Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.7
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y Dreflan.djvu/12
104
86306
166829
2026-06-21T11:59:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166829
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eglwys o fewn i'r eisteddleoedd dyfnion, o ba le yr oedd yn anmhosibl bron i mi weled y Person o herwydd bychander fy maintioli a dyfnder y sêdd, nac ychwaith ddeall ond ychydig o'r hyn a ddywedai efe. Yn wir, nid oeddwn yn gofalu rhyw lawer beth a ddywedai y gŵr eglwysig, canys fy mhryder mawr i fyddai gallu edrych yn ddifrifol pan fyddai yr "hen ffoniwr," fel y gelwid ef gan y plant, yn myned heibio, yr hwn a gerddai yn ol a blaen ar hyd yr Eglwys yn ystod yr holl wasanaeth càn ddystawed â chath, a gwialen gref yn ei law, gweinyddu yr hon ar ein penau a'n hysgwyddau oedd yn fforddio dirfawr ddifyrwch iddo, goeliem ni. Yn y cyfnod hwnw ar fy oes, yr oeddwn yn teimlo rhyw barchedigaeth mawr i'r adeilad henafol a gwych, ac yr oedd rhyw ddirgelwch ac ofnadwyaeth i mi ynglŷn â llawer o bethau perthynol iddi. Un o ba rai oedd yr organ a'r ddynes ddall oedd yn ei chware, a buaswn yn teimlo arswyd pe buasai y Person neu yr ysgolfeistr yn gorchymyn i mi fyned tu ol i'r wahanlen yn yr oriel lle yr oedd trigle yr holl ddirgelwch hwn. Meddiannwn yr un teimladau ynglŷn â'r clochdŷ anferth, yn yr hwn y coeliwn fod ysbrydion ac ellyllon yn cartrefu; ac nid allwn lai nag edmygu dewrder y dyn a fyddai yn agor clo y drws mawr yn nhywyllwch a thrymder y gauaf, ac yn myned i mewn i ganu y gloch wyth. Yn fy mhlentynrwydd, bum yn holi fy hunan lawer gwaith pa un ai tlodi fu yn achos fod ffenestri yr hen Eglwys wedi eu gwneyd i fyny o fân ddarnau o wydrau o wahanol liwiau, ai ynte a oedd hyny yn amlygu rhyw amcan? Yn fy ngwiriondeb hefyd, bum yn rhyfeddu fod Mr. Hughes y Person yn goddef i Thomas Walters y clochydd ei watwar o hyd; a dysgwyliwn yn barhâus ei weled yn cael ei droi allan o'r Eglwys. Y penderfyniad y daethum iddo oedd fod yr hen ŵr yn dechre dyrysu, a bod Mr. Hughes a'r gynnulleidfa yn cyd-ddwyn âg ef. Wedi cyrhaedd oedran addfetach, a gallu darllen ychydig, treuliais lawer awr i sillebu yr argraffiadau ar barwydydd yr Eglwys, lle yr oedd Phillip Phillip, Yswain, wedi gadael hyn a hyn i'r tlodion tra y<noinclude><references/></noinclude>
febwyfxqsvze987qd6fn8coarcq2ppn
Tudalen:Y Dreflan.djvu/13
104
86307
166830
2026-06-21T12:33:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166830
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>thedai y dwfr a bum yn rhyfeddu a fuasai efe, tybed, yn gadael y fath swm pe buasai yn gwybod mor frwnt yr oedd yr "hen ffoniwr" wrthym ni y plant? Cwestiwn arall a ofynwn oedd, Pwy oedd yn gofalu am yr arian hyn? Cefais achlysur i ofyn yr un cwestiwn wedi cyrhaedd oedran gŵr. Er i mi adael yr hen fam mor fuan ag yr agorwyd Ysgol Frydeinig yn ein Treflan, rhaid i mi addef fy ngwendid, mai anaml y byddaf yn clywed clychau yr hen Eglwys heb i'r holl ofergoelion a'r adgofion hyn, a lliaws o rai tebyg, ddyfod i'm meddwl.
Ond i ddychwelyd. Mae y ficer yn wr tewdrwm, yn Eglwyswr o'r Eglwyswyr, ac yn myned hyd ei linya mewn defodaeth. Mae ganddo ddau giwrad un yn Sais pur, ond wedi dysgu ''methu'' siarad Cymraeg, Cymro glân ydyw y llall, a mab i flaenor gyda'r "Hen Gorff" yn Sir Aberteifi. Neillduolrwydd mawr y ciwrad o'r De ydyw, ei fod yn orzelog yn erbyn Ymneillduwyr. Mae yn dda genyf ddadgan fod y tri gŵr Eglwysig yn ddilychwin o ran eu cymeriadau, ac yn gweithio yn ddifed. Mae gan y ficer ddau warden, dynion da a zelog am edrych ar ol amgylchiadau allanol yr Eglwys ar y Sabboth; ac y mae y naill yn ystod yr wythnos yn gofalu am ddisychedu dynion, ac y mae y llall yn gofalu am y ''harriers''. Rhag i'r clochydd feddwl fy mod wedi ei anghofio, y mae yntau yn ŵr corffol a diniwed. Crydd ydyw wrth natur, ac wedi ei ddwyn i fyny gyda'r Methodistiaid; ond o herwydd rhyw resymau, digonol ganddo ef ei hun, dros y caffai well gwrandawiad i'r erfyniad yn y pader sydd yn cyfeirio at y bara beunyddiol, efe a ymadawodd a'r "Hen Gorff," ac a wnaeth ei gartref yn yr Eglwys Sefydledig, ymha le y mae yn awr yn llenwi y swydd anrhydeddus y cyfeiriwyd ati eisoes, fel olynydd i'r hen Thomas Walters
Nid anenwog ydyw y Methodistiaid yn ein Treflan. Mae ganddynt fwy nag un capel yma, ac eglwysi cryfion anghenrheidiau ysbrydol pa rai a oruchwylir gan fugail, a byddin o flaenoriaid. Mae y bugail yn wr ieuanc dysgedig a galluog, ac yn bregethwr da. O leiaf, felly y<noinclude><references/></noinclude>
fd0qnwwc6dp9sevxa5ypz8n6fqj3fv5
Tudalen:Y Dreflan.djvu/14
104
86308
166831
2026-06-21T12:37:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166831
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywed ei edmygwyr; ond dywed eraill ei fod yn pregethu yn rhy draethodol, ac mai gwell ganddynt hwy fyddai bugail na fuasai mewn athrofa. Heblaw hyn, mae yr eraill hyny yn meddwl ei fod yn cael gormod o gyflog; ond yr un pryd, hwy a ymunent i wneyd tysteb iddo pe byddai yn meddwl am ymadael. Mae rhai yn barnu y gwnai efe fwy o les pe byddai yn ymweled mwy â'r aelodau; ond tybia eraill y byddai yn well iddo aros mwy yn ei fyfyrgell na cholma hyd y tai fel y gwna yn awr. Mae gwyneb llwyd y bugail, pa fodd bynag, yn dangos yn eglur naill ai ei fod yn gwneyd ei ddyledswydd yn ol ei allu, ac uwchlaw ei allu, neu nad ydyw yn gwybod dim am ormodedd ymborth. Yn perthyn i'r achos Methodistaidd y mae pregethwr hefyd, yr hwn a edmygir yn fawr gan y teulu gwrthfugeiliol; canys y mae efe yn ffarmwr, yn siopwr, yn ''general dealer'', yn gasglwr trethi, ac yn pregethu rhwng cromfachau, ac felly, dybygid, yn dyfod i fyny yn gyflawn a'r cynghor ysbrydoledig i beidio ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn.
Er fod yma ddyfroedd lawer, ychydig mewn cymhariaeth ydyw nifer ein brodyr y Bedyddwyr; ac nid ydwyf yn gwybod am reswm i'w roddi am hyn, os nad ydyw yn un anianyddol, sef ein sefyllfa dra gogleddol. Ond mae yr ychydig sydd o honynt yn gweithio yn dda. Mae ein brodyr Annibynol a Wesleyaidd yn fwy pentecostaidd mewn un ystyr, beth bynag, na'r enwadau eraill, yn gymaint a'u bod yn pregethu mewn mwy nag un iaith yn ein Treflan. Mae gweinidog yr eglwys Annibynol Gymreig yn wr craff a galluog, ac y mae hefyd yn fardd ac eisteddfodwr. Perthyna i'w eglwys ef bregethwr cynnorthwyol; dyn bychan, eiddil, a llais hynod o fain ganddo. Adnabyddir ef yn y Dywysogaeth a'r America wrth y ffugenw barddol ''Llew Rhuog''. Prif arbenigrwydd gweinidog yr eglwys Seisonig ydyw ei fod bob amser yn gwisgo yspectol oddigerth pan fydd yn darllen, a'i fod hefyd yn gwisgo het ''jim crow'', a llodrau o liw goleu ar y Sabboth. Mae cryn debygolrwydd rhwng y ddau weinidog Wesleyaidd o ran eu personau a'u gwisgiad. Maent<noinclude><references/></noinclude>
1rkj4psp6otyl1h6yojoys16h6olopp
Tudalen:Y Dreflan.djvu/15
104
86309
166832
2026-06-21T12:40:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166832
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bob amser yn daclus a thrwsiadus, ac heb fod yn ddyeithr i awduriaeth Meistri Glenfield & Co. Ychydig y maent yn ymwneyd âg unrhyw symudiad cyhoeddus a chyffredinol yn ein Treflan; ond y mae hyny o herwydd y cyflawnder mawr o waith sydd yn eu breichiau, dybygid, ac am mai dwy neu dair blynedd a fydd eu harosiad eithaf yma. Y maent yn weithwyr diwyd yn mhlaid yr achos da, yn zelog dros yr athrawiaeth a'r cyfundeb, ac un o honynt yn ddirwestwr gweithgar. Tra yr ydwyf yn ysgrifenu, y mae yr Offeiriad Pabaidd yn myned heibio yn ddystaw, ac yn ymddangos fel pe na byddai yn cymeryd sylw o neb byw bedyddiol, ond dilys, frawd, dy fod dithau yn gweithio yn dy ffordd dy hun lawn cymaint â neb a enwyd genyf.
Ond er yr holl ddarpariaethau a'r cyfleusderau sydd genym gogyfer âg efengyleiddio ein Treflan, er yr holl ymdrech a'r gwrthymdrech, er yr holl weddio a'r cynghori, y mae yma eto gannoedd na wyddant fwy am yr efengyl nag am y peth dyeithraf yn y byd Mae yma ystrydoedd cefn, tywyll a budron, lle y mae tlodi, trueni, a drygioni yn cartrefu ac yn adgenedlu eu hunain y naill flwyddyn ar ol y llall. Mae yma ugeiniau yn gwario pob ceiniog a allant gael gafael arni yn y tafarnau, a'u gwragedd a'u plant yn rhynu gan anwyd, ac yn gwynlasu gan eisieu ymborth. Ewch ymlaen, frodyr y gwahanol enwadau! Mae gwaith anferth heb ei wneyd; a pha bwys ydyw gan bwy y troir y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd am y troir ef?
Y mae yn y Dreflan ddigon o fyrddau i ddodrefnu palas lled helaeth. Mae yma Fwrdd Lleol, yn gyfansoddedig o ddeuddeg neu ychwaneg o ddynion wedi llwyddo tipyn yn y byd, ac yn cyfarfod â'u gilydd y dydd Mawrth cyntaf o bob mis, i edrych yn ddoeth ar eu gilydd, ac i gyfarch eu gilydd yn foesgar, ac i gadw heintiau niweidiol draw o'r Dreflan heb gymhorth gweddi na Rhagluniaeth, ac i benodi gwellianau mor agos ag y gallont at eu preswylfeydd eu hunain. ac i benderfynu pa faint fydd y dreth, ac i gadw ar delerau da â'r ''Reporter'' er mwyn iddo gywiro eu gramadeg cyn i'w cynghoriaethau ymddangos<noinclude><references/></noinclude>
dzn2gudt61c26riwo9yv0v0o1l50qv3
Tudalen:Y Dreflan.djvu/16
104
86310
166833
2026-06-21T12:44:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166833
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y newyddiadur lleol. Mae yma Fwrdd Ysgol, yn cael ei gyfansoddi o ddynion parchus yn cynnyrchioli dwy blaid, sef yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Gosodwyd yr Eglwyswyr ar y Bwrdd i edrych ar ol yr Ymneillduwyr, rhag iddynt gael gormod o'u ffordd eu hunain. Gosodwyd yr Ymneillduwyr ar y Bwrdd yr un modd i edrych ar ol yr Eglwyswyr. Ond pa waeth? mae y ''street Arab'' yn cael addysg, a'i osod ar ben y ffordd, a bydd ryw ddiwrnod o bosibl mor ddefnyddiol a chystal ysgolaig â neb sydd ar y Bwrdd. Mae y Bwrdd hwn wedi gwneyd dirfawr les yn barod, ac y mae llawer ci bach du yn gwella yn ei olwg bob dydd wrth gael y briwsion sydd yn syrthio oddiarno. Ond yr amser a ballai i mi son am yr holl fyrddau, a'r cwmniau, a'r clybiau, ac yn enwedig y cymeriadau sydd yn ein Treflan, amryw o'r rhai diweddaf a ddeuant o dan sylw cyn diwedd yr hanes hwn.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD II.<br>YR HEN WEINIDOG A'R BUGAIL.}}}}
PE gallai rhywun ddyweyd beth ydyw cynnwys y ddau air bach "cadw ''seiat'' yn eu cysylltiad â Methodistiaeth Cymru, byddai wedi dyweyd, mi a gredaf, y naill hanner o hanes gwirioneddol y Cyfundeb. Mae yn wir mai y pulpud a'r Ysgol Sabbothol sydd yn taraw y meddwl gyntaf fel nodweddau arbenigol yr achos; a diammheu mai â hwynt hwy yn gyffredin y cysylltir ei ddechreuad, ei gynnydd, a'i barhâd; ond y mae ei fywyd mewnol ac ysbrydol yn ddinag i'w gysylltu â'r cyfarfod eglwysig. Cyntedd y Cenedloedd ydyw y blaenaf; ond y cysegr sancteiddiolaf ydyw yr olaf. Yma y mae y saint yn un, o flaen arch y cyfammod yn mhresennoldeb Duw, yn arllwys eu teimladau a'u profiadau i'w gilydd;
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
h89icdeqtpmu2hhe2hyek6ka2rxz16w
Tudalen:Y Dreflan.djvu/17
104
86311
166834
2026-06-21T18:47:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166834
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yma y cynhyrfir, y maethir, ac yr addfedir y teimlad crefyddol. Mae y cyfarfod eglwysig yn foddion arbenig i ddyfnhâu yr argraffiadau a wnaed eisoes ar feddyliau y saint trwy y pulpud a'r Ysgol Sabbothol, ac i'w nerthu i ymladd y frwydr ysbrydol, ac i ymwneyd â'r byd heb ymlygru ynddo.
Paham na chyhoeddir hanes y ''societies''? Mae rhai o honynt yn werth eu cyhoeddi. Dywedir mai y pethau goreu a ddywed dyn yn ei fywyd ydyw y pethau a ddywed oddiar gynhyrfiad y foment; a diammheu genyf mai yn nghyfeillachau neillduol y saint y dywedwyd rhai o'r pethau goreu a ddywedwyd erioed ynglŷn â chrefydd. Pwy a wna eu casglu yn llyfr? "Gemau y ''seiat''"—dyna ddrychfeddwl i'r dyn cymhwys i'r gwaith; ac y mae yn rhaid iddo frysio, canys y mae miloedd o'r pethau goreu a ddywedwyd erioed wedi myned eisoes ar ddifancoll.
Mae y ddawn i "gadw seiat" yn ddawn ar ei phen ei hun; ac nid pob blaenor, ac yn wir nid pob pregethwr, sydd yn meddu ar y ddawn hon. Hawdd iawn ydyw ''treulio'' seiat, ond gorchwyl anhawdd ydyw ei ''chadw'' yn hen ystyr y gair. Mae yn gofyn graddau helaeth o dduwioldeb a threiddgarwch ysbrydol, a gallu i gynnyrchu a chydymdeimlo â'r teimlad crefyddol yn ei wahanol ffurfiau ac agweddau; a du fydd y diwrnod yn hanes Methodistiaeth pan y collir y ddawn hon o'n heglwysi. Byddai yr hen bobl yn parotoi llawer ar gyfer y cyfarfod eglwysig, ac yn dysgwyl llawer oddiwrtho. A nodweddir ein cyfarfodydd eglwysig â'r un peth yn ein dyddiau ni? Mae y cwestiwn yn un pwysig.
Nid rhyfedd fod brodyr yr "Hen Gapel" yn y Dreflan mewn tipyn o bryder beth a ddeuai o'r cyfarfod eglwysig, pan gludwyd Mr. Williams, eu hen weinidog, at ei dadau. Wrth i mi ei alw yn "weinidog," na feddylied y darllenydd ei fod yn was cyflogedig i'r eglwys. Na, gan rai o'r tu allan i'w eglwys ei hun, yr hon a dderbyniodd y rhan fwyaf o'i lafur, y cafodd ef y teitl "gweinidog." Yn gyffelyb fel y rhoddir teitlau o'r America i ysgoleigion y wlad hon, felly am Mr. Williams: gan estroniad, mewn<noinclude><references/></noinclude>
4pqh2165sp9hbobeerxfs6ef0jf9a2l
Tudalen:Y Dreflan.djvu/18
104
86312
166835
2026-06-21T18:50:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166835
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymhariaeth, y cafodd yntau ei deitlo yn weinidog. Ond na feddylied neb fy mod yn awgrymu fod y gymhariaeth yn cario ddim ymhellach. Yr oedd Mr. Williams, ''fel'' gweinidog yr "Hen Gapel," wedi bedyddio a phriodi y rhan fwyaf o'r aelodau wedi cynnrychioli yr eglwys ymhob cylch—wedi rhoddi ei bresennoldeb a'i wasanaeth yn ddifwlch yn ei holl gyfarfodydd, ac wedi ennill parch a serch yr eglwys yn gyffredinol; ac eto ni ddychymygodd neb am dalu iddo am ei wasanaeth mwy nag am dalu i'r dyn yn y lleuad am gario y baich drain. Gyda golwg ar Mr. Williams ei hun, ni fynasai er dim ofyn am gyflog, er fod ynddo ymwybyddiaeth dystaw, o herwydd ei gydnabyddiaeth damweiniol âg ysgrifeniadau Mr Paul, nad oedd yn anhaeddiannol o hono. Pa fodd bynag, gofalodd Rhagluniaeth am roddi iddo ddigon, a mwy na digon, o ddâ y byd hwn; a chyn i'r eglwys sylweddoli ei wir werth, yr oedd yr hen frawd duwiol a thalentog ar ei wely angeu, yn mwynhâu holl gysuron gwir grefydd oes lafurus, a chydwybod ddirwystr; a thrwy iddo fod yn "gyfrwys," yr oedd ei gyflog wedi ei I—ys dywed y trafaelwyr—gan yr Hwn yr oedd i gael ei wysio i'w bresennoldeb ymhen ychydig fynydau. Nid yn fuan yr anghofiaf ddydd ei gladdedigaeth. Mae yn hen sylw nas gŵyr dyn werth iechyd nes ei golli, ac y mae y sylw yr un mor wir am ddyn da: nid ydym yn gwybod ei werth nes iddo ein gadael. Ac mor rhyfedd ydyw y ffaith-y dangosir mwy o barch gwirioneddol a didwyll i esgyrn dyn nag a ddangoswyd iddo ef ei hun yn ystod ei holl oes. Mae yna ryw ymwybyddiaeth ynom fod pob dyn da, fel Joseph, wedi rhoddi "gorchymyn am ei esgyrn," yr hwn orchymyn sydd yn gysegredig, ac anufuddhâu iddo a fyddai yn annuwioldeb. Yr oedd pigion "gwahanol enwadau" y gymydogaeth yn y cynhebrwng, ie, hyd yn nôd y ciwrad Deheuol, a'r ciwrad arall, a'r ficer, a phawb fel eu gilydd yn arddangos y parch a'r tristwch mwyaf.
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol, yr oedd hen flaenor—y blaenor hynaf yn wir yn yr "Hen Gapel"—o'r enw<noinclude><references/></noinclude>
7aihthh0btkw98588mjbf1kqf8dgd0d
Tudalen:Y Dreflan.djvu/19
104
86313
166836
2026-06-21T18:57:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166836
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Benjamin Prys. Gŵr duwiol ac ysgrythyrol iawn ydoedd ef; ac yr oedd efe yn cofio Mr Williams yn llanc ieuanc glân yn dechreu pregethu. Yr oedd wedi byw y rhan fwyaf o'i oes o dan ei weinidogaeth; ac ni chymerai ei berswadio nad oedd Mr. Williams yn un o'r dynion mwyaf yn y byd. Yr oedd yr hen frawd, er ys rhai misoedd bellach, o herwydd henaint, llesgedd, a'r gymalwst, yn analluog i fyned i'r moddion ond anfynych; ond er fod diwrnod yr angladd yn oer ac ystormus, nid allai na henaint na chymalwst gadw yr hen Fenjamin yn y tŷ y diwrnod hwnw. Yr oedd yr olwg arno yn ddyddorus—gwir ''type'' o hen Gymro gonest. Gwisgai glôs a ''leggins'' llwydion, gwasgod o ystwff cartref, côb lâs, cadach India. wedi ei droi yn ddwbl am ei wddf, a het â chantel mawr iddi. a choryn isel. Pwysai ar ei ddwyffon, ac edrychai yn gynhyrfus anghyffredin. Nid ymddangosai ei fod yn adnabod nac yn cymeryd sylw o neb oedd yn y claddedigaeth; a diau fod ei feddyliau gydag ysbryd ei hen gyfaill ymhell tu hwnt i'r gorwel draw! Gwelais amryw yn myned ato i ysgwyd llaw âg ef, ac i'w longyfarch am ei fod yn alluog i ddyfod allan ar y fath dywydd; ond pan y gwnai gais i'w hateb, yr oedd ei galon yn neidio i'w wddf, a'i ên yn myned i grynu yn ddirfawr; a'r unig atebiad a gaent a fyddai edrychiad dyeithr trwy ei lygaid meinion, gloewon, a gwlybion, a chlamp o ddeigryn yn treiglo i lawr y ddwy rych o bobtu ei drwyn Rhufeinig. Rhoddaswn lawer am gael darlun o hono pan yr oedd, wedi tynu ei het, a dadguddio ei ben moel patriarchaidd, yn edrych yn galed ar gauad derw arch y cyfaill oedd anwylaf ganddo, tra yr oedd brawd o weinidog yn gweddïo wrth ddrws y tŷ cyn "cychwyn y corff." Ond pe cawsid ef, ni buasai yn cyfleu yr ochenaid a ollyngodd ar derfyn y weddi, yr hon a yrodd iâs o hiraeth trwy galon pawb oeddynt yn bresennol.
Yr oedd tipyn o ffordd o'r tŷ i'r fynwent; a chan fod y rhai oedd yn dwyn yr elor yn cerdded yn lled gyflym, a Benjamin Prys yn hynod o fethiantus, methodd a chanlyn yr orymdaith er ceisio ei oreu; a gadäwyd ef encyd o<noinclude><references/></noinclude>
4jlmv6v7j3me7t6x4uvyjr3xjbzkf2e
Tudalen:Y Dreflan.djvu/20
104
86314
166837
2026-06-21T19:49:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166837
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffordd ar ol, ac anghofiwyd ef. Yr oedd calon llawer un yn gwaedu o'r rhai oedd yn edrych trwy y ffenestri ar y cynhebrwng yn myned heibio, wrth weled yr hen ŵr yn ymladd â'i wendid, ac mor benderfynol o gael gweled y diwedd. Pan gyrhaeddodd yr Eglwys, yr oedd y ficer wedi myned dros hanner y gwasanaeth; ac ar ei ddyfodiad i mewn, teimlodd ambell un euogrwydd yn ei gydwybod o herwydd esgeuluso ac anghofio cyfaill penaf yr ymadawedig, a hyny o bosibl am ei fod yn dlawd. Pan aethpwyd at y bedd, gwnaed lle i'r hen Fenjamin i weled yr hyn oedd farwol o'i gyfaill yn cael ei roi yn ei hir gartref. Diósgodd yntau ei ben drachefn, a phwysai eilwaith ar ei ddwyffon. Yr oedd pawb bron erbyn hyn wedi anghofio Mr. Williams yn yr olwg ar dristwch a ffyddlondeb Benjamin Prys. Efe oedd yr olaf i adael y bedd, a chydag anhawsder mawr y cafwyd ganddo ei adael o gwbl. Yr oedd yr hen wr wedi trethu cymaint ar ei nerth, fel y bu raid i rai o'r cyfeillion ei gludo gartref mewn cerbyd; a hwn oedd y tro ólaf i Benjamin Prys fod yn mynwent y llan yn fyw; ond nid hwn ydyw y tro olaf y bydd yn dyfod ger bron yn yr hanes hwn.
Beth a ddaw o'r cyfarfod eglwysig? oedd gofyniad pawb ar ol marwolaeth Mr. Williams. Yr oedd efe er ys llawer o flynyddoedd wedi arfer llywyddu y seiat ei hun; ac er ei fod yn feunyddiol yn taer gymhell y swyddogion i gymeryd rhan arweiniol ynddi, anfynych y gwnai neb oddigerth Benjamin Prys; ac yr oedd yntau bellach wedi myned i ormod oedran a methiantwch i ddysgwyl llawer oddiwrtho. Nid oedd y blaenoriaid wedi ymarfer â chadw y seiat, ac yr oedd yn gwestiwn mawr ganddynt hwy eu hunain, a chan bawb, a oeddynt yn meddu ar y ddawn. Yr oedd Mr. Smart yn ŵr rhagorol gyda'r llyfrau a'r cyhoeddiadau; ond nid oedd ganddo ddawn i wneyd ddim yn gyhoeddus. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn galluog ac o gryn ddylanwad; ond yr oedd efe yn I, neu yn credu ei fod felly, yr hyn sydd yn dyfod i'r un peth. Yr oedd Mr. Howells wedi ei ddonio yn fawr i siarad ar y casgliad; ond pan elai i ddyweyd ar rywbeth arall, teimlai pawb ei fod<noinclude><references/></noinclude>
l5yh7iq80b8eifbcl9h725091w8s2bb
Tudalen:Y Dreflan.djvu/21
104
86315
166838
2026-06-21T19:51:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166838
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>allan o'i gylch. Edrychid ar Mr. Bevan fel dyn o gymeriad uchel, ac efe ydoedd yr ymadroddwr penaf; ond nid oedd ganddo ffordd i drin pobl; ac anfynych y cyfodai i siarad heb friwo rhywun, er yn anfwriadol. Cymaint ag a allai Mr. Prysor, y pregethwr, drachefn, oedd myn'd i seiat y "capel newydd" yn awr ac yn y man.
Bu yr eglwys yn llafurio o dan yr anhawsderau hyn am gryn amser, a phawb yn myned i deimlo fwyfwy y golled yr oeddynt wedi ei chael yn marwolaeth Mr. Williams.
Ymhen y rhawg, mewn "cyfarfod brodyr," awgrymodd un brawd ieuanc, yr hwn oedd yn ''assistant'' mewn masnachdŷ brethynwr, "Onid dymunol a fyddai i ni gael bugail?" ac attegodd ei awgrymiad gyda rhesymau anatebadwy yn ei dyb ef; ac fel diweddglo dywedodd, "Dyna fy meddwl i." Dilynwyd yr awgrymiad â dystawrwydd. Yn y man dygodd Mr. Smart ei ''Ddyddiadur'' o'i logell a dywedodd, "Beth a wnawn o'r pum' mlynedd o gyhoeddiadau dynion da sydd yn y llyfr yma?" Dywedodd Mr. Phillips fod y mater yn gofyn ystyriaeth ddifrifol, ac fod perygl iddynt gael eu harwain i brofedigaeth. Dywedodd Mr. Howells mai prin yr oedd y casgliadau yn dyfod i fyny â'r treuliadau yn bresennol, ac os gelwid bugail y byddai yn rhaid chwyddo y casgliad yn fawr iawn. Dywedodd Mr. Bevan y buasai y cynnygiad am gael bugail yn dyfod yn well oddiwrth un o'r swyddogion, neu ynte oddiwrth un hynach a mwy profiadol na'r "brawd" a awgrymodd y peth. Gwnaeth y sylw hwn i'r "brawd" wrido at fôn ei wallt. Pa fodd bynag, wedi peth ymdrafodaeth, penderfynwyd cymeryd y pwnc i ystyriaeth, a'i osod yn "deg" o flaen yr eglwys. Cawn weled yn y benod nesaf beth a ddywedodd yr eglwys.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jm51w78ucmx182d9aag3ac91cvh01hk
Tudalen:Y Dreflan.djvu/22
104
86316
166839
2026-06-21T19:52:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166839
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III.<br>"JOHN AELOD JONES."}}}}
MAE cryn gyfatebiaeth, os nad tebygolrwydd, rhwng gwaith eglwys yn myned i alw bugail â gwaith dyn yn myned i ddewis gwraig. Yn y ddau amgylchiad,. y pwnc mawr a ddylid ei gymeryd i ystyriaeth ydyw, a oes gwir anghenrheidrwydd am y cysylltiad newydd, ac hefyd a ydyw y moddion yn ddigonol i gadw y cysylltiad i fyny yn anrhydeddus. Mae ambell i ŵr ieuanc a'i amgylchiadau yn gyfryw nad oes un anghenrheidrwydd penodol ar y pryd arno am iddo briodi, gan fod ganddo gartref cysurus, ac, hwyrach, fam a chwiorydd i ofalu am dano. Ond ryw ddiwrnod, y mae yn gweled rhyw feinwen deg, ac yn y fan yn syrthio mewn cariad â hi, a chan fod priodi yn arferiad y wlad, y mae yntau yn myned i'r cysylltiad priodasol. Felly y bydd ambell eglwys yn gwneyd, dichon nad oes anghenrheidrwydd neillduol arni am fugail, ond y mae hwn a hwn yn bregethwr ag y mae hi yn ei edmygu yn fawr, ac y mae gan eglwysi eraill fugeiliaid, a phaham nad hithau? Nid hon ydoedd sefyllfa eglwys "yr Hen Gapel" yn y Dreflan
Bydd ambell ddynsawd arall âg anghen gwirioneddol arno am wraig, ond y mae ar yr un pryd yn ymwybodol nad oes ganddo fodd i'w chadw fel y dylai hi gael ei chadw; ac eto mewn dygn anystyriaeth y mae efe yn rhyfygu priodi, ac yn cael ei hunan ar fyr amser mewn profedigaeth a thlodi, ac yn gorfod syrthio yn ol ar gymhorth plwyfol. Felly, yn awr a phryd arall, y gwelir ambell eglwys yn galw un i'w bugeilio heb un rhagolwg sylweddol am ei gyflog, ac yn gorfod yn fuan iawn. myned at y ''relieving officer'' perthynol i'r ''union district'' Methodistaidd, i grefu am gymhorth i wneyd ei gyflog i fyny. Nid hon, ychwaith, ydoedd sefyllfa eglwys yr "Hen Gapel"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2plf4tu4blpyrclo7ohh1msukds201z
Tudalen:Y Dreflan.djvu/23
104
86317
166840
2026-06-21T19:54:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166840
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr ydys weithiau hefyd vn gweled engreifftiau o un wedi bod yn trigiannu yn yr un tŷ â meinwen, ac wedi ffurfio cyfeillgarwch mawr â hi am lawer o flynyddoedd, ac eto heb fwriadu i bethau fyned ymhellach. Ond wedi byw yn ddigon hir felly gyda eu gilydd, ac iddo yntau dderbyn llawer iawn o gymwynasau a charedigrwydd oddiar ei llaw, ac, hwyrach, i'r siarad fyned ar hyd a lled y wlad fod "rhywbeth rhyngyn' nhw," pan ddaw efe i ystyried fod yn hen bryd iddo feddwl am briodi, mae yn gweled na fyddai yn gyfiawn â'i gyfeilles iddo feddwl am neb arall yn wraig; ac y mae yn teimlo mai ei ddyledswydd ydyw, os goddef y darllenydd yr ymadrodd—''popio'r'' cwestiwn; ac, wrth gwrs, ni bydd ganddi hithau yr un gwrthwynebiad. Hon a ''ddylasai'' fod sefyllfa eglwys "yr Hen Gapel."
Mae ambell ŵr arall wedi arfer byw hefo ei fam nes myned i dipyn o oedran, ac heb feddwl erioed yn ddifrifol am briodi o gwbl tra yr oedd ei fam yn fyw, er fod ganddo foddion i hyny, gan fod yr hen wreigan dda yn wastad ac yn ddifwlch wedi arfer gofalu am dano, ac wedi bod ymhob modd yn ymgeledd gymhwys iddo. Ond wedi marw ei fam, mae y creadur truan yn teimlo ei hunan yn unig yn y byd, ac yn hollol analluog i ofalu am dano ei hun, ac yn gorfod dyfod i'r penderfyniad y bydd yn rhaid iddo gael gwraig; ond pa fodd i fyned o gwmpas y gwaith nis gwyr, ac nid anfynych yn yr amgylchiadau hyn y bydd yn gofyn cyfarwyddyd gan rywun mwy profiadol. ''Hon ydoedd sefyllfa eglwys yr Hen Gapel''. Yr oedd yr ymadawedig Mr. Williams wedi arfer ei phorthi â bwyd ysbrydol, ac wedi ei meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a hithau wedi arfer ymddibynu arno am ymgeledd a chyfarwyddyd, ac am bobpeth a ellid yn rhesymol ei ddysgwyl oddiwrtho. Ond pan aeth ef i lawr i'r glyn, yr oedd yr eglwys yn teimlo yn hollol amddifad a diswcr, ac yn fwy felly o herwydd i Mr. Williams gael ei gymeryd ymaith yn lled ddirybudd.
Gan mai Mr. Bevan, fel yr awgrymwyd yn barod, oedd yr ymadroddwr penaf, iddo ef yr ymddiriedwyd y gwaith<noinclude><references/></noinclude>
isx0os2vwdvajvfvci0cwlxhwp8rxzu
Tudalen:Y Dreflan.djvu/24
104
86318
166841
2026-06-21T19:55:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166841
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o ddwyn ymlaen y cynnygiad am gael bugail, a'i osod yn deg o flaen yr eglwys. Nid y siaradwyr mwyaf ydynt y siaradwyr goreu bob amser; ac yr oedd Mr. Bevan yn engraifft ragorol o hyn. Yr oedd efe yn llefarwr rhwydd a llithrig, ac yn gallu cyfleu ei feddwl yn naturiol a thaclus; ond yn hyn o beth yr oedd yn rhy debyg i Mrs. Partington, yr hon a dystiai na byddai hi byth yn agor ei safn heb roi ei throed ynddi! Pa fodd bynag, yr oedd angel gwarcheidiol Mr. Bevan wrth ei benelin y tro hwn, ac aeth trwy ei orchwyl yn ddidramgwydd i bawb oddigerth mewn un engraifft—ar fynyd yr oedd ei angel yn hepian o bosibl—pan y mynodd Mr. Bevan gael ailadrodd ei ofid na buasai y cynnygiad hwn wedi deillio oddiwrth rywun hynach a mwy profiadol, yr hyn a barodd i bawb edrych ar yr ''assistant'' yn ''shop'' y brethynwr, ac a barodd iddo yntau borphori yn ddwysach nag y gwnaethai yn flaenorol o dan effaith yr un sylw.
Cafodd y cynnygiad am gael bugail, serch hyny, y fath dderbyniad cyffredinol gan yr eglwys nes synu yr holl flaenoriaid yn aruthrol, yn enwedig Mr. Phillips y blaenor ''nervous''; ac yr oedd yn llawen iawn ganddynt, meddent hwy, weled. y fath barodrwydd yn y frawdoliaeth i ymgymeryd â'r cyfrifoldeb. A thystiai Mr. Bevan ar y diwedd, ei fod, wrth ystyried mai y gŵr ieuanc John Jones oedd wedi cynnyg y peth, yn gorfod cyfaddef gwirionedd yr hen ddywediad fod perl weithiau i'w gael yn ngenau llyffant, yr hyn a wnaeth i'r "gŵr ieuanc" eilwaith dybied fod y sedd yr oedd yn eistedd arni ar dân.
Y cyntaf i godi ar ei draed i gefnogi y cynnygiad ydoedd Mr. Peter Pugh, gŵr da arno, calon-gynhes, cymydogol a haelfrydig dros ben. Yn wir, yr oedd y gŵr da hwn—am yr hwn y bydd genyf lawer eto i'w ddyweyd yn cario ei haelfrydedd i eithafion weithiau; ac fe gydolyga y darllenydd â mi yn hyn pan ddywedaf mai gydag anhawsder mawr y byddai ei deulu, ar adeg y Nadolig, yn gallu ei berswadio i beidio anrhegu y creadur rhochlyd yn y cut yn nghwr y buarth â ''plum pudding''; a chredid<noinclude><references/></noinclude>
re1pv0dpbd4bdw3c7kjik0okhbe5uz2
Tudalen:Y Dreflan.djvu/25
104
86319
166842
2026-06-21T19:56:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166842
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn aml, er yr holl wrthwynebiad, ei fod yn cario allan yn ddirgel ei fwriadau da yn hyn. Addawai Mr. Pugh dreblu ei gyfraniadau, os byddai anghen, tuag at gael galw gwr i'w bugeilio; ac nid oedd neb yn ei ammheu. Siaradodd amryw yn yr un cyfeiriad a Mr. Pugh; ac, yn wir, ni ddangoswyd un gwrthwynebiad gan neb oddigerth Mr. Jeremiah Jenkins yr hwn, yn ol tystiolaeth un oedd yn eistedd yn ei ymyl, càn gynted ag y clywodd son am fugail, a wthiodd ei law y foment hono i logell ei lodrau, i sicrhâu ei hun fod ei bwrs yn ddiogel, ac, er mwyn gwneyd hyny yn sicrach fyth, a'i symudodd i logell frest ei wasgod. Wedi gwneyd hyn, anadlodd yn fwy rhydd, a dywedodd—nad oedd efe yn gweled yr eglwysi oedd â bugeiliaid ganddynt yn llwyddo mwy nag eglwysi oedd hebddynt, ac mai doethach lawer, yn ei feddwl ef, a fuasai dewis ychwaneg o flaenoriaid, ac hefyd fod ganddynt ddigon o le i roi eu harian ymysg y tlodion. Hyn a ddywedodd efe nid am fod arno ofal am y tlodion. I dori yr hanes yn fyr, penderfynwyd, gan fod y Cyfarfod Misol i gael ei gynnal ymhen ychydig o wythnosau yn y Dreflan, i osod y mater ger ei fron, a gofyn ei gyfarwyddyd yn yr achos.
Prin y gwyddai y gŵr ieuanc, John Jones, ar draed pwy yr oedd yn cerdded gartref y noson hono, gan faint ei lawenydd fod ei gynnygiad ef wedi cael y fath dderbyniad, er gwaethaf geiriau cas Mr. Bevan. Preswyliai yn yr un masnachdŷ âg ef egwyddorwas o'r enw Walter, yr hwn oedd gryn lawer yn ieuengach nag ef, a'r hwn hefyd a sylwodd càn gynted ag y daeth John i'r tŷ fod rhywbeth rhyfedd wedi cymeryd lle, gan nad oedd yn bosibl bron gael gair o'i enau; ac er gwneyd llawer cais at hyny, parhau i edrych yn synfyfyriol a wnai John. Dysgwyliai Walter, pa fodd bynag, gael gwybod y cwbl wedi myned i'r ystafell wely, i'r hon yr aethant yn llawer cynnarach y noswaith hono nag arferol. Ar eu mynediad i mewn i'r ystafell, synwyd Walter yn ddirfawr gan waith John yn cymeryd cadair ac yn gosod ei hunan i eistedd o flaen y bwrdd gwisgo, gan dynu allan o'i logell<noinclude><references/></noinclude>
4wv8054qji1xrcjvuvdg492v2wzqutn
Tudalen:Y Dreflan.djvu/26
104
86320
166843
2026-06-21T19:57:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166843
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bapyr a phin ysgrifenu ac inc; a gofynodd y blaenaf yn wylaidd,
"Be wyt ti'n myn'd i neyd, John?"
"Y ''chi'', os gweli di yn dda; dydw i ddim am ychwaneg o'r ti a'r tithe hefo fi," ebe John.
Yr oedd Walter erbyn hyn yn sicr fod John wedi cael ffrae â'i feistr, a'i fod yn myn'd i roi ''notice'' iddo; ac ebe fe—
"Wel, be ydach ch'i yn myn'd i neyd ynte?"
"Yr ydw i yn myn'd i neyd peth na fedri di mo'i neyd o," ebe John, braidd yn orchestol.
Tarawodd hyn Walter â mudandod am foment; ond yn y man meiddiodd ofyn iddo eilwaith,
"Be ydi hyny, John?"
"Yr ydw i yn myn'd i gysfenu i'r wasg, peth na fedri di na dy dad mo'i neyd, ac yr ydw i'n deyd wrthat ti am fyn'd i dy wely yn reit ddystaw, a pheidio moddro i, achos pan mae dyn yn myn'd i gysfenu i'r wasg rhaid iddo gael llonydd."
Agorodd Walter ei enau, nid i lefaru y tro hwn, ond i ryfeddu; ac ymddangosai fel pe buasai wedi rhewi wrth lawr yr ystafell gan faint ei syndod; ac yno y buasai hyd yn awr am a wn i oni buasai i John roddi edrychiad bygythiol ac awgrymiadol arno, yr hyn a barodd i Walter druan lechian i'w wely can ddystawed â llygoden. Nid oedd ganddo un dirnadaeth beth oedd "gysfenu i'r wasg;" ond yr oedd yn credu ei fod yn rhywbeth ofnadwy, ac yn rhywbeth hefyd a barai i John fod yn fuan yn Aelod Seneddol, neu ynte gyflawni hunanladdiad. Pa un nis gwyddai. Ofnai Walter syrthio i gysgu rhag y buasai yn chwyrnu, a thrwy hyny beri aflonyddwch i John "gysfenu i'r wasg.
Yn awr ac yn y man anturiai gyfodi ei ben ac edrych yn lladradaidd dros ymylon y cynfasau; a phob tro y gwnai hyn canfyddai John â'i ddau benelin ar y bwrdd, ac yn gwasgu ei ben rhwng ei ddwylaw, ac yn ymddangos fel pe buasai mewn gwewyr. Ond er ei holl wyliadwriaeth, syrthiodd Walter i sefyllfa freuddwydiol rhwng cwsg ac effro, ymha un y gwelai heddgeidwad yn<noinclude><references/></noinclude>
q660mkimbdlorxhemorde84872sg6wc
166845
166843
2026-06-21T20:03:38Z
AlwynapHuw
1710
166845
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bapyr a phin ysgrifenu ac inc; a gofynodd y blaenaf yn wylaidd,
"Be wyt ti'n myn'd i neyd, John?"
"Y ''chi'', os gweli di yn dda; dydw i ddim am ychwaneg o'r ti a'r tithe hefo fi," ebe John.
Yr oedd Walter erbyn hyn yn sicr fod John wedi cael ffrae â'i feistr, a'i fod yn myn'd i roi ''notice'' iddo; ac ebe fe—
"Wel, be ydach ch'i yn myn'd i neyd ynte?"
"Yr ydw i yn myn'd i neyd peth na fedri di mo'i neyd o," ebe John, braidd yn orchestol.
Tarawodd hyn Walter â mudandod am foment; ond yn y man meiddiodd ofyn iddo eilwaith,
"Be ydi hyny, John?"
"Yr ydw i yn myn'd i gysfenu i'r wasg, peth na fedri di na dy dad mo'i neyd, ac yr ydw i'n deyd wrthat ti am fyn'd i dy wely yn reit ddystaw, a pheidio moddro i, achos pan mae dyn yn myn'd i gysfenu i'r wasg rhaid iddo gael llonydd."
Agorodd Walter ei enau, nid i lefaru y tro hwn, ond i ryfeddu; ac ymddangosai fel pe buasai wedi rhewi wrth lawr yr ystafell gan faint ei syndod; ac yno y buasai hyd yn awr am a wn i oni buasai i John roddi edrychiad bygythiol ac awgrymiadol arno, yr hyn a barodd i Walter druan lechian i'w wely can ddystawed â llygoden. Nid oedd ganddo un dirnadaeth beth oedd "gysfenu i'r wasg;" ond yr oedd yn credu ei fod yn rhywbeth ofnadwy, ac yn rhywbeth hefyd a barai i John fod yn fuan yn Aelod Seneddol, neu ynte gyflawni hunanladdiad. Pa un nis gwyddai. Ofnai Walter syrthio i gysgu rhag y buasai yn chwyrnu, a thrwy hyny beri aflonyddwch i John "gysfenu i'r wasg.
Yn awr ac yn y man anturiai gyfodi ei ben ac edrych yn lladradaidd dros ymylon y cynfasau; a phob tro y gwnai hyn canfyddai John â'i ddau benelin ar y bwrdd, ac yn gwasgu ei ben rhwng ei ddwylaw, ac yn ymddangos fel pe buasai mewn gwewyr. Ond er ei holl wyliadwriaeth, syrthiodd Walter i sefyllfa freuddwydiol rhwng cwsg ac effro, ymha un y gwelai heddgeidwad yn
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ptckvlh6eozrsmk2kr0166zebv0r19z
Tudalen:Y Dreflan.djvu/27
104
86321
166844
2026-06-21T20:03:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166844
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (John Aelod Jones yn 'gysfenu i'r wasg).jpg|canol|600px|bawd|{{c|John Aelod Jones yn 'gysfenu i'r wasg. t.d. 16.}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
70ff4v3tqfvmto0o6093wrad4vfmlrz
Tudalen:Y Dreflan.djvu/28
104
86322
166846
2026-06-21T20:45:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166846
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dyfod i gyrchu John i'r carchar; eithr nid allai wneyd allan ei drosedd ond ei fod yn rhywbeth erchyll mewn cysylltiad â "gysfenu i'r wasg." Bryd arall, gwelai ef mewn cerbyd gorwych, a gweision lifrai o'i amgylch, a phawb yn tynu eu hetiau iddo. Ac felly y treuliodd Walter y noswaith nes deffro yn y bore, a chanfod John yn cysgu yn drwm wrth ei ochr.
Yn y newyddiadur yr wythnos wedi hyn, ymddangosodd y paragraph canlynol: "''Y Dreflan''—Mewn cyfarfod eglwysig a gynnaliwyd nos Iau diweddaf yn yr Hen Gapel,' penderfynwyd gofyn cyfarwyddyd y Cyfarfod Misol nesaf gyda golwg ar alw pregethwr i fugeilio yr eglwys.—''Aelod''."
Byddai desgrifio ystâd meddwl John rhwng y noswaith y cyfansoddwyd y llinellau uchod a'r dydd yr ymddangosodd yn y newyddiadur, yn orchwyl caled. Ni fu wythnos erioed mor faith yn ei olwg. Hwn ydoedd y cais cyntaf o'i eiddo at lenora, a theimlai ei fod yn gyfnod pwysig yn hanes ei fywyd. Gyda chalon guredig a llaw grynedig yr agorodd y papyryn oedd i gynnwys ei "ysgrif;" a bu agos iddo lesmeirio pan y syrthiodd ei lygad ar "Y Dreflan." Ië, dyna lle yr oedd mewn print, air am air yn union fel yr oedd wedi ei anfon, oddigerth pump o gynewidiadau ieithyddol, ac ychydig wahaniaeth yn y sillebiaeth. Yr oedd llwybr ei fywyd bellach wedi ei farcio; teimlai ei hunan wedi myned i mewn i'r byd llenyddol. Dysgwyliai i bawb a ddeuai i'r shop son rhywbeth am yr "ysgrif;" ond nid oedd neb yn gwneyd; ac yr oedd yn gorfod penderfynu fod chwaeth at ddarllen yn isel iawn yn y Dreflan.
Adeiladodd John lawer castell yn yr awyr y diwrnod hwnw; ond yr oedd yn teimlo yn sicr fod un adeilad ar sylfeini safadwy, sef y byddai John Jones ryw ddiwrnod yn llenor enwog, ac yn cael ei edmygu gan filoedd, a'i weithoedd o bosibl yn cael eu cyfieithu i ieithoedd y Cyfandir. Ysywaeth, yr oedd un rhwystr mawr ar ffordd ei enwogrwydd, sef cyffredinedd ei enw. Yr oedd hyn yn anffawd fawr; a gallai gyfrif deuddeg o leiaf o'r un enw âg<noinclude><references/></noinclude>
oi83sl7pppbfgbuaqkiscb30dnljx4l
Tudalen:Y Dreflan.djvu/29
104
86323
166847
2026-06-21T20:47:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166847
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef yn y Dreflan; ac yr oedd yn rhaid na ddychymygodd ei rieni erioed iddo ennill yr enwogrwydd yr oedd am ei ennill, onidê ni fuasent yn rhoi enw mor gyffredin arno. Ond cofiai, er ei gysur, mai nid efe ydoedd yr unig un oedd wedi gorfod wynebu yr anffawd hon. Gallai enwi dwsin o weinidogion enwog oeddynt wedi gorfod edrych yn llygad yr un anhawsder, ac wedi gorfod hefyd gael enw rhwng y John a'r Jones. Pe buasent wedi ymfoddloni ar yr enw John Jones yn unig, ni buasai neb yn gwybod dim am danynt; felly yr oedd yn rhaid mai ir enw canol yr oeddynt yn ddyledus am eu holl enwogrwydd! Dos dithau a gwna yr un modd, meddai llef ei ymwybyddiaeth o'i fewn. Yn wir, ystyriai fod ganddo ffugenw eisoes, sef "Aelod." Nid oedd yn hoffi hwn yn rhy dda; ond pe buasai yn dewis enw arall, buasai raid iddo aberthu yr enwogrwydd yr oedd yr enw hwnw wedi ei ennill iddo yn barod—na, ni fedrai ddygymmod â'r meddwl. Cymerodd bin ac inc, ac ysgrifenodd ef mor debyg ag y gallai i argraff, er mwyn cael gweled sut y buasai yr enw yn edrych mewn print:—"John Aelod Jones. Yr oedd yn meddwl ei fod yn edrych yn dda; ond sut y buasai yn swnio, tybed? Aeth i'r ardd, a dywedodd yr enw yn uchel; ac, wele, yr oedd yn ateb y dyben! "Dyma,' ebe fe, "yr enw yr adwaenir fi wrtho o hyn allan—'JOHN AELOD JONES."
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD IV.<br>Y CYFARFOD MISOL.}}}}
DYWEDAIS yn y bennod o'r blaen fod y Cyfarfod Misol i gael ei gynnal yn y Dreflan; ac er nad hwn oedd y cyntaf na'r diweddaf a gynnaliwyd yno, hwn ydoedd y cyntaf, er nad yr olaf, i'r ysgrifenydd fod <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
e7pefnhneo7vkus3py171pviixot76a
Tudalen:Y Dreflan.djvu/30
104
86324
166848
2026-06-21T20:51:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166848
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynddo. Oddiar yr ystyriaeth hon, o bosibl na chydddyga y darllenydd â mi yn rhoi desgrifiad byr o'r sefydliad hynafol a pharchus hwn, a'r argraff a wnaeth ar fy meddwl ar y pryd. Rhag i'r darllenydd hynaws ammheu ei gywirdeb, dymunwn iddo gofio mai desgrifio yr ydwyf y Cyfarfod Misol yno ryw ddeg neu ddeuddeng mlynedd yn ol, ac felly na fyddai, o bosibl, yn ddarluniad cywir o'r hyn ydyw yn bresennol.
Edrychid ymlaen at y cyfarfod hwn gyda dyddordeb neillduol, er oddiar deimladau gwahanol. Yr oedd yn chwith gan lawer o gyfeillion y Dreflan feddwl am gyfarfod o fath yn y byd ynglŷn â Methodistiaeth yno heb fod eu hen weinidog, Mr. Williams, yn llywydd arno; ar yr un pryd, yr oedd y cais oedd i gael ei ddwyn ymlaen am gael gŵr i lenwi ei le fel gweinidog yn lliniaru i ryw raddau y teimlad hiraethus ar ei ol ef. Yr oedd cyfraniadau yr eglwys tuag at ddwyn traul y cyfarfod wedi bod yn haelionus dros ben, a phawb yn awyddus i wneyd eu goreu oddigerth Mr. Jeremiah Jenkins. Yr oedd efe yn credu mai bob tri mis y dylesid cynnal y Cyfarfod ''Misol'', yr hyn oedd yn fy adgofio yn rymus am y wraig a fynai berswadio ei chymydoges i ''whitewashio'' ei thŷ yn felyn! Pe buasid yn cynnal y cyfarfod bob tri mis, buasai Jeremiah yn cyfranu tuag ato; ond hyd hyny nis gwnai. Nid am ei fod yn gybyddlyd yr oedd yn gwrthod cyfranu, ond i ddangos ei egwyddorion (?). Ond aethpwyd ymlaen gyda'r parotoadau yn rhagorol heb help Jeremiah druan. Yr oedd Mrs. Price wedi rhoddi ''round of beef'' yn yr heli er ys dyddiau, ac wedi dwyn y cyllyll a'r ffyrc allan o'u llochesau, a pheri iddynt ddysgleirio nes y gwelech eich llun ynddynt. Wrth fyned heibio, goddefer i mi adrodd y bum yn meddwl yn fynych fod rhywbeth hynod o nodweddiadol o Fethodistiaeth Gymreig mewn ''round of beef''—rhywbeth ag sydd yn arddangos cadernid a bywioliaeth dda, ac felly yn dra mynegiannol, yn gystal a chymhwys, ar fwrdd Cyfarfod Misol a Sasiwn.
Bore dydd Llun, y cyfarfod a ddaeth; a gwelid cryn brysurdeb yn ac oddeutu ysgoldŷ yr Hen Gapel: y<noinclude><references/></noinclude>
emyghidn2mvbo8ukf8upvejkin91v3k
Tudalen:Y Dreflan.djvu/31
104
86325
166849
2026-06-21T20:54:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166849
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwiorydd mewn ffedogau gwynion ac â gwynebau siriol yn myned i fewn ac allan yn gyfym i baratoi y te a'r coff, y bara ac ymenyn, a'r caws, ar gyfer y dyeithriaid. Yn sefyllian oddeutu yr ysgoldŷ yr oedd twr o fechgynos —egin Methodistiaeth ddyfodol y Dreflan—yn dysgwyl yn bryderus am gael marchogaeth ceffylau y pregethwyr i Ty'nllan. Yr oedd yn amlwg fod y gwŷr traed a ddeuent i'r cyfarfod yn sefyll yn isel yn meddwl y Jehuiaid ieuainc hyn; a chymerodd llawer dadl frwd le rhyngddynt pa un a oedd y brawd hwn ac arall yn "'gethwr ai peidio. Os na byddai gan y brawd geffyl, byddai yn cael ei roddi i lawr gan y beirniaid craff hyn naill ai fel blaenor neu ynte fel "gethwr sal." Y pwnc mawr ynglŷn â'r Cyfarfod Misol gan y Methodistiaid ieuainc hyn oedd cael ''race'' i Dy'nllan; ond nid oes anghen dyweyd nad oedd dim perygl i'r pedwarcarnolion a yrid ganddynt redeg â hwynt ymaith, canys yr oedd yr ysgrubliaid hyny, fel yr enwad yr oeddynt yn ei gynnrychioli, yn ''slow and sure;'' a phe dygwyddasai i gorn y cŵn hela seinio ar y ffordd, nid oedd raid ofni iddynt godi eu clustiau ac anghofio i bwy yr oeddynt yn perthyn, na'r achlysur yr oeddynt wedi dyfod y bore hwnw o'i blegid.
Deuai y brodyr i mewn ''drib drab'', fel y dywedir, a hyny, mae yn ymddangos, o anghenrheidrwydd; oblegid nid y cwestiwn oedd pa bryd yr oeddynt yn cyrhaedd y Dreflan, ond o ba le yr oeddynt wedi cychwyn; hyny ydyw, mewn geiriau eraill, y cwestiwn ollbwysig a ofynid y naill gan y llall oedd, "Pa le yr oeddych chwi ddoe?" Yr wyf yn cofio yn dda fod ynof deimlad o wir dosturi dros y rhan fwyaf o bregethwyr a ddeuent i'r Cyfarfod Misol hwn. Yr oedd y tywydd yn hytryd a hafaidd, ac eto ymddangosent bron i gyd fel rhai wedi cael anwyd trwm, oblegid gwisgent gotiau uchaf trymion a ''mufflers'' tewion. Wrth borth yr ysgoldy, yr oedd ein cyfaill twymgalon, Mr. Peter Pugh, heb yr un het am ei ben, yn gwylio yn ddyfal am ddyfodiad pob dyeithryn; a chan gynted ag y canfyddai un, elai i'w gyfarfod, a chydiai yn glòs yn ei fraich, gan ei orfodi ymron i<noinclude><references/></noinclude>
840qhiie94p6vh7gqheorn9r6fbwzel
Tudalen:Y Dreflan.djvu/32
104
86326
166850
2026-06-21T20:57:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166850
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fyned i gael "tamed," i'r hyn, fel rheol, yr ufuddhâi y brawd dyeithr, gan gymeryd yr arlwy ''heb dynnu ei het'', yn enwedig os byddai yn bregethwr, a hyny, wrth gwrs, rhag iddo gael anwyd. Yr oedd lle i feddwl fod ''ofn cael anwyd'' yn hunllef mawr pregethwr; ac felly cymerwn yn ganiataol mai dyna yr unig reswm am yr arferiad rhy gyffredin o fwyta ac yfed arlwyaeth y Cyfarfodydd Misol heb ddiosg y pen. Nid oedd neb tebyg i Mr. Pugh am ddeall anghenrheidiau a dymuniadau y dyeithriaid. Os methai eu perswadio i gymeryd "tamed," edrychai y foment hono yn myw eu llygaid, a rhoddai ei fraich am fraich y brawd dyeithr, a phwyntiai â'i fys mewn modd ''confidential'' at dy William Jones, a dywedai yn ddystaw, "Ewch i gael <nowiki>'</nowiki>''belled, ynte."''
Wrth sylwi ar y dyeithriaid yn yr ysgoldy, ac yn gyplau yma ac acw yn muarth y capel, yr oeddwn fel y bechgyn y cyfeiriwyd atynt, yn teimlo anhawsder i benderfynu pwy oedd yn bregethwr a phwy oedd yn flaenor. Gwisgai ambell i bregethwr mor debyg i flaenor, ac ambell flaenor mor debyg i bregethwr, ac felly yn ''dovetailio'' cymaint i'w gilydd, fel mai gorchwyl anhawdd oedd i newyddian benderfynu i ba urdd yr oedd y naill a'r llall yn perthyn. Cafodd un brawd, y gwyddwn yn dda mai pregethwr ydoedd, ei roi i lawr gan y bechgyn fel blaenor, a hyny yn unig o herwydd ei wisg; ac os yw y brawd hwnw eto yn fyw, ac heb arwydd tröedigaeth ar ei ddyn oddiallan, ac yn debyg o ddarllen y llinellau hyn, dymunwn iddo gael y fendith drwyddynt. Gwisgai efe lodrau o liw goleu, a chob gwta; ac yr oedd ei wasgod yn agor yn isel; ac oni buasai fod llarp mawr o grys gwlanen lliwiedig yn y golwg, buaswn yn tybied mai i gynnulliad pur annhebyg i Gwrdd Misol yr oedd yn meddwl ei fod yn cychwyn y bore hwnw. Yr oedd ganddo goler bapyr am ei wddf, ond yr oedd hono wedi ei chuddio bron i gyd gan farf ddu fras, a gwallt a ddylasai fod wedi ei gynauafa er y Cyfarfod Misol chwarterol blaenorol. Pe gallasai ei het siarad. gallasai hi roddi hanes y Cyfarfodydd Misol blaenorol am bedair<noinclude><references/></noinclude>
k2m3rdrmny3f3faa4p7g6rsovts9p86
Tudalen:Y Dreflan.djvu/33
104
86327
166851
2026-06-21T20:58:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166851
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neu bum' mlynedd, o leiaf. Mewn gair, yr oedd golwg mor anefengylaidd, os nad anwaraidd, ar y dynsawd hwn, fel os na ofynwyd cyhoeddiad iddo y dydd hwnw, nad oedd hyny ond ei haeddiant llawn. Ni buaswn yn meiddio rhoddi y desgrifiad hwn oni buasai fod y "gwrthddrych a nodir" yn ŵr lled ieuanc y pryd hwnw. Gwisgai ambell i flaenor, o'r ochr arall, mor debyg i bregethwr, ac edrychai mor lanwaith a deallgar, fel na buaswn yn petruso gofyn cyhoeddiad iddo ar unwaith, pe buasai yr awdurdod genyf ar y pryd. "Sut y byddwch yn gallu gwahaniaethu rhwng pregethwr a blaenor heblaw with eu gwisg?" gofynwn i Mr. Pugh. "Does dim byd hawsach, wel di," ebe yntau. "A weli di y twr acw ymhen draw buarth y capel? Edrycha di, yrwan, ar y brawd acw yn myned â'i ''Ddyddiadur'' yn ei law at y brawd arall: mi elli fod yn siŵr mai blaenor ydi hwnyna. A weli di y brawd arall yn ymddangos mor ddidaro, ac yn gwrthod edrych ar y llyfr? Dyna bregethwr. Mewn geiriau eraill," ebe Mr. Pugh, "pan weli di frawd yn cymeryd yr ochr ymosodol, blaenor ydi hwnw; ond os gweli di frawd ar yr ochr amddiffynol, dyna bregethwr i ti." Er fod rheol Mr. Pugh yn hynod ddarnodiadol, eto ni chefais hi bob amser yn gywir.
Pan darawodd y cloc un ar ddeg, gwelwn ddyn heb fod yn ieuanc nac yn hen iawn, gwridgoch a chorffol, ond yn berffaith heinyf ar ei droed, nid yn cerdded ond yn ysgythru o'r ysgoldy i'r capel. Yr oedd ei hoewder a'i lygaid tanbaid yn dyweyd yn amlwg, "''Business, business,'' frodyr!" Deng mynyd wedi un ar ddeg, yr oedd tri gwasanaeth yn cael eu cynnal ar unwaith: un yn y capel, un yn nhŷ William Jones, ac un yn muarth y capel, lle y gwelid twr yma ac acw â'u llyfrau yn eu dwylaw fel pe buasent yn cadw cyfarfod darllen yn yr awyr agored. Llwyddodd Mr. Pugh, pa fodd bynag, i berswadio y ddau ddosbarth a enwyd olaf roi i mewn i'r gwasnanaeth yn y capel. Wedi i ni fyned i'r cyfarfod, un o'r pethau cyntaf y dymunaswn gael eglurhâd arno oedd, pa ddeddf oedd yn rhoddi trwydded i'r sêdd fawr, ac yn penderfynu ar yr<noinclude><references/></noinclude>
7sbnavsuar00m2au2gcmg0o52nv1tbz
Tudalen:Y Dreflan.djvu/34
104
86328
166852
2026-06-21T21:00:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166852
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>agosrwydd neu'r pellder yr oedd hwn a'r llall i gymeryd ei eisteddle? Yr hyn a barodd i mi feddwl am hyn oedd gweled dau nad oeddynt ond cymharol ieuanc, y rhai a ddaethent yn ddiweddar i Sir y Dreflan o Siroedd eraill, dan yr enw o fugeiliaid, yn eistedd yn y sêdd fawr, tra yr oedd amryw o hen bregethwyr y Sir encyd oddiwrthi. Deallais yn ddilynol nad oedd yr un reol bendant ar hyn, ond fed y cwbl yn cael ei adael i duedd neillduol neu i synwyr da y dyn ei hun.
Naturiol oedd i gyfarfod y bore gael ei dreulio i "ymddyddan â swyddogion y lle am hanes yr achos, a'u profiad crefyddol" Cafwyd y blaenaf yn gryno a thaclus gan Mr. Bevan, a ''buasid'' yn cael yr olaf hefyd yn helaeth ac effeithiol oni buasai fod Benjamin Prŷs yn methu rhoi ei bresennoldeb o herwydd llesgedd. Yr oedd y cyfeillion yn trydar o herwydd colli Mr Williams; a gwnaed sylwadau hynod o deimladol ac annogaethol yn ngwyneb eu colled gan amryw o'r brodyr dyeithr Llawenhäwyd y cyfarfod yn fawr pan hysbysodd Mr. Bevan fod yr eglwys yn dymuno cael caniatâd a chyfarwyddyd y cyfarfod gyda golwg ar alw brawd o bregethwr i'w bugeilio
Càn gynted ag y gwnaed hyn yn hysbys, neidiodd un o'r ddau y cyfeiriwyd atynt yn y sêdd fawr ar ei draed i longyfarch yr eglwys, am ei doethineb, &c., a chyn iddo ef braidd eistedd i lawr, yr oedd y bugail ieuanc arall ar ei draed yn siarad yn yr un cyfeiriad. Nid oedd y cyfarfod, pa fodd bynag, yn ymddangos yn rhoi llawer o bwys ar yr hyn a ddywedai y brodyr parod hyn. Ar eu hol hwy cyfododd hen weinidog—nid bugail cydnabyddedig—i siarad, a gwnaeth sylwadau digon call ac annogaethol, ond ei fod, dybygid, yn cymeryd gormod o amser i'w dyweyd. Yr oeddwn yn hoffi ei sylwadau yn fawr, ond fy mod yn ofni ei fod yn defnyddio rhywbeth nid annhebyg i'r hyn y cyfeirir ato yn yr ail bennod o brophwydoliaeth Jeremiah. Gosodai efe bwys mawr ar i'r eglwys ddewis gŵr o'i Sir ei hunan, gan ddyweyd fod amryw yn ymrithio i'w feddwl ar y pryd fel rhai hynod o gymhwys i'r lle a'r gwaith, er na wnai eu henwi.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
njldpongwkbbv6xm5h0bl1odpfu8fr4
Tudalen:Y Dreflan.djvu/35
104
86329
166853
2026-06-21T21:02:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166853
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ar gymhelliad y llywydd, siaradodd gweinidog arall, yr hwn hefyd oedd fugail; dyn pell oddiwrth gael ei alw yn hen ŵr, er fad ei goryn yn foel. Yr oedd rhywbeth dymunol iawn yn' yr olwg ar y gŵr hwn. Anaml. y siaradai; ond yr oedd pobpeth a dywedai i'r pwrpas. Dywedwyd wrthyf ar ol hyn mai ei unig fai oedd ei fod braidd yn dueddol i dori ei gyhoeddiadau, neu i roddi mwy nag un cyhoeddiad am yr un Sabboth. Nid yn fuan yr anghofiaf sylwadau brawd parchus o flaenor, yr hwn, ysywaeth, erbyn heddyw, nid yw. Nid allwn lai nag edmygu ei ddyn oddiallan. Yr oedd ei farf, ddu y pryd hwnw, a llaes, yn rhoddi ymddangosiad milwrol ac awdurdodol arno, ac yr oedd ei lais yn cyfateb i hyny yn hollol. Er ei fod y rhan fynychaf yn gwisgo gwydryn ar un llygad, yr oedd ei olygon mor dreiddgar nes y byddwn yn ofni iddynt wneyd tyllau trwof Ond wedi i mi ymgydna. byddu âg ef mewn blynyddoedd ar ol hyn, cefais ef yn un o'r dynion mwyaf hynaws a thirion a welswn erioed. Yn ei ddydd gwnaeth fwy nag odid i neb sydd yn fyw tuag at dyrchafu a pherffeithio y wasg Gymreig; a pha beth bynag a ddywedai yr oedd yn cael gwrandawiad, nid yn unig yn y Cyfarfod Misol ond mewn cylchoedd uwch. Nid hir y bum yn y cyfarfod heb ddeall mai y gŵr corffol, heinyf ar ei droed, y cyfeiriais ato o'r blaen, ydoedd ''genius'' y cyfarfod. Meddai gryn lawer o'r hyn a elwir yn ''wit'', a gallu i ddywedyd yr hyn oedd eisieu ei ddywedyd. Yr oedd efe mor debyg i Mr. Williams, y diweddar weinidog, fel mai nid rhyfedd fod swyddogion y lle yn derbyn pob gair a ddywedai fel ysgrythyr. Cymerai ef fantais, oddiar benderfyniad yr eglwys i alw bugail, i annog eglwysi eraill i ddilyn ei hesiampl. Wedi i hwn a'r llall ddyweyd eu meddyliau, ac wedi i ddau frawd gael eu penodi i gynnorthwyo yr eglwys i gario allan ei phenderfyniad i weithrediad, gwelwyd drws y capel yn agor yn araf deg; ac yn ddilynol canfyddid pen parchus Mr. Pugh yn gwneyd ei ymddangosiad. "Foneddigion," ebe efe, "goddefwch air: mae'r cinio yn barod!" Pa un ai cynnwys yr hysbysiad hwn, neu ynte ei ffurf, a barodd i bawb wenu, nid wyf yn<noinclude><references/></noinclude>
qfd75j1t5ve0sgkgq36vqnsxsf19etm
Tudalen:Y Dreflan.djvu/37
104
86330
166854
2026-06-21T21:05:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166854
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymeryd arnaf benderfynu; ond dygwyd cyfarfod y bore i derfyniad buan ar ol hyn. Gwelid yn amlwg garedigrwydd a meddylgarwch cyfeillion y Dreflan yn y ciniaw rhagorol oedd wedi ei ddarparu. Yr oedd yno gyflawnder o'r cigfwyd y cyfeiriwyd ato yn barod, a digonedd o bytatws, gyda'r peth tebycaf a ellid ei gael ar y tymmor hwnw ar y flwyddyn i'r hyn a roddodd yr olwg raenus a theg ar Daniel a'i gyfeillion gynt yn Babilon. Synai Mr. Pugh fod llawer o'r cyfeillion yn bwyta càn lleied, heb gofio mai rhyw ddwy awr a hanner oedd er pan fuasent wrth y gwaith pleserus hwnw yn flaenorol. Wrth gerdded yn ol a blaen, yr oeddwn yn clywed yr hen gwestiwn yn dal yn ei flas, "Pa le yr oeddych chwi ddoe?"
Gorphenasid mor llwyr y gwaith o roi a derbyn a galw yn ol gyhoeddiadau, fel y gallwyd dechre y cyfarfod am ddau o'r gloch yn lled brydlawn; ond elai fy mhennod yn rhy faith, heblaw fy mod yn ammheus a fyddai o ddyddordeb cyffredinol, pe sylwn ar yr holl waith a wnaed yn y cyfarfod hwn. Cefais fy argyhoeddi fod gwaith, a gwaith mawr, yn cael ei wneyd yn y Cyfarfod Misol, a bod y sefydliad yn un ag sydd yn dwyn oddiamgylch lawer o ddaioni nad all y rhai sydd o'r tu allan synio yn briodol am dano. Goddefer i mi ddyweyd, pa fodd bynag, nad allaswn lai na sylwi fod rhywrai yno, fel ymhob cyfarfod, yn siarad gormod, ac eraill ry ychydig. Yr oedd y ddau y pwyntiais atynt o'r blaen yn y sêdd fawr, yn fy marn ostyngedig i, ar eu traed yn rhy aml, ac yn ymddangos fel pe buasent mewn cynghrair â'u gilydd, ac mai nid y lleiaf ymhlith eu hamcanion oedd rhoi ergydion i rai o'r hen weinidogion. Càn gynted ag y byddai un wedi eistedd i lawr, byddai y llall ar ei wadnau; ac nid allwn yn fy myw lai na meddwl am yr hinfynegydd a welir weithiau mewn ambell dŷ, ac a elwir yn "Siôn a Siân." Gwyddys pan fydd ''Sion'' allan y bydd ''Siân'' i fewn, a ''vice versa''. Ond yr oedd hyn o wahaniaeth yn y gymhariaeth: ceid "Siôn a Siân" yn mynegu neu ragfynegu y tywydd, tra nad oedd y ddau frawd a grybwyllwyd yn fynegol o ddim oll. Pan oedd y cyfarfod yn myned ymlaen yn ei<noinclude><references/></noinclude>
fbv686j0sgtir74i2nj0b392m59p64g
Tudalen:Y Dreflan.djvu/38
104
86331
166855
2026-06-21T21:07:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166855
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynghoriaethau, yr oedd Mr. Bevan a Mr. Phillips yn myned yn ddystaw oddiamgylch at bob un yn bersonol, i ymofyn eu pleidlais gyda golwg ar gymeryd gwely y noson hono. Yr oedd rhai am aros, eraill am fyned adref, a rhai yn anmhenderfynol. Ond sylwais ar ychydig o'r dosbarth olaf, wedi clywed cyhoeddi pwy oedd i bregethu, yn cael eu hennill drosodd yn ebrwydd at y rhai oedd am fyned adref. Er nad oedd ond gweinidogion y Sir yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfod, hyfryd yw gallu adrodd fod y weinidogaeth mewn grym mawr, ac arddeliad amlwg ar y gwirionedd.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD V.<br>ISMAEL}}}}
A YDYW y lle mawr yr wyf wedi ei roddi i Fethodistiaeth yn yr hanes hwn wedi arwain y darllenydd i feddwl mai Methodistiaid ydyw pawb o drigolion y Dreflan? Os ydyw, yr wyf yn euog o fod wedi ei gamarwain yn fawr, ac i'r dyben o dynu ymaith yr argraff gyfeiliornus, yr wyf yn bwriadu yn y bennod hon ei ddwyn i gydnabyddiaeth â chymeriad y cydolyga efe â mi nad ydyw yn edmygwr mawr o John Calvin, nac yn ddilynwr zelog i Charles o'r Bala. Nid am fod cysylltiad anghenrheidiol rhwng y cymeriad crybwylledig â'r hanes hwn yn bresennol, a phaham y rhaid i gysyllt1ad fod? Nid wyf fi wedi addaw hanes cysylltiol a chyfrodeddol; ac ni waeth i mi ddyweyd yn y fan hon, y bydd fy null o fyned ymlaen yn debyg i ddull Spot, y ci bach yma, yr hwn sydd yn gorwedd ar yr aelwyd ac yn cymeryd arno gysgu. Pan fydd Spot yn dyfod gyda mi i roi tro, ni bydd efe byth yn cerdded nac yn rhedeg yn unionsyth; na, bydd weithiau yr ochr yma, ac weithiau <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
np084rv1k0a55o9rf27xqzud1beyurf
Tudalen:Y Dreflan.djvu/39
104
86332
166856
2026-06-21T21:07:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166856
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr ochr acw; weithiau yn rhedeg i lawr y groesffordd, bryd arall yn myned dros y clawdd; edrycha yn syn at un peth, a chyfartha at y peth arall; ond gofala yn wastad am ddyfod yn ei ol. Ac y mae mwy o natur a barddoniaeth, goeliaf fi, yn null Spot o deithio nag yn null creadur fel y camel, yr hwn sydd yn dal ei ben i fyny o hyd, ac fel pe byddai yn edrych am derfyn ei daith bob cam. O leiaf, dull Spot a fabwysiadaf fi, serch i mi trwy hyny deithio llawer yn ofer.
Mae yn debyg mai ychydig o argraff y mae diwrnod braf a hafaidd yn ei wneyd ar feddwl dyn. Mae diwrnodau felly yn bethau mor gyffredin yn nhymmor yr haf, fel nad ydyw yr argraff a wnant ond arwynebol iawn. Ond pe yr elai dyn i sugno ei gof, a cheisio galw yn ol ryw ddiwrnodiau nodedig o hyfryd a balmaidd, oni chysylltai efe hwynt â'r dydd Sabboth? Pa un ai dychymyg plentynaidd ai ffaith ydyw hyn, fod y Sabboth yn meddu ar fwy o dynerwch a swyn na holl ddyddiau yr wythnos, nis gwn; ond y mae yr argraff ar fy meddwl er yn blentyn fod natur, ar y dydd hwnw, fel y bydd dynion yn gyffredin, yn ceisio ymdrwsio tipyn mwy nag ar un diwrnod arall. Ai am fod genym fwy o hamdden i edrych o'n cwmpas, neu ynte ai am fod cysylltiadau y dydd, a'n llwyrymattaliad oddiwrth bob gwaith, yn ein gosod mewn gwell tymher, y gwnaed yr argraff ar ein meddwl? Pa fodd bynag, y Sabboth oedd y diwrnod hwnw. Yr oeddym yn dyfod allan o'r oedfa'r bore, lle yr oeddym newydd glywed pregeth ragorol ar weithgarwch crefyddol, a'n dyledswydd i wneyd rhywbeth dros deyrnas y Gwaredwr. Yr wyf yn cofio yn dda fod yr haul yn tywynu yn hyfryd, a'r awel yn deneu ac yn llefn, a phobpeth yn gwisgo y fath swyn a llarieidd-dra, a'r Creawdwr mawr yn arddangos y fath ddaioni, fel pe nas cymerasai neb ei enw yn ofer, ac na chyflawnasid yr un pechod yn ei erbyn erioed! A oedd y dyrfa liosog, drwsiadus, a pharchus a ddylifent allan o'r capel y bore hwn yn meddwl rhywbeth am y nifer mawr o'n cyd-drefwyr na fynychent dŷ addoliad unwaith yn y<noinclude><references/></noinclude>
2iyxlj0oqroknpyrac87duk5oixcyqh
Tudalen:Y Dreflan.djvu/40
104
86333
166857
2026-06-21T21:10:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166857
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>flwyddyn? A oeddynt yn teimlo eu bod wedi gwneyd eu dyledswydd wrth ddyfod i'r capel? A oedd y ciniaw rhagorol yr oeddynt yn myned i'w fwynhâu yn eu gwahanol fanau wedi peri iddynt anghofio yn llwyr y creaduriaid diddarbod, diymgeledd, diofal a di-Dduw, a breswylient ein hystrydoedd cefn a'n buarthau?
Yr oedd yno un, pa fodd bynag, yn y gynnulleidfa fawr ag yr oedd y bobl hyn yn cael rhyw gymaint o le yn ei feddwl; a thra yr oeddwn yn ymwthio trwy y dyrfa, teimlwn ei law ar fy ysgwydd, ac, fel pe buasai yn cyfrif pedwar, yn dyweyd wrthyf, "Chwarter-wedi-un—cofia!"
"O'r gore, Mr. Pugh," atebais, canys yr oeddwn yn gwybod beth yr oedd yn cyfeirio ato. O Peter Pugh! ai onid mwy plesurus o lawer, gan fod genyt dŷ mor gysurus, ac esmwythfeinciau mor glustogaidd, a fyddai i ti, ar ol ciniaw, fyned i orweddian a chymeryd cyntun, yn hytrach na blino dy feddwl ynghylch cael rhywrai o'r newydd i'r Ysgol Sabbothol? Pa raid sydd arnat ti i fyned i chwilio y prif-ffyrdd a'r caeau a'r buarthau, a bod wrthi o'r naill beth i'r llall o fore Sabboth hyd yr hwyr, nes y byddi yn teimlo yn fwy blinedig ar ddiwedd y dydd hwnw nag un dydd arall, tra y mae dy gydaelodau crefyddol yn ei chymeryd yn ddigon tawel, a rhai o honynt yn edrych i lawr arnat gyda thipyn o ddirmyg? Ai cyfeiliorni yr wyt? Mae yn rhaid mai ïe, neu ynte rhaid ydyw eu bod hwy yn cyfeiliorni.
Am chwarter wedi un, yr oedd fy nghyfaill zelog ac ymroddgar wrth fy nrws yn galw am danaf; ac nid gwiw oedd i mi gynnyg unrhyw esgus dros beidio myned gydag ef. "Gad i ni roi tro i lawr Buarth Jenkins, i edrych beth welwn ni," ebe efe. Gelwid y rhan hon o'r Dreflan yn Fuarth Jenkins am mai Mr. Jeremiah Jenkins, yr hwn y mae fy narllenwyr eisoes yn gydnabyddus âg ef, ydoedd perchenogydd y rhan fwyaf o'r cabanod anolygus a digysur a gyfansoddent y lle. Prin y buasai gŵr dyeithr yn gwybod fod y fath le yn ein Treflan;<noinclude><references/></noinclude>
5943aaihc3ap8hy3akngbi8mlc6023l
Tudalen:Y Dreflan.djvu/41
104
86334
166858
2026-06-21T21:14:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166858
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac nid oedd y naill hanner o'r preswylwyr cyffredin yn cofio fod y fath gymydogaeth mewn bodolaeth oddigerth ar adeg etholiad seneddol. Ar yr adeg hono byddai Loveall Goodman, Yswain, yn cofio am dani, ac yn anfon ei oruchwyliwr i siarad yn dirion â'r preswylwyr, fel y gallai, trwy addewidion teg a mwyneidd—dra digyffelyb, eu troi allan o'u tyllau i restru eu pleidlais dros ei ddyn dewisedig, megys y byddai, ar adegau eraill, yn anfon ei ''ferret'' i droi y cwningod allan at ei wasanaeth a'i bleser. Er fy mod wedi fy ngeni a'm magu yn y Dreflan, a bod y fynedfa i Fuarth Jenkins yn troi allan o'r brif heol, rhaid i mi addef fod y rhan hon mor ddyeithr i mi â Deheubarth Affrica. Ond gwyddwn trwy draddodiad fod yno lawer o drigolion a chyfleusderau i lettŷa dyeithriaid. Cawswn brawf o'r blaenaf lawer gwaith wrth ganfod esiamplau o'r tylwyth a breswylient y lle yn sefyllian yn ngenau y fynedfa, y rhai, oddiwrth yr olwg arnynt, a dyweyd y lleiaf, nad oeddynt yn anrhydedd i'r natur ddynol; ac fel prawf o'r peth olaf, clywswn "Charles Dinbych" yn dyweyd mai yno y byddai ef yn gwneyd ei gartref pan fyddai yn talu ymweliad â'n Treflan; a gwelais fy hunan, hefyd, fwy nag un bagad o'r tramorwyr a adnabyddir wrth yr enw ''German Band'', wedi bod wrthi yn ''chwythu'' yn ddyfal trwy y dydd, yn myned i Fuarth Jenkins i ''chwyrnu'' i aros diwrnod arall.
I'r lle hwn yr arweiniwyd fi gan Mr. Pugh. Pan oeddym yn myned i lawr trwy y fynedfa, cyfarfu â ni wraig aflawen, lygadgroes, â golwg gwall ymgeledd arni, yn dwyn jug yn ei llaw. Yr oedd ei llygaid mor groesion fel na buasem byth yn gwybod ei bod yn edrych arnom, oni buasai i ni sylwi arni yn gwthio y jug dan ei ffedog càn gynted ag y daethom i'r golwg. Nid myned i gyrchu dwfr na llaeth yr oedd, ond rhyw beth arall nas gallasai ei gael cyn un o'r gloch ar y Sabboth. Wrth iddi fyned heibio i ni, gollyngodd Mr. Pugh ochenaid drom; ysgydwodd hithau ei phen yn herfeiddiol, gan fwmian rhywbeth rhwng ei dannedd ynghylch "y Calvins {{bar|2}} Yr oedd yr ansoddair a<noinclude><references/></noinclude>
q78x5nvka16v3soq1ynm0ue5uuc6sk8
Tudalen:Y Dreflan.djvu/42
104
86335
166859
2026-06-21T21:20:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166859
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gysylltodd â'r enw parchus yn rhywbeth hollol wahanol i'r rhai a ddefnyddir yn gyffredin gan dduwinyddion, hyd yn nôd gan y rhai mwyaf gwrth-Galfinaidd. Nid oedd yr arogl a'n cyfarfu wrth fyned i lawr y buarth yn gwbl mor bersawrus ag y dymunasem iddo fod; ac er mai y dydd Sabboth oedd, rhaid i mi addef daearoldeb fy syniadau, nad allwn yn fy myw beidio meddwl am berffeithrwydd gweithrediadau ein Bwrdd Lleol. A barnu oddiwrth y nifer a ddeuent i'r drysau i edrych ar ein holau, gallasai Mr. Pugh a minnau wenieithio i ni ein hunain ein bod yn bobl bwysig ac urddasol iawn, er fod diffyg gorchwyliaeth y dwfr ar wynebau yr edrychwyr yn brawf eglur, dybygid, fod ein dyfodiad i'w mysg yn annysgwyliadwy.
Yr oedd llygad Mr. Pugh ar dwr o blant oeddynt yn chware ''marbles'' yn ngwaelod y buarth, ac yn taeru ac yn gwaeddi nerth eu penau. Gwaeddai un yn nhop ei lais, ''"Clein! clein! clein!"'' Gwaeddai un arall, ''"No back my trick!"'' ac yr oeddynt wedi ymgolli cymaint yn y chware fel na ddarfu iddynt sylwi ar ein dyfodiad atynt nes i rywun—na wyddem pwy—chwibianu o'r tu ol i ni, yr hyn a barodd iddynt oll godi eu penau. "''No styr byw'' 'rwan," ebe Mr. Pugh, gan ddefnyddio un o'u termau hwy eu hunain. Ond nid cynt yr agorodd efe ei enau nag y crafangodd y bechgyn yn eu ''marbles'', gan ddiflanu fel pe buasai y ddaear wedi eu llyncu, oddigerth un bachgen, yr hwn a edrychai yn ein gwynebau yn hollol ddieuog a hunanfeddiannol; ac wedi cyfrif ei eiddo marblyddol, gan gymeryd i ystyriaeth yn ddiammheu yr ennill a'r golled, efe a'u rhoddodd yn hamddenol yn ei boced lydan. Yr oedd golwg ddyddorol ar y bachgen hwn. Yr oedd yn fychan a theneu o gorffolaeth, a'i wyneb yn llwyd a budr. Nid yn hawdd y gallesid dyfalu beth ydoedd ei oedran. Wrth ddal i syllu arno, meddyliwn weithiau ei fod yn hen—bryd arall ei fod yn ieuanc iawn. A barnu oddiwrth ei ddillad, gallaswn dybied ei fod unwaith wedi bod yn hen iawn, ac wedi newid ei feddwl a myned yn ieuanc yn ei<noinclude><references/></noinclude>
oqrcnp08ig8bo8apkuerntir79w56y3
Tudalen:Y Dreflan.djvu/43
104
86336
166860
2026-06-21T21:26:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166860
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ol, ond fod ei ddillad wedi gwrthod ei ddilyn yn ei gyfnewidiadau, canys yr oeddynt yn awr yn rhy fawr iddo o lawer. Yr oedd ei lodrau yn gwneyd i ffwrdd â'r anghenrheidrwydd am wasgod, gan eu bod bron yn cyffwrdd â'i ên, ac yn cael eu dal i fyny gan un fresen, yr hyn oedd yn rhoddi golwg unochrog arno braidd. Yr oedd ei gôb mor fawr fel y gallasai, pe buasai anghenrheidrwydd yn galw am hyny, ymguddio yn hawdd yn un o'i phocedau. Pe buasai noethni yn brawf o ddiniweidrwydd, fel yr oedd gyda'n rhieni cyntaf, buasai y bachgen hwn yn sefyll yn uchel yn ngraddfa moesoldeb; oblegid yr oedd mwy o hyny yn y golwg nag a fyddai yn weddus i mi hysbysu y darllenydd yn y fan hon. Synwyd fi braidd gan ddull Mr. Pugh o ymddyddan âg ef.
"Wel, 'y ngwas i, pa faint o ''farbles'' sy gen' ti?"
"Dwy ''daw'', dwy ''stony'', a ''scram''; a mi fase gen' i ddwy ''scram'' arall dase Twm Hughes heb ''chetio''."
"Ac mi ddaru Twm Hughes dy ''chetio'' di, do?"
"Do, mae o wastad yn ''chetio''."
"Wyt ti ddim yn meddwl fod ''chetio'' yn ddrwg, 'y machgen i?"
"Wel ydi, debyg, ac mi ddaw I i'r gole hefyd," ebe'r bachgen, gan ddyfynu un o wirebau ieuenctyd.
"Fyddi ''di'' yn I weithie, 'y ngwas i?"
Ar ol peth petrusder atebodd, "Wel—bydda—weithie; mae pawb yn Io weithie, ddyliwn."
"Wyt ti ddim yn meddwl fod chware ''marbles'' ar y Sul yn ddrwg?"
"Nag ydi, os gynewch beidio ''chetio''," oedd yr ateb.
"O ydi, 'machgen i," ebe Mr. Pugh; "plant drwg sydd yn chware ''marbles'' ar y Sul; ac yr wyt yn gwybod p'le mae plant drwg yn myn'd, on'd wyt ti?"
"I ardd Mr. Phillips i ddwyn 'fale; ond fydda i byth yn myn'd," oedd yr ateb diniwed.
"Ie, ond p'le mae nhw'n myn'd ar ol marw?"
"Siân Jones deyd i'r tân poeth; nhad yn deyd oes ne'r un tân poeth."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1q9lsv06x3gegvz1wd0mg3mka0gshj3
Tudalen:Y Dreflan.djvu/44
104
86337
166861
2026-06-21T21:43:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166861
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ddoi di hefo ni i'r ysgol, 'y machgen i, gael i ti ddysgu darllen."
Chwarddodd y bachgen nerth ei ben, gan godi un goes i alw ein sylw at ei lodrau fel rheswm digonol dros beidio rhoddi ei bresennoldeb yn y fath le parchus.
"Beth ydi d'enw di?" ychwanegai ein cyfaill. "Jim," oedd yr ateb.
"Jim beth?"
"Jim y ''matches'', plant 'y ngalw i, ond Jim Price ydi f'enw iawn i."
"Beth ydi enw dy dad?"
"Ismael."
"P'le mae dy dad?" "Yn tŷ."
"Nei di ddangos y tŷ i ni?"
Dim ateb. Rhoddodd Mr. Pugh ei law yn ei logell, a thynodd allan lonaid dwrn o ''sweets'', a rhoddodd hwynt i Jim, yr hyn a barodd i'w lygaid ddysgleirio, ac a'i gwnaeth ar unwaith yn berffaith ufudd. Erbyn hyn yr oedd y plant eraill ag yr oeddwn yn ofni fod y ddaear wedi eu llyncu yn dechre dangos eu penau yma ac acw, ac wedi gweled y rhodd yn cael ei chyflwyno i Jim, braidd yn awyddus am ddyfod ymlaen. Arweiniodd Jim ni at dŷ ei dad, ond gofalodd beidio dyfod yn ddigon agos i'w dad allu gwybod mai efe oedd ein harweinydd. Curasom y drws, ac atebwyd ni mewn llais cryf, "Dowch i mewn."
Deallasom ar ein mynediad i'r tŷ, oddiwrth yr arogl lledr a'n cyfarfu, mai gwneuthurwr esgidiau oedd y preswylydd, yr hwn a ganfyddem yn eistedd yn ymyl y pentan wrth ochr bwrdd crwn bychan, a chetyn byr du yn ei safn, ac yn darllen ''Reynolds's Weekly Newspaper'' Yr oedd yr ystafell yn fechan a thlodaidd, heb ei gorlenwi mewn un modd â dodrefn. Ar hyd y muriau yr oedd amryw gawellau adar, gan mwyaf ar ffurf tas wair Gymreig, ac mor fychain fel yr oeddwn yn synu sut yr oedd y creaduriaid bach pengoch yn gallu ymdroi ynddynt. Yr oedd yno un cawell mawr, yr hwn a fuasai unwaith yn gist tê, ond a droisid i'w ffurf bresennol gan breswylydd y bwthyn i<noinclude><references/></noinclude>
qb5ppvn5hx4j6nnli4s22wqf8d9c9gm
Tudalen:Y Dreflan.djvu/36
104
86338
166862
2026-06-21T21:48:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166862
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (Slow and Sure).jpg|600px|canol|bawd|{{c|"Slow and Sure." t d. 20.}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
a7cehlco1hcfqpr74y3gjkgmh4arbml
Tudalen:Y Dreflan.djvu/45
104
86339
166863
2026-06-21T21:51:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166863
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (Gwnes lŵ y trywanwn ef a'r gyllell yna).jpg|600px|canol|bawd|{{c|Gwnes lŵ y trywanwn ef a'r gyllell yna." t.d 34}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2aqzy5lsksxzovg1142kvwbyka0p5ys
Tudalen:Y Dreflan.djvu/46
104
86340
166864
2026-06-21T21:54:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166864
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddybenion neillduol, ymha un yr oedd dau aderyn prydferth, un o liw melyn a elwir ''canary'', a'r llall yn dywyll a phengoch a elwir ''goldfinch''; y ddau hyn, er yn anghymharus, oeddynt wedi ymuno mewn glân briodas. Yr oedd y creaduriaid bach hyn yn telori yn hyfryd pan oeddym yn croesi rhiniog y bwthyn; ond wedi i ni fyned i mewn peidiasant â'u cerdd, a safasant oll yn synedig ar eu clwydi, gan droi eu penau yn gam, a gwneyd swn undonaidd yn awr ac yn y man, yr hyn a ddynodir gan edmygwyr adar yn "alw."
"Y ni sydd yma," ebe Mr. Pugh.
"Felly 'rwy'n gwel'd, Mr. Pugh; well i chwi eistedd i lawr, os byddwch mor ostyngedig."
"'Dydan ni ddim am aros, Ismael Price; ond galw yr oedda' ni i ofyn a ddoech ch'i gyda ni i'r ysgol?"
"O, yr ydw i wedi darfod fy ysgol er's talwm," ebe Ismael.
"Ie, ond yr Ysgol Sul oedda' ni yn feddwl; ac mi ddowch gyda ni, oni ddowch ch'i?"
"Na, ddof fi ddim; 'dydw i ddim digon ''respectable'' i ddyfod i'r fath le; a pheth arall, faint gwell fyddwn i pe bawn yn dyfod?"
"Llawer iawn gwell, gyfaill; mi welaf y medrwch ddarllen, a phe baech yn dyfod i'r ysgol, mi gaech lawer o bleser wrth ddarllen y Bibl a chwilio yr ysgrythyrau."
"Mae hyny yn burion i'r rhai sydd yn credu mewn peth fel yna; ond faint gwell ydw i, neu fy ngwraig yr hon sydd yn sâl yn ei gwely yn llofft yna er's wythnosau, neu Jim a welsoch hyd yr heol yna lawer gwaith, yn hanner noeth, yn gwerthu ''fusces''—faint gwell ydan ni am hyny o grefyddwyr sydd yn y Dreflan? Öes rhai o honyn' nhw yn gwneyd rhyw ddaioni i rywun? mi fuaswn i yn leicio gwybod i bwy. Ni wnai eu hanner nhw ddim byw yn grefyddol oni b'ai eu bod yn cael tâl am hyny. Drychwch ar yr esgobion yma y cewch eu hanes yn y papyr hwn. Maent yn derbyn eu chwech, a'u saith, ie eu deng mil o bunnau yn y flwyddyn, a llawer o'u curadiaid yn, derbyn punt yr wythnos, a llawer mwy o'u 'hanwyl<noinclude><references/></noinclude>
i9nmvrovztvncslerxh86gadf71kfvm
Tudalen:Y Dreflan.djvu/47
104
86341
166865
2026-06-21T22:00:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166865
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gariadus frodyr yn derbyn hanner coron yr wythnos. Ydach chi yn galw hyny yn grefydd? Bregethen' nhw, ddyliech ch'i, pe'r attelid eu cyflogau, a phe byddai raid iddynt weithio â'u dwylaw fel Paul gynt? Choelia i fawr! Mi glywes am yr Hwn y maent yn cymeryd arnynt fod yn ddilynwyr iddo mai yned oddiamgylch i wneuthur datoni y byddai fe, ac nid myn'd oddiamgylch, fel y mae nhw, i edliw i ni ein pechodau a'n gwendidau. Ha! ''humbug'', syr! ''humbug'' ydi'r cwbl, syr!"
Yr oeddwn yn ofni mai nid Mr. Pugh oedd y dyn i siarad gydag un fel Ismael, a chanfyddwn fod fy nghyfaill ei hun yn teimlo hyny er ys meityn.
"Ond," ebe Mr. Pugh yn wyliadwrus, "wel, yr wyf yn gobeithio na ddarfu i ch'i dderbyn dim angharedigrwydd oddiar law un crefyddwr yn y Dreflan, os ydych wedi digio cymaint wrth yr esgobion?"
"Angharedigrwydd? angharedigrwydd, syr?" A neidiodd y gwaed i wyneb llwyd Ismael. "Beth ydach chi'n feddwl o hyn?—Mae Jeremiah Jenkins yn aelod gyda'ch enwad chwi, on'd ydi o? Y fo pïa y cabanod hyn. Gwyddai yn eitha' da fod fy ngwraig yn analluog i godi o'i gwely; gwyddai cystal a hyny nad oeddwn innau yn alluog i wneyd diwrnod o waith, hyd yn nôd pan gawn waith i'w wneyd. Yr oedd arnaf ddau fis o rent iddo; a beth wnaeth o?" gofynai Ismael, gan edrych yn ddigofus.
"Ei faddeu i chwi, wrth gwrs," ebe Mr. Pugh.
"O ie! ei faddeu—''over the left''! Fe werthodd fy nodrefn i, syr; a buasai wedi gwerthu fy adar hefyd oni bae i mi wneyd llw, os efe a gyffyrddai âg un o honynt y trywanwn ef â'r gyllell sydd ar y fainc weithio yna! Anghofia i byth mo'r diwrnod hwnw, syr."
Ychwanegai Ismael ychydig yn fwy tawel, "Yr oedd fy nodrefn wedi myn'd; yr oedd yr helynt wedi gwneyd fy ngwraig yn llawer iawn salach; yr oeddwn yn ofni mai marw a wnai; ac nid oedd genyf un job yn y tŷ, nac ymborth chwaith. Gan nad oeddwn yn caniatâu i Jim gardota, ni ddygodd ddim ymborth i'r tŷ; ond deallais<noinclude><references/></noinclude>
os58aieowaa0q4tcqhunhj78z4998py
Tudalen:Y Dreflan.djvu/48
104
86342
166866
2026-06-21T23:41:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166866
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi hyn ei fod wedi cardota digon yn ddirgel i'w ddiwallu ei hun, a dygodd rywbeth i'w fam heb yn wybod i mi. Daeth gwraig y person yma a rhoddodd gynghori mi, a ''tract'' crefyddol; rhoddes innau y tract yn y tân, a buaswn yn rhoi y cynghor hefyd pe buaswn yn medru. Daeth y curad, y ''Southwalian'' yna, yma; a chynghorodd fi i beidio smocio, ac annogodd fi i weddio. Bu agos i mi ei gicio allan o'r tŷ. Yr oeddwn wedi digio wrth bawb a phobpeth, a bu bron i mi a chredu nad oedd yr un Duw yn bod. Yr wyf yn meddwl yn sicr y buaswn wedi dyrysu yn fy synwyrau oni buasai am Siân Jones a rhyw ŵr boneddig sydd yn aelod gyda chwi. Yr oedd fy ngwraig, fel y dywedais, yn ol pob golwg, yn marw. Pe buaswn yn myn'd at ddoctor y plwy', buasai yn dyweyd yn union fy mod yn grefftwr, ac felly. y gallaswn dalu iddo. Yr oeddwn yn gwybod mai fy ngwrthod a fuasai. Mentrais yn fy ngwallgofrwydd fyned at Doctor Ellis, a dywedais wrtho fy ystori. Yr oedd y gŵr da, Duw a'i bendithio! yma hefo fy ngwraig cyn pen y ddau fynyd; a rhoddodd rywbeth iddi a wnaeth les dirfawr iddi; ac wrth fyned allan efe a roddodd hanner coron yn llaw Siân Jones i geisio ymborth."
Cyn i Ismael gael gorphen ei ystori, yr oedd rhywbeth yn myn'd i fyny ac i lawr yn ngwddf Mr. Pugh a'i gorfodai i besychu a defnyddio ei gadach poced yn ddidor. "Byth er hyny," ychwanegai Ismael, "mae Dr. Ellis yn ymweled â hi bob dydd, ac y mae hithau, yr wyf yn credu, yn gwella ychydig; ac nid allaf byth adrodd i ch'i y caredigrwydd y mae ef wedi ei ddangos i mi ac i fy ngwraig, a hyny i gyd am ddim—achos mi ddywedais wrtho yn y dechre nad allwn i byth dalu iddo. Oni buasai am y dyn yna, syr, ni fuaswn yn credu fod y fath beth â chrefydd, yn y Dreflan beth bynag. Ond am Jeremiah Jenkins"—a thrachefn dechreuodd Ismael fyned i dymher ddrwg, gan arfer iaith gref a dyweyd y lleiaf, yn nghanol pa un y clywem gnoc ar y drws, a dyna Dr. Ellis i mewn. Er yr holl dymher a ddangosodd Ismael, nid oedd, cyn dyfodiad y meddyg i mewn, wedi<noinclude><references/></noinclude>
sdwevtm4dld4sgy1w9rge8usgxdik5l
Tudalen:Y Dreflan.djvu/49
104
86343
166867
2026-06-21T23:43:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166867
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>symud o'i gadair, na rhoddi ei getyn heibio ond pan fyddai yn siarad; eithr y foment y clywodd gnoc y meddyg, taflodd ei bibell o'r naill du a neidiodd ar ei draed, ac ymdaenodd y fath sirioldeb dros ei wyneb, fel pan oedd yn talu ei warogaeth i'w noddwr y meddyliwn. ei fod yn edrych ddeng mlynedd yn ieuengach. Wrth gwrs, yr oedd Mr. Pugh a minnau yn adnabod y meddyg yn dda, yr hwn oedd ŵr bywiog yn anterth ei iechyd, a llon'd ei wyneb yn gystal a'i galon o garedigrwydd. Synodd braidd ein gweled ni yno; ond deallodd ein neges yn union. "Wel, wel," ebe fe, "gadewch lonydd iddo yrwan; mae o mewn tipyn o brofedigaeth, ond mi ddaw o i'r ysgol yn y man wedi i mi gael y wraig i lawr o'r llofft yna," ac aeth i fyny y grisiau yn gartrefol ac esmwyth ''fel'' meddyg.
Pan oeddym yn cychwyn ymaith, rhoddodd Mr. Pugh ei law ar ysgwydd Ismael, a gofynodd iddo yn ddystaw,
"A oes prinder arnoch ch'i heddyw?"
"Nac oes, diolch i ch'i, Mr. Pugh, mae o {{bar|2}}" gan gyfeirio i fyny y grisiau, "wedi gwneyd pob peth yn iawn."
Cynnygiodd Mr. Pugh arian iddo, ond gwrthododd hwynt yn bendant.
"Wel, cofiwch y gwyddoch lle i gael cymhorth."
"Diolch i chwi," ebe Ismael. Yr oedd Jim wrth y drws yn ein haros allan, gan ddysgwyl yn ddiammheu am ychwaneg o'r melusion. Rhoes Mr. Pugh ei enau wrth ei glust, a gofynodd iddo, "Wyddost ti lle rydw i'n byw?"
"Gwn debyg," ebe Jim.
"Ddoi di acw heno hanner awr wedi wyth gael i ti gael rhywbeth i dy fam?"
"Wel, do' debyg!" oedd yr ateb.
Ar ein ffordd i'r ysgol, ebe fy nghyfaill dyngarol wrthyf "A wyddost ti beth? mae dyn fel Jeremiah Jenkins yna yn gwneyd mwy o ddrwg i achos crefydd nag y medri di a finnau wneyd o ddaioni trwy ein hoes. Yr oedd yna rywbeth yn myn'd trwydda i pan oedd Ismael<noinclude><references/></noinclude>
g5z2y1r3suhvzov62s4dtj8i779f6mk
Tudalen:Y Dreflan.djvu/50
104
86344
166868
2026-06-22T00:29:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166868
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn son am y gyllell; ac eto yr oedd yna rywbeth yn dyweyd wrtha i—yr ysbryd drwg, ddyliwn i ti—fod o yn ei haeddu hi, y syrffed creulon, dideimlad. Aros di i mi gael siarad â fo! Mi ddeuda i iddo fo be' ydi be' Yr ydw i wedi dysgu llawer yn y Buarth yna heddyw, wel di. Yr ydw i'n gwel'd na thala i ddim i fyn'd i siarad â dyn fel Ismael—dyn sydd wedi darllen tipyn. Mae eisio dyn â rhywbeth yn ei ben o i fyn'd at y ''sort'' yna. Peth arall, yr ydw i wedi gwel'd pan fydd dyn yn llwgu o eisio bwyd, fod yn well rhoi swllt iddo fo na rhoi llon'd trol o draethodau crefyddol a chynghorion. Welest ti fel yr oedd o hefo Dr. Ellis? Fe äi Ismael i'r lleuad, pe medro fo, i blesio Dr. Ellis, mi wnawn lw. Yr ydw i wedi penderfynu, os nad oes gen' i dalent i ddadleu hefo'r sort yna o bobl, y gwna i rywbeth iddynt a wnaiff cystal argraff arnynt, ac hwyrach well argraff." Ni bu fy nghyfaill yn ol o gario ei benderfyniad i weithrediad.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VI.<br>CYFLOG GWEITHIWR.}}}}
TRA yr wyf fi wedi bod yn ymdroi gyda'r peth yma a'r peth arall, y mae swyddogion ac aelodau eglwys yr "Hen Gapel" wedi bod yn rhoi eu penau ynghyd i ystyried pwy a anrhydeddid â'r fraint o fod yn fugail iddynt. Profasant yn fuan yn eu cynghoriaethau mai un peth oedd cael caniatâd y Cyfarfod Misol i ''alw'' bugail, ac mai peth arall oedd penderfynu pwy a fyddai y gŵr hapus hwnw—mai un peth oedd cael yr eglwys bron yn unfrydol o blaid cael gweinidog, ac mai peth hollol wahanol oedd syrthio ar ŵr y byddai ei gymhwysderau yn cael eu cydnabod gyda'r un unfrydedd. Gan fod Mr. Williams, eu diweddar weinidog, yn ŵr o gryn ddoniau, ac yn arfer cael edrych i fyny ato yn y Sir, yr
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
d9vac6spxqlm7b2cexhno7pf5o17bhb
Tudalen:Y Dreflan.djvu/51
104
86345
166869
2026-06-22T00:33:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166869
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd rhai yn tybied mai annheilwng o'r eglwys y bu efe yn weinidog cyfrifedig iddi, a fuasai galw gŵr arall i lenwi ei le heb ei fod yntau hefyd yn meddu ar ddoniau phrofiad cyffelyb. Ond yr oedd tipyn o rwystr ar ffordd dwyn hyn oddiamgylch, sef y ffaith fod yr eglwys wedi arfer cael gwasanaeth Mr. Williams am ddim, a'r posiblrwydd y buasai gŵr arall o'i safon ef yn dysgwyl cael cyflog uwch na chyflog hwsmon Ty'nllan. Felly, gan fod yn rhaid llunio'r gwadn fel bo'r troed, y pwnc y bu raid ei benderfynu yn gyntaf oedd pa faint o gyflog a allai yr eglwys yn ddiogel ei sicrhâu.
Gan anghofio nad oedd pawb fel efe ei hun, ystyriai Mr. Pugh na ddylasent feddwl am gynnyg llai na deg punt a thriugain, ac na fyddai hyny yn llawer i'w wneyd i fyny rhwng cynifer, ond i bawb fod yn ffyddlawn. Pan wnaeth Mr. Pugh y sylw hwn, ymaflodd Jeremiah Jenkins yn ei het, ar fedr myned allan a gadael y frawdoliaeth gyda dirmyg; ond cymerodd ail feddwl ac eisteddodd i lawr, gan grynhoi hyny o ras a feddai i roddi pardwn ynfytyn i Mr. Pugh. Dywedai Mr. Phillips—y blaenor ''nervous''—na buasai dim yn rhoddi mwy o bleser iddo ef na chefnogi cynnygiad Mr. Pugh pe buasai rhyw rith o olwg i'r eglwys allu hel y fath swm anrhydeddus; eithr, gan nad oedd eu nifer ond rhyw ddau cant a hanner, fod son am ddeg punt a thriugain allan o'r cwestiwn, ac mai mwy rhesymol o lawer fuasai penodi ar ffigiwr llawer is, rhag iddynt gael eu harwain i brofedigaeth. Dywedai Mr. Bevan fod rhyw bobl yn son am arian fel pe buasent i'w cael ar y ffordd fawr, ond nad oedd efe wedi eu cael yno, a'i fod yn ofni mai hyn oedd profiad y rhan fwyaf o honynt.
Rhoddodd y sylw hwn y fath foddhâd i Jeremiah Jenkins nes peri iddo anghofio yn llwyr ei benderfyniad i gymeryd ei het a myned allan; a pharodd iddo gredu hefyd fod un dyn synwyrol, pa fodd bynag, wedi ei adael ar y ddaear. Yn nghanol y mwynhâd hwn, cododd ar ei draed, a dywedodd fod lle cryf i ofni mai ariangarwch ydoedd y prif rwystr ar ffordd llwyddiant crefydd ysbrydol<noinclude><references/></noinclude>
i1hlypwtd0v97n7ofxabo4zwt0xcgmn
Tudalen:Y Dreflan.djvu/252
104
86346
166870
2026-06-22T00:33:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166870
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan.djvu|canol|600px|tudalen=252]]<noinclude><references/></noinclude>
gwth989igigjdzxj2e765g5kj1t7f2v
Tudalen:Y Dreflan.djvu/251
104
86347
166871
2026-06-22T00:34:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
166871
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Y Dreflan.djvu/52
104
86348
166872
2026-06-22T00:42:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166872
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ol y dyddiau hyn, a bod gwaith yr eglwysi yn rhoddi cyflogau mawr i'r gweinidogion a thuedd ynddo i'w gwneyd yn fydol, ac i beri iddynt feddwl mwy am arian. nag am achub pechaduriaid. Yr oedd yr hen dadau wedi bod yn llafurio ac yn pregethu am y nesaf peth i ddim, ac weithiau am lai na hyny; ac yr oedd bendith' mawr wedi bod ar eu llafur. Ond yn ddiweddar, yr oedd efe yn ofni fod rhywbeth tebyg iawn i ''priestcraft'' yn ymwthio i'r eglwysi, diwedd yr hwn a fyddai dinystr. Yr oedd son am ddeg punt a thriugain, ychwanegai y gŵr pur a duwiol, yn ynfydrwydd perffaith; a gwyddai y rhai oeddynt yn gwybod rhywbeth, fod y rhan fwyaf o aelodau yr eglwys hono, y rhai oedd yn gorfod ''gweithio'', heb allu gwneyd y fath swm yn flynyddol; a pha reswm oedd son am gynnyg peth felly i bregethwr am ddyfod i ''fyw'' i'r Dreflan?
Yr oedd yr aelodau mwyaf adnabyddus o'r cyfaill Jeremiah yn gorfod cydnabod ei fod ef yn awdurdod ar y pwnc o fydolrwydd. Yn wir, credid nad oedd ei ennillion blynyddol ef ei hun yn rhyw lawer dros bedwar cant o bunnoedd; ac yr oedd efe yn gorfod gweithio, a pha reswm, fel y dywedasai efe, oedd son am roddi deg punt a thriugain i bregethwr am ddyfod i fyw i'r Dreflan! Heblaw hyny, er nad oedd ei ennillion ond y swm bychan a nodwyd, yr oedd Jeremiah o'i brinder yn cyfranu swllt yn y mis at y weinidogaeth; ac os byddai heb wneyd hyny weithiau, yr oedd felly o herwydd anghof. Byddai efe hefyd yn rhoddi dau swllt yn flynyddol at y Genadaeth; a buasai yn rhoi mwy ond fel yr oedd yn ofni i rywrai feddwl mai eisieu gweled ei enw yn y report y byddai efe wrth wneyd hyny. Ond nid hyn oedd y cwbl yr oedd efe yn ei wneyd. Os na byddai yn dygwydd bod oddicartref pan fyddai y casglwyr yn dyfod heibio, byddai yn rhoddi hanner coron at y Fibl Gymdeithas, a hyny bob blwyddyn yn gyson, oddigerth y byddai amgylchiadau, fel y dywedwyd, yr ei alw oddicartref, ac yr oedd hyny yn dygwydd yn lled fynych; eithr beth a all dyn wrth amgylchiadau! Gwir na<noinclude><references/></noinclude>
s93smpc01gkwpm60dgm83xerwoai0c5
Tudalen:Y Dreflan.djvu/53
104
86349
166873
2026-06-22T00:43:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
166873
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byddai efe yn llettŷa pregethwyr; ond nid oedd lle i ddysgwyl iddo wneyd pobpeth. Gwrthodai ef gyfranu at y Cyfarfod Misol, fel y nodwyd mewn pennod flaenorol; ond gwnelai hyny oddiar egwyddor, a gwnelai beth gwell na chyfranu ato, canys bu yn gweddïo yn gyhoeddus am fendith ar y cyfarfod. Wrth gymeryd hyn oll i ystyriaeth, yr oedd ganddo ef hawl i siarad ar y fugeiliaeth, ac ar y pwnc o gyfranu yn gyffredinol.
Yr oedd sylwadau Jeremiah Jenkins mor groes i ddaliadau Mr. Pugh fel y bu raid i'r olaf frathu ei dafod rhag dyweyd un peth neu ddau oedd ar ei feddwl; ond, fel Aaron, cafodd ras i dewi. Yr oedd yn ymddangos nad oedd Mr. Pugh ar ei ben ei hun yn ei ddaliadau, oblegid siaradodd amryw yn yr un cyfeiriad âg ef. Aeth un brawd mor bell a dyweyd mai nid byw yn unig yr oedd y bugeiliaid. ond eu bod hwythau hefyd yn gweithio; ac mai nid cyfeirio at ei waith yn gwneyd pebyll yr oedd Paul pan ddywedodd, "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll;" ac mai nid cyfeirio at waith saer yr oedd Un mwy na Phaul pan ddywedodd, "Rhaid i mi weithio gwaith yr Hwn a'm hanfonodd." Nid ydwyf fi yn dyweyd fod yr esboniadaeth yma yn gywir Yn wir, a barnu oddiwrth y rhyfeddnodau a welid yn amlwg yn ngwyneb Jeremiah pan soniodd y brawd am y geiriau uchod, gallesid yn hawdd benderfynu na wyddai hwnw ddim am eglurhadaeth ysgrythyrol—o leiaf ddim o'i gymharu â Jeremiah. Aeth y brawd crybwylledig ymlaen i ddyweyd mai nid clorianu ydau, bustachu i symud sachau, llwytho tail, a gwrteithio, oedd yn unig yn teilyngu yr enw gwaith—fod myfyrio, cynghori, pryderu, ymweled, gofalu, a phregethu, yn ei dyb ef, yn llawn mor deilwng o gael ei alw yn waith.
Gwnaeth John Aelod Jones sylwadau i'r un perwyl; ac ychwanegodd at y pethau a nodwyd fod y bugeiliaid yn "gysfenu" llawer, ac fod hyny yn waith, ac yn waith caled iawn, gan gofio yn ddiammheu am y gwewyr y bu ef ei hun ynddo pan yn "gysfenu" i'r wasg am y tro cyntaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
iivgesdrsned5hepzqjnqsr94fe0ux9