Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.9 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/45 104 33338 166913 69051 2026-07-05T09:22:46Z ~2026-38336-51 4176 166913 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Pan ddarfu twrw'r symud, curodd Nanni eilwaith, ac agorodd Wil y drws yn ofalus. "Pwy sydd yna?" meddai, gan syllu i'r tywyllwch dudew. "Fi sydd yma," atebai Nanni. "Yr wyf yn curo ers meityn, a bron â blino'n disgwyl." "Nanni! Tyrd i'r tŷ. Chlywais i ddim o dy sŵn di hyd y munud yma," oedd celwydd parod Wil. "Beth bar i ti fod ar grwydr ar noson fel hon, dywed? Tyrd i mewn.' Aeth hithau i mewn, ac o ddireidi dywedodd, "Yn enw'r tad, beth wyt ti wedi bod yn i wneud; mae gennyt le bler iawn yma? Mae'r llawr yma yr un fath a phetai og bigau wedi bod ar hyd-ddo?" "Dim gwraig sydd yma, weldi!" meddai Wil, a chanfu Nanni fod ei direidi wedi ei harwain i dir na fwriadai. Yr oedd dychymyg chwim Wil wedi bod yn drech na hi. Dywedai pawb fod awydd cael Nanni'n wraig ar Wil. Ac yr oedd yn amlwg ar bob adeg bod ganddo fwy i'w ddywedyd wrthi hi nag wrth neb arall. Ond gwrthrych mawr ei serch oedd y gist drysor, ac ail lle yn ei galon oedd i bopeth arall. Hwyrach y safai Nanni yn nesaf i'r gist ddu yn ei fryd. Yr oedd lawer tro wedi dangos iddi sut y tueddai. Ond ni fynnai hi ddim o hynny. Heblaw bod i Ddic Tafarn y Cwch le cynnes yn ei chalon, Wil fuasai'r diwethaf yn y byd y buasai hi'n ei ddewis. Dyna paham y teimlai'n awr yn ddig wrthi ei hun am yr hyn a ddywedodd. Troi'r stori oedd yr unig ffordd i ddyfod allan o'r dryswch. "Mae ar Madam Wen eisiau dy weled di ar unwaith," meddai wrtho. Sobrodd Wil yn sydyn. Newidiodd ei ddull ar unwaith. Pryd daeth hi'n ôl?" gofynnodd. "Neithiwr, yn hwyr iawn." "Sut y gwyddet ti ei bod hi wedi dychwelyd? gofynnodd yntau a'r arwydd lleiaf erioed o wawd yn ei lais. Yr oedd Wil wedi mynd yn amheus o berthynas yr ogof a Chymunod ers ysbaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d3g6c1qh1c10puet8qkri2j0zfa8p3j 166914 166913 2026-07-05T09:33:12Z ~2026-38336-51 4176 166914 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Pan ddarfu twrw'r symud, curodd Nanni eilwaith, ac agorodd Wil y drws yn ofalus. "Pwy sydd yna?" meddai, gan syllu i'r tywyllwch dudew. "Fi sydd yma," atebai Nanni. "Yr wyf yn curo ers meityn, a bron â blino'n disgwyl." "Nanni! Tyrd i'r tŷ. Chlywais i ddim o dy sŵn di hyd y munud yma," oedd celwydd parod Wil. "Beth bar i ti fod ar grwydr ar noson fel hon, dywed? Tyrd i mewn." Aeth hithau i mewn, ac o ddireidi dywedodd, "Yn enw'r tad, beth wyt ti wedi bod yn i wneud; mae gennyt le bler iawn yma? Mae'r llawr yma yr un fath a phetai og bigau wedi bod ar hyd-ddo?" "Dim gwraig sydd yma, weldi!" meddai Wil, a chanfu Nanni fod ei direidi wedi ei harwain i dir na fwriadai. Yr oedd dychymyg chwim Wil wedi bod yn drech na hi. Dywedai pawb fod awydd cael Nanni'n wraig ar Wil. Ac yr oedd yn amlwg ar bob adeg bod ganddo fwy i'w ddywedyd wrthi hi nag wrth neb arall. Ond gwrthrych mawr ei serch oedd y gist drysor, ac ail lle yn ei galon oedd i bopeth arall. Hwyrach y safai Nanni yn nesaf i'r gist ddu yn ei fryd. Yr oedd lawer tro wedi dangos iddi sut y tueddai. Ond ni fynnai hi ddim o hynny. Heblaw bod i Ddic Tafarn y Cwch le cynnes yn ei chalon, Wil fuasai'r diwethaf yn y byd y buasai hi'n ei ddewis. Dyna paham y teimlai'n awr yn ddig wrthi ei hun am yr hyn a ddywedodd. Troi'r stori oedd yr unig ffordd i ddyfod allan o'r dryswch. "Mae ar Madam Wen eisiau dy weled di ar unwaith," meddai wrtho. Sobrodd Wil yn sydyn. Newidiodd ei ddull ar unwaith. Pryd daeth hi'n ôl?" gofynnodd. "Neithiwr, yn hwyr iawn." "Sut y gwyddet ti ei bod hi wedi dychwelyd? gofynnodd yntau a'r arwydd lleiaf erioed o wawd yn ei lais. Yr oedd Wil wedi mynd yn amheus o berthynas yr ogof a Chymunod ers ysbaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3ay9b2noscij90uwxdi1yosm7kirpqj 166915 166914 2026-07-05T11:16:52Z ~2026-38336-51 4176 166915 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Pan ddarfu twrw'r symud, curodd Nanni eilwaith, ac agorodd Wil y drws yn ofalus. "Pwy sydd yna?" meddai, gan syllu i'r tywyllwch dudew. "Fi sydd yma," atebai Nanni. "Yr wyf yn curo ers meityn, a bron â blino'n disgwyl." "Nanni! Tyrd i'r tŷ. Chlywais i ddim o dy sŵn di hyd y munud yma," oedd celwydd parod Wil. "Beth bar i ti fod ar grwydr ar noson fel hon, dywed? Tyrd i mewn." Aeth hithau i mewn, ac o ddireidi dywedodd, "Yn enw'r tad, beth wyt ti wedi bod yn i wneud; mae gennyt le bler iawn yma? Mae'r llawr yma yr un fath a phetai og bigau wedi bod ar hyd-ddo?" "Dim gwraig sydd yma, weldi!" meddai Wil, a chanfu Nanni fod ei direidi wedi ei harwain i dir na fwriadai. Yr oedd dychymyg chwim Wil wedi bod yn drech na hi. Dywedai pawb fod awydd cael Nanni'n wraig ar Wil. Ac yr oedd yn amlwg ar bob adeg bod ganddo fwy i'w ddywedyd wrthi hi nag wrth neb arall. Ond gwrthrych mawr ei serch oedd y gist drysor, ac ail lle yn ei galon oedd i bopeth arall. Hwyrach y safai Nanni yn nesaf i'r gist ddu yn ei fryd. Yr oedd lawer tro wedi dangos iddi sut y tueddai. Ond ni fynnai hi ddim o hynny. Heblaw bod i Ddic Tafarn y Cwch le cynnes yn ei chalon, Wil fuasai'r diwethaf yn y byd y buasai hi'n ei ddewis. Dyna paham y teimlai'n awr yn ddig wrthi ei hun am yr hyn a ddywedodd. Troi'r stori oedd yr unig ffordd i ddyfod allan o'r dryswch. "Mae ar Madam Wen eisiau dy weled di ar unwaith," meddai wrtho. Sobrodd Wil yn sydyn. Newidiodd ei ddull ar unwaith. "Pryd daeth hi'n ôl?" gofynnodd. "Neithiwr, yn hwyr iawn." "Sut y gwyddet ti ei bod hi wedi dychwelyd? gofynnodd yntau a'r arwydd lleiaf erioed o wawd yn ei lais. Yr oedd Wil wedi mynd yn amheus o berthynas yr ogof a Chymunod ers ysbaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tlwp81qt95cuqc64cok5zrnsqk2y4h5 166916 166915 2026-07-05T11:19:03Z ~2026-38336-51 4176 166916 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Pan ddarfu twrw'r symud, curodd Nanni eilwaith, ac agorodd Wil y drws yn ofalus. "Pwy sydd yna?" meddai, gan syllu i'r tywyllwch dudew. "Fi sydd yma," atebai Nanni. "Yr wyf yn curo ers meityn, a bron â blino'n disgwyl." "Nanni! Tyrd i'r tŷ. Chlywais i ddim o dy sŵn di hyd y munud yma," oedd celwydd parod Wil. "Beth bar i ti fod ar grwydr ar noson fel hon, dywed? Tyrd i mewn." Aeth hithau i mewn, ac o ddireidi dywedodd, "Yn enw'r tad, beth wyt ti wedi bod yn i wneud; mae gennyt le bler iawn yma? Mae'r llawr yma yr un fath a phetai og bigau wedi bod ar hyd-ddo?" "Dim gwraig sydd yma, weldi!" meddai Wil, a chanfu Nanni fod ei direidi wedi ei harwain i dir na fwriadai. Yr oedd dychymyg chwim Wil wedi bod yn drech na hi. Dywedai pawb fod awydd cael Nanni'n wraig ar Wil. Ac yr oedd yn amlwg ar bob adeg bod ganddo fwy i'w ddywedyd wrthi hi nag wrth neb arall. Ond gwrthrych mawr ei serch oedd y gist drysor, ac ail lle yn ei galon oedd i bopeth arall. Hwyrach y safai Nanni yn nesaf i'r gist ddu yn ei fryd. Yr oedd lawer tro wedi dangos iddi sut y tueddai. Ond ni fynnai hi ddim o hynny. Heblaw bod i Ddic Tafarn y Cwch le cynnes yn ei chalon, Wil fuasai'r diwethaf yn y byd y buasai hi'n ei ddewis. Dyna paham y teimlai'n awr yn ddig wrthi ei hun am yr hyn a ddywedodd. Troi'r stori oedd yr unig ffordd i ddyfod allan o'r dryswch. "Mae ar Madam Wen eisiau dy weled di ar unwaith," meddai wrtho. Sobrodd Wil yn sydyn. Newidiodd ei ddull ar unwaith. "Pryd daeth hi'n ôl?" gofynnodd. "Neithiwr, yn hwyr iawn." "Sut y gwyddet ti ei bod hi wedi dychwelyd?" gofynnodd yntau a'r arwydd lleiaf erioed o wawd yn ei lais. Yr oedd Wil wedi mynd yn amheus o berthynas yr ogof a Chymunod ers ysbaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d34pxmwu851dkdqbrg2ks03hgxfojzl Tudalen:Madam Wen.djvu/49 104 33342 166917 70256 2026-07-05T11:24:36Z ~2026-38336-51 4176 166917 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ond ni pharhaodd ei dawelwch yn hir, na'i hunanfeddiant. Yr oedd arglwyddes yr ogof mewn tymer flin. Ac i un nad arferai deimlo'n gartrefol dan drem ei llygaid llym hyd yn oed pan fyddai pethau'n hwylus, dychryn oedd gweled y llygaid hynny yn melltennu dicter. "Faint o ffordd a ddywedi di sydd oddi yma i Gymunod?" gofynnodd iddo. "Dwy filltir prin," meddai yntau, fel bachgennyn yn adrodd gwers. "Fuaset ti'n ystyried perchen Cymunod yn gymydog?" Teimlai Wil ei bod hi'n chwarae ag ef fel y chwery dyn â'i gi, ond sut ar y ddaear y gallai osgoi ei hateb hi. "Wel, buaswn, am wn i." Am wn innau, hefyd, weldi! Ond dywed i mi, ai yn enw Madam Wen yr aethoch chwi allan mor wrol i ymosod ar gymydog, ac i'w ysbeilio?" Y fath sarhad y medrai hi ei roddi mewn brawddeg! Synnai Wil fod modd gwneud hynny mor effeithiol heb na llw na rheg o fath yn y byd. "Y dyhirod digywilydd i chwi! Dwsin neu ddau ohonoch i ymosod ar un gŵr, a hwnnw'n gymydog tawel! Pa le mae'r rheolau a roddais i chwi pan ymgymerais â'ch noddi? Y cnafon trachwantus i chwi! Hoffwn wybod pa faint o ddaioni a wnaethoch yng nghorff y deufis a aeth heibio; pa sawl cymwynas a wnaed â'r tlawd; sawl tro caredig â neb mewn eisiau. Ni ddywedodd y lleidr air. "Yr wyf yn dechrau blino ar y castiau gwirion yma," meddai hi. "Yr ynfydion i chwi, efo'ch mân ladrata a'ch ymgiprys ymysg meddwon. Gwrando! Y tro nesaf y clywaf am ynfydrwydd o'r fath, bydd yna ben ar y fintai a'r fasnach, ac ni wnaf ymhel yn rhagor â chwi. Mi wyddost yn eithaf da mai wedi dy grogi y buaset ti cyn hyn onibai amdanaf fi." Gwyddai Wil yn dda mai ar ei doethineb a'i gwybod— aeth hi y dibynnai'r gêl—fasnach a llwydd y fintai,<noinclude><references/></noinclude> 6q8g2vrit3ts61gna4yqscxl9k8r4sx