Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.9
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/50
104
33343
166924
70257
2026-07-06T12:08:25Z
~2026-38244-61
4178
166924
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac ofnai rhag i'r trychineb a fygythiai hi ddigwydd iddo. Gwyddai hefyd fod ei ddiogelwch ef ei hun yn fwy sicr ond ei chael hi wrth gefn. A gwyddai pawb ohonynt nad oedd un aelod o'r fintai a fuasai'n dilyn Wil hanner cam er ei fwyn ei hun, ond bod eu hymddiried ynddi hi yn drwyadl. Yr oedd ei hawdurdod hi yn bendant, ac nid oedd dim i'w wneud yn awr ond derbyn y cerydd a'r dannod yn ddistaw, a thalu ufudd-dod.
"Pa le mae'r arian?" gofynnodd iddo.
"Rhannwyd hwynt yn deg y noson honno." Chwarddodd hithau mewn gwawd. "Yn deg, ai do? Anrhydedd lladron, aie? Gwrando! Bwriadaf i'r gŵr a'u piau eu cael yn ôl bob hatling.
Syrthiodd wynepryd Wil wrth glywed hynny, a dechreuodd hel esgusion. Ond ni wrandawai hi.
"Rhaid eu cael, ac am hynny dos di ar unwaith i'th gêlfan dy hun, a thyrd â deugain gini i mi, a gofala mai yn ysgrepan ledr yr yswain y dodi hwynt. Yfory, cei ymweled â'th lanciau ufudd, a gweld pa faint o anrhydedd lladron sydd yn aros ynddynt. Cawn weld a fydd Robin y Pandy yn fodlon i ymwadu er dy fwyn, a rhoi yn ôl y gyfran a dderbyniodd ef."
Daeth golwg hyll i wyneb Wil, ond rhaid oedd mynd a gwneuthur fel y gorchmynnid. Aeth tua'r bwthyn gan regi'n enbyd.
<big><big><big><big>{{***|5}}</big></big></big></big>
Bychan a wyddai yswain Cymunod bod cymaint o sôn amdano mewn lle mor anhebyg a'r ogof y noson honno, a phell o'i feddwl ar y pryd oedd yr ysgrepan golledig a lladron Madam Wen. Yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau tra gwahanol. Y bore wedi'r daith dros y Penmaen yng nghwmni Einir Wyn, cododd Morys yn gynnar, a'i awydd am ei gweled yn fawr, a'i serch ar dân. Yr oedd wedi myfyrio llawer am yr addefiad rhyfedd a wnaethai hi, ac wedi penderfynu ceisio'i pherswadio i anghofio'i hadduned, a myned i Fôn gydag ef i fwynhau tawelwch cartref cysurus.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
t37soyz041713t22zqgiyvllhlqfvlh
166925
166924
2026-07-06T12:10:08Z
~2026-38244-61
4178
166925
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac ofnai rhag i'r trychineb a fygythiai hi ddigwydd iddo. Gwyddai hefyd fod ei ddiogelwch ef ei hun yn fwy sicr ond ei chael hi wrth gefn. A gwyddai pawb ohonynt nad oedd un aelod o'r fintai a fuasai'n dilyn Wil hanner cam er ei fwyn ei hun, ond bod eu hymddiried ynddi hi yn drwyadl. Yr oedd ei hawdurdod hi yn bendant, ac nid oedd dim i'w wneud yn awr ond derbyn y cerydd a'r dannod yn ddistaw, a thalu ufudd-dod.
"Pa le mae'r arian?" gofynnodd iddo.
"Rhannwyd hwynt yn deg y noson honno."
Chwarddodd hithau mewn gwawd. "Yn deg, ai do? Anrhydedd lladron, aie? Gwrando! Bwriadaf i'r gŵr a'u piau eu cael yn ôl bob hatling.
Syrthiodd wynepryd Wil wrth glywed hynny, a dechreuodd hel esgusion. Ond ni wrandawai hi.
"Rhaid eu cael, ac am hynny dos di ar unwaith i'th gêlfan dy hun, a thyrd â deugain gini i mi, a gofala mai yn ysgrepan ledr yr yswain y dodi hwynt. Yfory, cei ymweled â'th lanciau ufudd, a gweld pa faint o anrhydedd lladron sydd yn aros ynddynt. Cawn weld a fydd Robin y Pandy yn fodlon i ymwadu er dy fwyn, a rhoi yn ôl y gyfran a dderbyniodd ef."
Daeth golwg hyll i wyneb Wil, ond rhaid oedd mynd a gwneuthur fel y gorchmynnid. Aeth tua'r bwthyn gan regi'n enbyd.
<big><big><big><big>{{***|5}}</big></big></big></big>
Bychan a wyddai yswain Cymunod bod cymaint o sôn amdano mewn lle mor anhebyg a'r ogof y noson honno, a phell o'i feddwl ar y pryd oedd yr ysgrepan golledig a lladron Madam Wen. Yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau tra gwahanol. Y bore wedi'r daith dros y Penmaen yng nghwmni Einir Wyn, cododd Morys yn gynnar, a'i awydd am ei gweled yn fawr, a'i serch ar dân. Yr oedd wedi myfyrio llawer am yr addefiad rhyfedd a wnaethai hi, ac wedi penderfynu ceisio'i pherswadio i anghofio'i hadduned, a myned i Fôn gydag ef i fwynhau tawelwch cartref cysurus.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s8afv1bpo0tehwjkg1oz1ifwyjtikv1
166926
166925
2026-07-06T12:13:30Z
~2026-38244-61
4178
166926
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac ofnai rhag i'r trychineb a fygythiai hi ddigwydd iddo. Gwyddai hefyd fod ei ddiogelwch ef ei hun yn fwy sicr ond ei chael hi wrth gefn. A gwyddai pawb ohonynt nad oedd un aelod o'r fintai a fuasai'n dilyn Wil hanner cam er ei fwyn ei hun, ond bod eu hymddiried ynddi hi yn drwyadl. Yr oedd ei hawdurdod hi yn bendant, ac nid oedd dim i'w wneud yn awr ond derbyn y cerydd a'r dannod yn ddistaw, a thalu ufudd-dod.
"Pa le mae'r arian?" gofynnodd iddo.
"Rhannwyd hwynt yn deg y noson honno."
Chwarddodd hithau mewn gwawd. "Yn deg, ai do? Anrhydedd lladron, aie? Gwrando! Bwriadaf i'r gŵr a'u piau eu cael yn ôl bob hatling."
Syrthiodd wynepryd Wil wrth glywed hynny, a dechreuodd hel esgusion. Ond ni wrandawai hi.
"Rhaid eu cael, ac am hynny dos di ar unwaith i'th gêlfan dy hun, a thyrd â deugain gini i mi, a gofala mai yn ysgrepan ledr yr yswain y dodi hwynt. Yfory, cei ymweled â'th lanciau ufudd, a gweld pa faint o anrhydedd lladron sydd yn aros ynddynt. Cawn weld a fydd Robin y Pandy yn fodlon i ymwadu er dy fwyn, a rhoi yn ôl y gyfran a dderbyniodd ef."
Daeth golwg hyll i wyneb Wil, ond rhaid oedd mynd a gwneuthur fel y gorchmynnid. Aeth tua'r bwthyn gan regi'n enbyd.
<big><big><big><big>{{***|5}}</big></big></big></big>
Bychan a wyddai yswain Cymunod bod cymaint o sôn amdano mewn lle mor anhebyg a'r ogof y noson honno, a phell o'i feddwl ar y pryd oedd yr ysgrepan golledig a lladron Madam Wen. Yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau tra gwahanol. Y bore wedi'r daith dros y Penmaen yng nghwmni Einir Wyn, cododd Morys yn gynnar, a'i awydd am ei gweled yn fawr, a'i serch ar dân. Yr oedd wedi myfyrio llawer am yr addefiad rhyfedd a wnaethai hi, ac wedi penderfynu ceisio'i pherswadio i anghofio'i hadduned, a myned i Fôn gydag ef i fwynhau tawelwch cartref cysurus.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
b3jqy5lcknam5vqj13aiptijvc8zqcv
Tudalen:Madam Wen.djvu/51
104
33344
166927
75976
2026-07-07T09:24:12Z
~2026-38512-07
4181
166927
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Cododd yn gynnar, gan weled pob munud yn awr. Ond er cynhared oedd, yr oedd yn rhy ddiweddar. Yr oedd Éinir wedi codi cyn dydd, a chyn syflyd o'r un ymwelydd arall, wedi cychwyn i'w thaith heb ddywedyd wrth neb i ble.
"Peidiwch â synnu dim," meddai Syr Robert. "Dyna'i hanes hi erioed. Yma heddiw, ac yfory ni ŵyr neb ym mha le. Dichon na chawn air amdani eto am ddeufis neu dri. Yna daw yn ôl o'i chrwydriadau, mor llawn ag erioed o nwyf a hawddgarwch, a phawb yn ymryson rhoddi croeso iddi."
Melys iawn i glust Morys oedd clywed geiriau cynnes amdani, ond ychydig o fwyniant pellach oedd iddo yn y Penrhyn wedi ei cholli. Gwnaeth esgus drannoeth i ddychwelyd adref.
Da oedd ganddo gael tawelwch ei ystafell gysurus i ail-fyw, mewn dychymyg, y noswaith flaenorol; i atgoffa yr hyn a ddywedodd hi, ac i ail-bwyso pob awgrymiad o'i heiddo. Ar hyn y rhedai ei feddwl pan gurodd Nanni yn y drws, gan ofyn i'w meistr a oedd arno eisiau rhywbeth yn ychwaneg cyn i'r morynion ymneilltuo. Gwelodd yntau ei bod wedi hwyrhau. Cododd ar unwaith a goleuodd gannwyll, ac aeth i fyny'r grisiau culion.
Ystafell isel, hir, oedd ei ystafell wely, ac iddi ddau ddrws, un ym mhob pen. Pan agorodd Morys un drws, a channwyll yn ei law, dychmygodd weled yn sefyll yn y drws arall rywun ar lun merch landeg luniaidd, mewn gwisg wen o'i phen i'w thraed. Rhwbiodd ei lygaid ac ail edrychodd, ond erbyn hynny ni welai ddim ond drws caeedig.
Yr oedd yn anodd ganddo gredu mai dychmygu a wnaeth. Haws oedd credu mai drychiolaeth a welsai. Daeth ofn arno, rhyw fath o ofn yr annaearol, ac mewn tipyn o gryndod y cerddodd at y drws ac yr agorodd ef yn araf.
Er clustfeinio a syllu'n hir ni chlywodd ac ni welodd ddim ymhellach. Yr oedd y morynion i gyd i lawr<noinclude><references/></noinclude>
2w4e5zdf4xhob3uhogm7kco4axv145c