Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.3 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/329 104 3581 172140 171907 2026-11-05T06:52:33Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172140 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|6:4|4}} A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibeah, gyd âg arch {{sc|Duw}}; ac Ahïo ''oedd'' yn myned o flaen yr arch. {{angor|6:5|5}} Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, â phob ''offer o'' goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac âg udgyrn, ac â symbalau. {{angor|6:6|6}} ¶ A phan ddaethant i lawr-dyrnu Nachon, Uzzah a estynodd ''ei law'' at arch {{sc|Duw}}, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychain oedd yn ''ei'' hysgwyd. {{angor|6:7|7}} A digofaint yr {{sc|Arglwydd}} a lidiodd wrth Uzzah: a {{sc|Duw}} a’i tarawodd ef yno am ''yr'' amryfusedd ''hyn;'' ac efe a fu farw yno wrth arch {{sc|Duw}}. {{angor|6:8|8}} A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r {{sc|Arglwydd}} rwygo rhwygiad ar Uzzah: ac efe a alwodd y lle hwnnw Perez-Uzzah, hyd y dydd hwn. {{angor|6:9|9}} A Dafydd a ofnodd yr {{sc|Arglwydd}} y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr {{sc|Arglwydd}} attaf fi? {{angor|6:10|10}} Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr {{sc|Arglwydd}} atto ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad. {{angor|6:11|11}} Ac arch yr {{sc|Arglwydd}} a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r {{sc|Arglwydd}} a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ. {{angor|6:12|12}} ¶ A mynegwyd i’r brenhin Dafydd, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} a fendithiodd dŷ Obed-Edom, a’r hyn oll ''oedd'' ganddo, er mwyn arch {{sc|Duw}}. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fynu arch {{sc|Duw}} o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. {{angor|6:13|13}} A phan gychwynodd y rhai oedd yn dwyn arch yr {{sc|Arglwydd}} chwech o gamrau, yna efe a offrymmodd ychain a phasgedigion. {{angor|6:14|14}} A Dafydd a ddawnsiodd â’''i'' holl egni ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; a Dafydd ''oedd'' wedi ymwregysu âg ephod lïan. {{angor|6:15|15}} Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fynu arch yr {{sc|Arglwydd}}, trwy floddest, a sain udgorn. {{angor|6:16|16}} Ac fel yr oedd arch yr {{sc|Arglwydd}} yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu y brenhin Dafydd yn neidio, ac yn llemmain o flaen yr {{sc|Arglwydd}}; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon. {{angor|6:17|17}} ¶ A hwy a ddygasant i mewn arch yr {{sc|Arglwydd}}, ac a’i gosodasant yn ei lle, y’nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymmodd boeth-offrymmau ac offrymmau hedd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|6:18|18}} Ac wedi gorphen o Dafydd offrymmu poeth-offrwm ac offrymmau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw {{sc|Arglwydd}} y lluoedd. {{angor|6:19|19}} Ac efe a rannodd i’r holl bobl, ''sef'' i holl dyrfa Israel, yn wr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll ''o gig'', ac un gostrelaid ''o win''. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun. {{angor|6:20|20}} ¶ Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenhin Israel heddyw, yr hwn a ymddïosgodd heddyw yng ngŵydd llaw-forwynion ei weision, fel yr ymddïosgai un o’r ynfydion gan ymddïosg! {{angor|6:21|21}} A dywedodd Dafydd wrth Michal, Ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr {{sc|Arglwydd}}, ar Israel, ''y chwareuais:'' a mi a chwareuaf ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|6:22|22}} Byddaf etto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyd â’r llaw-forwynion, ''am'' y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir. {{angor|6:23|23}} Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adeiladu tŷ i’r Arglwydd;'' 4 ''ac ar ol hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo.'' 12 ''Yn addaw iddo ddaioni a bendithion yn ei had.'' 18 ''Gweddi a dïolch Dafydd.''}} {{angor|7:1}} {{uc|A phan}} eisteddodd y brenhin yn ei dŷ, a rhoddi o’r {{sc|Arglwydd}} lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: {{angor|7:2|2}} Yna y dywedodd y brenhin wrth Nathan y prophwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch {{sc|Duw}} yn aros o fewn y cortynnau. {{angor|7:3|3}} A Nathan a ddywedodd wrth y brenhin, Dos, gwna yr hyn oll ''sydd''<noinclude><references/></noinclude> 75s8ugz5e0vk9u5fpe1euz7un5giuaw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/933 104 4932 172141 9020 2026-11-05T06:55:46Z Tylopous 3717 penodau 172141 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>1:17 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. 1:18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. 1:19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. 1:20 Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant: ar ei ôl ef. 1:21 A hwy a aethant i mewn i Capernaum, ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. 1:22 A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 1:23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, 1:24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. 1:25 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. 1:26 Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. 1:27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. 1:28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. 1:29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. 1:30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. 1:31 Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. 1:32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 1:33 A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 1:34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 1:35 A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 1:36 A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. 1:37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 1:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. 1:39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 1:40 A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. 1:41 A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 1:42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. 1:43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man; 1:44 Ac a ddywedodd wrtho, gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 1:45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Crist yn iachâu un claf o’r parlys;'' 14 ''yn galw Matthew o’r dollfa;'' 15 ''yn bywtta gyd â phublicanod a phechaduriaid;'' 18 ''yn esgusodi ei ddisgyblion, am nad ymprydient,'' 23 ''ac am dynnu y tywys ŷd ar y dydd Sabbath.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hlpz1jv7xh01e02yptc693vlvq54dh5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/935 104 4934 172142 9022 2026-11-05T06:58:26Z Tylopous 3717 penodau 172142 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 2:27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn ei mwyn y Saboth: 2:28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Crist yn iachâu y llaw wedi gwywo,'' 10 ''a llawer o glefydau eraill:'' 11 ''yn ceryddu yr ysprydion aflan:'' 13 ''yn dewis ei ddeuddeg apostol:'' 22 ''yn atteb cabledd y rhai a ddywedent ei fod ef yn bwrw allan gythreuliaid trwy Beelzebub;'' 31 ''ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a’i chwaer, a’i fam.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Ac}} efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn â chanddo law wedi gwywo. 3:2 A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. 3:3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. 3:4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. 3:5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gall dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 3:6 A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gydg’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 3:7 A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, 3:8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. 3:9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasga ef. 3:10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 3:11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ef fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 3:12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef. 3:13 &para; Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. 3:14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 3:15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 3:16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; 3:17 Ac Iago fab Sebedefis, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges, yr hyn yw, Meibion y daran;) 3:18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 3:19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 3:20 A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. 3:21 A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll. 3:22 &para; A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 3:33 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 3:24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. 3:25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 3:26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 3:27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 3:28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 3:29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bd6jlntfzzpj3t9zem20j77mqdyqxry Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/936 104 4935 172143 9023 2026-11-05T07:01:51Z Tylopous 3717 penodau 172143 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>3:30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo. 3:31 &para; Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam, a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. 3:32 A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 3:33 Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 3:34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 3:35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Dammeg yr hauwr,'' 14 ''a’i dehongliad.'' 21 ''Rhaid i ni gyfrannu goleuni ein gwybodaeth i eraill.'' 26 ''Dammeg yr had yn tyfu yn ddïarwybod,'' 30 ''a’r gronyn mwstard.'' 35 ''Crist yn gostegu y dymmestl ar y môr.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Ac}} efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. 4:2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 4:3 Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: 4:4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 4:5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear, ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 4:6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 4:7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. 4:8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 4:9 Ac efe a ddywedodd .wrthynt, ¥ neb sydd ganddo glustiau i wrando, jgwran dawed. 4:10 A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. 4:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 4:12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau. 4:13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion? 4:14 &para; Yr heuwr sydd yn hau’r gair. 4:15 A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt, 4:16 A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 4:17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 4:18 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 4:19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 4:20 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 4:21 &para; Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 4:22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 4:23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 4:24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 4:25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes<noinclude><references/></noinclude> 1hpfxuhu2lg1qqnrtmdazwrsnrcdm3e Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/937 104 4936 172144 9024 2026-11-05T07:03:51Z Tylopous 3717 penodau 172144 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno. 4:26 &para; Ac efe a ddywedodd. Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 4:27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. 4:28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 4:29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf. 4:30 &para; Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni? 4:31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear; 4:32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 4:33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: 4:34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth. 4:35 &para; Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 4:36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 4:37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 4:38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 4:39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 4:40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 4:41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo? {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid:'' 13 ''hwythau yn myned i’r moch.'' 25 ''Y mae efe yn iachâu y wraig o’r diferlif gwaed,'' 35 ''ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.''}} {{angor|5:1}} {{uc|A hwy}} a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid. 5:2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo, 5:3 Yr hwn oedd a’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef: 5:4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef. 5:5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig. 5:6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef; 5:7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi. 5:8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.) 5:9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom. 5:10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad. 5:11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd, genfaint fawr o foch yn pori. 5:12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt. 5:13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr. 5:14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid. 5:15 A hwy a ddaethant at yr Iesu,<noinclude><references/></noinclude> mvpv1xcqqkrbwa198cdqzf3z5re17k3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/938 104 4937 172145 9025 2026-11-05T07:07:38Z Tylopous 3717 penodau 172145 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant. 5:16 A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch. 5:17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt. 5:18 Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef. 5:19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. 5:20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant. 5:21 &para; Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr. 5:22 Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef; 5:23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd. 5:24 A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef. 5:25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd, 5:26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth, 5:27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef; 5:28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf. 5:29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla. 5:30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad? 5:31 A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd? 5:32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn. 5:33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. 5:34 Ac efe a ddywedodd wrthi. Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla. 5:35 Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro? 5:36 A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig. 5:37 Ac ni adawoodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. 5:38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer. 5:39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae. 5:40 A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd. 5:41 Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe, a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod. 5:42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr. 5:43 Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Dïystyru Crist gan ei wladwyr ei hun.'' 7 ''Y mae efe yn rhoddi i’r deuddeg awdurdod ar ysprydion aflan.'' 14 ''Amryw dyb am Grist.'' 27 ''Torri pen Ioan Fedyddiwr;'' 29 ''a’i gladdu.'' 30 ''Yr apostolion yn dychwelyd o bregethu.'' 34 ''Gwyrthiau y pùm torth bara, a’r ddau bysgodyn.'' 48 ''Crist yn rhodio ar y môr:'' 53 ''ac yn iachâu pawb a gyffyrddai âg ef.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4yn0rpur5ak9ncr8qiv2j2uhdolkmsk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/939 104 4938 172146 9026 2026-11-05T07:08:02Z Tylopous 3717 penodau 172146 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|6:1}} {{uc|Ac}} efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. 6:2 Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef? 6:3 Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef. 6:4 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 6:5 Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig cleifion, a’u hiacháu hwynt. 6:6 Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu. 6:7 &para; Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; 6:8 Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: 6:9 Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. 6:10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. 6:11 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. 6:12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau: 6:13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant. 6:14 &para; A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 6:15 Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi. 6:16 Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. 6:17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. 6:18 Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. 6:19 Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: 6:20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethaa, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. 6:21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea: 6:22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. 6:23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas. 6:24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam. Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd. Pen Ioan Fedyddiwr. 6:25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 6:26 A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. 6:27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef. 6:28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam. 6:29 A phan glybu ei ddisgyblion<noinclude><references/></noinclude> di9nff2hkwxnx9ha9wchijdzlwk4p1m