Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.1 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/326 104 3578 172042 171904 2026-11-02T13:49:52Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172042 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|3:13|13}} ¶ A dywedodd yntau, Da; myfi a wnaf gyfammod â thi: etto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddywedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelech i edrych yn fy wyneb. {{angor|3:14|14}} A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro ''i mi'' fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaen-grwyn y Philistiaid. {{angor|3:15|15}} Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ''ei'' gwr, ''sef'' oddi wrth Phaltïel mab Laïs. {{angor|3:16|16}} A’i gwr a aeth gyd â hi, gan fyned ac wylo ar ei hol hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd. {{angor|3:17|17}} ¶ Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddych chwi yn ceisio Dafydd yn frenhin arnoch. {{angor|3:18|18}} Ac yn awr gwnewch ''hynny:'' canys yr {{sc|Arglwydd}} a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion. {{angor|3:19|19}} Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll ''oedd'' dda y’ngolwg Israel, ac y’ngolwg holl dŷ Benjamin. {{angor|3:20|20}} Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gyd âg ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr ''oedd'' gyd âg ef. {{angor|3:21|21}} A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a âf, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenhin, fel y gwnelont gyfammod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch. {{angor|3:22|22}} ¶ Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid ''oedd'' Abner gyd â Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch. {{angor|3:23|23}} Pan ddaeth Joab a’r holl lu ''oedd'' gyd âg ef, mynegwyd i Joab, gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenhin; ac efe a’i gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch. {{angor|3:24|24}} A Joab a ddaeth at y brenhin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner attat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith? {{angor|3:25|25}} Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur. {{angor|3:26|26}} A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ol Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ol oddi wrth ffynnon Sirah, heb wybod i Dafydd. {{angor|3:27|27}} A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilldu yn y porth, i ymddiddan âg ef mewn heddwch; ac a’i tarawodd ef yno dan y bummed ''ais'', fel y bu efe farw, o herwydd gwaed Asahel ei frawd ef. {{angor|3:28|28}} ¶ Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dïeuog ''ydwyf'' fi a’m brenhiniaeth ger bron yr {{sc|Arglwydd}} byth, oddi wrth waed Abner mab Ner: {{angor|3:29|29}} Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo ''fod un'' o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahan-glwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisieu bara. {{angor|3:30|30}} Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, o herwydd lladd o hono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon. {{angor|3:31|31}} ¶ A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl ''oedd'' gyd âg ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachlïan, a galerwch o flaen Abner. A’r brenhin Dafydd oedd yn myned ar ol yr elor. {{angor|3:32|32}} A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenhin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant. {{angor|3:33|33}} A’r brenhin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?: {{angor|3:34|34}} Dy ddwylaw nid ''oeddynt'' yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai ''un'' o flaen meibion enwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo am dano ef. {{angor|3:35|35}} A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwytta bara, a hi etto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo {{sc|Duw}} i mi, ac fel hyn y chwanego,<noinclude><references/></noinclude> 1xzud5ptet0lvs4md3b5boivfahjerx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/327 104 3579 172110 171905 2026-11-03T06:34:25Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172110 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo yr haul. {{angor|3:36|36}} A’r holl bobl a wybuant ''hynny'', a da oedd ''hyn'' yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnai y brenhin, oedd dda y’ngolwg y bobl. {{angor|3:37|37}} A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenhin ladd Abner mab Ner. {{angor|3:38|38}} A’r brenhin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel? {{angor|3:39|39}} A minnau ''ydwyf'' eiddil heddyw, er fy enneinio yn frenhin; a’r gwŷr hyn, meibion Serfiah, ''sydd'' ry galed i mi. Yr {{sc|Arglwydd}} a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ol ei ddrygioni. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Tra yr oedd yr Israeliaid yn ddychrynedig o achos marwolaeth Abner,'' 2 ''Baanah a Rechab yn lladd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron.'' 9 ''Dafydd yn peri eu lladd hwythau, a chladdu pen Isboseth.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A phan}} glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylaw a laesasant, a holl Israel a ofnasant. {{angor|4:2|2}} A dau wr oedd gan fab Saul yn dywysogion ''ar'' dorfoedd: enw un ''oedd'' Baanah, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin: {{angor|4:3|3}} A’r Beerothiaid a ffoisent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddïeithriaid hyd y dydd hwn.) {{angor|4:4|4}} Ac i Jonathan, mab Saul, ''yr oedd'' mab cloff o’''i'' draed. Mab pùm mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jezreel; a’i fammaeth a’i cymmerth ef, ac a ffodd: a bu, wrth frysio o honi i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef ''oedd'' Mephiboseth. {{angor|4:5|5}} A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baanah, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd. {{angor|4:6|6}} Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, ''fel'' rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i tarawsant ef dan y bummed ''asen:'' a Rechab a Baanah ei frawd a ddïangasant. {{angor|4:7|7}} A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i tarawsant ef, ac a dorrasant ei ben ef; ac a gymmerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy y gwastadedd ar hyd y nos. {{angor|4:8|8}} A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenhin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r {{sc|Arglwydd}} a roddes i’m harglwydd frenhin ddïal y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had. {{angor|4:9|9}} ¶ A Dafydd a attebodd Rechab a Baanah ei frawd, meibion Rimmon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, ''Fel mai'' byw yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra, {{angor|4:10|10}} Pan fynegodd ''un'' i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen-chwedl,) mi a ymaflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn ''a dybiasai'' y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl: {{angor|4:11|11}} Pa faint mwy ''y gwnaf'' i ddynion annuwiol a laddasant wr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac ''oni'' thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear? {{angor|4:12|12}} A Dafydd a orchymynodd i’w langciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorrasant eu dwylaw hwynt a’u traed, ac a’''u'' crogasant ''hwy'' uwch ben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymmerasant hwy, ac a’''i'' claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Y llwythau yn dyfod i Hebron i enneinio Dafydd yn frenhin ar Israel.'' 4 ''Oedran Dafydd.'' 6 ''Dafydd yn ennill Sïon oddi ar y Jebusiaid, ac yn trigo ynddi.'' 11 ''Hiram yn anfon at Dafydd.'' 13 ''Geni meibion iddo yn Jerusalem.'' 17 ''Dafydd, trwy gyfarwyddyd Duw, yn taro y Philistiaid yn Baal-perasim,'' 22 ''ac wrth y morwydd.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yna}} holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ''ydym'' ni. {{angor|5:2|2}} Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenhin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. {{angor|5:3|3}} Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenhin i Hebron: a’r brenhin Dafydd a wnaeth gyfammod â hwynt yn Hebron, ger bron<noinclude><references/></noinclude> fzhgfqcakxrx3ksnfkb16rgd3ibf5py Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/849 104 4323 172043 7945 2026-11-02T13:52:59Z Tylopous 3717 penodau 172043 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>rael; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. 1:7 Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda; ac a’u cadwaf hwynt trwy yr ARGLWYDD eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt. 1:8 A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. 1:9 A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn DDUW. 1:10 Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych. 1:11 Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Delw-addoliaeth y bobl;'' 6 ''a barn Duw yn eu herbyn hwy:'' 14 ''y mae yn addaw cymmodi â hwynt.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Dywedwch}} wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama. 2:2 Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau; 2:3 Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched. 2:4 Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb. 2:5 Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd. 2:6 Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau. 2:7 A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon. 2:8 Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal. 2:9 Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi. 2:10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i. 2:11 Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio. 2:12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt. 2:13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD. 2:14 Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. 2:15 A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. 2:16 Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali. 2:17 Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. 2:18 A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. 2:19 A mi a’th ddyweddïiaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. 2:20 A dyweddïaf di â mi mewn<noinclude><references/></noinclude> gowty21umh4is8a51hhq8ln2f7f0ylt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/850 104 4324 172044 7946 2026-11-02T13:55:42Z Tylopous 3717 penodau 172044 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ffyddlondeb; â thi a adnabyddi yr ARGLWYDD. 2:21 A’r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr ARGLWYDD, ar y nefoedd y gwrandawaf, a hwythau a wrandawant ar y ddaear; 2:22 A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel. 2:23 A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Trwy lanhâu godineb-wraig,'' 4 ''y dangosir anghyfannedd-dra Israel o flaen ei adferiad.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Yna}} yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr ARGLWYDD ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin. 3:2 A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd: 3:3 A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau. 3:4 Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim. 3:5 Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Barnedigaethau Duw yn erbyn pechodau y bobl,'' 6 ''a’r offeiriaid;'' 12 ''ac yn erbyn eu delw-addoliaeth hwy.'' 15 ''Annog Judah i gymmeryd rhybudd wrth ofidiau Israel.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Meibion}} Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad. 4:2 Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed. 4:3 Am hynny y galara y wlad, ac y llesga oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, pysgod y môr hefyd a ddarfyddant. 4:4 Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad. 4:5 Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam. 4:6 Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybod¬aeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dŷ DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd. 4:7 Fel yr amlhasant, felly y pechasant ‘m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth. 4:8 Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon. 4:9 A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd. 4:10 Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhant; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD. 4:11 Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith. 4:12 Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw. 4:13 Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas. 4:14 Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant. 4:15 Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD. 4:16 Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a’u. portha hwynt fel oen mewn ehangder. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ng9trb6ug8cfrlaqjyquzv5vcz8y0o8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/851 104 4325 172045 7947 2026-11-02T13:58:11Z Tylopous 3717 penodau 172045 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:17 Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo. 4:18 Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi. 4:19 Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Barnedigaethau Duw yn erbyn offeiriaid, aphobl, a thywysogion Israel, am eu hamryw bechodau,'' 15 ''nes iddynt edifarhâu.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Clywch}} hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor. 5:2 Y rhai a wyrant i ladd â ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll. 5:3 Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd. 5:4 Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr ARGLWYDD. 5:5 A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt. 5:6 A’u defaid ac a’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD, ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt. 5:7 Yn erbyn yr ARGLWYDD y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau. 5:8 Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin. 5:9 Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr. 5:10 Bu dywysogion Jwda fei symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr. 5:11 Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn. 5:12 Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda. 5:13 Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll. 5:14 Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo. 5:15 Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Annog i edifeirwch.'' 4 ''Achwyn mor anhynaws ac mor annuwiol ydynt.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Deuwch}}, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; etc a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. 6:2 Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. 6:3 Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear. 6:4 Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. 6:5 Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. 6:6 Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau. 6:7 A’r rhai byn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn. 6:8 Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed. 6:9 Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder. 6:10 Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel. 6:11 Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> egciv3gtjvlc568uv3jw3df9zsm2okp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/852 104 4326 172046 7951 2026-11-02T14:00:18Z Tylopous 3717 penodau 172046 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><nowiki/> {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Argyhoeddi amryw bechodau.'' 11 ''Digofaint Duw yn erbyn y bobl am eu rhagrith.''}} {{angor|7:1}} {{uc|A mi}} yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samana: canys gwnânt ffalster, a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan. 7:2 Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb. 7:3 Llawenhânt y brenin a’u drygioni, a’r tywysogion a’u celwyddau. 7:4 Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio. 7:5 Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin; estynnodd ei law gyda gwatwarwyr. 7:6 Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân. 7:7 Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi. 7:8 Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi. 7:9 Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe. 7:10 Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac nis ceisiant ef. 7:11 Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria. 7:12 Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu en cynulleidfa hwynt. 7:13 Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: diinstr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasaot gelwydd arnaf fi. 7:14 Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf. 7:15 Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi. 7:16 Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1, 12 ''Bygwth dinystr am annuwioldeb y bobl,'' 5 ''a’u gau-dduwiaeth.''}} {{angor|8:1}} {{uc|At}} dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr, y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am. iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith. 8:2 Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di. 8:3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau. 8:4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith. 8:5 Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd? 8:6 Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria. 8:7 Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc. 8:8 Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo. 8:9 Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau. 8:10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion. 8:11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu. 8:12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd. 8:13 Yn lle ebyrth fy offrymau,<noinclude><references/></noinclude> 4mth5cnq8qwsjjbmabkvms9d83j7x62 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/853 104 4327 172047 7952 2026-11-02T14:02:10Z Tylopous 3717 penodau 172047 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft. 8:14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|''Cyfyngder a chaethiwed Israel am eu pechodau a’u gau-dduwiaeth.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Israel}}, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dŷ DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd. 9:2 Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. 9:3 Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan. 9:4 Nid offrymant win i’r ARGLWYDD, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb, a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD. 9:5 Beth a wnewch ar ddydd yr uchel.ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD? 9:6 Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. 9:7 Dyddiau i ymweled â ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. 9:8 Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW. 9:9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod. 9:10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant. 9:11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi. 9:12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt! 9:13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad. 9:14 Dyro iddynt, ARGLWYDD: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion. 9:15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar. 9:16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau. 9:17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y bydd¬ant grwydraid ymhlith y cenhedloedd. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|''Argyhoeddi Israel am eu pechodau a’u gau-dduwiaeth.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Gwinwydden}} wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg. 10:2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau. 10:3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr ARGLWYDD; a pheth a wnâi brenin i ni? 10:4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd. 10:5 Preswylwyr Samaria a ofnant oher¬wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef. 10:6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd gan¬ddo ei gyngor ei hun. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> dauo9wghhuzoh9lva8x5fv6swvg5ns5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/854 104 4328 172048 7953 2026-11-02T14:04:48Z Tylopous 3717 penodau 172048 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>10:7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr. 10:8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom. 10:9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt. 10:10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gwys. 10:11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo. 10:12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch. 10:13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn. 10:14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth-arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant. 10:15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Annïolchgarwch Israel i Dduw am ei ddoniau.'' 5 ''Eu barnedigaeth hwy;'' 8 ''a thrugaredd Duw tu ag attynt.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Pan}} oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft. 11:2 Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl-darth i ddelwau cerfiedig. 11:3 Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt. 11:4 Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd. 11:5 Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi. 11:6 A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun, 11:7 A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef. 11:8 Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd. 11:9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas. 11:10 Ar ôl yr ARGLWYDD yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant. 11:11 Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr ARGLWYDD. 11:12 Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r saint. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Argyhoeddi Ephraim, Judah, a Jacob.'' 3 ''Y mae yn eu hannog i edifarhâu, o herwydd y daioni a gawsent.'' 7 ''Pechodau Ephraim yn cyffrôi Duw.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Ephraim}} sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft. 12:2 Ac y mae gan yr ARGLWYDD gwyn ar Jwda; ac efe a ymwâl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth. 12:3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. 12:4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; 12:5 Sef ARGLWYDD DDUW y llu-<noinclude><references/></noinclude> lwwfkcfrdv66webisvtdw3tgi9i26u1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/855 104 4329 172049 7954 2026-11-02T14:07:22Z Tylopous 3717 penodau 172049 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>oedd; yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth. 12:6 Tro dithau at dŷ DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser. 12:7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu. 12:8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. 12:9 A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 12:10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 12:11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12:12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 12:13 A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff¬wyd y cadwyd ef. 12:14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Gogoniant Ephraim, o herwydd eu gau-dduwiaeth, yn diflannu.'' 5 ''Digofaint Duw wrthynt am eu hangharedigrwydd.'' 9 ''Addewid o drugaredd Duw.'' 15 ''Barnedigaeth am anufudd-dod.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Pan}} lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw. 13:2 Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi. 13:3 Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer. 13:4 Eto myfi yw yr ARGLWYDD dŷ DDUW, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi. 13:5 Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr. 13:6 Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi. 13:7 Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt. 13:8 Cyfarfyddaf hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt 13:9 O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth. 13:10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion? 13:11 Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid. 13:12 Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef. 13:13 Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab angall yw efe; canys ni ddylasai fe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant. 13:14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg. 13:15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol. 13:16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Annog i edifeirwch.'' 4 ''Addewid o fendithion Duw.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Ymchwel}}, Israel, at yr ARGLWYDD dŷ DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. 14:2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau. 14:3 Ni all Assur ein hachub ni;<noinclude><references/></noinclude> qc63dp467zgv1iam4ee71uirq53x60y Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/856 104 4330 172050 171305 2026-11-02T14:08:55Z Tylopous 3717 penodau 172050 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Hosea"/>ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd. 14:4 Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho. 14:5 Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus. 14:6 Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus. 14:7 Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus. 14:8 Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di. 14:9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt. <section end="Hosea"/> <section begin="Joel"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Joel.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Jöel yn datgan amryw farnedigaethau Duw; ac yn annog i ddal arnynt,'' 8 ''ac i alaru:'' 14 ''yn gosod ympryd i gwynfan.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Gair}} yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel. 1:2 Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau? 1:3 Mynegwch hyn i'ch plant, a'ch plant i'w plant hwythau, a'u plant hwythau i genhedlaeth arall. 1:4 Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust. 1:5 Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min. 1:6 Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi. 1:7 Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant. 1:8 Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid. 1:9 Torrwyd oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru. 1:10 Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew. 1:11 Cywilyddiwch, y llafurwyr, udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes. 1:12 Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion. 1:13 Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid, udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy NUW, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain; canys atelir oddi wrth dŷ eich DUW yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod. 1:14 Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr ARGLWYDD eich DUW, a gwaeddwch ar yr ARGLWYDD, 1:15 Och o'r diwrnod! canys dydd yr ARGLWYDD sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw. 1:16 Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein DUW, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch? 1:17 Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlan a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd. 1:18 O o'r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes <section end="Joel"/><noinclude><references/></noinclude> 7eri3o95ftdkumd12z9m1t7ilx2x5oy Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/857 104 4331 172051 7959 2026-11-02T14:12:27Z Tylopous 3717 penodau 172051 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd. 1:19 Arnat ti, ARGLWYDD, y llefaf, canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes. 1:20 Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a'r tân a ysodd borfeydd yr anialwch. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Y mae yn dangos i Sïon mor ofnadwy ydyw barnedigaethau Duw;'' 12 ''yn annog i edifeirwch;'' 15 ''yn gorchymyn ympryd,'' 18 ''ac yn addaw bendith arno.'' 21 ''Y mae yn cysuro Sïon â bendithion presennol,'' 28 ''ac â rhai a ddeuai.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Cenwch}} yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr ARGLWYDD, canys y mae yn agos. 2:2, Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. 2:3 O'u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o'u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. 2:4 Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. 2:5 Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. 2:6 O'u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu. 2:7 Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. 2:8 Ni wthiant y naill y llall, cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt. 2:9 Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i'r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. 2:10 O'u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a ataliant eu llewyrch. 2:11 A'r ARGLWYDD a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys? 2:12 Ond yr awr hon, medd yr ARGLWYDD, Dychwelwch ataf fi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. 2:13 A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. [ 2:14 Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i'r ARGLWYDD eich DUW? 2:15 Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: 2:16 Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely. 2:17 Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O ARGLWYDD, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt? 2:18 Yna yr ARGLWYDD a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 2:19 A'r ARGLWYDD a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 2:20 Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a'i wyneb tua môr y dwyrain, a'i ben ôl tua'r mor eithaf; a'i ddrewi a gyfyd, a'i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri. 2:21 Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr ARGLWYDD a wna fawredd, 2:22 Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a'r winwydden a roddant eu cnwd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1oux6amh2jndo2tfyyqlzdmlv5eayf0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/858 104 4332 172052 7960 2026-11-02T14:13:58Z Tylopous 3717 penodau 172052 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>2:23 Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr ARGLWYDD eich DUW: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i'r cynnar law a'r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf. 2:24 A'r ysguboriau a lenwir o ŷd, a'r gwin newydd a'r olew a â dros y llestri. 2:25 A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith. 2:26 Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a wnaeth a chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth. 2:27 A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, ac nid neb arall: a'm pobl nis gwaradwyddir byth. 2:28 A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion a'ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: 2:29 Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny. 2:30 A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg. 2:31 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr ARGLWYDD. 2:32 A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr ARGLWYDD: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Barnedigaethau Duw yn erbyn gelynion ei bobl:'' 9 ''ac y bydd rhaid ei adnabod ef yn ei farnedigaeth.'' 18 ''Ei fendithion ef ar yr eglwys.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Canys}} wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, 3:2 Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a'm hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir. 3:3 Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent. 3:4 Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain; 3:5 Am i chwi gymryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlysau dymunol. 3:6 Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd. 3:7 Wele, mi a'u codaf hwynt o'r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain. 3:8 A minnau a werthaf eich meibion a'ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a'u gwerthant i'r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. 3:9 Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 3:10 Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 3:11 Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O ARGLWYDD, dy gedyrn. 3:12 Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd r amgylch. 3:13 Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd a'r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 3:14 Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr ARGLWYDD yng nglyn terfyniad. 3:15 Yr haul a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a ataliant eu llewyrch. 3:16 A'r ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a'r ddaear a grynant: ond yr ARGLWYDD fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel. 3:17 Felly y cewch wybod mai<noinclude><references/></noinclude> ppfxemsf76z7hw4ss8unxhf1hbz9d6v Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/859 104 4333 172053 171306 2026-11-02T14:16:51Z Tylopous 3717 penodau 172053 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Joel"/>myfi yw ARGLWYDD eich DUW, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach. 3:18 A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim. 3:19 Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt. 3:20 Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth. 3:21 Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr ARGLWYDD sydd yn trigo yn Seion. <section end="Joel"/> <section begin="Amos"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Amos.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Amos yn dangos barnedigaethau Duw ar Syria,'' 6 ''ac ar y Philistiaid,'' 9 ''ac ar Tyrus,'' 11 ''ac ar Edom,'' 13 ''ac ar Ammon.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Geiriau}} Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. 1:2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. 1:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. 1:4 Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. 1:5 Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD. 1:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;. Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. 1:7 Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. 1:8 A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW. 1:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. 1:10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi. 1:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 1:12 Eithr anfonaf dan i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra. 1:13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 1:14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ae efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 1:15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Digofaint Duw yn erbyn Moab,'' 4 ''ac ar Judah,'' 6 ''ac ar Israel.'' 9 ''Duw yn achwyn rhag eu hannïolchgarwch hwy.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Fel}} hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. 2:2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a <section end="Amos"/><noinclude><references/></noinclude> 5pi8paib1j91vlwc03pn2oa9z5e3pi0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/860 104 4334 172054 7964 2026-11-02T14:18:04Z Tylopous 3717 penodau 172054 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. 2:3 A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr ARGLWYDD. 2:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 2:5 Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem. 2:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: 2:7 Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. 2:8 Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw. 2:9 Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 2:10 Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 2:11 A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr ARGLWYDD 2:12 Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed, ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 2:13 Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 2:14 A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: 2:15 Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 2:16 A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Mor anghenraid yw barnedigaethau Duw yn erbyn Israel:'' 9 ''cyhoeddi hynny, a’i achos hefyd.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Gwrandewch}} y gair a lefarodd yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, 3:2 Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. 3:3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? 3:4 A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? 3:5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? 3:6 A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobi? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r ARGLWYDD ei wneuthur? 3:7 Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. 3:8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, pwy ni phroffwyda? 3:9 Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi. 3:10 Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr ARGLWYDD: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau. 3:11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir. 3:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwygoes, neu ddarn o glust, felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle. 3:13 Gwrandewch, a thystiolaethwch<noinclude><references/></noinclude> 3ktpi3mgil3gp5ieindxxl1owknobbp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/861 104 4335 172055 7965 2026-11-02T14:20:26Z Tylopous 3717 penodau 172055 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn nhŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD DUW, DUW y lluoedd, 3:14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. 3:15 A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Y mae yn ceryddu Israel am eu trais,'' 4 ''a’u delw-addoliaeth,'' 6 ''ac am nad oeddynt yn gwellhâu wrth eu ceryddu.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Gwrandewch}} y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn. 4:2 Tyngodd yr Arglwydd DDUW i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota. 4:3 A chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer, a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr ARGLWYDD. 4:4 Deuwch i Bethel, a throseddwch, i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau; 4:5 Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW. 4:6 A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 4:7 Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law, a’r rhan ni chafodd law a wywodd. 4:8 Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr, ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 4:9 Trewais chwi â diflaniad, ac a mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 4:10 Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 4:11 Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd DUW Sodom a Gomorra, ; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 4:12 Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th DDUW. 4:13 Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y bore yn dywyllwch, ac a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yw ei enw. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Cwynfan dros Israel.'' 4 ''Annog i edifeirwch.'' 21 ''Duw yn gwrthod eu rhagrithiol wasanaeth hwy.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Gwrandewch}} y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel; 5:2 Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd. 5:3 Canys y modd hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel. 5:4 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dy Israel, Ceisiwch fi, a byw fyddwch. 5:5 Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim. 5:6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byw fyddwch, rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. 5:7 Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr, 5:8 Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos, yr hwn a eilw ddyfroedd y mor, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw: 5:9 Yr hwn sydd yn nerthu yr<noinclude><references/></noinclude> f1ab4lirr8l5dd1xz3zozqgb2y333fk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/862 104 4336 172056 7968 2026-11-02T14:21:43Z Tylopous 3717 penodau 172056 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa. 5:10 Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. 5:11 Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt, planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. 5:12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 5:13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 5:14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 5:15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. 5:16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. 5:17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr ARGLWYDD. 5:18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr ARGLWYDD! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr ARGLWYDD. 5:19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 5:20 Oni bydd dydd yr ARGLWYDD yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo? 5:21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 5:22 Canys er i chwi offrymu i mi boeth-offrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd-offrwm eich pasgedigion. 5:23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 5:24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. 5:25 A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd-offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? 5:26 Ond dygasoch babell eich Moloch a Chiwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. 5:27 Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr ARGLWYDD; DUW y lluoedd yw ei enw. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Y cospir nwyfiant Israel'' 7 ''âg anghyfanneddrwydd.'' 12 ''Mor anhawdd ganddynt wellhâu.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Gwae}} y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth t^ Israel atynt! 6:2 Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi? 6:3 Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais; 6:4 Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut; 6:5 Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl, dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd; 6:6 Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff. 6:7 Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaetlh; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir. 6:8 Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwyidd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd. 6:9 A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw. 6:10 Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo with ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi ? ac efe<noinclude><references/></noinclude> im8a6vn1h8mxlqo51pag8bq323q6cli Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/863 104 4337 172057 7969 2026-11-02T14:25:08Z Tylopous 3717 penodau 172057 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau. Taw, am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD. 6:11 Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr agennau, a’r tŷ bychan â holltau. 6:12 A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod. 6:13 O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder? 6:14 Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl, a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Troi heibio farnedigaethau y ceiliogod rhedyn,'' 4 ''a’r tân, trwy weddi Amos.'' 7 ''Trwy weledigaeth o fur a llinyn mesur, y dangosir gwrthodiad Israel.'' 10 ''Amazïah yn achwyn ar Amos.'' 14 ''Amos yn dangos ei alwedigaeth ei hun,'' 16 ''a barnedigaeth Amazïah.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Fel}} hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd. 7:2 A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg; pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. 7:3 Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn, eb yr ARGLWYDD. 7:4 Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD DDUW i mi: ac wele yr ARGLWYDD DDUW yn galw i farn trwy dân, a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth. 7:5 Yna y dywedais, ARGLWYDD DDUW, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. 7:6 Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr ARGLWYDD DDUW. 7:7 Fel hyn y dangosodd efe i mi; ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd with linyn, ac yn ei law linyn. 7:8 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. 7:9 Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf. 7:10 Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. 7:11 Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. 7:12 Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda, a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: 7:13 Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw. 7:14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid profiwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion: 7:15 A’r ARGLWYDD a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd, a’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel. 7:16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac, 7:17 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn, a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Wrth gawell o ffrwythydd haf, y dangosir mor agos yw diwedd Israel.'' 4 ''Argyhoeddi trais a thraha.'' 11 ''Bygwth newyn gair Duw.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Fel}} hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf. 8:2 Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach. 8:3 Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> oi9e513em99v9ybokvs803d2velxskc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/864 104 4338 172058 7970 2026-11-02T14:26:17Z Tylopous 3717 penodau 172058 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>8:4 Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, 8:5 Gan ddywedyd. Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? 8:6 I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? 8:7 Tyngodd yr ARGLWYDD i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiodd byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. 8:8 Oni chryn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. 8:9 A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. 8:10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob, pen: a mi a’i’gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw. 8:11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr ARGLWYDD. 8:12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr ARGLWYDD, ac nis cant. 8:13 Y diwmod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched. 8:14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Mor sicr fydd y dinystr.'' 11 ''Adferu tabernacl Dafydd.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Gwelais}} yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. 9:2 Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: 9:3 A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y mor, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: 9:4 Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt. 9:5 Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gylyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft. 9:6 Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y mo^r, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw. 9:7 Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philisitiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir? 9:8 Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD. 9:9 Canys wele, myfi a orchmynnaf,. ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr. 9:10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen. 9:11 Y dydd hwnnw y codaf babell i Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: 9:12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn. 9:13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant! 9:14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant<noinclude><references/></noinclude> burbv2hxjikyw3n4f7wne63jk8gnnzx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/865 104 4339 172059 171307 2026-11-02T14:28:15Z Tylopous 3717 penodau 172059 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Amos"/>y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. 9:15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD DDUW. <section end="Amos"/> <section begin="Obadeia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Obadiah.}}}}}} {{bach|1 ''Dinystr Edom,'' 3 ''am eu balchder,'' 10 ''ac am y cam a wnaethent i Jacob.'' 17 ''Iachawdwriaeth a buddugoliaeth Jacob.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Gweledigaeth}} Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi with yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i yfela yn ei herbyn hi. 1:2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt. 1:3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? 1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhiith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD. 1:5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? 1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! 1:7 Yr holl w^yr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwy^r yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. 1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? 1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa. 1:10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. 1:11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 1:12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: 1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 1:15 Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, al lyncant, a byddant fel pe na buasent. 1:17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thy^ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 1:18 Yna y bydd ty^ Jacob yn dân, a thy^ Joseff yn fflam, a thy^ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd un gweddill o dy^ Esau: canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd. 1:19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 1:21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD. {{nop}}<section end="Obadeia"/><noinclude><references/></noinclude> lsafygnlzdua55nrv4gjblkvu3k7rd1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/866 104 4340 172060 171308 2026-11-02T14:30:42Z Tylopous 3717 penodau 172060 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Jonah.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Danfon Jonah i Ninefeh, ac yntau yn ffoi i Tarsis:'' 4 ''a thymmestl yn ei gyhuddo ef.'' 11 ''Ei daflu ef i’r môr,'' 17 ''a physgodyn yn ei lyngcu ef.''}} {{angor|1:1}} {{uc|A gair}} yr ARGLWYDD a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd, 1:2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. 1:3 A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr ARGLWYDD. 1:4 Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong. 1:5 Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. 1:6 A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy DDUW: fe allai yr ystyr y DUW hwnnw wrthym, fel na'n coller. 1:7 A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona. 1:8 A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? 1:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir. 1:10 A'r gwŷ r a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt. 1:11 A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrth ym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. 1:12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 1:13 Er hyn y gwŷ r a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent; fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. 1:14 Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gw^r hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 1:15 Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr a'i gyffro. 1:16 A'r gwŷ r a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau. 1:17 A'r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Gweddi Jonah:'' 10 ''a’i wared ef o fol y pysgodyn.''}} {{angor|2:1}} {{uc|A Jonah}} a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn, 2:2 Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. 2:3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof. 2:4 A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o w^ydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd. 2:5 Y dyfroedd a'm hamgylchasani hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. 2:6 Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto<noinclude><references/></noinclude> qnlmtrytf1aid24ln3x2cxmq9rakrpq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/867 104 4341 172061 7976 2026-11-02T14:34:31Z Tylopous 3717 penodau 172061 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O ARGLWYDD fy NUW. 2:7 Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD, a'm gweddi a ddaeth i mewn atat i'th deml sanctaidd. 2:8 Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. 2:9 A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD. 2:10 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Danfon Jonah yr ail waith, ac yntau yn pregethu i’r Ninefeaid.'' 5 ''Ar eu hedifeirwch hwy,'' 10 ''y mae Duw yntau yn edifarhâu.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A gair}} yr ARGLWYDD a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd, 3:2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt. 3:3 A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr ARGLWYDD. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod. 3:4 A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir. 3:15 A gwŷ r Ninefe a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. 3:16 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a diosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw. 3:17 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr. 3:18 Gwisger dyn ac anifail a sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo. 3:9 Pwy a w^yr a dry DUW ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na difether ni? 3:10 A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Jonah yn anfoddlawn i drugaredd Duw,'' 4 ''ac yn cael ei geryddu dan rith pren cicaion.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A bu}} ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr. 4:2 Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 4:3 Am hynny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw. 4:4 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot? 4:5 A Jona a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas. 4:6 A'r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion. 4:7 A'r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd. 4:8 A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poethwynt y dwyrain; a'r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o'i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw. 4:9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd. Da yw i mi ymddigio hyd angau. 4:10 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu: 4:11 Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a'u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f8m4gmdb1j8e2ivvmjly7qz7a83su3l Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/868 104 4342 172062 171309 2026-11-02T14:37:01Z Tylopous 3717 penodau 172062 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Michah.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Michah yn dangos digofaint Duw yn erbyn Jacob am eu gau-dduwiaeth;'' 10 ''ac yn annog i alaru.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Gair}} yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. 1:2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd. 1:3 Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. 1:4 A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. 1:5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? 1:6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. 1:7 A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant. 1:8 Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan. 1:9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem. 1:10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra. 1:11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. 1:12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem. 1:13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. 1:14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. 1:15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswyl ferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel. 1:16 Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Yn erbyn trais.'' 4 ''Cwynfan.'' 7 ''Ceryddu anghyfiawnder a delw-addoliaeth.'' 12 ''Addaw adferu Jacob.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Gwae}} a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ui eu dwylo. 2:2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd w^r a'i dŷ , dyn a'i etifeddiaeth. 2:3 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw. 2:4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd. 2:5 Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD. 2:6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd. 2:7 O yr hon a elwir tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni<noinclude><references/></noinclude> d4x90wuhf40qw1q3r17h4srf9xzsdp1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/869 104 4343 172063 7979 2026-11-02T14:39:36Z Tylopous 3717 penodau 172063 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wna fy ngeiriau i'r neb a rodio yn uniawn? 2:8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel. 2:9 Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth. 2:10 Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost. 2:11 Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn. 2:12 Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn. 2:13 Daw y rhwygydd i fyny o'u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'u blaen, a'r ARGLWYDD ar eu pennau hwynt. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Creulondeb y tywysogion.'' 5 ''Ffalsedd y prophwydi:'' 8 ''a dïofalwch pob un o’r ddau.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Dywedais}} hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn wybod barn? 3:2 Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a'u cig oddi wrth eu hesgyrn; 3:3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a'u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. 3:4 Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant drwg yn eu gweithredoedd. 3:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. 3:6 Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. 3:7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb. 3:8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel. 3:9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. 3:10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. 3:11 Ei phenaethiaid a roddant fam er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a'r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i'n plith? ni ddaw drwg arnom. 3:12 Am hynny o'ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Gogoniant,'' 3 ''heddwch,'' 8 ''teyrnas,'' 11 ''a buddugoliaeth yr eglwys.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A bydd}} yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. 4:2 A.chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. 4:3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 4:4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren,<noinclude><references/></noinclude> 0107r9oax01no1ldp1dux9eruj1odh0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/870 104 4344 172064 7980 2026-11-02T14:40:36Z Tylopous 3717 penodau 172064 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>heb neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd. 4:5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd. 4:6 Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais: 4:7 A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth. 4:8 A thithau, tw^r y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. 4:9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor. 4:10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes, ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir, yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion. 4:11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i'th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. 4:12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a'u casgl hwynt fel ysgubau i'r llawr dyrnu. 4:13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r ARGLWYDD eu helw hwynt, a'u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Genedigaeth Crist,'' 4 ''a’i frenhiniaeth,'' 8 ''a’i fuddugoliaeth.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yr}} awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern. 5:2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel, yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. 5:3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel, 5:4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear. 5:5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathru o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf. 5:6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau. 5:7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion. 5:8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. 5:9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith. 5:10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau: 5:11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd: 5:12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid: 5:13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: 5:14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd, a dinistriaf dy ddinasoedd. 5:15 Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1s4pmcps4yhz8rqujl4vbw49zyeh95t Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/871 104 4345 172065 7981 2026-11-02T14:44:31Z Tylopous 3717 penodau 172065 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Ymrafael Duw o herwydd angharedigrwydd,'' 6 ''ac anwybodaeth,'' 10 ''ac anghyfiawnder,'' 16 ''a delw-addoliaeth ei bobl.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Gwrandewch}}, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. 6:2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gw^yn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. 6:3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais ? tystiolaetha i'm herbyn. 6:14 Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam. 6:5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD. 6:6 A pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethonrymau, ac â dyniewaid? 6:7 A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd oi feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? 6:8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th DDUW? 6:9 Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd. 6:10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gw^r anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd? 6:11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? 6:12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. 6:13 A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. 6:14 Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf. 6:15 Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win. 6:16 Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Yr eglwys yn cwyno leied yw o rifedi,'' 3 ''mor gyffredin yw llygredigaeth;'' 5 ''ac yn rhoi ei goglud a’i hyder, nid ar ddyn, ond ar Dduw:'' 8 ''yn gorfoleddu ar ei gelynion;'' 14 ''a Duw yn ei chysuro hi trwy addewidion,'' 16 ''a thrwy waradwyddo ei gelynion,'' 18 ''a thrwy ei drugareddau.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Gwae}} fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf. 7:2 Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd. 7:3 I wneuthur drygioni â'r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a'r barnwr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. 7:4 Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a'th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt. 7:5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. 7:6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gw^r yw dynion ei dŷ . 7:7 Am hynny mi a edrychaf ar yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth DDUW fy iachawdwriaeth: fy NUW a'm gwrendy. 7:8 Na lawenycha i'm herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr ARGLWYDD a lewyrcha i mi. 7:9 Dioddefaf ddig yr ARGLWYDD, canys pechais i'w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur<noinclude><references/></noinclude> 6one0szukt6lxrqdvrsji0ziht9cpui Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/872 104 4346 172066 171310 2026-11-02T14:45:38Z Tylopous 3717 penodau 172066 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Micha"/>i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. 7:10 A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. 7:11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. 7:12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. 7:13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd. 7:14 Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. 7:15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau. 7:16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. 7:17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o'u llochesau: arswydant rhag yr ARGLWYDD ein DUW ni, ac o'th achos di yr ofnant. 7:18 Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 7:19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 7:20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i'n tadau er y dyddiau gynt. <section end="Micha"/> <section begin="Nahum"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Nahum.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|''Mawredd Duw yn ei ddaioni tu ag at ei bobl, a’i doster yn erbyn ei elynion.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Baich}} Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad. 1:2 DUW sydd eiddigus, a'r ARGLWYDD sydd yn dial, yr ARGLWYDD sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion. 1:3 Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef. 1:4 Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Channel, a llesgaodd blodeuyn Libanus. 1:5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo. 1:6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo. 1:7 Daionus yw yr ARGLWYDD, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo. 1:8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef. 1:9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr ARGLWYDD? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith. 1:10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo. 1:11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr ARGLWYDD: cynghorwr drygionus. 1:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach. 1:13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau. 1:14 Yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. 1:15 Wele ar y mynyddoedd draed <section end="Nahum"/><noinclude><references/></noinclude> 0o55ktke9zmfdwvrp108i3sl7n94i0w Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/873 104 4347 172067 7987 2026-11-02T14:47:09Z Tylopous 3717 penodau 172067 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch; cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau; canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|''Ofnadwy a buddugol luoedd Duw yn erbyn Ninefeh.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Daeth}} y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr. 2:2 Canys dychwelodd yr ARGLWYDD ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a'u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd. 2:3 Tarian ei wŷ r grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷ r o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol. 2:4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y prifyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant. 2:5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir. 2:6 Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd. 2:7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau. 2:8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl. 2:9 Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol. 2:10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu. 2:11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a'r cenau llew, ac nid oedd a'u tarfai? 2:12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i'w genawon, ac a dagodd i'w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a'i loches ag ysbail. 2:13 Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|''Gofidus gwymp Ninefeh.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Gwae}} ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a'r ysglyfaeth heb ymado. 3:2 Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a'r march yn prancio, a'r cerbyd yn neidio. 3:3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a'i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt: 3:4 Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion. 3:5 Wele fi i'th erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth. 3:6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych. 3:7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti? 3:8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr? 3:9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti. 3:10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷ r mawr a rwymwyd mewn gefynnau. 3:11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn. 3:12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr. 3:13 Wele dy bobl yn wragedd yn<noinclude><references/></noinclude> se0evzb2flhf1g1b99toh2rq21h6a22 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/874 104 4348 172068 171311 2026-11-02T14:49:07Z Tylopous 3717 penodau 172068 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Nahum"/>dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elyn-ion; tân a ysodd dy farrau. 3:14 Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen. 3:15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn. 3:16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith. 3:17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent. 3:18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant, gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo. 3:19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy well, pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat, oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser? <section end="Nahum"/> <section begin="Habacuc"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Habacuc.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Habacuc yn achwyn rhag anwiredd y wlad,'' 5 ''ac yn cael dangos iddo y dïaledd erchyll a ddeuai trwy y Caldeaid:'' 12 ''ac yn cwyno bod yn dïaleddu ar y bobl trwy rai oedd lawer gwaeth na hwynt-hwy eu hunain.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Y baich}} a welodd y proffwyd Habacuc. 1:2 Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! 1:3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i, ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. 1:4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan. 1:5 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. 1:6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. 1:7 Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. 1:8 A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddian yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell, ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. 1:9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 1:10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant. 1:11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun. 1:12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth. 1:13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 1:14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 1:15 Cyfodant hwynt oll â'r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 1:16 Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd: Canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras. 1:17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol? {{nop}}<section end="Habacuc"/><noinclude><references/></noinclude> arm5act4ukeht8sg3xim4vm2dd6e31l Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/875 104 4349 172069 7991 2026-11-02T14:52:11Z Tylopous 3717 penodau 172069 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><nowiki/> {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''I Habacuc, yn disgwyl am atteb, y dangosir y bydd rhaid iddo ddisgwyl trwy ffydd.'' 5 ''Y barnedigaethau a ddaw ar y Caldeaid am eu hannigonolrwydd,'' 9 ''a’u trachwant,'' 12 ''a’u creulondeb,'' 15 ''a’u meddwdod,'' 18 ''a’u delw-addoliaeth.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Safaf}} ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tw^r, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder. 2:2 A'r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno. 2:3 Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. 2:4 Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd. 2:5 A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gw^r balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwi fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd. 2:6 Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew! 2:7 Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt? 2:8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi. 2:9 Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ , i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg! 2:10 Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ , wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid. 2:11 Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed. 2:12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd! 2:13 Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd? 2:14 Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr. 2:15 Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt! 2:16 Llanwyddi o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant. 2:17 Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi. 2:18 Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr el cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion? 2:19 Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn. 2:20 Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Habacuc yn ei weddi yn crynu gan fawrhydi Duw.'' 17 ''Hyder ei ffydd ef.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Gweddi}} Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. 3:2 Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. 3:3 DUW a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl. 3:4 A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o'i law, ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. 3:5 Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. 3:6 Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau<noinclude><references/></noinclude> rbglpuivxezb3lbhchv9mfsi8ort3wb Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/876 104 4350 172070 171312 2026-11-02T14:53:01Z Tylopous 3717 penodau 172070 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Habacuc"/>oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo. 3:7 Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan; crynodd llenni tir Midian. 3:8 A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth? 3:9 Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd. 3:10 Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel. 3:11 Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair. 3:12 Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter. 3:13 Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. 3:14 Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. . 3:15 Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. 3:16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â'i fyddinoedd. 3:17 Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: 3:18 Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth. 3:19 Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth a'm traed a wna efe fel traed ewigod; efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau. <section end="Habacuc"/> <section begin="Seffaneia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Sephaniah.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|''Dïogel farn Duw ar Judah am amryw bechodau.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Gair}} yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda. 1:2 Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD. 1:3 Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y mor; a'r tramgwyddiadau ynghyd a'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD. 1:4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid; 1:5 A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham; 1:6 A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a'r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano. 1:7 Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion. 1:8 A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr. 1:9 Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac a thwyll. 1:10 A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau. 1:11 Udwch, breswylwyr Machtes: <section end="Seffaneia"/><noinclude><references/></noinclude> 9p8o4jvcc53xcif6y334u8cz7m8gh0a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/877 104 4351 172071 7996 2026-11-02T14:55:49Z Tylopous 3717 penodau 172071 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith. 1:2 A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â'r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg. 1:13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a'u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o'r gwin. 1:14 Agos yw mawr ddydd yr ARGLWYDD, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr ARGLWYDD: yno y bloeddia y dewr yn chwerw. 1:15 Diwrod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni. 1:16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel. 1:17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a'u gwaed a dywelltir fel llwch, a'u cnawd fel tom. 1:18 Nid eu harian na'u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr ARGLWYDD; ond â than ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Annog i edifeirwch.'' 4 ''Barn y Philistiaid,'' 8 ''a’r Moabiaid, ac Ammon,'' 12 ''ac Ethiopia, ac Assyria.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ymgesglwch}}, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar; 2:2 Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr ARGLWYDD, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr ARGLWYDD. 2:3 Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr ARGLWYDD. 2:4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron. 2:5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr ARGLWYDD i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr. 2:6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid. 2:7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr ARGLWYDD eu DUW a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed. 2:8 Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt. 2:9 Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt. 2:10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl ARGLWYDD y lluoedd. 2:11 Ofnadwy a fydd yr ARGLWYDD iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd. 2:12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir a'm cleddyf. 2:13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch. 2:14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith. 2:15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Tost-lym gerydd Jerusalem am amryw bechodau.'' 8 ''Annog i ddisgwyl am adferiad Israel,'' 14 ''ac i lawenychu o achos eu hymwared gan Dduw.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 31nsrmt95r9vsbhqz1w1hrua8rhn3ek Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/878 104 4352 172072 171313 2026-11-02T14:58:01Z Tylopous 3717 penodau 172072 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Seffaneia"/>{{angor|3:1}} {{uc|Gwae}} y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus! 3:2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW. 3:3 Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore. 3:4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith. 3:5 Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio. 3:6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb drigiannol. 3:7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd. 3:8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear. 3:9 Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd. 3:10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwrn. 3:11 Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. 3:12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy. 3:13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a'u tarfo. 3:14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. 3:15 Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. 3:16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. 3:17 Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. 3:18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i'r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich. 3:19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. 3:20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD. <section end="Seffaneia"/> <section begin="Haggai"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Haggai.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Haggai yn beio ar y bobl am esgeuluso adeiladu y tŷ:'' 7 ''yn eu hannog hwy i’w adeiladu ef:'' 12 ''ac yn addaw cymmorth Duw iddynt, os gwnaent hynny yn ewyllysgar.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yn}} yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, 1:2 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD. {{nop}}<section end="Haggai"/><noinclude><references/></noinclude> rmw25g7jfwdvg7r8br2gx5bqimci6u2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/879 104 4353 172073 8000 2026-11-02T15:00:27Z Tylopous 3717 penodau 172073 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>1:3 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 1:4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd? 1:5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystryiwch eich ffyrdd. 1:6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog. 1:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 1:8 Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD. 1:9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth ? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun. 1:10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth. 1:11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷ d ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo, 1:12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD. 1:13 Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD. 1:14 Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl, a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt, 1:15 Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Y mae yn rhoi calon yn y bobl i weithio, trwy addaw gogoniant mwy i’r ail deml nag oedd yn y gyntaf.'' 10 ''Dan rith pethau sanctaidd a phethau aflan, y mae yn dangos fod eu pechodau hwy yn rhwystro y gwaith.'' 20 ''Addewis Duw i Zorobabel.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Yn}} y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd, 2:2 Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd, 2:3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim? 2:4 Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd: 2:5 Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch. 2:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir; 2:7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw; llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd. 2:8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd. 2:9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd. 2:10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd, 2:12 Os dwg un gig sanctaidd yng<noinclude><references/></noinclude> ndj30788mjz3npo9io0ohhi7v128j35 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/880 104 4354 172074 171314 2026-11-02T15:02:05Z Tylopous 3717 penodau 172074 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Haggai"/>nghwrr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant. 2:13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan. 2:14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mac holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan. 2:15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD; 2:16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno. 2:17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD. 2:18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD. 19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi. 20 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd, 21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y lefoedd a'r ddaear; 22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd. 23 Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd. <section end="Haggai"/> <section begin="Sechareia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Zechariah.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Zecharïah yn annog i edifeirwch.'' 7 ''Gweledigaeth y meirch.'' 12 ''Trwy weddi yr angel y gwneir addewidion cysurol i Jerusalem.'' 18 ''Gweledigaeth y pedwar corn, a’r pedwar saer.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yn}} yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, 1:2 Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau. 1:3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd. 1:4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD. 1:5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth? 1:6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni. 1:7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, 1:8 Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-<section end="Sechareia"/><noinclude><references/></noinclude> hkv3gjpq18u7h8b5dc4pjuye1p5upel Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/881 104 4355 172075 8005 2026-11-02T15:05:15Z Tylopous 3717 penodau 172075 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. 1:9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. 1:10 A'r gw^r, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear. 1:11 A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd. 1:12 Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? 1:13 A'r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. 1:14 A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: 1:15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. 1:16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhy^ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. 1:17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto. 1:18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn. 1:19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem. 1:20 A'r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd. 1:21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i'w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i'w gwasgaru hi. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Duw, o’i ofal dros Jerusalem, yn anfon i’w mesuro hi.'' 6 ''Gwared Sïon.'' 10 ''Addewid o bresennoldeb Duw.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Dyrchefais}} fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele w^r, ac yn ei law linyn mesur. 2:2 A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. 2:3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef. 2:4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi rhag amled dyn ac anifail o'i mewn. 2:5 Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol. 2:6 Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD. 2:7 O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. 2:8 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. 2:9 Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd. 2:10 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD. 2:11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atat. 2:12 A'r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> n8350v539v4cl4jjrzr49mt8xnjknd5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/882 104 4356 172076 8010 2026-11-02T15:07:48Z Tylopous 3717 penodau 172076 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>2:13 Pob cnawd, taw yng ngw^ydd yf ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Dan rith Josua, y dangosir adferiad yr eglwys.'' 8 ''Addaw Crist y Blaguryn.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Ac}} efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef. 3:2 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr ARGLWYDD dydi, Satan; sef yr ARGLWYDD yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a'th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân? 3:3 A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngw^ydd yr angel. 3:4 Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd i iddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. 3:5 A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a'i gwisgasant aâ dillad; ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll gerllaw. 3:6 Ac angel yr ARGLWYDD a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, 3:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhy^, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. 3:8 Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwy^r rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. 3:9 Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. 3:10 Y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Trwy weledigaeth y canhwyllbren aur, y dangosir y llwyddiant a gâi sylfaeniad Zorobabel:'' 11 ''ac wrth y ddwy olew-wydden, ar arwyddoccêir y ddau enneiniog.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A’r}} angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir un o'i gwsg, 4:2 Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef; 4:3 A dwy olewydden wrtho, y naill o'r tu deau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi. 4:4 A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? 4:5 A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf. Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. 4:6 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr ARGLWYDD at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd ARGLWYDD y lluoedd. 4:7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd, ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo. 4:8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf drachefn, gan ddywedyd, 4:9 Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y ty^ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen: a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hebryngodd atoch. 4:10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda'r saith hynny: llygaid yr ARGLWYDD ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear. 4:11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy? 4:12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt<noinclude><references/></noinclude> 6o460wduaafr36znamm5scg3rxtmfl5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/883 104 4357 172077 8011 2026-11-02T15:10:07Z Tylopous 3717 penodau 172077 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>allan ohonynt eu hunain yr olew euraid? 4:13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd. 4:14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Wrth y llyfr yn ehedeg, y dangosir melldith lladratta a thyngu.'' 5 ''Yn rhith gwraig yn eistedd mewn ephah, a thalent o blwm, y dangosir damnedigaeth Babilon.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yna}} y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg. 5:2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais. Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hyd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd. 5:3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi. 5:4 Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dy^ y lleidr, ac i dy^ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dy^ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig. 5:5 Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan. 5:6 A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear. 5:7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa. 5:8 Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa, a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef. 5:9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd. 5:10 Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned a'r effa? 5:11 Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dy^yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Gweledigaeth y pedwar cerbyd.'' 9 ''Dan rith coronau Josua, y dangosir teml a brenhiniaeth Crist y Blaguryn.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Hefyd}} mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais, ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres. 6:2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon, 6:3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon. 6:4 Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? 6:5 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear. 6:6 Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir. 6:7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear. 6:8 Yna efe a waeddodd amaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd. 6:9 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, 6:10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dy^ Joseia mab Seffaneia: 6:11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad; 6:12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gw^r a'i enw BLAGURYN: o'i<noinclude><references/></noinclude> 66p8rlcewmjswoq6420ic1gwb82lik8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/884 104 4358 172078 8012 2026-11-02T16:15:34Z Tylopous 3717 penodau 172078 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>le hefyd y blagura, ac adeilada deml yr ARGLWYDD ; 6:13 Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fhydd rhyngddynt ill dau. 6:14 A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD. 6:15 A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Y caethion yn ymofyn am ympryd.'' 4 ''Zecharïah yn argyhoeddi eu hympryd hwy.'' 8 ''Pechod yw yr achos o’u caethiwed hwy.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Ac}} yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu; 7:2 Pan anfonasent Sereser, a Regem-melech, a'u gwy^r, i dy^ DDUW, i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, 7:3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhy^ ARGLWYDD y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd? 7:4 Yna gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 7:5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi? 7:6 A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain? 7:7 Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir? 7:8 A daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, gan ddywedyd, 7:9 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd: 7:10 Ac na orthrymwch y weddw a'r amddifad, y dieithr a'r anghenog, ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau. 7:11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed. 7:12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd. 7:13 A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; fellyy galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd ARGLWYDD y lluoedd. 7:14 Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Adnewyddu Jerusalem.'' 9 ''Eu cysuro hwy i adeiladu, trwy fod ffafr Duw tu ag attynt.'' 16 ''Gweithredoedd da y mae Due yn eu gofyn ganddynt.'' 18 ''Addaw llawenydd a rhyddhâd.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Drachefn}} y daeth gair ARGLWYDD y lluoedd ataf, gan ddywedyd, 8:2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti. 8:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd ARGLWYDD y lluoedd, Y mynydd sanctaidd. 8:4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hen wy^r a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gw^r â'i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau. 8:5 A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi. 8:6 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai<noinclude><references/></noinclude> m4eque7tt8afvbb18vdqm4r6lx2njaj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/885 104 4359 172079 8013 2026-11-02T16:17:19Z Tylopous 3717 penodau 172079 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd. 8:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul. 8:8 A mi a'u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn DDUW mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder. 8:9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd ty^ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml. 8:10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog. 8:11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd ARGLWYDD y lluoedd. 8:12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaear a rydd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn. 8:13 A bydd, mai megis y buoch chwi, ty^ Jwda a thy^ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo. 8:14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y'm digiodd eich tadau, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac nid edifarheais; 8:15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dy^ Jwda: nac ofnwch. 8:16 Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; 8:17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD. 8:18 A gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 8:19 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dy^ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch. 8:20 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer; 8:21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd,. Awn gan fyned i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, ac i geisio ARGLWYDD y lluoedd: minnau a af hefyd. 8:22 Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr ARGLWYDD. 8:23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gw^r o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom DUW gyda chwi. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Duw yn amddiffyn ei eglwys.'' 9 ''Annog Sïon i lawenchu am ddyfodiad Crist, a’i heddychol frenhiniaeth.'' 12 ''Duw yn addaw buddugoliaeth ac amddiffyn.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Baich}} gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel. 9:2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. 9:3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. 9:4 Wele, yr ARGLWYDD a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. 9:5 Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. 9:6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. 9:7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n DUW ni, fel y byddo megis pen-<noinclude><references/></noinclude> pr81o269b3zj4xv5cj5eozldnv7k0zu Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/886 104 4360 172080 8014 2026-11-02T16:20:15Z Tylopous 3717 penodau 172080 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>naeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. 9:8 A gwersyllaf o amgylch fy nhy^ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid. 9:9 Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. 9:10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir; ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear. 9:11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo. 9:12 Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: 9:13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gw^r grymus: 9:14 A'r ARGLWYDD a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r ARGLWYDD DDUW a gân ag utgom, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. 9:15 ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 9:16 A'r ARGLWYDD eu DUW a'u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 9:17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! y^d a lawenycha y gwy^r ieuainc, a gwin y gwyryfon. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Duw sydd raid ymgais âg ef, ac nid eilunod.'' 5 ''Megis yr ymwelodd efe â’i ddïadell am eu pechod, felly yr achub ac yr adfera efe hwy.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Erchwch}} gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. 10:2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, a fi a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. 10:3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd a'i braidd ty^ Jwda, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. 10:4 Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono. 10:5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch. 10:6 A nerthaf dy Jwda, a gwaredaf dy Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt. 10:7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win; a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD. 10:8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhant fel yr amlhasant. 10:9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant. 10:10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt. 10:11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. 10:12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Dinystr Jerusalem.'' 3 ''Gofalu am yr etholedigion, a gwrthod y lleill.'' 10 ''Torri ffon Tegwch a Rhwymau, trwy wrthod Crist.'' 15 ''Arwydd a melldith y bugail ynfyd.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3xk1djx9jcx3g9b04izrb67burv8l55 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/887 104 4361 172081 8015 2026-11-02T16:22:51Z Tylopous 3717 penodau 172081 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|11:1}} {{uc|Libanus}}, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd. 11:2 Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf. 11:3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen. 11:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa; 11:5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi; a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt. 11:6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy. 11:7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd. 11:8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau, 11:9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith, a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd. 11:10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn a'r holl bobl. 11:11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn. 11:12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. 11:13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dy^ yr ARGLWYDD, i'r crochenydd. 11:14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel. 11:15 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. 11:16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. 11:17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyffydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Jerusalem yn phïol gwsg a dychryn iddi ei hun,'' 3 ''ac yn faen pwysfawr i’w gwrthwynebwyr.'' 6 ''Buddugawl adferiad Judah.'' 9 ''Edifeirwch Jerusalem.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Baich}} gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo. 12:2 Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem. 12:3 A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef. 12:4 Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y trawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dy Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb. 12:5 A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt. 12:6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem. 12:7 Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant ty^ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fv9jtisimg327hv76b2x2z0aqmux66k Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/888 104 4362 172082 8016 2026-11-02T16:26:00Z Tylopous 3717 penodau 172082 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>12:8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thy^ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt. 12:9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem. 12:10 A thywalltaf ar dy^ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig. 12:11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon. 12:12 A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu ty Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; 12:13 Teulu ty^ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; 12:14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Ffynnon i lanhâu Jerusalem'' 2 ''oddi wrth ddelw-addoliaeth a gau-brophwydoliaeth.'' 7 ''Marwolaeth Crist, a phrofi y drydedd ran.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Y dydd}} hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dy^ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid. 13:2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad. 13:3 A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. 13:4 A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: 13:5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid. 13:6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhy^ fy ngharedigion. 13:7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gw^r sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. 13:8 A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo. 13:9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Distrywio dinystrwyr Jerusalem.'' 4 ''Dyfodiad Crist, a rhadau ei frenhiniaeth ef.'' 12 ''Pla gelynion Jerusalem.'' 16 ''Y gweddill a dry at yr Arglwydd,'' 20 ''a sanctaidd fydd eu hanrhaith.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Wele}} ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di. 14:2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a a allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas. 14:3 A'r ARGLWYDD a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad. 14:4 A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau. 14:5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr ARGLWYDD fy NUW, a'r holl saint gyda thi. 14:6 A'r dydd hwnnw y daw i ben,<noinclude><references/></noinclude> 9bi9l4usloqeq4v5auaaiwvqoo7a22m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/889 104 4363 172083 171315 2026-11-02T16:27:59Z Tylopous 3717 penodau 172083 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sechareia"/>na byddo goleuni disglair, na thywyll: 14:7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr ARGLWYDD, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr. 14:8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn. 14:9 A'r ARGLWYDD a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un ARGLWYDD, a'i enw yn un. 14:10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dwr Hananeel hyd winwryfau y brenin. 14:11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd. 14:12 A hyn fydd y pla a'r hwn y tery yr ARGLWYDD yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn. 14:13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr ARGLWYDD yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog. 14:14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn. 14:15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn. 14:16 A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, ARGLWYWDD y lluoedd, ac i gadw gw^yl y pebyll. 14:17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, ARGLWYDD y lluoedd, ni bydd glaw arnynt. 14:18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gw^yl y pebyll. 14:19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gw^yl y pebyll. 14:20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhy^ yr ARGLWYDD fel meiliau gerbron yr allor. 14:21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i ARGLWYDD y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt; ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhy^ARGLWYDD y lluoedd y dydd hwnnw. <section end="Sechareia"/> <section begin="Malachi"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Malachi.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Malachi yn achwyn rhag angharedigrwydd Israel,'' 6 ''a’u hanghrefydd,'' 12 ''a’u halogrwydd.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Baich}} gair yr ARGLWYDD at Israel trwy law Malachi. 1:2 Hoffais chwi, medd yr ARGLWYDD: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr ARGLWYDD: eto Jacob a hoffais, 1:3 Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch. 1:4 Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr ARGLWYDD yn dragywydd. 1:5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr ARGLWYDD oddi ar derfyn Israel. 1:6 Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae <section end="Malachi"/><noinclude><references/></noinclude> awcnbrqye78ksilzfn18hjdwm83pjj8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/890 104 4364 172084 8020 2026-11-02T16:29:35Z Tylopous 3717 penodau 172084 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd ARGLWYDD y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? 1:7 Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch. Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr ARGLWYDD. 1:8 Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a'r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd ARGLWYDD y lluoedd. 1:9 Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o'ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd ARGLWYDD y lluoedd. 1:10 A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw. 1:11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fach-ludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhiith y Cenhedloedd, medd ARGLWYDD y lluoedd. 1:12 Ond chwi a'i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr ARGLWYDD sydd halogedig; a'i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 1:13 Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd ARGLWYDD y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi? medd yr ARGLWYDD. 1:14 Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r ARGLWYDD; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhiith y cenhedloedd. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Y mae yn ceryddu yr offeiriaid yn dost, am esgeuluso eu cyfammod;'' 11 ''a’r bobl, am eu gau-dduwiaeth,'' 14 ''a’u godineb,'' 17 ''a’u hanffyddlondeb.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn. 2:2 Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd ARGLWYDD y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a'u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried. 2:3 Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac un a'ch cymer chwi ato ef. 2:4 Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod a Lefi, medd ARGLWYDD y lluoedd. 2:5 Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a'u rhoddais hwynt iddo am yr ofn a'r hwn y'm hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw. 2:6 Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd. 2:7 Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: oherwydd cennad ARGLWYDD y lluoedd yw efe. 2:8 Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith: llygrasoch gyfamod Lefi, medd ARGLWYDD y lluoedd. 2:9 Am hynny minnau hefyd a'ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith. 2:10 Onid un Tad sydd i ni oll? onid un DUW a'n creodd ni? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfamod ein tadau? 2:11 Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr ARGLWYDD, yr hwn a hoffasai, ac a briododd ferch duw dieithr. 2:12 Yr ARGLWYDD a dyr ymaith y gw`r a wnêl hyn; yr athro a'r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwrn i ARGLWYDD y lluoedd. 2:13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio a dagrau allor yr ARGLWYDD trwy wylofain a<noinclude><references/></noinclude> s19kj2f5sa3cdd0ri62k9jpi4grwjua Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/891 104 4365 172085 8021 2026-11-02T16:31:14Z Tylopous 3717 penodau 172085 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o'ch llaw chwi. 2:14 Er hynny chwi a ddywedwch. Pa herwydd? Oherwydd mai yr ARGLWYDD a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi, er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod. 2:15 Onid un a wnaeth efe? a'r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid. 2:16 Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr ARGLWYDD, DUW Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â'i wisg, medd ARGLWYDD y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon. 2:17 Blinasoch yr ARGLWYDD â'ch geiriau: a chwi a ddywedwch. Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac iddynt y mae efe yn fodlon, neu, Pa le y mae DUW y farn? {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Cennad, a mawrhydi, a gras Crist.'' 7 ''Anufudd-dod,'' 8 ''a chyssegr-ladrad,'' 13 ''ac anffyddlondeb y bobl.'' 16 ''Addaw bendith iddynt oddi wrth Dduw.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Wele}} fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd. 3:2 Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel i sebon y golchyddion. 3:3 Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i'r ARGLWYDD offrwm mewn cyfiawnder. 3:4 Yna y bydd melys gan yr ARGLWYDD offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt. 3:5 A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd. 3:6 Canys myfi yr ARGLWYDD ni’m newidir; am hynny ni ddifethwyd chi, meibion Jacob. 3:7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn? 3:8 A ysbeilia dyn DDUW? eto chwi a'm hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm. 3:9 Melltigedig ydych trwy felltith! canys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon. 3:10 Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy^, a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn. 3:11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd. 3:12 A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd ARGLWYDD y lluoedd. 3:13 91 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr ARGLWYDD: eto chwi a ddywedwch. Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di? 3:14 Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu DUW: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron ARGLWYDD y lluoedd? 3:15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant DDUW, a waredwyd. 3:16 Yna y rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a'r ARGLWYDD<noinclude><references/></noinclude> s56rdqtu8xuklngbnlc4fmyqbl2yten Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/892 104 4891 172086 8967 2026-11-02T16:33:09Z Tylopous 3717 penodau 172086 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 3:17 A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 3:18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a'r hwn nis gwasanaetho ef. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Barn Duw ar yr enwir,'' 2 ''a’i fendith ar y daionus.'' 4 ''Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y gyfraith;'' 5 ''ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Elïas.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Canys}} wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen. 4:2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig. 4:3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion, canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd. 4:4 Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedieaethau. 4:5 Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD: 4:6 Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith. {{uc|Terfyn y Prophwydi.}}<noinclude><references/></noinclude> 4sw19a4yjwlcr5ugzm87pie9wnraqfz 172087 172086 2026-11-02T16:33:38Z Tylopous 3717 172087 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 3:17 A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 3:18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a'r hwn nis gwasanaetho ef. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Barn Duw ar yr enwir,'' 2 ''a’i fendith ar y daionus.'' 4 ''Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y gyfraith;'' 5 ''ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Elïas.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Canys}} wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen. 4:2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig. 4:3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion, canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd. 4:4 Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedieaethau. 4:5 Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD: 4:6 Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith. {{canoli|{{uc|Terfyn y Prophwydi.}}}}<noinclude><references/></noinclude> 8gqo451jb6ivd7d7reacalw3ijj9lv0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/893 104 4892 172088 8969 2026-11-02T16:49:35Z Tylopous 3717 172088 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Testament Newydd}}}}<br><br>{{sc|ein}}<br><br>{{uc|Harglwydd a’n Hiachawdwr}}<br><br>{{mawr|{{uc|Iesu Grist.}}}}}} {{lein|20em}} {{canoli|''Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth, i hob un a’r sydd yn credu.'' Rhuf. i. 16.}} {{lein|20em}} <br><br><br> {{c|''((ychwanegu arwydd))''}} <br><br><br> {{canoli|{{uc|Rhydychen:}}<br>{{sc|argraphedig yn argraphdy y brifysgol.}}}} {{lein|10em}} {{canoli|{{sc|''cum privilegio.''}}<br>1900.}}<noinclude><references/></noinclude> 71zt8lnd1q703pnts42o3v6fxeoi72f Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/895 104 4894 172089 137615 2026-11-02T16:56:08Z Tylopous 3717 penodau 172089 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|YR EFENGYL YN OL}} {{canoli|<big><big>SANT MATTHEW.</big></big>}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Achau Crist o Abraham i Joseph.'' 18 ''Ei genhedlu ef o’r Yspryd Glân, a’i eni o Fair forwyn, wedi ei dyweddïo hi â Joseph.'' 19 ''Yr angel yn boddloni cam-dybus feddyliau Joseph, ac yn dehongli enwau Crist.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Llyfr}} cenhedliad Iesu Grist fab Da­fydd, fab Abraham. 2 Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr; 3 A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram; 4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon; 5 A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse; 6 A Jesse a genhedlodd Dafydd frenhin; a Dafydd frenhin a genhedlodd Solomon o'r hon a ''fuasai wraig'' Urias; 7 A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abia; ac Abia a genhedlodd Asa; 8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat; a Josaphat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Ozias; 9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecias; 10 Ac Ezecias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Josias; 11 A Josias a genhedlodd Jechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon: 12 Ac wedi y symmudiad i Babilon, Jechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel; 13 A Zorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor; 14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Eliud 15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Jacob; mynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig: 25 Ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd hi ar ei mab cyntaf-anedig. A galwodd ei enw ef IESU. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist trwy weinidogaeth seren:'' 11 ''yn ei addoli ef, ac yn cyflwyno eu hanrhegion.'' 14 ''Joseph yn ffoi i'r Aipht, efe, a’r Iesu a’i fam.'' 16 ''Herod yn lladd y plant;'' 20 ''ac yn marw.'' 23 ''Dwyn Crist yn ei ol i Galilea i Nazareth.''}} {{nop}} <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 89h3coff86s32cqa587sq6n9lstksxi Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/896 104 4895 172090 64270 2026-11-02T16:58:10Z Tylopous 3717 penodau 172090 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|2:1}} {{uc|Ac}} wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem, 2 Gan ddywedyd, Pa le y mae yr hwn a anwyd yn Frenhin yr Iuddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef. 3 Ond pan glybu Herod frenhin, efe a gyffröwyd, a holl Jerusalem gyd âg ef. 4 A chwedi dwyn ynghyd yr holl arch-offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid Crist. 5 A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea: canys felly yr ysgrifenwyd trwy y prophwyd: 6 A thithau, Bethlehem, tir Juda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Juda: canys o honot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel. 7 Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren. 8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef. 9 Hwythau, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. 10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. 11 ¶ A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyd â Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr. 12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall. 13 Ac wedi iddynt ymadaw, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd Cyfod cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef. 14 Ac yntau pan gyfododd, a gymmerth y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aipht; 15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mab. 16 Yna Herod, pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion. 17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, 18 Llefa glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo ''am'' ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt. 19 ¶ Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseph yn yr Aipht, 20 Gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw. 21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea. 23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, Y gelwid ef yn Nazaread. <section begin="ccc"/><section end="ccc"/> <section begin="ddd"/>{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Pregeth Ioan, a’i swydd, a’i fuchedd, a’i fedydd;'' 7 ''y mae yn ceryddu y Phariseaid,'' 13 ''ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Ac}} yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judea, 2 A dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. 3 Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch,<section end="ddd"/><noinclude><references/></noinclude> g7nlx358oaq5jmjw469rmao906vaodm Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/897 104 4896 172091 64271 2026-11-02T17:00:42Z Tylopous 3717 penodau 172091 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Parottowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef. 4 A'r Ioan hwnnw oedd a'i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5 Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen: 6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 7 ¶ A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Saduceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywed. wrthynt hwy, gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch. 9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham. 10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân. 12 Yr hwn ''y mae'' ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. 13 ¶ Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo. 14 Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di attaf fi? 15 Ond yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon; canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo. 16 A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef. 17 Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd. <section begin="eee"/><section end="eee"/> <section begin="fff"/>{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Ympryd Crist, a’i demtiad.'' 11 ''Yr angelion yn gweini iddo.'' 13 ''Efe yn trigo yn Capernaum,'' 17 ''yn dechreu pregethu,'' 18 ''yn galw Petr ac Andreas,'' 21 ''Iago ac Ioan;'' 23 ''ac yn iachâu yr holl gleifion.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Yna}} yr Iesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr yspryd, i'w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hynny efe a newynodd. 3 A'r temtiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara. 4 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw. 5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml; 6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion am danat; a hwy a'th ddygant yn ''eu'' dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg. 7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u gogoniant; 9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i. 10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. 11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo. 12 ¶ A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea. 13 A chan adaw Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, y'nghyffiniau Zabulon a Nephthali: 14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 15 Tir Zabulon, a thir Nephthali, ''wrth'' ffordd y môr, tu hwnt <section end="fff"/><noinclude><references/></noinclude> pm57gscu1b4ws2wetkpz1kvwap02ubn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/898 104 4897 172092 64272 2026-11-02T17:05:08Z Tylopous 3717 penodau 172092 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd: 16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt. 17 ¶ O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. 18 ¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, ''yr hwn'' a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt: 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. 20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef. 21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Zebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyd â Zebëdeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy. 22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef. 23 ¶ A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt. 25 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac ''o'r'' tu hwnt i'r Iorddonen. <section begin="ggg"/><section end="ggg"/> <section begin="hhh"/>{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Crist yn dechreu ei bregeth ar y mynydd;'' 3 ''ac yn dangos pwy sydd ddedwydd,'' 13 ''pwy yw halen y ddaear,'' 14 ''goleuni y byd, dinas ar fryn,'' 15 ''y ganwyll:'' 17 ''ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith.'' 21 ''Beth yw lladd,'' 27 ''a godinebu,'' 33 ''a thyngu.'' 38 ''Y mae yn annog i ddïoddef cam,'' 43 ''i garu, ïe, ein gelynion,'' 48 ''ac i ymegnïo berffeithrwydd.''}} {{angor|5:1}} {{uc|A phan}} welodd ''yr Iesu'' y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant atto. 2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3 Gwỳn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 4 Gwỳn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5 Gwỳn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. 6 Gwỳn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. 7 Gwỳn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. 8 Gwỳn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. 9 Gwỳn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwỳn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y'ch gwar- adwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi. 13 ¶ Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. 17 ¶ Na thybiwch fy nyfod i dorri y gyfraith, neu y prophwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, nid â un iod nac un tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwblhâer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a'u gwnelo, ac a'u dysgo i ''eraill'', hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. <section end="hhh"/><noinclude><references/></noinclude> qinaf2hzekqj23du4jgr9nc2qa6rvks Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/899 104 4898 172093 8975 2026-11-02T20:06:29Z Tylopous 3717 penodau 172093 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>5:20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd. 5:21 &para; Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 5:22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 5:23 Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 5:24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 5:25 Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 5:26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf. 5:27 &para; Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 5:28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 5:29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 5:30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, â thân oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 5:31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 5:32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb. 5:33 &para; Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 5:34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys, gorseddfa Duw ydyw: 5:35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 5:36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 5:37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae. 5:38 &para; Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 5:39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 5:40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 5:41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 5:42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt. 5:43 &para; Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 5:44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 5:45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 5:46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 5:47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 5:48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y mynydd; gan draethu am elusen,'' 5 ''a gweddi,'' 14 ''maddeu i’n brodyr,'' 16 ''ac ympryd;'' 19 ''pa le y mae i ni roddi ein trysor i gadw;'' 24 ''ynghylch gwasanaethu Duw a mammon:'' 25 ''yn annog na bydder gofalus am bethau bydol;'' 33 ''ond am geisio teyrnas Dduw.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f4jp3c1u0hbv8p47f75mlfr4ls9i6lf Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/900 104 4899 172094 8976 2026-11-02T20:06:58Z Tylopous 3717 penodau 172094 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|6:1}} {{uc|Gochelwch}} rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. 6:2 Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 6:3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau; 6:4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg. 6:5 &para; A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac yng nghonglau’r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 6:6 Ond tydi, pan weddïech, dos i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. 6:7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. 6:8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau, cyn gofyn ohonoch ganddo. 6:9 Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. 6:10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. 6:11 Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. 6:12 A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. 6:13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. 6:14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau: 6:15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau. 6:16 &para; Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 6:17 Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; 6:18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. 6:19 &para; Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; 6:20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratant. 6:21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. 6:22 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau. 6:23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch! 6:24 &para; Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon. 6:25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? 6:26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 6:27 A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 6:28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu: 6:29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i0vxv99m1bpop11igadedq88se7fm16 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/901 104 4900 172095 8977 2026-11-02T20:10:10Z Tylopous 3717 penodau 172095 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>6:30 Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 6:31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? 6:32 (Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn. 6:33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 6:34 Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn gorphen ei bregeth ar y mynydd; yn gwahardd barn ehud,'' 6 ''a bwrw pethau sanctaidd i gwn:'' 7 ''yn annog i weddïo,'' 13 ''i fyned i mewn trwy y porth cyfyng,'' 15 ''i ymgadw rhag gau-brophwydi;'' 21 ''na byddom wrandawyr yn unig, ond gwneuthurwyr y gair,'' 24 ''a chyffelyb i dai wedi eu hadeiladu ar y graig,'' 26 ''ac nid ar y tywod.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Na}} fernwch, fel na’ch barner: 7:2 Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 7:3 A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 7:4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd. Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 7:5 O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd. 7:6 &para; Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi. 7:7 &para; Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 7:8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 7:9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 7:10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 7:11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 7:12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi. 7:13 &para; Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 7:14 Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi. 7:15 &para; Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 7:16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 7:17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 7:18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 7:19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 7:20 Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. 7:21 &para; Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 7:22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 7:23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd. 7:24 &para; Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffel-<noinclude><references/></noinclude> miyc62pzt15f5k8oxf85k1a1pmuk3o2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/902 104 4901 172096 8979 2026-11-02T20:13:09Z Tylopous 3717 penodau 172096 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 7:25 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 7:26 A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 7:27 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 7:28 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 7:29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn glanhâu y gwahan-glwyfus;'' 5 ''yn iachâu gwas y canwriad,'' 14 ''a mam gwraig Petr,'' 16 ''a llawer o rai clwyfus eraill:'' 19 ''yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef:'' 23 ''yn gostegu y dymmestl ar y môr:'' 28 ''yn gyrru cythreuliaid allan oddau gythreulig;'' 31 ''ac yn caniadu iddynt fyned i’r moch.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Ac}} wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlysasant ef. 8:2 Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. 8:3 A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 8:4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb, eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. 8:5 &para; Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, 8:6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr. 8:7 A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Mi a ddeuaf, ac a’i hiachâf ef. 8:8 A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 8:9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 8:10 A’r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 8:11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: 8:12 Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 8:13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno. 8:14 &para; A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 8:15 Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; a’r cryd a’i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt. 8:16 &para; Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion; 8:17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau. 8:18 &para; A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 8:19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 8:20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 8:21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 8:22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw. 8:23 &para; Ac wedi iddo fyned i’r<noinclude><references/></noinclude> f1w2vv0qua33ckjmpjradi7g9zeo6tt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/903 104 4902 172097 8980 2026-11-02T20:16:31Z Tylopous 3717 penodau 172097 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 8:24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 8:25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 8:26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 8:27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo! 8:28 &para; Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 8:29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu. Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 8:30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. 8:31 A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 8:32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 8:33 A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 8:34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Crist yn iachâu un claf o’r parlys,'' 9 ''yn galw Matthew o’r dollfa,'' 10 ''yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid,'' 14 ''yn amddiffyn ei ddisgyblion am nad ymprydient,'' 20 ''yn iachâu y diferlif gwaed,'' 23 ''yn cyfodi merch Jairus o farw,'' 27 ''yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall,'' 32 ''yn iachâu mudan cythreulig,'' 36 ''ac yn tosturio wrth y dyrfa.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun. 9:2 Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys. Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. 9:3 Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 9:4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 9:5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 9:6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ. 9:7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun. 9:8 A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddymon. 9:9 &para; Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef. 9:10 &para; A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion. 9:11 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 9:12 A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. 9:13 Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch. 9:14 &para; Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 9:15 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 715ulwrc1n13xobubh5psy22iwx7nz2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/904 104 4903 172098 8981 2026-11-02T20:18:44Z Tylopous 3717 penodau 172098 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>9:16 Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth. 9:17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau. 9:18 &para; Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi. 9:19 A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion. 9:20 &para; (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: 9:21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf. 9:22 Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.) 9:23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu, 9:24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef. 9:25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llances a gyfododd. 9:26 A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno. 9:27 &para; A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. 9:28 Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 9:29 Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. 9:30 A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. 9:31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno. 9:32 &para; Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 9:33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel. 9:34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid. 9:35 A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 9:36 &para; A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail. 9:37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: 9:38 Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Crist yn anfon ei ddeuddeg apostol, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau:'' 5 ''yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dysgu,'' 16 ''ac yn eu cysuro yn erbyn erlidiau,'' 40 ''ac yn addaw bendith i’r rhai a’u derbynio hwynt.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. 10:2 Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 10:3 Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 10:4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. 10:5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: 10:6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jcslf4csd0yx39dq78o5gt8fvkp5qao Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/906 104 4905 172099 8983 2026-11-02T20:22:11Z Tylopous 3717 penodau 172099 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi. 10:40 &para; Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 10:41 Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 10:42 A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Ioan yn anfon ei ddisgyblion at Grist.'' 7 ''Tystiolaeth Crist am Ioan.'' 18 ''Tyb y bobl am Ioan, a Crist.'' 20 ''Crist yn dannod annïolchgarwch a dïedifeirwch Chorazin, Bethsaida, a Chapernaum:'' 25 ''a chan foliannu doethineb ei Dad, yn egluro yr efengyl i’r rhai bychain;'' 28 ''yn galw atto y rhai sydd yn teimlo baich eu pechodau.''}} {{angor|11:1}} {{uc|A bu}}, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. 11:2 A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion, 11:3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl? 11:4 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. 11:5 Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. 11:6 A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi. 11:7 &para; Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt? 11:8 Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. 11:9 Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai proffwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd: 11:10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 11:11 Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef. 11:12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi. 11:13 Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a brofiwydasant hyd Ioan. 11:14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod. 11:15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 11:16 &para; Eithr i ba beth y cyffylebaf â’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion, 11:17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch. 11:18 Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. 11:19 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun. 11:20 &para; Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent: 11:21 Gwae di, Chorasin! gwae di, Beth-saida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw. 11:22 Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi. 11:23 A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw. 11:24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f3hvej0ag49tbvrydl9kw0rtp38hs0y Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/907 104 4906 172100 8984 2026-11-02T20:25:53Z Tylopous 3717 penodau 172100 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>11:25 &para; Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: 11:26 Ie, O Dad, canys felly y rhyngodd fodd i ti. 11:27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo;, 11:28 &para; Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch. 11:29 Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau: 11:30 Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Sabbath;'' 3 ''trwy ysgrythyrau,'' 10 ''trwy reswm,'' 13 ''a thrwy ryfeddod;'' 22 ''yn iachâu y dyn cythreulig, mud, a dall.'' 31 ''Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Yspryd Glân.'' 36 ''Y rhoddir cyfrif am eiriau segur.'' 38 ''Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd;'' 49 ''ac yn dangos pwy yw ei frawd, a’i chwaer, a’i fam.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Yr}} amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 12:2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth. 12:3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? 12:4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? 12:5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 12:6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na’r deml. 12:7 Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 12:8 Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn. 12:9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt. 12:10 &para; Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. 12:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12:12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. 12:13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall. 12:14 &para; Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 12:15 A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 12:16 Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd: 12:17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 12:18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 12:19 Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 12:20 Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 12:21 Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 12:22 &para; Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 12:23 A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 12:34 Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. 12:25 A’r Iesu yn gwybod eu medd-<noinclude><references/></noinclude> 2cmihwubvu925nuwamp1hjm68zjslbc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/908 104 4907 172101 8985 2026-11-02T20:28:35Z Tylopous 3717 penodau 172101 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yliau, a ddywedodd wrthynt, pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dyˆ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 12:26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 12:27 Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 12:28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth Teyrnas Dduw atoch. 12:29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 12:30 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. 12:31 &para; Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 12:32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. 12:33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 12:34 O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 12:35 Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. 12:36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. 12:37 Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir. 12:38 &para; Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt. 12:39 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas: 12:40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 12:41 Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma. 12:42 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma. 12:43 A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 12:44 Yna medd efe. Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gad yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 12:45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon. 12:46 &para; Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 12:47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 12:48 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 12:49 Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 12:50 Canys pwy hynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Dammeg yr hauwr a’r had;'' 18 ''a’i dehongliad.'' 24 ''Dammeg yr efrau,'' 31 ''yr had mwstard,'' 33 ''y surdoes,'' 44 ''y trysor cuddiedig,'' 45 ''y perl,'' 47 ''a’r rhwyd.'' 53 ''Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2pv9i2ol1fo81w08oqbsxai3nd3f9ih 172105 172101 2026-11-02T20:35:44Z Tylopous 3717 172105 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yliau, a ddywedodd wrthynt, pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dyˆ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 12:26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 12:27 Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 12:28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth Teyrnas Dduw atoch. 12:29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 12:30 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. 12:31 &para; Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 12:32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. 12:33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 12:34 O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 12:35 Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. 12:36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. 12:37 Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir. 12:38 &para; Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt. 12:39 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas: 12:40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 12:41 Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma. 12:42 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma. 12:43 A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 12:44 Yna medd efe. Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gad yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 12:45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon. 12:46 &para; Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 12:47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 12:48 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 12:49 Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 12:50 Canys pwy hynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|3 ''Dammeg yr hauwr a’r had;'' 18 ''a’i dehongliad.'' 24 ''Dammeg yr efrau,'' 31 ''yr had mwstard,'' 33 ''y surdoes,'' 44 ''y trysor cuddiedig,'' 45 ''y perl,'' 47 ''a’r rhwyd.'' 53 ''Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ejsw3fv55m43rcj8w8qrowhyc0b2bzw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/909 104 4908 172102 8986 2026-11-02T20:29:03Z Tylopous 3717 penodau 172102 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|13:1}} {{uc|Y dydd}} hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. 13:2 A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. 13:3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. 13:4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. 13:5 Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear; ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: 13:6 Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 13:7 A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. 13:8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. 13:9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 13:10 A daeth y disgyblion, ac a ddywediasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? 13:11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. 13:12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. 13:13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 13:14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; 13:15 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. 13:16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: 13:17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant. 13:18 &para; Gwrandewch chwithau gan hynny, ddameg yr heuwr. 13:19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. 13:20 A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; 13:21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei him, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. 13:22 A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 13:23 Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain. 13:24 &para; Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: 13:25 A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth sei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y .gwenith, ac a aeth ymaith. 13:26 Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 13:27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? 13:28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? 13:29 Ac efe a ddywedodd, Na fyn-<noinclude><references/></noinclude> dh2d7nd09z1wuubsjqqzih9dyn6gujn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/911 104 4910 172103 8988 2026-11-02T20:32:14Z Tylopous 3717 penodau 172103 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 13:58 Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Tyb Herod am Grist.'' 3 ''Carchariad Ioan, a’i ddihenydd.'' 13 ''Yr Iesu yn ymadaw i le anial:'' 15 ''lle y mae efe yn porthi pùm mil o bobl â phùm torth ac â dau bysgodyn:'' 22 ''yn rhodio ar y môr at ei ddisgyblion;'' 34 ''ac wedi tirio yn Gennesaret, yn iachâu y cleifion a gyffyrddai âg ymyl ei wisg ef.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Y pryd}} hwnnw y clybu Herod, y tetrarch sôn am yr Iesu; 14:2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 14:3 &para; Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. 14:4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. 14:5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. 14:6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. 14:7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. 14:8 A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. 14:9 A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 14:10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 14:11 A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. 14:12 A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu. 14:13 &para; A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilitu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. 14:14 A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt. 14:15 &para; Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. 14:16 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. 14:17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. 14:18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. 14:19 Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. 14:20 A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant en digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 14:21 A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 14:22 &para; Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith. 14:23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei him, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig. 14:24 A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd. 14:25 Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr. 14:26 A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn. 14:27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch. 14:28 A Phedr a’i hatebodd, ac a<noinclude><references/></noinclude> 0e1lm98oeugmpgtvp8317bkjnxv39fn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/912 104 4911 172104 8991 2026-11-02T20:35:11Z Tylopous 3717 penodau 172104 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd. 14:29 Ac efe a ddywedodd. Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodlodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu. 14:30 Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi. 14:31 Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist? 14:32 A phan aethant hwy i mewn i’r llong, peidiodd y gwynt. 14:33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti. 14:34 &para; Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 14:35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl; 14:36 Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|3 ''Crist yn argyhoeddi yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid am dorri gorchymynion Duw trwy eu traddodiadau eu hunain:'' 11 ''yn dysgu nad yw y peth sydd yn myned i mewn i’r genau yn halogi dyn:'' 21 ''yn iachâu merch y wraig o Canaan,'' 30 ''a thorfoedd eraill lawer:'' 32 ''ac â saith dorth, ac ychydig bysgod bychain, yn porthi pedair mil o wŷr, heb law gwragedd a plant.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Yna}} yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 15:2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. 15:3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 15:4 Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. 15:5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ; ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. 15:6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. 15:7 O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, 15:8 Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. 15:9 Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth. 15:10 &para; Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch. 15:11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn. 15:12 Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn? 15:13 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. 15:14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. 15:15 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni’r ddameg hon. 15:16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau etc heb ddeall? 15:17 Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 15:18 Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn. 15:19 Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau: 15:20 Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn. 15:21 &para; A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 15:22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab<noinclude><references/></noinclude> k6j54nr8k6viwdadltvepflekug6p9o Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/913 104 4912 172106 8992 2026-11-03T05:49:47Z Tylopous 3717 penodau 172106 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 15:23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hô1. 15:24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 15:25 Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 15:26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 15:27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 15:28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan. 15:29 &para; A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea, ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 15:30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 15:31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel. 15:32 &para; A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 15:33 A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? 15:34 A’r Iesu a ddywedai wrthynt. Pa sawl torth sydd gcnnych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 15:35 Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 15:36 A chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 15:37 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 15:38 A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 15:39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Y Phariseaid yn gofyn arwydd.'' 6 ''Iesu yn rhybuddio ei ddisgyblion am efain y Phariseaid a’r Saduceaid.'' 13 ''Tyb y bobl am Grist,'' 16 ''a chyffes Petr am dano.'' 21 ''Iesu yn rhag-fynegi ei farwolaeth:'' 23 ''yn ceryddu Petr am ei gynghori i’r gwrthwyneb;'' 24 ''ac yn rhybuddio y sawl a fynnent ei ganlyn ef, i ddwyn y groes.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Ac}} wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, a’i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. 16:2 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. 16:3 A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd, O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? 16:4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith. 16:5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt. 16:6 &para; A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid. 16:7 A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym. 16:8 A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi? 16:9 Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 16:10 Na saith dorth y pedair mil,<noinclude><references/></noinclude> 1yohox6peekilfxx8ncfg40nke4qdur Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/914 104 4913 172107 8993 2026-11-03T05:51:26Z Tylopous 3717 penodau 172107 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? 16:11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid? 16:12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid. 16:13 &para; Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? 16:14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o’r proffwydi. 16:15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? 16:16 A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw. 16:17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 16:18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi. 16:19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd. 16:20 Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist. 16:21 &para; O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd. 16:22 A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti. 16:23 Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. 16:24 &para; Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. 16:25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff. 16:26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 16:27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred. 16:28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, a’r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Gwedd-newidiad Crist.'' 14 ''Y mae efe yn iachâu y lloerig;'' 22 ''yn rhag-fynegi ei ddïoddefaint;'' 24 ''ac yn talu teyrnged.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Ac}} ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 17:2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: â’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 17:3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 17:4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 17:5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. 17:6 A phan glybu’r disgyblion hynny i hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 17:7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 17:8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 17:9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1n93fk5ue4pd4imn9b9uevvbaw04q3j Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/915 104 4914 172108 8994 2026-11-03T05:55:20Z Tylopous 3717 penodau 172108 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>17:10 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf? 17:11 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth. 17:12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 17:13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt. 17:14 &para; Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 17:15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 17:16 Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef. 17:17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth annyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi. 17:18 A’r Iesu a geryddodd y cythraul, ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 17:19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 17:20 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac etc a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 17:21 Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd. 17:22 &para; Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: 17:23 A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn. 17:24 &para; Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? 17:25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 17:26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 17:27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi â thithau. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed;'' 7 ''o ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent y rhai bychain:'' 15 ''yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont i’n herbyn;'' 21 ''a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt:'' 23 ''yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenhin a gymmerai gyfrif gan ei weision,'' 32 ''ac a gospodd yr hwn ni wnaethai drugaredd â’i gydymmaith.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ar}} yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? 18:2 A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; 18:3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. 18:4 Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 18:5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i. 18:6 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr. 18:7 &para; Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn<noinclude><references/></noinclude> 52uywoithg160j9vqxqtiysnfurxhz1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/917 104 4916 172109 8996 2026-11-03T05:59:41Z Tylopous 3717 penodau 172109 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|2 ''Crist yn iachâu y cleifion:'' 3 ''yn atteb y Phariseaid am ysgariaeth:'' 10 ''yn dandos pa bryd y mae prïodas yn angenrheidiol:'' 13 ''yn derbyn plant bychain:'' 16 ''yn dysgu i’r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol,'' 20 ''ac i fod yn berffaith:'' 23 ''yn dywedyd i’w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i’r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw;'' 27 ''ac yn addaw gwobr i’r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.''}} {{angor|19:1}} {{uc|A bu}}, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: 19:2 A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno. 19:3 &para; A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? 19:4 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? 19:5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. 19:6 Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. 19:7 Hwythau a ddywedasant wrtho. Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? 19:8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. 19:9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas. 19:10 &para; Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. 19:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. 19:12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, deibynied. 19:13 &para; Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 19:14 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. 19:15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno. 19:16 &para; Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 19:17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. 19:18 Efe a ddywedodd wrtho yntau. Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, 19:19 Anrhydedda dy dad a’th fam, a châr dy gymydog fel ti dy hun. 19:20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? 19:21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 19:22 A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer. 19:23 &para; Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. 19:24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 19:25 A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? 19:26 A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1sq54z8m6jnp9sff9438m0wb68rrkqz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/918 104 4917 172111 8997 2026-11-03T06:38:00Z Tylopous 3717 penodau 172111 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>19:27 &para; Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? 19:28 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 19:29 A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe. 19:30 Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Crist, trwy ddammeg y gweithwyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyledwr i neb:'' 17 ''yn rhag-fynegi ei ddïoddefaint:'' 20 ''trwy atteb i fam meibion Zebedëus, yn dysgu i’w ddisgyblion fod yn ostyngedig;'' 30 ''ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Canys}} teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan. 20:2 Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan. 20:3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa; 20:4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi. 20:5 A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. 20:6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? 20:7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch. 20:8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf. 20:9 A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog. 20:10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. 20:11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, 20:12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, â thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres. 20:13 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist a mi? 20:14 Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau. 20:15 Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda? 20:16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis. 20:17 &para; Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt, 20:18 Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, 20:19 Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groes-hoelio: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. 20:20 &para; Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. 20:21 Ac efe a ddywedodd wrthi. Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. 20:22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio a’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. 20:23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir<noinclude><references/></noinclude> g732j4wrhgio4fvm5gn2t1benzxqmnt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/919 104 4918 172112 8998 2026-11-03T06:40:34Z Tylopous 3717 penodau 172112 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ag ef; eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. 20:24 A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. 20:25 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. 20:26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; 20:27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: 20:28 Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer. 20:29 &para; Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. 20:30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 20:31 A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 20:32 A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd. Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? 20:33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. 20:34 A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Crist yn marchogaeth ar asen i Jerusalem;'' 12 ''yn gyrru y prynwyr a’r gwerthwyr o’r deml;'' 17 ''yn melldithio y ffigysbren;'' 23 ''yn gostegu yr offeiriaid a’r henuriaid,'' 28 ''ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab,'' 33 ''a’r llafurwyr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A phan}} ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, 21:2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. 21:3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. 21:4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, 21:5 Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. 21:6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. 21:7 A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. 21:8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd. 21:9 A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ô1, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. 21:10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 21:11 A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea. 21:12 &para; A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod: 21:13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 21:14 A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 21:15 A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant, 21:16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn dywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau<noinclude><references/></noinclude> f8wwbdsunpjfdhc8yi2g2uv1e4mfr25 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/921 104 4920 172113 9000 2026-11-03T06:43:22Z Tylopous 3717 penodau 172113 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>21:42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni? 21:43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 21:44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw. 21:45 A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe. 21:46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Dammeg prïodas mab y brenhin.'' 9 ''Galwedigaeth y Cenhedloedd.'' 12 ''Cospedigaeth yr hwn nid oedd ganddo y wisg brïodas.'' 15 ''Y dylid talu teyrnged i Cesar.'' 23 ''Crsit yn gostegu y Saduceaid ynghylch yr adgyfodiad:'' 34 ''yn atteb y cyfreithiwr, pa un yw y gorchymyn cyntaf, a’r mawr;'' 41 ''ac yn holi y Phariseaid ynghylch y Messïas.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A’r}} Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 22:2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, 22:3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. 22:4 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. 22:5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 22:6 A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 22:7 A phan glybu’r hrenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 22:8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 22:9 Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 22:10 A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion. 22:11 &para; A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: 22:12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 22:13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 22:14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis. 22:15 &para; Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 22:16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 22:17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 22:18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 22:19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 22:20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 22:21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22:22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned i ymaith. 22:23 &para; Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 22:24 Gan ddywedyd, Athro, dy-<noinclude><references/></noinclude> 4vuju0d7zrbhoxv7nw6yjgzb6ngwmlw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/922 104 4921 172114 9005 2026-11-03T06:45:38Z Tylopous 3717 penodau 172114 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 22:25 Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 22:26 Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. 22:27 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 22:28 Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a’i cawsant hi. 22:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. 22:30 Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 22:31 Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 22:32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 22:33 A phan glybu’r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef. 22:34 &para; Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 22:35 Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, 22:36 Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? ‘ 22:37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dŷ Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwi. 22:38 Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 22:39 A’r ail sydd gyffelyb iddo. Câr dy gymydog fel ti dy hun. 22:40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r profiwydi yn sefyll. 22:41 &para; Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 22:42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 22:43 Dywedai yntau wrthynt. Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 22:44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? 22:45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 22:46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid.'' 5 ''Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy.'' 13 ''Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a’u dallineb hwy;'' 34 ''ac yn prophwydo dinystr Jerusalem.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Yna}} y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, 23:2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 23:3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. 23:4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion, ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. 23:5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; 23:6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, 23:7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion. Rabbi, Rabbi. 23:8 Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych. 23:9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 23:10 Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, 23:11 A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. 23:12 A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5m7zyby2zm3zzvrep31hvqs4f0ldlgn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/924 104 4923 172115 9007 2026-11-03T06:47:52Z Tylopous 3717 penodau 172115 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><nowiki/> {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Crist yn rhag-ddywedyd dinystr y deml:'' 3 ''pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd o’r blaen.'' 29 ''Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn.'' 36 ''Ac o ran bod y dydd a’r awr yn anhysbys,'' 42 ''y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.''}} {{angor|24:1}} {{uc|A’r}} Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. 24:2 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir. 24:3 &para; Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilitu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? 24:4 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. 24:5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 24:6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. 24:7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. 24:8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll. 24:9 Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 24:10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 24:11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 24:12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 24:13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 24:14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. 24:15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 24:16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 24:17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 24:18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 24:19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 24:20 Eithr gweddïwch na byddo eich ffoedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 24:21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 24:22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 24:23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24:24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 24:25 Wele, rhagddywedais i chwi. 24:26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 24:27 Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 24:28 Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. 24:29 &para; Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 24:30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. 24:31 Ac efe a ddenfyn ei angylion a mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, O eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. 24:32 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 24:33 Ac felly chwithau, pan weloch<noinclude><references/></noinclude> 0kjdlmpnm57kvp9m6qyhubig8eqsshl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/925 104 4924 172116 9008 2026-11-03T06:49:02Z Tylopous 3717 penodau 172116 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau. 24:34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. 24:35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. 24:36 &para; Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. 24:37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 24:38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, 24:39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 24:40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 24:41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir. 24:42 &para; Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 24:43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 24:44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. 24:45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 24:46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 24:47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef. 24:48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; 24:49 A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; 24:50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; 24:51 Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. {{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}} {{bach|1 ''Dammeg y deg morwyn,'' 14 ''a’r talentau;'' 31 ''a dull y farn ddiweddaf.''}} {{angor|25:1}} {{uc|Yna}} tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. 25:2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. 25:3 Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: 25:4 A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. 25:5 A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 25:6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 25:7 Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 25:8 A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. 25:9 A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 25:10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab, a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 25:11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 25:12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 25:13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn, 25:14 &para; Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 25:15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 25:16 A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 25:17 A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7y7glwpwu1f3fzeedmvbrpb5qltq00c Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/927 104 4926 172117 9010 2026-11-03T06:52:02Z Tylopous 3717 penodau 172117 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><nowiki/> {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}} {{bach|3 ''Y llywodraethwyr yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist.'' 6 ''Y wraig yn enneinio ei ben ef.'' 14 ''Judas yn ei werthu ef.'' 17 ''Crist yn bwytta y pasc:'' 26 ''yn ordeinio y swpper sanctaidd:'' 36 ''yn gweddïo yn yr ardd:'' 47 ''ac wedi ei frachydu â chusan,'' 57 ''yn cael ei arwain at Caiaphas,'' 69 ''a’i wadu gan Petr.''}} {{angor|26:1}} {{uc|A bu}}, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 26:2 Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. 26:3 Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: 26:4 A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 26:5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl. 26:6 &para; Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 26:7 Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 26:8 A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? 26:9 Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 26:10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 26:11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi, a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 26:12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 26:13 Yn wir meddaf i chwi. Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi. 26:14 &para; Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 26:15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 26:16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef. 26:17 &para; Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho. Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 26:18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 26:19 A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 26:20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 26:21 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 26:22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 26:23 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 26:24 Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 26:25 A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. 26:26 &para; Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 26:27 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 26:28 Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 26:29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. 26:30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 26:31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i0g2cbtycq96vede4ofy4kn5acg1tnp Tudalen:Madam Wen.djvu/120 104 33438 172118 171934 2026-11-03T10:03:37Z ~2026-58401-20 4273 172118 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Nid oedd Huw yn disgwyl helynt, ond doeth oedd bod yn barod. Fel y disgwyliai Huw yr oedd Abel hefyd wedi bwrw'r draul o wrthwynebu, ac wedi dyfod i'r casgliad mai doeth fyddai iddo gymryd arno ymostwng nes gweld pa beth a ddeuthai o'i gymdeithion a pha fodd y golygai'r dyfodol. "Abel Owen," oedd cyfarchiad llariaidd Capten y Wennol, "cyn y medrwn ni gael sgwrs glên, rhaid imi ofyn i ti fod mor hynaws a rhoi'r llaw-ddrylliau yna a'r cleddyf ar y bwrdd yma." Nid adwaenai Abel mo Huw Bifan, ac ni wyddai pa fath stwff oedd ynddo. Mewn ymgais i gael y llaw uchaf arno ar ddechrau'r drafodaeth, dywedodd gyda thipyn o rwysg, "Aros di dipyn bach, fy nghyfaill. Treia di gofio â phwy 'rwyt ti'n siarad." Gwenodd Huw, heb ateb dim; a disgwyliodd. Mewn tipyn o rodres yr aeth Abel ymlaen i ddywedyd, Mae yma bedair o ergydion yn y rhain. Ond gresyn fyddai gwastraffu powdwr da." Caeodd Huw y drws. Ie, gwiriondeb ydyw gwastraff ar bob adeg. Gad imi ddweud fod amser yn werthfawr ar fwrdd y Wennol. Nid môr-ladron ydym ni, wyddost." "Ple mae'r ''Certain Death''?" gofynnodd Abel, gan ddiystyru sylw Huw. 'Rywle ar ei ffordd i'r lle diffaith hwnnw, am wn i," meddai capten y Wennol yn bwyllog, gan bwyso'i gefn ar y drws caeëdig. Llithrodd llw dros wefus Abel. Tybiodd fod ei long wedi ei suddo. Craffodd yn wyneb Huw i edrych a oedd modd darllen yno pa beth oedd yn wir a pha faint oedd yn gelwydd. Ond ni bu fymryn nes i'r lan. "Pwy ydyw'r capten ar y llestr yma erbyn hyn?" gofynnodd, mewn gwawd o eiriau Huw y tro cyntaf y bu i'r ddau gyfarfod. "Yr un un sy'n llywyddu'r cafn mochyn o hyd," oedd yr ateb digynnwrf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ppxzaqomvn34aw0m9zh08blwrsltt95 172119 172118 2026-11-03T10:07:05Z ~2026-58401-20 4273 172119 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Nid oedd Huw yn disgwyl helynt, ond doeth oedd bod yn barod. Fel y disgwyliai Huw yr oedd Abel hefyd wedi bwrw'r draul o wrthwynebu, ac wedi dyfod i'r casgliad mai doeth fyddai iddo gymryd arno ymostwng nes gweld pa beth a ddeuthai o'i gymdeithion a pha fodd y golygai'r dyfodol. "Abel Owen," oedd cyfarchiad llariaidd Capten y Wennol, "cyn y medrwn ni gael sgwrs glên, rhaid imi ofyn i ti fod mor hynaws a rhoi'r llaw-ddrylliau yna a'r cleddyf ar y bwrdd yma." Nid adwaenai Abel mo Huw Bifan, ac ni wyddai pa fath stwff oedd ynddo. Mewn ymgais i gael y llaw uchaf arno ar ddechrau'r drafodaeth, dywedodd gyda thipyn o rwysg, "Aros di dipyn bach, fy nghyfaill. Treia di gofio â phwy 'rwyt ti'n siarad." Gwenodd Huw, heb ateb dim; a disgwyliodd. Mewn tipyn o rodres yr aeth Abel ymlaen i ddywedyd, "Mae yma bedair o ergydion yn y rhain. Ond gresyn fyddai gwastraffu powdwr da." Caeodd Huw y drws. Ie, gwiriondeb ydyw gwastraff ar bob adeg. Gad imi ddweud fod amser yn werthfawr ar fwrdd y Wennol. Nid môr-ladron ydym ni, wyddost." "Ple mae'r ''Certain Death''?" gofynnodd Abel, gan ddiystyru sylw Huw. 'Rywle ar ei ffordd i'r lle diffaith hwnnw, am wn i," meddai capten y Wennol yn bwyllog, gan bwyso'i gefn ar y drws caeëdig. Llithrodd llw dros wefus Abel. Tybiodd fod ei long wedi ei suddo. Craffodd yn wyneb Huw i edrych a oedd modd darllen yno pa beth oedd yn wir a pha faint oedd yn gelwydd. Ond ni bu fymryn nes i'r lan. "Pwy ydyw'r capten ar y llestr yma erbyn hyn?" gofynnodd, mewn gwawd o eiriau Huw y tro cyntaf y bu i'r ddau gyfarfod. "Yr un un sy'n llywyddu'r cafn mochyn o hyd," oedd yr ateb digynnwrf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> dnzsuh9sp2q64g9bzl47h82gj50zuxj 172120 172119 2026-11-03T10:36:08Z ~2026-58401-20 4273 172120 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Nid oedd Huw yn disgwyl helynt, ond doeth oedd bod yn barod. Fel y disgwyliai Huw yr oedd Abel hefyd wedi bwrw'r draul o wrthwynebu, ac wedi dyfod i'r casgliad mai doeth fyddai iddo gymryd arno ymostwng nes gweld pa beth a ddeuthai o'i gymdeithion a pha fodd y golygai'r dyfodol. "Abel Owen," oedd cyfarchiad llariaidd Capten y Wennol, "cyn y medrwn ni gael sgwrs glên, rhaid imi ofyn i ti fod mor hynaws a rhoi'r llaw-ddrylliau yna a'r cleddyf ar y bwrdd yma." Nid adwaenai Abel mo Huw Bifan, ac ni wyddai pa fath stwff oedd ynddo. Mewn ymgais i gael y llaw uchaf arno ar ddechrau'r drafodaeth, dywedodd gyda thipyn o rwysg, "Aros di dipyn bach, fy nghyfaill. Treia di gofio â phwy 'rwyt ti'n siarad." Gwenodd Huw, heb ateb dim; a disgwyliodd. Mewn tipyn o rodres yr aeth Abel ymlaen i ddywedyd, "Mae yma bedair o ergydion yn y rhain. Ond gresyn fyddai gwastraffu powdwr da." Caeodd Huw y drws. "Ie, gwiriondeb ydyw gwastraff ar bob adeg. Gad imi ddweud fod amser yn werthfawr ar fwrdd y Wennol. Nid môr-ladron ydym ni, wyddost." "Ple mae'r ''Certain Death''?" gofynnodd Abel, gan ddiystyru sylw Huw. 'Rywle ar ei ffordd i'r lle diffaith hwnnw, am wn i," meddai capten y Wennol yn bwyllog, gan bwyso'i gefn ar y drws caeëdig. Llithrodd llw dros wefus Abel. Tybiodd fod ei long wedi ei suddo. Craffodd yn wyneb Huw i edrych a oedd modd darllen yno pa beth oedd yn wir a pha faint oedd yn gelwydd. Ond ni bu fymryn nes i'r lan. "Pwy ydyw'r capten ar y llestr yma erbyn hyn?" gofynnodd, mewn gwawd o eiriau Huw y tro cyntaf y bu i'r ddau gyfarfod. "Yr un un sy'n llywyddu'r cafn mochyn o hyd," oedd yr ateb digynnwrf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ics3mv6ga20mozw8llpu8fcjqqmh557 172121 172120 2026-11-03T10:44:31Z ~2026-58401-20 4273 172121 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Nid oedd Huw yn disgwyl helynt, ond doeth oedd bod yn barod. Fel y disgwyliai Huw yr oedd Abel hefyd wedi bwrw'r draul o wrthwynebu, ac wedi dyfod i'r casgliad mai doeth fyddai iddo gymryd arno ymostwng nes gweld pa beth a ddeuthai o'i gymdeithion a pha fodd y golygai'r dyfodol. "Abel Owen," oedd cyfarchiad llariaidd Capten y Wennol, "cyn y medrwn ni gael sgwrs glên, rhaid imi ofyn i ti fod mor hynaws a rhoi'r llaw-ddrylliau yna a'r cleddyf ar y bwrdd yma." Nid adwaenai Abel mo Huw Bifan, ac ni wyddai pa fath stwff oedd ynddo. Mewn ymgais i gael y llaw uchaf arno ar ddechrau'r drafodaeth, dywedodd gyda thipyn o rwysg, "Aros di dipyn bach, fy nghyfaill. Treia di gofio â phwy 'rwyt ti'n siarad." Gwenodd Huw, heb ateb dim; a disgwyliodd. Mewn tipyn o rodres yr aeth Abel ymlaen i ddywedyd, "Mae yma bedair o ergydion yn y rhain. Ond gresyn fyddai gwastraffu powdwr da." Caeodd Huw y drws. "Ie, gwiriondeb ydyw gwastraff ar bob adeg. Gad imi ddweud fod amser yn werthfawr ar fwrdd y Wennol. Nid môr-ladron ydym ni, wyddost." "Ple mae'r ''Certain Death''?" gofynnodd Abel, gan ddiystyru sylw Huw. "Rywle ar ei ffordd i'r lle diffaith hwnnw, am wn i," meddai capten y Wennol yn bwyllog, gan bwyso'i gefn ar y drws caeëdig. Llithrodd llw dros wefus Abel. Tybiodd fod ei long wedi ei suddo. Craffodd yn wyneb Huw i edrych a oedd modd darllen yno pa beth oedd yn wir a pha faint oedd yn gelwydd. Ond ni bu fymryn nes i'r lan. "Pwy ydyw'r capten ar y llestr yma erbyn hyn?" gofynnodd, mewn gwawd o eiriau Huw y tro cyntaf y bu i'r ddau gyfarfod. "Yr un un sy'n llywyddu'r cafn mochyn o hyd," oedd yr ateb digynnwrf. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o8mpidlkc093ecd2dq5jibg2noovxjj