Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.3 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/331 104 3583 172161 171974 2026-11-07T06:13:13Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172161 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|7:29|29}} Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd {{sc|Dduw}}, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn darostwng y Philistiaid a’r Moabiaid.'' 3 ''Yn taro Hadadezer a’r Syriaid.'' 10 ''Toi yn anfon Joram âg anrhegion i’w fendithio ef.'' 11 ''Dafydd yn cyssegru yr anrhegion a’r yspail i Dduw:'' 14 ''yn gosod pennaethiaid yn Edom.'' 16 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn tarawodd Dafydd y Philistiaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-ammah o law y Philistiaid. {{angor|8:2|2}} Ac efe a darawodd Moab, ac a’u mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn, i ladd; ac â llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac ''felly'' y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision, yn dwyn treth. {{angor|8:3|3}} ¶ Tarawodd Dafydd hefyd Hadadezer mab Rehob, brenhin Sobah, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Euphrates. {{angor|8:4|4}} A Dafydd a ennillodd oddi arno ef fil o ''gerbydau'', a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau garr ''meirch'' pob cerbyd, ac efe a adawodd o honynt gàn cerbyd. {{angor|8:5|5}} A phan ddaeth y Syriaid o Damascus, i gynnorthwyo Hadadezer brenhin Sobah, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. {{angor|8:6|6}} A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r {{sc|Arglwydd}} a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. {{angor|8:7|7}} Dafydd hefyd a gymmerth y tariannau aur oedd gan weision Hadadezer, ac a’u dug hwynt i Jerusalem. {{angor|8:8|8}} O Betah hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadezer, y dug y brenhin Dafydd lawer iawn o bres. {{angor|8:9|9}} ¶ Pan glybu Toi brenhin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadezer; {{angor|8:10|10}} Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenhin Dafydd, i gyfarch gwell iddo, ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadezer, a’i faeddu ef; (canys gwr rhyfelgar oedd Hadadezer ''yn erbyn'' Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres, ganddo: {{angor|8:11|11}} Y rhai hefyd a gyssegrodd y brenhin Dafydd i’r {{sc|Arglwydd}}, gyd â’r arian a’r aur a gyssegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe; {{angor|8:12|12}} Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadezer mab Rehob, brenhin Sobah. {{angor|8:13|13}} A Dafydd a ennillodd ''iddo'' enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, ''sef'' tair mil ar bymtheg. {{angor|8:14|14}} ¶ Ac efe a osododd bennaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe bennaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r {{sc|Arglwydd}} a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe. {{angor|8:15|15}} A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. {{angor|8:16|16}} A Joab mab Serfiah ''oedd ben'' ar y llu; a Jehosaphat mab Ahilud yn gofiadur; {{angor|8:17|17}} A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abïathar, oedd offeiriaid; a Seraiah yn ysgrifenydd: {{angor|8:18|18}} Benaiah hefyd mab Jehoiada ''oedd ar'' y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, trwy law Siba, yn danfon am Mephi-boseth;'' 7 ''ac, er mwyn Jonathan, yn ei dderbyn ef i’w fwrdd, ac yn edfryd iddo gwbl ag oedd eiddo Saul;'' 9 ''ac yn gwneuthur Siba yn oruchwyliwr iddo ef.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A Dafydd}} a ddywedodd, A oes etto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd âg ef, er mwyn Jonathan? {{angor|9:2|2}} Ac ''yr oedd'' gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenhin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi ''yw'' Siba? A dywedodd yntau, Dy was ''yw efe''. {{angor|9:3|3}} A dywedodd y brenhin, A ''oes'' neb etto o dŷ Saul fel y gwnelwyf drugaredd {{sc|Duw}} âg ef? A dywedodd Siba wrth y brenhin, Y ''mae'' etto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. {{angor|9:4|4}} A dywedodd y brenhin wrtho, Pa le ''y mae'' efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenhin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Ammïel, yn Lo-debar. {{angor|9:5|5}} ¶ Yna y brenhin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir, mab Ammïel, o Lo-debar. {{angor|9:6|6}} A phan ddaeth Mephiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Da-<noinclude><references/></noinclude> kxq8m369hi5igxkj856llevjjji4fi6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/382 104 3636 172168 171426 2026-11-07T06:40:12Z Tylopous 3717 angorau 172168 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|19:17|17}} A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. {{angor|19:18|18}} A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef. {{angor|19:19|19}} Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, a deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. {{angor|19:20|20}} Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? {{angor|19:21|21}} Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerdi gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Benhadad, yn anfoddlawn i ŵrogaeth Ahab, yn gwarchae ar Samaria.'' 13 ''Lladd y Syriaid, trwy gynghor y prophwyd.'' 22 ''Y Syriaid, fel y dywedasai y prophwyd i Ahab, yn dyfod yn ei erbyn ef yn Aphec;'' 28 ''a thrwy air y prophwyd, a barn Duw, yn cael eu taro drachefn,'' 31 ''ac yn ymrôi, ac Ahab dan ammod yn gollwng ymaith Benhadad.'' 35 ''Y prophwyd, trwy ddammeg, yn peri i Ahab ei farnu ei hun, ac yn datgan barn Duw yn ei erbyn ef.''}} {{angor|20:1}} {{uc|A Benhadad}} brenin Syria a gasglt lodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd a£ Samaria, ac a ryfelodd i’w herbya hi. {{angor|20:2|2}} Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas, {{angor|20:3|3}} Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion ,glanaf, ydynt eiddof fi. {{angor|20:4|4}} A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a’r byn oll sydd gennyf ydym eiddot ti. {{angor|20:5|5}} A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: {{angor|20:6|6}} Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i dygant ymaith. {{angor|20:7|7}} Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur, ac nis gomeddais ef. {{angor|20:8|8}} Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef. {{angor|20:9|9}} Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y brenin. Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn. {{angor|20:10|10}} A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i. {{angor|20:11|11}} A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg. {{angor|20:12|12}} A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas. {{angor|20:13|13}} Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD, {{angor|20:14|14}} Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi. {{angor|20:15|15}} Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hoi hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> p2p6zhhdl4jowaw09ac0duuz7s9bkc1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/383 104 3637 172169 6837 2026-11-07T06:42:03Z Tylopous 3717 angorau 172169 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|20:16|16}} A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, efe a’r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef. {{angor|20:17|17}} A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth gwŷr allan o Samaria. {{angor|20:18|18}} Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw, ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw. {{angor|20:19|19}} Felly yr aethant hwy allan o’t ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt. {{angor|20:20|20}} A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a’i Syriaid a ffoesant, ac Israel a’u herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda’r gwŷr meirch. {{angor|20:21|21}} A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a’r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid a lladdfa fawr. {{angor|20:22|22}} A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, DOS, ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di. {{angor|20:23|23}} A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn a hwynt yn y gwastadedd, a ni a’u gorthrechwn hwynt. {{angor|20:24|24}} A gwna hyn; Tyn ymaith y bren¬hinoedd bob un o’i Ie, a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt. {{angor|20:25|25}} Rhifa hefyd i ti lu, fel y llu a gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am gerbyd: a ni a ymladdwn a hwynt yn y gwastatir, ac a’u gorthrechwn hwynt. Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly. {{angor|20:26|26}} Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i Affec, i ryfela yn erbyn Israel. {{angor|20:27|27}} A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i’w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a’r Syriaid oedd ŷd llenwi’r wlad. {{angor|20:28|28}} A gŵr i DDUW a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr ARGLWYDD, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am. hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. {{angor|20:29|29}} A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfeS dydd y rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil a wŷr traed mewn un diwrnod. {{angor|20:30|30}} A’r lleill a ffoesant i Affec, i’r ddinas; a’r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gw r a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell. {{angor|20:31|31}} A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di. {{angor|20:32|32}} Yna y gwregysasant sachliain am ea llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe. {{angor|20:33|33}} A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a’i cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch, dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo’ ddyfod i fyny i’r cerbyd. {{angor|20:34|34}} A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy-dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth. fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a’i. gollyngodd ef ymaith. {{angor|20:35|35}} A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a, ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr’ ARGLWYDD, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a. wrthododd ei daro ef. {{angor|20:36|36}} Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd; na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, wele, pan elych oddi wrthyf. Hew a’th. ladd di. Ac efe a<noinclude><references/></noinclude> izk6ga2byngqpi3vutc4k2oa1j7eijd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/384 104 3638 172170 171427 2026-11-07T06:43:52Z Tylopous 3717 angorau 172170 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aeth oddi wrtho ef, a Hew a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd. {{angor|20:37|37}} Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddy*’ wedodd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a’L, trawodd ef, gan ei daro a’i archolli. {{angor|20:38|38}} Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac & ymddieithrodd a lludw ar ei wyneb. {{angor|20:39|39}} A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel:, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gaa golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian. {{angor|20:40|40}} A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho. Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr. {{angor|20:41|41}} Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a: brenin Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe. {{angor|20:42|42}} Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei. einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef. {{angor|20:43|43}} A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hunt xxx yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Ahab yn athrist am ei naccâu o winllan Naboth.'' 5 ''Naboth, ar lythyrau Jezebel, yn cael barn i farw am gabledd:'' 15 ''ac Ahab yn perchennogi ei winllan ef.'' 17 ''Elïas yn datgan barn Duw yn erbyn Ahab a Jezebel.'' 25 ''A Duw, ar edifeirwch Ahab, yn oedi ei farnedigaeth.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A digwyddodd}} ar ol y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliady yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. {{angor|21:2|2}} Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan. ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y’ mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da. fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi ycB arian. {{angor|21:3|3}} A Naboth a ddywedodd wrth Ahab,; Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. {{angor|21:4|4}} Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac m fwytai fara. {{angor|21:5|5}} Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae’ dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? {{angor|21:6|6}} Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd. i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. {{angor|21:7|7}} A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. {{angor|21:8|8}} Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd a’i sel ef, ac a; anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn. ei ddinas yn. trigo gyda Naboth. {{angor|21:9|9}} A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. {{angor|21:10|10}} Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. {{angor|21:11|11}} A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. {{angor|21:12|12}} Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. {{angor|21:13|13}} A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. {{angor|21:14|14}} Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2snyc8bd3i4lhh9kq9tf864nj67xwh3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/385 104 3639 172171 171428 2026-11-07T06:45:38Z Tylopous 3717 angorau 172171 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|21:15|15}} A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. {{angor|21:16|16}} A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i win¬llan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi. {{angor|21:17|17}} A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, {{angor|21:18|18}} Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. {{angor|21:19|19}} A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed dithau hefyd. {{angor|21:20|20}} A dywedodd Ahafa wrth bleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. {{angor|21:21|21}} Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: {{angor|21:22|22}} A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. {{angor|21:23|23}} Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cwn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. {{angor|21:24|24}} Y cwn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd. {{angor|21:25|25}} Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. {{angor|21:26|26}} Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. {{angor|21:27|27}} A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. {{angor|21:28|28}} A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, {{angor|21:29|29}} Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Ahab wedi ei dwyllo gan y gau-brophwydi, yn ol gair Micheah, yn cael ei ladd yn Ramoth-Gilead.'' 37 ''Y cwn yn llyfu ei waed ef, ac Ahazïah yn teyrnasu ar ei ol ef.'' 41 ''Daionus lywodraeth Jehosaphat,'' 45 ''a’i weithredoedd.'' 50 ''Jehoram yn frenhin ar ei ol ef.'' 51 ''Drygionus lywodraeth Ahazïah.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A buant}} yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel. {{angor|22:2|2}} Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel. {{angor|22:3|3}} A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw RamothGilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria? {{angor|22:4|4}} Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i RamothGilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. {{angor|22:5|5}} Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw a gair yr ARGLWYDD. {{angor|22:6|6}} Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. {{angor|22:7|7}} A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? {{angor|22:8|8}} A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni;<noinclude><references/></noinclude> 6e7jeaix3psiilq52i6v6xpdcnans79 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/386 104 3640 172172 6840 2026-11-07T06:47:26Z Tylopous 3717 angorau 172172 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. {{angor|22:9|9}} Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla. {{angor|22:10|10}} A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria, a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. {{angor|22:11|11}} A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. {{angor|22:12|12}} A’r holl broffwydi oedd yn proff¬wydo fel hyn, gan ddywedyd, DOS i fyny i RamothGilead, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. {{angor|22:13|13}} A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau. {{angor|22:14|14}} A dywedodd Michea, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo yr ARGLWYDD wrthyf, hynny a lefaraf fi. {{angor|22:15|15}} Felly efe a ddaeth at y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn RamothGilead, 31 peidio? Dywedodd yntau wrtho, DOS i fyny, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. {{angor|22:16|16}} A’r brenin a ddywedodd wrtho. Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD? {{angor|22:17|17}} Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w d ei hun mewn heddwch. {{angor|22:18|18}} A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni? {{angor|22:19|19}} Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyi, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy. {{angor|22:20|20}} A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn RamothGilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn. {{angor|22:21|21}} Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddy¬wedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho. Pa fodd? {{angor|22:22|22}} Dywedodd yntau. Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly. {{angor|22:23|23}} Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti. {{angor|22:24|24}} Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gem, ac a ddywedodd. Pa fibrdd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddani a thydi? {{angor|22:25|25}} A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elycb di o ystafell i ystafell i ymguddio. {{angor|22:26|26}} A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab. y brenin; {{angor|22:27|27}} A dywed.xxx Fel hyn y dywed y brenin;; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef a bara cystudd ac a dwfr blinder, nes v mi ddyfod mewn heddwch. {{angor|22:28|28}} A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynoffi. Dywed¬odd hefyd, Gwrandewch hyn yr hott bobl. {{angor|22:29|29}} Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i RamothGilead. {{angor|22:30|30}} A brenin Israel a ddywedodd with Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac s af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy him. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. {{angor|22:31|31}} A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch a bychan nac a mawr, ond a brenin Israel yn unig. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o7i8t68yqe6scj68wz5j2g7icm798n0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/387 104 3641 172173 6841 2026-11-07T06:49:53Z Tylopous 3717 angorau 172173 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|22:32|32}} A phan welodd tywysogion y cerbyd¬au Jehosaffat, hwy a ddywedasaat, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. {{angor|22:33|33}} A phan welodd tywysogion y cerbydrau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. {{angor|22:34|34}} A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ac ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin, canys fe a’m clwyfwyd i. {{angor|22:35|35}} A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. {{angor|22:36|36}} Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un fw ddinas, a phob un i’w wlad ei hun. {{angor|22:37|37}} Felly y bu farw y bienin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a giaddasant y brenin yn Samaria. {{angor|22:38|38}} A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cwn a lyfasant ei waed ef:’ yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe. {{angor|22:39|39}} A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeilad odd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|22:40|40}} Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau, ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|22:41|41}} A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel. {{angor|22:42|42}} Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi. {{angor|22:43|43}} Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni wyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogl-darthu yn yr uchelfeydd. {{angor|22:44|44}} A Jehosaffat a heddychodd a brenin Israel. {{angor|22:45|45}} A’r rhan arall o hanes Jehosaffat, a’i rymustra a wnaeth efe, a’r modd y rhy-felodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifen¬edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? {{angor|22:46|46}} A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a-adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u dileodd o’r wlad. {{angor|22:47|47}} Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin. {{angor|22:48|48}} Jehosaffat a wnaeth longau môr i; fyned i Offir am. aur: ond nid aethaat, canys y llongau a ddrylliodd yn. Esisaaftr Gaber. {{angor|22:49|49}} Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat. {{angor|22:50|50}} A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|22:51|51}} Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i. Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. {{angor|22:52|52}} Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth. i Israel bechu. {{angor|22:53|53}} Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd AR¬GLWYDD DDUW Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.<noinclude><references/></noinclude> mqzzi2fzjowaxbnzllg94hp0e8o1qod Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/388 104 3642 172174 171430 2026-11-07T06:51:11Z Tylopous 3717 angorau 172174 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr y brenhinoedd;}}}}<br> {{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br> {{uc|Pedwerydd llyfr y brenhinoedd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Moab yn gwrthryfela.'' 2 ''Ahazïah yn gyrru at Baal-zebub, ac yn cael ei farnu gan Elïas.'' 5 ''Elïas ddwywaith yn dwyn tân o’r nefoedd ar y rhai a anfonasai Ahazïah i’w ddal ef,'' 13 ''yn tosturio wrth y trydydd tywysog; a chwedi ei gysuro gan angel, yn dangos i’r brenhin ei farwolaeth.'' 17 ''Jehoram mab Ahab yn teyrnasu yn lle Ahazïah.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yna}} Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab. {{angor|1:2|2}} Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn. {{angor|1:3|3}} Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron? {{angor|1:4|4}} Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith. {{angor|1:5|5}} A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi? {{angor|1:6|6}} A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. {{angor|1:7|7}} Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma? {{angor|1:8|8}} A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed¬odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe. {{angor|1:9|9}} Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered. {{angor|1:10|10}} Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. {{angor|1:11|11}} A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd. {{angor|1:12|12}} Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. {{angor|1:13|13}} A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di. {{angor|1:14|14}} Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di. {{angor|1:15|15}} Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin. {{angor|1:16|16}} Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni<noinclude><references/></noinclude> i3viiaa7clh8aou81ut16lowqg9bowa Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/389 104 3644 172175 171431 2026-11-07T06:52:35Z Tylopous 3717 angorau 172175 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>o’r gwely y dringaist amo, eithr gan farw y byddi farw. {{angor|1:17|17}} Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef. {{angor|1:18|18}} A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wrth ganu yn iach i Elisëus, yn hollti yr Iorddonen â’i fantell;'' 9 ''a chwedi rhoi ei ddymuniad i Elisëus, yn cael ei ddwyn i’r nefoedd mewn cerbyd tanllyd.'' 12 ''Elisëus yn hollti yr Iorddonen â mantell Elïas; ac eraill yn gwybod wrth hynny ei fod ef yn lle Elïas.'' 16 ''Meibion y prophwydi yn mynnu chwilio am Elïas, a heb ei gael ef.'' 19 ''Elisëus â halen yn iachâu y dwfr.'' 23 ''Eirth yn distrywio y plant a felldigasai Elisëus.''}} {{angor|2:1}} {{uc|A phan}} oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal. {{angor|2:2|2}} Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel. {{angor|2:3|3}} A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau. Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son. {{angor|2:4|4}} Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho. {{angor|2:5|5}} A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son. {{angor|2:6|6}} Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt. {{angor|2:7|7}} A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen. {{angor|2:8|8}} Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych. {{angor|2:9|9}} Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi. {{angor|2:10|10}} Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd. {{angor|2:11|11}} Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd. {{angor|2:12|12}} Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn. {{angor|2:13|13}} Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. {{angor|2:14|14}} Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd. {{angor|2:15|15}} A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo. {{angor|2:16|16}} A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn. awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw<noinclude><references/></noinclude> aocl55xjeyqdl882byx1o222p58nbnl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/390 104 3645 172176 171432 2026-11-07T06:54:29Z Tylopous 3717 angorau 172176 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. {{angor|2:17|17}} Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. {{angor|2:18|18}} A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddy¬wedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch? {{angor|2:19|19}} A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. {{angor|2:20|20}} Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. {{angor|2:21|21}} Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfr¬oedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. {{angor|2:22|22}} Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe. {{angor|2:23|23}} Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn. {{angor|2:24|24}} Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain. {{angor|2:25|25}} Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Jehoram yn teyrnasu.'' 4 ''Mesa yn gwrthryfela.'' 6 ''Jehoram, a Jehosaphat, a brenhin Edom, mewn cyfyngder am ddwfr, trwy Elisëus yn cael dwfr, ac addewid o fuddugoliaeth.'' 21 ''Y Moabiaid, wedi eu twyllo gan liw y dwfr wrth ddyfod i yspeilio, yn cael eu gorchfygu.'' 26 ''Brenhin Moab, trwy aberthu mab brenhin Edom, yn gyrru Israel i’w gwlad.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Jehoram}} mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd. {{angor|3:2|2}} Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad. {{angor|3:3|3}} Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy. {{angor|3:4|4}} A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog. {{angor|3:5|5}} Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel. {{angor|3:6|6}} A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel. {{angor|3:7|7}} Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. {{angor|3:8|8}} Ac efe a ddywedodd. Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom. {{angor|3:9|9}} Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt. {{angor|3:10|10}} A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. {{angor|3:11|11}} A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias. {{angor|3:12|12}} A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef. {{angor|3:13|13}} Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. {{angor|3:14|14}} Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr<noinclude><references/></noinclude> n7r6et8tehlr92oljqcwqd53d2u1614 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/391 104 3646 172177 171433 2026-11-07T06:56:13Z Tylopous 3717 angorau 172177 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn. {{angor|3:15|15}} Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef. {{angor|3:16|16}} Ac efe a ddywedodd. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. {{angor|3:17|17}} Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid. {{angor|3:18|18}} A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd. {{angor|3:19|19}} A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. {{angor|3:20|20}} A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfr¬oedd. {{angor|3:21|21}} A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn. {{angor|3:22|22}} A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed: {{angor|3:23|23}} A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhin¬oedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab. {{angor|3:24|24}} A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun. {{angor|3:25|25}} A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi. {{angor|3:26|26}} A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy. {{angor|3:27|27}} Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Elisëus trwy rad penllad yn amlhâu olew y wraig weddw ddyledog.'' 12 ''Yn cael mab i’r Sunamees,'' 18 ''ac yn ei gyfodi ef o farw i fyw:'' 38 ''yn iachâu y cawl yn Gilgal:'' 42 ''yn porthi cannwr âg ugain torth o fara.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A rhyw}} wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. {{angor|4:2|2}} Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. {{angor|4:3|3}} Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. {{angor|4:4|4}} A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn. {{angor|4:5|5}} Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd. {{angor|4:6|6}} Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywed¬odd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd. {{angor|4:7|7}} Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall. {{angor|4:8|8}} A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. {{angor|4:9|9}} A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanct-<noinclude><references/></noinclude> 87iashctowkp4qnn2ywrkw6ubo8avo5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/392 104 3647 172178 6856 2026-11-07T06:58:24Z Tylopous 3717 angorau 172178 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aidd i DDUW ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol. {{angor|4:10|10}} Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni. {{angor|4:11|11}} Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno. {{angor|4:12|12}} Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef. {{angor|4:13|13}} Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni; a’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddy¬wedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo. {{angor|4:14|14}} Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen. {{angor|4:15|15}} Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws. {{angor|4:16|16}} Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn. {{angor|4:17|17}} A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi. {{angor|4:18|18}} A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr. {{angor|4:19|19}} Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam. {{angor|4:20|20}} Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw. {{angor|4:21|21}} A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws amo, ac a aeth allan. {{angor|4:22|22}} A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddy¬wedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf. {{angor|4:23|23}} Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd pob peth yn dda. {{angor|4:24|24}} Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot; nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti. {{angor|4:25|25}} Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno. {{angor|4:26|26}} Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi; A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach. {{angor|4:27|27}} A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd. Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r ARGLWYDD a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi. {{angor|4:28|28}} Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi? {{angor|4:29|29}} Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo.; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen. {{angor|4:30|30}} A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi. {{angor|4:31|31}} A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrodd y bachgen. {{angor|4:32|32}} A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef. {{angor|4:33|33}} Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD. {{angor|4:34|34}} Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo.ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen. {{angor|4:35|35}} Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd<noinclude><references/></noinclude> b72qfzzvz29obtuv607vdvuh1ysqup4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/948 104 4948 172162 9037 2026-11-07T06:18:53Z Tylopous 3717 penodau 172162 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>11:16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml, 11:17 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 11:18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. 11:19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas. 11:20 &para; A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 11:21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 11:22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 11:23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 11:24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. 11:25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau: 11:26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau. 11:27 &para; A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant ato, 11:28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? 11:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 11:30 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi. 11:31 Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo? 11:32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd. 11:33 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Trwy ddammeg y winllan a logwyd i lafurwyr annïolchgar, y mae Crist yn rhag-ddangos gwrthodiad yr Iuddewon, a galwad y Cenhedloedd:'' 13 ''y mae yn gochelyd magl y Phariseaid a’r Herodianiaid ynghylch talu teyrnged i Cesar;'' 18 ''yn argyhoeddi amryfusedd y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad;'' 28 ''yn atteb yr ysgrifenydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf;'' 35 ''yn beio ar dyb yr ysgrifenyddion am Grist;'' 38 ''ac yn gorchymyn i’r bobl ochelyd eu huchder a’u rhagrith hwy;'' 41 ''ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy na neb.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Ac}} efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 12:2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. 12:3 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. 12:4 A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus. 12:5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. 12:6 Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 12:7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tsojit1w2h1fzfd6hj08jadui9xmd6v Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/950 104 4950 172163 9039 2026-11-07T06:22:04Z Tylopous 3717 penodau 172163 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 12:36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 12:37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar. 12:38 &para; Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, 12:39 A’r prifgadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 12:40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy. 12:41 &para; A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 12:42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 12:43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 12:44 Canys hwynt-hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn rhag-fynegi dinystr y deml:'' 9 ''yr erlidiau o achos yr efengyl:'' 10 ''y bydd rhaid pregethu yr efengyl i’r Cenhedloedd oll:'' 14 ''y mawr gystuddiau a ddigwyddai i’r Iuddewon:'' 24 ''a dull ei ddyfodiad ef i’r farn:'' 32 ''o ran na ŵyr neb yr awr, y dylai pob dyn wylied a gweddïo, rhag ein cael yn ammharod pan ddêl efe at bob un trwy farwolaeth.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. 13:2 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. 13:3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilitu, 13:4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? 13:5 A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: 13:6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 13:7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. 13:8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfau fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant. 13:9 &para; Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 13:10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 13:11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 13:12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13:13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 13:14 &para; Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 13:15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kbawayvsc8t5w63nwrkon3o9jq6qs9c Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/951 104 4951 172164 9040 2026-11-07T06:26:20Z Tylopous 3717 penodau 172164 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>13:16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 13:17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 13:18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 13:19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 13:20 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 13:21 Ac yna os dywed neb wrthych, "Wele, llyma y Crist, neu, Wele, acw, na chredwch: 13:22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 13:23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth. 13:24 &para; Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, 13:25 A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 13:26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. 13:27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 13:28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 13:29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 13:30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 13:31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim. 13:32 &para; Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 13:33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch,i: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 13:34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. 13:35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) 13:36 Rhag iddo ddyfodi yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. 13:37 A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Cyd-fwriad yn erbyn Crist.'' 3 ''Gwraig yn tywallt ennaint gwerthfawr ar ei ben ef.'' 10 ''Judas yn gwerthu ei feistr am arian.'' 12 ''Crist ei hun yn rhag-ddywedyd y bradychai un o’i ddisgyblion ef.'' 22 ''Weddi darparu a bwytta y pasc, y mae yn ordeinio ei dwpper:'' 26 ''yn hysbysu ym mlaen llaw y ffoai ei holl ddisgyblion, ac y gwadai Petr ef.'' 43 ''Judas yn ei fradychu ef â chusan.'' 46 ''Ei ddala ef yn yr ardd.'' 53 ''Cynnulleidfa yr Iuddewon yn achwyn arno ef ar gam, ac yn ei farnu yn annuwiol,'' 65 ''ac yn ei ammherchi yn gywilyddus.'' 66 ''Petr yn ei wadu ef deirgwaith.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Ac}} wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: 14:2 Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl. 14:3 &para; A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y biwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. 14:4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? 14:5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiinog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. 14:6 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. 14:7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. 14:8 Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f3kmrxlr1nn0edgk804cdj1bdc9u0m4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/954 104 4954 172165 9046 2026-11-07T06:29:59Z Tylopous 3717 penodau 172165 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt. 14:70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg. 14:71 Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano. 14:72 A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Dwyn yr Iesu yn rhwym, ac achwyn arno ger bron Pilat.'' 15 ''Wrth floedd y bobl gyffredin, gollwng Barabbas y llofrudd yn rhydd, a thraddodi yr Iesu i’w groeshoelio.'' 17 ''Ei goroni ef â drain,'' 19 ''poeri arno, a’i watwar.'' 21 ''Efe yn diffygio yn dwyn ei groes.'' 27 ''Ei grogi ef rhwng dau leidr.'' 29 ''Y mae yn dïoddef difenwad yr Iuddewon:'' 39 ''etto y canwriad yn cyffesu ei fod ef yn Fab Duw:'' 43 ''a Joseph yn ei gladdu ef yn barchedig.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. 15:2 A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 15:3 A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. 15:4 A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. 15:5 Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. 15:6 Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. 15:7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. 15:8 A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. 15:9 A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 15:10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) 15:11 A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 15:12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? 15:13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. 15:14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef. 15:15 &para; A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. 15:16 A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin, 15:17 Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; 15:18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. 15:19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. 15:20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio. 15:21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef. 15:22 A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha, yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog: 15:23 Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth. 15:24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gai pob un. 15:25 A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef. 15:26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN Yr IDDEWON. 15:27 A hwy a groeshoeliasant gyd<noinclude><references/></noinclude> 175s113ca4kjpjbnqnoe64h3lg7dsms Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/955 104 4955 172166 9047 2026-11-07T06:32:20Z Tylopous 3717 penodau 172166 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ag ef ddau leidr, un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo. 15:28 A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir. 15:29 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau, 15:30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes. 15:31 Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared. 15:32 Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef. 15:33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 15:34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eka, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 15:35 A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. 15:36 Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng; yn llawn o finegr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. 15:37 A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd a’r ysbryd. 15:38 A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 15:39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. 15:40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; 15:41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem. 15:42 &para; Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-wâyl, sef y dydd cyn y Saboth,) 15:43 Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 15:44 A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a olynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. 15:45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. 15:46 Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdodd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. 15:47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Angel yn mynegi adgyfodiad Crist i dair o wragedd.'' 9 ''Crist ei hun yn ymddangos i Mair Magdalen:'' 12 ''i ddau oedd yn myned i’r wlad:'' 14 ''yna i’r apostolion,'' 15 ''y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu yr efengyl:'' 19 ''mae yn esgyn i’r nefoedd.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Ac}} wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef. 16:2 Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi. 16:3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? 16:4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 16:5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant. 16:6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd; efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. 16:7 Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w disgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. 16:8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd ar-<noinclude><references/></noinclude> ehwxmm3tnkqs7vvsq55bbfqp95h474q Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/956 104 4956 172167 171317 2026-11-07T06:34:40Z Tylopous 3717 penodau 172167 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Marc"/>nynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni. 16:9 &para; A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y twriasai efe allan saith o gythreuliaid. 16:10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain. 16:11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent. 16:12 &para; Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad. 16:13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau. 16:14 &para; Ac ar ôl hynny efe a ymddangosadd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calongaledwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi. 16:15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16:16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir. 16:17 A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant; 16:18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach. 16:19 &para; Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 16:20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen. <section end="Sant Marc"/> <section begin="Sant Luc"/>{{canoli|{{uc|Yr efengyl yn ol}}<br> {{mawr|{{uc|Sant Luc.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Rhagymadrodd yr holl efengyl.'' 5 ''Cenhedliad Ioan Fedyddiwr,'' 26 ''a Christ.'' 39 ''Prophwydoliaeth Elisabeth a Mair am Grist.'' 57 ''Genedigaeth ac enwaediad Ioan.'' 67 ''Prophwydoliaeth Zacharïas am Grist,'' 76 ''ac Ioan.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yn}} gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi-amau yn ein plith, 2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: 3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus, 4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt. 5 R osdd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyflawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn arnhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. 8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, 9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad. 11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth. 12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a eiwi ei enw ef Ioan. 14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. {{nop}}<section end="Sant Luc"/><noinclude><references/></noinclude> roo9mvb90hwbyx89uszlv10fb93dz7b