Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/43
104
33336
166912
166911
2026-07-03T12:08:31Z
~2026-37951-22
4173
166912
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ef wedi peidio â'i digio hi â'i addefiad byrbwyll? Heb ond ychydig o oriau er pan ddaethai i'w hadnabod, a oedd hi yn peidio â gweled amarch yn ei eiriau parod?
"Ofnaf imi eich digio. . . ." meddai. Ond nid aeth ymhellach. Gwelodd wên o dynerwch ac o serch yn ei hwyneb.
"Myfyrio yr oeddwn. Meddwl yr oeddwn mor hawdd fyddai i minnau ddysgu caru Morys Williams pe bawn yn rhydd i wneud hynny. Ond . . . ."
Teimlai Morys fod y goleuni'n ymadael, a nos yn dyfod i'w fywyd ar drawiad llygad. "Yr ydych wedi eich dyweddïo?" meddai, yn fwy wrtho'i hun nac wrthi hi.
"Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw'r adduned eto wedi ei chyflawni."
Dynesent at y tŷ, ac nid oedd amser i glywed mwy. "Carwn wybod llawer mwy am hyn," meddai wrthi. "Pa fodd y gellwch chwi heb gymorth ad—ennill y tir? Yn wir, hoffwn yn fawr gael gwybod mwy."
"Ryw dro—fe allai!" meddai hithau.
Wedi rhoddi'r meirch mewn diddosrwydd, aeth Morys i'r tŷ, ond er chwilio ymhobman am Einir ni chafodd hi. Aeth yntau i'w ystafell i fyfyrio uwchben adduned ryfedd y ferch a garai, gan fwriadu ail—ofyn am fanylion yn y bore.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nmlprnbi1sjhwbi9kppbxjx6rgymggz