Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Marwnad Tudur Aled
0
1787
166900
2237
2026-07-01T11:40:41Z
Kanjuzi
3921
Cywirais y camargraffiad "mwngwl" > mwnwgl
166900
wikitext
text/x-wiki
gan [[:Category:Gruffudd ab Ieuan|Gruffudd ab Ieuan]]
:Bwriwyd unbardd, brad enbyd,
:Bwriai Dduw ben beirdd y byd!
:Brad gwawd buredig ydoedd,
:Bwrw niwl ar bêr awen oedd,
:Breuddwyd a'n gwnaeth yn bruddion,
:Bwrw cerdd bêr, brig, gwraidd a bôn;
:Diwraidd cerdd, dau arwydd cur,
:Dirym dadl, draw, am Dudur.

:Gyrrodd rhew o'i gwraidd y rhawg
:Gardd lysau'r gerdd luosawg,
:Os gwir rhoi - nid ysgar rhew -
:Eos Aled is olew;
:Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
:Trwstan-gwymp trawst awen-gerdd.

:Ymroi i Dduw a Mair 'ddoedd,
:Wedi'r sidan drwsiadoedd;
:I ddofydd yr addefwyd,
:Ei ddewis glôg oedd wisg lwyd;
:Cryf oedd o serch crefydd saint,
:Crefyddfrawd Côr ufuddfreint;
:Ffydd y saint, hoff oedd ei swydd,
:Ffrawnsys a hoffai'r unswydd;
:Buasai well, 'n y bais hon,
:Bwrw deuddeg o brydyddion;
:Bid y brud a'r byd heb wres,
:Brud, hyd dydd brawd y toddes;
:Braidd, o gerdd, bereiddio gair,
:Braidd, gwedi bardd y gadair;
:I gadw rhoer ei gadair hardd
:Ar feddfaen yr ufuddfardd,
:A boed i'r un o'r byd rodd
:A fai'n well - ef a'i 'nillodd!

:Ni bu roddion bereiddiach,
:Nag awen ben Gwion Bach;
:Perach gwawd, parch, ag odiaeth,
:Petai'n fyw poet i nef aeth;
:Och dristed merch dros dad mawl,
:O chuddiwyd ei chywyddawl!
:Gwae ddyn wych, gwaeddwn uchod,
:Gwae, ni chlyw ganu ei chlod;
:Mae gweiddi am gywyddwr
:Merch a gwalch a march a gŵr;
:Och, dorri braich draw a bron
:Angel annwyl englynion!
:Bywiog englyn heb gonglau,
:Berw gân fraisg, brig awen frau;
:Am air hoyw, pwy mor rhywiog
:Heb wyrth gras aberth y Grôg?
:Eilio'r iaith fal Iolo'r oedd,
:Eiliad awdl Aled ydoedd.
:Awen ddofn o'r un ddefnydd
:A'r gawod fêl ar goed fydd;
:Awen frau, i nef yr aeth,
:Wrth freuder, werthfawr odiaeth;
:Cerdd ysgwîr, croywddysg araith,
:Clod y gŵr, clywed ei gwaith;
:Ef âi, o châi, afiach hen
:Ei chlywed, yn iach lawen.

:Didolcwaith gyfiaith a gad
:Deutu genau datgeiniad -
:Fal gwin oll neu fêl y gwnai
:Lais mwnwgl Eos Menai.

:Mowrddysg oedd am urddas gwawd,
:Mwy fu irder myfyrdawd,
:I'r ddwy, dysgai'r ddau degwch -
:Y mêl a'r cwyr aml i'r cwch;
:Mab ydoedd am wybodaeth,
:Merddin Wyllt, marw ddoe a wnaeth.
:Yma'n y byd, mwy, ni bydd
:Ail Dudur Aled wawdydd;
:Ethrylith aeth ar elawr,
:A therm oes yr athro mawr;
:Ni wyddwn, o iawn addysg,
:Nes ei ddwyn, eisieu ei ddysg;
:Ag yn ei fedd gan ei fod,
:Mae'r Beibl mawr heb ei wybod;
:Ef a wyddiad ar foddau
:Ei hun, gwell no hŷn nag iau.

:Yn iach awen, och, ieuainc!
:Yn iach farn iawn uch y fainc;
:Yn iach brigyn, awch breugerdd,
:Yn iach cael cyfrinach cerdd;
:Yn iach un ni châi einioes
:Yn iach ei ail yn eich oes;
:I ail einioes lawenach,
:I wlad nef eled, yn iach!
[[Category:Gruffudd ab Ieuan]]
1mtna6lykbr5z91i6lw834xm50bcdq5
Tudalen:Madam Wen.djvu/39
104
33254
166899
69044
2026-07-01T11:38:39Z
~2026-37743-89
4171
166899
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Yr oedd rhywbeth yn heintus yn y chwerthiniad iach, difater, a ddaeth fel atebiad, ac yn sŵn eu deuawd hapus dechreuasant ddringo'r rhiw ochr yn ochr.
"Un peth sy'n achos gofid i mi," meddai Morys, wrth weled mor gyfyng ac anwastad oedd y ffordd, "Mae Derlwyn yn geffyl campus, ond mae gennyf geffyl du gartref sydd yn werth pump ohono."
"Clywais sôn a chanmol Lewys Ddu," meddai hithau. "Ac yr oeddwn yn hiraethu am ei weld."
Gwridodd Morys o bleser. Ai gair cynnes am Lewys i'w galon bob amser, a hynny hyd yn oed pan na fyddai'r siaradwr ond un cyffredin. Ond dyma Einir yn canmol!
"Daeth Lewys a minnau ar draws haid o ladron un noson, ac mewn ymgais i'n hachub ein dau cafodd ef godwm brwnt a fu agos a'i ddifetha. Meddyliais unwaith nad oedd obaith iddo, ond trwy ddyfalbarhad cafwyd dihangfa heb dorri asgwrn. Buom ar hyd y nos yn cerdded adref, ond mae Lewys yn gwella."
Gwrandawai Einir yn astud, a'i llygaid fel lampau rhyw ddewin, yn melltennu digofaint, tosturi a llawenydd, pob un yn ei dro, fel y datblygai'r hanes. "Pwy oedd y dyhirod?" gofynnodd yn ffrom, nes peri i Morys yn ei dro deimlo rhyw fath o dosturi dros Wil Llanfihangel rhag ofn i'r adyn ryw bryd ddyfod i'w gafael hi.
Rhyw haid sy'n poeni'r cwr acw o'r wlad ers ysbaid hir—a chyrrau eraill o ran hynny—o dan arweiniad rhywun a alwant yn Madam Wen,—yn ôl y chwedl."
Culhai'r llwybr, a bu raid iddynt ei dramwy un ac un. Cymerodd Einir y lle blaenaf cyn i Morys ddeall ei bwriad, ac meddai wrtho dros ei hysgwydd,
"A oedd Madam Wen yn y fintai?"
"Nac oedd. Ac yn wir ni allaf gredu fy hun nad chwedl ddisail yw'r sôn amdani. Byddaf yn tybied weithiau mai'r lladron eu hunain sydd wedi dyfeisio a lledaenu'r stori amdani er mwyn creu arswyd yn y rhai a ysbeiliant."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6fjgo1gptbz0c1787ygcxqnb29l27tr