Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.10 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/57 104 33350 166938 166937 2026-07-09T12:20:35Z ~2026-38900-76 4185 166938 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>yr oedd y swyddogion wedi dadlwytho ar drawiad fwy na hanner y merlynod. Yn eu dychryn, wedi cael ymwared o'u beichiau, dechreuodd y rhai hynny garlamu ymaith. Ond yn fuan gwelodd y lladron mai deg yn erbyn pump oedd yno, ac ymwrolwyd, ac aeth yn ymrafael. Tynnwyd dau o wŷr y cyllid oddi ar eu meirch, a disgynnodd y lleill ar unwaith. Dyrnau noethion oedd yr unig arfau, a gwnaed defnydd campus o'r rheini o'r ddeutu. "Ar y fan i, Wil," gwaeddodd un o feibion Siôn Ifan, "mae'r mawr Cymunod yma!" Bu agos i hynny a thorri calon Wil cyn dechrau. Ond nid felly lanciau'r Dafarn. Aeth y tri rhagblaen i ymosod ar Morys fel un gwerth eu sylw. Trawodd Wil un o'r swyddogion nes oedd yn llonydd ar y ddaear, a gadawyd ef yno yn tuchan. Cafodd un arall ergyd yn ei lygad gan Robin y Pandy a'i gwnaeth yn analluog i roddi llawer mwy o help y noson honno. Yr oedd Morys yn dal ei dir. Fel y poethai'r frwydr, tawelaf yn y byd y teimlai. Blinodd bechgyn y Dafarn ar ymgyrch mor unochrog, a phan ddaeth Robin y Pandy ymlaen, llithrodd un neu ddau ohonynt oddi ar y ffordd i roddi cyfle i Robin i drin yr yswain. Ond am Wil y disgwyliai Morys, ac o'r diwedd daeth y cyfle. Yr oedd Robin yn ddyn mawr corffol, y mwyaf yn y fintai o ddigon, a phan droes at yr yswain daeth Wil yn ei ysgil. Derbyniodd Morys ddyrnod gyntaf Robin yn ddigon di-daro, a'r funud nesaf ymsaethodd ei fraich yntau allan fel hwrdd—beiriant nerthol, ac aeth Wil i lawr fel boncyff o bren. Felly yr ad-dalwyd codwm Lewys Ddu, meddyliai Morys. Yna daeth tro Robin y Pandy, ac wrth weled y ddau yn mynd at y gwaith o ddifrif, safodd y lleill i weled sut y troai'r fantol rhwng dau mor gyhyrog. Ond ar ddechrau'r ymdrech daeth rhywbeth i rwystro. Gwelodd Morys<noinclude><references/></noinclude> pd7c6wsj1wy3mzx9s0tuaa0cswsrdgk Tudalen:Madam Wen.djvu/58 104 33351 166939 75983 2026-07-09T12:40:11Z ~2026-38900-76 4185 166939 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>y lladron yn cilio'n ôl, ac ef oedd y diwethaf i ddeall y rheswm am hynny. Wedi troi ei ben gwelodd ar ei gyfer un yn myned heibio'n chwim gan farchogaeth yn ysgafn ar geffyl gwyn. Gwaith munud oedd yr hyn a ddilynodd. Ond bu yn ddigon i analluogi yr unig ddau o'r swyddogion oedd ar eu traed. Prin y gwelsant y ceffyl gwyn na'i farchoges deg, heb sôn am y cadach gwyn bradwrus a osodwyd yn ddeheuig am amrantiad dan eu ffroenau. Taflwyd hwynt ar unwaith i ffitiau creulon o duchan a thisian a phesychu, ac ni fedrent weld yr un golwg. Clywodd Morys chwerthiniad ariannaidd perchennog y ceffyl gwyn, cyn clywed sŵn ei enw ei hun ar ei gwefus. "Os myn Morys Williams ddifetha'r fintai, dalied yr arweinydd!" meddai, gan symud ymaith. "Myn anrhydedd dyn! Mi wnaf hynny!" meddai yntau, a neidiodd i'r cyfrwy. Symudai Lewys Ddu gydag aidd, a Morys yn benderfynol o redeg Madam Wen i lawr. Ond ciliai'r ceffyl gwyn o'u blaenau fel lledrith. Drwy y grug gan brin gyffwrdd yr wyneb, drwy lwyni dyrys a thros bonciau, fel adar yn ehedeg. Ond daliai'r ceffyl gwyn i arwain o hyd. I derfynau Maelog, ac yn ôl drwy gorsydd Crigyll a gwaelodion Traffwll, a Lewys Ddu yn diferu o chwys, a Morys ar golli ei dymer. Ond dal i garlamu'n iach a rhwydd a wnâi'r ceffyl gwyn, ac meddai awel y nos mewn gwawd melodaidd, "Mae mwy o ddal ar Madam Wen nag a fuasai neb yn ei feddwl!"' Rhedasant filltiroedd, ac yntau'n hwyrfrydig i ildio. Pan ddaethant i olwg y llyn gwnaeth ymdrech fwy nag o gwbl; a gwyddai Lewys fod galwad o bwys arno. Ond druan o'r ceffyl du, yr oedd wedi mynd i gredu ers meityn mai ymlid y gwynt yr oedd. O'r braidd na chredai ei feistr hefyd mai hunllef oedd yn ei boeni yntau. Daethant at ffermdy bychan Glan y Llyn, ac wrth neidio gwal o gerrig, ryw ddeugain<noinclude><references/></noinclude> tcm1ul5imq5fdlp9qk3pgpbs1movn01 Tudalen:Madam Wen.djvu/59 104 33352 166940 75984 2026-07-10T11:25:04Z ~2026-39248-92 4186 166940 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>llath ar y blaen, aeth y ceffyl gwyn a'i farchoges o'r golwg ar drawiad. Neidiodd Lewys y wal fel aderyn, hwyrach gan ddisgwyl gweld y ceffyl gwyn ar ei arrau yr ochr draw. Ond er mai cae agored oedd yno, nid oedd boban o Madam Wen na'i cheffyl i'w weld yn unman. Edrychodd Morys ar bob llaw. Aeth at y tŷ, ac er mai trymedd nos oedd, chwiliodd bob cornel a thwll ar y cyffiniau. Cododd deulu'r tŷ o'u gwelyau, a mynnodd ddatgan ei syndod iddynt. "Mae llawer wedi cael yr un driniaeth wrth geisio ymlid Madam Wen," meddai gwraig y tŷ. "Gadael llonydd iddi hi fyddai'r gorau," meddai'r gŵr. Trodd Morys ei wyneb mewn siom tuag adref, gan benderfynu gadael swyddogion y brenin, ddwy filltir yn nes i'r môr, i ymdaro trostynt eu hunain orau y gallent. Daeth i'r ffordd mewn lle y rhed afonig fechan dros geunant, ac wrth y pistyll clywodd chwerthiniad nwyfus merch yr ochr draw i'r ffrwd, a thybiodd glywed llais persain yn dywedyd nos dawch. <section begin="ccc"/><section end="ccc"/> <section begin="ddd"/>{{c|VI.}} {{c|HELYNT PANT Y GWEHYDD}} CAEL eu hunain yn unig a diymgeledd a ddarfu i swyddogion dolurus y cyllid ar ddiwedd eu hysgarmes gyda chêl-fasnachwyr Llanfihangel. Da oedd ganddynt gael mynd adref heb ragor o dwrw. Ni buasai waeth iddynt geisio olrhain gwynt y nos i'w orffwysle na cheisio dilyn Wil a'i wŷr i'w cuddfan hwythau. Pan ymddangosodd Madam Wen mor ddisymwth daeth yr ornest i ben, a 'doedd waeth heb na gwingo. Aeth Morys hefyd i ddechrau teimlo mai gwaith difudd oedd erlid arwres yr ogof. Penderfynodd mai doethach fyddai gadael llonydd iddi. Ond ymddengys na fynnai ffawd mo hynny beth bynnag a amcanai <section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude> 49x1d2q28h5cwz43xcequ05eyo5m9mg