Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.15 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Madam Wen.djvu/90 104 33408 170256 170096 2026-08-13T07:37:56Z ~2026-44244-75 4222 170256 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>a braidd na synnodd pan ganfu mai Twm oedd yno. Ac eto, nid gŵr dieithr mo Twm, ac yr oedd hi'n hoff o'r dyn bach, y gwyddai ei fod mor unplyg a ffyddlon. Gan dybied y gwyddai ar ba neges y daethai, cyfarchodd ef gyda gwên. "Mwy o wirod—mwy o nwyddau i'r farchnad, Twm?" "Nage, madam," atebodd yntau braidd yn swil, "ond neges sydd gennyf o Gymunod." Ar drawiad newidiodd ei gwedd a'i dull hithau. Craffodd arno am funud, nes gwneud iddo—fel y dywedodd ef ei hun—deimlo rhyw euogrwydd nad oedd yn bod. Yna, heb ddywedyd gair, amneidiodd arno ar iddo ei dilyn ar hyd y llwybr cam i'r gell bellaf. Gyda chwrs o arswyd y lle arno yr ufuddhaodd yntau. Er na wyddai hynny, derbyniai Twm ragorfraint na syrthiai i ran ond ambell un wrth gael mynediad fel hyn i mewn i ystafell neilltuol arglwyddes y parciau. Mewn gwirionedd, arwydd ydoedd ar y naill law o wrogaeth i'r un a'i hanfonasai, ac ar y llaw arall o ymddiried yn ffyddlondeb y dyn bychan ei hun. Helaethrwydd yr ogof a llymder ei dodrefniad a drawodd yr ymwelydd â syndod pan gafodd ef ei hun am y tro cyntaf o dan ei chronglwyd noeth. Yr oedd yno ddau o fyrddau hir, yn gorffwys ar astelli o'r graig, ac arnynt ddilladau a mân gelfau yn gymysgfa ryfedd. Yr oedd yno ystôl bren neu ddwy, ac er rhyfeddod i Twm, droell weu ar ganol y llawr. Goleuid y lle gan ddwy o lampau, nad oedd eu bath i'w gweled yn nhai'r cyffredin, oni threiddiai eu golau i gyrrau eithaf y gell, yn enwedig i'r gongl lle y gostyngai'r to ac y culhai'r ogof nes ymgolli yng nghysgodion tywyll mynedfa gul ar y naill ochr. Ond ni chafodd Twm hamdden i syllu llawer cyn bod rhaid iddo ddywedyd ei neges. "Mae'r siryf yn dyfod y ffordd yma yfory," meddai, ychydig yn flêr, "ac yn dyfod a bagad o wŷr gydag ef." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 56yeo3hofbjk8egjuaa7vrj4bb73qjg Tudalen:Madam Wen.djvu/91 104 33409 170257 76016 2026-08-13T08:53:45Z ~2026-44350-84 4223 170257 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"O, yn wir?" atebodd hithau heb gynnwrf yn y byd yn ei llais. Ond ni fedrai Twm yn ei fyw beidio â syllu ar ei llygaid mawr oedd fel pe'n melltennu o ddiddordeb. "Ac y mae Morys Williams am i mi wybod hynny. Ai dyna'r neges?" "I'ch ymofyn chwi y maent yn dyfod," meddai Twm, gan deimlo nad oedd mor hawdd dywedyd neges drefnus ag y meddyliasai. Beth arall a ddywed yr yswain? "Yn anad dim nid ydynt i fyned yn ôl heb ddal yr arweinyddes," meddai yntau, mewn ymgais i ail-adrodd geiriau'r siryf fel y clywsai hwynt gan yr yswain. Pwy a ddywedodd hynny, Twm?" meddai hithau, a chwarddodd. "Y siryf. Ond na hidiwch am hynny." "Ond nid yw hynyna yn rhan o genadwri'r yswain, Twm," meddai Madam mewn ysmaldod. "Beth ydyw cyngor yr yswain caredig yn wyneb y perygl? Eisiau sydd arno i chwi fyned i Gymunod am loches nes bod yr helbul drosodd." Dywedodd hyn yn hollol ddi-daro, ond ni wrandawodd hi yr un mor ddigyffro. Cerddodd at un o'r byrddau, a bu'n brysur am ysbaid, a'i chefn at ei hymwelydd, gan gymryd arni mai chwilio'r oedd am rywbeth ymysg y celfi ar y bwrdd. Ai nid oes mwy o berygl yn hynny—i'r yswain ac i minnau—na phe diangwn i rywle arall?" gofynnodd wedi ennyd o fyfyrio. Rhoddodd Twm ei law ar ei gorun, ac meddai'n bwyllog, "Gan fod y siryf yn mynd yno, felly yr oedd yn fy nharo i, un gwirion!" Ac yna ychwanegodd yn frysiog, fel pe'n edifar ganddo am a ddywedasai: "Ond mi fuaswn i yn ymddiried yn yr yswain petasai hi'n digwydd bod yn galed arnaf fi ryw dro." Chwarddodd Madam yn nwyfus wrth glywed hynny, a chrafodd Twm ei gorun mewn tipyn o ddryswch. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f0ktb85gvxw7rsos2q4ga4jpotp8cq3 170258 170257 2026-08-13T08:58:20Z ~2026-44350-84 4223 170258 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"O, yn wir?" atebodd hithau heb gynnwrf yn y byd yn ei llais. Ond ni fedrai Twm yn ei fyw beidio â syllu ar ei llygaid mawr oedd fel pe'n melltennu o ddiddordeb. "Ac y mae Morys Williams am i mi wybod hynny. Ai dyna'r neges?" "I'ch ymofyn chwi y maent yn dyfod," meddai Twm, gan deimlo nad oedd mor hawdd dywedyd neges drefnus ag y meddyliasai. "Beth arall a ddywed yr yswain?" "Yn anad dim nid ydynt i fyned yn ôl heb ddal yr arweinyddes," meddai yntau, mewn ymgais i ail-adrodd geiriau'r siryf fel y clywsai hwynt gan yr yswain. "Pwy a ddywedodd hynny, Twm?" meddai hithau, a chwarddodd. "Y siryf. Ond na hidiwch am hynny." "Ond nid yw hynyna yn rhan o genadwri'r yswain, Twm," meddai Madam mewn ysmaldod. "Beth ydyw cyngor yr yswain caredig yn wyneb y perygl? Eisiau sydd arno i chwi fyned i Gymunod am loches nes bod yr helbul drosodd." Dywedodd hyn yn hollol ddi-daro, ond ni wrandawodd hi yr un mor ddigyffro. Cerddodd at un o'r byrddau, a bu'n brysur am ysbaid, a'i chefn at ei hymwelydd, gan gymryd arni mai chwilio'r oedd am rywbeth ymysg y celfi ar y bwrdd. Ai nid oes mwy o berygl yn hynny—i'r yswain ac i minnau—na phe diangwn i rywle arall?" gofynnodd wedi ennyd o fyfyrio. Rhoddodd Twm ei law ar ei gorun, ac meddai'n bwyllog, "Gan fod y siryf yn mynd yno, felly yr oedd yn fy nharo i, un gwirion!" Ac yna ychwanegodd yn frysiog, fel pe'n edifar ganddo am a ddywedasai: "Ond mi fuaswn i yn ymddiried yn yr yswain petasai hi'n digwydd bod yn galed arnaf fi ryw dro." Chwarddodd Madam yn nwyfus wrth glywed hynny, a chrafodd Twm ei gorun mewn tipyn o ddryswch. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0xtktgsyh2kkygssn6tn1qbmskg6cqx 170259 170258 2026-08-13T09:09:04Z ~2026-44350-84 4223 170259 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"O, yn wir?" atebodd hithau heb gynnwrf yn y byd yn ei llais. Ond ni fedrai Twm yn ei fyw beidio â syllu ar ei llygaid mawr oedd fel pe'n melltennu o ddiddordeb. "Ac y mae Morys Williams am i mi wybod hynny. Ai dyna'r neges?" "I'ch ymofyn chwi y maent yn dyfod," meddai Twm, gan deimlo nad oedd mor hawdd dywedyd neges drefnus ag y meddyliasai. "Beth arall a ddywed yr yswain?" "Yn anad dim nid ydynt i fyned yn ôl heb ddal yr arweinyddes," meddai yntau, mewn ymgais i ail-adrodd geiriau'r siryf fel y clywsai hwynt gan yr yswain. "Pwy a ddywedodd hynny, Twm?" meddai hithau, a chwarddodd. "Y siryf. Ond na hidiwch am hynny." "Ond nid yw hynyna yn rhan o genadwri'r yswain, Twm," meddai Madam mewn ysmaldod. "Beth ydyw cyngor yr yswain caredig yn wyneb y perygl? "Eisiau sydd arno i chwi fyned i Gymunod am loches nes bod yr helbul drosodd." Dywedodd hyn yn hollol ddi-daro, ond ni wrandawodd hi yr un mor ddigyffro. Cerddodd at un o'r byrddau, a bu'n brysur am ysbaid, a'i chefn at ei hymwelydd, gan gymryd arni mai chwilio'r oedd am rywbeth ymysg y celfi ar y bwrdd. Ai nid oes mwy o berygl yn hynny—i'r yswain ac i minnau—na phe diangwn i rywle arall?" gofynnodd wedi ennyd o fyfyrio. Rhoddodd Twm ei law ar ei gorun, ac meddai'n bwyllog, "Gan fod y siryf yn mynd yno, felly yr oedd yn fy nharo i, un gwirion!" Ac yna ychwanegodd yn frysiog, fel pe'n edifar ganddo am a ddywedasai: "Ond mi fuaswn i yn ymddiried yn yr yswain petasai hi'n digwydd bod yn galed arnaf fi ryw dro." Chwarddodd Madam yn nwyfus wrth glywed hynny, a chrafodd Twm ei gorun mewn tipyn o ddryswch. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> n8gwd3k6ikdvc0kqgj025uik8nykqed 170260 170259 2026-08-13T09:17:12Z ~2026-44350-84 4223 170260 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"O, yn wir?" atebodd hithau heb gynnwrf yn y byd yn ei llais. Ond ni fedrai Twm yn ei fyw beidio â syllu ar ei llygaid mawr oedd fel pe'n melltennu o ddiddordeb. "Ac y mae Morys Williams am i mi wybod hynny. Ai dyna'r neges?" "I'ch ymofyn chwi y maent yn dyfod," meddai Twm, gan deimlo nad oedd mor hawdd dywedyd neges drefnus ag y meddyliasai. "Beth arall a ddywed yr yswain?" "Yn anad dim nid ydynt i fyned yn ôl heb ddal yr arweinyddes," meddai yntau, mewn ymgais i ail-adrodd geiriau'r siryf fel y clywsai hwynt gan yr yswain. "Pwy a ddywedodd hynny, Twm?" meddai hithau, a chwarddodd. "Y siryf. Ond na hidiwch am hynny." "Ond nid yw hynyna yn rhan o genadwri'r yswain, Twm," meddai Madam mewn ysmaldod. "Beth ydyw cyngor yr yswain caredig yn wyneb y perygl? "Eisiau sydd arno i chwi fyned i Gymunod am loches nes bod yr helbul drosodd." Dywedodd hyn yn hollol ddi-daro, ond ni wrandawodd hi yr un mor ddigyffro. Cerddodd at un o'r byrddau, a bu'n brysur am ysbaid, a'i chefn at ei hymwelydd, gan gymryd arni mai chwilio'r oedd am rywbeth ymysg y celfi ar y bwrdd. "Ai nid oes mwy o berygl yn hynny—i'r yswain ac i minnau—na phe diangwn i rywle arall?" gofynnodd wedi ennyd o fyfyrio. Rhoddodd Twm ei law ar ei gorun, ac meddai'n bwyllog, "Gan fod y siryf yn mynd yno, felly yr oedd yn fy nharo i, un gwirion!" Ac yna ychwanegodd yn frysiog, fel pe'n edifar ganddo am a ddywedasai: "Ond mi fuaswn i yn ymddiried yn yr yswain petasai hi'n digwydd bod yn galed arnaf fi ryw dro." Chwarddodd Madam yn nwyfus wrth glywed hynny, a chrafodd Twm ei gorun mewn tipyn o ddryswch. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3f56pjpmr8xsfoplmuxea2x45dp5kdq Tudalen:Madam Wen.djvu/92 104 33410 170261 76017 2026-08-13T09:27:19Z ~2026-44350-84 4223 170261 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae hi'n golygu bod yn galed yma heb amheuaeth, Twm," meddai'n ysgafn, gan fenthyca'i ymadrodd. "Ond wn i ddim beth am ymddiried yn yr yswain." "Yr ydych yn cellwair," awgrymodd Twm yn foesgar. "Ond, Twm, a dweud y gwir yn awr, a wyt ti'n meddwl y byddai'n ddoeth i mi fyned i lechu i ganol y gelynion? " "A dweud y gwir, Madam, yr oeddwn i 'n meddwl yr un peth fy hun. Ond nid awn i ddim yn groes i'r yswain petawn i chwi." Methai Twm yn glir â deall paham y chwarddai hi mor ddilywodraeth ar adeg mor bwysig, a rhag peri mwy o betruster iddo, dywedodd hithau gyda mwy o ddifrifoldeb, "Na, gwell fyddai peidio â mynd. yn groes i'r yswain ag yntau mor garedig. Wyt ti'n siwr fod arno awydd fy amddiffyn?" Yr oedd Twm yn siwr o hynny. Beth pe gwelsai hi ef y bore hwnnw. Ac yntau fel rheol yn ddyn mor hunan-feddiannol. Yr oedd Twm yn siwr o amcan yr yswain. Dechreuodd hi gasglu at ei gilydd y gymysgfa oedd ar y byrddau. Gwnaeth sypynnau destlus ohonynt, ac fel y symudai ôl a blaen wrth y gwaith, holai'r dyn bach ymhellach am yr hyn yr oedd yr yswain wedi ei ddywedyd wrtho. Wedi gorffen, dywedodd, "Yr wyf yn bwriadu i wŷr y siryf gael tŷ gwag yma.' Gosododd ''lamp'' i oleuo cwr tywyllaf y gell, ac wrth oleuni honno gwelodd Twm fod yno fath o fynedfa oedd yn arwain ymhellach drwy'r graig i rywle. Mewn adwy yn ystlys y fynedfa honno yr oedd digon o le, erbyn gweld, i guddio'r droell a'r ystolion a'r sypynnau bob un, ac o dan ei chyfarwyddyd hi cludwyd popeth i'r guddfan nes gwacâu'r gell. Am y byrddau, gwthiwyd y rhai hynny bell ffordd i'r fynedfa nes bod allan o olwg. Gwaith byr amser oedd hyn i gyd. Pan oedd Twm yn barod i ddychwelyd, gofynnodd iddi, "Beth a ddywedaf wrth yr yswain? A ddywedaf<noinclude><references/></noinclude> 45whcdceubv5n1qz3v2v70lhpb4j4ca Categori:Caerdydd 14 88078 170097 2026-08-12T12:45:12Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "[[Delwedd:Cardiffmontage3.jpg|bawd]] {{Wicipedia|Caerdydd}} {{comin|Category:Cardiff|Caerdydd}} [[Categori:Cymunedau Morgannwg]]" 170097 wikitext text/x-wiki [[Delwedd:Cardiffmontage3.jpg|bawd]] {{Wicipedia|Caerdydd}} {{comin|Category:Cardiff|Caerdydd}} [[Categori:Cymunedau Morgannwg]] 8ejuwm00px4u8xftm1tktby2vh8on5t 170098 170097 2026-08-12T12:47:22Z AlwynapHuw 1710 170098 wikitext text/x-wiki [[Delwedd:Cardiffmontage3.jpg|bawd]] {{Wicipedia|Caerdydd}} {{comin|Category:Cardiff|Gaerdydd}} [[Categori:Cymunedau Morgannwg]] 7uqhc1o80p8iuqi5k2xsnmh02f4a7c4 Indecs:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu 106 88079 170099 2026-08-12T13:15:59Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "" 170099 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd |Author=Thomas Bowen, Caerdydd |Publisher=William Lewis (Argraffwyr) Cyf, Caerdydd |Year=1927 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd]] [[Categori:Caerdydd]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:PD-US-expired]] [[Categori:PD-old-70]] [[Categori:Tudalen Indecs]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] rzmdr91ggs3hj2hcbp1sfejphs4a8wq Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/5 104 88080 170100 2026-08-12T14:39:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170100 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmmm-mawr|DINAS CAERDYDD
A'I
METHODISTIAETH
GALFINAIDD.
}}{{mawr|(EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU.)}}}}
{{c|{{bach|GAN}}}} {{c|{{Mmm-mawr|Y Parch. THOMAS BOWEN,}}
{{mawr|CAERDYDD.}}}}

{{c|CAERDYDD:
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF.
1927.}}

{{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ldnr5v7ioxk7dre55eeuesr1cjt1rlt Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/6 104 88081 170101 2026-08-12T14:40:08Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170101 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/7 104 88082 170102 2026-08-12T14:43:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170102 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mm-mawr|Cyflwynedig}}
i'm hannwyl briod
{{Mmmm-mawr|S.A.,}}
yr hon a fu'n weithgar
yn Eglwys Pembroke Terrace
yn ystod blynyddoedd
ei harosiad yno.}}

{{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fhuylnajduj803z8pjphr5vu6rgbndc Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/1 104 88083 170103 2026-08-12T14:44:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170103 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djv|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5beam702cld2cl8uygjftgeh8fftt39 170104 170103 2026-08-12T14:44:48Z AlwynapHuw 1710 170104 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu|canol|600px|tudalen=1]] {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 47x53yc68bal2lrkstzxiyzgd95w5r4 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/2 104 88084 170105 2026-08-12T14:44:59Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170105 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/3 104 88085 170106 2026-08-12T14:45:30Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170106 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/4 104 88086 170107 2026-08-12T14:45:44Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170107 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/128 104 88087 170108 2026-08-12T14:46:30Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170108 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu|canol|600px|tudalen=128]]<noinclude><references/></noinclude> samianoo82ips153db59h8me2np6v6r Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/127 104 88088 170109 2026-08-12T14:46:46Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170109 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/126 104 88089 170110 2026-08-12T14:47:00Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170110 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/125 104 88090 170111 2026-08-12T14:47:16Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170111 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/124 104 88091 170112 2026-08-12T14:48:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170112 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>

{{c|CAERDYDD:
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF.}}

<noinclude><references/></noinclude> 6mjcgni1g6bc58c0wty4a4512acd6qu Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/8 104 88092 170113 2026-08-12T14:53:18Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170113 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/9 104 88093 170114 2026-08-12T14:54:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170114 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|RHAGAIR.}}}} DAU beth sy'n cyfrif am ymddangosiad y gyfrol hon. :(1) Yn gymaint a bod hanes yr Enwad yng Nghaerdydd heb ei gasglu at ei gilydd, cymhellwyd yr awdur i ymgymeryd â'r gorchwyl. Mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhembroke Terrace, yn 1923, ar agoriad y Tŷ Eglwysig, cydsyniodd ef â'r cais. :(2) Cyrhaedda'r achos yng Nghaerdydd ei ganmlwydd oed eleni. Dethlir y canmlwyddiant gan Eglwys Pembroke Terrace yn yr hydref. Yr oedd y gyfrol heb ei chwblhau ddiwedd 1924, pan luddiwyd yr awdur gan yr afiechyd maith a'i goddiweddodd i ail-ymaflyd ynddi hyd yn ddiweddar iawn. Symbylwyd ef i brysuro i'w dwyn allan yn awr, gan gredu y bydd o ddiddordeb ynglŷn â chanmlwyddiant agoriad Capel Seion, 1827. Dichon y caiff yr awdur ei feio am adael rhai pethau, a rhai enwau, allan, ac am roi eraill i mewn. Ef, yn unig, sy'n gyfrifol am y fath gronicl ag sy yma. Gwnaeth ei oreu i fod mor gywir ag oedd bosibl. Treuliodd wythnosau lawer yn y Llyfrfa Rydd er chwilio'n fanwl am unrhyw beth, ac am bob peth cysylltiedig â'r achos. Ni thalodd fawr sylw i atgofion gwahanol bersonau. Nid yw ystori pawb yr un fath. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tl3y2zqzmgn0nb4zhaqxzxji3fsazfa Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/10 104 88094 170115 2026-08-12T14:55:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170115 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pe gofynnid bellach am esgusawd dros gyhoeddi'r hanes o gwbl, yr ateb yw y dylai ein pobl gofio'n barhaus eiriau'r Hen Lyfr, sef: Amgylchwch Sion ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i'r oes a ddelo ar ol." {{c|Boed i bawb a ddarlleno'r llyfr flas a bendith.}} Cymeraf y cyfle hwn i ddiolch i ddau gyfaill mynwesol am eu cynhorthwy caredig ynglŷn â'r proflenni, etc., pryd nad oeddwn yn rhydd o'm dolur, sef y Parch. Philip J. Jones, M.A., B.D., Caerdydd, a'r Parch. Thomas Jenkins, B.A., Barry. {{c|THOMAS BOWEN.}} ''Gorffennaf 25ain,'' 1927.<noinclude><references/></noinclude> nh1j9ral0eweboivtozh9zi4f33yem0 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/11 104 88095 170116 2026-08-12T15:05:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170116 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.—Y CEFNDIR-HANES FFYDD.}} I—Hanes boreol Caerdydd. II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion. III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt. {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}}}} IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.
Symud i Bembroke Terrace. V—Eglwys Pembroke Terrace. {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street. VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem. VIII—Yr Achosion Seisnig eraill —Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, Park End. </poem> {{Div end}}
<noinclude></noinclude> s9f87vprkp1qq261osl5e3onyd3c2st 170117 170116 2026-08-12T15:05:30Z AlwynapHuw 1710 170117 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.—Y CEFNDIR-HANES FFYDD.}} I—Hanes boreol Caerdydd. II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion. III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt. {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}} IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.
Symud i Bembroke Terrace. V—Eglwys Pembroke Terrace. {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street. VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem. VIII—Yr Achosion Seisnig eraill —Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, Park End. </poem> {{Div end}}
<noinclude></noinclude> 4u79fyduoc0doie2wfc6kzqsiu5wncl 170119 170117 2026-08-12T15:06:40Z AlwynapHuw 1710 170119 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.—Y CEFNDIR-HANES FFYDD.}} I—Hanes boreol Caerdydd. II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion. III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt. {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}} IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.
Symud i Bembroke Terrace. V—Eglwys Pembroke Terrace. {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street. VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem. VIII—Yr Achosion Seisnig eraill —Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, Park End. </poem> {{Div end}}
<noinclude></noinclude> qoier99qzwy822wsbq5hhsem05104g5 170264 170119 2026-08-13T11:21:44Z AlwynapHuw 1710 170264 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.—Y CEFNDIR-HANES FFYDD.}} I—Hanes boreol Caerdydd. II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion. III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt. {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}} IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.
Symud i Bembroke Terrace. V—Eglwys Pembroke Terrace. {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street. VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem. VIII—Yr Achosion Seisnig eraill —Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, Park End. </poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude> mc51foojx30a1pg16oq87nvyem06wlt 170265 170264 2026-08-13T11:39:45Z AlwynapHuw 1710 170265 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.
Y CEFNDIR—HANES FFYDD.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Hanes boreol Caerdydd.|I—Hanes boreol Caerdydd.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Dechreuad Methodistiaeth|II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd|III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt.]] {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Helyntion yr Achos|IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.Symud i Bembroke Terrace.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwys Pembroke Terrace|V—Eglwys Pembroke Terrace.]] {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwysi Bethania, Salem, a Frederick Street|VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwysi Crwys Road a Jerusalem|VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Yr Achosion Seisnig eraill|VIII—Yr Achosion Seisnig eraill]] </poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude> 68cetxiyhb9u7vjlrpwk6htt33fj7oa 170267 170265 2026-08-13T11:46:02Z AlwynapHuw 1710 170267 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|Y CYNNWYS.}}}} {{Center block/s}} <poem> {{c|ADRAN I.
Y CEFNDIR—HANES FFYDD.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Hanes boreol Caerdydd|I—Hanes boreol Caerdydd.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Dechreuad Methodistiaeth|II—Dechreuad Methodistiaeth. Capel Seion.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd|III—Cymanfaoedd a Chymdeithasfaoedd y blynyddoedd gynt.]] {{c|ADRAN II.
LLWYBRAU'R FFYDDLONIAID.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Helyntion yr Achos|IV—Helyntion yr Achos hyd ddyfodiad y Parch. John Morgan Jones.Symud i Bembroke Terrace.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwys Pembroke Terrace|V—Eglwys Pembroke Terrace.]] {{c|ADRAN III.
ESTYN Y CORTYNNAU.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwysi Bethania, Salem, a Frederick Street|VI—Eglwysi Bethania, Docks; Salem, Canton; a Frederick Street.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Eglwysi Crwys Road a Jerusalem|VII—Eglwysi Crwys Road a Jerusalem.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Yr Achosion Seisnig eraill|VIII—Yr Achosion Seisnig eraill]] </poem>
<noinclude>{{Div end}}</noinclude> 7cfowdvj9ntqlpc27qb0dtdz09m77vt Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/12 104 88096 170118 2026-08-12T15:06:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170118 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem> {{c|ADRAN IV.
RHAI A FU AR Y MUR.}} IX-Coffadwriaeth y Parchn. J. Morgan Jones, LI.D., Evan Rees, M.A. (Dyfed), a J ohn Morgan, Llwynypia. {{c|ADRAN V.
YN OL AT YR HYN A FU.}} X—Y Symudiad Ymosodol. Ei gychwyniad yn East Moors. XI—Coffadwriaeth y Parch. John Pugh, D.D., a'r Parch. Seth Joshua. XII-Canolfannau y Symudiad. XIII-Ystadegau y Corff yng Nghaerdydd ar ddiwedd 1926. {{c|ADRAN VI.
SAFWN, YNA AWN RHAGOM.}} XIV-Dylanwad Methodistiaeth ar Foes a Chrefydd Caerdydd. </poem> {{Div end}}
<noinclude><references/></noinclude> hsdt8wkjz80zxocq3jl98r0y600fb4f 170120 170118 2026-08-12T15:07:29Z AlwynapHuw 1710 170120 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem> {{c|ADRAN IV.
RHAI A FU AR Y MUR.}} IX-Coffadwriaeth y Parchn. J. Morgan Jones, Ll.D., Evan Rees, M.A. (Dyfed), a John Morgan, Llwynypia. {{c|ADRAN V.
YN OL AT YR HYN A FU.}} X—Y Symudiad Ymosodol. Ei gychwyniad yn East Moors. XI—Coffadwriaeth y Parch. John Pugh, D.D., a'r Parch. Seth Joshua. XII-Canolfannau y Symudiad. XIII-Ystadegau y Corff yng Nghaerdydd ar ddiwedd 1926. {{c|ADRAN VI.
SAFWN, YNA AWN RHAGOM.}} XIV-Dylanwad Methodistiaeth ar Foes a Chrefydd Caerdydd. </poem> {{Div end}}
<noinclude><references/></noinclude> 7lqa3pxy282wtt7u2mmmlqcf0v4bhtg 170266 170120 2026-08-13T11:42:09Z AlwynapHuw 1710 170266 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem> {{c|ADRAN IV.
RHAI A FU AR Y MUR.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Parchn. J. M Jones, E. Rees, (Dyfed), a J Morgan|IX-Coffadwriaeth y Parchn. J. Morgan Jones, Ll.D., Evan Rees, M.A. (Dyfed), a John Morgan, Llwynypia.]] {{c|ADRAN V.
YN OL AT YR HYN A FU.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Y Symudiad Ymosodol|X—Y Symudiad Ymosodol. Ei gychwyniad yn East Moors.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Parchn. John Pugh a Seth Joshua|XI—Coffadwriaeth y Parch. John Pugh, D.D., a'r Parch. Seth Joshua.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Canolfannau y Symudiad|XII—Canolfannau y Symudiad.]] [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Ystadegau y ar ddiwedd 1926|XIII—Ystadegau y Corff yng Nghaerdydd ar ddiwedd 1926.]] {{c|ADRAN VI.
SAFWN, YNA AWN RHAGOM.}} [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Dylanwad Methodistiaeth ar Gaerdydd|XIV—Dylanwad Methodistiaeth ar Foes a Chrefydd Caerdydd.]] </poem> {{Div end}}
<noinclude><references/></noinclude> 2x01cn0mv449ap38t30oc4b73yjwcwx Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/13 104 88097 170121 2026-08-12T15:32:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170121 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.}}}} {{lein|5em}}{{lein|5em}} {{c|ADRAN I. Y Cefndir-Hanes Ffydd.}} {{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD I.
HANES BOREOL CAERDYDD.}}}} HAEDDA hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd, neu y Presbyteriaid Cymreig, yng Nghaerdydd, ei gadw'n gyflawn. Mae iddo faes cyfoethog thraddodiadau llawn o ysbrydoliaeth. Hyd a wyddis, ni wnaed ymgais o'r blaen i roi'r hanes at ei gilydd. Medd y dref ei hunan ei rhamant nodedig. Tystia ei chastell a'i hanes cyffrous i'r dref fod yn gadarnle caerog ganrifoedd lawer yn ol, hyd yn oed yn amser y Rhufeiniaid a'r Normaniaid. Adeiladwyd y castell rywbryd rhwng 1117 a 1147 gan Robert Consul, Iarll cyntaf Caerloyw. Er y cwbl a ddywedir am dani mor fore a hynny, ei chamrau yn ystod y deng mlynedd a thriugain diweddaf a'i gwnaeth yn syndod i'r byd crefyddol a masnachol a pholiticaidd. Ar ddechreu'r ganrif ddiweddaf, pryd yr oedd amryw drefi eraill yn yr un sir, a phoblogaeth go fawr gan bob un ohonynt, rhifai trigolion Caerdydd lawer llai na dwy fil. Bu cynnydd a datblygiad rhyfeddol wedi hynny, fel y cyfrifai ei thrigolion y blynyddoedd diweddaf yn ymyl chwarter miliwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> m6b7b7qaopi27xzc6kykto2ifbvhp52 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/14 104 88098 170122 2026-08-12T15:33:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170122 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Enillodd le anrhydeddus ymhlith porthladdoedd enwocaf y byd flynyddoedd yn ol. Bu ei chynnydd masnachol yn eithriadol ymhob ystyr. Y mae yn gyrchfa diwydiannau lawer a masnach enfawr, a phrif gwmnïau y byd a'u canghennau yma. Erbyn heddiw y mae'n fyd-enwog ar gyfrif ei nawdd dros Gelf ac Addysg a Gwyddoniaeth, fel y praw ei Phrif-athrofa, ei hysgolion, ei llyfrfeydd, ei hadeiladau trefol, ei hysbytai, ei dociau, ei pharciau, ei Hysgol Feddygol Genedlaethol, a'r cartrefle odiaeth o wych a roddodd hi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyna'r fath le yw Caerdydd, ag ynddi olion ugain canrif o drigias Rhufeiniaid, Normaniaid, a phobl yr Oesoedd Canol, ac o fewn cof rhai o'i phreswylwyr presennol datblygodd yn aruthrol ymhob cyfeiriad. Y mae i'r dref le pwysig yn y byd crefyddol. Rhesymol, gan hynny, yw i ni barchu ei thraddodiadau a diogelu ei chroniclau. Y mae i'w chrefydd hanes maith, eithr o'r ail ganrif a'r bymtheg ymlaen yn unig y cawn fanylion seiliedig ar ffeithiau diymwad. Bu amryw wroniaid ar y maes cyn hynny, a hwy fu'n arloesi'r ffordd yn y ganrif flaenorol. Fel y dywed y Parch. D. D. Williams yn "Llawlyfr Hanes y Cyfundeb," John Penry a roes y darlun pennaf i ni o hanes crefydd yng Nghymru yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg (1558-1593). Nos anwybodaeth ddu oedd hi yr adeg hynny. Ni bu Penry a chysylltiad uniongyrchol â Chaerdydd, eithr wedi ymryddhau o hualau'r Babaeth, ef a ddeffrodd ac a gynhyrfodd y wlad benbwygilydd, gan aberthu ei gwbl er lles ei genedl a'i wlad. Rhoddwyd ef i farwolaeth greulon yn 34ain mlwydd oed gan yr Archesgob Whitgift. Dyna doriad y wawr yng Nghymru. Newidiodd yn raddol agwedd foesol ac ysbrydol y wlad. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rwn9xp3o11nkhfpbp0lkkwwlihe7lb5 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/15 104 88099 170123 2026-08-12T15:33:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170123 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arloesydd arall oedd William Wroth. Ganed ef tua 1576 ger Abergafenni. Bu yn Rheithor Llanvaches yn 1611. Cyfyngir ei gysylltiad ef â Chaerdydd i'r pamffledau a gyhoeddasai yn 1653 i'r "Scattered Saints at Cardiff and the country thereabout." Ni adawodd Duw mohono Ei Hun yn ddidyst byth wedi hynny. Cododd Ficer Prichard i oleuo "Cannwyll y Cymry" yn ystod hanner cyntaf yr ail ganrif a'r bymtheg. Yna ymddangosodd "Seren Fore'r Diwygiad ' ym mherson Gruffydd Jones, Llanddowror, yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Y merthyr cyntaf dros ryddid crefyddol yng Nghaerdydd oedd un o'r enw Thomas Capper. Llosgwyd ef am heresi yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 1542. Saif un enw arall allan yn amlwg, sef Rawlins White, pysgotwr tlawd. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar dan nawdd y Cyngor Efengylaidd mewn coffa am ei wrhydri mor bell yn ol a 1555. Gwelir maen coffa iddo ar y mur tuallan i Gapel Bethany a'r geiriau hyn yn argraffedig yno :- "Near this spot suffered for the Truth, March 30th, 1555, Rawlins White, a fisherman of this Town." Yr hyn a dynnodd wg yr awdurdodau crefyddol oedd ei ymgais i gyfrannu gwybodaeth Feiblaidd i'w gymdogion. Dyn hollol anllythrennog ydoedd. Arferai ei fab ieuanc ddarllen yr Ysgrythyr iddo bob dydd. Cafodd y pysgotwr druan gymaint o flas wrth wrando nes iddo drysori darnau helaeth yn ei gof, ac yna aeth allan i'w hadrodd i'r bobl o'i gwmpas. Ffromodd yr offeiriaid o'r herwydd. Erlidiwyd ef yn ddidrugaredd. Rhoed ef yng ngharchar Chepstow, ac yna yng ngharchar Caerdydd. Pan o flaen y llys cafodd gyfle i fynd yn rhydd pe rhoisai derfyn ar ei genhadaeth syml, ond ofer fu pob ymgais i'w atal. Bwriwyd ef eto i'r carchar i<noinclude><references/></noinclude> tn9421kyw86p1fvjnfv27z5f5m2uuwe Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/16 104 88100 170124 2026-08-12T15:34:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170124 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aros ei ddienyddiad. Y noson cyn ei roi i farwolaeth archodd ei briod i roi "a clean white robe" iddo ("a wedding robe " y galwodd ef y wisg, "so that I may wear it at the stake"). Er iddo gyfarfod â'i briod a'i blant fore drannoeth pan ar ei ffordd o'r carchar i'r stanc, aeth ymlaen yn ddigryn, a bu'n ddiwyd am ysbaid yn cynorthwyo'r gweision i osod y danllwyth mewn trefn. Cordeddwyd ef â'r fflamau, a llefodd â llef uchel, "O Arglwydd, cymer fy enaid." Tua deng mlynedd a thriugain wedi amser Rawlins White daeth gwroniaid crefydd rydd eraill i'r amlwg, sef William Erbury a Walter Cradoc yn bennaf. Bu'r ddau fyw mewn cyfnod terfysglyd iawn. Brodor o Gaerdydd oedd William Erbury. Ganed ef yn 1604 yn Roath, neu fel y gelwid yr ardal y pryd hwnnw, "Rath." Ef oedd ficer Eglwys St. Mary. Yr oedd yn bregethwr mawr, a thanllyd ei ysbryd. Gwnaeth waith efengylydd a llanwodd le pwysig yn yr holl gylch. Walter Cradoc, brodor o Frynbiga, oedd ei giwrad. Bu yn giwrad yn Peterston- super-Ely cyn hynny. Enillodd hwnnw enwogrwydd trwy Gymru benbaladr fel pregethwr ac efengylydd. Erlidiwyd y ddau yn gynnar. Yn 1638 trowyd Erbury allan o'i fywiolaeth am wrthod ohono ufuddhau i Laud a'i ysbiwyr. Dioddefodd lawer ar law Esgob Llandaf, yr hwn a'i cyfrifai ef a Walter Cradoc yn schismaticiaid enbyd. Yr oedd yr Anghydffurfwyr yn ddigon cryf i godi capel yn y flwyddyn 1696, sef Capel Womanby Street, heol sy'n troi o Castle Street. Codwyd capel arall yn yr un man yn 1847. Y mae olion hwnnw i'w gweld yn awr. Yr oedd y Crynwyr yma yn 1660. Erlidiwyd hwy yn dost, ac yng ngharchar Caerdydd, ar y tro yn y Canal ar yr Hayes, y buont fyw y rhan fwyaf o'u hamser. Bu ganddynt gladdfa lle y saif gorsaf y G.W.R. yn awr; Sawdrey oedd ei henw. Golchwyd y fynwent i ffwrdd gan lifogydd yr afon<noinclude><references/></noinclude> quv8rxrkmaj8k51yljgn2ls3k4iy76w Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/17 104 88101 170125 2026-08-12T15:35:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170125 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Taf. Nid oes hanes am danynt o 1665 hyd 1838, sef y flwyddyn yr adeiladwyd y "Meeting House " yn Charles Street. Ceir i'r Wesleaid gychwyn yma yn 1743, er na fu ganddynt addoldy hyd 1805, pryd y codwyd capel yn Church Street. Bu John a Charles Wesley yma yn aml dros hanner can mlynedd yn pregethu yn y capel, yn y Town Hall a'r Shire Hall, ac ar risiau "Keep" y castell. Yn 1806 y cychwynnodd y Bedyddwyr, a hynny yn ymyl y fan lle y saif Capel Bethany yn St. Mary Street a Wharton Street. Tabernacl, yr Hayes, yw'r fam eglwys, yn yr hon y bu Christmas Evans yn weinidog, a bu ef yn byw yn 44, Caroline Street (1828-1832). Adeiladwyd y Tabernacl yn 1821, ond mae'n debyg i'r achos Cymraeg cyntaf gychwyn mewn ystafell ynglŷn â gweithdy gerllaw'r castell. Un o'r aelodau cyntaf yno oedd Dafydd William, Croesyparc, cyfansoddwr yr emyn, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.' Ffaith a'n tery â graddau o syndod yw mai Saesneg oedd iaith crefydd foreol Caerdydd. Y mae hynny'n wir hyd ddechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynulleidfa Seisnig a fu gan Ficer Erbury ar ol ei ysgymuniad o Eglwys Fair yn 1638. Achos Saesneg oedd yr un a gasglodd Dr. John French ynghyd o 1672 hyd 1691. Wedi hynny cadwyd yr achos hwnnw ymlaen gan yr Henadur John Archer, yr hwn, mae'n debyg, a aeth i'r draul o godi'r capel yn Womanby Street. Eglwys Seisnig oedd yr un a ymgynullai yno, ac un Seisnig yw ei dilynydd yn Cowbridge Road heddiw. Saesneg oedd iaith Caerdydd a'i heglwysi plwyfol hyd yn oed yr holl amser y bu'r ardaloedd o gwmpas yn hollol Gymraeg. Cyn gadael y rhan yma o'r hanes rhaid cadw enw Vavasor Powell mewn cof, un o Anghydffurfwyr enwocaf ei ddydd; "y disgybl tanllyd " y gelwid ef.<noinclude><references/></noinclude> 42hebhrewzdv7bni2y47vt7e2omzvk8 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/18 104 88102 170126 2026-08-12T15:36:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170126 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gweinidogaeth rymus Walter Cradoc a effeithiodd mor nerthol arno nes iddo ymroi yn egnïol i'r gwaith o bregethu. Teithiodd Gymru o'r naill ben i'r llall. Erlidiwyd ef o'r herwydd ymron yn fwy na neb arall feiddiai gyhoeddi'r Efengyl bur. Dywed y "Gwyddoniadur" am dano, "Cyfnod erledigaethus oedd yr un yr oedd Vavasor Powell yn byw ynddo, ond, feallai, o'r holl weinidogion Cymreig efe a ddioddefodd fwyaf oddiwrth ymosodiadau gelynion. Carcharwyd ef mewn tri ar ddeg o wahanol garcharau, ac am yr un mlynedd ar ddeg diweddaf o'i oes yr oedd yn barhaus yn y naill neu'r llall o'r carcharau hyn." Pregethodd lawer yng Nghaerdydd, a bwriwyd ef fwy nag unwaith i garchar y dref. Bu farw yng ngharchar Fleet Street Hydref 4ydd, 1670, yn 53ain mlwydd oed. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif gwelid gwahaniaeth dirfawr ym Mhrotestaniaeth a Phiwritaniaeth Cymru. Yn y cyfnod hwnnw y torrodd allan y Diwygiad Methodistaidd. Cododd Duw ddynion a droisant fyd Cymru wyneb i waered, a'r rheiny yn ddynion ieuainc bob un ohonynt o dan ddeg ar hugain oed, sef Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, a Howell Davies. Yr un pryd cododd hefyd ddynion ieuainc eraill yn Lloegr, sef John Wesley, George Whitefield, Charles Wesley, a John Fletcher. Dyna ddechreuad ein Cyfundeb ni, gyda Howell Harris (1714-1773), arweinydd y mudiad, a Daniel Rowlands (1713-1790), ei brif bregethwr, a William Williams (1717-1791), ei bêr-ganiedydd. Heblaw y rhai hynny daeth Peter Williams i'r maes (1722-1795) fel esboniwr cyntaf y Diwygiad Methodistaidd. Heb fanylu mwy, dyna gefndir hanes Methodistiaid pob cwr o Gymru, ac yn arbennig Caerdydd a'r cylch,<noinclude><references/></noinclude> 0qmyrr763iu40glx6jp91bccr1ojsf7 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/19 104 88103 170127 2026-08-12T15:36:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170127 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac o'r flwyddyn 1743, pryd y cynhaliwyd y Gymdeithasfa Unedig yn Watford (ym mharlwr "y Fotffordd Fawr" a adeiladwyd yn 1662, sef preswylfod Scweiar Thomas Price), hyd heddiw bu'r mudiad Methodistaidd o dan arddeliad diamheuol y nefoedd er lledaeniad Teyrnas y Gwaredwr yng Nghymru, ei dinasoedd, ei threfi, a'i phentrefi.

{{c|{{mawr|PENNOD II.
DECHREUAD METHODISTIAETH. CAPEL SEION.}}}} Deuir yn awr at hanes Methodistiaeth Galfinaidd Caerdydd, a mawr a fu'r helynt i ddod o hyd i'r ffeithiau a osodir yma. Ofer chwilio mewn un man am hanes manwl. Ysgrifennodd y diweddar Ddr. John Morgan Jones hanes byr ar gyfer Croniclau Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg, ac ysgrifennodd brodyr eraill stori dechreuad rhai o achosion Cymreig yr enwad, eithr ni welodd yr ysgrifau hynny oleu dydd hyd yn hyn. Ceir cannoedd o nodiadau o bob math ynglŷn â'r achos yn "Y Drysorfa" a'r "Cylchgrawn" yn ystod y pedwar ugain mlynedd diweddaf, a gwelir cyfeiriadau lu at hen Gapel Seion, sef capel cyntaf y Methodistiaid yma, mewn bywgraffiadau a llyfrau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddarach. Ymwelodd y Parch. George Whitefield â'r lle, a phregethodd yn Neuadd y Dref Chwefror, 1739. Bu Howell Harris yma yn 1738, a cheir iddo sefydlu seiadau o gwmpas, eithr nid oes crybwylliad o gwbl iddo gychwyn achos yng Nghaerdydd. Daeth y ddau—Harris a Whitefield—i gyffyrddiad agos â'i gilydd yng Nghaerdydd yn 1739, fel y tystia dydd-lyfr Howell Harris. Dengys Cofnodau Trefecca y cyflwynid nifer o adroddiadau i'r Gymdeithasfa yn
<noinclude><references/></noinclude> 2hzjzivrlw0z7nr0duylwiwnsvao5ga Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/20 104 88104 170128 2026-08-12T16:13:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170128 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Watford am seiadau'r cylch, ond ni sonnir am unrhyw seiat yng Nghaerdydd. Er i John Elias yntau ymweld â'r pentrefi cyfagos lawn driugain mlynedd wedi hynny, ni cheir awgrym yn ei gofnodion iddo fod yng Nghaerdydd o gwbl. Y tebyg yw nad oedd gennym achos yn y dref onide byddai rhyw hysbysiad am dano. Y traddodiad yw i'r Methodistiaid gychwyn yn Church Street, a hynny mewn undeb â'r Wesleaid. Ni ŵyr neb pryd na sut. Daeth ymraniad rhywbryd, ac adeiladwyd capel Methodistaidd ar lan y Canal gerllaw y twnnel tu cefn i Plymouth Street. Ni edwyn neb y lle, ac ni wyddis pwy a fu'n flaenllaw yno. Llai na dwy fil oedd poblogaeth y dref yr amser hwnnw. Nid annhebyg bod y Parch. Christopher Bassett, ciwrad Methodistaidd St. Ffagans, a'r Parch. Howell Howells, offeiriad Trehill, yn taflu eu haden hyd y medrent dros y ddiadell, ac y gwasanaethid yno gan bregethwyr lleyg megis William Thomas, Pil; Edward Coslett, Casbach; a Jenkin Thomas, Penhydd. Y cwbl a wyddom yw i'r frawdoliaeth adeiladu addoldy eang a phrydferth yn Trinity Street, lle y saif prif Lyfrfa Rydd y ddinas yn awr. Capel Seion oedd hwnnw. Yr oedd â'i gefn ar Working Street a'i wyneb ar Trinity Street, a daliai i eistedd o leiaf 600. Capel ar ffurf capelau Evan Harries ydoedd, gydag oriel. Rhwng y ffrynt a'r heol yr oedd darn bychan o dir a thŷ y naill du iddo. Cofiaf yr adeilad yn y saith degau, a chofiaf y pulpud "mahogany" lle y sefais droeon pan ond saith mlwydd oed i adrodd penodau o'r Ysgrythyr ar ddechreu'r oedfa nos Suliau. Cefais hefyd yr anrhydedd flynyddoedd lawer wedi hynny o sefyll yn yr un hen bulpud hardd, nid yn hogyn saith mlwydd oed, eithr fel pregethwr ordeiniedig, canys ym Methlehem, Pontlottyn, yr erys y pulpud hwnnw oddiar yr amser y symudwyd Eglwys Seion i Bembroke Terrace. Y mae yn fy meddiant restr o ugain pennod a adroddais<noinclude><references/></noinclude> o7dojvj4xf4tzl0azjd2xc4y41qq4gr Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/21 104 88105 170129 2026-08-12T16:14:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170129 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yng Nghapel Seion ar nos Suliau. Ar y ddalen wen mewn cyfrol a gynhwysai'r Cyffes Ffydd a'r Hyfforddwr y gwelir y rhestr mewn ysgrifen plentynnaidd yn hollol fel y cyfarwyddodd fy mam i'w croniclo, gan ddywedyd, "Efallai bydd yn dda gennyt ti weld hwnna mewn blynyddoedd i ddod. Cofia roi pob pennod i lawr yn deidi." Ni ŵyr neb pryd y corfforwyd yr eglwys, ac ni chytuna pawb ar y flwyddyn y codwyd y capel. Y farn gyffredin yw mai yn y flwyddyn 1827 y digwyddodd hynny, ac felly dyma gan mlynedd wedi mynd heibio. Gresyn na fai ar gael gofnodion helaeth y gallem ddibynnu arnynt o'r cyfnod maith a rhamantus hwnnw. Cawn enw un yn unig o'r sawl a fu'n gweinidogaethu ar agoriad y capel, sef y Parch. William Evans, Tonyrefail. Yn fuan wedi iddynt symud yma llanwodd dau frawd nodedig le mawr yn yr eglwys, ac am gyfnod hir, sef y Parch. Evan Morgan a Mr. Thomas Morgan o St. Ffagans. Darluniau y ddau frawd hyn sy'n grogedig yn yr ystafell tu cefn i bulpud Pembroke Terrace. Dyn o alluoedd meddyliol cryf a phregethwr da oedd y Parch. Evan Morgan, eithr gwanllyd o gyfansoddiad ac heb lawer o lais. Dechreuodd bregethu yn 1831. Rhai blynyddoedd cyn marw collodd ei lais yn hollol fel y bu rhaid iddo ymneilltuo o'r pulpud. Y mae rhai ysgrifau da o'i eiddo yn yr hen "Draethodydd," ac efe ysgrifennodd "Boanerges," sef cofiant y pregethwr tanllyd y Parch. Morgan Howells. Ef hefyd a draddododd yr araith ar "Natur Eglwys yng Nghymdeithasfa Tyddewi, Hydref, 1849. Lleygwr oedd ei frawd, Thomas Morgan, y "stone- cutter." Meddai ef bersonoliaeth gref a chyflawnder doniau ac arabedd digyffelyb. Yr oedd yn areithydd dirwest poblogaidd; yn ôl barn rhai ef oedd yr<noinclude><references/></noinclude> f74knlgvvgp2r4t7cw801b4ia8r8s3q Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/22 104 88106 170130 2026-08-12T16:15:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170130 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>areithydd dirwest mwyaf hyawdl a welodd Cymru. Cymdeithas Ddirwestol Caerdydd a'r Cyffiniau a gyflwynodd y darlun ohono sydd yn y festri. Dywed y Parch. J. Morgan Jones am dano iddo glywed bod y Parch. Henry Rees wedi addo dod i Gymdeithasfa Dowlais yn 1852, ac iddo lwyddo i gael cyhoeddiad gan y seraff-bregethwr i Gapel Seion y Sul cyn y Sasiwn, ac hefyd i roi oedfa yn yr un lle wrth ddychwelyd. Wedi cyrraedd, nos Sadwrn, achwynai Mr. Rees fod ei draed yn ddolurus a bod ei esgidiau yn rhy fach iddo. Cynhygiodd Mr. Morgan iddo bâr o'i eiddo ei hun, ac wedi deall bod y rhai hynny yn esmwythach dywedodd y gallai eu cadw hyd nes y dychwelai yno ar ei ffordd adref. Aeth y ddau ynghyd i'r Gymdeithasfa, ond wedi cyrraedd dyma flaenoriaid y sir yn codi fel gwenyn ym mhen Mr. Rees am ei fod yn dychwelyd i Gaerdydd wedi bod yno Sul eisoes. Trodd yntau at Thomas Morgan, a meddai, "Chwi glywch beth y maent yn ei ddywedyd? Meddai yntau ar amrantiad, "Mr. Rees, os nad ydych yn dychwelyd i Gaerdydd yn ôl eich addewid, tynnwch fy esgidiau i oddiam eich traed yn y fan hon, ac ewch at y brodyr yma yn nhraed eich hosanau." Dywed Dr. J. M. Jones am dano eto: "Pan oedd llanw sobrwydd yn bur uchel aeth Mr. Morgan i Gymdeithasfa yn Nhalgarth, a rhywsut rhoed ef i letya mewn tafarndy. Cyn mynd i'r cyfarfod cyntaf gofynnai gŵr y tŷ iddo gymryd glasiad o gwrw. Na," meddai yntau, "fyddaf i byth yn cymryd diferyn cyn swper.' Wedi dychwelyd, a swpera, dyma'r tafarnwr yn cynnyg diod iddo drachefn. "Na," meddai Mr. Morgan, yr un dafn ar ol swper, os gwelwch chwi'n dda." Dyn rhyfedd ydych chwi," ebe hwnnw, "yr un dafn cyn swper na'r un dafn ar ol swper; a ydych chwi yn perthyn i'r' totals,' dywedwch?" Pwy yw y rhai hynny?" gofynnai yntau. Dechreuodd y tafarnwr egluro, a datganai<noinclude><references/></noinclude> stc8j169orz748p832l743jviv8u5ka Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/23 104 88107 170131 2026-08-12T16:15:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170131 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Morgan ei syndod wrth wrando, fel y llwyddodd i ymadael heb dramgwyddo y rhai a'i lletyai." Aeth yr achos ymlaen yn dra llwyddiannus yng Nghapel Seion am chwarter canrif; llanwyd y pulpud gan brif weinidogion Morgannwg a Mynwy, a chynhyddai'r eglwys a'r gynulleidfa. O'r diwedd newidiodd pethau er gwaeth. Cododd ymrafael difrifol am i'r blaenoriaid a chorff yr aelodau addo cydnabod y Parch. Evan Morgan am ei lafur bugeiliol. Cyfryngodd y Cyfarfod Misol, a bu'r capel ynghau am rai Suliau, a bu'r eglwys heb gymundeb am ddwy flynedd. Yn y cyfamser bu'r Parch. Evan Morgan farw, sef Awst 10fed, 1853, wedi pregethu am tua 24ain o flynyddoedd, ac nid hir y bu Mr. Thomas Morgan cyn ei ganlyn i'r bedd, y naill yn 44ain a'r llall yn 42ain mlwydd oed. Dywedir i'r Parch. Edward Matthews draddodi pregeth angladdol hynod o lem i'r gŵr parchedig, yn yr hon y cyhuddai adran o'r eglwys o fod yn euog o'i lofruddio. Dywed y Parch. W. Evans, M.A., yng nghofiant W. Evans, Tonyrefail, i'r Parch. W. Evans draddodi'r bregeth ar achlysur claddedigaeth y Parch. Evan Morgan, a dywedir yno am yr ymadawedig, "Yr oedd sancteiddrwydd ei fywyd, ei lafur yn y Gair a'r athrawiaeth, a difrifoldeb ei weinidogaeth yn ei brofi yn ŵr Duw.' Er i'r hen lefain barhau heb ei garthu allan yn llwyr am flynyddoedd, hanes cynnydd a datblygiad rhyfeddol sydd i'r achos. Rhaid bod i'r enwad safle pwysig yn y dref yn ystod y deugain mlynedd hynny. Rhoddir hanes diddorol yn "Y Drysorfa" am 1858 am helynt a flinai'r crefyddwyr tua 1857. Yr oedd Ffair Sulgwyn Llandaf mewn bri yr adeg hynny, a darfu i ysgolion Sul Methodistiaid y cylch, naw mewn nifer, benderfynu gwneud a allent i wrthweithio dylanwad niweidiol y ffair. Cynhaliwyd Cymanfa'r Ysgolion Llungwyn, 1858, yng Nghapel Seion, Trinity Street. Ffurfiodd yr<noinclude><references/></noinclude> 9zlntns6ro6nk50m0o66bh3tl982udw Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/24 104 88108 170132 2026-08-12T16:16:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170132 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>athrawon a'r ysgolheigion orymdaith ac aed trwy'r prif heolydd dan ganu. Am ddeg y bore daeth y dyrfa ynghyd i'r capel, pryd yr holwyd tair o'r ysgolion, sef Seion, Pentyrch, a Dinas Powis, a'r tair ysgol hynny oedd yn gyfrifol am y ganiadaeth. Yr holwyr oedd y Parchedigion Aaron Davies, David Phillips, Maesteg, a Thomas Lefi. Wedi'r holi traddodwyd anerchiad gan Mr. Phillips, Stockland, ar "Gyflwr Cymru cyn cychwyn Ysgolion Sul." Am 2.30 bu tair ysgol arall dan arholiad gan y Parchedigion William John, Treforest; Aaron Davies, a William Williams, Penclawdd. Anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. T. Lefi ar "Hanes Feiblaidd," a datganwyd yr "Hallelujah Chorus." Eisteddodd wyth cant i dê yn y marchnaty cyfagos. Am 6.30 o'r gloch daeth y tair ysgol arall ymlaen i gael eu holi gan y Parchedigion Aaron Davies, Thomas Lefi, a David Phillips. Y tair hyn oedd Canton, Whitchurch, a St. Fagans. I ddiweddu'r ŵyl, holwyd y gynulleidfa gan Mr. Watkin Williams. Cafodd yr ymdrech glodwiw hon effaith ddymunol iawn ar yr eglwysi a'r ysgolion, a diameu iddi gyfrannu'n sylweddol i fywyd moesol ac ysbrydol y dref. Dywed yr un "Drysorfa" hefyd, "Er nad oes nemor o hanes Methodistiaid Caerdydd yn ymddangos yn "Y Drysorfa," na feddylied neb mai rhai diog a diegni ydynt. O fewn y ddwy flynedd ddiweddaf adeiladasant ddau gapel newydd yn y Docks a Chanton. Y mae Ysgol Sul Seion yn ddau gymaint ag oedd dair neu bedair blynedd yn ol, pan nad oedd ond un capel gan y Methodistiaid yn y dref." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> asivgh2lifzu309f9xfp8p7u2tkonvy Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/25 104 88109 170133 2026-08-12T16:33:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170133 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD III.
CYMANFAOEDD A CHYMDEITHASFAOEDD Y BLYNYDDOEDD GYNT.}}}} Tua chanol y ganrif ddiweddaf yng nghyfeiriad y Bute Docks y cynhyddodd y dref fwyaf. Er mwyn y rhai a symudai yno wedi cwblhau y dociau mawr, ac er mantais y morwyr Cymreig a ddeuai yno, cymerwyd ystafell yn Maria Street, neu yn Patrick Street, i gynnal moddion. Yn y flwyddyn 1853 уг oedd hynny. Agorwyd capel Bethania, Loudoun Square, Hydref 15fed a'r 16eg, 1856. Estynnodd y dref ei therfynau tua'r gorllewin, dros yr afon Taf, ac agorwyd Capel Salem yng Nghanton y flwyddyn ganlynol, sef Ionawr 1af, 1857. Helaethwyd Capel Salem ym mis Gorffennaf, 1868. Meddiannai'r ysbryd cenhadol y bobl i'r fath raddau fel y darfu i ddynion ieuainc Seion gychwyn achos Saesneg. Yr hyn a'u hysgogai at hynny oedd y farn gyffredin a ffynnai y byddai achosion Cymreig y dref oll wedi darfod yn fuan! Dechreuwyd pregethu yn y Stuart Hall yn 1866, ac agorwyd Capel Frederick Street (Great Frederick Street oedd enw'r heol y pryd hwnnw) yn 1869. Bu amryw o weinidogion a phregethwyr yn aelodau yn Seion o'r cychwyn. Sonia Dr. J. M. Jones am un Mr. William Thomas a adwaenid fel William Thomas, Caerdydd. Cyfrifid ef yn ŵr cadarn yn yr athrawiaethau, ond, oherwydd diffyg ar ei barabl a rhyw wîch a berthynai iddo, nid oedd yn gymeradwy gan y cynulleidfaoedd. Ond ni feddyliai ef yn fach ohono ei hun. Un bore Saboth dywedai mewn capel lle y buasai gweinidog hynod o wlithog ei ddawn yn pregethu ychydig cyn hynny, "Yr ydych wedi cael bwyd melys yma'n ddiweddar, bwyd llwy, ond heddiw<noinclude><references/></noinclude> 1u8e98o433l7jrhyigv3hlratz07elc Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/26 104 88110 170134 2026-08-12T16:33:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170134 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dyma fi wedi dod i roi bwyd cryf i chwi, ymborth iachus gwirionedd." Yn 1830 y dechreuodd Mr. William Thomas bregethu. Daeth Dr. J. Harries Jones i Gaerdydd o Germani tua 1860; ymaelododd yn Eglwys Seion a bu'n weithgar dros ben yn yr eglwys hyd ei benodiad yn Athro Clasurol yn Athrofa Trefecca. Y mae gennyf un atgof am Dr. Harries Jones, ac un yn unig, na fyddai allan o le i mi ei adrodd fan hyn. Bu mewn cyfarfod pregethu ym Mhembroke Terrace ychydig cyn iddo farw. Pregethai ar y testun, "Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys." Yr oeddwn yn ieuanc iawn ar y pryd, ond y mae'r atgof yn fyw iddo ar derfyn y bregeth, mewn hwyl fawr, ymestyn ymhell dros y pulpud nes ymron cwympo i'r sêt fawr, a chan ysgwyd ei freichiau yn egnïol yn ol ac ymlaen, disgrifiai Petr yn chwifio "Agoriadau Teyrnas Nefoedd" yng ngŵydd Satan a'i lu. Clywais dincian yr allweddau yn berffaith, ac fe'm brawychwyd gymaint fel nad anghofiaf hynny byth. Yn gynnar yn y chwe' degau y daeth y Parch. Richard Lumley i Gaerdydd o Abertawe, oblegid ei fod wedi prynu gwaith haearn Llandaf, ac nid hir y bu cyn priodi gweddw'r Parch. Evan Morgan. Edrychid arno ef yn gyfiawn fel un o dywysogion y pulpud, a diau y safai ar ei ben ei hun o ran boneddigeiddrwydd ymddangosiad, coethder iaith, a pherchen athrylith. Cofiaf yn dda am dano flynyddoedd wedi hynny, pan bregethai yng nghyfarfodydd agoriadol Pembroke Terrace. Enillodd ffafr y frawdoliaeth yng Nghapel Seion, a theimlid galar cyffredinol ar ei ol pan orfu iddo ymadael wedi colli yr oll a feddai. Y mae gan Dr. J. M. Jones erthygl gynhwysfawr ar y Parch. Richard Lumley yn "Y Drysorfa" am Gorffennaf, 1919. Tua'r un adeg y symudodd y Parch. Edward Matthews i Gaerdydd, ond yn Salem, Canton, y bwriodd ef ei goelbren. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hianby0zs2bb3uaizvnzf3p7nv5t14h Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/27 104 88111 170135 2026-08-12T16:34:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170135 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn ystod blynyddoedd 1871-1873 daeth dau o aelodau ieuainc yr eglwys ymlaen fel ymgeiswyr am y weinidogaeth, sef Mr. Josiah Thomas a Mr. W. Selwyn Davies. Cofiaf y ddau wedi iddynt gael eu hordeinio i'r gyflawn weinidogaeth. Ni bu gyrfa'r Parch. Josiah Thomas yn llwyddiannus. Ymunodd ag Eglwys Loegr. Cyfarfûm ag ef flynyddoedd wedi hynny yn Sir Faesyfed, lle yr oedd mewn parch mawr ymhlith ei blwyfolion. Troes y Parch. W. Selwyn Davies allan yn weinidog hynod o gymeradwy. Bu yn bugeilio'n llwyddiannus iawn eglwysi Blaenllechau a Chrug-glâs, Abertawe, ond torrwyd ef i lawr ynghanol ei ddyddiau ac yn anterth ei ddefnyddioldeb. Pregethwr ieuanc oedd Mr. Selwyn Davies pan oeddwn i yn hogyn, ond cofiaf am ddau amgylchiad pryd y cefais y fraint o adrodd penodau ar ddechreu'r oedfa iddo yn Seion. Syniad plentynnaidd ddigon ydoedd, ond credais yn y blynyddoedd tyner hynny fod gennym gartref ddarlun go dda o Selwyn Davies. Cofiaf yn eithaf da sut yr arferwn edmygu ei wyneb glandeg. Syllais droeon ar y darlun oedd gennym gartref a bernais ei fod yn hollol "true to nature." Un o ddarluniau lliwiedig Beibl Mawr teuluaidd oedd y pictiwr, serch hynny, a neb llai na'r Proffwyd Daniel yn ffau'r llewod! Byth oddiar hynny y mae gennyf feddwl mawr o Ddaniel ar gyfrif y darlun ohono yn y Beibl Mawr, er i mi ddeall wedi hynny na chytunai'r beirniaid newydd ar ddilysrwydd y portread. Cyfeiria'r Parch. W. Evans, M.A., yn ei Gofiant W. Evans, Tonyrefail, at gapelau Morgannwg yn 1818, a dywed fod capel gennym yng Nghaerdydd cyn 1805. Ni welsom grybwylliad am hynny mewn un man arall. Mae'n debyg y cyfeiria Mr. Evans at Gapel Church Street. Cynhaliwyd cymanfa, fel y'i gelwid, yng Nghaerdydd, Ionawr 8fed a'r 9fed, 1823. Pregethwyd ynddi<noinclude><references/></noinclude> 8fplkucb7wsq1y78f735tfy4lpcd5kb Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/28 104 88112 170136 2026-08-12T16:35:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170136 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y drefn ganlynol:—Ionawr 8fed, am 4, Richard Davies, Caio, a T. Jones, Caerfyrddin; Ionawr 9fed, am 10, T. Harris, Hwlffordd, a D. Charles, Caerfyrddin; am 2, M. Davies, Llanfair-ym-Muallt, ac E. Richards, Tregaron; am 6, William Harris, Trefecca, a W. Havard, Pontfaen. Ar y maes y bu'r pregethu. Cathays Park, yn ddiau, yw'r maes a feddylir. Cynhaliwyd cymanfa arall yma Ebrill 11-13, 1838. Gwelir yr hanes yn "Can mlynedd o Gymdeithasfaoedd," ac yn y "Cambrian General Advertiser for the Principality of Wales"; gweler "Cylchgrawn Cymdeithas Hanes," Mehefin, 1927. Wele drefn yr oedfaon pregethu:—Ebrill 11eg, am 6, yn Seion, William Williams, Talgarth, a Thomas Richards, Abergwaun; Ebrill 12fed, am 3, ar y maes, sef yn ôl y "Cambrian Advertiser' yng Nghathays Park, Richard Lumley a Daniel Evans, Capel Drindod, yn Saesneg a Chymraeg; am 7, yn Gymraeg, yn Ebeneser (Annibynwyr), Rees Phillips, Llanymddyfri, a Morgan Howells, Casnewydd; yn Gymraeg, yn Tabernacl (Bedyddwyr), Enoch Lewis, Abergwaun, a Ffoulk Evans, Machynlleth; yn Saesneg, yng nghapel y Bedyddwyr, Thomas Havard, Penybont; yng nghapel y Wesleaid, W. Griffiths, Burry's Green; Ebrill 13eg, am 6, yn Gymraeg, yn Seion, Ffoulk Evans, Machynlleth; am 10, ar y maes, Enoch Lewis, Abergwaun, yn Saesneg, a Thomas Richards, Abergwaun, yn Gymraeg; am 2, ar y maes, Thomas Harris, Hwlffordd, yn Saesneg, a William Havard, Penybont, yn Gymraeg; am 6, Seion, Morgan Howells, Casnewydd, yn Gymraeg, a T. Harris, Hwlffordd, yn Saesneg. Talodd y Parch. T. Richards ddiolch yn gyhoeddus i awdurdodau'r Parc am roi'r maes at wasanaeth y Gymanfa. Cafwyd tywydd dymunol yr holl amser, a bernir bod dros chwe chant o bobl ar y maes dydd Gwener. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> b0jjul06v6lyeaqsm32kmthxsh6ctih Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/29 104 88113 170137 2026-08-12T16:35:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170137 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ceir dau hysbysiad o bwys yn rhifyn Mehefin, 1917, Gylchgrawn Cymdeithas Hanes," y rhai a ddyfynnwyd o'r "Cambrian Advertiser," sef, October 31, 1835, Sale by Auction at the Town Hall, Cardiff, on Monday, Nov. 9, 1835, Lot 12, a piece of land, situate in Working Street, adjoining and in front of the Welsh Calvinistic Chapel in the occupation of the Trustees of the chapel, subject to a lease of 999 years from May 1, 1834, at a yearly rent of £1. May 6, 1837. Cardiff Temperance Society. Public Meeting held at Zion Calvinistic Methodist Chapel (the first place of worship opened in Cardiff for holding a Temperance Meeting)." Edrydd y Parch. W. Evans, M.A., yn ei gofiant i'w dadcu am "Association " a gynhaliwyd yma Mawrth 19-21, 1856, sef y Gymdeithasfa gyntaf y bu ef yn bresennol ynddi, a chanddo atgof byw am dani. Mr. Phillips (Dr. wedi hynny) oedd y llywydd. Am 3 y prynhawn cyntaf pregethai David Charles, Trefecca, a Henry Rees; am 10, dydd Gwener y Groglith, William Howells, Caerfyrddin, yn Saesneg, a Henry Rees; am 2, David Morgan, Trallwm, a William Morris, Rhuddlan; am 6 y bore, yn Seion, Thomas Jones, y cenhadwr, a Thomas Phillips, Henffordd ; am 6 yr hwyr, John Jones, Llanbedr, a Dr. John Harries Jones. Y mae'n flin gennym na chawsom gan neb unrhyw wybodaeth ynghylch dylanwad Diwygiad 1859 ar Eglwys Seion. Crybwyllir yn hanes Salem mewn rhan arall o'r llyfr am yr ychwanegiad a wnaed yno trwy'r ymweliad grasol hwnnw. Nid oes fawr sôn ychwaith yng Nghaerdydd am y Diwygiad a dorrodd allan yn 1904-5. Cafodd yr eglwys y fraint o groesawu cymdeithasfa ordeinio ym mis Awst, 1872. Traethai'r Parch. R. Roberts, Llangeitho, ar "Natur Eglwys," a<noinclude><references/></noinclude> jpw3washztnvpj64wcxobti32ms5igd Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/30 104 88114 170138 2026-08-12T16:42:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170138 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>thraddodwyd y Cyngor gan y Parch. William Powell, Penfro. Cafwyd llewych ar yr oedfaon cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghapel Wood Street. Wele drefn y cyfarfodydd pregethu-Awst 6-8, 1872—Awst 6ed, am 7, Seion, Parchn. D. Charles Davies, M.A., ac Owen Thomas, Lerpwl; Frederick St., yn Saesneg, David Evans, Abertawe, a W. Powell, Penfro; Awst 7fed, am 6, ''Wesley'', D. W. Davies, Brecon ; am 3, yn y ''Music Hall'', Daniel Jenkins, Babell, a John Jones, Blaenannerch; am 6, yn y ''Tabernacl'', Thomas James, Llanelli, ac Owen Thomas; am 6, yn Seion, Griffith Davies, Aberystwyth, a Hugh Jones, Lerpwl; ''Frederick St''., yn Saesneg, Thomas Rees, Crughywel, a David Howells, Abertawe; Awst 8fed, am 6, yn Seion, John Jones, Caernarfon; am 10, yn y ''Music Hall'', Robert Roberts, Llangeitho, ac Owen Thomas; am 2, yn yr un neuadd, Hugh Jones, Lerpwl, a D. Charles Davies, M.A.; am 6, yn yr un man, W. Williams, Crughywel, ac Owen Thomas; am 6, yn ''Frederick St''., yn Saesneg, W. Evans, M.A., Pembroke Dock, a Griffith Davies, Aberystwyth. Capel Wood Street yw'r "Music Hall" y cyfeirir ato uchod. Dywed Dr. J. M. Jones mai oedfa i'w chofio oedd yr un ddeg o'r gloch y prif ddiwrnod. Testun Dr. Thomas oedd "Ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair," a phan anogai'r bobl gyda difrifwch ofnadwy ar iddynt ffoi o ddinas distryw gwaeddodd yr hen frawd John Williams, Treherbert, "Dyma ni'n dod " nes cynhyrfu'r holl gynulleidfa. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> taboy2is4sc7ulafmwsqwr6bcqc23ew Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/31 104 88115 170139 2026-08-12T19:08:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170139 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN II.
Llwybrau'r Ffyddloniaid.}}}} {{lein|5em}} {{c|mawr|PENNOD IV.
HELYNTION YR ACHOS HYD DDYFODIAD Y PARCH. J. MORGAN JONES. SYMUD I BEMBROKE TERRACE.}}}} TUA diwedd y flwyddyn 1874 digwyddodd "peth newydd" yng Nghapel Seion, chwedl y Parch. Samuel Jones, Penarth. "Peth newydd oedd hyn i Eglwys Seion, nid oherwydd gwrthwynebiad i'r fugeiliaeth, eithr yn bennaf am mai peth cymharol newydd i'r Cyfundeb oedd galw gweinidogion i ofalu am eglwysi unigol. Heblaw hynny, ni theimlai'r eglwys angen am fugail tra y ceid gwasanaeth ffyddlon a diwyd cynifer o weinidogion o fri a fu'n aelodau yno. Beth bynnag am hynny, rhoes yr eglwys alwad i'r Parch. John Morgan Jones, Trefforest, i ddod yn weinidog iddi. Cychwynnodd yntau ar ei waith yno y dydd cyntaf o Fawrth, 1875. Cadeirydd y cyfarfod sefydlu oedd y Parch. Edward Matthews, ac wele enwau y rhai a gymerai ran, sef, y Parchn. D. Saunders, William James, Selwyn Davies, Nathaniel Thomas (Bedyddwyr), Mr. David Evans, Docks, a'r Parch. Thomas Davies, Crughywel, tad-ynghyfraith y gweinidog. Gofalodd Mr. Jones ddywedyd flynyddoedd wedi hynny mai cymharol fechan oedd yr eglwys ar y pryd, tua 170 o aelodau cyflawn. Prin y gellid dywedyd bod y Methodistiaid â gafael dda ar y dref; pump o eglwysi, a'r rhai hynny yn fychain, oedd ganddynt, ac ni allai rhif eu cynnwys fod dros chwe chant a hanner. Y blaenoriaid ar y pryd oedd Evan Jenkins,<noinclude><references/></noinclude> dvla09vksfh6m5wsgdh2ev31zo1zzfk 170140 170139 2026-08-12T19:09:30Z AlwynapHuw 1710 170140 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN II.
Llwybrau'r Ffyddloniaid.}}}} {{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD IV.
HELYNTION YR ACHOS HYD DDYFODIAD Y PARCH. J. MORGAN JONES. SYMUD I BEMBROKE TERRACE.}}}} TUA diwedd y flwyddyn 1874 digwyddodd "peth newydd" yng Nghapel Seion, chwedl y Parch. Samuel Jones, Penarth. "Peth newydd oedd hyn i Eglwys Seion, nid oherwydd gwrthwynebiad i'r fugeiliaeth, eithr yn bennaf am mai peth cymharol newydd i'r Cyfundeb oedd galw gweinidogion i ofalu am eglwysi unigol. Heblaw hynny, ni theimlai'r eglwys angen am fugail tra y ceid gwasanaeth ffyddlon a diwyd cynifer o weinidogion o fri a fu'n aelodau yno. Beth bynnag am hynny, rhoes yr eglwys alwad i'r Parch. John Morgan Jones, Trefforest, i ddod yn weinidog iddi. Cychwynnodd yntau ar ei waith yno y dydd cyntaf o Fawrth, 1875. Cadeirydd y cyfarfod sefydlu oedd y Parch. Edward Matthews, ac wele enwau y rhai a gymerai ran, sef, y Parchn. D. Saunders, William James, Selwyn Davies, Nathaniel Thomas (Bedyddwyr), Mr. David Evans, Docks, a'r Parch. Thomas Davies, Crughywel, tad-ynghyfraith y gweinidog. Gofalodd Mr. Jones ddywedyd flynyddoedd wedi hynny mai cymharol fechan oedd yr eglwys ar y pryd, tua 170 o aelodau cyflawn. Prin y gellid dywedyd bod y Methodistiaid â gafael dda ar y dref; pump o eglwysi, a'r rhai hynny yn fychain, oedd ganddynt, ac ni allai rhif eu cynnwys fod dros chwe chant a hanner. Y blaenoriaid ar y pryd oedd Evan Jenkins,<noinclude><references/></noinclude> cncuad46xc3rjmtc86udai866m8xy9r Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/32 104 88116 170141 2026-08-12T19:10:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170141 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>David Jones, a Thomas John. Ymysg y swyddogion blaenorol y daeth eu henwau i lawr hyd atom ceir Thomas Morgan, David Davies, Thomas Sion, Alexander Matthews, Thomas Edmunds, a William John, y calchwr. Cyn iddynt alw'r Parch J. M. Jones i'r fugeiliaeth dywedir bod ym mryd y swyddogion i gael y Parch. Samuel Jones yn weinidog yno, a chyda hynny mewn golwg dywedodd Thomas John wrtho yn ddigon diniwed, "Mae yma ddymuniad am i chwi ddod yma i gymryd y baich oddiar ein hysgwyddau ni y swyddogion." "O felly," meddai Samuel Jones, dyna fel y mae i fod, aie, cymryd y baich oddiarnoch chwi a'i chario hi fy hun? 'Roeddwn i'n meddwl mai bugail i gydweithio â chwi oedd eisiau, ond fel arall y mae hi'n sownd. Na, na, ddeuaf i ddim atoch chwi." Ni ryfedda neb a adwaenai'r hen batriarch iddo roi'r cyfryw ateb i Thomas John. Ychydig dros hanner can mlynedd yn ol oedd hynny, a gwnaed camrau breision gyda'r achos yn fuan wedi dyfodiad y bugail newydd, ond yn gynnar yn y flwyddyn 1876 cododd helynt a roes braw llym ar wroldeb a medr y gweinidog. Mynegodd Corfforaeth Caerdydd ei bwriad i osod mewn grym ei hawl gyfreithiol i gymryd tafell o'r capel er lledu'r heol tu cefn. Yn ôl darpariaeth y Ddeddf Seneddol, gallai'r eglwys orfodi'r gorfforaeth i gymryd yr oll o'r eiddo os y cymerai ryw gymaint. Parodd hynny gynnwrf yn y gwersyll. Mynnai rhai ildio darn o'r capel, gan gredu bod crefydd yn ei gwisg Gymreig ar ddarfod o'r dref—"Gwna'r darn fydd ar ol y tro i ni'r hen Gymry." Pleidiai eraill y dylid gadael i'r dref gael y cyfan, ac i'r eglwys adeiladu addoldy mewn man arall. anhawster i symud oedd bod amryw wedi eu claddu yn ffrynt y capel a pherthnasau agos iddynt yn awr yn fyw, ac yn enwedig bod bedd y ddau frawd, y Parch. Evan Morgan a Mr. Thomas Morgan yno, ac y byddai<noinclude><references/></noinclude> ks8yoo4n8o99u7puo7yp6igjcdvzsqg Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/33 104 88117 170142 2026-08-12T19:11:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170142 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymadael yn golygu symud eu gweddillion i'r Gladdfa Gyhoeddus yng Nghathays. Er pob rhwystr aeth y mwyafrif yn gryf dros gapel newydd. Gyda chydsyniad yr Henaduriaeth a'r Gymdeithasfa, gwerthwyd Capel Seion i Gorfforaeth Caerdydd am y swm o £6,500. Cymerwyd tir at gapel newydd ym Mhembroke Terrace, heol ag oedd yn ''cul-de-sac'' ar y pryd. Costiodd y capel tua phum mil a hanner o bunnoedd. Aeth y mil arall i dalu dyled yr eiddo cysylltiedig â Chapel Seion. Archadeiladydd y capel newydd oedd Mr. Henry Harris, pensaer ieuanc o gryn hynodrwydd. Mor gelfydd y lluniodd ef y cynllun fel y rhoed darlun ohono i'w grogi yn yr Academi Brenhinol, a diau ei fod yr addoldy mwyaf clasurol yn y dref. Yr adeiladwyr oedd Mri Webb o Birmingham. Agorwyd Capel Pembroke Terrace, a hynny'n ddiddyled, yr wythnos gyntaf o Orffennaf, 1878, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion William Evans Tonyrefail, Richard Lumley, Edward Matthews, David Saunders, ac Owen Thomas, Lerpwl. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, a chofiaf i mi fod yno dan ofal fy mam ac yn rhyfeddu wrth weld y capel hardd wedi ei orlenwi. Ymadawodd rhai o'r eglwys mewn canlyniad i'r symudiad, ac yn eu plith Mr. Evan Jenkins. Bu Mr. David Jones farw. Daeth angenrheidrwydd am ychwaneg o flaenoriaid, ac etholwyd seithwyr da eu gair, sef Mri Thomas Williams, Samuel Mildon, William Morgan, Alexander Matthews, Daniel Morgan, John Griffiths, a Griffith James. Dywed y Parch. Ddr. J. M. Jones, am y brodyr hyn: "Dyn gwrol a chysegredig i grefydd oedd Thomas Williams, a bu am gyfnod hir yn drysorydd yr eglwys. Sais a ddysgodd Gymraeg oedd Samuel Mildon ac wedi cael troedigaeth amlwg. Daeth wedi hyn yn ŵr amlwg yn y dref ac yn henadur o'r Cyngor Tref.<noinclude><references/></noinclude> 4l8oe5z2lx6scvmkf8wzbn5n6gfm12h Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/34 104 88118 170143 2026-08-12T19:24:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170143 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Un o blant Diwygiad '59 oedd William Morgan, a naws y diwygiad yn aros yn drwm ar ei ysbryd, a'i acen i'w theimlo ar ei weddïau. Mab i'r hen flaenor o'r un enw oedd Alexander Matthews, a bu yn arweinydd y gân. Nid oes llawer i'w ddywedyd am y lleill heblaw eu bod yn ffyddlon." Y mae gennyf atgofion byw am bob un o'r brodyr hyn, ond rhaid i'r rheiny roi ffordd er mwyn coffhau am ddau frawd nodedig iawn. Daw'r ddau yn fyw i'm cof. Y cyntaf ydyw Mr. Evan Jenkins, dyn nodedig am ei grefyddolder a fu byw yn Charlotte Street, un o'r strydoedd gwaethaf yn y dref yn yr ardal ddychrynllyd lle y trigiannai y dyhirod a elwid "The forty thieves." Evan Jenkins oedd y "Town Missionary," a bu yn un o flaenoriaid parchusaf Eglwys Seion. Cofiaf ei wyneb glân, a'i hir-wallt gwyn yn cyrraedd ei ysgwyddau. Pryd bynnag y disgwyliai am osteg yn yr Ysgol Sul, neu yn y gobeithlu, heb yngan gair curai'r ford â'i law neu tarawai'r llawr â'i droed, a chaffai ddistawrwydd yn y man, ac yna codai ei fys i fyny i'n hatgoffa, mae'n debyg, fod Un a'n gwelai ni blant. Ni ddywedai air. Yr oedd ei osgo yn ddigon i sicrhau llonyddwch. Cadwai "Penny Bank" yr Ysgol Sul yn ei dŷ yn Charlotte Street, a bu rhaid i ni blant fynd â'n ceiniogau yno bob nos Wener. Er garwed y lle, ac er mor beryglus i neb fynd ar hyd ffordd y lladron yn Whitmore Lane a Charlotte Street, yr oedd y ffaith mai yno yr oedd trigias Evan Jenkins yn sicrwydd i'n rhieni y dychwelem adref yn ddiogel ac yn ddianaf. Felly y bu yn ddieithriad. Perchid ef gan gymeriadau gwaethaf y gymdogaeth. Yr oedd ymddangosiad Jenkins ar gapan ei ddrws yn ddigon i roi terfyn ar y ffraeon gwylltaf a allai fod ar droed. Cofus gennym ddiwrnod ei gladdedigaeth, a thybiasom i holl drigolion y dref droi allan i ddangos eu parch i goffadwriaeth yr hen batriarch annwyl. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hags4qk6z6t5catlnzv3jka7hrvf972 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/35 104 88119 170144 2026-08-12T19:26:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170144 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y brawd arall a eilw am goffhad fan hyn yw John Haddock, cymeriad ar ei ben ei hun yn hollol. Ni fu'n flaenor erioed, eithr llanwodd le amlwg a phwysig yn yr eglwys. Un o'r cymeriadau hynotaf a gofiem oedd John Haddock. O ran ei wedd, a'i dymer hefyd, ni allai neb a'i adwaenai ei anghofio byth. Dyn ofnadwy o annuwiol a fuasai ef, nwydwyllt a chreulon, rheglyd ei iaith, anwybodus am grefydd, ac yn treulio ei oriau hamdden mewn cyfeddach a meddwdod. Ond aeth saeth oddiar fwa'r Ysbryd i'w galon a daeth yn greadur newydd. Elai ar ei liniau mewn unrhyw gongl neilltuedig, ac yr oedd yn rhy anwybodus i weddio yn enw Iesu Grist, a synnai mewn blynyddoedd diweddarach na buasai'r Arglwydd yn ei ladd o'r herwydd. Os byddai awel o Galfaria yn chwythu ar yr oedfa, John Haddock a'i teimlai gyntaf o bawb ; torrai allan yn fynych i ddiolch, ac aeth adran o'r eglwys i farnu gwerth pregeth wrth ei dylanwad arno ef. Geiriau'r Parch. Ddr. J. M. Jones am dano yw yr oll a roddir yma ymron, eithr nid aiff John Haddock yn anghof gan neb o'r plant oedd yn yr eglwys y blynyddoedd hynny. Bu farw mewn tangnefedd, a chladdwyd ef yn anrhydeddus ar draul yr eglwys. Yr wyf yn cofio'r noson y penderfynodd yr eglwys wneuthur y gymwynas olaf hon i'r hen frawd.
## bbb ##
<noinclude><references/></noinclude> q7sjskts0z8hicjm3myvh5jdq3haizd 170145 170144 2026-08-12T19:27:43Z AlwynapHuw 1710 170145 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y brawd arall a eilw am goffhad fan hyn yw John Haddock, cymeriad ar ei ben ei hun yn hollol. Ni fu'n flaenor erioed, eithr llanwodd le amlwg a phwysig yn yr eglwys. Un o'r cymeriadau hynotaf a gofiem oedd John Haddock. O ran ei wedd, a'i dymer hefyd, ni allai neb a'i adwaenai ei anghofio byth. Dyn ofnadwy o annuwiol a fuasai ef, nwydwyllt a chreulon, rheglyd ei iaith, anwybodus am grefydd, ac yn treulio ei oriau hamdden mewn cyfeddach a meddwdod. Ond aeth saeth oddiar fwa'r Ysbryd i'w galon a daeth yn greadur newydd. Elai ar ei liniau mewn unrhyw gongl neilltuedig, ac yr oedd yn rhy anwybodus i weddio yn enw Iesu Grist, a synnai mewn blynyddoedd diweddarach na buasai'r Arglwydd yn ei ladd o'r herwydd. Os byddai awel o Galfaria yn chwythu ar yr oedfa, John Haddock a'i teimlai gyntaf o bawb ; torrai allan yn fynych i ddiolch, ac aeth adran o'r eglwys i farnu gwerth pregeth wrth ei dylanwad arno ef. Geiriau'r Parch. Ddr. J. M. Jones am dano yw yr oll a roddir yma ymron, eithr nid aiff John Haddock yn anghof gan neb o'r plant oedd yn yr eglwys y blynyddoedd hynny. Bu farw mewn tangnefedd, a chladdwyd ef yn anrhydeddus ar draul yr eglwys. Yr wyf yn cofio'r noson y penderfynodd yr eglwys wneuthur y gymwynas olaf hon i'r hen frawd.

{{c|{{mawr|PENNOD V.
EGLWYS PEMBROKE TERRACE.}}}} Llwyddo a wnaeth yr achos o hynny ymlaen. Menter nesaf yr eglwys oedd gwahodd y Gymanfa Gyffredinol, yr hon a gynhaliwyd yno Gorffennaf, 1880, y Parch. John Hughes, D.D., yn llywydd, a'r Parchn. T. J. Wheldon, B.A., a J. Morgan Jones, yn ysgrifenyddion. Y mae'n anrhydedd i ni osod ar gof
<noinclude><references/></noinclude> s9k570skbe4dyhrdmg5r2y5mta34klb Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/36 104 88120 170146 2026-08-12T19:28:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170146 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i'r gymanfa honno adael argraff ddwys ar y dref. Prin yn holl hanes cymanfaoedd y cyfundeb y gwelid y fath nifer o dywysogion y pulpud wedi cydgyfarfod. Pregethodd y Prifathro T. Charles Edwards yn Saesneg i gynulleidfa anferth. Cynhaliwyd cyfarfod cenhadol yng Nghapel Pembroke Terrace yr un pryd. Yn Wood Street y cynhelid y prif oedfaon. Nos Iau pregethai y Parch. Joseph Thomas, Carno, a Dr. John Hughes. Dydd Gwener, am ddeg, Dr. Owen Thomas a Dr. Lewis Edwards. Am ddau, y Parch. T. Lefi a R. Lumley, ac am chwech, y Prifathro T. C. Edwards a Dr. David Saunders. Cynhyddai Caerdydd yr adeg yma gyda chyflymdra mawr. Daeth Cathays yn adran boblog. Cychwynnwyd Ysgol Sul yno mewn tŷ annedd ym Mundy Place. Symudwyd yn ganlynol i lofft ym May Street. Codwyd capel ym May Street ar draul Eglwys Pembroke Terrace, ac agorwyd yr adeilad yn Hydref, 1884, pan bregethwyd gan y Parchn. Ddr. D. Saunders, David James, Llaneurwg, a J. Morgan Jones. Aeth 32 o aelodau Pembroke Terrace yno i gychwyn yr achos. Ymhen amser gwerthwyd yr adeilad hwnnw a chodwyd capel hardd yng Nghrwys Road, lle y mae eglwys gref yn bresennol a llwyddiant digymar ar yr achos. Yn y flwyddyn 1880, am y waith gyntaf, cyhoeddwyd adroddiad o gyfrifon Eglwys Pembroke Terrace. Y mae hwnnw, ac adroddiadau am y blynyddoedd dilynol, ar gael ym Mhrif Lyfrfa Rydd y ddinas. yr adroddiad am y flwyddyn 1884 dywedir mai Mri Thomas Edmunds ac Eleazar Williams oedd ysgrifen- yddion yr eglwys, a Mr. Griffith James yn drysorydd. Bylchwyd rhif y flaenoriaeth yn ddifrifol gan angau y blynyddoedd hynny, ac yn Ebrill, 1891, dewiswyd y pump canlynol i'r swydd, sef, Mri Thomas Lloyd, Thomas Thomas, Josiah Miles, J. D. Morgan, ac Eleazar Williams. Temtir ni eto i fynegi ein hatgofion melys personol am bob un o'r brodyr da hyn, ond<noinclude><references/></noinclude> i5ki3hftt30anm4uiu8l0rsy5c92889 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/37 104 88121 170147 2026-08-12T19:32:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170147 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhaid ymatal gyda sylw neu ddau am danynt. Josiah Miles yw'r unig un o'r pump sy'n fyw. Wyr i'r hen weinidog adnabyddus Josiah Evans, Pembrey, yw Mr. Miles. Byr fu tymor swyddogaeth Eleazer Williams, oblegid "lluddio iddo gan angau barhau." Argoelai Mr. J. D. Morgan ddod yn swyddog tra defnyddiol, a bu am fyr amser yn ysgrifennydd yr eglwys, ond cafodd ei dorri i lawr yn dra disymwth. Cawsai Mr. Thomas Thomas yn flaenorol ei benodi i arwain y canu yn yr addoliad cyhoeddus, ac yr oedd yn adnabyddus i'r eglwys fel gweithiwr difefl. Dyn annwyl ydoedd, llwyr gysegredig i grefydd, a chanlynodd Mr. J. D. Morgan fel yr ysgrifennydd. Gwnaeth lawer gyda chaniadaeth y cysegr yn y dosbarth, ac ef a fu yn un o brif ymlynwyr Cymanfa Ganu Gynulleidfaol Gwent a Morgannwg. Dyn o alluoedd meddyliol cryf anarferol oedd Mr. Thomas Lloyd, a gŵr hyddysg yn yr Ysgrythyrau ac wedi ei drwytho yn athrawiaethau crefydd. Ef yn ddiau oedd un o ffyddloniaid pennaf Eglwys Pembroke Terrace, a llanwodd le blaenllaw a phwysig am flynyddoedd lawer fel trysorydd yr eglwys. Mewn canlyniad i agoriad adran o waith haearn a dur Dowlais ar y cwr dwyreiniol o'r ddinas cynhyddodd y boblogaeth yn gyflym yn y Splot a'r East Moors. Penderfynodd Eglwys Pembroke Terrace wneuthur yr un fath yno ag a wnaethpwyd yng Nghathays. Adeiladwyd ysgoldy rhagorol a chymerwyd tir at gapel ym Marion Street, ac aeth Pembroke Terrace dan yr holl draul ei hun, sef pum cant o bunnoedd. Cafodd y capel ei agor Awst, 1892, a chorfforwyd eglwys yno y mis canlynol. Cafodd yr eglwys y fraint o godi amryw o bregethwyr. Brodor o Benfro oedd y Parch. Evan Rees, M.A. (y Prifardd Dyfed), eithr o Aberdâr y daeth i Gaerdydd. Cychwynnodd ef ar y weinidogaeth cyn y symudiad o Gapel Seion. Arhosodd yn aelod ym Mhembroke Terrace o hynny hyd ei farw. Daeth y Parch. John<noinclude><references/></noinclude> 5m29yu6oub12ysy4cbvlu34869q68g7 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/38 104 88122 170148 2026-08-12T19:40:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170148 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Morgan, Llwynypia, yn ddyn ieuanc o Langeitho, ac nid hir y bu cyn dechreu pregethu. Cymerodd ofal eglwys Seisnig y Porth am dymor. Oddiyno cafodd alwad i fugeilio eglwys Llwynypia. Yn Llaneurwg y cafodd y Parch. Thomas Bowen ei eni, ond symudodd i Gaerdydd gyda'i rieni pan yn blentyn bychan tua'r un amser ag yr ymsefydlodd y Parch. J. M. Jones yn fugail ar Eglwys Seion. Ar ol cwrs arferol yn Athrofa Caerdydd a Threfecca, cymerodd ofal eglwys Seisnig Dowlais, lle y bu am yn agos i ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ganlynol symudodd i Crwys Hall, Monthermer Road, Caerdydd. Y mae'n bresennol dan y Gymdeithasfa yn gweithredu fel ysgrifennydd cyffredinol Cronfa Ganolog y Deheudir ac ysgrifennydd Trysorfa y Gweinidogion Hen a Methedig. Mab y diweddar Barch. John Davies, Blaenannerch, yw y Parch. D. S. Davies. Aeth Mr. Davies i'r India fel cenhadwr, eithr gorfu iddo ddychwelyd i'r wlad hon ar gyfrif ei iechyd. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig i'w ordeinio yng Nghapel Pembroke Terrace cyn ymadael ohono i'r India. Llywyddwyd gan y Parch. J. M. Jones; traethwyd ar "Natur Eglwys" gan y Parch. D. Oliver, a thraddodwyd y Cyngor gan y Parch. W. Lewis, Cwmparc. Ar ddechreu'r bumed mlwydd ar hugain o weinidog- aeth y Parch. J. Morgan Jones penderfynodd yr eglwys ddangos ei chymeradwyaeth o'i waith a'i pharch iddo mewn modd sylweddol. Gwnaed hyn Ebrill 12fed, 1899. Cafwyd tê i'r aelodau ac eraill yn y prynhawn. Yn yr hwyr, mewn cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth Dyfed, anrhegwyd ef ag anerchiad hardd ac archeb am £180, a chyflwynwyd ''tea and coffee service'' i'w briod. Wedi iddo ef ddatgan ei deimlad diolchgar cyfarchwyd y gynulleidfa gan y Parchn. J. Cynddylan Jones, D.D., Thomas Rees, D.D., William James, David Jones, Richard Morgan, a Mri. W. Morgan, Y.H., James Richards, a'r Athro T. Powel, M.A. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9j8s219epsyoy722cnqmncr21ahfpcv Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/39 104 88123 170149 2026-08-12T19:41:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170149 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwahoddwyd y Gymanfa Gyffredinol eto Mehefin, 1904. Cynhaliwyd y cynadleddau oll ym Mhembroke Terrace a'r oedfaon cyhoeddus yn Wood Street. Gweithredai y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., fel llywydd, a'r Parchn. John Williams, Brynsiencyn, a T. J. Morgan, Garn, yn ysgrifenyddion. Caed cyfarfod cenhadol tra llwyddiannus nos Fawrth, a phrynhawn Mercher traddodai y Prifathro Owen Prys, M.A., Ddarlith Davies, a'r capel wedi ei orlenwi. Pregethwyd gan y Parchn. John Williams, Caergybi; J. J. Roberts, Porthmadoc; J. C. Jones, Chicago; J. E. Davies, M.A., Jewin; Thomas Lefi, D. Lloyd Jones, M.A., John Williams, Brynsiencyn; Griffith Ellis, M.A., Evan Jones, Caernarfon; a J. Puleston Jones, M.A. Caed cymanfa ardderchog, ac ym marn llawer rhagorai ar yr un flaenorol. Yr oedd holl drefniadau yr ymborth yng ngofal Mr. Evan Jones, British Co., Ltd. Tua'r adeg hon ychwanegwyd offeryn cerdd ardderchog, sef ''pipe organ'', at ddodrefn y capel. Costiodd hi chwe chant o bunnoedd, o wneuthuriad Mri. Alexander. Er cael lle i'w gosod i mewn bu raid symud y mur trwchus oedd y tu cefn i'r pulpud. Cymerwyd mantais ar yr achlysur i ddwyn y goleu trydanol i mewn, i sefydlu cyfundrefn o bibellau dwfr poeth er cynhesu'r adeilad i fyny ac i lawr, i osod porch y tu allan i bob un o'r ddau ddrws er atal y gwynt, ac i wneuthur mân welliantau eraill. Costiodd yr oll dros ddau cant ar bymtheg o bunnoedd. A chan fod dau cant a hanner yn aros ar yr eglwys o draul yr adeiladau yng Nghathays a'r Splot, yr oedd yr holl gyfrifoldeb yn agos i ddwy fil o bunnoedd. Ond ni ddigalonnodd y frawdoliaeth ac ni amcanodd at orchest, ond cymerodd hamdden i doddi'r ddyled yn raddol. Erbyn y flwyddyn 1903 gwelwyd angenrheidrwydd eto am ychwanegu at rif y swyddogion, a dewiswyd Mri. Evan Jones, Penywaun Place; Evan Jones,<noinclude><references/></noinclude> p31feawirc10rrq5ggo3ya8n6pozcgl Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/40 104 88124 170150 2026-08-12T19:41:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170150 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>British Co., Ltd.; J. H. Parry, Kimberley Road; Capten David Jenkins, Penylan Road; a David Evans, Mus. Doc., Plasycoed. Etholwyd y brodyr canlynol i'r flaenoriaeth yn y flwyddyn 1918, sef Mri. Edward Jenkins, Y.H., Cathedral Road; William Rees, Newport Road (yr hwn a benodwyd yn drysorydd yr eglwys ar farwolaeth Mr. Thomas Lloyd); William Thomas, Roath Court Road, ysgrifennydd presennol yr eglwys oddiar farwolaeth y cynysgrifennydd, Mr. James Jones, Kimberley Road, yr hwn a fu farw heb fod yn hir wedi ei ddewis yn flaenor; William Evans, Maesycoed; Thomas Thomas, Talworth Street; ac E. J. Evans, Tydfil Place. Wedi bod yn ffyddlon yn yr holl dŷ, bob un yn ôl ei dalent ei hun, bu'r blaen- oriaid canlynol farw yn ystod y blynyddoedd diweddaf, sef Mri. Evan Jones, Colum Road; J. H. Parry, a David Jenkins. Ni byddai'r hanes hwn yn gyflawn heb o leiaf grybwylliad am rai o'r hen gymeriadau a lanwai le mawr ym mywyd yr eglwys o bryd i'w gilydd, er na ddalient unrhyw swydd yn yr eglwys. Ni allaf adael i'r cyfle fynd heibio heb ddwyn ar gof y blynyddoedd pan arferem ni a nifer o fechgyn eraill o'r deuddeng mlwydd oed ymlaen fynychu'r cyrddau wythnosol yn gyson, T. W. Lewis, Barry; William Williams, Plasnewydd ; Evan Thomas, Clifton Street; D. J. Evans, B.Sc., W. Owen (tad y gerddores enwog y ddiweddar Morfydd Owen); D. W. Jones, Clifton Street; T. N. Bowen, Vere Street; a Lewis Williams, Janet Street. Bu y rhai hyn, ac eraill hefyd, dan ofal athrawon diail yn yr Ysgol Sul a'r Band of Hope, etc., sef Daniel Williams, John Evans, John Lewis, Illtydwyson, W. T. Bowen, Dafydd Morgannwg, Daniel Jones, Idriswyn, ac eraill. Cofus gennym am y blynyddoedd hynny pryd y cynhelid cwrdd gweddi nos Lun a seiat nos Fercher, a'r ysgoldy yn llawn o'r aelodau y ddwy noson. Byddai'r gweinidog a'r<noinclude><references/></noinclude> kagc5ov0yv7vibxzz1raozqfn0h5m59 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/41 104 88125 170151 2026-08-12T19:42:18Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "swyddogion yn bresennol ymron yn ddifwlch, y blaenoriaid yn cymryd eu lle ar law dde'r gweinidog, a nifer o chwiorydd parchus a ffyddlon ar ei law aswy. Cyrddau i'w cofio byth oedd y rhai hynny a'r cyrddau gweddi fore Sul, lle y bu'r annwyl John Lewis, Janet Street, yn ein cyfarwyddo at Orsedd Gras er ein paratoi ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn yr eglwys. Pwy na chofia Job James, Bedford Street, a John Jenkins, Louisa Street, y ddau... 170151 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>swyddogion yn bresennol ymron yn ddifwlch, y blaenoriaid yn cymryd eu lle ar law dde'r gweinidog, a nifer o chwiorydd parchus a ffyddlon ar ei law aswy. Cyrddau i'w cofio byth oedd y rhai hynny a'r cyrddau gweddi fore Sul, lle y bu'r annwyl John Lewis, Janet Street, yn ein cyfarwyddo at Orsedd Gras er ein paratoi ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn yr eglwys. Pwy na chofia Job James, Bedford Street, a John Jenkins, Louisa Street, y ddau hen frawd gwlithog ar weddi a hwylus dan y weinidogaeth pan gyffyrddid â rhyw linynau tyner? Prin y cofiaf i un o'r ddau erioed orffen ei weddi; byddent yn sicr o dorri i lawr i wylo cyn dywedyd wrth yr Arglwydd y cwbl oedd ar eu calon i fynegi pan blygent ar eu gliniau. Dechreuodd mab ieuengaf John Jenkins bregethu. Cafodd yrfa lewyrchus yn yr athrofa, eithr bu farw'n sydyn yng nghanol ei efrydiau. Hen gymeriad glân, ond sarrug iawn ei dymer, a gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau oedd Rees Jones, a eisteddai bob amser yn sedd flaenaf un o'r orielau. Gan ei fod yn ei le bob amser ymhell cyn dechreu'r oedfa fore a hwyr, yr hyn a'i blinai oedd amhrydlondeb y swyddogion yn arwain y pregethwr o'r" room bach," fel y galwai ef ystafell y gweinidog, i'r pulpud. Ef oedd tad y Parch. J. L. Jones, Dinas Cross. Un arall a erys yn ein cof byth yw Mr. James Davies, dyn o alluoedd cryfion ac o daldra anghyffredin, ac un a fu ar hyd y blynyddoedd, am ryw reswm neu gilydd, "agin' the government." Ef oedd tad y Parch. O. T. Davies, Llanfyllin, ac er pob hynodrwydd a berthynai iddo, yr oedd ei barch yn fawr, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Aeth nifer o frodyr o'r Terrace i'r eglwysi a gychwynnwyd mewn ardaloedd eraill y byddai'n hyfrydwch gennym eu henwi yma, ond cawn gyfle i sôn am danynt yn y penodau a berthyna i'r eglwysi y trosglwyddid hwy iddynt. Bu amryw yn ffyddlon i'r achos am flynyddoedd er na fuont mewn swyddau o gwbl, er enghraifft, Inspector Jones,<noinclude><references/></noinclude> gmkrka1d4kmih2sdxc5ecd5k8mtvvlq 170152 170151 2026-08-12T19:42:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170152 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>swyddogion yn bresennol ymron yn ddifwlch, y blaenoriaid yn cymryd eu lle ar law dde'r gweinidog, a nifer o chwiorydd parchus a ffyddlon ar ei law aswy. Cyrddau i'w cofio byth oedd y rhai hynny a'r cyrddau gweddi fore Sul, lle y bu'r annwyl John Lewis, Janet Street, yn ein cyfarwyddo at Orsedd Gras er ein paratoi ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn yr eglwys. Pwy na chofia Job James, Bedford Street, a John Jenkins, Louisa Street, y ddau hen frawd gwlithog ar weddi a hwylus dan y weinidogaeth pan gyffyrddid â rhyw linynau tyner? Prin y cofiaf i un o'r ddau erioed orffen ei weddi; byddent yn sicr o dorri i lawr i wylo cyn dywedyd wrth yr Arglwydd y cwbl oedd ar eu calon i fynegi pan blygent ar eu gliniau. Dechreuodd mab ieuengaf John Jenkins bregethu. Cafodd yrfa lewyrchus yn yr athrofa, eithr bu farw'n sydyn yng nghanol ei efrydiau. Hen gymeriad glân, ond sarrug iawn ei dymer, a gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau oedd Rees Jones, a eisteddai bob amser yn sedd flaenaf un o'r orielau. Gan ei fod yn ei le bob amser ymhell cyn dechreu'r oedfa fore a hwyr, yr hyn a'i blinai oedd amhrydlondeb y swyddogion yn arwain y pregethwr o'r" room bach," fel y galwai ef ystafell y gweinidog, i'r pulpud. Ef oedd tad y Parch. J. L. Jones, Dinas Cross. Un arall a erys yn ein cof byth yw Mr. James Davies, dyn o alluoedd cryfion ac o daldra anghyffredin, ac un a fu ar hyd y blynyddoedd, am ryw reswm neu gilydd, "agin' the government." Ef oedd tad y Parch. O. T. Davies, Llanfyllin, ac er pob hynodrwydd a berthynai iddo, yr oedd ei barch yn fawr, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Aeth nifer o frodyr o'r Terrace i'r eglwysi a gychwynnwyd mewn ardaloedd eraill y byddai'n hyfrydwch gennym eu henwi yma, ond cawn gyfle i sôn am danynt yn y penodau a berthyna i'r eglwysi y trosglwyddid hwy iddynt. Bu amryw yn ffyddlon i'r achos am flynyddoedd er na fuont mewn swyddau o gwbl, er enghraifft, Inspector Jones,<noinclude><references/></noinclude> ibm9oixznumbd0ruqlnx08ypb8fh12u Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/42 104 88126 170153 2026-08-12T19:43:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170153 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rhymney; Mr. John Jones, Steam Joinery; Mr. Thomas Jones, Elm Street; Mr. Daniel Jones, Frederick Street; ac Idriswyn. Capten Thomas, North Church Street, a gofiem gyntaf yn hen Gapel Seion, a hynny am reswm personol arbennig. Eisteddai Capten a Mrs. Thomas a'u nith (Mrs. John Jones, Gordon Road, wedi hynny) yn un o'r ddwy sedd ar gongl y sêt fawr wrth risiau'r pulpud. Rhaid oedd pasio'r teulu hwnnw bob tro y disgynnem o'r pulpud ar ol bod yn adrodd pennod, ac ni ddigwyddodd hynny unwaith heb i Gapten Thomas estyn swllt i mi yn rhodd am adrodd. Pwy a wâd nad yw'r atgof am dano yn felys? Un a anwylid yn fawr oedd y duwiol a'r tyner John Thomas, Mundy Place. Perthynai ef i deulu lluosog a fu mewn safle bwysig yng Nghapel Seion, fel hefyd y llanwai David Jenkins, yr outfitter, Caroline Street, a theulu mawr Mr. John Nicolas, Shakespeare Street. Un o ddiffygion aml yr hanes yma yn ddiau yw'r ffaith fod yr awdur wedi anwybyddu'r lle a lanwodd y chwiorydd ynddo. Bu iddynt le amlwg yn ddiau, a buont o wasanaeth amhrisiadwy ar hyd y blynyddoedd, gan ddangos ffyddlondeb a sêl fawr dros yr achos. Y gwir yw nad oedd odid un a allwn ddywedyd iddi sefyll allan yn fwy amlwg nag eraill. Ni chymerodd y gwragedd ran gyhoeddus o gwbl. Gellid enwi nifer mawr ohonynt a adwaenid fel gwir famau yn Israel, eithr ni atebai ddiben da i fynegi enwau'r cyfryw. Hyd yn hyn ni ddewiswyd unrhyw chwaer i swyddau pwysicaf eglwysi Caerdydd, nid oblegid prinder gwragedd cymwys o ran doethineb, cymeriad, a gras at hynny, eithr am na chymhellwyd yr eglwysi i roi'r lle dyladwy iddynt. Aeth nifer mawr o'r bechgyn i'r fyddin a'r llynges adeg y Rhyfel Mawr, 1914-1918, ac y mae eu henwau ar gael yn adroddiadau blynyddol yr eglwys am y<noinclude><references/></noinclude> fw00yfmy5lxz76032bmoxcfl93743cl Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/43 104 88127 170154 2026-08-12T19:43:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170154 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>blynyddoedd hynny. Trist yw gweld lle rhai ohonynt yn wâg gan iddynt gwympo ar faes y frwydr. Cyflawnwyd gwasanaeth medrus a difwlch am flynyddoedd gan Miss Bessie Thomas, fel organyddes, a chan Miss Jennie Morgan cyn hynny, a Mr. Talbot Thomas, fel arweinydd y gân. Ni all neb fesur dyled yr eglwys i'r cyfeillion ffyddlon hyn nac i'r Athro David Evans, Mus. Bac. Heblaw cynnal yr achos yn anrhydeddus a chymryd pob mantais i ledu cortynnau ei phreswylfeydd, bu'r eglwys yn deyrngar ac yn hael at holl symudiadau'r Cyfundeb, a chyfrannodd hefyd at angen eglwysi eraill. Talodd ei chyfran ddwy waith at Drysorfa y Gweinidogion; trwy gymryd rhan mewn "bazaar," rhoes ddeugain punt er cynorthwyo Eglwys Plasnewydd i dalu dyled ei hysgoldy; cyfrannodd gan punt at gapel newydd Clifton Street; casglodd dros dri chant o bunnoedd at Jiwbili y Genhadaeth Dramor, a thros bum cant at Gasgliad y Ganrif, a swm da at Drysorfa'r Gweinidogion Hen a Methedig. Yr orchest gyfundebol ddiweddaf a wnaed ganddi oedd casglu £562 12s. 6d. at Gyfalaf chwarter miliwn y Gronfa Ganolog. Sefydlwyd cangen o'r Ysgol Sul flynyddoedd lawer yn ol yn Fair Oak Road, yr hon a elwir " Ysgol y Parc,' Pery'n llewyrchus iawn a'i swyddogion yn hynod selog o'i phlaid. Un o'r symudiadau pwysicaf yn holl hanes Eglwys Pembroke Terrace oedd penodiad y Parch. John Morgan Jones gan y Gymanfa Gyffredinol fel olynydd y Parch. John Pugh, D.D., yn arolygydd y Symudiad Ymosodol, ar farwolaeth y gŵr mawr hwnnw Mawrth 2il, 1907. Gweithredodd y Parch. J. M. Jones am bum mlynedd fel arolygwr y Symudiad ac fel gweinidog Eglwys Pembroke Terrace. Ond cyn terfyn yr adeg hon addawodd teulu hael Llandinam hanner can mil o bunnoedd at ddyled adeiladau'r Symudiad. Gwnaethant hynny ar amod bod yr arolygydd yn cyflwyno ei<noinclude><references/></noinclude> 2ha8xmfgr8vqa2zxsb207x0c7yatk6w Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/44 104 88128 170155 2026-08-12T19:44:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170155 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>holl amser i'r gwaith. Mewn canlyniad, yn niwedd y flwyddyn 1912, ymryddhaodd yntau'n hollol o ofal yr eglwys wedi deunaw mlynedd ar hugain o lafur gweinidogaethol. Manteisiodd Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg ar y cyfle i gydnabod ei wasanaeth ac i ddangos ei barch tuag ato trwy gyflwyno iddo "enlarged photographs" ohono ef a'i briod, ac hefyd ddau cant o bun- noedd mewn aur. Cryn aberth iddo oedd ymgymeryd â'r gwaith anferth hwn, ond gymaint oedd ei gymhwyster arbennig i'w swydd newydd fel y llwyddodd tu hwnt i fesur. Wedi iddo gyrraedd yr oedran teg o bedwar ugain a thair ymron, yr hyn a fawr ofnwyd a ddaeth arnom, ac eto yng nghwrs Natur nid oedd dim arall i'w ddisgwyl, bu farw mewn tangnefedd, Mai 22ain, 1921. Enillodd le cynnes iawn yng nghalon y wlad, ac o'i golli teimlir hiraeth ar ei ol mewn cylchoedd eang, nid yn unig yn y Cyfundeb, ond hefyd ymhell dros y terfynau. Nid hir y bu'r eglwys heb ddewis olynydd, a syrthiodd y coelbren ar y Parch. John Roberts, M.A., gweinidog Eglwys David Street, Lerpwl, a mab yr enwog Barch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Yn Hydref, 1913, cynhaliwyd dau gyfarfod tra diddorol yn y capel. Y cyntaf i ddymuno'n dda i'r Parch. J. Morgan Jones, ac i gyflwyno anrhegion mewn aur ac arian iddo ef a'i wraig. Cymerwyd y gadair gan Dyfed, M.A., a chafwyd anerchiadau yn llawn teimlad a gwres gan gryn nifer o'r brodyr. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod ymhen wythnos i groesawu'r Parch. John Roberts, M.A., a'i briod. Llywyddwyd gan y cyn-weinidog ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Aethwy Jones a Mr. John Morris, Y.H., Lerpwl, y rhai a ddaethant yno i gyflwyno'r gweinidog newydd. Gweddus cydnabod i'r dewisiad hwn gyfiawnhau ei hun, nid yn unig ym marn yr eglwys, ond hefyd yng ngolwg yr holl wlad. Fel yr awgrymwyd, talai'r eglwys ryw gymaint o ddyled y capel bob blwyddyn gyda chysondeb fel,<noinclude><references/></noinclude> jgsrjbqv03otyycy0cbexpmzh7vg87h Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/45 104 88129 170156 2026-08-12T19:44:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170156 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>erbyn dechreu 1916, nid oedd ond rhyw chwe chant o bunnoedd yn aros. Ar gais Cyfarfod y Dosbarth ymgymerodd yr eglwys â dau gant a hanner o ddyled Eglwys Jerusalem, Splot. Gan fod masnach yn dra llwyddiannus ar y pryd, penderfynodd y gweinidog a'r eglwys dalu'r wyth cant a hanner i ffwrdd adeg y cyfarfod pregethu. Llwyddasant yn eu hamcan fel yr oeddynt yn gallu cyhoeddi'r adeilad yn rhydd o bob cyfrifoldeb yn yr adroddiad am 1916. Yn ystod y flwyddyn 1924 prynwyd Capel Pembroke Terrace i fod yn eiddo llwyr i'r Cyfundeb ar rydd ddaliad. Costiodd y freehold y swm o £676 10s. 5c., a chasglwyd y cwbl ymhlith yr aelodau. Gwerth presennol y capel a'r eiddo perthynol iddo yw £10,950. Oblegid fod poblogaeth canol y dref yn lleihau, a bod tynfa'r teuluoedd at y maesdrefi er mwyn cael purach awyr a thai mwy manteisiol, nid llawer o gynnydd sydd wedi bod yn eglwys a chynulleidfa Pembroke Terrace yn ystod y blynyddoedd diweddaf, mwy nag yn y capelau eraill o gwmpas. Ond y mae'r eglwys yn dal ei thir; y mae golwg iachus arni, ac y mae Duw yn ei bendithio. Ffynna teimladau da rhwng yr aelodau ac y maent yn cydweithredu i gario'r Achos mawr ymlaen er gogoniant y Ceidwad bendigedig ac er lledaeniad Teyrnas Nefoedd.<noinclude><references/></noinclude> izq69ioeogy6fo1td60peb3wbfmn95e Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/46 104 88130 170157 2026-08-12T20:29:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170157 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN III.
Estyn y Cortynnau.}}}} {{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD VI.
EGLWYSI BETHANIA (DOCKS), SALEM (CANTON), A FREDERICK STREET.}}}} {{c|''Bethania, Docks.''}} AGORWYD Capel Bethania Hydref 15fed a'r 16eg, 1856. Fel y dywedwyd yng nghorff yr hanes am Seion, cychwynnwyd achos yn y Docks dair blynedd cyn codi'r capel, "at wasanaeth y morwyr Cymreig sydd yn mynychu'r porthladd ac ar gyfer y gweithwyr ac eraill sydd yn byw yn y gymdogaeth." Gweinyddwyd ar achlysur agoriad Bethania gan y Parch. W. Evans, Tonyrefail; D. Roberts, Pontfaen; William Williams, Abertawe; David Phillips, Maesteg; David Saunders, Penclawdd; William Williams, Tonyrefail; John James, ac Evan Harries. Ceir yr hanes yn "Y Drysorfa" am 1856. Dywed awdur "History of Nonconformity in Cardiff" (J. A. Jenkins) mai'r Parch. William John oedd gweinidog cyntaf yr eglwys. Rhydd "Y Drysorfa" am 1856 yr hanesyn diddorol hwn, sef: Cafwyd gwasanaeth pedair ar ddeg o foneddigesau ieuainc fel casglyddion yn y cyfarfod agoriadol, y rhai a roisant bob un sofren felen ar y plât i ddechreu. Casglwyd ddeugain punt yn yr holl gyfarfodydd. Y mae'r capel yn un prydferth dros ben, y pulpud heb ei osod yn yr uchelder, a phopeth, debygem ni, fel y dylai fod.' Pwy a'n beia am awgrymu mai un o ystrywiau Mr. David Evans oedd gosod y merched i gasglu ? Mab i'r enwog Barch. W. Evans, Tonyrefail, oedd<noinclude><references/></noinclude> pwc9caayecvmwt7jwz3ore1yskniogz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/47 104 88131 170158 2026-08-12T20:30:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170158 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>David Evans, a thad y Parch. W. Evans, M.A., Pembroke Dock. Fel ei dad, yr oedd yn gyflawn o athrylith. Gosodai arbenigrwydd ar yr ŵyl bregethu flynyddol. Mynnai ddoniau goreu Cymru iddi. Edrychai trigolion y dref ymlaen gydag awch at gyfarfodydd pregethu Capel Loudoun Square, oblegid gwyddent y caent yno ddanteithfwyd o'r fath a garent. Yn un o'r gwyliau yr oedd tri o weinidogion enwocaf Lerpwl yn gwasanaethu, nid amgen y Parch. Henry Rees, ei frawd Dr. William Rees (Gwilym Hiraethog), a Dr. D. Saunders. Ymddangosai rhyw fflach o dân yn wastad wrth gyhoeddi, ac ni ellid ei guro fel cadeirydd cyfarfod adloniadol, neu fel cennad yr Henaduriaeth i gyfarfod ymweliad blynyddol Pembroke Terrace, lle y clywais ef lawer tro. Trosedd anfaddeuol a fuasai ysgrifennu am Eglwys Loudoun Square heb sôn am David Evans a'i ddoniau disglair, ei garedigrwydd, a'i haelioni. Bu yn noddwr ac yn gymwynaswr i lu o ddynion ieuainc, yn enwedig i mi fy hun pan ddechreuais fy ngyrfa weinidogaethol. Nid yn fynych y ceid ei gyffelyb pan yn ymweld â ffrind yn awr y brofedigaeth neu mewn afiechyd. Eglwys y Docks, yn ddiau, gafodd oreu Mr. Evans. Rhoed yr orsedd iddo yno gan bawb, ond ymledai ei ddylanwad lawer ymhellach, sef trwy y Cyfundeb oll. Am gyfnod maith ef yn ddiddadl oedd y Cymro mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd, ac eangaf ei ddylanwad a. feddai y dref. I ddychwelyd at ei waith yn cyhoeddi, gofalai ar derfyn cyrddau mawr un flwyddyn gyhoeddi pwy a ddisgwylient i wasanaethu yn yr ŵyl ddilynol.. Dyma enghraifft o'r hysbysiad a wnelai bob tro: 'Blwyddyn i heddiw bydd Dr. Owen Thomas yma, a Dr. David Saunders, a'r Parch. David Charles Davies. Os digwydd na ddont hwy, daw pregethwyr mawr eraill yn eu lle: Bethania'r Docks am Efengyl, cofiwch." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 099wymdb5p7vywy1n279zae8dk2f0nu Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/48 104 88132 170159 2026-08-12T20:31:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170159 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Buasai'n hyfryd i ni allu enwi'r hen seintiau a fu'n gysylltiedig â'r achos, ond rhag gwneuthur cam â choffadwriaeth neb rhaid ymatal ar ol enwi dau neu dri. Dyna William Morgan er enghraifft, a Thomas David, yr hwn a fu'r "codwr canu" am flynyddoedd lawer. Dyna Thomas Williams, apostol y plant," ac nid plant y Docks yn unig, eithr holl ieuenctid yr eglwysi eraill. Ef oedd tad y ddwy gantores enwog, sef Madam Annie Williams (priod ein cyfaill annwyl David Edwards, Llundain, wedi hynny), yr hon a fu farw yn sydyn ac yn annisgwyliadwy iawn flynyddoedd lawer yn ol, wedi gwneuthur diwrnod da o waith teilwng fel organyddes eglwys Jewin ac â'i llais soniarus mewn moliant. Bu hi hefyd yn athrawes Ei chwaer gerddorol yn ysgolion y Brifddinas. ieuengaf yw Madam Morfydd Williams (Madam Gibbon yn awr). Cofir gan lu o'r plant sydd eto'n fyw am y dosbarthiadau Solffa a gynhelid yn nhŷ Thomas Williams yn Sophia Street, pryd y cawsom wleddoedd o bob natur, yn bennaf oddiar law radlon Annie, ei ferch. Thomas Williams a fu'n offeryn i ddwyn Madam Watts-Hughes i gyffyrddiad agos â phlant a chorau Methodistiaid Caerdydd. Symudodd i Ganton, a bu ef a'i deulu am ysbaid yn Salem, hyd nes iddo Yr oedd ef fynd i Eglwys Seisnig Cathedral Road. yn flaenor parchus yn Cathedral Road pan fu farw mewn henaint. Y Parch. Samuel Jones, Cefn Coed Cymmer a Phenarth, fel yr adweinid ef, un o bregethwyr galluocaf y Deheudir, oedd gweinidog Bethania am flynyddoedd. Un o'r un enw, sef y Parch. Samuel Jones, B.A., a fu'n weinidog yno ddiweddaf. Cyfnewidiodd yr ardal yn ddirfawr flynyddoedd yn ol. Bu Loudoun Square a Mount Stuart Square yn brif ''"residential quarters"'' masnachwyr pennaf y Bute Docks. Erbyn hyn nid oes odid un tŷ byw yn Mount Stuart Square, ond swyddfeydd ardderchog a'r Exchange. Y mae preswylwyr Loudoun Square yn<noinclude><references/></noinclude> l4xe5n1ms4foc9br8h7uxdlruc3s8gg Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/49 104 88133 170160 2026-08-12T20:31:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170160 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wahanol iawn i'r hyn oeddynt gynt, er bod Bethania yno mewn gogoniant fel o'r blaen, a chapel braf gyferbyn iddo o eiddo'r Wesleaid. Nid oes cynnydd yn rhif yr aelodau na'r gynulleidfa, gan fod y Cymry, gan mwyaf, wedi symud i'r maesdrefi, ond ymlynai pobl ffyddlon at yr achos, rhai ohonynt yn blant i'r hen ffyddloniaid pan oedd Bethania mewn mwy o fri. {{c|''Salem, Canton, Caerdydd.''}} Pan estynnodd Caerdydd ei therfynau tua'r gorllewin, dros yr afon Taf, cychwynnwyd achos yno yng ngwanwyn 1856 gan Mri David Morgan a John Davies, dau o aelodau blaenllaw Eglwys Seion. Cafwyd caniatad y Cyfarfod Misol i adeiladu capel, yr hyn a wnaed yn ebrwydd, fel erbyn diwedd y flwyddyn. 1856 yr oedd y capel yn barod at wasanaeth y ddiadell newydd. Cynhaliwyd gŵyl bregethu yno Rhagfyr 21ain, 1856, cyn agor y lle yn ffurfiol, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. Evans, Tonyrefail, a'r Parch. David Humphries, Sir Gaer, ac ar fore Nadolig, ymhen ychydig ddyddiau, gwasanaethodd y Parch. Robert Thomas, Casnewydd, yn y plygain pump o'r gloch. Yn yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn 1857, sef Ionawr 1af a'r 2il, agorwyd Capel Salem, pryd y cafwyd cyrddau gwlithog anarferol dan weinidogaeth y Parchn. William Howells, Caerfyrddin; Evan Harries, Merthyr; David Charles, Trefecca; David Howells, Abertawe; John Richard Hughes, John Thomas, Merthyr; ac Edward Matthews. Cynhyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn gyflym, ac ychwanegwyd amryw atynt yn Niwygiad 1859. Tua'r amser hwnnw y daeth Mr. William Richards i Ganton. Etholwyd ef yn ysgrifennydd yr eglwys a chadwodd y swydd mewn anrhydedd am ddegau o flynyddoedd, sef hyd ei ymddiswyddiad yn 1893. Yr oedd yn Salem amryw famau ysbrydol hynod am eu duwioldeb a'u rhagoriaethau moesol. Dylid cadw enwau eraill mewn cof,<noinclude><references/></noinclude> qc54ty2fhn6uboqoyktnb3u9qbblt47 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/50 104 88134 170161 2026-08-12T20:32:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170161 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn enwedig Mri Morgan Edwards a David Evans (Tyddewi wedi hynny). Nid oes amheuaeth ym meddwl neb nad Mr. David Morgan oedd prif swyddog Salem o'r dechreu. Anwylid ef gan bawb. Yr oedd yn ddyn o ymddangosiad boneddigaidd, yn llednais ei dymer, ac o brofiad crefyddol dwfn a dwys. Talodd y Parchn. Richard Lumley a Dr. J. Harries Jones sylw caredig i'r praidd, a bu'r ddau dywysog hynny, er yn aelodau yn Seion, yn gynhorthwy mawr i Salem. Un arall a fu'n ffyddlon i'r achos yno oedd y Parch. Samuel Price a gadwai Ysgol y Proffwydi yn Llandaf, ac yn Salem yr ymaelodai nifer mawr o'r efrydwyr o bryd i'w gilydd. Cariodd Mr. Price ymlaen ddosbarthiadau llewyrchus, Beiblaidd a Chymraeg. Symudodd y Parch. Edward Matthews o'r Ewenni i Ganton yn gynnar yn y chwe degau. Cymerodd dŷ yn Cowbridge Road, y drws nesaf i'r tŷ lle y lletyai Ieuan Gwynedd. Gyda gweddw Ieuan Gwynedd y lletyodd Dr. J. Harries Jones yn ystod ei arosiad yn y dref. Yn Salem y bwriodd y Parch. E. Matthews ei goelbren, ac yno y bu'n aelod ffyddlon a gweithgar, gan gysuro'r brodyr ymhob modd â'i lafur diflino. Casglodd gryn symiau at wneuthur gwelliantau yn y capel, megis oriel newydd, festri newydd, llawr newydd, symud y pulpud o'r naill ben i'r llall; yn wir yr oedd y cyfnewidiadau i'r capel y fath fel na buasid yn ei adnabod fel yr un gan faint y gwelliantau." Daeth amryw o weinidogion eraill i fyw i'r lle. Y cyntaf ohonynt oedd y Parch. William James, M.A., yr hwn a gadwai ysgol uwchraddol, lle y bu llawer o'n gweinidogion dan baratoad ar gyfer y pulpud. Symudodd y Parch. Samuel Price o Landaf i Borthcawl a rhoed Ysgol Llandaf i fyny. Yna daeth y Parch. Evan Williams a'i deulu o'r Pil i fyw yng Nghanton. Buont hwythau yn aelodau ffyddlon yn Salem. Wedi bod yma am bymtheng mlynedd, symudodd y Parch. E. Matthews i Dresimwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2iapuvxgaffs1hye1rx6fqmhdqok67y Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/51 104 88135 170162 2026-08-12T20:33:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170162 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn ddiau yng Nghanton y cyflawnodd Edward Matthews y rhan fwyaf o'i waith llenyddol. "Nyth y Dryw" oedd y llysenw a roddasai i'w lyfrgell. Cynhaliodd ddosbarth llenyddol yno, a llawer o sôn a fu am efrydiau'r dosbarth yng ngweithiau Miltwn, Shakespeare, ac Emerson. Atgofir ni gan y Parch. J. J. Morgan am un o gymeriadau hynotaf Salem, sef Hopcyn Hopcyn, y saer maen. Ef, mae'n debyg, oedd Dafydd William Dafydd" a anfarwolid gan Mr. Matthews yn ei erthyglau athrylithgar yn "Y Cylchgrawn." Adwaenwn i yr hen gymeriad amryddawn yn dda. Daethum i gyffyrddiad ag ef pan oeddwn tua deng mlwydd oed. Ef, yn fwy na neb arall ymron, a'm harweiniodd i astudio'r Beibl. Hyd yn oed yn hynny daeth hynodrwydd yr hen gyfaill allan yn darawiadol iawn. Hoffai'r hen law, o ddigrif a direidi'n bennaf yn ddiau, ddadleu â mi yn erbyn rhai o ystraeon y Beibl, ac ni fynnai fod gwir yn stori Jona a'r cyffelyb, hyd nes y gwelai i mi drysori yn fy nghof holl fanylion yr hanesion Beiblaidd a fu dan sylw. Yna rhoddai olwg newydd i mi ar y cwbl, a soniai am athrawiaethau'r Hen Lyfr, gan fy ngwneuthur yn eiddgar i wybod mwy am danynt. Coffa da am Hopcyn Hopcyn a'i ddoniau disglair. Ni anghofiaf byth iddo ddywedyd wrthyf fwy nag unwaith, "Cofia, Tom Bach, pan fyddi di yn meddwl am danaf wedi iti dyfu i fyny, mai' Hopcyn Ddwywaith yw'm henw i." Traddododd un o'n hefrydwyr bregeth afresymol o faith yn Salem un bore Sul. Nid oedd hynny wrth fodd yr hen Hopcyn Hopcyn, ac eglur i bawb fod yr ymdriniaeth yn anwastad iawn. Cymerodd yr hen frawd y pregethwr ieuanc i dasg a dangosodd iddo fod dechreu a diwedd y bregeth yn weddol dda ond bod ei chanol yn druenus o wael. Cynghorodd ef i adael y rhan ganol allan yn llwyr a rhoi'r ddau ben arall yn ei lle! {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hwc0pawdi1ynijmu12rbrtkqonzz3rm Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/52 104 88136 170163 2026-08-12T20:33:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170163 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Daw atgofion melys i'm meddwl yn aml am yr hen gapel yn Albert Street, neu Edward Street, fel y'i gelwid gynt. Trwy amryw gysylltiadau bore oes daethum i adnabod y rhan fwyaf o gedyrn yr achos yno. Yno y pregethais gyntaf pan ar braw fel yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Yn festri Salem y bûm dan arholiad y Synod. Yno y clywais rai o dywysogion pulpud y Cyfundeb, a chefais y fraint droeon o wrando Edward Matthews ar yr uchel wyliau yno ac ar y Sabothau arferol. Y mae yn fy meddiant heddiw amryw o nodiadau a thestunau a ysgrifennais pan yn ei wrando ef ac eraill. Pulpud bychan oedd i'r hen gapel, llawer rhy fach i ddau o faintioli Edward Matthews a Dr. Dickens Lewis. Lle i un yn unig oedd yn y pulpud, a thrwy ddrws bach cul yr eid iddo ar ol esgyn rhyw bedair gris. Cofus gennyf am y tro y bu E. Matthews a Dr. Dickens Lewis yn pregethu yno. Aeth nifer ohonom ni fechgyn o Bembroke Terrace i'w gwrando, a gwledd i'n calonnau oedd gweld y ddau ddyn mawr yn ymgodymu ar waelod grisiau'r pulpud, y naill fel y llall â'i fryd ar bregethu gyntaf ar ol i frawd arall ddechreu'r oedfa. Mynnodd Dickens Lewis y blaen, eithr oherwydd ei dewdra ni fedrai agor drws y pulpud ar ol cyrraedd y ris uchaf. Tra y ceisiai ymwthio i mewn gwelid Matthews yn gwenu arno, a chan estyn ei law cymerodd afael yn y Beibl a rhoddodd ei destun allan, gan adael i Dickens Lewis ddychwelyd i'r sêt fawr wedi ei faeddu'n lân trwy gyfrwystra Matthews. Testun Dr. Lewis oedd Genesis xix, 17-26. Nos Sul, Tachwedd 4ydd, 1883, oedd hynny. Cafodd Salem yr anrhydedd o wahodd a chynnal y Gymdeithasfa ym mis Ebrill, 1885; y Parch. Griffith Davies, Aberteifi, oedd y llywydd. Čefais y fraint o fod yn bresennol yn yr oedfaon cyhoeddus i gyd ymron, a chlywais bregeth o eiddo Dr. Owen Thomas nad anghofiaf byth. "Y gwas hwnnw a wybu ewyllys<noinclude><references/></noinclude> gv7a9i2w2v7dpmyapx0qh1hi9rd55p0 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/53 104 88137 170164 2026-08-12T20:34:31Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "ei arglwydd ac nis gwna. theimlais y ffonodiau ar fy nghefn fy hun y noson honno. Pregethwyd gydag arddeliad gan y Parchn. John Hughes, D.D., Cynhafal Jones, D.D., David Jones, Garregddu; John Pritchard, Amlwch; William James, Manceinion; Thomas Lefi, E. Matthews, a David Charles Davies, M.A. Cofiaf oedfa yng Nghapel Hope (Bedyddwyr), pryd y pregethai Edward Matthews ar Ddiosg yr hen ddyn." Gwelaf ef yn awr yn diosg ei gôt oddiar ei... 170164 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei arglwydd ac nis gwna. theimlais y ffonodiau ar fy nghefn fy hun y noson honno. Pregethwyd gydag arddeliad gan y Parchn. John Hughes, D.D., Cynhafal Jones, D.D., David Jones, Garregddu; John Pritchard, Amlwch; William James, Manceinion; Thomas Lefi, E. Matthews, a David Charles Davies, M.A. Cofiaf oedfa yng Nghapel Hope (Bedyddwyr), pryd y pregethai Edward Matthews ar Ddiosg yr hen ddyn." Gwelaf ef yn awr yn diosg ei gôt oddiar ei gefn, a gwelaf ef hefyd yn ystod y bregeth, yn hollol ddiarwybod iddo ei hun, yn torri dalen o'r Beibl allan yn llwyr, gan ei chwifio o flaen y gynulleidfa. Mewn ymddiddan flynyddoedd wedi hynny â'r diweddar Ddr. John Williams, Brynsiencyn, pan yn ei atgoffa o'i bregeth ef yn y sasiwn honno ar y testun Ac yr oedd hi yn nos," dywedodd ef y cofiai'r amgylchiad oherwydd mai dyna'r tro cyntaf iddo bregethu yn y "South." Yn gynnar yn yr wyth degau, mae'n debyg, y daeth y Parch. William Jones i fyw i'r lle, ac un o fendigaid goffadwriaeth oedd ef. Yna, yn y flwyddyn 1888, y daeth yr enwog Barch. David James, Llaneurwg, a'i deulu i fyw yng Nghanton. Yr oedd ym mryd yr eglwys i alw Mr. James i fod yn fugail arni, eithr ni bu'n hir cyn i'r nefoedd ei hawlio, a bu farw, er gofid yr holl Dywysogaeth, Tachwedd 30ain, 1889. Mab-ynghyfraith Mr. James yw Mr. W. G. Williams, ysgrifennydd ymroddgar yr eglwys oddiar ymddiswyddiad William Richards yn 1893. Y mae swyddogion eraill a'u henwau'n glymedig wrth Eglwys Salem, sef Mr. Jacob Davies, blaenor y gân, tad y gerddores Madam Clara Novello Davies. Bu Mr. Davies yn un o gedyrn yr achos am ysbaid maith. Enillodd enwogrwydd mewn cylchoedd eang fel cerddor gwych ac fel arweinydd corau a chymanfaoedd canu. Un arall o ffyddloniaid yr achos oedd Mr. John Williams, yr hwn a fu'n gefn i'r Ysgol Sul Q am flynyddoedd. Brodyr annwyl eraill oedd Mri David Davies ac Ebenezer Morgan. Etholwyd blaenoriaid o bryd i'w gilydd fel yr oedd y sêt fawr yn cael ei bylchu gan angeu, ac y mae nifer o frodyr yn llanw'r swydd ar hyn o bryd nad oes eu gwell mewn unrhyw eglwys. Bu'r Parch. R. C. Lewis, B.A., yn weinidog yma am flynyddoedd. Dilynwyd ef yn y flwyddyn 1908 gan y bugail presennol, y Parch. Cuthbert Thomas, B.A. Bu sôn am gapel newydd ymhell cyn gwneuthur y paratoadau angenrheidiol, hyd nes o'r diwedd symudwyd yn derfynol a chymerwyd tir at hynny ym Market Road. Codwyd ysgoldy eang yn gyntaf, ac yno y bu'r eglwys yn addoli am rai misoedd. Erbyn gwanwyn 1911 yr oedd y capel newydd wedi ei orffen ac ar yr 17eg o Fai agorwyd ef, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. C. Williams, D.D., Porthaethwy, yn y prynhawn. Yn hwyr yr un dydd cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth Mr. E. T. John, A.S. Y mae'r capel a'r oll o'r adeiladau yn arddunol a phrydferth odiaeth, ac yn glod i'r eglwys. Costiodd y cwbl yn ymyl £7,000. Anrhegwyd yr eglwys gan Mr. Radcliffe â "''pipe organ"'' hardd a chadair dderw gerfiedig ar gyfer y pulpud. {{c|''Eglwys Frederick Street.''}} Rhoddir hanes dechreuad yr achos hwn yn y "Cardiff Chronicle," Ionawr 4ydd, 1867, ac yno dywedir i'r achos gael ei gychwyn yn y Stuart Hall, yr Hayes, Ebrill, 1866. Rhoed galwad i Mr. James Mortimer, o Brifathrofa Edinburgh, i gymryd gofal ohono. Dechreuodd yntau ar ei swydd ym mis Tachwedd, 1866, a bu llwyddiant eithriadol ar yr holl waith. Nid hir y buont cyn sicrhau darn o dir yn Great Frederick Street. Erbyn dechreu 1867 yr oedd y ddiadell yn barod i ddathlu'r amgylchiad ac ar yr un pryd Q i gynnal cyfarfod croeso i Mr. Mortimer. Cynhaliwyd gŵyl dê yn y Stuart Hall dydd Llun, Chwefror 16eg, 1867, pryd yr eisteddodd pum cant o bobl wrth y byrddau. Yn y cyfarfod cyhoeddus a ddilynodd y tê parti llywyddwyd gan Mr. James Bird. Rhoddodd y Parch. John Thomas, B.A., Merthyr, hanes y mudiad, a gosod- wyd gerbron y gynulleidfa gynlluniau y capel newydd a fwriedid ei adeiladu. Dywed gohebydd Seisnig: "Two houses have been purchased in Great Frederick Street for the purpose of affording a site. The chapel will be in the Gothic style, built with Newbridge stone and Bath and Radyr stone intermixed. A spire will be erected on its eastern front, about 100 feet high, composed entirely of Bath stone. The building will hold about 700 persons, with a schoolroom under- neath, about 70 feet long by 40 feet wide. It will have a vaulted roof, with provision for ventilating within the panels, and will be lighted from the front and back, no side light being admissible. The design of the front, the only one visible, is elegant, and will form a pleasing addition to the ecclesiastical structures of the town. The estimated cost is between £3,000 and £4,000." Ymgynullodd nifer mawr o weinidogion y cylch ar lwyfan Stuart Hall y noson honno, sef y Parchn, William Howells, Prifathro Trefecca; John Thomas, B.A., Merthyr; John Davies, Casnewydd; C. Starling (Wesleaid); J. Fordyce (Presbyteriaid); Nathaniel Thomas (Tabernacl); ac A. Tilley (Bethany); a Mri. John Cory, Richard Cory, T. White, a J. Billups. Y mae'r adroddiad canlynol yn werth ei gadw. Rhoddir ef yma yn union fel yr ymddangosai mewn argraff ar y pryd, gyda'r "blanks" ysmala yn hollol fel y gwelir yma, sef: "Mr. Mortimer's induction service was a ''good'', a ''respectable,'' a ''grand'', and a truly ''religious'' meeting. Mr{{bar|2}}'s speech was sensible and full of pathos. Mr.{{bar|2}} was very earnest. Q Mr.{{bar|2}} made a respectable address, and Mr.{{bar|2}} spoke like a gentleman, and Mr.{{bar|2}} spoke very giftedly. We had also a solemn address from Mr.{{bar|2}} and a Teetotal one from Mr.{{bar|2}} and that which little Mr. Mortimer said was to the purpose. Our minister's address was as follows: 'If I looked upon this present meeting as merely a meeting in recognition of myself, I do not think that I could venture to utter a word. But because I feel it to be a meeting rather in recognition of the Calvinistic Methodist Church in Cardiff, I may be allowed to offer thanks on my part, and on the part of the church, for the very great kindness with which you have received us this evening. Through the whole time I have been working among you, I have felt like a bather when entering the sea, as he steps carefully deeper and deeper into the water, cautiously moving from stone to stone, afraid to leap into the water beyond his depth and swim away. But after this night I feel that I shall be able, in my poor way, with the help of the church, to go boldly into the stream and stem the current if it oppose us. For myself, I can only say that the sympathetic words which have been addressed to me personally are warmly reciprocated in my own heart; and I hope, in time, I shall be able to do some- thing deserving of what has been said to me this evening. As a church I hope we shall be able to enter boldly on the course which is open before us, and that we shall not be kept back by a false fear. I know that nothing can be done if fear enter into our operations, and unless we carry within us a quiet conscience."" Gosodwyd carreg goffadwriaethol y capel newydd gan Miss Watts, Gorffennaf 30ain, 1867. Cyfarfod cyhoeddus swyddogol oedd hwnnw, canys sefydlwyd y garreg gyntaf fisoedd cyn hynny gan yr hen batriarch y Parch. Lewis Powell (Annibynwyr), Caerdydd. Trysorwyd mewn potel yn y garreg goffadwriaethol Q gopi o bob newyddiadur a gyhoeddid ar y pryd, a'r "Treasury" (y misolyn cyfundebol a olygid gan y Parchn. Joseph Evans a William Evans, M.A.), ynghyd â hanes cychwyniad yr achos Saesneg hwn, ac arian bath a nifer o "postage stamps." Yn llaw'r Parch. W. Evans, M.A., yr oedd trefniadau'r diwrnod mawr hwnnw, a'r prif siaradwr oedd y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala. Daethum o hyd i'r anerchiad a draddodai'r Prifathro ar yr achlysur, ac er ei feithder rhoddir ef yma yn ei grynswth. The Rev. Lewis Edwards, D.D., Principal of Bala College, said:—"I do not propose to trouble you with any formal address; but still I am happy in being present with you on this occasion. Some of you here may, perhaps be inclined to ask who we are that are met here to-day to lay this memorial stone? I do not know how to answer you better than by adducing the testimony of one whom everybody will admit to be an impartial witness; I mean the Principal of the Roman Catholic College in North Wales, who has written in reply to Dr. Pusey. Dr. Pusey, as you are aware, has written a very elaborate work to prove that there is no fundamental difference between his church and the Church of Rome. The Principal of the Roman Catholic College answered this by stating that the Protestant religion is national, but the Roman faith is Catholic. He alludes to Presbyterianism as the national religion of Scotland, and considers that we (Calvinistic Methodists) are the national church of Wales. Of course, he is mistaken in this point, as we are far from taking this honour to ourselves. You are all aware the English language is gaining ground in the Principality. What are we to do? Are we to yield to this inroad? Are we to retire before the power of the English language and literature? Are we to hide ourselves in the remotest corners of the Principality? Q No. I for one do not see the necessity for yielding, but we take advantage of the spread of the English language; we lay hold of it and try to adapt ourselves to the changes that take place around us. We meet the change in the same way as the apostles and our Lord Jesus Christ. You are aware that the Hebrew language had ceased to be the prevailing language in Palestine in the time of our Saviour, and the Greek language had become almost the universal language of the civilised world. What did Christ do? What did the apostles do? Did they confine themselves to their ancient and venerable tongue, the language of their fathers? No, they adopted the Greek language as their own; they preached in Greek; and by so doing they availed themselves of the endless treasures adaptable to all the purposes of man that we find in the language of Plato, and Aristotle, and Demosthenes. Now you will be ready to ask, what are we going to preach in this place. Many say we are going to preach the doctrines of the Great Reformers, Luther and Calvin. And we preach the doctrines of the Puritans and of Doctor Owen, whom we consider one of the greatest divines that ever preached in our country. We preach that God has given us His will in the Bible, and an infallible rule of conduct against all the pre- vailing errors of the day. We say there is nothing infallible except the Word of God, and man must have something infallible to rely upon, and all differences between us arise from this question: Where is this infallibility to be found? Some seek for it in human reason; others again tell us that it is to be found in the church. Now, I believe that man is not infallible; human reason is not infallible; the church is not infallible; and we find this infallibility nowhere but in the Word of God. We know that it is the Word of God because we believe that God led us to believe that He is not a God that would leave the world Q without some messenger from Himself to tell us what to do and how to please Him. It would be inconsistent with our idea of the character of the God who made us to believe that He created millions of reasonable beings, to leave them after all without any declaration of His Divine Will. We preach that Divine law as implied in the whole, and that we have a sample of that Divine law in the 20th chapter of Exodus. We preach that God so loved the world that He sent His only begotten Son to save it. Here we lift up our standard. We preach Christ and Him crucified and the divinity of His person. We preach the full and all-sufficient merits of His atonement, and we call upon all men to glorify Him. We exclude no human being, we say it is our duty to bring all men to receive the Lord Jesus Christ. We also preach that belief in Him, that belief in the influence of His Holy Spirit, will sanctify the soul, purify the minds of all who come to Him; that whoever will love the Creator, the Creator will change his heart, change his conduct, and we attach the same importance to the work of the Spirit in us, to the work of the Son within us, and we say that no man has a right to declare that he believes in Christ unless he testifies to the purity of his belief by the sanctity of his outward conduct. These are truths which we preach, these are the truths we call upon you to believe. We raise this building here to preach Christ unto all. Our young friend comes to you in a right missionary spirit. We find that thousands are living neglected around us. We find room for us, and we come here. We come in no aggressive spirit against any denomination; but with an aggressive spirit against the kingdom of Satan. It is him that we wish to deprive of his people; we wish to take away his subjects, and bring them to the Lord Jesus Christ. I rejoice to hear that our friend is so zealous and so devoted to this cause among you, and Q our prayer is that his labours may not be in vain in the Lord, and also that His blessing may rest on this undertaking." Rhaid bod yr amgylchiad yn un pwysig anarferol yng ngolwg crefyddwyr pob enwad yn y dref, canys cynhaliwyd cyfarfod mawreddog yn yr hwyr yn y Stuart Hall, pryd y cymerodd Maer Caerdydd (Mr. E. W. David) y gadair, a siaradwyd gan y Parchn. R. Griffiths (Bethany), W. Evans, M.A., Dr. Phillips (Bala), a Mri. J. Billups a T. White. Fel y dywedwyd yn barod, pobl ieuainc Eglwys Seion a symudodd gyntaf gyda'r achos Saesneg ar y dybiaeth fod diwedd buan i fod ar eglwysi Cymreig y dref. Aeth rhai a bleidiai achos Saesneg hefyd o Fethania ac eglwysi eraill i gychwyn achos Great Frederick Street, ac yn eu plith Mr. Edward Cartwright, yr argraffydd, a ymsefydlodd wedi hynny yn Nowlais. Ni chaniata terfynau'n gofod i ni ymhelaethu ar hanes yr eglwys o hynny hyd yn awr, ac ni etyb unrhyw ddiben ymarferol i ni groniclo enwau yn unig. Am ryw reswm neu gilydd, cymharol fyr a fu arhosiad y gweinidogion a lafuriodd yno. Yn 1870 ymgymerodd y Parch. Edgar Williams, M.A., B.D., â'r fugeiliaeth, ac yn 1874 y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., pan yn dair ar ddeg ar hugain oed. Yn ddiau, dyma'r adeg y cyrhaeddai'r eglwys anterth ei nerth, a barnu wrth ddylifiad y bobl yno. A minnau'n hogyn ieuanc yr amser hynny, cefais y fraint o wrando Cynddylan lawer gwaith, ac mor lluosog oedd y gynulleidfa ar y pryd fel y bu rhaid i mi eistedd ar yr oriel bob tro. Y mae yn fy meddiant yn awr gopi o'r 'Liturgy" a gyhoeddodd Cynddylan at wasanaeth cyhoeddus Frederick Street yn 1880, yr hyn a achosodd gymaint blinder i'r Cyfundeb yr adeg hynny. {{nop}}Yn 1887 dewiswyd y Parch. Richard Hughes, M.A. (Bath Street yn awr), yn weinidog. Ar ol gweini- dogaeth hynod o ddisglair yno ymddiswyddodd o'i ofal ymhen dwy flynedd. Ym mis Mai, 1893, aeth y duwiolfrydig Barch. David Jones yno, a gwnaeth waith ardderchog ymhlith y bobl ieuainc. Wedi hynny bu'r ddiadell dan ofal gweinidogaethol y Parchn. H. Joshua Hughes, David Phillips, M.A., Talog Davies, M.A., Vincent Williams, M.A., a'r gweinidog presennol yw'r Parch. D. J. Henry, B.A., yr hwn hefyd a ofala am Jerusalem, y Splot. Heblaw cael gweinidogaeth gyson bugeiliaid o gryn safle yn y Corff, gofalwyd llanw pulpud Frederick Street gan bregethwyr enwocaf y Cyfundeb. Clywsom yno droeon y Prifathro T. C. Edwards, D.D., a'r Athro Ellis Edwards, M.A., a'r Athro Owen M. Edwards, M.A. Yno hefyd y clywsom y Prifathro Owen Prys, D.D., yn y blynyddoedd yr ysgydwai ef y wlad â'i weinidogaeth nerthol. Collodd y Cyfundeb wasanaeth rhai o leygwyr pennaf yr eglwys flynyddoedd yn ol, yn eu plith Mri. David Morgan a Samuel Hall, ac eraill, eithr erys coffadwriaeth eraill yn beraidd ar gyfrif eu hymlyniad at yr achos hyd ddiwedd eu hoes, sef yn bennaf Mri. John Edwards, John Morgan, George Naish, a David Jenkins. Brodyr oedd y rhai hyn â'u henwau'n perarogli byth. Ni all neb fynegi gwasanaeth enfawr a medrus Mr. John Morgan, y cyfreithiwr, yr hwn a addolai hyd yn oed holl "frics a mortar yr adeilad cysegredig. Mewn gwirionedd, y mae i Frederick Street draddodiadau sanctaidd a osodai anrhydedd ar yr enwad. "Down-town church yw hi'n awr, a'i haelodau, gan mwyaf, yn byw bellter mawr oddiwrthi yn y maesdrefi, a'r heol yn cael ei phrysur droi yn un o brif ganolfannau masnach. Er hynny i gyd, cynhelir y moddion gyda chysondeb rhyfeddol, a'r aelodaeth yn lluosocach heddiw nag a fu am ysbaid maith, a llewych i'w weld ar holl ganghennau'r gwaith.<noinclude><references/></noinclude> dbfeghn7k626i5f7e32patpfmz2eujw 170165 170164 2026-08-12T20:35:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170165 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei arglwydd ac nis gwna . . . " oedd y testun a theimlais y ffonodiau ar fy nghefn fy hun y noson honno. Pregethwyd gydag arddeliad gan y Parchn. John Hughes, D.D., Cynhafal Jones, D.D., David Jones, Garregddu; John Pritchard, Amlwch; William James, Manceinion; Thomas Lefi, E. Matthews, a David Charles Davies, M.A. Cofiaf oedfa yng Nghapel Hope (Bedyddwyr), pryd y pregethai Edward Matthews ar Ddiosg yr hen ddyn." Gwelaf ef yn awr yn diosg ei gôt oddiar ei gefn, a gwelaf ef hefyd yn ystod y bregeth, yn hollol ddiarwybod iddo ei hun, yn torri dalen o'r Beibl allan yn llwyr, gan ei chwifio o flaen y gynulleidfa. Mewn ymddiddan flynyddoedd wedi hynny â'r diweddar Ddr. John Williams, Brynsiencyn, pan yn ei atgoffa o'i bregeth ef yn y sasiwn honno ar y testun Ac yr oedd hi yn nos," dywedodd ef y cofiai'r amgylchiad oherwydd mai dyna'r tro cyntaf iddo bregethu yn y "South." Yn gynnar yn yr wyth degau, mae'n debyg, y daeth y Parch. William Jones i fyw i'r lle, ac un o fendigaid goffadwriaeth oedd ef. Yna, yn y flwyddyn 1888, y daeth yr enwog Barch. David James, Llaneurwg, a'i deulu i fyw yng Nghanton. Yr oedd ym mryd yr eglwys i alw Mr. James i fod yn fugail arni, eithr ni bu'n hir cyn i'r nefoedd ei hawlio, a bu farw, er gofid yr holl Dywysogaeth, Tachwedd 30ain, 1889. Mab-ynghyfraith Mr. James yw Mr. W. G. Williams, ysgrifennydd ymroddgar yr eglwys oddiar ymddiswyddiad William Richards yn 1893. Y mae swyddogion eraill a'u henwau'n glymedig wrth Eglwys Salem, sef Mr. Jacob Davies, blaenor y gân, tad y gerddores Madam Clara Novello Davies. Bu Mr. Davies yn un o gedyrn yr achos am ysbaid maith. Enillodd enwogrwydd mewn cylchoedd eang fel cerddor gwych ac fel arweinydd corau a chymanfaoedd canu. Un arall o ffyddloniaid yr achos oedd Mr. John Williams, yr hwn a fu'n gefn i'r Ysgol Sul<noinclude><references/></noinclude> pyqqhuyf64u9laivpl6yohfnh8x4phu Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/54 104 88138 170166 2026-08-12T20:36:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170166 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am flynyddoedd. Brodyr annwyl eraill oedd Mri David Davies ac Ebenezer Morgan. Etholwyd blaenoriaid o bryd i'w gilydd fel yr oedd y sêt fawr yn cael ei bylchu gan angeu, ac y mae nifer o frodyr yn llanw'r swydd ar hyn o bryd nad oes eu gwell mewn unrhyw eglwys. Bu'r Parch. R. C. Lewis, B.A., yn weinidog yma am flynyddoedd. Dilynwyd ef yn y flwyddyn 1908 gan y bugail presennol, y Parch. Cuthbert Thomas, B.A. Bu sôn am gapel newydd ymhell cyn gwneuthur y paratoadau angenrheidiol, hyd nes o'r diwedd symudwyd yn derfynol a chymerwyd tir at hynny ym Market Road. Codwyd ysgoldy eang yn gyntaf, ac yno y bu'r eglwys yn addoli am rai misoedd. Erbyn gwanwyn 1911 yr oedd y capel newydd wedi ei orffen ac ar yr 17eg o Fai agorwyd ef, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. C. Williams, D.D., Porthaethwy, yn y prynhawn. Yn hwyr yr un dydd cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth Mr. E. T. John, A.S. Y mae'r capel a'r oll o'r adeiladau yn arddunol a phrydferth odiaeth, ac yn glod i'r eglwys. Costiodd y cwbl yn ymyl £7,000. Anrhegwyd yr eglwys gan Mr. Radcliffe â "''pipe organ"'' hardd a chadair dderw gerfiedig ar gyfer y pulpud. {{c|''Eglwys Frederick Street.''}} Rhoddir hanes dechreuad yr achos hwn yn y "Cardiff Chronicle," Ionawr 4ydd, 1867, ac yno dywedir i'r achos gael ei gychwyn yn y Stuart Hall, yr Hayes, Ebrill, 1866. Rhoed galwad i Mr. James Mortimer, o Brifathrofa Edinburgh, i gymryd gofal ohono. Dechreuodd yntau ar ei swydd ym mis Tachwedd, 1866, a bu llwyddiant eithriadol ar yr holl waith. Nid hir y buont cyn sicrhau darn o dir yn Great Frederick Street. Erbyn dechreu 1867 yr oedd y ddiadell yn barod i ddathlu'r amgylchiad ac ar yr un pryd<noinclude><references/></noinclude> 1388onff669us2ynlt9jgmfnqht722r Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/55 104 88139 170167 2026-08-12T20:38:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170167 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i gynnal cyfarfod croeso i Mr. Mortimer. Cynhaliwyd gŵyl dê yn y Stuart Hall dydd Llun, Chwefror 16eg, 1867, pryd yr eisteddodd pum cant o bobl wrth y byrddau. Yn y cyfarfod cyhoeddus a ddilynodd y tê parti llywyddwyd gan Mr. James Bird. Rhoddodd y Parch. John Thomas, B.A., Merthyr, hanes y mudiad, a gosod- wyd gerbron y gynulleidfa gynlluniau y capel newydd a fwriedid ei adeiladu. Dywed gohebydd Seisnig: "Two houses have been purchased in Great Frederick Street for the purpose of affording a site. The chapel will be in the Gothic style, built with Newbridge stone and Bath and Radyr stone intermixed. A spire will be erected on its eastern front, about 100 feet high, composed entirely of Bath stone. The building will hold about 700 persons, with a schoolroom under- neath, about 70 feet long by 40 feet wide. It will have a vaulted roof, with provision for ventilating within the panels, and will be lighted from the front and back, no side light being admissible. The design of the front, the only one visible, is elegant, and will form a pleasing addition to the ecclesiastical structures of the town. The estimated cost is between £3,000 and £4,000." Ymgynullodd nifer mawr o weinidogion y cylch ar lwyfan Stuart Hall y noson honno, sef y Parchn, William Howells, Prifathro Trefecca; John Thomas, B.A., Merthyr; John Davies, Casnewydd; C. Starling (Wesleaid); J. Fordyce (Presbyteriaid); Nathaniel Thomas (Tabernacl); ac A. Tilley (Bethany); a Mri. John Cory, Richard Cory, T. White, a J. Billups. Y mae'r adroddiad canlynol yn werth ei gadw. Rhoddir ef yma yn union fel yr ymddangosai mewn argraff ar y pryd, gyda'r "blanks" ysmala yn hollol fel y gwelir yma, sef: "Mr. Mortimer's induction service was a ''good'', a ''respectable,'' a ''grand'', and a truly ''religious'' meeting. Mr{{bar|2}}'s speech was sensible and full of pathos. Mr.{{bar|2}} was very earnest.<noinclude><references/></noinclude> cq09rssrh361foruc41lefi46ip8q4v Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/56 104 88140 170168 2026-08-12T20:38:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170168 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr.{{bar|2}} made a respectable address, and Mr.{{bar|2}} spoke like a gentleman, and Mr.{{bar|2}} spoke very giftedly. We had also a solemn address from Mr.{{bar|2}} and a Teetotal one from Mr.{{bar|2}} and that which little Mr. Mortimer said was to the purpose. Our minister's address was as follows: 'If I looked upon this present meeting as merely a meeting in recognition of myself, I do not think that I could venture to utter a word. But because I feel it to be a meeting rather in recognition of the Calvinistic Methodist Church in Cardiff, I may be allowed to offer thanks on my part, and on the part of the church, for the very great kindness with which you have received us this evening. Through the whole time I have been working among you, I have felt like a bather when entering the sea, as he steps carefully deeper and deeper into the water, cautiously moving from stone to stone, afraid to leap into the water beyond his depth and swim away. But after this night I feel that I shall be able, in my poor way, with the help of the church, to go boldly into the stream and stem the current if it oppose us. For myself, I can only say that the sympathetic words which have been addressed to me personally are warmly reciprocated in my own heart; and I hope, in time, I shall be able to do some- thing deserving of what has been said to me this evening. As a church I hope we shall be able to enter boldly on the course which is open before us, and that we shall not be kept back by a false fear. I know that nothing can be done if fear enter into our operations, and unless we carry within us a quiet conscience."" Gosodwyd carreg goffadwriaethol y capel newydd gan Miss Watts, Gorffennaf 30ain, 1867. Cyfarfod cyhoeddus swyddogol oedd hwnnw, canys sefydlwyd y garreg gyntaf fisoedd cyn hynny gan yr hen batriarch y Parch. Lewis Powell (Annibynwyr), Caerdydd. Trysorwyd mewn potel yn y garreg goffadwriaethol<noinclude><references/></noinclude> 74mbjif4qjk2gideh7ws4s8i14wdmu2 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/57 104 88141 170169 2026-08-12T20:39:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170169 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gopi o bob newyddiadur a gyhoeddid ar y pryd, a'r "Treasury" (y misolyn cyfundebol a olygid gan y Parchn. Joseph Evans a William Evans, M.A.), ynghyd â hanes cychwyniad yr achos Saesneg hwn, ac arian bath a nifer o "postage stamps." Yn llaw'r Parch. W. Evans, M.A., yr oedd trefniadau'r diwrnod mawr hwnnw, a'r prif siaradwr oedd y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala. Daethum o hyd i'r anerchiad a draddodai'r Prifathro ar yr achlysur, ac er ei feithder rhoddir ef yma yn ei grynswth. The Rev. Lewis Edwards, D.D., Principal of Bala College, said:—"I do not propose to trouble you with any formal address; but still I am happy in being present with you on this occasion. Some of you here may, perhaps be inclined to ask who we are that are met here to-day to lay this memorial stone? I do not know how to answer you better than by adducing the testimony of one whom everybody will admit to be an impartial witness; I mean the Principal of the Roman Catholic College in North Wales, who has written in reply to Dr. Pusey. Dr. Pusey, as you are aware, has written a very elaborate work to prove that there is no fundamental difference between his church and the Church of Rome. The Principal of the Roman Catholic College answered this by stating that the Protestant religion is national, but the Roman faith is Catholic. He alludes to Presbyterianism as the national religion of Scotland, and considers that we (Calvinistic Methodists) are the national church of Wales. Of course, he is mistaken in this point, as we are far from taking this honour to ourselves. You are all aware the English language is gaining ground in the Principality. What are we to do? Are we to yield to this inroad? Are we to retire before the power of the English language and literature? Are we to hide ourselves in the remotest corners of the Principality?<noinclude><references/></noinclude> eu0mx541dy30lxo60f5r04q5jqpk8cl Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/58 104 88142 170170 2026-08-12T20:40:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170170 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>No. I for one do not see the necessity for yielding, but we take advantage of the spread of the English language; we lay hold of it and try to adapt ourselves to the changes that take place around us. We meet the change in the same way as the apostles and our Lord Jesus Christ. You are aware that the Hebrew language had ceased to be the prevailing language in Palestine in the time of our Saviour, and the Greek language had become almost the universal language of the civilised world. What did Christ do? What did the apostles do? Did they confine themselves to their ancient and venerable tongue, the language of their fathers? No, they adopted the Greek language as their own; they preached in Greek; and by so doing they availed themselves of the endless treasures adaptable to all the purposes of man that we find in the language of Plato, and Aristotle, and Demosthenes. Now you will be ready to ask, what are we going to preach in this place. Many say we are going to preach the doctrines of the Great Reformers, Luther and Calvin. And we preach the doctrines of the Puritans and of Doctor Owen, whom we consider one of the greatest divines that ever preached in our country. We preach that God has given us His will in the Bible, and an infallible rule of conduct against all the pre- vailing errors of the day. We say there is nothing infallible except the Word of God, and man must have something infallible to rely upon, and all differences between us arise from this question: Where is this infallibility to be found? Some seek for it in human reason; others again tell us that it is to be found in the church. Now, I believe that man is not infallible; human reason is not infallible; the church is not infallible; and we find this infallibility nowhere but in the Word of God. We know that it is the Word of God because we believe that God led us to believe that He is not a God that would leave the world<noinclude><references/></noinclude> e43m39xnb9c7poy8pyqmokpm3ge1hrr Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/59 104 88143 170171 2026-08-12T20:40:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170171 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>without some messenger from Himself to tell us what to do and how to please Him. It would be inconsistent with our idea of the character of the God who made us to believe that He created millions of reasonable beings, to leave them after all without any declaration of His Divine Will. We preach that Divine law as implied in the whole, and that we have a sample of that Divine law in the 20th chapter of Exodus. We preach that God so loved the world that He sent His only begotten Son to save it. Here we lift up our standard. We preach Christ and Him crucified and the divinity of His person. We preach the full and all-sufficient merits of His atonement, and we call upon all men to glorify Him. We exclude no human being, we say it is our duty to bring all men to receive the Lord Jesus Christ. We also preach that belief in Him, that belief in the influence of His Holy Spirit, will sanctify the soul, purify the minds of all who come to Him; that whoever will love the Creator, the Creator will change his heart, change his conduct, and we attach the same importance to the work of the Spirit in us, to the work of the Son within us, and we say that no man has a right to declare that he believes in Christ unless he testifies to the purity of his belief by the sanctity of his outward conduct. These are truths which we preach, these are the truths we call upon you to believe. We raise this building here to preach Christ unto all. Our young friend comes to you in a right missionary spirit. We find that thousands are living neglected around us. We find room for us, and we come here. We come in no aggressive spirit against any denomination; but with an aggressive spirit against the kingdom of Satan. It is him that we wish to deprive of his people; we wish to take away his subjects, and bring them to the Lord Jesus Christ. I rejoice to hear that our friend is so zealous and so devoted to this cause among you, and<noinclude><references/></noinclude> 5uwslbu9cmkbfs738yfbtt33eeujawd Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/60 104 88144 170172 2026-08-12T20:41:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170172 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>our prayer is that his labours may not be in vain in the Lord, and also that His blessing may rest on this undertaking." Rhaid bod yr amgylchiad yn un pwysig anarferol yng ngolwg crefyddwyr pob enwad yn y dref, canys cynhaliwyd cyfarfod mawreddog yn yr hwyr yn y Stuart Hall, pryd y cymerodd Maer Caerdydd (Mr. E. W. David) y gadair, a siaradwyd gan y Parchn. R. Griffiths (Bethany), W. Evans, M.A., Dr. Phillips (Bala), a Mri. J. Billups a T. White. Fel y dywedwyd yn barod, pobl ieuainc Eglwys Seion a symudodd gyntaf gyda'r achos Saesneg ar y dybiaeth fod diwedd buan i fod ar eglwysi Cymreig y dref. Aeth rhai a bleidiai achos Saesneg hefyd o Fethania ac eglwysi eraill i gychwyn achos Great Frederick Street, ac yn eu plith Mr. Edward Cartwright, yr argraffydd, a ymsefydlodd wedi hynny yn Nowlais. Ni chaniata terfynau'n gofod i ni ymhelaethu ar hanes yr eglwys o hynny hyd yn awr, ac ni etyb unrhyw ddiben ymarferol i ni groniclo enwau yn unig. Am ryw reswm neu gilydd, cymharol fyr a fu arhosiad y gweinidogion a lafuriodd yno. Yn 1870 ymgymerodd y Parch. Edgar Williams, M.A., B.D., â'r fugeiliaeth, ac yn 1874 y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., pan yn dair ar ddeg ar hugain oed. Yn ddiau, dyma'r adeg y cyrhaeddai'r eglwys anterth ei nerth, a barnu wrth ddylifiad y bobl yno. A minnau'n hogyn ieuanc yr amser hynny, cefais y fraint o wrando Cynddylan lawer gwaith, ac mor lluosog oedd y gynulleidfa ar y pryd fel y bu rhaid i mi eistedd ar yr oriel bob tro. Y mae yn fy meddiant yn awr gopi o'r 'Liturgy" a gyhoeddodd Cynddylan at wasanaeth cyhoeddus Frederick Street yn 1880, yr hyn a achosodd gymaint blinder i'r Cyfundeb yr adeg hynny. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 93lgln01crs3yo9f28kbtmbu9ord8s3 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/61 104 88145 170173 2026-08-12T20:41:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170173 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn 1887 dewiswyd y Parch. Richard Hughes, M.A. (Bath Street yn awr), yn weinidog. Ar ol gweinidogaeth hynod o ddisglair yno ymddiswyddodd o'i ofal ymhen dwy flynedd. Ym mis Mai, 1893, aeth y duwiolfrydig Barch. David Jones yno, a gwnaeth waith ardderchog ymhlith y bobl ieuainc. Wedi hynny bu'r ddiadell dan ofal gweinidogaethol y Parchn. H. Joshua Hughes, David Phillips, M.A., Talog Davies, M.A., Vincent Williams, M.A., a'r gweinidog presennol yw'r Parch. D. J. Henry, B.A., yr hwn hefyd a ofala am Jerusalem, y Splot. Heblaw cael gweinidogaeth gyson bugeiliaid o gryn safle yn y Corff, gofalwyd llanw pulpud Frederick Street gan bregethwyr enwocaf y Cyfundeb. Clywsom yno droeon y Prifathro T. C. Edwards, D.D., a'r Athro Ellis Edwards, M.A., a'r Athro Owen M. Edwards, M.A. Yno hefyd y clywsom y Prifathro Owen Prys, D.D., yn y blynyddoedd yr ysgydwai ef y wlad â'i weinidogaeth nerthol. Collodd y Cyfundeb wasanaeth rhai o leygwyr pennaf yr eglwys flynyddoedd yn ol, yn eu plith Mri. David Morgan a Samuel Hall, ac eraill, eithr erys coffadwriaeth eraill yn beraidd ar gyfrif eu hymlyniad at yr achos hyd ddiwedd eu hoes, sef yn bennaf Mri. John Edwards, John Morgan, George Naish, a David Jenkins. Brodyr oedd y rhai hyn â'u henwau'n perarogli byth. Ni all neb fynegi gwasanaeth enfawr a medrus Mr. John Morgan, y cyfreithiwr, yr hwn a addolai hyd yn oed holl "frics a mortar yr adeilad cysegredig. Mewn gwirionedd, y mae i Frederick Street draddodiadau sanctaidd a osodai anrhydedd ar yr enwad. "Down-town church yw hi'n awr, a'i haelodau, gan mwyaf, yn byw bellter mawr oddiwrthi yn y maesdrefi, a'r heol yn cael ei phrysur droi yn un o brif ganolfannau masnach. Er hynny i gyd, cynhelir y moddion gyda chysondeb rhyfeddol, a'r aelodaeth yn lluosocach heddiw nag a fu am ysbaid maith, a llewych i'w weld ar holl ganghennau'r gwaith. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hxnw6xvozgklq7zwfj494pkza4aaou4 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/80 104 88146 170174 2026-08-12T21:07:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170174 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y llwyddir cyn hir i alw gweinidog i ofalu am y praidd. Gweithreda Mr. George T. Llewellyn fel trysorydd. Erys rhai o frodyr a chwiorydd ymroddedig Clifton Street gyda Mr. Llewellyn i gynorthwyo'r eglwys ieuanc. {{c|Park End, Llanishen.}} Cynhyddai'r boblogaeth gyda chyflymdra tua Llan- ishen a Lisvane, un o faesdrefi prydferthaf y ddinas, lle y codwyd yn ystod y pum mlynedd diweddaf gan- noedd o dai drudfawr. Yr oedd Mr. Llewellyn Jones, Maesycoed, aelod ym Mhlasnewydd, yn ddigon llygat- graff i weld ei fod yn lle braf am achos Methodistaidd. Ymgynghorodd ef ag eraill o Blasnewydd, yr Heath, a Chlifton Street â'r Parchn. Thomas Bowen ac R. J. Rees, M.A., ynghylch y dymunoldeb o symud ymlaen. Darfu iddo ef a Mr. D. Richards, Awelon, sicrhau ymlyniad nifer mawr o Fethodistiaid y cylch, ac nid hir y buont cyn cael caniatad yr Henaduriaeth i godi ysgoldy mewn man hynod o gyfleus yn Fidlas Road. Mewn llai na blwyddyn corfforwyd eglwys, agorwyd addoldy, a galwyd y Parch. A. Wynne Thomas yn weinidog. Ymdaflodd holl weinidogion y Corff yn y ddinas o ddifrif i'r anturiaeth. Rhoddodd eglwysi'r cylch gefn- ogaeth sylweddol trwy ganiatau gwasanaeth eu bugeiliaid yn rhad bob Saboth am flwyddyn gyfan. Casglodd Mri. D. Richards a Llewellyn Jones ac eraill swm mawr at y ddyled erbyn dydd yr agoriad. Y mae argoelion am achos cryf yn y faesdref gynyddol hon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0palkmw5dzf3rkcfq5cur5lhodmz4h7 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/79 104 88147 170175 2026-08-12T21:08:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170175 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pugh, a George Weaver. Gofelir am blant yr Ysgol Sul a'r Boys' Brigade, a'r Girls' Institute gan frodyr a chwiorydd profiadol a brwdfrydig, ac y mae llewych ar bob adran o waith yr eglwys. {{c|''Metal Street, Roath.''}} Cenhadaeth a gychwynnodd Eglwys Clifton Street a fu yma am flynyddoedd lawer. Prynwyd nifer o dai, tynnwyd rhai i lawr, ac adeiladwyd yn eu lle addoldy prydferth a gostiodd dros ddwy fil o bunnoedd. Aeth yr eglwys dan y draul am y cwbl o'r dechreu, gan gynnal Ysgol Sul lewyrchus a gofalu am oedfaon pregethu pob Sul. Heblaw cael gwasanaeth cyson y gweinidog yno, dewisai Clifton Street frodyr a chwiorydd profiadol i fynd yno o bryd i'w gilydd ac am dymor penodol, a'r cyfeillion hynny a ofalai am y cyfarfodydd wythnosol ac am gymdeithasau'r bobl ieuainc a'r plant. Clifton Street a fu'n gyfrifol am holl draul y genhadaeth. Bu'r chwiorydd yn ddiwyd flwyddyn ar ol blwyddyn yn casglu'r arian gofynnol i glirio'r llôg a'r trethi. Arferai'r aelodau cyflawn a ymlynai wrth yr achos ym Metal Street fynd gyda'i gilydd i'r cymundeb misol yng Nghlifton Street. Parodd y mudiad lawenydd digymysg a didor i'r frawdoliaeth o'r cychwyn. Gymaint fu llwyddiant y genhadaeth y blynyddoedd diweddaf fel y barnwyd y dylid corffori eglwys yno, a rhoi'r cyfrifoldeb am gynnal yr achos ar yr eglwys newydd. Wedi ystyriaeth ddyladwy i'r mater yn ei holl agweddau dygwyd barn allan i fuddugoliaeth, ac er llawenydd i'r Henaduriaeth corfforwyd eglwys weddol gref ym Metal Street yn y flwyddyn 1926. Cymerodd Eglwys Clifton Street dafell fawr o'r ddyled oedd ar yr eiddo, gan adael cyfran esmwyth i'r eglwys newydd ei hwynebu. Gyda chymorth y Gronfa Ganolog trefnir gweinidogaeth sefydlog yno, ac hyderir<noinclude><references/></noinclude> iwy0adt7s2bpuiqpi1cu694883bq8ac Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/78 104 88148 170176 2026-08-12T21:09:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170176 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Buwyd heb weinidog hyd Mehefin, 1914, pryd y cymerodd y Parch. Samuel Jones, B.A., ofal yr eglwys. Ymddiswyddodd Mr. Jones yn 1917, a chaed gwasan- aeth y Parch. R. G. Jones, West Kirby, am dymor. Yn 1918 estynnwyd galwad i'r Parch. F. W. Cole i fugeilio'r praidd. Gwelid gwahaniaeth mawr yng ngwasanaeth a gweinidogaeth Mr. Cole i'r hyn a geid yn flaenorol, ond yn ystod ei arosiad yno am rai blynyddoedd, hyd nes y torrodd ei iechyd i lawr, bu llwyddiant eithriadol ar y gwaith. Llanwyd yr adeilad eang â chynulleidfa fawr bob Sul. Wedi ymadawiad Mr. Cole ymgymerodd y Parch. W. D. Davies, M.A., â'r fugeiliaeth, ac ef sy yno'n bresennol, yn fawr ei barch ac yn llwyddo'n dda. Fel y dywedwyd eisoes, rhoddodd yr eglwys dderbyniad teilwng ac urddasol i gynhadledd yr achosion Seisnig ym Medi 23-25, 1924, o dan lywyddiaeth y Parch. T. C. Jones, Penarth, a'r Parch. A. Wynne Thomas, Gwrecsam. Rhoes yr Arglwydd Faer dderbyniad i'r gynhadledd yn Neuadd y Ddinas. Cafwyd oedfaon grymus a'r capel dan ei sang bob tro. Y prif bregethwyr oedd y Parch. W. B. Selbie, D.D., Rhydychen, a'r Parch. E. Armstrong, Ebbw Vale. Yr oedd grym, ynni, a gweithgarwch yr eglwys i'w teimlo yn y croeso a'r trefniadau. Ni anghofir gwasanaeth a diddordeb y ddau flaenor a fu farw, sef Mri. D. T. Jones a Thomas Williams. Cafodd caniadaeth y cysegr oreu Mr. J. M. Lloyd, Mus. Bac., Barry, Madam Morfydd Williams, a Mr. Stephens. Cyn symud ohonynt i Bentyrch, bu Mr. a Mrs. Thomas Evans, C.B.E., Y.H., yn weithwyr ffyddlon yn yr eglwys o'r dechreu, a bu eu haelioni tuag at holl rannau'r achos yn galondid mawr i'r frawdoliaeth. O Eglwys Salem yr aethant yno. Y mae'r brodyr canlynol yn parhau mewn ffyddlondeb didor, sef Mri. Harry Baker, W. Fisher, Roger W. Price, D. W.<noinclude><references/></noinclude> 1blb1eev22genjuu14wsk3mffxcrrq1 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/77 104 88149 170177 2026-08-12T21:09:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170177 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>elders." Digwyddai'r holwr am y tro fod yn fwy o Gymro nag o Sais, ac wrth annerch y cyfeillion ar y diwedd anghofiodd y ffigiwr a ddefnyddiodd Mr. E. P. Jones, a dywedai fod yn dda ganddo glywed fod cynifer o "blooming deacons" ym Mhlasnewydd! Da gennym fynegi i'r gwŷr ieuainc ardderchog oedd mewn golwg flodeuo'n hardd wedi hynny, a hwy yw addurniadau pennaf yr eglwys heddiw ac yn dal y swyddau pwysicaf ynddi. {{c|Cathedral Road.}} Y Symudiad Ymosodol a gychwynnodd yr achos hwn yn y flwyddyn 1900, pryd y codwyd ysgoldy yn yr ardal a elwid Pontcanna. Corfforwyd eglwys yma Medi 13eg yr un flwyddyn. Ymunodd 27 o aelodau o eglwys Salem gan mwyaf. Gynted ag y gwnaed hyn penderfynodd yr eglwys fechan gymryd drosodd y cyfrifoldeb ariannol oddiar y Symudiad Ymosodol. Erbyn diwedd y flwyddyn rhifai'r aelodau 39. Teimlwyd angen am weinidog i ofalu am y praidd. Bu Mr. D. J. Williams, un o'n myfyrwyr, yno am ysbaid. Galwyd y Parch. R. R. Roberts, B.A., atynt o Trinity, Aberdâr, yn y flwyddyn ddilynol, sef 1901. Dan ei weinidogaeth ef cynhyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn gyflym, a daeth Cathedral Road yn ganolfan pregethu eithriadol o rymus. Ni bu'r frawdoliaeth yn hir cyn mentro ar godi addoldy gwych yn ymyl yr ysgoldy. Gosodwyd y cerrig coffadwriaethol i lawr Tachwedd 11eg, 1902, ac agorwyd y capel newydd yn y flwyddyn 1903. Y mae'r capel yn un o adeiladau mwyaf addurnol a phrydferth Caerdydd, a chostiodd amryw filoedd o bunnoedd. Ar ol llafurio yno am un mlynedd ar ddeg gyda llwyddiant rhyfeddol, a phregethu yno'n gyson fel y medrai ef, gŵra adwaenid fel un o dywysogion y pulpud Saesneg, symudodd Mr. Roberts i Gaer. 226 oedd rhif yr aelodau ar y pryd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2gtoy62ogz7o61cc624zf0j8ma5ls6w 170178 170177 2026-08-12T21:10:22Z AlwynapHuw 1710 170178 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>elders." Digwyddai'r holwr am y tro fod yn fwy o Gymro nag o Sais, ac wrth annerch y cyfeillion ar y diwedd anghofiodd y ffigiwr a ddefnyddiodd Mr. E. P. Jones, a dywedai fod yn dda ganddo glywed fod cynifer o "blooming deacons" ym Mhlasnewydd! Da gennym fynegi i'r gwŷr ieuainc ardderchog oedd mewn golwg flodeuo'n hardd wedi hynny, a hwy yw addurniadau pennaf yr eglwys heddiw ac yn dal y swyddau pwysicaf ynddi. {{c|''Cathedral Road.''}} Y Symudiad Ymosodol a gychwynnodd yr achos hwn yn y flwyddyn 1900, pryd y codwyd ysgoldy yn yr ardal a elwid Pontcanna. Corfforwyd eglwys yma Medi 13eg yr un flwyddyn. Ymunodd 27 o aelodau o eglwys Salem gan mwyaf. Gynted ag y gwnaed hyn penderfynodd yr eglwys fechan gymryd drosodd y cyfrifoldeb ariannol oddiar y Symudiad Ymosodol. Erbyn diwedd y flwyddyn rhifai'r aelodau 39. Teimlwyd angen am weinidog i ofalu am y praidd. Bu Mr. D. J. Williams, un o'n myfyrwyr, yno am ysbaid. Galwyd y Parch. R. R. Roberts, B.A., atynt o Trinity, Aberdâr, yn y flwyddyn ddilynol, sef 1901. Dan ei weinidogaeth ef cynhyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn gyflym, a daeth Cathedral Road yn ganolfan pregethu eithriadol o rymus. Ni bu'r frawdoliaeth yn hir cyn mentro ar godi addoldy gwych yn ymyl yr ysgoldy. Gosodwyd y cerrig coffadwriaethol i lawr Tachwedd 11eg, 1902, ac agorwyd y capel newydd yn y flwyddyn 1903. Y mae'r capel yn un o adeiladau mwyaf addurnol a phrydferth Caerdydd, a chostiodd amryw filoedd o bunnoedd. Ar ol llafurio yno am un mlynedd ar ddeg gyda llwyddiant rhyfeddol, a phregethu yno'n gyson fel y medrai ef, gŵra adwaenid fel un o dywysogion y pulpud Saesneg, symudodd Mr. Roberts i Gaer. 226 oedd rhif yr aelodau ar y pryd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> aae6z9noeu7mbdp36f8mhv6oilxviiz Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/76 104 88150 170179 2026-08-12T21:11:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170179 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ni bu'r eglwys heb ddyddiau blin yn y blynyddoedd cyntaf, eithr doethineb a gras a orfu, a chynnydd a llewych yw ei hanes byth wedi hynny. Wedi yma- dawiad Mr. B. T. Jones, galwyd y Parch. J. Pulford Williams. Dechreuodd ef ar yrfa lwyddiannus tuhwnt i bob disgwyliad ym mis Mai, 1895. Y gweinidog presennol, y Parch. E. P. Jones, B.A., oedd dilynydd Mr. Pulford Williams. Yn ystod ei arosiad ef ar hyd tair blynedd ar hugain tyfodd yr eglwys yn achos cryf. Y mae Mr. Jones mewn parch mawr ar gyfrif ei weini- dogaeth afaelgar a'i lafur gonest a thrwyadl. Cymerai'r blaen yn ddiofn ar gwestiynau o foesoldeb a sobrwydd, ac y mae'n dŵr o nerth i bobl ieuainc y gynulleidfa. Cynhelir cenhadaeth lewyrchus yn Fitzroy Street ymron oddiar ddechreu'r achos ym Mhlasnewydd. Y mae holl waith y genhadaeth dan gyfarwyddyd yr eglwys, ac y mae nifer mawr o frodyr a chwiorydd ffyddlon yn gofalu am fuddiannau ysbrydol yr ardal. Hen arfer yr eglwys hon yw gwneuthur ei rhan yn deilwng gyda phob symudiad Cyfundebol. Gymaint fu ei haelfrydedd ar hyd y blynyddoedd fel nad oes nemor eglwys a wnaeth fwy na hi i gyfarfod â dyled aruthrol yr eiddo ac i gynnal yr achos yn anrhydeddus. Y mae Mr. Edwin Reese, sylfaenydd yr achos, yn parhau'n swyddog ffyddlon yno, ac y mae ei gyd-swyddogion yn weithwyr difefl ymhob rhan o'r winllan. Bu'r Henaduriaeth ar ymweliad â'r lle lawer gwaith. Cofus gennym am un tro, pryd y rhoddodd yr eglwys dderbyniad tywysogaidd iddi fel yr arferai wneuthur. Tri blaenor oedd yno, sef Mri. Edwin Reese, W. Williams, a John Roberts, a blaenoriaid am dymor yn unig oedd y tri gan nad oedd yr eglwys yn bleidiol i'r swyddogaeth am oes. Yr oedd nifer lluosog o weithwyr selog yn yr eglwys, ac amryw ohonynt yn wir deilwng o safle blaenoriaid. Rhoed hynny ar ddeall pan holwyd hanes yr achos ar yr achlysur dan sylw, a dywedodd y gweinidog fod ganddynt lu o "budding<noinclude><references/></noinclude> h6kae8t94rrh71vkduwzrmwfto8fyz3 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/75 104 88151 170180 2026-08-12T21:11:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170180 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae yno heddiw, fel ar hyd y blynyddoedd, nifer mawr o frodyr ymroddedig yn flaenoriaid, a rhai ohonynt yn adnabyddus yn llysoedd y Cyfundeb. Dan weinidogaeth Mr. Roberts y mae pulpud Clifton Street yn dŵr o nerth. Bu caniadaeth y cysegr o dan ofal medrus y diweddar Mr. Harry Morgan am flynyddoedd lawer. Gweithredai Mr. J. Rhys Morgan fel organnydd yn ystod afiechyd maith Mr. Harry Morgan. Mynegwyd mewn man arall am y llysoedd a'r gwyliau Cyfundebol a gyfarfu yma o bryd i'w gilydd. Edrychir ar yr eglwys hon fel un o'r rhai mwyaf teyrn- garol a feddwn, ac nid oes ball ar ei haelioni at bob achos crefyddol. Erfyniwn iddi flynyddoedd eto o lwyddiant a ffrwythlondeb, er ei bod yn prysuro at fod yn "down-town church " trwy ymhelaethiad y ddinas yng nghyfeiriad Penylan, lle y dylid cychwyn achos yn ddiymdroi. {{c|''Plasnewydd.''}} Un o eglwysi mwyaf llewyrchus y ddinas yw hon. Wrth olrhain Cofnodion Henaduriaeth Morgannwg a Mynwy gwelir i'r Henaduriaeth, yn y flwyddyn 1886, benderfynu corffori eglwys yng Nghathays. Richmond Road a enwir gyntaf yn y cofnodion. Yna sonnir am "Blasnewydd," sef yr enw a roed i'r adeilad a godwyd yn Keppoch Street. Dan arweiniad Mr. Edwin Reese yn bennaf y cych- wynnwyd yr Ysgol Sul gyntaf yn 1885. Ar gymhelliad yr Henaduriaeth codwyd ysgoldy eang Hydref 31ain, 1886, lle yr addolai'r bobl hyd agoriad y capel ardderchog a chostus yn y flwyddyn 1890. Bu'r Parch. W. Francis Jones yn aelod yno am ysbaid, a rhoddodd wasanaeth canmoladwy. Y Parch. B. T. Jones (Castell Nedd yn awr) oedd y bugail cyntaf, o'r flwyddyn 1889 hyd Ebrill, 1894. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> k04vu35gx38aohd1m0125mmsp7r6loc Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/74 104 88152 170181 2026-08-12T21:12:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170181 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rees yn fugail effro yn ogystal ag yn bregethwr llwyddiannus. Gwyddai helbulon yr holl deuluoedd, ac nid oedd ball ar ei gydymdeimlad a'i gymwynas- garwch. Bu yno yn fawr ei barch am flynyddoedd lawer cyn symud ohono i'r Tabernacl, Aberystwyth, yn 1903. Yna daeth y Parch. D. Williams, M.A., i gymryd gofal o'r eglwys, a thrwy ei weinidogaeth eithriadol o rymus llanwyd y capel eang bob Sul tra bu ef yno. Nid oedd ei arosiad yng Nghlifton Street yn hir gan i'r Gymdeithasfa ei alw i fod yn un o athrawon y Coleg Diwinyddol. Y gweinidog nesaf oedd y duwiolfrydig Barch. D. Treborth Jones, M.A., yr hwn a enillodd iddo ei hun air da am ei lafur ac am ei gymeriad gloew. Y mae ei arosiad yno yn un o draddodiadau melysaf y frawdoliaeth. Bu ei farwolaeth yn brofedigaeth lem i'r eglwys. Erys mewn coffadwriaeth annwyl. Y gweinidog presennol, y Parch. R. R. Roberts, B.A., yw dilynydd y Parch. D. Treborth Jones. Er llawenydd holl Fethodistiaid y cylch dychwelodd Mr. Roberts i Gaerdydd o Gaer. Un o gedyrn yr achos oedd y diweddar Mr. W. M. Thomas. Fel y dywedwyd am un arall yng nghorff y llyfr hwn, carai Mr. Thomas Clifton Street mor angerddol fel yr addolai hyd yn oed holl feini a choed yr adeilad. Ef oedd y pen blaenor," a gweithredodd gyda medr a ffyddlondeb digymar fel ysgrifennydd yr eglwys am gyfnod maith. Yr ysgrifennydd ar hyn o bryd yw Mr. W. Alexander Matthews, un o blant yr eglwys, a mab i'r hen flaenor o'r un enw ym Mhembroke Terrace. Trysorydd medrus yr eglwys yw Mr. T. G. Dew, un arall o blant yr eglwys, mab i'r hen Mr. Job Dew, yr un y sonnid am dano fel sylfaenydd yr achos. Mr. Dew ydyw trysorydd cynhadledd yr achosion Seisnig. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sedq1f1o9itt302oe6ilnkcs6af8ark Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/73 104 88153 170182 2026-08-12T21:12:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170182 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr adeilad Tachwedd 8fed a 9fed, 1868, pryd y pregethai y Parchn. E. Matthews, T. Rees, D.D., Cefn; W. Thomas (Islwyn), J. Mortimer, Nathaniel Thomas (Tabernacl), ac R. Griffiths (B.). Yn gymaint ag na chadwyd hanes cychwyniad yr achos mewn ysgrifen, ni ellir dibynnu ar gof y cyfeillion sy'n fyw, gan nad yw'r brodyr yn eu henaint yn cytuno ar yr holl fanylion. Bid a fynno, cawod o law a roddodd fod i'r achos pan gerddai nifer o garedigion yr Ysgol Sul o'r Docks i'w cartrefi yn Roath un pryn- hawn Sul! Gan gymaint y pellter o'r Docks, barnodd y cyfeillion hynny, yn eu plith Mr. Christopher Howe a Mr. Job Dew, y dylent gynnal Ysgol Sul rhywle yng nghymdogaeth eu cartrefi. Gweithredwyd ar yr awgrym yn ddiymdroi. Yn nhŷ Mr. Job Dew yn Shakespeare Street, mae'n debyg, y cynhaliwyd cyrddau gweddi ac Ysgol Sul am dymor. Cyn pen blwyddyn sicrhawyd tir yng Nghlifton Street. Adeiladwyd "Lecture Hall" yno, sef yr adeilad a enwyd uchod. Yno y bu'r ddiadell hyd ddiwedd y flwyddyn 1880. Agorwyd yr adeilad gwych â'i wyneb ar Newport Road, a welir yno'n bresennol, Rhagfyr 5ed, 1880. Ychydig cyn hynny newidiwyd yr achos o'r Gymraeg i'r Saesneg, pryd y symudodd rhai o'r Cymry fwyaf eiddgar i Eglwys Pembroke Terrace. Ymgymerodd y Parch. J. Verrier Jones â'r ofalaeth Mehefin, 1880, a llafuriodd gyda llwyddiant am saith mlynedd. Gyda'i ddyfodiad ef cafodd Clifton Street gyfres o weinidogion disglair hyd heddiw. Y Parch. John Pugh oedd y gweinidog a ddaeth ar ol y Parch. J. Verrier Jones, sef yn Ionawr, 1889. Gwelir hanes cyffrous y gŵr hwnnw tra yng Nghlifton Street yn yr erthygl ar y Symudiad Ymosodol. Rhoddodd y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., ei wasanaeth i'r eglwys yn y cyfamser. Yn nesaf galwyd y Parch. Richard Jenkyn Rees, M.A., i'r fugeiliaeth. Dech- reuodd ef ar ei waith yno Hydref 10fed, 1894. Bu Mr.<noinclude><references/></noinclude> l2sfsd6vxnedugcao731cj31q2n1hnr Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/72 104 88154 170183 2026-08-12T21:13:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170183 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>itself with the names of your founders as well as the leaders of the Methodist revival in England. "We wish you much encouragement whilst in our town, and we have no doubt of the spiritual benefit which will accrue to all among us, whose hearts are rightly disposed towards their brethren beloved who daily hold up the light to the people of Wales. "Signed on behalf of the Cardiff Ministerial Union, September 9th, 1895. {{Center block/s}} <poem> J. D. WATTERS, J. WILLIAMSON, T. W. MEDHURST, J. MORRIS." </poem> {{Div end}} Cynhaliwyd cynhadledd yr achosion Seisnig eto yng Nghapel Cathedral Road, Medi 23-25, 1924, o dan lywyddiaeth y Parchn. T. C. Jones, Penarth, ac A. Wynne Thomas, Wrexham. Pregethwyd gan y Prifathro W. B. Selbie, D.D., Rhydychen, a'r Parch. E. Armstrong, Ebbw Vale. Y prif siaradwyr oedd y Parchn. O. Arnold Evans, B.A., Lerpwl; Geo. Thomas, M.A., Caer; Yr Athro D. Phillips, M.A., Bala; R. G. Jones, Egremont; J. H. Howard, M.A., Colwyn Bay; J. M. Harries Rees, Mrs. J. M. Harries Rees, Lady Herbert Lewis, a'r Gwir Anrhydeddus F. O. Roberts, A.S. {{c|''Clifton Street.''}} Ni chaniata'n gofod i ni draethu ar yr achos hwn mor helaeth ag y dymunem. Nid oes amheuaeth y teilynga Clifton Street gymaint amlygrwydd ag unrhyw un o eglwysi Caerdydd ar gyfrif ei gyrfa ramantus a'r lle pwysig a lanwai hi yn holl symudiadau'r Cyfundeb. Achos Cymraeg oedd hwn ar y dechreu, sef yn y flwyddyn 1868, a rhoed yr enw Libanus iddo. Agorwyd<noinclude><references/></noinclude> 5otwfbqk4a9jcohakqpmb0vr5bazmxc Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/71 104 88155 170184 2026-08-12T21:14:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170184 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"It is significant that in this year of our Lord, 1895, your Welsh Conference invaded the English Metropolis, and made a favourable impression on the heart of that great city, and the English peoples elsewhere. Your English Conference fills this week with important meetings, which are calculated to arrest the attention. and favourably impress the most Metropolitan of our Welsh cities. Exeter Hall, where you met a few months ago, is not the Hall of a sect, or the symbol of nationalism, or schism of any kind, but the recognised and honoured platform of Evangelical Christendom. To-day you meet in a little country which you and your ancestors have helped to restore to the Evangelical faith the faith which was once for all delivered unto the saints'-(Jude 3, R. V.) and we are here to vow with you, that, with the help and by the grace of God, your faith and ours will make it impossible for the Welsh people ever to return to the bondage of a sacerdotal fold. "We hear of a 'Forward Movement' among you, the aim of which is to reach more effectually the submerged and the lost, men who largely speak in an alien tongue, and are entirely alien to the House of God. Why, your very existence as an English Presbytery is a Forward Movement! We can wish you nothing better than that you should be worthy of your ancestors, and that you will be able to make it evident to all that you are in word and in deed the successors of the Apostolic men, whose faith and fervour were the means of turning the night into day, which enable us, even at this day, to realise in a large measure the life of the new heaven' and 'new earth' on our own native soil. And we pray God that you, in conjunction with fellow-labourers of other denominations, may yet be used by God to work such a change in the spirit and method of our churches, as to remind us of that era of marvels which associates<noinclude><references/></noinclude> gza4l1atfa528ih9ms0ao4831fxto1m Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/70 104 88156 170185 2026-08-12T21:14:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170185 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>TO THE REPRESENTATIVES ASSEMBLED AT THE ANNUAL CONFERENCE OF THE PRESBYTERIAN CHURCH OF WALES, SEPTEMBER, 1895. "Dear Brethren,-On behalf of the Evangelical Churches of Cardiff, we offer you a very cordial greeting. We greet you as the English section of a body of Christians which has secured for itself a very prominent and honourable position among the holy tribes of Wales. Among the Free Churches of the Principality, you were the last body of Christians whom God raised to bless our beloved country. The prophets of Llangeitho, Trevecca, and Bala made it clear to their generation that where the spirit of the Lord is, there is liberty.' When God met your forefathers on the Holy Mount,' and gave them their commission, and 'endued' them with power from on High,' He made them all-victorious, and in spite of themselves and the restraining influences of tradition, the ruling of Bishops, and mechanical state regulations became incompatible with their Apostolic faith and unbounded enthusiasm. From that day to this you are a Free Church, working under and in harmony with the perfect law of liberty,' which ever controls, or should control, the spirit-life. That secession was a Divine necessity. By it you have been the means of mightily influencing the spiritual life of your countrymen. "Ever since that memorable emancipation, your 'Holy Orders' have been less ecclesiastic, but more scriptural and Christian; more useful and less orna- mental; more spiritual and powerful, and less arbitrary and conventional. In your origin, history, and polity you are pre-eminently the Welsh Church, but your Christianity is spiritual and catholic, persistently making for the equality and fraternity of universal brotherhood, circumscribed by no limitations, either of tongue or territory. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ols60m315o0c0uzlmem5vbcsir5sna3 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/69 104 88157 170186 2026-08-12T21:15:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170186 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cyfundeb. Cynhaliwyd y Gymanfa Gyffredinol yn Eglwys Clifton Street Mehefin 13-15, 1922, pryd y llywyddwyd gan y Parch. T. Charles Williams, D.D., Porthaethwy, a'r Parch. J. Ceredig Evans, y cenhadwr. Cyfarfu'r Gymdeithasfa yn yr un eglwys yn y naw degau, ac eto yn Eglwys Memorial Hall, Cowbridge Road, Mawrth 4-6, 1913. Cynhaliwyd cyfarfod ordeinio arbennig yn Eglwys Frederick Street flynyddoedd yn ol. Bu cynhadledd yr achosion Seisnig yma deirgwaith, sef yn gyntaf ym Medi 14eg a'r 15fed, 1887, o dan lywyddiaeth Mr. John Jones, Merthyr. Y prif siaradwyr oedd y Parch. W. Evans, M.A., Pembroke Dock; yr Athro Edwin Williams, M.A., y Parchn. M. Williams, Pencoed; Thomas Morgan, Neyland; W. Ross, M.A., Glasgow; y Prifathro T. C. Edwards, D.D., a'r Cenhadon J. P. Jones, J. Ceredig Evans, W. Williams, a Miss John. Yr ail dro i'r gynhadledd fod yma oedd Medi 9-12, 1895. Mr. E. J. Baillie, F.L.S., Caer, oedd y llywydd. Y prif siaradwyr oedd yr Athro Ellis Edwards, M.A., yr Athro Edwin Williams, M.A., y Parchn. Griffith Ellis, M.A., Bootle; R. R. Roberts, B.A., W. James, B.A., Manceinion; J. Cynddylan Jones, D.D., J. Puleston Jones, M.A., Maurice Griffiths, M.A., E. W. Evans, M.A., Pensarn; a Mr. Owen Owen, M.A., Croesoswallt. Ordeiniwyd saith o weinidogion yn y gynhadledd hon mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym Memorial Hall, Canton. Traddodwyd y Cyngor gan y Parch. Ddr. Griffith Parry, Carno, a thraethai y Parch. T. Hughes, Kenchester, ar " Natur Eglwys." Y Parch. F. B. Meyer, B.A., Llundain, oedd y pregethwr dieithr, a chafodd oedfa fawreddog yn y Park Hall. Daeth cynrychiolaeth gref o'r "Cardiff Ministerial Union" i'r gynhadledd honno. Y mae cyfarchiad swyddogol yr undeb hwnnw yn werth ei osod fan hyn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l053zd4iy17u73qb882lg1l5twzztse Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/68 104 88158 170187 2026-08-12T21:16:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170187 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwnaed ymdrech ganmoladwy ychydig flynyddoedd yn ol gan yr oll o'r eglwysi dros Ysbyty Dr. Gordon Roberts yn Shillong. Llwyddwyd i gyfrannu dros dair mil o bunnoedd. Bu'r ymgyrch honno yn foddion greu diddordeb dwfn yn y Genhadaeth Dramor, ac oddiar yr amser hynny nid oes un o'n heglwysi heb ei chymdeithas genhadol, yr hon a wna waith bendithiol ymhlith y chwiorydd. Cynhaliwyd cynhadledd fawr Ban-Bresbyteraidd yma am dros wythnos, o Fehefin 23ain hyd Gorffennaf 2il, 1925. Rhoddwyd derbyniad tywysogaidd iddi. Bu cynrychiolaeth luosog o bob eglwys Fethodistaidd ar waith am ddwy flynedd a mwy yn paratoi ar gyfer yr amgylchiad. Gynifer oedd y pwyllgorau gofynnol at hynny fel y ceid gwasanaeth cannoedd lawer o'n pobl ar hyd yr holl amser. Ni wnaeth dim erioed gymaint dros ddwyn ein pobl at ei gilydd, a pheri iddynt sylweddoli y perthynent, nid yn unig i gyfundeb cymharol fychan yng Nghymru, eithr i Bresbyteriaeth byd cyfan. Cydnebydd aelodau'r gynhadledd urddasol o bellteroedd y ddaear, o'r Cyfandir, ac o bob parth o Brydain Fawr-na chawsant well croeso erioed o'r blaen nag a roed iddynt gan Bresbyteriaid Cymreig Caerdydd. Mudiad arall o gryn bwys i'r enwad yn y ddinas, a ddilynodd yr ymdrechion y cyfeiriwyd atynt yn y ddau baragraff blaenorol, oedd sefydliad Cyfarfod Dosbarth Unedig yr achosion Cymreig a Seisnig; Tra y par yr uniad hwn yn ein plith, nid oes perigl y cyll ein pobl ymwybyddiaeth o'u dyletswydd a'u braint i gefnogi ac i gynorthwyo pob sefydliad cyfundebol. Amcenir gwneuthur y Cyfarfod Dosbarth Unedig yn gyfrwng i hyfforddi swyddogion eglwysig ac eraill yn hanes yr enwad, ac i'w harwain i werthfawrogi holl fuddiannau Presbyteriaeth Cymru. Y mae'n deilwng o sylw i'r adran Seisnig gymryd rhan anrhydeddus yn symudiadau pwysicaf y<noinclude><references/></noinclude> khxuyyjv6fo780h6lm4uij6ho280p6h Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/62 104 88159 170188 2026-08-12T21:16:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170188 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD VII.
EGLWYSI CRWYS ROAD A JERUSALEM.}}}} {{c|''Eglwys Crwys Road.}} Daeth Cathays yn adran boblog yn gynnar yn yr wyth degau. Cychwynnodd nifer o aelodau Pembroke Terrace Ysgol Sul mewn tŷ annedd ym Mundy Place. Symudwyd oddiyno i lofft ym May Street, lle hefyd y cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn yr wythnos. Teimlai'r frawdoliaeth ym Mhembroke Terrace fod yno le am achos, a phenderfynwyd adeiladu ystafell eang i fod yn gapel, ac hefyd i fynd yn gyfrifol ei hun am yr holl draul. Llwyddwyd i gael tir at yr amcan ym May Street. Costiodd yr adeilad dros bum cant o bunnoedd, ac agorwyd ef Hydref, 1884, pan bre- gethwyd gan y Parchn. Dr. D. Saunders, David James, Llaneurwg; a J. Morgan Jones. Cafodd y 32 o aelodau a fwriadai ymsefydlu yno, yr oll yn perthyn i Bembroke Terrace, eu corffori'n eglwys yr wythnos ganlynol. Nodweddid yr eglwys gan frwdfrydedd dwys oddiar y cychwyn hyd heddiw. Gwyddis fod hanes manwl am yr holl weithrediadau wedi ei drysori gan frawd a ofalodd gasglu'r ffeithiau at ei gilydd, a bod yr ysgrif a gynhwysai'r hanes ym meddiant Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, fel nad oes angen am fanylu yn y fan hyn. Yn yr ysgrif dan sylw gwelir cofnodion helaeth o'r pwyllgorau a gynhaliwyd i drefnu ar gyfer helaethiad yr achos. Y mae adroddiad diddorol ar gael o'r cyfarfod pwysig a gynhelid yno Hydref 21ain, 1884. Atgofion personol yn bennaf a fwriedir eu rhoi ar gadw yma. Gydag eraill o fechgyn ieuainc Pembroke Terrace, aethum i gyrddau'r wythnos ym May Street<noinclude><references/></noinclude> jbs2bnvjplbwgyfpkpokemomya1y5hd Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/63 104 88160 170189 2026-08-12T21:17:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170189 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn aml. Ar gais y fam eglwys, gyda chydsyniad unfrydol y frawdoliaeth, gofalodd Dyfed am y gwasanaeth wythnosol, a gwnaeth ef ei ran gydag urddas a doethineb. Cofiaf yn dda un noson waith pryd y taflwyd Dyfed i brofedigaeth, ond bu'r amgylchiad yn ddifyrrus i ni y rhai ieuainc. Mynnodd pobl ieuainc yr eglwys offeryn cerdd i'r ysgoldy ar waethaf gwrthwynebiad pybyr rhai o'r hen bobl. Galwodd Dyfed ar un hen frawd, na raid i ni ei enwi, i gymryd rhan yn y cwrdd gweddi. Gwrthododd droeon. Penderfynai Dyfed beidio rhoi llonydd i'r hen sant ystyfnig, ond trodd ei daerni'n ddyryswch iddo pan atebodd y brawd annwyl yn bendant, "Na wna i; gofynnwch i hwnna (gan bwyntio at yr "harmonium "), fe wnaiff e' fwy o sŵn na mi." Cynhyddodd yr achos gymaint ac mewn amser byr fel y teimlid angen am estyn y cortynnau ac adeiladu festri, yr hyn a wnaed erbyn diwedd y flwyddyn 1886. Yr oedd yr eglwys yn ddigon cryf i wahodd y Cyfarfod Misol yno yn Chwefror, 1887, ac oddiar hynny hyd yn awr dyna hanes yr eglwys hon fel nad yw'n ormod i ddywedyd, nid i ddiraddio'r fam eglwys nac unrhyw eglwys arall, eithr er clod y Cyfundeb, mai Eglwys Crwys Road yw un o'r achosion mwyaf byw a fedd ein henwad ni yn Neheudir Cymru. Y Parch.. Daniel Davies oedd y bugail cyntaf. Daeth ef yno ym mis Medi, 1890, a pharhaodd yn y swydd am saith mlynedd. Ni fu'r eglwys heb ei dyddiau blin, ond nid gwiw adrodd yr helyntion gan i'r eglwys ddod allan o bob profedigaeth yn burach ac yn gryfach nag o'r blaen. Teimlai'r frawdoliaeth fod galwad arnynt i symud. y babell o May Street i le mwy cyfleus ac amlwg. Aed at y gorchwyl o ddifrif. tu hwnt i bob disgwyliad. ar bont y rheilffordd yng Agorwyd y capel newydd Dangoswyd haelfrydedd Codwyd addoldy hardd ngwaelod Crwys Road. trwy gynnal cyfres o<noinclude><references/></noinclude> s8l7hcx8blc3pupcl4pquw71ohncuxu Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/64 104 88161 170190 2026-08-12T21:18:33Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170190 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfarfodydd pregethu, gan ddechreu Nos Sadwrn, Mai 19eg, 1900, pryd y gwasanaethai'r Parch. Ddr. E. T. Davies, Iddo ef, Dr. Davies, y rhoed yr anrhydedd hwn am mai ef yn fwy na neb a ymegnïodd gyda'r anturiaeth fawr yma. Da gennym ddwyn ar gof i Mrs. Evans, Mrs. Beynon, a Dr. Davies osod y cerryg sylfaen i lawr Gorffennaf 5ed, 1899, a chyfrannodd y cyfeillion hyn gan punt yr un ar yr achlysur. Etholwyd blaenoriaid, ar wahanol adegau, sef, yn gyntaf, Hydref 1884, Mri John Williams, Joseph Richards, James Morris, a William Williams. Penodwyd Mr. Joseph Richards yn drysorydd, a Mr. William Williams yn ysgrifennydd. Yn y flwyddyn 1886 dewiswyd Mri David Beynon, Thomas Morgan, a David Williams. Yn y flwyddyn 1893 etholwyd Mri Morgan Daniel, Isaac Bryant, James Rees, Evan Humphreys, John Davies, a David Price. Yn y flwyddyn 1902 dewiswyd Mr. J. R. Jones (ysgrifennydd yr eglwys) a Mr. John Williams, ac yn y flwyddyn 1906 daeth Mr. Jenkin Morris a Mr. T. S. Thomas i gylch y swyddogaeth. Etholwyd Mri. Edward Lewis a J. L. Rees yn 1915, a'r brodyr canlynol yn 1925, sef Mri. R. D. Davies, John Evans, Edwin Griffiths, Roderick Morgan, John Williams, a Dr. D. Llewelyn Williams. Cododd yr eglwys dri o weinidogion, sef y diweddar Barch. E. B. Ellis, Barry; Parchn. O. T. Davies, Llanfyllin; a Gwilym Williams, B.A., Bangor. Digon fydd dywedyd bellach bod y capel newydd, yn enwedig ar ol yr atgyweiriadau diweddar, a'r organ hardd, yn deilwng o'r Cyfundeb ac yn addurn i adeiladau crefyddol y ddinas. Ymsefydlodd y bugail presennol, y Parch. William Davies, B.A., yno Mehefin, 1903. Erys enwau amryw o weithwyr difefl y winllan hon, a aethant i'w gwobr, yn ysbrydiaeth i Eglwys Crwys Road yn hir, a gwelir dylanwad y brodyr hynny yn amlwg ar gymeriadau a llafur y swyddogion sy yno yn awr. Pwy na chofia<noinclude><references/></noinclude> 2f1m8hnrr8fui8xynmjtsvcu0ggph8l Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/65 104 88162 170191 2026-08-12T21:19:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170191 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>am ymroddiad diflino blaenoriaid y gân, sef Mri. Hugh Jones a Jenkin Morris, y ddau erbyn hyn wedi ymuno â'r côr nefol? I'r ddau frawd hyn y rhaid priodoli effeithiolrwydd caniadaeth y cysegr yn y fangre yma. Y mae i'r eglwys gymharol ieuanc hon y fraint aruchel o feddu nifer o chwiorydd enwog am eu duwioldeb a'u gweithgarwch, ond rhaid peidio enwi'r un ohonynt rhag peri tramgwydd. Llawenychai pob Methodist yn llwyddiant eithriadol Eglwys Crwys Road, ac erfynia pawb am barhad o wenau'r Arglwydd arni. Y mae iddi heddiw aelodaeth gref o ran rhifedi ac adnoddau, a "sêt fawr" o'r fath oreu. Y mae'r weinidogaeth Sabothol yn afaelgar, a phob sefydliad o'i heiddo, yr Ysgol Sul, y dosbarthiadau Beiblaidd, a'r cyrddau wythnosol, yn llewyrchus i'r eithaf. {{c|''Eglwys Jerusalem, Splot.''}} Mewn canlyniad i agoriad gwaith haearn a dur Dowlais, ar y cwr dwyreiniol i'r dref, cynhyddodd y boblogaeth yn gyflym yn y Splot. Darfu i nifer o frodyr, sef Mri Evan Morgan, William Morgan, a Thomas Williams, gynnal Ysgol Sul yn y flwyddyn 1884 yn nhŷ Mr. Giles Miles, yn Ordell Street. O hynny ymlaen hyd 1891 cynhyddai Cymry'r ardal nes i'r brodyr ymgynghori â gweinidog a swyddogion Pembroke Terrace ynghylch y priodoldeb o godi ysgoldy neu gapel yn yr ardal. Penderfynodd Eglwys Pembroke Terrace wneuthur yr un peth i'r Splot ag y gwnaethai yng Nghathays. Adeiladwyd ysgoldy rhagorol a chymerwyd tir at gapel ym Marion Street, ac aeth Pembroke Terrace dan yr holl draul ei hun, sef pum cant o bunnoedd. Corfforwyd eglwys yno Medi 8fed, 1892. Etholwyd yn flaenoriaid Mri Evan Morgan, William Morgan, James Morris, Edward Rowlands, John Morgan, Joseph Francis, Edward Morgan, a David Roberts yn Chwefror, 1893. Yn Rhagfyr, 1897, pan ddaeth y Parch. Walter<noinclude><references/></noinclude> nry2zi8hwx0z0z0oyxyeya3jop4147e Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/66 104 88163 170192 2026-08-12T21:19:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170192 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Daniel i gymryd gofal yr eglwys, etholwyd y brodyr canlynol i'r flaenoriaeth, sef, Mri William Evans, Enoch David, Noah Rees, Morgan Rowlands, David Davies, Evan Jenkins, a John Roberts. Bu'r Parch. Thomas Watkins, St. Bride's Major, yn weithgar yma tra yn efrydydd yng Ngholeg Caerdydd. Adeiladwyd capel ardderchog ym Marion Street, ac agorwyd ef nos Sadwrn, Hydref 4ydd, 1902. Parhaodd y cyfarfodydd agoriadol am yn agos i bythefnos, pan weinyddwyd gan y Parchn. J. Morgan Jones, David Jones, M.A., Philip Jones, Dr. D. H. Williams, Dyfed, William Lewis, Miss Rosina Davies, a'r Parch. Thomas Bowen, Dowlais. Teilynga'r Parch. William Hughes, y pregethwr dall, air mewn coffadwriaeth annwyl. Ganwyd ef yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1852. Daeth i Gaerdydd yn llanc 14eg oed i Sefydliad y Deillion, lle y dysgodd y gelfyddyd o wneuthur basgedi. Dilynodd yr alwedigaeth hon hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Dechreuodd bregethu yn Eglwys Pembroke Terrace yn y flwyddyn 1883. Enillodd iddo ei hun safle dda yn yr arholiadau. Llafuriodd yn galed i gasglu gwybodaeth: bu wrthi mewn amser ac allan o amser. Bendithiwyd ef â chof da, yr hyn a brofodd o wasanaeth mawr iddo, gan ei fod yn dibynnu yn gyfangwbl arno. Bu yn pregethu am rhyw bedair blynedd ar hugain, a hynny gyda graddau helaeth o gymeradwyaeth. Yn Eglwys Jerusalem, Splot, y treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd. Dioddefodd ei gystudd olaf yn dawel a dirwgnach. Yr oedd yn gymaint o Gristion wrth farw ag a fu wrth fyw. Hunodd yn yr Iesu Mai 16eg, 1907. Ond odid i gynnydd yr iaith Saesneg yn y rhanbarth yma effeithio'n niweidiol ar yr achos yn Jerusalem, er pob ymdrech o eiddo'r Parch. W. Hughes, y pregethwr dall, a'r bugail, y Parch. W. Daniel.<noinclude><references/></noinclude> rujzx942xb8hdgjwfxjutezarh6bwes Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/67 104 88164 170193 2026-08-12T21:20:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170193 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Beichiwyd yr eglwys fechan â dyled drom ar hyd y blynyddoedd, er i'r Cyfarfod Misol lwyddo i gael cynhorthwy sylweddol at ostwng y ddyled oddiwrth eglwysi teyrngarol y dosbarth. Y mae'n glod nid bychan i'r brodyr a'r chwiorydd ffyddlon a ymlynai wrth yr achos pan nad oes fawr obaith am gynnydd yma.

{{c|{{mawrPENNOD VIII.
YR ACHOSION SEISNIG.}} {{''Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Gwelir hanes Frederick Street, ym Mhennod VI.''}} Heblaw naw o ganolfannau'r Symudiad Ymosodol, y mae gennym chwech o eglwysi Seisnig yn y ddinas. Rhoed hanes eglwys Frederick Street yn bur llawn am y rheswm mai honno oedd yr un Seisnig gyntaf yma, ac am fod iddi yrfa go faith. Ag eithrio Clifton Street, yr hon ar y dechreu a fu yn eglwys Gymreig, rhai ieuainc yw'r achosion Seisnig eraill, sef Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Bwriedir dwyn allan ar fyrder gyfrol Seisnig a fydd yn cynnwys hanes cyflawn am yr achosion diweddaraf hyn, a hefyd am bob un o eglwysi'r Symudiad ymosodol, fel nad oes cymaint o alw am fanylu gyda hwy yn y llyfr hwn. Gan hynny, cipdrem yn unig a gymerwn ar y lleoedd hyn. Nid oes a fynno'r paragraff nesaf na'r un canlynol â'r eglwysi Seisnig yn arbennig, gan fod cymaint o glod yn ddyledus i'r rhai Cymreig ag iddynt hwythau am yr hyn a wnaethpwyd. {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> pfq6sxfymv8gzd79t2oq5kf6xuh96zo 170194 170193 2026-08-12T21:20:33Z AlwynapHuw 1710 170194 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Beichiwyd yr eglwys fechan â dyled drom ar hyd y blynyddoedd, er i'r Cyfarfod Misol lwyddo i gael cynhorthwy sylweddol at ostwng y ddyled oddiwrth eglwysi teyrngarol y dosbarth. Y mae'n glod nid bychan i'r brodyr a'r chwiorydd ffyddlon a ymlynai wrth yr achos pan nad oes fawr obaith am gynnydd yma.

{{c|{{mawrPENNOD VIII.
YR ACHOSION SEISNIG.}} {{c|''Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Gwelir hanes Frederick Street, ym Mhennod VI.''}} Heblaw naw o ganolfannau'r Symudiad Ymosodol, y mae gennym chwech o eglwysi Seisnig yn y ddinas. Rhoed hanes eglwys Frederick Street yn bur llawn am y rheswm mai honno oedd yr un Seisnig gyntaf yma, ac am fod iddi yrfa go faith. Ag eithrio Clifton Street, yr hon ar y dechreu a fu yn eglwys Gymreig, rhai ieuainc yw'r achosion Seisnig eraill, sef Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Bwriedir dwyn allan ar fyrder gyfrol Seisnig a fydd yn cynnwys hanes cyflawn am yr achosion diweddaraf hyn, a hefyd am bob un o eglwysi'r Symudiad ymosodol, fel nad oes cymaint o alw am fanylu gyda hwy yn y llyfr hwn. Gan hynny, cipdrem yn unig a gymerwn ar y lleoedd hyn. Nid oes a fynno'r paragraff nesaf na'r un canlynol â'r eglwysi Seisnig yn arbennig, gan fod cymaint o glod yn ddyledus i'r rhai Cymreig ag iddynt hwythau am yr hyn a wnaethpwyd. {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> fed5qy3wmfc34lhqaszeume3hhkwlyh 170195 170194 2026-08-12T21:20:53Z AlwynapHuw 1710 170195 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Beichiwyd yr eglwys fechan â dyled drom ar hyd y blynyddoedd, er i'r Cyfarfod Misol lwyddo i gael cynhorthwy sylweddol at ostwng y ddyled oddiwrth eglwysi teyrngarol y dosbarth. Y mae'n glod nid bychan i'r brodyr a'r chwiorydd ffyddlon a ymlynai wrth yr achos pan nad oes fawr obaith am gynnydd yma.

{{c|{{mawrPENNOD VIII.
YR ACHOSION SEISNIG.}}}} {{c|''Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Gwelir hanes Frederick Street, ym Mhennod VI.''}} Heblaw naw o ganolfannau'r Symudiad Ymosodol, y mae gennym chwech o eglwysi Seisnig yn y ddinas. Rhoed hanes eglwys Frederick Street yn bur llawn am y rheswm mai honno oedd yr un Seisnig gyntaf yma, ac am fod iddi yrfa go faith. Ag eithrio Clifton Street, yr hon ar y dechreu a fu yn eglwys Gymreig, rhai ieuainc yw'r achosion Seisnig eraill, sef Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Bwriedir dwyn allan ar fyrder gyfrol Seisnig a fydd yn cynnwys hanes cyflawn am yr achosion diweddaraf hyn, a hefyd am bob un o eglwysi'r Symudiad ymosodol, fel nad oes cymaint o alw am fanylu gyda hwy yn y llyfr hwn. Gan hynny, cipdrem yn unig a gymerwn ar y lleoedd hyn. Nid oes a fynno'r paragraff nesaf na'r un canlynol â'r eglwysi Seisnig yn arbennig, gan fod cymaint o glod yn ddyledus i'r rhai Cymreig ag iddynt hwythau am yr hyn a wnaethpwyd. {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> ckmc2sq8oawzgvc29uyt1yv82f1ndto 170196 170195 2026-08-12T21:21:14Z AlwynapHuw 1710 170196 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Beichiwyd yr eglwys fechan â dyled drom ar hyd y blynyddoedd, er i'r Cyfarfod Misol lwyddo i gael cynhorthwy sylweddol at ostwng y ddyled oddiwrth eglwysi teyrngarol y dosbarth. Y mae'n glod nid bychan i'r brodyr a'r chwiorydd ffyddlon a ymlynai wrth yr achos pan nad oes fawr obaith am gynnydd yma.

{{c|{{mawr|PENNOD VIII.
YR ACHOSION SEISNIG.}}}} {{c|''Eglwysi Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Gwelir hanes Frederick Street, ym Mhennod VI.''}} Heblaw naw o ganolfannau'r Symudiad Ymosodol, y mae gennym chwech o eglwysi Seisnig yn y ddinas. Rhoed hanes eglwys Frederick Street yn bur llawn am y rheswm mai honno oedd yr un Seisnig gyntaf yma, ac am fod iddi yrfa go faith. Ag eithrio Clifton Street, yr hon ar y dechreu a fu yn eglwys Gymreig, rhai ieuainc yw'r achosion Seisnig eraill, sef Plasnewydd, Cathedral Road, Metal Street, a Phark End. Bwriedir dwyn allan ar fyrder gyfrol Seisnig a fydd yn cynnwys hanes cyflawn am yr achosion diweddaraf hyn, a hefyd am bob un o eglwysi'r Symudiad ymosodol, fel nad oes cymaint o alw am fanylu gyda hwy yn y llyfr hwn. Gan hynny, cipdrem yn unig a gymerwn ar y lleoedd hyn. Nid oes a fynno'r paragraff nesaf na'r un canlynol â'r eglwysi Seisnig yn arbennig, gan fod cymaint o glod yn ddyledus i'r rhai Cymreig ag iddynt hwythau am yr hyn a wnaethpwyd. {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> 5x9475jesc04j64eh9gpjcpgs341wfv Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/81 104 88165 170197 2026-08-12T22:53:31Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170197 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN IV.}}}} {{c{{mawr|PENNOD IX.
COFFADWRIAETH RHAI A FU AR Y MUR}}
(DYFYNIADAU O'R " BLWYDDIADUR.")}} {{c|Y PARCH. JOHN MORGAN JONES, LL.D., CAERDYDD.}} GANWYD ef yn Llanddewibrefi, Ceredigion, yn 1838. Symudodd yn ŵr ieuanc i Ddowlais, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Bu dan addysg yn Nhrefecca o 1866-9. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Llandeilo yn 1870, ac yr oedd ar ben y rhestr yn yr arholiad. Bu yn fugail-yn eglwys y Deri o 1869-71; yn Ystalyfera o 1871-3: yn Nhrefforest o 1873-5; ym Mhembroke Terrace, Caerdydd, o 1875-1912; ac yn arolygydd y Symudiad Ymosodol o 1907 hyd derfyn ei oes. Bu farw bore Saboth, Mai 22ain, 1921. Ni fu yr un yn fwy amlwg yn ffurfafen ein Cyfundeb yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf na'r gŵr annwyl hwn. Dringodd yn araf o ris i ris yn nerth ei gymeriad pur, ei alluoedd disglair, a'i ddynoliaeth ardderchog, ynghyd â'i ymroddiad dihafal i fod yn un o brif arweinwyr ein Cyfundeb. Meddai y Prifathro Prys, M.A., yn ei angladd: "I mi, heb os nac onibae, mewn pwyllgor a Chymdeithasfa, efe oedd y prif arweinydd ers chwarter canrif. Nid wyf yn petruso ei restru gyda'r chwech, neu lai na hynny, o brif arweinwyr ein Cyfundeb, o'i gychwyniad cyntaf. Ni fu ei fwy yn yr ystyr yma er dyddiau Ebenezer Morris a John Elias." Cafodd bob swydd ac anrhydedd a feddai y Cyfundeb, a hynny heb geisio yr un ohonynt, a llanwodd hwynt oll gyda medr ac urddas. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, a hynny fwy na deugain<noinclude><references/></noinclude> 526uj6ptth9vxks4hivinbsqbyq9uyy 170198 170197 2026-08-12T22:54:18Z AlwynapHuw 1710 170198 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN IV.}}}} {{c|{{mawr|PENNOD IX.
COFFADWRIAETH RHAI A FU AR Y MUR}}
(DYFYNIADAU O'R " BLWYDDIADUR.")}}}} {{c|Y PARCH. JOHN MORGAN JONES, LL.D., CAERDYDD.}} GANWYD ef yn Llanddewibrefi, Ceredigion, yn 1838. Symudodd yn ŵr ieuanc i Ddowlais, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Bu dan addysg yn Nhrefecca o 1866-9. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Llandeilo yn 1870, ac yr oedd ar ben y rhestr yn yr arholiad. Bu yn fugail-yn eglwys y Deri o 1869-71; yn Ystalyfera o 1871-3: yn Nhrefforest o 1873-5; ym Mhembroke Terrace, Caerdydd, o 1875-1912; ac yn arolygydd y Symudiad Ymosodol o 1907 hyd derfyn ei oes. Bu farw bore Saboth, Mai 22ain, 1921. Ni fu yr un yn fwy amlwg yn ffurfafen ein Cyfundeb yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf na'r gŵr annwyl hwn. Dringodd yn araf o ris i ris yn nerth ei gymeriad pur, ei alluoedd disglair, a'i ddynoliaeth ardderchog, ynghyd â'i ymroddiad dihafal i fod yn un o brif arweinwyr ein Cyfundeb. Meddai y Prifathro Prys, M.A., yn ei angladd: "I mi, heb os nac onibae, mewn pwyllgor a Chymdeithasfa, efe oedd y prif arweinydd ers chwarter canrif. Nid wyf yn petruso ei restru gyda'r chwech, neu lai na hynny, o brif arweinwyr ein Cyfundeb, o'i gychwyniad cyntaf. Ni fu ei fwy yn yr ystyr yma er dyddiau Ebenezer Morris a John Elias." Cafodd bob swydd ac anrhydedd a feddai y Cyfundeb, a hynny heb geisio yr un ohonynt, a llanwodd hwynt oll gyda medr ac urddas. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, a hynny fwy na deugain<noinclude><references/></noinclude> 0s9vwphs3jwf0dn9n1b3e71sa6jxg2s 170199 170198 2026-08-12T22:54:37Z AlwynapHuw 1710 170199 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN IV.}}}} {{c|{{mawr|PENNOD IX.
COFFADWRIAETH RHAI A FU AR Y MUR}}
(DYFYNIADAU O'R " BLWYDDIADUR.")}} {{c|Y PARCH. JOHN MORGAN JONES, LL.D., CAERDYDD.}} GANWYD ef yn Llanddewibrefi, Ceredigion, yn 1838. Symudodd yn ŵr ieuanc i Ddowlais, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Bu dan addysg yn Nhrefecca o 1866-9. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Llandeilo yn 1870, ac yr oedd ar ben y rhestr yn yr arholiad. Bu yn fugail-yn eglwys y Deri o 1869-71; yn Ystalyfera o 1871-3: yn Nhrefforest o 1873-5; ym Mhembroke Terrace, Caerdydd, o 1875-1912; ac yn arolygydd y Symudiad Ymosodol o 1907 hyd derfyn ei oes. Bu farw bore Saboth, Mai 22ain, 1921. Ni fu yr un yn fwy amlwg yn ffurfafen ein Cyfundeb yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf na'r gŵr annwyl hwn. Dringodd yn araf o ris i ris yn nerth ei gymeriad pur, ei alluoedd disglair, a'i ddynoliaeth ardderchog, ynghyd â'i ymroddiad dihafal i fod yn un o brif arweinwyr ein Cyfundeb. Meddai y Prifathro Prys, M.A., yn ei angladd: "I mi, heb os nac onibae, mewn pwyllgor a Chymdeithasfa, efe oedd y prif arweinydd ers chwarter canrif. Nid wyf yn petruso ei restru gyda'r chwech, neu lai na hynny, o brif arweinwyr ein Cyfundeb, o'i gychwyniad cyntaf. Ni fu ei fwy yn yr ystyr yma er dyddiau Ebenezer Morris a John Elias." Cafodd bob swydd ac anrhydedd a feddai y Cyfundeb, a hynny heb geisio yr un ohonynt, a llanwodd hwynt oll gyda medr ac urddas. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, a hynny fwy na deugain<noinclude><references/></noinclude> lrr6z1nryilkt8urim6oqptz3sd5ees Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/82 104 88166 170200 2026-08-12T22:56:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170200 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlynedd yn ol; ac efe hefyd oedd ei lywydd cyntaf dan y drefn newydd yn 1919. Bu yn ysgrifennydd a llywydd Cymdeithasfa'r De, a'r un modd y Gymanfa Gyffredinol. Yr oedd yn un o dri yn hanes y Cyfundeb gawsant eu hethol yr eilwaith i Gadair y Gymanfa. 1919. Etholwyd ef yr ail dro yn Nhreorci yn Llywyddodd y gymanfa yn Lerpwl yn 1920, ond galwyd ef i'r gymanfa fawr rhyw dair wythnos cyn adeg cyflwyniad y gadair i'w olynydd ym Mhorthmadog ym Mehefin 14-16, 1921. Er yr holl swyddau a phwyllgorau, nid esgeulusodd ei waith fel bugail a phregethwr. Yr oedd ei bin ysgrifennu hefyd ar waith yn barhaus. Ebr Dyfed yn y "Drysorfa" am fis Gorffennaf, 1921: "Nis gwyddom ar hyn o bryd am yr un gweinidog ysgrifennodd fwy. Efallai fod gennym un neu ddau wedi cyhoeddi mwy o lyfrau, ond ni fu yr un ysgrifbin yn fwy diwyd na'r eiddo J. Morgan Jones. Pe rhwymid y cwbl ysgrifennodd, byddent yn gyfrolau anferth. Bu'r "Cylchgrawn," "Y Drysorfa, Y Lladmerydd," a'r "Dehonglwr o dan ei ofal am flynyddoedd lawer, a darparai'n helaeth ar gyfer pob rhifyn. Gofalodd am brif erthyglau rhai cyhoeddiadau eraill yn gyson am yn agos i ddeng mlynedd." Bu o wasanaeth amhrisiadwy i'r Ysgol Sul. Mae ei esboniadau ar yr Actau," yr "Effesiaid," a'r "Hebreaid," ac hefyd Llawlyfr yr Efengylau (mewn undeb â'r diweddar Barch. W. James, Aberdâr) ymhlith y goreuon a feddwn yn ein hiaith. Mae y "Tadau Methodistaidd "yn gofadail arbennig iddo, fel hanesydd o'r dosbarth blaenaf. Ni chaniata gofod i ni sôn am ei weithiau llenyddol eraill, megis Darlith Davies, etc. "Gan fod ei waith cyhoeddus, y swyddau lanwodd, a'r llyfrau ysgrifennodd yn wybyddus i gylch eang, ac ar lawr yng nghofnodion y Cyfundeb, hwyrach mai nid anfuddiol fyddai dwyn tystiolaeth fechan iddo fel dyn a Christion, a hynny oddiar adnabyddiaeth<noinclude><references/></noinclude> icoj4gyx9i5d83zq2jbossojkgxd46r Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/83 104 88167 170201 2026-08-12T22:57:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170201 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bersonol ac agos iawn ohono am tua 35 o flynyddoedd. Cawsom bob mantais i'w adnabod ymhob cylch, ac yn arbennig felly yn y cylchoedd mwyaf cyfrin. Yn ôl ei eiriau ef ei hun, cawsom 'holl secrets ei fywyd.' Perthyn i ni gyfaddef ei fod yn un o'r dynion goreu a gyfarfuasom erioed, y mwyaf anhunanol ei ysbryd a chywir ei amcanion. Ein hargyhoeddiad dwfn yw na ddarfu iddo ddweyd gair nac ysgrifennu llinell erioed gyda'r amcan o ddangos ei hun a chael ei weled gan ddynion.' Yr oedd ei ysbryd hunanymwadol yn anhygoel ymron, a'i barch i ddynion da yn ddiderfyn. Buom yn synnu lawer gwaith pan yn ei gwmni at y wedd yma ar ei gymeriad ac yntau wedi gwneud cymaint a chael cryn lawer o anrhydedd o bryd i bryd. Ond credwn y gwyddom y 'secret' erbyn hyn. Yr oedd wedi cael golwg yn bur gynnar ar ei fywyd, ar fawredd Duw, ac ar urddas ei waith. Teimlai felly nad oedd pob peth o'i eiddo ond rhyw ymgais at yr 'ideal,' a bod y meistr a'r gwaith yn deilwng o fwy a gwell na allai roddi iddo byth." Hyn yn ddiau oedd yn cyfrif am na ddarfu i'w ysbryd suro ar hyd ei oes, er iddo golli ambell i frwydr pur boeth a chael aml i air garw. Fel y dywed Dr. John Williams mewn ysgrif goffa, "Os colli wnai, fel y gwelais hynny ambell dro ar ol brwydr galed, ni ffromai o gwbl; byddai y funud nesaf yng ngwar mater arall mor eiddgar a phe buasai wedi ennill ar hyd y ffordd." Yr oedd ganddo ymddiriedaeth ddiysgog yn rhagluniaeth Duw, ac os collai ar fater wedi gwneud ei oreu gadawai y canlyniadau i Dduw, a hynny yn hollol ddibryder. Yn hyn yr oedd fel yr Apostol Paul. Gwnai yn unol â'i argyhoeddiadau, gan adael y canlyniadau i'w Arglwydd. Bu yn hollol lwyddiannus fel bugail ym Mhembroke Terrace ar hyd y blynyddoedd. Cadwai ddosbarthiadau Beiblaidd yn ddifwlch, ac os gwelai rywbeth mewn dyn ieuanc, rhoddai bob cefnogaeth iddo i<noinclude><references/></noinclude> e87x6ula1payuqwj9nv5ptw1juvgafn Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/84 104 88168 170202 2026-08-12T22:57:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170202 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fynd ymlaen. Hwyrach iddo gael ei gamesbonio rai prydiau" ffordd yma." Clywsom ef yn dweyd droeon bod dynion ieuanc yn dod ato i 'mofyn cyngor; ond wedi gwneud eu meddwl i fyny cyn dyfod. Yna, "meddai "os na fyddaf i yr un farn a hwy, ant i ffwrdd, gan ddweyd nad oes gennyf gydymdeimlad â phobl ieuainc." Gwyddom am lawer o bobl ieuainc heddiw mewn safleoedd parchus ac uchel sydd yn ddyledus iawn i'r Parch. John Morgan Jones am ei gyngor gonest a'i help sylweddol. Gwnaeth waith mawr mewn cylchoedd pwysig tuallan i'r Cyfundeb. Bu yn aelod blaenllaw ar fyrddau a chynghorau Addysg Caerdydd, a gwnaeth waith rhagorol ar Gyngor y Brifysgol, ac ar Fwrdd Llywodraeth Cymru. A chydnabuwyd ei wasanaeth gan y Brifysgol trwy ei anrhydeddu â'r radd o LL.D. Byr iawn fu'r adeg iddo i'w gwisgo, ond bydd y llythrennau ar garreg ei fedd. Dangoswyd gwerthfawrogiad o'i fywyd a'i wasanaeth mewn modd ymarferol rai troeon. Cafodd dysteb anrhydeddus gan Eglwys Pembroke Terrace ar ben chwarter canrif o'i fugeiliaeth, ac hefyd ar ei ymddiswyddiad i gymryd gofal y Symudiad Ymosodol. Tua'r un adeg gwnaed tysteb gan Gyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg fel gwerthfawrogiad o'i lafur am ddeugain mlynedd. Yr oedd ei annwyl briod yn cydlawenhau ag ef yn nerbyniad rhain. Ychydig fisoedd cyn ei farw meddyliodd nifer o gyfeillion am ei anrhydeddu â darlun ohono ei hun mewn olew (oil-painting). Galwyd pwyllgor, gwnaed y darlun, gyda'r bwriad o'i gyflwyno iddo yn y Gymanfa ym Mhorthmadog, ond fel y sylwyd eisoes, yr oedd ef wedi mynd adref. Cyflwynwyd y darlun i'r Cyfundeb; siaradwyd ar yr achlysur gan Mrs. Lloyd George ac eraill. Y mae i'w gadw yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Bydd darlun, felly, o'r Parch. John<noinclude><references/></noinclude> s9aebrslyvdl9v5gvc2kzqhtvrabjby Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/85 104 88169 170203 2026-08-12T22:58:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170203 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Morgan Jones, LL.D. yn ei "robes" ar fur y coleg, a'i goffadwriaeth yn fendigedig. {{c|Y PARCH. EVAN REES, M.A. (DYFED).}} Nid yn y" Blwyddiadur" yn unig y cofnodir marwolaeth Dyfed, ac nid gan ein cyfundeb ni yn unig y teimlir colled a chwithtod ar ei ol. Yr oedd wedi torri ei enw yn ddwfn ar lawer llyfr cronicl, a thalodd cenedl gyfan wrogaeth iddo. Adwaenid ef ganddi fel bardd, beirniad, a darlithydd, ac ers blynyddoedd fel ei harchdderwydd. Ond ni pheidiodd a bod yn bregethwr ac nid aeth yn ronyn llai o bregethwr oherwydd y pethau hyn. Ganwyd ef yng Nghasmael, yn Nyfed, ond gadawodd hi yn ieuanc am Aberdâr. Collodd ei dad pan yn saith mlwydd oed. Bu mewn ysgol dda-hen ysgol enwog y Comin, Aberdâr, ond ychydig a fu ynddi gan ei fod yn y pwll glo a than y ddaear pan yn wyth oed. Yr oedd hyn yn bosibl yng Nghymru Gristionogol yn oed Crist 1858. Cafodd yn ddiweddarach ychydig o fanteision ysgol nos, a chyn cyrraedd ohono ugain oed cydnabyddid ef fel y glowr mwyaf medrus a'r bardd mwyaf llwyddiannus yn y cylch. Yr oedd iddo gyfeillion ffyddlon yn Aberdâr, a derbyniodd ganddynt lawer o hyfforddiant fel bardd a llawer iawn o anogaethau i ddechreu pregethu. Diolchai ar hyd ei oes am y cymorth a gafodd gan un ohonynt yn neilltuol, sef, William Morgan, y bardd. Pan yn 25 oed collodd ei fam a bu ymron a thorri ei galon ar ei hol. Diflasodd ar Aberdâr hebddi hi a daeth i Gaerdydd yn 1876. Cafodd waith yno—gwaith a fuasai wedi lladd pob ysbryd barddoni yn y rhan fwyaf o feibion awen—yn platform porter ar y Taff Vale Railway. Ni fu yn hir yn y swydd honno cyn i gyfaill (a resynai fod ei oriau hamdden mor brin) sicrhau gwaith iddo ar y Bute Docks. {{nop}}Yr oedd wedi ymaelodi yn Eglwys Seion, Caerdydd, a gwelodd y blaenoriaid a'r gweinidog newydd yr adeg honno, y diweddar Barch. J. Morgan Jones, fod llawer iawn ynddo, a phwyswyd yn drwm arno i ddechreu pregethu. Bu'n ymarhous am amser, ond ufuddhaodd i'r alwad ac ymdaflodd â'i holl egni i ymbaratoi ar gyfer ei waith. Bu dan addysg y Parch. William James, ar ol hynny o Nantymoel, a'r Parch. Edgar Williams, ac aeth am dymor i Goleg Caerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1884. Pregethodd am ddeugain mlynedd, ac nid esgynnai neb i bulpudau ein Cyfundeb ar ddiwedd ei yrfa fel ar ei dechreu oedd yn fwy cymeradwy gan ei gynulleidfa. Nid oes angen na gofod yma i sôn am ei fawrion weithredoedd ym myd y cystadlu. Yr oedd pawb o bob talaith a phob sir a phob llwyth yn Israel yn fodlon iawn i Ddyfed fod yn archdderwydd, a chyflawnodd wasanaeth mawr yn y cylch hwn gyda'r urddas a'r gwroldeb a berthynai yn amlwg iddo. Cyfoethogodd lawer ar lenyddiaeth ein gwlad. Canodd lawer ïawn am Iesu Grist ac iddo, ac y mae un o leiaf o'i emynau wedi cyrraedd, nid yn unig i'r llyfr emynau, ond i galon ei genedl. Pan fu farw yr oedd yn olygydd y "Drysorfa." Golygodd waith eraill gyda barn a chwaeth ddifeth, a chyfrannodd lawer o'i feddwl a'i brofiad ei hun iddi. Fe fu'n dihoeni am rai misoedd, a bu farw yn dawel, gan gredu yn Iesu Grist. Cafodd angladd tywysog, a daeth pob math ar Gymro i dalu teyrnged i un a garai ei genedl ac a'i gwir wasanaethodd. Gan fod Dyfed yn fardd, ac nad oes neb yn ameu hynny, nid oes berigl mewn dweyd nad oedd yn debyg iawn i fardd yn y dyn oddiallan. Yr oedd i ddeddf le pur fawr yn ei fywyd ac ni fyddai byth yn colli na thrên nac ysgrepan. Gŵr hunanfeddianol ydoedd, yn mesur ei gamre a'i eiriau, ac ni fyddai byth mewn gwewyr o awydd nac o ofn. Tybed mai yma y Q gorweddai cuddiad ei gryfder, a'i fod wedi dod yn gymaint meistr ar gynganeddion am fod yn ei natur ef ei hun ryw gynghanedd ddistaw oedd yn cadw trefn a chymesuredd ar ei holl fywyd? Cadwodd ei ysbryd yn iach a diwenwyn, ac ni werthodd ei annibyniaeth i neb erioed. Gosodwyd llawer anrhydedd arno a disgynnodd eraill heibio iddo, a byddai yn well ganddo i bob un fyned heibio am byth nag ymostwng i wenieithio na chardota amdanynt. Bu ar hyd ei oes yn gyfaill mawr-i'r hen pan yn ieuanc, ac i'r ieuanc pan aeth yn hen ei hun, ac er mai bywyd unig hen lanc fu ei ran ef, gadawodd hiraeth syml, ond dwfn, ar ei ol mewn llawer calon a pherarogl mewn llawer cylch na chilia tra'r erys ei enw mewn cof. {{c|Y PARCH. JOHN MORGAN, LLWYNYPIA.}} Ganwyd y Parch. John Morgan, Mai 9fed, 1866. Mab ydoedd i Peter a Mary Morgan, Penrallt, Llangeitho, a'r trydydd o ddeg o blant. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd grefyddol a thyfodd yntau yn gadarn yn yr Ysgrythyrau ac mewn duwioldeb personol. Derbyniodd ei addysg fore yn Ysgol Frytanaidd Llangeitho. Ac efe'n fachgen bu'n bugeilio ar fferm Trewen Fawr -fferm ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Arferai yno fynd â'r Beibl gydag ef yn y bore, a deuai yn ol yr hwyr wedi trysori penodau o Air Duw yn ei gof. Oddiyno dychwelodd gartref at ei dad i ddysgu ei grefft fel saer. Pan oddeutu 22ain oed symudodd i Gaerdydd, a bu yn hynod lwyddiannus gyda'r un alwedigaeth yno. Ymaelododd yn Eglwys Pembroke Terrace, oedd dan ofal y diweddar Barch. Ddr. John Morgan Jones, a bu yn wir ffyddlon gyda holl waith yr eglwys, yr Ysgol Sul, a'r Dosbarth Beiblaidd. Ffurfiwyd cyfeillgarwch mynwesol rhyngddo â'i weinidog cyfeillgarwch a barhaodd gan gynyddu fwyfwy hyd y diwedd-fel y dengys y ffaith i'r Q Dr. J. Morgan Jones ymddiried ei lawysgrifau i gyd i ofal Mr. Morgan. Dechreuodd bregethu yn Eglwys Pembroke Terrace yn 1891, a bu yn efrydydd llwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd o 1893 hyd 1895. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Penycae, Mynwy, yn 1896. Yn yr un flwyddyn ymbriododd â Miss Rhoda Williams, merch Mr. a Mrs. Thomas Williams, East Moors, Caerdydd, a bu hithau o bob cymorth posibl iddo. O 1896 hyd 1899 bu yn fugail Eglwys Seisnig y Porth, gan wneuthur gwaith rhagorol yno. Yn 1899 derbyniodd alwad i fugeilio Eglwys Bethania, Llwynypia, ac yma y llafuriodd yn fawr ei barch a'i ddylanwad gyda phob dosbarth am yn agos i chwarter canrif. Fe'i galwyd adref at ei wobr Saboth y Sulgwyn, Mai 20fed, 1923. Pregethai'r Efengyl am ei bod yn brofiad iddo ef ei hun, ac ni esgynnodd neb i'n pulpudau yn fwy ymroddedig a brwdfrydig nag ef. Magwyd ef yn Llangeitho, ac yr oedd gwres ysbrydol diwygiad yn ei enaid yntau. Parhaodd yn fugail hefyd ar hyd ei fywyd-yn ofalus a hunanaberthol. Llanwai gylch pwysig iawn yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg. Llafuriodd yn galed fel ei ysgrifennydd am gyfnod maith. Yr oedd ei gyfarwyddyd bob amser yn ddoeth a diogel ar y gwahanol bwyllgorau, a bu ei wybodaeth o'r grefft saer o fantais fawr i'r pwyllgor adeiladu. Enillodd ymddiriedaeth lwyr y Cyfarfod Misol. Gostynnwyd ei nerth ar y ffordd. Yr oedd yn bresennol fel arfer yng nghymanfa ganu y dosbarth yn ei hoff Fethania y Llun cyntaf o Fai, ac yn honno ni chanodd neb fwy nag ef. Amhosibl fydd i neb oedd yn bresennol feddwl am yr emynau, "'Does neb ond Ef, fy Iesu hardd," a " Os dof fi drwy'r anialwch," heb gofio am Mr. Morgan. Nid oedd ball ar ei ddyblu "Yn seinio buddugoliaeth" yn oedfa'r hwyr.<noinclude><references/></noinclude> 3xcusbahsz87f9s7omv7o0xrxn8gvd4 170204 170203 2026-08-12T23:00:00Z AlwynapHuw 1710 170204 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Morgan Jones, LL.D. yn ei "robes" ar fur y coleg, a'i goffadwriaeth yn fendigedig. {{c|Y PARCH. EVAN REES, M.A. (DYFED).}} Nid yn y" Blwyddiadur" yn unig y cofnodir marwolaeth Dyfed, ac nid gan ein cyfundeb ni yn unig y teimlir colled a chwithtod ar ei ol. Yr oedd wedi torri ei enw yn ddwfn ar lawer llyfr cronicl, a thalodd cenedl gyfan wrogaeth iddo. Adwaenid ef ganddi fel bardd, beirniad, a darlithydd, ac ers blynyddoedd fel ei harchdderwydd. Ond ni pheidiodd a bod yn bregethwr ac nid aeth yn ronyn llai o bregethwr oherwydd y pethau hyn. Ganwyd ef yng Nghasmael, yn Nyfed, ond gadawodd hi yn ieuanc am Aberdâr. Collodd ei dad pan yn saith mlwydd oed. Bu mewn ysgol dda-hen ysgol enwog y Comin, Aberdâr, ond ychydig a fu ynddi gan ei fod yn y pwll glo a than y ddaear pan yn wyth oed. Yr oedd hyn yn bosibl yng Nghymru Gristionogol yn oed Crist 1858. Cafodd yn ddiweddarach ychydig o fanteision ysgol nos, a chyn cyrraedd ohono ugain oed cydnabyddid ef fel y glowr mwyaf medrus a'r bardd mwyaf llwyddiannus yn y cylch. Yr oedd iddo gyfeillion ffyddlon yn Aberdâr, a derbyniodd ganddynt lawer o hyfforddiant fel bardd a llawer iawn o anogaethau i ddechreu pregethu. Diolchai ar hyd ei oes am y cymorth a gafodd gan un ohonynt yn neilltuol, sef, William Morgan, y bardd. Pan yn 25 oed collodd ei fam a bu ymron a thorri ei galon ar ei hol. Diflasodd ar Aberdâr hebddi hi a daeth i Gaerdydd yn 1876. Cafodd waith yno—gwaith a fuasai wedi lladd pob ysbryd barddoni yn y rhan fwyaf o feibion awen—yn platform porter ar y Taff Vale Railway. Ni fu yn hir yn y swydd honno cyn i gyfaill (a resynai fod ei oriau hamdden mor brin) sicrhau gwaith iddo ar y Bute Docks. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jmn8yki8civ2sejiwhrb8t8gwuwva40 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/86 104 88170 170205 2026-08-12T23:00:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170205 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd wedi ymaelodi yn Eglwys Seion, Caerdydd, a gwelodd y blaenoriaid a'r gweinidog newydd yr adeg honno, y diweddar Barch. J. Morgan Jones, fod llawer iawn ynddo, a phwyswyd yn drwm arno i ddechreu pregethu. Bu'n ymarhous am amser, ond ufuddhaodd i'r alwad ac ymdaflodd â'i holl egni i ymbaratoi ar gyfer ei waith. Bu dan addysg y Parch. William James, ar ol hynny o Nantymoel, a'r Parch. Edgar Williams, ac aeth am dymor i Goleg Caerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1884. Pregethodd am ddeugain mlynedd, ac nid esgynnai neb i bulpudau ein Cyfundeb ar ddiwedd ei yrfa fel ar ei dechreu oedd yn fwy cymeradwy gan ei gynulleidfa. Nid oes angen na gofod yma i sôn am ei fawrion weithredoedd ym myd y cystadlu. Yr oedd pawb o bob talaith a phob sir a phob llwyth yn Israel yn fodlon iawn i Ddyfed fod yn archdderwydd, a chyflawnodd wasanaeth mawr yn y cylch hwn gyda'r urddas a'r gwroldeb a berthynai yn amlwg iddo. Cyfoethogodd lawer ar lenyddiaeth ein gwlad. Canodd lawer ïawn am Iesu Grist ac iddo, ac y mae un o leiaf o'i emynau wedi cyrraedd, nid yn unig i'r llyfr emynau, ond i galon ei genedl. Pan fu farw yr oedd yn olygydd y "Drysorfa." Golygodd waith eraill gyda barn a chwaeth ddifeth, a chyfrannodd lawer o'i feddwl a'i brofiad ei hun iddi. Fe fu'n dihoeni am rai misoedd, a bu farw yn dawel, gan gredu yn Iesu Grist. Cafodd angladd tywysog, a daeth pob math ar Gymro i dalu teyrnged i un a garai ei genedl ac a'i gwir wasanaethodd. Gan fod Dyfed yn fardd, ac nad oes neb yn ameu hynny, nid oes berigl mewn dweyd nad oedd yn debyg iawn i fardd yn y dyn oddiallan. Yr oedd i ddeddf le pur fawr yn ei fywyd ac ni fyddai byth yn colli na thrên nac ysgrepan. Gŵr hunanfeddianol ydoedd, yn mesur ei gamre a'i eiriau, ac ni fyddai byth mewn gwewyr o awydd nac o ofn. Tybed mai yma y<noinclude><references/></noinclude> qunbrcdtpnk96ditmqosuqsy753cvhd Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/87 104 88171 170206 2026-08-12T23:01:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170206 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gorweddai cuddiad ei gryfder, a'i fod wedi dod yn gymaint meistr ar gynganeddion am fod yn ei natur ef ei hun ryw gynghanedd ddistaw oedd yn cadw trefn a chymesuredd ar ei holl fywyd? Cadwodd ei ysbryd yn iach a diwenwyn, ac ni werthodd ei annibyniaeth i neb erioed. Gosodwyd llawer anrhydedd arno a disgynnodd eraill heibio iddo, a byddai yn well ganddo i bob un fyned heibio am byth nag ymostwng i wenieithio na chardota amdanynt. Bu ar hyd ei oes yn gyfaill mawr-i'r hen pan yn ieuanc, ac i'r ieuanc pan aeth yn hen ei hun, ac er mai bywyd unig hen lanc fu ei ran ef, gadawodd hiraeth syml, ond dwfn, ar ei ol mewn llawer calon a pherarogl mewn llawer cylch na chilia tra'r erys ei enw mewn cof. {{c|Y PARCH. JOHN MORGAN, LLWYNYPIA.}} Ganwyd y Parch. John Morgan, Mai 9fed, 1866. Mab ydoedd i Peter a Mary Morgan, Penrallt, Llangeitho, a'r trydydd o ddeg o blant. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd grefyddol a thyfodd yntau yn gadarn yn yr Ysgrythyrau ac mewn duwioldeb personol. Derbyniodd ei addysg fore yn Ysgol Frytanaidd Llangeitho. Ac efe'n fachgen bu'n bugeilio ar fferm Trewen Fawr -fferm ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Arferai yno fynd â'r Beibl gydag ef yn y bore, a deuai yn ol yr hwyr wedi trysori penodau o Air Duw yn ei gof. Oddiyno dychwelodd gartref at ei dad i ddysgu ei grefft fel saer. Pan oddeutu 22ain oed symudodd i Gaerdydd, a bu yn hynod lwyddiannus gyda'r un alwedigaeth yno. Ymaelododd yn Eglwys Pembroke Terrace, oedd dan ofal y diweddar Barch. Ddr. John Morgan Jones, a bu yn wir ffyddlon gyda holl waith yr eglwys, yr Ysgol Sul, a'r Dosbarth Beiblaidd. Ffurfiwyd cyfeillgarwch mynwesol rhyngddo â'i weinidog cyfeillgarwch a barhaodd gan gynyddu fwyfwy hyd y diwedd-fel y dengys y ffaith i'r<noinclude><references/></noinclude> 0kofm1gyybqiap6lf739v02av3fz6xs Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/88 104 88172 170207 2026-08-12T23:01:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170207 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dr. J. Morgan Jones ymddiried ei lawysgrifau i gyd i ofal Mr. Morgan. Dechreuodd bregethu yn Eglwys Pembroke Terrace yn 1891, a bu yn efrydydd llwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd o 1893 hyd 1895. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Penycae, Mynwy, yn 1896. Yn yr un flwyddyn ymbriododd â Miss Rhoda Williams, merch Mr. a Mrs. Thomas Williams, East Moors, Caerdydd, a bu hithau o bob cymorth posibl iddo. O 1896 hyd 1899 bu yn fugail Eglwys Seisnig y Porth, gan wneuthur gwaith rhagorol yno. Yn 1899 derbyniodd alwad i fugeilio Eglwys Bethania, Llwynypia, ac yma y llafuriodd yn fawr ei barch a'i ddylanwad gyda phob dosbarth am yn agos i chwarter canrif. Fe'i galwyd adref at ei wobr Saboth y Sulgwyn, Mai 20fed, 1923. Pregethai'r Efengyl am ei bod yn brofiad iddo ef ei hun, ac ni esgynnodd neb i'n pulpudau yn fwy ymroddedig a brwdfrydig nag ef. Magwyd ef yn Llangeitho, ac yr oedd gwres ysbrydol diwygiad yn ei enaid yntau. Parhaodd yn fugail hefyd ar hyd ei fywyd-yn ofalus a hunanaberthol. Llanwai gylch pwysig iawn yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg. Llafuriodd yn galed fel ei ysgrifennydd am gyfnod maith. Yr oedd ei gyfarwyddyd bob amser yn ddoeth a diogel ar y gwahanol bwyllgorau, a bu ei wybodaeth o'r grefft saer o fantais fawr i'r pwyllgor adeiladu. Enillodd ymddiriedaeth lwyr y Cyfarfod Misol. Gostynnwyd ei nerth ar y ffordd. Yr oedd yn bresennol fel arfer yng nghymanfa ganu y dosbarth yn ei hoff Fethania y Llun cyntaf o Fai, ac yn honno ni chanodd neb fwy nag ef. Amhosibl fydd i neb oedd yn bresennol feddwl am yr emynau, "'Does neb ond Ef, fy Iesu hardd," a " Os dof fi drwy'r anialwch," heb gofio am Mr. Morgan. Nid oedd ball ar ei ddyblu "Yn seinio buddugoliaeth" yn oedfa'r hwyr.<noinclude><references/></noinclude> tgy8d2kcrxddf963um8in5kooocx4ho Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/89 104 88173 170208 2026-08-12T23:02:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170208 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tarawyd ef yn wael gan "pneumonia," ac aeth yr afiechyd yn drech nag ef. Canodd lawer yn ei ddyddiau olaf, ac yr oedd ei farwolaeth yn fuddugoliaethus. Yn ei angladd luosog-un o'r rhai mwyaf a welwyd erioed yn y Rhondda-cafwyd profion amlwg o alar a pharch cyffredinol a dystiai fod gŵr Duw yn myned adref. Gadawodd weddw a thair o ferched i alaru ar ei ol. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f1pijn5otkd8kcsf7vnof2hx4vw58dw Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/90 104 88174 170209 2026-08-12T23:21:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170209 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN V.
Yn ol at yr Hyn a Fu.}}}} {{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD X.
Y SYMUDIAD YMOSODOL. EI GYCHWYNIAD YN EAST MOORS.}}}} YSGRIFENNWYD llawer o bryd i'w gilydd ynghylch rhamant y Symudiad, ac yn ddiameu rhamantus ddigon yw'r genhadaeth gartrefol hon o eiddo'r Cyfundeb. Nid oes a fynnom ni â'r mudiad a gymerodd feddiant erbyn hyn o'r Deheu a'r Gogledd yn gymaint a'i gysylltiadau arbennig â Chaerdydd,. Daeth y Symudiad Ymosodol i sylw'r Cyfundeb gyntaf yng Nghymanfa Gyffredinol Chatham Street, Lerpwl, yn y flwyddyn 1890. Yr oedd y Parch. John Pugh wedi cael rhai blynyddoedd disglair o lwyddiant mewn ennill esgeuluswyr yn Nhredegar, Pontypridd, ac ar yr adeg honno yng Nghlifton Street, Caerdydd. Rhoddodd ef a'r Parch. Lewis Ellis anerchiadau cyffrous yn y gymanfa uchod ar sefyllfa foesol Morgannwg a Mynwy. Ym mhwyllgor yr achosion Seisnig trefnwyd gwneuthur ymchwiliad trwyadl i'r materion a ddygodd y ddau frawd gerbron. Yng Nghymanfa Treforris y flwyddyn ganlynol (1891) hysbyswyd fod Cymdeithasfaoedd y Deheu a'r Gogledd wedi cymeradwyo'r bwriad i ffurfio cymdeithas i ofalu am waith cenhadol mewn ardaloedd poblog. Yng Nghymanfa Machynlleth, 1892, sefydlwyd y gymdeithas a rhoed iddi yr enw, "Y Gymdeithas er sefydlu Achosion Newyddion a Chenhadol" "The<noinclude><references/></noinclude> 990o1bnf9vv4i7np68d1hm64ea4ub31 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/91 104 88175 170210 2026-08-12T23:22:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170210 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Church Extension and Mission Society." Penodwyd swyddogion fel y canlyn:-Llywydd, Y Parch. Ddr. D. Saunders; ysgrifennydd, Y Parch. Lewis Ellis; trysorydd, Mr. Edward Davies, Y.H.; arolygydd, Y Parch. J. Pugh. (Wedi marwolaeth Dr. Saunders etholwyd y Prifathro Prys yn llywydd, ac ef sy yn y swydd yn bresennol.) Cymerodd y gymdeithas honno dan ei nawdd y cenadaethau a gychwynnid eisoes gan y Parch. J. Pugh yng Nghaerdydd, y rhai a alwodd ef "The Forward Movement," a rhoed safle swyddogol i'r Parch. Seth Joshua a'r Parch. John Griffith fel cydefengylwyr yr arolygydd. Er lledaenu gwybodaeth y genhadaeth newydd, ac er ennyn diddordeb yn y dychweledigion yng ngweithrediadau y Cyfundeb, cyhoeddwyd "The Christian Standard" yn gynnar yn 1891, ac yn ddiweddarach "The Forward Movement Herald," dau fisolyn a a ddeil eu cymharu'n ffafriol ag unrhyw gylchgrawn a gyhoeddwyd ar eu hol. I ddychwelyd am foment at weinidogaeth y Parch. J. Pugh yng Nghlifton Street. Ym mis Ionawr, 1899, yr aeth ef yno, wedi ymadawiad y Parch. J. Verrier Jones. Trefnodd ef i ddechreu ei waith yno gyda chenhadaeth am bythefnos, eithr pan ddeallodd gweinidogion y cylch beth oedd ei fwriad mynegwyd dymuniad am gael cenhadaeth unedig drwy'r holl ardal. Cydsyniodd yntau. Llwyddodd yr ymdrech tu hwnt i bob disgwyliad. Parhaodd y cyfarfodydd am o leiaf dri mis dan arddeliad Ysbryd Duw, ac ychwanegwyd cannoedd lawer at yr holl eglwysi. Dywedir y gorlenwid Capel Clifton Street bob bore am saith o'r gloch yn ystod yr ymweliad grasol hwn. Ped anghytunai neb â'r farn mai'r Symudiad Ymosodol a achubodd Fethodistiaeth Caerdydd, ni all neb ameu iddo ddylanwadu gymaint ar yr eglwysi arferol nes gwneuthur Presbyteriaeth Cymru yn allu<noinclude><references/></noinclude> 4k1iy8mp0izgze5y17i4kibxof4jolv Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/92 104 88176 170211 2026-08-12T23:26:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170211 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mawr yn y ddinas. Cydnebydd yr enwadau eraill i'r mudiad rhyfeddol hwn roi iddynt hwy y symbyliad mwyaf ynglŷn â'u gwaith cenhadol hwy. Ysbryd y Symudiad Ymosodol a roddes fod i'n cyfundeb ni. Codwyd ni i efengyleiddio'r wlad ac i ennill Cymru i Grist. Hyn a gymhellodd y Tadau Methodistaidd. Yn yr un ysbryd y cychwynnwyd Cenadaethau Cartrefol y Deheu a'r Gogledd. Yr un ysbryd cenhadol, ag iddo gorff newydd, yw y " Forward Movement," ac enghraifft dda yw hyn o "reversion to type," canys aed yn ol at yr hyn a fu yn nechreu Methodistiaeth. "Pioneer" oedd Howell Harris, yr hwn a welodd lwybrau newydd o wasanaeth dros Deyrnas yr Iesu a thros ei gyd-ddynion. Gŵr tebyg iddo oedd y Parch. John Pugh, D.D. Agorodd yntau lwybrau newydd a bu yn anturiaethus ei feddwl a diofal yn aml am y canlyniadau. Ei brif amcan oedd gwneuthur ymdrech effeithiol, yn siroedd poblog Morgannwg a Mynwy i ddechreu, i gyfarfod y cynnydd rhyfeddol yn y boblogaeth a'r cyfnewidiad alaethus yn arferion crefyddol yr ardaloedd gweithfaol. {{c|''Cychwyniad yn East Moors.''}} Dechreuwyd y mudiad gan Dr. John Pugh pan oedd ef yn weinidog yn Eglwys Clifton Street. Gwelodd faes agored i'r cynhaeaf yn yr ardal newydd a ddatblygodd mor gyflym wedi i waith haearn a dur Dowlais gychwyn yn yr East Moors. Penderfynodd gario'r Efengyl i'r boblogaeth gymysg a ymgynullai yno. Cafodd gydymaith o'r iawn ryw yn yr Efengylydd Seth Joshua. Benthyciwyd "tent" at yr amcan, a gosodwyd hi i fyny yn ebrwydd. Er i stormydd enbyd o wynt a glaw eu llesteirio fwy nag unwaith, yn y babell honno y cychwynnwyd gorchwyl cenhadol mwyaf y Cyfundeb, ym mis Mai, 1891. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 07murq977c7e0myy0f926vefk5ilo1h Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/93 104 88177 170212 2026-08-12T23:27:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170212 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymhen blwyddyn adeiladwyd neuadd yn Carlisle Street a ddaliai 1600. Ymddiswyddodd Dr. Pugh o'i ofalaeth yn Eglwys Clifton Street ac ymdaflodd o ddifrif i waith enfawr yr anturiaeth newydd. Un nos Sadwrn oedd hi pan roddasai Pugh a Joshua babell East Moors i fyny. Gorchuddiwyd y llawr â rhyw bedair modfedd o flawdllif, ac wrth iddynt orffen y cyfan wele ddyn meddw yn eu hymyl, ac ebai ef, "Hello, guv'nor, what's this, a boxing show?" Yes," meddai Seth Joshua, "there's going to be some fighting here." "When are you going to start? "To-morrow morning at 11." Ger out," meddai'r meddwyn, "to-morrow's Sunday, mun," Well, what's the odds," atebai Joshua, "better the day, better the deed." "Who's on?" "I am to take on the first round," ebai'r efengylydd. "Who's with you, mate?" "Well he's a chap called Beelzebub." Who? By George, I never heard of him; who is he? Oh," meddai Joshua yn ol, "he's a smart un, I can tell you; come to-morrow morning, old chap, and see the rounds. "Right you are, guv'nor, I'll be there, no blooming fear" oedd yr ateb. Ac yn wir, yno yr oedd efe fore Sul. Canwyd "All hail the power of Jesu's name," ac yr oedd yn amlwg cyn pen pum munud fod y meddwyn wedi ei ddal, ac edrydd Seth Joshua yr hanes yn y geiriau nod- weddiadol hyn. "Old Beelzebub went over the ropes all right, for that chap was converted that very morning." Ymddiriedwyd y gwaith ymhlith plant East Moors i ddyn ieuanc a gyflwynodd ei hun yn llwyr i'r weinidogaeth wedi hynny, sef, y Parch. W. D. O. Jones, Taffs Well. Gwnaeth ef wasanaeth ardderchog a adawodd ei ôl ar yr holl gymdogaeth. Amseroedd go ryfedd oedd y rheiny yng Nghaerdydd. Yr oedd fel petai holl ellyllon y fall ar eu heithaf i ddymchwel pob gwaith da a wnaed erioed. Dyna'r pryd y codwyd cannoedd lawer o "shebeens" ymhob<noinclude><references/></noinclude> sxyug66n2cx9ms8ni0166lf88yx6yw5 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/94 104 88178 170213 2026-08-12T23:27:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170213 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhan o'r dref i wrthweithio'r "Sunday Closing Act" ac ymdrechion dirwestwyr y dref. Dyna'r pryd y daeth "Marl Pits" Grangetown i fri, lle y gwelid oferedd a rhialtwch ac annuwioldeb annisgrifiadwy, yn enwedig ar y Suliau. Ni wnaeth neb yng Nghaerdydd fwy na John Pugh a Seth Joshua a'u cydlafurwyr i roi terfyn ar y "Marl Pits." Yr oedd cynnydd y shebeens" yn frawychus, nid yn unig i grefyddwyr y dref, eithr hefyd i'r heddgeidwaid ac awdurdodau'r Cyngor Tref. Ymddangosai fel pe na bai modd i'w hatal a'u darostwng. Yr Efengyl yn unig oedd y gallu i'w gwrthsefyll, a gwnaeth efengylwyr y "Forward Move- ment" wrhydri y sonnir am dano byth. Yr oedd meddwdod Canton o gwmpas pabell y Symudiad Ymosodol yn ddiarhebol. Lladdwyd menyw ar enedigaeth ei phlentyn o fewn hanner canllath i'r babell. Mynnodd llofruddion, ysbeilwyr, a lladron a dyhirod o bob math erlid Seth Joshua pan bregethai yn yr awyr agored. Cyflogid hwy at bob anfadwaith gan frewers" a thafarnwyr. Ond yr Efengyl a orfu, er clod i sylfaenwyr y Symudiad Ymosodol, er iachawdwriaeth cymeriadau gwaethaf Caerdydd, ac er gogoniant y Ceidwad bendigedig. Un o anturiaethau boreaf y Symudiad oedd i'r efengylwyr a fu ar y maes gyntaf gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored ar yr Hayes bob nos Sadwrn. Yno y ceisid pregethu'r Efengyl yng nghanol berw masnach, yn sŵn gwichian arswydus yr organ dro a'r "Punch and Judy Show," ym mabel lleisiau gwerthwyr nwyddau diwerth, ac yng nghlyw dynion o bob lliw a llun. Cofus gennym weld amseroedd bywiog yno lawer tro. Dr. Pugh oedd yr un a gychwynnodd y "Prison Gate Mission," Gorffennaf, 1890. Ef oedd yr arolygydd a'r ysgrifennydd am flynyddoedd, os nad hyd ei farw. Dyma un o'r mudiadau dyngarol goreu a sefydlwyd<noinclude><references/></noinclude> dvwggxjfelcx19ggwousg7otmb0q3vk Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/95 104 88179 170214 2026-08-12T23:28:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170214 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn y ddinas ac y mae yn parhau i weini cysur a gobaith a goleu i'r carcharorion a gaiff eu rhyddhau bob dydd. Gyda llaw, blaenor Methodist o Ruthin a Chaernarfon, aelod yn awr yng Nghlifton Street, yw goruchwyliwr presennol Carchar Caerdydd, a blaenor arall yn yr un eglwys yw un o swyddogion ffyddlonaf y "Prison Gate Mission." Nid ein hamcan ni ydyw sôn am nodweddion gwahaniaethol y gwaith arbennig hwn. Y mae'n llawn bryd i rywun ymgymeryd â'r gorchwyl o ysgrifennu hanes y gwaith o'r cychwyn. Fel y dywedwyd yn barod, yr oedd Dr. Pugh â'i olwg ar ddylifiad estroniaid difoes a digrefydd i'r parthau gweithfaol, a gwelodd hefyd fod esgeuluswyr moddion gras yn cynhyddu'n gyflym yn y lleoedd hynny. Wynebodd ef y sefyllfa, ac yn ysbryd Howell Harris a Daniel Rowland penderfynodd, oni ddeuai y werin at yr Efengyl y gwnai ef ei oreu i ddwyn yr Efengyl atynt hwy. Bydd gan y sawl a ymgymero â'r gwaith o groniclo holl ramant y Symudiad Ymosodol doreth o hanesion am droedigaeth pechaduriaid pennaf Caerdydd trwy offerynoliaeth John Pugh a'i gyd- weithwyr. Sôn am "Broken Earthenware," ni fedd unrhyw genhadaeth yn y byd fwy o "trophies" i'r Gwaredwr na'r "Forward Movement." Bûm mewn cyfarfod yn Abertawe rai blynyddoedd yn ol pan alwodd y Parch. Seth Joshua tua dwsin o ddynion wrth eu henwau i ddod ymlaen, a holodd hwynt yn gyhoeddus. "John Davies, chwi fuoch yn fachgen drwg iawn, onid do?" 'Do, syr, fel mae'r gwaethaf." Yn y dafarn a'r clybiau ddaru i ti dreulio d'amser ? " "Ie siwr." "A'r wraig a'r plant yn dioddef eisiau a thithau'n fileinig wrthynt? "Ie, dyna fy hanes, syr." "Sut mae arnat ti'n awr, John." "O, mi gwrddais â Iesu Grist ac fe'm newidiodd i 'altogether.'' Ble gwelaist ti ef gyntaf, John?" "Yn yr hall' yma wrth eich gwrando chwi'n pregethu." "Tom<noinclude><references/></noinclude> 65qkkn20xkxx94gkqj67rftg37e314q Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/96 104 88180 170215 2026-08-12T23:29:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170215 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones," meddai wrth un arall, "bywyd isel oeddet ti yn arwain, onide?" Ie, a buais yn y 'jail' droeon am feddwi ac ymladd." "Beth yw'ch hanes yn awr?" "'Clywais chwi'n pregethu un noson ar gariad Crist yn marw drosof i a rhoddais fy hun iddo." "Bill Harris, rhywbeth tebyg i uffern oedd dy gartref di hyd yn ddiweddar." "Ie, a gwaeth na hynny," meddai Bill, a gwaeddodd Mrs. Harris allan, "That's a fact." Yn y modd hyn aeth dros y deuddeg, gan ddwyn allan gyflwr y dychweledigion fel y gwnaed, gallwn dybied, ym mlynyddoedd dechreuad Methodistiaeth. 'Chlywais i erioed ffasiwn beth," ebai'r diweddar Barch. Barrow Williams, a eisteddai yn fy ymyl yn y cyfarfod rhyfedd hwnnw. Nid oedd hynny ond yr hyn a wnaed mewn un neuadd yn unig, heb sôn am yr hyn a wnaed gan Barker ac eraill mewn lleoedd annuwiol fel Salt Mead, Caerdydd. Y mae i'r Symudiad ei straeon digrif hefyd. I'r sawl a fo'n hoff o'r ochr ysmala, buasai'n ddiddorol dros ben gweld heddiw gopi o'r hysbyslen enfawr a gyhoeddodd John Pugh ar agoriad Neuadd East Moors, ond hyd y gwyddis nid oes un ar gael. Cofiaf yn dda am y poster" mawr hynny. Yr oedd cyrddau pregethu wedi eu trefnu bob nos o'r wythnos, a'r efengylwyr a gasglodd Pugh ato ei hun i bregethu. Yr oedd enw pob un ohonynt mewn llythrennau breision, ac yna, mewn cromfachau, rhywbeth nodweddiadol o bob un. Er enghraifft, "The Christian Gentleman" oedd un; "The Muscular Christian oedd y llall; ac am un dywedwyd "The little ball of fire." Yr oedd y nodweddion hyn yn taro pob un, a gwyddai pawb a'i hadwaenai pam y sonnid am danynt felly, ond nid teg a fyddai eu henwi yma. Cafodd Dr. Pugh a'i gydlafurwyr gryn symbyliad gyda'r gwaith ar y dechreu drwy ymweliadau gwlithog y Parch. W. Ross, Cowcaddens, cyfaill mynwesol i'r<noinclude><references/></noinclude> sd4c9w4gh8qvh8dsqof0rwvmrid25xy Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/97 104 88181 170216 2026-08-12T23:29:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170216 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arolygydd. Cofus gennym am un "drawing-room meeting" a anerchwyd gan Mr. Ross. Yr oedd yno frawd o leygwr a fu dipyn yn siaradus yr holl amser. Credai Mr. Ross ei fod yn ŵr blaenllaw yn un o'r eglwysi Seisnig, ac ar derfyn yr eisteddiad, cyn "Mr. cyrchu at y byrddau tê, dywedai Mr. Ross, "Mr. . . . will ask God's blessing on our pleasing deliberations." Ond, hawyr bach, peth hollol newydd i'r brawd tafodrydd oedd cyfarch Gorsedd Gras yn gyhoeddus, eithr rhaid oedd iddo fentro arni pan welodd bennau pawb wedi eu gostwng yn ddefosiynol, ac fel hyn y dechreuodd ei weddi, " O, Lord, we come before Thee very unexpectedly. Ni chlywsom ragor, na'r nefoedd chwaith! Pesychodd Ross am funudau lawer i fygu'r pwl o chwerthin a ddaeth arno ef ac arnom ni i gyd. Fel y cofnodwyd mewn pennod arall, dilynwyd y Parch. Ddr. J. Pugh, gan y Parch. J. Morgan Jones, LL.D., fel arolygydd y Symudiad. Estynnai tymor gwasanaeth Dr. Pugh o 1891 hyd 1907, a thymor Dr. Jones o 1907 hyd 1921. Wedi marw Dr. Jones etholwyd y Parch. Richard J. Rees, M.A., Aber- ystwyth, i'r swydd, a dechreuodd yntau ar ei waith yn y flwyddyn 1922. O'n hochr ni ar y ddaear yma, cyd-ddigwyddiad rhyfedd, beth bynnag a fu trefn y nefoedd ynddo, oedd penodiad yr arolygydd presennol, gan iddo ef fod yn weinidog i Eglwys Clifton Street, fel y bu sylfaenydd y mudiad, ac o'r eglwys honno y cychwynnodd y Symudiad ymosodol. Erbyn hyn mae'r fechan yn fil, a'r wael, a aned mewn pabell fenthyg yn East Moors, Caerdydd, yn genedl gref." Rhoddodd y Meistr ddynion llwyr ymroddedig i'r gwaith hwn oddiar y cychwyn, ac yn eu plith y Parch. Lewis Ellis, Rhyl, yr hwn a weithredodd fel ysgrifennydd er y dechreu, a'r Parch. John Thomas, Caerdydd, a fu'n efengylydd yn Heath Hall am dymor cyn<noinclude><references/></noinclude> ecg7vfum5s117i1xe3lya8d208flg4f Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/98 104 88182 170217 2026-08-12T23:30:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170217 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymgymeryd â'r ysgrifenyddiaeth. Ef sy'n gyfrifol am y swydd honno ers blynyddoedd, ac y mae iddo air da gan bawb am dreulio ac ymdreulio gyda manylion aneirif y gwaith enfawr. Ffrwyth Diwygiad 1904-5 yw Kingswood—Treborth Home, Cowbridge Road, Caerdydd, cartref i enethod digartref o bob rhan o Gymru, i'r hwn y mae Mrs. Tydfil Thomas, B.A., yn ysgrifenyddes. Dechreuwyd y gwaith hwnnw yn y Treborth Home, Corporation Road, Grangetown, gan Sister Lloyd, yn 1902, pan fu hi yn cynorthwyo Sergeant Barker. Prynwyd yr adeilad hwnnw ar draul o dair mil o bunnoedd. Ni all neb fesur dylanwad bendithiol y gwasanaeth a wneir gan y cenadesau-"the sisters of the people" —yn rhai o'r canolfannau ac yn nhywyll leoedd Caerdydd. Yn gymaint a'n bod yn ymdrin a'r gwaith yng Nghaerdydd, rhaid rhoi hanes y gwahanol ganolfannau eraill, pob un ar ei ben ei hun. Ond i ddechreu, rhown ddyfyniad fan hyn o'r erthyglau ar Ddr. Pugh a'r Parch. Seth Joshua yn y "Blwyddiadur."

{{c|{{mawr|PENNOD XI.
COFFADWRIAETH Y PARCHN. JOHN PUGH, D.D., A SETH JOSHUA.}}
(DYFYNIADAU O'R "BLWYDDIADUR.")}} {{c|Y PARCH. JOHN PUGH, D.D.}} The Rev. John Pugh, D.D., Cardiff, died March 24th, 1907. He was born at New Mills, Montgomeryshire, January 29th, 1846. When he was 14 years of age his parents removed to Pembrokeshire, where he and his father were employed by Mr. David Davies,
<noinclude><references/></noinclude> a6nolwtzj0cii5zzfbtync7ra0k18if Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/99 104 88183 170218 2026-08-12T23:30:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170218 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Llandinam, in the construction of the Pembroke and Tenby Railway. At this period he came in contact with young Thomas Charles Edwards, who was acting as chaplain among the navvies, and whose influence upon young Pugh was paramount. Encouraged and inspired by him he began to preach, and in 1869 he entered Trefecca College, where he studied for three years under the Revs. Principal Howells and Dr. Harris Jones. At the close of his college career, he accepted a call from a small English Church at Tredegar, where he soon began to engage in open air work, and the small iron chapel became too contracted for the people who came to hear. A chapel capable of seating six hundred people was erected and became almost at once comparatively well filled, and the church increased in numbers, so that when he left in 1881 there were 145 in full membership. He laboured here about eight years. In April, 1881, he took charge of a young English cause in St. David's Hall, Pontypridd. In 1889 he accepted a call from Clifton Street Chapel, Cardiff, and ere long he was moved by what he saw in this marvellously rapid-growing town to break forth into special efforts for the spiritual amelioration of the masses. He began in a large borrowed tent at East Moors, and thus the Forward Movement was commenced, which was destined to become a glorious success. The Rev. J. M. Jones, Cardiff, presiding over the meeting held in Crwys Road Hall on the day of Dr. Pugh's funeral, said that they were sorrowing at the loss of a great man-great in his enthusiasm, philanthropy, and faith. He had created a new epoch in the history of the Connexion and in the religious life of Wales. He saw the danger of his beloved country being flooded by ungodly, ignorant people, whose language was impure and whose conduct was corrupt, and he<noinclude><references/></noinclude> i260qf5rfejnxriomy24t4n5r75s2pq Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/100 104 88184 170219 2026-08-12T23:31:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170219 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>also saw that unless their influence could be counter- acted they would paganize the country. Many others saw the danger, but they were helpless in the face thereof the churches were indifferent and the leaders were unable to meet the question and its difficulties. In the crisis John Pugh came forward and threw himself into the breach. He could not have done much had he been left to himself, but his enthusiasm struck fire round about him, and he inspired others through being inspired himself. He secured the sympathy and help of the leading men, such as the late Mr. Edward Davies, Dr. Saunders, Rev. William Powell, Pembroke, and others, and through their support and encouragement he succeeded in securing the full force of the Connexion on behalf of his work. If it were desired to know what he had done for Wales, let them look around upon the fine halls which he erected, the scores of churches which he had planted, and the hundreds of souls he had been instrumental in saving. His day had reached its close and his reward was great." An immense crowd, including five members of Parliament, the Lord Mayor, and several councillors of Cardiff, and representatives of several Monthly Meetings, were present at the funeral. {{c|Y PARCH. SETH JOSHUA.}} The Rev. Seth Joshua was an outstanding figure in our midst, and we shall ever proudly remember him as one of our greatest evangelists. He was a wonderful personality. He came on the scene at an opportune time. It became evident that God had marked him out as the helper of the movement to Dr. Pugh. His preparation for his life-work bears testimony to the guiding hand of Providence. He was born at Pontypool in April, 1859. He was brought up in a religious home where the highest things were<noinclude><references/></noinclude> lm16wqfzgcpya0b7ja95g9831nikgor Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/101 104 88185 170220 2026-08-12T23:32:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170220 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>honoured and the ordinary talk of the family was largely about the things of the Kingdom of Heaven, so much so that three of the children out of six consecrated themselves to the Christian ministry. Seth wandered into the wilderness for several years, but he was born again at Treforest in 1882, and began to testify for Christ at once. Frank, his brother, was converted in the same year-nine years before the Forward Movement was born at Cardiff. When, in 1891, he joined hands with Dr. Pugh to carry on evangelistic work in Cardiff and elsewhere, it was soon found that he had eminent gifts for such work, among which can be mentioned his splendid physique, his manly presence, his holy daring, born of faith, his sense of humour and power of adaptation, his knowledge of, and sympathy with, human nature, coupled with his passion for souls. Such gifts enabled him to lift up a standard for the people and carry to victory against tremendous odds. He was ordained to the full work of the ministry in 1893. His reputation as a missioner spread everywhere, and the Free Church Council of Wales secured his services for years, and in that capacity he visited all parts of Great Britain, and invariably there were solid spiritual results. His brother Frank died in 1921, and Seth was invited to take charge of the Neath Mission. His ministry here was greatly blessed. He died after a short illness on Tuesday, May 21st, 1925, and on May 26th he was buried at Llantwit Cemetery, Neath. Thousands attended the funeral, and in the service in the hall exceptional testimony was given to the great work accomplished by Mr. Joshua in the spirit of love and sincerity. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> dlg6aczdfffdcsl6cnucvpmdn5xhyo3 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/118 104 88186 170221 2026-08-13T00:59:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170221 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|Eglwysi'r Symudiad Ymosodol: East Moors Hall, Memorial Hall, Crwys Hall, Heath Hall, Clive Road Hall, Grangetown Hall, Moorland Road Hall, Saltmead Hall, Brynhyfryd (Ely).}} {{c|Nifer yr Eglwysi: 20. Eisteddleoedd: 15,580.}} Heblaw'r capel, y mae gan y rhan fwyaf o'r eglwysi ystafelloedd eang at wasanaeth yr Ysgol Sul a chyfarfodydd cyhoeddus y plant, etc. Ceidw Plasnewydd genhadaeth lewyrchus yn Fitzroy Street, lle y trefnir moddion ar y Sul, ac Ysgol Sul, a chyfarfodydd ar hyd yr wythnos. Nifer y Cymunwyr: 4304. Cyfanrif yr Ysgolion Sul: 5140. Nifer yr aelodau, y plant, a'r gwrandawyr: 10,600. Gwerth yr eiddo, neu swm yswiriant yr eiddo:— £155,725. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9ggcxn47vmptyaf0z5uv6jtmnzlu8o5 170222 170221 2026-08-13T01:01:20Z AlwynapHuw 1710 170222 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Eglwysi'r Symudiad Ymosodol: East Moors Hall, Memorial Hall, Crwys Hall, Heath Hall, Clive Road Hall, Grangetown Hall, Moorland Road Hall, Saltmead Hall, Brynhyfryd (Ely). Nifer yr Eglwysi: 20. Eisteddleoedd: 15,580. Heblaw'r capel, y mae gan y rhan fwyaf o'r eglwysi ystafelloedd eang at wasanaeth yr Ysgol Sul a chyfarfodydd cyhoeddus y plant, etc. Ceidw Plasnewydd genhadaeth lewyrchus yn Fitzroy Street, lle y trefnir moddion ar y Sul, ac Ysgol Sul, a chyfarfodydd ar hyd yr wythnos. Nifer y Cymunwyr: 4304. Cyfanrif yr Ysgolion Sul: 5140. Nifer yr aelodau, y plant, a'r gwrandawyr: 10,600. Gwerth yr eiddo, neu swm yswiriant yr eiddo:— £155,725. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5kit62bw9de8xbyi829bdbl8vizuutv Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/117 104 88187 170223 2026-08-13T01:03:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170223 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Fred Lines, yr efengylydd a benodid i ofalu am yr achos am dymor. Disgwylir i'r Henaduriaeth gorffori eglwys yno yn ebrwydd. Deil y neuadd bum cant o bobl. Y mae'r lle yn rhy fach yn barod. Llawenychai pawb i wybod i'r cyfeillion osod yr Ysgol Sul mewn trefn y Sul olaf yn Awst, pryd y gwnaed rhestr swyddogol o'r rhai a fwriadai ymuno. Cymerwyd enw, oedran, a chyfeiriad pum cant a deugain o ysgolheigion- plant a rhai mewn oed. Daeth pedwar ar ddeg ar hugain o gyfeillion ymlaen i gynnyg eu gwasanaeth fel athrawon. Er cael lle i'r fath nifer anferth rhaid oedd trefnu ar gyfer dwy Ysgol Sul, un i gyfarfod am ddau o'r gloch, a'r llall am dri brynhawn Sul. Credwn y cytunai pawb a ddarlleno hyn fod y cyfeiriad at yr achos diweddaraf hwn yn Ely yn ddiweddglo hapus i hanes gweithrediadau'r Symudiad Ymosodol yn ninas Caerdydd o 1891 hyd 1927-yn ddiau, Symudiad mwyaf bendithiol y Cyfundeb, a'r Symudiad y gallwn barhau i ddywedyd am dano yng ngeiriau Iolo Caernarfon, "Mor llawn o ryfeddodau, os nad gwyrthiau grasol, a'i hanes yn rhamant ddyrchafedig o fywyd a goleuni."

{{c|{{mawr|PENNOD XIII.
YSTADEGAU METHODISTIAID CAERDYDD DDIWEDD Y FLWYDDYN 1926.}}}}} {{c|Enwau'r Achosion.}} {{c|Yr eglwysi Cymreig: Pembroke Terrace, Bethania (Docks), Salem (Canton), Crwys Road, Jerusalem. }}
{{c|Yr eglwysi Seisnig: Frederick Street, Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Park End, Metal Street.}} {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> 1ttqr6ptn918tb0omwyddfq3hp6ha8y 170224 170223 2026-08-13T01:04:34Z AlwynapHuw 1710 170224 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Fred Lines, yr efengylydd a benodid i ofalu am yr achos am dymor. Disgwylir i'r Henaduriaeth gorffori eglwys yno yn ebrwydd. Deil y neuadd bum cant o bobl. Y mae'r lle yn rhy fach yn barod. Llawenychai pawb i wybod i'r cyfeillion osod yr Ysgol Sul mewn trefn y Sul olaf yn Awst, pryd y gwnaed rhestr swyddogol o'r rhai a fwriadai ymuno. Cymerwyd enw, oedran, a chyfeiriad pum cant a deugain o ysgolheigion- plant a rhai mewn oed. Daeth pedwar ar ddeg ar hugain o gyfeillion ymlaen i gynnyg eu gwasanaeth fel athrawon. Er cael lle i'r fath nifer anferth rhaid oedd trefnu ar gyfer dwy Ysgol Sul, un i gyfarfod am ddau o'r gloch, a'r llall am dri brynhawn Sul. Credwn y cytunai pawb a ddarlleno hyn fod y cyfeiriad at yr achos diweddaraf hwn yn Ely yn ddiweddglo hapus i hanes gweithrediadau'r Symudiad Ymosodol yn ninas Caerdydd o 1891 hyd 1927-yn ddiau, Symudiad mwyaf bendithiol y Cyfundeb, a'r Symudiad y gallwn barhau i ddywedyd am dano yng ngeiriau Iolo Caernarfon, "Mor llawn o ryfeddodau, os nad gwyrthiau grasol, a'i hanes yn rhamant ddyrchafedig o fywyd a goleuni."

{{c|{{mawr|PENNOD XIII.
YSTADEGAU METHODISTIAID CAERDYDD DDIWEDD Y FLWYDDYN 1926.}}}} {{c|Enwau'r Achosion.}} {{c|Yr eglwysi Cymreig: Pembroke Terrace, Bethania (Docks), Salem (Canton), Crwys Road, Jerusalem.}}
{{c|Yr eglwysi Seisnig: Frederick Street, Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Park End, Metal Street.}} {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> 3do05bfar4rde0zor413472no2vzvj4 170225 170224 2026-08-13T01:05:35Z AlwynapHuw 1710 170225 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Fred Lines, yr efengylydd a benodid i ofalu am yr achos am dymor. Disgwylir i'r Henaduriaeth gorffori eglwys yno yn ebrwydd. Deil y neuadd bum cant o bobl. Y mae'r lle yn rhy fach yn barod. Llawenychai pawb i wybod i'r cyfeillion osod yr Ysgol Sul mewn trefn y Sul olaf yn Awst, pryd y gwnaed rhestr swyddogol o'r rhai a fwriadai ymuno. Cymerwyd enw, oedran, a chyfeiriad pum cant a deugain o ysgolheigion- plant a rhai mewn oed. Daeth pedwar ar ddeg ar hugain o gyfeillion ymlaen i gynnyg eu gwasanaeth fel athrawon. Er cael lle i'r fath nifer anferth rhaid oedd trefnu ar gyfer dwy Ysgol Sul, un i gyfarfod am ddau o'r gloch, a'r llall am dri brynhawn Sul. Credwn y cytunai pawb a ddarlleno hyn fod y cyfeiriad at yr achos diweddaraf hwn yn Ely yn ddiweddglo hapus i hanes gweithrediadau'r Symudiad Ymosodol yn ninas Caerdydd o 1891 hyd 1927-yn ddiau, Symudiad mwyaf bendithiol y Cyfundeb, a'r Symudiad y gallwn barhau i ddywedyd am dano yng ngeiriau Iolo Caernarfon, "Mor llawn o ryfeddodau, os nad gwyrthiau grasol, a'i hanes yn rhamant ddyrchafedig o fywyd a goleuni."

{{c|{{mawr|PENNOD XIII.
YSTADEGAU METHODISTIAID CAERDYDD DDIWEDD Y FLWYDDYN 1926.}}}} {{c|Enwau'r Achosion.}}{{c|Yr eglwysi Cymreig: Pembroke Terrace, Bethania (Docks), Salem (Canton), Crwys Road, Jerusalem.}}{{c|Yr eglwysi Seisnig: Frederick Street, Clifton Street, Plasnewydd, Cathedral Road, Park End, Metal Street.}} {{nop}}
<noinclude><references/></noinclude> s9h3ft12qs93wkv0trd3pmevy4r49ui Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/116 104 88188 170226 2026-08-13T01:06:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170226 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mlynedd, a blynyddoedd deheulaw'r Goruchaf oedd y rheiny yn sicr, fel hefyd y bu'r wyth mlynedd y gweinidogaethodd y Parch. W. E. Roberts, B.A., wedi ymadawiad Mr. Cole. Nid oes yno weinidog ar hyn o bryd. Breintiwyd yr eglwys â swyddogion-meibion a merched-medrus a ffyddlon nad oes eu gwell mewn unrhyw eglwys. {{c|''Brynhyfryd, Ely.''}} Enw canolfan a gychwynnwyd yn ddiweddar iawn yw'r uchod. Y mae mewn man tlws odiaeth, yn un o faesdrefi eangaf Caerdydd yng nghwr pellaf Canton ar y briffordd i Orllewin Cymru. Brynhyfryd y gelwir y capel. Saif ar fryn hyfryd fel "dinas ar fryn, ni ellir ei chuddio." Bedair blynedd yn ol ni welid yn yr holl gylch onid un hen ffermdy. O'r braidd y gwelir y ffermdy yn awr gan amlder tai y garden city" a godwyd o'i amgylch. Rhifa'r boblogaeth yn barod ddeng mil. Priodol, gan hynny, i "Church Extension Society" y Cyfundeb gymryd y blaen a chychwyn achos yno. Bu'r bwriad o flaen swyddogion y gymdeithas dair blynedd yn ol, eithr oedwyd dechreu cyn sicrhau y llecyn mwyaf dymunol, ac ofnodd y cyfeillion y draul ar y pryd. Trwy ffydd" y symudwyd o'r diwedd. Erbyn diwedd Gorffennaf, wedi gorffen ohonom ysgrifennu y llyfr hwn, yr oedd adeilad ysblennydd wedi ei osod i fyny. Ddydd Mercher, Awst 3ydd, 1927, agorwyd y neuadd, yng ngŵydd cynulleidfa luosog, gan Mrs. Timothy Davies, Llundain, priod Mr. Timothy Davies, Y.H., llywydd Cymdeithasfa'r Deheudir, yr hwn hefyd oedd yn bresennol. Cyflwynodd Mrs. Charles, y Dirprwy Arglwyddes Faer, allwedd aur i Mrs. Davies cyn iddi agor y drysau. Arweiniodd y Parch. R. J. Rees, M.A., mewn gweddi. Rhoddodd y Parch. John Thomas hanes y drafodaeth. Rhoed derbyniad cynnes i<noinclude><references/></noinclude> ij1565hw34xukotquin0tkv7gwpe0ee Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/115 104 88189 170227 2026-08-13T01:08:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170227 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gyda hynny dyma wraig y dyn hwnnw yn prysuro at y pulpud, eithr cyn iddi gael cyfle i lefaru, "Make it up," meddai John Thomas, ac er syndod y gynulleidfa luosog gwelwyd y ddau—y gŵr a'r wraig yn ysgwyd dwylo. Dechreuad gorfoledd oedd hynny, gan i fab y ddau esgyn i'r pulpud y funud nesaf. Gofynnodd a gawsai ganiatad i ganu. Y mae'r bachgen hwnnw yn B.Sc. Prifathrofa Cymru heddiw. Canodd yn swynol "Take time to be holy, speak oft with thy Lord," ond torrodd i lawr cyn gorffen yr emyn. Nofiodd y gynulleidfa mewn dagrau mewn eiliad. Cafodd tri ar hugain droedigaeth y noson honno. Cyn pen ychydig wythnosau rhifai'r dychweledigion bedwar ugain namyn un, ac yn eu plith ddegau o'r milwyr o'r Barracks. Flynyddoedd wedi hynny derbyniodd Mr. Thomas lythyrau oddiwrth amryw ohonynt o'r Aifft, a diolchent i Dduw am "yr awel o Galfaria ar yr Heath. Rhaid ymatal bellach yn wyneb ein bwriad i ymhelaethu ar yr hanes mewn cyfrol Seisnig. A chychwyniad yr achos y mae a fynnom bennaf yn bresennol. Dylem grybwyll hefyd mai pabydd oedd y cyntaf o ddychweledigion canolfan yr Heath. Nodir hyn am y rheswm bod lle i gredu mai'r digwyddiad hwnnw a barodd i'r Pabyddion gymryd tir yn union gyferbyn â'r Heath Hall, lle yr adeiladasant eglwys, ac, yn ddiweddar, codwyd yno hefyd ysgol elfennol Babyddol. Pan dorrodd iechyd Dr. Pugh i lawr, a phan ymddiswyddodd y Parch. L. Ellis, gorfu i'r Parch. J. Thomas ymryddhau o ofal yr Heath er rhoi ei holl amser at ofynion y swyddfa. Cafwyd gwasanaeth dau fyfyriwr am dymor. Yna rhoed gofal yr achos i'r Parch. W. S. Jones, M.A. Bu arosiad Mr. Jones a'i weinidogaeth amrhisiadwy o fendith fawr. Y Parch. F. W. Cole oedd ei ddilynydd yno am dros ddeng<noinclude><references/></noinclude> lgk07oblh9szlg6s5699kvbdayyhc5d Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/114 104 88190 170228 2026-08-13T01:09:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170228 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwon gyda hwy i "watch-night service." Caed gwasanaeth ag sy'n fythgofiadwy gan i Dduw achub ynddo Fagdalen adnabyddus. Prin y dychmygai neb fod i'r achos yma y fath gychwyniad rhamantus wrth weld y gweddnewidiad a ddaeth dros yr holl ranbarth. Heddiw y mae yn un o faesdrefi mwyaf dymunol y ddinas, a'r boblogaeth yn ddengwaith mwy nag ydoedd un mlynedd ar hugain yn ol. Y mae yma filoedd o dai gwych mewn strydoedd glân yn cyrraedd i'r Mynachty, sef y garden city' ar y ffordd fawr i Bontypridd, lle hefyd yr adeiladwyd tua mil o dai yn ddiweddar. Gyda llaw, y mae awdurdodau'r Symudiad a chyfeillion yr Heath yn effro i'r angen am ganolfan yn y Mynachty. Ond i ddychwelyd at hanes yr Heath, Diwygiad 1904-5 a roddodd yr ysgogiad mwyaf i'r achos. Y mae i hynny eto ei ramant nodedig. Daeth tyrfaoedd ynghyd bob nos. Methodd cannoedd gael lle bob nos. Cafwyd cyfarfodydd hynod o wlithog, ond rhyfedd y sôn, buwyd wrthi am dri mis llawn, hyd yn oed yng nghanol y fath wleddoedd ysbrydol, heb i'r un enaid geisio ymwared o'i bechod a gofyn am fywyd tragwyddol. Ni bu'r un droedigaeth yr holl fisoedd hynny. Un nos Sul dywedodd Mr. Thomas ar gyhoedd wrth gynulleidfa a lanwai'r capel fod ei galon ar dorri, a'i fod wedi deisyf ar ei Dad Nefol ei symud ef o'r Heath os ef oedd y rhwystr. Yna gweddïodd yn ddwys ar i Dduw wasgaru eglwys a chynulleidfa'r Heath y noson honno os arnynt hwy oedd y bai am fethiant y genhadaeth. Gyda hynny torrodd y dorf allan i ganu. Tra y parheid i ganu wele un o aelodau blaenllaw yr eglwys yn esgyn grisiau'r pulpud. Tybiodd y gweinidog fod y brawd yn dymuno cyhoeddi fel yr arferai wneuthur. Yn lle hynny, dywedodd dan grynu, "I am the cause of all, Mr. Thomas," dechreuodd adrodd hanes blin ei fywyd gartref.<noinclude><references/></noinclude> c9kvl1lsfiscmyfeujolq1xw7wmnxdn Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/113 104 88191 170229 2026-08-13T01:10:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170229 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arge hall ''must be proceeded with,'' if the work is to be developed and the people saved in that growing district. "We sincerely hope that God's stewards will come to the help of our devoted brother and his good wife in this undertaking. The estimated cost of this proposed new hall is £2772, and the class-rooms and vestry £671." Y mae cysylltiad y Parch. John Thomas â'r achos hwn yn ddiddorol, a pherthyn yr hanes i ramant fwyaf hynod y Symudiad Ymosodol. Apwyntiwyd ef gan y cyfarwyddwyr, Rhagfyr, 1902, yn gynorthwydd i Dr. Pugh, ac i gymryd gofal yr eglwys newydd hon. Symudodd ef yno yn Ebrill, 1903. Wyth oedd yn bresennol yn y cymundeb cyntaf. Wynebodd ef ar ddau anhawster poenus. (1) Blinwyd y ddiadell ag anghydfod yn eu plith eu hunain, ac yn (2) yr oedd cyflwr moesol yr ardal newydd a gododd mor gyflym yn resynus i'r eithaf. Yno y mae Barracks y Milwyr, a phan ddechreuwyd adeiladu ar yr Heath denwyd yno lu o ferched o'r math gwaethaf nes y parlyswyd yr holl le gan wahanglwyf pechod, gymaint felly fel y gorfu i'r adeiladwyr laesu dwylo am dymor a gomedd codi ychwaneg o dai. Gyda dewrder anghyffredin, mentrodd Mr. Thomas alw ynghyd holl berchenogion y tai cyfagos, a gosododd y sefyllfa ger eu bron. Anogodd hwy i beidio rhoi eu tai i'r cyfryw denantiaid, a bygythiodd hwy yr elai ef â'r mater i'r Llys Gwladol pe gwrthodent weithredu ar ei awgrym ef. Gorchfygwyd hwy yn lân. Cynhaliwyd cyfarfod yn yr awyr agored gyferbyn â'r Heath Hotel i ddathlu'r amgylchiad. Yno yr oedd y Parch. H. Harris Hughes B.A. (Bala'r pryd hwnnw, Llandudno yn awr). Canodd ef unawd ar yr heol, ymunodd y côr ag ef, a'r diwedd fu iddynt wachau yr "hotel" fawr y noson honno, a hithau'n Nos Galan hefyd. Yna ffurfiodd Côr yr Heath orymdaith ac aed a'r<noinclude><references/></noinclude> 0wq43ten2ezyql7ick89yv3cgf2pnl6 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/112 104 88192 170230 2026-08-13T01:12:22Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170230 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae'r Ysgol Sul hefyd yn fwy nag sydd yn un o'r canolfannau eraill, gyda 726 o ysgolheigion, a 530 ohonynt yn bresennol bob Sul. Dewiswyd Mr. J. Merriman ar brawf yno fel efengylydd dan arweiniad y Parch. John Williams, Crwys Hall. Dilynwyd ef gan y diweddar W. F. Phillips, B.A., B.D., yr hwn oedd yn efrydydd yn y Bala ar y pryd. Dechreuwyd yma ym mis Tachwedd, 1900. Edrydd Dr. Pugh hanes y cychwyniad, ac fel hyn yr ysgrifen- nodd ef yn "Y Torch," Gorffennaf, 1905, sef:— ''Heath, Cardiff''.—Upon my return from the United States, five years last winter, a deputation of poor mothers, who had waited upon my good wife in my absence, appealed to me to do something for the sal- vation of the neglected people and children of the Heath district. Up to that time no place of worship existed in the neighbourhood, and no Missionary of the Cross visited the people. After scanning the district, and witnessing the devastation of sin, we resolved to make a start, first in the open air, and then by conducting cottage meetings. Eventually a fine site was secured on the Whitchurch Road, opposite the Barracks Field, and a school hall to hold nearly 400, with conveniences, was erected, at a cost of £950. "Naturally the work in such a long neglected spot was difficult, and far from prosperous during its first stages, but, since the advent of our good brother, the Rev. John Thomas, Acrefair, and latterly of his good wife, things have so improved that we are now com- pelled to proceed with the erection of a large hall to hold 850 people. "We had hoped to clear off all the debt on the school hall before proceeding with this big undertaking; and Mr. Thomas is leaving no stone unturned to accomplish this. Whether it is possible or not, the<noinclude><references/></noinclude> jno8hu8nr1qe1cotak8dm75n8ms07h6 170231 170230 2026-08-13T01:13:09Z AlwynapHuw 1710 170231 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y mae'r Ysgol Sul hefyd yn fwy nag sydd yn un o'r canolfannau eraill, gyda 726 o ysgolheigion, a 530 ohonynt yn bresennol bob Sul. Dewiswyd Mr. J. Merriman ar brawf yno fel efengylydd dan arweiniad y Parch. John Williams, Crwys Hall. Dilynwyd ef gan y diweddar W. F. Phillips, B.A., B.D., yr hwn oedd yn efrydydd yn y Bala ar y pryd. Dechreuwyd yma ym mis Tachwedd, 1900. Edrydd Dr. Pugh hanes y cychwyniad, ac fel hyn yr ysgrifen- nodd ef yn "Y Torch," Gorffennaf, 1905, sef:— ''Heath, Cardiff''.—Upon my return from the United States, five years last winter, a deputation of poor mothers, who had waited upon my good wife in my absence, appealed to me to do something for the salvation of the neglected people and children of the Heath district. Up to that time no place of worship existed in the neighbourhood, and no Missionary of the Cross visited the people. After scanning the district, and witnessing the devastation of sin, we resolved to make a start, first in the open air, and then by conducting cottage meetings. Eventually a fine site was secured on the Whitchurch Road, opposite the Barracks Field, and a school hall to hold nearly 400, with conveniences, was erected, at a cost of £950. "Naturally the work in such a long neglected spot was difficult, and far from prosperous during its first stages, but, since the advent of our good brother, the Rev. John Thomas, Acrefair, and latterly of his good wife, things have so improved that we are now com- pelled to proceed with the erection of a large hall to hold 850 people. "We had hoped to clear off all the debt on the school hall before proceeding with this big undertaking; and Mr. Thomas is leaving no stone unturned to accomplish this. Whether it is possible or not, the<noinclude><references/></noinclude> djlbdb0rnyfhyxefgj4vfiwn2vaykd6 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/111 104 88193 170232 2026-08-13T01:14:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170232 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>arbennig i ganiadaeth y cysegr, ac y mae yno gynulleidfa fawr bob Sul, a chyfarfod neilltuol i'r plant bob nos Sul yn y Pierce Hall. {{c|''Moorland Road Hall.''}} Yn yr East Moors y mae'r lle hwn, heb fod nepell o'r neuadd gyntaf yng Ngharlisle Street a Jerusalem, y capel Cymraeg. Ofnid yn hir ei bod yn rhy agos i'r lleoedd a enwyd, ond erbyn hyn, ugain mlynedd yn ddiwedd- arach, gwelir nad oedd gwelediad Dr. Pugh yn gam- syniol, gan fod y ddinas yn ymestyn yn gyflym ar yr ochr ddwyreiniol tua'r man a elwir Tremorfa. Saif Moorland Road yn ymyl y brif fynedfa i Barc Splot ac i Dremorfa. Cychwynnwyd yr achos ym mis Chwefror, 1900. Aeth y diweddar Arglwydd Tredegar gyda Dr. Pugh rhywdro i seiat ym Moorland Road mewn ystafell tucefn i'r neuadd, ac fel Dr. Dale, yr hwn a ymwelodd rhywbryd â'r seiat yn Llanbedr, Meirion, gwnaed argraff ddofn ar ei Arglwyddiaeth wrth wrando ar y bobl syml yn dywedyd eu profiad. Dywedodd lawer gwaith wedi hynny iddo fwynhau'r gwasanaeth a derbyn budd mawr yno. Yr efengylwyr a lafuriodd yma o bryd i'w gilydd yw Mr. George Brain, Parch. (y diweddar) W. F. Phillips, B.A., B.D., Parchn. R. M. Richards, a John Thomas, Mr. E. Rogers Roberts, Parch. E. L. Hughes, ac amryw o'n hefrydwyr. {{c|''Heath Hall.''}} Dyma'r achos a gynhyddodd fwyaf o holl ganghennau'r Symudiad Ymosodol. Rhifai'r aelodau ddiwedd y flwyddyn 1926 590 ar ol trosglwyddo 24 i'r eglwys newydd ym Mhark End. Naw cant o bobl a ddeil y brif neuadd, tra y llenwir nifer o neuaddau llai gan adrannau o'r Ysgol Sul a'r gwahanol sefydliadau eraill. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 04gjdnj7l24k1r8gkvt4e3y1s31giui Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/110 104 88194 170233 2026-08-13T01:15:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170233 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dr. Pugh wedi dianc o dir y byw cyn aeddfedu o'i gynlluniau, codwyd dau dŷ byw yn y fan hynny yn y flwyddyn 1912. Y mae holl adeiladau Crwys Hall, Monthermer Road, felly, yn ffurfio "pile" ardderchog a wna'r lle yn un o'r neuaddau mwyaf cwmpasog ac arddunol yn y ddinas. Telir dros £32 o "ground rent," a chostiodd y cwbl o leiaf £8000. Yr efengylydd a lafuriodd gyntaf yng Nghathays oedd hen frawd da o'r enw J. C. Jones, ac adroddir llawer stori ddigrif a difrif am y gwaith a wnaed yn Dalton Street ac uwchben y stabl. Y mae coffadwr- iaeth y lleygwr hwn yn fendigedig yn yr holl gylch. Yn fuan wedi agor y brif neuadd cymerodd y Parch. John Williams, Caer, ofal yr eglwys. Yna symudwyd y Parch. H. G. Howell yno o'r East Moors. Treuliodd ef flynyddoedd ffrwythlon yno, ac yn niwedd y flwyddyn 1911, pryd yr ymgymerodd Mr. Howell â gofal y Central Hall yng Nghasnewydd, daeth y Parch. Thomas Bowen yno o Elizabeth Street, Dowlais. Bu ef yn fugail yr eglwys hyd ddiwedd 1916, pryd y galwodd y Gymdeithasfa arno i ymgymeryd â gwaith y Gronfa Ganolog. Ei ddilynydd ym mugeiliaeth Crwys Hall yw'r Parch. J. J. Thomas, B.A. Yma yr ymaelododd Dr. a Mrs. Pugh a'u teulu ar ddechreuad yr achos. Y mae Mrs. Pugh yn aelod ffyddlon yno hyd heddiw. Y mae'r arolygydd pre- sennol, y Parch. R. J. Rees, M.A., a'i deulu, yn aelodau o'r eglwys er pan symudasant o Aberystwyth. Heblaw y llechi drudfawr ar furiau'r neuadd er cof am y rhai a gwympodd yn y Rhyfel Mawr, trowyd rhan o'r Pierce Hall yn "institute" i fod yn "War Memorial" parhaus. Er nad yw'r Ysgol Sul yno o'r faintioli anferth ag y bu hi yn amser y Parch. H. G. Howell, y mae holl rannau'r gwaith yn llewyrchus, a'r aelodaeth yn fwy nag erioed. Gyda chymorth organ ysblennydd, a chôr o dan driniaeth dda, telir sylw<noinclude><references/></noinclude> a30m9gpaq45gozhiivs0zhjge2nf5jh Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/109 104 88195 170234 2026-08-13T01:16:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170234 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tua'r Roath Park y cynhyddai'r ddinas gyflymaf, a chafodd Pugh weledigaeth a'i harweiniodd, heb ymgynghori â chig a gwaed fel ei arfer, i bwrcasu tir ym Monthermer Road, lle y saif yr adeiladau cwmpasog a gwych a elwir "Crwys Hall." Ym May Street y dechreuodd ef y genhadaeth a'r Ysgol Sul. Yn ei eiriau ef ei hun, "We are longing for the day when our large hall will be opened in the 'Crwys.' A work has been started here which will go on to bless this part of Cardiff as long as there will be a Cardiff. What a glorious thought that we are having the privilege of starting a work in a place that will bless, not only the present generation, but generations yet unborn.' Symudwyd oddiyno yn Ebrill, 1899, i ystafell oedd fwy, uwchben stabl, tra yr huriwyd ar yr un pryd oruwch-ystafell " yn Dalton Street ar gyfer canghennau eraill o'r gwaith, "among the neglected classes rather than the neglected masses in a respectable locality of respectable sinners." Aed ymlaen â'r adeiladau ym Monthermer Road ar ddarn go helaeth o dir. Arfaethai Dr. Pugh godi yno "institute" lle y caffai efengylwyr a chenadesau eu paratoi ar gyfer gwaith cenhadol cartrefol a thramor. Ni chafodd yr arolygydd fyw i weld cyflawniad y bwriad hwnnw. Neuadd Daniel Street a agorwyd gyntaf, Mawrth 18fed, 1900, ac ymhen ychydig ddyddiau, sef Mawrth 21ain, gosodwyd cerryg sylfaen y brif neuadd. Agorwyd y Crwys Hall, sef y prif adeilad, ym mis Gorffennaf dilynol. Adeiladwyd y Pierce Hall, a gynhwysai" orchestra" a "rostrum," a lle i eistedd 750, gyda "screens" wrth yr ochrau ar gyfer dosbarthiadau yr Ysgol Sul. Agorwyd y lle hwnnw Medi 26ain, 1906. I gyfarfod â gofynion y brydles, gorfodwyd yr ymddiriedolwyr i wneuthur defnydd o'r tir a fwriadai Dr. Pugh ei gadw i'r "institute," ac yn gymaint a bod<noinclude><references/></noinclude> be48j3p2ykbb3uk0b6mlz79zhs1kwlc Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/108 104 88196 170235 2026-08-13T01:17:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170235 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dygwyd y gwaith ymlaen am dymor gan Harding a Burges. Cymerwyd gofal yr eglwys a gorfforid yno yn y flwyddyn 1895 gan y Parch. F. Jackson. Yn 1898 aeth Sergeant Barker yno. Agorwyd y neuadd yn 1902, pryd yr aeth Sister Lloyd i gynorthwyo'r efengylydd. Ymadawodd Barker yn 1905 i fynd i Ferthyr. Dilynwyd ef gan y Parchn. C. J. Norris, G. Howe, a H. Walker. Y gweinidog presennol yw'r Parch. Owen Evans. Llwyddodd Dr. Pugh i gael pob cefnogaeth gyda'r mudiad yn Salt Mead gan Mr. E. R. Moxey, Y.H., ac eraill, ac nid hir y bu cyn adeiladu un o'r neuaddau harddaf ar draul go fawr. Deil y capel 1100 o bobl, ac y mae ystafelloedd eang yno at wasanaeth yr Ysgol Sul a'r "institute." Dan fendith Duw, bu'r anturiaeth yn llwyddiannus, a da gennym fynegi bod i'r ardal wedd hollol wahanol erbyn hyn, a moes a chrefydd wedi cael y goreu ar dywyllwch ysbrydol y lle. Bu amryw o weithwyr selog yma yn cyflawni gwaith llwyddiannus ar hyd y blynyddoedd. Y mae eglwys Salt Mead heddiw yn un o ddylanwadau grymusaf Caerdydd o blaid purdeb a sobrwydd. {{c|''Crwys Hall, Monthermer Road.''}} Rhoed sylw i gynnydd eithriadol Cathays wrth sôn am gychwyniad yr achos Cymraeg yn Horeb, May Street. Yr oedd Dr. Pugh â'i fryd ar ymosod ar yr ardal, a bu am saith mlynedd yn aros ei gyfle. Ni etyb unrhyw ddiben i fynegi'r helynt ynglŷn â'r "site "yn Wyeverne Road a ddymunai'r arolygydd ei bwrcasu ond a wrthodwyd gan berchenogion y tir a wrthwynebai Anghydffurfiaeth. Rhoddwyd y tir wedi hynny at amcanion hollol groes i ysbryd y gwaith a fynnai Dr. Pugh ei gyflawni yno, ond nid gwiw mynd dros yr hanes yn awr. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f5ralrmej73ix55o1bn9v9xhi2kqnnd Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/107 104 88197 170236 2026-08-13T01:17:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170236 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hollol newydd ydoedd, a safai cydrhwng Grangetown a Riverside. Yno, i dai newydd a'u rhenti yn gymharol isel, y tyrrai, gan mwyaf, y boblogaeth a yrrwyd allan o'r "condemned property" ym mharthau eraill y ddinas. Yn fuan wedi i'r gorfforaeth agor y lle i fyny gwelid pobl gymysg yno ymhob cyfeiriad. Gan nad oedd darpariaeth grefyddol ar eu cyfer, mentrodd arolygydd y Symudiad Ymosodol, gyda'i ddewrder a'i benderfyniad arferol, gario'r Efengyl yno yn anad unrhyw ganlyniadau. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn yr awyr agored, a gwnaed cynnwrf mawr dros yr holl le. Gorfu i'r efengylwyr wynebu ar wrthwynebiad digyffelyb oherwydd bod Sait Mead ar y pryd yn gyrchfan pobl waethaf y ddinas, meddwon, lladron, puteiniaid, "gaol-birds," a dyhirod o bob math. Rhaid oedd cario ymlaen ymgyrch galed o blaid purdeb a sobrwydd, ac i ennill esgeuluswyr i wrando'r Efengyl. Yr oedd cenadwri'r efengylwyr yn gyffelyb i eiddo'r tadau. Pwysleisient y gwirioneddau sy'n symud dynion o farwolaeth i fywyd. Un o'r rhai a wnaeth wrhydri yn Salt Mead oedd Sergeant Barker (1898). Bu ef yn offeryn yn llaw Ysbryd Duw i ddofi cymeriadau gwaethaf y gymdogaeth. Y mae yn ei feddiant heddiw bob math ar drysorau a roed iddo gan ladron a llofruddion—llawddrylliau, "burglars' jimmies," a defnyddiau pob anfadwaith. Trysorau yw y rhai hyn a aberthodd eu perchenogion y foment y daethant yn greaduriaid newydd yng Nghrist Iesu. Achubwyd meibion a merched fel pentewynion o'r tân, a da oedd ganddynt gael gwared o arfau'r hen fywyd. Brawychwyd llawer cynulleidfa o Gymry yn y Deheu a'r Gogledd pan wnelai Barker arddangosfa o'r arfau hynny cyn dechreu siarad am waith y Symudiad Ymosodol. Codwyd pabell eang yno i ddechreu. Cyfeiriasom at hynny wrth sôn am y genhadaeth yn Grangetown.<noinclude><references/></noinclude> 6vo00bwf2ynerlaazbdf1f5f98nmoly Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/106 104 88198 170237 2026-08-13T01:18:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170237 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>nghanol y blawdllif a orchuddiasai y llawr yn drwch, ac yn yr awyr agored yn heolydd budron yr ardal lygredig honno. Bu'r efengylwyr a lafuriai yn y ddau le mewn profedigaeth dost yn aml gan fod amryw o Seventh Day Adventists," a "chranciau" crefyddol eraill, yn arfer mynychu'r cyfarfodydd a'r ysgol gyda'r amcan o wasgaru eu daliadau crefyddol. Blinwyd y frawd- oliaeth yn fawr gan y creaduriaid hyn. Methais a dal heb chwerthin allan mewn un cwrdd gweddi yn Grangetown pan glywais un o'r cranciau hynny yn gweiddi nerth ei geg ar i'r Arglwydd "achub efengylydd a ofalai am yr achos! Cawsai y lle hwn sylw personol Dr. Pugh, a gwasanaethai ef yno yn gyson yn y blynyddoedd boreol. Dewisodd efengylwyr profiadol fel Harding a Burges i'w gynorthwyo yno. Daeth eraill yno o bryd i'w gilydd. Bu'r Cenhadwr T. W. Reese yno am dymor. Ymhlith y gweinidogion adnabyddus a fu'n bugeilio'r eglwys, bob un am rai blynyddoedd yn ei dro, ceir enwau'r diweddar Barch. J. M. Saunders, M.A., y Parchn. W. T. Griffiths, H. Harris Hughes, B.A., Lerpwl, T. Houghton, B.A., R. D. Edwards, Bargoed, a Lewis Mendus, B.A., Lushai yn awr. Bu'r Parch. W. Mendus a'i deulu yn aelodau ffyddlon a gweithgar yma am flynyddoedd. Y gweinidog presennol yw'r Parch. D. W. Jones. Y mae'r adeilad gwych mewn man amlwg ar gongl dwy heol fawr yn ymyl y briffordd o Gaerdydd Benarth. Y mae iddo olwg urddasol a phopeth o'i amgylch yn ddymunol iawn. {{c|''Salt Mead Hall.''}} Y mae llawer mwy i'w ddywedyd am y lle hwn na allwn fforddio gofod iddo. Ar lawer cyfrif, Salt Mead oedd un o'r lleoedd caletaf a thywyllaf a mwyaf anobeithiol a allai apelio at ddychymyg Dr. Pugh. Ardal<noinclude><references/></noinclude> a6bm0cz7uy0r132o6vpe4ypinh5t3o9 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/105 104 88199 170238 2026-08-13T01:19:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170238 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anwylaf a fedd y Corff, sef y Parch. R. M. Richards, y mae yma eglwys barchus sy'n glod i'r Cyfundeb ac yn ddylanwad bendithiol yn y gymdogaeth. Gellir dywedyd am dani yn ddibetrus ei bod yn gwbl Fethodistaidd. Dysgodd yr aelodau a'r gynulleidfa y gofynnir am oreu pob ymlynydd, a'r canlyniad yw fod y gras o haelioni ar gynnydd yma. Gwyddis na freintiwyd neb o'r aelodau â chyfoeth y byd hwn, ond gofelir yn ddefosiynol am gynnal yr achos yn anrhydeddus, tra ar yr un pryd nid oes odid un o sefydliadau a chasgliadau'r Cyfundeb heb gael sylw a chefnogaeth oreu yr eglwys. Y mae awyrgylch ysbrydol hyfryd yma bob amser. Caiff y gweinidog a'i braidd brofion amlwg o wenau'r Meistr. Bu'r eglwys yn ffodus i gael cynhorthwy mawr gan weinid- ogion eraill, ac yn enwedig gan rai o'n myfyrwyr cysegredig yn ystod y misoedd lawer, fwy nag un tro, y bu Mr. R. M. Richards mewn gwaeledd. Un o gymwynaswyr caredicaf yr eglwys hon yw Mr. Edward Jenkins, Y.H., Cathedral Road. Er ei fod yn swyddog ffyddlon yn Eglwys Pembroke Terrace, Mr. Jenkins yw trysorydd Clive Road ers blynyddoedd maith. Heblaw rhoi cryn lawer o'i amser at y swydd, cyfranna'n gyson at yr achos, er calondid mawr i'r gweinidog a'i braidd. {{c|Grangetown Hall.}} Codwyd baner y Symudiad Ymosodol yma gan yr Efengylydd Harding Mai, 1893. Mewn ystafell haearn y dechreuwyd y genhadaeth. Agorwyd yr adeilad mawr, i ddal mil o bobl, yn Hydref, 1895. Llafuriodd y Parch. R. Burges yma am dymor, ac ef hefyd a gychwynnodd yr achos yn Salt Mead. Cefais y fraint pan yn efrydydd yn Nhrefecca o bregethu droeon yn y capel "tin," fel y'i gelwid, yn Grangetown, a hefyd yn y babell yn Salt Mead yng<noinclude><references/></noinclude> nbbt5xbtm17b0qexmn794sji15giz6l Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/102 104 88200 170239 2026-08-13T01:19:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170239 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XII.
CANOLFANNAU Y SYMUDIAD.}}
RHODDWYD HANES Y CYCHWYNIAD YN NEUADD EAST MOORS YM MHENNOD X.}} {{c|''Memorial Hall, Canton.}} Dyma un o ganolfannau cyntaf y Symudiad a sefydlwyd yn 1891. Dechreuwyd yma Hydref 18fed, 1891, mewn pabell fel yn East Moors. Yn Neville Street oedd hynny, gyferbyn â'r City Lodge. At agosrwydd y lle i'r sefydliad hwnnw y cyfeiriodd y Parch. Seth Joshua pan ddywedai gyda'i ffraethineb nodweddiadol, "If the Lord's stewards do not send us the practical assistance we require we haven't far to go for shelter. The Union is close by." Pan aeth y babell yn rhy fach adeiladwyd ysgoldy i ddal pum cant ar y "King's Castle site" yn Cow- bridge Road, nid gyferbyn â'r "Union" y tro hwn, eithr y drws nesaf iddo. Byddai'n ddiddorol adrodd rhai o'r lliaws ystraeon am y gwaith yn y cylch yma. Tyrrai pobl o bob lliw a llun i wrando'r efengylydd yn y babell ac yn yr awyr agored. Trowyd cannoedd at yr Arglwydd; cafwyd oedfaon rhyfeddol o bob natur, nid yn unig bob nos, ond pob awr pob dydd. Wynebodd Joshua a'i gydlafurwyr erledigaethau a bygythion enbyd yn debyg i'r hyn a ddioddefodd Howell Harris a'r Tadau gynt. Un o ddigwyddiadau rhyfedd dechreuad y gwaith yn Neville Street oedd i ddau o feistri rhyw fasnach gyfagos fod yn y babell un nos Sul. Effeithiodd y weinidogaeth i'r fath raddau ar ysbryd y ddau fel y rhoisant ran o'r dydd Llun canlynol yn rhydd i'w gweithwyr fynd gyda'i gilydd i wrando gŵr Duw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> drx7y7c6fscb4xxtgu62bdpheovfyph Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/103 104 88201 170240 2026-08-13T01:20:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170240 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymddiddanodd Joshua un noson â menyw ynghylch ei henaid. Gwraig o safle uchel oedd hi, ac un o ddiwylliant diamheuol ac un a adwaenwn i yn dda. Ffromodd beth pan awgrymid iddi ei bod mewn angen am Waredwr. "Nid wyf yn bechadur mawr," meddai hi. Yna, rhaid eich bod yn bechadures fach," ebai yntau. Gwridodd pan glywodd hynny. Yna meddai Joshua, "Dywedwch y weddi yma ar fy ol i, 'O Dduw, dyma fi ger Dy fron yn bechadur bach, gŵel yn dda i anfon imi Waredwr bach.'" Digon oedd hynny yn llaw Ysbryd Duw i'w harwain at y Gwaredwr mawr. Un ar raddfa is ymhob ystyr, â "shawl" am ei phen, oedd menyw arall ag y gofynnai Joshua iddi, My good woman, have you been converted?" Atebodd hi yn ddigon swrth, "Yas, and vaccinated too, but none of 'em took." Ond rhaid ymatal. Cynhyddai'r gynulleidfa gyda chyflymdra ac nid oedd lle i gynnwys y plant a'r rhai mewn oed a ddeuai i'r Ysgol Sul a'r cyrddau profiad. Codwyd adeilad mawr â'i wyneb ar briffordd Cowbridge Road. Costiodd hwnnw a'r siopiau a brynwyd at yr amcan amryw filoedd o bunnoedd. Eisteddai'r neuadd 1200 o bobl. Bu'r Parch. Seth Joshua yno hyd Gorffennaf pan symudwyd ef i ofalu am yr ymgyrch yng Nghasnewydd. Dilynwyd ef gan y Parch. John Williams, Caer. Buwyd yn ffodus i gael gweithwyr eithriadol o gymwys a selog o'r cychwyn, ymhlith eraill y diweddar Mr. G. Sibbering Jones, Y.H., Porthcawl, a'r ddau frawd Mri E. S. ac E. J. Phillips. Ni fedr neb fesur gwasanaeth ffyddlon a medrus y brodyr hyn. Dan fendith amlwg y Nefoedd, gwnaeth y ddau weinidog a fu yno ddiweddaf waith na chyll ei werth byth. Cyfeirir at y diweddar Barch. T. M. Charles, Lerpwl, a'r Parch. Edgar Badham. Cyd-ddigwyddiad rhyfedd yw symudiad Mr. Badham i Lerpwl fel dilynydd<noinclude><references/></noinclude> l8g4t0p860qvmtjfnas92f8hypdnro0 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/104 104 88202 170241 2026-08-13T01:20:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170241 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mr. Charles, yr hwn a'i rhagflaenai yn y Memorial Hall. Heblaw eu gwaith bugeiliol, yr hyn a drethai gymaint ar eu hamser a'u nerth, pregethai y ddau gyda chymeradwyaeth galonnogi gynulleidfa o dros fil ymron bob Sul. Caffaeliad bendigedig i'r eglwys fu penodiad Sister Evans. Cyflawna hi wasanaeth amhrisiadwy ymhlith cleifion a thlodion yr ardal. {{c|''Clive Road Hall, Canton.''}} Un arall o'r canolfannau cyntaf a gychwynnid yn 1891 yw Clive Road. Neuadd yn dal 350 a godwyd gyntaf yn Awst, 1891. Helaethwyd hi yn ddiwedd- arach i gynnwys 650. Wedi hynny adeiladwyd ysgoldy i ddal 450. Corfforwyd yr eglwys yn Nhachwedd yr un flwyddyn, pryd y daeth y Parch. J. E. Ray a'i briod i ofalu am yr achos. Hanes cyffelyb i'r lleoedd eraill sydd i hwn. Y mae mewn ardal gymharol dlawd. Pan ddechreuwyd y genhadaeth yr oedd yr ystrydoedd o amgylch yn nodedig am anfoesoldeb a meddwdod. Galwyd am holl nerthoedd y Symudiad i ymosod ar y lle, ac yn fuan iawn bu llwyddiant digymar ar ymdrechion Mr. a Mrs. Ray. Daeth trigolion y strydoedd annuwiol i deimlo grym yr Efengyl a bregethid yn y neuadd ac yn yr awyr agored. Wedi ymadawiad Mr. Ray bu'r eglwys dan ofal amryw o bryd i'w gilydd ac yn eu plith Mr. F. H. Leybourne a'r Parch. W. Watkin Williams. Wynebodd yr eglwys ar stormydd blin yno yn gynnar, a bu'r helynt ar un achlysur o dan sylw'r Henaduriaeth a'r Gymdeithasfa, eithr cliriwyd yr awyr a theyrnasai heddwch yno byth wedi hynny. Nid oes gymaint o ramant ynglŷn â'r lle hwn ag a berthynasai rai o achosion y Symudiad. Er hynny, teg yw dywedyd na chyflawnir gwasanaeth llwyrach, serch ei fod yn hynod ddistaw, mewn unrhyw ganolfan ag a welir yma. Dan weinidogaeth drylwyr un o'r dynion<noinclude><references/></noinclude> tab3ll1nef9flzb32fuytyj4pkyrkgv Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/119 104 88203 170242 2026-08-13T01:44:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170242 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{m-mawrADRAN VI.
Safwn, yna Awn Rhagom.}}}}{{lein|5em}} {{c|{{mwr|PENNOD XIV.
DYLANWAD METHODISTIAETH AR FOES A CHREFYDD CAERDYDD.}} {{AMCAN EIN CYFUNDEB.}} {{quote"Amcan yr eglwys fydd lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist fel y'i gosodir allan yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac fel y'i heglurir yn ein safonau athrawiaethol, a thrwy hynny ffurfio a chynnal cymdeithasau o rai yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, yn ymorffwys arno ac yn byw iddo. Cyrhaeddir yr amcan hwn trwy bregethu yr Efengyl, trwy fugeiliaeth eglwysig, trwy gyfeillach grefyddol a gweddi, trwy addysg grefyddol ar yr aelwyd ac yn yr Ysgol Sul, trwy genhadaeth a llenyddiaeth, a thrwy foddion eraill y penderfynir arnynt o bryd i bryd."}} HWYRACH y byddai'n fwy boneddigaidd ac yn decach, ar rai ystyron, i ni ymdrin â dylanwad Ymneilltuaeth, neu Anghydffurfiaeth, ar y ddinas yn hytrach nag â dylanwad ein henwad ni ar ei ben ei hun, eithr nid hynny yw ein hamcan yn y braslun hwn, a rhaid bodloni ar fynegi'n ddibetrus bod Methodistiaeth wedi gadael ei hôl ar foesau a chrefydd ac addysg ac ar fywyd cymdeithasol y dref. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kd1t67fr58qqtwxzrgtl3bqd667afkf 170243 170242 2026-08-13T01:45:18Z AlwynapHuw 1710 170243 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{m-mawrADRAN VI.
Safwn, yna Awn Rhagom.}}}}{{lein|5em}} {{c|{{mwr|PENNOD XIV.
DYLANWAD METHODISTIAETH AR FOES A CHREFYDD CAERDYDD.}} {{C|AMCAN EIN CYFUNDEB.}} {{quote|"Amcan yr eglwys fydd lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist fel y'i gosodir allan yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac fel y'i heglurir yn ein safonau athrawiaethol, a thrwy hynny ffurfio a chynnal cymdeithasau o rai yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, yn ymorffwys arno ac yn byw iddo. Cyrhaeddir yr amcan hwn trwy bregethu yr Efengyl, trwy fugeiliaeth eglwysig, trwy gyfeillach grefyddol a gweddi, trwy addysg grefyddol ar yr aelwyd ac yn yr Ysgol Sul, trwy genhadaeth a llenyddiaeth, a thrwy foddion eraill y penderfynir arnynt o bryd i bryd."}} HWYRACH y byddai'n fwy boneddigaidd ac yn decach, ar rai ystyron, i ni ymdrin â dylanwad Ymneilltuaeth, neu Anghydffurfiaeth, ar y ddinas yn hytrach nag â dylanwad ein henwad ni ar ei ben ei hun, eithr nid hynny yw ein hamcan yn y braslun hwn, a rhaid bodloni ar fynegi'n ddibetrus bod Methodistiaeth wedi gadael ei hôl ar foesau a chrefydd ac addysg ac ar fywyd cymdeithasol y dref. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nuncw661q4qmdyv1hgzsxl50igwc3j0 170244 170243 2026-08-13T01:45:46Z AlwynapHuw 1710 170244 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{m-mawrADRAN VI.
Safwn, yna Awn Rhagom.}}}}{{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD XIV.
DYLANWAD METHODISTIAETH AR FOES A CHREFYDD CAERDYDD.}} {{C|AMCAN EIN CYFUNDEB.}} {{quote|"Amcan yr eglwys fydd lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist fel y'i gosodir allan yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac fel y'i heglurir yn ein safonau athrawiaethol, a thrwy hynny ffurfio a chynnal cymdeithasau o rai yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, yn ymorffwys arno ac yn byw iddo. Cyrhaeddir yr amcan hwn trwy bregethu yr Efengyl, trwy fugeiliaeth eglwysig, trwy gyfeillach grefyddol a gweddi, trwy addysg grefyddol ar yr aelwyd ac yn yr Ysgol Sul, trwy genhadaeth a llenyddiaeth, a thrwy foddion eraill y penderfynir arnynt o bryd i bryd."}} HWYRACH y byddai'n fwy boneddigaidd ac yn decach, ar rai ystyron, i ni ymdrin â dylanwad Ymneilltuaeth, neu Anghydffurfiaeth, ar y ddinas yn hytrach nag â dylanwad ein henwad ni ar ei ben ei hun, eithr nid hynny yw ein hamcan yn y braslun hwn, a rhaid bodloni ar fynegi'n ddibetrus bod Methodistiaeth wedi gadael ei hôl ar foesau a chrefydd ac addysg ac ar fywyd cymdeithasol y dref. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 8ydmp178ig46gwgmhf6g4diufxwnhg1 170245 170244 2026-08-13T01:47:10Z AlwynapHuw 1710 170245 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|ADRAN VI.
Safwn, yna Awn Rhagom.}}}}{{lein|5em}} {{c|{{mawr|PENNOD XIV.
DYLANWAD METHODISTIAETH AR FOES A CHREFYDD CAERDYDD.}}}} {{C|AMCAN EIN CYFUNDEB.}} {{quote|"Amcan yr eglwys fydd lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist fel y'i gosodir allan yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac fel y'i heglurir yn ein safonau athrawiaethol, a thrwy hynny ffurfio a chynnal cymdeithasau o rai yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, yn ymorffwys arno ac yn byw iddo. Cyrhaeddir yr amcan hwn trwy bregethu yr Efengyl, trwy fugeiliaeth eglwysig, trwy gyfeillach grefyddol a gweddi, trwy addysg grefyddol ar yr aelwyd ac yn yr Ysgol Sul, trwy genhadaeth a llenyddiaeth, a thrwy foddion eraill y penderfynir arnynt o bryd i bryd."}} HWYRACH y byddai'n fwy boneddigaidd ac yn decach, ar rai ystyron, i ni ymdrin â dylanwad Ymneilltuaeth, neu Anghydffurfiaeth, ar y ddinas yn hytrach nag â dylanwad ein henwad ni ar ei ben ei hun, eithr nid hynny yw ein hamcan yn y braslun hwn, a rhaid bodloni ar fynegi'n ddibetrus bod Methodistiaeth wedi gadael ei hôl ar foesau a chrefydd ac addysg ac ar fywyd cymdeithasol y dref. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2gvm19l8osh6hdn4b4emwff69te1hsy Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/120 104 88204 170246 2026-08-13T01:47:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170246 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ymdrechwyd yma'n fore am ryddid cydwybod a rhyddid crefyddol fel y tystiai gwroldeb a dioddefiadau anhygoel Rawlins White, Erbury, Cradoc, Vavasor Powell, ac eraill. Ond odid na wnaeth bywyd a gwasanaeth y dewrion hynny fwy na dim arall i weddnewid Caerdydd ac i greu chwildroad mawr yn nelfrydau dinasyddiaeth ac addysg. Pan oedd yr Eglwys Wladol yn fud, a'i hoffeiriaid yn elyniaethus i bob mudiad a amcanai at ddyrchafu. moesau'r bobl, safai Anghydffurfwyr y gymdogaeth yr unig bleidiau dros burdeb a sancteiddrwydd buchedd. Dalient i fyny y delfryd Cristionogol mewn gair a gweithred. Nid oedd gan oreugwyr y gwahanol enwadau unrhyw gyfaddawd â phechod mewn un agwedd. Apostolion purdeb a duwioldeb oedd y gweinidogion Ymneilltuol, ac yr oedd eu gwrth- wynebiad selog a chryf i bechodau eu hoes yn ddychryn ac yn arswyd am flynyddoedd. Rhoent symbyliad i bob achos da hyd nes y saif Caerdydd heddiw mewn anrhydedd ymhlith dinasoedd Prydain Fawr ar gyfrif ei dinasyddiaeth bur a dyrchafol. Am ddylanwad Methodistiaeth Galfinaidd ar y ddinas, ni feiddiem ddywedyd dim mewn ysbryd balch, ond mewn gostyngeiddrwydd a diolchgarwch. Gwelodd Duw yn dda i fendithio'r Cyfundeb mewn modd amlwg, ac yn Ei ras parodd iddo gyfrannu'n helaeth a sylweddol i fuddiannau goreu'r lle. Ar bregethiad yr Efengyl bur y rhoddes ein harweinwyr yr arbenigrwydd mwyaf, ac, fel y dangoswyd eisoes, breintiwyd hen Eglwys Seion, yn bennaf, ac yna'r canghennau yng Nghanton a'r Docks a Frederick Street, â gweinidogaeth cewri pulpud y Corff. Yn y modd hyn dygwyd y Beibl a'i wirioneddau a'i athrawiaethau yn agos at y bobl, ac mewn canlyniad ni bu un o'n heglwysi erioed yn brin o ŵyr cadarn yn yr Ysgrythyrau, a'r Gair yn llosgi fel tân yn eu calonnau. Meddylier am y dynion eithriadol y<noinclude><references/></noinclude> f4eyz51skf4hd1bolzbqjz0skzh5nyh Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/121 104 88205 170247 2026-08-13T01:50:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170247 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>soniesid am danynt yn y rhan flaenorol o'r llyfr hwn, ac ni synna neb fod pregethu mewn gogoniant yma, a bod yr Ysgolion Sul mor llewyrchus hyd yn oed yn y dyddiau tywyllaf. Trwy'r Ysgol Sul a'r dosbarth- iadau Beiblaidd awchwyd meddwl yr hen a'r ieuainc, goleuwyd eu deall, a chodwyd yma rai o'r areithwyr a'r siaradwyr goreu a glywid erioed. Ni ellir dywedyd i'r Methodistiaid gymryd eu lle fel y gallesid disgwyl ym mywyd cyhoeddus y dref. Ni bu neb o'n brodyr yn flaenllaw ar y Cyngor Tref a'r Gorfforaeth, er i rai wasanaethu gyda medr ar y Cyngor o bryd i'w gilydd ac ar Fwrdd y Gwarcheidwaid a'r hen "School Board." Ni olygai hynny nad oedd a fynno'r Methodistiaid â gwleidyddiaeth, oblegid gellir nodi allan nifer mawr ohonynt a gymerodd ran flaenllaw yn etholiadau tref a gwlad, a chyfrifid hwy ymhlith "stalwarts" Rhyddfrydol a gwleidyddol pennaf y rhan yma o Gymru. Bu amryw o'n haelodau ffyddlonaf yn fasnachwyr llwyddiannus, a rhoddodd y rheiny fod i rai gwmnïoedd mawr y ddinas heddiw. Y mae'r adeiladau a gododd y gŵyr hynny yn addurn, nid yn unig i Gaerdydd, ond i ddinasoedd mwyaf y deyrnas. Heblaw hynny, cafodd masnach y Dociau-y llongau a'r glo a'r coed a'r holl ddiwydiannau eraill-oreu rhai o'r Methodistiaid mwyaf selog ar hyd blynyddoedd maith, a bu'r brodyr hyn yn deyrngarol i'r Corff ac yn haelionus iddo. Cyfrannodd Methodistiaeth Caerdydd yn sylweddol at addysg y ddinas, gan bleidio pob mudiad da addysgol o eiddo'r Llywodraeth a'r Cyngor Tref. Llanwodd amryw o Fethodistiaid, yn y gorffennol, a gwneir hynny gan eraill ar hyn o bryd, le amlwg a phwysig ar bwyllgorau a seneddau a chynghorau addysg elfennol ac uwchraddol a phrifathrofaol y ddinas, a chymer amryw ohonynt ran amlwg yn llywodraeth yr Amgueddfa Genedlaethol, yr Athrofa Feddygol, ac<noinclude><references/></noinclude> kyh5da2oo9j88hsmvr5itwtzyn45cij Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/122 104 88206 170248 2026-08-13T01:53:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170248 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Ysbyty y Brenin Iorwerth. Gwelir nifer mawr o'n brodyr ymhlith swyddogion pennaf Bwrdd Iechyd y Llywodraeth a Phrifathrofa Cymru. Heblaw hyn oll, cydnebydd yr enwadau eraill mai ysbryd cenhadol y Methodistiaid, a gorfforid yn bennaf yn y Symudiad Ymosodol, a roes y symbyliad cryfaf i efengyleiddiad y ddinas yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae llwyddiant y gwaith hwnnw, a barnu wrth rifedi'r aelodau a'r ymlynwyr, yn destun syndod i bawb, ac yn braw mai'r nefoedd a'i cych- wynnodd ac a'i bendithiodd, nid yn unig er mwyn ein Cyfundeb ni, eithr er mwyn y Dywysogaeth yn gyffredinol. Yn ddiau, y mae dylanwad y gwaith cenhadol hwn a ddygir ymlaen yng nghanolfannau mawr y ddinas yn anfesuradwy, ac ni fedr neb fynegi faint a enillodd moes a chrefydd Caerdydd drwy fod y lleoedd hyn yn cadw'n fyw y "grefydd bur a dihalogedig" yr anogir ni i'w mynnu. O safbwynt dinasyddiaeth Caerdydd a datblygiad pensaernïaeth y ddinas, edrychir ar adeiladau ein capelau a chanolfannau'r Symudiad Ymosodol ymhlith addurniadau godidocaf y ddinas, nid yn unig yn eglwysig, ond ar gyfrif eu gwerth masnachol ac addysgiadol. Gyda chaniatad yr Henaduriaeth Seisnig, a chefnogaeth a chydsyniad Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg, prynwyd dros y Cyfundeb adeiladau gwych yn 2-4, Park Grove, Caerdydd, ar draul o £6500-£7000. Yno yn "The Church House," fel y gelwir y lle, y mae swyddfeydd y Gronfa Ganolog, a Thrysorfa'r Gweinidogion Hen a Methedig, y Symudiad Ymosodol, ac adran y Deheu o Lyfrfa'r Cyfundeb. Y mae yno hefyd ystafelloedd eang at wasanaeth y Methodistiaid, sef "lounge" i'r gweinidogion, ystafell a ddodrefnwyd yn gostfawr ar draul Mr. Thomas Evans, C.B.E., Y.H., a Mrs. Evans, Pentyrch, a "board room" lle y cyferfydd Cyfarfod Dosbarth<noinclude><references/></noinclude> 9050ie3a05doy51s3lfwthsrswwzso2 Tudalen:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu/123 104 88207 170249 2026-08-13T01:53:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170249 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr Achosion Seisnig, myfyrwyr y Brifysgol, a gwahanol bwyllgorau Cyfundebol Morgannwg a Mynwy. Cydnebydd pawb fod y Tŷ Eglwysig hwn yn gaffaeliad mawr i'r Cyfundeb Methodistaidd yng Nghaerdydd. I ddiweddu'r llith yma, pwysleisiwn neges y gorffennol atom ni yn y flwyddyn 1927 ganmlwyddiant hen Gapel Seion. Nid llesol i ni ganmol yr hyn a fu heb wneuthur ein dyletswydd heddiw. Os lletach ein syniadau ni nag eiddo ein tadau a'n brodyr yn y blynyddoedd a aeth heibio, gofalwn beidio colli eu difrifwch a'u cadernid. Awn ymlaen yn nerth ein Duw i ennill tir newydd. Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac am hynny yr ydym yn llawen. {{***|3}} Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd; ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd."—Salm lxv, 4. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bnu83bod23r7lare5zh1dxsaq1njq7n Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd 0 88208 170250 2026-08-13T02:00:01Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=5 to=6 /> </di..." 170250 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=5 to=6 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] [[Categori:Hanes Crefydd yng Nghymru]] dlyb5kde5vaon9b6smshlrx1ckb96us 170251 170250 2026-08-13T02:12:14Z AlwynapHuw 1710 /* Nodiadau */ 170251 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=5 to=6 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] [[Categori:Hanes Crefydd yng Nghymru]] 2xy4ky9g44aw9t8vh3984xkgv436fxd 170254 170251 2026-08-13T02:23:33Z AlwynapHuw 1710 170254 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=5 to=6 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] 0rhxngaj6x7vafozvbvea26k1jxqz41 170255 170254 2026-08-13T02:31:20Z AlwynapHuw 1710 170255 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Pennod Nesaf/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=5 to=6 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] 7oxoq92slc13sz8ju01z5aehhdh48yx 170262 170255 2026-08-13T11:14:57Z AlwynapHuw 1710 170262 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Rhagair/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" include=5 from=7 to=7 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] jzmjbsndghyldc93w24styxq10ocmhy 170271 170262 2026-08-13T11:58:30Z AlwynapHuw 1710 170271 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = [[/Rhagair/]] | notes =I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd)]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" include=5 from=7 to=7 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] tviwnjobx8uwyua8753hmc1h1umsfls Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd) 0 88210 170253 2026-08-13T02:22:53Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =II'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd ]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=1 to=128 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriada..." 170253 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd (testun cyfansawdd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous = | next = | notes =II'w darllen pennod wrth bennod gweler [[Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd ]] }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=1 to=128 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{PD-old-70}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] [[Categori:Thomas Bowen, Caerdydd]] [[Categori:Llyfrau 1927]] [[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]] [[Categori:Llyfrau'r 1920au]] [[Categori:Caerdydd]] [[Categori:Testunau cyfansawdd]] 348qtx1fz39ir27kd58f3fsbpeluj50 Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Rhagair 0 88211 170263 2026-08-13T11:18:06Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../]] | next = [[../Y Cynnwys|Y Cynnwys]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=9 to=10 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagair}} Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth..." 170263 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../]] | next = [[../Y Cynnwys|Y Cynnwys]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=9 to=10 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Rhagair}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] r04fkc7885ihwdfpbd4ryaibyd68a4w Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Y Cynnwys 0 88212 170268 2026-08-13T11:47:08Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagair|Rhagair]] | next = [[../Hanes boreol Caerdydd|Hanes boreol Caerdydd.]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=11 to=12 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cynnwys}} [..." 170268 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagair|Rhagair]] | next = [[../Hanes boreol Caerdydd|Hanes boreol Caerdydd.]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=11 to=12 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cynnwys}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaiddl]] spw8qe4j0a7unzhck5ztc8u7zl17im2 170270 170268 2026-08-13T11:58:02Z AlwynapHuw 1710 170270 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Rhagair|Rhagair]] | next = [[../Hanes boreol Caerdydd|Hanes boreol Caerdydd.]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=11 to=12 />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Y Cynnwys}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd]] m7rby28oyi4suiiqn9nat8sve5kadkn Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Hanes boreol Caerdydd 0 88213 170269 2026-08-13T11:57:44Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "{{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cynnwys|Y Cynnwys]] | next = [[../Dechreuad Methodistiaeth|Dechreuad Methodistiaeth]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=13 to=19 tosection="aaa" />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{D..." 170269 wikitext text/x-wiki {{header | title =Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd | author =Thomas Bowen, Caerdydd | andauthor = | translator = | editor = | section = | previous =[[../Y Cynnwys|Y Cynnwys]] | next = [[../Dechreuad Methodistiaeth|Dechreuad Methodistiaeth]] | notes = }}
<pages index="Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd.djvu" from=13 to=19 tosection="aaa" />
==Nodiadau== {{Cyfeiriadau}} {{DEFAULTSORT:Hanes boreol Caerdydd}} [[Categori:Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd]] oevgao95cun99a4g861q8j8oetebwqe