Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw amgueddfa genedlaethol Cymru ar gyfer celf, archeoleg, a hanes byd natur. Lleolir hi ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, mewn adeilad y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1912, er na agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd tan 1927. Y mae'n aelod o Amgueddfa Cymru, sef y rhwydwaith o amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru (a elwid gynt yn Amgueddfeydd ac Oriel Genedlaethol Cymru). Ymhlith ei harddangosfeydd parhaol y mae un am Esblygiad Cymru, sydd yn cyfuno cyflwyniadau fideo a gwrthrychau megis esgyrn deinosoriaid a chreigiau hynafol er mwyn adrodd hanes Cymru ers yr amseroedd cynharaf. Mae yno hefyd oriel llawn gwrthrychau amrywiol o gasgliadau'r amgueddfa y gellir eu cyffwrdd, sef Oriel Glanely.
[golygu] Casgliadau celf
Mae nifer o beintiadau yng nghasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol sydd yn berthnasol at Gymru, megis y rheiny a gomisiynwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn a thirfeddianwyr Cymreig eraill yn ystod y 18fed ganrif. Mae gweithiau arlunwyr Cymreig megis Richard Wilson, Thomas Jones, John Gibson ac Augustus a Gwen John hefyd wedi'u cynrychioli. Ond yr hyn sy'n gwneud yr Oriel Genedlaethol o safon ryngwladol yw'r casgliad o gelf Ffrengig o'r 19eg ganrif a gasglwyd gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, a oedd ym mhlith y rhai cyntaf ym Mhrydain i brynu gweithiau gan yr Argraffiadwyr (Impressionists) Ffrengig. Y gweithiau enwocaf yn eu casgliad yw'r Gusan gan Auguste Rodin a La Parisienne gan Pierre-Auguste Renoir, ac mae peintiadau o ansawdd uchel gan Claude Monet, Paul Cézanne a Vincent van Gogh hefyd yn y casgliad. Casglai'r chwiorydd hefyd weithiau ar bapur, gan gynnwys nifer o brintiau Ukiyo-E o Siapan (a fu'n ysbrydoliaeth i nifer o'r arlunwyr a enwir uchod). Dalier sylw hefyd at y casgliad o beintiadau gan Honoré Daumier, y casgliad mwyaf ym Mhrydain o weithiau gan yr artist yma, a'r nifer o weithiau pwysig gan ei gyfoediwr Jean-François Millet.