Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.3 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/330 104 3582 172147 171908 2026-11-06T05:39:23Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172147 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yn dy galon: canys yr {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' gyd â thi. {{angor|7:4|4}} ¶ A bu, y noson honno, i air yr {{sc|Arglwydd}} ddyfod at Nathan, gan ddywedyd, {{angor|7:5|5}} Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr {{sc|Arglwydd}}; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanneddwyf fi? {{angor|7:6|6}} Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aipht, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. {{angor|7:7|7}} Ym mha ''le'' bynnag y rhodiais gyd â holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchymynais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? {{angor|7:8|8}} Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd}} y lluoedd; Myfi a’th gymmerais di o’r gorlan, oddi ar ol y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. {{angor|7:9|9}} A bûm gyd â thi ym mha ''le'' bynnag y rhodiaist; torrais ymaith ''hefyd'' dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. {{angor|7:10|10}} Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symmudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis gynt; {{angor|7:11|11}} ''Sef'' er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r {{sc|Arglwydd}} sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti. {{angor|7:12|12}} ¶ A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno o honot gyd â’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ol, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhâf ei frenhiniaeth ef. {{angor|7:13|13}} Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhâf orsedd-faingc ei frenhiniaeth ef byth. {{angor|7:14|14}} Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwïalen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion: {{angor|7:15|15}} Ond fy nhrugaredd nid ymedy âg ef, megis ag y tynnais ''hi'' oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di. {{angor|7:16|16}} A’th dŷ di a sicrhêir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orsedd-faingc a sicrhêir byth. {{angor|7:17|17}} Yn ol yr holl eiriau hyn, ac yn ol yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd. {{angor|7:18|18}} ¶ Yna yr aeth y brenhin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: ac a ddywedodd, Pwy ''ydwyf'' fi, O Arglwydd {{sc|Dduw}}? a pheth ''yw'' fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? {{angor|7:19|19}} Ac etto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd {{sc|Dduw}}; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd {{sc|Dduw}}? {{angor|7:20|20}} A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd {{sc|Dduw}}. {{angor|7:21|21}} Er mwyn dy air di, ac yn ol dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was ''eu'' gwybod. {{angor|7:22|22}} Am hynny y’th fawrhâwyd, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}; canys nid ''oes'' neb fel tydi, ac nid ''oes'' {{sc|Duw}} onid ti, yn ol yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau. {{angor|7:23|23}} A pha un genedl ar y ddaear ''sydd'' megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth {{sc|Duw}} i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, ger bron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aipht, ''oddi wrth'' y cenhedloedd a’u duwiau? {{angor|7:24|24}} Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, {{sc|Arglwydd}}, ydwyt iddynt hwy yn {{sc|Dduw}}. {{angor|7:25|25}} Ac yn awr, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, cwblhâ byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist. {{angor|7:26|26}} A mawrhâer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, {{sc|Arglwydd}} y lluoedd ''sydd'' {{sc|Dduw}} ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhâu ger dy fron di. {{angor|7:27|27}} Canys ti, O {{sc|Arglwydd}} y lluoedd, {{sc|Duw}} Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo attat ti y weddi hon. {{angor|7:28|28}} Ac yn awr, O Arglwydd {{sc|Dduw}}, tydi ''sydd'' {{sc|Dduw}}, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hn37594bn8h8qkaaik5yf6kzd4jf0k7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/374 104 3627 172153 171420 2026-11-06T06:00:23Z Tylopous 3717 angorau 172153 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria. {{angor|13:33|33}} Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. {{angor|13:34|34}} A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Jeroboam, pan glefychodd ei fab Abïah, yn gyrru ei wraig yn ddïeithr âg anrhegion i’r prophwyd Ahïah i Siloh.'' 5 ''Ahïah, ar rybudd Duw, yn cyhoeddi barn Duw.'' 17 ''Abïah yn marw, a’i gladdu ef.'' 19 ''Nadab yn dyfod ar ol Jeroboam.'' 21 ''Drygionus lwyodraeth Rehoboam.'' 25 ''Sisac yn anrheithio Jerusalem.'' 29 ''Abïam yn dyfod ar ol Rehoboam.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Y pryd}} hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam. {{angor|14:2|2}} A Jeroboam a ddywedodd wrth ei. wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahia y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma. {{angor|14:3|3}} A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen. {{angor|14:4|4}} A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahia. Ond ni allai Ahia weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint. {{angor|14:5|5}} A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ahia, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra. {{angor|14:6|6}} A phan glybu Ahia drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys’ myfi a anfonwyd atat ti a newyddion caled. {{angor|14:7|7}} DOS, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Yn gymaint a darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn, flaenor ar fy mhobl Israel, {{angor|14:8|8}} A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i a’i holl galon, i wneuth¬ur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i; {{angor|14:9|9}} Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: {{angor|14:10|10}} Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dy Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeed.g a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. {{angor|14:11|11}} Y cwn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr ARGLWYDD a’i dywed¬odd. {{angor|14:12|12}} Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen. {{angor|14:13|13}} A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jero¬boam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at ARGLWYDD DDUW Israel, yn nhŷ Jeroboam. {{angor|14:14|14}} Yr ARGLWYDD hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dy Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr. {{angor|14:15|15}} Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oher¬wydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint. {{angor|14:16|16}} Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu. {{angor|14:17|17}} A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen. {{angor|14:18|18}} A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y proffwyd. {{angor|14:19|19}} A’r rhan arall o weithredoedd Jero¬boam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn<noinclude><references/></noinclude> s4kad70pswqlpdmhc4qaywtbf8y29kv Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/375 104 3628 172154 171421 2026-11-06T06:02:26Z Tylopous 3717 angorau 172154 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. {{angor|14:20|20}} A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|14:21|21}} A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naaroa, Ammones. {{angor|14:22|22}} A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. {{angor|14:23|23}} Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. {{angor|14:24|24}} A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. {{angor|14:25|25}} Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem. {{angor|14:26|26}} Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oil: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon. {{angor|14:27|27}} A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. {{angor|14:28|28}} A phan elai y brenin i dŷ yr AR¬GLWYDD, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr. {{angor|14:29|29}} A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? {{angor|14:30|30}} A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau. {{angor|14:31|31}} A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnas¬odd yn ei le ef. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Annuwiol deyrnasiad Abïam.'' 8 ''Asa ar ei ol ef,'' 11 ''yn teyrnasu yn ddaionus;'' 16 ''a’r rhyfel rhyngddo ef a Baasa, yn peri iddo wneuthur cynghrair â Benhadad.'' 24 ''Jehosaphat yn dyfod ar ei ol ef.'' 25 ''Drygionus lywodraeth Nadab.'' 27 ''Brad Baasa yn ei erbyn ef, yn cyflawni prophwydoliaeth Ahïah.'' 31 ''Hanes Nadab, a’i farwolaeth.'' 33 ''Drygionus lywodraeth Baasa.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. {{angor|15:2|2}} Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. {{angor|15:3|3}} Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad. {{angor|15:4|4}} Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: {{angor|15:5|5}} Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddydd¬iau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. {{angor|15:6|6}} A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. {{angor|15:7|7}} A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid bren¬hinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. {{angor|15:8|8}} Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|15:9|9}} Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jero¬boam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. {{angor|15:10|10}} Ac un flynedd a deugain y teyrnas¬odd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. {{angor|15:11|11}} Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. {{angor|15:12|12}} Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. {{angor|15:13|13}} Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw<noinclude><references/></noinclude> qk98rq7vwuouo9sualy6cvpa3mhn64p Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/376 104 3629 172155 171422 2026-11-06T06:04:25Z Tylopous 3717 angorau 172155 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. {{angor|15:14|14}} Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd xxx: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef. {{angor|15:15|15}} Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri. {{angor|15:16|16}} A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. {{angor|15:17|17}} A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. {{angor|15:18|18}} Yna Asa a gymerodd yr holl arias a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau t y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision; a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab TabRimmon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, {{angor|15:19|19}} Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. {{angor|15:20|20}} Felly Benhadad a wrandawodd af y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel-bethmaacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. {{angor|15:21|21}} A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. {{angor|15:22|22}} Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd a hwynt Geba Benjamin, a Mispa. {{angor|15:23|23}} A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. {{angor|15:24|24}} Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|15:25|25}} A Nadab mab Jeroboam a dfccfareuodd deyrnasu ar Israel yn yr afl flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrn asodd ar Israel ddwy flynedd. {{angor|15:26|26}} Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef a’ hwn y gwnaeth efe i Israel bechu. {{angor|15:27|27}} A Baasa mab Ahia, o dŷ Issachar* a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. {{angor|15:28|28}} A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedB flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef. {{angor|15:29|29}} A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad: {{angor|15:30|30}} Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel. {{angor|15:31|31}} A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Israel? {{angor|15:32|32}} A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. {{angor|15:33|33}} Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. {{angor|15:34|34}} Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1, 7 ''Prophwydoliaeth Jehu yn erbyn Baasa.'' 5 ''Elah yn dyfod ar ei ol ef:'' 8 ''a Zimri, trwy frad, ar ei ol yntau;'' 11 ''ac yn dwyn i ben brophwydoliaeth Jehu.'' 15 ''Omri yn ei yrru ef i’w losgi ei hun;'' 21 ''a chwedi ymrannu o’r bobl, yn gorthrechu Tibni,'' 23 ''yn adeiladu Samaria,'' 25 ''yn teyrnasu yn annuwiol.'' 27 ''Ahab ar ei ol ef,'' 29 ''yn teyrnasu yn ysgeler.'' 34 ''Melldith Josua yn dyfod i Hïel am adeiladu Jericho.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Yna}} y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd, {{angor|16:2|2}} Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot<noinclude><references/></noinclude> kj3go34iccrwkgga902y8aliswpgkwv Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/377 104 3631 172156 6830 2026-11-06T06:07:04Z Tylopous 3717 angorau 172156 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu, gan fy nigio a’u pechodau; {{angor|16:3|3}} Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dy ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat. {{angor|16:4|4}} Y cwn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes. {{angor|16:5|5}} A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|16:6|6}} A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|16:7|7}} Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei d ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef. {{angor|16:8|8}} Yn y chweched fiwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.:. {{angor|16:9|9}} A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa. {{angor|16:10|10}} A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef. {{angor|16:11|11}} A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dy Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i gyfeillion. {{angor|16:12|12}} Felly Simri a ddinistriodd holl dy Baasa, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd. {{angor|16:13|13}} Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio AR¬GLWYDD DDUW Israel a’u gwagedd. {{angor|16:14|14}} A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oil a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig. yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|16:15|15}} Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid. {{angor|16:16|16}} A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriad¬odd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll. {{angor|16:17|17}} Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchae" asant ar Tirsa. {{angor|16:18|18}} A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dy y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw; {{angor|16:19|19}} Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan rodio yn ffordd Jero¬boam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i bed i Israel bechu. {{angor|16:20|20}} A’r rhan arall o hanes Simri, a1 gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|16:21|21}} Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri. {{angor|16:22|22}} A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni ma6 Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd. {{angor|16:23|23}} Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd. {{angor|16:24|24}} Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria. {{angor|16:25|25}} Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef. {{angor|16:26|26}} Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel a’u gwagedd hwynt. {{angor|16:27|27}} A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn<noinclude><references/></noinclude> 02t14bjczy3rlpzirqh24pnc4p3a7k3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/378 104 3632 172157 171423 2026-11-06T06:09:12Z Tylopous 3717 angorau 172157 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? .. ’. {{angor|16:28|28}} Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.;; {{angor|16:29|29}} Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain. {{angor|16:30|30}} Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddryg¬ioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i bawb o’i flaen ef. {{angor|16:31|31}} Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. {{angor|16:32|32}} Ac efe. a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria. {{angor|16:33|33}} Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.;’ {{angor|16:34|34}} Yn ei ddyddiau efHiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Scgub ei fab ieuangaf y gosododd efe ia phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wedi prophwydo yn erbyn Ahab, yn cael ei borthi gan gigfrain yn Cerith,'' 10 ''a chan wraig weddw yn Sarephtah,'' 14 ''a honno yn cael rhad penllad,'' 17 ''a chyfodi ei mab o farw i fyw,'' 24 ''ac yn credu Elïas.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Ac}} Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. {{angor|17:2|2}} A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, {{angor|17:3|3}} DOS oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. {{angor|17:4|4}} Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. {{angor|17:5|5}} Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. {{angor|17:6|6}} A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn; ac efe a yfai o’r afon. {{angor|17:7|7}} Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad; {{angor|17:8|8}} A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, {{angor|17:9|9}} Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. {{angor|17:10|10}} Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddy¬wedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. {{angor|17:11|11}} Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. {{angor|17:12|12}} A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. {{angor|17:13|13}} Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. {{angor|17:14|14}} Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD law ar wyneb y ddaear. {{angor|17:15|15}} A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. {{angor|17:16|16}} Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ysten ©kw ni ddarfu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias. {{angor|17:17|17}} Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef Stior gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. {{angor|17:18|18}} A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab? {{angor|17:19|19}} Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i Jnynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn<noinclude><references/></noinclude> d3ve4x64gk4r4v2bl0e3u8nxf5muw87 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/379 104 3633 172158 171424 2026-11-06T06:11:06Z Tylopous 3717 angorau 172158 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. {{angor|17:20|20}} Ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac 8 ddywedodd, O ARGLWYDD fy Now, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? {{angor|17:21|21}} Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. {{angor|17:22|22}} A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. {{angor|17:23|23}} Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab. {{angor|17:24|24}} A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr ARGLWYDD yn dy enau di. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Elïas, pan oedd dostaf y newyn, wedi ei yrru at Ahab, yn cyfarfod âg Obadïah;'' 9 ''a hwnnw yn dwyn Ahab at Elïas:'' 17 ''ac yntau yn argyhoeddi Ahab; a thrwy dân o’r nef, yn cael y maes ar brophwydi Baal;'' 41 ''a thrwy weddi yn cael gwlaw, ac yn canlyn Ahab i Jezreel.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ac}} ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y ddaear. {{angor|18:2|2}} Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. {{angor|18:3|3}} Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr ARGLWYDD yn fawr: {{angor|18:4|4}} Canys pan ddistrywiodd Jesebel btoffwydi yr ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cudd- aodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt a bara ac & dwfr.) {{angor|18:5|5}} Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, DOS i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. {{angor|18:6|6}} Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan. {{angor|18:7|7}} Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? {{angor|18:8|8}} Yntau a ddywedodd wrtho. Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. {{angor|18:9|9}} Dywedodd yntau. Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? {{angor|18:10|10}} Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. {{angor|18:11|11}} Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. {{angor|18:12|12}} A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyfi fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD 6’m mebyd. {{angor|18:13|13}} Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr? {{angor|18:14|14}} Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. {{angor|18:15|15}} A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. ,’ {{angor|18:16|16}} Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. {{angor|18:17|17}} A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? {{angor|18:18|18}} Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD, ac i ti rodio ar ôl Baalim. {{angor|18:19|19}} Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jezebel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> iyn5yiicqgo3ewn8g0n9bbs4v9vulyx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/380 104 3634 172159 6834 2026-11-06T06:13:10Z Tylopous 3717 angorau 172159 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|18:20|20}} Felly Ahab a anfonodd at holl feibioa; Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd: i fynydd Carmel. {{angor|18:21|21}} Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. {{angor|18:22|22}} Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. {{angor|18:23|23}} Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dan dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dan dano. {{angor|18:24|24}} A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r Duw a atebo trwy dfin, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant. Da yw y peth. {{angor|18:25|25}} Ac Eleias a ddywedodd wrth broff¬wydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dan dano. {{angor|18:26|26}} A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni;} ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. {{angor|18:27|27}} A bu, ar hanner dydd,’f Eleias ‘eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch a llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. {{angor|18:28|28}} A hwy a waeddasant a llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer a chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. {{angor|18:29|29}} Ac wedi iddi fyned dros hanner dyidd, a phronwydo ohonynt nes offrymu yr hwyronrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. {{angor|18:30|30}} A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid. {{angor|18:31|31}} Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr AR¬GLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. {{angor|18:32|32}} Ac efe a adeiladodd a’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth fibs o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. {{angor|18:33|33}} Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; {{angor|18:34|34}} Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddy¬wedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. {{angor|18:35|35}} A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. {{angor|18:36|36}} A phan offrymid yr hwyronrwm, Eleias y proflwyd a nesaodd ac a ddywed¬odd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. {{angor|18:37|37}} Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwel¬odd eu calon hwy drachefn. {{angor|18:38|38}} Yna tan yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y fibs. {{angor|18:39|39}} A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW. {{angor|18:40|40}} Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno. {{angor|18:41|41}} Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, ©os i fyny, bwyta ac yf, canys wele drwst llawcr o law. {{angor|18:42|42}} Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o6zrukmzep252a9b2w7u54s8rydoebr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/381 104 3635 172160 171425 2026-11-06T06:14:53Z Tylopous 3717 angorau 172160 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|18:43|43}} Ac a ddywedodd wrth ei lane, DOS i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywed¬odd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, DOS eto saith waith. {{angor|18:44|44}} A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, DOS i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. {{angor|18:45|45}} Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. {{angor|18:46|46}} A llaw yr ARGLWYDD oedd ar Eleias, ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wrth fygwth Jezebel, yn ffoi i Beerseba;'' 4 ''a phan oedd flin ganddo ei einioes, yn cael cysur gan angel.'' 9 ''Duw yn ymddangos iddo yn Horeb, ac yn ei anfon ef i enneinio Hazael, Jehu, ac Elisëus.'' 19 ''Elisëus, wedi canu yn iach i’r eiddo, yn canlyn Elïas.''}} {{angor|19:1}} {{uc|Ac}} Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn Ix oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf . {{angor|19:2|2}} Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd. Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. {{angor|19:3|3}} A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lane yno. {{angor|19:4|4}} Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, ARGLWYDD, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. {{angor|19:5|5}} Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. {{angor|19:6|6}} Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. {{angor|19:7|7}} Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. {{angor|19:8|8}} Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw. {{angor|19:9|9}} Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? {{angor|19:10|10}} Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. {{angor|19:11|11}} Ac efe a ddywedodd, DOS allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn: {{angor|19:12|12}} Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. {{angor|19:13|13}} A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? {{angor|19:14|14}} Dywedodd yntau, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oher¬wydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broff¬wydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y macnt fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. {{angor|19:15|15}} A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; {{angor|19:16|16}} A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy Ie dy hun. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0unltiauc8663hp9fi4e94zabg7njal Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/941 104 4940 172148 9028 2026-11-06T05:42:46Z Tylopous 3717 penodau 172148 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><nowiki/> {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Y Phariseaid yn beio ar y disgyblion am fwytta heb ymolchi:'' 8 ''yn torri gorchymyn Duw trwy draddodiadau dynion.'' 14 ''Nad yw bwyd yn halogi dyn.'' 24 ''Crsit yn iachâu merch y wraig o Syrophenicia oddi wrth yspryd aflan;'' 31 ''ac un oedd fyddar, ac âg attal dywedyd arno.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Yna}} yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. 7:2 A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. 7:3 Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. 7:4 A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. 7:5 Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? 7:6 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. 7:7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. 7:8 Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. 7:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 7:10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 7:11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 7:12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 7:13 Gan ddirymu gair Duw a’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur. 7:14 &para; A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 7:15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn. 7:16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 7:17 A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg. 7:18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef? 7:19 Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd? 7:20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn, halogi dyn. 7:21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 7:22 Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 7:23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn. 7:24 &para; Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. 7:25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: 7:26 (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 7:27 A’r Iesu a ddywedodd wrthi. Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn. 7:28 Hithau a atebodd ac a ddy-<noinclude><references/></noinclude> 2slh4axcfspl7k3j8x92wama7j9ai13 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/942 104 4942 172149 9031 2026-11-06T05:45:42Z Tylopous 3717 penodau 172149 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. 7:29 Ac efe a ddywedodd wrthi. Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o’th ferch. 7:30 Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. 7:31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. 7:32 A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. 7:33 Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gynyrddodd â’i dafod ef; 7:34 A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. 7:35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur. 7:36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. 7:37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn porthi y bobl yn rhfeddol:'' 10 ''yn naccâu rhoddi arwydd i’r Phariseaid:'' 14 ''yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod:'' 22 ''yn rhoddi ei olwg i ddyn dall:'' 27 ''yn cydnabod mai efe yw Crist, yr hwn a ddïoddefai, ac a gyfodai eilwaith:'' 34 ''ac yn annog i fod yn ddïoddefgar mewn erlid o achos proffesu yr efengyl.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Yn}} y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i’w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, 8:2 Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: 8:3 Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell. 8:4 A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch? 8:5 Ac efe a ofynnodd iddynt. Pa sawl dorth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith. 8:6 Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd hwynt, ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl. 8:7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger en bronnau hwynt. 8:8 A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid. 8:9 A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith. 8:10 &para; Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. 8:11 A’r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei demtio. 8:12 Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wnar genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma. 8:13 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i’r lan arall. 8:14 &para; A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. 8:15 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. 8:16 Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara. 8:17 A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? 8:18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? 8:19 Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl<noinclude><references/></noinclude> cea5rsu4s9hcf1jjw4fboh0c3okj854 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/943 104 4943 172150 9032 2026-11-06T05:48:48Z Tylopous 3717 penodau 172150 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. 8:20 A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. 8:21 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa fodd nad ydych yn deall? 8:22 &para; Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef, 8:23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim. 8:24 Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio. 8:25 Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur. 8:26 Ac efe a’i hanfonodd ef adref i’w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i’r dref, ac na ddywed i neb yn y dref. 8:27 &para; A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? 8:28 A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o’r proffwydi. 8:29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Cnst. 8:30 Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano. 8:31 Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi. 8:32 A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef. 8:33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. 8:34 &para; Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei a dilyned fi. 8:35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi. 8:36 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? 8:37 Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 8:38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|2 ''Gwedd-newidiad yr Iesu.'' 11 ''Efe yn dysgu ei ddisgyblion ynghylch dyfodiad Elïas:'' 14 ''yn bwrw allan yspryd mud a byddar:'' 30 ''yn rhag-fynegi ei farwolaeth a’i adgyfodiad;'' 33 ''yn annog ei ddisgyblion i ostyngeiddrwydd:'' 38 ''gan erchi iddynt, na luddient y rhai nid ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o’r ffyddloniaid.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth. 9:2 &para; Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilitu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt. 9:3 A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid lawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu. 9:4 Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu. 9:5 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu. Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un. 9:6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu. 9:7 A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan<noinclude><references/></noinclude> 66tih85aduwmprc064oejp1033nsshf Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/945 104 4945 172151 9034 2026-11-06T05:52:55Z Tylopous 3717 penodau 172151 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>nyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 9:37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i. 9:38 &para; Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni. 9:39 A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi. 9:40 Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. 9:41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy. 9:42 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr. 9:43 Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 9:44 lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 9:45 Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 9:46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 9:47 Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: 9:48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 9:49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen. 9:50 Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi-hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|2 ''Crist yn ymresymmu â’r Phariseaid ynghylch ysgar:'' 13 ''yn bendithio y plant a ddygwyd atto:'' 17 ''yn atteb i wr goludog, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragywyddol:'' 23 ''yn dangos i’w ddisgyblion berygl golud:'' 28 ''yn addaw gwobrau i’r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr efengyl:'' 32 ''yn rhag-fynegi ei farwolaeth, a’i adgyfodiad:'' 35 ''yn gorchymyn i feibion Zebedëus, a geisient barch ganddo, feddwl yn hytrach am ddïoddef gyd âg ef;'' 46 ''ac yn rhoddi ei olwg i Bartimëus.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt drachefn. 10:2 &para; A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. 10:3 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? 10:4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. 10:5 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calongaledwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchmyn hwnnw: 10:6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. 10:7 Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; 10:8 A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. 10:9 Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. 10:10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. 10:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. 10:12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu. 10:13 &para; A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. 10:14 A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 10:15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy<noinclude><references/></noinclude> db4cbsrhp1tgwosxnb4edk6s6llewbo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/947 104 4947 172152 9036 2026-11-06T05:55:51Z Tylopous 3717 penodau 172152 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt. 10:43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; 10:44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. 10:45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer. 10:46 &para; A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota. 10:47 A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf. 10:48 A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 10:49 A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di. 10:50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu. 10:51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg. 10:52 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Crist yn marchogaeth mewn goruchafiaeth i Jerusalem:'' 12 ''yn melldithio y pren deiliog diffrwyth:'' 15 ''yn glanhâu y deml:'' 20 ''yn annog ei ddisgyblion i fod yn ddisigl mewn ffydd; ac i faddeu i’w gelynion:'' 27 ''ac yn amddiffyn fod ei weithredoedd ef yn gyfreithlawn, trwy dystiolaeth Ioan, yr hwn oedd wr wedi ei ddanfon oddi wrth Dduw.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ac}} wedi eu dyfod yn agos i Jerwsafem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 11:2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. 11:3 Ac os dywed neb wrthiych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. 11:4 A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd, 11:5 A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? 11:6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. 11:7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. 11:8 A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. 11:9 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ô1, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd; 11:10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf. 11:11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg. 11:12 &para; A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arao chwant bwyd. 11:13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 11:14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant. 11:15 &para; A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 8r6h4xj9g8t4abxv3ifixwt7tev2z2h