Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.3 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/328 104 3580 172122 171906 2026-11-04T05:43:53Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172122 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yr {{sc|Arglwydd}}: a hwy a enneiniasant Dafydd yn frenhin ar Israel. {{angor|5:4|4}} ¶ Mab deng mlwydd ar hugain ''oedd'' Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; ''a'' deugain mlynedd y teyrnasodd efe. {{angor|5:5|5}} Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Judah saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerusalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Judah. {{angor|5:6|6}} ¶ A’r brenhin a’i wŷr a aethant i Jerusalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. {{angor|5:7|7}} Ond Dafydd a ennillodd amddiffynfa Sïon: honno ''yw'' dinas Dafydd. {{angor|5:8|8}} A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fynu i’r gwtter, ac a darawo y Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, ''y rhai sydd'' gas gan enaid Dafydd, ''hwnnw fydd blaenor''. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. {{angor|5:9|9}} A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. {{angor|5:10|10}} A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynnyddodd yn fawr; ac {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} y lluoedd ''oedd'' gyd âg ef. {{angor|5:11|11}} ¶ A Hiram brenhin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd. {{angor|5:12|12}} A gwybu Dafydd i’r {{sc|Arglwydd}} ei sicrhâu ef yn frenhin ar Israel, a dyrchafu o hono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel. {{angor|5:13|13}} ¶ A Dafydd a gymmerodd etto ordderch-wragedd a gwragedd o Jerusalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd etto i Dafydd feibion a merched. {{angor|5:14|14}} A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerusalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon, {{angor|5:15|15}} Ibhar hefyd, ac Elisua, a Nepheg, a Japhïa, {{angor|5:16|16}} Elisama ''hefyd'', ac Elïada, ac Eliphalet. {{angor|5:17|17}} ¶ Ond pan glybu y Philistiaid iddynt enneinio Dafydd yn frenhin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fynu i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa. {{angor|5:18|18}} A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Rephaim. {{angor|5:19|19}} A Dafydd a ymofynodd â’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A âf fi i fynu at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fynu: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di. {{angor|5:20|20}} A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u tarawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr {{sc|Arglwydd}} a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim. {{angor|5:21|21}} Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt. {{angor|5:22|22}} ¶ A’r Philistiaid etto a chwanegasant ddyfod i fynu, ac a ymdaenasant yn nyffryn Rephaim. {{angor|5:23|23}} A Dafydd a ymofynodd â’r {{sc|Arglwydd}}; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fynu: amgylchyna o’r tu ol iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd. {{angor|5:24|24}} A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr {{sc|Arglwydd}} a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid. {{angor|5:25|25}} A Dafydd a wnaeth megis y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} iddo ef; ac a darawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gazer. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim ar fèn newydd.'' 6 ''Taro Uzzah yn Peres-Uzzah.'' 11 ''Duw yn bendithio Obed-Edom o achos yr arch.'' 12 ''Dafydd yn dwyn yr arch i Sïon gyd âg aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny.'' 17 ''Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyd â llawenydd mawr a gwledda.'' 20 ''Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn ammhlantadwy hyd farwolaeth.''}} {{angor|6:1}} {{uc|A chasglodd}} Dafydd etto yr holl etholedigion yn Israel, ''sef'' deng mil ar bugain. {{angor|6:2|2}} A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl ''oedd'' gyd âg ef, o Baale Judah, i ddwyn i fynu oddi yno arch {{sc|Duw}}; enw yr hon a elwir ''ar'' enw {{sc|Arglwydd}} y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni ''rhwng'' y cerubiaid. {{angor|6:3|3}} A hwy a osodasant arch {{sc|Duw}} ar fèn newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibeah: Uzzah ''hefyd'' ac Ahïo, meibion Abinadab, ''oedd'' yn gyrru y fèn newydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jo73y0a8we27ohh1y6a40k43679fxus Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/333 104 3585 172130 171699 2026-11-04T06:06:48Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172130 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|10:16|16}} A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen. {{angor|10:17|17}} A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef. {{angor|10:18|18}} A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno. {{angor|10:19|19}} A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, tra yr ydoedd Joab yn gwarchae ar Rabbah, yn godinebu gyd â Bathseba:'' 6 ''yn anfon am Urïas adref, i geisio coluro ei odineb:'' 14 ''yn anfon llythyr gyd âg ef at Joab, i beri iddo farw.'' 18 ''Joab yn danfon newyddion o’i farwolaeth ef i Dafydd.'' 26 ''Dafydd yn cammeryd Bathseba yn wraig iddo.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ac}} wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem. {{angor|11:2|2}} ¶ A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. {{angor|11:3|3}} A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad? {{angor|11:4|4}} A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. {{angor|11:5|5}} A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog. {{angor|11:6|6}} ¶ A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. {{angor|11:7|7}} A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. {{angor|11:8|8}} Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. {{angor|11:9|9}} Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. {{angor|11:10|10}} Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? {{angor|11:11|11}} A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. {{angor|11:12|12}} A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. {{angor|11:13|13}} A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. {{angor|11:14|14}} ¶ A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. {{angor|11:15|15}} Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. {{angor|11:16|16}} A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. {{angor|11:17|17}} A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:18|18}} ¶ Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mfb00n895ob1s7ydgceb3ngeb0mzc5a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/334 104 3586 172131 171700 2026-11-04T06:08:26Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172131 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|11:19|19}} Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd. Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: {{angor|11:20|20}} Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? {{angor|11:21|21}} Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:22|22}} ¶ Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. {{angor|11:23|23}} A’r gennad a ddywedodd wrth Da¬fydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. {{angor|11:24|24}} A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weisiofa y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:25|25}} Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad. Fel hyn y dywedi di wrth Joab, Na fydded hyn ddrwg yn dy oiwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf; cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef. {{angor|11:26|26}} ¶ A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. {{angor|11:27|27}} A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} oedd y peth a wnaethai Dafydd. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Dammeg Nathan am yr oenig, yn peri i Dafydd fod yn farnwr arno ei hun.'' 7 ''Dafydd, wedi i Nathan ei geryddu, yn cyfaddef ei bechod, ac yn cael maddeuant:'' 15 ''yn galaru ac yn gweddïo dros y plentyn, tra oedd fwy.'' 24 ''Geni Solomon, a’i enwi Jedidïah.'' 26 ''Dafydd yn ennill Rabbah, ac yn arteithio ei phobl hi.''}} {{angor|12:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. {{angor|12:2|2}} Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawa o ddefaid a gwartheg: {{angor|12:3|3}} A chan y tlawd nid oedd dim ohd un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytai hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. {{angor|12:4|4}} Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd O’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, l arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i parat6dd i’r gŵr a ddaethai ato. {{angor|12:5|5}} A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr {{sc|Arglwydd}}, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. {{angor|12:6|6}} A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth .hyn, ac nad arbedodd. {{angor|12:7|7}} ¶ A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: {{angor|12:8|8}} Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a pfae rhy fychan fuasai hynny, myfi a toddaswn i ti fwy o lawer. {{angor|12:9|9}} Paham y dirmygaist air yr {{sc|Arglwydd}}, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ure&s yr Hethiad a drewaist ti a’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a ttu a’i lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon. {{angor|12:10|10}} Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. {{angor|12:11|11}} Fel hyn y dywed yr {{sc|Arglwydd}}; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. {{angor|12:12|12}} Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. {{angor|12:13|13}} A dywedodd Dafydd wrth Nathan., Pechais yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hyd8dog1majhjo8y7bkfnq9x5m0qvou Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/335 104 3587 172132 171701 2026-11-04T06:09:51Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172132 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|12:14|14}} Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr {{sc|Arglwydd}} gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau. {{angor|12:15|15}} ¶ A Nathan a aeth i’w dŷ. A’r {{sc|Arglwydd}} a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn. {{angor|12:16|16}} Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. {{angor|12:17|17}} A henuriaid ei dy ef a gyfodasant .ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt. {{angor|12:18|18}} Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? {{angor|12:19|19}} Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. {{angor|12:20|20}} Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr {{sc|Arglwydd}}, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. {{angor|12:21|21}} Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. {{angor|12:22|22}} Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? {{angor|12:23|23}} Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi. {{angor|12:24|24}} ¶ A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r {{sc|Arglwydd}} a’i carodd ef. {{angor|12:25|25}} Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|12:26|26}} ¶ A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. {{angor|12:27|27}} A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. {{angor|12:28|28}} Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. {{angor|12:29|29}} A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. {{angor|12:30|30}} Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. {{angor|12:31|31}} Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Amnon yn caru Tamar: a thrwy gynghor Jonadab, yn cymmeryd arno fod yn glaf, ac yn ei threisio hi;'' 15 ''ac yna yn ei chasâu hi, ac yn ei throi ymaith yn gywilyddus.'' 19 ''Absalom yn ei derbyn hi, ac yn celu ei amcan:'' 23 ''ac, wrth gneifio ei ddefaid, yn lladd Amnon.'' 30 ''Dafydd yn pruddhâu wrth glywed hynny; a Jonadab yn ei gysuro ef.'' 37 ''Absalom yn ffoi at Talmai i Gesur.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. {{angor|13:2|2}} Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. {{angor|13:3|3}} Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. {{angor|13:4|4}} Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac’ Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. {{angor|13:5|5}} A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymmer<noinclude><references/></noinclude> 40shthv63f3tp20zdlz80r5na2t5795 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/336 104 3588 172133 171702 2026-11-04T06:11:13Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172133 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi. {{angor|13:6|6}} ¶ Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddy¬wedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. {{angor|13:7|7}} Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, DOS yn. awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. {{angor|13:8|8}} Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tyhnodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. {{angor|13:9|9}} A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddy¬wedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. {{angor|13:10|10}} Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. {{angor|13:11|11}} A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddy¬wedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. f {{angor|13:12|12}} A hi a ddywedodd wrtho. Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. {{angor|13:13|13}} A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, a’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. {{angor|13:14|14}} Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi. {{angor|13:15|15}} ¶ Yoa Amnon a’i casaodd hi a chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas a’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad a’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. {{angor|13:16|16}} A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost a mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. {{angor|13:17|17}} Eithr efe a alwodd ar ei lane, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. {{angor|13:18|18}} Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys a’r cyfryw fentyll y diilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi. {{angor|13:19|19}} ¶ A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. {{angor|13:20|20}} Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw a son, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd. {{angor|13:21|21}} ¶ Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. {{angor|13:22|22}} Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. {{angor|13:23|23}} ¶ Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baalhasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. {{angor|13:24|24}} Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i. weision gyda’th was. {{angor|13:25|25}} A dywedodd y brenin wrth Absa¬lom, Nage, fy roab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu dacr arno: ond ni fynnai efe fyned, eithr efc a’i bcndithiodd ef. {{angor|13:26|26}} Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho- ef, 1 ba beth yr a efe gyda thi? .;: {{angor|13:27|27}} Eto Absalom a fu daer arno, fal y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a hot! feibion y brenin. {{angor|13:28|28}} ¶ Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen<noinclude><references/></noinclude> lg5gdr2r3o5o9vq0ydw1w4yprpnhrf6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/337 104 3590 172134 171393 2026-11-04T06:12:46Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172134 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. {{angor|13:29|29}} A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant. {{angor|13:30|30}} ¶ A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. {{angor|13:31|31}} Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. {{angor|13:32|32}} A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. {{angor|13:33|33}} Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. {{angor|13:34|34}} Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. {{angor|13:35|35}} A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. {{angor|13:36|36}} A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn. {{angor|13:37|37}} ¶ Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd. {{angor|13:38|38}} Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd. {{angor|13:39|39}} Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Joab yn gosod gwraig weddw o Tecoah, trwy ddammeg, i droi calon y brenhin i gyrchu ei fab adref; ac yn ei ddwyn ef i Jerusalem.'' 25 ''Tegwch, gwallt, a phlant Absalom.'' 28 ''Joab, ym mhen dwy flynedd, yn dwyn Absalom i ŵydd y brenhin.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yna}} Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom. {{angor|14:2|2}} A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw: {{angor|14:3|3}} A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi. {{angor|14:4|4}} ¶ A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin. {{angor|14:5|5}} A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a’m gŵr a fu farw. {{angor|14:6|6}} Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef. {{angor|14:7|7}} Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear. {{angor|14:8|8}} A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di. {{angor|14:9|9}} A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog. {{angor|14:10|10}} A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi. {{angor|14:11|11}} Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a<noinclude><references/></noinclude> 0vg421bhradrr5g50rer6jvwdyd7581 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/338 104 3591 172135 171703 2026-11-04T06:15:06Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172135 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedodd, Fel mai byw yr {{sc|Arglwydd}}, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr. {{angor|14:12|12}} Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. {{angor|14:13|13}} A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl {{sc|Dduw}}? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr. {{angor|14:14|14}} Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho. {{angor|14:15|15}} Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn. {{angor|14:16|16}} Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth {{sc|Dduw}}. {{angor|14:17|17}} A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel {{sc|Duw}} yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} fydd gyda thi. {{angor|14:18|18}} Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin. {{angor|14:19|19}} A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn: {{angor|14:20|20}} Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel {{sc|Duw}}, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear. {{angor|14:21|21}} ¶ A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl. {{angor|14:22|22}} A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was. {{angor|14:23|23}} A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem. {{angor|14:24|24}} A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin. {{angor|14:25|25}} ¶ Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. {{angor|14:26|26}} A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. {{angor|14:27|27}} A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg. {{angor|14:28|28}} ¶ Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. {{angor|14:29|29}} Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. {{angor|14:30|30}} Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. {{angor|14:31|31}} Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? {{angor|14:32|32}} Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. {{angor|14:33|33}} Yna Joab a ddaeth at y bren-<noinclude><references/></noinclude> 8whbfsh2ecfz4twwq0leiicih91gzwd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/339 104 3592 172136 171704 2026-11-04T06:16:50Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172136 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Absalom, trwy ei fwyneidd-dra, yn lladratta calonnau Israel:'' 7 ''ac, yn rhith talu adduned, yn cael cennad i fyned i Hebron:'' 10 ''ac yn gwneuthur cyd-fwriad mawr yno.'' 13 ''Dafydd, wrth glywed hynny, yn ffoi o Jerusalem.'' 19 ''Ittai heb ymadael âg ef.'' 24 ''Danfon Sadoc ac Abïathar yn eu hol â’r arch.'' 30 ''Dafydd a’i gyfeillion yn myned i fynydd yr Olwe-wydd, dan wylo:'' 31 ''yn melldigo cynghor Ahitophel;'' 32 ''ac yn anfon Husai yn ei ol.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. {{angor|15:2|2}} Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was. {{angor|15:3|3}} Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti. {{angor|15:4|4}} Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo! {{angor|15:5|5}} A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai. {{angor|15:6|6}} Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel. {{angor|15:7|7}} ¶ Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron. {{angor|15:8|8}} Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr {{sc|Arglwydd}} fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:9|9}} A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron. {{angor|15:10|10}} ¶ Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. {{angor|15:11|11}} A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll. {{angor|15:12|12}} Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol. {{angor|15:13|13}} ¶ A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom. {{angor|15:14|14}} A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf. {{angor|15:15|15}} A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin. {{angor|15:16|16}} A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ. {{angor|15:17|17}} A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell. {{angor|15:18|18}} A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin. {{angor|15:19|19}} ¶ Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun. {{angor|15:20|20}} Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi. {{angor|15:21|21}} Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr {{sc|Arglwydd}}, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd. {{angor|15:22|22}} A Dafydd a ddywedodd wrth<noinclude><references/></noinclude> 29uvc1ff6911gn8rtakvlxkfbabsngl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/340 104 3593 172137 171705 2026-11-04T06:18:57Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172137 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. {{angor|15:23|23}} A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch. {{angor|15:24|24}} ¶ Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod {{sc|Duw}}; a hwy a osodasant i lawr arch {{sc|Duw}}: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. {{angor|15:25|25}} A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch {{sc|Duw}} i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. {{angor|15:26|26}} Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. {{angor|15:27|27}} A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. {{angor|15:28|28}} Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. {{angor|15:29|29}} Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch {{sc|Duw}} i Jerwsalem; ac a arosasant yno. {{angor|15:30|30}} ¶ A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo. {{angor|15:31|31}} ¶ A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd}}, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb. {{angor|15:32|32}} ¶ A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. {{angor|15:33|33}} A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: {{angor|15:34|34}} Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. {{angor|15:35|35}} Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. {{angor|15:36|36}} Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. {{angor|15:37|37}} Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Siba, trwy anrhegion a chelwyddau, yn cael etifeddiaeth ei feistr.'' 5 ''Simei yn melldithio Dafydd yn Bahurim.'' 9 ''Dafydd, trwy amynedd, yn ei gadw ei hun ac eraill rhag dïal.'' 15 ''Husai yn ymlusgo i mewn i gyfrinach Absalom.'' 20 ''Cynghor Ahitophel.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Ac}} wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. {{angor|16:2|2}} A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. {{angor|16:3|3}} A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. {{angor|16:4|4}} Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin. {{angor|16:5|5}} ¶ A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. {{angor|16:6|6}} Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r<noinclude><references/></noinclude> 3bk7ryml7nixvb82vusxry5t4tq3lft Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/341 104 3594 172138 171706 2026-11-04T06:20:55Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172138 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef. {{angor|16:7|7}} Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall. {{angor|16:8|8}} Yr {{sc|Arglwydd}} a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r {{sc|Arglwydd}} a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti. {{angor|16:9|9}} ¶ Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef. {{angor|16:10|10}} A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn? {{angor|16:11|11}} A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo. {{angor|16:12|12}} Efallai yr edrych yr {{sc|Arglwydd}} ar fy nghystudd i, ac y dyry yr {{sc|Arglwydd}} i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn. {{angor|16:13|13}} Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef. {{angor|16:14|14}} A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno. {{angor|16:15|15}} ¶ Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. {{angor|16:16|16}} A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin. {{angor|16:17|17}} Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill? {{angor|16:18|18}} A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}}, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi. {{angor|16:19|19}} A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau. {{angor|16:20|20}} ¶ Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. {{angor|16:21|21}} Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi. {{angor|16:22|22}} Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel. {{angor|16:23|23}} A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair {{sc|Duw}}: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Cynghor Husai, trwy ewyllys Duw, yn difwyno cynghor Ahitophel.'' 15 ''Danfon dirgel gydnabyddiaeth i Dafydd.'' 23 ''Ahitophel yn ymgrogi.'' 25 ''Gwneuthur Amasa yn gapten.'' 27 ''Dafydd yn cael ymborth ym Mahanaim.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Dywedodd}} Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. {{angor|17:2|2}} A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig. {{angor|17:3|3}} A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch. {{angor|17:4|4}} A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel. {{angor|17:5|5}} Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd. {{angor|17:6|6}} A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di. {{angor|17:7|7}} A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s1tmom3yg9zn9og97dccs2gqm86jnsy Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/342 104 3595 172139 171707 2026-11-04T06:22:15Z Tylopous 3717 {{sc}}, ¶ 172139 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|17:8|8}} Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl. {{angor|17:9|9}} Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom. {{angor|17:10|10}} Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon Hew, a lwfrha: canys gwŷr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef. {{angor|17:11|11}} Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer-seba, fel y tywod wrth y môr o arnldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel. {{angor|17:12|12}} Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ao a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef. {{angor|17:13|13}} Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan. {{angor|17:14|14}} A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor AhitoffeS. Canys yr {{sc|Arglwydd}} a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr {{sc|Arglwydd}} ddrwg ar Absalom. {{angor|17:15|15}} ¶ Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau. {{angor|17:16|16}} Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos, rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef. {{angor|17:17|17}} Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En-rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas. {{angor|17:18|18}} Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno. {{angor|17:19|19}} A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion yd; fel na wybuwyd y peth. {{angor|17:20|20}} A phan ddaeth gweision Absalom at . y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant. Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem. {{angor|17:21|21}} Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, .Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi. {{angor|17:22|22}} Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen. {{angor|17:23|23}} ¶ A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. {{angor|17:24|24}} Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.: {{angor|17:25|25}} ¶ Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, main Joab. {{angor|17:26|26}} Felly y gwersyllodd Israel ac Absa¬lom yng ngwlad Gilead. {{angor|17:27|27}} ¶ A phan ddaeth Dafydd i Ma¬hanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammi’el o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim, {{angor|17:28|28}} A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a fi’acbys, a chras bys, {{angor|17:29|29}} A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r<noinclude><references/></noinclude> gqdy15ucpx0mxlzr6vekue53d57vaqx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/370 104 3623 172126 6819 2026-11-04T05:59:21Z Tylopous 3717 angorau 172126 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a’i diddyfhodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo. {{angor|11:21|21}} A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda’i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddy¬wedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i’m gwlad fy hun. {{angor|11:22|22}} A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i’th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd. Dim, eithr gan ollwng gollwng fi. {{angor|11:23|23}} A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd: {{angor|11:24|24}} Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus. {{angor|11:25|25}} Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieidd" iodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria. {{angor|11:26|26}} A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw.) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. {{angor|11:27|27}} Ac o achos hyn y dyrchafodd efe a law yn erbyn y brenin: Solomon.’a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyaa dinas Dafydd ei dad.:. {{angor|11:28|28}} A’r gŵr Jeroboam oedd rymus. o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwniiw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. {{angor|11:29|29}} A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. {{angor|11:30|30}} Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau, {{angor|11:31|31}} Ac efe a ddywedodd wrth Jero¬boam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: {{angor|11:32|32}} (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) {{angor|11:33|33}} Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. {{angor|11:34|34}} Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddf¬au i; {{angor|11:35|35}} Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth. , i {{angor|11:36|36}} Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth, xxx fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. {{angor|11:37|37}} A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon i a thi a fyddi frenin ar Israel. {{angor|11:38|38}} Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dy sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. {{angor|11:39|39}} A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. {{angor|11:40|40}} Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon. {{angor|11:41|41}} A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? {{angor|11:42|42}} A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeu-gain mlynedd. {{angor|11:43|43}} A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 013dml4mlwnwiia97fqw20v4rd9slco Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/371 104 3624 172127 171418 2026-11-04T06:01:26Z Tylopous 3717 angorau 172127 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Yr Israeliaid wedi ymgasglu yn Sichem i goroni Rehoboam, trwy Jeroboam yn ceisio rhyddhâd ganddo.'' 6 ''Rehoboam yn gwrthod cynghor yr henafgwyr, a thrwy gynghor y gwŷr ieuaingc, yn eu hatteb hwy yn arw.'' 16 ''Deg llwyth yn gwrthryfela, ac yn lladd Adoram, ac yn gyrru Rehoboam i ffoi.'' 21 ''Rehoboam yn caglu llu, a Semaiah yn gwarafan iddo.'' 25 ''Jeroboam yn ymgadarnhâu â threfydd,'' 26 ''a thrwy ddelw-addoliaeth y ddau lo.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Yna}} Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. {{angor|12:2|2}} A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;) {{angor|12:3|3}} Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant a Rehoboam, gan ddywedyd, {{angor|12:4|4}} Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di. {{angor|12:5|5}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith. {{angor|12:6|6}} A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn? {{angor|12:7|7}} A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth. {{angor|12:8|8}} Ond efe a wrthododd gyngor yr hen¬uriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef, ac efe a ymgynghorodd a’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef: {{angor|12:9|9}} Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni? {{angor|12:10|10}} A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd. Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad. {{angor|12:11|11}} Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd a iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi a ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau. {{angor|12:12|12}} A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llef- arasai y brenin, gan ddywedyd, Dy-’chwelwch ataf fi y trydydd dydd. {{angor|12:13|13}} A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; {{angor|12:14|14}} Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi A ffrewyllau, "a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorp¬ionau. {{angor|12:15|15}} Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat. {{angor|12:16|16}} A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. {{angor|12:17|17}} Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. {{angor|12:18|18}} A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Reho¬boam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. {{angor|12:19|19}} Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. {{angor|12:20|20}} A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i galwasant efat y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig. {{angor|12:21|21}} A phan ddaeth Rehoboam<noinclude><references/></noinclude> 4gv5cuhp8kxlp1wx1tdp1evs23nygmg Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/372 104 3625 172128 171419 2026-11-04T06:03:07Z Tylopous 3717 angorau 172128 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon. {{angor|12:22|22}} Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, {{angor|12:23|23}} Adrodd wrth Rehoboam mab Sol¬omon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd, {{angor|12:24|24}} Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dych¬welwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD. {{angor|12:25|25}} Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeilad¬odd Penuel. {{angor|12:26|26}} A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd. {{angor|12:27|27}} Os a y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda. {{angor|12:28|28}} Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a «| wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd I’ wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. {{angor|12:29|29}} Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan. {{angor|12:30|30}} A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. _ {{angor|12:31|31}} Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi. {{angor|12:32|32}} A Jeroboam a wnaeth uchel wyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, fel yr uchel wyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaeth¬ai efe. {{angor|12:33|33}} Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogl-darthu. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Llaw Jeroboam, yr hon a estynasai efe yn erbyn yr hwn a brophwydasai yn erbyn yr allor yn Bethel, yn gwywo;'' 6 ''a thrwy weddi y prophwyd, yn myned yn iach.'' 7 ''Y prophwyd yn gwrthod croesaw y brenhin, ac yn myned ymaith o Bethel.'' 11 ''Hen brophwyd yn ei hudo ef, ac yn ei droi yn ei ol.'' 20 ''Duw yn ei geryddu ef;'' 24 ''a llew yn ei ladd ef;'' 26 ''a’r hen brophwyd yn ei gladdu ef,'' 31 ''ac yn cadarnhâu ei brophwydoliaeth ef.'' 33 ''Cyndynrwydd Jeroboam.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, *~ trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu. {{angor|13:2|2}} Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. {{angor|13:3|3}} Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. {{angor|13:4|4}} A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. {{angor|13:5|5}} Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr ‘ argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr ARGLWYDD. {{angor|13:6|6}} A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, ger¬bron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr AR¬GLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. {{angor|13:7|7}} A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. {{angor|13:8|8}} A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner<noinclude><references/></noinclude> 6g3r4f40gn15jsbiu2m5ogrlntx2lrh Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/373 104 3626 172129 6822 2026-11-04T06:05:07Z Tylopous 3717 angorau 172129 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: {{angor|13:9|9}} Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi <rwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddyehwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost. {{angor|13:10|10}} Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd-ddi i Bethel. {{angor|13:11|11}} Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin. {{angor|13:12|12}} A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda. {{angor|13:13|13}} Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farctbogodd arno. {{angor|13:14|14}} Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi. {{angor|13:15|15}} Yna efe a ddywedodd wrtho. Tyred adref gyda mi, a bwyta fara. {{angor|13:16|16}} Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddy¬chwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytaf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda da yn y fan hon. {{angor|13:17|17}} Canys dywedwyd wrthyftrwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd-ddi. {{angor|13:18|18}} Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a. lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. {{angor|13:19|19}} Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dy ef, ac a yfodd ddwfr. {{angor|13:20|20}} H A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd: {{angor|13:21|21}} Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, {{angor|13:22|22}} Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid & dy gelain di i feddrod dy dadau. {{angor|13:23|23}} Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodA iddo yr asyn, sef r’r proffwyd a barasai efe iddo ddy¬chwelyd. {{angor|13:24|24}} Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain. {{angor|13:25|25}} Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi. {{angor|13:26|26}} A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, efe a ddywedodd, Gwr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr ARGLWYDD: am hynny yr ARGLWYDD a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i lladdodd ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef. {{angor|13:27|27}} Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a’i cyfrwyasant. {{angor|13:28|28}} Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn. {{angor|13:29|29}} A’r proffwyd a gymerth gelain gw’r Duw, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac a’i dug yn ei hoi. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu ef. {{angor|13:30|30}} Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd! {{angor|13:31|31}} Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef. {{angor|13:32|32}} Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr ARGLWYDD<noinclude><references/></noinclude> 91hjgkklvn8cyf1dwgb438rqew6ch0u Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/929 104 4928 172123 9012 2026-11-04T05:47:31Z Tylopous 3717 penodau 172123 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 26:61 Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 26:62 A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 26:63 Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 26:64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. 26:65 Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 26:66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. 26:67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail, 26:68 Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd? 26:69 &para; A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. 26:70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 26:71 A phan aeth efe allan i’r porthy gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. 26:72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 26:73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. 26:74 Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 26:75 A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost. {{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod XXVII}}.}} {{bach|1 ''Rhoddi Crist yn rhwym at Pilat.'' 3 ''Judas yn ymgrogi.'' 19 ''Pilat, wedi ei rhybuddio gan ei wraig,'' 24 ''yn golchi ei ddwylaw.'' 26 ''Rhyddhâu Barabbas.'' 29 ''Coroni Crist â drain,'' 35 ''a’i groedhoelio,'' 43 ''a’i ddifenwi:'' 50 ''yntau yn marw: ei gladdu ef.'' 66 ''Selio a gwylio ei fedd ef.''}} {{angor|27:1}} {{uc|A phan}} ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 27:2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw. 27:3 &para; Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, 27:4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. 27:5 Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. 27:6 A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa, canys gwerth gwaed ydyw. 27:7 Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. 27:8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. 27:9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; 27:10 Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) 27:11 A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 27:12 A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. 27:13 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? 27:14 Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l56rbsp7hnksw0gkvy7srn53d880by4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/931 104 4930 172124 9014 2026-11-04T05:50:03Z Tylopous 3717 penodau 172124 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 27:47 A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. 27:48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. 27:49 A’r lleill a ddywedasant. Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef. 27:50 &para; A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. 27:51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: 27:52 A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, 27:53 Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. 27:54 Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. 27:55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: 27:56 Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus. 27:57 &para; Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 27:58 Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. 27:59 A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 27:60 Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ae a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 27:61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd. 27:62 &para; A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar-ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat, 27:63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf. 27:64 Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf. 27:65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 27:66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth. {{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}} {{bach|1 ''Dangos adgyfodiad Crist i’r gwragedd gan angel.'' 9 ''Crist ei hun yn ymddangos iddynt.'' 11 ''Yr arch-offeiriaid yn rhoddi arian i’r milwyr, iddywedyd ddarfod ei ladratta ef allan o’r bedd.'' 16 ''Crist yn ymddangos i’w ddisgyblion,'' 19 ''yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddysgu yr holl genhedloedd.''}} {{angor|28:1}} {{uc|Ac}} yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. 28:2 Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 28:3 A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 28:4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. 28:5 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 28:6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 28:7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. 28:8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn â llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef. 28:9 &para; Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant.<noinclude><references/></noinclude> h9voqvds4i7vvhgu02xu2w59039jvc0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/932 104 4931 172125 171316 2026-11-04T05:53:02Z Tylopous 3717 penodau 172125 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Mathew"/>28:10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i. 28:11 &para; Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 28:12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 28:13 dan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 28:14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, m a’i, perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 28:15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw. 28:16 &para; A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 28:17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 28:18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 28:19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 28:20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen. <section end="Sant Mathew"/> <section begin="Sant Marc"/>{{canoli|{{uc|Yr efengyl yn ol}}<br> {{mawr|{{uc|Sant Marc.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|2 ''Swydd Ioan Fedyddiwr.'' 9 ''Bedyddio yr Iesu,'' 12 ''a’i demtio.'' 14 ''Efe yn pregethu;'' 16 ''yn galw Petr, Anderas, Iago, ac Ioan:'' 23 ''yn iachâu dyn ag yspryd aflan ynddo,'' 29 ''a mam gwraig Petr,'' 32 ''a llawer i gleifion:'' 41 ''ac yn glanhâu y gwahan-glwyfus.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Dechreu}} efengyl Iesu Grist, Fab Duw; 1:2 Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 1:3 Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef. 1:4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. 1:5 Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 1:6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 1:7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod. 1:8 Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân. 1:9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. 1:10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. 1:11 A llefa ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 1:12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch. 1:13 Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo. 1:14 Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; 1:15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl. 1:16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.) {{nop}}<section end="Sant Marc"/><noinclude><references/></noinclude> t6fudi0z0o10w4yfu62q8mxdrfq4op2