Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.24 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/315 104 3567 171845 171629 2026-10-26T05:56:44Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171845 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>gwrr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwrr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwel nad ''oes'' yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: etto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. {{angor|24:12|12}} Barned yr {{sc|Arglwydd}} rhyngof fi a thithau, a dïaled yr {{sc|Arglwydd}} fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. {{angor|24:13|13}} Megis y dywed yr hen ddïareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. {{angor|24:14|14}} Ar ol pwy y daeth brenhin Israel allan? ar ol pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ol ci marw, ar ol chwannen. {{angor|24:15|15}} Am hynny bydded yr {{sc|Arglwydd}} yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di. {{angor|24:16|16}} ¶ A phan orphenodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di ''yw'' hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. {{angor|24:17|17}} Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach ''wyt'' ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg. {{angor|24:18|18}} A thi a ddangosaist heddyw wneuthur o honot â mi ddaioni: o herwydd rhoddodd yr {{sc|Arglwydd}} fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist. {{angor|24:19|19}} Oblegid os caffai wr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr {{sc|Arglwydd}} a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn. {{angor|24:20|20}} Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrhêir brenhiniaeth Israel yn dy law di. {{angor|24:21|21}} Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r {{sc|Arglwydd}}, na thorri ymaith fy had i ar fy ol, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad. {{angor|24:22|22}} A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fynu i’r amddiffynfa. {{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}} {{bach|1 ''Marwolaeth Samuel.'' 2 ''Dafydd yn Paran yn danfon at Nabal:'' 10 ''a chwedi ei gyffrôi trwy daeogrwydd Nabal, ar fedr ei ddifetha ef.'' 14 ''Abigail yn cael gwybod hynny,'' 18 ''yn cymmeryd anrheg,'' 23 ''a thrwy ei doethineb,'' 32 ''yn dyhuddo Dafydd.'' 36 ''Nabal wedi clywed hynny, yn marw.'' 39 ''Dafydd yn prïodi Abigail ac Ahinoam.'' 44 ''Rhoddi Michal i Phalti.''}} {{angor|25:1}} {{uc|A bu}} farw Samuel; a holl Israel a ymgynnullasant, ac a alarasant am dano ef, ac a’i claddasant ef yn ei dŷ yn Ramah. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran. {{angor|25:2|2}} Ac ''yr oedd'' gwr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gwr ''oedd'' fawr iawn, ac iddo ef ''yr oedd'' tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel. {{angor|25:3|3}} Ac enw y gwr ''oedd'' Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig ''oedd'' yn dda ''ei'' deall, ac yn dêg ''ei'' gwedd: a’r gwr ''oedd'' galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad ''oedd'' efe. {{angor|25:4|4}} ¶ A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. {{angor|25:5|5}} A Dafydd a anfonodd ddeg o langciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llangciau, Cerddwch i fynu i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i. {{angor|25:6|6}} Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw ''mewn llwyddiant, Caffech'' di heddwch, a’th dŷ heddwch, a’r hyn oll ''sydd'' eiddot ti heddwch. {{angor|25:7|7}} Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid ''sydd'' gennyt a fuant gyd â ni, ni wnaethom sarhâd arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisieu iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel. {{angor|25:8|8}} Gofyn i’th langciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llangciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, attolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. {{angor|25:9|9}} Ac wedi dyfod llangciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ol yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant. {{angor|25:10|10}} ¶ A Nabal a attebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy ''yw'' Dafydd? a phwy ''yw'' mab Jesse? llawer sydd o weision heddyw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr. {{angor|25:11|11}} A gymmeraf fi fy mara a’m dwfr, a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’''u'' rhoddi i wŷr nis gwn o ba le ''y maent?'' {{angor|25:12|12}} Felly llangciau Dafydd a droisant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny. {{angor|25:13|13}} A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gledd-<noinclude><references/></noinclude> cx5at6wu8u838ncgagmhkjz54m5za10 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/664 104 4120 171846 7675 2026-10-26T06:03:37Z Tylopous 3717 penodau 171846 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd. 6:6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: 6:7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. 6:8 Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi. 6:9 Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch. 6:10 Brasa galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chac eu llygaid, rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. 6:11 Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd, 6:12 Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad. 6:13 Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Ahaz, pan oedd ofn Resin a Phecah yn ei flino ef, yn cael cysur gan Esaiah.'' 10 ''Ahaz, wedi cael cennad i ddewis argoel, yn ei wrthod; ac yn cael, yn lle arwydd, addewid o Grist.'' 17 ''Prophwydo y daw dïaledd arno ef o Assyria.''}} {{angor|7:1}} {{uc|A bu}} yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfid o Resin brenin Syria, a Pheca mab Rema¬leia, brenin Israel; i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu. 7:2 A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddy¬wedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt. 7:3 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear-jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr: 7:4 A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia: 7:5 Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd, 7:6 Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal. 7:7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Ni saif, ac ni bydd hyn. 7:8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl. 7:9 Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi. 7:10 A’r ARGLWYDD a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd, 7:11 Gofyn i ti arwydd gan yr ARGLWYDD dy DDUW; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd. 7:12 Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr ARGLWYDD. 7:13 A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? 7:14 Am hynny yr ARGLWYDD ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. 7:15 Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da. 7:16 Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a meiddiaist, gan ei dau frenin. 7:17 Yr ARGLWYDD a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria. 7:18 A bydd yn y dydd hwnnw, i’r AR¬GLWYDD chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ixd8iuucm6we0gpzi3x8w684m208b7j