Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.12
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/74
104
33368
167696
167680
2026-07-23T12:23:47Z
~2026-40913-88
4198
167696
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>trugaredd. Ac yng nghwrs ei ymbiliad taer aeth i edliw diffygion Tafarn y Cwch a'r gororau yn gyffredinol, fel lle na welid ynddo ond ffyliaid a chnafon a hen wrageddos o fore glas hyd hwyr. "Ac yn awr, syr," meddai, â'i law yn estynedig, a'i gorff ychydig yn sigledig gan effaith y ''rum,'' "â phwy yr ydwyf wedi cael yr anrhydedd o ymddiddan?"
Yr adeg honno y canfu Siôn Ifan a'r Milwriad fod ychydig o atal dywedyd ar y gŵr ieuanc. "C— Capten Wh—White," meddai, "o F—Fryste!"
Wrth glywed hyn methodd Siôn Ifan a dal heb fradychu syndod. Safodd yn llonydd ac edrychodd yn graff ar yr ymwelydd. Yna cofiodd mai gwestywr oedd, a bod ymddygiad o'r fath ar ei ran ef yn gywilyddus. Edrychodd y capten arno yntau a daeth rhyw gysgod o wên i'w wyneb dileferydd. Nid oedd y Milwriad Sprigg yn ddigon chwim ei feddwl a'i olwg i weled nac i wybod am fanylion dibwys o'r natur yma.
"Capten!" meddai, "Pa le yr arhoswch chwi heno? A wnewch chwi aros yma heno?"
"N—Nid wyf yn m—mynd ymhell," oedd yr ateb byr a thawel.
"Da iawn! Da iawn! Ac efallai y deuwch yn ôl! Da iawn!"
"M—mae gennyf long g—gerllaw," meddai'r capten. Aeth Siôn Ifan i chwilio am Catrin Parri, a'i feddyliau'n gymysgfa o syndod a difyrrwch. Ond wedi dyfod ati, rhaid mai newid ei feddwl a wnaeth, canys ni ddywedodd ddim wrthi ond "Taid annwyl!"
Ar y cyntaf datgan syndod a wnaeth y Milwriad o ddeall bod llong mewn lle fel hwn, ond ymhen ennyd cofiodd am ei brofiad ei hun y bore hwnnw, a dechreuodd ei aeliau laesu. Pan ddaeth yr atgof yn ôl yn ei lawn rym, anghofiodd frawdgarwch yr ennyd flaenorol, a gofynnodd yn ddigllawn, "Ai slŵp ydyw hi wedi ei lliwio'n las?
Crymodd y gŵr ifanc ei ben yn ddidaro i ddywedyd mai ê. Ac ar hynny dechreuodd y llall ddywedyd<noinclude><references/></noinclude>
1kug0e5tbpa0kq4u5qrayp67hr0iswe
167697
167696
2026-07-23T12:25:49Z
~2026-40913-88
4198
167697
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>trugaredd. Ac yng nghwrs ei ymbiliad taer aeth i edliw diffygion Tafarn y Cwch a'r gororau yn gyffredinol, fel lle na welid ynddo ond ffyliaid a chnafon a hen wrageddos o fore glas hyd hwyr. "Ac yn awr, syr," meddai, â'i law yn estynedig, a'i gorff ychydig yn sigledig gan effaith y ''rum,'' "â phwy yr ydwyf wedi cael yr anrhydedd o ymddiddan?"
Yr adeg honno y canfu Siôn Ifan a'r Milwriad fod ychydig o atal dywedyd ar y gŵr ieuanc. "C— Capten Wh—White," meddai, "o F—Fryste!"
Wrth glywed hyn methodd Siôn Ifan a dal heb fradychu syndod. Safodd yn llonydd ac edrychodd yn graff ar yr ymwelydd. Yna cofiodd mai gwestywr oedd, a bod ymddygiad o'r fath ar ei ran ef yn gywilyddus. Edrychodd y capten arno yntau a daeth rhyw gysgod o wên i'w wyneb dileferydd. Nid oedd y Milwriad Sprigg yn ddigon chwim ei feddwl a'i olwg i weled nac i wybod am fanylion dibwys o'r natur yma.
"Capten!" meddai, "Pa le yr arhoswch chwi heno? A wnewch chwi aros yma heno?"
"N—Nid wyf yn m—mynd ymhell," oedd yr ateb byr a thawel.
"Da iawn! Da iawn! Ac efallai y deuwch yn ôl! Da iawn!"
"M—mae gennyf long g—gerllaw," meddai'r capten.
Aeth Siôn Ifan i chwilio am Catrin Parri, a'i feddyliau'n gymysgfa o syndod a difyrrwch. Ond wedi dyfod ati, rhaid mai newid ei feddwl a wnaeth, canys ni ddywedodd ddim wrthi ond "Taid annwyl!"
Ar y cyntaf datgan syndod a wnaeth y Milwriad o ddeall bod llong mewn lle fel hwn, ond ymhen ennyd cofiodd am ei brofiad ei hun y bore hwnnw, a dechreuodd ei aeliau laesu. Pan ddaeth yr atgof yn ôl yn ei lawn rym, anghofiodd frawdgarwch yr ennyd flaenorol, a gofynnodd yn ddigllawn, "Ai slŵp ydyw hi wedi ei lliwio'n las?"
Crymodd y gŵr ifanc ei ben yn ddidaro i ddywedyd mai ê. Ac ar hynny dechreuodd y llall ddywedyd<noinclude><references/></noinclude>
g77k7iy1vssdohoxwckvor7sly58cmw
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/153
104
86708
167703
167625
2026-07-23T13:00:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167703
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|CYFRES Y CEINION.—PRIS 1s. yr un.}}
1. Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.
2. Llythyrau yr Hen Ffarmwr.
3. Cyfrinach yr Aelwyd.
Gan y Parch. W. REES, D.D.
Y Tri Llyfr wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s.
4. [[Gardd Eifion]]: sef Barddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDU O EIFION.
5. [[Holl Waith Barddonol Goronwy Owen|Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol.]]
6 Gwaith Beirdd Mon: sef, LEWIS MORYS Y BARDD COCH (Hugh Hughes), a ROBIN DDU O FON.
7. John Blackwell. Ei Waith Barddonol.
Y pedwar llyfr uchod wedi eu cydrwymo mewr. llian, Pris 5s.
8. Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN), ac EDMUND JONES O Bontypwl.
10.Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau Barddonol BARDD NANTGLYN.
9 ac 11. Pigion Englynion fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Detholedig gan EIFIONYDD.
12. [[Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)|Rheinallt ab Gruffydd]]. Gan LLYFRBRYF.
13 Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Gan ELIS WYN O LASYNYS.
14. "Christmasia," gan BRUTUS.
15. [[John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Gweithiau—''Cant o Ganeuon''|J. Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith]]. Gan LLYFRBRYF.
16. Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c. wedi eu cymeryd o Lawysgrif y Bardd.
15 a 16 wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian, Pris 2/6.
17. Llyfr y Tri Aderyn. Gan MORGAN LLWYD O WYNEDD. Gyda NODIADAU gan y Parch O. JONES, B.A.
18. [[Llythyrau Goronwy Owen]]. Wedi eu manwl gydmaru a chopiau mewn ysgrif. Dan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Bangor.
19. Caniadau Elfed
{{c|LERPWL: I. FOULKES.}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jsnmgpmxq7eduk1kqmjlr6kici4fg4v
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/49
104
86756
167692
2026-07-23T12:09:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167692
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|FY ARGLWYDD YN YR ARDD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{c|i.}}
I MEWN dan y coed fy Arglwydd aeth
::Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
Gweddio'n ddyfalach, ddyfalach, wnaeth
::Dan y coed ar noson oer:
Edrychodd, a gwelodd Galfaria gerllaw;
Cymerodd y cwpan—a chrynodd Ei law,
::Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
{{c|ii.}}
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
::Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
'Roedd y byd yn ddrwg—a dyn yn waeth,
::Dan y coed ar noson oer:
Dyn yn ddideimlad fu'n rhoddi y briw
I enaid dolurus gofidus fy Nuw,
::Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
{{c|iii.}}
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
::Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
I mewn ar Ei ol y bradwr ddaeth
::Dan y coed ar noson oer:
Bu'r cusan yn oerach, yn oerach na'r nos,
Yn llymach na rhew—wynt y gauaf ar ros,
::Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
{{c|iv.}}
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
::Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
O hafddydd Paradwys yr Angel ddaeth
::Dan y coed ar noson oer:
'Roedd aden yr Angel mor wyned a'r wawr,
A gwaed fy Ngwaredwr yn goch ar y llawr,
::Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
oiouf1gpu4p90mqdyfbtjnapxeso35s
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/50
104
86757
167693
2026-07-23T12:09:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167693
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{c|v.}}
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth,
::A'r nos yn ofnadwy oer:
Cyn gweled nos arall bu arno'n waeth
::Na'r gofid yn ngoleu'r lloer!
Bu farw'r prydnawn—a bu farw ar bren!
Gogwyddodd fy Arglwydd anfarwol Ei ben,
::Heb haul na lloer—a'r byd yn fyd oer.
{{c|vi.}}
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth,
::Yn y wlad nad yw byth yn oer;
I ganol Paradwys fy Arglwydd ddaeth,
::Lle na raid wrth oleu'r lloer:
Y cariad fu'n caru pechadur erioed
Yw cân y mil miloedd dan gysgod y coed,
::Heb oleu y lloer, na nos byth yn oer!
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
1teanlmbvwbwm08uhza4jjqk06a0he3
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/51
104
86758
167694
2026-07-23T12:19:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167694
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y SEREN A'R MYNYDD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
DYRCHA'r Eiger fry ei ysgwydd wen
{{bwlch|5em}}I'r wybren;
A phelydra heno, uwch ei ben,
{{bwlch|5em}}Un seren.
Er mor rhychiog, siriol yw yr hen-
{{bwlch|5em}}Hen fynydd;
Ac mae'r seren-hynach fyth-a'i gwên
{{bwlch|5em}}Fel gwawrddydd!
Dan y seren mae yr eira'n lluwch
{{bwlch|5em}}Tragwyddol;
Tra o'i chylch mae'r mân gymylau'n fluwch
{{bwlch|5em}}Diflanol.
Ganwaith, rhyngddi hi a'r mynydd, aeth
{{bwlch|5em}}Tymhestloedd;
Ond ar ol y dymhestl arwaf, daeth
{{bwlch|5em}}Ail nefoedd.
Gwywa'r cwmwl mellt a'r ddryghin ddu
{{bwlch|5em}}O'r lasnen;
Ond y mynydd sydd yw'r mynydd fu-
{{bwlch|5em}}A'r seren.
Pa sawl un, o oes i oes, fel hyn
{{bwlch|5em}}Fu'n gwylio
Goleu'r seren uwch y mynydd gwyn
{{bwlch|5em}}Cyn heno?
Aethant hwy; af finau: wedi'r dydd
{{bwlch|5em}}Daw'r hirnos;
Ond cymundeb nef a mynydd fydd
{{bwlch|5em}}Yn aros.
Pa ryw frawd i mi, mhen oesau, ddaw
{{bwlch|5em}}I ieuo
Yr un seren fry a'r mynydd draw,
{{bwlch|5em}}Fel heno?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
njhssjwr1axn8umnmxzqw3vlzc4ywm1
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/52
104
86759
167695
2026-07-23T12:20:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167695
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Gwn y daw ar frig rhyw ganrif bell,
{{bwlch|5em}}Oleuach,
I gyfuno natur oll mewn gwell,
{{bwlch|5em}}Cyfathrach.
Dyn sy dan y nef i agoshau'r
{{bwlch|5em}}Pellderau;
Yn ei feddwl mae dolenau aur
{{bwlch|5em}}Yr oesau.
Cilied bànau'r byd a lampau'r nen
{{bwlch|5em}}Fel cwmwl:
Aros wnant ar fythol ddalen wen
{{bwlch|5em}}Y Meddwl.
</poem>
{{Div end}}

{{c|GRINDELWALD, ''Gorphenaf'', 1892.}}

<noinclude><references/></noinclude>
buatehh4h8763u6dojx6ihbymioj63j
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/53
104
86760
167698
2026-07-23T12:26:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167698
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y GYLLELL DDI-GARN.}}}}
{{c|{{bach|A CHYNEDDF a oedd ar y gyllell . . . i thrigodd carn arni fyth: ac wrth hyny y tyfodd haint ynddo ac o hyny y bu farw.—''Culhwch ac Olwen.''}}}}
{{center block|
<poem>
BETH er fod y llaw yn hoyw?
Beth er fod y dur yn loyw?
Os na cheir y carn i'w thrin hi,
::Melldith fydd y gyllell ini.
::Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Pan fo'r min yn troi'n fradwrus,
A phob ergyd yn llechwrus,
Mae y llaw yn nychu, nychu,
Ac mae'r meddwl yn clafychu.
::Bendith wedi myn'd yn farn
::Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Beth wna'r dalent ddysglaer, fywiog,
Pan fo'r nwydau yn afrywiog?
Beth all llenor heb gallineb
Ond rhyw gellwair a thrychineb?
::Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Os heb bwyll, ni bydd digonedd
Ond cyfleusdra afradlonedd:
Pan fo'r aur yn pwyso drymaf,
Bydd yr haint yn lladd gyflymaf.
::Bendith wedi myn'd yn farn
::Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Gall manteision fagu heintiau—
Fe all dynion farw o'u breintiau!
Gall mai ynom mae y gelyn
Rwystra'r llaw i chwareu'r delyn!
::Bendith wedi myn'd yn farn
::Yw y gyllell fo'n ddi-garn,
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
k1bhvttqwgfg6voaccsf2399m07lc2o
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/54
104
86761
167699
2026-07-23T12:34:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167699
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y LLANW.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
Mae'r llanw yn d'od i fynu yr afon;
Ac anadl y dòn yn lleitho'r awelon.
Mae'n d'od heb gymaint a gofyn cenad—
Pwy wyr paham, oni ŵyr y lleuad?
Mae'n d'od, mae'n d'od—a blodau'r ewyn,
Megys briallu y môr, yn ei ddilyn.
Mae'n llifo ar led o geulan i geulan,
A'i wynion fanerau yw edyn y wylan.
Mae'r llanw yn d'od; a swn y Werydd
Yn murmur heibio'r pentrefi llonydd.
Mae'r plant yn clywed, wrth chwareu'n ddifyr,
Alwad o bell,—heb ddeall ei hystyr.
Rhaid myn'd rhyw foreu i lawr yr afon,
I wyneb y môr, i frwydrau dynion.
Mae'r llanw yn d'od: a'r llong fu'n segur
Yn codi hwyliau i fyn'd i'w hantur.
Beth ddaw ohoni a'i hwyliau gwynion?
Weithiau ddaw'r llong ddim yn ol i'r afon:
Mae'r llanw yn d'od, a rhai wedi ei golli—
Ac O! fe ga rhywrai adref eu siomi!
Heno bydd llygaid ieuainc yn ddagrau—
Llonach fydd croesaw y llong yn y borau.
Mae'r llanw yn d'od: a'r llong a faeddwyd
Heno'n d'od 'nol, fel afradlon i'r aelwyd.
Beth os yw creithiau y garwfor arni?
Er mor anafus, hyfryd ei gwel'd hi!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
su4kdn62sxatpmykagykaxde9ma5526
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/55
104
86762
167700
2026-07-23T12:34:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167700
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae'r llanw'n d'od fynu, yn mhellach na'rllongau,
Gan furmur heibio y gwenith a'r blodau.
Yn araf mae'n d'od trwy y dyffryn tawel,
Gan lifo rhwng dail y gangen isel.
Arafa; llonydda; a phaid a llifo—
Bererin y glasfor, wedi blino!—
Yn mhell o gartref, ac wedi blino;
A chysgod y graig megys amdo drosto.
{{***|4|4em}}
Ond ust!—dyna'r môr yn galw adref;
Yn nghanol y bryniau cynhyrfa'r adlef:
Ac adref, adref y llifa'r llanw;
Myn'd adref dan ganu—mae'r môr yn galw!
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
kzrs7dt7y9146mpaoeeteb14dkddllo
167701
167700
2026-07-23T12:35:22Z
AlwynapHuw
1710
167701
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae'r llanw'n d'od fynu, yn mhellach na'r llongau,
Gan furmur heibio y gwenith a'r blodau.
Yn araf mae'n d'od trwy y dyffryn tawel,
Gan lifo rhwng dail y gangen isel.
Arafa; llonydda; a phaid a llifo—
Bererin y glasfor, wedi blino!—
Yn mhell o gartref, ac wedi blino;
A chysgod y graig megys amdo drosto.
{{***|4|4em}}
Ond ust!—dyna'r môr yn galw adref;
Yn nghanol y bryniau cynhyrfa'r adlef:
Ac adref, adref y llifa'r llanw;
Myn'd adref dan ganu—mae'r môr yn galw!
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
p4bp8x5n9mt95e540rjdk0tlcvnw39e
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/56
104
86763
167702
2026-07-23T12:42:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167702
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|SAITH TYMHOR DYN.}}
''(Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1880)''}}.
{{center block|
<poem>
1
BABANDOD—byw heb un-don—o ofid
::Yn gorlifo'r wenfron;
:Yn y golwg mae'r galon
:Yn siarad drwy'r llygad llon.
2
Y plentyn i'r dyn sy'n dad, —i'w ysgol
::Ymlusga yn ddifrad;
:Uwch difyrwch difwriad
:Oriau hoen a wertha'n rhad.
3
Ienctyd têr! amser i ymson, —a byw
::Mewn byd o freuddwydion:
:Darfelydd dry ofalon
:O fro haf cariadus fron.
4
Paradwys y priodi—heibio ä,
::Daw bywyd o ddifri:
:Llwybrauaur, ffordd enill bri,
:Lanwant y darlun-leni.
5
Yn oedran ein haddfedrwydd—y profiad
::Yw'r prif weinydd ebrwydd;
:Rheswm sobr a sioma swydd
:A mil-ryw raith gwamalrwydd.
6
Henaint oer sydd yn tori—ei enw
::Ar wyneb pob asbri:
:Y funyd a fu heini,
:Yn ara' iawn 'nawr ä hi.
7
Diweddnod y cyfnodau—rydd arwydd
::O oer auaf angau;
:Dyn gwyd o fyd breuddwyd brau
:I'r byd mawr heb dymhorau!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
dgwun8gw95m8k35prxpqqqfdd6gvtqu
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/152
104
86764
167704
2026-07-23T13:03:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167704
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|NODIADAU.}}
Hanes Gweddi Monica (t.d. 11).—Mam Augustine, yr hwn fu byw i ysgrifenu un o'r clasuron Cristionogol—Civitas Dei, "Dinas Duw."
Peidiwch holi Heddyw (t.d. 25).—Gwêl hanes oriau diweddaf Golyddan yn Y Geninen, Gorphenaf, 1894.
Fy Arglwydd yn yr Ardd (t.d. 33). — Awgrymwyd y gân hon gan linell gyntaf cân fechan Americanaidd o ddau benill.
Yr Eiger (t.d. 35). Un o fynyddoedd Switzerland, yn cysgodi Grindelwald.
Ar lanau y Towy (t.d. 42). Ceir yr alaw yn y Cambrian Minstrelsie: yn gystal a'r alaw i Golled y Bardd {t.d. 45) a Ddolur Disgwyl" (t.d. 50).
Olion Hanes (t.d. 52). —Y mae olion ffordd Rufeinig gerllaw yr afon Llwchwr, ac adfeilion castell, lle y rhêd i'r môr, tra y croesir hi heddyw gan y ffordd haiarn.
Y Drws Cauedig (t.d. 83). — Yn y Fabinogi dywedir fod deuddrws yn agored, a'r trydydd yn nghauad, a'i wyneb tua Chernyw. "Yno y treuliasant y pedwar ugain mlynedd, hyd na wybuant hwy erioed ddwyn yspaid ddigrifach na hyfrydach na honno." Heilyn ddywedodd un dyddgwaith"Mefl ar fy marf i onid agoraf y drws!" Wedi ei agor cofiasant am bob drwg a cholled fu iddynt —"ac yn benaf am eu harglwydd."<noinclude><references/></noinclude>
15dz3ioxpfqeihqznt33g72gy6p36xr
167705
167704
2026-07-23T13:04:20Z
AlwynapHuw
1710
167705
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|NODIADAU.}}}}
Hanes Gweddi Monica (t.d. 11).—Mam Augustine, yr hwn fu byw i ysgrifenu un o'r clasuron Cristionogol—''Civitas Dei'', "Dinas Duw."
Peidiwch holi Heddyw (t.d. 25).—Gwêl hanes oriau diweddaf Golyddan yn ''Y Geninen'', Gorphenaf, 1894.
Fy Arglwydd yn yr Ardd (t.d. 33). — Awgrymwyd y gân hon gan linell gyntaf cân fechan Americanaidd o ddau benill.
Yr Eiger (t.d. 35). Un o fynyddoedd Switzerland, yn cysgodi Grindelwald.
Ar lanau y Towy (t.d. 42). Ceir yr alaw yn y Cambrian Minstrelsie: yn gystal a'r alaw i Golled y Bardd {t.d. 45) a Ddolur Disgwyl" (t.d. 50).
Olion Hanes (t.d. 52). —Y mae olion ffordd Rufeinig gerllaw yr afon Llwchwr, ac adfeilion castell, lle y rhêd i'r môr, tra y croesir hi heddyw gan y ffordd haiarn.
Y Drws Cauedig (t.d. 83). — Yn y Fabinogi dywedir fod deuddrws yn agored, a'r trydydd yn nghauad, a'i wyneb tua Chernyw. "Yno y treuliasant y pedwar ugain mlynedd, hyd na wybuant hwy erioed ddwyn yspaid ddigrifach na hyfrydach na honno." Heilyn ddywedodd un dyddgwaith"Mefl ar fy marf i onid agoraf y drws!" Wedi ei agor cofiasant am bob drwg a cholled fu iddynt —"ac yn benaf am eu harglwydd."<noinclude><references/></noinclude>
1170r3gp3tbumqf5j9k0t7m99m1tued
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/57
104
86765
167706
2026-07-23T13:27:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167706
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CAROL BLODAU'R GWANWYN.}}}}
{{center block|
<poem>
MAE'R Gwanwyn yn y berllan,
:Mae'r Gwanwyn ar y ddôl;
A swn ei delyn arian
:Yn galw'r blodau'n ol.
Y mae'r cymylau trymion
:Yn dechreu ysgafnhau;
Ac mae'r boreuau llwydion
:I'w gweled yn iachau.
Dan fys y Gwanwyn tirion
:Fe egyr dorau'r dail;
Ac o ffenestri gwyrddion
:Mae'r blodau'n holi am haul.
Tòn lifa o wyrddlesni
:I lawr dros lethrau'r fron;
A gwyn yw blodau'r syfi
:Ar frig y werddlas dòn.
Yn ngolwg pethau tlysion
:Mae serch yn adfywhau;
Agorir yn y galon
:Y drws fu'n hir yn nghau.
Mae yn y nef yn wanwyn,
:Mae'n wanwyn ar y bryn:
A chlywir swn ei delyn
:Yn nghonglau dyfna'r glyn.
Dyhidla ei lawenydd
:Ar fynydd ac ar ddôl,
A salmau'r bywyd newydd
:A genir ar ei ol.
Ust! tewi mae y delyn
:Yn niwl y bryniau pell:
A murmur ola'r Gwanwyn
:Yw—Adgyfodiad Gwell!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
dh0m4m35hvbrn66lt18n2nn5wbil8cf
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/58
104
86766
167707
2026-07-23T13:33:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167707
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|AR LANAU Y TOWY}}}}
{{center block|
<poem>
::Ar lànau y Towy,
:::Dan lasiad y dydd,
::Mae'r niwl yn y dolydd,
:::A'r bronydd dan gudd:
::Ond gwella mae'r diwrnod
:::Yn ngwenau yr haul,
::A sigla yr awel
:::Y gwlaw ar y dail:
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn;
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn
::Ar lanau y Towy
:::Daw gauaf i ben;
::Siriola y dolydd
:::Dan lesni y nen:
::Addewid am feillion
:::A llygaid y dydd,
::Yn gwenu drwy'r llwydrew
:::Ryw foreu a fydd.
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn;
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn
::Ar lanau y Towy,
:::Trwy gwmwl y nos,
::Ceir goleu caredig
:::Gan seren fach dlos:
::Ac wedi hir ddisgwyl,
:::A'r hiraeth yn fawr,
::Mae mwy o drugaredd
:::Yn nhoriad y wawr.
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn:
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
9206084ney3pdmjf8tauvaaljkjdo53
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/59
104
86767
167708
2026-07-23T13:35:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167708
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CAROL NADOLIG.}}}}
{center block|
<poem>
Os na chawn weled blodau Mai
:O gylch ein tai, Nadolig:
Mae'n well na blodau ar bob llwyn
:Gael cyfaill mwyn caredig.
Os na ddaw'r wenol yn ei thro
:O dan y tô ddydd Calan;
Mae gwel'd y plant sy'n byw yn mhell,
:Yn well na'r hâf ei hunan.
Llawenydd sydd ar bobpeth hardd,
:Ar flodau gardd, ac adar:
Ond gellir byw heb flodau'n hir,
:Lle cedwir calon hawddgar.
Mae carol Bethlehem o hyd
:Yn suo cryd gobeithion;
Mae yn Nadolig yn mhob man
:Lle genir anian raslon,
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
crel3eqc41z6688x7twj75b5mzsnjqd
167709
167708
2026-07-23T13:36:11Z
AlwynapHuw
1710
167709
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CAROL NADOLIG.}}}}
{{center block|
<poem>
Os na chawn weled blodau Mai
:O gylch ein tai, Nadolig:
Mae'n well na blodau ar bob llwyn
:Gael cyfaill mwyn caredig.
Os na ddaw'r wenol yn ei thro
:O dan y tô ddydd Calan;
Mae gwel'd y plant sy'n byw yn mhell,
:Yn well na'r hâf ei hunan.
Llawenydd sydd ar bobpeth hardd,
:Ar flodau gardd, ac adar:
Ond gellir byw heb flodau'n hir,
:Lle cedwir calon hawddgar.
Mae carol Bethlehem o hyd
:Yn suo cryd gobeithion;
Mae yn Nadolig yn mhob man
:Lle genir anian raslon,
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
4dz9915l64dr5d1f0y9krf6df7bxyf3
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/60
104
86768
167710
2026-07-23T13:37:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PAN DDAW'R NOS.
{{center block|
<poem>
PAN ddaw'r nos, â'i bysedd tawel
:I ddadwneud cylymau'r dydd;
Bydd yr hwyliau yn yr awel,
:A meddyliau'n myn'd yn rhydd.
Ni gawn ado'r glànau llwydion,
:A phryderon dynion byw;
A bydd gofal ein breuddwydion
:Ar yr angel wrth y llyw.
Yn ddidwrf, mewn myrdd o fydoedd,
:Nofia'r nefoedd heibio i ni;
A darlunir i'n hysprydoedd
:Nefoedd arall yn y lli.
O! mor esmwyth, O! mor dawel
:Fydd mordwyo gyda'r nos!
Myn'd o flaen rhyw ddwyfol awel,
:Adref at y wawrddydd dlos!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
09akmc1e25p19s32050k5g238d9jsee
167711
167710
2026-07-23T13:38:48Z
AlwynapHuw
1710
167711
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PAN DDAW'R NOS.}}}}
{{center block|
<poem>
PAN ddaw'r nos, â'i bysedd tawel
:I ddadwneud cylymau'r dydd;
Bydd yr hwyliau yn yr awel,
:A meddyliau'n myn'd yn rhydd.
Ni gawn ado'r glànau llwydion,
:A phryderon dynion byw;
A bydd gofal ein breuddwydion
:Ar yr angel wrth y llyw.
Yn ddidwrf, mewn myrdd o fydoedd,
:Nofia'r nefoedd heibio i ni;
A darlunir i'n hysprydoedd
:Nefoedd arall yn y lli.
O! mor esmwyth, O! mor dawel
:Fydd mordwyo gyda'r nos!
Myn'd o flaen rhyw ddwyfol awel,
:Adref at y wawrddydd dlos!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
17hxpqltn6wgwlqi0oaduub2hq1onsv
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/61
104
86769
167712
2026-07-23T13:44:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167712
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|COLLED Y BARDD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
AETH Prydydd un hafddydd
:Yn ngoleu yr haul,
I segur rodiana
:Rhwng blodau a dail:
Bu'n gwrando ar furmur
:Y ffrydiau'n y coed,
Nes clywodd beroriaeth
:Na chanwyd erioed;
Bu'n edrych ar swyn
:Y rhosynau dan wlith,
Nes teimlodd farddoniaeth
:Nad odlir hi byth.
Breuddwydiodd, fel Hywel
:Yn nghoed Dinas Bran,
Am ganu ar garu,
:Am garu ar gân.
Rhwng pobpeth â'u gilydd,
:Annghofiodd ei hun,
Wrth feddwl am flodau,
:Am odlau, a mun:
Diofal dan goedydd,
:A'r hirddydd mor hardd,
Fe gollodd ei galon
:Yn union fel bardd.
Daeth geneth fach hawddgar,
:Yn ngoleu yr haul,
I chwilio am drysor
:Rhwng blodau a dail:
'Roedd rhosyn Mehefin
:Ar ddwyrudd y ferch,
A'i llygaid yn llenwi
:O addfwyn swyn serch:
Wrth ganu, fe welodd
:Y galon ar goll:
'Gwna degan go lew'—
:Meddai hi—dyna'r oll.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
eimfi6gnykgjy2smkm9nfjr52y5cxdg
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/62
104
86770
167713
2026-07-23T13:45:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167713
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Bu dadleu, a llawer
:O firi'r un fèl;
Y prydydd o ddifri,
:A'r eneth yn ffèl:
Wrth chwareu a dadleu,
:Meddyliodd y fun
Mai goreu f'ai cadw
:Y galon ei hun:
Ac yntau, beth all'sai
:A'r eneth mor hardd?
Fe gollodd ei galon,
:A'r ddadl—fel bardd.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
a9naeh7epcupi1up3l19nipe1cbvsbe
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/63
104
86771
167714
2026-07-23T13:54:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167714
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MAB YR AWENAU.}}
(''Der Musensohn''—GOETHE).}}
{{center block|
<poem>
Trwy'r cae a'r coed rhodianaf,
A'm cân fach a chwibanaf,
:Nes gwelir pobpeth hardd
Fel wedi ei drydanu
I gadw amser canu,
:I ddilyn odlau'r bardd.
'Rwy'n canu cyn dechreuo
Un ardd na phren flodeuo,
:Cyn glasu dim o'r ddôl:
Mae hwyl ar fy mreuddwydion
Yn nghanol dyddiau llwydion
:Pan ddelo'r Gaua'n ol.
Trwy'r rhew a'r manau dyrus,
Ond canu'm cân ddifyrus,
:Y Gaua'n flodau fydd:
Os gwywa'r blodau hyny,
Fe welir draw'n tywynu
:Lawenydd arall ddydd.
Mor effro, ond im' nesu,
Yw'r llanciau a'r llancesi
:O dan y llwyfen werdd;
Y penwan a ymchwydda,
A'r eneth swrth ymnydda
:I ddawnsio gyda'r gerdd
Mae edyn wrth fy sodlau,
A gyrir fi a'm hodlau
:Yn mhell dros fryn a dôl:
Awenau hoff, caredig,
Pa bryd caf fi,'r blinedig,
:I'ch mynwes dd'od yn ol!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
91v19nr6fwy0lyt53r3j6fyw8pdlpbh
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/64
104
86772
167715
2026-07-23T13:56:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167715
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|YR ENILL.}}
(''Gefunden''.—GOETHE).}}
{{center block|
<poem>
MI ês i'r goedwig
:Yn ddiddan fy mryd,
Heb feddwl i geisio
:Dim yn y byd.
Blodyn bach welais
:Yn y cyhûdd,
Ddisgleiriai fel seren,
:Fel llygad o'r pridd.
Meddyliais ei dori;
:Ond meddai yn ffèl—
"At wywedigion
:Oes raid fy hèl?"
Yn wraidd a chyfan
:Cloddiais y tlws,
I'w roi wrth y palas
:O flaen y drws;
Plenais ef yno
:Mewn man bach clyd
Briga, blodeua,
:O hyd, o hyd.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
jd6yfceh46i6vo41jtogsw84z9woa2y
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/65
104
86773
167716
2026-07-23T13:59:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167716
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y GAN BRYDLON.}}}}
{{center block|
<poem>
CANU mae fy hoff aderyn
:Ar helygen yn y cwm,
Pan fo'r caeau heb flodeuyn,
:A phob pren yn myn'd yn llwm:
Twrf yr afon yn ddigofus
:Ruthra dros y gareg wen;
Yntau'n canu mor fin—felus,
:Am fod nefoedd uwch ei ben.
Cana eto ryw ben borau,
:Pan fo'r gwanwyn yn y coed;
Pan wna'r wyn, a'r plant, a'r blodau
:I bob bryn annghofio'i oed;
Deued haf a deued hydref,
:Beth yw hyny lle bo hwyl?
Gall pob peth sy'n edrych
:Adref Pryd y myno gadw gwyl.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
34g255fy1916cjwcbdlpcoil49w6gv0
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/66
104
86774
167717
2026-07-23T14:03:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167717
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DOLUR DISGWYL.}}
Alaw:—Y BRYTHON}}
{{center block|
<poem>
:O GANOL y drain
:Yn nghornel y llain,
Mwyalchen ddiofal
:Sy'n cynal ei sain;
:Dan fendith yr hwyr,
:Am ddolur ni ŵyr—
Mae'n canu ar galon iach:
:A minau mor brudd,
:Mor welw fy ngrudd, —
Ah! gofid pob gofid
:Yw'r gofid dan gudd!
:Nis gallaf ddweyd pam
:Wrth dad nac wrth fam;
Ond gwn mod i'n cerdded
:I'r bedd bob yn gam:—
Tawela, galon fach!
:Dystawodd y sain
:O ganol y drain;
Daw'r hirnos yn ddiddos
:Dros flodau y llain:
:Ond, boreu neu hwyr,
:Fy nghalon ni ŵyr
Beth ydyw curo'n iach.
:Pe deuai rhyw un
:Anwylaf ei lun,
I'm galw yn eiddo
:Am byth iddo'i hun,
:Newidiai fy myd
:Yn ganu'r un pryd;
Cawn alaw fwy hawddgar
:Na'r adar i gyd:—
Tawela, galon fach!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
tqprpv0v7lp0b7eqpg8ao2o5n1gsywc
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/67
104
86775
167718
2026-07-23T14:06:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167718
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|NEWID CYWAIR.}}}}
{center block|
<poem>
MAE Y dòn yn dawel, dawel,
:::Tra la la:
Nid oes gwmwl ar y gorwel,
:::Tra la la:
Ninau'n gadael Cymru lonydd,
Am ardalau newydd, newydd,
:::Tra la la.
:Seren loyw, drwy y nos,
:O'th diriondeb gwena arnom;
Gwena hefyd, seren dlos,
:Ar y bryniau a adawsom.
Dyma ni yn mhell o Gymru,
:::Tra la la:
Ac mae'r nos yn arw o'n deutu,
:::Tra la la:
Mae y dòn yn chwyddo, chwyddo,
Mae y storm yn ocheneidio,
:::Tra la la.
:Seren loyw, mae yn nos,
::Pam nad wyt yn gwenu arnom?
:Doed a ddelo, seren dlos,
::Cofia'r bryniau a adawsom.
Gymru anwyl, croesaw eto!
:::Tra la la:
Dyma ni'n d'od 'nol o grwydro,
:::Tra la la:
Mae y môr yn murmur canu,
Ac mae'r dydd yn dechreu glasu,
:::Tra la la.
:Seren loyw, cilia'r nos,
::Cilia dithau bryd y mynot:
Er mor hoff wyt, seren dlos,
::Hawdd yw 'nabod Cymru hebot!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
ifzlwg51seh3yt5vrvri6hkfnl1fffw
167719
167718
2026-07-23T14:06:59Z
AlwynapHuw
1710
167719
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|NEWID CYWAIR.}}}}
{{center block|
<poem>
MAE Y dòn yn dawel, dawel,
:::Tra la la:
Nid oes gwmwl ar y gorwel,
:::Tra la la:
Ninau'n gadael Cymru lonydd,
Am ardalau newydd, newydd,
:::Tra la la.
:Seren loyw, drwy y nos,
:O'th diriondeb gwena arnom;
Gwena hefyd, seren dlos,
:Ar y bryniau a adawsom.
Dyma ni yn mhell o Gymru,
:::Tra la la:
Ac mae'r nos yn arw o'n deutu,
:::Tra la la:
Mae y dòn yn chwyddo, chwyddo,
Mae y storm yn ocheneidio,
:::Tra la la.
:Seren loyw, mae yn nos,
::Pam nad wyt yn gwenu arnom?
:Doed a ddelo, seren dlos,
::Cofia'r bryniau a adawsom.
Gymru anwyl, croesaw eto!
:::Tra la la:
Dyma ni'n d'od 'nol o grwydro,
:::Tra la la:
Mae y môr yn murmur canu,
Ac mae'r dydd yn dechreu glasu,
:::Tra la la.
:Seren loyw, cilia'r nos,
::Cilia dithau bryd y mynot:
Er mor hoff wyt, seren dlos,
::Hawdd yw 'nabod Cymru hebot!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
9ogi6p7rxpzyn1kxr4qu7hn1dfwsnlc
167720
167719
2026-07-23T14:07:30Z
AlwynapHuw
1710
167720
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|NEWID CYWAIR.}}}}
{{center block|
<poem>
MAE Y dòn yn dawel, dawel,
:::Tra la la:
Nid oes gwmwl ar y gorwel,
:::Tra la la:
Ninau'n gadael Cymru lonydd,
Am ardalau newydd, newydd,
:::Tra la la.
:Seren loyw, drwy y nos,
:O'th diriondeb gwena arnom;
Gwena hefyd, seren dlos,
:Ar y bryniau a adawsom.
Dyma ni yn mhell o Gymru,
:::Tra la la:
Ac mae'r nos yn arw o'n deutu,
:::Tra la la:
Mae y dòn yn chwyddo, chwyddo,
Mae y storm yn ocheneidio,
:::Tra la la.
:Seren loyw, mae yn nos,
::Pam nad wyt yn gwenu arnom?
:Doed a ddelo, seren dlos,
::Cofia'r bryniau a adawsom.
Gymru anwyl, croesaw eto!
:::Tra la la:
Dyma ni'n d'od 'nol o grwydro,
:::Tra la la:
Mae y môr yn murmur canu,
Ac mae'r dydd yn dechreu glasu,
:::Tra la la.
:Seren loyw, cilia'r nos,
::Cilia dithau bryd y mynot:
:Er mor hoff wyt, seren dlos,
::Hawdd yw 'nabod Cymru hebot!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
fad3fzip3rfbgfx9zxwoc19natj262n
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/68
104
86776
167721
2026-07-23T14:20:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167721
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|OLION HANES.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{bwlch|6em}}i.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
::Gyda'i gwrwgl ar ei gefn?
Pwy sy'n rhwyfo mor ddi-ddwndwr
::Drwy yr afon lydan, lefn?
Pa anwadal ddawn sydd iddo?—
Wedi blino'i fraich wrth rwyfo,
::Trŷ, cyn glanio, 'nol drachefn.
Yn ei nwyfus lygaid duon
Mae goleuni'r mabinogion,
::Mae'n breuddwydio ar ddihun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}
''Dyna'r Celt''—medd gwefus Hanes:
::Medd y bryniau—DYNA DDYN.
{{bwlch|6em}}ii.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
::Gyda'i darian yn ei law?
Mae ei 'bont' yn croesi'r llifddwr,
::Drosti cerdd i'r ochor draw.
Mae ei 'balmant' ar y mynydd,
Mae ei 'aradr' yn y meusydd;
::Fel ei 'eryr,' mae'n ddi-fraw.
Ysgrifena ddeddf â'i fysedd,
Bery'n hwy na deg can'mlynedd
::Mae am ieuo'r y byd yn un.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}*
''Y Rhufeiniwr''—meddai Hanes:
::Medd y bryniau oesol—DYN.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
donhj303th31qc2hus27lcmlx7g9l7m
167722
167721
2026-07-23T14:21:11Z
AlwynapHuw
1710
167722
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|OLION HANES.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{bwlch|6em}}i.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
::Gyda'i gwrwgl ar ei gefn?
Pwy sy'n rhwyfo mor ddi-ddwndwr
::Drwy yr afon lydan, lefn?
Pa anwadal ddawn sydd iddo?—
Wedi blino'i fraich wrth rwyfo,
::Trŷ, cyn glanio, 'nol drachefn.
Yn ei nwyfus lygaid duon
Mae goleuni'r mabinogion,
::Mae'n breuddwydio ar ddihun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}
''Dyna'r Celt''—medd gwefus Hanes:
::Medd y bryniau—DYNA DDYN.
{{bwlch|6em}}ii.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
::Gyda'i darian yn ei law?
Mae ei 'bont' yn croesi'r llifddwr,
::Drosti cerdd i'r ochor draw.
Mae ei 'balmant' ar y mynydd,
Mae ei 'aradr' yn y meusydd;
::Fel ei 'eryr,' mae'n ddi-fraw.
Ysgrifena ddeddf â'i fysedd,
Bery'n hwy na deg can'mlynedd
::Mae am ieuo'r y byd yn un.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}
''Y Rhufeiniwr''—meddai Hanes:
::Medd y bryniau oesol—DYN.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ivi8n03sapk7w7moe89qxq3hhvl5f8g
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/69
104
86777
167723
2026-07-23T14:22:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167723
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{bwlch|6em}}iii.
Pwy sy'n d'od i Gastell Llwchwr,
::Ar ei farch, mewn arfau dur?
Gwêl, yn llygad y breuddwydiwr,
::Gyfle i ladrata'i dir!
Gall ddyoddef, heb roi fynu—
Crefft a ddysgodd i orchfygu:
::Gŵyr am gael, ni ŵyr am gur.
Y mae gormes yn ei lygaid,
Y mae gweddi yn ei enaid—
::Mae am ddeufyd iddo'i hun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}
''Dyna'r Norman''—meddai Hanes:
:Medd y bryniau—DYNA DDYN.
{{bwlch|6em}}iv.
Pwy sy'n rhuthro dros y Llwchwr,
::Yn ei drystfawr gerbyd tân?
Gweithia'n lew—ond nid heb ddwndwr;
::A mŷn geiniog am ei gân.
Mae ei anadl ar y moroedd,
Mae ei fys ar gyfandiroedd—
::Nid yw'r llaw bob dydd yn lân!
Gyda'i gleddyf gỳr ei grefydd;
Ac mae'n disgwyl i'r holl wledydd
::Fod yn mhobpeth fel ei hun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
{{***|4|4em}}''Dyna'r Sais''—medd gwefus Hanes:
:Medd y bryniau—DYNA DDYN,
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
m8vm42pb34a4fsttes71hnimbo68fct
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/70
104
86778
167724
2026-07-23T14:22:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167724
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{bwlch|6em}}v.
Dyn yw dyn, ar bum' cyfandir;
::Dyn yw dyn, o oes i oes:
Dyn—yn esgyn i'r ucheldir;
::Dyn—yn fud ar lwybrau loes.
Da im' garu'm gwlad fy hunan;
Gwell yw caru'r ddaear gyfan
::'Does i'r ddaear ond un Groes!
Dyn sy'n cario baich y gwledydd;
Dyn a biau'r holl fynwentydd
::Dyn, â'i gartref yn y nef.
Dyn yw dyn; byw yw ei neges:
Trwy bob newid yn ei hanes,
::Saif y ddaear drosto ef.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
lks7k32flgn1dir1704cwsonjjvzdjs
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/71
104
86779
167725
2026-07-23T14:26:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167725
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|'NERTH BYWYD ANNHERFYNOL}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
LLE treigla'r afon Alun
:Dros wely'r gareg galch,
Yn frith o flodau a rhedyn
:Ymgyfyd clogwyn balch.
Mewn cyffro rywbryd yno,
:Gafaelodd careg fawr
Yn gadarn yn ei ochrau,
:Wrth ruthro ar i lawr.
Safodd y gareg laslwyd
:Ar lety hedyn pren;
Ond fynai'r bywyd ieuanc
:Ddim colli goleu'r nen.
O dan y gareg farw
:Ymdrechai, er mor wan,
Gael ffordd o'i lety oerllyd,
:I wyneb haul i'r làn.
Yn araf ac yn wyrgam
:Ymwthiodd yn ei flaen,
Nes iddo dyfu heibio
:I fargod y carchar maen.
O haf i haf äi'n gryfach,
:Dan fendith gwlaw a gwres;
Ymwasgai at ochr y gareg
:O hyd, o hyd, yn nes.
Nerth bywyd äi'n fwy grymus
:Na'i diogi marw hi;
Heb lais, na swn, na murmur,
:Codai y pren i fri.
A'r bywyd dystaw, dystaw,
:A'i holltodd hi yn ddwy;
Ac yno yn ei chanol
:Safai, a thyfai mwy.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
j4vmsluj70bdim4vh846fcusqvieo0a
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/72
104
86780
167726
2026-07-23T14:27:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167726
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ei wraidd a dreiddiai'n ddyfnach,
:A'i frig estynai'n mlaen;
Nes siglai'r gangen werddlas
:Ei dail ar wddf y maen.
Y pren buddugol bellach
:Fynai ei ffordd yn llwyr—
Ac yn ei gangau canodd
:Aderyn, lawer hwyr.
Nerth bywyd annherfynol
:Yw nerth cadarna'r byd
Beth yw y bedd ei hunan
:Ond cryd—ofnadwy gryd?
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
k79dtc177o6ylzf9vedrvw5c1voepuk
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/151
104
86781
167727
2026-07-23T14:32:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167727
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|''SUB ROSA.''}}}}
{{center block|
<poem>
GYMRU ieuanc! gwrando
:Air bach yn dy glust, —
Ti, sydd am roi heibio
::Rhodio'n drist:—
Mae dy wyneb weithion
::At y llydan fyd;
Cadw wres dy galon
::Yr un pryd.
Dante—dos i'w ddilyn;
:Shakespere—tro i'w fyd:
Cofia Bantycelyn
::Yr un pryd.
Daeth dy ddiwrnod gweithio,
:'Nol breuddwydio'n hir—
Gweithia: daw breuddwydio
::Yn fwy clir.
Morfydd wyt ti, Gymru,
:Cariad beirdd, a'u bri;
Mỳn pob Dafydd ganu
::Cerdd i ti.
Mwyn yw cywydd, Morfydd;
:Caru, melus yw—
Dywed di wrth Dafydd
::Fod rhaid ''byw!''
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
faw2z4g2yiqmp31smiiis692aq6csb3
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/150
104
86782
167728
2026-07-23T14:36:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167728
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BARA AR Y DYFROEDD.}}}}
{{center block|
<poem>
BWRW dy fara, O! ddyn,
:Ar wyneb y dyfroedd llwydion:
Rhag i ti gael dy hun
:Heb ddim i borthi'r tlodion.
Os pleser heddyw brinheir,
:Bydd dy yfory yn llawnach:
Gobaith deufyd a geir,
:Wrth wneud un byd yn llonach.
Crêd y dyfodol drud,
:A chrêd yr haf sy o'r golwg:
Mae Duw yn y pellder mud,
:I ddwyn y goreu i'r amlwg.
Onid yw'r byd o hyd
:Yn fyr o fara beunyddiol?
Gwell bod yn hael mewn pryd,
:Nag ini golledu'r dyfodol.
Bwrw dy fara, O! ddyn,
:Ar wyneb llydan y dyfroedd
Rhag mai newynu dy hun
:A wnei di—yn oes oesoedd!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
tno6x5cqfad1mus5f3pucmcbm4q0l8b
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/73
104
86783
167729
2026-07-23T14:41:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167729
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|YR AWR EURAIDD.}}}}
{{c|Nid yw hyny ond anfynych iawn: eithr oriau euraidd yw y rhei'ny i mi.—''Taith y Pererin.''}}
{{Center block/s}}
<poem>
Ar ganol dyddiau trymaidd
Daw ambell awr, mor euraidd!
Nid hafddydd goreu'r ddaear
All fagu awr mor hawddgar.
Daw'n wyn o dragwyddolfyd,
Gan hedfan drwy ein hadfyd.
Bu'r gwlith sydd ar ei haden,
Un waith ar winwydd Eden.
Dros Fryn y Cariad hedodd—
Ar fraich y Groes disgynodd.
Cyffyrddodd gwaed â'i gwenfron—
A daeth yn nes at ddynion.
Ar ganol dyddiau trymaidd
Mae'n d'od—yr awr nefolaidd:
Ond O! na ddeuai'n amlach,
Ac nad arosai'n hirach!
Daw mil o oriau duon
Am un o'r oriau gwynion:
A'r oriau duaf, duaf,
Sy'n cerdded fwyaf araf.
O! euraidd awr, ddi-gwynfan!—
Na chym'rai bwyll with hedfan!
Tra fyddo hi'n myn'd heibio,
Caiff pobpeth hardd flodeuo.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
lriqv7kk5bcuv6vwpths0n86htnjz48
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/74
104
86784
167730
2026-07-23T14:42:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167730
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Di-gamwedd a di-gwmwl
Bryd hyny yw y meddwl.
Mae'r delyn yn ddi-ddagrau,
Rhed nefoedd dros y tànau:
Ac ni wna'r tant iselaf
Ond taro'r llondid dyfnaf.
Mae ofn yn colli ei afael,
A'r sychder yn ymadael.
O, wlithog awr, fendigaid!
Munydau aur yr enaid!
O, ddwyfol awr—ddiafael!
Wrth dd'od, mee'n dechreu'n gadael.
Fe ddaw, heb ini wybod:
Fe ä, wrth ei hadnabod.
O, euraidd awr, ddi-auaf,
Hedfana yn fwy araf!
Neu os oes rhaid it' frysio,
Un weddi wylaidd gwrando:—
Sigla, o'th euraidd aden,
I lawr, un euraidd bluen!
Bydd hono'n dweyd am danat,
Pan na cheir golwg arnat.
Ddilychwin oriau euraidd!
Mor brin! ac mor nefolaidd!
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
h6xs3p9asv767bqe7agpbeo3uybh0i2
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/75
104
86785
167731
2026-07-23T14:48:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167731
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c{{mawr|EISIAU GWYBOD.}}}}
{{center block|
<poem>
Pan edy trai gofalon
:Y traeth i gyd i serch,
Tramwyir lled y galon
:Gan freuddwyd melus merch.
Mor ysgafn—droed ymdeithia
:Yn nghwmni'r hafaidd hwyr:
Pa obaith a obeithia,
:'Does undyn byw a ŵyr.
Pob tristyd ga'i annghofio,
:All wneud y rudd yn wleb;
A'i henaid sydd yn nofio
:Mewn llif na foddodd neb.
Ymgryma, dan sirioli,
:I godi cragen ddèl;
A phlyg ei phen i holi
:Am ryw gyfrinach ffèl.
Wrth wrando, dim nod hyder
:Oedd lon'd ei chalon iach—
Ond murmur môr o bryder
:Oedd yn y gragen fach!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
fjmu5p7rwh9kmjgrsi3310oddo2n17m
167732
167731
2026-07-23T14:49:12Z
AlwynapHuw
1710
167732
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|EISIAU GWYBOD.}}}}
{{center block|
<poem>
Pan edy trai gofalon
:Y traeth i gyd i serch,
Tramwyir lled y galon
:Gan freuddwyd melus merch.
Mor ysgafn—droed ymdeithia
:Yn nghwmni'r hafaidd hwyr:
Pa obaith a obeithia,
:'Does undyn byw a ŵyr.
Pob tristyd ga'i annghofio,
:All wneud y rudd yn wleb;
A'i henaid sydd yn nofio
:Mewn llif na foddodd neb.
Ymgryma, dan sirioli,
:I godi cragen ddèl;
A phlyg ei phen i holi
:Am ryw gyfrinach ffèl.
Wrth wrando, dim nod hyder
:Oedd lon'd ei chalon iach—
Ond murmur môr o bryder
:Oedd yn y gragen fach!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
9k75ylbr8q1osfcw0pe887wgyuid9cb
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/76
104
86786
167733
2026-07-23T14:58:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167733
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|CYMDEITHION ANNGHOFIEDIG.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
::WEDI brwydro'n hir
::Dros iawnderau'r Gwir,
Yn yr oerni, wrtho'i hunan,
Pwysai'n glwyfus ar ei darian:
::Unig dan y nef,
::Heno, ydoedd ef.
::Swn y byd o draw
::Oedd fel môr di daw:
Gwibiai'r lluaws drwy'r heolydd
Ar ol rhyw Barabbas newydd;
::Yntau wrtho'i hun,
::Gyda'i enaid blin.
::Ar ei gledd, yn oer
::Y disgleiriai'r lloer;
Ac ar hyd ei rychiog ruddiau
Ysgafn ddawnsiai ei phelydrau:—
::Fynai hithau'r nef
::Ei ddibrisio ef?
::Crwydrai'n wan a blin
::Dros y blodau crin;
Twrf gwatwarwyr draw o'r pellder,
Yn ei enaid fagai bryder;—
::Nid y llwydnos brudd
::Oedd yn lleithio'i rudd.
::'Wedi brwydro'n hir'—
::Meddai'dros y Gwir,
Mae fy enaid heno'n unig,
Mae fy nghalon yn anniddig!
::Hyn yw bod yn dlawd—
::Lled y byd, heb frawd!
::Llawer cyfaill droes,
::Wedi gwel'd y groes;
Ac ar lawer awr anhapus,
Trodd cysuron yn fradwrus:
::Ar adfeilion bedd
::Deliais inau'r cledd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
9kzklj4rdfttbq379d0qew1p1ueeiq3
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/77
104
86787
167734
2026-07-23T14:59:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167734
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
::'Meddwn: Cyn bo hir
::Gwelir pethau'n glir;
Cyrcha dewrion fyrdd i'r frwydyr
Fy nghymdeithion, a fy mrodyr!
Wele fi, a'm clwy',
Heno!—B'le maent hwy?'
::A gostyngai ei ben
::Dan y lydan nen;
Ac â'i law gorchuddiai ei lygaid,
Rhag gwel'd noethni a briw ei enaid:
::Ar draethellau gwawd
::Plygai'n ddyn di-frawd.
::Angel dystaw, gwyn,
::Ddaeth dros ael y bryn;
Hwnw yn ei ymyl safodd,
Syllodd ar ei ing—a gwenodd:—
::'Brodyr iddo ef
::Sydd yn llanw'r nef!'
::Aeth, heb yngan gair,
::Fry i'r Ddinas Aur;
D'wedodd yno wrth fil miloedd
Anfarwolion y canrifoedd,
::Am y gŵr di-frawd
::Welodd mor dylawd.
::Meddai: 'Meddwl mae,
::Yn ei ing a'i wae,
Ei fod heno wrtho'i hunan,
Heb un cyfaill iddo'n unman:
::Ond ei frodyr ef
::Ydym yn y nef.'
::A phob tant drwy'r nen
::D'rawodd un Amen;
Nes i'r gerdd, yn risial dònau,
Lifo trwy y pyrth o berlau—
::'Arall heddyw gawd
::I fyrddiynau'n frawd!'
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
4ip7hywtvhlm8x83pchbdln1bcnfu0l
167736
167734
2026-07-23T15:00:02Z
AlwynapHuw
1710
167736
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::'Meddwn: Cyn bo hir
::Gwelir pethau'n glir;
Cyrcha dewrion fyrdd i'r frwydyr
Fy nghymdeithion, a fy mrodyr!
Wele fi, a'm clwy',
Heno!—B'le maent hwy?'
::A gostyngai ei ben
::Dan y lydan nen;
Ac â'i law gorchuddiai ei lygaid,
Rhag gwel'd noethni a briw ei enaid:
::Ar draethellau gwawd
::Plygai'n ddyn di-frawd.
::Angel dystaw, gwyn,
::Ddaeth dros ael y bryn;
Hwnw yn ei ymyl safodd,
Syllodd ar ei ing—a gwenodd:—
::'Brodyr iddo ef
::Sydd yn llanw'r nef!'
::Aeth, heb yngan gair,
::Fry i'r Ddinas Aur;
D'wedodd yno wrth fil miloedd
Anfarwolion y canrifoedd,
::Am y gŵr di-frawd
::Welodd mor dylawd.
::Meddai: 'Meddwl mae,
::Yn ei ing a'i wae,
Ei fod heno wrtho'i hunan,
Heb un cyfaill iddo'n unman:
::Ond ei frodyr ef
::Ydym yn y nef.'
::A phob tant drwy'r nen
::D'rawodd un Amen;
Nes i'r gerdd, yn risial dònau,
Lifo trwy y pyrth o berlau—
::'Arall heddyw gawd
::I fyrddiynau'n frawd!'
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
shm4qqo40aea2aa6domut8mmbie6d59
167737
167736
2026-07-23T15:00:37Z
AlwynapHuw
1710
167737
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::'Meddwn: Cyn bo hir
::Gwelir pethau'n glir;
Cyrcha dewrion fyrdd i'r frwydyr
Fy nghymdeithion, a fy mrodyr!
::Wele fi, a'm clwy',
::Heno!—B'le maent hwy?'
::A gostyngai ei ben
::Dan y lydan nen;
Ac â'i law gorchuddiai ei lygaid,
Rhag gwel'd noethni a briw ei enaid:
::Ar draethellau gwawd
::Plygai'n ddyn di-frawd.
::Angel dystaw, gwyn,
::Ddaeth dros ael y bryn;
Hwnw yn ei ymyl safodd,
Syllodd ar ei ing—a gwenodd:—
::'Brodyr iddo ef
::Sydd yn llanw'r nef!'
::Aeth, heb yngan gair,
::Fry i'r Ddinas Aur;
D'wedodd yno wrth fil miloedd
Anfarwolion y canrifoedd,
::Am y gŵr di-frawd
::Welodd mor dylawd.
::Meddai: 'Meddwl mae,
::Yn ei ing a'i wae,
Ei fod heno wrtho'i hunan,
Heb un cyfaill iddo'n unman:
::Ond ei frodyr ef
::Ydym yn y nef.'
::A phob tant drwy'r nen
::D'rawodd un Amen;
Nes i'r gerdd, yn risial dònau,
Lifo trwy y pyrth o berlau—
::'Arall heddyw gawd
::I fyrddiynau'n frawd!'
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
dlit3tbfmda957tnca4xgbjapfoid2h
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/78
104
86788
167735
2026-07-23T14:59:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167735
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
::Obry, is y nen,
::Cododd yntau ei ben;
Yn ddi-gysgod dros ei wyneb
Aeth gogoniant tragwyddoldeb:
::Meddai—Dros y Gwir
::Da yw brwydro'n hir.
::Yn swn dynion byw,
::Braidd na chollais Dduw;
Ond mae'r nefoedd drwy yr oesau
Dros Wirionedd, a'i iawnderau:
::O! fy enaid briw,
::Pwysa'n ol ar Dduw!'
::Nid oes raid i un
::Sefyll wrtho'i hun;
Mae y Duwdod a'i dangnefedd,
Ar ymylon ei unigedd;
::Dyna ddechreu'r ne'—
::Rhoi i Dduw Ei le.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
ndkvgpwfb7f937ky347vms8m94enste
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/79
104
86789
167738
2026-07-23T15:21:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167738
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BUDDUG.}}
(''Cân ei Bardd, cyn y Frwydr Olaf'').}}
{{center block|
<poem>
MAE Rhyddid dan ei flodau
:Ar ol y gauaf blin,
Ac aelwyd werdd, ac argoel dail,
:Lle bu'r canghenau crin;
Mae adar haf yn canu
:Lle lluwchia'r eira oer,
A'r eos leddf mewn dyrys lwyn
:Yn swyno odfa'r lloer:
Rhyw son mae pob blodeuyn
:Ar drothwy gwyrdd yr haf,
Am gariad cynes mynwes mam
:A'i balm i glwyfau'r claf.
Mae llygad merch yn ddigon
:I droi pob byd yn wyn—
Dan aeliau du daw'n oleu dydd,
:Frig hwyr, wrth rodio'r bryn:
Os daw i faes y frwydyr,
:Ei gwên arweinia gâd;
A gair o'r wefus felus fach
:Wna farw yn fwynhad.
O! pan yw'r fam gariadus
:Yn trin y glasfin gledd,
Onid yw hen Frythoniaid hyf
:Am droi allweddau'r bedd?
Y fam a biau'r aelwyd,
:A theyrnas gyntaf serch;
Alaw a hymn ei gofal hi
:Yw mwyniant mab a merch:
Ond lledu mae ei theyrnas
:Yn lasliw fel y nen;
O dan ei nhawdd daw'r duwiau'n nes—
:Daw'n gwlad yn aelwyd wen:
Bydd son am enw Buddug
:Tra rhodio haul mewn dydd
Wnaeth ini dŷ y Brython dewr
:Trwy'r cyfiawn gledd yn rhydd.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
bk3er6qg6vwkyelepf4luthqvthb9in
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/80
104
86790
167739
2026-07-23T15:24:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167739
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BREUDDWYD GOBΑΙΤΗ.}}
(In Memoriam: liv).}}
{{center block|
<poem>
EIN gobaith yw, mai'r da yw nod
:Y drwg, a phob naturiol loes,
:Troseddau yr ewyllys groes,
Anmheuon, a phob haint sy'n bod:—
Nad oes i ddim ddi-amcan droed;
:Na chollir yr un bywyd drud,
:Na'i daflu'n friw i'r gwagder mud,
Pan ddel gwaith Duw i'w gyflawn oed—
Nad ofer—holltir eiddil bryf;
:Na chrinir gwyfyn ysgafn-fryd
:Mewn tân di-elw, drwy'r holl fyd,
Neu er mwyn budd rhyw arall cryf.
Wele, nis gwyddom ddim. Beth wnaf?
:Nis gallaf lai na chredu câ
:Pawb, draw yn mhell, o'r diwedd, dda—
Y troir pob gauaf du yn haf.
Dyna fy mreuddwyd. Beth wyf fi?
:Baban yn llefain yn y nos,
:Llefain am wel'd un seren dlos,
Ac heb un iaith ond galar—gri.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
m5geupwovbvne54adjmqg9izqa81zx4
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/81
104
86791
167740
2026-07-23T15:38:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167740
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr-PENILLION.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{c|''Pris y Prydferth.''}}
LLYFN a llwyd yw llif yr afon
Tra'n segura rhwng y meillion;
Wrth fyn'd dros y ceryg garwaf
Y mae hi yn llifo wynaf.
{{c|''Pris Mwynhad.''}}
Dyna'r haul yn machlud eto:—
O! mae'n hawddgar yn noswylio!
Ond wrth wel'd ei wyneb tirion
Syrthiai deigryn yn fy nghalon.
{{c|''Dolur a Chysur.''}}
Wrth fyn'd heibio'r drain un diwrnod
Cefais bigad heb yn wybod;
Es 'run ffordd yn mhen blynyddau,
'Roedd y llwyn yn wyn o flodau.
{{c|''Iselfrydedd.''}}
Gan y gwynt fe blygai'r dderwen,
A dyhidlai lawer deilen:
Dani cadwai'r gawnen egwan
Wlithyn gloyw fel yr arian.
{{c|''Gwahaniacth Barn.''}}
''Steddfod, wir!—gwell peidio'i henwi.
Meddai'r gŵr oedd wedi colli: '
Dyna'r 'Steddfod ore eto!'
Meddai'r gŵr â'r gadair ganddo.
{{c|''Chwaeth.''}}
Gwynt y dwyrain chwytha'n farus,
Caua Cai ei enau'n garcus:
Os clyw enllib am gymydog
Egyr ddeuglust yn dra chwanog.
{{c|''Gwers y Cwmwl.''}}
'O mor ddisglaer yw yr afon!'
Meddai Gweno wirion, dirion:
Fe ddaeth cwmwl dros y nefoedd,
Gwelodd Gweno lwydni r dyfroedd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
tai3atv7giys6v7qzl14o0yf162770b
167741
167740
2026-07-23T15:38:37Z
AlwynapHuw
1710
167741
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENILLION.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{c|''Pris y Prydferth.''}}
LLYFN a llwyd yw llif yr afon
Tra'n segura rhwng y meillion;
Wrth fyn'd dros y ceryg garwaf
Y mae hi yn llifo wynaf.
{{c|''Pris Mwynhad.''}}
Dyna'r haul yn machlud eto:—
O! mae'n hawddgar yn noswylio!
Ond wrth wel'd ei wyneb tirion
Syrthiai deigryn yn fy nghalon.
{{c|''Dolur a Chysur.''}}
Wrth fyn'd heibio'r drain un diwrnod
Cefais bigad heb yn wybod;
Es 'run ffordd yn mhen blynyddau,
'Roedd y llwyn yn wyn o flodau.
{{c|''Iselfrydedd.''}}
Gan y gwynt fe blygai'r dderwen,
A dyhidlai lawer deilen:
Dani cadwai'r gawnen egwan
Wlithyn gloyw fel yr arian.
{{c|''Gwahaniacth Barn.''}}
''Steddfod, wir!—gwell peidio'i henwi.
Meddai'r gŵr oedd wedi colli: '
Dyna'r 'Steddfod ore eto!'
Meddai'r gŵr â'r gadair ganddo.
{{c|''Chwaeth.''}}
Gwynt y dwyrain chwytha'n farus,
Caua Cai ei enau'n garcus:
Os clyw enllib am gymydog
Egyr ddeuglust yn dra chwanog.
{{c|''Gwers y Cwmwl.''}}
'O mor ddisglaer yw yr afon!'
Meddai Gweno wirion, dirion:
Fe ddaeth cwmwl dros y nefoedd,
Gwelodd Gweno lwydni r dyfroedd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
krwwzir2r6ywc549zetz55tdbuqs71h
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/82
104
86792
167742
2026-07-23T15:39:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167742
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{c|''Osgoi Anfarwoldeb.''}}
Tôr dy enw ar y tywod
Pan y gweli'r llanw'n dyfod:
Llifa'r dôn drugarog drosto
Cyn i'r byd gael sangu arno.
{{c|''Qui s'excuse, s'accuse.''}}
'Does gan Esgus, ar y gorau,
Fawr o glèm ar gauad drysau:
Cymer weithiau oes i gauad
Drws, agorwyd mewn un eiliad.
{{c|'''Moes, moes!'''}}
Yr oedd ganddo fil o bethau—
Mil ag un oedd arno eisiau;
Ac o eisiau'r unpeth hwnw
'Roedd ei fil i gyd yn chwerw.
{{c|''Gwerth Ewyllys Da.''}}
Dymuniadau mwyn ehedant,
Heibio i lawer drws y galwant:
Ni chaiff neb un ddimai ganddynt—
Ond mae pawb yn dlotach hebddynt.
{{c|''Ofer-Weddiau.''}}
'O na bawn i yn lle Arthur!'
Meddai Dafydd, yn ddigysur:
O na bawn i yn lle Dafydd!'
Meddai Arthur, byth a beunydd.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
en8o8vfre7h5egxkt3p6y0kwicq8j97
167743
167742
2026-07-23T15:39:38Z
AlwynapHuw
1710
167743
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{c|''Osgoi Anfarwoldeb.''}}
Tôr dy enw ar y tywod
Pan y gweli'r llanw'n dyfod:
Llifa'r dôn drugarog drosto
Cyn i'r byd gael sangu arno.
{{c|''Qui s'excuse, s'accuse.''}}
'Does gan Esgus, ar y gorau,
Fawr o glèm ar gauad drysau:
Cymer weithiau oes i gauad
Drws, agorwyd mewn un eiliad.
{{c|<nowiki>'</nowiki>''Moes, moes!''<nowiki>'</nowiki>}}
Yr oedd ganddo fil o bethau—
Mil ag un oedd arno eisiau;
Ac o eisiau'r unpeth hwnw
'Roedd ei fil i gyd yn chwerw.
{{c|''Gwerth Ewyllys Da.''}}
Dymuniadau mwyn ehedant,
Heibio i lawer drws y galwant:
Ni chaiff neb un ddimai ganddynt—
Ond mae pawb yn dlotach hebddynt.
{{c|''Ofer-Weddiau.''}}
'O na bawn i yn lle Arthur!'
Meddai Dafydd, yn ddigysur:
O na bawn i yn lle Dafydd!'
Meddai Arthur, byth a beunydd.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
jxgl2sqj5r5ege9ni0p6pk3n73bmfuz
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/83
104
86793
167744
2026-07-23T16:06:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167744
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DARLUNIAU, AR GYNGHANEDD.}}}}
{{c|{{mawr|Noswaith Loergan.}}}}
{{center block|
<poem>
Y LLOER fel ar esgyll arian—heno
::Sy yn haner hedfan;
:A mil o gymylau mân
:Sy yn ceisio un cusan.
</poem>

{{c|{{mawr|Briallen ddiwedd Tachwedd.}}}}
{{center block|
<poem>
AH! gwenu yn rhy gynar—a wnaethost
::Ar lawr noeth y ddaear;
:Byddi'n unig, unig, ar
:Waelod cwm, heb wel'd cymhar.
</poem>

{{c|{{mawr|Diwedd Dedwydd.}}}}
{{center block|
<poem>
Y borau oedd yn bruddaidd, yn y niwl
::Bu'r prydnawn afluniaidd;
:Ond trwy wê yr hwyrnos traidd
:Y nef, a'i glesni hafaidd.
</poem>

{{c|{{mawr|Nid da rhy o ddim.}}}}
{{center block|
<poem>
Trwy y dydd llonydd yw'r llyn:—ai delwau
::Yw'r dail ar y brigyn?
:Poen yw fy haf—pwy na fyn
:Wel'd awel ar flodeuyn?
</poem>

{{c|{{mawr|Yr Ywen.}}}}
{{center block|
<poem>
Ddu faner y beddfeini!—arwyddion
::Angau roddwyd arni:
:Awel haf yn ei dail hi
:A wna sibrwd i'n sobri.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
3z2hm4hh9vxgx1l949tdv3ye4crj7m8
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/84
104
86794
167745
2026-07-23T16:12:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167745
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PETHAU GWELL.}}
(Efelychiad o GEORGE MACDONALD).}}
{{Center block/s}}
<poem>
GWELL na llymeitian y gloyw win, ydyw anadl y blodau:
Gwell na, fflachiadau y perl, yw murmur cuddiedig ffrydiau.
Gwell na ffafrau Blodeuwedd falch, ydyw cariad dichlyn;
Gwell na chlwm o rosynau yw bywiol had y rhosyn.
Gwell na heulo trwy'r dydd mewn mwynserch, yw caru'n dirion;
Gwell na ffynonau ar fin y ffordd, yw ffynonau'n y galon.
Gwell cael bwyd o law mam, na phrydiau unig o bleser;
Gwell yw ymddiried yn Nuw, na dweyd—Y mae genyf dda lawer!
Gwell na gwybod pob peth, bod yn ddoeth ryw fymryn;
Gwell na chynyg at orchest ddigymhar, yw dysgu plentyn.
Gwell eistedd wrth draed yr athraw, na synu y wlad a'r senedd;
Gwell ofni dy fod yn falch, na bod yn rhy sicr o'th fawredd.
Gwell trem ar fro anweledig, na gwylio helynt y funyd;
Gwell y "Da was" ar y diwedd, na thwrf dy glod drwy yr hollfyd.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
b7j967f5kfw7q59vp0d4omhjq9suyz2
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/85
104
86795
167746
2026-07-23T16:12:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167746
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Gwell na mwynder diflanol yw'r gofid sy'n fud ac yn llonydd;
Gwell na disgleirdeb y nawn yw'r llwydnos o flaen y wawrddydd.
Gwell na phob uchel ach, yw gorphen ein gwaith cyn ein claddu;
Gwell na brenin y ddaear, yw plentyn yn Nhŷ yr Iesu.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
dhg24kgms5qee8kr6mb6rczzckbejw4
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/86
104
86796
167747
2026-07-23T18:39:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167747
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c{{mawr|RHAGORFRAINT Y GWEITHIWR.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
NID cardod i ddyn—ond gwaith!
:Mae dyn yn rhy fawr i gardod:
Mae cardod yn gadael craith,
:Mae y graith yn magu nychdod.
I'n weithiwr y cerddodd dyn
:Drwy Eden y boreu cyntaf;
A gadael ei waith ei hun
:Fu erioed ei golled drymaf.
Y mae Gelyn di-waith ar daith,
:I demtio a thwyllo'r gweithiwr:
Ond cryfach yw adnod o waith
:Na haner adnodau y Temtiwr.
Gweithwyr yw engyl y nen—
:Gweithiant mewn gwisgoedd gwynion;
A chadwant y wisg yn wen
:Wrth gadw yn bur o galon.
Disgleiria yr heuliau fyrdd,
:Gan weithio yn ngwaith y canrifoedd
Y ser sydd yn gadael eu ffyrdd,
:Sydd yn diffodd ar hyd y nefoedd.
Y Gŵr fu'n tawelu y Llyn,
:Yntau yn weithiwr a anwyd;
A Gweithiwr ar Galfari fryn
:Dd'wedodd wrth farw—Gorphenwyd!"
Gweithiwr a gododd o'r bedd,
:Cyn i Angau gyffwrdd â'i wyneb:
Gweithiwr ddyrchafwyd i'w sedd,
:Fel yn nghanol tragwyddoldeb.
A ninau, frodyr i gyd,
:I waith ein ganwyd, ein galwyd:
I weithwyr y codwyd y byd,
:I weithwyr y nef a agorwyd.
</poem>

<noinclude><references/>
{{Div end}}</noinclude>
j3afrzr3mbi19m879bw1q1iistie8vm
167748
167747
2026-07-23T18:40:04Z
AlwynapHuw
1710
167748
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGORFRAINT Y GWEITHIWR.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
NID cardod i ddyn—ond gwaith!
:Mae dyn yn rhy fawr i gardod:
Mae cardod yn gadael craith,
:Mae y graith yn magu nychdod.
I'n weithiwr y cerddodd dyn
:Drwy Eden y boreu cyntaf;
A gadael ei waith ei hun
:Fu erioed ei golled drymaf.
Y mae Gelyn di-waith ar daith,
:I demtio a thwyllo'r gweithiwr:
Ond cryfach yw adnod o waith
:Na haner adnodau y Temtiwr.
Gweithwyr yw engyl y nen—
:Gweithiant mewn gwisgoedd gwynion;
A chadwant y wisg yn wen
:Wrth gadw yn bur o galon.
Disgleiria yr heuliau fyrdd,
:Gan weithio yn ngwaith y canrifoedd
Y ser sydd yn gadael eu ffyrdd,
:Sydd yn diffodd ar hyd y nefoedd.
Y Gŵr fu'n tawelu y Llyn,
:Yntau yn weithiwr a anwyd;
A Gweithiwr ar Galfari fryn
:Dd'wedodd wrth farw—Gorphenwyd!"
Gweithiwr a gododd o'r bedd,
:Cyn i Angau gyffwrdd â'i wyneb:
Gweithiwr ddyrchafwyd i'w sedd,
:Fel yn nghanol tragwyddoldeb.
A ninau, frodyr i gyd,
:I waith ein ganwyd, ein galwyd:
I weithwyr y codwyd y byd,
:I weithwyr y nef a agorwyd.
</poem>

<noinclude><references/>
{{Div end}}</noinclude>
9tux32bpjmgch3cgpcqw3xkrgjg9zyg
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/87
104
86797
167749
2026-07-23T18:41:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167749
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ni chododd Doethineb ei hun
:Un blaned ar gyfer segurwyr:
Gwaith ydyw gwaddol pob dyn,
:A gwaith yw anrhydedd gweithiwr.
Segurwyr tomenau y byd,
:Segurwyr y meinciau arian—
Mae Sinai'n eu herbyn i gyd,
:Ac mae yno fellt gyda'r daran!
Mae'r ddaear yn tyfu yn ddrain
:Dan droed segurwr yn mhobman;
Ac ni chaiff, wrth ddilyn Cain,
:Ond byd dan ei droed yn frwmstan.
Gweithwyr, fy mrodyr, ŷm ni,
:Ac offer gwaith yw ein harfau;
Gweithwyr sy'n hollti y lli,
:Gweithwyr sy'n dyrnu'r mynyddau:
Gweithwyr, â phin ac â rhaw,
:Gweithwyr, â phen ac â dwylo:
Gweithwyr, mewn oerni a gwlaw,
:Gweithwyr, heb amser i flino:
Gweithwyr, a phwyntil a gordd,
:Gweithwyr, ar bapyr a meini:
Rhaid i weithwyr balmantu'r ffordd
:I weithwyr i gerdded drosti.
Gweithwyr sy'n siarad â'r ser,
:Gweithwyr sy'n agor ffynonau;
A gweithwyr a'u llygaid at Ner,
:Sy'n harddu y byd â themlau.
Mae'r gweithiwr a'i fys ar y mellt,
:A'i glust wrth ddrws cyfandir;
Os nad yw ei gnawd ond gwellt,
:Y nefoedd gan hwn a dreisir!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
fhtfjwsf7v3kob55muz5akgd5sfijxt
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/88
104
86798
167750
2026-07-23T18:42:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167750
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Dos di i'r chwarel, fy mrawd,
:Gwna'n fawr o dy dymhor gweithio:
Os yw'th wisg a'th damaid yn dlawd,
:Drwy hyny cei lai o'th demtio.
Dilyn di'r aradr, fy mrawd,
:A'r gwynrew yn cnoi dy fysedd:
Llawer cynhauaf a gawd,
:A'r hauwr mewn gro yn gorwedd.
I enau y ffwrn, fy mrawd,
:Dos dithau i'th waith cynefin:
Gwell i'r gwres gael ysu dy gnawd,
:Na bod rhwd ar flaen dy ewin.
Cana dy gân, fy mrawd;
:Cana—a doed a ddelo:
Bu Milton unwaith yn dlawd,
:A Pharadwys dan ei ddwylo.
Ac arnat tithau fy chwaer,
:"Dydd arall" sy wedi gwawrio
Pwy a ŵyr nad ei, fel Mair,
:Ar neges yr angel eto?
Cei fwy o'r byd dan dy law,
:A chei odfa well i'th dafod:
Cadw dy hun yn ddifraw:
:Gweithia: fe ddaeth dy ddiwrnod.
Rhoddwch i'r gweithiwr ei le,
:Ni cheisia ond lle i weithio;
Mae hyny ar lyfrau y ne'
:Yn hawl ddigyfnewid iddo.
Rhowch iddo ei dŷ a'i fwyd,
:Rhowch iddo ei offer gweithio;
Ac efallai gareg lwyd,
:I ddangos y fan mae yn huno.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
8poznnxrznb456try8c84sy3f36bljz
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/89
104
86799
167751
2026-07-23T18:42:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167751
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ond iddo gael hyn o hawl,
:Fe weithia hyd at y nefoedd:
A thrŷ ei lafur yn fawl,
:Ar wefus bell y canrifoedd.
I'r gweithiwr mae'r byd i fod,
:I'r gweithiwr y daw'n ei gylchdro:
A gwell nag arian a chlod,
:I'r gweithiwr, fydd cyfle i weithio.
Ië'n ei waith bydd ei fraint,
:A'i waith a fydd iddo yn hawddfyd;
Bydd gweithwyr y byd yn saint,
:A'u gwaith yn cyfanu deufyd.
Bydd Gweithiwr hoeliedig y Groes,
:Yn gweled o lafur Ei enaid;
A gweithwyr pob gwlad a phob oes,
:O i flaen yn addolwyr bendigaid.
Addolwr yw'r gweithiwr i fod,
:Addoli fydd gwaith tragwyddoldeb: —
Fy mrodyr, mae diwrnod i dd'od
:Bydd gweithwyr y bydoedd mewn undeb!
Mewn undeb â'r Duwdod ei hun,
:Heb ludded, na dim i'w blino:
Y wisg fydd yn wyn am bob un,
:A'r gwaith fydd yn Sabbath yno.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
3ykxez9fw3bee60bnq5xz8g4l44yjk1
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/90
104
86800
167752
2026-07-23T18:52:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167752
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DEUOEDD.}}}}
{{c|{{mawr|Gauaf a Chynhauaf.}}}}
{{center block|
<poem>
Y LLWYBRAU oer lle bu'r eira—welaf
::Yn argoeli bara;
:Ar ddefodol heol iâ
:Ymofynir am fanna.
</poem>

{{c|{{mawr|Poen a Phrydferthwch.}}}}
{{center block|
<poem>
Dan ei ofid, y nefol—ddaw yn hardd,
::Yn nhir y daearol;
:Yn y byd cheir dim, heb ôl
:Dyoddef, yn brydweddol.
</poem>

{{c|{{mawr|Ffydd a'r Niwl.}}}}
{{center block|
<poem>
Ei llaw wen dry'n ol y lleni—guddiant
::Dragwyddol ffenestri:
:I'r niwl diwawr, 'nol daw hi
:A hanes cartref ini.
</poem>

{{c|{{mawr|Y Nos a'i Bendith.}}}}
{{center block|
<poem>
O! nac ofned neb y cyfnos—tawel,
::Ar fyd Duw sy'n aros:
:Duw'n Iôr wna, trwy lwydni'r nos,
:I wedd engyl ymddangos.
</poem>

{{c|{{mawr|Dau fath o Gynghor.}}}}
{{center block|
<poem>
Daw rhyw gynghor drwg, anghall, —â'i weniaith
::I ddifwyno'r deall;
:Ond trysor yw cynghor call,
:Ddaw yn aur i ddyn arall
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
2xurqwchtg6psa7acjprxe2u80puvg8
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/91
104
86801
167753
2026-07-23T18:58:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167753
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y TAIR RHODD.}}
(Chwedl Arabaidd.)}}
{{Center block/s}}
<poem>
O! GWRANDO di, sy'n dda dy fyd,
:Pan godo'r tlawd ei lef;—
Mae torf ohonynt ar y ffordd
:I orseddfeinciau'r nef.
Ystyria hyn o ddameg, ddaeth
:O fröydd Arabi;
A chymer fendith yn dy law
:Lle bynag cerddi di.
'Roedd gwraig a chanddi fwy na mwy
:O bethau da y byd;
A chalon dyner dan ei bron,
:Yn well na'r aur i gyd.
Cwpanaid roddodd o ddw'r oer
:I ryw bererin blin;
A'r ffordd o roddi hyny, wnaeth
:Y dw'r yn well na gwin.
Rhyw hen, newynllyd, gafodd ran
:O fara gwyna'r tŷ:
Aeth hwn i'w ffordd gan ddweyd—Mae Duw
:Heb farw eto fry!
Un arall wisgodd hi yn glyd,
:Yn nghanol tywydd oer;
Ac fe siriolodd calon hwn,
:Fel tòn yn ngoleu'r lloer.
Ond iddi hithau newid ddaeth—
:I hon, yn anad un!—
A'r llaw fu'n hau goleuni i bawb,
:A aeth heb ddim ei hun.
O'i chartref gyrwyd hi yn mhell
:I'r anial diffaeth du:
A'i drygfyd oedd yn gymaint gwaeth,
:Wrth gofio'r hyn a fu.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
0e1t79xkuk0dliu89bpzvu4fp3q6ktn
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/92
104
86802
167754
2026-07-23T18:58:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167754
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Hi wylodd lawer drosti ei hun,
:Ond dros ei phlentyn, fwy;
Ac nid oedd llygad yn y byd
:I wel'd eu dagrau hwy.
Trwy dywydd garw cerddai hi,
:Bob dydd o ddrwg i waeth:
Ond wele! ar y dduaf awr,
:Tri Disglaer ati ddaeth.
Hi fynai guddio rhagddynt hwy
:Ei thlodi mawr a'i chur;
Ond nid oedd eisiau cuddio dim
:Rhag llygaid oedd mor bur.
Eu dwylaw, fel trugaredd Duw,
:Oedd iddi hi yn llawn;
Ac wylodd, wedi'r wylo i gyd,
:Fel cawod haf brydnawn!
'Dy gymwynasau ydym ni,'
:Meddent, wrth wel'd ei briw:
'Buom yn myd yr engyl gwyn,
:A gwelsom wyneb Duw.'
Y dwr, a'r wisg, a'r bara oedd
O'i blaen, —a gwenau'r Tri
:Po bellaf cerddo gweithred dda,
:Mwyaf fydd ganddi hi.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
977ipnva1t5mxzmj3m1icksr3mykhgx
167755
167754
2026-07-23T19:29:39Z
AlwynapHuw
1710
167755
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Hi wylodd lawer drosti ei hun,
:Ond dros ei phlentyn, fwy;
Ac nid oedd llygad yn y byd
:I wel'd eu dagrau hwy.
Trwy dywydd garw cerddai hi,
:Bob dydd o ddrwg i waeth:
Ond wele! ar y dduaf awr,
:Tri Disglaer ati ddaeth.
Hi fynai guddio rhagddynt hwy
:Ei thlodi mawr a'i chur;
Ond nid oedd eisiau cuddio dim
:Rhag llygaid oedd mor bur.
Eu dwylaw, fel trugaredd Duw,
:Oedd iddi hi yn llawn;
Ac wylodd, wedi'r wylo i gyd,
:Fel cawod haf brydnawn!
'Dy gymwynasau ydym ni,'
:Meddent, wrth wel'd ei briw:
'Buom yn myd yr engyl gwyn,
:A gwelsom wyneb Duw.'
Y dwr, a'r wisg, a'r bara oedd
:O'i blaen,—a gwenau'r Tri
Po bellaf cerddo gweithred dda,
:Mwyaf fydd ganddi hi.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
mru684ix2mbflivsesenqd7iwu0yqig
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/93
104
86803
167756
2026-07-23T19:33:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167756
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DEWINIAETH OLWEN.}}}}
{{center block|
<poem>
COCHACH oedd ei deurudd na'r ffuon cochaf.
::Pedair meillionen gwynion a fyddai yn ei hol
::pa ffordd bynag y delai. —Culhwch ac Olwen.
</poem>

{{center block|
<poem>
Yn y gwanwyn, ryw ben borau,
:Hei dere ding ding dere di,
Olwen alwodd heibio'r blodau,
:Hei dere ding ding dere di:
Gwelodd rosyn ieuanc nwyfus
Liw ei deurudd a'i dwy wefus;
Byth er hyny ceisia yntau
Wrido yr un fèl a hithau:
:Hei dere ding ding dere di.
Cododd Olwen, ryw nos lawen,
:Hei dere ding ding dere di,
Ei dau lygad glas i'r wybren,
:Hei dere ding ding dere di:
Byth er hyny, fynu yno
Llygaid Olwen sy'n disgleirio;
Heb yn wybod, wrth dywynu,
Maent yn dysgu'r byd i garu:
:Hei dere ding ding dere di.
Cerddodd Olwen drwy y dyffryn,
:Hei dere ding ding dere di,
Heb ysigo glesni'r gwanwyn,
:Hei dere ding ding dere di;
Ar ei hol fe darddodd meillion
Yn ddihalog lwybrau gwynion:—
Ac o fewn fy nghalon inau
Olwen fu yn codi blodau:
:Hei dere ding ding dere di.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
t9n0ov2rwh1bc5o0jz045cz5gkq8qjr
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/94
104
86804
167757
2026-07-23T19:39:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167757
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DAU DDEWIS.}}}}
{{center block|
<poem>
FYNI di y maesdir llydan diymylau
Yn ymdòni megys môr o esmwyth erwau?
Lle na welir ond pellderau mud, didalar,
A'r gorwelion glaswyn fel yn myn'd â'r ddaear?
Lle mae godre gwisg ddidwrf yr Annherfynol
Yn awgrymu mor ddidymhestl yw'r tragwyddol;
Ac yn tynu'r meddwl aiddgar, gwan, o gam i gam,
Megys plentyn, wedi blino, 'n llusgo wrth wisg ei fam.
Fŷni di'r llydandra gwastad diymylau,
Sydd yn ffinio â'r anhygyrch eangderau?
::::Gâd i minau'r cwm
::::Rhwng y llethrau llwm;
::::Er mor llwyd ei wedd,
::::Mae'n lletya hedd:
::::Os yw'n gul, mae'n glyd:
::::Os yw'n fach, mae'n fyd!

::::Digon prin i ddau,
::::Rhwng y llwyni cnau,
:::Yw y llwybrau geirwon
:::Gyda glàn yr afon:
:::Ond gall ienctyd hoffus
:::Wneud y rhwystrau'n felus.

::::Ni cheir yn y nos
::::Nemawr seren dlos
::::Wêl i giliau'r cwm
::::Dan y llethrau llwm,
:::Ond mae bendith rasol
:::Yn y prinder nefol:
:::Gwell cael un, a'i hoffi,
:::Na chael mil, heb sylwi.

::::Gâd i mi fy nghwm
::::Cul, a chlyd, a llwm:
Fe gei dithau y gwastadedd diymylau;
A chei'th ddewis genyf fi o'r eangderau!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
kmgo4dlp8qo0y06ex76m0csv0m3i8wi
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/95
104
86805
167758
2026-07-23T20:54:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167758
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|BLODEUYN YW'R BYD.}}
Die Welt ist eine Blume.—HEGEL}}
{{Center block/s}}
<poem>
UN Meddwl sydd,
A fu, a fydd:
Heb wawr iddo,
Na hwyrnos arno:
Un Meddwl sydd;
A'i oes yn Ddydd,
Anfarwol Ddydd.
Trwy droion maith
Ei gydnerth waith,
Grym un amcan
Reola'r cyfan.
Lliwiau a ffurfiau—
Greddfau a deddfau—
Pelydryn ac awel—
Dyn ac angel—
Cynydd, dadfeiliad—
Bedd, adgyfodiad:—
Mae cyrch y cyfan
At un amcan;
Un Meddwl sydd,
Tragwyddol rydd.
Nid yw y Byd
Cyfan i gyd,
Ond fel blodeuyn,
A'i dŵf heb derfyn,
O bridd ei ddyfnaf sail
Hyd fflam y pellaf haul.
Un yw yr hedyn
A'r undod yn dilyn
I fynu drwy'r cyfan,
Gan agor yn llydan
Ar bob llaw, yn mhob llun;
Ond o hyd yn un:
Yma'n feillionen,
Acw yn seren;
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
l95wu0toqja5qscapv214l50ouv1xln
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/96
104
86806
167759
2026-07-23T20:56:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167759
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Yn dòn aflonydd,
Neu'n graig dragywydd;
Yn bluen eira,
Neu'n sail y Wyddfa:
Ar bob lle, yn mhob llun,
O hyd yn un.
Mae'r haul yn arddel
Y gwlithyn isel;
A'r dòn yn cerdded,
Wrth fesur planed:
Mae bywyd aderyn
Yn agos i'r plentyn:
Mae deddf
A greddf
Yn ateb i'w gilydd,
Yn odli'n dragywydd:
Un yw yr oll,
Heb gainc ar goll.
Deilen a grina,
Seren a flina:
Daw deilen a seren
I'w lle'n ddiamgen;
Heibio'r dadfeilio
Mae ffordd yr ad-ddeilio:
Dan eira'r gauaf
Mae aur y cynhauaf:
Yn y bedd y mae cryd,
Yn y tân y mae byd.
Crined y ddeilen,
Blined y seren,
Mae'r Blodeuyn ei hun
Yn aros yr un.
Nid yw blynyddoedd
Hirfaith ganrifoedd,
Ond fel un gwanwyn
I godi un blod'yn.
Neges pob deddf,
A swydd pob greddf,
Yw cadw yn fyw
Flodeuyn Duw.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
czjnjhmdb78j5zpf7xnwwpde58cycaw
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/97
104
86807
167760
2026-07-23T20:57:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167760
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Duw y Blodeuyn,
Biau'r daeargryn:
Efe wnaeth adenydd
I'r holl ystormydd:
Nid oes yn y nen
Un cwmwl dros ben;
Na chorwynt afradlon
Ar lêd yr eigion:
Rhuthra'r comedau
Mewn dwyfol sandalau:—
Gwnant eu gwaith i gyd
Ar Flodeuyn y Byd.
Dwyfol anadliad
Groesa y cread,
O haul i haul,
Fel awel rhwng dail:
Dyhidla ireidd—der
Ar hyd yr eangder;
Anfarwola gynydd
Wrth droi'r hen yn newydd;
Ac nid yw'r newydd
Ond yr hen ddihenydd:'
I Dduw ei hun,
Mae pob oes yn un:
Ei Feddwl Ei hunan
Flodeua drwy'r cyfan—
A Hwnw ni syrth!
Beth yw y wyrth,
Ond dalen wyrddlasach,
O gariad yn llawnach?—
Cysgod Duw yn fwy hardd
Ar fywyd yr ardd!
Mae gwreiddyn y Groes,
Tuhwnt i bob oes,
Yn nhir y Tragwyddol, —
A'i dail yn anfarwol.
Blodeuodd Calfaria
Yn haf y Wynfa:
Rhaid i'r Oen
Weled poen
Er cyn seiliad y byd,
Er mwyn marw mewn pryd!

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
e1tvjxmm432xcchboa08h6uw9kuyj1j
167761
167760
2026-07-23T20:57:55Z
AlwynapHuw
1710
167761
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Duw y Blodeuyn,
Biau'r daeargryn:
Efe wnaeth adenydd
I'r holl ystormydd:
Nid oes yn y nen
Un cwmwl dros ben;
Na chorwynt afradlon
Ar lêd yr eigion:
Rhuthra'r comedau
Mewn dwyfol sandalau:—
Gwnant eu gwaith i gyd
Ar Flodeuyn y Byd.
Dwyfol anadliad
Groesa y cread,
O haul i haul,
Fel awel rhwng dail:
Dyhidla ireidd—der
Ar hyd yr eangder;
Anfarwola gynydd
Wrth droi'r hen yn newydd;
Ac nid yw'r newydd
Ond yr hen ddihenydd:'
I Dduw ei hun,
Mae pob oes yn un:
Ei Feddwl Ei hunan
Flodeua drwy'r cyfan—
A Hwnw ni syrth!
Beth yw y wyrth,
Ond dalen wyrddlasach,
O gariad yn llawnach?—
Cysgod Duw yn fwy hardd
Ar fywyd yr ardd!
Mae gwreiddyn y Groes,
Tuhwnt i bob oes,
Yn nhir y Tragwyddol, —
A'i dail yn anfarwol.
Blodeuodd Calfaria
Yn haf y Wynfa:
Rhaid i'r Oen
Weled poen
Er cyn seiliad y byd,
Er mwyn marw mewn pryd!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
2osb93d55nfohb1xmbs1kxe1o54h4ly
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/98
104
86808
167762
2026-07-23T20:58:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167762
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
A minau, ddyn,
Yn fy hawl fy hun,
Gâf le'n y Blodeuyn
Sy' â'i dŵf heb derfyn:
A thrwy ryfedd ras,
Câf ddalen lâs,
Dan y gwlith,
Yn mhlith
Angylion y wawr,
Ryw hafaidd awr.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
ko42pjv4x518wubk484wkyckxs40afc
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/99
104
86809
167763
2026-07-23T21:37:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167763
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y DRWS CAUEDIG.}}
(MABINOGI Branwen Ferch Llyr.)}}
{{center block|
<poem>
"LLE teg brenhinaidd uwch ben y weilgi," yn
Ngwalas: a'r Seithwyr yno ar ben y pedwar
ugain mlynedd gwledda.]
</poem>

{{Center block/s}}
<poem>
'''MANAWYDDAN''' (wrth y bwrdd):
GWELL yw cwmni'r delyn dirion,
::Hob y derri dando,
Na phicellau'r gelyn creulon,
::Doed hi fel y delo:
Gwell yw aros uwchben digon,
::Boed hi fel y bo,
Nac aredig caeau oerion,
::Boed fel bo.
'''(Y SAITH):'''
::Doed hi fel y delo,
::Hob y derri dando.
Gwell yw gwrando'r dòn yn sisial,
::Hob y derri dando,
Na direidi merch anwadal,
::Ddydd a nos i'n blino:
Gwell yw caru'r holl rianod,
::Blodau bryn a bro,
Na chael un, a siarad gormod,
::Cyn daw co!
'''(Y SAITH):'''
::Doed hi fel y delo,
::Hob y derri dando.
'''HEILYN''' (wrtho ei hun, yn fyfyriol):
Mae deuddrws yn agor,
:A'r trydydd yn nghau:
Pa eisiau gwel'd rhagor
:Na welir trwy'r ddau?
Gwell gadael y trydydd.
:Yn ddyogel dan glo,
Tra pery yr haf—ddydd, —
::A boed fel y bo..
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
qo571ztmt7j1rpoyr5l0mmc9jna96cj
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/100
104
86810
167764
2026-07-23T21:40:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> '''(Y LLEILL):''' ::Doed hi fel y delo, ::Hob y derri dando. {{bwlch|7em}}ii. '''YNAWG:''' Gwell yw peidio gwybod llawer, Na byrhau tymhorau mwynder: Fe all dyn wrth holi gormod, Agor llygaid ei gydwybod. '''(Y SAITH):''' Mwyn yw medd, a haf a'i hedd, Mwyn yw medd, a haf a'i hedd; ::Hela gwan yw hela gofid, Tra cawn londid yn y wledd. Gwell i heddyw fyn'd dan ganu, Na gofidio erbyn 'foru; Gwell na wylo dagrau tr...
167764
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'''(Y LLEILL):'''
::Doed hi fel y delo,
::Hob y derri dando.
{{bwlch|7em}}ii.
'''YNAWG:'''
Gwell yw peidio gwybod llawer,
Na byrhau tymhorau mwynder:
Fe all dyn wrth holi gormod,
Agor llygaid ei gydwybod.
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd;
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Gwell i heddyw fyn'd dan ganu,
Na gofidio erbyn 'foru;
Gwell na wylo dagrau tranoeth,
Chwerthin dipyn bach yn annoeth.
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Pwy a falia agor drysau,
Tra bo digon ar y byrddau?
Pwy a edy hen lawenydd
I fyn'd i chwilio galar newydd?
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
'''HEILYN''' (fel o'r blaen):
Pa'm mae deuddrws yn agored,
:Tra mae'r trydydd eto'n nghau?
Beth anwylach gawn ni weled,
:'Nol gwel'd cymaint trwy y ddau?
Agor—peidio? peidio—agor?
:P'un o'r ddau?—(ah! mwyn yw'r medd!)
Onid gwell yw ceisio rhagor
::Na chael llondid yn y wledd?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
5glvr8m67u9dp8yewy23odiyrikxed6
167765
167764
2026-07-23T21:40:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167765
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'''(Y LLEILL):'''
::Doed hi fel y delo,
::Hob y derri dando.
{{bwlch|7em}}ii.
'''YNAWG:'''
Gwell yw peidio gwybod llawer,
Na byrhau tymhorau mwynder:
Fe all dyn wrth holi gormod,
Agor llygaid ei gydwybod.
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd;
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Gwell i heddyw fyn'd dan ganu,
Na gofidio erbyn 'foru;
Gwell na wylo dagrau tranoeth,
Chwerthin dipyn bach yn annoeth.
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Pwy a falia agor drysau,
Tra bo digon ar y byrddau?
Pwy a edy hen lawenydd
I fyn'd i chwilio galar newydd?
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
'''HEILYN''' (fel o'r blaen):
Pa'm mae deuddrws yn agored,
:Tra mae'r trydydd eto'n nghau?
Beth anwylach gawn ni weled,
:'Nol gwel'd cymaint trwy y ddau?
Agor—peidio? peidio—agor?
:P'un o'r ddau?—(ah! mwyn yw'r medd!)
Onid gwell yw ceisio rhagor
::Na chael llondid yn y wledd?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ey1ia0mxqh7gd1oc6j19rzk1rxny5fg
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/101
104
86811
167766
2026-07-23T21:41:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167766
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'''(Y SAITH):'''
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
::Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
{{bwlch|7em}}iii.
'''PRYDERI''' (yn gorphwys dan flodau'r ardd):
Dan wybren o rosynau,
Breuddwydiwn am y gorau,
Heb unrhyw gyfrif oriau,
::Ger y dòn:
Mae cwmwl gwyn sidanaidd
Yn nofio'r lasnen hafaidd,
A'r awel yn nefolaidd,
::Ger y dòn.
Pwy fynai long benchwiban,
I fyn'd yn haerllug allan,
A themtio'r storm sy'n hepian
::Ar y dòn?
Mae'n bywyd heb un cyffro,
Yn loew araf lifo;
Yn myn'd—ac heb fyn'd heibio,
::Ger y dòn.
'''(Y LLEILL):'''
:::Mwyn yw medd,
:Hob y derri dando,
:::A haf a'i hedd,
:Doed hi fel y delo.
'''HEILYN''' (o flaen y drws cauedig):
Unwaith mae dyn yn cael diwrnod i weithio:
Unwaith am byth —doed hi fel delo!
Ehêd ei funydau, prysura ei oriau,
Ac wrth sugno eu mêl fe wywa ei flodau.
'''(Y LLEILL):'''
::Doed hi fel y delo,
::Hob y derri dando.
Dan ei law bob munyd mae rhyw gyfleusdra;
Ac yntau yn twyllo ei hun i segura:
Mae drws heb ei agor o hyd yn ei ymyl,
A'r clo yn ei rwystro i ddilyn yr engyl.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
cvit1ugrolkz9wcyjb6huj6ufh8m601
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/102
104
86812
167767
2026-07-23T21:51:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167767
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'''(Y LLEILL):'''
Doed hi fel—
Gwrandewch, fy mrodyr! Doed hi fel delo,
Rhaid agor y drws. A Duw a'n cadwo!
'''(Y LLEILL):'''
''Agor'' y drws?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5}}Mae yr allwedd ynddo.
Clywch dyna dro: mae'r drws yn ddatglo.
'''(Y LLEILL):'''
{{bwlch|5}Yn ddatglo?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5}Yn ddatglo. Ei agor sy nesa.
'''(Y LLEILL):'''
{{bwlch|5}Agor y drws?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5}Ei AGOR—fel yma.
{{bwlch|7}iv.
'''MANAWYDDAN:'''
O fy nolur! O! fy ngalar!
:O ofidiau haint a chledd!
Nid oes blod'yn ar y ddaear
:Nad yw'n agor ar ryw fedd:
Do, collasom Brån Fendigaid,
:A chollasom eto fwy—
Blagur ienctyd aeth o'r enaid,
:A'n gobeithion, b'le maent hwy?
'''PRYDERI:'''
Wele'r wybren o rosynau
:Wedi duo uwch fy mhen;
A dychwela hen gymylau
:Annghofiaswn, 'nol i'r nen!
Rhaid yw codi hwyliau eto,
:A gwynebu dig y dòn:
Ffarwel, flwyddi tirion Penfro!
:Gauaf yw hi dan fy mron.
'''YNAWG:'''
Byw yn gul yw byw heb wybod;
:Holi ddaw a dyn yn rhydd:
Mwynach fyddai esgeulusdod,
:Pe bai'n dala goleu'r dydd!
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
3625yi85yytonmhb1uu04m8dw1j01x0
167768
167767
2026-07-23T21:52:47Z
AlwynapHuw
1710
167768
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'''(Y LLEILL):'''
Doed hi fel—
Gwrandewch, fy mrodyr! Doed hi fel delo,
Rhaid agor y drws. A Duw a'n cadwo!
'''(Y LLEILL):'''
''Agor'' y drws?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5em}}Mae yr allwedd ynddo.
Clywch dyna dro: mae'r drws yn ddatglo.
'''(Y LLEILL):'''
{{bwlch|5em}}Yn ddatglo?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5em}}Yn ddatglo. Ei agor sy nesa.
'''(Y LLEILL):'''
{{bwlch|5em}}Agor y drws?
'''HEILYN:'''
{{bwlch|5em}}Ei AGOR—fel yma.
{{bwlch|7em}}iv.
'''MANAWYDDAN:'''
O fy nolur! O! fy ngalar!
:O ofidiau haint a chledd!
Nid oes blod'yn ar y ddaear
:Nad yw'n agor ar ryw fedd:
Do, collasom Brån Fendigaid,
:A chollasom eto fwy—
Blagur ienctyd aeth o'r enaid,
:A'n gobeithion, b'le maent hwy?
'''PRYDERI:'''
Wele'r wybren o rosynau
:Wedi duo uwch fy mhen;
A dychwela hen gymylau
:Annghofiaswn, 'nol i'r nen!
Rhaid yw codi hwyliau eto,
:A gwynebu dig y dòn:
Ffarwel, flwyddi tirion Penfro!
:Gauaf yw hi dan fy mron.
'''YNAWG:'''
Byw yn gul yw byw heb wybod;
:Holi ddaw a dyn yn rhydd:
Mwynach fyddai esgeulusdod,
:Pe bai'n dala goleu'r dydd!
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
e4m29d6cq4628yaj8hday8s8vp988qs
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/103
104
86813
167769
2026-07-23T22:02:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167769
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Y mae'r funyd ddaw o'r diwedd,
:Ddaw, er gwaethaf dawn a nerth,
Yn gwneud pedwar ugain mlynedd
:O ysmaldod yn ddiwerth!
'''(Y LLEILL):'''
Daw cystuddiau y blynyddoedd,
:::I'n cyfarfod,
:::Bob yr un:
A mwynderau'r melus wleddoedd
:::Wedi darfod―
:::Bob yr un!
'''HEILYN:'''
Dewch, fy mrodyr, dros y tônau,
Awn yn gynar gyda'r borau,
Draw mae glenydd Cernyw'n olau—
::Dyma'r dydd, a'r awr!
Awn o fyd yr hen ofidiau,
A seguryd hen fwynderau—
Hawl y dewr yw agor dorau,
:::A gwynebu'r wawr.
:Ni ddaw un boreuddydd
:Heb gyfleusdra newydd:
Cauad yw drysau Duw,
:I'r byw eu hagor beunydd!
Fe aeth blynyddau euraidd heibio,
Ond mae'r haul yn aros eto,
I roi golau i ni deithio—
:Trown i'r daith yn awr!
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
j72tk3a8ycsa4tqvuxtrg5lxo85uoip
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/104
104
86814
167770
2026-07-23T22:17:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167770
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ENGLYNION.}}}}
{{c|{{mawr|Addewid Felus.}}}}
{{center block|
<poem>
WELE Ebrill a'i lwybrau yn gwynu
::Gan brophwydoliaethau;
:A daw'r nef i gadarnhau
:Y sôn sy am rosynau.
</poem>

{{c|{{mawr|I Dduw'r sêr, nid ofer dim.}}}}
{{center block|
<poem>
Ni thyfodd bodolaeth ofer,—erioed,
::Ar draeth anfeidrolder:
:Dros bethau gwan, amcan Ner
:Daena'n drugaredd dyner.
</poem>

{{c|{{mawr|Bydolrwydd.}}}}
{{center block|
<poem>
I naturiaeth faterol,—gwael ydyw
::Goludoedd ysprydol:
:ä i ddrws y bedd, ar ol
::Duwiau aur y daearol.
</poem>

{{c|{{mawr|I ba le?}}}}
{{center block|
<poem>
Yr haul-fydoedd ar loywaf edyn—a änt,
::Yn fintau walltfelyn:
:A welant hwy, i'w ddilyn,
:Oleu gwell rhyw angel gwyn?
</poem>

{{c|{{mawr|Gobaith dibrofiad}}}}
{{center block|
<poem>
Boreu oes—O! mor brysur—y gwibia
::Gobaith ar ei antur:
:Canai lai pe gwelai gur
:Y blodau, dan y bladur.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
5o1umy6ys8v29tnue86ze7pq1a8dmlp
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/105
104
86815
167771
2026-07-23T22:19:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167771
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|LLYN Y MORWYNION:}}
RHIANGERDD.
(Buddugol yn Eisteddfod Gwrecsam, 1888).}}
{{Center block/s}}
<poem>
ANFARWOL Serch, ddolurus Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch;—
Gwyn yw y llwybrau o dan dy draed,
A'th wefus felus mor goch a'r gwaed:
Pan êi i freuddwydio yn nwfn y nos,
Llawn yw dy lygaid o'r wawrddydd dlos.
Dy gerbyd a blethodd y Tylwyth Teg
O ddail rhosynau Mehefin chweg:
A dwy golomen a'th dynant di,
Mor wyn a'r ewyn ar fron y lli';
A'u hedyn arian mor esmwyth-hardd
Ag odlau hwyr-fyfyrion y bardd.
O! ddolur Serch, O! wynfyd Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch!
Paham yr êi di, flodeuog wedd,
I dramwy ar lwybrau di-lais y bedd?
Paham daw'th gerbyd, fel galar y bardd,
I'r lle mae'r gauaf yn crino'r ardd?
A pha'm daw y ddwy golomen wen
I drydar yn glwyfus ar ddeil-noeth bren—
Ar geubren noeth yn y dymhestl erch,
A thithau yn wylo, anfarwol Serch?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ewe71a86hneasdcm4q38tgfo6xep5bp
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/106
104
86816
167772
2026-07-23T22:27:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167772
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch!
{{***|4|4em}}
Canai Gwenddolen yn Nyffryn Clwyd,
Yn y gwanwyn gwyrdd a'r hydref llwyd:
Canai pan ganai y gwew'n y llwyn,
Canai pan wynai yr eira bob twyn:
O dan bob lloer, ac o dan bob nen,
Canu oedd yn ei chalon wen.
Ond ambell waith ar ganol y gân
Collai ei hunan mewn breuddwyd yn lân.
Deunaw o flwyddi oedd ar ei phen,
A'i lliw fel blodau afalau ar bren.
O dan ei bron yr oedd breuddwyd gwyn,
Yn wynach na'r lili yn nyfroedd y llyn:
Yn harddach na hardd-liw y mwswgl-rôs,
Yn loywach na'r lloer ar y dòn yn y nos !
{{***|4|4em}}
Mae'n gweled ei hunan yn blentyn iach,
(A deg o hafau'n ei bywyd bach :)
Mae'n chwareu ar haf-ddydd yn min y llyn,
A'r haul yn blodeuo ochrau y bryn:
Mae ganddi gydymaith-dyna'r hynt !
Cyfrinach Adda ac Efa gynt!
Y bachgen deuddeg, a'r feinwen ddeg;
Chwareuant dan fendith yr heulwen deg;
Y bachgen deuddeg mor llon a'r haul,
A hithau fel awel mis Mai yn y dail.
Chwareu mae'r tònau ar hyd y traeth,
A briwsion yr ewyn mor wyn a'r llaeth;
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
j4nvy0z7400ntqao5zxplcf4dgc2kfc
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/107
104
86817
167773
2026-07-23T22:28:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167773
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Chwareu mae'r ddau yn ymyl y llyn,
Chwareu fel tònau, fel ŵyn ar y bryn.
Un fach yw'r llyn, a gloyw ei gwawr,
Ac yn ei chalon mae nefoedd fawr!
Ieuanc yw hi, ieuanc yw ef,
Ond rhodiant dan fwa tynghed gref.
Ar ol y chwareu fe ddaw y ddau
O dan y llwyni i adfywhau.
Wrth blethu blodau, wrth dynu dail,
A chweryl a chwareu bob yn ail,
Y forwyn fechan a dyna'n ffèl
Ddeilen redynen i weled—wel!—
I weled pwy oedd ei chariad i fod—
Mae merch ddigariad yn ferch ddiglod.
A dyna drafferth ddigrif fu hon,
I ddwy galon fechan o dan ddwy fron!
Dal y Dyfodol—y brenhin mud,
A'i dwyllo i adrodd ei hawddgar hud:—
Nid bachgen deuddeg a morwyn ddeg
Yn unig fu'n nhalaeth y Tylwyth Teg!
Dywed y ddengmlwydd wrthi ei hun
Enw ei chariad—gyfrwysbert fun!
"Pwy? d'wedwch pwy!"—meddai ef yn flin:
"Rhywun!"—medd hithau, a gwên ar ei min.
Ymboenai'r bachgen wrth wel'd ei gwên,
A chwarddai hithau—helynt go hên!
Gall merch ddweyd llawer heb siarad gair,
A'i ddweyd wrth ryw un ''heblaw'' ei chwaer.
Barddoniaeth ei llygad—dyna gân
Ddarllenir yn hawdd mewn ysgrifen fân,
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
qeb8ld964mwqanmzntgw4rf0lxxhocy
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/108
104
86818
167774
2026-07-23T22:30:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167774
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
"Ai fi ydyw Rhywun?" medd ef yn gall:
Ddywedodd hi ddim; ond deallodd y llall.
Yn dirion, yswil, fe ddododd ei law
Ar ysgwydd y feinwen—ond wele hi draw!—
Yn hedfan yn iach yn yr haul a'r gwynt,
Ac yntau'n ei dilyn hi—dyna hynt!
'Roedd yn hawdd ei dal, forwynig hoff—
'Roedd ei chalon fechan yn gloff, yn gloff.
Ei dal a'i chusanu, a dyna'r oll,—
Ond fod dwy galon heb wybod ar goll.
Mae'r nefoedd fawr yn lâs yn y llyn,
A goleu dau fyd ar y ddau fach hyn.
Chwareu yw Serch hyd ddiwedd oes,
Ond chwareu difrifol, anfarwol loes!
A chwareu y plant yn yr haf ger y llyn—
O! ar ol dydd fe ddaw nos dros y bryn!
{{***|4|4em}}
Felly breuddwydiai Gwenddolen lân
Yn Nyffryn Clwyd, ar ganol ei chân.
Ac er fod y breuddwyd yn wyth mlwydd oed,
Ei flas oedd mor felus a'r haf yn y coed.
Y fechan ddengmlwydd, Gwenddolen yw'r fun,
Yn adrodd ei breuddwyd wrthi ei hun.
Ond am y bachgen, pa le mae ef?
Yn rhywle, yn rhywle, yn ngolwg y nef!
A ddaw ef yn ol yn Nghalan—Mai Serch,
Yn ol i chwilio am galon y ferch?
O! neb ni chaiff wybod am galon y fun,
A'r breuddwyd sydd ynddi, ond Edeyrn ei hun.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
km1tanrvnumh7ygkwvl6dj24o98baps
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/109
104
86819
167775
2026-07-23T22:46:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167775
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd llawer merch.
{{***|4|4em}}
{{***|4|4em}}
Yn Nyffryn Clwyd, Mehefin a'i gân
Siriolai yr adar a'r blodau mân.
Canai y glasgoed a'i filfil dail,
Canai'n lleddf-isel—ni chlywai yr haul.
Canai y blodau, heb wybod i'r byd,
Yn nghlyw yr angelion fu'n gwylio eu cryd.
Canai'r ehedydd ei garol o ras
Uwch crib y Foel Famau yn nghanol y glâs.
Canai yr afon alawon y môr—
A chanai Gwenddolen ei hun gyda'r côr.
Rhodiai'n iach—galon rhwng sibrwd y coed,
A'r glaswellt yn falch o dan gysgod ei throed.
Canai ei breuddwyd, breuddwydiai ei chân'
Roedd gofid a hithau yn byw ar wahân!
Yn nghanol y goedwig eisteddodd i lawr
Dan letty caruaidd hen dderwen fawr.
O, dyna fyd tawel! heb gyffro na si—
Mor dawel a gwynder ei thalcen hi.
Rywfodd, heb feddwl (fel hyny y daw),
Deilen redynen gyrhaeddodd i'w llaw.
Gwenodd, a theimlodd o dan ei bron
Bryder difyrus, dolurus, llon.
Enwodd yr enw oedd iddi yn swyn,
Heb neb yn ei chlywed ond deilos ar lwyn!
Enw Edeyrn a enwodd hi—
"Deua—ni ddeua—deua—ni"—
</poem><noinclude>{{Div end}}

</noinclude>
qn1ujljlppzmi169zvhzgcqp6cdoefk
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/110
104
86820
167776
2026-07-23T22:47:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167776
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ust! beth yw'r swn sydd fel anadl bron?
Pa ryw beroriaeth gyfeiliorn yw hon?
Ai bysedd anfarwol, yn nghôr y dail,
A wlithog delynant ar belydr haul?
Neu ai telynor brenhines ferth
Y Tylwyth Teg, o dan wyrddlas berth,
Sy'n taro ei delyn â'i law fach wen—
A blodyn yr eithin yn gapan i'w ben?
Pwy bynag yw'r cerddor, fe glywa y ferch
Alaw gyfarwydd, "Swyn Hudol Serch."
Mae'r canu yn agos, mae'r canu yn mhell;
O'r glaslwyn yn ymyl, neu—neu o'r wlad well!
Oes adlais rhyw eiriau ar anadl y gwynt,
Mor ysgafn ag adgof yr hen amser gynt?
A ydynt yn sibrwd—Daw Edeyrn yn ol
Cyn gwywo o'r meillion ar wyneb y ddol?
Ymgroesa Gwenddolen, gan alw ar Mair,
A brysia i'w chartref heb yngan un gair.
Ond cynhwrf estronol sydd dan ei bron,
Fel gwynt annghyfarwydd yn crychu y dòn.
Mae'n gwenu, mae'n ofni; mae'n llawen, mae'rbrudd:
Mae ofn yn ei llygad, a gwrid ar ei grudd.
Maer coed fel yn plygu eu penau bob un,
Gan chwerthin a dweyd rhywbeth òd wrth y fun!
Mae'r blodau yn sibrwd cyfrinach fach ffèl
Yn nghlustiau eu gilydd, gan edrych mor ddèl.
Mae'r adar, o ganghen i ganghen ar hynt,
Yn siarad yn ffraeth â phob awel o wynt.
Mae'r blodau a'r adar, ar fryn ac ar ddol,
Yn chwerthin wrth sisial—''Daw Edeyrn yn ol.''
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
sts6cky2qjjodkjvlz9z6lw85a7dmld
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/111
104
86821
167777
2026-07-23T22:49:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167777
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
A fu'r fath ddireidi mewn glasgoed erioed,
I flino—a boddio—merch ddeunaw oed?
Mae'n rhaid mai telynor brenhines wen
Y Tylwyth Teg a wirionodd bob pren.
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd llawer merch!
{{***|4|4em}}
{{***|4|4em}}
Yn Nyffryn Ardudwy, a'r nos yn y nen,
A heddwch yr haf yn llonyddu y pren,
Edeyrn a rodiai'n ei gwmni ei hun,
A blodau a phlant yn noswylio bob un.
O bell yr oedd hwyrol beroriaeth y dòn
Hynawsed a serch—freuddwyd cyntaf y fron.
Meddyliai'n ddiofal am lawer mun,
Ond nid oedd yn meddwl llawer am un!
Mae caru ar lawer yn garu lled ddôf,—
Ac oera fel gwreichion ar eingion y gof.
Rhodiai yn araf, heb feddwl fawr
Fod llaw wen Rhagluniaeth mor agos yn awr.
Gwrandawodd—a chlywodd dan anadl y nos
Sŵn canu mor esmwyth a'r blagur-rôs:
Sŵn canu mor felus a suon y dòn,
Pan huna awelon yr haf ar ei bron.
Neshaodd yn gyflym pan welodd o draw
Delynor, a'i delyn yn frwd dan ei law.
Eisteddai, 'n henafgwr, dan dderwen frau—
Yr oedd llwydni oes wedi nychu y ddau.
Llaw tragwyddoldeb fu'n gwŷnu ei wallt,
A chrino y dderwen ar waelod yr allt.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
6swp5kwfs6iq0vy93ei5jvpex6c2knu
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/112
104
86822
167778
2026-07-23T22:57:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167778
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ond canai ei delyn mor fwyn ag erioed,
A chanai'r hen dderwen yn nghyngherdd y coed.
Fe ganai ei delyn mor felus, mor fwyn,
Ac Edeyrn wrandawai fel un o dan swyn.
Beth ganai mor felus, beth ganai mor fwyn?
Paham yr oedd Edeyrn yn teimlo'r fath swyn?
"Mae'r g'lomen yn trydar ar ganghen fach werdd,
A'r dail yn rhyfeddu wrth glywed ei cherdd.
"A gwynach ei haden rhwng glesni y dail,
Na blodau y syfi yn ngoleu yr haul.
"Mae'n disgwyl ei chydmar i hedfan yn ol,
Cyn gwywo o'r meillion ar wyneb y ddôl.
"Mae'n trydar, mae'n trydar, ar ganghen fach werdd,
A'r blodau yn synu wrth glywed ei cherdd!"
"Hen gyfaill," medd Edeyrn, "pa gân ydyw hon?
A fuost ti'n nghwmni rhyw feinir lon?"
Gwenai'r henafgwr gyfeillgar wên—
Fe hoffai chwareuaeth, os ydoedd yn hen.
Gwenodd, adroddodd gyfrinach fach dlos:
Ac Edeyrn a wridodd—heb wybod i'r nos.
Yn y coed wedi'r gawod, ryw hafaidd awr,
Mynych yw swn y diferion ar lawr:
Ac wedi cyfrinach a chanu y bardd,
I Edeyrn bu llawer meddylfryd hardd.
Breuddwyd ar freuddwyd, o amryw lun;
Breuddwydion am feinir—a dim ond un.
Diberygl yw meddwl am lawer mun,
Ond Ah! pan yw'r meddwl i gyd am un.
{{***|4|4em}}
{{***|4|4em}}
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ms76nsfvmpuntu40tvp29jiwmyxs3t8
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/113
104
86823
167779
2026-07-23T22:59:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167779
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mor brydferth yw blodau afalau ar goed
Yn gweled yr haul y tro cyntaf erioed:
A chariad—flodeuad cynharaf y fron,
Mae arno ryw naws fel o Eden—fyd llon.
Nid hir y bu Edeyrn cyn credu fod un
Yn llawer mwy gwerthfawr na llawer mun.
A bwriad ei gariad, ei galon, a'i ben,
Oedd chwilio'r golomen â'r aden wen.
Beth os oedd perygl wrth geisio y ferch?
Mae perygl anfarwol yn swynol i serch!
I antur mor wrol ys hawdd ydoedd cael
Gwŷr ieuainc yn barod—heb gyfrif y draul.
"Ni awn, ni awn tua Chlwyd "—meddent hwy
"Mae'r perygl yn fawr, ond mae'r wobr yn fwy.'
Yn Nyffryn Clwyd, O! yn Nyffryn Clwyd
Wedi heulwen haf daw y dymhestl lwyd.
{{***|4|4em}}
Yn Nyffryn Clwyd wedi machlud haul,
A breuddwyd y nos yn tawolu'r dail,
Rhodiai Gwenddolen, heb wybod i'w mham,
A'i chalon yn gryfach na phryder ei cham,
Rhodiai dan gysgod y goedwig werdd,
Lle synodd y blodau wrth wrando ei cherdd.
Prophwydodd rhyw ddewin—delynor i'r ferch
Mai yno—mai heno—boddlonid ei serch.
Prysurai—petrusai: rhwng gobaith ac ofn:
Ei phryder mor uchel, a'i chalon mor ddofn.
Ust! pa ryw dwrf sy'n dihuno y coed?
A phwy sydd yn d'od ar ofalus droed?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
09zgd4ahmvm6n4ui90pa2f9xggdt7yv
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/114
104
86824
167780
2026-07-23T23:00:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167780
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
Mae'r nos yn y nefoedd yn llonydd a sýn,
A'i haden yn llonydd dros ymyl y bryn:
Mae'r goedwig yn llonydd, a llonydd yw'r byd—
Ond dyma ddwy galon yn erynu'r un pryd!
Yn crynu fel 'deryn yn ymyl ei nyth,
Mewn ofn na chaiff mwy wel'd ei deulu bach byth.
Fe ofnai y bachgen, fe ofnai y ferch—
Ond hawdd ydyw eiriol lle bynag b'o serch.
Daw'r 'deryn fu'n gwylio yn ymyl ei nyth,
Ar ol ef bryderon, i ganu'n ddi-lyth:
Gwenddolen ac Edeyrn gollasant eu braw:
Aeth pobpeth yn annghof yn ngwasgiad y llaw.
(Mor brydferth yw blodau afalau ar bren—
Mor oer yw y cwmwl sy'n duo y nen!)
{{***|4|4em}}
Yn ymyl y llyn!—yn ymyl y llyn!
A'r haf, fel oedd gynt, yn blodeuo y bryn.
Mae ewyn y tònau yn wyn fel y llaeth,
Mor wyn, ag wyth mlynedd yn ol, ar y tracth.
Mae glasliw y nefoedd yn nyfroedd y llyn
Yn lasliw anfarwol, fel cân y Byd Gwyn!—
Pan blyga yr angel y nefoedd fel rhôl,
Bydd glas yr wybrenau yn aros ar ol.
Mae cariad yn ieuanc, yn ieuanc am byth:
Gall hedfan i'r nefoedd pan dorir ei nyth.
Gwenddolen, dy fachgen! O! Edeyrn, dy ferch!
Ar fyd anfarwolion mae golwg eu serch!
(Mor brydferth yw blodau afalau ar bren:
Ond cwmwl y dymhestl—mae'n nesach na'r nen.)
{{***|4|4em}}
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
1u016r8nvd6xj8e7qct5df9d4py5094
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/115
104
86825
167781
2026-07-23T23:07:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167781
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae bloedd yn y pellder, mae braw ger y llyn,
Mae dychryn yn sangu ar ochrau y bryn.
Pa le mae y darian? pa le mae y cledd?
Pa le mae y cariad sy'n gryfach na'r bedd?
Fechgyn Ardudwy, arfogwch bob un, —
Pob un i roi'i fywyd, i gadw ei fun!
Mae mellten marwolaeth yn frwd ar y cledd —
Ond cusan wna wynfyd yn ymyl y bedd.
Y cusan diweddaf yn ymyl y llyn!—
Ac Angau yn sangu ar ochrau y bryn.
(Mor ofnus yw blodau afalau ar bren,
Pan ruthra y cenllysg o gyfnos y nen!)
{{***|4|4em}}
Mae serch yn gryf, mae serch yn wan:
Gall gredu a chanu a marw'r un man.
Fechgyn Ardudwy, ofer yw'r cledd, —
Mae'r grisiau yn Hithrig i waelod y bedd.
Mae dolef marwolaeth ar ochrau y bryn,
Mae aden marwolaeth yn duo y llyn.
Mae ewyn y tònau yn wyn fel y llaeth,
A'r gwaedlif yn goch ar hyd ymyl y traeth
Gwrolion yw bechgyn Ardudwy bob un,
A syrthiant yn wrol i'r farwol hun.
Ond Edeyrn y dewraf, pa le mae yn awr?
Mae Edeyrn yn welw, yn welw ar lawr!
(Amddifad yw'r blodau, amddifad yw'r pren,
Mae'r cwmwl yn cerdded fel nos dros y nen.)
{{***|4|4em}}
Mae calon Gwenddolen yn oer dan ei bron,
Yn oer fel y lloer yn y gauaf ar dòn.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
373ne8g515uyy3zn1xhz2nmxl5rk7v6
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/116
104
86826
167782
2026-07-23T23:07:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167782
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae gobaith yn crymu ei ben heb un gair—
Fel, yn ngolwg ei Mhab ar y Groes, gwnelai Mair!
Mae bywyd yn plygu ei aden mewn braw:
Marwolaeth sydd dano yn agor ei law.
"I'r llyn! i'r llyn!"—ofnadwy yw'r llef:
(Yn y llyn, lle mae glasliw dihalog y nef!)
"Cawn fedd yn y llyn! cawn fedd yn y llyn!"—
A chryna y blodau'n yr haul ar y bryn.
Dyna dwrf—dyna waedd—dyna fedd: dyna'r oll:
Dystawrwydd ddaw heibio y fynwent goll.
A chariad ehedodd o'r llyn tua'r nen—
Fel seren disgleiriai ei aden wen.
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
O! nefoedd beryglus mab a merch.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
d1xhvv232il0e7aawio4hkevp744h0q
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/117
104
86827
167783
2026-07-23T23:12:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167783
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|COLL GWYNFA.}}}}
{{center block|
<poem>
WRTH wylio y gorllewin
Yn ngoleu hwyr Mehefin,
:Y fron dristhâ;
Fel drain o gylch y lili,
Daw dolur gyda thlysni
:Dyfna'r ha'.
O! mae'r cymylau'n dirion—
Fel blodau ar ffyrdd angylion, –
:Pam rhaid pruddhau?
Pa hiraeth, heb ei alw,
Pa ofid, ddaw'n ddienw,
:I'n dwyshau?
Paham mae dagrau'r awrhon,
Yn araf leithio'r galon,
:A'r hwyr mor dlws?
Ai adgof yw o'r dolur,
Pan gauwyd, ar bechadur,
:Euraidd Ddrws?
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
ssrmlsrt0eefz0cod0423i50rna170o
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/118
104
86828
167784
2026-07-23T23:21:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167784
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y DDAU FRAWD.}}}}
{{center block|
<poem>
DAW Cwsg bob nos i gau
:Amrantau llaes y byd;
A. swn yr afon dros y gro
:Yn murmur heibio o hyd.
Ar ol i'r llygaid gau,
:Rhyw Bryder weithiau gwyd;
A gwelir, rhwng rhosynau hedd,
:Ei wedd dymhestlog lwyd.
I Gwsg, brawd arall sy,
:A chry' fel angel yw:
Ryw hwyrddydd, Hwnw ddaw i gau
:Amrantau dynion byw.
Ac yn eu clyw, bydd tòn
:Yr afon mwy yn fud;
Ni welant neb, ni theimlant ddim,
:Dan lwyni melus hud.
I anedd Hwn ni ddaw,
:Ond pethau dystaw, byth:
Nes cerddo Angel drwy y fro,
:Gan ddechreu siglo'r gwlith.
</poem>

nd,
D'wed y dail siaradus: Ust!—
::Rosalind.
Bryd yn Arden bu'r fath hwyl,
:A'r fath fyn'd?
Mae pob peth yn cadw Gwyl
::Rosalind
Ah! pa ryfedd? Swyn y coed
::Sy gan hon;
A hudoledd dail a roed
::Yn ei bron.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
pc0kt8y815bdow6qje7q769gtii2hlw
167786
167784
2026-07-23T23:22:33Z
AlwynapHuw
1710
167786
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y DDAU FRAWD.}}}}
{{center block|
<poem>
DAW Cwsg bob nos i gau
:Amrantau llaes y byd;
A. swn yr afon dros y gro
:Yn murmur heibio o hyd.
Ar ol i'r llygaid gau,
:Rhyw Bryder weithiau gwyd;
A gwelir, rhwng rhosynau hedd,
:Ei wedd dymhestlog lwyd.
I Gwsg, brawd arall sy,
:A chry' fel angel yw:
Ryw hwyrddydd, Hwnw ddaw i gau
:Amrantau dynion byw.
Ac yn eu clyw, bydd tòn
:Yr afon mwy yn fud;
Ni welant neb, ni theimlant ddim,
:Dan lwyni melus hud.
I anedd Hwn ni ddaw,
:Ond pethau dystaw, byth:
Nes cerddo Angel drwy y fro,
:Gan ddechreu siglo'r gwlith.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
kbtowkrfiszkn61zg0dnkz30yuabcty
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/119
104
86829
167785
2026-07-23T23:22:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|DU A GWYN.}}}} {{center block| <poem> WRTH draed yr Alpau yn yr haf :Dwy gornant fechan sy; A gelwir un y Gornant Wen, :A'r llall y Gornant Ddu. O fôr o iâ daw'r Gornant Wen, A:'i llif fel llaeth o wyn: Ac nid yw'n cychwyn ar ei thaith :Un amser, ond fel hyn. Fel arall tardda'r Gornant Ddu, :A duach, duach ä: Pan rewo'r gauaf ffrydiau hon, :Du ydyw lliw yr ia. Y Gornant Wen i'r Gornant du :A lifa'n hardd ei...
167785
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DU A GWYN.}}}}
{{center block|
<poem>
WRTH draed yr Alpau yn yr haf
:Dwy gornant fechan sy;
A gelwir un y Gornant Wen,
:A'r llall y Gornant Ddu.
O fôr o iâ daw'r Gornant Wen,
A:'i llif fel llaeth o wyn:
Ac nid yw'n cychwyn ar ei thaith
:Un amser, ond fel hyn.
Fel arall tardda'r Gornant Ddu,
:A duach, duach ä:
Pan rewo'r gauaf ffrydiau hon,
:Du ydyw lliw yr ia.
Y Gornant Wen i'r Gornant du
:A lifa'n hardd ei llun:
Ond Afon Ddu, o hyn i maes,
:Yw enw'r ddwy yn un.
Trallod beunyddiol dan y nef
:Yw cael y gwir fel hyn—
Mae'n hawddach troi y gwyn yn ddu,
:Na throi y du yn wyn!
</poem>

{{c|{{mawr|ROSALIND.
(Gwel "''As you like it"'').
{{center block|
<poem>
Pwy a geir yn swyno'r coed,
::Lle bo'n myn'd?—
O! ni fu'r fath beth erioed—
::Rosalind!
Mae pob blodyn glâs a gwyn,
::Iddi'n ffrynd:
Ni cheir gan y dail, ond hyn—
::Rosalind!
Mae yr adar yn mhob llwyn
::Wedi myn'd
I chwedleua am ddim, ond swyn
::Rosalind.
Pan ddisgwylia hi yn drist
::Am ei ffry<noinclude><references/></noinclude>
8hpouginmptc8je25b5jr23ayw03g9w
167787
167785
2026-07-23T23:23:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167787
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|DU A GWYN.}}}}
{{center block|
<poem>
WRTH draed yr Alpau yn yr haf
:Dwy gornant fechan sy;
A gelwir un y Gornant Wen,
:A'r llall y Gornant Ddu.
O fôr o iâ daw'r Gornant Wen,
A:'i llif fel llaeth o wyn:
Ac nid yw'n cychwyn ar ei thaith
:Un amser, ond fel hyn.
Fel arall tardda'r Gornant Ddu,
:A duach, duach ä:
Pan rewo'r gauaf ffrydiau hon,
:Du ydyw lliw yr ia.
Y Gornant Wen i'r Gornant du
:A lifa'n hardd ei llun:
Ond Afon Ddu, o hyn i maes,
:Yw enw'r ddwy yn un.
Trallod beunyddiol dan y nef
:Yw cael y gwir fel hyn—
Mae'n hawddach troi y gwyn yn ddu,
:Na throi y du yn wyn!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
iskhe8623s82rgosrex04b2xz3g8z6t
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/120
104
86830
167788
2026-07-23T23:23:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167788
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ROSALIND.
(Gwel "''As you like it"'').
{{center block|
<poem>
Pwy a geir yn swyno'r coed,
::Lle bo'n myn'd?—
O! ni fu'r fath beth erioed—
::Rosalind!
Mae pob blodyn glâs a gwyn,
::Iddi'n ffrynd:
Ni cheir gan y dail, ond hyn—
::Rosalind!
Mae yr adar yn mhob llwyn
::Wedi myn'd
I chwedleua am ddim, ond swyn
::Rosalind.
Pan ddisgwylia hi yn drist
::Am ei ffrynd,
D'wed y dail siaradus: Ust!—
::Rosalind.
Bryd yn Arden bu'r fath hwyl,
:A'r fath fyn'd?
Mae pob peth yn cadw Gwyl
::Rosalind
Ah! pa ryfedd? Swyn y coed
::Sy gan hon;
A hudoledd dail a roed
::Yn ei bron.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
5730bo3iwy02tsmihltsqk9u6xfy57j
167789
167788
2026-07-23T23:24:11Z
AlwynapHuw
1710
167789
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ROSALIND.
(Gwel "''As you like it"'').}}}}
{{center block|
<poem>
Pwy a geir yn swyno'r coed,
::Lle bo'n myn'd?—
O! ni fu'r fath beth erioed—
::Rosalind!
Mae pob blodyn glâs a gwyn,
::Iddi'n ffrynd:
Ni cheir gan y dail, ond hyn—
::Rosalind!
Mae yr adar yn mhob llwyn
::Wedi myn'd
I chwedleua am ddim, ond swyn
::Rosalind.
Pan ddisgwylia hi yn drist
::Am ei ffrynd,
D'wed y dail siaradus: Ust!—
::Rosalind.
Bryd yn Arden bu'r fath hwyl,
:A'r fath fyn'd?
Mae pob peth yn cadw Gwyl
::Rosalind
Ah! pa ryfedd? Swyn y coed
::Sy gan hon;
A hudoledd dail a roed
::Yn ei bron.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
k0al07zoyba3wr0uxxef798o0bvtci1
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/121
104
86831
167790
2026-07-23T23:33:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167790
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ADNODAU'R MOR.}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{bwlch|7em}}i.
''"A phwy a gauodd y Môr â dorau?"''
Duw, rhwng wybrenau di ri,
Geulanodd y goleuni;
I'w lle rhodiai pob seren,
A phob lloer i'w phabell wen:
Ei air drwy'r rhaiadrau oedd
Yn rhoi muriau i'r moroedd;
Nes i'r eigion ymdòni
Yn ufydd, lâs, hafaidd li':—
Ac wele Fôr, gloyw ei fin,
A'i ael iach yn ddilychwin.
{{bwlch|7em}}ii.
''"Y dyfnder hefyd a wnaeth dwrf."''
ANADLA'R Môr beroriaeth,
A mwynder yw min ei draeth;
Lle i ochel coll iechyd,
A rhoi heibio beio'r byd:
O oes i oes ceir ei su,
A'i awelon, heb dalu!
Ffraeth yw dewiniaeth y dòn,
A'i haraf haf—furmuron;
Milfil chwerthin ei diluw,
A wnâ'r dydd yn oriau Duw:
Wele ewyn yn loyw—aur,
Ael y dòn yn flodau aur.
Y nos fud ddaw dros y fan,
Yn ei llwyd fantell lydan;
Is y lloer daw maes y lli
Yn wylaidd gan liw'r lili.
Ai'r un môr yw hwn? Y mae rhuthr
Ei ewyn oer o draw'n aruthr!
Y gwynt sy'n gollwng ei gur,
A rhed nos ar dòn asur:
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
c1swx0l1ofsmigmwq5xcn2juzh7tsb7
167791
167790
2026-07-23T23:33:46Z
AlwynapHuw
1710
167791
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|ADNODAU'R MOR.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
{{bwlch|7em}}i.
''"A phwy a gauodd y Môr â dorau?"''
Duw, rhwng wybrenau di ri,
Geulanodd y goleuni;
I'w lle rhodiai pob seren,
A phob lloer i'w phabell wen:
Ei air drwy'r rhaiadrau oedd
Yn rhoi muriau i'r moroedd;
Nes i'r eigion ymdòni
Yn ufydd, lâs, hafaidd li':—
Ac wele Fôr, gloyw ei fin,
A'i ael iach yn ddilychwin.
{{bwlch|7em}}ii.
''"Y dyfnder hefyd a wnaeth dwrf."''
ANADLA'R Môr beroriaeth,
A mwynder yw min ei draeth;
Lle i ochel coll iechyd,
A rhoi heibio beio'r byd:
O oes i oes ceir ei su,
A'i awelon, heb dalu!
Ffraeth yw dewiniaeth y dòn,
A'i haraf haf—furmuron;
Milfil chwerthin ei diluw,
A wnâ'r dydd yn oriau Duw:
Wele ewyn yn loyw—aur,
Ael y dòn yn flodau aur.
Y nos fud ddaw dros y fan,
Yn ei llwyd fantell lydan;
Is y lloer daw maes y lli
Yn wylaidd gan liw'r lili.
Ai'r un môr yw hwn? Y mae rhuthr
Ei ewyn oer o draw'n aruthr!
Y gwynt sy'n gollwng ei gur,
A rhed nos ar dòn asur:
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
33tgobh1vq7w7jo185ak99u618q4s1p
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/122
104
86832
167792
2026-07-23T23:35:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "<poem> Mae'r dyfnder ar ddisperod Yn hau alaethau fel ôd; Mynyddau o dònau'n dal Barn yn y wybren anial: Y sêr sy'n ofni siarad— Trwy y gwyll ciliant o'r gâd! Y mellt sy'n dangos y Môr, A'i ogofau'n dygyfor; A mellten wenfflam wylltwedd Oleua fab anwyl i'w fedd! {{bwlch|7em}}iii. ''"Pan gyfodo ei dònau, Ti a'u gostegi."'' Y MOR!—pwy all yn un man, Ddofi llid ei wddf llydan? Pwy dyr ei nerth, pwy dry'n ol Ei lanw deddf—...
167792
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae'r dyfnder ar ddisperod
Yn hau alaethau fel ôd;
Mynyddau o dònau'n dal
Barn yn y wybren anial:
Y sêr sy'n ofni siarad—
Trwy y gwyll ciliant o'r gâd!
Y mellt sy'n dangos y Môr,
A'i ogofau'n dygyfor;
A mellten wenfflam wylltwedd
Oleua fab anwyl i'w fedd!
{{bwlch|7em}}iii.
''"Pan gyfodo ei dònau, Ti a'u gostegi."''
Y MOR!—pwy all yn un man,
Ddofi llid ei wddf llydan?
Pwy dyr ei nerth, pwy dry'n ol
Ei lanw deddf—ddilynol?
Sobra hwn lais y brenin,
A'r balch ä'n fach, fach, ar ei fin.
Ni fu llef, na gafael llaw,
A wnai'r wendon i wrandaw:
O'r nen daw gair yn unig
I ddweyd ust! wrth foroedd dig:
Yn ddi-dwrf y cerdda Duw
Heolydd gwyn ei ddiluw;
Llef Iôr wna i'r llifeiriaint
Gadw Sul, fel gyda'i saint.
Un noson aeth ein Iesu
Ar daith dros y garwfor du.
Trwy y mellt tramwyai o,
A'r dòn ni wyrai dano;
Gwelai berygl, heb aros,
Ni ofnai wyllt dwrf y nos
Ar ei lef yr awyr lâs
A wawriodd dros Tiberias;
Talai y floesg dymhestl flin
Iddo Ei hawl ar ddeulin:
Ac wele'r dyfnder heb dwrf—
Eigionau yn ddigynhwrf!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
ab3nvuhldad83vnv8fi6evlfx53u6r5
167793
167792
2026-07-23T23:36:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167793
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Mae'r dyfnder ar ddisperod
Yn hau alaethau fel ôd;
Mynyddau o dònau'n dal
Barn yn y wybren anial:
Y sêr sy'n ofni siarad—
Trwy y gwyll ciliant o'r gâd!
Y mellt sy'n dangos y Môr,
A'i ogofau'n dygyfor;
A mellten wenfflam wylltwedd
Oleua fab anwyl i'w fedd!
{{bwlch|7em}}iii.
''"Pan gyfodo ei dònau, Ti a'u gostegi."''
Y MOR!—pwy all yn un man,
Ddofi llid ei wddf llydan?
Pwy dyr ei nerth, pwy dry'n ol
Ei lanw deddf—ddilynol?
Sobra hwn lais y brenin,
A'r balch ä'n fach, fach, ar ei fin.
Ni fu llef, na gafael llaw,
A wnai'r wendon i wrandaw:
O'r nen daw gair yn unig
I ddweyd ust! wrth foroedd dig:
Yn ddi-dwrf y cerdda Duw
Heolydd gwyn ei ddiluw;
Llef Iôr wna i'r llifeiriaint
Gadw Sul, fel gyda'i saint.
Un noson aeth ein Iesu
Ar daith dros y garwfor du.
Trwy y mellt tramwyai o,
A'r dòn ni wyrai dano;
Gwelai berygl, heb aros,
Ni ofnai wyllt dwrf y nos
Ar ei lef yr awyr lâs
A wawriodd dros Tiberias;
Talai y floesg dymhestl flin
Iddo Ei hawl ar ddeulin:
Ac wele'r dyfnder heb dwrf—
Eigionau yn ddigynhwrf!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
9fobsf2ochoplpxtnfdavt3j4x6kvr2
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/123
104
86833
167794
2026-07-23T23:38:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167794
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
{{bwlch|7em}}iv.
''"Pan roddes Efe ei ddeddf i'r môr."''
AFLONYDD a diflino,
O draeth i draeth ä ar dro;
Heb ddydd gŵyl er bore'r byd,
Na huno haner enyd.
Llais y gwynt ni all lesgâu,
Na dyn flino, ei dònau;
Ni heneiddia'r blynyddoedd
Ei liw na'i dymhestlog floedd;
Yn ei lasliw a'i oslef,
Ail i anfarwol yw ef.
Y mae dawns a threm y dòn,
A'i thwrf ar draethau Arfon,
Wedi holl loes yr oesoedd,
Heddyw'r un a'r dydd yr oedd
Taliesin yn min y môr
Yn folianus brif-lenor.
Y llanw, heb wall unwaith,
Sy'n myn'd ar ddiderfyn daith;
Diwyd bererin daear,
O hyd i'n byd hoen a bâr:
Dilyn y nef brydlon wna,
A delw'r lleuad wylia:—
Erioed a welwyd ei drai
Yn hwyr, funyd, ar Fenai?
Adwaena'r dòn oriau Duw,
A Duw welir o'i diluw.
{{bwlch|7em}}v.
''" Yno yr ä y llongau."''
CELF ddiflin fyn ddodi'n ddèl
Ar y moroedd rwym Ariel:
Y llongau chwim ollyngir,
I fyrhau pellterau'r tir;
Cânt, er eu llwyth, esmwyth hynt,
A'r dòn yn chwareu danynt!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
83gzfovfjtb9rr5hv6s4f2f8dvuas5o
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/124
104
86834
167795
2026-07-23T23:38:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167795
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{Center block/s}}
<poem>
Pe baent frith fel gwenith gwyn,
A'u hwyliau'n toi haul melyn,
Ceid mangre'r dyfnder i'w dwyn
Hwy, a'u beichiau, heb achwyn.
Tyrau mellt a änt i'r môr,
A'u muriau'n cario marwor;
O dan dywyll gestyll gant
Erwau y môr furmurant:
O'r adwy rhuthra'r trydan—
Ac wele'r dyfnder ar dân!
O dan y mellt mae'r dòn mwy,
Ar ymyl beddau'n tramwy:
Chwery hon heb ddychrynu,
Yn holl dwrf y cestyll du;
Ar ei chrwydr chwareua hi,
A dynion meirw dani;
Ni arafa: mor rhyfedd
Yw chwareu byw'n ochr y bedd!
Myn'd, myn'd, yw hanes y môr,
A'i ofid yn dygyfor.
</poem>
{{Div end}}

{{Center block/s}}
<poem>

{{bwlch|7em}}vi
''"A'r Môr nid oedd mwyach."''
ANHYNAWS Fôr! gwaheni
Yma yn awr rhyngom ni:
Ar y traeth bu, lawer tro,
Anwyliaid yn ffarwelio.
Ah! gwelaist lawer galar,
Cyn hyn, a gofyn am gâr:
Ieuanc a hen, yn eu cur,
Yn ceisio, heb gael, cysur:
Wylent, gan bryder calon,
Berlau eu dagrau i'r dòn;
Yn llwyd, ar ymyl y lli,
Wylent, ac ofnent holi:—
Gwelent, yn mynwent y Môr,
Anwyliaid heb un elor!
O! y fynwent heb feini!
Tywyll, oer, fynwent y lli:
O! feddau, heb gôf iddynt!—
Heb alar, ond galar gwynt.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
1gdgst1j2k9bkymqrzin6ogk6ej3pua
167797
167795
2026-07-23T23:39:31Z
AlwynapHuw
1710
167797
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Pe baent frith fel gwenith gwyn,
A'u hwyliau'n toi haul melyn,
Ceid mangre'r dyfnder i'w dwyn
Hwy, a'u beichiau, heb achwyn.
Tyrau mellt a änt i'r môr,
A'u muriau'n cario marwor;
O dan dywyll gestyll gant
Erwau y môr furmurant:
O'r adwy rhuthra'r trydan—
Ac wele'r dyfnder ar dân!
O dan y mellt mae'r dòn mwy,
Ar ymyl beddau'n tramwy:
Chwery hon heb ddychrynu,
Yn holl dwrf y cestyll du;
Ar ei chrwydr chwareua hi,
A dynion meirw dani;
Ni arafa: mor rhyfedd
Yw chwareu byw'n ochr y bedd!
Myn'd, myn'd, yw hanes y môr,
A'i ofid yn dygyfor.
</poem>
{{Div end}}

{{Center block/s}}
<poem>

{{bwlch|7em}}vi
''"A'r Môr nid oedd mwyach."''
ANHYNAWS Fôr! gwaheni
Yma yn awr rhyngom ni:
Ar y traeth bu, lawer tro,
Anwyliaid yn ffarwelio.
Ah! gwelaist lawer galar,
Cyn hyn, a gofyn am gâr:
Ieuanc a hen, yn eu cur,
Yn ceisio, heb gael, cysur:
Wylent, gan bryder calon,
Berlau eu dagrau i'r dòn;
Yn llwyd, ar ymyl y lli,
Wylent, ac ofnent holi:—
Gwelent, yn mynwent y Môr,
Anwyliaid heb un elor!
O! y fynwent heb feini!
Tywyll, oer, fynwent y lli:
O! feddau, heb gôf iddynt!—
Heb alar, ond galar gwynt.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
mkh2fcvlfyuay538rzh0qmiyoxkz1po
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/125
104
86835
167796
2026-07-23T23:39:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167796
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
O! dorf fud—hyd awr y farn!
I'w codi gan y Cadarn:
Adnebydd Llywydd y lli
Fu mynwent, heb help meini:
Cyhoedda, galwa, ar g'oedd
Enwau meirwon y moroedd;
A hwy a ddônt, yn ddïau,
I'w wydd, heb ôl eu beddau.
O ryddhad annhraethadwy!
Ni bydd Môr, nac un bedd mwy.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
fj6qu8e39rmmqpciopbfeck9lrm6xju
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/126
104
86836
167798
2026-07-23T23:49:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167798
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c{{mawr|TRI CHYFNOD.}}}}
{{center block|
<poem>
{{bwlch|7em}}i.
{{c|''Boreuddydd yn Eden.''}}
Daw mêl hefo'r awel ar foreuau,
A mwynder ac arogl mandragorau:
Efa'n blygeiniol a ga garolau
Engyl, i'w hebrwng i'w hoyw lwybrau:—
Ah! Eden wen!—rhodiwn ninau—weithion,
Yn wyneb lwydion heb un o'i blodau!
{{bwlch|7em}}ii.
{{c|''Prydnawngwaith y Ddaear.}}
YN mlaen, yn mlaen, ymdeithia'r miliynau
O'u tywyll lysoedd draw at well oesau;
Wedi eu hirion orthrymderau,
Daw, daw, i ddewrion eu dedwydd oriau:
Trŷ yr Oen, trwy riniau—Ei ddwyfol gur,
Hen erwau dolur yn wyn ardalau.
{{bwlch|7em}}iii.
{{c|''Boreuddydd Arall.}}
CHWILIA, fy enaid, ryw uchelfanau,
I weled bröydd Gwlad y Boreuau:
Ehêd i olwg ei phell ardalau—
Ein Eden arall, a'n Eden orau!
Gofynwn am drigfanau—heb un sôn
Yno am eirwon auaf dymhorau!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
7mom8doczkt8zmgmkhf987qismm0md2
167799
167798
2026-07-23T23:49:27Z
AlwynapHuw
1710
167799
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|TRI CHYFNOD.}}}}
{{center block|
<poem>
{{bwlch|7em}}i.
{{c|''Boreuddydd yn Eden.''}}
Daw mêl hefo'r awel ar foreuau,
A mwynder ac arogl mandragorau:
Efa'n blygeiniol a ga garolau
Engyl, i'w hebrwng i'w hoyw lwybrau:—
Ah! Eden wen!—rhodiwn ninau—weithion,
Yn wyneb lwydion heb un o'i blodau!
{{bwlch|7em}}ii.
{{c|''Prydnawngwaith y Ddaear.}}
YN mlaen, yn mlaen, ymdeithia'r miliynau
O'u tywyll lysoedd draw at well oesau;
Wedi eu hirion orthrymderau,
Daw, daw, i ddewrion eu dedwydd oriau:
Trŷ yr Oen, trwy riniau—Ei ddwyfol gur,
Hen erwau dolur yn wyn ardalau.
{{bwlch|7em}}iii.
{{c|''Boreuddydd Arall.}}
CHWILIA, fy enaid, ryw uchelfanau,
I weled bröydd Gwlad y Boreuau:
Ehêd i olwg ei phell ardalau—
Ein Eden arall, a'n Eden orau!
Gofynwn am drigfanau—heb un sôn
Yno am eirwon auaf dymhorau!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
3bep8wskoq1tookqama62qjda89jkf8
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/127
104
86837
167800
2026-07-23T23:53:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167800
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|GHAOIL MA CHREE.}}<ref>''Ghaoil'' (seinier gôl) ''ma chree''—Anwylyd fy mron.</ref>}}
{{center block|
<poem>
MAE anadl y Gogledd,
::Ar y dón,
Yn dilyn hyfrydedd
::Hafddydd llon;
Mae'r wylan yn chwareu,
::Ar wely'r lli:—
Ddoi di i'r deheu,
::Ghaoil ma chree?
Glas yw y Werydd,
::Dan lâs y nen;
Ond dros y mynydd
::Daw niwlog len;
Golygus yw delw
::Carw'n y lli;—
Mae'r deheu yn galw,
::Ghaoil ma chree!
Mae diddos goedydd
::Yn ddail i'w brig;
A sigla'r rhosydd
::Eu clychau grug:
Maent oll ar eu goreu
::I'th gadw di;
Ond ddoi di i'r deheu,
::Ghaoil ma chree?
Mae aden y wenol
::Yn caru'r de:
Mae'n harddu'r rheol
::O newid lle:
Newid sy oreu,
::Coelia di fi:—
O! tyred i'r deheu,
::Ghaoil ma chree!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
aykkmkneool3h0xkdz2ofssgw82i10o
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/128
104
86838
167801
2026-07-23T23:54:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167801
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MEWN TAIR PENNOD.}}}}
{{center block|
<poem>
CWRDDASANT yn y ffair,
Gan wrido ill dau, heb nemor air:
A phrynodd ef, rhwng dall a difri,
Ruban glas yn ffeiryn iddi.
Cwrddasant wedi hyn,
Un boreu, ar gae y gwenith gwyn:
Wrth fyn'd a chwareu rhwng y 'sgubau,
Mêl a gafwyd ar wefusau.
Cwrddasant yn y dref
O Lundain newydd ddod oedd ef:
Fe wridodd hi, fe wenodd yntau, —
Heb na rhuban, na chusanau.
Dan chwiban, elai'n llon,
A berw Llundain dan ei fron:
A hithau adref fu yn wylo—
Rhuban glas oedd dan ei dwylo!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
ac7rshlahaa5vybsga0f7u1t5zzto9o
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/129
104
86839
167802
2026-07-23T23:57:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167802
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MACHLUD HAUL YN IONAWR.}}
(I D. E. E.)}}
{{center block|
<poem>
:DAW ffarwel haul
::I'r eira gwyn,
:A'r coed di ddail,
::Ar ochrau'r bryn:
Ah! nid oes neb a ŵyr
Faint yw tosturi'r hwyr!
:Mae'r gwyn yn troi
::Yn harddach lliw —
:Gwneud lle, wrth roi,
::I fwy, mae Duw;
A. Duw yw'r unig Un,
All wella'i waith E hun.
:Mae'r tywyll goed
::Yn ysgafnhau;
:Arnynt fe roed
::Addewid Mai:
'Does neb ond Duw yr haul
Yn cofio'r coed di ddail.
:Mae eto fyd
::Mwy gwyn gan Dduw;
:A'i goed i gyd
::Heb ddalen wyw;
Y byd tu hwnt i'r llen,
Lle tyfa'r Bywiol Bren
</poem

<noinclude><references/></noinclude>
66i6l6qphjqpp6siv5qqqz59zsvwfs6
167803
167802
2026-07-24T00:00:15Z
AlwynapHuw
1710
167803
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MACHLUD HAUL YN IONAWR.}}
(I D. E. E.)}}
{{center block|
<poem>
:DAW ffarwel haul
::I'r eira gwyn,
:A'r coed di ddail,
::Ar ochrau'r bryn:
Ah! nid oes neb a ŵyr
Faint yw tosturi'r hwyr!
:Mae'r gwyn yn troi
::Yn harddach lliw —
:Gwneud lle, wrth roi,
::I fwy, mae Duw;
A. Duw yw'r unig Un,
All wella'i waith E hun.
:Mae'r tywyll goed
::Yn ysgafnhau;
:Arnynt fe roed
::Addewid Mai:
'Does neb ond Duw yr haul
Yn cofio'r coed di ddail.
:Mae eto fyd
::Mwy gwyn gan Dduw;
:A'i goed i gyd
::Heb ddalen wyw;
Y byd tu hwnt i'r llen,
Lle tyfa'r Bywiol Bren
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
c3qpm0s9dfuv2wx3pgqlgi7b1ho35xa
167804
167803
2026-07-24T00:00:44Z
AlwynapHuw
1710
167804
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|MACHLUD HAUL YN IONAWR.}}
(I D. E. E.)}}
{{center block|
<poem>
:DAW ffarwel haul
::I'r eira gwyn,
:A'r coed di ddail,
::Ar ochrau'r bryn:
Ah! nid oes neb a ŵyr
Faint yw tosturi'r hwyr!
:Mae'r gwyn yn troi
::Yn harddach lliw —
:Gwneud lle, wrth roi,
::I fwy, mae Duw;
A. Duw yw'r unig Un,
All wella'i waith Ei hun.
:Mae'r tywyll goed
::Yn ysgafnhau;
:Arnynt fe roed
::Addewid Mai:
'Does neb ond Duw yr haul
Yn cofio'r coed di ddail.
:Mae eto fyd
::Mwy gwyn gan Dduw;
:A'i goed i gyd
::Heb ddalen wyw;
Y byd tu hwnt i'r llen,
Lle tyfa'r Bywiol Bren
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
30zqiqix92j2z97ahcd6s7prx7ua067
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/130
104
86840
167805
2026-07-24T00:02:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167805
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|YN UNIG, CRED!}}}}
{{center block|
<poem>
Yn unig, crêd! a chrêd yn gry';
Crêd rywbeth da, ddaeth oddi fry:
Ond dechreu credu rhyw un ffaith,
Cei ddysgu'r lleill wrth wneud dy waith—
:::Yn unig, crêd!
Os heibio'r tŷ amheuon ddaw,
Ar edyn nychlyd yn y gwlaw,
Gwell it' eu gyru hwy ar ffô,
Rhag iddynt nythu dan y tô—
:::Bydd gryf, a chrêd!
Gochel y niwloedd segur sydd
Yn magu diogi yn y dydd,
Gan adael eu diferion llaith
Ar ol, i rydu'r offer gwaith—
:::Bydd ddyfal, crêd!
Wrth arfer meddwl yn amheus,
Daw pechod weithiau'n rhy gyfleus;
Yr hwn na chredo ddim yn dda,
Darewir gyntaf gan y pla—
:::Ymgroesa, crêd!
Yn unig, crêd! a chrêd yn dda,
A llaw'r Gwirionedd a'th ryddha;
Tu hwnt i flaenau'r niwl, ryw awr
Cei ddod i uchelfeydd y wawr—
:::Yn unig, crêd!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
0m7cvonx95sflsix1ot4nvdt5oiszrk
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/131
104
86841
167806
2026-07-24T00:06:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167806
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CREULON BACH.}}
(BREUDDWYD.)}}
{{Center block/s}}
<poem>
GRUDDFANAI'R dymhestl drwy y nef,
:A rhuai ar fynyddoedd llwyd;
Dolefai derw'r goedwig gref,
:Fel adar wedi eu dal mewn rhwyd:
A'r nos a lifai dros bob bryn,
Nes cròni yn nyfnderau'r glyn.
Pob cwmwl oedd yn magu mellt,
:Pob mellten oedd yn lâs o lid;
A derw canrif wnaed yn ddellt,
:Ac adar haf am byth yn fud:
Rhaiadrau dorent ochrau'r bryn,
Nes chwyddo'r afon yn y glyn.
'Roedd cri ysguthan yn y coed,
:A gwaedd dylluan yn y cwm;
A'r llwynog, ar lechwrus droed,
:Gyflymai'n ol i'w lety llwm:
Goleuai'r mellt ar ochrau'r bryn,
A throent fel seirph yn nghiliau'r glyn.
O dan y nef, ar waelod gwaun,
:Yn unig, unig, safai Un:
Pan wingai'r corwynt yn y drain,
:Safai, a chwarddai wrtho'i hun:—
Ai plentyn yr elfenau oedd,
Fagwyd, heb fam, yn swn eu bloedd?
Ei freichiau oedd ei falchder ef,
:A drachtiai'r dymhestl megis gwin;
Ei lygaid chwarddent ar y nef,
:A daliai'r curwlaw ar ei fin:
Pan welai'r derw'n myn'd yn ddellt,
Cerddai yn falch yn ffordd y mellt.
Ac weithiau, mewn digrifwch hyf,
:Holltai y derw drosto'i hun;
A sangai yn y cenllif cryf,
:A malai greigiau yn ddi lun:—
Ai brenin y tymhestloedd oedd,
Yn arwain yr ystorm â'i floedd?
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
et0zz2qukmvwihj3o4t7gt4sig5xl48
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/132
104
86842
167807
2026-07-24T00:13:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167807
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Diosgai'r gwynt yr eiddew gwyrdd,
:A'r mwswg, ar henafol goed;
A rhuthrai ffrydiau ar hyd ffyrdd
:Lle nad aeth ffrwd o'r blaen erioed:
Ond safai Ef a'i hirwallt llaes
Fel baner ar uchelfa'r maes.
Tra gwyliai'r cynhwrf yn ddi fraw,
:Heb oleu dim ond goleu'r mellt,
Daeth adlais heibio oddi draw,
:Gan ruddfan dweyd—''Рob сnаwd sydd wellt!''
A therfysg fu: ond safai ef,
Gan bwyso ar ei galon gref.
Clustfeiniai, rhwng gruddfanau'r gwynt,
:Drachefn i'w glywed. Nid oedd llef,
Ond dwndwr nentydd ar eu hynt,
:Ac adar dryghin yn y nef:
A chwarddai eilwaith wrtho'i hun,
Gan rifo'r mellt o un i un.
Yn sydyn, llamodd plentyn bach
:I'w ymyl, fel o freichiau'r nos:
Di-ofn, dienw, a di-ach,
:Fel awel drô ar ganol rhôs:—
Ai rhyw ddireidi gwridog yw
Wedi ei eni'n blentyn byw?
'Roedd goleu yn ei lygad glâs,
:Fel goleu'r mellt ar fynydd pell;—
Goleu chwareus, di-ofn, di-râs,
:Na ddoi, o'i wylio, ddim yn well:
A disglaer ydoedd ei ddwy foch,
A'u gwrid fel pabi'r ŷd o goch.
Ei ruddwallt meddal oedd yn ffluwch
:Mursenaidd, dros ei wridog foch;
Ac weithiau gwên, ac weithiau cuwch,
:A lithrai dros ei wefus goch:
Gwyn oedd ei fysedd fel y calch,
A'i law ysmaliai a llaw y Balch.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
fwvg5lc11m2th34qaonw9mqwjpohs67
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/133
104
86843
167808
2026-07-24T00:16:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167808
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Hwnw, mewn penbleth, yn chwareus
:A wyliai, rhwng dau feddwl cloff:
Pan chwarddai, chwarddai yn amheus;
:Pan wgai, elai yn fwy hoff:
A chwrdd â'r bysedd gwyn fel calch,
A felus syfrdanai'r Balch.
Gostyngai twrf y dymhestl flin,
:Llonyddai'r cyffro yn yr allt;
A'r plentyn ddringodd ar ei lin,
:A rhedai ei fysedd drwy ei wallt:
Chwareuai'r bach; a chwarddai'r Llall—
Fel ef, yn Sorec wnaed yn ddall.
Yn sydyn, megys ergyd saeth,
:Y bach afaelia'n mreichiau'r Balch;
Heb ddim i'w dal ill dwy yn gaeth,
:Ond grym y bysedd gwyn fel calch:
Chwarddai y Cryf chwerthiniad cras
Ond mellt oedd yn y llygaid glâs.
Fe drôdd y chwareu'n chwareu mawr,
:Dechreuai'r Balch gyffroi yn ddig:
Ysgydwai—rhegai—rhwygai'r llawr,
:A'i chwerw floedd a lanwai'r wig;
Ond trech na grym a rhêg y Balch
Fu'r bysedd gwynion fel y calch.
Deffrôdd—fel hwnw aeth â'r pyrth,
:Un boreu teg, i ben y bryn:
Ond Ah! ni wyddai ffordd y wyrth,
:A nychai dan y dwylaw gwyn;
Ei waed ddiferai ar y brwyn,
A'r ceunant ail-ruddfanai ei gwyn.
Ymbiliai—wylai: chwarddai'r llall;
:Rhegai—gweddïai: gwawdiai'r bach!—
Gwae'r rymus fraich, heb galon gall!
:Gwae gryfion byd, heb enaid iach!—
Ar fab y cedyrn nychdod ddaeth,
Gwnaed brenin yr elfenau'n gaeth.
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
4hinvax360evj3gnnt4ot39bwng8qfq
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/134
104
86844
167809
2026-07-24T00:20:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167809
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Colfenau blygodd yn ei aidd,
:A chreigiau falodd gynt dan draed;
Ond bellach, heb anadlu braidd,
:Gorweddai'n ysig yn ei waed;
A chwerwder oedd yn llidio'i fron—
Fel gwarthrudd Pharao yn y dòn.
Goleuodd mellten frig yr allt—
:Rhyw fellten olaf oedd o'r nef—
A fflamiodd dros ei frychlyd wallt,
:A deifiodd flaen ei fysedd ef;
Tra clywid Angel coeth y mellt
Wrth fyn'd yn dweyd—''Pob cnawd sydd wellt!''
Morwynig ddaeth, ar doriad gwawr,
:O'i bwthyn gwyn yn min yr allt;
A thyner, wedi'r dymhestl fawr,
:Oedd blodau'r heulwen yn ei gwallt;
'Roedd yn ei llygaid foreu Mai,
A'i gwedd yn glir fel dyfroedd crai.
Hi gerddai'n ddèl, ar ysgafn droed,
:A'r adar a'i hadwaenent hi:
Ei threm liniarai noethni'r coed,
:Fel c'lomen Noah ar y lli:—
Chwaer iddi wnaeth, un boreu hardd,
I Danté fyn'd dan grynu'n fardd.
Diddanai, heb ddywedyd gair;
:Ni chanai—ond yr oedd yn gân:
Yn debyg yr edrychai Mair
:Wrth gofio geiriau'r angel glân:
A gwell na mwynder boreu Mai
Oedd gwawr ei henaid yn dyddhau.
Ar ol y mellt fu'n deifio'r waun,
:Bendith y gwlith oedd gweled hon;
Goleuai heibio'r llwyni drain,
:A murmur hafddydd dan ei bron:
Ac at y Ddau, mewn syndod, daeth—
A'i syndod yn dosturi aeth!
</poem>

<noinclude>{{Div end}}</noinclude>
kfdiq7897xof6ntgslml50veyyfgn84
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/135
104
86845
167810
2026-07-24T00:24:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167810
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
'Roedd un mor fawr, ond
:O! mor friw, A'r llall mor fach, ond
O! mor gâs;Newid a wnaeth ei gwridog liw,
:A llenwi wnaeth ei llygad glas:
Wylodd dros un, wrth wel'd ei glwy'
Am fryntni'r llall gofidiodd fwy!
Os trôdd rhosynau'r angel pur
:I Mephistopheles yn dân,
Ei deigryn hithau aeth yn gur
:I'r bysedd creulon, gwynion, mân:
Yn ei gynddaredd ati trodd;
Crynodd—dychrynodd gwelwodd—ffödd.
A chlwyfau'r llall a driniodd hi
:Nes aeth ei balm i'w enaid tlawd;
Ei gwedd, fel Mair ar Galfari,
:Aeth rhyngddo ef a gwaetha'r gwawd:
Cododd; penliniodd dan y nen!
A'r dydd ddisgynai ar ei ben.
</poem>
{{Div end}}

<noinclude><references/></noinclude>
iejght22i451no6qkb7bi7gjfg1fw05
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/136
104
86846
167811
2026-07-24T00:34:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167811
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|EMYNAU}}}}
{{c|{{mawr|I.
Ymdrech deg.}}}}
{{center block|
<poem>
YMDRECHWN ymdrech deg
:Dros athrawiaethau'r Oen;
Gan fyw i wneud y byd yn well,
:Ac esmwythâu ei boen.
Gwnaer ni fel Mab y Dyn,
:Yn addfwyn yn mhob man;
Rhag troi y cloff o lwybrau'r nef,
:Na digaloni'r gwan.
Trwy wadu'n hunain, bawb,
:Dangoswn Grist i'r oes:
Caed eraill drwy ein haberth ni
:Wel'd aberth gwell y Groes.
</poem>

{{c|{{mawr|II.
Rhagorfreintiau'r Nefoedd.}}}}
{{center block|
<poem>
I'R nefoedd ni ddaw nos,
:Nac achos i ymado:
Câ pawb fwynhad yn ngwaith y wlad—
:Mae'r gwaith yn gariad yno.
I'r nefoedd ni ddaw cur,
:Rhy bur fydd pawb i flino:
A phwy all lai na llawenhau
:Ni chollir dagrau yno.
Ni ddaw un pechod mwy
:I'w poeni hwy'n y nefoedd:
Yn nghariad Duw mae'r teulu'n byw
:Heb fraw na briw'n oes oesoedd.
O! dwg ni, Fugail Da,
:I Wynfa i breswylio:
Ni welir bedd yn ngwlad yr hedd—
::Cawn wledd heb ddiwedd yno,
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
ekvh3msar367sfgnrkd25fvsmreospx
167812
167811
2026-07-24T00:34:41Z
AlwynapHuw
1710
167812
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|EMYNAU}}}}
{{c|{{mawr|I.
Ymdrech deg.}}}}
{{center block|
<poem>
YMDRECHWN ymdrech deg
:Dros athrawiaethau'r Oen;
Gan fyw i wneud y byd yn well,
:Ac esmwythâu ei boen.
Gwnaer ni fel Mab y Dyn,
:Yn addfwyn yn mhob man;
Rhag troi y cloff o lwybrau'r nef,
:Na digaloni'r gwan.
Trwy wadu'n hunain, bawb,
:Dangoswn Grist i'r oes:
Caed eraill drwy ein haberth ni
:Wel'd aberth gwell y Groes.
</poem>

{{c|{{mawr|II.
Rhagorfreintiau'r Nefoedd.}}}}
{{center block|
<poem>
I'R nefoedd ni ddaw nos,
:Nac achos i ymado:
Câ pawb fwynhad yn ngwaith y wlad—
:Mae'r gwaith yn gariad yno.
I'r nefoedd ni ddaw cur,
:Rhy bur fydd pawb i flino:
A phwy all lai na llawenhau
:Ni chollir dagrau yno.
Ni ddaw un pechod mwy
:I'w poeni hwy'n y nefoedd:
Yn nghariad Duw mae'r teulu'n byw
:Heb fraw na briw'n oes oesoedd.
O! dwg ni, Fugail Da,
:I Wynfa i breswylio:
Ni welir bedd yn ngwlad yr hedd—
:Cawn wledd heb ddiwedd yno,
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
3nsooo8phmm0o6tryd0g8xm1p31vtf3
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/137
104
86847
167813
2026-07-24T00:37:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167813
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|III.
"Megys yn y Nef, felly ar y Ddaear."}}}}
{{center block|
<poem>
MOLIANED Uchelderau'r nef
:Yr Arglwydd am Ei waith;
A cherdded swn Ei foliant Ef,
:Trwy'r holl ddyfnderau maith.
Canmoled disglaer sêr di ri'
:Ddoethineb meddwl Duw;
Ac yn ein dagrau d'wedwn ni
:Mai doeth a chyfiawn yw.
Am Ei sancteiddrwydd moler Ef
:Gan gôr seraphaidd fyrdd:
Atebwn ninau âg un llef
:Mai sanctaidd yw Ei ffyrdd.
Cyduned yr angylion glân
:Ei ddeddfau i fawrhau:
Gweddïwn ninau gyda'r gân
:Am râs i'w ufuddhau.
Trwy'r nefoedd wen o oes i oes
:Canmoler cariad Duw:
Fe ganwn ninau wrth y Groes
:Mai Duw y cariad yw.
Molianed uchelderau'r nef
:Yr Arglwydd am Ei waith;
A cherdded swn Ei foliant Ef
:Trwy'r holl ddyfnderau maith.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
1637brkmb72g2y5meq9jzv52pd60grq
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/138
104
86848
167814
2026-07-24T00:40:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167814
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|IV.
GWEINIDOGAETH MAB Y DYN.}}
''"O Jesu Christi, wahres Licht."''—J. HEERMANN.}}
{{center block|
<poem>
O! IESU, y Goleuni Gwir,
Ar nos eneidiau gwawria'n glir;
Y rhai sydd heb dy adwaen, dwg
I'th gorlan cyn y dyddiau drwg.
O! tywys Di eneidiau ffôl,
A gamarweiniwyd, eto'n ol:
A'r rhai sy'n dilyn ofer hynt,
Gâd iddynt gofio'r dyddiau gynt.
Yn dirion ceisia, Iesu cu,
Yr enaid a'th adawodd Di:
lachâ'r gydwybod glwyfus, wan,
Dod iddi'th nefol hedd yn rhan.
Y byddar glywo'th hyfryd lêf,
A dysg i'r mudan iaith y nef;
A galw Dy ddisgyblion cudd
I'th ddilyn mwy yn ngoleu'r dydd.
Goleua'r deillion oddi fry,
A dwg wrthgilwyr 'nol i'th Dây;
Ail-una'r rhai sydd ar wahân;
A'r rhai sy'n cloffi, nertha'n mlaen.
Cânt hwy a ninau felly flas
Ar ganmol rhyfeddodau grâs:
Os melus dechreu'r gân yn awr,
Yn Salem bydd gorfoledd mawr!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
k2b4r0aidf6em8fl2v4lfynicbi7cjm
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/139
104
86849
167815
2026-07-24T00:45:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167815
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|V.
Llawenydd yn ngwaith Duw.}}}}
{{center block|
<poem>
:Na foed cydweithwyr Duw
::Byth yn eu gwaith yn drist
:Wrth ddwyn y meini byw
::I'w dodi'n nheml Crist:
Llawenydd sydd, llawenydd fydd
I bawb sy'n gweithio'n ngoleu ffydd.
:Pa'm mae'r telynau draw
::Ar helyg Babel bell,
:Pan eilw Duw bob llaw
::A thant at amcan gwell?
Ar furiau Seion, gweddus yw
Swn mawl wrth weithio gyda Duw.
:Mae gweithwyr goreu'r ne'
::Yn marw yn eu gwaith;
:Ond eraill ddaw'n eu lle
::Ar hyd yr oesoedd maith:
A ffyddlawn i'w addewid fry
Yw'r Hwn a fu'n sylfaenu'r Ty!
:Mae'r Iesu eto'n fyw!
::A'r gwaith sydd dan Ei law:
:Ar gyfer gweithwyr Duw
::Mae bendith oesau ddaw:
Llawenydd mawr yn nghyd a gawn,
Ryw ddydd, wrth wel'd y Ty yn llawn!
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
sk2wd1xpt5gqt6zmvfyn4vf9u20liw9
Tudalen:Caniadau Elfed (arg 2).djvu/140
104
86850
167816
2026-07-24T00:57:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
167816
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|VI.
Angau'r Iesu.}}}}
{{center block|
<poem>
PAN ddisgynodd grym yr Ysbryd
:Fore'r Pentecost i lawr,
Yn eu dagrau edifeiriol
:Fe achubwyd tyrfa fawr:
::Angau'r Iesu
:Wnaeth i deirmil fyn'd yn rhydd.
Yn Nghalfaria mae y fendith
:Yn parhau o oes i oes;
Etifeddiaeth anllygredig
:I'r holl fyd, yw ing y Groes:
::Angau'r Iesu,
:Cân bereiddiaf daear yw,
Cofio'r Groes dan bwys euogrwydd
:Ddaw a gobaith i'r rhai pell;
Cofio'r Groes ar fryniau tawel
:Wna i'r goreu fyw yn well:
::Angau'r Iesu,
:Coron dwyfol gariad yw.
Yn y nef mae myrdd myrddiynau,
:Oll dan aur goronau'r wlad:
Nid oes neb yn llai na brenin,
:Erbyn cyrhaedd Ty ein Tad!
::Angau'r Iesu—
:Dyna'r gân frenhinol fry.
</poem>

<noinclude><references/></noinclude>
7630vs2jauxquwcfnqaeddlfce6pf20