Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.48.0-wmf.1
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/321
104
3573
171874
171635
2026-10-31T14:27:45Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171874
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>och yn fore, a phan oleuo i chwi, ewch ymaith.
{{angor|29:11|11}} Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a aethant i fynu i Jezreel.
{{angor|Pennod_30}}{{c|{{uc|Pennod XXX}}.}}
{{bach|1 ''Yr Amaleciaid yn yspeilio Siclag.'' 7 ''Dafydd yn ymofyn â Duw, ac yn cael cysur i’w herlid hwy;'' 11 ''a thrwy waith Aiphtiad, yn cael ei ddwyn at y gelynion, ac yn ennill adref yr holl yspail.'' 22 ''Cyfraith Dafydd am rannu yr yspail yn uniawn rhwng yr ymladdwyr a’r rhai a gadwent y dodrefn.'' 26 ''Efe yn anfon anrhegion i’w gyfeillion.''}}
{{angor|30:1}} {{uc|A phan}} ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y dehau, ac ar Siclag, ac a darawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân.
{{angor|30:2|2}} Caeth-gludasent hefyd y gwragedd ''oedd'' ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasenf ''hwy'' ymaith, ac aethent i’w ffordd.
{{angor|30:3|3}} ¶ Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele ''hi'' wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt ''hefyd'', a’u meibion, a’u merched, a gaeth-gludasid.
{{angor|30:4|4}} Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl ''oedd'' gyd âg ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad ''oedd'' nerth ynddynt i wylo.
{{angor|30:5|5}} Dwy wragedd Dafydd hefyd a gaeth-gludasid, Ahinoam y Jezreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.
{{angor|30:6|6}} A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; o herwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr {{sc|Arglwydd}} ei {{sc|Dduw}}.
{{angor|30:7|7}} A Dafydd a ddywedodd wrth Abïathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, attolwg, yr ephod. Ac Abïathar a ddug yr effod at Dafydd.
{{angor|30:8|8}} A Dafydd a ymofynodd a’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ol y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
{{angor|30:9|9}} Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe channwr ''oedd'' gyd âg ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ol.
{{angor|30:10|10}} A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau càn wr a arhosasant yn ol, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.
{{angor|30:11|11}} ¶ A hwy a gawsant Aipht-ddyn yn y maes, ac a’i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwyttaodd; a hwy a’i dïodasant ef â dwfr.
{{angor|30:12|12}} A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp ''o resin:'' ac efe a fwyttaodd, a’i yspryd a ddychwelodd atto: canys ni fwyttasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.
{{angor|30:13|13}} A Dafydd a ddywedodd wrtho, ''Gwas'' i bwy ''wyt'' ti? ac o ba le ''y daethost'' ti? Ac efe a ddywedodd, Llangc o’r Aipht ''ydwyf'' fi, gwas i wr o Amalec; a’m meistr a’m gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.
{{angor|30:14|14}} Nyni a ruthrasom ''ar'' du dehau y Cerethiaid, a’''r hyn sydd'' eiddo Judah, a thu dehau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.
{{angor|30:15|15}} A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i {{sc|Dduw}}, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a âf â thi i waered at y dorf hon.
{{angor|30:16|16}} ¶ Ac efe a’i dug ef i waered: ac wele ''hwynt'' wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwytta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; o herwydd yr holl yspail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Judah.
{{angor|30:17|17}} A Dafydd a’u tarawodd hwynt o’r cyfnos hyd brydnawn drannoeth: ac ni ddïangodd un o honynt, oddi eithr pedwar cant o wŷr ieuaingc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoisant.
{{angor|30:18|18}} A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd ''hefyd'' a waredodd ei ddwy wragedd.
{{angor|30:19|19}} Ac nid oedd yn eisieu iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy i ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref.
{{angor|30:20|20}} Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; ''y rhai'' a yrrasant o flaen yr anifeiliaid ''eraill'', ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.
{{angor|30:21|21}} ¶ A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i<noinclude><references/></noinclude>
jn0m2vuswk29a8q3i2e4g18lyjd1vwm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/322
104
3574
171900
171636
2026-10-31T15:25:52Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171900
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gyfarfod a’r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.
{{angor|30:22|22}} Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.
{{angor|30:23|23}} Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ‘ ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni.
{{angor|30:24|24}} Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn: hwy a gydrannant.
{{angor|30:25|25}} Ac o’r dydd hwnnw allan, efe a ‘ .nJodd hyn yn gyfraith ac yn farned:ieth yn Israel, hyd y dydd hwn.
{{angor|30:26|26}} ¶ A phan ddaeth Dafydd i Siclag, lc a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid wda, sef i’w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr {{sc|Arglwydd}};
{{angor|30:27|27}} Sef i’r rhai oedd yn Bethel, ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau, ac i’r rhai oedd yn Jattir,
{{angor|30:28|28}} Ac i’r rhai oedd yn Aroer, ac i’r rhai oedd yn Siffmoth, ac i’r rhai oedd yn listemoa,
{{angor|30:29|29}} Ac i’r rhai oedd yn Rachal, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, .ic i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,
{{angor|30:30|30}} Ac i’r rhai oedd yn Horma, ac i’r rhai oedd yn Chorasan, ac i’r rhai oedd yn Athac,
{{angor|30:31|31}} Ac i’r rhai oedd yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt.;.
{{angor|Pennod_31}}{{c|{{uc|Pennod XXXI}}.}}
{{bach|1 ''Saul, wedi colli ei wŷr, a lladd ei feibion, yn ei ladd ei hun.'' 7 ''Y Philistiaid yn perchennogi y dinasoedd a adawsai yr Israeliaid;'' 8 ''ac yn gorfoleddu ar y cyrph meirw.'' 11 ''Gwŷr Jabes Gilead yn ennill y cyrph liw nos, ac yn eu llosgi hwy yn Jabes, ac yn eu claddu yn alarus.''}}
{{angor|31:1}} {{uc|A’r}} Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoes¬ant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
{{angor|31:2|2}} A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.
{{angor|31:3|3}} A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr Bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion,
{{angor|31:4|4}} Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a osdd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf:, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddytbd a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.
{{angor|31:5|5}} A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.
{{angor|31:6|6}} Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.
{{angor|31:7|7}} ¶ A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi gwŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.
{{angor|31:8|8}} A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.
{{angor|31:9|9}} A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.,
{{angor|31:10|10}} A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.
{{angor|31:11|11}} ¶ A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;
{{angor|31:12|12}} Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno.
{{angor|31:13|13}} A hwy. a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.<noinclude><references/></noinclude>
4hhteww4ojesjxocn4jg6mwhz8h08xk
171918
171900
2026-11-01T06:15:49Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171918
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>gyfarfod â’r bobl ''oedd'' gyd âg ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.
{{angor|30:22|22}} Yna yr attebodd pob gwr drygionus, ac ''eiddo'' y fall, o’r gwŷr a aethai gyd â Dafydd, ac a ddywedasant, O herwydd nad aethant hwy gyd â ni, ni roddwn ni iddynt hwy ''ddim'' o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant ''hwynt'' ymaith, ac ymadawant.
{{angor|30:23|23}} Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni.
{{angor|30:24|24}} Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath ''fydd'' rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyd â’r dodrefn: hwy a gyd-rannant.
{{angor|30:25|25}} Ac o’r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.
{{angor|30:26|26}} ¶ A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid Judah, ''sef'' i’w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr {{sc|Arglwydd}};
{{angor|30:27|27}} ''Sef'' i’''r rhai oedd'' yn Bethel, ac i’''r rhai oedd'' yn Ramoth tu a’r dehau, ac i’''r rhai oedd'' yn Jattir,
{{angor|30:28|28}} Ac i’''r rhai oedd'' yn Aroer, ac i’''r rhai oedd'' yn Siphmoth, ac i’''r rhai oedd'' yn Estemoa,
{{angor|30:29|29}} Ac i’''r rhai oedd'' yn Rachal, ac i’''r rhai oedd'' yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i’''r rhai oedd'' yn ninasoedd y Ceneaid,
{{angor|30:30|30}} Ac i’''r rhai oedd'' yn Hormah, ac i’''r rhai oedd'' yn Chor-asan, ac i’''r rhai oedd'' yn Athac,
{{angor|30:31|31}} Ac i’''r rhai oedd'' yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cynniwair ynddynt.
{{angor|Pennod_31}}{{c|{{uc|Pennod XXXI}}.}}
{{bach|1 ''Saul, wedi colli ei wŷr, a lladd ei feibion, yn ei ladd ei hun.'' 7 ''Y Philistiaid yn perchennogi y dinasoedd a adawsai yr Israeliaid;'' 8 ''ac yn gorfoleddu ar y cyrph meirw.'' 11 ''Gwŷr Jabes Gilead yn ennill y cyrph liw nos, ac yn eu llosgi hwy yn Jabes, ac yn eu claddu yn alarus.''}}
{{angor|31:1}} {{uc|A’r}} Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoisant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
{{angor|31:2|2}} A’r Philistiaid a erlidiasant ar ol Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.
{{angor|31:3|3}} A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwäau a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion.
{{angor|31:4|4}} Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi âg ef; rhag i’r rhai dïenwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymmerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.
{{angor|31:5|5}} A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gyd âg ef.
{{angor|31:6|6}} Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.
{{angor|31:7|7}} ¶ A phan welodd gwŷr Israel, y rhai ''oedd'' o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’''r rhai oedd'' o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoisant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.
{{angor|31:8|8}} A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddïosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.
{{angor|31:9|9}} A hwy a dorrasant ei ben ef, ac a ddïosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ym mysg y bobl.
{{angor|31:10|10}} A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorph ef a hoeliasant hwy ar fur Beth-san.
{{angor|31:11|11}} ¶ A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;
{{angor|31:12|12}} Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorph Saul, a chyrph ei feibion ef, oddi ar fur Beth-san, ac a ddaethant i Jabes, ac a’''u'' llosgasant hwynt yno.
{{angor|31:13|13}} A hwy a gymmerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’''u'' claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.<noinclude><references/></noinclude>
e5dkzravmhs9b8bjsiywgnwiwr3eoj4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/323
104
3575
171901
171637
2026-10-31T15:26:59Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171901
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr Samuel;}}}}<br>
{{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br>
{{uc|Ail lyfr y brenhinoedd.}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Yr Amaleciaid, a ddygasai newyddion o’r gyflafan, ac a’i cyhuddasai ei hun o farwolaeth Saul, yn cael ei ladd.'' 17 ''Dafydd yn gwneuthur marwnad i Saul a Jonathan.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Ac}} ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;
{{angor|1:2|2}} Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.
{{angor|1:3|3}} A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i.
{{angor|1:4|4}} A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.
{{angor|1:5|5}} A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo. Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab?
{{angor|1:6|6}} A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef.
{{angor|1:7|7}} Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi.
{{angor|1:8|8}} Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi.
{{angor|1:9|9}} Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.
{{angor|1:10|10}} Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd.
{{angor|1:11|11}} Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.
{{angor|1:12|12}} Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr {{sc|Arglwydd}}, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.
{{angor|1:13|13}} ¶ A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi.
{{angor|1:14|14}} A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr {{sc|Arglwydd}}?
{{angor|1:15|15}} A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesa, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.
{{angor|1:16|16}} A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|1:17|17}} ¶ A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab:
{{angor|1:18|18}} (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)
{{angor|1:19|19}} O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!
{{angor|1:20|20}} Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.
{{angor|1:21|21}} O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.
{{angor|1:22|22}} Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.
{{angor|1:23|23}} Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwol¬aeth ni wahanwyd hwynt:<noinclude><references/></noinclude>
c618c0cfpnydgh18u0pf9bb5o8pm38h
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/324
104
3576
171902
171681
2026-10-31T15:28:15Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171902
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod.
{{angor|1:24|24}} Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgariad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.
{{angor|1:25|25}} Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.
{{angor|1:26|26}} Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.
{{angor|1:27|27}} Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, ar archiad Duw, yn myned gyd â’i wŷr i Hebron; lle y gwnaed ef yn frenhin ar Judah:'' 5 ''yn canmol gwŷr Jabes Gilead, am eu caredigrwydd i Saul.'' 8 ''Abner yn gwneuthur Isboseth yn frenhin ar Israel.'' 12 ''Ymladd creulawn rhwng deuddeg o wŷr Abner a deuddeg o wŷr Joab.'' 18 ''Lladd Asahel.'' 25 ''Joab, ar ddeisyflad Abner, yn galw y bobl yn ol.'' 32 ''Claddedigaeth Asahel.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
{{angor|2:2|2}} A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.
{{angor|2:3|3}} A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un a’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.
{{angor|2:4|4}} A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.
{{angor|2:5|5}} ¶ A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr {{sc|Arglwydd}}, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef.
{{angor|2:6|6}} Ac yn awr yr {{sc|Arglwydd}} a wnelo fi chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.
{{angor|2:7|7}} Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.
{{angor|2:8|8}} ¶ Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim;
{{angor|2:9|9}} Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.
{{angor|2:10|10}} Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd.
{{angor|2:11|11}} A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.
{{angor|2:12|12}} ¶ Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.
{{angor|2:13|13}} Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y hyn o’r tu arall.
{{angor|2:14|14}} Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.
{{angor|2:15|15}} Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.
{{angor|2:16|16}} A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.
{{angor|2:17|17}} A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.
{{angor|2:18|18}} ¶ A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes.:
{{angor|2:19|19}} Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.:
{{angor|2:20|20}} Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.
{{angor|2:21|21}} A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef.<noinclude><references/></noinclude>
qt32n064drz356tlrfdg1kklqczgvxm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/325
104
3577
171903
171682
2026-10-31T15:29:20Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171903
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.
{{angor|2:22|22}} Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?
{{angor|2:23|23}} Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.
{{angor|2:24|24}} Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.
{{angor|2:25|25}} ¶ A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn.
{{angor|2:26|26}} Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?
{{angor|2:27|27}} A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.
{{angor|2:28|28}} Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.
{{angor|2:29|29}} Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.
{{angor|2:30|30}} A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel.
{{angor|2:31|31}} A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.
{{angor|2:32|32}} ¶ A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn myned yn gryfach tra y parhaodd y rhyfel.'' 2 ''Geni chwe mab iddo ef yn Hebron.'' 6 ''Abner yn anfoddlawn i Isboseth,'' 12 ''yn cilio at Dafydd.'' 13 ''Dafydd yn ei dderbyn ef, dan ammod iddo ef ddwyn iddo ei wraig Michal.'' 17 ''Abner, wedi ymddiddan â’r Israeliaid, yn cael gwledd gan Dafydd, a’i ollwng ymaith.'' 22 ''Joab yn dychwelyd o’r rhyfel, yn anfoddlawn i Dafydd, ac yn lladd Abner.'' 28 ''Dafydd yn melldithio Joab,'' 31 ''ac yn galaru am Abner.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|A bu}} ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned. gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
{{angor|3:2|2}} A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;
{{angor|3:3|3}} A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;
{{angor|3:4|4}} A’r pedwerydd, Adoneia, mab Hag-gith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital:
{{angor|3:5|5}} A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
{{angor|3:6|6}} ¶ A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.
{{angor|3:7|7}} Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?
{{angor|3:8|8}} Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw?
{{angor|3:9|9}} Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef,
{{angor|3:10|10}} Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba.
{{angor|3:11|11}} Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
{{angor|3:12|12}} ¶ Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1ezp756e99ve4t7y8q2y9l1bxbkdygo
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/326
104
3578
171904
171683
2026-10-31T15:30:31Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171904
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|3:13|13}} ¶ A dywedodd yntau. Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddy¬wedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.
{{angor|3:14|14}} A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.
{{angor|3:15|15}} Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.
{{angor|3:16|16}} A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.
{{angor|3:17|17}} ¶ Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.
{{angor|3:18|18}} Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr {{sc|Arglwydd}} a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.
{{angor|3:19|19}} Dywedodd Abner hefyd wrth Ben¬jamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.
{{angor|3:20|20}} Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.
{{angor|3:21|21}} A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
{{angor|3:22|22}} ¶ Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.
{{angor|3:23|23}} Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddy¬wedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe ai gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.
{{angor|3:24|24}} A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?
{{angor|3:25|25}} Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.
{{angor|3:26|26}} A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.
{{angor|3:27|27}} A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilitu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn hedd¬wch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.
{{angor|3:28|28}} ¶ Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr {{sc|Arglwydd}} byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:
{{angor|3:29|29}} Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
{{angor|3:30|30}} Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.
{{angor|3:31|31}} ¶ A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.
{{angor|3:32|32}} A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.
{{angor|3:33|33}} A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?:
{{angor|3:34|34}} Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi, mewn egwydydd: syrthaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.
{{angor|3:35|35}} A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego,<noinclude><references/></noinclude>
0e3kdqn5jadzaa50fhydns3hta58iv7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/327
104
3579
171905
171684
2026-10-31T15:31:31Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171905
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.
{{angor|3:36|36}} A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.
{{angor|3:37|37}} A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
{{angor|3:38|38}} A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?
{{angor|3:39|39}} A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr {{sc|Arglwydd}} a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Tra yr oedd yr Israeliaid yn ddychrynedig o achos marwolaeth Abner,'' 2 ''Baanah a Rechab yn lladd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron.'' 9 ''Dafydd yn peri eu lladd hwynt, a chladdu pen Isboseth.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|A phan}} glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.
{{angor|4:2|2}} A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:
{{angor|4:3|3}} A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)
{{angor|4:4|4}} Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth.
{{angor|4:5|5}} A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.
{{angor|4:6|6}} Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.
{{angor|4:7|7}} A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos.
{{angor|4:8|8}} A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r {{sc|Arglwydd}} a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.
{{angor|4:9|9}} ¶ A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,
{{angor|4:10|10}} Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:
{{angor|4:11|11}} Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear?
{{angor|4:12|12}} A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Y llwythau yn dyfod i Hebron i enneinio Dafydd yn frenhin ar Israel.'' 4 ''Oedran Dafydd.'' 6 ''Dafydd yn ennill Sïon ar y Jebusiaid, ac yn trigo ynddi.'' 11 ''Hiram yn anfon at Dafydd.'' 13 ''Geni meibion iddo yn Jerusalem.'' 17 ''Dafydd, trwy gyfarwyddyd Duw, yn taro y Philistiaid yn Baal-perasim,'' 22 ''ac wrth y morwydd.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Yna}} holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni.
{{angor|5:2|2}} Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.
{{angor|5:3|3}} Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron<noinclude><references/></noinclude>
jihu0lh2krksm16x49fzsvxu3u24oud
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/328
104
3580
171906
171685
2026-10-31T15:33:21Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171906
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yr {{sc|Arglwydd}}: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
{{angor|5:4|4}} ¶ Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.
{{angor|5:5|5}} Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.
{{angor|5:6|6}} ¶ A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma.
{{angor|5:7|7}} Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.
{{angor|5:8|8}} A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ.
{{angor|5:9|9}} A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn.
{{angor|5:10|10}} A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} y lluoedd oedd gydag ef.
{{angor|5:11|11}} ¶ A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd.
{{angor|5:12|12}} A gwybu Dafydd i’r {{sc|Arglwydd}} ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
{{angor|5:13|13}} ¶ A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.
{{angor|5:14|14}} A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,
{{angor|5:15|15}} Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,
{{angor|5:16|16}} Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
{{angor|5:17|17}} ¶ Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa.
{{angor|5:18|18}} A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
{{angor|5:19|19}} A Dafydd a ymofynnodd â’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.
{{angor|5:20|20}} A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr {{sc|Arglwydd}} a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim.
{{angor|5:21|21}} Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
{{angor|5:22|22}} ¶ A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
{{angor|5:23|23}} A Dafydd a ymofynnodd â’r {{sc|Arglwydd}}; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd.
{{angor|5:24|24}} A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr {{sc|Arglwydd}} a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.
{{angor|5:25|25}} A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr {{sc|Arglwydd}} iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim ar fèn newydd.'' 6 ''Taro Uzzah yn Peres-Uzzah.'' 11 ''Duw yn bendithio Obed-Edom o achos yr arch.'' 12 ''Dafydd yn dwyn yr arch i Sïon gyd âg aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny.'' 17 ''Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyd â llawenydd mawr a gwledda.'' 20 ''Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn ammhlantadwy hyd farwolaeth.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|A chasglodd}} Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain.
{{angor|6:2|2}} A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw {{sc|Arglwydd}} y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
{{angor|6:3|3}} A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
e9rwzbd59rzom8cu71zbmijiq50ccmj
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/329
104
3581
171907
171686
2026-10-31T15:35:22Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171907
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|6:4|4}} A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaen yr arch.
{{angor|6:5|5}} Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr {{sc|Arglwydd}}, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
{{angor|6:6|6}} ¶ A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
{{angor|6:7|7}} A digofaint yr {{sc|Arglwydd}} a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.
{{angor|6:8|8}} A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r {{sc|Arglwydd}} rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.
{{angor|6:9|9}} A Dafydd a ofnodd yr {{sc|Arglwydd}} y dydd hwnnw; ac a ddywedodd. Pa fodd y daw arch yr {{sc|Arglwydd}} ataf fi?
{{angor|6:10|10}} Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr {{sc|Arglwydd}} ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.
{{angor|6:11|11}} Ac arch yr {{sc|Arglwydd}} a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r {{sc|Arglwydd}} a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ.
{{angor|6:12|12}} ¶ A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
{{angor|6:13|13}} A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr {{sc|Arglwydd}} chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.
{{angor|6:14|14}} A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr {{sc|Arglwydd}}; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
{{angor|6:15|15}} Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr {{sc|Arglwydd}}, trwy floddest, a sain utgorn.
{{angor|6:16|16}} Ac fel yr oedd arch yr {{sc|Arglwydd}} yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr {{sc|Arglwydd}}; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
{{angor|6:17|17}} ¶ A hwy a ddygasant i mewn arch yr {{sc|Arglwydd}}, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd ger¬bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:18|18}} Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw {{sc|Arglwydd}} y lluoedd.
{{angor|6:19|19}} Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dy ei hun.
{{angor|6:20|20}} ¶ Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddy¬wedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.
{{angor|6:21|21}} A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dy ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr {{sc|Arglwydd}}, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:22|22}} Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.
{{angor|6:23|23}} Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adeiladu tŷ i’r Arglwydd;'' 4 ''ac ar ol hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo.'' 12 ''Yn addaw iddo ddaioni a bendithion yn ei had.'' 18 ''Gweddi a dïolch Dafydd.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|A phan}} eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r {{sc|Arglwydd}} lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch:
{{angor|7:2|2}} Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau.
{{angor|7:3|3}} A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll ''sydd''<noinclude><references/></noinclude>
kuos0razuliq9tsba0p981y6yn9ww0b
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/330
104
3582
171908
171696
2026-10-31T15:37:33Z
Tylopous
3717
{{sc}}, ¶
171908
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn dy galon: canys yr {{sc|Arglwydd}} sydd gyda thi.
{{angor|7:4|4}} ¶ A bu, y noson honno, i air yr {{sc|Arglwydd}} ddyfod at Nathan, gan ddy¬wedyd,
{{angor|7:5|5}} Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr {{sc|Arglwydd}}; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi?
{{angor|7:6|6}} Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl.
{{angor|7:7|7}} Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddy¬wedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
{{angor|7:8|8}} Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd}} y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.
{{angor|7:9|9}} A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear.
{{angor|7:10|10}} Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt;
{{angor|7:11|11}} Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r {{sc|Arglwydd}} sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
{{angor|7:12|12}} ¶ A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.
{{angor|7:13|13}} Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei fren¬hiniaeth ef byth.
{{angor|7:14|14}} Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:
{{angor|7:15|15}} Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di.
{{angor|7:16|16}} A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.
{{angor|7:17|17}} Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
{{angor|7:18|18}} ¶ Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr {{sc|Arglwydd}}: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd {{sc|Dduw}}? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?
{{angor|7:19|19}} Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd {{sc|Dduw}}; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd {{sc|Dduw}}?
{{angor|7:20|20}} A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd {{sc|Dduw}}.
{{angor|7:21|21}} Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod.
{{angor|7:22|22}} Am hynny y’th fawrhawyd, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau
{{angor|7:23|23}} A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau?
{{angor|7:24|24}} Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, {{sc|Arglwydd}}, ydwyt iddynt hwy yn {{sc|Dduw}}.
{{angor|7:25|25}} Ac yn awr, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, cwblha byth y gair a leferaist am dŷ was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.
{{angor|7:26|26}} A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, {{sc|Arglwydd}} y lluoedd sydd {{sc|Dduw}} ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di.
{{angor|7:27|27}} Canys ti, O {{sc|Arglwydd}} y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.
{{angor|7:28|28}} Ac yn awr, O Arglwydd DDUW, tydi sydd DDUW, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
iebjtlipi1kro18muag66yni9pj9i70
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/363
104
3616
171895
6809
2026-10-31T15:16:43Z
Tylopous
3717
angorau
171895
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>oddi amgylch, ac yn bûm cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.
{{angor|7:24|24}} A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau.
{{angor|7:25|25}} Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn.
{{angor|7:26|26}} Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.
{{angor|7:27|27}} Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.
{{angor|7:28|28}} A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng: y delltennau:
{{angor|7:29|29}} Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.
{{angor|7:30|30}} A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.
{{angor|7:31|31}} A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystol, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.
{{angor|7:32|32}} A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystol; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.
{{angor|7:33|33}} Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig.
{{angor|7:34|34}} Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystol yr oedd ei hysgwyddau hi.
{{angor|7:35|35}} Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un.
{{angor|7:36|36}} Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch.
{{angor|7:37|37}} Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.
{{angor|7:38|38}} Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bed¬war cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl.
{{angor|7:39|39}} Ac efe a osododd bûm ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.
{{angor|7:40|40}} Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD.
{{angor|7:41|41}} Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;
{{angor|7:42|42}} A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgran¬adau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;
{{angor|7:43|43}} A’r deg ystol, a’r deg noe ar yr ystolion;
{{angor|7:44|44}} Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;
{{angor|7:45|45}} A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon, i dŷ yr ARGLWYDD, oedd o bres gloyw.
{{angor|7:46|46}} Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.
{{angor|7:47|47}} A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.
{{angor|7:48|48}} A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;
{{angor|7:49|49}} A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur;
{{angor|7:50|50}} Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a3lb2hn83tkw0967t9aus5dwymo7t7m
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/364
104
3617
171896
171414
2026-10-31T15:18:38Z
Tylopous
3717
angorau
171896
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|7:51|51}} Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr AR¬GLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Gwyl cyssegriad y deml.'' 12, 55 ''Bendith Solomon,'' 22 ''a’i weddi,'' 62 ''a’i hedd-aberth.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|Yna}} Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Isreal, at at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
{{angor|8:2|2}} A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr wyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis.
{{angor|8:3|3}} A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny.
{{angor|8:4|4}} A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny.
{{angor|8:5|5}} A’r brenin Solomon, a holl gynull-eidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd.
{{angor|8:6|6}} Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid.
{{angor|8:7|7}} Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros Ie yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd.
{{angor|8:8|8}} A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn.
{{angor|8:9|9}} Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft.
{{angor|8:10|10}} A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr ARGLWYDD,
{{angor|8:11|11}} Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai d yr ARGLWYDD.
{{angor|8:12|12}} Yna y dywedodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch.
{{angor|8:13|13}} Gan adeiladu yr adeiledais d yn breswylfod i ti, trigle i ti i aros yn dragy-wydd ynddo.
{{angor|8:14|14}} A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.
{{angor|8:15|15}} Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd a’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd a’i law, gan ddywedyd,
{{angor|8:16|16}} Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
{{angor|8:17|17}} Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.
{{angor|8:18|18}} A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu t i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:
{{angor|8:19|19}} Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.
{{angor|8:20|20}} A’r ARGLWYDD a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deymgadair Israel, megis y llefarodd yr AR¬GLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw AR¬GLWYDD DDUW Israel.
{{angor|8:21|21}} A mi a osodais yno Ie i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a gyfamododd efe a’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.
{{angor|8:22|22}} A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull¬eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:
{{angor|8:23|23}} Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a xxx thrugaredd a’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon;
{{angor|8:24|24}} Yr hwn a gedwaist a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd a’th enau, a chwblheaist a’th law, megis heddiw y mae.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
skfubhawf70wrdgub0byms2fxo9jgk9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/365
104
3618
171897
6811
2026-10-31T15:20:30Z
Tylopous
3717
angorau
171897
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|8:25|25}} Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrn-gadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron.
{{angor|8:26|26}} Ac yn awr, O DDUW Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad.
{{angor|8:27|27}} Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear,? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint Itai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i!
{{angor|8:28|28}} Eto edrych ar weddi dy was, ac ar e.i ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di:
{{angor|8:29|29}} Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn.
{{angor|8:30|30}} Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy’ was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o Ie dy breswylfa, sefo’r nefoedd; a phan glywych, maddau.
{{angor|8:31|31}} Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
{{angor|8:32|32}} Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.
{{angor|8:33|33}} Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil a thi yn y tŷ hwn:
{{angor|8:34|34}} Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt.
{{angor|8:35|35}} P gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a cfayfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt:
{{angor|8:36|36}} Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
{{angor|8:37|37}} Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei dyn¬amo ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa’ bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo;
{{angor|8:38|38}} Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei
hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn;
{{angor|8:39|39}} Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau, gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl flyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;)
{{angor|8:40|40}} Fel y’th ofhont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i?n tadau ni.
{{angor|8:41|41}} Ac am y dieithrddyn hefyd ni hyddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw,
{{angor|8:42|42}} (Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddel a gweddi’o tua’r tŷ hwn:
{{angor|8:43|43}} Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
{{angor|8:44|44}} y Os a dy bobl di allan i ryfel yB erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddi’ant ar yr As-GLWYDD tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a’r t yr hwn a adeiledais i’th enw di;
{{angor|8:45|45}} Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farniddynt.
{{angor|8:46|46}} Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos,
{{angor|8:47|47}} Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;
{{angor|8:48|48}} A dychwelyd atat ti a’u holl galon, ac a’u holl enaid, y’ngwlad eu<noinclude><references/></noinclude>
igrcf0kouo9padufa6lkdamliyxafkb
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/366
104
3619
171898
171415
2026-10-31T15:22:23Z
Tylopous
3717
angorau
171898
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gelyn¬ion a’u caethgludasant hwynt, a gweddi’o arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:
{{angor|8:49|49}} Yna gwrando di yn y nefoedd, man¬gre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt,
{{angor|8:50|50}} A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phar iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caeth¬gludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy:
{{angor|8:51|51}} Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn:
{{angor|8:52|52}} Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti.
{{angor|8:53|53}} Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O ARGLWYDD DDUW.
{{angor|8:54|54}} Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr ARGLWYDD yr holl weddi a’r deisyf¬iad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr ARGLWTOD, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd.
{{angor|8:55|55}} Ac efe a safodd, ac a fendithiodd hoH gynulleidfa Israel a llef uchel, gan ddy¬wedyd, -
{{angor|8:56|56}} Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was.
{{angor|8:57|57}} Yr ARGLWYDD ein Dew fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni:
{{angor|8:58|58}} I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedig-’’n’o’o 30 siNVianisa siaa aethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni.
{{angor|8:59|59}} A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn a’i was, a barn a’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos:
{{angor|8:60|60}} Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall.
{{angor|8:61|61}} Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r ARGLWYDD ein Duw ni, l rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
{{angor|8:62|62}} y A’r brenin a holl Israel gydag efa aberthasant aberth gerbron yr ARGLWYDD.
{{angor|8:63|63}} A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD. , .
{{angor|8:64|64}} Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd.
{{angor|8:65|65}} A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.
{{angor|8:66|66}} A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ‘ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Ammod Duw â Solomon mewn gweledigaeth.'' 10 ''Solomon a Hiram yn anrhegu eu gilydd.'' 15 ''Y cenhedloedd yn gaethion, a’r Israeliaid yn weision parchedig, y’ngwaith Solomon.'' 24 ''Merch Pharaoh yn symmudo i’w thŷ.'' 25 ''Cyhoedd aberthau blynyddol Solomon.'' 26 ''Ei lynges ef yn cyrchu aur o Ophir.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|A phan}} orffennodd Solomon adeil-adu tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y torenin, a chwbl o ddymuniad Solotnon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthuf;
{{angor|9:2|2}} Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai iddo yn Gibeon.
{{angor|9:3|3}} A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol.
{{angor|9:4|4}} Ac os rhodi di ger fy mron i,<noinclude><references/></noinclude>
pzlmyuduq2a1kp3nbsc883a3r56n4np
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/367
104
3620
171899
6815
2026-10-31T15:24:17Z
Tylopous
3717
angorau
171899
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau:
{{angor|9:5|5}} Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel.
{{angor|9:6|6}} Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:
{{angor|9:7|7}} Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy, a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd:
{{angor|9:8|8}} A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweii-o heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwib’" ana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r ,ty yma?
{{angor|9:9|9}} A hwy a ddywedant. Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt, am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
{{angor|9:10|10}} Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tf yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin,
{{angor|9:11|11}} (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.
{{angor|9:12|12}} A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.
{{angor|9:13|13}} Ac efe a ddywedodd. Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.
{{angor|9:14|14}} A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur.
{{angor|9:15|15}} y A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr AR- GLWYDD, a’i dy ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.
{{angor|9:16|16}} Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i llosgasai hi & than, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon.
{{angor|9:17|17}} A Solomon a adeiladodd Geser, a ‘Bethhoron isaf,
{{angor|9:18|18}} A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,
{{angor|9:19|19}} A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cer-bydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeil¬adu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth.
{{angor|9:20|20}} Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, ‘a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feib- fon Israel;
{{angor|9:21|21}} Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hoi hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd, ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn.
{{angor|9:22|22}} Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch.
{{angor|9:23|23}} Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
{{angor|9:24|24}} A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi; yna efe a adeiladodd Milo.
{{angor|9:25|25}} A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r ARGLWYDD: ac efe a arogl-darthodd ar yr allor oedd gerbron yr ARGLWYDD. Felly efe a orffennodd y tŷ.
{{angor|9:26|26}} y A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion-gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad;Edom.
{{angor|9:27|27}} A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon.
{{angor|9:28|28}} A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
npu6rk9jrg209zlf5t7amoqw56kq9l9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/683
104
4143
171875
7703
2026-10-31T14:29:55Z
Tylopous
3717
penodau
171875
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º7 Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn.
º8 Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe. . . ..
º9 Cyfodwch, wragedd di-waittt; clywch fy llais: gwrandewch. fy ymadrodd, ferched diofal.
º10 Dyddiau gyda blwyddyn y traBodir chwi, wragedd difraw: canys darfa y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull.
º11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau.
º12 Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon.
º13 Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobli ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd.
º14 Canys y palasau a wrthodw, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, ynhyfry dwell asynnod gwylltion, yn borfa diadellau;
º15 Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir.
º16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a . chyfiawnder a erys yn y doldir.
º17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch. a diogelwch, hyd byth.
º18 A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd.
º19 Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.
º20 Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch; draed yr ych a’r asyn yno.
{{angor|Pennod_33}}{{c|{{uc|Pennod XXXIII}}.}}
{{bach|1 ''Barnedigaethau Duw yn erbyn gelynion yr eglwys.'' 13 ''Rhagorfraint y duwiol.''}}
{{angor|33:1}} {{uc|Gwae}} di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na: wnaed yn anffyddlon a thi: pan ddarffoi ti anrheithio, y’th anrheithir; a phatt ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant. anffyddlon i ti.
º2 ARGLWYDD, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd.
º3 Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd.
º4 A’ch ysbail a gynullir fel. cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt.
º5 Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder.
º6 A sicrwydd . dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef.
º7 Wele, eu rhai dewrion a waeddafit oddi allan: cenhadon heddwchi a wylant yn chwerw.:
º8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfn cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.
º9 Galarodd a llesgaodd y ddaear, cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.
º10 Cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach.
º11 Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tan a’ch ysa chwi.
º12 A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.
º13 Gwrandewch, belledigiQn, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth.
º14 Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol?
º15 Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw traws-ter, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni,
º16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.
º17 Dy lygaid a welant y brenin yn i degwch: gwelant y lir pell.
º18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9vuwr2hgljb94m802cyhlabpj54au7k
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/684
104
4144
171876
7704
2026-10-31T14:32:32Z
Tylopous
3717
penodau
171876
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.
º20 gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau.
º21 Eithr yr ARGLWYDD ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a-ffrydiau llydain: y rhwyflong nid a trwyddo, a llong odidog nid a drosto.
º22 Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr AR¬GLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw.
º23 Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.
º24 Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.
{{angor|Pennod_34}}{{c|{{uc|Pennod XXXIV}}.}}
{{bach|1 ''Y barnedigaethau y mae Duw yn dïal ei eglwys â hwynt.'' 11 ''Difrod ei gelynion hi.'' 16 ''Sicred yw y brophwydoliaeth.''}}
{{angor|34:1}} {{uc|Nesewch}}, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd.
º2 Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa.
º3 A’u lladdedigion a fwrir allan, a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed. hwynt.
º4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.
º5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i fam, ac ar y bobl a ysgymunais.
º6 Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd "o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed wyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
º7 A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a’r bustych gyda’r teirw; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt, a’u llwch fydd dew o fraster.
º8 Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.
º9 A’i hafonydd a droir yn byg, a’i llwch yn frwmstan, a’i daear yn byg llosgedig.
º10 Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi, ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.
º11 Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna; y dylluan a’r gigfran a
drigant ynddi; ac etc a estyn arni xxx linya anhrefn, a meini gwagedd.
º12 Ei phendcfigion hi a alwant i’r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.
º13 Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.
º14 Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr wyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.
º15 Yno y nycha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar.
º16 Ceisiwch allan o lyfr yr ARGLWYDD, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a ftrchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt.
º17 Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.
{{angor|Pennod_35}}{{c|{{uc|Pennod XXXV}}.}}
{{bach|1 ''Hyfrydwch a godidogrwydd teyrnas Crist.'' 3 ''Cysuro y gweiniaid trwy rinweddau a breintiau yr efengyl.''}}
{{angor|35:1}} {{uc|Yr}} anialwch a’r anghyfanheddk a lawenychant o’u plegid; y ‘diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.
º2 Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd a llawcnydd ac a chan: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr ARGLWYDD, a godidowgrwydd ein Duw ni.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2pk3rm00sruvv0wp9bsgxtku2ssece1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/685
104
4145
171877
7705
2026-10-31T14:34:15Z
Tylopous
3717
penodau
171877
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º3 Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.
º4 Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw a dial, ie, Buw a thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.;
º5 Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorif.
º6 Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cAn tafod y mudan: canys dytroodd a dyr
allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
º7 Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r til sychedig yn ffynhonnau dy&oedd; yn nhngfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.
º8 Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig aid a ar hyd-ddi; canys hi a fydd i’r rhai hvnny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant.
º9 Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno.
º10 A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion a chaniadau, ac a llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.
{{angor|Pennod_36}}{{c|{{uc|Pennod XXXVI}}.}}
{{bach|1 ''Senacherib yn dyfod yn erbyn Judah.'' 4 ''Rabsaceh, wedi ei anfon gan Senacherib, trwy resymmau cablaidd, yn ceisio gan y bobl droi oddi wrth Hezecïah.'' 22 ''Mynegi ei eiriau ef i Hezecïah.''}}
{{angor|36:1}} {{uc|Ac}} yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg * i’r brenin Heseceia, y daeth Sena-cherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a’u goresgynnodd hwynt.
º2 A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, a llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr.
º3 Ac aeth ato ef Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgnfennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.
º4 d A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia; Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo?
º5 Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hydcri, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn?
º6 Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, In º1 a i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: ielly y mae Pharo brenin yr Ailft i bawb a hyderant ariiQt
º7 Ond os dywedi wrthyf, Yn yr AR¬GLWYDD ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a’i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch?
º8 Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt.
º9 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion?
º10 Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinisttio? yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.
º11 Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.
º12 Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi?
º13 A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddy¬wedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria:
º14 Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi.
º15 Ac na phared Heseceia i chwi ym¬ddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenhin Asyria.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gtjzunpptpp5f3h4cmcz5uuo247rlwo
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/686
104
4146
171878
7706
2026-10-31T14:37:19Z
Tylopous
3717
penodau
171878
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º16 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun;
º17 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.
º18 Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?
º19 Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i?
º20 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw?
º21 Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo; canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.
º22 Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
{{angor|Pennod_37}}{{c|{{uc|Pennod XXXVII}}.}}
{{bach|1 ''Hezecïah, yn ei dristwch, yn gyrru at Esaiah i gael ganddo weddïo drosto ef a’i bobl.'' 6 ''Esaiah yn eu cysuro hwy.'' 8 ''Senacherib yn myned i ymladd â Thirhacah, ac yn anfon llythyrau cablaidd at Hezecïah.'' 14 ''Gweddi Hezecïah.'' 21 ''Esaiah yn prophwydo balchder a chwymp Senacherib, a llwyddiant Sïon.'' 36 ''Angel yn lladd yr Assyriaid.'' 37 ''LLadd Senacherib yn Ninefeh gan ei feibion ei hun.''}}
{{angor|37:1}} {{uc|A phan}} glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr ARGLWYDD.
º2 Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.
º3 A hwy a ddywedasant wrtho. Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.
º4 Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.
º5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
º6 A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
º7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe n glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
º8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.
º9 Ac efe a glywodd son am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,
º10 Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin Asyria.
º11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wiedydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?
º12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar?
º13 Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
º14 A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a’i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’i lledodd gerbron yr ARGLWYDD.
º15 A Heseceia a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
º16 ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt DDUW, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.
º17 Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust,<noinclude><references/></noinclude>
m6yf83nda83fathmcig1ybaidaked1j
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/687
104
4147
171879
7707
2026-10-31T14:39:05Z
Tylopous
3717
penodau
171879
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a gwrando; agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.
º18 Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd,
º19 A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond
gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am
hynny y dinistriasant hwynt.
º20 Yr awr hon gan hynny, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr ARGLWYDD, tydi yn unig.
º21 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Sena¬cherib brenin Asyria:
º22 Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl.
º23 Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.
º24 Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir.
º25 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; a gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig.
º26 Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a’i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol.
º27 Am hynny eu trigolion yn gwloglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neii ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.
º28 Dy eisteddiad hefyd; a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabuiffi xxx a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn.
º29 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.
º30 A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
º31 A’r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adcwir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.
º32 Canys gweddill a â allan o Jerwsfllem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.
º33 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn.
º34 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.
º35 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
º36 Yna yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, weie hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
º37 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.
º38 A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn ahv Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â’r cleddyf ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
{{angor|Pennod_38}}{{c|{{uc|Pennod XXXVIII}}.}}
{{bach|1 ''Hezecïah, wedi cael cennadwri o’i farwolaeth, trwy weddi yn cael estyn ei einioes.'' 8 ''Yr haul yn myned ddeg o raddau yn ei ol, yn argoel o’r addewid honno.'' 9 ''Cân dïolch Hezecïah.''}}
{{angor|38:1}} {{uc|Yn}} y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr AR-<noinclude><references/></noinclude>
jrh8rsbhezr44t6dfy18qpqzpg22cf8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/688
104
4148
171880
7708
2026-10-31T14:40:49Z
Tylopous
3717
penodau
171880
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>GLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.
º2 Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD:
º3 A dywedodd, Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd
dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.
º4 Yna y bu gair yr ARGLWYDD with Eseia, gan ddywedyd,
º5 DOS, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau, wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.
º6 Ac o law brenin Asyria y’th waredaf di a’r ddinas: a mi a ddiflymraf y ddinas hon.
º7 A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDB y gair hwn a lefarodd;
º8 Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda’r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd-ddynt.
º9 Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o’i glefyd:
º10 Aiyfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.
º11 Dywedais, Ni chaf weled yr AR¬GLWYDD I OR yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd.
º12 Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; a nychdod y’m tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.
º13 Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.
º14 Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O ARGLWYDD, gorthrymwyd fi, esmwytha arnaf.
º15 Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a’i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid.
º16 Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi.
º17 Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn.
º18 Canys y bedd ni’th fawl di, angau ni’th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.
º19 Y byw, y byw, efe a’th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd.
º20 Yr ARGLWYDD sydd i’m cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddydd¬iau ein heinioes yn nhŷ yr ARGLWYDD.
º21 Canys Eseia a ddywedasai, Cymerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.
º22 A dywedasai Heseceia, Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr ARGLWYDD?
{{angor|Pennod_39}}{{c|{{uc|Pennod XXXIX}}.}}
{{bach|1 ''Merodach-Baladan yn anfon i ymweled â Hezecïah o herwydd y rhyfeddod, ac wrth hynny yn cael gwybodaeth o’i drysorau ef:'' 3 ''ac Esaiah yn cael gwybod hynny, ac yn rhag-fynegi y caethglud i Babilon.''}}
{{angor|39:1}} {{uc|Yn}} yr amser hwnnw Merodach-Baladan, mab Baladan, brenin Bab-ilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a’i fyned yn iach.
º2 A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dy ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dv ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.
º3 Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, (? wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon.
º4 Yntau a ddywedodd. Both a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd llcscceia, Yr hyn oll oedd<noinclude><references/></noinclude>
d20nq4m6o4pojo3q3sxe5t6uwtrqk6p
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/689
104
4149
171881
7709
2026-10-31T14:43:03Z
Tylopous
3717
penodau
171881
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt.
º5 Yna Eseia a ddywedodd wrth Hesec¬eia, Gwrando air ARGLWYDD y lluoedd.
º6 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, Biedd yr AR¬GLWYDD.
º7 Cymerant hefyd o th feibion di, y rhai a ddaw ohono!:, sef y rhaa a genhedii, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon.
º8 Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys l ydd heddwch a gwirionedd yn fy flyddiau i.
{{angor|Pennod_40}}{{c|{{uc|Pennod XL}}.}}
{{bach|1 ''Cyhoeddi yr efengyl.'' 3 ''Pregeth Ioan fedyddiwr,'' 9 ''a’r apostolion.'' 12 ''Y prophwyd, trwy ddangos fod Duw yn hollalluog,'' 18 ''ac nad oes dim cyffelyb na chyfartal iddo,'' 26 ''yn cysuro y bobl.''}}
{{angor|40:1}} {{uc|Cysurwch}}, cysurwch fy mhobl, ‘—’ medd eich Duw.
º2 Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
º3 Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch.
º4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwŷr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd.
º5 A gogoniant yr ARGLWYDD a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd â’i gwel; canys genau yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
º6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.
º7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blod¬euyn; canys ysbryd yr ARGLWYDD a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.
º8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
º9 Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi.
º10 Wele, yr ARGLWYDD DDUW a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag if, a’i waith o’i Haen.
º11 Fel bugail y portha fcfe- N braidd;
a’i fraich y casgl ei wyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.
º12 , Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd a’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau?
º13 Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr ARGLWYDD, ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef?
º14 A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a’i cyfarwyddodd, ac a’i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?
º15 Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny.
º16 Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.
º17 Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.
º18 I bwy gan hynny y cyffelybwch DDUW? a pha ddelw a osodwch iddo?
º19 Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a’r eurych a’i goreura, ac a dawdd gadwyni arian.
º20 Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl.
º21 Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
º22 Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi:
º23 Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear.
º24 Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth<noinclude><references/></noinclude>
1ym3kxrt4egngsq3ve04wnl7x1s9afb
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/690
104
4150
171882
7710
2026-10-31T14:44:34Z
Tylopous
3717
penodau
171882
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel son.
º25 I bwy gan hynny y’m cyrfelybwchs ac y’m cystedlir? medd y Sanct.
º26 Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll with eu henwau; gan arnlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un.
º27 Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr ARGLWYDD, a’m barn a aeth heibio i’m Duw?
º28 Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
º29 Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym.
º30 Canys yr ieuenctid a ddiflygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant:
º31 Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant, rhodiant, ac ni ddiffygiant.
{{angor|Pennod_41}}{{c|{{uc|Pennod XLI}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn ym-ymliw â’i bobl, ynghylch ei drugareddau i’w eglwys,'' 10 ''a’i addewidion:'' 21 ''ac ynghylch oferedd delwau ac eilunod.''}}
{{angor|41:1}} {{uc|Distewch}}, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cydnesawn i farn.
º2 Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef.
º3 Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe a’i draed.
º4 Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf.
º5 Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasaat; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant.
º6 Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha.
º7 Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.
º8 Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd.
º9 Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.
º10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder.
º11 Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.
º12 Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant a thi: y gwŷr a ryfelant a thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.
º13 Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf.
º14 Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel.
º15 Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.
º16 Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi.
º17 Pan geisio y trueimaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cant, pan ballo eu tafod o syched,myfi yr ARGLWYDD ii’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt.
º18 Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
º19 Gosodaf yn yr anialwch y fiedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd;
º20 Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallonfr ynghyd,<noinclude><references/></noinclude>
a8o4yrsg82jtgt207j1s1tqo3bcde6o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/691
104
4151
171883
7711
2026-10-31T14:46:15Z
Tylopous
3717
penodau
171883
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd.
º21 Deuwch yn nes a’ch cwyn, medd yr ARGLWYDD; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob.
º22 Dygant hwynt allan, a mynegant i ‘ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y" pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.
º23 Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydycht chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd.
º24 Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi.
º25 Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd.
º26 Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion.
º27 Y cyntaf a ddywed wrth Seion Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efeng-ylwr i Jerwsalem.
º28 Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair.
º29 Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwync a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.
{{angor|Pennod_42}}{{c|{{uc|Pennod XLII}}.}}
{{bach|1 ''Swydd Crist, ynghyd â’i larieidd-dra a’i ddïanwadalwch.'' 5 ''Addewid Duw iddo ef.'' 10 ''Y mae yn annog i foliannu Duw am ei efengyl:'' 17 ''ac yn beio ar y bobl am eu hanghrediniaeth.''}}
{{angor|42:1}} {{uc|Wele}} fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allaa farn i’r cenhedloedd.
º2 Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.
º3 Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd
lin yn mygu; .efe a .ddwg allan,farn at wirionedd., „.:;
º4 Ni phalla efe, ac n-i ddigalonna, hyd eni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
º5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestyn-" nydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi:
º6 Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobL,i ac yn oleuni Cenhedloedd;
º7 I agoryd llygaid y deillion, i ddwya allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.i
º8 Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy; enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig.
º9 Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd, traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.
º10 Cenwch i’r ARGLWYDD gan newyddn a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion.
º11 Y dineithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.
º12 Rhoddant ogoniant i’r ARGLWYBD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd. .
º13 Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedday ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion..
º14 Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.
º15 Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf.
º16 Arweiniaf y deilliaid ar hyd fford4-nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y peth¬au a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
º17 Troiryn’eu hôl,allwyrwaradwyddir y rhai a ymddiriedant<noinclude><references/></noinclude>
i56w3zyve6tsvilnzun0ovz1u21hfpq
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/692
104
4152
171884
7713
2026-10-31T14:48:30Z
Tylopous
3717
penodau
171884
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mewn delwau. cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.
º18 O fyddariaid, gwrandewch; a’r deill¬ion, edrychwch i weled.
º19 Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy môr ddall a’r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD?
º20 Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy.
º21 Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.
º22 Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyilau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anriiaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.
º23 Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?
º24 Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith.
º25 Am hynny y tywalltodd efe ame lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.
{{angor|Pennod_43}}{{c|{{uc|Pennod XLIII}}.}}
{{bach|1 ''Yr Arglwydd yn cysuro ei eglwys â’i addewidion:'' 8 ''yn appelio at y bobl, i fod yn dystion o’i hollalluowgrwydd:'' 14 ''yn rhag-fynegi iddynt ddinystr Babilon,'' 18 ''a rhyfeddol ymwared ei bobl:'' 22 ''yn argyhoeddi y bobl megis rhai dïesgus.''}}
{{angor|43:1}} {{uc|Ond}} yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canySr gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.
º2 Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tan) ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.
º3 Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.
º4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th
hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.
º5 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf.
º6 Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o . bell, a’m merched o eithaf y ddaear;,
º7 Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y-gwneuthunLef.;
º8 Dwg allan y bobl ddall sydda llygaid Kidynt, a’r byddariaid sydd & chlusitiau iddynt.
º9 Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawn-fcaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.
º10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.
º11 Myfi, myfi yw yr ARGLWYDB;ac Bid oes geidwad ond myfi.
º12 Myfi a fynegais, ac a ach’iiibais, ac a ddangosais, pryd nad oedd dttw dieithi? yn eich mysg: am hynny ohwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWTOI!),fliai myft sydd DDUW. ‘
º13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid Oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i Huddia?
º14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau.
º15 Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin Chwi.
º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYBD, yr hwn a wna ffordd yn y dor, a’flwybr yn,y dyfroedd cryfion;;’ ,
º17 Yr hwn a ddwg allan y cerfeyd a*r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y difiaddasant., .
º18 Na chofiwch y pethau O’T blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. .
º19 Wele fi yn gwneuthur peth<noinclude><references/></noinclude>
anz96dqcikn1dsedoh0lk8k5sfcpa1a
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/693
104
4153
171885
7714
2026-10-31T14:50:18Z
Tylopous
3717
penodau
171885
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwcn, ac afonydd yn y dineithwch.
º20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; ana toddi ohonof ddwfr yn yr anialwch,. a-’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi dwd I’m pobl, fy newisedig.
º31 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.
º22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob, ond blinaist arnaf, Israel.
º23 Ni ddygaist i mi filed dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist a’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu g offrwrn, ac ni’th flinais ag arogl-darth.
º24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist a braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu &’th bechodau, blinaist fi a’th anwireddau.
º25 Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni ehofiaf dy bechodau.
º26 Dwg ar gof i mi, cydyrnddadleuwa-: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer.
º27 Dy dad cyntaf a bechodd, a’fh athrawon a wnaethant gamwedd i’rtt herbyn.
º28 Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd-beth, ac Israel yn waradwydd.
{{angor|Pennod_44}}{{c|{{uc|Pennod XLIV}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn cysuro ei eglwys â’i addewidion.'' 7 ''Gwagedd ac oferedd eilunod:'' 9 ''ac ynfydrwydd y rhai a’u gwnant.'' 21 ''Y mae yn annog i foliannu Duw am ei ymwared, ac am ei hollalluowgrwydd.''}}
{{angor|44:1}} {{uc|Ac}} yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais.
º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
º3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf Sy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth:
º4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
º5 Hwn a ddywed, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna a’i law, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
º6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a’i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.
º7 Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a’r pethau a ddaw.
º8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid 6r hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
º9 Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymimol lesad: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
º10 Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?
º11 Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hsfyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.
º12 Y gof a’r efel a weithia yn y glo, ac a’i llunia a morthwylion, ac & nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a’i nerth a balla; nid yfddwfr, ac y mae yn diffygio.
º13 Y saer pren a estyn ei linyn; efe a’i llunia hi wrth linyn coch; efe a’i cymhwys-a hi a bwyeill, ac a’i gweithia wrth gwmpas, ac a’i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.
º14 Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a’r glaw a’i maetha.
º15 Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a’i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a’i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.
º16 Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed. Aha, ymdwymais, gwelais dan.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
is8x6cgzjeyha35vvtn4wnrn1ygzsua
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/694
104
4154
171886
7715
2026-10-31T14:51:46Z
Tylopous
3717
penodau
171886
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º17 A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt.
º18 Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag’ gweled, a’u calonnau rhag deall.
º19 Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rban arall yn ffieidd-beth? a ymgrymaf i foncyff o bren?
º20 Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a’i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?
º21 Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i. mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf.
º22 Dileais dy gamweddau fel cwmwi, a’th bechodau fel niwi: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di.
º23 Cenwch, nefoedd: canys yr ARGLWYDD a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr ARGLWYDD Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.
º24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a’r hwn a’th luniodd o’r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:
º25 Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd:
º26 Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau:
º27 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd:
º28 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wnft Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deral, Ti a sylfaenir.
{{angor|Pennod_45}}{{c|{{uc|Pennod XLV}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn galw Cyrus er mwyn ei eglwys:'' 5 ''yn gofyn ufudd-dod am ei fod yn hollalluog:'' 20 ''yn dangos ofered ydyw eilunod, wrth ei allu yn ymwared.''}}
{{angor|45:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw,,i i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir:
º2 Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf:
º3 Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel.
º4 Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
º5 Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid; arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit:
º6 Fel y gwvpont o godiad haul, act o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall:;’
º7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll. ‘
º8 Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd-darddant: myfi yr ARGLWYDD a’u creais.
º9 Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell a phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Both a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?
º10 Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedii? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?
º11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.
º12 Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn ami: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
º13 Myfi a’i cyfodais ef mewn cyf-<noinclude><references/></noinclude>
c2s487s42vuvyqc7esutgs5t2g1dkbj
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/695
104
4155
171887
7716
2026-10-31T14:53:24Z
Tylopous
3717
penodau
171887
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>iawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd.
º14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandiaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw.
º15 Ti yn ddiau wyt DDUW yn ymguddio, O DDUW Israel yr Achubwr!
º16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.
º17 Israel a achubir yn yr ARGLWYDD a iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth byth;oedd.
º18 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y Diny ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth;; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen. ‘
º19 Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer.-Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefara. cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
º20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. ‘.
º21 M.ynegwch,anesewchhwynt;cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ondr myfi., ‘.’’
º22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys niyfi wyf DDUW, ac nid neb arall.
º23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac m ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.
º24 Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.
º25 Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
{{angor|Pennod_46}}{{c|{{uc|Pennod XLVI}}.}}
{{bach|1 ''Na allai eilunod Babilon eu hachub eu hunain.'' 3 ''Bod Duw yn achub ei bobl hyd y diwedd.'' 5 ''Nad yw eiluod gyffelyb i Dduw mewn gallu,'' 12 ''nac mewn ymwared presennol.''}}
{{angor|46:1}} {{uc|Crymmodd}} Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod; ac ai anifeiliaid: eich dud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diflygiol.
º2 Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.
º3 tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru:
º4 Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, royfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd, ie, dygaf, a gwaredaf chwi.
º5 I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg?
º6 Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn dorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw; gostyngant, ac ymgrymant.
º7 Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd.
º8 Cofiwch hyn, a byddwch wŷr; atgofiwch, droseddwyr.
º9 Cofiwch y pethau gynt eriofid; canys myfi ydwyf DDUW, ac nid neb airall; Duw ydwyf, ac heb fy math;
º10 Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf:
º11 Yn galw aderyn o’r dwyrain,< y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.
º12 Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder:
º13 Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a3d6ncv4lz5t3fguul2ergsf05x94sm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/696
104
4156
171888
7717
2026-10-31T14:57:40Z
Tylopous
3717
penodau
171888
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_47}}{{c|{{uc|Pennod XLVII}}.}}
{{bach|1 ''Barnedigaethau Duw ar Babilon a Chaldea,'' 6 ''am eu hannhrugarowgrwydd,'' 7 ''a’u balchder,'' 10 ''a’u rhyfyg:'' 11 ''ac nas gellir eu gwrthwynebu.''}}
{{angor|47:1}} {{uc|Disgyn}}, ac eistedd ŷd y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus.
º2 Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd.
º3 Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf.
º4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw AR¬GLWYDD y lluoedd, Sanct Israel.
º5 Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.
º6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di; ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
º7 A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.
º8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd.
º9 Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diep’ledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
º10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ildoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant;;i dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi.
º11 Am hynny y daw amat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth .irnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw .irnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti.
º12 Safyn awr gyda’th swynion, a chydag .imlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ‘ ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus,
º13 Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai
º1 hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat.
º14 Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân .i’u llysg hwynt, ni waredant eu heinioes o Ieddiant y fflam: ni bydd marworyn i vmdwymo, na than i eisiedd ar ei gyfer.
º15 Felly y byddant hwy i ti gyda’r i liai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei iluedd; nid oes un yn dy achub di.
{{angor|Pennod_48}}{{c|{{uc|Pennod XLVIII}}.}}
{{bach|1 ''Duw, i argyhoeddi y bobl o’u hynod gyndynrwydd, yn datguddio ei brophwydoliaethau.'' 9 ''Er ei fwyn ei hun y mae efe yn eu gwared hwy.'' 12 ''Y mae yn eu hannog hwy i fod yn ufudd, o herwydd ei allu a’i ragluniaeth ef:'' 16 ''yn cywno eu cildynrwydd hwy.'' 20 ''O’i fawr allu y mae yn gwyred ei bobl o Babilon.''}}
{{angor|48:1}} {{uc|Gwrandewch}} hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a 1daethant allan o ddyfroedd Jwda, y rhai
º1 dyngant i enw yr ARGLWYDD, ac a soffant am DDUW Israel, nid mewn gwir?" lonedd, nac mewn cyfiawnder.
º2 Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar DDUW Israel; enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.
º3 Y pethau gynt a fynegais er y pryd liwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u, naethais; mi a’u gwneuthum yn ddisy¬mwth, daethant i ben.
º4 Oherwydd i mi wybod dy fod di yn ‘.iled, a’th war fel giewyn haearn, a’th ikiloen yn bres;
º5 Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; ulroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwn.ieth, fy ugherfddelw a’m tawdd-ddelw a’u gorchmynnodd,
º6 Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt.
º7 Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist son amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt.
º8 Ie, nis dywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr.
º9 Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ivdphzvkxnd1w0ha29b7ne434rr28nu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/697
104
4157
171889
7718
2026-10-31T14:59:53Z
Tylopous
3717
penodau
171889
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º10 Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd.
º11 Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn, canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.
º12 Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.
º13 Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaeari a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.
º14 Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr ARGLWYDD a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid.
º15 Myfi, myn a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.
º16 Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr ARGLWYDD DDUW a’i Ysbryd a’m hanfonodd.
º17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Waredydd, Sancc Israel; Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio.
º18 O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr:
º19 A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei racan ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy airon,
º20 Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, a llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr ARGLWYDD ei was Jacob.
º21 Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd.
º22 Nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD, i’r rhai annuwiol.
{{angor|Pennod_49}}{{c|{{uc|Pennod XLIX}}.}}
{{bach|1 ''Crist, wedi ei anfon at yr Iuddewon, yn achwyn rhagddynt.'' 5 ''Ei anfon ef at y Cenhedloedd âg addewidion grasusol.'' 13 ''Bod cariad Duw tu ag at ei eglwys yn dragywyddol.'' 18 ''Helath adferu yr eglwys.'' 24 ''Y galluog ymwared allan o’r caethiwed.''}}
{{angor|49:1}} {{uc|Gwrandewch}} arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr AR¬GLWYDD a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroeddfymam y gwnaeth goffa amfyenw.
º2 Gosododd hefyd fy ngenau fel deddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;
º3 Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.
º4 Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r ARGLWYDD, a’m gwaith gyda’m Duw.
º5 Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’m Duw fydd fy nerth.
º6 Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.
º7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di.
º8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i Beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol;
º9 Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt.
º10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l81ueyli7oshn06rjf1cn0z1my3dg57
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/698
104
4158
171890
7719
2026-10-31T15:01:53Z
Tylopous
3717
penodau
171890
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priflyrdd a gyfodir.
º12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.
º13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd; canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid.
º14 Eto dywedodd Seion, Yr AR¬GLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd.
º15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.
º16 Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
º17 Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.
º18 Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.
º19 Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhant.
º20 Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf.
º21 Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rbai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?
º22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.
º23 Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.
º24 A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?
º25 Ond fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion.
º26 Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th gadam Waredydd di, Jacob.
{{angor|Pennod_50}}{{c|{{uc|Pennod L}}.}}
{{bach|1 ''Crist yn dangos nad efe yw yr achos y gwrthodywd yr Iuddewon, am ei fod yn abl i’w hachub hwy,'' 5 ''am ei fod yn ufudd i wneuthur hynny,'' 7 ''ac am ei fod yn ymddiried y’nghymmorth Duw.'' 10 ''Annog i hyderu ar Dduw, ac nid arnom ein hunain.''}}
{{angor|50:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.
º2 Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched.
º3 Gwisgaf y nefoedd a thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.
º4 Yr Arglwydd DDUW a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru roewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.
º5 Yr Arglwydd DDUW a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.
º6 Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cflrnau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddia s fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.
º7 Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’na cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir.
º8 Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn<noinclude><references/></noinclude>
0uofm53flcm8a24vcbhnifyo6j5yww0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/699
104
4159
171891
7720
2026-10-31T15:04:24Z
Tylopous
3717
penodau
171891
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.
º9 Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.
º10 Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr AR¬GLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW.
º11 xxx Wele, chwi oll y rhai ydych yn (Synnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain a gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.
{{angor|Pennod_51}}{{c|{{uc|Pennod LI}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i hyderu ar Grist, yn ol esampl Abraham,'' 3 ''o herwydd ei addewidion cysurfawr,'' 4 ''a’i gyfiawn ymwared,'' 7 ''a marwoldeb dyn.'' 9 ''Bod Crist â’i sanctaidd fraich yn amddiffyn yr eiddo rhag ofn dyn.'' 17 ''Y mae yn cwyno adfyd Jerusalem,'' 21 ''ac yn addaw ymwared.''}}
{{angor|51:1}} {{uc|Gwrandewch}} arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr AR¬GLWYDD: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt.
º2 Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch eagorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef.
º3 Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi laweoydd a hyfrydwch, diolch, a llais can.
º4 Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd.
º5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich.
º6 Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.
º7 Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad.
º8 Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m, hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
º9 Deffro, deffro, gwisg nerth, O’ fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaisi y ddraig?
º10 Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd?
º11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion a chanu, ac a llawenydd tragwyddol as-eu pennau: goddiweddant lawenydd a-hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.
º12 Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a-wceir fel glaswelltyn?
º13 Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a OTnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio?’ pha le y mae llid y gorthrymydd?
º14 Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.
º15 Eithr myfi yw yr ARGLWYDD dy E)DUW, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw ARGLWXDD y.lluoedd.
º16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.
º17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef, yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.
º18 Nid oes arweinydd iddi o’r holt feibion a esgorodd; ac nid oes a<noinclude><references/></noinclude>
fhp1s1byqy1s26rff4dz0fv1s93vn0y
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/700
104
4160
171892
7721
2026-10-31T15:07:49Z
Tylopous
3717
penodau
171892
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd.
º19 Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf?
º20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mben pob heol, fel tarw gwyllt mewn magi: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW.
º21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid irwy win.
º22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a’th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ai yfed mwy:
º23 Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.
{{angor|Pennod_52}}{{c|{{uc|Pennod LII}}.}}
{{bach|1 ''Crist yn perswadio ei eglwys i gredu ei rad brynedigaeth ef,'' 7 ''i dderbyn gweinidogion yr adbrynedigaeth,'' 9 ''i lawenychu yn ei gallu hi,'' 11 ''ac i’w rhyddhâu eu hunain oddi wrth gaethiwed.'' 13 ''Y dyrchefir teyrnas Crist.''}}
{{angor|52:1}} {{uc|Deffro}}, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan.
º2 Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd.,-Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaelhferch Seion.
º3 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yn rhad yr ymwerthasochi as nid ag arian y’ch gwaredir.
º4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd DDUW, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddi-achos.
º5 Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr ARGLWYDD, pan ddygid fy mhpbl ymaith yn rhad? eu llywodraethwy’r a wna iddynt udo, medd yr ARGLWYDD; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.
º6 Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cant wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.
º7 Mor weddaidd ar y mynyddoedd; yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yo cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn’ mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdws* iaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu.
º8 Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’f llef y cydganant: canys gwelant lygad yn-llygad, pan ddychwelo yr ARGLWYDD. Seion.
º9 Bloeddiwch, cydgenwch, anialwdh. Jerwsalem: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerw¬salem.
º10 Diosgodd yr ARGLWYDD fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.
º11 S! Ciliwch, ciliwch, ewch allan odd! yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr ARGLWYDD.
º12 Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr AR¬GLWYDD a â o’ch blaen chwi, a Duw Israel a’ch casgl chwi.
º13 Wele, fy ngwus a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fvdd uchel lawn.
º14 Megis y rhyt’eddudd ll.iwer wrthyty (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb< a’i bryd yn anad meibion dynion,)
º15 Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gtieant eu genau
wrtho ef; canys gwelant yr hya ai fynegasid.’riddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.
{{angor|Pennod_53}}{{c|{{uc|Pennod LIII}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn cwyno rhag anghrediniaeth; ac yn esgusodi rhwystr y groes,'' 4 ''trwy ddangos y daioni a ddaw o ddïoddefaint Crist,'' 10 ''a ffynniant y groes.''}}
{{angor|53:1}} {{uc|Pwy}} a gredodd i’n hymadrodd.? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?
º2 Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blag-aryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef.
º3 Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwyr; gŵr gofidus, a chynefin a dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
º4 Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto<noinclude><references/></noinclude>
bxl5ncsdtak0qg0gkytotb1l0uk27hu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/701
104
4161
171893
7722
2026-10-31T15:09:49Z
Tylopous
3717
penodau
171893
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio.
º5 Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.
º6 Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno efein hanwiredd ni i gyd.
º7 Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.
º8 O garchar ac o farn y cymerwyd ef; a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd rda arno ef am gamwedd fy mhobl.
º9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwol aeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
º10 Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn abcrth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef.
º11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.
º12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y tros¬eddwyr.
{{angor|Pennod_54}}{{c|{{uc|Pennod LIV}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, er mwyn cysuro y Cenhedloedd, yn prophwydo helaethrwydd yr eglwys;'' 4 ''eu dïogelwch hwy,'' 6 ''a’u sicr ymwared allan o gystudd,'' 11 ''a’u hadeilad dêg,'' 15 ''a’u dïogel gadwedigaeth.''}}
{{angor|54:1}} {{uc|Can}}, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amiach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr ARGLWYDD.
º2 Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy rafEau, a sicrha dy hoelion.
º3 Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.
º4 Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.
º5 Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD-y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.
º6 Canys fel gwraig wrthodedig, a chysmddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW.
º7 Dros ennyd fechan y’th adewais; ond a mawr drugareddau y’th gasglaf.
º8 Mewn ychydig sonant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond a thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.
º9 Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn.
º10 Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt.
º11 Y druan, helbulus gan dymesti, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di a charbund, ac a’th sylfaenaf a meini saffir.
º12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol.
º13 Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion.
º14 Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.
º15 Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasg-lant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth.
º16 Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac<noinclude><references/></noinclude>
nem3gqmscg652r8cj61nca5xzjn63nu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/702
104
4162
171894
7724
2026-10-31T15:12:49Z
Tylopous
3717
penodau
171894
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
º17 Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr AR¬GLWYDD, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_55}}{{c|{{uc|Pennod LV}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, trwy addewidion o Grist, yn galw pawb i gredu,'' 6 ''ac i edifarhâu.'' 8 ''Dedwydd lwyddiant y rhai a gredo.''}}
{{angor|55:1}} {{uc| o deuwch}} i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deawch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.
º2 Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster.
º3 Gogwyddwch eich dust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol a chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.
º4 Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd.
º5 Wele, cenedl nid adwaeni a eiwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oberwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.
º6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch saws, tra fyddo yn agos.
º7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
º8 Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD.
º9 Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.
º10 Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr:
º11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid.
º12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
º13 Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.
{{angor|Pennod_56}}{{c|{{uc|Pennod LVI}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn annog i sancteiddrwydd;'' 3 ''ac yn addaw y bydd sancteiddiad yn gyffredinol, heb dderbyn wyneb neb.'' 9 ''Y mae efe yn rhoi anghlod i’r gwylwyr deillion.''}}
{{angor|56:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos.
º2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
º3 Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn
a lynodd wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin.
º4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD with y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyf-amod i;
º5 Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd. Ie ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith.
º6 A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod;
º7 Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dy gweddi i’r holl bobloedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
f7ztlqtpm65vk3s3674braiyzxg5qed
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/703
104
4163
171909
7725
2026-10-31T18:06:08Z
Tylopous
3717
penodau
171909
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º8 Medd yr Arglwydd DDUW, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato.
º9 Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. i 10 Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cwn mudion iydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hcpian.
º11 Ie, cwn gwancus ydynt, ni chydna-’byddant a’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddcall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei clw ei hun o’i gŵr.
º12 Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.
{{angor|Pennod_57}}{{c|{{uc|Pennod LVII}}.}}
{{bach|1 ''Bendigedig farwolaeth y cyfiawn.'' 3 ''Duw yn argyhoeddi yr Iuddewon, am eu putteiniaidd ddelw-addoliaeth;'' 13 ''yn rhoi addewidion efengylaidd i’r edifeiriol.''}}
{{angor|57:1}} {{uc|Darfu}} am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. 2 Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwys-
aat yn eu hystafelloedd, sef pob un a TOdia yn ei uniondeb.
º3 Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain.
º4 Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?
º5 Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau.
º6 Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt-hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod-offrwm, ac yr offrymaist fwyd-offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?
º7 Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth.
º8 Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddi-noethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.
º9 Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern.
º10 Ym maim dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist.
º11 Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystvriaist yn dy galon? oni thewais i a son er ys talm, a thithau heb fy ofni?
º12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.
º13 Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.
º14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfoSwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.
º15 Canys fcl hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchatedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystudd¬iedig.
º16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i.
º17 Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon.
º18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachaf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr.
º19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr ARGLWYDD: a mi a’i hiachaf ef.
º20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid.
º21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.
{{angor|Pennod_58}}{{c|{{uc|Pennod LVIII}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, wedi ei yrru i argyhoeddi rhagrith,'' 3 ''yn dangos beth yw ympryd ffuantus, a gwir ympryd,'' 8 ''yn dangos pa addewidion sydd ddyledus am dduwioldeb,'' 13 ''ac am gadw Sabbath.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
44hvzl48xcqv57h51zmsmza32m8pq1y
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/704
104
4164
171910
7726
2026-10-31T18:08:19Z
Tylopous
3717
penodau
171910
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|58:1}} {{uc|Llefa}} a’th geg, nac arbed, dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob.
º2 Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i’ mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesau at DDUW.
º3 Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac ms gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion.
º4 Wele, i ymryson â chynnen yr ymprydiwch, ac i daro a dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder.
º5 Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwyaen ydyw, a thaemi sachliain a lludw daflo? ai hyn a eiwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr ARGLWYDD?
º6 Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau?
º7 Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dy? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?
º8 Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr ARGLWYDD a’th ddilyn.
º9 Yna y geiwi, a’r ARGLWYDD a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dy-wedyd oferedd;
º10 Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd:
º11 A’r ARGLWYDD a’th arwain yn wag.’" tad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfr oedd.
º12 A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeil-adant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.
º13 O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun:
º14 Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchel-feydd y ddaear, ac a’th borthaf ag cliteddlaeth Jacob dy dad: canys genau yr AR¬GLWYDD a’i llefarodd.
{{angor|Pennod_59}}{{c|{{uc|Pennod LIX}}.}}
{{bach|1 ''Ysgeler naturiaeth pechod.'' 3 ''Pechodau yr Iuddewon.'' 9 ''Am bechod y daw aflwydd.'' 16 ''O Dduw yn unig y mae iachawdwriaeth.'' 20 ''Cyfammod y Prynwr.''}}
{{angor|59:1}} {{uc|Wele}}, ni fyrhawyd llaw yr .ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:
º2 Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw, a’cli pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.
º3 Canys eich dwylo a halogwyd a gwaed, a’ch bysedd a chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.
º4 Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.
º5 Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber.
º6 Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.
º7 Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwinon: eu meddyhau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.
º8 Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mx2falwt732qdknpmzs73c8ub96bk0i
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/705
104
4165
171911
7727
2026-10-31T18:09:58Z
Tylopous
3717
penodau
171911
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º9 Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthynz, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.
º10 Palfalasom fel deillion a’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.
º11 Nym oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y gnddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwnaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.
º12 Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn-.ohwwydd ein camwedd¬au sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom:
º13 Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau.
º14 Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.
º15 Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
º16 Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd.
º17 Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sel fel cochl.
º18 Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe. llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dal efe.
º19 Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorilewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith.;
º20 Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD.
º21 A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
{{angor|Pennod_60}}{{c|{{uc|Pennod LX}}.}}
{{bach|1 ''Gogoniant yr eglwys pan ddelo y cenhedloedd yn dra aml atti;'' 15 ''a’r bendithion mawr a fydd ar ol ychydig gystudd.''}}
{{angor|60:1}} {{uc|Cyfod}}, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
º2 Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond amat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a’i ogoniant a welir arnat.
º3 Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.
º4 Cytbd dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys.
º5 Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.
º6 Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.
º7 Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dy fy ngogoniant.
º8 Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel ewmwl, ac fel colomennod i’w ffenestri?
º9 Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
º10 A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaeth¬ant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
º11 Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
º12 Canys y genedl a’r deyrnas<noinclude><references/></noinclude>
452fv2w3wyssti2td6ve0dtfgunslns
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/706
104
4166
171912
7728
2026-10-31T18:12:47Z
Tylopous
3717
penodau
171912
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhed¬loedd hynny a lwyr ddinistrir.
º13 Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.
º14 A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th
ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel.
º15 lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau.
º16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. ‘
º17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle * haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn.
º18 Ni chlywir mwy son am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a eiwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant.
º19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti.
º20 Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
º21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder.
º22 Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.
{{angor|Pennod_61}}{{c|{{uc|Pennod LXI}}.}}
{{bach|1 ''Swydd Crist.'' 4 ''Parodrwydd'' 7 ''a bendithion y ffyddloniaid.''}}
{{angor|61:1}} {{uc|Yspryd}} yr ARGLWYDD DDUW sydd arnaf; oherwydd yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym;
º2 I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus;
º3 I osod i alarwyr, Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef.
º4 Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd dinaith, ac anghyfanhedd-dra llawer oes.
º5 A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi.
º6 Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r ARGLWYDD: Gweinidogion ein Duw ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch.
º7 Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt.
º8 Canys myfi yr ARGLWYDD a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwrn, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf a hwynt gyfamod tragwyddol.
º9 Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr ARGLWYDD.
º10 Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi a gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo a harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch a’i thiysau.
º11 Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IOR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.
{{angor|Pennod_62}}{{c|{{uc|Pennod LXII}}.}}
{{bach|1 ''Awyddus chwant y prophwyd i gadarnhâu yr eglwys yn addewidion Duw.'' 5 ''Dyledswydd y gweinidogion wrth bregethu yr efengyl,'' 10 ''a pharottôi y bobl i’w derbyn.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a84a74vg78ajilhxpckee5kfk1e9hjv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/707
104
4167
171913
7729
2026-10-31T18:15:25Z
Tylopous
3717
penodau
171913
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|62:1}} {{uc|Er}} mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi.
º2 A’r cenhedloedd a welant dygyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr ARGLWYDD.
º3 Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhmol yn llaw dy DDUW.
º4 Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedit mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir.
º5 Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac a llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di.
º6 Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr ARGLWYDD, na ddistewch,
º7 Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhau, ac hyd oni osodo Jerw¬salem yn foliant ar y ddaear.
º8 Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheu-law, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano:
º9 Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt , ac a foliannant yr ARGLWYDD; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoeddi fy sancteiddrwydd.
º10 Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; di-g-aregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd.
º11 Wele, yr ARGLWYDD a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith iS’i flaen.
º12 Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr ARGLWYDD: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.
{{angor|Pennod_63}}{{c|{{uc|Pennod LXIII}}.}}
{{bach|1 ''Crist yn dangos pwy ydyw,'' 2 ''pa beth yw ei oruchafiaeth ar ei elynion,'' 7 ''a pha beth yw ei drugaredd tu ag at ei eglwys.'' 10 ''Yn ei gyflawn ddigllonedd y mae yn meddwl am ei hael drugaredd.'' 15 ''Yr eglwys yn ei gweddi,'' 17 ''a’i hachwyn, yn gwneuthur proffes o’i ffydd.''}}
{{angor|63:1}} {{uc|Pwy}} yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.
º2 Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf?
º3 Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi, canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf.
º4 Canys dydd dial sydd yn fy ngbalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.
º5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gyn-orthwywr, rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd.
º6 A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr.
º7 Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.
º8 Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn lachawdwr iddynt.
º9 Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychiol-deb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.
º10 y Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.
º11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt<noinclude><references/></noinclude>
5eq32f2er0go8no72joeadn7djaz6xl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/708
104
4168
171914
7730
2026-10-31T18:18:33Z
Tylopous
3717
penodau
171914
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef?
º12 Yr hwn a’u tywysodd hwynt a de-heulaw Moses, ac a’i ogoneddus fraich, gan holiti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw uigwyddol?
º13 Yr hwn a’u harweirdodd .hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?
º14 Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.
º15 Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sel a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant?
º16 Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.
º17 Paham, ARGLWYDD, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ftyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, Hwythau dy etifeddiaeth. . .
º18 Dros ychydig ennyd y aaeddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di.
º19 Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.
{{angor|Pennod_64}}{{c|{{uc|Pennod LXIV}}.}}
{{bach|1 ''Yr eglwys yn gweddïo ar i Dduw egluro ei allu;'' 5 ''ac wrth fawrygu trugaredd Duw, yn cyfaddef ei llygredigaeth naturiol:'' 9 ''yn cwyno rhag ei chystudd.''}}
{{angor|64:1}} {{uc|O na}} rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di,
º2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot!
º3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen.
º4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant a chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho.
º5 Cyfarfyddi a’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig.
º6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthia-
som ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynl, a’n dug ni ymaith.
º7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein haawireddau.
º8 Ond yn awr,0 ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
º9 Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.
º10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anial¬wch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd.
º11 tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith.
º12 A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?
{{angor|Pennod_65}}{{c|{{uc|Pennod LXV}}.}}
{{bach|1 ''.''}}
{{angor|65:1}} {{uc|A’r}}
º1 CEISIWYD fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
º2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
º3 Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogl-darthu ar allorau priddfeini;
º4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;
º5 Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tan yn llosgi ar hyd y dydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2ckkjd4x7rhq0cbveurs0rchzegotjk
171915
171914
2026-10-31T18:20:26Z
Tylopous
3717
penodau
171915
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef?
º12 Yr hwn a’u tywysodd hwynt a de-heulaw Moses, ac a’i ogoneddus fraich, gan holiti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw uigwyddol?
º13 Yr hwn a’u harweirdodd .hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?
º14 Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.
º15 Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sel a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant?
º16 Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.
º17 Paham, ARGLWYDD, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ftyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, Hwythau dy etifeddiaeth. . .
º18 Dros ychydig ennyd y aaeddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di.
º19 Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.
{{angor|Pennod_64}}{{c|{{uc|Pennod LXIV}}.}}
{{bach|1 ''Yr eglwys yn gweddïo ar i Dduw egluro ei allu;'' 5 ''ac wrth fawrygu trugaredd Duw, yn cyfaddef ei llygredigaeth naturiol:'' 9 ''yn cwyno rhag ei chystudd.''}}
{{angor|64:1}} {{uc|O na}} rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di,
º2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot!
º3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen.
º4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant a chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho.
º5 Cyfarfyddi a’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig.
º6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthia-
som ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynl, a’n dug ni ymaith.
º7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein haawireddau.
º8 Ond yn awr,0 ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
º9 Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.
º10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anial¬wch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd.
º11 tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith.
º12 A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?
{{angor|Pennod_65}}{{c|{{uc|Pennod LXV}}.}}
{{bach|1 ''Galwedigaeth y Cenhedloedd.'' 2 ''Gwrthod yr Iuddewon, am eu hanghrediniaeth, a’u delw-addoliaeth, a’u rhagrith.'' 8 ''Gweddill a achubir.'' 11 ''Barnedigaethau ar yr enwir, a bendithion ar y duwiol.'' 17 ''Dedwydd gyflwr Jerusalem newydd.''}}
{{angor|65:1}} {{uc|Ceisiwyd}} fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
º2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
º3 Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogl-darthu ar allorau priddfeini;
º4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;
º5 Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tan yn llosgi ar hyd y dydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
24pogheicyqwr73jruzxeo5rzi80dw0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/709
104
4169
171916
7731
2026-10-31T18:23:18Z
Tylopous
3717
penodau
171916
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º6 Weie, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes,
º7 Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr ARGLWYDD, y rhai a arogldanhasant ar y mynydd¬oedd, ac a’m cablusant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes.
º8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.
º9 Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno.
º10 Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i’m pobl y rhai a’m ceisiasant.
º11 Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw.
º12 Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: Alerwydd pan elwais chwi, nid atebasoch, pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.
º13 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt , a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawen-y chant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
º14 Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.
º15 A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:
º16 Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i DDUW y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o’m golwg.
º17 Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.
º18 Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd.
º19 Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.
º20 Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.
º21 A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.
º22 Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.
º23 Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt.
º24 A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf.
º25 Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_66}}{{c|{{uc|Pennod LXVI}}.}}
{{bach|1 ''Y myn y gogoneddus Dduw ei wasanaethu mewn gostyngedig burdeb:'' 5 ''y mae yn cysuro y gostyngedig â rhyfeddol genhedliad,'' 10 ''a grasusol ddoniau yr eglwys.'' 15 ''Tost farnedigaethau Duw yn erbyn yr annuwiol.'' 19 ''Y bydd i’r cenhedloedd eglwys sanctaidd,'' 24 ''ac y cânt weled damnedigaeth yr annuwiol.''}}
{{angor|66:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf?
º2 Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.
º3 Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abcrtho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo<noinclude><references/></noinclude>
rhd2qd4w3fmgr1ty94hbyt213uc7wko
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/711
104
4171
171917
171300
2026-10-31T18:27:31Z
Tylopous
3717
penodau
171917
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Llyfr y}}<br>
{{mawr|{{uc|Prophwyd Jeremiah.}}}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Amser'' 3 ''a galwad Jeremïah.'' 11 ''Ei brophwydol weledigaeth ef am y wïalen almon, a’r crochan berwedig.'' 15 ''Ei drom gennadwri ef yn erbyn Judah.'' 17 ''Duw yn ei gysuro ef, trwy addaw iddo ei gymmorth.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Geiriau}} Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin:
1:2 Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef.
1:3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim Blab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.
1:4 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
1:5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd.
1:6 Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.
1:7 Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.
1:8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.
1:9 Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.
1:10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
1:11 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.
1:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni.
1:13 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais. Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd.
1:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.
1:15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.
1:16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogl-darthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.
1:17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt.
1:18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.
1:19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Duw, wedi dangos ei garedigrwydd o’r blaen, yn ymliw â’r Iuddewon am droi oddi wrtho mor ddïachos,'' 9 ''y tu hwnt i bawb eraill.'' 14 ''Mai hwynt-hwy eu hunain yw yr achos o’u haflwydd.'' 20 ''Pechodau Judah.'' 31 ''Gwrthod ei hyder ef.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|A gair}} yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,
2:2 Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerw¬salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tluk7y2r8anf39y7i1354ko4n7oxgfh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/713
104
4173
171919
7737
2026-11-01T06:19:22Z
Tylopous
3717
penodau
171919
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>eb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.
2:28 Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.
2:29 Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr ARGLWYDD.
2:30 Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
2:31 O genhedlaeth, gwelwch air yr ARGLWYDD: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?
2:32 A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif.
2:33 Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.
2:34 Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.
2:35 Eto ti a ddywedi. Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.
2:36 Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria.
2:37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr AR¬GLWYDD a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Mawr drugaredd Duw yn ysgeler butteindra Judah.'' 6 ''Mai gwaeth yw Judah nag Israel.'' 12 ''Addewidion yr efengyl i’r edifeiriol.'' 20 ''Duw yn argyhoeddi ac yn galw Israel, a hwythau yn gwneuthur cyffes gyhoedd o’u pechodau.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|Hwy}} a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni
lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
3:2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir a’th buteindra, ac a’th ddrygioni.
3:3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.
3:4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?
3:5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
3:6 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.
3:7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.
3:8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.
3:9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi.
3:10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr ARGLWYDD.
3:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
3:12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
3:13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr AR¬GLWYDD.
3:14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr ARGLWYDD; canys myfi a’ch priodais chwi: a mi a’ch cym<noinclude><references/></noinclude>
mxew696mwiexggcg9imf02q0p8erxny
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/714
104
4174
171920
7738
2026-11-01T06:20:57Z
Tylopous
3717
penodau
171920
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>meraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Seion:
3:15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a’ch porthant chwi a gwybodaeth, ac a deall.
3:16 Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni ddywed¬ant mwy. Arch cyfamod yr ARGLWYDD; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.
3:17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.
3:18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.
3:19 Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
3:20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr ARGLWYDD .
3:21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israeli: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr ARGLWYDD eu Duw.
3:22 Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr ARGLWYDD ein Duw.
3:23 Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr ARGLWYDD ein Duw ni.
3:24 Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched.
3:25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn galw Israel trwy ei addewid;'' 3 ''yn annog Judah i edifarhâu trwy farnedigaethau ofnadwy.'' 19 ''Tostur gwynfan am drueni Judah.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Israel}}, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.
4:2 A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
4:3 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerw¬salem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain.
4:4 Ymenwaedwch i’r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.
4:5 Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i’r dinasoedd caerog.
4:6 Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr.
4:7 Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
4:8 Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr ARGLWYDD ni throes oddi wrthym ni.
4:9 Ac yn y dydd hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r proffwydi a ryfeddant.
4:10 Yno y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
4:11 Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel-leoedd yn y<noinclude><references/></noinclude>
nhyrx8z7zfvc6ui6pa8nhkn17yt2s66
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/715
104
4175
171921
7739
2026-11-01T06:23:02Z
Tylopous
3717
penodau
171921
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>diffaethwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;
4:12 Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy.
4:13 Wele, megis cymylau y daw i fyny, a’i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod. Gwae nyni! Canys ni a anrheithiwyd.
4:14 O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion?
4:15 Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim.
4:16 Coffewch i’r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda.
4:17 Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr ARGLWYDD.
4:18 Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di, am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.
4:19 Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.
4:20 Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg.
4:21 Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?
4:22 Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i, meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
4:23 Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.
4:24 Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a’r holi fryniau a ymysgydwent.
4:35 Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent.
4:26 Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr ARGLWYDD, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.
4:27 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.
4:28 Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi. Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.
4:29 Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy ânt i’r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.
4:30 A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y’th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a’th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.
4:31 Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Barnedigaethau Duw ar yr Iuddewon, am eu gwrthnysigrwydd,'' 7 ''am eu godineb,'' 10 ''am eu hannuwioldeb,'' 19 ''am iddynt ddïystyru Duw,'' 25 ''am eu mawr lygredigaeth yn eu llywodraeth fydol'' 30 ''ac eglwysig.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Rhedwch}} yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.
5:2 Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.
5:3 O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
5:4 A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu Duw.
5:5 Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a-wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.
5:6 Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar<noinclude><references/></noinclude>
45nmi2vuga3iah6uoiyh7ig89hkajyu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/716
104
4176
171922
7740
2026-11-01T06:25:32Z
Tylopous
3717
penodau
171922
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
5:7 Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynr, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
5:8 Oeddynt fel meirch porthiannus y bore, gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
5:9 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
5:10 Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei murganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.
5:11 Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.
5:12 Celwyddog fu.mt yn erbyn yr AR¬GLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:
5:13 A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.
5:14 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt.
5:15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.
5:16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
5:17 A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf .
5:18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
5:19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
5:20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddy¬wedyd,
5:21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
5:22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
5:23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
5:24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
5:25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.
5:26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.
5:27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.
5:28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.
5:29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?
5:30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:
5:31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Y gelynion a yrrwyd yn erbyn Judah,'' 4 ''yn ymgysuro.'' 6 ''Duw yn gosod y gelynion ar waith o herwydd pechodau ei bobl.'' 9 ''Y prophwyd yn cwyno rhag barnedigaethau Duw o herwydd eu pechodau hwy:'' 18 ''yn cyhoeddi digofaint Duw:'' 26 ''yn galw y bobl i alaru, o herwydd barnedigaethau Duw am eu pechodau hwy.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s7lzpzq5p4zvnvov3kndt6rg36lenby
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/717
104
4177
171923
7741
2026-11-01T06:26:06Z
Tylopous
3717
penodau
171923
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|6:1}} {{uc|Ymgynhullwch}} i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgom; a chodwch ffagl yn Beth-haccerem: canys drwg a welir o’r gogledd, a dinistr mawr.
6:2 Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus. .
6:3 Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.
6:4 Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.:
6:5 Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.
6:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi, gorthrymder yw hi oll o’i mewn.
6:7 Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.
6:8 Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyf-aniieddol.
6:9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i’r basgedau.
6:10 Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clusthwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dinnygus ganddynt air yr ARGLWYDD; nid oes ganddynt ewyllys iddo.
6:11 Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr ARGLWYDD, bhnais yn ymatal: tywallt-af ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynull-eidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a’r wraig a ddelir, yr henwr a’r llawn o ddyddiau.
6:12 A’u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a’u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD.
6:13 Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd dod: ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.
6:14 A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch.
6:15 A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant, yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr ARGLWYDD.
6:16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi.
6:17 A mi a osodais wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim.
6:18 Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt.
6:19 Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodasant hi.
6:20 I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.
6:21 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir.
6:22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.
6:23 Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.
6:24 Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant, blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor.
6:25 Na ddos allan i’r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.
6:26 Merch fy mhobl, ymwregysa<noinclude><references/></noinclude>
27m2n7r2oqas2exjir51ncfodoeoatq
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/718
104
4178
171924
7742
2026-11-01T06:28:53Z
Tylopous
3717
penodau
171924
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.
6:27 Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.
6:28 Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ynt; llygru y maent hwy oll.
6:29 Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.
6:30 Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o’r ARGLWYDD hwynt.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Anfon Jeremïah i alw am wir edifeirwch, i luddias y caethiwed.'' 8 ''Y mae yn llysu eu hofer ymddiried hwy,'' 12 ''trwy esampl Siloh.'' 17 ''Y mae yn eu bygwth am eu delw-addoliaeth:'' 21 ''yn llysu ebyrth yr anufudd:'' 29 ''yn eu hannog i alaru, o achos eu ffieidd-dra yn Tophet,'' 32 ''a’r barnedigaethau a ddeuai am hynny.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Y gair}} yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy¬wedyd,
7:2 Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD.
7:3 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.
7:4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt.
7:5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog;
7:6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddi¬fad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun;
7:7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
7:8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.
7:9 Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;
7:10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll?
7:11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.
7:12 Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel.
7:13 Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:
7:14 Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo.
7:15 A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.
7:16 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf.
7:17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
7:18 Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân., a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau .i frenhines y nef, ac i dywallt diod-offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i.
7:19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr ARGLWYDD: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun?
7:20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
7:21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.
7:22 Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchymynnais idd-<noinclude><references/></noinclude>
6wnyk9hsnwsl89vxcmbgf9p3vfwzbis
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/719
104
4179
171925
7743
2026-11-01T06:44:45Z
Tylopous
3717
penodau
171925
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau:
7:23 Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmyn¬nais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.
7:24 Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.
7:25 O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd’gan foregofli, ac anfon:
7:26 Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.
7:27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di.
7:28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.
7:29 Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr ARGLWYDD a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.
7:30 Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr ARGLWYDD: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef.
7:31 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.
7:32 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnoin, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle.
7:33 A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd a’u tarfo.
7:34 Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Gofid yr Iuddewon, yn fyw ac yn farw.'' 4 ''Y mae yn edliw iddynt eu hynfyd a’u digywilydd anedifeirwch:'' 13 ''yn dangos y farn dost a gaent hwy,'' 18 ''ac yn cwyno eu henbyd gyflwr hwy.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|Yn}} yr amser hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerw¬salem, allan o’u beddau.
8:2 A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
8:3 Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.
8:4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?
8:5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd;.
8:6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.
8:7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr AR¬GLWYDD.
8:8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.:
8:9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt?
8:10 Am hynny y rhoddaf eu gwrag-<noinclude><references/></noinclude>
m05isheviqp4c4e1yi43h1t8v3ptg1w
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/720
104
4180
171926
7744
2026-11-01T06:47:21Z
Tylopous
3717
penodau
171926
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>edd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
8:11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
8:12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD.
8:13 Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
8:14 Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr AR¬GLWYDD ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.
8:15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
8:16 O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi.
8:17 Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a’ch brathant chwi, medd yr ARGLWYDD.
8:18 Pan ymgysurwn yn erbyn gofid,. fy nghalon sydd yn gofidio ynof.
8:19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant a’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
8:20 Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.
8:21 Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi.
8:22 Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Jeremïah yn cwynfan o achos amryw bechodau yr Iuddewon,'' 9 ''a’u barnedigaethau.'' 12 ''Anufudd-dod yw achos eu chwerw ofid hwy.'' 17 ''Y mae yn eu hannog i gwynfan o achos en dinystr:'' 23 ''ac i hyderu, nid arnynt eu hunain, ond ar Dduw.'' 25 ''Y mae yn bygwth Iuddewon a Chenhedloedd hefyd.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|O na}} bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl!
9:2 O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid.
9:3 A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.
9:4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
9:5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymfliniasant yn gwneuthur anwiredd.
9:6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr ARGLWYDD.
9:7 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt; canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?
9:8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch with ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9:9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
9:10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.
9:11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bxej1dnb7tw24gamggtrenkf23aqa1y
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/721
104
4181
171927
7745
2026-11-01T06:49:20Z
Tylopous
3717
penodau
171927
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>9:12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr ARGLWYDD wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?
9:13 A dywedodd yr ARGLWYDD, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi,
9:14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:
9:15 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl.
9:16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
9:17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,
9:18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.
9:19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan.
9:20 Eto gwrandewch air yr ARGLWYDD, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd.
9:21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd.
9:22 Dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
9:23 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryfyn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;
9:24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr ARGLWYDD.
9:25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig;
9:26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Yr anghyffelybrwydd sydd rhwng Duw ac eilunod.'' 17 ''Y mae yn annog i ochel y gofidiau sydd ar ddyfod:'' 19 ''yn cwyno anrhaith y tabernacl gan fugeiliaid ynfydion:'' 23 ''yn gwneuthur gweddi ostyngedig.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Gwrandewch}} y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel:
10:2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy.
10:3 Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaithllaw y saer, â bwyell.
10:4 Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.
10:5 Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.
10:6 Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.
10:7 Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.
10:8 Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.
10:9 Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.
10:10 Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y Duw byw,<noinclude><references/></noinclude>
0zzl3m7xbdyjmavtmynouz96epdhp6d
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/722
104
4182
171928
7747
2026-11-01T06:51:18Z
Tylopous
3717
penodau
171928
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.
10:11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.
10:12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.
10:13 Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau.
10:14 Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
10:15 Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.
10:16 Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw.
10:17 Casgl o’r tir dy farsiandiaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.
10:18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.
10:19 Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf.
10:20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.
10:21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.
10:22 Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.
10:23 Gwn, ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad.
10:24 Cosba fi, ARGLWYDD, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim.
10:25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Jeremïah yn cyhoeddi cyfammod Duw;'' 8 ''yn ceryddu yr Iuddewon am fod yn anufudd iddo,'' 11 ''yn prophwydo y deuai drygau arnynt hwy,'' 18 ''ac ar wŷr Anathoth, am gydfwriadu lladd Jeremïah.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|Y gair}} yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
11:2 Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem;
11:3 Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn,
11:4 Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi; felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau:
11:5 Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O AR¬GLWYDD, felly y byddo.
11:6 Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerw¬salem, gan ddywedyd, Gwrandewch eir¬iau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt.
11:7 Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais.
11:8 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.
11:9 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem,
11:10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando<noinclude><references/></noinclude>
45zeob5py6q6ne289od7cbsbeop8x60
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/723
104
4183
171929
7748
2026-11-01T06:53:27Z
Tylopous
3717
penodau
171929
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.
11:11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.:
11:12 Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogl-darthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd.
11:13 Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda, ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.
11:14 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.
11:15 Beth a wna fy annwyl yn fy nhy^, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.
11:16 Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr ARGLWYDD dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tan ynddi, a’i changhennau a dorrwyd.
11:17 Canys ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.
11:18 A’r ARGLWYDD a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy.
11:19 A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.
11:20 Eithr, O ARGLWYDD y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn.
11:21 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr ARGLWYDD, rhag dy farw trwy ein dwylo ni:
11:22 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn.
11:23 Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}}
{{bach|1 ''Jeremïah yn cwyno rhag llwyddiant yr annuwiol, a thrwy ffydd yn gweled eu cwymp hwy.'' 5 ''Duw yn ei rybuddio ef o fradwriaeth ei frodyr yn ei erbyn;'' 7 ''ac yn gofidio dros ei etifeddiaeth;'' 14 ''ac yn addaw i’r edifeiriol gael dychwelyd o gaethiwed.''}}
{{angor|12:1}} {{uc|Cyfiawn}} wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll?
12:2 Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant, cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.
12:3 Ond ti, ARGLWYDD, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.
12:4 Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddy¬wedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.
12:5 O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?
12:6 Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt-hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.
12:7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.
12:8 Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0lniw2ikntgxdhlj8krtqr7uhujccgs
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/724
104
4184
171930
7749
2026-11-01T06:56:00Z
Tylopous
3717
penodau
171930
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>12:9 Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgasglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.
12:10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.
12:11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.
12:12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.
12:13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.
12:14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt.
12:15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w eti¬feddiaeth, a phob un i’w dir.
12:16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.
12:17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}}
{{bach|1 ''Trwy arwydd y gwregys llïan a guddiwyd yn Euphrates, y mae Duw yn rhag-ddangos dinystr ei bobl.'' 12 ''Trwy ddammeg costrelau a lenwid â gwin, yn rhag-fynegi y meddwid hwy â drygfyd.'' 15 ''Y mae yn eu hannog i ochel y barnedigaethau sydd ar ddyfod;'' 22 ''ac yn dangos mai eu ffieidd-dra hwy oedd yr achos o hynny.''}}
{{angor|13:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.
13:2 Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a’i dodais am fy llwynau.
13:3 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, gan ddywedyd,
13:4 Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig.
13:5 Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i mi.
13:6 Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.
13:7 Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.
13:8 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
13:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.
13:10 Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.
13:11 Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dy^ Israel a holl dy^ Jwda lynu wrthyf, medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
13:12 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?
13:13 Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, a meddwdod.
13:14 Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR¬GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3e01k87ip5y7fsp2hntuw1yloqr8vhf
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/725
104
4185
171931
7750
2026-11-01T06:58:00Z
Tylopous
3717
penodau
171931
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>13:15 Clywch, a gwrandewch; na falchiwch: canys yr ARGLWYDD a lefarodd.
13:16 Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.
13:17 Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a’m llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
13:18 Dywed wrth y brenin a’r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.
13:19 Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a’u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.
13:20 Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?
13:21 Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?
13:22 Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.
13:23 A newidia yr Ethiopiad ei groen neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd a gwneuthur drwg.
13:24 Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.
13:25 Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr ARGLWYDD; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.
13:26 Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.
13:27 Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd-dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerw¬salem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{bach|1 ''Y newyn tost,'' 7 ''yn peri i Jeremïah weddïo.'' 10 ''Ni fyn yr Arglwydd ymbil âg ef dros y bobl.'' 13 ''Nad yw gau-brophwydi yn esgus iddynt hwy.'' 17 ''Cyffrôi Jeremïah i gwyno drostynt hwy.''}}
{{angor|14:1}} {{uc|Gair}} yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.
14:2 Galara Jwda, a’i phyrth a lesgant; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerw¬salem a ddyrchafodd i fyny.
14:3 A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.
14:4 Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau.
14:5 Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt.
14:6 A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.
14:7 O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn.
14:8 Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?
14:9 Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.
14:10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.
14:11 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.
14:12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf, bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf hwynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qnkbuh4sdmxxf26lugux69sdvodi5jh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/726
104
4186
171932
7751
2026-11-01T07:00:23Z
Tylopous
3717
penodau
171932
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:13 Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.
14:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff¬wydo i chwi.
14:15 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am y proffwydi sydd yn proff¬wydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proff¬wydi hynny.
14:16 A’r bobl y rhai y maent yn proff¬wydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
14:17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys a briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac a phia tost iawn.
14:18 Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.
14:19 Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am hedd¬wch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.
14:20 Yr ydym yn cydnabod, ARGLWYDD, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.
14:21 Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant; cofia, na thor dy gyfamod â ni.
14:22 A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O ARGLWYDD ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.
{{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}}
{{bach|1 ''Llwyr wrthodiad, ac amryw farnedigaethau yr Iuddewon.'' 10 ''Jeremïah yn cwyno rhag eu hatgasrwydd hwy; ac yn derbyn addewid iddo ei hun,'' 12 ''a bygwth arnynt hwythau:'' 15 ''yn gweddïo,'' 19 ''ac yn cael addewid grasusol.''}}
{{angor|15:1}} {{uc|A dywedodd}} yr ARGLWYDD wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith.; a Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr
awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.
º3 A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr ARGLWYDD: y cleddyf, i ladd; a’r cwn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa.
º4 Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda; am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsakm.
º5 Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti?
º6 Tia’rngadewaist, medd yr ARGLWYDD, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau.
º7 A mi a’u chwalaf hwynt a gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.
º8 Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y roor: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi; a dychryn ar y ddinas.
º9 Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr AR¬GLWYDD.
º10 Gwae fi, fy mam, ymddwyn<noinclude><references/></noinclude>
ldyx81bln2lp8qlwvhrtwaugvqjr1vi
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/727
104
4187
171933
7752
2026-11-01T07:03:26Z
Tylopous
3717
penodau
171933
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.
º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd.
º12 A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’’r dur?
º13 Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.
"14 Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elyrt- ion i dir nid adwaenost: canys’tan a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.
º15 Ti a wyddost, ARGLWYDD; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosofar fy erhdwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.
º16 Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
º17 Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eistedd¬ais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid.
º18 Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?
º19 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.
º20 Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr ARGLWYDD.
º21 A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.
{{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, trwy gysgodion, sef trwy ymattal oddi wrth brïodas, ac oddi wrth dai galar a gwledda, yn rhag-ddangos llwyr ddifrod yr Iuddewon,'' 10 ''am eu bod yn waeth na’u tadau;'' 14 ''y bydd rhyfeddach eu hymwared hwy allan o gaethiwed, nag allan o’r Aipht;'' 16 ''y tâl Duw iddynt eu delw-addoliaeth yn ddau-ddyblyg.''}}
{{angor|16:1}} {{uc|Gair}} yr ARGLWYDD a dflaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,
º2 Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.
º3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;
º4 O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.
º5 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi.
º6 A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.
º7 Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.
º8 Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.
º9 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
º10 A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau byn,?c iddynt hwythau ddywedyd wrthyt. Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu. Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?
º11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mpt5ytj9kmhjuyre23htt4xtqriqeqr