Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.1
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/31
104
33244
164461
70328
2026-05-10T07:02:42Z
~2026-28083-76
4137
164461
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Wedi ychydig ystyriaeth, a'r lladron hwythau yn ymgynghori pa fodd y gweithredent, cymerodd Morys gyllell, ac ar amrantiad yr oedd yr ysgrepan ledr yn rhydd yn ei law. "Hwda, leidr!" meddai, gan ei thaflu dros y gwrych i ganol y ffordd.
Prin y coeliai'r lladron fod yr arian yn eu gafael, a llai na hynny oedd eu dirnadaeth o'r rheswm a wnaeth i'r yswain ymostwng mor rhwydd. Yr oedd Wil wedi dechrau diolch yn goeglyd pan dorrodd Morys ar ei draws: "Gwna di'r gorau ohonynt, a chyn bo hir dof finnau heibio i chwilio am eu gwerth."
"Croeso," meddai Wil, a buasai'n dywedyd mwy onibai i Robin y Pandy ofyn iddo gyda llw beth a dalai mân siarad a'r arian yn eu dwylo. Ac ar hynny aeth y fintai ymaith ar garlam.
Beth oedd waeth am yr arian ond cael Lewys Ddu ar ei draed? Yr oedd pum munud o hamdden i weinyddu arno, ac i godi ei galon, yn werth deng mlynedd o rent. Aeth Morys at y gorchwyl yn ddiymdroi, a'i bryder yn fawr.
Onibai am freichiau Heraclaidd ei feistr, yno yn y ffos mewn poenau, a'i goes ymhlyg oddi tano, y buasai Lewys wedi treulio'r noson honno. Ond gydag amynedd mawr ac ymroddiad, a'r ddau yn deall ei gilydd, daeth rhyddhad o'r diwedd.
Buont oriau lawer yn ymlwybro'n flin tuag adre oherwydd cloffni Lewys. Ond o'r diwedd daethant yno, ac meddai'r meistr, "Mi dalwn ni'n llawn am hyn, Lewys."
A chyda'i lygaid mawr synhwyrol atebodd yntau, "Gwnawn, os byddwn byw ac iach."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0hs5dwcjlocay9rs26obehm7o4t45op
Indecs:Drama Enoc Huws.djvu
106
84631
164416
2026-05-09T23:23:56Z
AlwynapHuw
1710
Dechrau tudalen newydd gyda ""
164416
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Drama Enoc Huws
|Author=Thomas Howells, Pentre Rhondda
|Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam
|Year=1913
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:Drama Enoc Huws]]
[[Categori:Enoc Huws]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Thomas Howells, Pentre Rhondda]]
[[Categori:Dramâu 1913]]
[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
7hn58g7kxtopmh7mkqd7t9v057cykk6
164432
164416
2026-05-09T23:51:32Z
AlwynapHuw
1710
164432
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Drama Enoc Huws
|Author=Thomas Howells, Pentre Rhondda
|Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam
|Year=1913
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:Drama Enoc Huws]]
[[Categori:Enoc Huws]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Thomas Howells, Pentre Rhondda]]
[[Categori:Dramâu 1913]]
[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:PD-US-expired]]
j64idqbpub6neysvar054muxuw4b4bm
164460
164432
2026-05-10T02:56:52Z
AlwynapHuw
1710
164460
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Drama Enoc Huws
|Author=Thomas Howells, Pentre Rhondda
|Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam
|Year=1913
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=

[[Categori:Drama Enoc Huws]]
[[Categori:Enoc Huws]]
[[Categori:Daniel Owen]]
[[Categori:Thomas Howells, Pentre Rhondda]]
[[Categori:Dramâu 1913]]
[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:PD-US-expired]]
[[Categori:John Milwyn Howells]]
tle6gy5zr1hhik59vibak8v5y504f7r
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/1
104
84632
164417
2026-05-09T23:26:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164417
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Drama Enoc Huws.djvu|canol|400px|tudalen=1]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fmkmuij78u81ijr5rx3ybhxirbu7hs9
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/77
104
84633
164418
2026-05-09T23:26:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164418
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Drama Enoc Huws.djvu|canol|400px|tudalen=77]]<noinclude><references/></noinclude>
irlo5d63uro262wpl8fmbolmumiqqic
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/76
104
84634
164419
2026-05-09T23:27:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164419
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/75
104
84635
164420
2026-05-09T23:27:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164420
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/74
104
84636
164421
2026-05-09T23:27:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164421
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/73
104
84637
164422
2026-05-09T23:27:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164422
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/2
104
84638
164423
2026-05-09T23:27:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164423
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/3
104
84639
164424
2026-05-09T23:28:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb y testun */ Dechrau tudalen newydd gyda ""
164424
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/4
104
84640
164425
2026-05-09T23:28:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164425
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/5
104
84641
164426
2026-05-09T23:28:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164426
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/6
104
84642
164427
2026-05-09T23:29:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164427
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/7
104
84643
164428
2026-05-09T23:31:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
164428
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/8
104
84644
164429
2026-05-09T23:36:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164429
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

[[Delwedd:Drama Enoc Huws (cast gwreiddiol).jpg|500px|canol]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
aou43fq6pvqvb6ktjl9mp5uevs4uqae
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/9
104
84645
164430
2026-05-09T23:43:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164430
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|DRAMA:}}
{{c|{{Mmm-mawr|ENOC HUWS}}
(Seiliedig ar Ffug-chwedl enwog Daniel Owen).}}

{{c|GAN
{{Mm-mawr
T. HOWELLS, L.T.S.C.,}}
A
{{Mm-mawr|J. MILWYN HOWELLS,}}
PENTRE RHONDDA.}}

{{c|{{mawr|GYDA
RHAGAIR
GAN Y
PARCH. DANIEL DAVIES,
PENTRE RHONDDA.}}}}

{{lein|5em}}
{{c|GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1913.}}

Digitized by Google
Original from HARVARD UNIVERSITY

<noinclude><references/></noinclude>
ptoloo8pchxzrzmubv45pr1t9kh6j0x
164431
164430
2026-05-09T23:45:44Z
AlwynapHuw
1710
164431
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|DRAMA:}}
{{c|{{Mmmm-mawr|ENOC HUWS}}
(Seiliedig ar Ffug-chwedl enwog Daniel Owen).}}

{{c|GAN
{{M-mawr|T. HOWELLS, L.T.S.C.,}}
A
{{M-mawr|J. MILWYN HOWELLS,}}
PENTRE RHONDDA.}}

{{c|{{mawr|GYDA
RHAGAIR
GAN Y
PARCH. DANIEL DAVIES,
PENTRE RHONDDA.}}}}

{{lein|5em}}
{{c|GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1913.}}

Digitized by Google
Original from HARVARD UNIVERSITY

<noinclude><references/></noinclude>
gz6cho7oczxxsza6l7bgko1jpgxw5pq
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/10
104
84646
164433
2026-05-09T23:52:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164433
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|DALIER SYLW.}}
{{c|Rhaid cael caniatad i berfformio y Ddrama hon ymlaen llaw bob tro. Mae i Gwmni ei chware heb ganiatad yn drosedd yn erbyn Deddf Hawlfraint.

Gellir cael caniatad i'w pherfformio am gydnabyddiaeth (fee).isel.

Ymofyner â'r Cyhoeddwyr yn unig.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.}}
{{PD-old}}{{PD-US-expired}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
oq0jg4idkduwypldc03fy1repfr0q9y
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/11
104
84647
164434
2026-05-09T23:55:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164434
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGAIR.}}}}
YN ei ragymadrodd i'w lyfr, "Enoc Huws," fe sylwa Daniel Owen ar y datblygiad amlwg nodweddai lenyddiaeth Gymreig yr hanner can mlynedd blaenorol ; yr oedd yn uwch ei safon ac yn llawer mwy toreithiog. Erbyn heddyw, y mae yna feusydd newyddion wedi eu hennill i'n llenyddiaeth, a'r olaf ar un cyfrif ydyw maes y ddrama. Erys cymaint o newydd-deb ynglŷn â hwn fel y petrusa rhywrai ei gydnabod, a sibrydir mai nid arwydd o ddatblygiad ydyw, yn hytrach i'r gwrthwyneb.
Credwn ei bod yn rhy gynnar eto i basio unrhyw farn derfynol ar y ddrama, gan mai yn awr y ca ei chydnabod gennym. Onid oes gan y ddrama ei chenhadaeth atom fel cenedl ? Ai nid arwydd ydyw fod Cymru yn chwilio am ei delfrydau ? Fe orwedd yna haenau o wirionedd mewn chwedloniaeth bur grea angen am eu dwyn i sylw, a'u hargraffu ar feddyliau gwerin ein gwlad. Nid oes angen ar i Gymru fod yn llai moesol a chrefyddol drwy agor ei drws i'r ddrama, gan mai gwirionedd ac nid ffug orwedd yn sylfaen i'r cyfan. Nid dwyn y chwareudy i gynteddoedd cysegr yr Arglwydd amcenir, yn hytrach codi chwaeth ein pobl at y pur a'r dyrchafol.
Hyn, yn ddiameu, gymhellodd fy nghyfeillion i drefnu "Drama Enoc Huws." Wedi darllen y llyfr hwn yn fanwl, a'i weld yn cael ei bortreadu ar y llwyfan, gallaf ei gyflwyno yn y modd cynhesaf i sylw pobl ieuainc Cymru. Nid oes yma ddim yn ymylu at fod yn ddi-chwaeth, ond yn ffyddlon i<noinclude><references/></noinclude>
qoxnq7vmq9rfbab0rbc4a6fk2m7qvse
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/12
104
84648
164435
2026-05-09T23:56:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164435
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fywyd drwyddo. Gall y piwritan pennaf ei ddarllen, ac edrych heb bigiadau cydwybod ar y portread o hono ar yr esgynlawr.
I mi, dau angenrhaid llwyddiant y ddrama yng Nghymru ydyw y rhai hyn,--(a) Rhaid i'r ddrama ei hun i fod o nodwedd uchel, a'i hamcan i ddiwyllio y bywyd Cymreig; (b) Fod y personau gymer at y gwaith o bortreadu yn gymeriadau teilwng, a'u bywyd yn gyfryw grea awyrgylch iach.
:Dilyned llwyddiant y ddrama "Enoc Huws."
{{c|DANIEL DAVIES.}}
:::''Pentre Rhondda,''
::::''Medi 25, 1913''.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4uwlwhr8m81tqtu685p402i0z7x8jce
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/13
104
84649
164436
2026-05-10T00:01:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164436
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYFARWYDDIADAU.}}}}
(1) Gofaler dewis personau cymwys i bortreadu y gwahanol gymeriadau.
(2) Astudied pob un y cymeriad a gynrychiola yn fanwl. Rhaid i bob perfformiwr golli ei hunaniaeth personol yn y person a gynrychiola, cyn byth y gall obeithio cael argraff briodol ar y gynulleidfa. Ymdrecher i fod yn naturiol, — yn "true to nature."
(3) Bydder yn ofalus i ddewis gwisgoedd priodol. Dillad wisgid rhyw ychydig dros hanner can mlynedd yn ol sydd eisieu ar gyfer y Ddrama hon. Gofaler peidio gwneuthur clowns 0 hen gymeriadau doniol, ysmala, Cymru Fu. Gwisger Capten Trefor a'r teulu yn drwsiadus a ffasiynol. Dillad trwsiadus, ond syml, fydd eisieu ar Enoc Huws, Mr. a Mrs. Denman; pan yn dyfod o'r siop i'r gegin, gwisga Enoc Huws siaced liain gwyn. Fel crydd y gwisga Tomos Bartley, heb gôt, a ffedog ledr o'i flaen, a gwisga Sem Llwyd fel mwnwr. Pais a betgwn, shawl fach a ffedog stwff wisga Marged a Barbara Bartley, ond y bydd eisieu cap gwyn ar ben Barbara.
(4) Dylai pob un fod yn barod yn ymyl i gymeryd ei ran cyn y daw yr adeg iddo ymddangos ar y llwyfan, fel na choller dim amser yn ofer.
(5) Os bydd prinder cymeriadau, gall yr un personau gynrychioli Capten Trefor a Tomos Bartley; Sem Llwyd a Jones y Plismon; Mrs. Denman a Kit, &c.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mgmjywfabv2y2zmou48fhcrejwmxgh7
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/14
104
84650
164437
2026-05-10T00:03:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164437
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y PETHAU ANGENRHEIDIOL I'R PERFFORMIAD.}}}}
YSTAFELL TYNYRARDD.—Tair neu bedair cadair esmwyth. Bwrdd mawr a gorchudd lliwiedig arno. Canhwyllbren pres. ''Inkstand'', papur ysgrifennu, potel o ''whisky'' (neu rywbeth o'r un lliw). ''Clock''.
YSTAFELL SUSI.—Amryw esmwyth-gadeiriau. Bwrdd crwn prydferth ''(loo-table)''. ''Sofa, Jewel Case'', Cist Ddillad.
CEGIN SIOP Y GROES a THY DENMAN.—Un gadair freichiau, amryw gadeiriau cyffredin. Bwrdd mawr a llian gwyn arno. Llestri tê, tebot, torth o fara. Brws llawr, procer, a Beibl.
Y TWMPATH.—Bwrdd bach, neu hen ford gron, ddefnyddid yng Nghymru flynyddoedd yn ol. Mainc grydd, morthwyl, esgidiau, &c. Canwyll a chanhwyllbren. Ychydig o hen gadeiriau. Tri cwpan, tebot a thorth.
{{lein|5em}}
Gellir cael benthyg golygfeydd pwrpasol ar rollers gyda wings yn cyfateb am delerau rhesymol gan Mr. Daniel Evans, Secretary, The Rhondda Premier Dramatic Society, 3 Glyncoli Road, Treorchy. Mesurant 20 troedfedd wrth 15 troedfedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
7rpv333jmc497pcjswwy4lfi3ut4e1v
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/15
104
84651
164438
2026-05-10T00:07:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164438
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|GOLYGFEYDD.}}}}
{{center block|
<poem>
ACT I.
GOLYGFA 1-YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
:2.-CEGIN SIOP Y GROES.
:3.-YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
:4.-Y LAWNT O FLAEN Y TY.
:5.-YSTAFELL SUSI..
:6.-TY MR. DENMAN.
ACT II.
GOLYGFA Y TWMPATH.
ACT III.
GOLYGFA 1.-CEGIN SIOP Y GROES.
:2. YR HEOL.
:3. CEGIN SIOP Y GROES.
:4. YR HEOL.
ACT IV.
GOLYGFA 1.-YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
:2.-Y LAWNT O FLAEN Y TY.
:3.-YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
:4. Y CAPEL.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
o3bbv0eb1evo5yb27wup2qnv9rt3eh5
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/16
104
84652
164439
2026-05-10T00:29:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164439
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYMERIADAU.}}}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"

! scope=col style="width: 200px;" |
! scope=col style="width: 100px;" |
! scope=col style="width: 200px;" |

|ENOC HUWS

|Siopwr

|CAPTEN TREFOR

|Capten Gwaith Mwn

|MRS. TREFOR

|Gwraig Capten Trefor

|SUSI

|Merch Capten Trefor

|MR. DENMAN

|Siopwr

|MRS. DENMAN

|Gwraig Denman

|SEM LLWYD

|Mwnwr

|TOMOS BARTLEY

|Crydd

|BARBARA BARTLEY

|Gwraig Tomos Bartley

|MARGED

|Morwyn Enoc Huws

|KIT

|Morwyn Tynyrardd

|JONES Y PLISMON

|Y PARCH. OBEDIAH SIMON.

|Gweinidog

|YR AMERICANWR

|Taid Enoc Huws
|}<noinclude><references/></noinclude>
3t6lkzhgre44p52itmq1tlfm3gnbe1c
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/17
104
84653
164440
2026-05-10T01:14:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164440
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|DRAMA:
ENOC HUWS}}}}
{{c|{{mawr|ACT I.
GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.}}}}
('''CAPTEN TREFOR''' ''yn eistedd wrth y bwrdd, yn ysgrifennu, ei ben yn gorffwys ar ei law chwith, a'i bin ysgrifennu yn ei law dde. Yn sydyn, rhydd heibio ysgrifennu ac ymddengys mewn penbleth mawr. Yn ei ymyl y mae gwydr a photelaid o "Scotch Whisky," o'r hon у суmеr у CAPTEN lawer dracht. Wrth ben arall y bwrdd eistedda'' '''MRS. TREFOR''' ''yn gwnio. Mewn cadair esmwyth wrth y tân eistedda '''MISS. TREFOR''' yn diwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn bychan o Ivory" ac edafedd wen. Sylwa'' '''MRS'''. ''a'' '''MISS. TREFOR''' ''nad oedd y'' '''CAPTEN''' ''yn ysgrifennu, ac amneidia y naill ar y llall. Yn ddisymwth, teifl y'' '''CAPTEN''' ''ei ysgrifbin ar y bwrdd, cwyd ar ei draed, a cherdda yn ol a blaen. Edrycha y fam a'r ferch arno yn frawychus. Meddai'r'' '''CAPTEN''' ''mewn llais cynhyrfus, gan daro y bwrdd)'',
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Fedra i ddim ysgrifennu, a threia i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glân ddiflasu ar y gwaith, byth na symudo i!"
'''SUSI'''.—"Tada, ga i ysgrifennu yn eich lle chi?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Cei, cei, os medri di ddweyd mwy o gelwyddau na fi."
'''SUSI'''."—''The idea'', dada!"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"''The idea'', faw! be wyddoch chi am yr helynt yr ydw i ynddo o hyd yn ceisio cadw pethau i fynd ymlaen? Be'sy' gynnoch chi eich dwy i feddwl am dano heblaw sut i rifflio arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y<noinclude><references/></noinclude>
iy0u95r39ccnzsgykjsbg2hmdr27foa
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/18
104
84654
164441
2026-05-10T01:19:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164441
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>crandia, heb feddwl fawr am yfory? Ond y mae hi wedi dwad i'r pen, ac mi fydd diwedd buan arna i ac ar eich holl ffylal chithe, byth na symudo i, a mi fydd."
'''MRS. TREFOR''' (''yn gyffrous''). "O, Richard bach! O, Richard! 'roeddwn i'n disgwyl o hyd iddi ddwad i hyn. Mi wyddwn o'r goreu y bydde i chi ddrysu yn eich synwyre wrth stydio cimint ar ''geology''. (Yn troi at '''MISS. TREFOR'''). Susi, ewch i nol y doctor ar unweth!"
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn edrych yn fygythiol ar'' '''SUSI''').—"Doctor y felldith! Beth sy' arnoch chi, wraig? Ydach chi'n meddwl mai ffwl ydwi? Drysu yn fy synwyre yn wir ! Fe ddrysodd ambell un ar lai o achos."
'''MRS. TREFOR''' (''yn gyffrous iawn'').—"Ac yr ydech chi wedi drysu, ynte, Richard bach? Wel, wel, be nawn ni 'rwan? Susi, ewch i nol y doctor yn y munud!" ('''SUSI''' ''yn neidio ar ei thraed, y'' '''CAPTEN''' ''yn troi y fath olwg fygythiol arni nes peri iddi syrthio yn ol i'w chadair'').
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wyddoch chi beth, wraig? Mi wyddwn eich bod wedi cysgu'n hwyr pan oeddan nhw'n rhannu ymenydd, ond feddyliais i erioed fod gynnoch chi can lleied o hono. 'Does fawr beryg i chi ddrysu yn eich synwyr, oblegid, byd a'i gŵyr, 'does gynnoch chi ddim o hono."
'''MRS. TREFOR'''.—"Nag oes siwr, nag oes, 'does gen i ddim synwyr, dydw i neb, dydw i ddim byd! Dydw i'n dallt dim geology, a mi faswn yn leicio gweld y wraig sydd yn dallt geology. 'Rydw i yn cofio amser pan oedd rhwfun oedd yn cyfri ei hun yn glefar iawn, yn meddwl fod gen i synwyr yr adeg honno, ne faswn i ddim yn gwrando arno fo. A 'does gen i ddim synwyr yrwan, dim, nag oes, ddim!" (''Yn cuddio ei hwyneb yn ei ffedog ac yn wylo'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn mynd i'w hymyl ac yn rhoddi ei law yn dyner ar ei braich'').—"Sarah, maddeuwch i mi, mi wn mai ffwl ydw i, a mod i wedi anghofio fy hun. Mi ddylaswn wybod na wyddoch chi na Susi ddim am fusnes. Ond bydae chi'n gwybod am yr helynt yr ydw i ynddo 0 hyd, hwyrach y gwnaech chi faddeu i mi. Sarah, peidiwch a chrio; dyna ddigon, dyna ddigon, gwrandewch arna i."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ouysyht0uqha0oo7vko82ku1e7cgbiw
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/19
104
84655
164442
2026-05-10T01:22:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164442
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''SUSI'''.—"Tada, gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am ''syndicate'', a ''Board of Directors'', a ''geology'', a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, wnewch chi wrando arna i?"
'''MRS. TREFOR'''.—"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio colli'ch tempar." (''Yn sychu ei llygaid ac yn ail ddechreu gwnio'').
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, mi dreiaf. Chwi wyddoch, Sarah, fy mod mewn cysylltiad â gwaith Pwllygwynt ers blynyddoedd. Y fi fu yn offeryn i gychwyn y gwaith, y fi, gyda un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae yn rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael cynhaliaeth oddiwrth y gwaith, ac fod y gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn brin o gysuron bywyd, nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu wedi codi ein hunain, ac edrychir arnom yn lled barchus. Mi wyddoch pa fath dŷ oedd gennym cyn hynny. Nid tŷ a stabal a couch—house oedd o, aie? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddyw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, ''Williams' Court'', a Capten Trefor, Tynyrardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan yn eistedd ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod,—yr oedd yn cael tipyn o flas ar • foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt a'r glustog arni? Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chwi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Capten Trefor? Mi wn fy mod wedi cadw y cwbl oddiwrthych chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw yn hwy. '''Does dim'' ond dinystr yn ein haros." (''Yn cymeryd dogn cryf o'r "Scotch Whisky," yn eistedd i lawr, yn tanio "cigar" ac yn dechreu ysmocio'').
'''Y CAPTEN''' eto.— "Pan gychwynais Bwllygwynt, mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnai. Yr oedd yn y gwaith 'olwg'ragorol. Ni chefais unrhyw anhawster i ffurfio cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl arianog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch,<noinclude><references/></noinclude>
n6it7wr5se86zj8t9dprxgzja629e0g
164443
164442
2026-05-10T01:22:56Z
AlwynapHuw
1710
164443
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''SUSI'''.—"Tada, gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am ''syndicate'', a ''Board of Directors'', a ''geology'', a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, wnewch chi wrando arna i?"
'''MRS. TREFOR'''.—"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio colli'ch tempar." (''Yn sychu ei llygaid ac yn ail ddechreu gwnio'').
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, mi dreiaf. Chwi wyddoch, Sarah, fy mod mewn cysylltiad â gwaith Pwllygwynt ers blynyddoedd. Y fi fu yn offeryn i gychwyn y gwaith, y fi, gyda un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae yn rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael cynhaliaeth oddiwrth y gwaith, ac fod y gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn brin o gysuron bywyd, nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu wedi codi ein hunain, ac edrychir arnom yn lled barchus. Mi wyddoch pa fath dŷ oedd gennym cyn hynny. Nid tŷ a stabal a couch—house oedd o, aie? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddyw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, ''Williams' Court'', a Capten Trefor, Tynyrardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan yn eistedd ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod,—yr oedd yn cael tipyn o flas ar • foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt a'r glustog arni? Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chwi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Capten Trefor? Mi wn fy mod wedi cadw y cwbl oddiwrthych chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw yn hwy. <nowiki>'</nowiki>''Does dim'' ond dinystr yn ein haros." (''Yn cymeryd dogn cryf o'r "Scotch Whisky," yn eistedd i lawr, yn tanio "cigar" ac yn dechreu ysmocio'').
'''Y CAPTEN''' eto.— "Pan gychwynais Bwllygwynt, mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnai. Yr oedd yn y gwaith 'olwg'ragorol. Ni chefais unrhyw anhawster i ffurfio cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl arianog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch,<noinclude><references/></noinclude>
awngi4oxmvvljsk4dhegumk47gu2rb8
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/20
104
84656
164444
2026-05-10T01:23:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164444
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymdogion, megis Hugh Bryan ac ereill, dlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y gwaith, ac yr oeddwn innau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr a hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Ffurfiwyd cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunnau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio agor ond can lleied ag a fedrem ar y gwaith rhag i'w dlodi ddod i'r golwg, a chymerwyd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery, ac yn y blaen. (Yn cymeryd dracht o 'Whisky.') Ydach chi yn 'y n'allt i, Sarah ? Mi wn wnewch chi mo fy nghrogi i. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan o'r gwaith, fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn y banc, ac yn ei gadw nes byddai y cwmpeini ymron torri ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi y gwaith i fyny, fe fyddem ninnau yn mynd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd ynddynt i fynd ymlaen am spel wedyn. Wedi eu cael i ysbryd reit dda, fe fyddem yn ail ddechreu cynilo, felly o hyd, ac felly o hyd, ar hyd / blynyddoedd, a minnau yn gorfod reportio fel hyn a reportio fel arall,—dyfeisio y celwydd yma un wythnos a'r celwydd arall yr wythnos wedyn, er mwyn cadw pethau i fynd ymlaen, nes yr ydw i wedi mynd heb yr un celwydd newydd i'w ddweyd, a thâl i mi ddim fynd dros yr hen rai, achos y mae y cwmpeini yn eu cofio yn rhy dda. Mae y ''shareholders'' trymaf wedi glân ddiflasu a chynddeiriogi, ac wedi penderfynu nad ant gam ymhellach."
'''MRS. TREFOR'''.—"Wel, Richard, ydach chi ddim yn deyd nad oes yna blwm ym Mhwllygwynt ? Mi'ch clywes yn deyd gantoedd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm, ac y byddech yn sicr o ddod ato ryw ddiwrnod."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Rhyngoch chwi a fi, Sarah, mi gymraf fy llw nad oes ym Mhwllygwynt ddim llond fy het i o blwm. Ond wneiff hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hynny. Dydio fawr o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi tlodi ei hun yn dôst. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman can dloted a finnau rai o'r dyddiau nesaf yma."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l5pjpaxgkew9hyzssdayc0haoz1uyvx
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/21
104
84657
164445
2026-05-10T01:52:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164445
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''MRS. TREFOR''' (''mewn dychryn mawr'')—"Can dloted a chithe, Richard? Ydach chi ddim yn deyd y'ch bod chi yn dlawd?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Can dloted, Sarah, a llygoden eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi (''Yn edrych ar'' '''SUSI''', '''SUSI''' ''wedi syrthio i gysgu''). Susi! sut y medrwch chi gysgu tra mae'ch mam a finnau yn son am ein hamgylchiadau ?"
'''SUSI''' (''yn rhwbio ei llygaid''). "Mi wyddoch, tada, na dda gen i ddim clywed son am fusnes."
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn gyffrous'').— "Fe fydd raid i chwi, fy ngeneth, ymorol am fusnes i chwi eich hun rai o'r dyddiau nesaf. Ie, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi yn byw mewn ''fool's paradise''. ''Yr ydym yn dlawd, dalltwch'' y ''fact'' yna. Mae dialedd o arian wedi mynd trwy fy nwylaw; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt, maent wedi mynd i rywle, a chwi wyddoch eich dwy lle mae llawer ohonynt wed imynd. Waeth i ni edrych y ffaith yn ei gwyneb,—''yr ydym yn dlawd'', ac fe fydd Pwllygwynt a'i ben ynddo cyn pen mis."
'''SUSI'''.—"O mam!"
'''CAPTEN TREFOR''' (''mewn llais uchel a chynhyrfus'').—"Mamiwch chi fel y mynnoch, a rhyngoch chi a fi, ''miss'', fe ddylech chi fod yn ''fam'' eich hun cyn hyn, yn lle rhoi rhyw ''airs'' i chi eich hunan. Rhaid i chi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymeryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond ''miner'' cyffredin."
'''SUSI'''—"''The idea,'' tada!"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"''The idea 'r'' felldith! ydach chi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? Oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chwi?"
'''MRS. TREFOR'''.—"Richard, cedwch eich tempar. Os dyna ydi ein sefyllfa, os tlawd yden ni, ar ol yr holl flynyddoedd o gario ymlaen, be ydach chi'n feddwl neud?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Dyna chi, yrwan, Sarah, yn siarad fel gwraig synwyrol. Dyna ydyw y cwestiwn, Sarah. Wel, dyna ydyw fy mwriad, cadw i fyny yr ''appearance'' cyd ag y medraf, a dechreu gwaith newydd gynted ag y gallaf. (''Curo wrth y drws. Yn mynd i edrych pwy''<noinclude><references/></noinclude>
2vwkeiiw1bo6i4a4lsihl26odb6a1kt
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/22
104
84658
164446
2026-05-10T01:59:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164446
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''oedd yno''). Wel, dyma Mr. Denman! Dewch i fewn. Soniwch am {{bwlch|2em}} {{bwlch|2em}} ac y mae o'n siwr o ymddangos. Yr oeddem just yn siarad am danoch yrwan, eisteddwch i lawr, syr."
'''MR. DENMAN'''.—"Beth wnaeth i chi siarad am dana i?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, deyd yr oeddwn i—ond dyma chi, Mr. Denman, {{bwlch|2em}} ''Ladies'', hwyrach y carech chi fynd i ystafell arall. ('''SUSI''' ''a'' '''MRS. TREFOR''' ''yn mynd allan.'' '''Y CAPTEN''' ''yn eistedd yn y gadair gyferbyn â'' '''MR. DENMAN''', ac yn estyn 'cigar' iddo<nowiki>'</nowiki>''). Ie, dyna oeddwn i'n ddeyd, Mr. Denman, cyn i chi ddyfod i mewn mai campus o beth fydd eich gweld chi, sef yr unig un o'n cymdogion sydd wedi dal i gredu ym Mhwllygwynt, mai campus o beth fydd eich gweld ryw ddiwrnod yn ŵr bonheddig. Yr ydych yn haeddu hynny, Mr. Denman, mi gymra fy llw, os haeddodd neb erioed."
'''MR. DENMAN'''.—"Os na ddaw hynny yn fuan, yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu fy oes yn y ''workhouse''. A oes gennych chi ryw newydd am Bwllygwynt? Fath olwg sydd acw 'rwan?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, 'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i ers tro. Ac eto, mae gen i ofn deyd gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae yn well gen i bob amser ddeyd rhy fychan, na deyd gormod. Ond mi ddwedaf hyn, ac wrth gwrs, nid wyf yn cymeryd arnaf fy mod yn anffaeledig, ond can belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Ond rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae y Saeson yma yn rhoi y gwaith i fyny, a hynny pan ydym o fewn dim i gyrraedd y plwm. Ac fe fyddai hynny yn bechod o beth."
'''MR. DENMAN'''.—"Wyddoch chi be, Capten, bydae'r Saeson yna, fel yr ydach chi yn eu galw nhw, yn rhoi y gwaith i fyny fory, fydde hynny ddim yn ddrwg gen i mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre ym Mhwllygwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian, fuaswn i erioed wedi ymuno â'r cwmpeini.<noinclude><references/></noinclude>
3v97sfgphfdcznwusn0xbn571si50sf
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/23
104
84659
164447
2026-05-10T02:04:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164447
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Feddyliais i erioed y buasai raid i mi wario mwy na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn y mae yn agos y cwbl sy' gen i wedi mynd, a fedr fy mhoced i ddim dal."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf yn gobeithio nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynnag ? Ac am eich poced, wel,—yr ydym yn gwybod yn go lew am honno. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai yn cysgu yn ilawer tawelach heno. Mae gennych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fyny eich ''interest'' yn y gwaith, chwi a edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Mae gennyf innau ''shares'' yn y gwaith, ond cyn y rhown i fyny yrwan, mi werthwn fy nghrys oddiam fy nghefn."
'''MR. DENMAN'''.—"Y mae gennyf bob ffydd ynnoch chi, Capten. Yn wir, faswn i 'rioed wedi meddwl am gymeryd ''shares'' yn y gwaith oni bai fy mod i yn eich adnabod ''chi'', a'n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynnag a ddaw o Bwllygwynt, mi ddywedaf eich bod chi yn onest. Ond mater ''rhaid'' fydd arna i roi fyny. Waeth i mi ddeyd y gwir, yr wyf wedi ''mortgagio'' y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddigerth y tŷ yr ydw i yn byw ynddo, a ŵyr y wraig acw ddim am hynny. Bydae hi yn gwybod, fe dore'i chalon. Fe ŵyr am y prinder arian sydd acw, a mod i wedi cario dialedd i Bwllygwynt; ac y mae hi'n rhincian, rhincian o hyd, ond bydae hi'n gwybod y cwbl, mi fydde'n rhaid i mi hel 'y mhac."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn siarad fel yna. Ond yr wyf yn gobeithio ac yn credu y gwelaf y dydd y byddwch yn deyd y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol. Ond y mae'r cwbl yn dibynnu ar a fydd gan y cwmpeini ffydd ac amynedd i fynd ymlaen."
'''MR. DENMAN'''.—"Bydae'r cwmpeini yn rhoi y gwaith i fyny, be nae chi, Capten, ai mynd i fyw ar eich arian ?
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Nid yn hollol felly, Mr. Denman, ond yn hytrach ail gychwyn."
'''MR. DENMAN'''.—"Pwllygwynt?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ie, Pwllygwynt, pe buasai gennyf ddigon o arian. Pe buasai gen i ddigon o foddion, mi fuaswn yn prynnu Pwllygwynt. Ond gan nad oes gen i<noinclude><references/></noinclude>
4b70m1hxbrm6u64anzttstvk32dopkn
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/24
104
84660
164448
2026-05-10T02:06:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164448
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddim ''quite'' ddigon i hynny,—yn wir, ddim yn agos digon,—mi fuaswn yn cychwyn mewn lle arall. Mae fy llygad ar y lle ers tro. Eithaf peth, Mr. Denman, ydyw bod yn barod ar gyfer y gwaethaf. A ngwaith iy ca'i o fod, gydag ychydig ffryndiau, ac ni cha'i y Saeson yna roi eu bŷs yn y brywes hwnnw. Gwaith a fyddai i ddod i dalu yn fuan. Ond fe fydd rhaid i mi gael ychydig ffryndiau o gwmpas cartre' i gymeryd ''shares''. Un o'r ffryndiau hynny fydd Mr. Denman."
'''MR. DENMAN'''.—"Lle mae eich llygad arno, Capten, mod i mor hy' a gofyn?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, yr ydym yn hen ffryndiau, a mi wn na wnewch chwi ddim gadael i'r peth fynd ymhellach ar hyn o bryd, beth bynnag. Cofiwch nad yrwan y mae y lle wedi dyfod i fy meddwl i gyntaf; na! mae o yn fy meddwl i ers blynyddoedd,—yr wyf wedi breuddwydio llawer yn ei gylch. O ran y meddwl, y mae'r peth yn hen,—mae'r bydle'n fywiog, mae'r ''engine'' yn chwyrnu, mae'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymor, ac eto mae'r borfa yn lâs ar wyneb y tir! Yr ydych yn deall fy meddwl, Mr. Denman? Yn y meddwl y mae'r gwaith yn hen, ond mewn ''reality'', y mae y dywarchen heb ei thorri. Yn fy meddwl,—(''yn cau ei lygaid am ychydig''), yr wyf yn gweld y cwbl ar lawn waith,—mae yn hen, hen, yn fy meddwl i, ond yn newydd i'r byd, yn wir, yn anwybyddus, yn ddirgelwch hollol!"
'''MR. DENMAN'''.—"Hwyrach fy mod yn rhy hy', ond dydach chi ddim wedi deyd eto {{bar|2}}".
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Mr. Denman, peidiwch ag arfer geiriau fel yna, 'does dim posib i chi fod yn rhy hy' arnaf. Fel y dywedais, yr ydym yn hen ffryndiau, a 'does gen i ddim eisieu cadw dim oddiwrthych,—dim, dim. Ac os oes rhywun i fod yn gyfrannog a mi yn y fentar hon, Mr. Denman ydyw hwnnw."
'''MR. DENMAN'''.—"Yr wyf yn bur ddiolchgar, Capten, ond y mae arnaf ofn nad allaf fi fentro dim yn ychwaneg. Nid oes gennyf ddeg punt arall i'w gwario heb wneud cam â fy nheulu."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr ystyriaeth yna yn bennaf, er nad yn hollol, sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir a mi<noinclude><references/></noinclude>
6k92ejq926nzdwufky9i8dhgrqqlwyf
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/25
104
84661
164449
2026-05-10T02:15:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164449
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy hun gyda'r fentar newydd. Cofiwch fydd yno ddim Saeson i'n rheoli. Gwaith fydd,—arhoswch, ddarfu i mi ddim dweyd eto wrthych am enw y lle y mae fy llygad arno."
'''MR. DENMAN'''.— "Naddo."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Wel, dyna ydyw'r lle,—daiff o ddim pellach, ar hyn o bryd, Mr. Denman? Wel, dyna'r lle, ''Coed Madog! Coed Madog!! Coed Madog!!!'' Ie, gwaith fydd Coed Madog i ennill arian, ac nid i'w taflu i ffwrdd ar bob anialwch. Yr ydych chwi a minnau, Mr. Denman, wedi gwario digon, ac y mae'n bryd i ni ddechreu ennill. Ond y mae'n rhaid gwario rhyw gymaint. Felly, mae'n rhaid i ni gael rhywrai i gymeryd shares. Yr ydych yn adnabod dynion yn well na mi, ac yn gwybod eu hamgylchiadau. Os gallwn wneud daioni i gyfeillion y capel, goreu oll, ond os bydd raid mynd at enwadau ereill, fydd mo'r help. Pwy fyddant, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Wel, Capten, o'n pobol ni, fedra i feddwl am neb tebycach na Mr. Enoc Huws, Siop y Groes, a Mr. Lloyd, y twrne."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Rhyfedd! fel y mae ein meddyliau yn cydredeg. Am Mr. Huws y meddyliais innau gyntaf. Wn i beth am Mr. Lloyd, ond y mae Mr. Huws, fe ddywedir, yn ddyn sydd wedi gwneud llawer iawn o arian. Mae yn ŵr ieuanc parchus, ac o safle uchel fel masnachwr, yn ddiameu yn grefyddol, ac os gallwn roi rhywbeth yn ei ffordd gyda'r gwaith, fe fyddwn yr un pryd yn gwneud daioni i'r capel. Ond y pwnc ydyw a allwn ni ei gael i weld lygad yn llygad â ni. Mae ''mining'' yn beth dieithr iddo yn ddiau, a chyda rhai felly, nid hawdd ydyw dangos pethau yn eu lliwiau priodol. A wnewch chwi ei weld, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Yr wyf yn meddwl mai y cynllun goreu a fyddai i chwi anfon am dano yma heno."
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn taro ei law ar y bwrdd, yn eistedd i lawr ac yn dechreu ysgrifennu'').—"Y mae y dalent o daro yr hoel ar ei phen gennych, Mr. Denman. Mi anfonaf air ato'r munud yma."
{{c|[Y LLEN YN DISGYN].}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
40gsd8jrzirxd8s5t808g745tfqy1mv
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/26
104
84662
164450
2026-05-10T02:29:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164450
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|GOLYGFA 2.— CEGIN SIOP Y GROES.}}}}
('''MARGED''' ''y forwyn wedi paratoi super. '''ENOC HUWS''' yn dod i mewn o'r siop, yn gafael yn y gadair ac yn eistedd wrth y bwrdd'').
'''ENOC HUWS'''.—"Marged, mae'n biti o beth fod fy 'stumog i mor ddrwg, achos yr ydach chi wedi gwneud swper ''splendid'', fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i'n gwybod y basech chi'n gwneud swper mor dda, mi faswn i wedi gwadd rhwfun yma; ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fynd at y doctor i gael rhywbeth at fy 'stumog."
'''MARGED'''.—"Ydi, mae'r swper yn suffisiant i un dyn byw, a mi na i dipyn o dê wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell?"
('''ENOC HUWS''', ''ar ol ymgeisio, yn meth methu a bwyta; yn aros yn llonydd am ennyd, â golwg ddigalon yn edrych i'r tân''. '''MARGED''' ''wedi syrthio i gysgu yn y gadair freichiau''. '''ENOC HUWS''' ''yn codi ar ei draed, yn mynd yn wyliadwrus ac yn edrych yng ngwyneb'' '''MARGED''', ''er gweld os oedd yn cysgu, ac wedi cael sicrwydd ei bod, gwena, aiff yn ol i'w gadair, estyna ei bibell oddiar y "mantlepiece," ac wedi ei thanio, eistedda drachefn, a chan amneidio a'i law at'' '''MARGED''').
'''ENOC HUWS'''.—"''All right'', Jezebel! Ond y mae byw fel hyn yn ''humbug'' perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel ''black'' drwy'r dydd, ac i ba beth? Mae pob gwas sy' gen i yn fwy hapus na fi. Diolch na ŵyr neb sut fyd sy' arna i. Bydae pobol yn digwydd dod i wybod, fedrwn i byth ddangos fy wyneb, mi awn i'r 'Merica, neu rywle, mi gymra fy llw. A pham y rhaid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd,—yr ydw i'n gwneud yn well nag ambell un, a 'rydw i'n meddwl, bydawn i'n cynnyg fy hun—wel, 'rydw i'n agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Ai nid y ffaith fy mod i'n pendroni bob nos ynghylch Miss Trefor ydi'r achos o fy holl anghysuron? Digon gwir! Ond yr wyf am roi pen ar hynny heno,— pen am byth bythoedd. Piti na faswn i yn ŵr bonheddig. Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer o honi. Digon naturiol. Felly 'rydw innau.<noinclude><references/></noinclude>
j569amikmndu8c7k381gmg60svk9q9f
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/27
104
84663
164451
2026-05-10T02:33:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164451
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Capten Trefor, faint o bris yr ydach chi'n roi ar Miss Susi? {{bar|2}} Felly, Enoc Huws ydi'r ''highest bidder!'' Ond golygwn, ''for the sake of argument'' fod hynny yn bosibl, ac hyd yn oed yn debygol, beth fyddai y canlyniad? ''Revolution'' yn fy holl amgylchiadau. Yn y lle cyntaf, fe fyddai yn rhaid troi Marged i ffwrdd,—(''yn edrych at'' '''MARGED''' ''ac yn amneidio â'i law''),—ac fe fyddai yn rhaid cael dau blismon i hynny, fe fyddai'n rhaid ail ffyrnisho'r tŷ hefyd, o'r top i'r gwaelod, os nad cael darn newydd ato, ac fe ai'r tipyn arian sy' gen i, a holl ''brofit'' y busnes, i gadw style i fyny. Ond, dyna ffaith sobor i'w dweyd, pe byddai hynny yn bosibl, fe gai pob ffyrling fynd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am un flwyddyn, ac os bu ffwl erioed, Enoc Huws ydi hwnnw! Ond aros di, Enoc, chei di ddim bod yn ffwl ddim yn hwy, mi rown ben ar y meddyliau gwâg yma ar ol heno. (''Curo wrth y drws''). Holo! pwy sy' na 'rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? A'r un rhai ydyn' nhw bob amser. Yr hen Fusus Bennett, neu 'rhen Murphy, mi gymra fy llw." (''Rhagor o guro wrth y drws''. '''MARGED''' ''yn deffro ac yn ymlusgo yn araf at y drws dan rwbio ei llygaid'').
'''MARGED'''.—"Dowch i mewn, y ngeneth i. Mistar, (''yn peswch''),—O'r anwyl dirion! 'rydach chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod,—'rydach chi'n siwr o ladd eich hun rw ddiwrnod. Dyma lythyr oddiwrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb!" (''Yn estyn y llythyr''. '''ENOC HUWS''', ''gyda llaw grynedig, yn agor y llythyr.'' '''MARGED''' ''a'r eneth yn ymddiddan â'u gilydd.'' '''ENOC HUWS''' ''yn troi ychydig o'r neilltu ac yn darllen y llythyr'').
{{r|TYNYRARDD,}}
ANWYL SYR,

"Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ol eich gwahanol oruchwylion, ac os nad oes gennych gwmni nas gallwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn ddiolchgar i chwi pe cerddech can belled ag yma, gan fod gennyf eisieu ymddiddan gair â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau. Disgwyliaf air gyda'r gennad.
{{c|Yr eiddoch yn gywir,}}
{{c|{{bwlch|7em}}"RICHARD TREFOR."}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5461mnh2lml2gzuzqncmsx9m2blxsmr
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/28
104
84664
164452
2026-05-10T02:37:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "('''ENOC HUWS''' ''yn aros ennyd, yn ymddangos mewn penbleth, yn eistedd i lawr wrth y bwrdd yn ysgrifennu ateb''. '''MARGED''' ''yn dod ymlaen at ei ochr''). '''MARGED'''.—"Be' sy' gan y Capten eisio gynnoch chi, Mistar?" '''ENOC HUWS''' (''yn gwta'').—"Busnes." '''MARGED'''.—"Busnes yr amser yma o'r nos? Pa fusnes sy' gynnoch chi i neud 'rwan?" '''ENOC HUWS'''.—"Mae'r ''Fly Wheel Company'' wedi mynd allan o'i ''latitude'',...
164452
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>('''ENOC HUWS''' ''yn aros ennyd, yn ymddangos mewn penbleth, yn eistedd i lawr wrth y bwrdd yn ysgrifennu ateb''. '''MARGED''' ''yn dod ymlaen at ei ochr'').
'''MARGED'''.—"Be' sy' gan y Capten eisio gynnoch chi, Mistar?"
'''ENOC HUWS''' (''yn gwta'').—"Busnes."
'''MARGED'''.—"Busnes yr amser yma o'r nos? Pa fusnes sy' gynnoch chi i neud 'rwan?"
'''ENOC HUWS'''.—"Mae'r ''Fly Wheel Company'' wedi mynd allan o'i ''latitude'', a mae rhywbeth y mater efo'r ''bramoke''."
'''MARGED''' (''yn cymeryd gafael yn nodyn'' '''CAPTEN TREFOR''' ''ac yn ceisio ei ddarllen'').—"Mi faswn inne yn leicio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes." (''Yn estyn atebiad Enoc i forwyn Tynyrardd'').
'''ENOC HUWS''' (''yn gwisgo ei esgidiau ac yn siarad rhyngddo ag ef ei hun'')." Yr ydach chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwdsach! (''Yn codi ar ei draed ac yn ail ddarllen llythyr'' '''CAPTEN TREFOR'''). 'Mae gennyf eisieu ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau.' Beth all fod ystyr y geiriau hyn?" (''Yn rhoi'r llythyr yn ei logell ac yn cerdded allan'').
{{c|[Y LLEN YN DISGYN].}}

{{c|{{mawr|GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.}}}}
('''''CAPTEN TREFOR''' a '''MR. DENMAN''' yn eistedd ac yn ymddangos yn ymddiddan â'u gilydd. Curo wrth y drws. Y CAPTEN yn codi i weld pwy sydd yno'').
'''CAPTEN TREFOR'''.— " Nos da, dowch i mewn, Mr. Huws, ('''''ENOC HUWS''' yn dod i mewn''), eisteddwch i lawr, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, er mae'n rhaid i mi ddweyd, dydi hynny ddim yn compliment mi wn, fy mod wedi eich gweld yn edrych yn well. Gweithio yn rhy galed yr ydych. Mae eich busnes yn fawr, ac y mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ol. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws, mi fyddaf bob amser yn deyd mai nid gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma."
'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau virgin ground, fel y dywedir." '''ENOC HUWS'''.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi just a ffeintio."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
'''ENOC HUWS'''.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (''Yn ffeintio'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn '''ENOC HUWS''''').—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—('''''MR. DENMAN''' a'r CAPTEN yn ei roddi i orwedd ar y soffa''), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, ('''''SUSI''' yn dyfod i mewn''),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
'''ENOC HUWS'''.—"Na, na, mi fyddaf yn alright yn union dêg." '''CAPTEN TREFOR'''.—"Mae'n rhaid i chwi gymeryd rhywbeth i'ch dadebru, yr ydych wedi gorwneud eich hun."
('''''SUSI''' yn dyfod i mewn gyda gwydriad llawn o frandi; yn tybio mai i'r CAPTEN yr oedd. Yn gweld '''ENOC HUWS''' yn gorwedd ar y soffa yn mynd ato'').
'''SUSI'''." O! Mr. Huws bach! 'rydach chi'n sâl? O! mae'n ddrwg gen i, ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch. (''Yn rhoddi ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben. '''ENOC HUWS''' yn cymeryd dogn o'r brandi; ei boethder yn peri i'r dwfr neidio i'w lygaid.'') Peidiwch a chrio, Mr. Huws, mi ddowch yn well toc! Dowch, cymrwch o i gyd. (''Yn rhoddi y gweddill iddo''). Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, a mi ddowch yn
well yn y munud." (''Yn rhoddi ei ben i lawr ar y soffa'').
'''ENOC HUWS''' (''yn floesg''). "Thank you."
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn dyfod at ei ochr ar ol aros ennyd'')." Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"
'''ENOC HUWS''' (''yn codi ar ei eistedd'').—"All right, garech i mi ganu cân i chwi?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ha, ha, ha, mi wyddwn y gwnaethai tropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham na wnaiff o ddaioni i minnau? Ac wedyn chwi ellwch chwi fynd, Susi, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen." ('''''SUSI''' yn mynd allan'').
'''ENOC HUWS'''.—"Certainly, yr ydw i yn barod i entro unrhyw agreement resymol; ac yr ydw i yn addo i chwi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down i hynny, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws, gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel y chi—(''SUsı yn dyfod i mewn ac yn estyn gwydriad o frandi i'r CAPTEN, yntau yn ei ddodi ar y bwrdd''). Thank you, Susi, chwi ellwch chwi fynd 'rwan. Ie, dyna pam y dylai gŵr fel y chwi gael rhywun i gymeryd rhan o'ch baich a'ch gofal, ac i edrych ar ol eich cysuron. Dyna yw eich angen mawr, Mr. Huws. Beth a ddaethai o hono i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd."
<noinclude><references/></noinclude>
la0hfq7t4ujrhc9nwg2glud5lkj9wdw
164453
164452
2026-05-10T02:40:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164453
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>('''ENOC HUWS''' ''yn aros ennyd, yn ymddangos mewn penbleth, yn eistedd i lawr wrth y bwrdd yn ysgrifennu ateb''. '''MARGED''' ''yn dod ymlaen at ei ochr'').
'''MARGED'''.—"Be' sy' gan y Capten eisio gynnoch chi, Mistar?"
'''ENOC HUWS''' (''yn gwta'').—"Busnes."
'''MARGED'''.—"Busnes yr amser yma o'r nos? Pa fusnes sy' gynnoch chi i neud 'rwan?"
'''ENOC HUWS'''.—"Mae'r ''Fly Wheel Company'' wedi mynd allan o'i ''latitude'', a mae rhywbeth y mater efo'r ''bramoke''."
'''MARGED''' (''yn cymeryd gafael yn nodyn'' '''CAPTEN TREFOR''' ''ac yn ceisio ei ddarllen'').—"Mi faswn inne yn leicio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes." (''Yn estyn atebiad Enoc i forwyn Tynyrardd'').
'''ENOC HUWS''' (''yn gwisgo ei esgidiau ac yn siarad rhyngddo ag ef ei hun'')." Yr ydach chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwdsach! (''Yn codi ar ei draed ac yn ail ddarllen llythyr'' '''CAPTEN TREFOR'''). 'Mae gennyf eisieu ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau.' Beth all fod ystyr y geiriau hyn?" (''Yn rhoi'r llythyr yn ei logell ac yn cerdded allan'').
{{c|[Y LLEN YN DISGYN].}}

{{c|{{mawr|GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.}}}}
('''''CAPTEN TREFOR''' a '''MR. DENMAN''' yn eistedd ac yn ymddangos yn ymddiddan â'u gilydd. Curo wrth y drws. Y CAPTEN yn codi i weld pwy sydd yno'').
'''CAPTEN TREFOR'''.— " Nos da, dowch i mewn, Mr. Huws, ('''ENOC HUWS''' ''yn dod i mewn''), eisteddwch i lawr, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, er mae'n rhaid i mi ddweyd, dydi hynny ddim yn ''compliment'' mi wn, fy mod wedi eich gweld yn edrych yn well. Gweithio yn rhy galed yr ydych. Mae eich busnes yn fawr, ac y mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ol. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws, mi fyddaf bob amser yn deyd mai nid gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma."
{{nop}}
<noinclude><references/></noinclude>
c6efm78fn4m3l0ji5vawy48xupdajhc
164454
164453
2026-05-10T02:41:22Z
AlwynapHuw
1710
164454
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>('''ENOC HUWS''' ''yn aros ennyd, yn ymddangos mewn penbleth, yn eistedd i lawr wrth y bwrdd yn ysgrifennu ateb''. '''MARGED''' ''yn dod ymlaen at ei ochr'').
'''MARGED'''.—"Be' sy' gan y Capten eisio gynnoch chi, Mistar?"
'''ENOC HUWS''' (''yn gwta'').—"Busnes."
'''MARGED'''.—"Busnes yr amser yma o'r nos? Pa fusnes sy' gynnoch chi i neud 'rwan?"
'''ENOC HUWS'''.—"Mae'r ''Fly Wheel Company'' wedi mynd allan o'i ''latitude'', a mae rhywbeth y mater efo'r ''bramoke''."
'''MARGED''' (''yn cymeryd gafael yn nodyn'' '''CAPTEN TREFOR''' ''ac yn ceisio ei ddarllen'').—"Mi faswn inne yn leicio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes." (''Yn estyn atebiad Enoc i forwyn Tynyrardd'').
'''ENOC HUWS''' (''yn gwisgo ei esgidiau ac yn siarad rhyngddo ag ef ei hun'')." Yr ydach chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwdsach! (''Yn codi ar ei draed ac yn ail ddarllen llythyr'' '''CAPTEN TREFOR'''). 'Mae gennyf eisieu ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau.' Beth all fod ystyr y geiriau hyn?" (''Yn rhoi'r llythyr yn ei logell ac yn cerdded allan'').
{{c|[Y LLEN YN DISGYN].}}

{{c|{{mawr|GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.}}}}
('''''CAPTEN TREFOR''' a '''MR. DENMAN''' yn eistedd ac yn ymddangos yn ymddiddan â'u gilydd. Curo wrth y drws.'' '''Y CAPTEN''' ''yn codi i weld pwy sydd yno'').
'''CAPTEN TREFOR'''.— " Nos da, dowch i mewn, Mr. Huws, ('''ENOC HUWS''' ''yn dod i mewn''), eisteddwch i lawr, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, er mae'n rhaid i mi ddweyd, dydi hynny ddim yn ''compliment'' mi wn, fy mod wedi eich gweld yn edrych yn well. Gweithio yn rhy galed yr ydych. Mae eich busnes yn fawr, ac y mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ol. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws, mi fyddaf bob amser yn deyd mai nid gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma."
{{nop}}
<noinclude><references/></noinclude>
oynf3gyz4vnb0u9vmq9zi7yq8lzabir
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/29
104
84665
164455
2026-05-10T02:41:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn." '''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisie...
164455
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau virgin ground, fel y dywedir." '''ENOC HUWS'''.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi just a ffeintio."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
'''ENOC HUWS'''.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (''Yn ffeintio'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn '''ENOC HUWS''''').—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—('''''MR. DENMAN''' a'r CAPTEN yn ei roddi i orwedd ar y soffa''), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, ('''''SUSI''' yn dyfod i mewn''),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
'''ENOC HUWS'''.—"Na, na, mi fyddaf yn alright yn union dêg." '''CAPTEN TREFOR'''.—"Mae'n rhaid i chwi gymeryd rhywbeth i'ch dadebru, yr ydych wedi gorwneud eich hun."
('''''SUSI''' yn dyfod i mewn gyda gwydriad llawn o frandi; yn tybio mai i'r CAPTEN yr oedd. Yn gweld '''ENOC HUWS''' yn gorwedd ar y soffa yn mynd ato'').
'''SUSI'''." O! Mr. Huws bach! 'rydach chi'n sâl? O! mae'n ddrwg gen i, ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch. (''Yn rhoddi ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben. '''ENOC HUWS''' yn cymeryd dogn o'r brandi; ei boethder yn peri i'r dwfr neidio i'w lygaid.'') Peidiwch a chrio, Mr. Huws, mi ddowch yn well toc! Dowch, cymrwch o i gyd. (''Yn rhoddi y gweddill iddo''). Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, a mi ddowch yn
well yn y munud." (''Yn rhoddi ei ben i lawr ar y soffa'').
'''ENOC HUWS''' (''yn floesg''). "Thank you."
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn dyfod at ei ochr ar ol aros ennyd'')." Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"
'''ENOC HUWS''' (''yn codi ar ei eistedd'').—"All right, garech i mi ganu cân i chwi?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ha, ha, ha, mi wyddwn y gwnaethai tropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham na wnaiff o ddaioni i minnau? Ac wedyn chwi ellwch chwi fynd, Susi, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen." ('''''SUSI''' yn mynd allan'').
'''ENOC HUWS'''.—"Certainly, yr ydw i yn barod i entro unrhyw agreement resymol; ac yr ydw i yn addo i chwi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down i hynny, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws, gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel y chi—(''SUsı yn dyfod i mewn ac yn estyn gwydriad o frandi i'r CAPTEN, yntau yn ei ddodi ar y bwrdd''). Thank you, Susi, chwi ellwch chwi fynd 'rwan. Ie, dyna pam y dylai gŵr fel y chwi gael rhywun i gymeryd rhan o'ch baich a'ch gofal, ac i edrych ar ol eich cysuron. Dyna yw eich angen mawr, Mr. Huws. Beth a ddaethai o hono i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd."<noinclude><references/></noinclude>
juuyv8xcxfosabs2uts91rjsgzpsogv
164456
164455
2026-05-10T02:46:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164456
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau ''virgin ground'', fel y dywedir."
'''ENOC HUWS'''.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi ''just'' a ffeintio."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
'''ENOC HUWS'''.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (''Yn ffeintio'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn '''ENOC HUWS''''').—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—('''''MR. DENMAN''' a'r CAPTEN yn ei roddi i orwedd ar y soffa''), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o ''order''. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, ('''SUSI''' ''yn dyfod i mewn''),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
'''ENOC HUWS'''.—"Na, na, mi fyddaf yn ''alright'' yn union dêg."
{nop}<noinclude><references/></noinclude>
qlsqb7fs192rfcdbvcv84nsbclh1jc9
164457
164456
2026-05-10T02:47:01Z
AlwynapHuw
1710
164457
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau ''virgin ground'', fel y dywedir."
'''ENOC HUWS'''.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi ''just'' a ffeintio."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
'''ENOC HUWS'''.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (''Yn ffeintio'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn '''ENOC HUWS''''').—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—('''''MR. DENMAN''' ''a'r'' '''CAPTEN'' yn ei roddi i orwedd ar y soffa''), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o ''order''. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, ('''SUSI''' ''yn dyfod i mewn''),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
'''ENOC HUWS'''.—"Na, na, mi fyddaf yn ''alright'' yn union dêg."
{nop}<noinclude><references/></noinclude>
40rzkurdljwniingv6cpbt3vp6cy9fu
164458
164457
2026-05-10T02:48:16Z
AlwynapHuw
1710
164458
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''ENOC HUWS''' (''yn fyrr ei wynt'').—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
'''MR. DENMAN'''.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau ''virgin ground'', fel y dywedir."
'''ENOC HUWS'''.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi ''just'' a ffeintio."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
'''ENOC HUWS'''.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (''Yn ffeintio'').
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn '''ENOC HUWS''''').—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—('''MR. DENMAN''' ''a'r'' '''CAPTEN''' ''yn ei roddi i orwedd ar y soffa''), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o ''order''. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, ('''SUSI''' ''yn dyfod i mewn''),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
'''ENOC HUWS'''.—"Na, na, mi fyddaf yn ''alright'' yn union dêg."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nhvcrgs32jhzayrnlpyqp69fru5a500
Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/30
104
84666
164459
2026-05-10T02:50:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
164459
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'''CAPTEN TREFOR'''.—"Mae'n rhaid i chwi gymeryd rhywbeth i'ch dadebru, yr ydych wedi gorwneud eich hun."
('''''SUSI''' yn dyfod i mewn gyda gwydriad llawn o frandi; yn tybio mai i'r CAPTEN yr oedd. Yn gweld '''ENOC HUWS''' yn gorwedd ar y soffa yn mynd ato'').
'''SUSI'''." O! Mr. Huws bach! 'rydach chi'n sâl? O! mae'n ddrwg gen i, ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch. (''Yn rhoddi ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben. '''ENOC HUWS''' yn cymeryd dogn o'r brandi; ei boethder yn peri i'r dwfr neidio i'w lygaid.'') Peidiwch a chrio, Mr. Huws, mi ddowch yn well toc! Dowch, cymrwch o i gyd. (''Yn rhoddi y gweddill iddo''). Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, a mi ddowch yn
well yn y munud." (''Yn rhoddi ei ben i lawr ar y soffa'').
'''ENOC HUWS''' (''yn floesg''). "Thank you."
'''CAPTEN TREFOR''' (''yn dyfod at ei ochr ar ol aros ennyd'')." Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"
'''ENOC HUWS''' (''yn codi ar ei eistedd'').—"All right, garech i mi ganu cân i chwi?"
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Ha, ha, ha, mi wyddwn y gwnaethai tropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham na wnaiff o ddaioni i minnau? Ac wedyn chwi ellwch chwi fynd, Susi, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen." ('''SUSI''' ''yn mynd allan'').
'''ENOC HUWS'''.—"Certainly, yr ydw i yn barod i entro unrhyw agreement resymol; ac yr ydw i yn addo i chwi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down i hynny, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno."
'''CAPTEN TREFOR'''.—"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws, gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel y chi—('''SUSI''' ''yn dyfod i mewn ac yn estyn gwydriad o frandi i'r '''CAPTEN''', yntau yn ei ddodi ar y bwrdd''). ''Thank you'', Susi, chwi ellwch chwi fynd 'rwan. Ie, dyna pam y dylai gŵr fel y chwi gael rhywun i gymeryd rhan o'ch baich a'ch gofal, ac i edrych ar ol eich cysuron. Dyna yw eich angen mawr, Mr. Huws. Beth a ddaethai o hono i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
iphcz2hr7g4ggoup3v5reagjseq0htv