Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.8
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/37
104
33252
166896
166895
2026-06-30T09:00:41Z
~2026-37454-04
4168
166896
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Er nad oedd ei dull yn dangos cynnwrf, gwelai Morys fod y syniad dieithr yn gafael yn dyn ynddi, ac yn peri iddi fod yn aiddgar i adael neuadd y ddawns a dianc i ryddid y mynydd. "Mae'r lleuad yn llawn heno. Ni welir ein colli o blith y rhai gwareiddiedig yma. Gawn ni fynd? Hanner nos? "
"Cawn," meddai yntau'n fyr.
Er distawed oedd, curai ei galon yn gyflym. Teimlai fod rhyw elfen newydd wedi dyfod i'w fywyd y noson honno, rhyw ymwybod a ddywedai wrtho nad oedd wedi gwir fyw erioed o'r blaen. Ac wedi iddi ymadael, a phan eisteddai yntau'n unig yn y neuadd lawn nwyf, llithrai ei feddwl yn ôl ati hi, ac yn lle'r dawnswyr o'i gylch ni welai ond ei llygaid mawr glas—ddu hi, ac ni chofiai ond ei thegwch digymar. Nid oedd dim yn y neuadd a'i diddorai mwyach, dim ond yr atgof amdani, a chyn hir dihangodd yntau o'r lle mor ddirgel ag y gallai, a phrysurodd i'w ystafell i newid ei wisg ac i baratoi ar gyfer y daith. Wedi myned allan, archodd gyfrwyo dau farch erbyn hanner nos, ei eiddo'i hun a'r un a farchogid yn gyffredin gan y rhiain Wyn. Wedi trefnu hynny, aeth yn ôl i'w ystafell i dreulio'r gweddill o'r amser.
O'r diwedd daeth yr awr. Aeth yntau i'r fan yn brydlon. Ond nid cynt y daeth i olwg y meirch nag y gwelodd rywun yn brysio o encilion y mur ac yn neidio'n heinyf ar un o'r meirch. Neidiodd yntau i'w gyfrwy, a heb yngan gair ymaith â'r ddau i lawr y rhodfa lydan rhwng y derwydd, a'r llawn loer uwch eu pennau wedi sefyll yn llonydd mewn nen ddigwmwl.
Ni ddywedwyd gair tra carlament ar hyd y gwastadedd a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac nid arafwyd nes dyfod i bentref bychan Abergwyngregin, rhwng godre'r mynydd a'r môr. Ond meddai Einir yno, "Y mae yma hen ŵr a'i wraig yn byw mewn bwthyn yn agos i'r ffordd y carwn eu gweled am funud. Y maent yn disgwyl amdanaf, ac ni fyddaf yn hir."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
90k76kzop6q86hki810il9vvxtwjkna
Tudalen:Madam Wen.djvu/38
104
33253
166897
69043
2026-06-30T09:15:34Z
~2026-37454-04
4168
166897
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ni ddywedodd wrtho beth oedd natur ei neges yno, ac ni soniodd air am ei gofal caredig ei hun am yr hen Huw Dafis, oedd yn wael ei iechyd ers wythnosau. Cyfrinach rhyngddi hi â theulu'r bwthyn oedd y ffaith mai cwpwrdd gwag a fuasai yno onibai i ragluniaeth ei dwyn hi i'r Penrhyn mewn pryd. Ac onibai fod angen am Morys i wylied y meirch, buasai yntau wedi gweled ei gares amryddawn mewn cymeriad newydd wrth dân mawn y bwthyn. Yr oedd yr offrwm ar y bwrdd, a Beti Dafis yn ceisio diolch, ond heb fedru datgan mewn geiriau hanner yr hyn a deimlai. Bron nad addolai yr hen deulu diolchgar eu cymwynasydd, gan faint dylanwad y tynerwch oedd yn ei gwedd, a'r caredigrwydd oedd yn ei llais a'i chalon.
Ond byr fu ei harosiad gyda hwy y tro hwn, ac wrth groesi hiniog bwthyn Beti Dafis camodd ar yr un pryd i fyd tra gwahanol. Ciliodd y tynerwch o'i hwyneb, ac yn ei le daeth yr edrychiad hwnnw a welsai Morys fwy nag unwaith o'r blaen, ac a wnâi iddo feddwl am ryfelfarch yn dyheu am frwydr, ond ar yr un pryd a osodai bob cynneddf yn ei natur ef dan wrogaeth iddi.
I'r daith eto. Ac nid oedd ryfedd mai distaw oeddynt. Teimlai'r ddau mai yng nghynteddau aruchel teml anian fawr ei hun yr oedd eu tramwyfa, wrth olau myrdd o lampau. A'r mynyddoedd mawr fel cewri gwarcheidiol, yn eu mudandod urddasol, yn edrych arnynt. Su pell y môr ar draeth y Lafan oedd yr unig sŵn a ddeuai i'w clyw.
"Mae hyn yn well na dawns a chanhwyllau," meddai Morys.
"Mil gwell."
Wrth odre'r Penmaen Mawr dywedodd Einir wrtho, Mae'r llwybr yn un drwg. A anturiwn ni?"
Nid Morys fedrai wrthod y fath gynnig, ac meddai wrthi, â sawyr anturiaeth yn ei ffroenau, Cawn droi'n ôl pan êl yn rhy gyfyng."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
dekn23yma41j0oeb691kp4uuono6c07
166898
166897
2026-06-30T10:37:26Z
~2026-37454-04
4168
166898
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ni ddywedodd wrtho beth oedd natur ei neges yno, ac ni soniodd air am ei gofal caredig ei hun am yr hen Huw Dafis, oedd yn wael ei iechyd ers wythnosau. Cyfrinach rhyngddi hi â theulu'r bwthyn oedd y ffaith mai cwpwrdd gwag a fuasai yno onibai i ragluniaeth ei dwyn hi i'r Penrhyn mewn pryd. Ac onibai fod angen am Morys i wylied y meirch, buasai yntau wedi gweled ei gares amryddawn mewn cymeriad newydd wrth dân mawn y bwthyn. Yr oedd yr offrwm ar y bwrdd, a Beti Dafis yn ceisio diolch, ond heb fedru datgan mewn geiriau hanner yr hyn a deimlai. Bron nad addolai yr hen deulu diolchgar eu cymwynasydd, gan faint dylanwad y tynerwch oedd yn ei gwedd, a'r caredigrwydd oedd yn ei llais a'i chalon.
Ond byr fu ei harosiad gyda hwy y tro hwn, ac wrth groesi hiniog bwthyn Beti Dafis camodd ar yr un pryd i fyd tra gwahanol. Ciliodd y tynerwch o'i hwyneb, ac yn ei le daeth yr edrychiad hwnnw a welsai Morys fwy nag unwaith o'r blaen, ac a wnâi iddo feddwl am ryfelfarch yn dyheu am frwydr, ond ar yr un pryd a osodai bob cynneddf yn ei natur ef dan wrogaeth iddi.
I'r daith eto. Ac nid oedd ryfedd mai distaw oeddynt. Teimlai'r ddau mai yng nghynteddau aruchel teml anian fawr ei hun yr oedd eu tramwyfa, wrth olau myrdd o lampau. A'r mynyddoedd mawr fel cewri gwarcheidiol, yn eu mudandod urddasol, yn edrych arnynt. Su pell y môr ar draeth y Lafan oedd yr unig sŵn a ddeuai i'w clyw.
"Mae hyn yn well na dawns a chanhwyllau," meddai Morys.
"Mil gwell."
Wrth odre'r Penmaen Mawr dywedodd Einir wrtho, "Mae'r llwybr yn un drwg. A anturiwn ni?"
Nid Morys fedrai wrthod y fath gynnig, ac meddai wrthi, â sawyr anturiaeth yn ei ffroenau, "Cawn droi'n ôl pan êl yn rhy gyfyng."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9nsnqbqrwx0hcmt7rwe5vj59vtf7d22