Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.48.0-wmf.4 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/336 104 3588 172427 172133 2026-11-12T06:01:30Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 172427 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, attolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo y bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwyttâwyf o’i llaw hi. {{angor|13:6|6}} ¶ Felly Amnon a orweddodd, ac a gymmerth arno fod yn glaf. A’r brenhin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenhin, Deued, attolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwyttâwyf o’i llaw hi. {{angor|13:7|7}} Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharottoa fwyd iddo. {{angor|13:8|8}} Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymmerth beilliaid, ac a’''i'' tylinodd, ac a wnaeth deisenau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. {{angor|13:9|9}} A hi a gymmerth badell, ac a’''u'' tywalltodd ''hwynt'' ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwytta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. {{angor|13:10|10}} Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwyttâwyf o’th law di. A Thamar a gymmerth y teisenau a wnaethai hi, ac a’''u'' dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. {{angor|13:11|11}} A phan ddug hi ''hwynt'' atto ef i fwytta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyd â mi, fy chwaer. {{angor|13:12|12}} A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. {{angor|13:13|13}} A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, attolwg, â’r brenin: canys ni ommedd efe fi i ti. {{angor|13:14|14}} Ond ni fynnai efe wrandaw ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyd â hi. {{angor|13:15|15}} ¶ Yoa Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy ''oedd'' y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. {{angor|13:16|16}} A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid ''oes'' achos: y drygioni hwn, ''sef'' fy ngyrru ymaith, ''sydd'' fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. {{angor|13:17|17}} Eithr efe a alwodd ar ei langc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa y drws ar ei hol hi. {{angor|13:18|18}} Ac am dani ''hi yr oedd'' mantell symmudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenhin, ''y rhai oedd'' forwynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hol hi. {{angor|13:19|19}} ¶ A Thamar a gymmerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symmudliw ''oedd'' am dani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. {{angor|13:20|20}} Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyd â thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di ''yw'' efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd. {{angor|13:21|21}} ¶ Ond pan glybu y brenhin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. {{angor|13:22|22}} Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, o herwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. {{angor|13:23|23}} ¶ Ac ar ol dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal-hasor, yr hwn ''sydd'' wrth Ephraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenhin. {{angor|13:24|24}} Ac Absalom a ddaeth at y brenhin, ac a ddywedodd, Wele yn awr, rai yn cneifio i’th was di; deued, attolwg, y brenhin a’i weision gyd â’th was. {{angor|13:25|25}} A dywedodd y brenhin wrth Absalom, Nag ê, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efc a’i bendithiodd ef. {{angor|13:26|26}} Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyd â ni? A’r brenhin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyd â thi? {{angor|13:27|27}} Etto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gyd âg ef, a holl feibion y brenhin. {{angor|13:28|28}} ¶ Ac Absalom a orchymynodd i’w langciau, gan ddywedyd, Edrychwch, attolwg, pan fyddo llawen<noinclude><references/></noinclude> 2jh5yfc66chxcpxj25ejl6u4qqfjytg Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/428 104 3683 172442 6910 2026-11-12T07:05:46Z Tylopous 3717 angorau 172442 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau, {{angor|6:23|23}} Elcana ei fab yntau, ac Ebiasaff ei fab yntau, ac Assir ei fab yntau, {{angor|6:24|24}} Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau. {{angor|6:25|25}} A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth. {{angor|6:26|26}} Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau. {{angor|6:27|27}} Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau. {{angor|6:28|28}} A meibion Samuel; y cyntaf-anedig, Fasni, yna Abeia. {{angor|6:29|29}} Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau, {{angor|6:30|30}} Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau., {{angor|6:31|31}} Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar ôl gorffwys o’r arch. {{angor|6:32|32}} A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth. {{angor|6:33|33}} A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel, {{angor|6:34|34}} Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa, {{angor|6:35|35}} Fab Suff, fab Elcana, fafc Mahath, fab Amasai, {{angor|6:36|36}} Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia, {{angor|6:37|37}} Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora, {{angor|6:38|38}} Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. . {{angor|6:39|39}} A’i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab Beracheia, fab Simea, {{angor|6:40|40}} Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia, {{angor|6:41|41}} Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia, {{angor|6:42|42}} Fab Ethan, fab Sirnma fab Simei, {{angor|6:43|43}} Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi. {{angor|6:44|44}} A’u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluc, {{angor|6:45|45}} Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia, {{angor|6:46|46}} Fab Amsi, fab Bani, fab Samer, {{angor|6:47|47}} Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi. {{angor|6:48|48}} A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ DDUW. {{angor|6:49|49}} Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl-darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a o orchmynasai Moses gwas Duw. {{angor|6:50|50}} Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau, {{angor|6:51|51}} Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab, yntau, Seraheia ei fab yntau, {{angor|6:52|52}} Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau, {{angor|6:53|53}} Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau. {{angor|6:54|54}} A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid o eiddynt hwy ydoedd y rhan hon. {{angor|6:55|55}} A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch. {{angor|6:56|56}} Ond meysydd y ddinas, a’i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne. {{angor|6:57|57}} Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a’i meysydd pentrefol, pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a’u meysydd pentrefol, {{angor|6:58|58}} A Hilen a’i meysydd pentrefol, a meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:59|59}} Ac Asan a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: {{angor|6:60|60}} Ac o lwyth Benjamin; Geba a’i meysydd meysydd pentrefol, ac Alemeth a’i meysydd pentrefol, ac Anathoth a’i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg. {{angor|6:61|61}} Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o’r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren. {{angor|6:62|62}} Rhoddasant hefyd i feibion Gersom y trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd. {{angor|6:63|63}} I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth<noinclude><references/></noinclude> 4cogz0vjbszatdxbkbofo3vy9f5eg72 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/429 104 3684 172443 171466 2026-11-12T07:07:59Z Tylopous 3717 angorau 172443 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd. {{angor|6:64|64}} A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. {{angor|6:65|65}} A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt. {{angor|6:66|66}} I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim {{angor|6:67|67}} A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:68|68}} Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:69|69}} Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:70|70}} Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath. {{angor|6:71|71}} I feibion Gersom o deulu hanner hwy llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:72|72}} Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:73|73}} Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:74|74}} Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:75|75}} Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol a Rehob a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:76|76}} Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:77|77}} I’r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:78|78}} Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:79|79}} Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol., a Meffaath a’i meysydd pentrefol. {{angor|6:80|80}} Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol, {{angor|6:81|81}} Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Meibion Issachar,'' 6 ''Benjamin,'' 13 ''Naphtali,'' 14 ''Manasseh,'' 20, 23 ''Ephraim.'' 21 ''Adfyd Ephraim gan wŷr Gath.'' 23 ''Geni Berïah.'' 28 ''Trigleoedd Ephraim.'' 30 ''Meibion Aser.''}} {{angor|7:1}} {{uc|A meibion}} Issachar oedd. Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar. {{angor|7:2|2}} A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant. {{angor|7:3|3}} A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll. {{angor|7:4|4}} A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion. {{angor|7:5|5}} A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll. {{angor|7:6|6}} A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri. {{angor|7:7|7}} A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd. wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a-phedwar ar ddeg ar hugain. {{angor|7:8|8}} A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth; y rhai hyn oll oedd feibion Becher. {{angor|7:9|9}} A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant. {{angor|7:10|10}} A meibion Jediael; Bilhan: a meib¬ion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tmrod4d12qzc36wq1gaioqdgurrz9ta Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/430 104 3685 172444 171467 2026-11-12T07:11:23Z Tylopous 3717 angorau 172444 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|7:11|11}} Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael; yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant. {{angor|7:12|12}} Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher. {{angor|7:13|13}} Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha. {{angor|7:14|14}} Meibion Manasse; Asriel, yr hwn, a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead: {{angor|7:15|15}} A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salflaad: ac i Salffaad yr oedd merched. {{angor|7:16|16}} A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem. {{angor|7:17|17}} A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse. {{angor|7:18|18}} A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala. {{angor|7:19|19}} A meibion Semida oedd, Ahïan, Sechem, a Lichi, ac Aniham. {{angor|7:20|20}} A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau, {{angor|7:21|21}} A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn en hanifeiliaid hwynt. {{angor|7:22|22}} Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef. {{angor|7:23|23}} A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef. {{angor|7:24|24}} (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth-horon yr isaf, a’r uchaf hefyd, ac Ussen-sera.) {{angor|7:25|25}} A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau, {{angor|7:26|26}} Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau, {{angor|7:27|27}} Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau. {{angor|7:28|28}} A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi: {{angor|7:29|29}} Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth-sean a’i phentrefi, Taanach a’i phentrefi, Megido a’i phentrefi. Dor a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn. {{angor|7:30|30}} Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. {{angor|7:31|31}} A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith. {{angor|7:32|32}} A Heber a genhedlodd Jaffiet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt. {{angor|7:33|33}} A meibion Jafflet; Pasaeh, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet. {{angor|7:34|34}} A meibion Samer Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram. {{angor|7:35|35}} A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal. {{angor|7:36|36}} Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra, {{angor|7:37|37}} Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera. {{angor|7:38|38}} A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara. {{angor|7:39|39}} A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia. {{angor|7:40|40}} Y rhai hyn oll oedd feibion Asar, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau-captainiaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Meibion a phennaduriaid Benjamin.'' 33 ''Hynafiaid Saul a Jonathan.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Benjamin}} hefyd a genhedlodd Bela -Li ei gyntaf-anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, {{angor|8:2|2}} Noha y pedwerydd, a Rafla y pumed. {{angor|8:3|3}} A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud, {{angor|8:4|4}} Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa {{angor|8:5|5}} A Gera, a Seffuffan, a Huram. {{angor|8:6|6}} Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau-cenedl preswylwyr Geba a fawy a’u mudasant hwynt i Manahath; {{angor|8:7|7}} Naaman hefyd, ac Ama, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> n9qiyngpri7njj6mhnocjowxnssh0pp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/431 104 3686 172445 171468 2026-11-12T07:14:58Z Tylopous 3717 angorau 172445 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|8:8|8}} Cenhedlodd hefyd Saharaim yng agwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd. {{angor|8:9|9}} Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jpbab, a Sibia, a Mesa, a Malcham, {{angor|8:10|10}} A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei ftSbion ef, pennau-cenedl. {{angor|8:11|11}} Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal. {{angor|8:12|12}} A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a’i phentrefi. {{angor|8:13|13}} Bereia hefyd, a Sema oedd benaau-cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath. {{angor|8:14|14}} Ahio hefyd, Sasac, a Jeremoth, {{angor|8:15|15}} Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader, {{angor|8:16|16}} Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia; {{angor|8:17|17}} Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber, {{angor|8:18|18}} Ismerai hefyd, a JesUa, a Jobab, meibion Elpaal; {{angor|8:19|19}} Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi, {{angor|8:20|20}} Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel, {{angor|8:21|21}} Adaia hefyd, a Beraia, a Simratfa, meibion Simhi; {{angor|8:22|22}} I span hefyd, a Heber, ac Eliel, {{angor|8:23|23}} Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan, {{angor|8:24|24}} Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotftr eia, {{angor|8:25|25}} Iffedeia hefydy a Phenuel, meibion Sasac; {{angor|8:26|26}} Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia, {{angor|8:27|27}} Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham. {{angor|8:28|28}} Y rhai hyn oedd-bennau-cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem. {{angor|8:29|29}} Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha. {{angor|8:30|30}} Ac Abdon ei fab cyntaf-anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab, {{angor|8:31|31}} Gedor hefyd, ac Ahio, a Sacher. {{angor|8:32|32}} Micloth hefyd a genhedlodd Simea’: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. {{angor|8:33|33}} Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a gen¬hedlodd Jonathan, a Maldsua, ac Abina-dab, ac Esbaal. {{angor|8:34|34}} A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. {{angor|8:35|35}} A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. {{angor|8:36|36}} Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa, {{angor|8:37|37}} A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. {{angor|8:38|38}} Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel. {{angor|8:39|39}} A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf-anedig ef, Jehus yr ail, ac Elifielet y trydydd. {{angor|8:40|40}} A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a’u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Achau Israel a Judah.'' 2 ''Yr Israeliaid,'' 10 ''yr offeiriaid,'' 14 ''a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, oedd yn trigo yn Jerusalem.'' 27 ''Swydd rhai o’r Lefiaid.'' 35 ''Hynaif Saul a Jonathan.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A holl}} Israel a rifwyd with eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd. {{angor|9:2|2}} Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. {{angor|9:3|3}} Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: {{angor|9:4|4}} Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. {{angor|9:5|5}} Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf-anedig, a’i feibion. {{angor|9:6|6}} Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. {{angor|9:7|7}} Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, {{angor|9:8|8}} Ibneia hefyd mab Jerohana, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; {{angor|9:9|9}} A’u brodyr yn ôl eu cenhedl-<noinclude><references/></noinclude> l8bbeqzn3e1dlwgej4nrvvoynf9qsxt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1008 104 5013 172382 9114 2026-11-11T14:46:10Z Tylopous 3717 penodau 172382 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:38 Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. 7:39 (A hyn a dywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.) 7:40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. 7:41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? 7:42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 7:43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 7:44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno. 7:45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddysgasoch chwi ef? 7:46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 7:47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 7:48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 7:49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 7:50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 7:51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth ef? 7:52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea. 7:53 A phob un a aeth i’w dŷ ei hun; {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn gwaredu y wraig a ddaliesid mewn godineb:'' 12 ''yn pregethu ei fod ef ei hun yn oleuni y byd; ac yn gwirio ei athrawiaeth:'' 33 ''yn atteb yr Iuddewon a wnaent eu bost o Abraham;'' 59 ''ac yn gochelyd eu creulondeb hwy.''}} {{angor|8:1}} {{uc|A’r}} Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: 8:2 Ac a ddaeth drachefn y y bore i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 8:3 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol. 8:4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 8:5 A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 8:6 A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. 8:7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. 8:8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. 8:9 Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd en hargyhoeddi gan en cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 8:10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac he weled neb ond y wraig, a ddywedod wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 8:11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach. 8:12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 8:13 Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dysystiolaeth di wir. 8:14 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: Oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le<noinclude><references/></noinclude> ka5da3g5inp9aoennuvpslnnl5dlc0m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1010 104 5015 172383 9116 2026-11-11T14:48:36Z Tylopous 3717 penodau 172383 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 8:43 Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 8:44 O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 8:45 Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 8:46 Pwy ohonoch am hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 8:47 Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. 8:48 Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? 8:49 Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. 8:50 Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 8:51 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. 8:52 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. 8:53 Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 8:54 Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 8:55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. 8:56 Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. 8:57 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? 8:58 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. 8:59 Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Y dyn a anesid yn ddall yn cael ei olwg;'' 13 ''a’i ddwyn ef at y Phariseaid:'' 16 ''hwythau yn ymrwystro, ac yn ei ysgymmuno ef;'' 35 ''ac yntau yn cael ei dderbyn gan yr Iesu, ac yn ei gyffesu ef.'' 39 ''Pwy yw y rhai y mae Crist yn eu goleuo.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. 9:2 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? 9:3 Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoed Duw ynddo ef. 9:4 Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. 9:5 Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf. 9:6 Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall; 9:7 Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled. 9:8 Y cymdogion gan hynny, ar rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? 9:9 Rhai, a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nv2hqi4vxp20vquoafpnj0xu0g8jxge Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1012 104 5017 172384 9119 2026-11-11T14:50:57Z Tylopous 3717 penodau 172384 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef. 9:39 A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn, fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 9:40 A rhai o’r Pharaseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 9:41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Crist yw y drws, a’r bugail da.'' 19 ''Amryw dyb am dano.'' 25 ''Y mae efe yn profi trwy ei weithredoedd, mai efe yw Crist Mab Duw:'' 39 ''yn dïangc rhag yr Iuddewon,'' 40 ''ac yn myned drachefn dros yr Iorddonen: lle y credodd llawer ynddo ef.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Yn}} wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidwr ac ysbeiliwr yw. 10:2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. 10:3 I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid. yn gwrando ar ei llais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain. hwy allan. 10:4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. 10:5 Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. 10:6 Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. 10:7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 10:8 Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. 10:9 Myfi yw’r drwsi: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10:10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. 10:11 Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 10:12 Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. 10:13 Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid. mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. 10:14 Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. 10:15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 10:16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. 10:17 Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. 10:18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad. 10:19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. 10:20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? 10:21 Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion? 10:22 Ac yr oedd y gysegr-ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi. 10:23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon. 10:24 Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur. 10:25 Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi<noinclude><references/></noinclude> k2kew0zwecgk2giyd35majf4a9dmzs7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1013 104 5018 172385 9120 2026-11-11T14:53:50Z Tylopous 3717 penodau 172385 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi. 10:26 Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi. 10:27 Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i: 10:28 A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. 10:29 Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. 10:30 Myfi a’r Tad un ydym. 10:31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef. 10:32 Yr Iesu a atebodd iddynt, llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i? 10:33 Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw. 10:34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych? 10:35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;) 10:36 A ddywedwch chwi am yr hwn a saacteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf? 10:37 Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi: 10:38 Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau. 10:39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt. 10:40 Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno. 10:41 A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr hofl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. 10:42 A llawer yno a gredasant ynddo. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Crist yn cyfodi Lazarus, yr hwn a gladdesid er ys pedwar diwrnod.'' 45 ''Llawer o Iuddewon yn credu.'' 47 ''Yr arch-offeiriaid a’r Phariseaid yn casglu cynghor yn erbyn Crist.'' 49 ''Caiaphas yn prophwydo.'' 54 ''Iesu yn ymguddio:'' 55 ''hwythau ar y pasc yn ymofyn am dano, ac yn gosod cynllwyn iddo.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ac}} yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. 11:2 (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) 11:3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. 11:4 A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. 11:5 A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. 11:6 Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. 11:7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn. 11:8 Y disgyblion a ddywedant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? 11:9 Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn: 11:10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. 11:11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny, efe a ddywedodd wrthynt, y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. 11:12 Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. 11:13 Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. 11:14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. 11:15 Ac y mae’n llawen gennyf nad<noinclude><references/></noinclude> oki02okhftkgi8z2uuc2quunszmzcok Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1015 104 5020 172386 40917 2026-11-11T14:57:28Z Tylopous 3717 penodau 172386 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Phariseaid a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 11:48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 11:49 A rhyw un o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll, 11:50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 11:51 Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl; 11:52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 11:53 Yna o’r dydd hwnnw allan, y cydymgyngorasant fel y lladdent ef. 11:54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhosodd yno gyd â’i ddisgyblion. 11:55 A phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fynu i Jerwsalem o flaen y pasc, i’w glanhâu eu hunain. 11:56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r wyl? 11:57 A’r arch-offeiriaid a’r Phariseaid a roisant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Yr Iesu yn esgudosi Mair am enneinio ei draed ef.'' 9 ''Y bobl yn ymgasglu i weled Lazarus:'' 10 ''yr arch-offeiriaid yn ymgynghori i’w ladd ef.'' 12 ''Crist yn marchogaeth i Jerusalem.'' 20 ''Groegwyr yn ewyllysio gweled yr Iesu.'' 23 ''Y mae efe yn rhag-fynegi ei farwolaeth.'' 37 ''Yr Iuddewon gan mwyaf wedi eu dallu:'' 42 ''er hynny llawer o bennaethiaid yn credu, ond heb ei gyffesu ef:'' 44 ''yr Iesu gan hynny yn galw yn daer am gyffesu ffydd.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Yna}} yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 12:2 Ac yno y gwnaethant iddo swpper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd un o’r rhai a eisteddent gyd âg ef. 12:3 Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 12:4 Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Judas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, 12:5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chàn ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 12:6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo y pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 12:7 A’r Iesu a ddywedodd, Gâd iddiǃ erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 12:8 Canys y mae gennych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. 12:9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw. 12:10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgynghorasant fel y lladdent Lazarus hefyd: 12:11 Oblegid llawer o’r Iuddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu. 12:12 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem, 12:13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenhin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 12:14 A’r Iesu wedi cael asyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 12:15 Nac ofna, ferch Sïon: wele, y mae dy Frenhin yn dyfod, yn eistedd er ebol asyn. 12:16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 627p7bnmns1hrsl01fysrnhavep8hnx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1017 104 5022 172387 9124 2026-11-11T15:02:16Z Tylopous 3717 penodau 172387 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 12:48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 12:49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 12:50 Ac mi a wn fod ei orchmynyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion:'' 14 ''yn eu hannog i ostyngeiddrwydd a chariad perffaith:'' 18 ''yn rhag-ddywedyd, ac yn datguddio i Ioan trwy arwydd, y bradychai Judas ef:'' 31 ''yn gorchymyn iddynt garu eu gilydd;'' 36 ''ac yn rhybuddio Petr y gwadai efe ef.''}} {{angor|13:1}} {{uc|A chyn}} gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 13:2 Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; 13:3 Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; 13:4 Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roos heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. 13:5 Wedi hynny efe a ddywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi el wregysu. 13:6 Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i? 13:7 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ô1 hyn. 13:8 Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. 13:9 Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 13:10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 13:11 Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 13:12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13:13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 13:14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 13:15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 13:16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 13:17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt. 13:18 Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn. 13:19 Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe. 13:20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 13:21 Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. 13:22 Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 13:23 Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 13:24 Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 13:25 Ac yntau’n pwyso ar ddwy-<noinclude><references/></noinclude> olql0hqj55l8ynw4v37w9p3fhrsjt3o Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1018 104 5023 172388 9125 2026-11-11T15:05:19Z Tylopous 3717 penodau 172388 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 13:26 Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. 13:27 Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 13:28 Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 13:29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryna y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. 13:30 Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos. 13:31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 13:32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd. a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 13:33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni eflwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 13:34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 13:35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd. 13:36 A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy. nghanlyn: eithr ar ôl hyn y’m canlyni. 13:37 Pedr, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot. 13:38 Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Crist yn cysuro ei ddisgyblion â gobaith teyrnas nef:'' 6 ''yn proffesu mai efe yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; a’i fod yn un â’r Tad:'' 13 ''yn gwarantu y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn ffrwythlawn:'' 15 ''yn dymuno cariad ac ufudd-dod:'' 16 ''yn addaw yr Yspryd Glân y Diddanydd;'' 27 ''ac yn gadael ei dangnefedd gyd â hwynt.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Na}} thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof innau hefyd. 14:2 Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. 14:3 Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. 14:4 Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. 14:5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y. ffordd? 14:6 Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd , a’r bywyd: nid yw neb yn.dyfod at y Tad, ond trwof fi. 14:7 Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. 14:8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 14:9 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 14:10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 14:11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 14:12 Yn wir, yn wir, meddaf i. chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> b7t2p2vtjei390zrkko9x492tldzovz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1019 104 5024 172389 9126 2026-11-11T15:06:57Z Tylopous 3717 penodau 172389 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14:14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf. 14:15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 14:16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 14:17 Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y bydd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. 14:18 Ni’ch gadawaf chwi yn amnddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi. 14:19 Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. 14:20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 14:21 Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. 14:22 Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? 14:23 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad, a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. 14:24 Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. 14:25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. 14:26 Eithr y Diddanyadd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. 14:27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. 14:28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. 14:29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. 14:30 Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. 14:31 Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Y diddanwch a’r caredigrwydd sydd rhwng Crist a’i aelodau, trwy ddammeg y winwydden.'' 18 ''Cysur mewn casineb, ac erlid bydol.'' 26 ''Swydd yr Yspryd Glân, a’r apostolion.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Myfi}} yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr. 15:2 Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith, a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth. 15:3 Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych 15:4 Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi. 15:5 Myfi yw’r winwydden, chwithau yw’r canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. 15:6 Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir. 15:7 Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi. 15:8 Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi. 15:9 Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i. 15:10 Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7pvjq6y7uu8oiz41i166mu46mnkzcnx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1020 104 5025 172390 9127 2026-11-11T15:09:12Z Tylopous 3717 penodau 172390 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>15:11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn. 15:12 Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. 15:13 Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. 15:14 Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. 15:15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi. 15:16 Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 15:17 Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd. 15:18 Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. 15:19 Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. 15:20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 15:21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i. 15:22 Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 15:23 Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd. 15:24 Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac am casasant i a’m Tad hefyd. 15:25 Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos. 15:26 Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn, sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi. 15:27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Crist yn cysuro ei ddisgyblion yn erbyn blinder, trwy addewid o’r Yspryd Glân, a thrwy ei ail-gyfodiad a’i esgyniad:'' 23 ''yn eu sicrhâu y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn gymmeradwy gan ei Dad.'' 33 ''Tangnefedd yng Nghrist; ac yn y byd gorthrymder.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Y pethau}} hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. 16:2 Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. 16:3 A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. 16:4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 16:5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 16:6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 16:7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 16:8 A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 16:9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 16:10 0 gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 16:11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. 16:12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 16:13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 67iseb4u2x0vxeivyg6qbhk1ubl89dy Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1021 104 5026 172391 9128 2026-11-11T15:11:22Z Tylopous 3717 penodau 172391 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>16:14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 16:15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi. 16:16 Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 16:17 Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 16:18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 16:19 Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 16:20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 16:21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 16:22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 16:23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 16:24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 16:25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynega i chwi yn eglur am y Tad. 16:26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 16:27 Canys y Tad eu hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 16:28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 16:29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 16:30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw. 16:31 Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 16:32 Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. 16:33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Crist yn gweddïo ar ei Dad am ei ogoneddu ef:'' 6 ''am gadw ei apostolion'' 11 ''mewn undeb,'' 17 ''a gwirionedd:'' 20 ''am ei gogoneddu hwy, a’r holl ffyddloniaid eraill, gyd âg ef yn y nefoedd.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Y pethau}} hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 17:2 Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. 17:3 A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. 17:4 Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 17:5 Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. 17:6 Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhodd-<noinclude><references/></noinclude> k64vmxz2m7kdkmlr9wkrmokjnb78myu Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1022 104 5027 172392 9130 2026-11-11T15:14:15Z Tylopous 3717 penodau 172392 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 17:7 Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 17:8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 17:9 Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 17:10 A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 17:11 Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis minnau. 17:12 Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur. 17:13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 17:14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 17:15 Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti, eu cadw hwynt rhag y drwg. 17:16 O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17:17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. 17:18 Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 17:19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi, eu sancteiddio yn y gwirionedd. 17:20 Ac nid wyf.yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd. 17:21 Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i. 17:22 A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: 17:23 Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. 17:24 Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. 17:25 Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. 17:26 Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysais: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi,a minnau ynddynt hwy. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Judas yn bradychu yr Iesu.'' 6 ''Y swyddogion yn syrthio i’r llawr.'' 10 ''Petr yn torri clust Malchus.'' 12 ''Dal yr Iesu, a’i ddwyn at Annas a Chaiaphas.'' 15 ''Petr yn gwadu Crist.'' 19 ''Holi yr Iesu ger bron Caiaphas,'' 28 ''a cher bron Pilat.'' 36 ''Ei deyrnas ef.'' 40 ''Yr Iuddewon yn dymuno cael gollwng Barabbas yn rhydd.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Gwedi}} i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. 18:2 A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. 18:3 Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. 18:4 Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? 18:5 Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. 18:6 Cyn gynted gan hynny. ag y dywedodd efe wrthynt, myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. 18:7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rnci0jefk5inns70vw7oja6nn28j1kc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1024 104 5029 172393 9132 2026-11-11T15:17:09Z Tylopous 3717 penodau 172393 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 18:36 Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 18:37 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin. wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er rnwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. 18:38 Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef. 18:39 Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 18:40 Yna y lefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Fflangellu Crist, a’i goroni â drain, a’i guro.'' 4 ''Pilat yn chwennych ei ollwng ef yn rhydd: etto, wedi ei orchfygu gan lefain yr Iuddewon, yn ei roddi ef i’w groeshoelio.'' 23 ''Bwrw coelbrennau ar ei ddillad ef:'' 26 ''yntau yn gorchymyn ei fam i Ioan;'' 28 ''ac yn marw.'' 31 ''Gwanu ei ystlys ef.'' 33 ''Joseph a Nicodemus yn ei gladdu ef.''}} {{angor|19:1}} {{uc|Yna}} gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. 19:2 A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano; 19:3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau. 19:4 Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. 19:5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn. 19:6 Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. 19:7 Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. 19:8 A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; 19:9 Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo. 19:10 Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd? 19:11 Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. 19:12 O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun y frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar. 19:13 Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. 19:14 A darpar-ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. 19:15 Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar. 19:16 Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. 19:17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 19:18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol. 19:19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ys-<noinclude><references/></noinclude> slg99djului7rggvm3odppwb6qbghw1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1025 104 5030 172394 9133 2026-11-11T15:19:32Z Tylopous 3717 penodau 172394 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>grifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 19:20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. 19:21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi. 19:22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais. 19:23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. 19:24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn. 19:25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen. 19:26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. 19:27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref. 19:28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. 19:29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. 19:30 Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd. 19:31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar-ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. 19:32 Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef. 19:33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. 19:34 Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. 19:35 A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth; ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. 19:36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. 19:37 A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant. 19:38 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. 19:39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. 19:40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. 19:41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. 19:42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Mair yn dyfod at y bedd,'' 3 ''a Phetr hefyd ac Ioan, heb wybod adgyfodi o’r Iesu.'' 11 ''Yr Iesu yn ymddangos i Mair Magdalen,'' 19 ''ac i’w ddisgyblion.'' 24 ''Anghrediniaeth a chyffes Thomas.'' 30 ''Bod yr ysgrythyr lân yn ddigonol i iachawdwriaeth.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Y dydd}} cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. 20:2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr<noinclude><references/></noinclude> 8pqj1gbeykraghaki7x3cmfq8si2ojm Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1027 104 5032 172395 9135 2026-11-11T15:22:29Z Tylopous 3717 penodau 172395 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant. 20:30 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 20:31 Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Ei ddisgyblion yn adnabod Crist ar ei ail-ymddangosiad, wrth y ddalfa fawr o bysgod:'' 12 ''yntau yn ciniawa gyd â hwynt:'' 15 ''yn rhoddi gorchymyn mawr ar Petr, i borthi ei ŵyn ef a’i ddefaid:'' 18 ''yn ei rybuddio ef o’i farwolaeth:'' 22 ''yn ceryddu ei brysurdeb ef ynghylch Ioan:'' 25 ''Y diben.''}} {{angor|21:1}} {{uc|Gwedi}} y pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 21:2 Yr oedd ynghyd Simon Pedr, Thomas yr hwn a elwir Didymus, Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 21:3 Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 21:4 A phan ddaeth y bore weithian, sefodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai Yr Iesu ydoedd. 21:5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 21:6 Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 21:7 Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 21:8 Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau I can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 21:9 A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 21:10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 21:11 Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 21:12 Yr Iesu a ddywedodd wthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 21:13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 21:14 Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw. 21:15 Yna gwedi iddynt giniawa yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 21:16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 21:17 Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 21:18 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 21:19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. 21:20 :A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu,<noinclude><references/></noinclude> chrd4qptpg9qtqe2n4ut3bary58h2gv Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1028 104 5033 172396 171319 2026-11-11T15:26:18Z Tylopous 3717 penodau 172396 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Ioan"/>yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?) 21:21 Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 21:22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 21:23 Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni delwyf, beth yw hynny i ti? 21:24 Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 21:25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen. <section end="Sant Ioan"/> <section begin="Actau"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Actau,}}}}<br> {{sc|neu}}<br> {{uc|Weithredoedd yr Apostolion Sanctaidd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Crist, er mwyn parottôi ei apostolion i weled ei ddyrchafiad ef, yn eu casglu hwy ynghyd i fynydd yr Olew-wydd; ac yn gorchymyn iddynt ddisgwyl yn Jerusalem am ddanfon yr Yspryd Glân; ac yn addaw cyn nemmawr o ddyddiau ei anfon ef; trwy rinwedd yr hwn y byddynt yn dystion iddo ef hyd eithafoedd y ddaear.'' 9 ''Ar ol ei ymddyrchafiad ef, y mae dau angel yn eu rhybuddio hwy i ymadael, ac i roddi eu meddyliau ar ei ail-ddyfodiad ef.'' 12 ''Hwythau felly yn dychwelyd; a chan ymrôi i weddi, yn dewis Matthïas yn apostol yn lle Judas.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Y traethawd}} cyntaf a wneuthum, - O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, 1:2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: 1:3 I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deymas Dduw. 1:4 Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. 1:5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. 1:6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? 1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. 1:8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. 1:9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 1:10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; 1:11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. 1:12 Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. 1:13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac loan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bar-<section end="Actau"/><noinclude><references/></noinclude> 3vx2cgwhpq6qmw4k8icfzuuavzps5gl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1029 104 5034 172397 9140 2026-11-11T17:57:40Z Tylopous 3717 penodau 172397 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>tholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. 1:14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytun mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef. 1:15 Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) 1:16 Ha wŷr frodyr, yr oedd.yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: 1:17 Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon. 1:18 A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. 1:19 A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed. ‘ 1:20 Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef. 1:21 Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, 1:22 Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef. 1:23 A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff; yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. 1:24 A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, 1:25 I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun. 1:26 A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Yr apostolion, wedi eu llenwi â’r Yspryd Glân, yn llefaru âg amryw dafodau; a rhai yn rhyfeddu o’u plegid; ac eraill yn eu gwatwar:'' 14 ''a Phetr yn eu hargyhoeddi hwy, ac yn dangos fod yr apostolion yn llefaru trwy nerth yr Yspryd Glân; a bod yr Iesu wedi cyfodi oddi wrth y meirw, a dyrchafu i’r nefoedd; a thywallt o hono yr Yspryd Glân; ac mai efe oedd y Messïas, gwr a wyddent hwy ei fod yn brofedig gan Dduw, trwy ei wyrthiau, a’i ryfeddodau, a’i arwyddion; a chwedi ei groeshoelio, nid heb ei derfynedig gynghor a’i rag-wybodaeth ef.'' 37 ''Petr yn bedyddio llawer o’r rhai a droisid:'' 41 ''y rhai wedi hynny sydd yn cyttal yn dduwiol ac yn gariadus. Yr apostolion yn gwneuthur gwyrthiau lawer; a Duw beunydd yn chwanegu ei eglwys.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2:2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 2:3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 2:4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 2:5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem, Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 2:6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 2:7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 2:8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 2:9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 2:10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 2:11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 2:12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0apa9aao1t4vw2a7f3bb22hvuwsbegl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1031 104 5036 172398 9142 2026-11-11T18:01:26Z Tylopous 3717 penodau 172398 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau. 2:42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. 2:43 Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. 2:44 A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; 2:45 A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. 2:46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, 2:47 Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Petr, wrth bregethu i’r bobl a ddaethai i weled y cloff a roisid ar ei draed,'' 12 ''yn proffesu nad trwy ei rym a’i dduwioldeb ef neu Ioan y gwnaethid ef yn iach: ond trwy Dduw, a’i Fab Iesu, a thrwy ffydd yn ei enw ef:'' 13 ''gan eu ceryddu hwy hefyd am groeshoelio yr Iesu;'' 17 ''yr hwn beth gan iddynt ei wneuthur mewn anwybod, ac wrth hynny gyflawni terfynedig gynghor Duw, a’r ysgrythyrau,'' 19 ''y mae efe yn eu hannog hwy, trwy edifeirwch a ffydd, i geisio maddeuant o’u pechodau, a iachawdwriaeth yn yr unrhyw Iesu.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Petr}} hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed. 3:2 A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. 3:3 Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. 3:4 A Phedr yn dal sylw arno, gydag loan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. 3:5 Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. 3:6 Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. 3:7 A chan ei gymryd ef erbyn ei dde¬heulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. 3:8 A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. 3:9 A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. 3:10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo. 3:11 Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac loan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon. 3:12 A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio? - 3:13 Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a’i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd. 3:14 Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog; 3:15 A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. 3:16 A’i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll. 3:17 Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. 3:18 Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai, Crist, a gyflawnodd efe fel hyn. 3:19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; 3:20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi; 3:21 Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad<noinclude><references/></noinclude> 8k94i87tqeh4x9uhpehshq5sadt1u1l Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1032 104 5037 172399 9146 2026-11-11T18:05:55Z Tylopous 3717 penodau 172399 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. 3:22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi:; arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych. 3:23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. 3:24 A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 3:25 Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. 3:26 Duw, gwedi.cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Llywodraethwyr yr Iuddewon yn anfoddlawn i bregeth Petr,'' 4 ''er troi miloedd i’r ffydd o’r bobl a glywsent y gair, ac yn ei garcharu ef, ac Ioan:'' 5 ''wedi hynny Petr, wrth ei holi, yn dywedyd yn hyderus, mai trwy enw yr Iesu yr iachasid y cloff; ac mai trwy Iesu yn unig y bydd raid i ninnau gael iachawdwriaeth dragywyddol:'' 13 ''hwythau yn gorchymyn iddo ef ac i Ioan, na phregethent mwyach yn yr enw hwnnw: ac yn eu bygwth hwy:'' 23 ''yr eglwys ar hynny yn ymrôi i weddïo:'' 31 ''a Duw, trwy gynhyrfu y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo, yn tystiolaethu glywed o hono ef eu gweddi hwynt: ac yn cadarnhâu yr eglwys, trwy roddi yr Yspryd Glân, a chariad perffaith tu ag at eu gilydd.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Ac}} fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; 4:2 Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. 4:3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. 4:4 Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil. 4:5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, 4:6 Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac loan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. 4:7 Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? 4:8 Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, 4:9 Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; 4:10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. 4:11 Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. 4:12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb. arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. 4:13 A phan welsant hyfder Pedr ac loan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu. 4:14 Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny. 4:15 Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â’i gilydd, 4:16 Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu. 4:17 Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. 4:18 A hwy a’u galwasant bwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. 4:19 Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jofg8y20cl9fehy4dsop75d217sefc8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1033 104 5038 172400 9147 2026-11-11T18:11:06Z Tylopous 3717 penodau 172400 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom. 4:21 Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid. 4:22 Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr ar¬wydd hwn o iechydwriaeth. 4:23 A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrth¬ynt. 4:24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddy¬wedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; 4:25 Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? 4:26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. 4:27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dŷ Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, 4:28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur. 4:29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder; 4:30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu. 4:31 Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus. 4:32 A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. 4:33 A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll. 4:34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid, 4:35 Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno. 4:36 A Joseff, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (yr hyn o’i gyfieithu yw, Mab diddanwch,) yn Lefiad, ac yn Gypriad o genedl, 4:37 A thir ganddo, a’i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Wedi i Ananïas a Sapphira ei wraig, am eu rhagrith, gwympo i lawr yn feirw wrth gerydd Petr,'' 12 ''ac i’r apostolion eraill wneuthur llawer o wyrthiau'' 14 ''er cynnydd i’r ffydd,'' 17 ''y mae yr apostolion yn cael eu carcharu eilwaith;'' 19 ''ac er hynny yn cael eu gwaredu gan angel, yr hwn sydd yn erchi iddynt bregethu i bawb ar gyhoedd:'' 21 ''hwythau, wedi iddynt bregethu felly yn y deml,'' 29 ''a cher bron y cynghor,'' 33 ''mewn perygl o gael eu lladd; eithr trwy gynghor Gamaliel, cynhorwr mawr ym mhlith yr Iuddewon, yn cael eu cadw yn fyw,'' 40 ''ac yn unig eu curo: a hwythau yn gogoneddu Duw am hynny, ac heb beidio â pregethu.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Eithr}} rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir, 5:2 Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion. 5:3 Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? 5:4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. 5:5 Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn. 5:6 A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant. 5:7 A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> trs9293m40qhmy8mbuf0smjxo937qaf Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1035 104 5040 172401 9149 2026-11-11T18:19:06Z Tylopous 3717 penodau 172401 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>5:36 Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim. 5:37 Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd. 5:38 Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir; 5:39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw. 5:40 A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith. 5:41 A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw 5:42 A beunydd yn y deml, ac o dy i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Yr apostolion, yn chwennych nad esgeulusid y tlodion o ran eu lluniaeth corphorol, ac yn ofalus hefyd eu hunain am gyfrannu gair Duw, lluniaeth yr enaid,'' 3 ''yn ordeinio swydd dïaconiaeth i saith o wŷr etholedig;'' 5 ''o’r rhai y mae Stephan, gwr llawn o ffydd ac o’r Yspryd Glân, yn un:'' 12 ''ei ddal ef gan y rhai a waradwyddodd efe wrth ymresymmu;'' 13 ''ac achwyn arno ar gam, am gablu yn erbyn y gyfraith a’r deml.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Ac}} yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. 6:2 Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. 6:3 Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. 6:4 Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair. 6:5 A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: 6:6 Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy, 6:7 A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd. 6:8 Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl. ‘ 6:9 Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan: 6:10 Ac ni allent wrthwynebu’r doeth¬ineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. 6:11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw. 6:12 A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa; 6:13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith: 6:14 Canys nyni a’i clywsom ef yn dy¬wedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni. 6:15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Stephan, wrth gael cennad i atteb drosto ei hun am y gabledd,'' 2 ''yn dangos ddarfod i Abraham addoli Duw yn iawn; a pha fodd y dewisodd Duw y tadau,'' 20 ''cyn geni Moses, a chyn adeiladu y babell a’r deml:'' 37 ''a thystiolaethu o Moses ei hun am Grist:'' 44 ''ac na pharhâi y seremonïau oddi allan, y rhai a ordeiniasid ar ddull y portreiad nefol, ond dros amser;'' 51 ''gan eu ceryddu hwy am eu gwaith yn gwrthwynebu ac yn lladd Crist, y Cyfiawn hwnnw, am yr hwn y rhag-ddywedasai y prophwydi y deuai efe i’r byd.'' 54 ''Hwythau ar hynny yn ei labyddio ef i farwolaeth; ac yntau yn gorchymyn ei enaid i’r Iesu, ac yn gweddïo drostynt hwy.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fljyx5sry1455orc34rrfj2ck6wmdff Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1036 104 5041 172402 9150 2026-11-11T18:19:28Z Tylopous 3717 penodau 172402 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|7:1}} {{uc|Yna}} y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? 7:2 Yntau a ddywedodd. Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; 7:3 Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. 7:4 Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. 7:5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. 7:6 A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, bedwar can mlynedd. 7:7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. 7:8 Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch. 7:9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 7:10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 7:11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 7:12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 7:13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 7:14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 7:15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 7:16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem. 7:17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, 7:18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. 7:19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. 7:20 Ar yr hwn amser yganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 7:21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. 7:22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 7:23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 7:24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 7:25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant. 7:26 A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd. Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 7:27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 7:28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 7:29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. 7:30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn an-<noinclude><references/></noinclude> 7462vfri8g4aojzkqmc4c608f1k374m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1038 104 5043 172403 9152 2026-11-11T18:24:52Z Tylopous 3717 penodau 172403 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 7:58 Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 7:59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 7:60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Yr eglwys, o achos yr erlid yn Jerusalem, wedi ei phlannu yn Samaria,'' 5 ''trwy waith Phylip y dïacon; yr hwn a bregethodd, ac a wnaeth wyrthiau, ac a fedyddiodd lawer; ym mhlith eraill Simon y swynwr, hudol mawr ym mysg y bobl.'' 14 ''Petr ac Ioan yn dyfod i gadarnhâu ac i chwanegu yr eglwys, gan roddi yr Yspryd Glân trwy weddi ac arddodiad dwylaw:'' 18 ''a Simon yn ceisio prynu y cyffelyb awdurdod ganddynt;'' 20 ''a Phetr yn ei geryddu ef yn dost am ei ragrith a’i gybydd-dod, ac yn ei annog ef i edifarhâu;'' 25 ''ac yn dychwelyd i Jerusalem, gan bregethu gair yr Arglwydd, efe ac Ioan.'' 26 ''Angel yn anfon Phylip i ddysgu ac i fedyddio yr eunuch o Ethiopia.''}} {{angor|8:1}} {{uc|A Saul}} oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion. 8:2 A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu, ac a wnaethant alar mawr amdano ef. 8:3 Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a’u rhoddes yng ngharchar. 8:4 A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. 8:5 Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. 8:6 A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. 8:7 Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. 8:8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno. 8:9 Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon, oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: 8:10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf byd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. 8:11 Ac yr oeddynt a’u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. 8:12 Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. 8:13 A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid. 8:14 A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac loan: 8:15 Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddïasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. 8:16 (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) 8:17 Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân. 8:18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, 8:19 Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. 8:20 Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. 8:21 Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. 8:22 Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. 8:23 Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. 8:24 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof<noinclude><references/></noinclude> l3mam26xm531y9j2rxt88ok1531ecpo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1039 104 5044 172404 9153 2026-11-11T18:28:25Z Tylopous 3717 penodau 172404 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fi at yr Ar¬glwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch. 8:25 Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid. 8:26 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd. 8:27 Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli; 8:28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias. 8:29 A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. 8:30 A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddy¬wedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? 8:31 Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. 8:32 A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen ger¬bron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: 8:33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. 8:34 A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdanoch hun, ai am ryw un arall? 8:35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu. 8:36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A’r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; beth sydd yn lluddias fy medyddio? 8:37 A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw. 8:38 Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr, Philip a’r eunuch; ac efe a’i bedyddiodd ef. 8:39 A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen. 8:40 Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efyngylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Saul yn myned i Damascus; ei daro ef i lawr i’r ddaear;'' 10 ''a’i alw i fod yn apostol:'' 18 ''a’i fedyddio gan Ananïas:'' 20 ''yntau yn pregethu Crist yn hyderus.'' 23 ''Yr Iuddewon yn cynllwyn i’w ladd ef,'' 29 ''a’r Groegwyr hefyd; yntau yn dïangc rhag y ddwy blaid.'' 31 ''Yr eglwysi yn cael llonyddwch.'' 32 ''Petr yn iachâu Aeneas o’r parlys,'' 36 ''ac yn codi Tabitha o farw i fyw.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A Saul}} ero yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, 9:2 Ac a ddyfeisiodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. 9:3 Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. 9:4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? 9:5 Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. 9:6 Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddy¬wedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 9:7 A’r gwŷr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. 9:8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddam¬ascus. 9:9 Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tk3nhqge8pipmj7ppj6gczie72wus35 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1041 104 5046 172405 9155 2026-11-11T18:31:25Z Tylopous 3717 penodau 172405 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>9:37 A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant hi mewn llofft. 9:38 Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy. 9:39 A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft: a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt. 9:40 Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd. 9:41 Ac efe a roddodd ei Iaw iddi, ac a’i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw. 9:42 A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. 9:43 A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Cornelius, gwr defosiynol,'' 5 ''wrth orchymyn angel, yn danfon i gyrchu Petr:'' 11 ''yntau, trwy weledigaeth,'' 15, 20 ''a ddysgir na ddïystyrai mo’r Cenhedloedd.'' 34 ''Ac efe yn pregethu Crist i Cornelius, a’r rhai oedd gyd âg ef,'' 44 ''yr Yspryd Glân yn disgyn arnynt;'' 48 ''a’u bedyddio hwy.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Yr}} oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; 10:2 Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd a’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. 10:3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. 10:4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. 10:5 Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: 10:6 Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ‘r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 10:7 A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: 10:8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa. 10:9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, yng¬hylch y chweched awr. 10:10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno Iewyg: 10:11 Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear: 10:12 Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 10:13 A daeth llef ato, Cyfod, Pedr, lladd, a bwyta. 10:14 A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. 10:15 A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 10:16 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr; a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef. 10:17 Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth. 10:18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno. 10:19 Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di. 10:20 Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l26op5gc93d3hfh2gqlz66g9hhjmx0i Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1043 104 5050 172406 9205 2026-11-11T18:34:17Z Tylopous 3717 penodau 172406 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 10:47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 10:48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Petr, wedi achwyn arno am fyned i mewn at y Cenhedloedd, yn gwneuthur ei amddiffyn;'' 18 ''ac yn cael ei dderbyn.'' 19 ''Wedi cyrhaeddyd o’r efengyl hyd Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, yr ydys yn danfon Barnabas i’w cadarnhâu hwynt.'' 26 ''Y disgyblion yno yn cael yn gyntaf rhai eu galw yn Gristionogion;'' 27 ''ac yn anfon ymwared i’r brodyr yn Judea, yn amser newyn.''}} {{angor|11:1}} {{uc|A’r}} apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw. 11:2 A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerw¬salem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef, 11:3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. 11:4 Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, 11:5 Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi. 11:6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 11:7 Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 11:8 Ac mi a ddywedais, Nid felly, Ar¬glwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau. 11:9 Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 11:10 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefh. 11:11 Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. 11:12 A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr. 11:13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr: 11:14 Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ. 11:15 Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad. 11:16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai etc, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân. 11:17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? 11:18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd. 11:19 A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig. 11:20 A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan breg¬ethu yr Arglwydd Iesu. 11:21 A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd. 11:22 A’i gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia. 11:23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd. 11:24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd. 11:25 Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia. 11:26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ym¬gynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer, a bod galw y disgybl-<noinclude><references/></noinclude> kc6ynpqxecmxgqn4cur7tnhw9v3u754 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1044 104 5051 172407 9206 2026-11-11T18:36:44Z Tylopous 3717 penodau 172407 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia. 11:27 Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Anti¬ochia. 11:28 Ac un ohonynt, a’i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar. 11:29 Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea: 11:30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Herod yn erlid y Cristionogion; yn lladd Iago; ac yn carcharu Petr: a’r angel yn ei waredu ef, wrth weddïau yr eglwys.'' 20 ''Herod, trwy falchder, yn cymmeryd iddo ei hun y gogoniant oedd ddyledus i Dduw; ac yn cael ei daro gan yr angel, ac yn marw yn resynol:'' 24 ''a’r eglwys yn llwyddo ar ol ei farwolaeth ef.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Ac}} ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. 12:2 Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. 12:3 A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) 12:4 Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. 12:5 Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. 12:6 A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. 12:7 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. 12:8 A dywedodd yr angel wnho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. 12:9 Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 12:10 Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 12:11 A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyl-iad pobl yr Iddewon. 12:12 Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam loan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 12:13 Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. 12:14 A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 12:15 Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 12:16 A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 12:17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 12:18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 12:19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac, heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno. 12:20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gyttûn atto;<noinclude><references/></noinclude> 725ymipypgysv9g90nif9z8cooxathd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1045 104 5052 172408 9207 2026-11-11T19:23:01Z Tylopous 3717 penodau 172408 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 12:21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 12:22 A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 12:23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd. 12:24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 12:25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Dewis Paul a Barnabas i fyned at y Cenhedloedd.'' 17 ''Sergius Paulus, ac Elymas y swynwr.'' 14 ''Paul yn pregethu yn Antiochia mai Iesu yw Crist.'' 42 ''Y Cenhedloedd yn credu;'' 45 ''yr Iuddewon yn gwrthwynebu, ac yn cablu:'' 46 ''Paul a Barnabas, ar hynny, yn troi at y Cenhedloedd.'' 48 ''Y rhai a drefnesid i fywyd, yn credu.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Yr}} oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lweius o Cyrene, a Manaen, brawd-maeth Herod y tetrarch, a Saul. 13:2 Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo. 13:3 Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a’u gollyngasant ymaith. 13:4 A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant, i Cyprus. 13:5 A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog. 13:6 Ac wedi iddynt dramwy trwy’r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu; 13:7 Yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw. 13:8 Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a’u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gwyrdroi’r rhaglaw oddi wrth y ffydd. 13:9 Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef, 13:10 Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gwyro union ffyrdd yr Arglwydd? 13:11 Ac yn awr wele, y mae llaw yr Ar¬glwydd arnat ti, â thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law. 13:12 Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd. 13:13 A Phaul a’r rhai oedd gydag ef;i aethant ymaith o Paffus, ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia: eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem. 13:14 Eithr hwynt-hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i’w synagog ar y dydd Saboth, ac a eisteddasant. 13:15 Ac ar ôl darllen y gyfraith a’r proff¬wydi, llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd. Ha wŷr, frodyr, od oes gennych air o gyngor i’r bobl, traethwch. 13:16 Yna y cyfododd Paul i fyny, a chan amneidio â’i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a’r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch. 13:17 Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan. 13:18 Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch. 13:19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy. 13:20 Ac wedi’r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> qo9q2azk36assu8hjawgqcuhb8zsjvw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1047 104 5054 172409 9209 2026-11-11T19:26:06Z Tylopous 3717 penodau 172409 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant. 13:49 A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy’r holl wlad. 13:50 A’r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a’u bwriasant hwy allan o’u terfynau. 13:51 Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium. 13:52 A’r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o’r Ysbryd Glân. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Erlid Paul a Barnabas allan o Iconium.'' 8 ''Paul yn iachâu y cloff efrydd yn Lystra: ac ar hynny y bobl yn tybied mai duwiau oeddynt hwy.'' 19 ''Llabyddio Paul.'' 21 ''Hwynt-hwy yn myned trwy fagad o eglwysi, gan gadarnhâu y disgyblion yn y ffydd, ac mewn dïoddefgarwch:'' 26 ''ac wedi dychwelyd i Antiochia, yn mynegi yno beth a wnaethai Duw trwyddynt hwy.''}} {{angor|14:1}} {{uc|A digwyddodd}} yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. 14:2 Ond yr Iddewon anghredadun a gyffoesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. 14:3 Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Ar¬glwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhbyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. 14:4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. 14:5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd a’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, 14:6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: 14:7 Ac yno y buant yn efengylu. 14:8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. 14:9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, 14:10 A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. 14:11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. 14:12 A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 14:13 Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a gariantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. 14:14 A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, 14:15 A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: 14:16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. 14:17 Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. 14:18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt. 14:19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw. 14:20 Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe. 14:21 Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, 14:22 Gan gadarnhau eneidiau’r disgybl¬ion, a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0eq920j67culcn23xyoifheme12j5dc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1048 104 5055 172410 9210 2026-11-11T19:28:20Z Tylopous 3717 penodau 172410 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:23 Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. 14:24 Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia. 14:25 Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia: 14:26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant. 14:27 Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd. 14:28 Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Ymryson mawr yn cyfodi ynghylch yr enwaediad:'' 6 ''yr apostolion yn ymgynghori ynghylch hynny;'' 22 ''ac yn anfon eu meddwl trwy lythyrau at yr eglwysi.'' 36 ''Paul a Barnabas, wedi bwriadu myned i ymweled â’r brodyr, yn ymrafaelio, ac yn ymadael â’u gilydd.''}} {{angor|15:1}} {{uc|A rhai}} wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddy¬wedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. 15:2 A phan ydoedd ymryson â dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostohon a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. 15:3 Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. 15:4 Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. 15:5 Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses. 15:6 A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. 15:7 Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu, 15:8 A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: 15:9 Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calon¬nau hwy trwy ffydd. 15:10 Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai, ein tadau ni na ninnau ei dwyn? 15:11 Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau . 15:12 A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cen¬hedloedd trwyddynt hwy. 15:13 Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd. Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi. 15:14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o r Cenhedloedd bobl i’w enw. 15:15 Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig, 15:16 Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio, a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a’i cyfodaf eilchwyl: 15:17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd, ac i’r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i amynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn 15:18 Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed. 15:19 Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw: 15:20 Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed. 15:21 Canys y mae i Moses ym mhob<noinclude><references/></noinclude> nktyc683efjccux8mih8uvbdxh5jwjt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1049 104 5056 172411 9211 2026-11-11T19:31:08Z Tylopous 3717 penodau 172411 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>dinas, er yr hen amseroedd, rai a’i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth. 15:22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr apos¬tolion a’r henuriaid, ynghyd a’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiocbia, gyda Phaul a Barn¬abas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr: 15:23 A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cen¬hedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch: 15:24 Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: 15:25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytun, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul; 15:26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist. 15:27 Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau. 15:28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn; 15:29 Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. 15:30 Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr. 15:31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch. 15:32 Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a’u cadarnhasant. 15:33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion. 15:34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. 15:35 A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd. 15:36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy. 15:37 A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt loan, yr hwn a gyfenwid Marc. 15:38 Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. 15:39 A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus: 15:40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr. 15:41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau’r eglwysi. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Paul, wedi enwaedu ar Timothëus,'' 7 ''ac wedi ei alw gan yr Yspryd,'' 14 ''yn troi Lydia:'' 16 ''yn bwrw allan yspryd dewiniaeth;'' 19 ''ac am hynny Silas ac yntau yn cael eu fflangellu, a’u carcharu.'' 26 ''Agoryd drysau y carchar:'' 31 ''troi ceidwad y carchar,'' 37 ''a’u gwaredu hwythau.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Yna}} y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a’i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a’i dad oedd Roegwr: 16:2 Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium. 16:3 Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef. 16:4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apos¬tolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem. 16:5 Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd. 16:6 Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwar-<noinclude><references/></noinclude> iek8e5xie630h09tt9l0guoquhr6wnt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1051 104 5058 172412 9213 2026-11-11T19:33:59Z Tylopous 3717 penodau 172412 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i’w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a’i holl deulu. 16:35 A phan aeth hi yn ddydd, y swydd¬ogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddy¬wedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny. 16:36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch. 16:37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, hwy a’n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. 16:38 A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt. 16:39 A hwy a ddaethant ac a atolygasant amynt, ac a’u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas. 16:40 Ac wedi myned allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a’u cysurasant, ac a ymadawsant. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Paul yn pregethu yn Thessalonica,'' 4 ''lle y mae rhai yn credu, ac eraill yn ei erlid ef.'' 10 ''Ei anfon ef i Berea, ac yntau yn pregethu yno;'' 13 ''ac wedi ei erlid yn Thessalonica,'' 15 ''yn dyfod i Athen; ac yno yn ymresymmu, ac yn pregethu iddynt hwy y Duw byw, yr hwn nid adwaenent:'' 34 ''ac wrth hynny bagad yn troi at Grist.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Gwedi}} iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaeth¬ant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. 17:2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresyiaodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, 17:3 Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. 17:4 A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig. 17:5 Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. 17:6 A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; 17:7 Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. 17:8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llyw¬odraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. 17:9 Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith. 17:10 A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. 17:11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. 17:12 Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 17:13 A phan wybu’r Iddewon o Thesa¬lonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. 17:14 Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. 17:15 A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchy¬myn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith. 17:16 A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod. 17:17 Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac a’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 17:18 A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ym-<noinclude><references/></noinclude> pgsk0yyy9kmti2x1vnn69h9hubj7z33 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1052 104 5059 172413 68388 2026-11-11T19:38:24Z Tylopous 3717 penodau 172413 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Brin Rees" /></noinclude>ddadleuasant âg ef ; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr : am ei fod yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad iddynt. 19 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth ytv y ddysg newydd hon, a draethir gennyt ? 20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n chistiau ni : am hynny ni a fynnem wybod beth a allai y pethau hyn fod. 21 (AV holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.) 22 1Í Yna y safodd Paul y'nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choel-grefyddol : 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych areich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr vsgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw : 25 Ac nid â dwylaw dynion y gwasanaethir ef, "^fel pe bai arno eisieu dim ; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oil. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhag-osodedig, a ""therfynau eu preswylfod hwynt ; 27 ° Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau neppell oddi wrth bob un o honom : 28 Oblegid ° ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod ; p megis y dy wedodd rhai o'ch pöetau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, i ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn. 1040 30 ' A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awrhon yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhâu : 31 herwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn ' y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gwr a ordeiniodd efe ; gan roddi fiydd i bawb, herwydd "darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw. 32 IT A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant ; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant : ym mhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Paul yn gweithio â’i ddwylaw, ac yn pregethu yn Corinth i’r Cenhedloedd.'' 9 ''Yr Arglwydd yn ei gysuro ef trwy weledigaeth.'' 12 ''Achwyn arno ger bron Gàlio y rhaglaw: yntau yn cael ei ollwng ymaith;'' 18 ''ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y disgyblion.'' 24 ''Apòlos, wedi ei ddysgu yn fanylach gan Acwila a Phriscìla,'' 28 ''yn pregethu Crist gyd â nerth mawr.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ar}} ol y pethau hyn, Paul a ymadawodd âg Athen, ac a ddaeth i Corinth. 1 Paul yn gweithio a'i ddwylaw, ac yn pregethu yn Corinth Vr Cenhedloedd. 9 Yr Arglwydd yn ei gysuro ef trwy weledigaeth. 12 Acliwyn arno ger bran Gàlio y rhaglaw: yntau yn cael ei ollwng ymaith ; 18 ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y disgyhlion. 24 Ajoòlos, wedi ei ddy^gu ynfanylach gan Acwila a Phriscila, 28 yn pregethu Crist gyd â nerth matvr. 2 Ac wedi iddo gael rhyw luddew al enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr or Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r luddewon oil fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth attynt. 3 Ac, o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyd â hwynt, ac aweithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.) 4 Ac efe a ymresymmodd yn y synagog bob Sabbath, ac a gynghorodd yr luddewon, a'r Groegiaid. 5 A phan ddaeth •= Silas a Thimothëus o Macedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr yspryd, ac efe a dystiolaethodd i'r luddewon, mai Iesu oedd Crist. 6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrth- ynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi : o hyn allan mi a âf at y Cenhedloedd, {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s1wsjf9wssomwhtpsp1pik6bpnzdcip 172414 172413 2026-11-11T19:39:25Z Tylopous 3717 172414 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Brin Rees" /></noinclude>ddadleuasant âg ef ; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr : am ei fod yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad iddynt. 19 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth ytv y ddysg newydd hon, a draethir gennyt ? 20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n chistiau ni : am hynny ni a fynnem wybod beth a allai y pethau hyn fod. 21 (AV holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.) 22 1Í Yna y safodd Paul y'nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choel-grefyddol : 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych areich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr vsgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw : 25 Ac nid â dwylaw dynion y gwasanaethir ef, "^fel pe bai arno eisieu dim ; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oil. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhag-osodedig, a ""therfynau eu preswylfod hwynt ; 27 ° Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau neppell oddi wrth bob un o honom : 28 Oblegid ° ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod ; p megis y dy wedodd rhai o'ch pöetau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, i ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn. 1040 30 ' A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awrhon yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhâu : 31 herwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn ' y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gwr a ordeiniodd efe ; gan roddi fiydd i bawb, herwydd "darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw. 32 IT A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant ; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant : ym mhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Paul yn gweithio â’i ddwylaw, ac yn pregethu yn Corinth i’r Cenhedloedd.'' 9 ''Yr Arglwydd yn ei gysuro ef trwy weledigaeth.'' 12 ''Achwyn arno ger bron Gàlio y rhaglaw: yntau yn cael ei ollwng ymaith;'' 18 ''ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y disgyblion.'' 24 ''Apòlos, wedi ei ddysgu yn fanylach gan Acwila a Phriscìla,'' 28 ''yn pregethu Crist gyd â nerth mawr.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ar}} ol y pethau hyn, Paul a ymadawodd âg Athen, ac a ddaeth i Corinth. 2 Ac wedi iddo gael rhyw luddew al enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr or Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r luddewon oil fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth attynt. 3 Ac, o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyd â hwynt, ac aweithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.) 4 Ac efe a ymresymmodd yn y synagog bob Sabbath, ac a gynghorodd yr luddewon, a'r Groegiaid. 5 A phan ddaeth •= Silas a Thimothëus o Macedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr yspryd, ac efe a dystiolaethodd i'r luddewon, mai Iesu oedd Crist. 6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrth- ynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi : o hyn allan mi a âf at y Cenhedloedd, {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1cpab9xbw2kpn38108z03w70kixuk2e Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1053 104 5060 172415 9221 2026-11-11T19:43:14Z Tylopous 3717 penodau 172415 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>18:7 Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a’i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r synagog. 18:8 A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a’i holl dŷ: a llawer o’r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd. 18:9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw: 18:10 Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oher¬wydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon. 18:11 Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt. 18:12 A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a’i dygasant ef i’r frawdle, 18:13 Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf. 18:14 Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd-ddygaswn â chwi: 18:15 Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn. 18:16 Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle. 18:17 A’r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a’i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny. 18:18 Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned. 18:19 Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a’u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i’r synagog, ac a ymresymodd â’r Iddewon. 18:20 A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe: 18:21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus. 18:22 Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia. 18:23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion. 18:24 Eithr rhyw Iddew, a’i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus. 18:25 Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Ar¬glwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig. 18:26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach. 18:27 A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras; 18:28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|6 ''Rhoddi yr Yspryd Glân trwy ddwylaw Paul.'' 9 ''Yr Iuddewon yn cablu ei athrawiaeth ef, yr hon a gadarnhêir trwy wyrthiau.'' 13 ''Y consurwyr Iuddewaidd'' 16 ''yn cael eu curo gan y cythraul.'' 19 ''Llosgi y llyfrau consurio.'' 24 ''Demetrius, o chwant elw, yn codi terfysg mawr yn erbyn Paul:'' 35 ''ac ysgolhaig y ddinas yn llonyddu y derfysg.''}} {{angor|19:1}} {{uc|A digwyddodd}}, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddis¬gyblion, 19:2 Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. 19:3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd<noinclude><references/></noinclude> 91ay4y75ifrksr15378b11um0h1z6z6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1055 104 5062 172416 9223 2026-11-11T19:46:49Z Tylopous 3717 penodau 172416 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>19:29 A llunwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Face¬donia, cydymdeithion Paul. 19:30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 19:31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 19:32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 19:33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 19:34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effes¬iaid. 19:35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd. Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 19:36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 19:37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 19:38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 19:39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny 19:40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 19:41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd ygynulleidfa ymaith. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Paul yn myned i Macedonia;'' 7 ''yn gwasanaethu swpper yr Arglwydd, ac yn pregethu.'' 9 ''Eutychus, wedi cwympo i lawr yn farw, yn cael ei godi i fynu yn fyw.'' 17 ''Paul, ym Miletus, yn galw yr henuriaid ynghyd; ac yn mynegi iddynt beth a ddigwyddai iddo:'' 28 ''yn gorchymyn praidd Duw iddynt:'' 29 ''yn eu rhybuddio hwynt am y gau-athrawon:'' 36 ''yn gweddïo gyd â hwynt, ac yn myned ymaith.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac ar}} ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 20:2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 20:3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 20:4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus, a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. 20:5 Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 20:6 A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 20:7 Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 20:8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 20:9 A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 20:10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrth¬iodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 20:11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 20:12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr. 20:13 Ond nyni a aethom o’r blaen<noinclude><references/></noinclude> 5yqknuwlcqmgxw5udvmddfv7muncw54 172417 172416 2026-11-11T19:47:14Z Tylopous 3717 172417 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>19:29 A llunwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Face¬donia, cydymdeithion Paul. 19:30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 19:31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 19:32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 19:33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 19:34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effes¬iaid. 19:35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd. Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 19:36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 19:37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 19:38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 19:39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny 19:40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 19:41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd ygynulleidfa ymaith. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Paul yn myned i Macedonia;'' 7 ''yn gwasanaethu swpper yr Arglwydd, ac yn pregethu.'' 9 ''Eutychus, wedi cwympo i lawr yn farw, yn cael ei godi i fynu yn fyw.'' 17 ''Paul, ym Miletus, yn galw yr henuriaid ynghyd; ac yn mynegi iddynt beth a ddigwyddai iddo:'' 28 ''yn gorchymyn praidd Duw iddynt:'' 29 ''yn eu rhybuddio hwynt am y gau-athrawon:'' 36 ''yn gweddïo gyd â hwynt, ac yn myned ymaith.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac}} ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 20:2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 20:3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 20:4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus, a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. 20:5 Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 20:6 A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 20:7 Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 20:8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 20:9 A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 20:10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrth¬iodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 20:11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 20:12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr. 20:13 Ond nyni a aethom o’r blaen<noinclude><references/></noinclude> nzagt7u3u2i6ryayfk3jet1ak4dbmmr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1056 104 5063 172418 9224 2026-11-11T19:49:39Z Tylopous 3717 penodau 172418 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.. 20:14 A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 20:15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 20:16 Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn. 20:17 Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys. 20:18 A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; 20:19 Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: 20:20 Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o d dŷ i dŷ; 20:21 Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 20:22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: 20:23 Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gaa ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. 20:24 Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiol¬aethu efengyl gras Duw. 20:25 Ac yr awron, wel mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teymas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. 20:26 Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: 20:27 Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw. 20:28 Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe a’i briod waed. 20:29 Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. 20:30 Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gwyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl. 20:31 Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. 20:32 Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 20:33 Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais:; 20:34 Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyda mi. 20:35 Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn. 20:36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll. 20:37 Ac wylo yn dost a wnaeth pawb:.a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a’i cusanasant ef; 20:38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Paul yn gwrthod ei gynghori i beidio â myned i Jerusalem.'' 9 ''Merched Phylip yn brophwydesau.'' 15 ''Paul yn dyfod i Jerusalem,'' 27 ''lle y daliwyd ef, ac y bu mewn mawr bergyl:'' 31 ''a’r pen-capten yn ei achub ef, ac yn rhoi cennad iddo o lefaru wrth y bobl.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A digwyddodd}}, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. 21:2 A phan gawsom long yn hwylio<noinclude><references/></noinclude> rf5ku4zw873e3s5vezqkuj74f95xz16 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1058 104 5065 172419 9226 2026-11-11T19:53:10Z Tylopous 3717 penodau 172419 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>21:28 Gan lefain. Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 21:29 Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 21:30 A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 21:31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 21:32 Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 21:33 Yna y daeth y pen-capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef a dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 21:34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efc a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 21:35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 21:36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. 21:37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen-capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 21:38 Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 21:39 A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. 21:40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd, {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Paul yn mynegi yn helaeth y modd y troisid ef i’r ffydd,'' 17 ''ac y galwesid ef i fod yn apostol.'' 22 ''Y bobl, wrth glywed crybwyll am y Cenhedloedd, yn llefain yn ei erbyn ef:'' 24 ''yntau yn debyg i gael ei fflangellu;'' 25 ''ac etto yn dïangc, trwy ymhonni o ddinasfraint Rhufain.''}} {{angor|22:1}} {{uc|''Ha''}} wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. 22:2 (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) 22:3 Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. 22:4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. 22:5 Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerw¬salem, i’w cosbi. 22:6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesau at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. 22:7 A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? 22:8 A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 22:9 Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 22:10 Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 22:11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a’r rhai oedd gyda mi yn<noinclude><references/></noinclude> 3as3hwi688zlz68b5k0qxtmefc3xngi Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1059 104 5066 172420 9227 2026-11-11T19:55:34Z Tylopous 3717 penodau 172420 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 22:12 Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddew¬on oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 22:13 A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 22:14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 22:15 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 22:16 Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Ar¬glwydd. 22:17 A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; 22:18 A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. 22:19 A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: 22:20 A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. 22:21 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a’th anfonaf ymhell at.y Cenhedloedd. 22:22 A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw. 22:23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, 22:24 Y pen-capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly. 22:25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd? 22:26 A phan glybu’r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i’r pen-capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn. 22:27 A’r pen-capten a ddaeth, ac a ddy¬wedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufein¬iad wyt ti? Ac efe a ddywedodd. Ie. 22:28 A’r pen-capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol. 22:29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a’r pen-capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef. 22:30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau, ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a’i gosododd ger eu bron hwy. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Paul yn atteb drosto ei hun.'' 2 ''Ananïas yn gorchymyn ei daro ef.'' 7 ''Ymryson ym mysg ei gyhuddwyr ef.'' 11 ''Duw yn ei gysuro ef.'' 14 ''Yr Iuddewon yn cynllwyn iddo;'' 20 ''a dangos hynny i’r pen-capten:'' 27 ''yntau yn ei anfon ef at Ffelix y rhaglaw.''}} {{angor|23:1}} {{uc|A Phaul}}, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd. Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw. 23:2 A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau. 23:3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a’th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i? 23:4 A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw? 23:5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl. 23:6 A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r llall o’r Phariseaid, efe a lefodd yn y cynghor,<noinclude><references/></noinclude> 1mn2e01xctb0j8591mi3u6a9ixlyqir Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1061 104 5068 172421 9229 2026-11-11T19:58:02Z Tylopous 3717 penodau 172421 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>chmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 23:32 A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell: 23:33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 23:34 Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 23:35 Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod. {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Paul, wedi ei gyhuddo gan Tertùlus yr areithiwr,'' 10 ''yn atteb dros ei fuchedd a’i athrawiaeth:'' 24 ''yn pregethu Crist i’r rhaglaw a’i wraig.'' 26 ''Y rhaglaw yn gobeithio cael gwobr, eithr yn ofer:'' 27 ''ac o’r diwedd, wrth fyned allan o’i swydd, yn gadael Paul y’ngharchar.''}} {{angor|24:1}} {{uc|Ac}} ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a’r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul. 24:2 Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwius a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddy¬wedyd, 24:3 Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch. 24:4 Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o’th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau. 24:5 Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben nr sect y Nasareniaid: 24:6 Yr hwn a amcanodd halogi’r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni. 24:7 Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni, 24:8 Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno. 24:9 A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly. 24:10 A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun. 24:11 Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem. 24:12 Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas: 24:13 Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid. 24:14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi: 24:15 A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion. 24:16 Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi-rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol. 24:17 Ac ar âl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau. 24:18 Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg. 24:19 Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn. 24:20 Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor; 24:21 Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych. 24:22 Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen-capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl. 24:23 Ac efe a archodd i’r canwriad<noinclude><references/></noinclude> pmgegva92b9tj2kfopmzwqzbw0fkxao Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1062 104 5069 172422 9233 2026-11-11T20:00:29Z Tylopous 3717 penodau 172422 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato. 24:24 Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda’i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist. 24:25 Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat. 24:26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef. 24:27 Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym. {{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}} {{bach|2 ''Yr Iuddewon yn achwyn ar Paul ger bron Ffestus:'' 8 ''ac yntau yn atteb drosto ei hun,'' 11 ''ac yn appelio at Cesar:'' 14 ''ac wedi hynny Ffestus yn hysbysu ei achos ef i’r brenhin Agrippa,'' 23 ''a’i ddwyn ef ger bron.'' 25 ''Ffestus yn ei ddiheuro ef, na wnaethai efe ddim a haeddai farwolaeth.''}} {{angor|25:1}} {{uc|Ffestus}} gan hynny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea. 25:2 Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef, 25:3 Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur yn llwyn i’w ladd ef ar y ffordd. 25:4 A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder. 25:5 Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef. 25:6 A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato. 25:7 Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o’i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi. 25:8 Ac yntau yn ei amddiflyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar. 25:9 Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i’r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem, i’th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn? 25:10 A Phaul a ddywedodd, O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu: ni wneuthum i ddim cam â’r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda. 25:11 Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o’r pethau y mae’r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar. 25:12 Yna Ffestus, wedi ymddiddan â’r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Gesar? at Gesar y cei di fyned. 25:13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus. 25:14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar: 25:15 Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Jerwsalem, yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef. 25:16 I’r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha, nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn. 25:17 Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron. 25:18 Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied: 25:19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymolynion ynghylch eu coel-grefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw. 25:20 A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe<noinclude><references/></noinclude> piknubyd69m1z14o2t2pemxmaqh2mq2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1063 104 5070 172423 9234 2026-11-11T20:03:00Z Tylopous 3717 penodau 172423 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fyned i Jerwsalem, a’i farnu yno am y pethau hyn. 25:21 Eithr gwedi i Paul apelio i’w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar. 25:22 Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory. 25:23 Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i’r orsedd, a’r pen-capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron. 25:24 A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agripa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi, yn Jerwsalem ac yma, gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy. 25:25 Eithr pan ddeallais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau, ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef. 25:26 Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i’w ysgrifennu at fy arglwydd. Oherwydd paham mi a’i dygais ef ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dŷ fron di, O frenin Agripa; fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i’w ysgrifennu. 25:27 Canys allan o reswm y gwelaf fi an¬fon carcharor, heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef. {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}} {{bach|1 ''Paul, y’ngŵydd Agrippa, yn dangos ei fuchedd o’i febyd;'' 12 ''ac mor rhyfeddol y troisid ac y galwesid ef i fod yn apostol.'' 24 ''Ffestus yn taeru ei fod ef wedi ynfydu: yntau ar hynny yn atteb yn llariaidd.'' 28 ''Agrippa ym mron myned yn Gristion.'' 31 ''Yr holl gynnulleidfa yn ei farnu ef yn ddïeuog.''}} {{angor|26:1}} {{uc|Ac}} Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun. 26:2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon: 26:3 Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar. 26:4 Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a wŷr yr Iddewon oll; 26:5 Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y Sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead. 26:6 Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu: 26:7 I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir amaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon. 26:8 Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw? 26:9 Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. 26:10 Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerw¬salem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn. 26:11 Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd. 26:12 Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid, 26:13 Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi. 26:14 Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. 26:15 Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 26:16 Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt; {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rhy3wca1jzxmv98jh87bdbcukx43cj7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1064 104 5071 172424 9235 2026-11-11T20:05:29Z Tylopous 3717 penodau 172424 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>26:17 Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron, 26:18 I agoryd eu llygaid, ac i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi. 26:19 Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol: 26:20 Eithr mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i’r Cenhed¬loedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch. 26:21 O achos y pethau hyn yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i a’u dwylo eu hun. 26:22 Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben; 26:23 Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i’r bobl, ac i’r Cenhedloedd. 26:24 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu, llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd. 26:25 Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd. 26:26 Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. 26:27 O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu. 26:28 Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion. 26:29 A Phaul a ddywedodd. Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn. 26:30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt: 26:31 Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu. hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau. 26:32 Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar. {{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod XXVII}}.}} {{bach|1 ''Paul, wrth forio tu a Rhufain,'' 10 ''yn rhag-ddywedyd perygl y daith;'' 11 ''ac heb gael ei goelio:'' 14 ''hwythau yn cael eu taflu draw ac yma gan y dymmestl:'' 41 ''y llong yn torri arnynt;'' 22, 34, 44 ''ac er hynny maent yn dyfod i gyd i dir yn ddïangol.''}} {{angor|27:1}} {{uc|A phan}} gytunwyd forio ohonom ym¬aith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus. 27:2 Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. 27:3 A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. 27:4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. 27:5 Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia. 27:6 Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital, a’n gosododd ni ynddi. 27:7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai’r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone. 27:8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasca yn agos iddo. 27:9 Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oher¬wydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd, 27:10 Gan ddywedyd wrthynt. Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr<noinclude><references/></noinclude> rcnpgy3wrd9hmd9nlclnljtepkhd203 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1066 104 5073 172425 9237 2026-11-11T20:08:27Z Tylopous 3717 penodau 172425 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr. 27:39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glân iddi; i’r hon y cyngorasant, os gallent, wthio’r llong iddi. 27:40 Ac wedi iddynt godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan. 27:41 Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau. 27:42 A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith. 27:43 Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir: 27:44 Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol. {{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}} {{bach|1 ''Paul, wedi torri y llong arno, yn cael ei dderbyn yn rhywiogaidd gan y barbariaid.'' 5 ''Y wiber ar ei law ef heb wneuthur iddo niwed:'' 8 ''ac yntau yn iachâu llawer o glefydau yn yr ynys.'' 11 ''Hwynt-hwy yn myned ymaith tu a Rhufain.'' 17 ''Paul yn mynegi i’r Iuddewon achos ei ddyfodiad.'' 24 ''Wedi iddo bregethu, rhai yn credu, a rhai heb gredu:'' 30 ''ac yntau er hynny yn pregethu yno ddwy flynedd.''}} {{angor|28:1}} {{uc|Ac}} wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. 28:2 A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel. 28:3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. 28:4 A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw. 28:5 Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac ni oddefodd ddim niwed. 28:6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe. 28:7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig. 28:8 A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd. 28:9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd a heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd: 28:10 Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol. 28:11 Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux. 28:12 Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau. 28:13 Ac oddi yno, wedi myned oddi: amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli: 28:14 lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain. 28:15 Ac oddi yno, pan glybu’r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i’n cyfarfod ni hyd Appii-fforum, a’r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur. 28:16 Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben-capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef. 28:17 A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd tri garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeinwyr. 28:18 Y rhai, wedi darfod fy holi, a<noinclude><references/></noinclude> n68gcf1nkg1dvmpvwemfqjcowedvgp9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1067 104 5074 172426 171320 2026-11-11T20:10:31Z Tylopous 3717 penodau 172426 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Actau"/>fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof. 28:19 Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl. 28:20 Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i a’r gadwyn hon. 28:21 A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti, 28:22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied; oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn. 28:23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr. 28:24 A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant. 28:25 Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni, 28:26 Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch: 28:27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt. 28:28 Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant. 28:29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith. 28:30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato, 28:31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd. <section end="Actau"/> <section begin="Rhufeiniaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at y}}<br> {{mawr|{{uc|Rhufeiniaid.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Paul yn dangos ei alwedigaeth i’r Rhufeiniaid,'' 9 ''a’i chwant i ddyfod attynt.'' 16 ''Beth yw ei efengyl ef, a’r cyfiawnder y mae hi yn ei ddangos.'' 18 ''Bod Duw yn ddigllawn wrth bob math ar bechod.'' 21 ''Pa beth oedd pechodau y Cenhedloedd.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Paul}}, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw, 1:2 (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) 1:3 Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; 1:4 Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: 1:5 Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: 1:6 Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: 1:7 At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 1:8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. 1:9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, 1:10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. 1:11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu <section end="Rhufeiniaid"/><noinclude><references/></noinclude> 3zu2q0vfiiwdhc1daehiz9cwgtjzxxj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1068 104 5075 172428 9241 2026-11-12T06:06:38Z Tylopous 3717 penodau 172428 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: 1:12 A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 1:13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. 1:14 Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd, i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. 1:15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. 1:16 Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. 1:17 Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 1:18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 1:19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 1:20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 1:21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 1:22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 1:23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 1:24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 1:25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creuwdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. 1:26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian: 1:27 Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. 1:28 Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: 1:29 Wedi eu llenwi a phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd-dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; 1:30 Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, 1:31 Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugaroglon: 1:32 Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Na all y rhai sydd yn pechu, er eu bod yn condemnio pechod mewn eraill, mo’u hesgusodi eu hunain;'' 6 ''ac mai anhaws o lawer iddynt ddïangc rhag barn Duw,'' 9 ''pa un bynnag fônt ai Iuddewon ai Cenhedloedd.'' 14 ''Nas gall y Cenhedloedd ddïangc,'' 17 ''na’r Iuddewon chwaith;'' 25 ''ac na wna eu henwaediad lesâd iddynt, oni chadwant y ddeddf.''}} {{angor|2:1}} {{uc|O herwydd}} paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pelhuii. 2:2 Eithr ni a wyddom fod barn<noinclude><references/></noinclude> a1pzw48n6uy1rusg7zzysp001qf0tit Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1069 104 5076 172429 9242 2026-11-12T06:09:06Z Tylopous 3717 penodau 172429 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 2:3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, â thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 2:4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 2:5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 2:6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 2:7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 2:8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 2:9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyn¬taf, a’r Groegwr hefyd: 2:10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthus daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groeg¬wr hefyd. 2:11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 2:12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi-ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi-ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 2:13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 2:14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf gan¬ddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 2:15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 2:16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist. 2:17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 2:18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 2:19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 2:20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 2:21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a, ladreti di? 2:22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 2:23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 2:24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 2:25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 2:26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 2:27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 2:28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 2:29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Rhagorfaint yr Iuddewon:'' 3 ''yr hon ni chollasant:'' 9 ''er hynny y mae y ddeddf yn eu barnu hwythau hefyd yn euog o bechod:'' 20 ''gan hynny ni chyfiawnhêir un cnawd trwy y ddeddf:'' 28 ''eithr pawb, heb wahaniaeth, trwy ffydd yn unig:'' 31 ''ac etto ni ddiddymwyd y ddeddf.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Pa}} ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaed¬iad? 3:2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3:3 Oblegid beth os anghredodd<noinclude><references/></noinclude> bkg5gih2kcccp8j81kls7p13l918kc1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1070 104 5077 172430 9243 2026-11-12T06:11:06Z Tylopous 3717 penodau 172430 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 3:4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 3:5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 3:6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 3:7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 3:8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn. 3:9 Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; 3:10 Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: 3:11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. 3:12 Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. 3:13 Bedd agored yw eu ceg; a’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: 3:14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: 3:15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed: 3:16 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: 3:17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant: 3:18 Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. 3:19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw. 3:20 Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. 3:21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyf¬iawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; 3:22 Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: 3:23 Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; 3:24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: 3:25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; 3:26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. 3:27 Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. 3:28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. 3:29 Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd: 3:30 Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd. 3:31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi-rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Ffydd Abraham a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder,'' 10 ''cyn enwaedu arno.'' 13 ''Trwy ffydd yn unig y derbyniodd efe a’i had yr addewid.'' 16 ''Abraham yw tad pawb a’r sydd yn credu.'' 24 ''Ein ffydd ninnau hefyd a gyfrifir i ni yn gyfiawnder.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Pa}} beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gad, yn ôl y cnawd? 4:2 Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. 4:3 Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4:4 Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. 4:5 Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn<noinclude><references/></noinclude> svqzaqe6ulpaoclm93gxgr5z2hwwl0j Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1071 104 5078 172431 9244 2026-11-12T06:14:13Z Tylopous 3717 penodau 172431 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. 4:6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithred¬oedd, gan ddywedyd, 4:7 Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: 4:8 Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. 4:9 A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 4:10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 4:11 Ac efe a gymerth arwydd yr en¬waediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 4:12 Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad. 4:13 Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. 4:14 Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi-rym. 4:15 Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 4:16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll, 4:17 (Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: 4:18 Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di. 4:19 Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara. 4:20 Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: 4:21 Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. 4:22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4:23 Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; 4:24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: 4:25 Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Wedi ein cyfiawnhâu trwy ffydd, y mae i ni dangnefedd rhyngom a Duw,'' 2 ''a llawenydd yn ein gobaith:'' 8 ''gan ein cymmodi trwy ei waed ef, a nyni yn elynion iddo,'' 10 ''y cawn yn hytrach fod yn gadwedig wedi ein cymmodi.'' 12 ''Megis y daeth pechod a marwolaeth trwy Adda,'' 17 ''felly yn hytrach y daw cyfiawnder a bywyd trwy Iesu Grist.'' 20 ''Lle yr amlhaodd pechod, y rhagor-amlhaodd gras.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Am}} hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: 5:2 Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. 5:3 Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; 5:4 A dioddefgarwch, brofiad, a phrofiad, obaith: 5:5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. 5:6 Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. 5:7 Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. 5:8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom, oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. 5:9 Mwy ynteu o lawer, a nyni yn<noinclude><references/></noinclude> 9pik53bkxvq9d51tuz0x5godkj2xq8h Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1072 104 5263 172432 9693 2026-11-12T06:16:24Z Tylopous 3717 penodau 172432 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 5:10 Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd a Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. 5:11 Ac nid hynny yn unig, eithr gor¬foleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod. 5:12 Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: 5:13 Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. 5:14 Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. 5:15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd. 5:16 Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. 5:17 Canys os trwy gamwedd un y teyrn¬asodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. 5:18 Felly gan hynny, megis trwy gam¬wedd un y daeth barn ar bob dyn i gon¬demniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 5:19 Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. 5:20 Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhai’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras: 5:21 Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Na ddylem ni fyw mewn pechod,'' 2 ''a ninnau wedi marw iddo;'' 3 ''megis y mae ein bedydd ni yn dangos.'' 12 ''Na theyrnased pechod mwyach,'' 18 ''gan ddarfod i ni ymrôi i wasanaeth cyfiawnder;'' 23 ''ac o herwydd mai cyflog pechod yw marwolaeth.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Beth}} wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? 6:2 Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? 6:3 Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? 6:4 Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd. 6:5 Canys os gwnaed ni yn gydblanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: 6:6 Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. 6:7 Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. 6:8 Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: 6:9 Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwol¬aeth arno mwyach. 6:10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. 6:11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 6:12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 6:13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 6:14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 6:15 Beth wrth hynny? a bechwn ni,<noinclude><references/></noinclude> 75wac7pusbizg2069f2cjna37nkszrc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1073 104 5264 172433 9694 2026-11-12T06:18:35Z Tylopous 3717 penodau 172433 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>oherwydd nad ydym dan y ddedff, eithr dan ras? Na ato Duw. 6:16 Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder? 6:17 Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. 6:18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 6:19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelod¬au yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. 6:20 Canys pan oeddech yn weision pech¬od, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawn¬der. 6:21 Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. 6:22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weisiod i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 6:23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd trag¬wyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Nad oes un ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn, ond tra fyddo byw:'' 4 ''ond ein bod ni wedi meirw i’r ddeddf.'' 7 ''Etto nad yw y ddeddf bechod;'' 12 ''eithr sanctaidd, a chyfiawn, a da;'' 16 ''fel yr ydwyf fi yn cydnabod, ac yn dddrwg gennyf nas gallaf ei chadw.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Oni}} wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? 7:2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. 7:3 Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. 7:4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. 7:5 Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. 7:6 Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd-deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren. 7:7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta. 7:8 Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. 7:9 Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchy¬myn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw, 7:10 A’r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth. 7:11 Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd i; a thrwy hwnnw a’m lladdodd. 7:12 Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. 7:13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus. 7:14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 7:15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei<noinclude><references/></noinclude> tidksmcy54pyyhnstqjwt3r391ve515 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1074 104 5265 172434 9695 2026-11-12T06:21:36Z Tylopous 3717 penodau 172434 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 7:16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 7:17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 7:18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 7:19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 7:20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 7:21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 7:22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 7:23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 7:24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 7:25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist fin Arglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Bod y rhai sydd yng Nghrist, ac yn byw yn ol yr Yspryd, yn rhyddion oddi wrth ddamnedigaeth.'' 5, 13 ''Pa niwed sydd yn digwydd oddi wrth y cnawd;'' 6, 14 ''a pha lês oddi wrth yr Yspryd,'' 17 ''ac o fod yn blentyn i Dduw:'' 19 ''yr hwn y mae pob peth yn hiraethu am ei ogoneddus ymwared:'' 29 ''yr hwn a rag-ordeiniwyd gan Dduw.'' 38 ''Na all dim ein gahanu ni oddi wrth ei gariad ef.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Nid}} oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 8:2 Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. 8:3 Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: 8:4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 8:5 Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. 8:6 Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: 8:7 Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. 8:8 A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. 8:9 Eiilir chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ys¬bryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 8:10 Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 8:11 Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. 8:12 Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 8:13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 8:14 Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 8:15 Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 8:16 Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 8:17 Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-eti-<noinclude><references/></noinclude> 7smi6jvgni9xx12qcne2mm0y0jilf5m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1075 104 5266 172435 9696 2026-11-12T06:24:23Z Tylopous 3717 penodau 172435 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>feddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. 8:18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 8:19 Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. 8:20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 8:21 Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. 8:22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 8:23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 8:24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 8:25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 8:26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 8:27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 8:28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 8:29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. 8:30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 8:31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 8:32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 8:33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 8:34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 8:35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 8:36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 8:37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 8:38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 8:39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Paul yn ddrwg ganddo dros yr Iuddewon.'' 7 ''Nad oedd holl had Abraham yn blant yr addewid.'' 18 ''Bod Duw yn trugarhâu wrth y neb y mynno.'' 21 ''Y gall y crochenydd wneuthur â’i bridd y peth a fynno.'' 25 ''Darfod rhag-fynegi galwedigaeth y Cenhedloedd, a gwrthodiad yr Iuddewon.'' 32 ''Yr achos paham y croesawodd cyn lleied o’r Iuddewon gyfiawnder ffydd.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Y gwirionedd}} yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, 9:2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i’m calon. 9:3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> non5188q7vbprfejf3ex9t0qihli67a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1077 104 5268 172436 9698 2026-11-12T06:29:00Z Tylopous 3717 penodau 172436 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{nop}} {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|5 ''Bod yn ysgrythyr lân yn dangos y rhagor sydd rhwng cyfiawnder y gyfraith a’r hwn sydd o ffydd;'' 11 ''ac na chywilyddir neb a gredo, pa un bynnag ai Iuddew ai cenedl-ddyn fyddo;'' 18 ''ac y derbyn y Cenhedloedd y gair, ac y credant.'' 19 ''Nad oedd y pethau hyn anhysbys i’r Iuddewon.''}} {{angor|10:1}} {{uc|O frodyr}}, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth. 10:2 Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. 10:3 Canys hwynt-hwy, heb wybod cyf¬iawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 10:4 Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. 10:5 Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. 10:6 Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) 10:7 Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) 10:8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregeth; 10:9 Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10:10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 10:11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 10:12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Ar¬glwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 10:13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. 10:14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr? 10:15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus! 10:16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? 10:17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. 10:18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. 10:19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. 10:20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. 10:21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Na fwriodd Duw ymaith holl Israel;'' 7 ''ond rhai a ddewiswyd, er darfod caledu y lleill.'' 16 ''Y mae gobaith y troir hwynt.'' 18 ''Na ddylai y Cenhedloedd orfoleddu yn eu herbyn hwy;'' 26 ''oblegid y mae addewid o’u hiachawdwriaeth hwythau.'' 33 ''Bob barnedigaethau Duw yn anchwiliadwy.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Am}} hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. 11:2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn ei adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, 11:3 O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. 11:4 Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. 11:5 Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l3gywfrdlbdqyue1ny7uvrbbiy6x97r Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1079 104 5270 172437 9700 2026-11-12T06:33:24Z Tylopous 3717 penodau 172437 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 11:34 Canys pwy a wybu feddwl yr Ar¬glwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 11:35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 11:36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Y dylai trugareddau Duw ein cynhyrfu ni i ryngu ei fodd ef.'' 3 ''Na ddylai neb feddwl yn rhy dda o hono ei hun;'' 6 ''eithr bod yn ddiwyd yn yr alwedigaeth y gosodwyd ef ynddi.'' 9 ''Cariad, a llawer eraill o rinweddau, a ofynir gennym:'' 19 ''a dïal yn bendifaddeu a warafunir i ni.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Am}} hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanct¬aidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. 12:2 Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. 12:3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. 12:4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: 12:5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. 12:6 A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; 12:7 Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; 12:8 Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. 12:9 Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 12:10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 12:11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12:12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: 12:13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint, ac yn dilyn lletygarwch. 12:14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 12:15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 12:16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 12:17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 12:18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 12:19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 12:20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 12:21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Ymddarostwng, a llawer o bethau eraill, sydd ddyledus i’r llywodraethwyr.'' 8 ''Mai cariad yw cyflawnder y ddeddf.'' 11 ''Bod glythineb, a meddwdod, a gweithredoedd y tywyllwch, yn annhymhoraidd yn amser yr efengyl.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ymddarostynged}} pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. 13:2 Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 13:3 Canys tywysogion nid ydynt ofn<noinclude><references/></noinclude> q2mh9qs91k6fh74qou16x327eranu20 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1080 104 5271 172438 9701 2026-11-12T06:35:49Z Tylopous 3717 penodau 172438 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, â thi a gei glod ganddo: 13:4 Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 13:5 Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. 13:6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. 13:7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus. 13:8 Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. 13:9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. 13:10 Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad. 13:11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 13:12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13:13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 13:14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Ar¬glwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|3 ''Na ddylai dynion na dirmygu na chondemnio eu gilydd, am bethau nid ydynt na da na drwg o honynt eu hunain;'' 13 ''eithr gochelyd rhoddi achos tramgwydd ynddynt:'' 15 ''oblegid hynny y mae yr apostol yn ei brofi ei fod yn anghyfreithlawn, trwy lawer o resymmau.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yr}} hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau. 14:2 Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. 14:3 Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef. 14:4 Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef. 14:5 Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. 14:6 Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. 14:7 Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. 14:8 Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. 14:9 Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd. 14:10 Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. 14:11 Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. 14:12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> crniy25tkiuz829fli97r0rd9nk52fw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1081 104 5272 172439 9702 2026-11-12T06:38:46Z Tylopous 3717 penodau 172439 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:13 Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr. 14:14 Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. 14:15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. 14:16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi. 14:17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. 14:18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion. 14:19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. 14:20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. 14:21 Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’a hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. 14:22 A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. 14:23 Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Rhaid i’r cryf gyd-ddwyn â’r gwan.'' 2 ''Na ddylem ni ryngu ein bodd ein hunain,'' 3 ''gan na wnaeth Crist hynny;'' 7 ''ond derbyn bob un ein gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i gyd,'' 8 ''Iuddewon,'' 9 ''a Chenhedloedd.'' 15 ''Paul yn esgusodi ei ysgrifen,'' 28 ''ac yn addaw ymweled â hwynt,'' 30 ''ac yn deisyf eu gweddïau.''}} {{angor|15:1}} {{uc|A nyni}} y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 15:2 Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. 15:3 Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. 15:4 Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. 15:5 A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: 15:6 Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. 15:7 Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. 15:8 Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: 15:9 Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig. Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 15:10 A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedioedd, gyda’i bobl ef. 15:11 A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. 15:12 A thrachefn y mae Eseias yn dy¬wedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 15:13 A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. 15:14 Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15:15 Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 15:16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhed¬loedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> lamzud6grjcnehoqzmar1ct6cn1ev1m Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1082 104 5422 172440 9950 2026-11-12T06:40:41Z Tylopous 3717 penodau 172440 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>15:17 Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 15:18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 15:19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 15:20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall: 15:21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt-hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant. 15:22 Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi. 15:23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi; 15:24 Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch. 15:25 Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint. 15:26 Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem. 15:27 Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 15:28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen. 15:29 Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist. 15:30 Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw; 15:31 Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint; 15:32 Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi. 15:33 A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|3 ''Paul yn ewyllysio i’r brodyr annerch llawer;'' 17 ''ac yn eu cynghori hwy i ochelyd y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau:'' 21 ''ac ar ol amryw anherchion, yn diweddu gyd â moliant a dïolch i Dduw.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Yr}} wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea; 16:2 Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint; a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. 16:3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yng Nghrist Iesu; 16:4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. 16:5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. 16:6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. 16:7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i.; 16:8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 16:9 Anerchwch Urbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 16:10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. 16:11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 16:12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 16:13 Anerchwch Rwffus etholedig<noinclude><references/></noinclude> l6ctzlrhbeaqqjkhg0ro8avq9u8taau Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1083 104 5423 172441 171321 2026-11-12T06:43:45Z Tylopous 3717 penodau 172441 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Rhufeiniaid"/>yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 16:14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hennas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 16:15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16:16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch. 16:17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt. 16:18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 16:19 Canys eich ufudd-dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 16:20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. 16:21 Y mae Timotheus fy nghydweithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngfaeraint, yn eich annerch. 16:22 Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd. 16:23 Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus. 16:24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen. 16:25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd; 16:26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd:) 16:27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen. At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea. <section end="Rhufeiniaid"/> <section begin="1 Corinthiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf Paul yr apostol at y}}<br> {{mawr|{{uc|Corinthiaid.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|''Ar ol iddo gyfarch iddynt, a dïolch drostynt,'' 10 ''y mae efe yn eu hannog i undeb;'' 12 ''ac yn beio ar eu hanghyttundeb hwy.'' 18 ''Bod Duw yn difetha doethineb y doethion,'' 21 ''trwy ffolineb pregethu;'' 26 ''ac nad yw efe yn galw y doethion, na’r galluog, na’r boneddigion, ond'' 27, 28 ''y ffol, a’r gwan, a’r distadl.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Paul}}, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, 1:2 At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau: 1:3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Ar¬glwydd Iesu Grist. 1:4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 1:5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 1:6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: 1:7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Har¬glwydd Iesu Grist: 1:8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 1:9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. 1:10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un fam. {{nop}}<section end="1 Corinthiaid"/><noinclude><references/></noinclude> 05kus8696raaofm0tyjeajnty7rifno