Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.3 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/98 104 83649 165518 162999 2026-05-22T19:53:41Z AlwynapHuw 1710 165518 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â Wil; ond erbyn i mi ailfeddwl nid ydyw yn syndod yn y byd. Ni welais yn fy mywyd fachgen â'r fath allu ganddo i osod ei hunan ar delerau da gyda phobl. Yr oedd ei gyfrwysdra, ei wyneb prydferth a siriol, ei osodiad dewr a chadarn, ei lais soniarus, ynghyd a'i dafod llyfn ac arabus, yn arfau a ddefnyddiai i bwrpas bob amser. Yr oedd yn deall fy mam i'r dim. Clywais hi yn dyweyd fwy nag unwaith pan fyddai yn isel ei hysbryd, fod ymweliad o eiddo Wil yn hanner ei mendio. Gwelais hi hefyd yn gwenu, ac yn gorfod gwneyd ymdrech galed i beidio chwerthin allan ar rai o sylwadau digrifol Wil, pryd y gwyddwn o'r goreu pe gwnaethwn i yr un sylwadau, ac hyd yn nôd yn yr un geiriau, y rhoisai fonclust i mi. Mi wn y teimlai hi yn fynych ei bod yn cyd-ddwyn yn ormodol â digrifwch Wil, ac fel i dawelu ei chydwybod, rhoddai iddo gynghorion buddiol. Gwasanaethed yr ymgom ganlynol fel engraifft o lawer o rai cyffelyb: "Wel, Wil bach, mi wnei lawer o dda neu o ddrwg yn y byd yma; a gobeithio'r anwyl y cei di dipyn o râs." "Mae digon o hono i'w gael, on'd oes, Mary Lewis? ond fydda' i byth yn leicio cymyd mwy na fy ''share'' o ddim, wyddoch." "Paid a siarad yn ysgafn, Wil; fedri di byth gael gormod o râs." "Felly y bydd y ''gaffer'' acw yn deyd yn wastad; ond dydi o ddim yn beth da, mi wyddoch, Mary Lewis, bod yn rhy ''having''. "Pwy ydi dy ''gaffer'' di, dywed?" gofynai fy mam. "On'd yr hen law acw; 'y nhad, wyddoch," ebe Wil. "Wil," ebe fy mam, gan edrych yn ddifrifol arno; "yr ydw i yn dy siarsio di i beidio galw dy dad yn ''gaffer'' ac yn 'hen law.' Weles i rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn 'hwnacw' ac yn honacw," neu yr 'hen law acw,' a'r 'hen wraig acw.' Paid di a gadel i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di." ''"All right,"'' meddai Wil; "y tro nesaf mi galwaf fo yn Hugh Bryan, Esquire, General Grocer and Provision Dealer, Baker to his Royal Highness yr Hen Grafwr, and—." Ond cyn iddo orphen ei stori byddai raid iddo wneyd y goreu o'i draed, a fy mam yn ei ddilyn gyda rhyw erfyn yn ei llaw. Ond er ei holl ddirieidi, ni theimlai fy mam yn ddig ato; a mynych y<noinclude><references/></noinclude> 7cfhduu3uu1uekw6r7x0k1sqbzmfv1l Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/99 104 83650 165526 163000 2026-05-22T20:13:45Z AlwynapHuw 1710 165526 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywedai, "Un garw ydi'r bachgen ene; pe ceuthe fo râs mi neuthe bregethwr nobl." Creai sylw fel hwn ychydig o eiddigedd ynof; oblegid ni ddywedai byth y gwnaethwn i bregethwr, er fod hyny yn ddymuniad penaf fy mywyd erbyn hyn; a gwyddwn nad oedd Wil yn dychymygu am fod yn bregethwr. Nid wyf yn meddwl i fy mam goleddu syniad is am Wil na'i fod yn fachgen dirieidus hyd nes iddo ddechre troi ei wallt oddiar ei dalcen, neu fel y dywedid y pryd hyny, "gwneyd Q. P."<ref>quiff parting</ref> Pan welodd hi rês wén ar ben Wil, ac arwyddion ei fod wedi rhoddi olew yn ei wallt, yr oedd ei dynged wedi ei phenderfynu am byth yn ei golwg. Gofidiwn yn fawr fod fy mam yn edrych ar yr innovation hwn mewn gwêdd mor bwysig; oblegid meddyliwn fod Wil yn edrych yn rhagorol yn ei Q. P; a hiraethwn am ganiatâd i'w efelychu. Yr oeddwn wedi llwyr flino ar y dull oedd gan fy mam i dori fy ngwallt, sef gosod cwpan fenyn fawr am fy mhen, a'i dori hefo ei hymylon, nes oeddwn yn edrych yn union yr un fath â chocyn gwenith newydd ei doi. Gwelais nad oedd gobaith am ddiwygiad yn y ffordd hon; a chôf genyf i fy mam wneyd y sylwadau canlynol wrth Wil Bryan pan welodd hi ei Q. P: "Wel, Wil bach, yr oeddwn i'n arfer meddwl dy fod yn fachgen lled dda er dy holl ysmaldod. Ond mi welaf fod y diafol wedi cael màn gwan arnat tithe." "Be ydi'r mater rwan, Mary Lewis? Ddaru mi ddim lladd neb yn ddiweddar, ai do?" gofynai Wil. "Naddo, mi obeithiaf," ebe fy mam; "ond y mae isio i ti ladd yr hen ddyn." "Pwy ydach chi'n feddwl, Mary Lewis? ai y gaffer acw? Na-na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law! Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu." "Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di." "Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw." "Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod." "Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil. "Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!' {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 41gwnomefeiu4oadd37aa2hat436cpi 165527 165526 2026-05-22T20:15:13Z AlwynapHuw 1710 165527 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywedai, "Un garw ydi'r bachgen ene; pe ceuthe fo râs mi neuthe bregethwr nobl." Creai sylw fel hwn ychydig o eiddigedd ynof; oblegid ni ddywedai byth y gwnaethwn i bregethwr, er fod hyny yn ddymuniad penaf fy mywyd erbyn hyn; a gwyddwn nad oedd Wil yn dychymygu am fod yn bregethwr. Nid wyf yn meddwl i fy mam goleddu syniad is am Wil na'i fod yn fachgen dirieidus hyd nes iddo ddechre troi ei wallt oddiar ei dalcen, neu fel y dywedid y pryd hyny, "gwneyd Q. P." Pan welodd hi rês wén ar ben Wil, ac arwyddion ei fod wedi rhoddi olew yn ei wallt, yr oedd ei dynged wedi ei phenderfynu am byth yn ei golwg. Gofidiwn yn fawr fod fy mam yn edrych ar yr innovation hwn mewn gwêdd mor bwysig; oblegid meddyliwn fod Wil yn edrych yn rhagorol yn ei Q. P; a hiraethwn am ganiatâd i'w efelychu. Yr oeddwn wedi llwyr flino ar y dull oedd gan fy mam i dori fy ngwallt, sef gosod cwpan fenyn fawr am fy mhen, a'i dori hefo ei hymylon, nes oeddwn yn edrych yn union yr un fath â chocyn gwenith newydd ei doi. Gwelais nad oedd gobaith am ddiwygiad yn y ffordd hon; a chôf genyf i fy mam wneyd y sylwadau canlynol wrth Wil Bryan pan welodd hi ei Q. P: "Wel, Wil bach, yr oeddwn i'n arfer meddwl dy fod yn fachgen lled dda er dy holl ysmaldod. Ond mi welaf fod y diafol wedi cael màn gwan arnat tithe." "Be ydi'r mater rwan, Mary Lewis? Ddaru mi ddim lladd neb yn ddiweddar, ai do?" gofynai Wil. "Naddo, mi obeithiaf," ebe fy mam; "ond y mae isio i ti ladd yr hen ddyn." "Pwy ydach chi'n feddwl, Mary Lewis? ai y gaffer acw? Na-na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law! Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu." "Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di." "Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw." "Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod." "Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil. "Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!' {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> g1lu8hs5gnz9fihed4nt53ck6oqgc71 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/125 104 83669 165560 163021 2026-05-22T21:32:30Z AlwynapHuw 1710 165560 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar ein ffordd, a chryn bwysigrwydd yn ei edrychiad, "Brawd Robert Lewis; brawd Robert Lewis!" a chyda'r gair yr oedd y bobl yn gwneyd llwybr i ni i fyned heibio yn union, fel pe buaswn yn myned i roddi tystiolaeth yn yr achos. Nid oedd terfyn ar ddyfeisiau Wil. Gwyddwn fod Mr. Strangle wedi dychwelyd ychydig oriau ar ol iddo gael ei anfon ymaith; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a welwn yn y llys; ac edrychai yn sarug a herfeiddiol. Ar y fainc, eisteddai Mr. Brown y person, a gŵr y Plas. Fel y sylwais o'r blaen, gŵr rhadlawn a charedig oedd Mr. Brown; ond cwbl wahanol ydoedd cymeriad gŵr y Plas. Dyn mawr, afrosgo, meistrolgar, ac annhrugarog oedd efe. Tybiai, gellid meddwl, fod pawb a phobpeth wedi eu creu i'w wasanaethu ef; a chredid pe buasai y gyfraith yn caniatâu, na fuasai yn petruso crogi dyn am ladd pheasant. Yr oedd gerwindeb ei natur fileinig fel pe buasai wedi ei dyfrhâu-neu yn hytrach ei gwînhâu-yn rhy fynych, ac mewn canlyniad wedi gordyfu trwy groen ei wyneb, yr hwn a ymddangosai fel darn anmrwd o ''American beef''. Addurnid (?) ei wyneb a chlamp o drwyn mawr, yn yr hwn yr oedd math o gryndod parhaus, a thrwy yr hwn yr oedd ei berchenog, pan fyddai wedi ei gynhyrfu, yn ffroeni fel rhyfelfarch. Methwyd erioed a chael allan pa gymhwysderau eraill a osododd ŵr y Plas ar y fainc farnol, heblaw ei fod yn Dori rhonc, yn Eglwyswr zelog, yn ŵr cyfoethog, a'r ffaith ei fod bob amser yn gwisgo yspardynau oddieithr pan fyddai yn ei wely. Addefai hyd yn nôd Mr. Brown fod arno ei arswyd; a sylwais fy hunan pan fyddai y gŵr tirion a pharchedig yn ymddiddan âg ef ar yr heol ei fod yn barhâus yn edrych yn ammheus ac yn wyliadwrus ar yr yspardynau, fel pe buasai yn ofni i'r gwisgwr neidio yn sydyn ar ei gefn a'i yru i'r—wel, i'r lle yr oedd y gwisgwr ei hun yn myned yn gyflym, ysywaeth. Ymddangosai y bore Llun hwnw "yn ei figwrn," fel y dywedai Wil Bryan. Yr oedd cael ychydig o'r glöwyr druain o'i flaen yn ysglyfaeth flasus ganddo, am y credai eu bod oll yn herwhelwyr. Gwyddai y rhai a fynent wybod nad oedd ond tri o'r chwe charcharor oedd o'i flaen wedi cymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Mr. Strangle. Ymdrechasai Morris Hughes, John Powell, a fy mrawd, attal y ffolineb. Ond tystiai Mr. Strangle a'r ddau heddgeidwad fod y tri yn benaf gwŷr yn y gwaith anfad; ac er na ddeallai y goruchwyliwr na'r heddgeidwaid<noinclude><references/></noinclude> cht9ry2q5i2h8sd5c7pd2sm70tav6kf Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/115 104 83679 165555 163032 2026-05-22T21:23:44Z AlwynapHuw 1710 165555 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn oddiamgylch eu rhyddid a'u lleshad, pobpeth yn dda. Nid ydwyf wedi dyweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu ac yn ei deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac {{bar|2}" "Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di." "Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn." "Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles. "Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth" "Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> j4lyahbq6x81amsi3vvoxi3nm48gro1 165557 165555 2026-05-22T21:26:05Z AlwynapHuw 1710 165557 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn oddiamgylch eu rhyddid a'u lleshad, pobpeth yn dda. Nid ydwyf wedi dyweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu ac yn ei deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac {{bar|2}}}" "Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di." "Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn." "Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles. "Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth" "Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> m1u4w2eg6x1ak33lw18tb64f0cswfbq Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/160 104 83699 165604 163178 2026-05-23T01:42:10Z AlwynapHuw 1710 165604 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam, Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan." "Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig." "Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel. "Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel. "Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny." "Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed? "Bob," ebe finnau yn wylaidd. "Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?" Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. "Medraf addition, substraction, multiplication, a division of money." "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam. "O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel. {{nop}}<noinclude></noinclude> g91cluzpv3mbytznxjndl634h7zqnts 165605 165604 2026-05-23T01:42:52Z AlwynapHuw 1710 165605 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam, Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan." "Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig." "Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel. "Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel. "Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny." "Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed? "Bob," ebe finnau yn wylaidd. "Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?" Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. "Medraf ''addition, substraction, multiplication, a division of money."'' "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam. "O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel. {{nop}}<noinclude></noinclude> bl5bu0vh965b2suji715lq27ni1n2qd Indecs:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu 106 85278 165466 165409 2026-05-22T15:11:33Z AlwynapHuw 1710 165466 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel |Author=Daniel Owen |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1885 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Llyfrau 1885]] [[Categori:Nofelau]] [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel]] [[Categori:Tudalen Indecs]] [[Categori:PD-old]] 72sgohypz0kkuhhw7zuoqnhq7r5j10v Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/1 104 85279 165467 165410 2026-05-22T15:12:46Z AlwynapHuw 1710 165467 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nvx4d6ukk06p7vtzw0b3h3s6kzqou5v Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/10 104 85288 165420 2026-05-22T12:12:21Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 165420 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/11 104 85289 165421 2026-05-22T12:16:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165421 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYNNWYSIAD.}}}} {{Center block/s}} <poem> RHAGARWEINIAD I COFIAINT. II. Y CYFNOD CYNTAF AR FY OES III. COFION BOREUAF IV. EVAN JONES, HWSMON GWERNYFFYNNON V. Y CYFARFOD PLANT VI. Y GWYDDEL VII. Y DDWY YSGOL. VIII. O DAN ADDYSG IX. MATERION EGLWYSIG XY PWNGC O ADDYSG XI. WIL BRYAN AR NATUR EGLWYS XII. AR YR AELWYD. XIII. SETH XIV. WIL BRYAN XV. DECHREUAD GOFIDIAU. XVL DYDD Y BROFEDIGAETH XVIL YCHWANEG O BROFEDIGAETHAU XVIII. THOMAS A BARBARA BARTLEY XIX. ABEL HUGHES XX. PERSON Y PLWYF </poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude> msktd5j5kj53rlspl0d0fldaigq11gq Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/12 104 85290 165422 2026-05-22T12:19:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165422 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem> XXI DYCHWELEDIGION XXII. YMWELIAD MWY NAG UN PERTHYNAS XXIII BOB XXIV. ADGOFION PRUDD A DYDDANOL XXV. MARWNAD RYDDIAETHOL XXVI. DIRYWIAD A DRYCHIOLAETH XXVIL DYDDIAU TYWYLLWCH XXVIII. Y MEISTR A'R GWAS XXIX. CYNGHOR Y GLANHAWR CLOCIAU XXX. YR HERWHELIWR XXXI. DAFYDD DAFIS XXXII. AMLDER CYNGHORWYR XXXIII. YCHWANEG AM WIL BRYAN XXXIV. THOMAS BARTLEY AR ADDYSG ATHROFAOL XXXV. HELBULUS XXXVI. CYMERIAD ADNABYDDUS XXXVII. YMWELIAD THOMAS BARTLEY A'R BALA XXXVIII. CYFARFYDDIAD FFORTUNUS XXXIX. WIL BRYAN YN EI GASTELL XL HUNANGOFIANT WIL BRYAN XLL Y TRO CYNTAF A'R TRO OLAF XLIL GWEINIDOG BETHEL </poem> {{Div end}} <br><noinclude><references/></noinclude> bh0kl2h1r7cx7ctkeugrxngpu260wmu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/13 104 85291 165423 2026-05-22T12:34:57Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165423 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|{{Mmm-mawr|HUNANGOFIANT RHYS LEWIS.}}{{Mm-mawr|Gweinidog Bethel.}}}} {{Lein|10em}} {{c|{{mawr|RHAGARWEINIAD.}} MAE Gweinidog Bethel, er ys peth amser bellach, yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn. Yn ei ddydd ystyrid ef yn ŵr call a diymhongar; a gwyddai y rhai a'i hadwaenent oreu fod mwy ynddo nag oedd yn dyfod i'r golwg. Er ei fod, fel gweinidog yr efengyl, yn "ddyn cyhoeddus," fel y dywedir, ni byddai byth yn chwannog i ddangos ei hun. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, a hyny yn benaf am nad allai ganu, yr hyn oedd yn anffawd fawr iddo. Serch hyny, byddai ganddo ef bob amser rywbeth gwerth ei wrandaw; a chlywais ddynion o farn addfed yn dywedyd, y buasai ei bregethan "mewn preint" yn sefyll cymhariaeth ffafriol â goreuon y pulpud Cymreig. 'Yn wir, tadogid yr ychydig erthyglau a ysgrifenodd efe i'r ''Traethodydd'' i'r Dr. {{bar|2}}; a darllenid hwy gyda blâs. Yr oedd hyn yn y cyfnod pan na chyhoedid enwau yr awduron yn y chwarterolyn gwerthfawr hwnw. Dichon pe cyhoeddasid yr enwau y pryd hwnw, na fuasai neb yn myned i'r drafferth i ddarllen ysgrifau Rhys Lewis. Fel bugail bu yn lled hapus a llwyddiannus. Ond y mae yn rhaid cydnabod nad oedd hyny ond dygwyddiad; oblegid y prif reswm am y ffaith oedd, fod mwyafrif yr eglwys yr oedd efe yn weinidog iddi yn meddu gradd helaeth o synwyr cyffredin, ac ychydig o deimlad cristionogol. Er fod Rhys Lewis yn ŵr hywaeth a chymdeithasgar iawn gyda y rhai yr oedd efe yn weddol hyf arnynt, eto ei, hoff fan oedd<noinclude><references/></noinclude> d8ug8pzrxfhfn24tn7e7xfz7dwgu59m 165424 165423 2026-05-22T12:35:35Z AlwynapHuw 1710 165424 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|{{Mmm-mawr|HUNANGOFIANT RHYS LEWIS.}}<br>{{Mm-mawr|Gweinidog Bethel.}}}} {{Lein|10em}} {{c|{{mawr|RHAGARWEINIAD.}}}} MAE Gweinidog Bethel, er ys peth amser bellach, yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn. Yn ei ddydd ystyrid ef yn ŵr call a diymhongar; a gwyddai y rhai a'i hadwaenent oreu fod mwy ynddo nag oedd yn dyfod i'r golwg. Er ei fod, fel gweinidog yr efengyl, yn "ddyn cyhoeddus," fel y dywedir, ni byddai byth yn chwannog i ddangos ei hun. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, a hyny yn benaf am nad allai ganu, yr hyn oedd yn anffawd fawr iddo. Serch hyny, byddai ganddo ef bob amser rywbeth gwerth ei wrandaw; a chlywais ddynion o farn addfed yn dywedyd, y buasai ei bregethan "mewn preint" yn sefyll cymhariaeth ffafriol â goreuon y pulpud Cymreig. 'Yn wir, tadogid yr ychydig erthyglau a ysgrifenodd efe i'r ''Traethodydd'' i'r Dr. {{bar|2}}; a darllenid hwy gyda blâs. Yr oedd hyn yn y cyfnod pan na chyhoedid enwau yr awduron yn y chwarterolyn gwerthfawr hwnw. Dichon pe cyhoeddasid yr enwau y pryd hwnw, na fuasai neb yn myned i'r drafferth i ddarllen ysgrifau Rhys Lewis. Fel bugail bu yn lled hapus a llwyddiannus. Ond y mae yn rhaid cydnabod nad oedd hyny ond dygwyddiad; oblegid y prif reswm am y ffaith oedd, fod mwyafrif yr eglwys yr oedd efe yn weinidog iddi yn meddu gradd helaeth o synwyr cyffredin, ac ychydig o deimlad cristionogol. Er fod Rhys Lewis yn ŵr hywaeth a chymdeithasgar iawn gyda y rhai yr oedd efe yn weddol hyf arnynt, eto ei, hoff fan oedd<noinclude><references/></noinclude> pgsx19bmvsj81wp5oj5e1z0zai1h766 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/14 104 85292 165425 2026-05-22T12:42:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165425 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>unigrwydd ei fyfyrgell. Ar adegau byddai yn anghofio ei hun, ac yn rhoi ffordd yn ormodol i'r duedd hon at neillduaeth; ac ar fwy nag un achlysur bu raid i'r diaconiaid alw ei sylw at ei ddyledswyddau cyhoeddus. Blinid ef weithiau gan iselder ysbryd; a thybiai rhai fod rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl nad oedd hyd yn nôd ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn hysbys o hono, tra y dywedai eraill mai anhwyldeb ar ei ''nervous system'' oedd yr achos. Dichon y bydd yr hanes canlynol, o'i waith ef ei hun, yn taflu rhyw gymaint o oleuni pa un o'r ddwy dybiaeth oedd yn gywir. Bu gweinidog Bethel farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, ac heb flotyn ar ei gymeriad, a thra nad oedd efe ond cymharol ieuanc. Yn ddiweddar, pan oeddwn o dan gyfarwyddyd ei esgutores yn trefnu ei lyfrau gogyfer 'u gwerthiant, tarewais ar ysgrif drwchus; ac wedi ei harchwilio cefais mai hunangofiant ydoedd. Gan dybied y gallai fod yn yr ysgrif rywbeth o ddyddordeb, ac wedi cael caniatâd ysgutores yr ymadawedig, cymerais yr ysgrif gyda mi gartref; a phan gefais hamdden, darllenais hi yn fanwl. Heblaw fod awdwr y cofiant yn dyweyd hyny yn bendant (fel y ceir gweled eto), y mae yn ddigon amlwg oddiwrth arddull a chymwys yr ysgrif, na fwriadai efe iddi gael ei hargraffu. Pa fodd bynag, cefais i fy hun y fath foddhad wrth ddarllen yr hunangofiant, a barodd i mi ofyn caniatâd i'w gyhoeddi; ac yr wyf yn awr yn ei gyflwyno i'r cyhoedd, gan hyderu y bydd iddynt hwythau gael yr un boddhad. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo fod ''apology'' dros yr hanes yn ddyledus. Mae y pennodau cyntaf braidd yn ysgafn a phlentynaidd, er yn ddiniwed, ac, fel yr wyf yn credu, yn ffyddlawn i natur, ac yn mynegu profiad llawer un. Fel y mae yr hanes yn myned ymlaen, y mae yn dyfod yn fwy sylweddol, ac yn cynnwys desgrifiadau o hen gymeriadau hynod a chrefyddol. Cymerais fy rhyddid, o herwydd rhesymau neillduol, i newid enw yr awdwr, ac eraill y mae yn sôn am danynt. Nid oeddwn yn teimlo fod genyf hawl i wneyd ychwaneg o gyfnewidiadau. Os bydd y darllenydd yn canfod rhyw bethau heb fod yn unol â'i feddwl, ac yn tuedda i dramgwyddo wrth yr arddull rhydd. sydd weithiau yn ymylu ar y digrifol, ac hefyd y gorfanylder a ddangosir wrth ddesgrifio pethau bychain, dymunwn iddo gofio yn barhaus na fwriadodd yr awdwr i'r hanes gael ei argraffu. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d5j31xpxomxu447scl4u92nh7wg3ygw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/15 104 85293 165426 2026-05-22T12:44:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165426 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD I.<br>''Cofaint.''}}}} Yn ystod fy oes darllenais amryw gofiaint, ac nis gallaf byth fesur na phrisio y difyrwch a'r lles a gefais trwy hyny. Dichon fod llawn cymaint o dalent, ac o synwyr yn enwedig, yn cael eu harddangos mewn bwygraffiaeth ag sydd mewn unrhyw gangen o lenyddiaeth, am y rheswm, dybygid, fod yn rhaid i'r awdwr wybod rhywbeth am ei destyn, yr hyn, fel yr ymddengys, nad ydyw yn anhebgorol gyda changenau eraill; oblegid pa mor fynych yr ydys yn cael dynion yn ysgrifenu ar bynciau na wyddant ddim yn eu cylch? Ar yr un pryd, er mor alluog a ffyddlawn y desgrifiai y cofiantydd gymeriad cyhoeddus ei wrthddrych, gofidiwn yn fynych wrth feddwl mor ychydig a wyddai efe, wedi'r cwbl, am deimladau a hanes mewnol yr un y byddai yn son am dano. Teimlwn hefyd mor dda a fuasai gan y cofiantydd, yn gystal a'r darllenydd, gael gofyn ychydig gwestiynau i'r hwn oedd bellach yn gorwedd yn ei ddystaw fedd. Ac yn hyn y mae gan hunangofiant fantais fawr ar gofiant cyffredin. Ond wedi ail ystyried, yr wyf yn tybied mai cofiant wedi ei ysgrifenu gan arall, ac nid gan y gwrthddrych ei hun, ydyw y cywiraf ar y cyfan. Gwir fod teimladau a defnyddiau wrth alwad y dyn sydd yn ysgrifenu ei hanes ei hun nad all un arall, gan nad beth fyddo ei alluoedd a'i ffyddlondeb, byth eu dyfalu. Ond er hyny, pan fyddo un yn ysgrifenu ei hanes ei hun, ac ar yr un pryd yn ymwybodol fod yr hanes hwnw i gael ei gyhoeddi, os bydd yn ŵr coeth a llednais, meddiennir ef gan wyleidd-dra ac ofn i eraill dybied ei fod yn gorbrisio ei hun, a'r canlyniad fydd nad ydyw yn hawlio iddo ei hun yr enw a'r lle a roisid iddo gan arall. Meddyliais lawer gwaith mor dda a fuasai genyf gael gofiant cywir o fywyd dyn cyffredin fel fy hunan. Yr holl gofiaint a ddarllenais i, yr oedd eu gwrthddrychau yn ddynion mawr a hynod mewn rhywbeth neu gilydd, ac wedi bod yn troi mewn cylchoedd na buaswn i erioed ynddynt, a myned trwy amgylchiadau na wyddwn i ddim am danynt. Ac er o bosibl mai hyn oedd yn eu gwneyd yn wrthddrychau gwerth ysgrifenu cofiant o honynt, teimlwn ar yr un pryd mor<noinclude><references/></noinclude> 430fq8ldmfu8pud618xxvmvv15to5yh Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/16 104 85294 165427 2026-05-22T12:44:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165427 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyfryd a fuasai genyf gael darllen hanes dyn cyffredin—un wedi bod yn troi yn yr un cylchoedd a chyfarfod yr un profedigaethau â mi fy hun. Onid oes yma ddosbarth o feddyliau a theimladau na roddwyd mynegiad iddynt erioed, a hyny o herwydd eu cyffredinedd, yr un modd ag mae llawer o brydferthion natur heb dynu sylw am eu bod i'w gweled ymhobman? Ai amddifadrwydd o brydferthwch ydyw y rheswm fod llygad-y-dydd heb dynu sylw y blodeuydd, ac ennyn molawd y bardd, ai ynte am ei fod i'w weled ar bob cae, ac am ei fod yn cael ei sathru gan bob buwch? Pe dechreuai y robyn goch a'r ysnosen felen draethu ar brydferthwch anian, deuai tlysni y friallen wyllt am ran helaeth yn ei canmolaeth, er mai y cloddiau anamaethedig a addurnir ganddi hi. Tueddir fi i feddwl nad oes odid un dyn na fyddai hanes gonest o'i fywyd yn ddyddorol. Onid oes yn mywyd pob dyn ddygwyddiadau gwerth eu croniclo, a meddlyliau wedi bod yn ei galon, na ddarfu iddo ef ei hun na neb arall roddi mynegiad iddynt? Bum yn meddwl lawer gwaith mai un gwahaniaeth mawr rhwng dyn cyffredin a dyn anghyffredin ydyw, fod yr olaf yn gallu mynegu yr hyn y mae efe wedi ei feddwl a'i deimlo, tra nad all blaenaf, neu o leiaf na cheisiodd, wneyd hyny. Yr hyn a barai i mi feddwl felly oedd hyn: pan fyddwn yn darllen awdwyr enwog, neu ynte yn gwrando ar feistriaid y gynnulleidfa, teimlwn yn gyffredin nad oeddynt yn dyweyd dim oedd yn hollol newydd i mi, eithr yn unig eu bod yn gallu rhoddi ffurf, a gosod mewn geiriau, yr hyn yr oeddwn i fy hun eisoes wedi ei deimlo neu ei feddwl, ond na fedraswn roddi mynegiad iddo. Neu, mewn geiriau eraill, eu bod yn gallu darllen llêch fy nghalon, yr hon yr oeddwn i am flynyddau wedi bod yn ceisio ei sillebu. Yr oeddwn yn ymwybodol fod y meddyliau a'r teimladau eisoes yn fy nghalon, ond eu bod yn cysgu, neu yn hytrach yn hepian, ac mai yr unig beth yr oedd y meistriaid yn gallu ei wneyd oedd curo drws eu hystafell wely mor effeithiol nes yr oedd y cysgaduriaid yn neidio i'r llawr ac yn agor eu llygaid ! Mae arnaf flys ysgrifenu hanes fy mywyd fy hun, nid i eraill, ond i mi fy hun; ac yn sicr nid i'w argraffu, ond yn hytrach fel math o hunangymundeb. Gwn yn eithaf da nad oes berygl i neb wneyd cofiant o honof wedi i mi farw. Can' mlynedd i heddyw, ni bydd y byd yn gwybod mwy am danaf na phe buaswn erioed wedi bod<noinclude><references/></noinclude> 2hc1bhsaq0wlr9d1vyni3m8293km6th Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/17 104 85295 165428 2026-05-22T12:50:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165428 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynddo. Gyda miloedd ar filoedd o'm cydoeswyr, byddaf y pryd hyny yn gorwedd yn dawel yn nystawrwydd dinodedd ac anghof. Ac eto nid wyf yn hoffi meddwl am hyn. Eithr pa help sydd, gan mai hon ydyw ffawd pawb o honom ni y bobl gyffredin? Pa beth ydyw yr achos, tybed, fod dyn mor anfoddlawn i'w enw syrthio i anghof wedi iddo farw, pryd nad all cof nac anghof wneyd da na drwg iddo? Mae y meirw, dybygaf, yn cael llawn cymaint o foddhâd yn y gareg sydd yn nodi eu beddrod ag y mae y cyfeillion tyner sydd yn ei gosod yno. Mae esgyrn y meirw yn gorwedd yn fwy tawel os bydd coffadwriaeth uwch eu pen! Anfarwoldeb a oes a wnelych di rywbeth â hyn? Yr wyf am ysgrifenu fy hanes, meddaf, nid i'w argraffu—diolch am hyny! - oblegid pe felly, nid allwn ddyweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, gan y byddwn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio y darllenydd yn gystal a mi fy hun. Rhys, beth a ddywedi am danant dy hun? Cofia ddyweyd y gwir. Hyny a wnaf; ac os cyferfydd câr neu gyfaill i mi â'r ysgrifen hon, gwybydded nad oes genyf air i'w dynu yn ol. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD II.<br>''Y Cyfnod Cyntaf ar fy Oes.''}}}} PAN darawyd fi gyntaf gan y drychfeddwl i ysgrifenu hanes fy mywyd fy hunan, tybiais y gallwn wneyd hyny heb gymorth neb byw bedyddiol. Mor ynfyd oeddwn! Gwelaf wrth ddechre ar y gwaith y bydd raid i mi ymddibynu yn hollol ar dystiolaeth eraill gyda golwg ar y rhan flaenaf o'm hoes; a chan fy mod yn benderfynol o geisio ymgadw at ffeithiau, rhaid i mi addef wrthyf fy hun nad ydwyf yn cofio dim am yr adeg y daethum gyntaf i'r byd. Yn ngwyneb y diffyg hwn o eiddo fy nghof, yr wyf yn meddwl y y gallaf ymddiried yn gwbl yn ngeirwiredd fy mam. Dywedodd hi wrthyf fwy nag unwaith mai rhwng dau a thri o'r gloch yn y bore, ar y pummed dydd o Hydref, yn y flwyddyn 18— y gwelais gyntaf oleuni canwyll ddimai. Pa un ai teimlo yn dramgwyddedig o <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> ja5obw3xxzow31j3kfjcy5tzqhg4r73 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/18 104 85296 165429 2026-05-22T12:52:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165429 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>herwydd fod y parotoadau ar gyfer fy nyfodiad mor salw, neu ynte rywbeth arall, a barodd i mi fod mor groes fy nhymher, a gwaeddi ac ysgrechian hyd eithaf fy ngallu ar ddechre fy oes, nid allai y ddwy gymydoges oeddynt yn y fan a'r lle benderfynu. Pa fodd bynag, ystyrid fi gan y ddwy gymydoges grybwylledig yn un hollol ddideimlad ac anystyriol, pan wnawn y fath drwst, a minnau yn gwybod, neu o leiaf y dylaswn wybod, fod fy mam mor wael y bore hwnw. Gwn hyn-nad ymgynghorwyd â fi o gwbl gyda golwg ar yr amgylchiad y cyfeiriais ato; a dichon mai hyny a barodd i mi fod mor afrywiog fy natur. Wrth gwrs nid yw hyn ond dyfaliad, ac nis gallaf ei osod i lawr fel ffaith. Oni buasai fy mod yn berffaith sicr na byddai fy mam un amser yn dyweyd yr hyn nad oedd wir, o'r braidd y gallwn gredu fy mod yn y cyfnod hwn ar fy mywyd fel yr wyf agos yn awr, sef yn hollol benfoel a diddannedd, ac hefyd fod fy nhrwyn, yr hwn a ystyrir yn gyffredin yn Rhufeinig o ran ffurf—ei fod, meddaf, y pryd hwnw, nid yn unig yn fflat, ond fel newyddloer â'i dau big i fyny, a fy mod mor gnawdol, fel yr oedd tyllau yn fy mhenelinoedd a'm pengliniau, lle nad oes yn awr, byd a'i gŵyr, ond esgyrn pigfaen i'w canfod. Nid wyf yn cofio ychwaith am gyfnod pryd nad allwn a phan nad oeddwn yn weddol barod i gerdded; ond dywedodd fy mam wrthyf fy mod ar un adeg yn gwbl wrthwynebol i hyny, ac na wnawn ond gorwedd ar fy nghefn a gwaeddi a chicio, os na fyddai rhywun yn fy nghario. Mae yn ddrwg genyf fy mod yn euog o'r fath ymddygiadau, er nad oes genyf un cof am danynt. Rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn fod tair blynedd o fy oes wedi myned heibio na wn ddim yn eu cylch oddiar fy nghof; a phe byddai y rhai a'm hadwaenent oreu yr adeg hono, ac yn ngeirwiredd y rhai y gallwn ymddiried, yn rhoddi y cyhuddiadau gwaethaf yn fy erbyn, ni fyddai genyf ddim i'w wneyd ond eu credu. Ai onid oedd genyf y pryd hwnw reswm, cof, a theimlad? Ai lwmp o glai byw oeddwn? Os felly, o ba le y daeth i mi reswm, cof, a phethau cyffelyb? Un peth a feddwn, mi wn, oddiar dystiolaeth fy mam—ac y mae arnaf ofn fy mod yn ei feddu heddyw i raddau gormodol—sef yw hyny, drygioni. Torais, ebe hi, lawer o lestri; a gwn ei bod yn dyweyd y gwir: chwilfriwiais yr ychydig arddurniadau a feddai, cripiais wynebau a thynais wallt amryw o'm perthynasau a'm<noinclude><references/></noinclude> nt7sfmdb8jcr7pi1w111aqd2lbs1r9x Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/19 104 85297 165430 2026-05-22T13:01:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165430 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymydogion. Tynais glustdlws un ferch ieuanc yn glir drwy ei chnawd, nes oedd y gwaed yn pistyllio ar ei hysgwydd. Lleddais dair o gathod bychain trwy wasgu y gwynt allan o honynt; a chyflawnais amryw ystrywiau eraill na wiw i mi hyd yn nôd eu cyfaddef wrthyf fy hun, er nad wyf yn teimlo euogrwydd o'u herwydd. Yr hyn sydd yn fy synu fwyaf ydyw, fod pawb wedi cymeryd i fyny gyda mi, ac ymddwyn tuag ataf fel pe buaswn yn dwyn llawer o elw iddynt, pryd mewn gwirionedd nad oeddwn yn dda i ddim. Nid yn unig nid oeddwn yn dwyn dim elw i neb, ond achoswn lawer o flinder a thrafferth. Collodd fy mam lawer noswaith o gysgu o'm herwydd; ac ugeiniau o weithiau y bu raid iddi godi gefn nos i wneyd tê slecyn i mi. Ar adegau gwaeddwn am oriau bwygilydd; ac o herwydd fy mod wedi cymeryd yn fy mhen i beidio siarad am gryn ddwy flynedd, ni wyddai neb am ba beth y gwaeddwn. Ac er y cwbl, clywais fy mam yn dyweyd na chymerasai y byd am danaf, hyd yn nôd pan waeddwn fwyaf. Yr oeddwn yn dalp o blentyn tewdrwm, ac ystyried fy mod yn byw ymron yn hollol ar laeth ; ac er fy mod mor drwm, ymgystadleuai fy nghymydogion yn fy nghario. Ymddengys fy mod yn hoffi bod heb ddannedd; oblegyd pan ddechreuodd yr aelodau hyny wneyd eu hymddangosiad, yr oeddwn yn flin iawn fy ysbryd, yn gymaint felly nes y curiodd fy nghnawd. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi rhoi ffordd mor fawr i natur ddrwg nes i mi o'r diwedd gael ''convulsions.'' Mor ynfyd oeddwn! Gwyn fyd na chawn y cyfleusdra i dyfu dannedd yrwan! Ond y mae un fantais o fod fel yr ydwyf yn awr: ni fedr neb daflu dim "ar draws fy nannedd!" Wel, dyna ddigon am y cyfnod nad oes genyf un cof am dano; a gwell o lawer genyf droi at yr amser y gwn rywbeth yn ei gylch oddiar fy mhrofiad a'm cof. {{nop}} <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|PENNOD III.<br>{{mawr|''Cofion Boreuaf.''}}}} Yr wyf yn meddwl, ie, yr wyf yn sicr o ran hyny, mai un o'r pethau cyntaf yr wyf yn gofio ydyw myned gyda fy mam i'r capel. <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 94vsu5rgpreveci28pyl8u5austv3jt Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/20 104 85298 165431 2026-05-22T13:04:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165431 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid ydyw yn ddrwg genyf fod fy nghofion cyntaf ynglyn â'r capel mawr. Yr hen gapel anwyl! ti a adewaist lawer argraff ar fy nghof, ac ar fy nghydwybod hefyd, mi obeithiaf. Pa un ai y cyntaf, yr ail, neu yr ugeinfed tro i mi fyned yno, neu ynte amryw droion wedi ymdoddi i'w gilydd a adawodd argraff mor ddwfn ar fy meddwl, nis gallaf yn awr benderfynu. Ond sier wyf fy mod yn cofio myned yn llaw fy mam i'r capel, a fy mod yn gweled y ffordd yn faith iawn—a fy mod wedi mynu cael fy nghario ran fawr o'r siwrnai. Tebygol mai nos Sabboth ydoedd; oblegid yr oedd y capel yn llawn o bobl, ac hefyd wedi eu oleuo, nid â ''gas'' y pryd hwnw, eithr â chanwyllau. Brawychais weled cynnifer o bobl, a thorais allan i wylofain; ac yr wyf yn cofio fod fy mam wedi gosod ei llaw ar fy safn nes y bu agos iddi a fy mygu; ac nid cyn i rywun oedd yn fy ymyl roddi i mi ''Nelson ball'' y peidiais a gwaeddi. I ba le y mae y melusion enwog hyny wedi myned? Ni fyddaf yn gweled dim tebyg iddynt yn y dyddiau hyn. Pa un ai fi ai y melusion sydd wedi newid? Yr oedd llawr y capel y pryd hwnw yn wahanol iawn i'r peth ydyw yn awr. Yr oedd yn agored, a rhesi o feinciau digefn ar ei draws, gydag ychydig eisteddleoedd dyfnion o'i gwmpas, y rhai a bwysent ar y mur. Ar ganol y llawr yr oedd ''stove'' fawr, a llawer o blant o'i chwmpas, â'u hwynebau cân goched â chrib y ceiliog. Mae yn debyg mae y gauaf oedd yr adeg ar y flwyddyn. Yr wyf yn cofio am y sêt fawr a'r sêt ganu ar yr ochr chwith iddi, ac am Abel Hughes gyda'i gap melfed yn eistedd o dan y pulpud, yr hwn—sef Abel—oedd yn myned oddiamgylch yn awr ac yn y man i snyffio y canwyllau. Bydd genyf rywbeth i'w ddyweyd eto am Abel Hughes. Yr oedd y pulpud â'i gefn ar y mur, ac yn sefyll ar ddwy golofn, ac mor uchel nes peri i mi feddwl am nyth y wenol a adawsid o dan fondo ein tŷ ni er yr haf blaenorol. Synwn sut yr oedd y dyn," fel y galwn i ef, oedd yn y pulpud, wedi gallu dringo i'r fath le, a pha amcan oedd ganddo yn myned yno. Gofynwn i mi fy hun, os oedd efe yn arfer a dringo yno, a fyddai efe, tybed, yn cael codwm weithiau wrth ddyfod i lawr y grisiau, fel y cawsom i fwy nag unwaith wrth ddyfod i lawr o'r llofft, neu a fyddai rhywun yn ei gario ar ei gefn, fel y cerid fi gan Bob fy mrawd i lawr o'n llofft ni! Rhyfeddwn yn fawr nad oedd neb yn dyweyd dim ond "y dyn oedd yn y<noinclude><references/></noinclude> cu7vtfjj9pvr6boo4qinv75sz6uxmnl Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/21 104 85299 165432 2026-05-22T13:06:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165432 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''box''," a rhyfeddwn fwy fod ganddo ef gymaint i'w ddyweyd, Nid oeddwn yn deall dim oll a ddywedai, oddigerth yr enw "Iesu Grist" a thybiais ar y dechre mai efe oedd yr "Iesu Grist" y soniai fy mam gymaint am dano wrthyf. Dysgwyliwn o hyd iddo dewi, ond nis gwnai. Wedi bod yn siariad yn faith, fel y tybiwn i, dechreuodd "y dyn" edrych yn ddig a chochi yn ei wyneb a gwaeddi yn uchel; a phenderfynais ar unwaith mai nid Iesu Grist oedd efe. Tybiwn fod "y dyn" yn fy nwrdio i yn dost—am ba beth nis gwyddwn; ond o herwydd ei fod wedi edrych arnaf lawer gwaith, gwyddwn o'r goreu mai ataf fi yr oedd efe yn cyfeirio, a dechreuais wylofain drachefn; a bu raid fy hanner fygu eilwaith, a rhoddi i mi eto ''Nelson ball'' cyn y tawn. Edrychais o'm cwmpas, ac i lawr ac i fyny. Synais weled cynifer o bobl yn lloft y capel. A oeddynt i gyd yn arfer a chysgu yno? Pa le yr oeddynt yn cael digon o welyau? Gwelwn y capel yn dechre tywyllu, a'r dyn oedd yn y box yn ymddangos yn llai ac ymhellach o lawer oddiwrthyf, er ei fod yn dal ati i waeddi yn uwch ac yn uwch. Teimlwn fy mam yn fy llochesu, ac yn y fynyd collais olwg ar bawb a phobpeth—yr oeddwn mewn trwmgwsg. Nis gwn am ba hyd y bum yn cysgu; ond cafwyd trafferth fawr i fy neffro, er fod yr holl gynnulleidfa yn canu. Hoffwn y canu yn fwy o lawer na'r bregeth. Teimlwn rywfodd fy mod yn deall y canu, er nas gallaf yn awr roddi ffurf ar y dealltwriaeth hwnw. Erbyn hyn, eisteddai y dyn oedd yn y pulpud, gan sychu y chwys oddiar ei dalcen, a chan osod cadach mawr yn llac am ei wddf. Gwelwn Abel Hughes yn dringo i fyny grisiau y pulpud; a phenderfynais yn fy meddwl mai myned i nôl "y dyn" ar ei gefn yr oedd efe, fel y byddai Bob yn fy nôl i o'r llofft gartref. Siomwyd fi yn ddirfawr pan welais ef yn sefyll ar ganol y grisiau, ac yn dyweyd rhywbeth wrth y bobl. Deallais ymhen y rhawg ar ol hyny mai cyhoeddi y moddion am yr wythnos ddilynol yr oedd efe. Aeth y nifer mwyaf o'r bobl allan; ond arosodd fy mam ac amryw eraill ar ol, a chauwyd drysau y capel. Meddyliais nad oeddym byth i gael myned adref, a dechreuais grio drachefn; ond dywedodd fy mam wrthyf ar ei gwir y caem fyned "rwan ''just''." Gwelwn y dyn oedd wedi bod, fel y dychymygwn, yn fy nwrdio i, yn disgyn i lawr grisiau y pulpud; a gwyliwn ef yn ddyfal rhag iddo syrthio. Cyrhaeddodd i'r gwaelod yn ddiogel. Wedi hyn gwelwn<noinclude><references/></noinclude> 1bi9r8zrbnkr80edflczk38qdd7u5it Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/22 104 85300 165433 2026-05-22T13:23:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165433 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Abel Hughes yn codi y llian oedd yn cuddio rhywbeth ar ffrynt y sêt fawr, ac yn ei lapio yn daclus, gan ei osod o'r neilldu. Synais pan welais beth oedd o dan y llian. Y fath lestri hardd! Gwelwn y dyn oedd wedi bod yn siarad yn faith yn codi, ac yn myned at y llestri a'r bara oedd wedi ei dori yn fân; ac wedi dyweyd rhywbeth eto am Iesu Grist, dechreuodd fwyta. Tybiais mai cymeryd ei swper yr oedd efe. Pa fodd bynag, ni phrofodd efe ond un tamaid ac un llymaid bach; a meddyliais wrth ei weled yn aros ar hyny nad oedd yn ei hoffi. Pa faint oedd fy syndod pan welais y dyn yn cymeryd y bara ac yn myned oddiamgylch, gan roddi tamaid i bawb. Yr oedd arnaf chwant bwyd, a chredais mai dyn clên oedd y gŵr wedi'r cwbl, ac er ei fod wedi fy nwrdio i mor dost. Pan ddaeth at fy mam cymerodd hi damaid, ac estynais innau fy llaw; ond gwrthododd fi. Digiais yn enbyd wrtho, a thorais i wylo allan am oddeutu y chweched waith y noson hono. Yr oedd yn amlwg i mi erbyn hyn fod gan y dyn rywbeth yn fy erbyn. Cafodd fy mam drafferth fawr yn fy nhawelu; a phan ddaeth y dyn oddiamgylch gyda'r cwpan, cuddiais fy wyneb o dan glog fy mam rhag imi edrych arno, a rhag iddo yntau gael y cyfleusdra i fy ngwrthod eilwaith. Rhwng fod y nos yn dywell, a minnau, fel y tybiwn, wedi cael fy ''insultio'' gan y pregethwr, yr oeddwn yn flin iawn fy nhymher; a bu raid i fy mam fy nghario yr holl ffordd gartref y noson hono. Mor ffortunus ydyw na fwriedir i'r hanes hwn gael ei gyhoeddi! oblegid pe amgen, nis gallaswn adrodd yr hyn a adroddais, am y buasai yn rhy syml a phlentynaidd, er ei fod yn wir, ac er y buasai, o bosibl, yn newydd mewn llenyddiaeth, er nad yn newydd i brofiad ambell ddarllenydd. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD IV.<br>''Evan Jones, Hwsmon, Gwernyffynnon.''}}}} WRTH i mi daflu fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn blentyn, mor rhyfedd genyf feddwl mai yr un un ydwyf o hyd er yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn fy syniadau a'm tueddiadau. Wrth gymharu y plentyn â'r dyn, mor wahanol ac eto mor debyg ydynt! Ni fynwn am y byd wadu fy hunaniaeth, na newid fy <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 3vmcfs0fuvndddhmhr22qxfv6os1zmn Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/23 104 85301 165434 2026-05-22T13:24:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165434 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymwybyddiaeth am ymwybyddiaeth neb arall. Bum lawer gwaith yn tosturio wrth yr afon Alun yn y pwynt lle y mae yn colli ei hunan yn y Dyfrdwy. O Lanarmon yn Iâl i lawr i Gilcain, a thrwy y Belan ar hyd dyffryn yr Wyddgrug, mor annibynol, hoew, a siriol y mae hi yn edrych! Ond pan yr agoshâ hi at Holt, y mae ei hwyneb yn newid, a phrudd-der yn amlwg i'w weled ar ei gwêdd, yn y rhagolwg, yn ddiammheu, ar golli ei hunan yn y Dyfrdwy. Nis gwn pa fodd y mae dynion eraill yn teimlo; ond y mae yn dda genyf fi feddwl mai yr un un ydwyf o hyd, ac ni fynwn er dim golli fy hunaniaeth. Onid hyn yw gwallgofrwydd? 'Colli arno ei hun " ydyw yr ymadrodd, onidê, a ddefnyddir am un yn gwallgofi? Wel, y mae yn hyfryd genyf daflu fy meddwl yn ol, a dilyn cwrs fy mywyd trwy wahanol gyfnodau, amgylchiadau, a golygfeydd hyd yr awr hon, a chofio mai yr un ydwyf. Ac y mae yn fwy hyfryd genyf feddwl, pan fyddaf nas gwn pa mor fuan yn rhoddi llam i'r byd mawr tragywyddol, mai yr un un a fyddaf, ac na fydd i mi golli fy hun yn neb arall yr un fath â'r Alun druan! Mor rhyfedd! ymhen miloedd o oesau, yr un ymwybyddiaeth a fydd genyf â phan oeddwn yn myned yn llaw fy mam i'r capel am y tro cyntaf! Ond i ddychwelyd at gyfnod fy mhlentyndod. Ac i mi ddyweyd y y gwir—yr hyn yr wyf yn benderfynol o wneyd rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi myned i'r capel. Yr oedd y gwasanaeth yn rhy faith o lawer genyf. Nid bob amser y gallwn gysgu yn y moddion. Pan fyddwn yn effro, nid oeddwn yn cael difyrwch mewn dim oll oddigerth yn y canu. Tra y llefarai y pregethwr yn ddiddarfod, fel y tybiwn i, byddai gwaew annyoddefol yn fy nghoesau, a chymaint ag a allai fy mam ei wneyd oedd fy nghadw yn ddiddig. Yr oedd fy mam yn Fethodist o'r Methodistiaid, ac yn glynu yn glós wrth syniadau a thraddodiadau y tadau. Bendith arni! un o'i phynciau mwyaf cysegredig ydoedd cadwriaeth y Sabboth. Nid gwiw oedd i mi sôn am chware nac edrych ar fy nhegenau, ar ddydd yr Arglwydd. Byddai raid i mi eistedd yn llonydd a difrifol, pryd nad oedd genyf y syniad lleiaf am y gwahaniaeth rhwng y naill ddiwrnod a'r llall. Os byddwn yn aflonydd a chwareugar, dywedai fy mam fod Iesu Grist yn ddig wrthyf, ac na chawn byth fyned i'r nefoedd, ond y byddai iddo Ef fy nhaflu i'r "tân poeth." Parai hyn dristwch mawr i mi. Ar yr un pryd, methwn a deall os oedd Iesu Grist mor hoff<noinclude><references/></noinclude> g66q1zasb4oe375sweanss45rzqeh9t Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/24 104 85302 165435 2026-05-22T13:25:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165435 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o blant bychain ag y dywedai fy mam ei fod, pa fodd yr oedd efe mor ''exact'' ac mor wrthwynebol i mi gael chware ar y Sul. Yr oedd yn gâs genyf weled y Sabboth yn agosâu, gan y gwyddwn y byddai i mi yn sicr ddigio Iesu Grist. Un tro gofynais i fy mam pa fath le oedd y nefoedd? Atebodd hithau, gan geisio yn ddiammheu gyfarfod â fy nealltwriaeth, mai gwlad ydoedd lle yr oedd pawb o'r trigolion yn cadw'r Sabboth am byth. Syrthiodd fy ngwep y foment hono, a dywedais wrthi yn bendant nad awn byth i'r nefoedd fath ergyd a roddais iddi! Gwelaf ei hwyneb hoff yn pruddhâu, a'r dagrau yn ei llygaid. Rhoddais innau fy mraich am ei gwddf, a dywedais wrthi yr awn i'r nefoedd er ei mwyn hi (fy mam), ond fy mod yn gobeithio y cawn yno gan Iesu Grist chware tipyn bach. Druan oedd fy mam! Gyda'r amcanion goreu yn y byd, yr oedd yn myned o gwmpas fy addysgiaeth grefyddol yn y ffordd fwyaf chwithig a allasai ei dychymygu. Wel, fy hoff fam, yr oeddit yn annysgedig ac anwybodus, ond er hyny y fam oreu yn y byd yn fy meddwl i. Diammheu genyf fod dy weddïau ar fy rhan wedi eu hateb i ryw fesur. Yr wyf yn awr mewn oedran gŵr; ond pa beth a roddwn am gael unwaith eto weled dy wedd! Pa beth a roddwn am un cyfleusdra i geisio gwneyd i fyny am bob gair câs a ddywedais wrthyt, ac am bob ymddygiad angharedig tuag atat! Tybed a wyddost di am fy helyntion a'm profedigaethau wedi i mi dy hebrwng i'r fynwent oer? Mor rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn na ddarfu i fy holl anufudd-dod a'm holl ddrygioni leihâu un gronyn ar dy gariad tuag ataf! Cyfarfyddais â llawer cyfaill ffyddlawn, ond neb a'm carai fel tydi-a'm carai yn fwy na'i heinioes ei hun. Mae y byd yn oer a dyeithr i mi hebot ti. Nid oes genyf neb yn fy neall, na neb yn gallu myned i mewn i'm teimladau, fel y byddit ti yn gwneyd. Cyn i mi ysgrifenu brawddeg arall, rhoddaf dro at dy gareg arw â'r ddwy lythyren," gan nad beth a feddylio eraill o honof. Mae fy adgofion ynglyn â'r Ysgol Sabbothol yn gymysglyd ac ammhenoldol. Yr wyf yn sicr o hyn—mai nid yn yr Ysgol Sul y dysgais y llythyrenau. Nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn dysgu yr<noinclude><references/></noinclude> 8kdgg0j5znw5w9762mie5koy56w6vxu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/25 104 85303 165436 2026-05-22T13:26:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165436 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A B C; naill ai yr oeddwn yn eu hadnabod wrth natur, neu ynte, yr hyn sydd yn fwy tebyg, yr oedd fy mam wedi eu dysgu i mi yn y cyfnod nad oes genyf un cof am dano. Yr wyf yn sicr mai Evan Jones, hwsmon Gwernyffynnon, oedd fy athraw cyntaf; ac yr wyf yr un mor sicr mai allan o lyfr bychan, tebyg i'r "Rhan Gyntaf" a ddefnyddir yn ein hysgolion yn y dyddiau hyn, yr oeddwn yn cael gwersi ganddo. Yr hyn sydd yn peri i mi fod mor sicr ydyw hyn: mai a b, ab, y galwn i Evan Jones wrth fy mam, am mai hono oedd y wers—a b, ab, e b, eb, o b, ob. &c. Hen ŵr clên oedd Evan Jones, yn gwisgo ar y Sabboth gôb las â botymau gloewon arni, a chlôs a ''leggins'' llwydion. Yr oedd chwech neu saith o honom yn ei ddosbarth; a dull Evan o gyfranu addysg oedd cymeryd un o honom ar ei lîn a rhoi gwers iddo tra y byddai y lleill yn chwareu. Wedi iddo roddi gwers i bob un, teimlai Evan ei fod wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac yna cymerai gyntyn. Tra y byddai Evan yn cymeryd ''nap'', a'i ên wedi suddo yn ddwfn i'w wasgod, a choler fawr ei gôb las ymron yn lefel hefo'i goryn, nid unwaith na dengwaith y cyfrifais yr holl fotymau oedd ar ei ddillad. Yr wyf yn cofio y fynyd hon eu nifer. Pe cymerwn fy llw ar rywbeth, cymerwn ef ar hyn, mai saith o fotymau oedd ar bob leggen, pump ar ddau benglîn ei glôs, pedwar ar bob ochr i'w gôb a dau tu ol, a saith ar ei wasgod. Yr wyf yn sicr o'u nifer, canys cyfrifais hwynt gannoedd o weithiau tra yr oedd Evan yn cysgu. Perchenogai Evan oriawr fawr—mor fawr ymron â'r hyn a elwir yn ein dyddiau ni yn ''timepiece'', yr hon y gadwai efe yn mhoced ei glôs. Un tro gofynais i fy mam paham na wisgai Evan Jones ei ''watch'' yn mhoced y wasgod fel y byddai gŵr y Plâs yn gwneyd? Atebai hithau, ei fod yn bechod mawr gwisgo ''watch'' yn mhoced y wasgod ac nad oedd neb yn gwneyd hyny ond y rhai oedd heb "deimlo'r cortyn." Nid oeddwn yn deall ar y pryd beth oedd ystyr "teimlo'r cortyn;" ond gwyddwn ei fod yn rhywbeth mawr ac anhebgorol er gwneyd i fyny ddyn da; ac mor hoff oeddwn i o Evan Jones fel nad allaf yn awr ddesgrifio fy moddhâd y pryd hwnw mai yn mhoced ei glos y gwisgai efe ei ''watch'' ac nid yn y wasgod. Yn gysylltiedig wrth ''watch'' Evan yr oedd riban ddu, ac wrth hono ddwy gragen wên, hen goin, a sêl goch. Teimlem ni, y bechgyn oedd yn ei ddosbarth, awydd mawr am<noinclude><references/></noinclude> 0cxoog311iuu2fde1hwhhcba5lp18gk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/26 104 85304 165437 2026-05-22T13:27:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165437 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gael ''watch'' Evan i'n dwylaw. Un prydnawn Sul gwresog, yr oedd Evan wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac wedi syrthio i gwsg trwm. Y modd y gwyddem hynoedd ei fod yn chwyrnu yn uchel,—yr hwn arwydd na chlywsem erioed o'r blaen yn y dosbarth. Wele, y cyfleusdra hirddysgwyliedig wedi dyfod; a chynnygiodd Wil Bryan, yr hwn oedd yr hynaf yn y dosbarth, ei wasanaeth, ac ni ddangoswyd gwrthwynebiad gan neb. Tynwyd y ''watch'' allan, a chafodd pob un o honom yn ei dro ei benthyg i'w harchwilio, ac i'w gosod wrth ei glust. Yr oedd safle ein dosbarth yn llofft y capel yn y gongl uchaf a elwid y pryd hyny yn "''Gibraltar,''" ac felly mewn sefyllfa neillduedig. Yr oedd ''watch'' Evan wedi treiglo ddwywaith o gwmpas y dosbarth, ac ar y pryd yn fy llaw i. Yr oeddym yn yr act o osod ein penau ynghyd pa fodd i'w dychwelydd i'w sefyllfa wreiddiol heb ddeffroi ei pherchenog, pryd y taranodd llais uwch ein penau, “Be 'dach chi'n neyd yma?" Yn fy marw, gollyngais y ''watch'' i lawr, nes oedd y gwydr yn deilchion, ac ar yr un pryd neidiodd ein hathraw parchus fel pe buasai rhywun wedi ei drywanu yn ei feingefn. Y taranwr ydoedd Abel Hughes yr arolygwr, yr hwn, yn ei gap ''velvet'' a edrychai yn ddig dros ymyl y sêt. Yr oedd ein hythraw wedi cynhyrfu yn gymaint fel na ddarfu iddo sylwi dim ar ei oriawr." "Ai cysgu yr ydach chi, Evan Jones?" gofynai Abel yn geryddgar."Synfyfyrio," ebe Evan yn ffwdanus. "Synfyfyrio yn wir, â'ch dosbarth yn chware hefo'ch ''watch''. Rhaid i mi ddwyn eich hachos o flaen y cyfarfod athrawon," ebe Abel, ac aeth ymaith yn ddigofus. Yr un fynyd ag yr oedd Evan yn dechre sylweddoli sefyllfa pethau, dechreuais innau wylo—gwaith a fedrwn yn burion. Nid oedd neb wedi cyffwrdd â'r oriawr ar ol iddi syrthio o fy llaw. Edrychodd Evan arni, ac arnaf finnau bob yn ail am yspaid, ac yna cododd hi, gan ei lapio yn ei gadach poced a'i rhoddi yn mhoced frest ei gob lâs. Wrth weled fy nhristwch mawr, er ei fod yn credu, mi wn, mai fi oedd euog o'r holl ddrwg, cymerodd fi ar ei lin, a dywedodd wrthyf yn garedig, "Wel na hidia, y 'ngwasi; dydi o fawr o beth." Bum yn meddwl ar ol hyn mai ryw fath o ''fellow feeling'' o euogrwydd a wnaeth i Evan fod mor garedig ataf. Pa fodd bynag, parodd ei garedigrwydd i mi wylo yn waeth o lawer; ac erbyn i mi fyned adref yr oedd fy llygaid wedi chwyddo yn gymaint fel nad allwn gelu yr ystori oddiwrth fy mam. Yr unig beth a ddywedodd hi wrthyf oedd,<noinclude><references/></noinclude> 9el7kzsz4ingtodfzcvefv3y23rpggy Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/27 104 85305 165438 2026-05-22T13:27:57Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165438 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, cawn weled fory." Bu yn un a'i gair; cafodd hi weled, a chefais innau ''deimlo''. Nis gwn i sicrwydd a ddygwyd achos Evan Jones, Gwernyffynnon, o flaen y cyfarfod athrawon; ond y mae genyf bob lle i gredu ddarfod i hynny gymeryd lle; oblegid byth wedi hyn pan fyddai Evan yn gosod ei hun i gymeryd cyntyn, rhoddai siars benodol arnom i fod ar y ''look-out'', ac i ofalu am ei ddeffroi pan ddeuai Abel Hughes i'r cyffiniau, i'r hyn y buom ffyddlawn. Yr wyf yn cofio yn dda ein bod fel dosbarth yn edrych ar waith Abel Hughes yn gwarafun i Evan gael cyntyn, ar ol iddo roddi gwers i bob un, fel gorthrwm a thrahausder anfaddeuol. Pe buaswn yn argraffu yr hanes hwn, dichon y ''dywedasai'' rhywun, "Gymaint rhagorach ydyw trefniadau ac athrawon yr Ysgol Sabbothol yn awr o'u cymharu â'r hyn oeddynt y pryd hyny." Hwyrach hyny. Nid oedd Evan Jones ond un o lawer cyffelyb iddo. A chymeryd ei rinweddau ynghyd a'i ddiffygion i'r cyfrif, yr oedd Evan cystal athraw â'r rhelyw o honynt yn y dyddiau hyny. Mae genyf fi barch dauddyblyg iddo, o herwydd o dan ei aden ef y dysgais ddarllen, er iddo farw pan oeddwn yn lled ieuanc. Mae genyf gof da am amryw o ddywediadau fy mam pan fyddai hi yn son am Evan Jones, megys y rhai canlynol:—"Gwr ydyw Evan a gwreiddyn y mater ganddo." "Mae Evan Gwernyffynnon yn fwy ar ei liniau nag ar ei sefyll." "Gŵyr Evan yn dda beth ydyw teimlo'r cortyn." "Dyn y dirgel ydyw Evan Jones." "Pe buasai gan Evan gymaint o ddysg ac arian ag sydd ganddo o ras, buasai yn Ustus Heddwch er ys llawer dydd, ac ni buasai gŵr y Plas ond cardotyn yn ei ymyl." Yr oedd yr ymadroddion hyn, a llawer o rai cyffelyb o'r eiddo fy mam, fel Lladin i mi ar y pryd, ac ymhen blynyddau y daethum i'w deall. Da genyf droi fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn yn astudio ''classics'' fy mam! Fel yr awgrymais yn barod, y mae genyf bob lle i gredu fod Evan Jones, er ei holl ddiffygion, yn gymeriad tryloew, ac yn un oedd wedi profi pethau mawrion crefydd. Pan oeddwn yn ei ddosbarth, edrychwn ar ei waith yn cysgu ran o'r moddion yn fwy fel rhinwedd ynddo na dim arall, am ei fod yn rhoddi cyfleusdra i ni y plant i chware; ac wrth edrych yn ol at hyny o'r pryd hwn, a chofio ei fod yn un oedd yn gorfod gweithio<noinclude><references/></noinclude> bftuc2bl9vsps5enbwdy1h0ms54kug6 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/28 104 85306 165439 2026-05-22T13:47:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165439 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn galed, a chodi bob dydd am bump o'r gloch y bore, yr wyf yn gallu maddeu iddo o waelod fy nghalon. Os caf fyned i'r nefoedd, bydd i mi wneyd search am dano er mwyn i mi allu diolch iddo. Mor ynfyd ydwyf! Yr wyf yn edrych ar Evan yn y nefoedd yn ei glôs a'i ''leggins'' a'i gôb lâs! Nis gallaf edrych arno ond yn y wêdd hono. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD V.<br>''Y Cyfarfod Plant.''}}}} Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuanc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhâu nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presennoldeb ynddi yn gyson, oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absennolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cân sicred â'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat gyffredinol ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulusdra. Y fath ddirywiad sydd wedi cymeryd lle yn y peth hwn yn ein dyddiau ni! Mae ymron yn anmhosibl yn awr cynnal wrth ei gilydd gyfarfod plant am ychydig wythnosau yn ystod misoedd y gauaf. A beth pe gelwid rhieni i gyfrif cyhoeddus yn y dyddiau hyn am esgeuluso anfon eu plant i'r seiat? Meddylier am fynyd am geryddu Mrs. Powell y shop, plant yr hon na welir unwaith yn y pedwar amser yn y cyfarfod eglwysig. Gwarchod pawb! pe rhyfygid gwneyd y fath beth, y mae yn gwestiwn genyf a ddeuai hi na'i phlant i'r capel byth, heb sòn am ddyfod i'r seiat. Ond pe buasai Abel Hughes yn fyw, buasai ef wedi galw Mrs. Powell i gyfrif, a llawer Mrs. arall, gan nad beth fuasai y canlyniadau. Yn sicr, dywedasai ef wrthynt mai yn Eglwys Loegr yr oedd eu lle, ac mai goreu po cyntaf iddynt fyned yno. A ydyw yr hen flaenoriaid gonest i gyd wedi meirw? Wrth i mi alw amryw o honynt i'm cof, yr wyf yn gorfod cydnabod fod cryn lawer o erwindeb yn perthynu iddynt ; ond gyda'u holl erwindeb, yr oedd ynddynt ryw unplygrwydd, a gonestrwydd ag sydd yn ffurfio <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> mod2d98t4j7uap593gypjx61bm5yuvo Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/29 104 85307 165440 2026-05-22T13:48:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165440 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwrthgyferbyniad ffafriol i'r oes felfedaidd a gweniaethus hon o grefyddwyr. Can gynted ag y medrais barablu "Cofiwch wraig Lot," bu raid i mi hwylio i'r seiat plant o dan ofal Wil Bryan, yr hwn oedd rai blynyddau yn hyn na mi. Ynglŷn â fy hanes boreuol, bydd raid i mi gyfeirio yn fynych at Wil Bryan, ac weithiau gyda gofid. Hwyrach mai da i mi a fuasai pe nas gwelswn ef erioed, er fy mod ar un adeg yn credu nad oedd y fath Wil yn y byd. Cyndyn iawn oeddwn i ddysgu adnod; ac o herwydd hyny bu raid i "Cofiwch wraig Lot" wasanaethu i mi ar rai degau o achlysuron, a hyny heb yn wybod i fy mam. Gofalai hi yn wastad am ddysgu adnod newydd i mi ar gyfer pob seiat; ond erbyn i mi fyned i'r cyfarfod, byddai yr adnod wedi cymeryd ei haden, ac nid oedd dim i'w wneyd dan yr amgylchiadau ond syrthio yn ol ar "Cofiwch wraig Lot." Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ar fwy nag un amgylchiad ddechre adrodd adnod newydd, megys "Gwir yw y gair ac yn haeddu-;" ac wedi methu myned ymlaen i'w gorphen, diweddwn yn ddieithriad trwy ddyweyd "Cofiwch wraig Lot." O herwydd fy mod mor fychan, cyd-ddygwyd â mi yn hyn am yspaid maith; ac nid cyn i'r plant ddechre fy ngalw yn wraig Lot y rhoddais heibio sôn am dani. Fy ngwaith yn adrodd yr adnod adnabyddus mor fynych a roddodd achlysur i'r rhai oedd yn arwain y cyfarfod wneyd sylwadau aml arni; ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod yr oll ag oedd i'w wybod am wraig Lot cyn i mi fod yn bump oed. O leiaf, nid wyf yn ymwybodol fod fy syniadau am y Sodomiaid, yr angylion, y tân a'r brwmstan, Lot a'i deulu, y golofn halen, Soar, &c., wedi cyfnewid rhyw lawer oddiar y peth oeddynt yn fy meddwl pan oeddwn yn bum' mlwydd oed, fel y dywedais. Yr oedd hanesiaeth ysgrythyrol yn y modd yma yn cael ei ddyferu i'n meddyliau megys heb yn wybod i ni; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau fod gwybodaeth Fiblaidd yn llawer uwch a pherffeithiach mewn ieuenctyd yn yr oes hono nag ydyw yn yr oes oleu hon." Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn gofyn i fab Mrs. Frederick Powell, y shop, yr hwn sydd yn bymtheg mlwydd oed, "Pwy oedd Jeroboam?" a'i ateb oedd ei fod yn meddwl mai un o'r apostolion ydoedd. Mae genyf le i ofni fod llawer o blant crefyddwyr y dyddiau hyn nad ydynt yn rhagori nemawr mewn gwybodaeth ar Solomon Dowell. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5vs76q6bcwyoffw07218cet4nd9vq5g 165441 165440 2026-05-22T13:49:35Z AlwynapHuw 1710 165441 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwrthgyferbyniad ffafriol i'r oes felfedaidd a gweniaethus hon o grefyddwyr. Can gynted ag y medrais barablu "Cofiwch wraig Lot," bu raid i mi hwylio i'r seiat plant o dan ofal Wil Bryan, yr hwn oedd rai blynyddau yn hyn na mi. Ynglŷn â fy hanes boreuol, bydd raid i mi gyfeirio yn fynych at Wil Bryan, ac weithiau gyda gofid. Hwyrach mai da i mi a fuasai pe nas gwelswn ef erioed, er fy mod ar un adeg yn credu nad oedd y fath Wil yn y byd. Cyndyn iawn oeddwn i ddysgu adnod; ac o herwydd hyny bu raid i "Cofiwch wraig Lot" wasanaethu i mi ar rai degau o achlysuron, a hyny heb yn wybod i fy mam. Gofalai hi yn wastad am ddysgu adnod newydd i mi ar gyfer pob seiat; ond erbyn i mi fyned i'r cyfarfod, byddai yr adnod wedi cymeryd ei haden, ac nid oedd dim i'w wneyd dan yr amgylchiadau ond syrthio yn ol ar "Cofiwch wraig Lot." Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ar fwy nag un amgylchiad ddechre adrodd adnod newydd, megys "Gwir yw y gair ac yn haeddu{{bar|1}};" ac wedi methu myned ymlaen i'w gorphen, diweddwn yn ddieithriad trwy ddyweyd "Cofiwch wraig Lot." O herwydd fy mod mor fychan, cyd-ddygwyd â mi yn hyn am yspaid maith; ac nid cyn i'r plant ddechre fy ngalw yn wraig Lot y rhoddais heibio sôn am dani. Fy ngwaith yn adrodd yr adnod adnabyddus mor fynych a roddodd achlysur i'r rhai oedd yn arwain y cyfarfod wneyd sylwadau aml arni; ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod yr oll ag oedd i'w wybod am wraig Lot cyn i mi fod yn bump oed. O leiaf, nid wyf yn ymwybodol fod fy syniadau am y Sodomiaid, yr angylion, y tân a'r brwmstan, Lot a'i deulu, y golofn halen, Soar, &c., wedi cyfnewid rhyw lawer oddiar y peth oeddynt yn fy meddwl pan oeddwn yn bum' mlwydd oed, fel y dywedais. Yr oedd hanesiaeth ysgrythyrol yn y modd yma yn cael ei ddyferu i'n meddyliau megys heb yn wybod i ni; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau fod gwybodaeth Fiblaidd yn llawer uwch a pherffeithiach mewn ieuenctyd yn yr oes hono nag ydyw yn yr oes oleu hon." Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn gofyn i fab Mrs. Frederick Powell, y shop, yr hwn sydd yn bymtheg mlwydd oed, "Pwy oedd Jeroboam?" a'i ateb oedd ei fod yn meddwl mai un o'r apostolion ydoedd. Mae genyf le i ofni fod llawer o blant crefyddwyr y dyddiau hyn nad ydynt yn rhagori nemawr mewn gwybodaeth ar Solomon Dowell. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> cjssyio8pbe6w852vqk60cmplgultx8 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/30 104 85308 165442 2026-05-22T13:51:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165442 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y fath zel ac ymroddiad a ddangosai John Joseph ac Abel Hughes gyda ni y plant, er fod yr olaf yn hen ŵr; hen yr wyf yn ei gofio. Yr oedd John Joseph wrth fodd ei galon yn ein dysgu i ganu pennillion, megys {{c|"O, hyn fydd yn hyfryd!"}} ac {{center block| <poem> ::"Ni bydd diwedd Byth ar swn y delyn aur." </poem> }} O'r ochr arall byddai Abel Hughes mor ddifrifol a sobr yn gwrando ein hadnodau, ac yn llefaru arnynt, mor ddifrifol, meddaf, a phe buasai yn gwybod fod dydd y farn i gymeryd lle drannoeth. Yr oeddym ni y plant yn fwy hoff o John Joseph nag o Abel Hughes; oblegid os na byddai Abel yn bresennol, byddai John Joseph yn defnyddio y ''pitchfork''; ac yr oeddym yn hoffi ei weled yn ei tharo ar y ''stove'', ac yn ei gosod wrth ei glust, ac yn cau ei lygaid a gosod ei ben yn gam i wrando ar ei swn, gan roddi dau neu dri o nodau allan cyn dechre canu, er na wyddem yn y byd mawr pa ddybenion goruchel oedd yn cael eu cyrhaeddyd trwy hyn. Nid gwiw oedd i John Joseph fyned trwy y seremoni hon pan fyddai Abel yn bresennol. Gwelais ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond dywedodd Abel wrtho yn union deg am gadw y taclau hyny gartref nad oeddynt yn weddus i dy Dduw. Beth pe buasai Abel yn fyw yn awr? Beth pe clywsai efe ŵr o'r sedd fawr yn cyhoeddi fod y dôn a'r dôn yn y ''modd Lah'', a dwsin neu ddau o ddynion yn gwaeddi ar draws eu gilydd, "Doh, soh, doh, soh?" Yn sicr buasai Abel, druan, yn meddwl fod crefydd wedi myned yn bricsiwn; ac y mae arnaf ofn mai rhywbeth tebyg i ddyrysu yn ei synwyrau fuasai'r canlyniad. Fel y mae amgylchiadau yn newid mewn llai na hanner oes! Byddai Abel Hughes yn fanwl iawn am gael dechre a diweddu y seiat plant mewn pryd. Gwyddem i'r fynyd yr adeg y deuai i'r capel. Cof genyf y byddai fy mam yn canmawl Wil Bryan am alw am danaf mor brydlawn i fyned i'r cyfarfod; ond ychydig a wyddai hi mai ein hamcan yn myned mor gynnar oedd cael chware ymguddio yn llofft y capel. Yr oedd Wil wedi cael allan rywfodd<noinclude><references/></noinclude> 3n64sx6oq97wdpooxpyc86moedj4txr Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/31 104 85309 165443 2026-05-22T13:52:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165443 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod Abel yn dechre y cyfarfod yn ol ei ''watch'', ac yn diweddu yn ol cloc y capel. Un noswaith, pan oedd pawb o honom yn eu lle yn dysgwyl am Abel i mewn, dywedodd Wil yr elai ef i'r ''gallery'' i symud bys y cloc hanner awr ymlaen; ac ar y gair efe a aeth. Yr oeddym oll yn bryderus iawn rhag i Abel ddyfod i mewn. Pan oedd Wil wedi cyrhaedd sêt y cloc, ac ar fedr rhoddi ei law ar y bys, agorwyd drws y capel, a dacw Abel yn gwneyd ei ymddangosiad. Crwcydodd Wil y fynyd hono. Curai calon pawb o honom, oblegid nid dyn i gellwair âg ef oedd Abel Hughes. Tra yr oedd Abel yn gweddïo wrth ddechre y cyfarfod, ac wedi cau ei lygaid yn dýn, achubai pawb o honom y cyfleusdra i edrych tua sêdd y cloc. Synwyd ni gan eofndra Wil Bryan, oblegid gwelem ef yn symud bys y cloc, ac yna yn gorphwys yn hamddenol ar ei benelinoedd ar ffrynt y ''gallery'', gan roddi winc ar hwn a'r llall. Wedi hyn, gwelem ef yn chwilota ei logellau am friwsion, ac yn ei gollwng i lawr ar ben yr hen Abel. O herwydd fod Abel wedi ymgolli yn y weddi, neu ynte o herwydd ei fod yn gwisgo cap melfed, nid ymddangosai ei fod yn teimlo dim oddiwrth y briwsion. Nid oedd John Joseph yn bresennol y noswaith hono, ac ni chafwyd hwyl o gwbl ar y cyfarfod. Anmherffaith iawn yr adroddem ein hadnodau, gan fod ein meddyliau yn llofft y capel gyda Wil Bryan, pen yr hwn oedd yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Bob tro y caem gipolwg ar ei wyneb, yr oedd yn gwenu ac yn ymddangos yn mwynhau ei hun yn brâf. Yr wyf yn meddwl mai efe oedd yr unig un nad oedd ei galon yn curo gan ofn. Cawsom gerydd lawer gwaith gan Abel Hughes am adrodd ein hadnodau mor wael, ac am ein bod yn cyfeirio ein llygaid yn barhâus at y cloc, fel pe buasem ar frys am gael myned adref. Ychydig a wyddai efe mai nid ar y cloc yr edrychem, ond ar dop gwallt Wil Bryan. Er fod ein gwynebau yn ddifrifol, blinodd Abel yn ceisio cael ein meddyliau at yr adnodau, ac edrychodd ar y cloc, ac arwyddodd syndod fod yr amser wedi cerdded mor bell. Ar yr un fynyd agorwyd drws y capel, a daeth Marged Ellis, gwraig tŷ'r capel, i mewn. Dechreuodd hi gwyno yn dost wrth Abel ein bod ni y plant yn dyfod i'r cyfarfod cyn yr amser er mwyn chware, a'n bod yn gwneyd trwst enbyd. Gofynodd Abel i Marged pwy oedd euog o hyny, ac atebodd hithau, "Bachgen Hugh Bryan ydi'r gwaetha' o honyn' nhw i gyd; 'roedd o'n enbyd o ddrwg<noinclude><references/></noinclude> 33m28ehe5v2e8nd0pi9100ty9j9ako5 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/32 104 85310 165444 2026-05-22T13:53:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165444 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heno." "We!, Marged bach," ebe Abel, 'rydach chithe fel fine yn myn'd yn hen; ni fu William Bryan yma heno o gwbl, er fod hyny yn beth digon rhyfedd, achos mae William yn ffyddlawn iawn i'r cyfarfod." "Ydach chi'n meddwl, Abel Hughes," ebe Marged, "na wn i ddim be dwi'n dd'eyd? Oni weles i o, ac oni chlywes i o â'm llygid fy hun yn rhedeg ac yn rhampio ar hyd y capel!" "Rhys," ebe Abel, gan edrych yn myw fy llygaid, "ddôth William Bryan hefo ti i'r capel heno?" Yn erbyn fy ngwaethaf, rhedodd fy llygaid at sêt y cloc, a gwelwn Wil yn cau ei ddwrn arnaf i beidio dweyd gair. Ni chymeraswn lawer ag agor fy ngenau wedi i Wil gau ei ddwrn; ond ni bu raid i mi yngan dim. Cafodd Marged tŷ'r capel gipolwg ar dop ei wallt yn suddo i'r sêt. "Abel Hughes," ebe hi, "mae o yn sêt y cloc; mi gweles o'r mynyd 'ma." Crynai pob un o honom yn ei le tra y troediai Abel gam neu ddau yn ol â'i gefn at y sêt fawr. Ond yn ei fyw nis gallai efe weled Wil. "Ewch i nol yr hogyn drwg i lawr, Abel Hughes; mae o ene yn siwr i chi," gwaeddai Marged. Gwelaf Abel wedi cynhyrfu drwyddo yn myned i'r ''gallery''. Teimlwn fy ngalon yn fy ngwddf wrth ei weled yn nesâu at sêt y cloc. Pa fodd bynag, cyn i Abel gyrhaedd y fan, neidiodd Wil i'r sêt nesaf, ac i'r nesaf at hono; a llamodd o'r naill sêt i'r llall nes cyrhaedd pen y grisiau, i lawr yr hon y daeth megys ar un naid. Yn y gwaelod ceisiodd Marged ei ddal, ac wrth ysgythru heibio iddi bu agos i Wil ei thaflu i lawr. Yr oedd Wil ymhell ar ei ffordd gartref cyn i Abel druan droi ar i sawdl. Tra y dadganai Marged tŷ'r capel ei meddwl yn ddigamsynied ar fuchedd Wil Bryan, ymdrechai yr hen flaenor hybarch feddiannu ei hun; ond yr oedd efe wedi cynhyrfu gymaint fel y bu raid iddo ein gollwng ymaith y noson hono heb weddïo; yn unig rhoddodd siars arnom i fyned adref yn ddystaw, ac i fod yn blant da, a pheidio dilyn esiampl William Bryan. Aeth Abel rhag ei flaen i achwyn wrth Hugh Bryan am ymddygiad anweddaidd ei fab; a chlywais yr olaf yn dyweyd drannoeth na chafodd yn ei fywyd y fath gurfa gan ei dad ag a gawsai y noswaith hono, Nid ydyw yr amgylchiad uchod ond syml a phlentynaidd, ac ni buasai yn werth ei adrodd ond wrthyf fy hunan; ac eto yr wyf yn cofio amser pan edrychwn yn ol at ddygwyddiadau y noswaith hono, ac y cysylltwn gyda hwynt y fath ddyddordeb a phwysigrwydd ag a gysylltai Wellington â Waterloo. Noswaith fawr fy mywyd oedd hi<noinclude><references/></noinclude> 60me3kfqhnyk9a2rz9nxg5aqvki7hza Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/33 104 85311 165445 2026-05-22T14:08:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165445 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr adeg hono. Yn fy ffolineb plentynaidd, edmygwn tu hwnt i bobpeth ddewrder ac eofndra Wil Bryan, a thybiwn nad oedd ei fath yn y byd. Wrth daflu fy meddwl yn ol at yr amgylchiad a gymerodd le yn y seiat plant, nis gallaf erbyn hyn beidio gweled cymeriad Wil Bryan yn yr hedyn o hono, yr hwn ar ol hyny a dyfodd yn bren mawr. Gresyn, gresyn, Wil, na buasit wedi gwrando ar gynghorion difrifol Abel Hughes a John Joseph yn y seiat plant! Pe buasit wedi gwneyd hyny, nid yn y lle yr wyt heddyw y buasit. A wyt ti yn cofio, Wil, o'r man lle'r wyt, fel y byddai Abel Hughes yn ein cynghori i ymgadw oddiwrth bob rhith drygioni, gan ddangos i ni eilwaith ac eilwaith y perygl o rodio ffordd yr annuwiol? A wyt ti yn cofio, tybed, mor daer y byddai efe yn gweddïo drosom, ac fel y byddai yn ein cyflwyno i ofal yr Hwn yr oedd efe ei hun wedi ei gael yn arweinydd ffyddlawn ac yn Iachawdwr galluog? Os wyt, a diammheu genyf dy fod, nid yw dy adgofion, gallwn feddwl, yn felus. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VI.<br>''Y Gwyddel.''}}}} Mae yn debyg nad ydyw fy mhrofiad i yn wahanol i'r eiddo dynion eraill sydd wedi bod yn ceisio myned yn ol at ddechreuad pethau. Mor anhawdd ydyw i mi gael gafael ar ddechreuad unrhyw beth yn fy hanes! Er engraifft, pa bryd y daethum i ddeall fod cysylltiad agosach rhyngof fi a fy mam rhagor â rhyw wraig arall? Pa bryd y dechreuodd y drychfeddwl am Dduw ffurfio yn syniad ynof? Pa bryd y daethum i ddeall fy mod yn fod gwahanol i bawb? Pa bryd y dechreuodd y syniad am gyfrifoldeb, am bechod, ac am fyd arall ddyfod yn rhan o fy ymwybyddiaeth? ac yn y blaen. Pan geisiaf fyned yn ol, a sefydlu ar bwynt fel dechreuad y syniadau hyn a'r cyffelyb, byddaf yn gweled yn union fy mod yn camgymeryd, a bod y pwynt ymhellach yn ol fyth; ac wrth ei ddilyn, byddaf yn ei golli yn y diddechreuad. Nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am hyn. Onid ydyw y côf yn croniclo dechreuad pethau yn y meddwl? A raid i ddechreuad peth fod wedi cymeryd lle am ryw gyhyd o amser <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> ew5hesa4aih8j4828iic840m7p1aj1a Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/34 104 85312 165446 2026-05-22T14:09:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165446 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyn y gall y cof dderbyn yr argraff o hono? Neu, a ydyw dechreuad peth yn y meddwl a'r côf am dano yn gydamserol? A ydyw pob syniad y mae dyn yn dyfod yn feddiannol arno eisoes yn yr enaid er pan grëwyd ef, ond ei fod mewn ystâd o gysgadrwydd nes y deffroir ef gan amgylchiadau, neu ynte ai rhyw gyfaddasder sydd yn yr enaid i dderbyn argraffiadau, a'r argraffiadau hyny wrth eu mynychu yn myned yn ddyfnach bob tro nes o'r diwedd ffurfio yn syniadau? Tua'r adeg yr wyf yn ceisio myned yn ol ati, yr wyf yn meddwl mai o ddeutu chwe' mlwydd oed oeddwn, a bod Bob fy mrawd, oddeutu deunaw oed. Yr oedd Bob, fel y tybiwn i, yn ddyn mawr cryf; a digon o brawf o hyny i mi oedd ei fod yn gallu fy nghario ar ei gefn yn ddidrafferth. Gweithiai yn y glo, ac nis edmygodd neb erioed ei frawd yn fwy nag a wnawn i Bob, pan ddeuai adref yn ei glocsiau, â'i lamp yn ei law, a'i wyneb càn ddued a'r simdde. Cyn y pryd hwn, yr wyf yn tybied nad oeddwn wedi meddwl o ba le yr oedd fy mam a Bob a minnau yn cael ein cynnaliaeth. Pa fodd bynag, yn y cyfnod hwn, neu ynte yn fuan ar ol hyn, daethum i ddeall nad oedd dim o bethau da y byd hwn i'w cael heb brês gwirionedd yr wyf, er fy ngofid, wedi ei brofi filoedd o weithiau ar ol hyny. Dichon mai y moddion trwy ba un y daethum i ddeall hyn oedd fy ngwaith yn gofyn yn feunyddiol i fy mam am y peth yma a'r peth arall, a'i gwaith hithau yn ateb nad oedd ganddi brês i'w geisio. Yr wyf yn cofio y byddai rhyw ddyddordeb mawr i mi ynglŷn â'r adeg y byddai Bob yn dwyn ei gyflog gartref. Eisteddem ein tri o gylch y tân tra y gwaghai Bob ei boced i ffedog fy mam. Cyfrifai fy mam y cyflog lawer gwaith drosodd. Ystyriwn fod swm yr arian yn fawr iawn, a methwn a deall yn glir pa fodd yr oedd fy mam yn dyweyd nad oedd ganddi brês, a hithau yn derbyn cymaint gan Bob. Sylwn y byddai fy mam wrth gyfrif yr arian ar rai adegau yn edrych yn llawen, ac ar adegau eraill yn brudd iawn; a phob amser ar ol eu cyfrif edrychai yn synfyfyriol. Dychymygwn mai synu y byddai hi fod ganddi gymaint o arian. Druan oeddwn! Beth pe buaswn yn gwybod mai dyfeisio a phensynu y byddai hi pa fodd i'w rhoi allan, pa fodd i alla talu i bawb gyda'r ychydig sylltau oeddynt yn ei ffedog! Wrth i mi dalla fy meddwl yn ol, a choflo pa faint oedd swm cyflog Bob—y fath ''chancellor of the exchequer'' raid fod fy hen fam! Yr wyf yn cofio yn dda y byddai fy mam a Bob, ar ol<noinclude><references/></noinclude> fddpjt7s73anplol3v07ufaulz00clq Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/35 104 85313 165447 2026-05-22T14:10:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165447 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfrif yr arian, yn siarad cryn lawer yn gyfrinachol, ac mewn iaith nad oeddwn i yn ei deall, oddigerth y geiriau "rhent," a "shop." Rywbryd yn y cyfnod hwn daethum i edrych yn mlaen at ddiwrnod y cyflog gydag awch, oblegid byddai fy mam, ar ol cael y prês, yn myned i'r ''shop'' i nôl bwyd; ac am un diwrnod, fodd bynag, byddai genym gyflawnder o ymborth. Can lleied o bobl, fel mae'r goreu, sydd wedi profi y dirfawr bleser o gael cyflawnder o ymborth! Yr wyf yn meddwl nad ŵyr neb am y pleser hwnw ond y rhai, fel fy hunan, sydd yn gwybod beth ydyw bod yn brin o luniaeth. Prin a ddywedafa? ie, bod heb ddim! ond bydd raid i mi gyfeirio at hyny eto. Fel yr awgrymais yn barod, yr oedd Wil Bryan a minnau yn gyfeillion mawr, ac nis gallaf beidio cysylltu gydag ef greadigaeth neu gynhyrfiad meddyliau a syniadau yn fy enaid. Mae y côf yn fyw ynof fel y byddwn yn cenfigenu at Wil Bryan. Cadwai ei dad ''shop'' fawr, fel y tybiwn i, yn yr hon yr oedd cyflawnder o bobpeth. Yr oedd Wil yn cael tatws a chig i'w ginio bob dydd, a minnau yn cael browes. Yr oedd Wil yn cael dillad newydd yn fynych, tra mai hen ddillad Bob fy mhrawd, wedi ei hailwneyd gan fy mam, a gawn i fyth a hefyd. Yr oedd Wil yn cael ceiniog bob dydd Sadwrn, tra nad oeddwn i byth yn gweled un ond pan waghâi Bob ai boced i ffedog fy mam. Ond yr hyn a barai i mi edrych ar Wil fel y bachgen dedwyddaf ar y ddaear oedd, y ffaith fod ganddo ful bach byw! Yr adeg hono nid oeddwn yn gwybod am ddim yn y byd mawr llydan y buaswn yn ei ddymuno yn fwy na chael mul bach yr un fath ag an Wil Bryan. Nid myfi oedd yr unig un a edmygai sefyllfa hapus Wil: yr oedd yn deimlad cyffredinol ymhlith fy nghyfoedion. Ac nid oedd Wil ei hun yn anymwybodol o'i uchafiaeth arnom oll; oblegid os byddai rhai o honom wedi troseddu yn ei erbyn, y gosbedigaeth drymaf oedd yn bosibl ei gweinyddu a fyddai, nad oeddem i gael dyfod yn agos at y mul bach, yr hyn fel rheol a'n dygai yn union deg yn edifeiriol wrth ei draed. Mewn gair, yr oedd Wil, yn rhinwedd ei ful bach, yn ein gorthrymu yn enbyd; yn gymaint felly fel y darfu iddo (yr wyf yn cofio yr adeg yn dda) yn un o'n cyfarfyddiadau, pan oedd un o honom yn crwydro oddiwrth y pwnc—y darfu iddo meddaf, roddi gorchymyn allan nad oedd un o honom, heb ei ganiatâd ef, i sôn gair am ddim oll ond am<noinclude><references/></noinclude> 3yfmomyqbw0kzqsdl0cfy38bxd3ljfn Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/36 104 85314 165448 2026-05-22T14:11:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165448 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y mul bach, ac nid oedd genym ninnau ddim i'w wneyd ond ymostwng yn dawel i'r gorchymyn. Wrth i mi adfyfyrio, gynifer o bobl mewn oed ac ymhob sefyllfa yr wyf wedi dyfod i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes sydd yn gwneyd ''capital'' o'n mulod bychain! Wel, ni fuaswn yn sôn am hyn oni buasai fod mul bach Wil Bryan wedi bod yn achlysur i gynhyrfu neu ynte i greu ymofyniad yn fy enaid. Yr wyf yn cofio fy mod un tro yn synfyfyrio ar, ac yn cenfigenu at sefyllfa hapus a manteision goruchel Wil rhagor yr eiddof fi, a fy mod yn ceisio rhoddi cyfrif i mi fy hun am y gwahaniaeth, pryd y daethum i'r penderfyniad mai yr unig reswm ydoedd hwn,—fod gan Wil dad tra nad oedd genyf fi yr un. Paham yr oeddwn i heb dad? Pan ofynais y cwestiwn i fy mam, edrychodd yn gynhyrfus, a neidiodd y dagrau i'w llygaid; ond ni atebodd hi air, a cheisiodd droi fy sylw at rywbeth arall. Gwesgais innau y cwestiwn ati drachefn, a gofynais ai wedi marw yr oedd fy nhad. "Ië," ebe hi, "mae dy dad di, 'y ngwas gwirion i, yn farw mewn camwedd a phechod." Byddai fy mam yn gyffredin yn siarad mewn ieithwedd ysgrythyrol. Nid oeddwn yn deall yr ymadrodd; ond cymerais ef i arwyddo fod fy nhad wedi ei osod yn y "twll du," fel y galwn i y bedd yr adeg nono. Parodd y syniad dristwch mawr i mi ar y pryd; ond aeth heibio yn fuan. Toc ar ol hyn—nis gallaf fod yn fanwl i ychydig fisoedd yr wyf yn cofio fod fy mam wedi bod yn y ''shop''; oblegid noswaith y cyflog ydoedd, a'n bod newydd orphen swper da. Eisteddem ein tri o gylch y tân, a theimlwn i yn hapus iawn, gan nad pa fodd y teimlai fy mam a Bob. Byddai fy mam yn caniatau i mi gael aros i fyny awr neu ddwy yn hwyrach ar y noswaith y byddai Bob yn derbyn ei gyflog. Nis gallaf yn awr gyfleu mewn geiriau y dirfawr foddhad a hapusrwydd yr oedd cael aros i fyny yn hwyr yn ei fforddio i mi. Wrth feddwl can lleied peth oedd yn rhoddi i mi y fath ddedwyddwch pan oeddwn fachgen, byddaf yn gofidio yn fy nghalon na fuasai yn bosibl i mi aros yn fachgen byth. Eisteddem ein tri o amgylch y tân, meddaf; y gauaf oedd hi, ac yr oedd y noswaith yn oer ac ystormus. Eisteddwn i ar fy ystôl fach, gan wrando ar y gwynt yn rhuo yn y simdde, ac yn chwibanu yn nhwll y clo. Teimlwn yn gysgadlyd iawn, ond gwnawn ymdrech egniol i beidio cau fy llygaid rhag i fy mam fy anfon i'r gwely, a rhag i mi fforffedio cael aros i<noinclude><references/></noinclude> nnmxyaxueep9slz42mu5by7lmh3mqli Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/37 104 85315 165449 2026-05-22T14:11:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165449 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fyny yn hwyr noswaith y cyflog canlynol. Pan oeddwn bron a chael fy nghorchfygu gan gwsg, clywn rywun yn curo y drws, yr hyn a'm gwnaeth yn effro iawn. Cyn i neb gael amser i agor, daeth i mewn ddyn anolygus, a chauodd y drws ar ei ol, a cherddodd yn syth at y tân heb ddyweyd gair. Càn gynted ag y gwelais ef, penderfynais yn fy meddwl mai dyn drwg ydoedd. Yr oedd yn fudr a charpiog, a llanwodd y tŷ o arogl annymunol. Hyd yn nôd pan glywais ef yn siarad Cymraeg, yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl mai Gwyddel ydoedd. Yr adeg hono, tybiwn mai Gwyddel oedd pob un a fyddai yn fudr a charpiog. Pan ddaeth efe i'r tŷ, neidiodd Bob ar ei draed, a'i wyneb cán wyned a'r galchen, a chrynai drwyddo. Gwyddwn ar osgo Bob ei fod am goleru y dyn a'i droi allan; gwaith a fedrai yn hawdd, oblegid nid oedd y dyn ond eiddil a gwanaidd, tra yr oedd Bob yn grwmffast cryf a chrwn. Deallodd fy mam ei fwriad, a chrefodd yn grynedig arno i ymattal. Yn fy meddwl, ni welswn neb erioed can hylled, taiog, a brwnt yr olwg ag ydoedd y dyeithrddyn, a synwn at ei hyfdra yn dyfod felly i'n tŷ ni. Ni welais fy mam erioed wedi cynhyrfu yn gymaint, ac yn y fath drafferth i lywodraethu ei hun, tra y dywedai rywbeth i'r perwyl canlynol, "James, yr wyf wedi dyweyd wrthych lawer gwaith nad ydych i ddyfod yma: nid oes arnaf eisieu eich gweled byth." Ni chymerai y dyeithryn arno ei chlywed, ond yn hytrach ceisiai wneyd ffrynd o honof fi, gan siarad yn dyner wrthyf, a chan fy ngalw wrth fy enw. Synwn yn fawr sut yr oedd efe yn gwybod fy enw, a chiliwn oddiwrtho fel oddiwrth sarph. O'r diwedd, cymerodd afael ynof, gan geisio fy ngosod ar ei lin, ac aethum innau yn nwydwyllt; a chyda fy nwrn bychan, tarewais ef fy ngoreu yn ngnanol ei wyneb, ac ar yr un pryd, tynodd Bob fi o'i afaelion. Gofynodd fy mam iddo drachefn fyned ymaith; ond nid äi efe, a chododd Bob eilwaith ar ei draed ar fedr ei fwrw ef allan trwy drais; ond attaliwyd ef eto gan fy mam. Teimlwn yn ddig enbyd wrthi am rwystro Bob ei fwrw ef allan. Gofynodd y "Gwyddel," fel y galwn ef, am ymborth; a synais weled fy mam yn gosod lluniaeth o'i flaen. Bwytäodd swm digydwybod, a thybiwn unwaith nad oedd yn meddwl rhoi heibio. Gwarafunwn bob tamaid iddo, a gwyddwn fod Bob o'r un meddwl; oblegid eisteddwn ar ei lin, a theimlwn ei liniau yn crynu yn barhaus gan ddigofaint. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f2zyzyuqza0rb3gvlj5rcwm68usy057 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/38 104 85316 165450 2026-05-22T14:13:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165450 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi i'r "Gwyddel" orphen bwyta, closiodd at y tân yn hamddenol, fel pe buasai ar fedr aros trwy y nos. Erfyniodd fy mam arno wed'yn fyned ymaith; ond nid ai efe heb gael arian. Er fy mawr syndod, gwelwn fy mam yn estyn swm o arian iddo. Parodd hyn i Bob fyned i dymher ddrwg; a chof genyf ei fod yn dyweyd yn ddigofus fod fy mam wedi ynfydu, ac nad ai efe byth i'r glo i chwysu a baeddu os oedd am roddi ei ennillion caled i scamp meddw lladronllyd. Teimlwn innau yn ddigllawn fod fy mam wedi rhoddi i'r "Gwyddel" fwy o arian nag a fuasai yn angenrheidiol i brynu mul bach byw yr un fath ag un Wil Bryan. Ar yr un pryd, er mor ieuanc oeddwn, cydymdeimlwn yn fawr â fy mam; oblegid yr oedd argraff ar fy meddwl fod gan y dyeithryn ryw ddylanwad dirgelaidd arni, ac nad oedd ganddi mo'r help am yr hyn a wnelai. Nid oedd tymher ddrwg Bob yn effeithio dim ar y "Gwyddel." Wedi iddo gael yr arian, ymddangosai yn fwy penderfynol i aros. Taniodd ei getyn, a dechreuodd ddattod careïau ei esgidiau. Wrth weled hyn, collodd Bob bob amynedd; neidiodd ar ei draed, agorodd y drws yn llydan agored, gafaelodd yn ngwár y "Gwyddel,' a thaflodd ef i'r heol fel burgyn, a bariodd y drws. Oddeutu chwarter mynyd a gymerodd i Bob i fyned trwy y gwaith hwn; a churais innau fy nwylaw mewn llawenydd, nes y gwelais fod fy mam yn llesmeirio. Tybiais ei bod yn marw, ac yr oeddwn bron a gwallgofi gan ofid. Pa fodd bynag, wedi i Bob gymhwyso dwfr oer at ei hwyneb, dadebrodd a dechreuodd wylo; a chydunwyd â hi yn hyn o orchwyl gan Bob a minnau am spel. Wedi ymdawelu, ymgomiodd fy mam â Bob yn gyfrinachol; ond deallwn yn burion mai y "Gwyddel" oedd y testyn, yr hwn a alwent "y fo:" Er holi ac ymofyn yn daer gyda fy mam a Bob, methais yn hollol gael gwybod pwy oedd y dyeithryn. Yr unig ateb a gawn oedd, mai dyn drwg ydoedd, ac am i mi beidio son am dano wrth neb. Wel, da i mi a fuasai pe nas cawswn fwy o wybodaeth yn ei gylch mewn amser dilynol. Ond nid felly y gwelodd rhagluniaeth yn oreu. Onid y "Gwyddel" sydd wedi chwerwi fy holl oes? Onid efe sydd wedi rhoddi wermod yn fy nghwpanau melusaf? Mor wahanol a fuasai fy hanes pe na buasai am dano ef? Pan dybiai fy nghyfeillion<noinclude><references/></noinclude> 1nm48750cvhhhbig7iuwzzqi0w12cr1 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/39 104 85317 165451 2026-05-22T14:33:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165451 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy mod yn hapus a dedwydd, byddai efe fel fy ysbryd drwg yn diflasu pob mwyniant yn fy mynwes, ac fel hunllef arnaf pan ddylaswn fod yn gorphwyso. <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VII.<br>''Y Ddwy Ysgol.''}}}} GALLWN feddwl fod pob dyn ymhob man yn meddu syniad, pa mor gywir bynag, am dano ei hun, sef am ei ymddangosiad personol, am ei alluoedd corfforol a meddyliol, ac am ei sefyllfa gymdeithasol. Mewn geiriau eraill, mae gan bob dyn syniad am ei faint; ond nid bob amser y bydd efe yn gwneyd y syniad hwn yn hysbys i eraill. Fel rheol, ceidw ef iddo ei hun. Dichon fod rhesymau cryfion i'w rhoddi dros ei ymddygiad. Mae yn sefyll i reswm mai y dyn ei hun a ŵyr oreu am dano ei hun; ac efe yw y cymhwysaf i ffurfio syniad cywir. Ond os bydd yn ŵr gweddol alluog, ni faidd fynegu hyn heb beryglu tynu ei hun i lawr yn syniadau eraill, a gosod ei hun yn îs yn eu meddyliau nag ydyw yn ei feddwl ei hun. Rhyw un ymhob miliwn o bobl sydd yn meiddio, fel yr apostol Paul, fynegu yn ddigryn ei ragoriaeth ar eraill; ond y mae y cyfartaledd yn llawer mwy o'r rhai sydd yn credu yn eu rhagoriaeth. Cymaint ydyw dysgleirdeb prydferthwch gostyngeiddrwydd yn ngolwg dynion, fel y mae hyd yn nôd gonestrwydd yn gorfod gwisgo gorchudd dros ei lygaid yn ei bresennoldeb. Mor fawr raid fod yr hwn oedd yn gallu gwneyd y fath fynegiadau a honiadau, ac ar yr un pryd heb lychwino dim ar ei ostyngeiddrwydd a'i ledneisrwydd! Tybir yn gyffredin y dylai mawredd a gostyngeiddrwydd gydfyned â'u gilydd; ac eto y mae lle i feddwl nad ydyw yr hyn a elwir yn ostyngeiddrwydd ymhlith dynion, yn fynych iawn, ond ffurf arall ar ddoethineb, neu yn hytrach gyfrwysdra. Tybier fod y Doctor {{bar|2}}, pan yn nghanol ei frodyr yn y gymanfa, yn eu hannerch fel hyn: "Wel frodyr anwyl, chwi a wyddoch fy mod i yn alluocach na chwi oll—y gallaf ysgrifenu traethawd neu gyfansoddi pregeth, pan geisiaf, yn llawer rhagorach na neb o honoch. Mewn gair gwyddoch fy mod o ran cynneddfau naturiol a diwylliant gymaint a dwsin <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> a0qy4i3kvr9zdli1prhz085xs3z3lnj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/40 104 85318 165452 2026-05-22T14:34:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165452 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o rai o honoch, ac yn fwy na dau o'ch goreuon." Beth a ddywedai ei frodyr? Oni edrychent ar eu gilydd? ac oni fyddai yn yr edrychiad awgrym fod y llefarwr yn dechre dyrysu? ac eto pwy a ŵyr yn well na'r llefarwr ei hun fod yr hyn a roddir yn ei enau genyf fi yn wir bob gair, er na chymerai efe y byd am ddyweyd hyny? Teimla y dyn gwir fawr y gall ymddiried i eraill ffurfio eu syniadau am dano heb iddo ef eu cyfarwyddo, ac mai y tebygolrwydd fydd iddynt synied yn rhy uchel am dano; a gwell ganddo iddynt gyfeiliorni yn y ffordd hono na'r ffordd arall. Nid oes gormod o barodrwydd yn y mawr na'r bychan i gywiro eraill, os byddant yn tueddu i synied yn rhy dda am danynt. Yr wyf yn brofiadol mai teimlad anghysurus ydyw yr ymwybyddiaeth o fychander; a dichon mai hyn ydyw y rheswm fod y bychan bob amser yn gwneyd ymdrech i ddangos yr oll o hono ei hun, a hyny i'r fantais oreu. Mae hyn i'w weled mewn creaduriaid eraill heblaw dynion. Y dydd o'r blaen edrychwn ar ddau geiliog ar y domen—y ''Cochin China'' mawr heglog a phenuchel, a'r ''dandy'' bychan twt. Edrychai y blaenaf yn swrth a didaro, a hollol foddlawn ar ei sefyllfa. Ond am y ''dandy'', O fel y gwthiai ei ''frest'' allan, gan sefyll ar flaenau ei draed, a dal ei ben a'i gynffon mor uchel nes oeddynt ymron cyffwrdd âu gilydd! Canai a chanai drachefn mewn llais clir; a cheisiai, fel y tybiwn i, dynu cweryl â'r ''Cochin China''. Troai o'i gwmpas; ac, yn ei ffordd ef, dywedai, "Wyt ti ddim yn gwel'd fy mron a fy nghynffon? Does gen' tir un gynffon fel hon?" Ni chymerai y ''Cochin China'' arno ei glywed. Ond o'r diwedd, canodd yntau; ac yr oedd ei gân yn fwy tebyg i ochenaid nag i ddim arall, a thybiwn mai tosturio yr oedd efe at fychander y ''dandy''. Nis gwn pa un ai y ''Cochin China'' a'r ''dandy'' sydd yn efelychu dynion, ynte ai dynion sydd yn eu hefelychu hwy; ond amlwg ydyw fod tebygolrwydd rhyngddynt. Ond hyn yr oeddwn yn myned i'w ofyn: "Rhys, pa syniad yr wyt ti wedi ei ffurfio am danat ti dy hun? Nid oes yma neb yn gwrando; ac felly gelli ateb yn onest, heb fawr berygl i neb dybied dy fod yn hunanol nac yn ffugostyngedig. Yr wyt yn bregethwr, yn fugail, yn prydyddu weithiau, ac yn ysgrifenu yn achlysurol i'r cyfnodolion. Pa safle yr wyt yn ddal yn dy feddwl dy hun?" Wel, ceisiaf roi fy nhroed ar wddf balchder ac ateb yn onest heb dwyllo fy hun, gan nad oes yma neb dynion yn gwrando<noinclude><references/></noinclude> gsg0urug51mcpaqcdq8hazgue4mqtrf 165453 165452 2026-05-22T14:35:33Z AlwynapHuw 1710 165453 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o rai o honoch, ac yn fwy na dau o'ch goreuon." Beth a ddywedai ei frodyr? Oni edrychent ar eu gilydd? ac oni fyddai yn yr edrychiad awgrym fod y llefarwr yn dechre dyrysu? ac eto pwy a ŵyr yn well na'r llefarwr ei hun fod yr hyn a roddir yn ei enau genyf fi yn wir bob gair, er na chymerai efe y byd am ddyweyd hyny? Teimla y dyn gwir fawr y gall ymddiried i eraill ffurfio eu syniadau am dano heb iddo ef eu cyfarwyddo, ac mai y tebygolrwydd fydd iddynt synied yn rhy uchel am dano; a gwell ganddo iddynt gyfeiliorni yn y ffordd hono na'r ffordd arall. Nid oes gormod o barodrwydd yn y mawr na'r bychan i gywiro eraill, os byddant yn tueddu i synied yn rhy dda am danynt. Yr wyf yn brofiadol mai teimlad anghysurus ydyw yr ymwybyddiaeth o fychander; a dichon mai hyn ydyw y rheswm fod y bychan bob amser yn gwneyd ymdrech i ddangos yr oll o hono ei hun, a hyny i'r fantais oreu. Mae hyn i'w weled mewn creaduriaid eraill heblaw dynion. Y dydd o'r blaen edrychwn ar ddau geiliog ar y domen—y ''Cochin China'' mawr heglog a phenuchel, a'r ''dandy'' bychan twt. Edrychai y blaenaf yn swrth a didaro, a hollol foddlawn ar ei sefyllfa. Ond am y ''dandy'', O fel y gwthiai ei ''frest'' allan, gan sefyll ar flaenau ei draed, a dal ei ben a'i gynffon mor uchel nes oeddynt ymron cyffwrdd âu gilydd! Canai a chanai drachefn mewn llais clir; a cheisiai, fel y tybiwn i, dynu cweryl â'r ''Cochin China''. Troai o'i gwmpas; ac, yn ei ffordd ef, dywedai, "Wyt ti ddim yn gwel'd fy mron a fy nghynffon? Does gen' tir un gynffon fel hon?" Ni chymerai y ''Cochin China'' arno ei glywed. Ond o'r diwedd, canodd yntau; ac yr oedd ei gân yn fwy tebyg i ochenaid nag i ddim arall, a thybiwn mai tosturio yr oedd efe at fychander y ''dandy''. Nis gwn pa un ai y ''Cochin China'' a'r ''dandy'' sydd yn efelychu dynion, ynte ai dynion sydd yn eu hefelychu hwy; ond amlwg ydyw fod tebygolrwydd rhyngddynt. Ond hyn yr oeddwn yn myned i'w ofyn: "Rhys, pa syniad yr wyt ti wedi ei ffurfio am danat ti dy hun? Nid oes yma neb yn gwrando; ac felly gelli ateb yn onest, heb fawr berygl i neb dybied dy fod yn hunanol nac yn ffugostyngedig. Yr wyt yn bregethwr, yn fugail, yn prydyddu weithiau, ac yn ysgrifenu yn achlysurol i'r cyfnodolion. Pa safle yr wyt yn ddal yn dy feddwl dy hun?" Wel, ceisiaf roi fy nhroed ar wddf balchder ac ateb yn onest heb dwyllo fy hun, gan nad oes yma neb dynion yn gwrando. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3nwr1v4jx7htlyto8bbtt2vphs94ujw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/41 104 85319 165454 2026-05-22T14:36:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165454 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae yr Hwn a ŵyr bobpeth yn gwybod fy mod yn yr hyn y dylwn ac y dymunwn fod fwyaf ynddo, sef crefydd a phrofiad o bethau ysbrydol, yn ofidus o fychan. A pho fwyaf yr wyf yn geisio ymwneyd â phethau Dwyfol a thragywyddol, mwyaf oll yr wyf yn teimlo yr afael sydd gan y ddaear arnaf, a thrymaf oll yw y pwysau sydd yn fy nal i lawr. Oni bae fod dadganiadau y gair ysbrydoledig mor bendant a chryfion am allu a gras y Gwaredwr, buaswn wedi suddo i anobaith o dan lwyth calon lygredig a chydwybod euog. Fy ngweddi o ddyfnder fy nghalon ydyw, ar iddo Ef fy nerthu yn y ffydd. Gyda golwg ar fy ymddangosiad personol, gwn nad oes dim yn serch-hudol ynof, a byddaf yn synu weithiau wrth gofio fod un, rywdro, wedi fy hoffi, fel y caf, hwyrach, gyfleusdra i gyfeirio at hyn eto. Bum lawer gwaith yn cenfigenu at allu ymddyddanol Glan Alun, yr hwn oedd yn peri i bawb anghofio ei berson. Y dyn anwyl! mae yn well genyf am danat nag am gant o'r dynion golygus, twt, ond dienaid yma! Ar yr un pryd, byddaf yn ceisio credu nad oes dim yn anghynhesol yn fy ymddangosiad. Tybed a ydwyf yn camgymeryd? Pa fodd bynag, buaswn yn fwy na boddlawn i fod yn Thomas John pe buasai bosibl cael ei enaid hynod. Er y cwbl, y mae ymddangosiad prydferth a thywysogaidd yn glamp o beth i bregethwr; ac y mae yr hwn sydd yn dringo i bulpud hebddo ''at a discount''. O ran cynneddfau naturiol—wel, ïe, nid oes yma neb yn gwrando—yr wyf yn meddwl eu bod yn rhagori ar eiddo rhai o fy mrodyr. Maent yn gwybod hyny, neu o leiaf dylent wybod. Ni chymerwn lawer a dyweyd hyn wrth neb, a phe dywedai rhywun hyny wrthyf, mae yn sicr y protestiwn yn erbyn y peth; a chyfrifid hyny, hwyrach, yn ostyngeiddrwydd ynof. Gyda golwg ar fy ngwybodaeth, nid wyf nac yma nac acw. Yn wir, y mae yn yr eglwys yma hogiau sydd yn gwybod mwy o lawer na mi mewn rhyw bethau; a byddaf ar fy ngoreu yn aml rhag iddynt ddyfod i ddeall hyny, Dyna ddearyddiaeth, er engraifft: nis gwn i y nesaf peth i ddim am y wybodaeth werthfawr hono; a phan fydd un o'r hogiau yn y cyfarfod yn gofyn cwestiwn i mi yn y cyfeiriad hwnw byddaf yn gorfod arfer cyfrwysdra mawr i guddio fy anwybodaeth; oblegid ni wnai y tro iddynt ddeall mai anwybodus ydwyf, a minnau yn weinidog yr eglwys; canys creda y bechgyn,<noinclude><references/></noinclude> 8yj8qvfdpqok8fdbh6hnyi770t3948u Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/42 104 85320 165455 2026-05-22T14:37:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165455 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>druain, fy mod yn gwybod pobpeth. Mae genyf amryw ffyrdd i ddyfod allan o'r dyryswch hwn. Pan ofynir cwestiwn i mi na wn i ddim pa fodd i'w ateb, byddaf yn cyfeirio y cwestiwn at fachgen yn y dosbarth yr hwn y tybiaf a all ei ateb; ac os byddaf yn lled feddwl ei fod wedi ei ateb yn iawn, byddaf yn rhoi nod gymeradwyol. Ond os gofynir cwestiwn nad allaf fi na neb arall yn y dosbarth ei ateb, byddaf yn ceisio argraffu ar feddyliai fy ysgoleigion y pwysigrwydd i bawb ddarllen a chwilio drosto ei hun, ac fod y wybodaeth a geir y ffordd hono yn llawer mwy llesol na phe byddai i mi ateb y cwestiwn ar y pryd. Byddaf yn ychwanegu y cedwir y cwestiwn mewn cof hyd y cyfarfod dilynol, pryd y dysgwyliaf y bydd pawb yn gallu ei ateb. Yn y cyfamser byddaf yn chwilio am y wybodaeth i mi fy hun. Wrth gwrs, nid oes neb yn gwybod hyn, ac ni wnai dynion call fy meïo pe baent yn gwybod; oblegid pe bawn yn addef fy anwybodaath o flaen y bechgyn, andwyai hyny lawer ar fy nefnyddioldeb. Yr hyn a achlysurodd i mi ysgrifenu rhagymadrodd mor faith i'r bennod hon oedd, meddwl y fath anffawd ydyw i bregethwr, yn enwedig, golli manteision addysg yn more ei oes. Mae yn feunyddiol yn tramgwyddo ar draws rhywbeth y dylasai fod wedi ei ddysgu yn yr ysgol pan yn fachgen; ac nid all byth godi i safle a defnyddioldeb y rhai a dderbyniasant addysg elfenol drwyadl pan yn blant. Pan oeddwn i yn hogyn, nid oedd yn fy nhref enedigol ond dwy ysgol ddyddiol yn unig. Cedwid un gan foneddwr o'r enw Mr. Smith, am yr hwn y mae genyf gof da. Mr. Smith ydoedd ddewin mawr y dref. Edrychid arno gan rai gyda'r fath edmygedd ag oedd yn ymylu ymron ar addoliad. Credid ei fod yn hyddysg mewn saith o ieithoedd, ac y gallai siarad geiriau nad oedd neb yn eu deall. Clywais fy mam yn sicrhau mai Mr. Smith a Dic Aberdaron oeddynt y ddau ysgolaig mwyaf a welodd y byd erioed. Gan nad beth ydyw fy syniad erbyn hyn am gywirdeb mynegiad fy mam, gwn fy mod yn ei gredu yn ddios y pryd hyny. Parai hyn i mi sefyll ar yr heol pan gyfarfyddwn â Mr. Smith, gan edrych ar ei ol gyda syndod annesgrifiadwy. Dyn tál, eiddil, a gwalltlaes ydoedd, yn gwisgo dillad duon ac yspectol. Yr wyf yn meddwl mai efe ydoedd yr unig un yn ein tref y pryd hwnw a adawai ei farf dyfu o dan ei drwyn. Golygid ysgol Mr. Smith yn sefydliad uwchraddol ac anrhydeddus iawn; ac<noinclude><references/></noinclude> qgg5lmgkdap0ys23nyope2l3me7gqlc Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/43 104 85321 165456 2026-05-22T14:38:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165456 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid oedd neb yn dychymygu am anfon eu plant yno oddieithr boneddigion a phobl dda arnynt. Cof genyf fy mod yn cysylltu rhyw ddirgelwch mawr ynglŷn â'r cŵd gwyrdd yn yr hwn y cariai y bechgyn eu llyfrau i ysgol Mr. Smith. Mae genyf le cryf i gredu na buasai fy mam yn meddwl am fy anfon i'r ysgol at Mr. Smith, hyd yn nôd pe buasai ei hamgylchiadau yn caniatâu hyny, am y credai hi mai dyn diras oedd efe. Yr oedd ganddi amryw resymau dros ffurfio y syniad hwn am dano: yn un peth, am ei fod yn myned i'r llan ar y Sabboth yn lle bod "hefo chrefydd;" neu, mewn geiriau eraill, am ei fod yn myned i Eglwys Loegr yn lle myned i'r capel. Yr oedd "Eglwys Loegr," a "chrefydd" yn eiriau pell iawn oddiwrth eu gilydd yn ngeiriadur fy mam. Peth arall a barai iddi gredu mai dyn diras oedd Mr. Smith oedd, ei arferiad o gymeryd tro ar brydnawn Suliau yn lle bod yn myfyrio yn y gair a'r athrawiaeth. Hefyd yr oedd fy mam wedi clywed gan hen forwyn i Mr. Smith fod ganddo yn ei dŷ "lyfr codi cythreuliaid," yr hwn a ddarllenai yn feunyddiol "wedi bô nos." Nid oedd ammheuaeth am gywirdeb yr ystori hon, oblegid un noswaith gadawsai Mr. Smith y llyfr yn agored ar y bwrdd, ymha le y gwelodd y forwyn ef fore drannoeth, ac yn ddifeddwl nesaodd ato a cheisiodd ei ddarllen, ond dim un sill a allai hi ei ddeall o hono oddigerth y gair Satan; ac erbyn i'r forwyn fyned i'r ystafell drachefn, yr oedd y llyfr wedi diflanu. Mae yn wir nad oedd y forwyn yn deall gair o Saesonaeg. Fel prawf ychwanegol at hyn, cofiai fy mam yn burion fod Mr. Smith gyda Mr. Brown y person, pan fu yr olaf yn Ty'nllidiart yn rhoi yr ysbryd i lawr, a phan y cauodd arno yn ei flwch tybacco. Casgliad fy mam oedd hyn; os oedd Mr. Smith. ac yntau heb fod yn "berson," yn gallu cynnorthwyo Mr. Brown i roi ysbrydion i lawr, nad oedd efe yn ddyeithr i'r gwaith o'u cyfodi hefyd. Ond rheswm penaf fy mam dros gredu mai dyn diras oedd Mr. Smith ydoedd y ffaith ei fod yn gwisgo ''moustaches''—Nid allai neb ei hargyhoeddi hi, meddai, fod undyn ag oedd wedi profi pethau mawr crefydd yn gallu gadael ei farf ar ei wefus uchaf. Ni welodd hi neb ag oedd yn deilwng o'r enw cristion yn gwneyd felly. Beth a gymerasai Mr. Elias a Mr. Rees a gwisgo ''moustaches''? Yr oedd tipyn o locsen wrth y glust yn beth hollol wahanol. Fel y dywedais, yr oedd y pethau hyn, hyd yn nôd pe buasai fy mam yn gallu fforddio, yn rhwystr anorfod<noinclude><references/></noinclude> 4x7qc91dhke1tdpfg20fvree02h82kw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/44 104 85322 165457 2026-05-22T14:39:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165457 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar fy ffordd i gael myned i'r ysgol at Mr. Smith. Heblaw hyny, nid oedd fy mam yn credu mewn dysgeidiaeth uchel. Clywais hi yn dyweyd ambell dro na welodd hi erioed ddaioni o roi dysg uchel i blant, fod llawer o ddysg wedi arwain ambell un i'r crogbren. "Am blant tlodion," meddai, "os gallant ddarllen eu Bibl, a gwybod y ffordd i'r bywyd, mae hyny yn llawn ddigon iddynt. Yr ysgol arall a gedwid gan un o'r enw Robert Davies, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Robyn y Sowldiwr. Gŵr cydnerth a chnawdol ydoedd ef, ac mewn gwth o oedran. Treuliasai flodau ei ddyddiau yn myddin Prydain Fawr, ymha sefyllfa yr hynododd ei hun fel milwr dewr a phybyr. Pan ddychwelodd yr hen sowldiwr i'w dref enedigol, yr oedd efe yn ddiffygiol o'i goes ddehau. yr hon a adawsai ar ei ol yn Belgium, fel arwydd o'i zel a'i ffyddlondeb dros ei wlad pan oedd yn ymladd yn erbyn Boni. Cyflenwasai Robert y diffyg hwn â choes bren o ddefnydd tramor, ac o'i wneuthuriad ef ei hun, a ffurel haiarn ar ei blaen. Ar ei ymadawiad o'r fyddin, teimlodd y llywodraeth oedd mewn awdurdod ar y pryd rwymedigaeth i roddi iddo y pension o chwe cheiniog yn y dydd am y gweddill o'i oes, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr fel milwr, ac fel cais sylweddol i wneyd i fyny am y golled o'i goes; o herwydd paham yr arferai Robert alw y goes bren "yr hen goes chwech." Am rai wythnosau wedi i Robert ddychwelyd o'r fyddin, gelwid arno yn fynych i swpera gyda ei hen gyfeillion, er mwyn iddynt ei glywed yn adrodd hanes ei frwydrau, a'r hyn a welodd ac a glywodd. Pa fodd bynag, daeth Robert yn fuan i ben ei denyn, ac aeth ei hanes, o dipyn i beth, yn ddiflas cyn i'w ystymog golli ei harchwaeth; a'r unig fan erbyn hyn lle y gwrandewid ei adroddiadau gyda gradd o ddyddordeb ydoedd y ''Cross Foxes,'' â'r hwn le yr oedd Robert yn ymwelydd cyson. Gan nad oedd incwm y goes bren nemawr mwy na'r galwadau wythnosol yn y ''Cross Foxes'', syrthiodd yr hen filwr yn fuan i amgylchiadau cyfyng. Ond yn union deg daeth ymwared i'r hen frawd. Agorodd rhagluniaeth le iddo i gadw tollborth. Yn y sefyllfa hon cafodd yr hen sowldiwr, am dymmor, fyd da helaethwych beunydd. Yr oedd golwg raenus a chomfforddus arno yn y cyfnod hwn; a diammheu mai felly y buasai pethau yn parhâu oni bae i oruchwylwyr y ffordd fawr ddarganfod nad cadw y ''gate'' yr oedd Robert, ond<noinclude><references/></noinclude> d666bufrqrb2wwxjxe5wsya3owbbebt Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/45 104 85323 165458 2026-05-22T14:40:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165458 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae y ''gate'' oedd yn ei gadw ef. Mewn cynghor, daethant i'r penderfyniad nad hyn ydoedd amcan gwreiddiol y tollborth; a chan fod rhai o'r goruchwylwyr dipyn yn hunanol a chalon galed, mynasant adferu y tollborth i ateb dyben ei sefydliad; a bu raid i Robert ymadael. Yr oedd Mr. Brown y person yn ŵr dyngarol a charedig dros ben wrth ei blwyfolion, yn enwedig y rhai nad oeddynt yn hereticiaid. Ac yn gymaint a bod yr hen ryfelwr yn un o'i "anwyl gariadus frodyr," ac yn ŵr defosiynol, hyny ydyw, yn myned i'r eglwys bob bore Sul—yn myned ar y gwely bob prydnawn Sul—ac yn myned i'r ''Cross Foxes'' bob nos Sul—cymerai Mr. Brown ddyddordeb neillduol yn ei amgylchiadau, ac efe oedd y cyntaf i awgrymu wrtho y priodoldeb iddo ddechre cadw ysgol. "Robyt," ebe Mr. Brown, -felly y clywais fy mam yn adrodd—"chi yn scolor—chi yn medryd darllen a scyfenu a deyd y catecism—chi dechre ysgol yn yr hen office gwâg—fine helpio chi. Llawer o plant heb dysg, Robyt, chi chargio ceiniog yr wythnos—gneyd ''lot'' o pres—byw yn fforddus—fi gneyd y ngore i chi. Chi, Robyt, bod yn ymladd dros y gwlad, mine ymladd drostoch chithe rwan." Chware teg i Mr. Brown; yr oedd ganddo galon gynhes, ac ni orphwysodd nes iddo osod Robert ar ei draed, neu yn hytrach ar ei droed, ynglŷn â'r ysgol ddyddiol. Yr oedd ysgol Robyn y Sowldiwr yn hen syfydliad erbyn i mi fod yn gymhwys o ran oedran i fyned iddi. Pa fodd y bu i fy mam fy anfon yno, nid yw fy nghof yn ddigon bywiog i roddi y manylion. Sicr wyf nad fy ngorawydd i am addysg a fu y cymhelliad. Yr wyf yn lled benderfynol fy meddwl hefyd, nad o herwydd fod fy mam yn argyhoeddedig o grefyddolder Robert Davies. Y rheswm tebycaf y gallaf fi feddwl am dano yn awr ydyw fod Mr. Brown wedi arfer ei ddylanwad gyda fy mam ar y mater. Er y credai hi nad oedd Mr. Brown wedi profi "y pethau mawr," gwn y coleddai syniadau uchel am dano fel dyngarwr a chymydog. Yr unig beth a'm cymmodai i â'r syniad o fyned i'r ysgol oedd y ffaith fod Wil Bryan yn aelod o'r sefydliad gwerthfawr(?). Er hyn, yr wyf yn cofio yn dda y teimlwn fy mod yn gwneyd gwrolwaith wrth fyned i'r ysgol, a fy mod yn teilyngu rhyw fath o deyrnged am fy hunanymwadiad. Yr wyf wedi sylwi wrth ddarllen hunangofiaint, nad anenwog yn hanes eu hawdwyr ydyw y diwrnod cyntaf yr aethant i'r ysgol. Mae y diwrnod<noinclude><references/></noinclude> bo2d1u7umm6k878g6e3o5m7pnnk637o Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/46 104 85324 165459 2026-05-22T15:03:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165459 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw yn fyw yn fy meddwl innau, ac yr wyf yn adgofio y dydd a'i ddygwyddiadau, nid fel y gwnânt hwy, sef er difyrwch i eraill, ond er difyrwch i mi fy hun, yr unig un, o bosibl, a allai gael difyrwch ynddynt. Hwyrach mai gwell a fyddai i mi gymeryd pennod arall i adrodd hanes y diwrnod. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VIII.<br>''O dan Addysg.''}}}} Os dygwydd i'r hanes hwn syrthio i ddwylaw rhai o fy nghyfeillion pan fyddaf fi yn isel fy mhen, ac os dygwydd iddynt fyned i'r drafferth o'i ddarllen, gwn y byddant yn synu fy mod wedi ymdroi cymaint gyda phethau mor fychain a dibwys. Dyma fi wedi ysgrifenu saith o bennodau ar y cyfnod byr, sef o adeg fy ngenedigaeth hyd y diwrnod yr aethum gyntaf i'r ysgol ddyddiol. Pe buaswn yn ei ysgrifenu i un o'r cyfnodolion, diammheu genyf y buasai y golygydd wedi colli pob amynedd er ys talm, ac wedi fy annog i symud ymlaen yn gyflymach, neu ynte i daro yr hanes yn ei dalcen. Ond yn hyn y mae y fantais o ysgrifenu i ddifyru fy hun, ac nid y cyhoedd. Mae y dyn sydd yn myned ar daith negesyddol yn cerdded yn syth yn ei flaen ar hyd y ffordd agosaf, ac hwyrach yn ol pedair milldir yr awr ar ei oriawr. Ond y mae yr hwn sydd yn myned i rodiana i'w hen wlad enedigol yn ddall i geryg milldiroedd; mae yn dringo dros y cloddiau, yn crwydro yn y llwyni, yn henythod adar, yn casglu cnau a mwyar duon, yn eistedd ar y twmpathau mwsoglyd, ac yn lolian gyda min yr afon, a hyny heb gofio fod ganddo y fath beth âg oriawr yn ei logell. Rhowch i mi yr olaf. Y fath ryddid sydd genyf! Nid oes neb i'm galw i gyfrif am wneyd rhagymadrodd i bob pennod, os byddaf yn dewis nid oes eisieu ailffurfio brawddegau, os byddant yn darllen dipyn yn anystwyth a chlogyrnaidd, ac nid oes eisieu gofyn i mi fy hun beth a ddywed y darllenydd am y peth yma neu y peth arall. Yr oeddwn yn meddwl heno diweddaf yn y byd am Dafydd Dafis, yr hen flaenor yma. Hen ŵr da a duwiol odiaeth ydyw Dafydd Dafis—un o ffyddloniaid yr hen ysgol, yr hwn na symudodd oddi wrth reolau yr hen dadau gymaint ag i droi ei wallt oddi ar ei dalcen. <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 0k3kv83gzplcbogd1d5lmkkm6jkael4 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/47 104 85325 165460 2026-05-22T15:03:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165460 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae genyf barch mawr i'w synwyr ac i'w ragfarnau. Gwn fod gan Dafydd Dafis feddwl uchel o honof, ac fe allai mai hyny ydyw y rheswm fy mod innau yn meddwl mor uchel am dano ef. Yn wir, erbyn i mi ystyried, yr wyf yn cael mai hon ydyw y rheol wrth ba un yr wyf yn ffurfio fy syniadau am y brodyr. Os deuaf i ddeall fod hwn a hwn yn meddwl yn dda am danaf, byddaf, rywfodd, yn erbyn fy ngwaethaf, yn dyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid fod rhywbeth yn y dyn hwnw. Ac felly i'r gwrthwyneb. Yr wyf yn cofio adeg pan oeddwn yn synied yn lled uchel am y brawd o'r ''post-office''; ond pan ddaethum i ddeall nad oedd ef o'r un syniad am danaf fi, syrthiodd ar unwaith yn fy meddwl a byth ar ol hyny nid allaf feddwl am dano ond fel un â rhyw ddiffyg pwysig yn perthyn iddo, er nad allaf roddi fy mys ar y diffyg hwnw. Ond beth pe buasai Dafydd Dafis yn gwybod fy mod heno yn ysgrifenu peth mor blentynaidd â hanes y diwrnod cyntaf yr aethum i'r ysgol? Mae arnaf ofn y buaswn yn syrthio yn ei olwg. Yn ffodus, ni ŵyr efe ddim am yr hanes hwn. Byddaf yn aml iawn yn cael fy hunan yn gwneyd rhai pethau ac yn ymattal oddi wrth bethau eraill, a hyny yn gwbl er mwyn Dafydd Dafis. Wrth ymddyddan âg ef bum mewn profedigaeth lawer gwaith i arfer cellweirair, ond o barch i'r hen ŵr ymattaliwn. Dro yn ol, daeth blys mawr arnaf i adael i fy marf dyfu ar fy ngwefus uchaf, oblegid y mae llawer iawn o bregethwyr ieuainc yn gwneyd felly yn awr; ond cofiais y fynyd hono am Dafydd Dafis; nid allwn wneyd y fath beth heb ei dramgwyddo, ac yr wyf yn eillio byth. Gan nad ŵyr Dafydd Dafis am yr hyn yr wyf yn ei wneyd, yr wyf, er difyrwch i mi fy hun, am roddi hanes manwl, heb gelu dim, am y diwrnod cyntaf yr aethum i'r ysgol ddyddiol. Dydd Llun ydoedd, a'r gauaf oedd hi. Galwodd Wil Bryan am danaf yn brydlawn, a chafodd siars benodol gan fy mam i gymeryd gofal o honof. Awgrymodd Wil wrthyf ar y ffordd fod yn lled debyg y byddai raid i mi ymladd ag un neu ddau o'm cydysgoleigion—nad oedd hyny yn beth pleserus, ond mai dyna oedd yr arferiad bob amser gydag ysgolor newydd, ond y gofalai ef am fod wrth fy nghefn i edrych am i mi gael chware teg. Yr oedd yr awgrymiad hwn yn bob peth ond cysurus i mi, yn benaf am fy mod yn argyhoeddedig nad oedd fy nhalent yn gorwedd o gwbl yn y ffordd hono, ac hefyd am fy mod yn gweled y posiblrwydd i'r ffaith, os cymerai le, ddyfod<noinclude><references/></noinclude> sdocitqiyscgz12b2hynhnooi91wb9t Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/48 104 85326 165461 2026-05-22T15:04:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165461 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i glustiau fy mam gartref, ac i'r eiddo Abel Hughes yn y Seiat Plant. Yr oedd arnaf gywilydd cydnabod hyn wrth Wil Bryan; a dywedais wrtho yr ymddygwn yn ol ei gyfarwyddyd ef; ac, yn wir, ni fynaswn er dim ei groesi, gan mor uchel y safai yn fy meddwl. Adeilad hir a chul ydoedd yr ''office'' lle y cynnaliai yr hen Sowldiwr ei ysgol. O'i chwmpas yr oedd mainc arw a cham; ac yn gysylltiedig â hi yr oedd desc yn pwyso ar y mur. Sylwais yn un o'r pethau cyntaf nad oedd yn y ddesc prin fodfedd ysgwâr heb fod ôl y gyllell wedi bod yn tori arni naill ai llun, ffigiwr, neu enw. Ymhen draw yr ysgoldy, yn ymyl y tân, yr oedd desc y meistr, ac yn ei gwaelod yr oedd clamp o dwll, dyben pa un, fel y cefais weled ar ol hyny, oedd er cyfleusdra i goes bren y meistr ymwthio drwodd pan fyddai efe yn eistedd. Ar fy mynediad cyntaf i mewn i'r ysgol, gwelais olygfa ryfedd a newydd iawn i mi y pryd hyny. Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol, rhai ar dop y ddesc, rhai ar gefnau eu gilydd yn chwareu ceffylau, ac yn carlamu o gwmpas yr ysgol, ac eraill yn dwr ar lawr, ac yn ymrwyfo trwy eu gilydd fel llysywenod mewn llaid. Yr oedd un-bachgen cloff wrth ei fagl-yn ceisio dynwared y meistr, gan eistedd wrth ei ddesc, ac wedi gwthio ei fagl trwy y twll, ac yn gwaeddi yn uchel am osteg, ond i ddim pwrpas. Newidiai yr olygfa bob mynyd, a gwaeddai pob un nerth ei ben oddigerth un bachgen, yr hwn a safai ar dop y ddesc yn ymyl y ffenestr, gan ranu ei sylw cydrhwng y chware â'r cyfeiriad o ba un y dysgwylid y meistr. Teimlwn yn rhyfedd ar y pryd, a meddyliwn fy mod wedi dyfod i ganol plant drwg iawn; a phe gwybuasai fy mam pa fath rai oeddynt, ni chawswn byth fyned yno drachefn. O'r ochr arall, yr oeddwn yn meddwl mai dyma y lle goreu a welswn erioed am ''sport''. Ond fy nheimlad gorthrechol ar y pryd oedd rhyw fath o ddyeithrwch ac yswildod poenus, oblegid gadawsai Wil Bryan fi ar fy mhen fy hun, ac ymgymerasai yn chwannog â'r chwareu. Pan oeddwn wedi fy meddiannu gan y teimladau hyn, gwelwn y bachgen oedd yn ymyl y ffenestr yn gosod ei ddau fys blaen yn ei safn ac yn rhoi chwibaniad clir; ac mewn amrantiad yr oedd pob bachgen yn ei le, ac yn chwythu yn fyr. Gwyddwn o'r goreu yr edrychwn i yn wirion ddigon yn sefyll fel ''monument'' oer ar fy mhen fy hun wrth y drws pan ddaeth y Sowldiwr i mewn. Aeth heibio i mi heb gymeryd arno fy ngweled. Edrychai yn ffyrnig a chyffrous; a deallais yn fuan nad<noinclude><references/></noinclude> 96oob3pshpobz5edq70mrf6qhjggyw5 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/49 104 85327 165462 2026-05-22T15:05:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165462 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd y gwyliedydd wedi rhoddi yr arwydd yn ddigon buan, ac fod y meistr wedi clywed yr holl drwst byddarol. Aeth rhag ei flaen at y ddesc, a thynodd allan gansen hir a chref. Gwelwn y bechgyn yn gwneyd gwar barotoawl, tra yr elai yr hen Sowldiwr o gwmpas yr ysgol, gan ffonio pawb yn greulawn a diwahaniaeth. Myfi oedd yr unig un na chafodd flas y gansen, a myfi oedd yr unig un a dorodd i wylo allan, oblegid yr oeddwn wedi dychrynu. Gyda golwg ar y bechgyn eraill, yr oedd yn ymddangos eu bod hwy wedi hen gynnefino â'r oruchwyliaeth. Wedi i'r bachgen olaf dderbyn ei ffonod, aeth y meistr yn ol at y ddesc; cyfododd ei ddwylaw i fyny a dywedodd, ''"Let us pray,"'' ac adroddodd y pader yn bwyllog, a'r bechgyn yn ei ddilyn. Deallais ar ol hyn y byddai rhai o'r bechgyn drwg yn nghanol y trwst clochyddol hwn yn adrodd rhywbeth tra gwahanol i'r pader, yr hyn a barai chwerthiniad dystaw yn eu cyfneseifiaid. Wedi i'r pader gael ei adrodd, gwaeddodd yr hen Sowldiwr yn awdurdodol, ''"Rivets, my boys,"'' yr hwn oedd yr arwyddair bob bore Llun i'r bechgyn ddyfod ymlaen gyda'u ceiniogau. Os byddai bachgen heb ddyfod â'i geiniog gydag ef, byddai raid iddo estyn ei law allan i'r dyben o dderbyn argraff gynhes y gansen, yr hyn fel rheol a barai iddo ddawnsio yn ol i'w eisteddle gan wasgu ei law rhwng ei gliniau, neu dan ei gesail, neu ei gwthio i'w safn, neu ynte ei hysgwyd fel pe buasai newydd ei thynu allan o'r tân. Hyn yn gyffredin a fyddai effaith slap â'r gansen yn ei gynnyrchu, yn enwedig os na byddid wedi cael cyfleusdra i boeri ar gledr y llaw a rhoi dau flewyn yn groes arni. Wrth fyned heibio, yr wyf yn cofio y byddai y bechgyn yn credu yn ddiysgog yn nghyfaredd y poeryn a'r ddau flewyn croes i liniaru effaith losgfäol y gansen. Fy syniad i fy hun ydyw, er i mi wneyd y prawf lawer gwaith, na welais lawer o lês yn deillio o'i harferyd. Anfynych y gwelid bachgen yn wylo ar ol cael un slap ar ei law; ond os caffai ddau neu dri, byddai ganddo hawl y pryd hyny i ddolefain heb gael ei ystyried yn llwfryn. Byddwn i bob amser yn dolefain ar ol cael un slap; yr oeddwn yn enwog fel criwr; ond nid allwn ei helpio. Ond i ddychwelyd; wedi i Wil Bryan fy nwyn at y meistr, ac iddo yntau roddi fy enw yn y llyfr, a derbyn fy ngheiniog, yr hon yr wyf yn cofio yn dda oedd yn boeth gan mor dyn yr oeddwn wedi ei dal yn fy llaw rhag i mi ei cholli—dywedodd wrthyf am i mi fyned i fy<noinclude><references/></noinclude> sa3n68ib9nqj17nophdlp4zz7o6nf2b Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/50 104 85328 165463 2026-05-22T15:05:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165463 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lle, ac y cawn wybod toc beth a fyddai fy nhasg. Cefais y fraint o eistedd rhwng Wil Bryan ac un o'r enw John Beck. Yr olaf a ofynodd i mi yn ddiymdroi a oedd genyf ddimai? Atebais nad oedd. Gofynodd drachefn a wyddwn i pa bryd y byddai genyf un y gwyddai ef am ''shop'' lle yr oedd lot o gyfleth i'w gael am ddimai—ei fod yn adnabod y siopwraig, ac y cawn ymron gymaint arall os byddai ef gyda mi. Dywedodd Wil Bryan wrtho am dewi, ac os na wnai y byddai yn edifar ganddo; a lled awgrymodd y byddai i mi roddi curfa iddo. Ychydig a feddyliwn y pryd hyny mai bachgen cyfrwysddrwg oedd Wil. Dywedodd Beck fod i mi roddi curfa iddo ef yn rhywbeth uwchlaw fy ngallu. Gofynodd Wil i mi a oedd genyf ofn Beck? Atebais innau yn wrol nad oedd, er mai fel arall y teimlwn. "O'r gore," ebe Wil, a chyn pen y pum' mynyd yr oedd y newydd wedi ei sibrwd yn nghlust pob bachgen yn yr ysgol fod ymladdfa i gymeryd lle rhwng Rhys Lewis a John Beck. Yr oedd fy nghydwybod yn dyner, a theimlwn yn bryderus iawn wrth feddwl am y fath beth; ond nid gwiw oedd i mi sôn am hyny wrth Wil Bryan, yr hwn a awgrymodd yn fy nghlust amryw gyfarwyddiadau fel rhagbarotöad i'r amgylchiad pwysig. Yr oeddwn wedi cael fy nysgu gan fy mam gartref, a chan Abel Hughes yn y seiat plant, fod ymladd yn bechod mawr; ac yr oedd fy nghydwybod yn danllwyth ynof wrth feddwl am fyned i ymladd hefo bachgen na ddywedodd air brwnt wrthyf erioed, ac nad oedd ynof un elyniaeth tuag ato. Cof genyf fy mod yn ceisio ymgysuro os dygwyddai i'r amgylchiad ddyfod i glustiau fy mam, y gallai hi edrych yn fwy maddeuol ar y peth am fod fy ngwrthwynebwr yn Eglwyswr, oblegid gwyddwn na choleddai hi syniadau uchel am yr Eglwyswyr. Hyderwn gan hyny yr edrychai hi ar y peth fel gwrthdarawiad damweiniol rhwng yr Eglwys a'r capel. Am oddeutu awr o amser, nid oedd yn ymddangos i mi fod dim gwaith yn myned ymlaen yn yr ysgol. Yr oedd yr hen Sowldiwr gan mwyaf o'r amser â'i ben i lawr,-naill ai yn darllen neu yn ysgrifenu, a'r bechgyn, er fod eu llyfrau yn agored o'u blaenau, yn sisial â'u gilydd yn ddidòr. Gwyddwn o'r goreu mai myfi a John Beck oedd testyn yr ymddyddan. Os dygwyddai i'r siarad fyned dipyn yn uchel, gwaeddai y meistr nerth ei ben, ''Silence''! ac am ychydig o fynydau byddai dystawrwydd. Am chwarter i un ar ddeg<noinclude><references/></noinclude> 1c3wstr2w6obiqbxz1t672qtpsuezjw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/51 104 85329 165464 2026-05-22T15:06:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165464 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r gloch, rhoddwyd gorchymyn i ni fyned i chware, a neidiodd pawb ar eu traed gan ruthro allan fel defaid yn myned trwy adwy. Curai fy nghalon yn gyflym wrth feddwl am yr hyn oedd i gymeryd lle. Cyn i mi wybod dim ymron, cefais fy hunan yn y buarth yn ymladd gyda John Beck. Gwnaethum fy ngoreu yn yr amgylchiad, er nad oeddwn yn ymwybodol pa fodd yr oeddwn yn dyfod ymlaen, oblegid yr oedd fy llygaid gan mwyaf o'r amser yn gauedig, nid gan ddyrnodiau fy ngwrthwynebwr eithr gan ofn. Gwn hyn, na pharhäodd yr ornest yn hir, a llonodd fy nghalon pan ddeallais fod pobpeth drosodd, a fy mod yn orchfygwr. Credu yr wyf hyd heddyw mai fy helpu a gefais gan Wil Bryan. Nis gwn pa un falchaf oeddwn, ai am fod yr ymladdfa drosodd ai am fy mod wedi dyfod allan o honi yn orchfygwr, ac yn hollol groeniach, pan saethwyd braw i fy nghalon gan lais awdurdodol y Sowldiwr yn ein galw i'r ysgol. Amlwg ydoedd ei fod wedi gweled yr holl helynt; a chlywais amryw o'r bechgyn yn sisial ar unwaith mai mab y wraig oedd yn glanhâu yr Eglwys, yr hwn a lysenwid "Llèch," oedd wedi cario y newydd i'r meistr; a lleng oedd y bygythion o fwrid ar ei ben. Wedi i ni fyned i'r ysgol, galwyd ar Rhys Lewis a John Beck at y ddesc i roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Dyma fynydau ofnadwy, ond profodd Wil Bryan yn un â'i air. Daeth at y ddesc heb ei ofyn i roddi ei dystiolaeth. Mynegodd yn ddigryn wrth y meistr mae Beck oedd wedi rhoddi hèr i mi, a fy nharo gyntaf Gwadwyd hyn yn bendant gan Beck. Galwyd tyst arall, a dygwyddodd hwnw fod yn elyn i Beck, a chadarnhäodd dystiolaeth Wil Bryan. Dywedodd yr hen Sowldiwr, yn gymaint ag mae hwn oedd y diwrnod cyntaf i mi fod yn yr ysgol, y gollyngai efe fi yn rhydd a digerydd am y tro, ond gyda golwg ar Beck y caffai dair ffonod; un am ymladd heb fod archoll yn galw am hyny, un am gymeryd ei orchfygu gan ei wrthwynebydd, ac un am wadu y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn. Cydymdeimlwn yn fawr â Beck. Gosodwyd ef, druan, ar gefn yr hogyn cryfaf yn yr ysgolâ dynoethwyd rhan neillduol ar ei gorff, nad oeddwn ar y pryd yn, gofalu am ei gweled, ac nad ydwyf yn awr yn gofalu am ei henwi, a gweinyddwyd arno y gosbedigaeth ddywededig. O flaen pob ffonod, rhagymadroddai yr hen Sowldiwr fel y canlyn,—"''This is for fighting without a reasonable cause''" (ffonod); "''this is for coming out of the fight the vanquished''" (ffonod); ''and this is for denying the true''<noinclude><references/></noinclude> 79qt8lonqu720awnuc2k7mg76oeqlkg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/52 104 85330 165465 2026-05-22T15:07:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165465 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''accusation brought against him''" (ffonod). Mewn amser dilynol, clywais y balafar hon rai degau o weithiau, a dyna sut yr wyf yn ei chofio mor dda. Pregeth neillduol o ''gyfeiriadol'' a dylanwadol ydoedd hon o eiddo yr hen Sowldiwr, am hyny efe a'i traddodai yn fynych. Yn ei dro gwelais bob bachgen yn yr ysgol oddigerth un yn neidio ac yn gwaeddi o dan ei heffeithiau, er nad yn orfoleddus. Yr un hwnw ydoedd Wil Bryan. Pa hwyl bynag a gaffai yr hen Sowldiwr, nid allai beri i Wil waeddi, yr hyn a'i gwnaeth yn wron ymhlith y plant, ac yn gynllun o ddewrder. Ymddangosai i mi fod y bechgyn yn gyffredinol yn cymeryd dyddordeb mwynhaol yn ngweinyddiad y gosb ar Beck; ac ystyriwn hyny yn greulondeb mawr ar eu rhan, gan na wyddent pa un o honynt fyddai nesaf dan yr un driniaeth. Gorweddai euogrwydd mawr ar fy ngydwybod o herwydd yr hyn a gymerasai le; ac yr oedd arnaf frys am weled amser gwely, er mwyn i mi gael gweddio am faddeuant am bechodau y diwrnod, fel y cawswn fy nysgu. Yn ffortunus, ni ddaeth yr amgylchiad i glustiau fy mam; ac am a wn i, ni wybu Abel Hughes am y peth. Ni chymerodd dim neillduol le brydnawn y dydd hwnw. Yr wyf yn sicr mai un wers yn unig a gefais, a hono mewn sillebiaeth, y dydd cyntaf yr aethym i'r ysgol; ac nid wyf yn meddwl i neb o'r bechgyn gael mwy nag un. A siarad yn gyffredinol, gallaf sicrhau fod pob bachgen yn cael mwy o ffonodiau nag o wersi. Dygwyddodd un peth y diwrnod hwnw a dawelodd lawer ar fy nghydwybod, ac sydd hefyd yn fforddio cysur mawr i mi y fynyd hon. Pan aethym adref i fy nghinio, cefais ddimai gan berthynas i mi am fy ngwrolwaith yn myned i'r ysgol. Ni chollais ddim amser i hysbysu John Beck am y dygwyddiad hapus, ac i wneyd ammodau heddwch âg ef. Daeth yntau gyda mi i'r ''shop'' lle yr oedd y ddimeuwerth fawr i'w chael a chafodd Beck y rhan oreu o'r cyfleth, ac ni fachludodd yr haul ar ein digofaint. Yn fy niniweidrwydd yr wyf yn cofio yn burion y credwn, o herwydd fod pethau wedi diweddu mor dda, nad oedd anghenrheidrwydd am i mi weddio am faddeuant wrth fyned i orphwys, ac ni wnaethum. Hyd yr wyf yn cofio, fel yr adroddais yr oedd dygwyddiadau y diwrnod cyntaf yn ysgol Robyn y Sowldiwr. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1ms3omo4al16s5tsf4onl5ipcncg160 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/445 104 85331 165468 2026-05-22T15:13:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165468 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu|canol|600px|tudalen=445]]<noinclude><references/></noinclude> dv6fr6gy3cakjjsmp67bxql7tikbs01 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/444 104 85332 165469 2026-05-22T15:13:31Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 165469 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/443 104 85333 165470 2026-05-22T15:13:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165470 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9 165471 165470 2026-05-22T15:14:04Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 165471 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/53 104 85334 165472 2026-05-22T16:24:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165472 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX.<br>''Materion Eglwysig.''}}}} Y DYDD o'r blaen cefais y pleser o ymweled â'r Ysgol Frytanaidd yn y dref hon; ac wrth sylwi ar ei threfn ardderchog, yr addysg dda a buddiol a gyfrenid ynddi, y ddysgyblaeth fanol ac esmwyth a weinyddid, a'r olwg lân a hapus oedd ar y plant, nid allwn beidio galw i'm cof y dirfawr anfanteision y bum i yn llafurio danynt yn ysgol Robyn y Sowldiwr. Mae fy ngwaed yn berwi ynof y fynyd hon wrth feddwl am ei ragrith, ei ddylni, ei ddiogi, a'i greulondeb digyffelyb. Er mwyn cyfiawnder â fy hanes, rhaid i mi són ychydig am dano yn y bennod hon, cyn troi at rywbeth mwy sylweddol; ac yna ffarweliaf âg ef am byth, oni bydd raidi mi roddi fy nhystiolaeth yn ei erbyn ryw ddydd a ddaw. Pa fodd bynag, hyderaf iddo gael trugaredd, fel yr wyf finnau yn dysgwyl am yr unrhyw. Y pwnc pwysicaf gan yr Hen Sowldiwr oedd cael y geiniog, a'r nesaf o ran difyrwch iddo oedd gwneyd cansen gref yn yfflon ar ein cefnau a'n dwylaw bob rhyw wythnos neu naw niwrnod. Nid oedd y driniaeth arw a gaem oddiar ei ddwylaw yn ddyeithr i'n rhieni; ond yn eu hanwybodaeth, ystyrient hwy hyny yn angenrheidiol er ein lles; ac yr oeddem ninnau, y bechgyn, yn edrych ymlaen am y ddysgyblaeth lem hon ymron gyda'r un cysondeb, er nad gyda'r un archwaeth, ag yr edrychem am ein pryd bwyd. Hyd yr wyf yn cofio, nid oedd un o'r bechgyn mwy na minnau yn gofalu dim am ddysgu; ac yr oedd yr hwn yr oedd ein haddysg wedi ei hymddiried iddo yn gofalu llai na hyny. Ymddangosai i mi bob amser ei fod yn cael mwy o bleser yn ein gwaith yn methu dyweyd y dasg na phan fyddem yn ei medru, am y rhoddai hyny iddo esgus i'n cystwyo. Disgwyliai—os dysgwyliai hefyd i ni allu dysgu heb ein cyfarwyddo. Meddyliwn yn aml ei fod yn teimlo yn siomedig os dygwyddai i ni fedru y wers er ei waethaf. Ni cheisiai byth greu ynom gariad at wybodaeth, ac uchelgais am ragori; yn hytrach creodd adgasedd at bob math o addysg, ac ysfa annaturiol ymhob bachgen am fod yn ddigon cryf i roddi curfa yn ol iddo ef, yr hyn, yr wyf yn sicr, a addawodd pob un iddo ei hun y pleser wedi iddo ddyfod yn "ddyn." Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddwn, ar ol<noinclude><references/></noinclude> n8lxxlxm2uga8ixffr75qw8ofx1eiox Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/54 104 85335 165473 2026-05-22T16:25:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165473 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cael curfa dost ganddo, pan oedd fy nghefn yn ysig a fy nghalon yn drom, yn dyfalu yn fy meddwl wrth edrych ar ei goes bren, pa nifer o'r ''French'' a laddodd efe tybed, pan yn ymladd yn erbyn Boni? Dywedai John Beck iddo glywed ddarfod i'r Hen Sowldiwr ladd tri chant. Enwai Wil Bryan nifer uwch o lawer; ac ychwanegai nad oedd dim a roddasai fwy o bleser i'r Sowldiwr na'n lladd ninnau oll, ond ei fod yn ofni cael ei grogi; ac â'r syniad hwn y cyttunem oll. Ac nid oedd un ymdrech meddwl yn ofynol i gredu hyn; oblegid pan fyddai efe yn ceryddu bachgen, byddai y fath gynddaredd i'w weled yn ei wyneb esgyrn clicied ei ën yn ymwthio allan—gwythienau ei dalcen yn chwyddo ac yn duo, a'i olwg yn arswydus i edrych arno. Yr un pryd yr oedd ganddo ryw allu rhyfeddol i newid gwedd ei wyneb. Cof genyf ei weled fwy nag unwaith yn y gynddaredd hon, pryd y deuai Mr. Brown y person yn sydyn i'r ysgol. Yr oedd Mr. Brown yn ŵr tew, rhadlawn a charedig, difeddwl-drwg am ei gymydogion, yn enwedig os byddent yn myned i'r Eglwys. Gwelais, meddaf, Mr. Brown yn dyfod yn sydyn i'r ysgol pan fyddai yr Hen Sowldiwr yn ei gynddaredd; ac mewn amrantiad newidiai wyneb yr hen ragrithiwr, a gwisgai wedd nefolaidd yn mron. Galwai un o honom ymlaen i adrodd y catecism neu golect; ac wedi i ni orphen, tynai ei law yn serchog dros ein penau. Llongyfarchai Mr. Brown ef am ei lafur a'i lwyddiant, a dywedai, "Ch'i gyneyd llawer o daioni yma, Robyt; ch'i cael tâl am hyn eto." Os dygwyddai i un o honom, yn ngwyddfod Mr. Brown, edrych yn anfoddog, neu mewn unrhyw wedd arwyddo nad oeddym yn berffaith hapus, gwae i ni wedi i'r gŵr rhadlawn droi ei gefn! Yn wir, pa un a'i hwyaith a'i anhywaith yr edrychem, byddai yr ymdrech a gostiai i'r Hen Sowldiwr edrych yn fwyn, a'r dreth a osodai ar ei natur fileinig yn mhresennoldeb Mr. Brown, yn creu gwrthweithiad ynddo wedi i'r gŵr parchedig droi ei gefn; a byddai ei dymher ddrwg yn waeth nag o'r blaen. Ar adegau, byddai rhywrai yn achwyn wrth Mr. Brown fod y Sowldiwr yn arfer creulondeb at y bechgyn, a deuai y gŵr parchedig i'r ysgol i ymddyddan â'r meistr ar y mater. Galwai yr Hen Sowldiwr fe allai y bachgen y cyhuddid ef o arfer creulondeb ato i wyneb Mr. Brown, a gofynai iddo, gydag awgrymiad pendant yn ei lygad pa fodd yr oedd i ateb, "Onid wyf yn feistr tirion?" Nid<noinclude><references/></noinclude> f3ro0vov2bcw8vp89n90et3ejvxrysh Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/55 104 85336 165474 2026-05-22T16:26:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165474 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwiw a fyddai i'r bachgen hwnw ddyweyd yn amgen, a chaffai Mr. Brown ei foddloni mai siarad pobl oedd y cyfan. Ac eto yr oedd manteision yn ysgol Robyn y Sowldiwr, o leiaf yr hyn a ystyriem ni y bechgyn yn fanteision. Bob prydnawn Gwener, byddai yr hen filwr yn nodi allan ddau o honom i fod yn weision iddo am yr wythnos ddilynol. Swydd y gweision hyn a fyddai glanhau yr ysgoldy, cynneu tân, a negeseua. O dan y penawd olaf, yr oedd yn gynnwysedig myned yn fynych i'r ''Cross Foxes'' i gyrchu cwrw i'r Sowldiwr, a hyny bob amser heb brês. Hyd nes y deuid i gynnefino â hyn, byddai y gorchwyl yn un anghysurus iawn, oblegid byddai yr hen Mrs. Tibbet, y dafarnwraig, yn dwrdio yn enbyd; a byddai raid iddi bob amser gael dangos i'r negesydd swm dyled yr Hen Sowldiwr, yr hwn oedd yn ysgrifenedig mewn ''chalk hieroglyphics'' ar gefn drws y seler. Hen wreigran dew, yr un led o'r top i'r gwaelod, oedd Mrs. Tibbet. Byddai ei hwyneb bob amser o liw dugoch, a dywedai rhai mai wrth brotestio na byddai hi byth yn profi dyferyn o ddiod feddwol yr oedd ei hwyneb wedi cymeryd y wedd hono. Pa fodd bynag, coleddai y bechgyn feddwl uchel am Mrs. Tibbet, am ei bod yn dal yr un syniadau â hwy am fuchedd a chymeriad yr Hen Sowldiwr. Yr wyf yn cofio yn dda gyda pha fath hwyl y byddai Mrs. Tibbet yn traethu ei syniadau ar ddiffygion y meistr, pan fyddai hi yn dangos i ni ei gyfrif ar ddrws y seler, ac yn dadgan ei barn na byddai iddo byth fod yn alluog i'w wastadhau. Un tro, clywais Wil Bryan yn gwneyd y sylw wrthi fod gan yr Hen Sowldiwr gyfrif mwy o lawer na'r hwn oedd ar ddrws y seler, yr hwn hefyd nas gallai byth ei dalu. "Beth," ebe'r hen wreigan, wedi dychrynu yn fawr, "oes gyno fo gownt yn rhywle arall?" Ond pan esboniodd Wil mai at gyfrif mawr y dydd a ddaw yr oedd yn cyfeirio, tawelodd ei meddwl yn hynod, a dywedodd, "Ho! wel, rhyngo fo â'i fater am hyny; rhaid i bawb o honom fyn'd i'w ateb, ac mi gaiff bawb gyfiawnder. Dae o yn talu 'i gownti mi, cymred o'i siawns wed'yn." Y peth mwyaf anghysurus i'r gweision a fyddai cynneu tân yn yr ysgoldy, oblegid rhaid oedd iddynt ymorol am y briwydd at y pwrpas, el y gallasai y gwrychoedd oddiamgylch ddwyn tystiolaeth. Yr wyf yn cofio o'r goreu pan oedd Wil Bryan a minnau un bore heb yr un pric i ddechre tân, i Wil ofyn i mi yn ddifrifol a wyddwn i a fyddai<noinclude><references/></noinclude> lf40rn1pkl6wzyfu5mb2ccsm5sypf5r Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/56 104 85337 165475 2026-05-22T16:27:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165475 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y meistr yn cymeryd ei goes bren gydag ef i'r gwely, ac a fyddai yn bosibl ei lladrata? "Ah," meddai Wil, "mi fasa hi yn cynneu yn brâf!" Gwelaf ei wyneb yn dysgleirio gan foddhad wrth feddwl am y peth! Druan oedd Wil! ni chafodd byth roddi ei ddymuniad mewn grym. Ond am y manteision yr oeddwn yn sôn. Pan fyddai un yn was ni ofynid iddo gymaint a edrych ar ei lyfr; ac yr oedd yn hollol rydd oddiwrth bob ceryddon, pa ddrwg bynag a wnelai yn ystod amser ei weinidogaeth. Yn wir, dywedid fod y meistr dro yn ol hyd yn nôd wedi gwenu ar un o'r gweision. Nis gallaf sicrhâu fod hyn yn ffaith oblegid ni welais i erioed wên ar ei wyneb oddigerth yn mhresennoldeb Mr. Brown. O herwydd y manteision goruchel hyn, byddem ar brydnawn Gwener yn gwrando fel llygod i ran pwy yr oedd y weinidogaeth gysurlawn i ddisgyn. Anfynych y deuai i ran Wil Bryan a minnau, am y rheswm fod ein rhieni yn gapelwyr, ac am mai anaml yr elem i'r Eglwys oddigerth pan renid bara brith yno. Myned i'r Eglwys ar fore Gwener y Groglith a fu yn achlysurol roddi terfyn ar dymmor arosiad Wil Bryan a minnau yn ysgol Robyn y Sowldiwr; ac wedi i mi adrodd am yr amgylchiad hwn, byddaf, fel y dywedais, yn ffarwelio â'r Pharaoh hwnw am byth. Wrth adgofio yr amgylchiad yr wyf yn awr yn myned i'w adrodd, prin yr wyf yn deall ystâd fy nheimlad yn ei wyneb. Mewn un ystyr, yr wyf yn teimlo euogrwydd o herwydd fy nirieidi, ac ar yr un pryd nis gallaf fygu y ''chuckle'' sydd yn fy mynwes wrth gofio y rhan a gymerais ynddo. Os ydyw y teimlad hwn yn bechadudus, gobeithiaf y câf faddeuant o hono. Er mai croniclo fy nrygioni y byddaf wrth ei adrodd, anmhosibl yw i mi fyned heibio iddo, gan ei fod yn bwysig yn fy hanes, ac fod yr amgylchiad wedi bod yn achlysur i roddi terfyn ar hyny o ysgol ddyddiol a welwyd yn oreu ei rhoddi i mi. Bore y Groglith ydoedd, ac o herwydd nad oedd gwasanaeth yn y capel, a bod y tywydd yn rhy wlyb i ni fyned i chware, aeth Wil Bryan a minnau gyda'r plant eraill i'r Eglwys. Ni wyddwn fod gan Wil un bwriad croes i ddiniweidrwydd wrth fyned, ac ni ddarfu iddo sôn gair wrthyf ar y ffordd. Dichon ei fod yn ofni pe buasai yn gwneyd ei fwriad yn hysbys i mi, na fuaswn yn cyttuno âg ef. Yr oedd yn yr hen Eglwys sêdd fawr, ddofn, ac ysgwâr, yr hon a gynnwysai oddeutu ugain neu ragor o blant, ac i'r hon<noinclude><references/></noinclude> iuda43hb2cpujt4qs3xr0z4b6tycbub Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/57 104 85338 165476 2026-05-22T16:28:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165476 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr elai ysgoleigion Robyn y Sowldiwr. Wedi cau drws y sêdd hon, nid allem o herwydd ei dyfnder weled hyd yn nôd Mr. Brown yn ei bulpud, ac nid allai neb o'r gynnulleidfa ein gweled ninnau. Y sedd nesaf at hon oedd hir a chul, yn yr hon yr eisteddai y Sowldiwr, ac efe yn unig, i'r dyben o osod braw ar y plant a'u cadw rhag bod yn afreolus. Er mwyn cysur yr ysgolfeistr, yr oedd Mr. Brown, yn gyson a'i garedigrwydd arferol, wêdi gorchymyn tori twll yn ngwaelod sêdd y Sowldiwr, i'r dyben o roddi cyfleusdra i'w goes bren ymwthio drwodd pan fyddai efe yn eistedd, blaen yr hon oedd felly yn weledig yn sêdd y bechgyn. Nid cysur yr ysgolfeistr yn unig a gyrhaeddid y ffordd hon. Yr oedd i'r bechgyn weled blaen y goes bren yn "tueddbenu" i'w hadgofio yn feunyddiol fod yr hwn a arswydent mor fawr yn eu hymyl, er ei fod yn anweledig, ac felly yn eu cadw o fewn terfynau gweddeidd-dra. Toc wedi i'r gwasanaeth ddechre, gwelwn Wil yn craffu yn fyfyrgar ar yr hyn oedd weledig o'r goes bren. Yn ddilynol, gwelwn ef yn tynu o'i logell gortyn main ond cryf. Yr oedd eisoes ar y cortyn gwlwm rhedeg wedi ei wneyd yn barod, yr hyn oedd yn dangos yn eglur nad dyfais sydyn oedd wedi dyfod i feddwl Wil. Aeth Wil ar ei liniau, a llithrodd y cwlwm yn esmwyth am flaen y goes bren. Yna parodd i mi gymeryd gafael yn y cortyn, a dywedodd yn fy nghlust,—"Pan glywi di o'n brathu, dal d'afael," gan siarad am y goes bren fel pe buasai bysgodyn. Nid gwiw oedd i mi anufuddhâu; ac nid hir y bum yn dysgwyl i'r pysgodyn frathu, oblegid, yn ol trefn Eglwys Loegr, yr oedd yn bryd i'r gynnulleidfa godi ar ei thraed, a cheisiodd y Sowldiwr gydymffurfio; ond clywn ef yn syrthio ar ei sêdd fel darn o blwm. Yn y sefyllfa hon cadwasom ef trwy ystod yr holl wasanaeth. Ar y dechre beichiai a rhuai fel tarw mewn rhwyd; ond buan y boddwyd ei lais gan sain fawreddog yr organ. Daliodd Wil a minnau ein gafael yn y cortyn nes oeddym yn glasu yn ein gwynebau. Ni chynnorthwyid ni yn yr ymdrech hon gan neb o'r bechgyn oddieithr John Beck, yr hwn, heb ei ofyn, a dorchodd ei lewys, ac a fu o wasanaeth mawr. Yr oedd y nifer mwyaf o'r bechgyn yn mwynhau ein hystryw castiog, ac yn gorfod cynnal eu hochrau, a gwthio eu cadachau poced i'w safnau, rhag chwerthin allan. Edrychai eraill mewn braw wrth feddwl am y canlyniadau, ac edrychai mab y wraig oedd yn glanhâu yr Eglwys yn anfoddog. Pan<noinclude><references/></noinclude> ga2v2dzh4gpmcehbqzjmz7eto5zu028 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/58 104 85339 165477 2026-05-22T16:29:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165477 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd y gwasanaeth yn terfynu, gorchymynodd Wil i John Beck gymeryd ei gyllell a thori y cortyn o fewn troedfedd i flaen y goes bren. Wedi i Beck wneyd hyn gwthiodd Wil y gweddill o'r cortyn i'w logell mewn eiliad a dywedodd, "Dyna fo yrwan fel iâr yn dodwy allan," gan gyfeirio yn ddiammheu at yr arferiad o rwymo llinym am goes yr iar er mwyn gwybod pa le y bydd yn dodwy. Yna gorchymynodd Wil i bawb o honom fyned allan yn hamddenol, a chydag wynebau sobr. Pan oeddym yn myned allan yn araf a difrifol yn ol y gorchymyn, gwelem Mr. Brown, ar ei ffordd i'r festri, yn edrych dros ymyl sêdd y Sowldiwr, a chlywsom ef yn dyweyd, "Holo! Robyt, fi meddwl chi ddim yma heddyw." Ni ddarfu i ni aros i weled nac i glywed ychwaneg; ond protestiai Wil Bryan ei fod ef wedi edrych drach ei gefn pan oedd Mr. Brown yn yr act o fyned i mewn i'r festri, ac iddo sylwi fod y gwr parchedig yn gwasgu ei gadach poced ar ei safn, ac fod ei war a'i glustiau càn goched â'r tân; a chredai Wil mai chwerthin yr oedd, wedi deall pa beth a gadwasai y Sowldiwr yn anweledig. Ac nid oedd hyn yn anghredadwy, oblegid gŵr llawen oedd Mr. Brown. Adeg bryderus a fu arnom o hyny hyd fore Llun. Daethom yn ystyriol o ysgelerder y weithred a gyflawnasom, ac nid oedd ammheuaeth ar ein meddwl na roddid i'r meistr gan "Lléch" adroddiad manwl o'r holl amgylchiad. Llawer cynghor a fu rhwng Bryan, Beck, a minnau; ond nid allem weled un llwybr yn agored i ddianc rhag y gosb a gyfiawn haeddem. Bore Llun a ddaeth, a rhaid oedd myned i'r ysgol. Yn wir, ymddangosai Wil Bryan fel pe buasai yn awyddus am fyned, oblegid galwodd am danaf yn gynnarach nag arferol. Tybiwn weithiau mai eisieu cael y gosb drosodd yr oedd efe; ond meddyliwn bryd arall fod ganddo ryw gynllun yn ei feddwl i'w hosgoi, oblegid yr oedd yn neillduol o dawedog a myfyrgar. Am danaf fy hun, yr oedd y fath arswyd arnaf fel mai prin y gallai fy nghoesau fy nghario. A'r un modd y teimlai Beck. Wrth ein gweled mor ofnus, dywedodd Wil wrthym pan oeddym yn myned trwy y drws i'r ysgoldy, "Cheer up; mi ddaw yn well nag yr ydach yn ofni." Nid oeddwn yn gweled pa fodd yr oedd yn gallu gobeithio hyn; ond cadarnhäwyd fi yn y syniad fod ganddo ryw gynllun i'n gwaredu. Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol, ac am unwaith yn ddystaw a llonydd, fel pe buasent yn dysgwyl yn bryderus<noinclude><references/></noinclude> dv3oyx45y8bfkhgygt7pkpglgd0x3db Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/59 104 85340 165478 2026-05-22T16:30:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165478 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am ein dyfodiad. Wedi i ni eisiedd, planodd Wil ei lygaid yn ngwyneb "Lléch," a gwridodd yntau at fôn ei wallt, a thrôdd ei ben draw. Deallodd pawb yr awgrym, ond ni ddywedodd neb air. Yn y màn torwyd ar y dystawrwydd gan sŵn coes bren yr Hen Sowldiwr yn pegio ymlaen at yr ysgol. Edrychodd y bechgyn ar Bryan, Beck, a minnau gyda phryder a thosturi. Nis gallaf ddesgrifio fy nheimladau pan oedd wyneb ffyrnig y meistr yn gwneyd ei ymddangosiad a phan welais ei lygaid yn cyfeirio yn syth y foment y daeth i mewn at y fan lle yr eisteddai Bryan a minnau. Ond yr oedd genyf obaith gwan o hyd fod gan Wil gynllun i'n gwaredu. Aeth yr hen warrior, fel y galwai Wil ef, yn syth at y ddesg, a dywedodd ei bader fel arferol, ond gwan iawn oedd y clochydda iddo y tro hwn. Cán gynted ag y dywedodd yr Amen, edrychodd pob llygad tuag ato, a gwelwn ef yn tynu allan o'r ddesg gansen newydd, gref. Torchodd gypsen ei lawes ddehau, poerodd ar ei law, edrychodd fel gwaedgi ar Wil Bryan, a phrysurodd ei gamrau tuag ato. Yn lle gwneyd gwar barotöawl fel y byddai arferol, neidiodd Wil ar ei draed, a safodd y Sowldiwr, a gorchymynodd i "Lléch" gloi y drws a chadw yr agoriad. Ond nid oedd Wil yn meddwl am ffoi. Er fod ei wefusau yn gwynlasu ac yn crynu, a'i lygaid yn melltenu tân, ni thynodd ei olwg oddiar yr Hen Sowldiwr am eiliad. Parodd edrychiad beiddgar Wil i'r meistr betruso am foment; ond y foment nesaf prysurodd yn ei flaen â'i wyneb yn welw gan gynddaredd. Pan oedd efe o fewn dwylath i Wil, cyfododd y gansen i uchder ei ben ar fedr dechreu ei gystwyo; ond cyn iddo gael amser i roddi ei fwriad mewn gweithrediad, Wil, âg un naid, a ymaflodd yn ffyrnig yn ei goes bren, tynodd hi ato gyda'r fath sydynrwydd, a tharawodd ei ben yn erbyn ystymog yr Hen Sowldiwr, yr hyn a'i codymodd i'r llawr yn un talp. Wrth adgofio yr amgylchiad, y mae sŵn ei ben yn taro yn erbyn y llawr yn fy nghlustiau, fel pe buasai yn digwydd y fynyd hon. Trodd Wil ar ei sawdl a cherddodd yn hamddenol tua'r drws. "Llech" yn grynedig a estynodd iddo yr agoriad, ac yn hyn efe a wnaeth yn gall. Pan oedd Wil yn myned trwy y drws, amneidiodd arnaf fi a Beck i'w ddilyn. Gwrthodais wneyd hyny, oblegid am y waith gyntaf, meddyliais ei fod yn fachgen drwg. Edifarheais gannoedd o weithiau na buaswn wedi cymeryd ei awgrym. Bu Beck yn gallach na mi, a diangodd am ei fywyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3w0l7rjbffx1suhc73afay45yqrb96m Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/60 104 85341 165479 2026-05-22T16:31:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165479 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Am beth amser, yr oedd y Sowldiwr wedi ei syfrdanu, ond nid wedi ei lwyr orchfygu. Ni welais byth, cynt nac wedi hyn, ddyn â choes bren yn ceisio cyfodi oddiar lawr. Gallwn feddwl ei fod yn un o'r gorchestion mwyaf. Ond i fyny y daeth y warrior heb i neb geisio ei helpu. Edrychai fel bustach mewn lladd-dŷ, yr hwn y gwnaed cais aflwyddianus i'w daro i lawr. Chwythai trwy ei ffroenau yn hyglyw. Gwelais fy ffolineb o beidio dilyn Wil Bryan allan, a chyfodais ar fy nhraed gan feddwl cywiro y camgymeriad. Yr oedd yn rhy hwyr. Y foment nesaf yr oedd y gansen yn fy nhori bob ffordd ar draws fy mhen, fy ngwâr, fy nghefn, fy nwylaw, fy nghoesau, a phobman ar fy nghorff. Aeth yn nos dywell arnaf a chollais bob ymwybyddiaeth. Nis gwn am ba hyd y bûm yn y sefyllfa hon. Pan ennillais fy synwyr, teimlwn fel pe buaswn mewn breuddwyd, ac yr oeddwn yn hollol analluog i symud oddiar fy ngorwedd. Tybiwn fod yr ysgol yn wag, ac eto clywn rywun yn cwyno ac fel pe buasai ar farw. Meddyliwn mai clywed fy nghwynion fỳ hunan yr oeddwn, a fy mod wedi cael fy ngadael gan bawb i drengu. Gwnaethum ymdrech egnïol i droi fy mhen, a gwelwn ddau neu dri o'r bechgyn yn sefyll wrth ddrws agored yr ysgoldy, ac yn edrych yn frawychus iawn. Yr oedd John Beck yn un o honynt. Gwaeddais arno; a phan ddeallodd fy mod yn fyw, rhedodd ataf, a chododd fi ar fy eistedd. Teimlwn fod pob migwrn ac asgwrn o honof yn dyfod oddiwrth eu gilydd. Wedi i Beck fy rhoi i eistedd, er fy syndod, gwelwn yr Hen Sowldiwr ar ei gefn ar lawr a'i wyneb wedi glasu, a Bob fy mrawd yn ei ddillad gwaith a chan ddued â'r glöyn ar ei liniau ar ei frest, ac yn ei dagu yn brysur fel y tybiwn i. Er fy nghywilydd, yr wyf yn cydnabod, oblegid rhaid i mi ddyweyd y gwir, i mi waeddi a hyny o nerth oedd genyf, "Dal ato fo, Bob." Pan ddeallodd Bob fy mod yn fyw, gollyngodd ei afael o'r Sowldiwr, a daeth ataf a dechreuodd nadu. Gwelodd Bob na fedrwn gerdded, a chymerodd fi ar ei gefn, gan adael i'r Sowldiwr ddyfod ato ei hun, pryd y gwelai yn oreu. Ymddengys fod Beck, ar ol dianc allan, wedi aros wrth y drws i wrando, ac i weled beth a ddeuai o honof fi. Deallodd yn fuan fy mod yn ei "chael hi." Yn union deg, pwy a elai heibio, wedi bod yn gweithio stem y nos, ond Bob fy mrawd. Gwaeddodd Beck arno fod yr Hen Sowldiwr yn fy lladd. Nid oedd eisieu iddo waeddi eilwaith. Rhuthrodd Bob i'r ysgoldy, a chlywais<noinclude><references/></noinclude> 6hr8p7szh5u6fvpd0ir9am8j9k20xgb Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/62 104 85342 165480 2026-05-22T16:32:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165480 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y bechgyn oeddynt yn llygad-dystion yn dyweyd iddynt gredu yn sicr pan wnaeth ei ymddangosiad, a'i wyneb càn ddued â'r simdde, mai y gŵr drwg ydoedd wedi dyfod i nol yr Hen Sowldiwr. Daliodd Bob y meistr yn fy nghuro pan oeddwn yn hollol anymwybodol,a rhuthrodd arno fel gwallgofddyn, a dygodd ef i'r llawr gyda'r un sydynrwydd âg y dygwyd ef ychydig fynydau yn flaenorol. Yn y sefyllfa hon y gwelais y ddau pan ddaethum ataf fy hun. Wel, nid yn y fan yna y terfynodd yr helynt, oblegid yr oedd Bob a minnau a Wil Bryan yn "blant y seiat;" ac nid oedd yn bosibl i amgylchiad fel hwn fyned heibio heb sylw arno. Ond gan y bydd raid i mi gyfeirio at amryw o'r hen dadau duwiol oeddynt yn y seiat y pryd hyny, cymeraf bennod arall i adrodd yr hanes. Pe buaswn yn bwriadu i'r hanes hwn gael ei argraffu, buaswn yn ysgrifenu yn fwy manwl am ysgol Robyn y Sowldiwr, er mwyn i fechgyn y dyddiau hyn weled y dirfawr gynnydd a'r gwelliantau sydd wedi cymeryd lle yn ein hysgolion a'u meistriaid mewn llai na hanner oes. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD X.<br>''Y pwngc o Addysg.''}}}} YR wyf yn cofio yn eithaf da beth oedd yn myned trwy fy meddwl pan oeddwn yn myned adref ar gefn Bob ar ol y gurfa ddigyffelyb a gawswn gan yr hen Sowldiwr, a hyny ydoedd: A gawn i gurfa arall gan fy mam, tybed, wedi iddi glywed am fy nirieidi? Gofynais y cwestiwn i Bob; a sicrhaodd yntau fi na fyddai anghen fy nghuro mwyach am flwyddyn o leiaf. Er fy mod dan fy nghlwyfau, yr oedd y syniad fod y gosbedigaeth drosodd yn un hapus. Rhedai fy meddwl at Bryan a Beck. Druain oeddynt! yr oedd y gosbedigaeth yn eu haros hwy, os nad gan y Sowldiwr, eto gan eu rhieni yn sicr. Myfi yn wir a wnaethpwyd yn fwch diangol iddynt yn yr ysgol, ond yr oedd y gosb drosodd; a theimlwn erbyn hyn fy mod yn fwy ffodus na hwy. Onid hyn ydyw fy mhrofiad ymhob cyfnod ar fy oes? Onid ydyw y prawf bychan sydd yn fy aros yn llawer mwy yn fy ngolwg na'r prawf mawr sydd wedi myned heibio? Ni ddygwyddodd i Bob feddwl gofyn i mi pa ddrwg a wnaethum i haeddu fy nghuro mor dost gan y meistr; ond dyna oedd y cwestiwn <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> jlouzkgvdttw063uqxen72zmhnmfwsa Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/61 104 85343 165481 2026-05-22T16:36:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165481 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (Bob a Robyn y sowldiwr).jpg|canol|600px]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> m0qjgwgarjh8qy0hes39l45b3i5252o Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/63 104 85344 165482 2026-05-22T16:58:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165482 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyntaf a ofynwyd i mi gan fy mam ar fy mynediad i'r tŷ. Nid oeddwn erioed wedi arfer celu dim o'r gwir oddiwrthi, ac adroddais dan wylo yr hanes am rwymo y goes bren yn yr Eglwys. Nis gallwn beidio gweled fod Bob yn mwynhau yr adroddiad yn fawr, ond fel arall yr effeithiai ar fy mam; ac o'r braidd y gallodd Bob fy arbed rhag cael curfa arall. Pa fodd bynag, pan aeth fy mam i fy chwilio, a chanfod y gwrymiau cochion ar bob rhan o fy nghorff, newidiodd ei thôn yn rhyfeddol, a dangosodd yn ddigon eglur ei bod yn perthyn yn lled agos i mi. Yr wyf yn cofio cystal â phe buasai hi ddoe fy mod yn edrych arnaf fy hunan fel un wedi dyfod trwy lawer, ac yn teimlo rhyw fath o foddhad fod genyf gleisiau ar fy nghorff, y rhai oeddynt yn sicrhâu cydymdeimlad fy mam. Ond yr oeddwn yn synu ei bod hi yn beïo can lleied ar y Sowldiwr. Nid wyf yn synu at hyny heddyw; oblegid ei hamcan yn ddiammheu oedd argraffu ar fy meddwl fy mod yn haeddu y cerydd. Dywedai fy mod yn fachgen drwg, ac wylai yn hidl, a meddyliwn mai oblegid fy mod mor ddrwg yr oedd hi yn wylo. Yr wyf yn sicr erbyn hyn mai am fod cleisiau ar fy nghorff yr oedd hi yn colli dagrau. Llefarodd lawer o bethau nas gallaf yn awr eu dwyn i'm cof; ond yr wyf yn sicr ei bod wedi dywedyd y rhai hyn, "Fod rheswm hyd yn nôd mewn rhyfel—fod gwahaniaeth rhwng curo plentyn ac ymladd yn erbyn Boni—nad oedd coes bren ond coes bren wedi'r cwbl." Ond yr ymadrodd mwyaf cysurlawn a ddisgynodd ar fy nghlust oedd fy mod wedi cael llawn ddigon o ysgol—fy mod wedi bod dan addysg am agos i flwyddyn gron, ac fod yn hen bryd i mi feddwl am ddechre gwneyd rhywbeth. Dywedodd fy mam unwaith ac eilwaith fod gormod o ddysg yn andwyo plant, ac wedi arwain ambell un i'r crogbren. Ychwanegodd na chafodd hi erioed ddiwrnod o ysgol oddieithr Ysgol Sul, ac na wariwyd ceiniog erioed ar addysg fy nhaid a nain, a'u bod hwy yn gwybod "be' oedd be," ac wedi cael gafael ar y gwirionedd yn ddison am danynt, yn barchus gan eu cymydogion, ac wedi marw mewn tangnefedd. Yr oedd fy mam yn ddynes o dymherau cryfion, ac yn hynod dafodrydd. Mae yn rhaid fod ganddi hefyd gof rhagorol, oblegid byddai bob amser yn ''clensio'' yr hyn a ddywedai gydag adnod o'r Bibl, neu bennill o eiddo y Ficer Pritchard, neu y bardd o'r Nant,<noinclude><references/></noinclude> je5poh88bm1km2eio3swn2x996m5b1v Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/64 104 85345 165483 2026-05-22T16:59:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165483 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>er mai anaml y dyfynai o'r olaf heb ychwanegu, "Gresyn na fuasai Thomas wedi cael gras." Ar yr amgylchiad presennol, cyfeiriodd fy mam feddwl Bob a minnau at amryw o ddiarebion Solomon, tra yr oedd hi yn frysiog yn gwisgo ei chlôg a'i bonet fawr; ac yna aeth allan. Edrychodd Bob trwy y ffenestr i weled i ba gyfeiriad yr elai, a dywedodd "Rhys, mae mam, wel di, yn myn'd i roi y Sowldiwr trwy'r ''drill''. Gâd i ni gael hanes y goes bren yna drosodd eto." Aethum dros yr hanes eilwaith, ac y mae yn rhaid i mi addef fy mod yn gallu ei adrodd yn llawer rhwyddach yn absennoldeb fy mam. Prin yr oeddwn wedi gorphen pryd y dychwelodd. Edrychai yn dawelach na phan aeth allan, ond yn lawer mwy prudd a gofidus. Wedi iddi ddadwisgo ei chlôg a'i bonet, ac eistedd i lawr a sychu ei llygaid gyda'i ffedog, cymerodd yr ymgom ganlynol le—hyny ydyw o ran sylwedd, ac, mor agos ag y gallaf gofio, o ran geiriau hefyd: "Bob," ebe fy mam, "a pheidio sôn am y brofedigaeth a gês hefo dy dad, dyma y diwrnod mwya' prudd fu dros 'y mhen i 'rioed. Yr oeddwn wedi gobeithio pethe gwell am danat ti, a phethe ynglŷn wrth iechydwriaeth. Yr oeddwn i wedi meddwl y baset ti yn dipyn o swcwr imi. Ond tra yr oeddwn i yn tybio fod yr hâd da yn ffynu, wele yr efrau yn ymddangos. Y gelyn ddyn a wnaeth hyn." Byddai fy mam yn gyffredin, fel y sylwais o'r blaen, yn siarad mewn ieithwedd ysgrythyrol. Er fod cadair yn ei ymyl, yr oedd Bob, yn ol arfer y glöwyr, yn eistedd ar ei sodlau, a'i gefn yn pwyso ar bôst y pentan; ac mewn atebiad i fy mam dywedodd, Wel, mam, beth sydd yrwan? Mae y gelyn ddyn neu Satan bob amser yn eich blino; a gallai un feddwl oddiwrth eich siarad nad ydyw yr hen frawd hwnw yn cael hamdden i feddwl nac i sylwi ar neb na dim ond arnom ni fel teulu, oblegid nid oes dim yn dygwydd yn ein hanes o fore tan nos nad ydych yn gweled ryw ymyriad o eiddo y diafol âg ef o hyd. O'm rhan fy hun, os felly y mae pethau yn bod, yr wyf yn meddwl y dylai bellach roi tro at rywun arall, obłegyd 'does gen i ddim awydd am ei gymdeithas; waeth gen' i pe bae ei ddwy glust yn clywed. A pheth arall, nid wyf yn gweled fod dim yn ein teulu ni ag sydd yn galw am sylw mor neillduol o eiddo'r diafol ag a briodolir iddo genych chwi; a fy syniad i ydyw fod yn rhaid ei fod yn esgeuluso cryn lawer ar ei waith gyda phobl<noinclude><references/></noinclude> mjcsqr05zlfh49om57oys0vxf7mjdcm Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/65 104 85346 165484 2026-05-22T17:00:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165484 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eraill, llawn mor deilwng oi sylw ag ydym ninau; oblegid nid ydyw yntau, er clyfred ydyw, ond meidrol wedi'r cwbl." "Bob," ebe fy mam, "mae'n ddrwg gen' i dy glywed di yn siarad mor ysgafn am bethau mor bwysig. Nid ydym ni heb wybod ei ddichellion ef, yr hwn sydd fel llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch gan geisio y neb a allo ei lyncu. Yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf. Yr ydw i wedi deyd a deyd lawer gwaith y byddai i'r papyr newydd yna, sydd â'i hanner yn gelwydd, dy andwyo yn sicr: ac eto mi fyni fod â dy ben ynddo o hyd yn lle bod yn darllen dy Feibil. Pan oeddwn i yn hogen, 'doedd fawr sôn am bapyr newydd oddigerth gan ŵr y plas, a rhyw ychydig o Saeson dienwaededig, tylwyth y coegddigrifwch a'r cwn hela. 'Doedd neb a rhyw gownt o'u henaid yn meddwl am ddarllen dim ond y Beibil, ''Pererin'' Bunyan, ''Geiriadur'' Charles, a llyfr Gurnal. Ond yrwan, ysywaeth, mae gan bawb ei bapyr newydd a'i lyfr Sasneg, nad ŵyr neb beth sydd ynddo. A beth ydi'r canlyniad?--cenedl ddiofn Duw, ddiorchwyliaeth, falch, rodresgar, yn meddwl mwy am grandrwydd nag am fater bywyd yn gwybod mwy am bob lleidr nag am y lleidr ar y groes, ac am bob marwolaeth nag am y farwolaeth oedd yn fywyd i'r byd. Dyna ydi'r ffrwyth i ti, Bob." "Yr ydych yn cyfeiliorni, mam," ebe Bob; "nid ffrwyth darllen y papyrau newyddion ydyw y pethau yr ydych chwi yn sôn am danynt, ond ffrwyth calon lygredig; ac y mae yr apostol yn gorchymyn, 'Glŷn wrth ddarllen.' " "Ydyw, fy machgen," ebe fy mam; "ymae'r apostol yn gorchymyn felly, ond darllen pa beth? Nid y papyr newydd, ond yr Ysgrythyr Lân, yr hon sydd yn abl i'th wneuthur yn ddoeth i iechydwriaeth; acymae yr un apostol yn deyd, 'Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros;' a sut y mae yn bosibl i ti na neb arall aros yn y pethau tra 'rwyt ti a dy drwyn yn y papyr yn feunyddiol? Ymgroesa, 'machgen i, ymgroesa!" "Mae yr oes yn myned yn ei blaen, mam," ebe Bob; "ac ni wiw i chwi feddwl i bethau aros fel yr oeddynt pan oeddych chwi yn hogen." "Yn 'i blaen!" ebe fy mam mewn llais uchel. "Ydi yn gyflym ddigon; ond i ble mae hi'n myn'd, tybed? Ydi hi yn myn'd yn nês i'r nefoedd, osgwni? Oes mwy o flas ar foddion gras nag a fydde?<noinclude><references/></noinclude> bopcsrnjx0rf3sbgglvq630s18efe27 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/66 104 85347 165485 2026-05-22T17:01:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165485 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oes mwy o wrando yr efengyl ac o gerdded ar ol gweinidogion y gair? Fyddi di yn gwel'd pobol y dyddie hyn ar adeg cnaua yn gadael eu gorchwylion a'r ganol dydd glân gole i fyn'd i wrando'r gŵr diarth? Choelia i fawr? Mae'n well gynyn' nhw rwan fyn'd i'r consyrt a'r cyfarfod cystadleuol i guro traed ac i waeddi 'Hwre!' ac 'enco' ar ol can ddigri, nag i'r bregeth i waeddi Haleliwia a Gogoniant am râd ras. Os dyna be' di myn'd yn 'i blaen, yn 'i hol yr elo hi, medda i, Bob." "Yr adeg yr ydych chwi yn cyfeirio ati," ebe Bob, " yr oedd yr efengyl yn newydd yn Nghymru, ac yr oedd y bobl o angenrheidrwydd yn teimlo mwy o ddyddordeb ynddi; ond erbyn hyn, yr ydym wedi hen gynnefino â'r gwirionedd; a gadewch i ni obeithio nad oes llai o wir grefydd yn y wlad." "Newydd! wyt ti'n gwbod am be wyt ti'n siarad, dywed?" ebe fy mam mewn tipyn o dymher; "ond dydi'r efengyl mor newydd heddyw ag y bu hi erioed i'r rhai sydd yn teimlo 'i hangen? 'Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud a ddaw o hyd i'r gole.' Newyddion da o lawenydd mawr ydi'r efengyl, ac a fydd hi byth. Na, dyn a'n helpio ni 'mhen miloedd o oesau, os hen gynnefino' sydd i fod. Ac yr ydw i yn synu atat ti, Bob, yn siarad fel yna, bachgen sydd wedi darllen cymin.' 'Doedd yr efengyl ddim yn newydd fel pwnc 'roedd hi yn Nghymru er cyn co'-ond y bobol oedd wedi cael calon newydd, ysbryd newydd, a blâs newydd arni trwy ddarllen y gair, gweddio Duw, a chael tywalltiad o'r Ysbryd Glân. Ond yrwan, fel y deydais i, mae pobol yn darllen y papyr yn lle'r Beibil, ac yn cael mwy o flâs ar y consyrt a'r 'steddfod nag ar foddion grâs; a 'does dim lle i ddisgwyl bendith ac arddeliad ar y weinidogaeth tra y bydd pethe yn aros fel hyn." "Rhaid i chi addef, mam," ebe Bob, "fod mwy o wrando'r efengyl yn awr nag a fu erioed; fod genym fwy o gapelydd a chyfleusderau crefyddol, a mwy o weinidogion yn pregethu'r efengyl yn Nghymru nag a fu erioed o'r blaen. Yr adeg yr ydych chwi yn cyfeirio ati, nid oedd ond ychydig boblach dlodion ynglŷn â'r achos, ac nid oedd ein pregethwyr yn gyffredin ond dynion plaen, anwybodus, a diddysg. Ond yn awr y mae ein pobl oreu a mwyaf ''respectable'' yn grefyddwyr, a'n gweinidogion gan mwyaf yn ddynion coeth a dysgedig." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nun4gyf7jby9xfycgcccviqr92jn8bv Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/67 104 85348 165486 2026-05-22T17:02:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165486 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Gwir a ddywedaist, Bob," atebai fy mam, "fod mwy o wrando; ac y mae genym le i ddiolch am hyny; ond y pwnc ydi, Oes mwy o gredu? Mae lle i ofni-gobeithio mod i'n camgymeryd—fod crefydd y dyddie hyn yn fwy o ffasiwn nag o fater bywyd. Mae llawer, yr wyf yn ofni, yn dyfod i'r capel, nid i geisio gweled yr Iesu, fel y Groegwyr hyny gynt, ond i gael eu gweled gan eraill; ac y mae ein cynnulleidfa yn amal yn debycach i ardd flode nag i bobol wedi dyfod i wrando'r efengyl. Poblach dlodion,' mae'n wir, oedd gyda'r achos ar y dechre, fel y clywes dy nain yn adrodd, ac fel y gwelais fy hunan i raddau; ond yr oeddan nhw, wel di, yn gyfoethogion mewn grâs ac yn etifeddion bywyd. Faint fedri di enwi o'r bobol spectacl yma, fel 'rwyt ti yn 'u galw nhw, sydd yn enwog mewn grâs a duwioldeb, ac yn arswyd i annuwiolion y gymdogeth? Fyddi di yn gweled y meddwon a'r segurwyr weithie yn llechian i'w tyllau pan fydd un o'r bobol spectacl yn dyfod i'r golwg, fel y gweles i nhw'n gneyd o flaen y boblach dlodion? Ac am y capelydd crand yma, 'mae nhw yn gyfleus iawn 'rwyf yn adde; ond wyddost ti be? mi fydd gen i ofn yn amal—gobeithio mod i'n misio—y bydd mwy o ddiolch yn y nefoedd am y sguborie a'r tai annedd nag am danyn nhw. Mi ddaru i ti fy mrifo i dipyn, Bob, wrth siarad mor ddiystyrllyd am yr hen bregethwyr. 'Rwyt tithe, mi wela, fel llawer o bobol yr oes hon, wedi dysgu siarad yn isel am weision yr Arglwydd. Dynion 'plaen a diddysg" oeddan nhw, mae'n wir; ond paid di a'u galw yn anwybodus yn 'y nghlyw i, gore i ti. Yr oeddan nhw wedi eu dysgu i deyrnas nefoedd, Bob; ac am y Beibil, yr oedd hwnw ar bene'u bysedd. A lle medri di gael eu hecwal nhw y dyddie hyn?" "Nid oedd dim pellach o fy meddwl, 'mam," ebe Bob, " na siarad yn ddiystyrllyd am yr hen bregethwyr. Yr oeddynt yn ddynion da a duwiol yn ddiammheu: ond ni fuasent yn gwneyd y tro yn yr oes hon pan y mae addysg wedi gwneyd y fath gynnydd, a'n cynnulleidfaoedd gymaint yn fwy coethedig nag oeddynt y pryd hyny." "Gneyd y tro!" ebe fy mam, gan godi ei llais; gneyd y tro i bwy wyt ti'n feddwl? Yr oeddan nhw yn gneyd y tro i Dduw y pryd hyny, a siwr ddyn na neuthe nhw'r tro i nine yrwan. Gneyd y tro yn wir! fase dim yn well gen' i nag i un o honyn nhw gael<noinclude><references/></noinclude> cuww95oqvf9zt9mwyzxb5rlym2fwy3h Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/68 104 85349 165487 2026-05-22T17:02:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165487 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>caniatâd i dreio. Dase yr hen Lecheiddior yn cael caniatâd am unwaith eto, welaist ti 'rioed ffasiwn helynt fase yma. Wyddost ti be? mi fase un o'r hen bregethwyr yn rhoi cynnulleidfa ar dân—y bobol spectacl a phawb, tra base llond gwagen o'r stiwdants yna yn palfalu am 'u cadach poced!" "Yr ydych bob amser yn rhagfarnllyd yn erbyn y students, ac yn wir yn erbyn addysg, mam," ebe Bob; "ond ni wiw i chwi wingo; mae y dynion goreu a feddwn yn ysgoleigion gwych, ac yn gwneyd eu goreu dros addysg, ac yn enwedig dros roi addysg i bregethwyr. A beth a ddaethai o honom erbyn hyn oni buasai am ein dynion dysgiedig? rhai o honynt yr ydych chwi eich hunan yn meddwl yn uchel iawn am danynt." "Y fi yn erbyn addysg, Bob; nac ydw i, yn neno dyn. Ond mi ddeuda hyn, nad oes eisieu rhoi addysg uchel i blant tlodion; ac mai nid addysg sydd yn gneyd pregethwr, onidê Dic Aberdaron, y sgoler mwya' fu yn y byd erioed, fase'n gneyd y pregethwr gore. Ond dyn a'i helpio, hefo'i gathod a'i fudreddi! Mae addysg yn dda lle mae ei heisie, ac os bydd hi wedi ei sancteiddio â grâs, ne' melldith ydi hi i bawb, goelia i." "Yr oedd Paul," ebe Bob, "eich ffrynd mawr, yn ysgolaig gwych; ac ni fuasai byth yn gallu gwneyd yr hyn a wnaeth oni bae ei fod yn ysgolor mor dda." "Sut wyt ti yn gallu profi hyny?" gofynai fy mam; "dydi 'i fod o wedi bod yn eistedd wrth draed Gamaliel ddim yn deyd ei fod yn ysgolor mawr. Paid ti a meddwl, os wyt yn dallt policits, dy fod di yn dallt dy Feibil yn well na dy fam. Ond y tro ar y ffordd i Damascus wnaeth Paul yn fawr; 'doedd o yn fawr mewn dim cyn hyny ond fel erlidiwr; a faset ti na mine byth yn clywed gair am dano oni bae am y tro hwnw. A mi ddeuda i ti beth arall; pris bach oedd Paul yn ei roi ar ddoethineb ddynol,' a bydase rhywun yn myn'd i'w neyd o yn ''Ddocto''r ne' ''Fistar o Harts'', mi fase yn deyd wrthyn' nhw'n union, "Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Yr oedd yn fil gwell ganddo y teitl Paul gwas yr Arglwydd na Doctor Saul o Tarsus, Wyddost ti be'? 'does gen i ddim mynedd gwrando arnat ti ac eraill yn sôn am addysg ac addysg fyth a hefyd, fel pe bydde addysg yn gallu gneyd y mor a'r mynydd, ac yn gneyd y tro yn lle gras Duw.<noinclude><references/></noinclude> n017y871i9fkadpl6mxh91vl1930hkn Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/69 104 85350 165488 2026-05-22T17:03:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165488 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ydi addysg, os gwn i, yn dysgu rhai i anmharchu hen bobol? 'Dydi grâs ddim yn dysgu felly, mi wn i hyny." "At beth yr ydych yn cyfeirio, 'mam," gofynai Bob. "Mi wyddost o'r gore at beth 'wy'n cyfeirio, mi dy waranta di. Ai y papyr newydd, yr hwn sydd yn goleuo y wlad, fel yr wyt yn deud, a dy ddysgodd i faeddu hen wr wedi colli aelod wrth ymladd dros ei wlad? Bob, 'rwy'n rhyfeddu atat! Ddysgwyliais erioed y baset ti, bachgen na chafodd ddiwrnod o ysgol, yn dwyn gwarth ar yr achos, a chywilydd i wyneb dy fam. Dos i ymofyn pardwn yr hen ŵr ar unwaith, rhag dy gywilydd." "Ymofyn ei bardwn," ebe Bob, "na wnaf byth. Os oeddwn wedi gwylltio tipyn, wneis i ond fy nyledswydd ato fo; ac os byth y gwelaf yr Hen Sowldiwr neu rywun arall, pe bae gymaint a chawr, yn maeddu Rhys mor ddidrugaredd ag y gwelais i ef yn 'i chael hi heddyw, nid y fi ydyw ei frawd os na wnaf y peth ag a wneis gynneu, os bydd yn fy ngallu. Mae natur yn fy nysgu i wneyd hyny." "Nid y natur lygredig sydd i dy lywodraethu, fy machgen," ebe fy mam yn bruddaidd, "ond yr anian newydd. Y mae'r gair yn deyd yn bendant, Nid yn darawydd. " "Adnod i esgob, ac nid i golier ydyw honyna, 'mam," ebe Bob. "Bob," ebe fy mam, "mae dy galon wedi caledu. Ddaru mi ddim meddwl fod y papyr newydd a'r llyfrau Sasneg yna wedi cael y fath effeth arnat ti. Mae yn dda gen i erbyn hyn, er i mi neyd hyny mewn tipyn o ffrwst, fy mod wedi galw hefo Abel Hughes i ddeud yr hanes wrtho cyn i neb arall ei ddeud, a'i annog i gael ymddyddan â thi yn y seiat nos yfory. Os ydi pobol eraill am gelu anufudd-dod a drygioni eu plant, dydw i ddim. Gweddïa am ras y 'machgen i;" a dechreuodd wylo, a chladdu ei hwyneb yn ei ffedog, yr hyn a fyddai bob amser yn rhoddi terfyn ar wrthddadleuon Bob. Er ei bod yn ganol dydd goleu, anfonwyd fi i'r gwely i ymiachau o fy nghlwyfau. Gan na fedrwn gysgu, myfyriais a dychymygais lawer ar un gair a ddywedodd fy mam wrth Bob, "Y brofedigaeth a gês hefo dy dad." Beth a allasai ystyr hwnw fod? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> cz4eizlgw4p5l9lqk0ek9cwglo9dgis Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/70 104 85351 165489 2026-05-22T17:26:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165489 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD ΧΙ.<br>''Wil Bryan ar natur Eglwys''}}}} Wedi bod agos i ddiwrnod a noswaith yn fy ngwely, i'r diben o geisio ymiachau o fy nghlwyfau, nid rhyw lawer gwell oeddwn pan gyfodais. Yn hytrach, teimlwn fel pe buaswn wedi bod yn cysgu mewn ''starch'', gan mor anystwyth oeddwn wrth geisio ymsymud. Ond er mor boenus oeddwn, yr oedd y syniad fy mod wedi "gorphen fy ysgol" yn fwy na digon i fy nghynnal o dan y brofedigaeth. Edrychai fy mam yn isel o ysbryd a digalon, a sylwais ei bod yn ocheneidio yn fynych. Tybiwn fy mod yn gwybod pa beth oedd yn blino ei meddwl, a theimlwn yn ofidus fy nghalon am mai fy nireidi i a ddygasai yr holl flinder hwn arni. Eto nid oedd yn dannod dim i mi, a'r unig wahaniaeth yn ei hymddygiad tuag ataf oedd ei bod yn ddystaw a phrudd. Ni ddarfu iddi gymaint a gofyn i mi pa fodd yr oeddwn yn teimlo, rhag y buasai hyny, dybygid, yn peri i mi feddwl nad oedd y cerydd tost a gawswn ond yr hyn yr oeddwn yn ei gyfiawn haeddu; ac eto gwyddwn o'r goreu y dymunasai hi yn fawr gael gwybod. Yr wyf yn meddwl, os nad ydwyf yn twyllo fy hun, fod ynof er yn lled ieuanc ryw gymaint o graffder i ddeall lled-awgrymiadau ac arwyddion, a bod hyny i raddau yn aros ynof hyd y dydd hwn. Yr wyf yn cofio yn burion pan ddeuai cymydoges i'n ty ni, y byddai fy mam, rhag i mi ddeall yr ymddyddan, yn siarad ar ddammegion, ac yn sylwi wrth ei chyfeilles "fod gan foch bychain glustiau mawr," gan feddwl yn ei diniweidrwydd nad oeddwn i yn deall hyny. Ond gwyddwn o'r goreu mai fi oedd y mochyn bychan, a byddwn yn gallu dilyn yr ymddyddan yn lled lew, pan dybiai hi ei bod yn siarad Lladin i mi. Tybiai fy mam y bore hwnw nad oeddwn yn ei gweled yn sylwi yn ddirgel arnaf yn ymsymud; ond yr oeddwn, serch hyny ac yn deall ei chalon cystal â phe buasai yn ei chario ar ei llaw. O mor annheilwng oeddwn i o'r gofal, y pryder, a'r cariad oedd yn y galon hono tuag ataf! Ni wyddwn i ar y pryd am yr hyn oedd yn pwyso mwyaf ar ei meddwl. Y ffaith fod amgylchiadau yn galw am ddysgyblaeth eglwysig ar ei meibion ydoedd hwnw. Rywbryd yn ystod y diwrnod, deallais fod Wil Bryan a John Beck<noinclude><references/></noinclude> 5w07ovtj90zmvxc85w2pbiyn6uyv78g Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/71 104 85352 165490 2026-05-22T17:27:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165490 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn sefyllian yn agos i'n tŷ ni, ac yn awyddus am fy ngweled. Tra yr oedd fy mam yn pobi torth, aethum allan yn ddystaw; ac yn nghongl yr ardd cafodd fy nau gyfaill a minnau ymgom faith a chyfrinachol. Wrth ''compario notes'', deallais fod yr helynt yn yr Eglwys a'r ysgol yn wybyddus yn yr holl ardal—fod Bryan a Beck wedi cael curfa gan eu rhieni—yr hon, fel yr addefent hwy eu hunain, nad oedd yn werth son am dani o'i chymharu â'r gurfa dost a gawswn i. Yr oedd yr addefiad hwn yn peri i mi feddwl drachefn fy mod yn un oedd wedi dyfod "trwy lawer," a theimlwn fy hun yn rhyw fath o wron. Deallais ymhellach na fu yr un o'm dau gyfaill yn yr ysgol y diwrnod hwnw—fod Beck wedi cael caniatâd i aros gartref nes i'w dad gael cyfleusdra i siarad â'r meistr, a bod Bryan, er iddo gael gorchymyn pendant gan ei dad i fyned i'r ysgol, wedi "chwareu triwels." Yn ystod yr ymddiddan a fu rhyngom, gwnaethum ddau sylw effeithiodd yn fawr arnynt. Un sylw oedd fod fy mam wedi dyweyd fy mod wedi cael llawn ddigon o ysgol. Edrychodd y ddau arnaf yn anghrediniol a chenfigenus, ac fel pe buasent yn methu sylweddoli fod y fath hapusrwydd yn bosibl i greadur o ddyn. Wedi yr arwyddion cyffredin o syndod, dywedodd Bryan, "Rhys, mi faswn yn foddlon i'r hen ''Warrior'' rwymo fy nwylaw ar y nghefn, a gneyd i mi sefyll am awr ar un goes, ac wed'yn iddo dori cansen newydd ar y ngwar, ond i'r ''gaffer'' acw (ei dad) ddeyd yr un peth wrtha i." Rhoddodd Beck nod i arwyddo y buasai yntau yn foddlon i fyned trwy yr un oruchwyliaeth. Nid llai oedd eu syndod pan hysbysais hwynt fod achos Bob a minnau a Bryan i gael ei ddwyn o flaen y seiat y noson hono. Nid oedd gan Beck fel Eglwyswr syniad clir iawn am yr hyn a olygid wrth y termau "seiat," a "dwyn o flaen y seiat," hyd nes i Bryan roddi iddo yr eglurhad canlynol. Yr oedd gan Wil allu neillduol i roddi darnodiad o rywbeth y tybiai efe ei fod yn ei ddeall, ac fel hyn y darnododd i Beck natur ac amcan seiat: "Wel i ti," ebe fe, "seiat ydi lot o bobol dda yn meddwl 'u bod nhw yn ddrwg, ac yn cyfarfod'u gilydd bob nos Fawrth i feïo ac i redeg 'u hunain i lawr." "Dydw i ddim yn dy ddallt di," ebe Beck. "Wel," ebe Wil, "drycha arno fo fel hyn: 'Rwyt ti yn nabod yr<noinclude><references/></noinclude> cdei52h4s9biyahabcagq7xhsyno2o0 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/72 104 85353 165491 2026-05-22T17:28:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165491 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hen Mrs. Peters, ac yr wyt yn nabod mam Rhys yma—nid am fod Rhys yma yr ydw i'n deyd—ond y mae pawb yn gwbod 'u bod nhw yn ddwy ddynes dda a duwiol. Wel, mae nhw yn myn'd i'r seiat, ac y mae Abel Hughes yn myn'd atyn' nhw, ac yn gofyn be sy ar 'u meddwl nhw. Mae nhwthe yn deyd fod nhw yn ddrwg iawn, ac yn euog o wn i ddim faint o bethe, a mi fydd Mrs. Peters yn amal yn deyd hyny dan grio. Ar ol hyny, mi fydd Abel yn deyd nad ydyn' nhw ddim mor ddrwg ag y mae nhw'n meddwl, ac yn rhoi cynghor iddyn' nhw, ac yn deyd lot o adnode, ac wed'yn yn myn'd at rwfun arall, ac mi fydd hwnw yn deyd yr un peth; ac felly o hyd nes y bydd hi yn hanner awr wedi wyth, ag ono mi fyddwn yn myn'd adre." "'Does dim byd fel ene yn 'r Eglwys," ebe Beck; "fydd gynon ni byth seiat, a chlywes i neb erioed yn rhedeg ei hun i lawr acw." "Dyna lle mae'r gwahanieth rhwng yr Eglwys a'r capel," ebe Wil; "'rydach ch'i pobol yr Eglwys yn meddwl bod ch'i yn dda a chithe yn ddrwg, a phobol y capel yn meddwl 'u bod nhw yn ddrwg a nhwthe yn dda." "Wyt ti ddim yn meddwl deyd wrtha i," ebe Beck, "fod pawb sydd yn perthyn i'r seiat yn bobol dda, a phawb sydd yn perthyn i'r Eglwys yn bobol ddrwg?" "Mae pawb," ebe Wil, "sydd yn cymyd 'u cymun yn y capel yn bobol dda, er 'u bod nhw'n meddwl bod nhw'n ddrwg, a phawb sydd yn cymyd'u cymun yn 'r Eglwys yn meddwl bod nhw'n dda, a dros 'u hanner nhw yn bobol ddrwg. Dyna yr Hen Sowldiwr: mi wyddost o'r gore fod o'n cymyd 'u gymun ar fore Sul i blesio Mr. Brown, a nos Sul mi fydd yn y ''Cross Foxes'', yn potio nes y bydd o yn rhy ddall i wel'd y ffordd adre'. Dase fo yn y capel, wel di, mi fase yn cael y ''kick out'' yn syth. Ond bryd y gweles di neb yn cael 'i dori allan o'r Eglwys?" Nid oedd Beck yn un parod i gyfarfod gwrthddadl; ac felly aeth Bryan ymlaen i esbonio pa beth a olygid wrth "ddwyn o flaen y seiat." "Wel i ti," ebe Wil, "pan fydd rhwfun sydd yn perthyn i'r seiat wedi gneyd drwg, achos dydyn nhwthe ddim yn berffeth wyddost, mi fydd rhwfun arall yn union yn myn'd at y blaenoriaid i glepian arno fo; ac yn y seiat ar ol hyny mi fydd Abel Hughes yn' i alw<noinclude><references/></noinclude> 17kjf01hywyfvfmabz6idzmb27ob1nj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/73 104 85354 165492 2026-05-22T17:29:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165492 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fo i gownt. Os rhwfun tlawd fydd o, 'run fath a William y glo, mi fydd Abel yn gneyd iddo ddwad ar y fainc o flaen y set fawr; ond os bydd o yn ddyn mawr, 'run fath â Mr. Richards y draper, mi fydd Abel yn myn'd ato fo." "Wel," be' fydd Abel yn gneyd iddo fo? fydd o yn 'i gymyd o i'r ''jail''?" gofynai Beck. "Dim peryg," ebe Wil; "mi fydd Abel yn chwilio i'r achos, ac yn gofyn i un neu ddau ddeyd gair; ac os bydd o yn edifeiriol, a 'run fath â William y glo yn rhoi y bai ar Satan, ac yn deyd na naiff o byth eto, mi fyddan' yn madde iddo fo; ond os bydd o 'run fath â Mr. Richards y draper, yn gwrthod deyd dim byd, mi fyddan' yn 'i attal oddiwrth y cymun am dri mis ne chwaneg, ne'n 'i dori allan o'r seiat. 'Does dim llawer o ''harm'' yn y peth, wyddost, ond 'i fod o yn dipyn o foddar; a mi fase yn dda gen' i gael peidio myn'd i'r seiat heno; ond rhaid i mi fyn'd, ne mi fydd acw row. Er fy mod rai blynyddau yn ieuengach na Bryan, yr oeddwn yn ystyried y seiat yn rhywbeth pwysicach o lawer nagy gosodid hi allan ganddo ef. Yr oedd fy mam wedi fy nysgu i feddwl felly am dani. Ond o ran hyny, yn ysgafn yr edrychai Wil Bryan ar bob peth, a hyn fu ei ddinystr. Pa fodd bynag, cafodd geiriau olaf Beck gryn argraff arnaf, yr hwn a ddywedodd fel hyn: "Boys, mae'n well gen' i drefn yr Eglwys na threfn y capel. Mi gaiff pawb sydd yn perthyn i'r Eglwys neyd fel mae nhw yn leicio, a neiff neb 'u galw i gownt. Mae pawb acw yn meindio ei fusnes ei hun, a felly mae hi ore, yn 'y meddwl i." Byddai Bryan yn gyffredin yn zelog dros y capel; ond yr oedd yn amlwg i mi ei fod yn tueddu i feddwl yr un fath â Beck ar y pen hwn; ac fel diweddglo dywedodd, "Fel hyn y mae hi, John: mae hi yn fwy cyfforddus yn 'r Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel." Hyd yr wyf yn cofio, hon oedd yr ymdriniaeth gyntaf a glywais ar "natur eglwys," a gadawodd argraff ddyfnach ar fy meddwl nag ambell un a glywais yn ddiweddarach gan bersonau pwysicach ac o honiadau uwch. Nid allwn i, pa fodd bynag, edrych ar ddysgyblaeth eglwysig yn y wedd yr edrychai Wil Bryan arni; ac yr oedd fy mhryder yn fawr wrth feddwl am fyned i'r seiat y noson hono. Yr adeg i fyned a ddaeth; ac wrth weled Bob yn hwylio ei hun,<noinclude><references/></noinclude> arg8b0byhktdgj2hzco91gmls4hq6kc Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/74 104 85355 165493 2026-05-22T17:30:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165493 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni thybiodd fy mam yn anghenrheidiol siarad dim âg ef ar y mater Cychwynodd hi a minnau tua'r capel; ond wedi myned gam neu ddau, trodd fy mam yn ei hol, a chlywais hi yn dyweyd, "Bob, paid di â bod yn ''stiff'' heno, yr wyf yn crefu arnat," ac yna aethom yn ein blaenau. Wrth alw i'm cof y seiat hono, nid allaf beidio meddwl am amryw o'r hen gymeriadau oedd ynddi, y rhai erbyn hyn, chwedl yr hen Mrs. Tibbet, ydynt "wedi myned i'w haped." Dyna Abel Hughes, am yr hwn yr wyf wedi sôn tipyn yn barod. Gŵr duwiol, cadarn yn yr Ysgrythyrau, a phenderfynol ei feddwl, oedd ef. Ei unig fai, am a wn i, oedd ei fod dipyn yn rhy lym. Dyna y diniwed Hugh Bellis, y gŵr llariaidd tyner-galon, yr hwn a fyddai bob amser yn wylo o dan y bregeth, ac yn zelog am faddeu i bawb, pa ddrwg bynag a fyddent wedi ei wneyd. Addefai y rhai mwyaf dibarch i grefydd fod Hugh yn dduwiol iawn. Dyna Edward Peters, gŵr manwl a gofalus gyda'r llyfrau, ond crabed ac anmhoblogaidd gyda'r plant, am na adawai iddynt fyned allan ar ganol y moddion. Byth ni ddywedai air yn gyhoeddus oddieithr ynglŷn â'r casgliadau neu arian seti. Eto yr oedd ganddo ef waelod da, ac yr oedd yn meddu ymddiried yr eglwys. Dyna Thomas Bowen y pregethwr: dyn bywiog, zelog, a sydyn ei dymher—beunydd yn gwneyd camgymeriadau ac yn galw ei eiriau yn ol. Dyna Mr. Richards y ''draper'': gŵr balch ac ymddangosiadus, bob amser am fod ar y blaen, a phawb am ei gadw yn ol. Dyna William y glo, gŵr tlawd, bychan ei gorff a'i feddwl, meddal a hawdd ei berswadio. Gelwid ef yn William y glo, am fod rhai o'i deulu er cyn cof yn gwerthu glo wrth y geiniogwerth. Bôb gauaf, pan fyddai y gwaith yn brin, byddai William yn zelog yn y seiat; ond pan ddeuai y cynhauaf, byddai William yn dueddol i yfed i ormodedd, ac yna diarddelid ef. Maddeuwyd iddo lawer trosedd, am y credid nad oedd yn hollol fel dynion eraill. Clywais fy mam yn dyweyd fod gwreiddyn y mater gan William, ond fod ei foncyff a'i gangenau yn rhy weiniaid i ddal y gwynt croes. Ac yr oeddwn innau o'r un meddwl â hi, oblegid byddai William bob amser wrth weddio yn colli dagrau; a thybiwn pan yn fachgen fod pob un a fyddai yn wylo wrth weddio yn dduwiol iawn, ac y mae y syniad yn glynu ynof o hyd. Dyna John Lloyd hefyd—coffa cas am dano: dyn tâl, main, gwyneblym, croendew, a blinderog. Byddai<noinclude><references/></noinclude> jqvvvpw35lidksfgofim3q6zr9i1ff8 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/75 104 85356 165494 2026-05-22T17:31:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165494 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>efe yn ffyddlawn iawn yn y moddion, a phob amser yn beïo ar rywun neu rywbeth. "Yr hen grafwr" y galwai Wil Bryan ef. Tybid ei fod yn gybydd mawr; ac o herwydd hyny ni fu trwy ystod ei oes dan ddysgyblaeth eglwysig, am fod ei gariad at arian yn ei gadw rhag meddwi, a rhag mynychu unrhyw le gwaharddedig. Yr oedd yn zelog yn erbyn cyfarfodydd tê, cyngherddau, a phob cynnulliad y byddai raid dangos pen y brenin neu y frenines fel trwydded i fyned i mewn. Yr oedd yn siaradwr synwyrol ar gynnildeb a darbodaeth. Byddai ei ofal am ysbrydolrwydd crefydd yn fawr iawn, ac ofnai yn fynych fod gormod o sôn am arian, ac o bregethu am arian. Ceisiai fy mam gredu fod y gwreiddyn ganddo yntau, ond ofnai fod pryf yn ei fwyta yn rhywle, a hyny yn peri fod ei ddail yn surion. Ie, dyna Seth hefyd, y bachgen gwirion, am yr hwn y bydd raid i mi sôn eto, gan iddo ef fod yn achlysur i ffurfio cyfnod ar fy oes. Ac amryw eraill y gallaswn enwi, ychydig o ba rai a ddaw dan sylw eto. Yr oedd yno gynnulliad anarferol o fawr yn y seiat y noswaith hono. Nid oedd prin ewin yn ol. Yr wyf wedi sylwi byth ar ol hyny, pan fydd rhywun i gael ei ddysgyblu, fod hyny yn effeithiol iawn i ddwyn y cyfeillion ynghyd. Mae rhywbeth mewn pobl dda cyffelyb, o ran natur, i'r hyn sydd mewn pobl heb fod felly yn eu cymhell i fyned i weled dyn yn cael ei grogi. Eisteddai Wil Bryan a minnau yn ymyl ein gilydd yn nghanol y plant; a synwn sut yr oedd efe yn gallu bod mor ddidaro. Dechreuwyd y cyfarfod gan Thomas Bowen, a gwrandawn yn ddyfal arno rhag y buasai yn cyfeirio rhywbeth ataf fi; ond ni ddarfu. Pan oedd Thomas yn gweddïo, sisialodd Wil yn fy nghlust "Os gnâ nhw ofyn rhwbeth i ni gad i ni ddeyd 'run fath â William y glo, na nawn ni byth eto, ac mae nhw'n siwr o fadde i ni." Dywedodd Wil lawer o bethau; ond yr oeddwn yn rhy bryderus i sylwi arnynt. Gwrandawyd y plant yn adrodd eu hadnodau gan Abel Hughes; a phan ddaeth at Bryan a minnau, aeth heibio i ni heb ofyn am ein hadnod. Yr oedd yr ystorm yn dechre, ac er fy mod â 'mhen i lawr, fel y dywedir, gwyddwn fod pawb yn edrych arnaf, a theimlwn eu llygaid yn fy llosgi trwy fy siaced felfed. Wrth i mi yspio o dan fy nghuwch gwelwn Wil â'i ben i fyny, ac yn edrych o'i gwmpas yn hollol ddigywilydd. Wedi i Abel Hughes orphen gyda'r plant, dywedodd<noinclude><references/></noinclude> 0bvs90i70fjhxjw1ml9sp15fu5sq2y6 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/76 104 85357 165495 2026-05-22T17:32:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165495 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Thomas Bowen air yn gyffredinol, ac annogodd Hugh Bellis i siarad ac yntau a wnaeth sylwadau ar bregethau y Sabboth, gan ddadgan yn effeithiol am y fendith yr oedd efe wedi ei chael drwyddynt. Yna gofynodd Thomas Bowen a oedd gan rywun arall air yn yr un cyfeiriad. Wedi aros dipyn, cododd Edward Peters ar ei draed i adgofio y brodyr fod y chwarter seti i fyny. Ar ol hyn bu dystawrwydd a chydymgynhoriad rhwng Abel a Thomas Bowen. Clywais Abel yn dyweyd, "Gwnewch chwi, Thomas," a Thomas yn dyweyd "Na, gwnewch chwi, Abel." Gwelaf Abel yn ei gap melfed yn codi ar ei draed, ac yn edrych yn ddifrifol a chynhyrfus. Da fuasai genyf allu croniclo geiriau y gŵr gonest a chywir hwnw fel y traddododd efe hwynt, ond nis gallaf. Cof genyf ei fod yn sôn am "achos anhyfryd "—am "blant y seiat yn ymddwyn fel plant y byd"—am "waradwyddo achos crefydd"—am "gadw y ddysgyblaeth i fyny," ac yn y blaen. Siaradodd yn hir ac yn hallt; ac yna enwodd Bob fy mrawd, a minnau a Bryan, fel y troseddwyr. Wedi i Abel eistedd, dywedodd John Llwyd fod eisieu i'r eglwys gael gwybod gan y swyddogion beth oedd natur y trosedd. "Gwranda di ar yr hen grafwr," ebe Wil yn fy nghlust. Atebodd Abel ei fod ef yn credu fod y trosedd yn eithaf hysbys i John Llwyd, ac i bawb arall, ac nad doeth a fyddai myned dros yr amgylchiadau. Yna cododd Thomas Bowen ar ei draed yn sydyn; a dywedodd rywbeth i'r perwyl canlynol. "Frodyr, plant ydi plant, ac mae eisieu i ni gofio ein bod ni i gyd wedi bod yn blant. Mae yn ddrwg iawn geni i am yr helynt, ac y mae Abel Hughes wedi gwneyd yn burion wrth ddwyn y peth i sylw. Ond be fedrwn ni wneyd ond rhoi gair o gynghor i'r bechgyn druain? Cofiwch, frodyr, dydw i'n sôn dim am Robert Lewis yrwan; mae o mewn oed a synwyr; ond am William Bryan a Rhys Lewis, mae nhw dan oed—yn ifainc ac yn wirion; a bechgyn clên anwêdd ydyn' nhw hefyd. Pwy sy'n deyd eu hadnod yn well na William a Rhys? Piti garw sôn i'r bechgyn wneyd drwg. Oes gynat ti rwbeth i ddeyd, William y machgen i?" "Wna i byth eto," ebe Wil. "Da machgen i," ebe Thomas; "ydi'n ddrwg gynat ti am y peth a ddaru ti wneyd?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> p79sjhhiulxqhtkl5i8z7d82tkphph8 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/77 104 85358 165496 2026-05-22T17:32:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165496 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ydi," ebe Wil; ac ar yr un pryd pinsiodd fi mor dost yn fy nghoes fel nad allwn beidio wylo. "Wyt tithe yn deyd yr un peth, Rhys?" gofynai Abel; "ond o ran hyny does dim eisieu gofyn i Rhys—mae Rhys â'i ddagrau yn lli. Abel Hughes, ydach chi'n clywed be mae'r bechgyn yn ddeyd? mae'n ddrwg gynyn nhw am y peth, ac mae nhw'n deyd na wna nhw byth eto; a beth a fedrem ddyweyd yn well ein hunain na galaru am y bai a phenderfynu peidio ei wneyd mwy? Beth ydym i wneyd â'r bechgyn, Abel Hughes?" "Gwnewch fel y mynoch â nhw," ebe Abel yn sarug. "Wel, frodyr," ebe Thomas, "fedrwn ni wneyd dim yn well â'r bechgyn na rhoi gair o gynghor iddynt, a'u gollwng i fyn'd adre, gan fod genym achos arall pwysicach i fyn'd ato." Wedi i Thomas Bowen roddi cynghor da a charedig i ni, dywedodd wrthym am fyned adref yn blant da. Nid cynt y dywedodd y gair nag y rhuthrodd y plant allan am y cyntaf. Wedi i mi fyned trwy y drws, gafaelodd Wil Bryan yn fy mraich, a rhoddodd right wheel i mi gydag ochr y capel. Teimlwn yn ddig wrtho, a gofynais iddo paham y darfu iddo fy mhinsio mor dost yn y capel? "Er mwyn i ti grio, y gwirion," ebe fe; "mi wyddwn o'r gore na fedret ti ddeyd yr un gair, a'r crio naeth y job, wel di. On' ddeudes i i ti y base nhw yn madde i ni? Ond rhaid i ni gael gweled be ddaw o Bob." Yn mur ochr yr hen addoldy yr oedd drws yn agor i risiau y ''gallery'', a thrwy yr hwn yr elai Marged Tŷ'r capel i agor ac i gau yr adeilad, a'r hwn felly oedd yn anghloedig y noson hon. Deallais mewn amrantiad pa beth oedd bwriad Wil; a rhaid oedd i mi ei ddilyn, oblegid yr oedd ganddo ryw gyfaredd drosof nad allwn ei wrthsefyll. Agorodd Wil y drws yn ddystaw, a chauodd ef yr un modd. Yn y tywyllwch dywedodd wrthyf, "Tyn dy glogs, a rho nhw yr ochr yna, a mi ro inau fy nghlogs yr ochr yma, er mwyn i ni wbod pan ddown ni i lawr." Gwnaethum felly; ac ebe Wil, "I fyny â ni yrwan can ddystawed â llygod." Ac felly yr aethom ar ein pedwar, Wil yn arwain, nes cyrhaeddyd sêt y cloc, hoff le Wil. Yn y fan hon y buom yn gwrandaw ar holl achos Bob yn cael ei drin; a gallwn, yr wyf yn meddwl, ei adrodd ymron air am air; ond i ba ddyben? Mae yr amgylchiad yn rhy boenus i mi aros yn hir<noinclude><references/></noinclude> gdbqird48mp0hmi95p43c0a066qag9b Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/78 104 85359 165497 2026-05-22T17:33:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165497 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>uwch ei ben. Dywedwyd yno eiriau fel brâth cleddyf, yn enwedig gan John Llwyd. Teimlwn yn ddig enbyd wrtho, oblegid gan nad pa mor euog oedd Bob, gwyddwn ei fod yn well dyn gan' mil o weithiau nag efe. Er fod Bob wedi gwneyd allan o'i le wrth ymosod ar yr Hen Sowldiwr fel y darfu, yr oedd wedi gwneyd hyny i achub fy ngham i; a gwyddwn fod ganddo galon mor fawr a theimladol fel y buasai yn aberthu ei fywyd, nid drosof fi yn unig, ond dros unrhyw un a welai yn cael cam. Ond am John Llwyd, nid oedd ganddo ef gariad at ddim ond arian, ac nid oedd ei galon yn fwy na chalon pryf copyn. Eto hwn oedd y dyn a fwriai y llysnafedd mwyaf brwnt ar ben Bob y noson hono; ac y mae arnaf ofn nad ydwyf byth wedi maddeu iddo, oblegid credu yr wyf mae ei eiriau cas ef a barodd i Bob fod mor ystyfnig. Gwn y gallasai oddef cerydd llym Abel Hughes, ac y buasai geiriau caredig Thomas Bowen, pan oedd efe yn ymliw âg ef, yn lliniaru ei galon; ond yr oedd picellau gwenwynig rhagrithiwr culfarn yn ei galedu a'i ystyfnigo; a phrotestiai Bob ar g'oedd y seiat nad oedd ganddo ddim i edifarhau o'i blegid. Byth nid anghofiaf yr hanner awr hono yn sêt y cloc. Teimlwn yn ddig wrth Bryan am ei fod mor gellweirus. Pan oedd achos Bob yn cael ei drin, yr oedd Wil yn tori ei enw gyda'i gyllell ar y sêt ac yn gwneyd sylwadau ar bob un a fyddai yn siarad, a hyny mor uchel fel yr oeddwn yn gorfod crefu arno yn barhaus i fod yn ddystaw, rhag i ni gael ein darganfod. Teimlwn gymaint dros Bob fel nad allwn beidio wylo; a gofynodd Wil yn wawdlyd i mi a oeddwn yn cael fy mlino gan y ddannodd. Ymddengys yn rhyfedd i mi yn awr fod fy syniadau am amryw bersonau yn y seiat y magwyd fi ynddi wedi eu ffurfio tra yr oeddwn yn sêt y cloc. Gwelwn er ys meityn beth fyddai diwedd yr ymdriniaeth, a meddyliwn y fath ergyd ofnadwy a fyddai i fy mam; oblegid nid oedd hi wedi dychymygu am i Bob gael ei ddiarddel. Ond nid oedd dim arall i fod tra yr oedd efe yn dal i ddyweyd y gwnai yr un peth drachefn o dan yr un amgylchiadau. Dywedodd Wil Bryan lawer gwaith tra yr oedd yn tori ei enw ar y sêt fod Bob "yn ei misio hi. Pe dae o yn gneyd fel William y glo," ebe Wil, "yn rhoi'r bai ar Satan, ac yn deyd na wnai byth eto, mi fyddai yn all right; ond os eiff o ymlaen fel yna, mae o'n siwr o gael y ''kick out.''" Gyda ei holl ysgafnder, daeth prophwydoliaeth Wil yn ffaith cyn pen ychydig fynydau. Gwnaeth<noinclude><references/></noinclude> p4um46aczaq0djaxzs8vs3ub32u0tst Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/79 104 85360 165498 2026-05-22T17:42:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165498 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Thomas Bowen ei oreu i gael gan Bob syrthio ar ei fai; ond ni lwyddodd, a'r un modd y gwnaeth Abel Hughes gyda'r un canlyniad. Yr oedd yn rhaid i'r swyddogion a'r eglwys wneyd eu dyledswydd; a phan oedd Abel Hughes ar ei draed yn gofyn yr arwydd i ddiarddel Bob, yr oedd llais yr hen ŵr yn grynedig, a'i eiriau yn glynu yn ei wddf. Rhoddwyd yr arwydd; ac nid oedd Bob mwy yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Y fynyd hono, plygodd Abel Hughes ar ei liniau, ac mewn gweddi gweddïodd, os gweddïodd neb erioed. Bum yn synu ganwaith ar ol hyn na fuasai ei weddi ar ran Bob wedi ei hateb. Wel, a fuasai yr eglwys yn diarddel Bob pe gwybuasai y canlyniadau o hyny? Nid wyf yn tybied. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>''Ar yr Aelwyd.''}}}} Gan nad pa ddoniau eraill yr wyf yn amddifad o honynt—ac y mae y rhai hyny yn llawer—yr wyf yn meddwl fod genyf achos diolch am gôf da. Yn wir, ni buaswn yn dechre ar yr hunangofiant hwn oni buasai fy mod yn ymwybodol cyn cychwyn y rhoddasai ei ysgrifenu yn fy oriau hamddenol fwy o bleser nag o lafur i mi. Wrth i mi droi i fyny y naill amgylchiad a'r llall yn fy hanes, yr wyf yn cael fod i bob amgylchiad ei deulu a'i berthynasau, y rhai sydd yn adgyfodi yn fyw o flaen fy meddwl. Yn gyffelyb fel y bydd un wrth edrych dros becyn o hen lythyrau: y mae i bob llythyr ei deulu anysgrifenedig, ac y mae ambell lythyr yn peri i un feddwl am eraill a losgwyd, ond y rhai nas gellir eu llosgi o'r côf. Darllenir rhai gyda boddhâd, eraill gyda phrudd adgofion, ac eraill a gynhyrfant ein holl natur, gan ddeffroi teimladau a syniadau y tybid eu bod wedi myned ar ddifancoll, ond sydd o hyd yn fyw yn ogofeydd y meddwl a chilfachau y côf. Er fod y noswaith y diarddelwyd fy mrawd Bob yn cael ei rhestru genyf ymhlith nosweithiau tywyll fy mywyd, nid ydyw heb ei hochr oleu. Parodd yr amgylchiad i mi fyfyrio a dyfalu pa beth oedd crefydd, a pha beth oedd yn cyfansoddi pwysigrwydd a chysegredigrwydd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> htmscc9zdo0out07et2vp1rsyencrpu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/80 104 85361 165499 2026-05-22T17:43:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165499 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aelodaeth eglwysig. Yr oedd genyf eisoes ryw fath o syniad fod gwahaniaeth mawr rhwng crefyddwyr a "phobl y byd," fel y gelwid hwy gan fy mam; ond nid oedd y syniad, y mae arnaf ofn, yn ddim mwy na bod y rhai blaenaf yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd unwaith yn y mis, ac yn peidio meddwi a thyngu a rhegu, a'r rhai olaf at eu rhyddid i wneyd pob drwg os dewisent, am nad oeddynt yn perthyn i'r seiat. Ond rywfodd, y noswaith hono, aethum i ammheu fy syniad, ac i ddechre meddwl fod rhywbeth mwy nag a enwais yn cyfansoddi y gwahaniaeth. Gofynwn i mi fy hun a wnai Bob, tybed, gan nad oedd mwy yn aelod eglwysig—a wnai efe feddwi yn achlysurol? a wnai efe dyngu a rhegu yn awr ac yn y man? a wnai efe roddi heibio ddarllen y Bibl a llyfrau da eraill, a gwneyd helynt yn y tŷ yr un fath a Pitar y potiwr? pan nad allwn gael fy hun i gredu hyny. Ymholwn hefyd a fyddai Bob allan o'r seiat yn waeth ac yn salach dyn na John Llwyd, yr hwn oedd yn y seiat. Yr oedd hyny hefyd yr un mor anmhosibl yn fy meddwl i. Beth ynte oedd yn gwneyd dyn yn grefyddwr? Bu yr amgylchiad hefyd yn achlysur i mi ffurfio syniad uchel am grefyddolder fy mam. Dichon mai yr ymgòm a gymerodd le rhyngddi hi â fy mrawd Bob a barodd i mi feddwl felly am dani. Ymdrechaf groniclo yr ymgóm mor gywir âg y gall fy nghôf fy ngwasanaethu. Wrth gwrs ni wyddai fy mam fy mod wedi clywed yr holl ymdriniaeth ar achos Bob, ac nid gwiw oedd iddi gael gwybod fod Wil Bryan a minnau wedi bod yn llechu yn llofft y capel. Bob amser, pan fyddem oll fel teulu yn myned i'r capel, byddai yr olaf a adawai y tŷ yn cuddio agoriad y drws o dan y twb dŵr, er mwyn i'r cyntaf a ddychwelai gael mynediad rhwydd i'n castell. Yr oedd hwn yn un o'r family secrets. Gan mai fi o ran trefn a ddylasai fod adref yn gyntaf, prysurais; ac yr oeddwn wedi cael eistedd i lawr rhyw ddau fynyd cyn i fy mam gyrhaeddyd; ac er fy mod â fy ngwynt yn fy nyrnau, ceisiais ymddangos fel pe buaswn yn ei dysgwyl er ys amser, a dywedais ei bod wedi bod yn hir iawn. "Hir yw pob ymaros," oedd ei hunig ateb, tra yr hongiai ei chlôg lâs a'i bonet fawr ar hoel tu ol i'r drws. Mae yn rhaid fod Bob wedi bod yn ymdroi gyda'i gyfeillion ar ol dyfod o'r seiat, oblegid yr wyf yn cofio fod y swper wedi ei barotoi er ys meityn cyn iddo ddychwelyd. Wedi hir aros, gwnaeth ei ymddangosiad, ac edrychai yn brudd a diysbryd; ac mewn dystawrwydd<noinclude><references/></noinclude> r0aoua31ij1o83fa4lko2e1e3uwiiml Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/81 104 85362 165500 2026-05-22T17:44:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165500 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eisteddodd i lawr, gan gymeryd llyfr i'w ddarllen. Nid heb ei gymhell yn fawr y daeth Bob at y bwrdd i gymeryd swper; a sylwais yn fuan nad oedd ef na fy mam yn gwneyd nemawr o'u hôl arno. Gan fy mod wedi cael cryn faich oddiar fy meddwl, cán belled ag yr oedd a fyno dysgyblaeth eglwysig a mi yn bersonol, ac o herwydd fy mod yn gweled mai gresyn a fuasai i'r ymborth fyned yn ofer, gwnaethum fy ngoreu i roddi cymaint o hono o'r golwg ag a allwn. Ar ol swper, aeth Bob eilwaith at ei lyfr, a chlosiodd fy mam ei chader yn nês at y tân. Gwyddwn ar ei hosgo ei bod yn bwriadu dechre ymddyddan; oblegid byddai ganddi arferiad pan yn hel ei meddyliau at eu gilydd o bletio ei ffedog. "Wel, 'y machgen i," ebe hi yn y man, "noswaith go dost ydy' hon yn dy hanes di a mine. Er tloted ydw i, mi fase yn well gen' i na chan' punt bydase yr hyn gymerodd le heno heb ddygwydd." Byddai Bob yn siarad dipyn yn fwy grammadegol na fy mam, ac mewn atebiad iddi dywedodd,— "Nid ydwyf yn gweled, mam, paham y rhaid i chwi edrych ar yr hyn a gymerodd le heno yn y wedd yna. Ni wnaiff hyny newid dim ar yr hyn ydw i o ran fy nghymeriad. Nid ydyw bod yn y seiat yn sicrhau cadwedigaeth neb, na bod allan o honi yn sicrhâu ei golledigaeth." "Rhys," ebe fy mam, gan droi ataf fi, "gwell i ti fyn'd i dy wely." "Yn union deg," ebe finnau, a rhoddais fy mhen i orphwys ar y bwrdd, gan gymeryd arnaf gysgu. Nid wyf yn sicr na ddarfu i mi chwyrnu. Y fath lwynog o hogyn oeddwn! Darfu i fy ymddygiad daflu y ddau oddiar eu gwyliadwriaeth. "Bob," ebe fy mam, "yr ydw i yn gobeithio nad wyt ti ddim yn meddwl y peth wyt ti yn ei ddeyd. 'Rwyt ti yn deyd cymin o bethe yn ddiweddar, er's pan wyt ti'n codlo hefo'r hen lyfre Sasneg yne, fel y mae yn anodd gen' i feddwl dy fod di yn credu pobpeth 'rwyt ti yn ddeyd." "Mam," ebe Bob, a chlywais ef yn rhoi ei lyfr ar y bwrdd; "gwyddoch o'r goreu nad oes dim twyll ynof, ac nad oes dim ar y ddaear casach genyf na rhagrith. Mae yn fil gwell genyf gael fy niarddel o'r eglwys am ddyweyd y gwir na chael fy ngoddef ynddi am wneyd blawd wyneb, a dyweyd yr hyn nad ydwyf yn ei gredu<noinclude><references/></noinclude> tnvod79fc6ad276149aagwcif10nzff Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/82 104 85363 165501 2026-05-22T17:44:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165501 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nac yn ei deimlo. Mi wn fod fy niarddeliad yn ergyd drom i chwi, mam, ac y mae yn ddrwg genyf am hyny; ond gan mai felly y gwelai yr eglwys yn oreu wneyd â mi, yr wyf yn eithaf boddlon." "Beth? fy machgen," ebe fy mam, wyt ti ddim yn rhoi pris ar fod yn aelod eglwysig?" "Nac ydwyf," ebe Bob, "os rhaid i mi brynu fy aelodaeth drwy ragrithio. Chlywsoch chwi erioed mohonof o'r blaen yn siarad am danaf fy hun, nac yn grwgnach; ond mi wyddoch o'r goreu na ddarfu i fy nhad na chwithau feddwl am roi diwrnod o ysgol i mi Cefais dyfu i fyny yn hollol anwybodus o bobpeth oddigerth o bethau'r Bibl; ac anfonwyd fi i'r gwaith glo pryd y dylaswn fod yn yr ysgol, ac yr oeddwn yn golier profiadol cyn bod yn un ar bymtheg oed. Pan ddaethum yn ddigon synwyrol i deimlo fy angen am ddysg, ymroddais â fy holl egni yn fy oriau hamddenol i ddysgu Saesoneg, heb help neb byw, a thra yr oeddych chwithau yn cwyno yn feunyddiol fy mod yn dyfetha canwyllau. A dyweyd y lleiaf, yr wyf wedi bod mor ffyddlon yn y capel â neb o'm cyfoedion. Yr wyf yn athraw yn yr Ysgol Sul oddiar pan oeddwn yn ddwy flwydd ar bymtheg. Nid wyf yn canmol fy hun; ond gwyddoch, er pan fu yr helynt hefo fy nhad, fy mod wedi gweithio yn galed, a gwneyd fy ngoreu i gadw cartref i chwi a Rhys. Yr wyf wedi dyoddef yn ddystaw yn y gwaith glo lawer awgrymiad a chyfeiriad câs a chïaidd at ein helynt teuluaidd, a hyny er eich mwyn chwi a Rhys; oblegid beth a ddaethai o honoch chwi pe yr aethwn oddicartref? Gwyddoch nad ydwyf erioed wedi gwario ceiniog am oferedd; a'r holl arian a allwn eu hebgor yr oeddwn yn eu defnyddio i brynu llyfrau, neu yn eu rhoddi ar lyfr yr eglwys. Heblaw hyny, yr wyf wedi ymdrechu er's blynyddau i gyfranu i Rhys hyny o wybodaeth a fedrwn i ei rhoddi iddo, rhag iddo yntau, os oedd, bosibl, fod yn golier tlawd fel fy hunan. Wrth weled fy mrawd yn cael cam a'i faeddu yn ddidrugaredd, gwnaethum yr hyn a fuasai pob un â gronyn o ddynoliaeth ynddo yn ei wneyd, sef rhuthro ar yr hwn oedd yn ei drin felly, a'i achub fel yr achubodd Dafydd yr oen o grafanc y llew. Ond yr oedd hyn yn bechod mawr yn ngolwg y seiat, yn enwedig yn ngolwg rhyw bersonau ynddi; a diammheu y byddant yn teimlo yn hapus iawn bellach wedi cael gwared o greadur mor lygredig a mi." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d99nvuypsdowmxws9jl2pl4isz3z1gk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/83 104 85364 165502 2026-05-22T17:45:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165502 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wyddost ti be?" ebe fy mam, "'rwyt ti yn swnio yn debyg iawn i ddyn hunangyfiawn. 'Rwyt ti yn gneyd i mi feddwl am y dyn hwnw oedd yn dechre y cyfarfod gweddi yn y demel es talwm. Mae 'i dinc o gynat ti i'r dim. Mae cán lleied o sŵn y publican yn dy lais ar ol dwad gartre' ag oedd ynddo yn y seiat. Be sydd wedi dwad drostot ti, dywed? Mae rhyw stiffrwydd rhyfedd ynot ti yn ddiweddar. Gweddïa, 'y machgen i, am râs, ac am gael teimlo'r cortyn a gwel'd dy fratiau budron. Bydase ti o flaen dy well yn y chwarter sesiwn, mi fase yn burion i ti son am dy rinweddau; ond yn y seiat ac o flaen dy Farnwr, gore po leiaf y soni di am danyn' nhw ond wrth yr enw y daru i Paul eu bedyddio nhw, sef 'tom a cholled.' Wyddost ti, Bob? yr ydw i wedi dy ddowtio di er's tro fod rhyw syniade yn cael lle yn dy galon na chêst di monyn nhw yn y Beibil, ac y mae hyny wedi costio llawer noswaith o gysgu i mi." "Y chwi, mam," ebe Bob gyda theimlad, "sydd yn fy adnabod oreu o bawb, ac y mae yn rhaid fy mod yn hynod mewn drygioni gan fod fy mam fy hun yn coleddu meddwl mor isel am danaf. Mi yn ddiammheu ydyw y dyhiryn gwaethaf yn y gymydogaeth. Wel, bydded felly." "Nage, fy machgen, nid felly chwaith," ehe fy mam. "Fel bachgen da wrth ei fam, ni fu dy well yn y chwe' sîr, a chês i 'rioed brofedigeth hefot ti yn y ffordd hono; ac y mae gen' i ddiolch mawr i ti, ac i'r Brenin mawr, am dy garedigrwydd yn gweithio mor galed i gadw cartre' i dy fam a dy frawd. Ond am dy enaid di yr ydw i yn son yrwan. Dydi o fawr o bwys a gaf fi damed ai peidio; ond y mae o anfeidrol bwys, fy machgen anwyl, fod dy enaid di a mine dan orchwyliaethau Ysbryd Duw. Bendigedig fyddo ei enw Ef! nid ydyw yn gadel llonydd i mi, ac yr wyf yn credu ei fod yn meddwl gneyd rhwbeth o hona i; ac O na allwn gael lle i feddwl fod o'n siarad rhwbeth hefot tithau! Mae dy weled mor ddidaro am gael dy ddiarddel yn tori fy nghalon, fy ngwas gwirion i. Oddiallan y mae'r cwn—oddiallan y mae'r dryghin a'r ystorm. Yr wyt wedi myned allan o gylch y cyfammod a'r eirioleth—yr wyt wedi colli'r cysgod, Bob bach." "Gwaith yr eglwys oedd barnu pa un ai allan ai i mewn yr oeddwn i fod; yr eglwys ddarfu fy niarddel, nid y fi," ebe Bob. "Nage, fy machgen," ebe fy mam, "dy waith di dy hun oedd o;<noinclude><references/></noinclude> rr07foo7qwp2dmlwaspk9n9snc1n71a Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/84 104 85365 165503 2026-05-22T17:46:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165503 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a mi ddyle fod gynat ti gywilydd o hono. Dy waith di yn gwrthod edifarhâu ac addef dy bechod, fel yr oedd y Salmydd yn gneyd, a wnaeth i'r eglwys dy dori allan. Sawl gwaith y daru Thomas Bowen, ys gwn i, grefu arnat heno i syrthio ar dy fai, a thithau yn gwrthod? Na, poen fawr oedd i'r eglwys dy ddiarddel; ond be allet ti ddysgwyl heb i ti edifarhâu? Wiw i ti ddysgwyl maddeuant gan Dduw na dyn heb edifeirwch." "Fedra i ddim cydymffurfio âg opiniynau pobl hen ffasiwn pan fydd fy syniad i fy hun yn groes i hyny," ebe Bob; "a beth feddyliech chwi oedd Mr. Brown y person yn ei ddyweyd wrthyf heddyw wrth son am y peth? Yr oedd ef yn chwerthin am ben y cyfan, ac yn gobeithio y gwnai y gurfa a roddais i'r Hen Sowldiwr les iddo." "Bob," ebe fy mam, wedi twymno nid ychydig? "paid di a siarad am athrawiaethau mawr yr efengyl fel pethau 'hen ffasiwn' yn fy nghlyw i, goreu i ti." "Ddarfu i mi ddim gwneyd hyny," ebe Bob. "Mi ddarut wneyd rhwbeth tebyg iawn," ebe fy mam. "Ffasiwn ydi edifeirwch, wel di, y bydd raid i ti gydymffurfio â hi, ne nid ëi di byth i'r bywyd. Ffasiwn ydi hi, Bob, sydd wedi gneyd miloedd yn fyddigions am dragwyddoldeb. Ond mi ddeyda i ti pryd y bydd hi yn hen ffasiwn: pan fydd yr haf wedi darfod, a chyneua' yr enaid wedi myn'd heibio. Mi fydd yno lawer y pryd hyny yn troi at yr ''hen'' ffasiwn pan fydd hi yn rhy ddiweddar. Gweddïa, fy machgen, rhag bod yn un o honynt. Ac am Mr. Brown, rhad arna fo! Un brâf ydi o i gyfarwyddo pobol ifinc! Bydaswn i eisio cynhor i fy enaid, nid aethwn i byth ato fo, rhag hwyrach mai yn y caeau y buase fo yn saethu cwningod. Pob parch i Mr. Brown fel cymydog caredig, ond da y dywedodd Tomos o'r Nant am dano fo a'i sort. Er nad oedd Tomos y peth y dylase fo fod, yr oedd o yn ei hitio hi yn o lew: {{center block| <poem> 'Nid oes un i'w ganmol na'i berchi yn gymhwys O flaen efyngylaidd weinidog eglwys; Nac un yn fwy melldith na hwnw 'n fyw, Oni fydd Duw yn ei dywys.' </poem> }} Gwyn fyd na chai Mr. Brown ddeuparth o ysbryd hen Ficer Llanymddyfri.<noinclude><references/></noinclude> 717y0cw74c1es046231j7nz97utdxi3 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/85 104 85366 165504 2026-05-22T17:47:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165504 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Felly y buase y Ficer yn deyd wrthat ti, os ydw i yn cofio yn dda, {{center block| <poem> 'Edifara cynte gallech, Ti ymg'ledi pan ddyhiriech; Rhag i'th galon ymgaledu, Duw fyn it' repento heddy'. 'I'r rhai ffyddlon edifeiriol, Mae Duw'n ffyddlon ac yn rasol; Ond i'r cyndyn cas gwrthnysig, Mae Duw 'n greulon ac yn ffyrnig." </poem> }} "A mi ŵyr dy gydwybod di pa un ai Mr. Brown ai yr hen Ficer sydd yn ei le." "Pob parch, chwedl chwithau," ebe Bob, "i'r hen Ficer; ond dydw i ddim yn credu fod Duw yn 'greulon ac yn ffyrnig' un amser, llawer llai wrthyf fi am yr hyn a wnês i'r Hen Sowldiwr. Mae y Bibl yn fy nysgu i mai Duw cariad yw." "Beth?" ebe fy mam; "wyt ti ddim yn myn'd i amme geiriau yr hen Ficer duwiol oedd yn gwbod ei Feibil yn fil gwell na thi gannoedd o flynyddoedd cyn dy eni di? Ddeydaist ti 'rioed well gwir mai Duw cariad yw. Oni bae am hyny, wel di, ffarwel fase hi am fywyd ac etholedigeth grâs, fel y clywes i Mr. 'Lias yn deyd ar Green y Bala—coffa da am dano. Pwy fedre ddeyd yn well?—yn well yn wir—pwy fedre ddeyd chwarter cystal â Mr. 'Lias am {{center block| <poem> {{bwlch|4em}}'y cariad sydd yn awr Yn curo pob cariadau i lawr?' </poem> }} Ond be bydase ti yn 'i glywed o yn deyd am gyfiawnder Duw a'i ddigllonedd wrth yr annuwiol, mi fase dy wallt di yn sefyll yn syth bin ar dy ben di. Os wyt ti yn myn'd i goleddu rhw syniade fel ene Bob, waeth gen' i Wesle na thithe yr un blewyn. Na, fy machgen, mae y Ficer yn 'i le—mae Duw yn ddigllon beunydd wrth yr annuwiol; a mi wyddost hyny yn well nag y medra i ddeyd wrthat ti." "Nid oes genyf ysbryd nac awydd i ymddadleu â chwi, mam," ebe Bob. "Ys gwn i prun am hyny," ebe fy mam; "ysywaeth yr ydw i yn dy wel'd di yn rhy iach dy yspryd o dipyn. Yr oeddwn i yn rhw<noinclude><references/></noinclude> 4knavtwp8isv6fsy4u6xbddj54isjee Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/86 104 85367 165505 2026-05-22T17:49:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165505 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddirgel obeithio mai ffit o ystyfnigrwydd oedd wedi dwad atat yn y seiat, a bod dy galon di yn well na dy dafod; ond mi welaf fy mod wedi camgymeryd, a mi welaf hefyd fy mai am na baswn wedi closio atat ti er's llawer dydd i ymddyddan a thi am dy gyflwr. 'Does gen' i ond gweddïo, fy machgen, am i Ysbryd Duw ymweled â dy enaid. Wel," ychwanegai fy mam gydag ochenaid, "mae mwy o angen nag a weles i es gwn i pryd am adfywiad ar grefydd i ddwyn uchder ysbryd popol i lawr, ac i'w dwyn at eu dyledswydd." "Pan ddêl Efe," ebe Bob, "bydd ganddo lawer mwy o waith na hyny i'w wneyd. Bydd ganddo wmbreth o gybydd-dod a chrintachrwydd, pethau sydd yn pasio yn awr o dan yr enw cynnildeb, i'w carthu allan o'r eglwysi. Bydd rhagrith, barn gul, a diffyg cariad cristionogol, y rhai sydd yn awr yn dwyn yr enwau sancteiddrwydd, manyldeb, a zel dros ddysgyblaeth eglwysig, yn dyfod o dan yr un dynged ag a ddaeth i'm cyfarfod i heno. Y dydd hwnw—os byth y daw—fe ddadguddir fod rhai o'r bobl oedd yn uchel eu cloch yn fy niarddel i heno wedi cancro a braenu mewn bydolrwydd a budrelw, ac yn gwerthu Iesu Grist am ddeg ar hugain darn arian bob dydd y cyfodant o'u gwelyau. Pan ddaw yr ymweliad yr ydych yn sôn am dano, mae genyf le i ddysgwyl cwmpeini lliosog—rhai y bydd yn ffiaidd genyf eu cydnabod." "'Rwyt ti yn gadel un peth allan," ebe fy mam; "y dydd hwnw mi fydd pawb a'i law ar bla ei galon ei hun, ac nid yn pigo brychau pobol eraill, ac yn ymgyfiawnhâu ynddynt eu hunain. Ddaru Pedr, wel di, ddim meddwl am fynyd bwyntio at Judas oedd wedi bradychu fel rheswm dros iddo ef beidio edifarhâu am wadu. Na, efe a aeth allan ac a wylodd yn chwerw dost, a mi faswn i yn leicio gweled tipyn o'r un ysbryd ynot tithe, fy machgen." A dechreuodd fy mam wylo, yr hyn, fel y sylwais o'r blaen, a fyddai bob amser yn rhoi terfyn ar wrthddadleuon Bob. Wedi i fy mam ollwng allan ei theimladau, gafaelodd yn ngholer fy siaced ac ysgydwodd fi gydag egni, heb fawr feddwl fy mod yn berffaith effro yr holl amser; ac ni wybu hi byth am y ffaith. Wedi i mi fyned i'r gwely, myfyriais lawer ar yr hyn a glywswn, yn enwedig ar y cyfeiriadau a wnaed at fy nhad. Ond aeth y noswaith hono heibio fel pob un arall. Ni ddarfu i appeliadau fy mam effeithio nemawr ar Bob. Ar ol ei ddiarddeliad anfynych<noinclude><references/></noinclude> gignj0dlbx2cecrj8vxoil6ns9me08c Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/87 104 85368 165506 2026-05-22T19:36:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165506 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y byddai yn sôn am bethau crefyddol, nac am y capel, er ei fod yn dal i fyned i'r moddion. Yn y tŷ byddai yn lled ddystaw, a bron bob amser yn darllen, ac ni pheidiodd gyfranu hyny o wybodaeth a allai i mi. Wel, beth a roddaswn heno pe na buasai genyf ddim mwy anhyfryd i'w ddyweyd am dano? <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XIII.<br>SETH}}}} Fel y crybwyllais, rhaid i mi sôn ychydig am Seth y bachgen gwirion, gan iddo ef fod yn achlysur i ffurfio cyfnod yn fy hanes. Cymeriad rhyfedd oedd Seth. Nid ydwyf yn cofio pa bryd y daethum gyntaf i gydnabyddiaeth âg ef. Wrth imi sugno fy nghôf, nis gallaf gael dim o hono yn ei gylch ond Seth—yr un faint, yr un lun, yr un oedran, yr un fath bob amser. Pe gofynai rhywun i mi pa bryd y sylwais gyntaf ar y pren crabas oedd yn ymyl ein ty ni, ac a ydwyf yn cofio gwahanol gyfnodau ar ffurf ei ganghenau, yn sicr byddai raid i mi ateb yn nacäol. Yr unig adeg bendant yr wyf yn gofio yn hanes y pren crabas ydyw y dydd y gorchymynodd gwr y Plas ei dori i lawr. A phan oedd y coedwr calongaled yn cymhwyso ei fwyell at ei fôn ac yn peri i'w ysglodion hedeg yma ac acw, a phan syrthiodd yr hen bren i'r ddaear, teimlwn fel pe buaswn yn colli hen gyfaill anwyl; oblegid ambell i grebyn a fwytaswn oddiar ei ganghenau, y rhai er eu bod yn codi dincod ar fy nannedd, oeddynt yn felus yn niffyg eu gwell. Rhyw un drychfeddwl fel hyn sydd genyf am faint a hanes y pren crabas hyd y dydd y torwyd ef i lawr. Yn gyffelyb y mae gyda golwg ar Seth. Yn flaenorol i adeg ei farwolaeth, rhyw un cyfnod ydyw ei hanes yn fy meddwl, heb ddim ynddo ond Seth: bachgen o bryd goleu, yn tueddu at fod yn dàl, yn deneu ac esgyrniog, yn gwyro tipyn ar ei wàr, ei ên yn fechan ac yn ymgolli ymron yn ei wddf, ei safn bob amser yn hanner agored; llygaid bychain, gleision, a diystyr, ond braidd yn llawen; ei drwyn yn ddiaddurn, ac heb fod yn hollol lân, ei dalcen yn fychan ac yn cilio yn ol mewn llinell union ymron â'i goryn, yr hwn oedd uchel a chul ac yn bargodi dros ei wegil hir. Pobl syml a diniwed oedd ei rieni, yn byw mewn ty bychan twt, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 6vg60gugwe6tlztv00wfqilvx1bzbx3 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/88 104 85369 165507 2026-05-22T19:37:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165507 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dipyn allan o'r dref. Crydd wrth ei alwedigaeth, neu yn hytrach, cobbler, oblegid ni byddai yn gwneyd esgidiau newyddion, ydoedd Thomas Bartley, tad Seth. Ni chyfrifid Thomas na Barbara Bartley fel yn perthyn i ddosbarth y gwybodusion. Yn wir, edrychid yn gyffredin ar y ddau heb fod yn ben llathen; o ganlyniad—Seth. Ni fedrai Thomas na Barbara lythyren ar lyfr; ac nid elai y naill na'r llall byth i gapel nac eglwys oddieithr ar ddydd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf. Ond clywais â'm clustiau fy hun Thomas yn dyweyd fwy nag unwaith ddarfod iddo pan yn ieuanc fod yn dilyn yr Ysgol Sul yn gyson am o bedair neu bum' mlynedd, a chredai pe buasai wedi dal ati am ychydig o flynyddau yn rhagor y buasai wedi meistroli yr A. B. C. Clywais ef hefyd yn ymorchestu ei fod wedi bod yn gwrando droion ar John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans; ond pan ofynid iddo pa fath rai oeddynt, ei ateb yn ddïeithriad a fyddai, "Cato pawb! rhai garw oeddan nhw—garw dros ben!" Yr oedd y ddau hen ben Thomas a Barbara yn hynod ddiniwed a hapus. Pechod mwyaf parod i amgylchu Thomas oedd ei fod braidd yn dueddol i gymeryd enw Duw yn ofer, er nad oedd yn gwneyd hyny, dybygid, yn anmharchus. Ni chymerasai lawer a gweithio ar y Sabboth; ac ni fuasai byth yn dysgwyl bendith pe buasai yn euog o hyny. Ond ni welai efe ddim niwed mewn treulio oriau lawer bob Sabboth i sefyll â'i bibell yn ei safn i wylied y mochyn yn bwyta, ac i gyfrif pa bryd y byddai yn barod i'r gyllell; pa faint a wnai bwyso, ai doeth wedi ei ladd a fyddai gwneyd pwdin gwaed a brawn; pa un ai cadw ai gwerthu y syrth a fyddai oreu, pa rai o'r cymydogion a oedd dyled arno i anfon darn o'r asen goch iddynt ac yn y blaen. Ni feddyliai Thomas fod fai yn y byd iddo ef a Barbara dreulio y Sabboth i siarad am bethau felly; ond ni chymerasai lawer o arian am wisgo ei ffedog ledr am awr ar ddydd yr Arglwydd. Byddai fy mrawd Bob yn hoff iawn o fyned â'i esgidiau i gael eu trwsio at Thomas Bartley, er mwyn iddo gael ei "dynu allan," fel y dywedai; a gwelais ef yn chwerthin nes y byddai y dagrau yn treiglo i lawr ei ruddiau wrth adrodd i fy mam y syniadau rhyfedd a fyddai wedi eu cael ganddo yn ystod yr ymweliadau hyn. Blinid fy mam yn fynych gan y gymmalwst; ac yr wyf yn cofio ei bod yn dyoddef yn dost gan yr anhwyldeb hwn un tro pan oedd Bob newydd ddychwelyd ar ol bod yn ymweled â<noinclude><references/></noinclude> fqfww2fjcd7rg9u7rwkx1c3c82jzm0a 165508 165507 2026-05-22T19:38:13Z AlwynapHuw 1710 165508 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dipyn allan o'r dref. Crydd wrth ei alwedigaeth, neu yn hytrach, ''cobbler'', oblegid ni byddai yn gwneyd esgidiau newyddion, ydoedd Thomas Bartley, tad Seth. Ni chyfrifid Thomas na Barbara Bartley fel yn perthyn i ddosbarth y gwybodusion. Yn wir, edrychid yn gyffredin ar y ddau heb fod yn ben llathen; o ganlyniad—Seth. Ni fedrai Thomas na Barbara lythyren ar lyfr; ac nid elai y naill na'r llall byth i gapel nac eglwys oddieithr ar ddydd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf. Ond clywais â'm clustiau fy hun Thomas yn dyweyd fwy nag unwaith ddarfod iddo pan yn ieuanc fod yn dilyn yr Ysgol Sul yn gyson am o bedair neu bum' mlynedd, a chredai pe buasai wedi dal ati am ychydig o flynyddau yn rhagor y buasai wedi meistroli yr A. B. C. Clywais ef hefyd yn ymorchestu ei fod wedi bod yn gwrando droion ar John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans; ond pan ofynid iddo pa fath rai oeddynt, ei ateb yn ddïeithriad a fyddai, "Cato pawb! rhai garw oeddan nhw—garw dros ben!" Yr oedd y ddau hen ben Thomas a Barbara yn hynod ddiniwed a hapus. Pechod mwyaf parod i amgylchu Thomas oedd ei fod braidd yn dueddol i gymeryd enw Duw yn ofer, er nad oedd yn gwneyd hyny, dybygid, yn anmharchus. Ni chymerasai lawer a gweithio ar y Sabboth; ac ni fuasai byth yn dysgwyl bendith pe buasai yn euog o hyny. Ond ni welai efe ddim niwed mewn treulio oriau lawer bob Sabboth i sefyll â'i bibell yn ei safn i wylied y mochyn yn bwyta, ac i gyfrif pa bryd y byddai yn barod i'r gyllell; pa faint a wnai bwyso, ai doeth wedi ei ladd a fyddai gwneyd pwdin gwaed a brawn; pa un ai cadw ai gwerthu y syrth a fyddai oreu, pa rai o'r cymydogion a oedd dyled arno i anfon darn o'r asen goch iddynt ac yn y blaen. Ni feddyliai Thomas fod fai yn y byd iddo ef a Barbara dreulio y Sabboth i siarad am bethau felly; ond ni chymerasai lawer o arian am wisgo ei ffedog ledr am awr ar ddydd yr Arglwydd. Byddai fy mrawd Bob yn hoff iawn o fyned â'i esgidiau i gael eu trwsio at Thomas Bartley, er mwyn iddo gael ei "dynu allan," fel y dywedai; a gwelais ef yn chwerthin nes y byddai y dagrau yn treiglo i lawr ei ruddiau wrth adrodd i fy mam y syniadau rhyfedd a fyddai wedi eu cael ganddo yn ystod yr ymweliadau hyn. Blinid fy mam yn fynych gan y gymmalwst; ac yr wyf yn cofio ei bod yn dyoddef yn dost gan yr anhwyldeb hwn un tro pan oedd Bob newydd ddychwelyd ar ol bod yn ymweled â<noinclude><references/></noinclude> r8zbcgonfi22tnuw088q44nz36474hu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/89 104 85370 165509 2026-05-22T19:39:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165509 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Thomas. Adroddai Bob yr ymgom ganlynol fel y peth diweddaraf a gawsai gan yr hen grydd; ac er na fyddai fy mam un amser yn hoff o ddigrifwch, nid allai lai na gwenu gan mor naturiol y dynwaredai Bob ffordd Thomas Bartley o siarad. "Sut mae dy fam, Bob?" gofynai Thomas. "Drwg iawn ydyw, Thomas Bartley," ebe Bob. "Mae hi yn dyoddef yn fawr iawn gan y rumatis; nid ydyw yn cysgu ond ychydig gan y poenau." "{{bar|2}}cato pawb! cato pawb !" ebe Thomas. "Wyddost ti, Bob! dydw i ddim yn dallt y Brenin Mawr yna, wel di; dydw i ddim yn 'i ddallt o yt ôl. Gwraig fel dy fam, na 'naeth hi 'rioed ddim ar y ddaear hon yn ei erbyn o, yn cael ei phoeni fel ene o hyd o hyd; dydw i ddim yn i 'ddallt o'n siŵr i ti." "Yr ydych yn meddwl yn rhy dda o fy mam, Thomas Bartley," ebe Bob. "Mae hi yn achwyn arni ei hunan yn aml, ac yn ofni bob dydd na fydd hi yn gadwedig yn y diwedd." "Ddim yn gadwedig yn y diwedd?" ebe Thomas. "Be sy ar y wraig, dywed? chlywes i 'rioed am gam dro arni; glywes di Barbara?י "Na chlywes i, neno dyn," ebe Barbara. "Naddo debyg," ebe Thomas; "a chlywodd neb arall ddim chwaith. Aros di, Bob 'rwyt ti yn sgolor, a mae Barbara a mine wedi meddwl lawer gwaith a gofyn i ti, ond yn bod ni yn anghofio. Ydi'r Llyfr ddim yn deyd y bydd yna lot o honom ni yn gadwedig yn y diwedd?" "Mae sôn ynddo am dyrfa fawr na ddichon neb eu rhifo," ebe Bob. "Tw bi shwar! on deuddwn i'n deyd i ti, Barbara? A siarad neiff pobol anwybodus. Credu yr ydw i, wel di, Bob, os byddwn ni'n onest, a thalu'n ffordd, a byw rhwbeth agos i'n lle, y byddwn ni gyd yn gadwedig. Wyt ti eisio gwadne yn gystal a sodle ar rhai'n? Mae nhw'n dechre myn'd; well i ti gael 'u weltio nhw hefyd." Llawer o bethau cyffelyb a glywais i Bob yn adrodd. Ond am Seth yr oeddwn yn sôn. Clywais lawer gwaith am y rhai sydd mor anffodus â dyfod i'r byd heb fod yn ''compos mentis'', fel y dywedir, fod ynddynt ryw gyfrwysdra a dichell tu hwnt i bobl eraill. Ond nid oedd dim o hyn yn Seth. Yr wyf yn credu ei fod yn berffaith<noinclude><references/></noinclude> 6jtualx47ir7rrz3okpgecm79pg81bf Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/90 104 85371 165510 2026-05-22T19:40:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165510 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddiniwed; ac yr oedd ganddo galon hynod o garedig a thyner. Pa beth bynag a ofynid ganddo, efe a'i gwnai os byddai yn ei allu, ac nid allai gadw dim fel ei eiddo heb ei roddi i rywun arall. Ymddangosai i mi fod ei galon bob amser yn ei lle; ond druan! yr oedd ei synwyr yn fychan. Mewn gwirionedd, plentyn ydoedd er ei fod o ran maintioli yn ŵr. Pa feddyliau bynag oedd yn gwibio trwy ei galon, nid oedd ganddo ond gallu eiddil i'w mynegu; yr oedd ei iaith yn fabanaidd, a'i eiriau yn ychydig. Yr oedd pawb yn y gymydogaeth yn adnabod Seth, ac yn barchus o hono ar gyfrif ei wendid, dybygid. Ië, yr oedd holl gŵn y dref a'r wlad yn ei adnabod, ac yn ysgwyd eu cynffonau iddo; ac nid äi Seth heibio i un o honynt heb dynu ei law dros ei ben, a'i gyfarch yn serchog yn ei ddull ei hun. Gan feddwl, yr oedd ganddo un gallu arbenig, sef y gallu i gofio enwau cŵn, ceffylau, &c. Ychydig oedd yr amser a dreuliai gartref. Yr oedd Seth rywfodd yn gallu bod yn hapusach ymhobman nag yn nhŷ ei dad a'i fam. Os dygwyddai i mi godi yn fore, byddwn yn sicr o weled Seth. Os byddwn allan yn hwyr, byddai Seth ar fy llwybr yn rhywle. Os byddai helynt yn y dref, un o'r rhai cyntaf a welwn a fyddai Seth. Os byddai tŷ neu dâs wair ar dân, yno hefyd yr oedd Seth. Ymhob cyfarfod pregethu, cyngherdd a darlith, yr oedd Seth yn un o'r gynnulleidfa; oblegid yr oedd ganddo drwydded i fyned i bobman, gan na ofynid tocyn iddo gan un enwad na phlaid. Byddai ymhob moddion o râs yn y capel yn gyson, a gwrandawai yn astud ar bob gair a ddywedid; ond ni thybiai neb ei fod yn deall dim. Erbyn hyn, yr wyf yn ammheu a oedd y dybiaeth hon yn gywir; oblegid yr wyf yn cofio i mi sylwi lawer gwaith ar ei wyneb, pan fyddai y pregethwr yn llefaru, fod rhyw lygedyn o fwyniant deallol yn myned drosto. Nid oedd y llygedyn hwn yn para ond am eiliad, a gadawai ei wyneb yn wag a diystyr fel o'r blaen, ond yr oedd mor wahanol i'r wêdd gyffredin a fyddai arno nes tynu fy sylw. Pan ofynid iddo pa beth a fyddai y pregethwr wedi ei ddyweyd, nid oedd yn cofio dim ond yr enw Iesu Grist, neu o leiaf, nid allai adrodd dim. Yr oedd lle i gredu ei fod yn synied yn uchel am bob pregethwr, oblegid nid oedd dim a roddai gymaint o fwynhâd iddo a chael dal pen ei geffyl, neu ynte ddangos tŷ'r capel iddo. Pan syrthiai hyn i'w ran, dywedai yr hanes wrth ei holl gyfoedion gyda phleser mawr. Er fod Seth, fel y sylwais, o ran<noinclude><references/></noinclude> 6scsoiib69rcd3ewiv2xsp976s58n8i Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/91 104 85372 165511 2026-05-22T19:40:45Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "oedran a maintioli yn ŵr, eto plant oeddynt ei gymdeithion yn wastad. Deuai i'r seiat plant yn gyson, ac adroddai ei adnod fel y gwnai y plant eraill. Yr un adnod a fyddai ganddo yn ddieithriad: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Methodd fy mam a minnau ac eraill a chael allan pwy oedd wedi ei dysgu iddo. Yr oedd yr adnod fel pe buasai wedi cyd-dyfu âg ef, ac wedi llenwi ei feddwl fel nad oedd yno le i adnod arall. G... 165511 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedran a maintioli yn ŵr, eto plant oeddynt ei gymdeithion yn wastad. Deuai i'r seiat plant yn gyson, ac adroddai ei adnod fel y gwnai y plant eraill. Yr un adnod a fyddai ganddo yn ddieithriad: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Methodd fy mam a minnau ac eraill a chael allan pwy oedd wedi ei dysgu iddo. Yr oedd yr adnod fel pe buasai wedi cyd-dyfu âg ef, ac wedi llenwi ei feddwl fel nad oedd yno le i adnod arall. Gan mai yr un adnod a adroddai bob amser, yr wyf yn cofio i Abel Hughes un tro yn y seiat plant fyned heibio i Seth heb ofyn iddo am dani. Wrth weled hyny, torodd Seth i wylo allan yn hidl, ac ni fynai ei gysuro. Yr oeddem oll fel plant yn hoff iawn o Seth, ac aeth y nifer mwyaf o honom i wylo gydag ef. Yr oeddwn i, yr wyf yn cofio yn burion, yn ei thywallt hi yn braf, oblegid nid oedd eisieu llawer i beri i mi grïo. Er fod Abel, fel y sylwais o'r blaen, yn ddyn penderfynol a hunanfeddiannol, ni welais ef erioed yn y fath ''fix''. Tynai wynebau rhyfedd, a methai yn glir a siarad. Ceisiodd yn y man liniaru teimladau Seth, ond ni fedrai. Gwn iddo deimlo yn dost am yr hyn a wnaeth; ac fel iawn am ei gamymddygiad, anrhegodd Abel Seth y dydd canlynol â llyfr hymnau, ac iachaodd hyny ei holl friwiau. Y llyfr hymnau hwn oedd yr unig beth wyf yn gofio i Seth allu ei gadw heb ei roddi i arall. Ni fuasai dim yn ei brynu ganddo; cariai ef i bob moddion, ac agorai ef tua'r canol pan fyddid yn canu; ond rhyfedd! byddai agos yn wastad yn ei ddal o chwith, sef a'i ben i lawr. Yr oedd Seth wedi sylwi y byddai rhyw bobl garedig yn dangos y tudalen i eraill oedd yn eu hymyl, ac heb ddal ar rif yr emyn; ac os gwelai yntau rywun â gronyn o betrusder arno, äi ato yn syth, gan ddangos ei lyfr agored fel pe buasai ef yn sicr o honi. Byddai ystum ryfedd arno ar adegau yn yr addoliad, ac nid allai lai na bod yn brofedigaeth i bregethwr dyeithr; ond yr oedd y gynnulleidfa wedi hen gynnefino âg ef, ac heb sylwi arno. Ar brydiau, codai yn sydyn ar ei draed, gan ddodi ei droed ar y fainc a fyddai o'i flaen, gosod penelin ei fraich ddeheu i orphwys ar ben ei lin a'i ên i bwyso ar ei law, heb dynu ei lygaid oddi ar y pregethwr. Wrth weled Wil Bryan a minnau ac eraill yn ysgrifenu y testyn a phennau y bregeth, deuai awydd mawr ar Seth weithiau i'n hefelychu; a byddai ambell un lled gellweirus yn ei gynnysgaethu a dalen fawr o<noinclude><references/></noinclude> j4900io5ana19794955cxyun3ljwaiy 165541 165511 2026-05-22T20:40:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165541 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedran a maintioli yn ŵr, eto plant oeddynt ei gymdeithion yn wastad. Deuai i'r seiat plant yn gyson, ac adroddai ei adnod fel y gwnai y plant eraill. Yr un adnod a fyddai ganddo yn ddieithriad: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Methodd fy mam a minnau ac eraill a chael allan pwy oedd wedi ei dysgu iddo. Yr oedd yr adnod fel pe buasai wedi cyd-dyfu âg ef, ac wedi llenwi ei feddwl fel nad oedd yno le i adnod arall. Gan mai yr un adnod a adroddai bob amser, yr wyf yn cofio i Abel Hughes un tro yn y seiat plant fyned heibio i Seth heb ofyn iddo am dani. Wrth weled hyny, torodd Seth i wylo allan yn hidl, ac ni fynai ei gysuro. Yr oeddem oll fel plant yn hoff iawn o Seth, ac aeth y nifer mwyaf o honom i wylo gydag ef. Yr oeddwn i, yr wyf yn cofio yn burion, yn ei thywallt hi yn braf, oblegid nid oedd eisieu llawer i beri i mi grïo. Er fod Abel, fel y sylwais o'r blaen, yn ddyn penderfynol a hunanfeddiannol, ni welais ef erioed yn y fath ''fix''. Tynai wynebau rhyfedd, a methai yn glir a siarad. Ceisiodd yn y man liniaru teimladau Seth, ond ni fedrai. Gwn iddo deimlo yn dost am yr hyn a wnaeth; ac fel iawn am ei gamymddygiad, anrhegodd Abel Seth y dydd canlynol â llyfr hymnau, ac iachaodd hyny ei holl friwiau. Y llyfr hymnau hwn oedd yr unig beth wyf yn gofio i Seth allu ei gadw heb ei roddi i arall. Ni fuasai dim yn ei brynu ganddo; cariai ef i bob moddion, ac agorai ef tua'r canol pan fyddid yn canu; ond rhyfedd! byddai agos yn wastad yn ei ddal o chwith, sef a'i ben i lawr. Yr oedd Seth wedi sylwi y byddai rhyw bobl garedig yn dangos y tudalen i eraill oedd yn eu hymyl, ac heb ddal ar rif yr emyn; ac os gwelai yntau rywun â gronyn o betrusder arno, äi ato yn syth, gan ddangos ei lyfr agored fel pe buasai ef yn sicr o honi. Byddai ystum ryfedd arno ar adegau yn yr addoliad, ac nid allai lai na bod yn brofedigaeth i bregethwr dyeithr; ond yr oedd y gynnulleidfa wedi hen gynnefino âg ef, ac heb sylwi arno. Ar brydiau, codai yn sydyn ar ei draed, gan ddodi ei droed ar y fainc a fyddai o'i flaen, gosod penelin ei fraich ddeheu i orphwys ar ben ei lin a'i ên i bwyso ar ei law, heb dynu ei lygaid oddi ar y pregethwr. Wrth weled Wil Bryan a minnau ac eraill yn ysgrifenu y testyn a phennau y bregeth, deuai awydd mawr ar Seth weithiau i'n hefelychu; a byddai ambell un lled gellweirus yn ei gynnysgaethu a dalen fawr o<noinclude><references/></noinclude> m4gsbmvzui80prgb54etjjdfzbavuyi Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/92 104 85373 165512 2026-05-22T19:41:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165512 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bapyr gwyn a phensil hir at y pwrpas. A dyna lle byddai Seth y rhan fynychaf yn dal y papyr yn ei law ddehau, a'r pensil yn ei law chwith, ac yn dysgwyl yn bryderus am i'r pregethwr gymeryd ei destyn; ac yna yn llawn busnes ysgriblai ar y papyr y ffurfiau rhyfeddaf a welodd neb erioed. Ond buan y blinai ar y gwaith hwn, a dychwelai at ei ddull gwreiddiol o syllu yn ddidòr i lygad y pregethwr. Wrth i mi adgofio ei ymddygiadau yn yr addoliad, a chofio hefyd y byddai Seth bob amser yn eistedd yn hollol ar gyfer y pregethwr, yr wyf yn synu na fuasai wedi taflu ambell un oddiar ei echel, Yr oedd rhywbeth yn Seth tebyg iawn i ysbryd addoli. Clywais Marged Tŷ'r capel yn adrodd y byddai Seth y rhan fynychaf yn dysgwyl arni agor drws yr addoldy; ac wedi iddi wneyd pobpeth yn barod a throi ei chefn, elai Seth i'r sêt fawr; agorai y Bibl, a gwnai sŵn fel pe buasai yn darllen; yna äi ar ei liniau, a dywedai lawer o rywbeth na wyddai neb, meddai Marged, beth ydoedd, os gwyddai ef ei hun. Ond can gynted ag y deuai rhywun i mewn i'r capel, cyfeiriai Seth ei gamrau yn ddystaw i'w eisteddle arferol. Yr oedd Seth a minnau yn gyfeillion mawr; nid am ein bod o gyffelyb feddwl, mi a hyderaf. Pan na adawai fy mam i mi fyned i chware, gwelais Seth lawer gwaith yn sefyllian o gwmpas ein tŷ ni am oriau bwygilydd yn fy nysgwyl. Nis gwn pa beth a barodd iddo gymeryd ataf mor fawr; ond sicr wyf pan welai efe fi yn cael cam gan rai o'r hogiau, y byddai hyny yn ei ofidio yn dost. Pan gofiwyf mor wanaidd ei iechyd oedd, y mae arnaf gywilydd wrth feddwl pa mor fynych y byddai yn geffyl i mi. Pe rhoddid y cwbl at eu gilydd, yr wyf yn sicr iddo fy nghario ar ei gefn ugeiniau o filldiroedd, a hyny yn hollol ddirwgnach. Pan gaffai Seth ddimai neu geiniog, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, ymgynghorai â mi bob amser pa beth i wneyd â hi, a fy nghynghor a fyddai yn ddïeithriad—ei gwario. Ond y mae yn rhaid i mi brysuro, gan fod genyf rywbeth pwysicach i'w adrodd am fy nghysylltiad ag ef. Sylwais un diwrnod fod Seth yn edrych yn wael iawn, ac yn pesychu yn dost, ac yn hollol ddifater am chware, er nad oedd efe yn cwyno. Yn wir, ni chlywais ef erioed yn cwyno. Drannoeth ni ddaeth Seth allan o'r tŷ. Y dydd canlynol aethum i edrych am dano, a chefais ef yn glaf yn ei wely. Ar fy mynediad cyntaf i'r ystafell, edrychodd yn wyllt arnaf; yna gloëwodd ei wyneb, estynodd<noinclude><references/></noinclude> hiydr9b3wgvh3tldy1a2lc88v5svv7n Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/93 104 85374 165513 2026-05-22T19:42:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165513 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei law, a gwaeddodd "Rhys!" Ymhen ychydig o fynydau, collodd ei adnabyddiaeth o honof, gan fy ngalw wrth ryw enwau eraill. Siaradai yn ddibaid, ond nid allwn wneyd dim synwyr o'r hyn a ddywedai. Yn ofer y ceisiai ei fam ei gadw yn llonydd. Cyfodai yn ei eistedd yn y gwely, a chyfeiriai a'i fys i gongl wâg o'r ystafell, fel pe buasai yn gweled rhywbeth nad allai ddyweyd beth ydoedd. Yr oedd yr olwg arno wedi fy nychrynu; ac yr oedd fy nghalon bron a thori o gydymdeimlad ag ef, a llithrais yn ddystaw i lawr y grisiau. Yn y gegin cerddai Thomas Bartley yn ol a blaen mewn gofid trwm. Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i mi oedd a ddarfu i Seth fy adnabod; a phan atebais yn gadarnhäol, ymlonodd yn fawr. Ond buan y dychwelodd ei brudd-der, a dywedodd, "Mae'r doctor yn deyd, Rhys, fod ffefar arno. Cato pawb! cato pawb! Gofyn i dy fam, y ngwas i, weddio tipyn drosto fo. Cato pawb! be bydawn i yn 'i golli o!" Pe buasai Seth y bachgen mwyaf talentog yn y wlad, nid allasai ei rieni fod mewn mwy o bryder yn ei gylch. Parhaodd fy nghyfaill yn yr un cyflwr am ddyddiau. Ymwelwn âg ef bob dydd—weithiau ddwywaith yn y dydd. Wil Bryan a minnau oeddynt yr unig ddau o'i hen gymdeithion a ganiateid i fyned i'w ystafell. Anfynych y byddai yn ein hadnabod. Nid wyf yn cofio pa un ai yr wythfed ai y nawfed dydd o'i saldra ydoedd, pan ddaeth Wil Bryan i'n tŷ ni yn hwyr ar y nos gyda'r newydd fod Seth wedi "altro," a'i fod yn galw am danaf. Er ei bod ymron yn adeg i mi fyned i'r gwely, cefais ganiatâd gan fy mam i fyned i ymweled âg ef. Ar y ffordd, dywedodd Wil wrthyf, "Mae gen i ofn, wel di, fod Seth yn myn'd i'w gloewi hi;" wrth yr hyn y golygai fod Seth ar farw. Er fod Wil yn siarad yn y dull hwn, yr oedd efe yn berffaith ddifrifol. Pan gyrhaeddasom y tŷ, cyfarchodd Thomas Bartley ni yn nwyfus, a dywedodd fod Seth yn llawer gwell. Llamodd fy nghalon o lawenydd pan glywais hyn. Aethom yn ddystaw i fyny i'r llofft. Yr oedd yr hen Farbara, a chymydoges iddi, yn eistedd yn ymyl y gwely, ac yn edrych yn ddystaw lawen. "Mae o'n gofyn am danoch er's meityn," ebe y gymydoges wrth Wil a minnau. Gorweddai Seth yn berffaith dawel, gyda gwên siriol ar ei wyneb. Yr oedd hefyd ryw brydferthwch dyeithr yn ei wêdd. Buasai un nad oedd yn ei adnabod yn ei gymeryd can belled ag yr oedd yr olwg arno yn myned, am fachgen deallgar. Tarawyd Wil a minnau â mudandod ymron, gan mor<noinclude><references/></noinclude> bvb3igrgp23yblx96ong2l1dfpa2xzm Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/94 104 85375 165514 2026-05-22T19:43:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165514 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anhebyg iddo ef ei hun yr edrychai. Dylaswn fod wedi sylwi y byddai Seth bob amser yn siarad am dano ei hun yn y trydydd person. Er enghraifft, ni ddywedai pan fyddai yn myned i rywle, "Yr wyf yn myned," ond "Y mae Seth yn myn'd i'r fan a'r fan." Ac felly ymhob amgylchiad, siaradai am dano ei hun fel pe buasai yn rhywun arall. Ac yr oeddymi ninnau ei gymdeithion wedi mabwysiadu yr un arddull wrth ymddiddan âg ef. Pan aeth Wil a minnau i'r ystafell, Seth, wedi iddo estyn ei law deneu wèn i ni, a'n cyfarch wrth ein henwau, a ofynodd i'w fam a'r gymydoges fyned i lawr i'r gegin, a hwythau a aethant yn union. Pan gawsom yr ystafell i ni ein hunain, gwyrais drosto, a dywedais, "Mae Seth yn well." "Ydi, mae Seth yn well," atebodd yn floesg. "Ydi Seth eisio deyd rhwbeth wrth Rhys?" gofynais. Edrychodd arnaf yn siriol, a'r fath wedd ddysglaer a deallgar ar ei wyneb, nes peri i mi gofio am y llygadau y soniais am danynt a welid weithiau yn myned dros ei bryd yn y capel. Yna adroddodd yr adnod a glywswn gannoedd o weithiau o'i enau yn y seiat plant: "Iesu Grist ddoe, heddyw, yr un ac yn dragywydd." Yr oedd rhywbeth yn ei ddull yn ei hadrodd a barai i mi gredu ei bod yn dyfod, nid oddiar ei dafod, ond yn syth o'i galon. Daliai i edrych arnaf fel pe buasai yn dysgwyl i mi ofyn rhywbeth arall iddo, ac ni wyddwn innau pa beth i'w ofyn. Yn y man dywedais wrtho y byddai i Seth fendio yn fuan. "Na," ebe efe, "Seth ddim mendio. Seth ddim chware eto efo Rhys. Seth ddim myn'd i gapel Abel eto. Seth myn'd i ffwrdd ymhell, ymhell, i—i,"a phwyntiai â'i fys i fyny, fel pe buasai yn methu cael gafael ar y gair priodol; ac awgrymais innau y gair "nefoedd;" ond nid dyna oedd y gair a geisiai efe, ac yn y man dywedodd y frawddeg yn llawn: "Seth myn'd i ffwrdd ymhell, ymhell, i gapel mawr Iesu Grist." Dyna ydoedd drychfeddwl Seth, druan, am y nefoedd,—"capel mawr Iesu Grist." Yr oeddwn er ys meityn yn clywed Wil Bryan, yr hwn a safai tu ol i mi, yn tynu ei wynt yn gyflym trwy ei ffroenau fel pe buasai wedi cael anwyd. Gwelais, pan oeddwn yn yr ysgol, yr Hen Sowldiwr yn gwneyd cansen yn yfflon ar gefn Wil, ac yntau heb ddyweyd och, na cholli un deigryn; ond yr oedd clywed Seth, ein hen gydymaith diniwed, yn son am farw ac am fyned ymhell, yn<noinclude><references/></noinclude> ft5km3cz7emw1yedn07flei39bqaogj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/95 104 85376 165515 2026-05-22T19:44:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165515 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwy nag a allai Wil ei ddal, a "gloewodd hi," chwedl yntau, i lawr y grisiau, gan fy ngadael fy hunan gyda Seth. Wedi i Wil adael yr ystafell, edrychodd Seth o'i gwmpas, a gwelodd nad oedd neb ond ef a minnau yno, ac ebe efe, "Rhys weddio." Deallais ei ddymuniad mewn eiliad, ac ni wyddwn pa beth i'w wneyd. Meddyliwn nad oedd neb i weddio gyda'r claf ond pregethwr. Dywedodd wrthyf drachefn, gyda mwy o daerni yn ei olwg, "Rhys weddio." Nid allwn ei wrthod; ac yr oedd yn dda genyf erbyn hyn fod Wil wedi myned ymaith, rhag iddo wneyd gwawd o honof ar ol hyny. Aethum ar fy ngliniau yn ymyl ei wely, a gweddïais oreu y gallwn. Nid wyf yn cofio yn awr pa eiriau a ddefnyddiais; ond gwn i mi ofyn i Iesu Grist fendio Seth, ac yna aeth yn nôs arnaf, a bu raid i mi droi i ddyweyd fy mhader. Pan oeddwn yn gofyn i Iesu Grist fendio fy nghyfaill, gwn fod y weddi yn dyfod o waelod fy nghalon, ac ar yr un pryd, teimlwn law deneu ysgafn Seth ar fy mhen. Cadwodd hi yno tra fum yn dyweyd fy mhader. Arosais am dipyn mewn dystawrwydd, i weled a fuasai yn ei thynu ymaith, ond ni wnaeth. Teimlwn hi yn myned i bwyso yn drymach ar fy mhen. Yn fuan, teimlwn hi yn myned yn oer, oer, ac aeth ias ryfedd a dyeithr trwy fy holl gyfansoddiad. Symudais ei law yn araf, a chyfodais ar fy nhraed yn grynedig. Yr oedd ei lygaid yn llydan agored, ac yn edrych ymhell, fel y tybiwn i. Siaredais âg ef, ond ni atebodd; gelwais arno eilwaith, ond yr oedd Seth wedi myned yn rhy bell i fy nghlywed. Nid oedd yno ond tŷ gwag, er fod y ffenestri yn loew a glân. Yr oedd ei enaid diniwed—bu agos i mi ddyweyd dibechodwedi myned i "ffwrdd ymhell, i gapel mawr Iesu Grist," chwedl yntau. Pan sylweddolais y ffaith ei fod wedi marw, gwaeddais fel ynfytyn; a'r fynyd nesaf yr oedd ei fam a'i dad a'r gymydoges wrth fy ochr. Ni cheisiaf ddesgrifio yr olygfa, er nad allaf byth ei anghofio. Byddai yn greulondeb ynof geisio darlunio galar gwyllt a dilywodraeth rhieni heb nerth meddyliol na chrefyddol i'w cynnal mewn profedigaeth lem. Prysurais gartref gyda chalon drom. Yr oedd tipyn o ffordd o dŷ Seth i'n tŷ ni, ac yr oedd yn rhaid i mi fyned fy hunan, oblegid yr oedd Wil Bryan wedi myned er ys meityn. Yr oedd yn<noinclude><references/></noinclude> 01l13lfs7d5mddskcf1me7xk63118ee Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/96 104 85377 165516 2026-05-22T19:45:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165516 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>noswaith leuad-oleu, ac yr oedd yr awyr yn glir, a'r ser yn dysgleirio ac yn ymddangos ymhell iawn. Dychymygwn fod y lloer yn edrych yn ddyfal arnaf, ac fod y ser yn amneidio yn ddibaid. Po fwyaf yr edrychwn arnynt, mwyaf oll y tybiwn eu bod hwythau yn edrych arnaf finnau. Gofynwn i mi fy hun a oedd Seth wedi myned heibio iddynt, neu ar ei ffordd tuag atynt yr oedd efe; pa faint o amser a gymerai iddo fyned i'r nefoedd, ac a fyddai wedi cyrhaeddyd yno cyn i mi gyrhaeddyd gartref, a llu o ofynion cyffelyb. Mae yn rhyfedd genyf adgofio heddyw fod rhywbeth wedi dyfod i fy meddwl y noswaith hono mai pregethwr oeddwn i fod. O ba le y daeth y meddwl, neu pwy a'i hanfonodd, nis gwn; ond yr wyf yn dyddio fy awydd am fod yn bregethwr o'r noswaith hono. Ai llaw Seth y bachgen gwirion ar fy mhen, pan oedd efe yn hongian rhwng deufyd, a'm neillduodd gyntaf i'r gwaith? Yr wyf yn pregethu ddigon salw yn fynych, fel y credai llawer pe dywedwn mai hyny a ddarfu. Ond yr wyf yn crwydro. Yr oedd genyf ddau neu dri o gaeau i fyned drostynt ar fy ffordd gartref. Yr oedd fy llwybr hefyd yn myned gydag ymylon coed y Plas. Er fy mod yn weddol wrol, ac ystyried nad oeddwn ond hogyn, rhaid i mi addef nad oeddwn heb fy ofnau y noswaith hono. Ond prysurais yn fy mlaen, gan geisio cadw fy ysbryd i fyny. Pan ddaethum at goed y Plas, gwelwn rywbeth ar ffurf dyn yn eistedd ar y clawdd, yn gymhwys ar ochr y llwybr yr oedd yn rhaid i mi fyned ar hyd-ddo. Petrusais, a dechreuodd fy nghalon guro mor drwm, fel y tybiwn fy mod nid yn unig yn ei theimlo ond ei chlywed hefyd. Yr oedd yn hwyr ar y nos, ac yr oedd yn gofyn cymaint o ddewrder i fyned yn ol âg ymlaen. Gelwais ar hyny o wroldeb a feddwn i weithrediad, ac aethum rhag fy mlaen yn gyflym. Wrth i mi nesâu at y dyn, gwelwn fod ganddo ddryll yn ei law, a phenderfynais yn fy meddwl mai ''keeper'' y Plâs ydoedd y dyn, yr hwn a adwaenwn yn dda, ac aeth fy holl ofnau ymaith. Yr oedd y lleuad erbyn hyn tu ol i'r coed, fel nad allwn weled yn eglur; ond pan ddaethum o fewn ychydig o latheni i'r dyn, dywedais â llais uchel, "Nos dawch, Mr. Jones." Atebwyd fi gan lais cras ac annymunol, "Aros, aros, Rhys Lewis! paid a cherdded mor ffast rhag i ti syrthio ar draws rhai o dy berth'nasau. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> h2akaqxrho29w9qephbxngqdgfcc3bd Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/97 104 85378 165517 2026-05-22T19:45:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165517 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Sefais a gwelais mai nid Mr. Jones ydoedd, ac fod ganddo wn dau faril hen ffasiwn yn ei law. "Paid a dychrynu," ebe fe, "wna imo dy saethu di yrwan, os gwnei di fel y bydda' i yn deyd wrthat ti. Eistedd ar y clawdd yma gael i mi gael siarad hefot ti." Ufuddheais yn grynedig. Tybiwn y dylaswn adnabod y llais, ond yr oedd ffurf y dyn yn hollol ddyeithr i mi. Ar ôl i mi eistedd fel y gorchymynwyd i mi, gosododd y dyn ei ddryll i orwedd ar y clawdd, ac mor agos ataf fel yr oeddwn yn gallu gweled y ddwy gapsen felen yn pelydru. Cyn dyweyd gair arall, llwythodd y dyn ei bibell, goleuodd fatsen. Pan oedd yn rhoi tân ar ei bibell, a phan ddaeth fflam y fatsen i dywynu ar ei wyneb, adnabyddais ef; a bu agos i mi lewygu gan ofn. Adwaenais yn ei wyneb hagr a milain y dyn budr a drwg, yr hwn a welswn yn dyfod i'n tŷ ni yn hwyr ar y nos flynyddau lawer yn ol, a'r hwn a alwn i y pryd hyny "y Gwyddel." Yr oedd cryn gyfnewidiad wedi cymeryd lle ynddo oddiar yr amser y gwelswn ef gyntaf; ymddangosai yn gryfach o lawer. Dechreuodd fy holi yn fanwl ac awdurdodol am fy mam a Bob, ac yn enwedig am ŵr y Plas a'r keepers. Nid atteliais ddim oddiwrtho; oblegid yr oeddwn yn ei ofni yn gymaint nes oedd fy nillad yn glynu yn fy nghnawd gan chwys oer, ac ymddangosai yntau yn cael difyrwch mawr wrth fy ngweled mor ofnus. Cadwodd fi yno yn hir, a gollyngodd ambell i air allan a agorodd fy llygaid i hanes fy nheulu. Yr oedd genyf fy ammheuon o'r blaen; ond yn awr, gwelwn y cyfan yn eglur. Yr oedd y Gwyddel, canys wrth yr enw hwnw yr adwaenwn ef, yn brysur yn fy holi ac yn siarad, pryd ar ganol brawddeg yr arosodd yn sydyn. Gafaelodd yn ei ddryll, a thynodd ei getyn o'i safn gan wrando yn ddyfal. Yr oedd y dystawrwydd yn llethol i mi. Yn y fynyd, tynodd yn nerthol at ei bibell, fel pe buasai yn ofni i'r tân fyned allan, a gwrandawodd yn astud eilwaith. Dychymygwn glywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr y daethwn i ar hydddo. Tynodd y Gwyddel ei het yn dýn am ei ben, ac yna clywn rywun heb fod ymhell yn chwibianu yn isel ac arwyddocäol. Heb ddyweyd un gair, neidiodd fy nghydymaith dyeithr ar ei draed, a llamodd dros y gwrych i'r coed. Yr un foment, yr oeddwn innau fel carw dychrynedig yn difodi y pellder oedd rhwng y fan a'n tŷ ni. Prin y gallasai bwled fy ngoddiweddyd. Pan gyrhaeddais y<noinclude><references/></noinclude> db3r0xh6p9fh7m0ne6kw4hvzyat7mhk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/98 104 85379 165519 2026-05-22T20:05:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165519 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>brifffordd, arosais i gymeryd fy ngwynt, a chlywn ergyd, ac un arall, a gwaeddi, a chynhwrf. Ac aethum yn fy mlaen yn gyflym; ac yn union deg, cyfarfum â fy mrawd Bob yn dyfod i ymofyn am danaf, ac adroddais iddo yn fyr yr helynt. Rhoddodd yntau siars i mi beidio sôn gair wrth fy mam na neb arall; ac ychwanegodd fod yr amser wedi dyfod i mi gael gwybod yr hyn oedd wedi ei gadw oddiwrthyf hyd yn awr, ac yr adroddai y cyfan imi wedi i ni fyned i'r gwely. Cyflawnodd ei addewid, a chyflawnais innau ei orchymyn, ac ni soniais air wrth neb hyd y dydd hwn am yr hyn a gymerodd le y noswaith hono wrth goed y Plâs. Onid priodol y dywedais fod Seth wedi bod yn achlysur i ffurfio cyfnod yn fy hanes? Gymaint mwy oeddwn yn ei wybod fore drannoeth am fy nheulu; a gadewch i mi obeithio, gymaint gwell bachgen oeddwn! <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XIV.<br>WIL BRYAN.}}}} Cynhebrwng Seth oedd y cyntaf erioed i mi fod ynddo; ac o herwydd fod y fath gyfnewidiadau wedi eu dwyn i mewn ynglŷn â chladdedigaethau yn nghorff y deng mlynedd ar hugain diweddaf, hwyrach nad anmhriodol a fyddai i mi nodi ffaith neu ddwy o berthynas i hyny. Tua'r adeg hono yr oedd Methodistiaid mwyaf deallgar Sir yn ceisio dysgu y bobl i wneyd i ffordd â'r arferiad ffol o yfed cwrw mewn claddedigaethau. Côf genyf fy mod yn nhŷ Thomas Bartley y noswaith o flaen y diwrnod yr oedd Seth i gael ei hebrwng i dŷ ei hir gartref, pryd y daeth Abel Hughes i ymweled â'r teulu galarus. Ceisiai Abel godi gwersi buddiol oddiwrth yr amgylchiad prudd; ac yr oedd yn amlwg imi fod Thomas a Barbara Bartley yn teimlo i'r byw dan ei athrawiaeth. Pa fodd bynag, pan grybwyllodd Abel yn y màn am yr arferiad o yfed cwrw mewn claddedigaethau, gan ddadgan ei obaith nad oedd rhieni Seth am ddal i fyny yr arferiad, cododd Thomas ei ben, ac edrychodd braidd yn ddig ar Abel; ac ebe efe, "Abel Hughes, ydach chi ddim yn meddwl'y med i yn myn'd i gladdu 'y machgen fel claddu ci? Na, mi fydd yma fara <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 96ko8i0xtcp80a4yhsmjecs8mpgtkn7 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/99 104 85380 165520 2026-05-22T20:06:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165520 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a chaws a chwrw i bawb ddaw yma, os bydd fy llygid i yn agored." Dadleuai Abel âg ef yn zelog, ond nid oedd ei resymau yn cael dim effaith ar Thomas Bartley, yr hwn a ddywedodd, "Na, na, Abel Hughes, os oedd Seth heb fod yn hollol fel plant eraill, dydw i ddim yn myn'd i'w gladdu o hefo rhw slòt o dê," a rhwbiodd Thomas ei lygaid yn llawes ei gôb. Bu yn un â'i air. Pan aeth Wil Bryan a minnau yno yn gynnar prydnawn drannoeth, gwelem ar y bwrdd hanner cosyn a chyllell wrth ei ochr, torth o fara gwyn, clamp o jug â'i lon'd o gwrw, amryw bibellan newyddion, a phlât bychan yn dal tybaco. Derbyniwyd ni i'r tŷ gan Thomas Bartley ei hun, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthym oedd,— "William, cymer rwbeth at dy ben; Rhys cymer rwbeth at dy ben." Nid oeddwn i yn teimlo fod dim o'i le ar fy mhen; a gallwn feddwl mai felly y teimlai Wil hefyd, oblegid edrychodd yn syn ar Thomas Bartley. Gwybu Thomas nad oeddem wedi deall ei ddymuniad, a thorodd glenc o fara a chaws i Wil a minnau, a llanwodd wydriad bychan o gwrw i ni. Yr oeddwn yn synu sut yr oedd Wil yn gallu yfed y cwrw heb dynu gwynebau. Cefais i gryn drafferth i'w lyncu, a chefais wybod yn y mán am ei effeithiau. Teimlwn ar delerau da nodedig gyda phob dyn, a meddyliwn fod fy nwylaw yn dewion ac yn hirion iawn, ac yr oedd awydd mawr arnaf naill ai i gysgu neu i chwerthin, heb fod genyf ddewis pa un. Gwn na fuasai y naill na'r llall ymddygiad gweddus yn y fath le, a gwnaethum ymdrech egniol yn erbyn dylanwad y gwydriad, ac ni chymerais ddim yn rhagor " at fy mhen." Yr oedd amryw o'r hen gymydogion wedi dyfod i'r angladd o'n blaenau, ac yr oeddynt yn ysmocio ei hochr hi, a daeth amryw i mewn ar ein holau. Pob un a ddeuai i mewn, cyfarchai Thomas Bartley ef yn yr un geiriau: "Cymerwch rwbeth at eich pen;" ac yna äi y newydd-ddyfodiad yn syth at y ''jug'' a'r cwrw; cymerai wydryn, a thorai ddarn o fara a chaws. Yr wyf yn cofio fod pawb a ddaethai ynghyd yn gadael eu hetiau am eu penau, a phob un yn ei dro yn adrodd hen gofion am y peth yma a'r peth arall, heb fod un math gysylltiad rhyngddynt â marwolaeth Seth. Yr oedd agos i bawb yn ysmocio ac yn poeri ar lawr, ar yr hwn yr oedd swnd gwyn wedi ei daenu yn lled dew. Adgyflenwyd y ''jug'' lawer gwaith. Wedi i un helpio ei hun o'r cwrw, gosodai y gwydryn ar gyfer y gwr a eisteddau ar ei aswy, a throai ddolen y ''jug'' yr un modd. Byddai ambell un yn anghofio gwneyd ei ddyledswydd mewn amser rhesymol; ac yna gwaeddai rhywun mwy barus na'i frodyr, "At bwy mae'r ddolen?" yr hyn oedd arwydd i'r hwn yr<noinclude><references/></noinclude> mx354whsnm0r7ibq8jqdtoicjtihxvz 165521 165520 2026-05-22T20:07:23Z AlwynapHuw 1710 165521 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a chaws a chwrw i bawb ddaw yma, os bydd fy llygid i yn agored." Dadleuai Abel âg ef yn zelog, ond nid oedd ei resymau yn cael dim effaith ar Thomas Bartley, yr hwn a ddywedodd, "Na, na, Abel Hughes, os oedd Seth heb fod yn hollol fel plant eraill, dydw i ddim yn myn'd i'w gladdu o hefo rhw slòt o dê," a rhwbiodd Thomas ei lygaid yn llawes ei gôb. Bu yn un â'i air. Pan aeth Wil Bryan a minnau yno yn gynnar prydnawn drannoeth, gwelem ar y bwrdd hanner cosyn a chyllell wrth ei ochr, torth o fara gwyn, clamp o jug â'i lon'd o gwrw, amryw bibellan newyddion, a phlât bychan yn dal tybaco. Derbyniwyd ni i'r tŷ gan Thomas Bartley ei hun, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthym oedd,— "William, cymer rwbeth at dy ben; Rhys cymer rwbeth at dy ben." Nid oeddwn i yn teimlo fod dim o'i le ar fy mhen; a gallwn feddwl mai felly y teimlai Wil hefyd, oblegid edrychodd yn syn ar Thomas Bartley. Gwybu Thomas nad oeddem wedi deall ei ddymuniad, a thorodd glenc o fara a chaws i Wil a minnau, a llanwodd wydriad bychan o gwrw i ni. Yr oeddwn yn synu sut yr oedd Wil yn gallu yfed y cwrw heb dynu gwynebau. Cefais i gryn drafferth i'w lyncu, a chefais wybod yn y mán am ei effeithiau. Teimlwn ar delerau da nodedig gyda phob dyn, a meddyliwn fod fy nwylaw yn dewion ac yn hirion iawn, ac yr oedd awydd mawr arnaf naill ai i gysgu neu i chwerthin, heb fod genyf ddewis pa un. Gwn na fuasai y naill na'r llall ymddygiad gweddus yn y fath le, a gwnaethum ymdrech egniol yn erbyn dylanwad y gwydriad, ac ni chymerais ddim yn rhagor " at fy mhen." Yr oedd amryw o'r hen gymydogion wedi dyfod i'r angladd o'n blaenau, ac yr oeddynt yn ysmocio ei hochr hi, a daeth amryw i mewn ar ein holau. Pob un a ddeuai i mewn, cyfarchai Thomas Bartley ef yn yr un geiriau: "Cymerwch rwbeth at eich pen;" ac yna äi y newydd-ddyfodiad yn syth at y ''jug'' a'r cwrw; cymerai wydryn, a thorai ddarn o fara a chaws. Yr wyf yn cofio fod pawb a ddaethai ynghyd yn gadael eu hetiau am eu penau, a phob un yn ei dro yn adrodd hen gofion am y peth yma a'r peth arall, heb fod un math gysylltiad rhyngddynt â marwolaeth Seth. Yr oedd agos i bawb yn ysmocio ac yn poeri ar lawr, ar yr hwn yr<noinclude><references/></noinclude> hjboq207tjfoh0pnl8zu1tqhm1wmsgi Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/100 104 85381 165522 2026-05-22T20:08:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165522 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd swnd gwyn wedi ei daenu yn lled dew. Adgyflenwyd y ''jug'' lawer gwaith. Wedi i un helpio ei hun o'r cwrw, gosodai y gwydryn ar gyfer y gwr a eisteddau ar ei aswy, a throai ddolen y ''jug'' yr un modd. Byddai ambell un yn anghofio gwneyd ei ddyledswydd mewn amser rhesymol; ac yna gwaeddai rhywun mwy barus na'i frodyr, "At bwy mae'r ddolen?" yr hyn oedd arwydd i'r hwn yr oedd y ddolen yn cyfeirio ato i yfed, neu ynte i droi y ddolen at ei gyfnesaf. Aeth y gwaith hwn ymlaen am awr a hanner neu ddwyawr; ac yr oedd ambell un wedi yfed ymron gymaint a allai yn ddiogel ei ddal, a gwedd ei wyneb wedi newid. Yr wyf yn cofio y fynyd yma am James Pwlfford y teiliwr, dyn bychan, teneu, siaradus, gwyneb yr hwn a fyddai yn gyffredin cán llwyted âg angeu, ei fod y prydnawn hwnw â'i wyneb mor wridgoch âg un gwas ffarmwr a welais erioed. Ychydig fynydau cyn troi allan i fyned tua'r fynwent, daeth dau ddyn i mewn o'r ystafell nesaf; ac yn eu dwylaw yr oedd llestri piwtar tebyg o ran ffurf i'r llestri a ddefnyddir i weinyddu y cymun yn y dyddiau hyn, ond eu bod yn fwy. Yr oedd dolenau y llestri hyn wedi eu haddurno â chroen ''lemon''. Yn un llestr yr oedd yr hyn a elwid " y cwrw brŵd:" ond mwy priodol a fuasai ei alw y cwrw berwedig; ac yn y llestr arall yr oedd "y cwrw oer;" yr oedd y ddau yn ''highly spiced''. Cán gynted ag y gwnaeth y llestri hyn eu hymddangosiad, tynodd pawb ei het oddiam ei ben; ac yn nghanol dystawrwydd fel y bedd, elai y ddau ddyn o gwmpas gan weinyddu y ddwy fath ddioden yn gymhwys yr un modd ag y gweinyddir sacrament Swper yr Arglwydd, ac ymron gyda'r un difrifoldeb. Pa beth oedd ystyr hyn, ni wyddwn, ac ni chefais wybod hyd y dydd hwn. Wedi myned trwy y seremoni hon, gosododd pawb eu hetiau am eu penau drachefn, ac ail ddechreuwyd ar y chwedleua. Yn y man daeth Dafydd y Saer â'r plât o gwmpas, ac offrymodd y dynion swllt yr un, a Wil Bryan a minnau chwe' cheiniog yr un, oblegid dyma oedd yr arferiad i hogiau. Dylaswn fod wedi dyweyd fod Abel Hughes wedi dyfod i mewn ychydig fynydau cyn adeg "codi'r corff," fel y dywedid; a phan ofynodd Thomas Bartley iddo "gymeryd rhwbeth at ei ben," efe a wrthododd. Anfoddlonwyd Thomas yn fawr gan ei ymddygiad. Pan ddaeth yn bryd cychwyn i'r eglwys, nid oedd yno neb o'r rhai a ddaethai i'r cynhebrwng yn arferol a gweddïo yn gyhoeddus oddieithr Abel Hughes; ac yr oedd Thomas<noinclude><references/></noinclude> 2lcbsdcjhetprbv4ospjrc7kyxq35y6 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/101 104 85382 165523 2026-05-22T20:09:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165523 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi cymeryd mor angharedig ato am wrthod "cymeryd rhwbeth at ei ben," fel na ofynodd iddo wasanaethu; a gwelais ef yn siarad yn nghlust Dafydd y Saer, yr hwn oedd ddyn anfoesol iawn. Pan roddwyd y corff ar yr elor, gosododd pawb ei het ar un glust gan ymddangos fel pe buasent yn gwrando ar rywbeth oedd ganddi i'w ddyweyd wrthynt. Heliodd y gwragedd o'r ystafell arall i edrych trwy y ffenestri, gan osod eu cadach poced ar eu safnau; aeth Dafydd y Saer ar ei liniau yn ymyl yr elor, a dywedodd ei bader can gyflymed â'r gwynt, yn union fel pe buasai yn cyfrif ugain o ddefaid. Yna aed yn orymdaith tua'r fynwent. Cerddai Wil Bryan a minnau un o bobtu i Thomas Bartley, a chariwn i yr ''evergreens'', a chariai Wil y swnd, i addurno bedd Seth. Yn yr eglwys, tra yr oedd Mr. Brown yn carlamu dros y wers gladdu, sylwais fod amryw wedi syrthio i gwsg trwm, ac yn eu plith James Pwlfford, trwyn yr hwn a orweddai yn daclus ar ei wasgod. Ar ol y gwasanaeth wrth y bedd, esgynodd Dafydd y Saer i ben cistfaen i ddiolch i'r cymydogion dros y teulu am eu caredigrwydd yn dyfod i'r angladd; ac ychwanegodd fod Thomas a Barbara Bartley yn dymuno dadgan eu hyder y byddai iddynt hwythau ryw ddydd heb fod ymhell gael cyfleusdra i dalu yn ol y caredigrwydd yn yr un ffordd i bawb oedd yno, ac mai yn y ''Crown'' y dymunai tad yr ymadawedig iddynt oll gyfarfod yn awr ar ol y gwasanaeth. Ar ol addurno'r bedd, aeth pob un yn yr angladd, oddieithr Abel Hughes, Wil Bryan, a minnau, ar eu hunion i'r ''Crown'' yn ol y gwahoddiad. Yr oedd Wil hefyd yn ddigon parod i fyned, ond ei fod yn ofni helynt gartref. Tra yr oeddym ni yn yr eglwys, yr oedd llonaid tŷ o gymydogesau yn yfed tê gyda Barbara, ac yr oedd fy mam yn un o'r gwahoddedigion. Yn groes iawn i'w hewyllys yr aeth hi yno; ond clywais hi yn dyweyd pe buasai yn gwrthod y gwahoddiad na buasai Barbara byth yn tori Cymraeg â hi. Nis gwn pa beth oedd yn myned ymlaen yn y ''Crown''; ond ymhen rhai oriau gwelais Thomas Bartley yn dychwelyd adref rhwng dau gymydog; ac er eu bod yn lled ddystaw, gallwn feddwl fod rhyw anghydwelediad rhyngddynt ynghylch pa ochr i'r ffordd oedd oreu ei cherdded; a thoc ar ol hyny clywais James Pwlfford yn myned heibio ein tŷ ni gan ganu, {{c|"Ar lànau Conwy ar fy nhro."}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mhqjt7oh5omtalz0qpgmvyew0tnsk24 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/102 104 85383 165524 2026-05-22T20:10:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165524 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pe buaswn yn argraffu hyn, diammheu genyf y buasai rhywrai yn synu ac yn anghredu; ond gwn y buasai eraill yn dwyn tystiolaeth i gywirdeb y desgrifiad, ac yn dyweyd mai ei fai ydyw ei fod yn rhy fyr, ac nad ydyw yn adrodd yr holl wir. Yr wyf wedi ymattal rhag cofnodi yr holl bethau anweddaidd a gymerodd le ynglŷn â chladdedigaeth Seth. O drugaredd, y fath ddiwygiad sydd wedi cymeryd lle gydag angladdau erbyn hyn! Ac eto y mae lle i ychwaneg. Os ydyw y cwrw wedi ei alltudio, y mae y tê a'r coffi a'r ''ham'' a'r ''beef'' wedi cymeryd ei le. Pan fydd amryw ddyeithriaid yn dyfod o bell o ffordd i gladdedigaethau, dichon fod rhyw gymaint o briodoldeb mewn parotoi ymborth ar eu cyfer. Ond pa reswm a ellir ei roddi dros yr holl wledda ar adeg cynhebrwng a welir ymhlith cymydogion? Bydd rhai teuluoedd tlodion yn parotoi gwledd gostus, a hyny ar gyfer pobl sydd yn byw yn eu hymyl. Mae dal i fyny yr arferiad ffol yn greulondeb at y tlawd, ac yn anweddaidd i'r eithaf, dybygwn. Wedi claddu Seth, nid oedd genyf yn gyfaill mynwesol ond Wil Bryan yn unig; ac yr oedd argyhoeddiad beunyddiol ynof nad oedd fy nghysylltiad ag ef i fod o hirbarhad. Yr oedd gan Wil galon agored a charedig, ac ysbryd bywiog a beiddgar; ond o ddydd i ddydd cryfhâi ymwybyddiaeth ynof nad oedd efe yn fachgen da. Siaradai yn ddiystyrllyd am reolau manwl y seiat; ac anaml y galwai efe neb wrth eu henwau priodol. Llysenwai ymron bawb a adwaenai. John Llwyd, fel y sylwais, a alwai efe "yr hen grafwr"—Hugh Bellis, y blaenor a fyddai yn wylo dan y bregeth, "yr hen waterworks"—Thomas Bowen, y gŵr poblogaidd gyda'r plant, "yr hen drymp"—Abel Hughes, am ei fod yn gwisgo clos pen glin, ac am fod ei goesau yn feinion, "yr hen wnionyn." Yr oedd ganddo rhyw "hen" rywbeth wrth enw pawb. Ni byddai byth yn sôn am ei dad a'i fam ond wrth yr enwau "y gaffer acw," a'r "hen baunes acw." Ac yr wyf wedi sylwi byth oddiar hyny mai gwir a ddywedai fy mam, fod rhyw ddiffyg pwysig yn nghymeriad bachgen fydd yn arfer galw ei dad yn "gaffer" ac yn "governor," a'r cyffelyb. Nid wyf yn ammheu nad oedd y gallu hwn o eiddo Wil i roddi enwau desgrifiadol ar bobl yn dalent neillduol ynddo pe buasai wedi ei throi i'r iawn gyfeiriad. Mae rhai o'r enwau digrif-ddrwg wedi glynu wrth ei perchenogion hyd y dydd hwn; ond nid da i mi naci neb arall a fyddai eu croniclo. Ni ddarfu i mi sylwi yn benodol ar y duedd hon<noinclude><references/></noinclude> 7y2h28f89tvl7org23b11n0i3dv282h Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/103 104 85384 165525 2026-05-22T20:10:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165525 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn Wil i roddi enwau ar bobl nes iddo un tro sôn wrthyf am fy mam dan yr enw "yr hen ddeg gorchymyn acw," yr hyn a'm tramgwyddodd yn fawr. Pan welodd Wil nad oeddwn yn hoffi yr enw, ni ddarfu iddo ei arfer mwy. Ond wrth i mi heddyw ystyried, nis gallaf beidio gweled ryw briodoldeb yn yr enw hwnw; oblegid byddai fy mam fyth a hefyd yn rhoi gorchymynion i ni, ac yn ein siarsio ni i wneyd y peth yma a'r peth arall. Pan gofiwyf fod fy mam yn wraig weddol graff, mae yn syn genyf feddwl iddi oddef i mi ddal cymaint o gymdeithas â Wil; ond erbyn i mi ailfeddwl nid ydyw yn syndod yn y byd. Ni welais yn fy mywyd fachgen â'r fath allu ganddo i osod ei hunan ar delerau da gyda phobl. Yr oedd ei gyfrwysdra, ei wyneb prydferth a siriol, ei osodiad dewr a chadarn, ei lais soniarus, ynghyd a'i dafod llyfn ac arabus, yn arfau a ddefnyddiai i bwrpas bob amser. Yr oedd yn deall fy mam i'r dim. Clywais hi yn dyweyd fwy nag unwaith pan fyddai yn isel ei hysbryd, fod ymweliad o eiddo Wil yn hanner ei mendio. Gwelais hi hefyd yn gwenu, ac yn gorfod gwneyd ymdrech galed i beidio chwerthin allan ar rai o sylwadau digrifol Wil, pryd y gwyddwn o'r goreu pe gwnaethwn i yr un sylwadau, ac hyd yn nôd yn yr un geiriau, y rhoisai fonclust i mi. Mi wn y teimlai hi yn fynych ei bod yn cyd-ddwyn yn ormodol â digrifwch Wil, ac fel i dawelu ei chydwybod, rhoddai iddo gynghorion buddiol. Gwasanaethed yr ymgom ganlynol fel engraifft o lawer o rai cyffelyb: "Wel, Wil bach, mi wnei lawer o dda neu o ddrwg yn y byd yma; a gobeithio'r anwyl y cei di dipyn o râs." "Mae digon o hono i'w gael, on'd oes, Mary Lewis? ond fydda' i byth yn leicio cymyd mwy na fy ''share'' o ddim, wyddoch." "Paid a siarad yn ysgafn, Wil; fedri di byth gael gormod o râs." "Felly y bydd y ''gaffer'' acw yn deyd yn wastad; ond dydi o ddim yn beth da, mi wyddoch, Mary Lewis, bod yn rhy ''having''. "Pwy ydi dy ''gaffer'' di, dywed?" gofynai fy mam. "On'd yr hen law acw; y nhad, wyddoch," ebe Wil. "Wil," ebe fy mam, gan edrych yn ddifrifol arno; "yr ydw i yn dy siarsio di i beidio galw dy dad yn ''gaffer'' ac yn 'hen law.' Weles i rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn 'hwnacw' ac yn honacw," neu yr 'hen law acw,' a'r 'hen wraig<noinclude><references/></noinclude> olgp0fi27354iwx97qbpdzruw1k5bvt Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/104 104 85385 165528 2026-05-22T20:16:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165528 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>acw.' Paid di a gadel i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di." ''"All right,"'' meddai Wil; "y tro nesaf mi galwaf fo yn Hugh Bryan, Esquire, General Grocer and Provision Dealer, Baker to his Royal Highness yr Hen Grafwr, and—." Ond cyn iddo orphen ei stori byddai raid iddo wneyd y goreu o'i draed, a fy mam yn ei ddilyn gyda rhyw erfyn yn ei llaw. Ond er ei holl ddirieidi, ni theimlai fy mam yn ddig ato; a mynych y dywedai, "Un garw ydi'r bachgen ene; pe ceuthe fo râs mi neuthe bregethwr nobl." Creai sylw fel hwn ychydig o eiddigedd ynof; oblegid ni ddywedai byth y gwnaethwn i bregethwr, er fod hyny yn ddymuniad penaf fy mywyd erbyn hyn; a gwyddwn nad oedd Wil yn dychymygu am fod yn bregethwr. Nid wyf yn meddwl i fy mam goleddu syniad is am Wil na'i fod yn fachgen dirieidus hyd nes iddo ddechre troi ei wallt oddiar ei dalcen, neu fel y dywedid y pryd hyny, "gwneyd Q. P."<ref>quiff parting</ref> Pan welodd hi rês wén ar ben Wil, ac arwyddion ei fod wedi rhoddi olew yn ei wallt, yr oedd ei dynged wedi ei phenderfynu am byth yn ei golwg. Gofidiwn yn fawr fod fy mam yn edrych ar yr ''innovation'' hwn mewn gwêdd mor bwysig; oblegid meddyliwn fod Wil yn edrych yn rhagorol yn ei Q. P; a hiraethwn am ganiatâd i'w efelychu. Yr oeddwn wedi llwyr flino ar y dull oedd gan fy mam i dori fy ngwallt, sef gosod cwpan fenyn fawr am fy mhen, a'i dori hefo ei hymylon, nes oeddwn yn edrych yn union yr un fath â chocyn gwenith newydd ei doi. Gwelais nad oedd gobaith am ddiwygiad yn y ffordd hon; a chôf genyf i fy mam wneyd y sylwadau canlynol wrth Wil Bryan pan welodd hi ei Q. P: "Wel, Wil bach, yr oeddwn i'n arfer meddwl dy fod yn fachgen lled dda er dy holl ysmaldod. Ond mi welaf fod y diafol wedi cael màn gwan arnat tithe." "Be ydi'r mater rwan, Mary Lewis? Ddaru mi ddim lladd neb yn ddiweddar, ai do?" gofynai Wil. "Naddo, mi obeithiaf," ebe fy mam; "ond y mae isio i ti ladd yr hen ddyn." "Pwy ydach chi'n feddwl, Mary Lewis? ai y gaffer acw? Na-na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law! Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bimsk7pjnkz23b5l2zyjjmzxvqngkyz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/105 104 85386 165529 2026-05-22T20:16:55Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di." "Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw." "Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod." "Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil. "Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!' "'Rodd o yn dy galon di cyn dy eni, ac y mae yn fwy na'r cawr Goliath," ebe fy mam; "ac os na chymeri... 165529 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di." "Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw." "Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod." "Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil. "Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!' "'Rodd o yn dy galon di cyn dy eni, ac y mae yn fwy na'r cawr Goliath," ebe fy mam; "ac os na chymeri di gareg lefn o afon iechydwriaeth, a'i suddo hi yn ei dalcen o, mae o yn sicr o dori dy ben â'i gledde." "Sut y medra' i," ebe Wil, yru careg i'w ben o os ydi o yn 'y nghalon i? a sut y medr o dori 'mhen i âi gledde?" "Mi wyddost am bwy yr ydw i'n sôn, Wil," ebe fy mam; yr hen ddyn pechod ydw i yn 'i feddwl." "O! mi rydw i 'n ych dállt chi 'rwan. Pam na siaradwch chi'n blaen, Mary Lewis? ond dydi pechod yn 'n clone ni gyd, medde'r hen—y nhad acw." "Ydi, machgen i," ebe fy mam; "ac y mae o'n dwad allan yn dy ben di hefyd hefo 'r Q. P. gwirion yna." Ac ymosododd fy mam yn hyawdl a diarbed ar falchder a drygioni yr arferiad o droi y gwallt oddiar y talcen. Teimlodd Wil y cerydd, ac aeth ymaith braidd yn ffroenuchel. "Rhys," ebe fy mam, pan aeth Wil ymaith; "paid di agneyd llawer o shapri o Wil o hyn allan. Mae balchder wedi meddiannu ei galon. Yr ydw i'n synu at Hugh Bryan yn goddef iddo wneyd y fath beth. Pydasę fo'n fachgen i mi, mi fuaswn yn tori ei wallt yn y gnec, a mi faswn hefyd. Dyna lle mae o, mi wn, yn edrach arno 'i hunan yn y glass bob dydd i borthi 'i falchder. Diolch i'r Brenin mawr, fu 'rioed lookinglass yn ein teulu ni nes i dy frawd Bob ddod âg un yma; a mi fase'n dda gan 'y nghalon i bydase hwnw 'rioed wedi d'od dros y rhiniog. Mi fydde dy nain yn deyd fod pobl wrth edrach i'r glass yn gweld y gŵr drwg; ac mi greda i hyny yn hawdd. Wn i ddim be ddaw o'r oes sydd yn codi os na chawn ni ymweliad buan;" ac ocheneidiodd fy mam o waelod ei chalon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3gnfyz9eos370vkx60pqygyr8ln3n4j 165530 165529 2026-05-22T20:17:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165530 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di." "Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw." "Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod." "Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil. "Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!' "'Rodd o yn dy galon di cyn dy eni, ac y mae yn fwy na'r cawr Goliath," ebe fy mam; "ac os na chymeri di gareg lefn o afon iechydwriaeth, a'i suddo hi yn ei dalcen o, mae o yn sicr o dori dy ben â'i gledde." "Sut y medra' i," ebe Wil, yru careg i'w ben o os ydi o yn 'y nghalon i? a sut y medr o dori 'mhen i âi gledde?" "Mi wyddost am bwy yr ydw i'n sôn, Wil," ebe fy mam; yr hen ddyn pechod ydw i yn 'i feddwl." "O! mi rydw i 'n ych dállt chi 'rwan. Pam na siaradwch chi'n blaen, Mary Lewis? ond dydi pechod yn 'n clone ni gyd, medde'r hen—y nhad acw." "Ydi, machgen i," ebe fy mam; "ac y mae o'n dwad allan yn dy ben di hefyd hefo 'r Q. P. gwirion yna." Ac ymosododd fy mam yn hyawdl a diarbed ar falchder a drygioni yr arferiad o droi y gwallt oddiar y talcen. Teimlodd Wil y cerydd, ac aeth ymaith braidd yn ffroenuchel. "Rhys," ebe fy mam, pan aeth Wil ymaith; "paid di agneyd llawer o shapri o Wil o hyn allan. Mae balchder wedi meddiannu ei galon. Yr ydw i'n synu at Hugh Bryan yn goddef iddo wneyd y fath beth. Pydasę fo'n fachgen i mi, mi fuaswn yn tori ei wallt yn y gnec, a mi faswn hefyd. Dyna lle mae o, mi wn, yn edrach arno 'i hunan yn y glass bob dydd i borthi 'i falchder. Diolch i'r Brenin mawr, fu 'rioed lookinglass yn ein teulu ni nes i dy frawd Bob ddod âg un yma; a mi fase'n dda gan 'y nghalon i bydase hwnw 'rioed wedi d'od dros y rhiniog. Mi fydde dy nain yn deyd fod pobl wrth edrach i'r glass yn gweld y gŵr drwg; ac mi greda i hyny yn hawdd. Wn i ddim be ddaw o'r oes sydd yn codi os na chawn ni ymweliad buan;" ac ocheneidiodd fy mam o waelod ei chalon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> msuhjhl27x0y7ptz63ki9l5bvd0z4yr Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/106 104 85387 165531 2026-05-22T20:33:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165531 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XV.<br>''Dechreuad Gofidiau.''}}}} Ebe fy mam wrthyf un diwrnod, "'Rwyt ti'n dechre myn'd yn fachgen mawr, a fedra' i ddim fforddio, y byd sydd o honi, dy gadw i redeg ac i rampio. 'Roedd dy frawd wedi dechre yn y gwaith glo cyn bod yn dy oed di o blwc, a mae dy iengach di yn ennill 'u tamed bob dydd, mi wranta. Ond be' fedri di neyd ni wn i ddim, ac ni wn i ddim. Ac mae'n arw o beth i ti fod â dy ben yn y gwynt yn yr oed yma, a dy fam yn ddim gwell na gweddw, os cystal. 'Dwyt ti ddim yn gry', mae hyny yn ddigon plaen, ne' i'r gwaith glo y cawsit ti fyn'd yn syth; 'dwyt ti ddim digon o slaig i fod yn siopwr, a bydaset ti, 'does gén' i ddim i roi o dy flaen. O ble cawn i bump neu ddeg punt i dy brentisio, os gwn ni? Bydase deg swllt yn dy osod yn y síop ore yn dre', wn i ddim i bl'e y baswn i yn troi fy mhen i edrach am danyn nhw. Ac eto rhaid i ti feddwl am neyd rhwbeth at dy damed. Mae dy draed ymron ar lawr, ac yr wyt yr un fath â'r ci, yn gwisgo yr un siwt ddydd Sul a dydd Llun; a bydaet ti ond yn ennill digon i roi am dy gefn, mi fydde hyny yn rhwbeth. Mae'r enllyn mor ddrud, a chyflog dy frawd mor fychan, fel mai cymin fedra i neyd ydi cael y ddeupen ynghyd, a chynnilo ambell geiniog at yr achos. A mi synet ti yn arw bydae ti yn gwbod gymin y mae dy fam yn orfod bendroni a dyfeisio i gadw pethe yn wastad, achos fel y bydde Tomos o'r Nant yn deyd, {{c|"Mae llawer sgil i gael Wil i'w wely."}} A bydae y streic yma y mae nhw'n sôn am dano yn y gwaith yn dwad, wn i ddim be ddoe o honom ni. Ond gobeithio y cawn ni fodd i fyw yn onest, beth bynag a ddaw. Hyd yn hyn, diolch i'r Llywodraethwr mawr, yr ydan ni wedi gallu talu'n ffordd yn rhyfedd er gorfod byw yn galed. Ond weles i erioed ddaioni o gadw plant yn rhy hir heb ddechre gweithio; dydi o ddim ond eu swcro i neyd drwg. "Dydw i ddim yn ame na fedrwn i berswadio James Pwlford y teiliwr i dy gymyd di ato. Ond dyn digon disut ac anystyriol ydi<noinclude><references/></noinclude> ptmtnsyqodcguxf9hfisbedgcgn48zq Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/107 104 85388 165532 2026-05-22T20:34:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165532 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yntau, ac yn aml iawn yn meddwi; a mae gen' i ofn na chae dy ened di ddim chware têg; a dyna ydi'r pwnc mawr wedi'r cwbwl. Mi fydde yn well gen i dy weld yn swip simdde duwiol nag yn glerc y pês annuwiol. Hwyrach y deydet ti y bydde y plant yn gwaeddi ar dy ol, Teiliwr tene, clogs heb sane,' Wel, gad iddyn' nhw; thore nhw mo dy esgyrn di, a mi fydde dy gefn di yn sych ar bob tywydd, a mi fydde gynat ti drâd yn dy law. Mi ydde yn well gen' i dy weld yn deiliwr nag yn was ffarmwr. Mae'r hin ne rwbeth arall yn stiffio ac yn rhewi eu heneidie yn gystal a'u haelode nhw, goeliai; a mae bod hefo'r nifelied o hyd yn eu gneyd nhw yn debyg ryfeddol i'r nifelied. Weles i yn 'y mywyd bobol mor ddifynd, a llai o'r dyn ynyn nhw, fel y bydd dy frawd yn deyd, ag ydi'r gweision ffarmwrs yma. Mae nhw rwfodd fel slâfs, ac yn rhy swil i godi 'u pene ond yn y stabal ac ar ddiwrnod troi am y gore. 'Roedd gen i biti drostyn nhw y nosweth 'roeddwn i yn y Faenol. 'Roedd hi yn nosweth oer a gwlyb; a phan ddôth y dynion druain i mewn i'w swper, yn wlyb sopan dail domen, 'roedden nhw yn mynd at y bwrdd hir hwnw, wyddost, wrth y ffenest, ymhell oddiwrth y tân. 'Roedd yno gryn chwech o honyn nhw, goeliai; a 'roeddan nhw yn dwad i'r tŷ mor ddystaw, ac yn eistedd ar y ddwy fainc sydd o bobtu'r bwrdd â'u pene i lawr. gan edrach dan eu cuwch yn union fel bydase nhw wedi bod yn lladrata trwy'r dydd, ac nid yn gweithio yn galed mewn baw a gwlybaniaeth. A ddeydodd yr un o honyn nhw air o'i ben. Yr unig beth a glywn i oedd swn bwyta potes, a mi ddarfyddodd hwnw yn glèc; ac am rhw chwarter mynyd 'roeddan nhw yn edrach dan eu cuwch ar lygad yr hwsmon; a phan roth hwnw yr arwydd dyna dipyn o swn traed a symud meincie, ac allan â nhw druain drachefn yn un rhes. 'Roedd gen i biti o 'nghalon drostyn nhw. 'Doeddan nhw ddim fel dynion rwfodd. Ac yr oeddwn i yn meddwl ar y pryd fod dau o honyn nhw yn aelode yn yr un eglwys â Mr. Williams eu meistar, ac un o'r ddau, Aaron Parri, yn ŵr hynod iawn ar 'i linie. 'Roedd yn ddrwg iawn gen i weled ffasiwn ddistans rhwng y meistar a'r gweithiwr. Chreda i byth fod y Gwaredwr yn leicio peth fel yna. "Ond dyna oeddwn i mynd i ddeyd: ddymunwn i ar gownt yn y byd i ti fod yn was ffarmwr. Yr ydw i bron a dechre meddwl fod Bob dy frawd yn 'i le, ac fod tipyn o ddysg yn beth digon hardi, ond<noinclude><references/></noinclude> 5am46y5oa1jeckhk1lrmuumah6aoprr Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/108 104 85389 165533 2026-05-22T20:34:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165533 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>peidio cael gormod o hono fo. Bydase ti wedi cael tipyn chwaneg o ysgol, faswn i'n hidio pluen a gofyn i'r hen Abel dy gymyd di ato i'r siop. 'Does bosib ar ol yr holl gwêntans y base fo yn fy ngwrthod i. Ond waeth tewi am hyny rwan. Yr oedd Thomas Bowen yn deyd wrtha i, wrth ddwad o'r seiat, fod yn hen bryd i ti gael dy dderbyn yn gyflawn aelod, a mi leiciwn dy weled di yn dwad ymlaen os wyt ti wedi styried y mater. 'Rwyt ti yn medryd y bennod o'r ''Fforddwr'' mi wn, ac wedi dysgu es talwm y pennodau o'r Efengylau sydd yn rhoi hanes ordeiniad y swper. Ond y mae eisio i ti, fy machgen, weddio am gael tueddu dy feddwl at hyny, rhag i ti ddwad ymlaen yn annheilwng. Mi fydde yn dda gan y 'nghalon i gael dy brentisio wrth yr alwedigeth nefol cyn dy brentisio wrth yr hen fyd yma. Mae bod yn fore dan yr iau, yn ganmil gwell na phleser gau." Dywedodd lawer yn ychwaneg; ac yn wir, gallai fy mam fyned ymlaen yn y strain yna am ddiwrnod cyfan. Yr oedd yn amlwg mi fod yr amser wedi dyfod pryd yr oedd yn rhaid i mi feddwl am ennill fy mara. Yr oeddwn yn fwy o hen ben nag y tybiai fy mam fy mod, a gwyddwn fwy am ei helynt a'i thrafferth nag a ddychymygai hi. Teimlwn fy nghalon yn llosgi gan awydd i'w helpu. Dibynem yn hollol, ein tri, ar yr hyn a ennillai Bob, yr hwn, er ei fod yn gweithio yn galed, nad oedd prin yn cael digon i'w gynnal a bwyd a dillad, pe cawsai chware teg. Yr oedd y farchnad lô yn lled fywiog, ond yr oedd haid o swyddogion a goruchwylwyr estronol a rheibus yn ngwaith y "Caeau Cochion" yn pocedu, yn bwyta, ac yn yfed yr holl fael, a'r gweithwyr a'u teuluoedd truain yn gorfod darnlewygu. Yr oedd Bob yn un o'r gorthrymedigion; ac yr oedd yn amlwg i mi er ys talm fod ei ysbryd wedi sori drwyddo, ac fod rhyw eiddigedd cyfiawn yn cael ei ddirwasgu yn ei fynwes, yr hwn ryw ddiwrnod a fynai dori ei argaeon. Deallwn oddiwrth siarad plant rhai o'r glöwyr fod Bob yn ddyn lled bwysig ymhlith ei gydweithwyr—mai efe oedd y cadeirydd mewn cyfarfod a gynnaliwyd beth amser cyn hyny i ystyried y priodoldeb o ofyn am godiad yn y cyflogau, a'i fod wedi siarad " yn iawn." Teimlwn yn falch o hono, ac nid heb achos; oblegid cymerodd lawer o boen erof fi. Byth ni flinau yn fy nghyfarwyddo yn y peth yma a'r peth arall, ac yr wyf o dan fwy o ddyled iddo ef nag un dyn byw am y cyfeiriad a gymerodd<noinclude><references/></noinclude> rovfj2jr4gkuoiifyu7qhetxasjoxwf Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/109 104 85390 165534 2026-05-22T20:35:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165534 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fy mywyd. Mae yn wir ar ol iddo gael ei ddiarddel o'r seiat na byddai yn sôn wrthyf am grefydd, nac am bynciau crefyddol os na soniwn i wrtho ef. Ond pa wybodaeth bynag arall a allai efe ei chyfranu i mi, hyd y medrai, ni bu yn ol o wneyd hyny. Bu raid i mi wneyd addewid ddifrifol iddo lawer gwaith nad awn yn golier, hyd yn nôd pe buasai raid i mi fyned i gardota. Dichon mai y gorthrwm a'r trahausder annyoddefol yr oedd ef ei hun yn brofiadol o hono a barai iddo ofyn am hyny oddiwrthyf. Ond ni fuasai raid iddo fod mor daer; nid oedd ynof yr awydd lleiaf am fyned i'r "gwaith." Yr oedd cwynion beunyddiol Bob am y caledwaith a'r gorthrwm wedi creu adgasedd anghymmodlawn ynof at y lôfa. Heblaw hyny, yr oeddwn yn dirgel goleddu yr awydd am fod yn bregethwr, ac yr oeddwn yn meddwl fod pellder mawr o waelod y pwll glô i'r pulpud. Dichon fod y syniad yn un ynfyd, ond tybiwn y buasai yn hawddach dringo i'r pulpud o bob man nag o'r pwll glô. Ni wyddai un creadur byw am yr awyddfryd hwn oedd ynof, ac yr oedd arnaf arswyd i neb ddyfod i wybod. Wrth i mi droi fy meddwl yn ol, a cheisio esbonio i mi fy hun pa beth oedd yr "achos cynhyrfiol" o'r awydd am fod yn bregethwr, nis gallaf mewn modd yn y byd roddi cyfrif am dano; a buasai yn dda genyf gael profiad rhai eraill a fu yn yr un sefyllfa a mi, os bu rhywun hefyd. Rhaid i mi addef mai nid y gwir gymhelliad ydoedd, sef, awydd gwneyd daioni, a throi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffordd; oblegid nid oedd hyny, yn y cyfnod yr wyf yn son am dano, wedi cael lle yn fy meddwl. Yr wyf yn tueddu yn gryf i gredu mai math o edmygedd o'r pregethwr ydoedd, os nad rhywbeth gwaeth, sef uchelgais balch; canys yr wyf yn cofio fy mod yn dychymygu fy hunan yn ddyn mawr tew, (yr hyn na fum byth), yn llon'd pulpud o ddyn, ac yn pregethu yn hwyliog, a'r bobl yn gwrando arnaf am eu bywyd, ac yn sôn am danaf ac yn fy nghanmawl ar ol y bregeth. Gwnawn gam â fy hanes pe dywedwn nad oeddwn yn gwybod rhywbeth am argraffiadau crefyddol. Ar ol yr holl drafferth a gymerasai fy mam gyda mi, buasai yn wyrth ymron i mi fod heb deimlo argraffiadau felly. Gwyddwn lawer o amser cyn hyn am fynydau difrifol, ac am ofni pechu yn erbyn Duw a marw yn annuwiol. Ond nis gallaf roddi cyfrif pa beth a grëodd y fath awydd angerddol ynof, a hyny pan nad oeddwn ond hogyn, am fod yn bregethwr. Mae<noinclude><references/></noinclude> 6c76bz26nhtq7kcctdmh5u0029w9aeg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/110 104 85391 165535 2026-05-22T20:36:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165535 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn edifar genyf hyd heddyw na buaswn wedi amlygu i fy mam yr hyn a lechai yn fy nghalon, nid yn unig am y buasai hi yn rhoddi pob croesaw a magwraeth i'r awydd, ond hefyd am y teimlaf fy mod wedi ei hamddifadu o'r pleser a'r llawenydd mwyaf a allaswn ei estyn iddi yn ei thrafferthion chwerw. Gwn na fuasai yn bosibl i mi roddi mwy o lawenydd yn nghwpan ei dedwyddwch nag wrth fynegu iddi fy mhenderfyniad i fod ryw ddiwrnod yn bregethwr. Ond cedwais y cyfan i mi fy hun. Nid wyf yn gwenieithio i mi fy hun, nac yn adrodd ond ffaith syml, pan ddywedaf fy mod y pryd hyny yn fwy difrifol na'm cyfoedion; ac er y teimlwn i'r byw oddi wrth watwareg Wil Bryan pan y galwai fi "y sanctaidd," yr oeddwn yn ymwybodol fod genyf amcan cuddiedig oddiwrtho, yr hyn nad allai ei ddeall, ac nad oedd ganddo y cydymdeimlad lleiaf âg ef. Cymerwn ddyddordeb neillduol ymhob pregethwr, ac nid oeddwn byth yn blino siarad am yr urdd bregethwrol os cawn rywun i siarad â mi. Drwy ymroddiad parhaus, a chynnorthwy Bob, yr oeddwn yn fwy o ysgolaig nag y tybiai fy mam fy mod. Gallwn ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg a Saesonaeg yn ganolig. Yr oeddwn er ys amser, ar gymhelliad John Joseph yn y cyfarfod plant, yn arfer ysgrifenu y testynau ar y Sabboth, a chymaint ag a allwn o benau y bregeth. Côf genyf fy mod yn ddig iawn wrth rai pregethwyr am nad oeddynt yn rhanu eu testynau, ac hefyd fy mod yn hoff iawn o William Hughes, Abercwmnant, am fod penau ei bregeth yn lled gyffelyb pa destyn bynag a gymerai. Yr oeddynt yn gyffredin yn dri o ran nifer, ac yn rhedeg rywbeth yn debyg i hyn: I. Y gwrthddrych a nodir. II. Y weithred a briodolir. III. Y ddyledswydd a gymhellir. Pan fyddai W. Hughes yn rhagymadroddi, byddwn yn fynych yn rhagweled y rhaniadau, ac wedi eu hysgrifenu cyn iddo eu henwi. Yr oedd gan yr hen bregethwr un arferiad a barai i mi synu yn aml ei fod heb gael ei alw i gyfrif am dano. Tua diwedd ei bregeth, byddai bob amser yn dyweyd, "Un gair arall cyn terfynu." Siaradai gant neu chwaneg o eiriau. A dywedai drachefn, "Un gair eto cyn i mi'ch gadel," a llefarai am bump neu ddeg mynyd. A dywedai y drydedd waith, "Un gair arall cyn i mi gilio o'r ffordd," a llefarai yn hir ar ol dyweyd felly. Synwn sut yr oedd efe ag yntau yn bregethwr, heb gael ei alw i gyfrif am ddyweyd anwiredd. Byddai Wil Bryan yn cymeryd esgus oddiwrth hyn yn fynych i<noinclude><references/></noinclude> qpolnwkpyu5t1a0wlvpxkm9ciryt0yk Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/111 104 85392 165536 2026-05-22T20:37:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165536 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyweyd yr hyn nad oedd wir. Canmolid fi gan John Joseph am adrodd penau'r bregeth, yr hyn a fyddai yn fy moddhau yn fawr. Tua'r cyfnod yr wyf yn sôn am dano, darfu i John Joseph sefydlu cyfarfod gwŷr ieuainc i'r dyben o roddi gwersi mewn elfenau cerddoriaeth a grammadeg; ac yn fuan iawn, tyfodd i fod yn gyfarfod i adrodd am y goreu, i gystadlu mewn ysgrifenu traethodau, ac i ddadleu ar bynciau crefyddol. Cynnwysai y gymdeithas amryw aelodau; ond y mae arnaf ofn eu henwi rhag i mi orfod adrodd eu hanes oll. Yr oedd Wil Bryan yn aelod; ond anfynych y cymerai efe ran yn y gweithrediadau cyhoeddus. Ei hoff waith oedd gwneyd gwawd o'n camgymeriadau a'n diffygion. Ymhyfhaodd Wil yn y gwaith hwn nes gwneyd ei hun yn adgas gan y mwyafrif o'r gwŷr ieuainc; a phenderfynasant, os oedd modd yn y byd, gael gwared o hono. Wil oedd yr unig un o'r aelodau a droai ei wallt oddiar ei dalcen; ac mewn cyfarfod rheolaidd, pasiwyd penderfyniad nad oedd neb i fod yn aelod o'r gymdeithas a fyddai yn euog o wneyd Q. P.; ac yn ganlynol esgymunwyd ef. Nid oedd Wil yn gofalu dim am hyny; ond i dalu y pwyth am y sarhad hwn, rhoddodd Wil lysenw ar ein cymdeithas, gan ei galw yn "Gymdeithas gwallt i lawr;" ac fel y rhelyw o'i lysenwau glynodd yr enw hwn wrthi tra y bu mewn bod. Pa fodd bynag, cefais i a llawer eraill les dirfawr oddiwrth y "Gymdeithas gwallt i lawr." Gadawodd argraffiadau ar ein meddyliau na ddilewyd byth mo honynt, a chreodd ynom chwaeth at bethau crefyddol a llenyddol nad allwn byth fod yn ddigon diolchgar am dani. Yn fuan wedi i Wil gael ei ddiarddel o'r gymdeithas, dygwyd ei enw ef a minnau ac eraill o flaen y seiat fel ymgeiswyr am gyflawn aelodaeth. Thomas Bowen y pregethwr a ddygai ein hachos ymlaen. Byddai efe bob amser yn zelog yn mhlaid ieuenctyd yr eglwys, ac yn ofalus iawn am beidio eu gadael yn rhy hir heb eu cyflawn dderbyn. Cymhellai yn feunyddiol y rhieni i wasgu y peth at feddyliau eu plant, ac i'w parotoi gogyfer â'r amgylchiad. O'r ochr arall, siaradai Abel Hughes ar y gochelgarwch oedd yn anghenrheidiol i, a'r perygl o, dderbyn rhai yn gyflawn aelodau cyn iddynt fod yn addfed o ran eu profiad a'u gwybodaeth. Gan fod y pregethwr a'r blaenor fel hyn yn byw yn yr eithafion, dygwyddai ambell i ffrwgwd rhyngddynt. Yr oedd Thomas Bowen er ys peth amser yn<noinclude><references/></noinclude> f9u58n8k8gsxhdxspig30mgwptvbyxy Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/112 104 85393 165537 2026-05-22T20:37:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165537 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sôn am i ni ddyfod ymlaen, ac Abel Hughes yn cymhell pwyll ac arafwch. O'r diwedd Thomas Bowen a orfu; ac un noswaith galwyd ni i ddyfod ymlaen ar y fainc ar ganol llawr y capel i gael ein holi. Yr oeddwn i a'm cyfoedion yn awyddus am ddyfod ymlaen ; ond buasai yn well gan Wil Bryan gael ei adael yn llonydd. Diammheu ei fod yn ofni yr arholiad, gan nad oedd yn cymeryd ond ychydig ddyddordeb mewn pynciau crefyddol, er ei fod o ran galluoedd naturiol uwch law i ni oll. Os wyf yn cofio yn dda, chwech oedd ein nifer; ac eisteddwn i ar un pen i'r fainc, a Wil ar y pen arall, ac edrychai efe yn ddidaro. Cododd Abel ar ei draed, gan ddechre fy holi i yn gyntaf. Gwasgodd yn lled drwm arnaf, ond daethum trwy y prawf yn well nag y dysgwyliaswn. Gwyddwn ar sŵn a golwg Thomas Bowen fy mod yn ateb yn foddhaol; oblegid gwenai, symudai ei goesau y naill dros y llall, amneidiai ar Hugh Bellis, a dywedai, "Ho!" " Hym!" ar ol pob atebiad, fel pe buasai yn dyweyd, "Go lew, wir." Aeth Abel ymlaen gyda'r ddau fachgen nesaf ataf, a chafodd yr un boddlonrwydd. Yna eisteddodd i lawr, ac annogodd Thomas Bowen i fyned yn mlaen gyda'r tri eraill. Cododd Thomas Bowen ar ei draed, rhoddodd ei ddwylaw yn mhoced ei drowsers, edrychodd yn foddhaus, a chyn myned yn mlaen trodd at Abel, ac ebe fe—"Wel, Abel Hughes, gawsoch chi'ch plesio? Ydw i ddim yn ''right,'' tybed, fod y bechgyn yn eithaf parod i gael eu derbyn? Ydw i ddim wedi d'eyd hyny er ys misoedd? Ond ni a awn ymlaen." Ac felly yr aeth ymlaen gan holi y pedwerydd a'r pummed. Meddyliwn nad oedd Thomas yn holi mor galed âg Abel, ac atebai y bechgyn yn rhwydd. Pan gaffai efe atebiad lled dda, troai Thomas at Abel, ac edrychai yn ei wyneb yn awgrymiadol, fel pe (buasai yn dyweyd, "Be ydach chi'n feddwl o ryw ateb fel yna, Abel? neiff o'r tro?" Yn y man daeth tro Wil Bryan i gael ei holi, ac ebe Thomas wrtho,—"Wel, William, y machgen i, 'rwyt ti dipyn hynach na'r bechgyn erill yma; a mi ddylaset ti fod wedi dy dderbyn er's talwm yn ol 'y meddwl i; ond y mae rhywrai yn credu fod eisio cymeryd pwyll. Wna i ddim dy holi di'n galed, er y gwn pe gwnawn i, y medret ti ateb yn burion. Wnei di dde'yd wrtha i, William, y 'machgen i, pa sawl swydd sydd yn perthyn i'r Arglwydd Iesu fe Cyfryngwr?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kqrazvboxepi34zuyp88d7dkg8kg6d0 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/113 104 85394 165538 2026-05-22T20:38:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165538 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Tair," ebe Wil. "Ho!" ebe Thomas, "Tair! ydach chi'n clywed, Abel Hughes? Tair! Bydase Dr. Owen ei hun yma, fase fo ddim yn gallu ateb yn well! Mae'r bechgyn yn gwybod mwy o lawer nag yr ydach ch'i yn meddwl, Abel Hughes. Dydi'r cyfarfod plant a'r cyfarfod arall ddim wedi bod yn ofer, welwch ch'i. Mae'r bechgyn yn gwrando ac yn sylwi mwy nag ydan ni yn ei dybied, yn sicr i ch'i. Yr ydw i bob amser yn d'eyd hyn. Ië siwr, "Tair." Wel, William, 'y machgen i, wnei di eu henwi nhw? "Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân," ebe Wil. Chwarddodd amryw dros y capel. Edrychodd Thomas Bowen fel pe buasai rhywun wedi ei daro yn ei wegil â gordd, ac eisteddodd i lawr mewn cywilydd a siomedigaeth, gan edrych ar flaenau ei esgidiau heb ddyweyd dim ond " Hym!" "Ewch ymlaen, ewch ymlaen, Thomas Bowen," ebe Abel yn fywiog; ond Thomas ni chymerai arno ei glywed. Nis gwn pa un ai drygioni ai anwybodaeth a barodd i Wil ateb fel y gwnaeth; oblegid yr oedd yn ddigon cellweirus ac yn ddigon diofal i fod yn euog o'r naill neu y llall. Gwn y credai Abel Hughes nad oedd yn bosibl i Wil fod mor anwybodus ag yr awgrymai ei atebiad; a siaradodd yn hallt âg ef, ac, fel cerydd arno, annogodd yr eglwys i dderbyn y pump o honom yn gyflawn aelodau, gan adael Wil nes y byddai yn addfetach ei wybodaeth a'i brofiad, yr hyn a basiwyd yn unfrydol. Ond nid oedd Wil yn gofalu dim am yr hyn a gymerasai le. Ar ol myned allan o'r cyfarfod, chwarddai yn galonog, a dywedai nad oedd ef eisieu bod yn gyflawn aelod; ac ar yr un pryd meddai, "'Roedd hi yn job dda nad oedd yr hen law a'r hen baunes yn y seiat," gan gyfeirio at ei rieni. Y noswaith hono daethum i deimlo yn fwy nag erioed fod rhywbeth yn ddiffygiol iawn yn nghymeriad Wil Bryan, ac eto yr oeddwn yn ei garu yn fawr. Nid cynt yr oeddem allan o'r capel nag y cymerodd afael yn fy mraich, gan ddywedyd wrthyf "Gad i ni fyn'd i gyfarfod y colliers." Ni wyddwn i gymaint a bod cyfryw gyfarfod i fod, ond rywfodd gwyddai Wil am bob cynnulliad pobloedd. Gan na thybiwn fod unrhyw niwed mewn myned, aethum gydag ef. Cyfarfod yn yr awyr agored ydoedd. Yr oedd yn noswaith hyfryd<noinclude><references/></noinclude> f4rho33l7v91r5s7ffpjm00ilj78j41 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/114 104 85395 165539 2026-05-22T20:39:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165539 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn yr haf; a phan oeddym yn nesâu at y fan, clywem swn mawr a bloeddio "Clywch! clywch!" a "hwre!" a gwelem fod cannoedd lawer yn bresennol. Pan gyrhaeddasom y fan lle y cynnelid y cyfarfod, nis gallaf adrodd fy syndod pan welais mai fy mrawd Bob oedd yn anerch y bobl. Trôdd fy nghalon ynof, a chredwn pa beth bynag oedd efe yn ei ddyweyd ei fod yn wir perffaith; oblegid y pryd hyny nid oeddwn yn meddwl fod yn bosibl i Bob wneyd camgymeriad. Ymwthiodd Wil a minnau ymlaen, a dechreuodd Wil waeddi "hear, hear!" cyn iddo ddeall gair o'r hyn a ddywedid. Byth nid anghofiaf yr olwg oedd ar fy mrawd. Safai ar domen uchel, ac amryw o brif "dorwyr" y Caeau Cochion o'i amgylch, a'r dorf anferth islaw iddo. Daliai ei het yn ei law aswy, ac estynai ei law ddeheu allan. Yr oedd ei lygaid fel dwy lamp yn llosgi mewn dwfr, ei wefusau yn crynu, a'i wyneb càn wyned â'r calch, ac yn ffurfio y fath annhebygolrwydd rhwng ei farf a'i wallt du & phe dodid pelen o eira mewn huddygl. Yr wyf yn cofio fy mod yn synu sut yr oedd gwyneb Bob mor welw wrth siarad, a gwynebau pregethwyr mor gochion pan yn pregethu. Gwyddwn ar ei olwg fod pob migwrn, asgwrn, a gewyn a feddai wedi eu cynhyrfu ar eu heithaf, a meddyliwn y fath bregethwr clyfar a wnaethai Bob pe buasai y seiat heb ei ddiarddel am y tipyn trosedd a wnaeth. Ni chlywswn ef yn siarad yn gyhoeddus erioed o'r blaen, a synwn yn anferth o ba le yr bedd yn cael yr holl eiriau a ddylifent dros ei wefusau. Chwarddai, ocheneidiai, a chrochlefai y dyrfa o'i gydweithwyr a safai, o'i flaen; yr oeddynt yn holiol yn ei law. Yr wyf yn meddwl y gallwn yn awr adrodd yr hyn a glywais o'i anerchiad; ond i ba ddyben? Da iddo ef a fuasai pe nas dywedasai air y noswaith hono. Ei bwnc oedd y gorthrwm a'r caledi yr oedd y glöwyr yn eu ddyoddef o herwydd trahausder y swyddogion, a'u hanghymhwysder i ddeall gwaith y Caeau Cochion. Profodd i foddlonrwydd y rhai oeddynt yn gwrando na wyddai y Lancies ddim am weithio gwaith glo Cymreig, a'u bod yn gorthrymu y gweithwyr ac yn andwyo y meistriaid. Pan beidiodd a siarad, rhoddwyd banllefau uchel gan y gynnulleidfa; a rhédais innau adref i adrodd yr hanes wrth fy mam-y fath siaradwr campus oedd Bob. Eisteddai fy mam o flaen y tân gan bletio ei ffedog. Ar fy mynediad i'r tŷ, edrychodd yn foddhaus arnaf, a llongyfarchodd fi ar y<noinclude><references/></noinclude> oqewrahw5maey97ul8wzuhu81vwxj1i Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/115 104 85396 165540 2026-05-22T20:39:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165540 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>modd yr aethwn trwy fy arholiad. Prysurais innau i adrodd hanes Bob—y fath siaradwr gwych ydoedd fel yr oedd y bobl yn gwaeddi eu cymeradwyaeth, ac felly yn y blaen. Yn lle ymfalchio wrth glywed yr hanes, fel y dysgwyliaswn iddi wneyd, newidiodd ei gwêdd, a gwisgodd ei hwyneb y fath brudd-der ag oedd yn hollol anesboniadwy i mi. "Wel, wel," ebe hi gydag ochenaid drom; "ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Mae rhywbeth yn deyd wrtha i y daw helbul o hyn. Mae dydd y brofedigaeth yn ymyl. O am ras i ddal heb ddyweyd dim yn ynfyd!" ac ymollyngodd fy mam i fyfyrdod prudd, gan barhâu i bletio ei ffedog ac edrych yn ddyfal i'r tân. Erbyn hyn teimlwn yn ofidus fy mod wedi adrodd yr hanes wrthi, er nas gallwn ddirnad pa fodd yr oedd hyny wedi dwyn arni y fath brudd-der. Aethum i'r gwely yn isel fy ysbryd, a hyny yn benaf am nad oeddwn yn deall yr achos o dristwch fy mam. Yr oedd yn hwyr ar y nos pan ddaeth Bob adref; ac er nad oeddwn o'r gwely yn gallu deall dim, clywn siarad brûd rhyngddo ef a fy mam, ac yn sŵn eu llais y syrthiais i gysgu. Mor wir ydoedd geiriau fy mam! Tra yr oedd pechaduriaid anghymedrol a gwastraffus yn gorphwys yn dawel ar eu mânblu yn nghanol cyflawnder a moethau, a lled cyfandir rhwng y blaidd a'u drysau, a thra yr oeddwn i yn cysgu yn ddifeddwl ar fy ngwely gwellt, yr oedd yr "helbul" y prophwydasai fy mam am dano eisioes yn cerdded yn ol a blaen gerllaw ein bwthyn, yn barod i guro wrth ein dôr; ïe, ac yntau yn gwybod fod yn y bwthyn hwnw un o leiaf yn ofni Duw yn fwy na llawer? Duw a ŵyr nad oedd hi yn treulio chwe' awr o'i bywyd, yn effro, heb anfon gweddi ato!<noinclude><references/></noinclude> 4gv1ntcgxegpyfzxiqnmw34iuwiucw4 165542 165540 2026-05-22T20:59:28Z AlwynapHuw 1710 165542 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>modd yr aethwn trwy fy arholiad. Prysurais innau i adrodd hanes Bob—y fath siaradwr gwych ydoedd fel yr oedd y bobl yn gwaeddi eu cymeradwyaeth, ac felly yn y blaen. Yn lle ymfalchio wrth glywed yr hanes, fel y dysgwyliaswn iddi wneyd, newidiodd ei gwêdd, a gwisgodd ei hwyneb y fath brudd-der ag oedd yn hollol anesboniadwy i mi. "Wel, wel," ebe hi gydag ochenaid drom; "ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Mae rhywbeth yn deyd wrtha i y daw helbul o hyn. Mae dydd y brofedigaeth yn ymyl. O am ras i ddal heb ddyweyd dim yn ynfyd!" ac ymollyngodd fy mam i fyfyrdod prudd, gan barhâu i bletio ei ffedog ac edrych yn ddyfal i'r tân. Erbyn hyn teimlwn yn ofidus fy mod wedi adrodd yr hanes wrthi, er nas gallwn ddirnad pa fodd yr oedd hyny wedi dwyn arni y fath brudd-der. Aethum i'r gwely yn isel fy ysbryd, a hyny yn benaf am nad oeddwn yn deall yr achos o dristwch fy mam. Yr oedd yn hwyr ar y nos pan ddaeth Bob adref; ac er nad oeddwn o'r gwely yn gallu deall dim, clywn siarad brûd rhyngddo ef a fy mam, ac yn sŵn eu llais y syrthiais i gysgu. Mor wir ydoedd geiriau fy mam! Tra yr oedd pechaduriaid anghymedrol a gwastraffus yn gorphwys yn dawel ar eu mânblu yn nghanol cyflawnder a moethau, a lled cyfandir rhwng y blaidd a'u drysau, a thra yr oeddwn i yn cysgu yn ddifeddwl ar fy ngwely gwellt, yr oedd yr "helbul" y prophwydasai fy mam am dano eisioes yn cerdded yn ol a blaen gerllaw ein bwthyn, yn barod i guro wrth ein dôr; ïe, ac yntau yn gwybod fod yn y bwthyn hwnw un o leiaf yn ofni Duw yn fwy na llawer? Duw a ŵyr nad oedd hi yn treulio chwe' awr o'i bywyd, yn effro, heb anfon gweddi ato! <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XVI.<br>''Dydd y Brofedigaeth.''}}}} GYDA phrudd adgofion yr wyf yn ysgrifenu y bennod hon; a phe buasai bosibl i mi roddi hanes ffyddlawn o fy mywyd heb sôn am yr hyn a adroddir ynddi, buaswn yn gwneyd hyny, ond nis gallaf. Yn awr mewn gwaed oer, ac mewn oedran addfetach i ffurfio barn am bethau, dichon nad ydwyf yn coleddu yr un syniad am y dygwyddiadau <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> pekz5ruptiz7sw355ug9kdravywvheg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/116 104 85397 165543 2026-05-22T21:00:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165543 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r tŷ, edrychodd yn foddhaus arnaf, a llongyfarchodd fi ar y modd yr aethwn trwy fy arholiad. Prysurais innau i adrodd hanes Bob—y fath siaradwr gwych ydoedd fel yr oedd y bobl yn gwaeddi eu cymeradwyaeth, ac felly yn y blaen. Yn lle ymfalchio wrth glywed yr hanes, fel y dysgwyliaswn iddi wneyd, newidiodd ei gwêdd, a gwisgodd ei hwyneb y fath brudd-der ag oedd yn hollol anesboniadwy i mi. yr wyf yn myned i'w hadrodd ag oeddwn ar yr adeg y cymerasant le. Pa fodd bynag, yn y wedd yr edrychwn i arnynt y pryd hyny y bydd i mi geisio eu desgrifio. Yr oedd y Caeau Cochion yn un o brif weithfeydd y gymydogaeth y magwyd fi ynddi; ac yr oedd yn cyflogi—a chyfrif y bechgyn—rai cannoedd o bobl. Saeson, os wyf yn cofio yn dda, oedd yr oll o'r perchenogion. Ar un adeg goruchwylid holl "danddaearolion bethau" y gwaith gan Gymro syml a gonest o'r enw Abraham Jones, diacon gyda'r Annibynwyr. Yr oedd efe yn ŵr pwyllog ac yn meddu synwyr cryf a dylanwad mawr ar y gweithwyr oeddynt dan ei ofal. Pa anghydwelediad bynag a godai ymhlith y dynion nid oedd eisieu ond i Abraham Jones gyflafareddu, a thawelai pobpeth yn union. Dirgelwch ei ddylanwad ydoedd ei graffder neillduol i ganfod trigle y bai, a'r ymddiried llwyr oedd gan bawb yn ei onestrwydd a'i grefydd. Profasai ei hun bob amser yn gyfaill calon i'r gweithiwr, am y gwyddai efe yn dda beth oedd bod yn weithiwr ei hun. Gydag ef yr oedd yn fater cydwybod i gadw ei lygaid yn agored i fudd y meistri y derbyniai ei gyflog ganddynt; ond ni rwystrai hyny iddo ystyried yn feunyddiol ddedwyddwch a diogelwch bywyd y dynion a welai bob dydd yn chwysu ac yn baeddu yn nghanol peryglon. Ystyrid ef yn un o'r glowyr medrusaf a mwyaf profiadol yn y wlad; ac yn ystod ei oruchwyliaeth ef yn y Caeau Cochion, elai pobpeth ymlaen yn gysurus, ac ni ddygwyddodd un cythrwfl gwerth sôn am dano. Perthynai iddo un anfantais fawr yn ei gysylltiad â'i uchelwyr: anmherffaith iawn oedd ei Saesoneg; ac yn eu cynghoriaethau parai hyn iddo ymddangos ar adegau heb fod mor gwbl syth yn ei ystori ag y dymunasai; ac ymboenai yntau yn fawr o'r herwydd. Sylwasai yn ddiweddar fod un neu ddau o'r cyfarwyddwyr yn ymddifyru yn ei roddi trwy gwrs o arholiadau manwl ynghylch y gwaith; ac er nad oedd ganddo ddim i'w ofni yn y ffordd hono, yr oedd yr anhawsder a deimlai i egluro ei hun yn ei osod, fel y tybiai efe, mewn sefyllfa annymunol yn fynych. Yr oedd wedi ei arteithio mor dost gan y croesholiadau hyn fel na theimlodd yn siomedig nac yn ofidus pan ddywedwyd wrtho un diwrnod yn nghyfarfod y cyfarwyddwyr mai gwell oedd iddo ymadael, gan fod ganddynt ŵr o Sais tebycach o wneyd ei orchwyl yn well, ac hefyd o allu rhoddi adroddiad cyflawnach<noinclude><references/></noinclude> sqia27cgdmk4erdqim3x096mafcwxar Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/117 104 85398 165544 2026-05-22T21:01:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165544 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o sefyllfa y gwaith. Gyda'r gair, teimlodd Abraham Jones faich mawr yn syrthio oddiar ei ysgwyddau; ac yn ei ffordd glapiog ei hun dywedodd wrthynt cyn ymadael, a'i frest yn chwyddo tipyn wrth siarad—"Foneddigion, mae yn hyfryd genyf glywed yr hyn a ddywedwch. Os gall y gŵr yr ydych yn sôn am dano gadw gwaith y Caeau Cochion i fyned ymlaen mor esmwyth a thangnefeddus er llês y meistr a'r gweithwyr am chwe' mis ag yr ydwyf fi wedi gwneyd am chwe' mlynedd, yn sicr y mae yn ddyn clyfar." Yna cymerodd ei het, moesymgrymodd iddynt, ac aeth allan. Dywedai yn fynych ar ol hyn ei fod yn credu ddarfod iddo gael help oddiuchod i siarad Saesoneg pan yn ymadael â'i feistri. Pan aeth Abraham Jones yn ol i'r gwaith, a hysbysu y dynion am y newydd, yr oedd yno alar a gofid nid ychydig. Buasai ambell un o'r glöwyr yn dymuno cael dadgan ei deimlad mewn iaith na oddefid yn nghlywedigaeth Abraham Jones, ac iaith nad oedd yn gwbl ''parliamentary''. Ond yn ei bresennoldeb ef, yr oedd yn rhaid llyncu y geiriau wedi iddynt ddyfod i'r genau; ac yr oeddynt mor fawr a hallt nes dwyn dagrau i'r llygaid, y rhai a syrthient i lawr y ddwyrudd gan adael rhes wen lân ar y gwynebau duon, i ddangos mor bur oedd y teimlad a'u cynnyrchent. Awgrymid, a dywedid yn lled groew gan y gweithwyr nad unrhyw anfedrusrwydd nac anffyddlondeb ar ran Abraham Jones a barodd i'r cyfarwyddwyr ei annog i ymadael, ond mai eisieu yr oedd rhai o honynt wneyd lle i gyfaill iddynt oedd mewn anghen am fara. Pa un ai cam ai cymhwys, parodd y grediniaeth hon i'r gweithwyr gasâu eu goruchwyliwr newydd cyn iddynt erioed weled ei wyneb. Ac ni ddarfu i ymddangosiad na chydnabyddiaeth â Mr. Strangle—canys dyna oedd enw y gwr—leihâu ond yn hytrach ddyfnhâu eu hadgasedd ato. Gŵr canol oed ydoedd, býr, boldew a thrystiog; a chariai yn ei berson ei hun holl erwindeb, afledneisrwydd, ac anwybodaeth ei wehelyth yn Wigan. Yr oedd ei iaith yn grâs ac anghoeth; a gwenai hyd yn nôd y glöwyr annysgedig wrth ei glywed yn dyweyd "Ah" am yes, a "mun" am ''must.'' Ond nid oedd ei iaith ond diffyg bychan ynddo o'i gymharu a'i hunanbwysigrwydd annyoddefol, a'i ddiystyrwch o bawb o'i gwmpas. Cafodd y llysenw ''bulldog'' y diwrnod cyntaf y daeth i'r gwaith; ac yn wir wrth i mi alw i'm côf ei drwyn býr pantiog, a'i ên lydan, yr wyf yn meddwl pe buasai yn hòni perthynas â'r rhyw hwnw o greaduriaid na fuasai<noinclude><references/></noinclude> tm2vficn281z912ok79anja6i3d7h1p Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/118 104 85399 165545 2026-05-22T21:02:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165545 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neb yn ammheu ei linach. Dichon, hefyd, mai yr hyn a allasai beri i un ammheu ei fod o'r tylwyth a fuasai ei honiadau: pe cymerasid ef ar ei air ei hun, yr oedd yn gwybod yr holl wybodaethau, ac ni wnaethai erioed gamgymeriad. I fod yn fyr—yr oedd Mr. Strangle yn waith glo ynddo ei hun—''main coal, hollin, byeman,'' torwr, sheltrwr, ''shaft,'' simdde, ''engine house, boiler'' a'r cwbl, yn enwedig yr olaf. Ond dywedai Bob, ac wrth gwrs, credwn fod pobpeth a ddywedai ef yn gywir, y gallai siaced wlanen Abraham Jones oruchwylio gwaith y Caeau Cochion yn llawer rhagorach na Mr. Strangle. Yn sicr ni chystedlid gwrthwynebiad y gweithwyr at Mr. Strangle gan ddim ond ei gasineb yntau at Gymry a Chymraeg. Ymhyfrydai yn eu diystyru, a gwnai bobpeth ynglŷn â'r gwaith mewn dull hollol groes i'r hyn yr arferai Abraham Jones. Y canlyniad fu iddo yn fuan dynu y gwaith yn ei ben, fel y dywedid, a bod dan orfod i ddefnyddio gwerth rhai cannoedd o bunnau o goed i gynnal y lle wrth ei gilydd. I mi grynhoi, oblegid cymerai i mi lawer o amser i adrodd yr holl hanes, yr oedd sefyllfa pethau mor annymunol fel yr ofnid yn ddyddiol gan fasnachwyr y dref a'r gymydogaeth yn gyffredinol glywed fod strike yn ngwaith y Caeau Cochion. Rhywbeth yn debyg i hyn oedd yr amgylchiadau pan gynnelid "cyfarfod y colliers" y soniais am dano yn y bennod o'r blaen, a phryd y siaradodd Bob mor ragorol, fel y tybiwn i. Drannoeth, pan oedd fy mam yn ymddyddan â chymydoges ynghylch y cyfarfod, daethum i ddeall paham y pruddhâodd hi gymaint wrth fy adroddiad o hanes Bob yn anerch y bobl. Ofni yr oedd i fy mrawd dynu ei hun i helynt. Dywedai hi fod yn werth dyoeddef tipyn o galedi er mwyn tangnefedd. O'r ochr arall tybiai y gymydoges fod yn hen bryd i rywun siarad fod y cyflogau mor fychain fel nad oedd yn bosibl cadw teulu, ond ei bod hi wedi siarsio ei gŵr i beidio dyweyd gair, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd. Ac wyf yn cofio i fy mam wneyd sylw rywbeth i'r perwyl canlynol: "Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac eraill ymladd y frwydr, ac i Wmphre eich gŵr a phawb sydd yn perthyn i chi fod fel y Dan hwnw gynt yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fyned drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davis, Nerquis, yn deyd." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4oij1zi4mspialhhfw7oyjo2sc3e42h Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/119 104 85400 165546 2026-05-22T21:03:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165546 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nid oedd Marged yn gwybod digon o'r Ysgrythyr i ddeall y gymhariaeth; ond deallodd yn burion fod ynddi ergyd iddi hi, a throwyd yr ymddyddan gan hyny at rywbeth arall. Mor fuan y gwiriwyd ofnau fy mam! Pan ddaeth Bob adref o'i waith y noswaith hono, edrychai yn synfyfyriol. Wedi iddo ymolchi a chael ymborth, ebe fy mam wrtho, "Bob, mi wn ar d'olwg di fod ganat ti newydd drwg; wyt ti wedi cael notis?" "Do," ebe fe, "mae Morris Hughes, James Williams, John Powell, a minnau i ymadael o'r gwaith ddydd Sadwrn nesaf." "Wel, wel," ebe fy mam, " be nawn ni rwan?" "Gwneyd ein dyledswydd, mam, ac ymddiried i Ragluniaeth," ebe Bob. "Ië, fy machgen; ond a wyt ti'n meddwl dy fod di wedi gneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith, onid do? i gymyd gofal a pheidio cymyd rhan mor amlwg yn yr helynt. [Meddyliwn am sylw fy mam ar Dan mewn llongau.) Mi wn o'r gore fod gynoch chi fel gweithwyr le i gwyno, ac fod yn gywilydd i fod rhw Sais yn dwad ar draws gwlad i gymyd lle dyn duwiol fel Abram Jones na fu rioed helynt hefo fo. Ond dwyt di ddim ond ifanc; a pham na faset ti'n gadel i rwfun fel Edward Morgan siarad a chodlo? dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun a buwch a mochyn. Fase fo ddim llawer o ods gan Edward gael notis. Ond waeth tewi—rhy hwyr cau drws y stabal wedi i'r ceffyl fynd allan; ond be ddaw o honom ni sy'n bwnc." "Mam," ebe Bob yn zelog, " nid fel yna y darfu i chwi fy nysgu. 'Gwna dy ddyledswydd a gâd rhwng y Brenin mawr a'r canlyniadau,' oedd un o'r gwersi cyntaf a ddysgasoch i mi; ac yr wyf yn meddwl glynu wrthi tra bydd anadl ynof, nid yn unig am eich bod chwi wedi ei dysgu i mi, ond hefyd am fy mod yn credu ei bod yn rheol dda. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddysgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddyoddef cyn y daw daioni i'r llïaws: ac os ydwyf fi ac ychydig eraill yn cael ein gwneyd yn fwch diangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn oddiamgylch eu rhyddid a'u lleshad, pobpeth yn dda. Nid ydwyf wedi dyweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu ac yn ei deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w<noinclude><references/></noinclude> cslytkt5n5zbwb7x0sa5q7m6fgv7at0 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/120 104 85401 165547 2026-05-22T21:04:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165547 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac" "Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di." "Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn." "Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles. "Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth" "Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?" Yr oedd hyn yn ormod i Bob, a chwarddodd yn uchel, yr hyn a barodd i fy mam foni tipyn; a bu raid i Bob brysuro i egluro ei hun "Nid ''butler'' y plâs oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Butler, gŵr<noinclude><references/></noinclude> hor3791lvp1p3di2dk43qscchrrj6tt 165556 165547 2026-05-22T21:25:00Z AlwynapHuw 1710 165556 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac {{bar|2}]" "Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di." "Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn." "Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles. "Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth" "Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?" Yr oedd hyn yn ormod i Bob, a chwarddodd yn uchel, yr hyn a barodd i fy mam foni tipyn; a bu raid i Bob brysuro i egluro ei hun "Nid ''butler'' y plâs oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Butler, gŵr<noinclude><references/></noinclude> dj9kbqni42lnj2p8j4tp8r21d5cf7fg 165558 165556 2026-05-22T21:26:24Z AlwynapHuw 1710 165558 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac {{bar|2}}" "Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di." "Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn." "Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles. "Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth" "Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?" Yr oedd hyn yn ormod i Bob, a chwarddodd yn uchel, yr hyn a barodd i fy mam foni tipyn; a bu raid i Bob brysuro i egluro ei hun "Nid ''butler'' y plâs oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Butler, gŵr<noinclude><references/></noinclude> sygkmyqquizvv525v9eilxgpeh06l8m Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/121 104 85402 165548 2026-05-22T21:04:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165548 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>da a duwiol. Hyn oeddwn yn ceisio ei ddyweyd pe buasech yn gadael llonydd i mi—mai ammod bywyd, bendith, a llesâd ydyw aberth. Cyn yr oedd yn bosibl i fyd o bechaduriaid gael bywyd, yr oedd yn rhaid i Fab Duw aberthu ei hun. (Dyna ti rwan yn siarad ''sense,''' ebe fy mam wrthi ei hun.) Cyn yr oedd yn bosibl i'r bywyd hwnw ddyfod yn eiddo i ddynion, yr oedd yn rhaid i'r apostolion a llu o ddynion goreu y byd ddyoddef llawer, ac hyd yn nôd roddi eu bywydau i lawr. Ac y mae rhywbeth tebyg i hyn yn bod gyda golwg ar ein bywyd naturiol, gyda hyn o wahaniaeth, fod y lleiaf yn cael ei aberthu er mwyn y mwyaf. Mae y fuwch, y ddafad, a'r mochyn, a llu o greaduriaid eraill, yn colli eu bywyd er mwyn cadw eich bywyd chwi a minnau. Ac felly ymhob cylch o fodolaeth y gwyddom am dano. Mae yr un egwyddor i'w chael mewn cymdeithas. Wrth ymladd i ddyrchafu cyfiawnder ac ymlid ymaith orthrwm, mai rhywrai o'r dynion dewr sydd yn yr ymdrech yn sicr o gael eu mathru a'u niweidio o dan draed y gorthrymwr, hyd yn nôd pan fydd yn gorfod cilio. Rhaid i rywrai ymladd yn y Caeau Cochion cyn y ceir gwared o'r gorthrwm: ac os ydwyf fi am cymdeithion yn gorfod syrthio pan yn chwythu yn yr udgorn, gadewch i hyny fod; mae yr alwad i'r frwydr wedi myned allan, mae cyfiawnder o'n hochor, a bydd i rywrai, os na bydd i ni, gyfranogi o ganlyniadau da y fuddugolaeth sydd yn sicr o ddilyn. Gyda thipyn o ddoethineb a phenderfyniad, nid wyf yn ammheu na fydd gwedd arall ar y Caeau Cochion cyn pen ychydig fisoedd. Yr unig beth yr ydwyf yn ei ofni ydyw i rai o'r dynion ddefnyddio moddion anghyfreithlawn. Mae llawer o honynt yn amddifad hollol o farn, ac yn cael eu llywodraethu yn gwbl gan eu tymher afrywiog. Bydd i'r rhai hyn, os na chânt rywun doeth i'w harwain, wneyd mwy o niwed i'r amcan sydd mewn golwg nag y gellir dyfalu. Ond dichon yr ymddygant yn well nag yr wyf yn ofni." Yr oedd fy mam naill ai yn ddifater neu yn anallaog i ateb Bob, a'r unig beth a ddywedodd oedd— "Gweddïa fwy, fy machgen i, a siarada lai." Parodd y rhybudd a gafodd fy mrawd, a'r dynion eraill a enwais, gryn siarad yn y gwaith a'r gymydogaeth, ac edrychid ar y dydd Sadwrn canlynol gyda dyddordeb pryderus. Ofnai rhai y byddai helynt ymhlith y gweithwyr os byddai y rhybudd i gael ei gario<noinclude><references/></noinclude> jabeako708yf2ytmij80awvkmv82atz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/122 104 85403 165549 2026-05-22T21:06:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165549 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>allan; ond tybiai eraill nad oedd y rhybudd ond ffûg i geisio dychrynu y gweithwyr i ymlonyddu, ac na feiddiai Mr. Strangle droi ymaith y dynion medrusaf a sobraf a feddai y Caeau Cochion heb dynu helbul yn ei ben. Dydd Sadwrn a ddaeth, ac aeth Wil Bryan a minnau ac amryw hogiau i fod ar y "bonc" erbyn yr adeg yr oedd y dynion i ddyfod i fyny, i weled beth a ddygwyddai. Yn union deg daeth dau heddgeidwaid gyda'r un neges. Dau Sais oeddynt. Yn y màn dechreuodd y gweithwyr ddyfod o'r pwll bob yn llwyth. Fely deuent i'r lán, elent i'r swyddfa i dderbyn eu cyflogau; ond yn lle myned yn syth adref ar ol derbyn yr arian fel yr arferent, arosent ar y bonc yn dýrau yma ac acw gan eistedd ar eu sodlau. Pa un ai o fwriad neu ynte o ddamwain y bu nis gwn; ond Bob a'i gymdeithion, y rhai oeddynt dan rybudd, a ffurfient y llwyth olaf; a phan wnaethant eu hymddangosiad uwch genau y pwll, a'u "pigau" wedi eu rhwymo yn eu gilydd, cododd yr holl ddynion oedd ar y bonc ar eu traed fel llu o ellyllon. Ond o dan ddüwch eu gwynebau a hagrwch eu gwisg yr oedd yno lawer calon gynhes a gonest, er fod murmur i'w glywed yn eu mysg. Aeth Bob a'i gymdeithion i'r swyddfa, a dysgwylid eu dyfodiad allan gyda phryder dystaw. Ni fu raid i ni aros yn hir; a phan wnaethant eu hymddangosiad, edrychent yn hollol ddidaro, a chymerasant i fyny eu pigau gan eu dodi ar eu hysgwyddau, yr hyn oedd arwydd sicr fod y rhybudd wedi ei gario allan. Mewn eiliad amgylchwyd Bob a'i gymdeithion gan yr holl weithwyr, y rhai a ymholent ar draws eu gilydd a oeddynt wedi eu talu allan. Amneidiodd Morris Hughes ar Bob i siarad, ac yntau a ddywedodd yr hyn a ganlyn—ac yr wyf yn tystio yn y modd difrifolaf na ddywedodd efe un gair ond yr hyn a adroddaf; oblegid ni roddaf i fyny i undyn byw am gywirdeb adroddiad o'r hyn a glywais a'm clustiau fy hun. Os ymffrostiaf mewn rhywbeth, yn fy nghôf y gwnâf hyny. "Fy anwyl gydweithwyr, yr wyf fi a'm cymdeithion wedi ein talu allan. Yr ydym yn ffarwelio a'r Caeau Cochion, ac yn gorfod troi ein hwynebau i rywle arall i edrych am waith." Cyn iddo gael dyweyd ychwaneg, dechreuodd rhai o'r dynion dyngu a rhegu, ac ymyrodd y ddau heddgeidwad, gan eu hannog i fyned adref yn ddystaw; ond gwthiwyd hwy ymaith yn ddiseremoni a gwaeddwyd am i Bob fyned ymlaen; ac efe a ychwanegodd,— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0ibk2o1wl4z7gj7uaqazi4ctlf11tcv Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/123 104 85404 165550 2026-05-22T21:06:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165550 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Yr ydym yn eich gadael gyda chydwybod dawel na wnaethom ddim allan o'i le; ac yr ydym yn hyderu na wna neb ein condemnio am ddadgan yn gyhoeddus ein hargyhoeddiad ein bod yn cael cam a'n trin yn anghyfiawn. Rhaid i chwi bellach ymladd am eich iawnderau heb ein cymhorth ni; ond pa le bynag y byddom, bydd eich cysur a'ch llwyddiant yn agos at ein calon. Nid wyf heb ystyried fod o fy mlaen ugeiniau o ddynion hŷn, callach, a mwy profiadol na mi; ond goddefwch i mi roddi gair o gynghor i chwi. Gofelwch beidio gwneyd dim y bydd arnoch gywilydd o'i herwydd. Cymerwch eich arwain gan y bobl gallaf yn eich mysg; ac wrth ymladd am eich iawnderau, gwnewch hyny fel dynion yn meddu rheswm, ac fel rhai yn cofio y bydd raid i chwi roddi cyfrif am eich holl weithredoedd. Yr wyf yn meddwl, ac felly y mae fy nghymdeithion yn meddwl, mai y peth goreu i chwi a fyddai gosod eich cŵynion o flaen y cyfarwyddwyr. Yn amser Abraham Jones, os byddai genym gŵyn nid oedd eisieu ond ei osod o'i flaen, a rhoddai efe ystyriaeth bwyllog iddo; ond yr wyf yn ofni mai oferedd, bellach, a fyddai i chwi appelio at Mr. Strangle, oblegid" Yn anffortunus pan oedd enw Mr. Strangle ar ei wefusau, daeth y gŵr hwnw allan o'r swyddfa, ac edrychodd yn ddirmygus ar y dorf. Nid cynt y gwnaeth ei ymddangosiad nag yr oernadodd ugeiniau o leisiau fel haid o gadnawgwn! Rhuthrwyd arno yn erwin a chariwyd ef ymaith ar y ffordd oedd yn arwain i'r railway station, fel gwelltyn o flaen corwynt. Y ddau heddgeidwad, gyda dewrder anhygoel, a geisiasant ei arbed a'i ryddhau o afaelion y glöwyr drygnwydog, ac felly y gwnaeth Bob ac eraill. Ond can gynted ag y rhyddheid Mr. Strangle o afaelion un haid, byddai eraill yn nghwlwm âg ef. Un o'r heddgeidwaid gan dybied, a hyny yn onest yn ddiammheu, fod Bob y penaf o'r ymlidwyr, a dynodd ei staff allan ac a'i tarawodd ef ar ei arlais nes y syrthiodd i'r llawr. Buasai yn well iddo beidio, oblegid y foment nesaf yr oedd efe a'i gydymaith yn gorwedd yn anafus ar ochr y ffordd, a Mr. Strangle yn cael ei yru o flaen y dorf wallgofus gyda chyflymdra cwbl anhyfryd i ŵr mor dew ag ydoedd efe. Meddyliais fod Bob wedi ei ladd, canys ymddangosai yn hollol farw ar y ffordd, ac nid arosodd neb ond Morris Hughes gyda mi i geisio ei ymgeleddu. Nis gallaf ddesgrifio fy nhgofid pan dybiais ei fod wedi marw, nac ychwaith fy llawenydd, pryd ymhen ychydig<noinclude><references/></noinclude> f1uw16akx4aouz7ijz7klkabsa7nrxm Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/124 104 85405 165551 2026-05-22T21:07:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165551 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fynydau y daeth ato ei hun ac y neidiodd ar ei draed. "Morris," ebe fe "mae ein hymdrechion oll yn ofer; mae y gwallgofiaıd wedi andwyo ein hachos; rhaid i ni attal hyn os nad ydyw yn rhy ddiweddar." Prysurodd y ddau ar ol y dorf, a minnau yn eu dilyn. Gydag anhawsder y gallai Bob gerdded yn gyflym gan fel yr oedd y ddyrnod wedi effeithio arno; a phan gydiodd yn mraich Morris Hughes, yr hwn oedd ŵr ieuanc cadarn a chryf, gwelwn fod ei goesau yn gwegian odditano. Pan oeddym yn nesâu i'r orsaf, canfyddem fod y dyrfa wedi mwy na dyblu ei nifer. "Diolch!" ebe Bob, "nid ydyw y trên wedi dyfod i mewn, ac hwyrach y gallwn attal y ffyliaid rhag gorfodi Mr. Strangle i fyned ymaith." Rhoisom y troed goreu ymlaen; ond pan oeddym o fewn rhyw dri chan' llath i'r orsaf, clywem y trên yn dyfod i mewn, ac hefyd fanllef fawr gan y gweithwyr. "Rhy hwyr!" ebe Morris Hughes, "os ydyw yn ods." "Ods?" ebe Bob gan arafu ei gerddediad, "gallwn feddwl ei fod. Collwn gydymdeimlad y wlad, edrychir arnom fel anwariaid, cymerir rhai o'r gwallgofiaid hyn i'r carchar, a chosbir hwynt am eu hynfydrwydd. Yr ydym wedi colli pobpeth, ac y mae yn edifar gan fy nghalon fod a wnelwyf o gwbl â'r helynt!" a thorodd allan i wylo fel plentyn. "Chwibianodd y peiriant yn gryf ac yn groch," a rhwygwyd yr awyr gan fanllefau ynfydion. Yna rhuthrodd y dorf ddi-oruchwyliaeth tua'r dref. Pan ddaethant i'r fan lle yr oedd Morris Hughes, Bob, a minnau, mynasent ar bob cyfrif gael cario fy mrawd a'i arddangos fel eu harwr; ond braich gref Morris a'u hattaliodd; ac ebe fe wrthynt, "Nid all fy ngyfaill oddef i chwi wneyd hyny âg ef; ond os dewiswch wrando, dichon fod ganddo air i'w ddyweyd wrthych." Wedi i'r dorf arwyddo parodrwydd i wrando, esgynodd Bob i ben y clawdd, a chan bwyso ei law ar ysgwyddau llydain Morris Hughes dywedodd, "Gyfeillion, o ddechreuad yr ymdrech am godiad yn ein cyflogau ac am well trefn yn y Caeau Cochion, yr wyf wedi cymeryd rhan amlwg, ac wedi gwneyd fy ngoreu i wella eich amgylchiadau. Gwyddoch cystal a minnau y gallasai dau neu dri o honom, pe buasem yn dymuno cynffona ychydig, wneyd ein nŷth yn ddigon clŷd yn y Caeau Cochion; ond ni fuasech chwi fymryn gwell. Ar ol yr hyn sydd newydd gymeryd lle, rhaid i mi ddyweyd wrthych yn<noinclude><references/></noinclude> t81ycxeqcva648tf2thb1v48b51zzyv Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/125 104 85406 165552 2026-05-22T21:09:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165552 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>onest, hyd yn nôd pe bawn wrth wneyd hyny yn peryglu cael ymddwyn tuag ataf fel yr ymddygwyd at Mr. Strangle, fod arnaf gywilydd fod a fynwyf â chwi mewn unrhyw fodd." Gorchfygwyd Bob gan ei deimladau fel nad allai ddyweyd rhagor, ac ymwahanodd y dorf, rhai yn tyngu, eraill yn murmur, ac eraill yn ddystaw a synfyfyriol. Teg ydyw dyweyd fod ymhlith y dyrfa gynhyrfus a gipiodd Mr. Strangle i'r orsaf, gan bwrcasu tocyn iddo a'i osod yn ddiogel yn y trên, ugeiniau o'r gweithwyr oeddynt yn hollol anghyttuno â'r weithred, ac eto yn gwbl analluog i attal y ffolineb. Cyn i fy mrawd a minnau gyrhaedd gartref, yr oedd fy mam wedi ei hysbysu am yr helynt, gydag ychwanegiadau, ac yn dysgwyl yn gynhyrfus am danom. Pa fodd bynag, tawelwyd gryn lawer ar ei meddwl pan sicrhaodd Bob hi ddarfod iddo ef wneyd ei oreu i arbed Mr. Strangle gael ei orfodi ymaith. Ar yr un pryd nid allwn beidio gweled arwyddion o ofn ac anesmwythdra ar wynebau y ddau. Nid aeth Bob allan o'r tŷ y noswaith hono; ond ymwelwyd âg ef gan ei dri chyfaill a dalwyd allan fel yntau; a threuliasant rai oriau i ddyfalu beth a fyddai canlyniadau ynfydwaith y diwrnod. Er na ddywedai fy mam ddim, gwelwn yn ei hwyneb ''presentiment'' o rywbeth gwaeth i ddyfod. Aeth y cymdeithion ymaith, ac ar ol hyny ni siaradwyd ond ychydig yn ein tŷ ni y noswaith hono. Cymerai Bob arno ddarllen; ond sylwn nad oedd yn troi dalenau y llyfr, a gwyddwn nad oedd yn meddwl am ddim oedd ynddo. Yr oedd yn hwyr ar y nos, ac yr oeddym ar fedr myned i'r gwely, pryd y clywem sŵn traed yn nesâu at y tŷ. Yn y fynyd curwyd y drws, a chyn i neb gael amser i agor daeth i mewn ddau heddgeidwad. Gwelwodd wyneb fy mam, a dechreuais innau waeddi fy ngoreu glâs; ond gorchymynodd Bob i mi dewi, a chydag anhawsder y gellais orchfygu fy nheimladau. Bob, yn berffaith hunanfeddiannol, a annogodd y swyddogion i eistedd i lawr, yr hyn a wnaethant. Er na fu byth yn dda genyf am yr un o'r ddau, rhaid i mi addef eu bod yn ddynion hywaeth, ac nad hapus ganddynt oedd eu gwaith y noson hono. Yr oeddwn yn falch mai Cymry oeddynt, er mwyn i fy mam allu deall yr hyn a ddywedent. "Yr wyf yn meddwl," ebe Bob yn dawel, "fy mod yn deall eich neges." "Wel," ebe ''Sergeant'' Williams, gan edrych ar fy mam, "neges<noinclude><references/></noinclude> 0v7lhic5q37yr806qrcmka3teen50xp Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/126 104 85407 165553 2026-05-22T21:11:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165553 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddigon annymunol sydd genym ni, Robert Lewis, yn siŵr i chwi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd pobpeth yn iawn ddydd Llun. Mrs. Lewis," ebe efe gan estyn y warant i Bob i'w darllen er mwyn arbed teimladau fy mam, "peidiwch a dychrynu, dydi o ddim ond ''matter of form;'' rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd pobpeth yn ''right'' ddydd Llun." Ni ddywedodd fy mam ddim; ond yr oedd y cryndod a welwn yn nghonglau ei genau a'r ''twitch'' oedd yn ei gwddf yn dangos yn eglur ystâd ei theimlad. Rhoddodd Bob ei esgidiau am ei draed yn hamddenol, a'r gair olaf a ddywedodd oedd, "Mam, chwi a wyddoch i ba le i droi; mae fy nghydwybod yn dawel," a cherddodd ymaith gyda'r swyddogion. Nid oeddynt wedi myned ugain llâth oddiwrth y tŷ pryd y clywn siarad uchel a ''struggle,'' fel y tybiwn i; ac er gwaethaf fy mam rhedais allan, a gwelwn ymdrech ddychrynllyd rhwng y swyddogion â dau ddyn dyeithr. Yr oedd un o'r ddau yn ddyn mawr grymus, ac yn codymu yr heddgeidwaid yn ddidrugaredd. Nid oedd y llall ond canolig o gorffolaeth, ond yr oedd yn fedrus ar y gwaith yr oedd o'i gwmpas. Ni chefais anhawsder i adnabod yr olaf—mai yr un gŵr ydoedd ag a'm hattaliodd ar fy llwybr y noswaith hono pan fu farw Seth, a'r hwn a alwn i tro cyntaf y gwelais ef "y Gwyddel." Ni wyddwn pwy oedd y dyn mawr grymus; ond meddyliwn ei fod yn debyg o ran gosodiad neu gait i fy mrawd, gyda'r gwahaniaeth ei fod yn hyn a chryfach. Amcan y ddau ddyeithryn, gallwn feddwl, oedd rhoddi cyfleusdra i Bob ddianc; ond pan welsant nad oedd efe yn cymeryd mantais ar y cyfleusdra, ond yn hytrach yn cynnorthwyo y swyddogion, diangodd y ddau ymaith. Pan aethum yn ol i'r tŷ, a hysbysu fy mam am yr hyn a welais, cododd a chlôdd y drws. Nid aethom i'r gwely y noswaith hono; ac er cymaint a ymdrechwn i ddirwasgu fy nheimladau er mwyn fy mam, ac er cymaint a ymdrechai hithau i guddio ei gofid er fy mwyn innau, gorchfygwyd ni gan lawer ''touch'' o grio yn ystod y nos. Gwawriodd y bore—bore Sabboth hyfryd. Gwelwn y bobl yn myned i'r gwahanol gapelydd, ac wrth fyned heibio yn edrych yn chwilfrydig ar ein bwthyn. Nid aeth fy mam na minnau dros y rhiniog, a chlywais hi yn sibrwd fwy nag unwaith, "Dydd y brofedigaeth!" Ni fwytasom ond pur ychydig.<noinclude><references/></noinclude> s70odq2qe9jz09sg6ebi3rp1na5z9p4 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/127 104 85408 165554 2026-05-22T21:17:18Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "Ymddangosai y diwrnod cyhyd ag wythnos. Agorodd fy mam yr hen Fibl mawr ddwsiniau o weithiau; ond can gynted ag a dechreuai ddarllen, llithrai ei llygaid dros ei ymylon, ac edrychai am yspaid maith i'r un cyfeiriad mewn myfyrdod prudd. Gwelwn y bobl yn myned heibio o odfa'r bore, ond ni alwodd neb. Gwelwn hwynt drachefn yn myned i'r ysgol ac yn dychwelyd, ond ni thrôdd neb i mewn i'n tŷ. Credwn yn sicr y byddai i rai o bobl y capel d... 165554 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymddangosai y diwrnod cyhyd ag wythnos. Agorodd fy mam yr hen Fibl mawr ddwsiniau o weithiau; ond can gynted ag a dechreuai ddarllen, llithrai ei llygaid dros ei ymylon, ac edrychai am yspaid maith i'r un cyfeiriad mewn myfyrdod prudd. Gwelwn y bobl yn myned heibio o odfa'r bore, ond ni alwodd neb. Gwelwn hwynt drachefn yn myned i'r ysgol ac yn dychwelyd, ond ni thrôdd neb i mewn i'n tŷ. Credwn yn sicr y byddai i rai o bobl y capel ddyfod i edrych am danom ar ol odfa'r nos; ond ni ddaeth neb, neu, fel y dywedai fy mam, "Ddaru neb dwllu'r drws trwy gydol y dydd." Yr oeddym yn awyddus i rywun alw, gan na wyddem pa nifer oedd wedi eu cymeryd i'r carchar, ac ofnai fy mam rhag mai Bob oedd yr unig un. Tarawodd y cloc naw, a dywedodd fy mam mai gwell oedd i ni fyned i'r gwely a cheisio gorphwys; ond yr un fynyd curodd rhywun wrth y drws, ac aethum innau yn awyddus i'w agor, a gwelwn ddau o'r blaenoriaid—nage, gwelwn Thomas a Barbara Bartley, wedi methu o gydwybod fyned i'w gwelyau heb ddyfod i edrych pa fodd yr oedd fy mam yn ei helynt. Ni fuasai yn bosibl ymron i ddau mwy annhebyg i fy mam o ran tueddiadau a chymeriad ddyfod i ymweled â hi, ac eto yr oedd yn dda genym o'n calon eu gweled. Cawsom ein dau gyfleusdra i arllwys allan y gofid oedd wedi bod yn croni ynom er ys pedair awr ar hugain. Yr oedd Thomas a Barbara wedi bod yn y ''Crown'', ac wedi cael holl fanylion yr helynt. Arosasant gyda ni am oriau lawer, Yn awr, wrth i mi adgofio yr ymgom a gymerodd le rhwng y tri, yr wyf yn meddwl ei bod yn un o'r pethau rhyfeddaf a digrifaf a glywais erioed, er nad oedd felly i mi yr adeg hono. Ac oni b'ai fod y bennod hon eisoes yn rhy faith, a'r hyn yr wyf yn mynedi adrodd yn y bennod nesaf yn pwyso cymaint ar fy meddwl, buaswn yn ei chroniclo; ond ymattaliaf. Parodd eu hymweliad ollyngdod mawr ini; a gallodd fy mam a minnau gysgu y noswaith hono heb fawr feddwl fod pethau chwerwach yn ein haros. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1epsc59uacpywijnlh13cxc94rts2ot 165559 165554 2026-05-22T21:28:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165559 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymddangosai y diwrnod cyhyd ag wythnos. Agorodd fy mam yr hen Fibl mawr ddwsiniau o weithiau; ond can gynted ag a dechreuai ddarllen, llithrai ei llygaid dros ei ymylon, ac edrychai am yspaid maith i'r un cyfeiriad mewn myfyrdod prudd. Gwelwn y bobl yn myned heibio o odfa'r bore, ond ni alwodd neb. Gwelwn hwynt drachefn yn myned i'r ysgol ac yn dychwelyd, ond ni thrôdd neb i mewn i'n tŷ. Credwn yn sicr y byddai i rai o bobl y capel ddyfod i edrych am danom ar ol odfa'r nos; ond ni ddaeth neb, neu, fel y dywedai fy mam, "Ddaru neb dwllu'r drws trwy gydol y dydd." Yr oeddym yn awyddus i rywun alw, gan na wyddem pa nifer oedd wedi eu cymeryd i'r carchar, ac ofnai fy mam rhag mai Bob oedd yr unig un. Tarawodd y cloc naw, a dywedodd fy mam mai gwell oedd i ni fyned i'r gwely a cheisio gorphwys; ond yr un fynyd curodd rhywun wrth y drws, ac aethum innau yn awyddus i'w agor, a gwelwn ddau o'r blaenoriaid—nage, gwelwn Thomas a Barbara Bartley, wedi methu o gydwybod fyned i'w gwelyau heb ddyfod i edrych pa fodd yr oedd fy mam yn ei helynt. Ni fuasai yn bosibl ymron i ddau mwy annhebyg i fy mam o ran tueddiadau a chymeriad ddyfod i ymweled â hi, ac eto yr oedd yn dda genym o'n calon eu gweled. Cawsom ein dau gyfleusdra i arllwys allan y gofid oedd wedi bod yn croni ynom er ys pedair awr ar hugain. Yr oedd Thomas a Barbara wedi bod yn y ''Crown'', ac wedi cael holl fanylion yr helynt. Arosasant gyda ni am oriau lawer, Yn awr, wrth i mi adgofio yr ymgom a gymerodd le rhwng y tri, yr wyf yn meddwl ei bod yn un o'r pethau rhyfeddaf a digrifaf a glywais erioed, er nad oedd felly i mi yr adeg hono. Ac oni b'ai fod y bennod hon eisoes yn rhy faith, a'r hyn yr wyf yn mynedi adrodd yn y bennod nesaf yn pwyso cymaint ar fy meddwl, buaswn yn ei chroniclo; ond ymattaliaf. Parodd eu hymweliad ollyngdod mawr ini; a gallodd fy mam a minnau gysgu y noswaith hono heb fawr feddwl fod pethau chwerwach yn ein haros. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> to4u7kal1pkol1esttsafl1sacqo9fy Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/128 104 85409 165561 2026-05-22T21:38:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165561 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XVII.<br>Ychwaneg o Brofedigaethau.}}}} O'r braidd y gallaf berswadio fy hun mai adrodd yr ydwyf ffeithiau ynglŷn â fy hanes, ac nid creadigaethau ymdaith yr enaid. Bore dydd Llun ydoedd, ac yr oedd fy mam er ys oriau yn eistedd yn synfyfyriol o flaen y tân, gan bletio ei ffedog. Cefais ganiatâd rhwydd i fyned i'r dref i weled beth a ddeuai o fy mrawd, a'r pump eraill a gymerwyd i'r carchar. Yr oedd ystrydoedd y dref yn hanner llawn o bobl awyddus a dysgwylgar i'r llys agor. Cyn i mi fod nemawr o fynydau yn y dref, deuwyd o hydi mi gan fy nghydymaith Wil Bryan. Yr oedd efe bob amser yn dyfod o hyd i mi. Deuthum i ddeall yn fuan fod tipyn o ddyddordeb yn cael ei gymeryd ynof, am fy mod yn frawd i un o'r carcharorion, a'r un mwyaf pwysig o honynt ar rai cyfrifon. Cyfarfyddais â rhai o gyfeillion Bob, y rhai a ymholent pa fodd yr oedd fy mam, ac a roisant i mi bob un geiniog. Dywedodd Wil wrthyf, "Cymer ofal o'r ceinioge ene—mi fyddan reit ''handi just'' rwan." Nid oeddwn yn ei ddeall, ac yr oeddwn yn rhy brudd i ofyn am eglurhâd; ond rhoddwn y credyd iddo bob amser o allu gweled ymhellach na mi. Yn y man, tarewais ar eraill o gyfeillion fy mrawd, a chefais ychwaneg o geiniogau, hyd i bump. Ni bûm erioed hyd hyny mor gyfoethog. Perchenogai Wil un geiniog o'i eiddo ei hun, ac annogai efe i ni gydgorffori ein heiddo. Trosglwyddais iddo fy mhum' ceiniog, oblegid nid oeddwn yn gofalu am danynt gan mor brudd oeddwn; ac yr oedd fy ffydd yn ngonestrwydd Wil yn ddiderfyn. Nid cynt y cafodd efe y ceiniogau i'w law nag y llithrodd i siop oedd yn gwerthu pork pies: a thybiais ei fod yn myned i wario ein heiddo am y nwydd hwnw, ac nid oedd genyf wrthwynebiad iddo wneyd hyny. Pan ddaeth Wil allan o'r siop, cefais fy siomi wrth ei weled yn dangos ar gledr ei law chwe' cheiniog gwyn yn gyfnewid am y ceiniogau; a chan roddi winc deallgar arnaf, yn ei roddi yn ofalus yn mhoced ei wasgod. Yr oeddwn o hyd yn y tywyllwch pa beth a fwriadai Wil wneyd â'r chwe' cheiniog; ac nid wyf yn sicr nad oeddwn yn lled dybied ei fod ef yn pwrpasu ei ddefnyddio i logi twrne i amddiffyn fy mrawd.<noinclude><references/></noinclude> 4h775vvj6uu98996d7kwywwxsqty2bx Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/129 104 85410 165562 2026-05-22T21:39:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165562 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ychydig a wyddwn i y pryd hwnw am ''charges'' rhesymol y dosbarth gonest hwnw o'r hil ddynol! Yr oeddwn yn hollol yn llaw Wil i wneyd fel a fynai a fi a fy eiddo, pryd y gwelwn gryn gynhwrf, yr hwn a achosid gan ymddangosiad gŵr y Plâs yn gyru yn gyflym yn ei gerbyd tua'r llys. Efe oedd y prif ustus heddwch. Cyn i fy nghyfaill a minnau allu cyrhaedd y fan, yr oedd yr adeilad eang wedi ei llenwi yn dyn, a chanoedd o bobl fel finnau yn methu cael mynediad i mewn. O bobtu'r drws yr oedd dau heddgeidwad—corffolaeth o awdurdod yn dadgan yn bendant fod pob modfedd o'r adeilad wedi ei gorlenwi. Ond dywedodd Wil yn fy nghlust, "Yr ydan ni yn bound o gael myn'd i mewn." Nid oeddwn yn gweled pa fodd yr oedd efe yn gallu gobeithio am hyny. Ymhen enyd, dechreuodd y dorf lacio tipyn, ac ymwthiodd Wil a minnau i gymydogaeth cob lâs yr heddgeidwad. Yr oeddym yn union wedi gallu cyrhaedd at y drws. Gorfu i Wil dynu fwy nag unwaith yn y labet cyn galw sylw ei pherchenog. Yn y man gwyrodd yr heddgeidwad ei ben; siaradodd Wil ychydig eiriau yn ei glust, agorodd y swyddog ei lygaid mewn syndod fel pe buasai yn derbyn newydd rhyfedd ysgydwodd y ddau ddwylaw, a'r foment nesaf yr oedd Wil a minnau wedi ein gollwng i mewn, tra yr oedd cannoedd o ddynion cryfion wedi eu gadael allan. Ond gwyddwn fod ein cyd-eiddo wedi newid dwylaw. Sôn a wna yr Americaniaid am yr "almighty dollar!" Twt! gellid ysgrifenu llyfr ar allu gwyrthiol y chwe' cheiniog! Yr oedd Wil wedi cael allan mor fore a hyn mai chwe' cheiniog oedd yr arwyddair—yr "open sesame "—i bobman. Yn yr amgylchiad presennol, teimlwn fod fy nghyfaill wedi suddo ein cyd-eiddo i ddybenion rhagorol; a phe buasai yn chwe' swllt ni fuaswn yn grwgnach. Gwelais yn fuan mai gwir a ddywedodd yr heddgeidwad fod yr adeilad wedi ei gorlenwi. Ond ni chafodd Wil lawer o anhawsder i ddwyn ei hunan a minnau i sefyllfa gyfleus yn y neuadd i allu gweled a chlywed pobpeth. Gwthiai fi o'i flaen fel wedge i agor y gynnulleidfa, a phan gaffai hyny yn anhawdd, dywedai wrth y rhai oedd ar ein ffordd, a chryn bwysigrwydd yn ei edrychiad, "Brawd Robert Lewis; brawd Robert Lewis!" a chyda'r gair yr oedd y bobl yn gwneyd llwybr i ni i fyned heibio yn union, fel pe buaswn yn myned i roddi tystiolaeth yn yr achos. Nid oedd terfyn ar ddyfeisiau Wil.<noinclude><references/></noinclude> rnbvhaosmyhvcuor7kn7j5mgcmopmbw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/130 104 85411 165563 2026-05-22T21:41:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165563 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwyddwn fod Mr. Strangle wedi dychwelyd ychydig oriau ar ol iddo gael ei anfon ymaith; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a welwn yn y llys; ac edrychai yn sarug a herfeiddiol. Ar y fainc, eisteddai Mr. Brown y person, a gŵr y Plas. Fel y sylwais o'r blaen, gŵr rhadlawn a charedig oedd Mr. Brown; ond cwbl wahanol ydoedd cymeriad gŵr y Plas. Dyn mawr, afrosgo, meistrolgar, ac annhrugarog oedd efe. Tybiai, gellid meddwl, fod pawb a phobpeth wedi eu creu i'w wasanaethu ef; a chredid pe buasai y gyfraith yn caniatâu, na fuasai yn petruso crogi dyn am ladd pheasant. Yr oedd gerwindeb ei natur fileinig fel pe buasai wedi ei dyfrhâu-neu yn hytrach ei gwînhâu-yn rhy fynych, ac mewn canlyniad wedi gordyfu trwy groen ei wyneb, yr hwn a ymddangosai fel darn anmrwd o ''American beef''. Addurnid (?) ei wyneb a chlamp o drwyn mawr, yn yr hwn yr oedd math o gryndod parhaus, a thrwy yr hwn yr oedd ei berchenog, pan fyddai wedi ei gynhyrfu, yn ffroeni fel rhyfelfarch. Methwyd erioed a chael allan pa gymhwysderau eraill a osododd ŵr y Plas ar y fainc farnol, heblaw ei fod yn Dori rhonc, yn Eglwyswr zelog, yn ŵr cyfoethog, a'r ffaith ei fod bob amser yn gwisgo yspardynau oddieithr pan fyddai yn ei wely. Addefai hyd yn nôd Mr. Brown fod arno ei arswyd; a sylwais fy hunan pan fyddai y gŵr tirion a pharchedig yn ymddiddan âg ef ar yr heol ei fod yn barhâus yn edrych yn ammheus ac yn wyliadwrus ar yr yspardynau, fel pe buasai yn ofni i'r gwisgwr neidio yn sydyn ar ei gefn a'i yru i'r {{bar|2}} wel, i'r lle yr oedd y gwisgwr ei hun yn myned yn gyflym, ysywaeth. Ymddangosai y bore Llun hwnw "yn ei figwrn," fel y dywedai Wil Bryan. Yr oedd cael ychydig o'r glöwyr druain o'i flaen yn ysglyfaeth flasus ganddo, am y credai eu bod oll yn herwhelwyr. Gwyddai y rhai a fynent wybod nad oedd ond tri o'r chwe charcharor oedd o'i flaen wedi cymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Mr. Strangle. Ymdrechasai Morris Hughes, John Powell, a fy mrawd, attal y ffolineb. Ond tystiai Mr. Strangle a'r ddau heddgeidwad fod y tri yn benaf gwŷr yn y gwaith anfad; ac er na ddeallai y goruchwyliwr na'r heddgeidwaid air o Gymraeg, cymerent eu llw mai Bob oedd wedi annog yr ymgyrch, oblegid, meddent, clywsent ef yn enwi Mr. Strangle pan ruthrwyd arno gan y gweithwyr. Nid oedd gan y carcharorion neb i'w hamddiffyn, a hyny o herwydd ystyfnigrwydd fy mrawd. Ni fynai ef neb i'w amddiffyn, a dilynwyd ei esiampl gan y lleill. Derbyniai<noinclude><references/></noinclude> 76rs9qkalq97nih8iy544pdvud57f84 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/131 104 85412 165564 2026-05-22T21:45:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165564 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gŵr y Plâs dystiolaeth y swyddogion yn chwannog; ac nid oedd dim yn rhy ddrwg ganddo i'w gredu am y cyhuddedigion. Wedi iddo wrando y tystiolaethau, gofynodd o ran ffurf i'r carcharorion a oedd ganddynt ryw amddiffyniad i'w wneyd. Wrth gwrs, nid oedd gan dri o honynt ddim i'w ddyweyd, oblegid yr oeddynt yn eithaf euog o'r trosedd y cyhuddid hwy o hono; ac nid oedd Morris Hughes na John Powell yn rhyw fedrus iawn ar siarad—yn enwedig yn Saesonaeg. Ar ol eiliad neu ddau o ddystawrwydd, dywedodd Bob ei fod ef yn ateb drosto ei hun—ei fod yn hollol ddieuog o gymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Mr. Strangle, ac nid hyny yn unig, ond ei fod wedi gwneyd ei oreu i'w amddiffyn, ac mai hyny yr oedd yn ei wneyd pryd y tarawyd ef gan yr heddgeidwad. Ar hyn gwênodd gŵr y Plas yn wawdlyd, ac ebe efe. "A ydych yn disgwyl i'r Fainc gredu peth fel yna ar ol yr holl dystiolaethau a wrandawyd?" "Digon prin yr wyf yn dysgwyl i'r Fainc gredu dim a ddywedaf fi," ebai Bob, "am y rheswm fy mod yn dyweyd y gwir; a phe buasai o ryw ddyben, gallaswn ddwyn amryw o lygaid-dystion mai gwir yr wyf yn ei ddywedyd." "Amryw oeddynt yn yr un bai a chwithau yn ddiammheu," ebai gŵr y Plas yn ddirmygus. "Pe gwrandawem arnoch chwi, ni wnaethoch ddim o'i le; ni ddywedasoch erioed anwiredd. Ond yr ydym yn dygwydd gwybod rhywbeth o'ch hanes cyn heddyw. Ydym siŵr! Yr ydych chwi, siŵr, eisieu gwneyd y meistriaid yn weithwyr a'r gweithwyr yn feistriaid. Ond aroswch dipyn! Nia gawn weled yn union deg pa fodd y mae gwneyd areithiau yn talu. Yr ydym wedi clywed am danoch chwi o'r blaen; ac yr ydym yn adnabod eich teulu chwi, ŵr ifanc, cyn heddyw." "Nid oes a wnelo fy nheulu ddim â'r cyhuddiad a roddir yn fy erbyn i heddyw, ebe Bob. "Yr ydym ni yn dyweyd fod a wnelo fo bobpeth," ebe'r ustus. "Os felly, gwell fyddai i chwi gyrchu fy mam yma," ebe Bob. "Na," ebe'r ustus, "yr ydych chwi yn llawn ddigon; nid oes arnom anghen am hen wragedd yma." "Beth a wyddwn i," ebe Bob yn ysgoegaidd, "nad oedd arnoch anghen am un arall ar y Fainc?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ax43tbf45x6hxuwp7sqkmony7cae4zb Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/132 104 85413 165565 2026-05-22T21:46:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165565 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cynghorasai fy mam lawer ar Bob i ddysgu attal ei dafod; ond yr oedd y dasg yn rhy galed iddo; a'r rheswm a roddai efe bob amser iddi am ei anallu a fyddai, ei fod yn fai oedd yn perthyn i'r teulu. Wedi i ŵr y Plas siarad gair neu ddau yn gyfrinachol â Mr. Brown, yr hwn a edrychai yn ufudd-ofnus yn ei lygaid, ebe efe, "Nid ydyw y Fainc yn gweled fod un anghenrheidrwydd am remand; mae y tystiolaethau yn ddigonol gan y Fainc. Mae y Fainc yn gofidio na buasai ychwaneg o'r dyhirod wedi eu dwyn o'u blaen i dderbyn yr hyn a haeddant; ond y mae y Fainc yn penderfynu gwneyd esiampl o'r rhai a ddygwyd ger ei bron. Ac y mae'r Fainc yn penderfynu dangos mai y meistr sydd i fod yn feistr, ac mai gweithiwr ydyw y gweithiwr i fod. Ac y mae'r Fainc am ddangos i'r glöwyr nad ydynt i gymeryd y gyfraith yn eu llaw eu hunain, a bod dynion cymhwys wedi eu gosod i weinyddu y gyfraith. Ac y mae'r Fainc yn penderfynu dangos fod y gyfraith yn gryfach na'r glöwyr, gan nad pa mor liosog ydynt. Ac felly mae y Fainc yn dedfrydu pump o honoch, sef Morris Hughes, John Powell, Simon Edwards, Griffith Roberts, a John Peters, i un mis o garchar gyda llafur caled, a Robert Lewis i ddau fis o garchar gyda llafur caled, am fod y Fainc yn credu mai efe ydyw y prif gynhyrfwr. Ac y mae'r Fainc yn hyderu y bydd hyn yn rhybudd, nid yn unig i'r carcharorion, ond i eraill a ddylasent fod yn yr un sefyllfa a hwynt, y rhai sydd yr un mor euog, nid yn unig o greu cynhwrf a thori y gyfraith yn y wêdd yma, ond hyd yn nôd o herwhela ar ystadiau boneddigion." Càn gynted ag y traddodwyd y ddedfryd, dechreuodd pawb yn y llys ymwâu drwy eu gilydd fel gwenyn; ac yr oedd cynhwrf y bobl yn myned allan, ac yn siarad, mor uchel, fel mai prin y gallwn glywed fy hunan yn crio, yr hyn a wnaethum i bwrpas. Cydymdeimlai Wil â mi yn fawr, a gwnaeth ei oreu i fy nyddanu. Mor ddwys oedd fy ngofid fel nad allai fy nghyfaill am fynyd ddyfeisio pa fodd i'w liniaru. Y fynyd nesaf, tarawyd ef gan feddwl sydyn, ac estynodd i mi ei holl eiddo, sef, ei gyllell boced; a dywedodd gyda phwyslais ei fod yn ei rhoddi i mi am byth. Mae y gyllell genyf hyd heddyw; ac er nad ydyw yn werth chwe' cheiniog, yr wyf yn ei<noinclude><references/></noinclude> bp4ql5eocyniz044156hwvv0gvvh7nu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/133 104 85414 165566 2026-05-22T21:48:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165566 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhestru gyda hatling y wraig weddw, ac yn ei phrisio fel aberth calon lawn o gydymdeimlad diragrith, ac ni fynwn er llawer ymadael â hi. Yr oedd y dyddordeb a deimlid yn y carcharorion i'w weled yn maint y gynnulleidfa oedd erbyn hyn tu allan i'r llys, yr hon oedd yn anfoddlawn i ymadael nes cael yr olwg olaf arnynt yn cael eu cymeryd i garchar y Sir. Gallaf sicrhau fod mwyafrif mawr gweithwyr y Caeau Cochion yn ddynion sobr, diwyd, a moesol; ond yn eu plith hwythau, fel y mae yn dygwydd yn gyffredin mewn gweithfeydd mawrion, yr oedd amryw o ddynion dibris o'u cymeriad, a thueddol i yfed i ormodedd; a'r gresyn ydyw fod y dosbarth goreu yn fynych yn cael anair o'u herwydd. Y bore hwnw yr oedd y dynion dibris y cyfeiriwyd atynt wedi bod yn yslotian hyd y tafarndai, ac yn waeth eu hwyl a'u tymher o'r herwydd. Ond gwelaf fy mod o hyd yn llithro i fanylu, er i mi addaw i mi fy hun na wnawn hyny. Pa fodd y bu i rai o'r glöwyr ymosod yn ffyrnig ar yr heddlu pan oeddynt wrth eu dyledswydd yn cymeryd fy mrawd a'i gymdeithion i'r carchar pa fodd y bu i'r troseddwyr hyny drachefn gael eu cymeryd i fyny, eu profi a'u cael yn euog—pa fodd y bu i'r milwyr gael eu galw allan, ac iddynt hwythau gael ymosod arnynt a'u clwyfo—a pha fodd y bu i'r milwyr dan brofedigaeth lem agor tân ar yr ymosodwyr, a lladd amryw, ac yn y blaenni pherthyn i mi adrodd, gan nad oes a wnelo hyny â fy hanes. Gallaf ddyweyd cymaint a hyn; pan oedd y cynhwrf yn ei bwynt uchaf, yr oedd cydymdeimlad y mwyafrif, ac yn eu plith rai gwŷr goleubwyll, yn ffafr y glöwyr; ond wedi i bethau dawelu, ac wedi cael egwyl i edrych yn bwyllog ar yr amgylchiadau, yr oedd yr un rhai yn gorfod cydnabod annoethineb ac anfoesoldeb yr holl helynt, ac yn gorfod teimlo hefyd gydag arswyd i ba fath eithafion dychrynllyd y gall hyd yn nôd pobl synwyrol a chrefyddol gael eu harwain pan lywodraethir hwynt gan eu tymherau, ac nid gan reswm a grâs. Côf genyf fod arnaf ofn myned adref wrth feddwl am brofedigaeth fy mam o herwydd y gwarth a ddygwyd arnom; oblegid gwyddwn fod rhywun eisoes wedi ei hysbysu am yr hyn a ddigwyddasai i fy mrawd. Ofnwn y byddai yn angeu iddi. Ond yn hyn siomwyd fi o'r ochr oreu; a da genyf adgofio y diwrnod hwnw fel prawf o'r hyn a all gwir grefydd ei fforddio i'w pherchenog yn nydd trallod. Pan oeddwn yn myned i'r tŷ, cyfarfyddais a dwy gymydoges yn dyfod<noinclude><references/></noinclude> oq265ub29keliopy3l9r4yvruysbutu Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/134 104 85415 165567 2026-05-22T21:49:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165567 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>allan wedi bod yn cysuro fy mam. Canfyddwn ar ruddiau fy mam ôl wylo mawr; ond synwyd fi yn anferth wrth ei gweled mor gysurus. Yr oedd y wên oedd ar ei hwynebpryd fel y bwa yn y cwmwl ar ol cawod o wlaw trwm, ac yn dangos yn eglur i mi nad oedd Duw wedi anghofio ei gyfammod â hi. Yr wyf yn meddwl y gallaf gofio yn gywir yr hyn a ddywedodd wrthyf y prydnawn hwnw. Ymhlith pethau eraill, ebe hi, "Wel, fy machgen, y mae hi yn myn'd yn waethwaeth arnom ni o hyd. Ond y mae rhwbeth yn deyd wrthai y daw gole yn fuan. Po dwlla'r nos, agosa'r wawr, a tyna bo'r llinyn cynta y tyr. Mae a fyno yr Arglwydd, mi greda, rwbeth a hyn. Mae yn rhaid twmo y ffwrnes yn saith poethach ar amserau cyn y daw dull y Pedwerydd i'r golwg Ond ddaru i mi ddim dychymygu y base hi yn dwad mor dost ar dy frawd; ond dydw i'n meddwl dim llai o hono fo am hyny. Mi wn fod o yn ddieuog, achos ddeudodd o erioed anwiredd wrtha i, ac y mae ei waeth ganwaith â'u traed yn rhyddion. Er yn blentyn yr oedd o yn rhy barod hefo'i dafod, a'r holl helynt gês i hefo fo oedd pan fydde fo yn deyd gormod o wir. 'Roedd o dipyn yn rhy benderfynol yn ei feddwl, a dyna'r achos iddo fo adel y seiat. Ond yr oedd o'n byw yn well na llawer o honom ni sydd yn proffesu. Pwy ŵyr nad amcan y Brenin Mawr drwy'r cwbl ydi gael o'n ol, a dangos iddo fo fod o wedi colli'r cysgod a'r amddiffyn?" Yr wyf wedi sylwi byth er hyny fod y fam, pan oddiweddir ei bachgen gan warthrudd, yr un modd a phan oddiweddir ef gan angeu, yn anghofio ei holl feïau, ac yn ymbleseru wrth ddwyn i'r amlwg ei rinweddau. "Mi fydde yn o anodd gen i feddwl," ychwanegai fy mam, "nad ydi Bob yn gristion. Os nad ydi o yn y tŷ, mae o'n perthyn i'r teulu, yr ydw i'n o siŵr, ac hwyrach mai o wlad bell y cachar y codiff hiraeth arno am dŷ ei Dad. Fath olwg oedd arno fo, dywed? Oedd o'n edrach yn symol? A mi roedd o? Rhyfedd fel y mae'n gallu cymyd pobpeth mor dawel. Mi wn o'r gore be sy'n blino mwya ar 'i feddwl o—a hyny ydi be ddaw o honom n'in dau—sut y cawn ni damed, achos fu rioed fachgen ffondiach o'i fam, 'y ngwas gwirion i!" Yn y fan hon torodd fy mam i wylo, a chynnorthwyais innau hi yn y gorchwyl. Wedi ymdawelu, ebe hi,— {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 8zetav3ik3n4wqb7axpbvu6rqd5cyi3 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/135 104 85416 165568 2026-05-22T21:49:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165568 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ydyn nhw yn cael Beibil yn ''jail'', dywed? A mae nhw! Mae'n dda gen i glywed; ond o ran hyny mae Bob yn gwbod digon o Feibil i gnoi ei gîl arno fo am ddeufis beth bynag. Y peth sy'n fy fecsio i fwya ydi na faswn i wedi cael golwg arno fo. Roedd o'n edrach dipyn yn oer yna' i beidio myn'd i'r hall, ond faswn i yn y myw yn codi allan rwfodd. Wyt ti'n meddwl y cae o lythyr bydâe ni'n sgrifenu? A mi rwyt ti? Wel da i ddim i gysgu heno nes i ti yru gair ato fo. Mae'n dda gen i dy fod yn dipyn o slaig, achos does dim eisio i bawb wbod y'n seiens ni." Yna bu raid i mi fyned ati i ysgrifenu llythyr. Ar annogaeth fy mam ysgrifenais ef i ddechre ar ddalen wâg o copy book, "rhag ofn," ebe hi, " y byddwn ni eisio i altro fo." Mae y copi hwnw yn fy meddiant yn awr, ac hwyrach nad allaf wneyd yn well na gorphen y bennod hon trwy ei adysgrifio. Nid oes dim neillduol yn ei gynnwysiad; ond yr hyn sydd yn ei wneyd yn werthfawr i mi ydyw y profion sydd ynddo o gydnabyddiaeth fy mam a'r Bibl. Mae yn gu genyf gofio na ddarfu iddi, tra yn geirio y llythyr i mi, ymgynghori gymaint ag unwaith â'r Gair, er ei bod yn enwi y bennod a'r adnod wrth ei ddefnyddio. Rhoddaf ef i lawr yn gymhwys fel y geiriodd hi ef oddieithr ychydig gywiriadau yn y weriniaith lle y mae y meddwl yn aneglur. "Anwyl Fachgen, Yr ydw i'n sgrifenu hyn o leinia atat ti gan obeithio dy fod yn iach fel yr ydan ninne. Yr ydw i yn teimlo yn gymysglyd ac yn bethma iawn, a mi wn mai felly rwyt tithe. Mae fy ymadrodd heddyw yn chwerw—Job y drydedd bennod ar hugen a'r ail adnod. Ond pwy a ddywed y bydd dim heb i'r Arglwydd ei orchymyn —Galarnad y drydedd bennod a'r eilfed adnod ar bymtheg ar hugen. Mi wn o'r gore y byddi di yn trwblo dy feddwl am danom ni fel y byddwn ninne am danat tithe; ond yr ydw i yn gobeithio y gwyddost di i ble i droi, fel yr oeddet ti yn deyd y gwyddwn i pan oeddet ti'n gadel y tŷ nos Sadwrn. A galw arnaf fi yn nydd trallod, mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi—y ddegfed Salm a deugain a'r bymthegfed adnod. Os nad ydw i'n twyllo fy hun yn fawr, yr ydw i'n meddwl y mod i wedi cael cyflawniad o'r addewid ene heddyw, Anwyl fachgen, mae gen i ofn garw i ti roi dy galon i lawr a cholli dy iechyd, am i ti gael dy roi yn ''jail'' ar gam. Hwyrach<noinclude><references/></noinclude> 7akbskfflcl9u3ghgs1a7lh40ddp1a6 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/136 104 85417 165569 2026-05-22T21:50:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165569 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y bydd o yn rhw swcwr i ti gofio am y rhai hyny y mae y sgrythyr yn son am danyn nhw gafodd eu rhoi yn y carchar ar gam fel tithe, ac y darfu i'r Arglwydd ddangos ar ol hyny nad oeddan nhw ddim wedi haeddu bod yno. Os cei di hamdden tro i'r mane canlynol, Genesis y bedwaredd bennod ar bymtheg ar hugen. Actau y bummed bennod, a'r wythfed, a'r unfed bennod ar bymtheg. A chofia hefyd mai o garchar ac o farn y cymerwyd EF. Y drydedd bennod ar ddeg a deugan o Esaiah a'r wythfed adnod. Mi wyddost yr helynt y bum ynddo hefo dy dad: ond y mae'r helynt heddyw yn bur wahanol. Yr ydw i yn lled siwr os daru i ti fisio tipyn dy fod ti yn eitha gonest, a bod dy gydwybod yn dawel fel roeddat ti yn deyd; ac os bydd hyny yn rhwbeth gynat ti i feddwl am dano, er dy fod yn y ''jail'', 'dwyt ti fymryn gwaeth yn ngolwg dy fam, ac mi obeithia nad wyt ti'n waeth yn ngolwg dy Brynwr chwaith. 'Run pryd, yr ydw i yn gobeithio yn fawr y doi di i weled 'rwan dy fod wedi digio Gwr y tŷ am adael y seiat; acer y mod i yn credu nad 'dwyt ti 'namser yn ddiarth i bethe mawr yr efengyl; yr ydw i yn hyderu y ca' i dy weled, ar ol i bethe dawelu, yn troi dy wyneb i'r cysgod. Anwyl fachgen, mae'r gwynt yn gry' a'r tone yn codi; ond os down i trwy hyny i waeddi ar y Meistar i'n cadw, pobpeth yn dda. Darllen yr wythfed o Luc, a'r wythfed o'r Rhufeiniaid. Os caiff Morris Hughes a tithe fod hefoch gilydd, fydde fo harm yn y byd i ch'i roi tiwn ambell dro, fel y daru i Paul a Silas gynt, a wn i am yr un pennill gwell i chi' nag un Ann Griffis.{{bar|1}} {{c|"Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod,<br>Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth."}} Mi wyddost sut y mae o'n gorphen, a phwy wyr na chewch ch'i hwyl wrth ganu am y Gwr a'r wyntyll yn ei law? Pared Duw mai felly byddo? Mi faswn yn leicio deyd parsel o bethe wrthat ti; ond rhaid rhoi pen. Cadw dy ysbryd i fyny; dydi dau fis ddim llawer, mi ddôn i ben yn fuan. Gweddïa ddydd a nos; ac os byddan nhw yn dy rwystro di i ddarllen, fedr neb dy rwystro i weddio. Yn y meddwl i yr oeddat ti yn syffisiant o fachgen o'r blaen, heblaw un peth; ond y mae rhwbeth yn deyd wrtha i y byddi yn well dyn byth ar ol yr helynt hwn. Yr ydan ni yn cofio atat ti yn arw iawn. Hyn yn fyr oddiwrth dy anwyl fam a brawd, {{c|MARY A RHYS LEWIS.}}<noinclude><references/></noinclude> qro3dv2v9zfrkyztlbp13wjr77gwaei Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/137 104 85418 165570 2026-05-22T21:51:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165570 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi i mi ei adysgrifenu a'i ddarllen lawer gwaith drosodd i fy mam, rhoddais ef yn ofalus mewn ''envelope'', a chyfeiriais ef; ond mynodd fy mam i mi roddi haste ar ei gongl; ac o herwydd nad oedd ganddi lawer o ffydd mewn gum, mynodd hefyd ychwanegu cŵyr coch a gosod argraff ei gwnïadur arno. Wedi gorphen y cyfan, ymddangosai yn dawel ac ymroddol i drefn Rhagluniaeth. Pa fodd y bu i garchariad fy mrawd effeithio ar ein hamgylchia dau, a ffurfio cyfnod yn fy hanes, fydd pwnc y bennod nesaf. <br> <section begin="aaa"/>## bbb ##<section end="aaa"/><noinclude><references/></noinclude> jib5bd1cy1wdg3onfz8f6mz2m01d3k7 165571 165570 2026-05-22T22:14:17Z AlwynapHuw 1710 165571 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wedi i mi ei adysgrifenu a'i ddarllen lawer gwaith drosodd i fy mam, rhoddais ef yn ofalus mewn ''envelope'', a chyfeiriais ef; ond mynodd fy mam i mi roddi haste ar ei gongl; ac o herwydd nad oedd ganddi lawer o ffydd mewn gum, mynodd hefyd ychwanegu cŵyr coch a gosod argraff ei gwnïadur arno. Wedi gorphen y cyfan, ymddangosai yn dawel ac ymroddol i drefn Rhagluniaeth. Pa fodd y bu i garchariad fy mrawd effeithio ar ein hamgylchia dau, a ffurfio cyfnod yn fy hanes, fydd pwnc y bennod nesaf. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XVIII.<br>Thomas a Barbara Bartley.}}}} WRTH edrych yn ol at gyfnod fy machgendod, teimlwyf ei fod wedi myned heibio heb i mi fwynhau ond ychydig o'r hoenusrwydd diofal hwnw sydd yn syrthio i ran agos bob bachgen, gan nad beth fyddo sefyllfa ei deulu. Hyd yn nôd pan na wyddwn am anghen a helbul yn fy nghartref, yr oedd manyldeb Puritanaidd fy mam yn gosod terfyn ar fy chwareuon, rhif ar fy nghymdeithion, a mesur ar fy nifyrwch. Yr oedd rhyw fath o wybodaeth am " gwymp dyn," "у ddau gyfammod," a phynciau cyffelyb, yn cael ei phwyo i fy mhen pryd y dylaswn fod yn chware ''marbles''. Tra yr oedd fy nghyfoedion yn chware "dal llwynog," cedwid fi gartref i ddysgu rhanau o'r Salm fawr; ac nid rhyfedd fy mod yn salach chwareuwr na neb pan oeddwn yn ysgol Robyn y Sowldiwr, ac fod hyd yn nôd y genethod yn chwerthin ar fy mhen. Ni ddymunwn er dim a'r a welais ddyweyd gair yn anmharchus am fy mam, oblegid credaf fod ei hamcanion mor bur â phelydr y goleuni. Ond yr wyf yn ofni iddi yn ei hanwybodaeth achlysuro fy ngwendid corfforol, a'r prudd-der a'r iselder ysbryd yr wyf mor ddarostyngedig iddo, a'r hwn sydd erbyn hyn a'r amserau fel clefyd arnaf. Cyn i mi gael gorlawenu yn niniweidrwydd bachgendod, yr oeddwn wedi fy nysgu am yr etifeddiaeth a adawsai fy nhad Adda i mi, am ''ins and outs'' fy nghalon lygredig, ac am yr hen foneddwr sydd yn rhodio oddiamgylch fel llew rhuadwy. Mewn gair, yr oedd ochr dywyll y natur ddynol wedi ei <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> r429bymh9u46wfjt1li1t7i8pm22byj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/138 104 85419 165572 2026-05-22T22:15:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165572 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>phortreiadu i mi mor hagr âg y gallasai doniau fy mam ei gwneyd. Cafodd y ddysgeidiaeth ei heffaith arnaf; ac erbyn hyn nid wyf yn synu fod fy nghymdeithion yn fy llysenwi y pryd hwnw, "yr hen ddyn." Tair blwydd ar ddeg oed oeddwn pan garcharwyd fy mrawd; ond nid fel bachgen o'r oed hwnw y teimlais warth a gofid yr amgylchiad. Nid chwerwder undydd unnos ydoedd i gael ei iachâu drannoeth gan nwyfiant fy nghymdeithion chwareus. Llanwodd fy ysbryd a phrudd-der, a magodd bryf yn fy nghalon nad allai hyd yn nôd fy nghyfaill ffyddlawn a llawen Wil Bryan ei ladd. Nid yn hawdd y gallaf ddesgrifio ystâd fy meddwl. Yr oedd yn gymysgedd o gydymdeimlad pur â fy mrawd yn ei brofedigaeth, argyhoeddiad dwfn o'i ddiniweidrwydd, ynghyd ag edmygedd cynnyddol o'i gymeriad. Rhaid i mi addef fod ynof hefyd falchder clwyfedig, ysbryd ymddial, a thuedd i ffraeo a threfn Rhagluniaeth. Gwn o'r goreu nad oeddwn mewn ysbryd priodol; oblegid pan hysbyswyd fi drannoeth ar ol i fy mrawd a'i gymdeithion gael eu cymeryd i'r carchar, fod difrod arswydus wedi ei wneyd ar game Gŵr y Plas, boddhäwyd fi yn ddirfawr, er na feiddiwn ddyweyd hyny wrth fy mam. Yr oedd gwagder teimladwy ein bwthyn, o herwydd absennoldeb fy mrawd, ymron mor boenus a'r hyn a'i hachlysurodd. Hebddo ef yr oedd cartref fel corff heb enaid, a'r diffyg bywyd oedd ynddo mor amlwg ag ydyw yr ymdeimlad rhyfedd pan fo un wedi bod mewn melin am rai oriau ac i'w holwynion sefyll yn sydyn. Teimlais golli ei ymddangosiad gwrol, ei lais soniarus, a'i ffraethineb dihysbydd: ac nid oedd cartref mwyach yn gartref. Er na ddywedai hi hyny, gwyddwn mai yn gyffelyb y teimlai fy mam. Mewn ystod un diwrnod, newidiodd lliw a gwêdd ei hwyneb. Ymadawodd gweddillion gwrîd ei hieuenctyd-byth i ddychwelyd; ac o dan ei llygaid gleision argraff. odd trallod ei enw mewn llythyren ddu. Laweroedd o weithiau yn nghorff y dydd cerddai i'r drws gan edrych bob tro i'r un cyfeiriad, fel pe buasai yn gobeithio yn erbyn gobaith weled ei bachgen yn dychwelyd. Gan mor ddwfn oedd ei hargyhoeddiad o'i ddiniweidrwydd, ac anghyfiawnder ei garchariad, nid wyf yn sicr nad oedd hi yn lled ddysgwyl am ymyriad goruwchnaturiol i'w ryddhâu. Nis gwn pa un ai grym ymarferiad, ai rhywbeth arall, a barai iddi wrth barotoi pryd o fwyd ddarparu ar gyfer tri o honom; ond gwelais hi<noinclude><references/></noinclude> liirh3pdxacgx8ilricq9grbqi5z6ql Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/139 104 85420 165573 2026-05-22T22:15:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165573 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fwy nag unwaith, megys ar adeg tê, yn gosod tair cwpan ar y bwrdd, ac wedi gweled ei chamgymeriad yn cymeryd un ymaith yn ddirgel, gan feddwl nad oeddwn i yn sylwi arni. Gallwn nodi llawer o fân bethau eraill a gyflawnai, y rhai a ddangosent ystâd synfreuddwydiol ei hysbryd. Erbyn hyn yr oedd pobpeth a berthynai fel eiddo neillduol fy mrawd yn gorfod talu teyrnged iddi am ei absennoldeb. Rhwbiai y llwch oddiar ei lyfrau Saesoneg, yn erbyn y rhai yn flaenorol yr oedd ganddi ragfarn cryf; a thröai eu dalenau yn fynych er na ddeallai hi un gair o honynt. Yr wyf yn meddwl fy mod ar y pryd yn berffaith ymwybodol o ystâd ei theimladau, er nad allaf y pryd hwn ei gyfleu mewn geiriau. Nid trallod cynhyrfus ar y wyneb ydoedd, ond gofid â'i gyfeiriad ar i lawr i eigion yr enaid, ac yn cludo gydag ef holl gysylltiadau poenus yr hyn a'i hachlysurodd. Ac nid prudd-der diobaith ydoedd ychwaith, ond tristwch megys yn mesur y pellder o ddyfnder profedigaeth hyd at ffydd sefydlog yn yr Hwn sydd yn llywodraethu pobpeth. Darllenai lawer ar y Bibla siaradai yn gysurus; ond gwyddwn fod hyny yn costio ymdrech mawr iddi. Megys ar y dydd blaenorol, Thomas a Barbara Bartley oedd y rhai blaenaf i ddyfod i ymweled â ni; a theimlwn yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd. Fel y sylwais eisoes, dau hen ben syml ddiniwed oeddynt. Ymddangosent i mi bob amser yn hynod o hapus. Heblaw eu bod yn ŵr a gwraig cymharus, yr oedd tebygrwydd prydwedd a meddwl efeilliaid ynddynt. Pa beth bynag a ddywedai Thomas, yr oedd Barbara yn ei gadarnhâu gyda nod ei phen; a pha beth bynag a ddywedai Barbara, yr oedd Thomas yn ei selio gyda'i "twbi shwar." Yr oeddynt fel dau lygad ar yr un llinyn bob amser, yn edrych yr un ffordd. Bychan ydoedd cylch eu bywyd, a thua'r un faint oedd eu gwybodaeth. Planu hobed o datws, a lladd mochyn deng ugain o bwysau, oedd y ddau begwn ar ba rai y gwnai eu byd bychan ei gylchdro blynyddol. Yr oedd rhagluniaeth wrth barotoi rhaglen bywyd fel pe buasai wedi anghofio rhoddi profedigaeth ar gyfer enwau Thomas a Barbara Bartley, gyda'r eithriad o farwolaeth eu mab Seth; ac ymddangosai hwnw fel camgymeriad, a thrôdd allan yn y diwedd i berffeithio eu hapusrwydd. Yr oedd enw uchel i Thomas fel trwsiwr esgidiau, ac ni byddai byth yn brin o waith. Ystyrid ef hefyd yn gymydog<noinclude><references/></noinclude> aymxncbsqowv5mfqiqswc8cj945zs2j Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/140 104 85421 165574 2026-05-22T22:17:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165574 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhagorol. Nid oedd yn llwyrymwrthodwr, ac ni byddai byth yn meddwi oddieithr ar adegau neillduol, megys ar ddydd Llun y Sulgwyn, pan fyddai ei glwb yn cerdded. Ond hyd yn nôd yn yr amgylchiadau hyny, ni addefai Barbara fod Thomas wedi meddwi, ond yn unig ei fod wedi "cael dropyn," Credai y ddau fod ganddynt galonau da, ac fod byw yn onest yn llawn ddigon o grefydd. A diammheu eu bod yn byw i fyny a'u proffes; oblegid ni chlybuwyd i Thomas na Barbara wneyd cam â gwr yn ei fater, nac i'r blaenaf roddi gwaith anonest ar esgid. Ond nid gonestrwydd manwl ac oer oedd yr eiddynt hwy ychwaith. Nid oedd neb mor barod i wneyd cymwynasau, am y rhai, y mae yn debygol, y cymerent gredyd fel ''works of supererogation''. Wrth fyned heibio, rhaid i mi addef fy mod yn ystod fy oes fer wedi cyfarfod ag amryw o honiadau uwch a mwy ysbrydol y buasai yn dda iddynt ddyfod i fyny a chrefydd Thomas a Barbara. Ond hyn oeddwn ar fedr ei ddyweyd—daeth y ddau hen ben i ymweled â ni yn ein profedigaeth, a chafwyd ymgom faith-rhy faith i mi ei hadrodd. Gwasanaethed yr ychydig eiriau canlynol fel esiampl o'r oll. Wedi iddynt eistedd i lawr, ebe Thomas— "Wel, Mary Lewis, rydach chi mewn tipyn o helynt, on'd ydach ch'i? a mae'n ddrwg gan y nghalon i drostoch chi?" Rhoddodd Barbara nod, ystyr yr hwn oedd ''ditto''. "Mi rydw i felly, Tomos bach," ebe fy mam, "ac yr ydw i'n ddiolchgar iawn i chi am eich cydymdeimlad. Mae ei ffyrdd Ef yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd mawrion. Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch Ef —ond Efe sydd yn gwybod —." "Hoswch, hoswch, Mary bach," ebe Thomas, "rydach chi'n misio wan. On'd i'r ''jail'' y mae Bob druan wedi myn'd. Dydi o ddim wedi myn'd dros y môr at ol—dydi o ddim wedi 'i dransportio. Rydach chi â'ch pen yn y twll lludw yn y fan' ma, ac yn meddwl fod pethe yn waeth nag ydyn nhw. Cato pawb! da'th y bachgen ddim yn agos i'r môr." "Mi wn hyny yn burion, Tomos; son yr ydw i am lywodraeth y Brenin Mawr ar y byd a'i amgylchiade," ebe fy mam. "Ho! deydwch chi hyny, Mary, ebe Thomas. "Dydi Barbara na mine ddim yn gallu darllen, ac felly dydan ni'n gwybod fawr i gyd am y Brenin Mawr; a deyd y gwir i chi, fyddwn ni byth yn sôn am<noinclude><references/></noinclude> gwr17mmi6ya4kpai5yl6tj8pr919fnn Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/141 104 85422 165575 2026-05-22T22:18:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165575 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dano fo ond ar siawns pan fydd rhwfun wedi marw ne wedi cael ei ladd, rhag i ni neyd ''mistake'', wyddoch." Nodiodd Barbara ei phen i arwyddo mai gwir a ddywedai ei phriod. "Mae'n ddrwg gen i glywed hyny, Tomos," ebe fy mam; "fe ddyle pawb o honon ni feddwl a són llawer am y Brenin Mawr, gan mai ynddo Ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod. Fel hyn yr oedd y Salmydd yn deyd, Tomos, Bydd melus fy myfyrdod am dano.' Ac mewn lle arall medde fo,— Hwyr a bore, a hanner dydd y gweddiaf a byddaf daer, ac efe a glyw fy lleferydd. A bydae nine yn debycach i'r Salmydd mi fydden yn nês i'n lle, Tomos bach." "Wel yn wirionedd. Mary, mae Barbara a mine yn trio byw mor agos byth i'n lle ag y medrwn ni, on'd ydan ni, Barbara?" Rhoddodd Barbara nod o gadarnhâd. "Mi wn eich bod felly o ran byw yn onest a disên am-danoch," ebe fy mam. "Ond y mae crefydd yn ein dysgu ni fod eisio rhwbeth mwy na hyny cyn yr awn ni i mewn i'r bywyd, Tomos bach." "Wel, be well fedrwn ni neyd, Mary, na byw yn onest? Mae gen i galon dda, mi gymra fy llw, a mae'n well gen i neyd cymwynas na pheidio, os bydd o yn y ngallu i—on'd ydi, Barbara? (Nod). A fydda i byth yn dal dig at neb, a fydda i, Barbara? (Nod). Ac am grefydd, rydw i'n ych gwel'd chi y crefyddwrs yma yn waeth ych off na neb. Dyma chi, Mary, rydach chi'n proffesu er's pan ydw i'n ych cofio chi, a bob amser yn sên am grefydd, a'r Brenin Mawr a'r byd arall a phethe felly; a phwy sydd wedi cael mwy o flinder na chi? Mi fase rhwfun yn meddwl fod chi wedi cael digon o flinder hefoch gŵr—a dyma chi eto mewn helynt dros ych pen a'ch clustie. A dene Bob—un o'r bechgyn clenia a wisgodd ''flucher'' erioed—pan ddoe o acw i gael trwsio 'i sgidie roedd o bob amser yn sôn am grefydd—a dene fo heddyw yn waeth ei ''off'' na neb. Mi fum i'n deyd wrth Bob—os peth fel ene ydi crefydd—nad ydw i ddim yn dallt y Brenin Mawr at ol. Rydw i yn eich gweld chi'n wastad mewn helbul â'ch pene yn ych ply." "Dydi crefydd ddim yn addaw cadw dyn rhag profedigaethau, Tomos," ebe fy mam, "ac wn i ddim nad oes tipyn o wir yn y peth yr ydach chi'n ddeyd—fod crefyddwyr yn cael mwy o helyntion na phobl eraill. Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau,' medde'r Salmydd. Yn y byd gorthrymder a gewch,'<noinclude><references/></noinclude> m45xzno49s5xc7y3bk3vy6cdv7mwu2c Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/142 104 85423 165576 2026-05-22T22:19:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165576 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>medde'r Gwaredwr. Ac y mae Paul, yn yr Actau, yn deyd mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw.' Y pwnc mawr i chi a mine, Tomos, ydi fod y gorthrymderau yn ein sancteiddio ni, a gallu cydnabod llaw'r Arglwydd ynddynt oll, a pheidio gadael i'n hysbrydoedd syrthio i ormod tristwch." "Mae nhw'n deyd i mi, Mary," ebe Thomas, "nad oes dim byd gwell i godi sbrydoedd na—be ma nhw'n i alw fo—y peth mae nhw yn werthu yn shop y drygist—be ydi enw fo Barbara?" "Asiffeta," ebe Barbara. "Twbi shwar," ebe Thomas, "Bydae chin cael cnegwarth o siffeta, cnegwarth o ddrops y cryd melyn, a chnegwarth o denti riwbob, does dim byd well i godi sbrydoedd, meddan nhw, Mary. Ddaru mi rioed i dreio fo fy hun—cymyd dropyn o ddiod ddaru mi yn yr helynt hefo Seth, a mi nâth les mawr i mi—roeddwn i'n gallu crio yn well o lawer, synwn i ddim na nae o les i chithe, Mary. Roedd Barbara eisio dwad efo dropyn yn 'i phoced i chi; ond roeddwn i'n deyd wrthi hi na chymech chi mono fo—rydach chi y crefyddwrs yma mor od hefo pethe felly." "Yr ydw i yn gobeithio, Tomos," ebe fy mam, "fy mod erbyn hyn yn gwybod am well reset i godi sbrydoedd na dim ag sydd yn cael ei werthu yn siop y drygist nac yn y dafarn. Yn 'y meddwl i Tomos, does dim ond y triagl o Gilead, ac eli o Galfaria a all godi ysbryd cystuddiedig." "Siwr iawn, gobeithio na dydi o ddim yn ddrud—nid 'run peth neiff fendio pawb—mi fydda i'n wastad yn deyd hyny, mae Barbara yn gwbod," ebe Thomas. "Dydach chi ddim yn 'y nallt i, Tomos," ebe fy mam—"y peth ydw i yn 'i feddwl ydi hyn—mai'r unig beth all godi ysbryd cystuddiedig ydyw addewidion gwerthfawr a melus y Bibl—adnabyddiaeth o Dduw yn Nghrist yn cymmodi'r byd âg ef ei hun heb gyfrif iddynt eu pechodau—ac ymorphwysiad yr enaid ar angeu drud pen Calfaria. A mi fase yn dda iawn gen i bydase marwolaeth Seth wedi'ch arwain chi a Barbara i ddyfod i sŵn yr efengyl, ac i geisio cysur yn 'i gwirioneddau hi, ac nid i geisio boddi eich teimlade gyda'r ddiod feddwol a diles, Tomos bach." "Wyddoch chi be, Mary?" ebe Thomas, "bydase chi'n hapno<noinclude><references/></noinclude> 7pcup9u47rau3ch7rdkfu9xiua3g2mj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/143 104 85424 165577 2026-05-22T22:20:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165577 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bod yn perthyn i'r ''Ranters'', mi fasech yn gneyd ''champion'' o bregethwr. Ond dydw i ddim yn cydweled â chi ar y ddiod. Mi wn bod chi'n gwbod mwy na fi, Mary; ond ydi'r Bibl ddim yn 'i galw hi yn ddiod gadarn?" "Ydi siwr, Tomos," ebe fy mam. "Felly roedd James Pwlfford yn deyd; a fase'r Bibl byth yn i galw hi yn ddiod gadarn bydase hi ddim yn nerthu dyn,' ebe Thomas. "Mae hi yn ddigon cadarn i'ch taflu chi i lawr, Tomos, os na chymwch ofal mawr," ebe fy mam, ac ychwanegodd—"Mewn difri, Tomos bach, ydi Barbara a chithe bellach ddim yn dechre meddwl am fater eich hened? Rydach chi'n dechre myn'd i oed; a fydd arnoch chi ddim blys weithie dyfod i sŵn yr efengyl? ydach chi ddim yn meddwl fod yn hen bryd i chi'ch dau ymorol am y Cyfaill y bydd arnoch chi a fine ei eisio yn bur fuan bellach, neu fod yn druenus byth? Rydw i'n cymyd yn hy arnoch chi, ond mi wyddoch mai'ch lles chi sy gen i mewn golwg. Fy hen gymydogion caredig! mi fydda yn meddwl llawer am danoch chi, ac yn trio gweddïo trosoch chi. Mor dda y mae y Brenin Mawr wedi bod wrthoch chi! Mor iach, mor hapus, ac mor gefnog yr ydach chi wedi bod ar hyd y blynyddoedd! Oni fydd o yn biti mawr, Tomos bach, i chi'ch dau fod yn ol yn y diwedd? Mi leiciech, mi wn, weled Seth unwaith eto, a bod hefo fo byth. Wel, does dim dowt ar 'y meddwl i nad ydi Seth yn nghanol y nefoedd. Pe byddent ynfydion ni chyfeiliornant.' Rydach chi'n cofio be ddeydodd o pan oedd o'n marw wrth y bachgen yma—fod o'n myn'd ymhell, ymhell, i gapel mawr Iesu Grist?' Ac mi âth yno yn siwr i chi. Ond yr oedd Seth yn dwad i'r capel, Tomos,—fydde fo byth yn colli moddion, y ngwas gwirion i! Ac er ein bod ni yn ddisylw o hono fo, ac yn meddwl nad oedd o yn dallt dim, 'roedd Seth yn gneyd ei ffortun: mi gafodd hyd i'r perl gwerthfawr oedd yn werth ei fywyd iddo fo. Mae ene chwaneg o berlau, Tomos, yn yr un maes; ac y mae yn rhaid i chithe, fy nghymydogion anwyl, ddwad i foddion gras, neu mae gen i ofn na chewch chi byth fyn'd i'r un man â Seth." Yr oedd y geiriau olaf o eiddo fy mam yn effeithio fel trydan ar Thomas a Barbara. Edrychai Thomas yn syn i'r twll lludw, a'i ddagrau mawrion yn rholio i lawr ei ruddiau, gan ddisgyn ar ei<noinclude><references/></noinclude> 2vj85zr97aepi8thfwy715tshvqiydg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/144 104 85425 165578 2026-05-22T22:21:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165578 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>drowsers cord ysgleiniog. Barbara hithau a rwbiai ei thrwyn a'i llygaid gyda'i ffedog check, ac o'r braidd y gallai ymattal heb waeddi allan pan soniai fy mam am Seth yn marw. Gwelai fy mam fod yr haiarn yn boeth, a dechreuodd o ddifrif ddefnyddio hen ordd fawr yr Ysgrythyr gyda'r deheurwydd hwnw yr oedd hi mor fedrus arno. Ac i mi ddilyn y gymhariaeth, troai galonau y ddau bob ffordd ar ei heingion; a thybiwn nad oedd ochr na gwêdd arnynt heb fod fy mam wedi tynu gwreichion byw allan o honynt. Nid am ei bod yn fam i mi yr wyf yn dyweyd hyny; ac nid ydwyf yn arfer gormodiaeth wrth dystio na welais mohoni erioed, os gwelai hi fantais i roddi gair o gynghor neu adnod o'r Bibl i rai yr ofnai eu bod yn ddigrefydd, yn gadael i'r cyfleusdra fyned heibio. Megys yn yr amgylchiad hwn, anghofiai ei helyntion ei hunan yn ei hawydd i ddyweyd rhyw air tebyg o lynu yn nghydwybod a chalon rhywun a dybiai hi yn anystyriol am fater ei ened," chwedl hithau. Wrth imi ystyried mor esgeulus yr wyf fi fy hun yn y peth hwn, bydd arnaf gywilydd cofio fy mod yn fab fy mam. Gwelwn er ysmeityn fod Thomas yn anesmwyth iawn, ac yn awyddus am fyned ymaith, a chymerodd fy mam yr awgrym. Pan beidiodd hi efengylu, gollyngodd Thomas ochenaid drom, a chododd ar ei draed yn ''nervous''; ac ebe efe gan hanner tagu, "Barbara, rhaid i ni fynd adre, wel di. Be sy gynat ti yn y fasged ene?" Tynodd Barbara ddarn braf o facwn allan o'r fasged, ac estynodd ef i fy mam. "Champion o stwff, Mary," ebe Thomas; "mae o wedi ei besgi ar datws a blawd haidd—chafodd o rioed soegyn. Peidiwch a sôn! peidiwch a sôn! mae i chi groeso calon o hono fo. Oes gynoch chi datws? Bydaech chi'n gyru Rhys acw fory, mi ro i chi dipyn o bingc eis gore ddaru chi rioed brofi—mae nhw fel peillied." "Tomos bach," ebe fy mam, gan gydio yn lappel ei gôb—"rydach chi bob amser yn ods o garedig; ond byddwch garedig wrth eich ened. Newch chi addo dwad i'r capel y Sul nesa? Newch chi byth ddifaru." Edrychodd Thomas ar lawr y tŷ; ac ar ol eiliad neu ddau o ddystawrwydd, ebe efe, "Mary, bydae y pregethwrs yn shiarad mor blaen a chi, mi ddown i'r capel bob Sul; ond deyd y gwir i chi, dydw i<noinclude><references/></noinclude> 39c4pj45xgsx3hrc7trzqm80iulcafb Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/145 104 85426 165579 2026-05-22T22:23:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165579 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddim yn 'u dallt nhw—mae nhw yn sôn am rwbeth na wn i ddim am be." "Wnewch chi addo, Tomos bach, ddwad hefo Barbara i'r capel? mi ddaw y gole ond i chi ddwad," ebe fy mam, gan gydio yn dynach yn y lappel. "Be'wt ti'n ddeyd, Barbara?" gofynai Thomos. Rhoddodd Barbara nod o gadarnhâd, ac ebe Thomas, "Wel, yn eno dyn mi ddown. Nos dawch, a Duw fytho gyda chi." Wedi iddynt fyned ymaith, a ddarfu i fy mam droi at y darn bacwn i'w ganmol? Na choelia i fawr! yr oedd wedi cael tamaid mwy blasus, ac ebe hi yn llawen, "Mi gwela hi, Rhys! mi gwela hi rwan! Mae Bob wedi cael ei roi yn ''jail'' i achub Thomas a Barbara Bartley! Mae ei ffyrdd Ef yn y môr, &c." Wel, nid am Thomas a Barbara y bwriadwn sôn pan yn dechreu y bennod hon, a gwelaf nad eiddo gwr ei ffordd gyda hyn, fel gyda phethau eraill. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD ΧΙΧ.<br>Abel Hughes.}}}} GELLID meddwl fod pawb ag sydd wedi talu ychydig o sylw i ddynion a'u harferion wedi sylwi, ymhlith eraill, ar y tri dosbarth canlynol. Dyna un dosbarth: y rhai a fuont unwaith ymron yn gwbl dan lywodraeth y diafol a'u nwydau llygredig eu hunain, ond trwy ryw ffawd dda a ddaethant dan ddylanwad Dwyfol yr efengyl—a gawsant drugaredd—"yr hen bethau a aethant heibio, ac wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd." Mae eu tymherau wedi cael eu darostwng, eu calon wedi ei chyfnewid, a'u holl fuchedd, os nad ydyw eu profiad fel pe byddai yn dywedyd yn feunyddiol am yr un drwg, "Nid oes iddo ef ddim ynof fi." Y fath brydferthwch nefol sydd yn nodweddu y dosbarth hwn o fy nghyd-ddynion! Dyna y dosbarth arall: y rhai hyny nad oes ammheuaeth fod a fyno crefydd rywbeth â'u calonau, ac fod a fyno hwythau rywbeth a chrefydd, ond fod arwyddion amlwg fod a fyno yr hen feistr hefyd rywbeth a hwynt. Ar achlysuron neillduol daw yr ewin fforchog i'r golwg. Ymddengys <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 5kznaxx55no439kzvxrv3s7n5ysx7pg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/146 104 85427 165580 2026-05-22T22:24:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165580 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel pe byddai nefoedd ac uffern yn eu hawlio. Ac eto wrth wrando arnynt yn gweddïo, ac yn dyweyd eu profiad, yr ydys fel y jury, wrth brofi dyn am ei fywyd, yn barod iawn i roddi iddynt ''the benefit of the doubt''. Y peth pwysig iddynt hwy a minnau i'w gofio ydyw, na fydd yr un ''doubt'' am ein cymeriad y dydd mawr a ddaw. A dyna y trydydd dosbarth: y rhai hyny nad oes a fynont â chrefydd broffesedig mewn unrhyw wedd, ac eto yn arddangos yn eu buchedd lawer o'i rhinweddau. Maent yn onest, diddichell, difalais, a chymwynasgar, yn garedig wrth ddyn ac anifail, ac yn hawddach ganddynt wneyd cam â hwy eu hunain nag a neb arall. Fel rheol nid yw y dosbarth hwn yn nodedig o ddeallgar, ac ymddangosant fel yn edrych ar bobpeth drwy eu calonau. Mae eu diniweidrwydd fel ''remnant'' o'r defnydd y gwnaed ein rhieni cyntaf o hono. Fel y dywedwyd, nid ydynt yn grefyddol yn ystyr dduwinyddol y gair, ac eto y mae llawer o'r hyn a ystyrir fel ei ffrwythau hi yn tyfu arnynt. Nid ydynt wedi clwyfo eu cydwybod gyda gweithredoedd anfad, nac wedi darllen na meddwl digon i greu anesmwythdra ac ammheuon, ac felly y maent yn lled hapus. I mi y mae rhyw brydferthwch mawr yn perthyn i'r dosbarth hwn o bobl; ac ar adegau bum yn cenfigenu wrth eu sefyllfa. I'r dosbarth olaf y perthynai Thomas a Barbara Bartley; a dichon mai eu caredigrwydd hwy at fy mam a minnau, pan oeddym mewn profedigaeth, a barodd i mi mewn amser dilynol edrych ar rai cyffelyb iddynt gyda gradd o ddyddordeb ac edmygedd. Pan oeddym yn yr helbul teuluaidd, yr hwn yr wyf eisoes wedi ei ddesgrifio, mae yn gof genyf fy mod yn synu yn fawr at glauarineb swyddogion yr eglwys yr oedd fy mam yn aelod nid anenwog o honi, o'i gyferbynu â charedigrwydd a chydymdeimlad parod Thomas a Barbara Bartley. Ac nid allwn beidio mynegu hyny i fy mam. Ond ni fynai hi i mi goleddu syniad isel am y blaenoriaid; ac yn unol â'i harddull cyffredin o siarad, ebe hi, "Mae hyny yn y drefn, fy machgen. Mae rhyw achos yn peri fod y brodyr dipyn yn ddiarth hefo ni. Hwyrach fod y Llywodraethwr yn cadw y gwin goreu hyd y diwedd. Os ydan ni yn wrthddrychau teilwng o ymgeledd, fe ofala Pen yr eglwys am danom yn ei amser da ei hun." Ni fu raid i mi aros yn hir heb weled fod fy mam yn lled agos i'w<noinclude><references/></noinclude> fx3v3e613bajfm9mynr5f40f5th7xzr Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/147 104 85428 165581 2026-05-22T22:27:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165581 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lle; oblegid yn gynnar dranoeth ymwelwyd â ni gan yr hen flaenor hybarch, Abel Hughes. Yr wyf wedi cael achlysur mwy nag unwaith yn yr hanes hwn i sôn am dano ef. Pe ei bywgraffiad ef a fuaswn yn ysgrifenu, ac nid yr eiddof fy hun, buasai genyf lawer o bethau dyddorol i'w hadrodd am dano. Yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fy mod wedi dilyn yr oes yn weddol, ag ystyried fy anfanteision. Ond rywfodd, y mae hen syniadau a ffurfiais pan oeddwn fachgen yn glynu ynof er fy ngwaethaf. Byddai cywilydd arnaf eu harddel, ond yn fy myw nis gallaf eu dilëu o fy meddwl. Pe gofynid i mi gan ŵr ieuanc o dref Seisonig am fy ngolygiadau ar y peth yma a'r peth arall, dywedwn hwynt yn rhwydd ac yn onest; ond o dan y rhai hyny gwyddwn y byddai yn codi ynof syniadau tra gwahanol, y rhai a ffurfiwyd ymhell yn ol, ae nas gallaf mewn modd yn y byd gael gwared o honynt. Un o'r rhai hyny ydyw fy syniad am flaenor. Onid ydyw Theophilus Watcyn, Ysw., o'r Plas uchaf, y gŵr o herwydd ei fedrusrwydd digyffelyb i drin y byd a wnaeth ei ffortun mewn byr amser, ac sydd yn byw ac yn gwisgo yn weddus i'w sefyllfa anrhydeddus, ac yn cadw ei was lifrai-yn cymeryd ei wraig a'i ferched ''in full dress'' i'r prif gyngherddau—onid ydyw efe yn addurn i sêt fawr capel y Methodistiaid yn ''Highways''? Onid ydyw efe yn haelionus at yr achos, yn garedig at dlodion yr eglwys, yn lletŷa ac yn parchu gweinidogion y gair? Mae yn wir nad ydyw efe byth yn myned i'r Cyfarfod Misol, a'i fod yn absennol gryn lawer o'r Ysgol Sul; ond rhaid i ni gofio ei sefyllfa, a'r gymdeithas y mae efe yn troi ynddi. Mae yn zelog dros y fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig yn hollol wylaidd a hunanymwadol, ac yn gadael i'r gweinidog siarad y cyfan. Ond onid ydyw efe yn flaenor teilwng, ac yn gaffaeliad gwerthfawr i'r achos? Ydyw yn bendifaddeu, ac yr wyf yn teimlo yn falch o hono. Dyna Alexander Phillips (Eos Prydain) y gŵr ieuanc llafurus gyda'r canu, medrus yn y gwaith o edrych ar ol llyfrau yr eglwys, parod i drefnu a chodi cyngherdd, trwsiadus ei ymddangosiad,—onid ydyw efe yn wr rhagorol? Tipyn yn dawedog ydyw yntau yn y seiat; ond byddai yn anmhosibl ymron i'r brodyr gynnal tea party, neu godi cyfarfod cystadleuol, heb ei wasanaeth gwerthfawr ef. Mae yn wr hywaeth a llawen, ac yn hoff o ''joke''; ond nid yw ei ymddygiad un amser yn anweddaidd. Wrth ei gymeryd drwodd a thre, mae yn ŵr defnyddiol dros ben gyda'r achos; ac<noinclude><references/></noinclude> 4udk5g8qe0kc15k9h27wderidc972sy Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/148 104 85429 165582 2026-05-22T22:29:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165582 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude> ystrir ef gan y lliaws, a chenyf finnau, yn flaenor da. Ac eto y mae y syniad hen ffasiwn yn mynu sibrwd wrthyf nad dynion fel y rhai a enwais sydd yn dyfod i fyny â'r enw blaenor. Y cynllun y mae yr hen syniad yn ei ddal o flaen fy meddwl i ydyw Abel Hughes. Ac un fel hyn oedd efe: gŵr mewn tipyn o oedran, tál, teneu, yn gwisgo clos pen glîn, cob a gwasgod o liw tywyll, cadach du wedi ei droi amryw weithiau o gylch y gwddf, het ''beaver'' cantel llydan, coryn isel, y farf wedi ei heillio yn fanwl, oddieithr rhyw hanner modfedd o locsen wrth fôn y glust, a'r gwallt wedi ei dori yn ''parallel'' gyda'r aeliau trymion y rhai a edrychent i lawr ar wyneb difrifol. Dyna un ochr o'r cynllun. Mae iddo ochr arall: gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, hyddysg yn, a zelog dros yr athrawiaethau efengylaidd, ffyddlawn i'r Cyfarfod Misol a'r Sasiwn, difwlch yn moddion gras, parod a gwreiddiol ei sylwadau, hwyliog a gwlithog ar ei liniau, pa un bynag ai yn y cyfarfod gweddi ai yn dechreu yr odfa i bregethwr; manwl gyda dysgyblaeth eglwysig, ac yn tueddu braidd at fod yn grabed, ond yn meddu calon dyner a duwiolfrydig; ei fuchedd yn ddiargyhoedd, ac yn erbyn pob math o wagedd ac ysgafnder, ac yn dysgwyl i bawb fyddent yn perthyn i'r eglwys, ie, hyd yn nôd y plant, fod yn ddifrifol. Dyn fel hyn oedd Abel Hughes: ac efe a ffurfiodd ynof y syniad cyntaf am flaenor, yr hwn sydd yn aros yn ngwaelodion fy ymwybyddiaeth, gan nad pa mor gyfeiliornus ydyw. Mae fy synwyr yn fy nhueddu i gredu fod y cynllun-flaenor i'w gael rhwng Abel Hughes ac ambell un a elwir yn flaenor yn ein dyddiau ni, yr hwn olaf nad yw amgen na lodging house keeper i'r pregethwr, ac un yn actio fel clerk i'r eglwys. Golygid Abel gan fy mam fel gŵr difai ymron, a hyny o herwydd, mae yn debygol, fod en golygiadau am y byd a'i arferion, am grefydd a'i hathrawiaethau, yn cydredeg ac yn cyttuno. Yr oeddynt ill dan yn bwyta yr un bwyd ysbrydol ac yn yfed yr un ddiod ysbrydol, ac wedi ymgomio llawer am grefydd brofiadol. Yn y capel fel yn y tý yr oeddynt yn ddirodres a chartrefol iawn: ac yn ol arfer yr hen bobl ni byddent yn arfer teitlau meistar a meistres. Gwn yn dda nad oedd neb y dymunasai fy mam yn fwy ei weled yn ei helynt nag Abel Hughes; ac ni fuasai dim yn well genyf finnau na gallu croniclo yn fanwl yr ymgom a gymerodd le rhwng y ddau ar ei ymweliad, ond nis gallaf. Er fod genyf gôf rhagorol,<noinclude><references/></noinclude> kq55tgk5wrzziykbnza4vgo3t5wsqgz Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/149 104 85430 165583 2026-05-22T22:30:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165583 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a fy mod yn dipyn o hen ben y pryd hwnw, yr oeddwn yn gorfod teimlo fod yr ymgom yn un pur wahanol i'r un gyda Thomas Bartley, ac fod llawer o hono uwchlaw fy nirnadaeth. Ar yr un pryd, nid ydwyf yn foddlon i fyned heibio heb geisio adgofio ychydig o'r ymddyddan; oblegid dywedodd fy mam rai pethau am werth crefydd bersonol a lynodd yn fy meddwl. Pan ddaeth Abel i mewn i'r tŷ, fel y byddai arferol, heb guro y drws, edrychodd fy mam arno braidd yn ''independent;'' ond canfyddwn fod lleithder yn ei llygaid, a dangosai y gweithiadau yn nghonglau ei safn a'i gwddf ei bod yn gorfod crynhoi ei holl nerth i beidio tori i wylo allan. Estynodd Abel ei law, ac ebe efe, "Wel, Mary, sut yr ydach chi?" "Yr ydw i yn rhyfedd, Abel, a chonsidro," ebe fy mam. "Yr ydw i' yn gystuddiol, ond nid mewn ing;' yr ydw i 'mewn cyfynggynghor, ond nid yn ddiobaith; yn cael fy mwrw i lawr, ond heb fy nyfetha." "Mi wyddwn, Mary," ebe Abel, "y gwyddech chi i ble i droi am swcwr, pa helynt bynag a ddeuai i'ch cyfarfod, onidê mi faswn wedi dwad yma yn gynt, mae'n lled debyg." "Wel," atebai fy mam, "yr ydw i yn gobeithio nad oes eisio llawer o nyrsio arna i. Dydw i ddim run fath â gwraig y London House, Abel, yn cadw o'r capel am wsnose am fod y blaenoriaid heb fod yn edrach am dani pan oedd tipyn o ddannodd arni. Na, yn yr oed yma, tybed nad ydw i wedi dysgu cerdded? Ond fase fo harm yn y byd, Abel, bydasech chi wedi dwad i edrach am dana i yn gynt, ar ol yr holl gwentans sy wedi bod rhyngon ni, er, cofiwch, bydasech chi heb ddwad yma am fis, faswn i yn meddwl dim llai o honoch chi. Ac yn wir, Abel, yr ydw i yn teimlo braidd yn ddiolchgar na ddaethoch chi ddim, achos bydasech chi wedi dwad, faswn i ddim wedi cael yr olwg a ges i ar yr {{center block| <poem> '—Un uwchlaw pawb eraill :Drwy'r greadigaeth faith i gyd Sydd yn haeddu 'i alw 'n gyfaill, :Ac a bery yr un o hyd; Brawd a anwyd i ni yw Erbyn c'ledi o bob rhyw.' </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> gn23lnh4hnrza16x7h9n4mfaakwl7ya Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/150 104 85431 165584 2026-05-22T22:31:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165584 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mi ddaru Joseph, mi wyddoch, Abel, fwrw pawb allan cyn amlygu ei hun i'w frodyr; ac yr ydw i yn lled obeithio nad ydi'r helynt yma ond y cwpan wedi ei rhoi yn ngenau fy sach er mwyn i mi gael fy nwyn i adnabod Llywodraethwr y wlad." "Mae yn dda gen i eich cael chi yn y porfeydd gwelltog, Mary," ebe Abel. "Lle roeddach chi yn disgwyl 'y nghael i, Abel?" ebe fy mam; "nid ar y commin, 'does bosib. Ar ol yr holl grefydda yma, mi fase yn arw o beth fod heb yr un cysgod yn nydd y dryghin. Os nad ydw i yn twyllo fy hun—a mi fydda yn ofni hyny yn amal—'does gen i, erbyn hyn, ddim gwerth sôn am dano ond y porfeydd. Fel y gwyddoch chi, Abel, yr ydw i yn ddiswcwr, yn waeth na gweddw; a fy machgen, oedd yn gefn ac yn gynnaliaeth i mi, wedi ei roi yn y ''jail''," a chuddiodd fy mam ei hwyneb a'i ffedog, wedi ei gorchfygu yn hollol gan ei theimladau. "Mae yn y gwirionedd eiriau fel hyn, Mary," ebe Abel, Mi a fum ieuanc ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn, eithr cas gan ei enaid ef y drygionus a'r hwn sydd hoff ganddo drawsder. Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn, eithr yr Arglwydd a'i gwared oddiwrthynt oll. Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon.' Yr ydwi yn o siwr, Mary, fod goleuni wedi ei hau i chwithau, os ydi hi yn nos arnoch chi yrwan, ac y cewch chi ei wel'd yn egino ac yn blaguro yn y byd hwn, os na chewch ei wel'd yn ei lawn dŵf. Byddwch gysurus, ac ymnerthwch yn yr Arglwydd. Efe a'ch gwared o'ch holl flinderau." "Yr ydw i yn ceisio bod felly, Abel, gore galla' i," ebe fy mam. "Ond wrth eich clywed chi yn siarad, fedra i yn 'y myw beidio meddwl am eirie Tomos o'r Nant. 'Doedd Tomos, mi wn, ddim yn grefyddwr, ond fe ddeydodd lawer o bethe da; ac yr ydw i yn meddwl mai fo ddeydodd fel hyn: {{center block| <poem> 'Hawdd gan yr iach tra yn ddiddolur Ddyweyd wrth y claf gymeryd cysur.' </poem> }} Ac eto yr ydw i yn teimlo yn ddiolchgar iawn i chi am eich geirie cysurus; ac yr ydw i wedi bod yn synu ac yn synu na fasech chi wedi dwad yma yn gynt, Abel." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> g6nx9jr05szt7ptpq2ky0woe9bty0y5 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/151 104 85432 165585 2026-05-22T22:32:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165585 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nid am nad oeddwn i yn meddwl llawer am danoch chi, Mary," ebe Abel, "Yr oedd yn chwith gen i eich colli o'r capel y Sabboth, er nad oeddwn yn dysgwyl eich gweled o dan yr amgylchiadau. 'Doedd Bob ddim yn aelod hefo ni, er ei fod o yn debycach i aelod na llawer o honom. 'Doedd gan neb ddim i'w ddyweyd yn erbyn ei fuchedd, ac yr oedd o yn cael ei gydnabod yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sul. Ond y mae y ''strikes'' yma yn bethau rhyfedd iawn, Mary. Pethau ydyn nhw wedi dwad oddiwrth y Saeson; nid y ni pïau nhw, a mae gen i ofn y gwna nhw lawer o ddrwg i'r wlad ac i grefydd. Yr oeddan ni fel brodyr yn ystyried fod eisio cymeryd pwyll. Yr oedd Bob yn un o'r arweinwyr, ac felly o anghenrheidrwydd, oblegid yr oedd o ran ei ddeall a'i ddawn siarad tu hwnt iddynt oll; ac nid oes neb yn ammheu nad oedd ei amcanion yn berffaith onest; yn wir yr oedd llawer o bobl gall yn cydymdeimlo â'r colliers, yn eu gwaith yn ceisio am godiad yn eu cyflogau, ac yn eu hymdrech yn erbyn gorthrwm. Ond nid oedd neb â gronyn o synwyr yn ei ben, heb son am râs yn ei galon, yn gallu eu cyfiawnhâu am ymosod ar y steward, a'i ymlid o'r wlad. Yn ol yr hanes cyntaf yr oedd Bob yn un o'r rhai oedd yn euog o beth felly; a phe buasem yn rhedeg yma i gydymdeimlo â chwi, buasai rhywun yn ddigon parod i ddyweyd mai yr un pethe oeddan ninnau a'r terfysgwyr, a buasai yr achos mawr yn dyoddef, a'r Enw rhagorol sydd arnom yn cael ei gablu. Mae yn dda gen i ddyweyd wrthoch, Mary, nad oes neb erbyn hyn yn credu yn euogrwydd Bob, er ei fod yn awr yn dyoddef fel pe buasai yn euog. Mae dynion oeddynt yn llygaid-dystion o'r holl helynt, ac a fedrant ddyweyd y gwir cystal ag undyn, yn tystio yn bendant ei fod ef a John Powell wedi ymdrechu yn galed i attal yr ynfydrwydd. Mae gen i newydd da arall i'w adrodd i chwi. Mae y dynion wedi sefyll yn benderfynol i beidio gweithio o dan Mr. Strangle, ac mae y meistriaid wedi ei dalu allan, ac wedi anfon am Abram yr hen steward; ac y mae yntau wedi ail ymgymeryd â'r swydd, bydd y gwaith yn cychwyn yfory. Yr ydym fel cymydogaeth yn ddyledus am hyn i ymdrechion Mr. Walters y twrne yr hwn a lwyddodd i gael y meistriaid a'r gweithwyr i wynebau eu gilydd, ac a actiodd fel cyfieithiwr a chyflafareddwr; ac yr wyf yn deall pe buasai hyn wedi ei wneyd yn y dechre y buasai yr holl helynt wedi ei arbed; oblegid y mae y meistriaid erbyn hyn yn gweled nad heb<noinclude><references/></noinclude> 1a7uwwup40wi2h99hjls5r6t0ls9jla Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/152 104 85433 165586 2026-05-22T22:35:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165586 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>reswm yr oedd Bob a'i gymdeithion yn cwyno yn erbyn Strangle. Felly mi welwch, Mary, nad ydyw pethau mor ddrwg wedi'r cwbl." "Wel does lûn", ebe fy mam, "na ollyngan nhw Bob o'r ''jail'' yrŵan ar ol gweled fod o yn ddieuog, ac fod y pethe oedd o yn ddeyd yn iawn?" "Na, mae gen i ofn, Mary, nad allwn ni ddim dysgwyl am hyny. Pan fydd ynadon wedi gwneyd camgymeriad, dydyn nhw byth yn ceisio cywiro'r camgymeriad. Mae nhw fel y dyn hwnw, ar ol dyweyd celwydd, yn meddwl mai'r peth gore fedre fo neyd oedd sticio at y celwydd." "Wel does bosib," ebe fy mam, "fod Mr. Brown, y person, yn gallu myn'd i'r pulpud i bregethu, bydae o yn pregethu hefyd, am gyfiawnder a thrugaredd, ac yntau 'i hun wedi bod ar y fainc yn cyttuno â Gŵr y Plas i weinyddu anghyfiawnder?" "Mi bregethiff—bydae o yn pregethu hefyd —chwedl chithe, yr un fath yn union, ac hwyrach yn well, Mary," ebe Abel. "Mi dyffeia fo i bregethu yn salach, os da y clywes i o, Abel," ebe fy mam. "Ond yn lle mae cydwybod pobol, wn i ddim. Mi fydda i yn diolch llawer, Abel, mai hefo chrefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loeger." Aeth y ddau ymlaen am yspaid i ymgomio am grefydd a'i chysuron: a chanfyddwn yn amlwg fod ymweliad Abel yn fendithiol iawn i fy mam. Edrychai yn gysurus; ac nid y peth lleiaf a barai iddi fod felly oedd mynegiad Abel nad oedd neb yn credu yn euogrwydd Bob. Ond buan iawn daeth hi a minnau i ddeall nad oedd yn bosibl byw ar y teimlad hapus. Yr oedd yr amser yn hir i aros am ryddhad fy mrawd. Trwy fod y cyflogau mor fychain yn ystod goruchwyliaeth Mr. Strangle, nid oedd gan fy mam ddim wrth gefn tuag at fyw. Am oddeutu tair wythnos bu ein cyfeillion yn garedig iawn wrthym; ond fel y mae yn dygwydd yn gyffredin mewn amgylchiadau cyffelyb gwisgodd amser awch a min y cydymdeimlad ymaith. Yr oedd pum' wythnos yn aros eto cyn y byddai Bob yn rhydd. Byth nid anghofiaf yr wythnosau hyny. Naill ai oddiar falchder neu rywbeth arall, ni chyfaddefais hyd yn nôd wrth fy nghyfaill penaf ddarfod i mi erioed fod yn dyoddef gan eisieu bwyd. Yr wyf yn ei addef yn awr. Credaf nad yw yn bosibl i undyn gael dychymyg am y sefyllfa hono heb iddo fod ynddi. Mae bod mewn mwynhâd<noinclude><references/></noinclude> m4427fayz3glgi02cag1j45r4av24n3 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/153 104 85434 165587 2026-05-22T22:36:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165587 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o iechyd perffaith, a theimlo yr ystymog fel pe byddai yn llawn o lewod gwancus heb ddim i'w diwallu, yn ystâd nas gallaf ei desgrifio; ond gwn oddiar brofiad beth ydyw bod ynddi amryw weithiau. Nid oedd tuedd cwyno yn fy mam, ac yr oedd ynddi ryw fath o annibyniaeth ffol, onidê ni fuasai raid i ni fod mewn anghen. Yr oeddwn innau wedi etifeddu ei gwendidau, ac nid addefwn hyd yn nôd wrth Wil Bryan fy mod yn dyoddef oddiwrth anghen. Ond yr wyf yn sicr ei fod ef wedi deall hyny; oblegid gwelais ef amryw weithiau yn myned i'r tŷ, ac yn nol darn brâf o fara ac ymenyn neu fara a chig, ac wedi dechre ei fwyta yn tynu gwyneb hyll, ac yn dyweyd nad oedd ganddo archwaeth ato, ac y taflai efe ymaith os na chymerwn i ef. Yr oedd y llewod yn rhuo; ac yn hytrach nag iddo ei daflu ymaith, byddwn yn ei gymeryd. Ah, Wil! yr oeddit yn adnabod fy nghalon falch cystal ag yr oeddit yn gwybod am fy ystymog wâg ! Gwerthodd fy mam amryw fân bethau y gallem eu hebgor; ond gofalai fod y prynwyr yn ddyeithriaid. Gwyddwn fod arni arswyd i bobl y capel ddeall ei bod mor anghenog—am ba reswm nis gwn, os nad yr hyn a grybwyllais, sef annibyniaeth neu falchder ffol. Yr wyf yn meddwl ei bod yn euog o arfer ''dissimulation'' ddwywaith neu dair; a gobeithiaf ei fod o dan yr amgylchiadau yn esgusodol. Pan oeddym heb ronyn o luniaeth yn y tŷ, ac ar ol hir ddirwest, aethom i dy Thomas a Barbara Bartley, o dan yr esgus i'w llongyfarch am eu gwaith yn dyfod i'r moddion, am yr hyn y bydd raid i mi grybwyll eto. Nid oedd ammheuaeth ar fy meddwl nad oedd fy mam yn llawenhau yn ei chalon am fod y ddau hen ben wedi dechre dyfod i'r capel; ond yr oedd rhyw ddealltwriaeth dystaw rhyngddi hi a minnau na chaem ddyfod o dŷ Thomas heb bryd rhagorol o fwyd. Buom yno deirgwaith o dan wahanol esgusion, ac ni ddaethom oddi yno unwaith ar ein cythlwng nac yn waglaw. Mae y cyfwng hwnw yn boenus i mi sôn am dano; ac yr wyf yn prysuro, gan adael llawer cyfyngder sydd yn dyfod yn fyw i fy meddwl heb gyffwrdd âg ef. Ond nis gallaf fyned heibio i un amgylchiad heb gyfeirio ato. Rhwng amser brecwast a chinio ydoedd, hyny ydyw, i bobl eraill; oblegid ni feddai amser brecwast a chinio ystyr neillduol i mi y pryd hwnw. Nid oeddym wedi profi tamaid er canol y dydd blaenorol. Teimlwn yn wan a digalon, ond ceisiwn dreulio yr amser yn darllen.<noinclude><references/></noinclude> kspjwz65mcpuyhk718gmlcagvaacuk1 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/154 104 85435 165588 2026-05-22T22:38:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165588 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eisteddai fy mam yn llonydd a synfyfyriol. Yn y man, cododd a gwisgodd ei bonet, ac eisteddodd drachefn am yspaid. Cododd eilwaith, a rhoddodd ei chlôg am dani, ac wedi synfeddwl ychydig eisteddodd wed'yn. Canfyddwn ei bod mewn ymdrech meddwl caled, a chlywn hi yn sibrwd; ond ni ddeallais ond dau air yn unig, sef "had" a "bara." Prin yr oeddwn yn deall ystyr y gair blaenaf, ond am yr olaf teimlwn fawr anghen o hono. Ymhen mynyd neu ddau, cododd ar ei thraed yn benderfynol, a chyrchodd o'r ystafell gefn fasged fraich yn yr hon yr arferai gario pethau o'r siop pan oedd Bob yn gweithio. Gofynais iddi pa le yr oedd yn bwriadu myned; ac ebe hi, "Wel, fy machgen, dydi o ddyben yn y byd fod yn y fan yma yn pendwmpian. Fedrwn i ddim dal lawer yn hŵy, wel di; a mae nhw'n deyd mai'r ci a gerddiff a gaiff. Mi af yn ddigon pell fel na naiff neb fy nabod i." Deallais ei bwriad mewn eiliad, a theimlais fy ymysgaroedd yn rhoi tro ynof. Gosodais fy nghefn yn erbyn drws y tŷ, a chan ddolefain yn uchel, dywedais wrthi na chai fyned; ac ychwanegais y gallem ddal allan hyd drannoeth o leiaf. Nid oedd llawer o waith perswadio arni. Gosododd y fasged o'r neilldu, dadwisgodd ei chlôg a'i bonet, ac wedi i ni roddi ychydig o ffordd i'n teimladau, teimlwn i fy hun fod eisieu bwyd wedi fy nghadael yn hollol, a meddyliwn ar y pryd y gallaswn fyw am ddyddiau lawer heb ymborth. Os oes rhyw weithred yn fforddio i mi fwy o foddhad na'i gilydd, y fynyd hon, fy ngwaith yn attal fy mam i fyned allan ydyw hono. Pe gadawswn iddi fyned, buasai fy ffydd heddyw yn llai yn addewidion Duw. Nid allaf ddesgrifio y pleser yr wyf yn ei gael yn y ffaith ei bod hi, er bod mewn cyfyngderau lawer, wedi cael myned i orphwys heb fod erioed yn cardota. Nid aethom dros y rhiniog y diwrnod hwnw, a llusgai yr oriau yn araf. Pan ddaeth y nos, clywem gnoc caled a chyflym ar ddrws cefn y tŷ, a chodasom ein dau ar unwaith i'w ateb. Pan agorasom y drws, nid oedd yno neb yn y golwg, ac yr oeddym ar fedr cau y drws pryd y gwelwn rywbeth ar y rhiniog. Sypyn ydoedd mewn papyr llwyd, ac wedi ei lapio yn daclus. Pan ddygais ef i'r tŷ, gwelwn fod enw fy mam wedi ei ysgrifenu yn garbwl arno. Nid oedd yr ysgrifen yn ddyeithri mi. Yr oedd y sypyn mewn un ystyr yn debyg i galon yr afonydd, sef yn cynnwys llawer o bethau da,<noinclude><references/></noinclude> rduuy4fomhasnys3tzffpy4ai34r8r2 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/155 104 85436 165589 2026-05-22T22:39:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165589 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pa rai a wnaethant i wyneb fy mam ddysgleirio. Ac eto yr oedd y dirgelwch oedd o'u cwmpas yn peri iddi betruso tipyn eu defnyddio. Ond y fynyd nesaf ebe hi, "Mi ddaru Dafydd, wel di, un tro pan oedd chwant bwyd arno, fwyta o'r bara gosod, ac y mae y Gwaredwr wedi ei gyfiawnhâu o am hyny. Ac er na wyddom ninnau tŷ nesa' i lidiart y mynydd o ba le y mae y pethau da yma wedi dwad, dydw i ddim yn meddwl y gwnawn ni o'n lle wrth eu defnyddio." Gan na ddarfu iddi ofyn i mi a oeddwn yn gallu dyfalu o ba le y daethai y sypyn, ni ddarfu i minnau awgrymu dim wrthi; a phe buaswn wedi gwneyd mae yn gwestiwn genyf a fuasai hi yn cyffwrdd â'i gynnwysiad, oblegid yr oedd ynof ammheuaeth cryf nad oedd yr anfonydd wedi ei gael trwy ffordd onest. Wel, fy nghydymaith pur! mi wn yn eithaf da y buasit ti yn rhanu y tamaid olaf â mi; ac er na ddarfu i ti ar ol hyny sôn gair wrthyf am y sypyn, na minnau wrthyt tithau, yr oeddwn mor sicr mai ti oedd yr anfonydd ag oeddwn mai o dy law di y derbyniwn y darn bara ac ymenyn y dydd blaenorol. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XX.<br>Person y Plwyf.}}}} Yr ydwyf wedi dyweyd fod yn fy mam ryw fath o annibyniaeth meddwl a balchder ffol; a phe buasai yn fwy dibynol a chwynfanus, ni fuasai raid iddi hi a minnau ddyoddef nemawr o anghen. Mae arnaf ofn y rhaid i mi gyfaddef hefyd i mi ei gweled unwaith—dim ond unwaith yn euog o anfoesgarwch ac o siarad â gŵr o urddus fel pe buasai hi gyfartal iddo, pryd mewn gwirionedd ei bod yn dyoddef angenrheidiau beunyddiol. Hyderaf y maddeuir i mi gan y cyfeillion y dichon i'r hunangofiant hwn syrthio i'w dwylaw—a hyny yn barotach am y bydd y pryd hwnw lathen o ddaear dros fy wyneb am fy mod yn credu mai fy mam oedd y fam oreu yn y byd. Ond rhagrithiwn, ac ni byddwn ffyddlawn i fy addewid o ddyweyd y gwir, a'r holl wir, pe celwn ei gwendidau. Yr oedd hi yn un o dymherau <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 0q7ke5pqnlktpjoko0koehmk8sm11xx Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/156 104 85437 165590 2026-05-22T22:40:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165590 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a theimladau cryfion, a chredaf ei bod yn ymorchestu tipyn mewn "siarad yn blaen." Fy mhrofiad i ydyw mai perygl rhai cyffelyb iddi, er iddynt fod yn rhagori mewn diragrithrwydd, ydyw anghofio teimladau rhai eraill, ac arddangos diffyg lledneisrwydd a chwaeth dda—nodweddion a ddylent brydferthu cymeriad pob gwir gristion. Mewn tref fechan a distadl nid gŵr dibwys un amser ydyw "person y plwyf." Dygwydda yn fynych fod parodrwydd, hwyrach rhyw orbarodrwydd, i gydnabod pwysigrwydd y gwr ffortunus hwnw sydd yn preswylio y ficerdy. Dichon hefyd fod diysgogrwydd ei sefyllfa a thuedd ynddo i beri i'r Person yntau dderbyn gyda ''good grace'' hyny o bwysigrwydd a roddir arno, ac weithiau dipyn ychwaneg, yn ol fel y byddo tuedd naturiol y gŵr. Nid oedd Mr. Brown yn eithriaid i'r rheol gyffredin, ac os cafodd rhywun yn fy nhref, enedigol lai o barch nag a haeddai, nid Mr. Brown oedd hwnw. Gŵr tew, tagellog a rhadlawn oedd efe, ac er na fynwn ar un cyfrif awgrymu ei fod yn "rhodio yn ddynol," yr oedd yn ystyr lythyrenol y gair "yn gnawdol." Dygai nodau yn ei gorff nad oedd y fywioliaeth oedd yn werth saith cant o bunnau yn y flwyddyn wedi bod yn ddifendith iddo ef. Ac wrth i mi ddyweyd fod eraill wedi manteisio ar ei amgylchiadau cysurus, ni byddaf ond yn dadgan yr hyn y mae ei goffadwriaeth yn ei gyfiawn haeddu. Ni thrymhaodd efe ei glust rhag llef yr anghenog, ac ni fotymodd efe ei logell fel na ddelai dim o honi i'r tlawd a'r adfydus. Ynddo ef cafodd y weddw a'r amddifad gyfaill caredig, yn enwedig os arferent fyned i'r Eglwys. Er fod Mr. Brown fel pawb eraill yn gorfod teimlo mai nês penelin nag arddwrn, nid oedd yr arddwrn—sef yr Ymneillduwyr tlodion—yn gwbl anghofiedig ganddo. Pan wnaent apêl ato am gynnorthwy, os nad allai weled ei ffordd yn glir i gyfranu iddynt o'i logell ei hun, nac o'r arian a adawsid "tra rhedo dŵr" gan yr ymadawedigion yr oedd sôn am danynt ar barwydydd yr Eglwys—byddai efe yn ddïeithriad yn rhoi gair drostynt gyda rhyw ''guardian'' neu gilydd ar iddynt gael ychydig geiniogau o'r plwyf. Os byddai ar rywun anghen am lythyr cymeradwyaeth, at Mr. Brown yr elai i'w ymofyn. Ni fyddai un symudiad trefol o bwys yn berffaith heb fod enw Mr. Brown ynglŷn âg ef. Gan nad pa faint oedd toster cymmalwst yr hen ŵr crynedig, a'r hen wraig gefngam, yr oedd yn rhaid tynu yr het a threthu y garau i gwreydu i Mr. Brown pan gyfarfyddent âg ef. Yr oedd segurwyr<noinclude><references/></noinclude> km4e7f2l1mb3efatdse8lrtb1ycdrv8 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/157 104 85438 165591 2026-05-22T22:43:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165591 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r dynion hyny sydd bob amser i'w cael yn nghonglau yr heolydd, ac nad ŵyr neb pa fodd y maent yn byw, pan welent Mr. Brown, yn y fan yn peidio a'u cellwair, ac yn cuddio eu pibellau yn nghil eu dyrnau, ac yn rhoi y llaw wrth yr het pan elai Mr. Brown heibio. Yr oedd rhyw barchedigrwydd, neillduolrwydd, cyfaredd, neu rywbeth nad allaf gael enw arno, ynglŷn ac o amgylch Mr. Brown bob amser. Credaf fod pawb y pryd hwnw yr un mor analluog ag ydwyf finnau yn awr i ddarnodi ''y peth hwn''. Rhywbeth yn yr awyr ydoedd yn effeithio ar bawb, ie, hyd yn nôd ar Ymneillduwyr. Yr wyf yn ''cofio'' i Mr. Brown ''unwaith'' anrhydeddu cyfarfod y Fibl Gymdeithas gyda'i bresennoldeb; a phan wnaeth ei ymddangosiad ni fu erioed y fath guro traed a dwylaw. Bu agos i rai yn eu llawenydd golli eu gwynt ac anghofio eu hunain. Mae yn ffaith fod amryw Ymneillduwyr, heb son am Eglwyswyr, wedi tywallt dagrau o lawenydd ar yr amgylchiad. Diammheu genyf mai y rheswm am yr amlygiad neillduol hwno deimlad ar ran y gynnulleidfa, oedd ei pharch diffuant i'r Hen Lyfr, wrth feddwl fod gŵr o safle ac urddas Mr. Brown wedi ei ennill drosodd i dalu gwarogaeth i'r Gymdeithas, amcan pa un oedd rhoi {{c|"Bibl i bawb o bobl y byd."}} Yn y cyfarfod hwnw ni ddarfu i Mr. Brown siarad ond ychydig eiriau (ni fedrai heb lyfr); ond yr oedd efe yno, ac yr oedd hyny yn siarad cyfrolau; a pharai y ffaith i rai, a dybid eu bod yn deall arwyddion yr amserau, led obeithio fod y milflwyddiant heb fod yn mhell. Ac eto nid oedd Mr. Brown ei hun ond gŵr dysyml; a phe cawsai ambell un y warogaeth a delid iddo ef buasai wedi colli ei ben. Cyfaddefai hyd yn nôd ei edmygwyr penaf fod ynddo un ''draw back'', sef ''nad allai bregethu''. Araf a phoenus oedd ei draddodiad; ond sel dyn call gofalai bob amser am beidio blino ei wrandäwyr â meithder, ac yr oedd ganddo arferiad pan yn ei bulpud o droi gwyn ei lygaid i fyny, yr hyn i rywrai oedd "cystal a phregeth." Heblaw hyny, yr oedd yr ychydig ddiffyg yn y pulpud yn cael ei wneyd i fyny, a mwy hwyrach, gan y ffaith fod Mr. Brown yn Ustus Heddwch. Yr oedd y cymeriad olaf yn rhoddi iddo ddylanwad ar rai na fuasai byth yn<noinclude><references/></noinclude> 5hhu2usq9rpnsq14m01gtiqc5r1lgi9 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/158 104 85439 165592 2026-05-22T22:45:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165592 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu cyrhaedd o fewn muriau yr Eglwys. Pan gyfarfyddai "Ned y ''Poacher''" ef ar yr heol byddai yn gwneyd llygaid ''sly'' ar Mr. Brown; ac yr oedd yn hawdd gweled ar wyneb Ned ei fod yn teimlo yn euog fod ganddo bocedau mor lydain tu mewn i ''skirts'' ei ''jacket velvet''. Byddai "Twm feddw" hefyd yn fynych, pan fyddai yn rhy ddall i allu gweled neb arall, mewn modd rhyfedd yn canfod Mr. Brown o hirbell, ac wedi ''staggro'' am eiliad ac edrych drwy ei lygaid hanner agored megys drwy niwl, yn gwneyd ymdrech egnïol i gerdded yn syth nes i Mr. Brown fyned heibio. Oni b'ai fod Mr. Brown yn y cymeriad o ustus yn dyfod i gyfarfyddiad mynych â'r cymeriadau hyn, ar fore Llun yn y ''County Hal''l, ni fuasai ganddo ddim dylanwad arnynt. Heb i mi fanylu, yr oedd Mr. Brown fel hyn yn ŵr o ddylanwad mawr ymhob cylch; a dywedid nad oedd arno ofn neb oddieithr gŵr y Plas, Yr wyf yn gorfod dyfod i'r casgliad fod Mr. Brown yn ŵr lled agos i'w le, onidê ni fuasai fy mam yn synied mor uchel am dano; oblegid, fel yr awgrymais fwy nag unwaith, yr oedd ei rhagfarn hi yn erbyn pobl Eglwys Loegr yn enbydus. Ond am Mr Brown, clywais hi yn ei ganmawl lawer gwaith, ond gofalai am gymedroli y ganmoliaeth gyda'r ymadrodd—"fel cymydog." "Fel cymydog" yn unig y rhoddai hi iddo air da, ond pan soniai am grefydd ni phetrusai ddadgan ei hofnau nad oedd Mr. Brown wedi profi y pethe mawr." Un tro gwnaeth fy mam sylw ar Mr. Brown na ddarfu i mi byth ei anghofio. Pan oedd hi un diwrnod yn canmol pregethwr Methodistaidd wrth Marged Pitars, yr hon oedd Eglwyswraig, dywedodd Marged, "Mae Mr. Brown nine yn berson da anwêdd, ond feder o wneyd fawr o'r pregethu 'ma." Ac ebe fy mam, "Mae hyny yr un peth yn union, Marged, a bydae chi'n deyd fod James Pwlfford yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho." Rhaid fod Marged wedi teimlo grym y sylw, oblegid, fel y dywedir weithiau yn Nhŷ y Cyffredin, ''"the subject then dropped."'' Fel y gallesid dysgwyl, ni ddarfu i waith Mr. Brown a gŵr y Plas euogfarnu fy mrawd a'i anfon i'r carchar, ychwanegu dim at barch fy mam i'r blaenaf, yn gymaint fel y credai hi fod yr ustusiaid yn yr amgylchiad hwnw wedi arddangos dallineb barnol a phrysurdeb anfaddeuol. Pa un ai ei ofal am danom fel ei blwyfolion, neu ynte teimlad o euogrwydd o herwydd y rhan a gymerasai yn anfoniad Bob i'r carchar, a barodd i'r gŵr parchedig ymweled â ni yn ein<noinclude><references/></noinclude> 1qpbn3ilxo2ikh1xaizq4u6y3ck85a0 Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/159 104 85440 165593 2026-05-22T22:45:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165593 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hadfyd, nid wyf yn gallu sicrhâu. Boddlawn iawn ydwyf i gymeryd yr olwg oreu ar ei ymddygiad, ac i gredu fod ei amcan yn gywir a chanmoladwy; ac wrth alw i'm cof ei ymweliad â ni, mae arnaf gywilydd o'r derbyniad a gafodd gan fy mam, yn enwedig pan feddyliwyf pa mor barchus oedd Mr. Brown gan y bobl yn gyffredin. Hwyrach y dylwn ddyweyd, er fod Mr. Brown yn Gymro o ochr ei fam, nad rhyw berffaith iawn y siaradai efe yr hen Omeraeg. "Bore da, Mrs. Lewis," ebe ein ficer, gan chwythu yn drwm drwy ei ffroenau, fel pe buasai yn methu cael digon o anadl i ddiwallu y fegin fawr oedd o'i fewn, a chan sychu y chwŷs oedd yn berwi allan o'i wyneb coch a'i war llyfndew. "Bore da," ebe fy mam, yn gwta ddigon, heb ostwng dim ar ei gàrau, na gwneyd un arwydd o warogaeth, na chymaint a gofyn iddo eistedd. Ond eisteddodd Mr. Brown heb ei ofyn ar hen gader oedd yn ei ymyl, a'r hon fel yr oll o'i chyfoedion yn ein tŷ ni oedd yn hynod fregus; a dysgwyliwn yn ofnus bob mynyd ei gweled yn ymollwng o dan y llwyth oedd arni, ac yn fwy felly am fod y gader yn anesmwyth iawn, ac yn gwichian fel hen fasged. Ar ol ychydig o ddystawrwydd poenus, ebe Mr. Brown, "Mae hi yn diwrnod braf heddyw, Mrs. Lewis?" "Mae'r diwrnod yn burion, Mr. Brown; bydae pobpeth cystal a'r diwrnod fydde raid i neb gwyno," ebe fy mam yn sychlyd, gan ddechreu pletio ei ffedog, yr hyn oedd arwydd bob amser fod ganddi rywbeth ar ei meddwl eisieu ei ddyweyd. "Sut ydach chi'n dwad ymlaen fel ma pethe rwan, Mrs. Lewis? Ydach chi yn cael digon o bwyd?" gofynai Mr. Brown yn dyner. "Yr ydw i yn dwad ymlaen yn well na fy haeddiant, ac wedi cael digon o fwyd i gynnal corff ac enaid wrth 'u gilydd; ond does gen i neb i ddiolch iddo am hyny ond yr Hwn sydd yn porthi cywion y gigfran, ac yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn," ebe fy mam. "Chi yn gneyd yn da iawn, Mrs. Lewis, nabod llaw y Brenin mawr," ebe Mr. Brown. "Mi obeithiwn modi; ond wrth gydnabod llaw y Brenin mawr, fedra i ddim cau fy llygaid rhag gweled llaw rhywun arall hefyd. Doedd y bobl druain gynt oedd yn gweled llaw Duw Israel ddim heb wybod rhywbeth am Pharoah hefyd," ebe fy mam, yn dreislyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ci714pp4oqvkgxyoi8r8jbwdy4lt9sx Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/160 104 85441 165594 2026-05-22T22:49:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165594 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ie, dyn drwg iawn oedd Pharoah, Mrs. Lewis," ebe Mr. Brown. "Drwg ei wala," ebe fy mam, "ac ysywaeth os boddwyd o, foddwyd mo'i blant o yn y Môr Coch; ac mae lle i ofni fod rhai o'i eppil ef ac Og, brenin Basan, yn dal i flino pobol Dduw hyd y dydd hwn, er fod y Beibil yn deyd na adawyd i Og weddill." "Chi yn gwbod llawer o'r Sgrythyr, Mrs. Lewis," ebe Mr. Brown yn ganmoliaethus. "Mae arnaf ofn, Mr. Brown," ebe fy mam, "y mod i fel llawer eraill yn gwybod mwy nag ydw i yn ei neyd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchymynion ef, fel y byddo iddynt fraint yn mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy y pyrth i'r ddinas." "Rhaid i ni gyd trio cadw y gorchymynion, Mrs. Lewis, ne cawn ni byth myn'd i'r bywyd," ebe ein hymwelydd. "Rhaid," ebe fy mam, "fel rheol buchedd; ond nid awn i byth i'r bywyd ar eu cadw nhw. Miwni gymin a hyn o dduwinyddiaeth, fod hi wedi cau arnon ni am byth yn Sinai, ac os ydan ni yn meddwl am fyn'd i'r bywyd fod yn rhaid i ni droi i rywle arall am sail ein gobaith. Dyna'r fel mae'r Beibil a Fforddwr Charles yn 'i ddysgu, ac yr ydw i yn 'u credu nhw, beth bynag y mae'r Common Praur yn i ddysgu; dydw i yn deyd dim am hwnw," "Chi pobol y capel yn gwbod dim am y Common Prayer. Mae y Common Prayer yn llyfr da iawn, Mrs. Lewis, run fath a'r Bibl," ebe Mr. Brown. "Dydw i yn deyd dim am eich Common Praur chi, Mr. Brown, ond mi ddeyda hyn mai llyfr Duw ydi 'r Beibil, a does gen i ddim ofn deyd hefyd mai 'r llyfr nesa ato fo ydi Fforddwr Charles, a bydawn i byw am gan mlynedd feder neb altro fy meddwl i am hyny," ebe fy mam yn danbaid. Gwenodd Mr. Brown ar ddiniweidrwydd fy mam, ac ebe fe,"Wel, mi gadawn i hyny bod, Mrs. Lewis. Bydda i yn leicio gweled pobol yn zelog; ond roeddwn i yn meddwl am danoch chi sut oeddach chi yn dwad ymlaen rwan mae Robyt yn ''jail'', oeddach chi yn cael digon o bwyd, chi a'r bachgen yma; ac er nad ydach chi ddim yn dwad i'r Eglwys, oeddwn i yn meddwl, Mrs. Lewis, rhoi tipyn o—o assistance i chi, ne cael tipyn o'r plwy i chi nes i Robyt dwad yn ol." Dywedodd Mr. Brown y geriau hyn mewn modd caredig; ac nid<noinclude><references/></noinclude> 7sqv89wo7guvlte8553nkyrbi5rao8g Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/161 104 85442 165595 2026-05-22T22:51:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165595 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyf yn ammheu nad oedd efe yn cydymdeimlo yn fawr â fy mam a minnau yn ein caledi. Ond cyffyrddodd ei ymadroddion â thant yn natur annibynol fy mam, a barodd iddi ei gyfarch mewn dull a dybiwn i y pryd hwnw yn anfoesgar, ac yn gwbl anmhriodol i ŵr o safle a pharch Mr. Brown. Yr wyf yn meddwl y gallaf gofio yr hyn a ddywedodd hi wrtho air am air. "Mr. Brown," ebe hi, "dydw i ddim yn gwbod ond am Un fedr roi briw a'i wella fo, a feder daflu i lawr a chodi i fyny; ac os daethoch chi yma gyda'r meddwl o roi plaster ar y dolur ddaru i chi achosi, mae'ch neges yn ofer. Cic a chusan ydw i yn galw peth fel yna, Mr. Brown. Wedi i chi roi fy machgen diniwed yn ''jail'', mi fydde yn o arw gen i dderbyn dim help gynoch chi, bydded y nghledi i y peth y bytho. Hwyrach y deydwch chi y modi yn hy, ac felly yr ydw i; ond y mae yn rhaid i mi gael deyd y peth sydd ar y meddwl, a mi deimla'n sgafnach ar ol 'i ddeyd o. Yr ydw i wedi synu atoch chi, Mr. Brown! Roeddwn i yn arfer meddwl yn dda am danoch chi fel cymydog—ond—bydae fater gynoch chi am hyny—yr ydach wedi myn'd i lawr ddeg o raddau yn fy meddwl i. Yr ydwi'n meddwl y mod i yn ystyried hefo pwy yr ydw i yn siarad—achos fel y deydodd Tomos o'r Nant {{center block| <poem> "Nid oes un i'w ganmol na 'i berchi 'n gymhwys, :O flaen efengylaidd weinidog eglwys, Nac un o fwy melldith na hwnw 'n fyw, :Oni fydd Duw yn ei dywys." </poem> }} A dydw i ddim yn meddwl, Mr. Brown, fod Duw yn eich tywys chi i gymdeithasu ac i gydweithredu hefo un fel gŵr y Plâs, dyn nad ydi o'n meddwl am ddim ar effeth hon y ddaear ond am ei gyffyle rasus a'i gŵn hela a'i gêr." "Mrs. Lewis! Mrs. Lewis!" ebe Mr. Brown yn synedig. "Mary Lewis ydi fy enwi, Mr. Brown, gwreigan dlawd, a 'does gen i ddim eisio cael fy meistresu, os gwelwch chi'n dda. Ond mi deyda fo eto—nid ych lle chi ydi bod ar y fainc yn gwrando pob achos glân a budur. Mae gan offeiriad ddigon o waith i edrach ar ol eneidiau ei wrandäwyr, os bydd hyny ar ei galon o, heb fyn'd i myreth â phethe eraill; a bydaswn i'r frenines mi faswn yn deyd a<noinclude><references/></noinclude> fkwlkqrjbgr69886qwuvy3h15khx950 165596 165595 2026-05-22T22:51:51Z AlwynapHuw 1710 165596 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyf yn ammheu nad oedd efe yn cydymdeimlo yn fawr â fy mam a minnau yn ein caledi. Ond cyffyrddodd ei ymadroddion â thant yn natur annibynol fy mam, a barodd iddi ei gyfarch mewn dull a dybiwn i y pryd hwnw yn anfoesgar, ac yn gwbl anmhriodol i ŵr o safle a pharch Mr. Brown. Yr wyf yn meddwl y gallaf gofio yr hyn a ddywedodd hi wrtho air am air. "Mr. Brown," ebe hi, "dydw i ddim yn gwbod ond am Un fedr roi briw a'i wella fo, a feder daflu i lawr a chodi i fyny; ac os daethoch chi yma gyda'r meddwl o roi plaster ar y dolur ddaru i chi achosi, mae'ch neges yn ofer. Cic a chusan ydw i yn galw peth fel yna, Mr. Brown. Wedi i chi roi fy machgen diniwed yn ''jail'', mi fydde yn o arw gen i dderbyn dim help gynoch chi, bydded y nghledi i y peth y bytho. Hwyrach y deydwch chi y modi yn hy, ac felly yr ydw i; ond y mae yn rhaid i mi gael deyd y peth sydd ar y meddwl, a mi deimla'n sgafnach ar ol 'i ddeyd o. Yr ydw i wedi synu atoch chi, Mr. Brown! Roeddwn i yn arfer meddwl yn dda am danoch chi fel cymydog—ond—bydae fater gynoch chi am hyny—yr ydach wedi myn'd i lawr ddeg o raddau yn fy meddwl i. Yr ydwi'n meddwl y mod i yn ystyried hefo pwy yr ydw i yn siarad—achos fel y deydodd Tomos o'r Nant {{center block| <poem> "Nid oes un i'w ganmol na 'i berchi 'n gymhwys, :O flaen efengylaidd weinidog eglwys, Nac un o fwy melldith na hwnw 'n fyw, :Oni fydd Duw yn ei dywys." </poem> }} A dydw i ddim yn meddwl, Mr. Brown, fod Duw yn eich tywys chi i gymdeithasu ac i gydweithredu hefo un fel gŵr y Plâs, dyn nad ydi o'n meddwl am ddim ar effeth hon y ddaear ond am ei gyffyle rasus a'i gŵn hela a'i gêr." "Mrs. Lewis! Mrs. Lewis!" ebe Mr. Brown yn synedig. "Mary Lewis ydi fy enwi, Mr. Brown, gwreigan dlawd, a 'does gen i ddim eisio cael fy meistresu, os gwelwch chi'n dda. Ond mi deyda fo eto—nid ych lle chi ydi bod ar y fainc yn gwrando pob achos glân a budur. Mae gan offeiriad ddigon o waith i edrach ar ol eneidiau ei wrandäwyr, os bydd hyny ar ei galon o, heb fyn'd i myreth â phethe eraill; a bydaswn i'r frenines mi faswn yn deyd<noinclude><references/></noinclude> dno7gmi4afiwwui7lt4h5syrn90y3fj Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/162 104 85443 165597 2026-05-22T22:53:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165597 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrth bob offeiriad, a phregethwr hefyd o ran hyny, fel y deydodd yr Arglwydd ar fater arall a matter y byddai yn dda ichi a mine feddwl mwy am dano,— Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau?" —a mi faswn. Yr oedd Paul cyn ei argyhoeddi ar y ffordd i Damascus, â llon'd ei bocedau o symansiau i roi pobol dda yn y carchar; ond ar ol y tro mawr mi wranta i fod o wedi lluchio ei bapyrau dros y gwrych, a chlywodd neb byth am dano fo yn rhoi neb yn y ''jail'' ar ol hyny—roedd ganddo reitiach gwaith o lawer i'w neyd. A pheth arall, Mr. Brown, wn i ddim sut yr ydach chi yn dysgwyl bendith, nac yn gallu rhoi cwsg i'ch llygaid na hûn ich amamrantau, pan y gŵyr ych calon chi erbyn hyn fod chi wedi gyru bachgen diniwed i'r ''jail'' —bachgen—nid am i fod o'n fab imi yr ydw i yn deyd hyny—a chyna fo fwy yn ei ben nag ambell un sydd yn meddwl ei hunan yn rhwbeth; a bachgen—er nad ydi o, ysywaeth, yn proffesu crefydd feder neb ddeyd dim yn erbyn ei fuchedd. 'Does gen i ddim eisio brifo teimlade neb—ond phrofodd y ''machgen'' i erioed ddafn o ddiod feddwol, a fu o rioed yn y ''Red Dragon'' yn chware bwgwdhel—ne beth bynag ydach chi yn i alw fo. Ac er nad ydi machgen i ond ''collier'' cyffredin, yr ydw i yn meddwl cymin o hono fo ag y mae pobol eraill yn feddwl o'u plant sydd wedi 'u dwyn i fyny yn y bordin sgŵl, a'u dysgu i wâgsymera ac i borthi balchder a gwyniau a chwantau y cnawd, a mi rydw i. A fase raid i neb son wrtha i am help o'r plwy bydase chi, Mr. Brown, a gŵr y Plas heb roi fy machgen i yn y ''jail'' ar gam; a mi obeithia y ca i eto fy nghadw rhag mynd ar y plwy, er fod yn dda i lawer gael y plwy. Ond am fyn'd i'r Eglwys, nid ä i byth yno. Fel y gwyddoch chi, mi fum yn myn'd yno droiau ar gyfarfod diolchgarwch; ond rhaid i mi ddeyd wrthoch chi yn onest na ches rioed ddim i fy ened yno. Methodus ydw i wedi bod erioed, a thrwy gymhorth gras Methodus a fydda i byth; a mi dreia 'i gwydnu hi nes y daw y machgen i yn ei ol heb help gan na phlwy na pherson." Traddododd fy mam yr anerchiad hwn yn llithrig a chydag yni, a gwisgai ei hwyneb ysgorn gwywol na welais mo honi yn ei ddangos cynt nac wedi hyn. O herwydd fy mod yn ofni yn barhâus i'r gade dori o dan Mr. Brown, ac fod arnaf gywilydd mawr o hyfdra fy mam yr oeddwn yn chwŷs dyferol, a da gan fy nghalon oedd ei chlywed yn<noinclude><references/></noinclude> 91bgqbguu66v91fot7d376kdodygvhm Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/163 104 85444 165598 2026-05-22T22:55:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165598 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhoi pen ar ei haraeth. Edrychai Mr. Brown yn synedig a chlwyfedig, ac nid heb achos. Ond nid gŵr oedd efe i amddiffyn gweithred hyd yn nôd o'i eiddo ei hun, os gwyddai ei bod yn anghyfiawn. Yr oedd fy mam yn adnabod Mr. Brown yn ddigon da i fod yn hyderus yn hyn. Gwyddai hi hefyd, os oedd y gred yn gyffredinol yn y dref fod Bob a'i gydymaith John Powell wedi eu traddodi i'r carchar ar gam, nad oedd neb yn fwy hysbys o hyny na Mr. Brown ei hun, oblegid nid oedd efe un amser yn ddyeithr i'r ''public opinion''. Ni cheisiodd Mr. Brown amddiffyn ei hun; a phan gyfododd efe ar ei draed teimlais ollyngdod mawn, canys yr oeddwn erbyn hyn yn sicr na thorai y gadair odditano. Cyn ymadael ebe efe braidd yn sarug, "Daru neb erioed siarad fel ene hefo fi o'r blaen, Mrs. Lewis; a hwyrach y byddwch chi isio assistance gynaf fi eto." "Dydw i'n ammheu dim," ebe fy mam, "am y peth cynta ddeydsoch chi, Mr. Brown, achos mi obeithia na roesoch erioed o'r blaen fachgen diniwed yn y ''jail''; a dydi o ''harm'' yn y byd i chi gael clywed tipyn o wir weithiau, ac yr ydw ine yn teimlo yn fwy bethma ar ol cael ei ddeyd o. Ac am y peth ola', sef y do i ar ych gofyn chi eto, 'does gen i ond ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth am hyny; ond os byth y do i ar ych gŵd marsi chi, mi ellwch fod yn siwr y bydda i wedi trio pawb arall yn gyntaf." Aeth Mr. Brown ymaith yn ffrom, ac ebe fy mam wrthyf,"Ddeydes i ddim yn riol wrtho fo, dywed?" ac atebais innau fy mod yn ofni ddarfod iddi fod yn rhy hyf, a'i bod wedi briwo teimladau Mr. Brown. "Paid a chyboli," ebe hi, "mae i groen o yn dewach o lawer nag yr wyt ti yn meddwl. Fe ddeydodd y Gwaredwr a'i apostolion blaenach gwir o lawer wrth yr archoffeiriad nag a ddeydes i. Mi wyddwn yn burion lle roeddwn i arni, a mi dyffeia fo i roi symans i mi er cymin gŵr ydi o." Y noswaith hono daeth Abraham, stiward y Caeau Cochion, i'n tŷ ni i hysbysu fy mam fod gwaith da a chyson yn cael ei gadw i Bob erbyn y deuai adref, a pha arian bynag yr oedd hi yn sefyll mewn anghen am danynt eu bod i'w cael, ac y caffai Bob eu talu yn ol o'i gyflog fel y medrai. Wedi i fy mam grïo tipyn a diolch mwy na mwy, ac adrodd wrth Abraham—yr hwn oedd Annibynwr zelog—<noinclude><references/></noinclude> ashcodjwy4ywaldnyfqpbvzfg0tfu2m Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/164 104 85445 165599 2026-05-22T22:55:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165599 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hanes ymweliad y person, yr hyn a'i difyrodd yn fawr, wrth ymadael estynydd Abraham sofren yn fenthyg i fy mam, ac aeth ymaith. Edrychodd fy mam ar y sofren bob ochr a phob cyfeiriad, fel un yn syllu ar hen gyfaill y mae ymron wedi ei anghofio, ac ebe hi, "Gŵr da sydd gymwynasgar ac yn rhoddi benthyg; wrth farn y llywodraetha efe ei achosion." Wyddost ti be? roeddwn i just wedi anghofio ffasiwn un oedd y frenines yma. Yr ydw i yn cofio yr amser pan oeddwn i reit cybyddus â hi, a gobeithio y byddwn yn gweled ein gilydd yn amlach eto. Hir hoedel a gras iddi hi a'i phlant ydi gwir ddymuniad y nghalon i." <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XXI.<br>Dychweledigion.}}}} Aeth amser heibio, fel y mae yn feunyddiol yn myned heibio, a dygodd gydag ef, fel o drugaredd y mae yn arferol, nid yn unig ei helbulon ond ei gysuron hefyd. Trwy garedigrwydd Abraham, stiward y Caeau Cochion, nid oedd ein cwpbwrdd bellach yn wag. ac erbyn hyn nid oedd y llewod yn rhuo yn fy ystymog. Fel yr oedd yr adeg yn agosau i Bob gael ei ryddhau, ymloewai wyneb fy mam; ac eto gwyddwn oddiwrth ei hymddyddan a'i hymddygiad nad oedd hi heb feddwl a phryderu llawer pa olwg a fyddai arno, a pha effaith a fyddai ei garchariad anghyfiawn wedi ei gael ar ei ysbryd, a mil a mwy o ofynion ag y mae mam ofalus yn barod i'w gofyn mewn amgylchiadau cyffelyb. Yr oedd John Powell eisoes wedi dychwelyd; ac er nad allai efe adrodd ond ychydig am Bob, gan eu bod eu dau yn cael eu cadw ar wahân, yr oedd fy mam wrth ei "holi a'i stilio" wedi gallu tynu digon o hono i edrych gyda phryder ac ofn ar y diwrnod y byddai fy mrawd yn dyfod yn ol. Cyn i'r diwrnod hwnw ein cyrhaeddyd, dygwyddodd dau beth a roddodd foddhad mawr i fy mam. Rhag i mi fod yn faith (fel y bum yn dywedyd weithiau wrth bregethu, er y byddwn yn adrodd pob gair a fwriadwn), ni wnaf ond prin gyffwrdd â'r ddau beth hyny. Yr oedd ymweliadau Abel Hughes, yr hen flaenor hybarch, a'n tŷ <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 2yyfxrbu2z5j1qypq31vbx4h3p0g3fg Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/165 104 85446 165600 2026-05-23T01:29:55Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn" 165600 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn<noinclude><references/></noinclude> lifjtqxl4bara3h7veccwgdaetzwmxx 165601 165600 2026-05-23T01:36:15Z AlwynapHuw 1710 165601 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam, Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan." "Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig." "Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel. "Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel. "Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny." "Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed? "Bob," ebe finnau yn wylaidd. "Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?" Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. "Medraf addition, substraction, multiplication, a division of money." "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam. "O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3qm59yb216w04mlbzf573h30x1d8d0y 165602 165601 2026-05-23T01:36:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165602 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam, Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan." "Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig." "Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel. "Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel. "Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny." "Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed? "Bob," ebe finnau yn wylaidd. "Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?" Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. "Medraf addition, substraction, multiplication, a division of money." "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam. "O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6ckto538zhxf6u2pjn2hxjoyebngct7 165603 165602 2026-05-23T01:38:34Z AlwynapHuw 1710 165603 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam, Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan." "Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig." "Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel. "Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel. "Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny." "Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed? "Bob," ebe finnau yn wylaidd. "Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?" Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. ''"Medraf addition, substraction, multiplication, a division of money."'' "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam. "O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4h214x3kkdupiy7kcertn25ku7m03jw Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.djvu/166 104 85447 165606 2026-05-23T01:44:23Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda ""Rhys," ebe fy mam, gan edrych yn geryddgar arnaf, "ddaru i mi rioed o'r blaen dy ddal di yn deyd anwiredd! Ai isio tori calon dy fam yr wyt ti? Ydw i ddim wedi cael digon o brofedigaethe, tybed, heb i ti fyn'd i ddeyd anwiredd o flaen fy llygaid i? Mae'r hen air yn ddigon gwir, Abel, na ŵyr neb beth ydi magu plant. Mi ddeuda yn onest wrthoch chi, does gen i ddim isio'ch twyllo chi; fu rioed arian yn 'i ddwylo fo; ac yr ydwi yn synu... 165606 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Rhys," ebe fy mam, gan edrych yn geryddgar arnaf, "ddaru i mi rioed o'r blaen dy ddal di yn deyd anwiredd! Ai isio tori calon dy fam yr wyt ti? Ydw i ddim wedi cael digon o brofedigaethe, tybed, heb i ti fyn'd i ddeyd anwiredd o flaen fy llygaid i? Mae'r hen air yn ddigon gwir, Abel, na ŵyr neb beth ydi magu plant. Mi ddeuda yn onest wrthoch chi, does gen i ddim isio'ch twyllo chi; fu rioed arian yn 'i ddwylo fo; ac yr ydwi yn synu atat ti, Rhys, yn deyd ffasiwn beth wrth Abel Hughes." Yr oedd llawer o'r hen Fethodistiaid yn credu, yr wyf yn meddwl, nad oedd chwerthin "yn gweddu i'r efengyl." ac nid wyf yn cofio i mi rioed cyn y tro hwn glywed Abel Hughes yn dadgan ei deimladau yn y ffordd hono; ac mor anghynnefin oedd efe â'r gwaith fel yr oedd ei chwerthiniad yn debycach i rywbeth rhwng ysgrêch ac ochenaid nag i ddim arall. Ond chwerthin a wnaeth, ac ebe fe, "Peidiwch a chynhyrfu, Mary bach; sôn y mae Rhys a minnau am reolau'r tutor i gyfrif arian." "Ho, deydwch chi hyny; wyddwn i rioed fod gan Mr. Tudor reolau i gyfri arian, ond mi glywes fod gyno fo lawer o arian, ai fod o yn cymryd digon o ofal o honyn' nhw. Bydae o yn dwad yma i gyfri fy arian i, mi alle adel ei 'reolau' gartre, ŵyr dyn. Ond y mae plant y dyddiau hyn yn gwbod mwy na'u rhieni, ne mae nhw yn meddwl hyny beth bynag. Ond gan eich bod chi'n dallt eich gilydd, ewch ymlaen. Ac ymlaen yr aethom—Abel yn holi, a minnau yn ateb. Heb wenieithio i mi fy hun, yr wyf yn sicr fod Abel yn synu fy mod yn gwybod cymaint ag a wyddwn, a minnau heb gael nemawr ddim ysgol, a'i fod yn edmygu Bob am y drafferth a gymerasai gyda mi. "Yr ydw' i yn gobeithio, Abel," ebe fy mam, "nad ydi Bob wedi dysgu dim drwg iddo. Mae nhw hefo'u hen Sasneg y dyddiau hyn; fel na wyddoch chi ddim be sydd yn mynd ymlaen yn eich tŷ eich hun." Sicrhäodd Abel fy mam mai da y gwnaethai Bob yn fy nysgu yn y pethau hyn, ac yr oedd hyny oddiwrtho ef yn damaid blasus ganddi, ac ebe hi, "Mi ffraues lawer hefo Bob am fod yma ormod o'r llyfr a'r slaten ac o esgeuluso'r Beibil; ond y mae yn dda gen i'ch clywed chiyn deyd na<noinclude><references/></noinclude> 6aqxan9cr49k12cw4kem54wi9qd7jhn 165607 165606 2026-05-23T01:48:08Z AlwynapHuw 1710 165607 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Rhys," ebe fy mam, gan edrych yn geryddgar arnaf, "ddaru i mi rioed o'r blaen dy ddal di yn deyd anwiredd! Ai isio tori calon dy fam yr wyt ti? Ydw i ddim wedi cael digon o brofedigaethe, tybed, heb i ti fyn'd i ddeyd anwiredd o flaen fy llygaid i? Mae'r hen air yn ddigon gwir, Abel, na ŵyr neb beth ydi magu plant. Mi ddeuda yn onest wrthoch chi, does gen i ddim isio'ch twyllo chi; fu rioed arian yn 'i ddwylo fo; ac yr ydwi yn synu atat ti, Rhys, yn deyd ffasiwn beth wrth Abel Hughes." Yr oedd llawer o'r hen Fethodistiaid yn credu, yr wyf yn meddwl, nad oedd chwerthin "yn gweddu i'r efengyl." ac nid wyf yn cofio i mi rioed cyn y tro hwn glywed Abel Hughes yn dadgan ei deimladau yn y ffordd hono; ac mor anghynnefin oedd efe â'r gwaith fel yr oedd ei chwerthiniad yn debycach i rywbeth rhwng ysgrêch ac ochenaid nag i ddim arall. Ond chwerthin a wnaeth, ac ebe fe, "Peidiwch a chynhyrfu, Mary bach; sôn y mae Rhys a minnau am reolau'r ''tutor'' i gyfrif arian." "Ho, deydwch chi hyny; wyddwn i rioed fod gan Mr. Tudor reolau i gyfri arian, ond mi glywes fod gyno fo lawer o arian, ai fod o yn cymryd digon o ofal o honyn' nhw. Bydae o yn dwad yma i gyfri fy arian i, mi alle adel ei 'reolau' gartre, ŵyr dyn. Ond y mae plant y dyddiau hyn yn gwbod mwy na'u rhieni, ne mae nhw yn meddwl hyny beth bynag. Ond gan eich bod chi'n dallt eich gilydd, ewch ymlaen. Ac ymlaen yr aethom—Abel yn holi, a minnau yn ateb. Heb wenieithio i mi fy hun, yr wyf yn sicr fod Abel yn synu fy mod yn gwybod cymaint ag a wyddwn, a minnau heb gael nemawr ddim ysgol, a'i fod yn edmygu Bob am y drafferth a gymerasai gyda mi. "Yr ydw' i yn gobeithio, Abel," ebe fy mam, "nad ydi Bob wedi dysgu dim drwg iddo. Mae nhw hefo'u hen Sasneg y dyddiau hyn; fel na wyddoch chi ddim be sydd yn mynd ymlaen yn eich tŷ eich hun." Sicrhäodd Abel fy mam mai da y gwnaethai Bob yn fy nysgu yn y pethau hyn, ac yr oedd hyny oddiwrtho ef yn damaid blasus ganddi, ac ebe hi, "Mi ffraues lawer hefo Bob am fod yma ormod o'r llyfr a'r slaten<noinclude><references/></noinclude> pybcubh5yw16s9g08lkt6wgn0igbdqa 165608 165607 2026-05-23T01:48:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 165608 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Rhys," ebe fy mam, gan edrych yn geryddgar arnaf, "ddaru i mi rioed o'r blaen dy ddal di yn deyd anwiredd! Ai isio tori calon dy fam yr wyt ti? Ydw i ddim wedi cael digon o brofedigaethe, tybed, heb i ti fyn'd i ddeyd anwiredd o flaen fy llygaid i? Mae'r hen air yn ddigon gwir, Abel, na ŵyr neb beth ydi magu plant. Mi ddeuda yn onest wrthoch chi, does gen i ddim isio'ch twyllo chi; fu rioed arian yn 'i ddwylo fo; ac yr ydwi yn synu atat ti, Rhys, yn deyd ffasiwn beth wrth Abel Hughes." Yr oedd llawer o'r hen Fethodistiaid yn credu, yr wyf yn meddwl, nad oedd chwerthin "yn gweddu i'r efengyl." ac nid wyf yn cofio i mi rioed cyn y tro hwn glywed Abel Hughes yn dadgan ei deimladau yn y ffordd hono; ac mor anghynnefin oedd efe â'r gwaith fel yr oedd ei chwerthiniad yn debycach i rywbeth rhwng ysgrêch ac ochenaid nag i ddim arall. Ond chwerthin a wnaeth, ac ebe fe, "Peidiwch a chynhyrfu, Mary bach; sôn y mae Rhys a minnau am reolau'r ''tutor'' i gyfrif arian." "Ho, deydwch chi hyny; wyddwn i rioed fod gan Mr. Tudor reolau i gyfri arian, ond mi glywes fod gyno fo lawer o arian, ai fod o yn cymryd digon o ofal o honyn' nhw. Bydae o yn dwad yma i gyfri fy arian i, mi alle adel ei 'reolau' gartre, ŵyr dyn. Ond y mae plant y dyddiau hyn yn gwbod mwy na'u rhieni, ne mae nhw yn meddwl hyny beth bynag. Ond gan eich bod chi'n dallt eich gilydd, ewch ymlaen. Ac ymlaen yr aethom—Abel yn holi, a minnau yn ateb. Heb wenieithio i mi fy hun, yr wyf yn sicr fod Abel yn synu fy mod yn gwybod cymaint ag a wyddwn, a minnau heb gael nemawr ddim ysgol, a'i fod yn edmygu Bob am y drafferth a gymerasai gyda mi. "Yr ydw' i yn gobeithio, Abel," ebe fy mam, "nad ydi Bob wedi dysgu dim drwg iddo. Mae nhw hefo'u hen Sasneg y dyddiau hyn; fel na wyddoch chi ddim be sydd yn mynd ymlaen yn eich tŷ eich hun." Sicrhäodd Abel fy mam mai da y gwnaethai Bob yn fy nysgu yn y pethau hyn, ac yr oedd hyny oddiwrtho ef yn damaid blasus ganddi, ac ebe hi, "Mi ffraues lawer hefo Bob am fod yma ormod o'r llyfr a'r slaten<noinclude><references/></noinclude> 3gqphx2er5eojfhl7sf1lm1l5h9iex9 Caniadau Hiraethog 0 85448 165609 2026-05-23T02:00:04Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Caniadau Hiraethog | author = | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Caniadau Hiraethog (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Awdur}} | {{Wicipedia|Llyfr}} | {{Wicipedia|Testun}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Caniada..." 165609 wikitext text/x-wiki {{header | title =Caniadau Hiraethog | author = | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Caniadau Hiraethog (testun cyfansawdd)]] }} {| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;" |- | {{Wicipedia|Awdur}} | {{Wicipedia|Llyfr}} | {{Wicipedia|Testun}} |} <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;"> <pages index="Caniadau Hiraethog.djvu" from=5 to=6 /> </div> ==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old}} [[Categori:Caniadau Hiraethog]] [[Categori:Awdur]] [[Categori:Llyfrau blwyddyn]] [[Categori:Llyfrau'r (degawd)au]] [[Categori:Testun]] lfwocir3na7ty9dd3q9dx7k5ogggywb