Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.1 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/317 104 3569 171850 171631 2026-10-28T06:00:48Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171850 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|25:35|35}} Yna y cymmerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fynu mewn heddwch i’th dŷ: gwel, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb. {{angor|25:36|36}} ¶ Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, ''yr oedd'' gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenhin: a chalon Nabal ''oedd'' lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore. {{angor|25:37|37}} A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth ''fel'' carreg. {{angor|25:38|38}} Ac ynghylch ''pen'' y deng niwrnod y tarawodd yr {{sc|Arglwydd}} Nabal, fel y bu efe farw. {{angor|25:39|39}} ¶ A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig ''fyddo'' yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhâd i oddi ar law Nabal, ac a attaliodd ei was rhag drwg: canys yr {{sc|Arglwydd}} a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan âg Abigail, am ei chymmeryd hi yn wraig iddo. {{angor|25:40|40}} A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni attat ti, i’th gymmeryd di yn wraig iddo. {{angor|25:41|41}} A hi a gyfododd, ac a ymgrymmodd ar ''ei'' hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd. {{angor|25:42|42}} Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llangcesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ol cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef. {{angor|25:43|43}} A Dafydd a gymmerth Ahinoam o Jezreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef. {{angor|25:44|44}} ¶ A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Laïs, o Alim. {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}} {{bach|1 ''Saul, wedi i’r Ziphiaid ddatguddio Dafydd, yn dyfod i Hachilah yn ei erbyn ef.'' 5 ''Dafydd yn dyfod i’r wersyllfa ac yn rhwystro i Abisai ladd Saul: etto yn cymmeryd ei waywffon ef a’i ddwfr-lestr.'' 13 ''Dafydd yn ceryddu Abner;'' 18 ''ac yn cynghori Saul.'' 21 ''Saul yn cydnabod ei fai.''}} {{angor|26:1}} {{uc|A’r}} Ziphiaid a ddaethant at Saul i Gibeah, gan ddywedyd, Onid ''ydyw'' Dafydd yn llechu ym mryn Hachilah, ar gyfer y diffaethwch? {{angor|26:2|2}} Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Ziph, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gyd âg ef, i geisio Dafydd yn anialwch Ziph. {{angor|26:3|3}} A Saul a wersyllodd ym mryn Hachilah, yr hwn ''sydd'' ar gyfer y diffaethwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ol ef i’r anialwch. {{angor|26:4|4}} Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr. {{angor|26:5|5}} ¶ A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner, tywysog ei lu. A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa, a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef. {{angor|26:6|6}} Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfiah, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyd â mi at Saul i’r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a âf i waered gyd â thi. {{angor|26:7|7}} Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ''ac'' yn cysgu yn y wersyllfa, a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear ''wrth'' ei obennydd ef: ac Abner a’r bobl oedd yn gorwedd o’i amgylch ef. {{angor|26:8|8}} Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, {{sc|Duw}} a roddes heddyw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gâd i mi ei daro ef, attolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis ail-''darawaf'' ef. {{angor|26:9|9}} A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynai ei law yn erbyn enneiniog yr {{sc|Arglwydd}}, ac a fyddai ddïeuog? {{angor|26:10|10}} Dywedodd Dafydd hefyd, ''Fel'' y mae yr {{sc|Arglwydd}} yn fyw, naill ai y {{sc|Arglwydd}} a’i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel: ac a ddifethir. {{angor|26:11|11}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’m cadwo i rhai estyn fy llaw yn erbyn enneiniog yr {{sc|Arglwydd}}: ond yn awr, cymmer, attolwg, y waywffon ''sydd'' wrth ei obennydd ef, a’r llestr dwfr, ac awn ymaith. {{angor|26:12|12}} A Dafydd a gymmerth y wayw-<noinclude><references/></noinclude> hxvpkaywm3kt9mc9kvjgzhep1dju5ue