Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/41
104
33256
166904
69047
2026-07-03T08:57:12Z
~2026-37951-22
4173
166904
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>theimlai'r cawr ei wallt yn codi gan arswyd am ei thynged hi. Anghofiodd ef ei hun a'i farch, a'i lygaid yn hoeliedig arni hi, a sŵn y garlam feiddgar yn codi atseiniau o'i gylch yn nhawelwch y nos. Gwelodd gwmwl o lwch, a chlywodd sŵn fel sŵn ystorm yn y pellter, ac fel pe'n casglu nerth wrth ddynesu, nes Îlenwi'r holl awyr â tharanau, fel y llithrai'r cerrig i lawr y llethr.
Ar gwr yr adwy ofnodd Derlwyn a disgynnodd Morys mewn pryd, a'r funud nesaf, y tu hwnt i'r perygl, chwifiai Einir gadach gwyn fel arwydd diogelwch. Cafodd Morys ei anadl ato eilwaith, ac aeth ymlaen ar hyd y llwybr brau, gan arwain Derlwyn yn araf a gofalus gan wybod y buasai un cam gwallus yn hyrddio'r ddau ar unwaith i'r dyfnder oedd yn ddigon erchyll i ddychryn y glewaf.
I'r cyfrwy unwaith eto, ac i lawr yr ael tua'r Penmaen Bach ar lwybr oedd cynddrwg a'r llall. Yr oedd Morys yn farchog profiadol, a'i ddawn yn fawr, ond er hynny da oedd ganddo glywed mai ar hyd ffordd arall y bwriadai ei gydymaith ddychwelyd.
"Mae yma lwybr yn arwain i'r traeth," meddai wrtho. "Beth a feddyliech chwi o fynd yn ôl ar y tywod?"
"Gwell o lawer na'r clogwyni!" atebodd yntau o'i galon.
"O—ho!" chwarddodd hithau. Gwron y llwybr diogel a hawdd, aie?"
Fy nghares deg," meddai yntau'n bwyllog, heb gymryd sylw o'r ysmaldod, 'boed ynteu fy enw Wron y Llwybr Hawdd, ond, a gwneud cyffes lawn, er nad oes antur ar wyneb daear na wynebwn hi yn llawen ar eich gorchymyn lleiaf chwi, ni hoffwn er dim eich gweled eto yn rhyfygu fel y gwnaethoch."
Yr oedd y pwyslais lleiaf yn y byd ar y gair" chwi," ac ni allai hi osgoi yr awgrym. "Maddeuwch imi fy nghellwair ffôl," meddai. "Yr wyf yn dewis y llwybr hwn, ac ni fynnwn yr un ffordd arall heno. Mae<noinclude><references/></noinclude>
l72syowtclhwc98dvhhqhlfepdlqjf3
166905
166904
2026-07-03T09:06:18Z
~2026-37951-22
4173
166905
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>theimlai'r cawr ei wallt yn codi gan arswyd am ei thynged hi. Anghofiodd ef ei hun a'i farch, a'i lygaid yn hoeliedig arni hi, a sŵn y garlam feiddgar yn codi atseiniau o'i gylch yn nhawelwch y nos. Gwelodd gwmwl o lwch, a chlywodd sŵn fel sŵn ystorm yn y pellter, ac fel pe'n casglu nerth wrth ddynesu, nes Îlenwi'r holl awyr â tharanau, fel y llithrai'r cerrig i lawr y llethr.
Ar gwr yr adwy ofnodd Derlwyn a disgynnodd Morys mewn pryd, a'r funud nesaf, y tu hwnt i'r perygl, chwifiai Einir gadach gwyn fel arwydd diogelwch. Cafodd Morys ei anadl ato eilwaith, ac aeth ymlaen ar hyd y llwybr brau, gan arwain Derlwyn yn araf a gofalus gan wybod y buasai un cam gwallus yn hyrddio'r ddau ar unwaith i'r dyfnder oedd yn ddigon erchyll i ddychryn y glewaf.
I'r cyfrwy unwaith eto, ac i lawr yr ael tua'r Penmaen Bach ar lwybr oedd cynddrwg a'r llall. Yr oedd Morys yn farchog profiadol, a'i ddawn yn fawr, ond er hynny da oedd ganddo glywed mai ar hyd ffordd arall y bwriadai ei gydymaith ddychwelyd.
"Mae yma lwybr yn arwain i'r traeth," meddai wrtho. "Beth a feddyliech chwi o fynd yn ôl ar y tywod?"
"Gwell o lawer na'r clogwyni!" atebodd yntau o'i galon.
"O—ho!" chwarddodd hithau. "Gwron y llwybr diogel a hawdd, aie?"
"Fy nghares deg," meddai yntau'n bwyllog, heb gymryd sylw o'r ysmaldod, "boed ynteu fy enw Wron y Llwybr Hawdd, ond, a gwneud cyffes lawn, er nad oes antur ar wyneb daear na wynebwn hi yn llawen ar eich gorchymyn lleiaf chwi, ni hoffwn er dim eich gweled eto yn rhyfygu fel y gwnaethoch."
Yr oedd y pwyslais lleiaf yn y byd ar y gair" chwi," ac ni allai hi osgoi yr awgrym. "Maddeuwch imi fy nghellwair ffôl," meddai. "Yr wyf yn dewis y llwybr hwn, ac ni fynnwn yr un ffordd arall heno. Mae<noinclude><references/></noinclude>
6wk88yclf76hwfbuc09iwbk07soge7o
Tudalen:Madam Wen.djvu/42
104
33335
166906
69048
2026-07-03T09:36:40Z
~2026-37951-22
4173
166906
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>unwaith dros y Penmaen yn llawn digon mewn un noson."
"Yr oeddwn wedi bwriadu eich ceryddu," meddai yntau, "am ryfygu cymaint, ond bod arnaf eisiau edmygu yn gyntaf. Yr wyf yn cofio i mi pan oeddwn yn fachgen weled eich tad, a chofiaf fel yr edmygwn ei ddull yn y cyfrwy
"Fy nhad!
Dywedai rhywbeth yn ei llais ei fod wedi cyffwrdd tant tyner. Teithient ochr yn ochr, a thybiodd iddo'i gweld hi'n sychu deigryn ymaith. Daeth hynny a theimlad dwys i'w fynwes yntau, ond cyn iddo gael gair ymhellach trodd Einir ato, a dywedodd ychydig yn gyffrous, Rhyfedd i chwi gyfeirio at fy nhad, druan. Mae wedi bod yn fy meddwl—wn i ddim paham —amryw weithiau heno
Siaradai yn gyflym ac isel, a gwrandawai yntau heb ddywedyd dim, gan deimlo mai dyna a ddymunai hi. Ni wn i ddim paham y daeth i'm meddwl mor fynych heno. Ond yr wyf wedi bod yn meddwl fel y bu ef yn disgwyl—disgwyl—disgwyl am i'w wybren oleuo, disgwyl am flynyddoedd, nes y torrodd ei galon. Gall na chlywsoch chwi ddim fel yr anrheithiwyd eiddo fy nhaid gan y Pengryniaid atgas. Y cwbl a adawyd i'm tad oedd ei enw—a'i falchter."
Eisteddai'n syth ar y cyfrwy, a'i phen yn uchel, ond treiglai dagrau i lawr ei gruddiau. Ni fedrai yntau dewi yn hwy. Teimlai raid arno i ddywedyd wrthi yma ac ar unwaith fel y carai hi—mai hi oedd yr un y bu ei galon yn breuddwydio amdani; iddo wybod hynny y munud cyntaf y clywodd ei llais yng nghastell y Penrhyn.
Amser rhyfedd ac amgylchiadau rhyfedd i ŵr eu dewis i adrodd ei serch, ond er na wyddai ef hynny, ni buasai Einir ei hun yn gallu dewis ffordd a fuasai'n fwy cydnaws â'i natur ryfedd hi ei hun. Am ysbaid ni ddywedodd hi air mewn ateb, ac ymsaethodd syniad anesmwyth drwy ei feddwl yntau. Tybed a oedd<noinclude><references/></noinclude>
mtxpzltyn72x8cn1p48qrwerqy4q3a8
166907
166906
2026-07-03T09:40:06Z
~2026-37951-22
4173
166907
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>unwaith dros y Penmaen yn llawn digon mewn un noson."
"Yr oeddwn wedi bwriadu eich ceryddu," meddai yntau, "am ryfygu cymaint, ond bod arnaf eisiau edmygu yn gyntaf. Yr wyf yn cofio i mi pan oeddwn yn fachgen weled eich tad, a chofiaf fel yr edmygwn ei ddull yn y cyfrwy...."
"Fy nhad! "

m3rfb7tcszp36lj6u4irye6rnyvegoe
166908
166907
2026-07-03T09:41:11Z
~2026-37951-22
4173
166908
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>unwaith dros y Penmaen yn llawn digon mewn un noson."
"Yr oeddwn wedi bwriadu eich ceryddu," meddai yntau, "am ryfygu cymaint, ond bod arnaf eisiau edmygu yn gyntaf. Yr wyf yn cofio i mi pan oeddwn yn fachgen weled eich tad, a chofiaf fel yr edmygwn ei ddull yn y cyfrwy...."
"Fy nhad! "
Dywedai rhywbeth yn ei llais ei fod wedi cyffwrdd tant tyner. Teithient ochr yn ochr, a thybiodd iddo'i gweld hi'n sychu deigryn ymaith. Daeth hynny a theimlad dwys i'w fynwes yntau, ond cyn iddo gael gair ymhellach trodd Einir ato, a dywedodd ychydig yn gyffrous, "Rhyfedd i chwi gyfeirio at fy nhad, druan. Mae wedi bod yn fy meddwl—wn i ddim paham —amryw weithiau heno...."
Siaradai yn gyflym ac isel, a gwrandawai yntau heb ddywedyd dim, gan deimlo mai dyna a ddymunai hi. "Ni wn i ddim paham y daeth i'm meddwl mor fynych heno. Ond yr wyf wedi bod yn meddwl fel y bu ef yn disgwyl—disgwyl—disgwyl am i'w wybren oleuo, disgwyl am flynyddoedd, nes y torrodd ei galon. Gall na chlywsoch chwi ddim fel yr anrheithiwyd eiddo fy nhaid gan y Pengryniaid atgas. Y cwbl a adawyd i'm tad oedd ei enw—a'i falchter."
Eisteddai'n syth ar y cyfrwy, a'i phen yn uchel, ond treiglai dagrau i lawr ei gruddiau. Ni fedrai yntau dewi yn hwy. Teimlai raid arno i ddywedyd wrthi yma ac ar unwaith fel y carai hi—mai hi oedd yr un y bu ei galon yn breuddwydio amdani; iddo wybod hynny y munud cyntaf y clywodd ei llais yng nghastell y Penrhyn.
Amser rhyfedd ac amgylchiadau rhyfedd i ŵr eu dewis i adrodd ei serch, ond er na wyddai ef hynny, ni buasai Einir ei hun yn gallu dewis ffordd a fuasai'n fwy cydnaws â'i natur ryfedd hi ei hun. Am ysbaid ni ddywedodd hi air mewn ateb, ac ymsaethodd syniad anesmwyth drwy ei feddwl yntau. Tybed a oedd<noinclude><references/></noinclude>
blaancjuu6gq0tnbtw9ile3z3b84gg9
166909
166908
2026-07-03T11:19:10Z
~2026-37951-22
4173
166909
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>unwaith dros y Penmaen yn llawn digon mewn un noson."
"Yr oeddwn wedi bwriadu eich ceryddu," meddai yntau, "am ryfygu cymaint, ond bod arnaf eisiau edmygu yn gyntaf. Yr wyf yn cofio i mi pan oeddwn yn fachgen weled eich tad, a chofiaf fel yr edmygwn ei ddull yn y cyfrwy...."
"Fy nhad! "
Dywedai rhywbeth yn ei llais ei fod wedi cyffwrdd tant tyner. Teithient ochr yn ochr, a thybiodd iddo'i gweld hi'n sychu deigryn ymaith. Daeth hynny a theimlad dwys i'w fynwes yntau, ond cyn iddo gael gair ymhellach trodd Einir ato, a dywedodd ychydig yn gyffrous, "Rhyfedd i chwi gyfeirio at fy nhad, druan. Mae wedi bod yn fy meddwl—wn i ddim paham —amryw weithiau heno...."
Siaradai yn gyflym ac isel, a gwrandawai yntau heb ddywedyd dim, gan deimlo mai dyna a ddymunai hi. "Ni wn i ddim paham y daeth i'm meddwl mor fynych heno. Ond yr wyf wedi bod yn meddwl fel y bu ef yn disgwyl—disgwyl—disgwyl am i'w wybren oleuo, disgwyl am flynyddoedd, nes y torrodd ei galon... Gall na chlywsoch chwi ddim fel yr anrheithiwyd eiddo fy nhaid gan y Pengryniaid atgas. Y cwbl a adawyd i'm tad oedd ei enw—a'i falchter."
Eisteddai'n syth ar y cyfrwy, a'i phen yn uchel, ond treiglai dagrau i lawr ei gruddiau. Ni fedrai yntau dewi yn hwy. Teimlai raid arno i ddywedyd wrthi yma ac ar unwaith fel y carai hi—mai hi oedd yr un y bu ei galon yn breuddwydio amdani; iddo wybod hynny y munud cyntaf y clywodd ei llais yng nghastell y Penrhyn.
Amser rhyfedd ac amgylchiadau rhyfedd i ŵr eu dewis i adrodd ei serch, ond er na wyddai ef hynny, ni buasai Einir ei hun yn gallu dewis ffordd a fuasai'n fwy cydnaws â'i natur ryfedd hi ei hun. Am ysbaid ni ddywedodd hi air mewn ateb, ac ymsaethodd syniad anesmwyth drwy ei feddwl yntau. Tybed a oedd<noinclude><references/></noinclude>
60hvojgtwdxdfxom7jgqb4sto0tf2lt
Tudalen:Madam Wen.djvu/43
104
33336
166910
70329
2026-07-03T11:49:16Z
~2026-37951-22
4173
166910
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ef wedi peidio â'i digio hi â'i addefiad byrbwyll? Heb ond ychydig o oriau er pan ddaethai i'w hadnabod, a oedd hi yn peidio â gweled amarch yn ei eiriau parod?
"Ofnaf imi eich digio. . . ." meddai. Ond nid aeth ymhellach. Gwelodd wên o dynerwch ac o serch yn ei hwyneb.
"Myfyrio yr oeddwn. Meddwl yr oeddwn mor hawdd fyddai i minnau ddysgu caru Morys Williams pe bawn yn rhydd i wneud hynny. Ond . . . ."
Teimlai Morys fod y goleuni'n ymadael, a nos yn dyfod i'w fywyd ar drawiad llygad. "Yr ydych wedi eich dyweddïo?" meddai, yn fwy wrtho'i hun nac wrthi hi.
Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw'r adduned eto wedi ei chyflawni."
Dynesent at y tŷ, ac nid oedd amser i glywed mwy. Carwn wybod llawer mwy am hyn," meddai wrthi. "Pa fodd y gellwch chwi heb gymorth ad—ennill y tir? Yn wir, hoffwn yn fawr gael gwybod mwy."
"Ryw dro—fe allai!" meddai hithau.
Wedi rhoddi'r meirch mewn diddosrwydd, aeth Morys i'r tŷ, ond er chwilio ymhobman am Einir ni chafodd hi. Aeth yntau i'w ystafell i fyfyrio uwchben adduned ryfedd y ferch a garai, gan fwriadu ail—ofyn am fanylion yn y bore.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lffbp8wrx369tz1thb5vgv81ell9ot3
166911
166910
2026-07-03T11:57:47Z
~2026-37951-22
4173
166911
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ef wedi peidio â'i digio hi â'i addefiad byrbwyll? Heb ond ychydig o oriau er pan ddaethai i'w hadnabod, a oedd hi yn peidio â gweled amarch yn ei eiriau parod?
"Ofnaf imi eich digio. . . ." meddai. Ond nid aeth ymhellach. Gwelodd wên o dynerwch ac o serch yn ei hwyneb.
"Myfyrio yr oeddwn. Meddwl yr oeddwn mor hawdd fyddai i minnau ddysgu caru Morys Williams pe bawn yn rhydd i wneud hynny. Ond . . . ."
Teimlai Morys fod y goleuni'n ymadael, a nos yn dyfod i'w fywyd ar drawiad llygad. "Yr ydych wedi eich dyweddïo?" meddai, yn fwy wrtho'i hun nac wrthi hi.
"Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw'r adduned eto wedi ei chyflawni."
Dynesent at y tŷ, ac nid oedd amser i glywed mwy. Carwn wybod llawer mwy am hyn," meddai wrthi. "Pa fodd y gellwch chwi heb gymorth ad—ennill y tir? Yn wir, hoffwn yn fawr gael gwybod mwy."
"Ryw dro—fe allai!" meddai hithau.
Wedi rhoddi'r meirch mewn diddosrwydd, aeth Morys i'r tŷ, ond er chwilio ymhobman am Einir ni chafodd hi. Aeth yntau i'w ystafell i fyfyrio uwchben adduned ryfedd y ferch a garai, gan fwriadu ail—ofyn am fanylion yn y bore.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sn1862kdx84jyl3asln6ix9ckxtuqrv