Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.11 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/71 104 33365 167264 75996 2026-07-15T07:53:14Z ~2026-39891-99 4190 167264 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>{{c|VII.}} {{c|Y GWR O FRYSTE}} PARODD ysbeiliad beiddgar Pant y Gwehydd gynnwrf dirfawr trwy'r holl ardaloedd cylchynol, er nad oedd y cydymdeimlad â Hywel Rhisiart agos mor ddwys, na hanner mor gyffredin â phetasai yr unrhyw golled wedi syrthio i ran ambell un. Nid y dirgelwch lleiaf ymysg llawer o bethau anesboniadwy ydoedd pa beth a ddaethai o'r gwartheg a'r ceffylau. Bu lliaws o gyfeillion cyfrwysaf Hywel yn dyfalu llawer uwchben y broblem, ond i ddim pwrpas. Y peth nesaf i reswm y daethant ar ei draws ymhlith y dryblith o ddamcaniaethau oedd y ffaith fod gan Madam Wen liaws o gyfeillion yn ymyl, a'u ffyddlondeb iddi yn ddiwyro. Drannoeth wedi'r ystorm, dadebrodd lletywyr Siôn Ifan o'u cwsg a'u hanner llesmair, a gwelwyd hwynt yn rhodiannu yng nghyffiniau'r dafarn heb fawr o ôl ystorm arnynt. Drannoeth hefyd y daeth yr hen dafarnwr i ddeall bod ganddo ar ei aelwyd o leiaf un gŵr a'i hystyriai ei hun yn rhywun. Nid yn unig ystyriai'r Milwriad Sprigg ef ei hun yn rhywun o bwys, ond dangosai yn eglur i bawb ei fod yn disgwyl i eraill gydnabod y pwysigrwydd hwnnw, a thalu gwrogaeth gymesur iddo. Un afrywiog ei dymer oedd y Milwriad, a digiwyd Siôn Ifan droeon mewn amser byr, yn enwedig wrth orfod gwrando ar eiriau ffôl ac annheg o berthynas i ansawdd diodydd Tafarn y Cwch, nwyddau a ystyriai yr hen ŵr uwchlaw gwag gabledd. Dyn uchel ei gloch hefyd oedd y milwr, ac mor ddibarch o'r rhai a ystyriai islaw iddo ag ydoedd o wasaidd yng ngwydd y rhai y gwyddai eu bod uwchlaw iddo. Wedi hynny y gwelodd Sion Ifan hyn. Yr oedd iddo un rhagoriaeth, modd bynnag, yr oedd ganddo arian i dalu ei ffordd, ac am hynny barnodd Siôn Ifan mai ei ddyletswydd ef fel penteulu oedd gwasgu'r glust a bod yn amyneddgar. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o0dyhl7a9qo1fbmjb6bxyuyyhtpezgk 167265 167264 2026-07-15T08:09:52Z ~2026-39979-83 4191 167265 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>{{c|VII.}} {{c|Y GWR O FRYSTE}} PARODD ysbeiliad beiddgar Pant y Gwehydd gynnwrf dirfawr trwy'r holl ardaloedd cylchynol, er nad oedd y cydymdeimlad â Hywel Rhisiart agos mor ddwys, na hanner mor gyffredin â phetasai yr unrhyw golled wedi syrthio i ran ambell un. Nid y dirgelwch lleiaf ymysg llawer o bethau anesboniadwy ydoedd pa beth a ddaethai o'r gwartheg a'r ceffylau. Bu lliaws o gyfeillion cyfrwysaf Hywel yn dyfalu llawer uwchben y broblem, ond i ddim pwrpas. Y peth nesaf i reswm y daethant ar ei draws ymhlith y dryblith o ddamcaniaethau oedd y ffaith fod gan Madam Wen liaws o gyfeillion yn ymyl, a'u ffyddlondeb iddi yn ddiwyro. Drannoeth wedi'r ystorm, dadebrodd lletywyr Siôn Ifan o'u cwsg a'u hanner llesmair, a gwelwyd hwynt yn rhodiannu yng nghyffiniau'r dafarn heb fawr o ôl ystorm arnynt. Drannoeth hefyd y daeth yr hen dafarnwr i ddeall bod ganddo ar ei aelwyd o leiaf un gŵr a'i hystyriai ei hun yn rhywun. Nid yn unig ystyriai'r Milwriad Sprigg ef ei hun yn rhywun o bwys, ond dangosai yn eglur i bawb ei fod yn disgwyl i eraill gydnabod y pwysigrwydd hwnnw, a thalu gwrogaeth gymesur iddo. Un afrywiog ei dymer oedd y Milwriad, a digiwyd Siôn Ifan droeon mewn amser byr, yn enwedig wrth orfod gwrando ar eiriau ffôl ac annheg o berthynas i ansawdd diodydd Tafarn y Cwch, nwyddau a ystyriai yr hen ŵr uwchlaw gwag gabledd. Dyn uchel ei gloch hefyd oedd y milwr, ac mor ddibarch o'r rhai a ystyriai islaw iddo ag ydoedd o wasaidd yng ngwydd y rhai y gwyddai eu bod uwchlaw iddo. Wedi hynny y gwelodd Siôn Ifan hyn. Yr oedd iddo un rhagoriaeth, modd bynnag, yr oedd ganddo arian i dalu ei ffordd, ac am hynny barnodd Siôn Ifan mai ei ddyletswydd ef fel penteulu oedd gwasgu'r glust a bod yn amyneddgar. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> aiu83xocg7tn5ls76gernadnv33vfd8