Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.24 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/313 104 3565 171843 171609 2026-10-24T11:52:14Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171843 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ion y brenhin nid estynent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|22:18|18}} A dywedodd y brenhin wrth Döeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Döeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn ephod lïan. {{angor|22:19|19}} Efe a darawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn wr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ŷch, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf. {{angor|22:20|20}} ¶ Ond un mab i Ahimelech mab, Ahitub, a’i enw Abïathar, a ddïangodd, ac a ffodd ar ol Dafydd. {{angor|22:21|21}} Ac Abïathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|22:22|22}} A dywedodd Dafydd wrth Abïathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan ''oedd'' Döeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur ''marwolaeth'' i holl dylwyth tŷ dy dad di. {{angor|22:23|23}} Aros gyd â mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyd â mi ''y byddi'' di gadwedig. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, wedi ymofyn â’r Arglwydd trwy Abïathar, yn gwaredu Ceilah:'' 7 ''a chwedi i Dduw ddangos iddo ddyfodiad Saul, a bradwriaeth y Ceiliaid, yn dïangc o Ceilah.'' 14 ''Jonathan yn dyfod i Ziph, ac yn ei gysuro ef.'' 19 ''Y Ziphiaid yn dangos i Saul pa le yr oedd efe.'' 25 ''Yntau yn dïangc rhag Saul ym Maon, trwy ddyfod o’r Philistiaid i’r wlad:'' 29 ''ac yn trigo yn En-gedi.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Yna}} y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceilah; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau. {{angor|23:2|2}} Am hynny y gofynodd Dafydd i’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A âf fi a tharo y Philistiaid hyn? A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo y Philistiaid, ac achub Ceilah. {{angor|23:3|3}} A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Judah: pa faint mwy os awn i Ceilah, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid? {{angor|23:4|4}} Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â’r {{sc|Arglwydd}}. A’r {{sc|Arglwydd}} a’i hattebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceilah; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di. {{angor|23:5|5}} A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceilah, ac a ymladdodd â’r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceilah. {{angor|23:6|6}} A bu, pan ffodd Abïathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceilah, ddwyn o hono ef ephod yn ei law. {{angor|23:7|7}} ¶ A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceilah. A dywedodd Saul, {{sc|Duw}} a’i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys cauwyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau ''iddi''. {{angor|23:8|8}} A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceilah, i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr. {{angor|23:9|9}} ¶ A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef: ac efe a ddywedodd wrth Abïathar yr offeiriad, Dwg yr ephod. {{angor|23:10|10}} Yna y dywedodd Dafydd, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i Ceilah, i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i. {{angor|23:11|11}} A ddyry arglwyddi Ceilah fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, mynega, attolwg, i’th was. A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd, Efe a ddaw i waered. {{angor|23:12|12}} Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceilah fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd, Rhoddant. {{angor|23:13|13}} ¶ Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr, ''y rhai oedd'' ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceilah, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dïangc o Ceilah; ac efe a beidiodd â myned allan. {{angor|23:14|14}} A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhôdd mewn mynydd, yn anialwch Ziph: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd {{sc|Duw}} ef yn ei law ef. {{angor|23:15|15}} A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd ''oedd'' yn anialwch Ziph, mewn coed. {{angor|23:16|16}} A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn {{sc|Nuw}}. {{angor|23:17|17}} Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf attat ti: a Saul fy nhad ''sydd'' yn gwybod hyn hefyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6929usmdfbglg5toox87hny1oryov0w