Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.48.0-wmf.1
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/319
104
3571
171855
171633
2026-10-30T06:56:27Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171855
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Dafydd y’ngwlad y Philistiaid, ''oedd'' flwyddyn a phedwar mis.
{{angor|27:8|8}} ¶ A Dafydd a’i wŷr a aethant i fynu, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gezriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ïe, hyd wlad yr Aipht.
{{angor|27:9|9}} A Dafydd a darawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw wr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis.
{{angor|27:10|10}} Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddyw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu dehau Judah, ac yn erbyn tu dehau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu dehau y Ceneaid.
{{angor|27:11|11}} Ac ni adawsai Dafydd yn fyw wr na gwraig, i ddwyn ''chwedlau'' i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi o honynt i’n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly ''y bydd'' ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe y’ngwlad y Philistiaid.
{{angor|27:12|12}} Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.
{{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}}
{{bach|1 ''Achis yn hyderu ar Dafydd.'' 3 ''Saul wedi difetha y dewiniaid,'' 4 ''yn ei ofn, wedi i Dduw ei wrthod,'' 7 ''yn myned at ddewines:'' 9 ''a honno yn codi i fynu Samuel.'' 15 ''Saul, wrth glwyed ei ddinystr, yn llewygu;'' 21 ''a’r wraig a’i weision yn ei nerthu ef â bwyd.''}}
{{angor|28:1}} {{uc|A’r}} Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynnullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr âi di gyd â mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr.
{{angor|28:2|2}} A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddïau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.
{{angor|28:3|3}} ¶ A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent am dano ef, ac a’i claddasent yn Ramah, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad.
{{angor|28:4|4}} ¶ A’r Philistiaid a ymgynnullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem: a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa.
{{angor|28:5|5}} A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.
{{angor|28:6|6}} A phan ymgynghorodd Saul â’r {{sc|Arglwydd}}, nid attebodd yr {{sc|Arglwydd}} iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy brophwydi.
{{angor|28:7|7}} ¶ Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen yspryd dewiniaeth, fel yr elwyf atti, ac yr ymofynwyf â hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, ''y mae'' gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.
{{angor|28:8|8}} A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau wr gyd âg ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, attolwg, i mi trwy yspryd dewiniaeth, a dwg i fynu attaf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
{{angor|28:9|9}} A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r’ dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?
{{angor|28:10|10}} A Saul a dyngodd wrthi hi i’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, ''Fel mai'' byw yr {{sc|Arglwydd}}, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.
{{angor|28:11|11}} Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fynu attat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fynu.
{{angor|28:12|12}} A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti ''yw'' Saul.
{{angor|28:13|13}} A’r brenhin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear.
{{angor|28:14|14}} Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull ''sydd'' arno ef? A hi a ddywedodd, Gwr hen sydd yn dyfod i fynu, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel ''oedd'' efe, ac efe a ostyngodd ''ei'' wyneb i lawr, ac a ymgrymmodd.
{{angor|28:15|15}} ¶ A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fynu? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a {{sc|Duw}} a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy atteb mwyach, na thrwy law pro-<noinclude><references/></noinclude>
6l8fujbvmv0jb8xe08zosijn3hwn6h0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/665
104
4121
171856
7676
2026-10-30T07:00:57Z
Tylopous
3717
penodau
171856
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:19 A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll.
7:20 Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe.
7:21 A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner-fuwch, a dwy ddafad:
7:22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir.
7:23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd.
7:24 â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad.
7:25 Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Ym Maher-shalal-has-baz y mae efe yn prophwydo y darostyngir Syria ac Israel gan Assyria;'' 5 ''a Judah hefyd am eu hanffyddlondeb:'' 9 ''nas gellir gwrthwynebu barnedigaeth Duw:'' 11 ''y bydd cysur i’r rhai a ofno Dduw.'' 19 ''Trallod blin ar ddelw-addolwyr.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|A’r}} ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni a phin dyn, am Maher-shalalhas-bas.
º2 A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.
º3 A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Galw ei enw ef, Maher-shalalhas-bas.
º4 Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, nea, Fy main, gclud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.
º5 A chwanegodd yr ARGLWYDD lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,
º6 Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:
º7 Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogonant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.
º8 Ie, ti-wy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a & drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.
º9 Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir.
º10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.
º11 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf a llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,
º12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch.
º13 ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi:
º14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagi ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem.
º15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.
º16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
º17 A minnau a ddisgwyliaf am yr AR¬GLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dy Jacob, ac a wyliaf amdano.
º18 Wele fi a’r plant a roddes yr AR¬GLWYDD i mi, yn arwyddiou ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD’y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.
º19 <il A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch a’r swynyddion, ac a’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid a’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw?
º20 At y gyfraith, ac at y dystiotaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hyany sydd am nad oes oleuni ynddynt.
º21 A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan, newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tvwfkq3or52c8ylryhex6hp6nws374d
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/666
104
4122
171857
7677
2026-10-30T07:04:46Z
Tylopous
3717
penodau
171857
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º22 A hwy a edrychant ar y ddaear: ac wele drallod a thywyllwch, niwi cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Pa lawenydd a fydd y’nghanol blinderau, trwy frenhiniaeth a genedigaeth Crist.'' 8 ''Barnedigaethau yn erbyn Israel, am eu balchder,'' 13 ''am eu rhagrith,'' 18 ''ac am eu hanedifeirwch.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Etto}} ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd.
º2 Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rbai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt.
º3 Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail.
º4 Canys drylliaist iau ei faich ef, a Son ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian.
º5 Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân.
º6 Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd.
º7 Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i flangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnbau a barn ac a chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.
º8 Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel.
º9 A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon,
º10 Y priddfeini a syrthiasant, ond a cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd.
º11 Am hynny yr ARGLWYDD a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion efynghyd;
º12 Y Syriaid o’r blaen, a’r Ph’listiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
º13 A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant AR¬GLWYDD y ISuoedd.
º14 Am hynny y tyr yr ARGLWYDD oddi with Israel ben a chynffon, cangen a brwyr-cn, yn yr un dydd.
º15 Yr hcnwr a’r anrhydeddas yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwyddi-efe
yw y gynffon.
º16 Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a Dyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt.
º17 Am hynny nid ymlawenha yr AR¬GLWYDD yn eu gwŷr ieuainc bwy, ac with eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohorynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
º18 Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg.
º19 Gan ddigofaint ARGLWYDD y liuoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd.
º20 Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun:
º21 Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Gwae y rhai trawsion.'' 5 ''Assyria, gwïalen rhagrithwyr, am ei falchder a dorrir.'' 20 ''Yr achubir gweddill o Israel.'' 24 ''Cysuro Israel, trwy addaw iddynt gael eu gwared oddi wrth Assyria.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Gwae}} y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a’r ysgrifenyddion Sydd yn ysgrifennu blinder;
º2 I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
c7lcrzmwh72d7txcppbd7fgmjcozf6p
Tudalen:Madam Wen.djvu/118
104
33436
171853
76114
2026-10-29T15:53:30Z
~2026-57706-32
4271
171853
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mi ŵyr Abel yn burion beth y mae o 'n ei wneud," meddai un oedd yn burach i'w feistr na'r rhelyw o'r dyhirod. Ond nid oedd yno neb a ategai hwnnw, er nad oedd ychwaith gymaint ag un ohonynt oedd yn ddigon diofn ac annibynnol i'w groesi yn agored.
Dechreuwyd craffu a synnu pan welwyd y llong las fel pe'n symud draw, a'r pellter rhwng y ddwy yn araf ledu. Ond nid oedd y bwriad yn hollol eglur eto. Rhoddasant hamdden i Huw Bifan i drwsio hwyl a dyfod a'i long o gwmpas, os mai dyna oedd yr amcan. Ond, a dywedyd y gwir, aeth un neu ddau craff a drwgdybus ar fwrdd y ''Certain Death'' i ddechrau amau yn awr a oedd popeth yn iawn. James How, un arall o ddyhirod y Capten Kidd, oedd y cyntaf i ganfod pa beth oedd yn mynd ymlaen. Ond tewi a wnaeth ef ar hynny o bryd.
Casglu nerth yr oedd y Wennol dan lawn hwyliau, a chyn hir daeth yn amlwg i bawb mai dianc yr oedd. Rhyfedd mor amrywiol oedd y teimladau a enynnai hynny ym mynwesau'r môr-ladron. Rhoddodd yr is-lywydd orchymyn i godi hwyliau ac ymlid. Rhedwyd am hanner awr heb fantais amlwg i neb. Safai Madam Wen ar ddec y Wennol a'i hwyneb tua'r ymlidydd. Am hanner awr bryderus ni feiddiai neb ddywedyd gair wrthi.
O dipyn i beth daeth y lladron i gywir farnu'r sefyllfa. James How, gyda gair cyfrwys yma ac acw, a agorodd eu llygaid. "Beidio a bod Abel yn garcharor?"
"Yr wyt ti wedi taro'r hoelen ar ei phen, James," meddai un arall. "Dyna iti beth sy wedi digwydd!" Ac ymlaen a'r Lleidr mewn ymlid.
"Mae Abel wedi taro ar ei well y tro yma," meddai un, gan deimlo'n hyfach wrth feddwl am sefyllfa'r capten ar hynny o bryd. A chafodd ddau neu dri i gydweld ag ef yn rhwydd. Gwrandawodd James How yntau ar hynny yn ddeallgar, ac ymhen ychydig clywodd fwy i'r un perwyl, ond disgwyliodd am ei gyfle yn gyfrwysgall.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
720yuu41e0zsdmpln7bqw7edo7cfrct
Tudalen:Madam Wen.djvu/119
104
33437
171854
76115
2026-10-29T16:16:03Z
~2026-57706-32
4271
171854
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae mwy o helynt efo'r mymryn llong yna nag ydyw hi o werth," oedd grwgnach un arall, un na fuasai yn cymryd y byd a dywedyd hynny petasai Abel ar y bwrdd. Ond yr oedd Abel erbyn hyn yn y ddalfa, ac nid ychydig o'i gydforwyr yn gobeithio mai mewn dalfa y parhai.
"Ofnaf na fedrwn ni mo'i goddiweddyd," meddai James, a chafodd y sylw dderbyniad ffafriol.
"Beth am y capten, ynte?" gofynnai'r mêt, fel pe'n rhoddi her i fradwriaeth. Ond yr oedd yno ugain o ddyhirod yn barod erbyn hyn i chwerthin a choegi wrth sôn am y capten a'i dynged.
"Mae ganddo'r llong—a'r ferch!" meddai James, ac yn y cellwair hwnnw penderfynwyd a seliwyd tynged Abel.
Bu chwarter awr o chwyldroad a pherygl ar fwrdd y ''Certain Death'' cyn darfod trefnu pethau. Ond yn y diwedd dewiswyd James How yn gapten, a rhoddwyd mêt Abel Owen mewn gefynnau, a newidiwyd cwrs yn sydyn am y de a Môr Iwerydd, gan adael i Abel ymdaro drosto'i hun orau y gallai.
Felly'n union yr oedd Madam Wen wedi tybio y buasai'r dyhirod yn gwneud, ac ar sail y dybiaeth honno yr oedd hi wedi gweithredu mewn rhyfyg nid bychan. 'Doedd ryfedd i fanllef o lawenydd esgyn oddi ar fwrdd y Wennol pan welwyd y gelyn yn newid cwrs; banllef o lawenydd ac ar yr un pryd o deyrnged i Madam Wen. Clywodd Abel y sŵn o'i gell islaw, a deallodd yntau mai arwydd ydoedd o oruchafiaeth i wŷr y Wennol. Aeth y ''Certain Death'' o'r golwg yn y pellter cyn newid o'r Wennol ei chyfeiriad, a'r broblem nesaf oedd pa beth i'w wneud â'r carcharor.
"Rhoi rhyw deirawr o seibiant iddo gael oeri tipyn ar ei waed," meddai Huw Bifan yn glaear, a dyna fu.
Pan ddaeth yr amser cyfaddas ymarfogodd Huw Bifan a dau o'i forwyr, ac aethant i ymofyn Abel.<noinclude><references/></noinclude>
6mzwaqtw756q8duhxi7hh8c7fmuunio