Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.14
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Indecs:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu
106
31670
169877
60473
2026-08-09T22:40:00Z
AlwynapHuw
1710
169877
proofread-index
text/x-wiki
{{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template
|Title=Helyntion Bywyd Hen Deiliwr
|Author=William Rees (Gwilym Hiraethog)
|Publisher=Isaac Foulkes
|Year=1877
|Source=djvu
|Image=1
|Progress=X
|Pages=<pagelist />
|Remarks=
}}
[[Categori:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr]]
[[Categori:William Rees (Gwilym Hiraethog)]]
[[Categori:Llyfrau 1877]]
[[Categori:Nofelau]]
[[Categori:PD-old]]
[[Categori:Tudalen Indecs]]
[[Categori:Cyfres y Ceinion]]
5glv7do3d2hf55rmpqafii5hrv12qf3
Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/127
104
49880
170042
102225
2026-08-10T09:55:40Z
Rhyswynne
1343
trwsio cod HTML
170042
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Megys yr awgrymais, nid yw yr eglwys na'r gynulleidfa mor fawrion ag y byddent flynyddau yn ol, er hyny mae y naill a'r llall yn dal i fyny yn rhyfeddol o dan yr amgylchiadau.
Lletywn yn nhy y brawd E. Richards, dilledydd, a boreu dydd Llun daeth gyda mi i fynwent Carmel, ac i weled y ty yr arferai Cynddelw fyw ynddo.
Yn y fynwent gwelais feddau rhai o hen ddiaconiaid enwog yr hybarch weinidog. Sefais yn hir wrth fedd y ffyddlon Thomas Powell a'i anwyl briod, Mrs. Susannah Powell. Bedd nodedig arall oedd bedd Mrs. Hannah Ellis, gwraig gyntaf Cynddelw. Y mae'r llinellau canlynol ar ei bedd-faen :
{{center block|
<poem>
"Er rhoi ei chorph i orphwys
Yn ngharchar y ddaear ddwys,
Cwyd ei llwch o'r trwch lle trig,
Llygradwy'n anllygredig;
Yno'i cawn o fewn y cor,
Heb len ar wedd ei Blaenor;
Diau'n chwaer dan ei choron,
Onid hardd yw enaid hon?
</poem>
}}
Bu farw Mehefin, 1850, yn 35 mlwydd oed.
Ar fy ymweliad a hen gartref Cynddelw, yr oedd math o brudd-der hiraethlon yn fy meddianu. Aethum i'w hen fyfyrgell. Ceisiwn sylweddoli yr amser gynt pan yn galw heibio, ac yntau, y pregethwr mawr, yn preswylio yno. Ymsyniwn am y cyfnod pan oedd Cynddelw a Chadwgan Fardd yn ymryson prydyddu ar lawer testyn difyrus, a minau yn hoglanc yn Porthmadog, yn dysgwyl yn bryderus bob dechreu mis am y ''Tyst'' a'r ''Greal'', er cael rhyw dameidyn o'u gwaith.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fdizutvfq55dphvh2r91vtre390qm5n
Defnyddiwr:AlwynapHuw/tudalen rhagolwg
2
73805
169940
169435
2026-08-09T23:38:44Z
AlwynapHuw
1710
169940
wikitext
text/x-wiki
{{header
| title =
| author =
| andauthor =
| translator =
| editor =
| section =
| previous =
| next = [[/Pennod Nesaf/]]
| notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Teitl (testun cyfansawdd)]]
}}
{| style="margin-left: auto; margin-right: auto; border: none;"
|-
| {{Wicipedia|Awdur}}
| {{Wicipedia|Llyfr}}
| {{Wicipedia|Testun}}
|}
<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf" from=17 to=147 />
</div>
==Nodiadau==
{{Cyfeiriadau}}
{{PD-old}}
[[Categori:Teitl]]
[[Categori:Awdur]]
[[Categori:Llyfrau blwyddyn]]
[[Categori:Llyfrau'r (degawd)au]]
[[Categori:Testun]]
tgg50a4j4xa4z50w64j2cz5xep6a1en
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/7
104
87738
169873
169703
2026-08-09T22:38:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169873
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/11
104
87742
169878
169710
2026-08-09T22:40:52Z
AlwynapHuw
1710
Amnewidiwyd y cynnwys gyda ""
169878
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
faisrlv11i65z34e5mlsda3xoytk2d9
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/18
104
87749
169718
2026-08-09T12:48:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169718
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd fod y ''miss'' yn digwydd yn fynychach na'r ''hit'', yn ngwneuthuriad y dilledyn hwnw yn neillduol. Cof genyf yn mhen tua dwy flynedd wedi i mi fyned ato yn brentis, ein bod yn gweithio mewn tŷ ffarm lle yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o'r deuddeg i'r deunaw oed. Gwnaed dillad y mab hynaf yn gyntaf—''coat'' o frethyn cartref, a gwasgod o stwff ty, a chlos ''worsted cord''. Wrth ffitio y dillad, cafwyd fod gliniau y clos yn llawer rhy hir a rhy helaeth, fel y bu raid datod y gwaith, a phario, a chwtogi llawer iawn arno, ac nid oedd fawr o lun arno wedi hyny. Y nesaf ydoedd hoglanc tuag un—ar—bumtheg oed, ac un tafodog trahaus oedd hwnw. Ar ol gorphen ei ddillad, galwyd arno yntau i'w gwisgo; ac och! yr oedd gliniau ei glos yn rhy gyfyng iddo o lawer. Cafodd Huw drafferth enbyd i gau y botymau; ac ar ol gorphen y ''job'',—Mi neith hwn glos da iawn—mi ddaw allan wrth ei wisgo,' eb efe; ond yr oedd y bachgen yn achwyn yn dost fod ei liniau a'i goesau yn cyffio. Aeth allan yn y man, a cheisiai redeg a neidio er mwyn stretshio gliniau'r clos; ac yn yr ymdrech, taflodd un o fotymau y glin ymaith oddiar y soced; rhedodd yn ol i'r tŷ i adrodd yr helynt :Yr oeddwn ar Gae 'r Sgubor,' meddai, 'ac wrth i mi geisio rhedeg, mi daflodd y botwm canol yma, welwch chwi, fel ergyd o wn, a mi hitiodd Robin Goch oedd yn digwydd bod o fewn seith—lath neu wyth i mi yn ei ben, ac mi lladdodd o ar y spot!' Taw a dweyd anwiredd, meddai ei fam wrtho. 'Tydio ddim yn anwiredd,' meddai'r bachgen, 'canys pytase Robin Goch, neu ryw dderyn arall yn cael ergyd y botwm yn ei ben, mi fuasai'n ddigon sicr o'i ladd!' Ar hyny, daeth y gwr i'r tŷ,—' Ni wn i beth a wnawn i'r oen llyweth ene,' eb efe; 'mae o'n tori i'r ardd o hyd, ac yn difetha pobpeth sydd yna.' 'Mi ddeuda i chwi be newch chwi iddo fo, nhad,' ebe y bachgen, 'gnewch i Huw neud clos iddo fo; mi wranta i y gwneiff Huw lindorch iddo fo, nad eiff o ddim yn<noinclude><references/></noinclude>
7e72j8xc3zbmrlueh0h429mngbvw9pi
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/19
104
87750
169719
2026-08-09T12:52:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169719
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hawdd dros yr un gwyrch wedi hyny.' Yr oedd geiriau sarhaus y bachgen yn brathu Huw fel cleddyf, ac yn enwedig chwerthin y teulu am ben ffraethineb yr hogyn. Methodd a dal y driniaeth; neidiodd i lawr oddiar y bwrdd, ac aeth allan, a bu enyd hir heb ddychwelyd. Yr oedd Huw yn feistr ar y rhan fwyaf o deilwriaid y wlad am wneud ''coat'', ac yr oedd yn cael enw a chlod am hyny trwy y fro. Anaml y methai gyda'r dilledyn hwn fel y llall; ac yr oedd yn falch ohono ei hun ar y cyfrif hwnw.
Yr wyf yn cofio un tro go ddigrif a ddigwyddodd yn achos ''coat'' a wnaethai Huw i lanc yn y gymydogaeth, yr hwn oedd â chrwb ar ei war, ac un pur anhawdd i'r teiliwr ei foddio ydoedd, yn enwedig ar ''goat''. Wedi gorphen y ''goat'', tarawodd y llanc hi am dano, ac wedi ymdeimlo âg ef ei hun ynddi am enyd, dechreuodd feirniadu arni: 'Ni thâl hon ddim byd,' eb efe, 'n surllyd. 'P'am na thâl hi?' gofynai Huw yn sychlyd. Tydi hi ddim yn debyg i ''gwat'' sut yn y byd,' ebe'r llanc. 'Tebyg i beth ydi hi?' meddai Huw. Tebyg i sach, am a wn i,' atebai'r llall. 'Mae hi cystal ''cwat'' fu erioed ar dy gefn di, ac yn llawer rhy dda i dy fath di,' ebe'r teiliwr; 'Mi 'naethwn 'i gwell hi fy hun o'r haner; mae hi yn rhy dỳn am y war,' meddai'r llall. 'Ar dy war di mae'r bai,' ebe Huw, 'mi gneis i hi i ateb i'r hyn a ddyle gwar fod, ac os nad ydi hi'n ffitio dy war di, toes gen i mo'r help.' Tynodd y llanc y ''goat'', a thoflodd hi at Huw'n ddigofus, Rhaid i chi ei haltro hi i mi,' eb efe, 'onide ro i moni byth am danaf.' 'Dos di a dy war i'w altro,' ebe Huw. Gwylltiodd y bachgen yn aruthr a heriai Huw i fyned allan i ymladd âg ef. Yr oedd mor annioddefol iddo ef i'r Teiliwr feirniadu ar ei war ef, ac oedd i Huw ei glywed yntau yn beio ar deilwriaeth y ''goat''. Cafwyd tipin o waith i berswadio'r ddau i beidio ymladd, a digon tebyg ped aethai yn frwydr rhyngddynt mai y llanc a gawsai y gwaethaf, canys buasai Huw yn gryn ymladdwr yn myddiau ei ieuenctyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
oy998j1n0pk8mubekf2c7rpp7ootnmo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/20
104
87751
169720
2026-08-09T12:53:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169720
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan aethum ato yn brentis, traddododd siars ddifrifol i mi ar fy nyledswyddau. 'Cofia di nad wyt ti ddim i siarad yn y tai, ond ateb yr hyn a ofynir i ti. Paid byth a gwthio dy big i fewniin stori; a phaid a chymeryd arnat dy fod yn gwno ar ddim fydd yn cael ei siarad gan y teulu. Paid byth a chario cleps o'r naill dy i'r llall; gollwng bob peth felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall. Paid byth ag edrych yn sur ar y bwyd roir o dy flaen di,' a llawer o gynghorion buddiol cyffelyb a gefais ganddo. Cofia di'r pethau yna,' meddai, 'er dy fwyn dy hun. Mae Teiliwr yn gwneud ei garitor yn y wlad yn nyddiau ei brentisiaeth: os ymddyga'r bachgen yn gall a distaw, mi gaiff barch ac ymddiried pobl pan ddelo'n ddyn.' Gallaswn adrodd cryn lawer am Huw; y mae yntau wedi myned i ffordd yr holl Deilwriaid er's llawer blwyddyn bellach. Heddwch i'w lwch. Dylaswn grybwyll fod Huw yn proffesu crefydd amryw flynyddoedd cyn marw, a phob arwyddion ei fod yn ddyn da.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod IV.}}}}
RHODDAIS i chwi yn niwedd y Benod o'r blaen gopi o'r gyfraith a'r gorchymynion a gawswn gan Huw Prys ar ddechreu gyrfa fy mhrentisiaeth, a than y ddeddf hono y bum i byw hyd ddiwedd y tymhor hwnw o'm hoes. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddweyd ddarfod imi gadw y gyfraith hono beth bynag i gyd oll, heb ballu mewn un pwnc. Na, yn wir, fe ddigwyddodd imi led lithro dipyn unwaith, fel y caf ddangos yn union. Profais mai cyfraith dda oedd cyfraith Huw. ac nid wyf yn anmheu na bu cofio am dani yn fuddiol imi mewn llawer amgylchiad; ac y mae genyf barch i goffadwriaeth yr hen ddeddfwr hyd heddyw. Nid oedd yn orchwyl mor anhawdd<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
528u6msvj7uqpgiow1wj72q3dr34r8x
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/21
104
87752
169721
2026-08-09T12:57:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169721
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>imi gydymffurfio â llythyren ac yspryd cyfraith Huw ag a fuasai i lawer un hwyrach, canys yr oeddwn o duedd dawedog a gochelgar yn naturiol. Ond dywedais ddarfod imi droseddu i ryw fesur un tro; ac fel hyn y bu. Yr oedd dau ffermdy cyfagos i'w gilydd, i'r rhai yr arferai fy meistr weithio, a elwid Tanybryn a Than'rallt. Digwyddodd unwaith i'r ddau deulu syrthio allan â'u gilydd, a mawr oedd y gynhen rhyngddynt. Cymerai y cymdogion o'u hamgylch ran yn yr ymrafael, rhai gydag un, a rhai gyda'r llall, nes cerddodd effaith y gynhen trwy holl deuluoedd yr ardal. Yn nghanol y ffrwgwd, daeth galwad am wasanaeth y nodwydd yn Tanybryn yn nghyntaf; ac yn fuan wedi hyny yn Tan'rallt. Nid oedd gan Huw fawr o flas i fyned i'r un o'r ddau dŷ yn nyddiau'r gynhen, canys gwyddai y ceisid ei hudo i ddweyd ei feddwl am dani yn y naill dŷ a'r llall. Wel, i Tanybryn yr aethom, ac nid hir y buom heb glywed cyfeiriadau at yr helynt, ond ni chymerai Huw arno ei fod yn deall dim o'r awgrymiadau hyny; taflai ryw air i mewn digon pell oddiwrth y mater, i geisio newid y stori. Torodd y wraig ato yn uniongyrch o'r diwedd,—'Chwi glywsoch am yr helynt sy rhyngom ni a phobl Tan'rallt, Huw—ond o ran hyny pwy sy heb glywed?' ebe hi. 'Do, mi glywais rywbeth,' ebe Huw, 'ond nid yw yn perthyn dim i'm bisnes i i holi na siarad yn nghylch pethau o'r fath.' 'Ho, felly,' ebe y wraig, 'yr ydych yn bur wahanol i deilwriaid yn gyffredin ynte—rhai go lew am stori fyddant hwy yn cael eu cyfrif yn wastad.' 'Hwyrach hyny,' ebe Huw, 'ond ni chlywsoch chwi ddim fy mod i wedi ymyraeth â bwti neb erioed, ac ni chlywch chwi ddim byth chwaith, trwy gymhorth.' Yr oedd Huw erbyn hyn yn dechreu twymno peth, ac yn pwytho arni hi bumtheg yn y dwsin, pwythai yn gyflymach o lawer iawn pan y byddai ei dymher wedi cyffroi. Deallodd y wraig nad oedd Huw ddim am ddal genau y sach iddi i dywallt ei chelanedd. Yn union ar<noinclude><references/></noinclude>
e9trujl54v5vx9w8wcyq8oxznpquaxo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/22
104
87753
169722
2026-08-09T12:59:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169722
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyny, dyma un o'r bechgyn yn dyfod i'r tŷ ar redeg, ac yn gwaeddi, O, mam! mam! mae ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch fawr yn shags gwylltion; mae hi yn gwaedu na welsoch chwi 'rioed fath beth.' 'Yn mh'le yr oedd yr hwch?' gofynai'r fam. 'Ary ffordd rhyngoch a Than'rallt,' ebe y bachgyn. 'Un ohonynt ddarfu anos y ci i'r hwch, mae'n hawdd deall,' ebe'r fam. 'Ie mi glywais un ai Wil ai Sionyn (dau o feibion Tan'rallt) yn gwneud,' ebe'r bachgen. Mawr fu y son a'r siarad am glust yr hwch, a chi a theulu Tan'rallt, yn y tŷ ar ol hyny.
Yr wythnos ganlynol aethom i Tan'rallt. Os drwg cynt, gwaeth gwed'yn. Yr oedd y ddawn i lefaru â thafodau cynefin a dyeithr i berffeithrwydd yn ngwraig Tan'rallt. Tywalltai lifeiriant o eiriau allan yn ddidor—ddiderfyn o'r bore gwyn tan y nos Byddai tafod y wraig a nodwydd y teiliwr yn canlyn eu gilydd; po cyflymaf y llefarai hi, prysuraf i gyd y gweithiai ei nodwydd yntau, a rhoddai 'hys' gyda phob pwyth, megis trwy ei ddanedd. 'I be'r ydach chi'n hisian fel ceiliogwydd yn wastad pan fydda i'n siarad, Huw? ebe hi un tro. 'I ddal pen stori i'r wydd,' ebe Huw. Chwarddodd y wraig yn ''hearty'' ar hyny, canys yr oedd tipyn o natur dda ynddi hi wedi'r cwbl.
Nid hir y bu cyn iddi droi at stori'r gynhen, 'Chwi a fuoch yn Tanybryn yr wythnos ddiweddaf, Huw, yr wyf yn deall,' ebe hi. 'Do,' atebai Huw yn lled gwta, gan ddechreu prysuro'r nodwydd. 'Chwi glywsoch ddigon o ladd arnom ni yno,' meddai hi. Fyddaf fi ddim yn clywed pethau felly 'n amser, meddai Huw. Ddim yn clywed! Sut y gellwch chi beidio clywed? Ond tydy'n nhw yn lladd arnom ni wrth bawb; ac yn dweyd celwyddau fwy na mwy.' 'Os byddaf fi 'n clywed cym'dogion yn lladd ar eu gilydd, gollwng pethau felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall rhag eu blaen y byddaf fi,' ebe y Teiliwr. Yr oedd yr ymadrodd yna yn un o ddiarhebion<noinclude><references/></noinclude>
c18t8lzmgkjw7a7iuvmahg4vv08xl73
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/23
104
87754
169723
2026-08-09T13:00:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169723
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Huw. 'Na yn wir, deudwch i mi'n onest rwan, be oedd pobol Tanybryn yn ddweyd am danom ni?' ebe y wraig drachefn, gan wisgo ei gwên fwyaf hudol. 'Pe buaswn wedi clywed y bobl yn dweyd rhywbeth yn ddrwg am danoch, yr wyf yn meddwl y buasai yn gallach ac yn onestach i mi gadw hyny i mi fy hun,' ebe Huw. 'O rwy'n gweled, ebe y wraig, 'y'ch bod chi'n cym'ryd 'u parti nhw.' Nac wyf fi yn cym'ryd parti'r naill na'r llall o honoch,' ebe Huw, dan hysian a phwytho ei oreu glas. Gall'sech feddwl fod gwreichion yn neidio o'r nodwydd gan mor gyflymed yr oedd yn ei gwthio trwy y brethyn. Ond dal i ymosod arno wnai y wraig. O'r diwedd, neidiodd Huw i lawr oddiar ben y bwrdd, ac aeth allan am dro. Daeth y wraig ataf finau gyda gwên siriol, ac meddai hi, 'Dywed di i mi, fy machgen i, beth oedd pobol Tanybryn yn ddweyd am danom ni pan oeddych yno? Mi gei di rywbeth gen i os deydi di, cei'n wir. Wel, dyna awr y brofedigaeth wedi dyfod. Ni wyddwn yn y byd beth a wnawn, Chlywais i monyn nhw yn deyd dim byd am danoch chi, imi gofio,' ebe fi. Taw a dweyd anwiredd, beth bynag,' ebe hithau, 'mi wn i well pethau na hyny." Y cwbl glwais i nhw'n ddeyd,' ebe fi, 'oedd fod eich ci chwi wedi cnoi clust yr hwch yn arw iawn ryw ddiwrnod.' 'Wel, be oeddynt yn ddweyd am hynny—dweyd mai un o honom ni oedd wedi gyru'r ci, mi wranta.' 'Na 'does gen i ddim co am hyny, meddwn inau. Ar hyny daeth fy meistr yn ei ol. 'Wel, Huw, beth 'r oeddech chi'n ceisio gwadu na chlowsoch chi mo bobol Tanybryn yn lladd arnom ni? Mae'r bachgen yma yn llawer amgenach na chi, mae o wedi cyfadde'r gwir wrtha i rwan.' Taflodd meistr olwg ddigofus ofnadwy arnaf, nes oeddwn yn crynu trwyddof. Be ddwedodd o?' gofynai. 'Dweyd 'u bod nhw yn lladd arnom ni o hyd ono,' atebai'r wraig. 'Na ddywedais i ddim o'r fath beth, yn wir,' atebwn inau, ' y cwbl a ddeudais i oedd eu<noinclude><references/></noinclude>
ko16lxozqqqyyxkcvkm3uds3uk3sy4j
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/24
104
87755
169724
2026-08-09T13:03:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169724
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bod nhw yn lladd ar eich ci chi am gnoi clust eu hwch nhw.<nowiki>'</nowiki> 'Wel ie, dyna hi,' ebe'r wraig, 'ni waeth gen i iddyn nhw ladd arna i na lladd ar fy nghi i—"os perchwch chi fi perchwch fy nghi," medd yr hen air, ac mae o'n reit gwir hefyd.' Do mi glywais inau un o'r plant yn dweyd wrth ei fam un diwrnod fod ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch,' ebe Huw, 'a toedd fawr o niwed yn hyny, 'does bosib.' Fawr o niwed yn wir!' ebe'r wraig, 'rwy'n siwr tae ni yn cael clwed y cwbwl bod ono lawer o niwed.' Yna aeth at y ci oedd yn gorwedd ar yr aelwyd, a dechreuodd ei bratio—'ydyn nhw'n lladd arnat ti ngwas gwirion i,—'r wyt ti'n llawer callach a phurach na'r un o honyn nhw, cno di glust eu hwch nhw eto, a'u clustie nhwythe hefyd os cei di afael arnyn nhw,' a llawer o bethau cyffelyb a ddywedodd hi wrth y ci. Cefais wers galed am droseddu ei gyfraith gan Huw wrth fyned adref y noson hono. Nid oedd wiw imi ddadleu nad oeddwn wedi troseddu dim mewn gwirionedd, imi grybwyll am y ci a'r hwch yn unig, nad oedd dim niwed yn hyny. ''Toedd dim achos i ti son am gi na mochyn,' meddai Huw. Os byth y ceisir genyt ti eto ddeyd chwedle, dywed fy mod i wedi dy roi di dan dy warnin' na ddwedot ti'r un gair, mai dy droi di i ffwrdd yn union a wna i, os clywa i y fath beth am danat ti; mi gei lonydd felly, ond os dechreui di ddeyd rhywbeth unwaith, wyddos ti ar y ddaear y'mhle dibeni di. Mi'th dynan di o'r naill beth i'r llall, wedi cael y fantais unwaith. Does wybod yn y byd beth fuaset ti'n ddeyd wrth y wraig yna gyneu taswn i heb ddwad i'r tŷ am ryw dipyn yn hwy.
Wedi i'r ymrafael ddarfod, yr oedd y ddau deulu yn parchu Huw yn fwy nag erioed, er mor ddig fuasent wrtho y pryd hwnw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hapcgoe3t3rm3ayk3lkvmuy04vyr368
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/25
104
87756
169725
2026-08-09T13:05:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169725
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod V.}}}}
WEL, dywedwch chwi a fynoch, rhyw waith rhyfedd ydyw i ddyn eistedd i lawr i adolygu ac ysgrifenu hanes digwyddiadau ei fywyd. Nid oedd genyf fi, beth bynag, un ddirnadaeth am dano nes i mi ymgymeryd â'r gorchwyl. Wrth i mi adfyfyrio ar y dyddiau gynt, y mae hen ddigwyddiadau na feddyliaswn ddim am danynt er dros fwy na haner can' mlynedd yn ymgodi megys o ryw gilfachau yn ngwaelodion fy nghof, gan ymrithio fel drychiolaethau o flaen fy meddwl. Yr wyf yn cael fy ngorchfygu yn aml wrth ysgrifenu yr adgofion hyn, weithiau gan wylo, bryd arall gan chwerthin, byddaf weithiau yn cywilyddio ac yn galaru wrth alw i gof rai o hen droion fy mywyd; a phryd arall yn teimlo fel yn lled falch o honof fy hun ar gyfrif rhyw bethau eraill. Rhyw lyfr rhyfedd iawn fyddai hanes bywyd dyn, wedi ei ysgrifenu yn gyflawn ganddo ef ei hun,—yn cynwys ei dda a'i ddrwg, ei holl bethau dirgel a chyhoeddus; a meddyliwch eto, ei fod yn cynwys ei holl feddyliau a'i eiriau yr oll a ddychmygodd ei galon ac a lefarodd ei dafod. Gwared ni, y mae meddwl a dychmygu am y fath lyfr yn arswydus!yn annyoddefol! Er yr holl gyfrolau mawrion ac aneirif o hanes y byd a'r amseroedd a ysgrifenwyd, ychydig iawn o'i hanes mewn cydmariaeth a gynwysant oll gyda'u gilydd. Y dydd mawr a ddaw yn unig a ddatguddia holl hanes y byd, pan y dygir pob meddwl, a gair, a gweithred pob dyn i'r amlwg. Ond rhaid i mi ymatal rhag myned yn mhellach yn y ffordd hon, onide, chwi ddywedwch fod yr 'Hen Deiliwr' yn troi yn bregethwr.
Yr oedd pump o Deilwriaid yn byw yn y plwyf hwn, yn nyddiau Huw Prys: dau yn trigo yn y pentref, a'r tri eraill un yma ac un acw ar gyffiniau y plwyf. Y mae hwn yn blwyf mawr a lled boblogaidd a digon o waith i bump o Deilwriaid ynddo, ac<noinclude><references/></noinclude>
kxlzko6kisb2zzp8k1un2myctlkaxye
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/26
104
87757
169726
2026-08-09T13:10:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169726
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar rai adegau, lawer gormod, fel y byddai raid i'r naill a'r llall gael cynorthwy gweithiwr. Yr oedd y Teilwriaid yn gyffredin yn teimlo yn eiddigus y naill tuag at y llall. Ystyriai y ddau Deiliwr oedd yn byw yn y brif ddinas (y pentref) eu hunain yn fwy urddasol na'r lleill oedd yn byw o'r neilldu yn y plwyf. Yr oedd raid i'r ddau yn y pentref (Huw Prys, fy meistr oedd un) gael ''sign'', fel y dywedem, uwch ben eu drysau. 'Hugh Price, Tailor,' yn unig oedd ar ystyllen fy meistr. Ond meddyliodd y llall, a ddaethai i fyw i'r pentref flynyddau ar ol Huw, osod ei hun i fynu yn fwy ''respectable'' nag ef, a dododd ar ei sign : 'Humphrey Owen, Tailor & Draper,' Buasai Wmffre yn ''Nerpwl'' am ryw fis neu ddau yn gweithio'r grefft, a daethai a'r gair ''Draper'' yn ei benglog adref. Tynodd y gair sylw cyffredinol y plwyfolion, a mawr fyddai y cydymholi rhyngddynt yn ei gylch, beth allasai fod ei ystyr. Ymgasglodd lluaws o gylch y drws un dydd ffair yn y pentref, i gydystyried y dyrysbwnc pwysig hwn. Daethant i'r penderfyniad mai Trapiwr oedd y meddwl, ond yr oedd un neu ddau yn barnu yn wahanol. ''Dallwch chi ddim spelio hwn acw'n Drapiwr yn ych byw,' ebe un ohonynt. Wel ie, dalltwch chi,' ebe un mwy dysgedig na'r lleill, 'mai'r gair Sasneg am Drapiwr neu Dyrchwr ydi'r gair acw.' ''Toes dim sens yn hyny,' ebe'r llall, 'tydi Wmffre ddim yn Drapiwr nac yn Dyrchwr chwaith, ond Teiliwr ydi'r dyn, mi fase yn fwy rhesymol i Robin y Crydd roid Trapiwr uwchben 'i siop, mae o'n gwneud llawer o drapie (esgidiau rhy gyfyng) i dagu traed pobol; mae nhraed i fy hun y fynud yma'n cael 'u gwasgu'n ofnadwy yn 'i drap o.' O'r diwedd, galwasant ar Wmffre i ddyfod allan i esbonio y dirgelwch iddynt. 'Be ydi ystyr y gair acw, Wmffre?' gofynent. 'Gair Sasneg ydi o,' atebai W mffre, gan edrych yn ddoeth fawreddog iawn. 'Ond be ydi ''fenin'' o?' meddynt hwythau. Wel, ei ''fenin'' o ydi hyn: mae Teilwriaid Nerpwl yn gyffredin<noinclude><references/></noinclude>
a7hox5h1mvgffsd977mt5gi7tu6xp8t
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/27
104
87758
169727
2026-08-09T13:16:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169727
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn i arfer o i osod allan'u bod nhw wedi dysgu y grefft yn rheoledd a thrywadl yn ei holl ranau; a mi eis ine trwy holl ''secrets'' y gelfyddyd'r amser y bum i ono'n gweithio.' Ni wyddai Wmffre, mwy na'igymdogion beth oedd ystyr y gair, a diau y tybiai mai dyna oedd ystyr ac amcan y gair ''Draper'' mewn gwirionedd, ond nid d nid oedd pawb o'i wrandawyr yn ei gredu. Cyn iddynt ymwasgaru, daeth ysgolfeistr y pentref i'r fan. 'Mr. Jones,' ebe un o'r dynion, 'yr ydan ni'n methu cytuno am ''feanin'' y gair acw; mae rhai ohono'n ni'n taeru mae Trapiwr sydd i'w feddwl, ac Wmffre'n deyd fel hyn ac fel hyn; be ydach chi'n ddeyd, Mr. Jones?' 'Dyna ydyw meddwl y gair ''Draper'',<nowiki>'</nowiki> ebe yntau, 'un yn gwerthu deunydd dillad, brethyn a chalico a ''cotton'' a phethau felly. '''Well done'', Mr. Jones,' ebe dau neu dri, 'dene be di bod yn sglaig.' Troisant ar Wmffre am geisio twyllo'r bobl yn y modd hwn, a bu raid iddo gilio i'w gwt gynted y gallai. Erbyn y bore dranoeth, yr oedd chwildroad cyffredinol wedi cymeryd lle yn y pentref. Aeth lluaws o'r lanciau'r ffair i gydymgynghori pa ddial a wneid ar Wmffre'r Teiliwr am ei drosedd, a chytunasant i newid ''signs'' Wmffre a Robert y Crydd, ac aethant ati yn nyfnder y nos; ac wele'r bore yr oedd ''Robert Jones Shoemaker'', uwch ben drws Wmffre'r Teiliwr, ac ''Humphrey Owen, Tailor & Draper'', uwch ben drws Robert y Crydd. Yr oedd ''sign'' Mari y Bobreg (llun torth wen) uwch ben drws siop William Lloyd y ''Grocer'', a ''sign'' William Lloyd uwch ben drws Mari'r Bobreg Yr oedd yr holl bentref mewn terfysg trwy y dydd hwnw. William Llwyd wedi gwylltio yn erwin, 'Diab ulw! diab ulw!' meddai, mi fynai cospi nhw i eitha cyfreth, mi fyna hefyd.' Barnai Ifan y ''Sweep'', prif gyfreithiwr y plwyf, fod y trosedd yn fater crogi, ac y byddai y troseddwyr yn sicr o gael eu crogi hefyd, os ceid hwy allan. Fodd bynag, yr oedd ''sign'' fy meistr, Huw Prys, wedi ei gadael yn ei lle, ac yr oedd Huw yn falch iawn o hyny. Cafwyd<noinclude><references/></noinclude>
prtc0y57h3d9afa0c1sstg2pyqbl3pl
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/28
104
87759
169728
2026-08-09T13:36:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169728
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethau i drefn a thawelwch erbyn yr hwyr hwnw, heb ryw ganlyniadau gofidus iawn oddiwrth y tro. Ond ni feddiodd Wmffre osod y ''Draper'' i fynu drachefn; ond glynodd yr enw ''Trapiwr'' wrtho byth wed'yn.
Llawer o gastiau digrif-ddireidus o'r fath a chwareuid gan wyr a llanciau y plwyf yn y dyddiau hyny, yn enwedig ar adeg pob ffair yn y pentref. Aeth y lle ar ol y tro hwnw yn rhy boeth i Wmffre, a symudodd o'r pentref i fyw cyn pen hir, a chafodd fy meistr Huw Prys frenhiniaeth deilwriaethol y ddinas a'i chyffiniau i'w law ei hun am gryn dymhor o amser. Digon tebyg ydyw y bydd rhai o'm darllenwyr yn edrych ar stori fel honan'n stori wneud, fel y dywedid—nad oedd pobl y wlad yn y dyddiau hyny mor anwybodus fel na wyddent beth oedd ystyr y gair ''Draper, &c''. Dylent gofio fod gwahaniaeth mawr rhwng ein manteision ni yn y dyddiau hyny, i'r manteision sydd gan rai ieuangach na ni yn y dyddiau presenol. YÝchydig iawn o bobl canol y wlad a wyddent air o Saesonaeg; ond yr oedd gwybodaeth grefyddol llawer ohonynt yn helaeth iawn. Yr oedd llawer ohonynt yn darllenwyr mawr ar eu Beiblau, a gallent ddadleu'n ddoniol ar unrhyw bwnc o athrawiaeth.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VI.}}}}
DYLASWN hwyrach fod wedi crybwyll cyn hyn, bod camsyniad mawr yn meddyliau dynion yn gyffredin am y Teiliwr a'i waith. Cred llawer ydyw bob amser mai gwaith hawdd ac ysgafn ydyw gwaith y Teiliwr, cyfeiliornad dirfawr yw hyny, fel y gŵyr pob Teiliwr yn dda trwy brofiad. Na, na, peth difrifol iawn i ddyn ieuanc ydyw myned yn Deiliwr, gwybydded a chreded pob bachgen ieuanc a feddylio am ymgymeryd â'r alwedigaeth hyny, ac eistedded i lawr, a bwried y draul yn dda, cyn cychwyn yr yrfa. Buan <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
qrelutfthsqrlir9s87anz7giotfv6d
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/29
104
87760
169729
2026-08-09T13:38:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169729
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y caiff y bachgen prentis ddeall, ar ol dechreu, mai nid chwareu o beth ydyw eistedd ar fwrdd caled a'i draed yn mhleth am oriau lawer bob dydd, a bod a'i ben i lawr, a'i lygad yn dyfal hwylio cerddediad y nodwydd, a'i fraich ar ysgogiad trwy gydol yr amser. Y mae adgofion byw am wythnosau cyntaf fy mhrentisiaeth yn aros yn fy meddwl hyd y dydd hwn. Clywais weision a gweithwyr ar ffermydd yn cwyno' dost gan 'glwy' y bladur' lawer gwaith. Dyn a'u helpo! beth yw 'clwy' y bladur' wrth glwy' y nodwydd? Na, ni wyddant hwy mo'u geni i'r byd wrth a ŵyr ac a brofa y Teiliwr yn wythnosau cyntaf ei brentisiaeth. Dysgyblaeth ofnadwy i goesau a chluniau a gwar a gwddf hogyn i'w dwyn a'i dyoddef ydyw y Deilwriaeth. Ond ymostyngant iddi a dygymodant â hi mewn amser. Erbyn tua diwedd y chweched mis o flwyddyn gyntaf fy ysgoloriaeth deilwraidd, yr oedd fy holl aelodau a'm cymalau wedi plygu a thawelu i'r oruchwyliaeth yn lled dda. Y mae y ddysgyblaeth yr ä y Teiliwr drwyddi i'w dori i lawr i'w grefft yn gadael ei hol arno dros ei fywyd. Y mae yn cerdded yn wahanol i ddyn arall; cerdda yn lletach yn gyffredin; gellid gyru berfa yn mron rhwng coesau ambell i Deiliwr, ac y mae ei fraich dde yn ysgwyd yn brysur fel pendil wrth ei ochr pan fo'n cerdded, ac yn gyffredin y mae yn chwim a sydyn ei ysgogiadau. Y mae delw goruchwyliaeth ei grefft i'w gweled ar gorph a cherddediad y Crydd, yntau. Y ddau hawddaf i benderfynu wrth yr olwg arnynt, a'u dull o gerdded, i ba alwedigaeth y pethynant ydyw y Teiliwr a'r Crydd, o bawb. Cerdda y Crydd yn gulach na dyn arall. Y mae ei waith ef yn gofyn iddo wasgu ei ddau ben lin yn nghyd, yr hyn a bâr i flaenau ei draed ogwyddo y naill at y llall, ac y mae'r agwedd hono i'w gweled, arno'n cerdded, yn hollol wahanol i'r Teiliwr. Y mae ysgogiad braich y Crydd hefyd yn wahanol wrth gerdded; y mae ef a'i benelin allan, ac yn ysgwyd<noinclude><references/></noinclude>
09bxgnh44hvfcumhpgxc95mjmdq3kmm
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/30
104
87761
169730
2026-08-09T13:39:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169730
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei fraich ar draws ei fynwes, fel pe byddai am lifio ei hunan yn ddau. Maddeued fy mrodyr, y Teilwriaid a'r Cryddion, i mi am athronyddu ar ddylanwad eu galwedigaethau ar eu personau a'u hagweddau.
Y mae celfi, galwedigaeth y Teiliwr yn wahanol iawn yn awr i'r peth oeddynt gynt. Nid oedd y ''line'' a'r ''figures'' ar hyd-ddi yn beth adnabyddus i'r frawdoliaeth yn y dyddiau hyny. Llinyn mesur y Teiliwr fyddai papur llwyd, neu hen bapur newydd, wedi'u tori yn slangs tua haner modfedd o led, a'u pwytho yn nghyd i wneud yr hyd priodol, a thori marciau neillduol y byddid ar ymylon y ''line'' i ddynodi y gwahanol hydau a mesurau. Nid oedd yr ysgwâr a'r ffig'rau ar hyd—ddo yn adnabyddus chwaith; weithiai mesurai Teiliwr fôn y fraich a'i law i dori coat wrthi. Ymaflai yn ysgwydd dyn â'i law aswy, a dodai benau ei fysedd a'i fawd yn y ffurf hono ar y brethyn, a sialciau'r cylch o gylch y bysedd, a'r llaw ddeheu. Weithiau dodai fowlen ar ei gwyneb ar y brethyn, neu'r defnydd, neu bedol hwyrach, i dori ffurf bôn y fraich wrthynt. Ac ystyried eu hanfanteision, yr oedd yn rhyfedd bod yr hen Deilwriaid yn gallu gwneud cystal llun ar ddillad ag oeddynt. Mae gan y genedlaeth bresenol o deilwriaid lawer o achos i fod yn ddiolchgar am y rhagorach manteision sydd ganddynt yn y pethau a berthynant i berffeithiad eu celfyddyd nag oedd gan eu tadau.'
Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi i mi fyned at Huw Prys, clywais ymadrodd hollol ddieithr i mi o'r blaen, yr hwn a barodd i mi radd o syndod. Un bore pan oedd Meistr a minau yn myned i dŷ o'r enw Pantmawr i weithio, cyfarfu cymydog å ni ar y ffordd a gofynai, 'I b'le 'r ydych chi yn myned i chwipio'r gath heddyw, Huw?' Yr oedd 'myned i chwipio'r gath' yn hen ddihareb yn mysg teilwriaid y wlad, a phobl eraill hefyd, erbyn i mi ddeall; a rhaid fy inod inau wedi ei glywed ond fy mod heb ddał sylw arno erioed. Yr wyf wedi addaw myned i'r<noinclude><references/></noinclude>
tqu0ik7kj02j201e2m7v1xoxg5qx9ys
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/31
104
87762
169731
2026-08-09T13:42:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169731
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fan a'r fan i "chwipio'r gath" yr wythnos nesaf,' meddynt. A phan ddigwyddai i luaws o deilwriaid daro ar eu gilydd ddiwrnod ffair, a chael gwydryn yn nghyd, adroddent eu helyntion yn 'chwipio'r gath,' yn y fan hon a'r fan arall, yn ddoniol i'w gilydd. Pa bryd, a pha le, ac ar ba achos neu achlysur, y dechreuodd y ddihareb hon, ydynt gwestiwnau haws i'w gofyn na'u hateb. Methais i, o leiaf, a chael dim sicrwydd yn eu cylch. Ni allodd dysgedigion anrhydeddus eraill y nodwydd erioed gytuno ar y pwnc. Yr esboniad a roddai fy hen feistr Huw Prys i mi ar y ddihareb sydd fel y canlyn: Dywedai iddo gael y chwedl yn ysgrifenedig mewn hen lyfr, yn y modd yma,—'Yr oedd yn byw gynt ar gyffiniau Ardudwy hen deiliwr hybarchus. Efe un dydd, a fore gyrchai i dŷ cyfrifol yn y fro hono, i ddilyn cwrs ei alwedigaeth, a damweiniai bod clamp o gwyr melyn ganthaw, yr hwn a ddodai ar y bwrdd. A gweled a orug y gath y clamp cwyr melyn, a thybiaw a wneddyw ei fod yn gyfryw ddanteith-fwyd ac a garai cath ei fwynhau, ac o hyny yn ngrym trachwant natur reibiol-wanc cath, hi a roddes lamgyrch ystwyth-chwim arnaw, ac a'i cipiws ymaith, a mawr y drafferth a gafwyd i'w adfer oddiarni. Y bore dranoeth, ar ei ffordd tua'r tŷ, tori a orug y teiliwr swrn o frigau coed bedw briglas a'u rhwymo yn wialen. Ac wedi myned o honaw i'r ty, gofyn a wnaeth un o'r teulu i ba bwrpas y dygasai y wialen. "I chwipio'r gath," ef atebai.' Athaenwyd y gair hwn yn mysg Teilwriaid y rhan hono o'r wlad. Dyna'r esboniad a gefais i gan Huw Prys, ac a gawsai yntau gan ei henafiaid; ac i'r farn hon yr oedd Huw yn gogwyddo. Barnai eraill nad oedd chwedl y cwyr melyn ddim ond dychymyg ddisail; mai ei dyfeisio a wnaeth rhywun i'w chynyg yn esboniad ar y ddihareb ddyrys, fel y dyfeisir llawer o chwedlau ac esboniadau ar lawer o ymadroddion llawer pwysicach na'r ymadrodd 'chwipio'r gath.' Tybiant hwy fod dechreuad y peth yn syml, a'i<noinclude><references/></noinclude>
gpchfey9vwwnhm0ex9sy6uahl0f612q
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/32
104
87763
169732
2026-08-09T13:43:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169732
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddeongliad yn hawdd ac eglur, sef bod pob cath, yn enwedig pob cath ieuanc, yn hoff iawn pan welo bellen o edafedd o fyned i ymbawenu â hi, ac o ganlyniad, hi a bâr flinder a thrafferth nid bychan i'r Teiliwr yn fynych fel y gwn i fy hun yn dda, a llawer gwaith y bum yn cadw gwialen i warchod y bellen rhag y gath, yn mhob tŷ y byddai cath ifanc yn enwedig. I'r golygiad olaf am achos a dechreuad y ddamheg y byddaf fi yn gogwyddo, ac fe ddichon, y nifer fwyaf o'n hawdurdodau yr un modd; eto dichon fod llawer i'w ddywedyd tros y golygiad cyntaf, yn enwedig Celtigrwydd arddull y chwedl. Os nag ffugwaith mewn oes ddiweddar ydyw yr arddull a'i gwisga, rhaid bod y traddodiad wedi dyfod i lawr o ddyddiau y Gogynfeirdd feddyliwn, ac os felly, y tebygolrwydd yw, fod gwir yn chwedl y cwyr melyn.
Ond hwyrach y byddwch chwi, ddarllenwyr, yn dwrdio fy mod yn ymadroddi cyhyd gyda pheth mor ddibwys a hyn. Wel, yr ydwyf yn addef mai peth dibwys ydyw, a ddiddyddordeb hefyd efallai i'r rhan fwyaf, ond y mae yn hawdd i un fod yn hir a maith gyda pheth y byddo ef ei hun yn teimlo gradd o ddyddordeb ynddo, ond ymdrechaf beidio ymdroi yn y wedd yna gyda dim eto. Tybiais wrth gychwyn ysgrifenu y gallaswn gynwys y cyfan oedd genyf i'w ddywedyd mewn rhyw dri neu bedwar pwt o lythyr, ond mae'r peth yn chwyddo dan fy nwylaw rywsut. Yr wyf yn gweled yn awr y gallwn ysgrifenu, am wn i, gant o benodau ar adgofion fy mywyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VII.}}}}
A DWEYD y gwir i chwi, yr wyf yn dechreu blino a diflasu ar y gwaith o ysgrifenu yma, ac edifarhau am fy amryfusedd yn ceisio ymyraeth âg ef. Ychydig a feddyliais ar y cychwyn fy mod yn tynu y fath ''job''
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
0772ys4fj4t62j72zy32tqggepua75m
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/33
104
87764
169733
2026-08-09T14:25:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn fy mhen. Soniais yn y benod o'r blaen am lymder cymhariaethol clwy'r nodwydd a chlwy'r bladur; yr wyf yn deall erbyn hyn fod clwy'r pin yn llawer gwaeth na'r ddau. Nid ydyw clwy'r nodwydd ond peth am unwaith yn oes teiliwr wedi iddo unwaith fyned trwy y clefyd yn ei brentisiaeth, ni flinir mo'no ganddo mwy; ond mae clwy'r pin yn beth parhaus, a chlwy' 'menydd a meddwl ydyw; ac y mae, gan hyny, yn llawer mwy poenus a pheryglus na c...
169733
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fy mhen. Soniais yn y benod o'r blaen am lymder cymhariaethol clwy'r nodwydd a chlwy'r bladur; yr wyf yn deall erbyn hyn fod clwy'r pin yn llawer gwaeth na'r ddau. Nid ydyw clwy'r nodwydd ond peth am unwaith yn oes teiliwr wedi iddo unwaith fyned trwy y clefyd yn ei brentisiaeth, ni flinir mo'no ganddo mwy; ond mae clwy'r pin yn beth parhaus, a chlwy' 'menydd a meddwl ydyw; ac y mae, gan hyny, yn llawer mwy poenus a pheryglus na chlwy' braich ac ysgwydd a choesau. Yr oeddwn i, fel llawer, yn arfer meddwl mai gwaith ysgafn a hawdd oedd ysgrifenu traethodau a llyfrau, ond yr wyf wedi newid fy meddwl yn hollol ar ol i mi ddechreu ar y gorchwyl o ysgrifenu hyn. Rhagluniaeth a helpo'r creaduriaid truain hyny sydd yn ceisio enill eu tamaid gyda ni yn Nghymru trwy lafur y pin! y mae'r nodwydd yn ddigon sal, ond y mae'r pin yn salach o lawer na hithau, hefo ni beth bynag. Yr wyf yn deall ei bod fel arall yn Lloegr, a bod llawer un yno yn enill canoedd llawer o bunau âg un cwilsyn. Y twrneiod yn unig sydd yn gallu gwneud i'r cwilsyn dalu ei ffordd yn Nghymru, hyd y gallais i ddeall. Ped ysgrifenai dyn yn Nghymru draethawd, neu gân, neu gywydd, cystal ag angel, bydd yr argraffydd a'r llyfrwerthydd yn myned a'r cwbl cydrhyngddynt, a gadewir i'r ysgrifenydd sychu ei drwyn yn ei lawes. Gwelais yn rhywle bod Tennyson, y bardd llawryfol yn Lloegr, yn cael punt am bob llinell o farddoniaeth a anfonir i un o'r cyhoeddiadau; a bod Dickens, y nofelwr, yn derbyn miloedd o bunau wrth fyned o amgylch y wlad i ddarllen ei lyfrau ei hun, wedi iddo wneud miloedd ohonynt o'r blaen trwy eu gwerthiad.
Y mae rhyw aflwydd arnom ni fel cenedl rywfodd yn y peth hwn; gwell genym gefnogi dynion o genedl arall yn wastad na rhai o'n cenedl ein hun; rhaid i bob gelach o wr bonheddig a fedro gadw steward, gael Scotyn i'r swydd—prin y ceir Cymro byth yn y swydd hono yn unman, er fod digon o rai llawn mor gymhwys iddo i'w cael yma, heb fyned i Scotland i ymofyn am danynt. Yr un fath yn union y mae'r werin bobl hwythau; pe deuai teilwriaid o Loegr a Scotland yma, ni chaiff teiliwr o Gymro le i roi blaen ei nodwydd trwy frethyn yn unman; a chrefftau eraill yr un modd. A'r un fath yn y byd llenyddol drachefn, —caiff llyfrau Cymreig a gyhoeddir gan Scotiaid neu Saeson fwy o dderbyniad o lawer na rhai a gyhoeddir gan Gymry. Y mae gen ym lawer Dic Sion Dafydd o feirniad yn ein plith, nad oes nemawr i waith gwreiddiol Cymreig yn werth ei godi o'r domen yn eu golwg, mewn cymhariaeth i weithiau Saeson a chenhedloedd eraill. Amcanant wneud eu hunain yn fawr mewn doethineb yn ngolwg eu ddarllenwyr drwy fychanu a diraddio pob peth Cymreig. Pa sawl gwaith y clywsom hwynt yn haeru na chyfododd yr un Milton a Shakespeare erioed yn Nghymru, ac ambell i un o'r brygawthwyr hyn heb wybod ond yn nesaf peth i ddim am weithiau y ddau hyny, na chanddynt un farn eu hunain am natur eu teilyngdod. Gymry! goddefwch i Hen Deiliwr ddweyd wrth fyned heibio, 'Ni ddylai'r pethau hyn fod felly.' Nid oes genyf fi, o'm rhan fy hun, achos i gwyno yn y peth hwn. Nid wyf fi, ac nid oeddwn o'r dechreu, yn disgwyl na thâl na diolch am ysgrifenu. Yr wyf yn ysgrifenu ar fy mwyd fy hun, fel gwr boneddig neu deiliwr, fel y dywedir. Ni wn i, a grôt i gi y neb a wyr, beth a barodd imi grwydro fel hyn oddiar fy llwybr, na pha fodd y gallaf ddychwelyd yn ol at fy mhwnc priodol—helyntion teilwriaid a theilwriaeth y dyddiau gynt.
Yr wyf yn cofio un tro yn ystod tymhor fy mhrentisiaeth, i deilwriaid y plwyf ymgasglu at eu gilydd i geisio sefydlu cyd-dealltwriaeth â'u gilydd yn nghylch y pethau a berthynent i'w galwedigaeth. Cwynid yn erbyn un neu ddau eu bod yn drygu y trade trwy ostwng pris y gwaith, er mwyn enill cwsmeriaid y lleill. Cefais inau y fraint o fod yn bresenol
yn y cyfarfod. Etholwyd fy meistr, fel yr hynaf a'r mwyaf profiadol, i gymeryd y gadair. Agorwyd y cyfarfod trwy egluro yr amcan oedd iddo. 'Frodyr a chyd-deilwriaid,' ebe ef, 'nid wyf yn ystyried fy hun yn deilwng o'r anrhydedd a osodasoch arnaf trwy fy ngalw i'r gadair yma heno. Yr wyf yn fwy cyfarwydd o lawer ar bwytho nag ar areithio; gwell fuasai genyf fi o lawer i un ohonoch chwi gymeryd y swydd anrhydeddus hon; ond mewn ufudd-dod i'ch cais, ymdrechaf wneud goreu y gallaf. Y mae o bwys i ni fel teilwriaid ddeall ein gilydd, a sefyll wrth gefn ein gilydd, chwi wyddoch. Y mae pris gwaith y teiliwr yn ddireswm o isel, ac arnom ni y mae y bai ei fod felly, a gallem wella pethau ond i ni ddyfod i gyd-ddealltwriaeth a chydsefyll wrth ein penderfyniadau. Y mae pobl yn arfer dweyd, fel y gwyddoch chwi, bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud un dyn, yr wyf fi yn y modd mwyaf difrifol yn protestio yn erbyn yr haeriad sarhaus yma, ac yn hòni ein bod ni'r teilwriaid yn gystal dynion a neb pwy bynag, at eu gilydd. Gadewch i ni brofi a dangos hyny i'r byd. Y mae tipyn o achwyn ar un neu ddau ohonom, eu bod yn tori prisiau ein gwaith ni yn gwneud dillad dan y pris arferol yn y wlad yma. Y mae pris bara ac enllyn a moddion byw yn uwch o lawer yn awr nag ydoedd flynyddoedd yn ol, ac felly dylasai fod pris ein gwaith ninau yn uwch hefyd. Ni ddymunwn i ddweyd dim yn gas wrth y ddau frawd cyhuddedig yma, ond dymunem i gyd iddynt ddiwygio a pheidio gweithio dan yr hen bris o hyn allan.'
Eisteddodd fy meistr i lawr yn nghanol trwst cymeradwyaeth uchel.
Cyfododd un o'r ddau a gyhuddid i geisio amddiffyn ei hun. Addefai mai gwir oedd ei fod wedi gweithio dan bris mewn tŷ neu ddau, fod y bobl hyny wedi dweyd wrtho fod teiliwr o blwyf arall wedi cynyg gwneud y gwaith am y pris a'r pris, ac os nad ymfoddlonai ef i weithio am yr un pris, y rhoddent eu
gwaith i hwnw; ac iddo yntau, er mwyn cadw ei gwsmeriaid, a chadw teiliwr estronol allan o'r cyffiniau, addaw gwneud. Rhywbeth tebyg oedd stori y llall. Ar ol llawer o siarad ar y mater, addawodd y ddau frawd na throseddent yn y wedd hono mwy; a phenderfynwyd, os deuai teiliwr o blwyf arall i'r plwyf hwnw i weithio dan bris, y byddai iddynt godi yn ei erbyn a'i fopio ymaith, a dwyn ei arfogaeth oddiarno, a thori'i wallt wrth groen ei ben â'i siswrn ei hun, rhwymo ei ddwylaw ar ei gefn, a chrogi yr wydd a'r labwt wrth linyn am ei wddf, a'i ollwng i fyned adref yn y ddiwyg hono. Ymrwymodd pawb oedd yn bresenol i sefyll at y penderfyniad hwn, a chynorthwyo i'w gario allan, os deuai achos.
Ar ol penderfynu y mater pwysig hwn, trowyd y cyfarfod i ymdrin âg achosion cyffredinol y frawdoliaeth. Yr oedd yno un o'r enw Owen Hughes, yn wr doniol ac ymadroddus, a chryn oracl yn ein plith. Cyfododd Owen ar ei draed, a dywedodd: Mr. Cadeirydd, crybwyllasoch yn eich araith ar agoriad y cyfarfod, am yr anfri a'r diystyrwch a deflir arnom ni fel teilwriaid, gan ddynion anwybodus—"bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud dyn," &c.; pe dywedent fod yn rhaid cael naw dyn o'u bath hwy i wneud un teiliwr, byddent yn llawer nes i'r gwir. Yn y cyffredin, y mae'r teiliwr yn llawer mwy gwybodus a deallus na'r cyffredin o ffermwyr a galwedigaethau eraill, a chenfigen sydd yn peri iddynt geisio ein diystyru. Ni raid i ni gywilyddio arddel ein galwedigaeth ar un cyfrif. Y hi yw yr alwedigaeth hynaf, ac, ar y cyfrif hwnw yn unig, yr anrhydeddusaf ar y ddaear. Onid teiliwr oedd Adda, tad dynolryw? Beth bynag, yn deiliwr y troes ef yn union wedi iddo droseddu. Y'mhle y cafodd efe nodwydd ac edef sydd bwnc nad ellir ei benderfynu, hwyrach; ond beth bynag am hyny, mae y ffaith yn eglur mai dyna y gelfyddyd y trodd efe ati. O'm rhan fy hun, yr wyf yn falch o'm swydd, fel teiliwr, ac nid wyf yn
prisio cawnen yn ngwaith dynion ffol, anwybodus, yn ceisio ein diraddio; ond dylem sefyll dros urddas ein galwedigaeth, a dysgu i'r trueiniaid a geisiant ein dirmygu bethau amgenach.'
Yr oedd Tomos Owen yn barnu ac yn teimlo yn wahanol iawn i'w frawd Owen Hughes. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ef iddo erioed feddwl am droi yn deiliwr; barnai ef fod canlyniadau trosedd Adda wedi disgyn yn drymach ar y teilwriaid nag ar un dosbarth arall o'i blant; a hyny, hwyrach, am iddynt ddilyn ei esiampl o droi at y nodwydd. Ni oddefid i Tomos fyned yn mlaen yn y ffordd hono; hysiwyd a hwtiwyd ef i dewi yn bur fuan, a bu yn rhaid iddo eistedd i lawr. Pasiwyd penderfyniadau cryfion dros iawnderau ac anrhydedd urdd y nodwydd; ac wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. A hwnw oedd y cyfarfod cyntaf o'r natur y bum i ynddo.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VIII.}}}}
BUM yn gweithio gyda Huw Prys am o ddwy i dair blynedd wedi i mi fwrw fy mhrentisiaeth, fel y dywedem. Gwelais amryw fath ar bobl yn hyny o gylch bychan yr oeddwn i yn troi ynddo, fel y sylwais mewn penod flaenorol. Yr oedd ambell i deulu paganllyd, tywyll, a thruenus iawn i'w cael yn ein gwlad y dyddiau hyny. Yr oedd teulu nodedig felly yn byw yn {{bar|2}}, ond hwyrach mai gwell fyddai peidio enwi y lle; mae perthynasau i'r teulu yn fyw yn awr, ac yn bobl barchus iawn. Yr enw oedd gan fy meistr ar y tŷ hwnw oedd 'Uffern ar y ddaear,' a 'Nefoedd ar y ddaear' y galwai ffermdy cyfagos iddo; efe oedd teiliwr y nef a'r uffern ddaearol hyny. Digwyddodd i ni un tro gael galwad i'r ddau le ar yr un pryd. Dewisiodd fy meistr fyned i'r 'Uffern ar y ddaear' yn gyntaf. Bydd yn gysur ini feddwl, tra fyddom yno,'
Q
meddai, 'y cawn fyn'd i'r nefoedd ar ol gorphen ein job yno; ond ped elem i'r nefoedd yn gyntaf, byddai meddwl fod yn rhaid ini fyned i'r lle arall wed'yn yn ein rhwystro i fwynhau ein nefoedd yno tra y byddem ynddi.'
Bore y dydd cyntaf yr aethom yno, fel yr oeddym yn agoshau at y tŷ, safodd fy meistr ar y ffordd, gan ddwys ocheneidio; yna tynodd groes â'i fys ar draws ei dalcen a'i fynwes. Ymgroesa dithau,' ebe ef wrthyf fi. 'I beth?' gofynwn inau. 'I beth!' eb efe, 'ai ni wyddost dy fod yn safn uffern?' Cododd gradd o arswyd arnaf ar y pryd; gwyddwn mai croes iawn i ysbryd ac arfer fy meistr oedd dweyd dim yn ddrwg am dy neb; credwn y rhaid fod rhyw ddrwg erchyll yn y tŷ hwnw pan ddywedai ef y fath beth am dano, ac nid hir y bum heb weled a phrofi hyny. Yr oedd megis rhyw falldod neu felldith i'w gweled ar bawb a phobpeth yno ar yr olwg gyntaf, ond pan ddaeth y teulu at eu gilydd i frecwest y torodd hi allan yn fellt a tharanau, a daeargrynfaäu, a chenllysg, a thân. Yr oedd yno chwech o blant o'r chwech hyd y pumtheg oed yn eistedd wrth yr un bwrdd â mi; a meistr yn eistedd gyda'r gwr a'r wraig wrth fwrdd bach gerllaw y tân. Gyda'n bod yn dechreu bwyta, aeth yn ymrafael rhwng dau o'r plant wrth y bwrdd; taerai un fod y llall wedi cymeryd ei bicyn ef, cymerodd y lleill ran yn yr ymryson, rhai bob ochr; aethant i glustiau a gwallt eu gilydd, gan guro, a chripio, a brathu, a rhegi y naill a'r llall, yn arswydus. Taflodd un ei bicyned potes i wyneb un arall, a dyna lle yr oedd hwnw yn ysgrechian fel mochyn dan y gyllell. Taflodd un ohonynt un arall ar fy nhraws i fel y syrthiais ar fy nghefn dros y fainc, ac y dymchwelodd fy mhicyned potes am fy mhen, nes yr oeddwn wedi fy haner ysgaldio. Erbyn i mi gael fy nhraed o tanaf, yr oedd y fam wedi codi ar ei thraed fel dreiges, yn crochwaeddi, yn ysgyrnygu, ac yn rhegi y plant yn ddychrynllyd; rhoddai fonclust
i un, hergwd i'r llall, a chic i'r trydydd, a rheg fawr ar y pedwerydd; ac yn yr amryfusedd, rhoddodd gernod i minau yn ochr fy mhen, nes oedd clych yn fy nghlustiau, a gwreichion tanllyd yn neidio o'm llygaid. I ychwanegu y terfysg, cyfranogodd tri o gŵn oedd ar yr aelwyd o ysbryd yr ymrafael, a dechreuent gyfarth â'u holl egni, a chan ddilyn esiampl y plant, aeth dau ohonynt i ymladd â'u gilydd; rhuthrodd y llall i'r gath gan ei sgyrian yn ffyrnig, nes oedd yn gwaeddi am ei hoedl. Cododd y gwr yntau oddiwrth y bwrdd, a dechreuodd ffonodio y cŵn a dwrdio y plant. Beiai y wraig ei bod yn gwneud cam âg un o'r bechgyn—mai un arall oedd ar y mwyaf o fai. Aethant hwythau i ffraeo a rhegi eu gilydd eto; taflodd y wraig gwpaned o de i wyneb ei gwr, a rhoddodd yntau gic iddi hithau. Ar hyn, neidiodd meistr ar ei draed, a rhedodd allan, a rhedais inau allan ar ei ol, ac allan y buom nes aeth yr helynt drosodd; a dyna'r frecwest a gawsom y bore hwnw. 'Nid af fi ddim i mewn i'r uffern yna eto,' ebe fi wrth meistr; 'tyr'd, tyr'd,' ebe fe, 'nid oes yma lawer o waith trwy drugaredd, ni a orphenwn y cwbl mewn deuddydd neu dri.' Ond yr oedd meddwl bod am ddeuddydd neu dri yn y fath le ofnadwy yn ddigon i dori calon undyn. Erbyn i ni fyn'd yn ol i'r tŷ, yr oedd y storm wedi gostegu, y plant wedi ymwasgaru, y gwr wedi myned i'r maes, a'r wraig wrthi ei hunan yn y tŷ, ac yn ymddangos fel pe na buasai dim yn neillduol wedi digwydd. Aeth y gweddill o'r diwrnod heibio yn lled dawel, gyda'r eithriad o dyngu a rhegi ar brydiau bwyd. Dyna fel y byddai y teulu yn bendithio ac yn talu diolch am eu beunyddiol ymborth.
Yr oedd meistr a minau yn tynu dau bwyth am un tra buom yno, er mwyn prysuro i orphen ein gwaith a chael ymwared o'r lle poenus hwnw. Tridiau y buom yno, a gwelais lawer ysgarmes yn ystod y tridiau hyny, ond nid un mor ofnadwy a'r gyntaf. Yr oedd un o'r dyddiau yn wlyb a dryghinog iawn,
a'r gwr gyda ni yn y tŷ y rhan fwyaf o'r diwrnod. Ar ryw ymddyddan, sylwodd meistr wrtho, 'Ni byddaf byth yn eich gweled chwi yn y capel, Hwn a Hwn.' 'Wel, na fyddwch, debyg, ac ni welwch chwi na neb arall monwy yno byth,' eb efe, 'mi fydde'n dda gen i tae pob capel sy'n y wlad yma wedi myn'd ar dân. Mi fydda'n myn'd i'r eglwys weithie, ond tydw' i'n hidio dim am yr eglwys chwaith; ond 'rydw' i'n lecio'r person, gwladwr braf ydi o; misteddiff gyda ni yn y dafarn, ac mi botith i chalon hi fel nine pan ddigwyddo ni daro wrth ein gilydd. Mi ges i ran o beint ganddo fo lawer gwaith, ac mi fydda i'n leicio myn'd i ddangos fy ngwyneb yn yr eglwys weithie er i fwyn o.' 'Felly,' ebe meistr, a gofynai, 'A oes genych chwi Feibl yn y tŷ?' 'Beibil!' ebe y gwr, 'nag oes yma, ni fu yma Feibl erioed, ac ni ddaw yma yr un byth os gwela i o. Nid oes yma neb fedr ddarllen, a phe dase, y mae genon ni rywbeth rheitiach i'w neud na darllen y Beibl.' 'Peidiwch a dweyd fel yna,' ebe meistr, 'fe ddylai y Beibl, beth bynag, fod yn mhob tŷ, ac fe ddylai pawb ddysgu ei ddarllen o, beth bynag f'ont heb ddysgu. Y Beibl sy'n dysgu sut y dylem fyw yn y byd hwn, a'r ffordd i gael dedwyddwch yn y byd arall.' 'Mi wn i sut i fyw yn well nag y gall y Beibl ddysgu i mi, debyg gen i,' ebe yntau; 'ydech chi'n meddwl, Huw, y gnawn i fyw wrth lyfr? Dyna hwn a hwn (cymydog iddo), mae o wedi cym'ryd yn i siol i ffarmio wrth lyfr, mae o â'i drwyn yn i lyfr o'r bore gwyn tan y nos, ac yn gneud pobpeth—trin y tir, a thrin i anifeilied yn ol cyfarwyddyd y llyfr, ac mae 'i lyfr o wedi ei yru o i goste mwy na mwy, ac ni chaiff o byth mo'i arian yn ol; mi fydd wedi myn'd trwy'r cwbwl fedd o yn bur fuan, o achos i hen lyfr gwirion o. Ni weles i ddim graen erioed ar neb fydde'n gneud pethe wrth lyfr, a nghred i ydi, y base'n dda iawn i'r byd yma pe na base neb yn medru darllen o'i fewn o. Na, na, chaiff yr un llyfr fy nysgu i beth bynag sut i fyw na sut i drin tir, a tawn i yn eich gweld chi, Huw, yn mynd i dori a phwytho wrth lyfr, ni chaech chi roi pwyth byth yn y nhŷ i beth bynag, rwi'n deud i chi.' 'Wel, wel,' ebe meistr, 'rhaid i chwi a minau sefyll i'n barnu wrth lyfr ryw ddiwrnod, a'r hen Feibl yma fydd y llyfr hwnw hefyd.' 'Os daw byth alwad arna i,' ebe yntau, 'mi ddeyda i na ddarllenais i erioed mo'r Beibil, a na fedrwn i ddim darllen chwaith, a mi fydd hyny yn ddigon ar y pwnc ene.' 'Na, fydd hyny ddim yn ddigon y diwrnod hwnw, os ydyw'n gwneud y tro heddyw, na fydd ddim yn ddigon i neb fydd wedi cael cyfleusderau i ddysgu darllen, a chael y Bibl yn eu cyrhaedd yn eu hiaith.' 'Mi 'rydwi'n talu i bawb ei ofyn; a nid eis trwy'r un lidiart erioed heb 'i chau hi ar f'ol,' eb y gwr, 'a mae hyny yn fwy nag all y rhan fwyaf o bobol y capeli yna ddweyd; a be sy gen neb ddim arall i'w ofyn imi.' 'Hys,' ebai Huw, ac ymollyngodd i bwytho â'i holl egni. Yr oedd ef a minau mor llawen a'r 'Fwyalch yn gelli' wrth ymadael ar ol gorphen ein ''job'' yno.
Nid llawer o deuluoedd o'r fath hwnw oedd i'w cael yn y wlad, ond yr oedd ambell un yma ac acw. Hyderaf nad oes gymaint ag un o'u cyffelyb i'w gael yn awr drwy holl Gymru. Yr oedd yr efengyl heb lwyr ddarostwng y wlad, ac Ysgolion Sabbothol ond lled anaml yn y dyddiau hyny. Ychydig iawn y mae y genedlaeth bresenol yn ei feddwl pa mor ddyledus ydyw i bregethu, ac i'r Ysgol Sul am gysuron cymdeithasol a theuluaidd, heb son am ddim arall; canys oni buasai eu dylanwad hwy, rhywbeth tebyg i gyflwr truenus y teulu y cyfeiriwyd ato fuasai cyflwr y rhan fwyaf o deuluoedd ein gwlad yn awr.
<section end="bbb"/>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod IX.}}}}
AR fore y dydd Llun cyntaf wedi i ni gael gollyngdod o'r lle poenus hwnw, ymddangosai fy meistr yn hynod
siriol: 'Wel, tyr'd Robin,' meddai wrthyf, 'gad ini gychwyn tua'r nefoedd.' Ni buaswn i gydag ef yn y nefoedd cyn y tro hwnw. Gofalai yr hen lwynog am gadw y nefoedd i gyd iddo ei hun bob amser. Cadwai fi adref i bwytho tra y byddai ef yno, fel y gallai estyn yr amser yno cyhyd ag y byddai modd, ond tegwch âg ef ydyw i mi gydnabod ddarfod iddo fy nghadw o'r uffern hono hefyd yr un modd, ond nid oddiar yr unrhyw egwyddor. Yr oedd arno ofn imi ddysgu iaith a chastie uffern, fel y dywedai, os cymerai fi yno, pan nad oeddwn eto ond bachgenyn rhy ieuanc i allu dirnad y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Yr oedd wedi addaw lawer gwaith os buaswn yn fachgen da, dystaw, a diwyd, y cawswn fyned gydag ef i'r nefoedd ryw dro, a daeth y tro hwnw o'r diwedd. Bore hyfryd, tawel, teg, yn mis Mai, oedd yr adeg :
'A'r maesydd yn wyrddleision
:A'r coed yn llawn o ddail,
A natur ar eu gilydd
:Yn chwerthin bob yn ail.'
A holl 'Adar cerddgar y coed' o'n deutu ar hyd y ffordd megis yn llawengyfarch y ddau bererin o deilwriaid yn trotian heibio tua'r nefoedd. Cerddai fy meistr ychydig o'm blaen i, yn ddystaw fud am hir enyd; safai yn sydyn yn y man, a daliai ei lathen i fynu, Wyddost ti beth, Robin,' meddai, 'mae'r adar yma yn canu cystal i ni a phe buasai dau frenin yn myned ar hyd y ffordd yma heddyw, a 'rwy'n siwr o beth arall, ein bod ni ein dau mor ddedwydd yn y fan yma y mynud hwn ag un dau frenin ar y ddaear; a dweyd y gwir i ti, ni newidiwn i mo lathen y teiliwr am un deyrnwialen frenhinol dan haul—'hys!' Yna cododd ei het ar frig ei goryn, a throdd ei lathen o gwmpas ei ben, a dechreuai ganu yr hyn a ganlyn:
Mae'r adar fry ar goed y fron
:Yn canu'n llon i'w Lluniwr,
Mae'n naws eu llais o fynwes llwyn
:Hudoliaeth fwyn i deiliwr:
Ei alw wnant i eilio 'n iawn
:Gân hylawn i'w Gynhaliwr.
Q
Dyrchafaf gyda'r adar mân
:Bereiddiaf gân o'm genau,
Am fwyd, a dillad a phob dawn,
:O rwyddiawn drugareddau,
Am edau dda, a nodwydd ddur,
:Ac awel bur y boreu.
'Rwy'n myn'd a'm llathen dan fy llaw,
:A'r haiarn pressiaw prysur,
Y siswrn llym, a'r bwtcin twt,
:A'r labwt ar ei lwybyr;
I'r nef i bwytho mewn mwynhad,
:Iachusaf rad a chysur.
Bu Robin bach a minau dro
:Yn pwytho'nghanol poethion
Ellyllon cras, hyll iawn en cri,
:A sosi, gwaeth na Saeson;
Ond cawn fod heddyw'n llon ein dau
:Yn ngoleu gwlad angylion.
Cefais ganddo ysgrifenu y gân ar ol dychwelyd adref y noson hono, a chedwais hi yn fy meddiant hyd heddyw, a dyma y tro cyntaf erioed iddi gael ei dwyn i 'wyneb haul a llygad goleuni.'
Yr wyf yn meddwl i mi ddweyd ar y cyntaf nad oedd Huw Prys yn nemawr o beth fel dyn nac fel teiliwr; teimlaf yn awr awydd galw hyny yn ol. Dyna'r olwg oedd genyf fi arno pan oeddwn gydag ef, a dyna'r olwg oedd gan eraill arno hefyd; ond erbyn imi ei ail ddwyn gerbron fy meddwl mewn adgofion, a'i fesur wrth yr adgofion hyny, y mae Huw fel yn tyfu o hyd ger fy mron. Yr oedd efe, fel y gwelir wrth y gân uchod, yn dipyn o brydydd neu rigymydd. Ni allodd erioed wneud englyn difai, meddai ef, ond gwnai ambell benill neu bwt o gân lled bert. Yr oedd hefyd yn wr go hynod ei dymher. Byddai weithiau, fel yr oedd y bore hwnw, ar ei uchel fanau, fel ebol ieuanc; a phryd arall yn isel a phruddglwyfus ryfeddol; ni ddywedai air wrth neb am ddyddiau weithiau. Yr unig ffordd i yru yr ysbryd mud a byddar hwn allan ohono fyddai naill ai ei ddigio nes peri iddo wylltio, neu ddweyd neu wneud rhywbeth digrif a barai iddo chwerthin, ond nid gwaith hawdd fyddai peri iddo ddigio na pheri iddo chwerthin pan fyddai wedi suddo yn ddwfn i gors digalondid. Wedi i bob dyfais fethu, hwyrach mai y digwyddiad lleiaf a effeithiai arno. Yr wyf yn cofio am un tro yn neillduol pan oedd yn y cyflwr truenus hwn. Buasai am lawer o ddyddiau yn curio mewn ympryd a mudanod. Methasai pob ymdrech o eiddo'r wraig a'r cymydogion i'w godi o'r ffos. Gellid casglu mai pryder yn nghylch ei gyflwr tragwyddol oedd natur ei glwyf, ond yr oedd yn ofalus iawn i gadw y peth iddo ei hun. Yr oeddwn i yn meddwl bob amser ei fod yn Gristion mewn gwirionedd, er nad oedd y pryd hwnw yn proffesu crefydd, canys yr oedd arwyddion amlwg o ddyn yn ofni Duw i'w gweled ynddo. Ni chymerai ran byth mewn coeg-ddadleuon ar athrawiaethau crefydd, pan ddigwyddent dori allan mewn cyfeillach y byddai ynddi, ond ymgadwai yn ddystaw ac edrychai yn surllyd ar yr adegau hyny; ac os apelid ato am ei farn, rhyw atebiad sychlyd, a 'hys' wrth ei gwt, a geid ganddo.
Fodd bynag, yn adeg yr iselder meddwl y cyfeiriais ati, yr oeddem yn digwydd bod yn gweithio gartref am ddyddiau. Gweithiem mewn llofft fechan uwchben rhan o'r tŷ. Yr oedd ceidwad helwriaeth Yswaen y Plwyf a meistr yn gryn ffrindiau, a galwodd hwnw heibio'r tŷ un bore i ofyn am Huw, a rhoddodd wningen i meistres i'w pharatoi erbyn ciniaw. Ni chymerodd meistres arni ddim wrthym ni yn nghylch yr wningen; coginiodd hi, a gosododd hi ar ddysgl ar y bwrdd yn ei llawn gorpholaeth, a'i phen tua'r drws, a galwodd arno'm ninau i lawr. Gwaith mawr iawn a gawsom i berswadio Huw i ddyfod at ei giniaw; erbyn iddo ddyfod i ddrws yr ystafell, dyna lle yr oedd yr wningen yn gorwedd megis ar ei gwâl, yn anelu ato! Dychrynodd yn aruthr, a gwaeddodd yn arswydus, 'Ai o dy go' yr eist ti, ddynes!' meddai wrth y wraig, 'i ladd a berwi'r gath? Wyt ti yn meddwl i ni fwyta cathod?' Chwarddodd meistres a chwarddais inau, a gwylltiodd yntau yn erwin wrthym. Caed gwaith caled i'w berswadio i gredu nad y gath oedd ar y ddysgl o'i flaen. Galwyd am y gath i ddwyn tystiolaeth ei bod yn fyw, a dygwyd croen y wningen hefyd i'r llys; ac wedi iddo gredu mai felly yr oedd, ymollygodd yntau i chwerthin, a chwerthin yn iawn hefyd, ac ar ol y gawod chwerthin, bwytaodd ac yfodd, ac ni bu efe athrist a digalon mwy am ryw dymhor.
Byddai ffit yr iselder yn gyffredin yn dilyn y fit lawen. Yr oeddwn yn ofni y bore hwnw ar y ffordd nad oedd ei elyn y pruddglwyf yn nepell oddiwrtho, ac felly y troes hi allan.
Yr oedd ganddo lais a dawn canu perdoddedig. Yr oeddwn i yn barnu yn gydwybodol, wrth wrando arno yn canu ei benillion ar y ffordd y bore y cyfeiriwyd ato, mai efe oedd y cantor goreu yn yr holl fyd.
<section end="bbb"/>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod X.}}}}
HANES ymdaith fy hen feistr a minau tua'r nefoedd a roddais yn y benod ddiweddaf. Ond darfu imi rywfodd ymdroi cymaint ar y ffordd fel y bu raid i mi derfynu cyn gorphen hanes y daith.
Wel, ni gyrhaeddasom y tŷ dedwydd rhwng saith ac wyth yn y boreu. Yr oedd saith neu wyth o fuchod graenus ar y buarth, a merch y tŷ a'r forwyn wrthi yn brysur yn eu godro. Yr oedd gwr y tŷ a'r gwas a'r mab hynaf yn dilyn eu gorchwyl yn y maes, a'r wraig a'r ail ferch hwythau yn paratoi y boreubryd. Pan aethom i fewn i'r tŷ, cawsom bawb a phobpeth ynddo rywbeth yn debyg i'r dychymmyg oedd genyf am dano oddiar yr hyn a glywswn fy meistr yn ei ddweyd—Y llawr a'r dodrefn yn lân ac yn loyw, pobpeth yn ei le; y plant yn lanwaith, yn dawel, yn ufudd, a siriol—pobpeth yn arwyddo bod tangnefedd a chariad yn preswylio ac yn llywodraethu yn y tŷ hwnw. Nid oedd yno na rhuthro i mewn na rhuthro allan, na gwaedd yn y tŷ nac ar y buarth.
Yr oedd delw y teulu megis ar yr anifeiliaid. Dywedwch a fynoch, mae gwir ''philosophy'' yn yr hen ddiareb, 'Fel y bo'r dyn felly bydd ei anifail.' Cefais brawf o hyn yn y ddau dŷ hyny. Yr oedd anifeiliaid yr aelwyd ac anifeiliaid y buarth perthynol i'r 'uffern ar y ddaear' hono o'r un cyffelyb dymher a'r teulu a'u perchenogent. Y gwartheg yn cornio eu gilydd pan gesglid hwynt i'r buarth i'w godro, ac yn cicio wrth eu godro, a'r wraig a'r llances-forwyn yn eu cicio ac yn eu rhegu hwythau. Yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos i ben blaen na phen ol y ceffylau; moelent eu clustiau ac agorent eu cegau am damaid o'ch cnawd, neu cynygient droediad i chwi, pan eid yn agos i'w cyrhaedd. Nid oedd dau gyw iar ar y domen yn gallu cytuno â'u gilydd, byddai y naill yn mrig y llall beunydd, y ceiliog a'r ceiliogwydd mewn rhyfel gwastadol y naill â'r llall, a nghred i am y moch oedd mai hiliogaeth moch y Gadareniaid yn sicr oeddynt—rhuthrent i'r tŷ gan rochian a rhincian, yn ddigon i fyddaru asynod, a phan dywalltid bwyd i'w cafn, ceisiai'r naill fochyn wasgu'r llall oddiwrtho âg ysgwydd ac âg ochr; arwyddair pob un fyddai, 'Y cwbl i mi, a'r gweddill i chwithau'; yna ymladdfa ffyrnig a ganlynai, 'pob mochyn â'i wyrchyn i fynu,' a'i gynffon ar dro, a'i safn yn agored, fel pe buasai am fwyta ei gydfochyn yn fyw. Yr oedd y cŵn a'r cathod ar yr aelwyd hefyd yr un modd. Yr unig esponiad sydd genyf fi ar bethau fel hyn yw bod natur ddrwg y teulu yn myned i'r creaduriaid wrth gael eu magu a'u trin ganddynt. Pa ryfedd fod y gwartheg a'r ceffylau am frathu a chornio a chicio, a hwythau yn cael eu pwnio a'u curo a'u cicio yn barhaus, a'r creaduriaid eraill yr un modd. Ond am y llall, yr oedd pob peth mewn heddwch yn yr ystabl, y beudy, a'r buarth, a'r aelwyd. Y ceffylau yn llariaidd, y buchod yn heddychol â'u gilydd, ac yn cnoi eu cil yn dawel wrth eu godro; yr ieir a'r gwyddau yn gymodlon a digynen; y moch yn ddiddig a diymryson; a'r cwn a'r cathod yn cydgyfaneddu mewn tangnefedd ar yr aelwyd.
Pan ddaeth amser boreubryd, yr oedd pawb o'r teulu yn nghyd, pob un yn eistedd yn ei le, a'r plant ieuangaf yn wylaidd a dystaw. Cydnabyddai y penteulu Dad y Trugareddau mewn diolchgarwch, a gofynai ei fendith Ef arnynt, cyn dechreu cyfranogi ohonynt. Ar ol ymborthi, dygid y Beibl i'r bwrdd, a theyrnasai dystawrwydd ar yr aelwyd. Yr oedd agwedd y teulu megis yn dweyd wrth yr oracl dwyfol, Lefara, canys yr ydym ni oll yma gerbron Duw i wrando lleferydd dwyfol dy enau. Ar ol darlleniad y benod, adroddai pob un yr hyn a ddaliasai yn ei gof. Yna cydymgryment oll o amgylch yr allor deuluaidd, pan offrymai y tad y boreuol aberth o ddiolchgarwch a gweddi, a chyflwyno'r teulu i'r nawdd a'r ar weiniad dwyfol ar hyd y dydd. Yna ai pawb at eu goruchwylion yn dawel a siriol. Egwyddorid y plant yn addysg ac athrawiaeth crefydd. Yr oedd megis arogl bendith a boddlonrwydd y nef ar bawb ac ar bobpeth yn y tŷ—ar ffrwyth y bru—y cawell, y toes—y mynediad allan a'r dyfodiad i mewn—ar gynydd y gwartheg a'r deadellau defaid. Cydnabyddai y teulu yr Arglwydd yn eu holl ffyrdd, ac efe a hyfforddiai eu llwybrau. Nid crefydd surllyd, bruddwynebog, Phariseaidd, oedd crefydd y tŷ hwnw; ond crefydd wynebagored, siriol, ddidwyll a dihoced. Nid ufudddod yspryd caethiwed yn peri ofn oedd ufudd—dod y plant a'r gwasanaethyddion, ond ufudd—dod yn tarddu oddiar barch a chariad yn y rhai oedd dan y llywodraeth at y rhai oedd yn ei gweinyddu. Llywodraeth cariad oedd y llywodraeth, ac ufudd-dod cariad oedd yr ufudd-dod.
Buom yno wythnos o gwbl, ac aeth pob diwrnod heibio fel y cyntaf; ni thywyllodd un cwmwl awyr y teulu tra y buom ni yno. Yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon weled ein hamser yno yn dyfod i bendymunaswn aros o hyd fy mywyd yn y tŷ dedwydd hwnw.
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
1xzzqgdhg915g4053ut0tgvfl391giv
169742
169733
2026-08-09T14:40:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169742
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fy mhen. Soniais yn y benod o'r blaen am lymder cymhariaethol clwy'r nodwydd a chlwy'r bladur; yr wyf yn deall erbyn hyn fod clwy'r pin yn llawer gwaeth na'r ddau. Nid ydyw clwy'r nodwydd ond peth am unwaith yn oes teiliwr wedi iddo unwaith fyned trwy y clefyd yn ei brentisiaeth, ni flinir mo'no ganddo mwy; ond mae clwy'r pin yn beth parhaus, a chlwy' 'menydd a meddwl ydyw; ac y mae, gan hyny, yn llawer mwy poenus a pheryglus na chlwy' braich ac ysgwydd a choesau. Yr oeddwn i, fel llawer, yn arfer meddwl mai gwaith ysgafn a hawdd oedd ysgrifenu traethodau a llyfrau, ond yr wyf wedi newid fy meddwl yn hollol ar ol i mi ddechreu ar y gorchwyl o ysgrifenu hyn. Rhagluniaeth a helpo'r creaduriaid truain hyny sydd yn ceisio enill eu tamaid gyda ni yn Nghymru trwy lafur y pin! y mae'r nodwydd yn ddigon sal, ond y mae'r pin yn salach o lawer na hithau, hefo ni beth bynag. Yr wyf yn deall ei bod fel arall yn Lloegr, a bod llawer un yno yn enill canoedd llawer o bunau âg un cwilsyn. Y twrneiod yn unig sydd yn gallu gwneud i'r cwilsyn dalu ei ffordd yn Nghymru, hyd y gallais i ddeall. Ped ysgrifenai dyn yn Nghymru draethawd, neu gân, neu gywydd, cystal ag angel, bydd yr argraffydd a'r llyfrwerthydd yn myned a'r cwbl cydrhyngddynt, a gadewir i'r ysgrifenydd sychu ei drwyn yn ei lawes. Gwelais yn rhywle bod Tennyson, y bardd llawryfol yn Lloegr, yn cael punt am bob llinell o farddoniaeth a anfonir i un o'r cyhoeddiadau; a bod Dickens, y nofelwr, yn derbyn miloedd o bunau wrth fyned o amgylch y wlad i ddarllen ei lyfrau ei hun, wedi iddo wneud miloedd ohonynt o'r blaen trwy eu gwerthiad.
Y mae rhyw aflwydd arnom ni fel cenedl rywfodd yn y peth hwn; gwell genym gefnogi dynion o genedl arall yn wastad na rhai o'n cenedl ein hun; rhaid i bob gelach o wr bonheddig a fedro gadw steward, gael Scotyn i'r swydd—prin y ceir Cymro byth yn y swydd hono yn unman, er fod digon o rai<noinclude></noinclude>
6br1f9r56nw09twlphuoei4pqrrva8e
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/47
104
87765
169734
2026-08-09T14:31:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169734
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddiddig a diymryson; a'r cwn a'r cathod yn cydgyfaneddu mewn tangnefedd ar yr aelwyd.
Pan ddaeth amser boreubryd, yr oedd pawb o'r teulu yn nghyd, pob un yn eistedd yn ei le, a'r plant ieuangaf yn wylaidd a dystaw. Cydnabyddai y penteulu Dad y Trugareddau mewn diolchgarwch, a gofynai ei fendith Ef arnynt, cyn dechreu cyfranogi ohonynt. Ar ol ymborthi, dygid y Beibl i'r bwrdd, a theyrnasai dystawrwydd ar yr aelwyd. Yr oedd agwedd y teulu megis yn dweyd wrth yr oracl dwyfol, Lefara, canys yr ydym ni oll yma gerbron Duw i wrando lleferydd dwyfol dy enau. Ar ol darlleniad y benod, adroddai pob un yr hyn a ddaliasai yn ei gof. Yna cydymgryment oll o amgylch yr allor deuluaidd, pan offrymai y tad y boreuol aberth o ddiolchgarwch a gweddi, a chyflwyno'r teulu i'r nawdd a'r ar weiniad dwyfol ar hyd y dydd. Yna ai pawb at eu goruchwylion yn dawel a siriol. Egwyddorid y plant yn addysg ac athrawiaeth crefydd. Yr oedd megis arogl bendith a boddlonrwydd y nef ar bawb ac ar bobpeth yn y tŷ—ar ffrwyth y bru—y cawell, y toes—y mynediad allan a'r dyfodiad i mewn—ar gynydd y gwartheg a'r deadellau defaid. Cydnabyddai y teulu yr Arglwydd yn eu holl ffyrdd, ac efe a hyfforddiai eu llwybrau. Nid crefydd surllyd, bruddwynebog, Phariseaidd, oedd crefydd y tŷ hwnw; ond crefydd wynebagored, siriol, ddidwyll a dihoced. Nid ufudddod yspryd caethiwed yn peri ofn oedd ufudd—dod y plant a'r gwasanaethyddion, ond ufudd—dod yn tarddu oddiar barch a chariad yn y rhai oedd dan y llywodraeth at y rhai oedd yn ei gweinyddu. Llywodraeth cariad oedd y llywodraeth, ac ufudd-dod cariad oedd yr ufudd-dod.
Buom yno wythnos o gwbl, ac aeth pob diwrnod heibio fel y cyntaf; ni thywyllodd un cwmwl awyr y teulu tra y buom ni yno. Yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon weled ein hamser yno yn dyfod i bendymunaswn aros o hyd fy mywyd yn y tŷ dedwydd hwnw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pi1ydj059ha9hzbebqtc43fqrfzn334
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/46
104
87766
169735
2026-08-09T14:32:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169735
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd delw y teulu megis ar yr anifeiliaid. Dywedwch a fynoch, mae gwir ''philosophy'' yn yr hen ddiareb, 'Fel y bo'r dyn felly bydd ei anifail.' Cefais brawf o hyn yn y ddau dŷ hyny. Yr oedd anifeiliaid yr aelwyd ac anifeiliaid y buarth perthynol i'r 'uffern ar y ddaear' hono o'r un cyffelyb dymher a'r teulu a'u perchenogent. Y gwartheg yn cornio eu gilydd pan gesglid hwynt i'r buarth i'w godro, ac yn cicio wrth eu godro, a'r wraig a'r llances-forwyn yn eu cicio ac yn eu rhegu hwythau. Yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos i ben blaen na phen ol y ceffylau; moelent eu clustiau ac agorent eu cegau am damaid o'ch cnawd, neu cynygient droediad i chwi, pan eid yn agos i'w cyrhaedd. Nid oedd dau gyw iar ar y domen yn gallu cytuno â'u gilydd, byddai y naill yn mrig y llall beunydd, y ceiliog a'r ceiliogwydd mewn rhyfel gwastadol y naill â'r llall, a nghred i am y moch oedd mai hiliogaeth moch y Gadareniaid yn sicr oeddynt—rhuthrent i'r tŷ gan rochian a rhincian, yn ddigon i fyddaru asynod, a phan dywalltid bwyd i'w cafn, ceisiai'r naill fochyn wasgu'r llall oddiwrtho âg ysgwydd ac âg ochr; arwyddair pob un fyddai, 'Y cwbl i mi, a'r gweddill i chwithau'; yna ymladdfa ffyrnig a ganlynai, 'pob mochyn â'i wyrchyn i fynu,' a'i gynffon ar dro, a'i safn yn agored, fel pe buasai am fwyta ei gydfochyn yn fyw. Yr oedd y cŵn a'r cathod ar yr aelwyd hefyd yr un modd. Yr unig esponiad sydd genyf fi ar bethau fel hyn yw bod natur ddrwg y teulu yn myned i'r creaduriaid wrth gael eu magu a'u trin ganddynt. Pa ryfedd fod y gwartheg a'r ceffylau am frathu a chornio a chicio, a hwythau yn cael eu pwnio a'u curo a'u cicio yn barhaus, a'r creaduriaid eraill yr un modd. Ond am y llall, yr oedd pob peth mewn heddwch yn yr ystabl, y beudy, a'r buarth, a'r aelwyd. Y ceffylau yn llariaidd, y buchod yn heddychol â'u gilydd, ac yn cnoi eu cil yn dawel wrth eu godro; yr ieir a'r gwyddau yn gymodlon a digynen; y moch yn<noinclude><references/></noinclude>
eo2tpt06wzvn13y0tz5w50dxlptff8j
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/45
104
87767
169736
2026-08-09T14:33:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169736
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am y gath i ddwyn tystiolaeth ei bod yn fyw, a dygwyd croen y wningen hefyd i'r llys; ac wedi iddo gredu mai felly yr oedd, ymollygodd yntau i chwerthin, a chwerthin yn iawn hefyd, ac ar ol y gawod chwerthin, bwytaodd ac yfodd, ac ni bu efe athrist a digalon mwy am ryw dymhor.
Byddai ffit yr iselder yn gyffredin yn dilyn y fit lawen. Yr oeddwn yn ofni y bore hwnw ar y ffordd nad oedd ei elyn y pruddglwyf yn nepell oddiwrtho, ac felly y troes hi allan.
Yr oedd ganddo lais a dawn canu perdoddedig. Yr oeddwn i yn barnu yn gydwybodol, wrth wrando arno yn canu ei benillion ar y ffordd y bore y cyfeiriwyd ato, mai efe oedd y cantor goreu yn yr holl fyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod X.}}}}
HANES ymdaith fy hen feistr a minau tua'r nefoedd a roddais yn y benod ddiweddaf. Ond darfu imi rywfodd ymdroi cymaint ar y ffordd fel y bu raid i mi derfynu cyn gorphen hanes y daith.
Wel, ni gyrhaeddasom y tŷ dedwydd rhwng saith ac wyth yn y boreu. Yr oedd saith neu wyth o fuchod graenus ar y buarth, a merch y tŷ a'r forwyn wrthi yn brysur yn eu godro. Yr oedd gwr y tŷ a'r gwas a'r mab hynaf yn dilyn eu gorchwyl yn y maes, a'r wraig a'r ail ferch hwythau yn paratoi y boreubryd. Pan aethom i fewn i'r tŷ, cawsom bawb a phobpeth ynddo rywbeth yn debyg i'r dychymmyg oedd genyf am dano oddiar yr hyn a glywswn fy meistr yn ei ddweyd—Y llawr a'r dodrefn yn lân ac yn loyw, pobpeth yn ei le; y plant yn lanwaith, yn dawel, yn ufudd, a siriol—pobpeth yn arwyddo bod tangnefedd a chariad yn preswylio ac yn llywodraethu yn y tŷ hwnw. Nid oedd yno na rhuthro i mewn na rhuthro allan, na gwaedd yn y tŷ nac ar y buarth.
{{nop}}<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
5befhdpnoqsamr8btthz4ihcr9xhzb6
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/44
104
87768
169737
2026-08-09T14:34:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169737
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>digwyddiad lleiaf a effeithiai arno. Yr wyf yn cofio am un tro yn neillduol pan oedd yn y cyflwr truenus hwn. Buasai am lawer o ddyddiau yn curio mewn ympryd a mudanod. Methasai pob ymdrech o eiddo'r wraig a'r cymydogion i'w godi o'r ffos. Gellid casglu mai pryder yn nghylch ei gyflwr tragwyddol oedd natur ei glwyf, ond yr oedd yn ofalus iawn i gadw y peth iddo ei hun. Yr oeddwn i yn meddwl bob amser ei fod yn Gristion mewn gwirionedd, er nad oedd y pryd hwnw yn proffesu crefydd, canys yr oedd arwyddion amlwg o ddyn yn ofni Duw i'w gweled ynddo. Ni chymerai ran byth mewn coeg-ddadleuon ar athrawiaethau crefydd, pan ddigwyddent dori allan mewn cyfeillach y byddai ynddi, ond ymgadwai yn ddystaw ac edrychai yn surllyd ar yr adegau hyny; ac os apelid ato am ei farn, rhyw atebiad sychlyd, a 'hys' wrth ei gwt, a geid ganddo.
Fodd bynag, yn adeg yr iselder meddwl y cyfeiriais ati, yr oeddem yn digwydd bod yn gweithio gartref am ddyddiau. Gweithiem mewn llofft fechan uwchben rhan o'r tŷ. Yr oedd ceidwad helwriaeth Yswaen y Plwyf a meistr yn gryn ffrindiau, a galwodd hwnw heibio'r tŷ un bore i ofyn am Huw, a rhoddodd wningen i meistres i'w pharatoi erbyn ciniaw. Ni chymerodd meistres arni ddim wrthym ni yn nghylch yr wningen; coginiodd hi, a gosododd hi ar ddysgl ar y bwrdd yn ei llawn gorpholaeth, a'i phen tua'r drws, a galwodd arno'm ninau i lawr. Gwaith mawr iawn a gawsom i berswadio Huw i ddyfod at ei giniaw; erbyn iddo ddyfod i ddrws yr ystafell, dyna lle yr oedd yr wningen yn gorwedd megis ar ei gwâl, yn anelu ato! Dychrynodd yn aruthr, a gwaeddodd yn arswydus, 'Ai o dy go' yr eist ti, ddynes!' meddai wrth y wraig, 'i ladd a berwi'r gath? Wyt ti yn meddwl i ni fwyta cathod?' Chwarddodd meistres a chwarddais inau, a gwylltiodd yntau yn erwin wrthym. Caed gwaith caled i'w berswadio i gredu nad y gath oedd ar y ddysgl o'i flaen. Galwyd<noinclude><references/></noinclude>
qr4zslrwpiziil4gt68qljd8et22brr
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/43
104
87769
169738
2026-08-09T14:35:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169738
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Dyrchafaf gyda'r adar mân
:Bereiddiaf gân o'm genau,
Am fwyd, a dillad a phob dawn,
:O rwyddiawn drugareddau,
Am edau dda, a nodwydd ddur,
:Ac awel bur y boreu.
'Rwy'n myn'd a'm llathen dan fy llaw,
:A'r haiarn pressiaw prysur,
Y siswrn llym, a'r bwtcin twt,
:A'r labwt ar ei lwybyr;
I'r nef i bwytho mewn mwynhad,
:Iachusaf rad a chysur.
Bu Robin bach a minau dro
:Yn pwytho'nghanol poethion
Ellyllon cras, hyll iawn en cri,
:A sosi, gwaeth na Saeson;
Ond cawn fod heddyw'n llon ein dau
:Yn ngoleu gwlad angylion.
</poem>
{{Div end}}
Cefais ganddo ysgrifenu y gân ar ol dychwelyd adref y noson hono, a chedwais hi yn fy meddiant hyd heddyw, a dyma y tro cyntaf erioed iddi gael ei dwyn i 'wyneb haul a llygad goleuni.'
Yr wyf yn meddwl i mi ddweyd ar y cyntaf nad oedd Huw Prys yn nemawr o beth fel dyn nac fel teiliwr; teimlaf yn awr awydd galw hyny yn ol. Dyna'r olwg oedd genyf fi arno pan oeddwn gydag ef, a dyna'r olwg oedd gan eraill arno hefyd; ond erbyn imi ei ail ddwyn gerbron fy meddwl mewn adgofion, a'i fesur wrth yr adgofion hyny, y mae Huw fel yn tyfu o hyd ger fy mron. Yr oedd efe, fel y gwelir wrth y gân uchod, yn dipyn o brydydd neu rigymydd. Ni allodd erioed wneud englyn difai, meddai ef, ond gwnai ambell benill neu bwt o gân lled bert. Yr oedd hefyd yn wr go hynod ei dymher. Byddai weithiau, fel yr oedd y bore hwnw, ar ei uchel fanau, fel ebol ieuanc; a phryd arall yn isel a phruddglwyfus ryfeddol; ni ddywedai air wrth neb am ddyddiau weithiau. Yr unig ffordd i yru yr ysbryd mud a byddar hwn allan ohono fyddai naill ai ei ddigio nes peri iddo wylltio, neu ddweyd neu wneud rhywbeth digrif a barai iddo chwerthin, ond nid gwaith hawdd fyddai peri iddo ddigio na pheri iddo chwerthin pan fyddai wedi suddo yn ddwfn i gors digalondid. Wedi i bob dyfais fethu, hwyrach mai y<noinclude><references/></noinclude>
fmq0ydnyar3ttp6ci5h84kp3xcv6ko7
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/42
104
87770
169739
2026-08-09T14:37:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169739
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>siriol: 'Wel, tyr'd Robin,' meddai wrthyf, 'gad ini gychwyn tua'r nefoedd.' Ni buaswn i gydag ef yn y nefoedd cyn y tro hwnw. Gofalai yr hen lwynog am gadw y nefoedd i gyd iddo ei hun bob amser. Cadwai fi adref i bwytho tra y byddai ef yno, fel y gallai estyn yr amser yno cyhyd ag y byddai modd, ond tegwch âg ef ydyw i mi gydnabod ddarfod iddo fy nghadw o'r uffern hono hefyd yr un modd, ond nid oddiar yr unrhyw egwyddor. Yr oedd arno ofn imi ddysgu iaith a chastie uffern, fel y dywedai, os cymerai fi yno, pan nad oeddwn eto ond bachgenyn rhy ieuanc i allu dirnad y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Yr oedd wedi addaw lawer gwaith os buaswn yn fachgen da, dystaw, a diwyd, y cawswn fyned gydag ef i'r nefoedd ryw dro, a daeth y tro hwnw o'r diwedd. Bore hyfryd, tawel, teg, yn mis Mai, oedd yr adeg :
{{center block|
<poem>
'A'r maesydd yn wyrddleision
:A'r coed yn llawn o ddail,
A natur ar eu gilydd
:Yn chwerthin bob yn ail.'
</poem>
}}
A holl 'Adar cerddgar y coed' o'n deutu ar hyd y ffordd megis yn llawengyfarch y ddau bererin o deilwriaid yn trotian heibio tua'r nefoedd. Cerddai fy meistr ychydig o'm blaen i, yn ddystaw fud am hir enyd; safai yn sydyn yn y man, a daliai ei lathen i fynu, Wyddost ti beth, Robin,' meddai, 'mae'r adar yma yn canu cystal i ni a phe buasai dau frenin yn myned ar hyd y ffordd yma heddyw, a 'rwy'n siwr o beth arall, ein bod ni ein dau mor ddedwydd yn y fan yma y mynud hwn ag un dau frenin ar y ddaear; a dweyd y gwir i ti, ni newidiwn i mo lathen y teiliwr am un deyrnwialen frenhinol dan haul—'hys!' Yna cododd ei het ar frig ei goryn, a throdd ei lathen o gwmpas ei ben, a dechreuai ganu yr hyn a ganlyn:
{{Center block/s}}
<poem>
Mae'r adar fry ar goed y fron
:Yn canu'n llon i'w Lluniwr,
Mae'n naws eu llais o fynwes llwyn
:Hudoliaeth fwyn i deiliwr:
Ei alw wnant i eilio 'n iawn
:Gân hylawn i'w Gynhaliwr.
</poem>
<br><noinclude><references/></noinclude>
11nvxezlhv1ncb2pb66x06rp0487yfy
169741
169739
2026-08-09T14:39:07Z

<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
l0mryn5mnvr20k3s0t38rkiloqzskl7
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/41
104
87771
169740
2026-08-09T14:38:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169740
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweld chi, Huw, yn mynd i dori a phwytho wrth lyfr, ni chaech chi roi pwyth byth yn y nhŷ i beth bynag, rwi'n deud i chi.' 'Wel, wel,' ebe meistr, 'rhaid i chwi a minau sefyll i'n barnu wrth lyfr ryw ddiwrnod, a'r hen Feibl yma fydd y llyfr hwnw hefyd.' 'Os daw byth alwad arna i,' ebe yntau, 'mi ddeyda i na ddarllenais i erioed mo'r Beibil, a na fedrwn i ddim darllen chwaith, a mi fydd hyny yn ddigon ar y pwnc ene.' 'Na, fydd hyny ddim yn ddigon y diwrnod hwnw, os ydyw'n gwneud y tro heddyw, na fydd ddim yn ddigon i neb fydd wedi cael cyfleusderau i ddysgu darllen, a chael y Bibl yn eu cyrhaedd yn eu hiaith.' 'Mi 'rydwi'n talu i bawb ei ofyn; a nid eis trwy'r un lidiart erioed heb 'i chau hi ar f'ol,' eb y gwr, 'a mae hyny yn fwy nag all y rhan fwyaf o bobol y capeli yna ddweyd; a be sy gen neb ddim arall i'w ofyn imi.' 'Hys,' ebai Huw, ac ymollyngodd i bwytho â'i holl egni. Yr oedd ef a minau mor llawen a'r 'Fwyalch yn gelli' wrth ymadael ar ol gorphen ein ''job'' yno.
Nid llawer o deuluoedd o'r fath hwnw oedd i'w cael yn y wlad, ond yr oedd ambell un yma ac acw. Hyderaf nad oes gymaint ag un o'u cyffelyb i'w gael yn awr drwy holl Gymru. Yr oedd yr efengyl heb lwyr ddarostwng y wlad, ac Ysgolion Sabbothol ond lled anaml yn y dyddiau hyny. Ychydig iawn y mae y genedlaeth bresenol yn ei feddwl pa mor ddyledus ydyw i bregethu, ac i'r Ysgol Sul am gysuron cymdeithasol a theuluaidd, heb son am ddim arall; canys oni buasai eu dylanwad hwy, rhywbeth tebyg i gyflwr truenus y teulu y cyfeiriwyd ato fuasai cyflwr y rhan fwyaf o deuluoedd ein gwlad yn awr.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod IX.}}}}
AR fore y dydd Llun cyntaf wedi i ni gael gollyngdod o'r lle poenus hwnw, ymddangosai fy meistr yn hynod<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
6r5cvs0dglxrlms4vejje2nlu2j5sfo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/34
104
87772
169743
2026-08-09T14:41:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169743
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llawn mor gymhwys iddo i'w cael yma, heb fyned i Scotland i ymofyn am danynt. Yr un fath yn union y mae'r werin bobl hwythau; pe deuai teilwriaid o Loegr a Scotland yma, ni chaiff teiliwr o Gymro le i roi blaen ei nodwydd trwy frethyn yn unman; a chrefftau eraill yr un modd. A'r un fath yn y byd llenyddol drachefn, —caiff llyfrau Cymreig a gyhoeddir gan Scotiaid neu Saeson fwy o dderbyniad o lawer na rhai a gyhoeddir gan Gymry. Y mae gen ym lawer Dic Sion Dafydd o feirniad yn ein plith, nad oes nemawr i waith gwreiddiol Cymreig yn werth ei godi o'r domen yn eu golwg, mewn cymhariaeth i weithiau Saeson a chenhedloedd eraill. Amcanant wneud eu hunain yn fawr mewn doethineb yn ngolwg eu ddarllenwyr drwy fychanu a diraddio pob peth Cymreig. Pa sawl gwaith y clywsom hwynt yn haeru na chyfododd yr un Milton a Shakespeare erioed yn Nghymru, ac ambell i un o'r brygawthwyr hyn heb wybod ond yn nesaf peth i ddim am weithiau y ddau hyny, na chanddynt un farn eu hunain am natur eu teilyngdod. Gymry! goddefwch i Hen Deiliwr ddweyd wrth fyned heibio, 'Ni ddylai'r pethau hyn fod felly.' Nid oes genyf fi, o'm rhan fy hun, achos i gwyno yn y peth hwn. Nid wyf fi, ac nid oeddwn o'r dechreu, yn disgwyl na thâl na diolch am ysgrifenu. Yr wyf yn ysgrifenu ar fy mwyd fy hun, fel gwr boneddig neu deiliwr, fel y dywedir. Ni wn i, a grôt i gi y neb a wyr, beth a barodd imi grwydro fel hyn oddiar fy llwybr, na pha fodd y gallaf ddychwelyd yn ol at fy mhwnc priodol—helyntion teilwriaid a theilwriaeth y dyddiau gynt.
Yr wyf yn cofio un tro yn ystod tymhor fy mhrentisiaeth, i deilwriaid y plwyf ymgasglu at eu gilydd i geisio sefydlu cyd-dealltwriaeth â'u gilydd yn nghylch y pethau a berthynent i'w galwedigaeth. Cwynid yn erbyn un neu ddau eu bod yn drygu y trade trwy ostwng pris y gwaith, er mwyn enill cwsmeriaid y lleill. Cefais inau y fraint o fod yn bresenol<noinclude><references/></noinclude>
nh1q04dn8dpt8eh0rgg62n6yfj4m96w
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/35
104
87773
169744
2026-08-09T14:41:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169744
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y cyfarfod. Etholwyd fy meistr, fel yr hynaf a'r mwyaf profiadol, i gymeryd y gadair. Agorwyd y cyfarfod trwy egluro yr amcan oedd iddo. 'Frodyr a chyd-deilwriaid,' ebe ef, 'nid wyf yn ystyried fy hun yn deilwng o'r anrhydedd a osodasoch arnaf trwy fy ngalw i'r gadair yma heno. Yr wyf yn fwy cyfarwydd o lawer ar bwytho nag ar areithio; gwell fuasai genyf fi o lawer i un ohonoch chwi gymeryd y swydd anrhydeddus hon; ond mewn ufudd-dod i'ch cais, ymdrechaf wneud goreu y gallaf. Y mae o bwys i ni fel teilwriaid ddeall ein gilydd, a sefyll wrth gefn ein gilydd, chwi wyddoch. Y mae pris gwaith y teiliwr yn ddireswm o isel, ac arnom ni y mae y bai ei fod felly, a gallem wella pethau ond i ni ddyfod i gyd-ddealltwriaeth a chydsefyll wrth ein penderfyniadau. Y mae pobl yn arfer dweyd, fel y gwyddoch chwi, bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud un dyn, yr wyf fi yn y modd mwyaf difrifol yn protestio yn erbyn yr haeriad sarhaus yma, ac yn hòni ein bod ni'r teilwriaid yn gystal dynion a neb pwy bynag, at eu gilydd. Gadewch i ni brofi a dangos hyny i'r byd. Y mae tipyn o achwyn ar un neu ddau ohonom, eu bod yn tori prisiau ein gwaith ni yn gwneud dillad dan y pris arferol yn y wlad yma. Y mae pris bara ac enllyn a moddion byw yn uwch o lawer yn awr nag ydoedd flynyddoedd yn ol, ac felly dylasai fod pris ein gwaith ninau yn uwch hefyd. Ni ddymunwn i ddweyd dim yn gas wrth y ddau frawd cyhuddedig yma, ond dymunem i gyd iddynt ddiwygio a pheidio gweithio dan yr hen bris o hyn allan.'
Eisteddodd fy meistr i lawr yn nghanol trwst cymeradwyaeth uchel.
Cyfododd un o'r ddau a gyhuddid i geisio amddiffyn ei hun. Addefai mai gwir oedd ei fod wedi gweithio dan bris mewn tŷ neu ddau, fod y bobl hyny wedi dweyd wrtho fod teiliwr o blwyf arall wedi cynyg gwneud y gwaith am y pris a'r pris, ac os nad ymfoddlonai ef i weithio am yr un pris, y rhoddent eu<noinclude><references/></noinclude>
nwjh6k20njjz5app19jqnszlcstnoor
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/36
104
87774
169745
2026-08-09T14:42:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169745
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwaith i hwnw; ac iddo yntau, er mwyn cadw ei gwsmeriaid, a chadw teiliwr estronol allan o'r cyffiniau, addaw gwneud. Rhywbeth tebyg oedd stori y llall. Ar ol llawer o siarad ar y mater, addawodd y ddau frawd na throseddent yn y wedd hono mwy; a phenderfynwyd, os deuai teiliwr o blwyf arall i'r plwyf hwnw i weithio dan bris, y byddai iddynt godi yn ei erbyn a'i fopio ymaith, a dwyn ei arfogaeth oddiarno, a thori'i wallt wrth groen ei ben â'i siswrn ei hun, rhwymo ei ddwylaw ar ei gefn, a chrogi yr wydd a'r labwt wrth linyn am ei wddf, a'i ollwng i fyned adref yn y ddiwyg hono. Ymrwymodd pawb oedd yn bresenol i sefyll at y penderfyniad hwn, a chynorthwyo i'w gario allan, os deuai achos.
Ar ol penderfynu y mater pwysig hwn, trowyd y cyfarfod i ymdrin âg achosion cyffredinol y frawdoliaeth. Yr oedd yno un o'r enw Owen Hughes, yn wr doniol ac ymadroddus, a chryn oracl yn ein plith. Cyfododd Owen ar ei draed, a dywedodd: Mr. Cadeirydd, crybwyllasoch yn eich araith ar agoriad y cyfarfod, am yr anfri a'r diystyrwch a deflir arnom ni fel teilwriaid, gan ddynion anwybodus—"bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud dyn," &c.; pe dywedent fod yn rhaid cael naw dyn o'u bath hwy i wneud un teiliwr, byddent yn llawer nes i'r gwir. Yn y cyffredin, y mae'r teiliwr yn llawer mwy gwybodus a deallus na'r cyffredin o ffermwyr a galwedigaethau eraill, a chenfigen sydd yn peri iddynt geisio ein diystyru. Ni raid i ni gywilyddio arddel ein galwedigaeth ar un cyfrif. Y hi yw yr alwedigaeth hynaf, ac, ar y cyfrif hwnw yn unig, yr anrhydeddusaf ar y ddaear. Onid teiliwr oedd Adda, tad dynolryw? Beth bynag, yn deiliwr y troes ef yn union wedi iddo droseddu. Y'mhle y cafodd efe nodwydd ac edef sydd bwnc nad ellir ei benderfynu, hwyrach; ond beth bynag am hyny, mae y ffaith yn eglur mai dyna y gelfyddyd y trodd efe ati. O'm rhan fy hun, yr wyf yn falch o'm swydd, fel teiliwr, ac nid wyf yn<noinclude><references/></noinclude>
37517kwzeeretvwa10179jvd03gwqlv
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/37
104
87775
169746
2026-08-09T14:43:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169746
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>prisio cawnen yn ngwaith dynion ffol, anwybodus, yn ceisio ein diraddio; ond dylem sefyll dros urddas ein galwedigaeth, a dysgu i'r trueiniaid a geisiant ein dirmygu bethau amgenach.'
Yr oedd Tomos Owen yn barnu ac yn teimlo yn wahanol iawn i'w frawd Owen Hughes. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ef iddo erioed feddwl am droi yn deiliwr; barnai ef fod canlyniadau trosedd Adda wedi disgyn yn drymach ar y teilwriaid nag ar un dosbarth arall o'i blant; a hyny, hwyrach, am iddynt ddilyn ei esiampl o droi at y nodwydd. Ni oddefid i Tomos fyned yn mlaen yn y ffordd hono; hysiwyd a hwtiwyd ef i dewi yn bur fuan, a bu yn rhaid iddo eistedd i lawr. Pasiwyd penderfyniadau cryfion dros iawnderau ac anrhydedd urdd y nodwydd; ac wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. A hwnw oedd y cyfarfod cyntaf o'r natur y bum i ynddo.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VIII.}}}}
BUM yn gweithio gyda Huw Prys am o ddwy i dair blynedd wedi i mi fwrw fy mhrentisiaeth, fel y dywedem. Gwelais amryw fath ar bobl yn hyny o gylch bychan yr oeddwn i yn troi ynddo, fel y sylwais mewn penod flaenorol. Yr oedd ambell i deulu paganllyd, tywyll, a thruenus iawn i'w cael yn ein gwlad y dyddiau hyny. Yr oedd teulu nodedig felly yn byw yn {{bar|2}}, ond hwyrach mai gwell fyddai peidio enwi y lle; mae perthynasau i'r teulu yn fyw yn awr, ac yn bobl barchus iawn. Yr enw oedd gan fy meistr ar y tŷ hwnw oedd 'Uffern ar y ddaear,' a 'Nefoedd ar y ddaear' y galwai ffermdy cyfagos iddo; efe oedd teiliwr y nef a'r uffern ddaearol hyny. Digwyddodd i ni un tro gael galwad i'r ddau le ar yr un pryd. Dewisiodd fy meistr fyned i'r 'Uffern ar y ddaear' yn gyntaf. Bydd yn gysur ini feddwl, tra fyddom yno,<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
l5qamv7wk501ih9if0t4wm8ds6lsxdh
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/38
104
87776
169747
2026-08-09T14:44:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169747
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddai, 'y cawn fyn'd i'r nefoedd ar ol gorphen ein ''job'' yno; ond ped elem i'r nefoedd yn gyntaf, byddai meddwl fod yn rhaid ini fyned i'r lle arall wed'yn yn ein rhwystro i fwynhau ein nefoedd yno tra y byddem ynddi.'
Bore y dydd cyntaf yr aethom yno, fel yr oeddym yn agoshau at y tŷ, safodd fy meistr ar y ffordd, gan ddwys ocheneidio; yna tynodd groes â'i fys ar draws ei dalcen a'i fynwes. Ymgroesa dithau,' ebe ef wrthyf fi. 'I beth?' gofynwn inau. 'I beth!' eb efe, 'ai ni wyddost dy fod yn safn uffern?' Cododd gradd o arswyd arnaf ar y pryd; gwyddwn mai croes iawn i ysbryd ac arfer fy meistr oedd dweyd dim yn ddrwg am dy neb; credwn y rhaid fod rhyw ddrwg erchyll yn y tŷ hwnw pan ddywedai ef y fath beth am dano, ac nid hir y bum heb weled a phrofi hyny. Yr oedd megis rhyw falldod neu felldith i'w gweled ar bawb a phobpeth yno ar yr olwg gyntaf, ond pan ddaeth y teulu at eu gilydd i frecwest y torodd hi allan yn fellt a tharanau, a daeargrynfaäu, a chenllysg, a thân. Yr oedd yno chwech o blant o'r chwech hyd y pumtheg oed yn eistedd wrth yr un bwrdd â mi; a meistr yn eistedd gyda'r gwr a'r wraig wrth fwrdd bach gerllaw y tân. Gyda'n bod yn dechreu bwyta, aeth yn ymrafael rhwng dau o'r plant wrth y bwrdd; taerai un fod y llall wedi cymeryd ei bicyn ef, cymerodd y lleill ran yn yr ymryson, rhai bob ochr; aethant i glustiau a gwallt eu gilydd, gan guro, a chripio, a brathu, a rhegi y naill a'r llall, yn arswydus. Taflodd un ei bicyned potes i wyneb un arall, a dyna lle yr oedd hwnw yn ysgrechian fel mochyn dan y gyllell. Taflodd un ohonynt un arall ar fy nhraws i fel y syrthiais ar fy nghefn dros y fainc, ac y dymchwelodd fy mhicyned potes am fy mhen, nes yr oeddwn wedi fy haner ysgaldio. Erbyn i mi gael fy nhraed o tanaf, yr oedd y fam wedi codi ar ei thraed fel dreiges, yn crochwaeddi, yn ysgyrnygu, ac yn rhegi y plant yn ddychrynllyd; rhoddai fonclust<noinclude><references/></noinclude>
qlgwhnh4uyser4t10bynb243zibhszk
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/39
104
87777
169748
2026-08-09T14:44:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169748
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i un, hergwd i'r llall, a chic i'r trydydd, a rheg fawr ar y pedwerydd; ac yn yr amryfusedd, rhoddodd gernod i minau yn ochr fy mhen, nes oedd clych yn fy nghlustiau, a gwreichion tanllyd yn neidio o'm llygaid. I ychwanegu y terfysg, cyfranogodd tri o gŵn oedd ar yr aelwyd o ysbryd yr ymrafael, a dechreuent gyfarth â'u holl egni, a chan ddilyn esiampl y plant, aeth dau ohonynt i ymladd â'u gilydd; rhuthrodd y llall i'r gath gan ei sgyrian yn ffyrnig, nes oedd yn gwaeddi am ei hoedl. Cododd y gwr yntau oddiwrth y bwrdd, a dechreuodd ffonodio y cŵn a dwrdio y plant. Beiai y wraig ei bod yn gwneud cam âg un o'r bechgyn—mai un arall oedd ar y mwyaf o fai. Aethant hwythau i ffraeo a rhegi eu gilydd eto; taflodd y wraig gwpaned o de i wyneb ei gwr, a rhoddodd yntau gic iddi hithau. Ar hyn, neidiodd meistr ar ei draed, a rhedodd allan, a rhedais inau allan ar ei ol, ac allan y buom nes aeth yr helynt drosodd; a dyna'r frecwest a gawsom y bore hwnw. 'Nid af fi ddim i mewn i'r uffern yna eto,' ebe fi wrth meistr; 'tyr'd, tyr'd,' ebe fe, 'nid oes yma lawer o waith trwy drugaredd, ni a orphenwn y cwbl mewn deuddydd neu dri.' Ond yr oedd meddwl bod am ddeuddydd neu dri yn y fath le ofnadwy yn ddigon i dori calon undyn. Erbyn i ni fyn'd yn ol i'r tŷ, yr oedd y storm wedi gostegu, y plant wedi ymwasgaru, y gwr wedi myned i'r maes, a'r wraig wrthi ei hunan yn y tŷ, ac yn ymddangos fel pe na buasai dim yn neillduol wedi digwydd. Aeth y gweddill o'r diwrnod heibio yn lled dawel, gyda'r eithriad o dyngu a rhegi ar brydiau bwyd. Dyna fel y byddai y teulu yn bendithio ac yn talu diolch am eu beunyddiol ymborth.
Yr oedd meistr a minau yn tynu dau bwyth am un tra buom yno, er mwyn prysuro i orphen ein gwaith a chael ymwared o'r lle poenus hwnw. Tridiau y buom yno, a gwelais lawer ysgarmes yn ystod y tridiau hyny, ond nid un mor ofnadwy a'r gyntaf. Yr oedd un o'r dyddiau yn wlyb a dryghinog iawn,<noinclude><references/></noinclude>
p17ayo89cugk3v3fiayxad3z8gdb60p
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/40
104
87778
169749
2026-08-09T14:45:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169749
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r gwr gyda ni yn y tŷ y rhan fwyaf o'r diwrnod. Ar ryw ymddyddan, sylwodd meistr wrtho, 'Ni byddaf byth yn eich gweled chwi yn y capel, Hwn a Hwn.' 'Wel, na fyddwch, debyg, ac ni welwch chwi na neb arall monwy yno byth,' eb efe, 'mi fydde'n dda gen i tae pob capel sy'n y wlad yma wedi myn'd ar dân. Mi fydda'n myn'd i'r eglwys weithie, ond tydw' i'n hidio dim am yr eglwys chwaith; ond 'rydw' i'n lecio'r person, gwladwr braf ydi o; misteddiff gyda ni yn y dafarn, ac mi botith i chalon hi fel nine pan ddigwyddo ni daro wrth ein gilydd. Mi ges i ran o beint ganddo fo lawer gwaith, ac mi fydda i'n leicio myn'd i ddangos fy ngwyneb yn yr eglwys weithie er i fwyn o.' 'Felly,' ebe meistr, a gofynai, 'A oes genych chwi Feibl yn y tŷ?' 'Beibil!' ebe y gwr, 'nag oes yma, ni fu yma Feibl erioed, ac ni ddaw yma yr un byth os gwela i o. Nid oes yma neb fedr ddarllen, a phe dase, y mae genon ni rywbeth rheitiach i'w neud na darllen y Beibl.' 'Peidiwch a dweyd fel yna,' ebe meistr, 'fe ddylai y Beibl, beth bynag, fod yn mhob tŷ, ac fe ddylai pawb ddysgu ei ddarllen o, beth bynag f'ont heb ddysgu. Y Beibl sy'n dysgu sut y dylem fyw yn y byd hwn, a'r ffordd i gael dedwyddwch yn y byd arall.' 'Mi wn i sut i fyw yn well nag y gall y Beibl ddysgu i mi, debyg gen i,' ebe yntau; 'ydech chi'n meddwl, Huw, y gnawn i fyw wrth lyfr? Dyna hwn a hwn (cymydog iddo), mae o wedi cym'ryd yn i siol i ffarmio wrth lyfr, mae o â'i drwyn yn i lyfr o'r bore gwyn tan y nos, ac yn gneud pobpeth—trin y tir, a thrin i anifeilied yn ol cyfarwyddyd y llyfr, ac mae 'i lyfr o wedi ei yru o i goste mwy na mwy, ac ni chaiff o byth mo'i arian yn ol; mi fydd wedi myn'd trwy'r cwbwl fedd o yn bur fuan, o achos i hen lyfr gwirion o. Ni weles i ddim graen erioed ar neb fydde'n gneud pethe wrth lyfr, a nghred i ydi, y base'n dda iawn i'r byd yma pe na base neb yn medru darllen o'i fewn o. Na, na, chaiff yr un llyfr fy nysgu i beth bynag sut i fyw na sut i drin tir, a tawn i yn eich<noinclude><references/></noinclude>
7exobajlzrhlv1k9jm6ws7frhni9zrt
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/69
104
87779
169750
2026-08-09T15:13:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169750
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chlywid byth mo'nynt yn ''gwaeddi'' nes aeth yn ''gyfyngder'' arnynt. Adnod arall oedd o Salm arall, Pan laddai efe hwynt, hwythau a'u ceisiant ef. Dychwelent a cheisient Dduw yn fore; cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mae'r Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd,'—'ie,' meddai Tomas, megis rhyngddo ac ef ei hun, <nowiki>'</nowiki>''Pan laddai efe hwynt'', dim cyn hyny, ''<nowiki>'</nowiki>cofient hefyd.<nowiki>'</nowiki>'' Peth effeithiol iawn i beri i bobl gofio fel y dylent gofio ydyw gwasgfa a thrallod.' Adnod arall oedd, 'Mewn adfyd hefyd, Arglwydd, yr—ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gospedigaeth arnynt.' 'Ie, dyma nhw eto,' dywedai Tomas, mewn ''adfyd'', pan oedd y ''gosbedigaeth'' arnynt; wel, wel, rhyw bobol ryfedd iawn oedd y rhai'n, ond beth wnawn ni'n son, mae pobol 'run fath a nhw'n union yn y byd eto.' Yna cauodd y Beibl. Yr oedd Mari yn deall cyfeiriad yr ergydion, ac yn eu teimlo hefyd, ac yn ymddigio ynddi ei hun; ond yr oedd ei phryder a'i gofal am y ferch glaf yn ffrwyno ei digter rhag tori allan. Aeth ar ei gliniau y tro hwnw, a'r tro cyntaf iddi. Pan oedd Tomas yn gweddio am arbediad bywyd ac adferiad iechyd y ferch, os oedd hyny yn unol â'r ewyllys ddwyfol, torodd Mari allan, 'Gadewch yr ''os'' yna allan, Tomas, 'rydach chi'n rhoi lle i ange fel ene.' 'Nid ein hewyllys ni, ond dy ewyllys di a wneler,' meddai Tomas, gan fyned rhagddo heb gymeryd arno'i chlywed. 'Na, f'wyllys i yn hyn, beth bynag,' meddai Mari, mi fodlona i bobpeth os ca'i ngeneth anwyl.'
Gwellhaodd Margaret o'r clefyd, a gwareiddiodd y tro hwnw lawer ar Mari. Dechreuodd fyned i wrando; ac yn mhen amser, aeth at grefydd. Yr oedd cyfnewidiad mawr ac amlwg ynddi; collodd ei gerwindeb, a daeth yn ddistaw ac addfwyn. Nid oedd ei gwybodaeth grefyddol ond bychan; ond yr oedd effeithiau crefydd yn amlwg iawn arni. Parhaodd felly hyd ei marwolaeth.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s7s3h0xoaoy6za99z57szo9kcl4qudk
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/68
104
87780
169751
2026-08-09T15:15:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169751
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''ffregsiwch'' chi â fi fel ene.' Ar hyn, hi a dorodd i nadu. Mae pawb yn troi yn f'erbyn i,' meddai nid oes yr un creadur ar y ddaear yma yn diodde cimin ag ydw i'n orfod ddioddef bob dydd o mowyd gweithio yn y fan yma fel slaf i gadw'r ddau yma yn fyddigions, a diodde'u tafode nhw gyda'r cwbl; a thithe, Huw, yn cymryd 'u part nhw i nhrin i fel hyn yn y nhŷ fy hun.' ' Yn wir, y mae yn ddrwg iawn gen i i mi ddweyd y gair, Mari Evans,' ebe Huw; *gobeithio y gwnewch chwi faddeu imi; fynaswn i ddweyd dim i'ch brifo ar un cyfri. Rhag i mi annghofio,' eb efe drachefn, ''roedd gwraig Bronllan wedi peri i mi ofyn ga'i i glwt o'r brethyn glas yma iddi gael ei wel'd o; mae arni flys gwneud clog iddi hun 'run fath a fo. Cyffyrddodd hyny a man wan Mari. 'Caiff,' ebe hi, 'ewch a darn iddi hi; ond ni waeth iddi hi hebddo fo, ni feder hi ddim llifo dim byd yn debyg iddo fo. Deydwch wrthi hi am ddwad a'r gwlan yma;; mi llifa i o iddi hi.' 'A dweyd y gwir i chwi, dyna oedd arni hi eisie, ond bod hi yn'i wel'd o'n ormod peth i'w ofyn,' meddai Huw.
Daeth Mari ati ei hun yn ddiarwybod iddi ei hun, ac ymadawodd meistr a hithau yn benau ffryndiau y noson hono.
Yn mhen rhyw ysbaid ar ol hyny, cymerwyd Miss Evans, y ferch, yn glaf; ei chlefyd oedd y ''typhus fever''. Yr oedd pryder ei mham yn fawr iawn yn ei chylch. Gofynodd i'r i'r meddyg un diwrnod beth oedd ef yn ei feddwl ohoni; ysgydwodd ei ben, gan ddweyd nad oedd ganddo ond gobaith gwan am ei hadferiad. Yr oedd Mari erbyn hyn bron a gwallgofi. 'Gweddiwch, Tomas,' ebai y noson hono. 'Estyn y Beibl,' meddai yntau. Aeth hithau i gyrchu y Beibl ar hyny o ofyn; a dyna'r tro cyntaf erioed iddi wneud y fath beth. Darllenodd Tomas adnodau yma ac acw, gan wneud ambell i sylw ar y geiriau. Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder,' oedd un adnod—ie, 'yn eu cyfyngder,' sylwai Tomas, 'ni<noinclude><references/></noinclude>
4jj0es9ieacb2e4j9xbiw2obvxh8gam
169752
169751
2026-08-09T15:17:03Z
AlwynapHuw
1710
169752
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''ffregsiwch'' chi â fi fel ene.' Ar hyn, hi a dorodd i nadu. Mae pawb yn troi yn f'erbyn i,' meddai nid oes yr un creadur ar y ddaear yma yn diodde cimin ag ydw i'n orfod ddioddef bob dydd o mowyd gweithio yn y fan yma fel slaf i gadw'r ddau yma yn fyddigions, a diodde'u tafode nhw gyda'r cwbl; a thithe, Huw, yn cymryd 'u part nhw i nhrin i fel hyn yn y nhŷ fy hun.' ' Yn wir, y mae yn ddrwg iawn gen i i mi ddweyd y gair, Mari Evans,' ebe Huw; gobeithio y gwnewch chwi faddeu imi; fynaswn i ddweyd dim i'ch brifo ar un cyfri. Rhag i mi annghofio,' eb efe drachefn, 'roedd gwraig Bronllan wedi peri i mi ofyn ga'i i glwt o'r brethyn glas yma iddi gael ei wel'd o; mae arni flys gwneud clog iddi hun 'run fath a fo. Cyffyrddodd hyny a man wan Mari. 'Caiff,' ebe hi, 'ewch a darn iddi hi; ond ni waeth iddi hi hebddo fo, ni feder hi ddim llifo dim byd yn debyg iddo fo. Deydwch wrthi hi am ddwad a'r gwlan yma; mi llifa i o iddi hi.' 'A dweyd y gwir i chwi, dyna oedd arni hi eisie, ond bod hi yn'i wel'd o'n ormod peth i'w ofyn,' meddai Huw.

f76hog0ie59vfyw1givtz87wdr675vo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/48
104
87781
169753
2026-08-09T15:19:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169753
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwasgodd gwraig y tŷ yn o galed ar meistr droion yn nghylch crefydd, a'r ddyledswydd o'i phroffesu, oddiar ei bod yn gwybod ei fod ef yn ddeiliad argraffiadau crefyddol er's hir amser. Ni ddywedai ef ond ychydig, ond teimlai yn garedig tuag ati hi, am ei ffyddlondeb.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XI.
YR wyf wedi colli arni gyda'r ysgrifenu yma; fe'm lluddiwyd gan amryfal drafferthion, fel sydd yn cyfarfod â phawb yn y byd trafferthus hwn; bum rai dyddiau oddicartref, ar achos oedd yn galw fy holl sylw a'm holl amser; ac ar ol i mi ddychwelyd, a dechreu hwylio ati hi, nid oedd ar gael (a defnyddio termau teilwraidd) na nodwydd nac edef, h.y., yr oedd y pin ysgrifenu wedi myned ar goll, a'r inc wedi sychu yn gorn, a dim scrap o bapur gwyn yn y tŷ. A chan fy mod yn byw yn y wlad yn mhell mhel o lan na thre', bum rai dyddiau yn amddifad o'r offerynau angenrheidiol at y gorchwyl. Deallwch fy mod wedi symud o'r pentref lle yr oeddwn yn trigo, pan yn ysgrifenu gyntaf; cefais gornel fechan o dir lle gallaf gadw buwch a mochyn, ac ychydig ieir a hwyaid, yr hyn a etyb i ni yn well na'r grachen siop yn y pentref yr wyf yn disgwyl. Aethum un diwrnod i lawr i'r llan, a basgedaid o wyau ar fy mraich ar fedr pwrcasu lot o binau dur a photelaid o inc, a stoc o bapur, ond fel bu'r anffawd, mi a syrthiais ar y ffordd a thorais yr wyau bob un, a bu raid i mi droi yn ol adref heb na phin na phapur. Gallaswn gael faint a fynaswn ar goel gan fy hen gyfaill sy'n cadw siop y llan, pe buaswn yn dewis, ond y mae yn bwnc genyf fi bob amser erioed i dalu ar law am bob peth fyddwn yn alw am dano; a pheidio a cheisio dim, beth bynag fyddai'r angen am dano, os na fyddai genyf arian i <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
67o17lae3nvp0n1kucq2rz8do0e5l59
169754
169753
2026-08-09T15:20:13Z
AlwynapHuw
1710
169754
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwasgodd gwraig y tŷ yn o galed ar meistr droion yn nghylch crefydd, a'r ddyledswydd o'i phroffesu, oddiar ei bod yn gwybod ei fod ef yn ddeiliad argraffiadau crefyddol er's hir amser. Ni ddywedai ef ond ychydig, ond teimlai yn garedig tuag ati hi, am ei ffyddlondeb.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XI.}}}}

2zmn4g8ttohha42yur79c49f8uu0rnn
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/49
104
87782
169755
2026-08-09T15:21:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169755
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dalu wrth ei geisio. Yr wyf yn sicr i hyn fy nghadw rhag llawer o helbul a phryder. Nid peth bychan, goeliaf fi, ydyw myned trwy'r byd, ac yn y diwedd allan o'r byd, heb fod yn 'nyled neb o ddim,' os. gellir fodd yn byd; ac yr wyf yn bur sicr yn fy meddwl y gallai llaweroedd mwy nag y sydd fyned trwy'r byd, a myned o'r byd felly, pe y ceisient roddi eu synwyr ar waith i drefnu a darbod eu hachosion a'u hamgylchiadau gyda golwg ar hyny. Ond waeth tewi na siarad, pleser llawer o bobl ydyw rhedeg i ddyled, y mae fel pe byddai bod mewn dyledion yn beth hanfodol i gysur eu bywyd. Nid ydynt yn meddwl am dalu byth; wrth brynu, addawant yn deg, a dyna'r cwbl. Ni waeth ganddynt, ac ni waeth iddynt, faint o bris a geisia'r gwerthwr am y nwydd, gan nad ydynt yn gofalu dim oll yn nghylch y talu, os gallant gael ar goel. Wedi rhedeg mor bell i lyfrau un siop, hyd nes y gwrthoda iddynt ychwaneg ar goel, ac yr eir i wasgu'n galed am y tâl, rhedant i siop arall. Trefn dda ar gyfer rhai o'r fath yma oedd sefydlu Cwrt y Mân Ddyledion; y mae y Cwrthwnw yn peri peth ofn ac arswyd ar lawer ohonynt.
Byddaf yn meddwl yn wastad mai gwers fuddiol iawn i'w dysgu i bobl ieuainc ydyw y pwys o ymgadw rhag rhedeg i ddyled; dylai fod yn addysg yr ael. wyd a'r ysgol, ac weithiau yn yr areithfa hefyd, canys y mae hi yn gangen o addysg y Beibl. 'Paid byth prynu gwerth dimai o ddim os na fydd genyt ddimai i dalu am dano fo,' ebai tad unwaith wrth ei fachgen, 'a phaid byth a prynu dim na bydd arnat ei eisiau, pe ba'i genyt arian lon'd dy boced; ie, pe b'ait yn ei gael o am ddim.' 'Wel, 'nhad,' ebe'r bachgen, 'nid prynu fyddai hi, os cawn i o am ddim; a mi fyddwn yn ffol i wrthod y peth a gawn i am ei gymeryd." 'Na, na,' ebe y tad, 'mae llawer peth geir am ddim heb fod ei eisiau, yn cael ei brynu yn ddrud iawn wrth ei gymeryd, gan fod tuedd ynddo i fagu ysfa drachwantus am bethau afreidiol yn y meddwl.' Yr<noinclude><references/></noinclude>
3mifvkt0rbclf2pfj8xlc0hpbyvopfg
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/50
104
87783
169756
2026-08-09T15:23:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169756
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyf fi yn meddwl fod synwyr ac athrawiaeth dda yn nghynghor y tad hwnw.
Ond i b'le yr wyf fi wedi myned? Ar fedr myn'd yn mlaen â hanes digwyddiadau bore f'oes deil wraidd yr oeddwn pan yn ymaflyd yn y pin i gychwyn y benod hon; ond erbyn i mi edrych, dyma fi wedi bod wrthi yn adrodd fy hynt bersonol, a throi i gynghori a dysgu pobl sut i fyw. Wn i ddim beth y gel. wir rhyw druth fel hyn. Ai tybed mai athroniaeth bywyd cyffredin? Os felly, dyma'r Teiliwr wedi troi yn ''philosopher'' heb yn wybod iddo ei hun; a 'does wybod yn y byd mawr beth a fyddaf eto, os caf fyw dipyn. Teiliwr oeddwn yn nechreu fy mywyd, beth bynag, ond pwy wyr na byddaf yn ''Bresident'' ar ryw wlad neu ynys, yn rhyw gwr o'r ddaear, cyn ei diwedd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XII.}}}}
Ar y ffordd wrth fyned tuag adref o'r lle da hwnw, gofynwn i meistr, ' I ble yr awn i nesaf i bwytho?' 'I Rhwng y Ddau,' oedd yr ateb. 'Rhwng y Ddau,' meddwn inau, 'p'le ydyw'r fan hono? ni chlywais i erioed mo'r enw o'r blaen.' Yr Hafod Isa ydyw'r enw cyffredin arno, ond rhwng y Ddau isa byddaf fi yn ei alw,' meddai Huw. 'Pa'm yr ydych yn ei alw felly?' gofynwn. 'Wel, dyma'r pa'm,' atebai; 'nid yw yn lle mor druenus a'r uffern hono, nac yn lle mor dda a dedwydd i fyned iddo a'r nefoedd yna y buom ynddi yr wythnos hon; ond rhyw le canolog ydyw, fel y cei weled. Y mae yno rai elfenau nefol, a rhai elfenau uffernol, a'r elfenau hyny yn fynych yn dyfod i wrthdarawiad â'u gilydd.
Yr oedd tri Rhwng y Ddau yn perthyn i lywodraeth llathen a labwt meistr. Rhwng y Ddau uchaf a Rhwng y Ddau ganol, a Rhwng y Ddau isaf, a'u <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
i9viyh3rf8hfrapxkvntsaou21ukrpg
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/51
104
87784
169757
2026-08-09T15:24:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169757
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>galw ar yr enwau a roddai efe arnynt. Yr oedd ansawdd deuluol y tri lle yn gyffelyb y naill i'r llall, mewn amryw bethau, ac yr oeddynt yn gwahaniaethu hefyd.
Wel, eto. Cychwynasom y bore dranoeth i'r dydd y daethom o'r nef, gan gyrchu i'n dau tua Rhwng y Ddau isa. Yr oedd yn fore ystormus, gwlybyrog, o fore Mai. Golwg dywell, bruddaidd, oedd ar wyneb wybren a daear, fel pe buasai'r ddwy wedi tramgwyddo wrth eu gilydd. Nid oedd un aderyn yn teimlo ar ei galon i ganu pwt. Llechai'r ehedydd yn rhyw le allan o'r golwg, ac yr oedd pob Robin Goch a welem yn ysgrythu yn ei gwman, ac weithiau yn twitian yn duchanllyd. Ymlechai y gwartheg yn ochrau y cloddiau, pob un yn edrych mor ddifrifol a phe buasai yn gwneud ei hewyllys. Sylwais ar darw ar un cae yn prysur grafu y ddaear â'i draed blaen, gan eu gweithio bob yn ail, megis pe buasai yn cloddio bedd i gladdu yr holl fuches. Yr oedd yspryd meistr mewn llawn gydgordiad â'r golygfeydd cylchynol. Cerddai rhagddo yn ddystaw, fyfyriol. Ni chawn ond ateb sychlyd, cwta, ganddo pan ofynwn rywbeth iddo.
'Wel, meistr,' meddwn wrtho wedi hir fudandod, 'nid ydych mor siriol a llawen, ac yn canu heddyw fel yr oeddych wythnos i heddyw, pan oeddym yn myned tua'r nefoedd fel y gelwch y lle.' 'Rheswm da pa'm,' atebai yntau; 'nid i'r nefoedd yr ydym yn myned heddyw. Da gallaswn i ganu, a bod yn llawen y bore hwnw, a minau'n gwybod am y lle da yr oeddym yn myned iddo; ac heblaw hyny, nid oes calon nac yspryd mewn dyn na 'deryn i ganu, na bod yn llawen, ar fore trwm, gwlybyrog, fel hwn. Weli di y 'deryn tô acw? Gofyn iddo pa'm na chanai o.' Yr oeddym gyferbyn a ffermdy oedd (ac sydd eto o ran hyny) ar ochr y ffordd, pan gymerodd yr ymddyddan yna lle rhyngom. Torodd i wlawio'n drwm ar yr adeg hono; troisom ninau i fuarth y fferm, ac<noinclude><references/></noinclude>
sliqliy0l7uko9aykboni1cr4ectotk
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/52
104
87785
169758
2026-08-09T15:27:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169758
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aethom i hofel yno i ochel y gawod. Yr oedd ar y buarth luaws o ieir, a hwyaid, a gwyddau. Dechreuai y ceiliog ieir ar ei dôn yn y man. 'Dyna i chwi, meistr, meddwn i, 'y mae hwna yn medru canu y bore heddyw, os na fedrwch chi.' 'Canu wyt ti yn galw crygleisio fel yna?' ebe yntau, 'mae o'n meddwl mai canu mae o: wyr o ddim amgenach, druan ohono, ac ni ddysga fo byth wybod chwaithmae o'n rhy benwan a hunanol i ddysgu dim.'
Daeth gwr y tŷ allan o'r ysgubor ar hyny, ac fwyd ganddo mewn gogr, a thaflai ddyrneidiau ohono ar y buarth. Wel, af ati hi. Dyna lle yr oedd rhedeg am y cyntaf, yn ieir, hwyaid, a gwyddau, a phob un yn crechwenu ac yn gorfoleddu a holl nerth ei gorn gwddw. Yr oedd yno ''goncert'' ardderchog, o ryw fath o ardderchogrwydd, hyd nes y daethant i gyrhaedd y grawn yd; yna gostegai y beroriaeth, syrthient ati bob un o ddifrif i achub ei gyfran o'r wledd. Canfu un o'r moch oedd gerllaw yr edynogion yn gwledda, a chododd arno flys am gyfran o'r danteithion; rhuthrodd y ceiliogwydd iddo, ac ymaflodd yn ei ochr, a rhoddodd gernod iddo yn ei fochgern â bôn ei aden, fel y rhedodd hwnw ymaith am ei hoedl, gan wchian fel y gweddai i fochyn yn y fath amgylchiad. Ymlidiodd y ceiliogwydd yn mhell ar ei ol, a dychwelai at ei gymdeithion gan ganu cloch buddugoliaeth yn hynod o soniarus. Yr oedd gorfoledd y gwyddau y tu hwnt i bob terfynau—rhedent i gyfarfod eu harwr i'w lawengyfarch a'i fawrygu am ei wroldeb a'i wrhydri; a thrwy hyn, collasent hwy ac yntau lawer o'r gyfran a berthynai iddynt o'r boreufwyd a ddarparesid iddynt, canys yr oedd y ddwy genedlaeth yn diwyd bigo y grawn i fynu tra buont hwy yn datgan clod y fuddugoliaeth a enillasai y ceiliogwydd ar y mochyn.
Yr oedd y gawod wlaw drosodd erbyn hyny, ac ebe fi, Byddai gwell i ni gychwyn, y mae'n deg y rwan.' 'Na, aros i ni gael gweled y diwedd, gei di<noinclude><references/></noinclude>
ahmftoxwdqxq5jedlqtey62xkzjogh9
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/53
104
87786
169759
2026-08-09T15:28:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169759
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wel'd y bydd yma fatel eto ninion deg,' eb efe; ac felly fu. Wedi i'r grawn fyned yn deneu ac anaml ar y llawr, dechreuodd y gwyddau ymosod ar yr ieir a'r hwyaid. Ymaflodd un o'r gwyddau yn asgwrn cefn un o'r ieir, a gwaeddai hono yn ddychrynllyd. Ni allai ceiliog yr ieir oddef hyn, ymosododd ar y ceiliogwydd, a bu cadafael galed rhwng y ddau. Yr oedd y ceiliog yn rhy chwimwth ei droed a'i ysgogiadau i'r ceiliogwydd, fel na allasai yn ei fyw ddyfod i ''close quarters'' âg ef. Methai gael pigafael arno, na chyrhaedd cernod bôn aden iddo, tra y gwyliai y ceiliog ar bob mantais i wneud rhuthr arno ef, a phlanu ei yspardynau yn ei goesau. Aeth gwr y tŷ atynt o'r diwedd, a gwahanodd hwynt. Ymddangosai y ddau fel yn honi y fuddugoliaeth. Yr oedd y gwyddau yn neillduol yn clochdar clod gorchestion ymladdgar eu tywysog.
'Wel, tyr'd rwan, Robin,' ebe meistr; 'y mae llawer o addysg i gael oddiwrth y creaduriaid yna, pe b'ai ni'n sylwi yn iawn arnynt,' meddai. 'Pa addysg gewch chwi oddiwrth ieir a gwyddau a hwyaid?' meddwn inau; ' yr addysg oreu wn i am dani a ellir gael oddiwrthynt ydyw eu bwyta; yr wyf finau yn bur hoff o'r addysg hono.' 'Wyt, felly 'rwyt ti,' ebe yntau, 'yn un glew iawn am addysg i dy fol, heb feddwl fawr am addysg i dy ben. Coelia di fi, gwell fyddai i ti gospi tipyn ar dy fol er mwyn dy ben, na phorthi blysiau y bol ar draul esgeuluso moddion addysg a gwybodaeth i'r pen.'
'Wel, rhowch chwithau dipyn o addysg a gwybodaeth i'm pen oddiwrth yr ieir a'r gwyddau yna,' ebe fi. Y mae arnaf ofn dy fod yn rhy bendew i dderbyn addysg, Robin bach; ond dyma i ti wers. Y mae llawer iawn o blant dynion, yn feibion ac yn ferched, yn debyg iawn i'r ceiliogwydd a'r gwyddau yna. Dyna'r ceiliogwydd rwan, mi red a'i big ar ol sawdl pob dyn ac anifail ddelo yn agos ato; ond os troi'r ato fo y ''coward'' pena erioed ydyw o—mi red<noinclude><references/></noinclude>
5ugzsilhe11snbraf7lhqpk8ynfper9
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/54
104
87787
169760
2026-08-09T15:29:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169760
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i ffwrdd gynted ac y gallo'i draed i gario fo, a'r hen wyddau wedi'r cwbl yn i frolio fo, ac yn gwenieithio iddo, ac yntau yn yfed y cwbl, ac yn edrych mor fawreddog fel y gellid tybied ei fod yn meddwl mai y fo ydyw ''Lord Protector'' y byd yma. Fe welir aml i ddyn cyffelyb iddo, a llawer o wenieithwyr cyffelyb i'r gwyddau, yn gwenieithio i'r ceiliogwydd dynol, nes y byddo y creadur penwan yn chwyddo yn fwy na llon'd ei ddillad gan wynt hunanolrwydd —y fo ydyw pob peth nes y dygir ef i'r prawf, ac yna fe dry ei gefn wedi tori ei galon fel ei frawd geiliogwydd. Cymer hynyna o addysg, paid byth a dysgu gwenieithio i neb, beth bynag ddysgi di; a phaid byth a derbyn gweniaith gan neb, gochel rhag gwneud na gwydd na cheiliogwydd o honot dy hun.'
'Dyna'r iar geiliog eto, yr wy'n credu mai un o ddybenion creadigaeth y creadur yna ydyw dangos i blant dynion beth mor wrthun ydyw balchder. Mae'r deryn, yn wir, yn greadur pur hardd, ond y mae o'n gwybod hyny. Y mae ei holl ysgogiadau yn wir bictiwr o falchder. Ddarfu ti sylwi fel bydd o'n gosod ei draed i lawr? Y mae o fel pe bai o'n meddwl bod yn fri i'r ddaear iddo ef sangu arni. Y mae swn balchder yn ei 'go, co, co,' mawreddog. A beth ydyw o, ond ceiliog iar yn y diwedd! Y mae yn medru gosod ei hun allan yn well na'r ceiliogwydd, ac y mae ganddo fwy i ''supportio'' falchder nag sydd gan y llall. Nid yw ef yn goward, gwell ganddo ymladd hyd angau nag ildio a rhedeg i ffwrdd. Y mae i hwn lawer o frodyr yn mhlith meibion dynion. Y bechgyn yma fydd yn gocio 'u hunain, fel y dywed yr hen air, yn gwisgo ysnodenau, a chadwyni arian, a modrwyau aur, neu rywbeth melyn, er na byddant ond bechgen wrth 'u diwrnod gwaith, hwyrach. Mi fyddi di'n son am fyn'd i Lerpwl i chwilio am waith, cymer di ofal os ai dy yno, na wneloch di byth geiliog ohonot dy hun. Mi welais i aml i fachgen gwylaidd a gweddus<noinclude><references/></noinclude>
87tl1l2ym4d6l34cqkjsypl5fo6bqtf
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/55
104
87788
169761
2026-08-09T15:30:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169761
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei yn myned yno, ac yn dychwelyd adref yn geiliogod. Cofia Ddic Sion Dafydd, troi'n geiliog yn Llundain ddarfu hwnw, ac mae'n ''sport'' y genedl byth wedi i Jack Glan y Gors wneyd y gân hono iddo.
'Cymer wers eto oddiwrth yr hwyaid a'u ceiliog. Gwr boneddig moesgarol ryfeddol ydyw ef, y ceiliog hwyaid. Mi fydd yn bowio i bob creadur ddelo yn agos ato fo, boed gi neu fochyn, ieir neu wyddau, oll fel eu gilydd. Ddarfu i ti ddim sylwi fod yr hwyaid yn llawer callach na'r ieir a'r gwyddau gynau? Ni chymerasant hwy ddim sylw o'r ffrwgwd pan oedd y ceiliogwydd yn curo ac yn ymlid y mochyn, ac wedi hyn yn ymladd â'r ceiliog. Yr oedd yr ieir a'r gwyddau yn cymeryd rhan ac ''interes''t mawr yn y bicnic, ond ni chodai'r hwyaid mo'u penau, tra yr oedd gronyn o ŷd heb ei godi. Cawsant hwy fantais oddiwrth yr ymladdfeydd, drwy eu bod yn ddigon call i beidio ymladd eu hunain, nac ymyraeth â'r rhai oedd yn ymladd. Cofia di nad oes dim i'w enill byth, ond llawer iawn i'w golli, oddiwrth gynen ac ymryson; ond mor hoff o gynen ac ymryson ydyw rhai pobl! Yr hwyaid piau hi.
Un peth sydd raid ei ddweyd am y ceiliog hwyaid (a'r hwyaden hefyd), ei fod yn wancus am ei fol, fel tithau, os coeliwn ni dy dystiolaeth am danat dy hun. Mi ddyweda i ti stori ges i gan un oedd yn y fan a'r lle yn gweled :—Yr oedd ceiliog hwyaid gerllaw gefail gof, ac wrth i'r gof dori darn o flaen haiarn gwynias neidiodd y darn toredig oddiwrth yr einion allan tros riniog yr efail. Gwelodd y ceiliog hwyaid ef, a thybiodd ei fod yn flasus fwyd o'r fath a garai, rhedodd ato, a llyncodd ef rhag ei flaen, heb ymofyn dim, yn union deg. Llosgodd yr haiarn ei ffordd drwy ei grombil, a disgynodd oddiwrtho, a syrthiodd yntau yn farw mewn canlyniad. Dyma i ti wers oddiwrth yr esiampl yna o wancusrwydd y creadur yna, druan. "Dysga lywodraethu dy flys. Gosod gyllell ar dy geg," medd Solomon.'
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hkoe1aund8qmcycu4cwokajp2rc2cei
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/56
104
87789
169762
2026-08-09T15:31:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169762
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod XIII.}}}}
CYRHAEDDASOM i Rhwng y Ddau y bore cofiadwy y soniais am dano pan oedd y teulu yn myned i eistedd wrth eu brecwest. Yr oedd y teulu yn gynwysedig o wr a gwraig, dau o feibion, a thair o ferched. Yr oedd y plant wedi tyfu i fynu, y ferch ieuengaf tua dwy ar bumtheg oed. Yr oedd y wraig yn ddynes lanwaith, dawel, bwyllog, a chrefyddol; ond am y gwr, os caniateir i mi fathu gair newydd, rhyw haldibwldi o ddyn oedd o. Ni wn i ar y ddaear beth ydyw ystyr y gair haldibwldi chwaith, os oes rhyw ystyr iddo, dichon y gall rhywrai dysgedig chwilio i'w wreiddiau a chael allan ei arwyddocad. Ymddangosai i mi, beth bynag, fel gair cymhwys yn ei swn a'i seiniad i osod allan gymeriad gwr Rhwng y Ddau isaf. Yr oedd y mab hynaf ar lun a delw ei dad, yn bur gyffelyb iddo yn ei ddull a'i dymher. Y bachgen arall yn dwyn mwy o debygrwydd i'w fam; felly hefyd y ferch hynaf; ond merched eu tad, a chwiorydd y brawd hynaf oedd y ddwy ieuengaf. Yr oedd y ganol yn neillduol yn hynod o wyllt ac aflywodraethus ei thymher.
Ymddangosai i ni nad oedd y gwr yn gwybod ein bod ni (y teilwriaid) i'n disgwyl yno y pryd hwnw; byddai ef yn arfer bod yn fynych oddicartref yn y ffeiriau draw ac yma, yn prynu ac yn gwerthu anifeiliaid. Pan aethom i mewn i'r tŷ, edrychodd yn synllyd arnom, 'Beth mae rhai'n yn geisio yma?' eb efe, 'pwy alwodd am danoch chwi?' 'Y fi, y fi,' ebe y wraig, 'ond wyddoch chwi o'r gore fod eisieu gwneud dillad i'r ddau fachgen yma: ac yr oeddwn wedi dweyd wrthych eu bod i dd'od yma yr wythnos hon.' 'Taw a dweyd celwydd, Nansi,' ebe yntau, 'ni chlywais i air o son am danyn nhw, nes i mi 'u gweld nhw'n dwad i'r tŷ y rwan. 'Wel, hai, hai Rolant,' ebe hithau, 'oni soniais wrthych ddoe ddiwaetha, fy mod yn disgwyl y byddent yma,<noinclude><references/></noinclude>
9rnxujyy0okdm7ollfsxhbsznjxm1jm
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/57
104
87790
169763
2026-08-09T15:31:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169763
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heddyw.' 'Cato ni! ni waeth gen ti beth ddeydi, ond dene fel rydach chi, pobol y Seiat yma bod yg un, waeth gyno 'ch chi ar y ddaear faint o g'lwdde ddeydo chi; well gen i ddelio â phob sort o bobl na'r cryfyddwrs yma.' 'Mi wyddoch am Rolant, Huw,' ebe'r wraig, 'na feindiwch mono fo, dowch y'mlaen, eisteddwch wrth y bwrdd.' 'Gwn mi wn am dano fo cyn heddyw,' ebe Huw, 'y gair garw y'mlaen fydd ganddo fo'n gyffredin, fydd o ddim yn meddwl fel y bydd o'n siarad bob amser.'
'Rydach chi yn y nghamgymeryd i narw, Huw,' ebe 'r gwr, 'pobol y Seiat yma fydd yn deyd un peth, ac yn meddwl peth arall.' 'Y mae rhai pobol eraill fedr wneud hyny,' ebe Huw. 'Ydach chithe wedi mynd i'r Seiat?' ebe'r llall, 'ran hyny, rydach chi'n ddigon ffit i fod ono estalwm, mi wranta'ch bod chi wedi addo myn'd i bump neu chwech o dai eraill heddyw, os oedd galwad am danoch chi.'
'Na, nid wyf fi ddim yn perthyn i'r Seiat, soweth,' ebe Huw. 'Ie, soweth,' ebe'r llall, 'hyny ydi, mi fasech yn waeth nag ydach am ddweyd anwiredd a chastie, tase chi wedi myn'd at bobl y Seiat, dene ydach chi'n feddwl ond te?' 'Eich esponiad chwi ydyw hwnyna,' meddai Huw.
'Nansi,' gwaeddai'r gwr yn groch, 'doro chwaneg o de yn y pot; wel'd di'r trwyn sur mae'r teiliwr yn neud ar dy slotan de di? Mae'r teilwriaid yma'n gynddeiriog am de cry, fel te manus haidd; fase ddigon bychan fod gen ti ddeg pwys ar hugain o de yn y tê, a haner can pwys o siwgwr gwyn, os byddan nhw yma trwy'r wythnos.' Yna taflodd olwg arnaf fi. 'Beth yw'r crwtgi yma sydd gynoch chi yn ych calyn, Huw?' eb efe, 'ni wna hwn ddim haner gwerth ei halen, 'rwy'n siwr, a wnei di?' meddai, gan droi ataf fi. Mi fedra fwyta cystal a'r un ohonoch chwi, os caf fi fwyd o fy mlaen,' ebe finau. Ha, ha, ha, da machgen i,' eb efe, 'mae rhywbeth ynot ti hefyd, 'rwy'n gweld, gwych gen i wel'd bechgyn<noinclude><references/></noinclude>
r9zol1k4c4fcgy0jpx6pi3eiysrrw2z
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/58
104
87791
169764
2026-08-09T15:34:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169764
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a thipyn o blwc ynddyn nhw; bwyta faint fynoch di, machgen i; doro gwpaned y de iddo fo, Nansi,' meddai wrth y wraig, 'yr oedd yr ateb ene'n werth cwpanaid o de da beth bynag.'
Cododd dadl yn y man rhwng y tad a'r mab hynaf yn nghylch rhyw bwnc amaethyddol, ac aeth y ddau yn bur boethlyd eu tymher. Ceisiai'r wraig a'r ferch henaf eu tawelu, ond ni roddai yr un o'r ddau ei bwnc i fynu. Aeth y tad i dyngu a rhegi yn y man, ac nid oedd y bachgen nemawr gwell ei araith na'i dad. 'A oes arnoch ddim cywilydd i gablu enw y Brenin Mawr fel yna, wrth ymborthi ar ei drugareddau?' dywedai y wraig. 'Beth wnawn ni well na thyngu a rhegi,' ebe'r gwr, 'y fo, yr hogyn, d{{bar|2}}, yn cymeryd arno wybod yn well na fi beth a sut i wneud.' Yna anferth lw a rheg drachefn. 'Rown i ddim byd am ddyn,' eb efe wed'yn, 'os na rega fo, achos am hyny, —gwell gen i ddyn a rego yn ''hearty'' na'r bobl fydd yn tuchan ac yn gweddio, mae nhw'n onestach o'r haner.'
'Yr ydych yn peri i mi feddwl am William Morgan, y Fedwlas, Rolant; ac y mae arnaf ofn mai i'r un diwedd y deuwch chwi a'r bachgen yma,' ebe'r wraig.
Tarawodd y sylw yna y gwr a mudandod. 'Sut ddiwedd oedd ei ddiwedd o?' gofynai meistr. 'Yr oeddych yn adnabod Wil Morgan,' meddai hithau, 'a chwi a wyddoch mai tyngwr a rhegwr arswydus oedd o. Yr oedd pump neu chwech o'r class hwn o bechaduriaid yn byw yn y plwy' yma, y mae tri ohonynt yn fyw yn awr, pan ddigwyddai iddynt gyfarfod â'u gilydd, eu prif ddifyrwch fyddai ymryson tyngu a rhegi am y goreu. Beth bynag, fe gymerwyd William yn sal iawn, a phan roddwyd ar ddeall iddo nad oedd gobaith iddo wella, efe a anfonodd am ei hen gymdeithion rheglyd i gael iddo yr hyfrydwch o'u clywed yn tyngu ac yn rhegi unwaith drachefn cyn marw, onte Rolant?' 'Mi wyddost well pethau, ebe Rolant yn ddigllon. 'Wel, ynte, fel hyn y bu,' ebe'r<noinclude><references/></noinclude>
3k7bz56wj3ghqetmnv6edri66g9g0mp
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/59
104
87792
169765
2026-08-09T15:35:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169765
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wraig, 'pan aeth dau o'r hen gyfeillion i edrych am dano, ychydig cyn ei farwolaeth, ni chaent ddyfod i'w olwg; yr oedd arno gymaint o ofn eu gweled a phe buasent ellyllon o'r pwll diwaelod; ni chai neb dd'od yn agos at ei wely ond gweddiwyr, fel Robert Evan y Fron, a Thomas Parry, Rhydonen. Y mae rhegi yn well na gweddio, a rhegwyr yn amgenach na gweddiwyr, gan y math yma o bobol tra byddont yn iach; ond y maent yn troi'u tôn pan ddelont i farw agos i bob amser; ''cowards'' ydyn nhw pan ddelo'r wasgfa a'r caledi yn wastad.'
Yr oedd Rolant, er mor anystyriol a chaled ydoedd, yn delwi yn wyneb yr athrawiaeth yna, methodd ganddo ddweyd gair; cododd oddiwrth y bwrdd, a tharawodd ei het am ei ben ac aeth allan.
Y bore nesaf, bu yno ffrwgwd dost drachefn. Tynodd yr ail ferch—yr eneth nwydwyllt hono grochanaid o botes poeth oddiar y tân, a gosododd ef wrth dalcen y bwrdd; tra yr oedd hi yn hwylio i godi'r potes i'r godardiau, neidiodd y gath ar y bwrdd, a thaflodd un o'r cwpanau i lawr tros y bwrdd, nes oedd y cawl hyd lawr a'r gwpan yn ddrylliau; gwylltiodd yr eneth, a chydag anferth reg, tarawodd y gath fel y syrthiodd dros dalcen y bwrdd i ganol y crochan a'r potes poeth, a dyna lle bu yr helynt erwina yn y byd—y gath, druan, yn dolefain megis rhegfeydd echryslon. Y mae'r gath yna yn rhegi'n arswydus,' ebe meistr yn y man. 'Dim rhyfedd,' ebe'r wraig, yn eitha tawel a phwyllog, 'dyna mae'r gath, druan, yn glywed yn y tŷ yma yn aml.' Dystawodd y gair yna y cythrwfl, ac ymddangosai y rhai euog fel pe buasent yn teimlo ei fin i'r byw, ac ni chlywsom fawr regi tra y buom yno ar ol hyny.
Yn ystod yr wythnos y buom yno, aeth y mab ieuangaf a'r ferch hynaf gyda'u mam i'r Seiat (fel y dywedir) yn y capel oedd yn y pentref gerllaw. Yr oedd y tad a'r plant eraill yn lled anfoddlon, ond ni ddywedasant nemawr o'u meddyliau yn ein gwydd<noinclude><references/></noinclude>
ltsbv273dbyodfp5iupkd9q51o4kbwg
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/60
104
87793
169766
2026-08-09T15:36:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169766
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni. Dywedodd y gwr un diwrnod wrth y plant eraill, 'Gwell i chwithau fyn'd i ganlyn eich mam ar ol y lleill.' 'Da i ddim, beth bynag,' ebe'r eneth nwydwyllt, 'mi rosa i yn ych seiat chi, nhad.' 'Ni waeth i ti hyny, am wn i,' ebe yntau.
Yno gwelid esiampl o deulu wedi ymranu, pedwar yn erbyn tri, a thri yn erbyn pedwar. Yr oedd y naill yn tynu yn erbyn y llall; un dosbarth am ddilyn ffeiriau a gwylmabsantau, y rhai oedd flodeuog yn y dyddiau hyny, a dosbarth arall am ddilyn cyfarfodydd crefyddol. Yr oedd y bywyd crefyddol a'r bywyd annuwiol mewn gwrthdarawiad parhaus â'u gilydd yno, fel yr oedd y naill a'r llall dan radd o anfantais i lawn ddadblygu ei hun. Dylwn grybwyll i'r eneth nwydwyllt hono droi yn grefyddol yn mhen amser wedi hyny; nis gwn beth a ddaeth o'r lleill. Anystyriol y parhaodd y gwr hyd y diwedd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XIV.}}}}
Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi ein bod yn Rhwng y Ddau isaf, galwyd am danom i Rhwng y Ddau ganol, i weithio. Gwr, a gwraig, a merch, hogyn o lanc, a lodes o forwyn, oedd yn gwneud i fynu deulu y lle hwnw; felly nid rhyw lawer o waith i nodwydd y Teiliwr oedd i'w gael yno. Ond yr oedd digon o waith am dridiau neu bedwar yn ein haros yno y tro hwnw, canys yr oedd pâr o ddillad a chob uchaf i gael eu gwneud i Domas, y gwr, oll o frethyn cartref uniongred. Ar gefnau defaid yr Hafod Ganol (dyna oedd gwir enw'r lle, cofier), yr oedd y gwlan wedi tyfu; Mari, y wraig, oedd wedi gardio a nyddu'r gwlan hwnw; nid oedd dim estronol o nwyddau masnach yn gwneud i fynu y dillad hyny, ond yn unig y botymau a'r twist.
Wedi i meistr gymeryd mesur Tomos, dygodd Mari <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
jhw8bck441pmd9ca892a7adbu0mwjz0
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/61
104
87794
169767
2026-08-09T15:36:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169767
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dri chorn o frethyn i'r bwrdd, a dechreuai eu datod. 'Be ddeydwch chi am y mrethyn i, Huw?' gofynai, 'y fi ardiodd ac a nyddodd y gwlan bob ede ohono fo; ni ro'i mo'r gore am ardio a nyddu i'r un ferch yn y plwy nac yn y wlad yma. Y fi llifodd o hefyd. Llifo (lliwio) 'r cwbwl yn wlan yn y pot gartre bydda i'n wastad; mae'r brethyn yn dal ei liw felly'n well o'r haner; 'does gen i ddim ffydd yn y panwrs yma, colli'u lliwie bydd y dillad ar eu hol nhw'n wastad; waeth gynddyn nhw. Mi fydd llawer o'r cymdogion yn dwad yma ata i, i gael 'u dysgu i lifo glas, a chlaret, a bottle green, a mi fydda i'n deyd wrthyn nhw'n gowir sut i neud, ond ni feder yr un o honyn nhw neud dim byd yn debyg i mi er hyny. Mi wn i rwan ar b'rai o'r defed y tyfodd pob blewyn o'r gwlan sy'n y brethyn yma; rhoswch chi, dyma frethyn y gôt yma, gwlan y ddwy ddafad benllwyd ydio, dwy chwaer ydyn nhw, a gwlan rhywiog, da, fydd arnyn nhw'n wastad. Gwlan y llwdn cwta, sy'n y wasgod yma, gwlan da iawn. Y mae brethyn y got ucha o wlan dipyn garwach, gwlan y myharen byrgorn. Wel, be ydach chi'n ddeyd am y brethyn, Huw?' ebai hi drachefn, wedi traethu y ddarlith yna ar ''philosophi'r'' gwlan, a'r gardio, a'r lliwio, &c. Brethyn dan gamp ydio,' ebe Huw, 'ni fum i rioed yn teimlo'i well, os i gystal o. Y mae y gwlan a'r nyddiad a'r lliw a'r cwbl o'r fath ore sy bosib.' 'Ond tydy nhw, Huw?' meddai Mari. 'Ydyn, mewn gwirionedd,' meddai Huw, 'mi fyddai'n well i wragedd y wlad yma dalu i chwi am nyddu a lliwio iddyn nhw o'r haner na dyfetha'u dillad wrth eu gwneud eu hunain.' 'Mi fydda i'n meddwl hyny'n wastad fy hun,' meddai Mari, 'ond fydde ddim modd i mi gael amser.'
'Roedd Huw wedi gwneud ei groeso tra byddem yno trwy ganmol y brethyn a'r nyddu. Gofalai y wraig am y tamaid goreu iddo; dodai ddwy lwyad dda yn ychwaneg o de yn y pot, bob tro. Cawsom<noinclude><references/></noinclude>
rppooweo5bo19mre6mw0w375wr2rqi5
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/62
104
87795
169768
2026-08-09T15:37:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169768
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ginio rhagorol ar gyw iar a bacwn y diwrnod hwnw, a bywiolaeth dda bob dydd tra buom yno.
Ond dynes erwinol ei hysbryd a'i thymher oedd Mari, wedi'r cwbwl. Dyn distaw, tawel, diniwed, a chrefyddol oedd Tomos, y gwr; a gwr; a geneth synwyrol a distaw oedd Margaret, y ferch. Yr oedd hi wedi cael gwell manteision addysg na'r rhan fwyaf o'i chyfoedion ieuainc. Aethai modryb, iddi, chwaer ei thad, i Gaer i wasanaethu yn eneth ieuanc; yr oedd hi yn lodes pur landeg. Priododd fasnachwr yn Nghaer oedd mewn sefyllfa bur dda yn y byd, a chan nad oedd ganddynt blant eu hunain, cymerodd y fodryb ferch yr Hafod gyda hi adref ryw dro y daethai ar ymweliad â'i hen ardal enedigol. Bu yr eneth yno am dair blynedd, rhoddodd ei modryb hi yn yr ysgol tra y bu yno, a phan ddaeth hi adref yn ol, yr oedd golwg fawr gan y cymydogion arni. Mawr oedd y son am dani, Mae Margaret, yr Hafod, yn medru siarad Sasneg yn llawn cystal a'r Person,' meddent; 'be gwelech chi'r pethe mae hi wedi bwytho, mi syne 'ch calon chi; dallech chi byth goelio bod yn bosib iddi allud gneud gwaith mor gute,' a llawer o'r cyffelyb bethau a siaredid am dani. Yr oedd ar lawer bachgen flys yn ei galon ei chael yn wraig, ond ni feiddiai'r un dori ati; ystyrient hi yn ormod o lady. Yr oedd eisiau ystad dda i gadw un felly fel y dylasai gael ei chadw, dybient hwy; ac yn ystyr fwyaf priodol y gair, yr oedd yr eneth yn lady hefyd; yn weddus ei hymddygiad yn mhob cwmpeini, heb ddim coegfalchder na gwamalrwydd yn agos ati; ac ni feiddiai y ffol a'r gwamal fod yn hyf a sarhaus yn ei phresenoldeb. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn fel athrawes yn yr Ysgol Sabbothol a gynelid mewn capel yn y gymydogaeth; yr oedd hyny tua dechreuad yr Ysgolion Sabbothol yn y wlad. Yr oedd genethod ei dosbarth yn meddwl y byd ohoni. Ni welent y Sul byth yn dyfod yn ddigon buan; ac ni fynasent golli yr ysgol ar un cyfrif. Y peth mwyaf<noinclude><references/></noinclude>
6ta3tdvb383fhdv01z2pfh1ig45lhvy
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/63
104
87796
169769
2026-08-09T15:40:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169769
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>effeithiol o bob peth i'w dal mewn ufudd—dod i'w rhieni fyddai addaw y caent fyned at Miss Evans i'r ysgol y Sul nesaf, neu y bygythiad o'u cadw gartref. Yr oedd hi wedi llwyr enill serchiadau y plant, a gwnaent bob beth a geisiai hi ganddynt, a bu ei dylanwad yn effeithiol iawn er gwareiddio llawer ar foesau ac arferion plant yr ardal.
Ond fel y dywedais eisoes, arthes o ddynes oedd Mari, ei mham; gwaith anhawdd iawn oedd gwareiddio dim arni hi. Pan aeth Tomos at grefydd, aeth Mari o'i cho'; ni fwytai ar yr un bwrdd, ac ni chysgai yn yr un gwely, ag ef am dymhor. Bu Tomos am hir dymhor ar ol iddo fyned yn aelod eglwysig yn methu anturio ymaflyd yn y ddyledswydd deuluaidd, ac yr oedd hyny yn faich trwm ar ei feddwl. Daeth Dafydd y Saer, yr hwn oedd wr crefyddol, i'r Hafod, i wneuthur aradr ac ogau yn ystod y tymhor hwnw. Aeth yn gytundeb rhwng Tomos ac yntau i fyned yn nghyd â'r ddyledswydd un bore. Trefnid i Dafydd fyned trwy y gorchwyl o ddarllen a gweddio, ar y dyb y goddefai Mari i wr dyeithr fyned trwy y gwasanaeth heb ddangos ei hanfoddlonrwydd; ac wedi i Dafydd dori y garw unwaith, tybient y byddai y ffordd wedi ei hagor a'i pharatoi o flaen Tomos i ganlyn yn mlaen arni. Felly fu: ar ol brecwest y bore hwnw, estynodd — Tomos y Beibl i'r bwrdd. 'Be ydach chi'n geisio gen hwn yna rwan?' gofynai Mari. 'Dafydd Robert —ddawodd y gnae o ddarllen penod i ni,' ebai Tomos, yn fwynaidd. Pwy ofynodd iddo fo neud hyny?' Y fi, Mari bach, ebe Tomos. Dyrllenwch chi trwy'r dydd, os mynwch chi, rosa i ddim yn ych swn chi,' ebe Mari, a ffwrdd a hi i'r bwtri at y potiau llaeth, a hel a gosod y fuddai yn barod at gorddi, gan gadw gymaint o swn ag a allai. Fodd bynag, aeth Dafydd drwy y gwasanaeth rywfodd.
Daeth Tomos a'r Beibl i'r bwrdd y bore nesaf eto. Yr oedd hithau yn llawn stranciau drwg er y dydd<noinclude><references/></noinclude>
c4ojblmbgxu7gsbhav5nfeu98z653vu
169770
169769
2026-08-09T15:41:05Z
AlwynapHuw
1710
169770
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>effeithiol o bob peth i'w dal mewn ufudd-dod i'w rhieni fyddai addaw y caent fyned at Miss Evans i'r ysgol y Sul nesaf, neu y bygythiad o'u cadw gartref. Yr oedd hi wedi llwyr enill serchiadau y plant, a gwnaent bob beth a geisiai hi ganddynt, a bu ei dylanwad yn effeithiol iawn er gwareiddio llawer ar foesau ac arferion plant yr ardal.

fpx9yvfocbe2lvmcr1umm3gtpy75sgm
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/64
104
87797
169771
2026-08-09T15:43:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169771
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r blaen, ond arosodd yn ei chadair y tro hwnw: ond yr oedd yn greulon ddigofus wrthynt; taniai ei llygaid fel llygaid cath wedi ei chau mewn sach, prociai y tân, a chadwai drwst. Gwaeddai allan pan oedd Dafydd ar ganol darllen, 'Betsen,' ebe hi wrth y llances forwyn, 'dos a dyro fwyd i'r moch y munyd yma.' 'Wil,' wrth yr hogyn, 'dos dithe i nol mawn ar y tân, yn lle eiste yn y fan ene fel ffwl. Hacwch chi ar y gath acw! sget ene! blâg arnoch, mi dyr y gwpan acw rwan.' Ni chaed fawr o hwyl ar benod na gweddi y bore hwnw drachefn.
Gorphenodd Dafydd ei waith yn yr Hafod y diwrnod hwnw, a'r bore dranoeth yr oedd Tomos, druan, wedi ei adael ei hunan ar faes yr ymdrech, a mawr oedd tywydd ei feddwl yn nghylch beth a wnai o'r ddyledswydd. Yr oedd yn ddigalon iawn i geisio tori trwyddi, ac ofnai y byddai Mari yn waeth ei hwyl fyth pan nad oedd neb dyeithr yn y tŷ. Ceisiai berswadio ei hun mai gwell a doethach fuasai iddo roddi y goreu iddi, gan obeithio y deuai pethau yn well o dipyn i beth. O'r tu arall, ystyriai mai llwfrdra pechadurus ynddo fuasai hyny, ac y dylasai fel milwr da sefyll ei dir, a pheidio troi ei gefn yn nydd y frwydr y byddai ond odid yn anhaws byth iddo gynyg ar y ddyledswydd ar ol hyny. Ar ol brecwest y trydydd bore, ymaflodd yn grynedig yn y Beibl; ceisiodd hithau ei gipio o'i law, ond methodd. 'Tomos,' ebe hi, 'ni ddyoddefa i ddim peth fel hyn, ni na i chwaith. Y nhŷ i ydi hwn.' Dealled y darllenydd bod ei thad hi, a'i thad yntau am hyny, wedi bod yn byw yn yr Hafod. Unig ferch ei thad a'i mham oedd hi. Daethai Tomos yno atynt ar ol priodi Mari, ac efe oedd y tenant ar ol marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith; a dyna oedd rheswm Mari dros ddweyd, 'Y nhŷ i ydi hwn.' Ac ychwanegai, 'Ni fu yma ddim darllen na gweddio yn y tŷ yma 'rioed; mi fuase no chwith gen y nhad a mam, a nhaid a nain, i feddwl y daethe'r fath beth byth i'r<noinclude><references/></noinclude>
2k022qxidrtl508ae5rb96d1sstkfcv
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/65
104
87798
169772
2026-08-09T15:45:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169772
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tŷ yma, a ni fu pobol 'nestach a mwy parchus rioed yn y wlad nag oedd y nheulu i. Os bydde nhw'n chware cardie weithie, pwy ddrwg oedd yn hyny ? Mi fydden yn byw'n heddychlon hefo'u gilydd ac efo'u cymdogion yn wastad, ac yn talu i bawb ei ofyn; a nid wrth ddarllen a gweddio y gwnaethon nhw hyny.' Ceisiai Tomos ymresymu'n dawel à hi, ond ni fuasai waeth iddo geisio ymresymu hefo careg y pentan. Rhedodd Mari allan, ond aeth Tomos trwy y ddyledswydd, gyda'r llanc a'r llances. Y tymhor yr oedd y ferch yn Nghaer y bu hyn.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XV.}}}}
TORAIS stori rhwng y Ddau Ganol yn y benod ddiweddaf ar ei haner. Nid ar ei haner chwaith, hwyrach, ond cyn ei gorphen, beth bynag; a rhaid i mi y waith hon ei chario yn mlaen i'r pen, os gallaf.
Aeth y ddeuddydd neu dri cyntaf y buom yno heibio'n lled dawel. Byddai yr yspryd drwg oedd yn Mari yn nawsio allan yn awr ac eilwaith ar achlysuron, yr hwn a gynhyrfid weithiau gan y gath, bryd arall gan y forwyn, yn enwedig os digwyddai i'r naill neu y llall dori rhyw botiau—amryfusedd y mae pob cath a morwyn yn agored i syrthio iddo weithiau. Taranai Mari yn ofnadwy ar yr achlysuron hyny; caem ddarlith ganddi ar hanes y potyn toredig, pa bryd, ac yn mha le, y prynasai hi effaint a roisai am dano—pa faint o amser y buasai yn y ty, &c. Un diwrnod, digwyddodd i'r forwyn dori pot mwstard, yr hwn, meddai Mari, fuasai yn y teulu er dyddiau ei hen nain, a gwell a fuasai ganddi hi wel'd yr holl botiau oedd yn y tŷ yn cael eu tori yn siwtrws na hwnw. Yr oedd y ddarlith ar yr achlysur hwnw yn fwy hyawdl na'r un arall a glywsom ganddi tra buom yno. Dwrdiai y llances, gan ei galw ar <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
bb0b6p9nj029795cmzzqw7t95caxsk3
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/66
104
87799
169773
2026-08-09T15:46:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169773
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bob enw drwg adnabyddus, ac anadnabyddus hefyd, am a wn i, a rhegfa hefyd wrth gynffon pob un ohonynt. Pan fyddai Tomas neu y ferch yn digwydd bod yn bresenol ar adegau fel hyn, ymdrechent yn dawel a phwyllog i dywallt olew megis ar y tonau; ond byddai raid i'r storm gael gweithio ei hun allan.
Ar ganol storm y pot mwstard, syrthiodd meistr ati i bwytho gan gynted a'r gwynt, a 'hys s'i ganlyn pob pwyth. Yr oedd y ci yn gorwedd ar yr aelwyd, ac yn troi'i lygad, ac yn cocio'i glust, wrth glywed yr hys. O'r diwedd, gan na allai ymatal yn hwy, neidiodd i fynu, a rhuthrodd i'r gath, ac ysgytiodd hi yn greulon, gan dybied mai hi oedd y gwrthddrych yr anogid ef i'w dysgyblu gan yr hys, yr hon a gariai ddylanwad effeithiol iawn ar ei yspryd a'i dymher. Tawelodd storm y pot mwstard yn storm y ci a'r gath. Aeth Mari i wahanu y ddau hyny oddiwrth eu gilydd, ac annghofiodd y llall am y tro, a bu tawelwch mawr. Ni ddeallasai hi ddirgelwch ymosodiad y ci ar y gath, canys ni chlywsai hi meistr yn hysian gan faint ei swn ei hun; pe amgen, buasai Huw mewn lle poeth, ond odid.
Yr oedd wedi dyfod i ddigymod yn weddol â'r ddyledswydd deuluaidd er's tro cyn yr amser y buom ni yno. Darfu i ddyfalbarhad Tomos ddwyn barn y ddyledswydd i fuddugoliaeth ar yr aelwyd; ond llawer brwydr galed a ymladdwyd ar yr aelwyd hono cyn sicrhau yr oruchafiaeth. Wedi i'r ferch ddyfod adref o Gaer, cymerodd hi ochr ei thad ar y cwestiwn, a bu o gymhorth mawr iddo i ddal ei ffordd heb lwfrhau ac ymollwng; ond pwnc o oddefiad oedd y ddyledswydd gan Mari; nid aethai erioed ar ei gliniau adeg y weddi, ond plician gwau'i hosan y byddai hi fynychaf tra y byddid yn darllen a gweddio; ac weithiau yn cystwyo y ci neu y gath, fel y digwyddai y naill neu y llall ddyfod yn ei ffordd.
Rywbryd yn nghorph y dydd diweddaf i ni fod yno, digwyddodd i Tomos yn ddiragfeddwl grybwyll ei fod<noinclude><references/></noinclude>
4o9m01cjea0c6k7l40k34z7q7cv5qoy
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/67
104
87800
169774
2026-08-09T15:49:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169774
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef a'i ferch yn bwriadu myned dranoeth i gyfarfod pregethu oedd i gael ei gynal mewn lle o fewn pedair bum milldir o'r Hafod. Cythruddodd Mari yn enbyd pan glywodd hyny. Tydi'r ddau yma,' ebai, yn meddwl am ddim yn y byd ond howca i gwarfodydd i rwle ne gilydd o hyd. Pen fyddan nhw yn ty, mi fyddan â'u trwyne yn 'rhen lyfr ene (y Beibl) beunydd beunyddiol, na chaiff dyn yr un gair o'u pene nhw; ac ono i'r seiat ne rw gwarfod bron bob nos, a gadel 'rholl ofal a'r drafferth i mi.' 'Wel, hust mam bach,' meddai y ferch. 'Hust yn wir!" ebe'r fam, 'rydw i wedi dyodde digon, debic gen i, os digon ydyw llawer, a ddioddefa i ddim chwaneg.' 'Mi gewch chwi fyn'd hefo nhad i'r cyfarfod, mi rosa i gartre o 'wyllys calon,' meddai'r ferch. 'Y fi! y fu fyn'd i'r cwarfod!' ebe Mari, 'mi gei ngwel'd i'n sgyfarnog yn gynta; fum i rioed mewn cwarfod, a da i byth chwaith. Y'th di warchod yn wir! mi fydde yma warchod braf; gwarchod 'rhen lyfr ene nait ti trw'r dydd. Oes rhw sens mewn peth fel hyn, Huw?' ebe hi, 'mi rho i o ar ych barn chi rwan.'
'Hyss—,' ebe Huw, 'gwell gen i adael y mater rhyngoch chi a'ch gilydd.' 'Nage, nage,' ebai Mari, deydwch be ydach chi'n feddwl; 'rydach chi'n ddigon call i wbod be sy'n i le.'
'Wel,' ebe Huw, 'yr oeddwn i'n meddwl rhywbeth fel hyn rwan; tasech chi a gwraig yr Hafod Isa yn ffeirio dau wr, y mae gwr yr Hafod Isa yn bur debyg i chwi yn ei ffordd, a'r wraig yn bur debyg i Tomos yn ei ffordd.'
Edrychodd Mari arno, a'i safn yn agored, fel un wedi ei tharo â braw a syndod. 'Beth!' ebe hi, 'ai cythrel sy ynthoch chi, ddyn, pan feddyliech chi'r fath beth—ewch o'n nhŷ i'r fynud yma, ne mi'ch hollta chi'n ddau ddarn; gna, myn {{bar|2}}.<nowiki>'</nowiki> 'Rhoswch, rhoswch,' ebe Huw, rhyw ''ffregs'' oedd y gair ddeydisi; doeddwn i ddim yn meddwl dim o'r fath beth.<nowiki>' '</nowiki>''Ffregs'' yn wir,' ebe Mari, ' mi ro i chi ''ffregsio''<noinclude><references/></noinclude>
rft55t8p7w1m0tudf9o39ubjwuuee2p
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/87
104
87801
169775
2026-08-09T16:59:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169775
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pobol erill na welson monyn nhw rioed a'i llygid. Dwad i hel yn 'u bolie, ac i fyn'd ag arian pobol y mae nhw. Ont oes gynthon ni berson i bygethu i ni, a mi bygethith yn well o'r haner na nhw; mae o wedi bod yn Rhydychen yn dysgu pygethu o bwrpas. Os gnawn ni fel mae o'n deyd, mi ddown trwyddi hi o'r gore.' Ar ddiwedd ei ddarlith dywedai, 'Cym'rwch chi ofol, blant, nad elo troed yr un ohonoch chi trost riniog y capel ene heno, nac un amser arall.'
Edrychodd y ddwy ferch ar eu gilydd. Ychydig cyn yr amser i gychwyn i'r oedfa, dywedodd y ferch hynaf wrtho, Nhad, yr wyf fi a Mary (ei chwaer) wedi addo myn'd i Gefn y Gadfa i noswaith lawen heno, os na byddech chwi a mam yn erbyn. Yr wyf wedi gofyn i mam; mae hi'n foddlon ini fyn'd; beth ydych chwi'n ddweyd, nhad?' 'Wel, ond ellwch chi fyn'd, os mynwch chi; toes gen i ddim gwrthwyneb i chi fyn'd i leoedd felly; mae ymbell nosweth lawen yn burion peth i bobol ifenc, mi fum i mewn nosweth lawen lawer gwaith pan oeddwn i tua'ch oed chwi, a mi fyddwn yn cael pleser mawr ynddyn nhw, a mewn nosweth lawen yn Ty Draw y gwelis i'ch mam gynta i ddechre siarad â hi. Ond y mae hi'n rhy gynar i chi gochwyn i nosweth lawen y rwan.' 'Yr ydym wedi addo galw heibio i'r Hendre a'r Bont Gareg wrth fyned; a mi gymer hyny gryn dipyn o amser,' ebe'r ferch. 'O'r gore, o'r gore,' ebe'r tad, 'ewch chithe pen fynoch chi.'
Ymaith a'r ddwy rhag eu blaen i'r capel—lle dyeithr iawn iddynt hwy. Edrychai pawb arnynt, ac ar eu gilydd, pan aethant i mewn. Tarawodd i feddwl y ferch hynaf, 'Wel, mi fydd rhywun yn siwr o ddweyd wrth fy nhad cyn nos yforu ein bod ni yma,' a cheisiai berswadio ei chwaer i fyned allan, a dychwelyd adref. Ond gwrthododd hi gydsynio. 'Na,' ebe hi, 'gad i ni aros hyd y diwedd, wedi i ni ddwad yma, doed a ddelo;' ac ymroi i aros wnaethant. Ymddangosai pob peth yn yspryd a dull y<noinclude><references/></noinclude>
c20y08lhxpbi4l9dpjsjbbyz74bvrbr
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/86
104
87802
169776
2026-08-09T17:00:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169776
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>menyn o flaen tân; a mi ddalia i chwir peth a fynoch chwi yr a'i o i'r ysgol ei hun, tae hi yn ceisio ganddo.' 'Mi ddalia i am fwy nag a deli di, nat awn i ddim,' ebe'r tad. ' A ni cheith hi na neb arall un ddewid fyrbwyll gen i ont hyny.'
Y Sabbath a ddaeth, a daeth Miss Evans heibio'r Hafod, yn ol ei haddewid, a chyda hi i'r Ysgol yr aeth y ddwy ferch, a blas mawr ar yr Ysgol a gawsant. Daeth lluaws o blant ac ieuenctyd y gymydogaeth yn nghyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XX.
'Ac i'r ysgol yr aethant, a blas mawr a gawsant arni,' meddwn am ferched yr Hafod ar derfyn y benod ddiweddaf; a pharhau i fyned iddi bob Sabbath a wnaethant, a mwy o flas a hyfrydwch a gawsant ynddi bob tro, meddaf eto ar ddechreu hon. Wrth glywed y chwiorydd yn canmol yr ysgol yn barhaus, cododd awydd ar y ddau frawd i fyned yno am dro; ac yno'r aeth y ddau, a chawsant hwythau flas arni hefyd, ac ni chai dim eu hatal wedi hyny rhag myned iddi bob Sabbath. O'r diwedd, llwyddodd Miss Evans i hudo y ddwy chwaer i ddyfod gyda hi i wrando gwr dyeithr poblogaidd oedd i bregethu yn y capel ar noson o'r wythnos. Yr oedd arnynt ofn yn eu calonau i'w tad wybod. Yr oedd un o bobl y capel, fel y galwai hwynt, wedi bod yn ceisio ganddo ddyfod i wrando y gwr dyeithr y diwrnod hwnw, ac yr oedd hyny wedi ei gyffroi yn fawr. 'Na,' meddai wrth adrodd yr hanes ar ol dyfod i'r tŷ, 'mi fydd yr hen goes yn o hir cyn y gwel o fi yn ei gapel o, rwy'n meddwl. I be mae rhw garsiwn fel ene yn hel i hinen ar draws gwlad fel hyn? Mi fydde'n ffitiach o lawer iddyn nhw aros gartre, ac edrych ar ol 'u busnes 'u hinen, na dwad i myreth â busnes <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
1jw8m684w88odwxmybt31fmch2aw7nx
169777
169776
2026-08-09T17:13:35Z
AlwynapHuw
1710
169777
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>menyn o flaen tân; a mi ddalia i chwir peth a fynoch chwi yr a'i o i'r ysgol ei hun, tae hi yn ceisio ganddo.' 'Mi ddalia i am fwy nag a deli di, nat awn i ddim,' ebe'r tad. ' A ni cheith hi na neb arall un ddewid fyrbwyll gen i ont hyny.'
Y Sabbath a ddaeth, a daeth Miss Evans heibio'r Hafod, yn ol ei haddewid, a chyda hi i'r Ysgol yr aeth y ddwy ferch, a blas mawr ar yr Ysgol a gawsant. Daeth lluaws o blant ac ieuenctyd y gymydogaeth yn nghyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XX.}}}}

37lsmry4d08lqyxpp8kuirp27t3rc7w
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/85
104
87803
169778
2026-08-09T17:15:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169778
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Sul nesaf a fyddoch chwi?' <nowiki>'</nowiki>Perthyn i bwy mae'r—ysgol i fod, pobol y capel neu bobol yr eglwys?' gofynai'r hen wr. 'Perthyn i'r gymydogaeth, pobol y capel a phobol yr eglwys yn gystal a'u gilydd, pawb ddelo iddi hi.' 'Wel, ia—hum—ia,—fedra i ddim gwel'd dim drwg yn y peth, am wni; be wyt ti'n ddweyd?' eb efe wrth y wraig. ''Does gen i ddim gwrthwyneb iddyn nhw fyn'd os leician nhw o'm rhan i,' ebe hithau. 'O'r gore, mi alwa i heibio yma wrth fyned yno y prydnawn Sul—mi fydd yr ysgol yn dechreu am ddau o'r gloch.
Wedi i Miss Evans fyned ymaith, ebe'r hen wr yn y man, 'Mae'n difar gen i rwan addo cai'r genethod fyn'd i'r Ysgol Sul ene hefyd. Ond welis i rioed—siwn beth a'r eneth ene, toes dim possib i nacau hi am ddim byd y geisith hi; mae hi mor bropor a mor—fwyn a nillgar rwsut. Ond tydw i ddim yn leicio'r Ysgol Sul yma yn tôl; fu yma erioed son am y fath—beth yn y gymydogaeth yma o'r blaen. Ddaru'r hen bobol feddwl am ddim o'r fath; mi roedden nhw cin galled ac yn gallach hefyd na neb sy'n fyw rwan. Dda gen i mo'r pethe n'wddion yma, 'rhen bethe a'r hen ffasiwn i mi; mae'n gas gen y nghalon i wel'd y drol a'r arad newydd ene wrth y tŷ yma, a'r hen arad a'r hen gar llusg, drien, wedi'u taflud o'r neilldu mewn amharch. Mi fedrwn grio llon'd y mol wrth ydrach arnyn nhw, mi fedrwn hefyd,' eb efe, gan ollwng ochenaid drom allan. 'Coetio, a chware pêl, yn ddifyr a diniwed hefo'u gilidd, bydde'r hen bobol ar brydnawnie Sulie,' meddai wed'yn. 'Ond rhaid iddyn nhw gael 'sgolion a darllen rwan. Na, dydw i ddim yn meddwl y cewch chi ddim myn'd yno eto,' eb efe wrth y merched. Gwell i chi adel iddyn nhw, gen ych bod chi wedi addo,' ebe'r hen wraig, 'ne fyddwch chi ddim yn ddyn i'ch gair; hyny ydi, os ydyn nhw yn leicio myn'd.' 'Rhaid i chwi ofalu dim am hyny, mam,' ebe y ferch hynaf, 'pen ddelo Marged Evans heibio yma, mi doddith nhad fel<noinclude><references/></noinclude>
3a7un0mn8b8gniqsx23xn22basjurnb
169779
169778
2026-08-09T17:16:06Z
AlwynapHuw
1710
169779
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Sul nesaf a fyddoch chwi?' <nowiki>'</nowiki>Perthyn i bwy mae'r—ysgol i fod, pobol y capel neu bobol yr eglwys?' gofynai'r hen wr. 'Perthyn i'r gymydogaeth, pobol y capel a phobol yr eglwys yn gystal a'u gilydd, pawb ddelo iddi hi.' 'Wel, ia—hum—ia,—fedra i ddim gwel'd dim drwg yn y peth, am wni; be wyt ti'n ddweyd?' eb efe wrth y wraig. 'Does gen i ddim gwrthwyneb iddyn nhw fyn'd os leician nhw o'm rhan i,' ebe hithau. 'O'r gore, mi alwa i heibio yma wrth fyned yno y prydnawn Sul—mi fydd yr ysgol yn dechreu am ddau o'r gloch.
Wedi i Miss Evans fyned ymaith, ebe'r hen wr yn y man, 'Mae'n difar gen i rwan addo cai'r genethod fyn'd i'r Ysgol Sul ene hefyd. Ond welis i rioed—siwn beth a'r eneth ene, toes dim possib i nacau hi am ddim byd y geisith hi; mae hi mor bropor a mor—fwyn a nillgar rwsut. Ond tydw i ddim yn leicio'r Ysgol Sul yma yn tôl; fu yma erioed son am y fath—beth yn y gymydogaeth yma o'r blaen. Ddaru'r hen bobol feddwl am ddim o'r fath; mi roedden nhw cin galled ac yn gallach hefyd na neb sy'n fyw rwan. Dda gen i mo'r pethe n'wddion yma, 'rhen bethe a'r hen ffasiwn i mi; mae'n gas gen y nghalon i wel'd y drol a'r arad newydd ene wrth y tŷ yma, a'r hen arad a'r hen gar llusg, drien, wedi'u taflud o'r neilldu mewn amharch. Mi fedrwn grio llon'd y mol wrth ydrach arnyn nhw, mi fedrwn hefyd,' eb efe, gan ollwng ochenaid drom allan. 'Coetio, a chware pêl, yn ddifyr a diniwed hefo'u gilidd, bydde'r hen bobol ar brydnawnie Sulie,' meddai wed'yn. 'Ond rhaid iddyn nhw gael 'sgolion a darllen rwan. Na, dydw i ddim yn meddwl y cewch chi ddim myn'd yno eto,' eb efe wrth y merched. Gwell i chi adel iddyn nhw, gen ych bod chi wedi addo,' ebe'r hen wraig, 'ne fyddwch chi ddim yn ddyn i'ch gair; hyny ydi, os ydyn nhw yn leicio myn'd.' 'Rhaid i chwi ofalu dim am hyny, mam,' ebe y ferch hynaf, 'pen ddelo Marged Evans heibio yma, mi doddith nhad fel<noinclude><references/></noinclude>
9aahjiy7fl1vwesll0fxeerupcjop6i
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/84
104
87804
169780
2026-08-09T17:17:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169780
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hafod Ganol, adref o'r ysgol o Gaer, teimlodd y ferch ieuanc awydd i gychwyn Ysgol Sabbothol yn rhyw dŷ yn y cwmwd hwnw. Yr oedd yn ardal ar ei phen ei hun megis,—yn lled bell oddiwrth gapel nac eglwys, a chryn luaws o blant, gwasanaethyddion, a meibion a merched ieuainc wedi tyfu yn llanciau a llancesau, yn cyfaneddu ynddi. Gosododd Miss Evans yr achos o flaen y cyfeillion yn y capel y perthynai hi iddo, a chytunasant mai da oedd y peth, ac addawsant gynorthwyo yn y gwaith. Cynygiodd Evan Hughes, y melinydd, ei felin at wasanaeth yr ysgol, a derbyniwyd ei gynygiad. Aeth Miss Evans trwy y gymydogaeth i wahodd y teuluoedd i ddyfod i'r felin i'r ysgol cyn y Sul yr oedd i gael ei hagor, ac yn enwedig i gymhell rhieni i anfon eu plant iddi. Yr oedd y fath barch i'r ferch ieuanc gan y cymydogion oll, fel yr addawsant yn rhwydd bob peth a geisiai hi ganddynt. Y tŷ cyntaf yr aethai iddo i ddadleu achos yr ysgol oedd yr Hafod uchaf. Wedi eistedd i lawr gyda'r hen wr a'r hen wraig, aeth at ei neges. Mae arnaf eisiau help Ann a Mary (y ddwy ferch) os caf,' ebe hi, 'y Sul nesaf; yr ydym yn myned i ddechreu Ysgol Sul i blant y gymydogaeth yn y Felin Ucha', ac mi fyddai Ann a Mary yma yn help mawr i ddysgu y plant.' Addawodd y ddwy yr aent, os byddai eu tad a'u mam yn foddlawn. 'Beth ydych chwi yn ddweyd?' gofynai i'r hen wr, gan osod ei llaw ar ei lin, a gwenu yn ei wyneb. Na wn i'n siwr beth i ddweyd ar beth fel yna,' ebe yntau. 'Aros di—rhaid i ti beidio digio wrtha i am ddweyd ych di—felly rydw i wedi arfer er cin d'eni di, wyddost.' 'Na, welsoch chwi mo honof, na minau mo honoch chwithau, cyn fy ngeni,' atebai hithau, dan chwerthin; 'ond na soniwch am hyny, nid oes dim perygl y digiaf am i chwi ddweyd yth di.' 'Wel, yn ddeydis i beth gwirion hefyd, yn ddifeddwl rywsut.' 'Na hidiwch am hyny, ond fyddwch chwi ddim yn erbyn i Ann a Mary ddyfod i'r ysgol i'r Felin Uchaf,<noinclude><references/></noinclude>
p2etr73l0q95pjm0tm6efv94x8y3rmp
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/83
104
87805
169781
2026-08-09T17:17:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169781
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gymreig i'r car llusg, ac yr oedd ei ddiswyddiad ef yn rhybudd iddi hithau fod ei dydd ar ddyfod. Ymdrechodd yr hen wr yn lew trosti, ond yr oedd buddugoliaeth y bechgyn arno yn achos y drol wedv dofi ei yspryd, a gwanhau ei freichiau. Ciliodd o faes brwydr yr aradr yn gynt a dystawach nag y gwnaethai o'r llall.
Yr oedd y brwydrau hyny rhwng yspryd diwygiad a gwelliant âg yspryd Toryaeth a chyndyn ymlyniaeth wrth hen drefn a defodau y tadau, yn y cylch bychan teuluaidd, yn hollol o'r un natur ac egwyddorion a'r gwrthymdrechion sydd wedi bod am genhedlaethau ac oesau rhwng diwygwyr a gwrthddiwygwyr gwladwriaethol. Yr un yn hollol o ran sylwedd bob amser fu dadleuon Toriaid yn erbyn diwygiadau gwladol ac eglwysig, ac o blaid yr hen ddeddfau a'r trefniadau, â dadleuon hen wr yr Hafod Uchaf yn erbyn y drol ac o blaid yr hen gar llusg. Yr oedd yr hen Gol. Sipthorpe, druan, a llaweroedd o hen Doriaid yn gystal ag yntau, yn wir ddelw o hen wr yr Hafod. Safai'r hen ymdrechwyr glewion hyny yn Senedd ein gwlad, fel eu tadau o'u blaen, i ddadleu yn erbyn pob mesur o ddiwygiad, ac o blaid pob hen raith a threfn wladwriaethol, gan ddefnyddio rhesymau hen arwr yr Hafod yn erbyn y drol, ac o blaid y car llusg.. Newidiodd y Toriaid eu henw i Conservative :Diogelwyr, sef diogelwyr hen bethau a threfniadau gwladol ac eglwysig; ac os teimlant awydd ryw dro eto i ymgyfenwi ar enw newydd, cynygiwn i fod iddynt eu galw eu hunain yn Garllusgiaid.
Ond dyma fi wedi bod yn llusgo wrth y car llusg yn llawer iawn hwy nag yr oeddwn yn bwriadu wrth gychwyn. Rhaid ei adael bellach. Coffa da am dano.
Awn bellach at y chwyldroad mwy pwysig y cyfeiriwyd ato. Yn fuan wedi dychweliad Miss Evans, merch yr<noinclude><references/></noinclude>
i1qa93r0c7pi6abf6do2mjc7vvprooo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/82
104
87806
169782
2026-08-09T17:18:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169782
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rydw i yn dy roi di dan dy warnin, na sonioch di byth am dani hi yn y nglyw i. Mi naeth y car llusg y tro i'n tade ni 'rioed; roedden nhw'n llawer callach na'th di, debic gen i. Ni wn i be andros sy wedi 'mweled â bechgin y dyddie yma; mae nhw'n meddwl 'u bod nhw'n llawer mwy doeth a gwybodus nag oedd yr hen bobol es talwm. Yna aeth i'r tŷ at yr hen wraig i achwyn a dwrdio. Buasai arno ofn meddai, pe buasai'n cydsynio â chais y bechgyn, y buasai yspryd yr hen gar llusg yn ei drwblo bob nos tra buasai byw ar y ddaear. Llwyddodd am y tro i roi yspryd y drol i lawr, ac addawai iddo ei hun y cawsai ef a'i hen gyfaill y car llusg fyw mewn tangnefedd o hyny allan. Beth a wnaeth y bechgyn ond gofyn yn ddistaw am fenthyg trol newydd oedd cymydog iddynt newydd gael, am ddiwrnod i gario tail o'r buarth, ar amser planu pytatws. Aethant ati'n bur fore, cyn i'r hen wr godi o'i wely; ac wele! pan ddaeth allan, er ei syndod a'i ddychryn, beth a welai ar y buarth ond ei hen elynes y drol! a haner y domen wedi ei gludo ymaith yn ddisymwth megis gan gyfaredd. Curai ei draed a'i ffon yn erbyn y llawr, a dwrdiai a bygythiai'n arswydus. 'P'le cawsoch chi hi? Ewch a hi o ngolwg i'r fynud yma ne mi gymra'r fwyallt a mi gna hi'n sgyrion mân bob tamed i chi.' 'Wel, welwch chi nhad, gymaint mwy o waith ydan ni wedi wneud y bore yma wedi cael y drol nac allasen ni wneud gyda'r car llusg,' ebe'r mab hynaf. 'Dene'r felldith, mi ewch a'r domen i ffwrdd i gyd cyn y nos fel hyn; mi fase'n ddigon o waith am ddyddie lawer i'w chario hi efo'r car llusg,—dyfetha'r domen a'r tail fel hyn.'
Fodd bynag, o dipyn i beth, llwyddodd y bechgyn i ddwyn achos y drol i fuddugoliaeth, ac i daflu'r hen gar llusg oddiar ei orsedd, ac ni chlywais i yspryd yr hen greadur hwnw drwblo yr hen wr mewn canlyniad. Bu yno ymdrech gyffelyb gyda'r aradr wedi hyny. Chwaer ydoedd yr hen arad limog<noinclude><references/></noinclude>
ovscruumwybq85u96xqj9afc8xdyvo9
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/81
104
87807
169783
2026-08-09T17:19:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169783
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwnaed y te yn yr Hafod bob bore yn rheolaidd am ddau fis; mewn jwg y gwneid ef, ac o odardau yr yfid ef, bob dydd. Yr oedd yr hen wr yn cadw cyfrif manwl o'r amser amodedig i adael y peth yn ddirgelwch, ac yn myned yn hoffach bob dydd o'r te dail. Ar ben y ddau fis, gofynodd am weled y dail, dygodd yr hen wraig bapuraid o de i'r bwrdd. Bu agos i'r hen wr syrthio mewn llewyg gan ei fraw a'i ddychryn. Ond nid oedd wiw ffraeo bellach yr oedd wedi ei ddal yn y groglath; yr oedd bellach yn rhy hoff o'r te i'w roddi heibio, er hyny yr oedd ei gydwybod yn ei gondemnio yn dost am ei yfed. Daeth y ddefod newydd i'r Hafod yn ddiarwybod i'r hen wr, ac enillwyd ef yn ddysgybl iddi drwy amryfusedd. Ond yr oedd defodau newyddion eraill ar ddyfod i mewn pwysicach na defod y te, fel y caf ddangos.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XIX.}}}}
CRYBWYLLAIS o'r blaen i chwyldroad mwy pwysig na chwyldroad y te dori allan yn fuan ar ol y llall. Hwyrach y dylaswn grybwyll i chwyldroadau eraill ddigwydd yno o flaen un y te. Un oedd chwyldroad y drol. Yr hen gar llusg a fuasai yn teyrnasu yno o genedlaeth i genedlaeth, hyd ddyddiau y teulu yr wyf yn adrodd eu hanes. Yr oedd y ddau fab er's cryn amser yn awyddus i ddymchwelyd llywodraeth y car llusg, a sefydlu un y drol yn ei lle, ond ofnent amlygu eu dymuniad, gan y gwyddent y buasai yr Hen Dori, eu tad, yn gwgu ac yn gwrthwynebu yn ofnadwy. Anturiodd y mab hynaf un diwrnod, fodd bynag, grybwyll y peth yn gynil wrth ei dad, pan oedd efe mewn tymher dda; ond gwarched pawb! taflodd hyny gylchau tymher yr hen wr yn y fan. 'Na ddoi di mo a dy drol yma byth os gwela i di.<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
lb8fgg65p0076ly779stovu0do6j45r
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/80
104
87808
169784
2026-08-09T17:21:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169784
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llogell. Un tro, digwyddodd i'r dror fod heb glo arni pan yr oedd yr hen wraig allan; daeth yr hen wr i'r tŷ, ac agorodd y dror i chwilio am rywbeth; yr oedd tua haner llonaid y jwg o de oer; cymerodd yr hen wr afael ynddo, bu yn edrych ac yn ceisio dyfalu yn hir pa beth allasai fod; dodai ei drwyn yn y jwg i'w arogli; o'r diwedd, anturiodd ei brofi, gan sipian ei weflau: ac ebe efe rhyngddo âg ef ei hun 'Mae o'n dda gynddeiriog beth bynag ydi o,' ac yna yfodd ef i fynu ar ei dalcen. Pan ddaeth yr hen wraig i'r tŷ, er ei syndod a'i dychryn, beth a welai ond yr hen wr a'r jwg te yn ei law! 'Wel dyma hi!' meddai. 'Be oedd gen ti yn y jwg yma?' gofynai yr hen wr. 'O, tipyn o de dail,' oedd yr ateb. 'Ple cest ti o?' Gwraig Cae Coed nysgodd i wneud o y diwrnod o'r blaen.' 'Wel sut rwyt ti yn 'i neud o?' 'Dim ond rhoi dwr berwedig am ben y dail, a rhoi tipin o siwgr ynddo fo.' 'Pw'r ddail ydyn nhw?' 'P'wr enw sy arnyn nhw, dydwi ddim yn cofio rwan, mi fedra gael gwybod gan wraig y Cae Coed, y hi roes chydig o'r dail i mi i'w dreio i ydrach sut y baswn i yn leicio'r te, ac y nysgodd i sut i'w neud o, ac roedd hi'n deyd fod o'n dda iawn ar les iechyd. Oeddech chi'n leicio'i flas o?' 'Oeddwn yn anmhosibl iawn, ebe yr hen wr; nid aethai unwaith i'w ben i feddwl mai ei brif elyn fuasai ei wefusau yn gusanu. 'Gna dipin ohono fo weithie,' meddai wrth yr hen wraig. 'Mae'n ddigon hawdd i mi neud hyny,' ebe hithau. Yn boeth mae o ore, a thipyn o hufen ynddo fo,' ebe hi wed'yn, 'mae gwraig y Cae Coed yn i gymryd o bob bore i'w brecwest hefo bara a menyn.' 'Fedri di gael peth o'r dail ene i'w dreio fo?' gofynai yntau. Medra, ar un amod,' oedd yr ateb. 'Be ydi hono?' 'Nad ydach chi ddim i gael gweled y dail am ddau fis beth bynag.' 'Pa'm hyny?' 'Migewch wbod pam hyny os bodlonwch chi i beidio holi dim ar y mater am ddau fis.' 'O'r gore, o'r gore, mi geith fod felly.'<noinclude><references/></noinclude>
01dk1njv90npbjhteu83nfteuylyi9v
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/79
104
87809
169785
2026-08-09T17:23:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169785
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'pe tase'n hynafied ni a nine ar 'u hol nhw'n gwerthu pob gwydd yn lle'i byta hi, mi fase ni yn gwoethocach o ddeg punt ar higien nac ydan ni heddyw.' Ni chafodd yr hen wr fawr o flas ar gig yr wydd hono, am ei fod yn ei fwyta dan ddylanwad yr ystyriaethau difrifol yna; ond ni allai feddwl am roddi yr hen ddefod deuluol o fwyta gwydd y gwyliau heibio chwaith, o barch iddi fel hen ddefod ei henafiaid.
Un o'r tai olaf yn yr holl wlad i de ddyfod i arferiad ynddo oedd yr Hafod Uchaf. Yr oedd yr enw ''tea'' yn ddychryn i'r hen wr am rai blynyddoedd; yfed te oedd yr heresi fwyaf ofnadwy o bob cyfeiliornad yn ei olwg ef. Yr oedd yn echrydu at ei gymdogion fyddent yn ei arfer. Rhoddodd yr hen wraig ar ei gocheliad yn fynych na fyddai iddi byth gyffwrdd âg ef; a gorchmynai i'w blant, beth bynag a wnaent ar ei ol ef, am ofalu na ddeuai haden o de byth i'r Hafod. Os digwyddai iddo fyned i dŷ cymydog, a chael y teulu yn yfed te, troai ei gefn yn ddiatreg mewn digter llidiog; ac adref ag ef, i roddi darlith ar ddrygedd arswydus yr arferiad. O'r diwedd, un diwrnod aeth yr hen wraig i ymweled â chymydoges iddi, yr hon oedd wedi syrthio i'r pechod o yfed te; perswadiwyd hithau i brofi te am unwaith y prydnawn hwnw, a syrthiodd mewn cariad ato yn y fan. Rhedai aml brydnawn at ei chymydoges i gael dysglaid o de, ac aeth yn fwy-fwy dan ei ddylanwad bob tro. O'r diwedd, yr oedd yn rhaid cael peth ohono i'r tŷ, ond yr oedd yn rhaid gofalu beth bynag na chai yr hen wr ddim gwybod. Nid oedd wiw meddwl cael tepot a chwpanau te i'r tŷ, gan y buasai yr hen wr yn siwr o ddyfod ar eu traws ryw dro, a pharasai hyny flinder nid bychan. Mwydai yr hen wraig y te mewn jwg, a thywalltai ef mewn godard; dror y dresel fyddai y bwrdd at y gwasanaeth hwn, ac os clywid swn traed yr hen wr yn neshau at y tê, cauid y dror yn y fan, a chloid hi, tarawai'r hen wraig yr agoriad yn ei<noinclude><references/></noinclude>
dawa1zz2fkbpifu5zkyj89zhequ7rk6
169786
169785
2026-08-09T17:23:48Z
AlwynapHuw
1710
169786
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'pe tase'n hynafied ni a nine ar 'u hol nhw'n gwerthu pob gwydd yn lle'i byta hi, mi fase ni yn gwoethocach o ''ddeg punt ar higien'' nac ydan ni heddyw.' Ni chafodd yr hen wr fawr o flas ar gig yr wydd hono, am ei fod yn ei fwyta dan ddylanwad yr ystyriaethau difrifol yna; ond ni allai feddwl am roddi yr hen ddefod deuluol o fwyta gwydd y gwyliau heibio chwaith, o barch iddi fel hen ddefod ei henafiaid.

lw6wabm068rg69skl9deqs31c9m3ckv
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/78
104
87810
169787
2026-08-09T17:25:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169787
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynt, a thorai dadleuon poethion allan weithiau rhwng y ddau deulu ar ragoriaethau cymhariaethol y ddau ryw o gwn; ac ambell waith, dodid y Mot a'r Pero i ymladd â'u gilydd i benderfynu y pwnc. Cwympodd teulu y ddau dŷ allan â'u gilydd lawer tro ar y mater pwysig hwn. Clywais hen wr yr Hafod yn dweyd ddarfod i'w Fot ef lwyr orchfygu Pero Tanygareg ar y dydd yr ymladdwyd brwydr Trafalgar; ac na chododd y Pero hwnw ei ben byth wedi hyny fel o'r blaen, ac y rhedai ymaith nerth ei draed gynted y clywai yr enw Mot.
Byddent yn y ddau dŷ yn ofalus i fyned i'r gwely y nos a chodi y bore, a bwyta bob pryd o fwyd, ar yr un awr ac adeg ag yr arferai eu hynafiaid gyflawni y defodau hyny; a'r unrhyw ymborth hefyd fyddai ganddynt yn rheolaidd—bara a llaeth i frecwest, tatws llaeth a golwyth o gig moch i giniaw, llymru i swper yn yr haf ac uwd yn y gauaf; drull o gig dafad neu gig eidion, wedi ei halltu a'i sychu uwchben y llawr, i giniaw y Sul, a gwydd yn y gwyliau. Wrth edrych ar wydd rostiedig oedd ar y bwrdd yn yr Hafod un tro, sylwai yr hen wr yn bur ddifrifol, ''Dear me!''—mae o'n beth sobor i feddwl am dano, mae hon y ddegfed wydd a deugain a chant a fu ar y bwrdd yma er pan mae'n teulu ni yn byw yma. Mae o'n ormod o beth i bobl yn ein sefyllfa ni fwyta gwydd gyfa unwaith bob blwyddyn. Mi gawsen, deydwn bedwar swllt y pen at eu gilydd, am danynt; ac i faint o arian y daethai hyny? Rhoswch, gadewch i ni wel'd, cant a haner o wyddau, am bedwar swllt y pen,—dene gan swllt yn dwad i bum punt, pedwar can swllt yn gneud pum punt bedair gwaith, pedwar pump yn gneud ugain—dyna ugain punt; a dyna'r haner hyny drachefn yn gneud deg punt,—dyna ddeg punt ar hugain. Mae o'n ddychrynllyd o beth!' 'Wel, rhoswch chwi, nhad,' ebe un o'r meibion, 'nid ydyw ond pedwar swllt yn y flwyddyn.' 'P'wr ods ydi hyny?' meddai'r hen wr,<noinclude><references/></noinclude>
deg20yci4qbhjkvn1d9aqzb7hfr2xg0
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/77
104
87811
169788
2026-08-09T17:25:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169788
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a thalent i bawb ei ofyn; ac yr oeddynt yn byw mewn heddwch â'u cymdogion, ac yn ddigon boddlon ar eu byd, a phe buasai pobpeth i ddarfod gyda'r byd a'r bywyd hwn gwnaethent y tro yn burion.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XVIII.}}}}
Ar ein ffordd adref o'r Hafod yr hwyr hwnw, cefais brofi gweinidogaeth geryddol fy meistr, am y trosedd a gyflawnaswn yn erbyn gwirionedd a gweddeidd-dra, trwy ddywedyd wrth yr hen wr ddarfod i mi ddywedyd wrth was y person ei fod ef wedi myned i'r seiat. 'Rhaid i ti gymeryd gwell gofal hefo'r tafod yna,' meddai, 'mae o'n rhy barod o lawer, a pheth hyll iawn mewn bachgen ifanc fel ti ydyw gwneud yn hyf ar bobl yn eu tai, yn enwedig ar hen bobl; ni fydd yn dda gan neb dy weled di yn dyfod i'w dŷ os ei di mlaen ffordd yna.' Ac â llawer o ymadroddion o'r fath y ceryddodd ac y cynghorodd fi; nid oedd dim i'w wneud ond dioddef y driniaeth a gwasgu y glust, a rhoi'r dant ar y tafod. Yr oeddwn yn teimlo fy mod yn haeddu y cerydd, er hyny yr oedd fy natur yn gwingo yn ei erbyn.
Yr oedd teulu yr hen wr wedi trigianu yn yr Hafod am chwech neu saith o genhedlaethau yn olynol, a theulu yr hen wraig yr un modd yn Tanygareg, tyddyn cyfagos, ac yr oedd y naill genhedlaeth a'r llall o'r teuluoedd hyny yn dilyn yr un ffordd a dull o fyw. Yr oeddynt yn Gonservatives o'r sect fanylaf. Yr un nifer o wartheg a cheffylau a gadwent o oes i oes, a'r un enwau fyddai ganddynt ar bob cenhedlaeth o geffylau a buchod. Mot fuasai enw pob ci yn yr Hafod Uchaf dros gant a haner o flynyddoedd; a Pero fuasai enw pob ci yn Tanygareg drwy'r oesau; a sonid llawer yn y ddau dy am orchestion eu Motiaid a'u Peroaid yn y dyddiau<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
ki39gkvklg388wr5gqil82xw6f2idsa
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/76
104
87812
169789
2026-08-09T17:26:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169789
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wr yn aruthr, ac ni chawsai y gwr hwnw ei fuwch ef wedi hyny, pe rhoisai gan' punt am dani. Ond dyma fi wedi myn'd oddiwrth y pwnc erthyglau crefydd yr hen bobl.
Y 5ed erthygl oedd, 'Cyfleth nos Nadolig.'
6. Cau pob llidiard ar eu hol.'
7. 'Talu i bawb yr eiddo,' a dyna'r oreu o'r cwbl. Nid crefydd hen bobl yr Hafod yn unig oedd yr hen grefydd yna; ond yr oedd ganddi lawer iawn o ddysgyblion yn y wlad y dyddiau hyny; os nad oes ambell i un i'w gael eto; beth bynag am hyny, y mae llaweroedd i'w cael a chwarddant am ben crefydd yr hen bobl na feddant un o'i gwell eu hunain.
Beth pe ysgrifenasid hanes bywyd pob dyn a fu ac sydd yn y byd yma, ni byddai y rhan fwyaf o lawer ohonynt yn ddim yn amgen na hanes hen deulu yr Hafod, a llaweroedd ohonynt yn llawer iawn gwaeth. Y mae pob dyn yn gwneud ei hanes wrth fyned tr trwy y byd, a hanes a ddarllenir hefyd ryw ddiwrnod; a thrwm yw meddwl fod creadur sydd i fyw byth ar hanes ei fywyd ar y ddaear yn casglu defnyddiau mor wael ar gyfer ei fywioliaeth dragwyddol. I gael hanes bywydau llaweroedd o blant dynion pob oes a gwlad, byddai raid i ni chwilio calendar troseddau, carcharau, a phydewau llygredigaeth. Nid rhyfedd oedd i'r Salmydd waeddi allan uwchben trueni y byd, 'Paham y creaist holl blant dynion yn ofer?' Gellid meddwl, wrth edrych ar fywydau myrddiynau eu bod megys yn ystyried mai dyben eu bodolaeth ydyw gwneud y byd mor druenus ag y gallant, a'i adael yn waeth yn mhob modd nag y cawsant ef. Mewn cymhariaeth â'r truenusion hyny, yr oedd bywyd hen bobl yr Hafod a'r cyffelyb yn ddiniweidrwydd pur; os nad oedd y byd ddim gwell o'u plegyd, nid oedd fawr waeth o'r tu arall. Bwytaent eu crempogau eu hunain yr Ynyd, a'u cyfleth eu hunain y Nadolig. Gwisgent eu hen ddillad eu hunain bob Sulgwyn, cauent bob llidiart ar eu hol,<noinclude><references/></noinclude>
aexo8qw9bkjwmo4imtz7f8pn716m6w0
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/70
104
87813
169790
2026-08-09T17:28:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169790
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod XVI.}}}}
AR ol gorphen goruchwyliaeth y nodwydd yn Rhwng y Ddau ganol, ar y ffordd wrth fyned tuag adref yr hwyr hwnw, gofynwn i meistr, 'Pa bryd y cawn ni fyned i Rhwng y Ddau uchaf eto? Dyna fi wedi cael prawf o'r ddau arall, ac y mae blys arnaf i gael prawf o'r trydydd hefyd.' 'Wel, fe ddaw'r tro cyn hir, ond odid,' ebe yntau, 'y mae cryn dipyn o amser er pan y bum i yno, ond p'run o'r ddau oeddit ti yn ei hoffi oreu?' 'Yn wir, mae yn anodd dweyd,' meddwn inau, 'yr oedd pethau da a phethau drwg, yn y ddau. Un wych ydyw gwraig yr Hafod Isaf, ac un wych ydych merch yr Hafod Ganol, a'i thad hefyd; ond gwarchod pawb rhag gwr y gyntaf a gwraig yr olaf. Ond mi gefais i gryn lawer o ddifyrwch oddiwrth y ddau hefyd. Mi roisoch chwi'ch troed ynddi hi gyneu, drwy gynghori y ddau dŷ i newid gwyr a gwragedd â'u gilydd.' 'Do, ond taw di a son yr un gair byth wrth neb am y tro, nac am ddim arall a welaist ac a glywaist ti yn un o'r ddau dŷ. Fuaswn i ddim yn mentro dweyd y peth a ddwedais i, oni bai mod i wedi cymeryd mesur troed Mari es talwm. Mi wyddwn i o'r goreu os gwylltiai hi, y medrwn ei dofi a'i dwyn ati'i hun, dim ond canmol tipyn ar ei gwaith hi yn nyddu ac yn lliwio. Ni chawsem haner gystal bywiolaeth ag a gawsom oni buasai i mi roi clod i'w brethyn hi. Druan o'r Ceiliog, mi gafodd ei wneud yn fwyd—offrwm i ni am y ganmoliaeth hono. Ond a gadael peth fel yna heibio, ddarfu i ti ddim sylwi y gwahaniaeth mawr y mae crefydd yn wneud rhwng pobl a'u gilydd? Ydyw, ydyw,' ebai ef mewn tôn bur ddifrifol, 'lle mae hi mewn gwirionedd, y mae yn gwneud ei hol yn amlwg. Dyna'r Nefoedd ar y Ddaear, y bydda i yn i alw fo, wyddost; mae'n hawdd i'r teulu yno fyn'd i'r nefoedd sy uwchben bob un, canys y maent yn cytuno i gydrodio a chynorthwyo eu gilydd<noinclude><references/></noinclude>
axdawwxvtk9v1fubogcablaxjtngtwf
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/71
104
87814
169791
2026-08-09T17:29:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169791
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ffordd sy'n arwain yno. Pob gwas a morwyn wyllt ac anystyriol elo yno, mi fyddan naill ai wedi newid i ffordd y teulu, neu wedi ymadael oddiyno'n bur fuan. 'Dyna'r lle arall, yr Uffern ar y Ddaear wyddost, mae yn hawdd iawn i bawb sydd yn byw yno fyn'd i'r uffern sy dan y ddaear, am fod pawb yn gyttûn, heb neb yn tynu'n groes, yn rhodio'r union ffordd sy'n arwain yno. Ond am y ddau le arall yna (yr Hafod Isa a'r Hafod Ganol), mi fyddai'n anhawddach i ti fyn'd i'r nefoedd nag i uffern ohonyn nhw.' 'Wel, sut 'rytach chwi'n dweyd felly, meistr?' meddwn i. 'Wel, am fod yno rai yn tynu bob ffordd,' eb efe, 'mae'n anhawdd i Tomas a'r eneth yna fyw'n dduwiol hefo Mari, ac mae Mari yn ei chael hi'n ddigon trafferthus i fyw yn annuwiol hefo nhwthe, a 'run fath y mae hi ar wr a gwraig a phlant y tŷ arall.'
Ar hyny, dyma wr yr Hafod Isa yn dyfod i'n cyfarfod ar ei geffyl, yn dychwelyd adref o'r farchnad. Safodd pan ddaeth gyferbyn â ni. 'Holo, Huw, y chwi sydd yna?' eb efe. Yr oedd y gwr yn o lawn o ddiod. Wyddoch chi be be oeddwn i'n feddwl rwan, Huw?' meddai. 'Na wn i'n siwr,' ebe'r llall. 'Wel, meddwl myn'd i'r seiat heno—heno mae'r seiat yn y capel, 'nte?' 'Felly'n wir,' ebe Huw, 'beth wnaeth i chwi feddwl hyny?' 'Wel, 'rydw i'n meddwl mod i chwedi cael troad, ydw'n wir.' 'Da iawn yn siwr; beth sy'n peri i chwi feddwl hyny?' 'Fedra i ddim deyd i chwi, Huw, mi 'rydw i'n clowed rhwbeth yna'i fy hun na wn i ddim be ydi o os nad troad; dawn i gartre, mi fedre Marged (y wraig) wbod be sy arna i; 'rwy'n coelio, beth bynag, mod i'n myn'd i gael tro, os nad ydw i wedi i gael o.'
'O, mi fedra i ddwedyd i chwi be sy arnoch chwi, a beth sy ynoch chwi,' ebe meistr. Fedrwch chwi, Huw; be ydych chwi'n feddwl ydio, fel tase?' 'Tipyn gormod o gwrw sy ynoch chwi, yn y pen y mae'r tro, ac nid yn y galon yn siwr i chwi; mi ddowch atoch ych hun erbyn yforu.' 'Beth, Huw,<noinclude><references/></noinclude>
s6xsr5emej923p1kiugf6m1oifyiurn
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/72
104
87815
169792
2026-08-09T17:30:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169792
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ai nghymryd i'n ysgafn rydach chwi? mi rydw i wedi cael troad os cafodd yr un dyn erioed dro; a mae'n dda i chwi hyny, ne mi faswn yn ych taro chwi'r mynud yma nes y basech chi'n gwel'd nodwydde dur gen amled a'r cenllysg o'ch cwmpas, am y nghymryd i'n ysgafn fel ene,' a ffwrdd ag ef.
Wedi iddo fyned, ebe fi wrth meistr, 'Y fo wedi cael tro'n wir! ni chaiff o dro byth os na altrith o'i ffordd.' Taflodd y sylw meistr i'w ddau-ddwbl gan chwerthin, a ni fuaswn inau yn fy myw am dipyn yn deall beth a barai iddo chwerthin felly, nes i mi ail ystyried y sylw doeth a wnaethwn.
Ar hyny, dyna hen wr yr Hafod uchaf yn dyfod ar y ffordd i'n cyfarfod. Dychwelyd o'r farchnad yr oedd yntau. 'Huw, yr hen goes,' eb efe, 'mi fum i heibio'ch tŷ chi yn holi am danoch chi; mae'r hen wraig eisio i chi ddwad acw i neud dillad i'r bechgyn; bryd dowch chi'r hen law?' 'Rhen goes, neu 'rhen law, fyddai pawb, hen ac ieuanc, gan yr hen wr hwnw. Wel, mi ddown ni acw pan fo'n gyfleus i chwi ar ol canol yr wythnos nesaf; mae gen i waith hyd hyny.'
'O'r gore, 'rhen goes, mi ga i ddeyd wrth Beti y do'i di yr wythnos nesa, 'nte?' 'Gellwch,' ebe Huw.
'Aros di 'rhen law, pwy ddiwrnod ga'i ddeyd ?' 'D'wedwch dydd Iau.'
'Purion, 'rhen law. Nos dawch.'
Ar ol iddo fyn'd, 'Yr wyf finau yn ofni, Robin,' ebe meistr wrthyf, 'na chaiff yr hen gono yna ddim tro byth os na altrith o lawer,' a thorodd i chwerthin yn enbyd drachefn, a chwarddais inau gydag ef.
Cyn i ni symud o'r fan, ni a glywem swn traed ceffyl yn dyfod ar garlam ar ein hol. Safem i wrando, a safodd y ceffyl pan ddaeth i gyfarfod gwr yr Hafod Uchaf; yr oedd yn rhy dywyll i ni allu eu gweled ond clywem wr yr Hafod Isaf yn gofyn i'r llall mewn llais uchel a chyffrous, 'A welsoch chi Huw'r Teiliwr<noinclude><references/></noinclude>
hzbzaoaoyhrmqumq7vant2mztjppdio
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/73
104
87816
169793
2026-08-09T17:30:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169793
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn eich cyfyrfod?' 'Do, mae'r hen goes yn y fan ene,' ebe hwnw. Myn, mi ro iddo fo, am fy sultio i fel y gnaeth o' Yr oedd y gwr wedi cael troad wedi iddo'n gadael ni, a than effeithiau'r troad hwnw wedi troi yn ei ol gyda'r bwriad o guro Huw. Ond medrodd yr hen wr arall ei berswadio i droi eto gydag ef tuag adref, ac aethom ninau i'n ffordd yn ddyogel. Dyma fo wedi cael dau dro rwan,' ebe meistr, 'hwyrach y caiff o ddau neu dri eto cyn relo o adref; druan o Marged.'
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XVII.}}}}
FORE y dydd Iau yr addawsem fyned i'r Hafod Uchaf, cychwynasom tuag yno gyda thoriad y dydd. Yr oedd meistr yn digwydd bod ar ei uchelfanau y bore hwnw, mor llawen a'r gog, ac mor chwareus a'r ebol. Pan oeddym yn neshau at y llanerch ar y ffordd y cyfarfuasai gwr yr Hafod Isa â ni yr hwyr o'r blaen, gofynwn iddo, 'Beth a wnaech chwi rwan, pe deuai gwr yr Hafod i'n cyfarfod?' 'Ie, on'te,' eb efe, 'mi fyddai yn well i ni ymbaratoi erbyn y gwaethaf, rhag ofn y digwydd y daw y gelyn i'n cyfarfod.' Yna tarawodd y gwniadur am ei fys, yr hwn a alwai efe ei darian, a chymerodd ei lathen fel gwaewffon yn ei law ddeheu, 'Bydd di yn gludydd arfau imi,' meddai wrthyf fi, 'dwg y labwt a'r wydd bresio a'r bwtcin, ar fy ol i, a chadw yn agos ataf, os daw ymosodiad. Yr oedd llonaid ei lewis o nodwyddau dur, i'w defnyddio fel taflbicellau at y gelyn. Felly wedi gwisgo a threfnu arfau ein milwriaeth deilwraidd, aem yn mlaen yn hyderus, gan gwbl gredu y buasem yn alluog i yru cant o wyr arfog ar ffo, pe buasent yn ymosod arnom. Ond ni ddaeth un gelyn i'n cyfarfod, a da oedd hyny iddo.
Gyda'n bod ni dros riniog yr Hafod Uchaf, torodd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
axvczbqtieoavn4p4gqfwmgham6ioje
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/74
104
87817
169794
2026-08-09T17:32:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169794
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hen wr i chwerthin, 'Huw, yr hen goes, ac mi ddoist,' eb efe, ''doeddwn i ddim yn disgwyl y doet ti.' 'Sut felly,' ebe Huw, 'ond oeddych wedi gofyn i mi, a minau wedi addaw dwad.' 'Wel oeddet yr hen goes, yr oeddet ti wedi addo, a dene'r pa'm yr oeddwn i'n taeru y hyd na ddoet ti ddim; ddaw o ddim yn siwr, meddwn i, y mae wedi deyd y dawo; ond ydach chi, y teilwried yma, yn rhai mor gethinol am ddeyd clwdde.' 'Fydda i byth yn tori addewid os bydd yn bosibl ei chyflawni hi,' ebe Huw., 'Wel, dwn i, yr hen law,' ebe'r llall, 'tase ti'n deyd na fyddi di byth yn c'lywni addewid, os bydd yn bosib i ti ei thori, mi faset yn llawn nes i'r marc. Mi dorist gimin o ddewidion ag roist ti o bwythe 'rioed, 'rwy'n coelio, 'rhen goes.'
Taflodd ei olwg arnaf fi yn y man. 'P'le cest ti'r hen law yma, Huw?' meddai, 'eitha prentis o g'lwyddwr, beth bynag am deiliwr, mi gwranta i o, onte, 'rhen law?' 'Na wn i,' ebe fi, 'rydw i heb ddysgu deyd celwydd eto. 'Ddwedais i 'run celwydd heddyw, a dim ond un ddoe.' 'Ie, mi ddeydest un ddoe, do? Be oedd hwnw, 'rhen goes?' 'O, rhywbeth digon diniwed, am wn i, a hwyrach y buasai yn dda i chwi tase fo'n wir, f' ewyrth.' 'I mi! i mi! be oedd hyny? 'Dweyd wrth was y person ddaru mi, o ryw fregedd, eich bod chwi wedi myn'd i'r seiat Capel Isa.' 'Beth! y fi, y fi, y fi, wedi myn'd i seiat! be g{{bar|2}} barodd i ti ddeyd y fath beth! deyd wrth was y person mod i gwedi myn'd i'r seiat! be ddylith y person am dana i? Dos allan o nhŷ i, a ffwrdd o ngolwg i'r mynud yma, ne mi, mi, mi dora dy ben di.' 'Hidiwch mo Robin,' ebe meistr, 'mae rhyw ddireidi fel yna ynddo fo, ac ni thynwn i yn fy myw mono fo ohono fo, ddeydodd o ddim o'r fath beth.' 'Naddo debig gen i,' ebe'r hen wr, 'ne gwae iddo; prun bynag ddeydodd o ne beidio, mi wela i y meder o neyd c'lwdde a'u deyd nhw yn rhigil ddigon." I'r diben i'r darllenydd allu gweled pwynt y stori,<noinclude><references/></noinclude>
6u0vgofbtbb4kngtp5s1324g10pckoh
169795
169794
2026-08-09T17:33:24Z
AlwynapHuw
1710
169795
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hen wr i chwerthin, 'Huw, yr hen goes, ac mi ddoist,' eb efe, ''doeddwn i ddim yn disgwyl y doet ti.' <nowiki>'</nowiki>Sut felly,' ebe Huw, 'ond oeddych wedi gofyn i mi, a minau wedi addaw dwad.' 'Wel oeddet yr hen goes, yr oeddet ti wedi addo, a dene'r pa'm yr oeddwn i'n taeru y hyd na ddoet ti ddim; ddaw o ddim yn siwr, meddwn i, y mae wedi deyd y dawo; ond ydach chi, y teilwried yma, yn rhai mor gethinol am ddeyd clwdde.' 'Fydda i byth yn tori addewid os bydd yn bosibl ei chyflawni hi,' ebe Huw., 'Wel, dwn i, yr hen law,' ebe'r llall, 'tase ti'n deyd na fyddi di byth yn c'lywni addewid, os bydd yn bosib i ti ei thori, mi faset yn llawn nes i'r marc. Mi dorist gimin o ddewidion ag roist ti o bwythe 'rioed, 'rwy'n coelio, 'rhen goes.'
Taflodd ei olwg arnaf fi yn y man. 'P'le cest ti'r hen law yma, Huw?' meddai, 'eitha prentis o g'lwyddwr, beth bynag am deiliwr, mi gwranta i o, onte, 'rhen law?' 'Na wn i,' ebe fi, 'rydw i heb ddysgu deyd celwydd eto. 'Ddwedais i 'run celwydd heddyw, a dim ond un ddoe.' 'Ie, mi ddeydest un ddoe, do? Be oedd hwnw, 'rhen goes?' 'O, rhywbeth digon diniwed, am wn i, a hwyrach y buasai yn dda i chwi tase fo'n wir, f' ewyrth.' 'I mi! i mi! be oedd hyny? 'Dweyd wrth was y person ddaru mi, o ryw fregedd, eich bod chwi wedi myn'd i'r seiat Capel Isa.' 'Beth! y fi, y fi, y fi, wedi myn'd i seiat! be g{{bar|2}} barodd i ti ddeyd y fath beth! deyd wrth was y person mod i gwedi myn'd i'r seiat! be ddylith y person am dana i? Dos allan o nhŷ i, a ffwrdd o ngolwg i'r mynud yma, ne mi, mi, mi dora dy ben di.' 'Hidiwch mo Robin,' ebe meistr, 'mae rhyw ddireidi fel yna ynddo fo, ac ni thynwn i yn fy myw mono fo ohono fo, ddeydodd o ddim o'r fath beth.' 'Naddo debig gen i,' ebe'r hen wr, 'ne gwae iddo; prun bynag ddeydodd o ne beidio, mi wela i y meder o neyd c'lwdde a'u deyd nhw yn rhigil ddigon." I'r diben i'r darllenydd allu gweled pwynt y stori,<noinclude><references/></noinclude>
8j1ry2h7xuwlhcy2odcjk1zn7hhob9p
169796
169795
2026-08-09T17:33:48Z
AlwynapHuw
1710
169796
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hen wr i chwerthin, 'Huw, yr hen goes, ac mi ddoist,' eb efe, 'doeddwn i ddim yn disgwyl y doet ti.' <nowiki>'</nowiki>Sut felly,' ebe Huw, 'ond oeddych wedi gofyn i mi, a minau wedi addaw dwad.' 'Wel oeddet yr hen goes, yr oeddet ti wedi addo, a dene'r pa'm yr oeddwn i'n taeru y hyd na ddoet ti ddim; ddaw o ddim yn siwr, meddwn i, y mae wedi deyd y dawo; ond ydach chi, y teilwried yma, yn rhai mor gethinol am ddeyd clwdde.' 'Fydda i byth yn tori addewid os bydd yn bosibl ei chyflawni hi,' ebe Huw., 'Wel, dwn i, yr hen law,' ebe'r llall, 'tase ti'n deyd na fyddi di byth yn c'lywni addewid, os bydd yn bosib i ti ei thori, mi faset yn llawn nes i'r marc. Mi dorist gimin o ddewidion ag roist ti o bwythe 'rioed, 'rwy'n coelio, 'rhen goes.'
Taflodd ei olwg arnaf fi yn y man. 'P'le cest ti'r hen law yma, Huw?' meddai, 'eitha prentis o g'lwyddwr, beth bynag am deiliwr, mi gwranta i o, onte, 'rhen law?' 'Na wn i,' ebe fi, 'rydw i heb ddysgu deyd celwydd eto. 'Ddwedais i 'run celwydd heddyw, a dim ond un ddoe.' 'Ie, mi ddeydest un ddoe, do? Be oedd hwnw, 'rhen goes?' 'O, rhywbeth digon diniwed, am wn i, a hwyrach y buasai yn dda i chwi tase fo'n wir, f' ewyrth.' 'I mi! i mi! be oedd hyny? 'Dweyd wrth was y person ddaru mi, o ryw fregedd, eich bod chwi wedi myn'd i'r seiat Capel Isa.' 'Beth! y fi, y fi, y fi, wedi myn'd i seiat! be g{{bar|2}} barodd i ti ddeyd y fath beth! deyd wrth was y person mod i gwedi myn'd i'r seiat! be ddylith y person am dana i? Dos allan o nhŷ i, a ffwrdd o ngolwg i'r mynud yma, ne mi, mi, mi dora dy ben di.' 'Hidiwch mo Robin,' ebe meistr, 'mae rhyw ddireidi fel yna ynddo fo, ac ni thynwn i yn fy myw mono fo ohono fo, ddeydodd o ddim o'r fath beth.' 'Naddo debig gen i,' ebe'r hen wr, 'ne gwae iddo; prun bynag ddeydodd o ne beidio, mi wela i y meder o neyd c'lwdde a'u deyd nhw yn rhigil ddigon." I'r diben i'r darllenydd allu gweled pwynt y stori,<noinclude><references/></noinclude>
3obo9e1dnc1821v6h1e5kxo2ox7wpzf
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/75
104
87818
169797
2026-08-09T17:34:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169797
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dylwn roddi ychydig o hanes teulu yr Hafod. Hen bobl o'r hen sort yn drwyadl oedd yr hen wr a'r hen wraig; Eglwyswyr selog yn eu ffordd, er nad yn aml iawn yr aent i'r eglwys chwaith; yr oeddynt yn cashau y Criadogs, fel y galwent yr Ymneillduwyr, â chas cyflawn; buasai mor anhawdd eu perswadio i groesi rhiniog capel ag a fuasai cael bwch i odyn. Ymffrostiai yr hen wr yn fynych na fuasai efe a'r hen wraig erioed o fewn capel, ac awydd i'w dynu allan a barai i mi ddweyd fy mod wedi dywedyd wrth was y Person ei fod wedi myned i'r seiat; ac allan y daeth yr hen ddyn oedd yn yr hen ddyn, yn ei lawn nerth. Swm a sylwedd credo a chrefydd yr hen wr a'r hen wraig oedd :
Yn 1af. Digon o grempogau ddydd Mawrth Ynyd. 2. Rhoi ychydig ludw ar eu penau ddydd Mercher y Lludw.
3. 'Calon lân y Pasg.' Beth a feddylient wrth 'galon lân,' nis gwn.
4. 'Dillad newydd y Sulgwyn.' Y mae'n haws deall beth a olygent wrth yr erthygl yna o'u credo na'r llall; ond yr oedd eu dillad newydd Sulgwyn,' yn ddeng mlwydd ar hugain oed, o leiaf, y tro cyntaf hwnw y bum i yno, Dodent hwy am danynt i fyn'd i'r gwasanaeth bob Sul Sulgwyn, a diosgent hwynt gyntaf y dychwelent adref o'r eglwys, a chedwid hwy yn ofalus heb eu cyffwrdd hyd y Sulgwyn nesaf. Yr oedd wedi myn'd yn ddiareb trwy'r cymdogaethau am beth hen, Y mae gan hyned â dillad newydd Sulgwyn hen wr a hen wraig yr Hafod Uchaf.' Digwyddodd unwaith i ffermwr a ddaethai yn ddiweddar i fyw i'r gymdogaeth ddyfod i ffair Llan{{bar|2}} i brynu buwch, ac yr oedd gan wr yr Hafod fuwch yno i'w gwerthu. Aeth y gwr i geisio bargeinio am dani; ar y siarad, dywedodd yn ddifeddwl, 'Mae'r hen fuwch yma cyn hyned a dillad newydd Sulgwyn hen bobl yr Hafod Ucha!' Nid oedd y prynwr yn adnabod y gwerthwr; gwylltiodd yr hen<noinclude><references/></noinclude>
ffd7yda3qaog3asgyhfeqr5ram8s5jt
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/88
104
87819
169798
2026-08-09T18:22:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "gwasanaeth a ddygid yn mlaen mor newydd a dyeithr i'r ddwy eneth, nes oeddynt fel wedi colli eu hunain mewn syndod. Testyn y pregethwr oedd, 'Gwna yn llawen wr ieuanc yn nyddiau dy ieuenctyd;' ac wedi myned yn mlaen ychydig ar ei bregeth, torodd ystorm o fellt a tharanau ofnadwy gweinidogaeth y dyddiau hyny ar y gynulleidfa. Yr oedd llais a gwedd y pregethwr yn gwisgo arswydolrwydd, ac ofn a dychryn yn gwisgo gwedd y gwrandawyr yn gy...
169798
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwasanaeth a ddygid yn mlaen mor newydd a dyeithr i'r ddwy eneth, nes oeddynt fel wedi colli eu hunain mewn syndod. Testyn y pregethwr oedd, 'Gwna yn llawen wr ieuanc yn nyddiau dy ieuenctyd;' ac wedi myned yn mlaen ychydig ar ei bregeth, torodd ystorm o fellt a tharanau ofnadwy gweinidogaeth y dyddiau hyny ar y gynulleidfa. Yr oedd llais a gwedd y pregethwr yn gwisgo arswydolrwydd, ac ofn a dychryn yn gwisgo gwedd y gwrandawyr yn gyffredinol; a llawer o ocheneidiau trymion yn esgyn o galonau, ac o ddagrau heilltion yn disgyn o lygaid, llwaws ohonynt. Erbyn hyn, y mae y ddwy eneth yn crynu fel dwy ddeilen, gan bryder a braw. Yr oedd yr ymadrodd, "Gwybydd y geilw Duw di i farn am hyn oll," o enau y pregethwr, yn trywanu fel cleddyf trwy eu calonau hwy a llawer eraill yn y lle. Oedd, yr oedd y farn wedi eistedd, a'r llyfrau wedi eu hagor yn nghydwybodau y bobl ar y pryd hwnw.
Ar y ffordd wrth fyned adref, daeth Miss Evans o hyd iddynt; taflasai ei llygaid arnynt aml waith yn ystod y bregeth, a gwelsai yr olwg ddifrifol oedd arnynt. Gofynodd iddynt ar y ffordd beth oeddynt yn feddwl o'r bregeth, a thorasant i wylo'n ddwys. 'Mi fuasai'n dda iawn genyf fi 'rwan,' ebai'r ieuangaf, 'pe buaswn wedi aros gartref.' 'Mi fuasai'n dda iawn gen inau,' ebe'r llall mewn wylofain, 'pe na buaswn i erioed wedi fy ngeni.' 'Na, na,' meddai Miss Evans, 'mi fydd yn dda genych chwi eto, ngeneth i, eich bod wedi dod i'r capel heno, ac yn well genych na dim arall a wnaethoch chwi erioed. A mi fydd yn dda genych chwithau,' meddai wrth yr henaf, ' eich bod wedi eich geni y'mhen tipyn. A cheisiai arwain meddyliau y ddwy gorsen ysig at yr hyn a ddywedasai y pregethwr ar ddiwedd y bregeth, fod yr Hwn fydd yn eistedd ar orsedd barn y dydd hwnw wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid, a'i fod yn galw ar bob un sy'n flinderog a llwythog gan euogrwydd ac ofnau i ddyfod ato i gael esmwythad a thangnefedd.
{{nop}}Os oedd hi wedi bod yn storm arnynt yn y capel, yr oedd storm enbyd arall yn eu haros yn y tŷ gartref, druain. Yr oedd yn byw yn yr ardal, ryw chwilengi tafodrydd a elwid Robin y Glep, neu Robin y Clepiwr, a Robin y Chwedle—yr oedd ganddo amryw deitlau. Hoff, os nid holl waith Robin fyddai cario chwedlau o dŷ i dŷ, a llawer gwaith y gwnaethai ygymydogaeth yn goelcerth o gynen. Digwyddodd fod Robin yn sefyll ar fuarth y capel pan ddaeth—merched yr Hafod yno, a gwelodd y ddwy yn myned i mewn. Yr oedd gan Robin ''eye to business'' bob amser, yn gystal a thafod; a ffwrdd ag ef cyn yr oedfa, a rhag ei flaen i'r Hafod Uchaf gyda'r newydd. Cafodd yr hen wr (nid mor hen chwaith y pryd hwnw) yn y tŷ ei hunan; ac ar ol ychydig ymgom, dywedai, Mi welis Ann a Mari yn myn'd i'r capel gyne.' 'I'r capel! i'r capel!' ebe'r llall, 'naddo, ond i Gefn y Gadfa i'r nosweth lawen yr aethon nhw.' 'Nage'n wir,' ebe Robin, 'i'r capel yr aethon nhw, mi gwelis nhw â'm llygid fy hun.' 'Wyt ti'n siwr, Robin?' 'Mae o cin wired i chi a bod bara mewn torth,' meddai Robin. 'Wel, dyma hi! dyma hi!' meddai'r hen wr, mewn digter llidiog a thrallod mawr. Aeth Robin ymaith cyn i neb o'r teulu ddyfod i'r tŷ. Cadwodd yr hen wr y cwbl iddo'i hun, ond deallai yr hen wraig a'r meibion fod rhywbeth yn blino ei feddwl. Gwrthododd fwyta tamaid o swper; ni ddywedai un gair o'i ben; gwae i'r ci a'r gath os deuent yn agos ato. Yn y man, daeth y ddwy ferch i'r tŷ, a gwaeddai yntau mewn llais yn crynu gan ddigofaint, 'I'r capel, ai ie?—i'r capel, ai ie? Be oedd y peth dwaetha ddeydis i wrthoch chi gyne? Mi ro i chi fyn'd i'r capel,' gan ymaflyd yn ei ffon a chodi ar ei draed. Eisteddwch i lawr, nhad,' ebai y mab hynaf, gydag awdurdod. 'Eiste i lawr?' ebe yntau, 'ai ti sy'n peri i mi eiste i lawr? Na, stedda i ddim i lawr nes i mi guro'r capel allan o'r ddwy hogen yma; mi gna hi'n gas genthyn nhw glywed son am
gapel byth ond hyny.' 'Chewch chwi ddim twtsied arnyn nhw, rydw i'n dweyd i chwi,' ebe'r mab.' 'Ai ti ydi gwr y tŷ yma, tybed?' meddai yntau. 'Ie, y fi ydi gwr y tŷ yma heno, beth bynag, atebai y mab, a thynodd y ffon o law ei dad, a dododd ef i eistedd i lawr. Gwyddai y tad yn dda nad oedd wiw dadleu â Bob. Yr oedd efe yn wr ieuanc cryf, ac o yspryd penderfynol, ac felly bu raid i'r hen wr gadw ei gynddaredd i losgi yn ei fynwes hyd oni chaffai amser cyfaddas, yn absenoldeb Bob, i roddi ''vent'' iddi. Yr oedd yn benderfynol yn ei feddwl i roddi çurfa galed i'r ddwy eneth y cyfleusdra cyntaf a gaffai. Ni chysgodd ef, ac ni chysgodd y ddwy eneth chwaith, ddim y noson hono. Nid ofn eu tad yn gymaint, ond effeithiau y bregeth yn benaf a barasai i'w cwsg hwy gilio.
Codasant yn fore dranoeth, a chododd eu tad, gan feddwl cael gafael arnynt; ond yr oeddynt wedi cychwyn i'r cae i odro cyn iddo ddyfod i lawr. Yr oedd eu brawd hynaf yn cadw o fewn cyrhaedd galw, os deuai taro.
Yn fuan ar ol brecwest, pwy a ddaeth i mewn ond Miss Evans. Yr oedd hi wedi anmheu bod drwg ar droed. Clywsai fod Robin y Glep wedi myned ymaith oddiwrth y capel pan oedd y ddwy ferch yn myned i mewn; ac aeth i'w phen yn union mai rhedeg i'r Hafod a wnaethai i adrodd y chwedl. Pan aeth i mewn, edrychai'r hen wr yn surllyd ddigofus arni; edrychai hithau yn siriol yn ei lygaid. Mi fase'n dda gen i taswn i heb dy wel'd di 'rioed yn agos i'r tŷ yma,' ebe fe, 'ti hudodd y gynethod gwirion yma i'r capel, onte?' meddai. 'Ie, 'n wir, y fi ddaru,' ebai hithau, ac yr wyf yn foddlon i gymeryd y bai, os oes bai'n bod, arna fy hun i gyd. Curwch chwi fi yrwan yn 'u lle nhw, ne mi ro'i gusan i chwi,' a thaflodd ei braich am ei wddf, a tharawodd glats o gusan iddo, fel y dywedent. Diarfogodd y cusan yr hen wr yn y fan. 'Witch wyt ti, a ni welis 'rioed witch o dy sort di,' eb efe. Mi ro'i gusan arall i chwi, os gwnewch chi addo un peth i mi.' 'Be ydi hyny?' Dyma ydi o, na wnewch chwi son yr un gair byth wrth Ann a Mary yn achos myn'd i'r capel neithiwr.' 'Ho, 'rwyt ti'n meddwl fod dy gusan di 'n dda rhyfeddol, mi feddyliwn.' 'Ydach chwi'n addo rwan?' ebe hi. 'Nag ydw i ddim yn addo 'r fath beth—cusan ne beidio.' 'Dim addewid, dim cusan,' meddai hithau. Ond yr ydych yn addaw, ond ydych?' 'Wel am y tro—ond i ti addo nad â'n nhw byth eto.' 'Na, na, fynai i ddim addewid fel yna; dydw i ddim i fargenio trostynt am yr hyn a fydd, ond am yr hyn a fu. Cewch chwi a hwythau setlo rhyngoch â'ch gilydd yn nghylch yr amser i ddyfod.' 'O'r gore, o'r gore,' ebe yr hen wr, 'tyr'd dithau a dy gusan rwan,' a chusan a gafodd. Yr oedd Bob yn dyst o'r cytundeb cusanyddol hwn rhwng ei dad a Miss Evans, ac eb efe, 'Mi ro inau gusan i Robin y clepiwr y tro cyntaf y deuaf o hyd iddo, a chusan na leicia fo byth gael un arall o'i sort o, mi deffya fo.' 'Yn wir,' ebe Miss Evans, 'ni fyddai ddim yn ddrwg gen i i Robin gael tipyn o sgegfa, heb wneud llawer o niwed iddo; hwyrach y gallai wneud peth lles iddo.'
Dyna fel y terfynodd y storm gyntaf yn achos y capel.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXI.}}}}
Bu yr hen wr cystal a'i addewid i Miss Evans, canys ni soniodd air wrth y ddwy eneth yn nghylch eu trosedd yn myned i'r capel y tro hwnw, ond yn unig ei fod yn gobeithio nad elent yno byth drachefn. Ond myned drachefn a thrachefn a wnaethant; nid oedd modd peidio. Yr oedd rhyw deimlad dyeithr wedi ei ddeffro yn eu mynwesau dan y bregeth hono nad oedd dim i'w gael yn un man ond yn y capel a wnai ddygymod âg ef Yr efengyl a godasai y newyn hwnw yn eneidiau y genethod, a'r efengyl yn unig a allasai ei ddiwallu. Gwnaethant ymdrech deg i ysgwyd yr anesmwythder meddwl ymaith, ond yn ofer. Yr oedd yr hoelion wedi ei sicrhau gan feistr y gynulleidfa, nad oedd modd ei tynu ymaith.
Gwahoddwyd y ddwy i noswaith lawen oedd i gael ei chadw yn nhŷ cymydog, a phenderfynodd y ddwy fyned, gan obeithio y buasai llawenydd y noswaith lawen yn ymlid ymaith y pryder oedd yn eu meddyliau; ond 'wrth chwerthin, blin oedd ar y galon, a diwedd y llawenydd hwnw oedd tristwch.' Cymerodd yr ieuengaf arni ei bod yn sâl yn y man, ac nid cymeryd arni ychwaith, canys yr oedd enaid yr eneth yn sâl mewn gwirionedd. Gofynodd i'r cwmpeini ei hesgusodi, bod yn rhaid iddi fyned adref. Ymdrechid ei pherswadio i aros, y deuai yn well yn fuan, ond nid oedd perswadio arni. Yr oedd ei chwaer yn sâl hefyd o'r un clefyd, er na chymerasai hi arni hyny; yr oedd yn dda ganddi glywed ei chwaer yn dweyd ei bod yn sâl, a'i gweled yn gwrthod cymeryd ei pherswadio i aros, fel y caffai esgus i fyned ymaith gyda hi. Pan welodd Bob ei ddwy chwaer yn myned ymaith, anesmwythodd yntau, a mynai fyned ymaith ar eu hol; ond er dim ni fynai y cwmni iddo ef ymadael; ond ni fynai yntau aros, gan ei fod yn ofni, meddai, fod ei chwaer yn rhy wael i gerdded adref heb ei gynorthwy. Ond y gwir yw, nid oedd Bob yntau yn gwbl iach; yr oedd clefyd y chwiorydd wedi ymaflyd ynddo rywfodd. Nid dim a ddywedasent wrtho oedd wedi effeithio arno chwaith, ond gweled y cyfnewidiad mawr ynddynt fyth ar ol y bregeth hono, yn benaf, oedd wedi effeithio arno. Gwelsai y naill a'r llall yn wylo uwchben y Beibl aml dro, ond ni ddywedasai ddim wrthynt am hyny. Yr oedd yn teimlo'n ddig wrth y ddwy am fyned i'r capel hefyd, ac eto teimlai ei fod yn eu caru yn fwy rywfodd nag erioed o'r blaen. Ni fynai Bob gyfaddef iddo ei hun ar un cyfrif fod dim o glefyd ei
Q
chwiorydd arno ef, ac ymdrechai i geisio profi iddo'i hun, ac i bawb arall, ei fod yn fwy iach ac anystyriol ei feddwl nag yr arferasai fod; ond er hyny, yr oedd rhywbeth arno, ond gobeithiai y gallasai ei ysgwyd ymaith cyn hir.
Wel, allan yr aeth ar ol ei chwiorydd, beth bynag, a goddiweddodd hwynt yn fuan yn sefyll ar y ffordd gyda Miss Evans, yr hon oedd yn dychwelyd adref o'r capel, wedi bod yn y cyfarfod gweddi a gynhelid yno y noson hono. Gofynai Miss Evans iddynt pa le y buasent. Yr oedd ar y ddwy gywilydd ac ofn dweyd; ond addefasant y gwir yn y man, ac amlygasant eu teimladau, gan sicrhau mai hwnw oedd y tro diweddaf byth iddynt fyned i noswaith lawen. Dywedent fod y straeon a'r canu masweddol oedd yno, yn nghyda llwon a rhegfeydd y cwmni, wedi peri iddynt arswydo a dychrynu rhag cael eu taro'n farw ar y ffordd cyn cyrhaedd adref, am eu rhyfyg yn myned i'r fath gyfarfod. Clywodd Bob hwy yn siarad cyn y gallai eu gweled, na hwythau ei weled yntau, gan ei bod yn nos. Aeth, yn ddystaw, yn ddigon agos i glywed pob gair, gan eistedd ar ochr y clawdd. 'Wel,' ebe Miss Evans, 'mi fum inau mewn noswaith lawen hefyd, ac nid oes nac ofn, na phoen, na gofid ar fy meddwl wrth fyn'd adref, o achos i mi fyned yno. Yr oedd yno ganu hefyd; canu, a chwerthin, ac wylo wrth ganu.'
'Beth oeddych yn ganu?' gofynai un o'r chwiorydd 'Fel hyn y mae un penill a ganasom,
B'le'r a'i i yfed dwfr rhedegog,
:Ond i afon bur fy Nuw?
P'le ca'i ffrwythau dwyfol peraidd,
:Ond ar bren y bywyd gwiw?
Atat ti dy hun 'rwy'n dyfod
:Am holl ragorfreintiau'r ne'
Nid oes dim i'w gael yn unman
:Leinw ronyn bach o'th le.
Dyma un arall,
Darfydded son am bethau gwag,
::Yn agos ac yn mhell,
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur
::O ffynon lawer gwell.
A hwn hefyd,
Ni throf fy wyneb byth yn ol
:I 'mofyn pleser gau;
Ond mi a gerddaf tua'r wlad
:Sy a'i phleser yn parhau.
Torodd y ddwy eneth i wylo yn ddwys, ac wylodd Miss Evans gyda hwy; ac yn ei fyw ni allasai Bob oedd yn llechu gerllaw, beidio a wylo hefyd. Ar hyn ymadawodd Miss Evans a hwythau, i fyned bob un tuag adref; ac wedi i Miss Evans fyned heibio i'r fan lle yr oedd efe yn llechu, aeth yntau i'w ffordd, a goddiweddodd ei chwiorydd, a synent ei weled wedi dyfod mor fuan ar eu hol. Yr esgus a roddodd oedd fod arno ofn fod Mary yn rhy wael i allu cerdded adref. Gofynent a oedd wedi gweled Miss Evans yn ei gyfarfod? Dywedai i ryw ferch ei basio ar y ffordd, ond ei bod yn rhy dywyll iddo allu ei hadnabod.
Troi a throsi wnaeth y ddwy chwaer, a throi a throsi wnaeth eu brawd Bob hefyd yn y gwely trwy y nos hono. Ceisiai'r ddwy gofio y penillion a adroddasai Miss Evans ar y ffordd. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio eu galw i gof, yr oedd Bob yntau yn ymdrechu yn egniol i'w cadw allan o'i feddwl, a galw i gof rai o'r hen ganiadau gwamal a ddysgasai, fel tarian rhag y lleill. Dechreuodd gyda chân Priodas Siencyn Morgan, yr hon oedd newydd ddyfod allan, ac yn dra phoblogaidd yr amser hwnw. Adroddai hi'n ddystaw rhyngddo ag ef ei hun yn ei wely,
Mae llawer o droiau'n y byd,
Yn haeddu cael eu cofio.
Rhuthrai
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur,
O ffynon lawer gwell.
ar draws Siencyn Morgan i'w feddwl yn y fan,
Y rhai o bryd i bryd
Sy'n cael eu gollwng yn angho.
Meddai drachefn
Ond mi a gerddaf tua'r wlad,
Sy a'i phleser i barhau.
Meddai megis llais Miss Evans yn ei glust. 'Beth ydi peth fel hyn?' meddai, 'be sy ar grefydd eisieu gen i? 'Does arna i eisieu dim ganddi hi, cawn i lonydd.' Ond nid oedd dim llonydd iddo gael mwyach ganddi. Yr oedd wedi taro ei llaw arno. Yr oedd ei llais distaw main wedi sibrwd rhywbeth wrtho. Ac yr oedd
hwnw yn gorfod
Holl leisiau 'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd;
Wrth y llais hyfrydaf tawel.
Distewi, a myn'd yn fud
ar droion. Ond gwingodd Bob yn lew yn erbyn y symbylau.
Dranoeth, fel y digwyddai y peth fod, pwy a ddaeth i'r Hafod, ond Robin y Glep. Aethai Robin i'r noswaith lawen heb ei wahodd y noson o'r blaen; ond yr oedd Bob a'i ddwy chwaer wedi myned ymaith cyn iddo gyrhaedd yno. Yr oedd ganddo luaws o
—chwedlau i'w hadrodd wrth yr hen wr, os cawsai gyfle. Yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho yn y noswaith lawen bod merched yr Hafod wedi myned i'r seiat, fel y d'wedid, ond nad oedd eu tad a'u mam yn gwybod dim am hyny. Anwiredd oedd hyny y pryd hwnw. Ni allai Robin gael llonydd yn ei ysbryd nes y mynegai y newydd i'r hen wr, a dyna oedd ei neges yn yr Hafod y bore hwnw. Pwy a'i cyfarfu ar y buarth ond Bob. Dechreuodd ar Robin yn y fan. Yr oedd pwll go fawr ar y buarth, at tua phen y glin o ddyfnder, a lluaws o wyddau a hwyaid yn difyru eu hunain arno. Cydiodd Bob yn Robin, gan ei wthio rhyngddo a'r pwll; ac wedi ei gael yn ddigon agos, rhoddodd hergwd iddo nes y syrthiai yn wysg ei gefn, strim stram strellach, a thros ei ben i'r pwll yn nghanol y gwyddau a'r hwyaid; a dyna lle'r oedd y terfysg, a'r clegar, a'r cwacian, a'r hysian, a holl nerth yr hyawdledd gwyddol a hwyadyddol, yn dyfod allan gydag arddeliad mawr. Daeth yr hen wr a'r hen wraig allan i edrych beth oedd y mater, a beth a welent ond Robin y Glep yn codi fel drychiolaeth druenus o ganol pwll yr hwyaid; a'r ceiliogwydd, a'r gwyddau, a'r hwyaid yn ei dafodi am y goreu. Pan gafodd Robin ei draed dano, ymaith ag ef yn gynt na chynta' gallai. Galwai yr hen wr ar ei ol i gael gwybod hanes y ddamwain a ddigwyddasai iddo. Yr oedd Bob wedi cilio o'r golwg cyn iddynt hwy ddyfod allan; ond dianc ymaith a wnaeth Robin am ei hoedl, ac ni ddaeth yn agos i'r Hafod wedi hyny.
Meddyliai Bob ar y pryd ei fod wedi profi er boddlonrwydd iddo'i hun drwy y weithred hono, mai nid dim oddiwrth grefydd oedd yn aflonyddu ar ei feddwl, ac os mai ie, ei fod wedi llwyddo i'w dychrynu hi ymaith oddiwrtho, ac y cawsai lonydd ganddi byth ond hyny; ond llonydd nis cafodd.
Bob ei hun a adroddodd yr holl hanes i mi, ac y mae llawer blwyddyn faith wedi myned heibio er hyny. Ychydig a feddyliwn yr amser hwnw y buaswn yn cymeryd yn fy mhen byth ysgrifenu yr hanes i'w gyhoeddi. Wedi dechreu ysgrifenu, yr oedd pethau yn dyfod i'm cof mor fresh a phe buasent wedi digwydd ddoe diweddaf.
<section end="bbb"/>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXII.}}}}
Y NOS Sabbath cyntaf wedi'r noswaith lawen, arosodd y ddwy chwaer yn y gyfeillach grefyddol; ac yn mhen tua pythefnos wedi hyny arosodd Bob yntau ar ol; a Rolant ei frawd yn mhen ychydig wedi hyny. Bu yr hen wr a'r hen wraig am beth amser heb glywed y chwedl hon; yr oedd yr hen wr yn ofni o hyd bod y pedwar yn sâl o Glwy'r Capel, chwedl yntau, ac yr oedd hyny yn poeni llawer ar ei feddwl. Gofynodd i'r person i'w cymeryd mewn llaw, gan obeithio y gallasai ef eu meddyginiaethu. Bu yntau yn ymddyddan a hwy droion, ac yn rhoddi cynghorion
meddygol iddynt! ond yn gwbl aneffeithiol. Dywedodd wrth yr hen wr ei fod yn ofni na allasai wneud dim ohonynt; mai clwyf anfeddyginaethol oedd—Clwy'r Capel, wedi iddo gydio yn y cyfansoddiad, a'i fod yn cael lle i ofni ei fod wedi ymaflyd yn gry' iawn yn y pedwar. Ond daliai yr hen wr i obeithiof gan nad aethent i'r Seiat (canys ni wyddai y pryd hwnw eu bod wedi myned) y gwisgai'r afiechyd ymaith yn raddol. Un bore yr oedd yn myned i'r efel yn y pentref, pwy a ddaeth i'w gyfarfod ar y ffordd ond Robin y Glep. 'Holo, Robin! yr hen goes, sut rwyt ti es talwm? Welis i byth monot i ofyn be naeth i ti fyn'd i 'mdrochi'n mhwll yr hwyed y bore hwnw.' "Deis i ddim iddo fo o modd, mi allech feddwl,' ebe Robin. Wel sut yr eis ti ynte?" 'Gofynwch i Bob,' oedd yr ateb. 'Ai Bob dy daflodd di iddo fo?' 'Ydi o'n gwadu na ddaru o ddim ?" "Dwn i ddim, ddaru mi ddim gofyn iddo fo, a chlowis i neb yn deyd, wyt ti 'n deyd mai fo dy daflodd di?" 'Y fo'n un braf i fod yn Seiat,' ebe Robin, 'i neyd castie felly.' 'Yn Seiat!' meddai'r hen wr. 'Dydio ddim yn Seiat eto beth bynag, a gobeithio nad eith o ddim ono byth chwaith.' 'Hyd yna rydach chi, dyn a'ch helpo,' ebe Robin. 'Mae Bob yn seiat es mis bellach, 'roedd Ann a Mary wedi mynd cyn hyny, a mae Roland ar fin mynd os nad ydi o wedi mynd. Taw a deyd celwydd, Robin,' gwaeddai'r hen wr, 'toes run o honyn nhw wedi myn'd i'r Seiat, ne mi glowswn cin hyn gan rwun.' 'Coeliwch chi ne beidiwch, mae o gin wired a'r pader i chi 'u bod nhw, Bob a'r ddwy ferch acw beth bynag; dydwiddim yn siwr am Roland.' Gollyngodd yr hen wr ochenaid dromlwythog allan ar hyny, 'Wel, ni feddylis i rioed y doethe pethe fel hyn i mlino i, ' eb efe. Merch yr Hafod Ganol ene (Miss Evans) sy wedi'u llygadynu nhw,' meddai Robin drachefn, 'y mae Bob yn ei charu hi nes ydi o wedi gwirioni 'n lân. Yr oedd
Q
Robin yn disgwyl y buasai y newydd diweddaf yn gyru'r hen wro'i go wyllt wibwrn, ond fel arall yr oedd y peth yn bod, yr oedd mor dda ganddo glywed mewn gwirionedd fod Bob yn caru Miss Evans ag oedd yn gas ganddo am y Capel, ond ceisiai gadw hyny iddo ei hun.
Wedi dychwelyd adref, adroddodd i'r hen wraig y chwedl a glywodd gan Robin y Glep. 'Ni fu neb rioed o nheulu i yn perthyn i Gapel,' meddai, 'yn dy waed di mae'r drwg, roedd dewyrth o'r Cwm yn Beneth yn y Capel.' 'Wel hai, gydewch lonydd i'r plant,' ebe'r fam, 'be ydi'r iws i chi gadw swn yn nghylch y Capel o hyd; faint gwaeth ydyn nhw er myn'd ono?' 'Faint gwaeth ydyn nhw! dene hi! Mi fase'n well gen i weld claddu'r pedwar run diwrnod, o'r haner hefyd, nag iddyn nhw fyn'd i berthyn i'r Capel.' 'Twt! twt! tewch a siarad nonsens,' ebe'r wraig, 'synwn i ddim nad ewch chi i'r Seiat 'chun eto cyn bo hir; felly byddai'n gwel'd rhai run fath a chi'n gneud, agos yn wastad.'
'Yfi! yfi! y fi, i'r seiat? i'r seiat? gollist di dy ben gyda dy go, pen fyddyliet, pen ddeydet ti'r fath beth wrtha i.'
Ond yr oedd yr hen wr erbyn hyn wedi digaloni ar ol colli brwydrau y te, y car llusg, a'r hen aradr, fel nad oedd ynddo nerth at ymladd brwydr y capel. Gan hyny, ni dd'wedodd ddim wrth y plant yn nghylch y seiat, gymaint a chymeryd arno ei fod yn gwybod y peth.
Tua'r amser hwn, digwyddodd amgylchiad yn ysgol y felin a barodd gryn siarad a digrifwch yn yr ardal. Yr oedd hen wr, a hen grefyddwr, elwid Sion y Go, yn athraw yn yr ysgol hono. Ar ganol yr ysgol un Sul, tarawid Sion yn ddisymwth â braw a dychryn, gan ryw arwyddion a rhyfeddodau yn ei glust. Yr oedd yn clywed trwst mwy arswydus na'r taranau cryfaf a glywsai erioed, meddai, a megys peth byw fel elephant i'w deimlo yn troi ynddi.
Tarawodd y gair yn Job, 'Trwst ofnadwy fydd yn ei glustiau ef, yn rymus iawn i'w feddwl. Cofiodd hefyd am y chwedl a glywsai am P. Williams, awdwr ysylwadau ar y Beibl, ddarfod i wibedyn fyned i lawr i'w wddf un diwrnod, ac iddo gredu mai yr ysbryd drwg yn rhith gwibedyn ydoedd, yr hyn a barodd iddo boen a phryder meddwl mawr am ddyddiau. Credodd Sion yn bendifaddeu mai y cythraul oedd wedi cymeryd meddiant ohono yntau gerfydd ei glust a meddyliai fod ei gyflwr yn anobeithiol. Aeth un o'r cyfeillion i'w anfon adref; yr oedd y terfysg yn y glust yn cryfhau fwyfwy ar hyd y ffordd. Wedi cyrhaedd adref, dywedodd ei helynt wrth Sian, ei hen wraig, gan ei sicrhau ei fod ef i farw yn union mewn cyflwr colledig. Ond nid oedd Sian yn cyffroi dim wedi iddi ddeall natur ei helynt. Gwnaeth iddo osod ei ben ar ei glin, a gwyneb y glust gythrybledig i fyny. Cymerodd ddernyn o wlanen, a gwlychodd ef mewn dwfr, a gwasgodd beth o'r dwfr i'r glust; yna gwnaeth iddo droi wyneb ei glust i lawr, a chyda'r dwfr daeth y cythraul allan, a'r cythraul hwnw oedd chwanen! Ac yn ebrwydd, bu tawelwch mawr yn nghlust ac yn meddwl Sion; ond yr oedd yn anhawdd iawn ei berswadio i gredu. y gallasai chwanen beri y fath effeithiau rhyfedd.
Daeth chwedl y chwanen i glustiau hen wr yr Hafod cyn hir, ac aeth rhag ei flaen i'r efail at Sion. 'Holo! Sion, 'rhen goes, aeth y cythrel i'ch clust. chi?' 'Do,' meddai. Tydio rhyfedd yn y byd tae o'n myn'd i'ch clustie chi, pobol y capel ene, bod yn un; ni eith a chi i ffwrdd i'w galyn gerfydd ych clustie, bob copa ohonoch chi rw ddiwrnod.' 'Nag eith, nag eith, Robert bach,' atebai Sion, 'mae cythrel yn y glust yn well na chythrel yn y galon, fel mae o mewn rhai pobol.' 'Ydach chi'n deyd fod y cythrel yn y nghalon i?' gofynai y llall. 'Mae o yna os na ddaru i rywun ei fwrw fo allan, yn ddigon siwr,' ebe Sion. 'Celwydd ddeydwch chi,' ebe yntau, ni fu o rioed yn y nghlust na nghalon i.' 'Tydach chi ddim yn nabod ych calon, Robert bach,' meddai Sion. 'Ddim yn nabod y nghalon? pwy sy'n i nabod hi, os nad ydwi?' 'Yr Hwn a ddwedodd am dani hi, ei bod yn fwy'i thwyll na dim, ac yn ddrwg diobaith, sy'n i nabod hi,' ebe Sion.' 'Pwy ddeydodd hyny am y nghalon i? pwy bynag ydi o, mae o'n deyd—,' Ust, ust! ebe Sion yn ddifrifol, ' yr Hollwybodol sy'n deyd hyny am glonau pawb ohono ni fel yn gilidd. 'Deydwch chi fynoch chi, tydi nghalon i ddim felly.' 'Gobeithio cewch chi olwg arall arni cyn bo hir,' ebai Sion, ac ychwanegai, 'yr oeddwn ine'n wastad yn meddwl yn dda iawn am fy nghalon, nes i'r hen Feibl yna ei dangos hi i mi; ac wrth i mi edrych arni hi yn i oleuni o, mi welis i bod hi yn ddrwg drwyddi, ac nad allwn i wneud dim ohoni fy hun, a bod raid i mi droi i rwle arall am feddyginieth iddi hi, neu ddarfod am dana byth:' "Hwrach, hwrach fod y'ch calon chi felly, ond mi neith y nghalon i'r tro fel y mae hi, goelia i,' meddai'r llall, ac ymaith ag ef.
Yr oedd yr hyn a ddywedasai Sion am y galon wedi myn'd at galon yr hen wr; ac yr oedd ei galon yn ymladd yn erbyn y peth ar hyd y ffordd wrth ddychwelyd adref. Gan siarad rhyngddo âg ef ei hun, meddai, 'Deyd fod y nghalon i'n drwg! Pwr ddrwg neis i i neb rioed? Mi rydw i'n talu i bawb ei eiddo, a ni thwyllis i neb am ddime, wrth brynu na gwerthu, a mi fydda'n wastad yn ewllysio'n dda i bawb. Mi nae pobol y capel ene ddrwg rhwng dyn a'i galon i hun, tae nhw'n medru. Be roedd rhen ddyn ene'n son am y Beibil, be wydde'r Beibil am dana i; roedd o wedi i brintio'n hir cin y ngeni fi. Yn tydi hen Feibil nhaid gen i yn tŷ, a'i enw fo arno, a'r flwyddyn y cafodd o fo, a roedd hyny tros ddeng mlynedd ar higien cin geni nhad—pw! 'r Beibil yn wir.' A llawer o ymadroddion o'r fath yna y cysurai'r hen wr a'i galon eu gilydd wrth fyned adref o'r efail y diwrnod hwnw. Cytunodd ef a'i galon yn unfarn unllais ar y pwnc. Yr oedd Robert wrth fodd ei galon, a'i galon wrth fodd Robert; ac eto i gyd, yr oedd ei galon yn dechreu dirgel anmheu nad oedd Robert ddim yn iawn, a Robert yntau yn anmheu yr un peth am dani hithau. Ac felly fe fu'r cythraul a aethai i glust Sion y Go' yn achlysur o ymddiddan barodd radd o anesmwythdra i Robert a'i galon. Cawn ddangos eto beth fu y canlyniad o hyny.
<section end="bbb"/>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIII.
Yr oedd y digwyddiadau y cyfeiriais atynt yn y penodau diweddaf wedi cymeryd lle ychydig cyn yr amser yr aethum i gyda meistr i'r Hafod Uchaf i weithio. Yr oedd yr hen wr, er wedi gwangaloni i gynal rhyfel teuluaidd yn erbyn y plant, am fyned i'r capel, yn teimlo 'n bur anfoddog a digofus ynddo ei hun. Beiai lawer ar yr hen wraig am na buasai yn fwy selog i'w gefnogi; ond nid oedd hi yn gofalu nemor ddim yn nghylch y pethau hyny.
Un o'r dyddiau yr oeddym yno, gofynodd meistr i'r hen wr, 'A glywsoch chwi erioed mo Robert y mab yma, yn gweddio?' 'Na chlowis i erioed, a toes arna i ddim eiso'i glywed o byth chwaith,' oedd yr ateb. 'Chwi ddylech ei glywed o,' meddai'r llall, mae o'n gweddio'n rhyfeddol iawn, mae son am dano fo trwy'r holl gymdogaeth.' 'Mi fase'n dda gen i tase fo'n gneud son am dano am rw gamp ymgenach na gweddio,' atebai'r hen wr. 'Na'n wir,' ebe meistr, 'gadewch i ni gael gweddi ganddo fo heno ar ol swper.' 'Ai o'ch co'r aethoch chi, ddyn ? Ni fu neb o nheulu i'n gweddio'n y tŷ yma rioed, ac ni cheith neb chwaith, tra bo chwthod ynthwi; pwr eisio gweddio sy? Ond tydan ni'n talu degwm a threth i'r person am weddio, a tydi hyny'n ddigon, toes bosib; mae o chwedi bod yn Rhydychen yn dysgu gweddio, a mi wyr sut i weddio'n well na Robin ni, mi feddyliwn.' Ar hyny, daeth Miss Evans i mewn i'r tŷ; ac ar ol ymgomio ychydig, dywedai 'Mae mam yn gofyn a ddowch chwi a Mary Davies (y wraig) acw i gymeryd cwpanaid o de gyda ni y prydnawn heddyw?' 'Nawn i'n siwr ddown ni acw ai peidio,' ebe'r hen wr. 'Dy fam ddysgodd y cast o yfed te i'r hen wraig yma gynta, a mae hithe chwedi dysgu'r cast i mine, heb yn wbod i mi fy hun; mi fase'n well gen i na llawer tase hi na fine heb i ddysgu o rioed. Daw mi ddaw'r hen wraig yma acw, mi wranta, am gwpaned o de, mae hi'n waeth am dano fo na llo am laeth.' 'Rhaid i chwithau ddod gyda hi.' ebe Miss Evans, 'neu ni fydd hi ddim yn iawn. 'Rhaid i mi ydrach ar ol y t'lwried yma,' meddai yntau, 'ne toes wbod yn y byd pwr ddrwg na nhw. Mi gwranta nhw; fe edrycha Ann a Mary ar ol y teilwriaid yn eitha,' ebe Miss Evans. Addawodd y ddau fyned, fodd bynag, ac yno yr aethant.
Yr oedd yn ddefod yn y gymydogaeth er's rhai blynyddau i gynal cyfarfod gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf bob blwyddyn yn y tai ar gylch; a thro yr Hafod Ganol a ddigwyddodd fod y flwyddyn hono; a'r noson hono yr oedd y cyfarfod i gael ei gynal yno, ond ni wyddai hen bobl yr Hafod Uchaf ddim am y cyfarfod gweddi. Tua saith o'r gloch, dechreuai y cymydogion ymgasglu yno; dechreuai'r hen wr synu a phetruso wrth weled un ar ol y llall yn dyfod i mewn i'r tŷ; a gofynodd i wr y tŷ yn y man, 'Be sy gynthoch chi yma, Tomos? Be mae'r bobol yn hel yma o bob man fel hyn?' 'Tipyn o gyfarfod i dalu diolch am y cynhaua' da gawsom ni eleni, Robert bach, sy genym ni yma heno.' 'Ni fydde raid i chi ddim cadw llawer o swn yn i gylch o,' eb y llall, 'mi welais i well c'naua lawer gwaith na'r c'naua dwaetha, heb son am ddiolch am dano fo. Ond diolchwch chi faint fynoch chi, mi a i adre.'
Q
'Eisteddwch i lawr,' ebe Miss Evans, 'ni chewch chwi ddim myn'd oddiyma cyn swper, cymerwch fy ngair i ar y mater.' Wedi cryn drafferth, cafwyd ganddo aros. Yr oedd pob un a ddeuai i mewn yn edrych ar yr hen wr gyda syndod. Yr oedd fel Saul yn mysg y prophwydi yno; ac yntau yn bur anesmwyth ei le, ac aniddig ei feddwl. Yn mysg eraill, daeth Sion y Gof i mewn, a safodd yn syn pan welodd hen wr yr Hafod, megys yn barod i ofyn, 'Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma?'
Trwy ystod y cyfarfod, eisteddai'r hen wr yn synllyd ac yn surllyd, a'i ben i lawr, a thaflai ambell i gipolwg o'i gwmpas; yr oedd yn hwyr ganddo weled y gwasanaeth trosodd. Ar ol i ddau o'r cyfeillion ddarllen a gweddio, galwyd ar Sion y Gof i ddyfod yn mlaen; yr oedd Sion wedi bod wrthi er's meityn yn myfyrio gweddi bwrpasol at gyflwr ei hen gyfaill o'r Hafod. Aeth at ei bwnc wedi iddo ddiolch ychydig am y cynhauaf da, i achwyn ar galonau drwg ac anniolchgar plant dynion. 'Goleua ni, a dysg i ni adnabod ein calonau,' meddai, 'mae yma rai o honom ger dy fron heb 'nabod eu clonau erioed, mae nhw'n meddwl yn dda am eu clonau drwg; dangos eu camsyniad iddyn nhw—gyr nhw a'u clonau yn mhenau'u gilydd,' a llawer o ymadroddion cyffelyb. Yr oedd yr hen wr yn bur anesmwyth wrth glywed y pethau hyn. 'Ata i mae o'n lluchio,' meddai ynddo ei hun, 'gwyn fyd nad ai'r cythrel i'w glust o eto.' Wedi i Sion derfynu, galwyd ar Dafydd Davies, o'r Bwlch, i derfynu y cyfarfod. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei ddawn gweddi, ac yn ddyn cymeradwy iawn yn yr ardal. Tua chanol gweddi Dafydd, gwelid agwedd astud iawn ar yr hen wr yn gwrando. Yr oedd ei wyneb wedi newid yn fawr; ymddangosai wrth ei fodd, a rhoddai ambell i 'ho,' mewn ffordd o gymeradwyaeth. Yr oedd yn bur siriol ar swper. Y bore dranoeth, gofynodd meistr iddo, 'Beth oeddych yn feddwl o'r cyfarfod gweddi neithiwr?' 'Na
Q
wn i be ydw i'n feddwl ohono fo,' atebai, 'rhw ddau go symol oedd y ddau gynta; ond wfft i Sion y Go, taflud ata i 'roedd Sion bob ergyd—pa'm drychith o ar ol i galon i hun, a gadel llonydd i glone pobol erill; pw'r fisnes sy gyntho fo efo nghalon i? Mae hi yn llawer gwell calon na'i galon o, beth bynag. Ond yn wir mi 'roeddwn i'n lleicio gweddi Dafydd y Bwlch trost ben, a mi leiciwn i glywed Dafydd eto yn y nghalon; a deyd y gwir, mi 'roedd Dafydd yn gweddio'n well na'r person o'r haner hefyd.' 'Be clowech chi Robert, eich mab,' ebe meistr. 'Ydio cystal gweddiwr a Dafydd, wyt ti'n meddwl, Huw?' gofynai'r hen wr. 'Ydyw, a gwell hefyd,' meddai'r llall. Fedra'i ddim coelio hyny.' 'Wel, gadewch i ni ei dreio fo ar ol brecwest heddyw,' ebai Huw. 'Waeth gen i mo'r llawer am unweth 'nte; mi leiciwn i glowed o am dro,' ebai yntau. Cafodd Huw gyfle i ddweyd wrth y ddwy ferch yr ymddyddan a fuasai rhyngddo â'u tad; a llawen iawn oedd ganddynt glywed y chwedl. Dywedasant yn ddystaw wrth eu brawd; ac ar ol brecwest, dygodd y chwaer henaf y Beibl i'r bwrdd am y tro cyntaf yn yr Hafod Uchaf erioed. Ymaflodd Bob ynddo'n bur grynedig ac ofnus. Wedi myned ar ei liniau, a dywedyd ychydig eiriau, ymadawodd ei ofnau. Gweddiodd yn hynod o daer, gafaelgar, a thoddedig, tros y teulu, yn enwedig tros ei dad a'i fam. Cyn y diwedd, yr oedd yr hen wr wedi ei lwyr orchfygu. Methai yn deg ag atal ei ddagrau, ac ymdrechai yn ofalus i'w celu a'u cuddio. Ond nid oedd yr hen wraig yn teimlo dim mwy na'r post.
Dystaw iawn fu yr hen wr trwy y dydd hwnw, ni soniodd yr un gair wrth meistr am weddi Bob, ac ni ddywedodd meistr ddim wrtho yntau yn ei chylch, gan ei fod yn gwybod ei bod wedi gafael yn meddwl y tad, a gwneud argraff go ddwys ar ei feddwl. Yr oedd y gerwindeb mewn dull a geiriau wedi lliniaru llawer y diwrnod hwnw rhagor yr arferai fod.
Aeth yr addoliad teuluaidd yn mlaen yn rheolaidd yn yr Hafod o'r dydd hwnw allan.
<section end="bbb"/>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIV.}}}}
Yr oedd cryn gyfnewidiad i'w weled yn hen wr yr Hafod Uchaf ar ol y cyfarfod gweddi yn yr Hafod Ganol, a sefydliad y weddi deuluaidd gartref. Yr oedd y cyfnewidiad mawr yn nhymherau ac ymddygiadau y ddau fab a'r ddwy ferch er pan aethent at grefydd, wedi megys creu awyrgylch newydd yn y teulu, ac yr oedd anadlu yn hono yn barhaus yn tymheru ac yn nawseiddio ei yspryd, a'i dymher ynddo wedi ei ddofi a'i wareiddio lawer iawn, er nad oedd hen ddyn yr hen wr wedi ei ddiorseddu eto, er hyny dygasid ef dan warogaeth, fel nad oedd yn cael ei ffordd ac yn gallu llywodraethu yn ddiataliad fel cynt, oddigerth ar amgylchiadau neillduol, pan y cynhyrfid ef i ddigofaint; ar ddigwyddiadau felly, ymgynhyrfai yn ofnadwy, ac weithiau yn fwy ofnadwy nag erioed cyn hyny, oherwydd y teimlai y cryf arfog hwnw yn awr ofn ac eiddigedd am ei neuadd. Nid oedd y dyn newydd wedi dyfod i mewn i'r neuadd, ond yr oedd yr hen ddyn yn dirgel dybio ei fod yn clywed trwst traed yr estron hwnw yn agoshau, ac ymdrechai ar y cyfryw achlysuron i'w ddychrynu ymaith a llwon a rhegfeydd, a chrochlefau, a meddyliai weithiau ei fod wedi llwyddo. Ond wedi i'r cyffro fyned heibio, nid oedd yr hen wr yn gallu teimlo mor esmwyth ei feddwl ag yr arferasai gynt. Teimlai bod rhywbeth y mater arno, dim byd chwaith; ond yr oedd yn rhywbeth hefyd;—yn rhywbeth y buasai yn dda iawn ganddo ymysgwyd oddiwrtho, ac wedi iddo feddwl aml dro ei fod wedi llwyddo mewn ffit o wylltineb i'w regi a'i wylltio ymaith, profai drachefn
nad oedd yr estron digroesaw ddim wedi gollwng ei afael arno.
Teimlai awydd ambell dro i fyned i'r Capel i wrando pregeth am unwaith, ond synai ato ei hun wed'yn ddarfod iddo erioed feddwl am y fath beth. Ni buasai neb o'i deulu na'i henafiaid o'i flaen yn y fath le erioed, a gobeithiai na buasai efe byth yn euog o droi oddiar lwybrau da yr hen bobl; ond, y gwir yw, meddai ynddo'i hun, nid oedd un Capel yn y wlad yma i neb fyned iddo yn nyddiau yr hen bobol; pe buasai, hwyrach yr aethai llawer ohonynt iddo. Hwyrach,' meddai rhywbeth o'i fewn, 'nad oes dim cymaint o ddrwg mewn myn'd i'r Capel ag oeddwn i wedi ei feddwl; naeth o ddim drwg i'r plant yma beth bynag, a hwyrach na nae o ddim drwg i minau tawn i'r myn'd am dro. Ond sut yr awn i? ont tydwi chwedi cau'r drws yn f'erbyn fy hun, trwy erlid cimin arno fo a'r bobol sy'n arfer myn'd iddo fo bob amser. Mi leiciwn fyn'd am unweth, ond tai' ddim er hyny.' Y fath yna oedd lleferydd yr hen wr wrtho ei hun yn awr ac eilwaith. Yr oedd y plant wedi lled anmheu, rywfodd, fod awydd ar eu tad fyned i wrando pregeth i'r Capel am dro, er na ddywedasai efe un gair am hyny wrth yr un ohonynt; ond yn unig y byddai 'n holi beth fyddai yn y Capel weithiau; pwy fyddai'n pregethu, a pha fath bregethwr oedd y gweinidog, a hwn a'r llall a ddeuai heibio yn achlysurol. Yn y tymhor hwn daeth cyhoeddiad gwr dyeithr, pregethwr pur boblogaidd, i bregethu yno ar noson o'r wythnos, ac yr oedd cryn son a disgwyliad am dano yn y gym'dogaeth. Yr oedd y ddau frawd a'r ddwy chwaer yn bur awyddus i gael eu tad i'r oedfa y noson hono, ond ni feiddient dori ato i ofyn iddo ddyfod. Beth a wnaeth y ferch hynaf, ond gofyn i Miss Evans ddyfod heibio wrth fyned i'r Capel, a'i hudo gyda hi, ac felly fu. Rhaid i chwi ddyfod gyda mi i'r Capel i wrando y gwr dieithr heno,' ebai hi wrtho. O, ai ie? y mae'n rhaid i mi, aie? Tydw'i ddim yn dallt peth felly'n iawn.' 'Nid af fi ddim i'r Capel heno, os na ddeuwch chwi, mi rosaf yma i'ch poeni chwi; ond raid i mi ddim, chwi a ddeuwch, rwy'n siwr,' ebe hi. 'A dweyd y gwir i ti, mi faswn i'n leicio clowed y gwr dierth ene, rydech chi'n son am dano fo, am y tro rwan, ond pytawn i'n dwad i'r Capel, mi fydde pawb â'u llygid arna i, wel pe tase fwstwil wedi myn'd i mewn ono.' Ond, fodd bynag, i'r Capel yr aeth heb ryw lawer o gymhell yn mhellach arno, a chyda'i fod i fewn trwy y drws, yr oedd cawodydd o lygaid yn disgyn arno, ac yntau yn cywilyddio ac yn edifarhau o'i galon ddarfod iddo ddyfod yno: dododd Miss Evans ef yn ei chôr hi, a llechodd yntau yno a'i ben i lawr trwy yr oedfa.
Wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth, dododd y pregethwr yn destyn allan y geiriau hyny yn Esaia, 'Ymborthi ar ludw y mae, calon siomedig a'i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid,' &c. 'Dyna hi eto,' eb yr hen wr wrtho'i hun, pan glywodd y testyn, 'Sion y Go roes yn ei ben o gym'ryd y testyn ene, i bregethu i mi, toedd dim posib i'r dyn fod yn gwybod dim am dana i na nghalon heb i Sion ddeyd wrtho.' Fel yr oedd y pregethwr yn myned yn mlaen i son am y lludw mae dynion yn fwyta dan ddylanwad calon dwyllodrus, ac felly yn colli eu heneidiau, megis ymddiried yn niniweidrwydd a daioni y galon, &c., yr oedd yr hen wr yn myned yn fwy anesmwyth; ac yn fwy digofus at Sion y Go o hyd; ond lliniarodd lawer pan ddaeth y pregethwr i son am y feddyginiaeth i galon ddrwg. Yr oedd effeithiau grymus iawn ar y gynulleidfa tua diwedd yr oedfa, a phan roddwyd y penill i'w ganu ar ei therfyn allan, gyda'r geiriau cyntaf ohono,—'Rho gydwybod wedi'i channu, torodd taranfloedd fawr fel ergyd allan; haner cant neu driugain, megis pe buasai gytundeb a dealltwriaeth rhyngddynt, yn
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
i60ppo3y6qstfm4wgxf8fg10xs0s60w
169799
169798
2026-08-09T19:08:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169799
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwasanaeth a ddygid yn mlaen mor newydd a dyeithr i'r ddwy eneth, nes oeddynt fel wedi colli eu hunain mewn syndod. Testyn y pregethwr oedd, 'Gwna yn llawen wr ieuanc yn nyddiau dy ieuenctyd;' ac wedi myned yn mlaen ychydig ar ei bregeth, torodd ystorm o fellt a tharanau ofnadwy gweinidogaeth y dyddiau hyny ar y gynulleidfa. Yr oedd llais a gwedd y pregethwr yn gwisgo arswydolrwydd, ac ofn a dychryn yn gwisgo gwedd y gwrandawyr yn gyffredinol; a llawer o ocheneidiau trymion yn esgyn o galonau, ac o ddagrau heilltion yn disgyn o lygaid, llwaws ohonynt. Erbyn hyn, y mae y ddwy eneth yn crynu fel dwy ddeilen, gan bryder a braw. Yr oedd yr ymadrodd, "Gwybydd y geilw Duw di i farn am hyn oll," o enau y pregethwr, yn trywanu fel cleddyf trwy eu calonau hwy a llawer eraill yn y lle. Oedd, yr oedd y farn wedi eistedd, a'r llyfrau wedi eu hagor yn nghydwybodau y bobl ar y pryd hwnw.
Ar y ffordd wrth fyned adref, daeth Miss Evans o hyd iddynt; taflasai ei llygaid arnynt aml waith yn ystod y bregeth, a gwelsai yr olwg ddifrifol oedd arnynt. Gofynodd iddynt ar y ffordd beth oeddynt yn feddwl o'r bregeth, a thorasant i wylo'n ddwys. 'Mi fuasai'n dda iawn genyf fi 'rwan,' ebai'r ieuangaf, 'pe buaswn wedi aros gartref.' 'Mi fuasai'n dda iawn gen inau,' ebe'r llall mewn wylofain, 'pe na buaswn i erioed wedi fy ngeni.' 'Na, na,' meddai Miss Evans, 'mi fydd yn dda genych chwi eto, ngeneth i, eich bod wedi dod i'r capel heno, ac yn well genych na dim arall a wnaethoch chwi erioed. A mi fydd yn dda genych chwithau,' meddai wrth yr henaf, ' eich bod wedi eich geni y'mhen tipyn. A cheisiai arwain meddyliau y ddwy gorsen ysig at yr hyn a ddywedasai y pregethwr ar ddiwedd y bregeth, fod yr Hwn fydd yn eistedd ar orsedd barn y dydd hwnw wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid, a'i fod yn galw ar bob un sy'n flinderog a llwythog gan euogrwydd ac ofnau i ddyfod ato i gael esmwythad a thangnefedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pf1rj472oe6aj4iu6vcprww2av2fhcx
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/107
104
87820
169800
2026-08-09T19:09:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169800
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi wrtho. O, ai ie? y mae'n rhaid i mi, aie? Tydw'i ddim yn dallt peth felly'n iawn.' 'Nid af fi ddim i'r Capel heno, os na ddeuwch chwi, mi rosaf yma i'ch poeni chwi; ond raid i mi ddim, chwi a ddeuwch, rwy'n siwr,' ebe hi. 'A dweyd y gwir i ti, mi faswn i'n leicio clowed y gwr dierth ene, rydech chi'n son am dano fo, am y tro rwan, ond pytawn i'n dwad i'r Capel, mi fydde pawb â'u llygid arna i, wel pe tase fwstwil wedi myn'd i mewn ono.' Ond, fodd bynag, i'r Capel yr aeth heb ryw lawer o gymhell yn mhellach arno, a chyda'i fod i fewn trwy y drws, yr oedd cawodydd o lygaid yn disgyn arno, ac yntau yn cywilyddio ac yn edifarhau o'i galon ddarfod iddo ddyfod yno: dododd Miss Evans ef yn ei chôr hi, a llechodd yntau yno a'i ben i lawr trwy yr oedfa.
Wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth, dododd y pregethwr yn destyn allan y geiriau hyny yn Esaia, 'Ymborthi ar ludw y mae, calon siomedig a'i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid,' &c. 'Dyna hi eto,' eb yr hen wr wrtho'i hun, pan glywodd y testyn, 'Sion y Go roes yn ei ben o gym'ryd y testyn ene, i bregethu i mi, toedd dim posib i'r dyn fod yn gwybod dim am dana i na nghalon heb i Sion ddeyd wrtho.' Fel yr oedd y pregethwr yn myned yn mlaen i son am y lludw mae dynion yn fwyta dan ddylanwad calon dwyllodrus, ac felly yn colli eu heneidiau, megis ymddiried yn niniweidrwydd a daioni y galon, &c., yr oedd yr hen wr yn myned yn fwy anesmwyth; ac yn fwy digofus at Sion y Go o hyd; ond lliniarodd lawer pan ddaeth y pregethwr i son am y feddyginiaeth i galon ddrwg. Yr oedd effeithiau grymus iawn ar y gynulleidfa tua diwedd yr oedfa, a phan roddwyd y penill i'w ganu ar ei therfyn allan, gyda'r geiriau cyntaf ohono,—'Rho gydwybod wedi'i channu, torodd taranfloedd fawr fel ergyd allan; haner cant neu driugain, megis pe buasai gytundeb a dealltwriaeth rhyngddynt, yn<noinclude><references/></noinclude>
1zpt0ef4okvcenopbgaqgdkztxlus1n
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/106
104
87821
169801
2026-08-09T19:10:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169801
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nad oedd yr estron digroesaw ddim wedi gollwng ei afael arno.
Teimlai awydd ambell dro i fyned i'r Capel i wrando pregeth am unwaith, ond synai ato ei hun wed'yn ddarfod iddo erioed feddwl am y fath beth. Ni buasai neb o'i deulu na'i henafiaid o'i flaen yn y fath le erioed, a gobeithiai na buasai efe byth yn euog o droi oddiar lwybrau da yr hen bobl; ond, y gwir yw, meddai ynddo'i hun, nid oedd un Capel yn y wlad yma i neb fyned iddo yn nyddiau yr hen bobol; pe buasai, hwyrach yr aethai llawer ohonynt iddo. Hwyrach,' meddai rhywbeth o'i fewn, 'nad oes dim cymaint o ddrwg mewn myn'd i'r Capel ag oeddwn i wedi ei feddwl; naeth o ddim drwg i'r plant yma beth bynag, a hwyrach na nae o ddim drwg i minau tawn i'r myn'd am dro. Ond sut yr awn i? ont tydwi chwedi cau'r drws yn f'erbyn fy hun, trwy erlid cimin arno fo a'r bobol sy'n arfer myn'd iddo fo bob amser. Mi leiciwn fyn'd am unweth, ond tai' ddim er hyny.' Y fath yna oedd lleferydd yr hen wr wrtho ei hun yn awr ac eilwaith. Yr oedd y plant wedi lled anmheu, rywfodd, fod awydd ar eu tad fyned i wrando pregeth i'r Capel am dro, er na ddywedasai efe un gair am hyny wrth yr un ohonynt; ond yn unig y byddai 'n holi beth fyddai yn y Capel weithiau; pwy fyddai'n pregethu, a pha fath bregethwr oedd y gweinidog, a hwn a'r llall a ddeuai heibio yn achlysurol. Yn y tymhor hwn daeth cyhoeddiad gwr dyeithr, pregethwr pur boblogaidd, i bregethu yno ar noson o'r wythnos, ac yr oedd cryn son a disgwyliad am dano yn y gym'dogaeth. Yr oedd y ddau frawd a'r ddwy chwaer yn bur awyddus i gael eu tad i'r oedfa y noson hono, ond ni feiddient dori ato i ofyn iddo ddyfod. Beth a wnaeth y ferch hynaf, ond gofyn i Miss Evans ddyfod heibio wrth fyned i'r Capel, a'i hudo gyda hi, ac felly fu. Rhaid i chwi ddyfod gyda mi i'r Capel i wrando y gwr dieithr heno,' ebai<noinclude><references/></noinclude>
17rbtbbp2xli557bma86anmnvhl12hq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/105
104
87822
169802
2026-08-09T19:11:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169802
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Aeth yr addoliad teuluaidd yn mlaen yn rheolaidd yn yr Hafod o'r dydd hwnw allan.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIV.}}}}
Yr oedd cryn gyfnewidiad i'w weled yn hen wr yr Hafod Uchaf ar ol y cyfarfod gweddi yn yr Hafod Ganol, a sefydliad y weddi deuluaidd gartref. Yr oedd y cyfnewidiad mawr yn nhymherau ac ymddygiadau y ddau fab a'r ddwy ferch er pan aethent at grefydd, wedi megys creu awyrgylch newydd yn y teulu, ac yr oedd anadlu yn hono yn barhaus yn tymheru ac yn nawseiddio ei yspryd, a'i dymher ynddo wedi ei ddofi a'i wareiddio lawer iawn, er nad oedd hen ddyn yr hen wr wedi ei ddiorseddu eto, er hyny dygasid ef dan warogaeth, fel nad oedd yn cael ei ffordd ac yn gallu llywodraethu yn ddiataliad fel cynt, oddigerth ar amgylchiadau neillduol, pan y cynhyrfid ef i ddigofaint; ar ddigwyddiadau felly, ymgynhyrfai yn ofnadwy, ac weithiau yn fwy ofnadwy nag erioed cyn hyny, oherwydd y teimlai y cryf arfog hwnw yn awr ofn ac eiddigedd am ei neuadd. Nid oedd y dyn newydd wedi dyfod i mewn i'r neuadd, ond yr oedd yr hen ddyn yn dirgel dybio ei fod yn clywed trwst traed yr estron hwnw yn agoshau, ac ymdrechai ar y cyfryw achlysuron i'w ddychrynu ymaith a llwon a rhegfeydd, a chrochlefau, a meddyliai weithiau ei fod wedi llwyddo. Ond wedi i'r cyffro fyned heibio, nid oedd yr hen wr yn gallu teimlo mor esmwyth ei feddwl ag yr arferasai gynt. Teimlai bod rhywbeth y mater arno, dim byd chwaith; ond yr oedd yn rhywbeth hefyd;—yn rhywbeth y buasai yn dda iawn ganddo ymysgwyd oddiwrtho, ac wedi iddo feddwl aml dro ei fod wedi llwyddo mewn ffit o wylltineb i'w regi a'i wylltio ymaith, profai drachefn<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
janlq8kml31jnrgvigmdzuhj6ntha3t
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/104
104
87823
169803
2026-08-09T19:12:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169803
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wn i be ydw i'n feddwl ohono fo,' atebai, 'rhw ddau go symol oedd y ddau gynta; ond wfft i Sion y Go, taflud ata i 'roedd Sion bob ergyd—pa'm drychith o ar ol i galon i hun, a gadel llonydd i glone pobol erill; pw'r fisnes sy gyntho fo efo nghalon i? Mae hi yn llawer gwell calon na'i galon o, beth bynag. Ond yn wir mi 'roeddwn i'n lleicio gweddi Dafydd y Bwlch trost ben, a mi leiciwn i glywed Dafydd eto yn y nghalon; a deyd y gwir, mi 'roedd Dafydd yn gweddio'n well na'r person o'r haner hefyd.' 'Be clowech chi Robert, eich mab,' ebe meistr. 'Ydio cystal gweddiwr a Dafydd, wyt ti'n meddwl, Huw?' gofynai'r hen wr. 'Ydyw, a gwell hefyd,' meddai'r llall. Fedra'i ddim coelio hyny.' 'Wel, gadewch i ni ei dreio fo ar ol brecwest heddyw,' ebai Huw. 'Waeth gen i mo'r llawer am unweth 'nte; mi leiciwn i glowed o am dro,' ebai yntau. Cafodd Huw gyfle i ddweyd wrth y ddwy ferch yr ymddyddan a fuasai rhyngddo â'u tad; a llawen iawn oedd ganddynt glywed y chwedl. Dywedasant yn ddystaw wrth eu brawd; ac ar ol brecwest, dygodd y chwaer henaf y Beibl i'r bwrdd am y tro cyntaf yn yr Hafod Uchaf erioed. Ymaflodd Bob ynddo'n bur grynedig ac ofnus. Wedi myned ar ei liniau, a dywedyd ychydig eiriau, ymadawodd ei ofnau. Gweddiodd yn hynod o daer, gafaelgar, a thoddedig, tros y teulu, yn enwedig tros ei dad a'i fam. Cyn y diwedd, yr oedd yr hen wr wedi ei lwyr orchfygu. Methai yn deg ag atal ei ddagrau, ac ymdrechai yn ofalus i'w celu a'u cuddio. Ond nid oedd yr hen wraig yn teimlo dim mwy na'r post.
Dystaw iawn fu yr hen wr trwy y dydd hwnw, ni soniodd yr un gair wrth meistr am weddi Bob, ac ni ddywedodd meistr ddim wrtho yntau yn ei chylch, gan ei fod yn gwybod ei bod wedi gafael yn meddwl y tad, a gwneud argraff go ddwys ar ei feddwl. Yr oedd y gerwindeb mewn dull a geiriau wedi lliniaru llawer y diwrnod hwnw rhagor yr arferai fod.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bahctfkm3oewqfve841yzd29j6nxu58
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/103
104
87824
169804
2026-08-09T19:13:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169804
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Eisteddwch i lawr,' ebe Miss Evans, 'ni chewch chwi ddim myn'd oddiyma cyn swper, cymerwch fy ngair i ar y mater.' Wedi cryn drafferth, cafwyd ganddo aros. Yr oedd pob un a ddeuai i mewn yn edrych ar yr hen wr gyda syndod. Yr oedd fel Saul yn mysg y prophwydi yno; ac yntau yn bur anesmwyth ei le, ac aniddig ei feddwl. Yn mysg eraill, daeth Sion y Gof i mewn, a safodd yn syn pan welodd hen wr yr Hafod, megys yn barod i ofyn, 'Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma?'
Trwy ystod y cyfarfod, eisteddai'r hen wr yn synllyd ac yn surllyd, a'i ben i lawr, a thaflai ambell i gipolwg o'i gwmpas; yr oedd yn hwyr ganddo weled y gwasanaeth trosodd. Ar ol i ddau o'r cyfeillion ddarllen a gweddio, galwyd ar Sion y Gof i ddyfod yn mlaen; yr oedd Sion wedi bod wrthi er's meityn yn myfyrio gweddi bwrpasol at gyflwr ei hen gyfaill o'r Hafod. Aeth at ei bwnc wedi iddo ddiolch ychydig am y cynhauaf da, i achwyn ar galonau drwg ac anniolchgar plant dynion. 'Goleua ni, a dysg i ni adnabod ein calonau,' meddai, 'mae yma rai o honom ger dy fron heb 'nabod eu clonau erioed, mae nhw'n meddwl yn dda am eu clonau drwg; dangos eu camsyniad iddyn nhw—gyr nhw a'u clonau yn mhenau'u gilydd,' a llawer o ymadroddion cyffelyb. Yr oedd yr hen wr yn bur anesmwyth wrth glywed y pethau hyn. 'Ata i mae o'n lluchio,' meddai ynddo ei hun, 'gwyn fyd nad ai'r cythrel i'w glust o eto.' Wedi i Sion derfynu, galwyd ar Dafydd Davies, o'r Bwlch, i derfynu y cyfarfod. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei ddawn gweddi, ac yn ddyn cymeradwy iawn yn yr ardal. Tua chanol gweddi Dafydd, gwelid agwedd astud iawn ar yr hen wr yn gwrando. Yr oedd ei wyneb wedi newid yn fawr; ymddangosai wrth ei fodd, a rhoddai ambell i 'ho,' mewn ffordd o gymeradwyaeth. Yr oedd yn bur siriol ar swper. Y bore dranoeth, gofynodd meistr iddo, 'Beth oeddych yn feddwl o'r cyfarfod gweddi neithiwr?' 'Na<noinclude><references/></noinclude>
6qva5eaq4hwkudfma3lgew14nba5g6h
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/102
104
87825
169805
2026-08-09T19:14:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169805
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>toes bosib; mae o chwedi bod yn Rhydychen yn dysgu gweddio, a mi wyr sut i weddio'n well na Robin ni, mi feddyliwn.' Ar hyny, daeth Miss Evans i mewn i'r tŷ; ac ar ol ymgomio ychydig, dywedai 'Mae mam yn gofyn a ddowch chwi a Mary Davies (y wraig) acw i gymeryd cwpanaid o de gyda ni y prydnawn heddyw?' 'Nawn i'n siwr ddown ni acw ai peidio,' ebe'r hen wr. 'Dy fam ddysgodd y cast o yfed te i'r hen wraig yma gynta, a mae hithe chwedi dysgu'r cast i mine, heb yn wbod i mi fy hun; mi fase'n well gen i na llawer tase hi na fine heb i ddysgu o rioed. Daw mi ddaw'r hen wraig yma acw, mi wranta, am gwpaned o de, mae hi'n waeth am dano fo na llo am laeth.' 'Rhaid i chwithau ddod gyda hi.' ebe Miss Evans, 'neu ni fydd hi ddim yn iawn. 'Rhaid i mi ydrach ar ol y t'lwried yma,' meddai yntau, 'ne toes wbod yn y byd pwr ddrwg na nhw. Mi gwranta nhw; fe edrycha Ann a Mary ar ol y teilwriaid yn eitha,' ebe Miss Evans. Addawodd y ddau fyned, fodd bynag, ac yno yr aethant.
Yr oedd yn ddefod yn y gymydogaeth er's rhai blynyddau i gynal cyfarfod gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf bob blwyddyn yn y tai ar gylch; a thro yr Hafod Ganol a ddigwyddodd fod y flwyddyn hono; a'r noson hono yr oedd y cyfarfod i gael ei gynal yno, ond ni wyddai hen bobl yr Hafod Uchaf ddim am y cyfarfod gweddi. Tua saith o'r gloch, dechreuai y cymydogion ymgasglu yno; dechreuai'r hen wr synu a phetruso wrth weled un ar ol y llall yn dyfod i mewn i'r tŷ; a gofynodd i wr y tŷ yn y man, 'Be sy gynthoch chi yma, Tomos? Be mae'r bobol yn hel yma o bob man fel hyn?' 'Tipyn o gyfarfod i dalu diolch am y cynhaua' da gawsom ni eleni, Robert bach, sy genym ni yma heno.' 'Ni fydde raid i chi ddim cadw llawer o swn yn i gylch o,' eb y llall, 'mi welais i well c'naua lawer gwaith na'r c'naua dwaetha, heb son am ddiolch am dano fo. Ond diolchwch chi faint fynoch chi, mi a i adre.'<noinclude><references/></noinclude>
n7uzmhfgf8znlp60n26vto0s07uqneq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/101
104
87826
169806
2026-08-09T19:15:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169806
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r efail y diwrnod hwnw. Cytunodd ef a'i galon yn unfarn unllais ar y pwnc. Yr oedd Robert wrth fodd ei galon, a'i galon wrth fodd Robert; ac eto i gyd, yr oedd ei galon yn dechreu dirgel anmheu nad oedd Robert ddim yn iawn, a Robert yntau yn anmheu yr un peth am dani hithau. Ac felly fe fu'r cythraul a aethai i glust Sion y Go' yn achlysur o ymddiddan barodd radd o anesmwythdra i Robert a'i galon. Cawn ddangos eto beth fu y canlyniad o hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIII.
Yr oedd y digwyddiadau y cyfeiriais atynt yn y penodau diweddaf wedi cymeryd lle ychydig cyn yr amser yr aethum i gyda meistr i'r Hafod Uchaf i weithio. Yr oedd yr hen wr, er wedi gwangaloni i gynal rhyfel teuluaidd yn erbyn y plant, am fyned i'r capel, yn teimlo 'n bur anfoddog a digofus ynddo ei hun. Beiai lawer ar yr hen wraig am na buasai yn fwy selog i'w gefnogi; ond nid oedd hi yn gofalu nemor ddim yn nghylch y pethau hyny.
Un o'r dyddiau yr oeddym yno, gofynodd meistr i'r hen wr, 'A glywsoch chwi erioed mo Robert y mab yma, yn gweddio?' 'Na chlowis i erioed, a toes arna i ddim eiso'i glywed o byth chwaith,' oedd yr ateb. 'Chwi ddylech ei glywed o,' meddai'r llall, mae o'n gweddio'n rhyfeddol iawn, mae son am dano fo trwy'r holl gymdogaeth.' 'Mi fase'n dda gen i tase fo'n gneud son am dano am rw gamp ymgenach na gweddio,' atebai'r hen wr. 'Na'n wir,' ebe meistr, 'gadewch i ni gael gweddi ganddo fo heno ar ol swper.' 'Ai o'ch co'r aethoch chi, ddyn ? Ni fu neb o nheulu i'n gweddio'n y tŷ yma rioed, ac ni cheith neb chwaith, tra bo chwthod ynthwi; pwr eisio gweddio sy? Ond tydan ni'n talu degwm a threth i'r person am weddio, a tydi hyny'n ddigon, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
6w60l3hs21t9l8oypo8l9vuw42nfb3v
169807
169806
2026-08-09T19:16:32Z
AlwynapHuw
1710
169807
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r efail y diwrnod hwnw. Cytunodd ef a'i galon yn unfarn unllais ar y pwnc. Yr oedd Robert wrth fodd ei galon, a'i galon wrth fodd Robert; ac eto i gyd, yr oedd ei galon yn dechreu dirgel anmheu nad oedd Robert ddim yn iawn, a Robert yntau yn anmheu yr un peth am dani hithau. Ac felly fe fu'r cythraul a aethai i glust Sion y Go' yn achlysur o ymddiddan barodd radd o anesmwythdra i Robert a'i galon. Cawn ddangos eto beth fu y canlyniad o hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIII.}}}}

r7sh4ilxne7nn99s3einx0wgtphsgbk
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/100
104
87827
169808
2026-08-09T19:17:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169808
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni fu o rioed yn y nghlust na nghalon i.' 'Tydach chi ddim yn nabod ych calon, Robert bach,' meddai Sion. 'Ddim yn nabod y nghalon? pwy sy'n i nabod hi, os nad ydwi?' 'Yr Hwn a ddwedodd am dani hi, ei bod yn fwy'i thwyll na dim, ac yn ddrwg diobaith, sy'n i nabod hi,' ebe Sion.' 'Pwy ddeydodd hyny am y nghalon i? pwy bynag ydi o, mae o'n deyd{{bar|2}},' Ust, ust! ebe Sion yn ddifrifol, ' yr Hollwybodol sy'n deyd hyny am glonau pawb ohono ni fel yn gilidd. 'Deydwch chi fynoch chi, tydi nghalon i ddim felly.' 'Gobeithio cewch chi olwg arall arni cyn bo hir,' ebai Sion, ac ychwanegai, 'yr oeddwn ine'n wastad yn meddwl yn dda iawn am fy nghalon, nes i'r hen Feibl yna ei dangos hi i mi; ac wrth i mi edrych arni hi yn i oleuni o, mi welis i bod hi yn ddrwg drwyddi, ac nad allwn i wneud dim ohoni fy hun, a bod raid i mi droi i rwle arall am feddyginieth iddi hi, neu ddarfod am dana byth:' "Hwrach, hwrach fod y'ch calon chi felly, ond mi neith y nghalon i'r tro fel y mae hi, goelia i,' meddai'r llall, ac ymaith ag ef.
Yr oedd yr hyn a ddywedasai Sion am y galon wedi myn'd at galon yr hen wr; ac yr oedd ei galon yn ymladd yn erbyn y peth ar hyd y ffordd wrth ddychwelyd adref. Gan siarad rhyngddo âg ef ei hun, meddai, 'Deyd fod y nghalon i'n drwg! Pwr ddrwg neis i i neb rioed? Mi rydw i'n talu i bawb ei eiddo, a ni thwyllis i neb am ddime, wrth brynu na gwerthu, a mi fydda'n wastad yn ewllysio'n dda i bawb. Mi nae pobol y capel ene ddrwg rhwng dyn a'i galon i hun, tae nhw'n medru. Be roedd rhen ddyn ene'n son am y Beibil, be wydde'r Beibil am dana i; roedd o wedi i brintio'n hir cin y ngeni fi. Yn tydi hen Feibil nhaid gen i yn tŷ, a'i enw fo arno, a'r flwyddyn y cafodd o fo, a roedd hyny tros ddeng mlynedd ar higien cin geni nhad—pw! 'r Beibil yn wir.' A llawer o ymadroddion o'r fath yna y cysurai'r hen wr a'i galon eu gilydd wrth fyned adref<noinclude><references/></noinclude>
hlug4dynt8k1yvyr1o7wxvqruo88bg0
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/99
104
87828
169809
2026-08-09T19:18:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169809
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tarawodd y gair yn Job, 'Trwst ofnadwy fydd yn ei glustiau ef, yn rymus iawn i'w feddwl. Cofiodd hefyd am y chwedl a glywsai am P. Williams, awdwr ysylwadau ar y Beibl, ddarfod i wibedyn fyned i lawr i'w wddf un diwrnod, ac iddo gredu mai yr ysbryd drwg yn rhith gwibedyn ydoedd, yr hyn a barodd iddo boen a phryder meddwl mawr am ddyddiau. Credodd Sion yn bendifaddeu mai y cythraul oedd wedi cymeryd meddiant ohono yntau gerfydd ei glust a meddyliai fod ei gyflwr yn anobeithiol. Aeth un o'r cyfeillion i'w anfon adref; yr oedd y terfysg yn y glust yn cryfhau fwyfwy ar hyd y ffordd. Wedi cyrhaedd adref, dywedodd ei helynt wrth Sian, ei hen wraig, gan ei sicrhau ei fod ef i farw yn union mewn cyflwr colledig. Ond nid oedd Sian yn cyffroi dim wedi iddi ddeall natur ei helynt. Gwnaeth iddo osod ei ben ar ei glin, a gwyneb y glust gythrybledig i fyny. Cymerodd ddernyn o wlanen, a gwlychodd ef mewn dwfr, a gwasgodd beth o'r dwfr i'r glust; yna gwnaeth iddo droi wyneb ei glust i lawr, a chyda'r dwfr daeth y cythraul allan, a'r cythraul hwnw oedd chwanen! Ac yn ebrwydd, bu tawelwch mawr yn nghlust ac yn meddwl Sion; ond yr oedd yn anhawdd iawn ei berswadio i gredu. y gallasai chwanen beri y fath effeithiau rhyfedd.
Daeth chwedl y chwanen i glustiau hen wr yr Hafod cyn hir, ac aeth rhag ei flaen i'r efail at Sion. 'Holo! Sion, 'rhen goes, aeth y cythrel i'ch clust. chi?' 'Do,' meddai. Tydio rhyfedd yn y byd tae o'n myn'd i'ch clustie chi, pobol y capel ene, bod yn un; ni eith a chi i ffwrdd i'w galyn gerfydd ych clustie, bob copa ohonoch chi rw ddiwrnod.' 'Nag eith, nag eith, Robert bach,' atebai Sion, 'mae cythrel yn y glust yn well na chythrel yn y galon, fel mae o mewn rhai pobol.' 'Ydach chi'n deyd fod y cythrel yn y nghalon i?' gofynai y llall. 'Mae o yna os na ddaru i rywun ei fwrw fo allan, yn ddigon siwr,' ebe Sion. 'Celwydd ddeydwch chi,' ebe yntau,<noinclude><references/></noinclude>
87vwbsvun5374ia2yrbnozk0hew4zfl
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/98
104
87829
169810
2026-08-09T19:19:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169810
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Robin yn disgwyl y buasai y newydd diweddaf yn gyru'r hen wro'i go wyllt wibwrn, ond fel arall yr oedd y peth yn bod, yr oedd mor dda ganddo glywed mewn gwirionedd fod Bob yn caru Miss Evans ag oedd yn gas ganddo am y Capel, ond ceisiai gadw hyny iddo ei hun.
Wedi dychwelyd adref, adroddodd i'r hen wraig y chwedl a glywodd gan Robin y Glep. 'Ni fu neb rioed o nheulu i yn perthyn i Gapel,' meddai, 'yn dy waed di mae'r drwg, roedd dewyrth o'r Cwm yn Beneth yn y Capel.' 'Wel hai, gydewch lonydd i'r plant,' ebe'r fam, 'be ydi'r iws i chi gadw swn yn nghylch y Capel o hyd; faint gwaeth ydyn nhw er myn'd ono?' 'Faint gwaeth ydyn nhw! dene hi! Mi fase'n well gen i weld claddu'r pedwar run diwrnod, o'r haner hefyd, nag iddyn nhw fyn'd i berthyn i'r Capel.' 'Twt! twt! tewch a siarad nonsens,' ebe'r wraig, 'synwn i ddim nad ewch chi i'r Seiat 'chun eto cyn bo hir; felly byddai'n gwel'd rhai run fath a chi'n gneud, agos yn wastad.'
'Yfi! yfi! y fi, i'r seiat? i'r seiat? gollist di dy ben gyda dy go, pen fyddyliet, pen ddeydet ti'r fath beth wrtha i.'
Ond yr oedd yr hen wr erbyn hyn wedi digaloni ar ol colli brwydrau y te, y car llusg, a'r hen aradr, fel nad oedd ynddo nerth at ymladd brwydr y capel. Gan hyny, ni dd'wedodd ddim wrth y plant yn nghylch y seiat, gymaint a chymeryd arno ei fod yn gwybod y peth.
Tua'r amser hwn, digwyddodd amgylchiad yn ysgol y felin a barodd gryn siarad a digrifwch yn yr ardal. Yr oedd hen wr, a hen grefyddwr, elwid Sion y Go, yn athraw yn yr ysgol hono. Ar ganol yr ysgol un Sul, tarawid Sion yn ddisymwth â braw a dychryn, gan ryw arwyddion a rhyfeddodau yn ei glust. Yr oedd yn clywed trwst mwy arswydus na'r taranau cryfaf a glywsai erioed, meddai, a megys peth byw fel elephant i'w deimlo yn troi ynddi.<noinclude><references/></noinclude>
l2wofnni3uwdze0iatdo1jhicq5aaie
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/97
104
87830
169811
2026-08-09T19:20:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169811
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddygol iddynt! ond yn gwbl aneffeithiol. Dywedodd wrth yr hen wr ei fod yn ofni na allasai wneud dim ohonynt; mai clwyf anfeddyginaethol oedd—Clwy'r Capel, wedi iddo gydio yn y cyfansoddiad, a'i fod yn cael lle i ofni ei fod wedi ymaflyd yn gry' iawn yn y pedwar. Ond daliai yr hen wr i obeithiof gan nad aethent i'r Seiat (canys ni wyddai y pryd hwnw eu bod wedi myned) y gwisgai'r afiechyd ymaith yn raddol. Un bore yr oedd yn myned i'r efel yn y pentref, pwy a ddaeth i'w gyfarfod ar y ffordd ond Robin y Glep. 'Holo, Robin! yr hen goes, sut rwyt ti es talwm? Welis i byth monot i ofyn be naeth i ti fyn'd i 'mdrochi'n mhwll yr hwyed y bore hwnw.' "Deis i ddim iddo fo o modd, mi allech feddwl,' ebe Robin. Wel sut yr eis ti ynte?" 'Gofynwch i Bob,' oedd yr ateb. 'Ai Bob dy daflodd di iddo fo?' 'Ydi o'n gwadu na ddaru o ddim ?" "Dwn i ddim, ddaru mi ddim gofyn iddo fo, a chlowis i neb yn deyd, wyt ti 'n deyd mai fo dy daflodd di?" 'Y fo'n un braf i fod yn Seiat,' ebe Robin, 'i neyd castie felly.' 'Yn Seiat!' meddai'r hen wr. 'Dydio ddim yn Seiat eto beth bynag, a gobeithio nad eith o ddim ono byth chwaith.' 'Hyd yna rydach chi, dyn a'ch helpo,' ebe Robin. 'Mae Bob yn seiat es mis bellach, 'roedd Ann a Mary wedi mynd cyn hyny, a mae Roland ar fin mynd os nad ydi o wedi mynd. Taw a deyd celwydd, Robin,' gwaeddai'r hen wr, 'toes run o honyn nhw wedi myn'd i'r Seiat, ne mi glowswn cin hyn gan rwun.' 'Coeliwch chi ne beidiwch, mae o gin wired a'r pader i chi 'u bod nhw, Bob a'r ddwy ferch acw beth bynag; dydwiddim yn siwr am Roland.' Gollyngodd yr hen wr ochenaid dromlwythog allan ar hyny, 'Wel, ni feddylis i rioed y doethe pethe fel hyn i mlino i, ' eb efe. Merch yr Hafod Ganol ene (Miss Evans) sy wedi'u llygadynu nhw,' meddai Robin drachefn, 'y mae Bob yn ei charu hi nes ydi o wedi gwirioni 'n lân. Yr oedd<noinclude><references/></noinclude>
9jiaosb30ixyocffveaitq2ayoysm28
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/96
104
87831
169812
2026-08-09T19:22:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169812
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>welent ond Robin y Glep yn codi fel drychiolaeth druenus o ganol pwll yr hwyaid; a'r ceiliogwydd, a'r gwyddau, a'r hwyaid yn ei dafodi am y goreu. Pan gafodd Robin ei draed dano, ymaith ag ef yn gynt na chynta' gallai. Galwai yr hen wr ar ei ol i gael gwybod hanes y ddamwain a ddigwyddasai iddo. Yr oedd Bob wedi cilio o'r golwg cyn iddynt hwy ddyfod allan; ond dianc ymaith a wnaeth Robin am ei hoedl, ac ni ddaeth yn agos i'r Hafod wedi hyny.
Meddyliai Bob ar y pryd ei fod wedi profi er boddlonrwydd iddo'i hun drwy y weithred hono, mai nid dim oddiwrth grefydd oedd yn aflonyddu ar ei feddwl, ac os mai ie, ei fod wedi llwyddo i'w dychrynu hi ymaith oddiwrtho, ac y cawsai lonydd ganddi byth ond hyny; ond llonydd nis cafodd.
Bob ei hun a adroddodd yr holl hanes i mi, ac y mae llawer blwyddyn faith wedi myned heibio er hyny. Ychydig a feddyliwn yr amser hwnw y buaswn yn cymeryd yn fy mhen byth ysgrifenu yr hanes i'w gyhoeddi. Wedi dechreu ysgrifenu, yr oedd pethau yn dyfod i'm cof mor ''fresh'' a phe buasent wedi digwydd ddoe diweddaf.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXII.}}}}
Y NOS Sabbath cyntaf wedi'r noswaith lawen, arosodd y ddwy chwaer yn y gyfeillach grefyddol; ac yn mhen tua pythefnos wedi hyny arosodd Bob yntau ar ol; a Rolant ei frawd yn mhen ychydig wedi hyny. Bu yr hen wr a'r hen wraig am beth amser heb glywed y chwedl hon; yr oedd yr hen wr yn ofni o hyd bod y pedwar yn sâl o Glwy'r Capel, chwedl yntau, ac yr oedd hyny yn poeni llawer ar ei feddwl. Gofynodd i'r person i'w cymeryd mewn llaw, gan obeithio y gallasai ef eu meddyginiaethu. Bu yntau yn ymddyddan a hwy droion, ac yn rhoddi cynghorion <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
roaqjc0fcz697x8lnejj9yghiqrr19m
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/95
104
87832
169813
2026-08-09T19:25:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169813
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydi peth fel hyn?' meddai, 'be sy ar grefydd eisieu gen i? 'Does arna i eisieu dim ganddi hi, cawn i lonydd.' Ond nid oedd dim llonydd iddo gael mwyach ganddi. Yr oedd wedi taro ei llaw arno. Yr oedd ei llais distaw main wedi sibrwd rhywbeth wrtho. Ac yr oedd
{{center block|
<poem>
Holl leisiau 'r greadigaeth,
::Holl ddeniadau cnawd a byd;
Wrth y llais hyfrydaf tawel.
</poem>
}}
hwnw yn gorfod
{{c|Distewi, a myn'd yn fud}}
ar droion. Ond gwingodd Bob yn lew yn erbyn y symbylau.
Dranoeth, fel y digwyddai y peth fod, pwy a ddaeth i'r Hafod, ond Robin y Glep. Aethai Robin i'r noswaith lawen heb ei wahodd y noson o'r blaen; ond yr oedd Bob a'i ddwy chwaer wedi myned ymaith cyn iddo gyrhaedd yno. Yr oedd ganddo luaws o
—chwedlau i'w hadrodd wrth yr hen wr, os cawsai gyfle. Yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho yn y noswaith lawen bod merched yr Hafod wedi myned i'r seiat, fel y d'wedid, ond nad oedd eu tad a'u mam yn gwybod dim am hyny. Anwiredd oedd hyny y pryd hwnw. Ni allai Robin gael llonydd yn ei ysbryd nes y mynegai y newydd i'r hen wr, a dyna oedd ei neges yn yr Hafod y bore hwnw. Pwy a'i cyfarfu ar y buarth ond Bob. Dechreuodd ar Robin yn y fan. Yr oedd pwll go fawr ar y buarth, at tua phen y glin o ddyfnder, a lluaws o wyddau a hwyaid yn difyru eu hunain arno. Cydiodd Bob yn Robin, gan ei wthio rhyngddo a'r pwll; ac wedi ei gael yn ddigon agos, rhoddodd hergwd iddo nes y syrthiai yn wysg ei gefn, strim stram strellach, a thros ei ben i'r pwll yn nghanol y gwyddau a'r hwyaid; a dyna lle'r oedd y terfysg, a'r clegar, a'r cwacian, a'r hysian, a holl nerth yr hyawdledd gwyddol a hwyadyddol, yn dyfod allan gydag arddeliad mawr. Daeth yr hen wr a'r hen wraig allan i edrych beth oedd y mater, a beth a<noinclude><references/></noinclude>
h4qf30drncvzdyzex2teqs1r44ikw2g
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/94
104
87833
169814
2026-08-09T19:28:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169814
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A hwn hefyd,—
{{center block|
<poem>
Ni throf fy wyneb byth yn ol
:I 'mofyn pleser gau;
Ond mi a gerddaf tua'r wlad
:Sy a'i phleser yn parhau.
</poem>
}}
Torodd y ddwy eneth i wylo yn ddwys, ac wylodd Miss Evans gyda hwy; ac yn ei fyw ni allasai Bob oedd yn llechu gerllaw, beidio a wylo hefyd. Ar hyn ymadawodd Miss Evans a hwythau, i fyned bob un tuag adref; ac wedi i Miss Evans fyned heibio i'r fan lle yr oedd efe yn llechu, aeth yntau i'w ffordd, a goddiweddodd ei chwiorydd, a synent ei weled wedi dyfod mor fuan ar eu hol. Yr esgus a roddodd oedd fod arno ofn fod Mary yn rhy wael i allu cerdded adref. Gofynent a oedd wedi gweled Miss Evans yn ei gyfarfod? Dywedai i ryw ferch ei basio ar y ffordd, ond ei bod yn rhy dywyll iddo allu ei hadnabod.
Troi a throsi wnaeth y ddwy chwaer, a throi a throsi wnaeth eu brawd Bob hefyd yn y gwely trwy y nos hono. Ceisiai'r ddwy gofio y penillion a adroddasai Miss Evans ar y ffordd. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio eu galw i gof, yr oedd Bob yntau yn ymdrechu yn egniol i'w cadw allan o'i feddwl, a galw i gof rai o'r hen ganiadau gwamal a ddysgasai, fel tarian rhag y lleill. Dechreuodd gyda chân Priodas Siencyn Morgan, yr hon oedd newydd ddyfod allan, ac yn dra phoblogaidd yr amser hwnw. Adroddai hi'n ddystaw rhyngddo ag ef ei hun yn ei wely,
{{center block|
<poem>
Mae llawer o droiau'n y byd,
:Yn haeddu cael eu cofio.
</poem>
}}
Rhuthrai
{{center block|
<poem>
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur,
:O ffynon lawer gwell.
</poem>
}}
ar draws Siencyn Morgan i'w feddwl yn y fan,
{{center block|
<poem>
Y rhai o bryd i bryd
:Sy'n cael eu gollwng yn angho.
</poem>
}}
Meddai drachefn
{{center block|
<poem>
Ond mi a gerddaf tua'r wlad,
Sy a'i phleser i barhau.
</poem>
}}
Meddai megis llais Miss Evans yn ei glust. 'Beth<noinclude><references/></noinclude>
ebksgz8mun5fng4jjcwhnmdlgs5jhmt
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/93
104
87834
169815
2026-08-09T19:29:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169815
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwiorydd arno ef, ac ymdrechai i geisio profi iddo'i hun, ac i bawb arall, ei fod yn fwy iach ac anystyriol ei feddwl nag yr arferasai fod; ond er hyny, yr oedd rhywbeth arno, ond gobeithiai y gallasai ei ysgwyd ymaith cyn hir.
Wel, allan yr aeth ar ol ei chwiorydd, beth bynag, a goddiweddodd hwynt yn fuan yn sefyll ar y ffordd gyda Miss Evans, yr hon oedd yn dychwelyd adref o'r capel, wedi bod yn y cyfarfod gweddi a gynhelid yno y noson hono. Gofynai Miss Evans iddynt pa le y buasent. Yr oedd ar y ddwy gywilydd ac ofn dweyd; ond addefasant y gwir yn y man, ac amlygasant eu teimladau, gan sicrhau mai hwnw oedd y tro diweddaf byth iddynt fyned i noswaith lawen. Dywedent fod y straeon a'r canu masweddol oedd yno, yn nghyda llwon a rhegfeydd y cwmni, wedi peri iddynt arswydo a dychrynu rhag cael eu taro'n farw ar y ffordd cyn cyrhaedd adref, am eu rhyfyg yn myned i'r fath gyfarfod. Clywodd Bob hwy yn siarad cyn y gallai eu gweled, na hwythau ei weled yntau, gan ei bod yn nos. Aeth, yn ddystaw, yn ddigon agos i glywed pob gair, gan eistedd ar ochr y clawdd. 'Wel,' ebe Miss Evans, 'mi fum inau mewn noswaith lawen hefyd, ac nid oes nac ofn, na phoen, na gofid ar fy meddwl wrth fyn'd adref, o achos i mi fyned yno. Yr oedd yno ganu hefyd; canu, a chwerthin, ac wylo wrth ganu.'
'Beth oeddych yn ganu?' gofynai un o'r chwiorydd 'Fel hyn y mae un penill a ganasom,
{{center block|
<poem>
B'le'r a'i i yfed dwfr rhedegog,
:Ond i afon bur fy Nuw?
P'le ca'i ffrwythau dwyfol peraidd,
:Ond ar bren y bywyd gwiw?
Atat ti dy hun 'rwy'n dyfod
:Am holl ragorfreintiau'r ne'
Nid oes dim i'w gael yn unman
:Leinw ronyn bach o'th le.
</poem>
}}
Dyma un arall,
{{center block|
<poem>
Darfydded son am bethau gwag,
::Yn agos ac yn mhell,
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur
::O ffynon lawer gwell.
</poem>
}}<noinclude><references/></noinclude>
o5af4d9dpxtnnucfj273nf9gcw6e7nv
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/89
104
87835
169816
2026-08-09T19:30:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169816
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Os oedd hi wedi bod yn storm arnynt yn y capel, yr oedd storm enbyd arall yn eu haros yn y tŷ gartref, druain. Yr oedd yn byw yn yr ardal, ryw chwilengi tafodrydd a elwid Robin y Glep, neu Robin y Clepiwr, a Robin y Chwedle—yr oedd ganddo amryw deitlau. Hoff, os nid holl waith Robin fyddai cario chwedlau o dŷ i dŷ, a llawer gwaith y gwnaethai ygymydogaeth yn goelcerth o gynen. Digwyddodd fod Robin yn sefyll ar fuarth y capel pan ddaeth—merched yr Hafod yno, a gwelodd y ddwy yn myned i mewn. Yr oedd gan Robin ''eye to business'' bob amser, yn gystal a thafod; a ffwrdd ag ef cyn yr oedfa, a rhag ei flaen i'r Hafod Uchaf gyda'r newydd. Cafodd yr hen wr (nid mor hen chwaith y pryd hwnw) yn y tŷ ei hunan; ac ar ol ychydig ymgom, dywedai, Mi welis Ann a Mari yn myn'd i'r capel gyne.' 'I'r capel! i'r capel!' ebe'r llall, 'naddo, ond i Gefn y Gadfa i'r nosweth lawen yr aethon nhw.' 'Nage'n wir,' ebe Robin, 'i'r capel yr aethon nhw, mi gwelis nhw â'm llygid fy hun.' 'Wyt ti'n siwr, Robin?' 'Mae o cin wired i chi a bod bara mewn torth,' meddai Robin. 'Wel, dyma hi! dyma hi!' meddai'r hen wr, mewn digter llidiog a thrallod mawr. Aeth Robin ymaith cyn i neb o'r teulu ddyfod i'r tŷ. Cadwodd yr hen wr y cwbl iddo'i hun, ond deallai yr hen wraig a'r meibion fod rhywbeth yn blino ei feddwl. Gwrthododd fwyta tamaid o swper; ni ddywedai un gair o'i ben; gwae i'r ci a'r gath os deuent yn agos ato. Yn y man, daeth y ddwy ferch i'r tŷ, a gwaeddai yntau mewn llais yn crynu gan ddigofaint, 'I'r capel, ai ie?—i'r capel, ai ie? Be oedd y peth dwaetha ddeydis i wrthoch chi gyne? Mi ro i chi fyn'd i'r capel,' gan ymaflyd yn ei ffon a chodi ar ei draed. Eisteddwch i lawr, nhad,' ebai y mab hynaf, gydag awdurdod. 'Eiste i lawr?' ebe yntau, 'ai ti sy'n peri i mi eiste i lawr? Na, stedda i ddim i lawr nes i mi guro'r capel allan o'r ddwy hogen yma; mi gna hi'n gas genthyn nhw glywed son am<noinclude><references/></noinclude>
jk7ibllie80p2lvsa10pss7kqp6aal7
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/90
104
87836
169817
2026-08-09T19:32:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169817
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gapel byth ond hyny.' 'Chewch chwi ddim twtsied arnyn nhw, rydw i'n dweyd i chwi,' ebe'r mab.' 'Ai ti ydi gwr y tŷ yma, tybed?' meddai yntau. 'Ie, y fi ydi gwr y tŷ yma heno, beth bynag, atebai y mab, a thynodd y ffon o law ei dad, a dododd ef i eistedd i lawr. Gwyddai y tad yn dda nad oedd wiw dadleu â Bob. Yr oedd efe yn wr ieuanc cryf, ac o yspryd penderfynol, ac felly bu raid i'r hen wr gadw ei gynddaredd i losgi yn ei fynwes hyd oni chaffai amser cyfaddas, yn absenoldeb Bob, i roddi ''vent'' iddi. Yr oedd yn benderfynol yn ei feddwl i roddi çurfa galed i'r ddwy eneth y cyfleusdra cyntaf a gaffai. Ni chysgodd ef, ac ni chysgodd y ddwy eneth chwaith, ddim y noson hono. Nid ofn eu tad yn gymaint, ond effeithiau y bregeth yn benaf a barasai i'w cwsg hwy gilio.
Codasant yn fore dranoeth, a chododd eu tad, gan feddwl cael gafael arnynt; ond yr oeddynt wedi cychwyn i'r cae i odro cyn iddo ddyfod i lawr. Yr oedd eu brawd hynaf yn cadw o fewn cyrhaedd galw, os deuai taro.
Yn fuan ar ol brecwest, pwy a ddaeth i mewn ond Miss Evans. Yr oedd hi wedi anmheu bod drwg ar droed. Clywsai fod Robin y Glep wedi myned ymaith oddiwrth y capel pan oedd y ddwy ferch yn myned i mewn; ac aeth i'w phen yn union mai rhedeg i'r Hafod a wnaethai i adrodd y chwedl. Pan aeth i mewn, edrychai'r hen wr yn surllyd ddigofus arni; edrychai hithau yn siriol yn ei lygaid. Mi fase'n dda gen i taswn i heb dy wel'd di 'rioed yn agos i'r tŷ yma,' ebe fe, 'ti hudodd y gynethod gwirion yma i'r capel, onte?' meddai. 'Ie, 'n wir, y fi ddaru,' ebai hithau, ac yr wyf yn foddlon i gymeryd y bai, os oes bai'n bod, arna fy hun i gyd. Curwch chwi fi yrwan yn 'u lle nhw, ne mi ro'i gusan i chwi,' a thaflodd ei braich am ei wddf, a tharawodd glats o gusan iddo, fel y dywedent. Diarfogodd y cusan yr hen wr yn y fan. <nowiki>'</nowiki>''Witch'' wyt ti, a ni welis 'rioed ''witch'' o dy sort di,' eb efe. Mi<noinclude><references/></noinclude>
luknus1134mdokj8kim7b22y1ebulrm
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/91
104
87837
169818
2026-08-09T19:32:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169818
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ro'i gusan arall i chwi, os gwnewch chi addo un peth i mi.' 'Be ydi hyny?' Dyma ydi o, na wnewch chwi son yr un gair byth wrth Ann a Mary yn achos myn'd i'r capel neithiwr.' 'Ho, 'rwyt ti'n meddwl fod dy gusan di 'n dda rhyfeddol, mi feddyliwn.' 'Ydach chwi'n addo rwan?' ebe hi. 'Nag ydw i ddim yn addo 'r fath beth—cusan ne beidio.' 'Dim addewid, dim cusan,' meddai hithau. Ond yr ydych yn addaw, ond ydych?' 'Wel am y tro—ond i ti addo nad â'n nhw byth eto.' 'Na, na, fynai i ddim addewid fel yna; dydw i ddim i fargenio trostynt am yr hyn a fydd, ond am yr hyn a fu. Cewch chwi a hwythau setlo rhyngoch â'ch gilydd yn nghylch yr amser i ddyfod.' 'O'r gore, o'r gore,' ebe yr hen wr, 'tyr'd dithau a dy gusan rwan,' a chusan a gafodd. Yr oedd Bob yn dyst o'r cytundeb cusanyddol hwn rhwng ei dad a Miss Evans, ac eb efe, 'Mi ro inau gusan i Robin y clepiwr y tro cyntaf y deuaf o hyd iddo, a chusan na leicia fo byth gael un arall o'i sort o, mi deffya fo.' 'Yn wir,' ebe Miss Evans, 'ni fyddai ddim yn ddrwg gen i i Robin gael tipyn o sgegfa, heb wneud llawer o niwed iddo; hwyrach y gallai wneud peth lles iddo.'
Dyna fel y terfynodd y storm gyntaf yn achos y capel.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXI.}}}}
Bu yr hen wr cystal a'i addewid i Miss Evans, canys ni soniodd air wrth y ddwy eneth yn nghylch eu trosedd yn myned i'r capel y tro hwnw, ond yn unig ei fod yn gobeithio nad elent yno byth drachefn. Ond myned drachefn a thrachefn a wnaethant; nid oedd modd peidio. Yr oedd rhyw deimlad dyeithr wedi ei ddeffro yn eu mynwesau dan y bregeth hono nad oedd dim i'w gael yn un man ond yn y capel a wnai ddygymod âg ef Yr efengyl a godasai y newyn<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
a8vdo9sr99zuud3k6qex4t0u85s15dr
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/92
104
87838
169819
2026-08-09T19:33:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169819
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw yn eneidiau y genethod, a'r efengyl yn unig a allasai ei ddiwallu. Gwnaethant ymdrech deg i ysgwyd yr anesmwythder meddwl ymaith, ond yn ofer. Yr oedd yr hoelion wedi ei sicrhau gan feistr y gynulleidfa, nad oedd modd ei tynu ymaith.
Gwahoddwyd y ddwy i noswaith lawen oedd i gael ei chadw yn nhŷ cymydog, a phenderfynodd y ddwy fyned, gan obeithio y buasai llawenydd y noswaith lawen yn ymlid ymaith y pryder oedd yn eu meddyliau; ond 'wrth chwerthin, blin oedd ar y galon, a diwedd y llawenydd hwnw oedd tristwch.' Cymerodd yr ieuengaf arni ei bod yn sâl yn y man, ac nid cymeryd arni ychwaith, canys yr oedd enaid yr eneth yn sâl mewn gwirionedd. Gofynodd i'r cwmpeini ei hesgusodi, bod yn rhaid iddi fyned adref. Ymdrechid ei pherswadio i aros, y deuai yn well yn fuan, ond nid oedd perswadio arni. Yr oedd ei chwaer yn sâl hefyd o'r un clefyd, er na chymerasai hi arni hyny; yr oedd yn dda ganddi glywed ei chwaer yn dweyd ei bod yn sâl, a'i gweled yn gwrthod cymeryd ei pherswadio i aros, fel y caffai esgus i fyned ymaith gyda hi. Pan welodd Bob ei ddwy chwaer yn myned ymaith, anesmwythodd yntau, a mynai fyned ymaith ar eu hol; ond er dim ni fynai y cwmni iddo ef ymadael; ond ni fynai yntau aros, gan ei fod yn ofni, meddai, fod ei chwaer yn rhy wael i gerdded adref heb ei gynorthwy. Ond y gwir yw, nid oedd Bob yntau yn gwbl iach; yr oedd clefyd y chwiorydd wedi ymaflyd ynddo rywfodd. Nid dim a ddywedasent wrtho oedd wedi effeithio arno chwaith, ond gweled y cyfnewidiad mawr ynddynt fyth ar ol y bregeth hono, yn benaf, oedd wedi effeithio arno. Gwelsai y naill a'r llall yn wylo uwchben y Beibl aml dro, ond ni ddywedasai ddim wrthynt am hyny. Yr oedd yn teimlo'n ddig wrth y ddwy am fyned i'r capel hefyd, ac eto teimlai ei fod yn eu caru yn fwy rywfodd nag erioed o'r blaen. Ni fynai Bob gyfaddef iddo ei hun ar un cyfrif fod dim o glefyd ei<noinclude><references/></noinclude>
j4gsc927fkdl1shapp5yiwnr5yxgo3d
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/108
104
87839
169820
2026-08-09T20:01:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169820
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlaenllaw, yn cyd-ddweyd y llinell nesaf, gan ragflaenu y pregethwr, sef, ''Yn beraidd yn y dwyfol waed!"'' Os oedd rhai wedi dal yn galed a dideimlad dan y bregeth, gorchfygodd y penill, neu rywbeth a gerddodd trwy y penill, eu teimladau hwythau; na, ni allasai y cryfaf ei galon ddal yn awr; yr oedd pob calon yn toddi, fel y tawdd cwyr wrth y tân. Yr oedd yn fyd rhyfedd ar ein hen gyfaill erbyn hyn, yr oedd yntau yn wylo: oedd, yr oedd yntau hefyd yn wylo, ac yn crynu gyda hyny; a rhywyr oedd gan ei galon fyned allan a myned adref, a chan gynted y gallodd ymwthio i'r drws ymaith âg ef.
Yr oedd rhyw deimladau rhyfedd yn ei fynwes y noson hono, fel yr addefodd wedi hyny. Yr oedd yn ddig wrth Miss Evans am ei hudo i'r Capel,—yn ddig wrtho'i hun am gymeryd ei hudo, yn ddig wrth Sion y Go' am achwyn arno ef a'i galon wrth y gwr dyeithr, fel y credai ef; yn ddig wrth y gwr dyeithr am ddynoethi ei galon, ac yn ddig wrth y gynulleidfa am y floedd ryfedd hono a barasai iddo doddi ac wyło heb ei waethaf. Ond gyda hyny, yr oedd ef a'i galon wedi dechreu syrthio allan â'u gilydd, yn dechreu anmheu nad oedd pob peth ddim yn iawn, nad oedd hi ddim yn gystal ag yr oedd efe wedi arfer meddwl bob amser am dani. Yr oedd y pregethwr wedi ei dysgrifio hi i'r byw. Ond, beth bynag, 'doedd dim achos i Sion y Go' fyn'd i ddweyd hanes ei galon ef i neb, a dywedai wrtho'i hun y rhoisai efe i Sion yn goch pan gyntaf y caffai afael arno.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXV.}}}}
GADEWAIS hen wr yr Hafod, yn y benod o'r blaen, mewn blinder yn nghylch ei galon. Cynyddu fwyfwy wnaeth y blinder hwnw bob dydd, nes oedd yr hen <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
2dqy6txwibsf0oey4evoggg4gy9v5rs
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/109
104
87840
169821
2026-08-09T20:02:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169821
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wr yn myned yn bur anniddig yn y tŷ weithiau oherwydd ei fod ef a'i galon yn methu cytuno. Modd bynag, er mor anhawdd oedd hyny, i'r gyfeillach grefyddol i'r capel yr aeth efe ryw noson; a mawr oedd syndod pawb ei weled yn dyfod i mewn. Yr oedd yno un hen wr, yn rhyw fath o swyddog; nid oedd erioed wedi ei ddewis yn rheolaidd, ond wedi ymgymeryd â blaenori yn y cyfarfodydd, a chael ei oddef yr oedd. Yr oedd llawer iawn o yspryd traawdurdodi yn yr hen wr hwnw, druan; ewyllysiai'n fawr osod ei ofn ar bawb, rhuthrai yn sydyn chwerw ar bob un a ddelai i fewn y waith gyntaf i'r gyfeillach, er mwyn eu 'tori i lawr,' fel y dywedai. Nid oedd dda gan neb a berthynai i'r gymdeithas mo hono. Yr oedd ef a hen wr yr Hafod tua'r un oedran, ac yn hen gymydogion; nid rhyw lawer o gyweithas fuasai rhyngddynt erioed. Wedi gwasanaeth arweiniol y cyfarfod, trodd Owen Huw, canys dyna oedd enw'r hen flaenor, pe buasai flaenor hefyd, a gofynodd yn dordyn, Wel, Robert, beth barodd i chwi ddyfod yma heno? Lladd arnom ni yma y byddech chi'n wastad, a be sy arnoch chi eisio gynthon ni rwan?' 'N'wn i ddim yn iawn sut i ateb dy gwestiwn di, Owen,' atebai Robert, 'be oeddet ti dy hun yn i geisio yma, pen ddoist ti yma gyntaf? 'Rydw i'n cofio'r amser pen fyddet ti'n lladd ar bobl y capel yn gystal a fine, ac yma doist ti wed'yn; a pham rwyt ti, naned neb, yn synu mod i chwedi dwad yma, a thithe'n gwbod dy hanes dy hun, os nad wyt wedi anghofio, a mae'n gwilydd garw i ti os gwneist ti hyny.' Brochodd yr hen flaenor yn aruthr wrth hyn. Yr oedd gweled pawb trwy y lle yn gwenu ac yn mwynhau y sen a roddasai yr hen wr arall iddo, yn peri iddo ofni fod cysegredigrwydd ei awdurdod mewn perygl. 'O,' meddai, 'yr oeddwn i yn ofni, mai yr un oedd o ag o'r blaen, a dyna ddigon o brawf i chwi nad oes dim goruchwyliaeth gras wedi bod yn trin ei gyflwr o, a gobeithio nad oes yma neb a ewyllysiai weled<noinclude><references/></noinclude>
e25ta040hgdt7cxjyifx493pmhitiiu
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/110
104
87841
169822
2026-08-09T20:04:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169822
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neb o'r fath yn dyfod atom ni, ac yn cael ei le yn ein plith.' 'Taswn i'n meddwl fod pawb sy yma yn debyg i ti, Owen, ni ddaethai nhraed byth yma; ond rydw i'n meddwl pethe gwell am lawer o honoch chwi.' 'Wel, hwyrach y dywedwch chwi air, Robert bach, o'ch teimlad a'ch meddwl,' ebe Thomas, y gweddiwr hynod hwnw a glywsai yn yr Hafod Ganol. Wel, gwnaf yn wir,' ebai yntau. 'Fy meddwl i ydi hyn, mod i'n bechadur, yn bechadur mawr iawn, yn hen bechadur; bod y mowyd, a muchedd i, a nhafod, a nghalon i wedi bod yn ddrwg iawn; a mi rydw i wedi blino ar y galon ddrwg yma narw iawn. Mi glowis Sion y Go, a'r pregethwr hwnw fum i'n wrando yma hefyd, yn dweyd fod posib cael calon newydd; a mi ddois i yma heno, i gael gwybod allse chi fy rhoid i ar y ffordd sut i'w chael hi; os cawsoch chi afel arni hi y'ch hinen, crwyddwch fine i gael gafael arni hi; fu ar neb erioed fwy o'i heisio hi.' Adroddodd yr hen wr holl hanes ei fywyd a'i helynt er y dydd y buasai yn yr efail gyda Sion y Go; ac yr oedd y cyfeillion weithiau yn gwenu ac weithiau yn wylo wrth ei wrando; ac yr oedd yntau ei hun yn wylo yn aml hefyd Torodd pawb i chwerthin allan unwaith, pan y dywedodd, 'Prun bynag ai cythrel ai chwanen aeth i glust Sion, y maegen i achos i fod yn ddiolchgar am y tro beth bynag—hyny fu'n foddion ar y dechre i farwen i nabod tipin arnaf fy hun, a drwg fy nghalon.' Rhoddodd amryw o'r cyfeillion gynghorion caredig a phriodol iddo, ac yr oedd yntau yn derbyn y cwbl fel dyn bach.
Yr oedd pawb yn foddlon i'r hen wr gael dyfod i'r gyfeillach ar brawf, ond yr hen Owen Huw; chwyrnu yn anfoddog iawn yr oedd ef. Fodd bynag daliodd yr hen wr ei ffordd, ac enillodd ei le fwyfwy yn hyder a serch y gymdeithas. Ni chollai ddim moddion a gynhelid yn y capel, ac ni chai neb arall o'r teulu golli chwaith. Efe oedd y gwrandawr goreu yn yr holl gynulleidfa, daliai ei lygad yn sefydlog<noinclude><references/></noinclude>
tf50djz7du0wjkzbm0ietwreigyoe88
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/111
104
87842
169823
2026-08-09T20:06:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169823
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar wefusau y pregethwr o'r dechreu i'r diwedd, a mynych y gwelid y deigryn yn dyferu i lawr ohono. Mewn gair, daeth yr Hafod yn un o'r tai mwyaf crefyddol yn yr holl gymydogaeth, a'r teulu yn nodedig am eu rhinweddau. Glynodd yr hen wraig wrth ei hen ffyrdd o fyw. Yr oedd hi yn ddigon boddlon, meddai, i'r hen wr a'r plant wneud fel y mynent, ond iddi hi gael llonydd i wneud fel y mynai hithau ganddynt. Ai gyda hwynt i'r capel weithiau, ond nid ymddangosai ei bod yn sylwi ar ddim a glywai yno, nac yn teimlo mwy na'r dderwen dan na phregeth na gweddi. Bu'r ddau, yr hen wr a'r hen wraig, fyw i oedran teg, a bu y ddau farw y naill yn fuan ar ol y llall. Rhoddodd yr hen wr brofion boddhaol iawn i bawb oedd yn ei nabod, ei fod wedi cael y galon newydd yr ymofynai am dani, a gadawodd y byd mewn tangnefedd a gorfoledd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVI.}}}}
AWGRYMAIS o'r blaen fod carwriaeth ddistaw wedi dechreu rhwng Bob yr Hafod Uchaf a Miss Evans yr Hafod Ganol, tua chanol dyddiau gweinidogaeth Robin y Glep. Yr oedd Robyn yn dyfal wylio symudiadau y ddau yn barhaus wedi iddo unwaith anmheu fod cyfrinach garwriaethol rhyngddynt. Ni esgulusai ef un moddion yn y Capel rhag colli o hono un fantais i gadw ei lygad arnynt. Cerddai yn llechwraidd ar eu hol pan yn dychwelyd adref o'r capel, a chroniclai yn ei ddyddlyfr bob peth a welai, a llawer o bethau na welai, gan dynu casgliadau oddi wrthynt; a thaenai ei sylwadau a'i gasgliadau yn ddiwyd o dŷ i dŷ. Dymunasai Robyn yn ei galon weled rhywbeth yn anweddaidd yn eu hymddygiadau, i gael testyn i bregethu arno; ac awgrymai yn gynil droion fod rhywun yn dweyd iddo weled fel a'r fel,
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
h5et2fxuy48jwnxogceeohl334wlooq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/112
104
87843
169824
2026-08-09T20:08:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169824
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond nad oedd efe (Robin) yn coelio fod hyny yn wir. Yr oedd goruchwyliaeth trochfa pwll yr hwyaid wedi ei ddigio yn ddirfawr, ac ewyllysai yn ei galon allu talu yn ol, drwy drochi Bob yn mhwll ei athrod a'i enllib. Ond nid oedd neb yn dal llawer ar ddim a ddywedai Robin.
Bu farw modryb Miss Evans yn Nghaer yn bur gyfoethog, a gadawodd y cwbl o'i heiddo iddi hi, yn cynwys amryw dai a swm da o arian. Aeth y stori allan drwy y cymydogaethau fod merch yr Hafod wedi cael ''digwyddiad'' mawr—ei bod yn werth eiddo ac arian yn aneirif. Parodd y newydd hwn flinder nid bychan i feddwl tyner Robin y Glep. Stwffiodd ei hun i wasanaeth porthmon merlynod, a chafodd y fantais i fyned i Gaer fel gyrwr i'r porthmon. Wedi myned yno, gwnaeth ymofynion mor fanwl ag a allai i amgylchiadau a hanes modryb Miss Evans. Ac wedi dychwelyd adref, taenai y chwedl nad oedd un gair o wirionedd yn y son oedd am ei chyfoeth; ond ei bod wedi marw dros ei phen mewn dyled—bod ei thai wedi eu gwerthu, ac nad oedd y swm a gawsid am danynt yn agos i ddigon i foddloni y gofynwyr. Y cwbl yn anwiredd o ddyfais calon Robin. Ond ni waeth tewi, y mae Robin druan wedi darfod clepian er's llawer blwyddyn; ond fel y mae gwaethaf y modd, y mae iddo olynydd yn mhob ardal. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'i deulu yn ol y cnawd (er fod llawer yn ol y glep) yn aros hyd yr awr hon ai peidio. Bu iddo fab a merch, y rhai a gyfenwyd yn Huwcyn mab Robin y Glep, a Siani Robin Glepgi. Yr oedd y bachgen a'r eneth fel plant pobl eraill, am ddim a wni; ond yr oedd enw eu tad yn gosod gwarth arnynt, ac aeth y ddau o'r gymydogaeth yn ieuainc, i ymofyn lleoedd i weini er mwyn dianc oddiwrth yr enwau a roddid arnynt yn eu perthynas â'u tad, ac ni chlywais i byth beth a ddaeth ohonynt.
Yr oedd hen wr yr Hafod yn bur anesmwyth ei feddwl o hyd eisiau i Bob briodi Miss Evans. Dywedai wrtho yn aml, 'Pa'm na phriodet di hi? Mi<noinclude><references/></noinclude>
bndaiqwpqqh97ee5ztdjwrigm775tkq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/113
104
87844
169825
2026-08-09T20:11:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169825
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eith rywun a hi oddi arnat ti dan dy drwyn di, mi gei di weled—taswn i yn dy le di, mi faswn gwedi rhoi torch aur am i bys hi es talwm cyn hyn." 'Gadewch chwi rhyngwyf fi a'r ''bisness'' hwnw, nhad,' dywedai Bob. 'Mae arna i ofn mai rhw ''fisness'' go drwsgwl nei di o honi hi,' meddai'r hen wr.
Tua'r adeg hono, daeth etifedd Sgwier y Plwyf, fel ei gelwid ef, i'w oed. Yr oedd ei dad wedi marw er's rhai blynyddoedd, a'i fam yn byw yn weddw yn hen balasdy y teulu, yr unig balasdy yn y plwyf; a hwynthwy oedd perchenogion y rhan fwyaf o'r plwyf; ac yr oedd ystad fechan arall ganddynt yn sir Drefaldwyn. Nid oedd yr Hafod Uchaf na'r Hafod Ganol yn rhan o'r etifeddiaeth, perchenogaeth y trigianwyr oedd y ddau trwy bryniad. Ni buasai y boneddwr ieuanc nemawr gartref er pan oedd yn fachgen. Treuliasai amryw flynyddoedd yn Rhydychain yn y Brifysgol, ac wedi hyny yn astudio y gyfraith yn Llundain, a thrachefn flwyddyn neu ddwy yn teithio ar y Cyfandir. Bachgen gwyllt, ond hynaws a charedig ydoedd, a daeth ei denantiaid yn fuan yn bur hoff ohono; ond ni roddai neb ond y person air da i'w fam. Yr oedd ef yn cael byd da helaethwych beunydd ar ei bwrdd hi; ond chware teg iddo, ni chafodd ef y gair o wneud drwg i denant gyda'i feistr na'i feistres tir erioed, fel y cafodd llawer un o'i frodyr yn ol y brethyn. Yr oedd efe yn wr o natur garedig a chymwynasgar; ac nid oedd Ymneillduaeth nac Ymneillduwyr yn blino rhyw lawer ar ei yspryd. Arferai ddweyd nad oedd fawr wahaniaeth iddo ef i ba le yr ai y defaid i bori, ei fod ef yn sicr o'r cnu.
Ar achlysur dyfodiad yr etifedd i'w oed, bu gwledda a rhialtwch yn y palas. Rhoddwyd ciniaw da i'r holl denantiaid, ac ymgasglodd eraill o'r cymydogaethau yno yn yr hwyr i ddangos eu hewyllys da; ac yn mysg eraill, aeth Bob a Miss Evans gyda'u gilydd yno, a Robin y Glep ar eu lledol. Syrthiodd llygad y boneddwr ieuanc ar Miss Evans, a syrthiodd ei serch<noinclude><references/></noinclude>
6tvsaisuaoo8pgmcycju57u8ugc75sl
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/114
104
87845
169826
2026-08-09T20:13:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169826
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arni hefyd. Aeth ati yn y man i dynu ymddyddan â hi, wedi holi pwy oedd hi. Deallodd yn union ei bod wedi cael dygiad da i fynu, yn goeth ei meddwl a'i moes, yn gallu actio y lady yn eithaf naturiol, ac yn mhob modd yn un a allasai droi yn nghylchoedd uchaf cymdeithas heb achos iddi ostwng ei phen. Pan aeth at ei gyfeillion mewn cwr arall o'r ystafell gan gyfeirio a'i fys ati, dywedai <nowiki>'</nowiki>''A . . .clever girl!''<nowiki>'</nowiki> Nid hir y bu heb alw yn yr Hafod Ganol i edrych am dani, a chymhellai hi yn daer i alw yn y palas i edrych am ei fam—y byddai yn dda gan yr hen lady gael ei chwmni mor fynych ag y gallai, ei bod hi yn unig iawn, heb neb yn yr ardal hono y gallai gymdeithasu â hwy. Ond ymesgusodai hithau, gan ddweyd nad oedd ei bath hi yn gymhwys mewn un modd i feddwl am ffurfio cyfeillach â boneddiges fel ei fam. Ond ni fynai efe wrandaw ar y ddadl hono, ac ni fynai hithau ei rhoi i fynu. Mynychu ei ymweliadau yr oedd y boneddwr ieuanc y naill wythnos ar ol y llall. Gwnai ryw esgus neu gilydd i alw heibio bob dydd.
Nid oedd Miss Evans yn hoffi ei weled yn galw yno mor aml. Yr oedd hi wedi cael piano ar ol ei modryb o Gaer, ac yr oedd wedi dysgu chwareu ar yr offeryn hwnw yn dda pan oedd yno yn yr ysgol. Byddai raid iddi chwareu bob tro y deuai y y boneddwr yno, a mawr fyddai ei ganmoliaeth iddi am chwareu a chanu. Wedi iddi ddechreu anmheu, oddiwrth ei fynych alwadau, a'i ''attentions'' iddi, fod rhywbeth yn ei fryd, ymneillduai o'r golwg pan welai ef yn dyfod at y tŷ, a gwnai esgusodion dros beidio ymddangos pan elwid am dani; ond deuai ar ei gwarthaf yn annisgwyliadwy yn aml.
Aeth y si allan trwy y gymydogaeth cyn hir fod y boneddwr ieuanc â'i lygaid ar Miss Evans gydag amcan nad oedd anrhydeddus, fel y tybid; ac ni fu y si hwnw, gellid credu, ddim yn hir heb gyrhaedd clust Robin y Glep, a thaenodd Robin ef i bob clust yn<noinclude><references/></noinclude>
7sub5jqv1bxdwwchv3jrmq9egpf6l19
169827
169826
2026-08-09T20:14:37Z
AlwynapHuw
1710
169827
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arni hefyd. Aeth ati yn y man i dynu ymddyddan â hi, wedi holi pwy oedd hi. Deallodd yn union ei bod wedi cael dygiad da i fynu, yn goeth ei meddwl a'i moes, yn gallu ''actio'' y ''lady'' yn eithaf naturiol, ac yn mhob modd yn un a allasai droi yn nghylchoedd uchaf cymdeithas heb achos iddi ostwng ei phen. Pan aeth at ei gyfeillion mewn cwr arall o'r ystafell gan gyfeirio a'i fys ati, dywedai <nowiki>'</nowiki>''A . . .clever girl!''<nowiki>'</nowiki> Nid hir y bu heb alw yn yr Hafod Ganol i edrych am dani, a chymhellai hi yn daer i alw yn y palas i edrych am ei fam—y byddai yn dda gan yr hen lady gael ei chwmni mor fynych ag y gallai, ei bod hi yn unig iawn, heb neb yn yr ardal hono y gallai gymdeithasu â hwy. Ond ymesgusodai hithau, gan ddweyd nad oedd ei bath hi yn gymhwys mewn un modd i feddwl am ffurfio cyfeillach â boneddiges fel ei fam. Ond ni fynai efe wrandaw ar y ddadl hono, ac ni fynai hithau ei rhoi i fynu. Mynychu ei ymweliadau yr oedd y boneddwr ieuanc y naill wythnos ar ol y llall. Gwnai ryw esgus neu gilydd i alw heibio bob dydd.

3gmdai68uye8t1n4mh3c54fkth10bzo
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/115
104
87846
169828
2026-08-09T20:15:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169828
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mhell ac yn agos. Cerddai lawer a llafuriai yn galed i daenu y chwedl trwy y wlad, gan wneud ei sylwadau arni; ac yr oedd hi yn chwyddo yn rhyfedd dan ei ddwylaw bob dydd. Yr oedd llawer yn meddwl y peth yma, a llawer yn credu y peth arall, a rhywrai yn dweyd fel hyn, a'r lleill fel acw,' meddai Robin; ac yr oedd meddwl a chred, a lleferydd yr oll, yn ol ei dystiolaeth ef, yn cynwys pethau a dueddent i daflu drwgdybiaeth; ac nad oedd Miss Evans hithau ddim yn angel mor bur ag y tybid ei bod; ond fel yr oedd yn ffodus, nid oedd neb yn dal fawr iawn ar ddim a ddywedai Robin, fel y dywedais o'r blaen; ond yr un pryd, yr oedd ei ddiwydrwydd yn y gwaith i gadw ei stori yn fyw, gan achub pob cyfleusdra i'w mynegi i bawb, a'r wybyddiaeth gyffredinol o'r ffaith fod y boneddwr yn mynych alw yn yr Hafod Ganol, ac na byddai byth yn galw mewn un tŷ arall, yn effeithio i ryw radd ar luaws yn y gymydogaeth. Yr oedd rhai yn bur genfigenus at Miss Evans, oherwydd y sylw a dalai y boneddwr iddi, ac yr oedd derbyniad croesawus i Robin a'i chwedl yn y tai hyny. Cai lonaid ei fol o fwyd ynddynt bob tro, a llonaid ei logellau i fyned adref hefyd yn aml.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVII.}}}}
Y MAE yn debyg fod bodau deallawl fel Robin y Glep, wedi eu bwriadu a'u danfon i'r byd yma i ryw ddoeth ddibenion, ond rhaid i mi gyfaddef nad wyf fi yn ddigon doeth i allu gweled a deall beth allai y dibenion hyny fod; ond gallwn feddwl mai nid i'r dibenion o rodresa a chwedleua, a pheri cynhenau y rhoddwyd y dalent oedd ganddo i Robin; ac y gallasai yntau fod yn ddefnyddiol yn ei ddydd a'i dymhor, pe troisai ei dalent i gyfeiriad priodol. Pe buasai pob un mor ddygn a diwyd yn ei alwedigaeth <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
4riqjuyg5sdi11ajs5oxjjwlyihom22
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/116
104
87847
169829
2026-08-09T20:16:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169829
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>briodol ag oedd Robin yn ngalwedigaeth y glep, buasai gwedd wahanol ar amgylchiadau llaweroedd o bobl. Y mae yn rhyw gysur i ddyn feddwl ei fod yn cyflawni galwedigaeth fuddiol ac angenrheidiol i'r byd yma wrth fyned trwyddo, beth bynag fyddo'r alwedigaeth hono. Y mae goruchwyliaethau aradr yr amaethwr, bwyall y saer, morthwyl y gof, miniawyd y crydd, a nodwydd y teiliwr,—oll yn angenrheidiol. Rhaid i'r byd gael amaethwyr y mae yn rhaid i'w fol wrthynt, a rhaid i'w draed wrth y crydd, a rhaid i'r holl ddyn oddiallan wrth y teiliwr, rhaid i'r byd wrth y saer i adeiladu ei dai a'i demlau, ac wrth y gof i wneud ei arfau gwaith, &c. Ond ni raid i'r byd wrth y rhodreswr chwedleugar, gall wneud yn burion heb fodau fel Robin y Glep, a da fuasai iddo pe na buasai yr un o'r cyfryw fodau wedi ymddangos erioed ynddo.
Wedi i Robin unwaith gael allan fod y boneddwr ieuanc yn mynychu ei ymweliadau yn yr Hafod Ganol, yr oedd ei galon dyner yn hynod o anesmwyth am ryw gyfleusdra i daflu awgrym o'r peth i'r hen wraig foneddig, gan gredu yn sicr y buasai yno dŷ ar ffyrch rhwng y fam a'r mab mewn canlynaid. Yr oedd yn gyfyng ar Robin o'r ddeutu hefyd. Buasai yn dda ganddo pe buasai y boneddwr yn priodi Miss Evans, er mwyn siomi a gofidio Bob yr Hafod Uchaf, o'r un tu,—canys yr oedd yn ddig iawn wrtho byth ar ol trochfa pwll yr hwyaid. Ond o'r tu arall, yr oedd Miss Evans wedi rhoddi llawer iawn o wersi llymion iddo o dro i dro yn nghylch ei fywyd segur a rhodresgar fel yr oedd yn llawn gwenwyn a malais tuag ati hithau, ac yr oedd yn anhawdd iawn iddo ymgymodi â'r meddwl iddi i briodi gwr boneddig, a byw mewn palas, a marchogaeth yn ei cherbyd, &c.
Aeth Robin heibio i'r palas bron bob dydd, gan ddisgwyl cyfarfod â'r wraig foneddig yn ddigwyddiadol megis; ond aeth diwrnod ar ol diwrnod heibio heb ddigwydd o'r digwyddiad hwnw iddo. O'r diwedd penderfynodd alw yn nghegin y palas; yr<noinclude><references/></noinclude>
kg19pfqms69pa5wo9rqecvfuskldtra
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/117
104
87848
169830
2026-08-09T20:17:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169830
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd yn gydnabyddus â dwy neu dair o'r morwynion. Tywalltodd gydaid o chwedlau i'w clustiau, a chafodd ddogn dda o fara a chaws a glasied o gwrw yn daledigaeth am danynt. Ceisiai bysgota gyda'r merched er cael allan pa un a oedd chwedl carwriaeth eu meistr ieuanc â Miss Evans wedi cyrhaedd yno ai peidio.
'Oes rhyw son eich bod i gael meistres newydd yma cyn hir?' gofynai. 'Glywsoch chwi rywbeth felly, Robert?' gofynai y merched. 'Na chlywais i ddim neillduol,' meddai yntau. 'Mae cymaint o bethau heb na sail na sylwedd iddynt yn cael eu dweyd wyddoch, fel na wyr dyn ddim pwy na beth i'w goelio; y ffordd ore, mi fydda i'n meddwl yn wastad, ydyw gollwng y rhan fwya o'r pethau fydd pobol yn ddeyd i mewn trwy un glust a thrwy y llall allan.' 'Na, na,' meddai y merched, 'mae ganddoch chi rywbeth, deydwch yn wir,—pwy ydi hi, Robert.' 'Twt,' ebe Robin, 'toes dim byd yn y stori, coeliwch chwi fi.' 'Ond beth ydi'r stori?' gofynai y merched. Yr oedd y cywreinrwydd benywaidd wedi ei godi i'w lawn nerth erbyn hyny. Deallodd Robin nad oedd y chwedl eto wedi dyfod i glustiau neb o'r gweinidogion, nac yn sicr i glustiau eu meistres. Gwrthododd yn deg ag amlygu dim yn mhellach y diwrnod hwnw; addawodd yr holai drachefn i'r mater, ac y caent wybod y cwbl ryw ddiwrnod.
Ar hyny daeth yr ''Housekeeper'' i'r gegin, yr hon oedd yn adnabod Robin yn dda. 'A wyddoch chwi am neb o'r ardal yma yn myned i'r dref heddyw, Robert?' gofynai'r ''Housekeeper''. Na wn yn siwr,' ebai Robin, oedd eisiau rhywbeth ?' 'Meistres sy eisiau danfon llythyr at hwn a hwn, ac eisiau cael ateb yn ol, ond mi gaiff un o'r gweision yma fyned,' ebe'r ferch. Mi â i a fo, o wllys calon,' ebe Robin, 'nid oes gen i ddim neillduol yn galw am danaf | heddyw.' 'Ewch chwi, Robert? Af bob cam a chroeso,' ebe Robin. 'O'r gore: mi af i ddweyd wrth meistres; eisteddwch yna nes dof yn ol,' ebai<noinclude><references/></noinclude>
pssvxa32ogmusnrybudftys8m990c1r
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/118
104
87849
169831
2026-08-09T20:20:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169831
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi. Yno bu Robin gyda'r merched eraill yn prynu'r amser yn ofalus mewn cyfnewid nwyddau chwedleuol rhyngddo ef a hwythau. Daeth yr ''Housekeeper'' yn ol i'r gegin yn y man, â'r llythyr yn ei llaw. Y mae meistres yn gofyn wnewch chwi aros am yr ateb i'r llythyr yma i ddod yn ol gyda chwi, Robert, ac yn rhoi y swllt yma i chwi i gael tamaid a llymaid yn y dref. Hwyrach y bydd raid i chwi aros peth amser, os digwydda i'r gwr boneddig fod allan o'r tŷ. Mi fydd yn rhy hwyr i chwi ddyfod yma heno ond dowch y peth cyntaf y bore foru.' <nowiki>'</nowiki>''All right,''<nowiki>'</nowiki> meddai Robin, 'mi fydda'n siwr o ddyfod.' Darllenodd Robin ail lith dda o fara a chaws a chwrw; ac ymaith âg ef yn llawen ei galon. Hwnw oedd un o'r dyddiau hapusaf yn ei fywyd. Yr oedd dau ddrws gobaith wedi agor ar unwaith, megis yn ddamweiniol o'i flaen. Drws gobaith aml i glwff o fara a chaws a bir; a drws gobaith wedi ei agor ar faes newydd i daenu a chasglu chwedlau, ac yn enwedig y gobaith o gael drws clust y wraig foneddig yn agored iddo. Rhoddodd y digwyddiad ffodus ryw awch ryfedd ar ddanedd a chylla Robin, fel y cafodd y dorth a'r cosyn deimlo i bwrpas, cyn iddo godi oddiwrth y bwrdd.
Aeth Robin i'w ffordd yn llawen; yr oedd mor sionced a'r ebol, er cymaint o'r dorth a'r cosyn a gludai yn ei ganolbarth. Yr oedd pawb a'i cyfarfyddent ar y ffordd yn deall yn union ei fod wedi cael ysglyfaeth, ond ni chai neb wybod y dirgelwch ganddo; canys medrai Robin gadw ei ''secrets'' ei hun cystal ag undyn.
Ar ei ffordd tua'r dref yr oedd yn pasio tŷ fy hen feistr, Huw, yr hwn a ddigwyddai fod yn sefyll ar y ffordd o flaen ei dŷ ar y pryd: canfu Robin yn dyfod a deallodd yn union wrth yr olwg arno ei fod ar ei uchel fanau. 'Holo! be sy yn y gwynt heddyw Robin?' gofynai Huw. Bewn i be sy yn y gwynt; toes dim ynddo fo heddyw mwy na rhw ddiwrnod<noinclude><references/></noinclude>
fica3ill068ciu65utwtsnhi3ocrabq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/119
104
87850
169832
2026-08-09T20:20:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169832
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arall, am a wn i, be sy'n peri i chi ofyn?' ebe Robin. 'Oes y mae,' ebe Huw, 'mi wn i ar dy ffroen di o'r gore dy fod ti'n ''smelio'' rhywbeth. Mi ddeyda i ti beth, gwell i ti edrych ati hi, a chym'ryd gofal be ddeydi di am Miss Evans.' 'Y fi!' meddai Robin. 'Tydw i 'n deyd dim byd am dani hi, a be waeth gen i am dani? Mi wn gymaint a hyn, a ni waeth gen i pwy gwypo fo chwaith, rydach chwi bod ag un yn meddwl gormod ohoni hi o'r haner, a mi gewch weled hyny cyn hir, cyn sicred a bod cnwllyn mewn cneuen.' 'Mae llawer cneuen goeg, Robin,' atebai Huw. 'Oes, oes,' ebe Robin, 'o ran hyny, a cneuen goeg ydi'r eneth yna, fel y caiff pawb ohonoch weled pan dorir hi.' 'Rwyt ti'n siwr o dori dy ddanedd cyn y tori di hi, gei di wel'd,' ebe Huw. 'Mi gadawa i'r job hono i rywun arall, a hwnw ydyw Bob yr Hafod Uchaf,' ebe Robin. 'Mi gewch dori mhen i,' meddai drachefn, 'os byth y prioda Bob y ddynes yna.' 'Wel toes gen i ddim i'w ddweyd ond hyn,' ebe Huw, 'gobeithio y priodant yn bur fuan, canys gore po'r cyntaf i'r rhan yma o'r byd, y torer dy ben di.' Yr oedd y corneidiau cwrw a lyncasai yn y plas cyn cychwyn wedi codi yn nghopa Robin erbyn hyny, a'i daflu oddiar ei ocheliad, fel y gollyngodd fwy o'i feddwl allan nac a wnaethai onibai hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVIII.}}}}
WELI I Robin y Glep fyned ymaith gyda'r llythyr, dododd morwynion y Plas eu penau yn nghyd i ddyfalu yn nghylch tebygolrwydd gwirionedd y stori fod eu meistr ieuanc ar fyned i briodi. Pwy allasai yr un ddedwydd fod? Rhyw foneddiges o waed uchel a chyfoeth mawr, yn ddiau. Nid oedd un yn y wlad hono, nac yn Nghymru chwaith, yn deilwng ohono, yn eu bryd hwy. Ar ganol eu cynghor, daeth gwraig<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
t1xszqlvnm1674xi000exhni0o0jigw
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/120
104
87851
169833
2026-08-09T20:23:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169833
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dlawd o'r gymydogaeth, a fyddai yn arfer gwneud negeseuon dros y tŷ, i mewn atynt. Holodd y merched hono, a glywsai hi ddim son bod eu meistr ar fyned i briodi?' 'Mi glywais fod Robin y Glep, fel y gelwir o, yn dweyd rhywbeth felly,' ebe'r y wraig. 'Oedd o yn dweyd pwy ydi hi?' gofynent. 'Miss Evans, yr Hafod Ganol, meddai Robin,' ebe hi. Cododd y merched eu dwylaw mewn syndod. 'Miss Evans!" meddai un; 'Mary Evans!' meddai y llall; 'Hono!' meddai y drydedd; <nowiki>'</nowiki>''Nonsense'',<nowiki>'</nowiki> meddai un arall. 'Robin sy'n dweyd,' meddai'r wraig, 'a does fawr o goel arno fo, wyddoch.' 'Be naeth i Robin feddwl erioed am y fath beth?' gofynai un ohonynt. 'Dyna'r sail oedd ganddo,' atebai'r wraig, bod y gwr boneddig yn arfer galw yno dair gwaith neu bedair bob wythnos, meddai fo.' Pwy ddigwyddodd fod yn clywed yr holl ymddyddan, o'r tu ol i ddrws y gegin, ond yr hen wraig foneddig ei hun. Cythruddodd yn ddirfawr, ond ciliodd yn ei hol i'r parlwr yn ddistaw, a chadwodd y cwbl iddi ei hun. 'Is it possible! meddai ynddi ei hun, <nowiki>'</nowiki>''no, it can't be; but I must make inquiries. Surely, it can never come to that.
''
Cyfeiriodd Robin tua'r Plas y bore dranoeth, gyda'r llythyr oddiwrth y gwr boneddig yn y dref. Archodd y foneddiges am i Robin ddyfod ati i'w hystafell: parodd iddo eistedd i lawr; ac wedi derbyn a ddarllen y llythyr, trodd at Robin gydag edrychiad digofus, a gofynai, 'Pe chi'n deyd am y mab fi, hyd y glad yma?' 'Y fi'n ddweyd am y gwr boneddig!' ebe Robin, 'ddweydes i ddim rioed amgenach na da am dano fo, na'i achos chwaith; mae pobol yn meddwl y gallan nhw ddeyd y peth fynan nhw am dano i!' Chi cymyd gofal chi deyd y gwir, Robert,' ebe hithau, taru chi dim deyd bod Mr. Edward (ei mab) yn myn'd i priodi lodes yr Hafod Ganol?' 'Na ddeydis i rioed y fath beth, mi na lw,' ebe Robin. 'Wel, taru chi dim deyd bod o'n galw ono tair ne peder cwaith pob wthnos, 'nte?' 'Wel, hwyrach i mi<noinclude><references/></noinclude>
q3z2gg1u4hcbqj06uz5x932skvzgo9p
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/121
104
87852
169834
2026-08-09T20:25:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169834
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddweyd cymaint a hyny, ond 'doeddwn i'n meddwl dim drwg ohono fo; ac yn wir,' eb efe drachefn, 'yr oeddwn i yn meddwl unwaith am ddweyd hyny wrthych chwi eich hun, ond mi feddyliais wed'yn nad oedd o ddim o musnes i.' 'Tim o'ch busnes chi deyd o wrth neb arall, siwr, mae o'n bisness i mi. A chi'n deyd fod Mistar Edward yn calw yn'r Hafod tair ne peder cwaith yn 'rwthnos?' 'Mae hyny yn beth mae pawb yn y wlad yma'n ei wybod ac yn ei ddweyd cystal a minau, Madam,' ebai Robin, 'ond toes neb yn meddwl, am a wn i, dydw 'i ddim beth bynag yn meddwl, bod gan y gwr boneddig feddwl yn y byd o'r lodes; ond dall o alw yn y fan fyno fo, o ran hyny.' 'Ydach chi'n siwr bod o'n galw yno felly; dyna'r cwbwl sy arna i eisio cwbod gyno chi.' 'Wel, ydw, Madam, yn ddigon siwr o hyny; mi gwelais o yn myn'd ac yn dwad ono laweroedd o weithiau â'm llygaid fy hun.' 'O'r gore, toes arna i ddim eisio dim chwaneg gynoch chi, tyma i chi haner coron am fyn'd trosta i i'r tre doe.'
Wedi i Robin fyned ymaith, galwodd y ''lady'' holl ferched y tŷ gerbron, a holodd hwynt mor fanwl ag yr holodd Herod y doethion gynt, yn nghylch y stori am eu meistr, ond nid oedd ganddynt ddim rhagor i'w ddywedyd nag a glywsai hi ei hun y wraig hono yn ddweyd wrthynt, pan oedd hi yn gwrando o'r tu cefn i'r drws; ond sicrhaent iddi nad oedd dim yn y stori—na buasai eu meistr byth yn edrych ar eneth fel Mary Evans; 'yr oedd yr eneth yn burion,' meddent, ond ddim yn amgenach na rhyw eneth arall o'i sefyllfa; ac am ei theulu, pobl wladaidd, gyffredin, iawn oeddynt, ond mai dynes erwin oedd ei mam.'
Yr oedd y boneddwr ieuanc oddicartref er's deuddydd neu dri, ond yr oedd i ddychwelyd y diwrnod hwnw: Yr oedd ei fam yn parotoi ar ei gyfer,—yn hogi ei chleddyf ac yn trefnu ei pheirianau i ymosod arno. Daeth adref yn yr hwyr, a gwelodd yn union fod arwyddion storm i'w canfod ar aeliau ac wynebpryd<noinclude><references/></noinclude>
7s2a6ay1bwz2a8dbo30nfn1uwo1cw2a
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/122
104
87853
169835
2026-08-09T20:27:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169835
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a llygaid ei fam. Anmheuodd beth oedd yr achos. Gan gynted ag y cafodd hi yr ystafell heb neb ond hwy eu dau ynddi, dechreuodd ymosod arno, gan dywallt ei theimladau digofus yn gawodydd am ei ben. Troai yntau y cwbl yn gellwair. Chwarddai yn ei hwyneb, yr hyn a'i cynhyrfai hithau yn waeth. Yr oedd yn gywilydd ganddi hi feddwl fod ei mab hi yn gwneud son am dano, drwy sylwi ar lances wledig, ''vulgar, ignorant,'' fel merch yr Hafod; pan y gallasai gael merch un o bendefigion y deyrnas yn wraig. Yr oedd yn beth annyoddefol iddi hi i feddwl fod i waed eu teulu anrhydeddus hwy gael ei halogi drwy ei gymysgu â gwaed pobl gyffredin.' Methodd yntau a llywodraethu ei dymher yn y man; a dywedodd na wrandawai ddim chwaneg arni yn difrio Miss Evans. Y mae hi yn gystal ''lady'' a chwithau bob dydd,' meddai, 'a medr actio y ''lady'' yn well nag y medrech chwi erioed. A waeth i mi ddweyd y cwbl i chwi ar unwaith i gael pen ar y mater,' eb efe, gan gau ei ddwrn, a rhoddi dyrnod ar y bwrdd nes oedd aelodau hwnw yn gwegian dan ei bwys, 'mi fynaf gael Miss Evans, costied a gostio. Ni phrioda i byth, os na phrioda i hi, cym'rwch y ngair i ar y mater,' ac ymaith ag ef. Bu yr hen ''lady'' o'r naill ffit i'r llall i'r ''hysterics'' trwy y nos hono. A mawr oedd helynt y gweinidogion, yn feibion a merched, gyda hi hyd y bore. Ymneillduasai Mr. Edward i'w lyfrgell ar ol y ffrwgwd gyda'i fam; aeth un o'r gweision ato i ofyn ai ni fuasai yn well anfon brysgenhadwr i'r dref i ymofyn y meddyg. 'Na gadewch iddi,' eb efe, 'hi a ddaw ati ei hun erbyn y bore.' A rhoddodd gyfarwyddiadau iddynt i weinyddu arni. Deallasai y gweinidogion beth oedd y mater, a chydymresymu y buont arno bob hamdden a gaffent y noson hono. Yr oedd Robin yn ei le, wedi'r cwbl," meddent, 'ond pwy fuasai'n meddwl? pwy allasai goelio? beth sydd wedi ymwel'd âg ef? Y fo briodi merch yr Hafod? A fu erioed y fath beth o'r blaen<noinclude><references/></noinclude>
ql4ffer5d72vi9t18jdl8ooe35mcqey
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/123
104
87854
169836
2026-08-09T20:35:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169836
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>er pan mae'r byd yn fyd!" 'Os daw hi yma, ni osa i ddim yma i fod dani hi am funyd,' meddai un; 'na finau,' meddai un arall; 'na finau chwaith,' meddai y drydedd; 'ni arosai neb yn ei sens,' meddai y bedwaredd; 'mi aroswn i'n wir, ebai y pumed, mi fyddai'n dda gen fy nghalon i pe tae meistr yn priodi Miss Evans; chaiff o byth well wraig, ac ni chawn ninau byth well meistres.' Bu rywyr i hono, druan, hel ei charnau, a dianc ymaith, yr oedd y merched eraill am ei llarpio. Yr oedd y meibion yn edrych yn fwy pwyllog ac athronyddol ar cwestiwn, na'r merched. Yr oedd y peth yn ymddangos yn chwithig iawn yn eu golwg hwythau; ond caniataent ei bod yn iawn a rhesymol i'w meistr, fel dyn arall, gael ei ryddid i briodi y neb a mynai—mai ei fusnes ef oedd hyny, &c.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIX.
DRANOETH y storm fawr yn y Plas, aeth Mr. Edward i'r Hafod i ymwel'd â Miss Evans; deallai hi ar ei wedd a'i ymddangosiad fod ganddo rywbeth neillduol ar ei feddwl; ni chlywsai hi un gair eto am helynt y dydd o'r blaen yn y Plas: ac yn wir, nid oedd yn wybod dim fod siarad am dani mewn perthynas i'r boneddwr ieuanc ar dafodau'r wlad, canys ni ddywdasai neb air wrthi hi ar y mater. Yr oedd yn ofni er's tro y gallasai ei waith yn galw yno mor aml roi sail i siarad annymunol, ac yr oedd ei fynych alwadau yn boenus iawn iddi ar y cyfrif hwnw. Yr oedd arni wydd er's tro roddi awgrym iddo i gadw draw, ond ofnai ei dramgwyddo hefyd, gan yr hoffai gymdeithas gwr ieuanc o feddwl goleuedig fel efe, un y gallai ddysgu llawer o wybodaeth oddiwrtho, ac yr oedd hi eisoes yn wir wedi cael ei gymdeithas yn fuddiol iddi mewn llawer ystyr. Ond beth a barai iddo ddyfod
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
rmszpsdhrswhro7pzl8bbeofdnxesuc
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/124
104
87855
169837
2026-08-09T21:25:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169837
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yno mor aml? Tŷbiai weithiai mai amddifadrwydd o gyfeillion y gallai gymdeithasu â hwynt: ei fod yn yr ardal hono megis ar ei ben ei hun, heb neb y gallai efe gael dim hyfrydwch yn ei gymdeithas: a'i bod hi, efaillai, rywfaint ar y blaen i bawb arall yn y gymydogaeth; a chan ei fod yntau o duedd gymdeithasgar, nad oedd ganddo ddim i'w wneud ond ei chymeryd hi fel yr oedd, i ddal pen rheswm iddo yn awr ac eilwaith.
Ond a oedd ganddo rywbeth arall mewn golwg? Nac oedd; ni allasai hyny fod. Yr oedd ganddi well meddwl am dano nag y gallasai oddef y dybiaeth yr ewyllysiai efe ei hudo oddiar lwybr rhinwedd; ac yn sicr ddigon, nid oedd ganddo olwg ar y fath beth a thynu carwriaeth anrhydeddus â hi. Yr oedd, er hyny, wedi taflu awgrymiadau iddi droion fel pe buasai am iddi ddeall rhywbeth felly; ond wrth reswm, yr oedd hyny allan o'r cwestiwn—boneddwr balch, o'i sefyllfa uchel ef, i edrych ar un o'i sefyllfa isel hi, gydag amcan felly! Dim posibl; perswadiai ei hun mai rhyw chwareuaeth ddiniwed oedd y cwbl; eto, er hyny, nid mewn dull chwareuol y rhoddai efe ei awgrymiadau iddi. Gofalai hi bob amser na roddai un gefnogaeth iddo i fyned yn mlaen y ffordd hono, ond yn hytrach annghymeradwyaeth amlwg. Wrth holi ei hunan ar y mater, yr oedd yn cael bod ei chydwybod yn ei rhyddhau hi yn llwyr ac yn hollol yn y peth hwn; ac yr oedd yn dda ganddi yr un pryd allu tystio ynddi ei hun na welsai ddim yn anweddus yn ymddygiad y boneddwr tuag ati. Fodd bynag, buasai yn dda ganddi pe cadwasai draw, er yr un pryd, y teimlai y buasai yn chwithdod a cholled iddi am ei gymdeithas. Yr oedd cwestiwn arall yn ymgynyg i'w meddwl weithiau, ond ni oddefid iddo ddyfod i'r bwrdd, troid ef tros y drws yn ddiseremoni bob tro y cynhygiai ddyfod yn mlaen; ond ymwthio i mewn a fynai efe er hyny, a'r cwestiwn hwnw oedd, 'A ydyw cariad heb fod yn dechreu goglais y galon?<noinclude><references/></noinclude>
1bzuv66ubrcuqklatm2jsc4h0hdzl8m
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/125
104
87856
169838
2026-08-09T21:27:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169838
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A ydyw y boneddwr ieuanc yma heb fod wedi dechreu gwneud rhyw argraff o'r natur hono ar y serchiadau?' Dim o'r fath beth, ni allasai y fath beth fod, ac ni chai y fath beth fod byth chwaith; er hyny, anmheuai ei hunan ar ei gwaethaf. Ceisiai osod Bob yr Hafod Uchaf a'r boneddwr un yn mhob pen i glorian ei serch, ac yr oedd yn cael fod Bob yn drymach o ddigon yno; gan hyny, nid oedd dim o natur y serch a deimlai at Bob, yn yr hyn a deimlai at Mr. Edward: wedi'r cwbl pe buasai y boneddwr yn sefyllfa Bob, sefyllfa y buasai yn weddus a phriodol iddo ffurfio undeb priodasol âg ef, teimlai y cawsai Bob gryn waith i gario ei bwnc gyda hi,—a golygu fod Mr. Edward, fel Bob, yn wr ieuanc crefyddol. Byddai megis yn dal ei hunan yn aml yn trafod ac yn troi meddyliau a'r arholion hyn, a cheryddai ei hun yn drwm o'u plegid, a cheisiai eu gyru ymaith oddiwrthi, gan eu tynghedu nad aflonyddent arni mwy: ond dychwelyd yn ol, a llithro'n ddirgelaidd i'w meddwl a wnai yr estroniaid hyny drachefn a thrachefn. Wedi i'r meddyliau hyn ddechreu ei haflonyddu, newidiodd yn ei hymddygiad tuag at Mr. Edward pan ddeuai yno ar ei ymweliadau. Ac nid hir y bu yntau heb sylwi a gweled y cyfnewidiad. Yr oedd symledd a sirioldeb ei hymddygiad wedi troi yn rhyw ddwysder tawedog a ddywedai megis wrtho am gadw draw, ac yr oedd hyny yn ei dynu yntau i neshau ati yn fwy. Po pellaf y ciliai hi oddiwrtho, mwyaf oll oedd ei awydd yntau i wasgu yn mlaen.
Yr oedd yn llawn o'r myfyrdodau a ddesgrifiwyd yn ei gylch, pan welai ef yn dyfod tua'r tŷ y bore hwnw. Ciliodd i'w hystafell o'i ffordd; ac, meddai ynddi ei hun, Mae'n rhaid dwyn y mater i bwynt penderfynol bellach; ni chaiff pethau barhau fel hyn yn hwy.' Daeth ei mam ati i ddweyd fod ar Mr. Edward eisiau ei gweled. Dywedodd y deuai ato yn fuan; ac wedi tywallt ei chalon mewn gweddi am arweiniad a chymhorth Dwyfol i ddyfod trwy y prawf y<noinclude><references/></noinclude>
5utqcluyzli9lz4qixa20dutx92gzhl
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/126
104
87857
169839
2026-08-09T21:28:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169839
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teimlai ei fod ar ddyfod arni, daeth o'i hystafell wedi ymwroli yn ei meddwl, ac ymddangosai yn llawn feistres ar ei hysbryd a'i theimladau. Taflodd y boneddwr ieuanc olwg arni a barai i ryw ias o deimlad dyeithr gerdded trwyddi—ni welsai hi yr olwg hono ganddo erioed o'r blaen. Golwg ydoedd a symudodd bob petrusder o'i meddwl ar unwaith yn nghylch natur ei deimladau tuag ati; golwg o'r galon i'r galon ydoedd. Yr oedd rhywbeth dwfn, ymbilgar, hefyd yn y golwg hwnw, megis pe dywedasai, 'A ellwch chwi wrthod eich tosturi a'ch cydymdeimlad â mi, o leiaf? Os na chaf ddim arall, na wrthodwch imi hyn o ffafr.'
Ciliodd y fam, gan adael y ddau gyda'u gilydd. Wedi ychydig ddystawrwydd pryderus, anturiodd ymaflyd yn ei llaw, gan ddywedyd, 'Na wrthodwch imi hyn o ffafr am unwaith o leiaf. Y mae ar eich llaw chwi fy ngwneud i naill ai y dedwyddaf o bawb yn y byd, neu y truenusaf o feibion trueni!' 'Pa fodd felly?' gofynai hithau, 'nid wyf yn eich deall, syr.' 'Gadewch y syr yna heibio am y tro yma, fanw{{bar|2}},' ond ymataliold cyn gorphen y gair, gan iddi hi dynu ei llaw ati yn y fan, pan ddeallodd ei fod yn myned i'w chyfarch felly. Eglurwch eich meddwl ar fyr eiriau, os gwelwch yn dda, Mr. Edward,' meddai. 'O, ai nid ydych yn deall fy meddwl a'm calon?' eb efe, 'Wel fy meddwl yw hyn:—Y mae fy nghynged i yn y byd hwn yn dibynu yn hollol ar eich derbyniad neu'ch gwrthodiad ohonof. Dyma'r llaw hon a'm calon, fy holl galon ynddi, a'r oll a feddaf ac a allaf i chwi, ac at eich gwasanaeth,—llaw a chalon na chynygiwyd i neb arall erioed, ac na chynygir i neb arall byth, os na dderbyniwch chwi hwy.' 'Yr oeddwn wedi rhyw dybio,' ebe hithau, 'fod rhywbeth o'r natur yna genych mewn golwg, ond nid oeddwn erioed wedi credu'r fath beth; yn wir, yr oeddwn yn ystyried fy hun yn ynfyd i dybio y peth am foment, a phrin y gallaf gredu fy nghlustiau yn awr. Ond, i ddwyn y mater i ben am byth, ar fyr eiriau, goddefwch i mi<noinclude><references/></noinclude>
mzzhon6rdqfni7hoqg8itm91g8yhw4z
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/127
104
87858
169840
2026-08-09T21:29:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169840
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddweyd ar unwaith ac yn benderfynol fod y cyfryw beth yn anmhosibl.' 'Paham yn anmhosibl?' gofynai ef. Am fod gagendor mawr rhyngom,' atebai hi, 'gagendor na all un sydd ar eich ochr chwi dramwyo ataf fi i'r ochr yma, na minau atoch chwi i'r ochr yna.' 'Beth yw hyny?' 'Y gwahaniaeth yn ein sefyllfa gymdeithasol ydyw, wrth reswm,' meddai hi. 'O,' ebai yntau, 'os nad oes rhywbeth mwy na hyny, ni a wnawn o'r goreu; nid yw ond gwaith ysgafn, hawdd, ie a hyfryd iawn i mi i roi llam atoch chwi dros hyny o gagendor.' 'Ie, ond byddai yn angenrheidiol i chwi roddi llam yn ol,' ebai hithau, 'ac nid mor hawdd fyddai i chwi wneud hyny, a fy nghymeryd i gyda chwi. Ystyriwch eich sefyllfa eich hun, a'm sefyllfa inau;; pa ganlyniadau o ofid a blinder a dynech arnoch eich hun ac arnaf finau hefyd. Gwn yn dda am ysbryd uchel eich mam a'ch perthynasau pendefigaidd; y byddech chwi yn cael edrych arnoch fel gwarth y teulu byth wedi hyny, ac yr edrychent arnaf finau fel ysgymunbeth dirmygedig. Fe oerai eich teimladau presenol tuag ataf cyn hir; a byddai fy mhresenoldeb yn faich arnoch, fel yr un a fuasai yn achos o'ch darostyngiad yn ngolwg pawb yn y cylch cymdeithasol y perthynwch iddo. Gan hyny, yr wyf yn erfyn arnoch, er eich mwyn eich hun, er mwyn eich mam a'ch perthynasau, ac er fy mwyn inau, i roi pob meddwl am y fath beth i fynu ar unwaith ac am byth.' 'Hyny ni allaf, y mae yn anmhosibl!' eb efe, 'yr wyf wedi bwrw y draul yn nghylch y pethau yna oll—aberthau ydynt y byddai yn bleser mawr genyf eu gwneud, ie, a mil mwy, er mwyn eich sicrhau chwi yn eiddo priodasol i mi fy hun: ni all fod dim yn aberth i mi, ond eich rhoddi chwi i fynu. Os nad oes dim arall ar y ffordd, y mae pob peth yn dda.' 'Na, nid felly,' ebe hi, 'er yr oll a ddywedwch, y mae y rhwystr ar ffordd ein hundeb yn gymaint yn fy ngolwg i ag oedd o'r blaen, ac ni ellir ei symud byth o'r ffordd; ac heblaw hyny<noinclude><references/></noinclude>
1s9motkzspo49iij3lfmvlt27u47swu
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/129
104
87860
169842
2026-08-09T21:31:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169842
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hithau: ac yn eu dagrau yr ymadawsant, wedi iddi hi ddywedyd cymaint a hyn—Ni byddai dim a ddymunwn yn fwy na bod yn rhyw offeryn er eich dychweliad at y Gwaredwr, ac ni pheidiaf a dymuno a gweddio am hyny.' 'Ond yr ydych yn gwrthod y moddion a'r fantais a gynygir i chwi er cyrhaedd y dymuniad hwnw,' eb efe, 'a gaf fi erfyn arnoch gymeryd y mater dan eich ystyriaeth am ychydig ddyddiau yn mhellach—hyny o ffafr.' 'Gwnaf, mi a feddyliaf am dano: ond ni fynwn i chwi ddisgwyl y newidiaf fy meddwl.' 'Na, ni allaf beidio a gobeithio y gwnewch,' eb efe, ac ymadawodd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXX.}}}}
GYDA i Mr. Edward droi ei gefn o'r Hafod y bore hwnw, aeth Miss Evans hithau i dalu ymweliad â theulu dlawd yn y gymydogaeth, lle yr oedd dau o blant bychain yn gleifion o'r dwymyn goch ''(scarlet fever)''; a gyda iddi hithau gychwyn o'r tŷ, daeth ymwelydd dyeithr i mewn i ymofyn am dani, sef yr hen wraig foneddig. Digwyddodd yn ffodus iawn na ddaethai i mewn cyn i'w mab fyned allan ac o'r golwg, canys pe digwyddasai ddyfod a'i gael ef a Miss Evans gyda'u gilydd, nid oes wybod beth a fuasai y canlyniadau; y mae yn bur debygol, beth bynag, y digwyddasai yno lawer o ffitiau ''hysterics'' cyn diwedd y cyfarfod.
Nid oedd ond yr hen wraig, Mrs. Evans, yn y tŷ pan ddaeth yr hen wraig foneddig i mewn. Dyfalodd Mrs. Evans ar yr olwg gyntaf arni beth oedd ei nheges, canys yr oedd golwg gyffrous a digofus arni—yr oedd ei hwyneb a'i llygaid cyn goched a chrib a llygaid iar ar ddodwy. Gofynodd i'r fam am y ferch, bod arni eisiau ei gweled. Y mae hi wedi myned i ymweled â theulu tlawd, lle mae plant <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
rxaar9h6xxufylcftagn6a8nmb0xqa1
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/130
104
87861
169843
2026-08-09T21:33:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169843
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn cleifion, madam; daw yn ol cyn hir,' oedd yr ateb. 'Fi dim amser i aros,' ebe hithau, 'fi'n synu atoch chi, chi'n hudo mab fi yma at y'ch merch. Chi'n meddwl iddo fo, sy'n gwr byneddig, i priodi llances tlawd fel y'ch geneth chi? Ffei!' 'Gyda'ch cenad, ma'm,' atebai'r llall, 'ddaru ni 'rioed geisio hudo'r gwr boneddig yma. Mi fydd yn galw yma weithiau wrth basio, heb i neb ohonon ni erioed ofyn iddo fo, ac mae iddo groeso i wneud eto pan y fyno fo; ond am iddo briodi'r eneth yma, ni ddarfu iddi hi na ninau freuddwydio erioed am y fath beth.' 'Fi gwbod cwell pethe,' ebe'r llall, ''rholl gwlad yma'n gwbod ac yn siarad 'run peth. Fi gwbod o'r gore bod chi'n swcro'ch geneth i tenu y bachgen. 'n ei swcro hi! Ni feddyliodd yr eneth erioed am y'ch mab chwi, na ninau chwaith, a dechreuodd y gwaed frydio, a chwanegai, 'Cadwch y'ch mab; mi rydw i'n meddwl fy ngeneth gystal ag yntau bob dydd o ran hyny.' 'Geneth chi gystal a mab fi! for ''shame''—y'ch ''impudence'' chi teyd fath beth wrth fi! bydde gwell gen fi i saethu o â llaw f'hun nag iddo gymysgu gwaed ni a gwaed pobol isel a ''vulgar'' fel chi.' 'Saethwch o, saethwch o, pan fynoch chwi o'm rhan i,' eb'r llall. Son am y'ch gwaed! mae gan goched gwaed yn y ngwythenau i ag sydd yn eich gwythenau chwithau; toes arna i ddim eisiau cymysgu gwaed â'ch ffasiwn chwi. Mi alla i a nheulu gario'n penau mor uchel wrth fyned trwy'r byd ag y gallwch chwi a'ch teulu beth bynag, rywfaint yn uwch, hwyrach, pe baid yn mynd i chwilio hanes y ddau deulu. Cymerwch chwi'n gynil, Madam, rhag ofn i chwi demtio nhafod i ddweyd rhywbeth y bydde'n well genych fod heb ei glywed o.' Gyrodd yr awgrym diweddaf at amgylchiad annymunol a ddigwyddasai i un o berthynasau teulu y Plas flynyddau yn ol, yr hen wraig foneddig i'r clawdd yn lân, torodd i wylo, a throdd i'w Saesoneg, ac ymaith a hi mewm digter llidiog.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
b89b86ji0utiyivk2dbx0l96wxj7faj
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/131
104
87862
169844
2026-08-09T21:34:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169844
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan ddaeth Miss Evans yn ol, adroddodd ei mam yr holl ffrwgwd a fuasai rhyngddi â'r hen wraig foneddig yn ei hachos. Aeth y peth at ei chalon yn ddwys iawn. Cyfarfuasai âg un o'i chwiorydd crefyddol ar y ffordd y bore hwnw, yr hon a deimlai yn anesmwyth ei meddwl yn nghylch y siarad oedd ar led yn ei chylch hi a Mr. Edward, a barnodd mai ei dyledswydd oedd tori ati a mynegi iddi, pan gaffai gyfleusdra, ac achubodd y cyfleusdra hwnw i ddweyd wrthi yr hyn oedd ar ei meddwl. Wedi iddi glywed gan ei mam drachefn hanes yr helynt y bore hwnw rhyngddi hi â'r hen wraig foneddig, gwasgwyd ei meddwl i drallod mawr. Beiai ei hun yn chwerw na buasai wedi cadw y gwr ieuanc draw oddiwrthi er's talm; y gallasai feddwl y buasai ei fynych ymweliadau yn ddefnydd i bobl siarad, a llunio a thaenu pob math o chwedlau, a synai ati ei hun na buasai wedi gweled a deall hyny cyn hyn. Penderfynodd fyned oddicartref at ei chyfeillion yn Nghaerlleon am dymhor, hyd nes yr elai yr aflwydd heibio, a myned ymaith yn ddistaw heb yn wybod i neb ond ei mam a'i thad, ac iddynt hwythau gadw na chaffai neb wybod i ba le yr aethai; a pharatodd i'r daith y noson hono, a chychwynodd y bore dranoeth cyn y dydd. Danfonodd ei thad hi i'r dref, lle y cafodd y cerbyd i Gaer.
Yr oedd brawd i'r wraig foneddig yn byw yn Sir Gaer, a chanddo etifeddiaeth led helaeth yno; ac yr oedd efe mewn gwth o oedran, ac yn ddibriod. Yr oedd hefyd frawd i'w gwr hi, tad Mr. Edward, yn byw yn Llundain, yn fasnachwr cyfoethog, a dibriod oedd yntau hefyd. Disgwylid y ddau ar ymweliad i'r Plas er's dyddiau; ac fel y digwyddodd iddi fod, y diwrnod hwnw y daethant. Cawsant eu chwaer yn nyfnder ei phrofedigaeth. Adroddodd iddynt ei helbul a'i thrallod, yr hyn a barai iddynt syndod ac anfoddlonrwydd nid bychan. Mr. Edward oedd yr etifedd i gyfoeth y ddau. Addawsant i'w fam y<noinclude><references/></noinclude>
7izbq80b84s4wc6lc2vnpvzrgxbd63a
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/132
104
87863
169845
2026-08-09T21:35:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169845
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymerent hwy ofal y mater, a pherswadient hi i fod yn dawel, y byddent hwy yn sicr o ddwyn y gwr ieuanc ato ei hun yn fuan. Arferasant eu holl resymau a'u doniau i gael ganddo ymrwymo iddynt na edrychai byth wedi hyny ar y llances wledig; y gallai ef edrych am briod o frigau uchel y bendefigaeth. 'Mi a wn hyny hefyd,' ebai'r gwr ieuanc, 'cefais gyfleusdra teg i wneud hyny fwy nag unwaith. Gallaswn gael llaw mwy nag un na dwy o bendefigesau ieuanc prydweddol cyn hyn. Ond ni welais un y gallaswn ei charu hyd nes y gwelais Miss Evans, ac ni welaf yr un byth a allwn garu fel hi; nid am ei bod hi yn brydferthach na'r un a welais, yr oedd pob un o'r boneddigesau hyny mor brydferth a hithau, ac mor synhwyrol hefyd, am a wn i, ond y mae ynddi hi rwybeth na allaf ddim dweyd pa beth sydd wedi deffro rhywbeth ynof fi, na allaf ddim dweyd pa beth ydyw hwnw chwaith; ond gallaf ddweyd hyn, na foddlonir byth mo'r rhywbeth hwnw sydd ynof fi, ond â'r rhywbeth arall hwnw sydd ynddi hi.'
Edrychai y ddau ewythr ar eu gilydd mewn syndod. Yr oedd ei ewythr brawd ei fam yn un brochwyllt ei dymer fel hithau, a dechreuodd ddwrdio, a bygwth, a rhegu yn erwin. Yr oedd yr ewythr brawd ei dad yn wr pwyllog ac amyneddgar; cymerai ef ei nai trwy deg, gan ymresymu âg ef, ac ymbil arno er ei fwyn ei hun, a'i fam, a'i deulu, i roddi pob meddwl am y ferch i fynu; ond yr oedd yn amlwg nad oedd gerwindeb y naill, na thynerwch y llall, ddim yn cael yr effaith a ddymunid arno. Cadwai ei dymer yn dda, a siaradai yn barchus â hwynt, gan sicrhau y gwnaethai bob peth arall a allasent geisio ganddo, ond hyny. Nid oedd yn meddwl, meddai, y byddai iddo byth briodi Miss Evans, oblegyd ni fynai hi wrando ar ei gais mewn un modd, ond yr oedd yn benderfynol y gwnai ei oreu i'w henill, &c. Y diwedd fu i'r ddau droi i fygwth os na roddai efe hi heibio, ac ymrwymo ar ei lw i hyny, y torent oddi<noinclude><references/></noinclude>
b1vs7i23otwrkeiwe1ypbugshsj5p0e
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/133
104
87864
169846
2026-08-09T21:36:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169846
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrtho bob cwys o dir, a phob dimai o arian, oedd ar eu helw. Gellwch wneud hyny,' ebe yntau, 'nid yw o fawr bwys yn fy ngolwg i; y mae genyf fi ddigon yn fy meddiant fy hun eisoes; ac os gallaf sicrhau Miss Evans, byddaf yn eithaf boddlon.' Wedi hir ymresymu, ac ymbil arno i ymrwymo ymwrthod â Miss Evans, dywedodd wrthynt nad oedd waeth iddynt roddi i fynu eu cais, na allai efe ddim addaw iddynt yr hyn nad oedd ganddo feddwl na bwriad i'w gyflawni. Yr oedd ei ymddygiad yn ddirgelwch mawr i'r ddau hen lanc, canys ni buasent hwy eu hunain erioed yn glaf o'r clefyd oedd arno ef; a chan eu bod yn gwbl ddyeithr i'r profiad, ni feddent ar y rhithyn lleiaf o gydymdeimlad.
Aeth y ddau ymaith y bore dranoeth yn siomedig a thramgwyddus, ond addawent i'r fam drallodus y gwnaent eu goreu yn mhob modd drachefn i ragflaenu y trychineb oedd yn bygwth dyfod arnynt fel teulu.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXΧΙ.}}}}
Yr ystormydd blinion yn y Plas a'r Hafod oedd testyn siarad yr holl ardaloedd yn y dyddiau hyny. Ni ddigwyddasai helyntion cyffelyb yn y fro dawel, wledig, hono o'r blaen, ac yn ol barn unol y trigolion, ni ddigwyddasai dim cyffelyb iddynt erioed ar y ddaear. Yr oedd yn amser prysur iawn ar draed a thafod Robin y Glep, yn neillduol wedi cael gwynt ar y ffrwgwd yn yr Hafod Ganol rhwng y foneddiges a mam Miss Evans; gwnaeth ''gapital'' da ohoni yn ''stock in trade'', chwyddodd hi yn anferth o faint drwy roddi darnau ati o greadigaeth ei ddychymyg. Ei ofyniad cyntaf i bob un a gyfarfyddai ar y ffordd, ac yn mha dŷ bynag y elai i mewn, fyddai, ' A glywsoch chwi am yr helynt ofnadwy a fu yn yr Hafod y dydd o'r blaen?' 'Beth oedd y mater?' gofynid. <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
doz1qxb07bex8bz29z9zdni5pu6rj44
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/134
104
87865
169847
2026-08-09T21:38:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169847
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'O,' meddai Robin, 'yr hen wraig foneddig aeth yno i siarad â Mary Evans yn nghylch ei charwriaeth hi a Mr. Edward ac i ddweyd ei meddwl am dani wrthi. Cadwodd ei mam hi allan o olwg y wraig foneddig; aeth y ddwy i ffraeo'n arswydus; galwodd Catrin Evans y wraig foneddig yn bob enwau gwaeth na'u gilydd, ac o'r diwedd tarawodd hi nes oedd ei gwaed yn pistyllio; mae tri o ddoctoriaid wedi bod gyda hi. Ni chlywodd neb erioed son am y fath beth. Mae'n siwr y bydd hi yn galed iawn ar Catrin, os peidian nhw a'i chrogi.' Yr oedd llawer yn ddigon hygoelus i goelio stori Robin bob gair, ac eraill yn chwerthin am ei phen fel chwedl Robinaidd, neu Rabinaidd os mynwch, canys yn wir yr oedd Robin yn Rabin yn athroniaeth chwedlau. Mêl ar fysedd Robin, a phawb o'r un ysbryd ag ef, oedd y newydd fod Miss Evans wedi rhedeg i ffwrdd a gadael y wlad, fel y dywedent. Pregethai ef yn hyawdl ar y testyn hwnw, gan awgrymu ei bod yn cilio ymaith er mwyn ceisio cuddio ei gwarth o'r golwg.
Ddiwrnod neu ddau ar ol colli Miss Evans o'r ardal, collwyd Mr. Edward yntau, a mawr oedd yr holi a'r dyfalu i b'le yr aethai; i Lundain, meddai rhai; ideithio'r gwledydd, meddai'r lleill; ar ol Miss Evans i'w phriodi hi, meddai eraill. Barn Robin y Glep oedd mai ar ol Miss Evans yr aethai efe, ond nid gydag un bwriad i'w phriodi hi chwaith; ond mai pwrpas na buasai yn un anrhydedd iddo ef na hithau i neb ei wybod oedd mewn golwg.
Yr oedd cryn anesmwythdra yn yr Hafod Uchaf er's dyddiau. Aethai Miss Evans ymaith heb son un gair am ei bwriad wrth yr un o'r ddwy ferch, ei chyfeillesau penaf, nac wrth Bob eu brawd ychwaith, yr hwn y tybid ei fod yn fwy na chyfaill iddi; ac wrth wel'd dydd ar ol dydd yn myned heibio heb lythyr oddiwrthi, nid oedd pethau mewn gwirionedd ddim fel yr oeddynt hwy wedi arfer meddwl. Gwneid ei hymddygiad yn destyn ymddyddan pryderus yn<noinclude><references/></noinclude>
9ax48g7mqws27m1kg4iaca8tq16qn0m
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/135
104
87866
169848
2026-08-09T21:39:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169848
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fynych ar yr aelwyd yno. Ymdrechid rhoi'r esboniad tyneraf ar ei hymddygiad, ei bod wedi ei dal gan y brofedigaeth mor ddisymwth, fel na wyddai beth i'w wneud, a bod yn anhawdd iddi allu ysgrifenu at neb o'i chyfeillion ar y fath achos, ac yn y fath amgylchiadau, &c. Yr oedd yr hen wr yn neillduol yn bur anesmwyth ei feddwl,—' A ddeydodd hi ddim byd wrthyt ti, Bob, i b'le 'roedd hi yn myn'd?' gofynai yn aml. Yr ydych wedi gofyn y cwestiwn yna ganwaith bellach, nhad, a minau wedi ei ateb o,—na ddywedodd hi yr un gair wrthyf, ac ni chafodd hi yr un cyfleusdra chwaith, gan iddi gychwyn i ffwrdd yn mhen ychydig oriau, fel y clywais i, wedi iddi benderfynu myned.' 'Wel, ddarfu i ti ddim gofyn i'w thad yn ei chylch hi?' gofynai yntau. 'Naddo,' oedd yr ateb, 'gan nad oedd ef yn clywed ar ei galon, ddweyd, nid oeddwn inau yn clywed ar fy nghalon ofyn.' 'Wel, saffed a'r byd yr wyt ti wedi ei cholli hi,' ebe'r hen wr, 'mi aeth hogyn y Plas a hi oddiarnat ti tan dy drwyn; 'roeddwn i'n meddwl mai dyna fel fase hi, y llac ei afel a gyll.' ''Nenw'r dioni, beth ydi'r helynt sy arnoch y'nghylch yr eneth yna o hyd?' dywedai'r hen wraig, 'mi all Bob gael cystal dynes yn wraig a hithau, os oes arno fo eisiau gwraig. Na all o byth gael ei chystal hi, os ydi hi rywbeth yn debyg i'r peth oeddwn i'n feddwl yn wastad ei bod hi,' ebe'r hen wr. 'Pw, pw,' meddai hithau, 'nid aur ydi pob peth melyn, mae hi'n ormod o ladi o lawer i fod yn wraig i rywun fel Bob; toes ganddo fo ddim modd i gadw ladi, a toes ganddi hithau ddim modd i'w chadw ei hun, ac i gadw Bob yn wr boneddig; a wnae o ddim gwr boneddig tae o'n cael y modd. Mi fydde'n well ge gen i o'r haner ei wel'd o'n priodi rhyw strapar o ddynes wedi arfer gweithio—golchi, a phobi, a chorddi, a thrin llaeth a menyn a chaws, na phriodi un fel Mary Evans, na wnaeth hi fawr ddim erioed ond trin muslin a sidane, a chware y peth hwnw fydd yn cadw swn, wn i ddim be ydach chi yn ei alw fo; be dâl<noinclude><references/></noinclude>
15f9zjhsxest438if8pry8dfwzubqw1
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/136
104
87867
169849
2026-08-09T21:40:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169849
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un felly i fod yn wraig ffarmwr? O'm rhan i, mi fydde'n dda gen y nghalon i tae'r gwr boneddig ifanc yna yn i phriodi hi, i gael taw ar y dwndwr sy gynthoch chi yn ei chylch hi. Yr unig sylw a wnaeth yr hen wr ar araeth yr hen wraig oedd, 'Wel, wel, os ydi hi wedi troi yn ffals, mi fy siomodd i'n fwy nag y siomodd neb erioed fi.' 'Tewch â'ch swn, ac ewch i'ch gwlau, i gysgu am sens a breuddwydio am synwyr,' ebe'r hen wraig, ac felly y terfynodd y cyfarfod.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXII.}}}}
TESTYN siarad yr holl fro y dyddiau hyny oedd enciliad Miss Evans o'r ardal, a Mr. Watkin drachefn ar ei hol. Barnai a haerai llawer eu bod wedi gwneud y peth i fynu rhyngddynt â'u gilydd, i redeg oddicartref a phriodi; ond yr oedd gwahanol farnau ar y pwnc hwnw fel pob pwnc arall. Mynai eraill mai rhedeg oddiar ffordd y boneddwr ieuanc a wnaethai hi, i ymguddio rhagddo. Ystyriai rhai bod ei holl ymddygiad yn ei pherthynas â'r boneddwr yn bur anmheus, a bod ei chymeriad wedi ei lychwino i gryn raddau; gobeithient y goreu, ond ofnent y gwaethaf. Pe dywedasai y dosbarth hwn yr hyn oedd yn eu calonau mewn gwirionedd, llefarasent fel arall am eu hofnau a'u gobeithion, canys y gwaethaf am dani a obeithient, a'r goreu a ofnent hwy; oblegyd yr oeddynt yn eiddigeddus o honi, ac yn genfigenus tuag ati er's talm. Ymgasglai gwragedd y gymydogaeth i dai eu gilydd ar gylch yn fynych yn y dyddiau hyny, i drin cyflwr Miss Evans uwchben dysgliad o de. Yr oedd gan amryw ohonynt ferched eu hunain, a barnent yn gydwybodol y buasai un o'u merched hwy yn llawn mor gymhwys, ie, yn llawer mwy cymhwys, i fod yn wraig y Plas na Mary Evans; ond yr oedd un, Margaret Hughes, Penywaen, yn barnu yn wahanol. 'Pe buasai ar y gwr boneddig eisiau gwraig i drin llaeth a menyn a chaws,—i bobi, a <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
qlimyvr4ssxwxv35hbrx3apgc8nq735
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/137
104
87868
169850
2026-08-09T21:41:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169850
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>golchi, a smwddio, a gweu a thrwsio sanau,' meddai Margaret, 'buasai un o'n merched ni yn fwy cymhwys iddo fo, ond nid un felly wna'r tro iddo fo, rhaid iddo fo gael gwraig yn medru Sasneg, a sgrifenu, a downsio, a chware piana, a mae Mari Ifan yn ben camster ar gampie felly.' 'Campie sal iawn ydi pethe o'r fath hono, feddyliwn i,' ebe un ohonynt. 'Ie,' ebai un arall, beth be tasen ni heb fedru gneud dim ond canu a downsio, a siarad Sasneg, mi fase'n fyd go dlawd ar ein gwyr ni, ac arnom ninau i'w calyn nhw, cyn hyn, 'rwy'n siwr; p'wr werth ydi medru downsio a siarad Sasneg i fyn'd trwy'r byd yma, mi leiciwn wbod. N'wn i ddim sut na bydden gwilydd gan dad a mam yr eneth yna o'i hachos hi—tase hi'n eneth i mi, ni chawse fawr o ganu piana, a phethe felly, yr wy'n siwr, mi faswn yn gneud iddi neud rhwbeth amgenach na hyny am ei thamed.' 'Yr ydych yn rhy galed ar Mary Evans,' ebe un o ferched y tŷ (yr hon oedd yn perthyn i'w dosbarth yn yr Ysgol Sabbothol, a chanddi feddwl uchel am ei hathrawes), 'mae hi yn medru gneud gwaith tŷ cystala'r un ohonom ni, ac y mae hi yn arfer gweithio llawer hefyd. 'Y hi'n gweithio!' ebe'r fam, 'na, ni wyr y dwylo gwnion rheini fawr be ydi gweithio, ne mi fase golwg arall arnyn nhw. Ac a ddaru i chi sylwi,' hi chwanegai, 'mi fydd ''my lady'' yn gwisgo menig am ei dwylo bob amser—mi fydd yn gwilydd gen i drosti hi.' ''Does bosib,' ebe un arall, Mari Ifan yn gwisgo menig! Glowodd neb erioed am y fath beth!' 'Y mae o'n ddigon gwir,' atebai'r llall,' ni welis i 'rioed moni allan o'r tŷ heb fenig am ei dwylo, 'rydw i wedi dal digon o sylw ar y peth.' 'A dene beth arall,' ebe un arall o'r ''party'', 'mae hi'n cario'r peth hwnw sy gen y bobol fawr yma uwch 'u pene pan fydd y hi yn glawio hefyd, tydw i ddim yn cofio 'rwan be mae nhw yn 'i alw fo.' 'O, mi wn,' eb y llall, hym—hym—, mi ddeyda i chi ninion; tydw ine ddim yn cofio'r munyd yma—O, ie, ''Brelir''—dyna fo.' 'Wel, wel, yr oedd yr eneth wedi myn'd es talwm twnt i bob peth o falchder'<noinclude><references/></noinclude>
963cna06y2sjnogr4ts3894g6wxkoki
169851
169850
2026-08-09T21:42:15Z
AlwynapHuw
1710
169851
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>golchi, a smwddio, a gweu a thrwsio sanau,' meddai Margaret, 'buasai un o'n merched ni yn fwy cymhwys iddo fo, ond nid un felly wna'r tro iddo fo, rhaid iddo fo gael gwraig yn medru Sasneg, a sgrifenu, a downsio, a chware piana, a mae Mari Ifan yn ben camster ar gampie felly.' 'Campie sal iawn ydi pethe o'r fath hono, feddyliwn i,' ebe un ohonynt. 'Ie,' ebai un arall, beth be tasen ni heb fedru gneud dim ond canu a downsio, a siarad Sasneg, mi fase'n fyd go dlawd ar ein gwyr ni, ac arnom ninau i'w calyn nhw, cyn hyn, 'rwy'n siwr; p'wr werth ydi medru downsio a siarad Sasneg i fyn'd trwy'r byd yma, mi leiciwn wbod. N'wn i ddim sut na bydden gwilydd gan dad a mam yr eneth yna o'i hachos hi—tase hi'n eneth i mi, ni chawse fawr o ganu piana, a phethe felly, yr wy'n siwr, mi faswn yn gneud iddi neud rhwbeth amgenach na hyny am ei thamed.' 'Yr ydych yn rhy galed ar Mary Evans,' ebe un o ferched y tŷ (yr hon oedd yn perthyn i'w dosbarth yn yr Ysgol Sabbothol, a chanddi feddwl uchel am ei hathrawes), 'mae hi yn medru gneud gwaith tŷ cystala'r un ohonom ni, ac y mae hi yn arfer gweithio llawer hefyd. 'Y hi'n gweithio!' ebe'r fam, 'na, ni wyr y dwylo gwnion rheini fawr be ydi gweithio, ne mi fase golwg arall arnyn nhw. Ac a ddaru i chi sylwi,' hi chwanegai, 'mi fydd ''my lady'' yn gwisgo menig am ei dwylo bob amser—mi fydd yn gwilydd gen i drosti hi.' 'Does bosib,' ebe un arall, Mari Ifan yn gwisgo menig! Glowodd neb erioed am y fath beth!' 'Y mae o'n ddigon gwir,' atebai'r llall,' ni welis i 'rioed moni allan o'r tŷ heb fenig am ei dwylo, 'rydw i wedi dal digon o sylw ar y peth.' 'A dene beth arall,' ebe un arall o'r ''party'', 'mae hi'n cario'r peth hwnw sy gen y bobol fawr yma uwch 'u pene pan fydd y hi yn glawio hefyd, tydw i ddim yn cofio 'rwan be mae nhw yn 'i alw fo.' 'O, mi wn,' eb y llall, hym—hym—, mi ddeyda i chi ninion; tydw ine ddim yn cofio'r munyd yma—O, ie, ''Brelir''—dyna fo.' 'Wel, wel, yr oedd yr eneth wedi myn'd es talwm twnt i bob peth o falchder'<noinclude><references/></noinclude>
a34o5jzvs8t7jor5qoq2j0outdtwxm0
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/138
104
87869
169852
2026-08-09T21:42:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169852
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ebe gwraig y tŷ lle yr oeddynt wedi ymgynull, a 'doedd ryfedd iddi hi fyn'd i'r pen o'r diwedd.'
'Wel, mewn difri,' ebe un ohonynt, 'onid yw'n beth rhyfedd eu bod nhw'n diodde un fel ene yn y capel? Mae'n gwilydd iddyn nhw, mi ddylsen fod wedi'i thori hi allan es talwm. Mae'n rhyfedd gen i fod hen wr y Tŷ Celyn yn neillduol yn diodde'r fath beth.' Hen wr y Tŷ Celyn oedd y ''would-be'' blaenor hwnw a fuasai yn dal her â hen wr yr Hafod Uchaf, y noson yr aethai efe gyntaf i'r gyfeillach. 'Mi a glywais,' ebe un o'r gwragedd, bod yr hen wr yn penderfynu rhoi ei hachos hi o flaen y seiat y tro nesaf. Mae'n hen bryd iddo ef ne rywun ohonyn nhw wneud hyny.' A hyn y cytunasant oll, a therfynodd y cyfarfod.
A gwir a ddywedodd y wraig; yr oedd hen wr y Tŷ Celyn er's dyddiau a'i fryd ar ddwyn achos Miss Evans o flaen y seiat; a phan ddaeth y cyfleusdra, cododd ar ei draed, carthodd ei wddf, a gwnaeth araeth fawr a chref wrth ddwyn y pwnc ger bron. Cwynai'n drwm fod y ddysgyblaeth wedi ei llwyr esgeuluso a'i gollwng dan draed yn yr eglwys hono—bod y byd yn cablu o'r achos, a chrefydd yn cael ei gwaradwyddo, &c. Gofynodd un o'r brodyr, 'at beth neu bwy yr oedd yn cyfeirio. Os oedd ganddo rywbeth neu rywun neillduol mewn golwg, am iddo fynegi yn onest, yn lle taflu awgrymiadau felly.' 'Oni wyddoch chi i gyd cystal a minau,'ebefe, dyna ferch yr Hafod Ganol, rwan, mae'n gwilydd i ni na base sylw wedi'i wneud o'i hachos hi es talwm cyn hyn.' 'Wel, beth am dani hi?' meddai yntau. Ond ydi'i hanes hi a mab y Plas yn hysbys trwy'r wlad yma; a dyna'r ddau wedi rhedeg i ffwrdd hefo'u gilydd, na wyr neb i b'le, nac i ba beth, ond i ddim da, mae'n debyg.' 'Gwell i chwi gym'ryd gofal beth ddwedoch chwi,' ebe'r cyfaill, 'rhag i chi gael eich dwyn o flaen eich gwell. Nid gwir yw eu bod wedi rhedeg ymaith gyda'u gilydd.' 'Yr oedd digon o bethau eraill yn galw am ddysgyblaeth arni er's llawer o amser,' ebe yr hen wr. Beth yw y rheini?' gofynai<noinclude><references/></noinclude>
9egiu5z8xlv0fw0satndavmm3qzrv4w
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/139
104
87870
169853
2026-08-09T21:45:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169853
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tad Miss Evans, wedi cyffroi erbyn hyn. 'Wel, Tomos,' ebe y llall, 'wnewch chwi ateb 'chydig gwestiwnau i mi? dyna un: Ai ni fydd hi ddim yn arfer gwisgo menig am 'i dwylo, a chario ''umbrello'' uwch ei phen, a dwad yma i'r capel felly?' Dealled y darllenwyr bod gwisgo menig, a chario umbrella yn bechodau gwaeddfawr ac ysgeler, yn ngolwg hen bobl y dyddiau hyny. 'Bydd, hi fydd yn gwneud hyny,' ebe Tomas Evans, 'ond ni ddeallais i erioed, fod dim yn y Beibl yn erbyn gwisgo menig, a chario ''umbrella'' ar wlaw.' 'Toedd dim fath beth a menig ac ''umbrellos'' yn y byd yn amser y Beibl,' meddai yntau, 'onte mi fase ynddo fo ddeyd yn'u herbyn nhw, 'rwyn siwr—beth bynag am hyny, mae o'n deyd digon yn erbyn balchder, a beth ydi menig ac umbrello ond balchder o'r fath waetha? I weithio gnaed dwylo, nid i wisgo menig a chario ''umbrellos''.'
'Mi garwn i wybod gen ti, hyn 'rwan,' ebai hen wr yr Hafod Uchaf wrtho—Bwrw di fod oen i un o nefed i wedi marw, a mod ine'n myn'd trost y gwrych i gae cymydog, ac yn cymryd oen un o'i ddefed o, ac yn i roid o at fam yr oen marw i'w fagu. Prun fwya pechod fydde hyny, a bwrw mod i'n myn'd i'r siop, ac yn prynu par o fenig o groen oen, ac yn talu am danyn nhw, ac yn u gwisgo nhw?' Trawodd y cwestiwn yr hen ddysgyblwr a mudandod, a'r holl gymdeithas a dychryn. Dirgelwch y cwestiwn oedd, bod y dysgyblwr, wedi cael y gair ddarfod iddo chwareu rhyw dric felly ryw dro. Terfynodd y cyfarfod a'r dysgyblu a'r cwbl ar hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXIII.}}}}
Yr oedd yr argraffiad cyntaf o'r cyfieithiad Cymraeg Daith y Pererin,' gan John Bunyan, wedi ei gyhoeddi tuag amser yr helyntion a goffeir genyf: a mawr y darllen oedd arno, a'r hyfrydwch a geid ynddo gan grefyddwyr yn mhob man. Cyffelybent y naill y llall i un neu arall o'r cymeriadau a ddisgrifir <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
ndf2vmr6ledan0t3j2nkeq67xr1nfz5
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/140
104
87871
169854
2026-08-09T21:47:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169854
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y llyfr: yr oedd gan bob eglwys ei ''Christion'', ei ''Ffyddlon'', ei ''Gobeithiol'', ei ''Deddfol'', ei ''Bydolddoethyn'', &c. Yr oedd gan yr eglwys yr ydym yn awr ar ei hanes y cymeriadau hyny yn perthyn iddi; a chan eu bod oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ni fydd o un niwed i ni roddi eu henwau. Gelwid Thomas Evans (tad Miss Evans) yn ''Gristion''; ''Wmffre Edward'', o'r Fron, yn ''Ffyddlon''; Dafydd Tomos, y Rhiw, yn ''Gobeithiol''; a'r hen frawd o'r Tŷ Celyn yn ''Deddfol''; a Harri Dafydd, Cwmbere, yn ''Bydolddoethyn''. Yr oeddynt oll yn henafgwyr; a gwyr ieuainc yr eglwys a ddodasent yr enwau arnynt, yn ol fel y barnent fod y naill a'r llall yn dwyn cyffelybrwydd i'r nodweddau hyny yn 'Nhaith y Pererin.'
Aeth nifer o'r gwyr ieuainc at eu gilydd ar ol y ''society'' y rhoddais hanes am dani yn y benod ddiweddaf, i gynal ''committee'' bach ar y mater: a daethant i'r penderfyniad o gael barn bersonol pob un o'r hynafgwyr ar y pwnc. Aeth tri neu bedwar ohonynt ar ol Mr. yn y llyfr: yr oedd gan bob eglwys ei Christion, ei Ffyddlon, ei Gobeithiol, ei Deddfol, ei Bydolddoethyn, &c. Yr oedd gan yr eglwys yr ydym yn awr ar ei hanes y cymeriadau hyny yn perthyn iddi; a chan eu bod oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ni fydd o un niwed i ni roddi eu henwau. Gelwid Thomas Evans (tad Miss Evans) yn Gristion; Wmffre Edward, o'r Fron, yn Ffyddlon; Dafydd Tomos, y Rhiw, yn Gobeithiol; a'r hen frawd o'r Tŷ Celyn yn Deddfol; a Harri Dafydd, Cwmbere, yn Bydolddoethyn. Yr oeddynt oll yn henafgwyr; a gwyr ieuainc yr eglwys a ddodasent yr enwau arnynt, yn ol fel y barnent fod y naill a'r llall yn dwyn cyffelybrwydd i'r nodweddau hyny yn 'Nhaith y Pererin.'
Aeth nifer o'r gwyr ieuainc at eu gilydd ar ol y society y rhoddais hanes am dani yn y benod ddiweddaf, i gynal committee bach ar y mater: a daethant i'r penderfyniad o gael barn bersonol pob un o'r hynafgwyr ar y pwnc. Aeth tri neu bedwar ohonynt ar ol Mr. ''Bydolddoethyn'' y noson hono; goddiweddasant ef ar y ffordd, a gofynasant iddo beth oedd ei feddwl ef am achos Miss Evans. 'Fy meddwl i ydi,' ebe ef, 'nad ydi hi ddim mor wirion ag y gnai hi wrthod priodi gwr byneddig fel Mr. Watkin, os bydde fo mor wirion a chynig iddi.' ' A ydych yn meddwl mai tro gwirion ynddo fo fyddai ei phriodi hi?' 'Ie, tro na wnaethwn i byth mono fo taswn i yn 'i sefyllfa fo.' 'Paham hyny?' 'Wel pa'm hyny? Ond am y galle un fel y fo gael gwraig yn werth 'i miloedd, tae o'n ceisio; a ffwl ydi'r dyn a briode lodes dlawd, mewn cymhariaeth, pan alle o gael aeres stad fawr yn wraig. 'Does gen i ddim yn erbyn yr eneth, mae hi'n burion o'r peth ydi hi, mae hi'n perthyn i mi o bell, o ran hyny.' 'Wel, yr ydych yn meddwl y gnae hi dro call i'w briodi o, ynte?' Wel, debig iawn; ond ydi'n hawdd i chi wel'd hyny tae ddim yn y'ch pene chi, mi fydde'n ffolach na ffolog tae hi'n gwrthod, ond ni neith Mari mo hyny mi gwranta hi, os ceith hi'r cynig, mae gormod yn ei<noinclude><references/></noinclude>
b814fjmyfr69w7ohmwzlhxhji5vf46s
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/141
104
87872
169855
2026-08-09T21:48:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169855
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>phen i neud tro felly.' 'Ond beth feddyliwch chwi am ei chrefydd hi pe bai hyny yn digwydd bod?' 'Ei chrefydd hi! Twt, nonsens, ydach chi'n meddwl fod crefydd yn erbyn i ddyn ddal gafel ar fantes fel ene, os daw hi yn 'i ffordd o? Mae crefydd yn dysgu d'ledswydd pob un i fod yn gall i ofalu am 'i amgylchiade gore fyth gallo fo wrth fyn'd trw'r byd yma.' Ydyw, ar lwybyr cyfreithlon.' 'Llwybyr cyfreithlon yn wir! Be fydde'n annghyfreithlon i'r eneth ene briodi'r gwr byneddig, os ceith hi gyntho fo?' 'Wel, ni byddai dim yn annghyfreithlon iddi yn ngolwg cyfraith y wlad, ond beth fyddai iddi sy'n proffesu crefydd i briodi dyn ieuanc dibroffes a digrefydd fel Mr. Watkin, yn ngwyneb cyfraith y Beibil sy'n beth arall.' 'Tŷdi cyfreth y Beibil ddim yn erbyn y fath beth, neu mae cyfreth y Be Beibil yn groes i gyfreth rheswm. Am dana i, mi gymra i afel ar bob cyfleusdra ga i, i wneud y gore alla i o'r byd yma, tros bothw i yntho fo: fydd hi ddim gwaeth arna i ar ol i mi fyn'd ohono fo, ar y cownt hwnw, goelia i.'
'O helaethrwydd ei galon,' yr oedd yr hen greadur yn llefaru, canys megis y llefarai y gweithredai. Nid âi byth i un man—i ffair na marchnad, na chyfarfod crefyddol, gartref nac oddicartref, nad oedd yn gwylio am gyfle i wneud bargen dda. Yr oedd felly wedi casglu cryn swm o arian. Pe digwyddai fod angen rhyw swm o arian ar ryw gymydog, ac i Hari wybod hyny, âi ato i gynyg cymwynas iddo, trwy brynu anifail neu rywbeth ganddo, gan gymeryd mantais ar angen y truan i'w wasgu yn y pres, a'i brynu am lawer llai na'i wir werth; ond er mwyn gwneud y cwbl bob amser. 'Ie, y mae yn iawn yn wir,' ebe un o'r bechgyn, i bob un wneud y gore allo fo o'r byd yma, fel y dywedwch chwi; ond iddo ofalu am fod yn deg a chyfiawn.' ''Does dim yn fwy teg a chyfiawn, goelia i,' atebai'r ''Bydolddoethyn'', 'nag i ddyn wneud y fargen ore fyth fedro fo dan bob amgylchiad, wrth briodi a phrynu a gwerthu.' 'Bwrier,' ebe'r llall,<noinclude><references/></noinclude>
377gar5099jmozox0m1ph29xfc3nx08
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/142
104
87873
169856
2026-08-09T21:49:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169856
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'fod gofynwr yn bwgwth rhedeg arna i os na thalwn i swm dyledus iddo ar ryw ddiwrnod penodol, a minau heb fodd i'w gyfarfod o, a mod i yn fy nghyfyngder yn dyfod atoch chwi i gynyg gwerthu buwch neu geffyl i chwi, am beth llai na'i wir werth, er mwyn cyfarfod â 'ngofynwr, am na chawn amser i wneud y goreu a allwn ohono, gan fod yr amgylchiadau yn gwasgu; a chwithau yn gwrthod oni chaech ef am lawer llai na'i werth, beth y cyfrifwch chwi beth felly?' 'Mi cyfrifwn hi 'n eitha teg i ti gadw'r anifail, os na bydde ti'n foddlon i mhris i, ac i minau gadw f' arian.' 'Usuriaeth ac ocraeth y geilw y Beibl beth fel yna,' meddai'r bachgen. 'Surieth ac ocreth, ne beth bynag y gelwir o, mae o'n beth digon teg a chyfiawn wrth bob rheswm,' meddai Harri.
Yr ydych wedi myn'd oddiwrth y pwnc,' ebe un o'r bechgyn eraill, 'son yr oeddym am achos Mary Evans:—pa un a fyddai'n iawn iddi hi sy'n proffesu crefydd briodi dyn digrefydd, fel Mr. Watkin, dyna oedd y pwnc. 'Rydw i wedi setlo'r pwnc hwnw o'r blaen,' ebe Harri, 'mae synwyr pob dyn yn deyd bydde'n ffol ac yn bechadurus ynthi wrthod y fath fantes.' 'Ond bwriwch fod addewid priodas rhyngddi â rhywun arall,' atebai'r bachgen, 'a fyddai 'n iawn iddi dori'r addewid hono, er mwyn y fantes?' 'Bydde, tase hi wedi addo ganwaith, a bwrw 'i bod hi'n cael cynig ar well ''match,'' ebe Harri; ac ychwanegai, 'Yr oedd hen wr y Tŷ Celyn yn siarad fel ffwl heno. Ond 'roeddwn inau'n gwel'd rhywbeth yn y pethe oedd o'n ddeyd am wisgo menig, a chario ''umbrello'' hefyd rhoi siampal ddrwg i hogie a hogenod yr ardal yma ydi peth felly: mi fydd ar bob hogyn a hogen eisio menig ac umbrello bellach, gewch chi wel'd; balchder a gwastraff ydi peth felly. Mi roiswn inau fy llais trost droi Mari Ifan o'r seiat am neud peth felly,' ac felly terfynodd yr ymddyddan.
'Doethineb y byd hwn ydyw crefydd Harri i gyd,' sylwai un o'r bechgyn wedi iddynt ymadael âg ef<noinclude><references/></noinclude>
0cln18pscq6obcym5bvhwsex32g4mni
169858
169856
2026-08-09T21:54:32Z

'Doethineb y byd hwn ydyw crefydd Harri i gyd,' sylwai un o'r bechgyn wedi iddynt ymadael âg<noinclude><references/></noinclude>
19gua9nb9sz8alwons7qfjlqcy49qoh
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/143
104
87874
169857
2026-08-09T21:50:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "y noson hono; goddiweddasant ef ar y ffordd, a gofynasant iddo beth oedd ei feddwl ef am achos Miss Evans. 'Fy meddwl i ydi,' ebe ef, 'nad ydi hi ddim mor wirion ag y gnai hi wrthod priodi gwr byneddig fel Mr. Watkin, os bydde fo mor wirion a chynig iddi.' ' A ydych yn meddwl mai tro gwirion ynddo fo fyddai ei phriodi hi?' 'Ie, tro na wnaethwn i byth mono fo taswn i yn 'i sefyllfa fo.' 'Paham hyny?' 'Wel pa'm hyny? Ond am y galle un...
169857
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y noson hono; goddiweddasant ef ar y ffordd, a gofynasant iddo beth oedd ei feddwl ef am achos Miss Evans. 'Fy meddwl i ydi,' ebe ef, 'nad ydi hi ddim mor wirion ag y gnai hi wrthod priodi gwr byneddig fel Mr. Watkin, os bydde fo mor wirion a chynig iddi.' ' A ydych yn meddwl mai tro gwirion ynddo fo fyddai ei phriodi hi?' 'Ie, tro na wnaethwn i byth mono fo taswn i yn 'i sefyllfa fo.' 'Paham hyny?' 'Wel pa'm hyny? Ond am y galle un fel y fo gael gwraig yn werth 'i miloedd, tae o'n ceisio; a ffwl ydi'r dyn a briode lodes dlawd, mewn cymhariaeth, pan alle o gael aeres stad fawr yn wraig. 'Does gen i ddim yn erbyn yr eneth, mae hi'n burion o'r peth ydi hi, mae hi'n perthyn i mi o bell, o ran hyny.' 'Wel, yr ydych yn meddwl y gnae hi dro call i'w briodi o, ynte?' Wel, debig iawn; ond ydi'n hawdd i chi wel'd hyny tae ddim yn y'ch pene chi, mi fydde'n ffolach na ffolog tae hi'n gwrthod, ond ni neith Mari mo hyny mi gwranta hi, os ceith hi'r cynig, mae gormod yn ei
phen i neud tro felly.' 'Ond beth feddyliwch chwi am ei chrefydd hi pe bai hyny yn digwydd bod?' 'Ei chrefydd hi! Twt, nonsens, ydach chi'n meddwl fod crefydd yn erbyn i ddyn ddal gafel ar fantes fel ene, os daw hi yn 'i ffordd o? Mae crefydd yn dysgu d'ledswydd pob un i fod yn gall i ofalu am 'i amgylchiade gore fyth gallo fo wrth fyn'd trw'r byd yma.' Ydyw, ar lwybyr cyfreithlon.' 'Llwybyr cyfreithlon yn wir! Be fydde'n annghyfreithlon i'r eneth ene briodi'r gwr byneddig, os ceith hi gyntho fo?' 'Wel, ni byddai dim yn annghyfreithlon iddi yn ngolwg cyfraith y wlad, ond beth fyddai iddi sy'n proffesu crefydd i briodi dyn ieuanc dibroffes a digrefydd fel Mr. Watkin, yn ngwyneb cyfraith y Beibil sy'n beth arall.' 'Tŷdi cyfreth y Beibil ddim yn erbyn y fath beth, neu mae cyfreth y Be Beibil yn groes i gyfreth rheswm. Am dana i, mi gymra i afel ar bob cyfleusdra ga i, i wneud y gore alla i o'r byd yma, tros bothw i yntho fo: fydd hi ddim gwaeth arna i ar ol i mi fyn'd ohono fo, ar y cownt hwnw, goelia i.'
'O helaethrwydd ei galon,' yr oedd yr hen greadur yn llefaru, canys megis y llefarai y gweithredai. Nid âi byth i un man—i ffair na marchnad, na chyfarfod crefyddol, gartref nac oddicartref, nad oedd yn gwylio am gyfle i wneud bargen dda. Yr oedd felly wedi casglu cryn swm o arian. Pe digwyddai fod angen rhyw swm o arian ar ryw gymydog, ac i Hari wybod hyny, âi ato i gynyg cymwynas iddo, trwy brynu anifail neu rywbeth ganddo, gan gymeryd mantais ar angen y truan i'w wasgu yn y pres, a'i brynu am lawer llai na'i wir werth; ond er mwyn gwneud y cwbl bob amser. 'Ie, y mae yn iawn yn wir,' ebe un o'r bechgyn, i bob un wneud y gore allo fo o'r byd yma, fel y dywedwch chwi; ond iddo ofalu am fod yn deg a chyfiawn.' ''Does dim yn fwy teg a chyfiawn, goelia i,' atebai'r Bydolddoethyn, 'nag i ddyn wneud y fargen ore fyth fedro fo dan bob amgylchiad, wrth briodi a phrynu a gwerthu.' 'Bwrier,' ebe'r llall,
'fod gofynwr yn bwgwth rhedeg arna i os na thalwn i swm dyledus iddo ar ryw ddiwrnod penodol, a minau heb fodd i'w gyfarfod o, a mod i yn fy nghyfyngder yn dyfod atoch chwi i gynyg gwerthu buwch neu geffyl i chwi, am beth llai na'i wir werth, er mwyn cyfarfod â 'ngofynwr, am na chawn amser i wneud y goreu a allwn ohono, gan fod yr amgylchiadau yn gwasgu; a chwithau yn gwrthod oni chaech ef am lawer llai na'i werth, beth y cyfrifwch chwi beth felly?' 'Mi cyfrifwn hi 'n eitha teg i ti gadw'r anifail, os na bydde ti'n foddlon i mhris i, ac i minau gadw f' arian.' 'Usuriaeth ac ocraeth y geilw y Beibl beth fel yna,' meddai'r bachgen. 'Surieth ac ocreth, ne beth bynag y gelwir o, mae o'n beth digon teg a chyfiawn wrth bob rheswm,' meddai Harri.
Yr ydych wedi myn'd oddiwrth y pwnc,' ebe un o'r bechgyn eraill, 'son yr oeddym am achos Mary Evans:—pa un a fyddai'n iawn iddi hi sy'n proffesu crefydd briodi dyn digrefydd, fel Mr. Watkin, dyna oedd y pwnc. 'Rydw i wedi setlo'r pwnc hwnw o'r blaen,' ebe Harri, 'mae synwyr pob dyn yn deyd bydde'n ffol ac yn bechadurus ynthi wrthod y fath fantes.' 'Ond bwriwch fod addewid priodas rhyngddi â rhywun arall,' atebai'r bachgen, 'a fyddai 'n iawn iddi dori'r addewid hono, er mwyn y fantes?' 'Bydde, tase hi wedi addo ganwaith, a bwrw 'i bod hi'n cael cynig ar well ''match,'' ebe Harri; ac ychwanegai, 'Yr oedd hen wr y Tŷ Celyn yn siarad fel ffwl heno. Ond 'roeddwn inau'n gwel'd rhywbeth yn y pethe oedd o'n ddeyd am wisgo menig, a chario umbrello hefyd rhoi siampal ddrwg i hogie a hogenod yr ardal yma ydi peth felly: mi fydd ar bob hogyn a hogen eisio menig ac umbrello bellach, gewch chi wel'd; balchder a gwastraff ydi peth felly. Mi roiswn inau fy llais trost droi Mari Ifan o'r seiat am neud peth felly,' ac felly terfynodd yr ymddyddan.
'Doethineb y byd hwn ydyw crefydd Harri i gyd,' sylwai un o'r bechgyn wedi iddynt ymadael âg<noinclude><references/></noinclude>
a0f1w0nhpwl7bw3pjfxzf1v0widcew2
169859
169857
2026-08-09T22:03:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169859
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef. 'Onid iawn y gelwir ei enw ef, Bydolddoethyn,' meddai un arall. Y mae Harri yn fwy bydol na'r byd ei hun,' meddai y trydydd—'O'r byd y mae efe, am y byd y mae'n llefaru, ac yn y byd y mae ei galon.'
Yr oedd crefydd Harri yn codi ac yn gostwng gyda'r byd; bob amser os cai gynhauaf da, a phrisiau da ar yd ac anifeiliaid, byddai yn wresog iawn gyda'i grefydd. Ar y tymhorau hyny, fe ganai â'i holl egni, a'i law ar lechwedd ei ben, yn y cyfarfodydd crefyddol. Ni ddeuai yn agos i gyfarfod diolchgarwch am gynhauaf, pan na chaffai gynhauaf wrth ei fodd. Pan fyddai prisiau moch a defaid ac anifeiliaid eraill yn isel, byddai yntau dros ei ben yn ei ''stranks''. Anaml iawn y gwelid ef yn y capel mewn un cyfarfod, ac ni cheid na chân na cheiniog ganddo, ond edrychai mor surllyd a bwch. Cafodd adnewyddiad go hynod ar ei grefydd ar ol hir ddirywiad felly un tro. Yr oedd wedi bod yn amser go galed ar ffarmwyr er's cryn dymhor, a Harri yn methu gwneud bargen mewn dim. Yr adeg hono, aeth i ffair anifeiliaid oedd i fod yn y dref gyfagos un diwrnod, ac ar y ffordd, goddiweddodd wr oedd yn myned a phedwar neu bump o fustych i'w gwerthu. Aeth yn ymddyddan rhyngddynt â'u gilydd ar galedi yr amser. Areithiodd Harri'n ddoniol ar y pwnc hwnw. Gofynodd yn y man, beth oedd y gwr yn feddwl gael am y bustych. 'Hyn a hyn, fel a'r fel,' ebai'r gwr. 'Druan ohonoch, ebe Harri, 'y mae amser y pris yna wedi myned heibio, ni welwch chwi mo hono fo heddyw, beth bynag, os gwelwch chi o byth. Mi'ch cynghorwn i chi i gadw'r bustych am dipyn eto, i edrych be ddaw.' 'Dyna fuaswn i'n wneud,' ebe'r gwr, 'pe buasai gen i fodd; rhaid i mi gwerthu nhw heddyw am hyny gaf fi.' Daliodd Harri ar y gair, a chynygiodd ar y bustych yn y man, ac wedi taeru am y pris—cytunwyd. Aethant yn mlaen i'r dref, talwyd am y bustych. Deallwyd erbyn myned i'r ffair, bod amryw brynwyr o Loegr wedi dyfod i'r ffair, a chryn ofyn am fustych, a chodiad yn y pris. Gwerthodd Harri hwy drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
h7aus4q3ag2ukymn2kyx4a9ycwsi1qj
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/144
104
87875
169860
2026-08-09T22:04:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169860
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gwnaeth ddeg neu ddeuddeg punt o brofit arnynt. Yr oedd cyfarfod crefyddol yn y capel y noson hono; aeth Harri iddo yn llawn bywyd a gwres. Nid oedd diwedd ar ei ganu, dyblai a threblai bob odl, ac ambell i 'O diolch' yn gymysg a'r gân. Yr oedd pawb wedi synu, ac aml un yn dweyd ynddo'i hunan, 'Wel, y mae Harri wedi gwneud bargen dda yn y ffair heddyw, yn sicr ddigon,' ac felly yr oedd, fel y dangoswyd. Druan oedd Harri.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXIV.}}}}
HWYRACH y dylwn grybwyll bod i Harri, Cwmbere, frawd arall yn hollol o'r un ysbryd bydgarol ag ef, yn yr eglwys hono; ond yr oedd bydol ddoethineb hwnw yn gwisgo ffurf wahanol. Sion y byd a'i bethau,' y gelwid ef. Nid oedd Harri byth yn ceisio cyfrwys gelu ei fydolrwydd ef, fel y gwelsom; ond yr oedd Sion am ei guddio o'r golwg am ei fywyd. Crepa bychan, gwyneblwyd, llygadfain, oedd Sion, â llais gwanaidd, cwynfanus—tra gwahanol i Harri, yr hwn oedd yn balff o ddyn cadarngryf, eon, a garw yr olwg arno, â llais cryf a chras. Gyda'ch cened," a 'Begio'ch pardwn,' oedd moeseiriau cyffredin Sion, yn ei ymddyddanion; ond ni ofynai Harry genad na phardwn undyn byth.
Yr achos i Sion gael yr enw 'Sion y byd a'i bethau," oedd ei fynych arferiad o'r ymadrodd yn y gyfeillach grefyddol, ac yn ei ymddyddanion. Dywedai yn aml iawn ei fod yn ofni fod y byd a'i bethau yn cael gormod o'i sylw; nid am ei fod yn caru'r byd a'i bethau chwaith, pell iawn oedd ef oddiwrth hyny; nid oedd ef yn gofalu dim am y byd a'i bethau o ran hyny,
{{c|Aed y ddaear ffordd yr elo,<br>Aed i'r sawl a'i caro hi,}}
o'i ran ef; os cai ef ddigon i dalu ei ffordd trwy'r byd, dyna'r cwbl a geisiai ac a ddymunai ohono. Byddai arno ofn yn aml i fethu cyfarfod â'i ofynwyr,<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
sk0eu43gd9sbt41ywci75u14iw6a6zy
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/145
104
87876
169861
2026-08-09T22:05:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169861
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gwneud cyfiawnder â phawb, a thynu gwarth ar yr achos mawr drwy hyny; a dyna yn unig oedd yn peri iddo bryderu yn nghylch y 'byd a'i bethau.'
Yr oedd Sion yn enwog fel gweddiwr am ledaeniad a llwyddiant yr efengyl yn gartrefol a thramor; ond pan eid ato i ofyn cymhorth at unrhyw achos, gartref neu oddicartref, nid allai efe roddi dim—ni buasai dim yn fwy dymunol ganddo na chyfranu at achosion crefyddol pe buasai y moddion ganddo, ond yr oedd eisiau bod yn gyfiawn cyn bod yn haelionus. Yr oedd ganddo galon a dymuniad mor hael ag undyn ar y ddaear, yr oedd yn sicr o hyny, ond fod y moddion yn eisiau. Yr oedd ambell i adeg ar Harri pan y cyfranai at ryw achos da, y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb, ond nid oedd y fath adeg byth ar Sion; ac felly, yr oedd ambell i eithriad yn mydolrwydd ysbryd y cyntaf, ond bydolrwydd oedd ddeddf ddieithriad ysbryd yr olaf.
Yr oedd Sion wedi crafu mwy o'r byd a'i bethau' i'w feddiant na Harri, ac yr oedd ei frodyr crefyddol a'i gymydogion yn gwybod hyny; ac felly, o'r ddau, gwell oedd gan bawb Harri na Sion. Pan ofynodd y gwyr ieuainc i Sion beth oedd ei feddwl ef ar achos Miss Evans, ei ateb oedd, 'Os prioda hi y gwr boneddig yna, mae'n amlwg i mi mai er mwyn y byd a'i bethau y gwna hi hyny; a ni welais i ond aflwydd o briodasau felly erioed, ni wnaethwn i byth mo hyny beth bynag.' Pan ddywedent wrtho beth a ddywedasai Harri ar y cwestiwn, 'Ie, ie,' eb efe, gydag ochenaid, ar y byd a'i bethau y mae holl galon Harri, druan.' 'A ydych chwi yn meddwl y dylid ei diarddel hi os prioda hi Mr. Watkin?' gofynai un ohonynt. 'Na wn i'n siwr,' ebe Sion, 'ond mi wn hyn, mi ddois i allan o'r byd am nad oeddwn i'n caru'r byd a'r pethau sydd yn y byd; a mi feddyliwn i y byddai'n well i'r rhai sy'n ei garu o aros ynddo fo; a'r rhai sy wedi d'od i fewn i'r eglwys felly, fyn'd yn eu hol ato fo. Mi fydda i'n cael y mhrofiad yn cytuno â'r hen benill hwnw, "Gadawn y byd ar ol,—y<noinclude><references/></noinclude>
8ty9wvsadd4i5lc0eftjd1edboh4phh
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/146
104
87877
169862
2026-08-09T22:05:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169862
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byd y cawsom wae." Roddech chwi'ch llais tros ei thori hi allan, pe dygid ei hachos hi o flaen yr eglwys—hyny yw, os prioda hi Mr. Watkin?' gofynai un o'r bechgyn. 'Na wn i'n siwr,' ebe Sion, 'mi cynghorwn hi i fyn'd allan o honi'i hun, 'rwy'n meddwl, gan y byddai ei gwaith yn priodi Mr. Watkin yn profi ei bod hi'n caru'r byd a'i bethau yn fwy nag y mae hi yn caru crefydd a'i phethau.'
Beth debygech chwi, ddarllenwyr, a wnaethai dynion fel Harri a Sion yn awr pe buasent yn fyw, a chanddynt bleidlais i'w rhoddi mewn etholiad? Y mae yn bur hawdd i chwi ddyfalu; bargeinio am ei bleidlais, ei gwerthu i'r uchaf ei geiniog, os cawsai gynyg a chyfleusdra, wnaethai Harri, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod, a thaeru dros gyfreithlondeb y weithred ar ol darfod. Yr un peth yn union a wnaethai Sion yntau, ond nid yn yr un dull. Iuddew yn y dirgel, a fuasai Sion. Daliasai ar ei gefn am y pris uchaf am ei bleidlais hyd yr eithaf, ond cymerasai y gofal mwyaf i gadw y peth yn guddiedig oddiwrth bawb; mewn gair, gwnaethai y ddau yr un peth, bob un yn ei ffordd ei hun, ag a wnaeth lluaws yn Nghymru wedi hyny, sef gwneud aberth o'u cydwybodau a'r egwyddorion a broffesent rhag ofn colli rhyw fudd neu fantaisa dybient fyddai mewn perygl pe pleidleisient yn unol â'u proffes; gwell ganddynt fradychu ac aberthu cydwybod, druan, na pheryglu unrhyw fantais fydol. Dywediri mi fod cryn luaws o aelodau a swyddogion eglwysig perthynol i'r naill enwad a'r llall o Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth, o'r brodyr hyn i Sion a Harri. Carwn allu gwthio fy nodwydd at y crai i'w cydwybodau, os oes y fath beth a chydwybod yn y fath ddynion a allant wneud y fath beth.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXV.}}}}
Ar ol i'r gwyr ieuainc fod gyda'r ddau fydolddyn, Harri lygad y fargen,' a 'Sion y byd a'i bethau,' <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
5vu8jt4oyuu1gsa5uzva17p4mvdy7tq
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/147
104
87878
169863
2026-08-09T22:06:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169863
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwedl hwythau, aethant un noson at Ffyddlon a Gobeithiol hwythau i ofyn eu meddyliau ar achos Miss Evans. Teimlo yn bur ofnus a gofidus yn yr achos yr oedd Ffyddlon, ond yr oedd Gobeithiol yn bur galonog. Ofnai y cyntaf bod yr eneth wedi dyrysu am byth, a chwynai y golled fawr oedd am dani yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn yr Eglwys; ond hyderai y llall bethau gwell am dani. Yr oedd gan Gobeithiol adnodau, rhai o'r Beibl a rhai o'i wneuthuriad ei hun, a ddefnyddid ganddo ar bob achos anmheus o'r fath, megis—' Y mae cariad yn gobeithio pob dim.' 'Na fernwch ddim cyn yr amser.' 'Amser a ddengys.' 'Gobeithiwch y goreu, nes bo raid i chwi gredu y gwaethaf.' 'Peidiwch a dweyd wrth neb eich bod yn myn'd i farw, nes y bo chwi wedi marw,' a'r cyffelyb. 'Mi ddaw'r eneth allan o'r brofedigaeth gan iached a'r gneuen, gewch chwi wel'd,' eb efe. 'Amen,' meddai Ffyddlon, 'ond ofni'r gwaethaf yr wyf fi.' 'Dyna'r gwahaniaeth sy rhyngoch chwi a finau, frawd,' eb y llall, 'yr ydych chwi yn edrych ar yr ochr dywyll i'r cwmwl yn wastad a minau ar yr ochr oleu. "Ni wel neby goleuni disglaer sydd yn y cymylau, ond myned y mae'r gwynt a'u puro hwynt," medd un o gyfeillion Job. Mae goleuni disglaer yn y cwmwl du yma yn siwr i ti, frawd, a mi ddaw awel o wynt i'w chwalu fo ac i'w buro fo cyn hir, gei di wel'd.'
'A oes neb ohonoch yn clywed dim am yr eneth, p'le mae hi?' gofynai Ffyddlon, 'y mae'n rhyfedd gen i os nad yw ei chyfeillesau, merched yr Hafod, yn clywed oddiwrthi.' 'Os ydynt, y maent yn cadw y cwbl iddynt eu hunain mor ddyogel ag y mae angau yn cadw ei gyfrinach,' ebe un o'r bechgyn, 'a Bob yr un modd; y mae o yn cymeryd arno, beth bynag, na wyr o ddim yn y byd o'i hanes hi.'
Gellir yn hawdd ddeall fel yr oedd amgylchiad o'r fath yn creu y fath ddyddordeb, ac yn peri y fath siarad am dano, mewn ardal annghysbell a neillduedig<noinclude><references/></noinclude>
hycx4mnv05og68k7uv0e01fp6gnviny
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/148
104
87879
169864
2026-08-09T22:21:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169864
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y fro hono. Nid oedd na chyhoeddiad misol na newyddiadur yn ymweled â'r fangre; Beibl Peter Williams, ac Almanac Sion Robert o Gaergybi, oedd yn gwneud i fynu lyfrgellau crefyddwyr yno, gan mwyaf. Yr oedd y bobl yno yn bobl lonydd a diofal, heb fawr o negesau rhyngddynt â'r byd o'u hamgylch, amgen cyfnewid nwyddau yn y ffeiriau a'r marchnadoedd cylchynol. Ymdrechai pob un elai i ffair neu farchnad gasglu cydaid o newyddion i'w dwyn adref i'w deulu a'i gymydogion, drwy holi pob un a gyfarfyddai âg ef o ardaloedd eraill, 'Pa newydd sy acw?' Yr oedd Miss Evans, gan hyny, gallech feddwl, yn cynhyrchu rhyw ddyddordeb rhyfedd mewn ardal felly. Dychymygid a thaenid pob math o chwedlau am dani; un oedd ei bod wedi agor ysgol yn Nghaerlleon; un arall, ei bod wedi marw; ac un arall, yr hon a gredid yn fwyaf cyffredinol, ei bod wedi priodi â Mr. Watkin, a bod y ddau wedi myned ar daith i'r ''gwledydd pell'', fel y dywedid. Yn y cyfwng hwn, daeth gwr ieuanc, mab i amaethwr yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn gwasanaethu gyda masnachwr yn Nghaer, adref ar ymweliad â'i deulu. Cyrchai y cymydogion ato i holi a wyddai ddim o hanes Mary Evans, yr hon y tybid ei bod yn y ddinas hono; ond ni chlywsai hwnw air o son am y stori nes y daethai adref. Yr oedd Robin y Glep yn awyddus i adrodd yr holl chwedlau a glywsai ac a ddyfeisiasai am Miss Evans wrtho. Yr oedd y gnofa wyllt yn mol Robin am gael gafael ar ryw chwedl newydd i fod yn ''stock-in-trade'' iddo. Yr oedd y bachgen yntau yn dipyn o wàg, a thybiai y gallasai wneud ''fun'' o Robin. Un tro pan alwodd Robin gydag ef, cymerai bapyr newydd yn ei law, yr hwn, meddai, a dderbyniasai o Gaer y dydd o'r blaen. 'Wel, y mae gen i newydd am Mary Evans i chwi heddyw.' 'Oes yn wir! oes yn wir! Bendith a'ch c'lyno chi, gadewch i ni gael o beth bynag,' ebe Robin gan rwbio'i ddwylaw. 'Hwyrach mai gwell fyddai cymeryd yn ddystaw<noinclude><references/></noinclude>
i2dayyg46hu63udagzs2r60uu7l58mw
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/149
104
87880
169865
2026-08-09T22:23:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169865
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar y mater, nes clywer yn mhellach,' meddai'r bachgen: O, na'n wir, deydwch o, beth bynag, sonia i air wrth neb am dano fo.' 'Wel, waeth gen i mor llawer,' ebe'r llall, gan ei fod o wedi ei gyhoeddi yn y papur newydd, 'dall fod dim drwg am ei ddweyd 0.' Siwr iawn, siwr iawn,' ebe Robin.
Yna cymerodd y bachgen arno ddarllen yr hysbysiad am briodas Mr. Watkin a Miss Evans allan o'r papur. 'Nid wyf fi yn deall gair o Saesneg,' meddai Robin, 'a fyddwch cystal a'i roid o yn Gymraeg?' 'Wel sylwedd y peth ydyw hyn:—Priodwyd ar y dydd a'r dydd, yn Eglwys St. Alexander Coppersmith, gan y Parch. Demetrius Silversmith, rector y lle, E. Watkin, Esq, o {{bar|2}}, a Miss Mary Evans, o'r un ardal.' Cododd Robin ei ddywlaw mewn syndod. 'Wel, rhaid i fod o'n wir, gan i fod o mewn preint,' meddai, 'ni chredis i ddim tan heddyw y base Mr. Watkin yn ei phriodi hi; ond waeth tewi bellach. 'Newch chi roi'r papur yna i mi?' gofynai. O, na, meddai'r bachgen, 'y mae arnaf ei eisiau.' 'Rhowch i fenthyg o am ddiwrnod neu ddau ynte.' 'Na, yr wyf yn myned yn fy ol y prydnawn heddyw,' oedd yr ateb. Da chwi, 'sgrifenwch i mi 'rhyn ddaru chi ddarllen,' ymbiliai Robin. Mi allaf wneud hyny,' ebai yntau, ac ysgrifenodd yr hyn y cymerasai arno ei ddarllen, a dododd ef iddo. Dododd y Coppersmith a'r Silversmith, yn lle y Gof Copr a'r Gof Arian, i fwrw hug dros lygaid Robin, rhag iddo ddeall mai cellwair oedd. Aeth Robin ymaith wedi cael gwledd i'w enaid tlawd, er nad oedd y stori i gyd wrth ei fodd; ond yr oedd ganddo stori i'w thaenu. Penderfynodd alw gyda'r gweinidogion yn y Plas yn gyntaf man. Cyfeiriodd ei gamrau tuag yno, ac adroddodd y chwedl wrthynt, gan dynu allan ei awdurdod. Cymerodd un o'r morwynion y papuryn i'w meistres. Deallodd hono y tric, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes, am daenu chwedlau o'r fath hono am ei mab<noinclude><references/></noinclude>
8mi10ai126kfpkh3iz0vgxp5t14ptk7
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/150
104
87881
169866
2026-08-09T22:24:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169866
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi—galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau. Diangodd Robin am ei hoedl, a'r ''coachman'' ar ei ol, gan glecian ei chwip arno. Cyrhaeddodd un fflangelliad ar ei war, a Robin yn gwaeddi Mwrdwr; a mawr oedd yr helynt, y cwn yn cyfarth, yr ieir a'r gwyddau yn crugleisio am yr uchaf gan y dychryn a barasai y terfysg iddynt, a'r gweinidogion ar dori ar eu traws gan chwerthin, wrth weled Robin yn ffoi, a'r ''coachman'' yn ei erlid, a gorchfygwyd yr hen wraig foneddig ei hun gan chwerthin hefyd, yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.
Fodd bynag, cafodd Robin ei bapur yn ol; ac wedi dyfod ychydig ato ei hun, aeth o amgylch y gymydogaeth i'w ddangos, a thaenu y chwedl: ac yr oedd yn mron bawb yn coelio'r stori, gan ei bod wedi ei chodi o'r papur newydd, fel y credent. Ni wneid un sylw o chwedl o'r fath mewn un ardal o Gymru yn y dyddiau presenol, pan y mae addysg a gwybodaeth yn agor ac yn diwyllio meddyliau y bobl. Yr oedd y natur ddynol yn yr ardal hono, a llawer o ardaloedd eraill yn y dyddiau hyny, yn ei symledd diniwed, yn agored i dderbyn a chredu pob chwedl, yn enwedig pob peth y dywedid ei fod wedi ymddangos mewn print, chwedl hwythau. Nid oedd dim yn rhy anferth ac anhygoel i'w gredu, ei fod gan wired a'r pader, os sicrheid ei fod mewn print. Y mae anwybodaeth yn elwa bob amser, 'a'r ehud a goelia bob gair.'
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXVI.}}}}
Y DIWEDD—Ie, y ''diwedd'', ac y mae diwedd i bob peth, i bob amcan, a phob stori dan yr haul, ac felly i'm stori inau.
Yn union wedi'r ffrwgwd yn y Plas, gyda Robin y Glep, fel yr adroddais yn y benod diweddaf, collwyd
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
ij1j6csnt0zbxzwpxaa0p9dkqnm58on
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/151
104
87882
169867
2026-08-09T22:25:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169867
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bob yr Hafod o'r gymdogaeth; wedi i rai dyddiau fyned heibio, wrth weled nad oedd hanes am dano yn dychwelyd adref aeth yn si ac yn sibrwd trwy'r fro yn ei gylch, ac yr oedd llawer o wahanol opiniwnau ar y mater. I Nerpwl yr aethai, meddai rhai, i ymsefydlu yn Gigydd yno; aethai i ffwrdd o'r wlad i America, meddai eraill, oherwydd darfod i Miss Evans ei siomi, a disgynai ffrewyll tafodau yn drwm iawn arni hi o'r achos; canys yr oedd Bob yn wr ieuanc ag yr oedd pawb yn yr ardal yn hoff ohono. Ar ol Miss Evans i'w phriodi hi yr aethai yn sicr, yn marn eraill. Yr oedd Robin y Glep yn ddigon sicr ei bod hi wedi priodi Mr. Watkins, a bod Bob, pan ddeallasai hyny, wedi teimlo cymaint, fel y rhoisai derfyn ar ei einioes. Yr oedd ef (Robin) wedi clywed fod gwr ieuanc yr un fath a Bob'yn union yn mhob peth yn ol y disgrifiad a roid ohono, wedi taflu ei hun o'r cwch i'r afon rhwng Bagillt a Parkgate, wrth groesi, dranoeth wedi'r diwrnod y gadawsai Bob gartref, ac nid oedd yr anmheuaeth lleiaf ar feddwl Robin, nad Bob oedd o.
Un diwrnod, yn nghanol y berw hwn, pwy a wnaethant eu hymddangosiad ond Bob, a Miss Evans gydag ef, nid yn Miss mwyach, ond yn Mrs.—! Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy y gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod, yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi yn gelwyddog. Nid oedd neb yn fwy llawen ar yr achlysur dedwydd na Huw, fy hen Feistr, ond hen wr yr Hafod, yr oedd ef yn barod i neidio o orfoledd. Cofleidiai a chusanai ei ferch yn nghyfraith dan chwerthin ac wylo yr un pryd. Yr oedd yr hen wraig hithau yn llawen ynddi'i hun, ond nid oedd am ddangos hyny. 'Bob,' ebai hi'n sychlyd, 'rhaid i ti gymeryd gofal am dy wraig, neu fe'i dwg dy dad hi oddiarnat ti.' 'Rhaid i chwithau gymeryd gofal am eich gwr,' ebai Bob.
Yr oeddwn ia Huw yn digwydd bod yn yr Hafod yn gweithio y diwrnod dedwydd hwnw. Ebai Huw<noinclude><references/></noinclude>
ez5grhynfjvn8qb0wngbishi0vicus3
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/152
104
87883
169868
2026-08-09T22:26:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169868
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y man, 'Mae genyf fi waith sobr i'w wneud mewn canlyniad i hyn.' 'Beth yw hwnw?' oedd yr ateb. 'Dywedodd Robin wrthyf dro yn ol y cawswn dori ei ben, os priodai Robert a Miss Evans, byth.' 'Tor ei ben o—tor ei ben o,' ebe'r hen wr, 'mi wneist waeth gwaith lawer tro.' 'Dacw Robin yn myn'd heibio ar y ffordd yna'r mynud yma,' gwaeddai un o'r merched. Neidiodd Huw oddiar y bwrdd, a chipiai'r fwyall oedd dan y drestl, ac allan ag ef, a galwai ar ol Robin, ac allan a minau ar ei ledol. 'Aros Robin,' gwaeddai Huw, 'mae arnaf eisiau siarad â thi.' 'Be sydd arnoch eisiau gen i?' gofynai Robin. 'Eisiau dy ben di,' ebe Huw, 'oni ddeydest ti y cawn i dori dy ben di, os priodai Bob a Miss Evans?' 'Na ddeydes i 'rioed y fath beth,' ebe Robin, yn ddychrynedig. 'Nid yw ddim ''use'' i ti wadu,' meddai'r llall, 'mae gen i ''witness'' dy glywed ti'n deyd; mi ro i ti bum mynud i ddweyd dy bader, tra byddwi'n hogi'r fwyall yma.' 'Mi gewch chithe'ch crogi,' ebai Robin. Fy nghrogi am dori dy ben dir' meddai Huw, 'pwy nghrogith i? Mi fydda'n debycach o lawer o gael tal da am y gwaith.' Edrychai Huw mor ddigofus a difrifol, fel y credai Robin ei fod yn benderfynol o wneud y gwaith. 'Gna'r gore o'r chydig amser sy genyt ti,' eb efe, dan hogi y fwyall. Cymerodd Robin y goes ar hyn, a Huw ar ei ol, a minau yn chwerthin. Edrychai Robin drach ei gefn weithiau, a gwelai ei fod yn enill tir ar Huw, a rhoddai hyny nerth adnewyddol yn ei aelodau. Safodd Huw toc, wedi ei orchfygu gan chwerthin, a gwaeddai ar ol Robin, 'Mi ddo i ar dy draws di eto ryw ddiwrnod gei di wel'd.'
Cyn pen ychydig wythnosau wedi'r pethau hyn, dychwelodd Mr. Watkin yntau adref. Sylwai pawb fod cyfnewidiad mawr ynddo: yn lle'r ysgafnder a'r hoewder a'i dynodent bob amser o'r blaen, yr oedd dwyster a difrifwch yn ei holl ymddygiad. Yr oedd gwir yn y chwedl ddarfod iddo fyned ar ol Miss Evans, bu yn daer iawn arni ei briodi; ond wedi<noinclude><references/></noinclude>
poy7r0yd5d6jzcyx6yt01qdg41qjcsz
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/153
104
87884
169869
2026-08-09T22:27:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169869
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweled nad oedd gobaith iddo lwyddo, aethai i Lundain i dreulio amryw wythnosau; a bu ar ymweliad â hen gyfeillion yn y naill fan a'r llall, yn treulio peth amser. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddychweliad adref, galwodd yn yr Hafod Ganol i ofyn am helynt y teulu. Yr oedd Robert, y gwr ieuanc, yn digwydd bod yno gyda'i wraig ar y pryd. Ymddygai ef a Miss Evans (gynt) tuag at eu gilydd, fel pe na buasai dim neillduol wedi bod rhyngddynt erioed; ond gwaith lled anhawdd oedd hyny iddynt; a gwaith nad allasai neb dan yr amgylchiadau ei wneud ond meddyliau wedi eu dysgyblu a'u coethi yn dda gan addysg a boneddigrwydd. Tra ethai y boneddwr ei ddymuniadau goreu am hir oes a llwyddiant i'r pâr dedwydd; ond yr oedd rhyw beth yn ei lais ac yn ei lygad yn arwyddo y dymunasai ei fod ef ei hun yn y sefyllfa yr oedd Bob ynddi.
Wedi'r cyfarchiadau, dywedai yn y man: 'Yr oedd arnaf eisiau eich gweled, Robert, ar fater o bwys i mi, ac fe allai i chwithau hefyd. Chwi a wyddoch fod yr Hendre Goediog (ffarm ar gyffiniau y Plas) yn dyfod yn rhydd, y tenant yn ymadael, ac yr oeddwn wedi meddwl am i chwi gael y cynyg cyntaf arni.' 'Diolch yn fawr i chwi, syr,' ebe Bob. Yr oeddwn wedi meddwl am ddyfod atoch i ofyn y ffafr, oni bai 'ie, hym,' eb efe dan gochi at ei glustiau. Buasai agos iddo ollwng y gair allan; ac felly fuasai, ond fel y darfu i amnaid oddiwrth ei wraig ei atal. Deallodd y boneddwr beth oedd yn ei feddwl, ond ni chymerodd arno ddim. Y mae yn dda genyf,' eb efe, 'bod ar fy llaw wneud y gymwynas i chwi; ond y mae genyf beth arall. Y mae fy mam wedi penderfynu myned i fyw i Cheltenham; ac yr wyf finau yn bwriadu gadael cartref am rai blynyddau fe ddichon ar ymdaith i'r Aipht a Palestina, ac felly byddwn yn tori i fynu ein hestablishment yma. Yr wyf wedi gosod y Plas a'r parc i foneddwr o Loegr, ar ''lease'' o bum mlynedd; yr oeddwn i a'm stiward yn methu cyd-dynu yn dda<noinclude><references/></noinclude>
ks9tmhh89rmh49hcpyqpku7aj1blofd
Tudalen:Helyntion bywyd Hen Deiliwr (IA helyntionbywydh00reesgoog).pdf/154
104
87885
169870
2026-08-09T22:27:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169870
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bob amser, rhoddais rybudd iddo i ymadael; ac os cymerwch chwi y lle, bydd yn dda genyf. Ni wn am neb arall y byddai genyf cystal ymddiried ynddo.' Prin y gallasai'r ddau, Robert a'i wraig, goelio eu clustiau. Daethant i gytundeb. Cymerodd Robert yr Hendre Goediog, ac arolygiaeth yr ''estate''. Bu y ddau fyw yn barchus a dedwydd yn Hendre Goediog am lawer o flynyddoedd; bu iddynt bump o blant, tri mab ac un ferch. Yr oedd Robert fel cymydog ac arolygwr yn hynod barchus gan ei gymydogion a'i denantiaid, ac yr oedd hithau yn nodedig felly gan bawb. Byddai ar y blaen bob amser gyda phob achos da, crefyddol a dyngarol. Yr oedd bendithion y tlodion a'r rhai anghenus yn disgyn yn gawodydd ar ei phen; a disgynai eu dagrau yn gawodydd i eneinio ei bedd, wedi ei chladdu. Y mae yr holl genhedlaeth hono agos oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Nid oes yn aros ond ychydig iawn, un yma ac un acw, o'm cyfoedion i fy hun. Ni bu hen bobl yr Hafod Uchaf byw ond ychydig flynyddau ar ol priodas Bob a Miss Evans; bu farw ei thad a'i mham hithau yn fuan ar ei hol. Priododd chwiorydd Bob âg amaethwyr parchus o'r plwyf nesaf atynt, a daethant yn wragedd parchus, da eu gair yn y wlad, ac yn famau yn Sion.
Am fy hen feistr Huw, bu ef byw i oedran teg, a bu farw yn Gristion cywir, yn ol pob argoelion. Robin y Glep yntau a fu farw. Cyn i Huw dori ymaith ei ben, torodd angau ar ei glep, er yr haerai Tomos y Gof ei fod ef yn sicr na allasai Robin byth ymatal oddiwrth ymlid chwedlau yn y bedd.
Dychwelodd Mr. Watkin adref yn mhen y pum mlynedd, ac ymsefydlodd yn hen drigfa ei henafiaid.. Ni phriododd byth—bu farw yn wr canol oed. Yr oedd yn foneddwr parchus iawn, ac nid heb arwyddion ei fod yn ddyn yn ofni'r Arglwydd. Bu yn gyfaill ffyddlon i Robert a'i wraig hyd y diwedd; ac ar hyn dyma finau yn terfynu.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
eqk7cb6kl4anpg8urhingr0auvq2gpm
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/1
104
87886
169872
2026-08-09T22:38:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169872
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|HELYNTION}}}}
<br>
{{c|{{Mmm-mawr|BYWYD HEN DEILIWR.}}}}
<br>
{{c|{{bach|GAN Y}}}}
<br>
{{c|{{Mm-mawr|PARCH. W. REES, D.D.}}}}
<br>
<br>
{{c|Liverpool:<br>ARGRAFFWYD GAN I. FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET.<br>1877.}}
<br>
<br>
<br>
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nr5cfjf35pyyo4xofihtr6h65fa07zj
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/2
104
87887
169874
2026-08-09T22:38:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169874
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/3
104
87888
169875
2026-08-09T22:39:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169875
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGYMADRODD.}}}}
''Ar ol i mi ysgrifenu y gair Rhagymadrodd, nid oes genyf yr un Khagymadrodd i'w wneud, ond cymaint a hyn:—Fy mod yn cyflwyno y llyfryn hwn o Hanes fy Mywyd (cynwysiad yr hwn a ymddangosodd yn y Tyst gynt) i sylw a derbyniad pob HEN DEILIWR o fab pumtheng-mlwydd-a-deugain ac uchod drwy Gymru benbaladr, a phob Teiliwr a phob dyn arall, o ba oedran bynag y bo, a ewyllysio ei brynu a thalu am dano, gan ddymuno iddynt ddifyrwch a budd wrth ei ddarllen.''
:RHEN DEILIWR
::MEHEFIN 7, 1877.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qbhnxgfxujha2mul7ydzw5r8et8mjn4
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/4
104
87889
169876
2026-08-09T22:39:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169876
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/5
104
87890
169879
2026-08-09T22:41:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169879
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|HELYNTION}}<br>{{Mmm-mawr|BYWYD HEN DEILIWR.}}}}
{{c|{{mawr|Penod I.}}}}
HEN Deiliwr, a Hen Deiliwr o ganol gwlad ydwyf, yn arfer myned o dŷ i dŷ i gyflawni dyledswyddau fy ngalwedigaeth, ac felly wedi gweled llawer o'r byd yma yn y cylch y bum i yn troi ynddo. Y mae gan deiliwr yn y wla wlad fwy o fantais i wybod dirgelion cymdeithas nag un crefftwr arall. Y mae'r gof yn gwneud ei waith ef ar aelwyd ei efail ei hun gartref; a dyna y saer yntau, er ei fod yn myned o gwmpas o dŷ i dŷ fel y teiliwr, allan o'r tŷ y mae o'n gwneud ei waith; ond y mae'r teiliwr gyda'r teulu i mewn—yn nghymdeithas y gwragedd a'r merched, yn gweled pob smic, ac yn clywed pob gair a ddywedir, ac fe ddylai ef fod yn dipyn o ''philosopher'' go lew yn hanes y natur ddynol, yn ol y manteision. a rydd ei alwedigaeth iddo.
Ond dylwn ddweyd i chwi fy mod yn ddiweddar wedi ''retirio'' oddiwrth y nodwydd, a'i rhoi hi a'r siswrn, a'r labwt, a'r bwtcin, a holl offerynau y grefft, i gadw. Ni choeliech chwi ddim mor chwith oedd genyf feddwl fy mod yn gadael yr hen grefft, pan oeddwn yn diosg fy arfogaeth, ac yn ei rhoddi i gadw am byth. Methais yn deg ag atal tori allan i wylo—'Wel, hen gymdeithion fy mywyd,' meddwn, 'dyma y dydd wedi dyfod i ni ymadael â'n gilydd. Dyma dymhor ein cydymdeithio wedi dyfod i ben. Troş ddeng mlynedd a deugain y buom gyda'n gilydd, ond wele yr amser maith hwn wedi myned heibio—<noinclude><references/></noinclude>
n2x3muehoz2ocagvjzjpvym0wohw5g5
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/6
104
87891
169880
2026-08-09T22:41:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169880
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi myned heibio! Nid yw ond fel ddoe genyf feddwl am y diwrnod pan aethum yn hogyn deuddeg oed yn brentis at Huw Prys, Tan y Wal, er fod mwy na haner cant o flynyddoedd er hyny. Cei di, y nodwydd, gysgu yn dy bincws o hyn allan. Llawer cenedlaeth o nodwyddau a dreuliwyd ymaith yn fy llaw er pan ymaflais yn y gyntaf hyd, tydi, yr olaf. Gwisgodd aml i siswrn allan hefyd, o'r un cyntaf hyd y diweddaf; ond chwychwi, yr wydd a'r labwt, a ddaliasoch ati o'r dechreu hyd y diwedd; cludais chwi dan fy nghesail o dy i dy drwy'r broydd hyd yr holl flynyddoedd hyny. Ni syrthiasom allan â'n gilydd erioed, ond rhaid i ni ymadael â'n gilydd yn awr Yr ydwyf fi wedi myned yn rhy hen ac yn rhy garbwl i ddal ati yn hwy, a rhaid i bobol y dyddiau yma gael dyn ifanc o deiliwr, yn deall y ''cut'' a'r ffasiwn, siwr; ni thâl hen grefftwr fel y fi ddim yn y byd ganddynt, fel y mae nhw ffola, druain. Wel, wel, hen gymdeithion fy mywyd, mi a'ch cadwaf yn barchus tra byddwyf fyw, ac mi gymera ofal na chaiff yr un teiliwr arall gyffwrdd â chwi byth. Gorphwyswch mewn heddwch.' Fel yna y bum yn traethu uwch eu penau wedi i mi eu gosod yn y bocs i gadw, ac yn wir nid ychydig o ddagrau a ollyngais i'w heneinio cyn cau arnynt; ac, a dweyd y gwir i chwi, yr wyf yn cael gwaith peidio wylo y fynud yma wrth ysgrifenu yr adgofion hyn. Chwerthin am fy mhen i fel ffwl a wna llawer un, hwyrach, wrth ddarllen peth fel hyn. Wel, chwarddan nhwthe, nid yw o bwys genyf fi; wylo sydd ar y nghalon i, beth bynag. Y mae Adgofion Bywyd Hen Deiliwr profiadol yn bethau difrifol a dyddorol iawn, yn siwr i chwi iddo ef ei hun, beth bynag. Teiliwr yn y wlad wyf yn feddwl, cofiwch, ni ŵyr teilwriaid y trefydd ddim yn y byd am dani.
Cyn myn'd yn mlaen ymhellach, goddefwch i mi ddweyd nad yw y Teiliwr yn cael y parch ddylai fo gael yn y byd yma—yn ein byd ni yn Nghymru,<noinclude><references/></noinclude>
pd17qud3xjup8nvt9de64ovo4ehutz3
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/7
104
87892
169881
2026-08-09T22:43:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169881
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>beth bynag. Gobeithio fod pobol bydoedd eraill, neu ranau eraill o'r byd hwn, yn gallach yn y peth yma o leia' nag ydyw'n pobl ni. Os bydd rhywun salach na'i gilydd mewn ardal, yr hen deiliwr tila,' meddant am dano; 'tydio'n ffit i ddim byd ond i fod yn wr bonheddig, neu deiliwr, neu berson'; 'yn deiliwr y dylase fo fod;' a geiriau cyffelyb glywais i ganwaith, fel pe bai'r teiliwr yn rhyw salach stwff na rhyw greadur arall. Yr wyf fi, yn enw yr holl frawdoliaeth deilwraidd trwy Gymru a'r byd, yn protestio yn erbyn pob syniad o'r fath yna. Yr wyf yn cofio'n dda, yn amser rhyfel Bonaparte, lawer blwyddyn yn ol bellach, i lencyn o'n hardal, a elwid Huwcyn y Teiliwr, ''enlistio'' i'r fyddin, a mawr oedd y son a'r synu at y peth—teiliwr yn myned yn sowldiwr! Glywodd neb erioed son am y fath beth! A meddai un coeglanc, 'Mae hi wedi myn'd i'r pen ar Boni druan rwan, mi fydd Huwcyn y Teiliwr yn siwr o roi pwyth iddo fo, cyn sicred a'i fod o yn Boni ; a synwn i ddim na ladde fo bob Ffrencyn o honyn nhw cyn y daw o yn ei ol. Mae o wedi myned a gwerth coron o nodwyddau yn ei boced i wnio'u crwyn nhw.' <nowiki>'</nowiki>''Spike'' y burgyn,' chwedl yr hen Berson Llwyd, oedd hynyna i gyd. Ond a'i chymeryd hi ar y tir yna rwan, mi fentrwn i fyn'd a byddin o ddeng mil o deilwriaid i'r maes yn erbyn deng mil o unrhyw ddosbarth arall o ddynion, ac yr wyf yn o siwr y curem hwy hefyd.
Peth arall, beth a ddeuai o'r byd heb y Teiliwr Onid efe sy'n gwisgo'r byd â dillad? Byd noeth, llwm, barbaraidd, fyddai'r byd yma heb Deiliwr. Beth fyddai deunydd dillad o werth heb y dilledydd? Ni fyddai ond ynfydrwydd i chwi fyn'd â chorn o frethyn i'r efail at y gof, nac i siop y saer, chwi wyddoch o'r gore. Y Teiliwr sydd yn harddu, yn cynhesu, ac yn coethi'r byd; ei swydd ef mewn gwirionedd yw yr un bwysicaf a gwerthfawrocaf o'r cwbl. Mewn gair, y mae y Teiliwr yn anhebgorol<noinclude><references/></noinclude>
d3omuouy1ly1qvn4nqhlhg9xhn8kan1
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/8
104
87893
169882
2026-08-09T22:43:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169882
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i fywyd a chysuron cymdeithas, a dylai gael pob parch ac anrhydedd gan gymdeithas, ac nid ei ddirmygu fel bod israddol. Yr wyf wedi teimlo awydd lawer gwaith i sefyll i fynu dros urdd anrhydeddus y nodwydd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod II.}}}}
Yr oeddwn yn gweled er's blynyddau Hen Ffarmwr, a Hen Ddyrnwr, a Hen Banwr, a Hen Wehydd, a hen bobpeth, yn tori ffigiwr hyd y papurau yma, minau a dybiais fod Hen Deiliwr mor deilwng a'r un hen ohonynt o gael y fraint i draethu ei feddwl, a dyna barodd imi dori trwyddi hi.
Mi a ddywedais o'r blaen fy mod wedi 'Troi y deiliwraeth, hyny feddai 'nealltwriaeth, o'r neilldu,' hyny yw, yr hyn a feddai fy nealltwriaeth gelfyddydol. Ond na thybiwch fy mod wedi gwneud digon oddiwrth lafur y nodwydd i'm cynal am yr ychydig a all fod yn weddill o'm bywyd; na, na, nid oes fawr o obaith i deiliwr yn Nghymru, druan, allu gwneud dim mwy na chael deupen llinyn bywoliaeth dlawd at eu gilydd, ryw fodd. Mi a fum wrthi'n ddiwyd, fel y crybwyllais, yn gyru ac yn tynu y nodwydd am dros ddeng mlynedd a deugain, ac yr wyf yn barnu yn gydwybodol fy mod wedi tori digon o frethyn, a ffustion, a gwlanen, a chalico, i wneud cyfar dros wyneb y lleuad, beth bynag; ac imi bwytho cymaint o edef, a thwist, a sidan, ag a wnai bellen gymaint a Moel Siabod, pe cawsai'r cwbl ei ddirwyn efo'i gilydd; a'r cwbl am dâl bychan iawn. Fe drefnodd rhagluniaeth imi wraig syber, ofalus, a chynil. Yr oedd hi, ac y mae hi eto, yn cadw tipyn o siop fechan yn y pentref, a thrwy ei llafur hi a minau, dygasom deulu o bump o blant i fynu heb erioed geisio elusen plwyf; bu yn ddigon tyn arnom lawer gwaith, ond daethom trwyddi; ac y mae ein siopan fechan yn cadw yri fywyd a chysuron cymdeithas, a dylai gael pob parch ac anrhydedd gan gymdeithas, ac nid ei ddirmygu fel bod israddol. Yr wyf wedi teimlo awydd lawer gwaith i sefyll i fynu dros urdd anrhydeddus y nodwydd.

Mi a ddywedais o'r blaen fy mod wedi 'Troi y deiliwraeth, hyny feddai 'nealltwriaeth, o'r neilldu,' hyny yw, yr hyn a feddai fy nealltwriaeth gelfyddydol. Ond na thybiwch fy mod wedi gwneud digon oddiwrth lafur y nodwydd i'm cynal am yr ychydig a all fod yn weddill o'm bywyd; na, na, nid oes fawr o obaith i deiliwr yn Nghymru, druan, allu gwneud dim mwy na chael deupen llinyn bywoliaeth dlawd at eu gilydd, ryw fodd. Mi a fum wrthi'n ddiwyd, fel y crybwyllais, yn gyru ac yn tynu y nodwydd am dros ddeng mlynedd a deugain, ac yr wyf yn barnu yn gydwybodol fy mod wedi tori digon o frethyn, a ffustion, a gwlanen, a chalico, i wneud cyfar dros wyneb y lleuad, beth bynag; ac imi bwytho cymaint o edef, a thwist, a sidan, ag a wnai bellen gymaint a Moel Siabod, pe cawsai'r cwbl ei ddirwyn efo'i gilydd; a'r cwbl am dâl bychan iawn. Fe drefnodd rhagluniaeth imi wraig syber, ofalus, a chynil. Yr oedd hi, ac y mae hi eto, yn cadw tipyn o siop fechan yn y pentref, a thrwy ei llafur hi a minau, dygasom deulu o bump o blant i fynu heb erioed geisio elusen plwyf; bu yn ddigon tyn arnom lawer gwaith, ond daethom trwyddi; ac y mae ein siopan fechan yn cadw yr<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
l6swulcc6jyytf55bwar0xv2fpkq4tv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/9
104
87894
169883
2026-08-09T22:44:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169883
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hen wraig a minau yn ein henaint yn lled gryno, ac, a dweyd y gwir, yr ydym yn lled glyd a chysurus ein hamgylchiadau yn bresenol.
Ychydig o adgofion fy mywyd oeddwn yn fwriadu ysgrifenu, a gall yr hyn sydd genyf i'w draethu fod o ryw addysg a difyrwch i ambell deiliwr ar fy ol. Y mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn y byd teilwrol, fel y sylwais o'r blaen, fel pob byd arall, er pan wyf fi yn cofio, yn enwedig yn Nghymru. Nid oes fawr o weithio o dŷ i dy fel fyddai er's talwm. Dygir y gwaith at y teiliwr yn awr, yn lle y teiliwr at y gwaith, felly nid yw teilwriaid y dyddiau hyn yn meddu cystal manteision i adnabod y byd ag oedd gan deilwriaid y dyddiau gynt. Ond yr oedd i'r manteision hyny eu hanfanteision cysylltiedig, a'r un modd y mae i'r anfanteision presenol eu manteision. Yr oedd y teiliwr y pryd hyny, mae'n wir, yn cael cyfleusdra i weled ac adnabod dull y bydnodweddau gwahanol i sonau a theuluoedd, a chlywed pob newydd a phob cyfrinach, a barnau pobol am eu gilydd trwy holl gylchoedd ei symudiadau teilwraidd. Ond wedi'r cwbl gwybodaeth isel iawn oedd y gyfryw wybodaeth, a gallai pob teiliwr ystyriol ddweyd am dani, 'Y neb a chwanego y wybodaeth hon, a chwanega ofid.' Yr oedd yn fywyd profedigaethus iawn hefyd, canys holid y teiliwr bron yn mhob tŷ am hanes y cymdogion, ac os byddai dau gymydog wedi digwydd syrthio allan â'u gilydd, tywalltai gwragedd y naill dŷ a'r llall y cwbl a fyddai ganddynt i'w ddweyd am eu gilydd i glustiau'r teiliwr pan ai i'w tai i weithio, a disgwyliai'r naill a'r llall iddo redeg yr un ffordd a hwy i redeg eu gilydd i lawr. Byddai raid heddyw yn y Tŷ Cerig redeg pobol Tan y Graig i lawr, a foru hwyrach yn Tan y Graig byddai raid iddo droi ei dôn, a lladd ar bobol y Tŷ Cerig, ac os na chytunai i wneud felly yn y ddau dy, ni chai ond wyneb surllyd a bywiolaeth wael yn y naill a'r llall tra fyddai yno. Yn sicr i<noinclude><references/></noinclude>
qbska9blptgks49pk6zoso0z08jt3gd
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/10
104
87895
169884
2026-08-09T22:45:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169884
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwi sefyllfa bwysig a pheryglus iawn oedd sefyllfa y teiliwr yn y dyddiau hyny; sefyllfa oedd yn gofyn llawer iawn o ofal, gochelgarwch, a doethineb, i gadw ei droed o'r fagl a'i ben o'r cebystr. Efe oedd y dyn pwysicaf yn ei ardal mewn gwirionedd. Byddai heddwch y cymdogaethau yn dibynu mwy arno ef nag ar un dyn arall yn y fro. Yr oedd yn cael mwy o gyfleusderau i chwythu tân cynenau, os dewisai, nac un dyn arall; neu ynte i daflu dwfr arno i'w ddiffoddi. Caf achlysuron wrth fyned yn mlaen i ddangos engreifftiau o hyn. Mae teilwriaid y dyddiau presenol yn Nghymru, oddieithr mewn ambell i ardal fynyddig, hwyrach, yn rhyddion oddiwrth y profedigaethau hyn, a dylent fod yn ddiolchgar am hyn ar y cyfan. Ond wedi'r cwbl, y mae'n chwithdod i feddwl fod hen ddefod ac arfer gwlad er dyddiau Brochwel Ysgythrog, os nad er dyddiau Abraham, yn cael ei rhoi heibio; ond myn'd heibio y mae dull y byd hwn yn ei agweddau teilwraidd fel pethau eraill. O'm rhan i, yr wyf yn cyfaddef bod yn well gan i yr hen fyd a'r hen bethau fel yr oeddynt pan oeddwn i'n llanc, cyn y railways a llawer o bethau eraill sy'n cael eu canmol fel diwygiadau, na'r byd drwg presenol, canmolwch chwi faint a fynoch arno fo. Os ant ymlaen efo'u diwygiadau y deugain mlynedd nesaf fel y deugain diweddaf, mi fyddant wedi diwygio pob peth i ddistryw yr wyf fi yn ofni.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod III.}}}}
Yr oedd Huw Prys yn y bumed flwyddyn ar hugain o'i deilwriaeth pan aethum i ato yn brentis; ac felly yr oedd wedi gweled a dysgu a phrofi cryn lawer o'r pethau a berthynent i ddyledswyddau swydd a helyntion bywyd teiliwr yn y wlad. Nid oedd Huw yn rhyw lawer o beth fel dyn, nac fel teiliwr; ond yr oedd yn meddu gradd dda o synwyr cyffredin—yn<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
pudtd4xfohia9x4hw7b5lll3wsfnf7e
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/11
104
87896
169885
2026-08-09T22:45:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169885
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyn distaw a thawel, sobr a gonest, a hynod o ddiwyd yn ei alwedigaeth. Yr oedd hefyd yn adnabod y byd, —sef y byd yr oedd efe yn byw ac yn troi ynddo, yn lled dda. Meddai farn go gywir, debygaf, am bob teulu y byddai yn cyniwair drwy eu plith; ond cadwai ei feddwl a'i farn yn gyfrinach iddo ei hun; rhoddai ambell i awgrym yn achlysurol am y naill deulu a'r llall, ond yn bur gynil a gochelgar; a thrwy y gochelgarwch hwn, gwaredodd ei hun fel iwrch o law yr heiliwr, rhag bod yn gyfranog mewn llawer cynhen ac ymryson a ddigwyddent yn awr a phryd arall rhwng teuluoedd o fewn cylch gweinidogaeth ei nodwydd. 'Teiliwr yr ''hit a'r miss''<nowiki>'</nowiki> y gelwid ef yn gyffredin. Gwnai ambell bâr o ddillad i ffitio i'r dim, fel y dywedai y bobl, ac ambell i un arall yn bur annghelfydd ac afluniaidd. Y clos pen glin a wisgid gan bawb—yn hen ac ieuanc, yn gyfoethog a thlawd, yn y dyddiau hyny, a hynod o anffortunus oedd Huw yn saerniaeth clos—teilwriaeth ddylaswn i ddweyd. Byddai pob un yn mron naill ai yn rhy dỳn, neu yn rhy lac, yn y glin; weithiau yn llawer rhy hir, a byddai raid iddo naill ai cyfyngu neu eangu, cwtogi neu estyn, gliniau y rhan fwyaf o glosau ar ol eu gwneud. Cyfeiliornai i'r naill ochr a'r llall bob yn ail agos yn wastad; wedi gwneud un yn rhyw gyfyng, cymerai ofal y tro nesaf i wneud y clos yn ddigon helaeth, a byddai y pryder a'r gofal hwnw yn ei yru ar gyfeiliorn yr ochr hono. Cafodd. ei ddwrdio yn chwerw, druan, lawer gwaith, oblegid ei gyfeiliornadau hyn. Byddai yn ddrwg gan fy nghalon drosto dan y triniaethau hyny; teimlai i'r byw oddiwrthynt. Ar ol cael sgwrfa felly, ni ddywedai un gair wrthyf ar y ffordd wrth fyned tuag adref yn yr hwyr. Cerddai â'i wyneb tua'r llawr, gan ocheneidio yn llwythog. Pan ddigwyddai iddo wneud clos i ffitio, ac i foddio ei berchenog, teimlai yntau yn llon'd ei glos o deiliwr, a byddai gan lawened a'r gog ar y gainc. Ond ei anffawd, druan,<noinclude><references/></noinclude>
dbjzutck4fgbgg9x4r4h1bnp6sgw1x3
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/12
104
87897
169886
2026-08-09T22:46:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169886
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd fod y ''miss'' yn digwydd yn fynychach na'r ''hit'', yn ngwneuthuriad y dilledyn hwnw yn neillduol. Cof genyf yn mhen tua dwy flynedd wedi i mi fyned ato yn brentis, ein bod yn gweithio mewn tŷ ffarm lle yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o'r deuddeg i'r deunaw oed. Gwnaed dillad y mab hynaf yn gyntaf—''coat'' o frethyn cartref, a gwasgod o stwff ty, a chlos ''worsted cord''. Wrth ffitio y dillad, cafwyd fod gliniau y clos yn llawer rhy hir a rhy helaeth, fel y bu raid datod y gwaith, a phario, a chwtogi llawer iawn arno, ac nid oedd fawr o lun arno wedi hyny. Y nesaf ydoedd hoglanc tuag un—ar—bumtheg oed, ac un tafodog trahaus oedd hwnw. Ar ol gorphen ei ddillad, galwyd arno yntau i'w gwisgo; ac och! yr oedd gliniau ei glos yn rhy gyfyng iddo o lawer. Cafodd Huw drafferth enbyd i gau y botymau; ac ar ol gorphen y ''job'',—Mi neith hwn glos da iawn—mi ddaw allan wrth ei wisgo,' eb efe; ond yr oedd y bachgen yn achwyn yn dost fod ei liniau a'i goesau yn cyffio. Aeth allan yn y man, a cheisiai redeg a neidio er mwyn stretshio gliniau'r clos; ac yn yr ymdrech, taflodd un o fotymau y glin ymaith oddiar y soced; rhedodd yn ol i'r tŷ i adrodd yr helynt :Yr oeddwn ar Gae 'r Sgubor,' meddai, 'ac wrth i mi geisio rhedeg, mi daflodd y botwm canol yma, welwch chwi, fel ergyd o wn, a mi hitiodd Robin Goch oedd yn digwydd bod o fewn seith—lath neu wyth i mi yn ei ben, ac mi lladdodd o ar y spot!' Taw a dweyd anwiredd, meddai ei fam wrtho. 'Tydio ddim yn anwiredd,' meddai'r bachgen, 'canys pytase Robin Goch, neu ryw dderyn arall yn cael ergyd y botwm yn ei ben, mi fuasai'n ddigon sicr o'i ladd!' Ar hyny, daeth y gwr i'r tŷ,—' Ni wn i beth a wnawn i'r oen llyweth ene,' eb efe; 'mae o'n tori i'r ardd o hyd, ac yn difetha pobpeth sydd yna.' 'Mi ddeuda i chwi be newch chwi iddo fo, nhad,' ebe y bachgen, 'gnewch i Huw neud clos iddo fo; mi wranta i y gwneiff Huw lindorch iddo fo, nad eiff o ddim yn<noinclude><references/></noinclude>
7e72j8xc3zbmrlueh0h429mngbvw9pi
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/13
104
87898
169887
2026-08-09T22:47:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169887
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hawdd dros yr un gwyrch wedi hyny.' Yr oedd geiriau sarhaus y bachgen yn brathu Huw fel cleddyf, ac yn enwedig chwerthin y teulu am ben ffraethineb yr hogyn. Methodd a dal y driniaeth; neidiodd i lawr oddiar y bwrdd, ac aeth allan, a bu enyd hir heb ddychwelyd. Yr oedd Huw yn feistr ar y rhan fwyaf o deilwriaid y wlad am wneud ''coat'', ac yr oedd yn cael enw a chlod am hyny trwy y fro. Anaml y methai gyda'r dilledyn hwn fel y llall; ac yr oedd yn falch ohono ei hun ar y cyfrif hwnw.
Yr wyf yn cofio un tro go ddigrif a ddigwyddodd yn achos ''coat'' a wnaethai Huw i lanc yn y gymydogaeth, yr hwn oedd â chrwb ar ei war, ac un pur anhawdd i'r teiliwr ei foddio ydoedd, yn enwedig ar ''goat''. Wedi gorphen y ''goat'', tarawodd y llanc hi am dano, ac wedi ymdeimlo âg ef ei hun ynddi am enyd, dechreuodd feirniadu arni: 'Ni thâl hon ddim byd,' eb efe, 'n surllyd. 'P'am na thâl hi?' gofynai Huw yn sychlyd. Tydi hi ddim yn debyg i ''gwat'' sut yn y byd,' ebe'r llanc. 'Tebyg i beth ydi hi?' meddai Huw. Tebyg i sach, am a wn i,' atebai'r llall. 'Mae hi cystal ''cwat'' fu erioed ar dy gefn di, ac yn llawer rhy dda i dy fath di,' ebe'r teiliwr; 'Mi 'naethwn 'i gwell hi fy hun o'r haner; mae hi yn rhy dỳn am y war,' meddai'r llall. 'Ar dy war di mae'r bai,' ebe Huw, 'mi gneis i hi i ateb i'r hyn a ddyle gwar fod, ac os nad ydi hi'n ffitio dy war di, toes gen i mo'r help.' Tynodd y llanc y ''goat'', a thoflodd hi at Huw'n ddigofus, Rhaid i chi ei haltro hi i mi,' eb efe, 'onide ro i moni byth am danaf.' 'Dos di a dy war i'w altro,' ebe Huw. Gwylltiodd y bachgen yn aruthr a heriai Huw i fyned allan i ymladd âg ef. Yr oedd mor annioddefol iddo ef i'r Teiliwr feirniadu ar ei war ef, ac oedd i Huw ei glywed yntau yn beio ar deilwriaeth y ''goat''. Cafwyd tipin o waith i berswadio'r ddau i beidio ymladd, a digon tebyg ped aethai yn frwydr rhyngddynt mai y llanc a gawsai y gwaethaf, canys buasai Huw yn gryn ymladdwr yn myddiau ei ieuenctyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
oy998j1n0pk8mubekf2c7rpp7ootnmo
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/14
104
87899
169888
2026-08-09T22:47:46Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169888
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan aethum ato yn brentis, traddododd siars ddifrifol i mi ar fy nyledswyddau. 'Cofia di nad wyt ti ddim i siarad yn y tai, ond ateb yr hyn a ofynir i ti. Paid byth a gwthio dy big i fewniin stori; a phaid a chymeryd arnat dy fod yn gwno ar ddim fydd yn cael ei siarad gan y teulu. Paid byth a chario cleps o'r naill dy i'r llall; gollwng bob peth felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall. Paid byth ag edrych yn sur ar y bwyd roir o dy flaen di,' a llawer o gynghorion buddiol cyffelyb a gefais ganddo. Cofia di'r pethau yna,' meddai, 'er dy fwyn dy hun. Mae Teiliwr yn gwneud ei garitor yn y wlad yn nyddiau ei brentisiaeth: os ymddyga'r bachgen yn gall a distaw, mi gaiff barch ac ymddiried pobl pan ddelo'n ddyn.' Gallaswn adrodd cryn lawer am Huw; y mae yntau wedi myned i ffordd yr holl Deilwriaid er's llawer blwyddyn bellach. Heddwch i'w lwch. Dylaswn grybwyll fod Huw yn proffesu crefydd amryw flynyddoedd cyn marw, a phob arwyddion ei fod yn ddyn da.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod IV.}}}}
RHODDAIS i chwi yn niwedd y Benod o'r blaen gopi o'r gyfraith a'r gorchymynion a gawswn gan Huw Prys ar ddechreu gyrfa fy mhrentisiaeth, a than y ddeddf hono y bum i byw hyd ddiwedd y tymhor hwnw o'm hoes. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddweyd ddarfod imi gadw y gyfraith hono beth bynag i gyd oll, heb ballu mewn un pwnc. Na, yn wir, fe ddigwyddodd imi led lithro dipyn unwaith, fel y caf ddangos yn union. Profais mai cyfraith dda oedd cyfraith Huw. ac nid wyf yn anmheu na bu cofio am dani yn fuddiol imi mewn llawer amgylchiad; ac y mae genyf barch i goffadwriaeth yr hen ddeddfwr hyd heddyw. Nid oedd yn orchwyl mor anhawdd<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
528u6msvj7uqpgiow1wj72q3dr34r8x
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/15
104
87900
169889
2026-08-09T22:48:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169889
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>imi gydymffurfio â llythyren ac yspryd cyfraith Huw ag a fuasai i lawer un hwyrach, canys yr oeddwn o duedd dawedog a gochelgar yn naturiol. Ond dywedais ddarfod imi droseddu i ryw fesur un tro; ac fel hyn y bu. Yr oedd dau ffermdy cyfagos i'w gilydd, i'r rhai yr arferai fy meistr weithio, a elwid Tanybryn a Than'rallt. Digwyddodd unwaith i'r ddau deulu syrthio allan â'u gilydd, a mawr oedd y gynhen rhyngddynt. Cymerai y cymdogion o'u hamgylch ran yn yr ymrafael, rhai gydag un, a rhai gyda'r llall, nes cerddodd effaith y gynhen trwy holl deuluoedd yr ardal. Yn nghanol y ffrwgwd, daeth galwad am wasanaeth y nodwydd yn Tanybryn yn nghyntaf; ac yn fuan wedi hyny yn Tan'rallt. Nid oedd gan Huw fawr o flas i fyned i'r un o'r ddau dŷ yn nyddiau'r gynhen, canys gwyddai y ceisid ei hudo i ddweyd ei feddwl am dani yn y naill dŷ a'r llall. Wel, i Tanybryn yr aethom, ac nid hir y buom heb glywed cyfeiriadau at yr helynt, ond ni chymerai Huw arno ei fod yn deall dim o'r awgrymiadau hyny; taflai ryw air i mewn digon pell oddiwrth y mater, i geisio newid y stori. Torodd y wraig ato yn uniongyrch o'r diwedd,—'Chwi glywsoch am yr helynt sy rhyngom ni a phobl Tan'rallt, Huw—ond o ran hyny pwy sy heb glywed?' ebe hi. 'Do, mi glywais rywbeth,' ebe Huw, 'ond nid yw yn perthyn dim i'm bisnes i i holi na siarad yn nghylch pethau o'r fath.' 'Ho, felly,' ebe y wraig, 'yr ydych yn bur wahanol i deilwriaid yn gyffredin ynte—rhai go lew am stori fyddant hwy yn cael eu cyfrif yn wastad.' 'Hwyrach hyny,' ebe Huw, 'ond ni chlywsoch chwi ddim fy mod i wedi ymyraeth â bwti neb erioed, ac ni chlywch chwi ddim byth chwaith, trwy gymhorth.' Yr oedd Huw erbyn hyn yn dechreu twymno peth, ac yn pwytho arni hi bumtheg yn y dwsin, pwythai yn gyflymach o lawer iawn pan y byddai ei dymher wedi cyffroi. Deallodd y wraig nad oedd Huw ddim am ddal genau y sach iddi i dywallt ei chelanedd. Yn union ar<noinclude><references/></noinclude>
e9trujl54v5vx9w8wcyq8oxznpquaxo
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/16
104
87901
169890
2026-08-09T22:49:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169890
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyny, dyma un o'r bechgyn yn dyfod i'r tŷ ar redeg, ac yn gwaeddi, O, mam! mam! mae ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch fawr yn shags gwylltion; mae hi yn gwaedu na welsoch chwi 'rioed fath beth.' 'Yn mh'le yr oedd yr hwch?' gofynai'r fam. 'Ary ffordd rhyngoch a Than'rallt,' ebe y bachgyn. 'Un ohonynt ddarfu anos y ci i'r hwch, mae'n hawdd deall,' ebe'r fam. 'Ie mi glywais un ai Wil ai Sionyn (dau o feibion Tan'rallt) yn gwneud,' ebe'r bachgen. Mawr fu y son a'r siarad am glust yr hwch, a chi a theulu Tan'rallt, yn y tŷ ar ol hyny.
Yr wythnos ganlynol aethom i Tan'rallt. Os drwg cynt, gwaeth gwed'yn. Yr oedd y ddawn i lefaru â thafodau cynefin a dyeithr i berffeithrwydd yn ngwraig Tan'rallt. Tywalltai lifeiriant o eiriau allan yn ddidor—ddiderfyn o'r bore gwyn tan y nos Byddai tafod y wraig a nodwydd y teiliwr yn canlyn eu gilydd; po cyflymaf y llefarai hi, prysuraf i gyd y gweithiai ei nodwydd yntau, a rhoddai 'hys' gyda phob pwyth, megis trwy ei ddanedd. 'I be'r ydach chi'n hisian fel ceiliogwydd yn wastad pan fydda i'n siarad, Huw? ebe hi un tro. 'I ddal pen stori i'r wydd,' ebe Huw. Chwarddodd y wraig yn hearty ar hyny, canys yr oedd tipyn o natur dda ynddi hi wedi'r cwbl.
Nid hir y bu cyn iddi droi at stori'r gynhen, 'Chwi a fuoch yn Tanybryn yr wythnos ddiweddaf, Huw, yr wyf yn deall,' ebe hi. 'Do,' atebai Huw yn lled gwta, gan ddechreu prysuro'r nodwydd. 'Chwi glywsoch ddigon o ladd arnom ni yno,' meddai hi. Fyddaf fi ddim yn clywed pethau felly 'n amser, meddai Huw. Ddim yn clywed! Sut y gellwch chi beidio clywed? Ond tydy'n nhw yn lladd arnom ni wrth bawb; ac yn dweyd celwyddau fwy na mwy.' 'Os byddaf fi 'n clywed cym'dogion yn lladd ar eu gilydd, gollwng pethau felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall rhag eu blaen y byddaf fi,' ebe y Teiliwr. Yr oedd yr ymadrodd yna yn un o ddiarhebion<noinclude><references/></noinclude>
0her8hsfnlyed1ms9nxx7a2xlu83esc
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/17
104
87902
169891
2026-08-09T22:49:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169891
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Huw. 'Na yn wir, deudwch i mi'n onest rwan, be oedd pobol Tanybryn yn ddweyd am danom ni?' ebe y wraig drachefn, gan wisgo ei gwên fwyaf hudol. 'Pe buaswn wedi clywed y bobl yn dweyd rhywbeth yn ddrwg am danoch, yr wyf yn meddwl y buasai yn gallach ac yn onestach i mi gadw hyny i mi fy hun,' ebe Huw. 'O rwy'n gweled, ebe y wraig, 'y'ch bod chi'n cym'ryd 'u parti nhw.' Nac wyf fi yn cym'ryd parti'r naill na'r llall o honoch,' ebe Huw, dan hysian a phwytho ei oreu glas. Gall'sech feddwl fod gwreichion yn neidio o'r nodwydd gan mor gyflymed yr oedd yn ei gwthio trwy y brethyn. Ond dal i ymosod arno wnai y wraig. O'r diwedd, neidiodd Huw i lawr oddiar ben y bwrdd, ac aeth allan am dro. Daeth y wraig ataf finau gyda gwên siriol, ac meddai hi, 'Dywed di i mi, fy machgen i, beth oedd pobol Tanybryn yn ddweyd am danom ni pan oeddych yno? Mi gei di rywbeth gen i os deydi di, cei'n wir. Wel, dyna awr y brofedigaeth wedi dyfod. Ni wyddwn yn y byd beth a wnawn, Chlywais i monyn nhw yn deyd dim byd am danoch chi, imi gofio,' ebe fi. Taw a dweyd anwiredd, beth bynag,' ebe hithau, 'mi wn i well pethau na hyny." Y cwbl glwais i nhw'n ddeyd,' ebe fi, 'oedd fod eich ci chwi wedi cnoi clust yr hwch yn arw iawn ryw ddiwrnod.' 'Wel, be oeddynt yn ddweyd am hynny—dweyd mai un o honom ni oedd wedi gyru'r ci, mi wranta.' 'Na 'does gen i ddim co am hyny, meddwn inau. Ar hyny daeth fy meistr yn ei ol. 'Wel, Huw, beth 'r oeddech chi'n ceisio gwadu na chlowsoch chi mo bobol Tanybryn yn lladd arnom ni? Mae'r bachgen yma yn llawer amgenach na chi, mae o wedi cyfadde'r gwir wrtha i rwan.' Taflodd meistr olwg ddigofus ofnadwy arnaf, nes oeddwn yn crynu trwyddof. Be ddwedodd o?' gofynai. 'Dweyd 'u bod nhw yn lladd arnom ni o hyd ono,' atebai'r wraig. 'Na ddywedais i ddim o'r fath beth, yn wir,' atebwn inau, ' y cwbl a ddeudais i oedd eu<noinclude><references/></noinclude>
ko16lxozqqqyyxkcvkm3uds3uk3sy4j
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/18
104
87903
169892
2026-08-09T22:50:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169892
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bod nhw yn lladd ar eich ci chi am gnoi clust eu hwch nhw.<nowiki>'</nowiki> 'Wel ie, dyna hi,' ebe'r wraig, 'ni waeth gen i iddyn nhw ladd arna i na lladd ar fy nghi i—"os perchwch chi fi perchwch fy nghi," medd yr hen air, ac mae o'n reit gwir hefyd.' Do mi glywais inau un o'r plant yn dweyd wrth ei fam un diwrnod fod ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch,' ebe Huw, 'a toedd fawr o niwed yn hyny, 'does bosib.' Fawr o niwed yn wir!' ebe'r wraig, 'rwy'n siwr tae ni yn cael clwed y cwbwl bod ono lawer o niwed.' Yna aeth at y ci oedd yn gorwedd ar yr aelwyd, a dechreuodd ei bratio—'ydyn nhw'n lladd arnat ti ngwas gwirion i,—'r wyt ti'n llawer callach a phurach na'r un o honyn nhw, cno di glust eu hwch nhw eto, a'u clustie nhwythe hefyd os cei di afael arnyn nhw,' a llawer o bethau cyffelyb a ddywedodd hi wrth y ci. Cefais wers galed am droseddu ei gyfraith gan Huw wrth fyned adref y noson hono. Nid oedd wiw imi ddadleu nad oeddwn wedi troseddu dim mewn gwirionedd, imi grybwyll am y ci a'r hwch yn unig, nad oedd dim niwed yn hyny. 'Toedd dim achos i ti son am gi na mochyn,' meddai Huw. Os byth y ceisir genyt ti eto ddeyd chwedle, dywed fy mod i wedi dy roi di dan dy warnin' na ddwedot ti'r un gair, mai dy droi di i ffwrdd yn union a wna i, os clywa i y fath beth am danat ti; mi gei lonydd felly, ond os dechreui di ddeyd rhywbeth unwaith, wyddos ti ar y ddaear y'mhle dibeni di. Mi'th dynan di o'r naill beth i'r llall, wedi cael y fantais unwaith. Does wybod yn y byd beth fuaset ti'n ddeyd wrth y wraig yna gyneu taswn i heb ddwad i'r tŷ am ryw dipyn yn hwy.
Wedi i'r ymrafael ddarfod, yr oedd y ddau deulu yn parchu Huw yn fwy nag erioed, er mor ddig fuasent wrtho y pryd hwnw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3h4oraek1yfvokrs46tylpay5hghrm8
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/19
104
87904
169893
2026-08-09T22:51:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169893
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod V.}}}}
WEL, dywedwch chwi a fynoch, rhyw waith rhyfedd ydyw i ddyn eistedd i lawr i adolygu ac ysgrifenu hanes digwyddiadau ei fywyd. Nid oedd genyf fi, beth bynag, un ddirnadaeth am dano nes i mi ymgymeryd â'r gorchwyl. Wrth i mi adfyfyrio ar y dyddiau gynt, y mae hen ddigwyddiadau na feddyliaswn ddim am danynt er dros fwy na haner can' mlynedd yn ymgodi megys o ryw gilfachau yn ngwaelodion fy nghof, gan ymrithio fel drychiolaethau o flaen fy meddwl. Yr wyf yn cael fy ngorchfygu yn aml wrth ysgrifenu yr adgofion hyn, weithiau gan wylo, bryd arall gan chwerthin, byddaf weithiau yn cywilyddio ac yn galaru wrth alw i gof rai o hen droion fy mywyd; a phryd arall yn teimlo fel yn lled falch o honof fy hun ar gyfrif rhyw bethau eraill. Rhyw lyfr rhyfedd iawn fyddai hanes bywyd dyn, wedi ei ysgrifenu yn gyflawn ganddo ef ei hun,—yn cynwys ei dda a'i ddrwg, ei holl bethau dirgel a chyhoeddus; a meddyliwch eto, ei fod yn cynwys ei holl feddyliau a'i eiriau yr oll a ddychmygodd ei galon ac a lefarodd ei dafod. Gwared ni, y mae meddwl a dychmygu am y fath lyfr yn arswydus!yn annyoddefol! Er yr holl gyfrolau mawrion ac aneirif o hanes y byd a'r amseroedd a ysgrifenwyd, ychydig iawn o'i hanes mewn cydmariaeth a gynwysant oll gyda'u gilydd. Y dydd mawr a ddaw yn unig a ddatguddia holl hanes y byd, pan y dygir pob meddwl, a gair, a gweithred pob dyn i'r amlwg. Ond rhaid i mi ymatal rhag myned yn mhellach yn y ffordd hon, onide, chwi ddywedwch fod yr 'Hen Deiliwr' yn troi yn bregethwr.
Yr oedd pump o Deilwriaid yn byw yn y plwyf hwn, yn nyddiau Huw Prys: dau yn trigo yn y pentref, a'r tri eraill un yma ac un acw ar gyffiniau y plwyf. Y mae hwn yn blwyf mawr a lled boblogaidd a digon o waith i bump o Deilwriaid ynddo, ac<noinclude><references/></noinclude>
kxlzko6kisb2zzp8k1un2myctlkaxye
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/20
104
87905
169894
2026-08-09T22:53:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169894
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar rai adegau, lawer gormod, fel y byddai raid i'r naill a'r llall gael cynorthwy gweithiwr. Yr oedd y Teilwriaid yn gyffredin yn teimlo yn eiddigus y naill tuag at y llall. Ystyriai y ddau Deiliwr oedd yn byw yn y brif ddinas (y pentref) eu hunain yn fwy urddasol na'r lleill oedd yn byw o'r neilldu yn y plwyf. Yr oedd raid i'r ddau yn y pentref (Huw Prys, fy meistr oedd un) gael ''sign'', fel y dywedem, uwch ben eu drysau. 'Hugh Price, Tailor,' yn unig oedd ar ystyllen fy meistr. Ond meddyliodd y llall, a ddaethai i fyw i'r pentref flynyddau ar ol Huw, osod ei hun i fynu yn fwy ''respectable'' nag ef, a dododd ar ei sign : 'Humphrey Owen, Tailor & Draper,' Buasai Wmffre yn ''Nerpwl'' am ryw fis neu ddau yn gweithio'r grefft, a daethai a'r gair ''Draper'' yn ei benglog adref. Tynodd y gair sylw cyffredinol y plwyfolion, a mawr fyddai y cydymholi rhyngddynt yn ei gylch, beth allasai fod ei ystyr. Ymgasglodd lluaws o gylch y drws un dydd ffair yn y pentref, i gydystyried y dyrysbwnc pwysig hwn. Daethant i'r penderfyniad mai Trapiwr oedd y meddwl, ond yr oedd un neu ddau yn barnu yn wahanol. 'Dallwch chi ddim spelio hwn acw'n ''Drapiwr'' yn ych byw,' ebe un ohonynt. Wel ie, dalltwch chi,' ebe un mwy dysgedig na'r lleill, 'mai'r gair Sasneg am Drapiwr neu Dyrchwr ydi'r gair acw.' 'Toes dim sens yn hyny,' ebe'r llall, 'tydi Wmffre ddim yn Drapiwr nac yn Dyrchwr chwaith, ond Teiliwr ydi'r dyn, mi fase yn fwy rhesymol i Robin y Crydd roid Trapiwr uwchben 'i siop, mae o'n gwneud llawer o drapie (esgidiau rhy gyfyng) i dagu traed pobol; mae nhraed i fy hun y fynud yma'n cael 'u gwasgu'n ofnadwy yn 'i drap o.' O'r diwedd, galwasant ar Wmffre i ddyfod allan i esbonio y dirgelwch iddynt. 'Be ydi ystyr y gair acw, Wmffre?' gofynent. 'Gair Sasneg ydi o,' atebai W mffre, gan edrych yn ddoeth fawreddog iawn. 'Ond be ydi ''fenin'' o?' meddynt hwythau. Wel, ei ''fenin'' o ydi hyn: mae Teilwriaid Nerpwl yn gyffredin<noinclude><references/></noinclude>
ls9yycx7bs4go48ibfjnl87onamgann
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/21
104
87906
169895
2026-08-09T22:54:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169895
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn i arfer o i osod allan'u bod nhw wedi dysgu y grefft yn rheoledd a thrywadl yn ei holl ranau; a mi eis ine trwy holl ''secrets'' y gelfyddyd'r amser y bum i ono'n gweithio.' Ni wyddai Wmffre, mwy na'igymdogion beth oedd ystyr y gair, a diau y tybiai mai dyna oedd ystyr ac amcan y gair ''Draper'' mewn gwirionedd, ond nid d nid oedd pawb o'i wrandawyr yn ei gredu. Cyn iddynt ymwasgaru, daeth ysgolfeistr y pentref i'r fan. 'Mr. Jones,' ebe un o'r dynion, 'yr ydan ni'n methu cytuno am ''feanin'' y gair acw; mae rhai ohono'n ni'n taeru mae Trapiwr sydd i'w feddwl, ac Wmffre'n deyd fel hyn ac fel hyn; be ydach chi'n ddeyd, Mr. Jones?' 'Dyna ydyw meddwl y gair ''Draper'',<nowiki>'</nowiki> ebe yntau, 'un yn gwerthu deunydd dillad, brethyn a chalico a ''cotton'' a phethau felly. '''Well done'', Mr. Jones,' ebe dau neu dri, 'dene be di bod yn sglaig.' Troisant ar Wmffre am geisio twyllo'r bobl yn y modd hwn, a bu raid iddo gilio i'w gwt gynted y gallai. Erbyn y bore dranoeth, yr oedd chwildroad cyffredinol wedi cymeryd lle yn y pentref. Aeth lluaws o'r lanciau'r ffair i gydymgynghori pa ddial a wneid ar Wmffre'r Teiliwr am ei drosedd, a chytunasant i newid ''signs'' Wmffre a Robert y Crydd, ac aethant ati yn nyfnder y nos; ac wele'r bore yr oedd ''Robert Jones Shoemaker'', uwch ben drws Wmffre'r Teiliwr, ac ''Humphrey Owen, Tailor & Draper'', uwch ben drws Robert y Crydd. Yr oedd ''sign'' Mari y Bobreg (llun torth wen) uwch ben drws siop William Lloyd y ''Grocer'', a ''sign'' William Lloyd uwch ben drws Mari'r Bobreg Yr oedd yr holl bentref mewn terfysg trwy y dydd hwnw. William Llwyd wedi gwylltio yn erwin, 'Diab ulw! diab ulw!' meddai, mi fynai cospi nhw i eitha cyfreth, mi fyna hefyd.' Barnai Ifan y ''Sweep'', prif gyfreithiwr y plwyf, fod y trosedd yn fater crogi, ac y byddai y troseddwyr yn sicr o gael eu crogi hefyd, os ceid hwy allan. Fodd bynag, yr oedd ''sign'' fy meistr, Huw Prys, wedi ei gadael yn ei lle, ac yr oedd Huw yn falch iawn o hyny. Cafwyd<noinclude><references/></noinclude>
prtc0y57h3d9afa0c1sstg2pyqbl3pl
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/22
104
87907
169896
2026-08-09T22:55:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "pethau i drefn a thawelwch erbyn yr hwyr hwnw, heb ryw ganlyniadau gofidus iawn oddiwrth y tro. Ond ni feddiodd Wmffre osod y ''Draper'' i fynu drachefn; ond glynodd yr enw ''Trapiwr'' wrtho byth wed'yn. Llawer o gastiau digrif-ddireidus o'r fath a chwareuid gan wyr a llanciau y plwyf yn y dyddiau hyny, yn enwedig ar adeg pob ffair yn y pentref. Aeth y lle ar ol y tro hwnw yn rhy boeth i Wmffre, a symudodd o'r pentref i fyw cyn pen...
169896
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethau i drefn a thawelwch erbyn yr hwyr hwnw, heb ryw ganlyniadau gofidus iawn oddiwrth y tro. Ond ni feddiodd Wmffre osod y ''Draper'' i fynu drachefn; ond glynodd yr enw ''Trapiwr'' wrtho byth wed'yn.
Llawer o gastiau digrif-ddireidus o'r fath a chwareuid gan wyr a llanciau y plwyf yn y dyddiau hyny, yn enwedig ar adeg pob ffair yn y pentref. Aeth y lle ar ol y tro hwnw yn rhy boeth i Wmffre, a symudodd o'r pentref i fyw cyn pen hir, a chafodd fy meistr Huw Prys frenhiniaeth deilwriaethol y ddinas a'i chyffiniau i'w law ei hun am gryn dymhor o amser. Digon tebyg ydyw y bydd rhai o'm darllenwyr yn edrych ar stori fel honan'n stori wneud, fel y dywedid—nad oedd pobl y wlad yn y dyddiau hyny mor anwybodus fel na wyddent beth oedd ystyr y gair ''Draper, &c''. Dylent gofio fod gwahaniaeth mawr rhwng ein manteision ni yn y dyddiau hyny, i'r manteision sydd gan rai ieuangach na ni yn y dyddiau presenol. YÝchydig iawn o bobl canol y wlad a wyddent air o Saesonaeg; ond yr oedd gwybodaeth grefyddol llawer ohonynt yn helaeth iawn. Yr oedd llawer ohonynt yn darllenwyr mawr ar eu Beiblau, a gallent ddadleu'n ddoniol ar unrhyw bwnc o athrawiaeth.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VI.}}}}
DYLASWN hwyrach fod wedi crybwyll cyn hyn, bod camsyniad mawr yn meddyliau dynion yn gyffredin am y Teiliwr a'i waith. Cred llawer ydyw bob amser mai gwaith hawdd ac ysgafn ydyw gwaith y Teiliwr, cyfeiliornad dirfawr yw hyny, fel y gŵyr pob Teiliwr yn dda trwy brofiad. Na, na, peth difrifol iawn i ddyn ieuanc ydyw myned yn Deiliwr, gwybydded a chreded pob bachgen ieuanc a feddylio am ymgymeryd â'r alwedigaeth hyny, ac eistedded i lawr, a bwried y draul yn dda, cyn cychwyn yr yrfa. Buan <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
0f6dzy1y8p366fmo3og4nfddvjyoccf
169897
169896
2026-08-09T22:55:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169897
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pethau i drefn a thawelwch erbyn yr hwyr hwnw, heb ryw ganlyniadau gofidus iawn oddiwrth y tro. Ond ni feddiodd Wmffre osod y ''Draper'' i fynu drachefn; ond glynodd yr enw ''Trapiwr'' wrtho byth wed'yn.
Llawer o gastiau digrif-ddireidus o'r fath a chwareuid gan wyr a llanciau y plwyf yn y dyddiau hyny, yn enwedig ar adeg pob ffair yn y pentref. Aeth y lle ar ol y tro hwnw yn rhy boeth i Wmffre, a symudodd o'r pentref i fyw cyn pen hir, a chafodd fy meistr Huw Prys frenhiniaeth deilwriaethol y ddinas a'i chyffiniau i'w law ei hun am gryn dymhor o amser. Digon tebyg ydyw y bydd rhai o'm darllenwyr yn edrych ar stori fel honan'n stori wneud, fel y dywedid—nad oedd pobl y wlad yn y dyddiau hyny mor anwybodus fel na wyddent beth oedd ystyr y gair ''Draper, &c''. Dylent gofio fod gwahaniaeth mawr rhwng ein manteision ni yn y dyddiau hyny, i'r manteision sydd gan rai ieuangach na ni yn y dyddiau presenol. YÝchydig iawn o bobl canol y wlad a wyddent air o Saesonaeg; ond yr oedd gwybodaeth grefyddol llawer ohonynt yn helaeth iawn. Yr oedd llawer ohonynt yn darllenwyr mawr ar eu Beiblau, a gallent ddadleu'n ddoniol ar unrhyw bwnc o athrawiaeth.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VI.}}}}
DYLASWN hwyrach fod wedi crybwyll cyn hyn, bod camsyniad mawr yn meddyliau dynion yn gyffredin am y Teiliwr a'i waith. Cred llawer ydyw bob amser mai gwaith hawdd ac ysgafn ydyw gwaith y Teiliwr, cyfeiliornad dirfawr yw hyny, fel y gŵyr pob Teiliwr yn dda trwy brofiad. Na, na, peth difrifol iawn i ddyn ieuanc ydyw myned yn Deiliwr, gwybydded a chreded pob bachgen ieuanc a feddylio am ymgymeryd â'r alwedigaeth hyny, ac eistedded i lawr, a bwried y draul yn dda, cyn cychwyn yr yrfa. Buan <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
qrelutfthsqrlir9s87anz7giotfv6d
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/23
104
87908
169898
2026-08-09T22:56:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169898
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y caiff y bachgen prentis ddeall, ar ol dechreu, mai nid chwareu o beth ydyw eistedd ar fwrdd caled a'i draed yn mhleth am oriau lawer bob dydd, a bod a'i ben i lawr, a'i lygad yn dyfal hwylio cerddediad y nodwydd, a'i fraich ar ysgogiad trwy gydol yr amser. Y mae adgofion byw am wythnosau cyntaf fy mhrentisiaeth yn aros yn fy meddwl hyd y dydd hwn. Clywais weision a gweithwyr ar ffermydd yn cwyno' dost gan 'glwy' y bladur' lawer gwaith. Dyn a'u helpo! beth yw 'clwy' y bladur' wrth glwy' y nodwydd? Na, ni wyddant hwy mo'u geni i'r byd wrth a ŵyr ac a brofa y Teiliwr yn wythnosau cyntaf ei brentisiaeth. Dysgyblaeth ofnadwy i goesau a chluniau a gwar a gwddf hogyn i'w dwyn a'i dyoddef ydyw y Deilwriaeth. Ond ymostyngant iddi a dygymodant â hi mewn amser. Erbyn tua diwedd y chweched mis o flwyddyn gyntaf fy ysgoloriaeth deilwraidd, yr oedd fy holl aelodau a'm cymalau wedi plygu a thawelu i'r oruchwyliaeth yn lled dda. Y mae y ddysgyblaeth yr ä y Teiliwr drwyddi i'w dori i lawr i'w grefft yn gadael ei hol arno dros ei fywyd. Y mae yn cerdded yn wahanol i ddyn arall; cerdda yn lletach yn gyffredin; gellid gyru berfa yn mron rhwng coesau ambell i Deiliwr, ac y mae ei fraich dde yn ysgwyd yn brysur fel pendil wrth ei ochr pan fo'n cerdded, ac yn gyffredin y mae yn chwim a sydyn ei ysgogiadau. Y mae delw goruchwyliaeth ei grefft i'w gweled ar gorph a cherddediad y Crydd, yntau. Y ddau hawddaf i benderfynu wrth yr olwg arnynt, a'u dull o gerdded, i ba alwedigaeth y pethynant ydyw y Teiliwr a'r Crydd, o bawb. Cerdda y Crydd yn gulach na dyn arall. Y mae ei waith ef yn gofyn iddo wasgu ei ddau ben lin yn nghyd, yr hyn a bâr i flaenau ei draed ogwyddo y naill at y llall, ac y mae'r agwedd hono i'w gweled, arno'n cerdded, yn hollol wahanol i'r Teiliwr. Y mae ysgogiad braich y Crydd hefyd yn wahanol wrth gerdded; y mae ef a'i benelin allan, ac yn ysgwyd<noinclude><references/></noinclude>
09bxgnh44hvfcumhpgxc95mjmdq3kmm
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/24
104
87909
169899
2026-08-09T22:57:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169899
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei fraich ar draws ei fynwes, fel pe byddai am lifio ei hunan yn ddau. Maddeued fy mrodyr, y Teilwriaid a'r Cryddion, i mi am athronyddu ar ddylanwad eu galwedigaethau ar eu personau a'u hagweddau.
Y mae celfi, galwedigaeth y Teiliwr yn wahanol iawn yn awr i'r peth oeddynt gynt. Nid oedd y ''line'' a'r ''figures'' ar hyd-ddi yn beth adnabyddus i'r frawdoliaeth yn y dyddiau hyny. Llinyn mesur y Teiliwr fyddai papur llwyd, neu hen bapur newydd, wedi'u tori yn slangs tua haner modfedd o led, a'u pwytho yn nghyd i wneud yr hyd priodol, a thori marciau neillduol y byddid ar ymylon y ''line'' i ddynodi y gwahanol hydau a mesurau. Nid oedd yr ysgwâr a'r ffig'rau ar hyd—ddo yn adnabyddus chwaith; weithiai mesurai Teiliwr fôn y fraich a'i law i dori coat wrthi. Ymaflai yn ysgwydd dyn â'i law aswy, a dodai benau ei fysedd a'i fawd yn y ffurf hono ar y brethyn, a sialciau'r cylch o gylch y bysedd, a'r llaw ddeheu. Weithiau dodai fowlen ar ei gwyneb ar y brethyn, neu'r defnydd, neu bedol hwyrach, i dori ffurf bôn y fraich wrthynt. Ac ystyried eu hanfanteision, yr oedd yn rhyfedd bod yr hen Deilwriaid yn gallu gwneud cystal llun ar ddillad ag oeddynt. Mae gan y genedlaeth bresenol o deilwriaid lawer o achos i fod yn ddiolchgar am y rhagorach manteision sydd ganddynt yn y pethau a berthynant i berffeithiad eu celfyddyd nag oedd gan eu tadau.'
Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi i mi fyned at Huw Prys, clywais ymadrodd hollol ddieithr i mi o'r blaen, yr hwn a barodd i mi radd o syndod. Un bore pan oedd Meistr a minau yn myned i dŷ o'r enw Pantmawr i weithio, cyfarfu cymydog å ni ar y ffordd a gofynai, 'I b'le 'r ydych chi yn myned i chwipio'r gath heddyw, Huw?' Yr oedd 'myned i chwipio'r gath' yn hen ddihareb yn mysg teilwriaid y wlad, a phobl eraill hefyd, erbyn i mi ddeall; a rhaid fy inod inau wedi ei glywed ond fy mod heb ddał sylw arno erioed. Yr wyf wedi addaw myned i'r<noinclude><references/></noinclude>
tqu0ik7kj02j201e2m7v1xoxg5qx9ys
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/25
104
87910
169900
2026-08-09T22:57:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169900
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fan a'r fan i "chwipio'r gath" yr wythnos nesaf,' meddynt. A phan ddigwyddai i luaws o deilwriaid daro ar eu gilydd ddiwrnod ffair, a chael gwydryn yn nghyd, adroddent eu helyntion yn 'chwipio'r gath,' yn y fan hon a'r fan arall, yn ddoniol i'w gilydd. Pa bryd, a pha le, ac ar ba achos neu achlysur, y dechreuodd y ddihareb hon, ydynt gwestiwnau haws i'w gofyn na'u hateb. Methais i, o leiaf, a chael dim sicrwydd yn eu cylch. Ni allodd dysgedigion anrhydeddus eraill y nodwydd erioed gytuno ar y pwnc. Yr esboniad a roddai fy hen feistr Huw Prys i mi ar y ddihareb sydd fel y canlyn: Dywedai iddo gael y chwedl yn ysgrifenedig mewn hen lyfr, yn y modd yma,—'Yr oedd yn byw gynt ar gyffiniau Ardudwy hen deiliwr hybarchus. Efe un dydd, a fore gyrchai i dŷ cyfrifol yn y fro hono, i ddilyn cwrs ei alwedigaeth, a damweiniai bod clamp o gwyr melyn ganthaw, yr hwn a ddodai ar y bwrdd. A gweled a orug y gath y clamp cwyr melyn, a thybiaw a wneddyw ei fod yn gyfryw ddanteith-fwyd ac a garai cath ei fwynhau, ac o hyny yn ngrym trachwant natur reibiol-wanc cath, hi a roddes lamgyrch ystwyth-chwim arnaw, ac a'i cipiws ymaith, a mawr y drafferth a gafwyd i'w adfer oddiarni. Y bore dranoeth, ar ei ffordd tua'r tŷ, tori a orug y teiliwr swrn o frigau coed bedw briglas a'u rhwymo yn wialen. Ac wedi myned o honaw i'r ty, gofyn a wnaeth un o'r teulu i ba bwrpas y dygasai y wialen. "I chwipio'r gath," ef atebai.' Athaenwyd y gair hwn yn mysg Teilwriaid y rhan hono o'r wlad. Dyna'r esboniad a gefais i gan Huw Prys, ac a gawsai yntau gan ei henafiaid; ac i'r farn hon yr oedd Huw yn gogwyddo. Barnai eraill nad oedd chwedl y cwyr melyn ddim ond dychymyg ddisail; mai ei dyfeisio a wnaeth rhywun i'w chynyg yn esboniad ar y ddihareb ddyrys, fel y dyfeisir llawer o chwedlau ac esboniadau ar lawer o ymadroddion llawer pwysicach na'r ymadrodd 'chwipio'r gath.' Tybiant hwy fod dechreuad y peth yn syml, a'i<noinclude><references/></noinclude>
gpchfey9vwwnhm0ex9sy6uahl0f612q
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/26
104
87911
169901
2026-08-09T22:58:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169901
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddeongliad yn hawdd ac eglur, sef bod pob cath, yn enwedig pob cath ieuanc, yn hoff iawn pan welo bellen o edafedd o fyned i ymbawenu â hi, ac o ganlyniad, hi a bâr flinder a thrafferth nid bychan i'r Teiliwr yn fynych fel y gwn i fy hun yn dda, a llawer gwaith y bum yn cadw gwialen i warchod y bellen rhag y gath, yn mhob tŷ y byddai cath ifanc yn enwedig. I'r golygiad olaf am achos a dechreuad y ddamheg y byddaf fi yn gogwyddo, ac fe ddichon, y nifer fwyaf o'n hawdurdodau yr un modd; eto dichon fod llawer i'w ddywedyd tros y golygiad cyntaf, yn enwedig Celtigrwydd arddull y chwedl. Os nag ffugwaith mewn oes ddiweddar ydyw yr arddull a'i gwisga, rhaid bod y traddodiad wedi dyfod i lawr o ddyddiau y Gogynfeirdd feddyliwn, ac os felly, y tebygolrwydd yw, fod gwir yn chwedl y cwyr melyn.
Ond hwyrach y byddwch chwi, ddarllenwyr, yn dwrdio fy mod yn ymadroddi cyhyd gyda pheth mor ddibwys a hyn. Wel, yr ydwyf yn addef mai peth dibwys ydyw, a ddiddyddordeb hefyd efallai i'r rhan fwyaf, ond y mae yn hawdd i un fod yn hir a maith gyda pheth y byddo ef ei hun yn teimlo gradd o ddyddordeb ynddo, ond ymdrechaf beidio ymdroi yn y wedd yna gyda dim eto. Tybiais wrth gychwyn ysgrifenu y gallaswn gynwys y cyfan oedd genyf i'w ddywedyd mewn rhyw dri neu bedwar pwt o lythyr, ond mae'r peth yn chwyddo dan fy nwylaw rywsut. Yr wyf yn gweled yn awr y gallwn ysgrifenu, am wn i, gant o benodau ar adgofion fy mywyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VII.}}}}
A DWEYD y gwir i chwi, yr wyf yn dechreu blino a diflasu ar y gwaith o ysgrifenu yma, ac edifarhau am fy amryfusedd yn ceisio ymyraeth âg ef. Ychydig a feddyliais ar y cychwyn fy mod yn tynu y fath ''job''<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
scp5lgxhqohb7js86bjluxm7558ui9j
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/27
104
87912
169902
2026-08-09T22:59:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169902
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn fy mhen. Soniais yn y benod o'r blaen am lymder cymhariaethol clwy'r nodwydd a chlwy'r bladur; yr wyf yn deall erbyn hyn fod clwy'r pin yn llawer gwaeth na'r ddau. Nid ydyw clwy'r nodwydd ond peth am unwaith yn oes teiliwr wedi iddo unwaith fyned trwy y clefyd yn ei brentisiaeth, ni flinir mo'no ganddo mwy; ond mae clwy'r pin yn beth parhaus, a chlwy' 'menydd a meddwl ydyw; ac y mae, gan hyny, yn llawer mwy poenus a pheryglus na chlwy' braich ac ysgwydd a choesau. Yr oeddwn i, fel llawer, yn arfer meddwl mai gwaith ysgafn a hawdd oedd ysgrifenu traethodau a llyfrau, ond yr wyf wedi newid fy meddwl yn hollol ar ol i mi ddechreu ar y gorchwyl o ysgrifenu hyn. Rhagluniaeth a helpo'r creaduriaid truain hyny sydd yn ceisio enill eu tamaid gyda ni yn Nghymru trwy lafur y pin! y mae'r nodwydd yn ddigon sal, ond y mae'r pin yn salach o lawer na hithau, hefo ni beth bynag. Yr wyf yn deall ei bod fel arall yn Lloegr, a bod llawer un yno yn enill canoedd llawer o bunau âg un cwilsyn. Y twrneiod yn unig sydd yn gallu gwneud i'r cwilsyn dalu ei ffordd yn Nghymru, hyd y gallais i ddeall. Ped ysgrifenai dyn yn Nghymru draethawd, neu gân, neu gywydd, cystal ag angel, bydd yr argraffydd a'r llyfrwerthydd yn myned a'r cwbl cydrhyngddynt, a gadewir i'r ysgrifenydd sychu ei drwyn yn ei lawes. Gwelais yn rhywle bod Tennyson, y bardd llawryfol yn Lloegr, yn cael punt am bob llinell o farddoniaeth a anfonir i un o'r cyhoeddiadau; a bod Dickens, y nofelwr, yn derbyn miloedd o bunau wrth fyned o amgylch y wlad i ddarllen ei lyfrau ei hun, wedi iddo wneud miloedd ohonynt o'r blaen trwy eu gwerthiad.
Y mae rhyw aflwydd arnom ni fel cenedl rywfodd yn y peth hwn; gwell genym gefnogi dynion o genedl arall yn wastad na rhai o'n cenedl ein hun; rhaid i bob gelach o wr bonheddig a fedro gadw steward, gael Scotyn i'r swydd—prin y ceir Cymro byth yn y swydd hono yn unman, er fod digon o rai<noinclude><references/></noinclude>
clud8sk88r0vyo1j5glj8xi8a6ex2ax
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/28
104
87913
169903
2026-08-09T23:00:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169903
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llawn mor gymhwys iddo i'w cael yma, heb fyned i Scotland i ymofyn am danynt. Yr un fath yn union y mae'r werin bobl hwythau; pe deuai teilwriaid o Loegr a Scotland yma, ni chaiff teiliwr o Gymro le i roi blaen ei nodwydd trwy frethyn yn unman; a chrefftau eraill yr un modd. A'r un fath yn y byd llenyddol drachefn, —caiff llyfrau Cymreig a gyhoeddir gan Scotiaid neu Saeson fwy o dderbyniad o lawer na rhai a gyhoeddir gan Gymry. Y mae gen ym lawer Dic Sion Dafydd o feirniad yn ein plith, nad oes nemawr i waith gwreiddiol Cymreig yn werth ei godi o'r domen yn eu golwg, mewn cymhariaeth i weithiau Saeson a chenhedloedd eraill. Amcanant wneud eu hunain yn fawr mewn doethineb yn ngolwg eu ddarllenwyr drwy fychanu a diraddio pob peth Cymreig. Pa sawl gwaith y clywsom hwynt yn haeru na chyfododd yr un Milton a Shakespeare erioed yn Nghymru, ac ambell i un o'r brygawthwyr hyn heb wybod ond yn nesaf peth i ddim am weithiau y ddau hyny, na chanddynt un farn eu hunain am natur eu teilyngdod. Gymry! goddefwch i Hen Deiliwr ddweyd wrth fyned heibio, 'Ni ddylai'r pethau hyn fod felly.' Nid oes genyf fi, o'm rhan fy hun, achos i gwyno yn y peth hwn. Nid wyf fi, ac nid oeddwn o'r dechreu, yn disgwyl na thâl na diolch am ysgrifenu. Yr wyf yn ysgrifenu ar fy mwyd fy hun, fel gwr boneddig neu deiliwr, fel y dywedir. Ni wn i, a grôt i gi y neb a wyr, beth a barodd imi grwydro fel hyn oddiar fy llwybr, na pha fodd y gallaf ddychwelyd yn ol at fy mhwnc priodol—helyntion teilwriaid a theilwriaeth y dyddiau gynt.
Yr wyf yn cofio un tro yn ystod tymhor fy mhrentisiaeth, i deilwriaid y plwyf ymgasglu at eu gilydd i geisio sefydlu cyd-dealltwriaeth â'u gilydd yn nghylch y pethau a berthynent i'w galwedigaeth. Cwynid yn erbyn un neu ddau eu bod yn drygu y trade trwy ostwng pris y gwaith, er mwyn enill cwsmeriaid y lleill. Cefais inau y fraint o fod yn bresenol<noinclude><references/></noinclude>
nh1q04dn8dpt8eh0rgg62n6yfj4m96w
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/29
104
87914
169904
2026-08-09T23:00:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169904
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y cyfarfod. Etholwyd fy meistr, fel yr hynaf a'r mwyaf profiadol, i gymeryd y gadair. Agorwyd y cyfarfod trwy egluro yr amcan oedd iddo. 'Frodyr a chyd-deilwriaid,' ebe ef, 'nid wyf yn ystyried fy hun yn deilwng o'r anrhydedd a osodasoch arnaf trwy fy ngalw i'r gadair yma heno. Yr wyf yn fwy cyfarwydd o lawer ar bwytho nag ar areithio; gwell fuasai genyf fi o lawer i un ohonoch chwi gymeryd y swydd anrhydeddus hon; ond mewn ufudd-dod i'ch cais, ymdrechaf wneud goreu y gallaf. Y mae o bwys i ni fel teilwriaid ddeall ein gilydd, a sefyll wrth gefn ein gilydd, chwi wyddoch. Y mae pris gwaith y teiliwr yn ddireswm o isel, ac arnom ni y mae y bai ei fod felly, a gallem wella pethau ond i ni ddyfod i gyd-ddealltwriaeth a chydsefyll wrth ein penderfyniadau. Y mae pobl yn arfer dweyd, fel y gwyddoch chwi, bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud un dyn, yr wyf fi yn y modd mwyaf difrifol yn protestio yn erbyn yr haeriad sarhaus yma, ac yn hòni ein bod ni'r teilwriaid yn gystal dynion a neb pwy bynag, at eu gilydd. Gadewch i ni brofi a dangos hyny i'r byd. Y mae tipyn o achwyn ar un neu ddau ohonom, eu bod yn tori prisiau ein gwaith ni yn gwneud dillad dan y pris arferol yn y wlad yma. Y mae pris bara ac enllyn a moddion byw yn uwch o lawer yn awr nag ydoedd flynyddoedd yn ol, ac felly dylasai fod pris ein gwaith ninau yn uwch hefyd. Ni ddymunwn i ddweyd dim yn gas wrth y ddau frawd cyhuddedig yma, ond dymunem i gyd iddynt ddiwygio a pheidio gweithio dan yr hen bris o hyn allan.'
Eisteddodd fy meistr i lawr yn nghanol trwst cymeradwyaeth uchel.
Cyfododd un o'r ddau a gyhuddid i geisio amddiffyn ei hun. Addefai mai gwir oedd ei fod wedi gweithio dan bris mewn tŷ neu ddau, fod y bobl hyny wedi dweyd wrtho fod teiliwr o blwyf arall wedi cynyg gwneud y gwaith am y pris a'r pris, ac os nad ymfoddlonai ef i weithio am yr un pris, y rhoddent eu<noinclude><references/></noinclude>
nwjh6k20njjz5app19jqnszlcstnoor
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/30
104
87915
169905
2026-08-09T23:01:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169905
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwaith i hwnw; ac iddo yntau, er mwyn cadw ei gwsmeriaid, a chadw teiliwr estronol allan o'r cyffiniau, addaw gwneud. Rhywbeth tebyg oedd stori y llall. Ar ol llawer o siarad ar y mater, addawodd y ddau frawd na throseddent yn y wedd hono mwy; a phenderfynwyd, os deuai teiliwr o blwyf arall i'r plwyf hwnw i weithio dan bris, y byddai iddynt godi yn ei erbyn a'i fopio ymaith, a dwyn ei arfogaeth oddiarno, a thori'i wallt wrth groen ei ben â'i siswrn ei hun, rhwymo ei ddwylaw ar ei gefn, a chrogi yr wydd a'r labwt wrth linyn am ei wddf, a'i ollwng i fyned adref yn y ddiwyg hono. Ymrwymodd pawb oedd yn bresenol i sefyll at y penderfyniad hwn, a chynorthwyo i'w gario allan, os deuai achos.
Ar ol penderfynu y mater pwysig hwn, trowyd y cyfarfod i ymdrin âg achosion cyffredinol y frawdoliaeth. Yr oedd yno un o'r enw Owen Hughes, yn wr doniol ac ymadroddus, a chryn oracl yn ein plith. Cyfododd Owen ar ei draed, a dywedodd: Mr. Cadeirydd, crybwyllasoch yn eich araith ar agoriad y cyfarfod, am yr anfri a'r diystyrwch a deflir arnom ni fel teilwriaid, gan ddynion anwybodus—"bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneud dyn," &c.; pe dywedent fod yn rhaid cael naw dyn o'u bath hwy i wneud un teiliwr, byddent yn llawer nes i'r gwir. Yn y cyffredin, y mae'r teiliwr yn llawer mwy gwybodus a deallus na'r cyffredin o ffermwyr a galwedigaethau eraill, a chenfigen sydd yn peri iddynt geisio ein diystyru. Ni raid i ni gywilyddio arddel ein galwedigaeth ar un cyfrif. Y hi yw yr alwedigaeth hynaf, ac, ar y cyfrif hwnw yn unig, yr anrhydeddusaf ar y ddaear. Onid teiliwr oedd Adda, tad dynolryw? Beth bynag, yn deiliwr y troes ef yn union wedi iddo droseddu. Y'mhle y cafodd efe nodwydd ac edef sydd bwnc nad ellir ei benderfynu, hwyrach; ond beth bynag am hyny, mae y ffaith yn eglur mai dyna y gelfyddyd y trodd efe ati. O'm rhan fy hun, yr wyf yn falch o'm swydd, fel teiliwr, ac nid wyf yn<noinclude><references/></noinclude>
37517kwzeeretvwa10179jvd03gwqlv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/152
104
87916
169906
2026-08-09T23:03:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169906
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/151
104
87917
169907
2026-08-09T23:03:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169907
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/150
104
87918
169908
2026-08-09T23:04:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169908
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/149
104
87919
169909
2026-08-09T23:04:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb destun */
169909
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude>
10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/148
104
87920
169910
2026-08-09T23:04:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169910
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bob amser, rhoddais rybudd iddo i ymadael; ac os cymerwch chwi y lle, bydd yn dda genyf. Ni wn am neb arall y byddai genyf cystal ymddiried ynddo.' Prin y gallasai'r ddau, Robert a'i wraig, goelio eu clustiau. Daethant i gytundeb. Cymerodd Robert yr Hendre Goediog, ac arolygiaeth yr estate. Bu y ddau fyw yn barchus a dedwydd yn Hendre Goediog am lawer o flynyddoedd; bu iddynt bump o blant, tri mab ac un ferch. Yr oedd Robert fel cymydog ac arolygwr yn hynod barchus gan ei gymydogion a'i denantiaid, ac yr oedd hithau yn nodedig felly gan bawb. Byddai ar y blaen bob amser gyda phob achos da, crefyddol a dyngarol. Yr oedd bendithion y tlodion a'r rhai anghenus yn disgyn yn gawodydd ar ei phen; a disgynai eu dagrau yn gawodydd i eneinio ei bedd, wedi ei chladdu. Y mae yr holl genhedlaeth hono agos oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Nid oes yn aros ond ychydig iawn, un yma ac un acw, o'm cyfoedion i fy hun. Ni bu hen bobl yr Hafod Uchaf byw ond ychydig flynyddau ar ol priodas Bob a Miss Evans; bu farw ei thad a'i mham hithau yn fuan ar ei hol. Priododd chwiorydd Bob âg amaethwyr parchus o'r plwyf nesaf atynt, a daethant yn wragedd parchus, da eu gair yn y wlad, ac yn famau yn Sion.
Am fy hen feistr Huw, bu ef byw i oedran teg, a bu farw yn Gristion cywir, yn ol pob argoelion. Robin y Glep yntau a fu farw. Cyn i Huw dori ymaith ei ben, torodd angau ar ei glep, er yr haerai Tomos y Gof ei fod ef yn sicr na allasai Robin byth ymatal oddiwrth ymlid chwedlau yn y bedd.
Dychwelodd Mr. Watkin adref yn mhen y pum mlynedd, ac ymsefydlodd yn hen drigfa ei henafiaid.. Ni phriododd byth—bu farw yn wr canol oed. Yr oedd yn foneddwr parchus iawn, ac nid heb arwyddion ei fod yn ddyn yn ofni'r Arglwydd. Bu yn gyfaill ffyddlon i Robert a'i wraig hyd y diwedd; ac ar hyn dyma finau yn terfynu.
{{nop}]<noinclude><references/></noinclude>
5lk8sb7zuqlg94fnn3cf8y6h833g9qa
169911
169910
2026-08-09T23:05:37Z

5uu2hlvedarzx1d7rtmu7qdecaipjze
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/147
104
87921
169912
2026-08-09T23:06:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169912
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweled nad oedd gobaith iddo lwyddo, aethai i Lundain i dreulio amryw wythnosau; a bu ar ymweliad â hen gyfeillion yn y naill fan a'r llall, yn treulio peth amser. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddychweliad adref, galwodd yn yr Hafod Ganol i ofyn am helynt y teulu. Yr oedd Robert, y gwr ieuanc, yn digwydd bod yno gyda'i wraig ar y pryd. Ymddygai ef a Miss Evans (gynt) tuag at eu gilydd, fel pe na buasai dim neillduol wedi bod rhyngddynt erioed; ond gwaith lled anhawdd oedd hyny iddynt; a gwaith nad allasai neb dan yr amgylchiadau ei wneud ond meddyliau wedi eu dysgyblu a'u coethi yn dda gan addysg a boneddigrwydd. Tra ethai y boneddwr ei ddymuniadau goreu am hir oes a llwyddiant i'r pâr dedwydd; ond yr oedd rhyw beth yn ei lais ac yn ei lygad yn arwyddo y dymunasai ei fod ef ei hun yn y sefyllfa yr oedd Bob ynddi.
Wedi'r cyfarchiadau, dywedai yn y man: 'Yr oedd arnaf eisiau eich gweled, Robert, ar fater o bwys i mi, ac fe allai i chwithau hefyd. Chwi a wyddoch fod yr Hendre Goediog (ffarm ar gyffiniau y Plas) yn dyfod yn rhydd, y ''tenant'' yn ymadael, ac yr oeddwn wedi meddwl am i chwi gael y cynyg cyntaf arni.' 'Diolch yn fawr i chwi, syr,' ebe Bob. Yr oeddwn wedi meddwl am ddyfod atoch i ofyn y ffafr, oni bai 'ie, hym,' eb efe dan gochi at ei glustiau. Buasai agos iddo ollwng y gair allan; ac felly fuasai, ond fel y darfu i amnaid oddiwrth ei wraig ei atal. Deallodd y boneddwr beth oedd yn ei feddwl, ond ni chymerodd arno ddim. Y mae yn dda genyf,' eb efe, 'bod ar fy llaw wneud y gymwynas i chwi; ond y mae genyf beth arall. Y mae fy mam wedi penderfynu myned i fyw i Cheltenham; ac yr wyf finau yn bwriadu gadael cartref am rai blynyddau fe ddichon ar ymdaith i'r Aipht a Palestina, ac felly byddwn yn tori i fynu ein ''hestablishment'' yma. Yr wyf wedi gosod y Plas a'r parc i foneddwr o Loegr, ar ''lease'' o bum mlynedd; yr oeddwn i a'm stiward yn methu cyd-dynu yn dda<noinclude><references/></noinclude>
8iiicsv7s6d8wi19ie1oimrqg3wtvnx
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/146
104
87922
169913
2026-08-09T23:07:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169913
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y man, 'Mae genyf fi waith sobr i'w wneud mewn canlyniad i hyn.' <nowiki>'</nowiki>Beth yw hwnw?' oedd yr ateb. 'Dywedodd Robin wrthyf dro yn ol y cawswn dori ei ben, os priodai Robert a Miss Evans, byth.' 'Tor ei ben o—tor ei ben o,' ebe'r hen wr, 'mi wneist waeth gwaith lawer tro.' 'Dacw Robin yn myn'd heibio ar y ffordd yna'r mynud yma,' gwaeddai un o'r merched. Neidiodd Huw oddiar y bwrdd, a chipiai'r fwyall oedd dan y drestl, ac allan ag ef, a galwai ar ol Robin, ac allan a minau ar ei ledol. 'Aros Robin,' gwaeddai Huw, 'mae arnaf eisiau siarad â thi.' 'Be sydd arnoch eisiau gen i?' gofynai Robin. 'Eisiau dy ben di,' ebe Huw, 'oni ddeydest ti y cawn i dori dy ben di, os priodai Bob a Miss Evans?' 'Na ddeydes i 'rioed y fath beth,' ebe Robin, yn ddychrynedig. 'Nid yw ddim ''use'' i ti wadu,' meddai'r llall, 'mae gen i ''witness'' dy glywed ti'n deyd; mi ro i ti bum mynud i ddweyd dy bader, tra byddwi'n hogi'r fwyall yma.' 'Mi gewch chithe'ch crogi,' ebai Robin. Fy nghrogi am dori dy ben dir' meddai Huw, 'pwy nghrogith i? Mi fydda'n debycach o lawer o gael tal da am y gwaith.' Edrychai Huw mor ddigofus a difrifol, fel y credai Robin ei fod yn benderfynol o wneud y gwaith. 'Gna'r gore o'r chydig amser sy genyt ti,' eb efe, dan hogi y fwyall. Cymerodd Robin y goes ar hyn, a Huw ar ei ol, a minau yn chwerthin. Edrychai Robin drach ei gefn weithiau, a gwelai ei fod yn enill tir ar Huw, a rhoddai hyny nerth adnewyddol yn ei aelodau. Safodd Huw toc, wedi ei orchfygu gan chwerthin, a gwaeddai ar ol Robin, 'Mi ddo i ar dy draws di eto ryw ddiwrnod gei di wel'd.'
Cyn pen ychydig wythnosau wedi'r pethau hyn, dychwelodd Mr. Watkin yntau adref. Sylwai pawb fod cyfnewidiad mawr ynddo: yn lle'r ysgafnder a'r hoewder a'i dynodent bob amser o'r blaen, yr oedd dwyster a difrifwch yn ei holl ymddygiad. Yr oedd gwir yn y chwedl ddarfod iddo fyned ar ol Miss Evans, bu yn daer iawn arni ei briodi; ond wedi<noinclude><references/></noinclude>
1g6myshjfgf52clge05iyledcj3r1cn
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/145
104
87923
169914
2026-08-09T23:08:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169914
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Bob yr Hafod o'r gymdogaeth; wedi i rai dyddiau fyned heibio, wrth weled nad oedd hanes am dano yn dychwelyd adref aeth yn si ac yn sibrwd trwy'r fro yn ei gylch, ac yr oedd llawer o wahanol opiniwnau ar y mater. I Nerpwl yr aethai, meddai rhai, i ymsefydlu yn Gigydd yno; aethai i ffwrdd o'r wlad i America, meddai eraill, oherwydd darfod i Miss Evans ei siomi, a disgynai ffrewyll tafodau yn drwm iawn arni hi o'r achos; canys yr oedd Bob yn wr ieuanc ag yr oedd pawb yn yr ardal yn hoff ohono. Ar ol Miss Evans i'w phriodi hi yr aethai yn sicr, yn marn eraill. Yr oedd Robin y Glep yn ddigon sicr ei bod hi wedi priodi Mr. Watkins, a bod Bob, pan ddeallasai hyny, wedi teimlo cymaint, fel y rhoisai derfyn ar ei einioes. Yr oedd ef (Robin) wedi clywed fod gwr ieuanc yr un fath a Bob'yn union yn mhob peth yn ol y disgrifiad a roid ohono, wedi taflu ei hun o'r cwch i'r afon rhwng Bagillt a Parkgate, wrth groesi, dranoeth wedi'r diwrnod y gadawsai Bob gartref, ac nid oedd yr anmheuaeth lleiaf ar feddwl Robin, nad Bob oedd o.
Un diwrnod, yn nghanol y berw hwn, pwy a wnaethant eu hymddangosiad ond Bob, a Miss Evans gydag ef, nid yn Miss mwyach, ond yn Mrs.—! Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy y gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod, yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi yn gelwyddog. Nid oedd neb yn fwy llawen ar yr achlysur dedwydd na Huw, fy hen Feistr, ond hen wr yr Hafod, yr oedd ef yn barod i neidio o orfoledd. Cofleidiai a chusanai ei ferch yn nghyfraith dan chwerthin ac wylo yr un pryd. Yr oedd yr hen wraig hithau yn llawen ynddi'i hun, ond nid oedd am ddangos hyny. 'Bob,' ebai hi'n sychlyd, 'rhaid i ti gymeryd gofal am dy wraig, neu fe'i dwg dy dad hi oddiarnat ti.' 'Rhaid i chwithau gymeryd gofal am eich gwr,' ebai Bob.
Yr oeddwn ia Huw yn digwydd bod yn yr Hafod yn gweithio y diwrnod dedwydd hwnw. Ebai Huw<noinclude><references/></noinclude>
ez5grhynfjvn8qb0wngbishi0vicus3
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/144
104
87924
169915
2026-08-09T23:08:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "hi—galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau. Diangodd Robin am ei hoedl, a'r ''coachman'' ar ei ol, gan glecian ei chwip arno. Cyrhaeddodd un fflangelliad ar ei war, a Robin yn gwaeddi Mwrdwr; a mawr oedd yr helynt, y cwn yn cyfarth, yr ieir a'r gwyddau yn crugleisio am yr uchaf gan y dychryn a barasai y terfysg iddynt, a'r gweinidogion ar dori ar eu traws gan chwerthin, wrth weled Robin yn ffoi, a'r ''...
169915
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi—galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau. Diangodd Robin am ei hoedl, a'r ''coachman'' ar ei ol, gan glecian ei chwip arno. Cyrhaeddodd un fflangelliad ar ei war, a Robin yn gwaeddi Mwrdwr; a mawr oedd yr helynt, y cwn yn cyfarth, yr ieir a'r gwyddau yn crugleisio am yr uchaf gan y dychryn a barasai y terfysg iddynt, a'r gweinidogion ar dori ar eu traws gan chwerthin, wrth weled Robin yn ffoi, a'r ''coachman'' yn ei erlid, a gorchfygwyd yr hen wraig foneddig ei hun gan chwerthin hefyd, yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.
Fodd bynag, cafodd Robin ei bapur yn ol; ac wedi dyfod ychydig ato ei hun, aeth o amgylch y gymydogaeth i'w ddangos, a thaenu y chwedl: ac yr oedd yn mron bawb yn coelio'r stori, gan ei bod wedi ei chodi o'r papur newydd, fel y credent. Ni wneid un sylw o chwedl o'r fath mewn un ardal o Gymru yn y dyddiau presenol, pan y mae addysg a gwybodaeth yn agor ac yn diwyllio meddyliau y bobl. Yr oedd y natur ddynol yn yr ardal hono, a llawer o ardaloedd eraill yn y dyddiau hyny, yn ei symledd diniwed, yn agored i dderbyn a chredu pob chwedl, yn enwedig pob peth y dywedid ei fod wedi ymddangos mewn print, chwedl hwythau. Nid oedd dim yn rhy anferth ac anhygoel i'w gredu, ei fod gan wired a'r pader, os sicrheid ei fod mewn print. Y mae anwybodaeth yn elwa bob amser, 'a'r ehud a goelia bob gair.'
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXVI.}}}}
Y DIWEDD—Ie, y ''diwedd'', ac y mae diwedd i bob peth, i bob amcan, a phob stori dan yr haul, ac felly i'm stori inau.
Yn union wedi'r ffrwgwd yn y Plas, gyda Robin y Glep, fel yr adroddais yn y benod diweddaf, collwyd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
ksfrb9rbmwpbsma34rdqf5b6y4x4i4r
169916
169915
2026-08-09T23:08:55Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169916
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi—galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau. Diangodd Robin am ei hoedl, a'r ''coachman'' ar ei ol, gan glecian ei chwip arno. Cyrhaeddodd un fflangelliad ar ei war, a Robin yn gwaeddi Mwrdwr; a mawr oedd yr helynt, y cwn yn cyfarth, yr ieir a'r gwyddau yn crugleisio am yr uchaf gan y dychryn a barasai y terfysg iddynt, a'r gweinidogion ar dori ar eu traws gan chwerthin, wrth weled Robin yn ffoi, a'r ''coachman'' yn ei erlid, a gorchfygwyd yr hen wraig foneddig ei hun gan chwerthin hefyd, yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.
Fodd bynag, cafodd Robin ei bapur yn ol; ac wedi dyfod ychydig ato ei hun, aeth o amgylch y gymydogaeth i'w ddangos, a thaenu y chwedl: ac yr oedd yn mron bawb yn coelio'r stori, gan ei bod wedi ei chodi o'r papur newydd, fel y credent. Ni wneid un sylw o chwedl o'r fath mewn un ardal o Gymru yn y dyddiau presenol, pan y mae addysg a gwybodaeth yn agor ac yn diwyllio meddyliau y bobl. Yr oedd y natur ddynol yn yr ardal hono, a llawer o ardaloedd eraill yn y dyddiau hyny, yn ei symledd diniwed, yn agored i dderbyn a chredu pob chwedl, yn enwedig pob peth y dywedid ei fod wedi ymddangos mewn print, chwedl hwythau. Nid oedd dim yn rhy anferth ac anhygoel i'w gredu, ei fod gan wired a'r pader, os sicrheid ei fod mewn print. Y mae anwybodaeth yn elwa bob amser, 'a'r ehud a goelia bob gair.'
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXVI.}}}}
Y DIWEDD—Ie, y ''diwedd'', ac y mae diwedd i bob peth, i bob amcan, a phob stori dan yr haul, ac felly i'm stori inau.
Yn union wedi'r ffrwgwd yn y Plas, gyda Robin y Glep, fel yr adroddais yn y benod diweddaf, collwyd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
bkbeinupaom1izp89dhanoyiujtcnnb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/143
104
87925
169917
2026-08-09T23:10:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169917
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar y mater, nes clywer yn mhellach,' meddai'r bachgen: O, na'n wir, deydwch o, beth bynag, sonia i air wrth neb am dano fo.' 'Wel, waeth gen i mor llawer,' ebe'r llall, gan ei fod o wedi ei gyhoeddi yn y papur newydd, 'dall fod dim drwg am ei ddweyd 0.' Siwr iawn, siwr iawn,' ebe Robin.
Yna cymerodd y bachgen arno ddarllen yr hysbysiad am briodas Mr. Watkin a Miss Evans allan o'r papur. 'Nid wyf fi yn deall gair o Saesneg,' meddai Robin, 'a fyddwch cystal a'i roid o yn Gymraeg?' 'Wel sylwedd y peth ydyw hyn:—Priodwyd ar y dydd a'r dydd, yn Eglwys St. Alexander Coppersmith, gan y Parch. Demetrius Silversmith, rector y lle, E. Watkin, Esq, o {{bar|2}}, a Miss Mary Evans, o'r un ardal.' Cododd Robin ei ddywlaw mewn syndod. 'Wel, rhaid i fod o'n wir, gan i fod o mewn preint,' meddai, 'ni chredis i ddim tan heddyw y base Mr. Watkin yn ei phriodi hi; ond waeth tewi bellach. 'Newch chi roi'r papur yna i mi?' gofynai. O, na, meddai'r bachgen, 'y mae arnaf ei eisiau.' 'Rhowch i fenthyg o am ddiwrnod neu ddau ynte.' 'Na, yr wyf yn myned yn fy ol y prydnawn heddyw,' oedd yr ateb. Da chwi, 'sgrifenwch i mi 'rhyn ddaru chi ddarllen,' ymbiliai Robin. Mi allaf wneud hyny,' ebai yntau, ac ysgrifenodd yr hyn y cymerasai arno ei ddarllen, a dododd ef iddo. Dododd y ''Coppersmith'' a'r ''Silversmith'', yn lle y Gof Copr a'r Gof Arian, i fwrw hug dros lygaid Robin, rhag iddo ddeall mai cellwair oedd. Aeth Robin ymaith wedi cael gwledd i'w enaid tlawd, er nad oedd y stori i gyd wrth ei fodd; ond yr oedd ganddo stori i'w thaenu. Penderfynodd alw gyda'r gweinidogion yn y Plas yn gyntaf man. Cyfeiriodd ei gamrau tuag yno, ac adroddodd y chwedl wrthynt, gan dynu allan ei awdurdod. Cymerodd un o'r morwynion y papuryn i'w meistres. Deallodd hono y tric, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes, am daenu chwedlau o'r fath hono am ei mab<noinclude><references/></noinclude>
jis4vhtxkk07ox574avvc5i2e9q4ymz
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/142
104
87926
169918
2026-08-09T23:11:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169918
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y fro hono. Nid oedd na chyhoeddiad misol na newyddiadur yn ymweled â'r fangre; Beibl Peter Williams, ac Almanac Sion Robert o Gaergybi, oedd yn gwneud i fynu lyfrgellau crefyddwyr yno, gan mwyaf. Yr oedd y bobl yno yn bobl lonydd a diofal, heb fawr o negesau rhyngddynt â'r byd o'u hamgylch, amgen cyfnewid nwyddau yn y ffeiriau a'r marchnadoedd cylchynol. Ymdrechai pob un elai i ffair neu farchnad gasglu cydaid o newyddion i'w dwyn adref i'w deulu a'i gymydogion, drwy holi pob un a gyfarfyddai âg ef o ardaloedd eraill, 'Pa newydd sy acw?' Yr oedd Miss Evans, gan hyny, gallech feddwl, yn cynhyrchu rhyw ddyddordeb rhyfedd mewn ardal felly. Dychymygid a thaenid pob math o chwedlau am dani; un oedd ei bod wedi agor ysgol yn Nghaerlleon; un arall, ei bod wedi marw; ac un arall, yr hon a gredid yn fwyaf cyffredinol, ei bod wedi priodi â Mr. Watkin, a bod y ddau wedi myned ar daith i'r ''gwledydd pell'', fel y dywedid. Yn y cyfwng hwn, daeth gwr ieuanc, mab i amaethwr yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn gwasanaethu gyda masnachwr yn Nghaer, adref ar ymweliad â'i deulu. Cyrchai y cymydogion ato i holi a wyddai ddim o hanes Mary Evans, yr hon y tybid ei bod yn y ddinas hono; ond ni chlywsai hwnw air o son am y stori nes y daethai adref. Yr oedd Robin y Glep yn awyddus i adrodd yr holl chwedlau a glywsai ac a ddyfeisiasai am Miss Evans wrtho. Yr oedd y gnofa wyllt yn mol Robin am gael gafael ar ryw chwedl newydd i fod yn ''stock-in-trade'' iddo. Yr oedd y bachgen yntau yn dipyn o wàg, a thybiai y gallasai wneud ''fun'' o Robin. Un tro pan alwodd Robin gydag ef, cymerai bapyr newydd yn ei law, yr hwn, meddai, a dderbyniasai o Gaer y dydd o'r blaen. 'Wel, y mae gen i newydd am Mary Evans i chwi heddyw.' 'Oes yn wir! oes yn wir! Bendith a'ch c'lyno chi, gadewch i ni gael o beth bynag,' ebe Robin gan rwbio'i ddwylaw. 'Hwyrach mai gwell fyddai cymeryd yn ddystaw<noinclude><references/></noinclude>
i2dayyg46hu63udagzs2r60uu7l58mw
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/141
104
87927
169919
2026-08-09T23:12:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169919
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwedl hwythau, aethant un noson at Ffyddlon a Gobeithiol hwythau i ofyn eu meddyliau ar achos Miss Evans. Teimlo yn bur ofnus a gofidus yn yr achos yr oedd Ffyddlon, ond yr oedd Gobeithiol yn bur galonog. Ofnai y cyntaf bod yr eneth wedi dyrysu am byth, a chwynai y golled fawr oedd am dani yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn yr Eglwys; ond hyderai y llall bethau gwell am dani. Yr oedd gan Gobeithiol adnodau, rhai o'r Beibl a rhai o'i wneuthuriad ei hun, a ddefnyddid ganddo ar bob achos anmheus o'r fath, megis—' Y mae cariad yn gobeithio pob dim.' 'Na fernwch ddim cyn yr amser.' 'Amser a ddengys.' 'Gobeithiwch y goreu, nes bo raid i chwi gredu y gwaethaf.' 'Peidiwch a dweyd wrth neb eich bod yn myn'd i farw, nes y bo chwi wedi marw,' a'r cyffelyb. 'Mi ddaw'r eneth allan o'r brofedigaeth gan iached a'r gneuen, gewch chwi wel'd,' eb efe. 'Amen,' meddai Ffyddlon, 'ond ofni'r gwaethaf yr wyf fi.' 'Dyna'r gwahaniaeth sy rhyngoch chwi a finau, frawd,' eb y llall, 'yr ydych chwi yn edrych ar yr ochr dywyll i'r cwmwl yn wastad a minau ar yr ochr oleu. "Ni wel neby goleuni disglaer sydd yn y cymylau, ond myned y mae'r gwynt a'u puro hwynt," medd un o gyfeillion Job. Mae goleuni disglaer yn y cwmwl du yma yn siwr i ti, frawd, a mi ddaw awel o wynt i'w chwalu fo ac i'w buro fo cyn hir, gei di wel'd.'
'A oes neb ohonoch yn clywed dim am yr eneth, p'le mae hi?' gofynai Ffyddlon, 'y mae'n rhyfedd gen i os nad yw ei chyfeillesau, merched yr Hafod, yn clywed oddiwrthi.' 'Os ydynt, y maent yn cadw y cwbl iddynt eu hunain mor ddyogel ag y mae angau yn cadw ei gyfrinach,' ebe un o'r bechgyn, 'a Bob yr un modd; y mae o yn cymeryd arno, beth bynag, na wyr o ddim yn y byd o'i hanes hi.'
Gellir yn hawdd ddeall fel yr oedd amgylchiad o'r fath yn creu y fath ddyddordeb, ac yn peri y fath siarad am dano, mewn ardal annghysbell a neillduedig<noinclude><references/></noinclude>
hycx4mnv05og68k7uv0e01fp6gnviny
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/140
104
87928
169920
2026-08-09T23:13:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169920
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byd y cawsom wae." Roddech chwi'ch llais tros ei thori hi allan, pe dygid ei hachos hi o flaen yr eglwys—hyny yw, os prioda hi Mr. Watkin?' gofynai un o'r bechgyn. 'Na wn i'n siwr,' ebe Sion, 'mi cynghorwn hi i fyn'd allan o honi'i hun, 'rwy'n meddwl, gan y byddai ei gwaith yn priodi Mr. Watkin yn profi ei bod hi'n caru'r byd a'i bethau yn fwy nag y mae hi yn caru crefydd a'i phethau.'
Beth debygech chwi, ddarllenwyr, a wnaethai dynion fel Harri a Sion yn awr pe buasent yn fyw, a chanddynt bleidlais i'w rhoddi mewn etholiad? Y mae yn bur hawdd i chwi ddyfalu; bargeinio am ei bleidlais, ei gwerthu i'r uchaf ei geiniog, os cawsai gynyg a chyfleusdra, wnaethai Harri, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod, a thaeru dros gyfreithlondeb y weithred ar ol darfod. Yr un peth yn union a wnaethai Sion yntau, ond nid yn yr un dull. Iuddew yn y dirgel, a fuasai Sion. Daliasai ar ei gefn am y pris uchaf am ei bleidlais hyd yr eithaf, ond cymerasai y gofal mwyaf i gadw y peth yn guddiedig oddiwrth bawb; mewn gair, gwnaethai y ddau yr un peth, bob un yn ei ffordd ei hun, ag a wnaeth lluaws yn Nghymru wedi hyny, sef gwneud aberth o'u cydwybodau a'r egwyddorion a broffesent rhag ofn colli rhyw fudd neu fantaisa dybient fyddai mewn perygl pe pleidleisient yn unol â'u proffes; gwell ganddynt fradychu ac aberthu cydwybod, druan, na pheryglu unrhyw fantais fydol. Dywediri mi fod cryn luaws o aelodau a swyddogion eglwysig perthynol i'r naill enwad a'r llall o Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth, o'r brodyr hyn i Sion a Harri. Carwn allu gwthio fy nodwydd at y crai i'w cydwybodau, os oes y fath beth a chydwybod yn y fath ddynion a allant wneud y fath beth.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXV.}}}}
Ar ol i'r gwyr ieuainc fod gyda'r ddau fydolddyn, Harri lygad y fargen,' a 'Sion y byd a'i bethau,' <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
5vu8jt4oyuu1gsa5uzva17p4mvdy7tq
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/139
104
87929
169921
2026-08-09T23:14:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169921
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gwneud cyfiawnder â phawb, a thynu gwarth ar yr achos mawr drwy hyny; a dyna yn unig oedd yn peri iddo bryderu yn nghylch y 'byd a'i bethau.'
Yr oedd Sion yn enwog fel gweddiwr am ledaeniad a llwyddiant yr efengyl yn gartrefol a thramor; ond pan eid ato i ofyn cymhorth at unrhyw achos, gartref neu oddicartref, nid allai efe roddi dim—ni buasai dim yn fwy dymunol ganddo na chyfranu at achosion crefyddol pe buasai y moddion ganddo, ond yr oedd eisiau bod yn gyfiawn cyn bod yn haelionus. Yr oedd ganddo galon a dymuniad mor hael ag undyn ar y ddaear, yr oedd yn sicr o hyny, ond fod y moddion yn eisiau. Yr oedd ambell i adeg ar Harri pan y cyfranai at ryw achos da, y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb, ond nid oedd y fath adeg byth ar Sion; ac felly, yr oedd ambell i eithriad yn mydolrwydd ysbryd y cyntaf, ond bydolrwydd oedd ddeddf ddieithriad ysbryd yr olaf.
Yr oedd Sion wedi crafu mwy o'r byd a'i bethau' i'w feddiant na Harri, ac yr oedd ei frodyr crefyddol a'i gymydogion yn gwybod hyny; ac felly, o'r ddau, gwell oedd gan bawb Harri na Sion. Pan ofynodd y gwyr ieuainc i Sion beth oedd ei feddwl ef ar achos Miss Evans, ei ateb oedd, 'Os prioda hi y gwr boneddig yna, mae'n amlwg i mi mai er mwyn y byd a'i bethau y gwna hi hyny; a ni welais i ond aflwydd o briodasau felly erioed, ni wnaethwn i byth mo hyny beth bynag.' Pan ddywedent wrtho beth a ddywedasai Harri ar y cwestiwn, 'Ie, ie,' eb efe, gydag ochenaid, ar y byd a'i bethau y mae holl galon Harri, druan.' 'A ydych chwi yn meddwl y dylid ei diarddel hi os prioda hi Mr. Watkin?' gofynai un ohonynt. 'Na wn i'n siwr,' ebe Sion, 'ond mi wn hyn, mi ddois i allan o'r byd am nad oeddwn i'n caru'r byd a'r pethau sydd yn y byd; a mi feddyliwn i y byddai'n well i'r rhai sy'n ei garu o aros ynddo fo; a'r rhai sy wedi d'od i fewn i'r eglwys felly, fyn'd yn eu hol ato fo. Mi fydda i'n cael y mhrofiad yn cytuno â'r hen benill hwnw, "Gadawn y byd ar ol,—y<noinclude><references/></noinclude>
8ty9wvsadd4i5lc0eftjd1edboh4phh
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/138
104
87930
169922
2026-08-09T23:15:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169922
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gwnaeth ddeg neu ddeuddeg punt o brofit arnynt. Yr oedd cyfarfod crefyddol yn y capel y noson hono; aeth Harri iddo yn llawn bywyd a gwres. Nid oedd diwedd ar ei ganu, dyblai a threblai bob odl, ac ambell i 'O diolch' yn gymysg a'r gân. Yr oedd pawb wedi synu, ac aml un yn dweyd ynddo'i hunan, 'Wel, y mae Harri wedi gwneud bargen dda yn y ffair heddyw, yn sicr ddigon,' ac felly yr oedd, fel y dangoswyd. Druan oedd Harri.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXIV.}}}}
HWYRACH y dylwn grybwyll bod i Harri, Cwmbere, frawd arall yn hollol o'r un ysbryd bydgarol ag ef, yn yr eglwys hono; ond yr oedd bydol ddoethineb hwnw yn gwisgo ffurf wahanol. Sion y byd a'i bethau,' y gelwid ef. Nid oedd Harri byth yn ceisio cyfrwys gelu ei fydolrwydd ef, fel y gwelsom; ond yr oedd Sion am ei guddio o'r golwg am ei fywyd. Crepa bychan, gwyneblwyd, llygadfain, oedd Sion, â llais gwanaidd, cwynfanus—tra gwahanol i Harri, yr hwn oedd yn balff o ddyn cadarngryf, eon, a garw yr olwg arno, â llais cryf a chras. Gyda'ch cened," a 'Begio'ch pardwn,' oedd moeseiriau cyffredin Sion, yn ei ymddyddanion; ond ni ofynai Harry genad na phardwn undyn byth.
Yr achos i Sion gael yr enw 'Sion y byd a'i bethau," oedd ei fynych arferiad o'r ymadrodd yn y gyfeillach grefyddol, ac yn ei ymddyddanion. Dywedai yn aml iawn ei fod yn ofni fod y byd a'i bethau yn cael gormod o'i sylw; nid am ei fod yn caru'r byd a'i bethau chwaith, pell iawn oedd ef oddiwrth hyny; nid oedd ef yn gofalu dim am y byd a'i bethau o ran hyny,
{{c|Aed y ddaear ffordd yr elo,<br>Aed i'r sawl a'i caro hi,}}
o'i ran ef; os cai ef ddigon i dalu ei ffordd trwy'r byd, dyna'r cwbl a geisiai ac a ddymunai ohono. Byddai arno ofn yn aml i fethu cyfarfod â'i ofynwyr,<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
sk0eu43gd9sbt41ywci75u14iw6a6zy
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/137
104
87931
169923
2026-08-09T23:16:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169923
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef. 'Onid iawn y gelwir ei enw ef, ''Bydolddoethyn'',' meddai un arall. Y mae Harri yn fwy bydol na'r byd ei hun,' meddai y trydydd—'O'r byd y mae efe, am y byd y mae'n llefaru, ac yn y byd y mae ei galon.'
Yr oedd crefydd Harri yn codi ac yn gostwng gyda'r byd; bob amser os cai gynhauaf da, a phrisiau da ar yd ac anifeiliaid, byddai yn wresog iawn gyda'i grefydd. Ar y tymhorau hyny, fe ganai â'i holl egni, a'i law ar lechwedd ei ben, yn y cyfarfodydd crefyddol. Ni ddeuai yn agos i gyfarfod diolchgarwch am gynhauaf, pan na chaffai gynhauaf wrth ei fodd. Pan fyddai prisiau moch a defaid ac anifeiliaid eraill yn isel, byddai yntau dros ei ben yn ei stranks. Anaml iawn y gwelid ef yn y capel mewn un cyfarfod, ac ni cheid na chân na cheiniog ganddo, ond edrychai mor surllyd a bwch. Cafodd adnewyddiad go hynod ar ei grefydd ar ol hir ddirywiad felly un tro. Yr oedd wedi bod yn amser go galed ar ffarmwyr er's cryn dymhor, a Harri yn methu gwneud bargen mewn dim. Yr adeg hono, aeth i ffair anifeiliaid oedd i fod yn y dref gyfagos un diwrnod, ac ar y ffordd, goddiweddodd wr oedd yn myned a phedwar neu bump o fustych i'w gwerthu. Aeth yn ymddyddan rhyngddynt â'u gilydd ar galedi yr amser. Areithiodd Harri'n ddoniol ar y pwnc hwnw. Gofynodd yn y man, beth oedd y gwr yn feddwl gael am y bustych. 'Hyn a hyn, fel a'r fel,' ebai'r gwr. 'Druan ohonoch, ebe Harri, 'y mae amser y pris yna wedi myned heibio, ni welwch chwi mo hono fo heddyw, beth bynag, os gwelwch chi o byth. Mi'ch cynghorwn i chi i gadw'r bustych am dipyn eto, i edrych be ddaw.' 'Dyna fuaswn i'n wneud,' ebe'r gwr, 'pe buasai gen i fodd; rhaid i mi gwerthu nhw heddyw am hyny gaf fi.' Daliodd Harri ar y gair, a chynygiodd ar y bustych yn y man, ac wedi taeru am y pris—cytunwyd. Aethant yn mlaen i'r dref, talwyd am y bustych. Deallwyd erbyn myned i'r ffair, bod amryw brynwyr o Loegr wedi dyfod i'r ffair, a chryn ofyn am fustych, a chodiad yn y pris. Gwerthodd Harri hwy drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
3gj96kxo0u1g8c96jwrdc2vxjni3wp2
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/136
104
87932
169924
2026-08-09T23:17:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169924
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'fod gofynwr yn bwgwth rhedeg arna i os na thalwn i swm dyledus iddo ar ryw ddiwrnod penodol, a minau heb fodd i'w gyfarfod o, a mod i yn fy nghyfyngder yn dyfod atoch chwi i gynyg gwerthu buwch neu geffyl i chwi, am beth llai na'i wir werth, er mwyn cyfarfod â 'ngofynwr, am na chawn amser i wneud y goreu a allwn ohono, gan fod yr amgylchiadau yn gwasgu; a chwithau yn gwrthod oni chaech ef am lawer llai na'i werth, beth y cyfrifwch chwi beth felly?' 'Mi cyfrifwn hi 'n eitha teg i ti gadw'r anifail, os na bydde ti'n foddlon i mhris i, ac i minau gadw f' arian.' 'Usuriaeth ac ocraeth y geilw y Beibl beth fel yna,' meddai'r bachgen. 'Surieth ac ocreth, ne beth bynag y gelwir o, mae o'n beth digon teg a chyfiawn wrth bob rheswm,' meddai Harri.
Yr ydych wedi myn'd oddiwrth y pwnc,' ebe un o'r bechgyn eraill, 'son yr oeddym am achos Mary Evans:—pa un a fyddai'n iawn iddi hi sy'n proffesu crefydd briodi dyn digrefydd, fel Mr. Watkin, dyna oedd y pwnc. 'Rydw i wedi setlo'r pwnc hwnw o'r blaen,' ebe Harri, 'mae synwyr pob dyn yn deyd bydde'n ffol ac yn bechadurus ynthi wrthod y fath fantes.' 'Ond bwriwch fod addewid priodas rhyngddi â rhywun arall,' atebai'r bachgen, 'a fyddai 'n iawn iddi dori'r addewid hono, er mwyn y fantes?' 'Bydde, tase hi wedi addo ganwaith, a bwrw 'i bod hi'n cael cynig ar well ''match,'' ebe Harri; ac ychwanegai, 'Yr oedd hen wr y Tŷ Celyn yn siarad fel ffwl heno. Ond 'roeddwn inau'n gwel'd rhywbeth yn y pethe oedd o'n ddeyd am wisgo menig, a chario ''umbrello'' hefyd rhoi siampal ddrwg i hogie a hogenod yr ardal yma ydi peth felly: mi fydd ar bob hogyn a hogen eisio menig ac umbrello bellach, gewch chi wel'd; balchder a gwastraff ydi peth felly. Mi roiswn inau fy llais trost droi Mari Ifan o'r seiat am neud peth felly,' ac felly terfynodd yr ymddyddan.
'Doethineb y byd hwn ydyw crefydd Harri i gyd,' sylwai un o'r bechgyn wedi iddynt ymadael âg<noinclude><references/></noinclude>
19gua9nb9sz8alwons7qfjlqcy49qoh
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/135
104
87933
169925
2026-08-09T23:18:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169925
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Prawfddarllenwyd y dudalen hon
phen i neud tro felly.' 'Ond beth feddyliwch chwi am ei chrefydd hi pe bai hyny yn digwydd bod?' 'Ei chrefydd hi! Twt, nonsens, ydach chi'n meddwl fod crefydd yn erbyn i ddyn ddal gafel ar fantes fel ene, os daw hi yn 'i ffordd o? Mae crefydd yn dysgu d'ledswydd pob un i fod yn gall i ofalu am 'i amgylchiade gore fyth gallo fo wrth fyn'd trw'r byd yma.' Ydyw, ar lwybyr cyfreithlon.' 'Llwybyr cyfreithlon yn wir! Be fydde'n annghyfreithlon i'r eneth ene briodi'r gwr byneddig, os ceith hi gyntho fo?' 'Wel, ni byddai dim yn annghyfreithlon iddi yn ngolwg cyfraith y wlad, ond beth fyddai iddi sy'n proffesu crefydd i briodi dyn ieuanc dibroffes a digrefydd fel Mr. Watkin, yn ngwyneb cyfraith y Beibil sy'n beth arall.' 'Tŷdi cyfreth y Beibil ddim yn erbyn y fath beth, neu mae cyfreth y Be Beibil yn groes i gyfreth rheswm. Am dana i, mi gymra i afel ar bob cyfleusdra ga i, i wneud y gore alla i o'r byd yma, tros bothw i yntho fo: fydd hi ddim gwaeth arna i ar ol i mi fyn'd ohono fo, ar y cownt hwnw, goelia i.'
'O helaethrwydd ei galon,' yr oedd yr hen greadur yn llefaru, canys megis y llefarai y gweithredai. Nid âi byth i un man—i ffair na marchnad, na chyfarfod crefyddol, gartref nac oddicartref, nad oedd yn gwylio am gyfle i wneud bargen dda. Yr oedd felly wedi casglu cryn swm o arian. Pe digwyddai fod angen rhyw swm o arian ar ryw gymydog, ac i Hari wybod hyny, âi ato i gynyg cymwynas iddo, trwy brynu anifail neu rywbeth ganddo, gan gymeryd mantais ar angen y truan i'w wasgu yn y pres, a'i brynu am lawer llai na'i wir werth; ond er mwyn gwneud y cwbl bob amser. 'Ie, y mae yn iawn yn wir,' ebe un o'r bechgyn, i bob un wneud y gore allo fo o'r byd yma, fel y dywedwch chwi; ond iddo ofalu am fod yn deg a chyfiawn.' Does dim yn fwy teg a chyfiawn, goelia i,' atebai'r ''Bydolddoethyn'', 'nag i ddyn wneud y fargen ore fyth fedro fo dan bob amgylchiad, wrth briodi a phrynu a gwerthu.' 'Bwrier,' ebe'r llall,<noinclude><references/></noinclude>
auq8tettjgvo7auk1tbe2ij3i8flrwr
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/134
104
87934
169926
2026-08-09T23:19:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169926
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y llyfr: yr oedd gan bob eglwys ei ''Christion'', ei ''Ffyddlon'', ei ''Gobeithiol'', ei ''Deddfol'', ei ''Bydolddoethyn'', &c. Yr oedd gan yr eglwys yr ydym yn awr ar ei hanes y cymeriadau hyny yn perthyn iddi; a chan eu bod oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ni fydd o un niwed i ni roddi eu henwau. Gelwid Thomas Evans (tad Miss Evans) yn ''Gristion''; ''Wmffre Edward'', o'r Fron, yn ''Ffyddlon''; Dafydd Tomos, y Rhiw, yn ''Gobeithiol''; a'r hen frawd o'r Tŷ Celyn yn ''Deddfol''; a Harri Dafydd, Cwmbere, yn ''Bydolddoethyn''. Yr oeddynt oll yn henafgwyr; a gwyr ieuainc yr eglwys a ddodasent yr enwau arnynt, yn ol fel y barnent fod y naill a'r llall yn dwyn cyffelybrwydd i'r nodweddau hyny yn 'Nhaith y Pererin.'
Aeth nifer o'r gwyr ieuainc at eu gilydd ar ol y ''society'' y rhoddais hanes am dani yn y benod ddiweddaf, i gynal ''committee'' bach ar y mater: a daethant i'r penderfyniad o gael barn bersonol pob un o'r hynafgwyr ar y pwnc. Aeth tri neu bedwar ohonynt ar ol Mr. yn y llyfr: yr oedd gan bob eglwys ei Christion, ei Ffyddlon, ei Gobeithiol, ei Deddfol, ei Bydolddoethyn, &c. Yr oedd gan yr eglwys yr ydym yn awr ar ei hanes y cymeriadau hyny yn perthyn iddi; a chan eu bod oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ni fydd o un niwed i ni roddi eu henwau. Gelwid Thomas Evans (tad Miss Evans) yn Gristion; Wmffre Edward, o'r Fron, yn Ffyddlon; Dafydd Tomos, y Rhiw, yn Gobeithiol; a'r hen frawd o'r Tŷ Celyn yn Deddfol; a Harri Dafydd, Cwmbere, yn Bydolddoethyn. Yr oeddynt oll yn henafgwyr; a gwyr ieuainc yr eglwys a ddodasent yr enwau arnynt, yn ol fel y barnent fod y naill a'r llall yn dwyn cyffelybrwydd i'r nodweddau hyny yn 'Nhaith y Pererin.'
Aeth nifer o'r gwyr ieuainc at eu gilydd ar ol y society y rhoddais hanes am dani yn y benod ddiweddaf, i gynal committee bach ar y mater: a daethant i'r penderfyniad o gael barn bersonol pob un o'r hynafgwyr ar y pwnc. Aeth tri neu bedwar ohonynt ar ol Mr. ''Bydolddoethyn'' y noson hono; goddiweddasant ef ar y ffordd, a gofynasant iddo beth oedd ei feddwl ef am achos Miss Evans. 'Fy meddwl i ydi,' ebe ef, 'nad ydi hi ddim mor wirion ag y gnai hi wrthod priodi gwr byneddig fel Mr. Watkin, os bydde fo mor wirion a chynig iddi.' ' A ydych yn meddwl mai tro gwirion ynddo fo fyddai ei phriodi hi?' 'Ie, tro na wnaethwn i byth mono fo taswn i yn 'i sefyllfa fo.' 'Paham hyny?' 'Wel pa'm hyny? Ond am y galle un fel y fo gael gwraig yn werth 'i miloedd, tae o'n ceisio; a ffwl ydi'r dyn a briode lodes dlawd, mewn cymhariaeth, pan alle o gael aeres stad fawr yn wraig. 'Does gen i ddim yn erbyn yr eneth, mae hi'n burion o'r peth ydi hi, mae hi'n perthyn i mi o bell, o ran hyny.' 'Wel, yr ydych yn meddwl y gnae hi dro call i'w briodi o, ynte?' Wel, debig iawn; ond ydi'n hawdd i chi wel'd hyny tae ddim yn y'ch pene chi, mi fydde'n ffolach na ffolog tae hi'n gwrthod, ond ni neith Mari mo hyny mi gwranta hi, os ceith hi'r cynig, mae gormod yn ei<noinclude><references/></noinclude>
b814fjmyfr69w7ohmwzlhxhji5vf46s
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/133
104
87935
169927
2026-08-09T23:20:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169927
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tad Miss Evans, wedi cyffroi erbyn hyn. 'Wel, Tomos,' ebe y llall, 'wnewch chwi ateb 'chydig gwestiwnau i mi? dyna un: Ai ni fydd hi ddim yn arfer gwisgo menig am 'i dwylo, a chario ''umbrello'' uwch ei phen, a dwad yma i'r capel felly?' Dealled y darllenwyr bod gwisgo menig, a chario umbrella yn bechodau gwaeddfawr ac ysgeler, yn ngolwg hen bobl y dyddiau hyny. 'Bydd, hi fydd yn gwneud hyny,' ebe Tomas Evans, 'ond ni ddeallais i erioed, fod dim yn y Beibl yn erbyn gwisgo menig, a chario ''umbrella'' ar wlaw.' 'Toedd dim fath beth a menig ac ''umbrellos'' yn y byd yn amser y Beibl,' meddai yntau, 'onte mi fase ynddo fo ddeyd yn'u herbyn nhw, 'rwyn siwr—beth bynag am hyny, mae o'n deyd digon yn erbyn balchder, a beth ydi menig ac umbrello ond balchder o'r fath waetha? I weithio gnaed dwylo, nid i wisgo menig a chario ''umbrellos''.'
'Mi garwn i wybod gen ti, hyn 'rwan,' ebai hen wr yr Hafod Uchaf wrtho—Bwrw di fod oen i un o nefed i wedi marw, a mod ine'n myn'd trost y gwrych i gae cymydog, ac yn cymryd oen un o'i ddefed o, ac yn i roid o at fam yr oen marw i'w fagu. Prun fwya pechod fydde hyny, a bwrw mod i'n myn'd i'r siop, ac yn prynu par o fenig o groen oen, ac yn talu am danyn nhw, ac yn u gwisgo nhw?' Trawodd y cwestiwn yr hen ddysgyblwr a mudandod, a'r holl gymdeithas a dychryn. Dirgelwch y cwestiwn oedd, bod y dysgyblwr, wedi cael y gair ddarfod iddo chwareu rhyw dric felly ryw dro. Terfynodd y cyfarfod a'r dysgyblu a'r cwbl ar hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXIII.}}}}
Yr oedd yr argraffiad cyntaf o'r cyfieithiad Cymraeg Daith y Pererin,' gan John Bunyan, wedi ei gyhoeddi tuag amser yr helyntion a goffeir genyf: a mawr y darllen oedd arno, a'r hyfrydwch a geid ynddo gan grefyddwyr yn mhob man. Cyffelybent y naill y llall i un neu arall o'r cymeriadau a ddisgrifir <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
ndf2vmr6ledan0t3j2nkeq67xr1nfz5
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/132
104
87936
169928
2026-08-09T23:22:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169928
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ebe gwraig y tŷ lle yr oeddynt wedi ymgynull, a 'doedd ryfedd iddi hi fyn'd i'r pen o'r diwedd.'
'Wel, mewn difri,' ebe un ohonynt, 'onid yw'n beth rhyfedd eu bod nhw'n diodde un fel ene yn y capel? Mae'n gwilydd iddyn nhw, mi ddylsen fod wedi'i thori hi allan es talwm. Mae'n rhyfedd gen i fod hen wr y Tŷ Celyn yn neillduol yn diodde'r fath beth.' Hen wr y Tŷ Celyn oedd y ''would-be'' blaenor hwnw a fuasai yn dal her â hen wr yr Hafod Uchaf, y noson yr aethai efe gyntaf i'r gyfeillach. 'Mi a glywais,' ebe un o'r gwragedd, bod yr hen wr yn penderfynu rhoi ei hachos hi o flaen y seiat y tro nesaf. Mae'n hen bryd iddo ef ne rywun ohonyn nhw wneud hyny.' A hyn y cytunasant oll, a therfynodd y cyfarfod.
A gwir a ddywedodd y wraig; yr oedd hen wr y Tŷ Celyn er's dyddiau a'i fryd ar ddwyn achos Miss Evans o flaen y seiat; a phan ddaeth y cyfleusdra, cododd ar ei draed, carthodd ei wddf, a gwnaeth araeth fawr a chref wrth ddwyn y pwnc ger bron. Cwynai'n drwm fod y ddysgyblaeth wedi ei llwyr esgeuluso a'i gollwng dan draed yn yr eglwys hono—bod y byd yn cablu o'r achos, a chrefydd yn cael ei gwaradwyddo, &c. Gofynodd un o'r brodyr, 'at beth neu bwy yr oedd yn cyfeirio. Os oedd ganddo rywbeth neu rywun neillduol mewn golwg, am iddo fynegi yn onest, yn lle taflu awgrymiadau felly.' 'Oni wyddoch chi i gyd cystal a minau,'ebefe, dyna ferch yr Hafod Ganol, rwan, mae'n gwilydd i ni na base sylw wedi'i wneud o'i hachos hi es talwm cyn hyn.' 'Wel, beth am dani hi?' meddai yntau. Ond ydi'i hanes hi a mab y Plas yn hysbys trwy'r wlad yma; a dyna'r ddau wedi rhedeg i ffwrdd hefo'u gilydd, na wyr neb i b'le, nac i ba beth, ond i ddim da, mae'n debyg.' 'Gwell i chwi gym'ryd gofal beth ddwedoch chwi,' ebe'r cyfaill, 'rhag i chi gael eich dwyn o flaen eich gwell. Nid gwir yw eu bod wedi rhedeg ymaith gyda'u gilydd.' 'Yr oedd digon o bethau eraill yn galw am ddysgyblaeth arni er's llawer o amser,' ebe yr hen wr. Beth yw y rheini?' gofynai<noinclude><references/></noinclude>
9egiu5z8xlv0fw0satndavmm3qzrv4w
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/131
104
87937
169929
2026-08-09T23:23:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169929
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>golchi, a smwddio, a gweu a thrwsio sanau,' meddai Margaret, 'buasai un o'n merched ni yn fwy cymhwys iddo fo, ond nid un felly wna'r tro iddo fo, rhaid iddo fo gael gwraig yn medru Sasneg, a sgrifenu, a downsio, a chware piana, a mae Mari Ifan yn ben ''camster'' ar gampie felly.' <nowiki>'</nowiki>Campie sal iawn ydi pethe o'r fath hono, feddyliwn i,' ebe un ohonynt. 'Ie,' ebai un arall, beth be tasen ni heb fedru gneud dim ond canu a downsio, a siarad Sasneg, mi fase'n fyd go dlawd ar ein gwyr ni, ac arnom ninau i'w calyn nhw, cyn hyn, 'rwy'n siwr; p'wr werth ydi medru downsio a siarad Sasneg i fyn'd trwy'r byd yma, mi leiciwn wbod. N'wn i ddim sut na bydden gwilydd gan dad a mam yr eneth yna o'i hachos hi—tase hi'n eneth i mi, ni chawse fawr o ganu piana, a phethe felly, yr wy'n siwr, mi faswn yn gneud iddi neud rhwbeth amgenach na hyny am ei thamed.' 'Yr ydych yn rhy galed ar Mary Evans,' ebe un o ferched y tŷ (yr hon oedd yn perthyn i'w dosbarth yn yr Ysgol Sabbothol, a chanddi feddwl uchel am ei hathrawes), 'mae hi yn medru gneud gwaith tŷ cystala'r un ohonom ni, ac y mae hi yn arfer gweithio llawer hefyd. 'Y hi'n gweithio!' ebe'r fam, 'na, ni wyr y dwylo gwnion rheini fawr be ydi gweithio, ne mi fase golwg arall arnyn nhw. Ac a ddaru i chi sylwi,' hi chwanegai, 'mi fydd ''my lady'' yn gwisgo menig am ei dwylo bob amser—mi fydd yn gwilydd gen i drosti hi.' 'Does bosib,' ebe un arall, Mari Ifan yn gwisgo menig! Glowodd neb erioed am y fath beth!' 'Y mae o'n ddigon gwir,' atebai'r llall,' ni welis i 'rioed moni allan o'r tŷ heb fenig am ei dwylo, 'rydw i wedi dal digon o sylw ar y peth.' 'A dene beth arall,' ebe un arall o'r ''party'', 'mae hi'n cario'r peth hwnw sy gen y bobol fawr yma uwch 'u pene pan fydd y hi yn glawio hefyd, tydw i ddim yn cofio 'rwan be mae nhw yn 'i alw fo.' 'O, mi wn,' eb y llall, hym—hym—, mi ddeyda i chi ninion; tydw ine ddim yn cofio'r munyd yma—O, ie, ''Brelir''—dyna fo.' 'Wel, wel, yr oedd yr eneth wedi myn'd es talwm twnt i bob peth o falchder'<noinclude><references/></noinclude>
eovte8e2os8taf73c9owvpuws27qbkf
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/130
104
87938
169930
2026-08-09T23:24:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169930
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un felly i fod yn wraig ffarmwr? O'm rhan i, mi fydde'n dda gen y nghalon i tae'r gwr boneddig ifanc yna yn i phriodi hi, i gael taw ar y dwndwr sy gynthoch chi yn ei chylch hi. Yr unig sylw a wnaeth yr hen wr ar araeth yr hen wraig oedd, 'Wel, wel, os ydi hi wedi troi yn ffals, mi fy siomodd i'n fwy nag y siomodd neb erioed fi.' 'Tewch â'ch swn, ac ewch i'ch gwlau, i gysgu am sens a breuddwydio am synwyr,' ebe'r hen wraig, ac felly y terfynodd y cyfarfod.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXXII.}}}}
TESTYN siarad yr holl fro y dyddiau hyny oedd enciliad Miss Evans o'r ardal, a Mr. Watkin drachefn ar ei hol. Barnai a haerai llawer eu bod wedi gwneud y peth i fynu rhyngddynt â'u gilydd, i redeg oddicartref a phriodi; ond yr oedd gwahanol farnau ar y pwnc hwnw fel pob pwnc arall. Mynai eraill mai rhedeg oddiar ffordd y boneddwr ieuanc a wnaethai hi, i ymguddio rhagddo. Ystyriai rhai bod ei holl ymddygiad yn ei pherthynas â'r boneddwr yn bur anmheus, a bod ei chymeriad wedi ei lychwino i gryn raddau; gobeithient y goreu, ond ofnent y gwaethaf. Pe dywedasai y dosbarth hwn yr hyn oedd yn eu calonau mewn gwirionedd, llefarasent fel arall am eu hofnau a'u gobeithion, canys y gwaethaf am dani a obeithient, a'r goreu a ofnent hwy; oblegyd yr oeddynt yn eiddigeddus o honi, ac yn genfigenus tuag ati er's talm. Ymgasglai gwragedd y gymydogaeth i dai eu gilydd ar gylch yn fynych yn y dyddiau hyny, i drin cyflwr Miss Evans uwchben dysgliad o de. Yr oedd gan amryw ohonynt ferched eu hunain, a barnent yn gydwybodol y buasai un o'u merched hwy yn llawn mor gymhwys, ie, yn llawer mwy cymhwys, i fod yn wraig y Plas na Mary Evans; ond yr oedd un, Margaret Hughes, Penywaen, yn barnu yn wahanol. 'Pe buasai ar y gwr boneddig eisiau gwraig i drin llaeth a menyn a chaws,—i bobi, a <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
qlimyvr4ssxwxv35hbrx3apgc8nq735
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/129
104
87939
169931
2026-08-09T23:27:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169931
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fynych ar yr aelwyd yno. Ymdrechid rhoi'r esboniad tyneraf ar ei hymddygiad, ei bod wedi ei dal gan y brofedigaeth mor ddisymwth, fel na wyddai beth i'w wneud, a bod yn anhawdd iddi allu ysgrifenu at neb o'i chyfeillion ar y fath achos, ac yn y fath amgylchiadau, &c. Yr oedd yr hen wr yn neillduol yn bur anesmwyth ei feddwl,—' A ddeydodd hi ddim byd wrthyt ti, Bob, i b'le 'roedd hi yn myn'd?' gofynai yn aml. Yr ydych wedi gofyn y cwestiwn yna ganwaith bellach, nhad, a minau wedi ei ateb o,—na ddywedodd hi yr un gair wrthyf, ac ni chafodd hi yr un cyfleusdra chwaith, gan iddi gychwyn i ffwrdd yn mhen ychydig oriau, fel y clywais i, wedi iddi benderfynu myned.' 'Wel, ddarfu i ti ddim gofyn i'w thad yn ei chylch hi?' gofynai yntau. 'Naddo,' oedd yr ateb, 'gan nad oedd ef yn clywed ar ei galon, ddweyd, nid oeddwn inau yn clywed ar fy nghalon ofyn.' 'Wel, saffed a'r byd yr wyt ti wedi ei cholli hi,' ebe'r hen wr, 'mi aeth hogyn y Plas a hi oddiarnat ti tan dy drwyn; 'roeddwn i'n meddwl mai dyna fel fase hi, y llac ei afel a gyll.' Nenw'r dioni, beth ydi'r helynt sy arnoch y'nghylch yr eneth yna o hyd?' dywedai'r hen wraig, 'mi all Bob gael cystal dynes yn wraig a hithau, os oes arno fo eisiau gwraig. Na all o byth gael ei chystal hi, os ydi hi rywbeth yn debyg i'r peth oeddwn i'n feddwl yn wastad ei bod hi,' ebe'r hen wr. 'Pw, pw,' meddai hithau, 'nid aur ydi pob peth melyn, mae hi'n ormod o ladi o lawer i fod yn wraig i rywun fel Bob; toes ganddo fo ddim modd i gadw ladi, a toes ganddi hithau ddim modd i'w chadw ei hun, ac i gadw Bob yn wr boneddig; a wnae o ddim gwr boneddig tae o'n cael y modd. Mi fydde'n well ge gen i o'r haner ei wel'd o'n priodi rhyw strapar o ddynes wedi arfer gweithio—golchi, a phobi, a chorddi, a thrin llaeth a menyn a chaws, na phriodi un fel Mary Evans, na wnaeth hi fawr ddim erioed ond trin muslin a sidane, a chware y peth hwnw fydd yn cadw swn, wn i ddim be ydach chi yn ei alw fo; be dâl<noinclude><references/></noinclude>
emxe2pbawhdeugmrsnmcxfolkt3e1sj
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/128
104
87940
169932
2026-08-09T23:28:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169932
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'O,' meddai Robin, 'yr hen wraig foneddig aeth yno i siarad â Mary Evans yn nghylch ei charwriaeth hi a Mr. Edward ac i ddweyd ei meddwl am dani wrthi. Cadwodd ei mam hi allan o olwg y wraig foneddig; aeth y ddwy i ffraeo'n arswydus; galwodd Catrin Evans y wraig foneddig yn bob enwau gwaeth na'u gilydd, ac o'r diwedd tarawodd hi nes oedd ei gwaed yn pistyllio; mae tri o ddoctoriaid wedi bod gyda hi. Ni chlywodd neb erioed son am y fath beth. Mae'n siwr y bydd hi yn galed iawn ar Catrin, os peidian nhw a'i chrogi.' Yr oedd llawer yn ddigon hygoelus i goelio stori Robin bob gair, ac eraill yn chwerthin am ei phen fel chwedl Robinaidd, neu Rabinaidd os mynwch, canys yn wir yr oedd Robin yn Rabin yn athroniaeth chwedlau. Mêl ar fysedd Robin, a phawb o'r un ysbryd ag ef, oedd y newydd fod Miss Evans wedi rhedeg i ffwrdd a gadael y wlad, fel y dywedent. Pregethai ef yn hyawdl ar y testyn hwnw, gan awgrymu ei bod yn cilio ymaith er mwyn ceisio cuddio ei gwarth o'r golwg.
Ddiwrnod neu ddau ar ol colli Miss Evans o'r ardal, collwyd Mr. Edward yntau, a mawr oedd yr holi a'r dyfalu i b'le yr aethai; i Lundain, meddai rhai; ideithio'r gwledydd, meddai'r lleill; ar ol Miss Evans i'w phriodi hi, meddai eraill. Barn Robin y Glep oedd mai ar ol Miss Evans yr aethai efe, ond nid gydag un bwriad i'w phriodi hi chwaith; ond mai pwrpas na buasai yn un anrhydedd iddo ef na hithau i neb ei wybod oedd mewn golwg.
Yr oedd cryn anesmwythdra yn yr Hafod Uchaf er's dyddiau. Aethai Miss Evans ymaith heb son un gair am ei bwriad wrth yr un o'r ddwy ferch, ei chyfeillesau penaf, nac wrth Bob eu brawd ychwaith, yr hwn y tybid ei fod yn fwy na chyfaill iddi; ac wrth wel'd dydd ar ol dydd yn myned heibio heb lythyr oddiwrthi, nid oedd pethau mewn gwirionedd ddim fel yr oeddynt hwy wedi arfer meddwl. Gwneid ei hymddygiad yn destyn ymddyddan pryderus yn<noinclude><references/></noinclude>
9ax48g7mqws27m1kg4iaca8tq16qn0m
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/127
104
87941
169933
2026-08-09T23:28:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169933
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrtho bob cwys o dir, a phob dimai o arian, oedd ar eu helw. Gellwch wneud hyny,' ebe yntau, 'nid yw o fawr bwys yn fy ngolwg i; y mae genyf fi ddigon yn fy meddiant fy hun eisoes; ac os gallaf sicrhau Miss Evans, byddaf yn eithaf boddlon.' Wedi hir ymresymu, ac ymbil arno i ymrwymo ymwrthod â Miss Evans, dywedodd wrthynt nad oedd waeth iddynt roddi i fynu eu cais, na allai efe ddim addaw iddynt yr hyn nad oedd ganddo feddwl na bwriad i'w gyflawni. Yr oedd ei ymddygiad yn ddirgelwch mawr i'r ddau hen lanc, canys ni buasent hwy eu hunain erioed yn glaf o'r clefyd oedd arno ef; a chan eu bod yn gwbl ddyeithr i'r profiad, ni feddent ar y rhithyn lleiaf o gydymdeimlad.
Aeth y ddau ymaith y bore dranoeth yn siomedig a thramgwyddus, ond addawent i'r fam drallodus y gwnaent eu goreu yn mhob modd drachefn i ragflaenu y trychineb oedd yn bygwth dyfod arnynt fel teulu.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXΧΙ.}}}}
Yr ystormydd blinion yn y Plas a'r Hafod oedd testyn siarad yr holl ardaloedd yn y dyddiau hyny. Ni ddigwyddasai helyntion cyffelyb yn y fro dawel, wledig, hono o'r blaen, ac yn ol barn unol y trigolion, ni ddigwyddasai dim cyffelyb iddynt erioed ar y ddaear. Yr oedd yn amser prysur iawn ar draed a thafod Robin y Glep, yn neillduol wedi cael gwynt ar y ffrwgwd yn yr Hafod Ganol rhwng y foneddiges a mam Miss Evans; gwnaeth ''gapital'' da ohoni yn ''stock in trade'', chwyddodd hi yn anferth o faint drwy roddi darnau ati o greadigaeth ei ddychymyg. Ei ofyniad cyntaf i bob un a gyfarfyddai ar y ffordd, ac yn mha dŷ bynag y elai i mewn, fyddai, ' A glywsoch chwi am yr helynt ofnadwy a fu yn yr Hafod y dydd o'r blaen?' 'Beth oedd y mater?' gofynid. <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
doz1qxb07bex8bz29z9zdni5pu6rj44
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/126
104
87942
169934
2026-08-09T23:29:43Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169934
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymerent hwy ofal y mater, a pherswadient hi i fod yn dawel, y byddent hwy yn sicr o ddwyn y gwr ieuanc ato ei hun yn fuan. Arferasant eu holl resymau a'u doniau i gael ganddo ymrwymo iddynt na edrychai byth wedi hyny ar y llances wledig; y gallai ef edrych am briod o frigau uchel y bendefigaeth. 'Mi a wn hyny hefyd,' ebai'r gwr ieuanc, 'cefais gyfleusdra teg i wneud hyny fwy nag unwaith. Gallaswn gael llaw mwy nag un na dwy o bendefigesau ieuanc prydweddol cyn hyn. Ond ni welais un y gallaswn ei charu hyd nes y gwelais Miss Evans, ac ni welaf yr un byth a allwn garu fel hi; nid am ei bod hi yn brydferthach na'r un a welais, yr oedd pob un o'r boneddigesau hyny mor brydferth a hithau, ac mor synhwyrol hefyd, am a wn i, ond y mae ynddi hi rwybeth na allaf ddim dweyd pa beth sydd wedi deffro rhywbeth ynof fi, na allaf ddim dweyd pa beth ydyw hwnw chwaith; ond gallaf ddweyd hyn, na foddlonir byth mo'r rhywbeth hwnw sydd ynof fi, ond â'r rhywbeth arall hwnw sydd ynddi hi.'
Edrychai y ddau ewythr ar eu gilydd mewn syndod. Yr oedd ei ewythr brawd ei fam yn un brochwyllt ei dymer fel hithau, a dechreuodd ddwrdio, a bygwth, a rhegu yn erwin. Yr oedd yr ewythr brawd ei dad yn wr pwyllog ac amyneddgar; cymerai ef ei nai trwy deg, gan ymresymu âg ef, ac ymbil arno er ei fwyn ei hun, a'i fam, a'i deulu, i roddi pob meddwl am y ferch i fynu; ond yr oedd yn amlwg nad oedd gerwindeb y naill, na thynerwch y llall, ddim yn cael yr effaith a ddymunid arno. Cadwai ei dymer yn dda, a siaradai yn barchus â hwynt, gan sicrhau y gwnaethai bob peth arall a allasent geisio ganddo, ond hyny. Nid oedd yn meddwl, meddai, y byddai iddo byth briodi Miss Evans, oblegyd ni fynai hi wrando ar ei gais mewn un modd, ond yr oedd yn benderfynol y gwnai ei oreu i'w henill, &c. Y diwedd fu i'r ddau droi i fygwth os na roddai efe hi heibio, ac ymrwymo ar ei lw i hyny, y torent oddi<noinclude><references/></noinclude>
b1vs7i23otwrkeiwe1ypbugshsj5p0e
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/125
104
87943
169935
2026-08-09T23:30:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169935
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan ddaeth Miss Evans yn ol, adroddodd ei mam yr holl ffrwgwd a fuasai rhyngddi â'r hen wraig foneddig yn ei hachos. Aeth y peth at ei chalon yn ddwys iawn. Cyfarfuasai âg un o'i chwiorydd crefyddol ar y ffordd y bore hwnw, yr hon a deimlai yn anesmwyth ei meddwl yn nghylch y siarad oedd ar led yn ei chylch hi a Mr. Edward, a barnodd mai ei dyledswydd oedd tori ati a mynegi iddi, pan gaffai gyfleusdra, ac achubodd y cyfleusdra hwnw i ddweyd wrthi yr hyn oedd ar ei meddwl. Wedi iddi glywed gan ei mam drachefn hanes yr helynt y bore hwnw rhyngddi hi â'r hen wraig foneddig, gwasgwyd ei meddwl i drallod mawr. Beiai ei hun yn chwerw na buasai wedi cadw y gwr ieuanc draw oddiwrthi er's talm; y gallasai feddwl y buasai ei fynych ymweliadau yn ddefnydd i bobl siarad, a llunio a thaenu pob math o chwedlau, a synai ati ei hun na buasai wedi gweled a deall hyny cyn hyn. Penderfynodd fyned oddicartref at ei chyfeillion yn Nghaerlleon am dymhor, hyd nes yr elai yr aflwydd heibio, a myned ymaith yn ddistaw heb yn wybod i neb ond ei mam a'i thad, ac iddynt hwythau gadw na chaffai neb wybod i ba le yr aethai; a pharatodd i'r daith y noson hono, a chychwynodd y bore dranoeth cyn y dydd. Danfonodd ei thad hi i'r dref, lle y cafodd y cerbyd i Gaer.
Yr oedd brawd i'r wraig foneddig yn byw yn Sir Gaer, a chanddo etifeddiaeth led helaeth yno; ac yr oedd efe mewn gwth o oedran, ac yn ddibriod. Yr oedd hefyd frawd i'w gwr hi, tad Mr. Edward, yn byw yn Llundain, yn fasnachwr cyfoethog, a dibriod oedd yntau hefyd. Disgwylid y ddau ar ymweliad i'r Plas er's dyddiau; ac fel y digwyddodd iddi fod, y diwrnod hwnw y daethant. Cawsant eu chwaer yn nyfnder ei phrofedigaeth. Adroddodd iddynt ei helbul a'i thrallod, yr hyn a barai iddynt syndod ac anfoddlonrwydd nid bychan. Mr. Edward oedd yr etifedd i gyfoeth y ddau. Addawsant i'w fam y<noinclude><references/></noinclude>
7izbq80b84s4wc6lc2vnpvzrgxbd63a
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/124
104
87944
169936
2026-08-09T23:32:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169936
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn cleifion, madam; daw yn ol cyn hir,' oedd yr ateb. 'Fi dim amser i aros,' ebe hithau, 'fi'n synu atoch chi, chi'n hudo mab fi yma at y'ch merch. Chi'n meddwl iddo fo, sy'n gwr byneddig, i priodi llances tlawd fel y'ch geneth chi? Ffei!' 'Gyda'ch cenad, ma'm,' atebai'r llall, 'ddaru ni 'rioed geisio hudo'r gwr boneddig yma. Mi fydd yn galw yma weithiau wrth basio, heb i neb ohonon ni erioed ofyn iddo fo, ac mae iddo groeso i wneud eto pan y fyno fo; ond am iddo briodi'r eneth yma, ni ddarfu iddi hi na ninau freuddwydio erioed am y fath beth.' 'Fi gwbod cwell pethe,' ebe'r llall, 'rholl gwlad yma'n gwbod ac yn siarad 'run peth. Fi gwbod o'r gore bod chi'n swcro'ch geneth i tenu y bachgen. 'n ei swcro hi! Ni feddyliodd yr eneth erioed am y'ch mab chwi, na ninau chwaith, a dechreuodd y gwaed frydio, a chwanegai, 'Cadwch y'ch mab; mi rydw i'n meddwl fy ngeneth gystal ag yntau bob dydd o ran hyny.' 'Geneth chi gystal a mab fi! for ''shame''—y'ch ''impudence'' chi teyd fath beth wrth fi! bydde gwell gen fi i saethu o â llaw f'hun nag iddo gymysgu gwaed ni a gwaed pobol isel a ''vulgar'' fel chi.' 'Saethwch o, saethwch o, pan fynoch chwi o'm rhan i,' eb'r llall. Son am y'ch gwaed! mae gan goched gwaed yn y ngwythenau i ag sydd yn eich gwythenau chwithau; toes arna i ddim eisiau cymysgu gwaed â'ch ffasiwn chwi. Mi alla i a nheulu gario'n penau mor uchel wrth fyned trwy'r byd ag y gallwch chwi a'ch teulu beth bynag, rywfaint yn uwch, hwyrach, pe baid yn mynd i chwilio hanes y ddau deulu. Cymerwch chwi'n gynil, Madam, rhag ofn i chwi demtio nhafod i ddweyd rhywbeth y bydde'n well genych fod heb ei glywed o.' Gyrodd yr awgrym diweddaf at amgylchiad annymunol a ddigwyddasai i un o berthynasau teulu y Plas flynyddau yn ol, yr hen wraig foneddig i'r clawdd yn lân, torodd i wylo, a throdd i'w Saesoneg, ac ymaith a hi mewm digter llidiog.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9dxi3yw7rb0g9poaysv1ps98na55k5i
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/123
104
87945
169937
2026-08-09T23:32:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169937
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hithau: ac yn eu dagrau yr ymadawsant, wedi iddi hi ddywedyd cymaint a hyn—Ni byddai dim a ddymunwn yn fwy na bod yn rhyw offeryn er eich dychweliad at y Gwaredwr, ac ni pheidiaf a dymuno a gweddio am hyny.' 'Ond yr ydych yn gwrthod y moddion a'r fantais a gynygir i chwi er cyrhaedd y dymuniad hwnw,' eb efe, 'a gaf fi erfyn arnoch gymeryd y mater dan eich ystyriaeth am ychydig ddyddiau yn mhellach—hyny o ffafr.' 'Gwnaf, mi a feddyliaf am dano: ond ni fynwn i chwi ddisgwyl y newidiaf fy meddwl.' 'Na, ni allaf beidio a gobeithio y gwnewch,' eb efe, ac ymadawodd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXX.}}}}
GYDA i Mr. Edward droi ei gefn o'r Hafod y bore hwnw, aeth Miss Evans hithau i dalu ymweliad â theulu dlawd yn y gymydogaeth, lle yr oedd dau o blant bychain yn gleifion o'r dwymyn goch ''(scarlet fever)''; a gyda iddi hithau gychwyn o'r tŷ, daeth ymwelydd dyeithr i mewn i ymofyn am dani, sef yr hen wraig foneddig. Digwyddodd yn ffodus iawn na ddaethai i mewn cyn i'w mab fyned allan ac o'r golwg, canys pe digwyddasai ddyfod a'i gael ef a Miss Evans gyda'u gilydd, nid oes wybod beth a fuasai y canlyniadau; y mae yn bur debygol, beth bynag, y digwyddasai yno lawer o ffitiau ''hysterics'' cyn diwedd y cyfarfod.
Nid oedd ond yr hen wraig, Mrs. Evans, yn y tŷ pan ddaeth yr hen wraig foneddig i mewn. Dyfalodd Mrs. Evans ar yr olwg gyntaf arni beth oedd ei nheges, canys yr oedd golwg gyffrous a digofus arni—yr oedd ei hwyneb a'i llygaid cyn goched a chrib a llygaid iar ar ddodwy. Gofynodd i'r fam am y ferch, bod arni eisiau ei gweled. Y mae hi wedi myned i ymweled â theulu tlawd, lle mae plant <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
rxaar9h6xxufylcftagn6a8nmb0xqa1
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/122
104
87946
169938
2026-08-09T23:33:37Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169938
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y mae un arall llawn cymaint ag yntau yn bod.' <nowiki>'</nowiki>A pha beth yw hwnw?' gofynai yntau gydag ochenaid. 'Wel dyna ydyw,' atebai hi, 'yr ydych chwi a minau yn hollol wahanol yn nhueddrwydd moesol ein meddyliau. Yr wyf fi wedi bwrw fy nghoelbren gyda phobl grefyddol a ystyrir "yn wehilion y byd a sorod pob dim," genych chwi a'ch teulu a'ch cyfeillion. Yr wyf yn teimlo fy hun mewn undeb annatodol â hwy: lle y byddont hwy y byddaf finau, eu Duw hwy yw fy Nuw inau, nid oes dim ond angau, ac nis gall angau chwaith ysgaru rhyngof fi a hwy. Mi awn ryw gymaint trwy hanes, a thrwy brofiad hefyd, er pan oeddwn yn Nghaer, am natur y cyfarfodydd a'r pleserau a garwch chwi, a rhai yn yr un sefyllfa a chwi, fel na fynwn er y byd newid cyfeillion a phleserau, yr hyn a fyddai yn amod fy nghysylltiad â chwi.' 'Na fyddai mewn un modd,' oedd yr ateb, 'ni cheisiwn byth genych fyned i un cyfarfod o'r fath, ac ymrwymaf nad awn fy hun chwaith yn groes i'ch ewyllys chwi.' 'Nid yw o un diben yn wir i ni dreulio amser na geiriau ar y mater,' ebe hi, 'gadewch iddo derfynu ar hyn.' 'Meddyliwch,' ebai yntau, 'y gallech fod yn foddion i'm troi a'm henill i'ch ffordd chwi; ai ni ewyllysiwch hyny? Nid oes neb ar y ddaear a allai wneud hyny ond y chwi.' 'Na, y mae hyny yn waith mwy nag allaf fi na neb arall ar y ddaear ei wneud, "Gyda dynion anmhosibl yw hyn, ond nid gyda Duw.' 'Yr ydych yn cofio y geiriau sydd o flaen yr ymadrodd yna onid ydych?' gofynai ef. Ydwyf,' oedd yr ateb,—"Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw," "a haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw." 'Ie yr wyf finau'n cofio'r geiriau difrifol yna; ai nid ydych yn tosturio wrthyf fi ac eraill sydd yn y sefyllfa yma? A ellwch chwi atal eich cymhorth o gynyg tynu rhyw gamel o bechadur fel myfi trwy grai y nodwydd?' Ymollyngodd i wylo ar hyny,—ac wylodd<noinclude><references/></noinclude>
f0gz8rvnpm7am00c9c5r9kmpdiglw4c
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/121
104
87947
169939
2026-08-09T23:35:40Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169939
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddweyd ar unwaith ac yn benderfynol fod y cyfryw beth yn anmhosibl.' 'Paham yn anmhosibl?' gofynai ef. Am fod gagendor mawr rhyngom,' atebai hi, 'gagendor na all un sydd ar eich ochr chwi dramwyo ataf fi i'r ochr yma, na minau atoch chwi i'r ochr yna.' 'Beth yw hyny?' 'Y gwahaniaeth yn ein sefyllfa gymdeithasol ydyw, wrth reswm,' meddai hi. 'O,' ebai yntau, 'os nad oes rhywbeth mwy na hyny, ni a wnawn o'r goreu; nid yw ond gwaith ysgafn, hawdd, ie a hyfryd iawn i mi i roi llam atoch chwi dros hyny o gagendor.' 'Ie, ond byddai yn angenrheidiol i chwi roddi llam yn ol,' ebai hithau, 'ac nid mor hawdd fyddai i chwi wneud hyny, a fy nghymeryd i gyda chwi. Ystyriwch eich sefyllfa eich hun, a'm sefyllfa inau;; pa ganlyniadau o ofid a blinder a dynech arnoch eich hun ac arnaf finau hefyd. Gwn yn dda am ysbryd uchel eich mam a'ch perthynasau pendefigaidd; y byddech chwi yn cael edrych arnoch fel gwarth y teulu byth wedi hyny, ac yr edrychent arnaf finau fel ysgymunbeth dirmygedig. Fe oerai eich teimladau presenol tuag ataf cyn hir; a byddai fy mhresenoldeb yn faich arnoch, fel yr un a fuasai yn achos o'ch darostyngiad yn ngolwg pawb yn y cylch cymdeithasol y perthynwch iddo. Gan hyny, yr wyf yn erfyn arnoch, er eich mwyn eich hun, er mwyn eich mam a'ch perthynasau, ac er fy mwyn inau, i roi pob meddwl am y fath beth i fynu ar unwaith ac am byth.' 'Hyny ni allaf, y mae yn anmhosibl!' eb efe, 'yr wyf wedi bwrw y draul yn nghylch y pethau yna oll—aberthau ydynt y byddai yn bleser mawr genyf eu gwneud, ie, a mil mwy, er mwyn eich sicrhau chwi yn eiddo priodasol i mi fy hun: ni all fod dim yn aberth i mi, ond eich rhoddi chwi i fynu. Os nad oes dim arall ar y ffordd, y mae pob peth yn dda.' 'Na, nid felly,' ebe hi, 'er yr oll a ddywedwch, y mae y rhwystr ar ffordd ein hundeb yn gymaint yn fy ngolwg i ag oedd o'r blaen, ac ni ellir ei symud byth o'r ffordd; ac heblaw hyny<noinclude><references/></noinclude>
1s9motkzspo49iij3lfmvlt27u47swu
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/31
104
87948
169941
2026-08-09T23:45:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169941
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nid wyf yn prisio cawnen yn ngwaith dynion ffol, anwybodus, yn ceisio ein diraddio; ond dylem sefyll dros urddas ein galwedigaeth, a dysgu i'r trueiniaid a geisiant ein dirmygu bethau amgenach.'
Yr oedd Tomos Owen yn barnu ac yn teimlo yn wahanol iawn i'w frawd Owen Hughes. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ef iddo erioed feddwl am droi yn deiliwr; barnai ef fod canlyniadau trosedd Adda wedi disgyn yn drymach ar y teilwriaid nag ar un dosbarth arall o'i blant; a hyny, hwyrach, am iddynt ddilyn ei esiampl o droi at y nodwydd. Ni oddefid i Tomos fyned yn mlaen yn y ffordd hono; hysiwyd a hwtiwyd ef i dewi yn bur fuan, a bu yn rhaid iddo eistedd i lawr. Pasiwyd penderfyniadau cryfion dros iawnderau ac anrhydedd urdd y nodwydd; ac wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. A hwnw oedd y cyfarfod cyntaf o'r natur y bum i ynddo.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod VIII.}}}}
BUM yn gweithio gyda Huw Prys am o ddwy i dair blynedd wedi i mi fwrw fy mhrentisiaeth, fel y dywedem. Gwelais amryw fath ar bobl yn hyny o gylch bychan yr oeddwn i yn troi ynddo, fel y sylwais mewn penod flaenorol. Yr oedd ambell i deulu paganllyd, tywyll, a thruenus iawn i'w cael yn ein gwlad y dyddiau hyny. Yr oedd teulu nodedig felly yn byw yn {{bar|2}}, ond hwyrach mai gwell fyddai peidio enwi y lle; mae perthynasau i'r teulu yn fyw yn awr, ac yn bobl barchus iawn. Yr enw oedd gan fy meistr ar y tŷ hwnw oedd 'Uffern ar y ddaear,' a 'Nefoedd ar y ddaear' y galwai ffermdy cyfagos iddo; efe oedd teiliwr y nef a'r uffern ddaearol hyny. Digwyddodd i ni un tro gael galwad i'r ddau le ar yr un pryd. Dewisiodd fy meistr fyned i'r 'Uffern ar y ddaear' yn gyntaf. Bydd yn gysur ini feddwl, tra fyddom yno, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
5syx579k6z1qa67sjnkvuwnspnem1qv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/32
104
87949
169942
2026-08-09T23:46:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169942
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddai, 'y cawn fyn'd i'r nefoedd ar ol gorphen ein ''job'' yno; ond ped elem i'r nefoedd yn gyntaf, byddai meddwl fod yn rhaid ini fyned i'r lle arall wed'yn yn ein rhwystro i fwynhau ein nefoedd yno tra y byddem ynddi.'
Bore y dydd cyntaf yr aethom yno, fel yr oeddym yn agoshau at y tŷ, safodd fy meistr ar y ffordd, gan ddwys ocheneidio; yna tynodd groes â'i fys ar draws ei dalcen a'i fynwes. Ymgroesa dithau,' ebe ef wrthyf fi. 'I beth?' gofynwn inau. 'I beth!' eb efe, 'ai ni wyddost dy fod yn safn uffern?' Cododd gradd o arswyd arnaf ar y pryd; gwyddwn mai croes iawn i ysbryd ac arfer fy meistr oedd dweyd dim yn ddrwg am dy neb; credwn y rhaid fod rhyw ddrwg erchyll yn y tŷ hwnw pan ddywedai ef y fath beth am dano, ac nid hir y bum heb weled a phrofi hyny. Yr oedd megis rhyw falldod neu felldith i'w gweled ar bawb a phobpeth yno ar yr olwg gyntaf, ond pan ddaeth y teulu at eu gilydd i frecwest y torodd hi allan yn fellt a tharanau, a daeargrynfaäu, a chenllysg, a thân. Yr oedd yno chwech o blant o'r chwech hyd y pumtheg oed yn eistedd wrth yr un bwrdd â mi; a meistr yn eistedd gyda'r gwr a'r wraig wrth fwrdd bach gerllaw y tân. Gyda'n bod yn dechreu bwyta, aeth yn ymrafael rhwng dau o'r plant wrth y bwrdd; taerai un fod y llall wedi cymeryd ei bicyn ef, cymerodd y lleill ran yn yr ymryson, rhai bob ochr; aethant i glustiau a gwallt eu gilydd, gan guro, a chripio, a brathu, a rhegi y naill a'r llall, yn arswydus. Taflodd un ei bicyned potes i wyneb un arall, a dyna lle yr oedd hwnw yn ysgrechian fel mochyn dan y gyllell. Taflodd un ohonynt un arall ar fy nhraws i fel y syrthiais ar fy nghefn dros y fainc, ac y dymchwelodd fy mhicyned potes am fy mhen, nes yr oeddwn wedi fy haner ysgaldio. Erbyn i mi gael fy nhraed o tanaf, yr oedd y fam wedi codi ar ei thraed fel dreiges, yn crochwaeddi, yn ysgyrnygu, ac yn rhegi y plant yn ddychrynllyd; rhoddai fonclust<noinclude><references/></noinclude>
qlgwhnh4uyser4t10bynb243zibhszk
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/33
104
87950
169943
2026-08-09T23:47:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169943
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i un, hergwd i'r llall, a chic i'r trydydd, a rheg fawr ar y pedwerydd; ac yn yr amryfusedd, rhoddodd gernod i minau yn ochr fy mhen, nes oedd clych yn fy nghlustiau, a gwreichion tanllyd yn neidio o'm llygaid. I ychwanegu y terfysg, cyfranogodd tri o gŵn oedd ar yr aelwyd o ysbryd yr ymrafael, a dechreuent gyfarth â'u holl egni, a chan ddilyn esiampl y plant, aeth dau ohonynt i ymladd â'u gilydd; rhuthrodd y llall i'r gath gan ei sgyrian yn ffyrnig, nes oedd yn gwaeddi am ei hoedl. Cododd y gwr yntau oddiwrth y bwrdd, a dechreuodd ffonodio y cŵn a dwrdio y plant. Beiai y wraig ei bod yn gwneud cam âg un o'r bechgyn—mai un arall oedd ar y mwyaf o fai. Aethant hwythau i ffraeo a rhegi eu gilydd eto; taflodd y wraig gwpaned o de i wyneb ei gwr, a rhoddodd yntau gic iddi hithau. Ar hyn, neidiodd meistr ar ei draed, a rhedodd allan, a rhedais inau allan ar ei ol, ac allan y buom nes aeth yr helynt drosodd; a dyna'r frecwest a gawsom y bore hwnw. 'Nid af fi ddim i mewn i'r uffern yna eto,' ebe fi wrth meistr; 'tyr'd, tyr'd,' ebe fe, 'nid oes yma lawer o waith trwy drugaredd, ni a orphenwn y cwbl mewn deuddydd neu dri.' Ond yr oedd meddwl bod am ddeuddydd neu dri yn y fath le ofnadwy yn ddigon i dori calon undyn. Erbyn i ni fyn'd yn ol i'r tŷ, yr oedd y storm wedi gostegu, y plant wedi ymwasgaru, y gwr wedi myned i'r maes, a'r wraig wrthi ei hunan yn y tŷ, ac yn ymddangos fel pe na buasai dim yn neillduol wedi digwydd. Aeth y gweddill o'r diwrnod heibio yn lled dawel, gyda'r eithriad o dyngu a rhegi ar brydiau bwyd. Dyna fel y byddai y teulu yn bendithio ac yn talu diolch am eu beunyddiol ymborth.
Yr oedd meistr a minau yn tynu dau bwyth am un tra buom yno, er mwyn prysuro i orphen ein gwaith a chael ymwared o'r lle poenus hwnw. Tridiau y buom yno, a gwelais lawer ysgarmes yn ystod y tridiau hyny, ond nid un mor ofnadwy a'r gyntaf. Yr oedd un o'r dyddiau yn wlyb a dryghinog iawn,<noinclude><references/></noinclude>
p17ayo89cugk3v3fiayxad3z8gdb60p
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/34
104
87951
169944
2026-08-09T23:48:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169944
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'r gwr gyda ni yn y tŷ y rhan fwyaf o'r diwrnod. Ar ryw ymddyddan, sylwodd meistr wrtho, 'Ni byddaf byth yn eich gweled chwi yn y capel, Hwn a Hwn.' 'Wel, na fyddwch, debyg, ac ni welwch chwi na neb arall monwy yno byth,' eb efe, 'mi fydde'n dda gen i tae pob capel sy'n y wlad yma wedi myn'd ar dân. Mi fydda'n myn'd i'r eglwys weithie, ond tydw' i'n hidio dim am yr eglwys chwaith; ond 'rydw' i'n lecio'r person, gwladwr braf ydi o; misteddiff gyda ni yn y dafarn, ac mi botith i chalon hi fel nine pan ddigwyddo ni daro wrth ein gilydd. Mi ges i ran o beint ganddo fo lawer gwaith, ac mi fydda i'n leicio myn'd i ddangos fy ngwyneb yn yr eglwys weithie er i fwyn o.' 'Felly,' ebe meistr, a gofynai, 'A oes genych chwi Feibl yn y tŷ?' 'Beibil!' ebe y gwr, 'nag oes yma, ni fu yma Feibl erioed, ac ni ddaw yma yr un byth os gwela i o. Nid oes yma neb fedr ddarllen, a phe dase, y mae genon ni rywbeth rheitiach i'w neud na darllen y Beibl.' 'Peidiwch a dweyd fel yna,' ebe meistr, 'fe ddylai y Beibl, beth bynag, fod yn mhob tŷ, ac fe ddylai pawb ddysgu ei ddarllen o, beth bynag f'ont heb ddysgu. Y Beibl sy'n dysgu sut y dylem fyw yn y byd hwn, a'r ffordd i gael dedwyddwch yn y byd arall.' 'Mi wn i sut i fyw yn well nag y gall y Beibl ddysgu i mi, debyg gen i,' ebe yntau; 'ydech chi'n meddwl, Huw, y gnawn i fyw wrth lyfr? Dyna hwn a hwn (cymydog iddo), mae o wedi cym'ryd yn i siol i ffarmio wrth lyfr, mae o â'i drwyn yn i lyfr o'r bore gwyn tan y nos, ac yn gneud pobpeth—trin y tir, a thrin i anifeilied yn ol cyfarwyddyd y llyfr, ac mae 'i lyfr o wedi ei yru o i goste mwy na mwy, ac ni chaiff o byth mo'i arian yn ol; mi fydd wedi myn'd trwy'r cwbwl fedd o yn bur fuan, o achos i hen lyfr gwirion o. Ni weles i ddim graen erioed ar neb fydde'n gneud pethe wrth lyfr, a nghred i ydi, y base'n dda iawn i'r byd yma pe na base neb yn medru darllen o'i fewn o. Na, na, chaiff yr un llyfr fy nysgu i beth bynag sut i fyw na sut i drin tir, a tawn i yn eich<noinclude><references/></noinclude>
7exobajlzrhlv1k9jm6ws7frhni9zrt
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/35
104
87952
169945
2026-08-09T23:49:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169945
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweld chi, Huw, yn mynd i dori a phwytho wrth lyfr, ni chaech chi roi pwyth byth yn y nhŷ i beth bynag, rwi'n deud i chi.' 'Wel, wel,' ebe meistr, 'rhaid i chwi a minau sefyll i'n barnu wrth lyfr ryw ddiwrnod, a'r hen Feibl yma fydd y llyfr hwnw hefyd.' 'Os daw byth alwad arna i,' ebe yntau, 'mi ddeyda i na ddarllenais i erioed mo'r Beibil, a na fedrwn i ddim darllen chwaith, a mi fydd hyny yn ddigon ar y pwnc ene.' 'Na, fydd hyny ddim yn ddigon y diwrnod hwnw, os ydyw'n gwneud y tro heddyw, na fydd ddim yn ddigon i neb fydd wedi cael cyfleusderau i ddysgu darllen, a chael y Bibl yn eu cyrhaedd yn eu hiaith.' 'Mi 'rydwi'n talu i bawb ei ofyn; a nid eis trwy'r un lidiart erioed heb 'i chau hi ar f'ol,' eb y gwr, 'a mae hyny yn fwy nag all y rhan fwyaf o bobol y capeli yna ddweyd; a be sy gen neb ddim arall i'w ofyn imi.' 'Hys,' ebai Huw, ac ymollyngodd i bwytho â'i holl egni. Yr oedd ef a minau mor llawen a'r 'Fwyalch yn gelli' wrth ymadael ar ol gorphen ein job yno.
Nid llawer o deuluoedd o'r fath hwnw oedd i'w cael yn y wlad, ond yr oedd ambell un yma ac acw. Hyderaf nad oes gymaint ag un o'u cyffelyb i'w gael yn awr drwy holl Gymru. Yr oedd yr efengyl heb lwyr ddarostwng y wlad, ac Ysgolion Sabbothol ond lled anaml yn y dyddiau hyny. Ychydig iawn y mae y genedlaeth bresenol yn ei feddwl pa mor ddyledus ydyw i bregethu, ac i'r Ysgol Sul am gysuron cymdeithasol a theuluaidd, heb son am ddim arall; canys oni buasai eu dylanwad hwy, rhywbeth tebyg i gyflwr truenus y teulu y cyfeiriwyd ato fuasai cyflwr y rhan fwyaf o deuluoedd ein gwlad yn awr.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod IX.}}}}
AR fore y dydd Llun cyntaf wedi i ni gael gollyngdod o'r lle poenus hwnw, ymddangosai fy meistr yn hynod <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
kducortqa0uodf5cdmgyi8rkltqft7b
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/36
104
87953
169946
2026-08-09T23:57:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169946
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>siriol: 'Wel, tyr'd Robin,' meddai wrthyf, 'gad ini gychwyn tua'r nefoedd.' Ni buaswn i gydag ef yn y nefoedd cyn y tro hwnw. Gofalai yr hen lwynog am gadw y nefoedd i gyd iddo ei hun bob amser. Cadwai fi adref i bwytho tra y byddai ef yno, fel y gallai estyn yr amser yno cyhyd ag y byddai modd, ond tegwch âg ef ydyw i mi gydnabod ddarfod iddo fy nghadw o'r uffern hono hefyd yr un modd, ond nid oddiar yr unrhyw egwyddor. Yr oedd arno ofn imi ddysgu iaith a chastie uffern, fel y dywedai, os cymerai fi yno, pan nad oeddwn eto ond bachgenyn rhy ieuanc i allu dirnad y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Yr oedd wedi addaw lawer gwaith os buaswn yn fachgen da, dystaw, a diwyd, y cawswn fyned gydag ef i'r nefoedd ryw dro, a daeth y tro hwnw o'r diwedd. Bore hyfryd, tawel, teg, yn mis Mai, oedd yr adeg:—
{{center block|
<poem>
'A'r maesydd yn wyrddleision
:A'r coed yn llawn o ddail,
A natur ar eu gilydd
:Yn chwerthin bob yn ail.'
</poem>
}}
A holl 'Adar cerddgar y coed' o'n deutu ar hyd y ffordd megis yn llawengyfarch y ddau bererin o deilwriaid yn trotian heibio tua'r nefoedd. Cerddai fy meistr ychydig o'm blaen i, yn ddystaw fud am hir enyd; safai yn sydyn yn y man, a daliai ei lathen i fynu, Wyddost ti beth, Robin,' meddai, 'mae'r adar yma yn canu cystal i ni a phe buasai dau frenin yn myned ar hyd y ffordd yma heddyw, a 'rwy'n siwr o beth arall, ein bod ni ein dau mor ddedwydd yn y fan yma y mynud hwn ag un dau frenin ar y ddaear; a dweyd y gwir i ti, ni newidiwn i mo lathen y teiliwr am un deyrnwialen frenhinol dan haul—'hys!' Yna cododd ei het ar frig ei goryn, a throdd ei lathen o gwmpas ei ben, a dechreuai ganu yr hyn a ganlyn:
{{Center block/s}}
<poem>
Mae'r adar fry ar goed y fron
:Yn canu'n llon i'w Lluniwr,
Mae'n naws eu llais o fynwes llwyn
:Hudoliaeth fwyn i deiliwr:
Ei alw wnant i eilio 'n iawn
:Gân hylawn i'w Gynhaliwr.
</poem>
<br><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
5dk4i69jvdo5esgw8o13b4tx7o3yhos
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/37
104
87954
169947
2026-08-09T23:58:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169947
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Dyrchafaf gyda'r adar mân
:Bereiddiaf gân o'm genau,
Am fwyd, a dillad a phob dawn,
:O rwyddiawn drugareddau,
Am edau dda, a nodwydd ddur,
:Ac awel bur y boreu.
'Rwy'n myn'd a'm llathen dan fy llaw,
:A'r haiarn pressiaw prysur,
Y siswrn llym, a'r bwtcin twt,
:A'r labwt ar ei lwybyr;
I'r nef i bwytho mewn mwynhad,
:Iachusaf rad a chysur.
Bu Robin bach a minau dro
:Yn pwytho'nghanol poethion
Ellyllon cras, hyll iawn en cri,
:A sosi, gwaeth na Saeson;
Ond cawn fod heddyw'n llon ein dau
:Yn ngoleu gwlad angylion.
</poem>
{{Div end}}
<br>
Cefais ganddo ysgrifenu y gân ar ol dychwelyd adref y noson hono, a chedwais hi yn fy meddiant hyd heddyw, a dyma y tro cyntaf erioed iddi gael ei dwyn i 'wyneb haul a llygad goleuni.'
Yr wyf yn meddwl i mi ddweyd ar y cyntaf nad oedd Huw Prys yn nemawr o beth fel dyn nac fel teiliwr; teimlaf yn awr awydd galw hyny yn ol. Dyna'r olwg oedd genyf fi arno pan oeddwn gydag ef, a dyna'r olwg oedd gan eraill arno hefyd; ond erbyn imi ei ail ddwyn gerbron fy meddwl mewn adgofion, a'i fesur wrth yr adgofion hyny, y mae Huw fel yn tyfu o hyd ger fy mron. Yr oedd efe, fel y gwelir wrth y gân uchod, yn dipyn o brydydd neu rigymydd. Ni allodd erioed wneud englyn difai, meddai ef, ond gwnai ambell benill neu bwt o gân lled bert. Yr oedd hefyd yn wr go hynod ei dymher. Byddai weithiau, fel yr oedd y bore hwnw, ar ei uchel fanau, fel ebol ieuanc; a phryd arall yn isel a phruddglwyfus ryfeddol; ni ddywedai air wrth neb am ddyddiau weithiau. Yr unig ffordd i yru yr ysbryd mud a byddar hwn allan ohono fyddai naill ai ei ddigio nes peri iddo wylltio, neu ddweyd neu wneud rhywbeth digrif a barai iddo chwerthin, ond nid gwaith hawdd fyddai peri iddo ddigio na pheri iddo chwerthin pan fyddai wedi suddo yn ddwfn i gors digalondid. Wedi i bob dyfais fethu, hwyrach mai<noinclude><references/></noinclude>
cqmg4oijevjdewcgfzx4j8dkx4kt47c
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/38
104
87955
169948
2026-08-09T23:59:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169948
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y digwyddiad lleiaf a effeithiai arno. Yr wyf yn cofio am un tro yn neillduol pan oedd yn y cyflwr truenus hwn. Buasai am lawer o ddyddiau yn curio mewn ympryd a mudanod. Methasai pob ymdrech o eiddo'r wraig a'r cymydogion i'w godi o'r ffos. Gellid casglu mai pryder yn nghylch ei gyflwr tragwyddol oedd natur ei glwyf, ond yr oedd yn ofalus iawn i gadw y peth iddo ei hun. Yr oeddwn i yn meddwl bob amser ei fod yn Gristion mewn gwirionedd, er nad oedd y pryd hwnw yn proffesu crefydd, canys yr oedd arwyddion amlwg o ddyn yn ofni Duw i'w gweled ynddo. Ni chymerai ran byth mewn coeg-ddadleuon ar athrawiaethau crefydd, pan ddigwyddent dori allan mewn cyfeillach y byddai ynddi, ond ymgadwai yn ddystaw ac edrychai yn surllyd ar yr adegau hyny; ac os apelid ato am ei farn, rhyw atebiad sychlyd, a 'hys' wrth ei gwt, a geid ganddo.
Fodd bynag, yn adeg yr iselder meddwl y cyfeiriais ati, yr oeddem yn digwydd bod yn gweithio gartref am ddyddiau. Gweithiem mewn llofft fechan uwchben rhan o'r tŷ. Yr oedd ceidwad helwriaeth Yswaen y Plwyf a meistr yn gryn ffrindiau, a galwodd hwnw heibio'r tŷ un bore i ofyn am Huw, a rhoddodd wningen i meistres i'w pharatoi erbyn ciniaw. Ni chymerodd meistres arni ddim wrthym ni yn nghylch yr wningen; coginiodd hi, a gosododd hi ar ddysgl ar y bwrdd yn ei llawn gorpholaeth, a'i phen tua'r drws, a galwodd arno'm ninau i lawr. Gwaith mawr iawn a gawsom i berswadio Huw i ddyfod at ei giniaw; erbyn iddo ddyfod i ddrws yr ystafell, dyna lle yr oedd yr wningen yn gorwedd megis ar ei gwâl, yn anelu ato! Dychrynodd yn aruthr, a gwaeddodd yn arswydus, 'Ai o dy go' yr eist ti, ddynes!' meddai wrth y wraig, 'i ladd a berwi'r gath? Wyt ti yn meddwl i ni fwyta cathod?' Chwarddodd meistres a chwarddais inau, a gwylltiodd yntau yn erwin wrthym. Caed gwaith caled i'w berswadio i gredu nad y gath oedd ar y ddysgl o'i flaen.<noinclude><references/></noinclude>
fbhtue6z73kgg671paaq2q5guon92u8
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/39
104
87956
169949
2026-08-10T00:00:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169949
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Galwyd am y gath i ddwyn tystiolaeth ei bod yn fyw, a dygwyd croen y wningen hefyd i'r llys; ac wedi iddo gredu mai felly yr oedd, ymollygodd yntau i chwerthin, a chwerthin yn iawn hefyd, ac ar ol y gawod chwerthin, bwytaodd ac yfodd, ac ni bu efe athrist a digalon mwy am ryw dymhor.
Byddai ffit yr iselder yn gyffredin yn dilyn y fit lawen. Yr oeddwn yn ofni y bore hwnw ar y ffordd nad oedd ei elyn y pruddglwyf yn nepell oddiwrtho, ac felly y troes hi allan.
Yr oedd ganddo lais a dawn canu perdoddedig. Yr oeddwn i yn barnu yn gydwybodol, wrth wrando arno yn canu ei benillion ar y ffordd y bore y cyfeiriwyd ato, mai efe oedd y cantor goreu yn yr holl fyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod X.}}}}
HANES ymdaith fy hen feistr a minau tua'r nefoedd a roddais yn y benod ddiweddaf. Ond darfu imi rywfodd ymdroi cymaint ar y ffordd fel y bu raid i mi derfynu cyn gorphen hanes y daith.
Wel, ni gyrhaeddasom y tŷ dedwydd rhwng saith ac wyth yn y boreu. Yr oedd saith neu wyth o fuchod graenus ar y buarth, a merch y tŷ a'r forwyn wrthi yn brysur yn eu godro. Yr oedd gwr y tŷ a'r gwas a'r mab hynaf yn dilyn eu gorchwyl yn y maes, a'r wraig a'r ail ferch hwythau yn paratoi y boreubryd. Pan aethom i fewn i'r tŷ, cawsom bawb a phobpeth ynddo rywbeth yn debyg i'r dychymmyg oedd genyf am dano oddiar yr hyn a glywswn fy meistr yn ei ddweyd—Y llawr a'r dodrefn yn lân ac yn loyw, pobpeth yn ei le; y plant yn lanwaith, yn dawel, yn ufudd, a siriol—pobpeth yn arwyddo bod tangnefedd a chariad yn preswylio ac yn llywodraethu yn y tŷ hwnw. Nid oedd yno na rhuthro i mewn na rhuthro allan, na gwaedd yn y tŷ nac ar y buarth.
{{nop}<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
amsbf9pshqlguygjpvho4638jarlurp
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/40
104
87957
169950
2026-08-10T00:01:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169950
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd delw y teulu megis ar yr anifeiliaid. Dywedwch a fynoch, mae gwir ''philosoph''y yn yr hen ddiareb, 'Fel y bo'r dyn felly bydd ei anifail.' Cefais brawf o hyn yn y ddau dŷ hyny. Yr oedd anifeiliaid yr aelwyd ac anifeiliaid y buarth perthynol i'r 'uffern ar y ddaear' hono o'r un cyffelyb dymher a'r teulu a'u perchenogent. Y gwartheg yn cornio eu gilydd pan gesglid hwynt i'r buarth i'w godro, ac yn cicio wrth eu godro, a'r wraig a'r llances-forwyn yn eu cicio ac yn eu rhegu hwythau. Yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos i ben blaen na phen ol y ceffylau; moelent eu clustiau ac agorent eu cegau am damaid o'ch cnawd, neu cynygient droediad i chwi, pan eid yn agos i'w cyrhaedd. Nid oedd dau gyw iar ar y domen yn gallu cytuno â'u gilydd, byddai y naill yn mrig y llall beunydd, y ceiliog a'r ceiliogwydd mewn rhyfel gwastadol y naill â'r llall, a nghred i am y moch oedd mai hiliogaeth moch y Gadareniaid yn sicr oeddynt—rhuthrent i'r tŷ gan rochian a rhincian, yn ddigon i fyddaru asynod, a phan dywalltid bwyd i'w cafn, ceisiai'r naill fochyn wasgu'r llall oddiwrtho âg ysgwydd ac âg ochr; arwyddair pob un fyddai, 'Y cwbl i mi, a'r gweddill i chwithau'; yna ymladdfa ffyrnig a ganlynai, 'pob mochyn â'i wyrchyn i fynu,' a'i gynffon ar dro, a'i safn yn agored, fel pe buasai am fwyta ei gydfochyn yn fyw. Yr oedd y cŵn a'r cathod ar yr aelwyd hefyd yr un modd. Yr unig esponiad sydd genyf fi ar bethau fel hyn yw bod natur ddrwg y teulu yn myned i'r creaduriaid wrth gael eu magu a'u trin ganddynt. Pa ryfedd fod y gwartheg a'r ceffylau am frathu a chornio a chicio, a hwythau yn cael eu pwnio a'u curo a'u cicio yn barhaus, a'r creaduriaid eraill yr un modd. Ond am y llall, yr oedd pob peth mewn heddwch yn yr ystabl, y beudy, a'r buarth, a'r aelwyd. Y ceffylau yn llariaidd, y buchod yn heddychol â'u gilydd, ac yn cnoi eu cil yn dawel wrth eu godro; yr ieir a'r gwyddau yn gymodlon a digynen; y moch yn<noinclude><references/></noinclude>
5l5w0f82ftbwocsvd1nygog2ktfs4sx
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/41
104
87958
169951
2026-08-10T00:02:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169951
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddiddig a diymryson; a'r cwn a'r cathod yn cydgyfaneddu mewn tangnefedd ar yr aelwyd.
Pan ddaeth amser boreubryd, yr oedd pawb o'r teulu yn nghyd, pob un yn eistedd yn ei le, a'r plant ieuangaf yn wylaidd a dystaw. Cydnabyddai y penteulu Dad y Trugareddau mewn diolchgarwch, a gofynai ei fendith Ef arnynt, cyn dechreu cyfranogi ohonynt. Ar ol ymborthi, dygid y Beibl i'r bwrdd, a theyrnasai dystawrwydd ar yr aelwyd. Yr oedd agwedd y teulu megis yn dweyd wrth yr oracl dwyfol, Lefara, canys yr ydym ni oll yma gerbron Duw i wrando lleferydd dwyfol dy enau. Ar ol darlleniad y benod, adroddai pob un yr hyn a ddaliasai yn ei gof. Yna cydymgryment oll o amgylch yr allor deuluaidd, pan offrymai y tad y boreuol aberth o ddiolchgarwch a gweddi, a chyflwyno'r teulu i'r nawdd a'r ar weiniad dwyfol ar hyd y dydd. Yna ai pawb at eu goruchwylion yn dawel a siriol. Egwyddorid y plant yn addysg ac athrawiaeth crefydd. Yr oedd megis arogl bendith a boddlonrwydd y nef ar bawb ac ar bobpeth yn y tŷ—ar ffrwyth y bru—y cawell, y toes—y mynediad allan a'r dyfodiad i mewn—ar gynydd y gwartheg a'r deadellau defaid. Cydnabyddai y teulu yr Arglwydd yn eu holl ffyrdd, ac efe a hyfforddiai eu llwybrau. Nid crefydd surllyd, bruddwynebog, Phariseaidd, oedd crefydd y tŷ hwnw; ond crefydd wynebagored, siriol, ddidwyll a dihoced. Nid ufudddod yspryd caethiwed yn peri ofn oedd ufudd—dod y plant a'r gwasanaethyddion, ond ufudd—dod yn tarddu oddiar barch a chariad yn y rhai oedd dan y llywodraeth at y rhai oedd yn ei gweinyddu. Llywodraeth cariad oedd y llywodraeth, ac ufudd-dod cariad oedd yr ufudd-dod.
Buom yno wythnos o gwbl, ac aeth pob diwrnod heibio fel y cyntaf; ni thywyllodd un cwmwl awyr y teulu tra y buom ni yno. Yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon weled ein hamser yno yn dyfod i bendymunaswn aros o hyd fy mywyd yn y tŷ dedwydd hwnw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pi1ydj059ha9hzbebqtc43fqrfzn334
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/42
104
87959
169952
2026-08-10T00:03:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169952
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwasgodd gwraig y tŷ yn o galed ar meistr droion yn nghylch crefydd, a'r ddyledswydd o'i phroffesu, oddiar ei bod yn gwybod ei fod ef yn ddeiliad argraffiadau crefyddol er's hir amser. Ni ddywedai ef ond ychydig, ond teimlai yn garedig tuag ati hi, am ei ffyddlondeb.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XI.}}}}
YR wyf wedi colli arni gyda'r ysgrifenu yma; fe'm lluddiwyd gan amryfal drafferthion, fel sydd yn cyfarfod â phawb yn y byd trafferthus hwn; bum rai dyddiau oddicartref, ar achos oedd yn galw fy holl sylw a'm holl amser; ac ar ol i mi ddychwelyd, a dechreu hwylio ati hi, nid oedd ar gael (a defnyddio termau teilwraidd) na nodwydd nac edef, h.y., yr oedd y pin ysgrifenu wedi myned ar goll, a'r inc wedi sychu yn gorn, a dim scrap o bapur gwyn yn y tŷ. A chan fy mod yn byw yn y wlad yn mhell mhel o lan na thre', bum rai dyddiau yn amddifad o'r offerynau angenrheidiol at y gorchwyl. Deallwch fy mod wedi symud o'r pentref lle yr oeddwn yn trigo, pan yn ysgrifenu gyntaf; cefais gornel fechan o dir lle gallaf gadw buwch a mochyn, ac ychydig ieir a hwyaid, yr hyn a etyb i ni yn well na'r grachen siop yn y pentref yr wyf yn disgwyl. Aethum un diwrnod i lawr i'r llan, a basgedaid o wyau ar fy mraich ar fedr pwrcasu lot o binau dur a photelaid o inc, a stoc o bapur, ond fel bu'r anffawd, mi a syrthiais ar y ffordd a thorais yr wyau bob un, a bu raid i mi droi yn ol adref heb na phin na phapur. Gallaswn gael faint a fynaswn ar goel gan fy hen gyfaill sy'n cadw siop y llan, pe buaswn yn dewis, ond y mae yn bwnc genyf fi bob amser erioed i dalu ar law am bob peth fyddwn yn alw am dano; a pheidio a cheisio dim, beth bynag fyddai'r angen am dano, os na fyddai genyf arian i <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
7qqmsp4vawkgmu4t1k9wzikx6hzo4sy
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/43
104
87960
169953
2026-08-10T00:04:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169953
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dalu wrth ei geisio. Yr wyf yn sicr i hyn fy nghadw rhag llawer o helbul a phryder. Nid peth bychan, goeliaf fi, ydyw myned trwy'r byd, ac yn y diwedd allan o'r byd, heb fod yn 'nyled neb o ddim,' os. gellir fodd yn byd; ac yr wyf yn bur sicr yn fy meddwl y gallai llaweroedd mwy nag y sydd fyned trwy'r byd, a myned o'r byd felly, pe y ceisient roddi eu synwyr ar waith i drefnu a darbod eu hachosion a'u hamgylchiadau gyda golwg ar hyny. Ond waeth tewi na siarad, pleser llawer o bobl ydyw rhedeg i ddyled, y mae fel pe byddai bod mewn dyledion yn beth hanfodol i gysur eu bywyd. Nid ydynt yn meddwl am dalu byth; wrth brynu, addawant yn deg, a dyna'r cwbl. Ni waeth ganddynt, ac ni waeth iddynt, faint o bris a geisia'r gwerthwr am y nwydd, gan nad ydynt yn gofalu dim oll yn nghylch y talu, os gallant gael ar goel. Wedi rhedeg mor bell i lyfrau un siop, hyd nes y gwrthoda iddynt ychwaneg ar goel, ac yr eir i wasgu'n galed am y tâl, rhedant i siop arall. Trefn dda ar gyfer rhai o'r fath yma oedd sefydlu Cwrt y Mân Ddyledion; y mae y Cwrthwnw yn peri peth ofn ac arswyd ar lawer ohonynt.
Byddaf yn meddwl yn wastad mai gwers fuddiol iawn i'w dysgu i bobl ieuainc ydyw y pwys o ymgadw rhag rhedeg i ddyled; dylai fod yn addysg yr ael. wyd a'r ysgol, ac weithiau yn yr areithfa hefyd, canys y mae hi yn gangen o addysg y Beibl. 'Paid byth prynu gwerth dimai o ddim os na fydd genyt ddimai i dalu am dano fo,' ebai tad unwaith wrth ei fachgen, 'a phaid byth a prynu dim na bydd arnat ei eisiau, pe ba'i genyt arian lon'd dy boced; ie, pe b'ait yn ei gael o am ddim.' 'Wel, 'nhad,' ebe'r bachgen, 'nid prynu fyddai hi, os cawn i o am ddim; a mi fyddwn yn ffol i wrthod y peth a gawn i am ei gymeryd." 'Na, na,' ebe y tad, 'mae llawer peth geir am ddim heb fod ei eisiau, yn cael ei brynu yn ddrud iawn wrth ei gymeryd, gan fod tuedd ynddo i fagu ysfa drachwantus am bethau afreidiol yn y meddwl.' Yr<noinclude><references/></noinclude>
3mifvkt0rbclf2pfj8xlc0hpbyvopfg
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/44
104
87961
169954
2026-08-10T00:05:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169954
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wyf fi yn meddwl fod synwyr ac athrawiaeth dda yn nghynghor y tad hwnw.
Ond i b'le yr wyf fi wedi myned? Ar fedr myn'd yn mlaen â hanes digwyddiadau bore f'oes deil wraidd yr oeddwn pan yn ymaflyd yn y pin i gychwyn y benod hon; ond erbyn i mi edrych, dyma fi wedi bod wrthi yn adrodd fy hynt bersonol, a throi i gynghori a dysgu pobl sut i fyw. Wn i ddim beth y gel. wir rhyw druth fel hyn. Ai tybed mai athroniaeth bywyd cyffredin? Os felly, dyma'r Teiliwr wedi troi yn ''philosophe''r heb yn wybod iddo ei hun; a 'does wybod yn y byd mawr beth a fyddaf eto, os caf fyw dipyn. Teiliwr oeddwn yn nechreu fy mywyd, beth bynag, ond pwy wyr na byddaf yn ''Bresident'' ar ryw wlad neu ynys, yn rhyw gwr o'r ddaear, cyn ei diwedd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XII.}}}}
Ar y ffordd wrth fyned tuag adref o'r lle da hwnw, gofynwn i meistr, ' I ble yr awn i nesaf i bwytho?' 'I Rhwng y Ddau,' oedd yr ateb. 'Rhwng y Ddau,' meddwn inau, 'p'le ydyw'r fan hono? ni chlywais i erioed mo'r enw o'r blaen.' Yr Hafod Isa ydyw'r enw cyffredin arno, ond rhwng y Ddau isa byddaf fi yn ei alw,' meddai Huw. 'Pa'm yr ydych yn ei alw felly?' gofynwn. 'Wel, dyma'r pa'm,' atebai; 'nid yw yn lle mor druenus a'r uffern hono, nac yn lle mor dda a dedwydd i fyned iddo a'r nefoedd yna y buom ynddi yr wythnos hon; ond rhyw le canolog ydyw, fel y cei weled. Y mae yno rai elfenau nefol, a rhai elfenau uffernol, a'r elfenau hyny yn fynych yn dyfod i wrthdarawiad â'u gilydd.
Yr oedd tri Rhwng y Ddau yn perthyn i lywodraeth llathen a labwt meistr. Rhwng y Ddau uchaf a Rhwng y Ddau ganol, a Rhwng y Ddau isaf, a'u <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
tufg0rhuypxp994rbofcltcg0upujtv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/45
104
87962
169955
2026-08-10T00:07:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169955
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>galw ar yr enwau a roddai efe arnynt. Yr oedd ansawdd deuluol y tri lle yn gyffelyb y naill i'r llall, mewn amryw bethau, ac yr oeddynt yn gwahaniaethu hefyd.
Wel, eto. Cychwynasom y bore dranoeth i'r dydd y daethom o'r nef, gan gyrchu i'n dau tua Rhwng y Ddau isa. Yr oedd yn fore ystormus, gwlybyrog, o fore Mai. Golwg dywell, bruddaidd, oedd ar wyneb wybren a daear, fel pe buasai'r ddwy wedi tramgwyddo wrth eu gilydd. Nid oedd un aderyn yn teimlo ar ei galon i ganu pwt. Llechai'r ehedydd yn rhyw le allan o'r golwg, ac yr oedd pob Robin Goch a welem yn ysgrythu yn ei gwman, ac weithiau yn twitian yn duchanllyd. Ymlechai y gwartheg yn ochrau y cloddiau, pob un yn edrych mor ddifrifol a phe buasai yn gwneud ei hewyllys. Sylwais ar darw ar un cae yn prysur grafu y ddaear â'i draed blaen, gan eu gweithio bob yn ail, megis pe buasai yn cloddio bedd i gladdu yr holl fuches. Yr oedd yspryd meistr mewn llawn gydgordiad â'r golygfeydd cylchynol. Cerddai rhagddo yn ddystaw, fyfyriol. Ni chawn ond ateb sychlyd, cwta, ganddo pan ofynwn rywbeth iddo.
'Wel, meistr,' meddwn wrtho wedi hir fudandod, 'nid ydych mor siriol a llawen, ac yn canu heddyw fel yr oeddych wythnos i heddyw, pan oeddym yn myned tua'r nefoedd fel y gelwch y lle.' 'Rheswm da pa'm,' atebai yntau; 'nid i'r nefoedd yr ydym yn myned heddyw. Da gallaswn i ganu, a bod yn llawen y bore hwnw, a minau'n gwybod am y lle da yr oeddym yn myned iddo; ac heblaw hyny, nid oes calon nac yspryd mewn dyn na 'deryn i ganu, na bod yn llawen, ar fore trwm, gwlybyrog, fel hwn. Weli di y 'deryn tô acw? Gofyn iddo pa'm na chanai o.'
Yr oeddym gyferbyn a ffermdy oedd (ac sydd eto o ran hyny) ar ochr y ffordd, pan gymerodd yr ymddyddan yna lle rhyngom. Torodd i wlawio'n drwm ar yr adeg hono; troisom ninau i fuarth y fferm, ac<noinclude><references/></noinclude>
o6087yeax83w4su3ncpwhcxbhp3rerr
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/46
104
87963
169956
2026-08-10T00:11:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169956
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ethom i hofel yno i ochel y gawod. Yr oedd ar y buarth luaws o ieir, a hwyaid, a gwyddau. Dechreuai y ceiliog ieir ar ei dôn yn y man. 'Dyna i chwi, meistr, meddwn i, 'y mae hwna yn medru canu y bore heddyw, os na fedrwch chi.' 'Canu wyt ti yn galw crygleisio fel yna?' ebe yntau, 'mae o'n meddwl mai canu mae o: wyr o ddim amgenach, druan ohono, ac ni ddysga fo byth wybod chwaithmae o'n rhy benwan a hunanol i ddysgu dim.'
Daeth gwr y tŷ allan o'r ysgubor ar hyny, ac fwyd ganddo mewn gogr, a thaflai ddyrneidiau ohono ar y buarth. Wel, af ati hi. Dyna lle yr oedd rhedeg am y cyntaf, yn ieir, hwyaid, a gwyddau, a phob un yn crechwenu ac yn gorfoleddu a holl nerth ei gorn gwddw. Yr oedd yno ''goncert'' ardderchog, o ryw fath o ardderchogrwydd, hyd nes y daethant i gyrhaedd y grawn yd; yna gostegai y beroriaeth, syrthient ati bob un o ddifrif i achub ei gyfran o'r wledd. Canfu un o'r moch oedd gerllaw yr edynogion yn gwledda, a chododd arno flys am gyfran o'r danteithion; rhuthrodd y ceiliogwydd iddo, ac ymaflodd yn ei ochr, a rhoddodd gernod iddo yn ei fochgern â bôn ei aden, fel y rhedodd hwnw ymaith am ei hoedl, gan wchian fel y gweddai i fochyn yn y fath amgylchiad. Ymlidiodd y ceiliogwydd yn mhell ar ei ol, a dychwelai at ei gymdeithion gan ganu cloch buddugoliaeth yn hynod o soniarus. Yr oedd gorfoledd y gwyddau y tu hwnt i bob terfynau—rhedent i gyfarfod eu harwr i'w lawengyfarch a'i fawrygu am ei wroldeb a'i wrhydri; a thrwy hyn, collasent hwy ac yntau lawer o'r gyfran a berthynai iddynt o'r boreufwyd a ddarparesid iddynt, canys yr oedd y ddwy genedlaeth yn diwyd bigo y grawn i fynu tra buont hwy yn datgan clod y fuddugoliaeth a enillasai y ceiliogwydd ar y mochyn.
Yr oedd y gawod wlaw drosodd erbyn hyny, ac ebe fi, Byddai gwell i ni gychwyn, y mae'n deg y rwan.' 'Na, aros i ni gael gweled y diwedd, gei di<noinclude><references/></noinclude>
ntwn7afnd168a1qxldb91reqlr82m42
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/47
104
87964
169957
2026-08-10T00:12:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169957
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wel'd y bydd yma fatel eto ninion deg,' eb efe; ac felly fu. Wedi i'r grawn fyned yn deneu ac anaml ar y llawr, dechreuodd y gwyddau ymosod ar yr ieir a'r hwyaid. Ymaflodd un o'r gwyddau yn asgwrn cefn un o'r ieir, a gwaeddai hono yn ddychrynllyd. Ni allai ceiliog yr ieir oddef hyn, ymosododd ar y ceiliogwydd, a bu cadafael galed rhwng y ddau. Yr oedd y ceiliog yn rhy chwimwth ei droed a'i ysgogiadau i'r ceiliogwydd, fel na allasai yn ei fyw ddyfod i ''close quarters'' âg ef. Methai gael pigafael arno, na chyrhaedd cernod bôn aden iddo, tra y gwyliai y ceiliog ar bob mantais i wneud rhuthr arno ef, a phlanu ei yspardynau yn ei goesau. Aeth gwr y tŷ atynt o'r diwedd, a gwahanodd hwynt. Ymddangosai y ddau fel yn honi y fuddugoliaeth. Yr oedd y gwyddau yn neillduol yn clochdar clod gorchestion ymladdgar eu tywysog.
'Wel, tyr'd rwan, Robin,' ebe meistr; 'y mae llawer o addysg i gael oddiwrth y creaduriaid yna, pe b'ai ni'n sylwi yn iawn arnynt,' meddai. 'Pa addysg gewch chwi oddiwrth ieir a gwyddau a hwyaid?' meddwn inau; ' yr addysg oreu wn i am dani a ellir gael oddiwrthynt ydyw eu bwyta; yr wyf finau yn bur hoff o'r addysg hono.' 'Wyt, felly 'rwyt ti,' ebe yntau, 'yn un glew iawn am addysg i dy fol, heb feddwl fawr am addysg i dy ben. Coelia di fi, gwell fyddai i ti gospi tipyn ar dy fol er mwyn dy ben, na phorthi blysiau y bol ar draul esgeuluso moddion addysg a gwybodaeth i'r pen.'
'Wel, rhowch chwithau dipyn o addysg a gwybodaeth i'm pen oddiwrth yr ieir a'r gwyddau yna,' ebe fi. Y mae arnaf ofn dy fod yn rhy bendew i dderbyn addysg, Robin bach; ond dyma i ti wers. Y mae llawer iawn o blant dynion, yn feibion ac yn ferched, yn debyg iawn i'r ceiliogwydd a'r gwyddau yna. Dyna'r ceiliogwydd rwan, mi red a'i big ar ol sawdl pob dyn ac anifail ddelo yn agos ato; ond os troi'r ato fo y coward pena erioed ydyw o—mi red<noinclude><references/></noinclude>
gcxy5wea1kfbcksa3q5vny8lt6r09c6
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/48
104
87965
169958
2026-08-10T00:15:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169958
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i ffwrdd gynted ac y gallo'i draed i gario fo, a'r hen wyddau wedi'r cwbl yn i frolio fo, ac yn gwenieithio iddo, ac yntau yn yfed y cwbl, ac yn edrych mor fawreddog fel y gellid tybied ei fod yn meddwl mai y fo ydyw ''Lord Protector'' y byd yma. Fe welir aml i ddyn cyffelyb iddo, a llawer o wenieithwyr cyffelyb i'r gwyddau, yn gwenieithio i'r ceiliogwydd dynol, nes y byddo y creadur penwan yn chwyddo yn fwy na llon'd ei ddillad gan wynt hunanolrwydd —y fo ydyw pob peth nes y dygir ef i'r prawf, ac yna fe dry ei gefn wedi tori ei galon fel ei frawd geiliogwydd. Cymer hynyna o addysg, paid byth a dysgu gwenieithio i neb, beth bynag ddysgi di; a phaid byth a derbyn gweniaith gan neb, gochel rhag gwneud na gwydd na cheiliogwydd o honot dy hun.'
'Dyna'r iar geiliog eto, yr wy'n credu mai un o ddybenion creadigaeth y creadur yna ydyw dangos i blant dynion beth mor wrthun ydyw balchder. Mae'r deryn, yn wir, yn greadur pur hardd, ond y mae o'n gwybod hyny. Y mae ei holl ysgogiadau yn wir bictiwr o falchder. Ddarfu ti sylwi fel bydd o'n gosod ei draed i lawr? Y mae o fel pe bai o'n meddwl bod yn fri i'r ddaear iddo ef sangu arni. Y mae swn balchder yn ei 'go, co, co,' mawreddog. A beth ydyw o, ond ceiliog iar yn y diwedd! Y mae yn medru gosod ei hun allan yn well na'r ceiliogwydd, ac y mae ganddo fwy i ''supportio'' falchder nag sydd gan y llall. Nid yw ef yn ''goward'', gwell ganddo ymladd hyd angau nag ildio a rhedeg i ffwrdd. Y mae i hwn lawer o frodyr yn mhlith meibion dynion. Y bechgyn yma fydd yn ''gocio'' <nowiki>'</nowiki>u hunain, fel y dywed yr hen air, yn gwisgo ysnodenau, a chadwyni arian, a modrwyau aur, neu rywbeth melyn, er na byddant ond bechgen wrth 'u diwrnod gwaith, hwyrach. Mi fyddi di'n son am fyn'd i Lerpwl i chwilio am waith, cymer di ofal os ai dy yno, na wneloch di byth geiliog ohonot dy hun. Mi welais i aml i fachgen gwylaidd a gweddus<noinclude><references/></noinclude>
575cgx5jggdx3qvky8o37gygpdmx93a
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/49
104
87966
169959
2026-08-10T00:19:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169959
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn myned yno, ac yn dychwelyd adref yn geiliogod. Cofia Ddic Sion Dafydd, troi'n geiliog yn Llundain ddarfu hwnw, ac mae'n sport y genedl byth wedi i Jack Glan y Gors wneyd y gân hono iddo.
'Cymer wers eto oddiwrth yr hwyaid a'u ceiliog. Gwr boneddig moesgarol ryfeddol ydyw ef, y ceiliog hwyaid. Mi fydd yn bowio i bob creadur ddelo yn agos ato fo, boed gi neu fochyn, ieir neu wyddau, oll fel eu gilydd. Ddarfu i ti ddim sylwi fod yr hwyaid yn llawer callach na'r ieir a'r gwyddau gynau? Ni chymerasant hwy ddim sylw o'r ffrwgwd pan oedd y ceiliogwydd yn curo ac yn ymlid y mochyn, ac wedi hyn yn ymladd â'r ceiliog. Yr oedd yr ieir a'r gwyddau yn cymeryd rhan ac ''interest'' mawr yn y ''bicnic'', ond ni chodai'r hwyaid mo'u penau, tra yr oedd gronyn o ŷd heb ei godi. Cawsant hwy fantais oddiwrth yr ymladdfeydd, drwy eu bod yn ddigon call i beidio ymladd eu hunain, nac ymyraeth â'r rhai oedd yn ymladd. Cofia di nad oes dim i'w enill byth, ond llawer iawn i'w golli, oddiwrth gynen ac ymryson; ond mor hoff o gynen ac ymryson ydyw rhai pobl! Yr hwyaid piau hi.
Un peth sydd raid ei ddweyd am y ceiliog hwyaid (a'r hwyaden hefyd), ei fod yn wancus am ei fol, fel tithau, os coeliwn ni dy dystiolaeth am danat dy hun. Mi ddyweda i ti stori ges i gan un oedd yn y fan a'r lle yn gweled :—Yr oedd ceiliog hwyaid gerllaw gefail gof, ac wrth i'r gof dori darn o flaen haiarn gwynias neidiodd y darn toredig oddiwrth yr einion allan tros riniog yr efail. Gwelodd y ceiliog hwyaid ef, a thybiodd ei fod yn flasus fwyd o'r fath a garai, rhedodd ato, a llyncodd ef rhag ei flaen, heb ymofyn dim, yn union deg. Llosgodd yr haiarn ei ffordd drwy ei grombil, a disgynodd oddiwrtho, a syrthiodd yntau yn farw mewn canlyniad. Dyma i ti wers oddiwrth yr esiampl yna o wancusrwydd y creadur yna, druan. "Dysga lywodraethu dy flys. Gosod gyllell ar dy geg," medd Solomon.'
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
3wewktbvhrn9evu1fy92tcozitekj2r
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/50
104
87967
169960
2026-08-10T00:20:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169960
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod XIII.}}}}
CYRHAEDDASOM i Rhwng y Ddau y bore cofiadwy y soniais am dano pan oedd y teulu yn myned i eistedd wrth eu brecwest. Yr oedd y teulu yn gynwysedig o wr a gwraig, dau o feibion, a thair o ferched. Yr oedd y plant wedi tyfu i fynu, y ferch ieuengaf tua dwy ar bumtheg oed. Yr oedd y wraig yn ddynes lanwaith, dawel, bwyllog, a chrefyddol; ond am y gwr, os caniateir i mi fathu gair newydd, rhyw ''haldibwld''i o ddyn oedd o. Ni wn i ar y ddaear beth ydyw ystyr y gair ''haldibwldi'' chwaith, os oes rhyw ystyr iddo, dichon y gall rhywrai dysgedig chwilio i'w wreiddiau a chael allan ei arwyddocad. Ymddangosai i mi, beth bynag, fel gair cymhwys yn ei swn a'i seiniad i osod allan gymeriad gwr Rhwng y Ddau isaf. Yr oedd y mab hynaf ar lun a delw ei dad, yn bur gyffelyb iddo yn ei ddull a'i dymher. Y bachgen arall yn dwyn mwy o debygrwydd i'w fam; felly hefyd y ferch hynaf; ond merched eu tad, a chwiorydd y brawd hynaf oedd y ddwy ieuengaf. Yr oedd y ganol yn neillduol yn hynod o wyllt ac aflywodraethus ei thymher.
Ymddangosai i ni nad oedd y gwr yn gwybod ein bod ni (y teilwriaid) i'n disgwyl yno y pryd hwnw; byddai ef yn arfer bod yn fynych oddicartref yn y ffeiriau draw ac yma, yn prynu ac yn gwerthu anifeiliaid. Pan aethom i mewn i'r tŷ, edrychodd yn synllyd arnom, 'Beth mae rhai'n yn geisio yma?' eb efe, 'pwy alwodd am danoch chwi?' 'Y fi, y fi,' ebe y wraig, 'ond wyddoch chwi o'r gore fod eisieu gwneud dillad i'r ddau fachgen yma: ac yr oeddwn wedi dweyd wrthych eu bod i dd'od yma yr wythnos hon.' 'Taw a dweyd celwydd, Nansi,' ebe yntau, 'ni chlywais i air o son am danyn nhw, nes i mi 'u gweld nhw'n dwad i'r tŷ y rwan. 'Wel, hai, hai Rolant,' ebe hithau, 'oni soniais wrthych ddoe ddiwaetha, fy mod yn disgwyl y byddent yma,<noinclude><references/></noinclude>
p8cdkshx42hgkhuxzbje1fwpma5aaeb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/51
104
87968
169961
2026-08-10T00:21:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169961
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>heddyw.' 'Cato ni! ni waeth gen ti beth ddeydi, ond dene fel rydach chi, pobol y Seiat yma bod yg un, waeth gyno 'ch chi ar y ddaear faint o g'lwdde ddeydo chi; well gen i ddelio â phob sort o bobl na'r cryfyddwrs yma.' 'Mi wyddoch am Rolant, Huw,' ebe'r wraig, 'na feindiwch mono fo, dowch y'mlaen, eisteddwch wrth y bwrdd.' 'Gwn mi wn am dano fo cyn heddyw,' ebe Huw, 'y gair garw y'mlaen fydd ganddo fo'n gyffredin, fydd o ddim yn meddwl fel y bydd o'n siarad bob amser.'
'Rydach chi yn y nghamgymeryd i narw, Huw,' ebe 'r gwr, 'pobol y Seiat yma fydd yn deyd un peth, ac yn meddwl peth arall.' 'Y mae rhai pobol eraill fedr wneud hyny,' ebe Huw. 'Ydach chithe wedi mynd i'r Seiat?' ebe'r llall, 'ran hyny, rydach chi'n ddigon ffit i fod ono estalwm, mi wranta'ch bod chi wedi addo myn'd i bump neu chwech o dai eraill heddyw, os oedd galwad am danoch chi.'
'Na, nid wyf fi ddim yn perthyn i'r Seiat, soweth,' ebe Huw. 'Ie, soweth,' ebe'r llall, 'hyny ydi, mi fasech yn waeth nag ydach am ddweyd anwiredd a chastie, tase chi wedi myn'd at bobl y Seiat, dene ydach chi'n feddwl ond te?' 'Eich esponiad chwi ydyw hwnyna,' meddai Huw.
'Nansi,' gwaeddai'r gwr yn groch, 'doro chwaneg o de yn y pot; wel'd di'r trwyn sur mae'r teiliwr yn neud ar dy slotan de di? Mae'r teilwriaid yma'n gynddeiriog am de cry, fel te manus haidd; fase ddigon bychan fod gen ti ddeg pwys ar hugain o de yn y tê, a haner can pwys o siwgwr gwyn, os byddan nhw yma trwy'r wythnos.' Yna taflodd olwg arnaf fi. 'Beth yw'r crwtgi yma sydd gynoch chi yn ych calyn, Huw?' eb efe, 'ni wna hwn ddim haner gwerth ei halen, 'rwy'n siwr, a wnei di?' meddai, gan droi ataf fi. Mi fedra fwyta cystal a'r un ohonoch chwi, os caf fi fwyd o fy mlaen,' ebe finau. Ha, ha, ha, da machgen i,' eb efe, 'mae rhywbeth ynot ti hefyd, 'rwy'n gweld, gwych gen i wel'd bechgyn<noinclude><references/></noinclude>
r9zol1k4c4fcgy0jpx6pi3eiysrrw2z
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/52
104
87969
169962
2026-08-10T00:25:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169962
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a thipyn o blwc ynddyn nhw; bwyta faint fynoch di, machgen i; doro gwpaned y de iddo fo, Nansi,' meddai wrth y wraig, 'yr oedd yr ateb ene'n werth cwpanaid o de da beth bynag.'
Cododd dadl yn y man rhwng y tad a'r mab hynaf yn nghylch rhyw bwnc amaethyddol, ac aeth y ddau yn bur boethlyd eu tymher. Ceisiai'r wraig a'r ferch henaf eu tawelu, ond ni roddai yr un o'r ddau ei bwnc i fynu. Aeth y tad i dyngu a rhegi yn y man, ac nid oedd y bachgen nemawr gwell ei araith na'i dad. 'A oes arnoch ddim cywilydd i gablu enw y Brenin Mawr fel yna, wrth ymborthi ar ei drugareddau?' dywedai y wraig. 'Beth wnawn ni well na thyngu a rhegi,' ebe'r gwr, 'y fo, yr hogyn, d{{bar|2}}, yn cymeryd arno wybod yn well na fi beth a sut i wneud.' Yna anferth lw a rheg drachefn. 'Rown i ddim byd am ddyn,' eb efe wed'yn, 'os na rega fo, achos am hyny, —gwell gen i ddyn a rego yn ''hearty'' na'r bobl fydd yn tuchan ac yn gweddio, mae nhw'n onestach o'r haner.'
'Yr ydych yn peri i mi feddwl am William Morgan, y Fedwlas, Rolant; ac y mae arnaf ofn mai i'r un diwedd y deuwch chwi a'r bachgen yma,' ebe'r wraig.
Tarawodd y sylw yna y gwr a mudandod. 'Sut ddiwedd oedd ei ddiwedd o?' gofynai meistr. 'Yr oeddych yn adnabod Wil Morgan,' meddai hithau, 'a chwi a wyddoch mai tyngwr a rhegwr arswydus oedd o. Yr oedd pump neu chwech o'r ''class'' hwn o bechaduriaid yn byw yn y plwy' yma, y mae tri ohonynt yn fyw yn awr, pan ddigwyddai iddynt gyfarfod â'u gilydd, eu prif ddifyrwch fyddai ymryson tyngu a rhegi am y goreu. Beth bynag, fe gymerwyd William yn sal iawn, a phan roddwyd ar ddeall iddo nad oedd gobaith iddo wella, efe a anfonodd am ei hen gymdeithion rheglyd i gael iddo yr hyfrydwch o'u clywed yn tyngu ac yn rhegi unwaith drachefn cyn marw, onte Rolant?' 'Mi wyddost well pethau, ebe Rolant yn ddigllon. 'Wel, ynte, fel hyn y bu,' ebe'r<noinclude><references/></noinclude>
6e6vnb4w4tymprz2277rtq3ileto481
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/53
104
87970
169963
2026-08-10T00:26:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169963
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wraig, 'pan aeth dau o'r hen gyfeillion i edrych am dano, ychydig cyn ei farwolaeth, ni chaent ddyfod i'w olwg; yr oedd arno gymaint o ofn eu gweled a phe buasent ellyllon o'r pwll diwaelod; ni chai neb dd'od yn agos at ei wely ond gweddiwyr, fel Robert Evan y Fron, a Thomas Parry, Rhydonen. Y mae rhegi yn well na gweddio, a rhegwyr yn amgenach na gweddiwyr, gan y math yma o bobol tra byddont yn iach; ond y maent yn troi'u tôn pan ddelont i farw agos i bob amser; ''cowards'' ydyn nhw pan ddelo'r wasgfa a'r caledi yn wastad.'
Yr oedd Rolant, er mor anystyriol a chaled ydoedd, yn delwi yn wyneb yr athrawiaeth yna, methodd ganddo ddweyd gair; cododd oddiwrth y bwrdd, a tharawodd ei het am ei ben ac aeth allan.
Y bore nesaf, bu yno ffrwgwd dost drachefn. Tynodd yr ail ferch—yr eneth nwydwyllt hono grochanaid o botes poeth oddiar y tân, a gosododd ef wrth dalcen y bwrdd; tra yr oedd hi yn hwylio i godi'r potes i'r godardiau, neidiodd y gath ar y bwrdd, a thaflodd un o'r cwpanau i lawr tros y bwrdd, nes oedd y cawl hyd lawr a'r gwpan yn ddrylliau; gwylltiodd yr eneth, a chydag anferth reg, tarawodd y gath fel y syrthiodd dros dalcen y bwrdd i ganol y crochan a'r potes poeth, a dyna lle bu yr helynt erwina yn y byd—y gath, druan, yn dolefain megis rhegfeydd echryslon. Y mae'r gath yna yn rhegi'n arswydus,' ebe meistr yn y man. 'Dim rhyfedd,' ebe'r wraig, yn eitha tawel a phwyllog, 'dyna mae'r gath, druan, yn glywed yn y tŷ yma yn aml.' Dystawodd y gair yna y cythrwfl, ac ymddangosai y rhai euog fel pe buasent yn teimlo ei fin i'r byw, ac ni chlywsom fawr regi tra y buom yno ar ol hyny.
Yn ystod yr wythnos y buom yno, aeth y mab ieuangaf a'r ferch hynaf gyda'u mam i'r Seiat (fel y dywedir) yn y capel oedd yn y pentref gerllaw. Yr oedd y tad a'r plant eraill yn lled anfoddlon, ond ni ddywedasant nemawr o'u meddyliau yn ein gwydd<noinclude><references/></noinclude>
ltsbv273dbyodfp5iupkd9q51o4kbwg
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/54
104
87971
169964
2026-08-10T00:27:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169964
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni. Dywedodd y gwr un diwrnod wrth y plant eraill, 'Gwell i chwithau fyn'd i ganlyn eich mam ar ol y lleill.' 'Da i ddim, beth bynag,' ebe'r eneth nwydwyllt, 'mi rosa i yn ych seiat chi, nhad.' 'Ni waeth i ti hyny, am wn i,' ebe yntau.
Yno gwelid esiampl o deulu wedi ymranu, pedwar yn erbyn tri, a thri yn erbyn pedwar. Yr oedd y naill yn tynu yn erbyn y llall; un dosbarth am ddilyn ffeiriau a gwylmabsantau, y rhai oedd flodeuog yn y dyddiau hyny, a dosbarth arall am ddilyn cyfarfodydd crefyddol. Yr oedd y bywyd crefyddol a'r bywyd annuwiol mewn gwrthdarawiad parhaus â'u gilydd yno, fel yr oedd y naill a'r llall dan radd o anfantais i lawn ddadblygu ei hun. Dylwn grybwyll i'r eneth nwydwyllt hono droi yn grefyddol yn mhen amser wedi hyny; nis gwn beth a ddaeth o'r lleill. Anystyriol y parhaodd y gwr hyd y diwedd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XIV.}}
Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi ein bod yn Rhwng y Ddau isaf, galwyd am danom i Rhwng y Ddau ganol, i weithio. Gwr, a gwraig, a merch, hogyn o lanc, a lodes o forwyn, oedd yn gwneud i fynu deulu y lle hwnw; felly nid rhyw lawer o waith i nodwydd y Teiliwr oedd i'w gael yno. Ond yr oedd digon o waith am dridiau neu bedwar yn ein haros yno y tro hwnw, canys yr oedd pâr o ddillad a chob uchaf i gael eu gwneud i Domas, y gwr, oll o frethyn cartref uniongred. Ar gefnau defaid yr Hafod Ganol (dyna oedd gwir enw'r lle, cofier), yr oedd y gwlan wedi tyfu; Mari, y wraig, oedd wedi gardio a nyddu'r gwlan hwnw; nid oedd dim estronol o nwyddau masnach yn gwneud i fynu y dillad hyny, ond yn unig y botymau a'r twist.
Wedi i meistr gymeryd mesur Tomos, dygodd Mari <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
1wx33mjp0a15l3ip65ugnknh1bnufr6
169965
169964
2026-08-10T00:27:33Z
AlwynapHuw
1710
169965
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni. Dywedodd y gwr un diwrnod wrth y plant eraill, 'Gwell i chwithau fyn'd i ganlyn eich mam ar ol y lleill.' 'Da i ddim, beth bynag,' ebe'r eneth nwydwyllt, 'mi rosa i yn ych seiat chi, nhad.' 'Ni waeth i ti hyny, am wn i,' ebe yntau.
Yno gwelid esiampl o deulu wedi ymranu, pedwar yn erbyn tri, a thri yn erbyn pedwar. Yr oedd y naill yn tynu yn erbyn y llall; un dosbarth am ddilyn ffeiriau a gwylmabsantau, y rhai oedd flodeuog yn y dyddiau hyny, a dosbarth arall am ddilyn cyfarfodydd crefyddol. Yr oedd y bywyd crefyddol a'r bywyd annuwiol mewn gwrthdarawiad parhaus â'u gilydd yno, fel yr oedd y naill a'r llall dan radd o anfantais i lawn ddadblygu ei hun. Dylwn grybwyll i'r eneth nwydwyllt hono droi yn grefyddol yn mhen amser wedi hyny; nis gwn beth a ddaeth o'r lleill. Anystyriol y parhaodd y gwr hyd y diwedd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XIV.}}}
Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi ein bod yn Rhwng y Ddau isaf, galwyd am danom i Rhwng y Ddau ganol, i weithio. Gwr, a gwraig, a merch, hogyn o lanc, a lodes o forwyn, oedd yn gwneud i fynu deulu y lle hwnw; felly nid rhyw lawer o waith i nodwydd y Teiliwr oedd i'w gael yno. Ond yr oedd digon o waith am dridiau neu bedwar yn ein haros yno y tro hwnw, canys yr oedd pâr o ddillad a chob uchaf i gael eu gwneud i Domas, y gwr, oll o frethyn cartref uniongred. Ar gefnau defaid yr Hafod Ganol (dyna oedd gwir enw'r lle, cofier), yr oedd y gwlan wedi tyfu; Mari, y wraig, oedd wedi gardio a nyddu'r gwlan hwnw; nid oedd dim estronol o nwyddau masnach yn gwneud i fynu y dillad hyny, ond yn unig y botymau a'r twist.
Wedi i meistr gymeryd mesur Tomos, dygodd Mari <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
7ig4bg9pnhx1jb1yxdzbmflj7em18cu
169966
169965
2026-08-10T00:27:59Z

Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/55
104
87972
169967
2026-08-10T00:30:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169967
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dri chorn o frethyn i'r bwrdd, a dechreuai eu datod. 'Be ddeydwch chi am y mrethyn i, Huw?' gofynai, 'y fi ardiodd ac a nyddodd y gwlan bob ede ohono fo; ni ro'i mo'r gore am ardio a nyddu i'r un ferch yn y plwy nac yn y wlad yma. Y fi llifodd o hefyd. Llifo (lliwio) 'r cwbwl yn wlan yn y pot gartre bydda i'n wastad; mae'r brethyn yn dal ei liw felly'n well o'r haner; 'does gen i ddim ffydd yn y panwrs yma, colli'u lliwie bydd y dillad ar eu hol nhw'n wastad; waeth gynddyn nhw. Mi fydd llawer o'r cymdogion yn dwad yma ata i, i gael 'u dysgu i lifo glas, a chlaret, a ''bottle green'', a mi fydda i'n deyd wrthyn nhw'n gowir sut i neud, ond ni feder yr un o honyn nhw neud dim byd yn debyg i mi er hyny. Mi wn i rwan ar b'rai o'r defed y tyfodd pob blewyn o'r gwlan sy'n y brethyn yma; rhoswch chi, dyma frethyn y gôt yma, gwlan y ddwy ddafad benllwyd ydio, dwy chwaer ydyn nhw, a gwlan rhywiog, da, fydd arnyn nhw'n wastad. Gwlan y llwdn cwta, sy'n y wasgod yma, gwlan da iawn. Y mae brethyn y got ucha o wlan dipyn garwach, gwlan y myharen byrgorn. Wel, be ydach chi'n ddeyd am y brethyn, Huw?' ebai hi drachefn, wedi traethu y ddarlith yna ar philosophi'r gwlan, a'r gardio, a'r lliwio, &c. Brethyn dan gamp ydio,' ebe Huw, 'ni fum i rioed yn teimlo'i well, os i gystal o. Y mae y gwlan a'r nyddiad a'r lliw a'r cwbl o'r fath ore sy bosib.' 'Ond tydy nhw, Huw?' meddai Mari. 'Ydyn, mewn gwirionedd,' meddai Huw, 'mi fyddai'n well i wragedd y wlad yma dalu i chwi am nyddu a lliwio iddyn nhw o'r haner na dyfetha'u dillad wrth eu gwneud eu hunain.' 'Mi fydda i'n meddwl hyny'n wastad fy hun,' meddai Mari, 'ond fydde ddim modd i mi gael amser.'
'Roedd Huw wedi gwneud ei groeso tra byddem yno trwy ganmol y brethyn a'r nyddu. Gofalai y wraig am y tamaid goreu iddo; dodai ddwy lwyad dda yn ychwaneg o de yn y pot, bob tro. Cawsom<noinclude><references/></noinclude>
6s662t6m60jsg7ig02ppvqp5qfgx371
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/56
104
87973
169968
2026-08-10T00:32:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169968
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ginio rhagorol ar gyw iar a bacwn y diwrnod hwnw, a bywiolaeth dda bob dydd tra buom yno.
Ond dynes erwinol ei hysbryd a'i thymher oedd Mari, wedi'r cwbwl. Dyn distaw, tawel, diniwed, a chrefyddol oedd Tomos, y gwr; a gwr; a geneth synwyrol a distaw oedd Margaret, y ferch. Yr oedd hi wedi cael gwell manteision addysg na'r rhan fwyaf o'i chyfoedion ieuainc. Aethai modryb, iddi, chwaer ei thad, i Gaer i wasanaethu yn eneth ieuanc; yr oedd hi yn lodes pur landeg. Priododd fasnachwr yn Nghaer oedd mewn sefyllfa bur dda yn y byd, a chan nad oedd ganddynt blant eu hunain, cymerodd y fodryb ferch yr Hafod gyda hi adref ryw dro y daethai ar ymweliad â'i hen ardal enedigol. Bu yr eneth yno am dair blynedd, rhoddodd ei modryb hi yn yr ysgol tra y bu yno, a phan ddaeth hi adref yn ol, yr oedd golwg fawr gan y cymydogion arni. Mawr oedd y son am dani, Mae Margaret, yr Hafod, yn medru siarad Sasneg yn llawn cystal a'r Person,' meddent; 'be gwelech chi'r pethe mae hi wedi bwytho, mi syne 'ch calon chi; dallech chi byth goelio bod yn bosib iddi allud gneud gwaith mor ''gute'',' a llawer o'r cyffelyb bethau a siaredid am dani. Yr oedd ar lawer bachgen flys yn ei galon ei chael yn wraig, ond ni feiddiai'r un dori ati; ystyrient hi yn ormod o ''lady''. Yr oedd eisiau ystad dda i gadw un felly fel y dylasai gael ei chadw, dybient hwy; ac yn ystyr fwyaf priodol y gair, yr oedd yr eneth yn ''lady'' hefyd; yn weddus ei hymddygiad yn mhob cwmpeini, heb ddim coegfalchder na gwamalrwydd yn agos ati; ac ni feiddiai y ffol a'r gwamal fod yn hyf a sarhaus yn ei phresenoldeb. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn fel athrawes yn yr Ysgol Sabbothol a gynelid mewn capel yn y gymydogaeth; yr oedd hyny tua dechreuad yr Ysgolion Sabbothol yn y wlad. Yr oedd genethod ei dosbarth yn meddwl y byd ohoni. Ni welent y Sul byth yn dyfod yn ddigon buan; ac ni fynasent golli yr ysgol ar un cyfrif. Y peth mwyaf<noinclude><references/></noinclude>
500ehk3nflxfbm5bsqx21xcmvo6d78o
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/57
104
87974
169969
2026-08-10T00:33:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169969
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>effeithiol o bob peth i'w dal mewn ufudd-dod i'w rhieni fyddai addaw y caent fyned at Miss Evans i'r ysgol y Sul nesaf, neu y bygythiad o'u cadw gartref. Yr oedd hi wedi llwyr enill serchiadau y plant, a gwnaent bob beth a geisiai hi ganddynt, a bu ei dylanwad yn effeithiol iawn er gwareiddio llawer ar foesau ac arferion plant yr ardal.
Ond fel y dywedais eisoes, arthes o ddynes oedd Mari, ei mham; gwaith anhawdd iawn oedd gwareiddio dim arni hi. Pan aeth Tomos at grefydd, aeth Mari o'i cho'; ni fwytai ar yr un bwrdd, ac ni chysgai yn yr un gwely, ag ef am dymhor. Bu Tomos am hir dymhor ar ol iddo fyned yn aelod eglwysig yn methu anturio ymaflyd yn y ddyledswydd deuluaidd, ac yr oedd hyny yn faich trwm ar ei feddwl. Daeth Dafydd y Saer, yr hwn oedd wr crefyddol, i'r Hafod, i wneuthur aradr ac ogau yn ystod y tymhor hwnw. Aeth yn gytundeb rhwng Tomos ac yntau i fyned yn nghyd â'r ddyledswydd un bore. Trefnid i Dafydd fyned trwy y gorchwyl o ddarllen a gweddio, ar y dyb y goddefai Mari i wr dyeithr fyned trwy y gwasanaeth heb ddangos ei hanfoddlonrwydd; ac wedi i Dafydd dori y garw unwaith, tybient y byddai y ffordd wedi ei hagor a'i pharatoi o flaen Tomos i ganlyn yn mlaen arni. Felly fu: ar ol brecwest y bore hwnw, estynodd — Tomos y Beibl i'r bwrdd. 'Be ydach chi'n geisio gen hwn yna rwan?' gofynai Mari. 'Dafydd Robert —ddawodd y gnae o ddarllen penod i ni,' ebai Tomos, yn fwynaidd. Pwy ofynodd iddo fo neud hyny?' Y fi, Mari bach, ebe Tomos. Dyrllenwch chi trwy'r dydd, os mynwch chi, rosa i ddim yn ych swn chi,' ebe Mari, a ffwrdd a hi i'r bwtri at y potiau llaeth, a hel a gosod y fuddai yn barod at gorddi, gan gadw gymaint o swn ag a allai. Fodd bynag, aeth Dafydd drwy y gwasanaeth rywfodd.
Daeth Tomos a'r Beibl i'r bwrdd y bore nesaf eto. Yr oedd hithau yn llawn stranciau drwg er y dydd<noinclude><references/></noinclude>
fpx9yvfocbe2lvmcr1umm3gtpy75sgm
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/58
104
87975
169970
2026-08-10T00:34:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169970
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r blaen, ond arosodd yn ei chadair y tro hwnw: ond yr oedd yn greulon ddigofus wrthynt; taniai ei llygaid fel llygaid cath wedi ei chau mewn sach, prociai y tân, a chadwai drwst. Gwaeddai allan pan oedd Dafydd ar ganol darllen, 'Betsen,' ebe hi wrth y llances forwyn, 'dos a dyro fwyd i'r moch y munyd yma.' 'Wil,' wrth yr hogyn, 'dos dithe i nol mawn ar y tân, yn lle eiste yn y fan ene fel ffwl. Hacwch chi ar y gath acw! sget ene! blâg arnoch, mi dyr y gwpan acw rwan.' Ni chaed fawr o hwyl ar benod na gweddi y bore hwnw drachefn.
Gorphenodd Dafydd ei waith yn yr Hafod y diwrnod hwnw, a'r bore dranoeth yr oedd Tomos, druan, wedi ei adael ei hunan ar faes yr ymdrech, a mawr oedd tywydd ei feddwl yn nghylch beth a wnai o'r ddyledswydd. Yr oedd yn ddigalon iawn i geisio tori trwyddi, ac ofnai y byddai Mari yn waeth ei hwyl fyth pan nad oedd neb dyeithr yn y tŷ. Ceisiai berswadio ei hun mai gwell a doethach fuasai iddo roddi y goreu iddi, gan obeithio y deuai pethau yn well o dipyn i beth. O'r tu arall, ystyriai mai llwfrdra pechadurus ynddo fuasai hyny, ac y dylasai fel milwr da sefyll ei dir, a pheidio troi ei gefn yn nydd y frwydr y byddai ond odid yn anhaws byth iddo gynyg ar y ddyledswydd ar ol hyny. Ar ol brecwest y trydydd bore, ymaflodd yn grynedig yn y Beibl; ceisiodd hithau ei gipio o'i law, ond methodd. 'Tomos,' ebe hi, 'ni ddyoddefa i ddim peth fel hyn, ni na i chwaith. Y nhŷ i ydi hwn.' Dealled y darllenydd bod ei thad hi, a'i thad yntau am hyny, wedi bod yn byw yn yr Hafod. Unig ferch ei thad a'i mham oedd hi. Daethai Tomos yno atynt ar ol priodi Mari, ac efe oedd y tenant ar ol marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith; a dyna oedd rheswm Mari dros ddweyd, 'Y nhŷ i ydi hwn.' Ac ychwanegai, 'Ni fu yma ddim darllen na gweddio yn y tŷ yma 'rioed; mi fuase no chwith gen y nhad a mam, a nhaid a nain, i feddwl y daethe'r fath beth byth i'r<noinclude><references/></noinclude>
2k022qxidrtl508ae5rb96d1sstkfcv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/59
104
87976
169971
2026-08-10T00:35:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169971
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tŷ yma, a ni fu pobol 'nestach a mwy parchus rioed yn y wlad nag oedd y nheulu i. Os bydde nhw'n chware cardie weithie, pwy ddrwg oedd yn hyny ? Mi fydden yn byw'n heddychlon hefo'u gilydd ac efo'u cymdogion yn wastad, ac yn talu i bawb ei ofyn; a nid wrth ddarllen a gweddio y gwnaethon nhw hyny.' Ceisiai Tomos ymresymu'n dawel à hi, ond ni fuasai waeth iddo geisio ymresymu hefo careg y pentan. Rhedodd Mari allan, ond aeth Tomos trwy y ddyledswydd, gyda'r llanc a'r llances. Y tymhor yr oedd y ferch yn Nghaer y bu hyn.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XV.}}}}
TORAIS stori rhwng y Ddau Ganol yn y benod ddiweddaf ar ei haner. Nid ar ei haner chwaith, hwyrach, ond cyn ei gorphen, beth bynag; a rhaid i mi y waith hon ei chario yn mlaen i'r pen, os gallaf.
Aeth y ddeuddydd neu dri cyntaf y buom yno heibio'n lled dawel. Byddai yr yspryd drwg oedd yn Mari yn nawsio allan yn awr ac eilwaith ar achlysuron, yr hwn a gynhyrfid weithiau gan y gath, bryd arall gan y forwyn, yn enwedig os digwyddai i'r naill neu y llall dori rhyw botiau—amryfusedd y mae pob cath a morwyn yn agored i syrthio iddo weithiau. Taranai Mari yn ofnadwy ar yr achlysuron hyny; caem ddarlith ganddi ar hanes y potyn toredig, pa bryd, ac yn mha le, y prynasai hi effaint a roisai am dano—pa faint o amser y buasai yn y ty, &c. Un diwrnod, digwyddodd i'r forwyn dori pot mwstard, yr hwn, meddai Mari, fuasai yn y teulu er dyddiau ei hen nain, a gwell a fuasai ganddi hi wel'd yr holl botiau oedd yn y tŷ yn cael eu tori yn siwtrws na hwnw. Yr oedd y ddarlith ar yr achlysur hwnw yn fwy hyawdl na'r un arall a glywsom ganddi tra buom yno. Dwrdiai y llances, gan ei galw <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
3utbqf45sf9t6pbe4e5ub42s9ivknsa
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/60
104
87977
169972
2026-08-10T00:36:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169972
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ar bob enw drwg adnabyddus, ac anadnabyddus hefyd, am a wn i, a rhegfa hefyd wrth gynffon pob un ohonynt. Pan fyddai Tomas neu y ferch yn digwydd bod yn bresenol ar adegau fel hyn, ymdrechent yn dawel a phwyllog i dywallt olew megis ar y tonau; ond byddai raid i'r storm gael gweithio ei hun allan.
Ar ganol storm y pot mwstard, syrthiodd meistr ati i bwytho gan gynted a'r gwynt, a 'hys s'i ganlyn pob pwyth. Yr oedd y ci yn gorwedd ar yr aelwyd, ac yn troi'i lygad, ac yn cocio'i glust, wrth glywed yr hys. O'r diwedd, gan na allai ymatal yn hwy, neidiodd i fynu, a rhuthrodd i'r gath, ac ysgytiodd hi yn greulon, gan dybied mai hi oedd y gwrthddrych yr anogid ef i'w dysgyblu gan yr hys, yr hon a gariai ddylanwad effeithiol iawn ar ei yspryd a'i dymher. Tawelodd storm y pot mwstard yn storm y ci a'r gath. Aeth Mari i wahanu y ddau hyny oddiwrth eu gilydd, ac annghofiodd y llall am y tro, a bu tawelwch mawr. Ni ddeallasai hi ddirgelwch ymosodiad y ci ar y gath, canys ni chlywsai hi meistr yn hysian gan faint ei swn ei hun; pe amgen, buasai Huw mewn lle poeth, ond odid.
Yr oedd wedi dyfod i ddigymod yn weddol â'r ddyledswydd deuluaidd er's tro cyn yr amser y buom ni yno. Darfu i ddyfalbarhad Tomos ddwyn barn y ddyledswydd i fuddugoliaeth ar yr aelwyd; ond llawer brwydr galed a ymladdwyd ar yr aelwyd hono cyn sicrhau yr oruchafiaeth. Wedi i'r ferch ddyfod adref o Gaer, cymerodd hi ochr ei thad ar y cwestiwn, a bu o gymhorth mawr iddo i ddal ei ffordd heb lwfrhau ac ymollwng; ond pwnc o oddefiad oedd y ddyledswydd gan Mari; nid aethai erioed ar ei gliniau adeg y weddi, ond plician gwau'i hosan y byddai hi fynychaf tra y byddid yn darllen a gweddio; ac weithiau yn cystwyo y ci neu y gath, fel y digwyddai y naill neu y llall ddyfod yn ei ffordd.
Rywbryd yn nghorph y dydd diweddaf i ni fod yno, digwyddodd i Tomos yn ddiragfeddwl grybwyll ei fod<noinclude><references/></noinclude>
1s5ggyjq7m5oez2t4pvix4xobak587w
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/61
104
87978
169973
2026-08-10T00:39:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169973
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef a'i ferch yn bwriadu myned dranoeth i gyfarfod pregethu oedd i gael ei gynal mewn lle o fewn pedair bum milldir o'r Hafod. Cythruddodd Mari yn enbyd pan glywodd hyny. Tydi'r ddau yma,' ebai, yn meddwl am ddim yn y byd ond howca i gwarfodydd i rwle ne gilydd o hyd. Pen fyddan nhw yn ty, mi fyddan â'u trwyne yn 'rhen lyfr ene (y Beibl) beunydd beunyddiol, na chaiff dyn yr un gair o'u pene nhw; ac ono i'r seiat ne rw gwarfod bron bob nos, a gadel 'rholl ofal a'r drafferth i mi.' 'Wel, hust mam bach,' meddai y ferch. 'Hust yn wir!" ebe'r fam, 'rydw i wedi dyodde digon, debic gen i, os digon ydyw llawer, a ddioddefa i ddim chwaneg.' 'Mi gewch chwi fyn'd hefo nhad i'r cyfarfod, mi rosa i gartre o 'wyllys calon,' meddai'r ferch. 'Y fi! y fu fyn'd i'r cwarfod!' ebe Mari, 'mi gei ngwel'd i'n sgyfarnog yn gynta; fum i rioed mewn cwarfod, a da i byth chwaith. Y'th di warchod yn wir! mi fydde yma warchod braf; gwarchod 'rhen lyfr ene nait ti trw'r dydd. Oes rhw sens mewn peth fel hyn, Huw?' ebe hi, 'mi rho i o ar ych barn chi rwan.'
'Hyss—,' ebe Huw, 'gwell gen i adael y mater rhyngoch chi a'ch gilydd.' 'Nage, nage,' ebai Mari, deydwch be ydach chi'n feddwl; 'rydach chi'n ddigon call i wbod be sy'n i le.'
'Wel,' ebe Huw, 'yr oeddwn i'n meddwl rhywbeth fel hyn rwan; tasech chi a gwraig yr Hafod Isa yn ffeirio dau wr, y mae gwr yr Hafod Isa yn bur debyg i chwi yn ei ffordd, a'r wraig yn bur debyg i Tomos yn ei ffordd.'
Edrychodd Mari arno, a'i safn yn agored, fel un wedi ei tharo â braw a syndod. 'Beth!' ebe hi, 'ai cythrel sy ynthoch chi, ddyn, pan feddyliech chi'r fath beth—ewch o'n nhŷ i'r fynud yma, ne mi'ch hollta chi'n ddau ddarn; gna, myn {{bar|2}}.' 'Rhoswch, rhoswch,' ebe Huw, rhyw ''ffregs'' oedd y gair ddeydisi; doeddwn i ddim yn meddwl dim o'r fath beth.<nowiki>'</nowiki>''Ffregs'' yn wir,' ebe Mari, ' mi ro i chi ''ffregsio''<noinclude><references/></noinclude>
7jkaib52rtpi4ruiuq5ljm50svsax0x
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/62
104
87979
169974
2026-08-10T00:41:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169974
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''ffregsiwch'' chi â fi fel ene.' Ar hyn, hi a dorodd i nadu. Mae pawb yn troi yn f'erbyn i,' meddai nid oes yr un creadur ar y ddaear yma yn diodde cimin ag ydw i'n orfod ddioddef bob dydd o mowyd gweithio yn y fan yma fel slaf i gadw'r ddau yma yn fyddigions, a diodde'u tafode nhw gyda'r cwbl; a thithe, Huw, yn cymryd 'u part nhw i nhrin i fel hyn yn y nhŷ fy hun.' ' Yn wir, y mae yn ddrwg iawn gen i i mi ddweyd y gair, Mari Evans,' ebe Huw; gobeithio y gwnewch chwi faddeu imi; fynaswn i ddweyd dim i'ch brifo ar un cyfri. Rhag i mi annghofio,' eb efe drachefn, 'roedd gwraig Bronllan wedi peri i mi ofyn ga'i i glwt o'r brethyn glas yma iddi gael ei wel'd o; mae arni flys gwneud clog iddi hun 'run fath a fo. Cyffyrddodd hyny a man wan Mari. 'Caiff,' ebe hi, 'ewch a darn iddi hi; ond ni waeth iddi hi hebddo fo, ni feder hi ddim llifo dim byd yn debyg iddo fo. Deydwch wrthi hi am ddwad a'r gwlan yma; mi llifa i o iddi hi.' 'A dweyd y gwir i chwi, dyna oedd arni hi eisie, ond bod hi yn'i wel'd o'n ormod peth i'w ofyn,' meddai Huw.
Daeth Mari ati ei hun yn ddiarwybod iddi ei hun, ac ymadawodd meistr a hithau yn benau ffryndiau y noson hono.
Yn mhen rhyw ysbaid ar ol hyny, cymerwyd Miss Evans, y ferch, yn glaf; ei chlefyd oedd y ''typhus fever''. Yr oedd pryder ei mham yn fawr iawn yn ei chylch. Gofynodd i'r i'r meddyg un diwrnod beth oedd ef yn ei feddwl ohoni; ysgydwodd ei ben, gan ddweyd nad oedd ganddo ond gobaith gwan am ei hadferiad. Yr oedd Mari erbyn hyn bron a gwallgofi. 'Gweddiwch, Tomas,' ebai y noson hono. 'Estyn y Beibl,' meddai yntau. Aeth hithau i gyrchu y Beibl ar hyny o ofyn; a dyna'r tro cyntaf erioed iddi wneud y fath beth. Darllenodd Tomas adnodau yma ac acw, gan wneud ambell i sylw ar y geiriau. Yna gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder,' oedd un adnod—ie, 'yn eu cyfyngder,' sylwai Tomas, ni<noinclude><references/></noinclude>
m5bqbys90v67eev0c1kkyfnl6d7xwif
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/63
104
87980
169975
2026-08-10T00:44:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169975
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'ni chlywid byth mo'nynt yn ''gwaeddi'' nes aeth yn gyfyngder arnynt. Adnod arall oedd o Salm arall, ''Pan laddai efe hwynt'', hwythau a'u ceisiant ef. Dychwelent a cheisient Dduw yn fore; ''cofient hefyd'' mai Duw oedd eu Craig, ac mae'r Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd,'—'ie,' meddai Tomas, megis rhyngddo ac ef ei hun, 'Pan laddai efe hwynt, dim cyn hyny, 'cofient hefyd.' Peth effeithiol iawn i beri i bobl gofio fel y dylent gofio ydyw gwasgfa a ''thrallod''.' Adnod arall oedd, 'Mewn ''adfyd'' hefyd, Arglwydd, yr—ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gospedigaeth arnynt.' 'Ie, dyma nhw eto,' dywedai Tomas, mewn adfyd, pan oedd y ''gosbedigaeth'' arnynt; wel, wel, rhyw bobol ryfedd iawn oedd y rhai'n, ond beth wnawn ni'n son, mae pobol 'run fath a nhw'n union yn y byd eto.' Yna cauodd y Beibl. Yr oedd Mari yn deall cyfeiriad yr ergydion, ac yn eu teimlo hefyd, ac yn ymddigio ynddi ei hun; ond yr oedd ei phryder a'i gofal am y ferch glaf yn ffrwyno ei digter rhag tori allan. Aeth ar ei gliniau y tro hwnw, a'r tro cyntaf iddi. Pan oedd Tomas yn gweddio am arbediad bywyd ac adferiad iechyd y ferch, os oedd hyny yn unol â'r ewyllys ddwyfol, torodd Mari allan, 'Gadewch yr ''os'' yna allan, Tomas, 'rydach chi'n rhoi lle i ange fel ene.' 'Nid ein hewyllys ni, ond dy ewyllys di a wneler,' meddai Tomas, gan fyned rhagddo heb gymeryd arno'i chlywed. 'Na, f'wyllys i yn hyn, beth bynag,' meddai Mari, mi fodlona i bobpeth os ca'i ngeneth anwyl.'
Gwellhaodd Margaret o'r clefyd, a gwareiddiodd y tro hwnw lawer ar Mari. Dechreuodd fyned i wrando; ac yn mhen amser, aeth at grefydd. Yr oedd cyfnewidiad mawr ac amlwg ynddi; collodd ei gerwindeb, a daeth yn ddistaw ac addfwyn. Nid oedd ei gwybodaeth grefyddol ond bychan; ond yr oedd effeithiau crefydd yn amlwg iawn arni. Parhaodd felly hyd ei marwolaeth.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8r00but7zimtmyelciz7hl0l0qwcjb3
169976
169975
2026-08-10T00:45:15Z
AlwynapHuw
1710
169976
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'ni chlywid byth mo'nynt yn ''gwaeddi'' nes aeth yn gyfyngder arnynt. Adnod arall oedd o Salm arall, ''Pan laddai efe hwynt'', hwythau a'u ceisiant ef. Dychwelent a cheisient Dduw yn fore; ''cofient hefyd'' mai Duw oedd eu Craig, ac mae'r Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd,'—'ie,' meddai Tomas, megis rhyngddo ac ef ei hun, 'Pan laddai efe hwynt, dim cyn hyny, 'cofient hefyd.' Peth effeithiol iawn i beri i bobl gofio fel y dylent gofio ydyw gwasgfa a ''thrallod''.' Adnod arall oedd, 'Mewn ''adfyd'' hefyd, Arglwydd, yr ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gospedigaeth arnynt.' 'Ie, dyma nhw eto,' dywedai Tomas, mewn adfyd, pan oedd y ''gosbedigaeth'' arnynt; wel, wel, rhyw bobol ryfedd iawn oedd y rhai'n, ond beth wnawn ni'n son, mae pobol 'run fath a nhw'n union yn y byd eto.' Yna cauodd y Beibl. Yr oedd Mari yn deall cyfeiriad yr ergydion, ac yn eu teimlo hefyd, ac yn ymddigio ynddi ei hun; ond yr oedd ei phryder a'i gofal am y ferch glaf yn ffrwyno ei digter rhag tori allan. Aeth ar ei gliniau y tro hwnw, a'r tro cyntaf iddi. Pan oedd Tomas yn gweddio am arbediad bywyd ac adferiad iechyd y ferch, os oedd hyny yn unol â'r ewyllys ddwyfol, torodd Mari allan, 'Gadewch yr ''os'' yna allan, Tomas, 'rydach chi'n rhoi lle i ange fel ene.' 'Nid ein hewyllys ni, ond dy ewyllys di a wneler,' meddai Tomas, gan fyned rhagddo heb gymeryd arno'i chlywed. 'Na, f'wyllys i yn hyn, beth bynag,' meddai Mari, mi fodlona i bobpeth os ca'i ngeneth anwyl.'
Gwellhaodd Margaret o'r clefyd, a gwareiddiodd y tro hwnw lawer ar Mari. Dechreuodd fyned i wrando; ac yn mhen amser, aeth at grefydd. Yr oedd cyfnewidiad mawr ac amlwg ynddi; collodd ei gerwindeb, a daeth yn ddistaw ac addfwyn. Nid oedd ei gwybodaeth grefyddol ond bychan; ond yr oedd effeithiau crefydd yn amlwg iawn arni. Parhaodd felly hyd ei marwolaeth.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lziod8m7tutqzh8befd2hldmucw9cvv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/64
104
87981
169977
2026-08-10T00:46:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169977
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Penod XVI.}}}}
AR ol gorphen goruchwyliaeth y nodwydd yn Rhwng y Ddau ganol, ar y ffordd wrth fyned tuag adref yr hwyr hwnw, gofynwn i meistr, 'Pa bryd y cawn ni fyned i Rhwng y Ddau uchaf eto? Dyna fi wedi cael prawf o'r ddau arall, ac y mae blys arnaf i gael prawf o'r trydydd hefyd.' 'Wel, fe ddaw'r tro cyn hir, ond odid,' ebe yntau, 'y mae cryn dipyn o amser er pan y bum i yno, ond p'run o'r ddau oeddit ti yn ei hoffi oreu?' 'Yn wir, mae yn anodd dweyd,' meddwn inau, 'yr oedd pethau da a phethau drwg, yn y ddau. Un wych ydyw gwraig yr Hafod Isaf, ac un wych ydych merch yr Hafod Ganol, a'i thad hefyd; ond gwarchod pawb rhag gwr y gyntaf a gwraig yr olaf. Ond mi gefais i gryn lawer o ddifyrwch oddiwrth y ddau hefyd. Mi roisoch chwi'ch troed ynddi hi gyneu, drwy gynghori y ddau dŷ i newid gwyr a gwragedd â'u gilydd.' 'Do, ond taw di a son yr un gair byth wrth neb am y tro, nac am ddim arall a welaist ac a glywaist ti yn un o'r ddau dŷ. Fuaswn i ddim yn mentro dweyd y peth a ddwedais i, oni bai mod i wedi cymeryd mesur troed Mari es talwm. Mi wyddwn i o'r goreu os gwylltiai hi, y medrwn ei dofi a'i dwyn ati'i hun, dim ond canmol tipyn ar ei gwaith hi yn nyddu ac yn lliwio. Ni chawsem haner gystal bywiolaeth ag a gawsom oni buasai i mi roi clod i'w brethyn hi. Druan o'r Ceiliog, mi gafodd ei wneud yn fwyd—offrwm i ni am y ganmoliaeth hono. Ond a gadael peth fel yna heibio, ddarfu i ti ddim sylwi y gwahaniaeth mawr y mae crefydd yn wneud rhwng pobl a'u gilydd? Ydyw, ydyw,' ebai ef mewn tôn bur ddifrifol, 'lle mae hi mewn gwirionedd, y mae yn gwneud ei hol yn amlwg. Dyna'r Nefoedd ar y Ddaear, y bydda i yn i alw fo, wyddost; mae'n hawdd i'r teulu yno fyn'd i'r nefoedd sy uwchben bob un, canys y maent yn cytuno i gydrodio a chynorthwyo eu gilydd yn ffordd<noinclude><references/></noinclude>
5ys72cxmieyjpmn9vuf997chu3tsvt4
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/65
104
87982
169978
2026-08-10T00:46:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169978
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>sy'n arwain yno. Pob gwas a morwyn wyllt ac anystyriol elo yno, mi fyddan naill ai wedi newid i ffordd y teulu, neu wedi ymadael oddiyno'n bur fuan. 'Dyna'r lle arall, yr Uffern ar y Ddaear wyddost, mae yn hawdd iawn i bawb sydd yn byw yno fyn'd i'r uffern sy dan y ddaear, am fod pawb yn gyttûn, heb neb yn tynu'n groes, yn rhodio'r union ffordd sy'n arwain yno. Ond am y ddau le arall yna (yr Hafod Isa a'r Hafod Ganol), mi fyddai'n anhawddach i ti fyn'd i'r nefoedd nag i uffern ohonyn nhw.' 'Wel, sut 'rytach chwi'n dweyd felly, meistr?' meddwn i. 'Wel, am fod yno rai yn tynu bob ffordd,' eb efe, 'mae'n anhawdd i Tomas a'r eneth yna fyw'n dduwiol hefo Mari, ac mae Mari yn ei chael hi'n ddigon trafferthus i fyw yn annuwiol hefo nhwthe, a 'run fath y mae hi ar wr a gwraig a phlant y tŷ arall.'
Ar hyny, dyma wr yr Hafod Isa yn dyfod i'n cyfarfod ar ei geffyl, yn dychwelyd adref o'r farchnad. Safodd pan ddaeth gyferbyn â ni. 'Holo, Huw, y chwi sydd yna?' eb efe. Yr oedd y gwr yn o lawn o ddiod. Wyddoch chi be be oeddwn i'n feddwl rwan, Huw?' meddai. 'Na wn i'n siwr,' ebe'r llall. 'Wel, meddwl myn'd i'r seiat heno—heno mae'r seiat yn y capel, 'nte?' 'Felly'n wir,' ebe Huw, 'beth wnaeth i chwi feddwl hyny?' 'Wel, 'rydw i'n meddwl mod i chwedi cael troad, ydw'n wir.' 'Da iawn yn siwr; beth sy'n peri i chwi feddwl hyny?' 'Fedra i ddim deyd i chwi, Huw, mi 'rydw i'n clowed rhwbeth yna'i fy hun na wn i ddim be ydi o os nad troad; dawn i gartre, mi fedre Marged (y wraig) wbod be sy arna i; 'rwy'n coelio, beth bynag, mod i'n myn'd i gael tro, os nad ydw i wedi i gael o.'
'O, mi fedra i ddwedyd i chwi be sy arnoch chwi, a beth sy ynoch chwi,' ebe meistr. Fedrwch chwi, Huw; be ydych chwi'n feddwl ydio, fel tase?' 'Tipyn gormod o gwrw sy ynoch chwi, yn y pen y mae'r tro, ac nid yn y galon yn siwr i chwi; mi ddowch atoch ych hun erbyn yforu.' 'Beth, Huw,<noinclude><references/></noinclude>
qje6gew7mfkcz5w3cru1mf2zohhttwb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/66
104
87983
169979
2026-08-10T00:54:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169979
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ai nghymryd i'n ysgafn rydach chwi? mi rydw i wedi cael troad os cafodd yr un dyn erioed dro; a mae'n dda i chwi hyny, ne mi faswn yn ych taro chwi'r mynud yma nes y basech chi'n gwel'd nodwydde dur gen amled a'r cenllysg o'ch cwmpas, am y nghymryd i'n ysgafn fel ene,' a ffwrdd ag ef.
Wedi iddo fyned, ebe fi wrth meistr, 'Y fo wedi cael tro'n wir! ni chaiff o dro byth os na altrith o'i ffordd.' Taflodd y sylw meistr i'w ddau-ddwbl gan chwerthin, a ni fuaswn inau yn fy myw am dipyn yn deall beth a barai iddo chwerthin felly, nes i mi ail ystyried y sylw doeth a wnaethwn.
Ar hyny, dyna hen wr yr Hafod uchaf yn dyfod ar y ffordd i'n cyfarfod. Dychwelyd o'r farchnad yr oedd yntau. 'Huw, yr hen goes,' eb efe, 'mi fum i heibio'ch tŷ chi yn holi am danoch chi; mae'r hen wraig eisio i chi ddwad acw i neud dillad i'r bechgyn; bryd dowch chi'r hen law?' 'Rhen goes, neu 'rhen law, fyddai pawb, hen ac ieuanc, gan yr hen wr hwnw. Wel, mi ddown ni acw pan fo'n gyfleus i chwi ar ol canol yr wythnos nesaf; mae gen i waith hyd hyny.'
'O'r gore, 'rhen goes, mi ga i ddeyd wrth Beti y do'i di yr wythnos nesa, 'nte?' 'Gellwch,' ebe Huw.
'Aros di 'rhen law, pwy ddiwrnod ga'i ddeyd ?' 'D'wedwch dydd Iau.'
'Purion, 'rhen law. Nos dawch.'
Ar ol iddo fyn'd, 'Yr wyf finau yn ofni, Robin,' ebe meistr wrthyf, 'na chaiff yr hen gono yna ddim tro byth os na altrith o lawer,' a thorodd i chwerthin yn enbyd drachefn, a chwarddais inau gydag ef.
Cyn i ni symud o'r fan, ni a glywem swn traed ceffyl yn dyfod ar garlam ar ein hol. Safem i wrando, a safodd y ceffyl pan ddaeth i gyfarfod gwr yr Hafod Uchaf; yr oedd yn rhy dywyll i ni allu eu gweled ond clywem wr yr Hafod Isaf yn gofyn i'r llall mewn llais uchel a chyffrous, 'A welsoch chi Huw'r Teiliwr<noinclude><references/></noinclude>
hzbzaoaoyhrmqumq7vant2mztjppdio
169980
169979
2026-08-10T00:55:38Z

'Aros di 'rhen law, pwy ddiwrnod ga'i ddeyd?' 'D'wedwch dydd Iau.'
'Purion, 'rhen law. Nos dawch.'
Ar ol iddo fyn'd, 'Yr wyf finau yn ofni, Robin,' ebe meistr wrthyf, 'na chaiff yr hen gono yna ddim tro byth os na altrith o lawer,' a thorodd i chwerthin yn enbyd drachefn, a chwarddais inau gydag ef.
Cyn i ni symud o'r fan, ni a glywem swn traed ceffyl yn dyfod ar garlam ar ein hol. Safem i wrando, a safodd y ceffyl pan ddaeth i gyfarfod gwr yr Hafod Uchaf; yr oedd yn rhy dywyll i ni allu eu gweled ond clywem wr yr Hafod Isaf yn gofyn i'r llall mewn llais uchel a chyffrous, 'A welsoch chi Huw'r Teiliwr<noinclude><references/></noinclude>
fzfgr4n265qy3yf9lb8b8tr995m5s1g
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/67
104
87984
169981
2026-08-10T00:57:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169981
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn eich cyfyrfod?' 'Do, mae'r hen goes yn y fan ene,' ebe hwnw. Myn {{bar|2}}, mi ro iddo fo, am fy sultio i fel y gnaeth o' Yr oedd y gwr wedi cael troad wedi iddo'n gadael ni, a than effeithiau'r troad hwnw wedi troi yn ei ol gyda'r bwriad o guro Huw. Ond medrodd yr hen wr arall ei berswadio i droi eto gydag ef tuag adref, ac aethom ninau i'n ffordd yn ddyogel. Dyma fo wedi cael dau dro rwan,' ebe meistr, 'hwyrach y caiff o ddau neu dri eto cyn relo o adref; druan o Marged.'
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XVII.}}}}
FORE y dydd Iau yr addawsem fyned i'r Hafod Uchaf, cychwynasom tuag yno gyda thoriad y dydd. Yr oedd meistr yn digwydd bod ar ei uchelfanau y bore hwnw, mor llawen a'r gog, ac mor chwareus a'r ebol. Pan oeddym yn neshau at y llanerch ar y ffordd y cyfarfuasai gwr yr Hafod Isa â ni yr hwyr o'r blaen, gofynwn iddo, 'Beth a wnaech chwi rwan, pe deuai gwr yr Hafod i'n cyfarfod?' 'Ie, on'te,' eb efe, 'mi fyddai yn well i ni ymbaratoi erbyn y gwaethaf, rhag ofn y digwydd y daw y gelyn i'n cyfarfod.' Yna tarawodd y gwniadur am ei fys, yr hwn a alwai efe ei darian, a chymerodd ei lathen fel gwaewffon yn ei law ddeheu, 'Bydd di yn gludydd arfau imi,' meddai wrthyf fi, 'dwg y labwt a'r wydd bresio a'r bwtcin, ar fy ol i, a chadw yn agos ataf, os daw ymosodiad. Yr oedd llonaid ei lewis o nodwyddau dur, i'w defnyddio fel taflbicellau at y gelyn. Felly wedi gwisgo a threfnu arfau ein milwriaeth deilwraidd, aem yn mlaen yn hyderus, gan gwbl gredu y buasem yn alluog i yru cant o wyr arfog ar ffo, pe buasent yn ymosod arnom. Ond ni ddaeth un gelyn i'n cyfarfod, a da oedd hyny iddo.
Gyda'n bod ni dros riniog yr Hafod Uchaf, torodd <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
0x2yh1yhij2s76ej45yrzxd8ajf8fxw
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/68
104
87985
169982
2026-08-10T00:59:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169982
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hen wr i chwerthin, 'Huw, yr hen goes, ac mi ddoist,' eb efe, 'doeddwn i ddim yn disgwyl y doet ti.' 'Sut felly,' ebe Huw, 'ond oeddych wedi gofyn i mi, a minau wedi addaw dwad.' 'Wel oeddet yr hen goes, yr oeddet ti wedi addo, a dene'r pa'm yr oeddwn i'n taeru y hyd na ddoet ti ddim; ddaw o ddim yn siwr, meddwn i, y mae wedi deyd y dawo; ond ydach chi, y teilwried yma, yn rhai mor gethinol am ddeyd clwdde.' 'Fydda i byth yn tori addewid os bydd yn bosibl ei chyflawni hi,' ebe Huw., 'Wel, dwn i, yr hen law,' ebe'r llall, 'tase ti'n deyd na fyddi di byth yn c'lywni addewid, os bydd yn bosib i ti ei thori, mi faset yn llawn nes i'r marc. Mi dorist gimin o ddewidion ag roist ti o bwythe 'rioed, 'rwy'n coelio, 'rhen goes.'
Taflodd ei olwg arnaf fi yn y man. 'P'le cest ti'r hen law yma, Huw?' meddai, 'eitha prentis o g'lwyddwr, beth bynag am deiliwr, mi gwranta i o, onte, 'rhen law?' 'Na wn i,' ebe fi, 'rydw i heb ddysgu deyd celwydd eto. 'Ddwedais i 'run celwydd heddyw, a dim ond un ddoe.' 'Ie, mi ddeydest un ddoe, do? Be oedd hwnw, 'rhen goes?' 'O, rhywbeth digon diniwed, am wn i, a hwyrach y buasai yn dda i chwi tase fo'n wir, f' ewyrth.' 'I mi! i mi! be oedd hyny? 'Dweyd wrth was y person ddaru mi, o ryw fregedd, eich bod {{bar|2}}—— barodd i ti ddeyd y fath beth! deyd wrth was y person mod i gwedi myn'd i'r seiat! be ddylith y person am dana i? Dos allan o nhŷ i, a ffwrdd o ngolwg i'r mynud yma, ne mi, mi, mi dora dy ben di.' 'Hidiwch mo Robin,' ebe meistr, 'mae rhyw ddireidi fel yna ynddo fo, ac ni thynwn i yn fy myw mono fo ohono fo, ddeydodd o ddim o'r fath beth.' 'Naddo debig gen i,' ebe'r hen wr, 'ne gwae iddo; prun bynag ddeydodd o ne beidio, mi wela i y meder o neyd c'lwdde a'u deyd nhw yn rhigil ddigon."
I'r diben i'r darllenydd allu gweled pwynt y stori,<noinclude><references/></noinclude>
bgqdo206494low0ndlmegv504usdiu4
169983
169982
2026-08-10T01:04:13Z
AlwynapHuw
1710
169983
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hen wr i chwerthin, 'Huw, yr hen goes, ac mi ddoist,' eb efe, 'doeddwn i ddim yn disgwyl y doet ti.' 'Sut felly,' ebe Huw, 'ond oeddych wedi gofyn i mi, a minau wedi addaw dwad.' 'Wel oeddet yr hen goes, yr oeddet ti wedi addo, a dene'r pa'm yr oeddwn i'n taeru y hyd na ddoet ti ddim; ddaw o ddim yn siwr, meddwn i, y mae wedi deyd y dawo; ond ydach chi, y teilwried yma, yn rhai mor gethinol am ddeyd clwdde.' 'Fydda i byth yn tori addewid os bydd yn bosibl ei chyflawni hi,' ebe Huw., 'Wel, dwn i, yr hen law,' ebe'r llall, 'tase ti'n deyd na fyddi di byth yn c'lywni addewid, os bydd yn bosib i ti ei thori, mi faset yn llawn nes i'r marc. Mi dorist gimin o ddewidion ag roist ti o bwythe 'rioed, 'rwy'n coelio, 'rhen goes.'
Taflodd ei olwg arnaf fi yn y man. 'P'le cest ti'r hen law yma, Huw?' meddai, 'eitha prentis o g'lwyddwr, beth bynag am deiliwr, mi gwranta i o, onte, 'rhen law?' 'Na wn i,' ebe fi, 'rydw i heb ddysgu deyd celwydd eto. 'Ddwedais i 'run celwydd heddyw, a dim ond un ddoe.' 'Ie, mi ddeydest un ddoe, do? Be oedd hwnw, 'rhen goes?' 'O, rhywbeth digon diniwed, am wn i, a hwyrach y buasai yn dda i chwi tase fo'n wir, f' ewyrth.' 'I mi! i mi! be oedd hyny? 'Dweyd wrth was y person ddaru mi, o ryw fregedd, eich bod chwi wedi myn'd i'r seiat Capel Isa.' 'Beth! y fi, y fi, y fi, wedi myn'd i seiat! be g{{bar|2}} barodd i ti ddeyd y fath beth! deyd wrth was y person mod i gwedi myn'd i'r seiat! be ddylith y person am dana i? Dos allan o nhŷ i, a ffwrdd o ngolwg i'r mynud yma, ne mi, mi, mi dora dy ben di.' 'Hidiwch mo Robin,' ebe meistr, 'mae rhyw ddireidi fel yna ynddo fo, ac ni thynwn i yn fy myw mono fo ohono fo, ddeydodd o ddim o'r fath beth.' 'Naddo debig gen i,' ebe'r hen wr, 'ne gwae iddo; prun bynag ddeydodd o ne beidio, mi wela i y meder o neyd c'lwdde a'u deyd nhw yn rhigil ddigon
I'r diben i'r darllenydd allu gweled pwynt y stori,<noinclude><references/></noinclude>
91fnm6m7bay9scm2he1fsqangiydt6x
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/69
104
87986
169984
2026-08-10T01:06:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169984
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dylwn roddi ychydig o hanes teulu yr Hafod. Hen bobl o'r hen sort yn drwyadl oedd yr hen wr a'r hen wraig; Eglwyswyr selog yn eu ffordd, er nad yn aml iawn yr aent i'r eglwys chwaith; yr oeddynt yn cashau y Criadogs, fel y galwent yr Ymneillduwyr, â chas cyflawn; buasai mor anhawdd eu perswadio i groesi rhiniog capel ag a fuasai cael bwch i odyn. Ymffrostiai yr hen wr yn fynych na fuasai efe a'r hen wraig erioed o fewn capel, ac awydd i'w dynu allan a barai i mi ddweyd fy mod wedi dywedyd wrth was y Person ei fod wedi myned i'r seiat; ac allan y daeth yr hen ddyn oedd ''yn'' yr hen ddyn, yn ei lawn nerth. Swm a sylwedd credo a chrefydd yr hen wr a'r hen wraig oedd :
Yn 1af. Digon o grempogau ddydd Mawrth Ynyd. 2. Rhoi ychydig ludw ar eu penau ddydd Mercher y Lludw.
3. 'Calon lân y Pasg.' Beth a feddylient wrth 'galon lân,' nis gwn.
4. 'Dillad newydd y Sulgwyn.' Y mae'n haws deall beth a olygent wrth yr erthygl yna o'u credo na'r llall; ond yr oedd eu dillad newydd Sulgwyn,' yn ddeng mlwydd ar hugain oed, o leiaf, y tro cyntaf hwnw y bum i yno, Dodent hwy am danynt i fyn'd i'r gwasanaeth bob Sul Sulgwyn, a diosgent hwynt gyntaf y dychwelent adref o'r eglwys, a chedwid hwy yn ofalus heb eu cyffwrdd hyd y Sulgwyn nesaf. Yr oedd wedi myn'd yn ddiareb trwy'r cymdogaethau am beth hen, Y mae gan hyned â dillad newydd Sulgwyn hen wr a hen wraig yr Hafod Uchaf.' Digwyddodd unwaith i ffermwr a ddaethai yn ddiweddar i fyw i'r gymdogaeth ddyfod i ffair Llan—— i brynu buwch, ac yr oedd gan wr yr Hafod fuwch yno i'w gwerthu. Aeth y gwr i geisio bargeinio am dani; ar y siarad, dywedodd yn ddifeddwl, 'Mae'r hen fuwch yma cyn hyned a dillad newydd Sulgwyn hen bobl yr Hafod Ucha!' Nid oedd y prynwr yn adnabod y gwerthwr; gwylltiodd yr hen<noinclude><references/></noinclude>
j0qvmfy7gt1qd2dekj0k8v9h2onlr58
169985
169984
2026-08-10T01:07:23Z
AlwynapHuw
1710
169985
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dylwn roddi ychydig o hanes teulu yr Hafod. Hen bobl o'r hen sort yn drwyadl oedd yr hen wr a'r hen wraig; Eglwyswyr selog yn eu ffordd, er nad yn aml iawn yr aent i'r eglwys chwaith; yr oeddynt yn cashau y Criadogs, fel y galwent yr Ymneillduwyr, â chas cyflawn; buasai mor anhawdd eu perswadio i groesi rhiniog capel ag a fuasai cael bwch i odyn. Ymffrostiai yr hen wr yn fynych na fuasai efe a'r hen wraig erioed o fewn capel, ac awydd i'w dynu allan a barai i mi ddweyd fy mod wedi dywedyd wrth was y Person ei fod wedi myned i'r seiat; ac allan y daeth yr hen ddyn oedd ''yn'' yr hen ddyn, yn ei lawn nerth. Swm a sylwedd credo a chrefydd yr hen wr a'r hen wraig oedd :
Yn 1af. Digon o grempogau ddydd Mawrth Ynyd.
2. Rhoi ychydig ludw ar eu penau ddydd Mercher y Lludw.
3. 'Calon lân y Pasg.' Beth a feddylient wrth 'galon lân,' nis gwn.
4. 'Dillad newydd y Sulgwyn.' Y mae'n haws deall beth a olygent wrth yr erthygl yna o'u credo na'r llall; ond yr oedd eu dillad newydd Sulgwyn,' yn ddeng mlwydd ar hugain oed, o leiaf, y tro cyntaf hwnw y bum i yno, Dodent hwy am danynt i fyn'd i'r gwasanaeth bob Sul Sulgwyn, a diosgent hwynt gyntaf y dychwelent adref o'r eglwys, a chedwid hwy yn ofalus heb eu cyffwrdd hyd y Sulgwyn nesaf. Yr oedd wedi myn'd yn ddiareb trwy'r cymdogaethau am beth hen, Y mae gan hyned â dillad newydd Sulgwyn hen wr a hen wraig yr Hafod Uchaf.' Digwyddodd unwaith i ffermwr a ddaethai yn ddiweddar i fyw i'r gymdogaeth ddyfod i ffair Llan—— i brynu buwch, ac yr oedd gan wr yr Hafod fuwch yno i'w gwerthu. Aeth y gwr i geisio bargeinio am dani; ar y siarad, dywedodd yn ddifeddwl, 'Mae'r hen fuwch yma cyn hyned a dillad newydd Sulgwyn hen bobl yr Hafod Ucha!' Nid oedd y prynwr yn adnabod y gwerthwr; gwylltiodd yr hen<noinclude><references/></noinclude>
6jnij1zapbr1tqaq68ws9odbvobnah4
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/70
104
87987
169986
2026-08-10T01:08:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169986
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wr yn aruthr, ac ni chawsai y gwr hwnw ei fuwch ef wedi hyny, pe rhoisai gan' punt am dani. Ond dyma fi wedi myn'd oddiwrth y pwnc erthyglau crefydd yr hen bobl.
Y 5ed erthygl oedd, 'Cyfleth nos Nadolig.'
6. Cau pob llidiard ar eu hol.'
7. 'Talu i bawb yr eiddo,' a dyna'r oreu o'r cwbl. Nid crefydd hen bobl yr Hafod yn unig oedd yr hen grefydd yna; ond yr oedd ganddi lawer iawn o ddysgyblion yn y wlad y dyddiau hyny; os nad oes ambell i un i'w gael eto; beth bynag am hyny, y mae llaweroedd i'w cael a chwarddant am ben crefydd yr hen bobl na feddant un o'i gwell eu hunain.
Beth pe ysgrifenasid hanes bywyd pob dyn a fu ac sydd yn y byd yma, ni byddai y rhan fwyaf o lawer ohonynt yn ddim yn amgen na hanes hen deulu yr Hafod, a llaweroedd ohonynt yn llawer iawn gwaeth. Y mae pob dyn yn gwneud ei hanes wrth fyned tr trwy y byd, a hanes a ddarllenir hefyd ryw ddiwrnod; a thrwm yw meddwl fod creadur sydd i fyw byth ar hanes ei fywyd ar y ddaear yn casglu defnyddiau mor wael ar gyfer ei fywioliaeth dragwyddol. I gael hanes bywydau llaweroedd o blant dynion pob oes a gwlad, byddai raid i ni chwilio calendar troseddau, carcharau, a phydewau llygredigaeth. Nid rhyfedd oedd i'r Salmydd waeddi allan uwchben trueni y byd, 'Paham y creaist holl blant dynion yn ofer?' Gellid meddwl, wrth edrych ar fywydau myrddiynau eu bod megys yn ystyried mai dyben eu bodolaeth ydyw gwneud y byd mor druenus ag y gallant, a'i adael yn waeth yn mhob modd nag y cawsant ef. Mewn cymhariaeth â'r truenusion hyny, yr oedd bywyd hen bobl yr Hafod a'r cyffelyb yn ddiniweidrwydd pur; os nad oedd y byd ddim gwell o'u plegyd, nid oedd fawr waeth o'r tu arall. Bwytaent eu crempogau eu hunain yr Ynyd, a'u cyfleth eu hunain y Nadolig. Gwisgent eu hen ddillad eu hunain bob Sulgwyn, cauent bob llidiart ar eu hol,<noinclude><references/></noinclude>
fprsj0z6a4fu4eyzzdk03r3ju94if3r
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/71
104
87988
169987
2026-08-10T01:10:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169987
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a thalent i bawb ei ofyn; ac yr oeddynt yn byw mewn heddwch â'u cymdogion, ac yn ddigon boddlon ar eu byd, a phe buasai pobpeth i ddarfod gyda'r byd a'r bywyd hwn gwnaethent y tro yn burion.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XVIII.}}}}
Ar ein ffordd adref o'r Hafod yr hwyr hwnw, cefais brofi gweinidogaeth geryddol fy meistr, am y trosedd a gyflawnaswn yn erbyn gwirionedd a gweddeidd-dra, trwy ddywedyd wrth yr hen wr ddarfod i mi ddywedyd wrth was y person ei fod ef wedi myned i'r seiat. 'Rhaid i ti gymeryd gwell gofal hefo'r tafod yna,' meddai, 'mae o'n rhy barod o lawer, a pheth hyll iawn mewn bachgen ifanc fel ti ydyw gwneud yn hyf ar bobl yn eu tai, yn enwedig ar hen bobl; ni fydd yn dda gan neb dy weled di yn dyfod i'w dŷ os ei di mlaen ffordd yna.' Ac â llawer o ymadroddion o'r fath y ceryddodd ac y cynghorodd fi; nid oedd dim i'w wneud ond dioddef y driniaeth a gwasgu y glust, a rhoi'r dant ar y tafod. Yr oeddwn yn teimlo fy mod yn haeddu y cerydd, er hyny yr oedd fy natur yn gwingo yn ei erbyn.
Yr oedd teulu yr hen wr wedi trigianu yn yr Hafod am chwech neu saith o genhedlaethau yn olynol, a theulu yr hen wraig yr un modd yn Tanygareg, tyddyn cyfagos, ac yr oedd y naill genhedlaeth a'r llall o'r teuluoedd hyny yn dilyn yr un ffordd a dull o fyw. Yr oeddynt yn ''Gonservatives'' o'r sect fanylaf. Yr un nifer o wartheg a cheffylau a gadwent o oes i oes, a'r un enwau fyddai ganddynt ar bob cenhedlaeth o geffylau a buchod. Mot fuasai enw pob ci yn yr Hafod Uchaf dros gant a haner o flynyddoedd; a Pero fuasai enw pob ci yn Tanygareg drwy'r oesau; a sonid llawer yn y ddau dy am orchestion eu Motiaid a'u Peroaid yn y dyddiau <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
jurgmrxdege0b6ttz2t8hsi39doc24t
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/72
104
87989
169988
2026-08-10T01:11:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169988
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynt, a thorai dadleuon poethion allan weithiau rhwng y ddau deulu ar ragoriaethau cymhariaethol y ddau ryw o gwn; ac ambell waith, dodid y Mot a'r Pero i ymladd â'u gilydd i benderfynu y pwnc. Cwympodd teulu y ddau dŷ allan â'u gilydd lawer tro ar y mater pwysig hwn. Clywais hen wr yr Hafod yn dweyd ddarfod i'w Fot ef lwyr orchfygu Pero Tanygareg ar y dydd yr ymladdwyd brwydr Trafalgar; ac na chododd y Pero hwnw ei ben byth wedi hyny fel o'r blaen, ac y rhedai ymaith nerth ei draed gynted y clywai yr enw Mot.
Byddent yn y ddau dŷ yn ofalus i fyned i'r gwely y nos a chodi y bore, a bwyta bob pryd o fwyd, ar yr un awr ac adeg ag yr arferai eu hynafiaid gyflawni y defodau hyny; a'r unrhyw ymborth hefyd fyddai ganddynt yn rheolaidd—bara a llaeth i frecwest, tatws llaeth a golwyth o gig moch i giniaw, llymru i swper yn yr haf ac uwd yn y gauaf; drull o gig dafad neu gig eidion, wedi ei halltu a'i sychu uwchben y llawr, i giniaw y Sul, a gwydd yn y gwyliau. Wrth edrych ar wydd rostiedig oedd ar y bwrdd yn yr Hafod un tro, sylwai yr hen wr yn bur ddifrifol, ''Dear me''!—mae o'n beth sobor i feddwl am dano, mae hon y ddegfed wydd a deugain a chant a fu ar y bwrdd yma er pan mae'n teulu ni yn byw yma. Mae o'n ormod o beth i bobl yn ein sefyllfa ni fwyta gwydd gyfa unwaith bob blwyddyn. Mi gawsen, deydwn bedwar swllt y pen at eu gilydd, am danynt; ac i faint o arian y daethai hyny? Rhoswch, gadewch i ni wel'd, cant a haner o wyddau, am bedwar swllt y pen,—dene gan swllt yn dwad i bum punt, pedwar can swllt yn gneud pum punt bedair gwaith, pedwar pump yn gneud ugain—dyna ugain punt; a dyna'r haner hyny drachefn yn gneud deg punt,—dyna ddeg punt ar hugain. Mae o'n ddychrynllyd o beth!' 'Wel, rhoswch chwi, nhad,' ebe un o'r meibion, 'nid ydyw ond pedwar swllt yn y flwyddyn.' 'P'wr ods ydi hyny?' meddai'r hen wr,<noinclude><references/></noinclude>
jqsgd23rhytmyhfdb4km7s7kqrz3l04
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/73
104
87990
169989
2026-08-10T01:12:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169989
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'pe tase'n hynafied ni a nine ar 'u hol nhw'n gwerthu pob gwydd yn lle'i byta hi, mi fase ni yn gwoethocach o ''ddeg punt ar higien'' nac ydan ni heddyw.' Ni chafodd yr hen wr fawr o flas ar gig yr wydd hono, am ei fod yn ei fwyta dan ddylanwad yr ystyriaethau difrifol yna; ond ni allai feddwl am roddi yr hen ddefod deuluol o fwyta gwydd y gwyliau heibio chwaith, o barch iddi fel hen ddefod ei henafiaid.
Un o'r tai olaf yn yr holl wlad i de ddyfod i arferiad ynddo oedd yr Hafod Uchaf. Yr oedd yr enw tea yn ddychryn i'r hen wr am rai blynyddoedd; yfed te oedd yr heresi fwyaf ofnadwy o bob cyfeiliornad yn ei olwg ef. Yr oedd yn echrydu at ei gymdogion fyddent yn ei arfer. Rhoddodd yr hen wraig ar ei gocheliad yn fynych na fyddai iddi byth gyffwrdd âg ef; a gorchmynai i'w blant, beth bynag a wnaent ar ei ol ef, am ofalu na ddeuai haden o de byth i'r Hafod. Os digwyddai iddo fyned i dŷ cymydog, a chael y teulu yn yfed te, troai ei gefn yn ddiatreg mewn digter llidiog; ac adref ag ef, i roddi darlith ar ddrygedd arswydus yr arferiad. O'r diwedd, un diwrnod aeth yr hen wraig i ymweled â chymydoges iddi, yr hon oedd wedi syrthio i'r pechod o yfed te; perswadiwyd hithau i brofi te am unwaith y prydnawn hwnw, a syrthiodd mewn cariad ato yn y fan. Rhedai aml brydnawn at ei chymydoges i gael dysglaid o de, ac aeth yn fwy-fwy dan ei ddylanwad bob tro. O'r diwedd, yr oedd yn rhaid cael peth ohono i'r tŷ, ond yr oedd yn rhaid gofalu beth bynag na chai yr hen wr ddim gwybod. Nid oedd wiw meddwl cael tepot a chwpanau te i'r tŷ, gan y buasai yr hen wr yn siwr o ddyfod ar eu traws ryw dro, a pharasai hyny flinder nid bychan. Mwydai yr hen wraig y te mewn jwg, a thywalltai ef mewn godard; dror y dresel fyddai y bwrdd at y gwasanaeth hwn, ac os clywid swn traed yr hen wr yn neshau at y tê, cauid y dror yn y fan, a chloid hi, tarawai'r hen wraig yr agoriad yn ei<noinclude><references/></noinclude>
axs1lnx7sqeqdu2tzeb0ni6m3u0oy4i
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/74
104
87991
169990
2026-08-10T01:13:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169990
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llogell. Un tro, digwyddodd i'r dror fod heb glo arni pan yr oedd yr hen wraig allan; daeth yr hen wr i'r tŷ, ac agorodd y dror i chwilio am rywbeth; yr oedd tua haner llonaid y jwg o de oer; cymerodd yr hen wr afael ynddo, bu yn edrych ac yn ceisio dyfalu yn hir pa beth allasai fod; dodai ei drwyn yn y jwg i'w arogli; o'r diwedd, anturiodd ei brofi, gan sipian ei weflau: ac ebe efe rhyngddo âg ef ei hun 'Mae o'n dda gynddeiriog beth bynag ydi o,' ac yna yfodd ef i fynu ar ei dalcen. Pan ddaeth yr hen wraig i'r tŷ, er ei syndod a'i dychryn, beth a welai ond yr hen wr a'r jwg te yn ei law! 'Wel dyma hi!' meddai. 'Be oedd gen ti yn y jwg yma?' gofynai yr hen wr. 'O, tipyn o de dail,' oedd yr ateb. 'Ple cest ti o?' Gwraig Cae Coed nysgodd i wneud o y diwrnod o'r blaen.' 'Wel sut rwyt ti yn 'i neud o?' 'Dim ond rhoi dwr berwedig am ben y dail, a rhoi tipin o siwgr ynddo fo.' 'Pw'r ddail ydyn nhw?' 'P'wr enw sy arnyn nhw, dydwi ddim yn cofio rwan, mi fedra gael gwybod gan wraig y Cae Coed, y hi roes chydig o'r dail i mi i'w dreio i ydrach sut y baswn i yn leicio'r te, ac y nysgodd i sut i'w neud o, ac roedd hi'n deyd fod o'n dda iawn ar les iechyd. Oeddech chi'n leicio'i flas o?' 'Oeddwn yn anmhosibl iawn, ebe yr hen wr; nid aethai unwaith i'w ben i feddwl mai ei brif elyn fuasai ei wefusau yn gusanu. 'Gna dipin ohono fo weithie,' meddai wrth yr hen wraig. 'Mae'n ddigon hawdd i mi neud hyny,' ebe hithau. Yn boeth mae o ore, a thipyn o hufen ynddo fo,' ebe hi wed'yn, 'mae gwraig y Cae Coed yn i gymryd o bob bore i'w brecwest hefo bara a menyn.' 'Fedri di gael peth o'r dail ene i'w dreio fo?' gofynai yntau. Medra, ar un amod,' oedd yr ateb. 'Be ydi hono?' 'Nad ydach chi ddim i gael gweled y dail am ddau fis beth bynag.' 'Pa'm hyny?' 'Migewch wbod pam hyny os bodlonwch chi i beidio holi dim ar y mater am ddau fis.' 'O'r gore, o'r gore, mi geith fod felly.'<noinclude><references/></noinclude>
01dk1njv90npbjhteu83nfteuylyi9v
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/75
104
87992
169991
2026-08-10T01:20:00Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169991
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwnaed y te yn yr Hafod bob bore yn rheolaidd am ddau fis; mewn jwg y gwneid ef, ac o odardau yr yfid ef, bob dydd. Yr oedd yr hen wr yn cadw cyfrif manwl o'r amser amodedig i adael y peth yn ddirgelwch, ac yn myned yn hoffach bob dydd o'r te dail. Ar ben y ddau fis, gofynodd am weled y dail, dygodd yr hen wraig bapuraid o de i'r bwrdd. Bu agos i'r hen wr syrthio mewn llewyg gan ei fraw a'i ddychryn. Ond nid oedd wiw ffraeo bellach yr oedd wedi ei ddal yn y groglath; yr oedd bellach yn rhy hoff o'r te i'w roddi heibio, er hyny yr oedd ei gydwybod yn ei gondemnio yn dost am ei yfed. Daeth y ddefod newydd i'r Hafod yn ddiarwybod i'r hen wr, ac enillwyd ef yn ddysgybl iddi drwy amryfusedd. Ond yr oedd defodau newyddion eraill ar ddyfod i mewn pwysicach na defod y te, fel y caf ddangos
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XIX.}}}}
CRYBWYLLAIS o'r blaen i chwyldroad mwy pwysig na chwyldroad y te dori allan yn fuan ar ol y llall. Hwyrach y dylaswn grybwyll i chwyldroadau eraill ddigwydd yno o flaen un y te. Un oedd chwyldroad y drol. Yr hen gar llusg a fuasai yn teyrnasu yno o genedlaeth i genedlaeth, hyd ddyddiau y teulu yr wyf yn adrodd eu hanes. Yr oedd y ddau fab er's cryn amser yn awyddus i ddymchwelyd llywodraeth y car llusg, a sefydlu un y drol yn ei lle, ond ofnent amlygu eu dymuniad, gan y gwyddent y buasai yr Hen Dori, eu tad, yn gwgu ac yn gwrthwynebu yn ofnadwy. Anturiodd y mab hynaf un diwrnod, fodd bynag, grybwyll y peth yn gynil wrth ei dad, pan oedd efe mewn tymher dda; ond gwarched pawb! taflodd hyny gylchau tymher yr hen wr yn y fan.
'Na ddoi di mo a dy drol yma byth os gwela i di. <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
qcq7bnk1oiose57xm0qf19q21wdi7ut
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/76
104
87993
169992
2026-08-10T01:21:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169992
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rydw i yn dy roi di dan dy warnin, na sonioch di byth am dani hi yn y nglyw i. Mi naeth y car llusg y tro i'n tade ni 'rioed; roedden nhw'n llawer callach na'th di, debic gen i. Ni wn i be andros sy wedi 'mweled â bechgin y dyddie yma; mae nhw'n meddwl 'u bod nhw'n llawer mwy doeth a gwybodus nag oedd yr hen bobol es talwm. Yna aeth i'r tŷ at yr hen wraig i achwyn a dwrdio. Buasai arno ofn meddai, pe buasai'n cydsynio â chais y bechgyn, y buasai yspryd yr hen gar llusg yn ei drwblo bob nos tra buasai byw ar y ddaear. Llwyddodd am y tro i roi yspryd y drol i lawr, ac addawai iddo ei hun y cawsai ef a'i hen gyfaill y car llusg fyw mewn tangnefedd o hyny allan. Beth a wnaeth y bechgyn ond gofyn yn ddistaw am fenthyg trol newydd oedd cymydog iddynt newydd gael, am ddiwrnod i gario tail o'r buarth, ar amser planu pytatws. Aethant ati'n bur fore, cyn i'r hen wr godi o'i wely; ac wele! pan ddaeth allan, er ei syndod a'i ddychryn, beth a welai ar y buarth ond ei hen elynes y drol! a haner y domen wedi ei gludo ymaith yn ddisymwth megis gan gyfaredd. Curai ei draed a'i ffon yn erbyn y llawr, a dwrdiai a bygythiai'n arswydus. 'P'le cawsoch chi hi? Ewch a hi o ngolwg i'r fynud yma ne mi gymra'r fwyallt a mi gna hi'n sgyrion mân bob tamed i chi.' 'Wel, welwch chi nhad, gymaint mwy o waith ydan ni wedi wneud y bore yma wedi cael y drol nac allasen ni wneud gyda'r car llusg,' ebe'r mab hynaf. 'Dene'r felldith, mi ewch a'r domen i ffwrdd i gyd cyn y nos fel hyn; mi fase'n ddigon o waith am ddyddie lawer i'w chario hi efo'r car llusg,—dyfetha'r domen a'r tail fel hyn.'
Fodd bynag, o dipyn i beth, llwyddodd y bechgyn i ddwyn achos y drol i fuddugoliaeth, ac i daflu'r hen gar llusg oddiar ei orsedd, ac ni chlywais i yspryd yr hen greadur hwnw drwblo yr hen wr mewn canlyniad. Bu yno ymdrech gyffelyb gyda'r aradr wedi hyny. Chwaer ydoedd yr hen arad limog<noinclude><references/></noinclude>
ovscruumwybq85u96xqj9afc8xdyvo9
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/77
104
87994
169993
2026-08-10T01:22:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169993
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gymreig i'r car llusg, ac yr oedd ei ddiswyddiad ef yn rhybudd iddi hithau fod ei dydd ar ddyfod. Ymdrechodd yr hen wr yn lew trosti, ond yr oedd buddugoliaeth y bechgyn arno yn achos y drol wedv dofi ei yspryd, a gwanhau ei freichiau. Ciliodd o faes brwydr yr aradr yn gynt a dystawach nag y gwnaethai o'r llall.
Yr oedd y brwydrau hyny rhwng yspryd diwygiad a gwelliant âg yspryd Toryaeth a chyndyn ymlyniaeth wrth hen drefn a defodau y tadau, yn y cylch bychan teuluaidd, yn hollol o'r un natur ac egwyddorion a'r gwrthymdrechion sydd wedi bod am genhedlaethau ac oesau rhwng diwygwyr a gwrthddiwygwyr gwladwriaethol. Yr un yn hollol o ran sylwedd bob amser fu dadleuon Toriaid yn erbyn diwygiadau gwladol ac eglwysig, ac o blaid yr hen ddeddfau a'r trefniadau, â dadleuon hen wr yr Hafod Uchaf yn erbyn y drol ac o blaid yr hen gar llusg. Yr oedd yr hen Gol. Sipthorpe, druan, a llaweroedd o hen Doriaid yn gystal ag yntau, yn wir ddelw o hen wr yr Hafod. Safai'r hen ymdrechwyr glewion hyny yn Senedd ein gwlad, fel eu tadau o'u blaen, i ddadleu yn erbyn pob mesur o ddiwygiad, ac o blaid pob hen raith a threfn wladwriaethol, gan ddefnyddio rhesymau hen arwr yr Hafod yn erbyn y drol, ac o blaid y car llusg.. Newidiodd y Toriaid eu henw i Conservative :Diogelwyr, sef diogelwyr hen bethau a threfniadau gwladol ac eglwysig; ac os teimlant awydd ryw dro eto i ymgyfenwi ar enw newydd, cynygiwn i fod iddynt eu galw eu hunain yn Garllusgiaid.
Ond dyma fi wedi bod yn llusgo wrth y car llusg yn llawer iawn hwy nag yr oeddwn yn bwriadu wrth gychwyn. Rhaid ei adael bellach. Coffa da am dano.
Awn bellach at y chwyldroad mwy pwysig y cyfeiriwyd ato. Yn fuan wedi dychweliad Miss Evans, merch yr<noinclude><references/></noinclude>
i1qa93r0c7pi6abf6do2mjc7vvprooo
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/78
104
87995
169994
2026-08-10T01:23:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169994
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hafod Ganol, adref o'r ysgol o Gaer, teimlodd y ferch ieuanc awydd i gychwyn Ysgol Sabbothol yn rhyw dŷ yn y cwmwd hwnw. Yr oedd yn ardal ar ei phen ei hun megis,—yn lled bell oddiwrth gapel nac eglwys, a chryn luaws o blant, gwasanaethyddion, a meibion a merched ieuainc wedi tyfu yn llanciau a llancesau, yn cyfaneddu ynddi. Gosododd Miss Evans yr achos o flaen y cyfeillion yn y capel y perthynai hi iddo, a chytunasant mai da oedd y peth, ac addawsant gynorthwyo yn y gwaith. Cynygiodd Evan Hughes, y melinydd, ei felin at wasanaeth yr ysgol, a derbyniwyd ei gynygiad. Aeth Miss Evans trwy y gymydogaeth i wahodd y teuluoedd i ddyfod i'r felin i'r ysgol cyn y Sul yr oedd i gael ei hagor, ac yn enwedig i gymhell rhieni i anfon eu plant iddi. Yr oedd y fath barch i'r ferch ieuanc gan y cymydogion oll, fel yr addawsant yn rhwydd bob peth a geisiai hi ganddynt. Y tŷ cyntaf yr aethai iddo i ddadleu achos yr ysgol oedd yr Hafod uchaf. Wedi eistedd i lawr gyda'r hen wr a'r hen wraig, aeth at ei neges. Mae arnaf eisiau help Ann a Mary (y ddwy ferch) os caf,' ebe hi, 'y Sul nesaf; yr ydym yn myned i ddechreu Ysgol Sul i blant y gymydogaeth yn y Felin Ucha', ac mi fyddai Ann a Mary yma yn help mawr i ddysgu y plant.' Addawodd y ddwy yr aent, os byddai eu tad a'u mam yn foddlawn. 'Beth ydych chwi yn ddweyd?' gofynai i'r hen wr, gan osod ei llaw ar ei lin, a gwenu yn ei wyneb. Na wn i'n siwr beth i ddweyd ar beth fel yna,' ebe yntau. 'Aros di—rhaid i ti beidio digio wrtha i am ddweyd ych di—felly rydw i wedi arfer er cin d'eni di, wyddost.' 'Na, welsoch chwi mo honof, na minau mo honoch chwithau, cyn fy ngeni,' atebai hithau, dan chwerthin; 'ond na soniwch am hyny, nid oes dim perygl y digiaf am i chwi ddweyd yth di.' 'Wel, yn ddeydis i beth gwirion hefyd, yn ddifeddwl rywsut.' 'Na hidiwch am hyny, ond fyddwch chwi ddim yn erbyn i Ann a Mary ddyfod i'r ysgol i'r Felin Uchaf,<noinclude><references/></noinclude>
p2etr73l0q95pjm0tm6efv94x8y3rmp
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/79
104
87996
169995
2026-08-10T01:29:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169995
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y Sul nesaf a fyddoch chwi?' 'Perthyn i bwy mae'r—ysgol i fod, pobol y capel neu bobol yr eglwys?' gofynai'r hen wr. 'Perthyn i'r gymydogaeth, pobol y capel a phobol yr eglwys yn gystal a'u gilydd, pawb ddelo iddi hi.' 'Wel, ia—hum—ia,—fedra i ddim gwel'd dim drwg yn y peth, am wni; be wyt ti'n ddweyd?' eb efe wrth y wraig. 'Does gen i ddim gwrthwyneb iddyn nhw fyn'd os leician nhw o'm rhan i,' ebe hithau. 'O'r gore, mi alwa i heibio yma wrth fyned yno y prydnawn Sul—mi fydd yr ysgol yn dechreu am ddau o'r gloch.
Wedi i Miss Evans fyned ymaith, ebe'r hen wr yn y man, 'Mae'n difar gen i rwan addo cai'r genethod fyn'd i'r Ysgol Sul ene hefyd. Ond welis i rioed—siwn beth a'r eneth ene, toes dim possib i nacau hi am ddim byd y geisith hi; mae hi mor bropor a mor—fwyn a nillgar rwsut. Ond tydw i ddim yn leicio'r Ysgol Sul yma yn tôl; fu yma erioed son am y fath—beth yn y gymydogaeth yma o'r blaen. Ddaru'r hen bobol feddwl am ddim o'r fath; mi roedden nhw cin galled ac yn gallach hefyd na neb sy'n fyw rwan. Dda gen i mo'r pethe n'wddion yma, 'rhen bethe a'r hen ffasiwn i mi; mae'n gas gen y nghalon i wel'd y drol a'r arad newydd ene wrth y tŷ yma, a'r hen arad a'r hen gar llusg, drien, wedi'u taflud o'r neilldu mewn amharch. Mi fedrwn grio llon'd y mol wrth ydrach arnyn nhw, mi fedrwn hefyd,' eb efe, gan ollwng ochenaid drom allan. 'Coetio, a chware pêl, yn ddifyr a diniwed hefo'u gilidd, bydde'r hen bobol ar brydnawnie Sulie,' meddai wed'yn. 'Ond rhaid iddyn nhw gael 'sgolion a darllen rwan. Na, dydw i ddim yn meddwl y cewch chi ddim myn'd yno eto,' eb efe wrth y merched. Gwell i chi adel iddyn nhw, gen ych bod chi wedi addo,' ebe'r hen wraig, 'ne fyddwch chi ddim yn ddyn i'ch gair; hyny ydi, os ydyn nhw yn leicio myn'd.' 'Rhaid i chwi ofalu dim am hyny, mam,' ebe y ferch hynaf, 'pen ddelo Marged Evans heibio yma, mi doddith nhad fel<noinclude><references/></noinclude>
18cm2z960c7rfa4bd5j37cgcdbofjn9
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/80
104
87997
169996
2026-08-10T01:30:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169996
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>menyn o flaen tân; a mi ddalia i chwir peth a fynoch chwi yr a'i o i'r ysgol ei hun, tae hi yn ceisio ganddo.' 'Mi ddalia i am fwy nag a deli di, nat awn i ddim,' ebe'r tad. ' A ni cheith hi na neb arall un ddewid fyrbwyll gen i ont hyny.'
Y Sabbath a ddaeth, a daeth Miss Evans heibio'r Hafod, yn ol ei haddewid, a chyda hi i'r Ysgol yr aeth y ddwy ferch, a blas mawr ar yr Ysgol a gawsant. Daeth lluaws o blant ac ieuenctyd y gymydogaeth yn nghyd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XX.}}
'Ac i'r ysgol yr aethant, a blas mawr a gawsant arni,' meddwn am ferched yr Hafod ar derfyn y benod ddiweddaf; a pharhau i fyned iddi bob Sabbath a wnaethant, a mwy o flas a hyfrydwch a gawsant ynddi bob tro, meddaf eto ar ddechreu hon. Wrth glywed y chwiorydd yn canmol yr ysgol yn barhaus, cododd awydd ar y ddau frawd i fyned yno am dro; ac yno'r aeth y ddau, a chawsant hwythau flas arni hefyd, ac ni chai dim eu hatal wedi hyny rhag myned iddi bob Sabbath. O'r diwedd, llwyddodd Miss Evans i hudo y ddwy chwaer i ddyfod gyda hi i wrando gwr dyeithr poblogaidd oedd i bregethu yn y capel ar noson o'r wythnos. Yr oedd arnynt ofn yn eu calonau i'w tad wybod. Yr oedd un o bobl y capel, fel y galwai hwynt, wedi bod yn ceisio ganddo ddyfod i wrando y gwr dyeithr y diwrnod hwnw, ac yr oedd hyny wedi ei gyffroi yn fawr. 'Na,' meddai wrth adrodd yr hanes ar ol dyfod i'r tŷ, 'mi fydd yr hen goes yn o hir cyn y gwel o fi yn ei gapel o, rwy'n meddwl. I be mae rhw garsiwn fel ene yn hel i hinen ar draws gwlad fel hyn? Mi fydde'n ffitiach o lawer iddyn nhw aros gartre, ac edrych ar ol'u busnes 'u hinen, na dwad i myreth â busnes p<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
poutzwv0thxmbkh7d018dqjt4u1t45j
169997
169996
2026-08-10T01:30:40Z

9gh87jjz0f0xyz9d64r83145vhkj516
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/81
104
87998
169998
2026-08-10T01:31:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
169998
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>obol erill na welson monyn nhw rioed a'i llygid. Dwad i hel yn 'u bolie, ac i fyn'd ag arian pobol y mae nhw. Ont oes gynthon ni berson i bygethu i ni, a mi bygethith yn well o'r haner na nhw; mae o wedi bod yn Rhydychen yn dysgu pygethu o bwrpas. Os gnawn ni fel mae o'n deyd, mi ddown trwyddi hi o'r gore.' Ar ddiwedd ei ddarlith dywedai, 'Cym'rwch chi ofol, blant, nad elo troed yr un ohonoch chi trost riniog y capel ene heno, nac un amser arall.'
Edrychodd y ddwy ferch ar eu gilydd. Ychydig cyn yr amser i gychwyn i'r oedfa, dywedodd y ferch hynaf wrtho, Nhad, yr wyf fi a Mary (ei chwaer) wedi addo myn'd i Gefn y Gadfa i noswaith lawen heno, os na byddech chwi a mam yn erbyn. Yr wyf wedi gofyn i mam; mae hi'n foddlon ini fyn'd; beth ydych chwi'n ddweyd, nhad?' 'Wel, ond ellwch chi fyn'd, os mynwch chi; toes gen i ddim gwrthwyneb i chi fyn'd i leoedd felly; mae ymbell nosweth lawen yn burion peth i bobol ifenc, mi fum i mewn nosweth lawen lawer gwaith pan oeddwn i tua'ch oed chwi, a mi fyddwn yn cael pleser mawr ynddyn nhw, a mewn nosweth lawen yn Ty Draw y gwelis i'ch mam gynta i ddechre siarad â hi. Ond y mae hi'n rhy gynar i chi gochwyn i nosweth lawen y rwan.' 'Yr ydym wedi addo galw heibio i'r Hendre a'r Bont Gareg wrth fyned; a mi gymer hyny gryn dipyn o amser,' ebe'r ferch. 'O'r gore, o'r gore,' ebe'r tad, 'ewch chithe pen fynoch chi.'
Ymaith a'r ddwy rhag eu blaen i'r capel—lle dyeithr iawn iddynt hwy. Edrychai pawb arnynt, ac ar eu gilydd, pan aethant i mewn. Tarawodd i feddwl y ferch hynaf, 'Wel, mi fydd rhywun yn siwr o ddweyd wrth fy nhad cyn nos yforu ein bod ni yma,' a cheisiai berswadio ei chwaer i fyned allan, a dychwelyd adref. Ond gwrthododd hi gydsynio. 'Na,' ebe hi, 'gad i ni aros hyd y diwedd, wedi i ni ddwad yma, doed a ddelo;' ac ymroi i aros wnaethant. Ymddangosai pob peth yn yspryd a dull y g<noinclude><references/></noinclude>
974r45705sdjr7yoo1wxdze7x8xx1xm
169999
169998
2026-08-10T01:32:27Z
AlwynapHuw
1710
169999
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>obol erill na welson monyn nhw rioed a'i llygid. Dwad i hel yn 'u bolie, ac i fyn'd ag arian pobol y mae nhw. Ont oes gynthon ni berson i bygethu i ni, a mi bygethith yn well o'r haner na nhw; mae o wedi bod yn Rhydychen yn dysgu pygethu o bwrpas. Os gnawn ni fel mae o'n deyd, mi ddown trwyddi hi o'r gore.' Ar ddiwedd ei ddarlith dywedai, 'Cym'rwch chi ofol, blant, nad elo troed yr un ohonoch chi trost riniog y capel ene heno, nac un amser arall.'
Edrychodd y ddwy ferch ar eu gilydd. Ychydig cyn yr amser i gychwyn i'r oedfa, dywedodd y ferch hynaf wrtho, Nhad, yr wyf fi a Mary (ei chwaer) wedi addo myn'd i Gefn y Gadfa i noswaith lawen heno, os na byddech chwi a mam yn erbyn. Yr wyf wedi gofyn i mam; mae hi'n foddlon ini fyn'd; beth ydych chwi'n ddweyd, nhad?' 'Wel, ond ellwch chi fyn'd, os mynwch chi; toes gen i ddim gwrthwyneb i chi fyn'd i leoedd felly; mae ymbell nosweth lawen yn burion peth i bobol ifenc, mi fum i mewn nosweth lawen lawer gwaith pan oeddwn i tua'ch oed chwi, a mi fyddwn yn cael pleser mawr ynddyn nhw, a mewn nosweth lawen yn Ty Draw y gwelis i'ch mam gynta i ddechre siarad â hi. Ond y mae hi'n rhy gynar i chi gochwyn i nosweth lawen y rwan.' 'Yr ydym wedi addo galw heibio i'r Hendre a'r Bont Gareg wrth fyned; a mi gymer hyny gryn dipyn o amser,' ebe'r ferch. 'O'r gore, o'r gore,' ebe'r tad, 'ewch chithe pen fynoch chi.'
Ymaith a'r ddwy rhag eu blaen i'r capel—lle dyeithr iawn iddynt hwy. Edrychai pawb arnynt, ac ar eu gilydd, pan aethant i mewn. Tarawodd i feddwl y ferch hynaf, 'Wel, mi fydd rhywun yn siwr o ddweyd wrth fy nhad cyn nos yforu ein bod ni yma,' a cheisiai berswadio ei chwaer i fyned allan, a dychwelyd adref. Ond gwrthododd hi gydsynio. 'Na,' ebe hi, 'gad i ni aros hyd y diwedd, wedi i ni ddwad yma, doed a ddelo;' ac ymroi i aros wnaethant. Ymddangosai pob peth yn yspryd a dull y<noinclude><references/></noinclude>
jei04xpulewissb8mz5ut10o8qzwryb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/82
104
87999
170000
2026-08-10T01:33:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170000
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwasanaeth a ddygid yn mlaen mor newydd a dyeithr i'r ddwy eneth, nes oeddynt fel wedi colli eu hunain mewn syndod. Testyn y pregethwr oedd, 'Gwna yn llawen wr ieuanc yn nyddiau dy ieuenctyd;' ac wedi myned yn mlaen ychydig ar ei bregeth, torodd ystorm o fellt a tharanau ofnadwy gweinidogaeth y dyddiau hyny ar y gynulleidfa. Yr oedd llais a gwedd y pregethwr yn gwisgo arswydolrwydd, ac ofn a dychryn yn gwisgo gwedd y gwrandawyr yn gyffredinol; a llawer o ocheneidiau trymion yn esgyn o galonau, ac o ddagrau heilltion yn disgyn o lygaid, llwaws ohonynt. Erbyn hyn, y mae y ddwy eneth yn crynu fel dwy ddeilen, gan bryder a braw. Yr oedd yr ymadrodd, "Gwybydd y geilw Duw di i farn am hyn oll," o enau y pregethwr, yn trywanu fel cleddyf trwy eu calonau hwy a llawer eraill yn y lle. Oedd, yr oedd y farn wedi eistedd, a'r llyfrau wedi eu hagor yn nghydwybodau y bobl ar y pryd hwnw.
Ar y ffordd wrth fyned adref, daeth Miss Evans o hyd iddynt; taflasai ei llygaid arnynt aml waith yn ystod y bregeth, a gwelsai yr olwg ddifrifol oedd arnynt. Gofynodd iddynt ar y ffordd beth oeddynt yn feddwl o'r bregeth, a thorasant i wylo'n ddwys. 'Mi fuasai'n dda iawn genyf fi 'rwan,' ebai'r ieuangaf, 'pe buaswn wedi aros gartref.' 'Mi fuasai'n dda iawn gen inau,' ebe'r llall mewn wylofain, 'pe na buaswn i erioed wedi fy ngeni.' 'Na, na,' meddai Miss Evans, 'mi fydd yn dda genych chwi eto, ngeneth i, eich bod wedi dod i'r capel heno, ac yn well genych na dim arall a wnaethoch chwi erioed. A mi fydd yn dda genych chwithau,' meddai wrth yr henaf, ' eich bod wedi eich geni y'mhen tipyn. A cheisiai arwain meddyliau y ddwy gorsen ysig at yr hyn a ddywedasai y pregethwr ar ddiwedd y bregeth, fod yr Hwn fydd yn eistedd ar orsedd barn y dydd hwnw wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid, a'i fod yn galw ar bob un sy'n flinderog a llwythog gan euogrwydd ac ofnau i ddyfod ato i gael esmwythad a thangnefedd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pf1rj472oe6aj4iu6vcprww2av2fhcx
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/83
104
88000
170001
2026-08-10T01:34:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170001
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Os oedd hi wedi bod yn storm arnynt yn y capel, yr oedd storm enbyd arall yn eu haros yn y tŷ gartref, druain. Yr oedd yn byw yn yr ardal, ryw chwilengi tafodrydd a elwid Robin y Glep, neu Robin y Clepiwr, a Robin y Chwedle—yr oedd ganddo amryw deitlau. Hoff, os nid holl waith Robin fyddai cario chwedlau o dŷ i dŷ, a llawer gwaith y gwnaethai ygymydogaeth yn goelcerth o gynen. Digwyddodd fod Robin yn sefyll ar fuarth y capel pan ddaeth—merched yr Hafod yno, a gwelodd y ddwy yn myned i mewn. Yr oedd gan Robin ''eye to business'' bob amser, yn gystal a thafod; a ffwrdd ag ef cyn yr oedfa, a rhag ei flaen i'r Hafod Uchaf gyda'r newydd. Cafodd yr hen wr (nid mor hen chwaith y pryd hwnw) yn y tŷ ei hunan; ac ar ol ychydig ymgom, dywedai, Mi welis Ann a Mari yn myn'd i'r capel gyne.' 'I'r capel! i'r capel!' ebe'r llall, 'naddo, ond i Gefn y Gadfa i'r nosweth lawen yr aethon nhw.' 'Nage'n wir,' ebe Robin, 'i'r capel yr aethon nhw, mi gwelis nhw â'm llygid fy hun.' 'Wyt ti'n siwr, Robin?' 'Mae o cin wired i chi a bod bara mewn torth,' meddai Robin. 'Wel, dyma hi! dyma hi!' meddai'r hen wr, mewn digter llidiog a thrallod mawr. Aeth Robin ymaith cyn i neb o'r teulu ddyfod i'r tŷ. Cadwodd yr hen wr y cwbl iddo'i hun, ond deallai yr hen wraig a'r meibion fod rhywbeth yn blino ei feddwl. Gwrthododd fwyta tamaid o swper; ni ddywedai un gair o'i ben; gwae i'r ci a'r gath os deuent yn agos ato. Yn y man, daeth y ddwy ferch i'r tŷ, a gwaeddai yntau mewn llais yn crynu gan ddigofaint, 'I'r capel, ai ie?—i'r capel, ai ie? Be oedd y peth dwaetha ddeydis i wrthoch chi gyne? Mi ro i chi fyn'd i'r capel,' gan ymaflyd yn ei ffon a chodi ar ei draed. Eisteddwch i lawr, nhad,' ebai y mab hynaf, gydag awdurdod. 'Eiste i lawr?' ebe yntau, 'ai ti sy'n peri i mi eiste i lawr? Na, stedda i ddim i lawr nes i mi guro'r capel allan o'r ddwy hogen yma; mi gna hi'n gas genthyn nhw glywed son am<noinclude><references/></noinclude>
jk7ibllie80p2lvsa10pss7kqp6aal7
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/84
104
88001
170002
2026-08-10T01:37:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170002
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gapel byth ond hyny.' 'Chewch chwi ddim twtsied arnyn nhw, rydw i'n dweyd i chwi,' ebe'r mab.' 'Ai ti ydi gwr y tŷ yma, tybed?' meddai yntau. 'Ie, y fi ydi gwr y tŷ yma heno, beth bynag, atebai y mab, a thynodd y ffon o law ei dad, a dododd ef i eistedd i lawr. Gwyddai y tad yn dda nad oedd wiw dadleu â Bob. Yr oedd efe yn wr ieuanc cryf, ac o yspryd penderfynol, ac felly bu raid i'r hen wr gadw ei gynddaredd i losgi yn ei fynwes hyd oni chaffai amser cyfaddas, yn absenoldeb Bob, i roddi ''vent'' iddi. Yr oedd yn benderfynol yn ei feddwl i roddi çurfa galed i'r ddwy eneth y cyfleusdra cyntaf a gaffai. Ni chysgodd ef, ac ni chysgodd y ddwy eneth chwaith, ddim y noson hono. Nid ofn eu tad yn gymaint, ond effeithiau y bregeth yn benaf a barasai i'w cwsg hwy gilio.
Codasant yn fore dranoeth, a chododd eu tad, gan feddwl cael gafael arnynt; ond yr oeddynt wedi cychwyn i'r cae i odro cyn iddo ddyfod i lawr. Yr oedd eu brawd hynaf yn cadw o fewn cyrhaedd galw, os deuai taro.
Yn fuan ar ol brecwest, pwy a ddaeth i mewn ond Miss Evans. Yr oedd hi wedi anmheu bod drwg ar droed. Clywsai fod Robin y Glep wedi myned ymaith oddiwrth y capel pan oedd y ddwy ferch yn myned i mewn; ac aeth i'w phen yn union mai rhedeg i'r Hafod a wnaethai i adrodd y chwedl. Pan aeth i mewn, edrychai'r hen wr yn surllyd ddigofus arni; edrychai hithau yn siriol yn ei lygaid. Mi fase'n dda gen i taswn i heb dy wel'd di 'rioed yn agos i'r tŷ yma,' ebe fe, 'ti hudodd y gynethod gwirion yma i'r capel, onte?' meddai. 'Ie, 'n wir, y fi ddaru,' ebai hithau, ac yr wyf yn foddlon i gymeryd y bai, os oes bai'n bod, arna fy hun i gyd. Curwch chwi fi yrwan yn 'u lle nhw, ne mi ro'i gusan i chwi,' a thaflodd ei braich am ei wddf, a tharawodd ''glats'' o gusan iddo, fel y dywedent. Diarfogodd y cusan yr hen wr yn y fan. <nowiki>'</nowiki>''Witch'' wyt ti, a ni welis 'rioed ''witch o dy sort di,''<nowiki>'</nowiki> eb efe. Mi<noinclude><references/></noinclude>
ruuzcglwbcywejwfw7hvms1lbypp8wq
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/85
104
88002
170003
2026-08-10T01:38:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170003
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ro'i gusan arall i chwi, os gwnewch chi addo un peth i mi.' 'Be ydi hyny?' Dyma ydi o, na wnewch chwi son yr un gair byth wrth Ann a Mary yn achos myn'd i'r capel neithiwr.' 'Ho, 'rwyt ti'n meddwl fod dy gusan di 'n dda rhyfeddol, mi feddyliwn.' 'Ydach chwi'n addo rwan?' ebe hi. 'Nag ydw i ddim yn addo 'r fath beth—cusan ne beidio.' 'Dim addewid, dim cusan,' meddai hithau. Ond yr ydych yn addaw, ond ydych?' 'Wel am y tro—ond i ti addo nad â'n nhw byth eto.' 'Na, na, fynai i ddim addewid fel yna; dydw i ddim i fargenio trostynt am yr hyn a fydd, ond am yr hyn a fu. Cewch chwi a hwythau setlo rhyngoch â'ch gilydd yn nghylch yr amser i ddyfod.' 'O'r gore, o'r gore,' ebe yr hen wr, 'tyr'd dithau a dy gusan rwan,' a chusan a gafodd. Yr oedd Bob yn dyst o'r cytundeb cusanyddol hwn rhwng ei dad a Miss Evans, ac eb efe, 'Mi ro inau gusan i Robin y clepiwr y tro cyntaf y deuaf o hyd iddo, a chusan na leicia fo byth gael un arall o'i sort o, mi deffya fo.' 'Yn wir,' ebe Miss Evans, 'ni fyddai ddim yn ddrwg gen i i Robin gael tipyn o sgegfa, heb wneud llawer o niwed iddo; hwyrach y gallai wneud peth lles iddo.'
Dyna fel y terfynodd y storm gyntaf yn achos y capel.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXI.}}}}
Bu yr hen wr cystal a'i addewid i Miss Evans, canys ni soniodd air wrth y ddwy eneth yn nghylch eu trosedd yn myned i'r capel y tro hwnw, ond yn unig ei fod yn gobeithio nad elent yno byth drachefn. Ond myned drachefn a thrachefn a wnaethant; nid oedd modd peidio. Yr oedd rhyw deimlad dyeithr wedi ei ddeffro yn eu mynwesau dan y bregeth hono nad oedd dim i'w gael yn un man ond yn y capel a wnai ddygymod âg ef Yr efengyl a godasai y newyn <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
d0p1rfwfj6onk7mvfd6qw1hgz7zfk1w
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/86
104
88003
170004
2026-08-10T01:38:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170004
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw yn eneidiau y genethod, a'r efengyl yn unig a allasai ei ddiwallu. Gwnaethant ymdrech deg i ysgwyd yr anesmwythder meddwl ymaith, ond yn ofer. Yr oedd yr hoelion wedi ei sicrhau gan feistr y gynulleidfa, nad oedd modd ei tynu ymaith.
Gwahoddwyd y ddwy i noswaith lawen oedd i gael ei chadw yn nhŷ cymydog, a phenderfynodd y ddwy fyned, gan obeithio y buasai llawenydd y noswaith lawen yn ymlid ymaith y pryder oedd yn eu meddyliau; ond 'wrth chwerthin, blin oedd ar y galon, a diwedd y llawenydd hwnw oedd tristwch.' Cymerodd yr ieuengaf arni ei bod yn sâl yn y man, ac nid cymeryd arni ychwaith, canys yr oedd enaid yr eneth yn sâl mewn gwirionedd. Gofynodd i'r cwmpeini ei hesgusodi, bod yn rhaid iddi fyned adref. Ymdrechid ei pherswadio i aros, y deuai yn well yn fuan, ond nid oedd perswadio arni. Yr oedd ei chwaer yn sâl hefyd o'r un clefyd, er na chymerasai hi arni hyny; yr oedd yn dda ganddi glywed ei chwaer yn dweyd ei bod yn sâl, a'i gweled yn gwrthod cymeryd ei pherswadio i aros, fel y caffai esgus i fyned ymaith gyda hi. Pan welodd Bob ei ddwy chwaer yn myned ymaith, anesmwythodd yntau, a mynai fyned ymaith ar eu hol; ond er dim ni fynai y cwmni iddo ef ymadael; ond ni fynai yntau aros, gan ei fod yn ofni, meddai, fod ei chwaer yn rhy wael i gerdded adref heb ei gynorthwy. Ond y gwir yw, nid oedd Bob yntau yn gwbl iach; yr oedd clefyd y chwiorydd wedi ymaflyd ynddo rywfodd. Nid dim a ddywedasent wrtho oedd wedi effeithio arno chwaith, ond gweled y cyfnewidiad mawr ynddynt fyth ar ol y bregeth hono, yn benaf, oedd wedi effeithio arno. Gwelsai y naill a'r llall yn wylo uwchben y Beibl aml dro, ond ni ddywedasai ddim wrthynt am hyny. Yr oedd yn teimlo'n ddig wrth y ddwy am fyned i'r capel hefyd, ac eto teimlai ei fod yn eu caru yn fwy rywfodd nag erioed o'r blaen. Ni fynai Bob gyfaddef iddo ei hun ar un cyfrif fod dim o glefyd ei<noinclude><references/></noinclude>
j4gsc927fkdl1shapp5yiwnr5yxgo3d
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/87
104
88004
170005
2026-08-10T01:40:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170005
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chwiorydd arno ef, ac ymdrechai i geisio profi iddo'i hun, ac i bawb arall, ei fod yn fwy iach ac anystyriol ei feddwl nag yr arferasai fod; ond er hyny, yr oedd rhywbeth arno, ond gobeithiai y gallasai ei ysgwyd ymaith cyn hir.
Wel, allan yr aeth ar ol ei chwiorydd, beth bynag, a goddiweddodd hwynt yn fuan yn sefyll ar y ffordd gyda Miss Evans, yr hon oedd yn dychwelyd adref o'r capel, wedi bod yn y cyfarfod gweddi a gynhelid yno y noson hono. Gofynai Miss Evans iddynt pa le y buasent. Yr oedd ar y ddwy gywilydd ac ofn dweyd; ond addefasant y gwir yn y man, ac amlygasant eu teimladau, gan sicrhau mai hwnw oedd y tro diweddaf byth iddynt fyned i noswaith lawen. Dywedent fod y straeon a'r canu masweddol oedd yno, yn nghyda llwon a rhegfeydd y cwmni, wedi peri iddynt arswydo a dychrynu rhag cael eu taro'n farw ar y ffordd cyn cyrhaedd adref, am eu rhyfyg yn myned i'r fath gyfarfod. Clywodd Bob hwy yn siarad cyn y gallai eu gweled, na hwythau ei weled yntau, gan ei bod yn nos. Aeth, yn ddystaw, yn ddigon agos i glywed pob gair, gan eistedd ar ochr y clawdd. 'Wel,' ebe Miss Evans, 'mi fum inau mewn noswaith lawen hefyd, ac nid oes nac ofn, na phoen, na gofid ar fy meddwl wrth fyn'd adref, o achos i mi fyned yno. Yr oedd yno ganu hefyd; canu, a chwerthin, ac wylo wrth ganu.'
'Beth oeddych yn ganu?' gofynai un o'r chwiorydd 'Fel hyn y mae un penill a ganasom,
{{center block|
<poem>
B'le'r a'i i yfed dwfr rhedegog,
:Ond i afon bur fy Nuw?
P'le ca'i ffrwythau dwyfol peraidd,
:Ond ar bren y bywyd gwiw?
Atat ti dy hun 'rwy'n dyfod
:Am holl ragorfreintiau'r ne'
Nid oes dim i'w gael yn unman
:Leinw ronyn bach o'th le.
</poem>
}}
<br>
Dyma un arall,
{{center block|
<poem>
Darfydded son am bethau gwag,
:Yn agos ac yn mhell,
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur
:O ffynon lawer gwell.
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
mvzkrrevv88uddjpehdh1rblrmc9lwb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/88
104
88005
170006
2026-08-10T01:46:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170006
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A hwn hefyd,—
{{center block|
<poem>
Ni throf fy wyneb byth yn ol
:I 'mofyn pleser gau;
Ond mi a gerddaf tua'r wlad
:Sy a'i phleser yn parhau.
</poem>
}}
Torodd y ddwy eneth i wylo yn ddwys, ac wylodd Miss Evans gyda hwy; ac yn ei fyw ni allasai Bob oedd yn llechu gerllaw, beidio a wylo hefyd. Ar hyn ymadawodd Miss Evans a hwythau, i fyned bob un tuag adref; ac wedi i Miss Evans fyned heibio i'r fan lle yr oedd efe yn llechu, aeth yntau i'w ffordd, a goddiweddodd ei chwiorydd, a synent ei weled wedi dyfod mor fuan ar eu hol. Yr esgus a roddodd oedd fod arno ofn fod Mary yn rhy wael i allu cerdded adref. Gofynent a oedd wedi gweled Miss Evans yn ei gyfarfod? Dywedai i ryw ferch ei basio ar y ffordd, ond ei bod yn rhy dywyll iddo allu ei hadnabod.
Troi a throsi wnaeth y ddwy chwaer, a throi a throsi wnaeth eu brawd Bob hefyd yn y gwely trwy y nos hono. Ceisiai'r ddwy gofio y penillion a adroddasai Miss Evans ar y ffordd. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio eu galw i gof, yr oedd Bob yntau yn ymdrechu yn egniol i'w cadw allan o'i feddwl, a galw i gof rai o'r hen ganiadau gwamal a ddysgasai, fel tarian rhag y lleill. Dechreuodd gyda chân Priodas Siencyn Morgan, yr hon oedd newydd ddyfod allan, ac yn dra phoblogaidd yr amser hwnw. Adroddai hi'n ddystaw rhyngddo ag ef ei hun yn ei wely,
{{c|Mae llawer o droiau'n y byd,<br>Yn haeddu cael eu cofio.}}
Rhuthrai
{{c|Fel gallwyf yfed dyfroedd pur,<br>O ffynon lawer gwell.}}
ar draws Siencyn Morgan i'w feddwl yn y fan,
{{c|Y rhai o bryd i bryd<br>Sy'n cael eu gollwng yn angho.}}
Meddai drachefn
{{c|Ond mi a gerddaf tua'r wlad,<br>Sy a'i phleser i barhau.}}
Meddai megis llais Miss Evans yn ei glust.<noinclude><references/></noinclude>
c4eukr1qsddlqefqlslk64k19phkia0
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/89
104
88006
170007
2026-08-10T01:48:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170007
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Beth ydi peth fel hyn?' meddai, 'be sy ar grefydd eisieu gen i? 'Does arna i eisieu dim ganddi hi, cawn i lonydd.' Ond nid oedd dim llonydd iddo gael mwyach ganddi. Yr oedd wedi taro ei llaw arno. Yr oedd ei llais distaw main wedi sibrwd rhywbeth wrtho. Ac yr oedd
{{center block|
<poem>
Holl leisiau 'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd;
Wrth y llais hyfrydaf tawel.
</poem>
}}
hwnw yn gorfod
{{c|Distewi, a myn'd yn fud}}
ar droion. Ond gwingodd Bob yn lew yn erbyn y symbylau.
Dranoeth, fel y digwyddai y peth fod, pwy a ddaeth i'r Hafod, ond Robin y Glep. Aethai Robin i'r noswaith lawen heb ei wahodd y noson o'r blaen; ond yr oedd Bob a'i ddwy chwaer wedi myned ymaith cyn iddo gyrhaedd yno. Yr oedd ganddo luaws o
—chwedlau i'w hadrodd wrth yr hen wr, os cawsai gyfle. Yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho yn y noswaith lawen bod merched yr Hafod wedi myned i'r seiat, fel y d'wedid, ond nad oedd eu tad a'u mam yn gwybod dim am hyny. Anwiredd oedd hyny y pryd hwnw. Ni allai Robin gael llonydd yn ei ysbryd nes y mynegai y newydd i'r hen wr, a dyna oedd ei neges yn yr Hafod y bore hwnw. Pwy a'i cyfarfu ar y buarth ond Bob. Dechreuodd ar Robin yn y fan. Yr oedd pwll go fawr ar y buarth, at tua phen y glin o ddyfnder, a lluaws o wyddau a hwyaid yn difyru eu hunain arno. Cydiodd Bob yn Robin, gan ei wthio rhyngddo a'r pwll; ac wedi ei gael yn ddigon agos, rhoddodd hergwd iddo nes y syrthiai yn wysg ei gefn, strim stram strellach, a thros ei ben i'r pwll yn nghanol y gwyddau a'r hwyaid; a dyna lle'r oedd y terfysg, a'r clegar, a'r cwacian, a'r hysian, a holl nerth yr hyawdledd gwyddol a hwyadyddol, yn dyfod allan gydag arddeliad mawr. Daeth yr hen wr a'r hen wraig allan i edrych beth oedd y mater, a beth a<noinclude><references/></noinclude>
acicslp1czwclrxwllqmp33vng841zu
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/90
104
88007
170008
2026-08-10T01:49:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170008
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>welent ond Robin y Glep yn codi fel drychiolaeth druenus o ganol pwll yr hwyaid; a'r ceiliogwydd, a'r gwyddau, a'r hwyaid yn ei dafodi am y goreu. Pan gafodd Robin ei draed dano, ymaith ag ef yn gynt na chynta' gallai. Galwai yr hen wr ar ei ol i gael gwybod hanes y ddamwain a ddigwyddasai iddo. Yr oedd Bob wedi cilio o'r golwg cyn iddynt hwy ddyfod allan; ond dianc ymaith a wnaeth Robin am ei hoedl, ac ni ddaeth yn agos i'r Hafod wedi hyny.
Meddyliai Bob ar y pryd ei fod wedi profi er boddlonrwydd iddo'i hun drwy y weithred hono, mai nid dim oddiwrth grefydd oedd yn aflonyddu ar ei feddwl, ac os mai ie, ei fod wedi llwyddo i'w dychrynu hi ymaith oddiwrtho, ac y cawsai lonydd ganddi byth ond hyny; ond llonydd nis cafodd.
Bob ei hun a adroddodd yr holl hanes i mi, ac y mae llawer blwyddyn faith wedi myned heibio er hyny. Ychydig a feddyliwn yr amser hwnw y buaswn yn cymeryd yn fy mhen byth ysgrifenu yr hanes i'w gyhoeddi. Wedi dechreu ysgrifenu, yr oedd pethau yn dyfod i'm cof mor fresh a phe buasent wedi digwydd ddoe diweddaf.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXII.}}}}
Y NOS Sabbath cyntaf wedi'r noswaith lawen, arosodd y ddwy chwaer yn y gyfeillach grefyddol; ac yn mhen tua pythefnos wedi hyny arosodd Bob yntau ar ol; a Rolant ei frawd yn mhen ychydig wedi hyny. Bu yr hen wr a'r hen wraig am beth amser heb glywed y chwedl hon; yr oedd yr hen wr yn ofni o hyd bod y pedwar yn sâl o Glwy'r Capel, chwedl yntau, ac yr oedd hyny yn poeni llawer ar ei feddwl. Gofynodd i'r person i'w cymeryd mewn llaw, gan obeithio y gallasai ef eu meddyginiaethu. Bu yntau yn ymddyddan a hwy droion, ac yn rhoddi cynghorion <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
s7h0rfr37vcf9lvy2vud5b3nfvq3xzg
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/91
104
88008
170009
2026-08-10T01:50:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170009
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddygol iddynt! ond yn gwbl aneffeithiol. Dywedodd wrth yr hen wr ei fod yn ofni na allasai wneud dim ohonynt; mai clwyf anfeddyginaethol oedd—Clwy'r Capel, wedi iddo gydio yn y cyfansoddiad, a'i fod yn cael lle i ofni ei fod wedi ymaflyd yn gry' iawn yn y pedwar. Ond daliai yr hen wr i obeithiof gan nad aethent i'r Seiat (canys ni wyddai y pryd hwnw eu bod wedi myned) y gwisgai'r afiechyd ymaith yn raddol. Un bore yr oedd yn myned i'r efel yn y pentref, pwy a ddaeth i'w gyfarfod ar y ffordd ond Robin y Glep. 'Holo, Robin! yr hen goes, sut rwyt ti es talwm? Welis i byth monot i ofyn be naeth i ti fyn'd i 'mdrochi'n mhwll yr hwyed y bore hwnw.' "Deis i ddim iddo fo o modd, mi allech feddwl,' ebe Robin. Wel sut yr eis ti ynte?" 'Gofynwch i Bob,' oedd yr ateb. 'Ai Bob dy daflodd di iddo fo?' 'Ydi o'n gwadu na ddaru o ddim ?" "Dwn i ddim, ddaru mi ddim gofyn iddo fo, a chlowis i neb yn deyd, wyt ti 'n deyd mai fo dy daflodd di?" 'Y fo'n un braf i fod yn Seiat,' ebe Robin, 'i neyd castie felly.' 'Yn Seiat!' meddai'r hen wr. 'Dydio ddim yn Seiat eto beth bynag, a gobeithio nad eith o ddim ono byth chwaith.' 'Hyd yna rydach chi, dyn a'ch helpo,' ebe Robin. 'Mae Bob yn seiat es mis bellach, 'roedd Ann a Mary wedi mynd cyn hyny, a mae Roland ar fin mynd os nad ydi o wedi mynd. Taw a deyd celwydd, Robin,' gwaeddai'r hen wr, 'toes run o honyn nhw wedi myn'd i'r Seiat, ne mi glowswn cin hyn gan rwun.' 'Coeliwch chi ne beidiwch, mae o gin wired a'r pader i chi 'u bod nhw, Bob a'r ddwy ferch acw beth bynag; dydwiddim yn siwr am Roland.' Gollyngodd yr hen wr ochenaid dromlwythog allan ar hyny, 'Wel, ni feddylis i rioed y doethe pethe fel hyn i mlino i, ' eb efe. Merch yr Hafod Ganol ene (Miss Evans) sy wedi'u llygadynu nhw,' meddai Robin drachefn, 'y mae Bob yn ei charu hi nes ydi o wedi gwirioni 'n lân. Yr oedd R<noinclude><references/></noinclude>
98wv8q70z0wg46r86hje153p302g7q5
170010
170009
2026-08-10T01:52:11Z
AlwynapHuw
1710
170010
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddygol iddynt! ond yn gwbl aneffeithiol. Dywedodd wrth yr hen wr ei fod yn ofni na allasai wneud dim ohonynt; mai clwyf anfeddyginaethol oedd—Clwy'r Capel, wedi iddo gydio yn y cyfansoddiad, a'i fod yn cael lle i ofni ei fod wedi ymaflyd yn gry' iawn yn y pedwar. Ond daliai yr hen wr i obeithiof gan nad aethent i'r Seiat (canys ni wyddai y pryd hwnw eu bod wedi myned) y gwisgai'r afiechyd ymaith yn raddol. Un bore yr oedd yn myned i'r efel yn y pentref, pwy a ddaeth i'w gyfarfod ar y ffordd ond Robin y Glep. 'Holo, Robin! yr hen goes, sut rwyt ti es talwm? Welis i byth monot i ofyn be naeth i ti fyn'd i 'mdrochi'n mhwll yr hwyed y bore hwnw.' "Deis i ddim iddo fo o modd, mi allech feddwl,' ebe Robin. Wel sut yr eis ti ynte?" 'Gofynwch i Bob,' oedd yr ateb. 'Ai Bob dy daflodd di iddo fo?' 'Ydi o'n gwadu na ddaru o ddim ?" "Dwn i ddim, ddaru mi ddim gofyn iddo fo, a chlowis i neb yn deyd, wyt ti 'n deyd mai fo dy daflodd di?" 'Y fo'n un braf i fod yn Seiat,' ebe Robin, 'i neyd castie felly.' 'Yn Seiat!' meddai'r hen wr. 'Dydio ddim yn Seiat eto beth bynag, a gobeithio nad eith o ddim ono byth chwaith.' 'Hyd yna rydach chi, dyn a'ch helpo,' ebe Robin. 'Mae Bob yn seiat es mis bellach, 'roedd Ann a Mary wedi mynd cyn hyny, a mae Roland ar fin mynd os nad ydi o wedi mynd. Taw a deyd celwydd, Robin,' gwaeddai'r hen wr, 'toes run o honyn nhw wedi myn'd i'r Seiat, ne mi glowswn cin hyn gan rwun.' 'Coeliwch chi ne beidiwch, mae o gin wired a'r pader i chi 'u bod nhw, Bob a'r ddwy ferch acw beth bynag; dydwiddim yn siwr am Roland.' Gollyngodd yr hen wr ochenaid dromlwythog allan ar hyny, 'Wel, ni feddylis i rioed y doethe pethe fel hyn i mlino i, ' eb efe. Merch yr Hafod Ganol ene (Miss Evans) sy wedi'u llygadynu nhw,' meddai Robin drachefn, 'y mae Bob yn ei charu hi nes ydi o wedi gwirioni 'n lân. Yr oedd<noinclude><references/></noinclude>
9jiaosb30ixyocffveaitq2ayoysm28
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/92
104
88009
170011
2026-08-10T01:52:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170011
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Robin yn disgwyl y buasai y newydd diweddaf yn gyru'r hen wro'i go wyllt wibwrn, ond fel arall yr oedd y peth yn bod, yr oedd mor dda ganddo glywed mewn gwirionedd fod Bob yn caru Miss Evans ag oedd yn gas ganddo am y Capel, ond ceisiai gadw hyny iddo ei hun.
Wedi dychwelyd adref, adroddodd i'r hen wraig y chwedl a glywodd gan Robin y Glep. 'Ni fu neb rioed o nheulu i yn perthyn i Gapel,' meddai, 'yn dy waed di mae'r drwg, roedd dewyrth o'r Cwm yn Beneth yn y Capel.' 'Wel hai, gydewch lonydd i'r plant,' ebe'r fam, 'be ydi'r iws i chi gadw swn yn nghylch y Capel o hyd; faint gwaeth ydyn nhw er myn'd ono?' 'Faint gwaeth ydyn nhw! dene hi! Mi fase'n well gen i weld claddu'r pedwar run diwrnod, o'r haner hefyd, nag iddyn nhw fyn'd i berthyn i'r Capel.' 'Twt! twt! tewch a siarad nonsens,' ebe'r wraig, 'synwn i ddim nad ewch chi i'r Seiat 'chun eto cyn bo hir; felly byddai'n gwel'd rhai run fath a chi'n gneud, agos yn wastad.'
'Yfi! yfi! y fi, i'r seiat? i'r seiat? gollist di dy ben gyda dy go, pen fyddyliet, pen ddeydet ti'r fath beth wrtha i.'
Ond yr oedd yr hen wr erbyn hyn wedi digaloni ar ol colli brwydrau y te, y car llusg, a'r hen aradr, fel nad oedd ynddo nerth at ymladd brwydr y capel. Gan hyny, ni dd'wedodd ddim wrth y plant yn nghylch y seiat, gymaint a chymeryd arno ei fod yn gwybod y peth.
Tua'r amser hwn, digwyddodd amgylchiad yn ysgol y felin a barodd gryn siarad a digrifwch yn yr ardal. Yr oedd hen wr, a hen grefyddwr, elwid Sion y Go, yn athraw yn yr ysgol hono. Ar ganol yr ysgol un Sul, tarawid Sion yn ddisymwth â braw a dychryn, gan ryw arwyddion a rhyfeddodau yn ei glust. Yr oedd yn clywed trwst mwy arswydus na'r taranau cryfaf a glywsai erioed, meddai, a megys peth byw fel elephant i'w deimlo yn troi ynddi.<noinclude><references/></noinclude>
l2wofnni3uwdze0iatdo1jhicq5aaie
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/93
104
88010
170012
2026-08-10T01:54:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170012
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tarawodd y gair yn Job, 'Trwst ofnadwy fydd yn ei glustiau ef, yn rymus iawn i'w feddwl. Cofiodd hefyd am y chwedl a glywsai am P. Williams, awdwr ysylwadau ar y Beibl, ddarfod i wibedyn fyned i lawr i'w wddf un diwrnod, ac iddo gredu mai yr ysbryd drwg yn rhith gwibedyn ydoedd, yr hyn a barodd iddo boen a phryder meddwl mawr am ddyddiau. Credodd Sion yn bendifaddeu mai y cythraul oedd wedi cymeryd meddiant ohono yntau gerfydd ei glust a meddyliai fod ei gyflwr yn anobeithiol. Aeth un o'r cyfeillion i'w anfon adref; yr oedd y terfysg yn y glust yn cryfhau fwyfwy ar hyd y ffordd. Wedi cyrhaedd adref, dywedodd ei helynt wrth Sian, ei hen wraig, gan ei sicrhau ei fod ef i farw yn union mewn cyflwr colledig. Ond nid oedd Sian yn cyffroi dim wedi iddi ddeall natur ei helynt. Gwnaeth iddo osod ei ben ar ei glin, a gwyneb y glust gythrybledig i fyny. Cymerodd ddernyn o wlanen, a gwlychodd ef mewn dwfr, a gwasgodd beth o'r dwfr i'r glust; yna gwnaeth iddo droi wyneb ei glust i lawr, a chyda'r dwfr daeth y cythraul allan, a'r cythraul hwnw oedd chwanen! Ac yn ebrwydd, bu tawelwch mawr yn nghlust ac yn meddwl Sion; ond yr oedd yn anhawdd iawn ei berswadio i gredu. y gallasai chwanen beri y fath effeithiau rhyfedd.
Daeth chwedl y chwanen i glustiau hen wr yr Hafod cyn hir, ac aeth rhag ei flaen i'r efail at Sion. 'Holo! Sion, 'rhen goes, aeth y cythrel i'ch clust. chi?' 'Do,' meddai. Tydio rhyfedd yn y byd tae o'n myn'd i'ch clustie chi, pobol y capel ene, bod yn un; ni eith a chi i ffwrdd i'w galyn gerfydd ych clustie, bob copa ohonoch chi rw ddiwrnod.' 'Nag eith, nag eith, Robert bach,' atebai Sion, 'mae cythrel yn y glust yn well na chythrel yn y galon, fel mae o mewn rhai pobol.' 'Ydach chi'n deyd fod y cythrel yn y nghalon i?' gofynai y llall. 'Mae o yna os na ddaru i rywun ei fwrw fo allan, yn ddigon siwr,' ebe Sion. 'Celwydd ddeydwch chi,' ebe yntau,<noinclude><references/></noinclude>
87vwbsvun5374ia2yrbnozk0hew4zfl
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/94
104
88011
170013
2026-08-10T01:55:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170013
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni fu o rioed yn y nghlust na nghalon i.' 'Tydach chi ddim yn nabod ych calon, Robert bach,' meddai Sion. 'Ddim yn nabod y nghalon? pwy sy'n i nabod hi, os nad ydwi?' 'Yr Hwn a ddwedodd am dani hi, ei bod yn fwy'i thwyll na dim, ac yn ddrwg diobaith, sy'n i nabod hi,' ebe Sion.' 'Pwy ddeydodd hyny am y nghalon i? pwy bynag ydi o, mae o'n deyd——,' Ust, ust! ebe Sion yn ddifrifol, ' yr Hollwybodol sy'n deyd hyny am glonau pawb ohono ni fel yn gilidd. 'Deydwch chi fynoch chi, tydi nghalon i ddim felly.' 'Gobeithio cewch chi olwg arall arni cyn bo hir,' ebai Sion, ac ychwanegai, 'yr oeddwn ine'n wastad yn meddwl yn dda iawn am fy nghalon, nes i'r hen Feibl yna ei dangos hi i mi; ac wrth i mi edrych arni hi yn i oleuni o, mi welis i bod hi yn ddrwg drwyddi, ac nad allwn i wneud dim ohoni fy hun, a bod raid i mi droi i rwle arall am feddyginieth iddi hi, neu ddarfod am dana byth:' "Hwrach, hwrach fod y'ch calon chi felly, ond mi neith y nghalon i'r tro fel y mae hi, goelia i,' meddai'r llall, ac ymaith ag ef.
Yr oedd yr hyn a ddywedasai Sion am y galon wedi myn'd at galon yr hen wr; ac yr oedd ei galon yn ymladd yn erbyn y peth ar hyd y ffordd wrth ddychwelyd adref. Gan siarad rhyngddo âg ef ei hun, meddai, 'Deyd fod y nghalon i'n drwg! Pwr ddrwg neis i i neb rioed? Mi rydw i'n talu i bawb ei eiddo, a ni thwyllis i neb am ddime, wrth brynu na gwerthu, a mi fydda'n wastad yn ewllysio'n dda i bawb. Mi nae pobol y capel ene ddrwg rhwng dyn a'i galon i hun, tae nhw'n medru. Be roedd rhen ddyn ene'n son am y Beibil, be wydde'r Beibil am dana i; roedd o wedi i brintio'n hir cin y ngeni fi. Yn tydi hen Feibil nhaid gen i yn tŷ, a'i enw fo arno, a'r flwyddyn y cafodd o fo, a roedd hyny tros ddeng mlynedd ar higien cin geni nhad—pw! 'r Beibil yn wir.' A llawer o ymadroddion o'r fath yna y cysurai'r hen wr a'i galon eu gilydd wrth fyned adref<noinclude><references/></noinclude>
e8304w7kpu8pr3bghpq4c2ls7ct71z5
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/95
104
88012
170014
2026-08-10T01:55:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170014
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o'r efail y diwrnod hwnw. Cytunodd ef a'i galon yn unfarn unllais ar y pwnc. Yr oedd Robert wrth fodd ei galon, a'i galon wrth fodd Robert; ac eto i gyd, yr oedd ei galon yn dechreu dirgel anmheu nad oedd Robert ddim yn iawn, a Robert yntau yn anmheu yr un peth am dani hithau. Ac felly fe fu'r cythraul a aethai i glust Sion y Go' yn achlysur o ymddiddan barodd radd o anesmwythdra i Robert a'i galon. Cawn ddangos eto beth fu y canlyniad o hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIII.}}}}
Yr oedd y digwyddiadau y cyfeiriais atynt yn y penodau diweddaf wedi cymeryd lle ychydig cyn yr amser yr aethum i gyda meistr i'r Hafod Uchaf i weithio. Yr oedd yr hen wr, er wedi gwangaloni i gynal rhyfel teuluaidd yn erbyn y plant, am fyned i'r capel, yn teimlo 'n bur anfoddog a digofus ynddo ei hun. Beiai lawer ar yr hen wraig am na buasai yn fwy selog i'w gefnogi; ond nid oedd hi yn gofalu nemor ddim yn nghylch y pethau hyny.
Un o'r dyddiau yr oeddym yno, gofynodd meistr i'r hen wr, 'A glywsoch chwi erioed mo Robert y mab yma, yn gweddio?' 'Na chlowis i erioed, a toes arna i ddim eiso'i glywed o byth chwaith,' oedd yr ateb. 'Chwi ddylech ei glywed o,' meddai'r llall, mae o'n gweddio'n rhyfeddol iawn, mae son am dano fo trwy'r holl gymdogaeth.' 'Mi fase'n dda gen i tase fo'n gneud son am dano am rw gamp ymgenach na gweddio,' atebai'r hen wr. 'Na'n wir,' ebe meistr, 'gadewch i ni gael gweddi ganddo fo heno ar ol swper.' 'Ai o'ch co'r aethoch chi, ddyn ? Ni fu neb o nheulu i'n gweddio'n y tŷ yma rioed, ac ni cheith neb chwaith, tra bo chwthod ynthwi; pwr eisio gweddio sy? Ond tydan ni'n talu degwm a threth i'r person am weddio, a tydi hyny'n ddigon, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
38notyoh5vrzyqjjw4r82qc3okpzfsk
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/96
104
88013
170015
2026-08-10T01:56:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170015
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>toes bosib; mae o chwedi bod yn Rhydychen yn dysgu gweddio, a mi wyr sut i weddio'n well na Robin ni, mi feddyliwn.' Ar hyny, daeth Miss Evans i mewn i'r tŷ; ac ar ol ymgomio ychydig, dywedai 'Mae mam yn gofyn a ddowch chwi a Mary Davies (y wraig) acw i gymeryd cwpanaid o de gyda ni y prydnawn heddyw?' 'Nawn i'n siwr ddown ni acw ai peidio,' ebe'r hen wr. 'Dy fam ddysgodd y cast o yfed te i'r hen wraig yma gynta, a mae hithe chwedi dysgu'r cast i mine, heb yn wbod i mi fy hun; mi fase'n well gen i na llawer tase hi na fine heb i ddysgu o rioed. Daw mi ddaw'r hen wraig yma acw, mi wranta, am gwpaned o de, mae hi'n waeth am dano fo na llo am laeth.' 'Rhaid i chwithau ddod gyda hi.' ebe Miss Evans, 'neu ni fydd hi ddim yn iawn. 'Rhaid i mi ydrach ar ol y t'lwried yma,' meddai yntau, 'ne toes wbod yn y byd pwr ddrwg na nhw. Mi gwranta nhw; fe edrycha Ann a Mary ar ol y teilwriaid yn eitha,' ebe Miss Evans. Addawodd y ddau fyned, fodd bynag, ac yno yr aethant.
Yr oedd yn ddefod yn y gymydogaeth er's rhai blynyddau i gynal cyfarfod gweddi o ddiolchgarwch am y cynhauaf bob blwyddyn yn y tai ar gylch; a thro yr Hafod Ganol a ddigwyddodd fod y flwyddyn hono; a'r noson hono yr oedd y cyfarfod i gael ei gynal yno, ond ni wyddai hen bobl yr Hafod Uchaf ddim am y cyfarfod gweddi. Tua saith o'r gloch, dechreuai y cymydogion ymgasglu yno; dechreuai'r hen wr synu a phetruso wrth weled un ar ol y llall yn dyfod i mewn i'r tŷ; a gofynodd i wr y tŷ yn y man, 'Be sy gynthoch chi yma, Tomos? Be mae'r bobol yn hel yma o bob man fel hyn?' 'Tipyn o gyfarfod i dalu diolch am y cynhaua' da gawsom ni eleni, Robert bach, sy genym ni yma heno.' 'Ni fydde raid i chi ddim cadw llawer o swn yn i gylch o,' eb y llall, 'mi welais i well c'naua lawer gwaith na'r c'naua dwaetha, heb son am ddiolch am dano fo. Ond diolchwch chi faint fynoch chi, mi a i adre.'<noinclude><references/></noinclude>
n7uzmhfgf8znlp60n26vto0s07uqneq
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/97
104
88014
170016
2026-08-10T01:58:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170016
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>'Eisteddwch i lawr,' ebe Miss Evans, 'ni chewch chwi ddim myn'd oddiyma cyn swper, cymerwch fy ngair i ar y mater.' Wedi cryn drafferth, cafwyd ganddo aros. Yr oedd pob un a ddeuai i mewn yn edrych ar yr hen wr gyda syndod. Yr oedd fel Saul yn mysg y prophwydi yno; ac yntau yn bur anesmwyth ei le, ac aniddig ei feddwl. Yn mysg eraill, daeth Sion y Gof i mewn, a safodd yn syn pan welodd hen wr yr Hafod, megys yn barod i ofyn, 'Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma?'
Trwy ystod y cyfarfod, eisteddai'r hen wr yn synllyd ac yn surllyd, a'i ben i lawr, a thaflai ambell i gipolwg o'i gwmpas; yr oedd yn hwyr ganddo weled y gwasanaeth trosodd. Ar ol i ddau o'r cyfeillion ddarllen a gweddio, galwyd ar Sion y Gof i ddyfod yn mlaen; yr oedd Sion wedi bod wrthi er's meityn yn myfyrio gweddi bwrpasol at gyflwr ei hen gyfaill o'r Hafod. Aeth at ei bwnc wedi iddo ddiolch ychydig am y cynhauaf da, i achwyn ar galonau drwg ac anniolchgar plant dynion. 'Goleua ni, a dysg i ni adnabod ein calonau,' meddai, 'mae yma rai o honom ger dy fron heb 'nabod eu clonau erioed, mae nhw'n meddwl yn dda am eu clonau drwg; dangos eu camsyniad iddyn nhw—gyr nhw a'u clonau yn mhenau'u gilydd,' a llawer o ymadroddion cyffelyb. Yr oedd yr hen wr yn bur anesmwyth wrth glywed y pethau hyn. 'Ata i mae o'n lluchio,' meddai ynddo ei hun, 'gwyn fyd nad ai'r cythrel i'w glust o eto.' Wedi i Sion derfynu, galwyd ar Dafydd Davies, o'r Bwlch, i derfynu y cyfarfod. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei ddawn gweddi, ac yn ddyn cymeradwy iawn yn yr ardal. Tua chanol gweddi Dafydd, gwelid agwedd astud iawn ar yr hen wr yn gwrando. Yr oedd ei wyneb wedi newid yn fawr; ymddangosai wrth ei fodd, a rhoddai ambell i 'ho,' mewn ffordd o gymeradwyaeth. Yr oedd yn bur siriol ar swper. Y bore dranoeth, gofynodd meistr iddo, 'Beth oeddych yn feddwl o'r cyfarfod gweddi neithiwr?' 'Na<noinclude><references/></noinclude>
6qva5eaq4hwkudfma3lgew14nba5g6h
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/98
104
88015
170017
2026-08-10T01:59:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170017
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wn i be ydw i'n feddwl ohono fo,' atebai, 'rhw ddau go symol oedd y ddau gynta; ond wfft i Sion y Go, taflud ata i 'roedd Sion bob ergyd—pa'm drychith o ar ol i galon i hun, a gadel llonydd i glone pobol erill; pw'r fisnes sy gyntho fo efo nghalon i? Mae hi yn llawer gwell calon na'i galon o, beth bynag. Ond yn wir mi 'roeddwn i'n lleicio gweddi Dafydd y Bwlch trost ben, a mi leiciwn i glywed Dafydd eto yn y nghalon; a deyd y gwir, mi 'roedd Dafydd yn gweddio'n well na'r person o'r haner hefyd.' 'Be clowech chi Robert, eich mab,' ebe meistr. 'Ydio cystal gweddiwr a Dafydd, wyt ti'n meddwl, Huw?' gofynai'r hen wr. 'Ydyw, a gwell hefyd,' meddai'r llall. Fedra'i ddim coelio hyny.' 'Wel, gadewch i ni ei dreio fo ar ol brecwest heddyw,' ebai Huw. 'Waeth gen i mo'r llawer am unweth 'nte; mi leiciwn i glowed o am dro,' ebai yntau. Cafodd Huw gyfle i ddweyd wrth y ddwy ferch yr ymddyddan a fuasai rhyngddo â'u tad; a llawen iawn oedd ganddynt glywed y chwedl. Dywedasant yn ddystaw wrth eu brawd; ac ar ol brecwest, dygodd y chwaer henaf y Beibl i'r bwrdd am y tro cyntaf yn yr Hafod Uchaf erioed. Ymaflodd Bob ynddo'n bur grynedig ac ofnus. Wedi myned ar ei liniau, a dywedyd ychydig eiriau, ymadawodd ei ofnau. Gweddiodd yn hynod o daer, gafaelgar, a thoddedig, tros y teulu, yn enwedig tros ei dad a'i fam. Cyn y diwedd, yr oedd yr hen wr wedi ei lwyr orchfygu. Methai yn deg ag atal ei ddagrau, ac ymdrechai yn ofalus i'w celu a'u cuddio. Ond nid oedd yr hen wraig yn teimlo dim mwy na'r post.
Dystaw iawn fu yr hen wr trwy y dydd hwnw, ni soniodd yr un gair wrth meistr am weddi Bob, ac ni ddywedodd meistr ddim wrtho yntau yn ei chylch, gan ei fod yn gwybod ei bod wedi gafael yn meddwl y tad, a gwneud argraff go ddwys ar ei feddwl. Yr oedd y gerwindeb mewn dull a geiriau wedi lliniaru llawer y diwrnod hwnw rhagor yr arferai fod.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
6tdt535p7ebifnr7sklnfabrn2h34iv
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/99
104
88016
170018
2026-08-10T02:00:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170018
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Aeth yr addoliad teuluaidd yn mlaen yn rheolaidd yn yr Hafod o'r dydd hwnw allan.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIV.}}}}
Yr oedd cryn gyfnewidiad i'w weled yn hen wr yr Hafod Uchaf ar ol y cyfarfod gweddi yn yr Hafod Ganol, a sefydliad y weddi deuluaidd gartref. Yr oedd y cyfnewidiad mawr yn nhymherau ac ymddygiadau y ddau fab a'r ddwy ferch er pan aethent at grefydd, wedi megys creu awyrgylch newydd yn y teulu, ac yr oedd anadlu yn hono yn barhaus yn tymheru ac yn nawseiddio ei yspryd, a'i dymher ynddo wedi ei ddofi a'i wareiddio lawer iawn, er nad oedd hen ddyn yr hen wr wedi ei ddiorseddu eto, er hyny dygasid ef dan warogaeth, fel nad oedd yn cael ei ffordd ac yn gallu llywodraethu yn ddiataliad fel cynt, oddigerth ar amgylchiadau neillduol, pan y cynhyrfid ef i ddigofaint; ar ddigwyddiadau felly, ymgynhyrfai yn ofnadwy, ac weithiau yn fwy ofnadwy nag erioed cyn hyny, oherwydd y teimlai y cryf arfog hwnw yn awr ofn ac eiddigedd am ei neuadd. Nid oedd y dyn newydd wedi dyfod i mewn i'r neuadd, ond yr oedd yr hen ddyn yn dirgel dybio ei fod yn clywed trwst traed yr estron hwnw yn agoshau, ac ymdrechai ar y cyfryw achlysuron i'w ddychrynu ymaith a llwon a rhegfeydd, a chrochlefau, a meddyliai weithiau ei fod wedi llwyddo. Ond wedi i'r cyffro fyned heibio, nid oedd yr hen wr yn gallu teimlo mor esmwyth ei feddwl ag yr arferasai gynt. Teimlai bod rhywbeth y mater arno, dim byd chwaith; ond yr oedd yn rhywbeth hefyd;—yn rhywbeth y buasai yn dda iawn ganddo ymysgwyd oddiwrtho, ac wedi iddo feddwl aml dro ei fod wedi llwyddo mewn ffit o wylltineb i'w regi a'i wylltio ymaith, profai drachefn <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
a72nqe6pbktz7pb3q4406tpe75scidg
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/100
104
88017
170019
2026-08-10T02:01:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170019
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nad oedd yr estron digroesaw ddim wedi gollwng ei afael arno.
Teimlai awydd ambell dro i fyned i'r Capel i wrando pregeth am unwaith, ond synai ato ei hun wed'yn ddarfod iddo erioed feddwl am y fath beth. Ni buasai neb o'i deulu na'i henafiaid o'i flaen yn y fath le erioed, a gobeithiai na buasai efe byth yn euog o droi oddiar lwybrau da yr hen bobl; ond, y gwir yw, meddai ynddo'i hun, nid oedd un Capel yn y wlad yma i neb fyned iddo yn nyddiau yr hen bobol; pe buasai, hwyrach yr aethai llawer ohonynt iddo. Hwyrach,' meddai rhywbeth o'i fewn, 'nad oes dim cymaint o ddrwg mewn myn'd i'r Capel ag oeddwn i wedi ei feddwl; naeth o ddim drwg i'r plant yma beth bynag, a hwyrach na nae o ddim drwg i minau tawn i'r myn'd am dro. Ond sut yr awn i? ont tydwi chwedi cau'r drws yn f'erbyn fy hun, trwy erlid cimin arno fo a'r bobol sy'n arfer myn'd iddo fo bob amser. Mi leiciwn fyn'd am unweth, ond tai' ddim er hyny.' Y fath yna oedd lleferydd yr hen wr wrtho ei hun yn awr ac eilwaith. Yr oedd y plant wedi lled anmheu, rywfodd, fod awydd ar eu tad fyned i wrando pregeth i'r Capel am dro, er na ddywedasai efe un gair am hyny wrth yr un ohonynt; ond yn unig y byddai 'n holi beth fyddai yn y Capel weithiau; pwy fyddai'n pregethu, a pha fath bregethwr oedd y gweinidog, a hwn a'r llall a ddeuai heibio yn achlysurol. Yn y tymhor hwn daeth cyhoeddiad gwr dyeithr, pregethwr pur boblogaidd, i bregethu yno ar noson o'r wythnos, ac yr oedd cryn son a disgwyliad am dano yn y gym'dogaeth. Yr oedd y ddau frawd a'r ddwy chwaer yn bur awyddus i gael eu tad i'r oedfa y noson hono, ond ni feiddient dori ato i ofyn iddo ddyfod. Beth a wnaeth y ferch hynaf,Fd gofyn i Miss Evans ddyfod heibio wrth fyned i'r Capel, a'i hudo gyda hi, ac felly fu. Rhaid i chwi ddyfod gyda mi i'r Capel i wrando y gwr dieithr heno,' ebai hi<noinclude><references/></noinclude>
68sucrlim0b1kuflmvkn1xwrec4zj2c
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/101
104
88018
170020
2026-08-10T02:01:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170020
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrtho. O, ai ie? y mae'n rhaid i mi, aie? Tydw'i ddim yn dallt peth felly'n iawn.' 'Nid af fi ddim i'r Capel heno, os na ddeuwch chwi, mi rosaf yma i'ch poeni chwi; ond raid i mi ddim, chwi a ddeuwch, rwy'n siwr,' ebe hi. 'A dweyd y gwir i ti, mi faswn i'n leicio clowed y gwr dierth ene, rydech chi'n son am dano fo, am y tro rwan, ond pytawn i'n dwad i'r Capel, mi fydde pawb â'u llygid arna i, wel pe tase fwstwil wedi myn'd i mewn ono.' Ond, fodd bynag, i'r Capel yr aeth heb ryw lawer o gymhell yn mhellach arno, a chyda'i fod i fewn trwy y drws, yr oedd cawodydd o lygaid yn disgyn arno, ac yntau yn cywilyddio ac yn edifarhau o'i galon ddarfod iddo ddyfod yno: dododd Miss Evans ef yn ei chôr hi, a llechodd yntau yno a'i ben i lawr trwy yr oedfa.
Wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth, dododd y pregethwr yn destyn allan y geiriau hyny yn Esaia, 'Ymborthi ar ludw y mae, calon siomedig a'i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid,' &c. 'Dyna hi eto,' eb yr hen wr wrtho'i hun, pan glywodd y testyn, 'Sion y Go roes yn ei ben o gym'ryd y testyn ene, i bregethu i mi, toedd dim posib i'r dyn fod yn gwybod dim am dana i na nghalon heb i Sion ddeyd wrtho.' Fel yr oedd y pregethwr yn myned yn mlaen i son am y lludw mae dynion yn fwyta dan ddylanwad calon dwyllodrus, ac felly yn colli eu heneidiau, megis ymddiried yn niniweidrwydd a daioni y galon, &c., yr oedd yr hen wr yn myned yn fwy anesmwyth; ac yn fwy digofus at Sion y Go o hyd; ond lliniarodd lawer pan ddaeth y pregethwr i son am y feddyginiaeth i galon ddrwg. Yr oedd effeithiau grymus iawn ar y gynulleidfa tua diwedd yr oedfa, a phan roddwyd y penill i'w ganu ar ei therfyn allan, gyda'r geiriau cyntaf ohono,—'Rho gydwybod wedi'i channu, torodd taranfloedd fawr fel ergyd allan; haner cant neu driugain, megis pe buasai gytundeb a dealltwriaeth rhyngddynt, yn<noinclude><references/></noinclude>
b8jr9uhef98fs4cculfnuuffx2g1lgg
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/102
104
88019
170021
2026-08-10T02:06:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170021
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlaenllaw, yn cyd-ddweyd y llinell nesaf, gan ragflaenu y pregethwr, sef, ''Yn beraidd yn y dwyfol waed!'' Os oedd rhai wedi dal yn galed a dideimlad dan y bregeth, gorchfygodd y penill, neu rywbeth a gerddodd trwy y penill, eu teimladau hwythau; na, ni allasai y cryfaf ei galon ddal yn awr; yr oedd pob calon yn toddi, fel y tawdd cwyr wrth y tân. Yr oedd yn fyd rhyfedd ar ein hen gyfaill erbyn hyn, yr oedd yntau yn wylo: oedd, yr oedd yntau hefyd yn wylo, ac yn crynu gyda hyny; a rhywyr oedd gan ei galon fyned allan a myned adref, a chan gynted y gallodd ymwthio i'r drws ymaith âg ef.
Yr oedd rhyw deimladau rhyfedd yn ei fynwes y noson hono, fel yr addefodd wedi hyny. Yr oedd yn ddig wrth Miss Evans am ei hudo i'r Capel,—yn ddig wrtho'i hun am gymeryd ei hudo, yn ddig wrth Sion y Go' am achwyn arno ef a'i galon wrth y gwr dyeithr, fel y credai ef; yn ddig wrth y gwr dyeithr am ddynoethi ei galon, ac yn ddig wrth y gynulleidfa am y floedd ryfedd hono a barasai iddo doddi ac wyło heb ei waethaf. Ond gyda hyny, yr oedd ef a'i galon wedi dechreu syrthio allan â'u gilydd, yn dechreu anmheu nad oedd pob peth ddim yn iawn, nad oedd hi ddim yn gystal ag yr oedd efe wedi arfer meddwl bob amser am dani. Yr oedd y pregethwr wedi ei dysgrifio hi i'r byw. Ond, beth bynag, 'doedd dim achos i Sion y Go' fyn'd i ddweyd hanes ei galon ef i neb, a dywedai wrtho'i hun y rhoisai efe i Sion yn goch pan gyntaf y caffai afael arno.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXV.}}}}
GADEWAIS hen wr yr Hafod, yn y benod o'r blaen, mewn blinder yn nghylch ei galon. Cynyddu fwyfwy wnaeth y blinder hwnw bob dydd, nes oedd yr hen <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
chpvy03q0c2pf5irtogjlo9shtckwy7
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/103
104
88020
170022
2026-08-10T02:08:19Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170022
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wr yn myned yn bur anniddig yn y tŷ weithiau oherwydd ei fod ef a'i galon yn methu cytuno. Modd bynag, er mor anhawdd oedd hyny, i'r gyfeillach grefyddol i'r capel yr aeth efe ryw noson; a mawr oedd syndod pawb ei weled yn dyfod i mewn. Yr oedd yno un hen wr, yn rhyw fath o swyddog; nid oedd erioed wedi ei ddewis yn rheolaidd, ond wedi ymgymeryd â blaenori yn y cyfarfodydd, a chael ei oddef yr oedd. Yr oedd llawer iawn o yspryd traawdurdodi yn yr hen wr hwnw, druan; ewyllysiai'n fawr osod ei ofn ar bawb, rhuthrai yn sydyn chwerw ar bob un a ddelai i fewn y waith gyntaf i'r gyfeillach, er mwyn eu 'tori i lawr,' fel y dywedai. Nid oedd dda gan neb a berthynai i'r gymdeithas mo hono. Yr oedd ef a hen wr yr Hafod tua'r un oedran, ac yn hen gymydogion; nid rhyw lawer o gyweithas fuasai rhyngddynt erioed. Wedi gwasanaeth arweiniol y cyfarfod, trodd Owen Huw, canys dyna oedd enw'r hen flaenor, pe buasai flaenor hefyd, a gofynodd yn dordyn, Wel, Robert, beth barodd i chwi ddyfod yma heno? Lladd arnom ni yma y byddech chi'n wastad, a be sy arnoch chi eisio gynthon ni rwan?' 'N'wn i ddim yn iawn sut i ateb dy gwestiwn di, Owen,' atebai Robert, 'be oeddet ti dy hun yn i geisio yma, pen ddoist ti yma gyntaf? 'Rydw i'n cofio'r amser pen fyddet ti'n lladd ar bobl y capel yn gystal a fine, ac yma doist ti wed'yn; a pham rwyt ti, naned neb, yn synu mod i chwedi dwad yma, a thithe'n gwbod dy hanes dy hun, os nad wyt wedi anghofio, a mae'n gwilydd garw i ti os gwneist ti hyny.' Brochodd yr hen flaenor yn aruthr wrth hyn. Yr oedd gweled pawb trwy y lle yn gwenu ac yn mwynhau y sen a roddasai yr hen wr arall iddo, yn peri iddo ofni fod cysegredigrwydd ei awdurdod mewn perygl. 'O,' meddai, 'yr oeddwn i yn ofni, mai yr un oedd o ag o'r blaen, a dyna ddigon o brawf i chwi nad oes dim goruchwyliaeth gras wedi bod yn trin ei gyflwr o, a gobeithio nad oes yma neb a ewyllysiai weled<noinclude><references/></noinclude>
e25ta040hgdt7cxjyifx493pmhitiiu
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/104
104
88021
170023
2026-08-10T02:09:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170023
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neb o'r fath yn dyfod atom ni, ac yn cael ei le yn ein plith.' 'Taswn i'n meddwl fod pawb sy yma yn debyg i ti, Owen, ni ddaethai nhraed byth yma; ond rydw i'n meddwl pethe gwell am lawer o honoch chwi.' 'Wel, hwyrach y dywedwch chwi air, Robert bach, o'ch teimlad a'ch meddwl,' ebe Thomas, y gweddiwr hynod hwnw a glywsai yn yr Hafod Ganol. Wel, gwnaf yn wir,' ebai yntau. 'Fy meddwl i ydi hyn, mod i'n bechadur, yn bechadur mawr iawn, yn hen bechadur; bod y mowyd, a muchedd i, a nhafod, a nghalon i wedi bod yn ddrwg iawn; a mi rydw i wedi blino ar y galon ddrwg yma narw iawn. Mi glowis Sion y Go, a'r pregethwr hwnw fum i'n wrando yma hefyd, yn dweyd fod posib cael calon newydd; a mi ddois i yma heno, i gael gwybod allse chi fy rhoid i ar y ffordd sut i'w chael hi; os cawsoch chi afel arni hi y'ch hinen, crwyddwch fine i gael gafael arni hi; fu ar neb erioed fwy o'i heisio hi.' Adroddodd yr hen wr holl hanes ei fywyd a'i helynt er y dydd y buasai yn yr efail gyda Sion y Go; ac yr oedd y cyfeillion weithiau yn gwenu ac weithiau yn wylo wrth ei wrando; ac yr oedd yntau ei hun yn wylo yn aml hefyd Torodd pawb i chwerthin allan unwaith, pan y dywedodd, 'Prun bynag ai cythrel ai chwanen aeth i glust Sion, y maegen i achos i fod yn ddiolchgar am y tro beth bynag—hyny fu'n foddion ar y dechre i farwen i nabod tipin arnaf fy hun, a drwg fy nghalon.' Rhoddodd amryw o'r cyfeillion gynghorion caredig a phriodol iddo, ac yr oedd yntau yn derbyn y cwbl fel dyn bach.
Yr oedd pawb yn foddlon i'r hen wr gael dyfod i'r gyfeillach ar brawf, ond yr hen Owen Huw; chwyrnu yn anfoddog iawn yr oedd ef. Fodd bynag daliodd yr hen wr ei ffordd, ac enillodd ei le fwyfwy yn hyder a serch y gymdeithas. Ni chollai ddim moddion a gynhelid yn y capel, ac ni chai neb arall o'r teulu golli chwaith. Efe oedd y gwrandawr goreu yn yr holl gynulleidfa, daliai ei lygad yn sefydlog ar<noinclude><references/></noinclude>
3epl0nvpk55je7m4q3pbu6f72vc33pi
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/105
104
88022
170024
2026-08-10T02:10:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170024
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wefusau y pregethwr o'r dechreu i'r diwedd, a mynych y gwelid y deigryn yn dyferu i lawr ohono. Mewn gair, daeth yr Hafod yn un o'r tai mwyaf crefyddol yn yr holl gymydogaeth, a'r teulu yn nodedig am eu rhinweddau. Glynodd yr hen wraig wrth ei hen ffyrdd o fyw. Yr oedd hi yn ddigon boddlon, meddai, i'r hen wr a'r plant wneud fel y mynent, ond iddi hi gael llonydd i wneud fel y mynai hithau ganddynt. Ai gyda hwynt i'r capel weithiau, ond nid ymddangosai ei bod yn sylwi ar ddim a glywai yno, nac yn teimlo mwy na'r dderwen dan na phregeth na gweddi. Bu'r ddau, yr hen wr a'r hen wraig, fyw i oedran teg, a bu y ddau farw y naill yn fuan ar ol y llall. Rhoddodd yr hen wr brofion boddhaol iawn i bawb oedd yn ei nabod, ei fod wedi cael y galon newydd yr ymofynai am dani, a gadawodd y byd mewn tangnefedd a gorfoledd.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVI.}}}}
AWGRYMAIS o'r blaen fod carwriaeth ddistaw wedi dechreu rhwng Bob yr Hafod Uchaf a Miss Evans yr Hafod Ganol, tua chanol dyddiau gweinidogaeth Robin y Glep. Yr oedd Robyn yn dyfal wylio symudiadau y ddau yn barhaus wedi iddo unwaith anmheu fod cyfrinach garwriaethol rhyngddynt. Ni esgulusai ef un moddion yn y Capel rhag colli o hono un fantais i gadw ei lygad arnynt. Cerddai yn llechwraidd ar eu hol pan yn dychwelyd adref o'r capel, a chroniclai yn ei ddyddlyfr bob peth a welai, a llawer o bethau na welai, gan dynu casgliadau oddi wrthynt; a thaenai ei sylwadau a'i gasgliadau yn ddiwyd o dŷ i dŷ. Dymunasai Robyn yn ei galon weled rhywbeth yn anweddaidd yn eu hymddygiadau, i gael testyn i bregethu arno; ac awgrymai yn gynil droion fod rhywun yn dweyd iddo weled fel a'r fel,<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
t70v1h3vxhfi3q4nmk67s8gow4vn4x3
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/106
104
88023
170025
2026-08-10T02:12:30Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170025
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond nad oedd efe (Robin) yn coelio fod hyny yn wir. Yr oedd goruchwyliaeth trochfa pwll yr hwyaid wedi ei ddigio yn ddirfawr, ac ewyllysai yn ei galon allu talu yn ol, drwy drochi Bob yn mhwll ei athrod a'i enllib. Ond nid oedd neb yn dal llawer ar ddim a ddywedai Robin.
Bu farw modryb Miss Evans yn Nghaer yn bur gyfoethog, a gadawodd y cwbl o'i heiddo iddi hi, yn cynwys amryw dai a swm da o arian. Aeth y stori allan drwy y cymydogaethau fod merch yr Hafod wedi cael ''digwyddiad'' mawr—ei bod yn werth eiddo ac arian yn aneirif. Parodd y newydd hwn flinder nid bychan i feddwl tyner Robin y Glep. Stwffiodd ei hun i wasanaeth porthmon merlynod, a chafodd y fantais i fyned i Gaer fel gyrwr i'r porthmon. Wedi myned yno, gwnaeth ymofynion mor fanwl ag a allai i amgylchiadau a hanes modryb Miss Evans. Ac wedi dychwelyd adref, taenai y chwedl nad oedd un gair o wirionedd yn y son oedd am ei chyfoeth; ond ei bod wedi marw dros ei phen mewn dyled—bod ei thai wedi eu gwerthu, ac nad oedd y swm a gawsid am danynt yn agos i ddigon i foddloni y gofynwyr. Y cwbl yn anwiredd o ddyfais calon Robin. Ond ni waeth tewi, y mae Robin druan wedi darfod clepian er's llawer blwyddyn; ond fel y mae gwaethaf y modd, y mae iddo olynydd yn mhob ardal. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'i deulu yn ol y cnawd (er fod llawer yn ol y glep) yn aros hyd yr awr hon ai peidio. Bu iddo fab a merch, y rhai a gyfenwyd yn Huwcyn mab Robin y Glep, a Siani Robin Glepgi. Yr oedd y bachgen a'r eneth fel plant pobl eraill, am ddim a wni; ond yr oedd enw eu tad yn gosod gwarth arnynt, ac aeth y ddau o'r gymydogaeth yn ieuainc, i ymofyn lleoedd i weini er mwyn dianc oddiwrth yr enwau a roddid arnynt yn eu perthynas â'u tad, ac ni chlywais i byth beth a ddaeth ohonynt.
Yr oedd hen wr yr Hafod yn bur anesmwyth ei feddwl o hyd eisiau i Bob briodi Miss Evans. Dywedai wrtho yn aml, 'Pa'm na phriodet di hi? Mi<noinclude><references/></noinclude>
bndaiqwpqqh97ee5ztdjwrigm775tkq
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/107
104
88024
170026
2026-08-10T02:16:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170026
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eith rywun a hi oddi arnat ti dan dy drwyn di, mi gei di weled—taswn i yn dy le di, mi faswn gwedi rhoi torch aur am i bys hi es talwm cyn hyn." 'Gadewch chwi rhyngwyf fi a'r bisness hwnw, nhad,' dywedai Bob. 'Mae arna i ofn mai rhw fisness go drwsgwl nei di o honi hi,' meddai'r hen wr.
Tua'r adeg hono, daeth etifedd Sgwier y Plwyf, fel ei gelwid ef, i'w oed. Yr oedd ei dad wedi marw er's rhai blynyddoedd, a'i fam yn byw yn weddw yn hen balasdy y teulu, yr unig balasdy yn y plwyf; a hwynthwy oedd perchenogion y rhan fwyaf o'r plwyf; ac yr oedd ystad fechan arall ganddynt yn sir Drefaldwyn. Nid oedd yr Hafod Uchaf na'r Hafod Ganol yn rhan o'r etifeddiaeth, perchenogaeth y trigianwyr oedd y ddau trwy bryniad. Ni buasai y boneddwr ieuanc nemawr gartref er pan oedd yn fachgen. Treuliasai amryw flynyddoedd yn Rhydychain yn y Brifysgol, ac wedi hyny yn astudio y gyfraith yn Llundain, a thrachefn flwyddyn neu ddwy yn teithio ar y Cyfandir. Bachgen gwyllt, ond hynaws a charedig ydoedd, a daeth ei denantiaid yn fuan yn bur hoff ohono; ond ni roddai neb ond y person air da i'w fam. Yr oedd ef yn cael byd da helaethwych beunydd ar ei bwrdd hi; ond chware teg iddo, ni chafodd ef y gair o wneud drwg i denant gyda'i feistr na'i feistres tir erioed, fel y cafodd llawer un o'i frodyr yn ol y brethyn. Yr oedd efe yn wr o natur garedig a chymwynasgar; ac nid oedd Ymneillduaeth nac Ymneillduwyr yn blino rhyw lawer ar ei yspryd. Arferai ddweyd nad oedd fawr wahaniaeth iddo ef i ba le yr ai y defaid i bori, ei fod ef yn sicr o'r cnu.
Ar achlysur dyfodiad yr etifedd i'w oed, bu gwledda a rhialtwch yn y palas. Rhoddwyd ciniaw da i'r holl denantiaid, ac ymgasglodd eraill o'r cymydogaethau yno yn yr hwyr i ddangos eu hewyllys da; ac yn mysg eraill, aeth Bob a Miss Evans gyda'u gilydd yno, a Robin y Glep ar eu lledol. Syrthiodd llygad y boneddwr ieuanc ar Miss Evans, a syrthiodd ei serch<noinclude><references/></noinclude>
avcwzyu9ga31l7hed2kvvuq17yl11ty
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/108
104
88025
170027
2026-08-10T02:18:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170027
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arni hefyd. Aeth ati yn y man i dynu ymddyddan â hi, wedi holi pwy oedd hi. Deallodd yn union ei bod wedi cael dygiad da i fynu, yn goeth ei meddwl a'i moes, yn gallu ''actio'' y ''lady'' yn eithaf naturiol, ac yn mhob modd yn un a allasai droi yn nghylchoedd uchaf cymdeithas heb achos iddi ostwng ei phen. Pan aeth at ei gyfeillion mewn cwr arall o'r ystafell gan gyfeirio a'i fys ati, dywedai <nowiki>'</nowiki>''A . . .clever girl!''<nowiki>'</nowiki> Nid hir y bu heb alw yn yr Hafod Ganol i edrych am dani, a chymhellai hi yn daer i alw yn y palas i edrych am ei fam—y byddai yn dda gan yr hen lady gael ei chwmni mor fynych ag y gallai, ei bod hi yn unig iawn, heb neb yn yr ardal hono y gallai gymdeithasu â hwy. Ond ymesgusodai hithau, gan ddweyd nad oedd ei bath hi yn gymhwys mewn un modd i feddwl am ffurfio cyfeillach â boneddiges fel ei fam. Ond ni fynai efe wrandaw ar y ddadl hono, ac ni fynai hithau ei rhoi i fynu. Mynychu ei ymweliadau yr oedd y boneddwr ieuanc y naill wythnos ar ol y llall. Gwnai ryw esgus neu gilydd i alw heibio bob dydd.
Nid oedd Miss Evans yn hoffi ei weled yn galw yno mor aml. Yr oedd hi wedi cael ''piano'' ar ol ei modryb o Gaer, ac yr oedd wedi dysgu chwareu ar yr offeryn hwnw yn dda pan oedd yno yn yr ysgol. Byddai raid iddi chwareu bob tro y deuai y y boneddwr yno, a mawr fyddai ei ganmoliaeth iddi am chwareu a chanu. Wedi iddi ddechreu anmheu, oddiwrth ei fynych alwadau, a'i ''attentions'' iddi, fod rhywbeth yn ei fryd, ymneillduai o'r golwg pan welai ef yn dyfod at y tŷ, a gwnai esgusodion dros beidio ymddangos pan elwid am dani; ond deuai ar ei gwarthaf yn annisgwyliadwy yn aml.
Aeth y si allan trwy y gymydogaeth cyn hir fod y boneddwr ieuanc â'i lygaid ar Miss Evans gydag amcan nad oedd anrhydeddus, fel y tybid; ac ni fu y si hwnw, gellid credu, ddim yn hir heb gyrhaedd clust Robin y Glep, a thaenodd Robin ef i bob clust<noinclude><references/></noinclude>
2cqlryinyee39wnz7fs1a9pqteum40f
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/109
104
88026
170028
2026-08-10T02:20:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170028
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn mhell ac yn agos. Cerddai lawer a llafuriai yn galed i daenu y chwedl trwy y wlad, gan wneud ei sylwadau arni; ac yr oedd hi yn chwyddo yn rhyfedd dan ei ddwylaw bob dydd. Yr oedd llawer yn meddwl y peth yma, a llawer yn credu y peth arall, a rhywrai yn dweyd fel hyn, a'r lleill fel acw,' meddai Robin; ac yr oedd meddwl a chred, a lleferydd yr oll, yn ol ei dystiolaeth ef, yn cynwys pethau a dueddent i daflu drwgdybiaeth; ac nad oedd Miss Evans hithau ddim yn angel mor bur ag y tybid ei bod; ond fel yr oedd yn ffodus, nid oedd neb yn dal fawr iawn ar ddim a ddywedai Robin, fel y dywedais o'r blaen; ond yr un pryd, yr oedd ei ddiwydrwydd yn y gwaith i gadw ei stori yn fyw, gan achub pob cyfleusdra i'w mynegi i bawb, a'r wybyddiaeth gyffredinol o'r ffaith fod y boneddwr yn mynych alw yn yr Hafod Ganol, ac na byddai byth yn galw mewn un tŷ arall, yn effeithio i ryw radd ar luaws yn y gymydogaeth. Yr oedd rhai yn bur genfigenus at Miss Evans, oherwydd y sylw a dalai y boneddwr iddi, ac yr oedd derbyniad croesawus i Robin a'i chwedl yn y tai hyny. Cai lonaid ei fol o fwyd ynddynt bob tro, a llonaid ei logellau i fyned adref hefyd yn aml.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVII.}}}}
Y MAE yn debyg fod ''bodau deallaw''l fel Robin y Glep, wedi eu bwriadu a'u danfon i'r byd yma i ryw ddoeth ddibenion, ond rhaid i mi gyfaddef nad wyf fi yn ddigon doeth i allu gweled a deall beth allai y dibenion hyny fod; ond gallwn feddwl mai nid i'r dibenion o rodresa a chwedleua, a pheri cynhenau y rhoddwyd y dalent oedd ganddo i Robin; ac y gallasai yntau fod yn ddefnyddiol yn ei ddydd a'i dymhor, pe troisai ei dalent i gyfeiriad priodol. Pe buasai pob un mor ddygn a diwyd yn ei alwedigaeth <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
q30nrvpylaxfd4t2oumgys0thvjseh4
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/110
104
88027
170029
2026-08-10T02:21:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170029
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>briodol ag oedd Robin yn ngalwedigaeth y glep, buasai gwedd wahanol ar amgylchiadau llaweroedd o bobl. Y mae yn rhyw gysur i ddyn feddwl ei fod yn cyflawni galwedigaeth fuddiol ac angenrheidiol i'r byd yma wrth fyned trwyddo, beth bynag fyddo'r alwedigaeth hono. Y mae goruchwyliaethau aradr yr amaethwr, bwyall y saer, morthwyl y gof, miniawyd y crydd, a nodwydd y teiliwr,—oll yn angenrheidiol. Rhaid i'r byd gael amaethwyr y mae yn rhaid i'w fol wrthynt, a rhaid i'w draed wrth y crydd, a rhaid i'r holl ddyn oddiallan wrth y teiliwr, rhaid i'r byd wrth y saer i adeiladu ei dai a'i demlau, ac wrth y gof i wneud ei arfau gwaith, &c. Ond ni raid i'r byd wrth y rhodreswr chwedleugar, gall wneud yn burion heb fodau fel Robin y Glep, a da fuasai iddo pe na buasai yr un o'r cyfryw fodau wedi ymddangos erioed ynddo.
Wedi i Robin unwaith gael allan fod y boneddwr ieuanc yn mynychu ei ymweliadau yn yr Hafod Ganol, yr oedd ei galon dyner yn hynod o anesmwyth am ryw gyfleusdra i daflu awgrym o'r peth i'r hen wraig foneddig, gan gredu yn sicr y buasai yno dŷ ar ffyrch rhwng y fam a'r mab mewn canlynaid. Yr oedd yn gyfyng ar Robin o'r ddeutu hefyd. Buasai yn dda ganddo pe buasai y boneddwr yn priodi Miss Evans, er mwyn siomi a gofidio Bob yr Hafod Uchaf, o'r un tu,—canys yr oedd yn ddig iawn wrtho byth ar ol trochfa pwll yr hwyaid. Ond o'r tu arall, yr oedd Miss Evans wedi rhoddi llawer iawn o wersi llymion iddo o dro i dro yn nghylch ei fywyd segur a rhodresgar fel yr oedd yn llawn gwenwyn a malais tuag ati hithau, ac yr oedd yn anhawdd iawn iddo ymgymodi â'r meddwl iddi i briodi gwr boneddig, a byw mewn palas, a marchogaeth yn ei cherbyd, &c.
Aeth Robin heibio i'r palas bron bob dydd, gan ddisgwyl cyfarfod â'r wraig foneddig yn ddigwyddiadol megis; ond aeth diwrnod ar ol diwrnod heibio heb ddigwydd o'r digwyddiad hwnw iddo. O'r diwedd penderfynodd alw yn nghegin y palas;<noinclude><references/></noinclude>
9uyz29iriguc01o63w7alkp8vksvshx
170030
170029
2026-08-10T02:22:29Z
AlwynapHuw
1710
170030
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>briodol ag oedd Robin yn ngalwedigaeth y glep, buasai gwedd wahanol ar amgylchiadau llaweroedd o bobl. Y mae yn rhyw gysur i ddyn feddwl ei fod yn cyflawni galwedigaeth fuddiol ac angenrheidiol i'r byd yma wrth fyned trwyddo, beth bynag fyddo'r alwedigaeth hono. Y mae goruchwyliaethau aradr yr amaethwr, bwyall y saer, morthwyl y gof, miniawyd y crydd, a nodwydd y teiliwr,—oll yn angenrheidiol. Rhaid i'r byd gael amaethwyr y mae yn rhaid i'w fol wrthynt, a rhaid i'w draed wrth y crydd, a rhaid i'r holl ddyn oddiallan wrth y teiliwr, rhaid i'r byd wrth y saer i adeiladu ei dai a'i demlau, ac wrth y gof i wneud ei arfau gwaith, &c. Ond ni raid i'r byd wrth y rhodreswr chwedleugar, gall wneud yn burion heb fodau fel Robin y Glep, a da fuasai iddo pe na buasai yr un o'r cyfryw fodau wedi ymddangos erioed ynddo.
Wedi i Robin unwaith gael allan fod y boneddwr ieuanc yn mynychu ei ymweliadau yn yr Hafod Ganol, yr oedd ei galon dyner yn hynod o anesmwyth am ryw gyfleusdra i daflu awgrym o'r peth i'r hen wraig foneddig, gan gredu yn sicr y buasai yno dŷ ar ffyrch rhwng y fam a'r mab mewn canlynaid. Yr oedd yn gyfyng ar Robin o'r ddeutu hefyd. Buasai yn dda ganddo pe buasai y boneddwr yn priodi Miss Evans, er mwyn siomi a gofidio Bob yr Hafod Uchaf, o'r un tu,—canys yr oedd yn ddig iawn wrtho byth ar ol trochfa pwll yr hwyaid. Ond o'r tu arall, yr oedd Miss Evans wedi rhoddi llawer iawn o wersi llymion iddo o dro i dro yn nghylch ei fywyd segur a rhodresgar fel yr oedd yn llawn gwenwyn a malais tuag ati hithau, ac yr oedd yn anhawdd iawn iddo ymgymodi â'r meddwl iddi i briodi gwr boneddig, a byw mewn palas, a marchogaeth yn ei cherbyd, &c.
Aeth Robin heibio i'r palas bron bob dydd, gan ddisgwyl cyfarfod â'r wraig foneddig yn ddigwyddiadol megis; ond aeth diwrnod ar ol diwrnod heibio heb ddigwydd o'r digwyddiad hwnw iddo. O'r diwedd penderfynodd alw yn nghegin y palas; yr<noinclude><references/></noinclude>
kg19pfqms69pa5wo9rqecvfuskldtra
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/111
104
88028
170031
2026-08-10T02:24:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170031
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd yn gydnabyddus â dwy neu dair o'r morwynion. Tywalltodd gydaid o chwedlau i'w clustiau, a chafodd ddogn dda o fara a chaws a glasied o gwrw yn daledigaeth am danynt. Ceisiai bysgota gyda'r merched er cael allan pa un a oedd chwedl carwriaeth eu meistr ieuanc â Miss Evans wedi cyrhaedd yno ai peidio.
'Oes rhyw son eich bod i gael meistres newydd yma cyn hir?' gofynai. 'Glywsoch chwi rywbeth felly, Robert?' gofynai y merched. 'Na chlywais i ddim neillduol,' meddai yntau. 'Mae cymaint o bethau heb na sail na sylwedd iddynt yn cael eu dweyd wyddoch, fel na wyr dyn ddim pwy na beth i'w goelio; y ffordd ore, mi fydda i'n meddwl yn wastad, ydyw gollwng y rhan fwya o'r pethau fydd pobol yn ddeyd i mewn trwy un glust a thrwy y llall allan.' 'Na, na,' meddai y merched, 'mae ganddoch chi rywbeth, deydwch yn wir,—pwy ydi hi, Robert.' 'Twt,' ebe Robin, 'toes dim byd yn y stori, coeliwch chwi fi.' 'Ond beth ydi'r stori?' gofynai y merched. Yr oedd y cywreinrwydd benywaidd wedi ei godi i'w lawn nerth erbyn hyny. Deallodd Robin nad oedd y chwedl eto wedi dyfod i glustiau neb o'r gweinidogion, nac yn sicr i glustiau eu meistres. Gwrthododd yn deg ag amlygu dim yn mhellach y diwrnod hwnw; addawodd yr holai drachefn i'r mater, ac y caent wybod y cwbl ryw ddiwrnod.
Ar hyny daeth yr ''Housekeeper'' i'r gegin, yr hon oedd yn adnabod Robin yn dda. 'A wyddoch chwi am neb o'r ardal yma yn myned i'r dref heddyw, Robert?' gofynai'r ''Housekeeper''. Na wn yn siwr,' ebai Robin, oedd eisiau rhywbeth ?' 'Meistres sy eisiau danfon llythyr at hwn a hwn, ac eisiau cael ateb yn ol, ond mi gaiff un o'r gweision yma fyned,' ebe'r ferch. Mi â i a fo, o wllys calon,' ebe Robin, 'nid oes gen i ddim neillduol yn galw am danaf | heddyw.' 'Ewch chwi, Robert? Af bob cam a chroeso,' ebe Robin. 'O'r gore: mi af i ddweyd wrth meistres; eisteddwch yna nes dof yn ol,' ebai<noinclude><references/></noinclude>
pssvxa32ogmusnrybudftys8m990c1r
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/112
104
88029
170032
2026-08-10T02:27:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170032
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hi. Yno bu Robin gyda'r merched eraill yn prynu'r amser yn ofalus mewn cyfnewid nwyddau chwedleuol rhyngddo ef a hwythau. Daeth yr ''Housekeeper'' yn ol i'r gegin yn y man, â'r llythyr yn ei llaw. Y mae meistres yn gofyn wnewch chwi aros am yr ateb i'r llythyr yma i ddod yn ol gyda chwi, Robert, ac yn rhoi y swllt yma i chwi i gael tamaid a llymaid yn y dref. Hwyrach y bydd raid i chwi aros peth amser, os digwydda i'r gwr boneddig fod allan o'r tŷ. Mi fydd yn rhy hwyr i chwi ddyfod yma heno ond dowch y peth cyntaf y bore foru.' <nowiki>'</nowiki>''All right,''<nowiki>'</nowiki> meddai Robin, 'mi fydda'n siwr o ddyfod.' Darllenodd Robin ail lith dda o fara a chaws a chwrw; ac ymaith âg ef yn llawen ei galon. Hwnw oedd un o'r dyddiau hapusaf yn ei fywyd. Yr oedd dau ddrws gobaith wedi agor ar unwaith, megis yn ddamweiniol o'i flaen. Drws gobaith aml i glwff o fara a chaws a bir; a drws gobaith wedi ei agor ar faes newydd i daenu a chasglu chwedlau, ac yn enwedig y gobaith o gael drws clust y wraig foneddig yn agored iddo. Rhoddodd y digwyddiad ffodus ryw awch ryfedd ar ddanedd a chylla Robin, fel y cafodd y dorth a'r cosyn deimlo i bwrpas, cyn iddo godi oddiwrth y bwrdd.
Aeth Robin i'w ffordd yn llawen; yr oedd mor sionced a'r ebol, er cymaint o'r dorth a'r cosyn a gludai yn ei ganolbarth. Yr oedd pawb a'i cyfarfyddent ar y ffordd yn deall yn union ei fod wedi cael ysglyfaeth, ond ni chai neb wybod y dirgelwch ganddo; canys medrai Robin gadw ei ''secrets'' ei hun cystal ag undyn.
Ar ei ffordd tua'r dref yr oedd yn pasio tŷ fy hen feistr, Huw, yr hwn a ddigwyddai fod yn sefyll ar y ffordd o flaen ei dŷ ar y pryd: canfu Robin yn dyfod a deallodd yn union wrth yr olwg arno ei fod ar ei uchel fanau. 'Holo! be sy yn y gwynt heddyw Robin?' gofynai Huw. Bewn i be sy yn y gwynt; toes dim ynddo fo heddyw mwy na rhw ddiwrnod<noinclude><references/></noinclude>
fica3ill068ciu65utwtsnhi3ocrabq
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/113
104
88030
170033
2026-08-10T02:29:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170033
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arall, am a wn i, be sy'n peri i chi ofyn?' ebe Robin. 'Oes y mae,' ebe Huw, 'mi wn i ar dy ffroen di o'r gore dy fod ti'n smelio rhywbeth. Mi ddeyda i ti beth, gwell i ti edrych ati hi, a chym'ryd gofal be ddeydi di am Miss Evans.' 'Y fi!' meddai Robin. 'Tydw i 'n deyd dim byd am dani hi, a be waeth gen i am dani? Mi wn gymaint a hyn, a ni waeth gen i pwy gwypo fo chwaith, rydach chwi bod ag un yn meddwl gormod ohoni hi o'r haner, a mi gewch weled hyny cyn hir, cyn sicred a bod cnwllyn mewn cneuen.' 'Mae llawer cneuen goeg, Robin,' atebai Huw. 'Oes, oes,' ebe Robin, 'o ran hyny, a cneuen goeg ydi'r eneth yna, fel y caiff pawb ohonoch weled pan dorir hi.' 'Rwyt ti'n siwr o dori dy ddanedd cyn y tori di hi, gei di wel'd,' ebe Huw. 'Mi gadawa i'r job hono i rywun arall, a hwnw ydyw Bob yr Hafod Uchaf,' ebe Robin. 'Mi gewch dori mhen i,' meddai drachefn, 'os byth y prioda Bob y ddynes yna.' 'Wel toes gen i ddim i'w ddweyd ond hyn,' ebe Huw, 'gobeithio y priodant yn bur fuan, canys gore po'r cyntaf i'r rhan yma o'r byd, y torer dy ben di.' Yr oedd y corneidiau cwrw a lyncasai yn y plas cyn cychwyn wedi codi yn nghopa Robin erbyn hyny, a'i daflu oddiar ei ocheliad, fel y gollyngodd fwy o'i feddwl allan nac a wnaethai onibai hyny.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXVIII.}}}}
WELI I Robin y Glep fyned ymaith gyda'r llythyr, dododd morwynion y Plas eu penau yn nghyd i ddyfalu yn nghylch tebygolrwydd gwirionedd y stori fod eu meistr ieuanc ar fyned i briodi. Pwy allasai yr un ddedwydd fod? Rhyw foneddiges o waed uchel a chyfoeth mawr, yn ddiau. Nid oedd un yn y wlad hono, nac yn Nghymru chwaith, yn deilwng ohono, yn eu bryd hwy. Ar ganol eu cynghor, daeth gwraig <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
pnsvpyjql26uo56s7zv5rjj4st64hdi
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/114
104
88031
170034
2026-08-10T02:33:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170034
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dlawd o'r gymydogaeth, a fyddai yn arfer gwneud negeseuon dros y tŷ, i mewn atynt. Holodd y merched hono, a glywsai hi ddim son bod eu meistr ar fyned i briodi?' 'Mi glywais fod Robin y Glep, fel y gelwir o, yn dweyd rhywbeth felly,' ebe'r y wraig. 'Oedd o yn dweyd pwy ydi hi?' gofynent. 'Miss Evans, yr Hafod Ganol, meddai Robin,' ebe hi. Cododd y merched eu dwylaw mewn syndod. 'Miss Evans!" meddai un; 'Mary Evans!' meddai y llall; 'Hono!' meddai y drydedd; <nowiki>'</nowiki>''Nonsense'',' meddai un arall. 'Robin sy'n dweyd,' meddai'r wraig, 'a does fawr o goel arno fo, wyddoch.' 'Be naeth i Robin feddwl erioed am y fath beth?' gofynai un ohonynt. 'Dyna'r sail oedd ganddo,' atebai'r wraig, bod y gwr boneddig yn arfer galw yno dair gwaith neu bedair bob wythnos, meddai fo.' Pwy ddigwyddodd fod yn clywed yr holl ymddyddan, o'r tu ol i ddrws y gegin, ond yr hen wraig foneddig ei hun. Cythruddodd yn ddirfawr, ond ciliodd yn ei hol i'r parlwr yn ddistaw, a chadwodd y cwbl iddi ei hun. <nowiki>'</nowiki>''Is it possible!'' meddai ynddi ei hun, <nowiki>'</nowiki>''no, it can't be; but I must make inquiries. Surely, it can never come to that''. Cyfeiriodd Robin tua'r Plas y bore dranoeth, gyda'r llythyr oddiwrth y gwr boneddig yn y dref. Archodd y foneddiges am i Robin ddyfod ati i'w hystafell: parodd iddo eistedd i lawr; ac wedi derbyn a ddarllen y llythyr, trodd at Robin gydag edrychiad digofus, a gofynai, 'Pe chi'n deyd am y mab fi, hyd y glad yma?' 'Y fi'n ddweyd am y gwr boneddig!' ebe Robin, 'ddweydes i ddim rioed amgenach na da am dano fo, na'i achos chwaith; mae pobol yn meddwl y gallan nhw ddeyd y peth fynan nhw am dano i!' Chi cymyd gofal chi deyd y gwir, Robert,' ebe hithau, taru chi dim deyd bod Mr. Edward (ei mab) yn myn'd i priodi lodes yr Hafod Ganol?' 'Na ddeydis i rioed y fath beth, mi na lw,' ebe Robin. 'Wel, taru chi dim deyd bod o'n galw ono tair ne peder cwaith pob wthnos, 'nte?' 'Wel, hwyrach<noinclude><references/></noinclude>
tjy86vc6f4ymkcxa8kwrusd2jejplqx
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/115
104
88032
170035
2026-08-10T02:34:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170035
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i mi ddweyd cymaint a hyny, ond 'doeddwn i'n meddwl dim drwg ohono fo; ac yn wir,' eb efe drachefn, 'yr oeddwn i yn meddwl unwaith am ddweyd hyny wrthych chwi eich hun, ond mi feddyliais wed'yn nad oedd o ddim o musnes i.' 'Tim o'ch busnes chi deyd o wrth neb arall, siwr, mae o'n bisness i mi. A chi'n deyd fod Mistar Edward yn calw yn'r Hafod tair ne peder cwaith yn 'rwthnos?' 'Mae hyny yn beth mae pawb yn y wlad yma'n ei wybod ac yn ei ddweyd cystal a minau, Madam,' ebai Robin, 'ond toes neb yn meddwl, am a wn i, dydw 'i ddim beth bynag yn meddwl, bod gan y gwr boneddig feddwl yn y byd o'r lodes; ond dall o alw yn y fan fyno fo, o ran hyny.' 'Ydach chi'n siwr bod o'n galw yno felly; dyna'r cwbwl sy arna i eisio cwbod gyno chi.' 'Wel, ydw, Madam, yn ddigon siwr o hyny; mi gwelais o yn myn'd ac yn dwad ono laweroedd o weithiau â'm llygaid fy hun.' 'O'r gore, toes arna i ddim eisio dim chwaneg gynoch chi, tyma i chi haner coron am fyn'd trosta i i'r tre doe.'
Wedi i Robin fyned ymaith, galwodd y lady holl ferched y tŷ gerbron, a holodd hwynt mor fanwl ag yr holodd Herod y doethion gynt, yn nghylch y stori am eu meistr, ond nid oedd ganddynt ddim rhagor i'w ddywedyd nag a glywsai hi ei hun y wraig hono yn ddweyd wrthynt, pan oedd hi yn gwrando o'r tu cefn i'r drws; ond sicrhaent iddi nad oedd dim yn y stori—na buasai eu meistr byth yn edrych ar eneth fel Mary Evans; 'yr oedd yr eneth yn burion,' meddent, ond ddim yn amgenach na rhyw eneth arall o'i sefyllfa; ac am ei theulu, pobl wladaidd, gyffredin, iawn oeddynt, ond mai dynes erwin oedd ei mam.'
Yr oedd y boneddwr ieuanc oddicartref er's deuddydd neu dri, ond yr oedd i ddychwelyd y diwrnod hwnw: Yr oedd ei fam yn parotoi ar ei gyfer,—yn hogi ei chleddyf ac yn trefnu ei pheirianau i ymosod arno. Daeth adref yn yr hwyr, a gwelodd yn union fod arwyddion storm i'w canfod ar aeliau ac wynebpryd<noinclude><references/></noinclude>
ipg539z5fccfoigcha9ljq1uv2qw2mq
170036
170035
2026-08-10T02:35:04Z
AlwynapHuw
1710
170036
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i mi ddweyd cymaint a hyny, ond 'doeddwn i'n meddwl dim drwg ohono fo; ac yn wir,' eb efe drachefn, 'yr oeddwn i yn meddwl unwaith am ddweyd hyny wrthych chwi eich hun, ond mi feddyliais wed'yn nad oedd o ddim o musnes i.' 'Tim o'ch busnes chi deyd o wrth neb arall, siwr, mae o'n bisness i mi. A chi'n deyd fod Mistar Edward yn calw yn'r Hafod tair ne peder cwaith yn 'rwthnos?' 'Mae hyny yn beth mae pawb yn y wlad yma'n ei wybod ac yn ei ddweyd cystal a minau, Madam,' ebai Robin, 'ond toes neb yn meddwl, am a wn i, dydw 'i ddim beth bynag yn meddwl, bod gan y gwr boneddig feddwl yn y byd o'r lodes; ond dall o alw yn y fan fyno fo, o ran hyny.' 'Ydach chi'n siwr bod o'n galw yno felly; dyna'r cwbwl sy arna i eisio cwbod gyno chi.' 'Wel, ydw, Madam, yn ddigon siwr o hyny; mi gwelais o yn myn'd ac yn dwad ono laweroedd o weithiau â'm llygaid fy hun.' 'O'r gore, toes arna i ddim eisio dim chwaneg gynoch chi, tyma i chi haner coron am fyn'd trosta i i'r tre doe.'
Wedi i Robin fyned ymaith, galwodd y ''lady'' holl ferched y tŷ gerbron, a holodd hwynt mor fanwl ag yr holodd Herod y doethion gynt, yn nghylch y stori am eu meistr, ond nid oedd ganddynt ddim rhagor i'w ddywedyd nag a glywsai hi ei hun y wraig hono yn ddweyd wrthynt, pan oedd hi yn gwrando o'r tu cefn i'r drws; ond sicrhaent iddi nad oedd dim yn y stori—na buasai eu meistr byth yn edrych ar eneth fel Mary Evans; 'yr oedd yr eneth yn burion,' meddent, ond ddim yn amgenach na rhyw eneth arall o'i sefyllfa; ac am ei theulu, pobl wladaidd, gyffredin, iawn oeddynt, ond mai dynes erwin oedd ei mam.'
Yr oedd y boneddwr ieuanc oddicartref er's deuddydd neu dri, ond yr oedd i ddychwelyd y diwrnod hwnw: Yr oedd ei fam yn parotoi ar ei gyfer,—yn hogi ei chleddyf ac yn trefnu ei pheirianau i ymosod arno. Daeth adref yn yr hwyr, a gwelodd yn union fod arwyddion storm i'w canfod ar aeliau ac wynebpryd<noinclude><references/></noinclude>
58uyuwim9akcycyajg3uj7ykwqgw9i6
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/116
104
88033
170037
2026-08-10T02:37:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170037
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a llygaid ei fam. Anmheuodd beth oedd yr achos. Gan gynted ag y cafodd hi yr ystafell heb neb ond hwy eu dau ynddi, dechreuodd ymosod arno, gan dywallt ei theimladau digofus yn gawodydd am ei ben. Troai yntau y cwbl yn gellwair. Chwarddai yn ei hwyneb, yr hyn a'i cynhyrfai hithau yn waeth. Yr oedd yn gywilydd ganddi hi feddwl fod ei mab hi yn gwneud son am dano, drwy sylwi ar lances wledig, ''vulgar, ignorant'', fel merch yr Hafod; pan y gallasai gael merch un o bendefigion y deyrnas yn wraig. Yr oedd yn beth annyoddefol iddi hi i feddwl fod i waed eu teulu anrhydeddus hwy gael ei halogi drwy ei gymysgu â gwaed pobl gyffredin.' Methodd yntau a llywodraethu ei dymher yn y man; a dywedodd na wrandawai ddim chwaneg arni yn difrio Miss Evans. Y mae hi yn gystal ''lad''y a chwithau bob dydd,' meddai, 'a medr actio y ''lady'' yn well nag y medrech chwi erioed. A waeth i mi ddweyd y cwbl i chwi ar unwaith i gael pen ar y mater,' eb efe, gan gau ei ddwrn, a rhoddi dyrnod ar y bwrdd nes oedd aelodau hwnw yn gwegian dan ei bwys, 'mi fynaf gael Miss Evans, costied a gostio. Ni phrioda i byth, os na phrioda i hi, cym'rwch y ngair i ar y mater,' ac ymaith ag ef. Bu yr hen ''lady'' o'r naill ffit i'r llall i'r hysterics trwy y nos hono. A mawr oedd helynt y gweinidogion, yn feibion a merched, gyda hi hyd y bore. Ymneillduasai Mr. Edward i'w lyfrgell ar ol y ffrwgwd gyda'i fam; aeth un o'r gweision ato i ofyn ai ni fuasai yn well anfon brysgenhadwr i'r dref i ymofyn y meddyg. 'Na gadewch iddi,' eb efe, 'hi a ddaw ati ei hun erbyn y bore.' A rhoddodd gyfarwyddiadau iddynt i weinyddu arni. Deallasai y gweinidogion beth oedd y mater, a chydymresymu y buont arno bob hamdden a gaffent y noson hono. Yr oedd Robin yn ei le, wedi'r cwbl," meddent, 'ond pwy fuasai'n meddwl? pwy allasai goelio? beth sydd wedi ymwel'd âg ef? Y fo briodi merch yr Hafod? A fu erioed y fath beth o'r blaen<noinclude><references/></noinclude>
q3u6yh9axcwl1r815zagxlx0zjb78gi
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/117
104
88034
170038
2026-08-10T02:39:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170038
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>er pan mae'r byd yn fyd!" 'Os daw hi yma, ni osa i ddim yma i fod dani hi am funyd,' meddai un; 'na finau,' meddai un arall; 'na finau chwaith,' meddai y drydedd; 'ni arosai neb yn ei sens,' meddai y bedwaredd; 'mi aroswn i'n wir, ebai y pumed, mi fyddai'n dda gen fy nghalon i pe tae meistr yn priodi Miss Evans; chaiff o byth well wraig, ac ni chawn ninau byth well meistres.' Bu rywyr i hono, druan, hel ei charnau, a dianc ymaith, yr oedd y merched eraill am ei llarpio. Yr oedd y meibion yn edrych yn fwy pwyllog ac athronyddol ar cwestiwn, na'r merched. Yr oedd y peth yn ymddangos yn chwithig iawn yn eu golwg hwythau; ond caniataent ei bod yn iawn a rhesymol i'w meistr, fel dyn arall, gael ei ryddid i briodi y neb a mynai—mai ei fusnes ef oedd hyny, &c.
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|Penod XXIX.}}}}
DRANOETH y storm fawr yn y Plas, aeth Mr. Edward i'r Hafod i ymwel'd â Miss Evans; deallai hi ar ei wedd a'i ymddangosiad fod ganddo rywbeth neillduol ar ei feddwl; ni chlywsai hi un gair eto am helynt y dydd o'r blaen yn y Plas: ac yn wir, nid oedd yn wybod dim fod siarad am dani mewn perthynas i'r boneddwr ieuanc ar dafodau'r wlad, canys ni ddywdasai neb air wrthi hi ar y mater. Yr oedd yn ofni er's tro y gallasai ei waith yn galw yno mor aml roi sail i siarad annymunol, ac yr oedd ei fynych alwadau yn boenus iawn iddi ar y cyfrif hwnw. Yr oedd arni wydd er's tro roddi awgrym iddo i gadw draw, ond ofnai ei dramgwyddo hefyd, gan yr hoffai gymdeithas gwr ieuanc o feddwl goleuedig fel efe, un y gallai ddysgu llawer o wybodaeth oddiwrtho, ac yr oedd hi eisoes yn wir wedi cael ei gymdeithas yn fuddiol iddi mewn llawer ystyr. Ond beth a barai iddo ddyfod <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
pbhqjjcxpuyzqwljy8r85lhwd1t4ueb
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/118
104
88035
170039
2026-08-10T02:40:17Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170039
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yno mor aml? Tŷbiai weithiai mai amddifadrwydd o gyfeillion y gallai gymdeithasu â hwynt: ei fod yn yr ardal hono megis ar ei ben ei hun, heb neb y gallai efe gael dim hyfrydwch yn ei gymdeithas: a'i bod hi, efaillai, rywfaint ar y blaen i bawb arall yn y gymydogaeth; a chan ei fod yntau o duedd gymdeithasgar, nad oedd ganddo ddim i'w wneud ond ei chymeryd hi fel yr oedd, i ddal pen rheswm iddo yn awr ac eilwaith.
Ond a oedd ganddo rywbeth arall mewn golwg? Nac oedd; ni allasai hyny fod. Yr oedd ganddi well meddwl am dano nag y gallasai oddef y dybiaeth yr ewyllysiai efe ei hudo oddiar lwybr rhinwedd; ac yn sicr ddigon, nid oedd ganddo olwg ar y fath beth a thynu carwriaeth anrhydeddus â hi. Yr oedd, er hyny, wedi taflu awgrymiadau iddi droion fel pe buasai am iddi ddeall rhywbeth felly; ond wrth reswm, yr oedd hyny allan o'r cwestiwn—boneddwr balch, o'i sefyllfa uchel ef, i edrych ar un o'i sefyllfa isel hi, gydag amcan felly! Dim posibl; perswadiai ei hun mai rhyw chwareuaeth ddiniwed oedd y cwbl; eto, er hyny, nid mewn dull chwareuol y rhoddai efe ei awgrymiadau iddi. Gofalai hi bob amser na roddai un gefnogaeth iddo i fyned yn mlaen y ffordd hono, ond yn hytrach annghymeradwyaeth amlwg. Wrth holi ei hunan ar y mater, yr oedd yn cael bod ei chydwybod yn ei rhyddhau hi yn llwyr ac yn hollol yn y peth hwn; ac yr oedd yn dda ganddi yr un pryd allu tystio ynddi ei hun na welsai ddim yn anweddus yn ymddygiad y boneddwr tuag ati. Fodd bynag, buasai yn dda ganddi pe cadwasai draw, er yr un pryd, y teimlai y buasai yn chwithdod a cholled iddi am ei gymdeithas. Yr oedd cwestiwn arall yn ymgynyg i'w meddwl weithiau, ond ni oddefid iddo ddyfod i'r bwrdd, troid ef tros y drws yn ddiseremoni bob tro y cynhygiai ddyfod yn mlaen; ond ymwthio i mewn a fynai efe er hyny, a'r cwestiwn hwnw oedd, 'A ydyw cariad heb fod yn dechreu goglais y galon?<noinclude><references/></noinclude>
1bzuv66ubrcuqklatm2jsc4h0hdzl8m
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/119
104
88036
170040
2026-08-10T02:41:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170040
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A ydyw y boneddwr ieuanc yma heb fod wedi dechreu gwneud rhyw argraff o'r natur hono ar y serchiadau?' Dim o'r fath beth, ni allasai y fath beth fod, ac ni chai y fath beth fod byth chwaith; er hyny, anmheuai ei hunan ar ei gwaethaf. Ceisiai osod Bob yr Hafod Uchaf a'r boneddwr un yn mhob pen i glorian ei serch, ac yr oedd yn cael fod Bob yn drymach o ddigon yno; gan hyny, nid oedd dim o natur y serch a deimlai at Bob, yn yr hyn a deimlai at Mr. Edward: wedi'r cwbl pe buasai y boneddwr yn sefyllfa Bob, sefyllfa y buasai yn weddus a phriodol iddo ffurfio undeb priodasol âg ef, teimlai y cawsai Bob gryn waith i gario ei bwnc gyda hi,—a golygu fod Mr. Edward, fel Bob, yn wr ieuanc crefyddol. Byddai megis yn dal ei hunan yn aml yn trafod ac yn troi meddyliau a'r arholion hyn, a cheryddai ei hun yn drwm o'u plegid, a cheisiai eu gyru ymaith oddiwrthi, gan eu tynghedu nad aflonyddent arni mwy: ond dychwelyd yn ol, a llithro'n ddirgelaidd i'w meddwl a wnai yr estroniaid hyny drachefn a thrachefn. Wedi i'r meddyliau hyn ddechreu ei haflonyddu, newidiodd yn ei hymddygiad tuag at Mr. Edward pan ddeuai yno ar ei ymweliadau. Ac nid hir y bu yntau heb sylwi a gweled y cyfnewidiad. Yr oedd symledd a sirioldeb ei hymddygiad wedi troi yn rhyw ddwysder tawedog a ddywedai megis wrtho am gadw draw, ac yr oedd hyny yn ei dynu yntau i neshau ati yn fwy. Po pellaf y ciliai hi oddiwrtho, mwyaf oll oedd ei awydd yntau i wasgu yn mlaen.
Yr oedd yn llawn o'r myfyrdodau a ddesgrifiwyd yn ei gylch, pan welai ef yn dyfod tua'r tŷ y bore hwnw. Ciliodd i'w hystafell o'i ffordd; ac, meddai ynddi ei hun, Mae'n rhaid dwyn y mater i bwynt penderfynol bellach; ni chaiff pethau barhau fel hyn yn hwy.' Daeth ei mam ati i ddweyd fod ar Mr. Edward eisiau ei gweled. Dywedodd y deuai ato yn fuan; ac wedi tywallt ei chalon mewn gweddi am arweiniad a chymhorth Dwyfol i ddyfod trwy y prawf y<noinclude><references/></noinclude>
5utqcluyzli9lz4qixa20dutx92gzhl
Tudalen:Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.djvu/120
104
88037
170041
2026-08-10T02:41:39Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
170041
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>teimlai ei fod ar ddyfod arni, daeth o'i hystafell wedi ymwroli yn ei meddwl, ac ymddangosai yn llawn feistres ar ei hysbryd a'i theimladau. Taflodd y boneddwr ieuanc olwg arni a barai i ryw ias o deimlad dyeithr gerdded trwyddi—ni welsai hi yr olwg hono ganddo erioed o'r blaen. Golwg ydoedd a symudodd bob petrusder o'i meddwl ar unwaith yn nghylch natur ei deimladau tuag ati; golwg o'r galon i'r galon ydoedd. Yr oedd rhywbeth dwfn, ymbilgar, hefyd yn y golwg hwnw, megis pe dywedasai, 'A ellwch chwi wrthod eich tosturi a'ch cydymdeimlad â mi, o leiaf? Os na chaf ddim arall, na wrthodwch imi hyn o ffafr.'
Ciliodd y fam, gan adael y ddau gyda'u gilydd. Wedi ychydig ddystawrwydd pryderus, anturiodd ymaflyd yn ei llaw, gan ddywedyd, 'Na wrthodwch imi hyn o ffafr am unwaith o leiaf. Y mae ar eich llaw chwi fy ngwneud i naill ai y dedwyddaf o bawb yn y byd, neu y truenusaf o feibion trueni!' 'Pa fodd felly?' gofynai hithau, 'nid wyf yn eich deall, syr.' 'Gadewch y syr yna heibio am y tro yma, fanw——,' ond ymataliold cyn gorphen y gair, gan iddi hi dynu ei llaw ati yn y fan, pan ddeallodd ei fod yn myned i'w chyfarch felly. Eglurwch eich meddwl ar fyr eiriau, os gwelwch yn dda, Mr. Edward,' meddai. 'O, ai nid ydych yn deall fy meddwl a'm calon?' eb efe, 'Wel fy meddwl yw hyn:—Y mae fy nghynged i yn y byd hwn yn dibynu yn hollol ar eich derbyniad neu'ch gwrthodiad ohonof. Dyma'r llaw hon a'm calon, fy holl galon ynddi, a'r oll a feddaf ac a allaf i chwi, ac at eich gwasanaeth,—llaw a chalon na chynygiwyd i neb arall erioed, ac na chynygir i neb arall byth, os na dderbyniwch chwi hwy.' 'Yr oeddwn wedi rhyw dybio,' ebe hithau, 'fod rhywbeth o'r natur yna genych mewn golwg, ond nid oeddwn erioed wedi credu'r fath beth; yn wir, yr oeddwn yn ystyried fy hun yn ynfyd i dybio y peth am foment, a phrin y gallaf gredu fy nghlustiau yn awr. Ond, i ddwyn y mater i ben am byth, ar fyr eiriau, goddefwch<noinclude><references/></noinclude>
rrduupjhu7hoeshgmlk347ttshiit2f
Sgwrs:O Law i Law
1
88038
170043
2026-08-10T10:09:07Z
Rhyswynne
1343
/* Statws hawlfraint y delweddau? */ adran newydd
170043
wikitext
text/x-wiki
== Statws hawlfraint y delweddau? ==
Dwi wrth fy modd efo'r darluniau yma, ond o edrych pwy oedd Dewi-Prys Thomas, sylwaf mai mond yn 1985 y bu farw, felly tra bod testun y llyfr yn rhydd o hawlfraint, dwi'n cymryd nad yw hynny'n wir am y delweddau eto. Ac os felly, beth yw'r drefn - peidio â bod â'r llyfr ar Wicidestun o gwbl eto, cael gwared â'r delweddau (am y tro), ...neu anwybyddu'r peth am y tro oni bai bod rhywun yn gwrthwynebu (dwi'n hapus efo opsiwn 3!) [[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 10:09, 10 Awst 2026 (UTC)
h9h9frx0wytqut22jut6pm135m1og8u