwriaeth y byd; eto mae rhyw hynodrwydd hanfodol yn perthyn i'r cyfarfod hwn ar gyfarfodydd pregethu, canys o destun y cyfarfod hwn y ceir holl destunau yr holl wir bregethu a fu, sydd, ac a fydd yn y byd tra parhao. Llyfr yr holl destunau yw testun y cyfarfod hwn; llyfr cynwysiad yr holl bregethu, a llawer mwy nag a bregethir byth; mae y cyfarfod hwn er hyrwyddo ei gyfieithu, ei argraffu, ei bregethu, ei ddarllen, a'i ddysgu, i egwyddori, ei gredu, a'i fucheddu, a'i ledaenu dros wyneb yr holl ddaear; i'w achlesu a'i ffrwythloni, i ddwyn oddiamgylch gynhauaf mawr yr Arglwydd Iesu, pan y byddo yr anialwch a'r annghyfaneddle i lawenychu o'i flaen. Y goron freninol yw y gymdeithas hon; mae yn gasgliad o'r perlau gwerthfawrocaf; yn grynodeb o'r sylweddau mwyaf, ac yn sicrhau y dyrchafiad uchaf. Mae cwbl yr ysgrythyrau ynddynt eu hunain, am danynt eu hunain, a throstynt eu hunain; am hyny ni ddylai amgylchiadau ddylanwadu fel rheol ar y gymdeithas hon; eto hwy ddylent gael eu lle a'u hystyried fel y maent yn effeithiau. Mae y gymdeithas hon er ei dechreuad wedi myned trwy lawer o amrywiol a gwahanol amgylchiadau. 1. Un amgylchiad fu arni oedd, cael ymosod arni gan Apocryphiaid, y rhai oedd yn dal ac yn ymofyn bod Apocrypha i fod yn un a'r ysgrythyrau. Ymysgydwodd oddiwrth hyn mewn llawenydd ac ymffrost, fel y gwna creaduriaid y dwfr o flaen y gwlaw-trochi dano, gyru trwyddo, prancio arno, ymgynhyrfu fel pe baent wedi enill y fuddugoliaeth fwyaf erioed. Felly y bu gyda'r gymdeithas hon. Mae yn dysgleirio yn fwy ar ol nag o flaen hyny. 2. Ymosodiad arall fu ar gyfansoddiad y gymdeithas hon oedd, rhwng Trindodiaid ac Undodiaid: o hyn buwyd yn llygad-dyst. Yr oedd y rhai hyn yn cydweithredu yn y cychwyn. Fe feddyliodd rhai o'r Trindodiaid nad allasent, ac na ddylasent gydweithredu â'r Undodiaid yn yr achos hwn, er nad oedd y cydweithrediad cyntaf ond mewn casgliad ato, ac nid mewn un newidiad arno. Barn eraill o'r Trindodiaid oedd, y buasai yn dda ganddynt gael y Bibl ar lwybr cyfiawn. Ymysgydwodd y gymdeithas y waith hon hefyd, ac aeth allan fel cynt, wedi dryllio y rhaffau newyddion fel carth. 3. Ymosodiad arall fu gan Fedyddwyr, rhai o'r trochwyr, nid pawb o honynt, a thaenellwyr. Fe feddyliwyd y buasai yn well ganddynt gael eu bwyd ar wahan, pob un a'i ddysgl yn ei gongl; ac felly maent mewn rhai manau. Fe gododd hyn ychydig o ymchwydd; ond y mae yn gysur cael hysbysu fod y llong a'r llwyth yn ddyogel ar y môr. 4. Bu ymosodiad arall ar y gymdeithas hon mewn rhai manau yn ei changenau. Mae y fam gymdeithas yn gallach na'i phlant; mae y boncyff yn y brif ddinas yn un; ac felly y dylai fod; ac y mae yn ddigon hawdd iddi fod, rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, nid yn achos y Bibl hefyd, ond oddiwrth ryw oerllyd ias rhwng Eglwysyddiaeth ac Ymneillduaeth, heb un gradd o wahaniaeth. Mae hyn wedi troi allan yn dda iawn lle mae dwy gymdeithas am yr un; dau gasgliad yn lle un; dau Fibl am yr un, a dau lesâd am yr un, er na chymerodd pob un o'r ddau olaf le heb greu teimlad o ofid, yr hyn nis gall lai na bod lle bo undeb. Er na bo y dillad fyddo am bob un yn y teulu yr un lliw; ond gan mai ar fôr tonog yr ydym, y mae yn rhaid rhoi ffordd gydag ysgogiad y llong, neu fethu sefyll ar y deck. Os mynir i'r cerbyd beidio a'n curo, ymollyngwn i'w ysgydwadau, rhag cael ein hysigo. 5. Ymosodiad arall yw yr ymosodiad Pabaidd. Y gymdeithas hon yw prif wrthddrych ei llid, yn erbyn hon y mae ei phrif gynddaredd. Geilw allan ei holl luoedd; casgl yn nghyd ei holl alluoedd; ymegnia â'i holl nerth. Mae y bwystfil hwn-felly yr enwir ef gan ein Bibl niam ddifa ein cymdeithas, ein Bibl, a'n hiachawdwriaeth. "Peidiwch poethi at y pab rhag ofn i chwi danio." Pwy ddechreuodd? Pwy darawodd gyntaf? ar hwnw mae y bai. Pwy daffodd y Bibl i'r tân i'w losgi? Pwy all beidio llosgi mewn gofid am hyn-llosgi defnydd gobaith pechadur? (1.) Fe ddywed y rhai hyn nad yw gair Duw yn ddigon o reol ffydd ac ymarweddiad heb waith y tadau hefyd. Maent yn eu galw yn groes i air Duw, yr hwn sydd yn gorchymyn am beidio galw neb yn dad. Y gair drosto ei hun, ynddo ei hun, am dano ei hun. Tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn abl gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth. (2.) Fe ddywed Pabyddion am addoliad i angylion a meirwon, seintiau a chreiriau, lludw ac esgyrn y marw. Ond fe ddywed yndd o ei hun, drosto ei hun, "Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi." (3.) Fe ddywed y pabau a'u hoffeiriadau am weddio ar seintiau, a gwneyd cyfryngwyr a chyfryngau o Pedr a Paul, apostolion ein Harglwydd Iesu Grist. Dylai fod cywilydd i'w henwi mewn cysylltiad a'r fath orwagedd; ond am Patrick a Pedo, Gwenllian ac Allgo, a llawer o'r fath deulu a ellid eu henwi, sydd yn gwneyd i fyny gyfres y fasnach a'r gormes i dwyllo miliynau, llenwi eu pocedau, a damnio eneidiau, mae yn ormod o ffolineb i'w henwi. Trown oddiwrth y sothach hyn; canys fel hyn y dywed yr ysgrythyr lân: "Un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd, y dyn Crist Iesu." (4.) Fe ddywed gelynion gair yr Arglwydd y gall y pabau a'u hoffeiriaid faddeu pechodau am arian; ond dywed ef ei hun na all neb faddeu pechodau ond Duw yn unig; ac mai yn rhad y mae yn gwneyd hyn, trwy ei ras ef, heb arian ac heb werth. (5.) Fe ddy ddywed y gelynion hyn i air yr Arglwydd fod yn rhaid wrth weithredoedd da dyn at ei gyfiawnhau i deilyngu ac i haeddianu. Dywed yr ysgrythyr yn groes i hyn, mai trwy ffydd yn unig y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf; "nid o weithredoedd cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni." Nid gweithredoedd da i gyfiawnhau, ond cyfiawnhau i weithredoedd da. Yr un pryd y cyfiawnheir trwy Grist ag y creir yn Nghrist i weithredoedd da. (6.) Feddywed y gyfundraeth Babaidd, gwrthwynebwyr cyhoeddus gair Duw, fod purdan rhwng nef ac uffern, lle o dân elfenol, i buro eneidiau, at eu cymhwyso i fyned i'r nefoedd wedi iddynt ymadael â'r corph; ac y gallant hwy am arian dynu eneidiau oddiyno, ac â'r celwyddau ffol ac hunan-ddyfeisiol hyn, sydd yn fwy cymhwys i yru ofn ar blant na dim arall. Ond gair yr ysgrythyr yw, nad oes dim rhwng nef ac uffern, ond gagendor mawr wedi ei sicrhau, fel nad all dim dramwyo rhyngddynt. Goleuni haul y gair a ddiffoddo holl lampau c celwyddau Pabyddiaeth, ac a'i ogoniant a'i nerth a gywil M yddio holl ganwyllau brwyn hunan-ddyfeisiol Rhufain Babyddol, ac a agoro eu llygaid cyn disgyn o honynt i'r eirias uffernol. A welwyd y fath amser a hwn ar Gymru fawr ei breintiau, bod eisiau dweyd y fath beth a hyn mewn tref fach yn Sir Benfro? Ychydig o amser yn ol buasai raid cael geiriadur i egluro y gair Pabyddiaeth i lawer o bobl Penfro; ond wele ni erbyn heddyw wedi cael achos, er mawr ofid, i fod yn adnabyddus o hono. Ond y mae genym un cyfle am dani eto, Joel ii. 12-17: "Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r Cenedloedd arnynt; paham y dywedent yn mhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?" hwynt?" O Arglwydd, tyred ar frys i dori y ddadl hon. Un o'r pethau rhyfedd yn nhrefn doethineb Duw yw y llwybr a gymerodd efe i fyned yn mlaen â'i achos yn y byd. Fel y bu am iachawdwriaeth y byd, felly y mae am foddion iachawdwriaeth y byd-Perchen y byd, a'r cwbl sydd ynddo yn eiddo iddo, Arglwydd y byd a'i gyflawnder yn ei roddi i'r neb y myno, ac amlaf i'r mwyaf gwrthwynebus iddo. Pa beth gan hyny nis gwna efe i'w blant? Eto mae yn mynu myned â'i achos mawr, sydd fwy na'r byd, byd, yn mlaen ar hyd lwybr begeriaeth; a hyn oblegyd mynu, nid oblegyd methu, ac i ddybenion y gellir gwybod yn awr, ond sylwi ar rai o honynt; a llawer mwy nag y gellir gwybod genym ni. I ddangos, mae yn debyg, nad yw ei achos o'r byd hwn; ac i ddysgu am bethau ffydd yn fwy nag am bethau golwg; a dangos ei adnabod, a heb ei adnabod; ac i ddangos pwy wobrwyir a phwy beidir eu gwobrwyo; ac i gyd yn ogoniant mwyaf iddo. Mae ei ffyrdd ffyrdd yn rhy ddwfn i ni yn y pethau hyn; am hyny awn at y pethau a berthyn i ni, yr hyn yw moddion, llafur, a bendith. I. Y moddion i'w defnyddio yw gwrthddrych y gymdeithas, gair yr Arglwydd. Ei offeryn ef at ei holl waith yw ei air; a'i offeryn i ninau at ein holl waith yw y gair. Mae genym elynion i'w gwrthsefyll; y gair yw y cleddyf a'r darian at hyny-cleddyf yr Ysbryd. Tarian yw efe hefyd i'r rhai a ymddiriedant ynddo. Efe yw cymaint o oleuni a llewyrch sydd yn y byd. Pa faint yw y tywyllwch lle nad ydyw? II. Ein llafur helaeth a diymod, gan hyny, ddylai fod yn ngwaith y gymdeithas hon, yr hwn yw y llafurwaith mwyaf ar y ddaear. Hon yw meithrinfa gwybodaeth iachawdwriaeth, ffynon efengyleiddiad y byd, peiriant trefnusrwydd dynion; canys gair Duw yw genau Duw, calon Crist, llaw yr Ysbryd Glân, trysorfa eglwys Dduw wedi ei selio i'w chadw yn mysg ei ddysgyblion. Y neb sydd dda ganddo i enau y Duw anfeidrol fod yn agored at y rhai a greodd ac y mae yn gynal, egnied yn llafur y gymdeithas hon yr hyn a allo; y neb sydd dda ganddo fod calon y Gwaredwr yn ngolwg y colledig, ei ras, ei gariad, a'i dosturi-ymdreched dosturi-ymdreched yn llafur y gymdeithas, i anfon y gair, fel y rhedo ac y caffo ogonedd, trwy ddangos calon Crist; y neb sydd dda ganddo fod llaw yr Ysbryd Glân ar ddynion, arfered bob diwydrwydd; byddwn yn gydweithwyr â'r gymdeithas hon i gyrhaedd y dyben hwn. Y neb a wyr am drysorfa eglwys Dduw, Ile mae ei holl drysorau yn nghadw, a ŵyr hefyd mai ei meddu yw unig gysur holl blant dynion; am hyny na atalier unrhyw lafur a ellir i'w hanfon i bob trigfan ddynol ar y ddaear. A chan mai gair yr Arglwydd yw map tragywyddoldeb, pa le mae y dyn na awyddai â'i holl galon, na ymdrechai â'i holl nerth, na ymroddai â'i holl egni i anfon cynllun y byd mawr i'r rhai fydd byth ynddo? III. Mae yn rhaid bendithio a chael bendithion i'r gymdeithas at lwyddo. Na adawn ddystawrwydd i'r Arglwydd hyd oni osoder Jerusalem y gymdeithas hon yn ben moliant ar y ddaear. O gymdeithas ardderchog, cyfrifer dy gydanedigion yn ddedwydd, canys Duw a'th gododd yn brif golofn yr holl fyd. Bydded ein hareithiau, ein pocedau, a'n gweddiau yn gyfartal yn achos y gymdeithas hon, canys dyfroedd hon sydd i iachau corsydd Rhufain, lleoedd lleidiog Asia, diffeithdiroedd Rwsia oerllyd, a lleoedd annghyfanedd gwlad Judea, canys â'r udgorn hwn y casgl efe ei wasgaredigion o bedwar cwr y byd. "Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd; y diffaethwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn." Brysied, brysied y dedwydd ddydd!<noinclude><references/></noinclude> 0k9pqg9jj02gry90og6ylwpvqpqudhg Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/298 104 84617 164401 2026-05-07T21:17:03Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "PENOD XX. Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth-ei areithiau dirwestol. WEDI myned dros lawer o hanes Mr. Richard mewn gwahanol gysylltiadau, yr ydym yn tybied fod yn iawn codi ychydig o bethau yma ac acw eto, er mwyn egluro gwahanol elfenau ei gymeriad, yn hytrach na dylyn y cwbl yn y blaen yn un-cwys, mewn trefn amseryddol. Gwelir ei fod, nid yn unig yn pregethu yr efengyl, ond hefyd yn ymafly... 164401 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD XX. Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth-ei areithiau dirwestol. WEDI myned dros lawer o hanes Mr. Richard mewn gwahanol gysylltiadau, yr ydym yn tybied fod yn iawn codi ychydig o bethau yma ac acw eto, er mwyn egluro gwahanol elfenau ei gymeriad, yn hytrach na dylyn y cwbl yn y blaen yn un-cwys, mewn trefn amseryddol. Gwelir ei fod, nid yn unig yn pregethu yr efengyl, ond hefyd yn ymaflyd yn mhob peth ac yn llafurio gyda phob peth y credai oedd yn lles i ddynoliaeth. Nid aberth bychan i ddyn yn ei sefyllfa a'i oedran ef, wedi ymarferiad hir o ychydig ddiodydd yn gyfnerthol, oedd eu troi heibio yn llwyr, cyfnewid y dull o fyw yn hollol, er mwyn gosod ei hun ar dir i lesoli cymdeithas. Yn ddiau dyna yr egwyddor oddiar ba un y gweithredai Mr. Richard a'i gyffelyb yn benaf. Nid oes neb synwyrol yn meddwl fod yfed llawer yn dda; ond y mae llawer o'r farn fod rhyw gymaint yn dda; "ychydig win," fel y dywed yr apostol, "er mwyn y cylla a'r mynych wendid." Digon tebyg mai rhyw beth tebyg i hyn yr oedd Mr. Richard yn feddwl; er hyny, gan ei fod yn gweled fod yfed yn ormodol yn gwneyd y fath ddrygau annhraethol i ddynoliaeth, nid yw yn petruso, nid yw yn "ymgynghori a chig a gwaed;" eithr ar unwaith yn ymwadu â pha ddaioni bynag ddichon fod ynddo, er mwyn rhoddi ei ddylanwad o blaid sobri y wlad. Bydd llawer yn dyweyd, "Y mae pob dyferyn o'r diodydd a'r gwirod yn wenwyn i'r cyfansoddiad dynol;" am hyny pa aberth yw rhoi yfed gwenwyn heibio? Wel, nid ein lle ni yn awr yw myned i ddadleu pa un ai gwenwyn ydyw ai peidio; pwnc arall sydd gyda ni mewn llaw; sef egluro cryfder yr egwyddor at lesoli y natur ddynol, yn yr aberth wnawd tuag at gyrhaedd hyny. Os gall dyn lyncu y frawddeg "mai gwenwyn yw pob dyferyn," wrth gwrs ni fyddai yn orchest yn y byd i beidio â llyncu y gwenwyn hwnw; ond fel y gwelir, bydd yn rhaid llyncu y frawddeg yn gyntaf, cyn peidio llyncu y llall; ac nid yw pawb yn gallu gwneyd hyny heb gael rhyw beth arall i'w gynorthwyo i fyned i lawr. Pwy bynag, serch hyny, allo wneyd hyny, y mae yn ddyn dedwydd iawn; ac nid yw yn orchest yn y byd, nac yn aberth ychwaith, iddo beidio yfed na chwrw na gwirod byth mwy. Wel, fe ddichon fod hyn yn iawn, eithr y mae llawer yn troi ar grediniaeth dynion mewn pethau. Canys y mae y naill ddyn yn credu y gall "fwyta pob peth, a'r llall yn bwyta dail;" un yn meddwl fod "pob peth yn gyfreithlon, ond nad yw pob peth yn llesâu." Yn awr, yr oedd llawer yn meddwl, fel Mr. Richard, y gallasai fod rhyw ddaioni ynddo, yn enwedig o dan amgylchiadau neillduol; er hyny yn ymwadu ag ef er mwyn daioni cyffredinol. Wel, dyma y dynion uchaf eu hegwyddorion yn y diwedd; canys y dyn cyntaf, sydd yn ymwrthod ag ef am mai gwenwyn ydyw, sydd yn ymgynghori a'i lesâd ei hun, ac yn gwneuthur y peth goreu drosto ei hun, gan gynghori eraill i wneyd yr un fath. Ond y llall, ag sydd yn credu fod lles mewn ychydig, a'i fod yn help iddo yn ei lafur, er hyny yn ymwadu â'r cwbl er mwyn effeithio yn ddaionus ar eraill, sydd yn codi uwchlaw hunanlesiant; y mae yn gwneyd aberth er mwyn eraill, ïe, yn hunanymwadu er cyrhaedd amcan dyngarwch a Christionogaeth. Egwyddor felly oedd eiddo Mr. Richard; nid fod yr ychydig a yfai yn ddrwg iddo, eithr y gallai fod yn ddrwg i eraill; ac yn gymaint a'i fod yn argyhoeddedig o hyny, yn ei roi ymaith yn llwyr rhag "tramgwyddo ei frawd." Dyma egwyddor sydd yn werth siarad rhyw beth am dani; a phwy bynag sydd o dan ddylanwad yr egwyddor hon, nis gall lai na bod yn fendith i gymdeithas. Yr oedd llawer o ddynion da yn methu codi cyfuwch a hyn, fel y gwyddoch, canys y mae graddau mewn daioni a chrefydd; ac nid gwiw i ddynion feddwl nad oes dim daioni mewn dyn o herwydd iddo fethu codi i ryw bwynt penodol. Os nad oes rhyw ddaioni mawr amlwg ynddo, gall fod peth daioni ynddo, serch hyny. Yr ydym yn cofio yn burion am hen bregethwr da, parchus, a chyfrifol iawn, mewn tywydd gryn arw oblegyd dirwest. Yr oedd yn eithaf cymedrolwr, ac yn cynghori pawb i fod yn gymedrolwyr; ond pan ddaeth y ddeddf allan nad oedd neb i yfed un dyferyn o gwrw na gwirod am weddill yr oes, aeth yr hen bregethwr parchus yn welw; tarawyd ef a'r peth nesaf at orphwylldra, a gwaeddodd allan yn groch, "Beth! peidio yfed llymaid o dablen? wel, dyma'r peth mwyaf echrydus a glywais erioed! A oes rhyw synwyr i ddyn gael ei gospi fel hyn o herwydd crug o folgwn?" Fe ddichon fod llawer o reswm yn y peth ddywedodd yr hen frawd; ond rhaid cyffesu mai rheswm cnawdol ydoedd; nid oedd efe yn gallu gweled un alwad nefol yn yr amgylchiadau, am hyny yn petruso. Ni ddylid er hyny rhoi dynion felly i lawr fel rhai annuwiol, o herwydd eu bod yn methu codi cyfuwch ag eraill; ond dylid eu cydnabod yn "wan yn y ffydd;" ac o herwydd hyny eu hymgeleddu yn fwy, er mwyn eu cryfhau a'u cyfnerthu i redeg yr yrfa. Nid ydym wrth ddyweyd felly ag un amcan i dadogi ar gefn cymdeithas esgeulusdod hollol o'r cyfryw ddyledswyddau; na, cyfarfyddwyd â'r teimladau gweinion ag oedd mewn llawer yn anrhydeddus. I bregethwyr ag oedd dipyn yn gloff yn symud yn y blaen gyda'r gymdeithas hon, y cynlluniwyd diod a fuasai yn gwneyd y tro; ac nid yn unig yn gwneyd y tro, ond yn well o lawer na'r holl hen ddiodydd, a'u rhoi gyda'u gilydd. Yr enw a roddwyd ar y ddiod hon oedd "Dracht i bregethwr." Ni ddarfu i ni erioed cael allan beth oedd y defnyddiau at wneyd dracht i bregethwr, ac nid ydym yn cofio ei hyfed ychwaith; ond yr ydym yn cofio clywed dyweyd ei bod yn dda iawn; ac yn llanw lle, os nid rhagori, ar yr holl ddiodydd eraill, a'u rhoi gyda'u gilydd. Yr oedd amryw o ddiodydd eraill i'w cael, er mwyn cyfarfod ag angen cymdeithas o dan yr angylchiadau, y rhai, meddir, oedd yn adfywiol ac adgyfnerthol; ond i bregethwr y mae yn debyg nid oedd dim cyffelyb i'r ddracht. Beth bynag, ymddengys yn eglur oddiwrth yr hyn a ddywedwyd fod cymdeithas wedi teimlo yn briodol yn wyneb y cyfnewidiad, ac wedi gwneyd eu dyledswydd yn y mater. Syndod oedd gweled Mr. Richard a'r hen Havard yn areithio mewn Cymanfaoedd, yn anog yr holl Gyfundeb i ymgymeryd â dirwest yn ddioed; a thrwy eu dylanwad ymgymerodd y Cyfundeb yn weddol lwyr a'r symudiad; a gwnawd gwaith mawr yn Nghymru drwy hyny. Y mae amheu na wnaeth y symudiad dirwestol les yn ynfydrwydd; pa annghysondeb bynag oedd mewn cysylltiad â'r peth, yr oedd y da yn fwy, ac fe deimlir y da hwnw yn awr yn mhob cylch cymdeithasol. Aeth cymdeithas o dan gyfnewidiad mawr, o ran golygiadau am yfed; ac yn ddiau bu yn burdeb ac yn syberwyd i laweroedd o gymdeithasau crefyddol. Yr ydym yn dyweyd cymaint a hyn i'r dyben o ddangos fod Mr. Richard yn barod i ymwadu â phob cysur ac esmwythder er mwyn teyrnas Dduw, ac er mwyn llesoli dynoliaeth. Yr ydoedd yn ddyn i Dduw, am hyny yn ddyn i ddyn. A ganlyn sydd ychydig o'i areithiau dirwestol; I. Mae yr olwg ddinystriol oedd ar ein gwlad gan feddwdod, diota, ac annghymedroldeb, yr hwn oedd yn ymdaenu fel diluw i orchuddio, ac fel afonydd cryfion yn gorlifo, nid yn unig dros rai digred a dibroffes, ond eraill hefyd yn dra chyffredinol, yn galw ar bob creadur rhesymol, yn enwedig crediniol ac ystyriol, i weddiau, ymdrechiadau, ac ymwadiadau, at wrthsefyll yn yr ymgyrch pwysig hwn. 1. I weddiau, canys y mae pob ymdrech yn erbyn pob ansanteiddrwydd yn ymddibynu am ffyniant a llwyddiant ar yr Arglwydd yn unig. 2. I ymdrechiadau, yr hyn fu trwy oesoedd a blynyddoedd mewn cyfreithiau, yr hyn a ddechreuwyd mor foreu a theyrnasiad Edgar, brenin y Saxoniaid. Dywed hanesiaeth mai meddwdod oedd y drwg lledaenol yn y dyddiau hyny, a bod y gwr hwnw wedi gwneyd ymdrech yn ei erbyn trwy osod math o derfynau i yfed cymedrol trwy wahanol ddeddfau, yr hyn, fel llawer o gynlluniau wedi hyny, a drodd allan yn fethiant hollol. A hefyd mewn pregethau, dysgyblaeth, cynghorion, a dagrau; ond y cwbl i ddim dyben; o leiaf, i wella y wlad. Ond wele gymdeithas wedi ei chodi, mewn dull, mewn gwlad, ac mewn amser ryw beth yn debyg i wyrthiol, at osod y fwyell ar wreiddyn y pren mawr hwn o annghymedroldeb. Yr egwyddorion mae y gymdeithas hon yn gorphwys ei phleidgarwch am ymarferiad o lwyr-ymwrthodiad yw-Fod diodydd meddwol yn niweidiol i bawb mewn iechyd-fod defnydd arferol o'r diodydd hyn yn dwyn yn mlaen ormodaeth-gwastraff amser ac arian, ac am hyny y dylai beidio-bod y rhwymedigaeth Gristionogol o gariad at ein cymydog yn cymhell pawb sydd yn cydnabod egwyddorion y Testament Newydd yn rheol ymarferiad i roddi eu hesiampl i gymhorth adferiad yr annghymedrol, ac i ochel rhoddi maen tramgwydd yn ffordd y gwan trwy ddefnyddio y pethau sydd yn peri i lawer o'r brodyr dramgwyddo; gan hyny, oddiar argyhoeddiad na wna haner ymataliad effeithio yr hyn sydd yn angenrheidiol, yr ydym yn anog i ffurfio cymdeithasau o bersonau ymroddgar, er llwyr ymatal oddiwrth ddiodydd meddwol, mewn trefn i rymusu pob dylanwad mewn esiampl a gorchymyn. 1. Y fath hudoliaeth sydd yn natur a phriodoliaethau gwirodydd gweithiedig, ac yn enwedig diodydd naturiol ein gwlad ni. 2. Yr yfed arferol sydd yn mhob gradd a sefyllfa o gymdeithas, fel peth anhebgorol i gyfeillachau, i fasnach, ac i wleddoedd. 3. Y cadarnhad a roddir i'r tueddiadau a'r arferion hudol, twyllodrus hyn gan foneddigion, duwinyddion, prydyddion, a meddygon. 4. Yr amddiffyn a'r nawdd mae cyfreithiau ein gwlad yn roddi i'r fasnach mewn diodydd meddwol, yr hyn sydd yn tueddu at gynydd yr arferiad. Trwy yr achosion cydunol hyn effeithiwyd y canlyniadau mwyaf angeuol i foesoldeb a rhinwedd. Beth pe dywedem fod haner can miliwn o bunau yn cael eu treulio yn flynyddol ar y fasnach hon yn yr Ynysoedd Brydeinig; mae y cyfrif yn rhy isel; ond cymerer y swm hwnw er mwyn bod ar dir dyogel; beth yw maint y daioni a ellid ei wneyd â'r arian hyn? Pwy all fynegi maint y drwg a gyflawnir yn anuniongyrchol trwy fod cymaint o gyfoeth yn cael ei droi i ffrydiau llygredig y byd? Fel y llenwir ein carcharau â chanlynwyr yr eilun-dduw hwn! Y fath olygfeydd sydd yn ein heolydd! a lienwir y tafarnau a'r gin palaces a thorwyr Sabbathau, nes mae y boblogaeth i helaethrwydd ofnadwy mewn esgeulusiad cyhoeddus o addoliad yr Hollalluog Dduw. Mae y deyrnas hon ag un llaw yn anfon allan yr efengyl i achub y byd, ac a'r llall yn anfon allan ddyfroedd tân i ddystrywio dynolryw. Mae llawer iawn o wrthwynebu ar y gymdeithas hon. Mae yn beth newydd-mae llawer yn troi yn ol dywedir ei fod yn cael ei osod yn lle yr efengyl a phregethu Crist. Mae y gymdeithas yn gofyn llwyr ymwrthodiad oblegyd y niwed a effeithir trwy yr arferiad o yfed pethau meddwol; a rhoddi esiampl i ochel pob achlysur i bechod. Mae wedi dod i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear. "Ond hyn sydd yn awr yn mhob Cwrdd Misol a Chymanfa," meddir. Nage, fy nghyfaill. Ond yr ydym yn tynu casgliad o du y gymdeithas wrth sylwi pwy yw ei gwrthwynebwyr. Mae yn rhaid bod tarddiad a natur y gymdeithas hon yn dda neu yn ddrwg. Nid yw o'r un drwg, nid yw o'i deyrnas, ac nid yw o neb o'i weithredoedd; rhaid gan hyny ei bod o Dduw. Mae ei natur, ei gweithrediad, a'i dyben, o blaid santeiddrwydd, ac o blaid pob dyngarwch. Mae y gymdeithas yn pleidio pob rhyw ddaioni, yn mhob rhyw ystyr. Mae yn blaid i deyrnas Crist, ac yn blaid i'w phregethu, trwy gadw natur yn ei lle i dderbyn gair Duw; mae yn blaid i gyfraith y deyrnas, a rhan o gyfraith y deyrnas yw hi; mae yn blaid i heddwch y deyrnas-annghymedroldeb sydd wedi bod yn achos o derfysgiadau parhaus yn eglwys Dduw; mae yn blaid i holl gymdeithasau crefyddol y byd, trwy ymryddhau dynion oddiwrth bethau ac arferion sydd yn wastraff ar eu harian a'u meddianau, heb gadw dim oddiwrth natur a ddylai gael mewn bwyta, yfed, a gwisgo; a llawer gwell gwedd wedi hyny ar deuluoedd nag sydd ar filoedd heddyw oblegyd annghymedroldeb. Mae dangos mawr serch at yr arferiad, a bod yn ddiserch at yr ymataliad, yn annghysondeb o'r mwyaf. Mae y gymdeithas hon yn gwrthwynebu pob drygioni. Gwrthwynebwch annghymedroldeb, chwi wrthwynebwch bechod yn ei gryfder a'i darddiad, gan ei fod wrth wraidd rhan fawr o'r drwg wneir dan haul. Dyben hon yw gogoniant Duw, y peth yn ddinag ddylai fod yn nod gan bob creadur rhesymol. Bod yn ol gair Duw, yn ol Duw, yn debyg iddo, a byw i Dduw, yw bod yn gymedrol yn mhob peth. Iechyd dyn, harddwch dyn, defnydd dyn, dyben dyn, a'r cwbl yn un yn ogoniant iddo, yw cymedroldeb yn mhob peth. Mae yn ddyledswydd ar bob dyn sydd yn ofni yr Arglwydd i ddyfod yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn, at fod yn halen ac yn oleuni y byd, Mae yn anmhosibl gweled dim yn iawn ond yn ngoleu goleuni byd. Goleu haul y byd yw y goleu goreu, a'r unig oleu i ddangos pob peth yn y byd. Os bydd dim yn dywyll, dadleugar, neu ddyrys, yr unig ffordd sicr am ymwared yw ei ddwyn at y goleu sydd yn cyhoeddi ei hunan, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni y byd: dyma y goleu sydd yn dangos creadigaeth y byd, goleu gallu y Duwdod, a holl lywodraeth y byd. Yn wyneb y bwriadau lawer sydd yn nghalon dyn, fe welir yn amlwg mai cynghor yr Arglwydd hwnw a saif. Nid oes<noinclude><references/></noinclude> 453ce6ukryk8bmd70fspy7kxw4vp8qx Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/303 104 84618 164402 2026-05-07T21:23:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164402 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dim yn dangos llygredigaeth y byd ond goleuni santeiddrwydd Duw; na dim a ddengys iachawdwriaeth y byd ond goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist; na dim a ddengys ddirwest yn feddyginiaeth i'r byd sydd wedi ei gau dan dwyll-arferiad, hudiad, a blysiad, ond yr un goleu; a'r dull y mae y goleu hwn yn dangos pob peth yw, â'i natur. Mae daioni a santeiddrwydd natur ddwyfol yn dangos pob peth sy yn dda, canys effaith o hono ydyw; a phob peth sydd ddrwg, canys gwrth-effaith o hono ydyw. Yn nesaf gan hyny ni ymdrechwn ddwyn y pethau hyn i'r goleu hwn trwy ddangos yn I. Duw a dyn ar gyfer eu gilydd. Y goleu hwn sydd yn dangos dyn yn greadur Duw, ac i Dduw yn unig, i ddelw Duw mewn llun, i ogoneddu Duw a'i fwynhau mewn gwasanaeth a dyben: "Canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef;" beth bynag gan hyny nad yw yn ogoniant i Dduw sydd wrthryfel oddiwrth ddyn yn erbyn Duw. A ydyw diodydd meddwol yn ogoniant i Dduw? Ni a ddylem fwyta ac yfed, a gwneuthur pob peth er gogoniant i Dduw. II. Gosodwn sobrwydd a meddwdod ar gyfer eu gilydd. Yn y goleu hwn pa un yw y mwyaf tebyg i Dduw, ai sobrwydd ai meddwdod? Ai nid hanfod sobrwydd yw santeiddrwydd? Ai nid dweyd, Byddwch sobr, canys sobrwydd ydwyf fi, yw dweyd, "Byd Byddwch santaidd, canys santaidd ydwyf fi?" Onid yw Duw yn gorchymyn sobrwydd, yn cymeradwyo sobrwydd, yn canmol sobrwydd? Ai nid ei air ef yw, "Gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr; gwyliwn a byddwn sobr. Eithr diwedd pob peth a nesaodd; am hyny byddwch sobr a gwyliadwrus i weddiau. Byddwch sobr, gwyliwch. ch. Gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr. Eithr synied i sobrwydd. Dysgu i fyw yn sobr. Gwŷr ieuainc cynghora i fod yn sobr." Dyma oleu natur Duw yn dangos sobrwydd yn debyg iddo. Yn y goleu pur hwn, pa un yw y mwyaf tebyg i ddyn, ai sobrwydd ai meddwdod? bod mewn synwyr neu allan o synwyr? bod heb weled neu yn gweled? bod heb allu siarad neu yn gallu? yn gallu sefyll neu yn methu cerdded, union neu gam? bod yn rhesymol neu bod fel mochyn? Ai nid dyn fel dyn yw dyn sobr? Ai nid dyn wedi ei ddadwneyd o fod yn ddyn yw dyn meddw? Pwy na ddeall hyn yn y goleu hwn, ond yr hwn ni fyn weled. III. Llwyr-ymataliad ac ychydig ymarferiad ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Pa un ai ymwrthod yn llwyr â phob diodydd meddwol, y rhai sydd wedi bod yn ddigon cryf i orchfygu a chwympo y cryfaf, y doethaf, y dysgedicaf, yr harddaf a'r duwiolaf yn eu hoes, i ochel achlysur i bob rhyw bechod mewn adnabyddiaeth o gais y diafol, o rym llygredigaeth natur, ac o wendid cnawd pechadurus; a'r effaith ddirwestol trwyddynt yw y pethau mwyaf yn ol Duw, yr hwn a ddywed, Byddwch santaidd, canys santaidd ydwyf fi; a'r peth mwyaf yn ol Crist Duw, yr hwn a'i dibrisiodd ei hun er mwyn dynion; a'r peth mwyaf dyngarol, y mwyaf ei ofal am fywyd a iechyd dyn ei hunan a'i gyd-greadur, neu fentro yfed yehydig o honynt ar antur? Pa un bynag ai ein gorchfygu ai peidio a wnant, pa un bynag ai dinystrio ein cymydog ai peidio a wnawn, trwy roddi iddynt esiampl wrth yfed peth meddwol yn ol y goleu hwn, pa un o'r ddau ymddygiad<noinclude><references/></noinclude> s6q6ae8032ehx7dtzszlsbg3sap01wi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/304 104 84619 164403 2026-05-07T21:24:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164403 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yw y mwyaf duwiol, grasol, rhesymol, a dyngarol, a adawaf i'r goleu i'w ddangos, a rheswm i'w farnu. IV. Gorchymyn Duw a dyledswydd ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Lle mae gorchymyn Duw ar ddyn, mae dyledswydd dyn i Dduw. Pan ddywedo Duw, "Nac yf win na diod gadarn," rhag dy farw, dyledswydd dyn yw peidio ar berygl ei fywyd. Pan ddywedo efe, "Na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd," ai nid dyledswydd dyn yw peidio yfed gwin, i gael bod yn sicr o gyflawni ei ddyledswydd? Pan ddywedo efe, "Rhodiwn yn weddus, megys wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod," ai nid yr unig ffordd sier i ufuddhau yw peidio myned i'r gyfeddach, a pheidio yfed dim meddwol? Pan ddywedo, "Digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, a diota," ein dyledswydd ni yw arfogi â'r un meddwl a Christ, yr hwn a beidiodd â phechod. "Fel na byddom mwyach fyw i chwantau dynion;" trwy beidio hefyd a rhodio ynddynt, a gwneyd un arferiad o honynt. V. Dyn a dyn ar gyfer eu gilydd; hyny yw, dyledswydd ac ymddygiad y naill ddyn at y llall. "Câr dy gymydog fel ti dy hun." Dyma gynllun pob ymddygiad a dyledswydd o eiddo dyn at ei gydddyn-gwneyd iddo fel iddo ei hun, mewn ymgeleddu a gwaredu. Megys na ddylem niweidio ein hunain; iechyd ein cyrph a'n heneidiau, ein perthynasau a'n meddianau trwy yfed diodydd meddwol, felly hefyd ni a ddylem beidio niweidio ein cyd-ddyn yn neb o'r pethau hyn trwy esiampl, anogaeth, neu gyfraniad. Dyma fel y mae goleu Duwdod yn dangos y mater. VI. Dyn a barn ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Pa un ai yr ufuddhawr manylaf, ai yr hunan-ymwadwr mwyaf, ai y croeshoeliwr cryfaf ar chwantau, a'r dyosgwr llwyraf ar gorph pechodau, neu yr ufuddhawr brasaf, yr hunan-ymwadwr lleiaf, a'r croeshoeliwr gwanaf, fydd ysgafnaf ei farn yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda myrddiwn o'i saint a'i angylion nerthol, i wneuthur barn i bawb mewn cyfiawnder, trwy roddi i bob un yn ol yr hyn a wnaethpwyd yn y corph, pa un bynag a fyddo ai da ai drwg. Pa un ai llwyr-ymatal, i gael bod yn ddigon sicr i beidio drygu ein hunain nac eraill, neu yfed peth, ac anturio am y ddau beth hyn, bydded y peth a fyddo yn ganlyniad, a gaiff y farn oreu yn ol y goleu hwn, a adawaf i'r goleu ei ddangos, ac i reswm a chydwybod farnu. VII. Dyn a'i gysur ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Mae cysur neu annghysur dyn yn sefyll ar dystiolaeth ei gydwybod: os yn ei erbyn, mae yn farnwr i'w gondemnio; os o'i du, mae yn farnwr i'w ryddhau. Os ein calon a'n condemnia, yr ydym yn euog; os ein calon ni'n condemnia, y mae genym hyder ar Dduw. Os dywed dy gydwybod, Pe buasit yn peidio yfed dim diodydd meddwol, ni'th anhwylusid at neb o'th ddyledswyddau, fel y gwyddost i ti wneyd lawer gwaith trwy hyny, dyna euog heb gysur. Ac os dywed, Pa faint a gadarnheaist mewn meddwdod trwy dy esiampl, wrth dy weled di, dyna euog heb gysur, canys fel y mae yn rhaglaw ac yn dyst Duw yn yr enaid pan dywyno goleuni Duwdod arni, y gwir a ddywed, pa un bynag ai drosom ai yn ein herbyn. Faint fydd cysury dyn hwnw fydd â thystiolaeth yn ei gydwybod mai mewn symlrwydd<noinclude><references/></noinclude> evuiuumtqucode6pj1ptuoxttfuqi9e Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/305 104 84620 164404 2026-05-07T21:25:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164404 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a phurdeb duwiol y bu ei ymddygiad tuag at bawb yn y byd? Ai nid symlrwydd a phurdeb duwiol yw ymwrthod â phob achlysur i lygredigaeth i ni ein hunain yn bersonol, ac i eraill trwy esiampl? a hyn yn unig yn yr ystyr hyn a rydd gysur i ddyn. Os euog, a'r gydwybod yn condemnio, fel mae agos pawb o'r byd yn yr ystyr hyn yn enwedig, beth yw y feddyginiaeth? Am yr hyn a aeth heibio, na ellir ei alw yn ol, maddeuant, a phuro y gydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon trwy waed Crist, ac ufudd-dod i orchymyn Crist, i ymwadu â ni ein hunain, a llwyr ymwrthod â phob achlysur i lygredigaeth. 1. Ni feddwodd dyn erioed heb ddechreu yfed diodydd meddwol. Y. ris gyntaf i beidio meddwi byth yw peidio dechreu yfed diodydd meddwol; ac os dechreuir, nid oes neb ar y ddaear, yn mhlith holl blant dynion, all ddweyd na fydd yn un o feddwon mwyaf y byd cyn diwedd ei oes, canys dyna'r modd y mae pob meddw heddyw. Mae llawer yn gryfion i yfed gwin, ac yn nerthol i yfed diod gadarn, nad yw yr effeithiau, yn herwydd hyny, i'w gweled arnynt; eto meddwon ydynt o ran y gormodedd y maent yn ei gymeryd. Am y gair dirwest, yr un ystyr ydyw a'r gair cymedrol; nid yw y gair cymedrol yn caniatau un gradd o beth gwaharddedig, niweidiol, a dinystriol, onide byddai raid ini feddwl fod cymedroldeb, un o ffrwythau yr Ysbryd, â gradd o gnawdolrwydd yn oddefol ynddo; a byddai raid i ni feddwl fod ymresymiad Paul am ddirwest, neu ddiweirdeb, yn caniatau peth anniweirdeb. Mae dirwest yn meddwl peidio cymeryd dim sydd yn feddwol, ymataliad yn mhob ystyr oddiwrth gyflawniad chwantau annghymedrol. Nid yw hyn yn dweyd y gellir cyflawni chwantau cnawdol yn gymedrol, canys y maent yn rhyfela yn erbyn yr enaid. "Ond am yfed yr ydym yn siarad; ac y mae eisiau yfed ar ddyn i dori ei syched." Ond nid yw diodydd meddwol yn tori syched, gan nad yw yn eu natur i ddisyehedu, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. "Ond fe'm disychedodd i." Tybiwyd hyny ar y pryd; ond erbyn eu bod wedi eu llyncu, teimlid mwy o syched, yr hyn barodd ymroddi i feddwdod lawer gwaith. Haerir yn barhaus gan rai sydd yn gwybod gwell athrawiaeth fod y diodydd hyn yn cryfhau dyn. I'r gwrthwyneb mae y ffaith, gan eu bod yn gwanhau ac yn llygru yn fawr. Mae pob peth sydd yn poethi y gwaed yn ormodol, yn gyfatebol yn gwanhau y nerth. Cynifer sydd i'w cael sydd yn yfed o honynt pan nad oes un syched arnynt! A phan oedd syched, a dorwyd ef wrth yfed o honynt? A yfwyd mwy o honynt un amser nag oedd eisiau yfed o beth oedd at dori syched? A yfwyd un amser o'r rhai hyn ar gais eraill, pan nad oedd natur yn gofyn am ddim? Ai nid gormodedd yw hyn? Pa sawl gwaith y codwyd gwrid i'r wyneb mewn lleoedd cyhoeddus, ac y gwnawd peth a fernid yn drosedd mewn eraill? Yr bedd y tafod yn bloesgu, y llygaid yn gwamalu, y genau yn rhythu; rhyw ddweyd mawr ar berson nad oedd ond ychydig o fedr dweyd ynddo. Fel y gwellheid agwedd pethau a phersonau pe baem yn cymeryd at yr egwyddor hon! Cynysgaedder ni a'r galon i wneyd hyn o beth! {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> lour1owus97barbupiza72g5su13d5o Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/306 104 84621 164405 2026-05-07T21:27:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164405 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD ΧΧΙ.<br>Llafur Mr. Richard gyda'r Ysgol Sabbathol.}}}} DYN cyfan oedd efe, llafurwr mawr gyda phob peth a dueddai at les dynoliaeth. Yr oedd llawer o wrthwynebiad i'r Ysgol Sabbathol yn y cychwyn gan bobl dda. Nid oedd hyny yn rhyfedd ychwaith, canys yr oeddynt wedi arfer gwrando pregethau o fan i fan, ac wedi eu dysgu o gychwyniad crefydd fod y Sabbath yn rhy gysegredig i ddim ond i wrando pregethau. Hefyd, yr oedd y pregethwyr yn anaml y dyddiau hyny; pan y deuai rhyw un heibio cymerent wythnos gyfan i'w ddylyn. Yr oeddynt yn teithio mewn llwybr cyffredin ar y Sabbath i odfaon ugain neu ddeng milldir ar ugain i bregethu, ac i wrando pregethau. Fel hyn nid oedd gan ein tadau hamdden i ddim arall ar ddydd yr Arglwydd ond y pethau hyn. Yr oeddynt yn cael cymaint o flas hefyd gyda hyny, fel yr oedd y meddwl am aros i ddysgu plant a cholli pregeth oedd o fewn cyrhaedd yn annyoddefol. Rhyw beth fel hyn yr oedd pawb fel eu gilydd yn teimlo. Pan y byddai efengylydd Llangan yn chwythu yn yr udgorn o fewn ugain milldir, pwy fuasai yn aros gartref gyda'r plant? Nid oedd digon o raffau o fewn cylch Methodistiaeth y dyddiau hyny i'w cylymu a'u dal. Byddai swn yr efengylwr ar y mynyddoedd yn "cyhoeddi heddwch, yn efengylu tangnefedd, yn dywedyd wrth Sion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu," yn peri i'r werin redeg tuag yno wrth y miloedd. Nid oedd cydwybod, dyledswydd, a phethau felly, wedi dyfod yn bynciau teimladwy ond i fesur bychan iawn. Nid yr ystyriaethau o ddyledswydd fyddai yn eu taro hwynt gymaint; ac eto yr oeddynt yn myned yn hwylus ar ol crefydd. Yr oeddynt yn myned am eu bod yn cael rhyw flas annhraethol wrth wrando pregethau. Yr ydym yn cofio clywed am ddyn heb fod yn mhell o'r gymydogaeth yr ydym yn byw, yr hwn oedd yn bur hoff o'r byd presenol, a'r wraig hefyd, yn myned ar noson i wrando un o'r pregethwyr mawrion hyn ar nos o'r wythnos i dŷ fferm. Yr oedd eisiau dyfod adref o gwmpas naw, oblegyd yr oedd llawer o anifeiliaid ganddo i edrych atynt. Beth bynag, cododd y pregethwr yr holl bobl i ryw hwyl annghyffredin, a dyna lle y buont yn canu ac yn gorfoleddu heb ond ychydig o honynt yn gwybod beth yr oeddynt yn ei ddywedyd. Yr oedd<noinclude><references/></noinclude> d8qtca36mejqabervhg8z7rrl4bnzfp Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/307 104 84622 164406 2026-05-07T21:27:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164406 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y wraig gartref, yn dysgwyl ac yn dysgwyl am y gwr, gan fethu deall beth oedd wedi dyfod o hono, canys dyn tra gofalus ydoedd am ei fasnach a'i anifeiliaid. Deg o'r gloch yn dyfod, dim son am dano, a'r wraig yn anesmwyth iawn; un ar ddeg, ond pob peth yn ddystaw fel y bedd. "Wel, wel, beth sydd wedi dyfod o'r dyn?" meddai y wraig; "y mae wedi colli y ffordd, a chwympo i ryw le yn siwr." Bid a fyno, yn ymyl deuddeg, dyna swn traed yn tori ar y dystawrwydd, a gwr y tŷ mewn ffrwst yn dyfod. "Yn enw dyn," ebe y wraig, "yn mha le yr ydych wedi bod hyd y pryd hyn o'r nos? Pa gyfrif a ellwch chwi roi o honoch eich hunan, a'r anifeiliaid heb ofalu am danynt?" "Taw, taw," ebe y gwr, "paid dyweyd un gair; bum yn y cwrdd, a theimlais y byd yn myned yn llai na botwm." Dyna fel yr oeddynt hwy yn teithio yn yr amseroedd hyny; wrth olwg, nid wrth ffydd; ac am eu bod wedi cael blas yn y cwrdd o'r blaen, yn myned wedi hyny. Yr oedd yno gydwybod hefyd yn cael ei harfer yn eu crefydd yn ddiau; eithr nid oeddynt yn gweithredu o dan ddylanwad uniongyrchol cydwybod, ond yn hytrach pleser. Yr oeddynt yn cael cymaint o bleser wrth wrando pregethau yn y dyddiau hyny, fel yr oedd yn anhawdd, y peth nesaf at anmhosibl, cael ganddynt i wneyd dim arall. Nid ychydig oedd y gwaith gafwyd i ddyfod â'r bobl i gyfeiriad arall, cael ganddynt ddeall fod rhyw beth mewn crefydd heblaw hunan-lesiant. Yr oedd y wers hon hyd yn hyn heb ei deall; ac nid ychydig o drafferth yw dysgu gwers newydd. Yr oedd un arall hefyd yn galetach byth i'w dysgu cyn y gallesid perswadio y bobl i aros gartref gyda'r Ysgol Sabbathol; sef, nid yn unig fod rhyw beth mewn crefydd heblaw hunan-lesiant, ond hefyd fod yn rhaid ymwadu hyd yn oed â hyny, er mwyn llesoli eraill. Yr oedd hon yn un galed iawn i'w dysgu, ac i'w haddysgu; ac eto nid oedd yn bosibl cychwyn gyda'r Ysgol heb ei dysgu, a'i dysgu yn lled dda hefyd. Aeth llawer i'r bedd heb ei dysgu, a digon tebyg i'r nefoedd hefyd yn amseroedd yr anwybodaeth hono; eithr yn raddol daeth y goleu hwn i enill fwyfwy ar feddyliau dynion, nes dyfod yn haner dydd o'r diwedd. Cymerodd y ddau frawd, y Parchn. E. a T. Richard ran helaeth yn y gorchwyl daionus yma; buont yn llafurio yn galed gyda'r Ysgolion yn nyddiau eu hieuenctyd; a pharhaodd anwyldeb mawr ynddynt hyd y diwedd tuag at y sefydliad. Gellir priodoli llawer o drefn yr ysgolion, a chyfansoddiad hollol y ffurf ddosbarthiadol<noinclude><references/></noinclude> jxvvgt3ac2d8s7wp6zyd0lh6p2puqjp Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/308 104 84623 164407 2026-05-07T21:28:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164407 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r cyfarfodydd dau-fisol, i'r Parch. E. Richard. Yr ydym yn meddwl ei fod yn well trefnwr na'i frawd, ac yn llawer mwy effeithiol mewn gosod pethau i weithio; canys pregethwr oedd Thomas, a phregethu yr oedd yn garu fwyaf o bob peth. Er hyny cymerodd ran helaeth o waith yr Ysgolion Sabbathol, a bu yn ddefnyddiol iawn gyda hyny. Yr ydym yn gweled yn mysg ei ysgrifeniadau amryw o bynciau, wedi eu cyfansoddi ganddo i'r Ysgolion, yr hyn sydd yn dangos ei ofal drostynt, a'i lafur gyda hwynt. Yn aml iawn byddai yn holi y pynciau hyn; a dywedwyd na welwyd cyfarfodydd erioed yn llawer mwy effeithiol yn y dyddiau hyny: byddai y cwbl yn dybenu yn aml mewn gorfoledd a mawl. Yn yr amser hwnw, cyn sefydliad ffurf y cyfarfodydd daufisol, yr oedd peth y galwent sasiwn plant, pryd yr ymgyfarfyddai chwech neu saith o wahanol ysgolion i adrodd y pwne, ac yr holid hwynt gan bregethwyr, Byddai pregethwr yn holi Ysgol neu ddwy mewn un odfa, ac un arall yn pregethu yn fyr ar y diwedd; ac felly drwy y dydd. Cafodd canoedd a miloedd o blant gymaint o flas gyda'r cyfarfodydd hyn, nes ymgylymu am byth gyda'r achos crefyddol. Y mae llawer yn fyw heddyw allant dystio i wirionedd y dywediad hwn; a phe bai yn bosibl clywed llais o'r nefoedd, y mae yno filoedd ar filoedd o Gymry a dystiolaethent gyda llef uchel i'r gwirionedd hwn. Beth bynag, cymerodd Mr. Richard bleser mawr yn y cyfarfodydd hyn, ac ymddangosai wrth ei fodd pan yn holi yr Ysgolion; a byddai pawb felly hefyd wrth wrando. Yr oedd yn ddoniol dros ben. Parhaodd i deimlo gryn hyfrydwch, nes iddo fyned yn hen gyda'r gorchwylion hyn; a byddai y bobl yn bur foddlawn pan y clywid ei fod yn dyfod atynt i holi y pwnc. Nid oedd arnynt ei ofn, ar ol arfer ag ef, canys ni fynai eu dyrysu yn gyhoeddus; yr oedd yn groes hollol i'r arferiad o geisio gwneyd pobl yn ffyliaid ar gyhoedd cynulleidfa, er mwyn i'r pregethwr geisio dangos ei fod ef yn gallach na hwynt. Na, arweiniai hwynt yn ddifyr, a dangosai pa fodd yr oeddent i ateb yn ei ddull o holi. Ond cofiwch, os gwelai gryfder cnawdol yn dyfod i'r golwg yn rhyw rai, buasent yn sicr o chwysu cyn y diwedd, a dyweyd y lleiaf. Ond dyn tyner iawn oedd ef pan welai deimlad; ni fu ei dynerach mewn cymdeithas erioed. Yn gymaint ag nad ydym yn y benod hon yn golygu ond rhoi un engraifft fechan o hono yn rhoi cynghor i'r athrawon a'r ysgol, er mwyn esiampl, gosodwn hyny yn bresenol ger eich bron. Y mae rhyw beth yn briodol ac at y pwynt ynddo yn ymwneyd â phob peth, fel y gwelir wrth y cynghor byr sydd yn canlyn. CYFARCHIAD I ATHRAWON YR YSGOL SABBATHOL. "Deuwch, blant, gwrandewch arnaf; dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd," Salm xxxiv. 11. YR unig ffordd i adnabod pethau yr Arglwydd yw, wrth eu natur, eu cynwysiad, a'u dyben. Mae gair yr Arglwydd ac efengyl yr Arglwydd yn dangos mai hyny ydynt yn eu santeiddrwydd, eu daioni, eu buddioldeb, a'u tiriondeb. Mae hyn yn amlwg yn y geiriau hyn, sydd yn cynwys yn I. Galwad serchiadol: "Deuwch, blant." 1. Mae y galw hwn yn dangos ysbryd addas, yn dangos agwedd addas, yn dangos geiriau addas. Mae yr addasrwydd hwn yn ofynol ac yn angenrheidiol i fod yn mhawb. Mae blaenori a dysgu blaenori yn perthyn iddynt; megys swyddogion gwladol, blaenoriaid eglwysig, penau teuluoedd, ac athrawon ysgolion. 2. "Deuwch." Mor briodol yw hyn; nid ewch, nid cerddwch, ond Deuwch. Deuwch o'r wlad yr ydych ynddi, o ffordd y diluw, o ffordd y tân, o ffordd y dialydd, o bechod, o falchder ac annghymedroldeb, o buteindra, o gynen, cenfigen, a chybydd-dod; deuwch i foddion gras, i'r pregethau, i'r ysgolion, i'r arch, i'r noddfa, dan arwydd y gwaed, dan arweiniad y golofn. 3. Plant yw y gwrthddrychau a elwir. Er bod y gair hwn wrth y rhai nad oedd blant mewn oedran, eto y mae yn air addas i bawb yn mhob oedran, sydd yn wrthddrych addysg. Peidiwch beio os clywch wrth holi alw rhai mewn llawn oedran a maintioli yn blant; mae yn air serchiadol, dengar, a hoff. "Deuwch, blant.", II. Cynghor mwynaidd. 1. Yract yn y cynghor hwn yw gwrando. Gwrandewch, adnabyddwch, deallwch, gwybyddwch, dylynwch, efelychwch, tebygolwch, sylwch, cofiwch, credwch, cadwch. 2. Y gwrthddrych i wrando arno: "Arnaf." Nid yw hyn yn llais crwydryn, ond yn llais gwas anfonedig, ac yn llais awdurdod a gosodiad; ac yn llais cenadwri gymhwysiadol a chyfeiriol. O mor annhebyg i hyn yw yr agwedd bresenol. Mae y cwbl heb hyn yn ofer; yr holl glywed, yr holl bregethu, yr holl bynciau, a'r holl adroddiadau. O gymaint o glywed sydd heb wrando, o ddysgu heb wrando. III. Addewid gymwynasgar: "Dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd." 1. Y gwrthddrych a nodir yma yw ofn yr Arglwydd. Athrawiaeth yr Arglwydd y mae yn ei thraethu yma. Yr Arglwydd yw y gwrthddrych a'r nod mawr i bob peth orfoleddu ynddo, i'w fawrygu, i'w garu, i edrych arno. 2. Buchedd dduwiol: "Pwy yw y gwr a chwenych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll. Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dylyn hi," Salm xxxiv. 12, 13, 14. 3. Ymddygiad yr Arglwydd at ei bobl ac at ei elynion: "Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn, a'i glustiau sydd yn agored i'w llefain hwynt. Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dori eu coffa oddiar y ddaear," &c., adn. 15-22. Profiad o'r Arglwydd: "Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gwr a ymddiriedo ynddo," adn. 8. Addoli yr Arglwydd, ei garu, ei wasanaethu, ac ufuddhau iddo: "Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc; ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni," adn. 9, 10. Dylai athrawon fod yn ddysgawdwyr. Pa un bynag ai athrawon ysgolion ai athrawon athrawiaethol, nid oes iawn athrawiaethu heb ddysgu. Y gwaith yw dysgu. Gwaith gwybodaeth, gwaith manylwch, gwaith dyfalwch, gwaith amynedd, gwaith addfwynder. (1.) Mae cyflwr y natur ddynol trwy bechod yn gofyn dysgu yn naturiol ac yn ysbrydol. (2.) Mae cariad, doethineb, tosturi, a daioni Duw wedi cyhoeddi ffordd i ddysgu ffyliaid, deillion, byddariaid, a mudaniaid. Yn y ffordd hon y mae Duw a Christ a'i anfonedig weision yn dysgu. Nid oes neb yn dysgu fel efe. "A dysgwch genyf," medd Crist. Dysgu ffordd iachawdwriaeth mae ei weision. (3.) Mae yn dysgu yn awr, ac fe ddysg bawb ond a wrthodo wrando. (4.) A defnyddiwch weddiau dibaid ag ymprydiau, a phob ymdrechiadau am gael Duw gyda'r moddion. O Ysbryd Glân, disgyn yma yn awr. 257 PENOD XXII. Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddoColeg Trefecca. YMDDENGYS fod Mr. Richard yn meddwl ac yn gofalu mwy am grefydd yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd nag am ei holl helyntion personol a theuluol ei hun. Yr oedd er yn ieuanc wedi ymbriodi â'r Cyfundeb, ac wedi ymroddi yn llwyr i'w wasanaethu. Gallwn weled oddiwrth ei ysgrifeniadau mai ei ofidiau penaf oedd annghysuron y Cyfundeb, a'i lawenydd uchaf oedd ei lwyddiant. Cawn ef yn aml ar ei liniau yn gofyn am feddwl Duw, yn wyneb rhyw amgylchiadau pwysig. Nid yw yn symud ond yn hynod o araf, ac nid yw yn symud o gwbl heb ryw arwyddion fod Duw byddinoedd Israel yn symud o'i flaen. Yr oedd yn adnabod arwyddion yr amseroedd cystal a neb, fe allai; adwaenai symudiadau yr Hollalluog; yr oedd yn gydnabyddus â'i lais ef; yr oedd yn gwylied symudiadau yr olwynion, a symudai pan symudai hwythau, ac arafai pan arafai hwythau. Dyn ydoedd yn gwylied symudiadau Duw Hollalluog. Pan glywai drwst yn mrig y morwydd, yr oedd yntau yn dechreu ymsymud, i gael myned allan gyda Duw. Y mae sylwi ar ddirgelion ei fywyd yn peri i ni gofio llawer o bethau y clywsom ef yn eu dyweyd. Yr oeddem yn meddwl y pryd hwnw yn ddigon ysgafn am danynt; eithr yr ydym yn gweled erbyn heddyw eu bod yn bwysig, ac mai efe oedd yn iawn. Ffrwyth ymgynghori a Duw oedd ei ddywediadau, ei gynghorion, a'i ocheliadau. Wrth ddarllen ei bapyrau, yr ydym yn ei gael yn aml ar ei liniau yn gofyn meddwl Duw yn nghylch rhyw symudiad newydd, ac yn dymuno yn daer am iddo beidio symud mewn un achos heb ei wyneb. Dyma lle yr oedd cuddiad ei gryfder; nid rhyfedd ei fod yn ddidroi yn ol wedi iddo ddyfod i benderfyniad. Nid meddwl wedi ei ffurfio mewn byrbwylldra, yn ol mympwy anystyriol, oedd ei feddwl ef, eithr meddwl wedi ymaddfedu mewn cymdeithas a Duw. Yr ydym yn gweled yn amlwg wrth ei bapyrau mai siarad â Duw a wnai bob amser yn gyntaf yn nghylch pob peth pwysig, pa un ai dal perthynas ag achosion teuluaidd, achosion eglwysig cartrefol, achosion sirol, neu achosion cymanfaol y byddai. Yr oedd yn araf iawn yn ei symudiadau wrth gychwyn; byddai yn rhoddi y peth yn ddifrifol bob dydd ger bron Duw, yn dymuno arno trwy arweiniad rhagluniaeth i arwyddo yn sicr ei foddlonrwydd neu ei anfoddlonrwydd. Mynych yr arferai ddyweyd ger bron Duw ar ol trefnu rhyw fater ger ei fron, "Na symud fi o'r fan hon onid â dy wyneb gyda mi." Byddai am fisoedd yn ymgynghori a Duw yn nghylch pethau pwysig y Cyfundeb y perthynai iddo, ac yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar amgylchiadau y pethau hyny, i'r dyben o geisio barnu pa fodd yr oedd Duw Hollalluog yn symud. Yr ydym yn cywilyddio yn ddwys o herwydd byrdra ein crefydd, wrth ei chydmaru a'i eiddo ef; yr oedd efe yn gweddio beunydd, ac yn gwylio yn ddyfal wrth ddrysau ei Arglwydd am genadwri oddiwrtho yn nghylch holl achosion crefydd. Y mae yn amlwg fod dyben dwyfol o flaen ei olygon bob amser, a'i fod yn byw yn ei holl gysylltiadau i'r dyben mawr hwnw. Wrth fyned yn y blaen, ac wrth gael ein harwain o gell i gell i'w fywyd dirgelaidd, y mae yr elfen hon yn dyfod yn amlycach o hyd. Dyn Duw ydoedd, yn sicr hefyd. Wedi hir ymgynghoriaeth â Duw, a dysgwyliad maith wrtho, ac wedi i'w feddwl ddyfod yn sefydlog yn nghylch meddwl y Goruchaf, yr oedd yn dyfod allan yn lled benderfynol; ger bron Duw yr oedd yn petruso, eithr pan y delai oddiyno, wedi derbyn boddlonrwydd i'w feddwl, ac ymddangos ger bron dynion, byddai yn gryf, yn benderfynol, ac yn ddibetrus. Buom yn rhyfeddu rai gweithiau wrth ei benderfynolrwydd, a'r peth fyddem ni yn ei alw weithiau ei "benstiffrwydd;" ond yn awr, wedi cael cipolwg i'w fywyd dirgelaidd, nid ydym yn synu cymaint, canys penderfynolrwydd wedi ei gynyrchu mewn cymundeb å Duw ydoedd, ac wedi ymaddfedu i allu a grym mawr. Buwyd yn ei feio mewn llawer o bethau; ac yn wir, buom ein hunain yn ei feio; yr ydym yn gweled yn awr mai efe oedd yn iawn, efe oedd o dan yr arweiniad nefol. Nid yw yn bosibl dirnad nerth y dyn hwnw sydd yn tynu ei gryfder o gymdeithas a Duw, ac yn gydwybodol yn gwneuthur ei ewyllys ef. Gall coegni a chnawd lwyddo i godi gwynt am dipyn, ond nid yn hir; ac yn gyffredin chwythir hwynt dros y dibyn gan eu gwynt eu hunain. Un symudiad mawr iawn, ar ddiwedd ei oes braidd, oedd bod y Cyfundeb yn dechreu meddwl a darpar<noinclude><references/></noinclude> 0lk3aqgg2fbldqo712oztkrfloyxzjj 164408 164407 2026-05-07T21:29:47Z AlwynapHuw 1710 164408 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r cyfarfodydd dau-fisol, i'r Parch. E. Richard. Yr ydym yn meddwl ei fod yn well trefnwr na'i frawd, ac yn llawer mwy effeithiol mewn gosod pethau i weithio; canys pregethwr oedd Thomas, a phregethu yr oedd yn garu fwyaf o bob peth. Er hyny cymerodd ran helaeth o waith yr Ysgolion Sabbathol, a bu yn ddefnyddiol iawn gyda hyny. Yr ydym yn gweled yn mysg ei ysgrifeniadau amryw o bynciau, wedi eu cyfansoddi ganddo i'r Ysgolion, yr hyn sydd yn dangos ei ofal drostynt, a'i lafur gyda hwynt. Yn aml iawn byddai yn holi y pynciau hyn; a dywedwyd na welwyd cyfarfodydd erioed yn llawer mwy effeithiol yn y dyddiau hyny: byddai y cwbl yn dybenu yn aml mewn gorfoledd a mawl. Yn yr amser hwnw, cyn sefydliad ffurf y cyfarfodydd daufisol, yr oedd peth y galwent sasiwn plant, pryd yr ymgyfarfyddai chwech neu saith o wahanol ysgolion i adrodd y pwne, ac yr holid hwynt gan bregethwyr, Byddai pregethwr yn holi Ysgol neu ddwy mewn un odfa, ac un arall yn pregethu yn fyr ar y diwedd; ac felly drwy y dydd. Cafodd canoedd a miloedd o blant gymaint o flas gyda'r cyfarfodydd hyn, nes ymgylymu am byth gyda'r achos crefyddol. Y mae llawer yn fyw heddyw allant dystio i wirionedd y dywediad hwn; a phe bai yn bosibl clywed llais o'r nefoedd, y mae yno filoedd ar filoedd o Gymry a dystiolaethent gyda llef uchel i'r gwirionedd hwn. Beth bynag, cymerodd Mr. Richard bleser mawr yn y cyfarfodydd hyn, ac ymddangosai wrth ei fodd pan yn holi yr Ysgolion; a byddai pawb felly hefyd wrth wrando. Yr oedd yn ddoniol dros ben. Parhaodd i deimlo gryn hyfrydwch, nes iddo fyned yn hen gyda'r gorchwylion hyn; a byddai y bobl yn bur foddlawn pan y clywid ei fod yn dyfod atynt i holi y pwnc. Nid oedd arnynt ei ofn, ar ol arfer ag ef, canys ni fynai eu dyrysu yn gyhoeddus; yr oedd yn groes hollol i'r arferiad o geisio gwneyd pobl yn ffyliaid ar gyhoedd cynulleidfa, er mwyn i'r pregethwr geisio dangos ei fod ef yn gallach na hwynt. Na, arweiniai hwynt yn ddifyr, a dangosai pa fodd yr oeddent i ateb yn ei ddull o holi. Ond cofiwch, os gwelai gryfder cnawdol yn dyfod i'r golwg yn rhyw rai, buasent yn sicr o chwysu cyn y diwedd, a dyweyd y lleiaf. Ond dyn tyner iawn oedd ef pan welai deimlad; ni fu ei dynerach mewn cymdeithas erioed. Yn gymaint ag nad ydym yn y benod hon yn golygu ond rhoi un engraifft fechan o hono yn rhoi cynghor i'r athrawon a'r ysgol, er mwyn esiampl, gosodwn hyny yn bresenol ger<noinclude><references/></noinclude> k5udm2sppzmhf41hxgvp5pcyj2t08aq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/309 104 84624 164409 2026-05-07T21:30:05Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "eich bron. Y mae rhyw beth yn briodol ac at y pwynt ynddo yn ymwneyd â phob peth, fel y gwelir wrth y cynghor byr sydd yn canlyn. CYFARCHIAD I ATHRAWON YR YSGOL SABBATHOL. "Deuwch, blant, gwrandewch arnaf; dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd," Salm xxxiv. 11. YR unig ffordd i adnabod pethau yr Arglwydd yw, wrth eu natur, eu cynwysiad, a'u dyben. Mae gair yr Arglwydd ac efengyl yr Arglwydd yn dangos mai hyny ydynt yn eu santeiddrwydd, e... 164409 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eich bron. Y mae rhyw beth yn briodol ac at y pwynt ynddo yn ymwneyd â phob peth, fel y gwelir wrth y cynghor byr sydd yn canlyn. CYFARCHIAD I ATHRAWON YR YSGOL SABBATHOL. "Deuwch, blant, gwrandewch arnaf; dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd," Salm xxxiv. 11. YR unig ffordd i adnabod pethau yr Arglwydd yw, wrth eu natur, eu cynwysiad, a'u dyben. Mae gair yr Arglwydd ac efengyl yr Arglwydd yn dangos mai hyny ydynt yn eu santeiddrwydd, eu daioni, eu buddioldeb, a'u tiriondeb. Mae hyn yn amlwg yn y geiriau hyn, sydd yn cynwys yn I. Galwad serchiadol: "Deuwch, blant." 1. Mae y galw hwn yn dangos ysbryd addas, yn dangos agwedd addas, yn dangos geiriau addas. Mae yr addasrwydd hwn yn ofynol ac yn angenrheidiol i fod yn mhawb. Mae blaenori a dysgu blaenori yn perthyn iddynt; megys swyddogion gwladol, blaenoriaid eglwysig, penau teuluoedd, ac athrawon ysgolion. 2. "Deuwch." Mor briodol yw hyn; nid ewch, nid cerddwch, ond Deuwch. Deuwch o'r wlad yr ydych ynddi, o ffordd y diluw, o ffordd y tân, o ffordd y dialydd, o bechod, o falchder ac annghymedroldeb, o buteindra, o gynen, cenfigen, a chybydd-dod; deuwch i foddion gras, i'r pregethau, i'r ysgolion, i'r arch, i'r noddfa, dan arwydd y gwaed, dan arweiniad y golofn. 3. Plant yw y gwrthddrychau a elwir. Er bod y gair hwn wrth y rhai nad oedd blant mewn oedran, eto y mae yn air addas i bawb yn mhob oedran, sydd yn wrthddrych addysg. Peidiwch beio os clywch wrth holi alw rhai mewn llawn oedran a maintioli yn blant; mae yn air serchiadol, dengar, a hoff. "Deuwch, blant.", II. Cynghor mwynaidd. 1. Yract yn y cynghor hwn yw gwrando. Gwrandewch, adnabyddwch, deallwch, gwybyddwch, dylynwch, efelychwch, tebygolwch, sylwch, cofiwch, credwch, cadwch. 2. Y gwrthddrych i wrando arno: "Arnaf." Nid yw hyn yn llais crwydryn, ond yn llais gwas anfonedig, ac yn llais awdurdod a gosodiad; ac yn llais cenadwri gymhwysiadol a chyfeiriol. O mor annhebyg i hyn yw yr agwedd bresenol. Mae y cwbl heb hyn yn ofer; yr holl glywed, yr holl bregethu, yr holl bynciau, a'r holl adroddiadau. O gymaint o glywed sydd heb wrando, o ddysgu heb wrando. III. Addewid gymwynasgar: "Dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd." 1. Y gwrthddrych a nodir yma yw ofn yr Arglwydd. Athrawiaeth yr Arglwydd y mae yn ei thraethu yma. Yr Arglwydd yw y gwrthddrych a'r nod mawr i bob peth orfoleddu ynddo, i'w fawrygu, i'w garu, i edrych arno. 2. Buchedd dduwiol: "Pwy yw y gwr a chwenych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll. Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dylyn hi," Salm xxxiv. 12, 13, 14. 3. Ymddygiad yr Arglwydd at ei bobl ac at ei elynion: "Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn, a'i glustiau sydd yn agored i'w llefain hwynt. Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dori eu coffa oddiar y ddaear," &c., adn. 15-22. Profiad o'r Arglwydd: "Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gwr a ymddiriedo ynddo," adn. 8. Addoli yr Arglwydd, ei garu, ei wasanaethu, ac ufuddhau iddo: "Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc; ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni," adn. 9, 10. Dylai athrawon fod yn ddysgawdwyr. Pa un bynag ai athrawon ysgolion ai athrawon athrawiaethol, nid oes iawn athrawiaethu heb ddysgu. Y gwaith yw dysgu. Gwaith gwybodaeth, gwaith manylwch, gwaith dyfalwch, gwaith amynedd, gwaith addfwynder. (1.) Mae cyflwr y natur ddynol trwy bechod yn gofyn dysgu yn naturiol ac yn ysbrydol. (2.) Mae cariad, doethineb, tosturi, a daioni Duw wedi cyhoeddi ffordd i ddysgu ffyliaid, deillion, byddariaid, a mudaniaid. Yn y ffordd hon y mae Duw a Christ a'i anfonedig weision yn dysgu. Nid oes neb yn dysgu fel efe. "A dysgwch genyf," medd Crist. Dysgu ffordd iachawdwriaeth mae ei weision. (3.) Mae yn dysgu yn awr, ac fe ddysg bawb ond a wrthodo wrando. (4.) A defnyddiwch weddiau dibaid ag ymprydiau, a phob ymdrechiadau am gael Duw gyda'r moddion. O Ysbryd Glân, disgyn yma yn awr. 257 PENOD XXII. Gofal Mr. Richard am bob peth y Cyfundeb y perthynai iddoColeg Trefecca. YMDDENGYS fod Mr. Richard yn meddwl ac yn gofalu mwy am grefydd yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd nag am ei holl helyntion personol a theuluol ei hun. Yr oedd er yn ieuanc wedi ymbriodi â'r Cyfundeb, ac wedi ymroddi yn llwyr i'w wasanaethu. Gallwn weled oddiwrth ei ysgrifeniadau mai ei ofidiau penaf oedd annghysuron y Cyfundeb, a'i lawenydd uchaf oedd ei lwyddiant. Cawn ef yn aml ar ei liniau yn gofyn am feddwl Duw, yn wyneb rhyw amgylchiadau pwysig. Nid yw yn symud ond yn hynod o araf, ac nid yw yn symud o gwbl heb ryw arwyddion fod Duw byddinoedd Israel yn symud o'i flaen. Yr oedd yn adnabod arwyddion yr amseroedd cystal a neb, fe allai; adwaenai symudiadau yr Hollalluog; yr oedd yn gydnabyddus â'i lais ef; yr oedd yn gwylied symudiadau yr olwynion, a symudai pan symudai hwythau, ac arafai pan arafai hwythau. Dyn ydoedd yn gwylied symudiadau Duw Hollalluog. Pan glywai drwst yn mrig y morwydd, yr oedd yntau yn dechreu ymsymud, i gael myned allan gyda Duw. Y mae sylwi ar ddirgelion ei fywyd yn peri i ni gofio llawer o bethau y clywsom ef yn eu dyweyd. Yr oeddem yn meddwl y pryd hwnw yn ddigon ysgafn am danynt; eithr yr ydym yn gweled erbyn heddyw eu bod yn bwysig, ac mai efe oedd yn iawn. Ffrwyth ymgynghori a Duw oedd ei ddywediadau, ei gynghorion, a'i ocheliadau. Wrth ddarllen ei bapyrau, yr ydym yn ei gael yn aml ar ei liniau yn gofyn meddwl Duw yn nghylch rhyw symudiad newydd, ac yn dymuno yn daer am iddo beidio symud mewn un achos heb ei wyneb. Dyma lle yr oedd cuddiad ei gryfder; nid rhyfedd ei fod yn ddidroi yn ol wedi iddo ddyfod i benderfyniad. Nid meddwl wedi ei ffurfio mewn byrbwylldra, yn ol mympwy anystyriol, oedd ei feddwl ef, eithr meddwl wedi ymaddfedu mewn cymdeithas a Duw. Yr ydym yn gweled yn amlwg wrth ei bapyrau mai siarad â Duw a wnai bob amser yn gyntaf yn nghylch pob peth pwysig, pa un ai dal perthynas ag achosion teuluaidd, achosion eglwysig cartrefol, achosion sirol, neu achosion cymanfaol y byddai. Yr oedd yn araf iawn yn ei symudiadau wrth gychwyn; byddai yn rhoddi y peth yn ddifrifol bob dydd ger bron Duw, yn dymuno arno trwy arweiniad rhagluniaeth i arwyddo yn sicr ei foddlonrwydd neu ei anfoddlonrwydd. Mynych yr arferai ddyweyd ger bron Duw ar ol trefnu rhyw fater ger ei fron, "Na symud fi o'r fan hon onid â dy wyneb gyda mi." Byddai am fisoedd yn ymgynghori a Duw yn nghylch pethau pwysig y Cyfundeb y perthynai iddo, ac yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar amgylchiadau y pethau hyny, i'r dyben o geisio barnu pa fodd yr oedd Duw Hollalluog yn symud. Yr ydym yn cywilyddio yn ddwys o herwydd byrdra ein crefydd, wrth ei chydmaru a'i eiddo ef; yr oedd efe yn gweddio beunydd, ac yn gwylio yn ddyfal wrth ddrysau ei Arglwydd am genadwri oddiwrtho yn nghylch holl achosion crefydd. Y mae yn amlwg fod dyben dwyfol o flaen ei olygon bob amser, a'i fod yn byw yn ei holl gysylltiadau i'r dyben mawr hwnw. Wrth fyned yn y blaen, ac wrth gael ein harwain o gell i gell i'w fywyd dirgelaidd, y mae yr elfen hon yn dyfod yn amlycach o hyd. Dyn Duw ydoedd, yn sicr hefyd. Wedi hir ymgynghoriaeth â Duw, a dysgwyliad maith wrtho, ac wedi i'w feddwl ddyfod yn sefydlog yn nghylch meddwl y Goruchaf, yr oedd yn dyfod allan yn lled benderfynol; ger bron Duw yr oedd yn petruso, eithr pan y delai oddiyno, wedi derbyn boddlonrwydd i'w feddwl, ac ymddangos ger bron dynion, byddai yn gryf, yn benderfynol, ac yn ddibetrus. Buom yn rhyfeddu rai gweithiau wrth ei benderfynolrwydd, a'r peth fyddem ni yn ei alw weithiau ei "benstiffrwydd;" ond yn awr, wedi cael cipolwg i'w fywyd dirgelaidd, nid ydym yn synu cymaint, canys penderfynolrwydd wedi ei gynyrchu mewn cymundeb å Duw ydoedd, ac wedi ymaddfedu i allu a grym mawr. Buwyd yn ei feio mewn llawer o bethau; ac yn wir, buom ein hunain yn ei feio; yr ydym yn gweled yn awr mai efe oedd yn iawn, efe oedd o dan yr arweiniad nefol. Nid yw yn bosibl dirnad nerth y dyn hwnw sydd yn tynu ei gryfder o gymdeithas a Duw, ac yn gydwybodol yn gwneuthur ei ewyllys ef. Gall coegni a chnawd lwyddo i godi gwynt am dipyn, ond nid yn hir; ac yn gyffredin chwythir hwynt dros y dibyn gan eu gwynt eu hunain. Un symudiad mawr iawn, ar ddiwedd ei oes braidd, oedd bod y Cyfundeb yn dechreu meddwl a darpar at Goleg. Amrywiol oedd y teimladau y pryd hwnw mewn perthynas i'r peth hwn, fel y daeth yn fater o brofedigaeth drwy yr holl<noinclude><references/></noinclude> jwo7kq7xcq3kuftannbrx0n168isbbs Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/313 104 84625 164410 2026-05-07T21:31:01Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "siroedd, De a Gogledd. Byddai llawer yn groes hollol i sefydliad o'r fath o gwbl; rhai yn bur ddifater am y peth o gwbl, ac eraill yn dân poeth, bodd neu anfodd. Pan yn edrych dros ei bapyrau pan oedd y Cyfundeb yn y brofedigaeth hon, yr ydym yn gweled difrifwch mawr yn ei weddiau am i'r Arglwydd ddangos ei feddwl i'w bobl yn yr achos hwn, a'u cadw rhag ymddyrysu, ac o herwydd hyny aflwyddo. Gwelir yn fuan iawn ei fod ef ei hun yn de... 164410 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>siroedd, De a Gogledd. Byddai llawer yn groes hollol i sefydliad o'r fath o gwbl; rhai yn bur ddifater am y peth o gwbl, ac eraill yn dân poeth, bodd neu anfodd. Pan yn edrych dros ei bapyrau pan oedd y Cyfundeb yn y brofedigaeth hon, yr ydym yn gweled difrifwch mawr yn ei weddiau am i'r Arglwydd ddangos ei feddwl i'w bobl yn yr achos hwn, a'u cadw rhag ymddyrysu, ac o herwydd hyny aflwyddo. Gwelir yn fuan iawn ei fod ef ei hun yn dechreu cael boddlonrwydd yn nghylch y cwestiwn, ac yn raddol yn ffurfio penderfynolrwydd yn ei feddwl y dylai sefydliad o'r fath fod bellach. Wedi hyn y mae yn dyfod allan fel arferol ar gwestiynau eraill, yn gryf a didroi yn ol; gan arwain meddyliau y bobl y ffordd hono. Dylynir ef gan y werin yn gyffredin, fel y mae y teimlad yn teithio yn hwylus i'r cyfeiriad crybwylledig. Cododd ewestiwn o bwys mawr eilwaith yn mha le yr oedd y sefydliad i fod, ac hefyd a oedd chwaneg nag un i fod yn y Cyfundeb. Trodd y cwestiynau hyn yn rhai pwysig yn ei feddwl, ac yr ydym yn ei weled yn fynych iawn ar ei liniau, yn deisyf meddwl a chyfarwyddyd Duw ar ran y Cyfundeb. "Yr wyt wedi arwain ein Cyfundeb yn anrhydeddus iawn hyd yma," meddai, "trwy lawer o amgylchiadau pur dywyll; paid a'n gadael i ymddyrysu y waith hon, ac felly i aflwyddo o hyn allan." Dros amser maith y cadwodd wyliadwriaeth ar yr amgylchiad hyn gyda llygad eryraidd, ond yn methu gweled nemawr o oleuni; yr oedd wedi dyfod i benderfyniad y dylasai peth felly fod, ond yn mha le a pha fodd, nid oedd yn gallu canfod dim goleu. Yn mhen tipyn, dyna lais yn dyfod i'r Gymanfa oddiwrth yr hen bobl ag oedd yn byw yn Nhrefecca, yr ymddiriedolwyr olaf, y rhai yn unig oedd ag awdurdod i drosglwyddo y meddiant hwnw yn mhellach, eu bod hwy yn foddlawn ei roddi am byth i'r Cyfundeb at y pwrpas hwnw. Cymerodd Mr. Richard y newydd fel awgrymiad dwyfol; credodd fod yr Hollalluog yn ateb ei weddiau, ac yn ei diriondeb grasol yn dangos man pwrpasol, ac yn agos a bod yn barod at gadw Coleg. Diolchodd i Dduw, a chymerodd gysur; gan edrych ar yr awgrymiad yn arweiniad Ysbryd Duw, a phenderfynodd ar unwaith i ddylyn yr arweiniad hwnw. Do, edrychodd gyda syndod ar hen sefydliad anrhydeddus Howel Harris, a sefydlwyd at ddybenion crefyddol, yn dyfod i feddiant y Methodistiaid Calfinaidd i'w ddefnyddio at ei ddybenion cyntefig. Gellid meddwl wrth ei bapyrau ei fod yn edrych ar ddyfodiad y lle i feddiant y sefydliad, yn ddigon o brawf mai yno y mynai Duw ei gadw. Bu ychydig helynt eilwaith, yn gymaint ag nad oedd y Gogledd yn caru dyfod mor bell i'r De, canys er cymeryd Trefecca, siaradwyd llawer am gael un Coleg. Cynygiodd ein tadau ran yn Nhrefecca i'w brodyr yn y Gogledd, a chadw y sefydliad gyda'u gilydd; ond gwrthodasant hyny, am nad oedd yn ddigon agos atynt hwy. Ond ni fynai Mr. Richard ollwng Trefecca o'i law wedi i Ragluniaeth ei rhoi mor esmwyth; yr oedd yn well ganddo ymadael â'r Gogledd yn hyn o beth na myned yn groes i'w gydwybod, ac arwyddion yr amseroedd. Ein tadau, mewn cysylltiad ag ef, a ddaethant i'r penderfyniad i sefydlu yr Athrofa yn y lle cyfleus a phrydferth hwn, yr hwn a gawsant gan law haelionus rhagluniaeth ddwyfol. Yn gymaint a'i fod ef wedi ffurfio y penderfyniad yn nghylch Trefecca mewn cymundeb â'r Arglwydd, nid oedd yn bosibl ei symud oddiwrth y penderfyniad hwnw; yr oedd yn gadarn ac yn ddiysgog, gan fod ei "galon yn ddisigl yn ymddiried yn yr Arglwydd." Nid dyn penboeth, penbleth, a phenchwiban oedd Mr. Richard; eitür dyn Duw, yn gwylied i wneuthur daioni yn mhob cyfeiriad, gan ddysgwyl wrth yr Arglwydd, yr hwn yr oedd yn ei wasanaethu, am ei fendith i'w ddylyn yn mhob symudiad. Gwyn fyd y wlad sydd wedi magu y cyfryw feibion, a'r eglwys sydd wedi ei bendithio a'r cyfryw weinidogion. Gyda'r sylwadau a ganlyn o eiddo Mr. Richard ar y sefydliad, ni a ddybenwn y benod hon. Ystyrlaethau am y Sefydliad. I. Ni a ddylem ymegnio i ddeall pa fodd mae dylyn yr Arglwydd yn y peth hwn, yn ol ei ymddygiad rhagluniaethol at y Corph ar yr achos hwn, o ddechreuad y Corph hyd yma, 1. Fe'n cadwyd mewn agwedd anrhydeddus heb y fath sefydliad. 2. Yr ataliad gan Ragluniaeth fu ar y peth amryw weithiau-ddwywaith yn y Gogledd. 3. Y rhai yn ein plith a gafwyd i'r gwaith yn hardd heb hyn, o'u dechreuad hyd yn awr. 4. A'r effaith annymunol a wnaeth y fath beth ar rai oedd mor annhebyg i'w gymeryd a neb yn y dalaeth. 5. A bod y rhai mwyaf feddem yn ein plith yn groes iawn iddo. 6. Yr anfantais i roi un yn yr ysgol, os gwrthodir neb a gynygir ganddo ei hun neu gan eraill fyddo yn pregethu yn y Corph. Pa beth fydd y canlyniadau ond tramgwydd ac annghydfod, yn enwedig os bydd rhieni y gwr ieuanc yn perthyn i'r Corph? 7. Ai ni fyddai yn well a mwy diberygl i gael fund rhwng yr amrywiol siroedd yn y Deheudir, neu i bob sir gostio un neu ddau mewn ysgol, i'w gwneyd yn hyddysg yn yr iaith Saesneg mewn lle y gallont arfer eu dawn yn yr iaith Saesneg. 8. A'r amgylchiadau er addysg yw y pethau-hyn, ac nid rheol. II. Fe ddylid bod yn ddealladwy bod yr hyn yr ymdrechir ato yn ol gair yr Arglwydd. III. Fe ddylai fod yn wrthddrych ympryd a gweddi i henuriaid y siroedd yn y dirgel ar yr un diwrnod am adnabod meddwl yr Arglwydd yn hyn. 2. Am foddlonrwydd yr Arglwydd gyda hyn. 3. Am arddeliad a llwyddiant yr Arglwydd ar hyn. IV. Trefn y sefydliad. 1. Cael llyfr i gynwys ffurf y sefydliad mor berffaith ag y gellir ei gael, megys (1.) Enwad ar y sefydliad. (2.) Dull i gasglu ac i barhau y fund. Yn gyntaf, Rhoddion. Yn ail, Rhoddion blynyddol. Yn drydydd, Bod swm bychan pendant, hawdd yn cael ei roddi ar bob eglwys yn ol ei gallu i weithredu, trwy bob sir yn y Deheudir. (2.) Bod enwau y cyfranogwyr a'u rhoddion yn cael eu rhoddi yn y llyfr. (3.) Bod cyflog bendant yn cael ei nodi gan yr Association i athraw yr ysgol. (4.) Bod yr athraw i fod y dyn mwyaf duwiol, mwyaf doniol, mwyaf ei ddysg a'i wybodaeth, a'r goreu ei dymher naturiol-gwir iachus yn holl egwyddorion Cyffes Ffydd y Corph; yn ddiysgog yn ffurf a threfn y Corph-athrawiaeth, dysgyblaeth, ac ymarferiadau crefydd, yn nghyda'r rheolau i fucheddu yn mhob peth. V. Bod nifer yr ysgolheigion i gael eu nodi gan yr Association, yr amser i fod ynddi, a pha beth i ddysgu. VI. Llwybr i anfon gwr ieuanc i'r Ysgol. Bod Cyfarfod Misol pob sir yn ddiddadl am eu duwioldeb, eu hegwyddorion, eu dawn, a'u hanfoniad i'r weinidogaeth, mor bell ag y gellir adnabod a barnu yn ddiduedd, yn ol gair yr Arglwydd. VII. Bod yr ysgol hon i gael ymweled â hi unwaith bob chwarter, neu mor aml ag y byddo yr Association yn gweled yn oreu, gan ryw nifer o'r dynion mwyaf ysbrydol a deallus, cymhwys i hyny, fel y cadwer gwyliadwriaeth barhaus dros yr ysgol i santeiddrwydd. VIII. Bod nifer o weinidogion a henuriaid o bob sir, y rhai mwyaf ysbrydol a deallus am y fath sefydliad, yn cael eu henwi gan yr Association i ymweled unwaith bob blwyddyn mewn rhyw fis a nodir â'r sefydliad, i olygu pob peth yn y dull o fyned yn mlaen â'r sefydliad, yn achos yr athraw a'r ysgolheigion, eu duwioldeb, eu hegwyddorion, eu gwybodaeth, a'u buchedd, trwy areithiau byrion ar wahanol faterion. IX. Fod pob gwr ieuanc ar ei ymadawiad â'r ysgol i fod yn gwbl dan gyfarwyddyd y Corph yn mhob peth. 262 PENOD XXIII. Cwynfan glanau yr Iorddonen-ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono. Bu Mr. Richard gryn lawer o amser yn rhodio ar hyd glanau yr afon derfysglyd. Bydd ambell un yn myned drwyddi mewn ychydig o amser, heb wybod braidd ei fod wedi bod yno; y mae y nesaf peth i symudiad heb "weled marwolaeth." Gyda bod y dwr yn dechreu rhuo yr ochr hyn, mae y creadur tlawd wedi ei drosglwyddo y tu draw i ddwr llonydd, gloyw, a chroyw. Ond am Mr. Richard, gellir dyweyd ei fod ef wedi bod flynyddoedd yn rhodio yma a thraw, yn ol ac yn y blaen ar hyd glanau yr afon, swn yr hon oedd yn ei glustiau yn mron o hyd. Byddai y rhan fynychaf, flynyddoedd cyn ei symud, yn dysgwyl y cyfnewidiad, ac yn nychu yn ofnus yn y teimlad o'r amgylchiadau difrifol. Byddai pobl yn ysgrifenu ato yn aml i lan yr Iorddonen am ddyfod i gyfar fodydd cyhoeddus; gan ddyweyd am yr hyfrydwch gafwyd lawer gwaith o dan ei weinidogaeth pan yr arferai deithio y dyddiau gynt, a'u bod yn gobeithio cael yr un pleserau eto, ac am iddo ddyfod er yn eiddil, gan faint y dysgwyl oedd wrtho. Mewn canlyniad i dderbyniad ryw lythyrau o'r natur yna, byddai yn arfer dyweyd, "Ah, y mae y bobl yn camsynied yn ddirfawr; y maent hwy yn meddwl mai y dyn a welsant hwy yn y Cymanfaoedd ddeugain mlynedd yn ol sydd yma yn awr. Nid hwnw, ffrynds, sydd yma bellach. Yr oedd y dyn hwnw yn wridgoch a phen-felyn; ond y dyn hwn yn welw a phenwyn. Yr oedd y dyn hwnw yn gryf ac yn gefn-gymhwys; ond y dyn hwn yn nychlyd ac yn wargam. Yr oedd y dyn hw hwnw yn ieuanc ac yn heinyf; ond y dyn hwn yn hen ac yn anystwyth. Yr oedd y dyn hwnw yn gallu siarad, ac yn gallu gwaeddi; ond y dyn hwn ni all siarad na gwaeddi. Nid yr un dyn, bobl, oedd y dyn hwnw a'r dyn hwn; 'dyw hwnw ddim yma yn awr. Ni byddaf mwy yn eich cyfarfodydd yn ddim ond lumber, rhyw beth ar ffordd pawb; yn cymeryd lle dyn, heb allu gwneyd gwaith dyn. Yr wyf bellach yn dod i deimlo fy hun yn fwy cymhwys i'r bedd nag i'r pwlpud. Y mae tymhor i bob peth; ac y mae tymhor pregethu wedi darfod, a thymhor gorphwys wedi dyfod. Gadewch fi yn llonydd bellach, canys nid yw y dyn yr ydych chwi yn 'mofyn yma yn awr." Fel hyn yr arferai ddyweyd: ac yn wir, fe allai fod yn anhawdd dyweyd dim yn well. Gwir ydyw bob gair, a gwir profiadol gan lawer o'n hen frodyr heddyw. Ah, y llanc ieuane Richard, y llanc pen-felyn, gwridgoch, main, teneu, glandeg, ag oedd yn bloeddio fel udgorn o flaen miloedd, gan swyno pawb a'i clywai, pa le y mae heddyw? Nid yw idd ei gael. Hen ddyn analluog sydd yn lle y llanc, yn methu cerdded, yn methu gorwedd, yn methu bwyta, ac yn methu cysgu, a bron yn methu pregethu. Edrychwch, dacw y llanc pen-felyn gynt yn hen wr gwelw, penwyn, a chap du ar ei ben, a ffon yn ei law, yn disgyn yn araf, araf, dan besychu, i rosydd Moab, ac yn cerdded yn syn yn ol ac yn y blaen, dan sefyll yma ac acw ar lan yr hen Iorddonen. Gwr hen ydyw, yn gwisgo mantell, a rhyw argraff annghyffredin o sobrwydd yn ei wynebpryd; fel pe bai argraff angau wedi sefydlu ei olygon a'i wynebpryd. Bydd yn siarad ychydig yn bwyllog ac yn araf, dan besychu ac ymdrechu yn ddirfawr am anadl gyda phob gair. Pan yn gwneyd mwy na'i allu yn ei ddyddiau olaf i geisio pregethu, clywid ef yn dyweyd yn ddystaw wrth ddringo grisiau yr areithfa, "Dyn marw sydd yma, dyn marw sydd yma." Yr oedd yr olwg arno yn sobr, meddant, yn myned i fyny i un ris, yn aros i gael anadl a phesychu cyn myned i fyny i un arall, ac ar bob un, wedi cael ychydig o ryddhad oddiwrth besychu, yn dyweyd, "Dyn marw sydd yma." Yr oedd ugeiniau o galonau yn teimlo yn ddwys drosto; ac er fod cydymdeimlad yn burion a dymunol hefyd, er hyny nid yw yn gwneyd ond ychydig help mewn cyfyngderau, canys rhaid i bob un y mae yn debyg ddwyn ei faich ei hun. Y mae Mr. Richard yn y pwlpud o'r diwedd; ac wedi eistedd i besychu a cheisio cael anadl, tra fyddai rhywun yn rhoi penill allan, ac yn dechreu y cyfarfod. Wedi i hyny fyned trosodd, y mae yntau yn codi, yn rhoi hymn i ganu, ac wedi hyny yn darllen testun dan besychu, ac ymdrech yn galed am anadl. Ah, dacw ddagrau ar wynebau llawer o'r hen gyfeillion, y rhai oedd yn cofio y deml gynt, wrth ei gweled bron yn adfeiliau; cofio y llais peraidd, diorchest, a'r tân gweinidogaethol yn wreichion gwyllt, a gweled heddyw o flaen eu llygaid ond rhyw bentwr o adfeiliau! O y cyfnewidiad! Ond dyna, mewn byd cyfnewidiol iawn yr ydym yn byw; ac er mor anhawdd, rhaid yw ymostwng yn ddystaw<noinclude><references/></noinclude> ezxizcsltzwqdxxyl7waqz2in0x8cqd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/318 104 84626 164411 2026-05-07T21:37:27Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "i'r dynged. Elai yn mlaen yn araf, araf; a phawb yn gwrando ar ei genadwri fel o enau un oedd yn dechreu taro ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. Mae ei destun yn ei wresogi, a'r gynulleidfa yn cael teimlo oddiwrth yr un mwynhad. Rhyw beth rhyfedd yw y pregethu yma hefyd! Er fod y dyn yn cychwyn gyda phob ymddangosiad o fethiant a marwolaeth, y mae yn pregethu nes ydyw yn iach mewn ymddangosiad, ac fel pe bai deial amser yn dychwelyd... 164411 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r dynged. Elai yn mlaen yn araf, araf; a phawb yn gwrando ar ei genadwri fel o enau un oedd yn dechreu taro ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. Mae ei destun yn ei wresogi, a'r gynulleidfa yn cael teimlo oddiwrth yr un mwynhad. Rhyw beth rhyfedd yw y pregethu yma hefyd! Er fod y dyn yn cychwyn gyda phob ymddangosiad o fethiant a marwolaeth, y mae yn pregethu nes ydyw yn iach mewn ymddangosiad, ac fel pe bai deial amser yn dychwelyd o leiaf ddeg o raddau yn ol. Pregethai ar brydiau, meddant, fel yn nyddiau ei ieuenctyd am tuag awr a chwarter. Eithr, fel y gallesid dysgwyl, wedi i'r cynhyrfiad hyny fyned trosodd, y mae pethau yn dychwelyd eilwaith i'w lle, y dyn ieuane sydd yn cilio yn gyflym fel angel yswilgar, cochni y rudd yn diflanu fel blodeuyn annhymhoraidd, a'r hen ddyn crybychaidd a llwydaidd, ac argraff brenin y dychryniadau ar ei wynebpryd, yn dychwelyd i'w hen dramwyfa ar lanau yr Iorddonen. Dacw y peswch a'r diffyg anadl wedi dyfod yn ol, ac yntau, druan, yn crynu yn nychlyd, ar lanau llwydrewog, oerion yr hen afon. O lyn cysgod angau y mae yn cyfeirio dau neu dri o lythyrau, y rhai yn ddiau y bydd yn dda gan ein darllenwyr eu gweled, pe na bai dim ynddynt yn neillduol ond yn unig eu bod yn dyfod o le pell a dyeithr. Glyn cysgod angau yw y post mark sydd ar y rhai hyn; y maent y tu hwnt i lywodraethiad swyddogion gwladol Lloegr. Y llythyr cyntaf sydd yn codi oddiar ryw beth ymddangosodd yn y Drysorfa, yr hwn sydd yn dangos ei ofal am wirionedd, er yn rhosydd Moab: Mae y traethawd ar natur eglwys, a ymddangosodd yn Rhifyn y Drysorfa am y mis hwn, wedi gwneyd gradd o gynhyrfiad i'w eilio, o blaid y gwirionedd diffuant a ddangosir ynddo; nid am nad yw yn ddigon cadarn heb ei eilio, ac yn ddigon amlwg i'r neb a redo i'w weled a'i ddarllen; ond a guddir, ac a gelir, ac a wadir, ac a ŵyrir, ac a geblir. Mae yn dda ac yn fraint i bawb gael bod ar faes y gwirionedd, ac yn bleidwyr iddo, er nas gall y gwirionedd gael dim gan neb ond sydd ganddo ei hun, am dano ei hun. Mae yn ymddangos yn annhebyg y gall un Cristion fod heb weled mor amlwg yw'r goleuni i ddangos ysbryd Cristionogaeth, egwyddor Cristionogaeth, athrawiaeth Cristionogaeth, tymher ac agwedd Cristionogaeth, yn nghynwysiad yr ysgrif hono. Mae yn dangos un wedi ei ddysgu am deyrnas nefoedd, ac yn deffro yn gyfiawn, pan mae llawer yn cysgu yn swrth ac yn ddiofal, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw yn eglwys Dduw, yr hyn sydd fawr gywilydd; ac mewn eiddigedd a sel dros enw a gogoniant yr Arglwydd mae yn tynu ei anadl mewn awyr iach, pan y mae agos holl awyrgylch y byd crefyddol wedi ei wenwyno â phethau mor wanaidd, dyddim, fel mae yn warth i wlad lle mae efengyl a gair Duw cyhyd ynddi, bod y fath beth o'i mewn. Pa raid rhyfeddu am hyn, pan mae yn rhaid bod yn ysbrydol at adwaen pethau ysbrydol? Mae yn rhaid bod gwirionedd oddimewn at adwaen y gwirionedd yn yr ymdrin amlaf a'r gwirionedd. Heb y gwirionedd mae y perygl mwyaf o gyfeiliornu oddiwrth y gwirionedd. Mae pob dysgeidiaeth yn rhy fach i waredu rhag hyn, heb ddysgeidiaeth y gwirionedd ei hun. Mae hòni am olyniaeth apostolaidd, heb na ffydd nac ufudd-dod apostolaidd, yn dangos gaudystiolaeth, ac yn bradychu y gwirionedd. Lle mae gwirionedd, gan bwy bynag y byddo, mae yn rhaid iddo fod fel efe ei hun, ei anian ei hun, ei ddelw ei hun, a'i wisg ei hun. Y gwirionedd, a dim ond y gwirionedd, a'r holl wirionedd, sydd yn gwneyd undeb a pherthynas ysbrydol, pa ddull bynag a arferir mewn ffurfiau allanol i addoli. Pa blaid o bobl grefyddol dan y nefoedd all hòni bod eu dull yn berffaith, nid yw hyny yn cymeryd oddiar neb eu hawl i feddwl a barnu drostynt eu hunain, nac ychwaith i gondemnio eraill nad yw a'u gwasanaeth crefyddol yr un dull a hwy. Nid enwau a dulliau yw pethau trymaf y gyfraith, ond barn, trugaredd, a ffydd. Wrth hanfod crefydd mae ei hadnabod, nid wrth amgylchiadau, y rhai nid yw amgen na'r gwisgoedd i'w harfer yn y fuchedd hon yn unig, ond a ddyosgir yn llwyr yn angau; ac megys na bydd eu heisiau mwyach, ni bydd chwaith son am danynt. Fe ddylai hyn ein henill oddiwrth y pethau ysgafnaf, allanol at y pethau trymaf, ysbrydol sydd yn perthyn i grefydd; am hyny awn at y gyfraith ac at y dystiolaeth am y wybodaeth hon, fel y darfyddo pob ymryson yn nghylch geiriau, achau, a chwestiynau ffol, anorphen. Gras fyddo gyda phawb, pwy bynag a fyddont, sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen. Brodyr yw y saint pa liw bynag fyddo ar eu dillad; ac nid oes neb yn frodyr ond y saint. Y llythyr canlynol sydd at weinidog ieuanc a ofynodd am ei gynghor a'i gyfarwyddyd: "Anwyl Frawd, -Yr ydych yn fy nghymhell yn daer i ddyfod yn rhyw fodd unwaith eto hyd atoch chwi. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich teimladau da; ond y mae yn rhaid i mi gredu fy mod wedi bod yno am y tro olaf; canys y mae fy nghorph a fy meddwl yn marw; nid oes genyf gorph yn alluog at y daith, na meddwl yn alluog at y gwaith. Yr wyf yn marw; yr wyf yn sâl iawn: rhwng peswch a diffyg anadl, y mae fy mywyd yn faich bellach. "Yn eich llythyr gofynasoch am ryw gynghor. Peth anhawdd iawn yw rhoi cynghor i bwrpas, ac mor anhawdd a hyny yw gwrando ar gynghor. Nid oes genyf ddim i ddyweyd, ond fod y gwaith yr ydych chwi a minau wedi ei gymeryd arnom yn waith pwysig iawn, ac fe ddaw pawb i deimlo ei bwys ryw bryd. Gobeithio eich bod yn teimlo y pwys a'r cyfrifoldeb ofnadwy sydd mewn bod yn y weinidogaeth. Y mae bod wedi ein danfon gan Ysbryd Duw at y gwaith N ysbrydol a phwysig hwn yn anhebgorol. O, pwy sydd abl a digonol at y gwaith hwn! Neb ond y rhai a ddanfonwyd gan Dduw; ac y mae yn rhaid iddynt hwythau gael nerth cyson, onide nid ydynt hwy yn ddigonol. Y maent yn ddigonol pan y mae Duw yn eu nerthu â'i ras, ac yn annigonol pan y gadewir hwynt. Rhaid derbyn 'cyflawnder bendith efengyl ein Harglwydd Iesu Grist' bob tro. Rhaid cael y llwyth i gyd o'r newydd; canys pa fodd y pregethant oni ddanfonir hwynt? Gallaf ddyweyd fod pwnc y weinidogaeth yn cael lle mawr yn fy ngweddiau; yr wyf yn gweddio llawer drosoch ar i chwi gael gweinidogaeth gan Dduw, ac ar i chwi gael eich cadw yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Gweddiwch chwithau am gael bod o dan 'eneiniad Ysbryd Duw, yna fe'ch cynelir yn ddigwymp, a chewch gynorthwy i gyflawni eich gweinidogaeth yn ddiwyd ac yn ffyddlon-a rhoi cyfrif yn llawen ac nid yn drist.' 'Edrychwch arnoch eich hunan, ac ar yr athrawiaeth, a gochelwch rhag ymgodi i fyny i'r gwynt mewn balchder ac hunanoldeb, a thrwy hyny 'syrthio i ddamnedigaeth diafol.' "Fy anwyl gyfaill ieuanc, er mwyn pob peth byddwch yn ofalus a gwyliadwrus rhag balchder, canys bydd hwnw, unwaith y daw i mewn, yn sicr o ddinystrio pob peth,-dinystr pob da ydyw. Nid wyf yn dyweyd felly oblegyd unrhyw wybodaeth fod balchder yn brofedigaeth i chwi, nac ychwaith yn eich drwgdybio o'r cyfryw beth; eithr yr wyf yn dyweyd felly am fy mod yn gwybod beth yw tuedd ein natur lygredig. Dyma ffynonell dinystr miloedd. Gofalwch rhag iddo ymddangos yn eich gwisg, yn eich cerddediad ar hyd yr heolydd, yn eich dull o siarad, a'ch holl ymarweddiad; canys gwahanglwyf ydyw yn rhedeg trwy y cwbl. Er pob peth, gwyliwch rhag i'r pla hwn ymddangos mewn cysylltiad a gweinyddiad eich dyledswyddau crefyddol; canys y mae yn ddigon atgas ar yr heolydd, ond yn fil mwy yn y pwlpudau. Gwisgoedd gostyngeiddrwydd sydd yn gweddu gwasanaeth Duw. 'Ysbryd addfwyn a llonydd' sydd ger bron Duw yn werthfawr.' "Derbyniwch serch yr hwn sydd yn eich caru, oddiar fin y bedd.Yr eiddoch, &c., "T. RICHARD." Y llythyr a ganlyn sydd at ei anwyl chwaer, Miss Richards, Trefin, yr hwn, er ei fod at chwaer naturiol, nid yw yn cynwys dim ond pethau pwysig crefyddol. “Abergwaen, Rhagfyr 30ain. "Anwylaf Chwaer, - Wele ddiwedd blwyddyn arall. O mor gyflym maent yn ehedeg ymaith, ac o bosibl wedi eu rhifo i fyny i gyd yn y rhif hwn; felly y mae ar lawer yn barhaus, ac y bydd yn fuan arnom ninau. O, y cyfnewidiad mawr, tragywyddol ei barhad! Nid oes dim a geidw y meddwl yn dawel ond yr anystyriaeth mwyaf neu y ffydd gryfaf. Pa fodd, heb farn o galedwch, y gellir bod yn anystyriol pan ddywedir mor amlwg, 'Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag ai da ai drwg.' Yr unig ffordd i ymddangos yn y farn hon heb fod y cwbl yn ddrwg yn ein herbyn yw, fod gwrando pregethiad y gair wedi ein dwyn i ofni Duw a chadw ei orchymynion, canys hyn yw holl ddyled dyn. O am ein nerthu i ffoi i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen! Mae yr olwg sydd i'w chael ar y byd yn y dyddiau hyn yn peri i'r galon ddychlamu o'i lle. Cyfeiliornadau yn ymdaenu, egIwysi yn ymranu, crefyddwyr yn ymlygru gan ysbryd y byd hwn; cnawdolrwydd yn cynyddu beunydd fwyfwy, cariad yn oeri, undeb ysbrydol wedi cwbl laesu, ac anwiredd yn tra amlhau; gwaith yr Arglwydd yn llaw dynion noethion, Samsonaidd, fu yn gedyrn o nerth, wedi myned fel gwŷr eraill. O na bai fy mhen yn ddagrau, fel yr wylwn rhwng y porth a'r allor, a dywedyd, 'Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r Cenedloedd arnynt. Paham y dywedant yn mhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?' O na atebid y gofyniad gwawdlyd hwn â'r presenoldeb lanwai y tŷ â gormod i'r cnawd ei sefyll. "Nid oes un neges wrth ysgrifenu y llinellau hyn ond cadw cymdeithas. Yr ydym ni yma fel arferol, a chadw y gwaethaf heb ei ddweyd. Yr ydym yn gobeithio ac yn dymuno eich bod chwithau oll heb fod lawer yn waeth, ac yr anfonwch linell cyn gynted ag y delo hwn i law. Yr ydym yn cydgofio atoch mewn serch didwyll. Parhewch mewn gweddi drosom ddydd a nos.-Wyf eich cywir, T. R." A ganlyn sydd lythyr mewn atebiad i Mr. Walters, Ysgrifenydd y Gymanfa. "Anwyl Frawd,-Mae yn ddrwg genyf glywed eich bod wedi bod yn wael eich iechyd, canys y mae afiechyd yn wynt cryf ar y fordaith, yn enwedig ar y rhai y mae yn chwythu bob dydd. Mae eich adferiad yn llonder. Da genyf glywed eich bod yn abl dod i'r Gymanfa, a da fuasai genyf finau allu bod yno; ond gwn nas gallaf. Mae fy afiechyd yr wythnos hon yn llawer mwy nag y bu, oddiwrth anwyd trwm a gefais yn ddiweddar. Nid wyf yn gallu ond prin symud. Chwi a wyddoch y fath beth yw bod mewn cystudd, yr hyn sydd fel rhwymau haiarn am un. Mae yn ddrwg genyf i mi beidio ateb llythyr Pontypool, a thrwy hyny beri anesmwythder i chwi; eto ni bu o esgeulusdra nac annghof, ond oblegyd na feddyliais fod un atebiad i fod iddo; ac nid yn unig nid oedd ynddo ddim i flino, ond yr oedd ei holl gynwysiad serchog yn tueddu i gysuro. "Gobeithio yr ymdrechwch ddyfod i Gymanfa Sir Benfro yn mis Mai, ac y byddwch yn sicr o ddod i Abergwaen naill ai wrth fyned neu ddod. Os byddwch mor garedig, ac os cewch hamdden gan lafur y Gymanfa wedi gorphen pob peth yn Nghastell newydd, roddi epistol manwl am holl drafodaeth y Gymanfa, a'ch barn ddiduedd am yr ymddygiad dwyfol ati-canys os camgymerir am wyneb yr Arglwydd, fe ddyrysir yn y cwbl-byddaf yn dra diolchgar. Arosaf i ddysgwyl, os caf fyw hyd onid él y Gymanfa heibio.-Wyf, anwyl frawd, eich cydymaith mewn cystudd, T. R." Wele lythyr at y Gymanfa yn Nghastell newydd:"At y Gymanfa yn y Castellnewydd. "Mae yr ymdeimlad, y serchawgrwydd, a'r brawdgarwch diragrith, a ddangosai eich anerchiad diweddaf wedi effeithio mewn llawer modd tu hwnt i ddim a ellir draethu. Mae bod pobl yr Arglwydd yn sylwi ac yn cofio am un mewn cymaint o waeledd yn mhob ystyr, sydd mor ddyeithr, mor absenol, ac mor annefnyddiol gyda llafur y Cyfundeb, yn peri argraff drwyddo oddiwrth dueddfryd duwiol yr egwyddor hon; ac megys y trosglwyddwyd eich arfer ysgrythyrol oddiwrth flaenafiaid, gobeithir y trosglwyddir hi yn ddyogel i olafiaid, ac yr erys pob peth duwioldeb mewn ymarferiad parhaus yn holl eglwysi Duw tra parhao y byd. Mae yn debyg fod ansawdd yr amseroedd presenol yn galw yn uchel am i'r gofal a'r difrifwch mwyaf gael eu cymeryd yn achos pethau hanfodol i dduwioldeb, o'r swydd uchelaf yn eglwys Dduw i'r aelod gwanaf, os yw yn bosibl bod y fath un i'w gael. Mae yn debyg nad oes nebar y ddaear all ddweyd beth fydd diwedd y pethau hyn; eto gellir bod yn sicr tra dylynir hanfodau duwioldeb na lithrir byth. Gobeithio y cedwir ein golwg, yn bersonol ac yn gynulleidfaol, ar bethau trymaf cyfraith Dduw i fod ein prif nod; sef barn am bob peth yn ol gair Duw; a thrugaredd, yr hon sydd gymhwysder i ni, a chymhwysder oddiwrthym ni; a ffydd, yr hon yw meithrinfa holl rasau a rhinweddau gwir grefydd. Ni bu amser erioed ar y byd â mwy o angen blaenoriaid ysbrydol yn eglwysi Crist, ac y mae yn debyg na bu amser erioed ag y gallasai blaenoriaid cnawdol fod mor niweidiol, a hyny oblegyd amryw resymau. "1. Oblegyd bod nerth Ysbryd Duw, a fu yn gydfynedol â phregethu y gair, mewn mesur mawr yn amlwg yn cael ei atal, er mor anhawdd mae gan bobl yr ail deml i addef hyn. "2. Oblegyd bod yr olwg gyffredinol sydd ar ddysgyblaeth yn yr eglwysi yn ymddangos yn fwy dyryslyd a niwlog nag y bu. "3. Mae fel pe bai mawredd pendefigion Israel yn llai-y rhai a fu yn gweled Duw ac yn gwledda yn ei wydd. Fe allai fod yn anhawdd dyweyd pa un ai y pendefigion ai y bendefigaeth sydd leiaf; mewn geiriau eraill, ai llai o wyr i Dduw sydd, ai llai o Dduw i'w wŷr sydd. "4. Mae porth gweinidogaeth yr efengyl fel pe bai wedi myned heb un drws iddo mewn mesur mawr; ac fel pe bai yn anmhosibl i'r drysor i wybod pa le mae sefyll rhwng manteision mwy mewn dysgu ac egwyddori, yr hyn sydd yn fawr fraint yn y wlad ragor nag oedd rai blynyddau yn ol; a phroffes o grefydd wedi myned yn fwy fel arferiad gwlad, yn gyffredinol a ffasiynol; a santeiddrwydd ac ysbrydolrwydd y gwaith mawr o bregethu wedi cael caru arno ac ymarfer ag ef yn fwy fel celfyddyd i gywreinrwydd nag o un angenrheidrwydd, megys y dengys agweddau cnawdol, cwbl groes i bwysigrwydd y gwaith. "5. Mae swyddogion cnawdol yn debyg o goleddu cnawdolrwydd yn yr eglwysi. Pa fath henuriaid bynag a fyddant, os byddant wedi cryfhau mewn amgylchiadau bydol, mae y galon yn ymgodi i ddinystr mawr iawn iddynt hwy a'r eglwys. "6. Rheswm arall a ddengys yr angenrheidrwydd mawr am swyddogion ysbrydol yw, y duedd sydd i gynenau ac annghydfodiaethau yn yr eglwysi. Nid hawdd cael un eglwys heb gynenau yn blu duon ynddi yn y dyddiau hyn. Mor groes i hyn yw gair ac Ysbryd Crist! Mae agos yn rhy warthus i'w feddwl, chwaithach i'w ddyweyd, bod<noinclude><references/></noinclude> 96wiktklgyr034j6xd32zndv1d3wln3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/323 104 84627 164412 2026-05-07T21:38:57Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "llawer o gapelau, a llawer o bregethu, a llawer yn pregethu, wedi ei effeithio yn unig gan gynenau; ac fel y mae yn fwyaf ei ofid, nid gan ryw enwad unigol, ond gan holl enwadau y deyrnas. Cariad ac undeb yw rhanau bywydol eglwys y Duw byw, ac arwyddion perchenogol o'r fodrwy briodasol. Wrth hyn yr adnabyddir dysgyblion Crist, wrth hyn adnabyddir anfoniad Crist, wrth hyn adnabyddir dyweddi Crist. Pwy yn wyneb y diffyg o hyn y dyddiau... 164412 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llawer o gapelau, a llawer o bregethu, a llawer yn pregethu, wedi ei effeithio yn unig gan gynenau; ac fel y mae yn fwyaf ei ofid, nid gan ryw enwad unigol, ond gan holl enwadau y deyrnas. Cariad ac undeb yw rhanau bywydol eglwys y Duw byw, ac arwyddion perchenogol o'r fodrwy briodasol. Wrth hyn yr adnabyddir dysgyblion Crist, wrth hyn adnabyddir anfoniad Crist, wrth hyn adnabyddir dyweddi Crist. Pwy yn wyneb y diffyg o hyn y dyddiau yma na ddywed, 'O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynonau o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos?' "Nid oes un bwriad nac amcan i'r llinellau hyn yn mhellach nag i ddyn claf ddyweyd ei feddwl wrth frawdoliaeth y taer erfynai arnynt am ddibaid ran yn eu gweddiau, yr hyn sydd yn fwy o werth i un ar ddarfod am dano yn fynych na'r byd i gyd. Y fendith a roddai enw Duw ar feibion Israel a rodder ar y Gymanfa.-Wyf eich cydymaith mewn cystudd, "THOMAS RICHARD." 270 PENOD XXIV. Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu-marwolaeth Mrs. Richard. BYTH oddiar dderbyniad y dysteb yn Ionawr, 1855, yr oedd afiechyd Mr. R. yn cael ei deimlo yn fwy ganddo. Yn nghanol profedigaeth henaint ac afiechyd, dyma un arall yn tori i mewn er gwneyd y lleill yn fwy chwerw byth. Y mae Mrs. Richard yn cael ei chymeryd yn glaf iawn; ac ar y nawfed o Fehefin, 1855, y mae yn marw, yn mhen chwech mis wedi cyflwyniad y dysteb. Dyna y wraig y bu mewn cymaint o helbul a phryder o'i phlegyd yn nyddiau ei hieuenctyd, y wraig fu yn ymgeledd gymhwys iddo, wyliodd fel angel ei holl symudiadau, aberthodd ei bywyd i'w gysuron, ac a gydgyfranogodd ag ef yn ei holl ofidiau, yn awr wedi syrthio yn farw ar faes y frwydr. Dyma faich trwm, at y beichiau o'r blaen, a dyna golled o gysur pan yr oedd fwyaf o'i eisiau. Beth a wneir yn awr? Wel, y mae yn debyg nad oes dim i'w wneyd ond ocheneidio, a thewi. Yr oedd un cysur yn aros, a chysur mawr iawn hefyd; yr oedd ei anwyl Bridget Hannah yn fyw, er nad yn gryf iawn, yr hon a ofalodd am dano yn ffyddlon hyd y gallai; cafodd ei harbed dros ei ddyddiau ef i'w ymgeleddu; ond cyn hir wedi iddi wylio uwchben gwely marw ei thad, a'i weled wedi ei roi i orwedd yn dawel mewn bedd dystaw, y rhoddodd hithau yr ysbryd i fyny i freichiau Iesu Grist, a dygwyd ei chorph, a rhoddwyd ef i orwedd yn monwent Maenorowen gyda'i thad a'i mam. Gadawodd briod a dau blentyn ar ei hol yn yr anialwch; a gobeithiwn y caiff y Thomas Richard a'r Bridget Hannah bychain ddylyn ôl traed eu mam a'u henafiaid. Ond i ddychwelyd at Mrs. Richard, canys yr ydym wedi myned ryw gymaint oddiar y ffordd. Yn gymaint a'n bod wedi dyfod at amgylchiad ei marwolaeth, fe ddichon na fyddai yn briodol i ni fyned rhag ein blaen heb ddyweyd ychydig o eiriau mewn perthynas iddi hithau. Dylai eglwysi Crist wneyd sylw mawr o wragedd a gweddwon eu gweinidogion, canys y maent yn gorfod dyoddef pwys a gwres y dydd, er mwyn cadw eu gwŷr mewn ffordd i fyned allan gyda'r weinidogaeth. Y mae llawer o'r gwragedd santaidd hyn wedi treulio oes o lafur caled mewn darpar pethau tuag at ddal eu gwŷr mewn parodrwydd cyson i gychwyn gyda phob galwad gyda gwaith yr Arglwydd. Nid ychydig o waith yw cadw dyn mewn rhyw fath o lun gweddol i fyned o gartref yn gyson; y mae yn fwy o orchwyl nag y mae llawer wedi dygwydd meddwl nad yw wedi arfer â'r cyfryw bethau. Heblaw yr holl drafferthion hyn, y rhai sydd yn galw am lawer o rag-ystyriaeth a rhag-ddarbodaeth, y mae gofidiau cyson oblegyd nad yw yr amgylchiadau yn caniatau iddynt wneyd gwell ymddangosiad. Y mae y traul dillad a'r teithio yn fawr, a'r hyn sydd yn dyfod i mewn yn fach, fel y mae yn dyfod yn drwm iawn ar y wraig, wrth geisio gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Llawer un o honynt, er mwyn i'r gwr ymddangos yn rhyw weddol yn y pwlpud, sydd wedi llafurio yn galed, tra yr oedd y bwrdd gartref yn gul, a'r dillad yn llwm yn ei chylch hi hi a'r plant. Ië, Ië, yn wir, a llawer o honynt yn ei wneyd er mwyn achos Iesu Grist, o dan ddylanwad sefyllfa ddyfodol. Y mae hunan-ymwadiad mawr yn ofynol mewn menyw i ymdawelu byw mewn unigolrwydd, tra y bydd y gwr yma a thraw, ac yn ceisio llywodraethu a chadw trefn ar y teulu, heb neb i'w chynorthwyo. O holl ferched Efa dylai gwraig y pregethwr gael y cydymdeimlad mwyaf; yn enwedig, cofiwch, gwraig pregethwr y Methodistiaid Calfinaidd, beth bynag am y Wesleyaidd. Nid ychydig o ymdrech yn gyffredin sydd i gael y deupen yn nghyd yn rhyw fodd; a phan y byddo y ddau pen yn mhob llaw i'r wraig druan, yn methu dyfod yn nghyd, er tynu oreu y gellir, nid rhyfedd pe bai yn eu gollwng ill dau i fyned i golli byth, a pheidio ymdrechu mwyach gyda hwynt. Yn wir, coeliwch chwi neu beidiwch, y mae yn ddigon i demtio sant i ymollwng gyda'r llif, a gadael iddi fyned. Nid ydym yn gwybod am neb ag eisiau mwy o synwyr a gras na gwraig pregethwr, canys bydd eisiau iddi fyw drwy synwyr neu drwy ffydd bron o hyd. Bydd ganddi lawer o waith i'w synwyr i geisio dyfalu beth i wneyd, a pha bryd i wneyd, a pha fodd i wneyd, a pha ffordd y gellir gwneyd rhyw beth heb ddim defnyddiau, neu wneyd llawer ag ychydig o ddefnyddiau; ac yn y blaen. Rhaid iddi druan "gario y gamp ei hunan," neu fod heb ei chario byth. Bydd ganddi hefyd lawer o waith i ffydd; canys wrth ffydd ac nid wrth olwg rhaid iddi rodio y rhan fynychaf. Nid yw ond dygwydd iddi weled llawer o gysur na llawer o gyfoeth; felly trwy ffydd y rhaid iddi fyned yn y blaen. Y mae yn eglur y dylai pregethwr, wrth fyned i edrych allan am wraig, ymhyntio ac ymchwilio am un â phen yn llawn o synwyr, a chalon yn llawn o ras, yn y lle cyntaf; canys y mae yn ddiamheu y bydd yn llawn raid iddi wrth hyn bob dydd; ac y mae yn eithaf synwyrol, fel y gwyddoch, geisio y pethau mwyaf angenrheidiol yn gyntaf y pethau nas gellir eu hebgor un amser. Pwy sydd ag eisiau mwy o amynedd ac o oddefgarwch na gwraig y pregethwr? Pwy sydd ag eisiau cymaint o hunan-ymwadiad? Y mae yn rhaid iddi fod yn beldroed i bawb, ac yn y diwedd methu a boddloni neb. Bydd pob llygad arni, a'i holl symudiadau, ac ar ei phlant; ac mor anhawdd yw boddloni pawb! Ond dyna, gwell peidio dyweyd ychwaneg, rhag ofn i ni wrth hyny wneyd y ffordd yn anhawdd i'n cyfeillion gael gwragedd, canys y mae yn rhaid i chwi wrthynt, gan y byddant yn falm i'ch clwyfau, os byddant yn synwyrol ac yn rasol; ond os yn ddisynwyr ac yn nrasol, gwarchod pawb! Bid a fyno, gwnewch bob ymdrech i gael un synwyrol a grasol; ac os bydd yn lân hefyd, purion; ond gofalwch adael hyny y trydydd peth, os nid y pedwerydd. Wel, y peth yr oeddem yn ddyweyd, os ydym yn cofio yn dda, oedd fod menyw ag sydd wedi cydlapio mewn cysylltiad â gweinidog yr efengyl, ac wedi gwneyd pob aberth o gysuron er mwyn ei wneyd ef mor ddefnyddiol ag mae yn bosibl gyda gwaith ei Arglwydd, yn teilyngu mwy o sylw nag y mae yn ei gael yn aml. Yr oedd Mrs. Richard wedi bod yn gynorthwy mawr i'w gwr yn mhob peth; iddi hi y mae y wlad yn ddyledus am ei weinidogaeth, canys ei blwydddâl hi a'i cynaliodd; ni chynaliodd efe ei hun erioed, chwaithach y teulu hefyd, wrth y weinidogaeth. Heblaw hyny, yr oedd yn foneddiges gall, ddysgedig, rinweddol, a gwir grefyddol. Yr oedd llawer o ddynion nad oedd yn ddigon adnabyddus â hi, yn meddwl nad oedd dim ynddi, a'i bod yn ddiserch, yn cadw yn mhell oddiwrth gymdeithas, yn enwedig pan y deuai rhyw un i mewn i'r tŷ-nad oedd yn siarad cymaint ag oedd ambell un yn dysgwyl. Yr oedd rhyw gymaint felly i ddyeithriaid ag a fyddai yn galw gydag ef; ac yr oedd hyny yn gall iawn ynddi. Yr oedd yn gwybod fod y dynion yn galw er mwyn cael rhyw gydymddyddan â Mr. Richard, nid å hi; ac felly byddai yn gyffredin yn gadael rhyngddynt, ac yn cario yr helyntion teuluol yn y blaen mewn rhyw ran arall o'r tŷ. Pe buasai yn eistedd gyda phob un a ddeuai i mewn ato, ef, ac yn rhoi ei thafod yn mhob ystori fuasai rhyngddynt, buasai yn treulio yr amser gwerthfawr yn segur, a gwneyd ei hun yn ddwl wrth ymyraeth â phethau nad oedd yn perthyn iddi. Ond yr oedd Mrs. Richard yn foneddiges o ddysg, yn gwybod pa fodd i ymddwyn yn dda; o deimladau tyner a boneddigaidd, yn ymylu ar fod yn yswilgar, ac felly yn aml yn cael ei chamddarlunio gan ddynion heb fod yn gwybod digon am dani. Y mae yn dygwydd fod o'n blaen yn awr ryw sypyn mawr o ysgrifeniadau Mrs. Richard, y rhai sydd yn egluro meddwl diwylliedig, boneddigaidd, ymchwilgar, a gwir grefyddol. Yma y gwelwch nodiadau ar bregethau, sylwadau ar ansawdd odfaon, a dull crefydd a chrefyddwyr yn ei hamser. Gwelir yma nodiadau ar Gymanfaoedd er ys deugain mlynedd yn ol, ac ar bob pregeth bregethwyd yn y Cymanfaoedd hyny, a'r rhai hyny yn feirniadol a doeth iawn. Y mae hefyd lawer o'i barddoniaeth, a rhai hymnau, yn dangos chwaith uchel, a gwythien o dduwioldeb heb sothach yn rhedeg trwy y cwbl. Nis gallwn roddi ysgrifeniadau Mrs. Richard i mewn yma; canys y maent yn cynwys cyfrol; ond rhoddwn un ysgrif, yn cynwys ychydig o ymadroddion a gymerwyd i fyny o enau Mr. Jones, Llangan, wrth ei wrando yn pregethu yn y flwyddyn 1809 mewn ysgubor a elwir Rogershook. Dok. Y testun oedd Gal. iv. 4, 5: "Pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad." Cawn weled cynwysiad y testun hwn, fy nghyfeillion, wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau auraidd yn nhragywyddoldeb. "Pan ddaeth cyflawnder yr amser;" nid cyflawnder amser, ond yr amser. Llestr gwag yw amser ynddo ei hun, ond fel y mae dygwyddiadau Rhagluniaeth yn ei lanw i fyny. Y peth cyntaf a ddaeth i lanw i fyny amser oedd cariad Duw; er, y mae yn wir, iddo garu â chariad tragywyddol, eto mewn amser y gwnawd y cariad hwnw yn eglur. Danfonodd Duw ei Fab i lanw amser i fyny. Ni ddaeth gyda holl angylion gogoniant i'n hachub. Na; ni chawsai efe y gogoniant felly; a buasem ni yn rhedeg oddiwrtho, fel y gwnaeth Adda, ac nid rhedeg ato. Eithr efe a gymerodd ein natur ni, fel y gallai ddyfod yn agos atom, a chymeryd gafael arnom. Yr oedd yn mhell oddiwrthym yn ei ogoniant; nis gallasai byth fod yn fwy santaidd nag ydoedd; ac yr oeddem ninau yn mhell oddiwrtho yntau mewn pechod; nis gallasai y diafol a phechod byth ein gwneyd yn waeth nag oeddem. A ddanfonodd rhyw un ato i ofyn iddo am ddyfod i'n hachub? Naddo; yr oeddem gynddrwg a'r cythreuliaid wrth natur. Beth, a ydych am ein gwneyd cynddrwg a'r diaflaid aflan? Ydwyf: nid oes gwaeth defnyddiau yn uffern nag sydd yn ein calonau ni.<noinclude><references/></noinclude> bia1e4vqas3elu7ntttv7fv2l52jxp0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/328 104 84628 164413 2026-05-07T21:40:39Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr ydym yn darllen yn llyfr Duw fod calon dyn yn "elyniaeth yn erbyn Duw." Yn mha le yn uffern y gellwch gael gwaeth na hyn? ond, er ein bod mor druenus, fe garodd Duw ni; clywch ef yn dyweyd, Nis gallaf lai na'u caru; danfonaf fy Mab i'r byd i golli pob dyferyn o waed er eu hachub; ac y mae wedi selio ei gariad â gwaed. Pan yr enwaedwyd ef yr wythfed dydd, collodd ychydig ddafnau y pryd hwnw, fel y gwyddoch; ac yr oedd yn dywedyd yn... 164413 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr ydym yn darllen yn llyfr Duw fod calon dyn yn "elyniaeth yn erbyn Duw." Yn mha le yn uffern y gellwch gael gwaeth na hyn? ond, er ein bod mor druenus, fe garodd Duw ni; clywch ef yn dyweyd, Nis gallaf lai na'u caru; danfonaf fy Mab i'r byd i golli pob dyferyn o waed er eu hachub; ac y mae wedi selio ei gariad â gwaed. Pan yr enwaedwyd ef yr wythfed dydd, collodd ychydig ddafnau y pryd hwnw, fel y gwyddoch; ac yr oedd yn dywedyd yn ei iaith y pryd hwnw, Os nad yw hyn yn ddigon, mi ollyngaf fy ngwaed oll; ond mynaf eu hachub hwynt; collaf bob dafn, ond mynaf weled eu dyled hwy wedi ei thalu. Y mae y pechadur wedi ei daflu i garchar; gadewch iddo aros yno nes y mae yn pydru. Na; y mae Crist yn foddlon i dalu ei ddyled. Pan y daeth Crist yn y blaen i'w fachnio, clywaf gyfiawnder a'r gyfraith yn dywedyd, Gollyngwch y pechadur yn rhydd yn awr; gadewch i'r cardotyn tlawd fyned; nid oes ganddo ddim i dalu, ni fyddwn geiniog yn well o'i gadw ef. Gwnawd Crist yn felldith drosom; ac mae wedi ein llwyr brynu. Nid gwiw i chwi feddwl cael eich hachub drwy eich gweithredoedd; ni dderbyn y gyfraith ddim ond cyflawn daledigaeth. Ni chymer y gyfraith bedwar swllt ar bymtheg ac un geiniog ar ddeg a dimai y bunt; na, ni chymer un ddimai yn fyr. Ond y mae yn dda genyf trwy Grist allu edrych i mewn i'r gyfraith santaidd, a'r ddyled bob hatling wedi ei thalu; y mae un yn fwy galluog na nyni wedi talu y cwbl. Y mae efe wedi talu yr holl ddyled, ac wedi prynu etifeddiaeth dragywyddolini. Beth, a ydym yn cael ein galw i etifeddiaeth o'r hen ysgubor yma? Ydym, ac o leoedd gwaeth o lawer na'r hen ysgubor; gelwir ni oddiar domen y cythraul, lle yr oeddem oll wrth natur. Gofynodd dyn i mi unwaith, "Beth, a ydych yn gwneyd dyn yn beiriant?" Ydwyf, meddwn wrtho, a gwaeth na pheiriant; canys y mae yn symud o chwith, y mae ei olwynion yn troi nid tuag at Dduw, eithr oddiwrtho. Pan edrychwyf i fy nghalon fy hun, yr ydwyf yn cywilyddio wrth feddwl am feddianu teyrnas; ond pan edrychwyf i Grist, a gweled ei bod yn etifeddiaeth brynedig, yna yr wyf yn dechreu codi fy mhen. Pan y byddo eich ffydd yn gwanhau, meddyliwch fod y nefoedd yn feddiant prynedig, yna y bydd hyder. Yr ydym, fy nghyfeillion, yn ymylu y tir dymunol; yr wyf yn meddwl fy mod yn nghymydogaeth y ddinas santaidd. Oh am fod yn barod. Gobeithio y cewch well cynhauaf yma heddyw yn yr hen ysgubor, na phe buasech yn gweithio gyda'r cynhauaf gartref o'r boreu hyd yr hwyr. Chwi weithiwch yn well yfory; cewch fyned adref yn fuan, dros y caeau a'r anialwch gyda llawenydd, gan feddwl am eich etifeddiaeth dragywyddol." Dyna eiriau Jones Llangan mewn hen ysgubor, a ysgrifenwyd gan Mrs. Richard pan yn ferch ieuanc. Gallem feddwl ei bod yn treulio llawer o amser mewn myfyrio ac ysgrifenu, ac y mae y cwbl yn dangos chwaeth uchel a choethedig. Bu farw mewn tangnefedd, gan bwyso ar Iesu. Aeth o'r blaen ryw ychydig, megys i barotoi y ffordd, a gwneyd yr ystafell yn drefnus i dderbyn ei phriod anwyl, yr hwn oedd i'w dylyn yn mhen ychydig amser. 275 PENOD XXV. Mr. Richard yn cael ei adael mewn unigolrwydd-pryderwch rhosydd Moab. Y MAE Mrs. Richard wedi marw, ac wedi ei chladdu. Do, ymgynullodd tyrfa fawr i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref yn monwent Maenorowen. Y mae y fonwent wladaidd hon yr ochr arall i'r ffordd, ar gyfer palasdy Maenorowen, lle y magwyd y foneddiges rinweddol hon. Nid oes nemawr o latheni rhwng hen gartref mebyd a ieuenctyd a hir gartref y cul-fedd tywyll. Sefwch ar ganol y ffordd fawr, a gwelwch ar un llaw gartref mebyd yn y palasdy yn eich ymyl, ac ar y llaw arall gartref marwolaeth a llygredigaeth. Mor wahanol yw y ddau gartref! Cartref mebyd yn gynes, ond y llall yn oer iawn; cartref mebyd yn llawenydd a hyfrydwch, ond yr hir gartref yn syn ac yn bruddaidd iawn. Haul yn codi yw cartref mebyd, ond haul yn machlud o dan gwmwl du yw y llall. Amser yn dechreu yw y cyntaf, amser wedi dirwyn y bellen i ben yw yr olaf. Mor agos y mae mebyd a monwent i'w gilydd! Er ys ychydig yn ol yr oedd helynt garw o fewn llai na chan llath i'r bedd acw yn nghylch priodas Miss Gwyn; wele heddyw y mae Miss Gwyn wedi rhedeg yr yrfa yn gyflym trwy lawer o orthrymderau; wedi gadael gwr ar ei hol ar lan yr afon, a mab a merch a dau ŵyr i wylo ar ei beddrod. Mor rhyfedd, ïe, mor ofnadwy yw bodolaeth! Dyna'r gwr a'r wraig un bob ochr i'r afon ddofn, heb allu siarad dim â'u gilydd; un yn wylo a'r llall yn canu, a llwybr cymundeb wedi ei lwyr ddinystrio. "Rhyfedd ac ofnadwy i'n gwnaed!" Bu dystawrwydd! Do, dyma ddystawrwydd am byth rhwng y perthynasau agosaf, a rhyferthwy yr afon sydd yn tori cymundeb rhwng y ddau fyd, yn bygwth llyncu pawb iddi ei hun. Y mae edrych ar y fonwent a bedd newydd Mrs. Richard yn rhyw beth digon pruddglwyfus; ac wedi y cwbl, wedi oes o lafur caled, a throion blin, mae yno ryw beth llonyddol hefyd; ac y mae dyn yn dyfod yn mhen tipyn i ymdeimlo â llonyddwch. "Efe a wel lonyddwch mai da yw." Y mae hon, beth bynag, yn wlad lonydd; bro dystawrwydd ydyw; pob tafod yn fud, a phob asgwrn yn ddigyffro. Pan y bydd y byd yn berwi mewn poenau, trafferthion masnachol, helyntion teuluol; ïe, teyrnasoedd yn tywallt gwaed i'r ddaear, fel arllwys dwfr; a'r meirch a'u carnau yn gochion gan waed y lladdedigion, y mae yn llonydd iawn yn y fonwent, lle y mae pawb "yn gorwedd, yn gorphwys, ac yn huno" mewn llonyddwch perffaith. "Yno yr annuwiolion a beidiant â'u cyffro; ac yno y gorphwys y rhai lluddedig. Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd yn nghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. Bychan a mawr fydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddiwrth ei feistr." "Ei feibion a ddaw i anrhydedd, ond nis gwybydd efe." Wel, y mae un peth digon dymunol yn y fonwent, yn mhlith llawer o bethau diflas; ceir yno lonydd, tawelwch, a dystawrwydd hollol. Dyna ni wedi myned i'r man pellaf gyda Mrs. Richard; rhaid i ni ddychwelyd eto am dipyn at ei gwr cythryblus, yn ei wendid a'i nychdod, yr hwn sydd yn wylo yn brudd mewn amddifadrwydd yn rhosydd Moab ar lan yr Iorddonen. Y mae wedi ei adael wrtho ei hun, heb neb i'w gysuro ond ei anwyl Bridget. Ond ni bydd eisiau cysur yn hir ar y ddaear; tymhor tynu cysur o greadur sydd yn mron darfod. Ei babell yntau heddyw sydd yn rhosydd Moab, ar y gwastadedd yn ymyl yr Iorddonen, yn swn rhediad dyfroedd yr afon olaf. Oes, y mae trwch o flodau yr almon ar ei ben; ffrwyth hen wastadedd yr Iorddonen ydyw y rhai yna; y mae ei war yn crymu fel pe bai ar fyned i yfed dracht, y ddracht olaf, o'r dyfroedd oerion. Pa fodd y mae yn teimlo yn awr? pa beth y mae yn ei ddywedyd yn y wlad ddyeithr a newydd hon? Dacw ef yn eistedd i lawr ac yn ysgrifenu ar bapyr bychan a ganlyn:-"Câr a chyfaill a yraist yn mhell oddiwrthyf. Noeth y daethum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." "Ymddiriedwch chwi yn yr Arglwydd," meddai wrth y plant: "ïe, fy mhlant bach, fe ofala am danoch wedi yr elo eich tad i'r bedd ar ol eich mam anwyl. Tad byw ydyw efe, ac y mae efe yn gofalu fel tad am danoch chwi. O, ymddiriedwch ynddo. Gofynwch ei genad am bob peth, peidiwch a gwneyd un symudiad heb ei genad; mawrhewch ei air, canys y cyfryw ag sydd yn mawrhau ei air a fawrheir ganddo. Peidwch a dysgwyl ond siomedigaeth oddiwrth ddyn marwol; nid yw y goreu o ddynion ond dynion; chwi gewch rai i'ch canmol, rhai i'ch cablu, a'ch cyfeillion yn troi yn fradwyr i chwi; ond peidiwch er hyny a gadael dim i'ch digaloni; eithr defnyddiwch y Noddfa rhyngoch chwi a phawb. Nid wyf yn gweled neb yn hapus ond y rhai sydd yn y nefoedd; y mae eich anwyl fam yno yn awr; a phaham yr wylwn? Yr ydym ni yn wyło, a hithau yn hapus. Mae y rhai sydd yn Nghrist mor ddyogel a'r rhai sydd yn y nefoedd; ond nid ydynt mor ddedwydd. Amen ac Amen." Fel hyn y mae gwr Duw yn siarad ar lan yr Iorddonen. Er ei holl afiechyd a'i ddiffyg anadl, ymdrechodd gyda'r weinidogaeth hyd y gallasai, a thros ben hyny. Yr oedd yn codi o'r gwely i fyned i bregethu pan na chodasai at ddim arall yn y byd hwn. Do; gwnaeth nid yn ol ei allu, ond uwchlaw ei allu yn mhell. Er mwyn dangos hyn, yn nghydag egwyddor yr ymdrech mawr i fyned i bregethu yn wyneb anallu, rhoddwn yr ysgrif a ganlyn, a gawsom yn mhlith ei bapyrau yn llaw-ysgrif ei anwyl Bridget, yr hon sydd yn dyweyd llawer, tebygem ni:-"Llawer y buom yn ceisio perswadio ein hanwyl dad am beidio a myned o gartref i bregethu, pan y byddai y tywydd yn oer a'r hin yn arw iawn, ac yntau newydd godi o'r gwely gan lesgedd. 'Na,' dywedai, 'mi af, mi af, tra gallwyf yn rhyw fodd, fel na allo y gelyn ddyweyd pan y byddwyf yn afon angau, Nid aethost, ac nis gwnaethost yr hyn a allesit." Dyna ddyn yn gwneyd pob peth mewn bywyd gyda golwg ar y fynyd olaf. O ddyn Duw! Dan ddylanwad yr ystyriaethau difrifolaf y treuliodd y dyn mawr hwn ei fywyd; ac yn ddiau yr oedd cuddiad ei gryfder gweinidogaethol yn hyn. Dyma yr ystyriaethau yn ddiau barodd iddo ddyweyd y gwir yn wyneb pob dyn, cyfoethog yn gystal a thlawd, fel na fuasai hyny ychwaith yn ngenau y gelyn i ddanod iddo yn yr afon. Yr oedd llawer yn ceisio gwneyd eu hunain yn boblog wrth gymeryd plaid y cyhuddedig, a'i feio yntau am erwindeb; ond wedi hyny yr oedd tystiolaeth yn nghydwybodau y rhai a driniodd efe arwaf, mai efe oedd yn iawn, ac mai efe oedd eu cyfaill goreu eilwaith. Yr ydym yn cofio clywed cyfaill yn dyweyd ag oedd yn bresenol, yn wyneb ei fod yn cael ei feio am drin rhyw rai yn lled arw, fel y tybid; dywedai, "Yr wyf fi yn dyweyd am fy mod yn ofni Duw." Y mae yn sicr mai felly yr ydoedd hefyd. Pan byddai eraill yn osgoi dyweyd y gwir, ïe, yn dyweyd pob peth ond y gwir er mwyn poblogrwydd, a gwynebau dynion, byddai efe yn sefyll heb siglo, yn wyneb y cyfoethog yn gystal a'r tlawd, o blaid gwirionedd yr efengyl, am ei fod yn ofni Duw yn fwy na dynion, ac hefyd am ei fod yn meddwl yn fwy nag eraill fod cysylltiad agos rhwng y peth ag afon angau. Nid oedd am roi ffon yn llaw y gelyn i'w guro yn awr marwolaeth; gan hyny ymdrechai wneyd pob peth fel y gallai farw yn dawel, a rhoi cyfrif yn llawen ac nid yn drist; "cael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion." Y dynion sydd yn cwympo yn ol ar Dduw, gan ddal eu hunain yn atebol iddo Ef yn unig, sydd yn gryf i ddyweyd y gwir wrth bawb. Nid yw y cyfryw yn dyweyd er mwyn eu canmol, nac yn peidio rhag eu beio; ond yn dyweyd am fod angen dyweyd, yn dyweyd am fod yn ddyledswydd dyweyd, yn dyweyd am fod yn lles i ddyweyd, a dyweyd am fod Duw yn peri dyweyd. Dyn Duw yw y dyn goreu i ddyn yn yr yrfa hir; canys yr hyn sydd yn iawn y mae efe yn amcanu wneyd, ae nid yr hyn sydd yn boddio; a chewch weled wrth fyned yn y blaen trwy amgylchiadau bywyd, a phan yn nesu at ymchwydd yr Iorddonen, mai dyn Duw yw y dyn goreu i chwithau. Pwne mawr dyn Duw yw boddhau Duw, nid boddhau ei hunan, na neb arall. Dymunai lawer gwaith osgoi llawer cythrwfl; a gwnai hyny hefyd, oni bai y cymhellion dwyfol at sefyll dros y gwirionedd a gwneyd dyledswydd, yn nghyda chadw y llwybr yn ymyl yr hen Iorddonen heb fod yn arw iawn; neu fel y dywed ef ei hun, "Fel na allo y gelyn ddyweyd yn afon angau, Nid aethost, ac ni wnaethost yr hyn a allesit." Mawr yw y gwahaniaeth sydd rhwng dyn Duw yn ymwneyd â phethau a dyn hunan; y mae y gwahaniaeth mor fawr fel nad yw mor anhawdd eu hadnabod oddiwrth eu gilydd, ond sylwi ychydig ar yr yrfa. Eithr pan ddadwisgir y ddau yn afon angau, y gwelir rhagor, anfeidrol ragoriaeth rhwng y naill a'r llall; bydd y gwas ffyddlon yn berl dysglaer mewn gogoniant, mewn bri byth ger bron ei Arglwydd, tra y bydd y llall yn warth ac yn annheilwng o wlad y goleuni. Fe allai hefyd am lawer fu yn rhy esgeulus mewn arfer annhueddrwydd, er dianc o honynt rhag colledigaeth, gyfarfod o honynt a thywydd garw yn yr afon, a dianc "megys trwy dân." Ystranciau cywilyddus mewn crefydd yw osgoi pob peth er mwyn diane yn groen-gyfan, neu ynte gwenieithio yn rhagrithiol, er mwyn poblogrwydd, lle y dylid argyhoeddi yn llym, a chyda phob awdurdod, yn gymaint a bod gwirionedd Duw yn goddef. Ond dyna, gadawn y cyfryw i'w tynged. Dyn Duw oedd Mr. Richard; dyn yn ofni Duw; dyn yn<noinclude><references/></noinclude> qtah1gi14niclqpy9hx80fneeo092ho Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/333 104 84629 164414 2026-05-07T21:41:32Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "byw gyda golwg barhaus ar farw a'r byd a ddaw; am hyny yn dyweyd y gwir wrth ei gymydog ac wrth ei frawd. Nid ydym yn meddwl nac yn amcanu profi ei fod yn berffaith yn ngweithiad allan ei egwyddorion o onestrwydd; fe allai ei fod yn cario ei sel weithiau i lymdostrwydd; ond yn lled anfynych. Yr oedd yn gyffredin iawn ar ganol llwybr barn. Ond a chaniatau hyny ar brydiau, y mae yn hawdd maddeu i ddyn o amcan cywir ac onest, pan y bydd... 164414 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byw gyda golwg barhaus ar farw a'r byd a ddaw; am hyny yn dyweyd y gwir wrth ei gymydog ac wrth ei frawd. Nid ydym yn meddwl nac yn amcanu profi ei fod yn berffaith yn ngweithiad allan ei egwyddorion o onestrwydd; fe allai ei fod yn cario ei sel weithiau i lymdostrwydd; ond yn lled anfynych. Yr oedd yn gyffredin iawn ar ganol llwybr barn. Ond a chaniatau hyny ar brydiau, y mae yn hawdd maddeu i ddyn o amcan cywir ac onest, pan y byddys o dan yr argraff mai llesâd sydd mewn golwg. Er y byddai efe yn dyweyd yn arw yn erbyn pechod a phob anwireddau, eto efe oedd y cyfaill ffyddlonaf, mwyaf didwyll a gyfarfyddech byth. Byddai yn curo ac yn caru ar yr un pryd; nid oedd yr un cyfeillgarwch yn myned rhyngddo a churo ar ben pechod. Yr oedd yn ddyn anwyl, ac o'r rhyw iawn; dyn yn gwella wrth ei adnabod; dyn yn mwyneiddio wrth agosâu ato; ïe, ei fan tyneraf oedd y galon fawr, cartrefle a chanolbwynt teimladau uchaf dynoliaeth. Yr oedd llawer yn edrych arno yn sarug o eisiau ei adnabod, yn ei osod i lawr yn orthrymwr, o ddiffyg gwybod digon am dano. Fe fydd dynion mawr fel efe yn cael eu cam-ddarlunio yn aml, yn enwedig gan ryw rai ag sydd yn ceisio ymgystadlu am fawredd, ac yn methu. Ỷ mae rhyw beth tebyg fel y bydd y siomedig mewn cystadleuaeth eisteddfodol, yn troi i gablu pawb, yn enwedig y beirniaid, oddiar ddwylaw pa rai y derbyniasant y cam mwyaf cywilyddus. Felly y mae wedi bod, ac felly y bydd, digon tebyg, oddieithr fod rhyw beth yn nghynwysiad y mil blynyddoedd ag sydd yn debyg o wella pethau fel hyn. Beth bynag, rhaid i ni fyw a marw, gellid meddwl, heb weled y dyddiau dedwydd hyny; ac nid oes genym o ganlyniad ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf; a chymeryd pethau fel y maent. Pan y mae dyn yn sefyll yn uchel, bydd yn sicr o fod yn nod i saethau yn aml. Paham y mae cymaint o saethu at Arglwydd Palmerston, Iarll Russell, a dynion cyffelyb? onid o herwydd eu mawredd, eu sefyllfa uchel, a'r duedd sydd mewn eraill i'w cael i lawr o'u swyddogaethau uchel, er mwyn iddynt hwy gael eu lle? Beth arall? canys pe byddent yn wŷr boneddigion heb swyddi, heb dalentau gwychion, heb fawredd yn y byd, byddai pawb sydd yn chwenych y blaen yn ddigon boddlon iddynt; caent dawelwch yn eu teuluoedd, digon o amser gyda'u bwyd, a digon o amser eilwaith gyda'r bibell, gyda'r cwn, a chyda'r ceffylau; ni byddai eu henwau yn boen yn y senedd, nac yn destun siarad yn y papyrau newyddion; ni byddent yn wrthddrychau cenfigen i'r uchelgeisiol, na phryder a braw i'r ymchwilgar am swyddogaeth a dyrchafiad. Na; oblegyd pob peth felly byddent mewn tangnefedd heddychol yn mhlith eu cwn, eu ceffylau, a'u hetifeddiaethau. Ond lle y mae gwir fawredd, nis gellir lai na'i deimlo yn rhyw fodd neu gilydd; ac yn ol natur y teimlad hwnw fe fydd rhai yn canmol a'r lleill yn cablu; bydd yr un gweithredoedd yn cael eu melldithio a'u bendithio, yn ol natur teimladau y personau. Yn awr, yr oedd yn Mr. Richard fawredd; yr oedd yn fwy na phawb yn ei wlad mewn cylchoedd Methodistaidd, am hyny y llywodraeth yn syrthio yn naturiol ar ei ysgwyddau; a pha le y bu y llywodraethwr na chenfigenwyd, na feiwyd, ac na ddymunwyd ei ddiswyddo, er mwyn cael ei le? Y mae dwy ochr i'r ddalen, erbyn edrych; er nad ydym, wrth ddyweyd felly, yn myned i ymdrechu profi mai yr ochr arall i ddalen Mr. Richard mae y drwg i gyd; ond yr ydym yn dyweyd fod llawer iawn o ddarlleniad ar y tudalen hwnw, ac fe dichon fod peth ar ei ochr yntau hefyd. Yr oedd ei amseroedd ef am dros haner ei oes yn bur isel ar grefydd; ychydig o ddynion goleuedig oedd i'w cael, fel yr oedd pethau yn naturiol yn syrthio i ychydig iawn o ddwylaw: yr oedd Cyfarfodydd Misol Siroedd a Chymanfaoedd hefyd yn hollol o dan lywyddiad ryw chwech neu saith o bersonau. Yr oedd ffurf felly ar bethau yn cymeryd lle o angenrheidrwydd; ac felly darfu y dosbarth hwnw o weinidogion dyfu. Mr. Richard oedd un o'r olaf o'r bobl fawrion hyny a fu byw; ac wrth ei fod yn dwyn pethau yn y blaen yn y ffurf gyntefig hono, gosodwyd ef i lawr fel un yn caru gormod o dra-arglwyddiaeth. Fe allai fod arferiad tipyn o lywodraeth yn brofedigaeth iddo; ac yn gymaint fod ei allu a'i ddoniau mor fawr, hwyrach ei fod yn teimlo ei nerth gymaint nes gwasgu rai prydiau dipyn yn rhy dỳn i'r cyfeiriad hwnw, nes y byddai y gorchfygedig yn gwaeddi yn enbyd. Y mae yn sicr fod tra-arglwyddiaeth yn beth i'w osgoi; a pha beth bynag fyddo gallu dyn, nid yw yn weddus; y mae yn sicr hefyd yn y diwedd o ddyfod yn brofedigaethus. Myned i lywodraethu heb ei senedd oedd cyfeiliornad mawr Charles y cyntaf; ac yn fuan wedi iddo golli ei senedd fe gollodd ei ben hefyd. Y peth goreu yn sicr yw myned â'r teimlad cyffredin gyda chwi; a phan y methoch a gwneyd hyny, yr ydych yn methu llywodraethu; ac os dalier y llywodraeth yn ffurfiol yn hwy na hyny, y mae bob amser yn cynyrchu gwrthryfel. Golwg ddigon diflas yw gweled rhyw ddyn yn ysgwyd teyrnwialen gydag awdurdod uwchben dynion sydd wedi blino ar ei lywodraeth; ni phâr yn hir felly, canys fe ddinystrir y naill gan y llall yn bur fuan. Ond a chaniatau, o herwydd amgylchiadau, fod rhyw beth yn terfynu ar annghymedroldeb yn Mr. Richard yn y peth hyn, ar y cwbl yr oedd yn un o'r dynion ffyddlonaf i'r gwirionedd yn ei oes; ni adawai i'r gwirionedd oddef er mwyn esmwythder; ond neidiai hyd ei ganol i'r dwr i'w amddiffyn. Byddai llawer yn llechu yn ei gysgod ef ar dymhorau o berygl; ni chlywid ddim am danynt hwy; ni ddaethant allan o blaid Duw a'i wirionedd, fel yr oedd yr holl gyfrifoldeb yn syrthio ar ei ben ef. Heblaw ei fod yn ffyddlon i'r gwirionedd ac i'w Dduw, ni bu neb erioed yn fwy ffyddlon i gyfaill nag efe. Pa agosaf, fel y dywedwyd, yr elech at ei galon, a pha fwyaf yr ymgydnabyddech ag ef, gwell, gwell o hyd ydoedd. Yn wir, dyna y dynion gwirioneddol yn y diwedd. Bydd ambell ddyn yn fêl i gyd tua chymydogaeth ei enau, a'r galon yn arfdy cythreulig, "a chleddyf yn y galon;" eithr gwell genym ni y dyn sydd yn hytrach yn ddraeniog ac eithinog tua'r genau; ond y tir yn gwella wrth fyned yn y blaen tua chyfeiriad y galon. Nid mor hawdd oedd ffurfio cyfeillgarwch agos â Mr. Richard; ond unwaith y cymerai hyny le, yr oedd yn wirioneddol ac yn ddiffuant. Unwaith y gwelai ddyn yn teimlo yn grefyddol, yn wylaidd yn ei symudiadau, ac yn argoeli defnyddioldeb, yr oedd yn ymgylymu a hwnw am byth; ac wrth ei adnabod yr oedd yn gwella. Y mae yn dyfod i'n cof yn awr am hanesyn a glywsom. Yr oedd un dyn yn myned at y llall am ryw nwyf ar goel, ac yn methu yn un wedd a'i chael; ond y mae yn dywedyd, "Paham na chaf y peth, Mr. Williams? yr ydych yn fy adnabod i yn burion." "Ydwyf," meddai Mr. Williams, "dyna'r peth gwaethaf; pe buaswn heb eich adnabod cystal, fe allai y caech ef." Dyn hollol wahanol i Mr. Richard oedd hwn, canys yr oedd hwn yn gwaethygu wrth ei adnabod, ond yr oedd y llall yn gwella bob dydd. Yr oedd Mr. Richard yn ddyn da, ar wahan i fod yn ddyn duwiol, er fod dyweyd rhyw beth felly yn ymddangos ar y cyntaf yn rhyw chwithig hefyd; ond y mae peth felly yn bod, yn sicr i chwi. Fe fydd ambell ddyn yn onest, yn gywir, cymaint o deimlad o anrhydedd yn perthyn iddo, fel y collai ei ben cyn y gwnai ryw beth brwnt iawn. Y mae yn ddyn da yn yr ystyr hyny, ac ar yr un pryd heb fod yn ddyn duwiol. Bydd ambell un arall, er y gobeithier ei fod yn dduwiol, y mae yn ddarostyngedig i ryw bethau bach bryntion, fel y bydd yn brofedigaeth ei alw yn ddyn lled ddrwg, er ei fod yn ddyn crefyddol; ond yr oedd Mr. Richard yn ddyn da ac yn ddyn duwiol, yr oedd yn ddyn i ddyn, ac yn ddyn i Dduw. "Yr Yn awr, rhaid i ni edrych ar y dyn hwn, nid fel dyn cyhoeddus, ond yn dyosg ei ddillad, yn annghofio swyddogaeth, ac yn edrych i lawr gyda phryder i ddyfroedd yr Iorddonen. Ah! dacw ef heddyw yn rhosydd Moab, o fewn swn rhuadau yr Iorddonen; ymyl ei dyfroedd sydd yn lluchio i fyny, yn gwlychu ei draed, ac yn eu hoeri, fel ag y mae eisiau rhyw beth celfyddydol i'w cynesu. Ah! dyma "lyn cysgod angau," gwlad machlud haul, lle y mae rhuadau yr afon yn boddi holl swn masnach a dwndwr ein byd ni. Gellid meddwl wrth ymddyddanion a llythyrau Mr. Richard yn awr nad yw yn clywed swn dim o'r wersyllfa olaf hon ond rhedfa drymaidd dyfroedd yr hen afon. Pan y bydd yn siarad, mae yn gwneyd hyny fel dyn yn ymyl marw. wyf fi," meddai, "yn ymyl y byd tragywyddol; dyn yn marw ydwyf fi; yr wyf yn byw (y fath fyw ydyw) yn mro a chysgod angau." Y mae amryw o'i lythyrau olaf ger ein bron, yn y rhai y mae yn ewyno yn dost, ac yn son am nemawr o ddim ond golygfeydd olaf y byd hwn, y rhai a ganfyddai o ddyffrynoedd dyfnion henaint a chystudd. Tir tywyllwch ydyw: drwg, diffrwyth, yn anialwch gwag, erchyll, lle y mae ffrwythlondeb prydferth y byd hwn yn gwywo, cysgodau duon a thrymaidd angau yn duo yn wyneb yr haul, a swn cerddoriaeth a llawenydd y byd hwn yn darfod yn mhell cyn cyrhaedd y glust sydd yn ymwrando oernadau erchyll y bwystfilod a lechant yn llechwraidd yn hesg a diffaethwch glanau yr Iorddonen. Bydd yn dybenu ei lythyrau yn aml yn awr yn y wedd a ganlyn:-"Byddwch wych yw dymuniad ewyllysiwr eich daioni, yr hwn sydd mewn gwaeledd mawr bob dydd." Cyn iddo fethu yn hollol, ysgrifenwyd ato gan frawd o Benmorfa yn dymuno arno ddyfod yno i bregethu, canys yr oeddynt wedi clywed ei fod wedi bod mewn rhai manau heb fod yn mhell o'r gymydogaeth hono. Mae y brawd hwnw, Mr. Timothy Timothy, yn lled awgrymu yn ei lythyr ei fod yn gobeithio nad oeddynt wedi pechu yn ei erbyn yn Mhenmorfa; ac os oeddynt, ei fod yn gobeithio nad oedd y pechod hwnw yn anfaddeuol. Gwelir wrth y llythyr a ganlyn, yn atebiad i'r uchod, ei fod yn ysgrifenu o rosydd Moab, o'r wersyllfa olaf cyn croesi yr afon: "Abergwaen, Mehefin 29, 1852. "ANADNABYDDUS FRAWD, -Nid anystyriaeth ond anallu a fu yr achos na fuasai eich llythyr wedi ei ateb yn gynt. Mae egwyddor, iaith, a chynwysiad eich cyfarchiad caredig gydag un eithriad-nid am fod yn hwnw ddim anserchog, ond ei fod yn dangos rhyw beth gŵyrog, yr hwn a gaiff ei nodi-yn dangos hanfodau Cristionogaeth, undeb, cariad, a brawdgarwch diragrith. Yr eithriad, yr hyn sydd rhy ryfedd i'w ddeall, yw eich pechod a mesur eich anwiredd y soniasoch am dano, ac y dylem faddeu i'n gilydd, megys y maddeuwyd i ninau. Mae yr ymadrodd hwn yn rhy ddwfn a phell i'w ddirnad. Nid oes eisiau maddeu ond lle bo pechu; nid yn unig nid oes ynoch bechod ac anwiredd yn yr achos hwn, ond nis gallasai fod, ac ni ogwyddwyd at fod. Yr holl achos o'r dyeithrwch a soniasoch sydd i gyd mewn anallu anorfod. Buasai eich cais wedi ei gyflawni er ys llawer o fisoedd oni bai hyny, canys y mae yn rhaid fod anystyriaeth mawr pan y gellir gadael pethau bychain i droi heibio gais syml a difrifol rai yn sychedu am glywed pregethu y gair. Mae dyfod weithiau mor agos a chapel Twrgwyn, yr hyn sydd i mi fy hun ac i eraill sydd adnabyddus â mi mor rhyfedd a gwyrthiol; mae pob tro, fel y tro diweddaf y buwyd yno, yn llawer mwy cymhwys i'r gwely nag i bregethu. Mae fy afiechyd wedi cynyddu yn fawr yr haf hwn, mwy nag y bu erioed. Yn ol y teimlad bob dydd, nid oes ond megys cam rhyngof ac angau. O, y fath amgylchiad mawr a sobr yw hwnw. Oni bai effeithiau gwaeledd natur yn llethu i haner marw cyn del marw ei hun, buasai yn hyfryd ryw ddiwrnod, gan gyfansoddiad dynol o'r fath sydd, ymweled â Phenmorfa er mwyn gweled pethau newydd, pethau gwell, a phethau gwych; canys nid dim ond ysbryd yw dyn tra byddo yn y fuchedd hon. Er na ddylai dim fod yn brif ysgogiad ond y pethau ddylai fod yn flaenaf, mae llonaid corph o lesgedd angeuol bob dydd yn difinio, pylu awch, ac yn lladd egni at bob peth, nes nad oes dim blas ar ddim: a pha fodd y bydd? canys bywyd yw ffynon cysur natur, iechyd yw ffrydiau cysuron bywyd i natur; lle nad yw hyn nid oes pleser mewn gweled, clywed, na dweyd, bwyta na gwisgo, myned na dod. Mae pregethu yn gofyn corph cryf yn gystal ag enaid cryf, yn enwedig lle bo mwy o ymofyn am gorph cryf nag am enaid cryf. Mae llawer iawn a elwir yn Grstionogion, er mor hened yw Cristionogaeth, na wyddant un gwahaniaeth rhwng enaid a chorph pregethwr; ac mae yn debyg fod rhai o'r fath hyn i'w cael yn mhob gwlad, er fe allai eu bod yn anamlach nag y buont; ac fe allai<noinclude><references/></noinclude> mc1hi0w65root21a2h5oz55sn8j0qa0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/338 104 84630 164415 2026-05-07T21:42:27Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "na byddai yn golled pe byddent yn anamlach eto. Plith draphlith raid iddi fod tra parhao yma. "Dymunaf arnoch fy nghofio mewn gwir serch at eglwys Penmorfa, yn enwedig at ei swyddogion, ei henuriaid, athrawiaethol a llywodraethol, gan ddymuno i chwi oll ymgadw yn nghariad Duw; gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol, a chael fy nghofio genych chwithau yn eich gweddiau drosof yn wastadol, er nad ydwyf ond... 164415 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na byddai yn golled pe byddent yn anamlach eto. Plith draphlith raid iddi fod tra parhao yma. "Dymunaf arnoch fy nghofio mewn gwir serch at eglwys Penmorfa, yn enwedig at ei swyddogion, ei henuriaid, athrawiaethol a llywodraethol, gan ddymuno i chwi oll ymgadw yn nghariad Duw; gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol, a chael fy nghofio genych chwithau yn eich gweddiau drosof yn wastadol, er nad ydwyf ond annhymyg, mewn syndod yn suddo fod eglwysi anrhydeddus y Duw byw yn gwneuthur sylw o'r fath wrthddrych gwael; a phe gwybyddid y gwaeledd y byddai yn anmhosibl y gwnaent.-Wyf yr eiddoch mewn serch diffuant, "THOMAS RICHARD." "Yn ol eich diragrith gais, pan ganiateir i mi, caniateir i chwithau." Ysgrifenwyd ato gan Mr. W. Griffiths, Penycae, Sir Fynwy, ar gais y sir, yn ei gymhell i Gymanfa a gynaliwyd yno yn y flwyddyn 1852; ac wrth y llythyr a ganlyn, yr hwn a ysgrifenwyd yn atebiad i'r cais hwnw, y gwelir ei fod yn ysgrifenu o "wlad machlud haul." "Abergwaen, Ebrill 28, 1852. "ANWYL AC ANADNABYDDUS FRAWD, - Daeth eich llythyr serchog ac effeithiol i law yn brydlawn; oedwyd ei ateb yn gynt, rhag bod yn achos un math o dristwch i'ch meddwl pruddaidd, gan dybied ei fod heb gael y sylw a ddylai, er y gwyddid y pryd hwnw yr hyn a wyddys yn awr; ond bod graddau cryfach o gystudd nag oedd y pryd hwnw. Y mae y llinellau hyn yn cael eu hysgrifenu gyda meddwl dolurus, a chalon glwyfus. Oddiwrth gynwysiad cwynfanus, tra effeithiol, gofalus, a gwir serchiadol eich anerchiad, nid yn hawdd y goddef teimladau yr ysgrifenydd gwael hysbysu fel y gorfydd bod. Y gwirionedd yw, fod yn anmhosibl i un mewn cymaint cystudd bob dydd wneyd y fath antur heb ryfygu yn amlwg; canys nid damwain ydyw yr anhwyldeb, ond dyddiol-bob dydd mor gyson a'i ddyfod, ac mor drwm nes amheu cael byw. Bu gorfod i mi ymadael dydd Llun diweddaf o le yr oedd Cyfarfod Misol i fod y dydd canlynol; a da ydoedd cael ymadael, canys yn y gwely y treuliwyd y rhan fwyaf o'r dyddiau canlynol. Dywedir hyn er boddlonrwydd. "Pe gallwn ddod, a bod yno, byddwn yn faich i mi fy hun, gan natur yn pallu, ysbryd yn methu, a'r oll yn anhwylus, a thrwy hyny yn anfuddioli yr hyn a fyddai yn llawn o amgylchiadau llafurus. "Bellach, y mae yn bryd darfod â'r ochr wanaidd hon, i gael 'peidio â'r dyn,' a throi at yr Arglwydd, yr hwn sydd yn cuddio ei wyneb oddiwrth dŷ Israel, ac i wylied am dano. O y fath drymder yw cuddiadau ei wyneb, ïe, a llawer trymach yw bod heb wybod hyny! Meddwl ei bod yn ddydd, ac eto yn nos. Difyru ac ymddigoni yn ein swn ein hunain, gan ymluo ac ymlapio ynom ein hunain a'n cyffelyb, ac ychydig o ddyweyd. Gobeithio nad yw wedi myned mor bell yn y nos na ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth, yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos? Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias? Pa hyd yr erys gofyniad y Cenedloedd heb ei ateb? sef, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Dyma ei gymanfa: pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Dyma ei bregethwyr: pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Dyma y canu coraidd: pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Dyma gylchwyliau Methodistaidd: pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Pa hyd, O Dduw, y cuddi dy wyneb? ai yn dragywydd? Pa beth y mae ateb Duw yn ei ddyweyd? Ai yn ddiachos yr wyf yn cuddio fy wyneb? Fy hoff waith yw ei roddi. Gwell genyf lewyrchu fy wyneb na'i guddio; ond pa fodd y rhoddaf ef? canys gyrasoch fi yn mhell oddiwrth fy nghysegr a swyddogion bydol, cnawdol, beilchion, hunanol, cydymffurfiol â'r byd hwn, annyoddefol i athrawiaeth iachus; 'eithr yn ol eu chwantau eu hunain y pentyrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau wedi merwino'gan ysfa flysiol newyddion, yr hyn sydd yn effeithio ymrysonau, annghydfodiaethau, ac ymraniadau. Nid yn yr olion y mae achos cuddiad ei wyneb yn dechreu, ond yn y blaenion. Mae 'fel y byddont un' heb fod. Y mae anfoniad Crist gan y Tad yn cael ei guddio oddiwrth y byd. Mae dysgyblion Crist, Tywysog tangnefedd, yn anadnabyddus; ac nid mewn un blaid ac enwad y mae hyn, ond yn holl bleidiau crefyddol ynys Prydain. O, pa beth a wnawn? Dychwelwn, dychwelwn; 'canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os dychweli, yna y'th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tyni ymaith y gwerthfawr oddiwrth y gwael, byddi fel fy ngenau i. Dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.' "Gobeithio, gan daer ddymuno, y ceir clywed gan y neb a fyddo byw, fod yr Arglwydd wedi myned allan gyda'i luoedd yn Nghymanfa Penycae. "Cofiwch fi yn garedig at yr holl eglwys yno, ac at y frawdoliaeth yn yr holl sir, mewn cydymdeimlad a'r loes drom a gawsom yn ymadawiad ein hanwyl, anwyl frawd, Morgan Howells. O frodyr, gweddiwch droswyf.-Wyf eich cydymaith mewn cystudd, "THOMAS RICHARD." 286 PENOD XXVI. Marwolaeth Mr. Richard, &c. IE, marw yw diwedd pob dyn byw. Yr hanes olaf yw hanes marw a chladdu. "Dyn a drenga, a pha le y mae?" Nid ydym yn gallu ei ddylyn yn mhellach na'r bedd yn awr; dyna derfyn eithaf ein mynedfa ni tra yn y cnawd. Yr ydym fel y môr, yr hwn yn ymyl y tywod man sydd yn gorfod troi yn ol; hyd yma yr êi, ac nid yn mhellach. Hyd y bedd y gallwn ddylyn ein ffryndiau goreu; rhaid dyosg y wisg o gnawd cyn y gellir myned yn mhellach. Unwaith yr ydym yn colli ein golwg ar ein cyfeillion ar lan yr Iorddonen, dyna yr holl hanes yn dybenu; rhaid eu gadael yn eu sefyllfa anadnabyddus hyd nes y gwelom hwynt ar ol yr adgyfodiad o'r bedd y dydd diweddaf. Yn gyffredin bydd pwys mawr yn cael ei roddi ar oriau olaf pawb, a pha beth a ddywedwyd ddiweddaf; ond fe allai fod llai o bwys yn hyny nag a feddylir. Daw llawer o anhwylderau i mewn yn ymyl angau, ag sydd yn fynych yn dyrysu y synwyrau, nes bydd dynion mewn sefyllfa annghymhwys i farnu dim drostynt eu hunain, ac hefyd mewn amgylchiadau rhy ddyrys i neb arall allu eu barnu. Gellir cymeryd y duwiol yn lle yr annuwiol, a'r annnwiol yn lle y duwiol yn fynych. Ar yr un pryd y mae blys arnom ddylyn gwrthddrych ein Cofiant hyd at yr anadliad olaf; yr oedd yn deall pob peth o'i gwmpas, ac yn deall hefyd ei fod yn marw. O deimlad rhy anhawdd i'w ddeall heddyw! sef, bod dyn yn gwybod ei fod yn yr afon, ac y bydd yn mhen ychydig o fynydau yn myd yr ysbrydoedd, heb ond ychydig o ddirnadaeth beth all hyny fod. "Och o'r diwrnod!" Cafodd Mr. Richard aros yn lled hir yn y wersyllfa olaf hon yn rhosydd Moab; bu yn sefyllian ac yn nychu ar lan yr afon yn fwy na'r cyffredin; ond ar y 3ydd o Ionawr, 1856, y mae yn cael gorchymyn o'r llys fry i groesi i'r ochr draw. Heddyw yw y diwrnod y siaradwyd llawer am dano, y diwrnod yr anogwyd miloedd ganddo i ymddarparu i'w gyfarfod, y diwrnod yr ofnwyd ganwaith, y diwrnod yr ymdrechwyd llawer â Duw am fod yn barod iddo mewn cyflwr ac agwedd. Wel, y mae hwnw wedi dyfod! Y mae y gorchymyn wedi myned allan! Pa le y mae yr offeiriaid? pa le y mae'r arch! O ddiwrnod sobr! Y mae dyddiau y filwriaeth wedi darfod, a'r cyfnewidiad wedi dyfod. Yn mhen y flwyddyn, o fewn ychydig ddiwrnodau wedi derbyn y dysteb, ac yn mhen haner blwyddyn wedi ffarwelio â Mrs. Richard ar lan yr Iorddonen, y mae yntau yn myned i brofi grym y dwr; ac er fod ei anwyl ferch, Mrs. Davies, yn dal ei ben i'r lan, yn cau ei lygaid, a'i weled yn cael ei roi yn y bedd mewn heddwch, nid hir iawn y bu hithau cyn ei ganlyn i dŷ yr hir gartref yn Maenorowen; ac yn ol pob tebyg i'r aneddau Ilonydd yr ochr draw, lle ni ddywed neb o'r preswylwyr, "Claf ydwyf." Ond, i ddychwelyd. Digon tebyg fod miloedd yn dysgwyl clywed rhyw swn, rhyw leferydd yn dyfod allan o oriau olaf Mr. Richard. Y miloedd hyny a'i gwelodd yn teithio gyda'r efengyl am lawer o flynyddoedd; clywodd ef fel udgorn yn galw i'r maes ac yn rhybuddio; ïe, fel cân cariad yn canu yn dda, nes oedd pob caledwch yn toddi i ddagrau; ac fel pe buasai pob pant yn dyrchafu i benau y mynyddoedd, a phob perchen anadl fel yn bloeddio concwest ar uchel fanau y maes. Ië, mae y bobl hyn oll yn dysgwyl yn bryderus am glywed rhyw swn yn deilliaw allan o oriau olaf y gwr mawr hwn yn Israel. Wel, chwi gewch glywed; nid ydym am gelu dim; nid oes cywilydd o'r gyfrinach olaf; na, y mae crefydd yn dal hyd angau, ac nid yn unig yn dal, ond yn gwella hefyd. Fe allai, serch hyny, fod llawer yn tueddu i roi gormod o bwys ar yr oriau olaf, a'r hyn a ddywedir ynddynt. Bydd dynion yn terfynu y mater tragywyddol yn fynych wrth y dywediadau hyn. Beth ddywedodd olaf? beth oedd ei eiriau diweddaf? A ddarfu iddi agor yn y glyn tywyll? Rhaid edrych peth fel hyn yn ei wyneb. Gwelir llawer o ddynion wedi treulio bywyd annuwiol, ac yn annuwiol ar y pryd, wedi iddynt gael eu dal mewn cyfyngderau yn doddedig a theimladwy i'r pen. Y maent yn wylo, gweddio, yn edifarhau, ac yn addunedu. O mor fwyn, mor ddymunol yr ymddangosant. Gallech feddwl eu bod yn wir ddychweledig, yn ffieiddio eu hen arferion gyda'r atgasrwydd mwyaf, ac yn awr yn caru yr Arglwydd Iesu o galon bur, ac yn ymorphwys arno am ddiangfa byth gyda'u Barnwr. Ië, ymddengys heddyw mewn heddwch a chymundeb tawel â Duw, ac yn foddlawn ymado o'r byd gofidus a thrafferthus hwn. Wel, y mae pawb yn ddiwahan yn agor drws y nefoedd iddo; eithr yn lle myned i mewn trwy y drws, dyma argoelion diangfa rhag marwolaeth; dyna y dyn yn gwella yn raddol, o ran ei gorph, ac o ran ei feddwl hefyd, canys nid oes eisiau darllen y Bibl, na gweddio, na siarad ryw lawer am grefydd; y mae yn dychwelyd yn raddol a naturiol i'w hen bethau, lle yr arferai cael ei bleserau gynt, ac yno yn aros. Ah! dacw y "ci wedi dychwelyd at ei chwydfa, a'r hwch" hithau "i'w hymdreiglfa yn y dom.” Pe buasai hwn yn marw yn y clefyd hwnw, buasai yn ddyn duwiol, dyn wedi cael tro amlwg yn ei oriau olaf. Y mae llawer o bethau fel hyn yn y byd. Bydd llawer o bobl yn grefyddol iawn o dan ddylanwad diod feddwol; byddant yn wylo fel y gwlaw, yn adrodd hymnau, ac yn gweddio. Nid ydym, gan hyny, yn rhoi llawer o bwys ar gyffesiadau nad yw yn cael eu grymusu gan ymarweddiad blaenorol. Ond pan y byddo bywyd o ffydd yn tystiolaethu i gyfiawnder dyn, ac ymarweddiad da yn tystiolaethu yr un peth i gymdeithas am lawer o flynyddoedd, y mae tystiolaeth yr oriau olaf yn arwyddocaol y pryd hwnw. Fe allai ein bod yn myned yn rhy bell i ddiystyru hyn weithiau, gan feddwl mai byw yn dduwiol yw y cwbl, a'r unig dystiolaeth. Y mae yn rhaid byw yn dduwiol, wrth gwrs; ar yr un pryd nid yw yn athrawiaeth anamlwg yn y Bibl fod yr Arglwydd yn anrhydeddu y byw duwiol hyn trwy roi "goleuni yn yr hwyr;" rhoillewyrch yn "nglyn cysgod angau," a mynediad helaeth i mewn i dragywyddol deyrnas yr Arglwydd. Yr ydym yn meddwl fod yr anrhydedd hwn yn cael ei roddi yn fynych ar y saint, ac y mae yn elfen gref yn eu ffydd yn nhaith yr anialwch. Yr oedd yr hen Simeon yn myned mewn hwyl wedi cael Crist yn ei freichiau. "Yr awr hon y gollyngi dy was mewn tangnefedd yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth." Cael amlygiad neillduol o Grist yn yr afon fydd yn llawn mor effeithiol i'r Cristion a chael Crist yn ei freichiau i Simeon. Y mae llawer o bethau gogoneddus wedi deilliaw allan o oriau olaf yr hen dduwiolion, ond yn benaf oll o oriau Iesu Grist ar y pren. Gan maint y goleuni sydd yn dyfod allan o awr olaf Iesu, dacw yr haul yn diffodd. Mae "O Dad, maddeu iddynt," yn tywyllu y byd â'i lewyrch anfeidrol. Yn y goleu hwn nid ydym yn gallu gweled dim ond Duw; y mae yn rhy danbaid i'r ddaear ddangos ei gwyneb; nis gall agor ei llygaid ar y fath lewyrch anfeidrol. Wel, y mae yn ddigon tebyg y dylem feddwl fod yr Arglwydd yn anrhydeddu ei hen wasanaethwyr â noson oleu i farw, gan ddatguddio iddynt yn y glyn, trwy yr Ysbryd Glân, ryw sierwydd an<noinclude><references/></noinclude> 8kqqfqpeift6byr84eaqpr0gebota8x