Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/314
104
3566
171844
171628
2026-10-25T04:46:20Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171844
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|23:18|18}} A hwy ill dau a wnaethant gyfammod ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun.
{{angor|23:19|19}} Yna y daeth y Ziphiaid i fynu at Saul i Gibeah, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyd â ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachilah, yr hwn ''sydd'' o’r tu dehau i’r diffaethwch?
{{angor|23:20|20}} Ac yn awr, O frenhin, tyred i waered yn ol holl ddymuniad dy galon; a ''bydded'' arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenhin.
{{angor|23:21|21}} A dywedodd Saul, Bendigedig ''fyddoch'' chwi gan yr {{sc|Arglwydd}}: canys tosturiasoch wrthyf.
{{angor|23:22|22}} Ewch, attolwg, parottôwch; ''etto'' mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gynniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, ''a'' phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.
{{angor|23:23|23}} Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch attaf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyd â chwi; a os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf am dano ef trwy holl filoedd Judah.
{{angor|23:24|24}} A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Ziph o flaen Saul: ond Dafydd a’i wŷr ''oedd'' yn anialwch Maon, yn y rhos o’r tu dehau i’r diffaethwch.
{{angor|23:25|25}} Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ''ef''. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul ''hynny'', efe a erlidiodd ar ol Dafydd yn anialwch Maon.
{{angor|23:26|26}} A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd, a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd: ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt.
{{angor|23:27|27}} ¶ Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad.
{{angor|23:28|28}} Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ol Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: o herwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hammahlecoth.
{{angor|23:29|29}} ¶ A Dafydd a aeth i fynu oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.
{{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, mewn ogof yn En-gedi, yn torri cwrr mantell Saul, ac yn arbed ei einioes ef;'' 8 ''ac wrth hynny yn dangos ei ddiniweidrwydd.'' 16 ''Saul yn cydnabod â’i fai, ac yn cymmeryd llw gan Dafydd, ac yn ymadael.''}}
{{angor|24:1}} {{uc|A phan}} ddychwelodd Saul oddi ar ol y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi.
{{angor|24:2|2}} Yna y cymmerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd coppa creigiau y geifr gwylltion.
{{angor|24:3|3}} Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno ''yr oedd'' ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorph. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.
{{angor|24:4|4}} A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd ''am'' yr hwn y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwrr y fantell ''oedd'' am Saul yn ddirgel.
{{angor|24:5|5}} Ac wedi hyn calon Dafydd a’i tarawodd ef, o herwydd iddo dorri cwrr ''mantell'' Saul.
{{angor|24:6|6}} Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na atto yr {{sc|Arglwydd}} i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, enneiniog yr {{sc|Arglwydd}}, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid enneiniog yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' efe.
{{angor|24:7|7}} Felly yr attaliodd Dafydd ei wŷr a’r geiriau ''hyn'', ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fynu o’r ogof, ac a aeth i ffordd.
{{angor|24:8|8}} Ac ar ol hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ol Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenhin. A phan edrychodd Saul o’i ol, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tu a’r ddaear, ac a ymgrymmodd.
{{angor|24:9|9}} ¶ A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?
{{angor|24:10|10}} Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r {{sc|Arglwydd}} dy roddi di yn fy llaw i heddyw yn yr ogof: a dywedwyd ''wrthyf'' am dy ladd di; ond ''fy enaid'' a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys enneiniog yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' efe.
{{angor|24:11|11}} Fy nhad hefyd, gwel, ïe, gwel<noinclude><references/></noinclude>
sqllthnp97j0srb0ctdyrf93s9bdcgb