Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.11 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/72 104 33366 167266 75997 2026-07-16T10:52:54Z ~2026-39914-26 4192 167266 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Aeth deuddydd heibio heb unrhyw arwydd o ymadawiad y gwŷr dieithr. Yna aeth dau i'w taith, un i un cyfeiriad a'r llall i gyfeiriad arall, gan adael y Milwriad yn unig. Ac am ddeuddydd neu dri ymhellach cerddai yntau deirgwaith yn y dydd i lan y môr, a daeth i feddwl Siôn Ifan mai o'r cyfeiriad hwnnw y disgwyliai waredigaeth o'i gaethiwed. Un bore daeth yn ôl o'i hynt tua'r traeth yn fwy sarrug ei dymer a brwnt ei dafod nag arfer. Saesneg a siaradai, ac er nad oedd Siôn Ifan yn rhyw gartrefol iawn yn yr iaith honno, gwyddai wrth reddf mai ychydig iawn o'r geiriau a fyrlymai dros wefus y Milwriad oedd i'w cael mewn unrhyw eirlyfr y gellid ei barchu. Wedi cawod felly o eiriau chwerwon am bawb a phopeth ymhobman, meddai'r Cyrnol, "Gan bwy y ffordd yma y mae llong un hwylbren wedi ei lliwio'n las?" ac yn ei lais a'i lygaid yr oedd bygythiad enbyd yn erbyn perchennog beiddgar y cyfryw lestr. Gwnaeth Siôn Ifan lygaid main iawn cyn ateb: "Y mae slŵp las fydd yn arfer dyfod yma o Afon Hafren." "Perthyn i bwy a ofynnais i," meddai'r Milwriad yn chwyrn a difoes. "Taid annwyl!" meddai Siôn Ifan, a chil ei lygad ar yr hen wraig a safai yn ymyl, "Perthyn i ryw ŵr o Fryste, yn ôl a glywais i." "Sut un ydyw hi? Ymyl wen wrth linell y dŵr?" Llygadrythai'r Cyrnol fel pe byddai'r llinell wen, yn ymyl y dŵr, yn fai uniongyrchol a phersonol Siôn Ifan. "Taid annwyl!" meddai'r hen ŵr wrtho'i hun. Ac mewn ateb i'r milwr, "Yn wir, syr, nid wyf fi yn ddigon cyfarwydd â hi i ddywedyd hynny." Yr hyn oedd yn gelwydd, petasai waeth. Ar hynny dechreuodd y Milwriad dywallt melltithion o'i gylch, ac meddai Catrin Parri, oedd eisoes wedi colli mwy na dwsin o bwythau yn yr hosan yn ei dwylo, "Gofyn iddo fo, Siôn, a oes arno eisiau mynd yn y llong." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mvsltghw84jv6qbgono22a0na9gkjgq