Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.11 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk I Ofyn March 0 1918 167268 2632 2026-07-16T12:59:13Z Kanjuzi 3921 Camargraffiad 167268 wikitext text/x-wiki <big><b>gan [[:Category:Tudur Aled|Tudur Aled]]</b></big> :Gydag un a geidw Gwynedd :y cawn ar lan Conwy'r wledd :abad tros wythwlad y sydd :Aberconwy barc gwinwydd :arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad :arfer ddwbl ar fwrdd abad :powdrau yn nysglau y naill :a'r oraits i rai eraill. :Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres :Glyn Grwst a glan Gaer Awstin :glyn gwyrdd y galwynau gwin :tri phwys cegin y tywysog :troi mae'r gwaith trwm ar ei gog :tai aml am win temlau medd :trestl a bwtri osgedd :ar ei winoedd ar unwaith :yno bu ben am bob iaith :Ple cyrchwn sesiwn y saint? :Gydag ef a'i gyd gwfaint :gwŷr ynrhif gwerin Rhufain :gwyn a rhudd yw gynau rhain :Os gwyn ei fynwes a'i gob :o'r un wisg yr â'n esgob. :Fe âi'r mab dan fur a main :be'i profid yn bab Rhufain. :Gwaith blin ac anoethineb :ymryson oll am ras neb :hwynthwy mil o renti mân :yntau fynnai rent Faenan. :Mae ar wyneb Meirionnydd :blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd. :Hyder Lewys Amhadawg :am erchi rhoi march yrhawg :milwr rhwng Maelor a Rhos :Tegaingl ei geraint agos :a'i ddewis erbyn mis Mai :merch deg a march a'i gygai. :Trem hydd am gywydd a gais :trwynbant yn troi'n ei unbais :ffroen arth a chyffro'n ei ên :ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen :ffriw yn dal ffrwyn o daliwn :a'i ffroen gau fal ffoen y gwn :llygaid fal dwy ellygen :llymion byw'n llamu'n ei ben :dwyglust feinion afloynydd :dail saets wrth ei dâl y sydd :trwsio fal golewo glain :y bu wydrwr ei bedrain :drythyll ar bedair wythoel :gwreichionen o ben pob hoel :ei flew fal sidan newydd :a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd :sidan ym mhais ehedydd :siamled yn hws am lwdn hydd :Dylifo heb ddwylo'dd oedd. :Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd :cloch y ffair ciliwch o'i ffordd. :Ei arial a ddyfalwn :i elain coch o flaen cŵn. :Nwyfawl iawn anifail oedd :yn ei fryd nofio'r ydoedd. :Nid rhaid er peri neidio :rhoi dur fyth ar ei dor fo. :Dan farchog bywiog di-bŵl :ef a wyddiad ei feddwl :llamu draw lle mwya drain :llawn ergyd yn Llan Eurgain. :O gyrrir draw i'r gweirwellt :ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt. :Ystwyro cwrs y daran :a thuthio pan fynn'n fân :bwre naid i'r wybr a wnâi :ar hyder yr ehedai. :Draw os gyrrwn dros gaered :gorwydd yr arglwydd a red :dyrnfur yw'n dirwyn y fron :deil i'r haul dalau'r hoelion. :Gwreichion a gair o honyn :gwiniwyd wyth bwyth ymhob un. :Sêr neu fellt ar sarn a fydd :ar godiad yr egwydydd :ail y carw olwg gorwyllt :a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt. :Neidiwr dros afon ydoedd :naid yr iwrch rhag y neidr oedd. :Oes tâl am y sut elain :amgen na mawl am gnyw main? :Mae'n f'aros yma forwyn :ferch deg pe bai farch i'w dwyn. :Gorau 'rioed gair i redeg :march da i arwain merch deg. [[Category:Tudur Aled]] [[Categori:Cywyddau]] [[Categori:Cerddi Caeth]] cjwpjidf3r7tp74vr7zx9616q9cs5jj Englynion Goffa Hedd Wyn 0 3254 167269 148071 2026-07-16T20:37:33Z ~2026-40280-67 4194 /* */ 167269 wikitext text/x-wiki {{center block| <poem> Y bardd trwm dan bridd tramor, — y dwylaw ::Na ddidolir rhagor: :Y llygaid dwys dan ddwys ddôr, :Y llygaid na all agor! Wedi ei fyw y mae dy fywyd, — dy rawd ::Wedi ei rhedeg hefyd: :Daeth awr i fynd i'th weryd, :A daeth i ben deithio byd. Tyner yw'r lleuad heno — tros fawnog ::Trawsfynydd yn dringo: :Tithau'n drist a than dy rô :Ger y ffos ddu'n gorffwyso. Trawsfynydd! Tros ei feini — trafeiliaist ::Ar foelydd Eryri: :Troedio wnest ei rhedyn hi, :Hunaist ymhell ohoni. </poem> }} <br> ln9mystwhse1eu9lm8jduwd1t32d1il Tudalen:Tudur Aled (JMJ).djvu/23 104 78672 167270 155542 2026-07-16T23:58:53Z AlwynapHuw 1710 167270 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''llewig, rhyfig'' a'r cyffelyb. Y mae ychydig eithriadau fel dyblyg. Odlid y geiriau hyn gynt yn ol eu sain, megis ym mhennill Dafydd ap Gwilym: {{center block| <poem> "Ond dychmygion dynion d''ig'', A cham oedd pob dychym''ig''"; </poem> }} <br> neu yn y gynghanedd sain neu lusg yn y llinellau hyn o'i waith: {{center block| <poem> "Nid annheb''ig'' | ddidd''ig'' | ddydd." "Pawb a deb''ig'' pan dd''ig''iwyf." </poem> }} <br> Felly yr odlai Dafydd ab Edmwnd: {{c|"A'i fr''ig'' yn deb''ig'' <nowiki>|</nowiki> i dân";}} ac felly Dudur Aled: {{center block| <poem> "Nid oeddud oen mewn dydd d''ig'', Ond i wiber yn deb''ig.''" </poem> }} <br> Heblaw bod yn fwy cyfleus odli fel hyn, y mae'r sain naturiol—''ig'' yn dlysach o lawer na'r sain gymhen-goeg—''yg''. Y mae yna un pwnc arall ynglŷn a'r odl; ond nid oes amser yn awr i'w ystyried yn fanwl. Fe dyb y beirdd diweddar y gallant droi—''o''—, yn sillaf olaf gair, yn—''aw''—pan fynnont er cyrchu odl; a thrônt esgob yn esgawb ac Eurob yn Ewrawb! Ni ellir gwneuthur hyn ond pan fo'r-''o''-ddiweddar yn tarddu o hên-aw—. Ni bu—''aw''—erioed yn ''esgob'' ac ''Ewrob'', eithr—o—sy'n wreiddiol ynddynt. Fel hyn, gellir ysgrifennu ''Trefor'' yn ''Trefawr'', am mai dyna'r hen ffurf, ac mai ''Tre fawr'' yw'r tarddiad; ond ni ellir ysgrifennu ''Arfon'' yn ''Arfawn'', canys Arfon oedd y gair erioed, ac o ''ar'' a ''Môn'' y tardd, nid o ''ar'' a ''mawn''. Nid oes modd rhoi rheol a saif yn gyffredinol, canys cyn y gallo dyn ysgri-fennu'r hen ffurfiau yn gywir, rhaid iddo ddysgu'r hen Gymraeg; ac ni ddaw'r wybodaeth honno, mwy na rhyw wybodaeth arall, i neb heb ei hennill. Yr oedd beirdd fel Tudur Aled yn nes at y ffynhonnell na ni; ac wedi ymgydnabyddu'n llwyr a gwaith eu rhagflaenoriaid. Os bydd bardd yn awr mewn petruster, gwell iddo gadw at yr—''o''—;<noinclude><references/></noinclude> ps7v6hv9ic23bk452e3mdbsueev8lla Sgwrs:I Ofyn March 1 86515 167267 2026-07-16T12:54:54Z Kanjuzi 3921 /* Llinellau coll? */ adran newydd 167267 wikitext text/x-wiki == Llinellau coll? == Mae dau le lle nad oes gan y cwpled ond un llinell. Ai camargraffiad yw hyn? [[Defnyddiwr:Kanjuzi|Kanjuzi]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Kanjuzi|sgwrs]]) 12:54, 16 Gorffennaf 2026 (UTC) fj9hndbftzx6k9yzb2ptp2wws0st3hz