Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.9 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/39 104 33254 166901 166899 2026-07-01T12:17:41Z ~2026-37743-89 4171 166901 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Yr oedd rhywbeth yn heintus yn y chwerthiniad iach, difater, a ddaeth fel atebiad, ac yn sŵn eu deuawd hapus dechreuasant ddringo'r rhiw ochr yn ochr. "Un peth sy'n achos gofid i mi," meddai Morys, wrth weled mor gyfyng ac anwastad oedd y ffordd, "Mae Derlwyn yn geffyl campus, ond mae gennyf geffyl du gartref sydd yn werth pump ohono." "Clywais sôn a chanmol Lewys Ddu," meddai hithau. "Ac yr oeddwn yn hiraethu am ei weld." Gwridodd Morys o bleser. Ai gair cynnes am Lewys i'w galon bob amser, a hynny hyd yn oed pan na fyddai'r siaradwr ond un cyffredin. Ond dyma Einir yn canmol! "Daeth Lewys a minnau ar draws haid o ladron un noson, ac mewn ymgais i'n hachub ein dau cafodd ef godwm brwnt a fu agos a'i ddifetha. Meddyliais unwaith nad oedd obaith iddo, ond trwy ddyfalbarhad cafwyd dihangfa heb dorri asgwrn. Buom ar hyd y nos yn cerdded adref, ond mae Lewys yn gwella." Gwrandawai Einir yn astud, a'i llygaid fel lampau rhyw ddewin, yn melltennu digofaint, tosturi a llawenydd, pob un yn ei dro, fel y datblygai'r hanes. "Pwy oedd y dyhirod?" gofynnodd yn ffrom, nes peri i Morys yn ei dro deimlo rhyw fath o dosturi dros Wil Llanfihangel rhag ofn i'r adyn ryw bryd ddyfod i'w gafael hi. "Rhyw haid sy'n poeni'r cwr acw o'r wlad ers ysbaid hir—a chyrrau eraill o ran hynny—o dan arweiniad rhywun a alwant yn Madam Wen,—yn ôl y chwedl." Culhai'r llwybr, a bu raid iddynt ei dramwy un ac un. Cymerodd Einir y lle blaenaf cyn i Morys ddeall ei bwriad, ac meddai wrtho dros ei hysgwydd, "A oedd Madam Wen yn y fintai?" "Nac oedd. Ac yn wir ni allaf gredu fy hun nad chwedl ddisail yw'r sôn amdani. Byddaf yn tybied weithiau mai'r lladron eu hunain sydd wedi dyfeisio a lledaenu'r stori amdani er mwyn creu arswyd yn y rhai a ysbeiliant." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jd2mpmbs79hwqiyd00tu659afa2462c Tudalen:Madam Wen.djvu/40 104 33255 166902 69046 2026-07-01T12:30:28Z ~2026-37743-89 4171 166902 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"A fu'r lladron elwach y noson honno?" gofynnodd hithau. "Cawsant bwrs o ddeugain gini. Wedi cwymp Lewys, nid oedd gennyf galon i ymgecru ymhellach â hwynt, a theflais y gôd iddynt er mwyn cael llonydd." Yr oeddynt wedi dringo'n uchel erbyn hyn, a'r llwybr yn gul a charegog. Edrychodd Morys i lawr i'r dyfnder ar ei aswy, lle y gorweddai sawdl garw'r graig yn y tywod, ac o'r bron nad arswydai dros ei gydymaith wrth ystyried peryglon eu llwybr. "Ai ni fyddai'n well i ni dywys y ceffylau?" gofynnodd iddi unwaith wrth weled yn y pellter fod y llwybr eiddil bron wedi diflannu yn gwbl. Ond syrthiodd ei chwerthiniad nwyfus hi ar ei glust fel her iddo ef yn ogystal ag i waethaf môr a mynydd a dannedd creulon y graig. "Mae gennyf innau gaseg annwyl," meddai, a fuasai'n dysgu Lewys Ddu sut i ddringo'r Penmaen ac i ehedeg dros y bylchau fel aderyn y môr." Yr oedd cymaint o wres yn y geiriau nes peri i Morys deimlo'n eiddigus o'r gaseg a ganmolid, a diolch yn ddistaw nad oedd hi yno ar y pryd. Ac ychwanegodd Einir, "Rhaid i ni wneud y gorau o'r ddau sydd gennym." O'u blaenau yr oedd rhaeadr anferth o gerrig mân symudol, oedd a'i waelodion yn yr eigion erch islaw. Haen oedd yno o wendid yn y graig fawr, a'r llwybr wedi ei wisgo ymaith ymron, ac oddi ar wlybaniaeth myrdd o gerrig mân wyneb y rhaeadr adlewyrchid pelydr oerlas y lleuad, gan doi y lle â chwmwl o oleuni fel glas—olau'r fellten. Gwell fyddai i ni ddisgyn, a thywys y meirch neu droi'n ôl," meddai Morys, gan dynnu yn yr afwyn. "Amheuaf a oes yma lwybr o gwbl." Ond ei hatebiad hi oedd gair yng nghlust ei cheffyl heini, ac ar yr astell gynnil honno, uwch y perygl, dechreuodd y march ddawnsio cyn rhuthro ymlaen tuag at y bwlch. Fel y nesaent at y fan, bron na<noinclude><references/></noinclude> 6k5uco3d0z318c0j0wx5dmybm895lct 166903 166902 2026-07-02T11:58:25Z ~2026-37766-27 4172 166903 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"A fu'r lladron elwach y noson honno?" gofynnodd hithau. "Cawsant bwrs o ddeugain gini. Wedi cwymp Lewys, nid oedd gennyf galon i ymgecru ymhellach â hwynt, a theflais y gôd iddynt er mwyn cael llonydd." Yr oeddynt wedi dringo'n uchel erbyn hyn, a'r llwybr yn gul a charegog. Edrychodd Morys i lawr i'r dyfnder ar ei aswy, lle y gorweddai sawdl garw'r graig yn y tywod, ac o'r bron nad arswydai dros ei gydymaith wrth ystyried peryglon eu llwybr. "Ai ni fyddai'n well i ni dywys y ceffylau?" gofynnodd iddi unwaith wrth weled yn y pellter fod y llwybr eiddil bron wedi diflannu yn gwbl. Ond syrthiodd ei chwerthiniad nwyfus hi ar ei glust fel her iddo ef yn ogystal ag i waethaf môr a mynydd a dannedd creulon y graig. "Mae gennyf innau gaseg annwyl," meddai, "a fuasai'n dysgu Lewys Ddu sut i ddringo'r Penmaen ac i ehedeg dros y bylchau fel aderyn y môr." Yr oedd cymaint o wres yn y geiriau nes peri i Morys deimlo'n eiddigus o'r gaseg a ganmolid, a diolch yn ddistaw nad oedd hi yno ar y pryd. Ac ychwanegodd Einir, "Rhaid i ni wneud y gorau o'r ddau sydd gennym." O'u blaenau yr oedd rhaeadr anferth o gerrig mân symudol, oedd a'i waelodion yn yr eigion erch islaw. Haen oedd yno o wendid yn y graig fawr, a'r llwybr wedi ei wisgo ymaith ymron, ac oddi ar wlybaniaeth myrdd o gerrig mân wyneb y rhaeadr adlewyrchid pelydr oerlas y lleuad, gan doi y lle â chwmwl o oleuni fel glas—olau'r fellten. Gwell fyddai i ni ddisgyn, a thywys y meirch neu droi'n ôl," meddai Morys, gan dynnu yn yr afwyn. "Amheuaf a oes yma lwybr o gwbl." Ond ei hatebiad hi oedd gair yng nghlust ei cheffyl heini, ac ar yr astell gynnil honno, uwch y perygl, dechreuodd y march ddawnsio cyn rhuthro ymlaen tuag at y bwlch. Fel y nesaent at y fan, bron na<noinclude><references/></noinclude> 89vt6nnwdcr924c4h5dkrl351xogevm