Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.8 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/36 104 33251 166890 69041 2026-06-25T10:48:50Z ~2026-36601-66 4164 166890 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ac wrth syllu ar y gwrid yn ymdaenu dros ei gruddiau fel y dawnsiai—clywsai amdani, fwy nag unwaith, fod elfennau rhyfedd yn ei natur a barai iddi yn fynych ymofyn perygl, a rhedeg i ryfyg pan oedd yn eneth lawn nwyf, amdani hi y clywsai. . . . Distawodd y delyn, a darfu'r ddawns. Gwelodd Morys ei chydymaith yn arwain Einir i'w gyfeiriad ef. Ai tybed y dymunai hi ei gymdeithas ef drachefn? Curodd ei galon yn gynt pan welodd mai felly yr oedd. Daeth ato â chyfeillgarwch diymhongar yn ei hedrychiad, yr hyn a barodd i'r cawr llednais ddyfod allan am dro o encilion yswildod. "Buasech yn addurno neuadd St. James ei hun," meddai wrthi, gan fwriadu gwrogaeth i'w medrusrwydd amlwg hi yn y ddawns. "Cefais y fraint o fod yno fwy nag unwaith," atebodd hithau'n syml, "ar fraich urddasol Syr William ei hun." Ac wrth edrych arni gwelodd Morys unwaith eto y wên anesboniadwy honno a welsai o'r blaen yn gwibio ar draws ei hwynepryd dengar, rhyw adliw o boen yn ymlid difyrrwch. Ychwanegodd hithau yn ddireidus: "'Rwyn dechrau ofni nad ydych chwi am ofyn imi o gwbl." "Yn wir," meddai yntau, bron yn wylaidd, a gwrid yn ei wyneb didwyll, "o'r braidd y mae gennyf yr hyder i ofyn. Ond gofynnaf yn awr. Edrychodd arni, a gwyddai ei bod ar fin ei ateb gyda'i hysmaldod arferol, pan ddaeth rhyw olau newydd i'w hwyneb gan ei drawsffurfio'n rhyfedd. Bron na thybiai Morys ei gweled yn gweddnewid o flaen ei lygaid, nes iddo golli'r ferch ffasiynnol a fu, yn ôl yr hanes, yn dawnsio yn llys y brenin Iago, a chael yn ei lle un o rianedd y coed, a'i hawddgarwch fel eiddo duwies anian. Yr oedd hithau'n myfyrio, ond wedi disgwyl ennyd clywodd ei sibrwd hi, a gwelodd fwy na geiriau yn ei llygaid llawn ymadrodd. Yr hyn a hoffwn i," meddai, "fyddai mynd am wibdaith ar ein ceffylau—yng ngolau'r lloer—i'r bryniau!" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ld01hkg94hxmetx2ml8bidey8q9z5x5 George Borrow (Winnie Parry) 0 86350 166875 2026-06-24T22:17:45Z Mortal Ken 3953 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title = George Borrow | author = Winnie Parry | year = 1907 | translator = | language = cy }} == George Borrow == Testun wedi’i wirio yn erbyn sganiau gwreiddiol o *Y Llusern* (1907). Cyhoeddwyd gyntaf yn *Y Llusern* (1907): Ionawr tt. 13–16; Mawrth tt. 38–39; Ebrill tt. 54–55. Yn hanes llenyddiaeth Lloegr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ni cheir yr un cymeriad mwy dyddorol a rhyfeddaeh na George Borrow na’r un y mae mwy o..." 166875 wikitext text/x-wiki {{header | title = George Borrow | author = Winnie Parry | year = 1907 | translator = | language = cy }} == George Borrow == Testun wedi’i wirio yn erbyn sganiau gwreiddiol o *Y Llusern* (1907). Cyhoeddwyd gyntaf yn *Y Llusern* (1907): Ionawr tt. 13–16; Mawrth tt. 38–39; Ebrill tt. 54–55. Yn hanes llenyddiaeth Lloegr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ni cheir yr un cymeriad mwy dyddorol a rhyfeddaeh na George Borrow na’r un y mae mwy o ddadleu yn bod yn ei gylch ymhlith y gritics. Y mae wedi maru ers dros ugain mlynedd, ond y mae erthyglau yn parhau i gael eu hysgrifenu arno, a chyfeiriadau ato yn y wasg i’ w gweled yn ddibaid. Yr ydym ni y Cymry y dyddiau hyn yn cymeryd gryn ddyddordeb mewn llenorion Seisnig, yn wir mae lle i ofni fod rhai o honom yn eu cael yn fwy dyddorol na’n llenorion ein hunain, ond mae Borrow, er ei fod yn Sais, yn hawlio ein dyddordeb dyfnaf, nid fel yr ydym yn llengar, ond fel yr ydym yn Gymry, oherwydd carodd ein gwlad, ein hiaith, a’ n cenedl, ac ni phallodd ganu eu clod, a hyny ar adeg pan yr oedd Cymru a’i phobl mwy na heb o dan len. Mae yn ffasiwn yn mysg y Saeson llengar y dyddiall hyn edmygu y Cymry a nodweddion Cymreig, yr ydym yn rhan o’ r Celtic fringe y clywir cymaint o son am dano, yn wir y mae rhai o honynt wedi myned mor bell a chyfaddef nad oes gwr o wir athrylith i’w gael heb rhyw gymaint o’ r elfen Geltaidd yma yn perthyn iddo. Ond nid oedd son am hyn pan oedd Borrow yn canu clodydd Cymru, a pheth rhyfedd a dieithr yr adeg hono oedd i Sais dreulio llafur ac a amser i ddysgu Cymraeg fel y darfu Borrow, er mwyn iddo allu mwynhau gweithiau ein beirdd a’n llenorion. Mae bron yn amhosibl gwneyd cyfiawnder ag un oedd yn anhebyg i bawb o’ i gyfoedion llenyddol, un sydd yn cael ei alw gan un ysgrifenwr, “A figure dominating, shy, reliant, mysterious, elusive;” ond carwn yn fawr enyn digon o ddyddordeb ynddo fel y byddai i’ r rhai hyny o’ m darllenwyr sydd heb ddarllen yr un o lyfrau Borrow ymgymeryd a gwneyd hyny, gan ddechreu gyda’r un sydd yn ymdrin a Chymru a phethau Cymreig, yr un mae wedi alw “Wild Wales,” cyfieithiad llvthyrenol o enw ydym yn hoff roddi ar ein gwlad mewn munudau o ddyrchafiad barddonol— “Gwyllt Walia.” Mae y gyfrol i’w chael am swllt yn niwyg prydferth y gyfres “Every Man ‘s Library,” gyda rhagymadrodd gan Theodore Watts Dunton, yr hwn oedd yn adnabod Borrow yn bersonol, a’r hwn sydd ei hun yn cymeryd dyddordeb nid bychan yn ein gwlad a’n cenedl. Darllenai hanes bywyd Borrow fel rhamant. Mae yn ei adrodd ei hun yn ei lyfr “Lavengro,” ac yn myned ymlaen gyda’r hanes yn y “Romany Rye.” Yn wir nid ydyw llyfrau Borrow i gyd ond bywgraffiad o wahanol ranau o’i ‘fywyd. A son am nofels, ni ysgrifenwyd yr un erioed mwy dyddorol na’r llyfrau hyn, a’r awdwr ei hun yn arwr pob un o honynt. Mae rhai beirniaid yn cyhuddo Borrow o hunanoldeb difesur, ond os mae y person mwyaf dyddorol i Borrow oedd ef ei hun, mae yn feddianol ar y gallu i wneyd ei hun yn un mwyaf dyddorol i ninau hefyd; yn wir, ni fu y fath arwr llyfr erioed a Borrow, ac yr ydym yn dilyn ei gamrau gan ofn colli yr un o’ i symudiadau . Mae rhyw agwedd newydd o’i gymeriad yn dod i ‘r golwg ar bob tudalen bron. Un funud yr ydym yn ei gashau am ei doriaeth a’ i elyniaeth at Anghydffurfiaeth, a’r munud nesaf yr ydym yn ei edmygu i’ r carn am ei amddiffyn o’ r tlawd a’r gwan a’r gorthrymedig, ac yn meddwl am dano fel un o farchogion gwydrol, knights-errand, y canol oesoedd. Yn un man yr ydym yn cytuno ag un sydd yn ei alw “The Prince of Adyenturers,” ac yn gedu ei fod wedi ei eni granrifoedd yn rhy ddiweddar, ac mai arweinydd haid o ‘r mor-ryfelwyr hyny, y Vikings, y dylasai fod. Yna y mae yn dwyn i’n sylw rhyw gymeriadau rhyfeddaf, rhai na welsom, ac na fu i ni ddychmygu am eu tebyg o’ r blaen, ac yr ydym drachefn yn cytuno ac ysgrifenwyr arall sydd yn ei alw “A writer of Fairy Tales for grown up people,” fel mae bron yn amhosibl ffurfio barn ar y fath sypyn o wrthgyferbyniadau. Ond yn mha agwedd bynag yr edrychom arno mae yn ddyddorol. Ganwyd Borrow yn East Dereham, Norfolk, yn y flwyddyn 18o3. Yr oedd ei dad yn ha nu o deulu o foneddigion yn Nghernyw, a chanddynt blas yno o’ r enw Tredinnock, a’ i fam yn un o ddisgynyddion yr Huguenots, y rhai oedd wedi gadael Ffainc er nnvyn eu gefydd ar amser o erledigaeth. Mae Borrow yn cofnodi y ffeithiau ar ddechreu “Lavengro” yn ei ffordd ei hun. Wedi traethu gryn gwrs ar urddas-olrwydd teulu ei dad, mae yn dyweyd yn goeglyd, “Yr wyf yn rhoddi’r manylion uchod er mwyn i ‘r darllenwr ddeall nad ydwyf yn hanu o rhyw deulu cyffredin iawn. Mae hon yn oes bur aristogataidd ac yr wyf yn argyhoeddedig y bydd i’r cyhoedd ddarllen fy ngwaith gyda mwy o ddyddordeb os gwybyddant fy mod yn hanu o deulu bonheddig a chanddynt blas a thiroedd yn eiddo iddynt.” Yn y brawddegau hyn daw cysondeb Borrow a’i anghysondeb i’r golwg. Yr oedd yn Eglwyswr ac yn Dori dallbleidiol, ond yr oedd yn cashau a chas perffaith y bendefigaeth a phob ffug urddas a defodaeth. Mae ganddo rhywbeth i ddyweyd am hynafiaid ei fam hefyd, ac mae nodwedd arall sydd yn perthyn iddo yn dod i ‘r golwg pan mae yn son am danynt, sef ei gasineb at Babyddiaeth. Dywed fel hyn : “Protestaniaid Ffrengig oedd teulu fy mam, a beth bynag anm ei gwaedoliaeth, rhoddasant brawf amlwg fod ganddynt galonau pur a dewr, a’u bod yn Gristionogion gloeyw yn gwrthod plygu i drahausrwydd Rhufain. Am hyny gadawsant eu gwlad brydferth, a chydag ond yehydig iawn o arian a Beibl yn eu hiaith eu hunain daethant dros môr i’ r ynys lle trigai heddwch gwladol a rhyddid cydwybod, a gwnaethent gartref iddynt eu hunain yn East Anglia. Rhydd Borrow ddesgrifiad manwl o ddyddiau ei febyd. Recruiting agent oedd ei dad, ac mae’r teulu yn cael ei wneyd i fyny o’ r tad a’r fam a dau o fechgyn yn gwydro o fan i fan gyda’r gatrawd y perthynai’r tad iddi. Weithiau byddent yn byw yn y barracks, a thro arall, os byddai y rhai hyny heb fod yn gysurus, yn lletya yn y dref lle byddai y gatrawd yn aros. Mae yn debyg fod y modd gwydredig yma o fyw yn ystod blynyddoedd ei blentyndod wedi meithrin yr elfen grwydrol oedd yn natur Borrow, a’rr hon ddadblygodd i’r fath raddau yn ddiweddarach yn ei oes. Nid oedd yn blentyn “siarp,” fel Y dywedwn, a bu yn hir cyn bod yn abl i ddarllen ond symbylwyd ef i hyny drwy i foneddiges, cyfeilles i’w fam, ddod a hanes Robinson Crusoe iddo yn anrheg. Yr oedd yr argraphiad yn un llawn o ddarluniau, ac er mwyn deall hanes y darluniau oedd yn tanio ei ddycgymyg ymrôdd y plentyn i’r gwaith, ac ni fu yn hir cyn bod yn abl i ddarllen pob gair o’r gyfrol oedd yn gydymaith beunyddiol iddo. Cafodd y llyfr argraff ddofn ar ei feddwl ieuanc, ac yr oedd yn gynorthwy ychwanegol at gryfhau ei dueddiad naturiol at yr anturiaethus. Yr oedd ei ddyddiau boreuol yn rhai tra dedwydd i Borrow. Yr oedd y dull gwydrol o fyw wrth ei fodd, fel mae yn debyg y buasai wrth fodd llawer bachgen arall. Mae hyd nod pan yn ieuanc iawn yn profi’r gallu oedd ganddo i wneyd cyfeillach a phob math o bobl ac i allu eu swyno i ddyweyd eu holl helyntion wrtho. Mae yn cael ei anfon i ‘r ysgol oreu yn mhob tref mae y gatrawd yn aros yn ei chrwydriadau, ac y mae yn cael ei ddisgyblu yn drwyadl yn y Lladin a’r Groeg. Mae ynddo allu arbenig i ddysgu ieithoedd, ac mae yn dysgu nifer fawr. Dywedir ei fod yn gallu siarad yn rhwydd maw. Ond yr oedd ar y pen yma hefyd yn llawn mympwy. Yr oedd y Lladin yn ffiaidd ganddo oherwydd ei gasineb at Rufain. Ni fynai wneyd dim a ‘r Gernaneg am fod hono yn cael ei siarad yn y llys a’r bendefigaeth; ond am yr ystyriai fod y Gwyddelaeg, y Gaelig, a’r Gymraeg, yn cael eu dirmygu, a cheisiadau yn cael eu gwneyd i’w lladd, gwnaeth hyny oedd yn ei allu i gadw’r ieithoedd hyny yn fyw. Mae yn gorphen ei addysg mewn ysgol yn Norwich, lle yr oedd y teulu wedi sefydlu ar ymneillduad y tad o ‘r fyddin. Yna yr ydym ei gael yn yr un dref mewn swyddfa cyfreithiwr, wedi tyfu yn llanc grymus dros drwy lath o daldra, yn difyru ei hun pan fyddai’r gwaith yn sefyll drwy gyf ieithu caneuon o’r Danaeg, a chywyddau Dafydd ab Gwilym. Mae yn cyfrif ein bardd ni yn werth hanner dwsin o’i gyydoeswr Seisnicg Chaucer! A fu Sais debyg i hwn erioed? Tra yr oedd Borrow yn brentis gyda’r cyfreithiwr yn Norwich, bu farw ei dad, ac ymhen ychydig wed’yn blinodd ar ei waith yn y swyddfa, a phenderfynodd fyned fel llawer un arall i geisio ei ffortiwn yn myd llenyddol Llundain; ac mae felly yn cychwyn gyda swpyn o gyfieithiadau o waith Dafydd ab Gwilym a’r drychfeddwl o gael eu cyhoeddi yn argraphedig ar ei feddwl; ond druan ohono! mae’r cyhoeddwyr, yn gyson a’u cymeriad, ac nid oedd derbyniad Borrow i fyny a’i ddisgwyliadau o gwbl. Ni fynai’r un gymaint ag edrych ar gampweithiau Ab Gwilym, a mae Borrow yn adrodd hanes ei ymweliad a’r gwyr hyn mewn dull tra chwerw. Bu yn Llundain am rai blynyddoedd yn hanner newynu mewn garret, ar yr ychydig oedd yn gallu enill oddiwrth ysgrifenu rhyw fân bethau i’r wasg ddyddiol; ac mae yn cyffelybu ei hun mewn un man i un o’n beirdd goreu ni. Goronwy, bardd oedd Borrow yn haner addoli. Blinodd ar y dull hwn o fyw, a phenderfynodd, os oedd raid iddo lwgu, y gwnai hyny o dan awyr lâs ac yn mysg prydferthwch natur. Ae wedi llwyddo i gael ugain punt gan un o’r cyhoeddwyr am lyfr bychan oedd wedi ysgrifenu, trodd ei gefn ar Lundain, a chychwynodd ar daith drwy Loegr; ac yn awr mae cariad Borrow at natur yn dod i’r golwg yn fwy amlwg, a rhydd ddesgrifiadau barddonol a phrydferth o ‘r golygfeydd mae yn weled. Un boreu, mae gyda’r wawr yn dod at y gromlech fawr, Stonehenge, a mae ysbryd y lle yn disgyn arno ac yn cydiad ynddo. Dywed ei fod wedi taflu ei hunan ar ei wyneb ar y ddaear wlithog rhwng dwy o’ r colofnau anferth, o dan y garreg ar eu pen, ac wedi aros felly am beth amser, mae yn codi ac yn eistedd ar garreg yn nghanol y cylch am ddey awr, nes i’ r haul godi a disgleirio ar ei wyneb. Yna mae yn teithio ymlaen, ac mae y digwyddiadau rhyfedd hyny y mae hanes Borrow yn llawn o honynt yn dechreu, ac mae yn dechreu tynu darluniau i ni o’r cymeriadau hynod mae yn gyfarfod. Ni theithiodd ymhell iawn cyn dod ar draws rhyw dinker a’i deulu. Maent mewn profedigaeth, ac fel arfer, mae Borrow, yn ei cyymeriad o’r crwydryn rhamantus “with the waining tongue,” yn gallu eu swyno i ddyweyd eu holl hanes wrtho. Mae yn dod i ddeall fod ar y tinker eisieu ymadael a’i drol a’i ferlyn ; a’ r diwedd ydyw i Borrow eu prynu, a’r tinker’s outfit, am £5 1s. Prynodd hefyd, gan wraig y gwesty lle yr oedd yr ymdrafodaeth hon wedi myned ymlaen, smoc ffroc oedd unwaith yn perthyn i’w mab oedd wed i marw, ac hefyd ychydig o ymborth, ac yna mae yn cychwyn drachefn; a dyma y tinker rhyfeddaf mae yn sicr fu yn tramwyo drwy ffyrdd gwledig Lloegr erioed. Yn ei ffordd mae yn dod i gyfarfyddiad â’r shipsiwns. Nid dyma y tro cyntaf iddo ddod i gydnabyddiaeth â’r bobl hyn. Yr oedd wedi bod ymysg rhai o honynt pan yn blentyn, pryd yr oeddynt wedi rhoddi iddo yr Sapengro, oherwydd ei allu i swyno nadrodd nes eu gwneyd yn hollol ddiniwed iddo ef. Mae yn cyfarfod a’r un rhai drachefn mewn ffair geffylau yn y dref mae yn byw ynddi yr adeg hono, ac yn myned i’w pebyll i ddysgu eu hiaith; ac mae yn dysgu mor gyflym fel mae un o honynt yn dyweyd gyda boddhad mawr, “Ni’th alwn yn hwy Sapengro, ond Lavengro,” hyny yw, meistr geiriau; a dyna fu ei enw ymysg y genedl ryfedd hon- cysylltiad Borrow a pha un sydd yn dod ag un agwedd o’i gymeriad i’r golwg yn eglur iawn- yr oeddynt yn estroniaid ac yn eael eu herlid, ac yr oedd hyny yn rheswm digonol iddo gymeryd eu plaid. Ond nid oedd ei gyfarfyddiad â hwynt y tro hwn, yn ei gymeriad o travelling tinker, mor ffodus. Ymddengys fod un o’ r llwyth yn elyniaethus iddo oherwydd ei fod yn Sais, ac yr oedd; ac yr oedd wedi ceisio ei rwystro pan llanc gael dysgu eu hiaith; ac yn awr mae yn cael cyfleu i geisio ei wenwyno, ac mae yn ei adael yn haner marw yn ei babell. Wrth glywed swn olwynion yn dod i’r cyfeiriad, Mae Borrow yn ceisio llusgo i ddrws y babell am gymorth, ac ar hyn mae yn clywed llais yn dyweyd yn Nghymraeg “Beth yw hwn sydd yn cyorwedd ar lawr?” Yna clywai lais arall- llais merch yn ateb- “Twn i ddim wir, beth allai fod?” Gwr a gwraig oeddynt, ac maent yn estyn cymorth i Borrow ac yn gallu rhoddi rhyw feddyginiaeth iddo oedd yn gwrthweithio effaith y gwenwyn oedd y shipsiwn wedi roddi iddo. Pregethwr oedd y Cymro oedd wedi dod ar draws Borrow ar achlysur hwn, un Peter Williams. Mae llawer wedi ceisio dyfalu pwy oedd y gwr yma. Gofynai un ysgrifenwr Cymreig, “Pwy oedd y Peter Williams, y pregethwr o Gymru oedd yn tynu’r tyrfaoedd ar ei ol, ac yn myned bron yn wallgof ar brydiau, oblegid ei fod yn credu ei fod wedi cyflawni y pechod anfaddeuol?” Fodd bynag, mae ef a’i wraig yn ymddwyn yn dra charedig tuag at Borrow, ac maent yn ymgomio llawer â’u gilydd tra y bu Borrow yu eu cwmni; ac yr oedd testynau eu hymddiddan yn ddyddorol, fe ellwch dybio, pan y dywedaf fod John Bunyan ac Elis Wyn a’u gweithiau yn eu plith. Nid ydyw Borrow yn gadael i Peter Williams wybod ei fod yn gallu siarad Cymraeg, ac mae yn gwrando arno yn traethu am Elis Wyn a’r “Bardd Cwsg” heb yngan gair o’i wybodaeth o bethau Cymreig. Yn y fan hyn eto mae swyn personoliaeth Borrow yn tynu holl hanes Peter Williams o’i enau, ac mae yn dyweyd holl fanylion ei fywyd wrtho. Mae Borrow yn teithio ar ol hyn yn nghwmni y teulu bychan hyd at derfynau Lloegr. Maent yn ei gymhell yn daer ddod gyda hwynt i Gymru. Gofynai Borrow i beth y deuai i Gymru. “I ddysgu Cymraeg,” meddai y pregethwr. Yna mae Borrow, er eu mawr syndod, yn darganfod iddynt ei wybodaeth o’r Gymraeg. Mae, fodd bynag, yn gwrthod myned gyda hwynt ymhellach, ac mae yn ffarwelio â hwynt, gan ddymuno bendith Duw arnynt. Mae Peter Williams yn rhedeg ar ei ol ac yn gwthio ei Feibl Cymraeg i’w law gan ddyweyd, “Cyner hwn gyda thi.” Gyda mae Borrow wedi canu’n iach a Pheter Williams a’i wraig, mae yn cyfarfod ag hen gydnabod iddo ymhlith y Shipsiwns a’r peth cyntaf mae hwnw yn ddweyd wrtho ydyw ei fod yn dod o gynhebrwng yr hen wraig oedd wed i ceisio gwenwyno Borrow. Ymddengys ei bod yn wallgof er’s blynyddau, a bod merch iddi wedi cael cam oddiar law Sais, ac mai dyna oedd y rheswm dros iddi fod mor elyniaethus i Borrow gael ymgyfeillachu a’r llwyth, a’r achos iddi geisio ei ladd. Mae Borrow ar ol gadael y Shipsiwn hwn yn ,yned i le a eilw y Pant, lle Mae yn codi ei babell ac yn myyned i hel crochanau i’w trwsio o’r gwahanol amaethdai a’r bythynod oddiamgylch, ac yn y Pant mae’r ymladdfa ofnadwy yn cymeryd lle rhyngddo a chymeriad mae yn alw y Flaming Tinman,” ar ba achlysur hefyd mae Isopel Berners, cymeriad rhyfedd arall yn gwneyd ei hymddangosiad ac yn cymeryd ei blaid yn erbyn y “Flaming Tinman.” Dyma arwres “Lavengro,” ac mae ei hanes y n hynod ddyddorol, ond mae yn diflanu o’r llyfr mor ddisymwth ac yr ymddangosodd rhywfodd, ac nid oes gwybodaeth beth ddaeth o honi. Mae parhad o’r cyfnod yma, ac efallai y cyfnod mwyaf dyddorol o fywyd Borrow i’ w gael yn ei lyfr y “Romany Rye.” Ei gysylltiad a’r Shipsiwns sydd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o’r llyfr hwn, ac mae Borrow yn dyweyd llawer o hanesion rhyfedd a dyddorol ynghylch y bobl yma. Mae’n cael derbyniad gan yr oll o honynt yn hwn, ac yn wir, maent bron yn myned i’w ystyried yn un o honynt. Ar ol crwydro fel hyn yn y cymeriad o “travelling tinker” ar hyd a lled Lloegr, fel y mae’n adrodd yn Lavengro a Romany Rye, mae yn teithio drwy Ffrainc, Germany, a Rwsia, ac yn 1835, mae yn cyhoeddi yn St. Petersburg lyfr mae yn alw “Tergum,” yn cynwys cyfeithiadau o ddarnau wedi eu cymeryd o ddeg ar hugain o ieithoedd. Gwelwch na fu y fath ieithydd a Borrow ag nad oedd ryfedd i’ r Shipsiwns ei alw “The Master of Words.” Y n yr un flwyddyn mae yn derbyn cynygiad y Gymdeithas Feiblaidd i fyned i ddosbarthu Beiblau i Spaen. Bu bum mlynedd yn yr Yspaen yn ystod teyrnasiad cythryblus blynyddoedd cyntaf Isabella’r Ail ar yr orsedd, a chyhoeddodd ddau lyfr ar ei deithiau, un ydyw ‘“The Gipsies in Spain” a’r llall “The Bible in Spain.” Mae’r olaf yn llawn o ddigwyddiadau ramantus ac o anturiaethau rhyfedd a gwyllt. Mae llawer iawn o ddadleu wedi bod ynghylch cysylltiad Borrow a’r Gymdeithas Feiblau. Rhai yn dyweyd ei fod wedi ymgymeryd a’r gwaith nid o sel dros ledaenu yr efengyl, ond yn unig fel mater o fywioliaeth, ac mewn ysbryd anturiaethus, ac mae y berniaid hyn yn dyweyd fod yn hawdd canfod hyny yn ei lyfr “The Beibl in Spain,” fod yr anturiaethau yn cael eu oosod i lawr ochr yn ochr ac ymadroddion yn llawn o rhyw ffug sel dros y ffydd Brotestanaidd, ac hefyd fod y llyfr yn colli yn y sincerity hwnw sydd yn swyno y darllenydd gymaint yn ei gyfrolau ereill. O’r ochr arall dywed rhai beirniaid fod Borrow wedi gweithio yn ardderchog dros y gymdeithas. Beth bynag am y beirniaid, buasai un yn meddwl fod casineb Borrow at Babyddiaeth yn ei wneyd yn un campus at y gwaith, ac yn sicr ni chafodd y gymdeithas hono na’r un gymdeithas arall wasanaethwr mwy nodedig a rhyfedd. Dywedir y byddai ystafell y gymdeithas yn orlawn pan fyddai ad roddiadau Borrow i’w cael eu darllen, ac nid oes syndod yn y byd at hyny. Cafodd y “Bible in Spain” gylchrediad ehang, a dywed rhai ei fod hyd heddyw yn aros y mwyaf poblogaidd o lyfrau Borrow. Y llyfr nesaf gyhoeddodd oedd “Wild Wales,” a hwn mae yn ddiameu sydd yn apelio fwyaf atom ni. Hanes ta ith ydyw drwy Gymru yn y flwyddyn 1854. Yr oedd Borrow wedi ffarwelio erbyn hyn a dyddiau ei ieuengetyd, ac efallai fod hyn yn cyfrif fod y llyfr hwn yn llai antur aethus ei gywair na “Lavengro” a’r “Romany Rye.” Ond os ydyw Borrow wedi colli peth o’r tân sydd yn llosgi yn ei gyfrolau ereill, mae digon o frwdfrydedd ynddo eto, ac mae yn cael ei ddefnyddio i gyd i ganu clod Cymru, ei hiaith, ei harwyr, ei beirdd, a’i llenorion. Mae ei rhagdraeth i’r llyfr yn ddyddorol i’r eithaf. Mae yn canmol golygfeydd Cymru a’i dynion enwog. Mae yn dyweyd- “Pwy na chlywodd am y beirdd? Clod iddynt, a thragwyddol glod i’r tri mwyaf o honynt- Taliesin, Dafydd ab Gwilym, a Goronwy.” Yna mae yn myned yn mlaen,- “But Wales has something besides its wonderful scenery, its eventful history and its illustrious men of yore, it has a population and a remarkable one- hardy, frugal, yet kind and hospitable and still speaking- Diolch i’r Nefoedd- the language of Glendower and the bards.” A chyn dechreu hanes ei daith dywed,- “Llyfr wedi ei ysgrifenu am Gymru ydw hwn, ac os gwneiff rhywun fy anrhydeddu drwy ei ddarllen caiff dalu ymweliad a llawer llecyn, yn nodedig, nid yn unig am ei brydferthwch, ond am fod rhyw ddigwyddiad rhyfedd wedi cameryd lle yno, neu am fod rhyw arwr wedi ei eni yno, neu wr o athrylith yn byw yno. Caiff hefyd ddod i ymgydnabyddiaeth a’r gwir Gymro, a chaiff wybod beth sydd ganddo i.w ddyweyd am ei gydwladwyr ac am ei gymydog yr ochr arall i Glawdd Offa, am brynu a gwerthu, ac am besgi moch a magu fowls, ac am Fethodistiaeth, Bedydd a’r Eglwys Sefydledig dlawd ac erledigedig.” Ar ol rhagymadrodd o’r fath mae’r llyfr yn rhwym o fod yn ddyddorol. Yn y bennod gyntaf y mae adrodd yn ei ffordd ei hun y modd y buiddo gychwyn ar daith i Gymru. YN y bennod gyntaf o “Wild Wales” mae Borrow yn ei ffordd ei hun yn adrodd y modd y bu iddo gychwyn ar daith i Gymru. Yr oedd ef a’u wraig a’i ferch, Henrietta, chwedl yntau, wedi penderfynu myned oddicartref am newid. Mae Borrow eisieu myned i Gymru, ond mae’r wraig a’r ferch yn teimlo awydd myned i rhywle ffasiynol fel Harrogate neu Leamington. Mae Borrow yn dyweyd wrth y ddwy nad oes dim mae yn ffieiddio yn fwy na bywyd ffasiynol, ond gan nad ydyw yn ddyn selfish y ceisiai efe roddi i fyny ag ef am ychydig, a’i fod yn foddlon myned gyda hwynt i rhyw le maent yn ddymuno. Ond mae hyn yn deffro ysbryd aberthol yn y fam a’r ferch, ac maent yn dyweyd y byddai well ganddynt fyned i Gymru, ei bod yn wlad brydferth yn ol pob hanes, ac y byddent yn sicr o fwynhau eu hunain yno, yn enwedig felly gan fod ef yn gydnabyddus a’r iaith. Yna mae yn egluro i’r darllenwr pa fodd y bu iddo ddysgu Cymraeg. Yr oedd gan ei feistr, y cyfreithiwr, was o Gymro, ac mae Borrow yn rhoddi desgrifiad manwl o hono, hyd nod o’i wisg, nes bron yr ydym yn ei weled yn sefyll o’n blaen. Yr oedd y clercod yn y swyddfa wedi darganfod mai Cymro oedd y gwas a byddent yn ei boeni yn feunyddiol drwy roddi eu penau allan o’r ffenestr bob tro y byddai yn myned heibio ac yn gwaeddi “Taffi” ar ei ol. Gwelodd Borrow fod hyn yn peri poen dirfawr i’r Cymro, a llwyddodd i gael ganddynt adael llonydd iddo. Trwy ei garedigrwydd yn hyn enillodd ei serch, a deuai i roddi gwersi i Borrow mewn siarad Cymraeg unwaith bob wyth nos am dros flwyddyn, pryd yr ymadawodd am Gymru ac ni chlywodd Borrow air o’i hanes byth wedyn. Cymerai ormod o amser i ddilyn camrau Borrow ar hyd ei daith, ond ceisiwn fyned ychydig o ffordd gydag ef. Yr oeddynt, wedi penderfynu gwneyd Llangollen eu headquarters tra y byddent yn Nghymru, ac maent yn cychwyn gyda’u gilydd am y dref hono, ond Mae Borrow yn gadael ei wraig a’i ferch yn Nghaer ac yn cerdded y gweddill o’r ffordd heb gwmni yn y byd. Mae yn rhoddi hanes manwl a difyrus dros ben o’u sefydliald yn Llangollen. Y diwrnod cyntaf o’u harosiad yno mae cath haner newynllyd yn dod i’ w llety, a rhydd Borrow hanes y crfeadr, ei gorphenol, a beth fu ei thynged yn y di wedd. Geilw hi “a poor Church of England cat”, am y rheswm ei bod unwaith wedi bod yn eiddo person y plwyf, yr hwn oedd wedi Ymadael o’r lle, ac yr oedd am hyny wedi cael ei herlid gan holl Anghydffurfwyr y dref, nes cael lloches gyda Borrow. Mae cyn ymadael a Llangollen yn chwilio am gartref iddi gyda Eglwyswraigm ac ymddengys ei fod yn cael newydd am dani tra fu byw, oherwydd mae yn cofnodi hanes ei diwedd fel y canlyn: “There it continued in peace and comfort, till one morning it sprang suddenly from the hearth into the air, gave a mew and died. So much for the ecclesiastical cat.” Ond i ddychwelyd at ei daith drwy Gymru. Mae yn gadael wraig a’ i ferch yn Llangollen, ac yn cychwyn ei hun ar ei draed. Mae yn dewis y ffordd yma o deithio am ei fod yn rhoddi gwell cyfleustra iddo weled y wlad ac ymgydnabyddu a’i phobl. Mae yn cychwyn ar foreu Sul o Langollen ar ol bod gyda’i wraig a’i ferch yn ngwasanaeth foreuol yr eglwys. Mae yn rhoddi yn rheswm dros ei fod yn cychwyn ar ddydd Sul, ei fod eisieu gweled pa fodd y byddai y bobl yn treulio ddydd Sul yn y wlad. Mae fel arfer yn cyfarfod a nifer mawr o gymeriadau rhyfedd ar ei daith. Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau, tybed fod y bobl y byddai Borrow yn dod ar eu traws mor ddyddorol ac mae ef yn dyweyd eu bod, ynte mae rhywbeth oedd yn Borrow ei hun oedd yn gwneyd iddynt ymddangos felly. Beth bynnag am hynny ni chyfarfyddais i erioed a chymeriadau o’r fath. Mae ei ffordd o ymddiddan a hwy yn dra effeithiol. Pan mae yn dod at rhyw lecyn a hanes rhywun enwog ynglyn ag ef, mae yn cael gafael ar rhyw wr neu wraig, ac mae yn dechreu ei holi am arwr y lle. Yn aml iawn nis gwyr ddim o gwbl am dano, ac os gwyr rhyw faint mae Borrow yn myned ati i ddyweyd yr holl hanes wrtho. Ac os oedd rhyw fardd wedi ei eni neu wedi byw yno, mae yn adrodd llinellau o’ i farddoniaeth nes mae ei wrandawr yn myned yn fud gan syndod. Sais yn gwybod mwy am bethau Cymreig nag a wyr ei hun! Mae ei hanes yn myned i weled cartref Huw Morus-Eos Ceiriog,- yn dra dyddorol. Mae wedi cael gafael ar rhyw wehydd o’r enw John Jones, Methodist selog. Mae ef a Borrow yn dod yn gryn gyfeillion, ac mae John Jones yn myned gydag ef i weled amryw o leoedd yn y gymydogaeth. Mae y ddau yn ymddiddam gryn lawer ynghylch gwahanol bethau tra yn teithio gyda’u gilydd, ac yn aml iawn mae yn myned yn ddadl frwd ynghylch crefydd rhwng y ddau. Y naill a ‘r llall yn dal yn dynn yn ei egwyddorion. Ond dyma’r dystiolaeth mae Borrow yn ddwyn i’ r gwehydd Cymreig wrth ganu yn iach ag ef – “I found my guide a first rate walker and a good botanist, knowing the names of all the plants and trees in Welsh. He was very homest, disinterested and exceedingly good humoured. It is true he had some skits at the Church, but setting aside these, a venial trifle after all, and easily to be accounted for, on the score of his religious education. I found nothing to blame and much to admire in John Jones the Methodist weaver of Llangollen.” Yn nghwmni’r gwr hwn mae yn myned i weled cartref Huw Morus. Cyn dyweyd hanes ei ymweliad mae Borrow yn rhoddi i ni bob manylion ynghylch y bardd. Yna mae yn desgrifio y ty ar modd yr aethant i chwilio am rhyw sedd yn nghlawdd y cae gerllaw oedd yn cael ei galw yn “Gadair Huw Morus.” Maent yn cael trafferth mawr dod o hyd iddi yn nghanol y dyrysni a’r mieri, ac o dan gawod o wlaw taranau trwm. Yr oedd gwraig y ty a’i wyres wed’i myned gyda’r ddau i’r cae i w cynorthwyo. O’r diwedd maent yn dod o hyd i rhyw gilfach yn y clawdd a sedd garreg a charreg tu cefn, ac ar hono y llythyrenod, “H. M. B.”, Huw Morus Bardd. Mae Borrow yn desgrifio’r olygfa mewn dull tarawiadol dros ben. Edrydd fod John Jones wedi dyweyd wrtho am eistedd yn y gadair. “Yr ydych wedi cymeryd digon o drafferth i ddod o hyd iddi.” “Ie, gwnewch eistedd,” meddai’r wraig oedd gyda hwynt. “Ond gadewch i mi ei sychu mae yn wlyb a budr.” Rhwystrais iddi wneyd hyny, ac wedi tynu fy het, safais o flaen y gadair, ac meddwn yn y Cymraeg goreu feddwn, ‘“Cysgod Huw Morus, os wyt yn dod weithiau i weled y lle a geraist gynt, wele yma Sais wedi dod i dalu teyrnged o barch i un y mae yn anrhydeddu yn fawr. Darllenodd ganeuon Eos Ceiriog pan oedd yn fachgen, ac yn awr pan y mae yn wr a’ i wallt wedi gwynu, mae yn dod i’r fan hon i ddweyd eu bod lawer tro wedi gwneyd iddo golli dagrau yn hidl.” Yna eisteddais yn y gadair a dechreuais adrodd rhai o ganeuon Huw Morus yn mhresenoldeb y wraig a’i wyres, a John Jones y gwehydd. A’ r tri yn gwrandaw yn astud, er fod y gwlaw yn tywallt ar eu penau, a changenau y coed a ‘r drain yn cael eu gyru gan y gwynt yn curo yn eu gwynebau, oherwydd nid ydyw brwdfrydedd o’r fath byth yn cael ei ddirmygu gan y Cymro pur, syml, a chywir ei feddwl. == Ffynonellau == * *Y Llusern* (1907), Ionawr – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148072/15 * *Y Llusern* (1907), Mawrth – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148114/8 * *Y Llusern* (1907), Ebrill – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148135/8 {{PD-scan}} dkgf7b6o99aljexpr464dx7x86blt6j Tudalen:Y Dreflan.djvu/54 104 86351 166876 2026-06-25T00:58:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166876 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd un gair a ddywedasai Jeremiah Jenkins wedi suddo yn ddwfn i feddwl Siân Jones, sef ''priestcraft''. Trodd hi y gair yn ei meddwl lawer gwaith, ac nis gallai wneyd dim o hono ond ''priest'' a ''chrefft''. Yr oedd Sian, druan, wedi arfer edrych ar ''Father Pinchum'' y perthynas agosaf i dywysog llywodraeth yr awyr; ac ynglŷn â'r enw ''priest'' rhuthrodd i'w meddwl yr addoli Mair a'r Seintiau, a thalu hanner coron am faddeu wythnos o bechodau; a gofynodd iddi ei hun a oedd peth fel hyn yn ymlusgo i eglwysi y Methodistiaid. Na, yr oedd hi yn meddwl nad ydoedd "yr Hen Gorff" wedi dyfod i hyny eto; ac os byth y deuai i hyny, mai y gŵr oedd wedi awgrymu y peth a fyddai raid ''lansio'' mwyaf o'i boced, os ca y gwyddai hi ei hanes yn y "Buarth." Wedi peth ymdriniaeth pellach, penderfynwyd nas gallai yr eglwys yn ei sefyllfa ar y pryd addaw o gyflog i fugail fwy na deugain punt yn y flwyddyn, ac iddo gymeryd ei fwyd ei hun, a chael ei Sabbothau. Credai y nifer llïosocaf o'r eglwys fod y swm hwn yn gyflog lled dda, ac yr oedd Jeremiah Jenkins yn meddwl ei fod yn rhy dda o lawer, yn enwedig gan eu bod yn rhoddi i'r bugail ei Sabbothau; a dywedai mai gwir oedd y gair fod y Sabboth wedi ei wneuthur er mwyn dyn, ac yn enwedig y gweinidog. Pan ddaethpwyd i'r penderfyniad ynghylch cyflog y bugail, edrychai Mr. Pugh yn brudd a siomedig; ac yn ei ffolineb a'i ddiniweidrwydd dywedai wrthyf ar ol hyn,— "Wyddost ti be? Dydi pobl ddim yn rhoddi pris ar dalent, galluoedd, a llafur meddwl! Deugain punt yn y flwyddyn a'i fwyd ei hun! Wel, mae hwsmon Tyn'llan yn cael pum' punt ar hugain a'i fwyd, heblaw lle i blanu tatws i'r teulu, ac ambell i faich o wellt i roi dan y mochyn. Twt! 'does dim sense mewn peth fel hyn. Ddaru ti sylwi hefyd mai y rhai sydd yn cyfranu leiaf at y weinidogaeth oedd yn siarad mwyaf yn erbyn rhoi cyflog rhesymol?" Byddai rhyw touch o ffolineb fel hyn yn dyfod at Mr. Pugh ar rai adegau, ac felly ni wnaethum un atebiad iddo. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rtazbug9ae2n41zee80wq6d3iu09l4n Tudalen:Y Dreflan.djvu/55 104 86352 166877 2026-06-25T00:59:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166877 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y pwnc pwysig nesaf y bu raid ymdrin âg ef oedd, i bwy y rhoddid y cynnygiad i ddyfod i fugeilio eglwys y Dreflan? Ond teilynga yr ymdriniaeth hon bennod ar ei phen ei hun. <br> <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VII.<br>DEWIS Y BUGAIL}}}} MEWN eglwys yr oedd ei nifer yn ddau cant a hanner, peth digon naturiol oedd fod tipyn o amrywiaeth barn a chwaeth yn dyfod i'r golwg pan aethpwyd at y gwaith o benderfynu pwy a fyddai ei bugail. Dadleuai rhai mai cael y dyn goreu oedd y pwnc mawr; nad oedd o un pwys i ba Sir y perthynai, nac o ba wlad yr oedd yn dyfod, os efe a fyddai y dyn goreu. I ddosbarth arall yr oedd yn ymddangos fod pellder yn meddu ar ryw swyngyfaredd neillduol. Yn wir, onid ydyw pawb yn teimlo dylanwad y swyn hwn i raddau mwy neu lai? Er esiampl, "Gŵr dyeithr o'r Deheudir," neu'r "Gŵr dyeithr o'r North," gan nad pa fath bregethwr ydyw. Yr oedd Mr. Bevan o dan ddylanwad y swyn hwn yn fawr iawn, ac wedi arfer â gweithredu wrtho. Os dygwyddai i Sabboth fod yn wag yn y Dreflan, ac i'r gŵr da fod dan yr anghenrheidrwydd o anfon i'r Athrofa—o ba le y gwyddid y gellid bob amser gael pregethwr ond anfon stamp ceiniog—ni byddai Mr. Bevan byth yn meddwl am wneyd cais at un o'r myfyrwyr a ddygwyddent fod yno o'i Sir ef ei hun. Na, yr oeddynt hwy yn perthyn yn rhy agos er eu bod ymhell; ond os byddai y llanc yn dyfod o Sir arall, byddai y pellder hwn yn meddu ar swyn rhyfeddol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn fforddio llawer o ddifyrwch i'r myfyrwyr, a byddent yn chwerthin yn eu llewis wrth weled ambell un yn galw gyda hwy ar y Sadwrn <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> 8l87keg4eoponrmnuoxtym27ua2kxr1 Tudalen:Y Dreflan.djvu/56 104 86353 166878 2026-06-25T01:02:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166878 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i ofyn a oedd ganddynt rywbeth i'w ddyweyd "wrth eu hen ''gyfeillion''." Ni byddai y pregethwr dewisedig ar ei golled wrth dalu yr ymweliad hwn cyn cychwyn i'w daith; oblegid byddid yn rhoddi iddo bob cyfarwyddyd am y ffordd, a pha fodd i foddio Mr. Bevan, ac i beidio digio Mr. Smart, ac yn ei roddi ar ei wyliadwriaeth i beidio ysmocio os dygwyddai iddo gael ei ofyn i yfed tê i dŷ Mr. Simon Thinskin, gan ddymuno iddo yn wastad gael myned i lettŷa at Mr. Pugh. Ond son yr oeddwn am y swyn sydd mewn pellder ynglŷn â phregethwr. {{c|"Distance lends enchantment to the view."}} Yr oedd rhai o aelodau eglwys y Dreflan nas gellid edrych arnynt fel rhai hollol ddifarn, yn zelog am alw gŵr a ddaethai yn ddiweddar drosodd i'r wlad hon o'r America, a hyny, gellid meddwl, yn ol pobpeth a ddywedid o'i blaid, ''am ei fod yn dyfod o'r America''. Gwir eu bod wedi ei glywed unwaith yn pregethu, ac yr oedd wedi pasio yn rhagorol; ac yr oeddynt yn barnu oddiwrth ei ddull ''dihidio-am-neb,'' a'i ymddygiad y gellid ei alw yn ''gwnewch-fel-y-mynoch-a-fi'', y gwnaethai fugail campus. Pa fodd. bynag, ni chafodd y cynnygiad hwn nemawr o gefnogaeth; ac felly taflwyd y Trosfôrweryddwr dros y bwrdd. Yr oedd yr hen frodyr yn arddangos awydd mawr am gael rhywun mewn tipyn o oedran; gŵr profedig a phrofiadol, a allai gadw seiat yn dda, ac ymweled â'r tlodion a'r cleifion, a'u cysurro. Tybiai John Aelod Jones fod yr oes a'r amseroedd yn galw yn uchel am iddynt feddwl am ŵr bywiog a gweithgar gyda'r bobl ieuainc; un a fyddai wedi cael addysg athrofäol, ac yn deall Saesoneg yn dda, ac yn llenor cydnabyddedig. Ystyriai Joseph Wynne, y dechreuwr canu, mai nid y lleiaf, yn ei feddwl ef, o gymhwysderau bugail, oedd ei fod yn gerddor. Credai fod cerddoriaeth yn rhan bwysig, os nad y bwysicaf, yn ngwasanaeth y cysegr; ac o'i ran ei hun, buasai ef yn ddigon boddlawn i gymeryd i fyny hefo un na fuasai ond pregethwr canolig, ond<noinclude><references/></noinclude> 1tb89mb7jdsgci2qogn8motm0xtzd9v Tudalen:Y Dreflan.djvu/57 104 86354 166879 2026-06-25T01:02:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166879 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iddo fod yn deall y tonic sol-ffa; ac os gallai chware yr ''harmonium'', goreu oll. Dywedai Mr. Smart fod y mater yn un pwysig iawn, ac y dylent gymeryd gofal rhag gwneyd camgymeriad. Yr oedd efe yn ystyried mai yr anghen mwyaf yr oeddynt hwy yn sefyll ynddo oedd cael gwr i'w cynnrychioli yn y Dreflan—gŵr y byddai pawb yn edrych i fyny ato; ac i'r dyben hyny y dylai bugail fod yn olygus o ran ei gorff (yr oedd Mr. Smart felly), ac yn hawlio parch yr enwadau eraill, yn enwedig pobl Eglwys Loegr. Yr oedd pobl yr Eglwys, yn enwedig y boneddigion, yn dueddol i edrych i lawr ar bregethwyr Ymneillduol; ac yr oedd eisieu iddynt hwy fel eglwys y Dreflan feddwl am rywun a fyddai yn glod iddynt fel Methodistiaid, a pheidio dychymygu am hen ŵr gwladaidd ac annhaclus, nac ychwaith hogyn byr a difarf. (Yr oedd gan Mr. Smart farf laes.) Adgofiai Mr. Jeremiah Jenkins i'r eglwys ei bod wedi penderfynu ar gyflog mawr i'r bugail, er yn groes i'w feddwl ef, ac y dylent feddwl am rywun a allai ennill ei halen beth bynag. Byddai Mr. Pugh yn ei ffwdan a'i ffolineb yn dyweyd pethau weithiau y byddai yn edifar ganddo o'u herwydd ar ol hyny; ac felly y dygwyddodd y tro hwn. Ac y mae yn rhaid i mi ofyn maddeuant y darllenydd am adrodd yr hyn a ddywedodd yn ei eiriau ef ei hun:— {{nop}} "Frodyr," ebe fe, "be' sy arnoch ch'i? Mae gen' i ofn os ewch ch'i ymlaen fel hyn am dipyn bach eto y bydd raid i ch'i anfon ''special order'' at y Brenin Mawr iddo wneyd dyn o bwrpas i ch'i; achos mi dyffeia i ch'i gael dyn ar y ddaear yma yn meddu yr holl rinweddau yr ydach ch'i i gyd yn son am danynt. Cofiwch, da ch'i, am y cynghor synwyrol a gawsom yn y Cyfarfod Misol, beidio myn'd allan o'n Sir ein hunain i ymofyn bigel. On'd oes gynon ni amryw o ddynion ifingc yn ein hymyl fydde'n syffisiant i ni? ac i be' yr awn ni i nôl dŵr dros afon, ac i gyrchu glo i'r Rhosllanerchrugog? Pwy ydan ni, tybed, i fod mor barticilar? Os cawn ni ddyn da, duwiol a gweithgar, a bendith y Pen Mawr arno fo, be' chwaneg ydan ni eisio? Dyna Nathan Morgan, Ffredric<noinclude><references/></noinclude> n51kkr20psegw4zhj1su0ekjgs7jzpn Tudalen:Y Dreflan.djvu/58 104 86355 166880 2026-06-25T01:09:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166880 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Lewis, a Noah Rees; on'd wnai un o honyn nhw yn glyfar i ni? Ydach ch'i wedi consyltio Benjamin Prys ar hyn, a'r ddau frawd a nododd y Cyfarfod Misol i'n cynnorthwyo? Yr ydw i'n meddwl dase Benjamin Prys yma y base ni wedi settlo'r mater er's meityn. Hwyrach na waeth i mi yn y fan hon hysbysu y darllenydd pwy oedd y brodyr y cyfeiriai Mr. Pugh atynt fel rhai cymhwys i ddyfod i fugeilio eglwys y Dreflan. Gŵr diddysg, yn ystyr boblogaidd y gair, ydoedd Nathan Morgan. O herwydd fod ei rieni yn dlodion, bu raid iddo ddechreu ennill ei fara pryd mewn gwirionedd y dylasai fod yn yr ysgol. Er yn fachgen yr oedd o dueddfryd crefyddol, ac yr oedd yn arfer gweddio yn gyhoeddus cyn iddo prin ddysgu darllen yn gywir. Ymhlith ei gydweithwyr yr oedd ei gymeriad yn ddysglaer, a'i ddylanwad yn fawr. Cafodd ei gynnysgaethu â dawn i siarad tu hwnt i'w gyfoedion, a chymhellwyd ef gan yr eglwys y perthynai iddi, pan nad oedd eto ond glaslanc, i roddi gair o gynghor. Llithrodd yn bregethwr bron heb yn wybod iddo ef ei hun; ac yn fuan ar ol dechre pregethu priododd. Ni feddyliodd erioed am fyned i'r athrofa; a phe buasai wedi myned, mae yn gwestiwn a fuasai efe ar ei fantais oddiwrth hyny. Ond er hyny yr oedd rhyw eneiniad rhyfedd ar ei bregethu, a'r fath ddylanwad yn ei ddilyn a'i gwnelai yn ŵr cymeradwy ymhobman. Ni buasai waeth iddo feddwl am fod yn brifweinidog Prydain Fawr na meddwl am allu myned trwy yr Arholiad Cymdeithasfaol, ac felly nid oedd yn agored i gael ei alw yn fugail nac i'w ordeinio. Yr oedd efe yn sefyll mor uchel yn meddwl Mr. Pugh, fel pe buasai yn bosibl prynu trwydded iddo gael ei ordeinio, y buasai y gŵr da hwnw yn ddigon boddlawn i dalu deg punt am dani unrhyw ddiwrnod. Ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn. Gŵr ieuanc ydoedd Ffredric Lewis o deulu gweddol barchus; a phe buasai wedi gwneyd y defnydd goreu o'r manteision a gafodd, gallasai fod yn ysgolaig gwych. Pe buasai pawb yn meddwl cymaint o hono ag yr ydoedd ei dad a'i fam, buasai yn ŵr cymeradwy dros ben. Nid<noinclude><references/></noinclude> i17xuc4lla4uqkbi2hs64ztheeek28f Tudalen:Y Dreflan.djvu/59 104 86356 166881 2026-06-25T01:11:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166881 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymaflasai mewn unrhyw orchwyl neillduol erioed; a chafodd ddechre pregethu nid yn gymaint am fod ganddo dalent benodol at hyny, ond o barch i'w deulu. Bu yn yr Athrofa am bedair blynedd, a daeth adref mor anhunangar a chan onested a neb a fu yno erioed, gan adael yr holl anrhydeddau i'w olynwyr. Er nas gallodd yr Athrofa wneyd meddyliwr na phregethwr mawr o hono, gwnaeth un gwaith pwysig arno, sef ei anghymhwyso at bob gorchwyl bydol, a'i berffeithio mewn rhodres ac anwes. Yr oedd Ffredric, y pryd yr ydwyf yn son am dano, wedi gadael yr Athrofa er ys rhai blynyddau, ac wedi treulio y blynyddau hyny gan mwyaf mewn llafur caled yn darllen ffugchwedlau y rhan amlaf, oddigerth yn misoedd yr haf, pan y byddai ei iechyd yn dechreu pallu, ac y byddai raid iddo fyned i Drefriw a Llandrindod i adgyfnerthu. Ond hyd yn nôd yn y manau hyny, yr oedd yn gorfod dangos yr un diwydrwydd, er mewn ffordd arall, sef mewn ceisio ennill syniadau da yr ystlen deg, ymhlith y rhai yr oedd yn cael ei gydnabod yn ddïeithriad fel ''jolly fellow.'' Er nad oedd ei rieni yn gyfoethog iawn, yr oeddynt wedi gwario rhai cannoedd o bunnau ar ei addysg, a hyny yn ddirwgnach. Safai Ffredric mor uchel yn meddwl yr hen Gymraes onest,— ei fam, ar gyfrif ei foneddigrwydd a'i allu i siarad Saesoneg, fel y dychrynwyd yr hen wraig yn ddirfawr pan welodd hi ef un tro yn ymaflyd mewn rhaw, ar fedr myned i balu yr ardd; a thystiai ar ol hyn na fu ond y dim iddo andwyo ei ddwylaw gwynion a melfedaidd. Mae yn rhaid addef mai anfynych y byddai Ffredric Lewis adref ar y Sabboth o ddiffyg cyhoeddiad; ac yr oedd yn ymddangos ei fod yn cael croesaw mawr lle bynag yr elai, oblegid anaml y byddai yn gallu cyrhaeddyd adref o'i gyhoeddiad hyd nos Lun, ac weith ian byddai yn fore Mawrth arno yn dychwelyd. Ar ol blwyddyn o barotoi ac o ymdrech diflino, aeth trwy yr Arholiad Cymdeithasfäol fel y dyn trymaf yn y trydydd dosbarth, yn ol yr egwyddor fod y peth trymaf bob amser yn myned i'r gwaelod. Ond y mae y ffaith<noinclude><references/></noinclude> 5m4kyuz3kmr9vy38xbb71dswdxg6zt5 Tudalen:Y Dreflan.djvu/60 104 86357 166882 2026-06-25T01:12:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166882 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nad oedd ganddo ddim arall i'w wneyd, nac i gymeryd i fyny ei amser ond parotoi, yn rhoddi cyfrif, o bosibl, am ei sefyllfa yn yr arholiad; a bu yn ddigon hunanymwadol ag ysgrifenu dau lythyr i'r newyddiadur dan ffugenw, ychydig wythnosau cyn yr arholiad, i oleuo tipyn ar yr arholwyr am y ffolineb o ddosbarthu yr ymgeiswyr Er nad oedd Ffredric Lewis yn gerddor, yr oedd ganddo dôn soniarus a hyfryd wrth bregethu, yr hyn a'i gwnelai yn gymeradwy iawn ymhlith dosbarth lliosog o'i wrandäwyr I'r diniwed a'r hawddgar Mr. Pugh, ymddangosa Ffredric fel un oedd yn cael cam dirfawr gan yr eglwysi, am nad oedd un o honynt yn ei alw i fod yn fugail, âg yntau wedi cymeryd cynifer o flynyddau i barotoi at hyny. Dichon fod y darllenydd yn cofio i mi gyfeirio at Noah Rees mewn hanes blaenorol fel un oedd yn cael y gair fod ganddo lawer o lyfrau, a'r hwn oedd yn benderfynol na chymerai ei wneyd yn flaenor. Trwy lawer o anhawsderau, ac ymroddiad digyffelyb bron, yr oedd Noah wedi dyfod yn ei flaen yn rhyfeddol. Pan gafodd drwydded i fyned i'r Athrofa, teimlaı mor hapus â phe buasai wedi cael ystâd, ac ni bu myfyriwr erioed yn y sefydliad gwerthfawr hwnw a wnaeth well defnydd o'i gyfleusderau. Ar gychwyniad ei yrfa athrofaol, nid oedd ei ragolygon yn ddysglaer gyda golwg ar y modd y gallai gadw ei hun âg ymborth ac â llyfrau; ond edrychai yn hyderus i'r dyfodol, gan ymddiried ei hun i ofal Rhagluniaeth, a'r penderfyniad cadarn yr oedd wedi ei ffurfio ynddo ei hnn. Er nad oedd yn cael ei alw i bregethu i'w Sir ei hun tra y bu yn yr Athrofa, yr oedd pobl y teithiau cylchynol iddi, ac amryw o rai lled bellenig, yn gwerthfawrogi ei wasanaeth; ac edrychid arno ganddynt hwy yn bregethwr synwyrol a meddylgar, ac fel un a fyddai yn sicr o wneyd ei farc ryw ddiwrnod. O herwydd ei fod yn cael ei alw i bregethu yn lled gyson, ac hefyd iddo lwyddo i ennill gwobr bob blwyddyn y bu yn yr ysgol, gallodd fyw yn lled gysurus, er yn fain, heb dderbyn dim help gan ei rieni, oddigerth dwy suit o ddillad. Pan ddaeth Noah<noinclude><references/></noinclude> 0r162rhix5ubhihwq61dtvlccpk0cnf Tudalen:Y Dreflan.djvu/61 104 86358 166883 2026-06-25T01:12:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166883 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adref wedi gorphen ei addysg athrofaol, ni fynai wrando ar ei rieni yn ei annog i gymeryd gorphwysdra; ond ymaflodd yn y gaib a'r rhaw i gynnorthwyo ei dad i drin. y tyddyn bychan, ar gynnyrch yr hwn yr oedd. y teulu yn ymddibynu am eu cynnaliaeth, gan ddefnyddio ei holl oriau hamddenol i ddarllen a myfyrio; ac yr oedd ei fam erbyn hyn wedi peidio grwgnach ei fod yn dyfetha cymaint o ganwyllau. Ni choleddid syniadau uchel am alluoedd Noah Rees ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus gan ei gymydogion, na chan Gyfarfod Misol ei Sir; ond ar ol gweled ei lwyddiant mawr yn yr Athrofa, a'i gynnydd amlwg fel pregethwr, cymerodd chwyldroad trwyadl le; a dywedai hyd yn nôd y rhai a arferent ysgwyd eu penau a thosturio o herwydd y camgymeriad yr oedd wedi ei wneyd wrth ddechreu pregethu, "eu bod hwy bob amser wedi dyweyd fod rhywbeth ynddo fo." Cymhellwyd Noah yn fuan gan rai o brif weinidogion y Cyfarfod Misol i sefyll yr Arholiad Cymdeithasfaol; a daeth trwy y prawf yn lled agos i'r brigyn. Mewn atebiad i Mr. Pugh, dywedai Mr. Bevan ei fod ef yn gobeithio y gwyddent hwy fel swyddogion beth ydoedd eu dyledswydd heb gael eu hadgofio o hyny gan neb pwy bynag; ond gan fod Mr. Pugh wedi gofyn y cwestiwn, yr oedd yn dymuno ei hysbysu ef a phawb eu bod wedi ymgynghori a'r tri wŷr, B. Prys a'r ddau ŵr parchedig a nodwyd gan y Cyfarfod Misol i'w cynnorthwyo. Yr oedd efe yn dymuno i'r eglwys gael chware teg i ddyweyd ei meddwl yn gyntaf cyn iddo eu hysbysu beth ydoedd awgrymiad y tri brawd a enwyd. Ond fel yr oedd y peth yn dygwydd bod, yr oedd Mr. Pugh wedi enwi y gŵr yr annogai y cyfeillion hyny ar iddynt ei alw, yn fugail, sef Noah Rees. Yr oedd yn awr yn gadael y peth i farn yr eglwys. Ar ol eglurhâd Mr. Bevan, ni ddywedwyd llawer ag oedd yn "tueddbenu at lesoli'r dynol deulu;" a chan na chynnygiwyd neb arall, pan roddwyd Noah Rees i bleidlais, cafodd fwyafrif mawr o'i ochr. Yr oedd Mr. Pugh ar uchelfanau'r maes; ac wrth fyned adref, dywedai<noinclude><references/></noinclude> 01x7sdoaplktkf11tpy8rz8bt9e70i5 Tudalen:Y Dreflan.djvu/62 104 86359 166884 2026-06-25T01:13:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166884 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrthyf, "Wyddost ti be'. Dase yr eglwys wedi ymddiried y gwaith o ddewis bigel iddi i mi fy hun, faswn i ddim yn gallu plesio fy hun yn well." <section begin="aaa"/><section end="aaa"/> <section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD VIII.<br>BECCA PRYS}}}} YR wyf wedi cael achlysur fwy nag unwaith yn yr hanes hwn i gyfeirio at Benjamin Prŷs, yr hwn y mae y darllenydd yn cofio oedd wedi ei gaethiwo i'w dŷ gan afiechyd a henaint, ac a welwyd allan y tro olaf yn nghladdedigaeth Mr. Williams, y diweddar weinidog yn y Dreflan, a'r hwn hefyd a dynodd y fath sylw ar yr amgylchiad o herwydd ei dristwch dwfn a dystaw. Darfu i'r ymdrech egnïol a wnaeth i fyned i dalu y gymwynas olaf i'w hen gyfaill wneyd niwed mawr iddo, a pharodd iddo gael ei gaethiwo i'w wely am rai wythnosau; ond trwy fendith ar ymdrechion diflino Dr. Ellis, a gofal neillduol ei wraig, adferwyd ef i'w hen farc i allu dyfod i lawr i'r gegin. Efe, fel y dywedwyd o'r blaen, ydoedd y blaenor hynaf, ac yn wir y galluocaf hefyd, yn eglwys "yr Hen Gapel." Yr oedd yn hawdd canfod oddiwrth adfeilion ei ddyn oddiallan y buasai efe unwaith yn wr cadarn a nerthol; ac yr oedd yr un mor amlwg oddiwrth ffurfiad ei wyneb fod ganddo feddwl cryf a bywiog. Buasai un sydd yn credu mewn gwynebiaeth yn casglu oddiwrth doriad neillduol ei safn, a'r mân rychau a welid yn ei chonglau, y gallasai ddyweyd geiriau fel brath cleddyf oni buasai fod gras wedi cyfranu rhyw naws dyner a nefolaidd i'w lygaid duon a threiddgar. Hyd yn nôd pe na buaswn yn adnabod Benjamin Prys, buaswn yn meddwl wrth 'edrych ar ei drwyn mawr a Rhufeinig nad oedd dim yn <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude> dan4vxrt2ivts4o8jtrj7ikmyvfj30a Tudalen:Y Dreflan.djvu/63 104 86360 166885 2026-06-25T01:14:57Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166885 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhagfarnllyd nac yn shabby o gwmpas ei berchenog; ac yr oedd ei holl fywyd yn gwirio y casgliad. Yn ei ieuenctyd rhedasai Benjamin Prys i bob rhysedd a drygioni, ac efe ydoedd arweinydd ei gymdeithion ymhob camp a chware. Fel hyn yr oedd efe mewn un ystyr yn flaenor, er nad yn ddiacon, cyn iddo erioed ddyfod at grefydd. Ymha gylch bynag y troai, yr oedd natur wedi ei dori allan i chware y ''first fiddle''. Os yn y dafarn y byddai, nid oedd neb a allai adrodd ystori yn gyffelyb iddo, na chystadlu gydag ef i ganu gyda'r tanau; ac yn fuan wedi iddo ddyfod at grefydd, neu yn hytrach i grefydd ddyfod ato ef, yr oedd rhyw ymwybyddiaeth yn mhawb o'i gwmpas o'i ragoriaeth, a barai iddynt gilio yn ol a'i osod ef ar y blaen. Na ddychryned y darllenydd pan ddywedaf mai mantais mewn un ystyr ydyw ddarfod ddyn fod yn annuwiol iawn ar un tymmor o'i fywyd os caiff ar ol hyny grefydd wirioneddol. Onid ydyw y rhan fwyaf o'r anghysur a'r ammheuon sydd yn blino dosbarth lliosog o grefyddwyr, yn cyfodi nid yn gymaint oddiar ddiffyg crefydd, ond i raddau mawr oddiar wastadrwydd eu bywyd, a'r anallu sydd ynddynt i gyfeino yn ôl at gyfnod y gwyddent eu bod yn annuwiol ac y cawsant gyfnewidiad trwyadl a hollol yn eu cyflyrau a'u profiad? Anfynych y cyfarfyddir âg un fydd wedi ei ddwyn i fyny o'i ieuenctyd yn nghanol pethau crefydd nad ydyw yn teimlo anfantais am nad all gyfeirio at ddydd neu awr y cymerodd y cyfnewidiad mawr le, ac nad ydyw ar brydiau yn ammheu yn fawr a ydyw yr anian newydd ynddo o gwbl. Nid oes gan y dosbarth hwn o grefyddwyr y "cynt" ac "yn awr" i'w cyferbynu. Ac fel y mae manteision crefyddol yn cynnyddu, onid ydyw y dosbarth hwn yn llïosogi, a sicrwydd gobaith a phrofiad uchel yn myned lai-lai? Nid ydwyf yn sicrhau hyn, ond yn ei gynnyg fel awgrymiad i feddwl am dano. Ond nid felly yr oedd gyda Benjamin Prys. Yr oedd y fath wahaniaeth rhwng y ddau gyfnod yn ei hanes ef ag sydd rhwng tywyllwch a goleuni, rhwng uffern a<noinclude><references/></noinclude> s46abvri6iiyo2wcrfpc5ethfe3nrrc Tudalen:Y Dreflan.djvu/64 104 86361 166886 2026-06-25T01:15:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166886 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nefoedd, rhwng diafol a Duw. Anaml y byddai Mr. Pugh yn cael cystal gwledd ag wrth glywed Benjamin Prys yn adrodd hanes bore ei oes, a'r tro mawr a gafodd o dan weinidogaeth John Elias; ac nid unwaith na dengwaith y dywedodd wrthyf ar ol bod yn gwrando yr adroddiadau hyn,— "Wyddost ti be'? Dyna'r pryd mwya' blasus fydda' i yn ei gael, ydi clywed yr hen Fenja yn myn'd dros dipyn o'i hanes, er na bydda' i byth yn ei glywed o heb fyn'd i feddwl nad oes gen' i fy hun yr un grefydd. Mi gafodd y dyn yna, wel di, dro mor rhyfedd â Saul o Tarsus bron. Ac mi fydda' i'n meddwl hefo rhyw hen ''giants'' fel Saul a Benjamin yna y bydd hyd yn nôd y Brenin Mawr yn gorfod dyfod allan hefo'i ''artillery''. A! hen ''eighty-pounder'' iawn oedd yr hen 'Lias! Yn wir, mi fydda' i'n clywed y pregethwrs yma i gyd yn llefaru yn glên shoe; ond waeth tewi; 'does un o honyn' nhw yn ffit i ddal canwyll i'r hen 'Lias. Yr oedd o bob amser yn gwneyd i 'ngwallt i sefyll yn syth bin! Gofyn di i Benjamin; y fo ddeudith 'i hanes o i ti." Er nad oedd Benjamin Prys y cawr y tybiai Mr. Pugh ei fod, yr oedd er hyny yn ŵr rhyfedd, ac wedi profi pethau mawr ynglŷn â chrefydd. Pan argyhoeddwyd ef, gwnaeth bob ymdrech i ysgwyd ymaith yr argraffiadau, a gwingai fel llew mewn magl, ac nis arbedodd unrhyw foddion i adfeddiannu y penrhyddid a fwynhâi o'r blaen; ond bu ei holl ymdrechion yn ofer. Ymgynnygiodd o'r diwedd yn aelod eglwysig, cafodd bob croesaw, a hyny yn benaf oddiar ei ofn, ac nid oddiar argyhoeddiad ei fod wedi cael tro. Yr oedd ar y swyddogion arswyd dyweyd gair garw wrtho rhag y buasent yn cael curfa ganddo; ond nid oedd, erbyn hyn, fawr berygl o hyny, canys yr oedd efe weithian mor ddiniwed â'r golomen. Yr oedd ei dymherau cryfion ac afrywiog, y rhai a arferent ddangos eu hunain mewn ffurf y gellid ei alw yn gynddeiriogrwydd, erbyn hyn wedi eu toddi i lawr i fwyneidd-dra dwfn ac eang; a mynych yn ei hen ddyddiau, wrth edrych yn ôl at y cyfnod hwn ar ei oes, y rhyfeddai<noinclude><references/></noinclude> pa0st9e9xo6qfwl2tquazuwuj42voae Tudalen:Y Dreflan.djvu/65 104 86362 166887 2026-06-25T01:16:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166887 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyda diolchgarwch at y cyfnewidiad, neu fel y galwai ef y peth, y greadigaeth newydd yn ei enaid; a thystiai pe buasai pawb yn colli ffydd yn yr efengyl, a'r holl fyd yn' troi yn anffyddwyr, nad allasai dim syflyd ei grediniaeth ef yn anfeidrol allu gras y nefoedd. Gan ei fod yn wr synwyr cryf, ni byddai byth yn gwneyd arddangosiad cyhoeddus o'i deimladau crefyddol; ond yn y dirgel, mewn unigrwydd, byddai y rhai hyn yn orthrechol; ac yr oedd presennoldeb Duw a byd yr ysbrydoedd yn pwyso mor drwm arno ar adegau fel yr ofnai gyfodi oddiar ei liniau rhag taro ei ben yn y nenfwd sydd yn gwahanu y byd presennol â'r byd tragywyddol. Ar brydiau eraill, byddai yn suddo i lawr, i lawr, i ddyfnderau iselder ysbryd, nes y tybiai y buasai y diafl mwyaf hyf yn arswydo ei ddilyn! Drachefn deuai goleuni ar ei gyflwr a barai iddo ddianc yn lladradaidd i'r mynyddoedd allan o olwg a chlywedigaeth pawb, lle y gallai arllwys ei deimladau mewn diolchgarwch a moliant. Aeth trwy yr holl orchwyliaethau hyn yn anwybyddus i bawb ond i'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth, hyd nes y torwyd ato gan Mr. Williams y gweinidog, i'r hwn yr agorodd ei fynwes heb attal. Cafodd y fath gyfarwyddiadau a'r fath gynnorthwy gan y gŵr hwnw a barodd iddo ymglymu wrtho am ei oes. O ran cynneddfau naturiol nid oedd islaw i Mr. Williams; ac nid oedd yn ddiffygiol o annibyniaeth meddwl a barn; ond er hyny anfynych yr ymgymerai âg unrhyw beth o bwys heb ymgynghori âg ef. Naturiol gan hyny oedd i Benjamin Prys, pan ddaeth i gredu fod yn hen bryd iddo feddwl am briodi, fyned at Mr. Williams i ofyn ei gynghor. Yr oedd wedi esgeuluso cymaint ar ei ddyledswydd tuag at y rhyw dêg, ac wedi gadael i'r amser fyned heibio mor bell, nes yr ydoedd wedi ennill iddo ei hun er ys rhai blynyddau bellach y teitl anrhydeddus, neu ynte dianrhydeddus, o "hen lanc." Ac fel aelodau yr urdd hono yn gyffredin, pan aeth efe i feddwl o ddifrif am wraig, ni fedrai yn ei fyw osod ei galon ar neb ond un oedd flynyddau lawer yn ieuengach nag ef, ac mewn llawer ystyr yn hollol<noinclude><references/></noinclude> i7wzvnh0q0hqbve1vsiy82j8h8qy376 Tudalen:Y Dreflan.djvu/66 104 86363 166888 2026-06-25T01:17:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166888 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anghyfaddas iddo. Pan hysbysodd i Mr. Williams ar bwy yr oedd ei serch wedi gorphwys, cafodd y gŵr parchedig drafferth fawr i beidio chwerthin; ond yr oedd ganddo y fath barch i Benjamin Prys, a'r fath feddwl o'i farn, fel na chymerasai y byd â briwo ei deimladau gyda phwnc mor bwysig. Lodes ieuanc wridgoch, yn tueddu braidd at fod yn dew, yn gweini gyda theulu cyfagos, ac o'r enw Rebecca Jones, ond a elwid yn Becca, ydoedd yr hon oedd wedi ennill ei serch. Deallodd Mr. Williams yn fuan fod y "mater" agos a bod wedi ei benderfynu rhyngddynt cyn dyfod o hono i ofyn ei gynghor ef, ac mai ofer a fuasai iddo ei annog i feddwl am neb arall. Er nad allai Mr. Williams beidio meddwl fod Benjamin wedi gwneyd camgymeriad yn ei ddewisiad, yr oedd yn gorfod cydnabod fod yr eneth, os nad yn brydferth, yn un olygus a chynhesol o bryd, a mwy na'r cwbl, yn un grefyddol. I dori yr hanes yn fyr, trôdd hi allan yn un o'r gwragedd goreu yn y byd o ran glanweithdra, gweithgarwch, a serch tuag at ei gŵr. A da i Benjamin Prŷs oedd hyny; oblegid cyn iddo ef eto fyned yn hen, analluogwyd ef yn hollol o herwydd afiechyd i ennill bywioliaeth; a bu raid i Becca Prys droi i gadw tŷ pobtŷ i'w gynnal ef a hithau. Nid oedd neb yn gwybod sut y galluogwyd y ddau "i godi'r gwynt" i gael y tŷ pobtŷ; ond gwyddid fod Mr. Pugh a Benjamin yn gyfeillion mawr; ac yr oedd y rhai ag oeddynt yn adnabod y gŵr rhagorol hwnw yn meddw! y gallent ddyfalu o ba le yr oedd yr arian anghenrheidiol wedi dyfod. Tua yr adeg yr wyf yn ysgrifenu yn ei gylch, gallesid cerdded dwy Sir heb gyfarfod gwr a gwraig mor annhebyg, ac ar yr un pryd mor hoff o'u gilydd, ag ydoedd Benjamin a Becca Prys. Yr oedd Benjamin Prys yn hen, yn deneu, yn boenus a methiantus, ac eto yn siriol,' yn ddiolchgar, a dyoddefgar. Yr oedd Becca.yn anterth ei hiechyd, ac mor dew fel lle dylasai fod esgyrn pigfain i'w canfod yn. ei phenelinoedd, nad oedd ond tyllau dyfnion, a'i dillad yn ffitio mor dyn am dani fel nad oedd yn bosibl dychymygu sut yr oedd yn gallu<noinclude><references/></noinclude> ghtfgcgzg3lz8x21mabslp1xhnigfzz Tudalen:Y Dreflan.djvu/67 104 86364 166889 2026-06-25T01:28:44Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 166889 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwisgo a dadwisgo, ac yn peri i un ofni yn barhâus gweled botymau ei gwn glanwaith yn neidio i ffwrdd bob mynyd. Ond er mor dda yr oedd Becca Prys yn edrych, yr oedd hi bob amser yn cwyno ac yn tybied ei hunan yn salach ei byd na neb, ac yn ferthyres i bob anhwyldeb ac afiechyd. Yr oedd Benjamin Prŷs bob anser yn rhoi gair da i'w wraig, er na byddai efe byth yn ei chanmawl uwchlaw ei haeddiant. Yr oedd Becca, hithau, yn wastad yn rhedeg ei gŵr i lawr, ac ar yr un pryd yn meddwl mai efe oedd y dyn goreu yn y byd. Prif ddifyrwch Benjamin oedd darllen a myfyrio, a gwneyd ambell i ddernyn o farddoniaeth. Prif ddifyrwch Becca oedd gwneyd ei hunan yn druenus, a dyfeisio ambell i brofedigaeth. Yr oedd bywyd mewn gwirionedd yn faich i Benjamin Prŷs, ond ni chlywai neb ef byth yn grwgnach. Yr oedd Becca Prys yn trin y pobtŷ, ac yn myned trwy ei holl lafur caled wrth fodd ei chalon; eithr gallesid meddwl wrth ei siarad ei bod dan rhyw dynghedfen ofnadwy. "Ac mi ddaethoch o'r diwedd, do?" ebe Becca wrth Mr. Pugh a minnau pan aethom un noswaith i edrych am y pâr anghymharus. "Yr oeddwn i'n meddwl y'ch bod ch'i wedi'n anghofio ni'n lân; a fydde fo ddim yn rhyfedd dae pawb yn fy anghofio i; i edrych am hwn- yma yr ydach wedi dwad heno 'rwy'n siŵr, ac nid i edrach am dana i," gan roddi pwyslais mawr ar y rhagenw. Gyda llaw, "hwnyma" y galwai Becca Prys ei gŵr pan fyddai hi gartref, a "hwnacw" pan fyddai oddicartref. "Ydach chi'n dechreu tantro mewn mynyd, Becca Prys?" gofynai Mr. Pugh; "chware teg i ddyn gael ei wynt. Yr ydan ni'n y'ch gweled ch'i yn ddigon aml; ond chae ni byth wel'd Benjamin dae ni ddim yn dwad yma. Yr ydach chi'n iach, ac yn gallu dwad i'r moddion; ac y mae Benjamin yn wael ac yn y gornel; a pheth arall, 'un cnawd, un cnawd,' Becca bach. Wrth ddwad i edrach am Benjamin yr ydan ni yn dwad i edrach am danoch chithe hefyd." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f9uyu9nvq4a4k6zvsqf4sgg79raesv1