Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.8 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/36 104 33251 166893 166890 2026-06-29T10:35:31Z ~2026-37223-26 4167 166893 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac wrth syllu ar y gwrid yn ymdaenu dros ei gruddiau fel y dawnsiai—clywsai amdani, fwy nag unwaith, fod elfennau rhyfedd yn ei natur a barai iddi yn fynych ymofyn perygl, a rhedeg i ryfyg pan oedd yn eneth lawn nwyf, amdani hi y clywsai. . . . Distawodd y delyn, a darfu'r ddawns. Gwelodd Morys ei chydymaith yn arwain Einir i'w gyfeiriad ef. Ai tybed y dymunai hi ei gymdeithas ef drachefn? Curodd ei galon yn gynt pan welodd mai felly yr oedd. Daeth ato â chyfeillgarwch diymhongar yn ei hedrychiad, yr hyn a barodd i'r cawr llednais ddyfod allan am dro o encilion yswildod. "Buasech yn addurno neuadd St. James ei hun," meddai wrthi, gan fwriadu gwrogaeth i'w medrusrwydd amlwg hi yn y ddawns. "Cefais y fraint o fod yno fwy nag unwaith," atebodd hithau'n syml, "ar fraich urddasol Syr William ei hun." Ac wrth edrych arni gwelodd Morys unwaith eto y wên anesboniadwy honno a welsai o'r blaen yn gwibio ar draws ei hwynepryd dengar, rhyw adliw o boen yn ymlid difyrrwch. Ychwanegodd hithau yn ddireidus: "'Rwyn dechrau ofni nad ydych chwi am ofyn imi o gwbl." "Yn wir," meddai yntau, bron yn wylaidd, a gwrid yn ei wyneb didwyll, "o'r braidd y mae gennyf yr hyder i ofyn. Ond gofynnaf yn awr." Edrychodd arni, a gwyddai ei bod ar fin ei ateb gyda'i hysmaldod arferol, pan ddaeth rhyw olau newydd i'w hwyneb gan ei drawsffurfio'n rhyfedd. Bron na thybiai Morys ei gweled yn gweddnewid o flaen ei lygaid, nes iddo golli'r ferch ffasiynnol a fu, yn ôl yr hanes, yn dawnsio yn llys y brenin Iago, a chael yn ei lle un o rianedd y coed, a'i hawddgarwch fel eiddo duwies anian. Yr oedd hithau'n myfyrio, ond wedi disgwyl ennyd clywodd ei sibrwd hi, a gwelodd fwy na geiriau yn ei llygaid llawn ymadrodd. Yr hyn a hoffwn i," meddai, "fyddai mynd am wibdaith ar ein ceffylau—yng ngolau'r lloer—i'r bryniau!" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bi425drchsisc7ij3bau4s2ih946i8q 166894 166893 2026-06-29T11:07:13Z ~2026-37223-26 4167 166894 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac wrth syllu ar y gwrid yn ymdaenu dros ei gruddiau fel y dawnsiai—clywsai amdani, fwy nag unwaith, fod elfennau rhyfedd yn ei natur a barai iddi yn fynych ymofyn perygl, a rhedeg i ryfyg pan oedd yn eneth lawn nwyf, amdani hi y clywsai. . . . Distawodd y delyn, a darfu'r ddawns. Gwelodd Morys ei chydymaith yn arwain Einir i'w gyfeiriad ef. Ai tybed y dymunai hi ei gymdeithas ef drachefn? Curodd ei galon yn gynt pan welodd mai felly yr oedd. Daeth ato â chyfeillgarwch diymhongar yn ei hedrychiad, yr hyn a barodd i'r cawr llednais ddyfod allan am dro o encilion yswildod. "Buasech yn addurno neuadd St. James ei hun," meddai wrthi, gan fwriadu gwrogaeth i'w medrusrwydd amlwg hi yn y ddawns. "Cefais y fraint o fod yno fwy nag unwaith," atebodd hithau'n syml, "ar fraich urddasol Syr William ei hun." Ac wrth edrych arni gwelodd Morys unwaith eto y wên anesboniadwy honno a welsai o'r blaen yn gwibio ar draws ei hwynepryd dengar, rhyw adliw o boen yn ymlid difyrrwch. Ychwanegodd hithau yn ddireidus: "'Rwyn dechrau ofni nad ydych chwi am ofyn imi o gwbl." "Yn wir," meddai yntau, bron yn wylaidd, a gwrid yn ei wyneb didwyll, "o'r braidd y mae gennyf yr hyder i ofyn. Ond gofynnaf yn awr." Edrychodd arni, a gwyddai ei bod ar fin ei ateb gyda'i hysmaldod arferol, pan ddaeth rhyw olau newydd i'w hwyneb gan ei drawsffurfio'n rhyfedd. Bron na thybiai Morys ei gweled yn gweddnewid o flaen ei lygaid, nes iddo golli'r ferch ffasiynnol a fu, yn ôl yr hanes, yn dawnsio yn llys y brenin Iago, a chael yn ei lle un o rianedd y coed, a'i hawddgarwch fel eiddo duwies anian. Yr oedd hithau'n myfyrio, ond wedi disgwyl ennyd clywodd ei sibrwd hi, a gwelodd fwy na geiriau yn ei llygaid llawn ymadrodd. "Yr hyn a hoffwn i," meddai, "fyddai mynd am wibdaith ar ein ceffylau—yng ngolau'r lloer—i'r bryniau!" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> k0jprpwjgsj3k8g3pbh61aqepn9d4g8 Tudalen:Madam Wen.djvu/37 104 33252 166895 69042 2026-06-29T11:24:54Z ~2026-37223-26 4167 166895 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Er nad oedd ei dull yn dangos cynnwrf, gwelai Morys fod y syniad dieithr yn gafael yn dyn ynddi, ac yn peri iddi fod yn aiddgar i adael neuadd y ddawns a dianc i ryddid y mynydd. "Mae'r lleuad yn llawn heno. Ni welir ein colli o blith y rhai gwareiddiedig yma. Gawn ni fynd? Hanner nos? " "Cawn," meddai yntau'n fyr. Er distawed oedd, curai ei galon yn gyflym. Teimlai fod rhyw elfen newydd wedi dyfod i'w fywyd y noson honno, rhyw ymwybod a ddywedai wrtho nad oedd wedi gwir fyw erioed o'r blaen. Ac wedi iddi ymadael, a phan eisteddai yntau'n unig yn y neuadd lawn nwyf, llithrai ei feddwl yn ôl ati hi, ac yn lle'r dawnswyr o'i gylch ni welai ond ei llygaid mawr glas—ddu hi, ac ni chofiai ond ei thegwch digymar. Nid oedd dim yn y neuadd a'i diddorai mwyach, dim ond yr atgof amdani, a chyn hir dihangodd yntau o'r lle mor ddirgel ag y gallai, a phrysurodd i'w ystafell i newid ei wisg ac i baratoi ar gyfer y daith. Wedi myned allan, archodd gyfrwyo dau farch erbyn hanner nos, ei eiddo'i hun a'r un a farchogid yn gyffredin gan y rhiain Wyn. Wedi trefnu hynny, aeth yn ôl i'w ystafell i dreulio'r gweddill o'r amser. O'r diwedd daeth yr awr. Aeth yntau i'r fan yn brydlon. Ond nid cynt y daeth i olwg y meirch nag y gwelodd rywun yn brysio o encilion y mur ac yn neidio'n heinyf ar un o'r meirch. Neidiodd yntau i'w gyfrwy, a heb yngan gair ymaith â'r ddau i lawr y rhodfa lydan rhwng y derwydd, a'r llawn loer uwch eu pennau wedi sefyll yn llonydd mewn nen ddigwmwl. Ni ddywedwyd gair tra carlament ar hyd y gwastadedd a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac nid arafwyd nes dyfod i bentref bychan Abergwyngregin, rhwng godre'r mynydd a'r môr. Ond meddai Einir yno, Y mae yma hen ŵr a'i wraig yn byw mewn bwthyn yn agos i'r ffordd y carwn eu gweled am funud. maent yn disgwyl amdanaf, ac ni fyddaf yn hir." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 37njg6r2v9z4wta063joc5h0qbzi01h