Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.2 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/68 104 84558 164529 164335 2026-05-15T13:33:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164529 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>beth i ddyweyd wrth bechaduriaid. Mawr y cyfnewidiad oedd yn Saul yr erlidiwr wedi bod yn y lladdfa ar y ffordd i Damascus. Yr oedd yn dyfod allan o honi yn ddyn arall; lladdwyd Saul yr erlidiwr, a chladdwyd ef am byth; ni chlywyd son am dano mwyach; a daeth Paul yr apostol yn fyw i fyny o'r llwch. Daeth y gorchymyn, fe adfywiodd pechod, ac yntau a fu farw; fe fu yn y lladdfa; a dyma y rheswm ei fod yn gallu dyweyd cystal wrth eraill am yr amgylchiad mewn amser dyfodol. Nid oes neb all ddweyd gystal am wahanol leoedd a'r sawl fu yno, nac am amgylchiadau fel y sawl fu ynddynt. Ni a welwn fod crefydd Tommy yn dechreu yn dda; nid ychwanegu at yr hen fywyd, neu adeiladu ar yr hen sylfaen, ydyw; ond yn lladd pob bywyd blaenorol, ac yn rhoi bywyd newydd, calon newydd, anian newydd; a malurio yr hen sylfaen yn llwch, ac yn gosod sylfaen newydd, gan adeiladu pob peth o'r newydd ar y sylfaen hyny. Nid oes dim hen ddefnyddiau i fod yn yr adeilad newydd, canys dinystrir yr hen yn hollol, fel na fydd maen ar faen a'r nis datodir, a chodir y newydd ar sail ac o ddefnyddiau newyddion. Y grefydd sydd yn dechreu mewn lladdfa, sydd yn sicr yn y diwedd o ddybenu mewn bywyd. Yr ydym yn gweled, wrth ddarllen yn y blaen yn y dyddlyfr, mai o laddfa i laddfa y bu am dymhor maith. Er iddo fyned at grefydd, a chael pob tynerwch oddiar ddwyław y cyfeillion crefyddol, ni ddarfu iddo dawelu, eithr yn hytrach myned waethwaeth. Y mae yn rhyfedd gweled bachgen pedair ar ddeg oed yn myned trwy gymaint o dywydd meddwl; ond pan edrychwn ar amcan y Brenin mawr, yr hyn a ddaeth i'r golwg yn amlwg wedi hyny, esbonia yr holl ddirgelwch ar unwaith. Yr ydoedd yn cael ei ddarparu gan law Duw ei hun, yn llestr cymhwys i ddal gweinidogaeth yr efengyl, a'i phregethu i'w gydwladwyr. Yr oedd y goruchwyliaethau dwyfol y dygwyd ef drwyddynt yn ei gaboli, ac yn ei harddu a'i brydferthu erbyn amser dyfodol. Ni fuasech byth yn gweled ac yn clywed y Parch. T. Richard, Abergwaen, oni buasai fod Tommy wedi bod yn y lladdfa; ac o laddfa i laddfa am hir amser hefyd. Y brofedigaeth gyntaf a ymosododd yn ddirfawr ar ei feddwl wedi dyfod at grefydd, oedd ofni nad oedd wedi ei ethol. Yr oedd hyn yn gwasgu ei enaid i lawr, nes ymylu anobaith; a digon tebyg hefyd fod y gelyn yn gwneyd y defnydd goreu o'r amgylchiad i'w demtio i ddigalondid, neu ei ddyrysu a'i wneyd yn<noinclude><references/></noinclude> 6uhdhtj6y7y67gbsyb9d429m7ac8oj5 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/73 104 84559 164534 164336 2026-05-15T13:44:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164534 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw." Yn fuan gorfu iddo newid y gân, symud o'r gorfoleddus i'r galarus, a dywedyd,— {{center block| <poem> "Swn y frwydr, swn y frwydr :Ydyw'r man 'rwyf eto'n byw." </poem> }} <br> Wedi i brofedigaeth y pechod anfaddeuol fyned heibio, ac y daeth i gredu yn ddiysgog fod ei iachawdwriaeth yn bosibl yn wyneb yr efengyl, y mae y brofedigaeth yn cymeryd ffurf arall. Aeth i ofni, er fod ei bechodau yn faddeuadwy, ei fod heb dderbyn yn rhinweddol gyfiawnhad a maddeuant oddiwrth Dduw fel Barnwr cyfiawn; ei fod eto yn annuwiol. Bu mewn terfysg aruthrol am hir amser yn y brofedigaeth hon, yn ol ac yn y blaen, i lawr, ac weithiau ond yn anaml i fyny; ymdrybaeddu ydoedd mewn pridd tew a chlai tomlyd. Ymdrechai Henry Richard ei gyfarwyddo yn mhob dim, ac nid oedd dim yn ol yn yr anwyl Hannah i geisio ei gysuro, a chodi ei feddwl o'r dyfnder; yn fynych gwasgai ei ben at ei mynwes gan ddywedyd â dagrau," Ymgysura di, Tommy bach, 'canys trugarog iawn yw yr Arglwydd, a thosturiol." " Ni chuddiodd efe ei wyneb yn hir erioed oddiwrth y rhai ag oedd yn ei geisio; "dros brydnawn yr erys wylofain, erbyn y boreu y bydd gorfoledd." Fel hyn y byddai yr hen bobl yn ymdrechu yn mhob modd i'w gysuro yn ei brofedigaethau, canys yr oeddent yn ei weled ef mewn tywydd garw iawn, yn mhell y tu hwnt i'r cyffredin; ac ofnent yn aml y suddai o dan ei brofedigaethau i afiechyd ac angau. Gadewch i ni ei glywed ef ei hun yn dyweyd gair neu ddau ar hyn, canys gwyddom fod ein darllenwyr yn teimlo groesaw calon iddo siarad drosto ei hun bob amser:—"Bryd arall y clywn och yn fy meddwl nad oeddwn wedi fy nghyfiawnhau, ać oblegyd hyny nad oeddwn yn gymeradwy, na dim ag oeddwn yn ei wneuthur, yr hyn a'm mawr ofidiai, ac a'm gwnelai i edrych ar Dduw fel un dig wrthyf, hyd nes i mi gael nerth i gredu ac ymddiried ynddo. Fel hyn y treuliais fy nydd terfysglyd, nid dydd ac nid nos dywyll, ond ychydig o oleuni rhwng y cymylau. Yr oeddwn yn dra anwrol mewn ffydd, gan amheu pob peth, ac yn treulio llawer o fy amser ar lwybr yr hen gyfamod. Ond o radd i radd fe oleuwyd ychydig ragor ar fy neall mewn pethau crefyddol, sef athrawiaeth, profiad, a dysgyblaeth. Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth." Nid oedd y<noinclude><references/></noinclude> 2x2cybhqtys9z9gflcspn6rw9n6sd3q Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/78 104 84560 164539 164337 2026-05-15T13:50:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164539 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iawn i Tommy; ond wedi hyny nid oedd efe yno. Ymholai y bobl mor ddifrifol, Pa le y mae Tommy? Yr oeddent yn bur debyg yn y pwnc hwn fel yr oedd Isaac yn nghylch Jacob ac Esau; nid oedd yn bosibl a pherswadio yr hen wr mai Esau oedd yno, er gwisgo y blew a gwneyd pob peth fel Esau; ac fe ddarfu iddo roi y fendith pan oedd eto ar dir amheus yn nghylch y mater. "Pwy wyt ti, fy mab?" ebe yr hen wr. "A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntafanedig; gwnaethum fel y dywedaist wrthyf; cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithi. Ac Isaac a ddywedodd, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Ai Esau ydwyt mewn gwirionedd? Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab, ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. A nesaodd Jacob at Isaac ei dad; yntau a'i teimlodd, ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob, a'r dwylaw, dwylaw Esau ydynt." Er fod yr hen wr yn ddall, yr oedd yn amheus iawn yn nghylch y peth, canys yr oedd y llais yn llais Jacob o hyd, er fod y dwylaw wedi eu gwneyd yn flewog fel dwylaw Esau. Yr oedd yn haws ffugio y dwylaw na'r llais; gallesid rhoi blew am y dwylaw, ond nis gallesid ffugio y llais cystal. Gwnewch fel y mynoch, y mae yn anmhosibl gwneyd un dyn fel un arall, nes y bydd yn anmhosibl adnabod y naill oddiwrth y llall, oddieithr fod dyn yn ddall, neu wedi colli ei reswm. Y mae yr annhebygolrwydd yn fwy rhwng y peth y mae Ysbryd Duw yn ei wneyd ar feddwl dyn a'r peth y mae dyn yn ceisio gwneyd er mwyn ei efelychu. Y gwahaniaeth hyn sydd gymaint ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear. Gwelir rhyw fath o ffurf, y mae yn wir, ond beth yw hyny at y sylwedd a'r bywyd ei hun? Mor ddiflas yw gweled y bobl yn troi ymaith oddiwrth ryw efelychwr cywraint, gan ddywedyd, "Pw, pw, nid yw Thomas yno; pa le y mae, dywedwch?" Yr oeddent yn holi am Tommy er nad oedd neb o honynt å drychfeddyliau goleu yn nghylch y pethau ag oedd yn ei wneyd yn Tommy. Gall dyn annuwiol gyfansoddi yn gampus, traddodi yn brydferth, dechreu a dybenu yn weddus, a llawer math o wrandawyr yn siarad yn lled uchel am y pregethau, fel yn gryno, yn ddestlus, yn feddylgar, ac yn gyson, eithr nid ydynt yn myned nemawr pellach. Pellach? Beth sydd i ddyweyd yn mhellach? O oes, llawer hefyd; nid yw cymaint a yna ond ychydig o'r allanol, nid oes yna ond dwylaw Esau, a'r rhai hyny hefyd wedi eu ffugio; oddiallan, y llais sydd fel llais Jacob<noinclude><references/></noinclude> 7bundpqueprl5bsqrqimmugm8z7b1wp Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/83 104 84561 164545 164338 2026-05-15T13:57:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164545 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>satan. Ond, moliant i Dduw, fe'm cadwyd rhag i bethau gwaradwyddus dori allan, er maint yr anffyddlondeb a'r anonestrwydd oddifewn, ond nid yn ddiofid o'u herwydd; ac nid heb ryw faint o arddeliad. Diolch i Dduw am hyny. "1805.—Dygwyddodd i mi, ar ddeisyfiad y brodyr, fyned trwy Sir Aberteifi, yn yr eilfed flwyddyn ar ugain o'm hoedran. Yna yr oeddwn gadarn trwy Dduw. Pan y byddwn ar y llawr, dyna y pryd yr eglurhäai Duw ei hun. Pan y byddwn gryf, dyna y pryd y cawn dreio fy hun. Ond erbyn yr ail odfa, mi fyddwn ar lawr wedi'n. Ond, O ryfedd Dduw, a Duw o ddaioni, Duw fel tad at ei blentyn, yn cynesu ac yn ymgeleddu. Llawer gwaith y bum mor ffol, wedi i Dduw arddel rhyw wirionedd, i feddwl mai hwn dal'sai ei ddyweyd mwy, ac nid dim arall; ond oblegyd tybied hyny, erbyn myned i'r pydew yr ail dro, pydew wedi sychu fel hyn, y'm dysgwyd i ymddiried mwy yn Nuw a llai ynof fy hun, ac i weled mai yr arddeliad yw coron y gwaith, ac nid rhyw ran o'r gwirionedd mwy na'r llall. O'r tro hwn y dychwelais yn ddiofid mewn un modd. O hyny hyd heddyw y treuliais fy amser mewn mawr bleser yn astudio yr athrawiaeth, a'i phregethu dan ryw faint o arddeliad. Boed y diolch iddo i gyd. "1806.—Y flwyddyn hon mi a wynebais ein Cymanfa Chwarterol. Cyn myned i'r daith hon, yr oeddwn yn mawr ofni amryw bethau. Un peth, yn ofni rhag myned heb fod a galwad Duw. 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na byddai fy enaid fy hun ddim gwell. I'r daith yr aethum, dydd Iau, sef yr 8fed o Fai H{{bar|2}}. Yma y bu harddwch allanol ar y gwaith, a'r bobl yn iraidd; ond nid felly fy ysbryd i. Dydd Gwener am ddeg bu y gwaith dan ei harddwch allanol, ac ychydig yn iraidd. Aethom i odfa y prydnawn, yr hon oedd sych a thrymaidd. Oddiyma aethom i B{{bar|2}}. Yr odfa hon bu Duw yn dda wrthym wrth lefaru a gwrando, oddiwrth yr un gair, Heb. xii. 2. Y noswaith hon bu y ceffyl yn anhwylus, yr hyn a barodd dristwch i fy meddwl. Dydd Sadwrn yr oeddym yn well; aethom yn y blaen tuag at Narberth. Yr odfa hon ni bu boenus iawn, Heb. xii. 2. Oddiyma y cychwynasom i{{bar|2}}. Yr odfa hon ni bu rwydd iawn. Oddiyma aethum ar fy nhraed gydag offeiriad Llanbedr, yr hwn<noinclude><references/></noinclude> 9wyytyde548adoyfszojhqzp8a1g6vm Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/88 104 84562 164550 164339 2026-05-15T14:10:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164550 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Mehefin 7.—Mi a gychwynais erbyn y Sul. Nos Sadwrn, yn nhŷ un o'r brodyr, cefais rym i ddyweyd y gair, er nad oedd yn llewyrchus annghyffredin, nac yn dywyll iawn. 8fed. Y mae heddyw yn Sabbath. Ar ol ein dyledswydd deuluaidd ni a gychwynasom i'r lle addoliad a elwir Tyddewi. Yma hefyd y'm nerthwyd gydag ychydig bleser, ac eiddigedd am lwyddiant y gair, oddiwrth y gair hwn, Salm lxviii. 11. Ar ol yr odfa hon y treuliasom, ac amryw o'r brodyr yn nghyd, ein cyfeillach yn nghylch trefn eglwysig. Y prydnawn cychwynasom i'r ail gyfarfod, i le a elwir Caerfarchell. Yma y cyfarfuwyd ag ychydig brofedigaeth. Ar ol darllen y gair yn Ioan xi. 32 yn destun, dechreuais lefaru gydag ychydig deimladau o sel a pharch i'r gwirionedd; ond wrth ddechreu myned i drin rhan athrawiaethol y gair, fe dorodd fy ngwaed o'm ffroenau, nes fy rhwystro yn y gwaith, a rhoddi heibio am ychydig. Ceisiais gan y brawd David Thomas i roi gair i ganu; hyny a wnawd; a phan ddarfyddwyd, fe'm hadferwyd inau. Clod i Dduw! Cefais rym i fyned trwy y gwaith gyda gradd o sel, ac nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd yr Hollalluog. Moliant iddo am hyny. Cychwynasom oddiyma yn nghyfeillach amryw o'r brodyr at odfa yr hwyr. Yr oedd fy meddwl mewn trafferth pa beth i lefaru; ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais fawr serch am lwyddiant y gair, ac at eneidiau fy ngwrandawyr. Fel hyn y treuliais y dydd a'i waith. Diolch i Dduw am ei ymgeledd tirion i un mor wael. Boreu dydd Llun galwyd y teulu i ddyledswydd. Cefais ryddid wrth orsedd gras. Diolch, diolch byth i'r Arglwydd mawr am ei diriondeb. Daethum adref y dydd hwn. Cefais y teulu dan ymgeledd Duw yn y modd goreu. Diolch am hyny hefyd. Yn yr hwyr aethum i gyflawni y gwasanaeth crefyddol; mi a'i teimlais yn sych iawn, megys heb wlithyn, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith, oblegyd fy mhellder oddiwrth yr Arglwydd, ac anwyliadwriaeth ar fy ysbryd; am hyny anfedrus yn y ffordd at Dduw y byddwn, a thywyll iawn. Bu genym gyfarfod nos Fercher gartref cyfarfod gweddi. Teimlais ryw faint o wlith ac ireidd—dra cyn y diwedd. Derbyniwyd un i'r gyfeillach brifat. Cafwyd cynorthwy i ddyweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd wrth ymddyddan â hi. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Morris. Treuliais y rhan ganlynol o'r wythnos mewn rhyw ddyryswch, ond nid yn ddilafur. Cychwynais boreu dydd Sadwrn tuag<noinclude><references/></noinclude> syuc7q6hgxzx7xa0p3uh4vnqr6qr5yv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/93 104 84563 164555 164340 2026-05-15T14:16:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164555 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adref yn dra chysurus ar ol gwen Duw yn yr addoliad. Cofio hyn fyddo yn creu diolch byth dan fy mron am ei sylw o greadur mor ddrwg. Diolch, diolch byth. Treuliais un wythnos yn ychwaneg, a chenyf achos i ofidio oblegyd fy mawr bechu. Teimlais fy llygredigaethau mor fyw a chryf gynddeiriog ag erioed, gormod syrthni ac anwyliadwriaeth, yr hyn yn ei effeithiau sydd yn gwanhau ac yn aflwyddo fy enaid mewn pethau ysbrydol; acer hyn i gyd, o ras y nefoedd, profais fod daioni rhyfedd Duw yn tyneru peth ar fy nghalon galed, uffernol inau. Diolch i Dduw am na roddodd fi i fyny i galon-galedwch, i feddyliau annghymeradwy. Felly y treuliais yr wythnos hon. "Y mae heddyw un Sabbath ychwaneg. Aethom i ddyledswydd deuluaidd. Yma, wrth dywallt fy enaid ger bron Duw, profais gymaint o'i ddaioni nes oedd fy nghalon galed yn briwio. Cofio ei ddaioni hwn fyddo yn ail ddryllio fy nghalon, ac yn ei llanw a diolchgarwch. Am ddeg aethum i'r tŷ cwrdd gartref at yr odfa. Y rhan fwyaf o hon a aeth heibio yn bur sychlyd, ond nid i gyd. Yn y prydnawn, am un, cadwyd ysgol Gymraeg, lle yr oedd amryw yn nghyd. Treuliasom ddwy awr yma. Dybenwyd trwy weddi a mawl, mewn brys i fyned at yr odfa yn y pentref am dri, gan yr Annibynwyr, i fedyddio plentyn. Llefarodd y gwr yn iach, a gwirioneddau angenrheidiol. Ar ol hyn yr oedd yr amser yn galw at odfa yr hwyr, yr hon oedd yn Mathry. Bu yr Arglwydd yn dda iawn i mi yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum adref heddyw yn gysurus, ond, gan ryw drafferth fydol, yn ddiegni iawn at fyfyrdodau nefol. Yr Arglwydd a faddeuo fy syrthni a'm segurdod am bethau ysbrydol. Arglwydd, trugarha wrthyf. Nos Fawrth, wrth gyflawni y ddyledswydd deuluaidd, teimlais fy ysbryd mewn graddau o ryddid ger bron yr Arglwydd. Coder yma faen o goffadwriaeth mewn diolchgarwch. Cyfarfuwyd nos Fercher mewn cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Yr odfa a dreuliwyd yn bur sych. Cadwyd society. Torodd yn wawr yma tu hwnt i'n dysgwyliad. Ymadawyd mewn heddwch. Treuliais y ddau ddydd canlynol yn bur gyffredin, o ran tywydd fy ysbryd, yr hyn oedd yn fawr ofid i mi. Nos Wener, cefais ychydig o fy anadl drachefn yn y ddyledswydd deuluaidd. Clod am hyn hefyd. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Aethum i wrando E. Morris. Pregethodd yn odidog iawn oddiwrth Daniel ix. 26. Yr odfa hon a dreuliwyd yn<noinclude><references/></noinclude> 6nandzp462oujnll5e54c4lu1wytgne Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/98 104 84564 164560 164341 2026-05-15T14:25:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164560 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthym, uwchben ein dysgwyliadau. Codaf yma faen o ddiolchgarwch. Daethum adref dydd Llun. Cefais fy mam yn gystuddiol iawn. Aethum at fy ngalwedigaeth. Cadwyd fy myfyrdod yn y gair. Profais hyny yn elw mawrimi. Nos Fercher, cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yn bur gyffredin o ran fy nheimlad arnaf. Cadwyd cyfarfod neillduol. Cynygodd tri o newydd. Cawsom rym i ddweyd y gwir wrthynt. Aeth hyn heibio hefyd yn ddilewyrch iawn. Dybenwyd trwy weddi a mawl. Diolch i Dduw am bob cyfleusdra i ddysgwyl wrtho. Treuliais ddydd Iau yn bur ddielw mewn myfyrdodau; mae hyn yn galw am i mi dristâu yn dduwiol. Nos Wener yr oedd John Evans yn pregethu gyda ni. Profais fod yr Arglwydd yn arddel ei was, a'r weinidogaeth drwyddo, i'r gynulleidfa a'm hysbryd inau. Dydd Sadwrn aethum i'w wrando drachefn. Profais yma bleser, ond nid mor fwynhaol a'r odfa arall. Boreu Sabbath teimlais fy meddwl yn wasgaredig iawn. Aethum i'w wrando y boreu. Fe'm gadawyd yn sych iawn. Aethum at odfa y prydnawn: hi fu mor sych arnaf yma nes yr oeddwn bron mewn anobaith. Aethum y noswaith hono yn nghyfeillach brawd cu genyf i dŷ hen weinidog o'n pobl ni; yma bu rhyngom (sef ni ein dau a hen wraig y gweinidog, yr hon oedd fam yn Israel, profiadol a deallus iawn,) lawer o ymddyddanion crefyddol. Gyda mawr hyfrydwch awd at y ddyledswydd deuluaidd. Profais fy ysbryd yn cael gronyn o'i nesu at yr Arglwydd. Boreu dranoeth, ar ol bod dan gysgod yr Hollalluog trwy y nos, aethom at ddyledswydd deuluaidd. Profais nerth newydd yn fy ysbryd i ymaflyd am Dduw mewn gweddi. Mi ddymunwn gael calon i fod yn ddiolchgar i Dduw am hyn i un mor wael. Codaf faen yma hefyd. Daethum adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Treuliais ddydd Mawrth yn astudio pethau duwiol. Dydd Mercher cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf ynddo. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ar ol dywedyd tipyn o'n helynt, tarawodd un o'r rhai oedd newydd eu derbyn i mewn i'r gyfeillach i ddweyd; dywedodd mor effeithiol nes yr enynodd y gyfeillach yn dân. Cawsom achos i ddweyd wrth ymadael mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Cyfarfuwyd nos Wener. Yma hefyd y torodd Duw yn ei ddylanwadau arnom tu hwnt i'r hyn oeddym yn ei feddwl, nac yn ei ddymuno. Gwnawd ein llestri yn llawn iawn cyn<noinclude><references/></noinclude> le4vo0c6wnonfep8p6q6eif4dmfvnu8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/103 104 84565 164566 164342 2026-05-15T14:35:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164566 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bu yn ddieffaith i minau. Clod i Dduw am hyn. Ar ol yr odfa hon teimlais fy hun yn myned i lawr dan draed gelynion fy nhŷ fy hun; yr oeddwn bron ffaelu anadlu. Aethum at odfa i mi fy hun y prydnawn; profais yr Arglwydd yn un â'i air yma, yn cyfodi y tlawd o'r llwch, oddiwrth 1 Bren. vii. 38. Aethum at odfa y nos. Profais yma ryddid, a dysgwyd i mi ymddiried yn Nuw. Pan oeddwn wan, yna yr oeddwn gadarn. Aethum i dŷ Mr. Thomas i gysgu. Cefais gyfeillach ddymunol a diddolur yma. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Ar ol lluniaeth cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd: cefais ryddid ger bron yr Arglwydd yn fy ysbryd wrth ymbil. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd, a'm brawd wedi dod i ymweled â ni; ac yr ydym yn mwynhau y dydd hwn dan nodded Duw. Beth a dalaf am ei holl ofal am danaf, a'i roddion i mi? Am nad oes genyf ddim i dalu, phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Nos Lun bu genym odfa, a'm brawd yn pregethu; yn yr odfa gwelwyd effeithiau bod y gair yn cael ei dderbyn; fy nheimlad i oedd sych a thrwm. Dydd Mawrth cychwynasom yn foreu iawn i'r ''Association'' i Abergwaen, erbyn naw o'r gloch i ''society'' y llefarwyr. Triniwyd amryw gangenau o'r ddysgyblaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Edwards. Ar ol ychydig luniaeth, awd i'r ''society'' arall, lle yr oedd yr holl flaenoriaid yn cwrdd. Triniwyd amryw bethau oedd yn perthyn i'r Corph. Awd at odfaon cyhoeddus, lle y pregethodd y brawd {{bar|2}} oddiwrth Gal. ii. 21; y brawd Thomas Jones oddiwrth Actau xxvi. 18; a'r brawd Peter Roberts oddiwrth Dat. xxii. 1. Dybenwyd gwaith y dydd. Cafwyd lle i feddwl fod Duw yn foddlon i'r gwaith. Rhoddodd dywydd da yn nghanol tywydd garw; a gwlithodd trwy y weinidogaeth. Boreu dranoeth yr oedd odfa gyhoeddus am saith o'r gloch. Gweddiodd y brawd Watkin Williams: pregethodd y brawd Dafydd Evan, Ephes. i. 19; a'r brawd Edward Watkin oddiwrth Mat. iii. 6. Awd i'r ''society''. Triniwyd amryw faterion yn ddoeth dan lawer o gyfarwyddyd. Awdi'r odfaon un ar ddeg. Gweddiodd y brawd Lewis Morris. Pregethwyd yn Saesoneg gan John Rees; yn Gymraeg gan Mr. Williams. Canlynodd Ebenezer Morris. Am ddau, pregethodd David Rees oddiwrth 1 Pedr i. 19, a'r brawd John Evans oddiwrth Ephes. iii. 19. Ymadawyd mewn tawelwch. Cafwyd achos i ddywedyd fod yr Arglwydd yno. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> r2fiyigjon2dxxkl952nasj1ry7wsgi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/108 104 84566 164576 164343 2026-05-15T14:54:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164576 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Pregethais dair gwaith ar Heb. xii. 2. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn i mi. Tybiais fod y bobl yn profi yr un peth. Nos Sul, ar ol yr odfa, cadwyd ''society'' o ffarwel i'r cyfeillion. Teimlais yn wyneb ymadael undeb a rhwymau rhyngof a hwynt, a hwythau a minau. Boreu dydd Llun aethum yn gysurus i lan y ''passage''. Erbyn myned drosodd, yr oedd dyn i'm cyfarfod; hyn oedd dynerwch mawr oddiwrth yr Arglwydd. Aethum erbyn odfa tri i'r Tabernacl, un o gapelau yr Independiaid yn Sir Fynwy. Teimlais rwyddineb a phleser mawr gyda'r gwaith yma oddiwrth Heb. xii. 2. Noswaith hono i'r Bowdown, lle yr oedd fy ngheffyl. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf yma. Boreu dranoeth aethum i'r Casnewydd. Teimlais yma fwy o gaethiwed, ond nid yn ddiflas. Oddiyma i odfa dau i {{bar|2}}; fy nheimladau oedd da i mi, ond marwaidd wrth fyned yma; ond yr Arglwydd a wnaeth yn dra rhagorol drosof ac i mi. Aethum at odfa chwech. Cyfarfyddais à Thomas Edward yn dod i'm cyfarfod, yr hwn a fu yn gyfaill ffyddlon yn Sir Forganwg. Hon oedd yr odfa ddiweddaf i mi yn Sir Fynwy. Rhoddodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd arnom yn dra mawr. Nid wyf yn dywedyd hyn o ymffrost, ond o gydnabyddiaeth i Dduw am ei fawr ymgeledd i'r annheilyngaf o bawb. Galwaf y fan hon yn Ebenezer. Boreu dranoeth yr oeddwn i a'm cyfaill caredig, T. Edward, i fyned i Gaerdydd. Cefais help yma hefyd uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyma i Dinaspowys; nid oedd yn rhwydd iawn yma, ac hefyd nid oedd yn gwbl ddiflas. Aethum oddiyma i Drehill. Fy meddwl wrth fyned yma oedd eiddil iawn; ond cefais achos dywedyd gyda'r apostol, 'Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.' Dydd Iau i St. Ffagans. Cefais fy nerthu yma uwchlaw fy nysgwyliad; nid â rhyw harddwch allanol ar y gwaith yn unig, ond ag ymgeledd ysbryd oddifewn. Aethum oddiyno gyda'm cyfaill caredig i Bentyrch, lle y teimlais lawer o sychder, ond er hyn cefais les. Aethom i Whitchurch. Pregethais oddiar Heb. xii. 2. Aethom oddiyno dranoeth i {{bar|2}}. Bu yr Arglwydd yn dra thirion o honof yma. Aethom oddiyno i Gaerphili, cartref fy nghyfaill. Yr oedd hi yma yn yma yn dywyniadau rhwng cymylau. Dydd Sadwrn i le a elwid y Felin. Codaf yma faen am ddaioni yr Arglwydd. Aethum yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion i Merthyr Tydfil, at odfa chwech. Yma yr oedd diwygiad mawr a grymus; prin y<noinclude><references/></noinclude> m11m8g8p92ti609x6aw72ev45zr9cv4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/113 104 84567 164581 164344 2026-05-15T15:00:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164581 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Dranoeth, y Sabbath, gwrandewais yr un gwr. Pregethodd yn odidog iawn. Teimlais faeth trwy y gwirionedd. Diolch i Dduw am hyn. Prydnawn gwrandewais yr un gwr, a gwr enwog arall o'r Gogledd. Cefais fwy trwy hwnw yr odfa hono na'r llall. Aethum i'w wrando drachefn. Teimlais fwy o sychder yma. Dydd Llun cyfarfu y gwr hwn ac un arall o'r un wlad yn fy nghartref. Teimlais bleser mawr yma. Aethum i'w wrando drachefn. Mi debygwn y gallaf ddyweyd i mi brofi bendith yma hefyd. Diolch i Dduw am ei fawr ddoniau heddyw eto, yn cael y fraint o wynebu ar y moddion. Profais o ran fy nheimlad yn bur gyffredin dan yr odfaon. Yn y ''society'' teimlais yn fwy rhwydd. Derbyniwyd dau i'r ''society''. Cafwyd help i ymddyddan a hwy gyda gradd o oleuni. Clod i Dduw am hyn. Treuliais y rhan hon o'r wythnos mewn tipyn o lafur meddwl mewn ffordd weinidogaethol. Dydd Sadwrn aethum i angladd. Profais beth help yma, er fod y testun newydd ei gael. Aethum y noswaith hono at odfa. Teimlais gymhorth yma hefyd. "Dranoeth, y Sabbath, aethum at y ddyledswydd deuluaidd. Ni phrofais ryddid mawr yma. Aethum at odfa wyth. Ni chefais ryddid mawr yma. At odfa tri: ni chefais ryddid fel arferol yma. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf o'r dechreu i'r diwedd. Daethum adref heddyw yn llesg o ran fy nghorph: cefais y teulu yn gysurus. Gwynebu ar yr wythnos. Help fi, Arglwydd, i rodio gyda thi, ac yna mi fyddaf ddyogel. "Treuliais yr wythnos hon mewn llawer o helbul bydol, ac ychydig o enill ysbrydol; dan lawer o galedwch, eto dysgwyliaf wrth yr Arglwydd. Dydd Gwener a dydd Sadwrn yr oeddwn mewn anhwyl corphorol. Daethum ychydig yn well erbyn nos Sadwrn. Aethum at odfa. Teimlais boen mawr wrth fyned trwyddo gan yr anwyd, ond yn oleu, o ddaioni Duw, yn y gwaith. Boreu dranoeth aethum at odfa wyth i Dyddewi. Ni bu gul arnaf yma, er mor boenus y teimlais. Aethum at odfa i Gaerfarchell. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf, ac ar y gynulleidfa. Fy enaid a'r cwbl sydd ynof fyddo yn y llwch yn cydnabod Duw am ei sylw ar yr annheilyngaf o'i weision. Daethum adref prydnawn erbyn odfa tri o'r gloch mewn llawer o lesgedd corph. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda blas, ond heb lawer o ôl ar y gwrandawyr, nes yn agos i'r diwedd y gwelodd Duw yn dda lewyrchu tipyn trwy y gwirionedd.<noinclude><references/></noinclude> 8zz36ghm4ofnvh315tei70ypd4euqb8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/118 104 84568 164586 164345 2026-05-15T15:08:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164586 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brawd Thomas Edwards: pregethodd Davies a minau. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd, a'r odfa a drodd yn gysurus iawn. Aethom erbyn odfa y nos i Sir Frycheiniog amryw o honom yn nghyd. Ymadawsom yn mhen ychydig, Thomas Edward a minau ein hunain, ac un arall a ddaeth yn ein herbyn. Aethom y noson hono i Crai, lle darfu i ni gyfarfod â dau frawd o'r Gogledd, John Ellis a Wm. Hughes. Profais yr Arglwydd yn dirion annysgwyliadwy. "Aethum dranoeth i'r Gymanfa i Drecastell. Cyfarfuwyd am 10 gan y gweinidogion. Y cyfarfod fu yn adeiladol iawn ac yn fuddiol, yn nghylch amgylchiadau y gweinidogion. ''society'' arall am ddau, lle bu ystyried pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph. Yr addoliad cyhoeddus am 4. Gweddiodd y brawd Nathaniel Williams. Pregethodd y brodyr John Jones, Caergwrle, a Dafydd Rees, Llanfynydd, a'r gwaith dan ei goron. Dranoeth am 7 gweddiodd y brawd Wm. Hughes o'r Gogledd. Pregethodd Mr. Lloyd a minau, a chawsom le i feddwl fod wyneb Duw yn y lle. ''society'' am 11. Siaradwyd llawer o bethau amgylchiadol a buddiol, ysbrydol. Cefais achos i ddiolch i Dduw am yr Association. Daeth amser yr odfaon. Gweddiodd y brawd Mr. Howells, Morganwg. Pregethodd y brawd John Ellis ac Ebenezer Morris, dan arddeliad mawr. Clod i Dduw y Gymanfa am dani. Aethum oddiyma at odfa y noswaith i Lanymddyfri, lle y gwenodd yr Arglwydd arnaf. Codaf yma faen hefyd. Aethum dranoeth i Gilycwm erbyn 10. Nid oedd fy nhraed mor rhydd yma, eto daioni Duw oedd i'w weled mewn modd neillduol. Cadwyd ychydig ''society''. Ymadawsom ar ffrwst, i fyned i Gaio, lle yr oeddwn i gyfarfod Ebenezer Morris. Gwenodd yr Arglwydd yn anarferol yma. Aethum oddiyno i Lansawel, a bu ymgeledd yr Arglwydd yn dra rhyfedd yma. Clod i Dduw am hyn. Dranoeth aethum i'r New Inn yn gysurus iawn dros y mynydd yn nghwmpeini dau frawd; a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yn y lle, er fy mod o ran fy meddwl yn fwy rhwym na llawer gwaith wrth ymdrin â'r un gwirioneddau. Aethum oddiyno i Glosygraig; llawer o drymder a brofais yma, eto y gwaith dan ei harddwch allanol. Esgyned mawl i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Gastell newydd. Cefais ychydig o fy anadl yma. "Dranoeth, y Sabbath, cefais fy meddwl yn dra siriol yn y ddyledswydd deuluaidd. Cychwynasom i'r Capel Newydd. Cefais radd o help. Oddiyno i Nefern. Siriolodd yr<noinclude><references/></noinclude> 76gpzen49fg095xxakzmgjmi0v08oj4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/123 104 84569 164594 164346 2026-05-15T15:30:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164594 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yma fwy o ireiddiwch. Aethum oddiyno i Lansadwrn. Teimlais ryddid yma, a'r gwaith dan ei harddwch allanol. Dranoeth aethum i Gilycwm, a'r tywydd yn oer ac yn galed, oddifewn ac oddifaes. Cwympodd y ceffyl danaf. Yr Arglwydd a'm cadwodd, ac a'm gwaredodd. Yn y gwaith cyhoeddus teimlais fy ysbryd dan ymgeledd, a'r Arglwydd yn siriol ar y gynulleidfa. Cadwyd ''society''. Dywedais yn achos yr Ysgolion Sabbathol, a Bristol. Aethum oddiyno i Ystradwalter. Fy ysbryd yn dra llwythog a thrymaidd. Dranoeth aethum i Lanymddyfri. Cefais beth o fy anadl yno. Aethum oddiyno i Sir Frycheiniog i dŷ Richard Winstone. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Y Sabbath, ar ol dyledswydd deuluaidd, aethum i'r Bont. Gwelodd yr Arglwydd fod yn dda i harddu y gwaith yma. Clod iddo am ei ras. Aethum oddiyno i'r Gorwydd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma. Teimlais fy meddwl dan ymgeledd. Daethum oddiyno i Lwynderw. Teimlais gymhorth yma yn wyneb llesgrwydd. Yr wyf heddyw yn iach. Clod i Dduw am ei ofal am danaf. Yr wyf heddyw eto yn ymgyflwyno o'r newydd i Dduw a'i waith. Yn wyneb holl guro fy meddwl, yr wyf yn dymuno dy gwmni, anwyl Arglwydd. Daethum i Lwynmadoc. Cymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyno i Aber. Teimlais beth neillduol i fy meddwl. Oddiyno i Lanfairmuallt. Yr oedd hi arnaf yma yn galed a thrymaidd iawn. Dranoeth aethum gyda'm cyfaill ac un arall, i'r Capel Isaf ar ddydd ffair. Ni chawsom ond ychydig wrandawyr, eto siriolodd yr Arglwydd arnaf, ac ar y bobl. Aethom i Aberhonddu y noswaith hono. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma, ac a estynodd ei gymhorth. Dranoeth, sef dydd Mercher, aethom i'r Trallwm. Cyfarfum yno â dau wr dyeithr eraill. Profais yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyno i Lanfihangel. Teimlais yn fwy caeth yma. Oddiyno i Beilu du. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Dydd Iau, yn dywydd garw iawn gan eira. Aethum i Drecastell. Cwrddais yma ag amryw o'r brodyr, Lewis Morris a'i gyfaill. Fy nheimlad yma oedd yn fwy trymaidd, eto yr oedd harddwch allanol ar y gwaith. Aethum i'r Browydd (?). Cefais gymhorth. Dranoeth aethum i Crai. Cwrddais yno â'r un cyfeillion. Teimlais yma yn fwy rhwym a chaeth. Aethum oddiyno i Defynog, trwy dywydd garw gan yr eira, eto yr Arglwydd oedd dda wrthyf. Aethum<noinclude><references/></noinclude> p62611sf35gsths80occtxhnha5xngh Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/128 104 84570 164592 164347 2026-05-15T15:19:17Z AlwynapHuw 1710 164592 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cross Inn. Teimlais fy llesgedd yn fawr yma. Oddiyno i'r Pentwyn, a'm llesgedd yn cynyddu. Dranoeth i Lanpumsaint. Cefais gymhorth yma gyda'r holl waith. Oddiyno i Nant yr olchfa. Cefais fwy yma na'm dysgwyliad. Dydd Mawrth at odfa deuddeg. Oddiyno i Lanfyrnach, mewn anhwyldeb mawr o ran fy nghorph, a chynyddu a wnaeth. Dranoeth i Gwrdd Misol Bwlchygroes, a'r anhwyldeb yn fawr. Cadwyd society am naw. Pregethodd Dafydd Evans a minau, a phob arwydd o sirioldeb ar y gwaith. Dranoeth am naw ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol. Pregethodd Evan Harries ac Ebenezer Richard, a'r gwaith dan ei goron. Aethum i Landudoch y noswaith hono; cefais bleser mawr yno gyda'r holl waith. Dranoeth i agor tŷ cwrdd Glanrhyd, a'r Arglwydd yn gwenu. Y noswaith hono i Drefdraeth, a'r gwaith dan ei wawr. Dranoeth adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Boreu Sabbath holais y plant yma gyda phleser. Yn ganlynol pregethodd Evans. Oddiyno i Gaerfarchell. Holais y plant yma gyda phleser mawr. Oddiyno i Dyddewi. Pregethodd ; holais inau y plant gyda phleser mawr. Dychwelais adref ddydd Llun yn o gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei holl ddoniau. Dydd Mercher bu genym gwrdd gweddi a society. Teimlais fy meddwl yn dra siriol gyda'r gwaith. Sadwrn at odfa yr hwyr, dan ryw faint o brofedigaeth. Cefais gymhorth i ddyweyd y gwir. {{***|7}} "Cychwynais Mai yr 16eg am dro i'r Gogledd. Teimlais lawer o lesgrwydd yn fy natur, ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf; cefais arwyddion ei fod heb fy rhoi i fyny. Clod byth iddo am hyn. Dychwelais heddyw, Mehefin 27, yn dda fy iechyd. Cefais y teulu felly hefyd. Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei ddoniau i mi, y gwaelaf o bawb! Mawrth, gwrandewais Ebenezer Morris gyda llawer iawn o bleser, a'm hysbryd dan y gwlith oddiwrth y gwirionedd. Dydd Iau gwrandewais ddau wr dyeithr eraill. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Nos Wener bu genym ysgol dda iawn. Cefais y plant lawer iawn gwell nag y meddyliais. Sabbath holais y plant am wyth, am Grist, gyda phob pleser. Cefais y fraint o fod dan yr un llewyrch wrth lefaru. At odfa dau. Cyfarfyddodd plant y tri lle. Holais yn gyntaf ar y Drindod; yn nesaf, holais rai eraill am ddyfodiad Crist i'r farn; yn drydydd, eraill ar wyrthiau Crist. Dybenwyd y Y cyfarfod gyda phleser meddwl. At odfa yr hwyr. Holais y plant yno, a phregethais, nid yn ddiwlith. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Oh am nerth i rodio er clod y Duw hwn, sydd mor rhyfeddol o dda i un mor annghyffredinol o ddrwg. Nos Fercher, pregethais yn Carnachenwen. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Gwener aethum i'r Felindre. Profais gymhorth yno yn wyneb cynygiadau i ddigaloni. Oddiyno i Abergwaen i gadw society erbyn deg. Teimlais gymhorth rhwyddineb tu hwnt i'm dysgwyliad. Y noswaith hono a aethum i Drellan. Cefais gymhorth yno. "Boreu dydd Sabbath aethum i gladdu brawd anwyl i mi. Aethom oddiyno at y gwaith, ond nid gyda chymaint o wlith. Am ddau ceisiwyd genyf i bregethu ar destun ar ddeisyfiad y marw. Cefais gymhorth i wneyd hyny, a'r Arglwydd yn gwenu. Holais y plant, a'r gwlith yn disgyn. Oddiyno i Drehowel. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dydd Llun aethum i'r Dinas. Cefais rwyddineb yma. Aethum oddiyno i Drefdraeth. Cefais gymhorth yma hefyd, yn neillduol gyda'r plant. Dranoeth i'r Eglwyserw. Cefais help yma hefyd. Oddiyno i Gilgeran, lle yr oedd Cwrdd Misol. Cafwyd cymhorth yn y prifat. Cefais gymhorth yn y cyhoedd, a'r Arglwydd yn arddel; arosodd dros y cyfarfod oll. Cefais anwyd mawr. Dydd Iau, daethum i'r Nefern erbyn 12. Teimlais fy meddwl yma yn dra siriol. Oddiyma i Abergwaen. Cefais gymhorth ac arwyddion neillduol o foddlonrwydd. Daethum adref heddyw yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Sabbath, am ddeg, holais y plant, a phregethais. Profais yr Arglwydd yn dirion. Oddiyma i Gaerfarchell. Teimlais yma fwy o galedi. Oddiyma i Dyddewi. Teimlais yn fwy rhydd yma. Boreu dydd Llun teimlais fy afiechyd yn cynyddu. Adref nos Lun yn fawr fy mlinder. Nos Wener yn yr ysgol i holi y plant yn yr egwyddorion. Nos Sadwrn pregethais yn Carnachenwen. Teimlais rwyddineb a help yn y gwaith. Aethum y Sabbath i Gymanfa y plant i Abergwaen. Holwyd yno bedair ysgol gyda llawer o foddlonrwydd. Pregethwyd yn ganlynol. Y pwnc cyntaf oedd profi nodau y galon. 2. Dyfodiad Crist yn y cnawd. 3. Nodau rhagrithiwr. Cyfarfuwyd am ddau. Dechreuwyd trwy fawl, gweddi, a darllen. Holwyd tair ysgol. Y gyntaf, am nodau dyn annuwiol; yr ail, ar Dduwdod Crist; y drydedd, am ddyndod Crist. Pregethwyd. Cafwyd achos dywedyd mai da oedd bod yma. Adref y noswaith hono. Y Sabbath diweddaf holais y plant gartref am waith yr Ysbryd Glân. Pregethais. Teimlais ddaioni Duw, a llid satan yr un pryd. * * [blocks in formation] * [blocks in formation] "Dydd Llun, aethum i'r Cwrdd Misol. Pregethais yn Drellan, nos Lun. Dydd Mawrth yn y Dinas am naw: prydnawn yn y Cwrdd Misol. Ar ol y gyfeillach gyffredinol gweddiodd D. Griffiths. Pregethodd E. Morris a minau. Dranoeth cyfarfuwyd am 9. Ymddyddanwyd amryw bethau perthynol i'r Corph, yna dechreuwyd yr odfa gan E. Richards. Pregethodd E. Morris a Mr. Jones, a'r gwaith dan ei goron. Am 6, holais y plant, a phregethais. Dranoeth i Eglwyserw, gyda Mr. Jones, i agor tŷ cwrdd. Daethum oddiyno i Abergwaen. Holais y plant, a phregethais mewn mawr gaethiwed o ran fy nghorph. Daethum adref heddyw dan rwymau i roddi diolch i Dduw am ei diriondeb ataf gyda'i waith, ac yn y teulu. Boreu Sabbath yn yr ysgol gartref. Y prydnawn i Rydygele; cefais gymhorth gyda'r gwaith yma. Oddiyno i Solfach. Cymhorth a help yma. Heddyw daethum adref yn dra chysurus, a'r teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei annhraethol ddaioni. "Dydd Mawrth aethum i'r Association i Abergwaen. Cyfarfu y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn dra buddiol. Cyfarfuwyd wedi hyny ychydig wedi un. Triniwyd pethau amgylchiadol, perthynol i'r Corph. Am dri gweddiodd David Evans. Pregethodd Thomas Jones a Mr. Jones. Dranoeth am saith gweddiodd D. Thomas. Pregethodd Watkin William ac Arthur Evans. Awd i'r society. Cafwyd achos cwynfan oblegyd clwyfo y frawdoliaeth oddiar fethu cydweled. Am 11, gweddiodd B. Williams. Pregethodd John Thomas, Mr. Bennet, a D. Rees. Am 2, gweddiodd John Williams; a phregethodd E. Richards a Nathaniel Williams. Yn yr hwyr gweddiodd Nathaniel Williams, a phregethodd William Hafard, a holodd Ebenezer Richard y plant. Ymadawyd yn dra chysurus. Dydd Sul gwrandewais Mr. Jones. Oddiyno aethum i Gaerfarchell, ac oddiyno i Dyddewi. Holais y plant, a'r Arglwydd yn dirion iawn. Oddiyno i Solfach. Holais y plant, a'm meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Garnachenwen. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Yr wyf heddyw yn parotoi i fyned i Fryste. Ei wyneb grasol fyddo arnaf, bryfyn gwael, annheilwng." Yr ydym wedi gosod darn go fawr o'r dyddlyfr i mewn, fel y caffo y darllenydd fantais i weled pa mor fanol yr oedd Mr. R. yn sylwi ar, ac yn cofnodi y gwahanol dywydd yr elai drwyddynt yn nechreu ei fywyd cyhoeddus. Hwyrach y bydd rhai yn barnu ein bod wedi rhoi gormod o hono i mewn; ond nid oeddem yn gweled y gallasem wneyd tegwch ag ef na hwy, ond trwy ddyfynu yn helaeth o'r llyfr sydd yn cynwys helyntion amryw flynyddoedd. Beth yw y casgliad naturiol, debygwch chwi, y dylem wneyd ar ol darllen y tudalenau uchod? Yr ydych yn ei weled yn suddo i mewn megys i ffwrn boeth yn nechreu y llyfr, ac yn y diwedd yn dyfod allan nid fel Ephraim, yn debyg i "deisen heb ei throi," eithr yn fara iachus, cras, blasus, a bwytadwy. Yr ydych wedi ei weled yn nodi allan ei deimladau mewn cysylltiad â'r holl symudiadau, yn gwneyd sylw ar y gwres a'r oerfel mewn cysylltiad â phob cwrdd ac a phob pregeth; yn llawenhau pan y rhoddai Duw wedd ei wyneb; yn gofidio pan y cuddiai ei wyneb; yn ofni rhag nad ydyw yn gywir; yn llawenhau mewn gobaith ei fod yn gymeradwy brydiau eraill. Wel, a ydyw yn bosibl i chwi lai na meddwl fod dyn ieuanc fel hyn yn rhwym o fod yn dduwiol iawn? Onid yw yn rhesymol i ni gasglu ar unwaith ei fod dan law Duw, yn cael ei lunio yn was iddo? Pwy ddarfu gael eu harwain erioed ar hyd y llwybrau y noda y dyddlyfr hwn allan, ond y cyfryw ag oedd o dan driniaethau nid yn unig i fod yn gadwedig, ond hefyd i ddal gweinidogaeth amlwg er cadwedigaeth y byd? Nid oes yr un ganwyll a all oleuo, heb losgi o hyd. "Canwyll yn llosgi ac yn goleuo" ydoedd ef, a miloedd yn Nghymru yn "gorfoleddu yn ei oleuni." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled y ganwyll yn llosgi; edrychwch i gymdeithas, a chewch ei gweled yn goleuo, megys ar ganwyllbren, i bawb a'r sydd yn y tŷ. Yr oedd y gair yn llosgi ynddo, nes fflamio allan yn oleuni i bawb o gwmpas. Yr ydym yn edrych ar y dyddlyfr fel allwedd i agor y gwahanol gloion, nes dyfod i ddirgelion cymeriad Mr. Richard. Yr oedd yn fawr mewn cymdeithas am ei fod yn fawr gyda Duw; yr oedd yn wr cadarn nerthol, am ei fod mewn cymundeb â'r Hollalluog; yr oedd yn drugarog, ac yn medru cydymdeimlo â'r tlawd a'r gwan, o herwydd ei agosrwydd i'r "Duw trugarog a graslawn." Bydd y dynion ieuainc, wedi darllen y dyddlyfr, yn gweled fod y byd wedi treiglo gryn dipyn yn y blaen oddiar gychwyniad Mr. Richard hyd yn awr, er nad yw hyny ddim yn amser maith. Nid yw ond o haner cant i driugain mlynedd oddiar y dechreuodd bregethu hyd yn bresenol, ac eto yn hyny o amser mae y byd wedi newid amryw weithiau; a'r pregethwyr wedi newid fwy o weithiau na hyny, canys nid oes iddynt oes hir iawn, yn enwedig os byddant ryw werth; oblegyd, fel y gwyddoch, os bydd y ganwyll yn llosgi, y mae yn rhwym o gael ei difa yn bur fuan. Yr ydych wedi darllen yn y dyddlyfr enwau pregethwyr na welsoch erioed o honynt; ac yn wir, ychydig sydd yn fyw a'u gwelodd, er mor fyr yw yr amser. Yr ydych yn darllen am Gymanfaoedd, a phwy oedd yn pregethu ynddynt; ond pa le y maent heddyw, ïe, a tho ar ol to wedi hyny? Nid oes enw-yr un yr ydych chwi yn ei adwaen heddyw yn y dyddlyfr; nac oes un. Yr enwau bendigedig yr ydych yn eu darllen yno yw, Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelig (Howells, Longacre, wedi hyny); Ebenezer Morris; David Evans, Aberaeron; Jno. Evans, Llwynffortun; Arthur Evans; Charles o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin; Thomas Jones, Caerfyrddin; John Elias, Mon; Lloyd, Beaumaris; Wm. Lloyd, Henllan, a lluaws eraill rhy faith i'w henwi. Ond y cwestiwn yw, "Ү prophwydi, pa le y maent hwy? y tadau, a ydynt hwy fyw byth?" Ah! y maent yn ddystaw er ys llawer o flynyddau, yn gorphwys o dan rwymau angau, yn "dysgwyl adgyfodiad gwell." Y rhai hyn oeddynt ddefnyddiau teml gyntaf y Methodistiaid; y rhai nad yw y bobl ieuainc yn eu cofio, nac yn gwybod ond ychydig am danynt, a hyny trwy draddodiad. Y maent hwy yn hapus gyda'r ail deml, gan feddwl fod hon yn gymaint ei gogoniant a'r gyntaf, os nid mwy, yn gymaint ag na ddarfu iddynt weled gogoniant y gyntaf erioed. Eithr yr hen bobl anwyl, gweddillion angau dwy oes, y maent hwy yn wylo y dagrau wrth edrych ar salwch yr ail deml, yn gymaint a'u bod yn cofio y gyntaf. Yr oedd yn bryd i'r hen Christmas Evans farw gryn amser cyn iddo wneyd hyny, canys yr oedd Cymanfaoedd yn myned yn bethau diflas ganddo, yn gymaint a'i fod yn gydnabyddus å'r hen Gymanfaoedd er ys llawer dydd. Gwaeddai allan ryw dro wrth wrando pregethau, ac yn cofio yr hen bregethu Cymanfaol, "Hawyr, beth yw'r sparbles hyn? yn mha le y mae yr hen hoelion wyth?" Yr hen hoelion wyth sydd i'w<noinclude><references/></noinclude> sftl7bo923l3hkbym33rj9reyps6afl 164599 164592 2026-05-15T15:39:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164599 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cross Inn. Teimlais fy llesgedd yn fawr yma. Oddiyno i'r Pentwyn, a'm llesgedd yn cynyddu. Dranoeth i Lanpumsaint. Cefais gymhorth yma gyda'r holl waith. Oddiyno i Nant yr olchfa. Cefais fwy yma na'm dysgwyliad. Dydd Mawrth at odfa deuddeg. Oddiyno i Lanfyrnach, mewn anhwyldeb mawr o ran fy nghorph, a chynyddu a wnaeth. Dranoeth i Gwrdd Misol Bwlchygroes, a'r anhwyldeb yn fawr. Cadwyd ''society'' am naw. Pregethodd Dafydd Evans a minau, a phob arwydd o sirioldeb ar y gwaith. Dranoeth am naw ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol. Pregethodd Evan Harries ac Ebenezer Richard, a'r gwaith dan ei goron. Aethum i Landudoch y noswaith hono; cefais bleser mawr yno gyda'r holl waith. Dranoeth i agor tŷ cwrdd Glanrhyd, a'r Arglwydd yn gwenu. Y noswaith hono i Drefdraeth, a'r gwaith dan ei wawr. Dranoeth adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Boreu Sabbath holais y plant yma gyda phleser. Yn ganlynol pregethodd Evans. Oddiyno i Gaerfarchell. Holais y plant yma gyda phleser mawr. Oddiyno i Dyddewi. Pregethodd ; holais inau y plant gyda phleser mawr. Dychwelais adref ddydd Llun yn o gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei holl ddoniau. Dydd Mercher bu genym gwrdd gweddi a ''society''. Teimlais fy meddwl yn dra siriol gyda'r gwaith. Sadwrn at odfa yr hwyr, dan ryw faint o brofedigaeth. Cefais gymhorth i ddyweyd y gwir. {{***|7}} "Cychwynais Mai yr 16eg am dro i'r Gogledd. Teimlais lawer o lesgrwydd yn fy natur, ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf; cefais arwyddion ei fod heb fy rhoi i fyny. Clod byth iddo am hyn. Dychwelais heddyw, Mehefin 27, yn dda fy iechyd. Cefais y teulu felly hefyd. Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei ddoniau i mi, y gwaelaf o bawb! Mawrth, gwrandewais Ebenezer Morris gyda llawer iawn o bleser, a'm hysbryd dan y gwlith oddiwrth y gwirionedd. Dydd Iau gwrandewais ddau wr dyeithr eraill. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Nos Wener bu genym ysgol dda iawn. Cefais y plant lawer iawn gwell nag y meddyliais. Sabbath holais y plant am wyth, am Grist, gyda phob pleser. Cefais y fraint o fod dan yr un llewyrch wrth lefaru. At odfa dau. Cyfarfyddodd plant y tri lle. Holais yn gyntaf ar y Drindod; yn nesaf, holais rai eraill am ddyfodiad Crist i'r farn; yn drydydd, eraill ar wyrthiau Crist. Dybenwyd y<noinclude><references/></noinclude> es7pjis5l27fnkrk56b88sfertyvhfe Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/133 104 84571 164604 164348 2026-05-15T15:47:58Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164604 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfarfod y rhan fynychaf yn y dyddlyfr, yn enwedig ar ddydd Cymanfa. Bydd ambell sparblen yma ac acw ar brydiau eraill. Bydd yr hen bobl yn dyweyd nad oes nemawr o hoelion wyth yn cael eu gwneyd yn awr,—fod yr hoelion i gyd yn sparbles. Os felly, pa ryfedd eu bod yn wylo? Na, gadewch iddynt, yr hen dadau anwyl, canys y mae yn ddigon rhesymol iddynt wylo pan yn cofio am Sion yn ei gogoniant gynt, ac edrych arni yn awr yn nesaf peth i adfeiledigrwydd; "canys y mae y gweision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Wel, wylwch chwi, fe allai y bydd eich dagrau yn had gwerthfawr dry yn ffrwythlonrwydd eto i'r byd. Nid siarad yr hen bobl yw hyn i gyd, oblegyd ymddengys yn eglur fod rhyw beth yn y siarad, a mwy ynddo nag y bydd llawer yn dewis meddwl. I ba le yr ewch i edrych heddyw yn Nghymru am bregethwyr fel Jones Llangan, Evans Llwynffortun, Elias, Ebenezer Morris, y ddau Richard, a lluaws eraill? Edrychwch lle y mynoch, edrych ofer fydd, canys nid ydynt i'w cael heddyw: y mae yr oruchwyliaeth wedi newid yn rhyw fodd, a'r offeiriadaeth hefyd. Yr ydys yn awr yn yr ail deml; ond gobeithio serch hyny nad ydyw hon i'w dinystrio, eithr y bydd rhyw drydedd yn deilliaw o honi yn fwy gogoneddus na'r gyntaf. Ond y peth goreu i ni yw dylyn ein ffordd yn y blaen yn araf a phwyllog, a pheidio aros yn rhy hir gyda dim. Wrth edrych ar y rhan o'r dyddlyfr ag yr ydym wedi roddi o flaen ein darllenwyr, ni a welwn fod gwrthddrych y llyfr mewn llawn llafur, Sul, gwyl, a gwaith, gyda gweddio, hunanymholi, cyrddau gweddi, cyfeillachau, holi ysgolion, gwrando pregethau, a phregethu ei hunan. Nid oedd ganddo nemawr o amser i fod yn segur, canys yr oedd o gyfarfod i gyfarfod, o Sul i Sul, o Gymanfa i Gymanfa, o daith i daith beunydd. Nid oedd ganddo amser i siarad am ddim braidd ond am grefydd; sef am bregethu, am weddio, am Gymanfaoedd, ac am Sabbathau. Mae yn cyffwrdd yn ei ddyddlyfr weithiau am ei geffyl, ei fod yn cael ei daro yn anhwylus ar y daith, onide prin y cawsem wybod fod ganddo geffyl o gwbl. Erbyn ystyried, crefydd yw hyny hefyd, canys y mae yn dyweyd helynt ei feddwl, a'i brofedigaeth yn yr amgylchiad. Oblegyd, fel yr ydych yn deall, nid gwerthu ceffyl, porthmona ceffyl, gwneyd rhyw elw o geffyl yw y cwestiwn, eithr ceffyl yn myned yn sâl pan oddicartref ar daith yn pregethu. Nid rhyfedd yn y byd fod peth fel hyn yn brofedigaeth danllyd,<noinclude><references/></noinclude> cjorzv5fzd7r13dzky2kae7ib35ga15 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/138 104 84578 164609 164356 2026-05-15T15:54:56Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164609 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn pregethu y noson hono. Rhyw beth fel hyn y byddai pethau yn myned yn y blaen y dyddiau hyny, pan oedd Tommy fel angel cryf, dysglaer yn "ehedeg yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo;" ac weithiau fel y fellten yn tywynu nes synu a dychrynu pawb o'i gwmpas. Tra yr oedd Tommy a'i enw yn ymgodi uwch uwch i benau y mynyddoedd, yr oedd ei dad anwyl, yr hen Henry Richard, eto yn fyw, ac yn ymdrybaeddu llawer yn ngwaelodion y dyffrynoedd obry, bron wrtho ei hun mewn unigrwydd dystaw. Gan y bloeddio ar ben y mynyddoedd gyda Tommy, nid oedd braidd swn i'w glywed yn y dyffrynoedd gyda'r hen Henry. Ni fuasai son erbyn heddyw, digon tebyg, am Henry Richard, Trefin, oni buasai Tommy a'i frawd; anfarwolwyd ef am ei fod yn dad i'r ddau fachgen yna. Pregethwr bach oedd Henry Richard, tipyn o bregethwr gwlad, cyffredin; yn myned a dyfod yn ol ac yn y blaen yn ddigon tawel ar y ceffyl bach, ac edrych ar ol y tir yn yr wythnos. Ni chlywyd am dano ef yn Bristol a Llundain, yn y Gogledd nac yn y Cymanfaoedd; ac ni chlywyd am dano byth ond mewn cysylltiad â'i ddau fab enwog. Yr oedd Henry Richard yn bregethwr da, o bregethwr gwlad; dywedai dipyn yn flasus am Iesu Grist, a gweddiai yn gynes ac yn wlithog, fel yr oedd pawb yn ei garu fel hen wr duwiol a chrefyddol iawn. Er nad oedd yn bregethwr mawr, dywedir ei fod yn fuddiol, yn enwedig i'r saint, oblegyd tipyn at y profiad fyddai ganddo; rhyw beth i loni mewn gorthrymderau, ac i fyned yn y blaen mewn hyder yn yr yrfa ysbrydol. Byddai y saint yn caru ei glywed yn awr ac eilwaith; eithr am y pechaduriaid, nid oeddent hwy yn cael blas ar ryw bregethau fel yr eiddo Henry Richard; ond pan y byddai Tommy y mab yno, gwelsech y rhai hyny yn ei cherdded hi yn lled ystwyth. Yn ddystaw fel hyn yn y cymydd dyfnion gyda "Rhosyn Saron a lili y dyffrynoedd" y treuliodd yr hen Henry Richard ei fywyd yn dangnefeddus, heb ofni y pechod anfaddeuol, fel Tommy, na chlywed Sinai yn rhuo, yn mygu, ac yn llosgi gan dân, gan fygwth lladd yn farw pwy bynag ddelai i gyffyrddiad ag ef. Na, yn lled ddystaw fel Cristion llyfn y teithiai Henry Richard, gan arwain bywyd duwiol, a gwneyd tipyn o ddaioni, os gallai, mewn ffordd ddystaw. Gwnaeth ddaioni mawr trwy ddwyn ei blant i fyny yn addysg ac ofn yr Arglwydd, a gwelodd rhai o honynt yn addurn i grefydd a chymdeithas flynyddoedd lawer cyn ei ymadawiad ef â'r<noinclude><references/></noinclude> ewvc74075v1nv1nsre63gw04dy7hzyw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/143 104 84579 164614 164357 2026-05-15T16:01:33Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164614 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am unwaith erioed iddi fod ar ei gliniau heb ffrydio dagrau yn llu. Mynych y meddyliais nas gwyddwn ddim am ddelio å Duw, wrth edrych ar ei hagwedd dyner. Oh, y golled a gawsom ar ol ei gweddiau difrifol. Hi a'n hebryngai, hi a'n cylchynai, ac a'n dychwelai â'i gweddiau. Hi a'n llanwai â chyfoeth gweddiau bob amser. Buasai yn well genyf fod heb ganoedd o bunau yn y flwyddyn, pe buasent genyf, na bod heb ei gweddiau. Pan geisiwn ganddi gofio am danaf mewn gweddi, ei hateb a fyddai, 'Tommy, Tommy, nid ydych byth yn myned oddiar fy meddwl.' Neu, 'Oh fy machgen bach, yr wyf yn gwneyd hyny bob amser fel y gallwyf, beth bynag ddelo o honof; mi wn 'does dim o hyny yn ol. "Ei bywyd crefyddol o ran ei phrofiad oedd derfysglyd ac amrywiol, ac weithiau yn ddyddanwch cryf, ond yn wastad yn gwybod y tywydd yr oedd hi ynddo. Hi allasai ddyweyd rheswm am ei galar ac am ei gorfoledd. Nid oedd ei hofnau na'i chysur yn bethau arwynebol. Ni dderbyniai ei chysur heb seiliau sound, naill ai rhyw destun pendant o'r Bibl, neu ryw ddarn o'r weinidogaeth gyhoeddus. Yna byddai lawen yn yr Arglwydd, a'i hegwan gorph gofidus, afiach yn bywhau, ac eto yn ofni yn wyneb pob mwynhad dyddanus bod rhyw ''dreial'' a phrofedigaeth o'i blaen. Ymwelai yr Arglwydd yn aml iawn â'i henaid yn y nos, pan fyddai yn ei gwely yn effro. Ei harfer yn wastad tuag at ei phlant fyddai eu cynghori mewn symlrwydd a sobrwydd gyda dagrau a deffroad, fel un yn ymyl y perygl, gydag arferiad o'r geiriau hyn:—'Oh y cryndod sydd arnaf am danoch chwi; yr wyf yn crynu llawer am danoch. Llefwch lawer am y graig. Peth ofnadwy yw cario twyll i'r farn; hi fydd yn rhyw ddiwrnod mawr.' Pan glywai am ryw annuwioldeb yn y wlad, ei gair syml hi fyddai, Yn wir yr wyf yn crynu rhag y farn; ydych chwi ddim yn crynu? Yr wyf fel pe bawn yn ei dysgwyl hi bob dydd.' Ei chlefyd oedd y dropsi. Yr oedd hyn yn anhwylder allanol mewn natur oedd yn ei thrymhau oll. Gwaethaf y gelyn a gafodd o ddydd cyntaf ei phererindod hyd ddiwedd ei oes. Mynych y dywedai ei bod yn meddwl fod y gelyn yn fwy prysur wrthi hi na neb. Dywedai yn ei chystudd diweddaf, ei bod yn meddwl na chai fod dan ei draed byth. Hi gafodd lawer o bleser yn y 14eg o Ioan. O fel yr ymddigrifai yn athrawiaethau sylfaenol crefydd, megys y dangosir hwy yn y benod hono, gan dori allan, 'Y Duw mawr mewn cnawd! Person mawr wedi dod<noinclude><references/></noinclude> j0feqnny0juea7lrs86mtf4qvqujju7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/148 104 84580 164593 164358 2026-05-15T15:23:16Z AlwynapHuw 1710 164593 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>PENOD V. Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig-yn ei chael, ac yn priodi. YMDDENGYS fod y cyfnewidiadau mawrion achoswyd trwy farwolaeth Mrs. Hannah Richard wedi effeithio yn fawr ar wrthddrych ein Cofiant, ac wedi ei daflu i ddyryswch a thywyllwch anarferol. Yr oedd yn ymdeimlo bellach unigolrwydd ac amddifadrwydd, hiraeth annghydmarol yn parhau ar ol ei fam anwyl. Yr oedd erbyn hyn yn debyg i "belican yr anialwch, neu ddylluan y diffaethwch;" neu fel "aderyn y tô, yn unig ar ben y tŷ." Gwelir yn aml fod ychydig iawn o gyfnewidiad yn taflu dyn i fyd newydd hollol. Bydd y meddwl yn myned o dan gyfnewidiad, y teimladau yn cyfnewid; ïe, ymddengys pob peth ar y ddaear fel yn hollol newydd. Yn nghanol y newydd-deb hyn, dacw yr hen bethau yn myned heibio, fel y bydd yn llawn bryd ceisio ymaflyd mewn rhyw beth newydd, onide bydd yn beryglus i ddyn gael ei adael heb ddim. Y mae yn dyfod i'n cof yn awr am un pan yn ymyl marw yn dyweyd wrth ei nai am daflu llygad ar y weddw, a cheisio gwneyd rhyw gymhorth iddi; "canys," eb efe, "bydd fel gwydd unig ar lan afon, yn edrych yma a thraw, a phob fowler ddaw heibio yn anelu ati." Gwelsom ffolach gydmariaeth na hona lawer gwaith; oblegyd, fel y gwyddoch, peth go ddwl yw gwydd wrthi ei hun yn sefyll ar lan afon, heblaw ei bod yn agored i ymosodiadau beunydd. Wedi i angau amddifadu Mr. R. o'i fam anwyl, yr oedd yntau wedi ei amgylchynu â chyfyngderau o bob tu; a pha beth i ddewis nis gwyddai. Y mae yn codi boreu dranoeth wedi yr angladd, yn edrych o'i gwmpas, yn gweled yr haul yn tywynu fel arfer, ac mor gawraidd ag erioed yn rhedeg ei yrfa ogoneddus. Y creigydd geirwon gyferbyn sydd yn dawnsio mewn llawenydd o dan dywyniad haul tesog; y ddaear, a phob peth sydd arni, yn arwyddo bywyd didranc. Yr oedd angau fel pe buasai wedi ei ymlid i'w le ei hun y ddoe; a heddyw nid oedd Mr. Richard yn gweled dim ond bywiogrwydd yn teyrnasu o'i gwmpas. Y fath gyfnewidiad! Y ddoe yn edrych yn bruddaidd i lawr i'r bedd; heddyw yn codi ei olygon i fyny, a'r cwbl yn ymddangos yn un chwareufa o fywyd. Dacw y môr yntau odditano, yn lled chwareugar heddyw; nid ydyw fel llawer gwaith, mewn amrafael â'r gwynt ystormus a'r dymhestl, ac o herwydd hyny yn curo yn erbyn y creigydd fel pe bai am ddial ei lid ar y rhai hyny. Na; y mae y gwynt fel baban mewn cawell yn cysgu; ond yn anadlu yn dyner, yn ddystaw, ac yn ddiorchest; yr hen weilgi yntau sydd yn rhedeg yn ol ac yn y blaen trwy У creigiau; nid yn eu curo yn ddigofus, eithr fel mam anwyl yn cusanu y plant, ac yn eu trafod yn chwareugar. O dan dywyniad haul, ymddengys brig y don fel arian byw; yn ymgodi yn brydferth tua'r nef, ac fel pe dywedai yn ei iaith, "Llefara, Arglwydd; y mae dy was yn clywed." Wel, y mae Mr. Richard yn sefyll ar hen dwyn Trefin, yn nghanol golygfeydd bywyd, iechyd, a phrydferthwch; ac nid fel y ddoe, yn sefyll uwchben bedd tywyll, pruddglwyfus, a llygredig. Yn gymaint a'n bod yn nghanol bywyd, rhaid i ni feddwl am fyw yn gystal a meddwl am farw, canys fel y dywed Solomon, "Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd. Amser i eni, ac amser i farw; amser i blanu, ac amser i dynu y peth a blanwyd; amser i ladd, ac amser i achub; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu ceryg ymaith, ac amser i gasglu ceryg yn nghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; amser i rwygo, ac amser i wnio; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; amser i garu, ac amser i gasâu; amser i ryfel, ac amser i heddwch." Chwi welwch fod llawer o bethau wedi cael eu henwi gan y gwr doeth, a'r pethau hyny nad ydynt yn cael eu henwi, cynwysir hwynt oll yn yr ymadrodd, "Y mae amser at bob peth." Yr ydym yn synu peth na fuasai sai y gwr doeth, wedi dywedyd fod amser i garu, yn dywedyd hefyd y mae amser i briodi; ond nid ydyw yn yngan un gair am hyny. Peth digon rhyfedd yw hyn hefyd; ond dyna fel y mae hi yn bod. Digon tebyg fod hyny fel pethau eraill, yn cael eu cynwys yn gryno yn yr ymadrodd arweiniol. Wel, yn gymaint a bod "amser i bob peth," prydferthwch annghyffredin sydd yn ymddangos mewn gwneyd pob peth yn ei amser. Gair yn ei amser sydd yn dda dros ben; ïe, a phob peth yn ei amser. Pan y bydd y ffrwyth yn rhy anaddfed, y maent yn leision, yn surion, ac yn anfwytadwy; a phan yr elont dros ben bod yn addfed eilwaith, y maent yn rhy wydn, fel na fydd yn bosibl eu cnoi a'u treulio. Fel hyn rhyw dymhor byr yw yr amser rhwng cyn neu wedi yr amser. Yn gymaint a bod pethau yn sefyll felly, rhaid arfer cryn lawer o reswm, a bod yn gryn lygeidiog, onide bydd perygl o golli wrth fod yn rhy wyllt, a myned i wneyd rhyw beth cyn yr amser, neu ynte bod yn rhy ddof, a'i adael hyd nes ar ol yr amser, ac felly yn syrthio i brofedigaeth a magl ar bob llaw. Bydd cryn ddyryswch ar ddynion yn aml yn nghylch amser i briodi, canys, ysywaeth, byddant yn myned i briodi bob amser. Fe allai mai dyna y rheswm na ddywedodd y gwr doeth fod amser i briodi, yn gymaint a'i fod yn gweled dynion yn priodi bob amser, heb reol yn y byd. Gellir dyweyd rhyw beth am amser hau, ac am amser medi; eithr am amser priodi, bydd peth fel hyny yn myned y tu hwnt i ddirnadaeth y cryfaf eu galluoedd; ac yn wir, a dyweyd y cwbl, bydd dynion call yn aml yn myned yn ffolach na ffyliaid yn y mater hwn,-fel pe tarewid hwynt ag ynfydrwydd, fel y maent yn rhedeg yma acw yn erbyn y mur hyn, ac am draws y llall, nes yr arweinir hwynt at yr allor, ac wedi hyny byddant yn debyg i Nebuchodonosor, yn dychwelyd yn sydyn i'w synwyrau, ar ol i ryw saith amser o annghydwybodolrwydd fyned dros eu penau. Wrth edrych ar yr hanes sydd o'n blaen, yr ydym yn gweled fod Mr. Richard, yn nghanol yr holl olygfeydd bywydol ag oedd yn ymsymud o'i flaen, yn dechreu meddwl am "forwyn." Yr oedd hyn yn beth purion ddigon, canys yr oedd yn amser; nid cyn nac wedi yr amser; ond yr amser. Yn hyn o beth fe ddarfu iddo "wybod yr amser." Yr ydoedd yn ddyn yn awr mewn llawn addfedrwydd, ac heb fod yn rhy addfed. Wedi claddu ei fam, ymddengys fel aderyn wedi colli ei nyth, yn ehedeg yma a thraw, yn trydan ar hyd y llwyni, yn methu penderfynu yn mha le i osod nyth i lawr eilwaith. Fe allai fod Mr. Richard wedi meddwl am y forwyn cyn hyn, eithr nid gyda'r un angerddoldeb ag yn awr. Yr oedd yn awr yn meddwl yn ddifrifol, yn sobr; ac yn meddwl am wneyd cartref, a sefydlu yn y byd, ys dywed y dynion; meddwl cymeryd gwraig, a byw yn gomfforddus, deallwch. Wel, y mae yn ddigon tebyg, wrth gymeryd gwraig, y bydd y rhan fwyaf yn rhyw dybio bywyd comfforddus, er fod hyny weithiau, fel y rhan fwyaf o bethau daearol eraill, yn troi yn chwithig. Y mae pwnc go bwysig arall hefyd yn dyfod yn naturiol o dan sylw yn y cysylltiadau presenol; sef, ar ol meddwl yn nghylch cymeryd gwraig, canlyniad naturiol ydyw yr ymholiad, yn mha le y ceir hi? Ië, yn wir hefyd; ymwthia y pwne yna o angenrheidrwydd i'n hystyriaeth; oblegyd fel y dywed y ddiareb, "Rhaid cael dau i briodi." Canfyddwn wrth y dyddlyfr fod Mr. Richard yn gwneyd nodiad byr o'i briodas, ond nid ydyw yn ein hysbysu yn nghylch y foneddiges, pwy ydoedd, na dim arall. Ar ol i ni osod y peth y dywed ef ei hun ar y mater hwn ger bron ein darllenwyr, bydd yn rhaid i ni ei adael ef am dipyn, i gasglu ychwaneg o wybodaeth ar y cwestiwn hwn nag y mae efe yn roi. Lled gwta ydyw ar bwne y priodi yma; pa un a ydyw hyny yn fwriadol ai yn anfwriadol nis gwyddom; ond beth bynag, angenrhaid yw i ni wybod ychwaneg ryw gymaint yn nghylch y mater hwn. Cyn myned yn mhellach, beth bynag, gosodwn ei eiriau ei hun ar y mater hwn hefyd: "Yn mis Ebrill, y dydd diweddaf o'r mis, 1819, y'm priodwyd yn eglwys fy mhlwyf, Llanrian. Gallaf fentro dyweyd, yn y naill amgylchiad ar llall, (sef claddu ei fam a phriodi) na fu fy enaid yn ddigymdeithas a Duw. Ni threuliais erioed y fath amser ar fy ysbryd, gan ddyddanwch yr ysgrythyrau, ag amser cystudd a marwolaeth fy mam. Ni byddwn un amser mewn gwasgfa, na byddai rhyw ran o'r ysgrythyr yn cael ei chymhwyso at fy meddwl er ymwared. Yr oedd fy hiraeth a'm gofid yn achos fy anwylaf fam bron a dryllio fy nghnawd; ond yr Arglwydd o'i drugaredd a'i hynawsedd anfeidrol fyddai i mi yn gymhorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Pan fyfyriwn ar angau, mynych y cefais bleser yn y gair hwn, 'Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth.' Siriolodd fy enaid wrth gofio y gonewest fawr hon. A phan feddyliwn am yr adgyfodiad, byddai y gair hwnw o ddefnydd i mi, 'Fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.' Fel hyn yr ategai fy Arglwydd daionus fy meddwl gorthrymedig dan yr amgylchiadau cyfyng oedd arnaf o herwydd cystudd fy anwyl fam yn y flwyddyn 1818. Ac yn yr amgylchiad arall o newid fy sefyllfa, yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf, cefais gynaliaeth aml yn addewidion Duw, nes bod yn ddyddanus yn eu canol. Oh, pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni tuag ataf, abwydyn gwael." Byr ydyw yr hanes a roddir ganddo ef yn nghylch y priodi, chwi welwch; ar yr un pryd y mae rhyw beth gryn arwyddocaol yn y frawddeg, "yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf." Gellid meddwl fod llong Mr. Richard F wedi cyfarfod â chroes-wyntoedd enbyd, ac â thywydd creulon ar y fordaith briodasol; "ond o drugaredd," fel y dywed, cafodd daflu angor i addewidion Duw. Fe allai y byddai yn dda i ni edrych ychydig i'r amgylchiadau hyn, fel y gallom yn y diwedd roi rhyw gyfrif am yr hynt fordwyol, a chyrhaeddiad y porthladd dymunol. Mewn dyffryn ag sydd yn rhedeg i fyny o fôr-gilfach Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr o flaen peisiau cochion Sir Benfro, yr oedd palasdy bychan gyfrifus ei ymddangosiad, a elwid Maenorowen. Y mae y palasdy yno eto, ond ei fod wedi myned o dan gryn gyfnewidiad os nid wedi ei wneyd oll o'r newydd. Yn y palasdy hwn trigai boneddiges o'r enw Mrs. Parry, a nith fechan gyda hi, yr hon a elwid Miss Bridget Gwyn. Yr oedd Miss Gwyn megys merch iddi; ac yr oeddynt ill dwy yn ymgysuro yn fawr yn nghwmpeini eu gilydd. Llawer diwrnod hapus aeth dros eu penau, ac yn nheimlad y foment addunedasant fyw a marw yn nghyd, heb ymwahanu, yn mhalas tlws a dystaw Maenorowen. Ond fel y gwelir yn aml, y mae cyfnewidiadau mewn amgylchiadau yn peri cyfnewidiadau yn y teimladau hefyd. Y mae yn anhawdd iawn i ddynion ddyweyd mewn amgylchiadau presenol pa beth a wnaent o dan amgylchiadau gwahanol. Mor rhyfedd y bydd y naill beth yn darpar ar gyfer y llall, ac yn rhedeg i'w gilydd! Pan oedd y teimladau hyn, a'r addunedu i weddwdod yn Maenorowen ar lan môr St. Sior, yr oedd mewn pentref gwledig yn Sir Forganwg, a elwir Llangrallo, yn agos i Langan, foneddiges yn sâl iawn, ar drancedigaeth. Bu farw o'r clefyd hwn, a chladdwyd hi yn mynwent Salem, capel y Methodistiaid Calfinaidd, yn yr un plwyf. Y foneddiges hon oedd Mrs. Jones, Llangan. Wedi claddu Mrs. Jones, y mae cyfnod newydd yn dechreu yn mywyd yr efengylydd, ac y mae yntau, cyn hir iawn, yn dechreu ymdeimlo ag unigolrwydd. Yr oedd y plant wedi ei adael, a ffurfio cartrefleoedd iddynt eu hunain, a dyma y wraig eto yn cael ei chipio o'i fynwes, a'i gosod mewn bedd dystaw. Y mae yr hen efengylydd yn ymysgwyd, yn edrych yma ac acw am noddfa i guddio ei ben; ond wedi edrych ar y tu deheu ac ar y tu aswy, a dal sylw, y mae nodded fel yn pallu; y mae yn teimlo ei hun fel aderyn y tô; neu fel rhyw hen long wedi ei gadael gan y môr ar y traeth, i suddo yn y llaid, a'i chwilfriwio gan dywydd garw. Yn wyneb fod unigolrwydd bron yn dyfod yn glefyd<noinclude><references/></noinclude> k2jfq86179q8qet0ahmt2m6py4db6mk 164620 164593 2026-05-15T16:10:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164620 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD V.}}<br>Mr. Richard, wedi claddu ei fam, yn edrych allan am wraig—yn ei chael, ac yn priodi.}} YMDDENGYS fod y cyfnewidiadau mawrion achoswyd trwy farwolaeth Mrs. Hannah Richard wedi effeithio yn fawr ar wrthddrych ein Cofiant, ac wedi ei daflu i ddyryswch a thywyllwch anarferol. Yr oedd yn ymdeimlo bellach unigolrwydd ac amddifadrwydd, hiraeth annghydmarol yn parhau ar ol ei fam anwyl. Yr oedd erbyn hyn yn debyg i "belican yr anialwch, neu ddylluan y diffaethwch;" neu fel "aderyn y tô, yn unig ar ben y tŷ." Gwelir yn aml fod ychydig iawn o gyfnewidiad yn taflu dyn i fyd newydd hollol. Bydd y meddwl yn myned o dan gyfnewidiad, y teimladau yn cyfnewid; ïe, ymddengys pob peth ar y ddaear fel yn hollol newydd. Yn nghanol y newydd-deb hyn, dacw yr hen bethau yn myned heibio, fel y bydd yn llawn bryd ceisio ymaflyd mewn rhyw beth newydd, onide bydd yn beryglus i ddyn gael ei adael heb ddim. Y mae yn dyfod i'n cof yn awr am un pan yn ymyl marw yn dyweyd wrth ei nai am daflu llygad ar y weddw, a cheisio gwneyd rhyw gymhorth iddi; "canys," eb efe, "bydd fel gwydd unig ar lan afon, yn edrych yma a thraw, a phob ''fowler'' ddaw heibio yn anelu ati." Gwelsom ffolach gydmariaeth na hona lawer gwaith; oblegyd, fel y gwyddoch, peth go ddwl yw gwydd wrthi ei hun yn sefyll ar lan afon, heblaw ei bod yn agored i ymosodiadau beunydd. Wedi i angau amddifadu Mr. R. o'i fam anwyl, yr oedd yntau wedi ei amgylchynu â chyfyngderau o bob tu; a pha beth i ddewis nis gwyddai. Y mae yn codi boreu dranoeth wedi yr angladd, yn edrych o'i gwmpas, yn gweled yr haul yn tywynu fel arfer, ac mor gawraidd ag erioed yn rhedeg ei yrfa ogoneddus. Y creigydd geirwon gyferbyn sydd yn dawnsio mewn llawenydd o dan dywyniad haul tesog; y ddaear, a phob peth sydd arni, yn arwyddo bywyd didranc. Yr oedd angau fel pe buasai wedi ei ymlid i'w le ei hun y ddoe; a heddyw nid oedd Mr. Richard yn gweled dim ond bywiogrwydd yn teyrnasu o'i gwmpas. Y fath gyfnewidiad! Y ddoe yn edrych yn bruddaidd i lawr i'r bedd; heddyw yn codi ei olygon i fyny, a'r cwbl yn ymddangos yn un chwareufa o fywyd. Dacw y môr yntau odditano, yn lled chwareugar<noinclude><references/></noinclude> s2pxnd0xjd6atxcmklkyq80rxrr4irr Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/153 104 84581 164625 164359 2026-05-15T16:20:04Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164625 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>peryglus arno, a theimladau pruddglwyfus yn ymdaenu dros y meddwl fel tywyllwch y bedd, cyfeiriwyd ei sylw drwy ryw oruchwyliaeth i lan môr Sir Benfro, ac i'r palasdy bychan lle y trigianai y foneddiges weddw a'i nith Miss Gwyn. Syrthiodd yr hen offeiriad mewn cariad â'r fodryb; ac wedi ychydig o ymddyddan esmwyth a serchus, gwnawd y foneddiges weddw ac offeiriad Llangan yn un trwy lân briodas. Wedi y briodas symudodd Mr. Jones o Forganwg i Sir Benfro i fyw, lle y treuliodd y rhan olaf o'i oes. Parhaodd Miss Gwyn i fyw gyda hwy hyd farwolaeth Mr. Jones, yr hyn a gymerodd le Awst, 1810. Bu Mr. Jones fyw yn Maenorowen wedi priodi Mrs. Parry, tuag un ar bymtheg o flynyddau. Gogyfer a phalasdy Maenorowen, yr ochr arall i'r ffordd fawr, y mae eglwysdy Maenorowen, lle y mae llwch yr efengylydd yn gorwedd. Ymwelasom â'i feddrod er ys ychydig yn ol, ac yr oeddem yn synu mor ddiaddurn a gwael yw y man lle y gorwedd y dyn fu yn un o'r offerynau mwyaf defnyddiol yn efengyleiddiad y Dywysogaeth. Eglwysdy bychan, hirgul, heb fod nemawr uwch na phen dyn, yw Maenorowen, mewn agwedd wael, lwydaidd, ac esgeulusedig, fel pe bai daear a nefoedd hefyd wedi troi eu cefnau, a'i adael i drugaredd rhyw fodau anweledig nad ydynt yn gymwynasgar i grefydd. Y mae y fynwent yn fawr, ac yn nghanol unigolrwydd a dystawrwydd gwladaidd; yr hyn sydd yn cydweddu â sefyllfa y meirwon. Yr ydych wrth fyned heibio yn teimlo fel pe baech yn rhodio yn nglyn cysgod angau, neu fro drymaidd marwolaeth. Yn gymaint a bod tref Abergwaen o fewn rhyw ddwy filldir i'r fynwent wladaidd, mae llawer o gladdu yno. Gellid meddwl fod swn angau yn uwch o lawer na swn bywyd o gwmpas yr eglwysdy hwn. Fe allai mai gweinidogaeth angau yw y weinidogaeth a ymddiriedwyd i'r lle hwn, mai at dderbyn y meirw, a rhoi lle tawel iddynt i orwedd hyd ddydd yr adgyfodiad, wedi myned trwy holl drafferthion bywyd, ydyw ei swydd arbenig. Y mae yn debyg fod gweinidogaeth bywyd ac angau i gael, a bod dynion a lleoedd yn cael eu cymhwyso yn fwy neillduol at y naill a'r llall. Nis gwelsom erioed arlun mwy perffaith o fro marwolaeth na Maenorowen; yr ydych fel pe bai teimlad pruddglwyfus yn eich cymeryd wrth ddyfod i gyfer yr eglwysdy. Y tŷ bychan, llwydaidd, llychlyd, y fonwent lawn o feddau, y cofadail yn eich edrych yn eich gwyneb o bob cyfeiriad, ac yn eich hysbysu am<noinclude><references/></noinclude> hnxmgphlsjzomt4p648ymu99bd75l5s Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/158 104 84582 164630 164360 2026-05-15T16:29:08Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164630 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD VI.}}<br>Ei ddyddlyfr, o amser ei briodas yn Ebrill, 1819, hyd y flwyddyn 1826, yr hwn sydd yn cynwys ei symudiadau, ei drafferthion bydol, genedigaeth ei fab, yn nghyda'i lafur gweinidogaethol y blynyddau hyny.}} WEDI dydd y briodas y mae pethau yn myned yn y blaen yn weddol o lyfn am dro, ac yr ydym yn ei weled yntau yn dra chysurus, ac yn ymroi i'w hoff waith o bregethu yr efengyl yn mhell ac agos. Chwi ddarllenwch y pigion canlynol o'i ddyddlyfr tra y byddom yn cymeryd ein hanadl; ac wrth hyny cewch weled y dyn yn desgrifio ei hun, ac yn ymddadblygu yn naturiol o flaen eich llygaid. "Mai 19. Mae hwn yn amser i dreio fy ffydd a'm hymddiried yn yr Arglwydd. Nid wyf yn cael fy ngadael yn ddibleser a dirinwedd yn y gwaith hyfryd o ddysgwyl wrth Dduw. Mynych y cynorthwyir fy nghalon yn wyneb treialon gan y gair gwerthfawr hwnw, 'Ni waradwyddir neb a ddysgwyliant wrthyt ti.' Gallaf oddiar brofiad ddweyd fod gair yr Arglwydd i mi yn fwy gwerthfawr nag aur, ie, nag aur coeth lawer; melusach hefyd na'r mel, na dyferiad diliau mel. Fy holl hyder a'm cysur yw ei fod yn derbyn pechaduriaid, o ba rai penaf ydwyf fi. "Mehefin 24—Pythefnos i heddyw dechreuais fy nhaith i Gymanfa y Bala. Ar ol taith gysurus a Chymanfa tra orfoleddus, oblegyd fod nerthol dywalltiadau yr Ysbryd o'r uchelder ar Siroedd Gogledd Cymru yn y flwyddyn hon, dychwelais i Abergwaen, oblegyd yno yr wyf yn awr yn lletya. O ddaioni yr Arglwydd cefais fy anwyl wraig yn dra chysurus. Hyd yma cynaliodd yr Arglwydd fi. Molianus fyddo ei enw santaidd ef. "Gorph. 3, 1819.—Symudais fy mhabell, gyda fy anwyl wraig, i'r Court, yn mhlwyf Llanllawer, lle y treuliais rai misoedd mor gysurus ag wyf yn dysgwyl treulio byth ar y ddaear. Mynych y profais orsedd gras yn dra gwerthfawr, a'r Bibl yn felusach na'r mel. Nis gallaf byth annghofio yr amser melus a deimlodd fy enaid mewn dyledswyddau teuluaidd yn y Court. Rhifedi y pregethau a bregethais, os gallaf eu galw felly, yn y flwyddyn hon, yw 213. Bum mewn pedair Cymanfa—Aberystwyth, Llanfairmuallt, Bala, a Llangeitho. Bu diwygiadau y flwyddyn hon trwy holl Siroedd y Gogledd,<noinclude><references/></noinclude> 16mjbk65uz58i4s5p4ur8v6u0iwxqz4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/163 104 84583 164635 164361 2026-05-15T16:38:50Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164635 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dygwydd pythefnos yn gynt buasai yn dra annghysurus. Yr oeddwn yn Llundain, a'm hanwyl wraig yn ei gofid wrthi ei hun. Cefais ddod adref cyn y gofid hwn. Molianus fyddo enw yr Arglwydd. Yr oedd fy chwaer gyda hi yn ein gofid, a'm brawd wedi dod o'r Gymanfa, i ddod atom i'n cysuro. O, pa beth a dalwn i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau!" Yn awr yr ydych wedi darllen ychydig o dudalenau o'r dyddlyfr yn ei eiriau ef ei hun, yr ydych yn barod am ychydig o sylwadau arno yn mhellach. Y mae yn symud i Gwrt Llanllawer yn y lle cyntaf, lle y cafodd lawer o gysuron, a gwyneb Duw yn helaeth. Cwrt Llanllawer yw palasdy y Gwyniaid, lle y mae Mr. Gwyn, brawd Mrs. Richard, a'i chwiorydd, yn byw yn bresenol. Y mae o gwmpas dwy neu dair milldir o Abergwaen, mewn dyffryn o dlysni annghyffredin. Mae y Creawdwr wedi bod braidd yn afradus ar ei ogoniant yn y dyffryn hwn, fel pe byddai wedi rhoi gormod o dlysau yma, a rhy fach mewn manau eraill. Yr oedd y lle hwn yn hyfryd i fyfyriwr fyw; gallasai wrth cyn lleied o drafferth i ollwng ei fyfyrdod allan i'r coedydd, y creigydd, i fysg y blodau, ac ar hyd yr afon Llawer, ar ol blino yn y fyfyrgell gyda llyfrau llwydion. Fel hyn yr oedd llyfrau natur a llyfrau yr hen dduwinyddion yn cael eu cymysgu yn y myfyrdod, a phregethau gwychaf y byd yn cael eu cynyrchu. Gellir meddwl, wrth fod Mr. Richard yn byw yn y Cwrt, lle perthynol i deulu y Gwyniaid, fod y digofaint wedi myned heibio, a heddwch yn dechreu cael ei adferu rhwng y teuluoedd. Yn wyneb fod Mrs. Jones mewn gofid oblegyd y briodas, darfu i lawer fyned yn lled bell mewn difrio Mr. Richard, gan feddwl y byddai hyny yn ei boddloni hi; ond clywsom wed'yn ei bod yn teimlo o herwydd hyny, ac yn dyweyd nad oedd dim rhaid iddynt ddyweyd fel hyny am dano, ei fod yn ddyn ieuanc o gymeriad da, ac yn gyfrifol, fel nad oedd yn iawn iddynt siarad yn isel am dano. Y mae Mrs. Jones yn siarad yn lled arwyddocaol yn awr; y mae yn arwydd teg fod y gauaf ar fyned heibio, a'r gwlaw yn pasio yn gyflym; gwelir blodau heddwch ar ei daear hi cyn hir bellach; a bydd yr holl adar, bach a mawr, yn canu caniadau serchogrwydd. "Y mae yn wir," meddai Mrs Jones, "nad o'wn yn foddlon iddo gael Biddy (Bridget); ond 'does ganddynt hwy un hawl i'w redeg i lawr; os gwnaeth ddrwg i ryw rai, i mi y gwnaeth, nid i neb arall." Nid oes eisiau dyweyd nemawr<noinclude><references/></noinclude> 476s53ed3s7ae5fg21asn9bhkii2s2z Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/168 104 84584 164640 164362 2026-05-15T16:46:34Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164640 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>morwyr yn taflu rhyw beth allan i'w hysgafnhau; y maent yn taflu llawer allan. O, suddo y mae! Y maent yn taflu allan am eu bywydau; ond suddo y mae. Y maent yn ceisio achub y pethau gwerthfawrocaf i gael dianc; ond suddo y mae! Dacw hi yn mron myned o'r golwg. Gyda hyn dyma waedd y cadben yn dywedyd, "Gadewch bob peth i fyned, gwnewch y goreu am y bâd, i geisio dianc â'n bywydau." Cafwyd y bâd, a thrwy ymdrech caled awd iddo, heb ddim ond y dillad oedd am danynt; buont allan drwy y nos mewn tywydd garw, yn mron sythu a newynu; ond erbyn y boreu nid oedd dim gobaith, yr oedd y môr yn parhau yn arw, a dim un llestr o fewn golwg; trwy y dydd wed'yn y buwyd yn ymdrech yn erbyn tywydd garw, newyn, a noethni, ac enbydrwydd, nes yr oedd pawb yn mron llesmeirio, ac ar roi fyny i farw. Ond cyn trengu yn lân dyma long yn y pellder yn dyfod i'r golwg, a gwelid eu hwynebau oll yn dechreu sirioli o dan ddylanwad gobaith. Y mae yn tynu yn nes atynt, yn eu gweled cyn hir, yn ymwneyd at y bâd er eu hachub, yn dyfod ato, er trwy orchest dirfawr, ac yn llwyddo i godi y dynion haner marw i fyny. Wedi eu hymgeleddu yn dirion, y maent yn dadebru, ac yn diolch yn wresog am sefyll eu bywydau; nid ydynt yn teimlo dim, nac yn siarad dim am y llong a'i thrysorau gollwyd, ond am eu bywydau gwerthfawr a achubwyd. Rhyw debyg i hyn y mae Mr. Richard yn dychwelyd o Drefdraeth i Abergwaen, wedi colli y cwbl, eto yn teimlo yn bur ddedwydd er y cwbl, canys yr ydoedd yn llawer gwell nag yr ofnwyd; achubwyd y bywyd yn yr hynt fordwyol, beryglus hon. Yr ydym yn ei weled yn awr, efe a'i deulu, wedi symud i Abergwaen, wedi ymryddhau oddiwrth y fferm a'i helyntion gofidus. Gellir meddwl fod yr angel yn y fl. 1825 yn ehedeg yn fwy nag arferol, ac yn ysgwyd ei adenydd mawrion er mwyn eu glanhau yn hollol oddiwrth hen glai fferm y Cnwcca, ger Trefdraeth. Chwi welwch wrth y pigion o'r dyddlyfr ei fod yn ehedeg o Gymanfa i Gymanfa yn y Deheu a'r Gogledd, yn ymweled â Llundain, yn teithio miloedd o filldiroedd, ac yn pregethu canoedd o bregethau. Ehedodd "yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo;" efengylodd i'r "rhai oedd yn trigo ar y ddaear;" bloeddiodd dangnefedd i ddynion; udganodd yn yr udgorn mawr nes oedd llwch Trefdraeth wedi myned yn llwyr o'i geg. Do, ysgydwodd ei adenydd hefyd yn y flwyddyn un fil<noinclude><references/></noinclude> 237g71o3frfp5cx4ind1ny9q9safkcl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/183 104 84587 164650 164369 2026-05-15T20:19:26Z AlwynapHuw 1710 164650 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymbrancio ynddo y bydd y pysgodyn. Yr oedd Richard yn pregethu yn debyg iawn i'r pysgodyn yn y dwfr; yr oedd yn chwareu yn yr elfen anfarwol; ïe, ymbranciai ynddo. Nis gallai efe ymollwng i chwareu ac ymbrancio yn afonydd a ffrydiau dyfroedd y byd, yr oedd yn colli ei anadl yno, nid oedd gartref yn y manau hyny: yn nyfroedd pur gweinidogaeth yr efengyl yr oedd ei enaid ef yn myned yn chwareugar. Nid oedd eisiau gair byth arno, er y mae yn wir, byddai yn gwneyd defnydd anmhwrpasol iawn o eiriau yn fynych; yr oedd wedi arfer ei hun felly, fel yr oedd wedi myned yn fai, ac yn archwaeth isel yn ngolwg llawer; ond gwaeth beth a fo, yr oedd hyd yn oed y pethau a edrychid arnynt yn feius yn ei weddu ef, neu wedi dyfod felly trwy arferiad. Ni fuasai Mr. Richard yn Mr. Richard heb y pethau hyn, yn gymaint a'i fod wedi arfer eu gwisgo. Yr oedd ei ffraethineb a'i arabedd y peth nesaf at fod yn annherfynol; siaradai bob peth, ac am bob peth, heb orchest na thrais ar natur. Eithr, fel yr awgrymasom, ymddangosai y pregethwr yn ei fynediad yn y blaen fel yn chwilio yn ddyfal am weinidogaeth y testun at y bobl, oblegyd dyna oedd ei brif bwnc ef, dyfod â'r efengyl a'r bobl at eu gilydd. Wrth fyned yn araf yn y blaen, gwelsech ef yn gweithio y ddau nes nes at y naill y llall yn gyson, nes o'r diwedd taflu y naill i'r llall, nes oedd y cwbl yn ymferwi yn ffrochwyllt, ac yntau yn berwi gyda hwynt. Os efengylu a wna, y mae ei ysbryd toddedig yn treiddio drwy ei lais melusber, nes codi deng mil o ddynion ar eu gwadnau; os taranu a wna, y mae hyd yn oed yr annuwiolion mwyaf yn crynu ger ei fron. Yr oedd ei lais mor beraidd a dim glywsoch chwi erioed, ac yr oedd yntau yn arglwydd arno; nid oedd yn gwaeddi fel dyn gwallgof, heb na threfn nac amser; nid oedd yn canu, fel dyn ar ben ffair; nid oedd yn oernadu ac yn gwneyd rhyw ystumiau defosiynol. Na; yr oedd yn arglwydd ar ei waeddi, ar ei ganu, ac ar ei holl symudiadau. Pan y bloeddiai, byddai yn ofnadwy o gyrhaeddgar; a phan y tarawai rhyw dant seiniadol, yr oedd fel pe byddai mynyddoedd o rew yn toddi ar unwaith, a haf yn cael ei wysio i mewn cyn bod y gwanwyn wedi cael amser i gilio i'r cysgod. Pan y gwelsech ei law yn myned i fyny i'w ben, a'i thynu i lawr dros y cap du, ei thaflu yn esgeulus fel o'r tu ol, a'i thynu eilwaith dros y cap, yr oedd ei ysbryd ei hun yn myned o dan doddiant yr amser hwnw; ac yn y teimlad hwnw rhoddai ei lais peraidd<noinclude><references/></noinclude> bykp6rpzexuq4ydkohbibw4flal6094 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/178 104 84588 164645 164367 2026-05-15T20:17:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164645 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD VIII.}}<br>Mr. Richard yn un o brif bregethwyr ei oes.}} Y MAE miloedd yn awr yn ymylu ar fod yn hen grefyddwyr yn Nghymru, ie, yn y Deheudir chwaithach hyny, na chlywsant y Parch. T. Richard, Abergwaen, yn pregethu erioed. Er nad yw wedi ymadael â'r fuchedd hon ond rhyw chwech neu saith mlynedd, eto cenedlaeth arall welir yn rhodio y ddaear, y rhai nid adwaenent Richard. Y mae yn wir iddo fethu myned nemawr o gartref gan afiechyd amryw flynyddoedd cyn ei ymadawiad, fel y gellir dweyd iddo farw i gymdeithas Fethodistaidd ryw ddeng mlynedd cyn hyny; ac y mae, fel y gwyddoch, ryw ugain mlynedd yn gwneyd gwahaniaeth rhyfeddol yn nghylchoedd cymdeithasol ein byd cyfnewidiol ni. Ah! y mae cymaint a hyny yn troi bron pob peth wyneb i waered, gan roi gwedd newydd i gymdeithas wladol a chrefyddol. Ugain mlynedd! y mae y rhai oedd yn hen ar ddechreu yr ugain mlynedd diweddaf bron wedi marw allan i gyd, y rhai oedd yn ieuane y pryd hwnw ydynt heddyw yn hen; a'r rhai oedd yn blant sydd yn awr yn ddynion ieuainc. Mor chwyrn y mae hen gerbyd amser yn gyru ei olwynion! ac unwaith yr eir o danynt, yr ydys yn suddo i ebargofiant buan. Yn mhen ychydig o flynyddoedd eto, ni fydd neb i gael glywodd Mr. Richard yn pregethu; yr enw anwyl ag oedd yn codi y miloedd o bob cyfeiriad i'w wrando, ni bydd neb yn gwybod dim am dano ond mewn traddodiad, ac ar ddalenau hanesyddiaeth. Wel, felly y mae hen amser yn gyru yn y blaen, fel mewn brys gwyllt, at ryw gyfnewidiad, i fwy o sefydlawgrwydd. Y mae yn rhaid i ni ymdrech, gan hyny, i wneyd darluniad mor berffaith ag y medrom o'r dyn a'r pregethwr, fel y gallo y cyfryw na welodd ac na chlywodd ef ffurfio rhyw ddirnadaeth o hono. Y mae yn anmhosibl, tebygem ni, gael gwell darlun o'r dyn na'r un sydd yn nechreu y llyfr hwn-y tebygolrwydd sydd yn ymylu ar berffeithrwydd. Cenfydd yr edrychydd ar unwaith fod hwn wedi ei wneyd pan ydoedd yn hen, wedi ystormydd yn agos i driugain a deg chwythu yn gryf arno, ac yn agos cymaint a hyny o lafur diorphwys ac ymroddgar gyda gwaith mawr y weinidogaeth. Yn y darlun hwn chwi welwch ei ysgwyddau yn ymgrynhoi, ei war yn plygu, ei<noinclude><references/></noinclude> a7d2lalwcde5wwaiduh134c5ealpqhq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/188 104 84593 164651 164374 2026-05-15T20:50:28Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164651 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adnabyddiaeth o'r fraint ysbrydol; canys y mae myned at Dduw mewn gweddi fel trin a defnyddio allweddau i agor y clo. Yn ol fel y byddo mynediad at Dduw mewn gweddi, mae cael mynediad at ddynion mewn pregethu. Y mae yr holl ddefnyddiau at fod dros Dduw i'w cael mewn gweddi gyda Duw. Nid oes dim mewn pregethu ond a fyddo yn effaith cymdeithas a Duw, wedi ei gael gan y pregethwr ei hun mewn gweddi ger bron gorseddfainc Duw. Gweddier, canys yn atebiad i weddi yr addewir bendithiad ysbrydol. Y mae anallu i weddio yn nechreu yr odfa i bob pregethwr ystyriol yn fwy o faich a gofid nag yw o ddymuniad. Y mae hefyd yn gam â'r eglwys yn y lle, ac a'r gynulleidfa hefyd. Y mae pregethu yn gyfrifoldeb mawr, yn enwedig i bregethwyr a diaconiaid. Fe ddylai y bregeth fod i'r pregethwr yr un fath a gwydd Duw yn ei farnu; dylai pob gofal gael ei gymeryd fod ei bregeth yn cynwys cenadwri Duw at ddynion, gyda'r dyben o gael dynion at Dduw; a chan mai y diaconiaid sydd i ofalu am weinidogaeth yn y lle, dylai hyn beri y pryder mwyaf iddynt hwy i gadw gwir bregethu, nid enw, yn y lle bob amser. Nid ambell waith, ond bob amser, fel y gallont ateb cydwybod i Dduw, hyd y gallont hwy wybod ei bod yn genadwri oddiwrth Dduw, yr hyn yn unig a all fod yn fuddiol i ddynion; yr hyn sydd i'w deall, nid wrth deimladau, cofiwch, nac unrhyw serch a theimlad dynol, ond trwy gydmaru pethau ysbrydol â'u gilydd, yn nrych a chlorian gair yr Arglwydd. Un o hynodion yr oes bresenol yw y siarad gwag, ofer, plentynaidd, cnawdol, a disail, yn ol holl air yr Arglwydd, am olyniaeth apostolaidd. Nid oes yr un rhan o'r ysgrythyr yn caniatau y fath ffurf o ymadrodd; geiriau wedi eu dyfeisio ydynt gan ryfyg a balchder Eglwys Rufain, er cryfhau blaenoriaeth y Babaeth, llety cythreuliaid, yr hyn nid yw yn ormod i'w ddyweyd, canys y mae yr athrawiaeth a ddysgant yn gwbl groes i'r athrawiaeth yn ol duwioldeb, yr hon a drinir gan Paul yn ei epistolau at Timotheus a Titus. Fe ddengys hyn o hono ei hun pa un ai yr olyniaeth ai y gelyniaeth sydd yn amlwg ynddo. I gael cuddio y twyll hwnw, y maent wedi dirdynu yr ysgrythyrau rhwng ewinedd pabau, ac wedi gwneyd ysgrythyrau iddynt eu hunain, ac wedi eu cordeddu â chelwyddau ar y tadau. Fe ddylai fod cywilydd defnyddio geiriau o'r fath, oddiar sail mor ddirmygus a dieflig, ac o eneuau mor ffiaidd, gan neb dynion a elwir yn Gristionogion; yn enwedig gan yr eglwys hono y taera Eglwys Rufain yn y dyddiau hyn am dani mai hi yw y mwyaf lladronig, rhyfygus, ac ysbeilgar o bawb; ond yn lle dangos anfoddlonrwydd i Babyddiaeth yn y peth hwn, arllwysa yr eglwys hono lysnafedd Pabaidd am draws y rhai ag y mae llawer mwy o hanfod ac ysbryd Cristionogol ganddynt nag sydd yn un o honynt hwy. Haera y rhai hyn mai Esgobyddiaeth wedi ei sefydlu gan y gyfraith wladol sydd olyniaeth apostolaidd. Yn mha le yn y Testament Newydd y gwelir yr awgrym lleiaf am y fath beth mewn eglwys, mewn un swyddog yn yr eglwys, nac mewn un sefydliad gwladol ac eglwysig? Yr hyn a ddangosir yn athrawiaeth a dysgeidiaeth Crist a'i apostolion ar y mater hwn yw, saint yn eglwys, nid pawb yn ddiwahaniaeth, heb wybodaeth, trefn, na dysgyblaeth. Gwr Duw yn esgob, nid gwr y diafol, na gwr y byd, na gwr y cnawd; gwr duwiol, ysbrydol, gweithiwr difefl,<noinclude><references/></noinclude> oiwidnr5a5a7h4gc4cgput6pvb5fk5e Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/193 104 84594 164657 164375 2026-05-15T21:03:43Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164657 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae hyn, ac yn aml hwynt, yn debyg i anfoniad, canys mae ynddo gydnabyddiaeth o eisiau gwisgo â nerth o'r uchelder. "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" Nis gall Cristion bach fod yn bregethwr mawr; at fod yn bregethwr mawr mae yn rhaid bod yn Gristion mawr. Llais uchel, bloeddfawr, a swn cryf gan Gristion bach, neu ddim Cristion, sydd fel swn mewn corn, neu mewn ogof wag. Pregethwr mawr a Christion bach sydd fel pledren wedi ei chwythu, neu ddyn yn y dropsi; y naill yn llawn o wynt heb ddim ynddi, a'r llall yn llawn o ddwfr a gwynt, yn waeth na dim ynddo. Fe ellir bod yn Gristion mawr heb fod yn ddim o bregethwr. Fe ellir bod yn bregethwr mawr ar lawer cyfrif, yn enwedig yn nghyfrif llawer, heb fod yn ddim Cristion: pregethwr yn cynyddu a Christion yn erthylu sydd brawf o fod heb fod yn Gristion na phregethwr; Cristion a phregethwr yn cydgynyddu a wna y ddau yn fawr, ac sydd brawf am wirionedd y ddau. Os gellir cyfrif fel y gwnawd, ac y mae esiamplau o hyn, fod pregethau pregethwr megys dan yr arddeliad mwyaf, ac yntau yn byw mewn pechodau gwaradwyddus yr un pryd, megys godineb, meddwdod, balchder, cybydd-dod, celwydd, yr hyn a ddaeth yn amlwg i'r golwg wedi hyny, mae yn rhaid fod hyny, a barnu wrth reol santeiddrwydd, yn un o ddau beth; naill ai yn effaith cyfansoddiad dynol, megys y gwelir mewn ''plays'', neu yr hyn a gynwysir, os yw ar wahan, mewn ymrithio gan weinidogion satan yn ol satan ei hunan. Yr ydym yn edrych ar y benod uchod o ddywediadau byrion ar bregethu a phregethwyr fel yn cynwys ychwaneg na llawer cyfrol. Maent yn dangos y sylw manylaf, craffder rhyfeddol, dealltwriaeth yn ymylu ar berffeithrwydd yn nghylch natur y gwaith. Nid rhyfedd fod llawer yn ofni pregethu yn ngwydd dyn fel hwn, pan y gwyddent fod ei lygad yn treiddio i waelodion yr holl gymeriad, ac yn alluog i'w ddarllen gyda'r manylwch a'r cywirdeb mwyaf ag oedd bosibl i ddyn wneyd. Yr ydym yn meddwl fod darllen y benod uchod yn taflu mwy o oleuni ar ei symlrwydd, ei sobrwydd, ei ddifrifoldeb, gyda'r gwaith o bregethu, na phe ysgrifenem gyfrolau ar hyny. Un dyn a deimlai yn nghylch pregethu fel efe, a feddyliai fel efe, a edrychai ar ei bwysigrwydd fel efe, ac ymroddi mor llwyr ag efe i'r gwaith, sydd yn sicr o fod yn rhyw un mawr. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> t70cqrk0k0qtvu7v2gnztxcqmrkdtn3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/198 104 84595 164663 164376 2026-05-15T21:14:59Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164663 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae barn fwhwmanllyd yn dangos ffydd hunanllyd. Haws yw gweled gwall na'i wella. Mae mynu yr ufudd yn fwy na'i allu; mae gallu yr anufudd yn fwy na'i fynu. Diddysgu, diddysg; na ddysgo tra parhao ei fywyd a fydd farw yn ynfyd. Tymher mewn dyn na chymero addysg yw un o'r tymherau mwyaf anhyfryd, os nid y fwyaf, i gydfyw â hi. Y mwyaf ei wybodaeth a adwaen ei anwybodaeth fwyaf. A chwarddo mewn dygasedd yw y gwaethaf annhymeredd. A chwarddo pan fo ddicaf, yw y dig gwaethaf. Dig mewn chwerthin yw gwaetha'r gelyn. A chwarddo â'u geneuau a llid yn eu calonau sydd brif addasrwydd at fradwriaethau. Genau yn gwenu a'r galon yn ysgyrnygu yw cusanu a brathu, fel gwisgo du a gwyn, a dangos angel gan gythraul. Iawn adnabyddiaeth ar ddyn yw peidio ofni un dyn ond efe ei hun. A ofno ei hun yn iawn ni raid iddo ofni dim ar neb. A ofno bawb o'i blegyd ei hun a ofna ei hun yn fwy na phawb. Dyweyd gwir a chynghorion da yw y ffrwythau goreu yma. A wertho wir sydd ynfyd. A chwarddo am ben synwyr sydd ffolaf o'r ffyliaid. A dalo ei ddyled yn fach nid aiff byth yn fawr. Mae dwl synwyrau yn obeithiol, mae dwl dymherau yn anobeithiol. Pa ffurf bynag a ddefnyddir nid yw ddim amgen na ffurf; y dyben sydd yn hyn, fel pob peth arall, yn coroni y weithred. Y ffurf oreu ar bregethu yw y goreu i egluro, a'r goreu i gofio. Mae barn rwym wrth bersonau yn slaf i agweddau, a gwaeth na diffyg synwyrau; canys ni wel na rhinwedd na gwaeledd. A wneir a fydd. A lwyddir a lwydda. Nid oes un cryf heb wendid. Ni bu un ar y ddaear erioed a foddhaodd bawb, a bod ynddo wir rinwedd i bawb. Y gair yw y datguddiad, ffydd yw y defnyddiad, yr Ysbryd Glân yw y rhinweddiad, gweddi yw yr arferiad. Mae cynaliaeth o'r gair mewn profedigaethau yn brawf o rasusau, ac yn fwy ei werth na pherlau. Un o orchestion ffydd yw dal llwyddiant yr annuwiol heb genfigenu, ac aflwyddiant y duwiol heb lewygu. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> go0bbas5e7jocpza1wee1alqtt4kpwf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/203 104 84596 164668 164377 2026-05-15T21:24:03Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164668 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na newydd na dyeithr i bawb sydd yn adnabod y gwirionedd; ac nid yw y gwahanol dymherau sydd yn perthyn i bob dyn ond y peth sydd yn hanfodol i'w gyfansoddiad; ac am hyny nis gellir yn briodol eu nodi yn wendidau i'w beio. Yn ol cysondeb barn rheswm, y gwendidau i'w beio yw yr hyn sydd yn llygredigaethau mewn un yn llygru eraill, ac a fyddo yn demtasiynau i lithio eraill, a'r cyfeiliorni fyddo yn caledu eraill, megys annghyfiawnder, dichell, twyll, celwydd, a phob rhyw anfoes bucheddol. Mae gwahanol dymherau yn wastad yn gweled y gwahaniaeth yn ngwendidau y naill y llall, ond heb weled neb gwendidau yn eu tymherau eu hunain. Nid unrhyw dymherau yw rheol a rheswm barn am wendidau na rhinweddau, ond gwirionedd. Os yw gwirionedd yn arglwyddiaethu ar ddyn i beri darostyngiad iddo, yn rheol i droedia wrthi, ac yn nod i ddyn gyrchu ato, mae mor rhydd oddiwrth wendidau i'w beio a'u henwi ag y gellir dysgwyli ddyn gyrhaedd yn y bywyd hwn. Mae mynu credu yn yr Arglwydd er cymaint fyddo yr annghrediniaeth, mae mynu caru yr Arglwydd er cymaint fyddo yr anwybodaeth, mae mynu gobeithio ynddo er cymaint fyddo yr anobaith, mae mynu dysgwyl wrtho er cymaint fyddo y diffygio, mae mynu ymddiried ynddo er cymaint fyddo yr ofnau, mae mynu diolch iddo, er cymaint yw dyfais diafol i geisio dangos gwaredigaethau a thrugareddau a geir yn atebiad i weddiau yn ddygwyddiadau damweiniol; ewyllysio byw yn dduwiol yw y mynu hwn. Nid oes dim a geidw y credadyn heb lewygu wrth feddwl am gyflwr yr annuwiol yn marw, yn enwedig am berthynas naturiol yn y cyflwr hwnw yn marw, ond cymaint o nerth a gras a roddir i'r dduwiol anian ynddo i bleidio ewyllys Duw; a thewi mewn ymostyngiad iddo, canys cafodd gyfiawnder, yr hyn yw iaith anian Duw yn ymostwng iddo. Isel ger bron Duw, a diolchgar yn mhob dim i Dduw, yw yr iawn agwedd ar bechadur tuag at Dduw. Mae hyn yn llawer mwy mewn dymuniad nag y gall fod mewn cyrhaeddiad. Mae deall hyn yn fawr fraint; mae camddeall hyn yn fawr golled. Prawf am ei wirionedd yw ofni bod heb ei feddu; prawf bod heb ei feddu yw anystyriaeth am dano. Mae yn rhaid cael ffydd Crist at gredu holl wirionedd gair Duw. Prif waith ffydd yw credu yn Nghrist, canys mae holl berthynasau yr Adda cyntaf yn mhob dyn, yr hyn yw hunan-gyfiawnder. Mae gosod hwn i fyny yn gais gan bawb sydd heb adnabod cyfiawnder Duw, ac heb ymostwng iddo, ond yn profi yn barhaus wrthwynebiad iddo, gan geisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, er yn ol eu barn y gwyddant nad oes un i'w gael; eto mae hunan-gais yn duedd feunyddiol, fel mae y priodoldeb mwyaf i'r rhai sydd yn Nghrist, oblegyd y gofid a deimlant o herwydd y duedd hon yw yr un cais, i'w pharhau dros eu holl fywyd, ag oedd Paul yr hwn oedd yn Nghrist yn ei geisio, "Ac y'm cair ynddo Ef!" Ni fyn y Gwaredwr neb ond pechadur; ni fyn pechadur neb ond Gwaredwr. Rhodd Duw yn yr efengyl yw Crist i bechadur. Bod<noinclude><references/></noinclude> 3gf826xynixn0b9x7jy01eckaxzct3m Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/208 104 84597 164673 164378 2026-05-15T21:32:41Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164673 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy hunan; canys nid oes dim a wneir ganddo heb hunan yn nglŷn ag ef. Ofnir gan hyny rhag ei fod y blaenaf o'r cwbl. Mae hyn yn rhoddi defnydd parhaus i'r cydymaith hwn. Ceidwad i'r colledig, Gwaredwr i bechadur, Achubwr rhag pob peryglon, yn enwedig rhag pechodau rhyfygus, a themtio uwchlaw yr hyn a ellir (canys y mae y cyntaf oddiwrth ruthr llygredigaeth cnawd pechadurus, mae y llall oddiwrth ruthr temtiwr galluog, gelynol, a chyfrwys) yw y defnydd fydd o'r Arglwydd Iesu yn barhaus tra parhao y bywyd. Mae pob dyn yn ysgrifenu hanes ei fywyd yn ei gymeriad. Darllen cymeriad dyn yw darllen hanes ei fywyd. Mae cymeriad i ddyn fel rhuddin mewn pren. Calon y pren, beth bynag fyddo ei amgylchiadau, yw ei ruddin: calon buchedd dyn, beth bynag fyddo ei amgylchiadau, yw ei gymeriad. Mae yn isaf, o dan y cwbl a berthyn i ddyn; mae ei gwbl yn troi oddeutu y canolbwynt hwn. Cyfansoddiad defnyddioldeb yw Cristion profedigaethus yn genad dros Dduw. Mae yn rhaid sathru y grawnwin i gael gwin; am hyny mae syrthio i amryw brofedigaeth i'w gyfrif yn llawenydd, oblegyd y peth mae yn ei beri. Nid oes raid dysgu at fod yn falch, ond mae yn rhaid dysgu at fod yn ostyngedig; fe ellir bod yn falch heb ddysgu dim; nis gellir bod yn ostyngedig heb ddysgu y cwbl yn barhaus. Mae balchder yn naturiol, ac am hyny yn enedigol gyda phob dyn i'r byd yn ol llygredigaeth ei natur, er nad yw yn hanfodol i'w natur, canys bu yn hanfodi hebddo. Mae balchder yn fwy o grynodeb llawn i ddangos y cwbl am lygriad y natur ddynol yn nghwymp dyn nag unrhyw bechod, er fod pob pechod yn llygredigaeth dyn, canys efe yw gwreiddyn y llygriad, egwyddor y llygriad, a phrif nod y llygriad, fel y gall pob dyn wybod wrtho ef ei hun, os bydd yn ei adnabod ei hun. Mae gostyngeiddrwydd yn ras goruwch-naturiol, i'w gael yn unig trwy barhau i'w ddysgu. Mae dysgeidiaeth i ostyngeiddrwydd i barhau i ddyn tra byddo balchder ynddo, ac y parhao ei santeiddiad. Cynydd ar santeiddrwydd yw cynydd ar ostyngeiddrwydd. Perffeithio mewn santeiddrwydd yw perffeithio mewn gostyngeiddrwydd. Perffeithrwydd mewn gostyngeiddrwydd fydd perffeithrwydd oddiwrth falchder, yr hyn a geir yn unig lle y mae bwrw coronau o'i flaen Ef yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaino, ac sydd yn byw yn oes oesoedd. Mae i bob canlynwr i Grist ei groes. Adnabod ei groes, a'i bod hi yn groes i Grist, sydd angenrheidiol at ei chodi. Mae medru codi ei groes y fedr fwyaf. Cariad Duw, eiriolaeth Crist, arweiniad ysbryd Crist, ffydd Crist, gair Crist, yw cynwysiad holl ranau hanfodol yr iachawdwriaeth; ei effeithiad, ei gweithrediad, ei chymhwysiad, ei chynaliad, ei chyfranogiad, a'i pherffeithiad. Mae y cysylltiad sydd rhwng y rhanau hyny a'u gilydd yn cael ei ddefnyddio gan ffydd yn nghyfranogiad o'r iachawdwriaeth pan yn credu y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. Mae y credu yn gywir pan y byddo oddiar weled cymhwysder y rhan dda, yr hyn yw yr un peth angenrheidiol.<noinclude><references/></noinclude> pvy376cote051ouv8zplth1nrocnjfl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/214 104 84598 164679 164384 2026-05-15T21:46:46Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164679 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddeall yn gyffredinol—fel peth llaes a gwan, ar ddarfod am dano, bron colli ei anadl. nadl. Mae gwir obaith a holl gadernid Duw ynddo. Mae yr un nerth mewn ffydd a chariad, canys gras Duw ydyw, fel pob gras arall, ac mor sicr o gyrhaedd ei ddyben a'i nod, yr hwn sydd i fod yn fwy yn ddyfodol nac yn bresenol. Canys yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn. Mae pob peth a gynwysir yn ofn yr Arglwydd a gobaith cadarn ynddo, yn gysylltiedig wrtho. Y duwioldeb sydd ag addewid o'r bywyd syd sydd yr awr hon ac o'r hwn a fydd yw hyny. Gobaith cadarn yn y pethau hyn, nid am danynt, ac nid hebddynt, ond ynddynt, ynddynt, yw ofn yr Arglwydd, yn ei egwyddor, ei chynwysiad, a'i ymarferiad. Mae sefyllfa holl ddynolryw tuag at Dduw yn ol eu meddwl am Dduw. Mae pob meddwl cyfeiliornus am Dduw yn groes i bob amlygiad am Dduw, yn ei weithredoedd, ei lywodraeth, ei air, a'i enw, y rhai ydynt amlygiadau anwrthwynebol o hono; er hyny y mae yn haws gan natur lygredig feddwl yn fach, yn galed, yn gul, am dano, er bod hyny yn groes i bob amlygiad y mae yn ei wneyd yn barhaus o hono ei hun tuag at bawb; canys daionus yw efe i bawb: "Hir—ymarhous yw efe tuag at bawb." "Tosturiol a thrugarog iawn yw yr Arglwydd." Mae yn Dduw yr heddwch, yn Dduw yr amynedd, yn Dduw y cariad. Mae yn Dduw maddeugar, yn Dduw y gobaith, yn Dduw pob gras. Mae wedi cyhoeddi hyn oll am dano ei hun yn ei enw, yr hyn sydd yn ei ddangos yn Dduw yr iachawdwriaeth. Fel hyn y tystiolaetha ei enau ei hun am dano ei hun. Mae holl drefn fawr yr iachawdwriaeth, yr hon sydd yn dangos anchwiliadwy olud ei ras, yr amlygiad mwyaf o'i drugaredd, a'i raslonrwydd, a'i gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu. Caru â chariad tragywyddol, "fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol;" a'r cwbl yn ddefnyddiau meddwl mawr am yr Arglwydd, ac nad yw yn bosibl meddwl yn ddigon mawr am dano. Pa fodd y meiddia neb feddwl yn fach a chul am dano! Maddeu, maddeu y duedd leiaf at hyn erioed. Mae duwiolion dynion yn amrywiol, pan nad yw duwiolion Duw ond un. Duwiolion rhai yw y rhai elwir yn bregethwyr. Duwiolion eraill yw y rhai o'r un farn a'r enwad crefyddol a hwy. Duwiolion rhai eraill yw y rhai a wnant broffes o grefydd. Duwiolion rhai yw y rhai bucheddol, heb ddim yn eu bywyd yn anfoesol. Duwiolion rhai eraill yw y rhai haelionus, parod i gymwynasgarwch. Duwiolion rhai eraill yw y rhai dystaw, esmwyth eu tymherau, heb wneyd niwed i neb. Er bod y pethau hyn yn berthynasau i dduwiolion, nid y pethau hyn eu hunain yw hanfod duwioldeb; am hyny nid ydynt ddigonol brawf bod neb yn dduwiolion. Mae y tybiau hyn yn cael eu dangos amlaf mewn angladdau am y rhai fyddo wedi marw. Clywir yn aml farnau dynion yn rhydd am dduwiolion ar yr achlysur hwn. Duwiolion Duw yw y rhai a arweinir gan ei Ysbryd, y rhai sydd wedi eu dysgu gan yr efengyl i ymwadu â chwantau cnawdol, ac i fyw buchedd dduwiol. Ymwadu yn ol ei gwaharddiadau, ac ymarfer yn ol ei chyfarwyddiadau yw duwiol Duw. Lle mae gwrthwynebrwydd yn dymher naturiol, mae yn rhaid i<noinclude><references/></noinclude> rdybrhani4y3fbkgd2ssiohwf6nb4bl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/219 104 84599 164684 164380 2026-05-15T21:53:03Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164684 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae santeiddiad pechadur yn cael ei ddangos yn y gair yn waith graddol. Yr Arglwydd yw y Santeiddydd, trwy neillduad, deddfiad, a chyfranogiad. Yn y gwirionedd y mae i'w santeiddio: ei air sydd wirionedd; yn ngwybodaeth y gair, yn ysbryd y gwirionedd, yn ngras y gwirionedd, yn ffurf y gwirionedd. Mae y gwaith hwn yn dechreu yn fach, fel hedyn mwstard, myned yn bren mawr, fel ychydig lefain, ond yn lefeinio yr holl does; fel eginyn, ond yn myned at fod yn llawn yn y dywysen. Yn dechreu yn blentyn, yn dybenu yn hen ddyn fel bachgen yn dechreu, ond myned a dybenu yn hen wr. Mae y gradd hyn ar santeiddiad yn dra phrofedigaethus, canys y mae yn dra anadnabyddus. Mae yn waith parhaol, tra parhao y bywyd, ac yn brif ddyben i'r bywyd. Lle mae wedi dechreu nid yw yn anmhriodol dweyd am dano, tra parhao y bywyd y mae heb ei orphen, a phrif ddyben holl oruchwyliaethau Duw at y cyfryw yn rhagluniaethol yw, fel y byddont gyfranogion o'i santeiddrwydd ef. Yr holl ffrwyth yw tynu ymaith eu pechod; a hefyd yn rasol, yr hyn yw dyben a defnydd y gair, a holl ordinhadau yr efengyl. Y mae yr holl ysgrythyr wedi ei rhoddi at hyn—i athrawiaethu; hyny yw, i ddysgu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi: dyma y moddion sydd at berffeithio dyn Duw, santeiddio y duwiol. Lle y mae hyn trwy y gair y mae santeiddio; lle nad yw hyn, pa ymdrin bynag a wneir a'r gair, nid yw yn santeiddio. Pan byddo un o'r bendithion hyn trwy bregethu, er na byddo ond un o honynt ar y pryd, ni ddylid meddwl nad yw yr athrawiaeth yn gywir, a bod moddion santeiddio hefyd felly. Fe ddywedir weithiau nad oes fawr o grybwyll mewn pregethau yn y dyddiau hyn am y peth a'r peth; fe all hyny fod yn dod oddiwrth fwy o anystyriaeth am y gwahanol bethau mae yr ysgrythyr yn fuddiol iddynt, nag o un diffyg mewn pregethu. Defnydd holl gynwysiad y deyrnas ddisigl yw, fel y byddo genym ras. Mae holl ordinhadau yr efengyl at gael gras, a chynyddu mewn gras, nes perffeithio gras mewn gogoniant. Mae yn waith cynyddol. Mae y cynydd hwn i fod yn eglur i bawb—iddo ef ei hun ac i eraill. Iddo ef ei hun mewn helaethach adnabyddiaeth o hono ei hun, a mwy o ymddiried yn yr Arglwydd nag erioed. Mae cynydd ar hyn yn gynydd mewn santeiddio; mae cynydd mewn adnabyddiaeth ar elynion, drwg y byd, dichellion a nerth y diafol, pob cyfeiliorni; purdeb, gwirionedd, gogoniant gwir dduwioldeb; mae cynydd yn y pethau hyn yn gynyddu mewn gwir santeiddrwydd, hawdd i ddyn ei hun ei adnabod, ac a adnabyddir, er nid yn hawdd, ac a addefir yn gynydd mewn santeiddrwydd, lle mae y cynydd. Am hyny ei lais parhaus yw, "Golch fi, santeiddia fi, glanha fi oddiwrth bob annghyfiawnder. Crea galon lân ynof; dod dy gyfraith yn fy nghalon; gwna fi yn greadur newydd." Mae ceisio hyn yn brawf o santeiddiad. Mae santeiddiad yn amlwg i eraill; yn enwedig i'r saint mwyaf, er ei fod yn cael ei gamddeall gan rai heb fod yn saint amlwg. Cyfrifant arafwch a phwyll yn blentynrwydd; cyfrifant ddeall a barn yn wendid henaint; cyfrifant fwyneidd-dra doethineb yn ymollyngdod pleidiol, heb ddeall fod dyn sydd dan law y Santeiddydd hwn yn cael ei ffurfio yn fwy i ddelw y gwirionedd, a'i newid i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, a hyny yn amlwg i eraill. A all dyn fyddo yn caru ei bechod geisio maddeuant? Gall,<noinclude><references/></noinclude> jyruxv5fszu5pvee3dgcssv62evdozf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/224 104 84600 164688 164382 2026-05-15T21:58:16Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164688 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn oll iddo wedi amser. Gwybodaeth sicr am bethau ysbrydol yw datguddiad y gair yn unig. Y cwbl a wyddys am y nefoedd yw, tebyg a mwynhau. Cyffelyb i Grist yw holl debyg y nefcedd; holl fwynhad y nefoedd yw Duw. "Y byddwn gyffelyb iddo, oblegyd ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Ymwynhad i gyd fydd Duw; canys at hyny y mae y cwbl yn myned: "fel y byddo Duw oll yn oll." Pan roddom ein hunain i fyny i'r dwyfol ewyllys, heb ymgadw dim, yr ydym yn dra sicr o gael ein gwaredu oddiwrth ein gofid. Y mae genym esiamplau i'w gweled am hyn yn ein Gwaredwr bendigedig. Efe a gymerwyd o garchar ac o farn; ond pa fodd yr ymddygodd dan yr amgylchiadau trallodus hyn? Efe a weddiodd, gan ddywedyd, "Dy ewyllys a wneler." Yr oedd hyn megys pont yr aeth ef drosti, heibio i genllif ing a thristwch. Felly y mae hefyd gan ei ganlynwyr; fe fydd ffordd yn sicr o agor ei hun os dywedwn o'n calonau mewn cyfyngder, Ewyllys yr Arglwydd a wneler; canys ni fwriada ewyllys Duw ein dinystr, ond ein cadwraeth. Duw, yr hwn a ganiata ein temtio, a wna ffordd i ni gael diangfa, ac a egyr ffordd hyfryd o obaith i ni trwy ddyffryn tywyll dyoddefiadau. Digon a sicr brawf am y bod o Dduw, pe na byddai dim arall, yw y gwrthwynebiad sydd mewn dyn i Dduw. Pe bai gan ddyn iawn adnabyddiaeth o hono ei hun, fe adwaenai bob gwirionedd ac anwiredd wrtho ei hun. Digon o brawf, pe na buasai dim arall, am falchder ysbrydol dyn mewn deddfoldeb a hunan-gyfiawnder, yw y gwrthwynebiad pendant, gelynol sydd ynddo at Grist, ac i ymofyn mewn gwir ymostyngiad y bywyd sydd ynddo. Sicr a digon o brawf iddynt bod yr ysgrythyrau yn air Duw yw ei groesder iddynt. Sicr a digon o brawf i ddyn am ddrwg ei gyflwr a llygredigaeth ei natur yw yr egwyddor a'r duedd sydd yn ei natur. Sicr a digon o brawf bod Iesu yn Fab Duw, yn anfonedig y Tad, yn Grist Duw, yn Iachawdwr. y byd, yn iawn dros bechodau y byd, yw y gwrthwynebiad sydd yn mhob dyn iddo fel y cyfryw. Sicr a digon o brawf am elyniaeth dyn yn erbyn Duw yw y fantais a fyn gymeryd oddiwrth bob peth yn y greadigaeth a'i deddfau yn erbyn gwybodaeth gair Duw. Sicr a digon o brawf i ddyn bod ef ei hun ei brif elyn, ac mai ei brif ddyledswydd yw ymwadu ag ef ei hun, yw y balchder a ddengys pob dyn mewn hunangais am hunan glod. Tri o ddirgelion gwir grefydd: 1. Gwir Dduw heb ddychymyg. 2. Gwir ffydd heb olwg. 3. Gwir fwynhad mewn gobaith. Dyledswydd dyn at iachawdwriaeth:—Diwyd ymarfer â goruchwyliaeth gair Duw. 2. Diwyd ymegniad y meddwl wrth ymarfer â moddion gras i ddeall a derbyn yr hyn a draddodwyd trwy y gair fel meddwl ac ewyllys Duw. 3. Gweddio parhaus am y pethau y mae Duw yn gorchymyn i ni eu gwneuthur, nas gallwn; y mae genym addewidion am iddo ef i'w gwneyd. 4. Dyfal olwg ar reol gair Duw i'w dylyn. Mae cynydd aelodau mewn ychwanegiad at y wir eglwys, a'r rhai hyny yn ddioruchwyliaeth ac yn gnawdol, a hefyd amlhad a lluosogiad ar sectau fyddo grym eu hanfodiad ar ddulliau ac allanol<noinclude><references/></noinclude> m2tgqthtgdh4oj1ixsmuznvkwr6rkjv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/228 104 84603 164693 164386 2026-05-15T22:06:45Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164693 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teuluol mewn perthynas agos â'r amgylchiad sobr hwn; ond ni ddywedir fod ei galon yn ofni am ddim ond arch Duw, yr hyn sydd yn dangos mawredd ei dduwioldeb. Y galon yw eisteddfod duwioldeb. Mae ofni calon am arch Duw yn brawf o'i eisteddfod yn y galon, canys ei wir effaith ydyw. Mae arch Duw yn Israel byth; ond fe all Israel a'r arch fyned i gaethiwed. Ei arch a'i Israel yn bresenol yw ei enw mawr a phobl ei enw. Fe all ei bobl fod yn llygredig, gwrthgiliedig, adfeiliedig, dirywio yn mhob ystyr, fel y gwelir am eglwysi Asia, a llawer o eglwysi yn mhob gwlad mewn amseroedd oedranus ar Gristionogaeth, nes bo enw yr Arglwydd mewn pob golwg i'r rhai sydd yn meddwl am ei enw ef yn debyg o fyned dan gwmwl, yr hyn sydd yn peri i'w calon ofni am ei enw mawr fel yr ofnodd Eli. Yr oedd y gwr hwn yn oedranus, dim yn abl na symud na syflyd. Nid oedd yn abl bod o'r defnydd lleiaf yn y rhyfel ar faes y frwydr, o blaid Israel yn erbyn y Philistiaid; ond gartref yn eistedd ar ei eisteddle, gerllaw y porth, yn hen wr trwm, pwlei olwg, mewn man cyfleus i ddysgwyl am hanes y rhyfel, oddiar ofn calon oedd arno am arch Duw; ac feddaliodd yr holl newyddion trymion o faes y frwydr, am y lladdfa fawr, a'r ffoi mawr. Ei ddau fab hefyd, Hophni a Phinecs a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd. "A phan grybwyllodd efe am arch Duw, fe rwygodd ei galon ofnus, ac yntau a syrthiodd, a'i wddf a dorodd, ac efe a fu farw." Fe all arch Duw, ас у mae, yn nes at galonau llawer sydd yn methu na llawer sydd yn gallu. Nid oes amgylchiad a all rhwystro calon y rhai agos at Dduw i ofni ar rai amserau am arch Duw; er bod undeb allanol ag enwadau a chymdeithasau crefyddol, a llawer o sel a ellir ddangos trwy hyn ac at hyn heb fod yn un prawf o galon yn ofni am enw yr Arglwydd. Y mae y galon sydd yn ofni am enw yr Arglwydd yn ofni am dano yn wyneb tebyg i gwmwl arno. Pa Gyfundeb bynag y bydd, fe all fod mwy o ofni am enw yr Arglwydd mewn ystafelloedd nag sydd mewn Cymanfaoedd; mwy yn bersonol gan bersonau neillduol, nag sydd yn gynulleidfaol. Fe allai nad oedd un galon ar faes y frwydr yn yr amgylchiad hwnw mor ofnus am arch Duw a chalon Eli, oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain, yr hwn oedd hefyd bell iawn oddiwrthynt. Mae hyn yn wir effaith perthynas â Duw, a sicr brawf o hono. Mae yr olwg ar yr awyrgylch yn y dyddiau hyn yn peri i galonau ofni am arch Duw; ymrysonau a chynenau mewn eglwysi; cnawdolrwydd a hunanolrwydd yn cynyddu, swyddogion iach, balch, a bydol yn amlhau yn yr eglwysi; pwysigrwydd, sobrwydd, a symlrwydd, ac ysbrydolrwydd, yn ymado fel cwmwl y boreu; ffydd a phrofiad y saint yn lleihau; gweinidogaeth yr efengyl yn fwy defodol gan eglwysi na gwir angenrheidiol air a gwaith yr Arglwydd; fel pe bai yn myned yn faich rhy drwm i'w ddwyn. Mae fel pe bai gwendid darfodedigaeth yn yr holl gyfansoddiad; rhuthr o eondra at weinidogaeth yr efengyl gan ieuenctyd, heb ond ychydig o arwyddion duwioldeb yn allanol, a llawer llai mewn profiad ac ysbryd, gan awydd dysgeidiaeth trwy gyfleusderau athrofaol, er mwyn esmwythder a dyrchafiad bydol, yr hyn sydd yn debyg i heigio y wlad â phregethwyr cnawdol, dirinwedd i eglwysi Duw, a chaledwch barnol i'r byd. Swyddogion beilchion, yn tristau yr<noinclude><references/></noinclude> g63hlfzqtc64p4pgjibpjcug7vhdqk9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/233 104 84604 164699 164388 2026-05-15T22:14:52Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164699 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Oddiar yr ystyriaeth mai mewn bywyd a iechyd, cyn del angau, brenin y dychryniadau, a'r rhyfel mawr hwnw lle nad oes bwrw arfau ynddo, lle gall fy holl synwyrau fod wedi dyrysu, a'm holl natur wedi methu gan ddygn boenau angau, mae sicrhau a chadarnhau rhyngwyf a'r Arglwydd, gan wneuthur fy marn a'm mater yn dda, yr wyf heddyw, y 26ain o Mehefin, yn y flwyddyn 1834, a'r 51 o'm hoedran, yn ymgyfamodi â'm Harglwydd, ac a'm llaw fy hun yn ysgrifenu y cyfamod hwn a'm Duw, a chyffesu â'm genau gan ddywedyd, O Arglwydd Dduw y nefoedd a'r ddaear, yr hwn a wnaethost y môr, a'r sychdir, a'r ffynonau dyfroedd; Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, a Jacob, yr hwn a waredaist dy bobl o wlad yr Aipht trwy law Moses ac Aaron, ac hefyd yn ngwlad Babilon dan ddwylaw Nebuchodonosor a Darius, ac yn yr amser gosodedig o wlad Babilon; yr hwn hefyd, o'th anfeidrol drugaredd a'th ras, yn nghyflawnder yr amser a anfonaist dy unig Fab Iesu Grist i'r byd, wedi ei wneuthur o wraig ac o dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad; yn dy wydd, yn dy bresenoldeb, a cher dy fron, megys y byddai dy bobl yn mhob oes pan yr ymgyfamodent â'u Duw, yr wyf, yn gyntaf—Yn cyffesu cyflwr euog fy mherson,—yn wrthddrych cyfiawn damnedigaeth dragywyddol, a halogedigaeth fy natur drwyddi oll, fel nad oes un man glân na chyfan o'r coryn i'r gwadn; yn droseddwr gwreiddiol a gweithredol mewn enaid a chorph bob mynyd o'm bywyd ar dy gyfraith gyfiawn a santaidd. Yn ail—Nid oes genyf obaith am iachawdwriaeth oddiwrth ddim ydwyf, a feddaf, neu a allaf fy hun, am hyny yr wyf yn taer ddymuno nerthoedd dwyfol dy Ysbryd Glân i weithio ynwyf megys y mae yn y rhai sydd yn credu, fel yr ymddiriedwyf yn ddiysgog yn dy iachawdwriaeth yn unig, yr hon sydd yn Nghrist Iesu, ei ufudd-dod i mi yn gyfiawnder, ei waed ef i mi yn lanhad, ei Ysbryd ef i mi yn breswylydd ac yn arweinydd, ei enw ef i mi yn dŵr at fy nyogelwch, ac i'm cynal yn ddigwymp, a'm gosod yn ddifeius ger ei fron ef; fel hyn yr wyf yn dymuno yn ostyngedig yn y llwch (lle mae fy lle) fod yn ddiragrith. A ydwyf ddim yn clywed yn llef o'r nef o enau fy Arglwydd mewn atebiad, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol a thi, sef sicr trugareddau Dafydd. Mi a fyddaf foddlon iddo. Mi a lawenychaf ynddo. Mi a'i derbyniaf ef. Mi a fyddaf yn dad iddo, ac yntau a gaiff fod yn fab i mi, medd yr Arg1wydd hollalluog; a'r hwn a ddel ataf nis bwriaf ef allan ddim." O syndod, o enau Duw wrth greadur mor wael! Yn drydydd—Yr wyf yn cwbl roddi fy hun, corph ac enaid, amser a meddianau, i ti, O fy Nuw, ac at dy wasanaeth yn unig. Caniata i mi gael bod yn dy law at fod yn ddyogel ac yn ddefnyddiol, ac wrth dy draed at fod yn fy lle, wrth dy fodd, a than dy harddwch, ac i dderbyn o'th eiriau at bob doethineb a chyfarwyddyd, ac at bob cysur a mwynhad. Os rhedais heb fy anfon, maddeu, maddeu, atolwg; a chan fod eisiau gweithwyr i'r cynhauaf, wele fi, anfon fi yn amlwg, yn nerthol, aç yn ddiamheu. O fy Arglwydd, a gaf fi, ïe, myfi y gwaelaf o bawb, glywed o'th enau santaidd, "Wele roddaf fy ysbryd arno; wele myfi a fyddaf gyda'th enau di, ac a roddaf fy ngeiriau yn dy enau yn dân?" A gaiff hyn fod rhyngom ni yn gyfamod am orchwyl mawr fy ngweinidogaeth? O na ddigied fy Arglwydd os plediaf dy allu<noinclude><references/></noinclude> bjxrp2q0do7nmx6awbxg6yo2ool4mjw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/238 104 84605 164704 164389 2026-05-15T22:46:40Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164704 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynddi y saith mlynedd a thriugain hyn trwy yr anialwch. Y niferi lluosog o bregethwyr y gair,—y rhai a dybid yn golofnau gras yr efengyl, ac o ddiaconiaid eglwysi, a phenau teuluoedd crefyddol, a rhai oedd gyfoedion i mi yn y byd ac yn yr eglwys, oeddynt y rhan fwyaf o honynt, ac agos i gyd, os nid oll i gyd, yn debycach i fyw ar fy ol i na mi ar eu hol hwy; ond hwy a gymerwyd, a mi a adawyd. Mae trefn llywodraeth yr Anfeidrol yn hyn yn annirnadwy i ni, canys ni adwaenir na chariad na chas wrth y pethau hyn; ond nid yw hyn i'w gofio, ond cofio damwain a dygwydd y byd. Pa le mae ei hen aneirif drugareddau, ei barhaus aneirif freintiau crefyddol, ei aneirif ryfeddol waredigaethau; a'r aneirif anfesurol ddylif o bechodau, y rhai y mae eu coffa yn drwm, a'u pwysau megys baich trwm, rhy drwm i mi! Ond yn y trydydd lle, a ddymunwn eu cyffesu, eu cyfaddef, yn ol trefn a gosodiad y Duw anfeidrol y pechais yn ei erbyn. O nertha fi i wneyd y cyfaddefiad hwnw a fyni yn dy air, yr hwn a ddywed, "Os cyfaddwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein hanwireddau, ac y'n glanhao oddiwrth bob annghyfiawnder." Nis gallaf eu cyffesu trwy gofio, canys pwy a edwyn ei gamweddau? nis gallaf eu cyfaddef yn barhaus, yn ddibaid, bob amser, yn mhob peth, ac yn mhob man, trwy eu rhifo, canys amlach ydynt na gwallt fy mhen; nis gallaf eu cyfaddef trwy eu mesur, canys nis gallaf fesur yr Hwn y pechais yn ei erbyn. Pechadur yn y cwbl; priodol i mi yw dyweyd, ïe, mor briodol ag i'r prophwyd Dafydd, "Yn dy erbyn di, tydi dy hunan y pechais, ac y gwnaethum y drwg hwn yn dy olwg." Nis gallaf trwy eu pwyso, canys trymach ydynt na phwysau yr holl greadigaeth, canys nid oes gyffelybrwydd rhwng pwysau pechod a phob pwysau eraill; yr unig iawn farn ar ei bwysau, a'r iawn olwg ar ei fawredd a ellir gael yn yr olwg ar Iesu, pen Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Priod-fab, a'r uniganedig o fynwes Duw ei Dad, yr hwn a'i hysbysodd ef, wedi ei wneuthur yn bechod ac yn felldith drosom ni; yn drist ei enaid hyd angau: yn chwysu y gwaed yn Gethsemane, yn yfed y cwpan a roddes y Tad iddo i'w yfed. Fy enaid, edrych ar Iesu yr hwna wanwyd gan dy bechodau, fel y byddo duwiol dristwch yn alar edifeirwch i ffrydio o dy fynwes galed di. Yn nesaf mae yma ryfeddodau aneirif, yn ddefnydd i'w ryfeddu byth. O fy enaid, gwel yma anfeidrol hir amynedd Duw, ïe, Duw yr amynedd wedi goddef yr anffrwythlondeb mwyaf ar ei ddaear i anadlu yn ei awyr, a chyfranogi o'r fath gyflawnder o drugareddau, gwaredigaethau, a breintiau. Trugaredd, daioni, a thosturi sydd wedi dy lwytho y saith mlynedd a thriugain hyn. Rhyfedd amynedd Duw oddefodd genyf cyhyd. Pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi! Yn nesaf, wrth edrych dros yr ugeiniau hyn o flynyddoedd, nid oes yn perthyn i mi ond cywilydd wyneb, wrth gofio pob man y bum ynddo, Cymru a Lloegr, pob peth a wnaethum o'm hieuenctyd fel dyn, yn fy mherthynas a phawb, yn mhob sefyllfa ac oedran, ac fel crefyddwr gwael ac annheilwng. O mor annhebyg i Grist mewn ysbryd, meddwl, ac agwedd, y treuliais y nifer mawr hyn o flynyddoedd! ac o dan yr enw o ryw fath o bregethwr; yr wyf yn teimlo cywilydd y fynyd hon i gymeryd y fath enwad i un mor wael. Mae pob testun a gymerais, a'r cwbl a ddywedais, gan faint<noinclude><references/></noinclude> drj9ayqgk2v09n2al17zmju0fg384ju Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/243 104 84606 164710 164390 2026-05-15T22:56:55Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XIV.}}<br>Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c.}} Yn gymaint a bod y cyfamodau yn y benod o'r blaen yn cynwys amryw o flynyddau o fywyd Mr. Richard, a llawer o bethau pwysig wedi dygwydd yn ysbaid y blynyddoedd hyny, y mae yn angenrheidiol i ni fyned yn ol, ac adolygu ryw gymaint ar amgylchiadau yr amser hwnw. Gwelsom yn well i roi y cyfamodau o'r bron, ac nid eu dadrys oddiwrth eu gilydd, er mwyn cadw amseriad, a'u cysylltiad â phethau eraill. Gallwn fyned yn ol, a nodi y rhai hyny allan eto, ac y mae rhai gryn bwysig yn ei gysylltiadau teuluol. Fe welir wrth ei Gyfamodau fod ei ofal am ei deulu yn angerddol; clywir ef yn diolch llawer i Dduw am ei drugareddau i'w deulu, yn ymbil llawer ar eu rhan, ac yn eu cyflwyno oll wrth eu henwau o flaen gorsedd trugaredd. Y mae ei wraig a'i ddau blentyn yn gyson yn ei freichiau o flaen Duw, yr hyn sydd yn dyweyd mwy na chyfrolau cyfain am ei dduwioldeb uchel, yn ei gysylltiadau personol a theuluol. Yr ydoedd yn ddyn Duw yn mhob man: ac yn wir, oni buasai felly yn ei fanau dirgelaf, ni buasai ychwaith yn ei fanau cyhoeddusaf, canys oes fer sydd i'r doniol a'r talentog, heb y duwiol a'r difrifol y tu cefn iddo. Lle y byddo y diweddaf y tu cefn, bydd yn asgwrn cefn i'r pregethwr, yn llwyddiant gwirioneddol, ac yn oes hir iddo o ddefnyddioldeb yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Cysylltiad meddwl â Duw mewn cymundeb, yw cryfder y pregethwr, a defnydd ei barhad. Y meddwl hwnw sydd yn ymwreiddio yn ddyfnach dyfnach yn nhrefn achub, sydd yn cynyddu mewn gallu gweinidogaethol. Bydd llawer glas-lanc yn ymddangos yn wyrdd, yn bert, yn dlws, os nid yn flodeuog, am dipyn; ond nid oes ganddo wreiddyn yn y tir da, am hyny mae yn gwywo yn fuan. Pan y bydd gwraidd pren yn myned i dir drwg, gwenwynllyd, gwelir y brigau yn crino, ac yna y mae yn darfod ffrwytho; nid yw efe mwy yn werth dim ond i'w losgi; ond os bydd y gwreiddiau yn myned ddyfnach dyfnach i dir da a bras, nis gall beidio a ffrwytho, ïe, mewn henaint a phenllwydni hefyd. Fel y dywedasom, yr oedd ei ofal am ei deulu yn fawr, a'i weddiau yn daerion drostynt; a digon tebyg i'r nefoedd eu troi yn fendithion tragywyddol ar eu penau. Y mae David<noinclude><references/></noinclude> 7f4jb0w87uurq3795p2do3o6bjypsem Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/248 104 84607 164715 164391 2026-05-15T23:09:48Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164715 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>3. Gochelwch bob dychymygion am Dduw. Meithrinwch feddyliau mawr am Dduw yn Nghrist. 4. Llafuriwch i ddeall yr unig a'r holl yrfa a osodwyd i'w rhedeg o flaen pawb sydd yn myned i'r nefoedd; ac mai ymdrech ffydd yw ei rhedeg, a bod yr holl gynaliaeth trwy edrych ar Iesu, yr hyn yw dysgu ganddo i fod yn wir ddysgyblion iddo. 5. Gwnewch air yr Arglwydd eich unig reol a'ch cynghor. 6. Gwnewch weddi yn brif orchwyl eich bywyd, ac ewyllys Duw, yr hyn yw ei air, yn brif reol eich gweddi. 7. Na anturiwch un amser at un rhan o waith yr Arglwydd, yn bersonol, yn deuluol, nac yn eglwysig, heb yn gyntaf ofyn yr Ysbryd Glân, yn enw Crist, yn ol addewid y Tad am dano. 8. Ymddiriedwch yn yr Arglwydd yn wastadol, fel nad ofnoch ddyn. 9. Ofnwch falchder yn mhob ffurf, yn enwedig mewn bryd uchel. "Na fyddwch uchelfryd, eithr ofnwch." 10. Cofiwch mai hunan yw eich prif elyn; ac mai balchder yw prif beth hunan. 11. Gwyliwch a gofalwch gadw eich cymeriad; fe ofala eich cymeriad eich cadw chwithau. 12. Ymwadwch â chwi eich hunain, chwi a gewch eich hunain; ceisiwch eich hunain, chwi a gollwch eich hunain. 13. Cofiwch yn wastadol nad oes dim a all eich darostwng ond balchder, na dim eich dyrchafu ond gostyngeiddrwydd. Pryf yn ysu yw y naill; rhinwedd yn meithrin yw y llall. 14. Cedwch yn ddigon pell oddiwrth bawb, chwi a gewch bawb yn ddigon agos; ewch yn rhy agos, chwi gewch bawb yn rhy bell. 15. Gwnewch y gwirionedd yn rheol barn am bob peth, chwi a gewch bob peth yn ol barn y gwirionedd. 16. Byddwch ddiog i lefaru; byddwch barotach i wrando. Deallwch farn wrth yr holl wir, ac nid wrth na gwedd, na gweled, na chlywed. 17. Cofiwch na all cariad ddim byw heb gynaliaeth. Medru cynal cariad yw y medr mwyaf rhwng cyd—greaduriaid. 18. Gochelwch bellafoedd yn y dechreu, canys y maent yn sicr o gyfnewid cyn y diwedd. 19. Dysgwch barchu pawb yn ei le, chwi roddwch barch yn ei le i bawb. 20. Aberthwch bob peth i gariad ond y gwir. 21. Peidiwch gadael i neb fyned rhyngoch, na thad, na mam, na brawd, na châr, na chyfaill. Dangoswch bod eich cysylltiad yn anwahanol. 22. Dysgwch oddefiad ac ymroddiad; heb hyn mae yn anmhosibl cynal cariad. 23. Cofiwch mai gwely priodas wedi oeri yw yr anhawddaf byth i gynesu. 24. Cofiwch mai y naill yn dysgu gan y llall yw y ffordd i'r naill ymgeleddu y llall. 25. Na fydded tuedd mewn na gair nac agwedd gan y naill na'r llall i ddangos arglwyddiaeth, ond yn wastad parchedigaeth. 26. Pan bo y naill yn gynhyrfus, gwylied y llall fod yn oddefus. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> qslbgzko84w9h2v0pnh4v7lszmiknmi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/253 104 84608 164571 164392 2026-05-15T14:45:53Z AlwynapHuw 1710 164571 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ofidiau mawrion yn ol llaw; canys dylynai ryw ddrychfeddwl digrif yn ol ac yn y blaen, am draws ac ar hyd, yn ei holl liwiau a'i luniau; ac os na fyddai ei liwiau a'i luniau yn myned yn ddigon pell, fe gynorthwyai lawer er eu gyru yn mhellach. Peth rhwydd iawn iddo ef fuasai gosod dynion i chwerthin nes yn rhy wan i gyffro; ac yn fuan eilwaith i wylo fel plant; yr oedd yn medru arglwyddiaethu ar holl deimladau y natur ddynol. Pan y cymerai ryw frawd pur ddiniwed mewn llaw, a chwareu yn ddigrifol o'i gwmpas, nes y byddai pawb yn methu dal, byddai hyny yn ofid mawr iddo eilwaith, a throdd ar y cwbl yn anfanteisiol iddo, canys yr oedd dynion yn cael eu clwyfo, a'u ffryndiau hefyd, er nad oedd dim niwed yn cael ei amcanu. Y mae llawer iawn o hanesynau o'r natur hyn am dano; ond yn gymaint ag y byddai i ni gysylltu enwau personau ag sydd yn awr yn fyw â hwynt, a hefyd nad ydynt ond plyf llaes yn ei gymeriad, yr ydym yn eu troi oll ymaith, ac yn dylyn ei bapyrau ef ei hun. Y siarad hyny o eiddo Mr. Richard a gyfrifid yn ofer a dibwrpas, yn ymylu ar fod yn gellwair, sydd yn cynwys ynddo fawredd, ac nid oedd neb ond dyn mawr allasai siarad felly; buasai yn well genym wrando ar ffolineb Mr. Richard na synwyr goreu llawer iawn o ddynion go gall; oblegyd, a chaniatau ei fod yn dywedyd ffolineb ar brydiau, neu yn myned i eithafion mewn siarad, eto yr oedd cymaint o fawredd yn y dull o ymdrafod y peth, fel yr oedd y pethau gweinion yn myned yn gryfion, gryf a'r pethau eithafol yn dyfod i ymddangos yn weddus ac mewn trefn. Beth bynag, fel y dywedasom o'r blaen, y mae yn eglur ei fod yn meddwl llawer am bob peth ag oedd yn ddyweyd; ond o herwydd helaethrwydd bron anfesurol o ddawn siarad, dygid ef ymaith megys â llifeiriant, yn nghynhyrfiadau y foment. Yr ydym yn canfod wrth ei bapyrau ei fod yn darpar gogyfer a phob amgylchiad, nid yn unig ar gyfer rhyw gyfarfodydd mawrion, a gogyfer â'r pwlpud, ond cyfarfodydd gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf, cyfarfodydd ymostyngol yn wyneb rhyw arwyddion barnol, a'r cyffelyb. Yn yr amser yr oedd y ''cholera'' yn fflangell ofnadwy ar y wlad, cadwyd cyfarfodydd ymostyngiad yn mhob man i gydnabod llaw Duw, ac i ddeisyf trugaredd ac arbediad; ac yn mhlith ei bapyrau yr ydym yn gweled areithiau byrion a draddodwyd yn Abergwaen ac Wdig yn y cyfryw gyfarfodydd. Nid oedd y bobl yn meddwl dim ond fod pob peth yn dyfod fel y môr,<noinclude><references/></noinclude> khjzms1z7d5ds8n1qd7lvx085iqnav2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/258 104 84609 164720 164393 2026-05-15T23:22:33Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164720 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffydd fawr mewn Rhagluniaeth ddwyfol; y mae wedi arbed llawer o arian i filoedd, o dan amrywiol amgylchiadau bywyd. Y peth sydd yn ein synu ni yn fawr yw, os gallesid gadael ei ofal yn llaw Rhagluniaeth yn nghylch angenrheidiau y bywyd hwn, paham nad allesid ymddiried y cwbl i ragluniaeth? Pa eisiau oedd codi llaw a danfon llythyrau o gydymdeimlad? onid oedd Un yn y nefoedd yn "medru cyd-ddyoddef?" am hyny paham nad allesid ymddiried y cwbl i'r un Gwr? Fe ddichon nad oes dim yn hyn, ar yr un pryd y mae rhyw beth ynddo nad yw mor hawdd ei ddeall a llawer peth. Y mae yn ddigon tebyg mai ei lafur caled gyda phregethu i gynulleidfaoedd mawrion ddygodd yr anhwyldeb yr ydoedd yn llafurio o dano i'w gyfansoddiad. Weithiau mewn lleoedd bychain gwresog yn chwysu nes y byddai ei ddillad yn wlybion, yna allan i lwydrew y nos, ac adref drwy hwnw ryw chwech neu saith milldir. Weithiau ar faesydd, yn pregethu i ddeng mil o ddynion, pryd y byddai yn aml y gwynt a'r gwlaw fel yn cyduno i ryfela yn erbyn yr efengyl. Yr oedd pethau fel hyn yn ddigon i ladd un dyn; a digon tebyg mai pethau cyffelyb oedd wedi achosi ei ddolur yntau. Galwodd gweinidog parchus, perthynol i'r Wesleyaid gyda brawd parchus o ddiacon Methodistaidd i'w weled yn ei gystudd; yr oedd y gweinidog heb ei weled erioed cyn hyny, ond yn unig clywed am y pregethwr cawraidd, yr hwn yn awr oedd yn dechreu cael ei rwymo gan henaint a chystudd. Wedi cyfarch gwell, a throi o gwmpas dipyn, gofynodd y gweinidog, "Pa beth yw natur eich afiechyd, Mr. Richard?" "O, gwaeddi gormod sydd wedi dyfod ag ef; a ydych chwi yn gwaeddi llawer? Dyna fel yr oedd dynion yn meddwl er ys llawer dydd—mai y dyn allasai waeddi fwyaf oedd y pregethwr goreu; felly byddai pawb yn ymdrechu gwaeddi ei oreu, bid a fyno. Yr wyf fi wedi gwaeddi nes ydwyf wedi methu gwaeddi; yr wyf yn pregethu ambell waith yn awr; ond nid wyf yn gallu gwaeddi yr y'ch chi'n deall; a bydd y bobl yn dyweyd, wrth ddyfod o'r cwrdd, 'Pregethwr da yw Richard hefyd;' ond y dynion hynaf, y rhai sydd wedi fy nghlywed yn gwaeddi, a atebent yn surllyd, 'Pw, pw, 'chlywsoch chwi ddim o hono ef yn ei ''brime;'' dyna pryd yr oedd e'n ogoneddus, pan glywsom ni ef gyntaf, pan oedd yn ei ''brime.'' Yn awr, yr y'ch chi'n deall, ''prime'' gwaeddi oedd y ''prime'', nid ''prime'' pregethu. Peidiwch a gwaeddi llawer, onide ewch yn fuan i beidio gwaeddi dim. Nid pregethwr<noinclude><references/></noinclude> 80q0hpar3zql19cuh54580z83g05fme Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/263 104 84610 164725 164394 2026-05-15T23:33:31Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164725 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XVII.}}<br>Ychydig o ymadroddion annghysylltiol, ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas.}} Y MAE peth anferth o ddywediadau Mr. Richard mewn cymdeithas, y rhai fydd yn anmhosibl i ni eu cofnodi; a digon tebyg y clywir y bobl yn siarad, "Nid yw y peth hwn yn y llyfr, ac nid yw y peth arall ynddo;" ond pe gosodem y cwbl a ddywedodd, a'r cwbl a ddywedir am dano yn y llyfr, beth, tebygech chwi, fyddai maint y llyfr hwnw? Byddai yn rhaid cael lle go fawr i'w gynwys, a bod yn siwr i chwi hefyd. Ond er mwyn ceisio gweithio allan gymeriad Mr. Richard yn mhob peth, yr ydym am roi ychydig o engreifftiau o'r pethau sydd yn draddodiadol. Gofynwyd iddo am ryw bregethwr ag oedd y pryd hwnw yn Sir Benfro, ond sydd yn awr er ys llawer blwyddyn yn wrthgiliedig, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn myned yn y blaen gyda chwi, Mr. Richard?" "Myned yn y blaen," ebe yntau; "nid ydyw yn myned yn y blaen, nac yn ol ychwaith, llwyr ei ochr y mae yn myned, fel cranc." Pysgodyn boglog, chwithig yw y cranc; pan y mae yn ceisio myned y mae yn ymlwybro mor lledchwith, fel y mae yn ymddangos yn taro yn erbyn, ac am draws bob peth. Gofynwyd iddo am yr un gwr dro arall, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn pregethu gyda chwi, Mr. Richard?" "O," meddai, "y mae yn swnio yn debyg iawn i swllt drwg." Yr oedd yr hen weinidog ag amcan deg ar swn Duw yn y weinidogaeth; er fod rhyw gymaint o olch dynol ar y wyneb, yn ceisio gwneyd yr arian yn debyg i rai da; ond wrth eu taro yr oedd swn metel drwg. Y mae llawer o bethau yn gron fel swllt, a chymaint a swllt, ond nid pwysau ac nid swn swllt. Yr ydym yn cofio clywed am ddyn yn troi oddiwrth yr Annibynwyr at y Methodistiaid yn Penmorfa, a dygwyddodd hyny pan yr oedd Mr. Richard yn y lle. Arferiad cyffredin oedd galw cwrdd eglwysig yn ol wedi y bregeth, i gael y pregethwr yn y cwrdd hwnw. Felly gwnawd y tro hwn yn Mhenmorfa; a dygwyddodd hefyd i'r brawd hwn aros yn ol, yr hwn a ddarostyngwyd o dan holiad manwl ac ymchwilgar. Nid mor rhwydd oedd gan yr hen Fethodistiaid dderbyn aelod oddiwrth enwadau eraill, rhag, digon tebyg, fod rhyw gau ddybenion neu ryw beth cyffelyb. Holwyd y<noinclude><references/></noinclude> eoin79zj3i7avoxxq02mocdofxt50lw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/268 104 84611 164732 164395 2026-05-15T23:42:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164732 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"A ydych chwi yn deall, Thomas bach, fod y bobl yn myned lle y mae rhyw beth i gael. Nid oes eisiau eu cymhell i fyned i'r ''Black Lion'', y maent yn myned eu hunain, ac yn gadael y ''Red Lion'', oblegyd fod rhyw beth gwell i gael yn y ''Black Lion.'' Yr ydych chwi am anog y bobl hyn i ddyfod i'r ''society''; gwaeth eu hanog hwy na pheidio, ni cheir ganddynt ddyfod, os nad oes yno ryw beth i gael. Y mae yn ddigon tebyg, Thomas bach, mai rhyw dŷ fel y ''Red Lion'' yr ydych chwi yn ei gadw yma; nid oes genych ddim i roi ger bron y bobl. Pan y bydd eisiau bwyd arnynt, nid oes genych chwi ddim i'w osod ger eu bron, a'r ychydig sydd, oer iawn ydyw—ni fynant ei fwyta. Cedwch chwi dŷ da, a bwyd blasus a thwymn, Thomas, fe ddaw y dynion, onite gwaith anog mwy na pheidio. Peidiwch a bod fel Mali; yr un god at bob peth. Y mae Mali yn gwneyd tê, yn gwlychu y toes, yn golchi, yn smwddio, yn gwneyd teisen, yn golchi'r llestri, ïe, yn gwneyd pob peth ar yr un ford fach. Byddwch yn fwy taclus gyda'r grefydd, ffrynds; peidiwch a gwneyd pob peth mewn ffordd afler ac annyben; cofiwch fod pethau Duw yn bethau santaidd." Y mae y bai i gyd yn syrthio ar ben Thomas; ac fe allai fod helynt y ceirch wedi arwain gryn dipyn at hyny. Yr oedd dau bregethwr wedi taro allan i bregethu, a'r amser wedi dyfod i ben i siarad â hwynt yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd y ddau druain yn sefyll, neu yn eistedd, yn bur wylaidd heb fod yn mhell oddiwrtho. Y mae yntau yn codi, yn edrych yn mhell y tu hwnt iddynt hwy, ac yn gofyn, "A ydyw Thomas a Dafydd yma? a oes rhyw un yn gwybod a ydynt i mewn, a ydynt yn y capel, neu ar fedr dyfod? A oes rhai o honoch chwi yn deall y ffordd acw?" "Dacw hwynt," meddai rhyw un, "yn eich ymyl, Mr. Richard." "O felly; y maent yma, da iawn; gwell siarad ychydig â hwynt; pwy sydd yma a ymgymer â hyn o orchwyl, siarad tipyn â Thomas a Dafydd? dewch, byddwch yn frysiog; gofynwch ryw beth iddynt hwy. Y maent hwy yn bregethwyr yn awr; pregethwyr da iawn hefyd; y mae y bobl yn eu canmol. Y maent yn canmol Thomas yn annghyffredin; y maent yn canmol Dafydd hefyd am hyny, ond nid cymaint a Thomas: Thomas yw y pregethwr mwyaf, yr y'ch chwi yn deall. Y mae Dafydd yn bregethwr lled fawr hefyd, y maent yn dyweyd; mae efe o'r braidd yn ddyfnach na Thomas; ac<noinclude><references/></noinclude> jzeds5s4jeaji1u54gdq5obch519tqb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/273 104 84612 164738 164396 2026-05-16T00:03:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164738 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XVIII.}}<br>Penod arall i bawb.}} DIGON tebyg y bydd y rhai a elwir yn feirniaid yn dweyd y dylai y benod fechan hon fod gyda'r benod arall i bawb; yr ydym wedi dewis amrywio ychydig ar bethau, trwy ranu yr ymadroddion dewisol hyn o eiddo Mr. R., a gosod rhyw faint o bethau eraill rhyngddynt. Nid ydym yn gweled fod llawer o bwys yn y mater; ac os yw rhai o'r gwŷr call yn dewis barnu yn groes i ni yn hyn, nid oes drwg yn y byd yn hyny. Fe wel y darllenydd nad oes dim yn dianc rhag meddwl grymus a sylw craffus Mr. Richard. Bydd y rhan fwyaf o bethau yn eu tro yn syrthio o dan lymder ei feirniadaeth; weithiau y byd hwn, weithiau sefyllfa boliticaidd y deyrnas a'r byd, weithiau yr Eglwys Wladol, weithiau y gwahanol sectau; brydiau eraill pregethwyr a diaconiaid, a'r Cyfundeb y perthynai iddo yn neillduol. Byddai pawb yn eu tro yn dyfod o dan ei sylw; ac yn gyffredin iawn yn cael chwareu teg oddiar ei law. Nid ydym yn meddwl fod ynddo un amcan am wneyd cam â'r byd, yr eglwys, personau neillduol, na dim arall; eithr yn hytrach rhoi barn gyfiawn ar ba beth bynag ddelai o flaen ei sylw; ac yn gymaint a bod y fath graffder yn ei feddwl, a'r fath annhueddrwydd yn ei farn, nid yn aml y mae yn methu cyrhaedd y nod. Byddai llawer yn digio yn aethus wrtho, fel pe buasent wedi cael halen ar eu clwyfau; ond waeth beth yn y byd, digio wrth y gwirionedd oeddynt. Bydd rhai pobl gall yn meddwl y gallesid cymeryd gwell ffordd i ddyweyd, rhyw lwybr esmwythach ati; beth bynag am hyny, yr oedd y gwirionedd yn sicr o fod yn elfen rymus yn y dywediadau; ac nid yn unig ryw wirionedd, eithr y gwirionedd angenrheidiol yn wyneb yr amgylchiadau. Yr ydys yn dyweyd yn fynych fod ffordd ar ddyweyd ''gwirioneddau''. Wel, oes y mae; ond pa ffordd yw hono, wed'yn? Y mae eisiau penderfynu y pwne hwn. Ffordd rhai yw dyweyd, a pheidio dyweyd; siarad rhyw beth, ac nid y peth. Dyweyd er mwyn i'r dyn beidio teimlo, ac eto y mae eisiau iddo deimlo; ni wna dyweyd les, ond wrth iddo deimlo. Pwnc mawr ambell un yw dal ei hun i fyny yn barchus gyda phawb, ac o ganlyniad nid ydyw yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, wrth<noinclude><references/></noinclude> 9sc2k7xfl6doyi04dp2wp3lbnodxm8w Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/69 104 84714 164530 2026-05-15T13:35:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164530 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddiddefnydd. Gadewir iddo ddyweyd eto drosto ei hun:—"Bum yn ofni na'm hetholwyd; ond oddiwrth hyn fe'm gollyngwyd trwy y gair hwn a'r cyffelyb: Ioan vi. 37, 'Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi; a'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Yr oedd y bachgen yn dechreu adnabod ei lais ef eisoes, ac yn teimlo pan lefarai Duw fod ei holl gadwynau yn myned yn rhyddion. Yr ydym yn cael yn fuan wedi iddo gael ei ryddhau o brofedigaeth yr ethol, ei fod yn cyfarfod ag un arall, yr hon fu yn danllyd iawn, ac a lynodd yn ei feddwl yn hir. Yn y lladdfa yr oedd y llanc; yr oedd y gyllell yn ei wddf, a byddai yn ei theimlo yn tori yn awehus yn aml; a thori a wnaeth, nes gollwng yr holl hen waed allan yn llwyr. Y brofedigaeth y cyfeiriasom ati oedd, iddo yn fuan syrthio i ofn dirfawr fod ei bechodau yn anfaddeuol. Bu mewn tywydd garw a helbul nid bychan yn nghylch y mater hwn; yr oedd wedi gwasgu cymaint ar ei feddwl, fel yr oedd wedi ei annghymhwyso at bob peth y bywyd hwn dros dro. Yr oedd y cyfnod hwn eto o'i fywyd yn rhyw gymhwysder erbyn amser i ddyfod i drin profedigaethau y saint, a chymhwyso y feddyginiaeth briodol atynt. Pwy allasai drin hyn o glwyf yn fedrus, ond rhyw hen "gydymaith mewn cystudd?" Byddai y pregethwr enwog wedi hyn (clywsom ef lawer gwaith) yn cymeryd y drafferth fwyaf i drin profedigaethau ac amheuon y saint, gan gymhwyso atynt dystiolaethau ac addewidion balmaidd yr efengyl, nes lloni y galarus, dyddanu y gwan eu meddwl, a pheri i dafod y mudan seinio cân yn nghanol holl brofedigaethau y byd. Byddai llawer yn rhyfeddu pa fodd yr oedd y pregethwr mawr, yr hwn a dybid ei fod yn byw uwchlaw hen wýr a hen wragedd yn y dyfnder, yn gwybod am holl helyntion mân profedigaethau a themtasiynau satan, grym llygredigaethau y galon, "a thwyll pechod." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled ei fod "wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a chwithau;" ac fe allai yn helaethach na'r cyffredin, "fel y gallai gynorthwyo" yn ei weinidogaeth "y rhai a demtir." Bu y geiriau "ni faddeuir iddo" yn ei ddylyn yn ddidor am amseroedd, ac yn swnio yn ei feddwl fel cloch farwol bob dydd. Beth bynag a wnelai, pa un ai darllen neu weddio, myned i wrando pregeth neu i'r gymdeithas neillduol, nid gwaeth beth, yr un swn fyddai yn treiddio trwy ei feddwl o hyd, — "Ni faddeuir iddo." Pan yn yr helbul mawr a'r tywydd garw hyn, a'r geiriau<noinclude><references/></noinclude> ceomidjwmq7p2cy1rhy41fnpmgabisj Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/70 104 84715 164531 2026-05-15T13:35:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164531 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"ni faddeuir iddo" yn swnio yn ei glustiau, aeth i Dyddewi i ymweled â hen fodryb iddo, yr hon oedd yn wraig dduwiol iawn, a'r hon yn llaw Duw fu yn offerynol i'w waredu allan o'r brofedigaeth, canys dychwelodd adref wedi iachau yn ei gorph a'i ysbryd. Y mae Tyddewi, fel y gwyddoch, wedi bod yn lle enwog iawn am saint, ac y mae yn enwog eto am ddim a wyddom ni; ond yn mhlith y lleill, bydded son am yr hyn a wnaeth hon hefyd hyd ddiwedd y byd; eithr am dragywyddoldeb, y mae son yn sicr o fod yno, canys byd ydyw hwnwuwchlaw annghof. "Nid yw Duw yn annghyfiawn, fel yr annghofio eich gwaith;" na, bydd y "cyfiawn byth mewn coffadwriaeth." Wel, bydded hon yn "fendigedig yn mhlith gwragedd" tra fyddo y byd; canys gwnaeth weithred dda ar ei nai, hi a'i hachubodd ef, yn offerynol, "rhag disgyn o hono i'r clawdd." Aeth ymddyddan rhyngddo a'i fodryb am ei ofnau; ac y mae yn debyg fod yr hen Gristionoges wedi bod yn yr un blinderau yn nhir y gelyn, ac felly yn hen ddysgybles wedi ei dysgu i deyrnas Dduw, ac yn gyfarwydd ac yn fedrus i "lefaru gair yn ei bryd wrth yr enaid diffygiol." Mor dda yw gair yn ei amser. Mae fel "afalau aur mewn gwaith edau cerfiedig; megys oerder eira yn amser cynhauaf, yw cenad ffyddlon," y mae yn esmwythau, yn lloni, ac yn dadluddedu. Arweiniodd rhagluniaeth ddwyfol y llanc i'r lle iawn am feddyginiaeth, a bu hyny yn waredigaeth iddo. Dywedir yn awr gan y doethion fod y meddygon yn lladd wrth geisio gwella lawn gymaint, os nid rhagor, nag y maent yn eu gwella. Nid oes genym nemawr i ddyweyd am y meddygon naturiol, eithr eglur yw fod y meddygon ysbrydol yn aml yn hytrach yn annghelfydd yn trin doluriau a chlwyfau ysbrydol. Yr ydym yn darllen am y diweddar Dr. Williams o Rotherham, pan yn llanc yn Nghymru yn yr ysgol gydag offeiriad, yn cael ei gymhwyso at y swydd hono, iddo syrthio mewn profedigaeth arw wrth gael ei gam—gyfarwyddo trwy anwybodaeth y person. Y mae yn ymddangos nad oedd y person wedi ei ddysgu yn fanwl i deyrnas Dduw; ac o ganlyniad ei fod yn lled annghyfarwydd i ddysgu eraill. Yr oedd rhieni y bachgen am wneyd offeiriad o hono, ac yntau yn tueddu yn hytrach ffordd arall, fel nad oedd pethau yn myned yn y blaen yn hwylus yn y byd. Ond i fod yn fyr ar hyn o beth, y mae yn debyg fod meddwl Williams ieuanc yn myned o dan gyfnewidiad mawr iawn ar y pryd; yr oedd wedi bod yn gwrando pregethau tanllyd yr Annghydffurfwyr, y rhai<noinclude><references/></noinclude> 1zql8w7weglxe6ygodu7m2xa8fj6pop Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/71 104 84716 164532 2026-05-15T13:39:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164532 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd wedi gwneyd argraff ddofn ar ei feddwl. Yr oedd pechod yn dechreu ymddangos, nid yn rhyw wendid bychan yn y ddynoliaeth, eithr mewn lliwiau mwy dychrynllyd, yn "dra phechadurus," ac yn ddamniol. Aflonyddwyd ei feddwl gymaint nes ydoedd bron yn wallgof; ac yn gymaint ag nad oedd yn canfod un ffordd o ddiangfa, dywedodd ei gwyn wrth y person parchedig. "Pw, pw," ebai hwnw, "peidiwch a meddwl am bethau fel yna; byddwch yn galonog ac yn chwareugar; beth dâl meddwl am ryw bethau fel yna? meddyliwch am ryw beth arall." Dyna gynghor person i ddyn o dan argyhoeddiad; ond nid un o'r personiaid goreu, cofiwch, oedd hwnw, eithr y gwaethaf yn hytrach. Pe baech yn cyfarfod â'r goreu, caech gyfarwyddiadau cystal ag sydd i'w cael yn y byd hwn. Ond dyna—aeth y person yn y blaen i'w gyfarwyddo i ddarllen o dan y fath helbul meddwl; cynghor da iawn oedd hwnw. Ond dyna lle y collodd yr offeiriad hi, tebygem ni,—yn lle ei gyfarwyddo i ddarllen Bibl, cynghorodd ef i ddarllen ''"Tale of a Tub,"'' rhyw chwedl ddigrif o eiddo Dean Swift. Pwy fuasai yn meddwl am gynghori dyn o dan argyhoeddiad i ddarllen ''"Tale of a Tub,"'' meddwch chwi? Wel, felly y bu mewn gwirionedd; nid oedd yr offeiriad hwnw yn rhyw un celfydd iawn yn nghylch teyrnas Dduw; ymddangosai yn gyfarwydd a chartrefol yn nghylch teyrnas y diafol. Yr oedd hen wraig Tyddewi yn well doctores ganwaith at ysbryd cystuddiedig nag efe; un dda oedd yr hen fenyw hon; yr oedd wedi treulio llawer o flynyddau yn y clafdy ysbrydol, ac wedi teimlo iechyd yn ei hysbryd, yn ganlyniad i'r moddion a ddefnyddid yno. Hon, yn llaw Duw, nid y pregethwr mawr, a ddefnyddiwyd i fod yn waredigaeth i'r bachgen ieuanc a thyner rhag un o brofedigaethau llymaf ei fywyd crefyddol. Dychwelodd o Dyddewi wedi cael iechyd yn ei ysbryd, a Haul Cyfiawnder yn tywynu arno. Rhoddwn yma eto ychydig o'i eiriau ei hun ar y mater hwn; bydd yn dda gan lawer o'r saint eu clywed;—"Aethum i ofni ddarfod i mi bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân y pechod anfaddeuol. Yn wyneb hyny deuai y geiriau hyny i fy meddwl, 'A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod,' 1 Ioan i. 7. Yn wyneb hyn yr oedd y gair hwn eilwaith yn dyfod i'r meddwl fel taran-follt, Ni faddeuir iddo;' yr hyn a gynyrchai aeth drom. Ond fe ddygwyddodd i mi fyned i dref gerllaw y lle yr oeddwn yn byw, a elwir<noinclude><references/></noinclude> trrgffj4oqr4i71uqw09zuyo5hv2mqw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/72 104 84717 164533 2026-05-15T13:41:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164533 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tyddewi, at hen fodryb i mi, chwaer fy mam, yr hon oedd hen wraig dduwiol iawn, ac a wyddai lawer am rym crefydd, a rhyfel ysbrydol y Cristion; ond wrth ymddyddan am bethau crefydd, hi adroddodd iddi hithau gael ei churo yn nghylch y pechod anfaddeuol, yr hyn fu yn ofid mawr iddi; ond aeth i wrando un yn pregethu, ac ar ei bregeth dywedai nad oedd neb wedi ei bechu ag oedd yn ofni hyny; yna fe'm rhyddhawyd oddiwrth y brofedigaeth hono yn ail adroddiad y bregeth gan fy hen fodryb." Y fath drugaredd annhraethol iddo yn y brofedigaeth lem hon i gael ei arwain at yr hen fodryb yn Nhyddewi; gallasai gyfarfod â llawer canon yn Nhyddewi yn y dyddiau hyny fuasai yn cynyg ''"The Tale of a Tub,"'' fel meddyginiaeth; canys yr oedd crefydd yn isel iawn yn y dyddiau hyny, ac hyd yn oed swyddogion eglwysig yn mhlith pob enwad yn lled dywyll, yn wahanol iawn i'r hyn yw yn bresenol. Byddai yn anhawdd i chwi gael yr un offeiriad yn awr, na phregethwr ychwaith, a gynygai i ddyn o dan argyhoeddiad dwfn y fath lyfr a hwnw. Beth bynag, ni a welwn fod goruchwyliaethau Duw yn rhyfedd, canys darperir ganddo y naill beth ar gyfer y llall; pan y mae yn clwyfo, trefnir y feddyginiaeth hefyd; ac ar gyfer pob temtasiwn y mae diangfa hefyd, fel y gellir ei dwyn. Trefnir cigfrain ar gyfer angenion Elias; a hen wraig yn Sarepta wed'yn pan y darfyddodd gweinidogaeth y rhai hyny; ac ni a welwn ddarparu o hono hen wraig yn Nhyddewi i dynu y swmbwl o gnawd ac ysbryd Tommy. Dychwelodd adref yn ddyn arall, gan ddiolch i Dduw a chymeryd cysur, ac ymuno â'i dad i gario yn y blaen gorchwylion amaethyddol. Tybiodd y llanc, fel y bydd lianciau yn dueddol o dybied, fod y tywydd garw wedi myned heibio, y gauaf wedi diflanu, ac nad oedd dim ond blodau i fod ar y ddaear mwy. Pan yn y cadwynau gan yr ofnau o bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân, canai yr hen benill,— {{center block| <poem> "Tebygwn pe bai 'nhraed yn rhydd :O'r blin gaethiwed hyn, Na wnawn ond canu tra f'wyf byw :Am ras Calfaria fryn." </poem> }} <br> Dechreuodd ar ganu yn hwylus wedi iddo gael ei ollwng yn rhydd, ac yn meddwl yn y gwres hwnw na fuasai y gân yn darfod byth; eithr yn fuan y dysgodd profiad bethau eraill iddo, "fod rhwymau yn ei aros yn mhob dinas;" ac mai<noinclude><references/></noinclude> ruj2aujktcrv80nu2d5o7jk1jcqhhuf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/74 104 84718 164535 2026-05-15T13:45:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164535 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>daith yn hir o'r argyhoeddi i'r weinidogaeth, eithr yn arw ac yn anhygyrch dros ben. Yr oedd ei argyhoeddiad yn drwm; lladdfa oedd hi, fel y dywed ef ei hun; yr oedd mor amlwg fel y gallai pob dyn ganfod y cyfnewidiad yn ddigon hawdd. Profedigaethau tanllyd oedd ei brofedigaethau; aeth drwy gymaint yn y pump neu chwech mlynedd rhwng ei argyhoeddiad a dechreuad ei weinidogaeth ag y mae llawer mewn haner cant, a'r rhai hyny yn ddynion da hefyd. Yr oedd hyn yn angenrheidiol er ei ddarparu yn fuan at weinidogaeth yr efengyl, a gweinidogaeth ''annghyffredin'' hefyd. Y mae llawer yn pregethu yr efengyl—yn siarad geiriau pregethwr bid a fyno—heb deimlo dim triniaethau o'r natur hyn, ac nid oes neb yn teimlo rhyw lawer o danynt. Pregethu adroddiadol ydyw, yn rhyw beth tebyg i hogyn yn adrodd penod, yr hwn sydd heb ei deall, na'i theimlo; os ei hadrodd yn foddhaol, dyna y cwbl o'i ddybenion ef wedi ei gyrhaedd. Y mae y bobl yn gwybod nad ydyw y dyn yn teimlo dim, ac y maent yn barod i droi eu cefnau arno tra y mae efe yn siarad. Gall fod yno synwyr, gall fod yno ddawn, eithr nid oes yr un genadwri; y mae y pregethwr yn farw i weinidogaeth yr efengyl. Dyn ydyw hwn heb fod yn y lladdfa; dyn heb ollwng yr hen waed allan; dyn heb fod yn cael ei ysgwyd uwchben uffern; dyn heb weled y tân anniffoddadwy; dyn heb glywed bloeddiadau erchyll damnedigion; dyn heb ei gipio i baradwys, a gweled a chlywed pethau annhraethadwy; dyn heb deimlo anobaith o herwydd pechu yn erbyn yr Ysbryd Glân; dyn heb fyw misoedd yn swn y geiriau "ni faddeuir iddo;" dyn heb ei ollwng yn rhydd o'r cadwynau hyn trwy yr efengyl, dyn heb deimlo, ο herwydd hyny, fawl i Dduw yn dyrchafu ei enaid i fyny i'r nefoedd; dyn heb ei ddal gan ofn ei fod yn annghymeradwy gyda Duw, a bod y cwbl y mae yn wneyd yn annghymeradwy, ac yn haeddu digofaint byth; dyn heb ei waredu, trwy ffurfio gobaith bywyd tragywyddol yn ei galon, yn swn geiriau Duw yn dyfod yn genadwri ato, gan ddywedyd, "Gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Mae efe yn gwneyd pregeth fel dyn yn gwneyd erthygl ar fferylliaeth neu ryw beth arall, heb ystyriaeth fod ysbrydoliaeth ddwyfol er achub a chysuro pechaduriaid yn yr efengyl. Dyn marw ydyw hwn, a gweinidogaeth farw ydyw ei weinidogaeth. Y mae dirgelwch yn y mater hwn i'r byd, ond fe allai mai dirgelwch a ellir ei egluro ydyw. Paham y mae<noinclude><references/></noinclude> mzh4qfv04m6y4ukyvmdp4bmrctzfgkx Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/75 104 84719 164536 2026-05-15T13:47:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164536 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhai yn gallu pregethu, nes y mae tystiolaeth yn mhawb mai pregethu ydyw, fod y fath bregethu yn cymeryd gafael ar feddyliau dynion yn mhob sefyllfa ac agwedd, ac yn eu trafod, gan adael tystiolaeth yn y mwyaf annuwiol fod rhyw beth sydd yn fwy na dynol yn hyny, ac mai gweision y Duw goruchaf ydynt? Sylwch ar dywydd garw Mr. Richard yn nechreu ei grefydd; edrychwch fel yr oedd Ysbryd Duw yn ei arwain trwy y profedigaethau, i beri iddo ddeall; edrychwch arno yn y ''lladdfa'', ac yn y ddiangfa, a chewch weled fod hyny yn ei ffurfio i gydymdeimlad a'r efengyl, nes y mae y naill yn ymdoddi yn y llall, a gweinidogaeth fywiol yn ymgodi ac yn dylifo o'r undeb hyn. Ond, yn gymaint ag y bydd yn rhaid i ni ymdrafod yn helaethach a'r cwestiynau hyn eto wrth fyned yn y blaen, gadawn hwynt yn awr ar gymaint a hyny. Gallwn edrych ar yr ychydig flynyddoedd hyn, sef o'r argyhoeddiad i ddechreuad ei weinidogaeth, yn rhai ystormus iawn, eto y maent, o dan lywyddiaeth y Llywydd dwyfol, yn ddarpariaeth iddo ef, yn gymhwysder at waith mawr, ac yn lles i Gymru, fe allai, hyd ddiwedd y byd. Ymddengys y daith fechan hon fel pe safech ar ben y creigydd uwchben y môr yn Drefin, yn edrych ar long fechan wedi cychwyn allan o borthladd cyfagos, yn dechreu ymdrechu mewn difrif â thywydd garw. Ah, dacw hi fel pe bai wedi ei chuddio yn hollol rhwng y tonau yn y dyfnder mawr, y rhai sydd yn fwy tebyg i fynyddau Alpaidd na thonau Culfor St. Sior. I'r lan eilwaith y mae yn codi, nid yn araf, eithr yn saethu megys bollt o'r dyfnder, rhwng y tonau i'r cymylau duon uwchben, pryd y bydd y gwynt ystormus yn ei gyru yn y blaen fel ar encil tragywyddol; y mae y gwynt fel pe bai yn rhuo mewn cynddaredd arni, y cymylau yn gwneyd golwg guchiog, a'r nefoedd fel wedi penderfynu ei chwalu yn yfflon. Yn mhen tipyn, dacw y gwynt yn ymgyfarfod yn rhyw fodd, a throell sydyn yn cymeryd lle, nes y gwelir y llong fechan yn "ymdroi ac yn ymsymud fel meddwyn," a holl ddoethineb y llywydd yn pallu. O'r diwedd, yn y tywydd garw y mae calon y morwr gwan yn pallu, y mae ei enaid eiddil yn suddo, ac yna yn ymollwng i farw. Ond, wedi iddynt ddarfod gobeithio cael byw trwy ddim a allasent wneyd eu hunain, dacw hwynt yn "galw ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Gyda hyn wele y cymylau duon yn dechreu troi yn leision, y gwynt chwerw fel baban tyner yn myned i gysgu yn dawel yn ei gryd, yr haul yntau yn estyn ei wddf i yspio beth sydd<noinclude><references/></noinclude> 8od5gqwekxaorm5tdf8npc4aj596cpl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/76 104 84720 164537 2026-05-15T13:48:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164537 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn bod, ac yn taflu gwên dawel ar y llong fach, fel pe bai yn dywedyd, "Cymer gysur, myfi yw." Daew y cadben yn rhoi y llywyddiaeth i fyny i ddwylaw Arglwydd nef a daear, Llywodraethwr yr holl elfenau, a'r morwyr yn gwneyd eu dyledswyddau, gan ddysgwyl wrtho; ac wele yr un fechan yn dechreu hwylio yn dawel ar frig y don, gan chwareu fel pysgodyn yn y weilgi dwfn, a'i chyfeiriad at yr hafan draw, lle y mae y dwr yn llonydd, lle y gall orphwys ar wely tawel, a lle y mae y creigydd oesol, fel caerau a rhagfur, yn ddyogelwch rhag tywydd garw. Dacw hi yn dyfod, y mae yn ymwneyd yn frysiog am y porthladd; hi fydd yn trigo mewn dyogelwch eto yn y man, er yr holl helynt mewn môr garw ac ystormydd chwerwon. Hi ddaeth i mewn i'r "hafan a ddymunwyd," ac nid oes neb all ddyweyd yn well am natur y môr yma a'r peryglon na'r rhai a waredwyd. Mordaith fer ydoedd, y mae yn wir, ond gerwyn anferth. Rhyw beth tebyg i hyn oedd helynt Tommy; ond ymddengys fod hyn wedi ei weithio i'r un penderfyniad a llywydd y llong fach, o roi y llywyddiaeth i fyny byth mwy i'r Hwn sydd ag awdurdod ganddo yn y nefoedd uchod, a'r ddaear isod, y môr, a'r hyn oll sydd ynddo. Daeth "trwy y tân a'r dwfri le diwall," a dechreuodd deimlo iachawdwriaeth Duw yn gaerau ac yn rhagfur o'i amgylch yn nghanol pob ymosodiadau. Yr ydym yn ei gael bellach yn ymgysuro llawer, er nad heb dywydd garw; ond fod trefn achub wedi dyfod yn fwy goleu i'w feddwl, ac yntau wedi ei gynorthwyo i ddeall yr efengyl yn well. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f4shvrzffhymofc3zs0a4tj5s6zfql3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/77 104 84721 164538 2026-05-15T13:49:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164538 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD III.}}<br>Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol.}} Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod newydd, ac un pwysig iawn, yn mywyd Mr. Richard, am yr hon yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd llawer iawn ei hun. Yn gymaint a bod ei ddyddlyfr yn cynwys hanes ei bregethu, ei deithio, a'i deimladau gyda'r gwaith, nid ydym yn gweled y gwnawn gyfiawnder ag ef, nac â'n darllenwyr, heb ei roi yn lled gyflawn fel y darfu iddo ef ei gyfansoddi; ond yn unig y carem wneyd ychydig o sylwadau rhagarweiniol. Chwi welwch wrth y dyddlyfr crybwylledig, iddo ddechreu ar waith y weinidogaeth pan yn ugain oed, rhyw bump neu chwech mlynedd wedi ei gychwyniad gyda chrefydd. Wrth ddarllen y dyddlyfr hwn yn ystyriol a meddylgar, bydd llawer o'r dirgelion ag sydd yn cyfansoddi pregethwyr mawr yn cael eu hegluro; daw y pwnc hwnw i oleuni llachar, tebygem, wrth ddylyn Mr. Richard yn fanol ac ystyriol yn rhoi, mewn dull syml a diaddurn, ei hanes ei hun. Bydd pobl yn deall rhyw bethau am bregethwr mawr; eithr y pethau hyny lle y mae ei nerth aruthrol a chuddiad ei gryfder sydd yn aros iddynt hwy yn ddirgelwch anamgyffredadwy. Y mae pobl yn deall fod pregethwr mawr yn gallu siarad yn weddol dda; fe allai fod gydag ef lais purion, ac fe allai nad yw gystal; ei fod yn ddyn go gall, nad ydyw byth yn gallu siarad rhyw lawer o ffolineb, a phethau cyffelyb. Bydd y pethau uchod yn ymddangos ar y wyneb, yn ngolwg pob dyn; eithr beth am y lleill? nid dyna y cwbl, na'r haner ychwaith. Yr ydys yn gwybod am eraill yn gallu siarad yn burion, yn medru lleisio yn dda; rhai yn canu, eraill yn ocheneidio, ac yn y blaen, yn ol fel y dygwyddo i bethau fod; eithr wedi hyny nid yw y pregethwr mawr yno. Yn mha le y mae y pregethwr mawr? Dyna lais pregethwr mawr, clem pregethwr mawr, tôn pregethwr mawr, ocheneidiau pregethwr mawr; pob peth pregethwr mawr, tebygem ni; ac eto nid yw y pregethwr mawr yno yn rhyw fodd. Yr oedd gan Mr. Richard lawer o edmygwyr mewn pregethwyr pan oedd yn ddyn ieuanc, y rhai oeddynt yn ei ddynwared yn lled dda mewn siarad ac ystumiau; a byddai y bobl yn eu clywed yn geirio, yn lleisio, ac yn ystumio yn debyg<noinclude><references/></noinclude> ex4ajuy8otj53v42jz60glmeflzsbqg Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/79 104 84722 164540 2026-05-15T13:50:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164540 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o hyd, yr hwn ar hyny o bryd oedd y twyllwr. Ah! nid yw Tommy yno; nid oes yno ond ei lun, a hyny yn bur anmherffaith. Nid ydym yn amheu nad yw dynion annuwiol yn pregethu, a dynion bychain mewn crefydd yn pregethu; ond ni phregethodd dyn annuwiol erioed, na dyn bach mewn crefydd erioed fel Tommy. Paham? Wel, cewch y dirgelwch allan yn fuan, yr ydym yn meddwl, wrth ddarllen ei ddyddlyfr. Gwnawd Ioan Fedyddwyr mor debyg i Elias yr Hebread, fel y gelwid ef yn Elias, yr hwn oedd i ddyfod yn ysbryd a nerth y prophwyd hwnw. Duw, cofiwch, oedd wedi ei wneyd yn debyg; nis gallasai neb arall ei wneyd. Gallasai wisgo'r "dillad o flew camel, a gwregys am ei lwynau;" eithr ni thalai hyny, heb allu rhoddi tystiolaethau grymusach na gwregys a blew; yr oedd yn rhaid dangos yr "ysbryd a'i nerth." Ni fuasai y byd yn derbyn dim fel credentials o genadwri ddwyfol ond hyn. "Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth." Fe wna ryw beth fydd yn tystiolaethu i ddwyfoldeb ei ddanfoniad, fydd yn sel nefol wrth ei genadwri mai o'r nef, ac nid o ddynion ydyw. oedd gan brophwydi Baal dduwiau; yr oeddent yn gweddio yn daer arnynt; yr oeddent yn tori eu hunain â chyllill, ac yn gwneyd pob ystranciau yn y byd; eithr difa eu hunain oeddent, nid difa yr aberth, a lleibio y dwfr. Elias yn unig oedd yn gallu tynu tân o'r nef i wneyd yr holl bethau hyny. Nid oedd gweddi Elias yn hir, nid oedd yn ymddangos yn ddim gorchestol; er hyny dyna y weddi oedd yn esgyn i fyny, ac yn tynu tân Duw i lawr o'r nef. O dan y gwregys croen am y lwynau a'r dillad blewog yr oedd nerth ofnadwy yn cartrefu, nad oedd dim posibl ei efelychu. Ni efelychwyd ef erioed, ac ni efelychir ef byth; y mae naill ai yr un ysbryd a'r un nerth, neu nid ydyw yn ddim ond yn dwyll a chelwydd. Yr Yr ydym yn cyffesu fod graddau yn hyn; ar yr un pryd, lle y mae ychydig y mae yn ddarllenadwy mewn cenadwri, a bydd y byd yn teimlo ar brydiau ychydig nerth. Eithr lle byddo llestr mawr, etholedig at gyrhaedd dybenion goruchel, rhaid tymheru hwnw â phethau cyfaddas i ddal ac i gyfranu y trysor i'r byd. Llestr etholedig oedd Paul i dderbyn y gras gweinidogaethol, ac i bregethu y gras hwnw yn mysg yr holl genedloedd. I roi y cymhwysder angenrheidiol i ddal y poblogrwydd a'r defnyddioldeb yr etholwyd ef iddynt, bu yn aml mor isel a phorth uffern, ac oddiyno yn ol ac yn y blaen,<noinclude><references/></noinclude> 8x9x57h0of49ot8chg7bhxsnv37slam 164541 164540 2026-05-15T13:51:20Z AlwynapHuw 1710 164541 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o hyd, yr hwn ar hyny o bryd oedd y twyllwr. Ah! nid yw Tommy yno; nid oes yno ond ei lun, a hyny yn bur anmherffaith. Nid ydym yn amheu nad yw dynion annuwiol yn pregethu, a dynion bychain mewn crefydd yn pregethu; ond ni phregethodd dyn annuwiol erioed, na dyn bach mewn crefydd erioed fel Tommy. Paham? Wel, cewch y dirgelwch allan yn fuan, yr ydym yn meddwl, wrth ddarllen ei ddyddlyfr. Gwnawd Ioan Fedyddwyr mor debyg i Elias yr Hebread, fel y gelwid ef yn Elias, yr hwn oedd i ddyfod yn ysbryd a nerth y prophwyd hwnw. Duw, cofiwch, oedd wedi ei wneyd yn debyg; nis gallasai neb arall ei wneyd. Gallasai wisgo'r "dillad o flew camel, a gwregys am ei lwynau;" eithr ni thalai hyny, heb allu rhoddi tystiolaethau grymusach na gwregys a blew; yr oedd yn rhaid dangos yr "ysbryd a'i nerth." Ni fuasai y byd yn derbyn dim fel credentials o genadwri ddwyfol ond hyn. "Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth." Fe wna ryw beth fydd yn tystiolaethu i ddwyfoldeb ei ddanfoniad, fydd yn sel nefol wrth ei genadwri mai o'r nef, ac nid o ddynion ydyw. oedd gan brophwydi Baal dduwiau; yr oeddent yn gweddio yn daer arnynt; yr oeddent yn tori eu hunain â chyllill, ac yn gwneyd pob ystranciau yn y byd; eithr difa eu hunain oeddent, nid difa yr aberth, a lleibio y dwfr. Elias yn unig oedd yn gallu tynu tân o'r nef i wneyd yr holl bethau hyny. Nid oedd gweddi Elias yn hir, nid oedd yn ymddangos yn ddim gorchestol; er hyny dyna y weddi oedd yn esgyn i fyny, ac yn tynu tân Duw i lawr o'r nef. O dan y gwregys croen am y lwynau a'r dillad blewog yr oedd nerth ofnadwy yn cartrefu, nad oedd dim posibl ei efelychu. Ni efelychwyd ef erioed, ac ni efelychir ef byth; y mae naill ai yr un ysbryd a'r un nerth, neu nid ydyw yn ddim ond yn dwyll a chelwydd. Yr ydym yn cyffesu fod graddau yn hyn; ar yr un pryd, lle y mae ''ychydig'' y mae yn ddarllenadwy mewn cenadwri, a bydd y byd yn teimlo ar brydiau ychydig nerth. Eithr lle byddo llestr mawr, etholedig at gyrhaedd dybenion goruchel, rhaid tymheru hwnw â phethau cyfaddas i ddal ac i gyfranu y trysor i'r byd. Llestr etholedig oedd Paul i dderbyn y gras gweinidogaethol, ac i bregethu y gras hwnw yn mysg yr holl genedloedd. I roi y cymhwysder angenrheidiol i ddal y poblogrwydd a'r defnyddioldeb yr etholwyd ef iddynt, bu yn aml mor isel a phorth uffern, ac oddiyno yn ol ac yn y blaen,<noinclude><references/></noinclude> flrwpgdnhmzwv8dy4fe7bfkex7yv1m9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/80 104 84723 164542 2026-05-15T13:52:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164542 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyd nes codi weithiau cyfuwch a'r drydedd nef, a gweled a chlywed "pethau annhraethadwy." Eilwaith disgynai fel yn bendramwnwgl o'r nefoedd fry oddiwrth bethau tra gogoneddus i blith yr ellyllon haerllug, y rhai a'i symbylent ef yn ddidrugaredd, ac a'i cernodient mewn llid dieflig. Yr oedd efe yn gweled tipyn o waethaf pob peth, fel y gallai fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Ni wnawd un Tommy Richard erioed yn Rhydychain nac un Rhyd arall; ac ni wneir un byth, canys llaw Duw yn unig sydd yn ei wneyd. Y mae athrofeydd yn gymhwysder ychwanegol os bydd gwir bregethwr yno eisoes, wedi ei wneuthur gan law Hollalluog; eithr ceisio gwneyd gwir bregethwr trwy y pethau a ddysgir yno sydd yn ynfydrwydd. Gwelir llawer o'r ysgolheigion goreu yn y deyrnas y pregethwyr gwaelaf yn y deyrnas; nichlywyd erioed eu diflasach; nid ydynt mewn gwirionedd yn werth dim yn y pwlpud. Gallent fod o werth mawr i ryw beth arall, eithr i bwlpud nid ydynt yn werth rhoi bwyd iddynt, a gadael fod hwnw yn lled wael. Y mae holl ddysgeidiaeth yr Aipht yn wir dda i wlad Canaan, os bydd Moses o dano; ond os na fydd yno Moses yn sail i adeiladu arno, ni bydd dysgeidiaeth yr Aipht ond tywyllwch yn ngwlad yr addewid. Yr oedd Mr. Richard yn ddysgedig yn ei gylch; ond y mae yn wir fod y cylch hwnw yn gymhariaethol fach; a phe buasai yn fwy buasai yn fantais iddo ef, beth bynag am ei wrandawyr. Nid yw yn bosibl i ddyn fod yn bregethwr mawr fel Mr. Richard, heb fod yn ddysgedig mewn duwinyddiaeth, a phethau eraill sydd yn gymydogol i hyny, canys nid yw o bwys pa fodd y mae dyn yn cyrhaedd ei ddysgeidiaeth, pa un ai trwy gynorthwy athraw, ai heb athraw, -trwy hunanymroddiad. Y mae llawer wedi bod yn Nghymru, er na fuont erioed mewn athrofa, er hyny wedi cyrhaedd tir uchel trwy lafur diflino, ac ymroad annghredadwy. Felly gellwch edrych ar Mr. Richard yn ddysgedig yn y cylch y darfu iddo ef lafurio; er ar yr un pryd, pe buasai y cylch yn eangach, fel y dywedasom, digon tebyg y buasai yn well, canys nid oes gormod o wybodaeth; ac unwaith y delo o dan lywyddiaeth gras, gellir gwneyd defnydd mawr o hono. Yr oedd Mr. Richard yn llafuriwr mawr dros ei oes, a chasglodd lawer; gwnaeth y goreu o'i amser o dan anfanteision lawer; ond gogoniant y cwbl ydyw gweinidogaeth fywiol oddiwrth Dduw at ddynion yn yr enaid; ac yr oedd hyny yn cyrhaedd<noinclude><references/></noinclude> br8cpiawieu2t41ubmstjfhdx46ov36 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/81 104 84724 164543 2026-05-15T13:53:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164543 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eneidiau dynion eraill. Nid dyweyd rhyw beth oedd efe; ond dyweyd y peth oedd eisiau; nid dyweyd er mwyn dyweyd, ond dyweyd a dyben wrth ddyweyd; a dyweyd nes cyrhaedd y dyben hwnw. Yr oedd yn dyweyd nid yn unig am ddynion, ond wrth ddynion; a dywedai nes y clywent. Bydd rhai yn treulio amser mawr i ddysgu elocution, ac yn y diwedd nid oes ganddynt ddim i ywddeyd; peth cryn ddwl yw hyny, fod dyn ag eisiau deall hyawdledd, ac yn y diwedd dim i siarad. Y mae peth felly fel pe byddai dynion yn tori y ffordd i ddwy neu dair afon i ddyfod yn nghyd at rod melin, a dim ganddynt i falu wedi y cwbl. Y peth goreu i ddysgu dyn i ddyweyd yw fod ganddo ryw beth i ddyweyd, ac yn teimlo cymhelliad cryf i'w ddyweyd; nid yn aml y bydd y cyfryw yn methu. Fe fyn y dwfr sydd yn croni le i fyned i ryw le, serch myned â'r cwbl o'i flaen. Yr oedd gan Tommy beth i ddyweyd, a theimlad angerddol i'w ddyweyd; am hyny fe ddysgodd elocution yn y ffordd yna, a hyny yn lled berffaith hefyd. Yr oedd yn pregethu, ys dywed Mr. Jones, Llangan, fel angel pan oedd o ugain i ddwy ar ugain oed, ac felly y parhaodd. Ond yn gymaint a'n bod yn meddwl gwneyd rhyw sylw o hono fel pregethwr ar ol ei weled yn myned trwy y dyddlyfr, nid awn yn mhellach ar y ffordd hono. Y peth yr oeddem am alw eich sylw ato yn benaf mewn cysylltiad a'r dyddlyfr, oedd ei fod yn egluro y dirgelwch mawr paham yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr, a pha fodd yr oedd yn gallu tynu pobl ar ei ol, ac ymddyddan â'u calonau. Y mae hyn yn ddirgelwch, ac yn beth na ddysgwyd yn holl golegau y byd. Rhyw beth yw hyn sydd yn cael ei ddysgu "nid gan ddyn, eithr gan Dduw;" a'r ffordd y bydd Duw yn dysgu hyn yw trwy drwytho y meddwl yn dda yn mhrofedigaethau y byd, helbul yn nghylch achos yr enaid, a gofal am waith Duw. Gwelir llawer yn ymburo fel aur trwy y pethau hyn, ac yn dyfod allan yn y diwedd fel "aur wedi ei buro seithwaith." Pan edrychwch ar Tommy yn llanc ieuanc yn dechreu ei daith yn y weinidogaeth yn obeithiol, ac yn mhen ychydig yn nerthol, nis gellwch gyfrif am hyny yn dda nes yr ymgydnabyddir a'i fywyd ''dirgelaidd.'' Pan y gwelir fod y llanc ieuanc yn y fath bryder yn nghylch ei bregethu, yn gwneyd y fath sylw ar lwydd ac aflwydd ei ysbryd, yn nodi gwres ac oerfel y dwfr gyda'r fath fanylwch, nid rhyfedd fod pethau mawrion yn dyfod i'r golwg. Bydd yn trin yr achosion rhyngddo a Duw cyn eu trin rhyngddo a<noinclude><references/></noinclude> 4chwdlie7c2b2h4w5qwtd2p0xuiwfxd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/82 104 84725 164544 2026-05-15T13:54:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164544 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dynion, o ganlyniad y mae yn genad gwirioneddol yn dyfod allan oddiwrth Dduw at ddynion. Chwi welwch wrth ei ddyddlyfr ei fod yn dysgu ufudd-dod yn ieuanc, trwy y pethau yr oedd yn myned trwyddynt. Dysgodd oddiwrth odfaon trwm a chaled mai Duw oedd gwrthddrych ymddiried; ac oddiwrth odfaon da a hwylus ei fod yn haeddol o fawl. Yr ydym yn ei weled yn cael ei glwyfo a'i feddyginiaethu yn aml gyda'r pregethu, fel yr oedd pob pregeth yn ddysgyblaethol iddo; yr oedd yn dysgu mwy am bregethu wrth bregethu nag oedd yn bosibl yn holl lyfrau y byd. Pe bai holl bregethwyr ieuaine y byd yn myned allan i bregethu o dan ddylanwad y pump ofn a ganlyn, byddai y byd yn sicr o fod yn well o'r pregethu: - "Yn 1. Yr wyf yn ofni rhag myned heb fod a galwad. Yn 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. Yn 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. Yn 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. Yn 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na fyddai fy enaid fy hun ddim gwell." Onid yw y pethau yna yn dyweyd llawer i gychwyn, pan ystyriwn mai profiad llane dwy ar ugain oed ydynt, yn cychwyn ei daith gyntaf i Sir Aberteifi? Y mae llawer, ysywaeth, yn cychwyn fel meirch i'r frwydr, heb ystyried dim ond myned, a gwneyd rhyw fwstwr am danynt eu hunain; heb feddwl ond ychydig iawn am eu heneidiau eu hunain, nac eneidiau neb arall. Yn awr, er mwyn i chwi gael gweled yn mha le yr oedd cuddiad cryfder Mr. Richard, rhoddwn y dyddlyfr ger bron yn lled helaeth; ac ar ol craffu arno dipyn yn fanwl trwy hwnw nes claddu ei fam, byddwn yn gwneyd ychydig o sylwadau pellach. "Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth, yr hyn oedd yn y flwyddyn 1803, yr hyn oedd yr ugeinfed flwyddyn o'm hoed, yn y lle y'm ganwyd, ar foreu dydd Sabbath, pryd nad oedd neb yno i bregethu. Fe'm hanogwyd i gymeryd y Bibl; hyny a wnaethum, ac a ddarllenais y gair hwn yn destun, Job xvi. 21. Y tro hwn fe'm cadwyd rhag dywedyd o'm lle, er boddlonrwydd i'r bobl. Ar ol hyn goddefais gystudd meddwl yn fawr. Fe'm hanogwyd gan y brodyr yr ail waith. Mi gymerais yn destun Num. xi. 6. Hon a dreuliwyd dan lewyrch i ryw raddau. O hyn allan cefais sirioldeb a gwen y brodyr. Erbyn hyn yr oeddwn yn agored i amryw brofedigaethau, neu demtasiynau<noinclude><references/></noinclude> 6ewzqhlai9p343om7lyalhrlcns6hmk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/84 104 84726 164546 2026-05-15T14:02:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164546 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfeillach fu i mi yn ddiofid. Oddiyma aethom i'r D{{bar|2}} gyda llawer o lesgedd corph a meddwl; ond yr Arglwydd a fu dda iawn i mi yma. "Boreu Sabbath, aethom i Ll. Dd. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond dieffaith iawn ar y gwrandawyr, oddieithr ar rai. Oddiyma ni a aethom i'r B{{bar|2}}. Yma cefais gymhorth i ddyweyd y gwir, ac nid yn gwbl ddieffaith; clod i Dduw. Oddiyma aethom i Gaerfyrddin, nos Sul, yn ddifeddwl o lefaru oblegyd clywed fod dau offeiriad o Forganwg yno; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Diolch iddo am ei holl Adoniau. Dydd Llun aethum allan i le a elwir {{bar|2}}. Yma y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma aethum o Ll{{bar|2}} yn groes i'r afon i le a elwir Ll{{bar|2}}d{{bar|2}}. Yma y cefais nerth gan yr Arglwydd oddiwrth Mat. xiii. 30. Ni a dreuliasom noswaith gysurus yn nhŷ ein brawd H. Dydd Mawrth cychwynasom tua'r B— gyda gwraig y lle, yn bur anhwylus o ran fy nghorph. Yma y cyfarfum â'r brawd W. Williams. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma ni ein dau a'r wraig a gychwynasom erbyn y prydnawn i le a elwir Llanedi. Yma bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Y prydnawn hwnw ni a gychwynasom yn nghyd dros lawer o ffordd, er nad i'r un lle. Yma, wedi ymadael, mi ac un arall a aethom yn nghyd i le a elwir Llanfihangel, lle y cyfarfum â'r Parch. Mr. Jones. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Moliant iddo byth! "Dydd Mawrth yw boreu yr ''Association''. Cyfarfuwyd am ddeg,—y gweinidogion yn unig, lle yr ymddyddanwyd amrywiol o bethau buddiol i rai oedd yn gweini y gair. Dybenwyd ein cyfarfod. Cyfarfuwyd am ddau,—blaenoriaid yr eglwysi i gyd. Ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol yn unig. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Edward. Yr odfaon cyhoeddus a gynaliwyd am dri y prydnawn, yr hin yn annghysurus. Fe weddiodd y brawd W. Havard. Pregethodd y brodyr Dafydd Parry oddiwrth Salm lxxxv. 7; John Rees, oddiwrth Job xxxiii. 25; Mr. Gray, Mat. xiii. 7. Cyfarfuwyd am 8 dydd Iau. Gweddiodd y brawd Watkin Williams. Pregethodd T. R. a David Evans. Dybenwyd ein cyfarfod gyda mawl. Cyfarfuwyd yn y capel, cyfeillach neillduol. Ymddyddanwyd llawer o bethau buddiol. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi gan y brawd Mr. Gray. Am 11, pregethodd y brodyr Eb. Morris oddiwrth<noinclude><references/></noinclude> l50gb2zl6mwhom9rzfesxawum3anjik Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/85 104 84727 164547 2026-05-15T14:04:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164547 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mat. xxviii. 20; ''student'' Huntingdon yn Saesneg oddiwrth 1 Pedr i. 19; a'r Parch. Mr. Jones. Dybenwyd yr odfa trwy fawl. Prydnawn pregethodd y brodyr Mr. W. a Mr. Jones. Dybenwyd yr Association. Ni a gychwynasom, sef Mr. Harris a minau, i Talley y nos hono, lle y profasom yr Arglwydd yn dda i ni ac i'r bobl. "Dydd Gwener mi a'm cyfaill Marc a gychwynasom i le a elwid Tal{{bar|2}}. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Cychwynasom i le a elwir Llangadog. Yma bu harddwch allanol y gwaith yn amlwg, ond nid mor fyw ar fy ysbryd inau. Dydd Sadwrn cychwynasom i le a elwir Llanddeusant. Yma cefais rym i ddweyd y gwir. Cychwynasom yn yr hwyr i le a elwir Bronwydd bach, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, ac y cyfarfuasom â'r brawd Dafydd Edward. Dybenwyd ein wythnos mewn lludded. Dydd Sul cychwynasom i'r lle a elwir Crai, lle y bu yr Arglwydd yn haelionus dros fesur. Prydnawn daethum i Drecastell. Bu yr Arglwydd yn ymddangos yma hefyd. Ac oddiyma i Landilo. Bu yr Arglwydd yn dda yma hefyd. Mae y dydd hwn yn deilwng o godi maen am dano. "Dydd Llun i le a elwir Defynog. Yma y profais adnewyddiad grym, yn fwyaf enwedig yn y gymdeithas ''brifat''. Cychwynasom i dŷ un o'r brodyr. Yma yr ymadawsom â'r brawd Dafydd Edward. Cychwynasom i Cwmtwynog (?). Dydd Mawrth cychwynasom i le a elwir Gorwydd, lle y cyfarfuasom â Mr. Jenkins. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Cychwynasom oddiyma i Lwynmadoc gyda llawer o iselder meddwl ac annhebyg i gael dim; ond yma y perffeithiwyd nerth Duw mewn gwendid, a'i wyneb oedd ar y lle. Diolch iddo. Dydd Mercher cychwynasom i'r Bont ar {{bar|2}} Ar lawr yma y gallwn ddyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Oddiyma i le a elwir Llwynderw. Ni'm llwyr adawyd yma chwaith. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Iau cychwynasom i le a elwir Bronyrhelem. Yma hefyd, er nad oeddym ond ychydig nifer, eto yr Arglwydd a fu dda iawn wrthym, y tu hwnt i'n dysgwyliad. Oddiyma i'r Dinas bach, lle bu yr achos dan ei harddwch allanol, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd. Dydd Gwener ni a gychwynasom i le a elwir {{bar|2}}. Nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor llewyrchus ar fy ysbryd, oddiwrth Salm Ixviii. 13. Ar ol ychydig o gyfeillach ''brifat'', cychwynasom i Ystradwallter. Yma teneuodd yr awyr ychydig yn bur<noinclude><references/></noinclude> a9zh9osfoqm5q2s5o3671if7wfsw3ge Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/86 104 84728 164548 2026-05-15T14:07:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164548 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>siriol. Diolch iddo yn y llwch. Dydd Sadwrn cychwynasom mewn modd tra chysurus i Lanymddyfri. Yno bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Fe'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ac er effaith fawr ar y dorf. Yma y cyfarfuasom ag amryw o gyfeillion o wahanol fanau yn dra chysurus; ond nid heb peth annghysur oblegyd llwfrdra meddwl fy nghyfaill. Oddiyma ni a aethom yn gysurus i le a elwir {{bar|2}}, lle yr oeddym i fod y noson hono. Yma y cyfarfuasom â'r brawd Arthur Evans. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma, ac nid wrthyf fi yn unig, ond i'r gwrandawyr hefyd. Diolch. "Dydd Sul.—Y mae heddyw yn Sabbath. Ni a aethom i ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais lawer o help i roi ein hachos, ac achos y dydd, i'r Arglwydd. Cychwynasom tua'r lle addoliad yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion yn dra chysurus. Enw y fan yw Caio. Gwresog iawn yr hin; lluosog iawn oedd y dorf. Minau a nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o hyfder a gwroldeb ysbryd. Dybenwyd ein cyfarfod trwy ganu gair o hymn, a llawer o foli. Cychwynasom erbyn odfa dau i Lansawel. Yma yr ymwelodd yr Arglwydd a'r odfa mewn modd neillduol, a llawer o'i bresenoldeb. Cychwynasom erbyn yr hwyr i'r Bryn{{bar|2}}, lle ein dylynwyd â'r un dylanwadau. Dybenwyd yr odfa gyda dawnsio a moli Duw. "Dydd Llun yw hi heddyw arnom. Aethom i'r ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais ychydig rwyddineb i ledu fy achos ger bron Duw. Cychwynasom i le a elwir New Inn, lle bu yr Arglwydd yn dda wrthym, yn enwedig yn y gyfeillach ''brifat''. Oddiyma y cychwynasom i Gastellnewydd. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd ar fy ysbryd. Dydd Mawrth cychwynasom yn gysurus i Blaenanerch. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, yn gyhoeddus ac yn neillduol. Diolch i Dduw. Cychwynasom yn nghwmni Mrs. E., mi a'm cyfaill, i Aberteifi, lle bu yr Arglwydd yn dda dros ben i mi a'r dorf. Yma y cefais lawer o garedigrwydd brawdol, fel yn mhob man arall, ac yn nhŷ y Cadben B. I'r Arglwydd y byddo yr holl glod. Cadwed finau yn y llwch. Dydd Mawrth. Y boreu hwn ar ddyledswydd ni bu mor llewyrchus, o eisiau gwylied arnaf fy hun. Cychwynasom tua'r Capel Newydd. Yma y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Derbyniwyd pump at y gyfeillach o'r newydd yma, o nifer y rhai a fyddant byth gadwedig, gobeithio. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3yfedadgy62ashkhdbjrl0030pc4eic Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/87 104 84729 164549 2026-05-15T14:08:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164549 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cychwynasom i'r Eglwyserw, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn i ni, uwchlaw ein dysgwyliad. "Dydd Iau.—Ymadawodd fy nghyfaill a minau heddyw. Daethum adref yn iach, dan ymgeledd yr Hollalluog. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau, yn rhagluniaethol ac yn ysbrydol! Diolch iddo. "Mai 13.—Un wythnos a dreuliais mewn llawer o farweidddra ysbrydol, ac yn gwynebu ar daith fechan o'r newydd. Cadwed Duw fi wrth ei draed. Dybenais y dydd gydag ychydig bleser yn ngwaith yr Arglwydd, uwchlaw fy nysgwyliad. "Mehefin 1, 1806.— Mi a gefais un Sabbath yn ychwaneg i wynebu ar y gwaith mawr yn mhlith brodyr yr Annibynwyr, mewn lle a elwir Trefgarn, lle y cefais rym i ddyweyd y gwir gyda harddwch allanol ar y gwaith. Diolch i Dduw am hyny o drugaredd i un mor wael. Aethum i dŷ un o frodyr yr Annibynwyr i giniawa; ac oddiyno yn y prydnawn i'r lle addoliad a elwir Rhydgele yn ein plith ein hunain. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir yn y weinidogaeth gyhoeddus, a mwy pleser yn y gyfeillach neillduol. Oddiyma daethum adref dan amddiffyniad Duw. Diolch iddo. Yr wythnos hon a dreuliais dan deimladau cryfion o rym fy llygredd, ac nid yn ddideimlad o bethau ysbrydol. Nos Lun, bum yn gwrando Ebenezer Morris yn ei daith trwy ein sir, ac yr oedd dan arddeliad mawr, oddiwrth y gair hwnw, 'Cariad Crist sydd yn ein cymhell ni.' Sylwodd ar gariad Crist mewn dau olygiad: 1. Cariad oedd yn Nghrist erioed, ac a amlygwyd tuag atom ni yn ngwaith y prynedigaeth. 2. Yr egwyddor o gariad oedd wedi cael ei phlanu yn yr enaid. Yn wyneb hyn soniodd am yr elyniaeth sydd mewn dyn yn erbyn Duw. Yr oeddwn yn teimlo lles dan yr athrawiaeth hon. Diolch i Dduw am hyny. Dranoeth yr oeddwn yn dyfod i Trefin i gyfarfod â Mrs. Bevan. Yma y pregethodd E. Morris oddiwrth y gair hwnw, 'A phob peth sydd o Dduw.' Gwnaeth y sylwadau hyn: 1. A phob peth ymgysurol, mewn rhagluniaeth. 2. Yn yr iechydwriaeth. 3. Yn ngwaith yr Ysbryd Glân. Nid aeth yr odfa hon heibio yn ddiles i mi hefyd. Diolch i Dduw am hyny. Yr wythnos hono a dreuliais mewn llawer o gymysgedd oblegyd anwyliadwriaeth ar fy ysbryd, a gwrthgiliadau yn fy ysbryd. Ond ger bron yr Arglwydd y byddwn rydd, a chawn ireiddio. Mae hyny yn dangos fod cynydd yn yr agosrwydd at Dduw, ac mai ynom ni mae yr achos o'n diffrwythder, ac nid o Dduw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rygxf71y1bipxxu5ff9ktdlop286rvh Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/89 104 84730 164551 2026-05-15T14:11:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164551 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Abergwaen i gyfarfod â'r brodyr mewn society am ddau. Dechreuwyd y cyfarfod gan y brawd Mr. Thomas. Ymddyddanwyd ychydig gan amryw rai, amryw ffordd—am bethau egwyddorol ac am bethau profiadol. Gwelwyd, wrth i Mr. T. holi egwyddorion, fod galw uchel ar flaenoriaid yr eglwys at y gwaith o egwyddori. Cafwyd ychydig foddlonrwydd wrth holi profiadau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl. Teimlais, o drugaredd Duw, ychydig wlith ac ireiddiwch. Oddiyma aethom, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd, i Drehowel, lle y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas i mi fy hun a'r gwrandawyr. Y mae yma arwyddion o waith newydd gan yr Arglwydd. Diolch iddo am yr arwydd lleiaf. "Cyfodais y boreu dranoeth, sef y Sabbath. Galwyd y teulu yn nghyd i'r ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd y brawd Mr. T. heb godi oblegyd ei lesgedd. Darllenais salm, a chanwyd mawl. Teimlais fy ysbryd yn iraidd iawn. Cydunwyd mewn gweddi, lle y teimlais ryddid ac egni i ryw raddau. Diolch iddo am ei dynerwch. Cychwynais oddiyma at odfa y boreu, i'r Dinas. Yma y cyfarwyddwyd, yn ol barn y brodyr, at wirioneddau perthynol i'r lle. Cefais ryw faint o help a chymhorth; clod i Dduw am hyny. Ymadawsom at yr odfa brydnawn. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, a pheth tystiolaeth fod yr Arglwydd yn foddlon, a pheth arwydd fod y gair yn gafaelyd yn y gwrandawyr. Cychwynasom oddiyma at odfa yr hwyr, lle y cyfarfu amryw yn nghyd, ac y'm nerthwyd gyda gradd o bleser i draddodi y genadwri, ac nid heb ryw arwyddion llwyddiant. Diolch i Dduw am hyn. Daeth yn Llun arnom. Cyflawnwyd yr addoliad teuluaidd gyda gradd o rwyddineb. Cychwynasom i Abergwaen i wrando Mr. Lloyd, lle yr oedd amryw yn nghyd, ac y pregethodd oddiwrth Esay liii. 1. Oddiyma daethum adref. Treuliais yr wythnos hon yn ddigynydd iawn mewn pethau ysbrydol; ond mewn llawer o ffwdan daearol, ac nid yn ddifyfyrdod ar bethau buddiol, nac ychwaith yn ddiflas. Diolch i Dduw am hyn. Yn nghorph yr wythnos hon bu ein breintiau yn aml. Bu dau weinidog heibio i ni: Thomas Edward. Dan yr odfa hon teimlais sychder mawr. Y noswaith hono cyfarfu Thos. Ed. ac Arthur Evans yn Caer{{bar|2}}. * * Yma bu ychydig ireiddiach ar fy ysbryd i a'r bobl yn gyffredin. Tranoeth daeth Arthur atom ni. Yr odfa a fu drymaidd iawn; ar ol yr odfa cadwyd cyfarfod ''prifat''. Yma bu ychydig<noinclude><references/></noinclude> e2bnnmuscjsh47vpymsposjhnerrl62 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/90 104 84731 164552 2026-05-15T14:12:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164552 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn siriol. Diolch i Dduw am hyny hefyd. Yr wyf yn diweddu yr wythnos hon gyda gofid a hiraeth; gofid am na allwn fyw yn fwy duwiol a ffrwythlon, er gogoniant i Dduw, a pheth hiraeth am fod felly. "Y mae heddyw yn ddydd Sabbath arnaf. Cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd gartref cyn myned i'r capel, yr hwn oedd yn y pentref. Aethom at y gwaith mawr o gwmpas deg. Teimlais yr odfa yn bur drymaidd hyd at ei diwedd, pan y profais fawr help a chymhorth, ac ireiddiwch wrth gymhell pechaduriaid at yr Iesu. Dybenwyd yr odfa yn dra chysurus. Diolch i Dduw am hyn. Bu cyfarfod am ddau gan ddau wr dyeithr, Wm. Havard a Thos. Price. Yr odfa hon a fu gaeth iawn ar y ddau lefarwr; nid heb ryw beth yn cyffroi ar serchiadau dynion. Aethum gyda'r ddau wr dyeithr at odfa y nos. Yma bu yn dda iawn ar y ddau,—rhyw beth yn effeithio yn gyffredinol ar y bobl, ac nid yn ddideimlad fy hun. Diolch i Dduw am ei holl roddion! Dydd Llun yn dra chymylog, ond nid heb ryw faint o lewyrch a thynerwch ysbrydol. Dydd Mawrth pregethodd Mr. Jenkins yma gydag ireiddiwch annysgwyliadwy oddiwrth Salm xlii. 11. Nos Fercher cawsom gyfarfod gweddi, lle daeth amryw yn nghyd. Yma teimlais ryddid ger bron yr Arglwydd, a thaerni ysbryd am lwyddiant i'r efengyl; cafodd fy meddwl ei berswadio yn ddiweddar fod gan yr Arglwydd ryw waith newydd i wneyd yn ein hardaloedd, oddiwrth y commisiwn sydd gan y gair ar y gwrandawyr, ac ychydig ddechreuad yn Mhencaer yn nhylwyth Mr. Mortimer, mewn lle annysgwyliadwy iawn: ond Gweithiwr rhydd yw Duw. A diolch am yr arwydd lleiaf fod a fyno Duw â'n gwlad; a diolch am gael rhoi anadl o du y gwaith. Llawer o ddaioni Duw a welsom yr wythnos hon fel teulu, yn ei gymhorth i ni, a'i ofal am danom. Clod iddo byth bythoedd. Aethum i daith erbyn y Sabbath; ac at odfa yn yr hwyr hwnw, lle y teimlais ychydig yn gaeth, ac yn ddieffaith iawn ar y gwrandawyr, i'm golwg i. Daeth yn Sabbath arnaf. Cefais ychydig gymhorth i nesu at yr Arglwydd yn y dirgel. Diolch iddo am hyny. Hi a barhaodd trwy y dydd yn hytrach yn sychlyd hyd yr hwyr. Yn odfa yr hwyr profais ddaioni Duw tuag ataf mewn amryw ystyr—yn yr harddwch allanol, ac yn yr ymgeledd dufewnol. Diolch iddo am hyn. Daethum adref erbyn amser odfa. John Williams o Gaer bregethodd oddiar y gair hwnw, 'Canys meirw ydych.' Yr odfa hon a dreuliwyd yn gyffredin, heb<noinclude><references/></noinclude> b52f610mvpxks9u13v7ix71ypcepdzd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/91 104 84732 164553 2026-05-15T14:14:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164553 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ryw arddeliad neillduol, nac ychwaith yn galed iawn. Clod am hyny hefyd. "Gorphenaf 2, 1806. — Cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi wythnosol, lle y gweddiodd amryw o'r brodyr dyeithr. Teimlais ychydig flas ar y gwaith. Ar ol yr odfa gyhoeddus cynaliwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd ag un wraig a ddiarddelwyd o'r cymundeb am ymrafael ag un arall o'r ''society''. Wrth ymddyddan, ni chawd ond ychydig foddlonrwydd ynddi. Ymddyddanwyd ag un arall, merch o forwyn, neu wasanaeth-wraig. Wrth ymddyddan â hon, cawd lle i feddwl fod rhyw ymryson da ar ei meddwl. Er mai ychydig gawd ganddi, cawd tystiolaeth ei meistr am dani yn ei gwydd, yr hwn oedd yn ''steward'' ein ''society''. Dywedodd ei fod yn gobeithio fod y gwaith da wedi ei ddechreu arni, a'i bod yn rhodio yn fwy sobr nag oedd: bu dda genym glywed hyn. Ar ol hyn soniwyd am Ysgolion Sabbathol Cymraeg. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi a mawl gan y brawd Mr. Williams, un o stewardiaid y lle. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos nid dyddanus nac annghysurus iawn, ond ychydig fyfyrdodau yn athrawiaethau Crist, gyda rhyw faint o lonyddwch. "Gorphenaf 5.—Aethum trwy dywydd pur arw wyth milldir ar fy nhraed at odfa yn yr hwyr. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gwrandawyr. Yr oedd yn iraidd iawn, a'r gair fel pe buasai yn gafaelyd. Diolch, diolch am hyn o arddeliad. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethom at y ddyledswydd deuluaidd; yma y bu yn hytrach yn sych. Aethom at yr odfa am wyth. Yma bu heb ddim arwyddion neillduol o lwyddiant, eto y gwaith dan eu harddwch allanol. Diolch am hyn yn wyneb gwaeledd. Daethom at yr odfa ddau, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Yma y'm nerthwyd mewn corph a meddwl, a llawer o ddaioni Duw wedi ei amlygu yn bur gyffredin. Aethom at odfa yr hwyr; yr oedd yn llewyrchus yma. Diolch am bob tywydd. Cefais lawer o garedigrwydd yn nhŷ Mr. Thomas, hen weinidog yr efengyl. Daethum adref yn gysurus heddyw, a chefais y teulu yr un modd. Diolch i Dduw am hyn. "Gorphenaf 7, 1806.—Aethum at odfa heno yn agos gartref. Mi a brofais fod yr Arglwydd yn y lle, ac yn dda iawn i ni. Mae ei ddaioni yn fy nylyn i, y creadur gwaelaf o bawb, yn toddi ychydig ar fy nghaledwch. "Gorphenaf 8.—Bu cyfarfod gweddi genym, ac amryw yn<noinclude><references/></noinclude> gok9glzsjmw8jmztcxgz6cqchwa09ha Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/92 104 84733 164554 2026-05-15T14:15:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164554 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nghyd; a chyn ymadael gwnawd yn amlwg fod yr Arglwydd yn y lle. Ar ol ein cyfarfod gweddi cynaliwyd cyfeillach. Ar ol ychydig ymddyddanion profiadol gan rai o'r gyfeillach, ymddyddanwyd â dwy ferch oedd yn cynyg eu hunain yn aelodau i'n cyfeillach. Yr oedd yr olwg arnynt yn friw, ac arwyddion pur neillduol fod yr Arglwydd â'i law arnynt. Dywedasant ychydig am foddion eu cyffroad, yr hyn oedd y weinidogaeth gyhoeddus. Yn wyneb hyn yr oedd meddwl y gyfeillach yn bur siriol, gan obeithio, wrth weled cwmwl fel cledr llaw gwr yn codi o'r môr, ei fod yn arwydd gwlaw mawr ar ol hir sychder ar yr eglwys. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn gysurus iawn. Yn nerth y bwyd hwn trafaelais at ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn.—Aethum at y ''society'' i Abergwaen. Cyfarfuwyd am dri, ac amryw o'r brodyr yn nghyd. Rhoddwyd arnaf ddechreu y cyfarfod. Darllenais benod, canwyd hymn, a gweddiwyd. Profais cyn diwedd gweddio nerth a goleu wrth siarad â'm Duw. Clod am hyny. Ymddyddanwyd pethau profiadol ag amryw. Cafwyd grymi ddyweyd y gwir wrthynt. Cyn diweddu ymddyddanwyd ag un oedd yn cynyg ei hun yn aelod i'r gyfeillach, ar ol bod dan ofid am ei gyflwr am lawer o fisoedd. Cafwyd boddlonrwydd ei fod dan ryw faint o oruchwyliaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn dra chysurus, ac yn ddiofid meddwl. Diolch i Dduw am ei holl ddaioni yma. Aethum at odfa y nos i le a elwir C{{bar|2}}. Yma profais ei bod yn sych ac yn galed, ond nid heb rym i ddyweyd y gwir, ac harddwch allanol ar y gwaith. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Ar ol cyflawni dyledswydd deuluaidd yn bur gyffredin, aethum at odfa y boreu i Tredafydd. Yma teimlais sychdwr mawr yn fy ysbryd, ond nid heb help i ddyweyd y gwir. Diolch am hyny. Aethum at odfa y prydnawn i Abergwaen. Yma profais egni a sel wrth lefaru y gwirionedd, a phleser hefyd. Dybenwyd yr odfa mewn tawelwch. Aethum at odfa yr hwyr at Drehowel. Bu yn bur lewyrchus yma ar ein hysbrydoedd wrth lefaru a gwrando. Clod i Dduw am hyn byth. Tranoeth yr oedd yn ddydd Llun. Daethum yn nghyfeillach Mr. Mortimer tuag adref. Bu amryw ymddyddanion rhyngom, ond yn ddiddolur iawn. Ar ol treulio y dydd gyda fy ngalwedigaeth mewn lludded a llesgrwydd, aethum at odfa yn yr hwyr yn agos gartref. Bu yr Arglwydd yn dda iawn yma, tros ben fy nysgwyliad a'm hofn. Daethum<noinclude><references/></noinclude> dscfksyar21o7j9bb2y2ju6cjpm5eui Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/94 104 84734 164556 2026-05-15T14:19:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164556 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bur sychlyd, er bod dan harddwch allanol; ac yma y prydnawn ar y gair hwn, 'Gan ddysgu iddo ffordd Duw yn fanylach.' Yr odfa hon fu dipyn yn llewyrchus arnaf. Y nos aethum i'w wrando drachefn, lle y pregethodd oddiar y gair hwnw, 'Yr hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw; yr hwn a roddes i ni ernes yr Ysbryd.' Yr odfa hon fu yn bur gyffredin imi. Daeth yn Sabbath. Aethum drachefn at odfaon E. Morris a Dafydd Parry. Yma y teimlais ychydig ireidd—dra. Oddiyma aethum at odfa y prydnawn i Rydygele. Teimlais yn gaeth iawn yma. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i dý gweinidog yr Independiaid. Yma y teimlais ychydig yn rhwyddach, o ddaioni Duw. Pan y byddwn slac mewn gweddi, byddai yn gur ar fy ysbryd; pan y byddwn daer, cawn fy ngwrandaw. Mae y sylw lleiaf o un mor wael, gan Dduw, yn anfeidrol drugaredd. Clod am fy nylyn! Daethum adref yn gysurus heddyw at odfa Dafydd Parry; ar y gair hwn y pregethodd: 'Yr Arglwydd a rydd ddaioni, a'r ddaear a rydd ei ffrwyth.' Teimlais ychydig ireidd—dra. Cadwyd cyfarfod neillduol. Bu yn iraidd iawn yma hefyd. Diolch i Dduw am hyn. Aethom heno at odfa Dafydd Parry. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. "Awst 1, 1806. — Cychwynais oddicartref tua'r ''Association''. Aethum y noswaith gyntaf i Drefdraeth. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond yn ddieffaith iawn ar y bobl. Oddiwrth yr odfa hon cefais achos diolch a griddfan—diolch am yr help lleiaf; griddfan am yr aflwydd. Aethum at odfa y boreu i Nefern dranoeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Cefais help i ddyweyd y gwir gydag ychydig lewyrch. Cadwyd ychydig ''society'' yma. Siaradodd Mr. Griffiths ag amryw, ac a adroddodd ei brofiad yn iraidd ac yn flasus iawn. Yr Arglwydd a wnaeth yn dda â'n henaid. Cawsom achos dywedyd cyn ymadael mai da oedd bod yma. Aethom oddiyma at odfa yr hwyr. Bu yn sych iawn ar fy ysbryd yma, er nid yn ddifudd i'r bobl. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu i Landudoch. Teimlais lawer o sychder ysbryd yma hefyd, ond nid yn gwbl ddiwlith. Aethum at odfa dau. Yma cefais lawer o help i'r gwaith. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y cefais lawer ynof fy hun ac eraill; ac eto nid oedd hon yn ddilewyrch. Diolch am hyn hefyd. Dydd Llun aethum at odfa erbyn deuddeg i gyfarfod Dafydd Parry. Treuliwyd yr odfa hon yn bur sych. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd amryw bethau da<noinclude><references/></noinclude> afgdwv3ukd1t6lfn0ax9t2stfj256pz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/95 104 84735 164557 2026-05-15T14:20:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164557 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a buddiol. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr. Yma y profais ei bod yn galed iawn, ond nid yn ddiles i mi. Cefais odfa yma boreu dranoeth. Gollyngwyd ychydig arnaf. Aethum at odfa y prydnawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Gollyngwyd fi yn rhydd. Clod byth i'r Arglwydd. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i'r Gelli. Yma y'm nerthwyd, ac y cefais gymhorth. Diolch i Dduw am hyn. "Y 6fed.—Aethum yn nghyd i'r ''Association'' i Langeitho. Am naw o'r gloch cadwyd ''society'' i'r gweinidogion, lle yr adroddwyd profiadau gan amryw o'r brodyr. Sylwyd gan un brawd y gallasai ein hagweddau fod yn anaddas, fel gweision Duw, yn wyneb ein sefyllfaoedd yn y byd. Sylwyd gan frawd arall y gweddai i rai yn athrawiaethu fod yn hyddysg yn y gwirionedd, ac yn ei brofi eu hunain, a mawr hiraeth am ei lwyddiant. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Cymerwyd ychydig luniaeth. Cynaliwyd, am ddau, gyfarfod neillduol rhwng blaenoriaid yr eglwysi i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph yn ei amrywiol gangenau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Aethom i'r odfaon. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethom at odfaon saith boreu dranoeth. Yr oedd ychydig drymach; ond mae genym achos diolch ei bod fel y mae. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymdriniwyd ag amryw bethau buddiol mewn perthynas i alwad a swydd y bugeiliaid. Triniwyd hyn yn dra helaeth. Aethom i'r odfaon un ar ddeg. Bu wyneb Duw yn bur amlwg yma. Dybenwyd y cyfarfod mewn tangnefedd a sirioldeb mawr. Gwasgarodd amryw tuag adref. Minau a ddaethum y nos hono lawer o ffordd at odfa, ond yn ddiffygiol iawn; ond, yn ol ei addewid, amlhaodd gryfder i'r dirym; rhoddodd ei arddeliad arnom. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Gwener aethum at odfa ganol dydd. Treuliais hon dan lawer o lesgedd ysbryd a chorph. Aethum oddiyma at odfa y nos i Gastellnewydd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyma aethum at odfa naw. Cefais ychydig gymhorth. Diolch am hyn. Aethum at odfa dau. Cefais yma ychydig lewyrch wyneb Duw. Aethum at odfa y nos. Yma ni'm gadawyd yn llwyr. Diolch i Dduw. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa wyth yn Nefern. Cadwyd fi rhag dyrysu yma. Diolch am hyn; ond yn aniraidd iawn. Aethum at odfa dau. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o wroldeb yn fy ysbryd.<noinclude><references/></noinclude> 88nr01h0rdj864vxpwm5vzgxzxih0y9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/96 104 84736 164558 2026-05-15T14:20:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164558 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Aethum oddiyma at odfa y nos i Abergwaen. Bu yr Ar glwydd yn dda iawn wrthyf a'r gynulleidfa. Diolch byth am ei holl ddoniau i greadur mor ddrwg, a gwrthgiliedig, a hunanol. Daethum adref heddyw dan diriondeb Duw. Cefais y teulu yn gysurus iawn. Diolch i Dduw byth. Ond y mae genyf achos cwyno a gofidio ar ol y triniaethau da hyn am fy anffyddlondeb a'm pellder oddiwrth Dduw. Diolch am fy nylyn hyd yma. Treuliais un wythnos yn chwaneg; ac yn yr wythnos hon cyfarfyddais ag amryw dywydd. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yn y ddyledswydd deuluaidd amryw weithiau. Clod i Dduw am hyn. Yn yr wythnos hon bu ein breintiau yn helaeth ac yn aml dros ben. Pedwar o weinidogion o'r Gogledd heibio, y diwrnodau nesaf i'w gilydd. Teimlais sychder mawr dan yr odfaon cyntaf; a meddyliais, ar ol ei phrofi fel hyn gwpl o odfaon, wrth weled eraill yn mwynhau, fy mod wedi fy rhoddi i fyny i galedwch. Yr ail ddydd, dan athrawiaeth J. Roberts, teimlais ymgeledd Duw ar fy ysbryd, yn dwyn y gwirionedd adref gyda goleu at fy ysbryd er gollyngdod. Oh, beth a dalaf, beth a dalaf am fy ngollwng! Clod, clod iddo byth, byth am ei ymweliadau. O na allwn fyw er ei glod fy holl fywyd! Help i ymddiried yn y Duw hwn byth ac yn dragywydd. "Y mae yn Sabbath arnaf heddyw. Yr wyf, o ran fy nheimlad, yn bur sych. Aethum i'r odfa gyntaf. Profais yr Arglwydd yn dirion uwchlaw fy nysgwyliad a'm teimlad. Yn y prydnawn cadwyd ysgol. Yr oedd amryw yn nghyd. Holwyd, canwyd, a gweddiwyd gydag ychydig flas. Gwasgarwyd, oddieithr ychydig. Ymddyddanwyd am amryw bethau profiadol, ysbrydol. Gweddiwyd, ac ymadawyd mewn tangnefedd. Diolch i Dduw am hyn. Teimlais fy ysbryd yn y ddyledswydd deuluaidd yn cael ei nesu at Dduw. Codaf faen yma hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra chymysglyd; ambell dipyn o lewyrch, ond llawer o dywyllwch. Nos Fercher bu genym gwrdd gweddi. Cafwyd help a llewyrch yr Ysbryd ynddo uwchlaw ein dysgwyliad. Cadwyd cyfarfod prifat. Ymgynygodd pedwar o'r newydd i'r gyfeillach, yr hyn oedd fawr londer i fy meddwl i. Cyn ymadael bu yr Arglwydd yn dda wrthym: cawsom le i feddwl fod Duw yn y lle. Dybenwyd y cyfarfod gyda sirioldeb mawr. Yn wyneb hyn o waith newydd, teimlais fy meddwl yn bur gysurus am yr eglwys; ond nid heb lawer o bryder ac ofn am fy meddwl fy hun. Aethum dydd Sadwrn at odfa yr<noinclude><references/></noinclude> acmffhlk47vkeh61h2z94tiz8cd385m Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/97 104 84737 164559 2026-05-15T14:21:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164559 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwyr. Teimlais fod yr Arglwydd uwchlaw fy nysgwyliad yn y lle hwn. "Daeth y Sabbath. Aethum at odfa wyth i'r Nefern. Cefais yma gymhorth i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas. Aethum at odfa y prydnawn. Teimlais yma yn farwaidd ae yn drwm. Aethum at odfa y nos. Cefais yma fy nerthu dan ychydig wlith. Daethum adref yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Diolch i'm Duw da am hyn. Fy holl ymddiried a gaiff fod ynddo byth, bythoedd. Treuliais y diwrnodau cyntaf o'r wythnos yn bur gyffredin, er fy mawr ofid, heb ymweliadau neillduol. Dydd Mercher cyfarfuwyd yn y cyfarfod gweddi. Y cwrdd hwn a fu yn bur gyffredin. Bu genym gyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd yma amryw bethau profiadol. Siaradwyd â rhai oedd o'r newydd yn cynyg i'r gyfeillach, a chawsom le i feddwl fod rhyw ymryson gan Dduw arnynt. Derbyniwyd hwynt mewn llawenydd, gyda llawer o bleser eu gweled yn wynebu ar dŷ Dduw, gan obeithio ei fod yn wynebu da, ac arwydd o ragor. Dybenwyd yr odfa trwy weddi a mawl, dan ryw faint o wlith. Diolch i Dduw am hyny. Treuliais yr Iau mewn darllen. Cefais fy meddwl yn bur esmwyth at hyn, oddieithr ambell don. Dydd Gwener gwrandewais John Ellis yn pregethu oddiwrth 1 Ioan iv. 19. Y gwr a bregethodd wirioneddau pur ac angenrheidiol, eto o ran fy mhrofiad yn sych ac yn galed iawn. Y prydnawn ar ol y bregeth teimlais ryw nesu syml at fy Iesu, a chwant i'w garu yn fwy nag erioed, a byw iddo; hyn caniataed. Aethum oddicartref dydd Sadwrn. Aethum yn gysurus at odfa y nos. Yma y bu yn bur gyffredin arnaf. Teimlais yn dra chysurus y nos hon yn nghymdeithas gwr a gwraig dduwiol oeddwn yn eu tŷ. "Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnom. Ar ol y ddyledswydd deuluaidd aethom yn nghyd at odfa y boreu am wyth. Profais yn sych iawn ar fy ysbryd yma hefyd. Penderfynais mai eisiau cadw gyda Duw oedd yr achos. Ar ol yr odfa bu amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Ymddyddanwyd amryw o bethau buddiol a chrefyddol. Profwyd fod y gyfeillach yn lles ac yn elw. Ymadawyd i gael ychydig luniaeth. Aethum â dau o'm cyfeillion i dŷ pobl ddigrefydd ar eu cais i giniawa. Cadwyd ein golwg ar santeiddrwydd y Sabbath. Gwelsom nad oeddym o honynt hwy. Oddiyma aethum, ar ol caredigrwydd mawr y teulu, at odfa y prydnawn, a bu yma ychydig yn ireiddiach. Aethum oddiyno at odfa y nos,<noinclude><references/></noinclude> 7ooylg93bd6epg2jrk2904n1sjx815r Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/99 104 84738 164561 2026-05-15T14:26:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164561 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymadael. Clod iddo, clod iddo. Codwn yma faen o goffadwriaeth. Treuliais y dydd Sadwrn lawer o hono mewn myfyrdodau ar bethau duwiol. Daeth yn Sabbath arnaf. Aethum at odfa y boreu gartref. Yma y gwelais fod y gair yn effeithio yn bur ryfedd ar y gwrandawyr, er bod fy ysbryd fy hun yn bur ddilewyrch. Teimlais oddiyma ofid meddwl oblegyd sychder fy ysbryd. Cadwyd ysgol y prydnawn. Daeth amryw yn nghyd, a chadwyd ni yn sobr. Aethum at odfa y nos. Gwnaeth yr Arglwydd yno y tu hwnt i'r hyn oeddwn yn ei ddysgwyl. Clod iddo am hyn. Daethum adref heddyw yn dra chysurus, dan aden trugaredd Duw, ond fy mhla yn fy mlino. Ys truan o ddyn wyf fi, pwy a'm gwared oddiwrth gorph y farwolaeth hon? "Dydd Mawrth aethum at y Cwrdd Misol y sir i Rydygele, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn nghyd. Ymddyddanwyd yno yn y cyfarfod neillduol am amryw bethau buddiol. Pregethodd Mr. Jones a Mr. Harries. Dychwelais adref wedi teimlo adeiladaeth. Nos Fercher, daethom yn nghyd gartref at gwrdd gweddi. Gwenodd yr Arglwydd ar y gyfeillach; er fy mod yn sych iawn, diolch yr un pryd am ei ddaioni i'r gyfeillach; ond nid heb lawer o ofnau fy mod yn cael fy rhoi i fyny i galedwch: ond cyn diwedd yr wythnos newidiwyd fy nhywydd wrth orsedd gras. Parhaodd yn awyr deneu arnaf hyd ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn aethum yn nghyfeillach brawd at odfa y nos. Y gyfeillach a brofais yn dra buddiol a dyddorol. Wrth fyned trwy yr odfa hon profais fy ysbryd ychydig yn iraidd. "Daeth y Sabbath. Aethom gyda'r teulu i ddyledswydd deulaidd; aethom oddiyma at odfa y boreu. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma. Clod byth am ei sylw ar un mor wael. Aethom at odfa y prydnawn. Profais yma ddaioni Duw hefyd. O, beth a dalaf am fy nylyn? Aethum at odfa y nos. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda blas. Daeth y Llun. Aethum at odfa y society. Teimlais ireidddra wrth lefaru, yn fawr. Aethum at odfa y nos. Cadwyd cyfeillach brifat. Teimlais ireidd—dra yma, ac yn yr odfa ganlynol. Clod i Dduw sydd mor helaeth ei drugaredd. Dydd Mawrth aethum at odfa deuddeg yn bur lwfr a digalon; yma y bu yn bur galed a sych arnaf, a llawer o ddyrysni. Aethum at odfa y nos. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda llawer o help a gwlith. Gallaf yn awr ddyweyd, Hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi. Daethum adref heddyw<noinclude><references/></noinclude> opgb2c36wb4w5nnqznapwfu88xw37z4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/100 104 84739 164562 2026-05-15T14:28:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164562 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at gwrdd gweddi: teimlais ynddo lawer o sychder a chaledwch. Derbyniwyd amryw i'r cymundeb erbyn y Sabbath nesaf. Moliant iddo am hyn. Treuliais ddydd Iau a Gwener yn amrywiol o ran tywydd fy meddwl. Dydd Sadwrn y bu ''society'' o flaen y cymun genym. Daeth Mr. Jones atom, ac yr oedd yn fendithiol iawn yn ein plith. Dydd Sabbath yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, a'r cymunwyr yn aml, a'r gwaith yn bleserus iawn. Aethum at odfa y prydnawn. Cefais fy nerthu yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd. Aethum at odfa y nos. Teimlais fy ysbryd yn cael ei gynesu, ac ychydig wlith ar yr athrawiaeth. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn gysurus. Diolch iddo am hyn. Treuliais y dydd hwn yn dra chymylog. Dydd Mawrth, teimlais yn bur gyffelyb mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden at bethau duwiol. Nos Fawrth bu genym gwrdd gweddi, lle yr oedd amryw iawn yn nghyd. Teimlais fy ysbryd yn bur dyner wrth ganu. Dybenwyd y cwrdd gyda gradd o ireiddiwch. Cadwyd cyfeillach neillduol, lle yr ymgynygodd tair o'r newydd i'r gyfeillach. Ni chafwyd ond ychydig foddlonrwydd mewn dwy o honynt. Barnwyd, os oedd yr Ysbryd yn dechreu gweithio, mai dechreu yr oedd; yn wyneb tywyllwch y naill, a chaledwch y llall, gadawyd iddynt, ar ol dyweyd y gwir wrthynt, i Dduw a'i amser. Siaradwyd â gwraig arall. Cafwyd lle i feddwl ei bod mewn gofid a hiraeth am Achubwr ac achubiaeth. Egniwyd i ddweyd wrthi am yr Arglwydd Iesu, i'r hyn y cafwyd help. Dybenwyd y cyfarfod yn bur gysurus. Dydd Mercher profais fy meddwl yn bur llwfr a digalon wrth feddwl ymadael â fy mrawd. Dydd Iau, bum dan yr un amgylchiad heddyw eto, yn dra llwythog gan hiraeth: ond O na ddygai pob peth fi yn fwy agos at Dduw, a llai ataf fy hun. Hyn fyddo ddo y fendith ar bob peth. "Hydref 6fed, dydd Sadwrn. Aethum i Abergwaen at y ''society''. Cefais help a phleser mawr yma ar ol amryw ymadroddion. Dybenwyd y cyfarfod ag achos i ddyweyd mai da oedd bod yma. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y teimlais lesgedd mawr oblegyd gwendid fy natur; a theimlais gryn boen trwy y nos; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf. Clod, clod iddo byth, am ymgeleddu un mor wael. Daethum adref dydd Llun. Cefais y teulu yn gysurus. Dydd Mercher bu genym gyfarfod gweddi. Teimlais yma yn bur gyffredin. Cynygiodd un o'r newydd i'r gyfeillach.<noinclude><references/></noinclude> b8yv46j3qcyyqekv3knaegsbxpfa703 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/101 104 84740 164563 2026-05-15T14:29:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164563 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cafwyd help i ddweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd ei bod hi wedi ei dryllio. Dybenwyd y cyfarfod yn dra thawel. Dydd Iau aethum i angladd. Teimlais fy ysbryd yn ymblethu yn yr athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum at angladd arall y prydnawn i Langloffan. Yma teimlais sychder; daethum adref y noswaith hono yn gysurus. Aethum dranoeth i ffair. Teimlais lawer o'i gwagedd o'm mewn; ond fe'm cadwyd rhag un gwaradwydd. Diolch i Dduw am hyn. Heddyw eto yr wyf yn teimlo fy meddwl yn awyddus i redeg i ryw ran o bethau Duw, ac yn profi fy llygredd yn fawr. Daeth Sabbath arall. Cefais fy nerthu yn odfa y boreu gartref. Y prydnawn cadwyd ysgol; bu yma yn bur gyffredin. Aethum at odfa y nos. Profais yr odfa hon yn galed ac yn sych iawn. Treuliais yr wythnos mewn llawer o ddyryswch a thywyllwch. Aethum oddicartref dydd Gwener. Aethum at odfa yr hwyr. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Sadwrn aethum at odfa deg; cefais rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o flas. O, dyma Dduw yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau, yn ol ei bethau goreu. Aethum at odfa dau i'r Nefern. Gwnaeth yr Arglwydd â mi yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Clod iddo byth bythoedd. Daethom oddiyma yn gysurus, dan ymgeledd Duw a dynion, at odfa yr hwyr, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Dyma ryfeddodau Duw tuag at y gwaelaf o bawb. Aethum yn nghyfeillach fy mrawd a'm cyfarfu yno, ac un cyfaill arall i Aberteifi, lle y cawsom bob ymgeledd. "Daeth yn Sabbath arnaf. Aethom yn nghyd at odfa y boreu i'r Capel Newydd. Profais yr Arglwydd yn dda iawn. Dychwelais at odfa y prydnawn. Cefais yma fy nerthu â gradd o arddeliad yr Arglwydd. Clod iddo am hyn. Aethum at odfa y nos. Profais yn galed iawn yma, ond nid heb yr harddwch allanol. Dranoeth aethum i'r odfa i Bwlchygroes. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Aethum at odfa y nos i Lanfyrnach. Profais yma ddaioni Duw. Dydd Mawrth daethum i Abergwaen, dan ymgeledd trugaredd Duw, wedi fy ngwared rhag profedigaeth am y ceffyl, yr hwn a aeth yn gloff iawn wrth fyned i fyny, ac a gefais yn iach pan ddychwelais. Clod i Dduw am hyn. Daethom at odfa y nos. Profais ddaioni a thiriondeb Duw yn fawr tuag ataf, er nid mor rhydd ag y teimlais lawer gwaith. Dydd Mercher, daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Clod<noinclude><references/></noinclude> c54s5obvwqkm154oz2hgbus3st1ewdb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/102 104 84741 164564 2026-05-15T14:30:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164564 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byth bythoedd i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau. Treuliais yr wythnos hon mewn ychydig lafur yn ngwirioneddau y gair. Dydd Sadwrn aethum at angladd i Dyddewi, trwy lawer o erwindeb hin. Cefais yma radd o help i ddyweyd y gwir. Dychwelais at odfa y nos. Profais yr Arglwydd yn dda wrth fy ysbryd. "Aethum y boreu Sabbath at odfa gartref; profais ireidd—dra yma hefyd. Aethum at odfa y prydnawn: bu yma yn lled gyffredin. At odfa y nos; rhyw beth yn debyg; pregethwyd gan fy mrawd, a'r harddwch allanol ar y gwaith. Daethom adref. Cefais y teulu yn gysurus. Clod byth bythoedd i Dduw am hyn hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra therfysglyd a chymysglyd. Weithiau yn cael ychydig hamdden i astudio; bryd arall, gan rym fy llygredigaethau, fel un o flaen corwynt. Yn wyneb hyn mi deimlwn ofn syrthio dan eu traed. Yna, dan yr amgylchiad yma, mi ymdrechwn anfon erfyniau at Dduw am gymhorth i sefyll a marweiddio fy llygredd. Hyn oedd fy helynt gyffredin. Nos Fercher yr oedd genym gwrdd gweddi: cyn myned i'r cwrdd cefais ychydig gythrybliad o uffern. Tybiais y buasai yn dywyll ac yn niwlog arnaf; ond y Duw hwnw sydd yn gwneyd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim ydym ni yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl, a fu dda wrthyf. Bendigedig yn oes oesoedd fyddo ei enw mawr am gofio am greadur mor wael. Treuliais ddydd Iau i ddarllen journal y Parch. R. Hill. Yn hyn y cefais lawer o bleser wrth weled ffydd, cariad, sel, a ffyddlondeb a hunan—ymwadiad y gwr da hwnw dros ei Arglwydd. Nos Iau aethum i wrando gweinidog dyeithr. Teimlais yn galed iawn yma; ac nid fy neimlad i yn unig oedd, ond yr oedd yn ymddangos felly yn gyffredinol. Bu genym gwrdd dydd Gwener gan yr un gweinidog: yma hefyd y bu y cwrdd yn bur sych. Cefais ychydig ''dreial'' eto, yr hyn a'm gosododd yn bur isel. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Yr Arglwydd a ŵyr pa fodd y treuliaf ef. Heno aethum i Lan{{bar|2}}o, i wrando John Bowen. Dangoswyd tiriondeb mawr i mi yma gan Dduw a dynion. Treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn yn nghyfeillach y brodyr. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath newydd arnaf. Fy nheimlad oedd yn gnawdol ac yn ansantaidd iawn. Ar ol dyledswydd deuluaidd ac ychydig luniaeth cychwynasom at odfa y boreu, lle y pregethodd John Bowen oddiwrth Luc viii. 18. Yma y teimlais fod y gwirionedd dan arddeliad yn gyffredinol, ac ni<noinclude><references/></noinclude> 7zxcfm4ovgrecmzggla7mrovhn8956h 164565 164564 2026-05-15T14:30:38Z AlwynapHuw 1710 164565 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byth bythoedd i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau. Treuliais yr wythnos hon mewn ychydig lafur yn ngwirioneddau y gair. Dydd Sadwrn aethum at angladd i Dyddewi, trwy lawer o erwindeb hin. Cefais yma radd o help i ddyweyd y gwir. Dychwelais at odfa y nos. Profais yr Arglwydd yn dda wrth fy ysbryd. "Aethum y boreu Sabbath at odfa gartref; profais ireidd-dra yma hefyd. Aethum at odfa y prydnawn: bu yma yn lled gyffredin. At odfa y nos; rhyw beth yn debyg; pregethwyd gan fy mrawd, a'r harddwch allanol ar y gwaith. Daethom adref. Cefais y teulu yn gysurus. Clod byth bythoedd i Dduw am hyn hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra therfysglyd a chymysglyd. Weithiau yn cael ychydig hamdden i astudio; bryd arall, gan rym fy llygredigaethau, fel un o flaen corwynt. Yn wyneb hyn mi deimlwn ofn syrthio dan eu traed. Yna, dan yr amgylchiad yma, mi ymdrechwn anfon erfyniau at Dduw am gymhorth i sefyll a marweiddio fy llygredd. Hyn oedd fy helynt gyffredin. Nos Fercher yr oedd genym gwrdd gweddi: cyn myned i'r cwrdd cefais ychydig gythrybliad o uffern. Tybiais y buasai yn dywyll ac yn niwlog arnaf; ond y Duw hwnw sydd yn gwneyd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim ydym ni yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl, a fu dda wrthyf. Bendigedig yn oes oesoedd fyddo ei enw mawr am gofio am greadur mor wael. Treuliais ddydd Iau i ddarllen journal y Parch. R. Hill. Yn hyn y cefais lawer o bleser wrth weled ffydd, cariad, sel, a ffyddlondeb a hunan—ymwadiad y gwr da hwnw dros ei Arglwydd. Nos Iau aethum i wrando gweinidog dyeithr. Teimlais yn galed iawn yma; ac nid fy neimlad i yn unig oedd, ond yr oedd yn ymddangos felly yn gyffredinol. Bu genym gwrdd dydd Gwener gan yr un gweinidog: yma hefyd y bu y cwrdd yn bur sych. Cefais ychydig ''dreial'' eto, yr hyn a'm gosododd yn bur isel. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Yr Arglwydd a ŵyr pa fodd y treuliaf ef. Heno aethum i Lan{{bar|2}}o, i wrando John Bowen. Dangoswyd tiriondeb mawr i mi yma gan Dduw a dynion. Treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn yn nghyfeillach y brodyr. "Dranoeth yr oedd yn Sabbath newydd arnaf. Fy nheimlad oedd yn gnawdol ac yn ansantaidd iawn. Ar ol dyledswydd deuluaidd ac ychydig luniaeth cychwynasom at odfa y boreu, lle y pregethodd John Bowen oddiwrth Luc viii. 18. Yma y teimlais fod y gwirionedd dan arddeliad yn gyffredinol, ac ni<noinclude><references/></noinclude> bottfddqqycw02xdq91qaxxbj2awjre Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/104 104 84742 164567 2026-05-15T14:37:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164567 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Daethum heno, nos Fercher, o'r ''Association'' i'r Felindre, i wrando Lewis Morris ac Edward Watkins. Profais fwy o hamdden i wrando na llawer gwaith, ond yn ddiffygiol gan flinder. Lletyais yn y lle hwn; treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn. Boreu dranoeth aethom at odfaon y boreu. Pregethodd Edward Watkins gyda blas neillduol i fy meddwl i. Daethum adref at odfaon y prydnawn. Wrth wrando teimlais dynerwch mawr wrth fyfyrio ar Berson. Crist. Heddyw, dydd Gwener, a dreuliais yn wyllt fy meddwl, heb allu ei gasglu at bethau crefyddol: mae hyn yn galw am alar duwiol. Dydd Sadwrn a dreuliais mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden iawn i bethau ysbrydol. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Fy Sul i gartref oedd hwn. Profais fod yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Cadwyd ysgol y prydnawn: daeth amryw yn nghyd. Ymadawyd at odfa y nos: lle y dangoswyd trugaredd i mi rhwng danedd annghrediniaeth, tu hwnt i'r dymuno a'r chwenych. O am rym i roi enaid a chorph iddo! Daethum adref heddyw yn dra chysurus. Heddyw eto sydd yr un fath. Moler Duw byth am hyn! "Tachwedd 10, 1806.—Bum yn bur glaf mewn twymyn. Yn anhwylus yr 11eg, yr hwn oedd ddiwrnod y Cwrdd Misol yn fy nghartref i. Dranoeth, y 12fed, yr oeddwn i gychwyn ar fy nhaith tua Bryste; ond oblegyd fy nghlefyd yn annhebyg iawn i allu myned. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd adferyd fy iechyd yn dda iawn. Cychwynais oddicartref oddeutu un ar ddeg o'r gloch; daethum at odfa y noswaith hono dan beth llesgedd; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma; ond er hyn, fy meddwl oedd yn dra llwythog wrth feddwl am fy nhaith. Cychwynais dydd Iau yn foreu iawn, canys yr oedd genyf daith fawr. Teimlais yn sych iawn ar fy ysbryd, ond nid yn ddiachos. Diolch am yr harddwch allanol ar y gwaith. Cychwynais fy hun at odfa dau i Bwlchygroes, oddeutu wyth milldir. Cefais arwyddion yma o fod y gair yn lles, ac yn cael lle gyda meddyliau dynion. Aethum oddiyma yn gysurus, yn nghyfeillach Mr. Davies ac un arall, i Lanfyrnach i dŷ Mr. Davies. Gwnaeth yr Arglwydd ymweliad neillduol â fy enaid i, ac a'r gwrandawyr. Codaf yma faen hefyd. Cefais gyfeillach ddigon diddolur gyda Mr. Davies. Dydd Gwener cychwynasom at odfa deuddeg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma yn mhob ystyr, yn ysbrydol ac yn naturiol. Aethum oddiyma at odfa y nos i<noinclude><references/></noinclude> rjiwcd6a3j9ltc58nvzar9ekchmx2w2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/105 104 84743 164568 2026-05-15T14:39:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164568 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cwmbach, Sir Gaerfyrddin; gwnaeth yr Arglwydd yn rhyfedd iawn i mi yma, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Cefais gyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Dafydd Evans. Dranoeth edrychais i waith Ainsworth: tywynodd pethau rhyfedd ar fy meddwl oddiwrth y gair hwnw, 'o'r chweched hyd y nawfed awr.' Cychwynais dydd Sadwrn at odfa i Mydrim. Tywynodd yr Arglwydd arnom, er nad oeddym ond ychydig, yn rhyfeddol iawn. Aethum at odfa y nos i Gynwyl. Erfyniwyd arnaf gan y cyfaill i bregethu yr un gwirioneddau; cefais fy meddwl at hyny. Dangosodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd i hyny. Bu yn wledd fawr ar eneidiau amryw. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Cychwynais yn nghyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Arthur Evans. Aethom yn nghyd i Gaerfyrddin. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma, o ran pob harddwch allanol ar y gwaith, ond nid yn neillduol iawn ar fy ysbryd fy hun. Aethom amryw yn nghyd i'r Cross Inn. Yma y cyfarfyddais â Dafydd Rees o Lanfynydd. Fe'n nerthwyd ein dau i bregethu dan ryw faint o wlith. Aethum oddiyma i Landilofawr. Fy nheimladau cyn dechreu yr odfa oeddent sychion iawn, ac wrth ei threulio, hyd yn agos i'r diwedd, pan tynerodd fy nghalon ychydig. Felly y dybenais Sabbath cyntaf y daith hon dan nawdd ac ymgeledd yr Arglwydd. Boreu dydd Llun, aethum ddeuddeg milldir at odfa deg i Lanymddyfri. Teimlais sychder mawr yma. Awd at odfa {{bar|2}}. Ymwelodd yr Arglwydd yn neillduol â ni yma, yn wyneb llesgedd corph ac ysbryd. Cadwyd ''society''. Cafwyd help a chyfarwyddyd yma. Ymadawsom i fyned at odfa y nos. Cadwyd harddwch allanol ar y gwaith yn wyneb llawer o lesgedd corph. Yma y cyfarfyddais â dyn o Sir Frycheiniog, a ddaeth yn gyfaill i mi trwy y sir hon. Aethom oddiyma i'r Bontrhydybere, trwy wlaw mawr iawn. Casglodd amryw yn nghyd; a mwy na'r cwbl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyma i Gefnygorwydd, a'r hin yn dymhestlog iawn; ond ymwelodd yr Arglwydd â ni, a gwnaeth y lle yn llawn. Cychwynasom ddeuddeg milldir dros fynyddau at odfa y nos i Ferthyr cynog; yma y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, er fy lludded. Dydd Mercher, cychwynasom i'r Llandeilo—fân. Codaf yma faen, canys gwnaeth yr Arglwydd yn rhagorol iawn. O dyma ryfeddod, ei fod yn sylwi ar y fath greadur! Aethom i Drecastell. Cyfarfyddais yno â dau wr dyeithr o'r Gogledd,—Peter Roberts a'i gyfaill. Bu yr odfa dan y gwlith yma.<noinclude><references/></noinclude> bzdxqhx4q2xx3jzcmxng00ogcdw1y2w Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/106 104 84744 164569 2026-05-15T14:42:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164569 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymadawsom å'n gilydd yno. Aethum i Defynog. Cefais help, goleu, a gwres yn yr odfa hon. Fel hyn mae yr Arglwydd yn dangos ei anfeidroldeb, ei drugaredd, a chyfoeth ei ras, yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau. Dydd Iau daethum i Aberhonddu. Ychydig yn nghyd. Fy meddwl yn isel iawn wrth ddechreu, ac felly trwy yr holl odfa, er nad oedd yn ddiarwyddion lles i'r bobl. Aethom oddiyno i'r Bwlch. Cefais yma fy helpu a'm nerthu. "Cychwynasom oddiyma i Sir Fynwy i dŷ John Morris. Cefais help, blas, a phleser neillduol yma yn wyneb digalondid mawr. Aethum oddiyma gyda thri o'r cyfeillion, wedi gorfod ymadael â'm cyfaill fy hun, at odfa nos Wener, yr odfa ddiweddaf yn Nghymru. Cefais ychydig ymgeledd i fy ysbryd, yr hyn oedd drugaredd fawr. Er nad oedd yno ond ychydig bobl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethum dydd Sadwrn i lan y ''Passage'', a'r tywydd yn ffafriol iawn. Aethum i Bryste erbyn dau o'r gloch. Cefais bob caredigrwydd, eto fy meddwl oedd orthrymedig iawn. Gwelais gymaint o garedigrwydd y brodyr nes y siriolwyd ychydig ar fy ysbryd. Dydd Sabbath pregethais am haner awr wedi deg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi ac wrth y bobl. Pregethais am haner awr wedi dau, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Am saith, daethom yn nghyd drachefn: gwlithodd yr Arglwydd arnom. Cawsom achos i ddweyd mai da oedd dysgwyl wrth yr Arglwydd. Cefais foddlonrwydd mawr am fy nyfodiad i Bryste. ''Society'' nos Lun. Derbyniwyd gwr a gwraig oedd wedi gwrthgilio. Cafwyd help i ddyweyd y gwir wrthynt. Gwawriodd ychydig arnom, nes oeddym wrth ein bodd. Ymadawsom wedi cael achos dyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Dydd Mawrth aethum yn nghyfeillach un o'r brodyr at Mr. Evans, gwr boneddig yn Queen Square, sydd yn talu rent y tŷ cwrdd, i siarad yn nghylch rhyw beth o ''concern'' y tŷ. Cefais fy ngwahodd ganddo i giniaw; cefais bob caredigrwydd, yr hyn oedd yn rhyfedd i un mor wael. Daethum adref at odfa y nos, yr hon oedd am saith o'r gloch. Yr oedd amryw iawn yn nghyd: siriolodd yr Arglwydd arnom yn neillduol iawn. Cefais lawer o diriondeb rhagluniaethol Duw neithiwyr. Heddyw eto y mae daioni Duw wedi fy nylyn. Clod diddiwedd iddo am ei gariad a'i drugaredd yn dylyn ar ol y fath greadur<noinclude><references/></noinclude> jzbe4x7eizexikwd52siw0fre9jq6ti Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/107 104 84745 164570 2026-05-15T14:43:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164570 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwrthnysig, nad yw wedi haeddu dim ond fy namnio, eto yn mwynhau llawer. "Nos Fercher aethum i'r Tabernacl i wrando Mr. Berry, yr hwn a bregethodd oddiwrth hanes Samson. Yr addoliad hwn a aeth heibio yn ddifywyd iawn. Nos Iau aethum i gapel Lady Huntingdon, i wrando Mr. Emery: cawsom bregeth dda oddiwrth Rhuf. xv. 13. Aethum i'r ''vestry-room.'' Cefais ychydig gyfeillach ag ef, yr hyn a barodd i mi feddwl ei fod yn ddyn byw yn ei ysbryd, ac yn gweled pethau yn dda; ond rhyw bethau heb eu gweled ganddo. Nos Wener aethum at ein hodfa. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac nid wrthyf fi yn unig, ond wrth y gynulleidfa hefyd. Dybenais yr wythnos hon a chenyf achos gofidio mor lleied o amser a dreuliais gyda Duw. "Boreu Sabbath teimlais derfysg yn fy meddwl am genadwri i'r bobl. Aethum at yr Arglwydd am dani. Tueddwyd fy meddwl at destun ac athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, er nad oedd fy ysbryd mewn cymaint hwyl a'r wythnos o'r blaen. Aethum at odfa dau. Teimlais fy ysbryd yn fwy rhydd a gwrol yma na'r boreu. Clod i Dduw am ei diriondeb mawr. Aethom at odfa saith. Teimlais yma ychydig yn gaethach; cyn darfod torodd ychydig o wawr. Dychwelais i'm llety yn flinedig, wedi cael achos dywedyd, Yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais lawer o drafferth meddwl y nos hon, a pheth anhwyldeb corph; ond clod diddiwedd am adferiad trugareddau. Cefais heddyw eto yn foreu tawel. Diolch i Dduw byth am hyny. O na bai fy holl fywyd yn ddiolch, ac yn agosach at Dduw. Nos Lun aethum i'r ''society''; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Aethum at odfa nos Fawrth; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Clod diddiwedd am hyn. Dydd Mercher a dreuliais oddiamgylch; nos Fercher aethum i'r Tabernacl. Pregethodd Mr. Berry yn dda iawn. Dydd Iau aethum i gyfarfod Nathaniel William, yr hwn oedd yn myned i Lundain. Daeth amser yr odfa. Pregethodd dan arddeliad mawr iawn. Cefais ei gyfeillach yn dra chysurus. Aethom yn nghyd i edrych am y coach, ac i hebrwng Nathaniel. Ar ol treulio y dydd gyda rhai cyfeillion, daethum at yr odfa saith. Yma hefyd y llanwodd y gwlaw y llyn. Bum boreu heddyw, sef boreu dydd Sadwrn, yn gweled yr Iuddewon yn addoli. Teimlais, yn wyneb eu hagwedd, ormod o ysgafnder. Dychwelais adref yn gysurus y boreu hwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> e0fcsyskt58qs6gbf6t229hjqnmn2f5 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/254 104 84746 164572 2026-05-15T14:46:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164572 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y dywedir, a bod gan Mr. Richard digon i ddyweyd ar bob peth. Nid oeddynt hwy yn meddwl fod y pethau yr oedd yn eu dyweyd, a'r pethau yr oeddynt hwythau yn cael lles mawr drwyddynt, yn ffrwyth llafur caled y gweinidog ffyddlon pan y byddent hwy yn trin y byd ac yn enill arian. Yr oedd yr ŷch ag oedd yn dyrnu yr ŷd iddynt, er diwallu eu hangenion ysbrydol, yn ddyoddefydd mawr yn aml o eisiau tipyn o ŷd daearol i'w gynorthwyo i fyned yn y blaen gyda'r dyrnu ar yr ŷd goruwch ddaearol. Ond fel yna y byddai y bobl yn meddwl, fod pob peth yn dyfod fel y môr, heb eisiau llafurio dim, ond myned i'r capel i dderbyn y dwfr. Yr ydym yn rhoi y ddwy araeth ganlynol, un a draddodwyd yn y cwrdd gweddi yn Abergwaen, a'r llall yn Wdig, er mwyn egluro y pethau y buom yn eu dyweyd:— Rhagorfraint gwir adnabyddiaeth o'r Arglwydd yw ei gydnabod ef yn ei holl ffyrdd ef a'n holl ffyrdd ninau; canys felly y gorchymynir: "Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau." Ni ellir ei gydnabod heb ei adnabod. Mesur y naill yw mesur y llall. Y ddau beth hyn, ei adnabod a'i gydnabod, yw rhodio yn ei ofn, yr hyn yw rhodio gydag ef; a rhodio gydag ef yw ei fwynhau; ei weled yn mhob peth, ei gydnabod yn mhob peth, yw gydag ef yn mhob peth. Felly y rhodiodd Enoch a Noe gydag ef. Mae cymaint o undeb achosol rhwng yr Arglwydd a phob peth ei lywodraeth, fel y gellir yn briodol eu henwi yn eiddo iddo. Os cleddyf, cleddyf yr Arglwydd; os newyn, newyn yr Arglwydd; os bwystfil niweidiol, efe sydd yn ei ddanfon; os haint, efe sydd yn ei ddanfon. "Fy mhedair drygfarn, pan ddanfonwyf hwynt yw y rhai hyn," medd efe am danynt. Mewn man arall gelwir hwy yn bedwar o gerbydau a meirch. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion; yn yr ail gerbyd, meirch duon; yn y trydydd, meirch gwynion; yn y pedwerydd cerbyd, meirch gwineuon, brithion. Dyna gerbydau hardd; dyma grandeur bonedd a mawredd. "Cyfiawn yw efe yn ei holl ffyrdd, a santaidd yn ei holl weithredoedd." "O ba le y daethant?" Hwy a ddaethant allan oddirhwng dau fynydd; a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres; daethant allan yn llawn o allu a dysgleirdeb, ac mewn gallu anwrthwynebol. I ba le y daethant? I'r gogledd, i'r deheudir, ac i gyniwair trwy y ddaear. Pwy yw llywydd y rhyfel-gerbydau ardderchog hyn? Eu Perchen yn ei berson ei hun yw Prif Flaenor y gâd. Mae ei gleddyf noeth yn ei law, ac yn cyhoeddi o flaen ei lu, Yn Dywysog llu yr Arglwydd y daethum. Pwy yw hwnw? Fe ellir meddwl wrth ei siarad mai Preswylydd y berth yw efe, canys yr oedd yn gofyn yr un ymddygiad gan Josua ag a ofynwyd gan Moses. Efe yw y Mab a roddwyd i ni, y Bachgen a aned ini. Gelwir ei enw, Rhyfeddol, a bydd y llywodraeth byth ar ei ysgwydd ef. Mae yn ysgwydd rhy uchel i neb ei chyrhaedd a fyno, ac yn rhy gref i neb i'w threisio o honi, na diffygio byth dani; gan hyny ato ef y mae myned. Am hyny awn ato ef, yr hwn a ddywedodd, "Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, hyny a wnaf," {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sg2gf3oojyy95rkegiqx1jeyx1jkp2n Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/255 104 84747 164573 2026-05-15T14:47:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164573 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|(Y sylwadau a draddodwyd yn Wdig.)}} Mae holl feddiant y Jehofa yn eiddo i Grist. Rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear; am hyny efe yw Arglwydd pawb oll. Os yw efe yn Arglwydd pawb oll, ei weision ef yw pob peth. Nid geiriau yn unig sydd am hyn; ond prawfiadau trwy esiamplau ar ddwfr a thân, môr a thir, dynion a chythreuliaid, pob clefydau ac afiechyd, heintiau a phläau: ceryddu y gwynt a'r môr â'i eiriaugwialen ei enau; gostegu a dystewi, a bu tawelwch mawr. "Dyn ydwyf finau hefyd, a chenyf oruchwylwyr danaf. Pan ddywedwyf wrth y naill, Dos, efe a â; ac wrth y llall, Tyred, efe a ddaw. Mae y clefyd, dy was di, bron lladd fy ngwasi; yn unig dywed y gair, a iach fydd fy ngwas." Dy was di yw y cleddyf niweidiol: dywed di iddo ddychwelyd i'r waun, efe a ddychwel, ac a lonydda; ond ni ddychwel, ac ni lonydda, er i bawb eraill ddyweyd wrtho; canys pa fodd y llonydda efe, gan i'r Arglwydd ei orchymyn ef? canys gwas yw efe, a gwas dan siars, ac ni ddychwel pe bai yr holl fyd yn dyweyd wrtho, hyd oni orpheno ei waith. Felly yr haint hwn. Gwas yw ef, dan orchymyn pendant am, ac at gospi ei elynion, a dial cam ei bobl, a cheryddu ei bobl. Yimweled â'u camwedd â gwialen, a'u hanwiredd â ffrewyllau; canys lle yr amlha anwiredd, fe oera cariad llawer. Dwr yw y naill, tân yw y llall: un yn cynyddu, y llall yn lleihau. Cynydd y naill yw lleihad y llall. Profer nad yw anwiredd yn amlhau, fe brofir yr un pryd trwy yr un peth nad yw cariad yn oeri. Y peth mwyaf ffiaidd ger bron Duw yw y peth uchelaf yn gyffredinol ger bron dynion; hyny yw, balchder. Mae yn haint gyffredinol, o'r mwyaf hyd y lleiaf, o'r cyfoethocaf i'r tlotaf, oddifewn ac oddiallan. Bryd uchel, trem uchel, golwg uchel: mae y ffrwd hon mor gref, prin y beiddia neb sefyll yn ei herbyn; a phan wrthwynebir, efe a watwarir. Ond fe ffieiddir gan Dduw, canys efe a'i hadwaen o bell; mae yn gas ganddo, ac fe fyn ei ddarostwng. Ymostyngwn ger bron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr, edifarhawn a hunan-ffieiddiwn, edrychwn ar ein huchder balch, a dysgwyliwn ein cwymp mawr, a'n medi fel glaswellt. Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd; dychwelwn at yr Arglwydd. Dyrchafwn ein calonau at Dduw yn y nefoedd. Yr ydym wedi myned yn fras, yn mhob llwyddiant i wingo yn erbyn yr Arglwydd, heb wrando ar ei lais, ond dirmygu cynghor y Goruchaf. Nyni yw y bobl sydd yn anufuddion ac yn feilchion; ond os na elwir y gwas yn ol bydd yn hawdd siarad cyn nemawr o ddyddiau â rhai na oddefir siarad llawer â hwy yn awr. "Ceisiwch yr Arglwydd holl rai llariaidd y ddaear; y rhai a wnaethant ei farn ef, ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ild3kgg0t422iqmj6x4khhmz2elg4kd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/256 104 84748 164574 2026-05-15T14:49:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164574 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XVI.}}<br>Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio-cyflwyno Tysteb iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth-ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw.}} Bu Mr. Richard flynyddau lawer yn anhwylus gan beswch a diffyg anadl, yn methu teithio i'r Cymanfaoedd, hyd yn oed pan y byddent yn ei sir ei hun. Yr ydoedd yn pregethu ryw gymaint o gwmpas cartref yn aml ar y Sabbathau, ac ambell waith mewn llawn hwyliau, er fod natur o angenrheidrwydd yn rhwym o deimlo yr effeithiau. Ond pan y caffai efe ei draed o dano, ychydig o ymgynghori a chig a gwaed fyddai y pryd hwnw; ymollyngai ati fel yn nyddiau ei ieuenctyd, heb feddwl am ganlyniadau. Gallesid meddwl wrth ei weled yn dringo grisiau y pwlpud dan besychu a chwythu, ei fod lawer yn fwy cymhwys i fedd nag i bwlpud; ond pan y byddai y pesychu yn gwella wrth siarad, a'r anadl fel yn gwellhau yn raddol, teimlech chwant fyned i weddi am i'r Nefoedd ei anfarwoli i bregethu yr efengyl. Ymddangosai yn berffaith gartrefol yn y pwlpud, yn ei le ei hun, y lle ag oedd yn ei weddu ef, enaid a chorph. Byddai yn Abergwaen yn fisol, ac yn Trefin, lle y ganwyd ac y magwyd ef, yn amlach na hyny, yn gymaint a bod y lle yn agos; ond fel y dywed cyfaill wrthym ag oedd yn arfer ei wrando, "yr oedd yn ddyn newydd bob Sabbath." Do, parhaodd ei lafur hyd y diwedd; yr oedd yn gwneyd pregethau newyddion hyd y gallasai eistedd i fyny; ac yr oedd yn dyweyd wrth gyfaill, "Yr wyf gystal ag erioed i wneyd pregeth; gallaf gyfansoddi mor hwylus yn awr a chynt; ond dyna y diffyg, pan yr elwyf i'w pregethu, yr wyf yn methu eu cofio fel cynt." Y mae yn rhaid fod rhyw beth rhyfedd yn y pregethu yma, cyn bod dynion yn ymdrechu cymaint i bregethu. Yr oedd Christmas Evans, meddant, yn gofyn i'r meddyg a oedd dim gobaith i wella erbyn y Sabbath i gael pregethu; dywedir fod Elias yn dymuno bedd yn union ar ol ffaelu pregethu; ac yr oedd Mr. Richard, er ei holl beswch a diffyg anadl, yn gwneyd ymdrech parhaus i bregethu. Adroddir ei fod am chwech, hwyr Sabbath, mewn man yn myned i bregethu, ac yn dringo grisiau y pwlpud dan beswch a thuchan, yn sål iawn; ac yn gymaint a bod y dydd yn hytrach yn rhy fyr i barhau hyd ddiwedd y cyfarfod, byddai y brawd ag oedd<noinclude><references/></noinclude> iib2qr53rtmrb52gtgmpbwvp6i8xn71 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/257 104 84749 164575 2026-05-15T14:49:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164575 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gwasanaethu y swydd hono yn arfer cyneu y canwyllau yn nechreu y cwrdd, fel ag i beidio aflonyddu yn y canol; yr oedd hyny yn fwy o synwyr nag sydd yn mhen llawer un. Beth bynag, wrth fod Mr, Richard yn dringo o ris i ris dan beswch, y mae yn canfod y dyn yn cyneu y canwyllau, ac yn dywedyd wrtho, "Peidiwch a chyneu y canwyllau; 'does dim o'u heisiau; dyn marw sydd yma, nid dyn yn gallu pregethu." Gadawodd y dyn y goleu yn y fel yna, oblegyd gallesid meddwl wrth ei weled yn ceisio dringo na fuasai eisiau goleu arno ef, y buasai y dydd yn ddigon hir iddo dreulio hyny o nerth ag ydoedd ynddo. Beth bynag, y mae yn rhoi hymn allan o dan beswch, ac wedi canu hono yn cymeryd testun yn rhyw fodd, ac yn dechreu dweyd o dan chwythu yn anferth, a phawb yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Ond yn mhen tipyn y mae yr hen frest fel yn clirio, y peswch yn myned yn llai, y llais yn pereiddio, ac yntau yn dechreu tynu ei law dros y cap du, yr hyn oedd yn arwydd sier fod y gwynt yn myned i chwythu yn deneu; erbyn hyn dyma fe yn gwaeddi allan, "Yn mha le y mae y dyn a'r goleu yna? paham na oleuwch y canwyllau, y dyn? cerddwch a goleuwch hwynt. Pa fodd yr ydych yn meddwl y gall dyn bregethu yma yn y tywyllwch heb i ni allu gweled ein gilydd?" Y mae hwnw yn dechreu gweini ei swydd mor gynted ag y gallo, a chyda phleser hefyd, canys y mae yn sicr o gael haner awr, os nid tri chwarter o bregeth yn ychwaneg na'r dysgwyliad. Fel hyn y byddai yn sâl wrth fyned i bregethu, yn gwella wrth bregethu, ac yn myned yn sâl wedi hyny ar ol pregethu; eto gwneyd pregeth newydd a'i phregethu hi oedd holl gysur ei fywyd hyd derfyn eithaf ei allu. Yn y blynyddoedd hyn, nid oedd yr un Gymanfa yn myned heibio na fuasid yn holi cyfeillion Sir Benfro yn nghylch iechyd Mr. Richard; a mawr y fath son oedd am dano, a chydymdeimlo ag ef yn ei gystuddiau; gan basio penderfyniad i'r Ysgrifenydd anfon llythyr cynes ato oddiwrth y Gymanfa o gydymdeimlad ag ef yn mhob ystyr; yr oedd pawb yn ddibetrus yn codi llaw. Ond er ei fod wedi ffaelu, ac er fod dyn felly ag eisiau mwy o gysuron na chynt, ac er nad oedd gydag ef i fyw ond yr ychydig blwydd-dâl ag oedd gan Mrs. Richard, nid ydym yn cofio clywed fod y Gymanfa, na Sir Benfro ychwaith, wedi meddwl dim am hyny, ond ei adael yn llwyr i ofal trefn Rhagluniaeth, a'r Bod mawr y darfu iddo ei wasanaethu mor ffyddlon. Peth hyfryd yw<noinclude><references/></noinclude> sxy06ixw3ue9cyygalcputucwcvojrw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/109 104 84750 164577 2026-05-15T14:55:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164577 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cawswn lefaru. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd. Boreu dydd Sul yr oeddwn i bregethu yma eilwaith. Cadwyd ''society''; derbyniwyd saith. Cafwyd lle i feddwl fod yr Arglwydd yn ein plith. Profais yn yr odfa gyhoeddus beth mwy rhyfedd nag yn fy oes hyd yma; ac nid yma, ond yn gyffredin yn y tro. Ymadewais oddiyma at odfa dau i Lanfabon. Profais yma lawer o sychder. Aethum oddiyma i Lanwyno. Teimlais fy hun yn ddiegni iawn at y gwaith, yn wyneb gweled y gwrandawyr mor farwaidd a diegni. "Dydd Llun aethumi Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf ac ar y gynulleidfa. Clod iddo am hyn hefyd. Aethum oddiyma i'r Brychtwn, dan deimladau isel iawn; ond yr Arglwydd, yn ol ei arfer, a fu yn haelionus iawn i mi. Aethum oddiyma i Salem. Cyfarfyddais yma ag Ellis Roberts. Tywynodd yr Arglwydd yma rhwng y cymylau. Dydd Mawrth i Benybont. Teimlais fwy o gadwynau yma, ond nid yn ddilewyrch. Oddiyma i'r Pil; cefais fy helpu yma mewn modd neillduol. Oddiyma i'r Dyffryn, lle yr oedd diwygiad mawr; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhyfedd i mi. Dranoeth ymadewais a'm cyfaill caredig, Thomas Edward, yr hyn roddodd i mi fawr deimlad. Aethum oddiyma i Lansamlet. Yma hefyd yr oedd gwaith newydd gan Dduw, ac hawdd iawn oedd i mi lefaru yma. Aethum oddiyma i Abertawy erbyn un o'r gloch, dan gryn deimlad o ddolur. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd fy ysbryd a llawer gwaith. Aethum oddiyma i'r Goppa, y lle diweddaf yn Morganwg. Teimlais fy meddwl yn isel iawn ar ol dod yma; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol yma, y tu hwnt i ddim yr oeddwn yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl. Dydd Iau aethum i Lanelli. Treuliais yr odfa yn boenus yn herwydd anhwyldeb, ond gyda llawer o bleser, a help, a blas, a llewyrch. Cyfarfyddais â fy mrawd oedd ar y môr. Teimlais lawer o dosturi at enaid fy mrawd, yn wyneb y peth oeddwn yn ceisio llefaru wrth eraill. Aethum i Broadway. Treuliais yr odfa fel hyny hefyd, ond nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd oddiwrth yr Arglwydd. Treuliais y noswaith hon mewn llawer o boen. Boreu dranoeth aethum i Landefeilog. Treuliais yr odfa hon yn boenus iawn fy nghorph, ond nid heb ddyddanwch yn fy meddwl. Aethum erbyn dau i Gaerfyrddin. Teimlais fy meddwl yn dra llwythog. Treuliais yr odfa hon yn bur galed arnaf. Aethum oddiyma i Lanstephan.<noinclude><references/></noinclude> 86wmvhqr7fbq5qc83pt7ctt0p5s5dzw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/110 104 84751 164578 2026-05-15T14:55:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164578 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd fy mhoen wedi ychwanegu erbyn yr odfa hon. Teimlais beth ireiddiwch yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum oddiyno i dŷ un o'r brodyr i letya. Cefais bob ymgeledd, a bu yr ymgeledd, dan fendith Duw, yn lles i'm corph. Dranoeth yr oeddwn i fyned i Lacharn. Yr oedd yr afon yn rhy arw i'w chroesi. Arosais yno hyd dri o'r gloch prydnawn. Aethum oddiyno, a daethum i Rogersbrook (?), o gwmpas ugain milldir o ffordd, yn flinedig, ond fe'm nerthwyd yn dra rhyfedd. "Aethum boreu Sabbath i Woodstock. Ni chefais yma gymaint o rwyddineb ysbryd, er cael hyny mewn geiriau. Aethum oddiyno at odfa dau i Dreamlod. Profais yma lawer o serch at eneidiau; llewyrchodd yr Arglwydd ar fy mhabell. Aethum y noswaith hono i Lantyddewi. Teimlais lawer o sychder; ond gwawriodd cyn y diwedd. Aethum oddiyno i Gastell blaidd, i gael myned i Gastell newydd i'r cyfarfod mawr fu rhwng y tair sir, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, ar achos brawd oedd yn rhodio yn afreolus. Soniwyd ar ei achos y prydnawn cyntaf yn ddiymryson. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Evans. Daeth amser yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Dafydd Evans eilwaith. Pregethodd y brawd Thos. Morgan, Llanddewi, a minau. Ni'm gadawyd yn ddilewyrch. Clod iddo am hyn. Boreu dranoeth cyfarfuwyd am wyth. Gweddiodd y brawd Evan Harris o Dreamlod; pregethodd Mr. Lloyd a John Evans gyda graddau o arddeliad. Cyfarfyddodd y ''society'' ar ol yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Mr. Griffiths o Nefern. Cawsom le i feddwl i'r Arglwydd dywallt ysbryd gras a gweddi ar y ''society''. Triniwyd achos y brawd afreolus yn ei bresenoldeb yn ddidderbyn wyneb, gyda concern mawr, a serch at ei adferiad. Cafwyd lle i gredu o'r newydd fod yr Arglwydd yn Wrandawr gweddiau, a'i fod yn trigo gyda'u bobl. Eisteddodd gras mawr ar y cynghor, fel y tybiwyd na bu y fath gyfarfod yn Nghymru erioed. Ymadawsom bawb yn llon ei feddwl, wedi cael achos dywedyd, Da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Daethum y noswaith hono i Gastell blaidd, ac adref boreu dranoeth. Cefais y teulu yn iach i gyd, a phob peth yn dda. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi! Phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos yn bur flinedig ar ol fy nhaith. "Boreu dydd Sul gwrandewis Mr. Lloyd gyda ni. Profais<noinclude><references/></noinclude> 10cldxxs2i8fsgusxrhl58od97k53i2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/111 104 84752 164579 2026-05-15T14:57:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164579 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>faeth i fy enaid drwyddo. Yn odfa y prydnawn ni phrofais ryddid i fy ysbryd yma, er bod harddwch allanol ar y gwaith. Daethum i Garnachwen i wrando Richard Jones a William Hughes. Profais yr athrawiaeth yma yn lles. Boreu dydd Llun daeth atom ni. ni. Profais yma les; er nid peth oedd yn cysuro cymaint. Diolch am bob goruchwyliaeth sydd yn tueddu i'n cael yn lân. Treuliais yr wythnos hon mewn chwilio rhai athrawiaethau. Aethum nos Sadwrn i Gastellblaidd. Diolch am hyny o help a gefais yma. Boreu Sabbath aethum i Woodstock. Bu yr Arglwydd yn dyner iawn wrthyf yma. Aethum oddiyma i Ffynongain. Yr oedd yn bur sych yma. Oddiyma i Forehill (?). Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Oddiyma boreu dydd Llun i Broadway, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Felinnewydd. Teimlais yma fwy o sychder. Oddiyno i Lysyfran. Profais yma gymaint o ddaioni yr Arglwydd ag mewn un man. "Boreu dydd Mawrth yr oedd Cwrdd Misol yn Woodstock. Cadwyd ''society'' ar faterion amgylchiadau allanol. Gweddiodd y brawd John William. Pregethodd Mr. Jones, John Rees, a'm brawd. Daethum i Garnachwen y noswaith hono. Gwrandewais Thos. Meredith: cawsom gyfeillach dra buddiol y noson hono. Boreu dranoeth daeth atom ninau; pregethodd yn flasus iawn. Yr oedd genym gwrdd gweddi a ''society.'' Cawsom help i ddyweyd y gwir yn ddidderbyn wyneb. Clod am hyn. Heddyw a dreuliais yn ddihamdden at bethau ysbrydol, gyda rhyw ffwdan daearol. "Yn awr yn dechreu y flwyddyn newydd (1807) yn llawn iawn o'r hen bethau. {{center block| <poem> 'Dysgwyl y dydd, a'r dydd heb ddod, I gael fy meiau dan fy nhro'd.' </poem> }} Henffych Borau {{***|5}} "Heddyw, Sadwrn, a dreuliais mewn gwrando gwr dyeithr ar ei dro. Fy nheimlad oedd sych a chaled iawn y ddwy odfa. Yr wyf heno ag achos dywedyd, 'Cuddiais dy wyneb, a bum helbulus;' a gallaf ddywedyd mai yr amser hwn mae fy mawr bla fel pe bai yn cynddeiriogi. Oh, am help i'w farweiddio trwy yr Ysbryd. Tranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu. Fy nheimlad oedd sych a thrymaidd iawn; teimlais lawer o galedwch ar ol hon. Aethum at odfa ar fy nhaith i'r Gymanfa i Aberteifi. Yma hefyd y bu yn gyffelyb<noinclude><references/></noinclude> qeqxl2ydvr7gztu6rz8tgkpb2muwhaz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/112 104 84753 164580 2026-05-15T14:58:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164580 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arnaf. Aethum at odfa y nos. Yma hefyd y bu yr un tywydd. Yn yr odfa hon cyfarfyddais a gwr dyeithr a welais o'r blaen. Dybenais fy Sabbath gyda mawr ofid. Dranoeth aethom at odfa un ar ddeg. Cefais fy anadl yn fwy. Clod i Dduw am hyn. Aethom yn ol i Lwyngwair. Treuliasom y prydnawn mewn peth difyrwch, a chanu gyda blas. Aethom yn nghyd at odfa y nos i Eglwyserw. Fy nheimladau oedd dipyn yn felusach na'r dydd o'r blaen. Dranoeth yr oedd dydd y Gymanfa. Aethom gyda'r brodyr i Sir Aberteifi. Awd i ''society'' y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn nghylch ''commisiwn'' i'r weinidogaeth. Traddodwyd gocheliadau rhag gau ddybenion. Dybenwyd cyfarfod y gweinidogion. Teimlais y pethau a ddywedwyd yn fendith i fy ysbryd. Cefais yma glwyf y boreu hwn na chefais ei fath erioed o'r blaen, wrth glywed am gwymp un o'r brodyr yn y weinidogaeth. Terfysgodd fy meddwl mor fawr, fel nas gwn pa fodd mae codi fy mhen. Am ddau yr oedd ''society'' i flaenoriaid yr eglwys, lle y triniwyd pethau dysgyblaethol yn unig gyda llawer o gydgordiad ac undeb brawdgarwch. Y prydnawn hwnw pregethodd tri. Fy nheimlad y prydnawn hwn oedd yn dra chanolig. Dranoeth y boreu y gweddiodd un, ac y pregethodd dau, dan raddau o arddeliad. Fy serchiadau yma oedd yn dra siriol. Awd i'r ''society'' am naw. Ymdriniwyd â phethau ysbrydol. Teimlais hyn yn dra buddiol i mi. Am 11, pregethodd Mr. James a Mr. Jones dan lawer o arddeliad. Profais y rhai hyn yn fendith i mi hefyd. Am 2, yr oedd dau eraill i bregethu: yr oedd fy nheimladau yn drymaidd iawn yma. Am 6, daeth odfaon eraill. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dybenwyd y Gymanfa dan rwymau i ddiolch i Dduw am ei diriondeb mawr. Boreu dydd Iau, cyfarfu profedigaeth â mi, ond ni pharhaodd awr o amser—colli fy ngheffyl; ond fe'm gwaredwyd yn dra buan. Clod i'r Gwaredwr mawr am ei diriondeb. Daethom yn gysurus i Gastell y blaidd; cadwyd ''society'' yno; cafwyd help mawr yno, a goleuni newydd ar rai pethau. Dybenwyd y cyfarfod yn dra chysurus. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn dra chysurus. Clod diddiwedd i Dduw am hyn i mi, yr annheilyngaf o bawb. Dydd Gwener a dreuliais mewn darllen. Dydd Sadwrn yn gyffelyb, ond gyda llawer o feddyliau gwamal. Nos Sadwrn aethum i wrando gwr dyeithr o'r Gogledd. Pregethodd yn oleu ac yn flasus iawn. Teimlais fy meddwl a'r gwir yn gafaelu yn eu gilydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 689umbw156ugz0s3e9hp4cja2rwy09t Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/114 104 84754 164582 2026-05-15T15:01:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164582 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude> Dybenwyd y Sabbath, a chenyf achos i fyned i'r llwch a dywedyd i Dduw wneyd yn dra rhagorol i mi, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Dechreuais wythnos arall gyda llawer o anhwyldeb corphorol, a llawer o ffwdan yn fy ngalwedigaeth, ac yn ddilewyrch iawn yn mhethau ysbrydol, oblegyd fy ngwendid a'm babandod, yn methu medru casglu fy meddwl at bethau ysbrydol gan rym pethau bydol. Dydd Mercher yr oedd genym gwrdd gweddi. Teimlais fy meddwl ynddo yn aros ychydig ar bethau ysbrydol, er yn gnawdol 1awn. Cadwyd ''society'': ymddyddanwyd ynddi am y gwahaniaeth rhwng ffydd a rhyfyg. Soniwyd fod gwahaniaeth rhyngddynt yn eu natur a'u heffeithiau. Am natur ffydd, soniwyd ei bod yn ddi-ildio am ei gwrthddrych, er bod yn grynedig fel y wraig a'r dyferlif, tra y mae rhyfyg yn cael digon cyn cael Crist. Effeithiau ffydd yw darostwng yr enaid i hunanymwadiad, pan y mae rhyfyg yn gadael yr enaid mewn meddwl chwyddedig. Dybenwyd trwy fawl a gweddi yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. Treuliais heddyw yn rhy segur fy meddwl, am hyny yn ddigynydd mewn gwybodaeth, ac yn ddielw erbyn yr hwyr, er och a galar i fy ysbryd. O am nerth i dreulio y rhan sydd yn ol o'm dyddiau yn nes at Dduw, ac yn fwy er ei glod. Dydd Gwener, ar ol llawer o ryw helynt fydol, aethum oddicartref prydnawn yn dra anhwylus gan ddolur yn fy ngwddf. Ar ol dyfod i'r lle, cwrddais ag ychydig o dreial i fy meddwl am i mi gamgymeryd yr amser. Fe'm nerthwyd i fyned trwy y gwaith, nid yn ddiofal am eneidiau y gwrandawyr, er nid mor llewyrchus ar fy meddwl ag y dymunaswn. Dranoeth aethum oddiyno, gan feddwl fod odfa am 10 yn Nefern. Cyfarfyddais yn Nhrefdraeth â John Young a John Thomas: cefais yma fy nghadarnhau fy mod wedi cam-gymeryd wythnos. Dychwelais yn fy ol i fyned tua Woodstock. Aethum y noswaith hono i Dreamlod. "Dranoeth, Sabbath, aethom i ddyledswydd deuluaidd. Profais y drws yn agored. Diolch byth am hyn. Aethum i Woodstock erbyn odfa deg. Teimlais yr Arglwydd yn dra thirion wrth fy ysbryd, ac yn Helpwr yn y gwaith. Clod iddo byth am hyn. Aethum erbyn odfa tri i Forehill. Cefais yma fy nerthu uwchlaw fy nysgwyliad. Codaf yma faen hefyd. Dychwelais i Dreamlod dan lawer o lesgedd anwyd. Profais yma fwy o lesgedd mewn corph ac ysbryd na'r odfaon eraill. Dybenais fy Sabbath mewn ychydig o lesgedd corph,<noinclude><references/></noinclude> p3jsqqgwd1qm683dv20e7i8s267zz4w Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/115 104 84755 164583 2026-05-15T15:04:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164583 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gofid am fy nghnawdolrwydd. Dydd Llun Pasg, aethum at odfa deg. Teimlais yma yn fwy sych a thrymaidd. Aethum at odfa tri. Teimlais fy meddwl dan fwy o lewyrch yma. Clod i Dduw am y tywyniad lleiaf. Daethum adref, a'r anwyd yn gwaethygu arnaf. Cefais y teulu yn iach, dan nodded Duw. Heddyw yr wyf yn profi angen rhodio yn nes at Dduw, fel y caffwyf ei feddwl, ac y dibrisiwyf y byd, ac y marweiddier fy llygredd. Treuliais yr wythnos hon dan lawer o anhwylder corph, a pheth trafferth fydol. {{***|5}} "Teimlais betrusder yn y dirgel ar fy meddwl. Goleuodd ychydig yn y ddyledswydd deuluaidd. Aethum at odfa naw i'r Castell blaidd. Profais lawer o drymder yn fy meddwl. Aethum oddiyno at odfa tri o'r gloch. Profais fy meddwl yn fwy siriol yma. Diolch am y llewyrch lleiaf. Aethum oddiyno ar feddwl dychwelyd adref. Fe'm hanogwyd gan y brodyr, a chytunasom fyned i Gastell y blaidd i ymddyddan am y pechod gwreiddiol. Y cwestiynau a ofynwyd yn nechreu y cyfarfod oedd—1. Pa beth oedd pechod gwreiddiol. Cytunwyd mai anufudd—dod i gyfamod Duw gan ddyn oedd. 2. Ei brofi o'r gair. Cytunwyd fod y weithred a wnawd gan y dyn yn cael ei nodi yn Gen. iii. 6; yr holiad a wnawd gan Dduw, Gen. iii. 11; y gosp a'r felldith a ganlynodd ar y dyn a'r holl greadigaeth, Gen. iii. 14, 15, 17. Yn 3. A oedd hwnw a wnelai â ni? Cytunwyd ei fod. Profwyd hyny trwy dri rheswm. Yn 1. Tystiolaeth amlwg y gair. Arglwyddiaeth angau dros holl ddynolryw. 3. Profiad y saint yn yr oesoedd. Pa fodd? Cytunwyd mai trwy gyfranogiad a chyfrifiad; a'r cyfranogiad hwnw wedi dod i ni oddiwrth Adda, fel pen y cyfamod, oedd yn cynnrychioli yr holl fyd: nid oddiwrth Adda fel yr oedd yn dad yr holl fyd, heb allu cenedlu ond peth brwnt, fel y mae yr holl fyd eto; ond yr oeddem ni yn Adda; cyfranogi oeddym o bechod Adda fel pen i'r cyfamod, ac nid fel yr oedd yn dad i ni; canys nid oeddym yn gyfranog o un o bechodau eraill Adda. Os yw yr enaid yn adgenedlig, pa fodd mae yr enaid yn aflan, ac na buasai ond y natur; canys â'r holl ddyn y gwnawd y cyfamod, ac a dynion ynddo—eneidiau a chyrph; ac anufudd—dod ar y cyfamod hwnw ddygodd Adda, gorph ac enaid, a'i had ynddo. Nid bwyta yr afal, ond trwy ei fwyta, ac wrth ei fwyta. Dyma y cyfranogiad. Cytunwyd, gan hyny, ei fod yn gyfiawnder yn Nuw, yn unol â'i gyfamod, i<noinclude><references/></noinclude> 8qd2q7k6tvce74dnqzohi27ttu0327i Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/116 104 84756 164584 2026-05-15T15:05:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164584 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfrif i ni y peth yr oeddem yn gyfranog o hono. Dybenwyd y cyfarfod trwy gyfaddef ein ffolineb a'n babandod yn mhethau mawrion yr Arglwydd. Yna aethom i orphwys. Boreu heddyw cefais ychydig dreial-cadwyd fy meddwl rhag iselu llawer. Collais fy ngheffyl. Nis gwyddwn nad oedd wedi ei yru; ond gwaredwyd fi yn dra buan. Cefais y ceffyl. Daethum adref yn gysurus. Cefais fy nhad, a'm mam, a'm chwaer yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. {{***|5}} "Heddyw yn dechreu fy nhaith tuag at y Gymanfa, a'r Arglwydd a'm nertho. Aethum at odfa y noswaith hono: teimlais yn bur gysurus. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Woodstock. Pregethais o flaen Mr. Jones. Fy nheimlad oedd yn dra thrymaidd, ond yn yr ordinhad teimlais beth gollyngdod. Aethum oddiyma i Sir Gaerfyrddin erbyn pedwar o'r gloch. Pregethais allan. Cefais anwyd mawr yn fy mhen. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Aethum at odfa deg i dŷ cwrdd yr Independiaid. Profais fy meddwl yn dra llon yma. Ymadewais, ac aethum at odfa deuddeg i Benyrallt. Cefais fy nerthu yma á help cyffredin, ac â'r harddwch allanol. Clod i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Lanfyrnach; fy nheimlad yma oedd yn dra thrymaidd. Ymadewais dranoeth i fyned i Lanwinio i angladd. Cefais rym a chymhorth lawer yma. Cefais fy ngalw gan frawd yn y weinidogaeth. Bu ein hymddyddan yn ddiglwyf. Aethom yn nghyfeillach amryw i Mydrim. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthym yma. Clod byth i Dduw am ei diriondeb i un mor wael. Dranoeth aethum gydag amryw o'r brodyr tuag at Gyfarfod Misol Sir Gaer. Pregethais ar y ffordd yn Gynwyl. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf yma. Aethum gydag amryw o'r gweinidogion i'r Cwrdd Misol i'r Forge. Yr oedd yn ''society'' am ddau. Dechreuwyd yr addoliad trwy fawl, darllen, a gweddio gan y brawd Dafydd Evan. Ymddyddanwyd yn nghylch y cyfeiliornadau oedd yn ymdaenu y dyddiau hyn. Penderfynwyd eu bod yn bethau i brofi y saint. Ar ol amryw ymddyddanion buddiol, awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd D. Bowen. Pregethodd y brodyr Thomas Edward o Forganwg, a D. Evan; a'r lle yn siriol. Dranoeth cyfarfuwyd am naw. Ymddyddanwyd am brofiad, a phethau ysbrydol eraill. Dechreuwyd yr odfaon cyhoeddus am un ar ddeg. Gweddiodd y brawd D. Rees. Pregethodd Mr. Lloyd a minau. Cawsom<noinclude><references/></noinclude> kee2r7xbjdnetloniyiktjr74563ekz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/117 104 84757 164585 2026-05-15T15:06:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164585 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>le i feddwl fod wyneb Duw arnom. Aethum oddiyno i Gaerfyrddin. Cefais gymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad; bydded yr holl glod i Dduw am ei diriondeb mawr i un mor wael. Lletyais heno yn nhŷ hen wr duwiol oedd yn flaenor ar y ''society''. Cefais adeiladaeth oddiwrth ei gyfeillach. Cychwynais dranoeth i'r Pantgwyn. Cefais bethau yn bur gyffredin. Aethum at odfa dau. Teimlais lawer o lesgedd yma oblegyd anhwyldeb. Cadwyd ychydig ''society''. Cefais ryddid, a'r maes yn oleu yma. Clod i'r Arglwydd am hyn. Aethum oddiyno i Lanfynydd, lle y profais yr Arglwydd yn dirion. O na bai genyf galon ddigon hunan-ymwadol i ddiolch a chanmol Duw. Dranoeth i'r Cross Inn. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma tu hwnt i fy nysgwyliad; ac oddiyno i dŷ anedd yn y gymydogaeth. Cefais rym i ddyweyd y gwir, a'r harddwch allanol ar y gwaith. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i le yn Sir Gaerfyrddin a elwir Cefnberach, lle y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Jones. Cefais fy meddwl yn bur siriol, a'r Arglwydd yn rhoi arwyddion o'i foddlonrwydd ar y gynulleidfa y tro hwn hefyd, yr hyn a barodd i fy meddwl synu wrth ddaioni Duw yn dylyn y fath greadur gwael. Aethum gyda'r brawd Thomas Jones i Landilo erbyn dau: bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ond nid oedd fy nheimlad mor ymgeleddgar. Aethum oddiyno yn nghyfeillach amryw o'r brodyr i Talyllychau erbyn 6, yn bur lluddedig o ran fy nghorph. Yma y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Edwards, brawd a chyfaill anwyl. Yr oedd hi yma arnaf yn dywyniadau rhwng cymylau, o ran fy mhrawf; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dda iawn i'r gynulleidfa. Oh na bai fy nghalon yn fwy yn y llwch na neb am ei fawr ddaioni ataf. Dranoeth am 8 dydd Llun cadwyd ''society''. Rhoddodd yr Arglwydd lawer o'i gymhorth a'i oleu. Ymadawsom yn dangnefeddus. Aethom erbyn 12 i Lansadwrn, Thomas Edwards a minau, ac eraill o'r cyfeillion. Teimlais fy meddwl yn well na llawer gwaith pan oedd yn well ar y bobl. Cadwyd ''society''. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym yma. Oddiyno erbyn 6 i Langadog, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn ein taith i'r Gymanfa. Gweddiodd y brawd Thomas Jones. Pregethodd y Parch. {{bar|2}} Davies o Gynwyl a minau. Profais help oddiwrth yr Arglwydd yma, yr hyn sydd yn peri i'm fawr ryfeddu eto. Lletyasom yn yr un lle ein tri, a phob peth yn dawel iawn. Dranoeth aethom i Landdeusant erbyn 10. Gweddiodd y<noinclude><references/></noinclude> juj0ugu9qt2sjr68edzsrrkb0ike5fs Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/119 104 84758 164587 2026-05-15T15:10:33Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Arglwydd ar fy ysbryd. Aethum oddiyno i Abergwaen. Cefais rym uwchlaw fy nysgwyliad. Daethum adref y Llun yn iach; a'r teulu oll felly hefyd. Clod i Dduw am hyn. Yr wythnos hon a dreuliais mewn llawer o ffwdan gan fy ngalwedigaeth, heb nemawr amser darllen nac ysgrifenu. Cadwyd cwrdd gweddi nos Fercher. Teimlais lawer o sychder yma. Mae hyn yn galw arnafi weddio a gwylio; yr Arglwydd a'm nertho. Yr wyf yn dybenu un wythnos yn rhagor... 164587 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arglwydd ar fy ysbryd. Aethum oddiyno i Abergwaen. Cefais rym uwchlaw fy nysgwyliad. Daethum adref y Llun yn iach; a'r teulu oll felly hefyd. Clod i Dduw am hyn. Yr wythnos hon a dreuliais mewn llawer o ffwdan gan fy ngalwedigaeth, heb nemawr amser darllen nac ysgrifenu. Cadwyd cwrdd gweddi nos Fercher. Teimlais lawer o sychder yma. Mae hyn yn galw arnafi weddio a gwylio; yr Arglwydd a'm nertho. Yr wyf yn dybenu un wythnos yn rhagor gan waeddi, Aflan, aflan. {{***|7}} "Heddyw yr wyf yn myned i daith dros yr Arglwydd mawr. Ei ofn, ei ogoniant, a'i gariad, yn nghyda'i wyneb grasol, fyddo fy rhan. Dechreuais fy nhaith brydnawn dydd Sadwrn, a'r hin yn annhymherus iawn. Aethum at odfa y noswaith hono. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Cefais achos i ddyweyd unwaith eto, Lle yr wyf wan, yna yr wyf gadarn, Dranoeth, y Sabbath, awd at y ddyledswydd deuluaidd. Cefais rwyddineb a goleu. Clod i Dduw am hyn. Aethum at odfa naw. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethum at odfa tri. Bu yma yn fwy tywyll arnaf o ran fy mhrawf. Daethum oddiyno i Eglwyserw; cefais rwyddineb gyda'r gwaith yma. Clod i Dduw am ymgeledd i greadur gwael. Heddyw eto yn mwynhau fy iechyd yn dra chysurus, ac yn gwynebu ar noswaith arall; a'r Duw sydd yn gofalu am y gweiniaid fyddo fy Mugail. Dydd Llun aethum i Rhydygele at odfa deuddeg; bu yr harddwch allanol ar y gwaith, ond nid oedd fy ysbryd mor iraidd. Aethum at odfa dau i Landudoch; yma hefyd bu yn lled debyg. Aethum oddiyno i Aberteifi; yma cyfarfyddais â brawd o'r Bala, John Peters, Teimlais fy ysbryd yma dan ddylanwadau i ryw raddau, a'r Arglwydd yn dangos ei diriondeb i'r gynulleidfa hefyd. Dydd Mawrth aethum i'r {{bar|2}} Cwrddais yma â'm cyfaill M. D. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith. Clod i Dduw am hyn. Aethom erbyn dau i Blaenanerch. Llewyrchodd yr yr Arglwydd mewn modd rhyfedd yma. Diolch am ei sylw drugarog o bechadur gwael ei lun. Aethum oddiyno i Benmorfa. Goleuodd yr Arglwydd arnaf yma hefyd. O, beth dalaf i'r Arglwydd am fy nylyn! Dranoeth aethum i'r Twrgwyn; cwrddais â'r brawd John Jones yno. Teimlais yn galetach yma. Aethum oddiyno erbyn dau i Bensarn. Profais yma yr un fath; ac oddiyno i Benywig. Ymwelodd yr Arglwydd drachefn yma.<noinclude><references/></noinclude> skiu2m4v6x73itnbdachaapr37tjo0o 164588 164587 2026-05-15T15:10:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164588 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arglwydd ar fy ysbryd. Aethum oddiyno i Abergwaen. Cefais rym uwchlaw fy nysgwyliad. Daethum adref y Llun yn iach; a'r teulu oll felly hefyd. Clod i Dduw am hyn. Yr wythnos hon a dreuliais mewn llawer o ffwdan gan fy ngalwedigaeth, heb nemawr amser darllen nac ysgrifenu. Cadwyd cwrdd gweddi nos Fercher. Teimlais lawer o sychder yma. Mae hyn yn galw arnafi weddio a gwylio; yr Arglwydd a'm nertho. Yr wyf yn dybenu un wythnos yn rhagor gan waeddi, Aflan, aflan. {{***|7}} "Heddyw yr wyf yn myned i daith dros yr Arglwydd mawr. Ei ofn, ei ogoniant, a'i gariad, yn nghyda'i wyneb grasol, fyddo fy rhan. Dechreuais fy nhaith brydnawn dydd Sadwrn, a'r hin yn annhymherus iawn. Aethum at odfa y noswaith hono. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Cefais achos i ddyweyd unwaith eto, Lle yr wyf wan, yna yr wyf gadarn, Dranoeth, y Sabbath, awd at y ddyledswydd deuluaidd. Cefais rwyddineb a goleu. Clod i Dduw am hyn. Aethum at odfa naw. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethum at odfa tri. Bu yma yn fwy tywyll arnaf o ran fy mhrawf. Daethum oddiyno i Eglwyserw; cefais rwyddineb gyda'r gwaith yma. Clod i Dduw am ymgeledd i greadur gwael. Heddyw eto yn mwynhau fy iechyd yn dra chysurus, ac yn gwynebu ar noswaith arall; a'r Duw sydd yn gofalu am y gweiniaid fyddo fy Mugail. Dydd Llun aethum i Rhydygele at odfa deuddeg; bu yr harddwch allanol ar y gwaith, ond nid oedd fy ysbryd mor iraidd. Aethum at odfa dau i Landudoch; yma hefyd bu yn lled debyg. Aethum oddiyno i Aberteifi; yma cyfarfyddais â brawd o'r Bala, John Peters, Teimlais fy ysbryd yma dan ddylanwadau i ryw raddau, a'r Arglwydd yn dangos ei diriondeb i'r gynulleidfa hefyd. Dydd Mawrth aethum i'r {{bar|2}} Cwrddais yma â'm cyfaill M. D. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith. Clod i Dduw am hyn. Aethom erbyn dau i Blaenanerch. Llewyrchodd yr yr Arglwydd mewn modd rhyfedd yma. Diolch am ei sylw drugarog o bechadur gwael ei lun. Aethum oddiyno i Benmorfa. Goleuodd yr Arglwydd arnaf yma hefyd. O, beth dalaf i'r Arglwydd am fy nylyn! Dranoeth aethum i'r Twrgwyn; cwrddais â'r brawd John Jones yno. Teimlais yn galetach yma. Aethum oddiyno erbyn dau i Bensarn. Profais yma yr un fath; ac oddiyno i Benywig. Ymwelodd yr Arglwydd drachefn yma.<noinclude><references/></noinclude> qagsu777uahglgs8813i5ny9inbsc4p Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/120 104 84759 164589 2026-05-15T15:12:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164589 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dydd Mercher aethom i Lanarth erbyn naw. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn yma yn wyneb teimladau isel, nid yn unig i'r bobl, ond i minau. Clod i Dduw am gael ymborth fy hun. Aethom erbyn dau i Ffosyffin. Yma teimlais yn dra chymylog. Yr oedd hyn hefyd yn lles i'm galw at Dduw. Aethum y noswaith hono i Benygareg. Torwyd yma dros ben ein hannheilyngdod yn dra neillduol. Dranoeth aethom i Landdewi erbyn naw. Gwelodd yr Arglwydd yn dda sirioli arnaf yma. Teimlais fy ysbryd yn wlithog. Codaf yma faen hefyd; galwaf ef Ebenezer. Aethum oddiyno i Lanon. Fy nheimladau oeddynt gelyd, a llawer iawn o lesgedd yn fy nghorph; bu hon yn lles i mi hefyd. Aethum oddiyno i {{bar|2}} nos Iau. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ac effeithiau lawer ar y bobl, ond fy mhrofiad fy hun oedd yn isel iawn. Daethum neithiwyr i dŷ ein brawd Nathaniel Williams. Cawsom bob caredigrwydd a chyfeillach fuddiol. Heddyw eto yn dechreu ar ein Sadwrn. Oh, am ei dreulio yn nghyfeillach Duw, fel y marweiddier fy llygredd, ac y bywheir fi yn ei waith. Aethom, mi a'm cyfaill, ac amryw eraill, i Lanrhystyd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol, tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethom oddiyno i Langwyryfon. Bu cymaint o'r arddeliad yma, fel prin y cefais bregethu. Dybenais fy wythnos, a'm meddwl yn dra siriol; ac och hefyd am fy nghnawdolrwydd gyda'r gwaith. "Aethum heddyw, y Sabbath, o ran fy meddwl yn dra chrynedig at y gwaith erbyn naw i Aberystwyth. Profais yr Arglwydd yma yn dra thirion. Aethum oddiyno i Rydyfelin. Aeth hon drosodd yn gyffredin iawn. Aethum erbyn odfa chwech i Lanfihangel, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Dybenais fy Sabbath yn dra chysurus o du Duw, ac yn dra gofidus o'm tu i. Dydd Llun aethum i Benllwyn. Gwelodd yr Arglwydd yn dda y boreu newydd hwn i sirioli arnaf. Aethum oddiyno i Cynon. Teimlais fwy o drymder yma; ond nid oedd y gwir yn ddiarwyddion effeithiau. Aethum oddiyno i Lanilar. Cefais gynorthwy a nerth yma, ond nid oedd mor neillduol ar fy meddwl. Dybenais fy niwrnod mewn tawelwch. Dranoeth aethum i Ledrod. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd tra thirion. Aethum oddiyno i Swyddffynon dan lawer o lwfrhad meddwl, eto gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim a feddyliais. Aethum y noswaith hono i Dregaron. Bum<noinclude><references/></noinclude> glfkx8ldyb82h1zsztb2r65bhtep9h8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/121 104 84760 164590 2026-05-15T15:14:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164590 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwy yn y cyffion yma, eto nid heb harddwch. Dydd Mercher aethom, mi a'm cyfaill, a'r brawd John Bevan, i Landdewi. Gwenodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol o ran fy ysbryd, ac ar y gynulleidfa. Diolch. Aethum oddiyno i Lwynypiod. Yr oeddwn yma yn fwy yn y carchar, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith. Aethum oddiyno i Lanpenal. Yno y cyfarfu pump o honom yn ddyeithr; dau o'r Gogledd, a thri o'r Deheubarth. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol. Diolch iddo yn ddiddiwedd. Aethum at odfa wyth dranoeth i Rydypandy. Cefais gymhorth yma. "Aethum i'r ''Association''. Dechreuwyd am ddeg. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol perthynol i'r gweinidogion. Dybenwyd gan y brawd Mr. Gray. Cyfarfyddwyd am ddau yn y ''society'', lle yr oedd y blaenoriaid oll, i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r amrywiol eglwysi. Daethum i'r odfaon cyhoeddus. Pregethodd y brodyr John Roberts a Thomas Jones, o'r Gogledd. Cafwyd lle i feddwl fod wyneb Duw ar y cyfarfod. Dranoeth am wyth, gweddiodd y brawd Ishmael Jones, pregethodd y brodyr Michael Roberts a John Jones, dau o'r Gogledd. Am ddeg, awd i'r ''society''. Trodd hon yn adeiladol iawn, canys pethau buddiol buwyd yn eu trin. Dybenwyd trwy weddi gan y brawd E. Morris. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd William Hafard; pregethodd y brodyr John Elias a Mr. Jones, Llangan, gyda llawer o foddlonrwydd Duw arnom. Awd at odfa dau, Gweddiodd y brawd Thomas Jones o'r Gogledd, pregethodd y brodyr John Ellis a Dafydd Parry. Dybenwyd yr ''Association'' yn dra chysurus. Aethum, mi a'm cyfaill, gyda John Elias a'i gyfaill, i'r Gelli. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Dranoeth i Lanbedr. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf. Yma hefyd y cwrddais a John Roberts. Oddiyma i Gapel Drindod. Cefais yr Arglwydd yn dirion yma. I'r Castell Newydd erbyn chwech. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof yma. Diolch byth am ei diriondeb i mi. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Blaenanerch i wrando John Elias. Cefais yma lawer o bleser a chysur. Dylynais ei wrando hyd oni ddaethum adref dydd Mawrth dan amrywiol dywydd. Clywais fy mod wedi fy ngwneyd yn filwr gan y llywodraeth cyn dod adref. Terfysgwyd fy meddwl yn dra mawr; ond erbyn dod adref, yr oedd Rhagluniaeth y nef wedi darpar. Oh, beth a dalaf i'r Arglwydd! Cadwyd ''society'' dydd Mawrth am ddau. Treuliwyd y cyfarfod yn nghylch dysgyblaeth<noinclude><references/></noinclude> k73ilqka42aunpvh1db9xtpbyevtq45 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/122 104 84761 164591 2026-05-15T15:15:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164591 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am ieuo yn annghymharus. Triniwyd hyn gan y brawd John Elias gyda deheurwydd ac mewn doethineb mawr. Pregethodd John Elias a'i gyfaill. Ymadawsom dan nawdd Duw. Diolch diddiwedd iddo. Dranoeth am naw cadwyd ''society'' i'r blaenoriaid. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol, ysbrydol ac adeiladol. Pregethodd yr un rhai dan arddeliad mawr. Treuliais brydnawn y dydd yn gwrando John a'i gyfaill. {{***|7}} "Nos Sadwrn dechreuais fy nhaith tua yr ''Association'', i Gaerfyrddin. Aethum y noswaith hono i Dreamlod: cefais diriondeb mawr yno yn y gwaith ar law yr Arglwydd. Dranoeth, y Sabbath, aethum i wrando Mr. Jones a Michael Roberts. Teimlais ireiddiwch yn fy meddwl yma, a pheth sobrwydd wrth ymdrin â'r ordinhadau. Aethum oddiyno i Gastell newydd bach. Fy nheimlad yma oedd yn sych a thrymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gastell Henry. Fy nheimlad oedd iraidd a blasus. Clod i Dduw am beidio fy Ilwyr adael. Aethum oddiyno i gysgu i Forehill. Cychwynasom yn foreu dranoeth at odfa deg, deuddeg milldir o ffordd. Cwrddais ag ychydig brofedigaeth ar y ffordd, yr hyn a derfysgodd fy meddwl yn dra mawr. Yn yr odfa nerthwyd fi i ddyweyd y gwir. Diolch am hyn hefyd, er nad oedd mor llewyrchus arnaf. Aethum oddiyno gyda'm cyfeillion i Bancyfelin. Erbyn myned oddiyno cefais ychydig o fy siomi. Dranoeth yr oedd dydd yr Association, a'r tywydd yn arw gan eira mawr. Aethum trwy y gerwindeb i Gaerfyrddin. Awd i ''society'' y gweinidogion, yr hon a dreuliwyd i drin mater brawd wedi troseddu, a'i roddi dan ddysgyblaeth. Cyfarfuwyd am un. Triniwyd pethau amgylchiadol i gyd, perthynol i'r Corph. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gosodwyd fi i ddechreu. Pregethodd y brawd John Thomas ac Ebenezer Morris; yr oedd y gwaith dan ei lewyrch. Dydd Mercher am 7, gweddiodd y brawd Richard James; pregethodd y brawd Dafydd Parry a minau. Teimlais fy hun yn derbyn cymhorth. ''society'' am un ar ddeg. Areithiodd Mr. Charles yn helaeth ac yn odidog dros ben am yr Ysgolion Sabbathol. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Rees, gyda diolchgarwch am ein bod yn clywed y pethau oeddym yn eu clywed. Am 11 pregethodd Mr. Jones a Mr. Charles yn dra odidog. "Aethum oddiyno i Landilo. Fy nheimlad yma oedd yn drymaidd ac yn isel. Dranoeth aethum i Langadog. Teimlais<noinclude><references/></noinclude> 48c7dpppvddl17dw62qp5mrpwhnc2yx Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/124 104 84762 164595 2026-05-15T15:31:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164595 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oddiyno i Aber{{bar|2}}, teimlais yn fwy caeth, eto nid yn ddiwlith. "Dydd Sadwrn aethom gyda brawd arall, Henry Jones, dros fynydd ac eira trwm i le a elwir Glyn. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gefncoedcymer. Teimlais hwylusdra yma. Aethum oddiyma i Merthyr y noswaith hono, a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac wrth y gynulleidfa. Pregethais yno eilwaith boreu Sabbath am naw, ar ol y ''society'' am saith. Cefais harddwch allanol ar y gwaith, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd i. Aethum oddiyno i Lanfabon. Teimlais fy meddwl yn siriol iawn yma. Aethum oddiyno i Caerphili. Ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol, yn fwy felly nag a welais yn fy nhro. Clod i Dduw am sylwi ar un mor wael. Dydd Llun aethum i Sir Fynwy i le a elwir Risca, a'm brawd caredig, Thos. Edward. Dydd Sadwrn, yn Risca, teimlais fwy o gaethiwed. Aethum oddiyno i'r Morfa du. Cefais gymhorth a phleser yma yn wyneb iselder meddwl. Dranoeth aethum i Gasnewydd. Bu yr harddwch yn allanol ar y gwaith. Oddiyno i'r Casbach. Cwrddais â phrofedigaeth yma trwy ddyoddef anhwylder wrth lefaru. Aethum yn mlaen yn y gwaith yn fuan wedi hyny. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Laneirwg. Llewyrchodd yr Arglwydd yn dra rhyfedd cyn i'r odfa fyned drosodd. Dydd Mercher dychwelais i Sir Forganwg, i Gaerdydd. Cefais bleser yma wrth drin y gwirionedd. "Aethum oddiyno gydag amryw o'r cyfeillion i Gwrdd Misol y sir i Trehil. Ymddyddanwyd yno amryw o bethau am gymdeithas â Duw. Pregethodd y brodyr Henry Jones a Richard James. Nid oedd ymweliadau neillduol yma. Dranoeth daethom yn nghyd am naw i'r ''society''. Treuliwyd hi i gyd yn nghylch tŷ ewrdd Bristol. Gosodwyd Dafydd Bowen a mi i bregethu. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyma i'r Eglwys newydd y noswaith hono, a'r Arglwydd a fu yn dda wrthyf. Dranoeth aethum i Bryntirion gyda'm cyfaill a'm hanwyl frawd, Thomas Edward. Teimlais yn drymaidd iawn yma. Aethum oddiyno i Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol. Daethum i St. Ffagan, lle yr wyf heddyw yn ysgrifenu fy nheimladau. Yma yr oedd yn sych. Cefais bleser mawr i son ac anog yr Ysgolion Sabbathol Cymreig, a'r Arglwydd yn dangos ei foddlonrwydd ar y gwaith. Oh, pa beth a dalaf<noinclude><references/></noinclude> ooomg51vn0xsnyaybgfe1xcvh6e68nt Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/125 104 84763 164596 2026-05-15T15:32:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164596 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r Arglwydd am ei holl ddoniau! O am nerth i rodio wrth ei draed. Aethum oddiyno i Dinaspowys; nerthwyd fi yma, a chefais le i feddwl fod yr Arglwydd yn bendithio y gwir, eto fy nheimladau oeddynt dywyll a sychlyd iawn. Oddiyno i Aberddawen. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i'r Brythyn, i gyfarfod ag Edward Coslett; yr oedd wedi dybenu pregethu cyn i mi ddod yno. Bu yma arnaf megys tywyniadau haul ar ddydd cymylog. Oddiyno i Salem. Teimlais fy ngwendid yma yn fawr iawn, eto nid yn ddibleser. Clod i Dduw am hyn hefyd. Oddiyno i Benybont. Gorfu arnaf lefaru yn y ffenestr. Tybiais y cawswn anwyd mawr, ond cadwyd fi yn dda. Dranoeth i Drelales. Pregethais allan yma, a'r Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Pil. Gwlithodd yr Arglwydd arnaf yma. Oddiyno i'r Dyffryn, dan lawer o lesgedd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma, ac ar yr holl gynulleidfa. Gwrandewais dri o blant yn dyweyd y 53ain o Esay yn dda ac yn gywir iawn. Dranoeth daethum i Langynwyd. Profais diriondeb yma eto, ond nid mor llewyrchus a llawer gwaith. Oddiyma i Benhydd. Fy nheimladau oedd isel, ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Oddiyno i Bontrhydyfen i dŷ y gweinidog a'r brawd Richard James. Rhoddodd yr Arglwydd ei nawdd yn helaeth ar y cyfarfod. Oddiyno i'r Ynysfach. Bu yma yn gyffredin iawn. Oddiyno i Cwmnedd. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof. Oddiyma i Ystradgynlais. Cefais gymhorth yma, ond nid mor heulog. Oddiyma i'r Creunant. Fy nheimlad yn dra thrymaidd. Oddiyma, mi a'm cyfaill, i Fonachlog. Siriolodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf yma. Clod diddarfod fyddo oddiwrthyf i'r Arglwydd. Oddiyno y noswaith hono i Lansamlet. Arddelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol yr odfa hon. Oddiyno i Abertawy erbyn deg. Cefais gymhorth a phleser yn y gwaith. Erbyn dau i Dreforis. Teimlais fwy o gaethiwed yma. Oddiyno i'r Goppa. Fy nheimladau yma oedd isel a thrymaidd ar y cyntaf; ond gwenodd yr Arglwydd mewn modd rhyfedd iawn arnaf. Codaf faen yma hefyd. "Dranoeth, y Sabbath, aethum i Lanelli. Bu yn galed iawn arnaf yma. Briwodd yr odfa hon fy meddwl a'm corph. Oddiyno i Gydweli. Cefais fy anadl yma. Moliant i'r Arglwydd am hyn. Oddiyma i Landefeilog. Tywalltodd yr Arglwydd<noinclude><references/></noinclude> ppn3vguylawt3b2d1n32s9sr4ghkcuk Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/126 104 84764 164597 2026-05-15T15:33:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164597 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arnom yma ddylanwadau helaeth o'i gariad. Dydd Llun ymadewais â'r cyfaill fu genyf trwy y daith. Oddiyno i Lanstephan. Gwrandewais Mr. Davies yn yr eglwys. Aethum inau at y gwaith am ddau. Fy nheimlad oedd yn drymaidd iawn. Cadwyd ''society''; ychydig, a'r hin yn oer, ac yn eira mawr. Oddiyno i Ben{{bar|2}}. Cefais gymhorth yma i lefaru. Yr oeddwn i fod yn Lacharn erbyn naw. Methais fyned nes oedd yn ddeg o herwydd yr hin. Pregethais am 3 ac am 6. Yr oedd yn drymaidd arnaf am 3; agorodd ychydig arnaf am 6. Oddiyno dydd Mercher i Forehill. Dranoeth pregethais yno am 9. Daethum adref y noswaith hono yn iach; cefais y teulu felly hefyd. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei annhraethol ddoniau i lwch y llawr. Bod yn wastad yn y llwch sydd yn gweddu, diolch yn ddibaid, ac ofni Duw a'i wasanaethu byth fyddo fy mraint. Dydd Gwener a dreuliais mewn gwrando: yn y boreu Dafydd Evans o Lanwinio; am 2, Lewis Morris a John Williams. Yn y boreu, teimlais fy meddwl a'r gwirionedd yn gafaelu â'u gilydd. Y prydnawn fy nheimlad oedd yn fwy trymaidd. Dydd Sadwrn a dreuliais gyda fy helyntoedd bydol, a'm meddwl yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd da a thirion. Maddeued i mi, a nesâed fi yn fwy ato ei hun, i aros yn ei gymdeithas. "Dydd Sabbath, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, aethum i'r Ysgol Gymraeg. Bu genym ysgol fawr. Adroddwyd dros bymtheg penod allan o'r llyfr, ac arwyddion cynydd ar y gwaith, tu hwnt i'm dysgwyliad. Pregethais am 3; wrth ddechreu, fy nheimlad oedd yn isel a thrymaidd iawn; ond cyn y diwedd llewyrchodd arnaf. Aethum oddicartref i Garnachwen; fy ngwendid oedd yma i'm teimlad yn fawr iawn, eto cefais gymhorth. Dybenais fy Sabbath yn dra thawel, a gradd mwy o sobrwydd na llawer gwaith. Clod i Dduw am y radd leiaf. "Yr wyf yn dechreu ar wythnos arall. O am nerth i'w threulio yn fwy mewn llafur ysbrydol. Yr wythnos ganlynol a dreuliais mewn astudio, rhan o honi, ac mewn helyntoedd bydol: ond yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd, ac amryw o deimladau gofidus o ran fy mhrawf mewn pethau ysbrydol; felly y treuliais fy wythnos. Dydd Sul, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, yr hon oedd yn fwy trymaidd na llawer gwaith, aethum i'r odfa, lle yr oedd Mr. Jones o Langan i bregethu yn fy nghartref. Pregethodd nes yr oeddwn yn teimlo budd, oddiwrth Ioan ii. 17, ac ar yr ordinhad teimlais fy<noinclude><references/></noinclude> 9klko3vdhpe7itoo03ug15ewdkftfh6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/127 104 84765 164598 2026-05-15T15:34:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164598 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl yn llawn gorfoledd yn wyneb y peth oedd yn ei ddyweyd. Cefais achos i fendithio Duw am ei diriondeb. Prydnawn aethum i'r ''Hall'' i bregethu pregeth angladdol i fab un a fu farw yn sydyn ar y maes. {{***|7}} "Heddyw yr wyf yn myned i daith. Dy wyneb, O fy Arglwydd, fyddo arnaf, er mwyn dy enw. Nos Sadwrn teimlais fy meddwl yn dra gofidus. Y Sabbath aethum at odfa naw. Fy nheimlad yma oedd yn dra chysurus. Ar ol dybenu y cwrdd, cefais brofedigaeth yn achos fy ngheffyl. Aethum, mi a'm cyfaill, erbyn dau i Landdowror. Cwrddais â threial yno: nid oedd yno gyhoeddiad, eto cawsom odfa. Aethom erbyn saith i Gaerfyrddin. Cefais bleser mawr yn y gwaith yma, wrth holi y plant, a gwrando penodau. Dranoeth codasom yn foreu iawn. Aethom i Abertawy—wyth milldir ar ugain o ffordd, a'r ceffyl yn anhwylus iawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyno i Lansamlet—Cefais gymhorth yma, a phleser mawr wrth holi y plant. Dranoeth i Gastellnedd. Teimlais gymhorth mawr yma. Oddiyno i'r Dyffryn. Erbyn myned yno yr oedd yr odfa wedi dybenu, a Mr. Charles wedi pregethu. Aethom yn nghyd, amryw o honom, i'r Pil. Cefais gymhorth a help yn y lle hwn. "Daethom dranoeth i Bontfaen i'r ''Association''. Am 10, cyfarfyddodd y gweinidogion. Ymddyddanwyd ag un oedd yn ymgynyg i'r weinidogaeth, ac amryw bethau eraill. Cwrdd am ddau i flaenoriaid. Ymddyddanwyd am bethau perthynol i'r Corph. Pregethodd John Rees a Mr. Lloyd am bedwar, a'r gwaith dan ei harddwch. Dranoeth Ishmael Jones a Dafydd Rees. Y ''society'' am naw a dreuliwyd yn dra buddiol. Am un ar ddeg pregethodd Mr. Charles ac Ebenezer Morris; a'r Arglwydd a'i wyneb ar y gwaith. Ar ol lluniaeth, pregethodd Thomas Jones a minau. Dybenwyd yr ''Association'' yn dra chysurus. "Oddiyno i Benybont. Cefais bleser mawr yma wrth holi y plant; a phregethu. Oddiyno i'r Dyffryn: yn fwy caeth. Oddiyno i Dreforis. Cefais help yma. Dranoeth i'r Goppa. Cefais gymhorth yn y lle hwn. Oddiyno i'r Bettws. Nerthwyd fi yno hefyd. Oddiyno i Lettygariad. Yr oeddwn wedi fy ngorchfygu yma gan lesgedd. Dranoeth, y Sabbath, i Landilo. Cefais bleser yn y gwaith yma. Oddiyno i Gynwyl. Teimlais yn fwy caeth gyda'r gwaith. Oddiyno i<noinclude><references/></noinclude> 29m0jncuoocuhkurwdvqsbwkr63uzgm Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/129 104 84766 164600 2026-05-15T15:42:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164600 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfarfod gyda phleser meddwl. At odfa yr hwyr. Holais y plant yno, a phregethais, nid yn ddiwlith. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Oh am nerth i rodio er clod y Duw hwn, sydd mor rhyfeddol o dda i un mor annghyffredinol o ddrwg. Nos Fercher, pregethais yn Carnachenwen. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Gwener aethum i'r Felindre. Profais gymhorth yno yn wyneb cynygiadau i ddigaloni. Oddiyno i Abergwaen i gadw ''society'' erbyn deg. Teimlais gymhorth rhwyddineb tu hwnt i'm dysgwyliad. Y noswaith hono aethum i Drellan. Cefais gymhorth yno. "Boreu dydd Sabbath aethum i gladdu brawd anwyl i mi. Aethom oddiyno at y gwaith, ond nid gyda chymaint o wlith. Am ddau ceisiwyd genyf i bregethu ar destun ar ddeisyfiad y marw. Cefais gymhorth i wneyd hyny, a'r Arglwydd yn gwenu. Holais y plant, a'r gwlith yn disgyn. Oddiyno i Drehowel. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dydd Llun aethum i'r Dinas. Cefais rwyddineb yma. Aethum oddiyno i Drefdraeth. Cefais gymhorth yma hefyd, yn neillduol gyda'r plant. Dranoeth i'r Eglwyserw. Cefais help yma hefyd. Oddiyno i Gilgeran, lle yr oedd Cwrdd Misol. Cafwyd cymhorth yn y ''prifat''. Cefais gymhorth yn y cyhoedd, a'r Arglwydd yn arddel; arosodd dros y cyfarfod oll. Cefais anwyd mawr. Dydd Iau, daethum i'r Nefern erbyn 12. Teimlais fy meddwl yma yn dra siriol. Oddiyma i Abergwaen. Cefais gymhorth ac arwyddion neillduol o foddlonrwydd. Daethum adref heddyw yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Sabbath, am ddeg, holais y plant, a phregethais. Profais yr Arglwydd yn dirion. Oddiyma i Gaerfarchell. Teimlais yma fwy o galedi. Oddiyma i Dyddewi. Teimlais yn fwy rhydd yma. Boreu dydd Llun teimlais fy afiechyd yn cynyddu. Adref nos Lun yn fawr fy mlinder. Nos Wener yn yr ysgol i holi y plant yn yr egwyddorion. Nos Sadwrn pregethais yn Carnachenwen. Teimlais rwyddineb a help yn y gwaith. Aethum y Sabbath i Gymanfa y plant i Abergwaen. Holwyd yno bedair ysgol gyda llawer o foddlonrwydd. Pregethwyd yn ganlynol. Y pwnc cyntaf oedd profi nodau y galon. 2. Dyfodiad Crist yn y cnawd. 3. Nodau rhagrithiwr. Cyfarfuwyd am ddau. Dechreuwyd trwy fawl, gweddi, a darllen. Holwyd tair ysgol. Y gyntaf, am nodau dyn annuwiol; yr ail, ar Dduwdod Crist; y drydedd, am ddyndod Crist. Pregethwyd. Cafwyd achos dywedyd<noinclude><references/></noinclude> 4ihktd1210fs6y5om9nztn5j8h0jjw8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/130 104 84767 164601 2026-05-15T15:43:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164601 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mai da oedd bod yma. Adref y noswaith hono. Y Sabbath diweddaf holais y plant gartref am waith yr Ysbryd Glân. Pregethais. Teimlais ddaioni Duw, a llid satan yr un pryd. {{***|7}} "Dydd Llun, aethum i'r Cwrdd Misol. Pregethais yn Drellan, nos Lun. Dydd Mawrth yn y Dinas am naw: prydnawn yn y Cwrdd Misol. Ar ol y gyfeillach gyffredinol gweddiodd D. Griffiths. Pregethodd E. Morris a minau. Dranoeth cyfarfuwyd am 9. Ymddyddanwyd amryw bethau perthynol i'r Corph, yna dechreuwyd yr odfa gan E. Richards. Pregethodd E. Morris a Mr. Jones, a'r gwaith dan ei goron. Am 6, holais y plant, a phregethais. Dranoeth i Eglwyserw, gyda Mr. Jones, i agor tŷ cwrdd. Daethum oddiyno i Abergwaen. Holais y plant, a phregethais mewn mawr gaethiwed o ran fy nghorph. Daethum adref heddyw dan rwymau i roddi diolch i Dduw am ei diriondeb ataf gyda'i waith, ac yn y teulu. Boreu Sabbath yn yr ysgol gartref. Y prydnawn i Rydygele; cefais gymhorth gyda'r gwaith yma. Oddiyno i Solfach. Cymhorth a help yma. Heddyw daethum adref yn dra chysurus, a'r teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei annhraethol ddaioni. "Dydd Mawrth aethum i'r ''Association'' i Abergwaen. Cyfarfu y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn dra buddiol. Cyfarfuwyd wedi hyny ychydig wedi un. Triniwyd pethau amgylchiadol, perthynol i'r Corph. Am dri gweddiodd David Evans. Pregethodd Thomas Jones a Mr. Jones. Dranoeth am saith gweddiodd D. Thomas. Pregethodd Watkin William ac Arthur Evans. Awd i'r ''society''. Cafwyd achos cwynfan oblegyd clwyfo y frawdoliaeth oddiar fethu cydweled. Am 11, gweddiodd B. Williams. Pregethodd John Thomas, Mr. Bennet, a D. Rees. Am 2, gweddiodd John Williams; a phregethodd E. Richards a Nathaniel Williams. Yn yr hwyr gweddiodd Nathaniel Williams, a phregethodd William Hafard, a holodd Ebenezer Richard y plant. Ymadawyd yn dra chysurus. Dydd Sul gwrandewais Mr. Jones. Oddiyno aethum i Gaerfarchell, ac oddiyno i Dyddewi. Holais y plant, a'r Arglwydd yn dirion iawn. Oddiyno i Solfach. Holais y plant, a'm meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Garnachenwen. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Yr wyf heddyw yn parotoi i fyned i Fryste. Ei wyneb grasol fyddo arnaf, bryfyn gwael, annheilwng." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2of0f3zl5ifs3apxfaeb9drupcomwzy Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/131 104 84768 164602 2026-05-15T15:43:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164602 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr ydym wedi gosod darn go fawr o'r dyddlyfr i mewn, fel y caffo y darllenydd fantais i weled pa mor fanol yr oedd Mr. R. yn sylwi ar, ac yn cofnodi y gwahanol dywydd yr elai drwyddynt yn nechreu ei fywyd cyhoeddus. Hwyrach y bydd rhai yn barnu ein bod wedi rhoi gormod o hono i mewn; ond nid oeddem yn gweled y gallasem wneyd tegwch ag ef na hwy, ond trwy ddyfynu yn helaeth o'r llyfr sydd yn cynwys helyntion amryw flynyddoedd. Beth yw y casgliad naturiol, debygwch chwi, y dylem wneyd ar ol darllen y tudalenau uchod? Yr ydych yn ei weled yn suddo i mewn megys i ffwrn boeth yn nechreu y llyfr, ac yn y diwedd yn dyfod allan nid fel Ephraim, yn debyg i "deisen heb ei throi," eithr yn fara iachus, cras, blasus, a bwytadwy. Yr ydych wedi ei weled yn nodi allan ei deimladau mewn cysylltiad â'r holl symudiadau, yn gwneyd sylw ar y gwres a'r oerfel mewn cysylltiad â phob cwrdd ac a phob pregeth; yn llawenhau pan y rhoddai Duw wedd ei wyneb; yn gofidio pan y cuddiai ei wyneb; yn ofni rhag nad ydyw yn gywir; yn llawenhau mewn gobaith ei fod yn gymeradwy brydiau eraill. Wel, a ydyw yn bosibl i chwi lai na meddwl fod dyn ieuanc fel hyn yn rhwym o fod yn dduwiol iawn? Onid yw yn rhesymol i ni gasglu ar unwaith ei fod dan law Duw, yn cael ei lunio yn was iddo? Pwy ddarfu gael eu harwain erioed ar hyd y llwybrau y noda y dyddlyfr hwn allan, ond y cyfryw ag oedd o dan driniaethau nid yn unig i fod yn gadwedig, ond hefyd i ddal gweinidogaeth amlwg er cadwedigaeth y byd? Nid oes yr un ganwyll a all oleuo, heb losgi o hyd. "Canwyll yn llosgi ac yn goleuo" ydoedd ef, a miloedd yn Nghymru yn "gorfoleddu yn ei oleuni." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled y ganwyll yn llosgi; edrychwch i gymdeithas, a chewch ei gweled yn goleuo, megys ar ganwyllbren, i bawb a'r sydd yn y tŷ. Yr oedd y gair yn llosgi ynddo, nes fflamio allan yn oleuni i bawb o gwmpas. Yr ydym yn edrych ar y dyddlyfr fel allwedd i agor y gwahanol gloion, nes dyfod i ddirgelion cymeriad Mr. Richard. Yr oedd yn fawr mewn cymdeithas am ei fod yn fawr gyda Duw; yr oedd yn wr cadarn nerthol, am ei fod mewn cymundeb â'r Hollalluog; yr oedd yn drugarog, ac yn medru cydymdeimlo â'r tlawd a'r gwan, o herwydd ei agosrwydd i'r "Duw trugarog a graslawn." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ow53sba2638larqktf34l3pctc7lg19 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/132 104 84769 164603 2026-05-15T15:44:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164603 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bydd y dynion ieuainc, wedi darllen y dyddlyfr, yn gweled fod y byd wedi treiglo gryn dipyn yn y blaen oddiar gychwyniad Mr. Richard hyd yn awr, er nad yw hyny ddim yn amser maith. Nid yw ond o haner cant i driugain mlynedd oddiar y dechreuodd bregethu hyd yn bresenol, ac eto yn hyny o amser mae y byd wedi newid amryw weithiau; a'r pregethwyr wedi newid fwy o weithiau na hyny, canys nid oes iddynt oes hir iawn, yn enwedig os byddant ryw werth; oblegyd, fel y gwyddoch, os bydd y ganwyll yn llosgi, y mae yn rhwym o gael ei difa yn bur fuan. Yr ydych wedi darllen yn y dyddlyfr enwau pregethwyr na welsoch erioed o honynt; ac yn wir, ychydig sydd yn fyw a'u gwelodd, er mor fyr yw yr amser. Yr ydych yn darllen am Gymanfaoedd, a phwy oedd yn pregethu ynddynt; ond pa le y maent heddyw, ïe, a tho ar ol to wedi hyny? Nid oes enw—yr un yr ydych chwi yn ei adwaen heddyw yn y dyddlyfr; nac oes un. Yr enwau bendigedig yr ydych yn eu darllen yno yw, Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelig (Howells, Longacre, wedi hyny); Ebenezer Morris; David Evans, Aberaeron; Jno. Evans, Llwynffortun; Arthur Evans; Charles o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin; Thomas Jones, Caerfyrddin; John Elias, Mon; Lloyd, Beaumaris; Wm. Lloyd, Henllan, a lluaws eraill rhy faith i'w henwi. Ond y cwestiwn yw, "Ү prophwydi, pa le y maent hwy? y tadau, a ydynt hwy fyw byth?" Ah! y maent yn ddystaw er ys llawer o flynyddau, yn gorphwys o dan rwymau angau, yn "dysgwyl adgyfodiad gwell." Y rhai hyn oeddynt ddefnyddiau teml gyntaf y Methodistiaid; y rhai nad yw y bobl ieuainc yn eu cofio, nac yn gwybod ond ychydig am danynt, a hyny trwy draddodiad. Y maent hwy yn hapus gyda'r ail deml, gan feddwl fod hon yn gymaint ei gogoniant a'r gyntaf, os nid mwy, yn gymaint ag na ddarfu iddynt weled gogoniant y gyntaf erioed. Eithr yr hen bobl anwyl, gweddillion angau dwy oes, y maent hwy yn wylo y dagrau wrth edrych ar salwch yr ail deml, yn gymaint a'u bod yn cofio y gyntaf. Yr oedd yn bryd i'r hen Christmas Evans farw gryn amser cyn iddo wneyd hyny, canys yr oedd Cymanfaoedd yn myned yn bethau diflas ganddo, yn gymaint a'i fod yn gydnabyddus å'r hen Gymanfaoedd er ys llawer dydd. Gwaeddai allan ryw dro wrth wrando pregethau, ac yn cofio yr hen bregethu Cymanfaol, "Hawyr, beth yw'r ''sparbles'' hyn? yn mha le y mae yr hen hoelion wyth?" Yr hen hoelion wyth sydd i'w<noinclude><references/></noinclude> i5cf4xe2j129gv4hsnv21yrkutc0h8l Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/134 104 84770 164605 2026-05-15T15:48:54Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "o herwydd yr oedd ei gyfleusderau i fyned yn y blaen gyda'r cyhoeddiad yn ymatal ar unwaith, canys yn y dyddiau hyny nid oedd dim gwell, na chystal, i fyned trwy y byd a cheffyl. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg, fel nad oedd yn bosibl eu teithio mewn cerbydau; a phe buasent yn weddol dda, nid oedd cerbydau i'w cael; yr oedd y trethi i'r llywodraeth mor fawr, fel nad oedd neb yn eu cadw ond dynion arianog iawn. Ceffyl oedd y peth goreu o lawe... 164605 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o herwydd yr oedd ei gyfleusderau i fyned yn y blaen gyda'r cyhoeddiad yn ymatal ar unwaith, canys yn y dyddiau hyny nid oedd dim gwell, na chystal, i fyned trwy y byd a cheffyl. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg, fel nad oedd yn bosibl eu teithio mewn cerbydau; a phe buasent yn weddol dda, nid oedd cerbydau i'w cael; yr oedd y trethi i'r llywodraeth mor fawr, fel nad oedd neb yn eu cadw ond dynion arianog iawn. Ceffyl oedd y peth goreu o lawer i deithio y byd y pryd hyny, ac ar geffylau y byddent yn teithio; o ganlyniad nid yw yn beth rhyfedd ei glywed ef yn cwyno, ac mewn profedigaeth chwerw, o herwydd anhwyldeb y ceffyl. Yr oedd pethau mawrion iawn wedi ymlapio mewn clefyd ceffyl pregethwr yn y dyddiau hyny. Yr oedd y pregethwr yn methu myned ar ei gefn; ac os na allasai fyned ar ei gefn, nis gallasai fyned o gwbl. Yn y fel hyn yr oedd atalfa ar y cyfan; y pregethwr yn cael ei atal, y bregeth yn cael ei hatal, a'r daioni yn cael ei atal oddiwrth y byd. Chwi welwch fod pethau mawrion yn y peth, er yr ymddengys wrth ei ddarllen yn beth lled ysgafn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl a cheffyl, fel sydd rhwng seren a seren; canys bydd ceffyl sydd yn cario pregethwyr yn fwy pwysig yn y glorian, ac yn fwy gwerthfawr yn y farchnad, na cheffyl melin neu fferm; gall y rhai hyny syrthio i'r dyffryn fel y bydd anifeiliaid eraill yn gyffredin, heb fod yn nemawr pwys ond i'w perchenogion; eithr am geffyl pregethwr, bydd ei salwch ef, chwaithach ei drengu, yn bwys i filoedd. Ac yn wir, y mae peth arall i'w ystyried yn y cwestiwn; canys ar ol i bregethwr golli ceffyl, bydd yn anhawdd iawn iddo gael un arall yn ei le. Yr oedd Mr. Richard yn hynod dyner o'i geffyl; yr unig fai oedd arno oedd ei fod yn ''rhy'' dyner o hono; yr oedd yn ''rhy'' drugarog wrth ei anifail; yr oedd yn ei ladd â thrugaredd. Dywedir am ambell fam yn lladd y plant wrth roi gormod o foethau iddynt; felly Mr. Richard yn lladd y ceffyl wrth fod yn rhy drugarog wrtho. Peth trwm iawn yw trugaredd; os eir i ddangos gormod o honi i gefn ceffyl y mae yn sicr o'i dori i lawr. Nid ydym yn cofio clywed iddo ef ladd ceffyl erioed wrth ei yru yn ormodol, ond clywsom ei fod wedi lladd rhai wrth wneyd i ddynion roi gormod o geirch iddynt. Dywedir fod gormod o fêl yn ddrwg, ac y mae yn debyg fod gormod o geirch felly; ond ni fynai efe gredu fod gormod i fod, os gallasai yr anifail ei fwyta. Yr oedd yn hyn fel y dyn ag oedd yn cymeryd moddion doctor, yn penderfynu<noinclude></noinclude> laveyj9mtpckio7dx1olzqra3vorjuc Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/135 104 84771 164606 2026-05-15T15:49:27Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "cymeryd y gostrelaid i gyd ar unwaith, a'r box pills hefyd, gan ddywedyd, "Os yw ychydig yn dda, y mae llawer yn dda;" ac i fyny a hwy ar hyny; eithr gwelwyd yn y canlyniad fod llawer yn sicr o fod yn ddrwg, pa un a oedd ychydig yn dda ai peidio, canys bu y dyn farw; a marw wnaeth ceffyl Mr. Richard hefyd wrth roi gormod o geirch iddo. Dywedir i efryddiaeth ei gymeryd yn ei draed; dringodd i'r corph, nes iddo drengu; a'r ddedryd ar y t... 164606 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymeryd y gostrelaid i gyd ar unwaith, a'r box pills hefyd, gan ddywedyd, "Os yw ychydig yn dda, y mae llawer yn dda;" ac i fyny a hwy ar hyny; eithr gwelwyd yn y canlyniad fod llawer yn sicr o fod yn ddrwg, pa un a oedd ychydig yn dda ai peidio, canys bu y dyn farw; a marw wnaeth ceffyl Mr. Richard hefyd wrth roi gormod o geirch iddo. Dywedir i efryddiaeth ei gymeryd yn ei draed; dringodd i'r corph, nes iddo drengu; a'r ddedryd ar y trengedig oedd, "Iddo farw o dan ddylanwad gormod o geirch." Nid oedd dim yn effeithio arno yn fwy na cholli y ceffyl; nid oedd yn bosibl cael ganddo wneyd dim yn y byd nes ei gael drachefn. Yr ydym yn cofio clywed iddo golli y ceffyl o'r cae yn Nghymanfa Cendl, Sir Fynwy; ond ni symudai mwy na mynydd nes ei gael. Byddai y bobl yn ceisio ei berswadio i fyned gyda hwy at y cyhoeddiad tra fyddai eraill yn chwilio am y ceffyl; ond ni symudai gam; a gofynai yn barhaus, "Yn mha le y mae y ceffyl? Dewch chwi a'r ceffyl i mi; paham na ffeindiwch chwi y ceffyl? Ar ol i chwi ddyfod a'r ceffyl, minau ddeuaf." Yr ydym yn cofio ei weled yn dyfod at gapel bychan; yr oedd ceffyl a cherbyd ganddo y pryd hwn, ac yn cael ei gyfarfod gan ddyn ag oedd yn edrych ar ol pethau, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Disgynwch, Mr. Richard." "Disgyn," ebe yntau, "yn mha le yr ydych yn rhoi y ceffyl a'r cerbyd?" "Yr wyf," ebe y dyn, yn rhoi y ceffyl yn yr ystabl yma; nid wyf yn gwybod yn iawn yn mha le y gosodir y cerbyd; ond yr wyf yn meddwl y ceir lle gan y ffermwr sydd yn byw yw yn y tŷ hwnt acw." "A ydych wedi bod yn gofyn? Cerddwch i ofyn yn awr, os na fuoch." "Wel mi af," meddai y dyn; "ond dewch chwi i lawr yn gyntaf; mi ofalaf fi am y cerbyd gystal a phe baech gydag ef eich hunan, syr." "Y chwi yn gofalu am fy mhethau i gystal a mi fy hun," meddai; "anwyd ddim o'r dyn hwnw eto; cerddwch a gofynwch i'r dyn am le i roi y gig i mewn." Eisteddodd heb symud dim, nes yr oedd pob peth yn barod i roi y gig a'r ceffyl mewn lleoedd priodol. Mae byd o synwyr hefyd yn y frawddeg, "Anwyd ddim o'r dyn hwnw eto;" sef y dyn fuasai yn gofalu am ei bethau ef gystal ag ef ei hun. Na, ac ni enir ef byth ychwaith; ac y mae y dynion sydd yn ymddiried gormod i eraill yn debyg iawn o syrthio i'w dwylaw, a chael eu trin yn annhrugarog ganddynt. Os na fydd dyn yn gofalu am dano ei hun, pwy arall a ofala drosto? Ac yn wir, pa ddyledswydd sydd ar ddyn i ofalu am<noinclude></noinclude> msnuep9fl0w0820pn68noa28hj93dpl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/136 104 84772 164607 2026-05-15T15:49:53Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "bethau dyn arall, yn fwy nag y mae y perchenog ei hun yn dewis gwneyd? Y mae y dyddlyfr yr ydym wedi ei roi ger eich bron yn cynwys ei flynyddoedd boreuol, cyn ei fod yn ddeg ar ugain oed. Wrth roi y rhan arall o hono, ni a welwn amgylchiadau pwysig iawn yn dyfod i'w gyfarfod, y rhai y tybiodd lawer gwaith, neu o leiaf yr ofnodd yn ddirfawr y buasai yn myned yn llongddrylliad am y ffydd a'r weinidogaeth. Gwelir ei fod yn teimlo yn ddi... 164607 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bethau dyn arall, yn fwy nag y mae y perchenog ei hun yn dewis gwneyd? Y mae y dyddlyfr yr ydym wedi ei roi ger eich bron yn cynwys ei flynyddoedd boreuol, cyn ei fod yn ddeg ar ugain oed. Wrth roi y rhan arall o hono, ni a welwn amgylchiadau pwysig iawn yn dyfod i'w gyfarfod, y rhai y tybiodd lawer gwaith, neu o leiaf yr ofnodd yn ddirfawr y buasai yn myned yn llongddrylliad am y ffydd a'r weinidogaeth. Gwelir ei fod yn teimlo yn ddirfawr ei fod megys yn y ffwrn dân; ond o drugaredd ni losgodd; yr oedd Mab y dyn gydag ef yn myned trwy ei brofedigaethau chwerwon, y rhai, yn lle ei ddifa a'i ladd, ni wnaethant ond ei buro a'i gadw yn fyw ynddynt. Duw a ddywedodd, "Ni'th roddaf i fyny;" ac y mae yn wastad at ei air i'r cyfryw sydd yn ymddiried yn yr hyn a ddywed. {{nop}}<noinclude></noinclude> ib7w5mp58inqy68cqfwszdjkkr9aoz2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/137 104 84773 164608 2026-05-15T15:50:09Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENOD IV.}}<br>Claddu ei dad—ei ordeiniad—claddu ei fam, a'i deimladau mewn cysylltiad â'r amgylchiadau hyn.}} PAN yr oeddech yn darllen y dyddlyfr, yr oeddech yn dylyn Tommy Richard yn ei gylchdeithiau a'i wibdeithiau; weithiau ar y Sabbathau yn Sir Benfro, weithiau yn holi ysgolion yma ac acw, weithiau mewn Cyfarfodydd Misol, weithiau ar deithiau i Gymanfaoedd, ac mewn Cymanfaoedd, weithiau yn mherfeddion Gogledd Cymru, we... 164608 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD IV.}}<br>Claddu ei dad—ei ordeiniad—claddu ei fam, a'i deimladau mewn cysylltiad â'r amgylchiadau hyn.}} PAN yr oeddech yn darllen y dyddlyfr, yr oeddech yn dylyn Tommy Richard yn ei gylchdeithiau a'i wibdeithiau; weithiau ar y Sabbathau yn Sir Benfro, weithiau yn holi ysgolion yma ac acw, weithiau mewn Cyfarfodydd Misol, weithiau ar deithiau i Gymanfaoedd, ac mewn Cymanfaoedd, weithiau yn mherfeddion Gogledd Cymru, weithiau yn Bristol, brydiau eraill yn Llundain, ac o hyd yn codi fwyfwy i ddylanwad a phoblogrwydd, nes ydoedd ei enw wedi dyfod yn air teuluaidd yn Nghymru. Pan oedd yn ddyn ieuanc, Tommy y byddent yn ei alw ef, canys felly y galwyd ef gan ei dad a'i fam; a phan cyhoeddid Tommy Richard i bregethu yn rhyw le, dyna ddigon am hyny; nid oedd dim gofal am wrandawyr, byddai mwy o wrandawyr nag oedd o le i'w cynwys yn gyffredin. Yr oedd llawer o bregethwyr duwiol a da yn dyfod o gwmpas y pryd hwnw, fel sydd yn awr, ond y mae gwaith cymhell dynion i ddyfod i'w gwrando; ïe, hyd yn oed aelodau crefyddol, yn enwedig os bydd yr odfa ganol dydd gwaith. Ond pan y byddai Tommy Richard i bregethu am ddeuddeg o'r gloch y dydd, nid oedd eisiau i neb eu cymhell i'r cwrdd; pwnc pawb oedd, gwneyd y goreu o'i draed, fel y gallai fyned i mewn a chael lle i sefyll. Pan y delai yr amser yn agos, byddai yr ardal lle y byddai yr odfa yn y cyffro mwyaf drwyddi; y ffermwr yn gollwng y ceffylau oddiwrth yr aradr; y saer yn taflu y fwyall naill ochr; y gof yn diffodd y tân; y crydd yn tynu yr arffedog ledr, a'i thaflu naill ochr, fel pe na buasai ei heisiau byth mwyach; y menywod yn troi pob peth heibio, gan addaw gwneyd y cwbl ar ol y cwrdd; ac yna gwelsech hwy o bob cyfeiriad yn ei dywadnu hi tua'r cyfarfod; ac ymddangosent fel pe buasent wedi annghofio pob peth ond myned i'r cwrdd. Wedi myned yno, pregethai iddynt fe allai am ddwy awr, a phan y dybenai, nid oeddent yn gallu credu eu bod wedi bod yno ond rhyw ddeng mynyd neu chwarter awr; a'r unig deimlad gofidus oedd ynddynt na fuasai yn pregethu trwy y dydd. Gan gymaint y blas, yn lle myned i orphen y gwaith gartref ar ol y cwrdd fel yr addawsent, y maent yn unfryd yn dechreu ymbarotoi i fyned ar ei ol ryw chwech neu saith milldir o ffordd lle y byddai<noinclude></noinclude> 952dohkxm4zd20husezhlnyj4jzxghf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/139 104 84774 164610 2026-05-15T15:55:34Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "fuchedd hon. Y mae yn debyg iddo fyw yn hen iawn, a phregethu dipyn bob Sabbath hyd yr anadliad olaf. Pregethodd y Sabbath diweddaf y bu fyw. Wrth ddyfod adref o'r daith Sabbath y bu farw trwy anaf. Er fod Henry Richard yn bregethwr bach, edrychai Tommy i fyny ato fel tad gyda'r parch mwyaf. Yr oedd yn caru ei rieni yn fawr, ac yn dymuno fod yn gysur iddynt yn mhob peth, yr hyn hefyd a fu tra y buont byw. Yn gymaint a'i fod ef ei hun y... 164610 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fuchedd hon. Y mae yn debyg iddo fyw yn hen iawn, a phregethu dipyn bob Sabbath hyd yr anadliad olaf. Pregethodd y Sabbath diweddaf y bu fyw. Wrth ddyfod adref o'r daith Sabbath y bu farw trwy anaf. Er fod Henry Richard yn bregethwr bach, edrychai Tommy i fyny ato fel tad gyda'r parch mwyaf. Yr oedd yn caru ei rieni yn fawr, ac yn dymuno fod yn gysur iddynt yn mhob peth, yr hyn hefyd a fu tra y buont byw. Yn gymaint a'i fod ef ei hun yn rhoi hanes amgylchiad marwolaeth ei dad yn ei ddyddlyfr, gosodwn hyny i lawr yn ei eiriau ei hun, canys gwyddom fod iddo roesaw i siarad. "Henry Richard a fu farw yn y flwyddyn 1813, nos Sabbath, Rhagfyr y 6fed, yn 83ain mlwydd oed, yn mhlwyf St. Lawrence. Achlysurwyd ei farwolaeth trwy dori ei glun, oblegyd i'r ceffyl syrthio dano ar ael bryn ar ddadlaethiad rhew ar foreu dydd Llun, ar ei daith adref o'i daith Sabbath y dydd o'r blaen." Pregethodd yn Woodstock am dri o'r gloch ar y gair hwnw yn Ioan i. 29: "Tranoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." A'r noson hono eilwaith yn y Blaengwern, ar y gair hwnw yn Heb. vii. 25: "Am hyny efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Dygwyd ef adref i'w dŷ ei hun y dydd Mawrth canlynol i'w farwolaeth, a chladdwyd ef dydd Iau yn mynwent Llanrian, i orphwys hyd ddydd ei adgyfodiad. Pregethwyd yn yr angladd gan Evan Harries. Rhag i neb gam-feddwl yn nghylch yr Evan Harries yma a bregethodd ar yr angladd, byddai yn burion i ni ddyweyd mai nid y Parch. Evan Harries, Merthyr, oedd hwn; ond hen bregethwr ag oedd yn Sir Benfro ar y pryd, sef tad y Parch. Thomas Harries, Sir Benfro, yr hwn sydd yn offeiriad parchus yn awr yn yr Eglwys Sefydledig. Wel, dyna yr hen Henry Richard duwiol wedi marw, ac wedi ei gladdu; ac y mae ei gnawd yn gorphwys mewn gobaith adgyfodiad gwell. "Beth eto?" Wel, ar ol darfod claddu, bydd y byd eto, chwi gewch weled, mor frysiog ag erioed; bydd un gyda'i faes, ac arall gyda'i fasnach yn bur fuan. "O bydd, digon tebyg; ond nid oes a fynom ni ryw lawer â helynt y byd hwn; helynt Tommy a'i fam sydd arnom ni eisiau wybod wedi claddu yr hen Henry Richard." Ië, dyna y pwnc yn awr. Yn y blynyddoedd rhwng claddu ei dad a'i fam, sef o'r<noinclude></noinclude> ckem7tgr90nhc35xhufse9xju5qzlnl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/140 104 84775 164611 2026-05-15T15:56:39Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "flwyddyn 1813 hyd 1818, yr ydym yn ei gael yn ymroi yn annghyffredin at astudio a phregethu, gan gan gario yr holl wlad o'i flaen, yn hytrach yn ei thynu ar ei ol. Yr oedd fel yn cael tir newydd yn barhaus, a'i boblogrwydd yn cynyddu, a'i enw yn ymledu trwy y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn ganlynol i farwolaeth ei dad, sef Awst 17, 1814, yn Nghymanfa Llangeitho yn Sir Aberteifi, pan ydoedd yn ddeg ar ugain mlwydd oed, yr ordeiniwyd ef i gy... 164611 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>flwyddyn 1813 hyd 1818, yr ydym yn ei gael yn ymroi yn annghyffredin at astudio a phregethu, gan gan gario yr holl wlad o'i flaen, yn hytrach yn ei thynu ar ei ol. Yr oedd fel yn cael tir newydd yn barhaus, a'i boblogrwydd yn cynyddu, a'i enw yn ymledu trwy y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn ganlynol i farwolaeth ei dad, sef Awst 17, 1814, yn Nghymanfa Llangeitho yn Sir Aberteifi, pan ydoedd yn ddeg ar ugain mlwydd oed, yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Y mae Bywgraffwyr Mr. Ebenezer Richard yn dyweyd mai yn y flwyddyn 1812 y claddwyd Henry Richard; os felly, yn mhen dwy flynedd y cymerodd ei ordeiniad le; ond nid oes genym ni ddim ond myned yn ol dyddlyfr Mr. Thomas Richard, yr hwn sydd o'n blaen. Y mae camsynied arall hefyd yn bod rhyngddynt; y mae y naill yn gosod y dyddiad Rhagfyr 6fed, a'r llall y 7fed. Nid yw y pwys yn nemawr oblegyd hyny, ond yn unig, fe allai, fod yn dda nodi yr annghysondeb, ac mai eu hannghysondeb hwy ydyw. Cymerodd ordeiniad Mr. Thomas Richard le yn mhen tair blynedd wedi yr ordeiniad cyntaf yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd; cymerodd hwnw le yn y flwyddyn 1811, yn Llandilo, Sir Gaerfyrddin, pryd, yn mhlith eraill, yr ordeiniwyd ei frawd, y Parch. E. Richard. Yn yr ordeiniad cyntaf hyn, un neillduwyd o Sir Benfro, sef Evan Harries, y pregethwr bregethodd yn angladd Henry Richard, fel y clywsom o'r blaen. Yr oedd Tommy yn ieuanc, y mae yn wir, yn amser yr ordeiniad hwn, —o gwmpas saith ar ugain oed, ac yn rhyw saith mlwydd o bregethwr; ond er y cwbl yr ydym yn synu yn ddirfawr wrth chwaeth yr hen bobl, yn gadael angel fel hyn heb ei neillduo; canys yr oedd yr amser hwn yn trydanu Cymru o benbwygilydd. Ond dyna fel y byddai yr hen bobl yn meddwl ar yr un pryd, coffa da am danynt; ac y mae yn anhawdd iawn i ni o'r man yr ydym yn sefyll yn bresenol i ddeall eu rhesymau yn berffaith. Dichon eu bod hwy yn rhy araf, a ninau yn rhy gyflym; a pheth anhawdd iawn felly yw cael dynion i gyfarfod â'u gilydd byth. Ordeiniwyd wed'yn yn Llandilofawr yn y flwyddyn 1813, ac ordeiniwyd un o Sir Benfro y tro hwn hefyd, sef John Evans; a'r unig reswm y gellir rhoi am hyn yw, fod John Evans yn henach na Tommy Richard. Nid ffolineb i gyd yw cadw oedran a phrofiad mewn golwg; ond yr oedd yr hen dadau ar rai prydiau yn gyru i eithafion, fel y byddys gyda'r rhan fwyaf o bethau<noinclude></noinclude> kk7sq5laa2kqyvgt9bluz7b2svjt9p2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/141 104 84776 164612 2026-05-15T15:57:31Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "eraill. Ond y flwyddyn ganlynol, yn Llangeithio, ni a welwn fod Tommy a Dafydd Griffith yn cael eu hordeinio o Sir Benfro—y ddau erbyn heddyw wedi eu rhifo yn mhlith y meirw. Fel y canlyn y mae efe ei hun yn rhoi hanes yr amgylchiad hwn: "Awst 17, 1814, yn ''Association'' Llangeithio, yn 30 mlwydd oed, cefais fy neillduo trwy alwad cyffredinol y Corph Methodistaidd yn Nghymru i weini yr ordinhadau. Dechreuwyd y gwaith gan y Parchedig... 164612 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eraill. Ond y flwyddyn ganlynol, yn Llangeithio, ni a welwn fod Tommy a Dafydd Griffith yn cael eu hordeinio o Sir Benfro—y ddau erbyn heddyw wedi eu rhifo yn mhlith y meirw. Fel y canlyn y mae efe ei hun yn rhoi hanes yr amgylchiad hwn: "Awst 17, 1814, yn ''Association'' Llangeithio, yn 30 mlwydd oed, cefais fy neillduo trwy alwad cyffredinol y Corph Methodistaidd yn Nghymru i weini yr ordinhadau. Dechreuwyd y gwaith gan y Parchedig Thomas Jones, Dinbych, trwy ddarllen 1 Tim. iii., a gweddiodd yn dra difrifol. Gofynodd y Parchedig Williams, Lledrod, y cwestiynau oedd yn cynwys pynciau ein ffydd; gweddiodd y Parchedig William Howells, Morganwg, ac arwyddion amlwg o foddlonrwydd Duw ar y gwaith. Galwyd arnaf i fedyddio baban ar fy ffordd adref, yn Pensarn yn Sir Aberteifi." Y Parchedig William Howells, Morganwg, oedd Mr. Howells, Llwynhelig, curad Jones, Llangan, yr hwn wedi hyny a symudodd i Lundain, ac a fu yn gweinidogaethu yn enwog a llwyddianus hyd ddydd ei farwolaeth yn Longacre. Yn y flwyddyn ar ol hon, sef 1815, yr ydym yn cael Mr. R. yn ehedeg fel angel cryf o sir i sir, o dref i dref, ac o Gymanfa i Gymanfa, yn ofnadwy yn ei weinidogaeth, ac yn cynyddu mewn poblogrwydd bob dydd. Yn y flwyddyn hono yr oedd Cymanfa yn Nghaerdydd, yn Morganwg; daeth yntau iddi; clywsom lawer o son am y Gymanfa hono, ac am ei bregethu yntau; y mae pobl yn fyw yn awr ag sydd yn cofio ei ddull, ei destun, rhanau o'r bregeth, a'r effeithiau anferthol oedd yn gydfynedol â'i weinidogaeth. Cyfeiria at y flwyddyn hon a'i ymweliad å Chaerdydd yn ei ddyddlyfr, ar ychydig eiriau: "Yn y flwyddyn 1815," meddai, "aethum i ''Association'' Caerdydd, yr hon a gynaliwyd Hydref 17 a 18. Pregethais ar fy nhaith tuag yno ac oddiyno ar y testunau canlynol: Heb. i. 3 a 11; Esay xxx. 8; Job xxxiii. 27, 28; Heb xii. 24, 25. Dychwelais trwy ranau o Frycheiniog ac Aberteifi. Daethum adref yn gysurus, a chefais y teulu yn iach. Moliant i Dduw am hyny." Yn nghanol ei lwyddiant mawr, a'i boblogrwydd anarferol, yr oedd o hyd fel plentyn gyda'i fam. Yr oedd yn colli y pregethwr mawr mor gynted ag yr elai at drothwy tŷ ei fam. "Mam fach," dywedai; "Tommy bach," dywedai hithau; a dyna'r ddau yn cofleidio eu gilydd, fel y bydd mam a phlentyn bach. Cartrefodd gyda'i fam anwyl a duwiol hyd nes i angau<noinclude></noinclude> 22nxdj64wteceog2vclzu7f4mucqugu Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/142 104 84777 164613 2026-05-15T15:57:49Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "eu gwahanu oddiwrth eu gilydd, a mawr mor anhawdd oedd gydag ef ymadael â hi yn y diwedd; teimlai y rhwymau a'r cylymau mor dỳn ag erioed ar ddydd yr ymddatodiad. Bu ei fam fyw ar ol ei dad o gwmpas chwech mlynedd, a chartrefodd Tommy gyda hi, gan ei chysuro yn mhob modd y gallai, a diamheu iddo fod yn gysur mawr iddi yn ei chystudd a'i helbulon. Er fod cymaint o alwad am dano yn mhob gwlad i bregethu, ni symudodd nemawr o gartref y fl... 164613 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu gwahanu oddiwrth eu gilydd, a mawr mor anhawdd oedd gydag ef ymadael â hi yn y diwedd; teimlai y rhwymau a'r cylymau mor dỳn ag erioed ar ddydd yr ymddatodiad. Bu ei fam fyw ar ol ei dad o gwmpas chwech mlynedd, a chartrefodd Tommy gyda hi, gan ei chysuro yn mhob modd y gallai, a diamheu iddo fod yn gysur mawr iddi yn ei chystudd a'i helbulon. Er fod cymaint o alwad am dano yn mhob gwlad i bregethu, ni symudodd nemawr o gartref y flwyddyn olaf o fywyd ei fam. Bu yn sâl iawn yn hir; a chymaint oedd ei gariad ati, a'i ofal a'i bryder am dani, fel nad aeth nemawr oddiwrthi yr holl amser hwnw. Gellid meddwl fod ei fam wedi teganu gryn lawer arno; pet ei fam ydoedd; ymddangosai mewn llawer o bethau bychain fel rhyw blentyn wedi cael ei anafu gan ei fam; eithr yn wahanol iawn i lawer o'r cyfryw, ymddygodd mab erioed yn fwy ufudd a chariadus iddi na Tommy. Yr oedd yn dyner ac yn anwyl gan ei fam, y mae yn wir; ac mor wired a hyny yr oedd hithau yr un mor dyner ac anwyl ganddo yntau. Beth bynag, wedi cystudd hir, yr ydym yn gweled fod ei fam anwyl yn marw yn y flwyddyn 1818, pedair blynedd ar ol ei ordeiniad. Nid ydym yn gweled dim yn well na'i adael ef ei hun i ddyweyd yr hanes; a'r galon hono na theimla nid yw ddynol, a'r llygaid na wyla ddeigryn, sydd naill ai wedi wylo y ffynonau yn sychion, neu ynte heb ddysgu wylo erioed. Fel hyn y mae yn dywedyd: "Y fl. 1818 y rhan fwyaf gartref, o achos y cystudd trwm a fu yn y teulu ar fy anwyl fam a'm chwaer. Fy chwaer a wellhaodd, a'm tirionaf fam a waethygodd hyd ddydd ei marwolaeth, yr hyn, er mawr alar i mi, a gymerodd le Awst 22, rhwng pump a chwech y prydnawn dydd Sadwrn, ac a gladdwyd prydnawn, rhwng 3 a 4, ar ol i Wm. Llewelyn bregethu wrth y tŷ oddiwrth Preg. vii. 1. Hannah Richard, dyma enw nis annghofiaf byth. Gallaf fentro ddyweyd, nid oddiar serch dynol a naturiol yn unig, bod ei choffadwriaeth yn werth ei hysgrifenu mewn llythyrenau o aur, mewn adamant â phin o haiarn ac â phlwm. Yr oedd o ran person yn hardd ei gwedd, o dymherau gwylus; a'r rhan ddiweddaf o'i hoes o ysbrydoedd naturiol isel. Yr oedd y fam dyneraf fagodd blant, ac yn yr agwedd dduwiolaf yn ei gofal drostynt; yn ei gweddiau taerion dibaid y tywalltai ei. henaid mewn dagrau nes cael ei hatal i dori geiriau ar eu rhan. Hyn oedd ei harfer bob amser. Nid wyf yn gwybod<noinclude></noinclude> hbnoy773v9pdirkytbp6epjnubwhd86 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/144 104 84778 164615 2026-05-15T16:02:19Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn ddyn fel ninau! "A ydwyf fi cyhyd o amser gyda thi, ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a'm a'm gwelodd i a welodd y Tad." Un diwrnod, yn ei heistedd yn y gwely, hi dorodd allan mewn llefain a dagrau, gan ddywedyd, 'Mae Crist yn werthfawr iawn. Oh, bendigedig a fyddo, pe bai yn fy mwrw ymaith byth!' Felly gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, wedi cael gwaethaf satan a'i bicellau, byd a'i gyfnewidiadau, y cnawd a'i wyniau, dynion a'u... 164615 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ddyn fel ninau! "A ydwyf fi cyhyd o amser gyda thi, ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a'm a'm gwelodd i a welodd y Tad." Un diwrnod, yn ei heistedd yn y gwely, hi dorodd allan mewn llefain a dagrau, gan ddywedyd, 'Mae Crist yn werthfawr iawn. Oh, bendigedig a fyddo, pe bai yn fy mwrw ymaith byth!' Felly gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, wedi cael gwaethaf satan a'i bicellau, byd a'i gyfnewidiadau, y cnawd a'i wyniau, dynion a'u siomedigaethau, brodyr gau a'u celwyddau, nes gostwng ei henaid ynddi. "Y saethyddion a fuont chwerw wrthi, er hyny arhodd ei bwa yn gryf trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob." Fe fullu yn ei gorfod hi yma; ond hithau a orfu o'r diwedd; ffydd yr hon anwyl, nertha fi, O Arglwydd, i'w dylyn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad." Wel, beth ydych yn ei feddwl yn awr am yr alarnad hon am ei fam? Y mae gweledigaeth go fawr yma, tebygem ni; trowch eto, ac edrychwch arni. Dacw Tommy Richard, yr hwn sydd yn ymddadblygu yn gyflym, debygol o ddyfod yn un o bregethwyr mwyaf Cymru, os nad ydyw heddyw, yn wylo fel plentyn uwchben mam anwyl wedi marw. Dacw y dyn y gallech feddwl, pan yn edrych arno yn y pwlpud, ei fod yn debyg i lew, na theimlai ddim pe bai y byd yn myned yn benben, yn wylo yn hidl uwchben corph marw ei fam. Dacw y pregethwr sydd fel angel Duw yn chwythu yn yr udgorn, nes y mae ei swn yn treiddio i ddyfnderoedd cymdeithas, yn gollwng dagrau, a bron tori ei galon uwchben mam ymadawedig. Y mae yno galon i deimlo; oes, oes, un lled dyner hefyd. Os oes yno wyneb llew ar brydiau, y mae calon dyn yn cyfaneddu o dano. Bydd rhai yn meddwl mai arwydd o blentynrwydd yw gweled dyn mawr yn wylo, nes bron llesmeirio uwchben hen wraig o fam; eithr yr ydym ni yn meddwl mai arwydd o ddiffyg mawredd ynddynt hwy yw barnu peth felly. Y mae gwir fawredd yn gallu codi i'r nefoedd, a chofleidio y ddaear hefyd. Y mae yr Iesu yn gallu wylo; a phwy wylodd mor effeithiol? a phe buasai ei fam farw o'i flaen, dygwydd na fuasem yn ei weled yn wylo uwch ei phen, gan gofio am ei holl garedigrwydd. Cofiai am ei thynerwch iddo yn y ffoedigaeth i'r Aipht, a'i arosiad yno; y dychweliad drachefn, a'r gofal a'r pryder pan y collwyd ef yn mhlith y doctoriaid, a llawer o bethau eraill. Ond efe fu farw gyntaf; eto wrth drengu cofiodd am dani; ac yr oedd teimlad plentyn heb farw yn<noinclude></noinclude> njxhnpfyzismbgl48oz0thl63jn2tpw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/145 104 84779 164616 2026-05-15T16:03:06Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "llwyr yn ei galon y pryd hwnw. Y mae rhyw beth mawr yn y rhan fwyaf o bob peth dynion mawr; oes yn wir, y mae fel pe bai rhyw beth mawr yn ffolineb dyn mawr, a phethau mawrion yn mhethau bychain dynion mawr. "Wel, wel, dyna athrawiaeth newydd!" Wel yn sicr i chwi y mae. Dacw Richard yn wylo uwchben corph marw ei fam anwyl; nid fel plentyn dwl y mae yn wylo; ymddengys peth mawr yn yr wylo yna. Y mae yn wylo, y mae yn wir, fel plentyn; a... 164616 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llwyr yn ei galon y pryd hwnw. Y mae rhyw beth mawr yn y rhan fwyaf o bob peth dynion mawr; oes yn wir, y mae fel pe bai rhyw beth mawr yn ffolineb dyn mawr, a phethau mawrion yn mhethau bychain dynion mawr. "Wel, wel, dyna athrawiaeth newydd!" Wel yn sicr i chwi y mae. Dacw Richard yn wylo uwchben corph marw ei fam anwyl; nid fel plentyn dwl y mae yn wylo; ymddengys peth mawr yn yr wylo yna. Y mae yn wylo, y mae yn wir, fel plentyn; ac y mae y plentyn yno hefyd; ond yn rhyw fodd nid plentynaidd yw y wylo; ac y mae y teimlad yn dyfod ag ymadroddion allan o'i enau, y rhai a leferir o ddyfnder y galon, haeddai eu hargraffu mewn aur, pe byddent yn rhyw beth gwell o hyny. Clywch arno yn dyweyd, "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth." Dyna eiriau o ddyfnder calon; dyna eiriau sydd yn awgrymu deng mil rhagor nag y gellir dweyd. Clywch fel y mae yn prisio ei gweddiau hi; syndod fod pregethwr mawr fel efe yn gosod cymaint o bwys ar weddiau hen wraig ei fam. Gellid meddwl fod y bachgen tair ar ddeg ar ugain, oedd wedi ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth, ac yn gwefru Cymru a'i athrylith, uwchlaw meddwl am weddiau ei fam. Wel, y mae yn naturiol ddigon i feddwl hyny, canys bydd llawer ynfytyn yn edrych i lawr ar beth felly fel sothach. Eithr nid felly y gwelir y dyn mawr hwn, Dychymygwn ein bod yn ei weled ef yn darparu i fyned at gyhoeddiad, wedi gwisgo ac wedi myned allan dros y trothwy, yn troi yn sydyn yn ol, ac yn estyn ei ben trwy y drws, ac yn dywedyd, "O mam, gweddiwch drosof." Beth ydyw ei hateb hithau? "Tommy, Tommy, nid ydych byth oddiar fy meddwl;" neu, "Yr wyf yn gwneyd hyny bob dydd." Ni a welwn fod y gwr ieuanc yn teimlo y gwaith yn drwm, a'r cyfrifoldeb yn ofnadwy, pan y mae yn troi at fam dyner i ofyn am help ei gweddiau. Nid ymgodi, ymfalchio ar ei lwyddiant a'i boblogrwydd, eithr yn ymostwng o dan deimlad o feichiau trymion, ac yn wylaidd, â dagrau ar ei ruddiau, yn dywedyd, "O mam, gweddiwch drosof." Y mae arwyddion cryf o synwyr a duwioldeb ynddi hithau hefyd, canys nid yw yn myned yn ynfyd wrth weled llwyddiant ei mab; ond yn ofni ac yn crynu rhag y profedigaethau yr oedd yn agored iddynt, a rhag iddo, yn nghanol poblogrwydd mor fawr, syrthio i brofedigaeth a magl fuasai yn effeithio yn ddrwg nid yn unig arno ef, ond hefyd ar grefydd Mab Duw yn y wlad. {{nop}}<noinclude></noinclude> fym2fch8i4u5prp12whnd0sooypcvla Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/146 104 84780 164617 2026-05-15T16:03:32Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Buasai llawer mam wedi myned yn benben, yn benwan, ac yn benysgafn, gan siarad ddydd a nos am ei phlant; eithr ni a welwn yr anwyl Hannah a'i gwefusau yn chwareu ger bron Duw drostynt beunydd, ac heb siarad â dynion nemawr o'u plegyd. "Tommy bach," meddai, "nid ydych un amser oddiar fy meddwl; yr wyf yn gweddio drosoch o hyd." Yr oedd Tommy yn teimlo hyder mawr yn ngweddiau ei fam; credai fod ganddi ddylanwad helaeth yn y nef, canys fe... 164617 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Buasai llawer mam wedi myned yn benben, yn benwan, ac yn benysgafn, gan siarad ddydd a nos am ei phlant; eithr ni a welwn yr anwyl Hannah a'i gwefusau yn chwareu ger bron Duw drostynt beunydd, ac heb siarad â dynion nemawr o'u plegyd. "Tommy bach," meddai, "nid ydych un amser oddiar fy meddwl; yr wyf yn gweddio drosoch o hyd." Yr oedd Tommy yn teimlo hyder mawr yn ngweddiau ei fam; credai fod ganddi ddylanwad helaeth yn y nef, canys fel y dywedodd, "Ni chymeraswn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Dyna ddywediad y mae yn anhawdd os nid yn anmhosibl dyweyd ei gynwysiad. "Ni chymerwn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Dyna ddyn ieuanc hynod, onide? ac y mae yn rhaid fod rhyw beth hynod yn nghrefydd y fam hon hefyd, cyn y gallasai roi y fath argraff ffafriol ar fab am ddaioni ei chrefydd, a phwys mawr ei gweddiau. Syndod! Yn wir, y mae y frawddeg yn peri i ni grynu. Beth! dyn ieuanc yr hwn oedd yn synu y wlad a'i ddoniau, ei athrylith, a'i dalentau, yn dyweyd fod gweddiau ei hen fam yn fwy yn ei olwg na chanoedd o bunau yn y flwyddyn, ac na chyfnewidiai y naill am y llall. Pe bai holl bregethwyr ieuainc y byd yn cychwyn gyda'r fath deimlad a hyn, byddai y weinidogaeth Gristionogol ar ben y mynyddoedd yn fuan, a llygaid pawb i fyny at y pregethwyr fel gweision y Duw Goruchaf. Gwelir llawer llanc, ysywaeth, a werthai weddiau yr holl eglwys Gristionogol am lai na phunt, chwaithach canoedd o bunau; ac am weddiau mam a thad, ni wnaent ond chwerthin am eu penau. "Beth! ac yn bregethwyr hefyd?" Ië, ac yn bregethwyr hefyd. Ychydig o ganoedd o bunau yn y flwyddyn fyddai yn llawn ddigon nid yn unig i werthu yr holl weddiau, eithr hefyd yr holl bregethau gyda hyny. Eithr edrychwch ar fachgen Hannah, y mae hwn yn "ddrych i'r byd, i ddynion, ac i angylion." Yr oedd yn teimlo cymaint o bwys y gwaith, ac yn teimlo hefyd ar brydiau gymaint o bleser ynddo, fel ag yr ydoedd yn dymuno help o bob man, yn enwedig am i'r anwyl Hannah i gadw ei gwefusau yn chwareu beunydd ger bron Duw drosto. "O nad ysgrifenid y geiriau hyn yn awr! nad argreffid hwynt yn y graig am byth." "Ni chymerwn ganoedd o bunau yn y flwyddyn am weddiau fy mam." Os yw hyn yn wir, fel yr ydym yn benderfynol ei fod, y mae yn rhaid fod llawer o wirioneddau pwysig yn gorwedd o dano. Yr oedd hyn yn arwyddo calon yn ei lle, yn credu yr efengyl,<noinclude></noinclude> 3u8fzn08iohc0re0en24a7myuwa5nmz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/147 104 84781 164618 2026-05-15T16:04:02Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn credu yn effeithioldeb gweddi, yn credu tystiolaethau ac addewidion dwyfol; ac oddiar y grediniaeth hono yn myned allan i berswadio pechaduriaid i edifarhau. Astudiwch y dyddlyfr yn dda, ac yr ydym yn meddwl y gwelwch ynddo resymau cedyrn am fywyd cyhoeddus Mr. Richard. Y mae rhyw beth prydferth annghyffredin yn ei wylo uwchben bedd ei fam. "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth," meddai. Yr oedd yn agos yn nerth ei ddydd y... 164618 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn credu yn effeithioldeb gweddi, yn credu tystiolaethau ac addewidion dwyfol; ac oddiar y grediniaeth hono yn myned allan i berswadio pechaduriaid i edifarhau. Astudiwch y dyddlyfr yn dda, ac yr ydym yn meddwl y gwelwch ynddo resymau cedyrn am fywyd cyhoeddus Mr. Richard. Y mae rhyw beth prydferth annghyffredin yn ei wylo uwchben bedd ei fam. "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth," meddai. Yr oedd yn agos yn nerth ei ddydd y pryd hyn, yn nghanol ei boblogrwydd annghyffredin; er hyn i gyd dacw ef yn wylo fel plentyn uwchben corph marw mam anwyl. Mor brydferth y gwelir natur a chrefydd yn ymblethu am eu gilydd, ac yn cofleidio eu gilydd, fel chwiorydd wedi ymgyfarfod ar ol ymadawiad hirfaith. O, fel y maent yn ymgofleidio ac ymgusanu; gadewch iddynt, ni wnant ddim niwed y naill i'r llall; ni ddinystriant eu gilydd, canys cariad ydyw. Nid yw crefydd yn dinystrio natur, na natur yn dinystrio crefydd; chwiorydd ydynt, sydd yn ymgofleidio, gan fwynhau eu gilydd yn yr Arglwydd. Chwi a welwch nad yw crefydd na gweinidogaeth Mr. Richard wedi dinystrio y plentyn; canys er fod y pregethwr mawr yn codi y byd ar ei ol, dacw fe hefyd yn tywallt dagrau yn hidl uwchben bedd ei fam. Gwella natur y mae crefydd, nid ei dinystrio. Gwneyd y tad a'r fam yn well rhieni, a'r bechgyn a'r merched yn well plant. Oddiwrth nodiadau Mr. Richard, bydd yn hawdd iawn i bawb weled hyn, canys y mae yr hen Henry Richard a Hannah, yn dad a mam rhagorol a duwiol; a'r plant hefyd yn troi allan yn grefyddol, fel yr oedd dedwyddwch ac hapusrwydd crefydd yn gwneyd i fyny am absenoldeb llawer o bethau eraill. Gwelsom yr hen bobl yn syrthio mewn "heddwch i'r bedd," wedi gweled plant eu plant, a thangnefedd ar Israel; gwelsom hefyd y plant yn wylo uwch eu penau, yn eu hebrwng i'r gladdfa gyda pharch, ac yn tywallt eu holew penaf ar y bedd. Wel dyna, y mae yr hen Henry Richard wedi pydru bellach, a dacw Hannah wedi ei roi i orwedd ar ei lwch; rhaid i Tommy fyw heb weddiau y naill a'r llall bellach. Rhaid i ni droi yn ol o'r fonwent, gan adael y meirw yn eu preswylfeydd dystaw hyd udganiad yr udgorn, i edrych pa beth a welwn yn mhlith y byw. Y mae y byd yn dechreu cyffro eto; dacw y dyn yn myned allan i'w waith fel o'r blaen, gan adael y marw ar ol, a dechreu gwregysu ei lwynau i redeg ei yrfa yn mhlith ei gyd—ddynion yn nhir y rhai byw. {{nop}}<noinclude></noinclude> fl6j2tf335bcig4j3iw3g4sjf9elnfv 164619 164618 2026-05-15T16:04:47Z AlwynapHuw 1710 164619 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn credu yn effeithioldeb gweddi, yn credu tystiolaethau ac addewidion dwyfol; ac oddiar y grediniaeth hono yn myned allan i berswadio pechaduriaid i edifarhau. Astudiwch y dyddlyfr yn dda, ac yr ydym yn meddwl y gwelwch ynddo resymau cedyrn am fywyd cyhoeddus Mr. Richard. Y mae rhyw beth prydferth annghyffredin yn ei wylo uwchben bedd ei fam. "Hannah Richard, dyma enw nad annghofiaf byth," meddai. Yr oedd yn agos yn nerth ei ddydd y pryd hyn, yn nghanol ei boblogrwydd annghyffredin; er hyn i gyd dacw ef yn wylo fel plentyn uwchben corph marw mam anwyl. Mor brydferth y gwelir natur a chrefydd yn ymblethu am eu gilydd, ac yn cofleidio eu gilydd, fel chwiorydd wedi ymgyfarfod ar ol ymadawiad hirfaith. O, fel y maent yn ymgofleidio ac ymgusanu; gadewch iddynt, ni wnant ddim niwed y naill i'r llall; ni ddinystriant eu gilydd, canys cariad ydyw. Nid yw crefydd yn dinystrio natur, na natur yn dinystrio crefydd; chwiorydd ydynt, sydd yn ymgofleidio, gan fwynhau eu gilydd yn yr Arglwydd. Chwi a welwch nad yw crefydd na gweinidogaeth Mr. Richard wedi dinystrio y plentyn; canys er fod y pregethwr mawr yn codi y byd ar ei ol, dacw fe hefyd yn tywallt dagrau yn hidl uwchben bedd ei fam. Gwella natur y mae crefydd, nid ei dinystrio. Gwneyd y tad a'r fam yn well rhieni, a'r bechgyn a'r merched yn well plant. Oddiwrth nodiadau Mr. Richard, bydd yn hawdd iawn i bawb weled hyn, canys y mae yr hen Henry Richard a Hannah, yn dad a mam rhagorol a duwiol; a'r plant hefyd yn troi allan yn grefyddol, fel yr oedd dedwyddwch ac hapusrwydd crefydd yn gwneyd i fyny am absenoldeb llawer o bethau eraill. Gwelsom yr hen bobl yn syrthio mewn "heddwch i'r bedd," wedi gweled plant eu plant, a thangnefedd ar Israel; gwelsom hefyd y plant yn wylo uwch eu penau, yn eu hebrwng i'r gladdfa gyda pharch, ac yn tywallt eu holew penaf ar y bedd. Wel dyna, y mae yr hen Henry Richard wedi pydru bellach, a dacw Hannah wedi ei roi i orwedd ar ei lwch; rhaid i Tommy fyw heb weddiau y naill a'r llall bellach. Rhaid i ni droi yn ol o'r fonwent, gan adael y meirw yn eu preswylfeydd dystaw hyd udganiad yr udgorn, i edrych pa beth a welwn yn mhlith y byw. Y mae y byd yn dechreu cyffro eto; dacw y dyn yn myned allan i'w waith fel o'r blaen, gan adael y marw ar ol, a dechreu gwregysu ei lwynau i redeg ei yrfa yn mhlith ei gyd-ddynion yn nhir y rhai byw. {{nop}}<noinclude></noinclude> 1f5e70qnpxu34m4k6wbo9sfa0e51kw3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/149 104 84782 164621 2026-05-15T16:11:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164621 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heddyw; nid ydyw fel llawer gwaith, mewn amrafael â'r gwynt ystormus a'r dymhestl, ac o herwydd hyny yn curo yn erbyn y creigydd fel pe bai am ddial ei lid ar y rhai hyny. Na; y mae y gwynt fel baban mewn cawell yn cysgu; ond yn anadlu yn dyner, yn ddystaw, ac yn ddiorchest; yr hen weilgi yntau sydd yn rhedeg yn ol ac yn y blaen trwy У creigiau; nid yn eu curo yn ddigofus, eithr fel mam anwyl yn cusanu y plant, ac yn eu trafod yn chwareugar. O dan dywyniad haul, ymddengys brig y don fel arian byw; yn ymgodi yn brydferth tua'r nef, ac fel pe dywedai yn ei iaith, "Llefara, Arglwydd; y mae dy was yn clywed." Wel, y mae Mr. Richard yn sefyll ar hen dwyn Trefin, yn nghanol golygfeydd bywyd, iechyd, a phrydferthwch; ac nid fel y ddoe, yn sefyll uwchben bedd tywyll, pruddglwyfus, a llygredig. Yn gymaint a'n bod yn nghanol bywyd, rhaid i ni feddwl am fyw yn gystal a meddwl am farw, canys fel y dywed Solomon, "Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd. Amser i eni, ac amser i farw; amser i blanu, ac amser i dynu y peth a blanwyd; amser i ladd, ac amser i achub; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu ceryg ymaith, ac amser i gasglu ceryg yn nghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; amser i rwygo, ac amser i wnio; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; amser i garu, ac amser i gasâu; amser i ryfel, ac amser i heddwch." Chwi welwch fod llawer o bethau wedi cael eu henwi gan y gwr doeth, a'r pethau hyny nad ydynt yn cael eu henwi, cynwysir hwynt oll yn yr ymadrodd, "Y mae amser at bob peth." Yr ydym yn synu peth na fuasai sai y gwr doeth, wedi dywedyd fod amser i garu, yn dywedyd hefyd y mae amser i briodi; ond nid ydyw yn yngan un gair am hyny. Peth digon rhyfedd yw hyn hefyd; ond dyna fel y mae hi yn bod. Digon tebyg fod hyny fel pethau eraill, yn cael eu cynwys yn gryno yn yr ymadrodd arweiniol. Wel, yn gymaint a bod "amser i bob peth," prydferthwch annghyffredin sydd yn ymddangos mewn gwneyd pob peth yn ei amser. Gair yn ei amser sydd yn dda dros ben; ïe, a phob peth yn ei amser. Pan y bydd y ffrwyth yn rhy anaddfed, y maent yn leision, yn surion, ac yn anfwytadwy; a phan yr elont dros ben bod yn addfed eilwaith, y maent yn rhy wydn, fel na fydd yn bosibl eu cnoi<noinclude><references/></noinclude> 0e32ghlxhiw1aw3e0xn0i4fm3leytve Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/150 104 84783 164622 2026-05-15T16:13:21Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a'u treulio. Fel hyn rhyw dymhor byr yw yr amser rhwng ''cyn'' neu ''wedi'' yr amser. Yn gymaint a bod pethau yn sefyll felly, rhaid arfer cryn lawer o reswm, a bod yn gryn lygeidiog, onide bydd perygl o golli wrth fod yn rhy wyllt, a myned i wneyd rhyw beth cyn yr amser, neu ynte bod yn rhy ddof, a'i adael hyd nes ar ol yr amser, ac felly yn syrthio i brofedigaeth a magl ar bob llaw. Bydd cryn ddyryswch ar ddynion yn aml yn nghylch am... 164622 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'u treulio. Fel hyn rhyw dymhor byr yw yr amser rhwng ''cyn'' neu ''wedi'' yr amser. Yn gymaint a bod pethau yn sefyll felly, rhaid arfer cryn lawer o reswm, a bod yn gryn lygeidiog, onide bydd perygl o golli wrth fod yn rhy wyllt, a myned i wneyd rhyw beth cyn yr amser, neu ynte bod yn rhy ddof, a'i adael hyd nes ar ol yr amser, ac felly yn syrthio i brofedigaeth a magl ar bob llaw. Bydd cryn ddyryswch ar ddynion yn aml yn nghylch amser i briodi, canys, ysywaeth, byddant yn myned i briodi ''bob'' amser. Fe allai mai dyna y rheswm na ddywedodd y gwr doeth fod ''amser'' i briodi, yn gymaint a'i fod yn gweled dynion yn priodi bob amser, heb reol yn y byd. Gellir dyweyd rhyw beth am amser hau, ac am amser medi; eithr am amser priodi, bydd peth fel hyny yn myned y tu hwnt i ddirnadaeth y cryfaf eu galluoedd; ac yn wir, a dyweyd y cwbl, bydd dynion call yn aml yn myned yn ffolach na ffyliaid yn y mater hwn,—fel pe tarewid hwynt ag ynfydrwydd, fel y maent yn rhedeg yma acw yn erbyn y mur hyn, ac am draws y llall, nes yr arweinir hwynt at yr allor, ac wedi hyny byddant yn debyg i Nebuchodonosor, yn dychwelyd yn sydyn i'w synwyrau, ar ol i ryw saith amser o annghydwybodolrwydd fyned dros eu penau. Wrth edrych ar yr hanes sydd o'n blaen, yr ydym yn gweled fod Mr. Richard, yn nghanol yr holl olygfeydd bywydol ag oedd yn ymsymud o'i flaen, yn dechreu meddwl am "forwyn." Yr oedd hyn yn beth purion ddigon, canys yr oedd yn amser; nid cyn nac wedi yr amser; ond yr amser. Yn hyn o beth fe ddarfu iddo "wybod yr amser." Yr ydoedd yn ddyn yn awr mewn llawn addfedrwydd, ac heb fod yn rhy addfed. Wedi claddu ei fam, ymddengys fel aderyn wedi colli ei nyth, yn ehedeg yma a thraw, yn trydan ar hyd y llwyni, yn methu penderfynu yn mha le i osod nyth i lawr eilwaith. Fe allai fod Mr. Richard wedi meddwl am y forwyn cyn hyn, eithr nid gyda'r un angerddoldeb ag yn awr. Yr oedd yn awr yn meddwl yn ddifrifol, yn sobr; ac yn meddwl am wneyd cartref, a sefydlu yn y byd, ys dywed y dynion; meddwl cymeryd gwraig, a byw yn gomfforddus, deallwch. Wel, y mae yn ddigon tebyg, wrth gymeryd gwraig, y bydd y rhan fwyaf yn rhyw dybio bywyd comfforddus, er fod hyny weithiau, fel y rhan fwyaf o bethau daearol eraill, yn troi yn chwithig. Y mae pwnc go bwysig arall hefyd yn dyfod yn naturiol o dan sylw yn y cysylltiadau presenol; sef, ar ol meddwl yn nghylch cymeryd gwraig,<noinclude></noinclude> i940iox1q4rhiwtje7i0acfrbg71b3r Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/151 104 84784 164623 2026-05-15T16:13:47Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "canlyniad naturiol ydyw yr ymholiad, yn mha le y ceir hi? Ië, yn wir hefyd; ymwthia y pwne yna o angenrheidrwydd i'n hystyriaeth; oblegyd fel y dywed y ddiareb, "Rhaid cael dau i briodi." Canfyddwn wrth y dyddlyfr fod Mr. Richard yn gwneyd nodiad byr o'i briodas, ond nid ydyw yn ein hysbysu yn nghylch y foneddiges, pwy ydoedd, na dim arall. Ar ol i ni osod y peth y dywed ef ei hun ar y mater hwn ger bron ein darllenwyr, bydd yn rhaid... 164623 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>canlyniad naturiol ydyw yr ymholiad, yn mha le y ceir hi? Ië, yn wir hefyd; ymwthia y pwne yna o angenrheidrwydd i'n hystyriaeth; oblegyd fel y dywed y ddiareb, "Rhaid cael dau i briodi." Canfyddwn wrth y dyddlyfr fod Mr. Richard yn gwneyd nodiad byr o'i briodas, ond nid ydyw yn ein hysbysu yn nghylch y foneddiges, pwy ydoedd, na dim arall. Ar ol i ni osod y peth y dywed ef ei hun ar y mater hwn ger bron ein darllenwyr, bydd yn rhaid i ni ei adael ef am dipyn, i gasglu ychwaneg o wybodaeth ar y cwestiwn hwn nag y mae efe yn roi. Lled gwta ydyw ar bwne y priodi yma; pa un a ydyw hyny yn fwriadol ai yn anfwriadol nis gwyddom; ond beth bynag, angenrhaid yw i ni wybod ychwaneg ryw gymaint yn nghylch y mater hwn. Cyn myned yn mhellach, beth bynag, gosodwn ei eiriau ei hun ar y mater hwn hefyd: "Yn mis Ebrill, y dydd diweddaf o'r mis, 1819, y'm priodwyd yn eglwys fy mhlwyf, Llanrian. Gallaf fentro dyweyd, yn y naill amgylchiad ar llall, (sef claddu ei fam a phriodi) na fu fy enaid yn ddigymdeithas a Duw. Ni threuliais erioed y fath amser ar fy ysbryd, gan ddyddanwch yr ysgrythyrau, ag amser cystudd a marwolaeth fy mam. Ni byddwn un amser mewn gwasgfa, na byddai rhyw ran o'r ysgrythyr yn cael ei chymhwyso at fy meddwl er ymwared. Yr oedd fy hiraeth a'm gofid yn achos fy anwylaf fam bron a dryllio fy nghnawd; ond yr Arglwydd o'i drugaredd a'i hynawsedd anfeidrol fyddai i mi yn gymhorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Pan fyfyriwn ar angau, mynych y cefais bleser yn y gair hwn, 'Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth.' Siriolodd fy enaid wrth gofio y gonewest fawr hon. A phan feddyliwn am yr adgyfodiad, byddai y gair hwnw o ddefnydd i mi, 'Fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.' Fel hyn yr ategai fy Arglwydd daionus fy meddwl gorthrymedig dan yr amgylchiadau cyfyng oedd arnaf o herwydd cystudd fy anwyl fam yn y flwyddyn 1818. Ac yn yr amgylchiad arall o newid fy sefyllfa, yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf, cefais gynaliaeth aml yn addewidion Duw, nes bod yn ddyddanus yn eu canol. Oh, pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni tuag ataf, abwydyn gwael." Byr ydyw yr hanes a roddir ganddo ef yn nghylch y priodi, chwi welwch; ar yr un pryd y mae rhyw beth gryn arwyddocaol yn y frawddeg, "yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf." Gellid meddwl fod llong Mr. Richard<noinclude></noinclude> 5mbz6b3u7dt3890wusilmlfvgdu6bp3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/152 104 84785 164624 2026-05-15T16:14:19Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "wedi cyfarfod â chroes-wyntoedd enbyd, ac â thywydd creulon ar y fordaith briodasol; "ond o drugaredd," fel y dywed, cafodd daflu angor i addewidion Duw. Fe allai y byddai yn dda i ni edrych ychydig i'r amgylchiadau hyn, fel y gallom yn y diwedd roi rhyw gyfrif am yr hynt fordwyol, a chyrhaeddiad y porthladd dymunol. Mewn dyffryn ag sydd yn rhedeg i fyny o fôr-gilfach Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr o flaen peisiau co... 164624 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi cyfarfod â chroes-wyntoedd enbyd, ac â thywydd creulon ar y fordaith briodasol; "ond o drugaredd," fel y dywed, cafodd daflu angor i addewidion Duw. Fe allai y byddai yn dda i ni edrych ychydig i'r amgylchiadau hyn, fel y gallom yn y diwedd roi rhyw gyfrif am yr hynt fordwyol, a chyrhaeddiad y porthladd dymunol. Mewn dyffryn ag sydd yn rhedeg i fyny o fôr-gilfach Wdig, lle y rhoddodd y Ffrancod eu harfau i lawr o flaen peisiau cochion Sir Benfro, yr oedd palasdy bychan gyfrifus ei ymddangosiad, a elwid Maenorowen. Y mae y palasdy yno eto, ond ei fod wedi myned o dan gryn gyfnewidiad os nid wedi ei wneyd oll o'r newydd. Yn y palasdy hwn trigai boneddiges o'r enw Mrs. Parry, a nith fechan gyda hi, yr hon a elwid Miss Bridget Gwyn. Yr oedd Miss Gwyn megys merch iddi; ac yr oeddynt ill dwy yn ymgysuro yn fawr yn nghwmpeini eu gilydd. Llawer diwrnod hapus aeth dros eu penau, ac yn nheimlad y foment addunedasant fyw a marw yn nghyd, heb ymwahanu, yn mhalas tlws a dystaw Maenorowen. Ond fel y gwelir yn aml, y mae cyfnewidiadau mewn amgylchiadau yn peri cyfnewidiadau yn y teimladau hefyd. Y mae yn anhawdd iawn i ddynion ddyweyd mewn amgylchiadau presenol pa beth a wnaent o dan amgylchiadau gwahanol. Mor rhyfedd y bydd y naill beth yn darpar ar gyfer y llall, ac yn rhedeg i'w gilydd! Pan oedd y teimladau hyn, a'r addunedu i weddwdod yn Maenorowen ar lan môr St. Sior, yr oedd mewn pentref gwledig yn Sir Forganwg, a elwir Llangrallo, yn agos i Langan, foneddiges yn sâl iawn, ar drancedigaeth. Bu farw o'r clefyd hwn, a chladdwyd hi yn mynwent Salem, capel y Methodistiaid Calfinaidd, yn yr un plwyf. Y foneddiges hon oedd Mrs. Jones, Llangan. Wedi claddu Mrs. Jones, y mae cyfnod newydd yn dechreu yn mywyd yr efengylydd, ac y mae yntau, cyn hir iawn, yn dechreu ymdeimlo ag unigolrwydd. Yr oedd y plant wedi ei adael, a ffurfio cartrefleoedd iddynt eu hunain, a dyma y wraig eto yn cael ei chipio o'i fynwes, a'i gosod mewn bedd dystaw. Y mae yr hen efengylydd yn ymysgwyd, yn edrych yma ac acw am noddfa i guddio ei ben; ond wedi edrych ar y tu deheu ac ar y tu aswy, a dal sylw, y mae nodded fel yn pallu; y mae yn teimlo ei hun fel aderyn y tô; neu fel rhyw hen long wedi ei gadael gan y môr ar y traeth, i suddo yn y llaid, a'i chwilfriwio gan dywydd garw. Yn wyneb fod unigolrwydd bron yn dyfod yn glefyd<noinclude></noinclude> qy5uk4q39pzmcn2nr8iaukb7xoloy0w Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/154 104 84786 164626 2026-05-15T16:20:37Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "farwolaeth y gwr, y wraig, y tad tyner, y wraig rinweddol, y plentyn hoff, a'r gweinidog ffyddlon, sydd yn peri nad ydych yn ymdeimlo â dim ond â byd marwol. Yr haul sydd o dan gwmwl du, y gwynt yn chwythu yn drymaidd yn awr ac eilwaith, yn fwy tebyg i ruddfanau nag anadliadau; ac weithiau fel yn dystewi yn brudd, megys pe byddai yn anadlu y diweddaf yn mrigau y coedydd. Y mae yn drymaidd iawn! Yr ywen fawr acw sydd yn gwasanaethu i wn... 164626 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>farwolaeth y gwr, y wraig, y tad tyner, y wraig rinweddol, y plentyn hoff, a'r gweinidog ffyddlon, sydd yn peri nad ydych yn ymdeimlo â dim ond â byd marwol. Yr haul sydd o dan gwmwl du, y gwynt yn chwythu yn drymaidd yn awr ac eilwaith, yn fwy tebyg i ruddfanau nag anadliadau; ac weithiau fel yn dystewi yn brudd, megys pe byddai yn anadlu y diweddaf yn mrigau y coedydd. Y mae yn drymaidd iawn! Yr ywen fawr acw sydd yn gwasanaethu i wneyd y trwm yn drymach, a'r du yn dduach; canys nid yw yn awgrymu dim ond angau, nid ydyw yn ymddangos yn gartrefol ond yn mhlith y meirw; a phan ydym yn sefyll o dani, y mae ei chysgod fel cysgod angau. "Pa le y mae bedd Mr. Jones, dyna y pwnc, onide?" Wel ïe; at hyny yr ydym yn ceisio cyfeirio ein camrau, y mae yn wir. Yr ydym wedi synu hefyd, nid yn unig iddo gael ei gladdu yn Maenorowen—na fuasai wedi ei ddwyn i Salem, Sir Forganwg—ond iddo gael ei gladdu o dan y gyfargod. O dan y tô, braidd y tu cefn i'r eglwysdy, y mae bedd yr efengylydd, yn un o'r lleoedd mwyaf gwael ac anmharchus o fewn y fonwent. Pell ydym oddiwrth feddwl fod yr un bwriad yn hyn; ond felly y mae wedi dygwydd; ac erbyn heddyw, y mae yr ymddangosiad yn rhyfedd i bawb sydd yn gydnabyddus â hanes Mr. Jones, Llangan. Uwchben ei lwch y mae careg lwydaidd, yn cynwys arni ychydig o lythyrenau yn dyweyd ei enw, a pha bryd y bu farw. Yn gymaint a bod y defni yn syrthio yn barhaus arni, braidd y mae y geiriau yn ddarllenadwy; a sicr ydyw, cyn nemawr o flynyddoedd bellach, na fydd dim i ddyweyd pa le y gorwedd llwch efengylydd Llangan! Gwarthus! gwarthus! A oes dim posibl cynhyrfu meddyliau y wlad, i godi colofn o ryw natur yn monwent Salem, lle y gorwedd gweddillion ei wraig gyntaf, i goffadwriaeth yr anfarwol Jones, Llangan? Salem ydyw y capel a adeiladodd efe, lle y byddai y tyrfaoedd yn dyfod i addoli mewn cysylltiad â Llangan, lle y byddai y miloedd yn gorfoleddu o dan ei weinidogaeth, y rhai sydd yn awr o ran eu heneidiau yn cydwledda gydag ef yn y nefoedd, ac o ran eu cyrph lawer o honynt yn gorwedd yn hen fonwent Salem. Heddwch, heddwch i'w llwch! Maddeued y darllenydd i ni am fyned ryw gymaint o gwmpas i wneyd y fath awgrymiad, ond ein teimladau cynes at yr hen dadau sydd wedi huno, y rhai "trwy ffydd ac amynedd a etifeddasant yr addewidion, a'n harweiniodd felly. {{nop}}<noinclude></noinclude> pjwmm9px6oebvgp7j6tsuag22qh16zv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/155 104 84787 164627 2026-05-15T16:21:27Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Wedi claddu Mr. Jones, yn mhen rhyw gymaint o flynyddoedd, o gwmpas wyth fe allai, y bu farw Hannah Richard, mam Mr. R.; a'r man y trodd yntau am gysur, fel y diweddar Barch. D. Jones, Llangan, oedd Maenorowen. Daeth y lle hwn yn rhyw fodd i fod yn ddinas noddfa i'r gorthrymedig, ac yn gysur cryf i'r rhai oedd ar ddarfod am danynt. Mor rhyfedd yw trefn Rhagluniaeth! fel y mae yn trefnu y naill beth ar gyfer y llall! Mor anhawdd yw dywe... 164627 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi claddu Mr. Jones, yn mhen rhyw gymaint o flynyddoedd, o gwmpas wyth fe allai, y bu farw Hannah Richard, mam Mr. R.; a'r man y trodd yntau am gysur, fel y diweddar Barch. D. Jones, Llangan, oedd Maenorowen. Daeth y lle hwn yn rhyw fodd i fod yn ddinas noddfa i'r gorthrymedig, ac yn gysur cryf i'r rhai oedd ar ddarfod am danynt. Mor rhyfedd yw trefn Rhagluniaeth! fel y mae yn trefnu y naill beth ar gyfer y llall! Mor anhawdd yw dyweyd beth sydd yn dda a pheth sydd yn ddrwg yn y byd hwn! Yr oedd y ferch fechan, Miss Gwyn, ag oedd yn byw gyda Mrs. Jones, Llangan, neu Mrs. Jones, Maenorowen, yn hytrach, erbyn hyn wedi tyfu yn foneddiges ieuanc, at yr hon y trodd llygaid Tommy fel yr unig un allasai lanw le ei fam dyner, a pheri i'w galon orphwys, a chael seibiant drachefn. Yr oedd y Miss Gwyn hon yn ferch i frawd Mrs. Jones, sef Mr. Gwyn, Kilkifeth, wedi hyny Cwrt Llanllawer, lle y cyfanedda brawd iddi yn awr, yr hwn sydd yn foneddwr parchus, ac yn feddianydd y palas a'r tiroedd cylchynol; wrth yr hyn y gwelwch fod Miss Gwyn yn foneddiges ieuanc o deulu lled urddasol. Yr oedd Mr. Richard, fel y gwelsom, o deulu cyfrifol hefyd, ond nid i'r un graddau o ran sefyllfa fydol a theulu y Gwyniaid. Fe ddichon i lawer o'i brofedigaethau mewn cysylltiad â'i briodi gyfodi oddiwrth yr ystyriaethau hyn. Yr oedd Mrs. Jones, a'r Gwyniaid oll, yn eithaf croes iddo gael Miss Gwyn; ond yn rhyw fodd yr oeddynt wedi myned i garu eu gilydd, fel nad oedd dim ond angau a allasai eu gwahanu; ac yn wir, angau yn unig a ddarfu eu gwahanu yn y diwedd. Bu y perthynasau yn eithaf diwyd yn taflu dwfr ar y cariad hwn; ond er pob ymdrech yn y byd, methwyd a'i foddi; er ei wasgu o dan yr elfen wlybaidd, nes y meddyliwyd llawer gwaith ei fod wedi trengu, gwelid ef eilwaith, o anfodd pawb, yn codi ei ben uwchlaw y don, gan waeddi "Wele fi." Yn wyneb hyn, nid oedd dim i wneyd ond ceisio credu y Bibl ar y pwnc hwn hefyd, yr hwn sydd yn dywedyd, "Dyfroedd lawer nis gallant ddiffoddi cariad." Byddai Mrs. Jones yn dyweyd wrth y foneddiges ieuanc yn aml, "Biddy, beth wyddoch chwi yn nghylch rhaffo defaid? Os priodwch chwi Tommy Richard, rhaffo defaid fydd eich gwaith wed'yn; ac nid ydych chwi wedi cael eich codi at waith felly." "Y mae yn beth cyffredin yn Sir Benfro i gylymu y defaid wrth eu gilydd â rhaffau gwellt, i'w cadw ar y tir pori; ac yr oedd Mrs. Jones yn dyweyd wrth Miss<noinclude></noinclude> 9eutkimp961khs1io76lstmg8fp51tm Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/156 104 84788 164628 2026-05-15T16:22:17Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Gwyn mai gwraig fferm y buasai, ac y byddai yn rhaid iddi fyned i raffo defaid, wedi ei chodi yn yr ysgolion goreu; ac y byddai hyny yn ddarostyngiad mawr iddi. Ond y mae yn debyg nid gwaeth beth a ddywedid, "priodi a fynent." Yr oedd Mrs. Jones, a'r Gwyniaid oll, yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ferch ieuanc, serch hyny, gan benderfynu ei rhwystro i fyned yn wraig i Tommy Richard, os oedd modd yn y byd. Yr oeddynt yn golygu na ddylas... 164628 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwyn mai gwraig fferm y buasai, ac y byddai yn rhaid iddi fyned i raffo defaid, wedi ei chodi yn yr ysgolion goreu; ac y byddai hyny yn ddarostyngiad mawr iddi. Ond y mae yn debyg nid gwaeth beth a ddywedid, "priodi a fynent." Yr oedd Mrs. Jones, a'r Gwyniaid oll, yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ferch ieuanc, serch hyny, gan benderfynu ei rhwystro i fyned yn wraig i Tommy Richard, os oedd modd yn y byd. Yr oeddynt yn golygu na ddylasai neb gael Miss Gwyn heb gariad ac arian; heb arian, bid a fyno. Nid oedd Tommy yn gyfartal mewn arian, y mae yn debyg; eithr am gariad yr oedd yno gyflawnder, yr hwn oedd yn angerddol ac anniffoddadwy. Yr oedd yno ddigon o gariad i'w gwisgo mewn tlysau o'r pen i'r traed, pe buasai cyfoeth yn gyfartal i hyny; eithr o ddiffyg hyn, yr oedd y mater yn sefyll. Yn y sefyllfa hon y mae hi yn gyfyng arno o bob tu; a pha beth i wneyd nis gwyddai. Ymddengys yn debyg i long wedi ei thynu i mewn i ddeufor—gyfarfod, ac yn cael ei churo yn ddidrugaredd gan y tonau gwylltion o bob tu, nes yr oedd pawb ar y bwrdd wedi rhoi pob gobaith am fod yn gadwedig i fyny. Yn wyneb yr amgylchiadau a ddesgrifiwyd, gellwch esbonio yn weddol ei eiriau yn gyfeiriol at y mater hwn. "Ac ar yr amgylchiad o newid fy sefyllfa, yn wyneb ofnau a thrallodau o lawer parth yn ymosod arnaf, cefais gynaliaeth aml yn addewidion y Bibl, nes bod yn ddyddanus yn eu canol." Y mae "trallodau o lawer parth yn ymosod arnaf," yn eiriau lled arwyddocaol mewn cysylltiad â'r mater hwn; canys mewn ystyr deuluol yr oedd yn chwythu o bob parth lle yr oedd teuluoedd y Gwyniaid yn cyfaneddu. Gan mor fanol y cedwid gwyliadwriaeth ar y foneddiges ieuanc, yr oedd yn anhawdd dyfalu pa fodd yr oedd yn bosibl cael cyfleu i briodi; oblegyd yr oedd caniatad oddiwrth y teulu yn beth anobeithiol. Yr unig beth, gan hyny, ag oedd yn ymddangos yn bosibl, oedd ei lladrata oddiar ei modryb liw nos. Yn gymaint a bod yr amgylchiadau yn annghyffredin, nid oedd dim i wneyd ond defnyddio moddion annghyffredin i'w cyfarfod; ac felly y gwnawd. Yr oedd dyn ieuanc cyfrifol, o'r enw Vaughan, a rhyw un arall, cymydogion a ffryndiau i Tommy, wedi anturio at y gorchwyl hwn yn bur selog, ac wedi penderfynu, os oedd modd yn y byd, na chai cariad ddim cam oddiar ddwylaw bydolion, os oedd ffordd i gael i atal hyny, bydded trwy y tew, neu bydded trwy y teneu. Ymffurfiodd y cyfeillion hyn yn eisteddfod, ystyriwyd y mater<noinclude></noinclude> mlssue9vf5g066773xfdczuwvk2w2pi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/157 104 84789 164629 2026-05-15T16:22:38Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn ddifrifol, penderfynwyd ar gynllun eu gweithrediadau, a phenderfynasant nad oedd dim ond angau fuasai yn eu hatal rhag eu cario allan. Yr oedd dealltwriaeth trwyadl rhwng y foneddiges ieuanc a hwythau ar y mater, canys gwyddent yn burion at ba ffenestr i fyned cyn symud o gartref. Yn nyfnder y nos y maent yn taro allan tua chyfeiriad Maenorowen, ac yn fuan, mewn o gwmpas awr a haner neu ddwy awr, y maent yn sefyll o flaen y ffenestr... 164629 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ddifrifol, penderfynwyd ar gynllun eu gweithrediadau, a phenderfynasant nad oedd dim ond angau fuasai yn eu hatal rhag eu cario allan. Yr oedd dealltwriaeth trwyadl rhwng y foneddiges ieuanc a hwythau ar y mater, canys gwyddent yn burion at ba ffenestr i fyned cyn symud o gartref. Yn nyfnder y nos y maent yn taro allan tua chyfeiriad Maenorowen, ac yn fuan, mewn o gwmpas awr a haner neu ddwy awr, y maent yn sefyll o flaen y ffenestr lle yr oedd y foneddiges ieuanc; ac y mae hithau yn ffyddlon i'w hymrwymiad yn barod i'w derbyn. Nid ydym yn gwybod pa foddion a ddefnyddiwyd i'w chael allan, pa un ai ysgol, neu ryw beth arall; ond yr ydym yn sicr mai nid mewn "basged y gollyngwyd" hi, canys buasai yn angenrheidiol fod rhai oddifewn yn ei chynorthwyo. Beth bynag, yn rhyw fodd daeth i freichiau Vaughan yn ddyogel, a chynorthwyodd yntau hi i ddyfod i lawr i'r gwaelod; ac felly y diangodd o ddwylaw ei modryb i ddwylaw ei gwr. Yr oedd hyn ar y 29ain o Ebrill, 1819; a boreu dranoeth, y 30ain, y priodasant yn Llanrian, plwyf trigianol Mr. Richard. Fel y gellir deall, yr oedd yn foreu tywyll a chymylog iawn yn Maenorowen y 30ain o Ebrill, wedi cael allan fod Miss Gwyn wedi dianc; yr oedd yr holl dŷ mewn cyffro, a Mrs. Jones yn nghanol llewygfeydd cyson. Tra yr oedd ystorm echryslawn yn chwythu yn Maenorowen, yr ydoedd yn foreu teg, dysglaer, a thawel yn Llanrian, pan yr oedd Mr. Richard a Miss Gwyn yn ymrwymo mewn glân briodas. Clywsom lawer o bethau yn cael ei ddyweyd fel hyn ac fel arall yn nghylch priodoldeb ac anmhriodoldeb y mater hwn, ond fe ddichon nad oedd y rhai hyny yn gwybod rhyw lawer mwy na ninau yn nghylch peth felly. Gwyddom gymaint a hyn drwy hanes, mai peth poenus iawn yw i ddyn ffaelu cael ei gariad; ond am y ffordd y dylid myned yn y blaen gyda pheth fel hyn, nid ydym yn proffesu fod yn ddigon hyddysg. Beth bynag, a gadael pob cywreinrwydd duwinyddol, ac athronyddol hefyd, y mae un peth yn digon amlwg bellach, —fod Mr. Richard a Miss Gwyn yn wr a gwraig hyd oni wahano angau hwy. {{nop}}<noinclude></noinclude> 42lrkmiqvjfa9gxfxye1mzra63vc3yc Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/159 104 84790 164631 2026-05-15T16:30:14Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a llawer lle mewn llawer o Siroedd y Deheu. Yn wyneb y cwbl y mae genyf achos i gwyno fy anffrwythlondeb, ac i ryfeddu daioni ac amynedd Duw tuag ataf. Trefnodd Rhagluniaeth unwaith eto i mi symud pabell o'r Court i Drellewelyn, Maenorowen. Daethom yma yr 17eg o Fawrth, 1820. Yma y ganwyd fy mhlentyn cyntaf ar y 3ydd o Fehefin, yn mhen dau fis a thair wythnos wedi dod i'r lle hwn, ar ol cystudd trwm a phoenau dirfawr. Meddyliais y caws... 164631 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a llawer lle mewn llawer o Siroedd y Deheu. Yn wyneb y cwbl y mae genyf achos i gwyno fy anffrwythlondeb, ac i ryfeddu daioni ac amynedd Duw tuag ataf. Trefnodd Rhagluniaeth unwaith eto i mi symud pabell o'r Court i Drellewelyn, Maenorowen. Daethom yma yr 17eg o Fawrth, 1820. Yma y ganwyd fy mhlentyn cyntaf ar y 3ydd o Fehefin, yn mhen dau fis a thair wythnos wedi dod i'r lle hwn, ar ol cystudd trwm a phoenau dirfawr. Meddyliais y cawswn fy ymddifadu o fy anwyl wraig; ond yn mhen dau ddiwrnod o gystudd trwm, pum mynyd cyn chwech prydnawn, ganwyd mab, plentyn golygus, hardd, perffaith. Yma llanwyd fy ysbryd â thestunau diolch i fyned at orsedd gras, nid yn unig am ryddhad fy ngwraig, ond am Dduw yn Wrandawr gweddi. Gofynais ganddo fab, os yn ol ei ewyllys; yn ol ei drugaredd caniataodd hyn hefyd. Dyma ryfeddod. Dyma fel yr hebryngir creadur gwael o dan y don gan drugareddau; fel tonau y môr yn nofio llong y nofir finau gan drugareddau Duw. "Gadewais y lle hwn yn 1821. Daethum i'r Cnwcca yn agos i Drefdraeth, yn Mehefin, oddeutu canol y mis, i gynal tyddyn, mewn llawer o ofid ac ofn. Yr wyf wedi aros yma flwyddyn yn drafferthus iawn. Ni ellais drafaelu fawr y flwyddyn hon oblegyd y gofal sydd arnaf. "Mehefin 2, 1822.—Yr wyf yn ofni yn fy nghalon rhag fy mod wedi dyfod i'r fan hon i fod yn waradwydd i'r efengyl. Y Duw trugarog hwnw a'm gwaredodd mewn chwech a saith o gyfyngderau, wyf yn gobeithio a'm gwared i eto ragllaw. Arglwydd, cadw fi, darfu am danaf. Dros y ddwy flynedd, 1823 a 1824, bum mewn helbul mawr yn fy mywioliaeth, yn dal y tyddyn a enwyd, a hono yn rhy ddrud o lawer o ugeiniau o bunau. Yn y diwedd symudais unwaith eto i Abergwaen, yr hyn oedd waith poenus iawn. Cefais fwy o afiechyd yn y flwyddyn hon, 1824, nag arferol. Ni theithiais ond ychydig, a'm llafur gweinidogaethol fu yn artrefol fwyaf. "Mae heddyw arnaf y 4ydd dydd o'r flwyddyn 1825. Cefais, dydd Sadwrn diweddaf, y cyntaf o'r flwyddyn, gymhorth i adnewyddu fy nghyfamod â'r Arglwydd, ac a'm teulu bach. Yn cychwyn oddicartref at waith y Sabbath cefais y fraint o ddechreu y flwyddyn yn yr un man ag y dechreuais y Sabbath cyntaf yn y flwyddyn ddiweddaf; a hefyd yr oedd yn Sabbath cymundeb yn y Capel Newydd a Cilgeran. Yn y boreu yn Capel Newydd cefais raddau o gymhorth i bregethu, ond nid oedd mor llewyrchus ar fy meddwl<noinclude></noinclude> 3v5hno7hkasfk0t8splsvjdcz9hsqb9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/160 104 84791 164632 2026-05-15T16:30:50Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ag y bu llawer gwaith. Ond wrth weinu yr ordinhadau, bedydd a swper yr Arglwydd, gwelodd yn dda lewyrchu yn helaethach. Teimlais fy meddwl yn ymeangu, a'm calon yn cynesu wrth feddwl am barodrwydd a chariad Duw, ac wrth adnewyddu ein cyfamod â'm Duw wrth y bwrdd. Oddiyno i Gilgeran. Cefais gymhorth newydd yma i draethu y gair: ond wrth y bwrdd, gyda swper yr Arglwydd, gwnaeth yn dra rhagorol. Rhoddwyd i mi ac eraill y fath olwg ar yr i... 164632 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ag y bu llawer gwaith. Ond wrth weinu yr ordinhadau, bedydd a swper yr Arglwydd, gwelodd yn dda lewyrchu yn helaethach. Teimlais fy meddwl yn ymeangu, a'm calon yn cynesu wrth feddwl am barodrwydd a chariad Duw, ac wrth adnewyddu ein cyfamod â'm Duw wrth y bwrdd. Oddiyno i Gilgeran. Cefais gymhorth newydd yma i draethu y gair: ond wrth y bwrdd, gyda swper yr Arglwydd, gwnaeth yn dra rhagorol. Rhoddwyd i mi ac eraill y fath olwg ar yr iawn mawr, a'r boddlonrwydd gafodd Duw, nes oeddym oll fel eglwys mewn dagrau a gorfoledd mawr; ac felly y parhaodd tra y buom wrth y bwrdd. Diolch byth am ei fod yn ymddangos trwy y ddellt i'r gwaelaf a'r annheilyngaf ar ddaear Duw. Oddiyno i Aberteifi. Yr oedd hi yma yn fwy caled ac afrwydd i'm teimlad. Adref dydd Llun. Cefais fy nheulu bach yn gysurus dan nodded a chysgod Duw. Ac yr wyf yn awr yn ysgrifenu â'm llaw, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a mi a'm teulu a wasanaethwn yr Arglwydd, trwy nerth ei ras. O fy Nuw, caniata yn nechreu y flwyddyn hon dywallt dy gariad yn fy nghalon, fy addurno â grasusau a dylanwadau yr Ysbryd, er fy ngwneyd yn fwy llewyrchus a defnyddiol nag un flwyddyn yn fy mywyd. Nifer y pregethau yn y flwyddyn 1824 oedd 188. Yn y flwyddyn 1825 teithiais gryn lawer, a chefais gryn lawer o afiechyd. "Mawrth y 3ydd, dechreuais fy nhaith i'r ''Association'' yn Aberystwyth; oddiyno i Gymanfa Pontypool; dychwelais adref Ebrill 6. Pob math o brofiadau yn y daith hon, ond nid oedd dim yn werth son am dano, ond yr oll o'r mawr ddaioni a gefais gan yr Arglwydd yn mhob ystyr. Bum yn anhwylus ryw ysbaid ar ol y daith hon, anwyd trwm. Bum yn y wlad hyd mis Awst. I ffynonau Llandrindod am fy iechyd; bum yno bythefnos. Ni theimlais ond ychydig les. Cefais anwyd mawr yno ac wedi dod oddiyno, yr hyn a'm hanhwylusodd yn fawr. Cefais brawf yn fy natur y flwyddyn hon nas cefais erioed o'r blaen, diffyg anadl. Dychwelais o'r ffynonau Medi 14. Medi 16 cychwynais daith i'r Gogledd, lle na bum am naw mlynedd o'r blaen. Cefais daith rwydd, dibrofedigaeth am bump wythnos. Cefais fy iechyd yn well a'm hysbryd yn well nag erioed o'r blaen; a'r Arglwydd yn ei anfeidrol drugaredd yn dda iawn bob odfa; mwy o'i wyneb nag arferol. Cefais yn y daith hon bedair Cymanfa. Y gyntaf yn Towyn, Meirionydd, lle y pregethais y nos o'r blaen ar Sal. xxxii. 3, 4; a thranoeth oddiar Sal. xxxii. 5. Un arall yn<noinclude></noinclude> jkznc7d691rzbeqnoadmehrzq1tsks3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/161 104 84792 164633 2026-05-15T16:32:01Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Pwllheli, Sir Gaernarfon. Pregethais ar Sal. xxxii. 6. Cefais fwy o gymhorth na chyffredin yma. Un arall yn Beaumaris. Mon. Y nos o'r blaen ar Sal. lxxiv. 17. Cefais lawer o diriondeb yma. Dranoeth oddiwrth Act. x. 11—16. Yr oedd hi yma yn galetach. Oddiyma trwy ran o Sir Dinbych, Meirionydd, Trefaldwyn, a Maesyfed, at y bedwaredd ''Association'' i Talgarth. Pregethais yma bregeth ar ddymuniad y ''Committee'' ar farwolaeth E. Morris a... 164633 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pwllheli, Sir Gaernarfon. Pregethais ar Sal. xxxii. 6. Cefais fwy o gymhorth na chyffredin yma. Un arall yn Beaumaris. Mon. Y nos o'r blaen ar Sal. lxxiv. 17. Cefais lawer o diriondeb yma. Dranoeth oddiwrth Act. x. 11—16. Yr oedd hi yma yn galetach. Oddiyma trwy ran o Sir Dinbych, Meirionydd, Trefaldwyn, a Maesyfed, at y bedwaredd ''Association'' i Talgarth. Pregethais yma bregeth ar ddymuniad y ''Committee'' ar farwolaeth E. Morris a D. Evans, oddiar Galar. iv. 2. Dychwelais adref Hydref 26. Cefais fy nheulu yn dra chysurus, yn nodded y Duw trugarog y gadewais hwy yn ei law. O ffyddlondeb, O ymaros, O dosturi, O raslonrwydd digyffelyb yn wyneb anffrwythlondeb mawr. Treuliasom hyd mis Tachwedd yn dra chysurus gyda'r gwaith crefyddol, yn y wlad oddiamgylch cartref. * * Ar yr 8fed ymwelodd yr Arglwydd â mi a chlefyd trwm, yr hwn a drymhaodd am amser. Ydwyf heddyw wedi fy nghaethiwo oddiwrth y weinidogaeth Sabbathol. Yr wyf yn taer ddymuno nerth i ymostwng dan alluog law Duw. "Y 24ain, dechreuais daith at Gymanfa yn Penybont yn Morganwg. Cefais fy iechyd yn weddol, a llawer o gymhorth yn y gwaith mawr. Yr oedd y daith hon yn 160 milldir erbyn bod yn nhref. Pregethais y flwyddyn 1825 280 o bregethau, a theithiais yn agos i saith mil o filldiroedd. Yn wyneb hyn mae genyf i gwyno fy ngwaeledd a'm hanffyddlondeb. Pwy a gredodd? A pha ogoniant a gafodd Duw? Yr wyf yn foddlon i ymdreulio hyd fy marw, ond i enw yr Arglwydd gael gogoniant. "''Gweddi''. O Arglwydd fy Nuw, yr hwn o'th fawr amynedd a'th hir ymaros a gyd—ddygodd un flwyddyn yn mhellach ag un o'th annheilyngaf weision mewn oerfelgarwch, anffrwythlondeb, a gwywdod, i'r graddau mwyaf, yr wyf yn atolwg, O Dduw trugarog a graslawn, i ti edrych ar wyneb dy Eneiniog Fab ar fy rhan, ac er ei fwyn maddeu fy anwireddau o ddechreu hyd ddiwedd 1825, at yr aneirif feiau o'r blaen, yn enwedig anwiredd fy mhethau santaidd; fy nghnawdolrwydd, hunanoldeb, a chymaint amser a dreuliais yn ngwlad dynion. Maddeu fy anwiredd, er mwyn dy enw, canys mawr yw. Ymostyngaf wrth dy draed. Mi atolygaf yn mhellach yn enw y Cyfryngwr heddyw, Ionawr 17, 1826, arnat, O fy Nuw, yn y flwyddyn hon bob ymgeledd ysbrydol at fy mhersonol santeiddhad, pob gras a doethineb at lywodraethu a maethu fy nheulu yn ofn yr Arglwydd, a helaethach dylanwadau<noinclude></noinclude> 9208u4jhlps3kgk0fkhza673hrhz405 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/162 104 84793 164634 2026-05-15T16:32:56Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "fel tanllyd farwor ar fy ysbryd at waith mawr y weinidogaeth: a'th Ysbryd santaidd, O Dad, fo yn cydweithio er achubiaeth llawer, trwy Iesu Grist. Amen. "Teithiais o ganol Ionawr hyd y 7fed o Chwefror oddeutu cartref 157 o filldiroedd; nid yn hollol ddigymhorth yn y gwaith, ac eto heb fawr o argoel llwyddiant. O Arglwydd, tydi biau llwyddo; bod yn ffyddlon yw fy nyledswydd. Galluoga fi trwy dy ras i hyn hyd angau. au. Mis Mawrth a dre... 164634 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel tanllyd farwor ar fy ysbryd at waith mawr y weinidogaeth: a'th Ysbryd santaidd, O Dad, fo yn cydweithio er achubiaeth llawer, trwy Iesu Grist. Amen. "Teithiais o ganol Ionawr hyd y 7fed o Chwefror oddeutu cartref 157 o filldiroedd; nid yn hollol ddigymhorth yn y gwaith, ac eto heb fawr o argoel llwyddiant. O Arglwydd, tydi biau llwyddo; bod yn ffyddlon yw fy nyledswydd. Galluoga fi trwy dy ras i hyn hyd angau. au. Mis Mawrth a dreuliais fwyaf yn Sir Benfro. Bum y mis hwn yn ''Association'' Ystradgynlais. Cefais radd o gymhorth wrth fyned a dod, ac yno yn y gwaith, er i mi deithio y tro hwn mewn anhwyl corphorol oblegyd anwyd. Dychwelais adref i'm teulu, a chenyf achos newydd i alw yn ngeiriau y Salmydd, 'Fy enaid, mola di yr Arglwydd.' Y Sabbath diweddaf oedd y 1af yn Ebrill. Yn odfa y boreu, cauodd arnaf yn dywyll iawn, nes oeddwn bron llewygu. Prydnawn tywyllodd am nerth. * * * * * * Teithiais Mai a Mehefin i Bryste, ac oddiyno i Ogledd Cymru. Cefais dair Cymanfa yn y daith hono. Tredegar, Bala, Llanerchymedd. Treuliais chwech wythnos yn y daith. Llawer o amrywiol dywydd, ran fy meddwl, gyda'r gwaith. Dychwelais adref y dydd diweddaf o fis Mehefin. Cefais fy nheulu yn dra chysurus, ar ol hir absenoldeb. O am gymhorth i folianu enw yr Arglwydd. O Arglwydd, fy Nuw tra molianus, yr ydwyf wrth dy draed mewn diolchgarwch yn dymuno byw dan yr eneiniad, a helaethach tywalltiad o'r Ysbryd Glân nag erioed, er mwyn Crist Iesu. Amen. "Awst 5ed, 1826, cychwynais i Gymanfa Llangeitho, yn fy ffordd i'm taith i Lundain, yr hwn le a gyrhaeddais y 12fed. Arosais yno 11eg o Sabbathau. Pregethais 59 o bregethau; dau Gwrdd Misol. Gweinais y Swper ddwywaith; bedyddiais dri; cleddais dri. Cefais lawer o gymhorth yn y gwaith yma, yn wyneb pob gwaeledd ynof fi. Gallaf ddywedyd o galon rwydd, 'Nid i mi, nid i mi, ond i'th enw dy hun dod ogoniant.' Gadewais, Llun, Hydref 22, yn wael fy iechyd: cyrhaeddais adref Hydref 25, ar ol taith faith. Cefais fy anwyl deulu dan aden dirion fy Arglwydd, i'r hwn y bum yn anffyddlon. O maddeu, O maddeu i'r anffyddlonaf. "Hydref 30, cymerwyd fy merch ieuangaf, yn 16eg mis oed, yn glaf; bu farw yr ail ddydd. Hebryngasom hi i'r bedd Tachwedd 3ydd, i Maenorowen. Dechreu ein symudiad i'r bedd o'r sefyllfa hon yw yr amgylchiad hwn. Pe buasai yn<noinclude></noinclude> jz9yo2d3hmg1k62j7adi2oub3inkibl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/164 104 84794 164636 2026-05-15T16:39:48Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn mhellach, gallem feddwl, canys gellir darllen heddwch a dymuniadau da yn nhôn Mrs. Jones. Bu yr hen Mr. Gwyn, Kilkifeth, ei thad, yn lled chwerw am dymhor; ac arferai ddyweyd fod y tair merch ryfeddaf yn y byd ganddo ef; fod un o honynt wedi priodi gwas Duw, y llall gwas y cythraul, ac un arall ei was yntau; a'i fod ef o'r farn mai ei was ef oedd y goreu o'r tri gwas. Ond nid hir y bu cyn fod gwas Duw yn cael edrych i fyny ato gan b... 164636 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn mhellach, gallem feddwl, canys gellir darllen heddwch a dymuniadau da yn nhôn Mrs. Jones. Bu yr hen Mr. Gwyn, Kilkifeth, ei thad, yn lled chwerw am dymhor; ac arferai ddyweyd fod y tair merch ryfeddaf yn y byd ganddo ef; fod un o honynt wedi priodi gwas Duw, y llall gwas y cythraul, ac un arall ei was yntau; a'i fod ef o'r farn mai ei was ef oedd y goreu o'r tri gwas. Ond nid hir y bu cyn fod gwas Duw yn cael edrych i fyny ato gan bawb o'r teulu. Ond y mae mel y Cwrt yn darfod yn fuan, ac y mae yn symud i Drellewelyn, yn ymyl hen dŷ Maenorowen, lle y cafodd y wraig; ac yma y ganwyd ei gyntafanedig. Y mae yn awgrymu yma at ryw gyfamodau a wnaeth ar enedigaeth ei fab, ac amgylchiadau eraill. Mae y cyfamodau hyny genym; ond yr ydym yn meddwl eu rhoi yn gyflawn mewn penod arall, ac nid eu gosod un ac un wrth fyned yn y blaen. O Drellewelyn y mae yn symudi'r Cnweca, gerllaw Trefdraeth, i gadw fferm. Yma y gwelir fod ei ofidiau yn dechreu mewn prysurdeb. Edrychwch ar y dyn da a'r gweinidog ffyddlon yn cael ei lethu o dan faich o fasnach a thrafferthion. Y mae yn ofni iddi fyned yn llongddrylliad ar yr amgylchiadau, y weinidogaeth a'r cwbl. Druan, y mae yn methu pregethu yr amser hwn. Dywedodd rhyw foneddiges wrtho yn yr amser hwn, "Yr ydych wedi myned i ffaelu pregethu, Mr. Richard; y mae y fferm wedi anafu y pregethwr." Yr oedd hyny yn ddigon gwir, eithr ni wyddai hi nemawr am y tywydd mawr yr oedd y pregethwr ynddo; a'i long fach yn nghanol môr garw, yn methu, er gwneyd ei oreu, ei chael i mewn i'r hafan a ddymunai. Y mae yn wir fod gan Mrs. Richard ychydig yn flynyddol; ond beth oedd hyny tuag at gadw teulu? Yr oedd yn help, ond nid haner digon i fyw; am hyny yr oedd yn rhaid cael ymgyrchfa at gadw fferm. Byddai pobl anwybodus yn meddwl fod Mr. Richard wedi cael digon o gyfoeth gyda'r wraig i fyw fel gwr boneddig; ac wrth ei weled yn gwneyd ymddangosiad gweddol gyfrifus, meddylient nad oedd arno eisiau dim. Nid oedd yn derbyn ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth; y mae arnom gywilydd dyweyd pa faint, er y gallem fyned yn mhell yn y cyfeiriad hyny; ond ymataliwn er mwyn gweddeidd-dra. Yn gymaint nad oedd yn cael llawer, meddyliodd am fyned i gadw fferm; ac wrth ffermu, y mae yn gyru pethau yn waeth yn lle gwell. Yr oedd y fferm yn lladd y dyn ac yn lladd y pregethwr ar unwaith. Tra yr oedd y bobl yn edrych ar y pregethwr yn y pwlpud,<noinclude></noinclude> 30ttb9i8n00rj4k993o5equ9qyp0gin Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/165 104 84795 164637 2026-05-15T16:40:51Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gan feddwl nad oedd dim ar ei feddwl ond pregethu yr efengyl, y mae yntau a'i enaid bron yn llesmeirio ynddo, a'i gorph eiddil braidd yn methu dal pwys yr enaid a byw, o dan faich amgylchiadau y bywyd hwn. Yr ydym yn gweled ein gilydd; ond mor ychydig y gwyddom pa fodd y mae y naill a'r llall yn byw. Yr oedd y tir—feddianwyr mawrion yn mwynhau gweinidogaeth gystal a feddai Cymru, yn ymbleseru yn ei swn hi, yn edmygu y pregethwr, ac et... 164637 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gan feddwl nad oedd dim ar ei feddwl ond pregethu yr efengyl, y mae yntau a'i enaid bron yn llesmeirio ynddo, a'i gorph eiddil braidd yn methu dal pwys yr enaid a byw, o dan faich amgylchiadau y bywyd hwn. Yr ydym yn gweled ein gilydd; ond mor ychydig y gwyddom pa fodd y mae y naill a'r llall yn byw. Yr oedd y tir—feddianwyr mawrion yn mwynhau gweinidogaeth gystal a feddai Cymru, yn ymbleseru yn ei swn hi, yn edmygu y pregethwr, ac eto yn ei adael i ryfela ar ei draul ei hun! Y fath bregethwr a Richard ddim yn cael ei gynal wrth y weinidogaeth! O Gymru, yr wyt wedi lladd y prophwydi! Oni buasai mai mewn anwybod y gwnaethost hyn, buasit yn haeddu cael dy amddifadu o swn pregethau am byth. Eithr y dynion Duw hyny a ymwadasant a hwy eu hunain er mwyn pregethu yr efengyl i bechaduriaid, er eu hesgeuluso ar y ddaear, "mawr yw eu gwobr yn y nefoedd;" y maent yn derbyn taledigaeth y gwobrwy gyda'r Iesu mewn gogoniant anamgyffredadwy. Gorphwyswch, gorphwyswch bellach. Dywed Mr. Richard, os darfu i chwi sylwi, "Bum mewn helbul mawr yn y flwyddyn 1823-4 am fy mywioliaeth; yr oedd y fferm yn rhy ddrud o lawer." Geiriau torcalonus ydynt; trueni fod gwr o'i fath ef mewn helbul am ei fywioliaeth mewn cysylltiad â fferm. Ar yr un pryd, nid ydym yn sicr mai o achos fod y fferm yn rhy ddrud yr oedd felly; gallasai fod yn werth yr arian yn weddol iawn, ac eto y ffermwr mewn helbul am ei fywioliaeth. Bydd yn dygwydd weithiau fod y bai ar y ffermwr, ac nid ar y fferm; ac y mae hyny yn ddigon hawdd ei gredu mewn cysylltiad â Mr. Richard. Yr oedd y pregethwr mawr, wrth bob tebyg, yn ffermwr bach; oblegyd fel llwybr cyffredin, nid yw y ddau mawr yna yn cydgerdded. Nid yw y masnachwr mawr a'r pregethwr mawr yn cyduno yn wych yn yr un enaid; y maent fel cnawd ac ysbryd, bob amser yn gwrthwynebu eu gilydd. Mae yr ysbrydoedd yn annghydmarol; nid ydynt yn cydredeg, yn cydweithio, yn cydymdeimlo, nac yn cydfwynhau. Nid oedd efe wedi ei greu at fod yn ffermwr; yr oedd digon o ffermwyr i gael hebddo ef; at y pwlpud yr oedd ef wedi ei wneyd, ac nid oedd un man ar y ddaear hon yn ei weddu yn gystal a'r pwlpud. Ymddangosai Mr. Richard yn ddyn chwithig yn nghanol ffair, marchnad, masnachdy, neu arwerthfa; byddai pob dyn yn teimlo yn y fynyd ei fod allan o'r lle y dylai fod. Gofynai pawb iddo wrth ei weled<noinclude></noinclude> az71huv9fwla5rvq2jzeo9p54rbxmbq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/166 104 84796 164638 2026-05-15T16:41:32Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn y cyfryw leoedd, "Pa beth ddaeth a chwi yma? beth yr ydych chwi yn geisio mewn lle fel hyn? Yr ydych yn edrych fel dyn wedi colli y ffordd, ac wedi hurtio mewn ffyrdd dyrys, neu fel dafad wedi myned ar gyfeiliorn, heb wybod pa fodd i ddychwelyd." Ond pan welid Mr. Richard yn y pwlpud, a miloedd o'i flaen yn cael eu hysgwyd fel gallt o goed ar wynt cryf, dyna fe yn ei le, dyna fe gartref, dyna fe yn y man y dylai fod; dyna fe yn y ma... 164638 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y cyfryw leoedd, "Pa beth ddaeth a chwi yma? beth yr ydych chwi yn geisio mewn lle fel hyn? Yr ydych yn edrych fel dyn wedi colli y ffordd, ac wedi hurtio mewn ffyrdd dyrys, neu fel dafad wedi myned ar gyfeiliorn, heb wybod pa fodd i ddychwelyd." Ond pan welid Mr. Richard yn y pwlpud, a miloedd o'i flaen yn cael eu hysgwyd fel gallt o goed ar wynt cryf, dyna fe yn ei le, dyna fe gartref, dyna fe yn y man y dylai fod; dyna fe yn y man sydd yn gweddu iddo. Y mae pawb yn ei weled yn ei le, ac am iddo fyw byth i bregethu yr efengyl. O, y fath drueni na fuasai rhyw drefn i gynal dynion o'i fath ef i bregethu yr efengyl; canys anaml y mae y cyfryw i'w cael. Nid hir y bu yn y fferm cyn symud i Abergwaen, lle y treuliodd ei ddyddiau olaf. Chwi welwch fod holl helbulon y fasnach yn cael eu cynwys mewn amser byr, rhyw beth o gwmpas pedair blynedd. Yn 1819 y mae yn priodi, ac yn symud yn ol i Abergwaen yn 1824 neu 1825. Taith fer ydoedd, ond hynod o arw; y blynyddoedd garwaf o'i fywyd, digon tebyg. Gwelir pob peth fel yn dyfod am draws eu gilydd yn y pedair blynedd yna; y gwynt fel pe bai yn chwythu ar bedair congl y tŷ. Yr amgylchiadau yn ei wasgu yn ddirfawr, mwy o glefyd nag arferol, ac hefyd y pethau hyn yn ei rwystro bron yn hollol i ddylyn ei waith hoff o bregethu yr efengyl. Blynyddoedd tywyll a du yn ei hanes oedd y rhai hyn. Y maent yn ddigon drwg i edrych arnynt o bell; ond pa beth yw hyny at fod ynddynt, yn yfed eu dyfroedd chwerwon, yn bwyta eu bara lefeinllyd, ac yn dyoddef eu rhew oer, a'u gwyntoedd geirwon? O drugaredd, ni sylweddolwyd ei holl ofnau; ni ddaeth yr hyn a fawr ofnodd yn hollol arno; gwaredwyd ef o'r ffwrn dân; cipiwyd ef o safn y llew a phalfau yr arth cyn ei ddinystrio yn llwyr; ond O! mor agos y bu i bwll dinystr. Pe buasai dyryswch amgylchiadau yn dyfod arno, cawsai, ond odid, ei farnu hyd yn oed gan ei gyfeillion crefyddol megys pechadur, a thrwy hyny ei weinidogaeth werthfawr, anmhrisiadwy yn cael ei cholli i'r byd. Eithr y mae yn debyg fod gan y bwriadau dwyfol bethau gwell wedi eu rhoi i gadw iddo; canys fel y gwelsom, er iddo fod ar ymyl dinystr, amgylchynwyd ef â chaniadau ymwared, a daeth iachawdwriaeth â "chaerau a rhagfur" anweledig o'i gwmpas, er ei gadw yn "fyw yn amser newyn." "Efe a ddiangodd;" do, do, "efe a ddiangodd;" ond cofiwch, dim ond dianc, serch hyny; o'r braidd<noinclude></noinclude> q6up5k9g08jrrsr2nhv9410pyn4xbx0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/167 104 84797 164639 2026-05-15T16:41:49Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "y bu yn gadwedig. Gallasai yntau ddyweyd wrth fyned ar ei daith yn ol i Abergwaen, "Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nanedd y diengais." Y mae yn fwy na thebyg na ddaeth gydag ef nemawr ond efe ei hun a'i deulu; ac yr oedd yn teimlo gryn dipyn o ddedwyddwch, diau genym, fod pethau fel yr oeddent, oblegyd gallasai fod yn llawer gwaeth. Yr ydym yn dyfod i gymod â cholledion, pan yr ofnwyd y buasai yn... 164639 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y bu yn gadwedig. Gallasai yntau ddyweyd wrth fyned ar ei daith yn ol i Abergwaen, "Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nanedd y diengais." Y mae yn fwy na thebyg na ddaeth gydag ef nemawr ond efe ei hun a'i deulu; ac yr oedd yn teimlo gryn dipyn o ddedwyddwch, diau genym, fod pethau fel yr oeddent, oblegyd gallasai fod yn llawer gwaeth. Yr ydym yn dyfod i gymod â cholledion, pan yr ofnwyd y buasai yn llawer gwaeth; yr ydym yn gweled ein hunain wedi ymdaro yn dda wrth ystyried y peryglon, ac yn teimlo awydd, er yr holl golledion, "i ddiolch i Dduw, a chymeryd cysur" mewn pethau fel y maent. Dacw long yn myned allan o'r porthladd, yn llawn o drysorau gwerthfawr; y mae yn foreu teg yn mis Mai, y gwynt yn ffafriol, ac yn llanw ei hwyliau yn dyner a dystaw, a hithau yn nofio yn hwylus, ac yn falchaidd ei hymddangosiad, fel brenines yn ysgwyd teyrnwialen yn ei hymerodraeth ddyfrllyd, a dywedyd yn ei hiaith, "Myfi sydd yn llywodraethu ymchwydd y môr." Y cadben yntau sydd yn cerdded yma ac acw ar ei bwrdd yn falch o'i drysor, ac y mae yn myned i ryw ddinas i farchnata ac enill, a dychwelyd yn ddyn annibynol. Nid oes dim llai na hyn yn ei fryd; nid oes dim islaw y nod hyn a'i foddia; dirmygai unrhyw awgrymiad gwahanol. Y tywydd sydd yn deg eto, a'r llong yn myned mewn hwyl ardderchog, o don i don dros y cefnför mawr, fel meistres ar holl elfenau natur yn nghyd. Yn mhen ychydig amser clywir y morwyr yn dyweyd fod yr haul yn codi llawer o ddwfr, a bod argoel, wrth ryw arwyddion o'r eiddynt hwy, y bydd dryc—hin yn fuan. Dacw y nefoedd yn dechreu duo draw, ac yn fuan gwelir y cymylau yn ymdaenu dros yr holl nefoedd; y gwynt yntau sydd yn dechreu chwythu yn erwin. Ah! y mae yn chwyrnu fel pe bai yn ddigofus wrth y llong a phawb sydd ynddi; y mae y môr yn dechreu curo yn ddiarbed, fel pe buasai rhyw gytundeb sydyn rhwng yr holl elfenau i ddinystrio y llestr byth bythoedd. Yn nghanol y cythrwfl hyn, dacw'r llong ag oedd er ys meityn fel brenines yn nofio ar frig y don, yn cael ei tharo yma ac acw fel pêl, yn cael ei baeddu, ei thrin a'i throi, nes y mae pawb yn dyrysu. Edrychwch! dacw ei hwylbrenau yn myned. Clywch! dyna ergyd ofnadwy! Y mae wedi taro wrth ryw graig. Ust! dyna swn gwrthdarawiad dychrynllyd! Bydd yn chwilfriw cyn nemawr amser, cewch weled. Wele y<noinclude></noinclude> 7fi8es0nfblaonaw0s32pn0b4x0j9p2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/169 104 84798 164641 2026-05-15T16:47:18Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a phump ar ugain, nes yr oedd holl bridd fferm y Cnweca wedi ei lanhau yn llwyr; nid oedd dim o hono i'w weled yn niwedd y flwyddyn hono. Ië, yr oedd huddygl hen grochanau fferm y Cnwcca wedi ei ddileu; canys, "er gorwedd o hono yn mysg y crochanau," daeth ei esgyll wed'yn "fel esgyll colomen wedi ei gwisgo ag arian, a'i adenydd fel aur melyn." Yn 1826 y mae yn cyfarfod â phrofedigaethau teuluaidd trwy gladdu merch fechan; ond fel y gw... 164641 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a phump ar ugain, nes yr oedd holl bridd fferm y Cnweca wedi ei lanhau yn llwyr; nid oedd dim o hono i'w weled yn niwedd y flwyddyn hono. Ië, yr oedd huddygl hen grochanau fferm y Cnwcca wedi ei ddileu; canys, "er gorwedd o hono yn mysg y crochanau," daeth ei esgyll wed'yn "fel esgyll colomen wedi ei gwisgo ag arian, a'i adenydd fel aur melyn." Yn 1826 y mae yn cyfarfod â phrofedigaethau teuluaidd trwy gladdu merch fechan; ond fel y gwelir, y mae y teimlad o ddaioni yr Arglwydd yn dyfod ag ef adref cyn yr amgylchiad i fod yn help i'r fam dyner, yn suddo y gofid o'r golwg. Yr oedd colli y plentyn yn ofid mawr; eithr y teimlad o drugareddau dwyfol yn wyneb yr amgylchiad sydd yn gysur cryfach na'r gofid. Y mae hon yn agwedd meddwl Cristion gostyngedig. Mor brydferth, onide, yw gweled yr angel mawr hedegog, y pregethwr sydd yn peri i'r byd blygu o flaen ei weinidogaeth, yn ymsuddo i mewn i berthynasau teuluaidd fel dyn arall? Y llew yn y pwlpud yn ymgymysgu a'i wraig dyner yn ei thrafferthion, ac yn ymdrech yn mhob modd yn y byd i'w chysuro; yn wylo fel tad tyner uwch bedd plentyn, yn codi i fyny at drugareddau dwyfol fel Cristion, ac yn mwynhau Duw ei iachawdwriaeth yn ngwahanol helyntion y bywyd hwn. Y mae llawer o bobl yn meddwl fod pregethwr mawr, wrth ei glywed yn y pwlpud, uwchlaw pethau teuluaidd a phethau cyffredin y bywyd hwn; ond y gwirionedd yw, nid oes neb yn teimlo yn fwy mewn pethau felly; ac y mae eu bod yn teimlo felly yn gymhwysder at gyflawni eu gweinidogaeth. Nid oes neb yn medru cyd-ddyoddef gyda'r temtiedig ond y rhai sydd wedi eu temtio yn mhob modd yr un ffunud â hwythau. Mae llyfrau yn dda i bregethwr, eithr os bydd pregethwr wedi ei wneyd i gyd trwy lyfrau, darllen llyfr yn gyffredin yw pregethu y dyn hwnw; nis gall bregethu heb lyfr, nis gall weddio heb lyfr, ac nis gall wneyd dim heb lyfr. Eithr y mae gan Dduw lawer o lyfrau a dosbarthiadau i fyned trwyddynt, cyn y cymhwysir dynion i deyrnas Duw fel pregethwyr yr efengyl. Yr ydym yn meddwl ein bod wedi dangos hyn yn eglur trwy roi pigion mor helaeth allan o ddyddlyfr Mr. Richard; hyn oedd ein dyben; canys er fod gryn dipyn o'r un peth, wrth roi hanes ei deimladau mewn cysylltiad â'i waith, er hyny y maent yn egluro i foddlonrwydd ddirgelwch nerth pregethwr mawr. Yr oedd yn anmhosibl i ddyn ag oedd yn sylwi ar bob ysgogiad meddwl, a phob<noinclude></noinclude> mw2icoz5xa6e5gk588p56z8srmcwyo0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/170 104 84799 164642 2026-05-15T16:48:11Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "teimlad ysbrydol, lai na chynyddu yn mhob rhyw fodd gyda'i grefydd a'i weinidogaeth. Clywir ef weithiau yn griddfan uwchben odfa galed; yn diolch am un iraidd; yn gwneyd sylw manol, hyd yn oed mewn crefydd deuluaidd, ar dymher ac agwedd ei ysbryd, ac a oedd yn beth tebyg fod y meddwl wedi bod mewn cymundeb â Duw ai nid oedd. Dywed yn aml fod prydferthwch allanol mewn geiriau, ond fod y meddwl yn methu ffeindio ffordd at Dduw, wedi y c... 164642 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teimlad ysbrydol, lai na chynyddu yn mhob rhyw fodd gyda'i grefydd a'i weinidogaeth. Clywir ef weithiau yn griddfan uwchben odfa galed; yn diolch am un iraidd; yn gwneyd sylw manol, hyd yn oed mewn crefydd deuluaidd, ar dymher ac agwedd ei ysbryd, ac a oedd yn beth tebyg fod y meddwl wedi bod mewn cymundeb â Duw ai nid oedd. Dywed yn aml fod prydferthwch allanol mewn geiriau, ond fod y meddwl yn methu ffeindio ffordd at Dduw, wedi y cwbl. Yr oedd Mr. Richard yn pwyso ac yn mesur yr awyr ysbrydol gyda manylwch a gofal mawr. Sylwai yn fanol ar yr oerfel a'r gwres yn mhob odfa; yr ydoedd yn cario hinfesurydd yn ei fynwes ei hun. Fel y canlyn y bydd yn nodi allan y graddau ar yr hin—fesurydd; odfa dywyll, ddilewyrch; odfa i ddyweyd y gwir a dyna gyd; odfa mewn prydferthwch allanol, heb deimlad mewnol cysurus; odfa a thipyn o lewyrch arni tua'r diwedd; odfa heb wybod beth i ddyweyd, na pha beth a ddywedwyd wedi dyweyd; odfa dim ond diane rhag dyrysu, a cholli y cwbl; odfa hwylus, yn myned fel llong gyda'r gwynt a'r llanw, a'r miwsic yn chwareu ar ei bwrdd; odfa o dan ddyryswch barnol; odfa mewn tywyllwch dudew; odfa ag ychydig help; odfa â thywyniadau aml rhwng y cymylau; odfa sych iawn; odfa drymaidd iawn; odfa a llewyrch ei wyneb yn amlwg; odfa o dan gymhorth Duw, coder Ebenezer i fyny yma; odfa o sychder mawr yn Llanfabon; odfa ddiegni yn Llanwyno; odfa o dan deimlad o help yn y Pil; coder maen yma hefyd; odfa ryfedd yn y Dyffryn; llefaru yn beth hawdd yma. Wel, dyma fel y mae yn myned yn y blaen yn bur gymysglyd; weithiau ffordd hyn, ac weithiau ffordd arall; llawer o bleser ambell dro, llawer o ofid dro arall; i lawr yma, i'r lan mewn man arall, a'r bobl yn meddwl, fe allai, nad oedd dim yn bod ond i'r lan o hyd, yn fuddugoliaethus bob brwydr. Nid pawb ag sydd yn pregethu ŵyr am deimladau o'r fath yma; nid ydynt erioed wedi sylwi a meddwl am bethau felly; nid ydynt yn ddigon mawr, nac yn ddigon duwiol, nac yn ddigon o dan ddylanwad ysbryd y weinidogaeth i fyned i mewn i'r celloedd yna. Yn y rhai yna, serch hyny, y darperir mel yr efengyl i eneidiau dynion. Dichon y bydd y pigion a roddwyd o'r dyddlyfr, yn nghyda'r sylwadau a wnawd arnynt, yn ddigon er egluro duwioldeb uchel a chydwybodolrwydd Mr. Richard gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, fel na fyddo i ni gael rhyw lawer<noinclude></noinclude> mnzn72focq5pasz8fbnu7m9dyi2uw8y Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/171 104 84800 164643 2026-05-15T16:48:28Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "o ymgyrchfa at y dyddlyfr eto, oddieithr ambell sylw yn awr ac eilwaith. Oblegyd fel y gwelsoch ef yn y pigion o'i ddyddlyfr a roddwyd, yn ei deithiau a'i bregethu y parhaodd hyd nes i afiechyd ei luddias; mewn llafur caled yn y fyfyrgell, mewn llafur caled yn teithio at gyhoeddiadau, mewn llafur caled yn y pwlpud, ac mewn llafur caled mewn gweddiau nos a dydd. Wedi llafurio yn galed, yn y gwahanol ffurfiau hyn, hyd ddiwedd y flwyddyn... 164643 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o ymgyrchfa at y dyddlyfr eto, oddieithr ambell sylw yn awr ac eilwaith. Oblegyd fel y gwelsoch ef yn y pigion o'i ddyddlyfr a roddwyd, yn ei deithiau a'i bregethu y parhaodd hyd nes i afiechyd ei luddias; mewn llafur caled yn y fyfyrgell, mewn llafur caled yn teithio at gyhoeddiadau, mewn llafur caled yn y pwlpud, ac mewn llafur caled mewn gweddiau nos a dydd. Wedi llafurio yn galed, yn y gwahanol ffurfiau hyn, hyd ddiwedd y flwyddyn 1828, a ganlyn ydyw ei eiriau ar ddiwedd y flwyddyn hono. "Tachwedd 27, 1828. Fy nghyffes onest am danaf fy hun yw, 1. Y creadur tlodaf, a'r pechadur mwyaf ydwyf. 2. Y Cristion gwanaf. 3. Y gwas gwaelaf. Fy holl ddymuniad sydd gynwysedig mewn dau beth; sef, Cymod â Duw, a delw Duw. Fy mhrofiad presenol yw, fod genyf deimlad o bob trueni sydd mewn bod ynof fy hun; ond nis gallaf, er hyny, wadu nad oes ynof egwyddor i ofni Duw, a gweithredu cyfiawnder." Nid ysgrifenwyd y profiad hwn erioed ond mewn gwir deimlad o hono; ac y mae yn dyweyd llawer. Dyma un o brif bregethwyr Cymru yn plygu ei ben ger bron Duw yn y dirgel, ac yn dywedyd wrtho, "Myfi yw y creadur tlotaf, a'r pechadur mwyaf; y Cristion gwanaf, a'r gwas gwaelaf." Gwnaeth yn dda i ysgrifenu ychydig o'r pethau fu rhyngddo a Duw, onide ni fuasem yn eu gwybod, a buasem yn debyg iawn o feddwl am ryw bethau eraill; nid am bethau fel hyn. Ond y mae yn debyg iddo gael ei gyfarwyddo a'i dueddu i'w hysgrifenu, fel y byddont "er addysg i ni." {{nop}}<noinclude></noinclude> tvr5qfghs4elc0ii8nnals98rbp9l49 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/172 104 84801 164644 2026-05-15T16:48:42Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENOD VII.}}<br>Adolygiad ar ei flynyddoedd priodasol hyd 1828.}} DAETHOM hyd y flwyddyn 1828 yn y benod o'r blaen; ond y mae rhai pethau yn y blynyddoedd hyny, yn enwedig genedigaeth ei blant, y byddai yn dda eu coffa, yn gymaint ag y bydd yn angenrheidiol i ni gyffwrdd â hyny eto wrth fyned yn y blaen. Dyma naw mlynedd o fywyd priodasol, yn y rhai yr aeth Mr. Richard drwy lawer o dywydd garw. Er yr ymddengys yr amser o 181... 164644 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD VII.}}<br>Adolygiad ar ei flynyddoedd priodasol hyd 1828.}} DAETHOM hyd y flwyddyn 1828 yn y benod o'r blaen; ond y mae rhai pethau yn y blynyddoedd hyny, yn enwedig genedigaeth ei blant, y byddai yn dda eu coffa, yn gymaint ag y bydd yn angenrheidiol i ni gyffwrdd â hyny eto wrth fyned yn y blaen. Dyma naw mlynedd o fywyd priodasol, yn y rhai yr aeth Mr. Richard drwy lawer o dywydd garw. Er yr ymddengys yr amser o 1819 i 1828 ond byr iawn, eto yr oeddynt yn oes hir gyda golwg ar amgylchiadau. Fel y gwyddoch, y mae llawer blwyddyn o brofedigaethau yn hwy, ac yn effeithio fwy ar y cyfansoddiad na deg o flynyddoedd cymedrol eu hamgylchiadau. Gwelir dyn yn aml wedi bod mewn ychydig fisoedd o brofedigaethau tanllyd; y mae y cyfnewidiadau mor fawr i'w canfod, fel y bydd y bobl yn dyweyd, "Y mae efe wedi tori mwy yn y tywydd garw yna nag yn y deng mlynedd diweddaf, a'u gosod gyda'u gilydd." Pan edrychom ar y naw mlynedd hyn o fywyd Mr. Richard, yn enwedig wyth—fe allai i'r flwyddyn gyntaf dreiglo yn weddol lyfn—yr ydym yn ei ganfod, os edrychwn arno fel morwr a'r blynyddoedd hyn yn fordaith, ar fôr garw iawn. Gwelwn ef yn cychwyn ar ddiwrnod hafaidd, mewn llong fechan, allan o borthladd cyfagos i Drefin, ar fordaith ddarganfyddiadol; heb ddarlun o'r gwledydd, na gwybodaeth sylweddol o un natur. Yr oedd y dealltwriaeth yn dyweyd, o herwydd rhyw arwyddion dealltwriaethol, fod gwledydd meithion i'w cael, eangach na chyfandiroedd mawrion Columbus; yn fwy haulog, yn gyfoethocach, ac o ganlyniad yn rhagori yn mhell mewn ffrwythlondeb. Mynyddoedd y gwledydd hyn sydd yn gyfoethocach na dyffrynoedd Columbus, a phen eu bryniau uchaf sydd yn cynyrchu ffrwythau pereiddiach na gerddi gwrteithiedig y gwledydd hyny,—gwledydd lle y bydd pob awel boreuol yn dwyn iechyd, a'r nos yn dylyn y dydd yn ddystaw heb ystorm guchiog na thywyllwch erchyll; eithr yn dawel a mwynaidd, gyda chwsg balmaidd yn ei llaw. Wedi rhoi y plant i gysgu yn dawel yn eu cawellau, y mae yn eistedd i'w gwylio, ac yn anadlu yn ddystaw a thyner rhag eu dihuno cyn bod Sol yn dyfod â'r ganwyll i'w goleuo. Dyma wledydd! Y maent yn brydferth! Y maent yn ddymunol! Yr awyr sydd yn deneu, yn dyner,<noinclude></noinclude> lptwztzbgo0guv0ljls3l7b9xei4eae Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/179 104 84802 164646 2026-05-15T20:17:40Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ben yn gogwyddo tua'r ddaear, a'r pren almon yn ei lawn flodau. Dewisasom hwn, am mai fel hyn yr adnabyddasom ni ef, ac felly yr adnabyddodd y rhan fwyaf sydd ar y ddaear yn bresenol ef hefyd. Mae ychydig yn ei gofio yn nerth ei ddydd, yn ddyn cryf, coch, glân, gwrol; ond yn wir y mae y dosbarth hwnw o ddynoliaeth wedi myned yn hynod deneu. Y mae darlun o hono ar gael pan o gwmpas deugain oed, a dywedir fod hwnw yn dda iawn; ond pan y... 164646 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ben yn gogwyddo tua'r ddaear, a'r pren almon yn ei lawn flodau. Dewisasom hwn, am mai fel hyn yr adnabyddasom ni ef, ac felly yr adnabyddodd y rhan fwyaf sydd ar y ddaear yn bresenol ef hefyd. Mae ychydig yn ei gofio yn nerth ei ddydd, yn ddyn cryf, coch, glân, gwrol; ond yn wir y mae y dosbarth hwnw o ddynoliaeth wedi myned yn hynod deneu. Y mae darlun o hono ar gael pan o gwmpas deugain oed, a dywedir fod hwnw yn dda iawn; ond pan y gosodir y dyn deugain a'r dyn triugain a deg yn ymyl eu gilydd y mae y gwahaniaeth rhyngddynt yn rhyfeddol. Beth bynag o gysur all fod wedi dyfod i'r ddynoliaeth trwy ddarganfyddiadau newyddion mewn tynu lluniau, nid ydym yn mhell o gredu fod peth annghysur hefyd, yn enwedig i'r dynion eu hunain. Gall fod yn bleser i gymdeithas; gall dynion gael hyfrydwch mewn edrych a nodi allan y gwahaniaeth sydd rhwng y darlun gymerwyd eleni a'r un gymerwyd er ys deng mlynedd yn ol, ond nid yw hyny ond cysur gwan i'r dyn ei hunan. Cyn i'r gelfyddyd o arlunio ddyfod mor rhad, yr oedd dynion yn heneiddio yn raddol o ddydd i ddydd, ac yn teimlo eu hunain yn ieuanc o hyd; nid oeddynt yn meddwl fod nemawr o gyfnewidiad ynddynt; a phan edrychent mewn drych, yr oeddynt er ys llawer dydd wedi hen annghofio pa fath rai oeddynt yn nyddiau eu hieuenctyd. Yr oedd dynion yn teimlo yn fwy cysurus o lawer felly, tebygem. Eithr yn awr, fel y gwelwch, dacw lun wedi ei wneyd er ys ugain mlynedd yn ol, a dyna un arall a wnawd eleni; y cyntaf yn fachgen bochgoch, pen-felyn, y diweddaf yn hen wr llwyd, penwyn, crebychaidd, yn ddigon i beri i ddyn grynu wrth edrych ar ei lun ei hun. Y mae rhyw fanteision yn y peth i gymdeithas, yn enwedig ar ol i'r dyn farw, canys y mae pobl yn cael lle teg i farnu pa fath ydoedd o ran ei gorph; ac yn wir, y maent yn dyweyd fod rhyw beth yn y corph ag sydd yn pregethu y meddwl yn lled effeithiol. Yr oedd Mr. Richard o daldra cyffredin; nid yn fyr, ac nid yn dal iawn, rhyw le tua phump troedfedd a naw modfedd, o wneuthuriad cadarn, yr holl gorph yn hytrach yn arwyddo cryfder. Felly yr oedd yn nerth ei ddydd. Yr oedd yn un o'r dynion prydferthaf, o ran ymddangosiad corphorol, a welwyd mewn oes, neu yn mhlith cenedlaeth o ddynion. Yr oedd ei ymddangosiad cyntaf yn y pwlpud, neu ar esgynlawr y cae yn y Gymanfa, yn sefydlu pob llygad arno mewn mynyd. Yr ydym yn cofio y tro cyntaf y gwelsom ef erioed<noinclude></noinclude> nch6u6zi7x04qyp19ft4oph1lv2xsgl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/180 104 84803 164647 2026-05-15T20:18:17Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "iddo dynu ein sylw mewn moment, pan yn gwneyd ei ymddangosiad ar yr esgynlawr mewn Cymanfa; ac nid yn unig nyni, ond pawb. Y Gymanfa gyntaf y buom erioed ynddi oedd hono, ac nid oedd yntau y pryd hwnw uwchlaw wyth a deugain oed. Pregethodd hen wr parchus o'r Gogledd yn gyntaf yn hynod flasus, yn awr ac eilwaith; ac yr oeddem yn meddwl oll ei fod yn bregethwr mawr; yr oeddem yn teimlo yn gysurus; ar yr un pryd nid oedd dim mawr iawn yn... 164647 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iddo dynu ein sylw mewn moment, pan yn gwneyd ei ymddangosiad ar yr esgynlawr mewn Cymanfa; ac nid yn unig nyni, ond pawb. Y Gymanfa gyntaf y buom erioed ynddi oedd hono, ac nid oedd yntau y pryd hwnw uwchlaw wyth a deugain oed. Pregethodd hen wr parchus o'r Gogledd yn gyntaf yn hynod flasus, yn awr ac eilwaith; ac yr oeddem yn meddwl oll ei fod yn bregethwr mawr; yr oeddem yn teimlo yn gysurus; ar yr un pryd nid oedd dim mawr iawn yn ein taro, nes ein synu, a bron myned yn ddwl wrth odidawgrwydd y gweledigaethau. Ond ar ei ol dacw wr boneddig yn codi i fyny gyda'r prydferthaf a welsom erioed, ac yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron rhyw bymtheg mil o ddynion. Yr ydym yn meddwl yn sicr mai Mr. Evans, Llwynffortun, ac yntau oedd y ddau mwyaf prydferth yn symud ac yn dyfod i wydd torf o bobl o neb a welsom. Yr oedd y pryd hwnw yn sefyll yn syth, yn llawn, heb fod yn dew iawn, a'r cap du ar ei ben, fel y gwelir ef yn y darlun yn nechreu y llyfr. Y mae yn sefyll o flaen y dyrfa fel angel wedi disgyn oddiuchod; canys ymddangosai yn ei holl agweddiad fel cenad anfonedig oddiwrth Dduw. Ei wyneb oedd yn hardd iawn; gwefusau tlysion, a rhes o ddanedd fel ifori yn ymddangos pan siaradai. Ei lygaid oedd yn fawrion, ac yn amlwg iawn ar wyneb y croen, ond yn safon o brydferthwch; a phan y taflai hwynt yn esgeulus yma a thraw, yr oedd fel pe buasai meddylgarwch yn melltenu ac yn saethu o bob cyfeiriad. Yr oedd ei brydferthwch yn greadigaeth, ac nid oedd wedi ei andwyo drwy arferion annaturiol. Na; yr ydoedd yn gwisgo creadigaeth yn weddus, heb ei dirdynu na'i hanafu. Y mae llawer pregethwr, er ei fod wedi cael dyn oddiallan gweddol dda gan y Creawdwr, a phe gwisgid natur yn naturiol, byddai yn ymylu af brydferthwch; ond yn lle gwneyd hyny, y mae yn ei thynu hi ar hyd ac am draws, nes y mae y peth nesaf at anmhosibl i ddeall beth oedd y ffurf gyntefig arni. Gwnaed y Creawdwr fel y myno yn y byd, bydd rhyw bobl yn meddwl y gallant wella hyny; a dyna lle y maent yn gwneyd pob lluniau yn y byd arnynt eu hunain, nes y mae yn anmhosibl braidd a dyfalu beth oedd ffurf greadigol wyneb ac ysgwyddau y dyn. Bydd rhai fel pe baent am wneyd eu gyddfau yn hwy, rhai am droi eu trwynau ar gam, yn haner cau eu llygaid, ac yn gwneyd y gwynebau mwyaf cuchiog a welsoch erioed. Gadewch bethau fel y<noinclude></noinclude> i12y902csoq6ls1dbsx1tl7hlcqv7x6 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/181 104 84804 164648 2026-05-15T20:18:48Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "maent, canys nis gwnewch hwynt byth yn well wrth fyned i ryfel a threfn natur fel yna. Edrychwch ar Mr. Richard yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron miloedd; dyna ddyn prydferth; dyna dlws! Dyna ddyn natur; nid yw yn ymladd nac yn ceisio gŵyrdroi naturiaeth i'w dinystr ei hun; na, dacw hi yn ei phurdeb naturiol, yn rhedeg fel yr afon loyw. Mor naturiol y mae y llygad yn edrych, ond yn syml; mor naturiol y mae y gwefusau yn chwareu, ac mo... 164648 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>maent, canys nis gwnewch hwynt byth yn well wrth fyned i ryfel a threfn natur fel yna. Edrychwch ar Mr. Richard yn gwneyd ei ymddangosiad ger bron miloedd; dyna ddyn prydferth; dyna dlws! Dyna ddyn natur; nid yw yn ymladd nac yn ceisio gŵyrdroi naturiaeth i'w dinystr ei hun; na, dacw hi yn ei phurdeb naturiol, yn rhedeg fel yr afon loyw. Mor naturiol y mae y llygad yn edrych, ond yn syml; mor naturiol y mae y gwefusau yn chwareu, ac mor naturiol y gwelir y wên siriol yn chwareu fel adenydd angel ar ei ruddiau. Dyna yn sefyll o'ch blaen y Parch. T. Richard, Abergwaen, un o brif bregethwyr Cymru, un o brif addurniadau y pwlpud Cymraeg. Y mae wedi ei greu at y pwrpas; a gras wedi ei gymeryd mewn llaw i orphen ei lunio at waith mawr y weinidogaeth yn Nghymru. Y mae bron yn oferedd i ni ddyweyd ei fod yn bregethwr mawr; canys gobeithio eich bod wedi ei ddylyn gyda ni o'r dechreu; ac yna yn ddiamheu yr ydych yn argyhoeddedig nad oes ryw lawer o bethau bychain o'i gwmpas. Yr oedd pob peth o'i gychwyn, a phob ffordd y teithiodd o dan argraffiadau o'i fawredd. Yr oedd yn anmhosibl gwneyd dyn fel hyn yn fach, canys yr oedd wedi ei greu at fod yn fawr, a than lawer o anfanteision cododd i fod yn un o brif bregethwyr Cymru. "Y pwnc, os gwelwch yn dda, cewch fyned y ffordd hon eto. Mr. Richard yn pregethu yw y pwnc, canys gwnawd rhyw fath o ddesgrifiad o'i berson, a gwelsom ef yn codi ac yn dyfod yn y blaen ar yr esgynlawr i'r man amcanedig at yr areithfa; eithr ni chlywsom ef yn dyweyd un gair." Wel, y mae desgrifio Mr. Richard yn pregethu yn beth anhawdd iawn i'r rhai na chlywsant ef. Yr ydym yn ofni cychwyn gyda'r gorchwyl rhag ofn methiant, canys y mae hyny yn llawer mwy tebyg na llwyddiant. Gwyn fyd na fuasai pawb wedi ei glywed, fel y gallem ymesgeusodi, a throi i'r cysgod, a'ch gadael mewn dystawrwydd i gofio hen odfaon y dyddiau gynt, pan yr oeddech weithiau yn crynu fel dail y coed, weithiau yn dychrynu fel ewigod, weithiau yn wylo o lawenydd, weithiau yn neidio heb fedru ymatal, weithiau yn gorfoleddu o dan obaith gogoniant Duw, weithiau yn gwaeddi concwest uwch pob ofnau, o dan ddylanwad gweinidogaeth nerthol dyn Duw. I chwi a'u clywsant, byddai hyny yn well nag un desgrifiad ag mae yn bosibl ei wneyd a phapyr ac inc. Yr ydym mewn lle cyfyng iawn yn awr; yn rhyw beth fel<noinclude></noinclude> k8hrtrq2eg36x62hia9e0kyuojf8zmy Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/182 104 84805 164649 2026-05-15T20:19:14Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "pe baem yn myned i ddesgrifio gogoniant y mellt i ddyn dall, swn ofnadwy y daran i ddyn byddar, mawredd ac ymchwydd y môr i ddyn mynyddig na welodd för erioed; eto gwell yw ceisio dyweyd rhyw beth wedi ein harwain i'r fan hyn. Dacw Mr. Richard o'ch blaen yn ddyn natur, ac yn ddyn byw; nid dyn celfyddyd, a dyn marw. O dyna brydferth! Mae celfyddyd yn burion; ond nid yw yn dyfod yn agos at natur; caboliad ydyw, nid creadigaeth; gwaith dy... 164649 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pe baem yn myned i ddesgrifio gogoniant y mellt i ddyn dall, swn ofnadwy y daran i ddyn byddar, mawredd ac ymchwydd y môr i ddyn mynyddig na welodd för erioed; eto gwell yw ceisio dyweyd rhyw beth wedi ein harwain i'r fan hyn. Dacw Mr. Richard o'ch blaen yn ddyn natur, ac yn ddyn byw; nid dyn celfyddyd, a dyn marw. O dyna brydferth! Mae celfyddyd yn burion; ond nid yw yn dyfod yn agos at natur; caboliad ydyw, nid creadigaeth; gwaith dynion, nid gwaith Duw; marwolaeth ydyw, nid bywyd. Cyn bod y pregethwr sydd yn awr ger eich bron yn agor ei enau, y mae y miloedd yn edrych arno fel rhyw un wedi disgyn o'r bydoedd fry; y mae pob llygad arno, a phob perchen anadı fel wedi darostwng ei unig anadl o dan ddysgyblaeth lem, canys yn ddystaw iawn rhaid iddo fod, araf rhaid iddo gerdded, a gofalu na fyddo y fath beth a phesychiad i aflonyddu y dystawrwydd dwfn. Ymwasgai y dyrfa yn annghydwybodol yn y blaen, tua chyfeiriad yr esgynlawr, pan y clywid y pregethwr yn tori y dystawrwydd trwy roi hymn allan, gyda llais clir, peraidd, naturiol, heb na chlem na chesail, na bwyta na chnoi ei eiriau, na gwneuthur un math o wynebau. Y mae pawb trwy y dorf yn ddystaw, a phawb yn clywed; ac y mae hyd yn oed rhoddiad y penill allan yn cynwys rhyw fawredd, ac fel yn rhagddarparu y gynulleidfa ar gyfer y peth sydd yn canlyn. Clywsom lawer yn rhoi y penill yna o'r blaen, "O anfon di yr Ysbryd Glân," &c., ond nid neb fel efe; yr oedd fel pe treiddiai y geiriau drwy y nefoedd yn ei ddull ef o'u dyweyd. Gyda llais clir, heb yr un dôn na llusg, y mae yn darllen y testun ddwywaith, ac yn araf yn ei egluro a'i osod yn ei gysylltiadau priodol, gan ei ranu i wahanol benau yn hynod o ddeheuig. Ond y peth welsoch chwi o'r cychwyn oedd gwas Duw yn chwilio am weinidogaeth y testun hwn at ddynion. Y mae ei hunan-feddiant a'i gartrefolrwydd yn ardderchog. Nid yw mewn brys, nid yw yn wyllt, nid yw byth yn ymddangos yn derfysglyd; ymddengys heb bryder na braw, heb ddiffyg nac eisiau dim, pob peth wrth law, a llaw i gydio yn mhob peth. Y mae yn gartrefol hollol yn pregethu; fel meistr mawr ar y gwaith, nid fel egwyddorwas; fel yn ei elfen naturiol, yn debyg i'r aderyn yn codi i fyny yn ddiorchest i'r awyr dan ganu, neu fel y pysgodyn o dan dunelli o ddwfr, eithr yn "chwareu ynddo." Boddi ynddo fuasai pob peth nad oedd yn perthyn i'r elfen ddwfr, eithr chwareu ac<noinclude></noinclude> 13szn8iheh2offhj15l9bv3y5uxiw93 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/189 104 84806 164652 2026-05-15T20:51:21Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "na raid iddo gywilyddio. Esgob, bugail i ofalu am eglwys Dduw. Nid oes dim ag sydd yn wladol yn hanfodol i eglwys Crist. Mynu tadogi yn ddisail ddefodau allanol ar olyniaeth apostolaidd, tra na wneir ond ychydig sylw ar egwyddorion, athrawiaeth, a duwioldeb yr apostolion. Y mae y ddau bobl hyn yn dangos eu bod o'r un ysbryd, yr un egwyddor, ac o dan yr un swyn ansantaidd. Dywedir fod yr oes hon wedi ei goleuo; ond nid yw mor oleu eto.... 164652 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na raid iddo gywilyddio. Esgob, bugail i ofalu am eglwys Dduw. Nid oes dim ag sydd yn wladol yn hanfodol i eglwys Crist. Mynu tadogi yn ddisail ddefodau allanol ar olyniaeth apostolaidd, tra na wneir ond ychydig sylw ar egwyddorion, athrawiaeth, a duwioldeb yr apostolion. Y mae y ddau bobl hyn yn dangos eu bod o'r un ysbryd, yr un egwyddor, ac o dan yr un swyn ansantaidd. Dywedir fod yr oes hon wedi ei goleuo; ond nid yw mor oleu eto. Y mae y tywyllwch yn fwy na'r goleuni. Olyniaeth Babaidd yn cael ei galw yn Nghymru aml ei phregethu yn olyniaeth apostolaidd; ai goleu yw hyn? Y mae yn rhaid cael rhyw beth i wneyd pregethwr heblaw olyniaeth Babaidd, nac esgobaidd ychwaith, onide bydd heb ei wneyd byth ond yn unig gan ddynion, ac nid yw hwnw yn was i Dduw. Mae mabwysiadu unrhyw ddull mewn dynwaredol, mewn ystum, llais, neu eiriadu wrth bregethu, yn rhoddi cymeriad pregethwr, gweinidogaeth pregethwr, ac anfoniad pregethwr o dan gwmwl, iddo ei hun ac i eraill; canys y mae yn dynoethi gwendid, y mae yn cuddio anian, ac yn dirmygu Awdwr natur. Os bydd hyn yn wastadol a pharhaus, er y gall y naill fod yn debyg i'r llall, y mae digon o wahaniaeth rhwng y peth sydd yn debyg yn naturiol a'r hyn sydd yn debyg dynwaredol; gwel y craffus hyn, ond cam-fernir hyn gan y cenfigenus. Pan y gwelir dynwarediad o ddyn yn ei bethau mwyaf cysegredig, y mae yn anhawdd iawn ei oddef; oblegyd pa nesaf at Dduw o ran ymarferiad y byddo unrhyw agwedd gnawdol, mwyaf poenus ydyw i anian dduwiol. Y gair sydd i'w bregethu, canys y gwirionedd sydd i ddangos pawb a phob peth, heb eisiau enwi personau, enwadau, na neb ymarferiad; canys y mae hyny yn effeithio gwrthwynebiad i'r gwirionedd; ac heblaw hyny, nid oes raid i'r gwirionedd am neb ategion dynol i'w eilio. Y gwirionedd yw sail a grym pob rheswm, am hyny oddiwrth y gwirionedd raid ymresymu am bawb a phob peth, heb wneyd un cyfeiriad a fyddo yn debyg o gyffroi un gwrthwynebiad i'r gwirionedd. Y gwirionedd sydd at ddangos pob peth pan nas gall pob peth ddangos y gwirionedd, ond fel y byddo yn cyd—dystiolaethu a'r gwirionedd. Cymaint o wirionedd sydd yn y byd sydd gymaint o gyd—dystiolaethu â'r gwirionedd sydd ynddo. Un o'r pethau trymaf yn ymddangos yn y dyddiau hyn yw, mor lleied o arwydd gweinidogaeth oddiwrth Dduw at ddynion sydd yn yr holl bregethu; a phan y byddo tebyg i nerth, nes cael cymeradwyaeth, nid oes, tebygem, arddeliad arni nes byddo yn y canlyniad son am dani yn trin y cyflwr, ond fel pe bai y cwbl yn syrthio i'r ddaear yn farw, ac i ebargofiant tragywyddol. Y mae hyn yn peri ofni fod math o bregethu yn bod heb anfoniad, wedi syfrdanu y gwrandawyr; a bod cynefindra â phob gwirionedd, ac â phob dull o'i ddyweyd, wedi gyru yr holl wlad i gysgu; neu bod yr Ysbryd Glân wedi ei dristâu, ac wedi ymadael â'i bobl; ac na rydd ei wyneb, oblegyd rhodio o'i bobl yn wrthwyneb iddo. O amgylchiadau trwm! "Amser blinder yw hwn i Jacob." Wylwn, offeiriaid a phobl, rhwng y porth a'r allor, am iddo eto, yn ol ei air, roddi ei wyneb ar ei gysegr anrheithiedig, er mwyn ei enw. Mae bod ffydd, profiad, a mwynhad, gymaint yn llai na'r bregeth yn achos pryder. Nid maint ffydd yw mesur y bregeth, ond maint<noinclude></noinclude> b95d0knkddnwpfm6ri1rtpyn9l3j73j Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/190 104 84807 164653 2026-05-15T20:52:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "y bregeth yw mesur ffydd. Nid mesur profiad yw mesur pregeth, ond y bregeth yw mesur y profiad sydd i'w geisio. Nid mesur y mwynhad o'r bregeth gan y pregethwr yw mesur y bregeth, na'r rheol i'w phregethu, er y byddai mwynhad o honi yn fawr gymhorthi i'r gwaith; fel bwyta o dan yr iau; eithr y bregeth yw mesur y mwynhad. Y mae ffydd, profiad, a mwynhad i gynyddu; ond nid yw y bregeth i gynyddu dim, canys tystiolaeth y gwirionedd ydyw y... 164653 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y bregeth yw mesur ffydd. Nid mesur profiad yw mesur pregeth, ond y bregeth yw mesur y profiad sydd i'w geisio. Nid mesur y mwynhad o'r bregeth gan y pregethwr yw mesur y bregeth, na'r rheol i'w phregethu, er y byddai mwynhad o honi yn fawr gymhorthi i'r gwaith; fel bwyta o dan yr iau; eithr y bregeth yw mesur y mwynhad. Y mae ffydd, profiad, a mwynhad i gynyddu; ond nid yw y bregeth i gynyddu dim, canys tystiolaeth y gwirionedd ydyw yr hwn sydd i ymestyn ato am ei gredu yn fwy, am ei brofi a'i fwynhau yn fwy; yr un peth, gan hyny, yw pob cyfranogiad o ras i bregethwyr ag i wrandawyr; yr un modd y mae y gwirionedd yn foddion i achub y naill fel y llall. Nid yw pregethu gras yn achub y pregethwr ond yn yr un modd ag y mae yn achub y gwrandawyr; ei gyd-dymheru a ffydd yn y ddau yw hyny. Duw gyda genau y pregethwr: "Mi a fyddaf gyda'th enau;" hyny yw, rhoddi cenadwri yn eu genau, ei chadw hi heb ei halogi trwy ei chymysgu â dim o eiddo dyn ei hunan a'r genau, a'i harddel mewn cyflawniad yn ol y genau. Fe all dawn ymadrodd gael ei roddi lle na byddo hyn: ac y mae yn debyg fod hyny yn cael ei roddi lle byddo hyn; ond nid y naill yw y llall; ac fe all y naill fod heb y llall; lle na ddealler hyn fe ddyrysir. Nid mewn medru ateb yr holl wrthddadleuon a roddir gan anffyddwyr, a phob math o elynion yn erbyn y wir athrawiaeth, mae llwyddiant na rhinwedd pregethu, er bod hyny yn hardd, ac a all fod o ddefnydd ile byddo wedi ei drwytho ag ysbryd Cristionogaeth; ond yr efengyl sydd i'w phregethu; hyny yw, "yr ymadrodd am y groes;" i'r rhai colledig ynfydrwydd yw, ond i'r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw. "Yr ymadrodd am y groes" yw pregethu Crist wedi ei groeshoelio, "i'r Iuddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb; ond i'r rhai a alwyd, Iuddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw." Y mae yr ymadrodd am y groes yn meddwl pob gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, Gelwir hyn yn ymadrodd am y groes oblegyd mai croeshoeliad Crist oedd cyflawniad, seliad, a gorpheniad gwaith yr iachawdwriaeth. Y mae pob gwirionedd am Grist yn y groes, ac y mae y groes yn mhob gwirionedd am Grist, canys trwy y groes y daeth ei osodiad yn iawn drosom, ac y gwnawd ef i ni yn gyfiawnder, yn santeiddrwydd, ac yn brynedigaeth; fel, megys y mae yn ysgrifenedig, "Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd." Y mae cystudd yn analluogi i bregethu. Y mae anallu yn gwanhau, yn cymylu, yn tywyllu, yn lleihau, ac yn diflasu gwirioneddau wrth eu llefaru. Y mae harddwch ymadroddi yn gofyn nerth i roddi pob ymadrodd yn ei le, a'i le priodol i bob ymadrodd, mewn aceniad, sain, a phwys. Mae pethau cyffredin yn ymddangos yn hardd lle y byddo hyn, a'r pethau mwyaf yn ymddangos yn anhardd heb hyn. Yn ddiau ysbryd i bregethu yw enaid y gwaith; eto, y mae yn anhawdd cario yr ysbryd hyny allan heb y pethau a nodwyd. Ni ddylai cael bara beunyddiol, neu fywioliaeth naturiol, fod yn brif ddyben mynediad i'r weinidogaeth gydag un enwad o ddynion, eto ni ddylai neb fyned i bregethu yr efengyl heb sicrwydd yn ffordd ei ddyledswydd am ei fara beunyddiol; nid yn unig tra fyddo yn abl i bregethu, ond hefyd tra parhao ei fywyd, os bydd iddo fethu<noinclude></noinclude> 3zx01aiat632zfm7pggttmbyye3hodq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/191 104 84808 164654 2026-05-15T20:53:12Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "pregethu; canys y mae gogoniant Duw yn nglŷn â hyn. Pa le yn wyneb hyn y mae ymddiried yn yr Arglwydd? Nid oes ymddiried yn yr Arglwydd yn bod ond yn ffordd ein dyledswydd, yn ol gair yr Arglwydd am hyn ac am bob peth arall. Iawn farn am hyn wnelai drefn ar Gristionogaeth yn mhlith dynion, yr hyn sydd yn dra diffygiol. Mynu ein ffordd ein hunain, yn ol tuedd gnawdol a bydol, a barha drawsedd tra parhao dynion. Cael pregeth gan Dduw yw... 164654 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethu; canys y mae gogoniant Duw yn nglŷn â hyn. Pa le yn wyneb hyn y mae ymddiried yn yr Arglwydd? Nid oes ymddiried yn yr Arglwydd yn bod ond yn ffordd ein dyledswydd, yn ol gair yr Arglwydd am hyn ac am bob peth arall. Iawn farn am hyn wnelai drefn ar Gristionogaeth yn mhlith dynion, yr hyn sydd yn dra diffygiol. Mynu ein ffordd ein hunain, yn ol tuedd gnawdol a bydol, a barha drawsedd tra parhao dynion. Cael pregeth gan Dduw yw cael gwirionedd yn genadwri; a phregetha y bregeth a lefarwyf wrthyt, Jonah. Gwneuthuriad pregeth yw athrawiaeth y gair oddiar fyfyriad, wedi ei threfnu a'i ffurfio mewn geiriau cymeradwy. Y mae adnabyddiaeth a chynefin chynefindra o awdwr yn gwneyd darlleniad ei ysgrifeniadau, neu wrando ei draethodau, i'w gydoeswyr yn debyg i aredig mewn tir caregog, —ataliadau yn aml; a'r cwbl mewn hunan a balchder. Yr ataliad cyntaf yw, Nis mynem iddo fod yn fwy na ni, mewn gras, deall, dysg, na dawn. Yr ataliad arall yw, Nis mynem iddo fyned o'n blaen yn ngolwg neb dynion. Ataliad arall yw, Mesur ei bob peth ef wrth ein pob peth ein hunain. A'r ataliad arall yw, Na fynwn neb ond ein hunain. Mae y rhai hyn yn hunangeisiwyr, er eu bod yn grefydd-ymarferwyr; yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Y mae llawer a ystyrir yn gampwyr o bregethwyr, heb fod ond rhai bach, os dim, yn gwneyd pregethu yn gamp, ond heb wneyd y gamp o bregethu: llawn o weddi, llawn o ffydd, llawn o'r gair, llawn o'r Ysbryd Glân, yn llawn yn ngweinidogaeth y gair, yw y campus mewn gwirionedd. Nid y campus mwyaf wrth bregethu yw y pregethwr mwyaf ar y gamp uchel hon. Rhaid i'r gamp gael ei rhedeg yn iawn; y mae yn angenrheidiol fod presenoldeb Duw, gwerth eneidiau, a'r farn dragywyddol, yn wastad yn y golwg. Ý mae hyn yn hanfodol i iawn agwedd gyda'r gorchwyl pwysig hwn. Un o bethau hynod yr amser hwn, yn y flwyddyn hon, 1850, yw bod pregethwyr y Cyfundeb Methodistaidd o dan ddylanwad cryf a dyeithr; hyf, heb wylder, i gymhell eu hunain i leoedd i bregethu, yr hyn oedd yn beth dyeithr i'r Cyfundeb hwn flynyddau yn ol; llawer o'r cymhelliad taer, ïe, i gyd, oedd o du yr eglwysi; ond yn awr y mae i gyd o du y pregethwyr; llawer o honynt, beth bynag, nid i gyd oll, o drugaredd. Wele yma gyfnewidiad hynod, sydd yn dangos peth hynod o flaen hyn yn yr achos o hono. Y mae hyn yn hynod ynddo ei hun hefyd, yn enwedig i'r hen, a adwaen y symudiad gwahaniaethol hwn. Mae ac fe fydd yn hynod yn ei ganlyniadau, fel y caiff rhyw rai weled a theimlo, pa un a ddeallant ai peidio. O Arglwydd, pa beth fydd diwedd y pethau hyn? Peth hynod arall sydd yn y Cyfundeb, o ran cyfnewidiad, ac a wiria yn amlwg yr hen ddywediad hwnw, "Un eithafed a effeithia eithafed arall." O ddeg i ugain mlynedd yn ol ni roddid i bregethwyr y Cyfundeb wrth gymdeithasu a hwy, ac wrth eu cyhoeddi, eu henwau priodol a roddwyd iddynt pan eu bedyddiwyd, ond weithiau chwarter yr enw ac weithiau yr haner; ac os byddai yn gelfyddydwr, cyhoeddid ef gan rai wrth ei enw a'i gelfyddyd ar gyhoedd y werin. Y mae yn debyg fod yr arfer front hon yn codi oddiar dri neu bedwar o bethau. Oddiar amgylchiadau bydol isel y pregethwyr, oddiar<noinclude></noinclude> ei07zv0f94utppnpi35iohbaztjfjgl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/192 104 84809 164655 2026-05-15T20:53:30Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "arferiad annhrefnus, diddysg, a diddysgu, unffurf, anfoes, nesaf i anwar, yr un modd gyda phethau crefyddol ag arfer fydol, gan ei ystyried yn symlrwydd, yn sobrwydd, yn onestrwydd, ac yn ostyngeiddrwydd, mewn gwrthwynebiad ar falchder, ac ymosodiad arno ef; ac oddiar falchder a hunan gan eraill; ac am hyny nis gallent oddef dim yn debyg o ddangos parch, rhag eu tybied yn uwch na hwynt; ac hefyd i gael cadw y flaenoriaeth, a rhoddi yr... 164655 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arferiad annhrefnus, diddysg, a diddysgu, unffurf, anfoes, nesaf i anwar, yr un modd gyda phethau crefyddol ag arfer fydol, gan ei ystyried yn symlrwydd, yn sobrwydd, yn onestrwydd, ac yn ostyngeiddrwydd, mewn gwrthwynebiad ar falchder, ac ymosodiad arno ef; ac oddiar falchder a hunan gan eraill; ac am hyny nis gallent oddef dim yn debyg o ddangos parch, rhag eu tybied yn uwch na hwynt; ac hefyd i gael cadw y flaenoriaeth, a rhoddi yr uchafiaeth i'r rhai oedd yn offeiriaid, ac a alwyd felly yn y Cyfundeb; canys felly y rhyngodd bodd iddynt hwy. Y pellafoedd ar yr ochr arall yn y Cyfundeb hwn, sydd yr amser hwn yn rhedeg fel tân gwyllt, yn enwedig yn wynebau eu gilydd, ac mewn cyhoeddiadau—rhoi Meistr wrth bob pregethwr, a Pharchedig wrth rai. Ni wneir y sylw hwn i feio y naill pellafoedd na'r llall, er bod y ddau yn feius; canys y mae y pellafoedd yn ol eu natur felly; ond am ei fod yn gyfnewidiad mor fawr ac amlwg, a bod pethau o'r fath yn dangos ffolineb a gwendid; ac i ddysgu eu gochel, canys y mae pob eithafed yn dangos gwyllt, gwamal, a ffol. Eithafoedd arall yn y Cyfundeb hwn a gofir: pan gymerodd ordeiniad le yn y Cyfundeb, yr oedd anhawsdra mawr i gael neb i'w hordeinio, dyna un pellafoedd; yn bresenol nid oes un anhawsdra i ordeinio pawb. Mae y pellafoedd cyntaf yn dangos mawr wendid, oddiar lawer cymysgedd; y mae yr ail yn dangos hunanolrwydd, annealltwriaeth, annhrefnusrwydd, a gwendid gwrachaidd. Pa beth fydd diwedd hyn? Pa beth fydd y pellafoedd nesaf amser a ddengys; ond y mae yn ddiau fod y pethau hyn yn galw am wyliadwriaeth a gweddi at Ben mawr yr eglwys am ei ofal am dani, rhag, wrth golli y cwrs yn aml, i'r llong fyned ar y graig o'r diwedd yn ddrylliau. 1. Goruchwyliaeth ailenedigaeth sydd yn rhoi profiad. 2. Dylanwadau yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi adnewyddiad. 3. Arweiniad yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi cynaliad. Y cyntaf yn braenaru, yr ail yn maethu, a'r trydydd yn addfedu. Gall hyn wneyd gwas defnyddiol dros Dduw, heb ddysgeidiaeth; ond nis gall dysgeidiaeth heb hyn; ond hyn a dysgeidiaeth sydd wedi gwneyd gweision o'r defnydd mwyaf. Mae anmharch ar ddysgeidiaeth, oblegyd y gellir bod yn ddefnyddiol hebddi lle bo y pethau a enwyd, yn gamddeall; mae pwyso hefyd ar ddysgeidiaeth am ddefnyddioldeb heb y pethau a enwyd, yn gamgymeriad; canys y mae i'r naill a'r llall eu lleoedd priodol; ac mewn ystyr nis gall y naill fod yn lle y llall; eto gall y cyntaf fod yn well heb yr ail na'r ail heb y cyntaf. Mae bod yn ngweinidogaeth yr efengyl yn meddu y cyntaf heb yr ail yn fawr anfantais; ac yn meddu dysgeidiaeth heb y tri pheth cyntaf, yn farw, farw, farw; neu heb feddu yr un o'r ddau yn dra rhyfygus. Gwir brofion am wir anfoniad ar ddyn i bregethu:—1. Bod y weinidogaeth yn ddefnydd ymwneyd rhwng y dyn a Duw am dani. Yn (1.) Am gael y genadwri sydd yn weinidogaeth. Yn (2.) Am gynaliaeth gweinidogaeth: iawn wirionedd, iawn ymadrodd, iawn ysbryd a thymher, iawn ddyben ymwneyd â Duw am gynaliaeth diwyr yn y gwaith. 2. Bod y gwaith o bregethu yn weithiad difefl yn ol gair yr Arglwydd. "Iawn gyfranu," na byddo raid cywilyddio, ïe, pe byddai rhaid goddef goganau a chenfigenau. 3. Hollol ymddibyniad y pregethwr am faddeuant ac am lwyddiant ar Dduw i<noinclude></noinclude> 0iaq0erwii6wl8nkirp9vdf7rdj9ti8 164656 164655 2026-05-15T20:54:24Z AlwynapHuw 1710 164656 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arferiad annhrefnus, diddysg, a diddysgu, unffurf, anfoes, nesaf i anwar, yr un modd gyda phethau crefyddol ag arfer fydol, gan ei ystyried yn symlrwydd, yn sobrwydd, yn onestrwydd, ac yn ostyngeiddrwydd, mewn gwrthwynebiad ar falchder, ac ymosodiad arno ef; ac oddiar falchder a hunan gan eraill; ac am hyny nis gallent oddef dim yn debyg o ddangos parch, rhag eu tybied yn uwch na hwynt; ac hefyd i gael cadw y flaenoriaeth, a rhoddi yr uchafiaeth i'r rhai oedd yn offeiriaid, ac a alwyd felly yn y Cyfundeb; canys felly y rhyngodd bodd iddynt hwy. Y pellafoedd ar yr ochr arall yn y Cyfundeb hwn, sydd yr amser hwn yn rhedeg fel tân gwyllt, yn enwedig yn wynebau eu gilydd, ac mewn cyhoeddiadau—rhoi Meistr wrth bob pregethwr, a Pharchedig wrth rai. Ni wneir y sylw hwn i feio y naill pellafoedd na'r llall, er bod y ddau yn feius; canys y mae y pellafoedd yn ol eu natur felly; ond am ei fod yn gyfnewidiad mor fawr ac amlwg, a bod pethau o'r fath yn dangos ffolineb a gwendid; ac i ddysgu eu gochel, canys y mae pob eithafed yn dangos gwyllt, gwamal, a ffol. Eithafoedd arall yn y Cyfundeb hwn a gofir: pan gymerodd ordeiniad le yn y Cyfundeb, yr oedd anhawsdra mawr i gael neb i'w hordeinio, dyna un pellafoedd; yn bresenol nid oes un anhawsdra i ordeinio pawb. Mae y pellafoedd cyntaf yn dangos mawr wendid, oddiar lawer cymysgedd; y mae yr ail yn dangos hunanolrwydd, annealltwriaeth, annhrefnusrwydd, a gwendid gwrachaidd. Pa beth fydd diwedd hyn? Pa beth fydd y pellafoedd nesaf amser a ddengys; ond y mae yn ddiau fod y pethau hyn yn galw am wyliadwriaeth a gweddi at Ben mawr yr eglwys am ei ofal am dani, rhag, wrth golli y cwrs yn aml, i'r llong fyned ar y graig o'r diwedd yn ddrylliau. 1. Goruchwyliaeth ailenedigaeth sydd yn rhoi profiad. 2. Dylanwadau yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi adnewyddiad. 3. Arweiniad yr Ysbryd Glân sydd yn rhoi cynaliad. Y cyntaf yn braenaru, yr ail yn maethu, a'r trydydd yn addfedu. Gall hyn wneyd gwas defnyddiol dros Dduw, heb ddysgeidiaeth; ond nis gall dysgeidiaeth heb hyn; ond hyn a dysgeidiaeth sydd wedi gwneyd gweision o'r defnydd mwyaf. Mae anmharch ar ddysgeidiaeth, oblegyd y gellir bod yn ddefnyddiol hebddi lle bo y pethau a enwyd, yn gamddeall; mae pwyso hefyd ar ddysgeidiaeth am ddefnyddioldeb heb y pethau a enwyd, yn gamgymeriad; canys y mae i'r naill a'r llall eu lleoedd priodol; ac mewn ystyr nis gall y naill fod yn lle y llall; eto gall y cyntaf fod yn well heb yr ail na'r ail heb y cyntaf. Mae bod yn ngweinidogaeth yr efengyl yn meddu y cyntaf heb yr ail yn fawr anfantais; ac yn meddu dysgeidiaeth heb y tri pheth cyntaf, yn farw, farw, farw; neu heb feddu yr un o'r ddau yn dra rhyfygus. Gwir brofion am wir anfoniad ar ddyn i bregethu:—1. Bod y weinidogaeth yn ddefnydd ymwneyd rhwng y dyn a Duw am dani. Yn (1.) Am gael y genadwri sydd yn weinidogaeth. Yn (2.) Am gynaliaeth gweinidogaeth: iawn wirionedd, iawn ymadrodd, iawn ysbryd a thymher, iawn ddyben ymwneyd â Duw am gynaliaeth diwyr yn y gwaith. 2. Bod y gwaith o bregethu yn weithiad difefl yn ol gair yr Arglwydd. "Iawn gyfranu," na byddo raid cywilyddio, ïe, pe byddai rhaid goddef goganau a chenfigenau. 3. Hollol ymddibyniad y pregethwr am faddeuant ac am lwyddiant ar Dduw;<noinclude></noinclude> aynq6pj0llklf34n9cax14o5uudk5kf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/194 104 84810 164658 2026-05-15T21:05:24Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENOD XI.}}<br>Penod i'r Doethion.}} Yr ydym wedi galw y benod hon wrth yr enw uchod yn gymaint ag mai diarebion synwyrgall ydynt; ac y mae eisiau peth synwyr i ddeall synwyr rhai o hynynt, gan gymaint o synwyr sydd ynddynt. Y maent yn cynwys llawer o synwyr mewn ychydig eiriau, ac nid ychydig o synwyr mewn llawer o eiriau, fel y byddis yn aml. Nid ydym yn gallu rhoi ond ychydig o honynt fel engraifft; pe rhoddem y cwbl o'r... 164658 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XI.}}<br>Penod i'r Doethion.}} Yr ydym wedi galw y benod hon wrth yr enw uchod yn gymaint ag mai diarebion synwyrgall ydynt; ac y mae eisiau peth synwyr i ddeall synwyr rhai o hynynt, gan gymaint o synwyr sydd ynddynt. Y maent yn cynwys llawer o synwyr mewn ychydig eiriau, ac nid ychydig o synwyr mewn llawer o eiriau, fel y byddis yn aml. Nid ydym yn gallu rhoi ond ychydig o honynt fel engraifft; pe rhoddem y cwbl o'r dywediadau fel sydd yn y benod hon, byddent yn cynwys rhyw filoedd yn chwaneg; byddent yn llyfryn bychan eu hunain. Gwell fyddai dyfod â pheth felly allan mewn rhyw ffurf arall nag mewn gwaith o'r natur yma. Beth bynag, gwelir fod gan Mr. Richard hoffder mawr mewn cyfansoddi dywediadau byrion a chynwysfawr; ac y mae y rhai a'i clywsant ef yn pregethu yn cofio yn dda ei fod yn taflu allan ymadroddion felly yn awr ac eilwaith. Calon esgeulus wna fuchedd annhrefnus. Tymher santaidd ar yr enaid wna harddwch santeiddrwydd ar y fuchedd. Mae'r gorchymyn wedi uno ein gofal a'n cysur yn nghyd; meddylfryd ar Dduw, a thangnefedd heddychol yn Nuw. Bod yn ostyngedig mewn llwyddiant yw un o'r pethau penaf yn y byd. Edifeirwch yw newid o anufudd-dod i ufudd-dod. Mae gwrthgilio yn halogi enw yr Arglwydd. Fe ddylai pob peth addysgu dyn i wrando geiriau Duw. Mae anystyriaeth yn dangos naill ai diffyg dyn neu ddiffyg duwiol, ac weithiau pob un o'r ddau. Y peth nad yw yn golled ei golli, nid yw yn enill ei feddu. A ymddiriedo i'w ddeall ei hun a syrth i'w bydew ei hun. Gwybodaeth gyffredinol heb ddim yn gymhwysiadol nid yw fuddiol. A fyn ei ffordd a fyn ei therfyn. Diofal yw diafael. Ni fyn ofalu a fyn wastraffu; a fyn wastraffu a fyn dlodi; a fyn dlodi a fyn ei anmharchu. A fyn angen, a fyn gragen. Gwybod i bawb ond iddo ei hun, yw y callaf o bawb a'r ffolaf o neb. Y neb ni chymer addysg a ddyfethir o eisiau gwybodaeth. Nid oes dim a rydd ddyn i lawr ond efe ei hun; na dim rydd ei hun i lawr ond ei bechod. Meddwl mawr am dano ei hun a fyn ddangos ei hun yn fawr. Harddwch dyn ato ei hun yw cuddio ei hun. Y fedr fwyaf i ddyn yw ymwadu ag ef ei hun. {{nop}}<noinclude></noinclude> 220s3vybgf0savbx792xw6tc0osq0dw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/195 104 84811 164659 2026-05-15T21:06:32Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Iawn ymddygiad dyn at Dduw yw rhoddi ei hunan i Dduw. Gwely priodas a oero, nid hawdd ei dwymno; fe ddylai fod yr olaf i oeri, canys mae yr anhawddaf i'w gynesu. Y cyntaf a orchfygodd ddyn yw y diweddaf a orchfygir ganddo—balchder. Mae fel calon y cwbl; y cyntaf yn fyw, a'r diweddaf yn marw. Gostyngeiddrwydd yw rhinwedd Crist, ac ysbryd Crist, unig addurn a harddwch Cristion, —unig blanigfa a meithrinfa Cristionogaeth. Mae mor bell... 164659 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Iawn ymddygiad dyn at Dduw yw rhoddi ei hunan i Dduw. Gwely priodas a oero, nid hawdd ei dwymno; fe ddylai fod yr olaf i oeri, canys mae yr anhawddaf i'w gynesu. Y cyntaf a orchfygodd ddyn yw y diweddaf a orchfygir ganddo—balchder. Mae fel calon y cwbl; y cyntaf yn fyw, a'r diweddaf yn marw. Gostyngeiddrwydd yw rhinwedd Crist, ac ysbryd Crist, unig addurn a harddwch Cristion, —unig blanigfa a meithrinfa Cristionogaeth. Mae mor bell oddiwrth fod yn niwed i un gras, fel y mae yn ei gysgodi rhag rhuthr a drwg; am hyny nid anmhriodol yw ei alw yn noddwr gras. Mae yr hwn a gario rasusau eraill heb ostyngeiddrwydd fel cario powdwr heb orchudd drosto mewn gwynt. Ychydig ŵyr neb am ei eisiau nad yw yn aml mewn gweddiau. Ychydig o weled daioni sydd lle nad oes moli. Mae cariad y creadur yn troi yr enaid yn ddaear. Calon dan reolaeth hunan—elw sydd bob amser yn anesmwyth. Mae hunan yn drallodwr poenus. Santeiddrwydd mewn Cristion yw delw Duw; rhagrithiwr yn ei ddynwared nid yw ddim ond delw Cristion. Os na ddylynir santeiddrwydd, peidier ei erlid. Fel mae enw yr Arglwydd, felly mae ei ffyrdd; i gyd yn rhyfeddol. Mae pob dyledswydd a orchymyn yr Arglwydd â'i addewid yn gysylltiedig wrthi. Pa beth yw archiadau Duw i'w blant ond ei addewidion cuddiedig? Addewidion Duw mewn effaith yw y rhwymiad y mae yn ei arddodi arno ei hun. Gair yr Arglwydd yn llaw ffydd yw ffon pererindod; ar hon mae pwyso pan yn diffygio, ac ymgysuro mewn ofn. Fe all ffydd gyflawni eisiau pob peth tymhorol. Mae ffydd yn fedd i ofal. Yr unig fel i bawb at bob peth yw eu dyledswydd. Mae cymaint o eisiau amynedd i ddysgwyl, ag sydd o eisiau olew ar y lampau. Gwir gariad Duw yn enaid dyn, yr hyn yw brawdgarwch diragrith, yw caru cyfaill yn Nuw, a charu gelyn o herwydd Duw. A gesglir trwy gybydd-dra a wasgerir mewn llwfrdra. Cryfder gyda chrefydd yn groes i ysbryd crefydd sydd ryfyg erchyll. Grym gwirionedd a bregethir yw ei oleuni, ei resymeg, a'i santeiddrwydd. Y rhagoriaethau mwyaf bâr y genfigen ffyrnicaf. Pa fwyaf tanbaid bo'r gwirionedd, mwyaf amlwg fydd yr anwiredd. Y mwyaf ysbrydol yw y mwyaf anoddefol. Nesâu at ffau, nesâu at lewod. Mwyaf dros Dduw yw y mwyaf yn erbyn y diafol; a'r mwyaf yn erbyn y diafol a wrthwynebir fwyaf gan y diafol. Pleidwyr mwyaf diafol yw rhith crefyddol, a'r mwyaf rhith crefyddol yn bleidiwr i satan yw y cnawdol yn meddu y manteision mwyaf yn grefyddol; megys dysg, dawn, gwybodaeth, a swyddau. Y peth sydd yn dyrysu y byd bach hwn yw bod pethau da lle mae arglwyddiaeth pechod, a llawer o bethau drwg lle mae arglwyddwyddiaeth gras. {{nop}}<noinclude></noinclude> sh0u0cpvrdeqzr64364qrjq3uozpclw Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/196 104 84812 164660 2026-05-15T21:07:50Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae arglwyddiaeth pechod lle nad oes edifeirwch am bechod. O bob twyll, y twyll mwyaf yw y gwaethaf. O bob colled i natur yn y byd, colli y bywyd yw y mwyaf; o bob colled i ddyn, colli ei enaid yw y mwyaf. Unig reol iawn farn am bob peth yw gair Duw. Gelyn mwyaf dyn yw ef ei hunan; cariad mwyaf dyn ato ei hun yw ei berygl mwyaf iddo ei hun. Nid oes dim mor rhagorol a daioni, na dim daioni mor deilwng a'r hwn sydd unigol, neillduol... 164660 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae arglwyddiaeth pechod lle nad oes edifeirwch am bechod. O bob twyll, y twyll mwyaf yw y gwaethaf. O bob colled i natur yn y byd, colli y bywyd yw y mwyaf; o bob colled i ddyn, colli ei enaid yw y mwyaf. Unig reol iawn farn am bob peth yw gair Duw. Gelyn mwyaf dyn yw ef ei hunan; cariad mwyaf dyn ato ei hun yw ei berygl mwyaf iddo ei hun. Nid oes dim mor rhagorol a daioni, na dim daioni mor deilwng a'r hwn sydd unigol, neillduol, canys mae hyn yn dangos purdeb ac ardderchawgrwydd egwyddor. Yn ol argyhoeddiad ein barnau y penderfynir ein hymddygiadau. Wrth weled y nifer sydd yn barhaus ac yn gyson wrandawyr pregethu yr efengyl, fe ellid meddwl eu bod yn wir addolwyr Duw; ond pan dylynir hwy i'w tai, fe welir nad ydynt ddim gwell na phaganiaid, na chystal; canys mae gan y paganiaid eu delwau teuluaidd a addolir ganddynt bob dydd yn ddinacad; ond mae y rhai hyn yn fwy digrefydd yn eu teulu na'r ŷch yn y beudy. Os Cristionogion, byddwn Gristionogion; os Israeliaid, byddwn Israeliaid yn wir. Mae boddloni am grefyddol ar ymarferiadau eglwysol, megys proffesu, darllen y gair, gwrando, pregethu, canu, gweddio, a chymuno, heb ddim crefydd deuluaidd, yn gyfeiliornad damniol. Megys nas gellir rhanu Crist, nis gellir rhanu Cristionogaeth; mae yn rhaid iddi fod yn gyfan mewn rhanau neu fod yn ddim. Mae rhai tymherau dynol i gyd yn eithafion; os bodd, coroniad; os anfodd, croeshoeliad; hyn yw eu holl ymddygiad. Mae gofyn cwestiynau crefyddol i'r rhai hunan-ddoeth cnawdol yn dra pheryglus a niweidiol. Gweddi heb daerni sydd fel cloch yn canu—i gyd yn swn heb ddim sylwedd. Mae yn ymddangos fod tri pheth prin yn mhrofiadau Cristionogion yn y dyddiau hyn; yn 1. Goruchafiaeth ffydd ar y byd. 2. Gorfoledd yr iachawdwriaeth. 3. Y fuddugoliaeth sydd yn Nghrist Iesu ar angau a'r bedd. Y cymhwysaf i fyw yn y byd yw yr hwn a ŵyr na fedr; y cymhwysaf i fyw mewn eglwys yw y mwyaf adnabyddus; y cymhwysaf i fyw mewn teulu yw y mwyaf dyoddefus; y cymhwysaf i fyw ato ei hun yw y mwyaf ofnus am dano ei hun; y cymhwysaf i fyw at Dduw yw y mwyaf gwylaidd. Celfyddwr yw iawn ymddwyn yn ffordd dyledswydd am gysur. Llaw a llygad sydd iawn drefniad. Cael ysbryd gweddi yw y cael mwyaf yn nhaith Cristion, canys y mae yn effaith cymod â Duw, ac yn ernes am holl addewidion Duw. Ofni pechod yn mhob peth, yn mhob man, bob amser, sydd effaith ofni yr Arglwydd; a phechu yn erbyn Duw sydd yn ei achosi. Myfyrdod yw mamaeth cof; cof yw mamaeth cadw; cadw yw mamaeth cynydd. Na fyno gynghor ni fyn addysg; na fyno addysg ni fyn wellhad. Gwraig ddrwg sydd felldith i'w theulu; gwraig dda sydd fendith; Nid oes un dyn heb feiau; mae nodi beiau i leihau rhinweddau yn sicr nodau balchder a chenfigen. mae y naill yn dystrywio, mae y llall yn adgyweirio. Mae y peth nad yw ei eisiau, ar y ffordd. {{nop}}<noinclude></noinclude> guytonfiioftr44oj06p26uowge56sq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/197 104 84813 164661 2026-05-15T21:08:18Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae arnaf ofn pawb, mae arnaf ofn pob peth, mae arnaf ofn pob man, heb Dduw gyda mi. Mae magl mewn dyn heb Dduw ynddo. Mae profedigaeth yn mhob man heb Dduw ynddo i waredu; mae anallu at bob peth heb Dduw i nerthu ato. Yn nghyfeillach ymwelwr na fydd ddarllenwr; mewn cyfeillachu gwylia ar lefaru. Gochel dy dwyllo gan agwedd fo'n swyno. Nid wrth fwynder geiriau y mae adnabod tymherau; yr arafa ei agweddau yw y poethaf ei nwydau. A... 164661 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae arnaf ofn pawb, mae arnaf ofn pob peth, mae arnaf ofn pob man, heb Dduw gyda mi. Mae magl mewn dyn heb Dduw ynddo. Mae profedigaeth yn mhob man heb Dduw ynddo i waredu; mae anallu at bob peth heb Dduw i nerthu ato. Yn nghyfeillach ymwelwr na fydd ddarllenwr; mewn cyfeillachu gwylia ar lefaru. Gochel dy dwyllo gan agwedd fo'n swyno. Nid wrth fwynder geiriau y mae adnabod tymherau; yr arafa ei agweddau yw y poethaf ei nwydau. A ddygo ei hun ni raid wrth arall; na ddygo ei hun nis gall arall. Santeiddiedig gystuddiau sydd ysbrydol ddyrchafiadau. Llyfr egwyddorion yw y Bibl, nid llyfr dadleuon. Mae medru atal y tafod y fedr fwyaf i ddyn. Mae gwybod amser i dewi ac amser i lefaru y wybodaeth oreu mewn cwmpeini. Iselu mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi adgyfodiad i feiau; codiad mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi codiad i rinweddau, pan y gall mewn gwirionedd na byddo'r naill na'r llall. A feio bawb ond ei hun a feïir ei hun gan bawb; a feio ei hun nis beïir gan neb. Serchiadol a defnyddiol yw goreu gwraig mewn gwaddol. Rhinwedd yw rhagoriaeth, teilyngdod yw canmoliaeth. Nid oes un rheswm heb reol, nac un rheol heb wirionedd. Gwell yw cariad nag aur; arian a ateb i bob peth, ond ni cheir cariad er arian. Gwell yw cariad heb aur, nag aur heb gariad. Cariad heb aur wna lety oer yn gynes; aur heb gariad wna lety cynes yn oer. Yr hwn ni wel fraint mewn gweddi ni ddylai gael pregethu. Gyda'r dig na hir drig. Mae cenfigen fel cnoi esgyrn, yn tori danedd ac yn chwanegu pydredd. Iawn ddeisyfiad yw, Gwared fi rhag pob dyn, yn enwedig rhagof fy hun. Nid oes neb a obeithia yn Nghrist ond sydd yn anobeithio ynddo ei hun. Ni wel neb y nefoedd sydd yn Nghrist ond a wel yr uffern sydd ynddo ei hun. Nid yw y weledigaeth fwyaf o hyn ond dechreu gweled, a'r gweledydd mwyaf am hyn a ŵyr hyn fwyaf. Ochrog sydd wyrog; y canol yw'r cymhwys. Dydd byr a ffordd hir i'w theithio bâr lesmeirio. Llawer o waith ac ychydig am dano bâr i'r cryfaf i ddiffygio. Yr hwn ni adwaen hunanol yn ei oreuon sydd a'i oreuon yn hunanol. Prif dangnefedd crefydd yw gwaed Crist; prif drysor crefydd yw cyflawnder Crist; prif obaith crefydd yw eiriolaeth Crist; prif ddymuniad crefydd yw gogoneddu Crist; prif nefoedd crefydd yw bod gyda Christ. Undeb a Christ yw yr unig beth angenrheidiol sydd raid i bob dyn ei feddu at farw yn dduwiol; gras adnewyddol sydd raid i bob duwiol gael yn yr amgylchiad hwnw at farw yn gysurol,<noinclude></noinclude> mjipufc05gqcr9wadinng80dgeo0fvg 164662 164661 2026-05-15T21:09:05Z AlwynapHuw 1710 164662 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae arnaf ofn pawb, mae arnaf ofn pob peth, mae arnaf ofn pob man, heb Dduw gyda mi. Mae magl mewn dyn heb Dduw ynddo. Mae profedigaeth yn mhob man heb Dduw ynddo i waredu; mae anallu at bob peth heb Dduw i nerthu ato. Yn nghyfeillach ymwelwr na fydd ddarllenwr; mewn cyfeillachu gwylia ar lefaru. Gochel dy dwyllo gan agwedd fo'n swyno. Nid wrth fwynder geiriau y mae adnabod tymherau; yr arafa ei agweddau yw y poethaf ei nwydau. A ddygo ei hun ni raid wrth arall; na ddygo ei hun nis gall arall. Santeiddiedig gystuddiau sydd ysbrydol ddyrchafiadau. Llyfr egwyddorion yw y Bibl, nid llyfr dadleuon. Mae medru atal y tafod y fedr fwyaf i ddyn. Mae gwybod amser i dewi ac amser i lefaru y wybodaeth oreu mewn cwmpeini. Iselu mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi adgyfodiad i feiau; codiad mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi codiad i rinweddau, pan y gall mewn gwirionedd na byddo'r naill na'r llall. A feio bawb ond ei hun a feïir ei hun gan bawb; a feio ei hun nis beïir gan neb. Serchiadol a defnyddiol yw goreu gwraig mewn gwaddol. Rhinwedd yw rhagoriaeth, teilyngdod yw canmoliaeth. Nid oes un rheswm heb reol, nac un rheol heb wirionedd. Gwell yw cariad nag aur; arian a ateb i bob peth, ond ni cheir cariad er arian. Gwell yw cariad heb aur, nag aur heb gariad. Cariad heb aur wna lety oer yn gynes; aur heb gariad wna lety cynes yn oer. Yr hwn ni wel fraint mewn gweddi ni ddylai gael pregethu. Gyda'r dig na hir drig. Mae cenfigen fel cnoi esgyrn, yn tori danedd ac yn chwanegu pydredd. Iawn ddeisyfiad yw, Gwared fi rhag pob dyn, yn enwedig rhagof fy hun. Nid oes neb a obeithia yn Nghrist ond sydd yn anobeithio ynddo ei hun. Ni wel neb y nefoedd sydd yn Nghrist ond a wel yr uffern sydd ynddo ei hun. Nid yw y weledigaeth fwyaf o hyn ond dechreu gweled, a'r gweledydd mwyaf am hyn a ŵyr hyn fwyaf. Ochrog sydd wyrog; y canol yw'r cymhwys. Dydd byr a ffordd hir i'w theithio bâr lesmeirio. Llawer o waith ac ychydig am dano bâr i'r cryfaf i ddiffygio. Yr hwn ni adwaen hunanol yn ei oreuon sydd a'i oreuon yn hunanol. Prif dangnefedd crefydd yw gwaed Crist; prif drysor crefydd yw cyflawnder Crist; prif obaith crefydd yw eiriolaeth Crist; prif ddymuniad crefydd yw gogoneddu Crist; prif nefoedd crefydd yw bod gyda Christ. Undeb a Christ yw yr unig beth angenrheidiol sydd raid i bob dyn ei feddu at farw yn dduwiol; gras adnewyddol sydd raid i bob duwiol gael yn yr amgylchiad hwnw at farw yn gysurol. {{nop}}<noinclude></noinclude> b8rwj3x1um54noa47y2wfmox3wc1bm7 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/199 104 84814 164664 2026-05-15T21:17:55Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{nop}}{{c|{{mawr|PENOD XII.}}<br> Penod i bawb.}} Yn gymaint a bod yr ymadroddion a ganlyn, y rhai a gyfansoddant y benod ddylynol, yn cynwys dywediadau cyffredinol ar gynifer o bethau, crefyddol a chymdeithasol, yr ydym yn cyfeirio y benod hon at bawb; ac y mae croesaw i bob un gymeryd cymaint ag sydd yn perthyn iddo, a myned rhagddo; fe allai y daw rhyw un i gymeryd at ryw bethau ag y mae efe yn eu gadael yn ol. Y maent yn ymadroddi... 164664 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{nop}}{{c|{{mawr|PENOD XII.}}<br> Penod i bawb.}} Yn gymaint a bod yr ymadroddion a ganlyn, y rhai a gyfansoddant y benod ddylynol, yn cynwys dywediadau cyffredinol ar gynifer o bethau, crefyddol a chymdeithasol, yr ydym yn cyfeirio y benod hon at bawb; ac y mae croesaw i bob un gymeryd cymaint ag sydd yn perthyn iddo, a myned rhagddo; fe allai y daw rhyw un i gymeryd at ryw bethau ag y mae efe yn eu gadael yn ol. Y maent yn ymadroddion tlysion, buddiol, a ffraeth, ac yn dyweyd llawer iawn am ddullwedd yr awdwr, mwy fe allai nag a fyddai yn bosibl ei ddyweyd trwy ddesgrifiad hebddynt. Yr ydym yn eu rhoddi gan hyny er cyrhaedd dau ddyben; sef yn gyntaf, i ddesgrifio ei briod-ddull, ac hefyd er buddioldeb cyffredinol. Fe welir, yn ddiamheu, y byddant yn werth eu darllen lawer gwaith drostynt ynddynt eu hunain, ar wahan oddiwrth y Cofiant. Holl wybodaeth y grefydd Gristionogol yw gair yr Arglwydd; ei holl adnabyddiaeth, y ffydd; ei holl rinwedd yw tywysiad yr Ysbryd Glân. Adnabyddiaeth o'r Arglwydd yw planiad delw Duw ar yr enaid. Mewn cymdeithas â'r Arglwydd mae yr holl natur yn cael ei santeiddio, yr hyn yw tebygoli i Dduw; ac mewn pob gradd o gydffurfiad ag ewyllys Duw, yr hyn yw ei air, mae tangnefedd yn cael ei fwynhau. Callineb, arafwch, a gostyngeiddrwydd yw prif addurn dyn. Mae hyn heb na defnyddiol iawn na duwiol iawn, yn gwneyd y perchenog i fod yn barchedicaf mewn cyfundeb. Pump annghysur mewn teulu yw teulu o annghysur:—1. Anwybodus. 2. Annefnyddiol. 3. Anfedrus. 4. Anserchiadol. 5. Anufudd. Lle mae hyn nid oes fesur ar y gofid. 1. Rhyfel poethaf y Cristion yw hunan-ymwadiad. 2. Gelyn penaf Cristion yw annghrediniaeth. 3. Gwaith hyfrytaf Cristion yw gweddio. 4. Dyledswydd fanylaf Cristion yw gwylio. Cyfoeth meddylfryd yw, amrywiol, trefnol, gwreiddiol, a naturiol. Hyn, dan ddylanwad ysbryd yr efengyl, yw duwiol a defnyddiol, a phrin iawn yn yr oes bresenol. Yr ydwyf yn dri phechadur mewn un: 1. Pechadur naturiol, euog, ac aflan. 2. Pechadur crefyddol. Mae fy holl gyfiawnderau megys bratiau budron. 3. Pechadur swyddogol—pechadur pregethwrol. Nid wyf yn abl gweled dim yn wyneb y tri hyn yn haeddedigaeth i mi ond damnedigaeth; am hyny yr wyf â'm holl<noinclude></noinclude> 4uv4mmbgyj6sd8tk9so3te4stepioui Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/200 104 84815 164665 2026-05-15T21:18:27Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "galon am fod fy holl fywyd yn ffoedigaeth i'r Noddfa, trwy gyson a dibaid roddiad arnaf fy hun i Geidwad y colledig, a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai penaf ydwyf fi. Y Tad a'm tyno; Crist a'm golcho; yr Ysbryd Glân a'm selio; yr hyn yw fy unig obaith am fywyd. Nid hanes na dysg yw hyn, ond profiad; er na bu genyf brofiad erioed oedd yn ddigon dwys a phrofiadol. Un o ryfeddodau mwyaf y nef, os nid y mwyaf, fydd i mi fod yn... 164665 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>galon am fod fy holl fywyd yn ffoedigaeth i'r Noddfa, trwy gyson a dibaid roddiad arnaf fy hun i Geidwad y colledig, a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai penaf ydwyf fi. Y Tad a'm tyno; Crist a'm golcho; yr Ysbryd Glân a'm selio; yr hyn yw fy unig obaith am fywyd. Nid hanes na dysg yw hyn, ond profiad; er na bu genyf brofiad erioed oedd yn ddigon dwys a phrofiadol. Un o ryfeddodau mwyaf y nef, os nid y mwyaf, fydd i mi fod yn ddigywilydd. Nid oes arnaf ofn un gelyn ond hunan, nac ofn digio neb ond yr Arglwydd, nac ofn un drwg ond pechod. Pedwar cael a cholli yw y nefoedd yr wyf yn ei cheisio. 1. Colli llygredd mewn santeiddrwydd. 2. Colli hunan yn Nuw. 3. Colli ofn mewn cariad. 4. Colli gwendid mewn nerth; a chan mai dyfroedd y bywyd yw hyn, a gafwyd trwy waed Crist, a chroesaw i bawb a sychedo ac a ewyllysio eu cymeryd, paham y byddaf finau hebddynt? Sylw wnaeth y Parch. Daniel Evans, Harlech, yn Wdig wrth bregethu ar y salm, "Wele ceraist wirionedd oddifewn;" hyny yw, egwyddor meddwl syml a diragrith. Dywedai y gallai dyn fod yn broffeswr uchel, parchus gan bawb, pawb yn ddiddig ato, heb wirionedd oddimewn; ond mai y peth oedd diafol yn cynddeiriogi wrtho fwyaf oedd y gwirionedd hwn oddimewn, a'i fod yn gwneyd ei holl egni i gynhyrfu pawb yn erbyn y person a'i medd. Y mae fel lleidr, yr hwn ni anturia ddim lle y mae y pwrs yn wag, pan yr anturia ei fywyd at un llawn, fel y gwna y mwnwr yn gwasgar y llwch ac yn dryllio y graig, i gael gafael ar y wythien; nid at y pridd na'r ceryg y mae ei amcan ef, ond at y wythien. Fe gynhyrfodd pawb yn erbyn Job; nid at ei feddianau oedd y llid, ond at ei uniondeb a'i berffeithrwydd, —"gwirionedd oddimewn." Bu hyn yn gymaint bendith i mi a phe daethai yn llythyr seliedig o'r nefoedd. Dymunol gan bob credadyn fyddai cofio holl weddiau Dafydd, holl ddiarebion Solomon, holl athrawiaeth Paul, holl gynghorion Pedr, Iago, ac Ioan. Yn wyneb pob methiant am hyn, y peth cyflawnaf yw ofn Duw yn y galon. Gwell cariad nag aur. Gwell heddwch na thrysor. Gwell rhinwedd na meddiant. Gwell diddig na dawn. Gwell ofn Duw na meddu byd. Maint egwyddor gwir wir grefydd yw santeiddrwydd. Maint gwir wybodaeth yw ffydd. Maint gwirionedd crefydd yw cariad sydd yn y gair, cariad sydd at y gair, santeiddrwydd sydd yn ol y gair. Y gwahaniaeth sydd rhwng ffydd hanesiol a ffydd gadwedigol yw fod yr hanesiol yn ymchwyddol, a'r llall yn ymostyngol; a rhwng cariad cnawdol a chariad ysbrydol yw, fod y naill at amgylchiadau y gair, a'r llall at burdeb y gair. Tri dymuniad: —Credu yn gywir yn Nghrist, ymddiried yn gywir yn Nghrist, rhoddi yr holl ogoniant yn gywir i Grist, trwy ras Crist, a chymeradwyaeth yn Nghrist. Mae holl afrwydd ac aflwydd Cristion yn ei ddaearoldeb, —edrych<noinclude></noinclude> gcg1c6m4vyr7mko4p08xrzzdmrqzit2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/201 104 84816 164666 2026-05-15T21:19:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ar y pethau a welir; mae ei holl rwydd a'i lwydd mewn nefoldebedrych ar y pethau ni wėlir. Syniad y cnawd, daearoldeb yw; syniad yr ysbryd, nefoldeb a thangnefedd yw. At feddu y syniad hwn mae yn rhaid meddu bywyd ysbrydol, yr hyn yw anian dduwiol; ameddu llygaid ysbrydol, yr hyn yw ffydd; a goleuni ysbrydol, yr hyn yw nerth ysbryd Duw; ac nid yw hyn heb ymdrech. Trefn yr iachawdwriaeth yw noddfa pechadur, gras yr Arglwydd yw cysur pe... 164666 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar y pethau a welir; mae ei holl rwydd a'i lwydd mewn nefoldebedrych ar y pethau ni wėlir. Syniad y cnawd, daearoldeb yw; syniad yr ysbryd, nefoldeb a thangnefedd yw. At feddu y syniad hwn mae yn rhaid meddu bywyd ysbrydol, yr hyn yw anian dduwiol; ameddu llygaid ysbrydol, yr hyn yw ffydd; a goleuni ysbrydol, yr hyn yw nerth ysbryd Duw; ac nid yw hyn heb ymdrech. Trefn yr iachawdwriaeth yw noddfa pechadur, gras yr Arglwydd yw cysur pechadur, Crist yr Arglwydd yw digonedd pechadur, enw yr Arglwydd yw dyogelwch pechadur, Ysbryd yr Arglwydd yw lladmerydd y pechadur, trugaredd yr Arglwydd yw concwest y pechadur, efengyl yr Arglwydd yw trysorfa y pechadur, delw yr Arglwydd yw harddwch pechadur, bodd yr Arglwydd yw cyfoeth pechadur, gair yr Arglwydd yw y golofn i bechadur, tŷ yr Arglwydd yw trigfan pechadur, gwaith yr Arglwydd yw gwasanaeth pechadur, pobl yr Arglwydd yw perthynasau pechadur, nefoedd yr Arglwydd yw cartref pechadur, wyneb yr Arglwydd yw goleuni pechadur. Hyn mewn ffydd yw credo pechadur sydd gredadyn. Defnyddio y Gwaredwr yw rhoi yr holl ofal arno, yn enwedig gofal ein profedigaethau oddiwrth bicellau tanllyd y fall, a rhag ein temtio uwchlaw yr hyn a allom, a rhag awr chwyrn, ryferthol y brofedigaeth; a gofal ein hofnau am gyflwr, rhag bod heb ein symud o farwolaeth i fywyd; ac am ffydd, rhag nad yw yn ddiffuant—yn ffydd gyfiawnhaol; ac am ein gweddiau, rhag eu bod yn rhai ysgafn, rhagrithiol, a hunanol; ac oblegyd hyny yn y cnawd, heb allu rhyngu bodd Duw; ac am ein hadnabyddiaeth o'r Arglwydd, rhag nad yw yr adnabyddiaeth sydd genym yn ei adnabod ef, a Iesu Grist, yr hwn a anfonodd. Rhoddi yr holl ofal am hyn arno ef yw bwrw ein baich ar yr Arglwydd, i roddi y gogoniant iddo, ac ymddiried ynddo, fel y mae yn Waredwr; mae hyn mewn arferiad parhaus yn dangos bod heb dwyll. Prawf sicr o adnabod yr Arglwydd, er mewn llawer o ofnau, yw rhodio yn ofn yr Arglwydd. Rhodio yn ei ofn yw crynu wrth ei air; crynu wrth ei air yw dymuniad a gofal am ufudd-dod dyn i'w holl air. Nerth i gynal yn wyneb marw yw nerth i ymddiried yn yr Arglwydd; hyny yw, nerth i ddysgwyl wrth ei air, sydd yn dangos trefn iachawdwriaeth i gadw colledig. Fe ddichon y bydd profiadau gwahanol lle byddo hyn, a hyny lawer gwaith oblegyd llawer o amgylchiadau, a hefyd yn ol ewyllys Duw, rhai yn fwy gorfoleddus, ac eraill yn fwy ofnus. Mae cynal meddwl mawr am ei drugaredd yn y glyn yn fwy ei werth na'r holl fyd. Ymarfer i ymwrthod â phob meddwl cul am Dduw trwy ffoi at ei enw mawr gogoneddus sydd dŵr cadarn. Mae pethau crefyddol duwiolion dan effeithiau mawr oddiwrth eu pethau dynol, megys iechyd ac afiechyd, amgylchiadau, sefyllfaoedd bydol llwyddianus, aflwyddianus, neu helbulus; tymherau naturiol, dygiad i fyny, llwybr ac arferiad y meddwl, helaethrwydd neu brinder gwybodaeth ac amgyffrediad. Mae effeithiad gan y pethau hyn ar bethau crefyddol duwiolion yn debyg o achosi camsyniadau oddiwrth eraill am eu duwioldeb. {{nop}}<noinclude></noinclude> tskd3qbakeu5aoihkgxj1rw7qyn0a90 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/202 104 84817 164667 2026-05-15T21:19:29Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Harddwch dyn yw gostyngeiddrwydd. Nid oes un dyn ar y ddaear yn rhy isel, beth bynag fyddo ei iselder, i fod yn un hardd, os bydd yn ostyngedig. Nid oes un dyn ar y ddaear yn ddigon uchel, beth bynag fyddo ei uchder, i fod yn hardd, os bydd yn falch; ond mwy na phob anharddwch y balch yw fod Duw yn wrthwynebwr iddo; a mwy na phob harddwch y gostyngedig yw, ei fod yn wrthddrych i roddi gras iddo. At obeithio yn unig yn Nuw, mae yn rhai... 164667 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Harddwch dyn yw gostyngeiddrwydd. Nid oes un dyn ar y ddaear yn rhy isel, beth bynag fyddo ei iselder, i fod yn un hardd, os bydd yn ostyngedig. Nid oes un dyn ar y ddaear yn ddigon uchel, beth bynag fyddo ei uchder, i fod yn hardd, os bydd yn falch; ond mwy na phob anharddwch y balch yw fod Duw yn wrthwynebwr iddo; a mwy na phob harddwch y gostyngedig yw, ei fod yn wrthddrych i roddi gras iddo. At obeithio yn unig yn Nuw, mae yn rhaid cael yr olwg yn unig ac yn llwyr oddiwrth bawb a phob peth i gyd at drefn yr iachawdwriaeth, heb edrych dim yn ol ar a fu yn achos y goreu o ddynion, heb edrych dim ar y sydd yn perthyn i'r goreu o ddynion, ac heb edrych dim ar a fydd am y goreu o ddynion; canys y mae yn hanes pawb o ddynion, y duwiolaf, ddigon i ddyrysu y doethaf. Yr olwg hon gan hyny yw dystewi yn yr Arglwydd, a dysgwyl wrtho; ymffrostio yn unig yn yr Arglwydd, a bod a'r holl ymddiried yn unig a byth ynddo; canys er bod y cwmwl tystion i'w ddefnyddio fel arwyddion ffordd, nid oes neb ond Iesu i edrych arno at redeg yr yrfa a osodwyd o'n blaen. Mae y cwbl am y nefoedd mewn hawl, cymhwysiad, a mwynhad, yn cael ei feddu yn ernes gan bawb a wnelo drefn yr iachawdwriaeth eu noddfa. Mae yr hawl mewn cyflwr, mae y cymhwysder mewn anian, mae y mwynhad mewn dymuniad nas digonir ond gan ddelw Duw. Mae y cwbl am y nefoedd ond a geir yn nghynwysiad hyn, yn tueddu yn fwy at ddychymygion cnawdol a syniadau dynol nag at olygiadau ysbrydol sydd i'w hadnabod yn unig wrth air Duw. Pe chwanegid llawer o flynyddoedd at a gafwyd, nid oes dim i wneyd na wnawd, ac a wneir yn barhaus bob dydd at gyfarfod yr awr y daw Mab y dyn; hyny yw, rhoddi y penaf pechadur, yn wyneb cymhwysder trefn yr iachawdwriaeth, i Dduw yn ol ei orchymyn. Rhoddwch eich hunain i Dduw; yr hyn a wneir mewn defnyddiad o weddi y publican, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi bechadur;" ac o ddesgrifiadau Dafydd, "Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ol dy drugarogrwydd; yn ol lluaws dy dosturiaethau dilea fy anwireddau;" ac o'r un cais a'r apostol Paul, "A'm cair ynddo ef." Os bod yn Nghrist yw hyn, mae y gwrthddrych hwn ynddo—nid heb lawer o ofnau. "Dim ond diolch yw fy lle." Pan byddo eraill yn cyfarth, minau ddiolchaf; os cawsant hwy eu gwenwyno, mi a gefais fy nghysuro, nid cymaint gan y rhodd a chan ei hachos. Mae cael bod yn gydddinesydd â'r saint, ac yn un o deulu Duw, y fraint uchaf yn y byd. Mae bod yn foddlon i farw yn yr amser terfynedig i hyny, gan ddysgwyl yn unig wrth drugaredd yr Arglwydd, yn ol ewyllys Duw, am fywyd tymhorol a thragywyddol. Mae gofyn yn barhaus faddeuant am bob bai, yn unol â threfn Duw am ei drugaredd i bechadur. Mae iawn synied am yr hyn a gyfrifir yn wendidau i ddynion yn angenrheidiol at beidio cyfeiliorni am hyn. Nid yw bod y fuchedd hon i bob dyn yn sefyllfa o bechadurusrwydd ac anmherffeithrwydd {{nop}}<noinclude></noinclude> r9lulrcdw0snruapw7gjooc70bbpc0r Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/204 104 84818 164669 2026-05-15T21:24:57Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "dyn yn ol yr efengyl yw pechadur i Grist. Duw a phechadur yn cyfarfod â'u gilydd yn Nghrist yw hyn. Mewn undeb â Christ, pechadur yn ei le, Duw yn ei drefn, yw sicrwydd am fendith. Y cwbl at Dduw yw edifeirwch; cwbl pechadur at Grist yw ffydd, cwbl pechadur ato ei hun yw hunan-ymwadiad. Mae y cyntaf yn ddychweliad at Dduw, yr ail yn ymorphwysiad ar drefn Duw, y trydydd yn ffoedigaeth oddiwrth hunan at Dduw. Cynwysiad egwyddorion gwir... 164669 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dyn yn ol yr efengyl yw pechadur i Grist. Duw a phechadur yn cyfarfod â'u gilydd yn Nghrist yw hyn. Mewn undeb â Christ, pechadur yn ei le, Duw yn ei drefn, yw sicrwydd am fendith. Y cwbl at Dduw yw edifeirwch; cwbl pechadur at Grist yw ffydd, cwbl pechadur ato ei hun yw hunan-ymwadiad. Mae y cyntaf yn ddychweliad at Dduw, yr ail yn ymorphwysiad ar drefn Duw, y trydydd yn ffoedigaeth oddiwrth hunan at Dduw. Cynwysiad egwyddorion gwir grefydd yw trugaredd, pechadur, a gweddi. Trugaredd yw gobaith bywyd, pechadur yw profiad bywyd, gweddi yw arferiad bywyd. Fy nghwbl am danaf fy hun fel dyn, fel crefyddwr, ac fel pregethwr yw gwaeleddau. Os oes gan ryw ddyn ryw beth dynol i ymffrostio ynddo, nid myfi; os oes gan ryw grefyddwr ryw beth crefyddol i ymffrostio ynddo, nid myfi; os oes gan ryw bregethwr ryw beth pregethyddol i ymffrostio ynddo, nid myfi. Nid oes dim yn gymhwys i mi ond fy nghael ynddo Ef. Lle mae y Jehofa yn wrthddrych blaenaf dymuniad, a Christ yn bob peth at gyrhaedd y dymuniad hwnw, a'r nefoedd yn unig wlad a chyflwr i fwynhau y dymuniad hwnw, y mae yno anian dduwiol. Mae cymaint o gymysgedd, gwendid, ac anmherffeithrwydd yn nglyn â phob dymuniad, fel nad oes dim yn bod heb ofnau am dano sydd ysbrydol tra byddis yn y cnawd: effaith gnawdol yw ofnau. Mae yr Arglwydd yn ddiau trwy weinidogaeth y gair yn y dyddiau hyn yn gweithio y gwaith da mewn dynion; ond am nad yw yn gweithio yn yr un dull a modd ag yr oedd yn y blynyddoedd aethant heibio, mewn ofn a braw, pan oleuid hwy gyntaf am berygl eu cyflwr, nes llefain allan pa beth i wneyd i fod yn gadwedig, nid yw mor amlwg yn y dyddiau hyn a'r dyddiau hyny. Fe all dau beth fod yn achos o hyny: y gwelliant sydd ar addysg er helaethiad gwybodaeth a deall, nad oedd y dyddiau hyny; ac i waredu rhag ymddiried mewn profiadau, ac nid yn y gras sydd yn Nghrist Iesu. Mae yn debyg mai nid pell o feddwl y rhai a brofasant bethau nerthol, am grefydd ac am grefyddwyr na phrofodd yr un pethau yn yr un dull, eu bod yn ddim, a'u bod heb ddyfod i'r iawn, heb gael gwir symudiad, na meddu gwir grefydd. Er fod profiad yn peri gobaith, nid profiad yw gwrthddrych gobaith na defnydd gobaith, ond rhinwedd i nerthu gobaith, fel mae rhinwedd ymborth i nerthu natur trwy ymborth. Ofni yr Arglwydd yw prawf sicr am wir grefydd; ac nid holl berthynasau crefydd heb hyny. Prawf sicr am ofni yr Arglwydd yw crynu wrth ei air. Prawf sicr am grynu wrth y gair yw ufudd-dod i'w holl air, er yn anmherffaith yn wyneb rhan o'r gair. Prif ddymuniadau credadyn bob dydd o'i fywyd yw, cymod â Duw yn Nghrist, bod wrth fodd Duw trwy Grist, a mwynhau Duw trwy ysbryd a gair Crist; canys y mae Crist wedi ei wneyd yn bob peth i bechadur, ac y mae y pob peth hyny i bechadur. Mae bod yr holl sylw ar y peth y dylai ymddygiadau eraill fod tuag atom ni, ac heb un sylw ar y peth ddylai ein hymddygiadau ni fod at eraill, yn fwy o hunanol na dynol na chrefyddol. Canys mae<noinclude></noinclude> dpoov6emfx0pxlb2gd849l5sv7xci8s Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/205 104 84819 164670 2026-05-15T21:27:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn effaith gweled y beiau i gyd yn eraill, a dim ynom ein hunain. Nid yw hyn yn dangos fod beiau pawb yn gydradd, na bod rhai ymddygiadau yn fwy eu colliadau na'u gilydd; ond yn sicrhau bod y rhai sydd yn treulio fwyaf o'u hamser am y pethau y dylai pawb fod atynt hwy yw y rhai lleiaf yn y peth y dylent hwy fod at bawb. Gostyngeiddrwydd yw y brif wers i'w dysgu, a'r prif nod i brofi, a'r prif rinwedd i harddu, a'r prif ragoriaeth i ra... 164670 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn effaith gweled y beiau i gyd yn eraill, a dim ynom ein hunain. Nid yw hyn yn dangos fod beiau pawb yn gydradd, na bod rhai ymddygiadau yn fwy eu colliadau na'u gilydd; ond yn sicrhau bod y rhai sydd yn treulio fwyaf o'u hamser am y pethau y dylai pawb fod atynt hwy yw y rhai lleiaf yn y peth y dylent hwy fod at bawb. Gostyngeiddrwydd yw y brif wers i'w dysgu, a'r prif nod i brofi, a'r prif rinwedd i harddu, a'r prif ragoriaeth i ragori, a'r prif archiad at yr Iesu. Yr oedd ei holl athrawiaeth a'i holl fywyd yn ddefnyddiau i ufuddhau i'w gais a'i orchymyn: "Dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon." Mae yn rhaid geni o Dduw at fod yn dduwiol; mae yn rhaid geni oddiuchod at serchu yn y pethau sydd uchod; mae yn rhaid geni o'r Ysbryd at fod yn ysbrydol; mae yn rhaid geni o had anllygredig at fod yn sant; mae yn rhaid creu yn Nghrist at fod yn greadur newydd. Mae geni a chreu yn eiriau cyffelybiaethol am waith ysbrydol a grasol, a wneir gan Dduw yn unig. Ei waith ef yw hyn; mae y pob peth hyn o Dduw, yr hwn sydd yn gweithio hyn yn eneidiau dynion, ac i'w gael gan Dduw pan yr ofnir bod hebddo. Mae "pa beth a wnaf fel y byddwyf gadwedig?" yn mhob peth gwir grefydd, fel mae y gwaed trwy yr holl gorph. Er na ddywedir y geiriau mewn arferiad, eto mae ei gynwysiad mewn pob gwir ochenaid, pob gwir hiraeth, pob gwir deimlad, pob gwir ddymuniad, pob gwir ymarferiad; canys y mae yn effaith adnabod pla calon, ac o wybodaeth iachawdwriaeth. Nis gall bod yn ofyniad oddiar fod heb wybod am drefn iachawdwriaeth yn ngwlad yr efengyl, ond lle mae yn wirioneddol, oddiar angen am ei meddu; canys ffoi o hono ei hun oddiar adnabyddiaeth o'i golledigaeth ynddo ei hun yw ei gynwysiad. Mae yr Arglwydd yn gymaint o Wrandawr gweddi ei bobl yn wyneb eu drwg ag yn wyneb eu da, canys nid eu da a'u drwg yw na sail, na rheol, na grym i weddio, ond trefn Duw yn Nghrist i dderbyn pechadur; eto mae y gradd lleiaf o barchu pechod yn y galon yn atal gweddi ger bron Duw. Parchu pechod yn y galon yw dyn yn cuddio ei bechod, yn ei wadu, ei fychanu, a pheidio ei gyffesu. Credu heb ddiffygio, er cymaint annghrediniaeth; caru yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint ansanteiddrwydd; edifarhau heb ddiffygio, er cymaint pechadurusrwydd; hunan-ymwadu heb ddiffygio, er cymaint hunanolrwydd; gobeithio heb ddiffygio, er cymaint yn erbyn gobaith; dysgwyl wrth yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint yr erys; ymddiried yn yr Arglwydd heb ddiffygio, er cymaint yw y gwendid; a'r cwbl trwy ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, yw gwir ddymuniad enaid y penaf o bechaduriaid yn ymyl angau. Yn unig er mwyn bodd Duw, canys felly y gogoneddir Duw yn hyn o ran. Caru Duw yw caru ei berffeithiau; caru Crist yw caru ei rasusau; caru yr Ysbryd Glân yw caru ei weithrediadau; caru gair yr Arglwydd yw caru purdeb; caru eglwys Dduw yw corph duwioldeb; caru y nefoedd yw caru santeiddrwydd; rhoddi serch ar y pethau sydd uchod yw caru cyflwr duwiol, a'i berthynasau. Fe ellir cael<noinclude></noinclude> ga3hg8s3nww1x4lt02wabuitt9wrr3p Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/206 104 84820 164671 2026-05-15T21:27:40Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "lluaws o wahanol gangenau ac aralleiriau am y pethau hyn, yr hyn sydd fwy o orchwyl i bregethu nag i ddyfynu. Dyledswydd benaf Cristion yw hunan-ymwadiad; braint benaf Cristion yw ymddiried yn unig yn Nghrist; act benaf Cristion yw crynu wrth y gair; gofid penaf Cristion yw ei ddiffyg yn mhob un o honynt; ofn penaf Cristion rhag nad yw yn meddu pob un o honynt; gorchwyl penaf Cristion yw gwneyd hyn yn fater gweddi. Mae adnabyddiaeth... 164671 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lluaws o wahanol gangenau ac aralleiriau am y pethau hyn, yr hyn sydd fwy o orchwyl i bregethu nag i ddyfynu. Dyledswydd benaf Cristion yw hunan-ymwadiad; braint benaf Cristion yw ymddiried yn unig yn Nghrist; act benaf Cristion yw crynu wrth y gair; gofid penaf Cristion yw ei ddiffyg yn mhob un o honynt; ofn penaf Cristion rhag nad yw yn meddu pob un o honynt; gorchwyl penaf Cristion yw gwneyd hyn yn fater gweddi. Mae adnabyddiaeth o bechadurusrwydd yn wastad yn mhob peth o ddefnydd i Gristion; at gadw y meddwl mewn agwedd ostyngedig, edifeiriol tuag at Dduw. Y sant mwyaf dros Dduw yw y pechadur mwyaf mewn cydnabyddiaeth ger bron Duw. Yr un egwyddor sydd at y ddau; mae yn rhaid gan hyny mai cynydd mewn santeiddrwydd yw hyn, cynydd adnabyddiaeth o halogrwydd; am hyny pwy nesaf fyddo at y nefoedd, mwyaf i gyd yw ei hunan-ffieiddiad. Pwy fwyaf goleu, mwyaf welir; pwy fwyaf o oleuni, lleiaf i gyd o dywyllwch. Mae llawer o ddiffyg Cristion, er ei ofid, am nad yw yn sylwi ar weithrediad egwyddorion y rhai sydd yn dangos eu gilydd: fel y mae y sant yn y Cristion yn myned yn fwy, mae ei bechadur hefyd yn myned yn fwy mewn teimlad. Gwneuthur yr Arglwydd yn noddfa, sef y Goruchaf yn breswylfa, yw galw arno yn mhob trallod, gobeithio ynddo bob amser, ymddiried ynddo byth; pan ddeallir mai braint i gredinwyr yw hon, amheuir nad yw iddynt hwy, am yr amheuant eu bod yn gredinwyr. Os ewyllysir gwneyd hyn, os ymdrechir gwneyd hyn, os dymunir gwneyd hyn, mae hyn yn profi credinwyr yn gwneyd hyn. Y peth sydd yn gwneyd hyn yn rhan o orchest y filwriaeth yw methu gwneyd yn ol y dymuniad, a methu cael yn ol y dystiolaeth. Yr un peth a diafol yw pechod. Pechod wnaeth angel yn ddiafol, a diafol wnaeth bechod. Cyfansoddiad diafol yw pechod, ac a wnaeth bechadur a phechod. Mae pechod yn gynnrychiolaeth weledig o ddiafol anweledig. Er mai gwirionedd pob gwir wybodaeth am hyn, fel am bob peth arall, yw gair yr Arglwydd, eto mae hyn yn brawf anwadadwy am ddiafol yn natur, egwyddor, cynwysiad, a niwed pechod, ac nis gall lai na bod, canys achos ac effaith ydynt. Mae yn hyn ddefnydd cryfach o ymresymiad nag y gall annghrediniaeth mewn tegwch ei wadu, canys y mae yn dangos ei hun ac yn profi ei hun yn mhob dyn ac at bob dyn yn y duedd a'r hawsdra iddo, ac yn yr annhuedd a'r anhawsdra i bob rhinwedd, yr hyn yw gwrthwyneb iddo. Os gwadir nad oes un diafol yn bod, fe wadir Bod anweledig, yr hwn a brofir yn bod, gan ei fod ei hun yn weledig. Yr un peth a Duw yw gras; hyny yw, pob gras. Efe yw Duw pob gras. Effaith o Dduw, rhinwedd o Dduw, delw Duw, yw gras; gan hyny cynnrychioliad o Dduw ar y ddaear yw gras Duw mewn dynion. Wrth air yr Arglwydd mae adnabod pob gras, ac wrth bob gras mae adnabod Duw pob gras, ac wrth bob gras Duw mae adnabod grasol. Os gwadir Duw a'i air gan annghrediniaeth annghredinwyr, fe wadir achos a brofir yn anffaeledig gan ei effaith. Ond peidied neb ryfeddu am y gwadu hwn, canys hyny yw egwyddor llygredigaeth y natur ddynol yn mhob dyn. {{nop}}<noinclude></noinclude> ti7lxfb1x0ip1xxc8ae4l4var2mfpy8 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/207 104 84821 164672 2026-05-15T21:27:55Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae yr un llygredigaeth yn aros ac yn perthyn i'r natur ddynol mewn cyflwr duwiol ag mewn cyflwr annuwiol; mae calon pob un o honynt yn llawn o bla. Y gwahaniaeth sydd rhyngddynt yw bod y naill yn ei adnabod, a'r llall heb ei adnabod. Lle yr adwaenir mae yn brif ofid, lle nis adwaenir nid yw ddim gofid. Fe wyr y rhai sydd yn gwir adnabod nad oes yn satan nac yn y taerwyr haerllug a mwyaf eu cableddau a'u hannghrediniaeth, ond yr un ann... 164672 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae yr un llygredigaeth yn aros ac yn perthyn i'r natur ddynol mewn cyflwr duwiol ag mewn cyflwr annuwiol; mae calon pob un o honynt yn llawn o bla. Y gwahaniaeth sydd rhyngddynt yw bod y naill yn ei adnabod, a'r llall heb ei adnabod. Lle yr adwaenir mae yn brif ofid, lle nis adwaenir nid yw ddim gofid. Fe wyr y rhai sydd yn gwir adnabod nad oes yn satan nac yn y taerwyr haerllug a mwyaf eu cableddau a'u hannghrediniaeth, ond yr un annuwiaeth ag sydd yn eu calonau hwy, a bod rhaid am gynaliaeth parhaus o air yr Arglwydd at atal crochan y pla i ferwi trosodd yn gableddau, ac i barhau bywyd ysbrydol. Mae galw ar yr Arglwydd yn mhob trallod, gobeithio ynddo am bob mwynhad, ymddiried ynddo yn mhob ofn, ymddigrifu ynddo yn mhob gofid, bwrw y baich i gyd arno, rhoi y gofal i gyd iddo, yn ei wneyd yn noddfa ac amddiffynfa yn rhodiad ffydd a buddugoliaeth ffydd, yr hyn sydd i'w gael trwy weddi ddyfal a nerth yr Ysbryd Glân o'r gras sydd yn Nghrist Iesu. Pedwar peth am y groes:—1. Gwybod na ellir dim bod hebddibod yn rhaid ei chael. 2. A bod yr hyn a roddir yn groes yn oreu i ni. 3. Ei chodi, ac nid ei damsang, yr hyn yw cynenu â hi. 4. Gogoneddu yr Arglwydd dani, mewn iawn ystyriaeth, teimlad priodol, ac ymostyngiad addfwyn. Mae cymaint o gnawdolrwydd yn nglŷn â phob ymarferiad crefyddol, yn dufewnol ac yn allanol, yn y Cristionogion goreu, fel y mae yn anhawdd y boddlonir hwy am wirionedd neb o'u cyflawniadau, pan yr ystyriant eu cariad at Dduw, gan mor gnawdol eu deall y maent, a'r duedd sydd ynddynt i'w fesur a'i farnu wrth gariad at wrthddrychau cnawdol, pan nad yw yr un natur, na'r dylanwad yr un peth. Cariad ysbrydol yw, ac ysbrydol yw ei ddylanwad: ac felly hefyd am ffydd. Pan feddyliont am edrych ar y peth ni welir, maent yn teimlo cymaint yn fwy yw effaith golwg arnynt na ffydd, a syniad cnawdol na syniad ysbrydol; a chymaint yn fwy yw effeithiau nwydau arnynt nag ymddiried yn unig yn yr Arglwydd, fel y teimlant mai priodol fyddai dyweyd wrthynt, "Pa fodd nad oes genych ffydd?" Felly hefyd am amynedd ac arafwch: mae cymaint o wylltineb, terfysg, a byrbwylldra, nes mae y grasau hyn allan o'r golwg. Felly y teimlant am eu holl ymarferiadau. Gwrando y gair, gweddio, cymuno, canu, mae cymaint o gymysgedd cnawdolrwydd gyda phob peth, fel prin y gwelant ddim ynddo ond hyny. Mae hyn yn dangos fod gwyliadwriaeth, gweddi, ofn, ac ymddiried yn Nghrist, i'w hymarfer yn wastad gyda phob cyflawniad, at addoli yr Arglwydd mewn ysbryd a gwirionedd. Arosiad ysbryd yr Arglwydd gyda'i bobl, yr hyn yn unig sydd i fod yn ol ei air, yw eu holl fywyd, eu holl harddwch, eu holl lwyddiant, a'u holl gysur. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y mater hwn: "Yn ol y gair a amodais â chwi, felly yr erys fy Ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch." Prif ddyledswydd Cristion yw hunan-ymwadiad; prif ofn Cristion yw na fedr hunan-ymwadiad; prif ddymuniad Cristion yw am ddysgu hunan-ymwadiad; prif gydymaith pob Cristion yw, Gwared fi rhagof<noinclude></noinclude> 04qp1xtbfis99w1d23c23rjzzec8cnt Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/209 104 84822 164674 2026-05-15T21:33:59Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Os bydd ofn Duw o flaen ei lygaid, mae y ffydd yn gywir, er na byddo y teimlad yn dyner ac yn frawychus. Fe all na bydd profiadau yr holl Gristionogion yn mhob peth yr un fath mewn hyder ac mewn ofn; ac fe all hyny fod oblegyd gwahanol amgylchiadau, yn bersonol mewn cyfansoddiad dynol, iechyd, gewynau, a thymherau a gwahanol brofedigaethau, yr hyn sydd yn effeithio yn fawr ar y Cristionogion cryfaf; a gwahanol sefyllfaoedd y mae dynio... 164674 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Os bydd ofn Duw o flaen ei lygaid, mae y ffydd yn gywir, er na byddo y teimlad yn dyner ac yn frawychus. Fe all na bydd profiadau yr holl Gristionogion yn mhob peth yr un fath mewn hyder ac mewn ofn; ac fe all hyny fod oblegyd gwahanol amgylchiadau, yn bersonol mewn cyfansoddiad dynol, iechyd, gewynau, a thymherau a gwahanol brofedigaethau, yr hyn sydd yn effeithio yn fawr ar y Cristionogion cryfaf; a gwahanol sefyllfaoedd y mae dynion wedi eu gosod ynddynt. Mae profiad yn ofynol at feddu gwybodaeth at y sefyllfa a'r swydd mae y dyn ynddi. Mae yr ystyriaeth hon yn angenrheidiol i beidio ar y naill law wadu profiadau uchel am nad ydym yn eu meddu, ac ar y llaw arall i beidio & goruwch edrych profiadau ofnog, isel, llwfr, a digalon, y rhai y gall y cryfion yn hawdd eu deall, myned heibio iddynt, a'u goruwch edrych. Credu yn Nghrist, rhodio yn Nghrist, marw yn Nghrist, yw llofrudd yn y noddfa rhag dialydd, pechadur yn yr arch rhag boddi, bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw, rhag cyfiawnder gofynol, rhag y diafol gelynol, a rhag hunan dinystriol. Gwyn fyd y dyn gaffo y ddoethineb hon, ac a ddygo y deall hwn allan. Mae goruchwyliaethau yr Arglwydd weithiau tuag at ei bobl, ac at y rhan dduwiolaf o honynt, yn gyfryw ag nas gallant wneyd dim yn eu gwyneb ond tewi. Felly y bu ar Aaron: "A thewi a wnaeth Aaron." Llaw Duw yn tewi archoffeiriad Duw; y llefarwr croywaf yn peidio llefaru dim; yr hwn oedd i lefaru dros Dduw wedi tewi wrtho a throsto. Mae hyn yn dangos 1. Fod dirgelwch, dyeithrwch, a rhyfeddodau all fod yn perthyn i'w ffyrdd yn ddigon i dewi yr ymadroddwr penaf. 2. Nad yw y cryfaf ond gwan yn wyneb hyn, a'r doethaf ond anwybodus, a'r hoywaf ond anfedrus. 3. Ac yn wyneb hyn mae yn dangos enaid gostyngedig yn ymddarostwng dan alluog law Duw. 4. Mae tewi yn act o ddyoddefiad mewn dystawrwydd am gyfiawnder a barn ffyrdd a gweithredoedd yr Arglwydd. 5. Mae tewi yn wyneb goruchwyliaeth yn ymroddiad i Dduw; rhoddi i fyny iddo Ef am y cwbl, gadael y cwbl yn ei law, am ei fod yn ddoeth o galon ac yn alluog o nerth. 6. Mae y tewi hwn yn gogoneddu Duw, canys mae yn cydnabod mai Efe sydd Dduw, a'i fod y fath Fod Anfeidrol ag ydyw. Mae yn ddangosiad helaeth mewn adnabyddiaeth o Dduw a dyn, o adnabyddiaeth fawr arno, ac agosrwydd mawr ato, a chyfranogiad mawr o hono. Mae gweled trefn y cymod yr unig un gymhwys i fod yn obaith bywyd tragwyddol i bechadur, yn cynwys ynddi yr awr hon dderbyn y eymod. Gorfoleddu yn Nuw trwy Iesu Grist yw y mwynhad uchelaf a effeithir gan hyn. Mae y diffyg am hyn yn peri ofni na dderbyniwyd y cymod. Y peth sydd rhwng Duw a'r pechadur am drefn y cymod yw derbyniad y cymod; y peth sydd trwy ewyllys Duw yn ol ei ddoethineb at amgylchiadau y pechadur yw y gorfoledd hwn a roddir ganddo. Megys mai yn Nghrist y mae cymodi, trwyddo ef hefyd y mae derbyn y cymod; trwyddo ef hefyd mae gorfoleddu yn Nuw wedi ei dderbyn. Mae y pethau hyn, er eu bod yn wahaniaethol, eto yn anwahanol, ac i'w cael i gyd yn un mewn noddfa i lofrudd, ac arch rhag boddi; canys yr un yw Duw, yr hwn sydd yn<noinclude></noinclude> e1qqsjiw8pmm1aftairnaf65j1qdbrt Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/210 104 84823 164675 2026-05-15T21:35:03Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gweithredu pob peth yn mhawb; yr un yw Crist sydd oll yn oll, ac yn cyflawni oll yn oll, fel y byddo Duw oll yn oll. Mae bodd Duw y nod blaenaf i'w geisio, y dymuniad blaenaf i'w ddymuno, a'r prif beth i'w geisio; am hyny gellir dweyd am dano, "Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw." Trefn y cymod yw bodd Duw i elyn; trefn ei ewyllys yw bodd Duw am ei gymdeithas i'w blentyn; dewis yr hyn a ewyllysia yw trefn ei ewyllys—un ewyll... 164675 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweithredu pob peth yn mhawb; yr un yw Crist sydd oll yn oll, ac yn cyflawni oll yn oll, fel y byddo Duw oll yn oll. Mae bodd Duw y nod blaenaf i'w geisio, y dymuniad blaenaf i'w ddymuno, a'r prif beth i'w geisio; am hyny gellir dweyd am dano, "Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw." Trefn y cymod yw bodd Duw i elyn; trefn ei ewyllys yw bodd Duw am ei gymdeithas i'w blentyn; dewis yr hyn a ewyllysia yw trefn ei ewyllys—un ewyllys iddynt ill dau, efe a'i blentyn: trefn ei addoliad yw ei fodd i'w wasanaethu. Yn y drefn hon y mae tair rhan:—Y gyntaf yw ysbrydol, ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Yr ail yw agweddol; gwylder a pharchedig ofn yw yr agwedd wrth fodd Duw mewn addoli. Y drydedd yr ordeiniadol, hyn sydd i fod yn ymarferol; hyny yw, yr hyn a dderbyniwyd gan yr Arglwydd, ac a draddodwyd i ni gan y rhai a'i derbyniodd. Yn ol hyn y mae ymddwyn yn nhây Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd am drefn, addoliad, am swyddogion, am swyddau, am osodiad mewn swyddau, am foddion wedi eu hordeinio i'w hymarfer yn yr eglwys, yr hyn yw addoliad, yr hyn yw pregethu y gair, bedyddio, cymuno, darllen, canu, a gweddio. Dyma ei ordinhadau y rhai sydd yn cyfansoddi ei addoliad. Mae ychwanegu atynt neu dynu oddiwrthynt yn ei anfoddloni, canys hon yw yr un rheol sydd i bawb gerdded wrthi, at synied yr un peth, yr hwn sydd yn mhell iawn o fod, ac yn mhellach y bydd tra byddo traddodiadau cnawdol yn cael eu coleddu dan ddylanwad chwantau bydol. Mae yn gymaint at gael ''crop'' ar dymher y tir ag ar dymher yr had, ar dymher i wrando ag ar y peth a wrandawir. Mae parodrwydd meddwl i wrando y gair mor angenrheidiol at dderbyn y gair a pharodrwydd meddwl i draddodi y gair. Mae y gwahaniaeth mawr sydd rhwng meddwl rhydd a meddwl rhwym yn gwrando y gair yn wahanol iawn. Mae y naill yn rhedeg o'i fodd, mae y llall yn llwyr o'i anfodd; a bod mwy o'r fath olaf nag o'r cyntaf sydd i'w ofni. Yr un peth yw pechod, pwy bynag a'i gwnelo; ond nid yr un peth yw pob un sydd yn ei wneuthur. Mae gwahaniaeth rhwng sant a phechadur yn gwneyd yr un pechod; mae y naill yn gwneyd yr hyn sydd dda ganddo, a'r llall yr hyn sydd gas ganddo. Mae y naill yn wneuthurwr pechod, mae y llall yn llithrwr i bechod. Ond er y gwahaniaeth hwn, nid oes ond yr un feddyginiaeth i'r ddau. Nid ei fod mewn cyflwr duwiol pan bechodd a'i meddyginiaetha; ond yr un peth ag sydd rhaid i'r annuwiol gael yn feddyginiaeth i'r un pechod —edifeirwch a maddeuant i'r naill fel y llall; ond bod edifeirwch a maddeuant i'r credadyn yn ddwbl, pan nad ydynt i'r pechadur ond sengl. Un o brofedigaethau mwyaf taith y pererinion yw, bod rhagluniaethau mewn golwg yn croesi yr ysgrythyrau, ac yn croesi gweddiau. Addewidion y gair a gweddiau y credadyn a'u hwynebau un ffordd, a goruchwyliaethau<noinclude></noinclude> cc5y4d4vkqxhuiuj0p03s0q7njq5az8 164676 164675 2026-05-15T21:40:59Z AlwynapHuw 1710 164676 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweithredu pob peth yn mhawb; yr un yw Crist sydd oll yn oll, ac yn cyflawni oll yn oll, fel y byddo Duw oll yn oll. Mae bodd Duw y nod blaenaf i'w geisio, y dymuniad blaenaf i'w ddymuno, a'r prif beth i'w geisio; am hyny gellir dweyd am dano, "Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw." Trefn y cymod yw bodd Duw i elyn; trefn ei ewyllys yw bodd Duw am ei gymdeithas i'w blentyn; dewis yr hyn a ewyllysia yw trefn ei ewyllys—un ewyllys iddynt ill dau, efe a'i blentyn: trefn ei addoliad yw ei fodd i'w wasanaethu. Yn y drefn hon y mae tair rhan:—Y gyntaf yw ysbrydol, ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Yr ail yw agweddol; gwylder a pharchedig ofn yw yr agwedd wrth fodd Duw mewn addoli. Y drydedd yr ordeiniadol, hyn sydd i fod yn ymarferol; hyny yw, yr hyn a dderbyniwyd gan yr Arglwydd, ac a draddodwyd i ni gan y rhai a'i derbyniodd. Yn ol hyn y mae ymddwyn yn nhây Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd am drefn, addoliad, am swyddogion, am swyddau, am osodiad mewn swyddau, am foddion wedi eu hordeinio i'w hymarfer yn yr eglwys, yr hyn yw addoliad, yr hyn yw pregethu y gair, bedyddio, cymuno, darllen, canu, a gweddio. Dyma ei ordinhadau y rhai sydd yn cyfansoddi ei addoliad. Mae ychwanegu atynt neu dynu oddiwrthynt yn ei anfoddloni, canys hon yw yr un rheol sydd i bawb gerdded wrthi, at synied yr un peth, yr hwn sydd yn mhell iawn o fod, ac yn mhellach y bydd tra byddo traddodiadau cnawdol yn cael eu coleddu dan ddylanwad chwantau bydol. Mae yn gymaint at gael ''crop'' ar dymher y tir ag ar dymher yr had, ar dymher i wrando ag ar y peth a wrandawir. Mae parodrwydd meddwl i wrando y gair mor angenrheidiol at dderbyn y gair a pharodrwydd meddwl i draddodi y gair. Mae y gwahaniaeth mawr sydd rhwng meddwl rhydd a meddwl rhwym yn gwrando y gair yn wahanol iawn. Mae y naill yn rhedeg o'i fodd, mae y llall yn llwyr o'i anfodd; a bod mwy o'r fath olaf nag o'r cyntaf sydd i'w ofni. Yr un peth yw pechod, pwy bynag a'i gwnelo; ond nid yr un peth yw pob un sydd yn ei wneuthur. Mae gwahaniaeth rhwng sant a phechadur yn gwneyd yr un pechod; mae y naill yn gwneyd yr hyn sydd dda ganddo, a'r llall yr hyn sydd gas ganddo. Mae y naill yn wneuthurwr pechod, mae y llall yn llithrwr i bechod. Ond er y gwahaniaeth hwn, nid oes ond yr un feddyginiaeth i'r ddau. Nid ei fod mewn cyflwr duwiol pan bechodd a'i meddyginiaetha; ond yr un peth ag sydd rhaid i'r annuwiol gael yn feddyginiaeth i'r un pechod —edifeirwch a maddeuant i'r naill fel y llall; ond bod edifeirwch a maddeuant i'r credadyn yn ddwbl, pan nad ydynt i'r pechadur ond sengl. Un o brofedigaethau mwyaf taith y pererinion yw, bod rhagluniaethau mewn golwg yn croesi yr ysgrythyrau, ac yn croesi gweddiau. Addewidion y gair a gweddiau y credadyn a'u hwynebau un ffordd, a goruchwyliaethau yr Arglwydd yn ffordd ei ragluniaeth yn gwbl ffordd arall. Mae y fath rym yn hyn, fel y mae tuedd ynddo i ddyrysu y cwbl, a meddwl bod y cwbl yn ofer. Fel hyn yr oedd ar Dafydd: "Dywedais, yn ofer y glanheais fy nghalon;" eto y mae y rhai a adwaenant Dduw yn ei addef yn gyfiawn, er bod y fath oruchwyliaeth<noinclude></noinclude> tak1ga2g3xz19f9wnd7lzukdrpavye4 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/211 104 84824 164677 2026-05-15T21:41:48Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "atynt yn peri iddynt synu. Fel y gwelir iddo fod ar Jeremiah,"—Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi, er hyny mi a ymresymaf â thi am dy farnedigaethau. Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffyna yr anffyddloniaid oll? Yn wahanol i hyn mae arnaf fi, er dy fod yn fy adwaen a'm gweled, a phrofi fy nghalon tuag atat." Fel hyn yr ymresymai â'r Arglwydd am yr oruchwyliaeth, yr hon oedd yn dywyll iddo. Nid yw yn rhyfedd ei bod yn dywy... 164677 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>atynt yn peri iddynt synu. Fel y gwelir iddo fod ar Jeremiah,"—Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi, er hyny mi a ymresymaf â thi am dy farnedigaethau. Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffyna yr anffyddloniaid oll? Yn wahanol i hyn mae arnaf fi, er dy fod yn fy adwaen a'm gweled, a phrofi fy nghalon tuag atat." Fel hyn yr ymresymai â'r Arglwydd am yr oruchwyliaeth, yr hon oedd yn dywyll iddo. Nid yw yn rhyfedd ei bod yn dywyll i ni. Ni ellir adnabod hyn gan neb ond yn nghysegr Duw, lle y deallodd Dafydd hi. Fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw heddyw, Hydref 5, 1845, mewn corph llawn o lesgedd, a meddwl llawn o brofedigaethau, cael fy ngwisgo yn nghyfiawnder Duw, yr hwn sydd o ffydd Crist; a'm golchi yn ei werthfawr waed, i'm glanhau oddiwrth bob pechod, yr hyn yw pob annghyfiawnder; ysbryd Crist, i'm harwain a thrigo ynof, a'm cynal â'i air, fel y byddwyf byw, ac na chywilyddiwyf am fy ngobaith. Mae acto dau, un yn y cefn a'r llall yn y wyneb, heb fod yn un; canys nis gall dau fod yn un mwy nag y gall un fod yn ddau. un, pa lun bynag, yn well un nag acto dau, y goreu eu llun. Mae amheuaeth ac ofnau yn fwy am hawl a gafael nag y mae am ddigonoldeb, cymhwysder, ac addewid yr iechydwriaeth; mae yn mhob peth sydd sydd yn perthyn iddi y cwbl sydd yn eisiau ac a ellir ei ddymuno; ac ni ellir, er cymaint o wendid sydd, amheu dim am gymhwysder y drefn, ac nad yw y meddwl yn dawel yn yr olwg ar hyn ac am hyn bob amser; eto nid yw yr ofnau a'r amheu am feddiant gwirioneddol o honi yn peidio; mae hyn yn isaf o dan y cwbl o hyd. At ddod trwy y dyryswch hwn feddylid ystyried amryw bethau. Pa fodd y deuwyd i weled cymhwysder y drefn trwy y dystiolaeth am dani, bod "Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddyn iddynt eu pechodau." Mae pob peth a ddangosir am Grist yn y gair yn diwallu y meddwl â chymhwysder y drefn i berffaith foddlonrwydd. Paham nad yw tystiolaeth y gair am ras Duw yn nhrefn y cymhwysiad, yr hyn sydd gymaint o ras a'i gwneuthuriad, yn ddigon i dangnefeddu y meddwl am ei dderbyniad? Yr ateb i hyn yw, Mae y cyntaf heb un act i'r pechadur; mae y llall ar lwybr ufudd-dod. Y pechadur sydd yn edifarhau, yn credu, yn derbyn Crist. Am y pethau hyn y mae ofnau yn codi. Mae y gras a ddengys alwad yr efengyl ar y pechadur, a'r gras a roddir at y cyfranogiad gan y pechadur: mae llygad ar y dystiolaeth am hyn, a gweddi am y gras at hyn, yn gymaint o ddefnydd boddlonrwydd meddwl am yr hawl ag am y drefn. Heblaw hyn, mae gweled cymhwysder y drefn, yn ol natur y gweled, yn cynwys hawl iddi. Yr un ffydd ag sydd yn credu y cymhwysder sydd yn gwneuthur y derbyniad: yn yr un goleu mae y ddau; yr hwn sydd yn peri y naill sydd yn peri y llall, a'r cwbl at y cwbl i'w gael trwy ei geisio yn wastad, a heb ddiffygio. Nid oes dim ond gweithrediad Duw yn y drefn; mae dyledswyddau i ddyn at feddu yr hawl. Mae cymaint o gadernid Duw yn nhrefn y cymhwysiad ag yn nhrefn y gwneuthuriad. Mae yr holl wendidau ac ofnau am hawl o du y pechadur. Fe ellir camgymeryd, mae yn wir; ond mae yr ofnau yn<noinclude></noinclude> bilxk8vykhz3jzz65uv5l9v6auzkf97 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/212 104 84825 164678 2026-05-15T21:42:09Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "fwy oddiar wendid ffydd nag oddiar fod yn cyfeiliornu. Yn yr Ar glwydd yn unig y mae yr hyder i fod am yr hawl fel am y drefn. Os bydd holl fywyd dyn yn yrfa o ffoedigaeth i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd yn yr efengyl o flaen pechaduriaid, mae hyny yn brawf fod ffoedigaeth yr yrfa yn iawn ffoi; canys mae achos parhaus am barhad hyn oddiwrth breswyliad pechod, grym llygredigaethau, cyfrwysdra temtasiynau, a nerth mawr profediga... 164678 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwy oddiar wendid ffydd nag oddiar fod yn cyfeiliornu. Yn yr Ar glwydd yn unig y mae yr hyder i fod am yr hawl fel am y drefn. Os bydd holl fywyd dyn yn yrfa o ffoedigaeth i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd yn yr efengyl o flaen pechaduriaid, mae hyny yn brawf fod ffoedigaeth yr yrfa yn iawn ffoi; canys mae achos parhaus am barhad hyn oddiwrth breswyliad pechod, grym llygredigaethau, cyfrwysdra temtasiynau, a nerth mawr profedigaethau, ac amlhad ofnau. Ofnir oddiwrth y pethau hyn am arglwyddiaeth pechod, rhag ei fod yn teyrnasu; ac am farweiddiad pechod, rhag ei fod heb ei ddirymu; ac am ei nerth, rhag iddo yn y diwedd orchfygu. Mae hyn yn gwneyd holl fywyd Cristion yn un yrfa o ffoedigaeth, heb ddim yn obaith iddo ond trefn Duw yn Nghrist: yn noddfa, ac ofn yn ei galon bod yn fyr o'i chyrhaedd; oblegyd parodrwydd pechod i'w amgylchu, bron methu anadlu i geisio ei ei waredu. Mae cymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, —yr hyn sydd ar y ddaear, canys y mae yn perthyn i fynydd Sion, yr hwn a ddangosir mewn cyferbyniad i fynydd Sinai,—y nesaf at y nefoedd, a'r tebycaf i'r nefoedd, ac yn rhan o'r nefoedd: mae bod ynddi yn wir aelod o honi, y fraint fwyaf dan y nefoedd, yr hyn sydd i'w hadnabod mewn undeb â hi. Mae hwn yn undeb cariad, undeb teimlad, undeb llawenydd; a'i hundeb hithau â'r aelod sydd yn yr un pethau. Mae rhinwedd undeb yn nghwlwm tangnefedd yn cael ei brofi a'i fwynhau yn eglwys Dduw yn rhan o'r mwynhad uchelaf, os nid yr uchelaf i gyd, o'r nefoedd sydd i'w fwynhau ar y ddaear. Cadarnheir hyn yn amlwg gan effeithiau hyn, yr hyn yw preswyliad yr Ysbryd, presenoldeb Duw, llewyrch ei wyneb, cynydd gras, a llwyddiant yr eglwys: a hefyd gan effeithiau gwrthwyneb i hyn, yr hyn yw tristâu yr Ysbryd Glan, llwfrhau, digaloni, a nychu y saint; aflwyddo, poeni, a llethu eglwys Dduw, peri iddi rodio yn alarus dan orthrymder y gelyn; am hyny edrycher yn ddyfal na byddo dim diofrydbeth yn y gwersyll, yr hyn sydd yn digio yr Arglwydd, ac yn blino ei bobl, canys yn ol ei gyfamod yn ei air a'i bobl yr erys ei Ysbryd yn eu mysg, ac y maent yn ddyogel, llwyddianus, a chysurus; canys felly y dywed efe, "Yn ol y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aipht, felly yr erys fy Ysbryd yn eich mysg; nac ofnwch." Ewyllys yr Arglwydd yw idd ei Ysbryd drigo ynddynt. Mae wedi ei ddigio a'i anfoddloni yn fawr pan ymadawo; ei foddlonrwydd mwyaf yw ei drigiad; ei anfodd mwyaf yw ei ymadawiad. Mae yn trigo gyda gwendidau ac anmherffeithiau na fyddo yn ysgymunbeth, yn beth melldigedig, yr hyn a waherddir yn bendant; ac oblegyd hyny yn dirmygu yr Arglwydd, ac yn gwmwl ar ei ogoniant. Os peidir ysgymuno y peth sydd dan felldith, mae yn peri melldith lle mae. Fe ddylai ffyddlondeb Duw i'w air wroli ei bobl at eu gwaith yn wyneb pob rhyw aflwyddiant fyddo yn ymddangos. Mae wyneb at Dduw mewn galw arno, dysgwyl wrtho, gobeithio ac ymddiried ynddo, er y tywyllwch a'r caledwch y gellir ei deimlo, ofnau yn wyneb pob amgylchiadau yn llwytho, gwendid a methiant meddwl yn suddo, llygredigaethau pla y galon i'r teimlad yn ymchwyddo, yn wir adnabyddiaeth o Dduw, ac yn dangos nerth<noinclude></noinclude> pbpk3a6tjgsah55ep2divm806w89th9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/215 104 84826 164680 2026-05-15T21:47:39Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "natur ddarfod cyn y peidia, Yr unig feddyginiaeth sydd mewn bod i'r pla greddfol hwn yw creadigaeth newydd; ond lle byddo hyn mae ei olion i'w adnabod tra byddo yn y byd, fel mae ôl clefyd trwm yn byllau ac yn greithiau ar y wyneb yn amlwg i bawb a edrychant arno. Trysorfa gwybodaeth iachawdwriaeth yw gair yr Arglwydd. Trysorfa gras yr iachawdwriaeth yw Crist yr Arglwydd. Trysorfa cymhwysiad yr iachawdwriaeth yw Ysbryd yr Arglwydd; yr... 164680 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>natur ddarfod cyn y peidia, Yr unig feddyginiaeth sydd mewn bod i'r pla greddfol hwn yw creadigaeth newydd; ond lle byddo hyn mae ei olion i'w adnabod tra byddo yn y byd, fel mae ôl clefyd trwm yn byllau ac yn greithiau ar y wyneb yn amlwg i bawb a edrychant arno. Trysorfa gwybodaeth iachawdwriaeth yw gair yr Arglwydd. Trysorfa gras yr iachawdwriaeth yw Crist yr Arglwydd. Trysorfa cymhwysiad yr iachawdwriaeth yw Ysbryd yr Arglwydd; yr unig allwedd at agor y trysorfeydd hyn yw ffydd; yr unig law sydd at ddefnyddio yr allwedd hon yw gweddi. Gweddi y ffydd yw yr agoriad yn y llaw. Yn Nghrist yn unig mae cymeradwyaeth, yn yr Ysbryd Glân yn unig mae cynaliaeth, mewn ffydd a gweddi yn unig y mae offerynoliaeth. Gwlad lle nad oes pechod yw yr unig wlad lle nad oes ofni. Y mae yn anmhosibl, lle yr adwaenir pechod, i beidio ofni. Ofni pechu yw ofni yr Arglwydd. Ofni yr Arglwydd yw duwioldeb. Perffeithrwydd duwioldeb yw y nefoedd, yr unig wlad heb bechod ac heb ofn. Pechod yw y gofid mwyaf: ofn yw yr annghysur mwyaf. Duw yn Nghrist yw trefn yr iachawdwriaeth. Ei threfn yw ei holl rym, ei holl rinwedd, ei holl ddyogelwch, a'i holl gysur; ac nid bod dyn yn Nghrist yw na'i grym, na'i rhinwedd, na'i dyogelwch, na'i chysur; ond ei fod yn gadwedig yn y drefn sydd yn mhob un o honynt. Felly yr oedd yr arch a'r noddfa; eu trefn oedd yn cadw ynddynt. Er na ellir bod yn gadwedig ond yn y drefn, eto nid yw bod ynddi yn un rhan o hanfod y drefn, ond ei dyben yn cael ei ateb trwy gymhwysiad. Nid yw credu yn Nghrist yn un rhan o drefn yr iachawdwriaeth, er mai trwy gredu mae dod i fwynhad o'r drefn. Mae yn angenrheidiol deall hyn at beidio rhoddi y naill beth yn lle y llall—credu yn Nghrist yn lle y drefn yn Nghrist, na'r drefn yn Nghrist yn lle credu yn Nghrist. Mae y drefn yn berffaith, ac mor berffaith cyn dod ag wedi dod, er nad oes neb yn gadwedig ond ynddi, yr hyn yn unig yw trefn y cymhwysiad. Yn Nghrist mae yr iachawdwriaeth: ei meddu yw credu ynddo. Yn yr arch a'r noddfa yr oedd holl drefn cadw: dyfod iddynt oedd bod yn gadwedig. Mae llawer mwy o ofn am gredu yn Nghrist nag am gadwedigaeth credinwyr yn Nghrist. Nid oes dim amheuaeth am ddyogelwch yn y noddfa, ond amheuir yn aml am fod ynddi. Yr unig sicrwydd am fod ynddi yw iawn ddyfod iddi—ffoi yw hyny, dan ddylanwad cydwybod euog, ofn dial, gobaith bywyd, yr hyn a gysgodwyd yn y noddfa a osodwyd o flaen y llofrudd; dan ddylanwad teimlad i ryw raddau o'r fath hwn yw credu yn Nghrist. Yr oedd dau fath o ddylanwad yn effeithio dyfodiad i'r arch. Un oedd tuedd wyrthiol ar greaduriaid afresymol; y llall oedd dylanwad crediniol trwy Noah. Yr oedd cadwedigaeth yn nhrefn Duw yn nglŷn â phob un o honynt. Mae yn debyg nad yw yr holl gredinwyr yn mhob peth yr un modd: mae gwahanol bethau, a gwahanol raddau, a gwahanol effeithiau, yn y rhai a gredant. Pa ddull bynag y dygwyd hwy i gredu yn Nghrist, mae pawb ynddo yn gadwedig; ac y mae yn debyg fod pawb sydd yn gwir ewyllysio credu yn Nghrist yn credu ynddo; "A'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered o ddwfry bywyd yn rhad."<noinclude></noinclude> fw1zfbdazo3zzd3mcst3qaspn23ip9c Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/216 104 84827 164681 2026-05-15T21:48:11Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae llawer mwy yn well ganddynt weled ffaelu na gweled gallu; mae hyn yn debyg i'r un drwg, y diafol, gelyn mawr Duw a dynion, yr hwn y mae ei holl amcan i niweidio, canys balchder yw yr achos o hono, rhag bod neb yn uwch na ni, yn well na ni, ac o'n blaen ni: mae hefyd yn dangos cenfigen ac ymddial, y rhai yw prif egwyddorion diafol. Mae yn debyg mai ychydig yw y rhai a wir ofidiant ac a gydymdeimlant ac a weddiant dros y rhai temtied... 164681 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae llawer mwy yn well ganddynt weled ffaelu na gweled gallu; mae hyn yn debyg i'r un drwg, y diafol, gelyn mawr Duw a dynion, yr hwn y mae ei holl amcan i niweidio, canys balchder yw yr achos o hono, rhag bod neb yn uwch na ni, yn well na ni, ac o'n blaen ni: mae hefyd yn dangos cenfigen ac ymddial, y rhai yw prif egwyddorion diafol. Mae yn debyg mai ychydig yw y rhai a wir ofidiant ac a gydymdeimlant ac a weddiant dros y rhai temtiedig a phrofedigaethus, yr hyn yw rhodio yn nghyfraith yr Arglwydd. Mae yn debyg mai un o brif arwyddion yr amser presenol yw y cynydd amlwg sydd ar falchder, trwy yr hyn y mae yn amlwg wrth air yr Arglwydd fod cwymp, darostyngiad, a dinystr yn rhwym wrtho. Mae y cynydd hwn yn gyffredinol, o'r penaethiaid i'r cardotwyr, amaethwyr, masnachwyr, celfyddydwyr, a phob enwad o grefyddwyr. Er yr holl bethau daionus sydd yn yr un amser, a hir—ymaros amynedd Duw, ei allu a'i ewyllys i wneyd yr hyn a fyno, yr hyn sydd yn anadnabyddus i blant dynion, ond fel ei cyflawnir; a pha raddau eto a ddyoddefir yn ychwaneg ar yr haint ysbrydol hwn sydd yn lledu fwyfwy, a pha oruchwyliaeth a graddau yn yr oruchwyliaeth a ddefnyddia yr anfoddlonrwydd dwyfol i ddangos ei hun o'i herwydd, sydd anamlwg nes ei weled. Mae y cwbl sydd yn perthyn i Grist yn dangos yr un peth am dano. Yr athrawiaeth oedd yn ei dysgu, a'r oll a wnelai, yn cydweddu â dyben ei ddyfodiad i'r byd, yr hyn oedd achub y byd, daioni y byd. Mae tuedd gref, groes i athrawiaeth Crist, yn brawf cryf o lygredigaeth y natur ddynol, a gwrthwyneb i santeiddrwydd. Mae llawer mwy o duedd i gasâu y gelyn na'i garu, i'w felldithio na'i fendithio, gwneyd drwg i'n caseion, na gwneuthur da iddynt, a gweddio yn erbyn y rhai a wnel niwed ini, ac a'n herlidiant, na gweddio drostynt, er mai llawer gwell fyddai o'r ddau gwneyd yn ol fel y gorchymynir. Byddai caru y gelyn yn debyg i'w enill i garu yn ol; yna fe fyddai yn enill i'r ddau; ac os na enillid, mae y peth ynddo ei hun yn dâl i'w berchenog. Mae bendithio yn llawer gwell na melldithio; lle mae bendithio mae bendigedig; lle mae melldithio mae melldigedig. Mae y naill yn swnio nefoedd, mae y llall yn swnio uffern. Mae gwneyd da yn dangos Duw da; mae gwneyd drwg yn dangos satan yn un drwg; mae gweddio dros y niweidwyr a'r erlidwyr yr unig ffordd i'w newid. O gymaint gwell yw hyny na niweidio ac erlid, fel hwythau. Byddai y naill yn achub, mae y llall yn amlhau colledigion. Mae y naill yn debyg i Dduw ein Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd; mae y llall yn debyg i ddiafol, yn dangos diafol yn dad; canys ei weithredoedd ef ydynt: os mynwn eu gwneuthur, efe yw ein tad ni. Mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, ac i bawb, er bod ei holl ddyledswyddau yn ymdrech gorchestol oblegyd llygredigaeth. Y croesi mwyaf ar gnawd yw yr enill mwyaf i'r ysbryd; y mwyaf gwrthwyneb i ddyn pechadurus yw y mwyaf tebyg i'r Duw bendigedig. Fe ddylai cynwysiad duwioldeb fod yn ganmoliaeth fuddugoliaethus i ddarostwng yr holl fyd o'i blaen, a'i enill i'w chofleidio, oblegyd ei rhinwedd rhagorol ei hun. Mae holl gynwysiad hanfod gwir grefydd i gyd yn oruwchnaturiol, am hyny fe ddylai yr ymddibyniad i gyd fod ar Dduw yn Nghrist,<noinclude></noinclude> dynm8easaio2u6oz3cvnx6zeviheiyq Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/217 104 84828 164682 2026-05-15T21:48:43Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a'r ymddiried i gyd fod ynddo, a'r dysgwyliad i gyd i fod wrtho, am bob cyfranogiad sydd yn perthyn iddi. Mae ei hysbrydolrwydd yn ei gwneyd hi i gyd yn ddirgelwch, mae ei santeiddrwydd yn ei gwneyd i gyd yn dduwioldeb, mae ei thragywyddoliaeth yn ei gwneyd i gyd yn ofnadwy, canys y mae perygl tragywyddol mewn pob cyfeiliornad am dani. Y cwbl at hyn yw gair Duw, a gweddi; canys mae yr ystyriaeth hyn i fod am dani yn ei pherthynas â'i h... 164682 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r ymddiried i gyd fod ynddo, a'r dysgwyliad i gyd i fod wrtho, am bob cyfranogiad sydd yn perthyn iddi. Mae ei hysbrydolrwydd yn ei gwneyd hi i gyd yn ddirgelwch, mae ei santeiddrwydd yn ei gwneyd i gyd yn dduwioldeb, mae ei thragywyddoliaeth yn ei gwneyd i gyd yn ofnadwy, canys y mae perygl tragywyddol mewn pob cyfeiliornad am dani. Y cwbl at hyn yw gair Duw, a gweddi; canys mae yr ystyriaeth hyn i fod am dani yn ei pherthynas â'i holl orchymynion a'i haddewidion, gan fod ei phob peth hi i fod o Dduw. Y mater mawr at farw yw bod yn barod: mater mawr bywyd yw bod yn barod i farw: at hyn fe ddylid ateb dau gwestiwn. Y cyntaf yw, Pa beth yw bod yn barod? Yr ateb yw bod yn dduwiol, yn eiddo yr Arglwydd, yn ei heddwch, ac ar ei ddelw. Y cwestiwn arall yw, Pa fodd y mae bod yn barod? Mae cael y parodrwydd hwn trwy ofyn, cael, a derbyn; felly y dangosir trefn cyfranogiad rhwng y Cyfranwr a'r derbynwyr: "Ceisiwch, a chwi a gewch; gofynwch, a rhoddir i chwi; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys yr hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, a'r hwn sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn curo yr agorir iddo." Mae yn debyg nad oes geiriau yn yr holl lyfrau yn fwy amlwg na'r rhai hyn am drefn y Duw anfeidrol i roddi trugaredd a gras i bechadur tlawd sydd i fyw yn unig ar dderbyn y cwbl. Mae taith y pererin yn llawn o ofnau o bob natur, canys trwy anialwch gwag erchyll—gwag o bob trefn a chysur, llawn o elynion o bob math, bwystfilod ysglyfaethus o bob rhyw yn teithio. Maę ynddo lew rhuadwy yn myned oddiamgylch, gan geisio y neb allo lyncu; mae yno fleiddiaid blinion, a chwn mudion; ac oblegyd fod y cwbl yn ddyeithr, mae pob peth yn cael ei ofni, yn enwedig am y ffordd, rhag na ddowd iddi yn iawn, rhag heb fod arni yn iawn. Mae rhyw faint o olwg a sylw ar holl berthynasau y ffordd; ond ofnir am y cwbl nad yw yn iawn. Ofnir am ei holl ymdrin â'r gair, nad yw mewn ffydd; am ei holl ymdrin ag ordinhadau yr eglwys, nad ydynt mewn teimlad ysbrydol; yn enwedig ofnant nad yw eu teimlad o'u hangen yn ddim, gan mor annheimladwy y gwyddant eu bod, a chan mor lleied ydyw. Gwell ganddynt ei enwi yn weled na'i enwi yn deimlad; haws ganddynt addef eu bod yn gweled mwy o gymhwysder yn Nghrist iddynt nag maent yn deimlo o angen am Grist arnynt. Mae hyn oblegyd deall am deimlad yn ol y cnawd. Mae gweled cymhwysder Crist i bechadur yn gweled angen y pechadur am Grist; er nad oes dim a welir nag a brofir ond llawer llai nag a ddysgwylir ac a ddymunir; eto mae y cwbl sydd wirionedd yn effeithiad yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio yn y saint. Mae llawer o brofedigaethau yn ymosod ar weddiwyr pan byddo llawer o amser rhwng gweddi a'i hatebiad, yn enwedig yn achos rhai deisyfiadau, oblegyd rhai amgylchiadau perthynol iddynt; megys ofni nad yw y gweddiwr yn berson cyfiawn, am hyny nad yw ei weddi yn gymeradwy, ac nad yw yn weddi y ffydd, a bod ei annghrediniaeth yn ei hatal, nes gwanhau ei hyder yn yr Arglwydd; a bod mwy o ddylanwad ewyllys y cnawd yn ei weddi na dylanwad ewyllys Duw, nes peri dyweyd, Nid oes obaith, yr wyf yn blino yn llefain; pallodd nodded i mi. Yn yr amgylchiad hwn fe ddylid cofio<noinclude></noinclude> 7z53dqesul6nh0zqa8lidzfw0vhjh6i Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/218 104 84829 164683 2026-05-15T21:50:22Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "fod gweddi yn ddyledswydd i'w pharhau yn ddibaid, heb ddiffygio, heb fod dan ddylanwad neb amgylchiadau, ac er pob ofnau; canys addewidion Duw, ei wirionedd a'i ffyddlondeb, yw y sail, y rheol, a'r anogaeth i barhau i alw arno, a gadael yr atebiad yn gwbl yn ei law ef. Pa fwyaf y dysgwylir wrtho, mwyaf o ogoniant a roddir iddo, a rhoddir holl haeriadau profedigaethus yr amgylchiad yn gwbl ger ei fron ef, gan ymdrechu i obeithio ynddo b... 164683 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod gweddi yn ddyledswydd i'w pharhau yn ddibaid, heb ddiffygio, heb fod dan ddylanwad neb amgylchiadau, ac er pob ofnau; canys addewidion Duw, ei wirionedd a'i ffyddlondeb, yw y sail, y rheol, a'r anogaeth i barhau i alw arno, a gadael yr atebiad yn gwbl yn ei law ef. Pa fwyaf y dysgwylir wrtho, mwyaf o ogoniant a roddir iddo, a rhoddir holl haeriadau profedigaethus yr amgylchiad yn gwbl ger ei fron ef, gan ymdrechu i obeithio ynddo bob amser, a thywallt y galon ger ei fron ef, canys Duw sydd noddfa i'r rhai hyn. Fe all y weddi, pan bo y cnawd wanaf, fod y weddi gryfaf yn yr ysbryd. Er mai wrth ofyn mae derbyn, gofyn yw ein gwaith ni. Mae ein derbyn i fod o Dduw, yr hwn sydd barotach i roddi na neb i ofyn. Mae atebiad buan i weddi y cryfhad mwyaf i enaid y gweddiwr. Nid yw yn hawdd desgrifio y nerth a rydd hyn; mae yn dryllio holl gadwynau yr enaid, mae yn goleuo ei holl awyr, yn chwalu ei holl ofnau, gwneyd eu mynydd yn gryf fel mynydd Sion, cwympo eu gelynion yn wysg eu cefnau; mae yn eu gwneyd yn fuddugoliaethwyr, ac yn fwy na choncwerwyr, canys nerth Duw ydyw, yn cael ei berffeithio mewn gwendid: "Yr hwn sydd yn amlhau cryfder i'r dirym." Mae atebiad gweddi mor sicr yn yr addewid ag yw y cyflawniad. "Ni fethodd gweddi daer erioed." Y peth sydd yn ddyrys am yr atebiad i'r gweddiwr y rhan amlaf yw, bod yr amser i ateb, a'r modd i ateb, a'r peth a roddir yn atebiad, yn wahanol, yn ol doethineb Duw, i ddeall ac ewyllys dyn, Mae aros yn barhaus wrth orseddfainc y gras, gan barhau mewn gweddi ddibaid am fywyd i'r colledig, mewn trugaredd a gras, yn effaith meddu bywyd, ac yn brawf sicr o'i feddu, canys y mae yn aros yn nghariad Duw; hyny yw, yn nhrefn ei gariad, gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol. Mesur crefydd yw undeb, mesur undeb yw cariad, mesur cariad yw cymdeithas, mesur cymdeithas yw dewisiad, mesur dewisiad yw egwyddor, mesur egwyddor yw deall, mesur y deall yw mesur y dyn. Mae y mesurau hyn, os byddant yn gywir, yn fesurau cywir am grefydd y dyddiau hyn, fel yn mhob dyddiau. Ni waeth faint fo'r myfyrio, os na ellir cofio; heb fyfyrio nid oes dim i'w gofio; a heb gofio sydd fel heb fyfyrio. Mae y ddau, y myfyrio a'r cofio, i fod yn ymddibyniad ar santeiddiad yr Ysbryd yn y gwirionedd. Mae trefn yr iachawdwriaeth yn noddfa o drefniad Duw i bechadur ymorphwys arni, ac ymddiried ynddi. Ymroddiad iddi yw bod ynddi: gwybod hyny yw adnewyddol ras Crist yn egluro ei hun, er na byddo y dylanwad yn brofiad o orfoledd. Mae y fath agosrwydd a pherthynas rhwng cyfiawnhau a santeiddio, fel nad yw y Cristion allan o berygl i osod y naill yn lle y llall. Cyfiawnhau sydd yn cymeradwyo, santeiddio sydd yn cymhwyso. Lle mae ufuddhau i'r gair, gwneuthur y gair, a chrynu wrth y gair, hyny yw ofni y gorchymyn, mae santeiddiad yr Ysbryd, hanfod gwir grefydd mewn meddiant, er maint y llygredigaeth a'r diffygion. Lle mae hyn fe ddylid gochel a gwylio rhag ei osod am ein cymeradwyaeth, yr hwn yn unig sydd i fod yn nghyfiawnder Crist, ac yn brif berl ei goron—cyfiawnhau yr euog. {{nop}}<noinclude></noinclude> 4xjxbyuu1bndcexeoijrcoa21ld2sqc Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/220 104 84830 164685 2026-05-15T21:53:54Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ond nis gall ei gael, canys nid yw yn ei ofyn yn nhrefn Duw i'w roddi, yr hyn yw rhoddi edifeirwch a maddeuant. Dyn yn caru ei bechod yw dyn yn ei bechod; dyn yn ei bechod yw dyn heb edifeirwch; canys edifeirwch yw dychweliad oddiwrth bechod. Mae dau ddyn yn mhob Cristion, hen a newydd. Nid yw y ddau yn caru yr un peth: maent yn caru ac yn casâu yn groes i'w gilydd. Mae yr hen ddyn yn caru pechod, canys caru ei hun yw hyny. Nis gall y... 164685 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond nis gall ei gael, canys nid yw yn ei ofyn yn nhrefn Duw i'w roddi, yr hyn yw rhoddi edifeirwch a maddeuant. Dyn yn caru ei bechod yw dyn yn ei bechod; dyn yn ei bechod yw dyn heb edifeirwch; canys edifeirwch yw dychweliad oddiwrth bechod. Mae dau ddyn yn mhob Cristion, hen a newydd. Nid yw y ddau yn caru yr un peth: maent yn caru ac yn casâu yn groes i'w gilydd. Mae yr hen ddyn yn caru pechod, canys caru ei hun yw hyny. Nis gall y dyn newydd ei garu, canys casâu ei hun fyddai hyny. Pa un o'r ddau garu yw y dyn yr ewyllys a etyb. Gwneuthur yn ewyllysgar yn nydd ei nerth yw gwneuthur dyn newydd. Y dyn newydd, gan hyny, yw ei ewyllys; am hyny mae caru a chasâu yr hen ddyn yn ormes ar y dyn, lle mae; eto mae y fath agosrwydd a pherthynas rhwng llygredigaeth a chnawd, fel nad oes dim ond y gwaredu sydd trwy Grist a all achub rhagddo. Nid wyf yn gwybod ond am un peth y mae yn dda genyf gael byw cyhyd er ei fwyn; hyny yw, edifeirwch. Nid oes un man y bumi ynddo, nac un peth y bum yn ymwneyd ag ef, na neb y bum yn ymwneyd â hwy; fy holl feddyliau, fy holl eiriau, fy holl agweddau, nad oes arnaf gywilydd yr awr hon o'u plegyd, cyn dyfod at grefydd, gyda chrefydd, ac wrth bob newidia da symudiad gydag ymarferiadau crefydd; ac nid heb wir achos am lawer mwy o hono nag y sydd. Nid oes un anhawsdra i ddweyd, Du ydwyf fi, pechadur. Mae syrthio yn waradwyddus gan un yn proffesu crefydd, yn enwedig os bydd iddo ryw enw mwy na'r cyffredin, fel agor bwlch yn nghlawdd llyn llawn o ddwfr, trwy yr hwn y rhed llifeiriant gyda rhuthr rhyferthwy, nid yn unig oddiwrth rai digrefydd, ond hefyd yn fwyaf oddiwrth rai digrefydd gyda chrefydd, y rhai nis ceir un gair oddiwrthynt am bethau ysbrydol, pethau mwyaf crefydd; sydd fel pe bai eu tymhor hwy wedi dod i ddangos eu hegwyddor yn ol eu helfen; ac am fod y gwaradwyddus yn ysgymunedig, wedi ei ddiarddel, dan gerydd eglwysig, ac felly, mor bell a hyny, allan o'u cyrhaedd hwy. Hwy fynant â'u holl egni gynhyrfu achwyniadau beius ar swyddogion yr eglwys, y rhai yn ofn yr Arglwydd sydd yn ymarfer i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion yn wastadol: gwneyd yn ol dywediadau pawb sydd yn dyweyd ar yr achos hyn fyddai gwneyd peth mae pawb yn ddweyd, ac yn peidio gwneyd dim yn iawn. Mae caniatad i ofyn gan Dduw yn ei addewid, ac ni chaniateir ond a addewir: wrth ofyn mae yr addewid am gael: nis ceir ond a addewir, ac nis ceir a addewir heb ofyn. Wrth yr addewid mae cenad i ofyn, ac wrth y gofyn mae addewid am gael: "Gofynwch, a rhoddir i chwi." Mae caledu wedi syrthio i bechod yn waeth na'r cwymp; fe all godi wedi syrthio, ond os caleda nis gall godi byth, canys y mae yn groes i'r unig ffordd sydd at godi. Mae canlyniad cwymp yn brawf o'r peth oedd y dyn cyn ei gwymp, pa un ai yn y cnawd ai yn yr ysbryd yr oedd. Os caledu yw y canlyniad, mae yn brawf bod yn y cnawd, a'i fod dan farn. Os tyneru, mae yn brawf o edifeirwch, a'i fod yn deml i'r Ysbryd Glân, er iddo gael ei lygru. "Yr hwn a lygra deml Dduw, Duw a lygra hwnw." {{nop}}<noinclude></noinclude> pfsndxdvwun9cfrq1cregcmbkj6m5ud Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/221 104 84831 164686 2026-05-15T21:54:24Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Mae ceisio trugaredd yn wir weddi, er na byddo un drugaredd neillduol yn cael cyfeirio ati, canys mae pob peth yr Arglwydd yn nhrefn ei ras i'r annheilwng, yn drugaredd i'r truemus: mae trugaredd yn meddwl ei holl ddaioni yn ei heddwch, canys y mae yr oll ag yw a'r oll a fedd yn ei gymod. "Os plant, etifeddion hefyd:" os heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab, pa faint mwy i'n hachubir trwy ei fywyd? Mae esiampl am hyn mewn rhan fawr... 164686 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae ceisio trugaredd yn wir weddi, er na byddo un drugaredd neillduol yn cael cyfeirio ati, canys mae pob peth yr Arglwydd yn nhrefn ei ras i'r annheilwng, yn drugaredd i'r truemus: mae trugaredd yn meddwl ei holl ddaioni yn ei heddwch, canys y mae yr oll ag yw a'r oll a fedd yn ei gymod. "Os plant, etifeddion hefyd:" os heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab, pa faint mwy i'n hachubir trwy ei fywyd? Mae esiampl am hyn mewn rhan fawr o weddiau Dafydd, ac yn mhortreiad gweddiau yr holl Gristionogion hyd ddiwedd y byd, yr hon a elwir gweddi y publican. Ni bu achos yr Arglwydd mewn un man erioed yn y byd ond mewn gwendid ac anmherffeithrwydd mawr: mae yn rhaid bod addolwyr perffaith at fod yr addoliad yn berffaith, yr hyn nid yw i'w gael yn y byd hwn. Y gydnabyddiaeth fwyaf o anmherffeithrwydd yn bersonol ac yn eglwysol, yw y nesaf at wirionedd. Ymddiried yn yr Arglwydd yn ol ei air, a dysgwyl wrtho am gyflawniad ei air, yw ffydd yn rhoddi y gogoniant i Dduw. Fe allai mai nid y peth a ddeallir nac yr ymofynir fel y dylid am ei ddeall yw yr iawn ymddygiad gan eglwys, yn enwedig ei swyddogion, at y rhai fyddo wedi syrthio i bechodau gwaradwyddus, rhag bod un ymddygiad at y cyfryw rai yn tueddu i'w caledu a'i iachau, i edrych yn fach ar eu pechod, ac i leihau eu hedifeirwch; ac, ar y llaw arall, rhag dangos un math o gasineb, sarugrwydd, diystyrwch, nac ymddial, yr hyn sydd yn ei natur i galedu, i gyndynu, i bellhau, ac i lethu y profedigaethus. Mae yn amlwg fod gwahaniaeth yn y rhai sydd yn syrthio. Nid Dafydd yw pob un sydd yn syrthio i odineb; am hyny nid ei ymddygiad ef wedi syrthio yw ymddygiad llawer un a syrthiodd i'r un bai, er nid agos yn yr un modd. Yn wyneb hyn yr esiampl ddwyfol sydd i'w dylyn: bod yn ddylynwyr Duw fel plant anwyl. Y mae yn ddigllon beunydd wrth yr annuwiol; nid yw yn gwneyd dim i'w blant ond yn ol y berthynas, a'i oruchwyliaeth ar ei deulu yn ei dŷ. Mae yn drugarog, yn dosturiol, ac yn ddaionus i bawb; yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, yn gwlawio ar y cyfiawn a'r annghyfiawn. Mae yn gwasgaru ei roddion creadigol a rhagluniaethol yn gyffelyb i bawb, heb wneyd un gwahaniaeth. Pechadur sydd wedi ei ddigio, ac nid y creadur heb bechu. Ei ras a'i drugaredd i bechadur, i ddinystrio ei bechod, a'i waredu o hono. Codi y syrthiedig o'i fai yw yr esiampl a roddir i'w dylyn, heb ei gasâu o'i herwydd, ond tosturio wrtho, ymddwyn yn ol hyn ato, a gweddio drosto. Y parotaf i son am gwympiadau eraill yw y nesaf a'r tebycaf i gwympo eu hunain, canys nid ydynt yn adnabod eu hunain. Mae hunan-adnabyddiaeth yn peri rhyfeddu na fuasent hwy wedi syrthio dros y dibynau buont yn chwareu arnynt, ac yn peri gwyleiddio, tewi, a diolch am eu gwaredu; ac yn effeithio gwylio a gweddio nad elont i brofedigaeth, mewn tosturi at y rhai sydd wedi syrthio, a gweddio yn barhaus drostynt. Gwir edifeirwch yn y cwympedig yw cydnabod ei gamwedd, hyny yw, cyffesu yn ei erbyn ei hun ei anwiredd i'r Arglwydd. "Pechais,<noinclude></noinclude> 4porwlvk3jmebwyjtf2ypjvd54l5u9w Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/222 104 84832 164687 2026-05-15T21:54:39Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;" a'i bechod yn wastad ger ei fron. Lle mae hyn y mae maddeuant Duw. Prawf o faddeuant Duw i bechadur yw anfaddeuant y pechadur iddo ei hun. Pan byddo ef yn taflu pechodau tu ol i'w gefn, mae y rhai hyny yn wastad ger bron y pechadur, ac o flaen ei wyneb. Mae yr Arglwydd yn fwy o faddeuwr i'r pechadur y maddeu efe iddo, nag y mae y pechadur iddo ei hun. Maddeu am byth y mae efe; ond ni faddeu y pec... 164687 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;" a'i bechod yn wastad ger ei fron. Lle mae hyn y mae maddeuant Duw. Prawf o faddeuant Duw i bechadur yw anfaddeuant y pechadur iddo ei hun. Pan byddo ef yn taflu pechodau tu ol i'w gefn, mae y rhai hyny yn wastad ger bron y pechadur, ac o flaen ei wyneb. Mae yr Arglwydd yn fwy o faddeuwr i'r pechadur y maddeu efe iddo, nag y mae y pechadur iddo ei hun. Maddeu am byth y mae efe; ond ni faddeu y pechadur byth iddo ei hun. Mae eu coffa yn wastad yn drwm, pa un bynag ai gan eraill ai ganddo ef ei hun. Mae poeni yn wastad gyda phob newidiad lle bu toriad asgwrn. Maedrylliad esgyrn lle bo edifeirwch, a maddeuant a iacha yr esgyrn a ddrylliwyd. Mae y cwymp yn ol y lle y cwympir o hono. Os bydd y lle yn uchel, bydd y cwymp yn fawr, a'r drylliad yn erchyll, a'r anhawsdra i godi yn fwy: ac os bydd y lle y cwympir o hono yn uchel cyhoeddus, mae yn annhebyg y codir ef byth iddo, er bod yr Arglwydd wedi maddeu iddo, canys mae wedi ei wanhau, a drylliad ei esgyrn gan Dduw fydd yn deimlad o wendid ynddo, fel na allo ddal yn wyneb cyhuddiadau ei gydwybod fyddo yn gydgyhuddol gan uffern, cnawd, a byd. Un gryf yw cydwybod euog; hi bâr i'r barnwr newid lliwiau pe bai yn y llys ar ei orsedd. Nid yw Dafydd na Pedr yn esiamplau am hyn, oblegyd goruchwyliaeth ac amgylchiad. Mae hanfod gwasanaethu Duw yn yr Ysbryd yn effeithiad tri pheth. Effaith credu y dystiolaeth am dano; effaith cariad ato, ac ufudd-dod iddo; ac a gyflawnir mewn newydd-deb ysbryd—ysbryd wedi ei adnewyddu: ac yn wresog yn yr ysbryd; hyny yw, a'r holl galon, ond bob amser yn llai na'r dymuniad. Mae gwir ffydd yn Nghrist yn y ffolaf a'r annysgedicaf yn cynwys holl ddefnyddiau bywyd ysbrydol; pan mae y doethaf a'r dysgedicaf yn dysgu hebddi. Goleuni a nerth ysbrydol yw y naill, goleuni a nerth cnawdol yw y llall. Mae y naill yn ymostyngiad tlawd yn yr ysbryd; mae y llall yn ymofyniad rheswm cnawdol, balchder ysbryd. Mae mor ddyogel yn Nghrist ag yw yn y nefoedd. Crist yw y nefoedd, a'r nefoedd yn Nghrist yw y nefoedd. Mae yn Nghrist ar y ddaear yr hyn nid yw yn y nefoedd—saint heb eu perffeithio. Nid perffeithiad yw eu dyogelwch, er y bydd hyny iddynt yn dragywyddol ddedwyddwch; ond eu cyflwr yw bod yn Nghrist. "Nid oes yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu; y rhai sydd yn rhodio, nid yn ol y cnawd"—nid efe yw eu blaenor, ond eu blinwr—"eithr yn ol yr ysbryd." Efe maent yn ddylyn, er eu bod yn ol yn mhell; y rhai hyn yw y rhai sydd yn Nghrist. Dymuniadau:—Trwy ffydd yn Nghrist yn unig gyflwr; yn y llwch mewn edifeirwch yn unig le i fod ynddo: gwasanaethu Duw wrth ei fodd yn unig waith; gorfoleddu yn Nghrist Iesu yr unig obaith, heb ymddiried dim yn y cnawd un amser, yr unig agwedd. Lle mae hyn yn wirioneddol mae Cristion, faint bynag fyddo o wendid yn y dymunwr. Mae cwbl yr Arglwydd yn ngoruchwyliaeth gras yn nghymhwysiad yr iachawdwriaeth trwy ei ysbryd; efe yw y Dadguddiwr, yr Esboniwr, y Mynegwr, y Tywysydd, yr Arweinydd, yr Adferwr, a'r<noinclude></noinclude> 6fz4qy20zye26ixmycmnn36ynvlyvnu Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/225 104 84833 164689 2026-05-15T21:58:52Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gyflawniadau, yn farn ysbrydol ar y wlad lle byddo, ac yn arwydd o farn dymhorol ar y wlad hono. Defnyddiau y gymdeithas ysbrydol rhwng dyn a Duw o du yr Arglwydd, yw ei fod yn peidio tewi wrtho; am hyny ei ddymuniad parhaus yw, Na thaw wrthyf; ac hefyd nerthu yn y ffydd i roddi ufudd-dod i'r gorchymyn; a chadw ffydd, rhag diffygio mewn profedigaethau, ac ateb gweddiau; mae hyn yn cadarnhau a nerthu yr enaid i ddysgwyl am atebiad buan... 164689 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyflawniadau, yn farn ysbrydol ar y wlad lle byddo, ac yn arwydd o farn dymhorol ar y wlad hono. Defnyddiau y gymdeithas ysbrydol rhwng dyn a Duw o du yr Arglwydd, yw ei fod yn peidio tewi wrtho; am hyny ei ddymuniad parhaus yw, Na thaw wrthyf; ac hefyd nerthu yn y ffydd i roddi ufudd-dod i'r gorchymyn; a chadw ffydd, rhag diffygio mewn profedigaethau, ac ateb gweddiau; mae hyn yn cadarnhau a nerthu yr enaid i ddysgwyl am atebiad buan: "Ý dydd y llefais arnat y'm gwrandewaist;" ac y'm cadarnheaist a nerth yn fy enaid. Defnyddiau y gymdeithas o du y pechadur yw myfyrdod ar Dduw yn ol ei air, a rhodio yn ofn Duw yn ol ei air, gweddio ar Dduw yn ol ei air, yr hyn sydd trwy Grist yn yr Ysbryd Glân. Lle nid oes cariad nid oes calon; lle nid oes ewyllys nid oes gallu; lle nid oes meddwl nid oes medr; lle nid oes Bibl nid oes gwybodaeth; lle nid oes ffydd nid oes crefydd; lle nid oes Duw nid oes dim; lle nid oes dysg nid oes dawn; lle nid oes Crist nid oes bywyd. Galwad yr efengyl yw unig obaith pechadur; credu yn Nghrist yw bywyd i bechadur; adnewyddiad yr Ysbryd Glân yw cysur pechadur. Mae egwyddorion a hanfod diwygiad y mil blynyddoedd i'w weled yn ol gair yr Arglwydd mewn pump peth: 1. Mewn dymchweliad Iuddewaeth, Rhuf. xi. 23, 4, 5, 6, 7, 8, 31, 32. 2. Mewn dymchweliad Pabyddiaeth, 2 Thes. ii. 6-12; Dat. xiv. 8. 3. Acmewn diwygiad ar Gristionogaeth, Zec. xiv. 20, 21. 4. Mewn dymchweliad Mahometaniaeth. 5. Mewn dymchweliad ar Baganiaeth: ewyllys yr Arglwydd yn cael ei wneyd ar y ddaear megys mae yn cael ei wneyd yn y nefoedd; llenwi y ddaear â chyfoeth y nefoedd, santeiddrwydd yw hyny; yr hyn fydd holl ogoniant y mil blynyddoedd. Unig ddefnydd gwir wybodaeth grefyddol ac ysbrydol gwir dduwioldeb yw yr ysgrythyrau; yr unig sicrwydd am wybodaeth yr ysgrythyrau mewn meddiant personol yw ffydd; nerth gwybodaeth ffydd yn unig sydd yn yr Ysbryd Glân; mae yn rhaid i hyn fod yr un peth yn yr holl gredinwyr; mae y gwahaniaeth er hyny sydd mewn credinwyr yn y gwahaniaeth yn yr oruchwyliaeth fu arnynt yn mhlaniad ffydd. 2. Ac ar gyfarfyddiad dynol dymherau a gewynau. 3. Ac ar amgylchiadau personol: claf neu iach, gweddw neu briod, cyfoethog neu dlawd. 4. Ac ar oruchwyliaethau rhagluniaethol tuag atynt. Nis gall y gwir hyder uchelaf fod yn ddim ond profiad y ffydd; ac y mae hyder lleiaf gwir ffydd yn brofiad. Gwirionedd cymhwysiadol at enaid angenus yw cymaint o adnabyddiaeth o wrthddrychau anweledig a ellir ddysgwyl yn y fuchedd hon, canys y mae yn cynwys sail, sicrwydd, a defnydd gwir ffydd. Ymarweddiad yn y nefoedd yw ymarweddiad nefol, y meddwl yn cymdeithasu â phethau y nefoedd ar y ddaear, trwy Grist yn y gair —rhoddi ein serch ar y pethau sydd uchod. Y serch yw prif ddylanwad at gymdeithas a Duw. Pethau sydd uchod—pethau ddaeth oddiuchod—y pethau mae eu cynwysiad uchod, ac uchod eu perffeithiad. Lle bo serch mae ceisio, Gwir serch bâr wir gais. Serchu a<noinclude></noinclude> 4fgtmta37m4fzolfj5fdkd0smbpo5bf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/226 104 84834 164690 2026-05-15T22:00:33Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "cheisio pethau nefol sydd yn y gair, yw ymarweddiad yn y nefoedd heb ddychymygion. Pa fodd y deallir buddioldeb personol oddiwrth y gair a wrandawn? Ateb. Ein bod ni yn unig wrthddrych iddo wrth ei wrando, a'i wrando i ni ein hunain, a'i ddefnyddio at ein holl achos ein hunain; canys y mae hyn yn brawf o egwyddor o gariad, ffydd, ac ufudd-dod, er na byddo y serchiadau ddim yn fflamllyd, canys y mae deall y lleferydd yn peri gwrando yr... 164690 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cheisio pethau nefol sydd yn y gair, yw ymarweddiad yn y nefoedd heb ddychymygion. Pa fodd y deallir buddioldeb personol oddiwrth y gair a wrandawn? Ateb. Ein bod ni yn unig wrthddrych iddo wrth ei wrando, a'i wrando i ni ein hunain, a'i ddefnyddio at ein holl achos ein hunain; canys y mae hyn yn brawf o egwyddor o gariad, ffydd, ac ufudd-dod, er na byddo y serchiadau ddim yn fflamllyd, canys y mae deall y lleferydd yn peri gwrando yr ymadrodd. Mae cariad yn peri ufudd-dod. Mae derbyn y rhybyddion yn peri cadw y gorchymynion. "Ynddynt hwy y rhybyddir dy was: o'u cadw y mae gwobr lawer." At gael cymdeithas â Duw, a mwynhau ei wyneb mewn ymarferiad ag ordinhadau cyhoeddus, mae yn gysylltiedig a hyn bod grasusau yr Ysbryd yn weithredoedd parhaus gan ddirgel ddyn y galon. Nid yw wyneb Duw ond lle mae ei Ysbryd, ac nid yw ei Ysbryd yn un lle yn gweithredu nac yn dylanwadu ond lle mae ei rasusau yn cael eu gweithredu, na'r grasusau yn cael eu gweithredu ond lle cedwir ei air. Mae holl bethau ein hiachawdwriaeth yn fawrhad ar ei air, a'i air yn mawrhau ei wyneb, a'i wyneb i'w gael trwy ei Ysbryd, a'i Ysbryd yn ei rasusau. Grasusau yr Ysbryd yw y gair yn weithredoedd; ffydd yw credu y gair; cariad yw cadw y gair; amynedd yw ymaros o herwydd y gair; gobaith yw dysgwyliad wrth y gair; gostyngeiddrwydd yw ymostyngiad o herwydd y gair. Lle bo y pethau hyn, ac yn aml hwynt, maent yn peri na byddo eu perchenog na segur na diffrwyth yn ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Mae perygl mawr rhag camsynied, trwy feddwl eu bod yn ddor rhyngom a Duw, a ninau yn rhydd oddiwrth air Duw. Rhydd oddiwrth y gair yw pawb nad yw y gair yn peri ''acto'' grasusau yn ol yr holl amgylchiadau, cyfnewidiadau, profedigaethau, a'r llygredigaethau sydd yn gwneyd i fyny fyny fywyd credinwyr dinwyr wrth fyned trwy y fuchedd hon. Ni ellir cael cymdeithas â Duw y pechir yn ei erbyn bob dydd, a phob awr o'r dydd, heb edifeirwch tuag at Dduw; nid yn unig yn gyffredinol, am gamweddau nas deallir, ond hefyd yn neillduol, am gamweddau cuddiedig, a phechodau profedigaethau neillduol. Mae yn debyg y gall rhyw gors fod yn y peth hwn i filoedd—efryddion, heb fynu eu hadnabod, ac am hyny heb eu meddyginiaethu trwy eu holl fywyd. Llawer iawn ydynt yn byw mewn balchder ysbryd, ysl yn ariangar, yn ffrostwyr, mewn llid, dig, cenfigen, ac ymddial; mewn meddwdod a chyfeddach, diota, ysgafnder meddwl, bydoldeb, yr hyn yw rhodio yn ol y cnawd mewn cysylltiad â phroffes o grefydd, dd, dros eu holl fywyd, nes caledu y galon, serio y gydwybod, gan wrthod pob argyhoeddiad, gan feddyginiaethu eu cydwybod â gweniaith eu wybod a gwenia celwyddau eu hun, ac nid trwy edifeirwch, a dychweliad at Dduw am y y pethau hyn. Lle nid oes edifeirwch tuag at Dduw nid oes ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, nac un o rasusau yr Ysbryd mewn gweithrediad. Edifeirwch yw meithrinfa y grasusau. Edifeirwch sydd fel agoriad pyrth at gario yr holl fasnach yn mlaen; y mae yr ysbryd anedifeiriol yn atal cymundeb rhwng yr enaid a Duw. Ni a ddylem gofio, gan hyny, a sylwi nad oes cymdeithas â Duw ond trwy rasusau Ysbryd Duw. Enaid a hanfod cymdeithas â Duw yw gweithredu y grasusau rhwng enaid a Duw. "Edifeirwch<noinclude></noinclude> grj90d4nl57yp51one7qb6qajtcab84 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/227 104 84835 164691 2026-05-15T22:01:01Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda " tuag at Dduw a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist," dyma gynwysiad gweinidogaeth iachawdwriaeth yn yr Hen Destament a'r Newydd. "Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled," yw cenadwri yr Hen Destament. "Edifarhewch a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau," fel y mwynhaoch ei bresenoldeb, yw cynwysiad cenadwri y Testament Newydd. Y fath siomedigaeth yr arwain y camgymeriad hwn iddo; sef meddwl fod crefydd mewn meddiant dan... 164691 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude> tuag at Dduw a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist," dyma gynwysiad gweinidogaeth iachawdwriaeth yn yr Hen Destament a'r Newydd. "Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled," yw cenadwri yr Hen Destament. "Edifarhewch a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau," fel y mwynhaoch ei bresenoldeb, yw cynwysiad cenadwri y Testament Newydd. Y fath siomedigaeth yr arwain y camgymeriad hwn iddo; sef meddwl fod crefydd mewn meddiant dan feithriniaeth egwyddorion croes iddi ! Pedwar peth mawr eu twyll mewn gwlad Gristionogol ywamlwg gysylltiad cnawdol a chrefyddol, megys tremiau beilchion a chyflawniadau allanol crefydd—ysbryd anefengylaidd ac allanol ymarferion efengylaidd y cenfigenus yn ymddangos yn orfoleddus a hyderus—y dialgar yn seingar mewn pregethu, canu, gweddio, a gwrando—y cybyddlyd yn rhagfarnllyd—y cybydd mwyaf yn erlidiwr mwyaf ar gybydd-dod—y meddwyn yn dangos duwiolddyn —yr hunanol yn ymrithio yn ymostyngol—y gwenieithus yn ymddangos yn wylus—y pleidgar yn ymddangos yn uniongar. Rhith duwioldeb yw hyn, eithr wedi gwadu ei grym hi. Pan bo hyn mae barn driphlyg. Yn 1. Ar y person ei hun, mewn cydwybod ddrwg wedi ei serio. Yn 2. Ar yr eglwys a'i goddefo, canys y mae goddef y rhai drwg yn digio yr Arglwydd. Yn 3. Ar y byd digrefydd, i'w caledu mewn annghrediniaeth. Yr ail beth sydd yn gwneuthur mawr niwed mewn gwlad Gristionogol yw gŵyrdroi yr ysgrythyrau, trwy geisio geisio dangos meddwl iddynt nad yw ynddynt, trwy eu defnyddio at bethau a gwrthddrychau cnawdol—trwy ddefnyddio gwirionedd i wrthwynebu gwirionedd: tadogi, llunio, a chadarnhau heresiau ac anwireddau, a chamddefnyddiad o'r ysgrythyrau o eisiau eu deall. Y trydydd, meddwl fod y pethau sydd dros y gwirionedd yn erbyn y gwirionedd. gwirionedd. Y pedwerydd, Meddwl y pethau sydd d yn erbyn y gwirionedd dros y gwirionedd: anianol, heb yr ysbryd, sydd yn achosi y benbleth hon, a llawer ychwaneg. 1. Yn wyneb adfyd ymgysurwn yn yr Arglwydd. 2. Yn wyneb hawddfyd ymddigrifwn yn yr Arglwydd. 3. Yn wyneb eisiau ymddiriedwn yn yr Arglwydd. 4. Yn wyneb ofnau ymguddiwn yn yr Arglwydd. 5. Yn wyneb dyryswch dystawn yn yr Arglwydd. 6. Yn wyneb tristwch gorfoleddwn yn yr Arglwydd. Gwnawn hyn oll mewn gweddi yn ol ei air. Amen. "Canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw." Dyma galon ac arch gyda'u gilydd, mewn undeb a'u gilydd; lle mae hyn fe bâr byth, fel y gwelir am y gwr hwn, trwy bob cyfnewidiad, amgylchiad, a phrofedigaeth yr aeth trwyddynt; eto ar ol y cwbl, a thrwy y cwbl, yr oedd ei galon yn gryno gyda'r arch. Arch gyda'r galon bâr galon gyda'r arch. Os bydd yr arch gyda'r galon, fe fydd y galon yn ofni am arch Duw yn wyneb amgylchiadau, rhag ei dal gan y Philistiaid. Yr oedd llawer o bethau yn yr amgylchiad y pryd hwnw oedd â pherthynas agos rhyngddynt a'r gwr hwn allasai fod yn naturiol achos ofn iddo am Israel, ei bobl, ei genedl—unig bobl Dduw—a'u hymdrech y pryd hyny ar faes y frwydr â'r Philistiaid dienwaededig, gelynion Duw ac Israel, cenedl anhawddgar a ffiaidd ganddo; ei feibion hefyd yn y frwydr—teimlad tadol atynt. Yr oedd ei achos<noinclude></noinclude> 2ifppb6eqiao37coyumlt6you8jywo6 164692 164691 2026-05-15T22:02:52Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ 164692 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tuag at Dduw a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist," dyma gynwysiad gweinidogaeth iachawdwriaeth yn yr Hen Destament a'r Newydd. "Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled," yw cenadwri yr Hen Destament. "Edifarhewch a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau," fel y mwynhaoch ei bresenoldeb, yw cynwysiad cenadwri y Testament Newydd. Y fath siomedigaeth yr arwain y camgymeriad hwn iddo; sef meddwl fod crefydd mewn meddiant dan feithriniaeth egwyddorion croes iddi ! Pedwar peth mawr eu twyll mewn gwlad Gristionogol ywamlwg gysylltiad cnawdol a chrefyddol, megys tremiau beilchion a chyflawniadau allanol crefydd—ysbryd anefengylaidd ac allanol ymarferion efengylaidd y cenfigenus yn ymddangos yn orfoleddus a hyderus—y dialgar yn seingar mewn pregethu, canu, gweddio, a gwrando—y cybyddlyd yn rhagfarnllyd—y cybydd mwyaf yn erlidiwr mwyaf ar gybydd-dod—y meddwyn yn dangos duwiolddyn —yr hunanol yn ymrithio yn ymostyngol—y gwenieithus yn ymddangos yn wylus—y pleidgar yn ymddangos yn uniongar. Rhith duwioldeb yw hyn, eithr wedi gwadu ei grym hi. Pan bo hyn mae barn driphlyg. Yn 1. Ar y person ei hun, mewn cydwybod ddrwg wedi ei serio. Yn 2. Ar yr eglwys a'i goddefo, canys y mae goddef y rhai drwg yn digio yr Arglwydd. Yn 3. Ar y byd digrefydd, i'w caledu mewn annghrediniaeth. Yr ail beth sydd yn gwneuthur mawr niwed mewn gwlad Gristionogol yw gŵyrdroi yr ysgrythyrau, trwy geisio geisio dangos meddwl iddynt nad yw ynddynt, trwy eu defnyddio at bethau a gwrthddrychau cnawdol—trwy ddefnyddio gwirionedd i wrthwynebu gwirionedd: tadogi, llunio, a chadarnhau heresiau ac anwireddau, a chamddefnyddiad o'r ysgrythyrau o eisiau eu deall. Y trydydd, meddwl fod y pethau sydd dros y gwirionedd yn erbyn y gwirionedd. gwirionedd. Y pedwerydd, Meddwl y pethau sydd d yn erbyn y gwirionedd dros y gwirionedd: anianol, heb yr ysbryd, sydd yn achosi y benbleth hon, a llawer ychwaneg. 1. Yn wyneb adfyd ymgysurwn yn yr Arglwydd. 2. Yn wyneb hawddfyd ymddigrifwn yn yr Arglwydd. 3. Yn wyneb eisiau ymddiriedwn yn yr Arglwydd. 4. Yn wyneb ofnau ymguddiwn yn yr Arglwydd. 5. Yn wyneb dyryswch dystawn yn yr Arglwydd. 6. Yn wyneb tristwch gorfoleddwn yn yr Arglwydd. Gwnawn hyn oll mewn gweddi yn ol ei air. Amen. "Canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw." Dyma galon ac arch gyda'u gilydd, mewn undeb a'u gilydd; lle mae hyn fe bâr byth, fel y gwelir am y gwr hwn, trwy bob cyfnewidiad, amgylchiad, a phrofedigaeth yr aeth trwyddynt; eto ar ol y cwbl, a thrwy y cwbl, yr oedd ei galon yn gryno gyda'r arch. Arch gyda'r galon bâr galon gyda'r arch. Os bydd yr arch gyda'r galon, fe fydd y galon yn ofni am arch Duw yn wyneb amgylchiadau, rhag ei dal gan y Philistiaid. Yr oedd llawer o bethau yn yr amgylchiad y pryd hwnw oedd â pherthynas agos rhyngddynt a'r gwr hwn allasai fod yn naturiol achos ofn iddo am Israel, ei bobl, ei genedl—unig bobl Dduw—a'u hymdrech y pryd hyny ar faes y frwydr â'r Philistiaid dienwaededig, gelynion Duw ac Israel, cenedl anhawddgar a ffiaidd ganddo; ei feibion hefyd yn y frwydr—teimlad tadol atynt. Yr oedd ei achos<noinclude></noinclude> dpr86kt13a5ds4r26mtsnl1jvoiu7vz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/229 104 84836 164694 2026-05-15T22:07:07Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Ysbryd Glan, a'r Duw mawr yn cuddio ei wyneb, fel y gellir yn briodol ddyweyd y dyddiau hyn, "Tydi wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel, yr Achubwr." Mae y pethau hyn yn peri i galon yr ystyriol ofni am arch Duw. Ni wna bloedd gydag arch Duw yn ngwersyll yr Hebreaid, a dychryn yn ngwersyll y Philistiaid o herwydd yr arch, droi y fuddugoliaeth o du Israel. Mae yn rhaid cael Duw gyda'r arch, Duw gyda'i enw, neu y Philistiaid a orfyddant;... 164694 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ysbryd Glan, a'r Duw mawr yn cuddio ei wyneb, fel y gellir yn briodol ddyweyd y dyddiau hyn, "Tydi wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel, yr Achubwr." Mae y pethau hyn yn peri i galon yr ystyriol ofni am arch Duw. Ni wna bloedd gydag arch Duw yn ngwersyll yr Hebreaid, a dychryn yn ngwersyll y Philistiaid o herwydd yr arch, droi y fuddugoliaeth o du Israel. Mae yn rhaid cael Duw gyda'r arch, Duw gyda'i enw, neu y Philistiaid a orfyddant; ni wna cadw cymanfaoedd, pregethu Sabbathol a theithiol, ysgolion, cyrddau gweddi, ac ysgolion i ganu; cynefinir â phob peth; gwywo wna y cwbl. Y cnawd, y byd, a satan gaiff yr holl wlad, naill ai trwy rym llygredigaeth yn allanol, neu rith crefydd yn eglwysol, heb gael Duw gyda'r arch—ei wyneb gyda'i enw; a phan ddalier arch Duw, bydd y gogoniant wedi ymadael. Pan êl enw Duw yn bêl droed trwy bregethu cnawdol a bucheddau crefyddwyr anfoesol, heb ddim gwahaniaeth rhwng byd ac eglwys, —ysbryd y byd wedi llanw eglwysi Duw, a hwnw yr un ysbryd cyffredinol yn mhawb, nes bo arch Duw wedi ei dal, enw Duw dan draed; yna, mewn rhyw oruchwyliaeth anadnabyddus, fe bleidia ei arch yn nhŷ Dagon, ac a wna rymusder bâr i'r Israeliaid a'r Philistiaid wybod mai efe yw yr Arglwydd; ond bydd llawer ofnus am arch Duw wedi marw y pryd hyn. {{nop}}<noinclude></noinclude> 6yqrxptoc3sgtd2kms5pqlxz6ghmuvp Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/230 104 84837 164695 2026-05-15T22:07:50Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENOD XIII.}}<br>Cyfamodau Mr. Richard â Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd.}} CYN rhoi y cyfamodau ger bron, yr ydym yn tybio fod ychydig sylwadau blaenorol yn angenrheidiol. Mae y cyfamodau hyn yn cael eu hadnewyddu o flwyddyn i flwyddyn am o gwmpas ugain mlynedd, a chwaneg. Y mae yn anmhosibl edrych arnynt, heb gydnabod ar unwaith fod y dyn yn credu bod Duw, a bod ganddo feddwl uchel am y Duw hwnw.... 164695 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XIII.}}<br>Cyfamodau Mr. Richard â Duw ar wahanol adegau, ac o dan wahanol amgylchiadau bywyd.}} CYN rhoi y cyfamodau ger bron, yr ydym yn tybio fod ychydig sylwadau blaenorol yn angenrheidiol. Mae y cyfamodau hyn yn cael eu hadnewyddu o flwyddyn i flwyddyn am o gwmpas ugain mlynedd, a chwaneg. Y mae yn anmhosibl edrych arnynt, heb gydnabod ar unwaith fod y dyn yn credu bod Duw, a bod ganddo feddwl uchel am y Duw hwnw. Y mae Duw yn cael lle mawr yn ei feddwl; gwelir ef yn plygu yn ostyngedig ger ei fron, yn wylaidd ac isel, gan ei gydnabod yn Dduw mawr, yr hwn a wnaeth nef a daear, y moroedd, a'r hyn oll sydd ynddynt. Yr oedd ganddo grediniaeth ddiysgog mewn rhagluniaeth ddwyfol, yn ymgyflwyno iddo yn ei holl gysylltiadau â'r presenol ac a'r dyfodol. Edrychwch ar y cyfamodau un ar ol y llall, a gwelwch y difrifoldeb mwyaf ag sydd yn bosibl fod yn enaid dyn ger bron Duw. Ger bron gorseddfainc Duw, mewn unigolrwydd a dystawrwydd, dacw ef yn ymgrymu; dacw ei enaid mewn ofn santaidd yn cyflwyno ei hun, ei wraig, a'i blant i ofal a chadwraeth Duw tragywyddoldeb. Yr oedd llawer yn rhyfeddu wrth weled a theimlo nerth mawr Richard yn y pwlpud; ond y mae y cyfamodau, a'r cyffelyb bethau, yn dyfod â chwi i edrych ar ddirgelwch y nerth hwnw, a "chuddiad y cryfder." Yr ydych yn ei weled yn awr yn yr ystafell, wedi cau y drws, heb neb ond efe a Duw, mewn modd na welsoch ef erioed o'r blaen. Gwelsoch ef o'r blaen yn ddiofn, yn cyfarch deng mil o ddynion, a'r rhai hyny mewn cyffroad fel gallt o goed ar chwa o wynt cryf; ac yntau fel brenin mewn llu, neu arglwydd ar feddyliau dynion. Fel yna y darfu i chwi ei adnabod. Ond ar ol hyny yr oeddech yn colli eich golwg arno; nid oeddech yn ei adnabod mwyach yn ei lwybrau dirgelaidd yn y cysgod, wedi tynu o wydd dynion i wydd Duw. Yr oedd y bywyd hwn yn ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun a'i Dduw, o ran ei hanfod; ei effeithiau yn unig yr oeddech chwi yn gydnabyddus ag ef. Eithr yn awr yr ydym yn myned i godi y clawr oddiar y gist ddirgeledig a chysegredig; neu dynu y llen hono yn ol ag oedd rhyngoch a chysegr santeiddiolaf Richard, Abergwaen. Gwelsoch Richard ar ei draed ar yr<noinclude></noinclude> 2ef2xd24nq035tihztmohqqmo8mkqy2 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/231 104 84838 164696 2026-05-15T22:08:52Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "esgynlawr o flaen y miloedd lawer gwaith; ond yma yr ydym am eich arwain i'w weled ar ei liniau ger bron Duw. Dewch i'r ystafell nesaf i mewn, i'r cysegr santeiddiolaf. Edrychwch, dacw y pregethwr mawr wedi crymu yn un bach ger bron Duw. "Beth! ai dyna Richard, Abergwaen, prif bregethwr Cymru?" Ië, dacw fe, yn sicr i chwi; yn un bach, nid yn unig wedi crymu, ond wedi syrthio ar ei wyneb ger bron yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. Beth... 164696 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>esgynlawr o flaen y miloedd lawer gwaith; ond yma yr ydym am eich arwain i'w weled ar ei liniau ger bron Duw. Dewch i'r ystafell nesaf i mewn, i'r cysegr santeiddiolaf. Edrychwch, dacw y pregethwr mawr wedi crymu yn un bach ger bron Duw. "Beth! ai dyna Richard, Abergwaen, prif bregethwr Cymru?" Ië, dacw fe, yn sicr i chwi; yn un bach, nid yn unig wedi crymu, ond wedi syrthio ar ei wyneb ger bron yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. Beth y mae yn ddyweyd? Clywch ei ruddfanau! Clywch ei ocheneidiau! Y mae yn gydwybodol ei fod o flaen y Duw mawr sydd yn gwybod ac yn gallu pob peth. Clywch ef yn cyffesu o flaen Duw mai efe yw y pechadur mwyaf ar y ddaear, y gwaelaf o ddynion, y distadlaf yn mhlith y saint. Y mae yn edrych ar ei bregethau yn ffaeleddau mawrion, a'i weddiau yn gyflawniadau gwaelion; ïe, ei holl wasanaeth crefyddol yn dra annheilwng o'r Duw yr oedd yn ei wasanaethu. Nid Mr. Richard ar yr esgynlawr o flaen dynion, mewn cryfder gweinidogaethol, yw y Richard ar ei wyneb yn y cysegr o flaen Duw. Ei ymddangosiad ar yr esgynlawr sydd yn llewaidd; yn y cysegr yn oenaidd a gwylaidd. Mor ddiolchgar y mae yn cydnabod Duw am ei drugareddau a'i waredigaethau; mor daer y mae yn gofyn bendithion naturiol ac ysbrydol; ac mor llwyr y mae yn ymgyflwyno iddo! Edrychwch arno yn myned i adnewyddu y cyfamod â Duw, ac yn cario yr holl deulu anwyl yn ei freichiau, i'w cyflwyno iddo, ac i adnewyddu ei gyfamod mewn cysylltiad â hwynt. "O wr anwyl!" mor daer, mor syml, ac mor ddifrifol y clywir ef yn siarad â Duw! Wedi myned ar ei liniau, a chyflwyno ei hun i Dduw, ac adnewyddu ei gyfamod ag ef, y mae yn myned â'i wraig yn ei freichiau ger bron Duw yn gyntaf, ac yn eiriol yn daer ar ei rhan, am i'r Arglwydd ei chysuro hi, ei harwain, a bod gyda hi holl ddyddiau ei bywyd. Gallem feddwl ein bod yn ei weled yn dal Mrs. Richard yn ei freichiau ger bron y Mawredd, gan ddywedyd yn ostyngedig, "O Arglwydd, cofia Bridget, fy anwyl wraig; cynorthwya hi i ddal yn y blaen, ac i fyw yn dduwiol; ïe, cadw ac amddiffyn hi hyd y diwedd." Wedi hyny dacw ef yn cymeryd ei fab anwyl yn ei freichiau yr un modd, gan ymbil ar ei ran, ac yn dywedyd, "O Arglwydd, cofia Dafydd fy mab, gwna ef yn dduwiol yn moreu ei ddyddiau, ie, gwna ef fel Samuel gynt, i dy wasanaethu dros ei holl fywyd mewn ephod lian." Yn ddiweddaf oll, dacw ef yn dal ei anwyl ferch yn ei freichiau<noinclude></noinclude> fxj7nvspinlq1hr09vwe30r7edokx0g Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/232 104 84839 164697 2026-05-15T22:09:04Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ger bron Duw, a'i galon fel llyn dwfr, a'i lygaid mawrion fel ffynonau yn tywallt dagrau, ac yn dywedyd gyda sel a gwresogrwydd, "O Arglwydd, cofia Bridget Hannah yn dragywydd; neilldua hi at dy wasanaeth, a gwna hi yn golofn yn dy dy byth. O bydded iddi gyda Mair ddewis y rhan dda na ddygir byth oddiarni; ac fel Elisabeth, hoffi trigfan dy dŷ." Fe allai eich bod yn ein gweled yn hir cyn eich arwain i'r cysegr santeiddiolaf, at yr arc... 164697 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ger bron Duw, a'i galon fel llyn dwfr, a'i lygaid mawrion fel ffynonau yn tywallt dagrau, ac yn dywedyd gyda sel a gwresogrwydd, "O Arglwydd, cofia Bridget Hannah yn dragywydd; neilldua hi at dy wasanaeth, a gwna hi yn golofn yn dy dy byth. O bydded iddi gyda Mair ddewis y rhan dda na ddygir byth oddiarni; ac fel Elisabeth, hoffi trigfan dy dŷ." Fe allai eich bod yn ein gweled yn hir cyn eich arwain i'r cysegr santeiddiolaf, at yr arch a'r cyfamodau, ond gadewch i mi ddyweyd un peth yn gyntaf, cyn myned i mewn. Wrth ddarllen ac edrych i mewn i grefydd ddirgeledig Mr. Richard, y mae yn peri i ni gywilyddio, eithr yn dymuno am fwy o'r peth mawr hwnw ag oedd ganddo ef. Yn ymyl crefydd mor fawr, mor syml, mor ddifrifol, mor bwysig, ac mor gydwybodol, yr ydym o angenrheidrwydd yn gweled ein hunain yn rhai bychain iawn. Ac wrth edrych ar ei grefydd fawr, dirgelaidd, yr ydym yn gallu cyfrif, i fesur helaeth, am ei fawredd cyhoeddus. Yr oedd Duw yn gwneyd yn y dirgel at y cyhoeddus. Nis gall neb wneyd dyn Duw ond Duw. Rhaid iddo ddyfod oddiwrth Dduw at ddynion, cyn y bydd ei weinidogaeth yn effeithiol i alw dynion oddiwrth bechod a diafol at Dduw. Ni a welwn Mr. Richard yn cael ei doddi ger bron Duw mewn teimladau gymaint, nes yr oedd delw Duw yn eglur ar ei weinidogaeth ger bron dynion. Bydd llawer yn dymuno cyrhaedd tir Richard, fel pregethwr ger bron dynion; ond nis gwneir hyny byth heb gyrhaedd ei dir ger bron Duw hefyd. Caniatewch fod y ddawn gymaint, yr hyn sydd yn dygwydd ond yn dra anaml; caniatewch fod y wybodaeth a'r gallu i lafurio a chynyrchu meddyliau gymaint; eto, er hyn oll, oni fydd y triniaethau ysbrydol yno hefyd, anmhosibl yw bod yn gymaint pregethwr. Y mae y cyfamodau yr ydym yn awr yn eu gosod ger eich bron, yn dweyd cyfrolau am nerth aruthrol Mr. Richard. Chwi welwch ynddynt y dyn duwiol, duwiol iawn; y dyn gonest yn ei grefydd ddirgelaidd; y gwr tyner a ffyddlon yn ei eiriolaeth ddiflino dros y wraig; y tad teimladwy yn nghyflwyniad ei blant anwyl mewn dagrau i ofal parhaus "Dad yr ysbrydoedd, a byw." Y mae pob tebygolrwydd i Dduw wrando ei weddiau, y rhai a gynwysir yn y cyfamodau hyn, ar ei ran ei hun, ei wraig, a'i ddau blentyn; a phe na buasai hyn yn bod, byddem yn rhwym o feddwl iddo fyned i wydd ei Farnwr wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac o ganlyniad yn rhydd oddiwrth waed pawb oll.<noinclude></noinclude> mam7el3nhjniquyt3xy4ahhvsfzfon6 164698 164697 2026-05-15T22:09:48Z AlwynapHuw 1710 164698 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ger bron Duw, a'i galon fel llyn dwfr, a'i lygaid mawrion fel ffynonau yn tywallt dagrau, ac yn dywedyd gyda sel a gwresogrwydd, "O Arglwydd, cofia Bridget Hannah yn dragywydd; neilldua hi at dy wasanaeth, a gwna hi yn golofn yn dy dy byth. O bydded iddi gyda Mair ddewis y rhan dda na ddygir byth oddiarni; ac fel Elisabeth, hoffi trigfan dy dŷ." Fe allai eich bod yn ein gweled yn hir cyn eich arwain i'r cysegr santeiddiolaf, at yr arch a'r cyfamodau, ond gadewch i mi ddyweyd un peth yn gyntaf, cyn myned i mewn. Wrth ddarllen ac edrych i mewn i grefydd ddirgeledig Mr. Richard, y mae yn peri i ni gywilyddio, eithr yn dymuno am fwy o'r peth mawr hwnw ag oedd ganddo ef. Yn ymyl crefydd mor fawr, mor syml, mor ddifrifol, mor bwysig, ac mor gydwybodol, yr ydym o angenrheidrwydd yn gweled ein hunain yn rhai bychain iawn. Ac wrth edrych ar ei grefydd fawr, dirgelaidd, yr ydym yn gallu cyfrif, i fesur helaeth, am ei fawredd cyhoeddus. Yr oedd Duw yn gwneyd yn y dirgel at y cyhoeddus. Nis gall neb wneyd dyn Duw ond Duw. Rhaid iddo ddyfod oddiwrth Dduw at ddynion, cyn y bydd ei weinidogaeth yn effeithiol i alw dynion oddiwrth bechod a diafol at Dduw. Ni a welwn Mr. Richard yn cael ei doddi ger bron Duw mewn teimladau gymaint, nes yr oedd delw Duw yn eglur ar ei weinidogaeth ger bron dynion. Bydd llawer yn dymuno cyrhaedd tir Richard, fel pregethwr ger bron dynion; ond nis gwneir hyny byth heb gyrhaedd ei dir ger bron Duw hefyd. Caniatewch fod y ddawn gymaint, yr hyn sydd yn dygwydd ond yn dra anaml; caniatewch fod y wybodaeth a'r gallu i lafurio a chynyrchu meddyliau gymaint; eto, er hyn oll, oni fydd y triniaethau ysbrydol yno hefyd, anmhosibl yw bod yn gymaint pregethwr. Y mae y cyfamodau yr ydym yn awr yn eu gosod ger eich bron, yn dweyd cyfrolau am nerth aruthrol Mr. Richard. Chwi welwch ynddynt y dyn duwiol, duwiol iawn; y dyn gonest yn ei grefydd ddirgelaidd; y gwr tyner a ffyddlon yn ei eiriolaeth ddiflino dros y wraig; y tad teimladwy yn nghyflwyniad ei blant anwyl mewn dagrau i ofal parhaus "Dad yr ysbrydoedd, a byw." Y mae pob tebygolrwydd i Dduw wrando ei weddiau, y rhai a gynwysir yn y cyfamodau hyn, ar ei ran ei hun, ei wraig, a'i ddau blentyn; a phe na buasai hyn yn bod, byddem yn rhwym o feddwl iddo fyned i wydd ei Farnwr wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac o ganlyniad yn rhydd oddiwrth waed pawb oll. {{nop}}<noinclude></noinclude> sdrpp852euk1hymnm0pus7vc4sy99xf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/234 104 84840 164700 2026-05-15T22:15:46Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "a'th ffyddlondeb a'th addewidion hyn yn blaid i mi yn y gorchwyl pwysfawr yma. Mi a bwysaf ar dy air am dy foddlonrwydd yn hyn. Yn bedwerydd—Yr ydwyf yn cyflwyno fy anwyl wraig i fyny i'th ofal byth, yr hwn a ddywedaist dy fod yn Farnwr i'r gweddwon yn dy breswylfa santaidd. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i ti farnu ei barn hi, barnu am dani, barnu drosti, a barnu iddi. Yr wyf yn ostyngedig yn cymeryd y gair a ddywedaist, "Beth byna... 164700 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'th ffyddlondeb a'th addewidion hyn yn blaid i mi yn y gorchwyl pwysfawr yma. Mi a bwysaf ar dy air am dy foddlonrwydd yn hyn. Yn bedwerydd—Yr ydwyf yn cyflwyno fy anwyl wraig i fyny i'th ofal byth, yr hwn a ddywedaist dy fod yn Farnwr i'r gweddwon yn dy breswylfa santaidd. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i ti farnu ei barn hi, barnu am dani, barnu drosti, a barnu iddi. Yr wyf yn ostyngedig yn cymeryd y gair a ddywedaist, "Beth bynag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, efe a'i rhydd i chwi," yn ateb i mi yn cyfamod hwn. Yn bumed—O Arglwydd, onid dy air di sydd yn dywedyd, "Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd; ei wobr ef yw ffrwyth y groth?" Gan hyny, yn ol dy air, yr wyf yn dymuno yn ostyngedig orchymyn y ddau blentyn a roddaist ti i mi, wrth eu henwau Dafydd a Bridget, i ti i fod yn eiddo neillduol, yn blant i Dduw trwy alwedigaeth effeithiol a grasol yr efengyl, ac i fod yn golofnau yn nheml Dduw byth. Ona ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i'r bachgen Dafydd gael bod fel y bachgen Samuel, i wasanaethu ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei fywyd; ac i fod wrth fodd calon Duw megys yr oedd Dafydd, pêr ganiedydd Israel; ac i fod yn ffyddlon i Dduw fel Shadrach, Mesech, ac Abednego; ac i fod yn anwyl gan Dduw fel Daniel, wr anwyl; ac i fod yn ddylynwr Duw fel plentyn anwyl; ac yn ddisgybl anwyl i Grist fel yr oedd Ioan, yr hwn a bwysai ar fynwes ei Arglwydd. Yn wyneb hyn, onid oes i mi ddefnydd cyfamod oddiwrthyt ti, fy Arglwydd, yn dy air santaidd, yn dywedyd, "Byddaf Dduw i ti ac i'th had ar dy ol; cysegra i mi bob cyntafanedig; dod i mi y cyntafanedig o'th feibion, canys eiddo fi yw pob cyntafanedig." O fy Arglwydd, cymer ef; wele fi yn myned i gyfamod newydd â thi am dano, mewn adnewyddiad o'r hen, yr hwn a wnaethum â thi ar ddydd ei enedigaeth; wele fi yn ymddiried ynot, yn cwbl ddysgwyl wrthyt, ac yn llwyr ymorphwys arnat am dy rad drugaredd iddo trwy y Cyfryngwr Iesu Grist. O na ddigied fy Arglwydd i mi ofyn i fy unig ferch Bridget, er mwyn yr Arglwydd Iesu, iddi gael bod fel Miriam i flaenori mewn mawl i Dduw, ac fel Sarah i fod yn fam yn Israel; fel Deborah i ganu am iachawdwriaeth yr Arglwydd; fel Hannah yn nhŷ yr Arglwydd; ac fel Bathsheba, o'r hon yr hanodd yr Arglwydd; fel Mair, mam yr Arglwydd, yn cuddio ei hymadroddion yn ei chalon; ac fel y Mair hono wrth draed yr Arglwydd, yn eu golchi a'i dagrau, a'u sychu a gwallt ei phen. O Arglwydd, onid oes i mi ddefnydd cyfamod am yr eneth hon rhyngof a thi yn y geiriau a ddywedaist, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd?" O na ddigied fy Arglwydd wrthyf, a mi yn llwch ac yn lludw, am i mi yn y modd hyn fyned i gyfamod â thi yn awr. Yr wyf yn gadael fy hun, mewn amser, yn angau, ac i dragywyddoldeb, yn dy law, fy fy ngwraig a'm dau blentyn. Yr un modd gan ddymuno dy fod yn Dduw maddeugar yn Nghrist i mi a hwythau byth bythoedd. Amen ac Amen. {{lein|5em}} O Arglwydd, yr awr hon o flaen gorsedd gras, mewn amser cymeradwy a dydd iachawdwriaeth, yr wyf yn ymgyfamodi â thi yn fy achos fy hun a'm teulu, yn ol arfer dy bobl, yn ol galwad dy efengyl, ac yn ol rheol dy air, gan ostyngedig gydnabod dy ryfedd ras a'th<noinclude></noinclude> kqa92ecg6v1gpff8vqdxkua8w8ijwqz Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/235 104 84841 164701 2026-05-15T22:17:36Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "drugaredd yn goddef, yn caniatau, ac yn ymhyfrydu yn y fath orchwyl rhyngot ag abwydyn gwael y llwch, ac wedi gwrthryfela yn dy erbyn; ac oni buasai dy gyfamod tragywyddol am iachawdwriaeth epil syrthiedig Adda, ni buasai genym byth un sail i na chymod na chyfamod; ond trwy rinwedd hwn sydd wedi ei selio â gwaed, yr hwn a elwir gwaed y cyfamod tragywyddol, mae drws agored i'r ddau; gan hyny i'r hwn a ddichon ein cadw yn ddigwymp, a hef... 164701 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>drugaredd yn goddef, yn caniatau, ac yn ymhyfrydu yn y fath orchwyl rhyngot ag abwydyn gwael y llwch, ac wedi gwrthryfela yn dy erbyn; ac oni buasai dy gyfamod tragywyddol am iachawdwriaeth epil syrthiedig Adda, ni buasai genym byth un sail i na chymod na chyfamod; ond trwy rinwedd hwn sydd wedi ei selio â gwaed, yr hwn a elwir gwaed y cyfamod tragywyddol, mae drws agored i'r ddau; gan hyny i'r hwn a ddichon ein cadw yn ddigwymp, a hefyd cadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, a'u gosod yn ddifeius ger ei fron ef, y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.Arwyddwyd genyf â'm llaw fy hun, THOMAS RICHARD. {{lein|5em}} O fy Arglwydd a'm Duw, yr wyf yn dymuno am gymhorth i ymlynu wrth dy draed, ac i adnewyddu y cyfamod uchod rhyngof a thi mewn symlrwydd a phurdeb duwiol, yn enw dy Fab, yr Arglwydd Iesu, heddyw, y dydd diweddaf o'r flwyddyn hon, Rhagfyr 31, 1838; a maddeu fy holl anwireddau; ar dy faddeuant yr wyf yn dymuno gorwedd fy hun i lawr mewn ffarwel â'r flwyddyn hon am byth. O Arglwydd fy Nuw, wele fi unwaith eto heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1839, yn cael dechreu blwyddyn newydd arall. Yr wyf yn dymuno o'm calon fod yn ddiragrith, i gysegru fy hunan, corph ac enaid, synwyrau ac amgylchiadau, yn gyfan ac yn gwbl oll i'th wasanaeth ac i'th ogoniant yn unig; a hefyd fy anwyl deulu wrth eu henwau; caffed fy hoff wraig Bridget aros holl ddyddiau ei bywyd wrth dy draed, i gael parhaus dderbyn o'th eiriau; ac yn dy law, fel y byddo ddyogel rhag ewyllys ei holl elynion. Caffed fy anwyl fachgen, Dafydd, os rhynga bodd yn dy olwg, wisgo ephod lian, i weini ger bron yr Arglwydd holl ddyddiau ei einioes. Caffed fy anwyl ferch, Bridget, ei bendithio goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell, yn mhabell Arglwydd y lluoedd, ac yn ei phabell ei hun yn mysg dynion, a'i derbyn byth i'r tragywyddol bebyll. Amen. Amen. {{lein|5em}} O Arglwydd fy Nuw, rhyfeddol fel ti dy hun yw dy amynedd, wedi cyd-ddwyn i oddef gyda'r gwaelaf o'th holl greaduriaid i derfynu y deunaw cant ac un a deugain, yr hwn a orchymynaist i gymeryd geiriau, a dychwelyd at yr Arglwydd, a dywedyd wrtho, wele fi, O fy Nuw, a mi yn llwch ac yn lludw, yn dywedyd wrthyt â'r geiriau a roddaist, "Maddeu yr holl anwiredd; derbyn fi yn ddaionus, a thalaf i ti loi fy ngwefusau." Yr wyf heddyw, Ionawr y 7fed, 1842, yn dymuno o'm calon yn ddiragrith wrth droed y groes, i adnewyddu y cyfamod uchod, yn ol ei anmherffaith gymod â'r hwn a ddywedodd, "A mi a wnaf gyfamod tragywyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd," yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion; yr wyf yn ostyngedig am ymgyflwyno, ymgysegru, a chwbl roddi fy hunan a'm teulu i Dduw, ïe, i ti, O fy Nuw; fel, pa un bynag ai byw, i'r Arglwydd y byddom byw; ai marw, i'r Arglwydd y byddom farw; pa un bynag ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Amen. Amen. Yr wyf yn selio y cyfamod hwn, ac yn dymuno ei fod yn dy foddloni; er mwyn dy Fab yr Arglwydd Iesu â'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1842. {{nop}}<noinclude></noinclude> ktqx3j7vnujgqbcp1glyrkr1kirqkxv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/236 104 84842 164702 2026-05-15T22:18:21Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Yr wyf yn dymuno, oddiar egwyddor union, o galon newydd, roddi fy hunan i Dduw heddyw yn adnewyddol, yn ol y cyfamod uchod, yn ol dy orchymyn dy hun, yr hwn sydd yn dywedyd, "Rhoddwch eich hunain i Dduw." Yn bersonol a'm ceir i ynddo ef fel mewn arch a noddfa, heb ddim o fy eiddo fy hun, canys nid oes dim i gael ond gwarth a chywilydd; ac yn weinidogaethol i fod fel dy enau di, dan dy law, ac wrth dy draed; a hefyd bod fy nheulu yn gwb... 164702 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr wyf yn dymuno, oddiar egwyddor union, o galon newydd, roddi fy hunan i Dduw heddyw yn adnewyddol, yn ol y cyfamod uchod, yn ol dy orchymyn dy hun, yr hwn sydd yn dywedyd, "Rhoddwch eich hunain i Dduw." Yn bersonol a'm ceir i ynddo ef fel mewn arch a noddfa, heb ddim o fy eiddo fy hun, canys nid oes dim i gael ond gwarth a chywilydd; ac yn weinidogaethol i fod fel dy enau di, dan dy law, ac wrth dy draed; a hefyd bod fy nheulu yn gwbl eiddo i ti, gyrph, eneidiau, ac amser, amgylchiadau, angau, a thragywyddoldeb, wedi ein gwaredu oddiwrth ein pechodau, i'n cynal yn ddigwymp yn y byd sydd yr awr hon, yn hyderus yn angau, ac i'n derbyn i'w dragywyddol deyrnas. A'm llaw fy hun, Ionawr 7, 1843, THOMAS RICHARD, {{lein|5em}} O Arglwydd fy Nuw, yr wyf yn ddiragrith y boreu hwn, y dydd cyntaf o Ionawr, 1845, wedi plygu fy ngliniau, fel y gweli fy mod, atat ti, yr hwn wyt Dad fy Arglwydd Iesu Grist, yn ei enw ef yn adnewyddu fy nghyfamod â thi, gan ddymuno dyfod yn hyderus at orseddfainc y gras, oddiar fod i mi y fath Archoffeiriad, fel y derbyniwyf drugaredd, ac y caffwyf ras yn gymhorth cyfamserol at fy holl ddyledswyddau personol atat ti, O Dduw, ac at bob dyn, yn deuluol, eglwysol, a gwladol. Yr wyf yn awr yn ostyngedig gydnabod ger dy fron fy holl waeleddau, gan gyffesu yn fy erbyn fy hun fy holl gamweddau i'r Arglwydd, ac yn dymuno adnewyddu fy nghyfamod â thi yn achos fy nheulu, fy ngwraig a'm dau blentyn wrth eu henwau, Bridget Ann, David Jones, a Bridget Hannah, gan ddymuno â'm holl galon, a'r oll wyf yn ddymuno iddynt, yn ol dy addewid, i fod yn Dduw iddynt, ac i enwaedu eu calonau i garu yr Arglwydd eu Duw, a'u cynal yn ddigwymp hyd yn nheyrnas nefoedd; ac yn ol dy air yr wyf yn dymuno tywallt fy nghalon ger dy fron yn ngeiriau dy weision Dafydd a Daniel, "Atolwg, na chofia bechodau fy ieuenctyd na'm camweddau; yn ol dy drugaredd meddwl di am danaf, canys gwnaethost i mi heddyw eu meddianu, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd." Amen. Amen. Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwel fy holl achos, personol a theuluol, nid oblegyd fy nghyfiawnder fy hun, canys yn wir nid oes tebyg i hyny i'w gael. Yr wyf yn tywallt fy ngweddi yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn ger dy fron; eithr o herwydd dy aml drugareddau di yr wyf yn ymffrostio, gan ddiolch fod hyn yn ddigon at ddileu beiau amlach na'r gwlith, gwellt, a'r tywod, y bum yn euog o honynt yn y flwyddyn wyf yn awr wedi ei therfynu, 1844, gan ddywedyd, Clodforaf yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Amen. Amen. Na ddigied fy Arglwydd am i mi, a mi yn llwch ac yn lludw, y waith hon yn chwaneg chwanegu llefaru ac ymgyfamodi yn ei wydd. Yr wyf yn selio fy ngobaith bod i mi Eiriolwr gyda'r Tad. Amen.—T. R. {{lein|5em}} O Arglwydd fy Nuw, yr wyf, a mi yn llwch ac yn lludw, y dydd hwn, y laf o Ionawr, 1846, y gwaelaf o holl ddynolryw, ac am fod yn wir Gristion, ond y gwanaf o honynt oll; ao am fod yn wir genad drosot, ond yr annheilyngaf annheilyngaf o'th holl weision, yn ymroddi ac yn ymgyflwyno o lwyrfryd calon, gorph ac enaid, fy ngwraig a'm dau<noinclude></noinclude> tvng3dlwoy71ds0wqtsvk6djjg1rmhi Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/237 104 84843 164703 2026-05-15T22:18:36Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "blentyn, amser a meddianau, i ti yn unig, yr hwn a ddichon gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, gan ddymuno fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, yr hwn sydd yn lanhau oddiwrth bob pecho pechod, ac na byddo i ti fy mwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni; na wrthod fi pan ballo fy nerth, a chaffael o honof rodio yn llewyrch dy wyneb hyd angau; ac yn yr amgylchiad mawr, sobr hwnw, dy wialen a'th ffon a'm... 164703 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blentyn, amser a meddianau, i ti yn unig, yr hwn a ddichon gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw, gan ddymuno fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, yr hwn sydd yn lanhau oddiwrth bob pecho pechod, ac na byddo i ti fy mwrw ymaith mewn henaint a phenllwydni; na wrthod fi pan ballo fy nerth, a chaffael o honof rodio yn llewyrch dy wyneb hyd angau; ac yn yr amgylchiad mawr, sobr hwnw, dy wialen a'th ffon a'm cysuro. Maddeu, atolwg, fy holl anwireddau, y rhai sydd amlach na gwallt fy mhen; a nertha fi i'm holl ddyledswyddau personol, teuluol, gogoneddwyf dy enw yn Nghrist Iesu. Na ddigied fy Arglwydd am i mi mewn pob adnewyddu fy nghyfamod y waith hon eto, gan ei arwyddo â'm llaw fy hun y dydd cyntaf o'r flwyddyn dyn hon. —T. R. {{lein|5em}} I ti, O Dduw, yr hwn wyt Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Ionawr, 1848, yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; ac mewn diragrith ddymuniad, bod fy anwyl deulu, fy ngwraig Bridget, a'r ddau blentyn a roddodd Duw i mi, Dafydd a Bridget, yn unig eiddo iddo ef, heb fod ewin o honynt yn ol. O caniata yn yr adnewyddiad cyfamodol hwn a wneir gan dy greadur gwael, y penaf pechadur, yr annheilyngaf o'th holl weision, i mi gael yn ostyngedig ofyn a derbyn mwy o'th wyneb i'w fwynhau yn y flwyddyn hon nag a gefais erioed o'r blaen. Mewn gwir ystyriaeth o'th ryfeddol, ïe, tebyg i wyrthiol ddaioni a gyfrenaist yn y flwyddyn 1847, a derfynwyd ddoe, yr wyf yn dymuno galw ar fy enaid, a'r cwbl sydd ynof, sydd ynof, i folianu enw yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef, yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau, yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd, yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddystryw, yr hwn sydd yn dy goroni a thrugaredd ac â thosturi. Na ddigied fy Arglwydd os gofynaf y fendith a ofynodd Jabez. Yr hwn a ganiataodd ei ddymuniadau, a ganiatao i minau, fy ngwraig, a'm dau blentyn— blentyn—O na lwyr fendithit ni, na eangi ein terfynau, bod dy law gyda ni, i'n cadw rhag drwg, fel na'n gofidier, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen. Amen. I'th law y gorchymynaf fy hun am byth, ac i gyfarfod â'r holl bethau sydd i'm cyfarfod yn y flwyddyn hon sydd oll yn ddirgelion y dydd hwn, canys ti yw Duw fy ngherddediad. —Ardystiaf y cyfamod hwn, T. R. {{lein|5em}} 1850.—Y mae heddyw yr 11eg o Chwefror, yr hon a gyfrifir i mi yn ddydd genedigaeth yn y fl. 1783. Yn ol hyn yr wyf yn 67 mlwydd oed. Mae yn hyn, pe byddai medr, ddefnyddiau traethawd helaeth. O Arglwydd, pa beth a ddywedaf? Canys yr wyf yn teimlo rhyw beth yn debyg i fel y dywedai dy santaidd brophwyd Daniel, "A mi a adawyd fy hunan, ac ni thrigodd nerth ynof; canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth." Mi a ddymunwn ysgrifenu a'm llaw fy hun ar y dydd hwn y peth a gaffai ardystiad dy foddlonrwydd, O fy Nuw, yr hwn a'm dygaist hyd yma. Yn gyntaf oll, dymunwn godi yma fy ngholofn Ebenezer, canys hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi, mewn llawer o wendidau ac anmherffeithiadau, cyfnewidiadau, a phrofedigaethau. At hyn dymunaf yn ail gofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd fi<noinclude></noinclude> stom6libkuqaypt8q9pfvcnzu0agpp1 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/239 104 84844 164705 2026-05-15T22:48:05Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "y gwaeledd gyda phethau santaidd, yn peri gloes ac ochenaid bob tro wrth eu darllen ac wrth eu cofio; ac oni bai modd a threfn i olchi y person a'r gwasanaeth yn ngwaed Crist, byddai raid i mi y dydd hwn suddo i anobaith. Ond am fod ganddo drugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honof i'w erbyn, a bod arnaf gywilydd codi fy wyneb at fy Nuw, a chywilydd wyneb a berthyn i mi; eto cyfiawnder a thrugaredd a berthyn iddo Ef; ac am fod ei... 164705 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y gwaeledd gyda phethau santaidd, yn peri gloes ac ochenaid bob tro wrth eu darllen ac wrth eu cofio; ac oni bai modd a threfn i olchi y person a'r gwasanaeth yn ngwaed Crist, byddai raid i mi y dydd hwn suddo i anobaith. Ond am fod ganddo drugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honof i'w erbyn, a bod arnaf gywilydd codi fy wyneb at fy Nuw, a chywilydd wyneb a berthyn i mi; eto cyfiawnder a thrugaredd a berthyn iddo Ef; ac am fod ei drugaredd mor fawr, gobeithiaf ynddi, galwaf am dani, oddiwrth yr hwn a gwblha a mi. Yn nesaf, mewn gwir edifeirwch tuag at Dduw; yn ol yr holl flynyddoedd hyn a gefais, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, am fywyd ynddo. Yr wyf yn taer ddymuno i ti fy nerthu mewn gwir wylder a gostyngeiddrwydd a pharchedig ofn, ar ddechreu fy wythfed flwyddyn a thriugain, mewn uniondeb a diragrithrwydd calon, i wneuthur ac i adnewyddu fy nghyfamod, creadur gwael, a'r penaf bechadur. O, pa beth yw dyn gwael i ymgyfamodi â'r Duw mawr! O na ddigied fy Arglwydd wrthyf am anturio at hyn unwaith eto, canys mae yn ol dy air, yn ol arfer dy holl bobl Israel, gan Abraham, a'i holl blant ysbrydol yn meddu yr un ffydd hyd ddiwedd y byd; gan hyny minau, y gwaelaf o bawb, unwaith eto ar ddiwedd fy mywyd a gymeraf yr Arglwydd i fod yn Dduw i mi, i rodio yn ei ffyrdd, ac i gadw ei ddeddfau a'i orchymynion a'i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. O rho i mi y cyfryw galon fel y'th ofnwyf, y rhodiwyf yn dy ffyrdd yn ol y gair hwn. O Arglwydd, nid ydwyf yn rhyfygu i ddefnyddio dy eiriau o enau dy was, gan ddywedyd, "Cymerodd yr Arglwydd dithau heddyw i fod yn un o'i bobl briodol iddo ef, megys y llefarodd wrthyt, ac i gadw ei holl orchymynion, O fy Nuw, ar dy air ffyddlon di." Yr wyt yn dywedyd, "Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn: gogwyddwch eich clust a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid; a mi a wnaf gyfamod tragywyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd." Mae y geiriau hyn yn dangos fod gwneuthur cyfamod â'r Arglwydd yn ol gair yr Arglwydd, yr hyn sydd yn dangos ei foddlonrwydd, fel y gellir dyweyd y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd; a chan fod yr Anfeidrol, yr hwn sydd wedi cymeryd yr Amen arno, yn rhoddi ei hun anfeidrol yn Amen wrth hyn, minau wrth ei draed a ddywedaf ac a ardystiaf, ac a arwyddaf a'm llaw-ysgrifen, y 12fed o Chwefror, 1850, wrth y cyfamod hwn, Amen. Amen. Amen. 0 Arglwydd Dduw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a dystiodd ei fod wedi ei lwyr foddloni ynddo, ac i wrando arno, ynddo ac o'i gyflawnder yr wyf am dderbyn at gadw y cyfamod hwn. Amen. Amen. Amen. Wele fi yn eiddo arall. {{lein|5em}} Rhagfyr 31, 1850.—Mae y dydd hwn yn cael ei nodi i ''setlo'' cyfrifon y flwyddyn a derfynir heddyw â'r Meddianydd. Mae yn fantais at wneyd cyfrif nad oes ond un meddianydd yn perthyn i long amser. At wneyd hyn yn drefnol am yr holl flwyddyn, y dydd diweddaf o'r flwyddyn, mae yn ofynol fod yn fanol gyda'r llyfrau i gadw cyfrif bob dydd am bob amgylchiad; heb hyny ni all fod ond cywilydd o herwydd yr esgeulusdod. Y llyfrau sydd i fod gyda hwy bob dydd trwy gorph y flwyddyn yw gair yr Arglwydd a chydwybod; a'r swyddfa i drafod y rhai hyn ynddi y naill yn wyneb y llall, yw mewn gweddi<noinclude></noinclude> cnn0va5kx7o07ctmyoo531n6on245nv Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/240 104 84845 164706 2026-05-15T22:48:48Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "wrth orsedd gras. Yn y ''cabin'' hwn, ystafell ddirgel, y mae Cristion effro fel llywydd llong gofalus am ei gyfrifon, gyda'i lyfrau yn cadw mewn golwg bob dydd diweddaf yn y flwyddyn, yr hwn yw y dydd at gyfrif—y farn gyffredinol—rhyngddo ef a'i Feddianydd. At y cyfrif hwn y mae yn ofynol fod mewn cof, yn dylyn y meddwl yn barhaus bob dydd, os nid mewn geiriau mewn ofn yr Arglwydd, egwyddor y geiriau sobr hyny, "Ond gwybydd y geilw Du... 164706 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrth orsedd gras. Yn y ''cabin'' hwn, ystafell ddirgel, y mae Cristion effro fel llywydd llong gofalus am ei gyfrifon, gyda'i lyfrau yn cadw mewn golwg bob dydd diweddaf yn y flwyddyn, yr hwn yw y dydd at gyfrif—y farn gyffredinol—rhyngddo ef a'i Feddianydd. At y cyfrif hwn y mae yn ofynol fod mewn cof, yn dylyn y meddwl yn barhaus bob dydd, os nid mewn geiriau mewn ofn yr Arglwydd, egwyddor y geiriau sobr hyny, "Ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Mae gadael y llyfrau heb eu trefnu hyd ddydd y cyfrif, wedi troi llawer un allan o'i le mewn gwarth a chywilydd, heb un fywioliaeth. Gan nad pa fodd y bu trwy ddyddiau y flwyddyn a derfynir heddyw, wele y terfyn wedi dod; ac wrth gofio ac edrych yn ol pa fodd y treuliwyd y flwyddyn hon, yr unig obaith yw iachawdwriaeth yr Arglwydd. Trefn hon yn wyneb pob diffygion, ïe, dim ond pechodau, yw edifeirwch, cyfaddefiad, maddeuant, a glanhad. "Edifarhewch, a dychwelwch, fel y dilëer eich pechodau," yw galwad rasol Duw ar droseddwyr. Seilir yr alwad hon ar raslonrwydd Duw: "gan yr Arglwydd ein Duw mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i'w erbyn." Trefn y cyfranogiad hwn yw cyfaddef ein pechodau. Lle mae hyn mae ffyddlondeb a chyfiawnder Duw yn cael eu gogoneddu wrth faddeu i ni ein hanwiredd, a'n glanhau oddiwrth bob annghyfiawnder. Mae gwerth annhraethol yn yr athrawiaeth hon yn ngair yr Arglwydd; eto y mae yn rhaid ei chael yn gymhwysiadol i gyfrifon y flwyddyn hon gael ei setlo yn iawn. Mae yn rhaid meddu edifeirwch, gwneyd cyfaddefiad, derbyn maddeuant, a phrofi glanhad; a chan mai gras Duwi amlhau yw y pethau hyn i'r pechadur, y mae yn rhaid eu bod i'w gofyn mewn gweddi, yn enw Crist, yr hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i'w rhoddi. Mae edifeirwch yn ''act'' pan byddo yr olwg ar ein ffyrdd yn peri i ni gydnabod ein pechodau, a'u bod yn wastad ger ein bron; a bod ein dirgel bechodau yn ngoleuni wyneb Duw; ac oddiar yr edrychiad hyn gan Dduw arnom, yn peri i ni gyfaddef, "Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi." Mae hon yn agwedd wir edifeiriol, ac y mae sylweddol faddeuant yn gysylltiedig wrtho. "Efe a wared ei enaid rhag myned i'r clawdd, a'i fywyd a wel oleuni." O Arglwydd, wrth dy orsedd rasol yr wyf, y penaf bechadur, yn dymuno am y dydd nodedig hwn, yr holl edifeirwch sydd atat, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, fel y byddwyf wir edifeiriol am fy holl aneirif bechodau, y rhai sydd mor aneirif mewn amrywiaeth ag mewn rhifyddiaeth; amlach ydynt nag y gellir eu rhifo, trymach ydynt nag y gellir eu pwyso, croesach ydynt nag y gellir eu goddef; ond er hyn oll nid mwy nag y gellir eu maddeu. canys ti wyt Dduw maddeugar, yn Dduw parod i faddeu, ac nid oes neb yn maddeu anwiredd ond tydi. Am hyny efe a faddeu fy anwiredd er mwyn ei enw, er mai mawr yw: gwybydd a chlyw, O fy Nuw. Onid iaith fy nghalon yw, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur? Nid wyf deilwng i'm galw yn Fab i ti ar gyfrif hen berthynas Eden: mae lle y gwas cyflog i mi yn ras; ond nid yw yn ddigon i mi o ras; rhaid i mi wrth y gras a'm mabwysiado yn blentyn: nid wyf deilwng ddyfod o hono ataf, canys dyn pechadurus ydwyf fi. Nid wyf deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd, llawer llai ddyfod o honof dan dy gronglwyd<noinclude></noinclude> k22rn0misjz8jt0t5kdxp8t2depwfew Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/241 104 84846 164707 2026-05-15T22:49:59Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "di; er hyny, gwell bod heb un, na heb fod dan ei gronglwyd ef. O Arglwydd, yn y llwch, mewn hunan-ffieiddiad edifeiriol, yr wyf yn dybenu y flwyddyn hon yn ngeiriau dy was, "Nid wyf yn rhyglyddu y lleiaf o'th drugareddau;" ond o herwydd dy aml drugareddau di yn gofyn cael byw byth ger dy fron, os na welaf un flwyddyn arall yn dechreu; a dybenu yr wyf yr awr hon, yn rhoddi fy hunan i Dduw i fod yn eiddo iddo byth, er nad yw hyn ddim i t... 164707 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>di; er hyny, gwell bod heb un, na heb fod dan ei gronglwyd ef. O Arglwydd, yn y llwch, mewn hunan-ffieiddiad edifeiriol, yr wyf yn dybenu y flwyddyn hon yn ngeiriau dy was, "Nid wyf yn rhyglyddu y lleiaf o'th drugareddau;" ond o herwydd dy aml drugareddau di yn gofyn cael byw byth ger dy fron, os na welaf un flwyddyn arall yn dechreu; a dybenu yr wyf yr awr hon, yn rhoddi fy hunan i Dduw i fod yn eiddo iddo byth, er nad yw hyn ddim i ti; ac yn dy gymeryd i fod yn Dduw i minau, ar ol canoedd o weithiau o'r blaen, yr hyn yw adnewyddu fy nghyfamod, O fy Nuw. Amen. {{lein|5em}} Mae heddyw yr 11eg o Chwefror, 1851, yr hwn a gyfrifir i mi yn ddydd genedigaeth, yr hyn sydd yn dangos fy oed yn 68 mlwydd, yr hyn sydd yn peri i mi fawr bryder. O Arglwydd, pa beth a ddywedaf? canys treuliais y niferi hyn o flynyddoedd megys chwedl. O'm calon y dywedaf, Y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun, ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw. Yn wyneb yr oll a fum, a'r oll ydwyf, a'r oll a wnaethum, o fewn yn fy nghalon, o faes yn fy holl fuchedd, crefyddol ac annghrefyddol; yr unig beth cymhwys i mi yw edifeirwch tuag at Dduw. O fy mhechod, fy mhechod! Dy orchymyn di yw, Edifarhewch a dychwelwch. Fy nymuniad inau a'm holl galon yw, i'r Hwn a ddyrchafodd Duw a'i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau, ei roddi i minau, canys yn ei erbyn ef ei hunan y pechais, ac y gwnaethum pob drwg yn anifeiriol. Ac O, na chofia bechodau fy ieuenctyd, na'm camweddau, eithr yn ol dy drugaredd meddwl am danaf, er mwyn dy wirionedd. Yr wyf yn taer erfyn edifeirwch am 68 mlynedd o bechu pob math o bechodau. O dyma ddyledion! Mae yn anmhosibl gwybod pa faint ydyw. Os creffi arnynt, nid oes posibl i mi sefyll. Yr wyf yr awr hon gan hyny yn gofyn genyt y maddeuant sydd gyda thi, fel y'th ofner; ac yn ol dy enw a gyhoeddaist i ti dy hun, Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd, yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; ac yn ol fel y dysgaist i mi weddio arnat, yr wyf y fynyd hon, a'm pin yn fy llaw, pan yn ysgrifenu yr hyn a roddaist yn ddeisyfiad, o'm calon hefyd yn ei ddeisyf, "A maddeu i mi fy nyledion." A chan dy fod yn Dduw parod i faddeu, gallaf bod yn sicr y dywedi oddiar orseddfainc dy ras, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. {{lein|5em}} O Arglwydd, mae arnaf ofn cnawdolrwydd wrth ysgrifenu hyn; gan ddymuno bod yn ddiragrith mi a'i gadawaf wrth dy draed, er pob ofnau a duon—gyhuddiadau, gan wybod oni olchir fi, nad oes i mi gyfran a thydi. Gan hyny golch di fi, a byddaf wynach na'r eira; mi a ddymunwn fod fy wythfed mlwydd a thriugain yn cael ei nodi fel prif golofn i ysgrifenu arni yr aneirif waredigaethau, yr aneirif drugareddau, a'r aneirif freintiau a fwynhawyd genyf yn y blynyddoedd meithion hyn. O y gras, y tiriondeb, a'r daioni sydd byth i'w rhyfeddu, a ddangoswyd i mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y parotaf i gyfeiliorni a syrthio i ddyrysni, a'r mwyaf anffrwythlon, er pob achlesu. Fy enaid, yr wyf yn galw arnat i<noinclude></noinclude> qhyuqyiny79gi317690igithiy175q3 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/242 104 84847 164708 2026-05-15T22:50:11Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "fendithio yr Arglwydd, a chwbl sydd ynot ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef; yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau,—gogoniant iddo—ac yn iachau dy holl lesgedd. Gogoniant iddo; mae hyn yn ddigon at lanio o'r ystormydd a'r holl donau, yn iach yr ochr draw i angau a'r bedd. Gobeithiaf gael aros dros yr ychydig ddyddiau sydd yn ol dan yr ystyriaeth ddifrifolaf o'm gwaeledd a'm han... 164708 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fendithio yr Arglwydd, a chwbl sydd ynot ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef; yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau,—gogoniant iddo—ac yn iachau dy holl lesgedd. Gogoniant iddo; mae hyn yn ddigon at lanio o'r ystormydd a'r holl donau, yn iach yr ochr draw i angau a'r bedd. Gobeithiaf gael aros dros yr ychydig ddyddiau sydd yn ol dan yr ystyriaeth ddifrifolaf o'm gwaeledd a'm hannheilyngdod ynof fy hun am bob peth, a'm hollol ymddibyniad ar Dduw am bob defnyddiau, a chynaliaeth am bob peth, yn wyneb fy holl eisiau amserol, at bob achos perthynol i'r bywyd hwn; ac ysbrydol, personol a chrefyddol, perthynol i mi fel aelod eglwysig, a thragywyddol, berthynol i fywyd tragywyddol ac i fyd tragywyddol, y byd mawr dyeithr, annghyfnewidiol, ac annherfynol yr wyf ar fyned iddo; ac os o fewn y flwyddyn hon y bydd hyny, ewyllys yr Arglwydd a wneler; yn unig caffer fi yn Nghrist, wedi ei adnabod ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, ac wedi fy nghydffurfio â i farwolaeth ef. Yn ol dy addewid, Ti a elwi arnaf, ti yw fy Nhad, fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth, yr wyf yn adnewyddu y cyfamod drachefn, yn ol fy arfer, ac mae yn debyg y tro olaf byth. Na ddigied fy Arglwydd am yr ychwanegiad hwn; canys nid o herwydd fy rhinwedd, ond o herwydd dy fawr drugaredd yr wyf yn ei wneuthur, gan roddi fy hunan yn fy 71 oed i ti, O Dduw, a'r oll a feddaf, i'm gwisgo, a'm golchi, a'm cymeradwyo yn unig yn Nghrist, yr hon yw y drefn i mi am obaith bywyd tragywyddol. Yr wyf yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Chwefror 8, 1854, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, T. RICHARD. Yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Fawrth, yn 72 oed, yn adnewyddu fy nghyfamod â thydi, fy Arglwydd a'm Duw, mewn mwy o waeledd, afiechyd corphorol, nas gŵyr neb ond tydi, gan bwyso yn unig ar hawliau Crist am gymeradwyaeth, fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, gan roddi fy holl ofal arno ef mewn bywyd, angau, a thragywyddoldeb, gan arwyddo â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, THOMAS RICHARD. {{nop}}<noinclude></noinclude> g0kw1ica7dndc2fog32dtkxoyzpxtvj 164709 164708 2026-05-15T22:50:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164709 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fendithio yr Arglwydd, a chwbl sydd ynot ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef; yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau,—gogoniant iddo—ac yn iachau dy holl lesgedd. Gogoniant iddo; mae hyn yn ddigon at lanio o'r ystormydd a'r holl donau, yn iach yr ochr draw i angau a'r bedd. Gobeithiaf gael aros dros yr ychydig ddyddiau sydd yn ol dan yr ystyriaeth ddifrifolaf o'm gwaeledd a'm hannheilyngdod ynof fy hun am bob peth, a'm hollol ymddibyniad ar Dduw am bob defnyddiau, a chynaliaeth am bob peth, yn wyneb fy holl eisiau amserol, at bob achos perthynol i'r bywyd hwn; ac ysbrydol, personol a chrefyddol, perthynol i mi fel aelod eglwysig, a thragywyddol, berthynol i fywyd tragywyddol ac i fyd tragywyddol, y byd mawr dyeithr, annghyfnewidiol, ac annherfynol yr wyf ar fyned iddo; ac os o fewn y flwyddyn hon y bydd hyny, ewyllys yr Arglwydd a wneler; yn unig caffer fi yn Nghrist, wedi ei adnabod ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, ac wedi fy nghydffurfio â i farwolaeth ef. Yn ol dy addewid, Ti a elwi arnaf, ti yw fy Nhad, fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth, yr wyf yn adnewyddu y cyfamod drachefn, yn ol fy arfer, ac mae yn debyg y tro olaf byth. Na ddigied fy Arglwydd am yr ychwanegiad hwn; canys nid o herwydd fy rhinwedd, ond o herwydd dy fawr drugaredd yr wyf yn ei wneuthur, gan roddi fy hunan yn fy 71 oed i ti, O Dduw, a'r oll a feddaf, i'm gwisgo, a'm golchi, a'm cymeradwyo yn unig yn Nghrist, yr hon yw y drefn i mi am obaith bywyd tragywyddol. Yr wyf yn ysgrifenu â'm llaw fy hun, Chwefror 8, 1854, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, T. RICHARD. Yr wyf heddyw, y dydd cyntaf o Fawrth, yn 72 oed, yn adnewyddu fy nghyfamod â thydi, fy Arglwydd a'm Duw, mewn mwy o waeledd, afiechyd corphorol, nas gŵyr neb ond tydi, gan bwyso yn unig ar hawliau Crist am gymeradwyaeth, fy ngwisgo yn ei gyfiawnder ef, a'm golchi yn ei werthfawr waed, gan roddi fy holl ofal arno ef mewn bywyd, angau, a thragywyddoldeb, gan arwyddo â'm llaw fy hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi, THOMAS RICHARD. {{nop}}<noinclude></noinclude> 9omr3zv7snp485vcrjcae5cgkizjv4u Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/244 104 84848 164711 2026-05-15T22:57:42Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "Jones Richard yn troi allan yn ddyn ieuanc da, ac y mae ei anwyl Bridget yn ferch ieuanc brydferth, synwyrol, a chrefyddol. Yr oedd Miss Bridget yn edrych gymaint i fyny at ei thad, yn ymhyfrydu mor fawr yn ei gysur a'i ddedwyddwch, yn gwneyd pob peth ag oedd o fewn cylch eu gallu i'w wneyd yn gysurus, a thrwy hyny hefyd yn cysuro ei mam trwy ei rhyddhau hi i fesur mawr oddiwrth ofalon a thrafferthion teuluol. Ymddangosai Miss Bridget... 164711 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones Richard yn troi allan yn ddyn ieuanc da, ac y mae ei anwyl Bridget yn ferch ieuanc brydferth, synwyrol, a chrefyddol. Yr oedd Miss Bridget yn edrych gymaint i fyny at ei thad, yn ymhyfrydu mor fawr yn ei gysur a'i ddedwyddwch, yn gwneyd pob peth ag oedd o fewn cylch eu gallu i'w wneyd yn gysurus, a thrwy hyny hefyd yn cysuro ei mam trwy ei rhyddhau hi i fesur mawr oddiwrth ofalon a thrafferthion teuluol. Ymddangosai Miss Bridget fel un wedi ei danfon i'r byd i wneuthur ei rhieni yn gysurus. Gellir gweled oddiwrth lyfrau bychain sydd ger ein bron yn ei llaw—ysgrif ei bod yn gofalu am bob peth teuluol, ac yn ymdrechu dyfod â'r cwbl o gwmpas yn y ffordd rataf. Gosodir i lawr yr hyn a brynir am yr wythnos, pris y gwahanol nwyfau, a pha beth a dreuliwyd yn ychwaneg neu yn llai un wythnos na'r llall; yr hyn sydd yn dyweyd llawer am ferch ieuanc. Gwyddai nad oedd gan ei thad ond ychydig yn dyfod i mewn, am hyny y mae ei synwyr a'i theimlad da yn ei chyfarwyddo i fesur ei chamrau yn gyfatebol, ac ymdrech dyfod â phob peth yn gysurus i'w rhieni o fewn y cylch hyny. Felly yr oedd yn gwneuthur, ac yn fwy cysurus hefyd na llawer oedd â phedair gwaith gymaint at fyw. Y mae merch dda, serch ei bod heb ddim, yn llawer gwell nag un ddrwg, ddiog, ddifeddwl, ddiamcan, a digais, er ei bod yn werth ei phwysau. Canys, fel y gwyddoch, bydd merch dda yn cynyddu mewn pwysau wrth fyned yn y blaen, a'r llall yn myned yn ysgafnach ysgafnach, ac yn ddigysur a diserch gyda llaw. Ond dyna, gadawn hyny, rhag ofn i ni fyned i eithafion, canys yn anaml y cyfarfyddir â maes helaethach na hwnw; ac os ymollyngwn iddo gallwn fod yn hir cyn dychwelyd. O herwydd rhinweddau rhagorol Miss Bridget, daeth yn orchudd llygad ei thad a'i mam; ac iddi hi yr ymddiriedent y cwbl. Gwnaeth ei hun yn aberth i gysur ei thad, a chyfranogai yn helaeth o'i holl deimladau. Nid oedd yr un gofid arno nad oedd hi gydag ef hyd y gwddf, bydded hyny yn dymhorol neu yn grefyddol. Cafodd lawer o brofedigaethau oddiwrth ddynion yn ei flynyddoedd olaf, yr hyn sydd yn dygwydd yn aml i ddynion mawr, yn gymaint ag y bydd eisiau eu lle ar ryw rai eraill, ydynt yn anamyneddgar i aros troellau olwynion rhagluniaeth. Bu Christmas Evans mewn pair fel hyn, a'r hybarch Jay o Bath a waharddwyd gan blaid i'r pwlpud y bu yn<noinclude></noinclude> 2rv8lht9ceqabv9o4y5twdqvqro2eoh Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/245 104 84849 164712 2026-05-15T22:58:19Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "pregethu ynddo am driugain mlynedd. Nid yw pethau fel hyn mewn rhyw ystyr yn bethau i'w rhyfeddu gymaint, canys y maent yn arferol o fod. Ymddengys i'r cyfryw bethau gwneyd poen mawr i Mr. Richard, a bu mewn profedigaethau a dyfroedd dyfnion mewn cysylltiad â hwynt, eto yr oedd ei anwyl Bridget yn cydymdeimlo ag ef, yn nghanol y dyfroedd gydag ef; ac yn ei holl gystudd ef, hithau a gystuddiwyd. Tynerwyd calon ei thad anwyl lawer gwait... 164712 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethu ynddo am driugain mlynedd. Nid yw pethau fel hyn mewn rhyw ystyr yn bethau i'w rhyfeddu gymaint, canys y maent yn arferol o fod. Ymddengys i'r cyfryw bethau gwneyd poen mawr i Mr. Richard, a bu mewn profedigaethau a dyfroedd dyfnion mewn cysylltiad â hwynt, eto yr oedd ei anwyl Bridget yn cydymdeimlo ag ef, yn nghanol y dyfroedd gydag ef; ac yn ei holl gystudd ef, hithau a gystuddiwyd. Tynerwyd calon ei thad anwyl lawer gwaith yn nghanol ei helbulon a'i erledigaethau, pan y tynai ei llaw dyner dros ei ben almonaidd, y troai ei wallt gwlanaidd oddiar ei dalcen, ac a'i cusanai, gan ddywedyd, "Nhad bach, peidiwch a gofidio; y mae yr Arglwydd yn sicr o'ch amddiffyn." Treiglai y dagrau mawrion dros ei ruddiau, ymlonyddai yn nghanol saethau gelynion, mewn cariad yn ei anwyl Bridget. Do, hi fu yn gysur mawr iddo yn ei henaint. Yr oedd yn help iddo fyned o gartref, ac yn dangnefedd iddo wedi dyfod adref drachefn. Byddai ei ddillad yn wastad yn barod iddo, pob peth yn ei le, a'i le i bob peth. Nid gwaeddi pan delai yr amser, Pa le y mae y peth hyn, a pha le mae y peth arall? "A welsoch chwi yr hosanau? Beth ddaeth o'r crys hwnw?" Bydd rhyw ymdrafodaeth o'r natur hyny yn ddigon i beri i un dyn fyned yn wallgof, a cholli ysbryd pregethu am wythnos o leiaf. Yr oedd ei anwyl Bridget â phob peth yn barod, heb eisiau cadw ystwr yn nghylch y peth hyn a'r peth arall; ac nid yn unig a phethau yn barod, ond hefyd yn barod i wasanaethu arno, a'i gynorthwyo i'w gwisgo. Y mae yn ddigon tebyg na charodd neb dad yn fwy erioed, ac amlwg yw hefyd na charodd dad ferch yn fwy ychwaith. Y mae Mr. Richard yn mhen amser maith, ar amgylchiad neillduol, yn datgan ei farn am ei anwyl Bridget, ac y mae y farn hono yn uchel iawn. Dywedir fod "cariad yn ddall;" ond rhag i neb feddwl fod cariad yn dallu barn, y mae yn dywedyd, "Nid yw y ganmoliaeth i fy anwyl Bridget yn codi oddiar dymher a serch naturiol, eithr oddiar farn bwyllus ar ei harferion teuluol a chrefyddol." Hyd yn hyn felly yr oedd pethau yn sefyll; ac ni wyddai Miss Bridget am un gwrthddrych o dan haul a garai gymaint a'i thad. Ond fel y mae Ilawer o bethau newyddion yn dyfod i'r golwg gyda rhediad amser, daeth goleu newydd hefyd ar y mater hwn; canys er na leihaodd ei chariad at ei thad anwyl, eto dangoswyd fod rhyw dymhor mewn bywyd ag y mae yn ddichonadwy i ddyn fyned i garu rhyw un yn fwy na thad na mam. Cyfarfyddodd Miss Bridget a phrofedigaeth fel hyn, canys syrthiodd i<noinclude></noinclude> 05q1x257aoarfw759u85f6stn0bywjl Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/246 104 84850 164713 2026-05-15T22:58:56Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "gyfeillach â dyn ieuanc cyfrifol o'r enw Mr. Hugh Davies, yr hyn a derfynodd y pymthegfed dydd o Hydref, 1850, mewn glân briodas. Gellit meddwl fod amgylchiad priodi Miss Bridget yn un o bethau mawrion bywyd Mr. Richard, canys gwelir fod ei enaid mawr yn myned o dan gynhyrfiad i'w waelodion. Nid am fod dim ganddo yn erbyn y dyn ieuanc, canys y mae yn caniatau yn rheolaidd; nid yn erbyn priodi, canys y mae yn ddigon call i weled mai dyn... 164713 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfeillach â dyn ieuanc cyfrifol o'r enw Mr. Hugh Davies, yr hyn a derfynodd y pymthegfed dydd o Hydref, 1850, mewn glân briodas. Gellit meddwl fod amgylchiad priodi Miss Bridget yn un o bethau mawrion bywyd Mr. Richard, canys gwelir fod ei enaid mawr yn myned o dan gynhyrfiad i'w waelodion. Nid am fod dim ganddo yn erbyn y dyn ieuanc, canys y mae yn caniatau yn rheolaidd; nid yn erbyn priodi, canys y mae yn ddigon call i weled mai dyna gwrs natur, ac mai hyny a wnaeth ei hun; ond yr oedd datod undeb mewn mesur, y teimlad o fyw heb ei anwyl ferch, yn rhwygo ei galon. Dacw ef yn eistedd i lawr wrth y ddesg y diwrnod hwnw mewn pryder mawr, a'r dagrau gloywon yn treiglo y naill ar ol y llall, nes gwlychu y papyr yr amcanai ysgrifenu arno. Dacw ef yn troi hwnw heibio, yn cymeryd papyr arall, yn methu cadw hwnw eilwaith heb ei lychwino â dagrau; yn ymaflyd yn y trydydd, ac yn dechreu arllwys ei deimladau allan mewn ysgrifen gystal ag y gallasai. Eithr y mae yn rhaid i ni feddwl mai ychydig o deimladau calon eang y gallasai papyr ei ddal; eto yr ydym yn ddiolchgar am y papyr, yn gymaint a'i fod yn ddangoseg o sefyllfa y dyn oddimewn. Yr ydym yn gallu gweled gweithrediadau mewnol y dyn, symudiadau yr olwynion mwyaf dirgelaidd yn y peiriant, drwy y pethau hyn. Edrychwch ar ei ben gwyn, a'r cap du arno, yn plygu yn araf at y ddesg; mae yn rhoi y gwydrau yn awr, yn cydio yn y pwyntyll, a chydag ochenaid brudd yn ysgrifenu fel y canlyn: Mae heddyw, y 15fed dydd o Hydref, 1850, yn un o'r dyddiau mwyaf pryderus o holl ddyddiau fy mywyd gwael, canys ar y dydd hwn y priododd fy unig a'm hanwyl ferch, yn naw mlwydd ar ugain oed. Y gwir gymeriad ellir roddi iddi, ac nid oddiar ddylanwad tymher naturiol, na gormodedd o serch cnawdol, na rhinwedd perthynas ddynol, ond oddiar resymau anwrthwynebol, yw synwyrol, serchiadol, gwylaidd, a defnyddiol; ac, mor bell ag y gellir barnu achos oddiwrth effaith, yn wir grefyddol, yn ofni yr Arglwydd, yn meddwl am ei enw ef. Ei harfer—air oedd, Gobeithio cawn ni fyned i'r bedd heb waradwyddo enw yr Arglwydd. Ni ddangosodd gymaint ag unwaith erioed un math o anhawsdra, annoethder, annghyfleusdra, nac un gwrthduedd anfoddlon at ddyledswydd deuluaidd, pa drafferth bynag a fyddai. Mynai roddi heibio bob peth ar unwaith i gael agor y ffordd at wasanaeth yr Arglwydd. Ni esgeulusodd erioed foddion gras. Ei hyfrydwch penaf oedd myned i dŷ yr Arglwydd; ac wedi myned gwyddai y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael, rhwng yr us a'r gwenith, rhwng seiniau a gwirioneddau, rhwng mwngleriaeth ac athrawiaeth, rhwng defod dyn a dawn Duw; er mai ei hateb hunanymwadol yn wastad oedd, pan<noinclude></noinclude> 4qy4iq5hwvybfd6gnbmw86ff3enydco Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/247 104 84851 164714 2026-05-15T22:59:15Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ofynwyd iddi, Nid ydwyf yn deall dim, mae arnaf fi ofn dweyd; canys pa beth a allaf fi wybod? Yr oedd ei holl fywyd yn ufudd-dod gwirfoddol, cyson i anrhydeddu ei thad a'i mam. Hapus yw y dyn ieuanc sydd yn ei chael yn wraig, nid yn unig oblegyd a gaiff ganddi, ond oblegyd a gaiff ynddi; ac oblegyd ei bod yn etifeddes i addewid Duw, yr Hwn Anfeidrol a ddywed yn barhaus o ddechreu y byd wrth holl blant y byd, hyd ddiwedd y byd, Anrhyded... 164714 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ofynwyd iddi, Nid ydwyf yn deall dim, mae arnaf fi ofn dweyd; canys pa beth a allaf fi wybod? Yr oedd ei holl fywyd yn ufudd-dod gwirfoddol, cyson i anrhydeddu ei thad a'i mam. Hapus yw y dyn ieuanc sydd yn ei chael yn wraig, nid yn unig oblegyd a gaiff ganddi, ond oblegyd a gaiff ynddi; ac oblegyd ei bod yn etifeddes i addewid Duw, yr Hwn Anfeidrol a ddywed yn barhaus o ddechreu y byd wrth holl blant y byd, hyd ddiwedd y byd, Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. Mae yr apostol at yr Ephesiaid yn dweyd fod hyn yn gyfiawn; ac mai hwn yw y gorchymyn cyntaf mewn addewid. "Fel y byddo yn dda i ti." Mae hyn yn ddaioni heb na mesur na therfyn iddo; canys hyn sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd yn dda—''well-pleasing''—wrth ei fodd ef yn fawr. Mae fy anwyl Bridget, sydd yn newid ei sefyllfa, wrth ei fodd ef yn fawr. Mae hyn yn well i mi filiynau o weithiau na miloedd o arian ac aur. Mae cael un o'r desgrifiad hyn yn wraig yn annhraethol well, pe gorfyddid myned i ochr y clawdd gyda hi, na chael miloedd o arian ac aur heb hyny. Mi a'i cefais yn rhodd gyflawn, fel nad allaswn ddymuno ei bod yn ddim chwaneg nag ydoedd; wedi ei gwneuthur yn gyfansoddiad grasol gan Dduw, yn ddawn cymhwys i mi. Yr wyf heddyw â'm holl galon yn dymuno yn y llwch i ddiolch tra byddwyf byw am ei gwneyd gan Dduw, yr hwn yn unig a'i gwnaeth, canys yr oedd yn debyg i un o'i wyrthiau rhyfeddol ef, yr hyn fe allai na ddichon neb ei ddeall ond a adwaen yr amgylchiad; ac am roddi y fath rodd i un oedd yn haeddu y gwrthwyneb. Yr ydwyf yn dymuno na chaffo neb, unrhyw greadur, y lle yn fy nghalon a'm serch a ddylai yr Arglwydd yn unig ei gael. Nid perygl mawr a fu i mi yn hyn oddiwrth un creadur ond oddiwrth fy anwyl Bridget. Ond nid o'm plegyd i yr oeddwn yn ddiberygl, ond oblegyd y gofal fu am danaf. O na allwn rodio o'r dydd hynod hwn allan i ryngu bodd Duw. O na allwn folianu yr Arglwydd am ei holl ddoniau i mi heddyw, ac o ddechreu yr amgylchiad hwn hyd heddyw. Mae cael doethineb yn atebiad i weddi at brofedigaethau mewn amgylchiadau yn gyflawniad addewid Duw, yr hwn a ddywedodd, "A hi a roddir iddo ef." Ac nid hyd heddyw mae ei drugaredd yn parhau i mi, ond heddyw a hyd byth. Mae mwy o werth yn yr un gair hyfryd heddyw i fyned a dod gyda'r amgylchiad sobr hwn nag a ddeall neb, canys mae yn debyg i gau safnau llewod. Am hyny, fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef. Amen. Amen. {{c|CYNGHORION I'W BLANT PAN YN NEWID SEFYLLFA, 1850.}} 1. Rhodiwch yn ofn yr Arglwydd yn wastadol, a'ch holl fryd fyddo am ei heddwch, a rhodio i ryngu ei fodd. Gosodwch ef yn wastad ger eich bronau ac ar eich deheulaw, fel na'ch ysgoger; canys yr Arglwydd a fydd gyda chwi tra fyddo chwi gydag Ef. Os gwrthodwch chwi Ef, yntau hefyd a'ch gwrthyd chwithau. 2. Cofiwch mai yr unig ffordd i ymwneyd â Duw yw trwy Gyfryngwr, yn ol ei air. {{nop}}<noinclude></noinclude> eyro6a5vtbp174ey7bw2xhqxj3cmhnb Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/249 104 84852 164716 2026-05-15T23:10:11Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "27. Byddwch yn ddirwestwyr digellwair. Mawrhewch gael bod; nid yn unig nac ofnwch ddirmyg, ond ymogoneddwch yn yr anrhydedd. 28. Peidiwch myned yn bartneriaid â neb mewn un fasnach, os gwelwch eich ffordd yn agored heb hyny. Gwell, wedi ymgynghori â'r Arglwydd, i chwi dreio eich hun. 29. Peidiwch rhoi benthyg arian i neb byth heb gael llawn foddlonrwydd am eu dyogelwch. Cofiwch yr esiamplau a gafwyd yn mhlwyf — — a —, a llawer lle ar... 164716 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>27. Byddwch yn ddirwestwyr digellwair. Mawrhewch gael bod; nid yn unig nac ofnwch ddirmyg, ond ymogoneddwch yn yr anrhydedd. 28. Peidiwch myned yn bartneriaid â neb mewn un fasnach, os gwelwch eich ffordd yn agored heb hyny. Gwell, wedi ymgynghori â'r Arglwydd, i chwi dreio eich hun. 29. Peidiwch rhoi benthyg arian i neb byth heb gael llawn foddlonrwydd am eu dyogelwch. Cofiwch yr esiamplau a gafwyd yn mhlwyf — — a —, a llawer lle arall; a chyda phob dyledswydd cofiwch, oni cheidw yr Arglwydd, ofer y gwylia y ceidwaid. 30. Peidiwch a meichnio dros neb pwy bynag un amser na thros un amser, canys y mae yn dwyll, yn anunion; a pha fodd nas gall fod, pan mae yn bechod, yn groes i air yr Arglwydd? 31. Nac ymddiriedwch ddim i'ch deall eich hun, ond yn yr Arglwydd byth; canys yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragywyddol. 32. O, cofiwch mai byw i farw ydych, ac mai yr unig beth sicr yr ydym yn byw iddo yw marw; a'r peth mwyaf ansicr o ran amser, a pheth mwyaf bywyd natur yw ei ddiwedd—marw. 33. O cofiwch mai dyben penaf bywyd yw parotoi at farw mewn byw i Dduw a'i ogoneddu. 34. Gwnewch ef yn benderfyniad ymroddol yn nechreu eich bywyd y bydd i chwi a'ch teulu wasanaethu yr Arglwydd aed y byd ffordd yr elo. 35. Gwyliwch, yn wyneb gofid a therfysg teuluol ac amgylchiadol, na byddo dyledswyddau crefyddol teuluaidd ddim yn cael eu hesgeuluso mewn un modd, rhag y bydd yn ddechreu gwrthgiliad, ac i'r Arglwydd ymado oddiwrthych. 36. Cofiwch y geilw Duw chwi i'r farn am hyn oll, ac y caiff pob un drosto ei hun roddi cyfrif i Dduw; canys gosodir ni oll ger bron gorseddfainc Crist. 37. Cofiwch fod y cynghorion hyn wedi eu rhoddi gan eich tad ar fin y bedd i chwi eich dau, ac i bawb fyddo mewn cysylltiad â chwi yr un modd. 38. Cofiwch mai rhinwedd pob cynghor yw bendith; bendith yw ffydd a'i ffrwythau. 39. Na roddwch enllib ar neb, ac na dderbyniwch enllib am neb, canys felly y mae gwrthwynebu diafol. 40. Cofiwch mai gwell gofid am ddywedyd rhy fach nag am ddyweyd gormod. 41. Adnabyddwch wahaniaethau, a chelwch hwynt. 42. Cofiwch beidio gwneyd dim heb arfer gweddi am dano. 43. Cofiwch beidio arfer gweddi am ddim ond sydd yn ol ewyllys Duw; ei air yw hwnw. 44. Peidiwch anfon gweddi at Dduw ond yn enw Crist, trwy yr Ysbryd Glân, yn ol y gair. 45. Cofiwch mai trwy lawer o orthrymderau mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw, a bod y cysur i gyd yn wyneb hyny yn Nghrist yn unig. {{nop}}<noinclude></noinclude> m7lm4z42i50y1ti3s38208hkyheguxj Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/250 104 84853 164717 2026-05-15T23:10:47Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENOD XV.}}<br>Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr.}} WRTH edrych ar Mr. Richard yn ei ddull cyffredin o dreulio ei amser, ymddengys ei fod yn un o'r dynion mwyaf llafurus, diwyd, ac ymdrechgar yn yr oes. Byddai bob amser pan gartref yn darllen ac yn ysgrifenu; nid oedd ganddo hamdden at ddim arall. Er cymaint fyddai yn ddyweyd, wrth bregethu, mewn Cyfarfodydd Misol, a Chymanfaoedd, nid oedd yn d... 164717 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENOD XV.}}<br>Bywyd Mr. Richard yn un o feddwl, o lafur caled, ac ymdrech mawr.}} WRTH edrych ar Mr. Richard yn ei ddull cyffredin o dreulio ei amser, ymddengys ei fod yn un o'r dynion mwyaf llafurus, diwyd, ac ymdrechgar yn yr oes. Byddai bob amser pan gartref yn darllen ac yn ysgrifenu; nid oedd ganddo hamdden at ddim arall. Er cymaint fyddai yn ddyweyd, wrth bregethu, mewn Cyfarfodydd Misol, a Chymanfaoedd, nid oedd yn dyweyd nemawr heb feddwl am dano yn mlaen llaw, er bod y bobl yn tybied mai antur oedd llawer o'r dywediadau tlysion a ddelai allan o'i enau. Na; yr oedd yn ysgrifenu y cwbl; pa bryd bynag y byddai rhyw feddwl yn ei daro yn nghylch unrhyw beth, rhoddai ef i lawr yn union, fel y gellir gweled yn eglur oddiwrth ei bapyrau, y rhai sydd yn cynwys rhyw doraeth anferthol o ddywediadau, rhy aml i osod y ddegfed ran o honynt mewn gwaith o'r natur hyn. Y mae ei bregethau hefyd wedi eu hysgrifenu oll, ac yn bur feithion; darpar pregethau i'w pregethu oedd gwaith mawr a hyfrydwch ei fywyd; a phan y deuai allan i'w pregethu i'r bobl, gwyddai yn burion beth yr oedd yn myned i ddyweyd. Nid oedd Mr. Richard yn meddwl ryw lawer am ddim ond pregethau a phregethu; dyma ei graig a'i gastell ef. Nid ydym yn gallu gweled fod ynddo gymhwysderau gwych at hyrwyddo achos crefydd yn y blaen mewn gwlad; ac nid cymaint, gallem feddwl, y byddai yn ymdrech yn y cyfeiriad hyny, ond mor bell ag oedd pregethu yn dal perthynas â'r cwestiwn. Yr oedd ei weddiau a'i bregethu yn cynwys achubiaeth yr holl fyd; ond nid oedd ei ddarpariaethau at gynwys y byd mewn cysylltiad â chrefydd cymdeithasol yn cael ond lle bychan yn ei gyfundraeth. Pan ymneillduodd y Trefnyddion Calfinaidd oddiwrth yr Eglwys Wladol, cynwysai yr ymneillduaeth hyny luaws mawr o deuluoedd cyfrifol a pharchus iawn yma a thraw drwy Sir Benfro, y rhai a fu yn ymgeleddgar iawn i achos crefydd. Byddai yn pregethu yn y tai, ac ymffurfiodd cynulleidfaoedd mawrion mewn cysylltiad â'r anedd-dai hyn. Pan y byddai cyhoeddiad gwr dyeithr yn cael ei ddarllen trwy Sir Benfro, gallasech feddwl fod yno beth anferth o gapelau; ond erbyn edrych, nid oeddynt ond amaethdai, a thai tir-feddianwyr cyfrifol, y rhai trwy arferiad oeddynt wedi myned yn gysegredig, ac edrychid arnynt fel<noinclude></noinclude> ooa3gsechq34a05vd5ia3obf2s8z5on Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/251 104 84854 164718 2026-05-15T23:11:52Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "lleoedd addoliad yr ardaloedd. Trehowel, Hall, Garnachenwen, ac felly yn y blaen, enwau cysegredig iawn gynt, lle y mwynhaodd yr hen bobl lawer o ddaioni a chysuron yr efengyl. Ar yr un pryd, ymddengys fod glynu wrth y lleoedd hyn yn lle adeiladu capelau yn agos atynt, wedi gwneyd mwy o ddrwg nag o les. Ni ddarfu yr hen breswylwyr feddwl ryw lawer am achos crefydd y tu draw i'w hoes a'u cenedlaeth hwy; am hyny yr oeddynt yn teimlo eu h... 164718 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lleoedd addoliad yr ardaloedd. Trehowel, Hall, Garnachenwen, ac felly yn y blaen, enwau cysegredig iawn gynt, lle y mwynhaodd yr hen bobl lawer o ddaioni a chysuron yr efengyl. Ar yr un pryd, ymddengys fod glynu wrth y lleoedd hyn yn lle adeiladu capelau yn agos atynt, wedi gwneyd mwy o ddrwg nag o les. Ni ddarfu yr hen breswylwyr feddwl ryw lawer am achos crefydd y tu draw i'w hoes a'u cenedlaeth hwy; am hyny yr oeddynt yn teimlo eu hunain yn gomfforddus i fwynhau yr efengyl yn eu tai. Er fod y lleoedd hyn ar y pryd yn ymddangos yn drugareddau, yn gymaint a bod yr efengyl yn cael drws agored i ardaloedd tywyll ac annhysbell; eto, a chymeryd y cwbl o dan sylw, ymddengys wrth yr effeithiau mai nid felly ydoedd. Ymlynwyd wrthynt nes oedd y teuluoedd yn cyfnewid, ac erbyn hyny nid oedd yr un capel na lle i fyned, ac felly collwyd yr ardaloedd i Fethodistiaeth. Pe na buasai y tai yma i gael ar y cyntaf, taflesid y bobl allan o honynt eu hunain i chwilio am le i arch Duw, a buasent fel pawb eraill, er trwy lawer o drafferth, yn cael lle iddi. Beth bynag, felly y bu hi; a gwaeth na hyny, darfu i olynwyr yr oes hono gyfranogi yn helaeth o'r un meddwl a dull, fel na wnawd un ymdrech tuag at lanw y wlad â chapelau; ond yn hytrach ymdrechwyd, os oedd eisiau ymdrech hefyd, yn groes i hyny. Yr oedd hen Fethodistiaid Sir Benfro yn ''freeholders'' cyfrifol yn y wlad; yr oeddynt yn ystyried myned i ddyled yn warthus, am hyny yn cadw crefydd mewn ffordd ''respectable'' yn eu tai gartref, fel gwŷr boneddigion. Y mae yn debyg i Mr. Richard ac eraill gyfranogi yn helaeth o'r ysbrydiaeth yma, yr hyn yn ddiau sydd yn awr yn dwyn grawnwin surion. Yr oedd y ddau Richard, er eu bod yn feibion ill dau i'r hen Henry a Hannah Richard, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt o'u mebyd ag a fu rhwng dau ddyn erioed. Yr oedd tebygolrwydd yn eu personau; gallasech adnabod mai brodyr yn yn ol y cnawd oeddynt, onide, am y rhan fwyaf o bethau eraill, yr oeddynt fel yn sefyll ar begynau cyferbyniol y byd. Yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn ol cynllun John Wesley; a Mr. Richard, Abergwaen, yn ol George Whitfield. Pregethu, ac achub dynion trwy hyny, oedd cwbl Whitfield, heb feddwl ond ychydig am ddarpariaethau tuag at eu derbyn a'u cadw; eithr am Wesley, ymenydd y peirianydd oedd yn berwi yn ei ben ef fwyaf. Er fe ddichon fod Wesley yn bregethwr da; ond nid yn hyny yr oedd ei ragoriaeth; y<noinclude></noinclude> ll435wcl71qrxswca220hfjkgzwvh6l Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/252 104 84855 164719 2026-05-15T23:14:47Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "mae ei drefniadau yn sefyll hyd y dydd hwn y peth nesaf i wyrth. Yr oedd Whitfield yn dân poeth yn pregethu yr efengyl, a'r miloedd yn ei edmygu, ac yn cael eu hachub hefyd drwyddo. Wesley yntau yn araf a dystaw yn gwneyd rhwydau i gael y pysgod i gyd i dir. Nid pell oddiwrth hyn oedd y ddau frawd. Pregethu heb ddim ond hyny oedd un, a'r llall hefyd yn pregethu yn felus a thoddedig; ond gyda llaw yn cynwys ynddo ychydig o'r peirianydd,... 164719 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae ei drefniadau yn sefyll hyd y dydd hwn y peth nesaf i wyrth. Yr oedd Whitfield yn dân poeth yn pregethu yr efengyl, a'r miloedd yn ei edmygu, ac yn cael eu hachub hefyd drwyddo. Wesley yntau yn araf a dystaw yn gwneyd rhwydau i gael y pysgod i gyd i dir. Nid pell oddiwrth hyn oedd y ddau frawd. Pregethu heb ddim ond hyny oedd un, a'r llall hefyd yn pregethu yn felus a thoddedig; ond gyda llaw yn cynwys ynddo ychydig o'r peirianydd, ac yn gwneyd cynlluniau tuag at hwylusu achos erefydd yn y byd ar ol ei ymadawiad ef. Y mae maes llafur y Parch. E. Richard yn llawn o gapelau mawrion, ac adeiladau cyfleus eraill o'u cwmpas; tra y mae maes llafur y Parch. T. Richard yn dra amddifaid o'r holl bethau hyny. Yr ydym yn rhwym o gyfaddef fod Mr. Richard, Tregaron, yn y pethau uchod yn tra rhagori; onide am bob peth arall yr ydym yn rhoi y blaen i wrthddrych ein Cofiant. Fe allai, serch hyny, fod hyn yn fater o archwaeth; ond oddiar ein cof cyntaf o honynt byddai y gwr o Abergwaen yn sefyll yn llawer uwch yn ein meddwl fel ''pregethwr'' na'r gwr o Dregaron; ond fel llywodraethwr, yr ydym yn rhwym o ymostwng a rhoi y goreu i'r llall. Yr ydym am roi pob peth yn y goleu priodol, a rhoi eiddo pawb iddynt; nid codi un ar draul gostwng y llall; y mae y peth a elwir yn ''hero worship'' i'w osgoi yn hytrach na'i ddylyn. Gobeithio y gwel ein darllenwyr ein bod yn gwneyd hyn, ac nid ydym wedi ein gwerthu i ddim ond y gwirionedd. Y peth oeddym yn ei ddyweyd oedd, fod prif fawredd Mr. Richard mewn meddwl a dyweyd, astudio a phregethu; ac nid oedd y galluoedd peirianol gymaint ag y buasai yn ddymunol iddynt fod er llesoli crefydd wedi iddo ef fyned i gysgu yr hûn olaf. Ond dyna, y mae yn anhawdd cael pob peth yn yr un dyn; y syndod yw fod cymaint mewn llawer un. Yr oedd Mr. Richard yn meddwl ac yn tynu allan ryw fraslun mewn ysgrifau o bob peth a ddywedai yn gyhoeddus; ond wedi hyny yr oedd ei alluoedd a'i ddawn siarad mor annghyffredin, fel yr oedd pob gair ysgrifenedig yn chwyddo i ddeg o leiaf. Nid ydym yn cofio neb â mwy, os cymaint, o allu siarad ar bob peth erioed. Yr oedd ei siarad yn naturiol, nid yn orchestol; yn ddynol, nid yn anghenfilaidd; fel dwfr yn rhedeg o'r ffynon, nid yn cael ei sugniedyddu ''(pumping)''; fel dyn byw, nid fel creadur haner marw; fel dyn gwreiddiol, nid fel efelychydd dwl. Yn ddiau yr oedd ei allu anarferol i siarad pob peth yn brofedigaeth iddo yn aml, ac yn achos o<noinclude></noinclude> q9y6wgrmxpoc078ob9gjzfsnpvl3hh0 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/259 104 84856 164721 2026-05-15T23:23:09Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "mawr sydd yn eisiau ar y bobl, ond gwaeddwr mawr; y dyn allo waeddi digon sydd eisiau arnynt hwy." Beth bynag yn y byd am y gwaeddi, y mae yn amlwg fod llawer o lafur o'r fath ddesgrifiad wedi dyfod â nychdod mawr arno ef; ac yr ydym yn synu na fuasai rhyw rai yn meddwl y buasai yn beth purion i'r gweithiwr gael bwyd wedi iddo fethu gweithio ryw lawer; ond yn rhyw fodd ni ddygwyddodd i hyny daro i feddwl neb. Yr oedd yn ddrychfeddwl n... 164721 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mawr sydd yn eisiau ar y bobl, ond gwaeddwr mawr; y dyn allo waeddi digon sydd eisiau arnynt hwy." Beth bynag yn y byd am y gwaeddi, y mae yn amlwg fod llawer o lafur o'r fath ddesgrifiad wedi dyfod â nychdod mawr arno ef; ac yr ydym yn synu na fuasai rhyw rai yn meddwl y buasai yn beth purion i'r gweithiwr gael bwyd wedi iddo fethu gweithio ryw lawer; ond yn rhyw fodd ni ddygwyddodd i hyny daro i feddwl neb. Yr oedd yn ddrychfeddwl newydd yn y Cyfundeb, y mae yn wir; ond er hyny nid oes nemawr o oes nad oes dynion gwreiddiol yn bodoli ynddi; eithr dygwyddodd nad oedd neb ar hyn o bryd yn alluog i fyned i mewn i ddirgeledigaethau y cwestiwn hwn. Beth bynag, yn nghanol yr holl ymholi ar ol iechyd Mr. Richard, y codi llaw a'r ysgrifenu llythyrau cydymdeimladol, meddyliodd rhyw un mai peth digon priodol yn nglŷn a hyny fyddai cael i fyny ryw gymaint o arian fel tysteb i gyflwyno iddo; ac yn wir at hyny yr awd, er fod peth felly yn ddigon disynwyr o dan amgylchiadau o'r fath, oblegyd nid peth yn lle yr hyn sydd ddyledus yw tysteb, ond yn ychwaneg at hyny, fel arwydd o barch neu gydymdeimlad. Fe welir, serch hyny, pan y deuir at araeth y gweinidog ffyddlon, ar achlysur derbyniad y dysteb fel ei gelwir, ei fod ef yn edrych ar y peth fel arwydd o garedigrwydd tuag ato yn ei wendid. Yr oedd hyny yn beth purion, ac yn beth uchel ynddo ef, canys yr oedd yn arwydd o'r teimlad gwylaidd a gostyngedig hwnw ag y mae y rhan fwyaf ag sydd yn adnabod eu hunain yn gydnabyddus ag ef. Nid oedd efe yn gweled ei hun yn werth dim; yr oedd yn synu pa fodd yr oedd y Gymanfa yn ymholi am greadur mor wael; gan hyny yn edrych ar y dysteb fel yn dyfod allan o ymysgaroedd trugareddau. Mor bell ag y mae y teimladau hyn yn dal cysylltiad â Mr. Richard ei hun, da iawn; eithr os ydynt mewn cysylltiad â rhyw rai eraill, drwg iawn. Y mae yn ddiau fod llawer, yn symlrwydd eu calonau, yn edrych ar yr ychydig a gyflwynwyd iddo y pryd hwnw yn wobr, nid yn dâl. Beth bynag, os gwobr y dewiswch ei alw, yr ydym yn meddwl, mewn barn cariad, nad oedd y wobr hono "o ras, ond o ddyled." Wedi rhoi peth felly o flaen cymdeithas, yr ydym yn synu y tu hwnt i bob peth, pa fodd y dygwyddodd iddo fod cyn lleied. Y mae yn rhaid mai ar y cyfarwyddwyr, nid ar y bobl, yr oedd y bai, canys pe buasai y bobl yn cael un awgrym mewn ffordd briodol, buasent yn ddiau fel un gwr yn codi<noinclude></noinclude> kfyx92d2cthvfggoqn9n3vbnhb6371k Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/260 104 84857 164722 2026-05-15T23:23:41Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ati; ac nid y swm iselwael o driugain punt fuasai y canlyniad. Na, na; y mae teimlad tyner yn meddyliau y bobl at y dynion hyny oedd fel cân cariad iddynt, geiriau pa rai oedd fel mêl i'w safnau; "ïe, yn felusach na mêl, ac na dyferiad y diliau mêl;" athrawiaeth pa rai a ddyferai fel gwlaw tyner a ffrwythlon ar dir sychedig, nes ei wneyd fel Eden mewn ffrwythlondeb. Ond dyna, y mae yn rhaid gadael pob peth fel y mae, canys nid oes cyfl... 164722 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ati; ac nid y swm iselwael o driugain punt fuasai y canlyniad. Na, na; y mae teimlad tyner yn meddyliau y bobl at y dynion hyny oedd fel cân cariad iddynt, geiriau pa rai oedd fel mêl i'w safnau; "ïe, yn felusach na mêl, ac na dyferiad y diliau mêl;" athrawiaeth pa rai a ddyferai fel gwlaw tyner a ffrwythlon ar dir sychedig, nes ei wneyd fel Eden mewn ffrwythlondeb. Ond dyna, y mae yn rhaid gadael pob peth fel y mae, canys nid oes cyfle mwy i wella unrhyw gyfeiliornad mewn cysylltiad â'r marw; eto fe allai y dichon nodi allan rai pethau fod yn effeithiol i alw sylw mwy priodol o dan amgylchiadau tebyg, os dygwyddant yn y dyfodol. Y mae hen amser yn rhedeg mor gyflym, yn myned heibio fel eryr cryf a chyflym, gan gau pob peth ar ei ol, fel nad oes cyfle i wella cyfeiliornadau; rhaid iddynt fod fel y gwnaed hwynt, er yn ysmotiau duon ar y papyrlen; ac os ceir amser yn y dyfodol, ceisio eu gwella mewn cysylltiad â gwrthddrychau newyddion. Dydd Mawrth, y 9fed o Ionawr, 1855, dyma ryw gymaint o bersonau yn myned â'r triugain punt yn eu llogellau, gan feddwl yn ddiamheu fod ganddynt gronfa weddol, o holl Siroedd y Deheubarth, yn anrheg rasol i Mr. Richard. Cadwyd cyfarfod, areithiwyd a chyflwynwyd y triugain punt iddo, fel pe cyflawnasid rhyw weithred ryfedd o ras ar y dyn claf. Syndod! y mae tywyllwch yr oes yn fawr hefyd, wrth ystyried pob peth. Beth! dynion yn llafurio o dan gymaint o dywyllwch moesol yn y ganrif hon! Hawyr! rhaid i chwi fyned adref, a dychwelyd a'r deg cymaint o arian a hyny cyn y bydd genych ddigon i dalu yr hyn sydd ddyledus i Mr. Richard, heb son dim am anrheg. Telwch y ddyled yn gyntaf; byddwch yn onest, frodyr, a siaradwch wedi hyny faint a fynoch am fod yn haelfrydig. Ond da chwi, er mwyn pob peth, ceisiwch a bod yn weddol gyfiawn yn gyntaf. Tebyg iawn, yn gymaint a bod diwygiadau yn ehedeg ar adenydd y gwynt yn y dyddiau hyn, fod yr oes wedi myned llawer yn y blaen mewn diwylliant oddiar gyflwyniad y dysteb, a'r pethau ag oedd braidd yn anweledig yn ngwyll y boreu hwnw sydd yn awr yn ddigon amlwg, gan fod y dydd yn tynu yn agos i'w ganolbwynt. Ond i adael y dysteb, fel ei gelwir, y mae rhyw beth o werth sylwi arno yn y dull y mae efe yn ei derbyn. Nid ydyw yn gweled dim ynddi ond caredigrwydd, trugaredd, a chariad brawdol; y mae efe yn ei gweled yn ardderchog, yn<noinclude></noinclude> d4zmwwvjxn89wsk6w0nyd5lq2v213aa Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/261 104 84858 164723 2026-05-15T23:24:23Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "ddangoseg o serch, brawdgarwch, a Christionogaeth i'r pen pellaf, gan ei ystyried ei hun yn annheilwng o'r fath rodd haelfrydig. Nid ydym yn meddwl ychwaith fod un amcan ond caredigrwydd a Christionogaeth yn nghyflwyniad y dysteb; eithr rhyfeddu yr ydym at dywyllwch y bobl, na fuasent yn meddwl fod cymaint a hyny yn ddyledus bob blwyddyn, ac ychwaneg hefyd. Yn hytrach na myned i fanylion, yr hyn fe allai na fyddai yn edrych gystal, dig... 164723 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddangoseg o serch, brawdgarwch, a Christionogaeth i'r pen pellaf, gan ei ystyried ei hun yn annheilwng o'r fath rodd haelfrydig. Nid ydym yn meddwl ychwaith fod un amcan ond caredigrwydd a Christionogaeth yn nghyflwyniad y dysteb; eithr rhyfeddu yr ydym at dywyllwch y bobl, na fuasent yn meddwl fod cymaint a hyny yn ddyledus bob blwyddyn, ac ychwaneg hefyd. Yn hytrach na myned i fanylion, yr hyn fe allai na fyddai yn edrych gystal, digon yw dyweyd na dderbyniodd Mr. Richard nemawr o ddim am ei lafur, eithr treuliodd oes o ddefnyddioldeb mawr i'w genedl, gan lafurio yn galed gan mwyaf ar ei draul ei hun. Ar y diwrnod nodedig i gyflwyno y dysteb, cyfarfyddwyd yn Abergwaen, ac awd drwy y gorchwyl mewn cysylltiad â Chyfarfod Misol a gynaliwyd yn y lle yr un amser. Cyflwynwyd yr arian iddo yn un o'r cyfarfodydd, yr hyn a dynodd allan yr araeth fach ganlynol: Mae pob peth newydd yn peri pryder. Mae pob symudiad awd trwyddo mewn bywyd wedi bod mewn pryder. Pan awd at grefydd gyntaf yr oedd yn amgylchiad pryderus; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny. Pan deuwyd at fwrdd yr Arglwydd y tro cyntaf yr oedd pryder yn hyny; ond yr oedd gradd o ragolwg am hyny. Pan ddechreuwyd ar y gwaith mawr nad oes un dyn ar y ddaear yn ddigonol iddo, fe barodd ryw beth cymaint o bryder y pryd hyny, nes ymgrino ar y ddaear, ac nid heb achos; ond yr oedd rhyw faint o ragolwg ar hyny. Pan dderbyniwyd i aelodiaeth y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa, yr oedd y rhai hyny yn amgylchiadau pryderus; ond nid heb ryw ragolwg arnynt; a phan y cawd lle i fod yn y gwaith llawn, rhwng gwendid gewynau a phob rhyw waeleddau, yr oedd y pryder mór fawr nes bod ar ymddyrysu; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny cyn myned ato. Ond am yr amgylchiad hwn, nid yw heb bryder, ac nid oedd un rhagolwg arno; canys ni welwyd fel hyn o'r blaen genym ni. Mae y pethau heddyw yn anhygoel. Pan wybuwyd am hyn gyntaf, heb allu gwybod beth fyddai y cynwysiad na'r canlyniad, fe feddyliwyd rhoddi nacâd pendant iddo; ac oni buasai ofni balchder wrth ei wraidd, ac ofni pechu yn erbyn Crist wrth bechu yn erbyn y brodyr, fe fuasai wedi ei roddi. Parodd synedigaeth nid ychydig; yn un peth oblegyd fod llafur a gwaith y Gymanfa wedi dyblu a thryblu at y peth oedd pan gofir am dani gyntaf, a llawer blwyddyn wedi hyny. Synwyd, wrth feddwl am y fath brysurdeb, y gallesid cael meddwl, cof, nac amser i synied am y fath beth, yn enwedig am un mor absenol, mor ddyeithrol, ac annefnyddiol, allan o'r golwg ac o'r clyw er ys llawer blwyddyn; ond heb allu, ond yn un lle, dan lethu, yn llusgo. Yn awr wele fe wedi dod, ond nid heb ofnau am dano y mae,—ofni rhag bwrw ymaith ar hyn, canys fe wobrwyir am gymaint a chwpanaid o ddwfr i ddysgybl. Ni fydd yr Arglwydd yn nyled neb, er, wrth edrych dros flynyddoedd yr ymdaith, nid oes un agwedd a welir mor gymhwys, ïe, yr unig<noinclude></noinclude> 5a8z0cqe5ffo96auih2s6cpam89trux Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/262 104 84859 164724 2026-05-15T23:24:43Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "un gymhwys, ond edifeiriol; ac ni wyddys am unrhyw beth sydd mor dda i gael byw cyhyd er ei fwyn ag edifeirwch—ofnir rhag ymchwyddo o herwydd hyn. Os bydd dropsi yn y cyfansoddiad, mae perygl oddiwrth bob peth, rhag iddo gynyddu. Os oedd perygl i'r sant mawr Paul i dra dyrchafu o herwydd ei gipio i'r drydedd nef i baradwys Duw, tu draw y llen, pa faint mwy perygl i bechadur mawr a gipiwyd fel pentewyn i baradwys Duw ar y ddaear? Ofnir... 164724 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un gymhwys, ond edifeiriol; ac ni wyddys am unrhyw beth sydd mor dda i gael byw cyhyd er ei fwyn ag edifeirwch—ofnir rhag ymchwyddo o herwydd hyn. Os bydd dropsi yn y cyfansoddiad, mae perygl oddiwrth bob peth, rhag iddo gynyddu. Os oedd perygl i'r sant mawr Paul i dra dyrchafu o herwydd ei gipio i'r drydedd nef i baradwys Duw, tu draw y llen, pa faint mwy perygl i bechadur mawr a gipiwyd fel pentewyn i baradwys Duw ar y ddaear? Ofnir rhag bod ystorm i ganlyn hyn; megys y bydd tawelwch ar ol ystorm, bydd weithiau ystorm ar ol tawelwch; a rhag i don y brofedigaeth soddi y pen dani, na chodo mwy; canys ni bu erioed ond eiddilwch a gwendid mawr mewn man ofidiau. Oddiar ostyngeiddrwydd diffuant, mor bell ag yr adnabyddir, dymunir cyflwyno diolchgarwch diragrith trwy ddwylaw y dirprwywyr hyn i'r Gymanfa a'ch danfonodd; ac hefyd i chwithau sydd ddirprwywyr yn yr oruchwyliaeth hon yr un peth yn yr un modd; canys ni ellir cyffelybu y gorchestwaith hwn a wnaethoch i ddim ond i ymwroli fel rhai yn gweled yr anweledig; canys nis gallasai y fath orchwyl gael ei gwblhau yn y fath fodd heb lafur, ymdrech, serch, egni, a diwydrwydd dibaid: ond yn gan cymaint, ïe, yn gan cymaint drachefn a hyn, yr hyn nid yw yn un iselhad nac iselder ar hyn, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb, y llonir ac y llawenheir am y peth y mae cynwysiad hyn yn ei ddangos, yr hyn yw egwyddor Cristionogaeth, ysbryd Cristionogaeth, undeb, cariad, a serch Cristionogaeth, yr hyn yw hanfodau Cristionogaeth; yr hyn sydd lawer mwy o brawf fod ysbryd yr Arglwydd yn aros yn mysg ei bobl na phob cyflawniad cyfan yn allanol heb hyny. Lle mae hanfodau Cristionogaeth yr erys, ac nid yn un lle heb hyny; "Canys yn ol y gair a amodais â chwi yr erys fy Ysbryd yn eich mysg." Mae rhyw faint o gymhwysder yn ngeiriau gwraig y mynydd-dir, os nid y mwyaf cymhwys yn wyneb hyn oll ar yr achlysur presenol: "O ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy arglwydd ataf fi?" Fe ellir gwneyd hyn yn gymhwysiadol yn ol gair Crist, yr hwn a ddywedodd am "yr hwn a ewyllysio wneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam;" os felly, wele frawd, chwaer, a mam Crist yn bresenol. Dywedwch wrth y Gymanfa y taer ddymunir arnynt i beidio â gadael ar hyn, er cymaint yw hyn; tra na chlywont fod y terfyn wedi ei gyrhaedd, i roddi lle i un tebyg i'r creaduriaid a welwyd yn y llen-llian a ddangoswyd i Pedr, yn llen-llian eu gweddiau; a rhwymer am dano, nesaf ato, weddi y publican, at ei gymeryd i fyny i'r nef; ei weled yno, os byth y daw, fydd un o'r rhyfeddodau mwyaf am neb a ddaw yno. Mae cael cwympo i'r bedd o fynwes gweddiau eglwys Dduw, O gymaint gwell yw na chwympo yno oddiar orseddfeinciau uchelaf y byd. Gwlad heb bechu, a gwlad heb ofni yw yr unig wlad sydd i'w hoffi. Amen fyddo gyda phawb, pawb yn ddiwahaniaeth heb un sylw ar wahaniaethau plentynaidd dynion, y rhai a gollir oll yn angau. Yr unig undeb a ddeil yno yw undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw. Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru yr Arglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Wrth hyn rhoddir o galon Amen, Amen, Amen, er cymaint yw ei phla. {{nop}}<noinclude></noinclude> rdk8w24wrwg0gxutn03i95vkh300qlf Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/264 104 84860 164726 2026-05-15T23:34:19Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "brawd hwn mor agos gan yr hen ddiaconiaid, nes iddo fyned yn anoddefol; collodd ei dymherau yn enbyd; fe allai ei fod yn dra gwyllt yn naturiol; nid ydym yn gydnabyddus gymaint a hyny. Pan welodd Mr. Richard ei fod wedi tanio, a'i bod yn enbyd i'r tân ymledu, cododd, a dywedodd, "Yn awr, frodyr bach, gwell fyddai i chwi na siarad chwaneg adael y brawd am wythnos neu ddwy i oeri; y mae ar hyn o bryd yn rhy boeth i wneyd dim o hono; gade... 164726 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brawd hwn mor agos gan yr hen ddiaconiaid, nes iddo fyned yn anoddefol; collodd ei dymherau yn enbyd; fe allai ei fod yn dra gwyllt yn naturiol; nid ydym yn gydnabyddus gymaint a hyny. Pan welodd Mr. Richard ei fod wedi tanio, a'i bod yn enbyd i'r tân ymledu, cododd, a dywedodd, "Yn awr, frodyr bach, gwell fyddai i chwi na siarad chwaneg adael y brawd am wythnos neu ddwy i oeri; y mae ar hyn o bryd yn rhy boeth i wneyd dim o hono; gadewch iddo oeri, a gadewch iddo gael amser i hyny, wythnos neu ddwy, a chadwch lygad ar ei ol ef yn y cyfamser, canys y mae perygl, y mae y brawd yn wyllt iawn, a gall, o ddiffyg triniaeth briodol, fyned i beryglon mawrion. Edrychwch chwi, ffrynds, a deallwch fod gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl dall, diog, dihwyl, diysbryd, digalon, a dyddim, a cheffyl dall metelus. Gellwch ollwng y cyntaf yn rhydd ar ganol y ffordd; dyna lle y bydd dranoeth o fewn ychydig latheni, symud e ddim nemawr o gamrau; fel nad oes dim perygl, nac eisiau gofalu am dano. Ond deallwch, y mae ceffyl dall metelus yn wahanol iawn i hyny; peidiwch a gollwng ceffyl dall metelus yn rhydd mewn lleoedd peryglus, onide fe allai mai dros ei ben mewn rhyw chwarel y bydd mewn moment; canys fel y gwyddoch, bydd ceffyl dall metelus yn sicr o fyned i ryw le. Yn awr, ffrynds, ceffyl dall metelus yw y brawd hwn, rhaid i chwi fod yn bwyllog gydag ef, ac yn ofalus o hono; peidiwch a'i ollwng yn rhydd i fyned llwyr ei ben, canys y mae yn fetelus iawn; fe â na ŵyr nebi ba le mewn ychydig amser; y mae ynddo ysbryd uchel a gwresog iawn; y mae yn dra metelus, am hyny peidiwch a'i ollwng yn rhydd i ben heol; ond gadewch iddo fod yma am ychydig wythnosau i edrych a wna oeri, fe allai y gellir gwneyd rhyw beth o hono. Čeffyl dall metelus yw e, yr ych chi'n deall." Byddai yn trin cyflyrau blaenoriaid weithiau, dan siarad am geffylau; a byddai pawb yn deall pwy oedd y naill a'r llall wrth yr ymddyddan; er na fyddai efe yn siarad dim â'r dynion, ond am y ceffylau, "Ceffyl da yw Jack," meddai, "ond nid cystal a Phopet; y mae Popet yn haws i'w drafod, ac yn fwy ewyllysgar i wneyd pob peth. Onide y mae Jack yn geffyl da, cryf, pwerus; ond fe dry weithiau yn anewyllysgar a ''phenstiff''; pan y bydd eisiau ei wasanaeth fwyaf, fe allai mai y pryd hwnw y bydd waethaf. Fe dyn Jack ddigon, deallwch chwi; ond y mae yn rhaid iddo dynu yn ei le ei hun, ac yn ei ffordd ei<noinclude></noinclude> amnl7r964qlmcgrjzzehfx80admio6n Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/265 104 84861 164727 2026-05-15T23:35:47Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "hun, onide thŷn ef ddim. "Thyn Jack yn un man ond yn y blaen; dodwch chwi ef yn y bôn, neu yn y canol, aiff i ymbrancio, a thynu yn ol, a gwneyd mwy o ddrwg nag o les. mae yn rhaid i Jack gael y blaen, deallwch, oblegyd ni thyn e ddim pwys ond yn y blaen. Un da iawn ydyw, ond iddo ef gael tynu yn y blaen, ac yn ei ffordd ei hun; braidd nad yw yn ddigon cryf i dynu y llwyth ei hun. Gwneyd pob peth neu ddim y bydd Jack yn gyffredin; a... 164727 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hun, onide thŷn ef ddim. "Thyn Jack yn un man ond yn y blaen; dodwch chwi ef yn y bôn, neu yn y canol, aiff i ymbrancio, a thynu yn ol, a gwneyd mwy o ddrwg nag o les. mae yn rhaid i Jack gael y blaen, deallwch, oblegyd ni thyn e ddim pwys ond yn y blaen. Un da iawn ydyw, ond iddo ef gael tynu yn y blaen, ac yn ei ffordd ei hun; braidd nad yw yn ddigon cryf i dynu y llwyth ei hun. Gwneyd pob peth neu ddim y bydd Jack yn gyffredin; a pheth sydd yn beryglus iawn os na chaiff ei ffordd, try i ''gicio'', nes y bydd y rhai olaf mewn perygl o gael eu coesau wedi eu tori. Ar y cwbl, yr ych chi'n deall, y mae Jack yn geffyl da, ond bydd rhyw ''gnaciau'' ynddo ar brydiau; pe gellid tynu y rhai hyny o hono byddai yn rhagorol; ond anhawdd iawn yw tynu ''cnac'' o hen geffyl. 'Dyw e ddim fel Popet, serch hyny; y mae Popet yn un ewyllysgar iawn; er fe allai nad yw mor bwerus a Jack; ond y mae yn haws ei drafod; nid ydyw mor ysgythrog ac yscaprwth, yn oicio a chnoi, ac yn pallu tynu dim ond o'r blaen. Fe dyn Popet, yr y'ch yn deall, yn mhob man; fe wnaiff ei oreu lle bynag y gosodir ef. Gosodwch ef yn y blaen, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y canol, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y bôn, fe dyn Popet yno hefyd. Gosodwch bwn ar ei gefn i fyned i'r felin, fe aiff e yn ewyllysgar o dan hwnw; gosodwch ddau neu dri o'r plant i fyned ar ei gefn i'r ysgol, fe wnaiff e hyny hefyd. Un rhyfedd yw Popet, fe wna efe gymaint ag y gall yn mhob man; ond am Jack, er ei fod yntau yn geffyl da yn ei ffordd, nis gellir ymddiried yn dda iddo wneyd pob peth. Gwell peidio mentro rhoi cŵd ar gefn Jack i fyned i'r felin, na'r plant i fyned i'r ysgol, rhag iddi droi yn brofedigaethus; gwell mentro ar Popet." Digon tebyg fod pawb yn gwybod pwy oedd Jack a phwy oedd Popet, o ddechreu yr ymddyddan. Cafodd allan fod rhyw chwech neu saith wedi bod yn ei drin ef yn arw wrth ysmocio yn ymyl rhyw danllwyth yn nhŷ cymydog, fel y bydd weithiau. O bell y cymerodd ei ddameg, y cyfleu cyntaf; a gwnaeth ddesgrifiad mor fanwl, fel ag yr oedd yn anmhosibl peidio deall yr holl drafodaeth. Rhostio Shôn y mae yn galw y drafodaeth hono. Fe fydd ambell dy hefyd, rhyw fath o bobdy moesol ydyw, lle y byddys yn ymgrynhoi i rostio cymeriadau gwell o lawer na hwynt eu hunain. Y mae yn debyg mai Mr. Richard ddygwyddodd fod o flaen y tân y tro hwn, a rhyw chwech neu saith wrth y gorchwyl, rhai yn cyneu y tân, eraill yn tywallt saim arno, ac eraill bob<noinclude></noinclude> kf6rhgh9964zee674f709af1whn21tn 164730 164727 2026-05-15T23:37:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164730 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hun, onide thŷn ef ddim. "Thyn Jack yn un man ond yn y blaen; dodwch chwi ef yn y bôn, neu yn y canol, aiff i ymbrancio, a thynu yn ol, a gwneyd mwy o ddrwg nag o les. mae yn rhaid i Jack gael y blaen, deallwch, oblegyd ni thyn e ddim pwys ond yn y blaen. Un da iawn ydyw, ond iddo ef gael tynu yn y blaen, ac yn ei ffordd ei hun; braidd nad yw yn ddigon cryf i dynu y llwyth ei hun. Gwneyd pob peth neu ddim y bydd Jack yn gyffredin; a pheth sydd yn beryglus iawn os na chaiff ei ffordd, try i ''gicio'', nes y bydd y rhai olaf mewn perygl o gael eu coesau wedi eu tori. Ar y cwbl, yr ych chi'n deall, y mae Jack yn geffyl da, ond bydd rhyw ''gnaciau'' ynddo ar brydiau; pe gellid tynu y rhai hyny o hono byddai yn rhagorol; ond anhawdd iawn yw tynu ''cnac'' o hen geffyl. 'Dyw e ddim fel Popet, serch hyny; y mae Popet yn un ewyllysgar iawn; er fe allai nad yw mor bwerus a Jack; ond y mae yn haws ei drafod; nid ydyw mor ysgythrog ac yscaprwth, yn oicio a chnoi, ac yn pallu tynu dim ond o'r blaen. Fe dyn Popet, yr y'ch yn deall, yn mhob man; fe wnaiff ei oreu lle bynag y gosodir ef. Gosodwch ef yn y blaen, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y canol, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y bôn, fe dyn Popet yno hefyd. Gosodwch bwn ar ei gefn i fyned i'r felin, fe aiff e yn ewyllysgar o dan hwnw; gosodwch ddau neu dri o'r plant i fyned ar ei gefn i'r ysgol, fe wnaiff e hyny hefyd. Un rhyfedd yw Popet, fe wna efe gymaint ag y gall yn mhob man; ond am Jack, er ei fod yntau yn geffyl da yn ei ffordd, nis gellir ymddiried yn dda iddo wneyd pob peth. Gwell peidio mentro rhoi cŵd ar gefn Jack i fyned i'r felin, na'r plant i fyned i'r ysgol, rhag iddi droi yn brofedigaethus; gwell mentro ar Popet." Digon tebyg fod pawb yn gwybod pwy oedd Jack a phwy oedd Popet, o ddechreu yr ymddyddan. Cafodd allan fod rhyw chwech neu saith wedi bod yn ei drin ef yn arw wrth ysmocio yn ymyl rhyw danllwyth yn nhŷ cymydog, fel y bydd weithiau. O bell y cymerodd ei ddameg, y cyfleu cyntaf; a gwnaeth ddesgrifiad mor fanwl, fel ag yr oedd yn anmhosibl peidio deall yr holl drafodaeth. Rhostio Shôn y mae yn galw y drafodaeth hono. Fe fydd ambell dy hefyd, rhyw fath o bobdy moesol ydyw, lle y byddys yn ymgrynhoi i rostio cymeriadau gwell o lawer na hwynt eu hunain. Y mae yn debyg mai Mr. Richard ddygwyddodd fod o flaen y tân y tro hwn, a rhyw chwech neu saith wrth y gorchwyl, rhai yn cyneu y tân, eraill yn tywallt saim arno, ac eraill bob<noinclude></noinclude> i5u4jcjmcpmwakn6uofz8zphvkx9e56 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/266 104 84862 164728 2026-05-15T23:36:34Z AlwynapHuw 1710 /* Darllenwyd y proflenni */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn ail yn troi y bêr. Wedi iddo roi desgrifiad go glir o'u personau a'r lle, dywedodd, "Wel, ac fe ddarfu i chwi rostio Shôn; do y mae yn debyg; y mae Shôn wedi bod yn rhostio. 'Pwy oedd yn rhostio Shôn? pa sawl un oedd yn ei rostio?" 'Hwn a hwn; a hwn a hwn.' 'Neb arall?' 'Nag oedd; chwech oedd yno.' 'Na, yr oedd un arall.' 'Un arall; nag oedd, chwech oedd yno.' 'Nage, yr oedd saith.' 'Ni welsom ni ddim ond chwech.' 'Fe allai hyny; on... 164728 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ail yn troi y bêr. Wedi iddo roi desgrifiad go glir o'u personau a'r lle, dywedodd, "Wel, ac fe ddarfu i chwi rostio Shôn; do y mae yn debyg; y mae Shôn wedi bod yn rhostio. 'Pwy oedd yn rhostio Shôn? pa sawl un oedd yn ei rostio?" 'Hwn a hwn; a hwn a hwn.' 'Neb arall?' 'Nag oedd; chwech oedd yno.' 'Na, yr oedd un arall.' 'Un arall; nag oedd, chwech oedd yno.' 'Nage, yr oedd saith.' 'Ni welsom ni ddim ond chwech.' 'Fe allai hyny; ond yr oedd saith yno.' 'Pwy oedd yno, ynte?' 'Pwy! yr oedd diafol yno, ffrynds; yr oedd y cythraul yno; oblegyd dynion yn ei law ef oedd yn rhostio Shôn. Wel, yr oedd y cythraul yno yn rhostio Shôn. Pwy hefyd?' 'Nid oedd neb arall.' 'Oedd; yr oedd un arall.' 'Pwy?' 'Yr oedd Duw yno yn edrych. Er nad oedd efe ddim yn rhostio Shôn, ond yr oedd ei lygaid yn edrych ar y weithred." Fe fydd Shôn yn cael ei gario i'r pobdŷ yn aml; ond yn gyffredin y rhai sydd yn ei ddwyn sydd yn llosgi, a Shôn yn diane; ond yn unig llosgi ei rwymau. "Dyn un—llygeidiog i chi," meddai wrth flaenor cyfrifol; "nid ydych yn gweled ond un—ochrog. Y mae ochr arall i gael, yr ydych chwi yn ddall o'r ochr hono." Yr oedd dyn bach o ddiacon go dda ond penderfynol yn ei ffordd yn Glanrhyd, a byddai Mr. Richard yn myned heibio yn awr a phryd arall, ac yn troi at Thomas bob amser i gael ceirch i'r ceffyl, ond nid oedd yn rhoi Sabbath un amser i bregethu, y mae yn debyg. Yr oedd Thomas yn annedwydd yn nghylch hyny, ac yn meddwl nad oedd yn degwch; ac eto yn methu cael digon o gryfder i ballu ceirch o herwydd y rheswm hwnw hefyd. Eithr wedi hir—oddef mewn cysylltiad â'r mater hwn, cyrhaeddwyd y pen draw i amynedd Thomas, a phenderfynodd ddyweyd y genadwri oedd yn gwasgu ar ei feddwl. Daeth Mr. Richard eilwaith heibio, a throdd at Thomas i dŷ y capel, gan ymholi yn nghylch ceirch. "Thomas bach," meddai, "ffordd yr ydych chwi heddyw? a oes tipyn o geirch i'r ceffyl i gael heddyw?" "Un tamaid," meddai Thomas. "Beth! dim ceirch, Thomas?" "Dim un tamaid," ebe Thomas; "nid oes yma ddim ceirch i neb ond y sawl sydd yn dyfod yma ar y Sabbath; cerddwch chi' i 'mofyn ceirch lle yr ydych yn myned ar y Sabbath." Meddyliodd Mr. Richard mai digrifwch Thomas oedd hyn; ond cafodd allan yn fuan ei fod yn ddifrifol; ac i'w ffordd y<noinclude></noinclude> gy0ckxjlm0b4iudi74a3hu4ouxia8k5 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/267 104 84863 164729 2026-05-15T23:37:00Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "cafodd fyned hefyd, heb damaid o geirch. Galwodd Mr. Richard yno ar ol hyn i bregethu, ac wedi y bregeth yr oedd cyfarfod eglwysig, fel y byddid yn arferol gadw, er mwyn cael cynorthwy a chyfeillach y pregethwr. "Wel Thomas," meddai Mr. Richard, "beth sydd i fod yma heddyw? beth sydd genych ch'i, Thomas bach, ag eisiau siarad? Dyma'r bobl wedi aros yn ol, fel yr ydych chwi wedi dymuno arnynt; beth sydd a fynoch chwi a hwy? A oes gen... 164729 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cafodd fyned hefyd, heb damaid o geirch. Galwodd Mr. Richard yno ar ol hyn i bregethu, ac wedi y bregeth yr oedd cyfarfod eglwysig, fel y byddid yn arferol gadw, er mwyn cael cynorthwy a chyfeillach y pregethwr. "Wel Thomas," meddai Mr. Richard, "beth sydd i fod yma heddyw? beth sydd genych ch'i, Thomas bach, ag eisiau siarad? Dyma'r bobl wedi aros yn ol, fel yr ydych chwi wedi dymuno arnynt; beth sydd a fynoch chwi a hwy? A oes genych ryw beth i ddyweyd wrthynt, neu ryw beth i roi iddynt? Beth sydd genych chwi yn awr mewn golwg, Thomas bach?" "Wel," ebe Thomas, "os gwelwch yn dda, syr, anogwch hwynt i ddyfod yma yn amlach, a bod yn fwy ffyddlon i'r cyfarfodydd; yn enwedig y cwrdd eglwysig." "Oh; a ydynt ddim yn dyfod, Thomas?" "Nac ydynt, ddim yn gyson." "Oh; pa fodd y mae hyny, Thomas? a wyddoch chwi ddim paham y mae y bobl yn peidio dyfod i'r ''society''? beth sydd yn rhwystr i wybod hyny? Mae yn ddigon amlwg. Yr oedd dau amaethwr yn myned gyda eu gilydd i farchnad Aberteifi; ac ar y ffordd un yn gofyn i'r llall, Yn mha le yr ydych chwi yn rhoi i fyny yn awr acw?' 'Wel yn siwr i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned ers tro hir.' 'I'r ''Black Lion''? wel, ai nid i'r ''Red Lion'' yr oeddych yn arfer myned?' 'Wel, ïe, ond i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned er ys lawer dydd.' 'Pa fodd y darfu i chwi newid? Y mae y ''Red Lion'' yn dŷ da iawn.' 'Ydyw yn weddol, ond nid cystal ag y bu; i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned, ac y mae yn ddigon tebyg mai yno yr af hefyd, oddieithr rhyw gyfnewidiad. Y mae y ''Red Lion'' yn burion; ond mi ddywedaf i chwi, nid oes nemawr o drefn yno, fe allai y cewch fwyd blasus weithiau, o ddygwydd; ond yn gyffredin diflas yw'r bwyd yno. Bydd y ''mutton'' yn haner digon, fe allai; y pytatws yn oerion, a phob peth o gwmpas yn fudr—nid oes dim cysur yn y byd yn y ''Red Lion'' er ys lawer dydd, am hyny yr wyf fi wedi gadael, ac yn myned i'r ''Black Lion'' yn awr; y mae lle cysurus iawn yno yn wastad. Cerddwch pryd y mynoch, bydd digon o dân yn yr aelwyd, a phob peth o'i gwmpas yn lanwaith, bwyd mewn mynyd yno, os bydd eisiau; pob peth yn dwymn ac yn ei flas, heb na gwaeddi—na mwstwr. Y ''Black Lion'' yw fy nhŷ i yn awr.' 'Wel yn wir,' ebe y llall, yr wyf fi yn meddwl y dof fi gyda chwi i'r ''Black Lion'' hefyd. {{nop}}<noinclude></noinclude> 5zolahbojd9ppsy0esit7ezno6tfmbq 164731 164729 2026-05-15T23:37:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164731 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cafodd fyned hefyd, heb damaid o geirch. Galwodd Mr. Richard yno ar ol hyn i bregethu, ac wedi y bregeth yr oedd cyfarfod eglwysig, fel y byddid yn arferol gadw, er mwyn cael cynorthwy a chyfeillach y pregethwr. "Wel Thomas," meddai Mr. Richard, "beth sydd i fod yma heddyw? beth sydd genych ch'i, Thomas bach, ag eisiau siarad? Dyma'r bobl wedi aros yn ol, fel yr ydych chwi wedi dymuno arnynt; beth sydd a fynoch chwi a hwy? A oes genych ryw beth i ddyweyd wrthynt, neu ryw beth i roi iddynt? Beth sydd genych chwi yn awr mewn golwg, Thomas bach?" "Wel," ebe Thomas, "os gwelwch yn dda, syr, anogwch hwynt i ddyfod yma yn amlach, a bod yn fwy ffyddlon i'r cyfarfodydd; yn enwedig y cwrdd eglwysig." "Oh; a ydynt ddim yn dyfod, Thomas?" "Nac ydynt, ddim yn gyson." "Oh; pa fodd y mae hyny, Thomas? a wyddoch chwi ddim paham y mae y bobl yn peidio dyfod i'r ''society''? beth sydd yn rhwystr i wybod hyny? Mae yn ddigon amlwg. Yr oedd dau amaethwr yn myned gyda eu gilydd i farchnad Aberteifi; ac ar y ffordd un yn gofyn i'r llall, Yn mha le yr ydych chwi yn rhoi i fyny yn awr acw?' 'Wel yn siwr i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned ers tro hir.' 'I'r ''Black Lion''? wel, ai nid i'r ''Red Lion'' yr oeddych yn arfer myned?' 'Wel, ïe, ond i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned er ys lawer dydd.' 'Pa fodd y darfu i chwi newid? Y mae y ''Red Lion'' yn dŷ da iawn.' 'Ydyw yn weddol, ond nid cystal ag y bu; i'r ''Black Lion'' yr wyf fi yn myned, ac y mae yn ddigon tebyg mai yno yr af hefyd, oddieithr rhyw gyfnewidiad. Y mae y ''Red Lion'' yn burion; ond mi ddywedaf i chwi, nid oes nemawr o drefn yno, fe allai y cewch fwyd blasus weithiau, o ddygwydd; ond yn gyffredin diflas yw'r bwyd yno. Bydd y ''mutton'' yn haner digon, fe allai; y pytatws yn oerion, a phob peth o gwmpas yn fudr—nid oes dim cysur yn y byd yn y ''Red Lion'' er ys lawer dydd, am hyny yr wyf fi wedi gadael, ac yn myned i'r ''Black Lion'' yn awr; y mae lle cysurus iawn yno yn wastad. Cerddwch pryd y mynoch, bydd digon o dân yn yr aelwyd, a phob peth o'i gwmpas yn lanwaith, bwyd mewn mynyd yno, os bydd eisiau; pob peth yn dwymn ac yn ei flas, heb na gwaeddi—na mwstwr. Y ''Black Lion'' yw fy nhŷ i yn awr.' 'Wel yn wir,' ebe y llall, yr wyf fi yn meddwl y dof fi gyda chwi i'r ''Black Lion'' hefyd. {{nop}}<noinclude></noinclude> tm0wd19tg82xswjzinxre2mjs9kw4ib Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/269 104 84864 164733 2026-05-15T23:44:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164733 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y mae ceffyl da, a chwip dda, a chlogyn da gan Dafydd; y mae Dafydd yn ddyn go fawr. Aeth Dafydd i lawr i Dyddewi ar y ceffyl mawr, ac yn y clogyn mawr, ac a'r chwip fawr yn ei law, a phregethodd bregeth fawr ar ostyngeiddrwydd; ond aeth gartref dydd Llun eilwaith yr un ffordd, heb fod yn ostyngedig iawn wed'yn, 'roedd y bobl yn dweyd. Thomas yw dyn y bobl, efe y maent hwy yn caru glywed yn annghyffredin. Y mae y bobl yn fwy am Thomas nag am Dafydd; y mae rhyw beth ag sydd yn fwy deniadol yn Thomas, y maent yn dyweyd; yn fwy swynol, yn fwy soniarus, ac yn fwy serchus; un melus iawn yw Thomas. Y mae Dafydd yn bur dderbyniol hefyd, yr y'ch chi'n deall; ond nid mor dderbyniol a Thomas. Thomas yw eu dyn hwy, deallwch. Y mae rhyw beth yn llais Dafydd nad yw mor hyfryd a Thomas, er fod gan Dafydd lais, eithr nid mor soniarus a Thomas; Thomas yw eu dyn hwy. Mae Dafydd yn bur barchus gan lawer, yn pregethu yn dda; ond y peth sydd yn ei erbyn e yw, ei fod yn gryn graslyd; mae llais Dafydd, yr y'ch chi'n deall, yn gryn graslyd a sychlyd; nid oes dim soniarus a seimlyd ynddo, am hyny Thomas yw eu dyn nhw. Y mae Thomas yn gallu canu, ei lais sydd yn hyfryd; y mae yn fwyn, yn feddal, ac yn felus. Efe yw dyn y bobl." Aeth y cwrdd heibio heb siarad nemawr a hwynt, ond am danynt; a'r trueiniaid yn chwysu gan fraw a chywilydd. "Gwylder, beth yw gwylder? nid diffyg synwyr yw gwylder, nid diffyg bywiogrwydd, nid diffyg ymroddiad a llafur. Gellir bod yn wylaidd ac yn fywiog, yn wylaidd ac yn ymroddgar, yn wylaidd ac yn llafurus. Bydd ambell ddyn yn wylaidd ac yn wlanenaidd, yn wylaidd, gwylanaidd; ac felly gwylaidd, gwlanenaidd, a gwylanaidd yw hwnw. Bydd un arall yn fywiog, ond yn fachog, yn finiog, a gwydrog. Gellir bod yn fywiog heb fod yn fachog a miniog, ffrynds; a gellir bod yn wylaidd heb fod yn wlanenaidd ac yn wylanaidd." Byddai Mr. Richard yn cael peth difyrwch yn fynych ar draul Saesoneg Casgwys. Byddai yn myned i bregethu weithiau yn Saesoneg i Gasgwys, a manau eraill o leoedd Seisnig Sir Benfro. Ychydig o bobl, heblaw eu hunain, y mae yn debyg, sydd wedi meistroli Saesoneg Casgwys; y mae y wlad wedi bod am oesau yn haner cauedig i bawb ond hwy eu hunain; gellid meddwl nad oedd Mr. Richard ei hunan wedi ei meistroli yn llwyr, canys, fel yr ydym yn deall, yr oedd ef a hwythau yn methu deall eu gilydd bob amser.<noinclude><references/></noinclude> r55uvy3x6e8hzbqa9g0gx2as32k3bbh Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/270 104 84865 164734 2026-05-15T23:44:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164734 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Y mae yn rhaid cael dyn Casgwys at Saesoneg a Saeson Casgwys," meddai; "nid gwiw i neb fyned i siarad Saesoneg Casgwys, a siarad â dynion Casgwys, ond dyn Casgwys. Y ddau Llewelyn yw yr unig gampwyr ar Saesoneg Casgwys; y maent hwy yn ddynion Casgwys, wedi dysgu iaith Casgwys, yn gallu siarad â phobl Casgwys, a gwneuthur pob peth yn Gasgwysaidd. Saesoneg yr unfed ganrif ar bymtheg yw Saesoneg Casgwys, yr y'ch chi'n deall." Dywedir fod Mr. Richard yn myned i bregethu yno unwaith, ac iddo gymeryd yn destun, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." "Open thy mouth wide, and I will fill it." Yr oedd yn pregethu ychydig yn Gymraeg ac yn Saesoneg. "Sylwn," meddai, "yn y lle cyntaf, Y llanw; yn 2. Y Llanwr; 3. Y llanwedig. Ond yn gyntaf, y llanw. Y mae rhyw beth yn cael ei roi i mewn, chwi welwch. Llanw â phethau da. Yn ail, y Llanwr eto. Y mae rhyw un yn llanw. "Myfi." Yn drydydd, Y llanwedig. Pwy ydynt hwy? Y bobl a gyferchir fel y rhai a ddygwyd i fyny o'r Aipht." Y mae yn debyg mai wrth roi cyfieithiad llythyrenol yг aeth i ryw gymaint o dywyllwch y tro hwn. "From the words of the text," meddai, "we shall endeavour to notice the following particulars. In the first place, The fill; secondly, The filler; and thirdly, The filled." Yr oedd gwŷr Casgwys yn agor eu llygaid yn enbyd, fel pe buasent heb ddeall y cwbl. "An excellent sarmon, was'nt it?" meddai un o honynt; "but I could not understand what he meant by the 'fill." Beth bynag, penderfynwyd mai rhyw air dysgedig oedd y fill, y tu hwnt i ddirnadaeth gwŷr Casgwys. Er fod Mr. Richard yn gwneyd rhyw beth fel hyn weithiau, yr oedd yn deall yn burion pan y byddai wedi myned i ddyryswch. Oblegyd pan yr ydym yn edrych ar ei gyfansoddiadau Saesoneg, y rhai a ddarparwyd erbyn rhyw gyfarfodydd penodol, yr ydym yn synu at eu perffeithrwydd. Yr oedd dyn yn Abergwaen yn rhyw haner call, ac eto, fel y bydd y cyfryw yn fynych, yn lled gyfrwys a chyflym mewn rhyw bethau. Yr oedd yn perthyn i'r capel, ac un o'r rhai mwyaf ffyddlon a gwresog yn ei ffordd ef ag oedd yn perthyn iddo. Beth bynag, syrthiodd Robyn mewn profedigaeth enbyd un diwrnod, trwy fod y bechgyn ar hyd yr heol yn ei wawdio, gan ddywedyd rhyw bethau wrtho nad oedd yn eu hoffi. Ond yn anffortunus, yn lle gwylio a gweddio, syrthiodd Robyn i'r brofedigaeth o regu; a thyngu yn enbyd<noinclude><references/></noinclude> kv6js0hq0azpd85xh47ug0tpnqn5xd9 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/271 104 84866 164735 2026-05-15T23:46:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164735 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a wnaeth wedi myned i natur ddrwg felly. Wrth gwrs, yn gymaint a'i fod yn perthyn i'r achos crefyddol, nis gallesid edrych dros ben y bai heb wneyd rhyw gymaint o sylw arno. Mewn amser cyfaddas, pan oedd y frawdoliaeth wedi dyfod yn nghyd, galwyd Robyn ger bron i gael rhoddi rhyw gyfrif am dano ei hun. Daeth yn ewyllysgar ac yn fywiog, ac ni chynygiodd roi un amddiffyniad ger bron, eithr syrthiodd yn onest, a chyfaddefodd wirionedd y cyhuddiad. Yn gymaint a bod cerydd yn angenrheidiol, a cherydd trwm hefyd am fai mor ysgeler, dyma un o'r blaenoriaid yn codi â chwip go drom, ac yn dechreu ei rhoi hi i Robyn yn lled chwimwth. Nid oedd Robyn, mwy na llawer eraill, yn teimlo y "cerydd dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd," am hyny y mae yn siglo, ac yn cynhyrfu, ac yn dyweyd wrth y gwr a'r chwip, "Chwi sydd yn gallu siarad, ai ïe? Pwy oedd y gwr giliodd o Sir Aberteifi â {{bar|2em}}?" Wedi taro y diacon hwn ar ei drwyn ac ar ei fan tost, cododd un arall, i lachio ar Robyn, gan ddal ei drosedd mewn lliwiau aruthrol o'i flaen. Yr oedd y brawd hwn wedi dygwydd saethu at ryw un ag oedd yn dyfod o gwmpas y tŷ heb roesaw, ac y mae yn debyg i ychydig o'r ''shots'' fyned i dewder ei forddwydydd, a pheri cryn gynhwrf. Yr oedd Robyn yn gryn gydnabyddus â helynt y gymydogaeth, hen a diweddar, fel y gwyddai am bob ysmotyn du ar bawb, hwy a'u hynafiaid. Pan yr oedd hwn yn y weithred o arllwys ei felldithion ar Robyn am dyngu a rhegu, "Ah, ah," meddai Robyn, "pwy oedd y gwr saethodd y dyn pan yr oedd yn ymofyn y ferch, wn i yn y byd?" Wedi taro hwn ar ei fan gwan, a'r bobl yn methu dal y brofedigaeth, ond yn hollti allan gan chwerthin, dyma Mr. Richard yn codi yn sobr a difrifol iawn, gan ddywedyd fod y peth o bwys, ac na ddylid ei gymeryd yn ysgafn, yn gymaint a bod Robyn yn aelod, ac iddo syrthio i'r brofedigaeth o regu yn gyhoeddus; y dylid rhoi rhyw gerydd arno, er dangos anfoddlonrwydd ar y cyfryw ymddygiadau, fel y gweddai i Gristionogaeth. "Ah, ah," ebe Robyn, "pwy oedd y gwr ladratodd y wraig drwy y ffenestr?" Os drwg cyn hyn, aeth yn llawer gwaeth wed'yn, fel y gorfuwyd adael Robyn wrth ychydig o gerydd. Byddai Mr. Richard, o herwydd ei allu i siarad, ac yn yr arferiad o siarad cymaint, yn fynych yn cario allan lawer o bethau yn mhell y tu hwnt i derfynau gweddeidd-dra; ond rhyw bluf lleision yn nghyfansoddiad ei gymeriad oedd y rhai<noinclude><references/></noinclude> 0q1q4gr2k7u8sirjptlzaien8ihysbm 164736 164735 2026-05-15T23:46:21Z AlwynapHuw 1710 164736 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a wnaeth wedi myned i natur ddrwg felly. Wrth gwrs, yn gymaint a'i fod yn perthyn i'r achos crefyddol, nis gallesid edrych dros ben y bai heb wneyd rhyw gymaint o sylw arno. Mewn amser cyfaddas, pan oedd y frawdoliaeth wedi dyfod yn nghyd, galwyd Robyn ger bron i gael rhoddi rhyw gyfrif am dano ei hun. Daeth yn ewyllysgar ac yn fywiog, ac ni chynygiodd roi un amddiffyniad ger bron, eithr syrthiodd yn onest, a chyfaddefodd wirionedd y cyhuddiad. Yn gymaint a bod cerydd yn angenrheidiol, a cherydd trwm hefyd am fai mor ysgeler, dyma un o'r blaenoriaid yn codi â chwip go drom, ac yn dechreu ei rhoi hi i Robyn yn lled chwimwth. Nid oedd Robyn, mwy na llawer eraill, yn teimlo y "cerydd dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd," am hyny y mae yn siglo, ac yn cynhyrfu, ac yn dyweyd wrth y gwr a'r chwip, "Chwi sydd yn gallu siarad, ai ïe? Pwy oedd y gwr giliodd o Sir Aberteifi â {{bar|2}}?" Wedi taro y diacon hwn ar ei drwyn ac ar ei fan tost, cododd un arall, i lachio ar Robyn, gan ddal ei drosedd mewn lliwiau aruthrol o'i flaen. Yr oedd y brawd hwn wedi dygwydd saethu at ryw un ag oedd yn dyfod o gwmpas y tŷ heb roesaw, ac y mae yn debyg i ychydig o'r ''shots'' fyned i dewder ei forddwydydd, a pheri cryn gynhwrf. Yr oedd Robyn yn gryn gydnabyddus â helynt y gymydogaeth, hen a diweddar, fel y gwyddai am bob ysmotyn du ar bawb, hwy a'u hynafiaid. Pan yr oedd hwn yn y weithred o arllwys ei felldithion ar Robyn am dyngu a rhegu, "Ah, ah," meddai Robyn, "pwy oedd y gwr saethodd y dyn pan yr oedd yn ymofyn y ferch, wn i yn y byd?" Wedi taro hwn ar ei fan gwan, a'r bobl yn methu dal y brofedigaeth, ond yn hollti allan gan chwerthin, dyma Mr. Richard yn codi yn sobr a difrifol iawn, gan ddywedyd fod y peth o bwys, ac na ddylid ei gymeryd yn ysgafn, yn gymaint a bod Robyn yn aelod, ac iddo syrthio i'r brofedigaeth o regu yn gyhoeddus; y dylid rhoi rhyw gerydd arno, er dangos anfoddlonrwydd ar y cyfryw ymddygiadau, fel y gweddai i Gristionogaeth. "Ah, ah," ebe Robyn, "pwy oedd y gwr ladratodd y wraig drwy y ffenestr?" Os drwg cyn hyn, aeth yn llawer gwaeth wed'yn, fel y gorfuwyd adael Robyn wrth ychydig o gerydd. Byddai Mr. Richard, o herwydd ei allu i siarad, ac yn yr arferiad o siarad cymaint, yn fynych yn cario allan lawer o bethau yn mhell y tu hwnt i derfynau gweddeidd-dra; ond rhyw bluf lleision yn nghyfansoddiad ei gymeriad oedd y rhai<noinclude><references/></noinclude> jnul93m7y7jvev2zrztgqzrir9rlzjd Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/272 104 84867 164737 2026-05-15T23:47:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164737 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyny, pan y delai allan i gymdeithas o ganol astudiaeth ddwfn a phryderwch calon. Onide, a'i gymeryd yn y cwbl, pwysigrwydd, prudd-der, gofal am bob peth, llafur diflino, a phenderfyniad diysgog, oedd elfenau ei gymeriad ef. Gwnai digrifwch weithiau, ar draul ambell ddyn, nes yr oedd yn anmhosibl i neb fod yn sobr, a gwneyd ei eithaf; ond er hyny nid oedd neb yn gofidio cymaint ag ef yn y canlyniad. Dywedir y byddai yn ocheneidio yn brudd pan y gwelai ei fod wedi cario pethau allan yn rhy bell, a thrwy hyny gynyrchu ysgafnder gormodol. Yn gymaint ag nad ydym yn meddwl ymwneyd ryw lawer â phethau traddodiadol am Mr. Richard, fe ddichon fod yr ychydig engreifftiau a roddwyd yn llawn ddigon er egluro rhyw beth dygwyddiadol oedd o gwmpas ei gymeriad, canys nid ydynt yn cyfansoddi un brif elfen, neu egwyddor hanfodol yn y cymeriad. Hefyd, mae y cyflawnder, bron diderfyn o ddefnyddiau sydd ger ein bron, yn gosod angenrheidrwydd arnom i dalfyru yn fwy nag y dymunem yn aml. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> oc36pj4pv68rsjxow2zscci4utko8dn Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/274 104 84868 164739 2026-05-16T00:03:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164739 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neb, nac wrtho ei hun ychwaith. Yr oedd Mr. Richard yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, er mwyn iddo gael ei effeithiau priodol ar y rhai y perthynai iddynt, ac er mwyn iddo ef ei hun hefyd fod yn "rhydd oddiwrth waed pawb oll." Y mae hwn yn bwne y dylid talu peth sylw iddo; a'r dyn ag sydd yn talu sylw priodol i hwn, nis gall lai na syrthio yn ysglyfaeth yn aml i dafodau dynion; ond wed'yn, fel pob gwynt arall o'r fath, y mae hwnw yn myned heibio yn fuan, a'r gwirionedd yn cymeryd ei le yn dawel yn nghydwybod cymdeithas. Y mae gan gymdeithas gydwybod; ac ar ol ychydig o helynt gyda'r peth hyn a'r peth arall, y mae yn dyfod o'r diwedd i gael ei brofi a'i benderfynu at gydwybod cymdeithas, y llys mawr hwnw lle y mae brenin yn gystal a deiliad yn sefyll ger ei fron; dedryd yr hon yn gyffredin sydd yn bur gywir, ac anhawdd ei throi yn ol. Yn nghynhyrfiad y foment, pan y bydd cymdeithas yn berwi fel crochan, y mae llawer un wedi goddef cam a cholled; eithr wedi i'r hen grochan ymlonyddu, a gwylltineb y foment wedi myned heibio, y mae yr achos eilwaith yn cael ei wysio i lys cydwybod cymdeithas; y tystiolaethau oll yn cael eu gogrynu i'r gwaelod, ac yn fynych barn fyrbwyll y cynhyrfiadau yn cael ei throi yn ei hol. Bu Mr. Richard yn cael ei brofi ganwaith yn chwil-lys y cynhyrfiadau, a'r barnwr cenfigen ar yr orsedd, am ddyweyd mwy o wir nag oedd pobl yn gallu dal; a chondemniwyd ef mor aml i ddirwy, carchar, a fflangellau; eithr erbyn heddyw y mae cydwybod cymdeithas wedi ei ryddhau, wedi ei gymeradwyo, ac wedi cyhoeddi dedryd mai efe oedd yn iawn, mai efe oedd yn cyflawni ei ddyledswyddau, ac yn gwasanaethu ei Arglwydd a'i genedlaeth. Gwelir heddyw fod ei eisiau, ond nid ydyw i'w gael; cyfeirir at ei ddefnyddioldeb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, ei onestrwydd, a'i ddidueddrwydd, fel pethau ynddo wedi myned i golli, a cholled nad ellir dyweyd ei maint ydyw. Ychydig iawn o ddynion mawr sydd yn cael cyfiawnder oddiar law cymdeithas yn eu dydd. Y maent, trwy ryw beth neu gilydd, yn effeithio cynhyrfiadau parhaus mewn cymdeithas, a hono yn berwi i fyny bob peth am draws eu gilydd, a'r cwbl am draws eu hewyllysiwr goreu. Eithr pan ymlonydda yr ymferwad, bydd y sylweddau trymion yn sefydlu i lawr ar y gwaelod. Yn awr, yn mhen dau can mlynedd, y mae yr anfarwol Cromwell yn dechreu cael cyfiawnder. Ar ol bwrw llwch arno am ychydig oesau yn y<noinclude><references/></noinclude> 7tctynswep0gs4wvjopn3b7m3mslqbt Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/275 104 84869 164740 2026-05-16T00:04:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164740 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cylchoedd mwyaf cynhyrfus, ac ar ol i hen grochan breninol Lloegr daflu dwfr berwedig malais arno am oes, y mae cydwybod oleuedig ein hoes ni yn cael yr anrhydedd o gondemnio ei erlidwyr, a gwneyd cyfiawnder å dyn mwyaf ei oes, os nid mwyaf unrhyw oes, gan roi ei le priodol iddo yn hanesyddiaeth ei wlad. Y mae Mr. Richard yn awr, pan yn gorwedd yn y bedd, yn dechreu cael ei gydnabod yn ddyn o ddefnydd mawr yn ei oes; canys wedi ei golli y gwelwyd ei eisiau; canys nid oes neb wedi dyfod i'r golwg hyd yn hyn allasai lanw ei le. Cyn iddo fyned, braidd na fuasai llawer ysgogyn yn barod i ddyweyd na fuasai yn golled yn y byd ar ei ei ol ef; ond rhyw un oedd ag eisiau rhagor o le oedd hwnw. Dyna y lle yn wag yn awr; ond yn mha le y mae y dyn sydd yn teimlo ar ei galon i neidio iddo? Pe bai y fath ynfytyn i gael, ni fyddai yno yn hir, canys byddai fel pêl yn cael ei droedio gan gymdeithas, neu fel asyn gwyllt yn cael ei hela nes ei ddifa yn llwyr. Chwi welwch (yn ei ddywediadau ar wahanol faterion) ei farn gywir am bethau, yn nghyda'i ofal manwl dros y gwirionedd. Mae ei feddylgarwch parhaus, a manylwch ei sylw yn dyfod i'r golwg yn mhob brawddeg; am hyny yr ydym yn eu gosod i egluro hyny yn benaf, heblaw eu bod yn wir werth i'r darllenydd. Yr ydym yn gosod Mr. Richard i ddyweyd llawer drosto ei hun, yn gymaint a'n bod yn meddwl nad oes yr un desgrifiad yn y byd o hono all wneyd hyny mor effeithiol. Gan ei fod yn cael siarad am bob peth yn ei eiriau ac yn ei ddull ei hun, bydd cyfleustra teg gan ein darllenwyr i weled gwahanol linellau ei gymeriad, a thynu eu casgliadau eu hunain oddiwrth y cwbl. Dysgu gan Grist sydd yn gwneyd dysgyblion i Grist. Mae y ddysgeidiaeth i gyd mewn un wers; hyny yw, gostyngeiddrwydd; hon yw y wers gyntaf i'w dysgu, ac y mae i'w pharhau holl ddyddiau ein bywyd. Hon yw y wers fwyaf; mae y lleill i gyd yn hon; hon yw y flaenaf a'r uchaf yn ysgol Crist; cyrhaedd hon yw cyrhaedd y ''clas''s uchelaf yn ngholeg yr Iesu. Prawf am y dysgwr goreu yw gweled nad yw wedi dysgu dim. Wrth bob tebyg y mae rhyw gyfnewidiad mawr i gymeryd lle heb fod yn mhell iawn yn y byd crefyddol, naill ai cyfyngu rhyddid trwy gaethiwed erledigaeth, neu ei helaethu trwy rym ysbryd Cristionogaeth. Mae fel pe bai gwaeyw dirdyniad yn y deyrnas hon mewn pethau crefyddol; am hyny edrychwn at yr Arglwydd, yr hwn sydd yn cuddio ei wyneb oddiwrth dŷ Israel. Dysgwyliwn wrth Dduw ein<noinclude><references/></noinclude> idvzxipcu1xqgnyf7noct9rg83ifh65 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/276 104 84870 164741 2026-05-16T00:06:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164741 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hiachawdwriaeth, canys efe a wrendy ei bobl, canys ynddo ef mae gobeithio bob amser. Duw yn Dad yw y cwbl am berthynas a gofal; Duw yn Dduw yw y cwbl am addoli; Duw yn Nghrist yn graig iachawdwriaeth yw y cwbl am fywyd tragywyddol; iaith hyn yw, A'm ceir ynddo ef! Ffugio cenad a chenadwri dros Dduw yw y ffugiad mwyaf sydd yn bosibl yn yr holl fyd; mwyaf ei berygl, a mwyaf ei ganlyniad. O gwared fi, Arglwydd daionus. Mae cymaint o eisiau Gwaredwr at fedru cynal a pherffeithio bywyd ysbrydol, ag sydd at ei roddi. Nid oes dim ond gwaredu yn achub. Mae yn rhaid am Grist yn Waredwr bob mynyd o fywyd credadyn, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y defnydd hyn o hono yw y gogoniant mwyaf arno. Llaw y Gwaredwr yw cwbl y colledig, nid yn unig i waredu oddiwrth bechodau, ond hefyd i gynal, i nerthu, ac i ddysgu i gyflawni dyledswyddau; i waredu oddiwrth ffordd y celwydd, gyda phob peth crefyddol, ac yn raslawn rhoddi ei gyfraith yn egwyddorion crefyddol. Mae yr amseroedd dyeithr a rhyfedd hyn dan bregethiad y gair yn dangos ac yn galw ar bawb Cristionogion at ddyledswyddau arbenig. Yn gyntaf ar bregethwyr y gair, i edrych yn ddyfal eu bod yn gywir, yn iawn gyfranu gair y gwirionedd; eu bod yn gywir yn y gwaith, fel y gweddai i Dduw, yn gynnrychiolwyr Crist; a'u bod yn gywir am ddyben y gwaith, yr hyn yw cadw, trwy gredu y gair a bregethir. Yn ail, ar henuriaid llywodraethol, i edrych yn ddyfal na byddo eglwys Dduw, yr hon yw tŷ Dduw, ddim yn cael ei oddef i fod yn ogof lladron. Yn drydydd, ar bawb a wisgant enw Cristionogion yn gyffredinol i beidio a chydffurfio â'r byd hwn, yr hyn yn amlwg a wneir i helaethrwydd mawr mewn ysbryd, geiriau, agweddau, ac arferion. Os clywir yr alwad uchel sydd at y dyledswyddau hyn, parotoir ffordd yr Arglwydd i'w rasol ymweliad; os na wneir, fe ellir dysgwyl moddion goruchwyliaeth arwach, a bâr i gnawdolrwydd y byd Cristionogol wybod pwy yw yr Arglwydd, yr hyn sydd warthrudd i Gristionogaeth y dyddiau hyn. Mae penarglwyddiaeth mewn cyflawni arwyddion; mae holl ofal Cristionogion i fod am eu dyledswyddau; mae y naill i ddynion, i Dduw mae y llall. Mae Pharisead a phublican yn mhob Cristion. Pharisead yw yr Adda cyntaf, hen ddyn y Cristion. Y publican yw yr ail Adda, y dyn newydd; nis gall y rhai hyn fod heb wrthwynebu eu gilydd; canys gwrthwyneb i'w gilydd yw eu holl gynwysiad, eu hegwyddorion, eu hunain, a'u hanfod oll. Mae yr elyniaeth sydd rhwng y ddau had yr un peth o ddechreu i ddiwedd y byd, heb newid, heneiddio, na gwellhau dim. Mae Cain yn lladd Abel yn barhaus; mae dawon Lot yn ei ddirmygu yn barhaus; mae Ahab yn blino Israel yn barhaus; mae Jezebel yn erlid Elias yn barhaus; mae Saul yn erlid Dafydd yn harhaus; mae taflu y llanciau i'r ffwrn danllyd yn barhaus; mae taflu Daniel i ffau y llewod yn barhaus; mae Herod yn ceisio lladd yr Iesu yn barhaus;<noinclude><references/></noinclude> 16lu2pmapj9l6eya8yahqdy31fe4qh1 Tudalen:Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen.djvu/277 104 84871 164742 2026-05-16T00:06:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 164742 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae Herod yn tori pen Ioan Fedyddiwr yn barhaus; mae Paul a Silas yn cael eu carcharu yn barhaus. Ambell waith y gwelir hyn; ond aml waith y mae hyn. "Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Mae yr un peth i'w bobl trwy holl oesoedd y byd, o'i ddechreu i'w ddiwedd; os nid yn yr un dull llythyrenol, eto yr un peth o ran cynwysiad rhinweddol. Mae yn gwaredu ei Lot o Sodom a'i Israel o'r Aipht; a'i gigfrain yn porthi Elias; mae yn gwaredu ei lanciau o'r ffwrn dân, a Daniel o ffau y llewod, a Job oddiwrth ei gam gyhuddwyr, a Moses oddiwrth ei genfigenwyr, a Dafydd oddiwrth ei watwarwyr, a Jeremiah oddiwrth ei ddirmygwyr, a Paul oddiwrth ei gernodwyr. Mae hyn yn cael ei wneyd yn barhaus; a hyn yw holl amddiffyn ei bobl brofedigaethus, ag sydd yn cadw meibion Jacob rhag eu dyfetha, "Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Ofnir yn nghylch gweddi rhag heb fod yn Nghrist, ac felly heb fod yn weddiwr; rhag bod heb weddio yn yr Ysbryd Glân, rhag nad yw ewyllys Duw yn gynwysiad gweddi, rhag nad yw dyben a nod gweddi yn ysbrydol, ac heb ddyfod at Dduw trwy Grist: oblegyd hyny, os gwneir yr ofnau hyn yn hysbys ger bron Duw, ni'n siomir, canys gorchymynir gwneyd ein deisyfiadau yn hysbys ger bron Duw am bob peth. Cymdeithasu â'r Arglwydd yn mhob peth yw bod yn ddiolchgar iddo am bob peth a fwynheir, ymostwng iddo dan bob peth a ddyoddefir, ymddiried ynddo yn wyneb pob peth a ofnir, dysgwyl wrtho am bob peth a ofynir. Mae natur y gymdeithas mewn mwynhad, i fod yn ol gweithrediad y gymdeithas. Nid yw ymostwng dan ddyoddefiadau, ac ymddiried ynddo yn wyneb ofnau, a dysgwyl wrtho am ateb deisyfiadau, mor ddyddanus cymdeithas a molianu yr Arglwydd am fwyniant cysurus; eto mae mor sylweddol gymdeithas, canys y mae yn ufudd-dod ffydd. Mae y fath beth ag i gydwybod bur wybod bod ei phob peth yr un peth a gwir Gristion, am gyflwr, am egwyddor, am ewyllys, am ddymuniad, am wirionedd yr athrawiaeth; am ddyledswyddau crefyddol, am fuchedd ymarweddol; ac eto mewn ofnau oddiwrth rym llygredigaethau, a byr brofiadau, grym annghrediniaeth, a thuedd gryf hunanoldeb, rhag nad yw y gwirionedd edd sydd sydd yn achubol ddim wedi ei feddu; yn wyneb hyn y mae hunan-ymholiad, gwyliadwriaeth, a gweddi i barhau mewn ymarferiad tra parhao y bywyd. Purdeb yr ysgrythyrau yw rheol a nod purdeb yr athrawiaeth; perffeithrwydd yr athrawiaeth yw rheol a nod ffydd gwir Gristion i gredu ac ymestyn i'w gyrhaedd; ac oblegyd mor lleied a gyrhaeddir mae yn peri ofn rhag bod heb gyrhaedd dim; eto fe ddylai gweiniaid yn y ffydd sydd yn wastad yn ofni pob peth, ystyried mai mewn rhan ac mewn ymdrech gorchestol y cyrhaeddir y perffeithrwydd hwn gan bawb yn y bywyd hwn. Mae dymuniadau a gweddiau am ei gyrhaedd yn brawf o'i feddu; er y dichon mai mewn rhan yr adwaenir hyn. Mae yn rhaid bod yn Gristion neu fod yn ddim; nid Cristion oblegyd enw, fel y gwneir gan feilchion cnawdol, ond enw oblegyd<noinclude><references/></noinclude> iyg9mva5f8r2q6brc1tcg046hcwyrx9