Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/46
104
33339
166918
70330
2026-07-05T15:58:59Z
~2026-38363-89
4177
166918
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"'Waeth i ti sut y gwyddwn i. Yr wyt ti wedi cael dy neges."
"Do," meddai yntau'n fyr.
Wedi ailfeddwl, ychwanegodd hithau, "Digwydd mynd i Dafarn y Cwch ddarfu imi, a gair adawyd yno ganddi hi."
"Paid â dywedyd celwydd," meddai Wil, ac aeth ymlaen mewn gwawd mwy agored. "Beth ddywedai yswain mawr Cymunod pe bai o 'n gwybod sut y mae ei forwyn ffyddlon yn ymddwyn. Ac yntau'n ustus heddwch, ei forynion yn cynllwyn fel hyn â lladron pen-ffordd."
Nid oedd amcan yn y byd mewn dywedyd hyn, heblaw gwneud iddi hi deimlo'n anghyfforddus. Hoffai Wil wneuthur hynny â phawb. Ond teimlodd Nanni ryw fath o euogrwydd fel petasai Wil trwy ryw ddewiniaeth yn hysbys o'r ymddiddan a fu rhyngddi hi â Madam Wen ryw awr yn gynt. Ond wrth reswm, fel y cysurodd hi ei hun, nid oedd dichon iddo wybod. Cododd Nanni i ymadael. "Mae Madam Wen mewn tymer afrywiog heno," meddai. "Mae cwmwl du iawn o gylch ei haeliau hi, ac arwydd ystorm."
"Paham hynny? Beth ddywedodd hi?"
"Ddywedodd hi ddim, ond bod arni hi eisiau dy weld. Ac nid wyf yn meddwl mai hiraeth am weld Wil Llanfihangel sy'n peri iddi fod mewn cymaint o frys." Tipyn o falais Nanni oedd hyn, a thalu'r pwyth i Wil cyn ymadael.
Ychydig amser a gymerodd yntau i ymlwybro drwy'r coed eithin nes dyfod i enau'r ogof. Safodd funud cyn myned i lawr drwy'r agen hanner-cudd i gell agosaf allan yr ogof. Yr oedd yn dywyll iawn, ond gwyddai ef yn dda am y lle, er na wyddai ef na'r un arall o'r fintai ond ychydig am du mewn y gell arall oedd y pen draw i lwybr cul a throellog yng nghalon y graig. Rhoddodd Wil yr arwydd, sŵn a glywir hyd heddiw yng ngororau'r llyn—cri corsiar yn yr hesg.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lfizsrgd7an0nwrvf1l5iamidsspwej
Tudalen:Madam Wen.djvu/47
104
33340
166919
70254
2026-07-06T09:07:59Z
~2026-38244-61
4178
166919
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Yn y man gwelodd olau yn yr agen, a daeth Madam Wen i'r golwg a chanddi lamp yn ei llaw. Gwisgai fantell lwyd, liw'r graig, yn llaes at ei sodlau, a barai iddi edrych yn dalach nag oedd hi.
"Wyt ti wedi gwella, Wil?" meddai hi, wrth osod y lamp ar y fainc garreg sydd yr ochr chwith i'r gell.
Yr oedd Wil ar ofyn gwella o ba beth, pan welodd ei llygaid treiddgar hi megis yn darllen ei fyfyrdodau. Nid oedd arswyd dyn yn y byd arno, ond tawelai yn rhyfedd yn ei gŵydd hi, a bron na ellid dywedyd yr ofnai hefyd. Cawsai ddigon o brofiad o'i hewyllys haearnaidd hi, a gwelsai ei dewrder di-ail ar lawer achlysur; buasai'n dyst o'i phenderfyniad di-droi-yn-ôl gymaint o weithiau nes creu ynddo'r parch mwyaf iddi fel arweinydd i'w hofni ac i dalu ufudd-dod iddi. Hwyrach hefyd y cofiai Wil bob amser fod ei dynged ef ei hun megis ar gledr ei llaw hi, un oedd mor ddysgedig a gwybodus, a'i dylanwad yn fawr. Barnodd mai doeth tewi nes clywed beth arall oedd ganddi hi i'w ofyn.
"Nid oes golwg torri esgyrn arnat," aeth hithau ymlaen, "ond diflas imi oedd clywed amdanoch, İlanciau Siôn Ifan a thithau, yn ffraeo ac yn ymladd noson yr wyl mabsant, ac yn gwneud sôn amdanoch, Y diwedd fydd, ryw dro,"—dywedodd hyn yn bwyllog a chyda phwys,—"fel y dywedais ddengwaith o'r blaen, y daw swyddog y siryf o hyd i ti. Ac yna daw dy hanes allan i gyd o bant i dalar, ac ni fydd neb a all gadw dy ben ar d' ysgwyddau pan ddaw diwrnod crogi ym Miwmaris."
Byddai arswyd crogi ym Miwmaris yn hunllef ar Wil. Cymerodd y cerydd yn ddistaw fel plentyn drwg wedi ei ddal mewn trosedd; ni ddywedodd air. Yn unig meddyliodd mor anodd oedd gwneud y peth lleiaf heb i hynny ddyfod i glyw meistres yr ogof.
Treuliwyd hanner awr i drafod materion ynglŷn â'r llong a'r gêl-fasnach. Wil yn adrodd ac yn rhoddi<noinclude><references/></noinclude>
a5qjnz03p5qsblw6ijqfe8xaubs21g3
Tudalen:Madam Wen.djvu/48
104
33341
166920
70255
2026-07-06T10:50:55Z
~2026-38244-61
4178
166920
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>cyfrif, a hithau'n holi. Yr oedd yn rhaid cael cyfrif manwl o enillion y llong, pob manylion am a gafwyd ac am a dalwyd i bob aelod o'r fintai hefyd. "A ydyw pob un wedi ei fodloni?" gofynnodd iddo ar y diwedd, a chydag ychydig wawd. "A fodlonwyd Robin y Pandy y tro yma?"
"Do, am wn i," atebodd Wil. "Mae pawb yn dawel cyn belled ag y gwn i."
"A fuoch chwi allan ar geffylau un noson? " gofynnodd iddo'n ddirybudd.
"Bu Dic a minnau am dro i'r Borth," atebodd yntau'n amwys. Ond y munud nesaf yr oedd yn hanner edifar ganddo am yr ymgais i'w chamarwain. Gwelodd wg yn tywyllu ei hwyneb, ac aeth i ddyfalu yn frysiog pa un o wib—deithiau ysbeilgar y fintai oedd wedi dyfod i'w chlyw.
"A fu mintai gref ohonoch allan un noson?" ail-ofynnodd yn bwyllog ac yn oeraidd.
"Wel do!" atebodd yntau mewn lled-addefiad, gan bryderu pa un o'r teithiau y byddai orau iddo ei dadlennu.
"A chawsoch ysbail lled fawr?"
Yr oedd hi'n ddyrys arno. Pa un ai helynt y Sais o'r Mwythig, ai ynteu'r cyfarfod â Morys Williams, ynteu'r ymweliad â Phlas Llwyn Derw oedd mewn golwg? Nid oedd Wil wedi bwriadu sôn am yr un o'r tri, oni byddai raid. Ac yn awr wrth addef un trosedd, hwyrach y deuai un arall i'r golwg. Yr oedd yn anodd gwybod pa beth i'w ddywedyd, a hithau'n disgwyl. Atebodd yn gloff, "Dim rhyw lawer iawn."
"Cawsoch ddeugain gini neu well?"
Llamodd ei galon. Yr oedd wedi cael gollyngdod. Yr oedd yn eglur yn awr mai at helynt yswain Cymunod y cyfeiriai. Dyna oedd y swm. Ac felly ni wyddai hi ddim am y daith i Blas Llwyn Derw, nac am bwrs aur y Sais o'r Mwythig. "Yr oedd yno ychydig sylltau dros ddeugain gini," atebodd yn barod.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lenytbnc8fxbtwvb2ng8w3cawxkiszd
Tudalen:Madam Wen.djvu/49
104
33342
166921
166917
2026-07-06T11:15:14Z
~2026-38244-61
4178
166921
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ond ni pharhaodd ei dawelwch yn hir, na'i hunanfeddiant. Yr oedd arglwyddes yr ogof mewn tymer flin. Ac i un nad arferai deimlo'n gartrefol dan drem ei llygaid llym hyd yn oed pan fyddai pethau'n hwylus, dychryn oedd gweled y llygaid hynny yn melltennu dicter.
"Faint o ffordd a ddywedi di sydd oddi yma i Gymunod?" gofynnodd iddo.
"Dwy filltir prin," meddai yntau, fel bachgennyn yn adrodd gwers.
"Fuaset ti'n ystyried perchen Cymunod yn gymydog?"
Teimlai Wil ei bod hi'n chwarae ag ef fel y chwery dyn â'i gi, ond sut ar y ddaear y gallai osgoi ei hateb hi. "Wel, buaswn, am wn i."
"Am wn innau, hefyd, weldi! Ond dywed i mi, ai yn enw Madam Wen yr aethoch chwi allan mor wrol i ymosod ar gymydog, ac i'w ysbeilio?" Y fath sarhad y medrai hi ei roddi mewn brawddeg! Synnai Wil fod modd gwneud hynny mor effeithiol heb na llw na rheg o fath yn y byd.
"Y dyhirod digywilydd i chwi! Dwsin neu ddau ohonoch i ymosod ar un gŵr, a hwnnw'n gymydog tawel! Pa le mae'r rheolau a roddais i chwi pan ymgymerais â'ch noddi? Y cnafon trachwantus i chwi! Hoffwn wybod pa faint o ddaioni a wnaethoch yng nghorff y deufis a aeth heibio; pa sawl cymwynas a wnaed â'r tlawd; sawl tro caredig â neb mewn eisiau.
Ni ddywedodd y lleidr air.
"Yr wyf yn dechrau blino ar y castiau gwirion yma," meddai hi. "Yr ynfydion i chwi, efo'ch mân ladrata a'ch ymgiprys ymysg meddwon. Gwrando! Y tro nesaf y clywaf am ynfydrwydd o'r fath, bydd yna ben ar y fintai a'r fasnach, ac ni wnaf ymhel yn rhagor â chwi. Mi wyddost yn eithaf da mai wedi dy grogi y buaset ti cyn hyn onibai amdanaf fi."
Gwyddai Wil yn dda mai ar ei doethineb a'i gwybod— aeth hi y dibynnai'r gêl—fasnach a llwydd y fintai,<noinclude><references/></noinclude>
j1982disvr1j3nx4gnyvysww5rhs0n5
166922
166921
2026-07-06T11:41:35Z
~2026-38244-61
4178
166922
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ond ni pharhaodd ei dawelwch yn hir, na'i hunanfeddiant. Yr oedd arglwyddes yr ogof mewn tymer flin. Ac i un nad arferai deimlo'n gartrefol dan drem ei llygaid llym hyd yn oed pan fyddai pethau'n hwylus, dychryn oedd gweled y llygaid hynny yn melltennu dicter.
"Faint o ffordd a ddywedi di sydd oddi yma i Gymunod?" gofynnodd iddo.
"Dwy filltir prin," meddai yntau, fel bachgennyn yn adrodd gwers.
"Fuaset ti'n ystyried perchen Cymunod yn gymydog?"
Teimlai Wil ei bod hi'n chwarae ag ef fel y chwery dyn â'i gi, ond sut ar y ddaear y gallai osgoi ei hateb hi. "Wel, buaswn, am wn i."
"Am wn innau, hefyd, weldi! Ond dywed i mi, ai yn enw Madam Wen yr aethoch chwi allan mor wrol i ymosod ar gymydog, ac i'w ysbeilio?" Y fath sarhad y medrai hi ei roddi mewn brawddeg! Synnai Wil fod modd gwneud hynny mor effeithiol heb na llw na rheg o fath yn y byd.
"Y dyhirod digywilydd i chwi! Dwsin neu ddau ohonoch i ymosod ar un gŵr, a hwnnw'n gymydog tawel! Pa le mae'r rheolau a roddais i chwi pan ymgymerais â'ch noddi? Y cnafon trachwantus i chwi! Hoffwn wybod pa faint o ddaioni a wnaethoch yng nghorff y deufis a aeth heibio; pa sawl cymwynas a wnaed â'r tlawd; sawl tro caredig â neb mewn eisiau."
Ni ddywedodd y lleidr air.
"Yr wyf yn dechrau blino ar y castiau gwirion yma," meddai hi. "Yr ynfydion i chwi, efo'ch mân ladrata a'ch ymgiprys ymysg meddwon. Gwrando! Y tro nesaf y clywaf am ynfydrwydd o'r fath, bydd yna ben ar y fintai a'r fasnach, ac ni wnaf ymhel yn rhagor â chwi. Mi wyddost yn eithaf da mai wedi dy grogi y buaset ti cyn hyn onibai amdanaf fi."
Gwyddai Wil yn dda mai ar ei doethineb a'i gwybod— aeth hi y dibynnai'r gêl—fasnach a llwydd y fintai,<noinclude><references/></noinclude>
676m6wj0rr1gwe7u3tlb1a92bxfxfcr
166923
166922
2026-07-06T11:53:36Z
~2026-38244-61
4178
166923
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Ond ni pharhaodd ei dawelwch yn hir, na'i hunanfeddiant. Yr oedd arglwyddes yr ogof mewn tymer flin. Ac i un nad arferai deimlo'n gartrefol dan drem ei llygaid llym hyd yn oed pan fyddai pethau'n hwylus, dychryn oedd gweled y llygaid hynny yn melltennu dicter.
"Faint o ffordd a ddywedi di sydd oddi yma i Gymunod?" gofynnodd iddo.
"Dwy filltir prin," meddai yntau, fel bachgennyn yn adrodd gwers.
"Fuaset ti'n ystyried perchen Cymunod yn gymydog?"
Teimlai Wil ei bod hi'n chwarae ag ef fel y chwery dyn â'i gi, ond sut ar y ddaear y gallai osgoi ei hateb hi. "Wel, buaswn, am wn i."
"Am wn innau, hefyd, weldi! Ond dywed i mi, ai yn enw Madam Wen yr aethoch chwi allan mor wrol i ymosod ar gymydog, ac i'w ysbeilio?" Y fath sarhad y medrai hi ei roddi mewn brawddeg! Synnai Wil fod modd gwneud hynny mor effeithiol heb na llw na rheg o fath yn y byd.
"Y dyhirod digywilydd i chwi! Dwsin neu ddau ohonoch i ymosod ar un gŵr, a hwnnw'n gymydog tawel! Pa le mae'r rheolau a roddais i chwi pan ymgymerais â'ch noddi? Y cnafon trachwantus i chwi! Hoffwn wybod pa faint o ddaioni a wnaethoch yng nghorff y deufis a aeth heibio; pa sawl cymwynas a wnaed â'r tlawd; sawl tro caredig â neb mewn eisiau."
Ni ddywedodd y lleidr air.
"Yr wyf yn dechrau blino ar y castiau gwirion yma," meddai hi. "Yr ynfydion i chwi, efo'ch mân ladrata a'ch ymgiprys ymysg meddwon. Gwrando! Y tro nesaf y clywaf am ynfydrwydd o'r fath, bydd yna ben ar y fintai a'r fasnach, ac ni wnaf ymhel yn rhagor â chwi. Mi wyddost yn eithaf da mai wedi dy grogi y buaset ti cyn hyn onibai amdanaf fi."
Gwyddai Wil yn dda mai ar ei doethineb a'i gwybodaeth hi y dibynnai'r gêl—fasnach a llwydd y fintai,<noinclude><references/></noinclude>
2refoodjfcky0gyz188xmpbrgxbongx