Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.10
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/54
104
33347
166932
75979
2026-07-08T12:28:28Z
~2026-38889-08
4183
166932
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>llong "y gŵr o Fryste" a gaed, er y caed cyfrolau am bethau eraill amherthnasol.
Y noson ddilynol, a hithau'n hwyr, a Morys fel arfer ar grwydr, daeth i bentref Crigyll, ar fin y môr, a'i ffordd adref oddi yno yn un arw ac anhygyrch. Wedi rhydio'r afon, yn lle cymryd y llwybr unionaf adref, cyfeiriodd am afon Cymyran, lle gorweddai'r llong ryw ddwy filltir yn fwy i'r gorllewin.
Marchogai'n hamddenol heb feddwl fawr fod neb ond ef ei hunan yn ddigon segur i fod mewn lle o'r fath ar gyfer hanner nos. Ond yng nghyrrau Llanfair Triffwll, lle 'roedd y llwybr wylltaf, cafodd ddeffroad chwyrn o'i freuddwyd cysurus. Yn ddiarwybod, daeth ar draws ymguddfan rhai eraill. Wrth olau prin y lleuad mewn wybren gymylog, gwelodd ddau neu dri o wŷr yn neidio o'u llechfan yng nghysgod llwyn.
Mewn pant y gorweddent, ac yr oedd Lewys Ddu ar y llethr yn mynd i lawr cyn i Morys weld y dynion. Rhuthrasant i'w gyfarfod, gan neidio i'r ffrwyn heb air o gyfarch na rhybudd. Gerllaw yn rhwym wrth goeden eithin safai tri o feirch. Disgynnodd Morys ar frys, yn barod i ymladd am ei ryddid os oedd rhaid, a chan dybied ar y cyntaf mai deiliaid Wil Llanfihangel oedd yno, yn teimlo'n falch o'r cyfarfyddiad. Gosododd law drom ar ysgwydd un o'r gwŷr, a theimlodd hwnnw fel plentyn drwg ar dderbyn cerydd.
"Pwy sydd yma, a pha beth a fynnwch chwi â mi?" gofynnodd Morys.
Wrth glywed ei gyfarchiad, a sylwi ar ei ddull a'i ddiwyg, y naill fel y llall yn wahanol i'r hyn a ddisgwylient, gwelodd y gwŷr eu camgymeriad.
Sibrydodd un, "Gwŷr y brenin ydym ni, a chredaf mai gŵr ydych chwithau sydd yn parchu deddf?"
"Hyd y gallaf," atebodd yntau, gan ollwng ei afael ar ysgwydd y dyn. "Beth sydd ar ddigwydd yn y fro aflonydd yma heno?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
egz817t3eot6hs350z0diybe3ixd6vr
Tudalen:Madam Wen.djvu/55
104
33348
166933
75980
2026-07-08T12:42:03Z
~2026-38889-08
4183
166933
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Edrychodd y swyddog ar faintioli anghyffredin yr yswain gyda gwên o foddhad. "Ai nid gŵr dieithr ydych chwi yn y cylch yma, syr?" gofynnodd.
"Lled newydd yma," meddai yntau.
"Ac felly heb fod yn gwybod am y gêl-fasnach sydd ar hyd y glannau yma?"
"Heb wybod ond ychydig iawn amdani."
Mewn ymddiddan pellach, a phawb yn sibrwd, daeth yr yswain i ddeall beth oedd neges y gwŷr dieithr yn y lle ar awr mor hwyr. Daeth i ddeall hefyd mai ar ysgwyddau Madam Wen y rhoddid y cyfrifoldeb am hyn yn ogystal ag am lawer o ysbeilio ac anrheithio ar hyd a lled y wlad.
"Mae'r lle mor ffafriol i'w chynllwynion, a chyfrwysdra'r lladron mor fawr," eglurai'r swyddog, fel y maent yn medru herio gwaethaf yr awdurdodau ers blynyddoedd."
"Hawdd gweled hynny," meddai Morys, "ond beth yn arbennig sydd ar ddigwydd heno?
"Mae gennym reswm dros gredu y bydd yma ymgais heno i redeg nwyddau," oedd yr atebiad.
"Yr oeddym yn disgwyl mwy o'n dynion i'n cynorthwyo, ond un ai maent wedi colli eu ffordd neu wedi cyfarfod rhwystr."
"Y mae fy ngwasanaeth i at eich galwad," medda Morys, a diolchodd y swyddog iddo.
Ymhen rhyw hanner awr clywsant drwst un yn dynesu yn frysiog drwy'r prysglwyni gerllaw. Rhoddwyd arwydd, ac atebwyd. Un o'r cwmni oedd hwn, wedi bod yn ysbio ar symudiadau'r smyglwyr tua glan y môr.
Yr oedd wedi rhedeg, ac meddai cyn llawn gyrraedd y fan, "Y maent ar gychwyn. Gwelais olau o gwmpas y Pandy . . . .
Tawodd wrth weled dyn dieithr yn eu mysg. Ond meddai un o'r lleill, Cyfaill ydyw'r gŵr yma, ac yn barod i'n cynorthwyo."
Ar hynny ychwanegodd yntau, "Ni allant fod ymhell erbyn hyn."
"Cwmni mawr?" gofynnodd un.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ffm59gb58hu2hs53vfmw5lsvl715f9j
166934
166933
2026-07-09T08:01:37Z
~2026-38871-54
4184
166934
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Edrychodd y swyddog ar faintioli anghyffredin yr yswain gyda gwên o foddhad. "Ai nid gŵr dieithr ydych chwi yn y cylch yma, syr?" gofynnodd.
"Lled newydd yma," meddai yntau.
"Ac felly heb fod yn gwybod am y gêl-fasnach sydd ar hyd y glannau yma?"
"Heb wybod ond ychydig iawn amdani."
Mewn ymddiddan pellach, a phawb yn sibrwd, daeth yr yswain i ddeall beth oedd neges y gwŷr dieithr yn y lle ar awr mor hwyr. Daeth i ddeall hefyd mai ar ysgwyddau Madam Wen y rhoddid y cyfrifoldeb am hyn yn ogystal ag am lawer o ysbeilio ac anrheithio ar hyd a lled y wlad.
"Mae'r lle mor ffafriol i'w chynllwynion, a chyfrwysdra'r lladron mor fawr," eglurai'r swyddog, "fel y maent yn medru herio gwaethaf yr awdurdodau ers blynyddoedd."
"Hawdd gweled hynny," meddai Morys, "ond beth yn arbennig sydd ar ddigwydd heno?"

2axmcqs2aq7ty06uhedrk7miryocb4b
166935
166934
2026-07-09T08:36:32Z

Ymhen rhyw hanner awr clywsant drwst un yn dynesu yn frysiog drwy'r prysglwyni gerllaw. Rhoddwyd arwydd, ac atebwyd. Un o'r cwmni oedd hwn, wedi bod yn ysbio ar symudiadau'r smyglwyr tua glan y môr. Yr oedd wedi rhedeg, ac meddai cyn llawn gyrraedd y fan, "Y maent ar gychwyn. Gwelais olau o gwmpas y Pandy . . . . "
Tawodd wrth weled dyn dieithr yn eu mysg. Ond meddai un o'r lleill, "Cyfaill ydyw'r gŵr yma, ac yn barod i'n cynorthwyo."
Ar hynny ychwanegodd yntau, "Ni allant fod ymhell erbyn hyn."
"Cwmni mawr?" gofynnodd un.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pox4f8rz2l6eorkt5b6bvg6evy6l9z4
Tudalen:Madam Wen.djvu/56
104
33349
166936
75981
2026-07-09T10:07:27Z
~2026-38900-76
4185
166936
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Ni wn i faint mewn nifer. Ond tybiaf fod yno ddeuddeg o ferlynod."
Yn frysiog trefnwyd pa fodd i gyfarfod y smyglwyr. Ymwasgarodd mintai fechan deddf a threfn, ac aethant un yma ac un acw i aros dyfodiad y lladron. Yr oedd gan y pedwar swyddog geffylau oedd wedi eu dysgu i'r gwaith, ac yr oedd Lewys Ddu yntau yn barod i wneud unrhyw beth ar orchymyn ei feistr. Gorwedd yn llonydd oedd yr unig wasanaeth ofynnid ar hyn o bryd. O fewn ychydig amser diflannodd pob un i'w guddfan, heb yr arwydd lleiaf yn aros fod yno neb ar y cyffiniau. Hwyl wrth fodd Morys Williams ydoedd, a theimlai ryw gosfa yn ei freichiau wrth feddwl am gael Wil Llanfihangel i'w afael unwaith eto, a thalu dyled codwm Lewys yn y fargen.
Ni bu rhaid disgwyl yn hir. Mor ddistaw â llygod, mân-gamai'r merlynod i fyny ac i lawr ar wyneb anwastad y tywyn, pob merlyn dan ei faich. Ar gefn pob un yr oedd dwy sach, yn hanner llawn o wellt, un ar bob ochr. Ar y sachau gorweddai dwy gasgen fechan, un o bobtu, yn llawn gwirod neu win, a rhaff yn cydio'r naill yn y llall. Ymhlith y merlynod cerddai naw neu ddeg o ddynion, tra y gwyliai tri neu bedwar eraill yma a thraw. Ac yr oedd yno reol bendant nad oedd neb i yngan gair.
Llawer taith fel hon a wnaeth Wil Llanfihangel o dro i dro yn ddiogel o lan y môr i Dafarn y Cwch, a llawer o arian a ddaeth i goffrau'r fintai mewn canlyniad. Yr oedd mor ddeheuig wrth y gorchwyl, fel mai wedi i bopeth fynd drosodd y deuai'r swyddogion i'r fan fel rheol. Ond y tro hwn cafodd Wil ddychryn.
Yr oedd rhai o'r gwylwyr ymhell ar y blaen, a rhai yn ôl yn gwylied y traeth. Nid oedd gan y lladron y ddrwgdybiaeth leiaf nes gweled yn codi yn ddisymwth, megis o'r ddaear, wŷr ar geffylau, gan ruthro i ganol y merlynod dychrynedig. Yn eu ffwdan cyntaf ni wyddai'r lladron ar ba law i droi, na pha beth i'w wneud, a chyn iddynt gael hamdden i wrthwynebu,<noinclude><references/></noinclude>
exu4w1kqtswz10wlarwp0gul5jcpvc8
Tudalen:Madam Wen.djvu/57
104
33350
166937
75982
2026-07-09T11:16:40Z
~2026-38900-76
4185
166937
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>yr oedd y swyddogion wedi dadlwytho ar drawiad fwy na hanner y merlynod. Yn eu dychryn, wedi cael ymwared o'u beichiau, dechreuodd y rhai hynny garlamu ymaith.
Ond yn fuan gwelodd y lladron mai deg yn erbyn pump oedd yno, ac ymwrolwyd, ac aeth yn ymrafael. Tynnwyd dau o wŷr y cyllid oddi ar eu meirch, a disgynnodd y lleill ar unwaith. Dyrnau noethion oedd yr unig arfau, a gwnaed defnydd campus o'r rheini o'r ddeutu.
"Ar y fan i, Wil," gwaeddodd un o feibion Siôn Ifan, "mae'r mawr Cymunod yma!
Bu agos i hynny a thorri calon Wil cyn dechrau. Ond nid felly lanciau'r Dafarn. Aeth y tri rhagblaen i ymosod ar Morys fel un gwerth eu sylw.
Trawodd Wil un o'r swyddogion nes oedd yn llonydd ar y ddaear, a gadawyd ef yno yn tuchan. Cafodd un arall ergyd yn ei lygad gan Robin y Pandy a'i gwnaeth yn analluog i roddi llawer mwy o help y noson honno.
Yr oedd Morys yn dal ei dir. Fel y poethai'r frwydr, tawelaf yn y byd y teimlai. Blinodd bechgyn y Dafarn ar ymgyrch mor unochrog, a phan ddaeth Robin y Pandy ymlaen, llithrodd un neu ddau ohonynt oddi ar y ffordd i roddi cyfle i Robin i drin yr yswain. Ond am Wil y disgwyliai Morys, ac o'r diwedd daeth y cyfle.
Yr oedd Robin yn ddyn mawr corffol, y mwyaf yn y fintai o ddigon, a phan droes at yr yswain daeth Wil yn ei ysgil. Derbyniodd Morys ddyrnod gyntaf Robin yn ddigon di-daro, a'r funud nesaf ymsaethodd ei fraich yntau allan fel hwrdd—beiriant nerthol, ac aeth Wil i lawr fel boncyff o bren. Felly yr ad-dalwyd codwm Lewys Ddu, meddyliai Morys. Yna daeth tro Robin y Pandy, ac wrth weled y ddau yn mynd at y gwaith o ddifrif, safodd y lleill i weled sut y troai'r fantol rhwng dau mor gyhyrog. Ond ar ddechrau'r ymdrech daeth rhywbeth i rwystro. Gwelodd Morys<noinclude><references/></noinclude>
9xcr3o4i4t5odep7jo1a0wznbh52141