Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.11
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
I Ofyn March
0
1918
167271
167268
2026-07-19T10:16:33Z
Kanjuzi
3921
Typo
167271
wikitext
text/x-wiki
<big><b>gan [[:Category:Tudur Aled|Tudur Aled]]</b></big>
:Gydag un a geidw Gwynedd
:y cawn ar lan Conwy'r wledd
:abad tros wythwlad y sydd
:Aberconwy barc gwinwydd
:arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad
:arfer ddwbl ar fwrdd abad
:powdrau yn nysglau y naill
:a'r oraits i rai eraill.
:Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres
:Glyn Grwst a glan Gaer Awstin
:glyn gwyrdd y galwynau gwin
:tri phwys cegin y tywysog
:troi mae'r gwaith trwm ar ei gog
:tai aml am win temlau medd
:trestl a bwtri osgedd
:ar ei winoedd ar unwaith
:yno bu ben am bob iaith
:Ple cyrchwn sesiwn y saint?
:Gydag ef a'i gyd gwfaint
:gwŷr ynrhif gwerin Rhufain
:gwyn a rhudd yw gynau rhain
:Os gwyn ei fynwes a'i gob
:o'r un wisg yr â'n esgob.
:Fe âi'r mab dan fur a main
:be'i profid yn bab Rhufain.
:Gwaith blin ac anoethineb
:ymryson oll am ras neb
:hwynthwy mil o renti mân
:yntau fynnai rent Faenan.
:Mae ar wyneb Meirionnydd
:blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd.
:Hyder Lewys Amhadawg
:am erchi rhoi march yrhawg
:milwr rhwng Maelor a Rhos
:Tegaingl ei geraint agos
:a'i ddewis erbyn mis Mai
:merch deg a march a'i gygai.
:Trem hydd am gywydd a gais
:trwynbant yn troi'n ei unbais
:ffroen arth a chyffro'n ei ên
:ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen
:ffriw yn dal ffrwyn o daliwn
:a'i ffroen gau fal ffoen y gwn
:llygaid fal dwy ellygen
:llymion byw'n llamu'n ei ben
:dwyglust feinion aflonydd
:dail saets wrth ei dâl y sydd
:trwsio fal golewo glain
:y bu wydrwr ei bedrain
:drythyll ar bedair wythoel
:gwreichionen o ben pob hoel
:ei flew fal sidan newydd
:a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd
:sidan ym mhais ehedydd
:siamled yn hws am lwdn hydd
:Dylifo heb ddwylo'dd oedd.
:Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd
:cloch y ffair ciliwch o'i ffordd.
:Ei arial a ddyfalwn
:i elain coch o flaen cŵn.
:Nwyfawl iawn anifail oedd
:yn ei fryd nofio'r ydoedd.
:Nid rhaid er peri neidio
:rhoi dur fyth ar ei dor fo.
:Dan farchog bywiog di-bŵl
:ef a wyddiad ei feddwl
:llamu draw lle mwya drain
:llawn ergyd yn Llan Eurgain.
:O gyrrir draw i'r gweirwellt
:ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt.
:Ystwyro cwrs y daran
:a thuthio pan fynn'n fân
:bwre naid i'r wybr a wnâi
:ar hyder yr ehedai.
:Draw os gyrrwn dros gaered
:gorwydd yr arglwydd a red
:dyrnfur yw'n dirwyn y fron
:deil i'r haul dalau'r hoelion.
:Gwreichion a gair o honyn
:gwiniwyd wyth bwyth ymhob un.
:Sêr neu fellt ar sarn a fydd
:ar godiad yr egwydydd
:ail y carw olwg gorwyllt
:a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt.
:Neidiwr dros afon ydoedd
:naid yr iwrch rhag y neidr oedd.
:Oes tâl am y sut elain
:amgen na mawl am gnyw main?
:Mae'n f'aros yma forwyn
:ferch deg pe bai farch i'w dwyn.
:Gorau 'rioed gair i redeg
:march da i arwain merch deg.
[[Category:Tudur Aled]]
[[Categori:Cywyddau]]
[[Categori:Cerddi Caeth]]
6t4cber5turhrhbiaor1asoqpl14gh1
167272
167271
2026-07-19T11:22:40Z
Kanjuzi
3921
Typo
167272
wikitext
text/x-wiki
<big><b>gan [[:Category:Tudur Aled|Tudur Aled]]</b></big>
:Gydag un a geidw Gwynedd
:y cawn ar lan Conwy'r wledd
:abad tros wythwlad y sydd
:Aberconwy barc gwinwydd
:arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad
:arfer ddwbl ar fwrdd abad
:powdrau yn nysglau y naill
:a'r oraits i rai eraill.
:Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres
:Glyn Grwst a glan Gaer Awstin
:glyn gwyrdd y galwynau gwin
:tri phwys cegin y tywysog
:troi mae'r gwaith trwm ar ei gog
:tai aml am win temlau medd
:trestl a bwtri osgedd
:ar ei winoedd ar unwaith
:yno bu ben am bob iaith
:Ple cyrchwn sesiwn y saint?
:Gydag ef a'i gyd gwfaint
:gwŷr ynrhif gwerin Rhufain
:gwyn a rhudd yw gynau rhain
:Os gwyn ei fynwes a'i gob
:o'r un wisg yr â'n esgob.
:Fe âi'r mab dan fur a main
:be'i profid yn bab Rhufain.
:Gwaith blin ac anoethineb
:ymryson oll am ras neb
:hwynthwy mil o renti mân
:yntau fynnai rent Faenan.
:Mae ar wyneb Meirionnydd
:blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd.
:Hyder Lewys Amhadawg
:am erchi rhoi march yrhawg
:milwr rhwng Maelor a Rhos
:Tegaingl ei geraint agos
:a'i ddewis erbyn mis Mai
:merch deg a march a'i dygai.
:Trem hydd am gywydd a gais
:trwynbant yn troi'n ei unbais
:ffroen arth a chyffro'n ei ên
:ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen
:ffriw yn dal ffrwyn o daliwn
:a'i ffroen gau fal ffoen y gwn
:llygaid fal dwy ellygen
:llymion byw'n llamu'n ei ben
:dwyglust feinion aflonydd
:dail saets wrth ei dâl y sydd
:trwsio fal golewo glain
:y bu wydrwr ei bedrain
:drythyll ar bedair wythoel
:gwreichionen o ben pob hoel
:ei flew fal sidan newydd
:a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd
:sidan ym mhais ehedydd
:siamled yn hws am lwdn hydd
:Dylifo heb ddwylo'dd oedd.
:Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd
:cloch y ffair ciliwch o'i ffordd.
:Ei arial a ddyfalwn
:i elain coch o flaen cŵn.
:Nwyfawl iawn anifail oedd
:yn ei fryd nofio'r ydoedd.
:Nid rhaid er peri neidio
:rhoi dur fyth ar ei dor fo.
:Dan farchog bywiog di-bŵl
:ef a wyddiad ei feddwl
:llamu draw lle mwya drain
:llawn ergyd yn Llan Eurgain.
:O gyrrir draw i'r gweirwellt
:ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt.
:Ystwyro cwrs y daran
:a thuthio pan fynn'n fân
:bwre naid i'r wybr a wnâi
:ar hyder yr ehedai.
:Draw os gyrrwn dros gaered
:gorwydd yr arglwydd a red
:dyrnfur yw'n dirwyn y fron
:deil i'r haul dalau'r hoelion.
:Gwreichion a gair o honyn
:gwiniwyd wyth bwyth ymhob un.
:Sêr neu fellt ar sarn a fydd
:ar godiad yr egwydydd
:ail y carw olwg gorwyllt
:a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt.
:Neidiwr dros afon ydoedd
:naid yr iwrch rhag y neidr oedd.
:Oes tâl am y sut elain
:amgen na mawl am gnyw main?
:Mae'n f'aros yma forwyn
:ferch deg pe bai farch i'w dwyn.
:Gorau 'rioed gair i redeg
:march da i arwain merch deg.
[[Category:Tudur Aled]]
[[Categori:Cywyddau]]
[[Categori:Cerddi Caeth]]
9ahzfybqjpmw3vqi048s1bmwtx95zhx
167273
167272
2026-07-19T11:37:29Z
Kanjuzi
3921
Mewnosod y llinell sydd ar goll
167273
wikitext
text/x-wiki
<big><b>gan [[:Category:Tudur Aled|Tudur Aled]]</b></big>
:Gydag un a geidw Gwynedd
:y cawn ar lan Conwy'r wledd
:abad tros wythwlad y sydd
:Aberconwy barc gwinwydd
:arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad
:arfer ddwbl ar fwrdd abad
:powdrau yn nysglau y naill
:a'r oraits i rai eraill.
:Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres
:Glyn Grwst a glan Gaer Awstin
:glyn gwyrdd y galwynau gwin
:tri phwys cegin y tywysog
:troi mae'r gwaith trwm ar ei gog
:tai aml am win temlau medd
:trestl a bwtri osgedd
:ar ei winoedd ar unwaith
:yno bu ben am bob iaith
:Ple cyrchwn sesiwn y saint?
:Gydag ef a'i gyd gwfaint
:gwŷr ynrhif gwerin Rhufain
:gwyn a rhudd yw gynau rhain
:Os gwyn ei fynwes a'i gob
:o'r un wisg yr â'n esgob.
:Fe âi'r mab dan fur a main
:be'i profid yn bab Rhufain.
:Gwaith blin ac anoethineb
:ymryson oll am ras neb
:hwynthwy mil o renti mân
:yntau fynnai rent Faenan.
:Mae ar wyneb Meirionnydd
:blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd.
:Hyder Lewys Amhadawg
:am erchi rhoi march yrhawg
:milwr rhwng Maelor a Rhos
:Tegaingl ei geraint agos
:a'i ddewis erbyn mis Mai
:merch deg a march a'i dygai.
:Trem hydd am gywydd a gais
:trwynbant yn troi'n ei unbais
:ffroen arth a chyffro'n ei ên
:ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen
:ffriw yn dal ffrwyn o daliwn
:a'i ffroen gau fal ffoen y gwn
:llygaid fal dwy ellygen
:llymion byw'n llamu'n ei ben
:dwyglust feinion aflonydd
:dail saets wrth ei dâl y sydd
:trwsio fal golewo glain
:y bu wydrwr ei bedrain
:drythyll ar bedair wythoel
:gwreichionen o ben pob hoel
:ei flew fal sidan newydd
:a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd
:sidan ym mhais ehedydd
:siamled yn hws am lwdn hydd
:Dylifo heb ddwylo'dd oedd.
:Neu weu sidan, / nes ydoedd!
:Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd
:cloch y ffair ciliwch o'i ffordd.
:Ei arial a ddyfalwn
:i elain coch o flaen cŵn.
:Nwyfawl iawn anifail oedd
:yn ei fryd nofio'r ydoedd.
:Nid rhaid er peri neidio
:rhoi dur fyth ar ei dor fo.
:Dan farchog bywiog di-bŵl
:ef a wyddiad ei feddwl
:llamu draw lle mwya drain
:llawn ergyd yn Llan Eurgain.
:O gyrrir draw i'r gweirwellt
:ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt.
:Ystwyro cwrs y daran
:a thuthio pan fynn'n fân
:bwre naid i'r wybr a wnâi
:ar hyder yr ehedai.
:Draw os gyrrwn dros gaered
:gorwydd yr arglwydd a red
:dyrnfur yw'n dirwyn y fron
:deil i'r haul dalau'r hoelion.
:Gwreichion a gair o honyn
:gwiniwyd wyth bwyth ymhob un.
:Sêr neu fellt ar sarn a fydd
:ar godiad yr egwydydd
:ail y carw olwg gorwyllt
:a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt.
:Neidiwr dros afon ydoedd
:naid yr iwrch rhag y neidr oedd.
:Oes tâl am y sut elain
:amgen na mawl am gnyw main?
:Mae'n f'aros yma forwyn
:ferch deg pe bai farch i'w dwyn.
:Gorau 'rioed gair i redeg
:march da i arwain merch deg.
[[Category:Tudur Aled]]
[[Categori:Cywyddau]]
[[Categori:Cerddi Caeth]]
7p878o24l3qpq4yishnqb7afnfokp8w
167274
167273
2026-07-19T11:42:43Z
Kanjuzi
3921
Typo
167274
wikitext
text/x-wiki
<big><b>gan [[:Category:Tudur Aled|Tudur Aled]]</b></big>
:Gydag un a geidw Gwynedd
:y cawn ar lan Conwy'r wledd
:abad tros wythwlad y sydd
:Aberconwy barc gwinwydd
:arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad
:arfer ddwbl ar fwrdd abad
:powdrau yn nysglau y naill
:a'r oraits i rai eraill.
:Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres
:Glyn Grwst a glan Gaer Awstin
:glyn gwyrdd y galwynau gwin
:tri phwys cegin y tywysog
:troi mae'r gwaith trwm ar ei gog
:tai aml am win temlau medd
:trestl a bwtri osgedd
:ar ei winoedd ar unwaith
:yno bu ben am bob iaith
:Ple cyrchwn sesiwn y saint?
:Gydag ef a'i gyd gwfaint
:gwŷr ynrhif gwerin Rhufain
:gwyn a rhudd yw gynau rhain
:Os gwyn ei fynwes a'i gob
:o'r un wisg yr â'n esgob.
:Fe âi'r mab dan fur a main
:be'i profid yn bab Rhufain.
:Gwaith blin ac anoethineb
:ymryson oll am ras neb
:hwynthwy mil o renti mân
:yntau fynnai rent Faenan.
:Mae ar wyneb Meirionnydd
:blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd.
:Hyder Lewys Amhadawg
:am erchi rhoi march yrhawg
:milwr rhwng Maelor a Rhos
:Tegaingl ei geraint agos
:a'i ddewis erbyn mis Mai
:merch deg a march a'i dygai.
:Trem hydd am gywydd a gais
:trwynbant yn troi'n ei unbais
:ffroen arth a chyffro'n ei ên
:ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen
:ffriw yn dal ffrwyn o daliwn
:a'i ffroen gau fal ffoen y gwn
:llygaid fal dwy ellygen
:llymion byw'n llamu'n ei ben
:dwyglust feinion aflonydd
:dail saets wrth ei dâl y sydd
:trwsio fal golewo glain
:y bu wydrwr ei bedrain
:drythyll ar bedair wythoel
:gwreichionen o ben pob hoel
:ei flew fal sidan newydd
:a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd
:sidan ym mhais ehedydd
:siamled yn hws am lwdn hydd
:Dylifo heb ddwylo'dd oedd.
:Neu weu sidan, nes ydoedd!
:Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd
:cloch y ffair ciliwch o'i ffordd.
:Ei arial a ddyfalwn
:i elain coch o flaen cŵn.
:Nwyfawl iawn anifail oedd
:yn ei fryd nofio'r ydoedd.
:Nid rhaid er peri neidio
:rhoi dur fyth ar ei dor fo.
:Dan farchog bywiog di-bŵl
:ef a wyddiad ei feddwl
:llamu draw lle mwya drain
:llawn ergyd yn Llan Eurgain.
:O gyrrir draw i'r gweirwellt
:ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt.
:Ystwyro cwrs y daran
:a thuthio pan fynno'n fân
:bwrw'i naid i'r wybr a wnâi
:ar hyder yr ehedai.
:Draw os gyrrwn dros gaered
:gorwydd yr arglwydd a red
:dyrnfur yw'n dirwyn y fron
:deil i'r haul dalau'r hoelion.
:Gwreichion a gair o honyn
:gwiniwyd wyth bwyth ymhob un.
:Sêr neu fellt ar sarn a fydd
:ar godiad yr egwydydd
:ail y carw olwg gorwyllt
:a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt.
:Neidiwr dros afon ydoedd
:naid yr iwrch rhag y neidr oedd.
:Oes tâl am y sut elain
:amgen na mawl am gnyw main?
:Mae'n f'aros yma forwyn
:ferch deg pe bai farch i'w dwyn.
:Gorau 'rioed gair i redeg
:march da i arwain merch deg.
[[Category:Tudur Aled]]
[[Categori:Cywyddau]]
[[Categori:Cerddi Caeth]]
9yqkhn6sfotkb5ls6fl4phrqd0el4xe