Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.48.0-wmf.4
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/337
104
3590
172454
172134
2026-11-13T05:44:05Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
172454
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>calon Amnon gan win, a ''phan'' ddywedwyf wrthych, Tarêwch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchymynais i chwi? ymwrolwch, a byddwch ''feibion'' glewion.
{{angor|13:29|29}} A llangciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchymynasai Absalom. A holl feibion y brenhin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoisant.
{{angor|13:30|30}} ¶ A thra ''yr oeddynt'' hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenhin, ac ni adawyd un o honynt.
{{angor|13:31|31}} Yna y brenhin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll ger llaw, a’u gwisgoedd yn rhwygedig.
{{angor|13:32|32}} A Jonadab mab Simeah, brawd Dafydd, a attebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl langciau, ''sef'' meibion y brenhin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom ''hynny'', er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.
{{angor|13:33|33}} Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenhin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenhin: canys Amnon yn unig a fu farw.
{{angor|13:34|34}} Ond Absalom a ffodd. A’r llangc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ol ef, ar hyd ystlys y mynydd.
{{angor|13:35|35}} A Jonadab a ddywedodd wrth y brenhin, Wele feibion y brenhin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae.
{{angor|13:36|36}} A phan orphenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenhin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenhin hefyd a’i holl weision a wylasant âg wylofain mawr iawn.
{{angor|13:37|37}} ¶ Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenhin Gesur: a ''Dafydd'' a alarodd am ei fab bob dydd.
{{angor|13:38|38}} Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd.
{{angor|13:39|39}} Ac ''enaid'' Dafydd y brenhin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{bach|1 ''Joab yn gosod gwraig weddw o Tecoah, trwy ddammeg, i droi calon y brenhin i gyrchu ei fab adref; ac yn ei ddwyn ef i Jerusalem.'' 25 ''Tegwch, gwallt, a phlant Absalom.'' 28 ''Joab, ym mhen dwy flynedd, yn dwyn Absalom i ŵydd y brenhin.''}}
{{angor|14:1}} {{uc|Yna}} Joab mab Serfiah a wybu ''fod'' calon y brenhin tu ag at Absalom.
{{angor|14:2|2}} A Joab a anfonodd i Tecoah, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymmer arnat, attolwg, alaru, a gwisg yn awr alar-wisg, ac nac ymira âg olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:
{{angor|14:3|3}} A thyred at y brenhin, a llefara wrtho yn ol yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.
{{angor|14:4|4}} ¶ A’r wraig o Tecoah, pan ddywedodd wrth y brenhin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd, ac a ddywedodd, Cynnorthwya, O frenhin.
{{angor|14:5|5}} A dywedodd y brenhin wrthi hi, Beth ''a ddarfu'' i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ''ydwyf'' fi, a’m gwr a fu farw.
{{angor|14:6|6}} Ac i’th law-forwyn ''yr oedd'' dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid ''oedd'' athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a darawodd y llall, ac a’i lladdodd ef.
{{angor|14:7|7}} Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy law-forwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a darawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gwr ''nac'' enw nac eppil ar wyneb y ddaear.
{{angor|14:8|8}} A’r brenhin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di.
{{angor|14:9|9}} A’r wraig o Tecoah a ddywedodd wrth y brenhin, ''Bydded'' y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenhin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenhin a’i orsedd-faingc ef yn ddïeuog.
{{angor|14:10|10}} A’r brenin a ddywedodd, Dwg attaf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.
{{angor|14:11|11}} Yna hi a ddywedodd, Cofied, attolwg, y brenhin dy {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, rhag amlhâu dïalwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha o honynt hwy fy mab i. Ac efe a<noinclude><references/></noinclude>
gsejgzkvk73a2eb94qtxyepughiwf5m
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/432
104
3687
172448
6915
2026-11-12T17:51:11Z
Tylopous
3717
angorau
172448
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl ar dy eu tadau.
{{angor|9:10|10}} Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Je-hoiarib, a Jachin,
{{angor|9:11|11}} Asareia hefyd mab Hiloeia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog t DDUW;
{{angor|9:12|12}} Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Maloeia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
{{angor|9:13|13}} A’u brodyr, pennaf ar dy eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW.
{{angor|9:14|14}} Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,
{{angor|9:15|15}} Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
{{angor|9:16|16}} Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.
{{angor|9:17|17}} Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf;
{{angor|9:18|18}} A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Left oedd borthorion.
{{angor|9:19|19}} Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
{{angor|9:20|20}} Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r AR¬GLWYDD ydoedd gydag ef.
{{angor|9:21|21}} Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
{{angor|9:22|22}} Hwynt oll y rhai a etholasid yn, I borthorion with y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
{{angor|9:23|23}} Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
{{angor|9:24|24}} Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.
{{angor|9:25|25}} A’u brodyr, y rhai oedd yn eu tref¬ydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.
{{angor|9:26|26}} Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW.
{{angor|9:27|27}} Ac o amgylch tŷ DDUW y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruch-wyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.
{{angor|9:28|28}} Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
{{angor|9:29|29}} A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd.
{{angor|9:30|30}} Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd.
{{angor|9:31|31}} A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.
{{angor|9:32|32}} Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth.
{{angor|9:33|33}} A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.
{{angor|9:34|34}} Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
{{angor|9:35|35}} Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:
{{angor|9:36|36}} A’i fab cyntaf-anedig efoedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,
{{angor|9:37|37}} A Gedor, ac Ahio, a Sechareia a Micloth.
{{angor|9:38|38}} A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.
{{angor|9:39|39}} Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
{{angor|9:40|40}} A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribaal a genhedlodd Micha.
{{angor|9:41|41}} A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
{{angor|9:42|42}} Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac<noinclude><references/></noinclude>
blb7jd5g9qvmdlp3ouoy0blm8qmupd8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/433
104
3688
172449
171469
2026-11-12T17:53:02Z
Tylopous
3717
angorau
172449
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Azmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:
{{angor|9:43|43}} A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
{{angor|9:44|44}} Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Cwymp Saul, a’i farwolaeth.'' 8 ''Gorfoledd y Philistiaid o’r achos hwnnw.'' 11 ''Caredigrwydd Jabes Gilead tu ag at Saul a’i feibion.'' 13 ''Pechod Saul, am yr hwn yr aeth y frenhiniaeth oddi wrtho ef i Dafydd.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|A’r}} Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
{{angor|10:2|2}} A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.
{{angor|10:3|3}} A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen Bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.
{{angor|10:4|4}} Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwan fi ag ef, rhag dyfod y rhai dien-waededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnai, cany ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.
{{angor|10:5|5}} A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.
{{angor|10:6|6}} Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.
{{angor|10:7|7}} A phan welodd holl wŷr Israel, y rhaixxx edd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant a’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philist¬iaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.
{{angor|10:8|8}} A thrannoeth, pan ddaeth y Philist¬iaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym toynydd Gilboa.
{{angor|10:9|9}} Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ittdangos i’w delwau, ac i’r bobl.
{{angor|10:10|10}} A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ Su duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
{{angor|10:11|11}} A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,
{{angor|10:12|12}} Pob gŵr nerthol a godasant, ac. a jSymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwmod.
{{angor|10:13|13}} Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr AR¬GLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori a dewines, i ymofyn & hi;
{{angor|10:14|14}} Ac heb ymgynghori a’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y ftenhmiaeth i Dafydd mab Jesse.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Enneinio Dafydd yn lle Saul, o gyttundeb cyffredin, yn Hebron.'' 4 ''Ac yntau yn ennill tŵr Sïon oddi ar y Jebusiaid, trwy wrolaeth Joab.'' 10 ''Enwau cedyrn Dafydd.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|Yna}} holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni.
{{angor|11:2|2}} Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i- mewn ac allan: a dywedodd yr AR¬GLWYDD dy DDUW wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.
{{angor|11:3|3}} A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD trwy law Samuel. .
{{angor|11:4|4}} A Dafydd a holl Israel a aeth i y Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yn y Jebusiaid oedd drigolion y tir.
{{angor|11:5|5}} A thrigolion Jebus a ddywedasant ftrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dwr Seion, yr hwn yw ‘dinas Dafydd.
{{angor|11:6|6}} A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgyn-tiodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.
{{angor|11:7|7}} A thrigodd Dafydd yn y twr: oher-ifcydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.
{{angor|11:8|8}} Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fm44km7mn767r0uqpmd2p8fvtgberr6
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/434
104
3689
172450
6917
2026-11-12T17:55:42Z
Tylopous
3717
angorau
172450
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|11:9|9}} A Dafydd a aeth ac a gynyddodd ftvyfwy, ac ARGLWYDD y lluoedd oedd gydag ef.
{{angor|11:10|10}} Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn toedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag 6f yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
{{angor|11:11|11}} A dyma rif y cedyrn oedd gan Da¬fydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhat a taddwyd ar unwaith gsnddo. s
{{angor|11:12|12}} Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn.
{{angor|11:13|13}} Hwn oedd gyda Dafydd yn Pas-dammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o’ Aaen y Philistiaid.
{{angor|11:14|14}} A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr ARGLWYDD hwynt ag ymwared mawr.
{{angor|11:15|15}} A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nynryn Reflaim.
{{angor|11:16|16}} A Dafydd yaa ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem.
{{angor|11:17|17}} A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a,rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethi?hem, yr hwn sydd wrthy .porth? .
{{angor|11:18|18}} A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac .a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD: .
{{angor|11:19|19}} Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw -i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.
{{angor|11:20|20}} Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf .a’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn. erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.
{{angor|11:21|21}} O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.
{{angor|11:22|22}} Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.
{{angor|11:23|23}} Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifft-ddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef a ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef a’i waywffba ei hun.
{{angor|11:24|24}} Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.
{{angor|11:25|25}} Wele, aorhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard. . .; .;. .
{{angor|11:26|26}} A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, EBaanan -slab Dodpj o Beth¬lehem, -,
{{angor|11:27|27}} Sammoth yr Harqdiad, .Heles y Feloniad,, .:
{{angor|11:28|28}} Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,,,; .
{{angor|11:29|29}} Sibbechai yr Husathiad, llai,yr Ahohiad, -;
{{angor|11:30|30}} Maharai y Netoffathiad, Heled mab-Baana y Netoffathiad,,,
{{angor|11:31|31}} Ithai mab Ribai o Gibea ‘.meSaioo. Benjamin, Benaia y Pirathoniad, .
{{angor|11:32|32}} Hurai o:afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,
{{angor|11:33|33}} Asmafeth y Baharumiad, Elianba y Saalboniad, . ‘ .
{{angor|11:34|34}} Meibion Hasem y Gisoniad, Jona¬than mab Sageth yr Harariad,
{{angor|11:35|35}} Ahi’am mab Sachar yr Harariad, .Eliffal mab Ur,
{{angor|11:36|36}} Hener y Mecherathiad, Atma y Feloniad, - i .;::
{{angor|11:37|37}} Hesro y Carmeliad, Naarai,mab, Esbai, .. ., .
{{angor|11:38|38}} Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,
{{angor|11:39|39}} Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia,
{{angor|11:40|40}} Ira yr Ithriad, Gareb yr Ifhriad,
{{angor|11:41|41}} Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
54sib95nfp0d1ek45ftjvzpib05zyil
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/435
104
3690
172451
171470
2026-11-12T17:57:57Z
Tylopous
3717
angorau
172451
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|11:42|42}} Adina mab Sisa y Reubeniad, peni-naeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg;ar hugain,
{{angor|11:43|43}} Hanan mab Maacha, a Josaffat. y Mithniad,
{{angor|11:44|44}} Usseia yr Asterathiad, Sama a J hiel, meibion Hothan yr Aroeriad,,
{{angor|11:45|45}} Jediael mab Simri, a Joha ei frawd <f,yTisiad,
{{angor|11:46|46}} Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia meibion Einaam, ac Ithma y Moabiad,
{{angor|11:47|47}} Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}}
{{bach|1 ''Enwau y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag,'' 23 ''a’r lluoedd a ddaeth atto ef i Hebron.''}}
{{angor|12:1}} {{uc|A dyma}} y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel,
{{angor|12:2|2}} Yn arfogion a xxxxx bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin.
{{angor|12:3|3}} Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel’.a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad,
{{angor|12:4|4}} Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd ttefe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanaia, a Josabad y Ged-erathiad,
{{angor|12:5|5}} Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Sema-reia, Seffatia yr Haruffiad.
{{angor|12:6|6}} Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, -
{{angor|12:7|7}} A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor.
{{angor|12:8|8}} A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac .megis iyrchod ar y mynyddoedd o ‘ fuander oeddynt hwy.
{{angor|12:9|9}} Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd,;
{{angor|12:10|10}} Mismanna ypedwerydd, Jeremeia y pumed,
{{angor|12:11|11}} Attai y chweched, Eliel y seithfed,
{{angor|12:12|12}} Johanan yr wythfed, Elsabad y naw-fed,
{{angor|12:13|13}} Jeremeia y .degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.
{{angor|12:14|14}} Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil.
{{angor|12:15|15}} Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyfirynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin.
{{angor|12:16|16}} A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Da¬fydd.
{{angor|12:17|17}} A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un a chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
{{angor|12:18|18}} A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywed¬odd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y.byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
{{angor|12:19|19}} A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, ‘wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
{{angor|12:20|20}} Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a A-Iichael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.
{{angor|12:21|21}} A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.
{{angor|12:22|22}} Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo:. ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.
{{angor|12:23|23}} A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
70m1sjqat7c4eumww29hd54zbw8shvm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/436
104
3691
172452
171471
2026-11-12T18:00:15Z
Tylopous
3717
angorau
172452
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|12:24|24}} O feibion Jwda, yn dwyn tarian’a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yh arfog i ryfel.
{{angor|12:25|25}} O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.
{{angor|12:26|26}} O feibion Lefi, pedair mil- a chwe chant. ‘
{{angor|12:27|27}} A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.
{{angor|12:28|28}} Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gaptein¬iaid.
{{angor|12:29|29}} Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.
{{angor|12:30|30}} Ac o feibion Effraim, ugain mil ao, wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.
{{angor|12:31|31}} Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysBysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.
{{angor|12:32|32}} Ac o feibion Issachar; y.rbai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybodbeth a ddylai Israel ei wneuthur, eu pehaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.
{{angor|12:33|33}} O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela a phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.
{{angor|12:34|34}} Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, a tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.
{{angor|12:35|35}} Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.
{{angor|12:36|36}} Ac o Aser yr oedd deugain mil ŷd myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. .
{{angor|12:37|37}} Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.
{{angor|12:38|38}} Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon her-.-ffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.
{{angor|12:39|39}} A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys en brodyr a arlwyasant iddynt hwy.
{{angor|12:40|40}} A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.
{{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd mewn rhwysg fawr yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim,'' 9 ''ac, o herwydd taro Uzza, yn gadael yr arch yn nhŷ Obed-edom.''}}
{{angor|13:1}} {{uc|A Dafydd}} a ymgynghorodd â chap¬teiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’r holl dywysogion.
{{angor|13:2|2}} A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a hod hyn o’r ARGLWYDD ein Duw, dantonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pen-trefol, i’w cynnull hwynt atom ni.
{{angor|13:3|3}} A dygwn drachefn arch ein DRW atom ni; canys nid ymofynasom a hi yn nyddiau Saul.
{{angor|13:4|4}} A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl.
{{angor|13:5|5}} Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd-y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriathj earim.
{{angor|13:6|6}} A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel i Baala, sef Ciriath-jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr AR¬GLWYDD DDUW, yr hwn sydd yn pres-wylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. .
{{angor|13:7|7}} A hwy a ddygasant arch Duw ar fea newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahi’o oedd yn gyrru y fen.
{{angor|13:8|8}} A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag utgyrn.
{{angor|13:9|9}} A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hy-gwyd hi.
{{angor|13:10|10}} Ac enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr<noinclude><references/></noinclude>
2y9ivs4k3prxdc1tcb5mzdqu6fydwfo
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/437
104
3692
172453
171472
2026-11-12T18:02:56Z
Tylopous
3717
angorau
172453
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.:
{{angor|13:11|11}} A bu ddrwg gan Dafydd am i’y ARGLWYDD rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.; .
{{angor|13:12|12}} A Dafydd a ofnodd DDUW y dydd hwnnw, gan ddywedyd. Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi?
{{angor|13:13|13}} Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i dudodd hi i dŷ Obededom y Gethiad.
{{angor|13:14|14}} Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obededom, yn ei dy ef, dri mis, A’r ARGLWYDD a fendithiodd dy Obededom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{bach|1 ''Caredigrwydd Hiram i Dafydd.'' 2 ''Dedwyddwch Dafydd o’i bobl, o’i wragedd, ac o’i blant.'' 8 ''Y ddwy oruchafiaeth a gafodd efe yn erbyn y Philistiaid.''}}
{{angor|14:1}} {{uc|A Hiram}} brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.
{{angor|14:2|2}} A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
{{angor|14:3|3}} A chymerth Dafydd wragedd ych-waneg yn Jerwsalem: a Dafydd a gen-hedlodd feibion ychwaneg, a merched.
{{angor|14:4|4}} A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,
{{angor|14:5|5}} Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,
{{angor|14:6|6}} A Noga, a Neffeg, a Jaffa,
{{angor|14:7|7}} Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.
{{angor|14:8|8}} A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
{{angor|14:9|9}} A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.
{{angor|14:10|10}} A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di.
{{angor|14:11|11}} Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y gal-wasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim.
{{angor|14:12|12}} A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.
{{angor|14:13|13}} A thrachefn eto y Philistiaid’ a ymwasgarasant yn y dyffryn.
{{angor|14:14|14}} A Dafydd a ymgynghorodd â ‘Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.
{{angor|14:15|15}} A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
{{angor|14:16|16}} A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.
{{angor|14:17|17}} Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wiedydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.
{{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn parottôi lle i’r arch, yn trefnu yr offeiriaid a’r Lefiaid i’w chyrchu hi o dŷ Obed-edom,'' 25 ''ac yn ei dwyn hi yn ei hol mewn llawenydd mawr.'' 29 ''Michal yn ei ddïystyru ef.''}}
{{angor|15:1}} {{uc|A ''Dafydd''}} a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratodd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell.
{{angor|15:2|2}} A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond I’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd.
{{angor|15:3|3}} A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi.
{{angor|15:4|4}} A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid.
{{angor|15:5|5}} O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain.
{{angor|15:6|6}} O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain.
{{angor|15:7|7}} O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9gx9mkjpgw43csojdmwseu1f33bv06p
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/438
104
3693
172455
171473
2026-11-13T05:54:49Z
Tylopous
3717
angorau
172455
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|15:8|8}} O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant.
{{angor|15:9|9}} O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain.
{{angor|15:10|10}} O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg.
{{angor|15:11|11}} A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,
{{angor|15:12|12}} Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i’r lle a baratoais iddi hi.
{{angor|15:13|13}} Oherwydd nas gwnaethoch o’r dech-reuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein Duw arnorn ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.
{{angor|15:14|14}} Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel.
{{angor|15:15|15}} A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
{{angor|15:16|16}} A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.
{{angor|15:17|17}} Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.
{{angor|15:18|18}} A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semira-moth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, y porthorion.
{{angor|15:19|19}} Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio a symbalau pres.
{{angor|15:20|20}} A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.
{{angor|15:21|21}} A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt a thelynau ar y Seminith i ragori.
{{angor|15:22|22}} Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gan: efe a ddysgai eraill am y gan, canys cyfarwydd ydoedd.
{{angor|15:23|23}} A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch.
{{angor|15:24|24}} A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obededom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.
{{angor|15:25|25}} Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr AR¬GLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd.
{{angor|15:26|26}} A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
{{angor|15:27|27}} A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gan, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.
{{angor|15:28|28}} A holl Israel a ddygasant i fyny arch -cyfamod yr ARGLWYDD a bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.
{{angor|15:29|29}} A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
{{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn aberthu,'' 4 ''yn ordeinio cantorion i ganu mawl i Dduw,'' 7 ''yn gwneuthur Psalm o ddïolch i Dduw,'' 37 ''yn gosod gweinidogion, a phorthorion, ac offeiriaid, a cherddorion i weini i’r arch yn wastadol.''}}
{{angor|16:1}} {{uc|Felly}} y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw.
{{angor|16:2|2}} Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd; efe a fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD.
{{angor|16:3|3}} Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chosttelaid o win.
{{angor|16:4|4}} Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel.
{{angor|16:5|5}} Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac<noinclude><references/></noinclude>
0f1ae9c4gj8ij0d7xfevxw1vo2ing6h
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/439
104
3694
172456
6922
2026-11-13T05:57:46Z
Tylopous
3717
angorau
172456
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Eliab, a Benaia, ac Obededom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio a symbalau.
{{angor|16:6|6}} Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.
{{angor|16:7|7}} Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr.
{{angor|16:8|8}} Moliennwch yr ARGLWYDD, gerwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
{{angor|16:9|9}} Cehwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. .
{{angor|16:10|10}} Ymlawenychwch yn ei enw sanct-aidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD.
{{angor|16:11|11}} Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
{{angor|16:12|12}} Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaet& efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;
{{angor|16:13|13}} Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.
{{angor|16:14|14}} Efe yw yr ARGLWYDD ein Duw ni, farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
{{angor|16:15|15}} Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fit ogenedlaethau;
{{angor|16:16|16}} Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac:
{{angor|16:17|17}} Ac a osododd efe yn ddeddf ‘i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol - i Israel,
{{angor|16:18|18}} Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf <dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
{{angor|16:19|19}} Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; ‘
{{angor|16:20|20}} A phan rodient o genhedlaeth -i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at batil ‘eraill;
{{angor|16:21|21}} Ni adawodd efe i neb eu gorthrymui ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd,:
{{angor|16:22|22}} Na chyffyrddwch a’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
{{angor|16:23|23}} Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd eii iachawdwriaeth ef.
{{angor|16:24|24}} Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. -
{{angor|16:25|25}} Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
{{angor|16:26|26}} Oherwydd holl dduwiau y bot)-toedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYB6 a wnaeth y nefoedd.
{{angor|16:27|27}} Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
{{angor|16:28|28}} Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deu- luoedd y ‘bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.,
{{angor|16:29|29}} Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch gerei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. "
{{angor|16:30|30}} Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y fcyd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
{{angor|16:31|31}} Ymlawenyched y nefoedd, ac ymfay*. fryded y ddaear, a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.
{{angor|16:32|32}} Rhued y môr a’i gyflawnder; llawen-fcaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo.
{{angor|16:33|33}} Yna prennau y coed a ganant o jBaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i Marnu y ddaear.
{{angor|16:34|34}} Clodforwch yr ARGLWYDD; . canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
{{angor|16:35|35}} A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i feliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymo-goneddu yn dy foliant.
{{angor|16:36|36}} Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.
{{angor|16:37|37}} Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
{{angor|16:38|38}} Ac Obededom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obededom hefyd mab Jedu-thun, a Hosa, i fod yn borthorion:
{{angor|16:39|39}} Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernad yr AR¬GLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gib’eon,
{{angor|16:40|40}} I offrymu poethoffrymau i’r AR¬GLWYDD ar allor y poethoffrwm yn was¬tadol fore a hwyr, yu ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:
{{angor|16:41|41}} A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y<noinclude><references/></noinclude>
bsccfck7zomuy5pb1p0el6u6lqdb23n
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/440
104
3695
172457
171474
2026-11-13T05:59:47Z
Tylopous
3717
angorau
172457
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:
{{angor|16:42|42}} A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, r yn lleisio ag utgyrn, ac a symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.
{{angor|16:43|43}} A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dy yntau.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{bach|1 ''Nathan unwaith yn foddlawn i arfeddyd Dafydd ar adeiladu tŷ i Dduw,'' 3 ''a chwedi hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo:'' 11 ''yn addaw iddo fendithion a daioni yn ei had.'' 16 ''Gweddi Dafydd a’i ddïolch.''}}
{{angor|17:1}} {{uc|A phan}} oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywededd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD dan gortynnau.
{{angor|17:2|2}} Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.
{{angor|17:3|3}} A’r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd,
{{angor|17:4|4}} DOS, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid-adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo.
{{angor|17:5|5}} Canys ni phreswyliais i mewn tŷ e« y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac Q dabernacl bwygilydd. . ;
{{angor|17:6|6}} Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
{{angor|17:7|7}} Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yrt dywysog ar fy mhobl Israel.
{{angor|17:8|8}} A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear.
{{angor|17:9|9}} Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf,
{{angor|17:10|10}} Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyng-af hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i ti dŷ.
{{angor|17:11|11}} A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibien di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.
{{angor|17:12|12}} Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.
{{angor|17:13|13}} Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di.
{{angor|17:14|14}} Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair efa sicrheir byth, . .! . .
{{angor|17:15|15}} Yn ôl yr holl eiriau hyiii,:ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
{{angor|17:16|16}} A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDO) DDUW, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?
{{angor|17:17|17}} Eto bychan yw hyn yn dy olwg di,’ O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn uchelradd.
{{angor|17:18|18}} Pa beth a chwanega Dafydd ei ddy¬wedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.
{{angor|17:19|19}} ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.
{{angor|17:20|20}} O ARGLWYDD, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom a’n clustiau.
{{angor|17:21|21}} A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft?
{{angor|17:22|22}} Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a aethost yn DDUW iddynt hwy. .
{{angor|17:23|23}} Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dy ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.
{{angor|17:24|24}} A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan<noinclude><references/></noinclude>
h6ipncl6odzjtpfak7ys6jrse0ywtzo
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/441
104
3696
172458
171475
2026-11-13T06:01:52Z
Tylopous
3717
angorau
172458
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedyd* ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel , sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.
{{angor|17:25|25}} Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dy iddo ef: am hyrmy y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.
{{angor|17:26|26}} Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;
{{angor|17:27|27}} Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.
{{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn darostwng y Philistiaid a’r Moabiaid;'' 3 ''yn taro Hadarezer a’r Syriaid.'' 9 ''Tou yn danfon Hadoram âg anrhegion i fendithio Dafydd;'' 11 ''ac yntau yn cyssegru yr anrhegion a’r yspail i Dduw;'' 13 ''yn gosod amddiffynfeydd yn Edom.'' 14 ''Swyddogion Dafydd.''}}
{{angor|18:1}} {{uc|A darfu}} wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philist¬iaid.
{{angor|18:2|2}} Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.
{{angor|18:3|3}} Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.
{{angor|18:4|4}} A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.
{{angor|18:5|5}} A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.
{{angor|18:6|6}} A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.
{{angor|18:7|7}} A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem.
{{angor|18:8|8}} Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, a’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.
{{angor|18:9|9}} A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;
{{angor|18:10|10}} Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
{{angor|18:11|11}} Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.
{{angor|18:12|12}} Ac Abisai mab Setfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
{{angor|18:13|13}} Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
{{angor|18:14|14}} A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl.
{{angor|18:15|15}} A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
{{angor|18:16|16}} A Sadoc mab Ahitub, ac Abi-melech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd;
{{angor|18:17|17}} Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Felethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{bach|1 ''Traha Hanun â’r cenhadau a ddanfonasai Dafydd i’w gysuro ef am ei dad.'' 6 ''Yr Ammoniaid yn cael nerth gan y Syriaid; a Joab ac Abisai yn eu gorchfygu hwynt.'' 16 ''Sophach yn cael cymmorth etto gan y Syriaid; a Dafydd yn ei ladd ef.''}}
{{angor|19:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meib¬ion Ammon farw; a’i fab a deyrnas¬odd yn ei le ef.
{{angor|19:2|2}} A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad a myfi gar¬edigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meib¬ion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef.
{{angor|19:3|3}} A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
r0l97un8ou2ba5baz7zrnzdidogni0o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/442
104
3697
172459
171476
2026-11-13T06:03:38Z
Tylopous
3717
angorau
172459
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|19:4|4}} Yna y cymerth Hanun weision Da¬fydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth en cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith.
{{angor|19:5|5}} A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.
{{angor|19:6|6}} Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria-maacha ac o Soba.
{{angor|19:7|7}} A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinas¬oedd, ac a ddaethant i ryfel.
{{angor|19:8|8}} A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
{{angor|19:9|9}} A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilitu yn y maes.
{{angor|19:10|10}} A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.
{{angor|19:11|11}} A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinas¬ant yn erbyn meibion Ammon.
{{angor|19:12|12}} Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gyn-horthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gyn-orthwyaf dithau.
{{angor|19:13|13}} Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
{{angor|19:14|14}} Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef.
{{angor|19:15|15}} A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.
{{angor|19:16|16}} A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt.
{{angor|19:17|17}} A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.
{{angor|19:18|18}} Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu.
{{angor|19:19|19}} A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant a Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meib* ion Ammon mwyach.
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{bach|1 ''Joab yn gwarchae ar Rabbah, a Dafydd yn ei hanrheithio hi, ac yn arteithio ei phobl.'' 4 ''Lladd tri chawr mewn tair câd yn erbyn y Philistiaid.''}}
{{angor|20:1}} {{uc|Darfu}} hefyd wedi gorffen y flwydd- yn, yn amser myned o’r bren¬hinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meib¬ion Ammon, ac efe a ddaeth ac a war-chaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba; ac a’i dinistriodd hi.
{{angor|20:2|2}} A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac ef& a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas.
{{angor|20:3|3}} A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt a llifiau, ac ag ogau heyrn, ac a bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd a holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.
{{angor|20:4|4}} Ac at ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr, felly y darostyngwyd hwynt.
{{angor|20:5|5}} A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a ladd-<?dd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tey4ownbhm3f68ee7q03ifii1dy2vok
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/443
104
3698
172460
171477
2026-11-13T06:05:26Z
Tylopous
3717
angorau
172460
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|20:6|6}} Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr.
{{angor|20:7|7}} Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef.
{{angor|20:8|8}} Y rhai hyn a anwyd i’r eawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a fhrwy law iweision ef.
{{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, wedi ei demtio gan Satan, yn gyrru Joab i rifo y bobl,'' 5 ''a chwedi dwyn cyfrif y bobl atto, yn edifar ganddo hynny,'' 9 ''ac yn cael ei ddewis o dair pla, ac yn dewis haint y nodau,'' 14 ''ac wedi marw deng mil a thri ugain o’r bobl, trwy edifeirwch, yn achub dinystr Jerusalem.'' 18 ''Dafydd, trwy gynghor Gad, yn prynu llawr-dyrnu Ornan, ac yn gwneuthur yno allor, a Duw trwy dân yn rhoi iddo arwydd o’i ffafr, ac yn attal y pla.'' 28 ''Dafydd yn aberthu yno, wedi ei attal gan angel rhag myned i Gibeon.''}}
{{angor|21:1}} {{uc|A Satan}} a safodd i fyny yn erbyn Ax Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.
{{angor|21:2|2}} A dywedodd Dafydd with Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch. Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.
{{angor|21:3|3}} A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweis* ion i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?
{{angor|21:4|4}} Ond gair y brenin a fu drech na Joab:. a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.
{{angor|21:5|5}} A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf, a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil’ a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf.
{{angor|21:6|6}} Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin.
{{angor|21:7|7}} A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel.
{{angor|21:8|8}} A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.
{{angor|21:9|9}} A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
{{angor|21:10|10}} DOS, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr AR-(SLWYDD, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti.
{{angor|21:11|11}} Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cymer i ti
{{angor|21:12|12}} Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddi-weddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.
{{angor|21:13|13}} A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt arni iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.
{{angor|21:14|14}} Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.
{{angor|21:15|15}} A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywed-i odd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Oman y Jebusiad.;
{{angor|21:16|16}} A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.
{{angor|21:17|17}} A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O AR¬GLWYDD fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dy fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.
{{angor|21:18|18}} Yna tfngel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r AR¬GLWYDD yn llawr dyrnu Oman y Je¬busiad.
{{angor|21:19|19}} A Dafydd a aeth i fynu, yn ol<noinclude><references/></noinclude>
oiqkhyoypm4mi8eowad1tpeo10b4k0n
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/444
104
3699
172461
171478
2026-11-13T06:07:16Z
Tylopous
3717
angorau
172461
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr ARGLWYDD.
{{angor|21:20|20}} Yna y trodd Oman, ac a ganfu y? angel, a’i bedwar mab gydag efa ymguddiasant; ac Oman oedd yn dyrnu gwenith.
{{angor|21:21|21}} A Dafydd a ddaeth at Oman; ac edrychodd Oman, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i xxx wyneb tua’r ddaear.
{{angor|21:22|22}} A dywedodd Dafydd wrth Oman Moes i mi le y llawr dymu, fel yr adeilad-wyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
{{angor|21:23|23}} Ac Oman a ddywedodd wrth Dafydd) Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd-offrwm: hyn oll a roddaf.
{{angor|21:24|24}} A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Oman, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.
{{angor|21:25|25}} Felly y rhoddes Dafydd i Oman am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.
{{angor|21:26|26}} Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.
{{angor|21:27|27}} A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.
{{angor|21:28|28}} Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr dyrnu Oman y Jebusiad, efe- a aberthodd yno.
{{angor|21:29|29}} Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:
{{angor|21:30|30}} Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn a Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, wedi gwybod y lle yr adeiledid y deml, yn parottôi llawer o ddefnyddiau i’w hadeilad hi.'' 6 ''Dafydd yn dysgu i Solomon addewidion Duw, a’i ddyled wrth adeiladu y deml,'' 17 ''ac yn gorchymyn i’r tywysogion ei gynnorthwyo ef.''}}
{{angor|22:1}} {{uc|A dywedodd}} Dafydd, Hwn yw*iJL tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.
{{angor|22:2|2}} Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu .y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe*a osododd seiri meini i naddu cerrig; *nadd, i adeiladu tŷ DDUW.
{{angor|22:3|3}} A pharat6dd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrthj. ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaethag nad oedd arno bwys;
{{angor|22:4|4}} Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.
{{angor|22:5|5}} A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wiedydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratodd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
{{angor|22:6|6}} Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel.
{{angor|22:7|7}} Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solo¬mon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw.
{{angor|22:8|8}} Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dy i’m henw i, eanys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.
{{angor|22:9|9}} Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr Bbnydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei fldyddiau ef.
{{angor|22:10|10}} Efe a adeilada dy i’m hcnw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. !
{{angor|22:11|11}} Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo. xxx gyda thi, a ffynna dithau, gc adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti.
{{angor|22:12|12}} Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orch-inynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
azqta0akwakis39h61b8rxx5olwpri7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/445
104
3700
172462
171479
2026-11-13T06:09:40Z
Tylopous
3717
angorau
172462
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|22:13|13}} Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.
{{angor|22:14|14}} Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i, ychwanega dithau atynt hwy.
{{angor|22:15|15}} Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.
{{angor|22:16|16}} Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi.
{{angor|22:17|17}} A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,
{{angor|22:18|18}} Onid yw yr ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddaros-tyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef.
{{angor|22:19|19}} Yn awr rhoddwch eich calon a’ch .enaid i geisio yr ARGLWYDD eich Duw; lyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr AR¬GLWYDD.
{{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn ei henaint yn gwneuthur Solomon yn frenhin.'' 2 ''Rhifedi a dosparthiadau y Lefiaid.'' 7 ''Teuluoedd y Gersoniaid.'' 12 ''Meibion Cohath.'' 21 ''Meibion Merari.'' 24 ''Swydd y Lefiaid.''}}
{{angor|23:1}} {{uc|A phan}} oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.
{{angor|23:2|2}} Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid.
{{angor|23:3|3}} A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.
{{angor|23:4|4}} O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr ARGLWYDD, ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:
{{angor|23:5|5}} A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.
{{angor|23:6|6}} A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.
{{angor|23:7|7}} O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.
{{angor|23:8|8}} Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.
{{angor|23:9|9}} Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau-cenedl Laadan.
{{angor|23:10|10}} Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.
{{angor|23:11|11}} A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dy eu tad.
{{angor|23:12|12}} Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
{{angor|23:13|13}} Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sanct-eiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
{{angor|23:14|14}} A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.
{{angor|23:15|15}} Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.
{{angor|23:16|16}} O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.
{{angor|23:17|17}} A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.
{{angor|23:18|18}} O feibion Ishar; Selomith y pennaf.
{{angor|23:19|19}} O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
{{angor|23:20|20}} O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
{{angor|23:21|21}} Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.
{{angor|23:22|22}} A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt.
{{angor|23:23|23}} Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jenmoth, tri.
{{angor|23:24|24}} Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth<noinclude><references/></noinclude>
pkgy5godw2hivxq1tc2v7z2a6cznev4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/446
104
3701
172463
171480
2026-11-13T06:13:09Z
Tylopous
3717
angorau
172463
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr {{sc|Arglwydd}}, o fab ugain mlwydd ac uchod.
{{angor|23:25|25}} Canys dywedodd Dafydd, {{sc|Arglwydd Dduw}} Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;
{{angor|23:26|26}} A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant ''mwyach'' y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef.
{{angor|23:27|27}} Canys yn ol geiriau diweddaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain
mlwydd ac uchod:
{{angor|23:28|28}} A’u gwasanaeth hwynt ''oedd'' i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr {{sc|Arglwydd}}, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac y'ngwaith gweinidogaeth tŷ {{sc|Dduw}};
{{angor|23:29|29}} Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd-offrwm, ac yn y teisenau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrïo, ac ym mhob mesur a meidroldeb:
{{angor|23:30|30}} Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr {{sc|Arglwydd}}, felly hefyd brydnawn:
{{angor|23:31|31}} Ac i offrymmu pob offrwrn poeth i’r {{sc|Arglwydd}} ar y Sabbathau, ar y newydd-loerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ol y ddefod ''sydd'' arnynt yn wastadol gerbron yr {{sc|Arglwydd}}:
{{angor|23:32|32}} Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, y'ngwasanaeth tŷ yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}}
{{bach|1 ''Dosparthu meibion Aaron yn bedwar ar hugain o ddosparthiadau wrth goelbren.'' 20 ''Rhannu y Cohathiaid'' 27 ''a’r Merariaid wrth goelbren.''}}
{{angor|24:1}} {{uc|Dyma}} ddosparthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron ''oedd'', Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.
{{angor|24:2|2}} A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleazar ac Ithamar a offeiriadasant.
{{angor|24:3|3}} A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleazar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ol eu swyddau, yn eu gwasanaeth.
{{angor|24:4|4}} A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac ''fel hyn'' y rhannwyd hwynt. ''Yr ydoedd'' o feibion Eleazar yn bennau ar dŷ ''eu'' tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ol tŷ eu tadau, wyth.
{{angor|24:5|5}} Felly y dosparthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyd â’r llall; canys tywysogion y cyssegr, a thywysogion ''tŷ'' {{sc|Dduw}}, oedd o feibion Eleazar, ac o feibion Ithamar.
{{angor|24:6|6}} A Semaiah mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o ''lwyth'' Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt ger bron y brenhin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abïathar, a phen-cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleazar, ac ''un arall'' a ddaliwyd i Ithamar.
{{angor|24:7|7}} A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaiah,
{{angor|24:8|8}} Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
{{angor|24:9|9}} Y pummed i Malchïah, y chweched i Mijamin,
{{angor|24:10|10}} Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abïah,
{{angor|24:11|11}} Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechanïah,
{{angor|24:12|12}} Yr unfed ar ddeg i Elïasib, y deuddegfed i Jacim,
{{angor|24:13|13}} Y trydydd ar ddeg i Huppah, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
{{angor|24:14|14}} Y pymthegfed i Bilgah, yr unfed ar bymtheg i Immer,
{{angor|24:15|15}} Y ddeufed ar bymtheg i Hezir, y deunawfed i Aphses,
{{angor|24:16|16}} Y pedwerydd ar bymtheg i Pethahïah, yr ugeinfed i Jehesecel,
{{angor|24:17|17}} Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
{{angor|24:18|18}} Y trydydd ar hugain i Delaiah, y pedwerydd ar hugain i Maazïah.
{{angor|24:19|19}} Dyma eu dosparthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr {{sc|Arglwydd}} yn ol eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchymynasai {{sc|Arglwydd Dduw}} Israel iddo ef.
{{angor|24:20|20}} A’r lleill o feibion Lefi ''oedd y rhai hyn''. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeiah.
{{angor|24:21|21}} Am Rehabïah; Isïah ''oedd'' ben ar feibion Rehabïah.
{{angor|24:22|22}} O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.
{{angor|24:23|23}} A meibion ''Hebron oedd'', Jerïah ''y cyntaf'', Amarïah yr ail, Jahaziel y trydydd, ''a'' Jecameam y pedwerydd.
{{angor|24:24|24}} ''O'' feibion Uzziel; Michah: o feibion Michah; Samir.
{{angor|24:25|25}} Brawd Michah ''oedd'' Isïah; o feibion Isïah; Zecharïah.
{{angor|24:26|26}} Meibion Merari ''oedd'', Mahli, a Musi: meibion Jaazïah; Beno.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
td8vx3azb9wipnrwowctij7vi7wn0ry
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1084
104
5424
172446
9955
2026-11-12T17:43:50Z
Tylopous
3717
penodau
172446
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>1:11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chloe, fod cynhennau yn eich plith chwi.
1:12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.
1:13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi?
1:14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius;
1:15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun.
1:16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall.
1:17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
1:18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.
1:19 Canys ysgrifenedig yw. Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.
1:20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?
1:21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.
1:22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb:
1:23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb;
1:24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.
1:25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.
1:26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:
1:27 Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn;
1:28 A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd:
1:29 Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.
1:30 Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:
1:31 Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Mae yn dangos fod ei bregeth ef, er nad ydoedd yn dwyn gyd â hi odidowgrwydd ymadrodd,'' 4 ''neu ddoethineb ddynol: etto yn sefyll mewn'' 4, 5 ''nerth Duw; ac yn rhagori cymmaint'' 6 ''ar ddoethineb y byd yma,'' 9 ''a synwyr dynol, ag nas'' 14 ''gall y dyn anianol mo’i deall.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|A myfi}}, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
2:2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.
2:3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.
2:4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:
2:5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.
2:6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu.
2:7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni:
2:8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.
2:9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y<noinclude><references/></noinclude>
bj0x9ygouwgxewttiao1labpohh8e4l
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1085
104
5425
172447
9956
2026-11-12T17:47:02Z
Tylopous
3717
penodau
172447
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef.
2:10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd.
2:11 Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw.
2:12 A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw.
2:13 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol.
2:14 Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.
2:15 Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd.yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb.
2:16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|2 ''Bod llaeth yn gymmwys i blant.'' 3 ''Cynnen ac ymbleidio yn arwyddion o feddwl bydol.'' 7 ''Nad yw yr hwn sydd yn plannu, na’r hwn sydd yn dyfrhâu, ddim.'' 9 ''Bod y gweinidogion yn gyd-weithwar i Dduw.'' 11 ''Crist yw yr unig sylfaen.'' 16 ''Bod dynion yn demlau Duw, y rhai'' 17 ''sydd raid eu cadw yn sanctaidd.'' 19 ''Nad yw doethineb y byd yma ond ffolineb gyd â Duw.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|A myfi}}, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.
3:2 Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn.
3:3 Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?
3:4 Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?
3:5 Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?
3:6 Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.
3:7 Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd.
3:8 Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.
3:9 Canys cydweithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.
3:10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.
3:11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
3:12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;
3:13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.
3:14 Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.
3:15 Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.
3:16 Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?
3:17 Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.
3:18 Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth.
3:19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.
3:20 A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.
3:21 Am hynny na orfoledded neb<noinclude><references/></noinclude>
l1xvzl3o36zv3d8cmzfqu7kipsdb2hq
Tudalen:Madam Wen.djvu/122
104
33440
172464
76118
2026-11-13T11:51:57Z
~2026-60257-43
4279
172464
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Daeth Abel i'r casgliad wrth glywed hynny mai nid ffordd Huw Bifan a'i lanciau oedd i gario'r dydd, a barnodd mai doeth oedd tewi.
Ymhen hanner awr daeth Huw yn ôl at Abel eilwaith. "Pa un fyddai'r gorau gennyt, ai glanio ar draeth Iwerddon ai ynte cael cwch a chymryd dy siawns o olwg y lan? Roddwn i fy hunan fawr am dy groen di y naill ffordd na'r llall."
Dewisodd Abel y cyntaf, a chyda'r hwyr rhedodd y Wennol at y lan ar draethau Wexford, ac yno y rhyddhawyd Abel Owen o'i gaethiwed byr, yn dlotach o gryn lawer na phan y syrthiodd ei lygad gyntaf ar y llong o Fau Cymyran.
<section begin="kkk"/><section end="kkk"/>
<section begin="lll"/>{{c|XI.}}
{{c|TWM PEN Y BONT, AC ERAILL}}
UN hwyrddydd braf eisteddai Morys Williams ar y lawnt o flaen ei dŷ, a thynnai fwg o bibell hir yn ôl arferiad a ddaethai yn gyffredin ymysg gwŷr o'i safle ef. Meddwl yr oedd, fel y gwnâi yn fynych, am ei gariadferch. Ers llawer o fisoedd nid oedd wedi ei gweled na chael gair oddi wrthi, a theimlai'n llawn hiraeth amdani.
Gall mai rhyw ddylanwad cyfrin a fedd cariad a barai i'w delw fod mor fyw o flaen ei feddwl yr hwyrddydd hwnnw. Y mae lle i feddwl hynny, canys amdano ef y meddyliai hithau yr awr honno. O'r bron na theimlai ef ei phresenoldeb yn awel dyner yr hwyr, rhyw sisial pêr fod ei chalon hi'n hiraethu am gael siarad wrth ei galon yntau. O dan ddylanwad felly ni synnodd lawer wrth ganfod negesydd yn dyfod i'r fan gan ei hysbysu mai oddi wrth Einir Wyn y daethai'r neges.
Rhyw garu rhyfedd oedd anfon llythyrau meddyliai Morys . Ond beth oedd, i'w wneud? Yr oedd yn dda cael cymaint â hynny. Nid Einir fuasai<section end="lll"/><noinclude><references/></noinclude>
7fqvivpwy3sludaus9mc118lp8rbcnf