Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.16 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/144 104 9992 170733 170682 2026-08-20T17:26:51Z AlwynapHuw 1710 170733 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|OFFRYMAU NEILLDUAETH:}}}}<br> {{c|{{bach|SEF}}}} <br> {{c|{{Mm-mawr|CYMERIADAU BIBLAIDD A METHODISTAIDD.}}}} <br> <br> {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sg3nf20k1cpe0953wdx1bbn2v77iigf Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/153 104 10001 170744 170689 2026-08-20T17:33:17Z AlwynapHuw 1710 170744 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw, y bydd careg ar ei fedd, a'i enw arni, i gadw ei goffadwriaeth yn y golwg pan y bydd ef ei hun wedi myned o'r golwg. Ond er yr holl awydd hwn sydd mewn dyn am fod yn amlwg, mae yna amserau yn hanes pob un pryd y mae bod yn guddiedig yn felus ac yn ddymunol; adegau y bydd dyn yn hoffi bod ar ei ben ei hun i fwynhau seibiant a hamdden unigrwydd, heb yr un llygad i edrych arno, na neb i aflonyddu ar ddystawrwydd ei feddyliau ei hun. Ac os ydyw hyn yn wir am ddynion cyffredin, beth raid ei fod am ddynion mawr—dynion sydd yn llenwi cylchoedd uchel mewn cymdeithas? Y mae rhyw ychydig o ddynion yn y byd na fodrant symud o un dref i dref arall heb fod hanner y byd yn gwybod hyny bore drannoeth, a phob ysgogiad ac ymddygiad o'r eiddynt yn cael eu gwylio—miloedd o lygaid yn edrych i'w hwynebau, ac yn craffu ar eu holau—yr oll a ddywedant yn gyhoeddus yn cael ei argraffu, a'i ddarllen gan filmiloedd, ei feirniadu yn llym a miniog gan rai, a'i organmawl gan eraill; dynion sydd yn codi bob bore i dderbyn gan eu cydddynion gymaint o barch a chlod, anmharch a chenfigen, ag a fyddai yn ddigon i wallgofi hanner llon'd gwlad o ddynion cyffredin. Pa<noinclude><references/></noinclude> ommtfzr6cdjtr2t1rlyzgtz1icp289j Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/172 104 10020 170770 170707 2026-08-20T17:54:57Z AlwynapHuw 1710 170770 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>berffaith dawel wedi myned trwy y ffurf, pan y mae ei galon yn hollol ddyeithr i ysbryd y pethau. Mae llawer un nad allai gysgu yn dawel gan argyhoeddiadau cydwybod pe yr esgeulusai y moddion ar y Sabbath, a myned i rodiana hyd y wlad; ond pe yr elai yr un un i'r bregeth bore Sabbath, a chysgu y rhan fwyaf o'r amser, a phed elai i'r ysgol y prydnawn ac heb sylweddoli dim ar y wers, ac i'r oedfa y nos d'i feddyliau ar bethau hollol ddyeithr i'r efengyl, efe a allai gysgu yn dawel y noson hono, fel dyn wedi gwneyd ei ddyledswydd. Rhag twyllo ein hunain, hefyd, dylem fod yn ofalus rhag rhoddi gormod o bwys ar opiniynau rhai eraill am danom. Llywodraethir ni gan opiniynau rhai eraill am danom yn fwy nag y darfu i ni erioed feddwl. Mae dyn yn hoff o wybod beth y mae eraill yn ei feddwl o hono. Gwir y clywir rhai yn dyweyd, nad ydynt yn gofalu beth a ddywedo eraill am danynt, nac yn ei feddwl o honynt. Ond rhaid fod y rhai sydd yn dyweyd felly yn rhagrithio, neu ynte yn amddifad o gymeriad gwerth ei ddal i fyny. Mae yn naturiol i ddyn fod yn awyddus i wybod pa ystâd y mae yn ddal yn meddyliau rhai eraill. Tybed nad oedd yr awydd hwn yn Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ?" "Pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ?" Onid llais y natur ddynol a glywir yn y cwestiynau hyn? Sut bynag, dyna ydyw y ffaith am danom ni i gyd, fod ynom ryw gywreingarwch am wybod y safle sydd genym yn meddyliau ein cyfeillion a'n cymydogion. A chan fod clust dyn mor deneu at hyn, odid fawr na ddaw i wybod ryw dro neu gilydd beth y mae eraill yn ei feddwl o hono; ac os daw i ddeall fod hwn a hwn, neu y rhai'n a'r rhai'n yn synied yn lled uchel am dano, am y rhinwedd hwn neu y rhinwedd arall, er y gŵyr ei gydwybod nad ydyw yn haeddu y ganmoliaeth, eto y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel y cred y ganmoliaeth yn hytrach na thystiolaeth ei gydwybod, os na bydd ganddo wyliadwriaeth mawr ar ei ysbryd. Mae yr un fath yn hyn å dyn yn dechre myned yn hen. Nid ydyw dyn yn hoff o weled arwyddion ei fod yn myned yn hen; ac os cyferfydd hen gyfaill âg ef a'i anerch, "Wel, yr ydych yn edrych mor ieuanc heddyw âg oedd- ych ugain mlynedd yn ol," er y gŵyr y dyn nas gall y dystiolaeth fod yn wir, eto o herwydd fod y dystiolaeth yn disgyn yn felus ar ei glust, efe<noinclude><references/></noinclude> rv2amvr5jt56gwz48vt6uwon2jovllr 170772 170770 2026-08-20T17:59:48Z AlwynapHuw 1710 170772 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>berffaith dawel wedi myned trwy y ffurf, pan y mae ei galon yn hollol ddyeithr i ysbryd y pethau. Mae llawer un nad allai gysgu yn dawel gan argyhoeddiadau cydwybod pe yr esgeulusai y moddion ar y Sabbath, a myned i rodiana hyd y wlad; ond pe yr elai yr un un i'r bregeth bore Sabbath, a chysgu y rhan fwyaf o'r amser, a phed elai i'r ysgol y prydnawn ac heb sylweddoli dim ar y wers, ac i'r oedfa y nos d'i feddyliau ar bethau hollol ddyeithr i'r efengyl, efe a allai gysgu yn dawel y noson hono, fel dyn wedi gwneyd ei ddyledswydd. Rhag twyllo ein hunain, hefyd, dylem fod yn ofalus rhag rhoddi gormod o bwys ar opiniynau rhai eraill am danom. Llywodraethir ni gan opiniynau rhai eraill am danom yn fwy nag y darfu i ni erioed feddwl. Mae dyn yn hoff o wybod beth y mae eraill yn ei feddwl o hono. Gwir y clywir rhai yn dyweyd, nad ydynt yn gofalu beth a ddywedo eraill am danynt, nac yn ei feddwl o honynt. Ond rhaid fod y rhai sydd yn dyweyd felly yn rhagrithio, neu ynte yn amddifad o gymeriad gwerth ei ddal i fyny. Mae yn naturiol i ddyn fod yn awyddus i wybod pa ystâd y mae yn ddal yn meddyliau rhai eraill. Tybed nad oedd yr awydd hwn yn Iesu Grist? "Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ?" "Pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ?" Onid llais y natur ddynol a glywir yn y cwestiynau hyn? Sut bynag, dyna ydyw y ffaith am danom ni i gyd, fod ynom ryw gywreingarwch am wybod y safle sydd genym yn meddyliau ein cyfeillion a'n cymydogion. A chan fod clust dyn mor deneu at hyn, odid fawr na ddaw i wybod ryw dro neu gilydd beth y mae eraill yn ei feddwl o hono; ac os daw i ddeall fod hwn a hwn, neu y rhai'n a'r rhai'n yn synied yn lled uchel am dano, am y rhinwedd hwn neu y rhinwedd arall, er y gŵyr ei gydwybod nad ydyw yn haeddu y ganmoliaeth, eto y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel y cred y ganmoliaeth yn hytrach na thystiolaeth ei gydwybod, os na bydd ganddo wyliadwriaeth mawr ar ei ysbryd. Mae yr un fath yn hyn å dyn yn dechre myned yn hen. Nid ydyw dyn yn hoff o weled arwyddion ei fod yn myned yn hen; ac os cyferfydd hen gyfaill âg ef a'i anerch, "Wel, yr ydych yn edrych mor ieuanc heddyw âg oeddych ugain mlynedd yn ol," er y gŵyr y dyn nas gall y dystiolaeth fod yn wir, eto o herwydd fod y dystiolaeth yn disgyn yn felus ar ei glust, efe<noinclude><references/></noinclude> psjx28378xtszpguwhvjmvn4tnw7p4x Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/180 104 10028 170782 19118 2026-08-20T18:13:31Z AlwynapHuw 1710 170782 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>graslonrwydd a pharodrwydd anfeidrol y Brenin mawr i dderbyn y pechadur gwaethaf ar yr unfed awr ar ddeg yn rheswm ganddo dros barhâu mewn gwrthryfel yn ei erbyn hyd y gall. Mae y drychfeddwl yn arswydus, fod yn bosibl, nid yn unig i wrandäwyr yr efengyl, ond hyd yn nod i'r rhai sydd yn dal swyddau uchel ynglŷn â theyrnas Crist, dwyllo eu hunain. Yr oedd y digyffelyb Paul yn dychrynu wrth feddwl am y posiblrwydd iddo ef, wedi iddo bregethu i eraill, fod ei hun yn anghymeradwy. Cyn can mlynedd i heddyw bydd pawb o honom {{center block| <poem> "Yn gwel'd gan bwy mae sylwedd, A phwy sydd heb y gwir." </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 6wuc0dwjj5s7p3jq3zxm0s2bbs79coy Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/189 104 10037 170720 19129 2026-08-20T15:46:55Z AlwynapHuw 1710 170720 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwelsom ambell un cyn hyn, nad oedd nemawr uwch na'r anifail, yn cymeryd y ''prize'' am y ffarm. orau. "Cain oedd yn llafurio y ddaear." Ond y mae rhyw dir cyffredin ac y mae gwahanol gymeriadau yn cydgyfarfod arno. Ar rai achlysuron bydd y tylawd a'r cyfoethog, yr haelionus a'r cybyddlyd, y pur a'r halogedig, y Phariseaid a'r publican, yn cydgyfarfod. Ac felly yma. Mae Cain ac Abel yn cydgyfarfod i addoli. Nid oedd Cain yn anffyddiwr, er cynddrwg oedd. Yr oedd ôl bysedd y Creawdwr yn rhy newydd ac iraidd ar natur o'i gwmpas iddo ef allu bod yn anffyddiwr. Nid oedd gan Cain ond rhyw un cam i'w roddi yn ol—ac yna Duw oedd y cwbl—tu hwnt i'w dad, nid oedd yno ddim i'w weled ond y Duw tragywyddol yn llenwi dystawrwydd anfeidroldeb! Na, yr oedd yn rhy gynnar o lawer i'r diafol allu gwneyd neb yn atheist nac yn anffyddiwr. Ac yn wir, nid yw y diafol yn gofalu cymaint am i neb fod yn anffyddiwr, os gall ei wneyd yn dwyll-grefyddwr. A ddarfu i ni sylwi mai trwy offerynoliaeth crefyddwyr digrefydd—Os oes ystyr i'r fath ymadrodd y mae y diafol wedi dwyn oddiamgylch ei weithredoedd mwyaf anfad? Pan<noinclude><references/></noinclude> plq3p38ypl7kd8qt0bd1pfrw426eihc Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/191 104 10039 170719 19131 2026-08-20T15:42:18Z AlwynapHuw 1710 170719 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwelsom ambell un cyn hyn, nad oedd nemawr uwch na'r anifail, yn cymeryd y ''prize'' am y ffarm. orau. "Cain oedd yn llafurio y ddaear." Ond y mae rhyw dir cyffredin ac y mae gwahanol gymeriadau yn cydgyfarfod arno. Ar rai achlysuron bydd y tylawd a'r cyfoethog, yr haelionus a'r cybyddlyd, y pur a'r halogedig, y Phariseaid a'r publican, yn cydgyfarfod. Ac felly yma. Mae Cain ac Abel yn cydgyfarfod i addoli. Nid oedd Cain yn anffyddiwr, er cynddrwg oedd. Yr oedd ôl bysedd y Creawdwr yn rhy newydd ac iraidd ar natur o'i gwmpas iddo ef allu bod yn anffyddiwr. Nid oedd gan Cain ond rhyw un cam i'w roddi yn ol—ac yna Duw oedd y cwbl—tu hwnt i'w dad, nid oedd yno ddim i'w weled ond y Duw tragywyddol yn llenwi dystawrwydd anfeidroldeb! Na, yr oedd yn rhy gynnar o lawer i'r diafol allu gwneyd neb yn atheist nac yn anffyddiwr. Ac yn wir, nid yw y diafol yn gofalu cymaint am i neb fod yn anffyddiwr, os gall ei wneyd yn dwyll-grefyddwr. A ddarfu i ni sylwi mai trwy offerynoliaeth crefyddwyr digrefydd—Os oes ystyr i'r fath ymadrodd y mae y diafol wedi dwyn oddiamgylch ei weithredoedd mwyaf anfad? Pan<noinclude><references/></noinclude> plq3p38ypl7kd8qt0bd1pfrw426eihc Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/192 104 10040 170718 19132 2026-08-20T15:40:26Z AlwynapHuw 1710 170718 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd "yn y aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd yn y ''seiat"—un oedd yn bregethwr. Ac mae yma wers i ni i fod ar ein gwyliadwriaeth, rhag ein bod yn dwyn cysylltiad a chrefydd yn allanol, ac eto bod yn offerynau yn llaw y diafol i wneyd mwy o niwed i grefydd nag y gallasem pe na buasem yn dwyn cysylltiad â chrefydd o gwbl. Trwy bwy y mae y diafol yn hyrwyddo mwyaf ar ei deyrnas yn ein dyddiau ni? Ai trwy y meddwyn cyhoeddus? Ai trwy yr anffyddiwr proffesedig? O nage, ond trwy y dyn yna sydd yn cymeryd rhan amlwg yn ngwasanaeth crefydd ar y Sabboth, yn athraw hwyrach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn twyllo ei gymydog tu ol i'r ''counter'' ddydd Llun y bore, neu yn y dafarn, yn nghanol y meddwon a gwatworwyr, nos Lun. Dyna ddyn wrth fodd calon y diafol. Mae y dyn yna yn cario dagr o dan ei fantell, ac yn trywanu crefydd yn ei chalon ger gwydd y byd! Yr oedd Cain yn addolwr. Wrth yr allor y mae efe ac Abel yn cydgyfarfod i gyflwyno eu gwasanaeth i Dduw; canlyniad yr hyn a fu i'r"<noinclude><references/></noinclude> nqq2pvcroo9ma0z5tw1pennjczvi2p4 170801 170718 2026-08-20T18:35:02Z AlwynapHuw 1710 170801 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd "yn y aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd yn y ''seiat"''—un oedd yn bregethwr. Ac mae yma wers i ni i fod ar ein gwyliadwriaeth, rhag ein bod yn dwyn cysylltiad a chrefydd yn allanol, ac eto bod yn offerynau yn llaw y diafol i wneyd mwy o niwed i grefydd nag y gallasem pe na buasem yn dwyn cysylltiad â chrefydd o gwbl. Trwy bwy y mae y diafol yn hyrwyddo mwyaf ar ei deyrnas yn ein dyddiau ni? Ai trwy y meddwyn cyhoeddus? Ai trwy yr anffyddiwr proffesedig? O nage, ond trwy y dyn yna sydd yn cymeryd rhan amlwg yn ngwasanaeth crefydd ar y Sabboth, yn athraw hwyrach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn twyllo ei gymydog tu ol i'r ''counter'' ddydd Llun y bore, neu yn y dafarn, yn nghanol y meddwon a gwatworwyr, nos Lun. Dyna ddyn wrth fodd calon y diafol. Mae y dyn yna yn cario dagr o dan ei fantell, ac yn trywanu crefydd yn ei chalon ger gwydd y byd! Yr oedd Cain yn addolwr. Wrth yr allor y mae efe ac Abel yn cydgyfarfod i gyflwyno eu gwasanaeth i Dduw; canlyniad yr hyn a fu i'r"<noinclude><references/></noinclude> d93qxamk03alg09xrb7c28z726jdjqy Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/193 104 10041 170717 19134 2026-08-20T15:37:54Z AlwynapHuw 1710 170717 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i Abel, a'i Anghymeradwyaeth i Cain. Wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd Abel dyma yr archelyn, cenfigen, yn cymeryd meddiant o orsedd calon Cain. Nid am fod Cain yn maelio cymaint yn y gymeradwyaeth ei hun; oblegid buasai yn hawdd iddo ei chael, pe buasai yn ei cheisio yn briodol; ond y ffaith fod ei frawd wedi cael yr oruchafiaeth arno a'i brathodd yn ei galon. O genfigen, pwy a draetha dy oes di? O na buasit farw gyda Chain! Fe ddarfu i'r genfigen yna estyn ei gwraidd trwy ei gyfansoddiad, nes o'r diwedd ffurfio yn ddrychfeddwl—yn ''idea'', ïe, y drychfeddwl arswydus i ladd ei frawd; arswydus iddo ef ei hun ar y cyntaf, ni a gredwn, a'r hwn a ymlidiai efe o'i feddwl gyda dirmyg. Ond fe ddeuai y drychleddwl i'w galon drachefn a thrachefn, nes o'r diwedd fyned yn llettywr cyson yn ei fynwes—yn ei ddilyn pan fyddai gyda'i orchwyliaeth yn y maes, yn ei gadw yn effro am oriau yn y nos, yn ei gynhyrfu yn ei freuddwydion, ac yn gydymaith gwastadol iddo pan ddeffröai yn y bore, fel ellyll du, hagr, ac aflan, nes o'r diwedd ffurfio yn benderfyniad cadarn i ladd ei frawd y cyfleusdra cyntaf a gaffai! Nid ydyw yn ymddangos fod y<noinclude><references/></noinclude> 58ne2k7wlkferw9h2mhesejt4qeulc7 Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/194 104 10042 170716 19135 2026-08-20T15:36:25Z AlwynapHuw 1710 170716 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfleusdra yma wedi dyfod mor fuan ag y buasai yn ei ddymuno, ac o ganlyniad efe a benderfynodd wneuthur cyfleusdra i'r pwrpas hwnw. Fe ddywedir fod yn nghyfieithiad y Deg a Thriugain dri gair bach yn Gen. iv. 8, nad ydynt i'w cael yn ein cyfieithiad ni. Mae yr adnod yn Gymraeg yn darllen fel hyn:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes," &c. Gwelwn nad ydyw yr adnod yn Gymraeg yn dyweyd wrthym beth a ddywedodd Cain. Ond fel hyn y darllena yr adnod yn y Deg a Thriugain:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, ''Awn i'r maes''; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef." Os oes awdurdod i'r cyfieithiad yna, y mae yn rhoi ar ddeall i ni mai nid rhyw feddwl sydyn yn Cain oedd lladd ei frawd, ond hen fwriad wedi tyfu ac addfedu yn ei galon ddrygionus, ac mai ei amcan wrth wahodd ei frawd i'r maes i roi tro oedd, cario allan y bwriad hwnw. Edrychwch ar y ddau yn myned i'r maes: un yn nghanol ei ddiniweidrwydd, y llall yn gwisgo gwên dwyllodrus i gadw drwgdybiaeth draw. Mae yn awr yn colli ei ddewrder dan rym cyhuddiadau cydwybod; mae ei ''nerves'' yn<noinclude><references/></noinclude> am3ve9eqrtg6asgkct5ay91vlioekf8 Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/195 104 10043 170715 19136 2026-08-20T15:33:59Z AlwynapHuw 1710 170715 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwanhau; ond drachefn y mae yn adfeddiannu ei nerth, yn edrych yn wyllt o'i gwmpas rhag ofn bod rhywun yn gwylio. Ond anghofiodd, druan, edrych i fyny. Ac yno y mae yn rhuthro ar ei frawd, ac yn ei glwyfo yn farwol! Mae yr olygfa yn ''tragical'' i'r eithaf! Prin y gallwn ddychymygu beth oedd teimladau Abel pan yn marw dan law ei frawd, a llawer llai teimladau Cain pan y darfu iddo sylweddoli ei fod yn llofrudd, ac yn llofrudd ei frawd! Mae ei gydwybod yn deffro fel arthes wedi colli ei chenawon; o'r braidd mae yn gallu credu ei fod wedi medru cyflawni y fath weithred ysgeler. Mae yn edrych ar ei ddwylaw mewn ammheuaeth; ond y mae y rhai hyny yn goch gan waed; mae ei dalcen yn wlyb gan chwys oer; mae yn gweled y lle yn dechre troi o'i gwmpas, ac y mae yn cychwyn ffoi. Ond y mae meddwl arall yn ei daraw: mae yn rhoi un edrychiad gwyllt o'i gwmpas, ac yna y mae yn prysuro i gladdu ei frawd yn y ddaear. Mae yn edrych o'i amgylch unwaith eto, ac yna yn dianc. Ond cyn iddo fyned ymhell, dyna lef fel taran yn ei attal: "Cain, mae Abel dy frawd?" Ac fel pob drwgweithredwr ar ei ol, wrth gael ei ddal, dyna y celwydd yn dyfod allan y gair cyntaf,<noinclude><references/></noinclude> 1jpr2bn6an2vgw8u40apm2s41p5p7qo Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/196 104 10044 170714 19137 2026-08-20T15:32:15Z AlwynapHuw 1710 170714 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nis gwn i;" a thrahausder yn dilyn hyny, "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" Ond dyna y gair nesaf yn ei daraw yn fud. "Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear," meddai Duw. "Yr awr hon melldigedig wyt o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Mae gwahanol farnau mewn perthynas i wir ystyr geiriau Cain mewn atebiad i'r ddedfryd hon o eiddo Duw arno. Rhy brin y gellir edrych arnynt fel iaith gwir edifeirwch. Edrycha rhai arnynt fel dadganiad o ysbryd grwgnachlyd; eraill a edrychant arnynt fel mynegiad o anobaith dwfn; ac yn unol â'r golygiad hwn a gyfieithant y geiriau "Mwy yw fy nghosbedigaeth nag y gallaf ei oddef," ac fel yna y mae y geiriau yn y Bibl Saesoneg. Ond hwyrach fod yr ymadrodd yn cynnwys y ddau feddwl, oblegid y mae ysbryd grwgnachlyd ac ysbryd anobethiol yn canlyn eu gilydd yn led gyffredin. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i0gio1spahqqb1zo85kteu3n1lfj7wh Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/197 104 10045 170713 19138 2026-08-20T15:30:11Z AlwynapHuw 1710 170713 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae y gweddill o hanes Cain yn cael ei adrodd mewn ychydig eiriau; ond nid oes genym fwriad i'w ddilyn gyda dim manyldeb ymhellach. Nid ydyw yr hanes heb ei wersi. Y fath amlygiad sydd yma o ''anmhleidgarwch yr Arglwydd''. Mae yn wir ei fod wedi dangos ei foddlonrwydd i Abel, a'i anfoddlonrwydd i Cain. Ond paham y darfu iddo wneyd hyn? A ddangosodd yr Arglwydd ryw ffafr dueddgar i Abel? Mae yr hanes yn dywedyd yn wahanol. "Os da y gwnai," meddai Duw wrth Cain, "oni chai oruchafiaeth? Ac oni wnai yn dda, pechod a orwedd wrth y drws." Ymddyga di, fel pe dywedasai Duw, yr un fath ag Abel dy frawd, ac fe fydd yr un gymeradwyaeth yn dy aros di ag a dderbyniodd yntau. Ac nid yn unig hyny, ond y mae yn ymddangos mai Cain a gawsai y gymeradwyaeth gyntaf, pe buasai wedi dyfod ymlaen yn yr ysbryd priodol a chyda'r offrwm priodol. "Atat ti y mae ei ddymuniad ef hefyd, a thi a lywodraethi arno ef." Tydi ydyw y mab hynaf, ebe Duw, a chenyt ti y mae yr hawl gyntaf i'r fendith a'r gymeradwyaeth. Nid oedd gan Cain yr un gair i'w yngan yn erbyn cyfiawnder y ddedfryd a gyhoeddwyd arno. Fe fydd Duw yn<noinclude><references/></noinclude> lqnuufn8g9mtoju2jq9vovg6553uify Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/370 104 88355 170709 2026-08-20T15:20:09Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170709 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/371 104 88356 170710 2026-08-20T15:20:21Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/199 104 88357 170711 2026-08-20T15:26:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170711 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel saeth i fewn trwy un ffenestr, a thrwy y llall allan; ac yna yn gwneyd tro hirgrwn, ac yn gwneyd yr un peth drachefn, nes boddloni ei hunan nad oedd yn yr hen dŷ neu yr hen ysgubor wag ddim i'w niweidio; ac yna y mae yn eistedd ar y trawst, ac yn canu yno, ac o'r diwedd yn gwneyd ei nyth yno, ac yn cenedlu ei ryw? Dyna ddarlun i ni o galon dyn a phechod. I'r galon, fel y nodasom, y mae pechod yn dyfod gyntaf, mewn meddwl drwg. Gwyliwn roddi croesaw iddo. Oblegid os caiff pechod wneyd ei nyth yn nghalon dyn, y mae yn sicr o fagu ei ryw, a thori allan mewn gweithredoedd drwg, ac yn y diwedd adael dyn mewn anobaith—ei adael yn wibiad! "Gwibiad a chrwydriad fyddi." Yr un fath â'r seren wib, wedi tori dros derfyngylch yr haul, yn ffoi o hyd, heb wybod i ba le y mae yn ffoi, ac eto yn methu peidio ffoi; wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei gyru ymhellach oddiwrth yr haul. Dyna ddarlun o ddyn wedi i bechod wneyd ei waith arno. Gwibiad ydyw yn llywodraeth Duw; creadur wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei yru yn ddyfnach i drueni, ac ymhellach oddiwrth Awdwr ei fodolaeth a chanolbwynt ei ddedwyddwch.<noinclude><references/></noinclude> 94ohybogs90abv9gscauvcbx0f6nkbh Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/198 104 88358 170712 2026-08-20T15:28:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170712 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweithredu wrth yr un reol tuag at bawb o honom. Pe gallai dyn deimlo, hyd yn nod yn ngholledigaeth, mai nid arno ef yr oedd y bai ei fod yno—ei fod wedi gwneyd ei oreu yn llwybr Duw a'r efengyl i beidio myned i ddystryw, ac eto ei fod wedi methu—pe gallai dyn deimlo felly, meddem, byddai y dyn hwnw wedi lleddfu y naill hanner o'i boenedigaeth. Ond nid felly y bydd; yn hytrach fe fydd yna argyhoeddiad dwfn a thragywyddol yn enaid y dyn colledig mai arno ef ei hun yr oedd y bai, ei fod wedi cael pob cyfleusdra i fod yn gadwedig, fod yr un croesaw yn ei aros ef ag oedd yn aros eraill a wnaethant ddefnydd o hono; a dyma fydd yn ysu ei enaid byth, fod y cyfrifoldeb o fod yn golledig yn gorwedd yn gwbl wrth ei ddrws ef ei hunan. Nid allwn lai na gweled hefyd yn yr hanes ''yr hyn y mae pechod yn dwyn dyn iddo wedi iddo wneyd ei waith arno.'' I'r galon y mae pechod yn dyfod gyntaf mewn meddwl drwg. A ddarfu i ni sylwi, wrth rodio yn y wlad, ar yr hen dŷ gwag, a'r ffenestri wedi tori; neu yr hen ysgubor wag, heb neb yn ei mynychu; ac a ddarfu i ni sylwi ar y wenol ddyeithr yn dyfod yn ei thymmor, ac yn myaed ar ei ehediad<noinclude><references/></noinclude> 9h6w5wyjss9y53zurcgnl1dv6y1zcz4 Indecs:Offrymau Neullduaeth.djvu 106 88359 170721 2026-08-20T17:19:49Z AlwynapHuw 1710 Dechrau tudalen newydd gyda "" 170721 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Offrymau Neullduaeth |Author=Daniel Owen |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1899 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks= }} [[Categori:Offrymau Neullduaeth]] [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:PD-old]] [[Categori:Tudalen Indecs]] [[Categori:Ysgrifau]] [[Categori:Llyfrau 1899]] t3mawiw8i6wud5nytvgc6pckwk4na8e 170888 170721 2026-08-21T02:28:08Z AlwynapHuw 1710 170888 proofread-index text/x-wiki {{:MediaWiki:Proofreadpage_index_template |Title=Offrymau Neullduaeth |Author=Daniel Owen |Publisher=Hughes a'i Fab, Wrecsam |Year=1899 |Source=djvu |Image=1 |Progress=X |Pages=<pagelist /> |Remarks=[https://books.google.co.uk/books?id=d7QBIthuv_sC&newbks=0&pg=RA1-PA67&focus=viewport&dq=Offrymau+Neillduaeth&output=text Google] }} [[Categori:Offrymau Neullduaeth]] [[Categori:Daniel Owen]] [[Categori:PD-old]] [[Categori:Tudalen Indecs]] [[Categori:Ysgrifau]] [[Categori:Llyfrau 1899]] iki0foyausl6wgpowfcxzl2wzcuzjcq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/1 104 88360 170722 2026-08-20T17:21:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170722 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Offrymau Neullduaeth.djvu|canol|500px|tudalen=1]] <br> <br> {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7h6t9nnnp7lvze29546gona0uf6wazf Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/200 104 88361 170723 2026-08-20T17:22:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170723 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Offrymau Neullduaeth.djvu|canol|500px|tudalen=200]]<noinclude><references/></noinclude> bsynw4a67rhfae06gj2n6bnkrxw8dlo Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/199 104 88362 170724 2026-08-20T17:22:38Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170724 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/198 104 88363 170725 2026-08-20T17:22:53Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170725 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/197 104 88364 170726 2026-08-20T17:23:03Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170726 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/196 104 88365 170727 2026-08-20T17:23:17Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170727 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/2 104 88366 170728 2026-08-20T17:23:59Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170728 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/3 104 88367 170729 2026-08-20T17:24:14Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170729 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/4 104 88368 170730 2026-08-20T17:24:24Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170730 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/5 104 88369 170731 2026-08-20T17:24:35Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170731 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/6 104 88370 170732 2026-08-20T17:26:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170732 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Darlun o'r Cerflun o Daniel Owen.jpg|500px|center]] {{canoli|<big>Darlun o'r Cerflun o Daniel Owen.</big>}} {{canoli|<big>"Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifenais, ond i'r dyn cyffredin."</big>}}<noinclude><references/></noinclude> d21nw4ghbet274bu2zzs13iqln3xolr Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/7 104 88371 170734 2026-08-20T17:27:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170734 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mmm-mawr|OFFRYMAU NEILLDUAETH:}}}}<br> {{c|{{bach|SEF}}}} <br> {{c|{{Mm-mawr|CYMERIADAU BIBLAIDD A METHODISTAIDD.}}}} <br> <br> {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sg3nf20k1cpe0953wdx1bbn2v77iigf Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/8 104 88372 170735 2026-08-20T17:27:14Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170735 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/9 104 88373 170736 2026-08-20T17:27:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170736 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|{{Mmm-mawr|OFFRYMAU NEILLDUAETH}}}} <br> {{canoli|{{bach|SEF}}}} <br> {{canoli|{{Mmm-mawr|CYMERIADAU BIBLAIDD A METHODISTAIDD}}}} <br> {{canoli|{{bach|GAN}}}} <br> {{canoli|{{Mmm-mawr|DANIEL OWEN,}}}} {{canoli|WYDDGRUG.}} {{canoli|——————————————————}} {{canoli|GWRECSAM:}} {{canoli|CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB}}<noinclude><references/></noinclude> 6r74ppq6r4j1ofaiaw89lhohmt4brcc Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/10 104 88374 170737 2026-08-20T17:28:07Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170737 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/11 104 88375 170738 2026-08-20T17:29:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170738 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|<big>AT Y DARLLENYDD</big>.}} {{lein|10em}}{{lein|10em}} PAROTOWYD yr "Offrymau" hyn i'r wasg gan mwyaf, yn ystod afiechyd a hir nychdod, ac ymddangosasant, bron yn y wedd bresennol, o dro i dro, yn y DRYSORFA; ac hwyrach fod esgusawd yn ddyledus oddiwrthyf am eu cyhoeddi fel hyn yn llyfr. Nid ydwyf yn dysgwyl elw nac enwogrwydd oddiwrth fy llyfryn; ond rhagrithiwn pe dywedwn nad ydwyf yn ystyried fod ynddo ronyn bach o deilyngdod, a chredaf y gall y darlleniad o hono wneyd peth lles a fforddio ychydig o ddifyrwch. Nid ydwyf heb gofio y gall gwendid corfforol gynyrchu gwendid meddyliol, ac fod yn bosibl mai cyfuniad o'r ddau wendid a barodd i mi ymgymeryd a'r anturiaeth hon. Os bydd darlleniad o'r llyfr yn cadarnhau y dybiaeth, nid oes genyf ond erfyn ar y darllenydd i edrych arno fel ''gwendid''. {{c|YR AWDWR.}} ''Gorphenaf'', 1879.<noinclude><references/></noinclude> g6fpc7q0rkggdjzt1f21bodx7rw4m67 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/12 104 88376 170739 2026-08-20T17:29:41Z AlwynapHuw 1710 /* Heb destun */ 170739 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="0" user="AlwynapHuw" /></noinclude><noinclude><references/></noinclude> 10ansarm6f15g8ejc3xh9xlmnuxyjpz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/13 104 88377 170740 2026-08-20T17:30:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170740 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|CYNNWYSIAD.}} {{canoli|PENNOD I.}} {{canoli|Yr anmhosiblrwydd i Grist fod yn guddiedig}} {{canoli|PENNOD II}} {{canoli|Hunan-dwyll}} {{canoli|PENNOD III}} {{canoli|Cain}} {{canoli|PENNOD IV}} {{canoli|Agar}} {{canoli|PENNOD V}} {{canoli|Simon Pedr}} {{canoli|PENNOD VI}} {{canoli|Y Canwriad}} {{canoli|PENNOD VII}} {{canoli|Y Ddau Ddysgybl}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rj9gpcydpiw7jtn8zch79bgta53m667 170741 170740 2026-08-20T17:30:53Z AlwynapHuw 1710 170741 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|CYNNWYSIAD.}}}} {{canoli|PENNOD I.}} {{canoli|Yr anmhosiblrwydd i Grist fod yn guddiedig}} {{canoli|PENNOD II}} {{canoli|Hunan-dwyll}} {{canoli|PENNOD III}} {{canoli|Cain}} {{canoli|PENNOD IV}} {{canoli|Agar}} {{canoli|PENNOD V}} {{canoli|Simon Pedr}} {{canoli|PENNOD VI}} {{canoli|Y Canwriad}} {{canoli|PENNOD VII}} {{canoli|Y Ddau Ddysgybl}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s57ckwtpmxx8qy504s931y4tsyq3v8x Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/14 104 88378 170742 2026-08-20T17:31:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170742 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|<big>CYMERIADAU METHODISTAIDD</big>}} {{canoli|PENNOD I}} {{canoli|Mr. Jones y ''shop'' a George Rhodric}} {{canoli|PENNOD II}} {{canoli|Mr. Jones y ''shop'' a William Thomas}} {{canoli|PENNOD III}} {{canoli|William Thomas a'r dewis Blaenoriaid}} {{canoli|PENNOD IV}} {{canoli|Dewis Blaenoriaid}} {{canoli|PENNOD V}} {{canoli|Y Blaenoriaid newydd yn y glorian}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kv04irgu76wxachheyykcasxmyfb851 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/15 104 88379 170743 2026-08-20T17:32:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170743 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{Mm-mawr|OFFRYMAU NEILLDUAETH}}}} {{lein|10em}} {{canoli|{{mawr|YR ANMHOSIBLEWYDD I GRIST FOD|YN GUDDIEDIG}}}} {{canoli|''"Eithr ni allai Efe fod yn guddiedig."''—MARC vii. 24.}} A OEDD ar Grìst eisieu bod yn guddiedig? Mae rhywbeth yn nghyflëad y geiriau gan yr Efengylwr ag sydd braidd yn awgrymu ei fod. Ac os felly yr oedd, nid ydyw hyny yn beth i ryfeddu ato. Tuedd gyffredin dynion, mae yn wir, ydyw bod yn amlwg; a mawr ydyw yr ymdrech am wneyd arddangosiad a thynu sylw. Ac nid y lleiaf o'r pethau annymunol i'r teimlad ynglyn â marw ydyw, fod dyn yn cael ei guddio o'r golwg; ac y mae yn rhyw gysur i feddwl dyn, hyd yn nod yn yr amgylchiad<noinclude><references/></noinclude> b8ipebyfqc36qyn5x2gstou86h2nf20 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/16 104 88380 170745 2026-08-20T17:33:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170745 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw, y bydd careg ar ei fedd, a'i enw arni, i gadw ei goffadwriaeth yn y golwg pan y bydd ef ei hun wedi myned o'r golwg. Ond er yr holl awydd hwn sydd mewn dyn am fod yn amlwg, mae yna amserau yn hanes pob un pryd y mae bod yn guddiedig yn felus ac yn ddymunol; adegau y bydd dyn yn hoffi bod ar ei ben ei hun i fwynhau seibiant a hamdden unigrwydd, heb yr un llygad i edrych arno, na neb i aflonyddu ar ddystawrwydd ei feddyliau ei hun. Ac os ydyw hyn yn wir am ddynion cyffredin, beth raid ei fod am ddynion mawr—dynion sydd yn llenwi cylchoedd uchel mewn cymdeithas? Y mae rhyw ychydig o ddynion yn y byd na fodrant symud o un dref i dref arall heb fod hanner y byd yn gwybod hyny bore drannoeth, a phob ysgogiad ac ymddygiad o'r eiddynt yn cael eu gwylio—miloedd o lygaid yn edrych i'w hwynebau, ac yn craffu ar eu holau—yr oll a ddywedant yn gyhoeddus yn cael ei argraffu, a'i ddarllen gan filmiloedd, ei feirniadu yn llym a miniog gan rai, a'i organmawl gan eraill; dynion sydd yn codi bob bore i dderbyn gan eu cydddynion gymaint o barch a chlod, anmharch a chenfigen, ag a fyddai yn ddigon i wallgofi hanner llon'd gwlad o ddynion cyffredin. Pa<noinclude><references/></noinclude> ommtfzr6cdjtr2t1rlyzgtz1icp289j Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/17 104 88381 170746 2026-08-20T17:34:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170746 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwnw, y bydd careg ar ei fedd, a'i enw arni, i gadw ei goffadwriaeth yn y golwg pan y bydd ef ei hun wedi myned o'r golwg. Ond er yr holl awydd hwn sydd mewn dyn am fod yn amlwg, mae yna amserau yn hanes pob un pryd y mae bod yn guddiedig yn felus ac yn ddymunol; adegau y bydd dyn yn hoffi bod ar ei ben ei hun i fwynhau seibiant a hamdden unigrwydd, heb yr un llygad i edrych arno, na neb i aflonyddu ar ddystawrwydd ei feddyliau ei hun. Ac os ydyw hyn yn wir am ddynion cyffredin, beth raid ei fod am ddynion mawr—dynion sydd yn llenwi cylchoedd uchel mewn cymdeithas? Y mae rhyw ychydig o ddynion yn y byd na fodrant symud o un dref i dref arall heb fod hanner y byd yn gwybod hyny bore drannoeth, a phob ysgogiad ac ymddygiad o'r eiddynt yn cael eu gwylio—miloedd o lygaid yn edrych i'w hwynebau, ac yn craffu ar eu holau—yr oll a ddywedant yn gyhoeddus yn cael ei argraffu, a'i ddarllen gan filmiloedd, ei feirniadu yn llym a miniog gan rai, a'i organmawl gan eraill; dynion sydd yn codi bob bore i dderbyn gan eu cydddynion gymaint o barch a chlod, anmharch a chenfigen, ag a fyddai yn ddigon i wallgofi hanner llon'd gwlad o ddynion cyffredin. Pa<noinclude><references/></noinclude> ommtfzr6cdjtr2t1rlyzgtz1icp289j 170749 170746 2026-08-20T17:37:08Z AlwynapHuw 1710 170749 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ryfedd os ydyw dynion o'r fath yma yn ymawyddu rai adegau am fod yn guddiedig o olwg y byd? Nid oedd yn rhyfedd fod Mr. Spurgeon yn myned i Germany i dreulio ei holidays; oblegid, fel y dywedai ef ei hun, fe gaffai lonydd yno, gan na fedrai y bobl ei ddeall ef, nac yntau eu deall hwy. Mae yn ddiammheu fod yr awydd yma am lonyddwch yn ein Hiachawdwr, ar rai adegau. yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus. "Wele fe aeth y byd ar ei ol Ef." Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i wynebu miloedd o bobl, ac yntau ei hun yn ganolbwynt yr holl gynnulliad. Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i fyned dan driniaeth ugeiniau o elynion a chenfigenwyr, i ateb eu cwestiynau cyfrwys a dyrys, ac hefyd i dderbyn mawl a gogoniant ugeiniau o'i gyfeillion—i wynebu anghrediniaeth yn ei ffurf waethaf—clefydau ac anhwylderau yn eu gwedd fwyaf arswydus. Ni chai amser i fwyta. Yr oedd rhai yn dysgwyl am ei ddysgeidiaeth. rhwng ei dameidiau. Yr oedd y dyrfa yn ei wasgu ymhob man. Os diangai dros y môr mewn bâd, yr oeddynt hwythau yn ei ddilyn yn union. Pa ryfedd os oedd yn teimlo yn lluddedig a gorchfygedig, ac yn dianc i dueddau<noinclude><references/></noinclude> 8ejgv1xdv6tuw4qelcesi56dwkue9lf Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/18 104 88382 170747 2026-08-20T17:34:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170747 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ryfedd os ydyw dynion o'r fath yma yn ymawyddu rai adegau am fod yn guddiedig o olwg y byd? Nid oedd yn rhyfedd fod Mr. Spurgeon yn myned i Germany i dreulio ei holidays; oblegid, fel y dywedai ef ei hun, fe gaffai lonydd yno, gan na fedrai y bobl ei ddeall ef, nac yntau eu deall hwy. Mae yn ddiammheu fod yr awydd yma am lonyddwch yn ein Hiachawdwr, ar rai adegau. yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus. "Wele fe aeth y byd ar ei ol Ef." Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i wynebu miloedd o bobl, ac yntau ei hun yn ganolbwynt yr holl gynnulliad. Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i fyned dan driniaeth ugeiniau o elynion a chenfigenwyr, i ateb eu cwestiynau cyfrwys a dyrys, ac hefyd i dderbyn mawl a gogoniant ugeiniau o'i gyfeillion—i wynebu anghrediniaeth yn ei ffurf waethaf—clefydau ac anhwylderau yn eu gwedd fwyaf arswydus. Ni chai amser i fwyta. Yr oedd rhai yn dysgwyl am ei ddysgeidiaeth. rhwng ei dameidiau. Yr oedd y dyrfa yn ei wasgu ymhob man. Os diangai dros y môr mewn bâd, yr oeddynt hwythau yn ei ddilyn yn union. Pa ryfedd os oedd yn teimlo yn lluddedig a gorchfygedig, ac yn dianc i dueddau<noinclude><references/></noinclude> 8ejgv1xdv6tuw4qelcesi56dwkue9lf 170750 170747 2026-08-20T17:37:39Z AlwynapHuw 1710 170750 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tyrus a Sidon—ar derfynau y Cenedloedd—lle nad oedd mor adnabyddus, i geisio bod yn guddiedig am enyd?. Ond yr oedd ei glod wedi rhedeg o'i flaen; ac yno drachefn yr oedd y llesg a'r anafus, y cloff a'r afiach, yn ymdreiglo ar hyd y ffyrdd yn ei ddysgwyl. "Canys nid allai Efe fod yn guddiedig." Y mae ystyr ymha un yr oedd Efe yn guddiedig; ac fe fuasai llawn ddatguddiad o hono ei hun yn dyrysu amcan ei ddyfodiad i'r byd. "Pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant." Yn raddol yr amlygodd ei hun. Nid oedd na "phryd na thegwch" ynddo i'r lliaws. Ychydig a allasent ddyweyd, "Ni a welsom ei ogoniant Ef-gogoniant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd." Yr oedd Efe yn gwisgo rhyw gymaint o disguise; ac mewn ystyr, ys dywed Pascal, yr oedd Efe yn fwy cuddiedig pan y darfu iddo ymddangos na chyn iddo ymddangos. Yr oedd yr Israel yn adnabod Duw yn well yn y pellder na phan y daeth i'w hymyl. "Yn y byd yr oedd Efe, a'r byd nid adnabu Ef." Eto nid allai Efe fod yn guddiedig. Yr oedd Efe yn rhy fawr i fod yn guddiedig. Yr oedd Crist mor fawr fel nad allai Efe ei hun guddio ei hun.<noinclude><references/></noinclude> 9c1x23pcncoyzkv0sj7r7tdxdv86e79 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/19 104 88383 170748 2026-08-20T17:35:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170748 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Tyrus a Sidon—ar derfynau y Cenedloedd—lle nad oedd mor adnabyddus, i geisio bod yn guddiedig am enyd?. Ond yr oedd ei glod wedi rhedeg o'i flaen; ac yno drachefn yr oedd y llesg a'r anafus, y cloff a'r afiach, yn ymdreiglo ar hyd y ffyrdd yn ei ddysgwyl. "Canys nid allai Efe fod yn guddiedig." Y mae ystyr ymha un yr oedd Efe yn guddiedig; ac fe fuasai llawn ddatguddiad o hono ei hun yn dyrysu amcan ei ddyfodiad i'r byd. "Pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant." Yn raddol yr amlygodd ei hun. Nid oedd na "phryd na thegwch" ynddo i'r lliaws. Ychydig a allasent ddyweyd, "Ni a welsom ei ogoniant Ef-gogoniant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd." Yr oedd Efe yn gwisgo rhyw gymaint o disguise; ac mewn ystyr, ys dywed Pascal, yr oedd Efe yn fwy cuddiedig pan y darfu iddo ymddangos na chyn iddo ymddangos. Yr oedd yr Israel yn adnabod Duw yn well yn y pellder na phan y daeth i'w hymyl. "Yn y byd yr oedd Efe, a'r byd nid adnabu Ef." Eto nid allai Efe fod yn guddiedig. Yr oedd Efe yn rhy fawr i fod yn guddiedig. Yr oedd Crist mor fawr fel nad allai Efe ei hun guddio ei hun.<noinclude><references/></noinclude> 9c1x23pcncoyzkv0sj7r7tdxdv86e79 170751 170748 2026-08-20T17:38:18Z AlwynapHuw 1710 170751 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd pawb a phobpeth arall yn rhy fychain i allu ei guddio, ac yr oedd yntau yn rhy fawr i allu cuddio ei hun. Mae yn hawdd cuddio y bychan, ond nid ellir cuddio y. mawr. Bydd cawod o eira yn cuddio yr aber fechan yn fynych, ond nid oes bosibl cuddio y môr. Gall yr aderyn bach redeg i'r dyrysni, a'r llwynog i'w ffau, gan wneuthur eu hunain yn guddiedig; ond nid oes gan y graig dalgref le y gall hi roddi ei phen i lawr. Ychydig o ddynion a enir i'r byd i fod yn amlwg. Ffawd y rhan fwyaf o ddynion ydyw bod yn guddiedig. Mewn dull o siarad, mae naw cant a deunaw a phedwar ugain o bob mil o ddynolryw yn efeilliaid; hyny ydyw, y mae dynion mor debyg i'w gilydd, o ran galluoedd a doniau, fel nad oes dim mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag sydd rhwng efeilliaid yn gyffredin. Mae dynolryw yn debyg fel yr ymddengys byddin o filwyr o ychydig bellder. Pan yr ydych yn edrych ar fyddin neu gatrawd o filwyr, o ychydig bellder, wedi eu gwneyd yn rheng, mae y milwyr i gyd yn ymddangos yr un faint a'r un fath, oddigerth rhyw un neu ddau a welir yn ymgodi ar feirch yn uwch na'r gweddill. Dyna ddarlun o ddynolryw. Mae<noinclude><references/></noinclude> 34ecf2hjvzb2yxuktxxkh9t8tb2d9je Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/20 104 88384 170752 2026-08-20T17:39:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170752 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>tebygolrwydd dynion i'w gilydd yn gwneyd pawb bron yn guddiedig ; ac fe all miliwn o bobl syrthio mewn un dydd, heb i'r byd deimlo dim mwy na phe byddai milfil o ddail yn syrthio yn y goedwig. Ond nid allai Efe fod yn guddiedig. Mae Efe yn ymgodi yn nghanol y ddynoliaeth fel derwen frigog yn nghanol cae o wair. Mewn un ystyr, yr oedd Iesu Grist yn debyg i bob dyn. Yr oedd mor debyg i ddynion yn gyffredin fel y darfu i'r Iuddewon â'u llygaid yn agored ei gamgymeryd am bechadur; ac eto yr oedd Efe yn rhagori cymaint ar blant gwragedd fel y gwelodd y dyn a anesid yn ddall y gwahaniaeth. Nid allai Efe fod yn guddiedig ''yn holl amgylchiadau bywyd''. Nid allai fod yn guddiedig ar ei enedigaeth. Nid ydyw geni dyn i'r byd o ddim dyddordeb i neb ond i'w fam, ac ychydig o berthynasau a chymydogion. Fe fydd rhai yn dyfod i weled y newyddanedig, mae yn wir ; ond nid "y doethion" fydd y rhai hyny yn gyffredin. Ac, fel y soniwyd eisoes, rhyw un o fil sydd yn gallu tori dim ffigiwr yn y byd ar ol dyfod iddo. Ond yr oedd Iesu Grist yn wrthddrych o ddyddordeb mawr cyn ei eni. Yr oedd yn "ddymuniant" yr holl genedloedd.<noinclude><references/></noinclude> szbaz7y08rup7n05irw0mu4z1jvlaxv Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/21 104 88385 170753 2026-08-20T17:39:49Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170753 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Fe'i ganwyd yn un o'r dinasoedd tlotaf, ac yn y lle tlotaf yn y ddinas. Ond nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig. Yr oedd ei effeithiau yn fawr. Effeithiodd ar amser. Pan anwyd Crist y daeth amser i'w oed. Bachgen yn yr ysgol oedd amser cyn y geni yn Bethlehem! Yr adeg hono y daeth amser i feddiant o'r etifeddiaeth. ''"Yn nghyflawnder yr amser.''" Effeithiodd ei enedigaeth ar yr wybren. Yr oedd hen draddodiad fod y planodau yn effeithio ar ddynion— yn enwedig ar adeg genedigaeth; a mawr a fyddai yr belynt a'r drafferth i wybod o dan ba blaned y byddai y plentyn wedi ei eni, gan y credid fod a fyno dylanwad y blaned yn fawr a dyfodol y plentyn. Hwyrach fod rhywbeth yn hyny, ar a wyddom ni. Ond ni chlywyd ond am un erioed yr oedd ei enedigaeth yn effeithio ar y planedau. Canys gwelsom ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli Ef." "Hyd oni safodd hi goruwch y lle y ganwyd y mab bychan." Nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig yn y nefoedd. Geiriau yr angylion yn gystal a'r bugeiliaid y diwrnod hwnw oeddynt, "Awn hyd Bethlehem." "Ac yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol." Nid allai Efe fod yn guddiedig ar adeg ei<noinclude><references/></noinclude> 16ax9io3b5cvothb2o2ghbqolyddlu3 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/22 104 88386 170754 2026-08-20T17:40:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170754 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''gyflwyniad''. Yr oeddym yn son fod dynion yn debyg i'w gilydd; ond y mae y tebygolrwydd yma yn fwy mewn mabandod. Ychydig, os dim, mynegiant sydd yn ngwyneb plentyn ychydig wythnosau oed; ac nid ydyw plentyn yn yr oedran hwnw yn eich argyhoeddi fod ganddo allu i ddim ond i waeddi. Ond yr oodd iachawdwriaeth yn ngwyneb Iesu Grist pan oedd yn chwech wythnos oed; ac yr oedd hen bobl yn cael nerth i farw ac i fyw wrth edrych arno! "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, yr hon a barotöaist ger bron wyneb yr holl bobloedd." Yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser, yr hon oedd dros ganmlwydd oed, càn gryfed a heinyf y diwrnod hwnw a phe buasai yn meddwl byw gant arall. "A hi a lefarodd am dano Ef wrth y rhai oll oedd yn dysgwyl ymwared yn Jerusalem." Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig." Ond y mae a fyno yr ymadrodd yma yn ddiammheu â Christ yn ystod ei ''weinidogaeth gyhoeddus'' yn y cyfnod hwnw y mae pobpeth fel wedi cydgyfarfod i wneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Elfen bwysig yn ei<noinclude><references/></noinclude> 3rqqbmygo8p8v9xkdzyc6b9rfprsnbh Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/23 104 88387 170755 2026-08-20T17:41:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170755 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyhoeddusrwydd oedd ei allu i gyflawni gwyrthiau. Mae yn syndod y fath orawydd sydd mewn dyn am y ''rhyfedd''. Mae gallu dyn yn derfynol; mae yna ryw derfyn na fedr dyn fyned drosto; a'r ymdrech yn barhâus ydyw am fyned am yr agosaf at y terfyn hwnw. Po agosaf y medr dyn fyned at yr anmhosibl, mwyaf amlwg y mae yn dyfod ymhlith ei gydddynion. Mae y bachgen yn yr ysgol a fedr wneyd rhywbeth na fedr y plant eraill ei wneyd, pa un bynag ai mewn dysgu ai chware, yn rhwym o fod yn ''hero'', ac yn frenin arnynt i gyd yn fuan. Yr oedd y gallu yma yn Nghrist i wneyd "y pethau na wnaeth neb arall," yn gwneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Yr oedd yna un peth ag oedd wedi gorchfygu dyn yn lân, sef natur. Yr oedd dyn yn gorfod teimlo nad oedd ganddo ddim awdurdod ar ddeddfau hon; a'r peth uchaf y gallodd dyn ei gyrhaedd oedd medrusrwydd, hyny ydyw, gallu i ddeall y deddfau hyn. Ni a ddychymygwn ei weled yn ceisio at rywbeth uwch. Ni a ddychymygwn weled ben longwr meddylgar wedi ei ddal gan yr ystorm ryw noswaith ar fôr Galilea, ac yna yn sefyll yn synfyfyrgar am enyd, ac yn llefaru, "Wel, aros di fôr, a thithan wynt;<noinclude><references/></noinclude> lfgbowtn1u6s0cnkj4fgpa12ff9qy1t Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/24 104 88388 170756 2026-08-20T17:42:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170756 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>paham yr ydych yn aflonyddu ar grëadur anfarwol fel myfi? Yr wyf fi yn fwy na chwi eich dau. Gostegwch! llonyddwch!" Ond ni wnai y môr ddim ond cynddeiriogi, a'r gwynt ddim ond chwerthin am ei ben. Ni a welwn yr un llongwr drachefn yn yr un amgylchiadau, wedi ei ddal gan yr ystorm, ond fod yna Un Person arall ar y llong, a hwnw yn cysgu. A oedd y gwynt a'r môr wedi cymeryd mantais ar ei gwsg i aflonyddu yn fwy? Mae yr hen longwr, gan gofio aflwyddiant yr hen ''experiment'', wedi ei lenwi â braw, yn rhedeg at yr Hwn oedd yn cysgu, ac yn gwaeddi, "Feistr, Feistr! darfu am danom." Ac wele Hwnw yn fwy ei awdurdod yn ei gwsg na hwynt i gyd yn effro! "Ac Efe a geryddodd y gwynt a'r môr, a bu tawelwch mawr. Pwy yw Hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.?" Mae Hwn yn rhywun gwahanol i bawb. Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig." Mae gan y meddyg well cyfleusdra na neb i fod yn amlwg ac enwog, am ei fod yn ymwneyd â'r peth mwyaf gwerthfawr gan ddyn, sef ei iechyd, ïe, ei fywyd. Ac y mae yn debyg mai y meddyg sydd yn byw agosaf i gymydogaeth yr anmhosibl; ac nid oes neb a fedr ddyfod i<noinclude><references/></noinclude> p6inqvd27hi0cyy8f9j4xh8rdfvrtw8 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/25 104 88389 170757 2026-08-20T17:43:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170757 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyhoeddusrwydd yn gynt, ac ennill mwy o wir barch a gwarogaeth gwlad, na meddyg da. Ond gyda'i holl allu a'i fedrusrwydd, mae yn gorfod dyweyd yn fynych, "Anfeddyginiaethol." Ond fe welodd y byd unwaith, a dim ond unwaith, Un na wyddai beth oedd ystyr anfeddyginiaethol. Yr oedd ei allu yn ddiderfyn. A hyn oedd ar y byd ei eisieu; yr oedd yna ddigonedd o feddygon o'r blaen. Nid eisieu medrusrwydd ''(skill)'' oedd ar y byd, ond eisieu rhywun a fedrai ddywedyd wrth y clefyd am ymadael, ac i hwnw ufuddhâu. Ni welodd y byd ond Un a allai wneyd hyny, gyda rhyw ychydig oeddynt yn practisio dan ei awdurdod. Yr oedd gallu yr Iesu mor fawr fel yr oedd yn gorfod cadw i ffwrdd o rai lleoedd rhag ei ddangos. Ac mae yn debyg mai dyma ydyw y rheswm na chawn banes yr Arglwydd Iesu mewn claddedigaethau. Ni a gawn ei hanes mewn priodas unwaith. Pe buasem ni yn myned i ''ddyweyd'' i ba un y dylasai fyned—i briodas neu i gladdedigaeth—buasem ni, yn ddiau, yn dyweyd mai i'r olaf. Diammheu hefyd, mewn ystod tair blynedd ar ddeg ar hugain, fod rhai o'i berthynasau a'i gyfeillion wedi marw; ond nid oes dim hanes ei fod yn claddu yr un o honynt. Fe fu yn ystafell y<noinclude><references/></noinclude> t2t9mmnve5m1ncm8thpn458vxaygxew Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/26 104 88390 170758 2026-08-20T17:43:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170758 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>marw unwaith, ond buan y tröwyd hi yn ystafell y byw. Fe gyfarfyddodd gladdedigaeth ar y ffordd unwaith, ond ni fu yno fawr o gladdu y diwrnod hwnw. Y gwirionedd ydyw, fel y dywedai y diweddar Barch. David Jones, Caernarfon, "pe buasai Iesu Grist yn arfer myned i gladdedigaethau, na chladdasent neb byth!" Yr oedd ei allu y fath brofedigaeth iddo fel y buasai yn dyrysu pob claddedigaeth. Ni allai Efe ac angeu fod yn yr un fan yn hir. Bywyd oedd efe i gyd; yr oedd bywyd yn ei ddillad; pe buasai un ddim ond yn cyffwrdd â'i ddillad, fe fuasai yn iach yn y fan. Pe buasent yn rhoi ei gochl ar arch dyn marw, buasai y marw yn cyfodi y foment hono. Lle bynag yr äi Efe, nid allai fod yn guddiedig. Y wedd yma ar Grist, dybygid, oedd gan yr efengylwr Marc o flaen ei feddwl pan ddywedodd nad allai Efe fod yn guddiedig. Ond mor wir ydyw yr ymadrodd am dano ''ymhob ystyr''. Y mae yr hyn ydyw Efe ynddo ei hun, y Dwyfol a'r dynol yn un Person, er ei fod yn llawn dirgelwch, yn gyfryw nad ellir ei guddio. Yr oedd ei honiadau digyffelyb yn ei osod ar ei ben ei hun yn nghanol y ddynoliaeth. Yr oedd ei ddysgeidiaeth bur a newydd mor anhawdd ei<noinclude><references/></noinclude> 90z7hywe4lrv81h44ukf8ohprx5du0t Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/27 104 88391 170759 2026-08-20T17:45:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170759 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chuddio a chuddio yr haul. Yr oedd ei fywyd perffaith a dibechod yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes dyn. Ac yn enwedig y mae amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a'r hyn ydyw ar gyfer pechaur, yn ei osod mewn dysgleirdeb nad ellir ei guddio byth. Fe geisiwyd ei guddio lawer gwaith. Ceisiodd yr Iuddewon ei guddio, ceisiodd y bedd ei guddio, ond i'r golwg yr oedd yn dyfod. Ceisiodd y byd yn ei erledigaethau creulawn, a'i anffyddiaeth, ei guddio; ond po fwyaf y ceisid ei guddio, mwyaf yn y byd yr oedd yn dyfod i'r golwg. Ac ni fu yr ymadrodd erioed yn fwy gwir nag ydyw heddyw, nad all Efe fod yn guddiedig. Mae ei egwyddorion yn treiddio trwy bob cymdeithas. Mae ei enw yn gwahaniaethu paganiaid a phobl wareiddiedig. Mae hyd yn nod y papyrau newyddion, er yn anwybodol, hwyrach, yn croniclo bob dydd yr adeg y daeth i'r byd. Mae dechreuad pob llythyr, a phob bil sydd yn cael ei ''settlo,'' yn ei gydnabod. Yn ei enw Ef y bedyddir pob un, ac yn ei enw Ef y gobeithir wrth farw. Ni all Efe fod yn guddiedig.<noinclude><references/></noinclude> 09drzfczcle89ctw4xt69xicu0cczyx 170760 170759 2026-08-20T17:46:01Z AlwynapHuw 1710 170760 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chuddio a chuddio yr haul. Yr oedd ei fywyd perffaith a dibechod yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes dyn. Ac yn enwedig y mae amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a'r hyn ydyw ar gyfer pechaur, yn ei osod mewn dysgleirdeb nad ellir ei guddio byth. Fe geisiwyd ei guddio lawer gwaith. Ceisiodd yr Iuddewon ei guddio, ceisiodd y bedd ei guddio, ond i'r golwg yr oedd yn dyfod. Ceisiodd y byd yn ei erledigaethau creulawn, a'i anffyddiaeth, ei guddio; ond po fwyaf y ceisid ei guddio, mwyaf yn y byd yr oedd yn dyfod i'r golwg. Ac ni fu yr ymadrodd erioed yn fwy gwir nag ydyw heddyw, nad all Efe fod yn guddiedig. Mae ei egwyddorion yn treiddio trwy bob cymdeithas. Mae ei enw yn gwahaniaethu paganiaid a phobl wareiddiedig. Mae hyd yn nod y papyrau newyddion, er yn anwybodol, hwyrach, yn croniclo bob dydd yr adeg y daeth i'r byd. Mae dechreuad pob llythyr, a phob bil sydd yn cael ei ''settlo,'' yn ei gydnabod. Yn ei enw Ef y bedyddir pob un, ac yn ei enw Ef y gobeithir wrth farw. Ni all Efe fod yn guddiedig. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jvdgetbtiwfubsrhj0dlqgvjd4vrcvn Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/28 104 88392 170761 2026-08-20T17:47:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170761 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|II<br>{{mawr|HUNAN-DWYLL}}}} {{canoli|''"Na thwylled neb ei hunan."''—1 CORINTHIAID iii. 18.}} HEN gynghor wedi ei roi er ys llawer dydd bellach, ond y sydd yr un mor gymhwysiadwy heddyw a phan y rhoddwyd ef gyntaf, gan fod pawb o honom mor ddarostyngedig i dwyllo ei hunan. Nid oes odid i neb yn rhy ieuanc ac anmhrofiadol i allu tystio fod llawer o dwyll yn bod yn y byd; ac y mae yn hawddach dyweyd beth ydyw twyll na dyweyd lle y mae: mae yn haws rhoi desgrifiad o dwyll na rhoi ein bys ar ei drigfod a dyweyd lle y mae yn byw. Gau ymddangosiad, neu, y peth hwnw sydd yn ymddangos yr hyn nid ydyw—dyna ydyw twyll; y peth hwnw ag sydd yn gwisgo gwedd gwirionedd—yn debyg i wirionedd, ac heb fod yn wirionedd. Nid ydyw y natur ddynol, hyd yn nod yn ei hystad lygredig, yn hoff o dwyll<noinclude><references/></noinclude> iz1auygrd5tdme1uinmbcday5qvy5t4 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/29 104 88393 170762 2026-08-20T17:48:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170762 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ynddo ei hun. Yn wir, y mae yna ryw wrthdarawiad yn mhawb'i dwyll. Os daw y masnachwr i ddeall fod y cwsmer yn ei dwyllo, mae yn rhaid iddo, yn unol â deddf ei natur, anghymeradwyo ei ymddygiad; ac os daw y cwsmer i ddeall fod y masnachwr yn ei dwyllo ef, mae yn rhaid iddo yntau, o dan yr un ddeddf, gondemnio ei ymddygiad. Ac o herwydd hyny y mae twyll bob amser, cyn gwneyd ei ymddangosiad ymhlith dynion, yn gorfod gwisgo gwedd gwirionedd. Yn wir, hyn sydd yn ei wneyd yn dwyll—ei debygolrwydd i'r gwirionedd. Pe deuai efe ymlaen yn ei liw a'i lun ei hunan, ni chai dderbyniad, ni chai fyw. Ac y mae yn ''compliment'' lled dda i'r gwir fod twyll yn gorfod lladrata ei ddillad cyn y caiff dderbyniad gan ddynion. A hyn sydd yn ei wneyd yn elyn mor beryglus: fod yn hawdd ei gamgymeryd am gyfaill. Er mai llais Jacob fydd yn disgyn ar y glust, y dwylaw ydynt ddwylaw Esau. Mae yn dyfod i'n cyfarfod â gwên ar ei enau i'n cusanu, ond y mae llu y tu cefn ganddo i'n cymeryd yn garcharorion. Ac fel Judas, y mae yn dyfod, yn gyffredin yn y nos gyda lanternau; nid ydyw yn hoff o'r haul, nid yw yn hoff o'r dydd. Po fwyaf o oleuni fydd o'n<noinclude><references/></noinclude> cjrwjgwyos722sqkqc6l9660z93w2zi Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/30 104 88394 170763 2026-08-20T17:49:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170763 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cwmpas, diogelaf yn y byd y byddwn rhag y gelyn twyll. Y mae i dwyll amryw ffurfiau. Mae dyn yn twyllo eraill, yn cael ei dwyllo gan eraill, ac yn twyllo ei hun. Mae y dyn sydd yn twyllo eraill yn wrthddrych i'w gondemnio; mae y. dyn sydd yn cael ei dwyllo gan eraill yn wrthddrych i gydymdeimlo âg ef; ac y mae'r dyn sydd yn twyllo ei hun yn wrthddrych i'w gondemnio, ac i gydymdeimlo âg ef. Mae y dyn sydd yn twyllo ei hunan yn wrthddrych i'w gondemnio, am nad ydyw yn defnyddio y moddion sydd o fewn ei gyrhaedd i gael allan ei dwyll; ac y mae y ffaith ei fod yn gallu byw yn dawel mewn hunan-dwyll yn ei wneyd yn wrthddrych i dosturio wrtho ac i gydymdeimlo ag ef. O bob twyll, hunan-dwyll ydyw y rhyfeddaf, a mwyaf anhawdd rhoddi cyfrif am dano. Pan y mae dyn yn twyllo arall, y mae o angenrheidrwydd yn tybied y bydd hyny o ryw fantais iddo; ond pan y bydd dyn yn ei dwyllo ei hun, mae fel pe byddai wedi ymranu yn ddau, a throi yn elyn iddo ef ei hunan. Ac eto y mae pawb yn teimlo cariad tuag ato ef ei hunan. "Ni chasäodd neb erioed ei gnawd ei hun;" ac yn<noinclude><references/></noinclude> my3p0qfv26kczyx9p7q0q06hksgczhw Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/31 104 88395 170764 2026-08-20T17:49:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170764 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>briodol y gellir dyweyd na chasäsaodd neb erioed ei enaid ei hun. Ond er fod gan ddyn le i gredu ei fod yn twyllo ei hun, mae yn ymattal rhag chwilio ei hunan a chael allan y gwir. Ond hwyrach mai yr hyn y buasem ni yn ei dybied, ar yr olwg gyntaf, a fuasai y rheswm cryfaf gan ddyn dros chwilio ei hun, a chael allan ei wir sefyllfa-sef y cariad sydd ganddo ato ei hun—wedi ail ystyried, mai hwn ydyw y rheswm ei fod heb wneyd. Y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel, er fod ganddo seiliau cryfion dros feddwl ei fod yn twyllo ei hun, ei fod yn ymattal rhag chwilio ei hun a phrofi ei hun, rhag ofn fod yr hyn y mae yn ei ofni yn wir, ac iddo syrthio yn ei olwg ei hun. Yr un modd ag y bydd ambell i fasnachwr yn gwneyd: mae rhywbeth yn dywedyd wrtho bob dydd nad ydyw ei fasnach cystal ag y bu: ei fod yn myned yn ol yn y byd; ei fod yn myned yn dlotach. Mae y masnachwr yn dychrynu wrth feddwl am hyny; ond y mae yn ymattal rhag cymeryd stock," a gwneyd ei lyfrau i fyny, rhag ofn fod yr hyn y mae efe yn ei ofni yn wir, neu ynte yn waeth nag y mae erioed wedi ei feddwl. Felly y bydd dyn yn gwneyd yn fynych gyda'i gyflwr ger bron Duw. Mae<noinclude><references/></noinclude> t87xp30xd161eybo1inuq68k6tfk3h9 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/32 104 88396 170765 2026-08-20T17:50:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170765 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhywbeth yn sibrwd wrtho bob dydd nad ydyw ystad ei galon fel y dylai fod—fod yna rywbeth allan o'i le, ac yn debyg o droi yn chwerw iddo ryw ddiwrnod. Mae hyn yn ei ddychrynu ar brydiau; ond fel y dyn gyda'i fasnach, y mae yn gwrthod myned at y maen prawf, ac yn taflu y peth ymaith, gan obeithio y goreu. Mae ambell un, mae yn wir, yn wrthgyferbyniol i hyn, bob amser yn troi gwyneb lantern dywyll. ammheuaeth i'w fynwes ei hun,i chwilio am deimladau crefyddol ac arwyddion o dduwioldeb, ac o' angenrheidrwydd yn methu eu cael, am y rheswm fod pob teimlad, pa un bynnag ai crefyddol ai anghrefyddol, yn diflanu pan eir i chwilio am dano. Mae yn amhosibl cael gafael ar deimlad o fath yn y byd ar wahan oddiwrth y gwrthddrych fydd yn ei gynnyrchu. Os mynwn feddianu teimladau crefyddol, mae yn rhaid i ni fod â'n meddwl wedi ei sefydlu ar Wrthddrych mawr ffydd ac addoliad, ac nid arnom ein hunain. Ar yr un pryd, mae yn ddyledswydd arbenig arnom brofi ein hunain yn ddyfal a beunydd wrth y gwirionedd, rhag bod neb o honom yn debyg o fod yn ol ; oblegid y mae y galon yn fwy ei thwyll na dim—yn ddrwg ddiobaith; ac hwyrach na raid i ni ond<noinclude><references/></noinclude> 0hq2866evburyiqnyv2xsb22qwbqquo Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/33 104 88397 170766 2026-08-20T17:51:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170766 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>curo wrth ei drws na bydd yn agor i ni ei hystafelloedd, ac yn dadguddio pethau na ddarfu i ni erioed ddychymygu eu bod ynom ni. Nid yw hunan-dwyll wedi ei gyfyngu i blith y bobl a elwir yn "bobl y byd," neu bobl ddigrefydd: na, mae yn dringo dros furiau yr eglwys, ac yn dinystrio cannoedd o broffeswyr crefydd. Ac yn wir, fe ddylai proffeswr crefydd fod ar fwy o wyliadwriaeth rhag twyllo ei hun nag hyd yn nod y dyn dibroffes; oblegid y mae rhywbeth hunan-dwyll y dyn dibroffes ag sydd yn hawdd ei ganfod—yn hawdd dyfod o hyd iddo, tra mae y proffeswr yn aml yn defnyddio yr hyn y mae efe yo ei dybied ydynt ei rinweddau fel sylfaen i adeiladu hunan-dwyll arno. Mae y broffes ei hunan, yr hon sydd dda ynddi ei hun, yn cael ei defnyddio fel achlysur yn fynych i ddyn dwyllo ei hunan. Diau ei fod yn ymwybodol o'r pwysigrwydd sydd ynglŷn a phroffesu enw Crist—y pwysigrwydd y mae y byd, yr eglwys, a'r Bibl yn ei osod arno; ac wedi iddo gymeryd y broffes arno, mae yn teimlo ei fod wedi rhoi cam mawr o flaen y byd digrefydd ei fod wedi ennill tir na ddarfu y dyn dibroffes erioed mo'i ennill; ac os na bydd gwyliadwriaeth mawr ganddo ar ei ysbryd, mae<noinclude><references/></noinclude> 651s8pmh3c6fm2y2arpvfq0fpuugalh Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/34 104 88398 170767 2026-08-20T17:51:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170767 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>perygl iddo aros ar y cam y mae wedi ei roi heb fyned yr un cam pellach byth. Mae lle i ofni fod lliaws yn edrych ar aelodaeth eglwysig yn gyffelyb i aelodaeth mewn "cymdeithas gyfeillgar." Os bydd eu henwau ar y llyfr, a hwythau yn talu eu cyfraniadau yn gyson, y maent yn teimlo yn berffaith dawel. Mae cymaint o ffurfiau hefyd yn nglŷn â chrefydd fel y mae yn hawdd iawn i ddyn gamgymeryd y rhai hyn am grefydd ei hun. Mae yn rhaid i ni wrth ryw gymaint o ddefodau a ffurfiau gyda chrefydd tra yn y fuchedd hon; ond y mae tueddfryd dyn bob amser at yr hyn sydd yn hawdd, ac i osgoi yr hyn sydd yn anhawdd. Fe all dyn ddyfod i'r capel yn lled gyson a phrydlawn, a chydymffurfio a'r holl ffurfiau angenrheidiol i weddusrwydd, heb lawer o drafferth iddo ei hun; ond y mae ymladd â llygredigaeth ei galon, dyfalbarhau mewn gweddi ddirgel, sylweddoli a gosod ei holl fryd er bethau ysbrydol ac anweledig, yn rhywbeth hollol wahanol, ac yn gofyn holl egni dyn i'w gyflawni yn briodol. Ar yr un pryd, y mae y fath gysylltiad rhwng ffurfiau allanol crefydd a chrefydd ei hun, fel y mae perygl i ddyn gamgymeryd y naill am y llall, a theimlo yn<noinclude><references/></noinclude> ik6xsgazxaph3vcrqr27hi12fxzlm79 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/35 104 88399 170768 2026-08-20T17:52:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170768 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>berffaith dawel wedi myned trwy y ffurf, pan y mae ei galon yn hollol ddyeithr i ysbryd y pethau. Mae llawer un nad allai gysgu yn dawel gan argyhoeddiadau cydwybod pe yr esgeulusai y moddion ar y Sabbath, a myned i rodiana hyd y wlad; ond pe yr elai yr un un i'r bregeth bore Sabbath, a chysgu y rhan fwyaf o'r amser, a phed elai i'r ysgol y prydnawn ac heb sylweddoli dim ar y wers, ac i'r oedfa y nos d'i feddyliau ar bethau hollol ddyeithr i'r efengyl, efe a allai gysgu yn dawel y noson hono, fel dyn wedi gwneyd ei ddyledswydd. Rhag twyllo ein hunain, hefyd, dylem fod yn ofalus rhag rhoddi gormod o bwys ar opiniynau rhai eraill am danom. Llywodraethir ni gan opiniynau rhai eraill am danom yn fwy nag y darfu i ni erioed feddwl. Mae dyn yn hoff o wybod beth y mae eraill yn ei feddwl o hono. Gwir y clywir rhai yn dyweyd, nad ydynt yn gofalu beth a ddywedo eraill am danynt, nac yn ei feddwl o honynt. Ond rhaid fod y rhai sydd yn dyweyd felly yn rhagrithio, neu ynte yn amddifad o gymeriad gwerth ei ddal i fyny. Mae yn naturiol i ddyn fod yn awyddus i wybod pa ystâd y mae yn ddal yn meddyliau rhai eraill. Tybed nad oedd yr awydd hwn yn<noinclude><references/></noinclude> imfemenn6xkbaggpmxb03eo47urozxv Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/36 104 88400 170769 2026-08-20T17:54:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170769 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ?" "Pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ?" Onid llais y natur ddynol a glywir yn y cwestiynau hyn? Sut bynag, dyna ydyw y ffaith am danom ni i gyd, fod ynom ryw gywreingarwch am wybod y safle sydd genym yn meddyliau ein cyfeillion a'n cymydogion. A chan fod clust dyn mor deneu at hyn, odid fawr na ddaw i wybod ryw dro neu gilydd beth y mae eraill yn ei feddwl o hono; ac os daw i ddeall fod hwn a hwn, neu y rhai'n a'r rhai'n yn synied yn lled uchel am dano, am y rhinwedd hwn neu y rhinwedd arall, er y gŵyr ei gydwybod nad ydyw yn haeddu y ganmoliaeth, eto y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel y cred y ganmoliaeth yn hytrach na thystiolaeth ei gydwybod, os na bydd ganddo wyliadwriaeth mawr ar ei ysbryd. Mae yr un fath yn hyn å dyn yn dechre myned yn hen. Nid ydyw dyn yn hoff o weled arwyddion ei fod yn myned yn hen; ac os cyferfydd hen gyfaill âg ef a'i anerch, "Wel, yr ydych yn edrych mor ieuanc heddyw âg oedd- ych ugain mlynedd yn ol," er y gŵyr y dyn nas gall y dystiolaeth fod yn wir, eto o herwydd fod y dystiolaeth yn disgyn yn felus ar ei glust, efe<noinclude><references/></noinclude> ji902gjsos3rgaa4flqth5c5y7d2wog 170771 170769 2026-08-20T17:58:54Z AlwynapHuw 1710 170771 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Iesu Grist? "Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ?" "Pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ?" Onid llais y natur ddynol a glywir yn y cwestiynau hyn? Sut bynag, dyna ydyw y ffaith am danom ni i gyd, fod ynom ryw gywreingarwch am wybod y safle sydd genym yn meddyliau ein cyfeillion a'n cymydogion. A chan fod clust dyn mor deneu at hyn, odid fawr na ddaw i wybod ryw dro neu gilydd beth y mae eraill yn ei feddwl o hono; ac os daw i ddeall fod hwn a hwn, neu y rhai'n a'r rhai'n yn synied yn lled uchel am dano, am y rhinwedd hwn neu y rhinwedd arall, er y gŵyr ei gydwybod nad ydyw yn haeddu y ganmoliaeth, eto y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel y cred y ganmoliaeth yn hytrach na thystiolaeth ei gydwybod, os na bydd ganddo wyliadwriaeth mawr ar ei ysbryd. Mae yr un fath yn hyn å dyn yn dechre myned yn hen. Nid ydyw dyn yn hoff o weled arwyddion ei fod yn myned yn hen; ac os cyferfydd hen gyfaill âg ef a'i anerch, "Wel, yr ydych yn edrych mor ieuanc heddyw âg oeddych ugain mlynedd yn ol," er y gŵyr y dyn nas gall y dystiolaeth fod yn wir, eto o herwydd fod y dystiolaeth yn disgyn yn felus ar ei glust, efe<noinclude><references/></noinclude> k5et5okus93t7tkbcehc2umzagjkxc9 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/37 104 88401 170773 2026-08-20T18:01:09Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170773 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'i creda yn erbyn llais ei gydwybod yr hon a ddywed y gwir. Yr un modd y bydd dyn yn gwneyd yn fynych gyda'i rinweddau. Os daw i ddeall ei fod yn dal lle uchel yn meddyliau rhywrai, ac yn cael edrych arno fel y pregethwr mwyaf yn y sir, neu y blaenor mwyaf deheuig yn y Cyfarfod Misol, neu y dechreuwr cânu goreu am filldiroedd o gwmpas, &c., er y gŵyr y dyn nad ydyw yn haeddu y ganmoliaeth, er hyny efe a gred y ganmoliaeth yn ddystaw bach yn ei galon, ac a ymlonydda ac a ymorphwysa arni, os na bydd ganddo wyliadwriaeth ddyfal ar ei galon. Mae yn well gan ddyn gael syniad ei gyfaill am dano na syniad ei elyn; a diau mai y cyfaill sydd fwyaf abl i ffurfio syniad cywir; ond fe all dyn ddysgu llawer oddiwrth syniad ei elyn am dano. Yr ydym yn dueddol i anghofio fod cariad yn ddall, ac y gall fod beiau pwysig yn perthyn i'n cymeriadau, ag y mae llygaid y cyfaill yn rhy wan i edrych arnynt, neu ei deimlad yn rhy lednais i'w nodi wrthym; ond am y beïau y bydd y gelyn bob amser yn edrych, ac ond odid na ddaw o hyd iddynt yn lled fuan. Gwell o lawer ydyw i ddyn wrandaw a chymeryd addysg oddiwrth yr hyn a ddywed ei elyn am dano na cholli ei dymher a thaflu ei gylchau o'r herwydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f02rvo4ep9txgpl4pjdggg8v0pgkino Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/38 104 88402 170774 2026-08-20T18:02:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170774 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y drych goreu i ddyn adnabod ei hun ydyw Gair Duw. Yma y gwel bortrëad cywir a chyflawn o hono ei hun, ond iddo ddal ei hunan yn onest yn ei wyneb. Ië, yn onest, meddwn, canys onid ydym yn dueddol i osgoi rhyw ranau o'r Bibl? Onid ydym yn dueddol i droi y dalenau nes dyfod o hyd i'r rhanau cysurus, esmwyth i'w darllen, a chilio oddiwrth y rhanau hyny sydd yn curo yn lled drwm ar yr hyn yr ydym ni yn hoff o hono? Mae lle i ofni mai un rheswm mawr paham y mae llawer o honom yn meddu càn leied o adnabyddiaeth o honom ein hunain ac o Dduw ydyw, nad ydym yn gwneyd chware teg a'r Bibl. Mae darlun perffaith o bob un o honom yn yr Ysgrythyr: ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod; mae hyn i'w gyrhaedd trwy lafur, fel pobpeth arall. Milton, os ydym yn cofio yn dda, sydd yn disgrifio Efa yn dyfod at lan yr afon, gyda min yr hwyr, am y tro cyntaf yn ei bywyd. Pan ddaeth i ymyl yr afon hi a welodd ei chysgod yn y dwfr. Edrychodd arno mewn syndod; ac edrychai y cysgod mewn syndod. Ciliodd yn ol; ciliodd y cysgod yn ol. Daeth ymlaen drachefn; daeth y cysgod ymlaen. Yr oedd yn methu yn glir a deall beth allasai hwnw fod; ni welsai y fath<noinclude><references/></noinclude> aq78rb8wc3chiu709hj8c2w9b2zrt9x Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/39 104 88403 170775 2026-08-20T18:03:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170775 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>beth erioed o'r blaen. A dyna lle y bu yn myned yn ol ac ymlaen am yspaid maith, a'r cysgod yn ei dynwared. Wrth ddal i edrych ar y cysgod yn yr afon, hi a welai rywun arall yn edrych dros ei hysgwydd, ac yr oedd yn sicr ei bod wedi gweled y wyneb hwnw yn flaenorol; ac erbyn iddi droi ei phen, pwy a welai ond Adda yn edrych dros ei hysgwydd! Esboniodd Adda iddi yn union mai darlun perffaith o honi ei hun yr oedd hi yn ei weled yn yr afon. Yr un modd y gellir dyweyd am y Bibl. Wrth edrych i hwn yr ydym yn gweled darlun; ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod fel ein darlun ni ein hunain; ac wrth edrych ac edrych, odid fawr na ddaw Adda yr Ail i edrych dros ein hysgwydd, ac eglura efe i ni mai darlun o honom ein hunain yr ydym yn ei weled, ac efe a'n dwg ni allan o bob dyryswch. Ar hyn o bryd, fel y mae'r gwaethaf, mae y nifer lliosocaf yn ein gwlad yn byw heb fath yn y byd o broffes o grefydd—heb gymeryd arnynt eu bod yn grefyddol. Ac y mae gan bob dosbarth reswm digonol yn eu meddwl eu hunain dros fyw felly. Mae un dosbarth o bobl ddigrefydd yn ymfoddloni yn yr ystyriaeth eu bod yn perthyn i'r dosbarth llïosocaf; fod y rhan fwyaf o'u<noinclude><references/></noinclude> ah21p3f2ukfz9od9y124wkjo7old1qq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/40 104 88404 170776 2026-08-20T18:04:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170776 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymydogion yr un fath a hwy eu hunain. Ar yr olwg gyntaf, mae cryn ddefnydd cysur yn hyn, ac yn amgylchiadau cyffredin bywyd y mae yn ateb dyben da. Os bydd dyn wedi colli ei ffordd ar y mynydd, a'r nos wedi ei ddal, os yn unig y bydd, fe deimla y brofedigaeth yn fawr; ond os bydd amryw eraill gydag ef, nid ydyw yn gofalu cymaint am y canlyniadau, gan y caiff yr un ffawd a'r gweddill. Pe dygwyddai i ddyn wneyd tro lled drwstan mewn cymydogaeth, mae yn gysur i'w feddwl, ac yn help iddo ymgynnal o dan y brofedigaeth, gofio fod yno amryw yn yr un gymydogaeth wedi gwneyd yr un peth. Ond pe efe fuasai yr unig un euog o gyflawni y tro trwstan, buasai y brofedigaeth yn llemach o lawer iddo. Mae'r gynnaliaeth y mae dyn yn ei chael mewn amgylchiadau o'r fath, oddiar yr ystyriaeth fod llawer eraill yn yr un cyflwr ag ef, yn tarddu yn ddiammheu o'r cydymdeimlad dirgeledig sydd rhwng y naill ddyn a'r llall; ac y mae hyn wedi ei roddi i ni gan Ragluniaeth ddoeth er ein cysur tra yn y bywyd presennol. Ond y mae yr hunan-dwyll pechadurus yn defnyddio hyn fel rheswm i ymfoddloni mewn anufudd-dod i'r efengyl. Yn y byd a ddaw, ymhlith yr annuwiolion bydd pob cydymdeimlad<noinclude><references/></noinclude> exe5xbt5s84glrrvt4xyb5ysj7aecmn Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/41 104 88405 170777 2026-08-20T18:04:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170777 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi darfod, a'r hyn oedd yn fforddio cysur yn y byd hwn, sef lliosogrwydd y cymdeithion, yn blaenllymu y dyoddefiadau, ac yn gwneyd yr ing yn fwy annyoddefol. Byddai yn well gan yr annuwiol gael "llechu yn y fagddu fawr” ar ei ben ei hun, mewn rhyw ogof anghysbell, ar derfynau colledigaeth, na bod yn nghanol milfil o'r rhai y bu yn cydbechu â hwynt yn ngwlad yr efengyl. Mae dosbarth arall ag sydd yn ymgysuro yn y meddwl fod yna lawer mewn gwaeth cyflwr na hwy. Maent yn ymwybodol o rywfath o hunan-gyfiawnder. Ni ddarfu iddynt erioed feddwi, nac erioed wneyd yr arferiad o dyngu a rhegu; maent yn talu eu ffordd, ac yn cyflawni llawer o garedigrwydd. Ond y maent yn gwybod am eraill sydd yn euog o bob bai; ac wrth gymharu eu hunain a'r cyfryw, maent yn tybied y safent chance lled dda y dydd mawr a ddaw. Ac y mae rhywbeth yn hyn eto, ar yr olwg gyntaf, ag sydd yn ymddangos yn ddefnydd cysur gwirioneddol. Yn wir, gyda golwg ar bethau y bywyd presennol, y mae dynion cyn hyn wedi gallu anghofio eu trueni eu hunain wrth edrych ar drueni mwy yr oedd eraill yn ei afael. Mae hanes am ryw foneddwr, a fuasai unwaith mewn<noinclude><references/></noinclude> go4ht923egr57ftlv1qebsn7k257db2 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/42 104 88406 170778 2026-08-20T18:05:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170778 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amgylchiadau cyfoethog a chysurus, ond a syrthiasai i'r fath iselder a thlodi, fel nad oedd yn meddu esgidiau i'w rhoi am ei draed. Un bore wrth gychwyn allan o un o'r common lodging- houses yn Llundain, heb foreufwyd na golwg am dano, edrychai ar ei draed noethion, a llifai y dagrau o'i lygaid, wrth gofio yr amser pan oedd yn berchenog carriage and pair, a gweision a morwynion i weini arno. Ond y peth cyntaf & dynodd ei sylw wedi myned i'r heol, ydoedd dyn heb draed; ac fe löewodd ei ysbryd y foment hono. "I beth y cwynaf fi?" meddai; "dyna grëadur truan mewn gwaeth cyflwr na minnau. Mae fy nhraed genyf eto; yr wyf can iached heddyw ag y bum erioed; a pha beth bynag a gollais, mae y dyn yna wedi colli mwy." Anghofiodd ei drueni ei hun wrth edrych ar drueni mwy un arall. Yr un modd y bydd llawer un yn gwneyd gyda'i gyflwr. Mae rhyw fflachiadau o oleuni ysbrydol yn rhedeg trwy galon pob dyn ar adegau; ond yn lle eu croesawu, mae llawer un, er mwyn tawelu ei gydwybod, yn cymharu ei hunan ag eraill a ystyrir mewn gwaeth cyflwr, ac yn dechre cyfrif ei chances gyda'r Goruchaf, heb gofio fod y goreu o honom yn rhwym i ddamnedigaeth, os na chyfarfyddwn<noinclude><references/></noinclude> ocq987i7l9h9bppmgrsofwln4z5ygdt Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/43 104 88407 170779 2026-08-20T18:06:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170779 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â thrugaredd Duw yn ei Fab. Mae twyll y dosbarth hwn yn dyfod i'r golwg cyn iddynt adael y byd. Fel y bydd dyn yn cael ei wasgu yn nês, nês, i'r byd tragywyddol, mae pobl eraill yn syrthio ar dde ac aswy o'i feddwl, ac o'r diwedd nid yw yn gweled neb ond efe ei hun o flaen y Duw anfeidrol sanctaidd. Yr un fath â dyn ar longddrylliad: tra bydd y llong heb ei gwneyd yn ddarnau, mae y boneddwr yn gallu meddwl am gysur y ferch ieuanc yn y fan yma, neu yr hen wr yn y fan draw; ond wedi i'r llestr gael ei gwneyd yn ysgyrion, ac iddo yntau gael ei ollwng i drugaredd y tònau, nid oes neb yr adeg hono yn cael lle yn ei feddwl, na neb yn y fath berygl ag ef ei hun. O flaen gorsedd Duw, os yn annuwiol, efe ei hun o bawb fydd y truenusaf a mwyaf anobeithiol yn ngolwg dyn. Y dosbarth llïosocaf o hunan-dwyllwyr, ymhlith gwrandäwyr yr efengyl, mae yn debyg, ydyw y rhai hyny sydd yn byw bob amser mewn ymrafael â hwy eu hunain. Maent yn gwrandaw bob amser, ac y mae eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu a'r gwirionedd. Maent yn tynu plan o'u bywyd bob wythnos, ac y mae y bwriad o fyw yn grefyddol bob amser yn y cynllun; ond yn y cynllun y mae yn aros—nid ydyw<noinclude><references/></noinclude> azf9mmw2lz5bmhz29p6cuf6wii7knph Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/44 104 88408 170780 2026-08-20T18:12:16Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170780 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byth yn dyfod i weithrediad. Maent yn byw fel pe bae ganddynt lease ar eu bywyd. Edrychant ar amser fel pe byddai i gyd o'u blaenau, pan, fe allai, fod y rhan fwyaf o hono y tu ol i'w cefn. Maent yn gweled ac yn teimlo fod pobpeth yn cyfnewid ac yn myned beibio, ond eu heinioes a'u cyfleusderau hwy eu hunain. Nid annhebyg ydyw i'r plentyn pan yn myned gyda'r train am y tro cyntaf. Mae y plentyn ar lin ei fam yn y train yn meddwl mai y gwartheg a'r tai a'r gwrychod sydd yn symud, ac mai efe ei hun sydd yn llonydd, nes y daw i station ddyeithr, lle y mae yn gweled ei gyfeiliornad. Mae rhyw hudoliaeth gyffelyb ar feddwl dyn. Mae yn gweled amgylchiadau yn newid cymydogaethau yn newid; mae yn gweled ei gyfoedion yn marw; ond nid ydyw byth yn sylweddoli y meddwl ei fod ef hunan yn prysur gyflymu tua therfyn ei einioes. Yn ofer yr ymresymir âg ef am ffolineb o oedi ymofyn am grefydd a heddwch â Duw, o herwydd ansicrwydd awr marwolaeth; oblegid dyna ei reswm ef dros oedi. Gan nad wyr pa bryd y bydd yn rhaid iddo farw, mae yn gwenieithio iddo ei bun y gall fyw yn hen. Mae yn troi rheswm Duw dros iddo beidio oedi yn rheswm dros oedi. Mae<noinclude><references/></noinclude> fzghjvikkaplvp2xv93fs6ylb1vj03y Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/45 104 88409 170781 2026-08-20T18:13:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170781 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>graslonrwydd a pharodrwydd anfeidrol y Brenin mawr i dderbyn y pechadur gwaethaf ar yr unfed awr ar ddeg yn rheswm ganddo dros barhâu mewn gwrthryfel yn ei erbyn hyd y gall. Mae y drychfeddwl yn arswydus, fod yn bosibl, nid yn unig i wrandäwyr yr efengyl, ond hyd yn nod i'r rhai sydd yn dal swyddau uchel ynglŷn â theyrnas Crist, dwyllo eu hunain. Yr oedd y digyffelyb Paul yn dychrynu wrth feddwl am y posiblrwydd iddo ef, wedi iddo bregethu i eraill, fod ei hun yn anghymeradwy. Cyn can mlynedd i heddyw bydd pawb o honom {{center block| <poem> "Yn gwel'd gan bwy mae sylwedd, A phwy sydd heb y gwir." </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 6wuc0dwjj5s7p3jq3zxm0s2bbs79coy Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/46 104 88410 170783 2026-08-20T18:15:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170783 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|III}} {{canoli|CAIN.}} {{canoli|''"Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."''}} {{c|{{bwlch|10em}}—GENESIS iv. 13.}} DRUAN oedd Cain! a raid i ni ei osod yn y "chamber of horrors?" Os rhaid, bydd hyny yn anewyllysgar genym; oblegid y mae yn rhaid i bob un a deimlodd ei enaid yn suddo i lawr i lynclyn anobaith ei arddel fel ei frawd, ar yr hwn y cafodd y diafol fan gwan. Er mai efe ydoedd y cyntaf a anwyd i'r byd, yr oedd "yr iachawdwriaeth fawr yn Nghrist" yn y byd o'i flaen; ond, ysywaeth, yr oedd yr anghenfil anobaith yn y byd hefyd, yn gwylio am gyfleusdra i'w rwymo yn ei gadwyni haiarn! Gadewch i ni edrych ychydig i'w hanes. Mae yr hanes a gawn yn llyfr Genesis am Cain ac Abel yn hynod o fyr; nid oes ond y prif linellau yn eu hanes yn cael eu croniclo. Ac fe fyddai cofio hyn wrth ddarllen llyfr Genesis yn gyffredinol—nad ydyw yr<noinclude><references/></noinclude> 6y4es4xlb0jinwdin8oru9dhfy1eylg 170786 170783 2026-08-20T18:18:20Z AlwynapHuw 1710 170786 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{canoli|III}} {{canoli|CAIN.}} {{canoli|''"Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."''}} {{c|{{bwlch|10em}}—GENESIS iv. 13.}} DRUAN oedd Cain! a raid i ni ei osod yn y "''chamber of horrors?''" Os rhaid, bydd hyny yn anewyllysgar genym; oblegid y mae yn rhaid i bob un a deimlodd ei enaid yn suddo i lawr i lynclyn anobaith ei arddel fel ei frawd, ar yr hwn y cafodd y diafol fan gwan. Er mai efe ydoedd y cyntaf a anwyd i'r byd, yr oedd "yr iachawdwriaeth fawr yn Nghrist" yn y byd o'i flaen; ond, ysywaeth, yr oedd yr anghenfil anobaith yn y byd hefyd, yn gwylio am gyfleusdra i'w rwymo yn ei gadwyni haiarn! Gadewch i ni edrych ychydig i'w hanes. Mae yr hanes a gawn yn llyfr Genesis am Cain ac Abel yn hynod o fyr; nid oes ond y prif linellau yn eu hanes yn cael eu croniclo. Ac fe fyddai cofio hyn wrth ddarllen llyfr Genesis yn gyffredinol—nad ydyw yr<noinclude><references/></noinclude> da0o5fl6skqnsgii2eav07um9qy0g10 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/47 104 88411 170784 2026-08-20T18:16:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170784 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ysgrifenydd yn cymeryd arno roddi hanes manwl a difwlch—yn fantais fawr i'w ddeall, ac i esbonio yr anhawsderau a gyfarfyddir yn y llyfr. Yn fynych, fe fydd yr ysgrifenydd yn neidio dros ugeiniau o flynyddoedd rhwng dwy adnod; a phe cedwid y ffaith hon mewn golwg, symudid yr anghysonderau ymddangosiadol a geir yn hanes Cain, megys ei waith yn myned i dir Nod i geisio gwraig, &c. Dywed dysgedigion wrthym mai ystyr yr enw Cain ydyw eiddo neu gynnysgaeth; ac mai ystyr yr enw Abel ydyw ''gwagedd neu ddiddymdra''. Mae gwahanol ystyr y ddau enw yn adrodd wrthym, yn ddiammheu, hanes profiad ein rhieni cyntaf. Yn oesoedd boreuaf y byd, fe roddid enwau ar blant mewn ffordd wahanol i'r hyn a wneir yn ein dyddiau ni. Yn awr, fe elwir y bachgen yn Ioan neu Samuel, am mai dyna oedd enw ei daid, neu o herwydd mai dyna yw enw ei ewythr, yr hwn sydd yn meddu ychydig o dda y byd hwn. Ond yn oesoedd cyntaf y byd, rhoddid enw ar y plentyn ag a fyddai yn dynodi ei gymeriad, neu ynte yr amgylchiadau o dan ba rai y byddai wedi ei eni. Pan anwyd Cain, meddyliodd Adda ac Efa, yn ddïau, eu bod wedi cael cyflawniad o'r addewid am Had y wraig;<noinclude><references/></noinclude> j8y5w5nehcig43hcvfuyqb7yznwwtx8 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/48 104 88412 170785 2026-08-20T18:17:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170785 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond buan y gwelsant eu cyfeiliornad. Pan anwyd yr ail fab, ni edrychent ar hwnw fel cynnysgaeth, ond gwagedd! diddymdra! Pa siomiant, pa dristwch, pa ing a deimlasant rhwng y ddau enedigaeth sydd ddirgelwch i ni; ond y mae yr enwau a roisant ar eu bechgyn yn agor cil drws ystafell eu profiad, i ni allu gweled ychydig o'i chwerwder. Y peth nesaf yn hanes y ddau frawd ydyw yr orchwyliaeth a ddewisasant. Ymgymerodd Cain â llafurio y ddaear, ac Abel â bugeilio defaid. Yna fe'n hysbysir am eu crefydd, sef bod y ddau yn addoli Duw trwy offrymu. Mae lle i feddwl iddynt hwy, neu eu tad Adda, gael dadguddiad am y dull a'r modd yr oeddynt i addoli, ac hefyd gyfarwyddyd am ryw amser penodol i gyflwyno eu haddoliad; oblegid y mae esbonwyr dysgedig yn dyweyd am y geiriau, "Wedi talm o ddyddiau," yr adeg yr oedd Cain ac Abel yn cydaddoli, y dylid eu cyfieithu yn "ddiwedd y dyddiau," neu "y dydd olaf," sef, fel y tybir, y Sabboth; fel hyn y mae pob lle i feddwl fod Cain ac Abel yn gosod rhyw arbenigrwydd ar y seithfed dydd i addoli arno, rhagor rhyw ddiwrnod arall. Cain a ddygodd o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd, ac Abel o<noinclude><references/></noinclude> n6ekyla1igd6ywnt8hvq5q61o6tnp1h Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/49 104 88413 170787 2026-08-20T18:19:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170787 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>flaenffrwyth ei ddefaid ac o'u brasder hwynt. Trwy ryw arwydd amlwg, fe ddarfu i'r Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i offrwm Abel, a'i anghymeradwyaeth i offrwm Cain. Paham y darfu i'r Jebofah ymddwyn felly, ni's gwnawn ymofyn yn y fan yma. Cain, wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd ei frawd, a lanwyd o ddigofaint; ac fe fethodd a pheidio ei ddangos. Fe "syrthiodd ei wynebpryd," medd yr hanes; fe wisgodd ei wyneb drem ddigofus, fe laesodd ei aeliau. Darfu i'r Arglwydd ei geryddu am hyn. "Paham y llidiaist ?" meddai Duw, phaham y syrthiodd dy wynebpryd? Os da y gwnai, oni chai oruchafiaeth?" Ond fe fu y cerydd yn aflwyddiannus; a diwedd yr hanes ydyw ddarfod i Cain ladd ei frawd! Yn awr, a ddarfu i ni erioed feddwl mai nid ar unwaith y gallodd Cain gyrhaedd y tir yma mewn drygioni a chreulondeb? Nid mewn diwrnod y gallodd ddyfod i'r ystad o feddwl i'w alluogi i fod yn llofrudd, ac yn enwedig yn llofrudd ei frawd. Mae yn rhaid i ni gofio na chafodd efe lawer o gymhellion i hyn, ac na chafodd ei lygru gan lawer o esiamplau drwg, na'i hudo gan lawer o gymdeithion drwg; ond rhywbeth oedd hyn yr oedd ef ei hun wedi ei<noinclude><references/></noinclude> s0ygr1ug4qopbp19uy8fp3f9yb0ebmz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/50 104 88414 170788 2026-08-20T18:19:46Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170788 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fagu yn ei fynwes am lawer o amser, ac, o bosibl, am lawer o flynyddoedd. Mae yn ddiammheu fod Cain yn wrthddrych sylw neillduol y diafol, yr hen sarpb oedd wedi twyllo ei rieni. Nid rhyw lawer o amser oedd er pan yr oedd yr Arglwydd wedi dyweyd wrth y diafol, "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef." Mae yn sicr i'r geiriau hynod hyn suddo yn ddwfn i feddwl y diafol, yn gystal ag Efa; ac os darfu i Efa dybied, pan anwyd Cain, fel y mae yn ddilys iddi wneyd, ei bod wedi cael cyflawniad o'r addewid hon am Had y wraig i ysigo pen y sarph, mae yr un mor resymol i ni feddwl fod diafol wedi tybied yr un peth. Pan anwyd Cain, yr oedd yn naturiol i'r gelyn uffernol ymson, "Wel, dyma yr Had'y darfu i'r Arglwydd Dduw fygwth oedd i ysigo fy mhen i wedi dyfod! A hwn y bydd yn rhaid i mi ymladd bellach; hwn fydd fy ngelyn mawr! Ni thynaf fy sylw oddiarno na dydd na nos; mi a'i gwyliaf bob moment. Ah! beth os gallaf ei wneyd yn Cain—yn gynnysgaeth i mi, ac nid i Efa? Mi a blanaf fy egwyddorion fy hunan yn ei gyfansoddiad; mi a'i hudaf ef fel yr hudais ei fam<noinclude><references/></noinclude> eif2bre1ptbsy50lx5mrimkmtzp5jhx Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/51 104 88415 170789 2026-08-20T18:20:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170789 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'i dad; mi a anadlaf yn ei ffroenau anadl uffern nes yr â yn ddiafol byw!" Mae cryn dywyllwch yn nghylch y moddion a ddefnyddir gan y diafol i ddylanwadu ar ddynion; ond nid oes dim yn fwy eglur yn holl ddysgeidiaeth y Bibl na'r ffaith ei fod yn gallu dylanwadu yn effeithiol iawn. A phrin y gallwn feddwl am neb tebycach iddo arfer ei holl ddylanwad a'i ystrywiau arno na Chain. Yr oedd ei gais i gwympo ei dad a'i fam newydd gael ei goroni â llwyddiant mawr; yr oedd yr hyn yr oedd Duw wedi ei fynegu iddo am "Had y wraig" yn fresh yn ei feddwl; &c y mae yn eithaf rhesymol i ni dybied ei fod wedi dechre arfer ei ddichellion a'i ddylanwad ar Cain hyd yn nod pan yr oedd yn blentyn ar lin ei fam. Cawsai Efa brofiad chwerw o gydymffurfio a themtasiynau y sarph. Yn lle y dedwyddwch pur a digwmwl a fwynhäai hi o'r blaen, ymddaenodd nos fel y fagddu dros ei meddwl. Ond yr oedd yna un seren yn dysgleirio yn nghanol y fagddu i gyd; yr addewid am Had y wraig. A phan anwyd Cain, dacw ei hwyneb yn dechre sirioli, a glöewder gobaith yn chware yn ei llygaid ! "Eiddo !" "cynnysgaeth!" ebe hi; "dyma fi wedi cael cyflawniad o'r addewid!<noinclude><references/></noinclude> f336jjha99gjvpqhobfbu6kxltj7flv Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/52 104 88416 170790 2026-08-20T18:20:55Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170790 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Dyma yr 'Had' sydd i ysigo pen y sarph wedi ei gael!" Ond, fel yr awgrymwyd o'r blaen, hi a siaradodd yn rhy fuan. Cyn i Cain ddysgu cerdded, hi a welodd olion dylanwad yr hen sarph arno ef. A phan anwyd yr ail fab, rhoes ein rhieni cyntaf enw arno ag oedd yn mynegu y fath ddirfawr siomedigaeth oeddynt wedi ei gael yn eu mab cyntaf. Galwasant ei enw ef Abel—gwagedd i Gallasent, gyda mwy o briodoldeb, alw Abel yn Cain, a Chain yn Abel; ond fel y sylwodd rhywun, darfu i'r Ail Adda wella ychydig ar y camgymeriad yma o'r eiddynt; rhoddodd Iesu Grist ddarn newydd at enw Abel, ac fe'i galwodd yn "Abel gyfiawn." Yr oedd yr egwyddorion drwg yma yr oedd y diafol wedi eu rhoi yn natur Cain—yr hon oedd yn llygredig eisoes, yn cynnyddu fel yr oedd yntau yn cynnyddu; ac aethant yn gryfach fel yr oedd yntau yn myned yn gryfach, nes iddynt, o'r diwedd, ffurfio gwrthdarawiad rhyngddo a'i frawd Abel. Prin y buasem yn dysgwyl i ddosbarthiad gwaith gymeryd lle mor gynnar yn hanes dynoliaeth, yn enwedig rhwng dau frawd—prin y buasem yn dysgwyl i un brawd ymroddi yn hollol i un gwaith, a'r llall ymroddi yn hollol i waith arall, ond ar yr ystyriaeth nad<noinclude><references/></noinclude> 07cz5ky6dkhjo4sczdmq4qtrdmf0amr Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/53 104 88417 170791 2026-08-20T18:22:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170791 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd yna ddim cymdeithas ysbryd rhwng y ddau. "Dos di un ffordd, af finnau ffordd arall," meddai Cain. Ac y mae hyd yn nod yr orchwyliaeth a ddewisodd y ddau yn rhoi mantais ragorol i ni weled y gwahaniaeth oedd yn nghymeriad y ddau. "Pob gyffelyb ymgais." Mae yn gofyn dyn a chalon fawr ganddo i wneyd bugail da; calon yn llawn tynerwch; dyn a fedr ganu ar y dyffrynoedd, ac ymddifyru wrth weled yr wyn yn prancio ar y bryniau; un y bydd brefiadau y defaid yn disgyn fel cerddoriaeth ar ei glust; un â'i galon yn gwaedu o gydymdeimlad pan wêl yr oen bach mewn caledi, ac na phetrusa ei gofleidio yn ei fynwes yr un fath a mam gyda'i maban; un a fedr edrych yn myw llygad y ddafad ddireswm, a darllen ei dymuniad! Pa un ai Cain ai Abel ydyw y dyn at y gwaith yna? "Abel oedd fugail defaid." Ond y mae yn bosibl i ddyn a chalon galed, front, grebychlyd, wneyd ffarmwr da. Nid ydym yn awgrymu fod amaethwyr fel dosbarth yn llai tyner a hynaws na rhyw ddosbarth arall o ddynion, ond nad ydyw tynerwch calon yn anhebgorol at y gwaith. Y ddaear. oer, galed, garegog! nid oes eisieu llawer o dynerwch calon i aredig ei hwyneb hi!<noinclude><references/></noinclude> m6myi1mzmmyn6dmbymwbp47wt4pwz4r Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/54 104 88418 170792 2026-08-20T18:23:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170792 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gwelsom ambell un cyn hyn, nad oedd nemawr uwch na'r anifail, yn cymeryd y ''prize'' am y ffarm. orau. "Cain oedd yn llafurio y ddaear." Ond y mae rhyw dir cyffredin ac y mae gwahanol gymeriadau yn cydgyfarfod arno. Ar rai achlysuron bydd y tylawd a'r cyfoethog, yr haelionus a'r cybyddlyd, y pur a'r halogedig, y Phariseaid a'r publican, yn cydgyfarfod. Ac felly yma. Mae Cain ac Abel yn cydgyfarfod i addoli. Nid oedd Cain yn anffyddiwr, er cynddrwg oedd. Yr oedd ôl bysedd y Creawdwr yn rhy newydd ac iraidd ar natur o'i gwmpas iddo ef allu bod yn anffyddiwr. Nid oedd gan Cain ond rhyw un cam i'w roddi yn ol—ac yna Duw oedd y cwbl—tu hwnt i'w dad, nid oedd yno ddim i'w weled ond y Duw tragywyddol yn llenwi dystawrwydd anfeidroldeb! Na, yr oedd yn rhy gynnar o lawer i'r diafol allu gwneyd neb yn atheist nac yn anffyddiwr. Ac yn wir, nid yw y diafol yn gofalu cymaint am i neb fod yn anffyddiwr, os gall ei wneyd yn dwyll-grefyddwr. A ddarfu i ni sylwi mai trwy offerynoliaeth crefyddwyr digrefydd—Os oes ystyr i'r fath ymadrodd y mae y diafol wedi dwyn oddiamgylch ei weithredoedd mwyaf anfad? Pan<noinclude><references/></noinclude> plq3p38ypl7kd8qt0bd1pfrw426eihc Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/55 104 88419 170793 2026-08-20T18:25:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170793 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd "yn y ''seiat''"—un oedd yn bregethwr. Ac mae yma wers i ni i fod ar ein gwyliadwriaeth, rhag ein bod yn dwyn cysylltiad a chrefydd yn allanol, ac eto bod yn offerynau yn llaw y diafol i wneyd mwy o niwed i grefydd nag y gallasem pe na buasem yn dwyn cysylltiad â chrefydd o gwbl. Trwy bwy y mae y diafol yn hyrwyddo mwyaf ar ei deyrnas yn ein dyddiau ni? Ai trwy y meddwyn cyhoeddus? Ai trwy yr anffyddiwr proffesedig? O nage, ond trwy y dyn yna sydd yn cymeryd rhan amlwg yn ngwasanaeth crefydd ar y Sabboth, yn athraw hwyrach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn twyllo ei gymydog tu ol i'r ''counter'' ddydd Llun y bore, neu yn y dafarn, yn nghanol y meddwon a gwatworwyr, nos Lun. Dyna ddyn wrth fodd calon y diafol. Mae y dyn yna yn cario dagr o dan ei fantell, ac yn trywanu crefydd yn ei chalon ger gwydd y byd! Yr oedd Cain yn addolwr. Wrth yr allor y mae efe ac Abel yn cydgyfarfod i gyflwyno eu gwasanaeth i Dduw; canlyniad yr hyn a fu i'r<noinclude><references/></noinclude> 3s9qx4tf0zndp7x51f0huntt1780709 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/62 104 88420 170794 2026-08-20T18:26:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170794 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel saeth i fewn trwy un ffenestr, a thrwy y llall allan; ac yna yn gwneyd tro hirgrwn, ac yn gwneyd yr un peth drachefn, nes boddloni ei hunan nad oedd yn yr hen dŷ neu yr hen ysgubor wag ddim i'w niweidio; ac yna y mae yn eistedd ar y trawst, ac yn canu yno, ac o'r diwedd yn gwneyd ei nyth yno, ac yn cenedlu ei ryw? Dyna ddarlun i ni o galon dyn a phechod. I'r galon, fel y nodasom, y mae pechod yn dyfod gyntaf, mewn meddwl drwg. Gwyliwn roddi croesaw iddo. Oblegid os caiff pechod wneyd ei nyth yn nghalon dyn, y mae yn sicr o fagu ei ryw, a thori allan mewn gweithredoedd drwg, ac yn y diwedd adael dyn mewn anobaith—ei adael yn wibiad! "Gwibiad a chrwydriad fyddi." Yr un fath â'r seren wib, wedi tori dros derfyngylch yr haul, yn ffoi o hyd, heb wybod i ba le y mae yn ffoi, ac eto yn methu peidio ffoi; wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei gyru ymhellach oddiwrth yr haul. Dyna ddarlun o ddyn wedi i bechod wneyd ei waith arno. Gwibiad ydyw yn llywodraeth Duw; creadur wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei yru yn ddyfnach i drueni, ac ymhellach oddiwrth Awdwr ei fodolaeth a chanolbwynt ei ddedwyddwch.<noinclude><references/></noinclude> 94ohybogs90abv9gscauvcbx0f6nkbh Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/61 104 88421 170795 2026-08-20T18:27:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170795 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gweithredu wrth yr un reol tuag at bawb o honom. Pe gallai dyn deimlo, hyd yn nod yn ngholledigaeth, mai nid arno ef yr oedd y bai ei fod yno—ei fod wedi gwneyd ei oreu yn llwybr Duw a'r efengyl i beidio myned i ddystryw, ac eto ei fod wedi methu—pe gallai dyn deimlo felly, meddem, byddai y dyn hwnw wedi lleddfu y naill hanner o'i boenedigaeth. Ond nid felly y bydd; yn hytrach fe fydd yna argyhoeddiad dwfn a thragywyddol yn enaid y dyn colledig mai arno ef ei hun yr oedd y bai, ei fod wedi cael pob cyfleusdra i fod yn gadwedig, fod yr un croesaw yn ei aros ef ag oedd yn aros eraill a wnaethant ddefnydd o hono; a dyma fydd yn ysu ei enaid byth, fod y cyfrifoldeb o fod yn golledig yn gorwedd yn gwbl wrth ei ddrws ef ei hunan. Nid allwn lai na gweled hefyd yn yr hanes ''yr hyn y mae pechod yn dwyn dyn iddo wedi iddo wneyd ei waith arno.'' I'r galon y mae pechod yn dyfod gyntaf mewn meddwl drwg. A ddarfu i ni sylwi, wrth rodio yn y wlad, ar yr hen dŷ gwag, a'r ffenestri wedi tori; neu yr hen ysgubor wag, heb neb yn ei mynychu; ac a ddarfu i ni sylwi ar y wenol ddyeithr yn dyfod yn ei thymmor, ac yn myaed ar ei ehediad<noinclude><references/></noinclude> 9h6w5wyjss9y53zurcgnl1dv6y1zcz4 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/60 104 88422 170796 2026-08-20T18:28:17Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170796 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mae y gweddill o hanes Cain yn cael ei adrodd mewn ychydig eiriau; ond nid oes genym fwriad i'w ddilyn gyda dim manyldeb ymhellach. Nid ydyw yr hanes heb ei wersi. Y fath amlygiad sydd yma o ''anmhleidgarwch yr Arglwydd''. Mae yn wir ei fod wedi dangos ei foddlonrwydd i Abel, a'i anfoddlonrwydd i Cain. Ond paham y darfu iddo wneyd hyn? A ddangosodd yr Arglwydd ryw ffafr dueddgar i Abel? Mae yr hanes yn dywedyd yn wahanol. "Os da y gwnai," meddai Duw wrth Cain, "oni chai oruchafiaeth? Ac oni wnai yn dda, pechod a orwedd wrth y drws." Ymddyga di, fel pe dywedasai Duw, yr un fath ag Abel dy frawd, ac fe fydd yr un gymeradwyaeth yn dy aros di ag a dderbyniodd yntau. Ac nid yn unig hyny, ond y mae yn ymddangos mai Cain a gawsai y gymeradwyaeth gyntaf, pe buasai wedi dyfod ymlaen yn yr ysbryd priodol a chyda'r offrwm priodol. "Atat ti y mae ei ddymuniad ef hefyd, a thi a lywodraethi arno ef." Tydi ydyw y mab hynaf, ebe Duw, a chenyt ti y mae yr hawl gyntaf i'r fendith a'r gymeradwyaeth. Nid oedd gan Cain yr un gair i'w yngan yn erbyn cyfiawnder y ddedfryd a gyhoeddwyd arno. Fe fydd Duw yn<noinclude><references/></noinclude> lqnuufn8g9mtoju2jq9vovg6553uify Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/59 104 88423 170797 2026-08-20T18:29:06Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170797 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Nis gwn i;" a thrahausder yn dilyn hyny, "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" Ond dyna y gair nesaf yn ei daraw yn fud. "Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear," meddai Duw. "Yr awr hon melldigedig wyt o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Mae gwahanol farnau mewn perthynas i wir ystyr geiriau Cain mewn atebiad i'r ddedfryd hon o eiddo Duw arno. Rhy brin y gellir edrych arnynt fel iaith gwir edifeirwch. Edrycha rhai arnynt fel dadganiad o ysbryd grwgnachlyd; eraill a edrychant arnynt fel mynegiad o anobaith dwfn; ac yn unol â'r golygiad hwn a gyfieithant y geiriau "Mwy yw fy nghosbedigaeth nag y gallaf ei oddef," ac fel yna y mae y geiriau yn y Bibl Saesoneg. Ond hwyrach fod yr ymadrodd yn cynnwys y ddau feddwl, oblegid y mae ysbryd grwgnachlyd ac ysbryd anobethiol yn canlyn eu gilydd yn led gyffredin. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i0gio1spahqqb1zo85kteu3n1lfj7wh Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/58 104 88424 170798 2026-08-20T18:31:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170798 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwanhau; ond drachefn y mae yn adfeddiannu ei nerth, yn edrych yn wyllt o'i gwmpas rhag ofn bod rhywun yn gwylio. Ond anghofiodd, druan, edrych i fyny. Ac yno y mae yn rhuthro ar ei frawd, ac yn ei glwyfo yn farwol! Mae yr olygfa yn ''tragical'' i'r eithaf! Prin y gallwn ddychymygu beth oedd teimladau Abel pan yn marw dan law ei frawd, a llawer llai teimladau Cain pan y darfu iddo sylweddoli ei fod yn llofrudd, ac yn llofrudd ei frawd! Mae ei gydwybod yn deffro fel arthes wedi colli ei chenawon; o'r braidd mae yn gallu credu ei fod wedi medru cyflawni y fath weithred ysgeler. Mae yn edrych ar ei ddwylaw mewn ammheuaeth; ond y mae y rhai hyny yn goch gan waed; mae ei dalcen yn wlyb gan chwys oer; mae yn gweled y lle yn dechre troi o'i gwmpas, ac y mae yn cychwyn ffoi. Ond y mae meddwl arall yn ei daraw: mae yn rhoi un edrychiad gwyllt o'i gwmpas, ac yna y mae yn prysuro i gladdu ei frawd yn y ddaear. Mae yn edrych o'i amgylch unwaith eto, ac yna yn dianc. Ond cyn iddo fyned ymhell, dyna lef fel taran yn ei attal: "Cain, mae Abel dy frawd?" Ac fel pob drwgweithredwr ar ei ol, wrth gael ei ddal, dyna y celwydd yn dyfod allan y gair cyntaf,<noinclude><references/></noinclude> 1jpr2bn6an2vgw8u40apm2s41p5p7qo Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/57 104 88425 170799 2026-08-20T18:32:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170799 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfleusdra yma wedi dyfod mor fuan ag y buasai yn ei ddymuno, ac o ganlyniad efe a benderfynodd wneuthur cyfleusdra i'r pwrpas hwnw. Fe ddywedir fod yn nghyfieithiad y Deg a Thriugain dri gair bach yn Gen. iv. 8, nad ydynt i'w cael yn ein cyfieithiad ni. Mae yr adnod yn Gymraeg yn darllen fel hyn:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes," &c. Gwelwn nad ydyw yr adnod yn Gymraeg yn dyweyd wrthym beth a ddywedodd Cain. Ond fel hyn y darllena yr adnod yn y Deg a Thriugain:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, ''Awn i'r maes''; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef." Os oes awdurdod i'r cyfieithiad yna, y mae yn rhoi ar ddeall i ni mai nid rhyw feddwl sydyn yn Cain oedd lladd ei frawd, ond hen fwriad wedi tyfu ac addfedu yn ei galon ddrygionus, ac mai ei amcan wrth wahodd ei frawd i'r maes i roi tro oedd, cario allan y bwriad hwnw. Edrychwch ar y ddau yn myned i'r maes: un yn nghanol ei ddiniweidrwydd, y llall yn gwisgo gwên dwyllodrus i gadw drwgdybiaeth draw. Mae yn awr yn colli ei ddewrder dan rym cyhuddiadau cydwybod; mae ei ''nerves'' yn<noinclude><references/></noinclude> am3ve9eqrtg6asgkct5ay91vlioekf8 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/56 104 88426 170800 2026-08-20T18:33:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170800 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i Abel, a'i Anghymeradwyaeth i Cain. Wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd Abel dyma yr archelyn, cenfigen, yn cymeryd meddiant o orsedd calon Cain. Nid am fod Cain yn maelio cymaint yn y gymeradwyaeth ei hun; oblegid buasai yn hawdd iddo ei chael, pe buasai yn ei cheisio yn briodol; ond y ffaith fod ei frawd wedi cael yr oruchafiaeth arno a'i brathodd yn ei galon. O genfigen, pwy a draetha dy oes di? O na buasit farw gyda Chain! Fe ddarfu i'r genfigen yna estyn ei gwraidd trwy ei gyfansoddiad, nes o'r diwedd ffurfio yn ddrychfeddwl—yn idea, ïe, y drychfeddwl arswydus i ladd ei frawd; arswydus iddo ef ei hun ar y cyntaf, ni a gredwn, a'r hwn a ymlidiai efe o'i feddwl gyda dirmyg. Ond fe ddeuai y drychleddwl i'w galon drachefn a thrachefn, nes o'r diwedd fyned yn llettywr cyson yn ei fynwes—yn ei ddilyn pan fyddai gyda'i orchwyliaeth yn y maes, yn ei gadw yn effro am oriau yn y nos, yn ei gynhyrfu yn ei freuddwydion, ac yn gydymaith gwastadol iddo pan ddeffröai yn y bore, fel ellyll du, hagr, ac aflan, nes o'r diwedd ffurfio yn benderfyniad cadarn i ladd ei frawd y cyfleusdra cyntaf a gaffai! Nid ydyw yn ymddangos fod y<noinclude><references/></noinclude> sj0riqhoskdn8zf26k2c07vrn8308gm Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/63 104 88427 170802 2026-08-20T18:40:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170802 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Crwydriad! ''vagabond'' ydyw y gair Seisonig; crëadur heb yr un cartref; un sydd yn ddyeithr i bawb, a phawb yn ddyeithr iddo yntau; yn ceisio gorphwysdra, ac yn methu ei gael; un yn ei wthio y fan yma, y llall yn ei wthio fan draw; yn symud, symud yn barhâus, heb unlle y gall ei alw yn eiddo iddo ef ei hun. O y fath ddesgrifiad o ddyn wedi i bechod wneyd ei waith arno! Creadur wedi colli ei gartref ac wedi myned yn grwydriad yn llywodraeth y Brenin mawr; yn dlawd yn ngwir ystyr y gair, heb ddim i ymborthi arno ond gŵg y Goruchaf, a thrueni ei gyflwr ei hun-un wedi ei amgylchu â dyeithrwch, ac yn cael ei orfodi i grwydro yn ddibaid gan gnofeydd cydwybod ar dân. O ein Duw trugarog, cadw ni rhag y fath anffawd ofnadwy! Ond yn nghanol yr hanes pruddaidd hwn-a hanes pruddaidd ydyw mewn gwirionedd-у тае ''trugaredd anfeidrol Duw'' yn dyfod i'r golwg. A ddarfu i ni ei gweled? Y mae i'w gweled yn amlwg iawn yn yr hanes. Dyna y llofrudd yn crynu yn ei euogrwydd; dyna Gyfiawnder Dwyfol â'i saeth ar ei fwa cadarn, ar roddi yr ergyd farwol iddo: "Melldigedig wyt ti." Ond cyn i'r saeth adael y bwa, dyna drugaredd yn<noinclude><references/></noinclude> bgwp7dqy0oq37hza68p70l50so11pv7 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/64 104 88428 170803 2026-08-20T18:42:11Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170803 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>taro ei blaen i'r ddaear. "Melldigedig wyt ti o'r ddaear; pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti." Yr oedd yn well gan Dduw, yn y diwedd, daro y ddaear â melldith na tharo Cain. Byddwn yn gweled y tad naturiol yn gwneyd rhywbeth tebyg i hyn, pan y bydd ei blentyn wedi ei ddigio. Bydd yn curo ei ddwrn ar y bwrdd, ac yn taro ei droed yn y llawr rhag taro y plentyn. Mae yn well gan Dduw daro pawb a phobpeth na tharo pechadur; taro yr amgylchiadau, taro yr iechyd, yn hytrach na'i daro ef. Do! fe ddarfu i Dduw ddefro ei gleddyf, yr hwn yr oedd ef ei hun wedi ei süo i gysgu, rhag iddo daro pechaduri daro y Gŵr oedd gyfaill iddo, er mwyn arbed y ddyrnod i ni! "Mwy yw fy nghosbedigaeth nag y gallaf ei oddef," meddai Cain; "byddaf yn suddo byth o dani; a phwy bynag a'm caffo a'm lladd." Fel y bydd dyn euog, yr oedd wedi myned i ofni pawb a phobpeth. Dywedir y gellir cyfieithu y geiriau yn "beth bynag a'm caffo." Yr oedd Cain yn credu fod holl grëadigaeth Duw mewn cynghrair i gymeryd ei fywyd oddiarno. "Na," meddai Duw, "mi yswiriaf fi dy fywyd eto." "A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hyny y dïelir yn saith ddyblyg ar<noinclude><references/></noinclude> 6xuvp7dmwqyzdp1lyhykymqbdlmotl9 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/65 104 88429 170804 2026-08-20T18:43:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170804 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bwy bynag a laddo Cain. A'r Arglwydd a osododd nôd ar Cain rhag i neb a'i caffai ei ladd ef." Ofer a fyddai i ni geisio dyfalu pa beth oedd y nôd hwn; ond yr oedd yn rhywbeth ag oedd yn amddiffyniad i Cain; yn rhywbeth ag oedd yn ei gadw rhag pob niwed oddiallan. 'Dyna i ti ''chance'' am dy fywyd eto,' fel pe dywedasai Duw. 'Ac yn dy grwydriadau hyd y byd, os bydd i ti gael nad yw y ddaear yn rhoddi ei ffrwyth i ti, ac i ti gofio beth yw yr achos o hyny, a theimlo edifeirwch yn dy galon, a throi o honot ataf fi, oni chei oruchafiaeth eto?" Yr oedd trugaredd Duw yn dyweyd peth fel yna wrtho yn ei hymddygiad tuag ato. Yr oedd y ffaith fod Duw yn ei arbed, ac yn taro y ddaear yn lle ei daro ef, yn dyweyd mewn modd cryfach nag y gallasai mewn geiriau, ei fod eto yn barod i'w achub hyd yr eithaf. Gwibiad a chrwydriad oedd y felldith a gyhoeddwyd arno; ond yr hanes cyntaf a gawn am dano ar ol hyn ydyw, ei fod yn adeiladu dinas. Nid oes genym syniad beth a gymerodd le rhyngddo ef a Duw yn y cyfnod rhwng cyhoeddiad y ddedfryd a'i waith yn adeiladu dinas. Y tebygolrwydd ydyw na chariwyd allan ond y rhan flaenaf o'r felldith. Diammheu iddo ganfod yn fuan nad oedd ffarmio<noinclude><references/></noinclude> nm9df18q6hd120vkof1j5z70d0pcy1n Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/66 104 88430 170805 2026-08-20T18:44:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170805 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn talu, ac iddo droi yn adeiladwr. Ond am y "gwibiad a'r crwydriad," nid ydym yn clywed son mwy. A ydyw y drws yn ddigon llydan? Llofrudd! y mae gwaed dyn yn sefyll yn ei wythienau wrth feddwl am y fath ysgelerddyn. Ac nid llofrudd cyffredin oedd Cain. Heblaw mai efe oedd y llofrudd cyntaf, nid dyn cyffredin yr oedd efe wedi ei lofruddio. O ran dim yr ydym yn ddarllen i'r gwrthwyneb, ymddengys mai Abel ydoedd unig gynnrychiolwr Duw ar y ddaear ar y pryd hwnw; oblegid ar ol ei farwolaeth ef, nid oes son am addoli Duw am ugeiniau o flynyddoedd hyd adeg Enos. "Yna," medd y gair, "y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd;" fel y mae yn bosibl fod Cain, wrth lofruddio Abel, wedi ysgubo ymaith holl eglwys Dduw oddiar wyneb y ddaear. Ac eto yr oedd trugaredd Duw yn barod i ymgeleddu y fath un ag ef; ond ni wnai hyn ei gadw, heb iddo ef, yn edifeiriol a chrediniol, ymdaflu ar y drugaredd hono. Peidio gwneuthur hyny oedd gwrthod ei drugaredd ei hun. Ni raid i neb o honom ninau anobeithio; eithr gwyliwn ryfygu. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bcnwxhh99avouwcx7lsoku0jn07f2ls Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/67 104 88431 170806 2026-08-20T21:29:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170806 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|IV.<br>{{mawr|AGAR.}}}} {{c|"Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi." —GENESIS xvi. 13.}} GEIRIAU Agar, morwyn Abraham, ydyw y geiriau hyn, a lefarodd hi pan gyfarfyddodd Angel yr Arglwydd â hi wrth y ffynnon yn ffordd Sur. Er nad ydyw y lle a roddir i Agar yn y Bibl ond bychan, mae yn ddiammheu na chawsai hi y lle bychan hwnw oni buasai am ei chysylltiad â theulu Abraham. Mae hyny o hynodrwydd a berthyn iddi wedi ei ennill yn hollol trwy y cysylltiad hwn. Ac nid Agar ydyw yr unig un sydd wedi ennill enwogrwydd yn nghysgod un arall. Mae yr ychydig hanes sydd genym am dani yn hynod o effeithiol ac awgrymiadol; ond nid ydyw ei hanes, dybygid, yn taflu nemawr o anrhydedd ar enw y patriarch enwog. Mae lle i feddwl y buasai cymeriad Abraham yn ddysgleiriach, ac yn perarogli<noinclude><references/></noinclude> irulu4wnsrb45z6t6ike25f1udmf7g2 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/68 104 88432 170807 2026-08-20T21:30:03Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170807 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwy, pe na buasai genym son am Agar. Mae hyn yn un o hynodion y Bibl, sef, ei fod yn onest wrth roddi hanes pawb--yn gosod allan yr ochr dywyll yn gystal a'r ochr oleu yn eu cymeriad; yn dyweyd y drwg fel y da. Ас у mae i gymeriad Abraham ei ochr dywyll. Nid oedd hyd yn nod "tad y ffyddloniaid" heb ei ddiffygion. Mae ei ffyddlondeb, ei wroldeb, a'i haelfrydigrwydd yn ddiarebol; ond perthynai iddo hefyd rai troion annheilwng o hono ei hun-un o ba rai, ni a gredwn, ydyw ei ymddygiad at Agar. Pan ymddiriedai Abraham yn Nuw am ddoethineb a chyfarwyddyd, yr oedd yn fwy nag ef ei hun; ond pan yr ymddiriedai ynddo ei hunan, elai yn llai nag ef ei hun. Llygriad y peth goreu ydyw y llygriad gwaethaf." Ond paham y dywedwn hyn am Abraham? Onid hyn ydyw y ffaith am bawb o honom? Onid ydyw y distadlaf o honom pan yn ymddiried yn Nuw yn myned yn gawr, a'r gwychaf o honom wrth ymddiried ynddo ei hun yn myned yn fretyn? "Pan wyf wan yna yr wyf gadarn." Mae hanes Agar yn creu ynom fwy o dosturi drosti hi nag o barch i enw Abraham. Er nad oedd ei hymddygiad yn ddoeth bob amser, nac<noinclude><references/></noinclude> hbokgbjt475otjjme6520t9ct1kjl4y Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/69 104 88433 170808 2026-08-20T21:30:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170808 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn weddus i'w sefyllfa fel llawforwyn, eto braidd na feddyliem y gallasai Abraham arfer mwy o'i ddylanwad yn ei ffafr, pan ydoedd hi mewn cyfyngder, nag a ddarfu. Mae hanes ei hymadawiad â thŷ Abraham, yn enwedig ei hail ymadawiad, yn ennill ein holl deimladau rhagoraf i'w hochr, ac yn cyffwrdd â rhanau tyneraf ein natur. Mae tori hen gysylltiadau yn beth hynod o boenus bob amser. Nid gorchwyl hawdd ydyw gadael hen gymydogaeth, hen dŷ, neu hen gyfaill. Mae yr un fath a symud hen ddodrefnyn a fyddo wedi cymeryd ei le yn dda; nis gellir ei gyflawni heb i ambell gymmal roi crac, ac amryw o'i ranau dderbyn niwed. Yr oedd Agar wedi bod gydag Abraham o leiaf bedair blynedd ar ddeg; ac yr oedd yn rhaid iddo yntau deimlo i'r byw wrth feddwl am iddi hi, ac yn neillduol ei fab Ismael, adael ei dŷ. Fe roes ei ymysgaroedd dro ynddo, ac fe deimlodd ei enaid bangfa wrth eu bwrw dros y drws, y cofiodd am dani byth. Ond yr oedd Sarai ei wraig yn benderfynol mai ymaith yr oeddynt i fyned; ac, wrth gwrs, nid gwiw oedd iddo fyned yn groes i benderfyniad ei wraig. Yn wir, yr oedd Duw yn caniatâu, os nad yn gorchymyn hyn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> p8igogarblm67b2v3kh1n4sjg2h9ppr Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/70 104 88434 170809 2026-08-20T21:31:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170809 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Yna y cododd Abraham yn fore," medd yr hanes. Mae yn debyg na chysgodd efe nemawr y noson hono. "Ac a gymerodd fara a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hyny." Ië, ar ei hysgwydd. Pa le yr oedd yr asynod? Yr oedd yr holl eiddo oedd ganddi yn y byd ar ei hysgwydd, oddigerth y bachgen pedair ar ddeg oed oedd yn cerdded wrth ei hochr. Yr oedd hwnw yn fwy gwerthfawr yn ei golwg nag Abraham a'i gyfoeth i gyd! Yr oedd yn werth y byd yn ei golwg. Cafodd y ddau brofi yn fuan fod yr haul yn boeth ar anialwch Beerseba, ac yr oedd cerdded dan y fath amgylchiadau yn treblu eu syched. Beth oedd ganddynt i'w wneyd ond disychedu eu hunain â'r ychydig ddwfr oedd yn y gostrel? yr hwn, wrth gwrs, oedd yn myned lei-lai bob tro. Fe grwydrodd y ddau-am ba hyd nis gwyddom ; ond yr oedd y dwfr wedi darfod yn y gostrel er ysmeityn. Gallwn fod yn sicr mai Ismael a gafodd y diferyn olaf o hono. Troes yr ymchwiliad am ddwfr yn yr anialwch cras yn hollol ofer. Yr oedd eu natur yn deifio, a'u nerth yn pallu, a dim ond anobaith a marwolaeth yn rhythu yn eu hwynebau. Ond yr oedd y caledi yn dyweyd yn gynt ar yr ieuanc a'r tyner. Nid<noinclude><references/></noinclude> 4fg8pdi2a5tmpj91fsan2ufd9ou8mtg Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/71 104 88435 170810 2026-08-20T21:32:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170810 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hwn oedd y tro cyntaf i Agar fod mewn caledi. Yr oedd Ismael ar roddi i fyny yr ysbryd. Nid allai ei fam edrych ar y bachgen yn marw, ac nid allai hi ei adael chwaith. Mae miloedd ar ei hol wedi profi yr un teimlad yn methu dal yr olygfa ac yn methu gadael yr olygfa. "Hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd, a hi a aeth ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megys ergyd bwa, canys dywedasai, Nid allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd." Hi a aeth yn ddigon pell oddiwrtho i beidio gweled ei ddirfawr ing a'i boenau, ac heb fod yn rhy bell i golli golwg arno. I un yn meddu calon lawn o gydymdeimlad, y mae yn brofiad ofnadwy i fod yn dyst o boenau dirdynol ac heb allu mewn un modd i'w lleddfu. Nid oedd Agar yn gweled gobaith am waredigaeth. Ond "nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw." Mae yr Hwn sydd yn gweled y diwedd o'r dechreuad yn gweled yn y bachgen yna, yr hwn yn ol pob ymddangosiad sydd yn marw dan y goeden, "genedlaeth fawr." Mae Efe yn gweled yr Arabiaid, Mahomet a'i luoedd, yn cysgu yn dawel yn y bachgen, yr hwn yn ngolwg ei fam sydd yn ymladd y frwydr olaf<noinclude><references/></noinclude> ktt207uqbuuyfgukugd6s5c55g8k6my Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/72 104 88436 170811 2026-08-20T21:37:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170811 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>âg angeu. Nid ydyw efe i farw. Duw lef y bachgen, a siaradodd â'i fam, a dangosodd iddi ffynnon yn ei hymyl. 'Eithafion dyn ydyw cyfleusdra Duw.' Pan y mae wedi ymgau ar ddyn o bob cyfeiriad, yr adeg hono yn gyffredin y bydd Duw yn dyfod i'r golwg. Ac y mae yn werth i ddyn fyned i'r cyfyngderau mwyaf dychrynllyd os daw Duw i'r golwg yn y diwedd. Er mai caethforwyn oedd Agar, nid oedd hyn yn beth newydd iddi—fod Duw yn siarad â hi. Yr oedd Efe wedi llefaru wrthi o'r blaen. Wedi blino ar ei chaethiwed, ac ar ei meistres, yr hon oedd yn ei chystuddio, hi a ffoisai oddiwrthi. Yr oedd hyn bedair blynedd ar ddeg cyn yr amgylchiad y buwyd yn son am dano. Yr oedd yn ffoi y tro hwnw yn unig o dŷ ei meistres, oblegid y pryd hwnw nid oedd yn fam. Beth a allasai fod ei theimladau ar y pryd, mae yn anhawdd dyfalu; ond gwyddom i gyd nad oes dim mor galonogol i ddyn a sicrwydd ei fod yn meddu lle yn meddwl a serch eraill. Hwn ydyw yr olew sydd yn peri i olwynion cymdeithas redeg yn esmwyth. Ar y llaw arall, nid oes dim mor arteithiol i feddwl dyn a theimlo nad oes neb yn gofalu am dano—neb yn ei garu.<noinclude><references/></noinclude> rrzpcfzfmz23l3igu0uv7rv0hhlm48j Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/73 104 88437 170812 2026-08-20T21:38:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170812 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pan y mae dyn yn credu nad ydyw yn meddu lle yn serch neb, mae hyny yn awgrym cryf iddo nad oes le iddo ar y ddaear. Ar noswaith oer a rhewllyd, flynyddau yn ol, yr oedd dyn ar ei ffordd gartref yn agos i bont Llundain, pryd y gwelai ferch ieuanc, yr hon hefyd a adwaenai, yn edrych yn syn ac yn brudd i lawr i'r afon. Nesäodd ati yn wyliadwrus, a rhoes ei law ar ei hysgwydd. "Margaret," eb efe, "beth a wnewch chwi yma?" "O," ebe hithau, "yr oeddwn yn edrych ar yr afon oer; a phe buasech wedi aros hanner mynyd yn hwy buaswn wedi taflu fy hunan i lawr iddi; oblegid y mae pobl Llundain yn llawer oerach na'r hen afon! Yr oeddwn yn meddwl fod pawb wedi fy anghofio, ac nad oedd neb yn gwybod fy enw erbyn hyn!" Peth ofnadwy ydyw y teimlad o unigrwydd ac amddifadrwydd ; ac os na bydd llais Duw na llais dyn i'w glywed yr adeg hono, mae bron yn sicr o ddiweddu mewn hunan-ddinystriad. Nis gallwn fyned i mewn i deimladau Agar os na buom yn y cyffelyb amgylchiadau a hi. Yr oedd hi yn unig yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd yn teimlo nad oedd yn meddu lle yn serch neb byw. Yn nghanol yr anialwch yr oedd yn gweled y creaduriaid gwylltion yn mwynhau<noinclude><references/></noinclude> lur8oe0wgln7s2qrw2nlz5t1cvgaxk3 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/74 104 88438 170813 2026-08-20T21:39:39Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170813 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithas eu gilydd mewn hoffder; ond nid oedd yno neb y gallai hi ddyweyd ei helynt wrtho, na neb i gynnyg gair o gysur iddi, nac i godi dim ar ei hysbryd. Yr oedd yn hollol unig, a pha le i fyned ni wyddai. Os edrychai yn ol i dŷ Abraham, ni welai ond gwg meistres galed, a meistr didaro, o bosibl. Heblaw hyny, yr oedd yn teimlo euogrwydd cydwybod o herwydd camymddygiad ar ei rhan hi ei hunan. Ac, hefyd, yr oedd mewn cyflwr neillduol. "A hi a eisteddodd wrth y ffynnon ar ffordd Sur;" pa un ai gyda'r bwriad o farw yn y lle, neu ynte rywbeth gwaeth, ni fedrwn ddyweyd. Ond Angel yr Arglwydd a'i cafodd hi wrth y ffynnon; ac yn y fan yma y llefarodd hi y geiriau—"Ті, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi; canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr Hwn sydd yn edrych arnaf?" Mae lle i feddwl mai yn y fan hon y darfu iddi sylweddoli hollbresennoldeb Duw am y tro cyntaf yn ei bywyd. Yr oedd wedi clywed llawer am Dduw Abraham, yn ddiammheu, yn nhŷ Abraham, ond yr adeg hon y daeth hi wyneb yn wyneb âg Ef. A'r peth sydd ryfedd yn ngeiriau Agar, pan ddaeth hi yn ymwybodol o bresennoldeb Duw ydyw, nad ydynt yn dangos dim arwydd o fraw ac arswyd, ond yn hytrach o syndod a chysur. "Oni edrychais yma hefyd ar ol yr Hwn sydd yn edrych arnaf?" A ydyw Duw yn cymeryd sylw o gaethes dlawd fel fi? A ydyw un mor wael a phechadurus a myfi yn tynu sylw yr Anfeidrol ? Yr wyf yn unig yn yr anialwch, ac eto nid wyf unig; mae Duw yn edrych arnaf! Nid Agar oedd yr unig un i gael allan fod yn anmhosibl i ni fod yn unig yn anmhosibl i ni fod ar ein penau ein hunain; ac ni a ddeuwn i gyd i wybod hyn yn hwyr neu yn hwyrach. "Yr ydym yn aml yn chwilio am yr Hwn sydd yn ein chwilio ni, ac yn ymorol am yr Hwn sydd â'i law arnom."<ref>Gwel The Pastor's Note-Book, tudal. 83.</ref> Yr oedd yr Atheniaid wedi codi allor i'r Duw nid adwaenir, ac ar un pryd yr oeddynt yn byw, yn symud, ac yn bod yn y Duw hwnw. "I ba le yr af oddiwrth dy Ysbryd, ac i ba le y ffoaf o'th wydd? Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno; pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr, yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw; pe dywedwn, Diau y tywyllwch a'm cuddiai, yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch !" "Mae'n llon'd y nefoedd, llon'd y byd, Llon'd uffern hefyd yw; Llon'd tragwyddoldeb maith ei hun, Diderfyn ydyw Duw; Mae'n llon'd y gwagle yn ddigoll." Ac nid oes un ystyriaeth yn fwy ofnadwy, ac ar yr un pryd yn fwy calonogol. Pa bechodau bynag yr ydym yn eu cyflawni, yr ydym yn eu cyflawni yn mhelydr llygad y Duw hollbresennol; ac o'r ochr arall, ymha gyfyngder bynag y byddom, ymha unigrwydd bynag, y mae Duw yno gyda ni i'n cynnorthwyo. "Nid yw Efe nebpell oddiwrth bob un o honom." Yn ein holl grwydriadau y mae Duw yn ein cwmpasu. Yr ydym oll yn cydnabod hyn fel athrawiaeth, ond anfynych yr ydym yn gallu sylweddoli hyn yn y teimlad, a mwy anfynych yr ydym yn gallu sylweddoli fod Duw yn bresennol i ni yn bersonol. Duw o bell ydyw ein Duw hollbresennol yn rhy fynych. Yr oedd Agar wedi ei dysgu yn ddiau am hollbresennoldeb a hollwybodaeth Duw; ond yr adeg hon y daeth i deimlo ei fod yn cymeryd sylw o honi hi yn bersonol. Асу mae adegau yn mywyd pob dyn pan y mae Duw ac yntau yn dyfod wyneb yn wyneb. Mae hanes Agar yn cael ei actio drosodd drachefn<noinclude><references/></noinclude> dmupcmjw6yy13dgxerh7mdreu7dkr0r 170814 170813 2026-08-20T21:40:07Z AlwynapHuw 1710 170814 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithas eu gilydd mewn hoffder; ond nid oedd yno neb y gallai hi ddyweyd ei helynt wrtho, na neb i gynnyg gair o gysur iddi, nac i godi dim ar ei hysbryd. Yr oedd yn hollol unig, a pha le i fyned ni wyddai. Os edrychai yn ol i dŷ Abraham, ni welai ond gwg meistres galed, a meistr didaro, o bosibl. Heblaw hyny, yr oedd yn teimlo euogrwydd cydwybod o herwydd camymddygiad ar ei rhan hi ei hunan. Ac, hefyd, yr oedd mewn cyflwr neillduol. "A hi a eisteddodd wrth y ffynnon ar ffordd Sur;" pa un ai gyda'r bwriad o farw yn y lle, neu ynte rywbeth gwaeth, ni fedrwn ddyweyd. Ond Angel yr Arglwydd a'i cafodd hi wrth y ffynnon; ac yn y fan yma y llefarodd hi y geiriau—"Ті, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi; canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr Hwn sydd yn edrych arnaf?" Mae lle i feddwl mai yn y fan hon y darfu iddi sylweddoli hollbresennoldeb Duw am y tro cyntaf yn ei bywyd. Yr oedd wedi clywed llawer am Dduw Abraham, yn ddiammheu, yn nhŷ Abraham, ond yr adeg hon y daeth hi wyneb yn wyneb âg Ef. A'r peth sydd ryfedd yn ngeiriau Agar, pan ddaeth hi yn ymwybodol o bresennoldeb Duw ydyw, nad ydynt yn dangos dim arwydd o fraw ac arswyd,<noinclude><references/></noinclude> 82loo3dmm2j5q7y6ldirdh173nz494h 170817 170814 2026-08-20T21:45:02Z AlwynapHuw 1710 170817 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cymdeithas eu gilydd mewn hoffder; ond nid oedd yno neb y gallai hi ddyweyd ei helynt wrtho, na neb i gynnyg gair o gysur iddi, nac i godi dim ar ei hysbryd. Yr oedd yn hollol unig, a pha le i fyned ni wyddai. Os edrychai yn ol i dŷ Abraham, ni welai ond gwg meistres galed, a meistr didaro, o bosibl. Heblaw hyny, yr oedd yn teimlo euogrwydd cydwybod o herwydd camymddygiad ar ei rhan hi ei hunan. ''Ac, hefyd, yr oedd mewn cyflwr neillduol.'' "A hi a eisteddodd wrth y ffynnon ar ffordd Sur;" pa un ai gyda'r bwriad o farw yn y lle, neu ynte rywbeth gwaeth, ni fedrwn ddyweyd. Ond Angel yr Arglwydd a'i cafodd hi wrth y ffynnon; ac yn y fan yma y llefarodd hi y geiriau—"Ті, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi; canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr Hwn sydd yn edrych arnaf?" Mae lle i feddwl mai yn y fan hon y darfu iddi sylweddoli hollbresennoldeb Duw am y tro cyntaf yn ei bywyd. Yr oedd wedi clywed llawer am Dduw Abraham, yn ddiammheu, yn nhŷ Abraham, ond yr adeg hon y daeth hi wyneb yn wyneb âg Ef. A'r peth sydd ryfedd yn ngeiriau Agar, pan ddaeth hi yn ymwybodol o bresennoldeb Duw ydyw, nad ydynt yn dangos dim arwydd o fraw ac arswyd,<noinclude><references/></noinclude> odxlr3uh0isn8nomlxxtx98qj8cd5l0 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/75 104 88439 170815 2026-08-20T21:42:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170815 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond yn hytrach o syndod a chysur. "Oni edrychais yma hefyd ar ol yr Hwn sydd yn edrych arnaf?" A ydyw Duw yn cymeryd sylw o gaethes dlawd fel fi? A ydyw un mor wael a phechadurus a myfi yn tynu sylw yr Anfeidrol ? Yr wyf yn unig yn yr anialwch, ac eto nid wyf unig; mae Duw yn edrych arnaf! Nid Agar oedd yr unig un i gael allan fod yn anmhosibl i ni fod yn unig yn anmhosibl i ni fod ar ein penau ein hunain; ac ni a ddeuwn i gyd i wybod hyn yn hwyr neu yn hwyrach. "Yr ydym yn aml yn chwilio am yr Hwn sydd yn ein chwilio ni, ac yn ymorol am yr Hwn sydd â'i law arnom."<ref>Gwel The Pastor's Note-Book, tudal. 83.</ref> Yr oedd yr Atheniaid wedi codi allor i'r Duw nid adwaenir, ac ar un pryd yr oeddynt yn byw, yn symud, ac yn bod yn y Duw hwnw. "I ba le yr af oddiwrth dy Ysbryd, ac i ba le y ffoaf o'th wydd? Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno; pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr, yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw; pe dywedwn, Diau y tywyllwch a'm cuddiai, yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch !" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1nbnlcjwdnbhvgiyds81yp5qg8wdcwy Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/76 104 88440 170816 2026-08-20T21:43:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170816 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{center block| <poem> "Mae'n llon'd y nefoedd, llon'd y byd, :Llon'd uffern hefyd yw; Llon'd tragwyddoldeb maith ei hun, :Diderfyn ydyw Duw; Mae'n llon'd y gwagle yn ddigoll." </poem> }} <br> Ac nid oes un ystyriaeth yn fwy ofnadwy, ac ar yr un pryd yn fwy calonogol. Pa bechodau bynag yr ydym yn eu cyflawni, yr ydym yn eu cyflawni yn mhelydr llygad y Duw hollbresennol; ac o'r ochr arall, ymha gyfyngder bynag y byddom, ymha unigrwydd bynag, y mae Duw yno gyda ni i'n cynnorthwyo. "Nid yw Efe nebpell oddiwrth bob un o honom." Yn ein holl grwydriadau y mae Duw yn ein cwmpasu. Yr ydym oll yn cydnabod hyn fel athrawiaeth, ond anfynych yr ydym yn gallu sylweddoli hyn yn y teimlad, a mwy anfynych yr ydym yn gallu sylweddoli fod Duw yn bresennol i ni yn bersonol. Duw o bell ydyw ein Duw hollbresennol yn rhy fynych. Yr oedd Agar wedi ei dysgu yn ddiau am hollbresennoldeb a hollwybodaeth Duw; ond yr adeg hon y daeth i deimlo ei fod yn cymeryd sylw o honi hi yn bersonol. Асу mae adegau yn mywyd pob dyn pan y mae Duw ac yntau yn dyfod wyneb yn wyneb. Mae hanes Agar yn cael ei actio drosodd drachefn<noinclude><references/></noinclude> oyjpd4sh9lhteba74eniyvw39qr6xm7 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/82 104 88441 170818 2026-08-20T21:55:44Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "le yr oedd hi yn myned. "Mi wn mai caethforwyn ydwyf," fel pe dywedasai—"fy meistres oedd Sarai—mi wn na ddarfu i mi ymadael yn anrhydeddus—ffoi yr ydwyf." Hwyrach hefyd ei bod yn ychwanegu yn ei chalon, 'Mi wn faint o flinder a gefais—ond beth sydd yn fy aros, nis gwn; mae y dyfodol fel y fagddu i mi.' Ο Agar, ti a leferaist dros bob dyn! Gwyddom i gyd rywbeth am y mynedol—gallwn edrych yn ol a dyweyd o ba le y daethom, a pheth ydyw... 170818 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>le yr oedd hi yn myned. "Mi wn mai caethforwyn ydwyf," fel pe dywedasai—"fy meistres oedd Sarai—mi wn na ddarfu i mi ymadael yn anrhydeddus—ffoi yr ydwyf." Hwyrach hefyd ei bod yn ychwanegu yn ei chalon, 'Mi wn faint o flinder a gefais—ond beth sydd yn fy aros, nis gwn; mae y dyfodol fel y fagddu i mi.' Ο Agar, ti a leferaist dros bob dyn! Gwyddom i gyd rywbeth am y mynedol—gallwn edrych yn ol a dyweyd o ba le y daethom, a pheth ydyw ein cymeriad; ond y mae yfory yn cadw ei gyfrinach i gyd iddo ei hun. Mae llèn wedi ei thynu dros wyneb y dyfodol sydd yn symud yn barhâus fel yr ydym ninnau yn symud, ac nid allwn dremio drwyddi na throsti i weled beth sydd o'n blaenau. Yr ydym wedi cychwyn ar daith ddyeithr, ac ni wyddom pa le y bydd yn dybenu. Rhyw bedwar ugain mlynedd eto, y fan bellaf, ac fe fydd yr ieuengaf o honom yn gwybod pa le y bydd ei gartref bythol. Ymhen yr ysbaid hwnw, ar ol ein holl ystŵr a'n helynt gyda'r byd, ni bydd neb prin yn gwybod ein bod erioed wedi bod ynddo; ein lle nid edwyn ddim o honom; ond ni a fyddwn yn bod yr adeg hono, a chwestiwn mawr ein hoes ydyw, "I ba le yr äi di?" "To be or not to be, that is the question!" O bosibl ein bod yn hapus a chysurus heddyw; a goreu oll os felly yr ydym, os ceir ni ar y ffordd iawn. Ond, "i ba le yr ydym yn myned?" A ydyw yn bosibl pe caem weled i ba le yr ydym yn myned yr andwyai hyny ein cysur presennol? Ai tybed yr äi rhai o honom yn wallgof pe caem weled i ba le yr ydym yn myned? Diau pe dadorchuddid y dyfodol o flaen llygad pob dyn, y dyrysai hyny holl gwrs bywyd. Mae genym gymaint o le i fod yn ddiolchgar i Dduw am guddio ag am ddadguddio. Na, mae Duw yn rhy dda ac yn rhy dyner i ddadguddio y cwbl ar unwaith; yn hytrach, y mae yn dyfod atom yn ddystaw a charedig, ac yn gofyn i ni, "I ba le yr äi di?" A phan y mae Duw yn siarad a dyn, y mae y pryd hwnw yn gyfnod pwysig yn ei fywyd yn crisis yn ei hanes. Yr oedd yn bwynt pwysig yn hanes Agar pan siaradodd Duw a hi; a phe buasai hi wedi troi clust fyddar ato, pwy a ŵyr beth fuasai y canlyniad ? Ond rhoes Agar groesaw i Angel yr Arglwydd. "Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi." Yr wyf yn synu fod un mor fawr â thi yn cymeryd sylw o gaethforwyn dlawd fel myfi. Mae Duw yn llefaru wrth bawb o honom ninnau, ni a obeithiwn, trwy ryw orchwyliaeth neu gilydd; ond càn lleied o honom sydd yn rhoddi iddo y derbyniad croesawus a roes Agar iddo! Ond yr un ydyw ei amcan ef pan yn troi i siarad â ni â phan y siaradodd âg Agar, sef, ein gosod ar y ffordd iawn. Cyfarfyddodd Duw Agar âg addewid. Ofnasai hi iddi ddyfod i'r anialwch i farw; ond meddai Duw wrthi, " Mi a'th wnaf mor liosog a ser y nef mewn rhifedi." Tynasai Efe hi i'r anialwch er mwyn cael llefaru wrth fodd ei chalon. Pan y mae Duw yn ein dwyn ninnau i'r anialwch, ei amcan ydyw dangos i ni y ffoledd o ymddiried yn y gostrel ddarfodedig, a'n cyfeirio at y ffynnon loëw, fywiol, sydd yn ffrydio byth yn ein hymyl. Ac mor aml y mae Efe yn croesi ein llwybrau ac yn tori i'n cyfarfod, gyda'r amcan o gael ymddyddan â ni! Pe byddai ein clust yn ddigon teneu, ni a glywem ei leferydd ef ymhob dim. Mae yn "llefaru llawer gwaith a llawer modd." Mae yn sibrwd ei hynawsedd yn ngwyneb pob blodeuyn tlws, yn dadgan ei ddaioni yn yr awel deneu lefn; mae yn ymrithio mewn darn o adnod-mewn dwy linell o bennill tlawd, heb ddim barddoniaeth yn agos atynt; a'i amcan o hyd ydyw cael siarad â ni. Ac nid digonol ganddo oedd creadigaeth a rhagluniaeth fel cyfryngau i lefaru wrthym; eithr Efe a'i dibrisiodd ei hun, gan roi pris mawr arnom ni, ac a gymerodd ein natur er mwyn cael gwell cyfleusdra i fynegu i ni ei ewyllys. Yn y dyddiau diweddaf hyn, efe a lefarodd wrthym ni yn ei Fab. Ac fel y dywedwyd, pan mae dyn yn teimlo fod Duw yn llefaru wrtho, gan nad trwy ba gyfrwng, mae yr adeg hono yn gyfnod pwysig yn ei hanes y mwyaf pwysig ond un. Y mae cyfnod mwy pwysig na phan y bydd Duw yn siarad â dyn, sef, pan fyddo Duw yn peidio siarad âg ef. "Nid ymryson fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd." Os gwrthod gwrando ar Dduw a wnawn, fe beidia efe a llefaru wrthym; a phan beidio ef lefaru, fe beidia ei ddaioni tuag atom. "Na ddiffoddwch yr Ysbryd."<noinclude><references/></noinclude> 9vl45gk3ojtqgvak84gq1eg8wg9eztv 170825 170818 2026-08-20T22:04:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170825 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>le yr oedd hi yn myned. "Mi wn mai caethforwyn ydwyf," fel pe dywedasai—"fy meistres oedd Sarai—mi wn na ddarfu i mi ymadael yn anrhydeddus—ffoi yr ydwyf." Hwyrach hefyd ei bod yn ychwanegu yn ei chalon, 'Mi wn faint o flinder a gefais—ond beth sydd yn fy aros, nis gwn; mae y dyfodol fel y fagddu i mi.' Ο Agar, ti a leferaist dros bob dyn! Gwyddom i gyd rywbeth am y mynedol—gallwn edrych yn ol a dyweyd o ba le y daethom, a pheth ydyw ein cymeriad; ond y mae yfory yn cadw ei gyfrinach i gyd iddo ei hun. Mae llèn wedi ei thynu dros wyneb y dyfodol sydd yn symud yn barhâus fel yr ydym ninnau yn symud, ac nid allwn dremio drwyddi na throsti i weled beth sydd o'n blaenau. Yr ydym wedi cychwyn ar daith ddyeithr, ac ni wyddom pa le y bydd yn dybenu. Rhyw bedwar ugain mlynedd eto, y fan bellaf, ac fe fydd yr ieuengaf o honom yn gwybod pa le y bydd ei gartref bythol. Ymhen yr ysbaid hwnw, ar ol ein holl ystŵr a'n helynt gyda'r byd, ni bydd neb prin yn gwybod ein bod erioed wedi bod ynddo; ein lle nid edwyn ddim o honom; ond ni a fyddwn yn bod yr adeg hono, a chwestiwn mawr ein hoes ydyw, "I ba le yr äi di?" {{c|"To be or not to be, that is the question!"}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> azf8xc1dwdxu93cqporz6oi4s5rqh6p Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/77 104 88442 170819 2026-08-20T21:58:38Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "chefn yn hanes pob dyn. Ac y mae yn ffaith hynod o awgrymiadol yn hanes Agar, am y ddau dro y darfu i Dduw siarad â hi, mai yn yr anialwch yr ydoedd, mewn unigrwydd ac mewn cyfyngder mawr. Diammheu iddi dreulio llawer diwrnod a llawer blwyddyn hapus yn ngwasanaeth Abraham; ond yr adegau hyny nid oedd yn clywed llais Duw yn siarad â hi. Hi a gollodd y bywyd hapus hwnw, a chafodd ei hunan yn ffoadures yn yr anialwch mewn unigedd ac mew... 170819 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chefn yn hanes pob dyn. Ac y mae yn ffaith hynod o awgrymiadol yn hanes Agar, am y ddau dro y darfu i Dduw siarad â hi, mai yn yr anialwch yr ydoedd, mewn unigrwydd ac mewn cyfyngder mawr. Diammheu iddi dreulio llawer diwrnod a llawer blwyddyn hapus yn ngwasanaeth Abraham; ond yr adegau hyny nid oedd yn clywed llais Duw yn siarad â hi. Hi a gollodd y bywyd hapus hwnw, a chafodd ei hunan yn ffoadures yn yr anialwch mewn unigedd ac mewn helbul mawr, ac yna hi a glywodd lais Duw yn llefaru wrthi yn bersonol, ac yn ei hanerch wrth ei henw, "Agar, morwyn Sarai," &c. Ac mor wir ydyw hyn yn hanes pawb o honom! Mor wir ydyw yn ei berthynas âg unigrwydd. Mae yn debyg fod pawb o honom wedi teimlo mwy o bresennoldeb Duw yn y nos nag yn y dydd, am y rheswm ein bod yn fwy unig yr adeg hono. Pan ydym yn nghanol tyrfa o bobl, neu yn brysur gyda'n gorchwyliaeth, neu yn nghwmni cyfeillion, mae Duw yn gyffredin ymhell o'n meddwl. Ond dyna y dydd yn darfod, y gwaith yn terfynu, twrf a berw y byd yn dystewi, y cyfeillion yn ymadael bawb i'w dŷ ei hun; ac yn y dystawrwydd a'r unigrwydd, pan nad oes dim i'w glywed ond tic yr hen gloc, pa sawl gwaith yr ydym wedi teimlo rhyw ysbrydoliaeth yn lledu ei esgyll drosom, a'r mur sydd rhyngom â'r byd arall yn cael ei deneuo, a ninnau yn gorfod teimlo ein bod yn mhresennoldeb yr Anweledig? Ac mor wir ydyw hyn drachefn yn ei berthynas â chyfyngder neu brofedigaeth. Yr ydym wedi sylwi wrth deithio gyda'r train, pan fyddo y gerbydres yn myned gyflymaf, mae yr adeg hono, fel rheol, y bydd y teithiwr blin yn syrthio i gysgu. A dyna lle bydd yn cael ei gario ymlaen gyda'r buander mwyaf, ag yntau heb fod yn ymwybodol ymha le y mae nac i ba le y mae yn myned. Yn y man mae y train yn agosâu at ryw orsaf; mae yr agerdd yn cael ei droi i ffwrdd, a'r gerbydres yn dechre arafu, ac o'r diwedd yn sefyll. Ac yr ydym wedi sylwi, pan y bydd y cerbydau yn dechre arafu y bydd y cysgadur yn dechre anesmwytho, yn ystwyrian a dylyfu gên, a phan saif y gludres y bydd yntau yn deffro, yn agor ei lygaid, yn ymholi pa le y mae, ac yn dechre galw i'w gof pa le y mae yn myned. Mor debyg ydyw hyn i ddyn yn ngwahanol amgylchiadau bywyd! Pan y mae'r iechyd yn hoew a chryf, mae dyn yn cael ei gario ymaith gyda chyflymdra esmwyth, mewn cwsg hapusrwydd, heb fod yn ymwybodol o'i Gynnaliwr, yr Hwn sydd yn estyn iddo bob daioni, "nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef." Ond yn y man dyna law fawr Duw yn cyffwrdd â pheiriant ei iechyd; yna y mae dyn yn deffro, ac yn dechre ymholi pa le y mae, ac i bale y mae yn wynebu. Yn gyffelyb hefyd y mae gydag amgylchiadau sydd tu allan i ni, ond ydynt yn dwyn cysylltiad uniongyrchol â ni. Pan y mae y fasnach yn talu yn dda, yr amgylchiadau yn gysurus, iechyd yn berwi yn wynebau pob un o'r teulu, a phob peth yn llwyddo ac yn rhedeg yn esmwyth, pa le y mae Duw yr adeg hono? Ymhell tu ol i'r cefn yn rhywle - anfynych yn cael meddwl am dano. Ond ryw ddiwrnod y mae cyfnewidiad yn cymeryd lle; nid yw pethau fel o'r blaen. Mae'r treuliadau yn fwy na'r derbyniadau, mae anghen a thlodi yn dechre talu eu hymweliadau. Nid yw pobpeth yr un fath yn y tŷ; mae rhywun yn edrych yn fwy prudd wedi colli y gruddiau gwridgoch, y chwerthiniad llawn o iechyd; ac y mae y rhywun hwnw fel am ein gadael. Ai breuddwyd yw? Nage! mae wedi ei gaethiwo i'r gwely; mae y rhês potelau ar y bwrdd fel E rhagflaenoriaid angeu yn siarad yn eu hiaith. Mae pawb yn cerdded yn ddystaw i fyny ac i lawr, yn siarad yn ddystaw, rhag tarfu yr ysbryd sydd ar gymeryd ei aden. Ac o'r diwedd y mae yr awr-y fynyd ofnadwy, yn dyfod, a'r galon ddewr yn methu dal, ac yn gorfod dianc megys ergyd bwa oddiwrth yr olygfa. Ac erbyn hyn y mae'r byd wedi ei droi yn anialwch heb ddwfr, a phobpeth yn ymddangos fel breuddwyd. Mae y dyrfa sydd wedi ymgasglu o amgylch y drws, a rhywun yn darllen o lyfr, fel gweledigaeth dychymyg, aceto mor wir fel y mae yn bwyta adnoddau yr enaid. Pa le y mae Duw yrwan? O yn ein hyml-wrth ein hochr! "Am hyny byddwch chwithau barod" sydd yn disgyn ar y glust fel cloch tragywyddoldeb. "Myfi yw yr Adgyfodiad a'r Bywyd sydd yn dyfod, nid o'r llyfr gan y pregethwr neu yr offeiriad, ond yn syth o'r nefoedd. "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd," sydd dystiolaeth wedi ei bwriadu i ni yn bersonol. Mae Duw ymhobman yr adeg hono. Pa le bynag yr ä dyn, mae yn gorfod teimlo ei fod yn ymyl Duw, a Duw yn siarad âg ef. "Ac Angel yr Arglwydd a'i cafodd hi yn yr anialwch." دو Nid hyn ydyw profiad pawb o bosibl; ond y mae yn rhaid fod rhyw ystyr benodol i'r geiriau, "Cyfrifwch yn bob llawenydd pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau." Mae rhyw gyfaddasder neillduol mewn profedigaeth i introducio dyn i gymdeithas Duw, ac i deneuo ei glust i glywed ei lais. Ac fe ofala Duw am ddwyn dyn i'r amgylchiadau hyn rywdro yn ystod ei oes, mewn rhyw ddull neu gilydd; adeg y bydd dyn yn teimlo fod pobpeth yn gwasgu arno o bob cyfeiriad yn nghanol yr anialwch heb ddwfr-adeg pan y mae yn methu cael dim yn ddigon cryf i'w gynnal, ac yntau yn gorfod estyn ei freichiau i'r tywyllwch i geisio cael gafael ar rywbeth cryfach na chig a gwaed i bwyso arno. Mae rhywbeth awgrymiadol iawn hefyd yn nghwestiwn Angel yr Arglwydd i Agar, ac yn ei hatebiad hithau iddo; "Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost, ac i ba le yräi di?" Yr oedd y gofyniad hwn yn awgrymu iddi ei holl fywyd blaenorol, a'r hyn oedd yn ei haros-cymaint ag a allai hi weled yn ol, a mwy nag a allai weled o'i blaen. Yr oedd yn glamp o gwestiwn. Ac nid ydyw yn rhyfedd nad ydyw Agar yn ceisio ateb ond ei hanner. "Ffoi yr wyf rhag fy meistres Sarai," ond nis anturiodd ddyweyd pa<noinclude><references/></noinclude> pjwj6iprgcdqrq4u4togl7gw29ojdc6 170820 170819 2026-08-20T21:59:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170820 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn hanes pob dyn. Ac y mae yn ffaith hynod o awgrymiadol yn hanes Agar, am y ddau dro y darfu i Dduw siarad â hi, mai yn yr anialwch yr ydoedd, mewn unigrwydd ac mewn cyfyngder mawr. Diammheu iddi dreulio llawer diwrnod a llawer blwyddyn hapus yn ngwasanaeth Abraham; ond yr adegau hyny nid oedd yn clywed llais Duw yn siarad â hi. Hi a gollodd y bywyd hapus hwnw, a chafodd ei hunan yn ffoadures yn yr anialwch mewn unigedd ac mewn helbul mawr, ac yna hi a glywodd lais Duw yn llefaru wrthi yn bersonol, ac yn ei hanerch wrth ei henw, "Agar, morwyn Sarai," &c. Ac mor wir ydyw hyn yn hanes pawb o honom! Mor wir ydyw yn ei berthynas âg unigrwydd. Mae yn debyg fod pawb o honom wedi teimlo mwy o bresennoldeb Duw yn y nos nag yn y dydd, am y rheswm ein bod yn fwy unig yr adeg hono. Pan ydym yn nghanol tyrfa o bobl, neu yn brysur gyda'n gorchwyliaeth, neu yn nghwmni cyfeillion, mae Duw yn gyffredin ymhell o'n meddwl. Ond dyna y dydd yn darfod, y gwaith yn terfynu, twrf a berw y byd yn dystewi, y cyfeillion yn ymadael bawb i'w dŷ ei hun; ac yn y dystawrwydd a'r unigrwydd,<noinclude><references/></noinclude> butwnu8wtrqka9lmy696zwuht9nk9l5 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/78 104 88443 170821 2026-08-20T22:00:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170821 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pan nad oes dim i'w glywed ond tic yr hen gloc, pa sawl gwaith yr ydym wedi teimlo rhyw ysbrydoliaeth yn lledu ei esgyll drosom, a'r mur sydd rhyngom â'r byd arall yn cael ei deneuo, a ninnau yn gorfod teimlo ein bod yn mhresennoldeb yr Anweledig? Ac mor wir ydyw hyn drachefn yn ei berthynas â ''chyfyngder'' neu ''brofedigaeth''. Yr ydym wedi sylwi wrth deithio gyda'r train, pan fyddo y gerbydres yn myned gyflymaf, mae yr adeg hono, fel rheol, y bydd y teithiwr blin yn syrthio i gysgu. A dyna lle bydd yn cael ei gario ymlaen gyda'r buander mwyaf, ag yntau heb fod yn ymwybodol ymha le y mae nac i ba le y mae yn myned. Yn y man mae y train yn agosâu at ryw orsaf; mae yr agerdd yn cael ei droi i ffwrdd, a'r gerbydres yn dechre arafu, ac o'r diwedd yn sefyll. Ac yr ydym wedi sylwi, pan y bydd y cerbydau yn dechre arafu y bydd y cysgadur yn dechre anesmwytho, yn ystwyrian a dylyfu gên, a phan saif y gludres y bydd yntau yn deffro, yn agor ei lygaid, yn ymholi pa le y mae, ac yn dechre galw i'w gof pa le y mae yn myned. Mor debyg ydyw hyn i ddyn yn ngwahanol amgylchiadau bywyd! Pan y mae'r iechyd yn hoew a chryf, mae dyn yn cael ei<noinclude><references/></noinclude> lv3phafrer0cf9jlzl0c9eu199i12vx Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/79 104 88444 170822 2026-08-20T22:01:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170822 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gario ymaith gyda chyflymdra esmwyth, mewn cwsg hapusrwydd, heb fod yn ymwybodol o'i Gynnaliwr, yr Hwn sydd yn estyn iddo bob daioni, "nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef." Ond yn y man dyna law fawr Duw yn cyffwrdd â pheiriant ei iechyd; yna y mae dyn yn deffro, ac yn dechre ymholi pa le y mae, ac i bale y mae yn wynebu. Yn gyffelyb hefyd y mae gydag amgylchiadau sydd tu allan i ni, ond ydynt yn dwyn cysylltiad uniongyrchol â ni. Pan y mae y fasnach yn talu yn dda, yr amgylchiadau yn gysurus, iechyd yn berwi yn wynebau pob un o'r teulu, a phob peth yn llwyddo ac yn rhedeg yn esmwyth, pa le y mae Duw yr adeg hono? Ymhell tu ol i'r cefn yn rhywle—anfynych yn cael meddwl am dano. Ond ryw ddiwrnod y mae cyfnewidiad yn cymeryd lle; nid yw pethau fel o'r blaen. Mae'r treuliadau yn fwy na'r derbyniadau, mae anghen a thlodi yn dechre talu eu hymweliadau. Nid yw pobpeth yr un fath yn y tŷ; mae rhywun yn edrych yn fwy prudd wedi colli y gruddiau gwridgoch, y chwerthiniad llawn o iechyd; ac y mae y rhywun hwnw fel am ein gadael. Ai breuddwyd yw? Nage! mae wedi ei gaethiwo i'r gwely; mae y rhês potelau ar y bwrdd fel<noinclude><references/></noinclude> ezvhvbvp8xqhscf3fwpw7cffiee2nck Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/80 104 88445 170823 2026-08-20T22:02:37Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170823 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhagflaenoriaid angeu yn siarad yn eu hiaith. Mae pawb yn cerdded yn ddystaw i fyny ac i lawr, yn siarad yn ddystaw, rhag tarfu yr ysbryd sydd ar gymeryd ei aden. Ac o'r diwedd y mae yr awr-y fynyd ofnadwy, yn dyfod, a'r galon ddewr yn methu dal, ac yn gorfod dianc megys ergyd bwa oddiwrth yr olygfa. Ac erbyn hyn y mae'r byd wedi ei droi yn anialwch heb ddwfr, a phobpeth yn ymddangos fel breuddwyd. Mae y dyrfa sydd wedi ymgasglu o amgylch y drws, a rhywun yn darllen o lyfr, fel gweledigaeth dychymyg, aceto mor wir fel y mae yn bwyta adnoddau yr enaid. Pa le y mae Duw yrwan? O yn ein hyml-wrth ein hochr! "Am hyny byddwch chwithau barod" sydd yn disgyn ar y glust fel cloch tragywyddoldeb. "Myfi yw yr Adgyfodiad a'r Bywyd sydd yn dyfod, nid o'r llyfr gan y pregethwr neu yr offeiriad, ond yn syth o'r nefoedd. "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd," sydd dystiolaeth wedi ei bwriadu i ni yn bersonol. Mae Duw ymhobman yr adeg hono. Pa le bynag yr ä dyn, mae yn gorfod teimlo ei fod yn ymyl Duw, a Duw yn siarad âg ef. "Ac Angel yr Arglwydd a'i cafodd hi yn yr anialwch." Nid hyn ydyw profiad pawb o bosibl; ond y<noinclude><references/></noinclude> 142ct22qdyeqrot4px12td901vwn1gb Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/81 104 88446 170824 2026-08-20T22:03:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170824 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae yn rhaid fod rhyw ystyr benodol i'r geiriau, "Cyfrifwch yn bob llawenydd pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau." Mae rhyw gyfaddasder neillduol mewn profedigaeth i introducio dyn i gymdeithas Duw, ac i deneuo ei glust i glywed ei lais. Ac fe ofala Duw am ddwyn dyn i'r amgylchiadau hyn rywdro yn ystod ei oes, mewn rhyw ddull neu gilydd; adeg y bydd dyn yn teimlo fod pobpeth yn gwasgu arno o bob cyfeiriad yn nghanol yr anialwch heb ddwfr-adeg pan y mae yn methu cael dim yn ddigon cryf i'w gynnal, ac yntau yn gorfod estyn ei freichiau i'r tywyllwch i geisio cael gafael ar rywbeth cryfach na chig a gwaed i bwyso arno. Mae rhywbeth awgrymiadol iawn hefyd yn nghwestiwn Angel yr Arglwydd i Agar, ac yn ei hatebiad hithau iddo; "Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost, ac i ba le yräi di?" Yr oedd y gofyniad hwn yn awgrymu iddi ei holl fywyd blaenorol, a'r hyn oedd yn ei haros-cymaint ag a allai hi weled yn ol, a mwy nag a allai weled o'i blaen. Yr oedd yn glamp o gwestiwn. Ac nid ydyw yn rhyfedd nad ydyw Agar yn ceisio ateb ond ei hanner. "Ffoi yr wyf rhag fy meistres Sarai," ond nis anturiodd ddyweyd pa<noinclude><references/></noinclude> rta209qeej23e4k31gurk6rwbkr0sl6 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/83 104 88447 170826 2026-08-20T22:04:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170826 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>O bosibl ein bod yn hapus a chysurus heddyw; a goreu oll os felly yr ydym, os ceir ni ar y ffordd iawn. Ond, "i ba le yr ydym yn myned?" A ydyw yn bosibl pe caem weled i ba le yr ydym yn myned yr andwyai hyny ein cysur presennol? Ai tybed yr äi rhai o honom yn wallgof pe caem weled i ba le yr ydym yn myned? Diau pe dadorchuddid y dyfodol o flaen llygad pob dyn, y dyrysai hyny holl gwrs bywyd. Mae genym gymaint o le i fod yn ddiolchgar i Dduw am guddio ag am ddadguddio. Na, mae Duw yn rhy dda ac yn rhy dyner i ddadguddio y cwbl ar unwaith; yn hytrach, y mae yn dyfod atom yn ddystaw a charedig, ac yn gofyn i ni, "I ba le yr äi di?" A phan y mae Duw yn siarad a dyn, y mae y pryd hwnw yn gyfnod pwysig yn ei fywyd yn ''crisis'' yn ei hanes. Yr oedd yn bwynt pwysig yn hanes Agar pan siaradodd Duw a hi; a phe buasai hi wedi troi clust fyddar ato, pwy a ŵyr beth fuasai y canlyniad ? Ond rhoes Agar groesaw i Angel yr Arglwydd. "Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi." Yr wyf yn synu fod un mor fawr â thi yn cymeryd sylw o gaethforwyn dlawd fel myfi. Mae Duw yn llefaru wrth bawb o honom ninnau, ni a obeithiwn, trwy ryw orchwyliaeth<noinclude><references/></noinclude> 7p338ptpvflhjmsbvxy9mbd55tin0dz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/84 104 88448 170827 2026-08-20T22:06:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170827 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>neu gilydd; ond càn lleied o honom sydd yn rhoddi iddo y derbyniad croesawus a roes Agar iddo! Ond yr un ydyw ei amcan ef pan yn troi i siarad â ni â phan y siaradodd âg Agar, sef, ein gosod ar y ffordd iawn. Cyfarfyddodd Duw Agar âg addewid. Ofnasai hi iddi ddyfod i'r anialwch i farw; ond meddai Duw wrthi, " Mi a'th wnaf mor liosog a ser y nef mewn rhifedi." Tynasai Efe hi i'r anialwch er mwyn cael llefaru wrth fodd ei chalon. Pan y mae Duw yn ein dwyn ninnau i'r anialwch, ei amcan ydyw dangos i ni y ffoledd o ymddiried yn y gostrel ddarfodedig, a'n cyfeirio at y ffynnon loëw, fywiol, sydd yn ffrydio byth yn ein hymyl. Ac mor aml y mae Efe yn croesi ein llwybrau ac yn tori i'n cyfarfod, gyda'r amcan o gael ymddyddan â ni! Pe byddai ein clust yn ddigon teneu, ni a glywem ei leferydd ef ymhob dim. Mae yn "llefaru llawer gwaith a llawer modd." Mae yn sibrwd ei hynawsedd yn ngwyneb pob blodeuyn tlws, yn dadgan ei ddaioni yn yr awel deneu lefn; mae yn ymrithio mewn darn o adnod-mewn dwy linell o bennill tlawd, heb ddim barddoniaeth yn agos atynt; a'i amcan o hyd ydyw cael siarad â ni. Ac nid digonol ganddo oedd creadigaeth a rhagluniaeth fel<noinclude><references/></noinclude> iuo9ohv4bz9th9v0vfkyi2mckhh6y1g Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/85 104 88449 170828 2026-08-20T22:06:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170828 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cyfryngau i lefaru wrthym; eithr Efe a'i dibrisiodd ei hun, gan roi pris mawr arnom ni, ac a gymerodd ein natur er mwyn cael gwell cyfleusdra i fynegu i ni ei ewyllys. Yn y dyddiau diweddaf hyn, efe a lefarodd wrthym ni yn ei Fab. Ac fel y dywedwyd, pan mae dyn yn teimlo fod Duw yn llefaru wrtho, gan nad trwy ba gyfrwng, mae yr adeg hono yn gyfnod pwysig yn ei hanes y mwyaf pwysig ond un. Y mae cyfnod mwy pwysig na phan y bydd Duw yn siarad â dyn, sef, pan fyddo Duw yn peidio siarad âg ef. "Nid ymryson fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd." Os gwrthod gwrando ar Dduw a wnawn, fe beidia efe a llefaru wrthym; a phan beidio ef lefaru, fe beidia ei ddaioni tuag atom. "Na ddiffoddwch yr Ysbryd." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> iyv57jsfrlpuj9hrkvw88kp99ohjsvc Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/86 104 88450 170829 2026-08-20T22:30:48Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170829 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|V.<br>{{mawr|SIMON PEDR.}}}} ''"A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog y gwedi fi deirgwaith. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw dost."''—Luc xxii. 61 62. A FUASAI wylo yn bod pe na buasai am bechod? Sicr yw nad ydyw wylo yn beth pechadurus. Iaith gofid ac edifeirwch, yn briodol, ydyw dagrau; ond y maent, hefyd, yn arwyddion o eraill deimladau dyfnaf yr enaid, megys cydymdeimlad, cariad, ac hyd yn nod llawenydd. Bydd dyn yn wylo o lawenydd weithiau. Nid ydyw yn gywilydd yn y byd i ddyn wylo. Mae tuedd ynom, yn gyffredin, i edrych ar ddagrau fel arwyddion o wendid neu anallu; ac felly y maent yn arwyddion o anallu i fod yn galed a dideimlad. "Yr Iesu a wylodd." Yr oedd y mwyaf a'r cryfaf o bawb yn<noinclude><references/></noinclude> gmay6u8rqlymh2gifv1a4h5q3f2wsus Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/87 104 88451 170830 2026-08-20T22:32:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170830 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhy wan i fod yn galed. Yn wir, y mae cryn lawer o'r diafol yn y dyn hwnw na bydd byth ddeigryn yn gloëwi ei lygaid. Er hyny, iaith y ddaear ydyw dagrau; pethau priodol i'r ddaear ydynt, a byddant yn darfod i'r saint gyda'r ddaear. Ni bydd wylo yn y nefoedd. "Yr Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddiar bob wyneb." Hyny o ddagrau a fydd yn y nefoedd, byddant yn nghostrelau Duw. Y mae ar y ddaear yr hyn a elwir yn ieithoedd meirwon ''(dead languages)'', ieithoedd a fuont yn cael eu siarad yn gyffredin oesoedd lawer yn ol, ond na cheir mo honynt erbyn hyn namyn mewn llyfrau gan hen awduron. Eto efrydir yr ieithoedd hyn yn fanwl gan laweroedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt. ''Iaith farw'' fydd dagrau yn y nefoedd; ac y mae yn eithaf posibl, ymhen miloedd o oesau wedi i'r ddaear fyned ar dân, y bydd ysgoleigion y nef yn efrydu hen iaith trallod ac edifeirwch allan o gostrelau Duw! Bydd dagrau y Salmydd, a dagrau Jeremiah, ac yn neillduol dagrau y dyn Crist Iesu, yn cael eu hyfrydu; ac yn eu plith bydd dagrau Pedr. Tybygid am ddagrau Pedr, eu bod y ffrydlif fwyaf pur o edifeirwch a ddaeth dros ruddiau dyn erioed. Yr oedd Pedr yn ddyn mawr; yr<noinclude><references/></noinclude> pwsru9fhffvusau7lqap2b468bzcbmv Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/88 104 88452 170831 2026-08-20T22:33:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170831 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd ei wrthgiliad yn fawr, ac o angenrheidrwydd yr oedd ei edifeirwch yn fawr. Yr oedd Pedr yn ddyn mawr naturiol, cyn iddo erioed gyfarfod âg Iesu Grist. Mae yn wir mai dynion o'r dosbarth cyffredin o ran galwedigaeth a sefyllfa ydoedd dysgyblion cyntaf Crist; ond nid ydym i gasglu oddiwrth hyny fod Crist ar ddamwain yn cymeryd rhywrai y dygwyddai efe gyfarfod a hwynt, ac yn eu gwneyd yn apostolion. Na, yr oedd Efe yn gorfod dyweyd yn aml wrth lawer un oedd yn awyddus am fod yn apostol, "Dos i'th dy ac at dy deulu;" gofala am y wraig a'r plant-dyna y gorchwyl y bwriadwyd di iddo, ac nid i fod yn apostol. Yr oedd Crist yn llygadu am rywrai â gallu a chymhwysder naturiol ynddynt i wneyd eu hôl ar y byd. Ac nid rhyfedd ei fod yn eu cael ymhlith y dosbarth isaf mewn cymdeithas. Mae pedwar math o bobl yn y byd. Mae un dosbarth o bobl na wnaethant erioed, ac na fedrant wneyd, dim yn ei le-dim fel y dylai gael ei wneyd. Mae dosbarth arall sydd yn ymwneyd â gwaith llawer rhy uchel iddynt. Buasent yn gwneyd yn burion gyda gwaith ychydig yn israddol. Mae dosbarth arall sydd yn ymwneyd â gwaith islaw iddynt hwy eu hunain; dylasent fod yn<noinclude><references/></noinclude> 3ug16ieev1t0msfxxk5nhide864wh0q Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/89 104 88453 170832 2026-08-20T22:35:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170832 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llenwi cylch uwch a phwysicach. Ac y mae dosbarth arall sydd â'u gwaith a hwythau yn gymhwys i'w gilydd. Nid rhyfedd fod Crist yn cael rhai cymhwys i fod yn apostolion ymhlith y dosbarth gweithiol; canys y mae ystâd cymdeithas yn lled debyg hyd y dydd hwn. Mae yna lawn cymaint o bobl yn ymwneyd â gwaith sydd islaw iddynt hwy eu hunain ag sydd o rai yn ymwneyd â gwaith uwchlaw iddynt eu hunain. Mae llawer eto ymhlith y dosbarth isaf mewn cymdeithas ag sydd yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, heb eisieu dim at eu cael yn efengylwyr enwog ond i'r Athraw mawr ddyfod heibio a dyweyd, "Canlyn fi." Pysgotwr oedd Pedr: ond nid pob pysgotwr fuasai yn gwneyd apostol. Gallwn fod yn sicr mai nid pysgotwr cyffredin ydoedd Simon Pedr. Yr oedd ei alluoedd naturiol yn gyfryw ag a'i gosodasent ef ar y blaen ymha gylch bynag y troisai. Yr oedd un llong yn dwyn ei enw: "Llong Simon Pedr;" ac fel brawd Simon Pedr yr adwaenid Andreas. Mae hyn yn beth cyffredin pan fydd y naill frawd yn enwog, rhaid enwi y brawd arall ynglŷn â'r brawd enwog er mwyn ei adnabod ef. "Andreas brawd Simon Pedr." Nid oedd anghen dyweyd brawd i bwy<noinclude><references/></noinclude> h62qx6va1rnabocg2biee8z7iwshbac Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/90 104 88454 170833 2026-08-20T22:38:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170833 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydoedd Simon Pedr, oblegid yr oedd efe yn adnabyddus trwy yr holl wlad. Ennillodd Pedr ei le ymhlith yr apostolion yn fuan iawn. Diammheu fod rhyw ragoriaeth yn perthyn i bob un o'r deuddeg apostol; ond darfu i dri o honynt, sef Pedr, Iago, ac Ioan, ymgodi yn naturiol ac yn fuan uwchlaw y naw eraill. Ac er fod dadl wedi bod ymhlith rhai o honynt pwy a fyddai fwyaf, nid ydym yn darllen, os ydym yn cofio yn dda, fod y naw yn anfoddlawn nac yn anesmwyth arnynt o herwydd fod Pedr, Iago, ac Ioan yn cymeryd rhan mor flaenllaw gyda'r gwaith. Nid ydyw pethau yn rhy dda mewn unrhyw gymdeithas pan y mae yr aelodau yn rhy debyg i'w gilydd ac yn rhy gyfartal. Ond y mae pethau yn gyffredin yn gorwedd yn esmwyth mewn cymdeithas pan fydd dau neu dri yn uwch o'u hysgwyddau na'r gweddill, fel na bydd dim dadl am y flaenoriaeth. Diammheu fod y naw apostol yn ddigon boddlawn i Pedr, Iago, ac Ioan, dori tipyn mwy o ffigiwr gyda'r gwaith na hwy, oblegid fod eu cymhwysderau naturiol yn hawlio iddynt y lle hwnw yn eu plith. Ymddengys oddiwrth yr hanes fod Pedr, Iago, ac Ioan, drachefn yn gwahaniaethu cryn lawer<noinclude><references/></noinclude> coph7d7mzc97sscdxmntmi093ppdwe3 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/91 104 88455 170834 2026-08-20T22:39:23Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170834 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oddiwrth eu gilydd o ran eu nodweddion. Er eu bod wedi eu dwyn i fyny yn yr un wlad, ac o dan yr un amgylchiadau—dau o honynt yn frodyr o undad unfam—ac wedi eu galw at yr un gwaith gan yr un Meistr, nid oedd dim tebygolrwydd yn eu cymeriadau wedi'r cwbl. Anaml y bydd y Creawdwr yn efelychu ei hun ond gyda phethau lled gyffredin. Amrywiaeth diderfyn ydyw nodwedd amlwg ei waith Ef. Gellid meddwl mai cyflawnder a chyfartaledd rhinweddau oedd yn nodweddu cymeriad Iago. Buasai efe, dybygid, yn llenwi agos unrhyw gylch o ymddiried yn anrhydeddus. Os oedd rhywbeth ynddo yn fwy amlwg na dim arall, gellid meddwl mai manyldeb ydoedd hwnw. Ο bosibl na buasai yn haws ei lithio ef i ddefodaeth na'r ddau arall. Yr oedd cryn lawer o neillduolion yn perthyn i Ioan ei frawd. Yr oedd efe yn hynod am ddyfnder a chraffder meddwl, mwyneidd-dra ysbryd, dwysder cariad, a sefydlogrwydd ffydd. Yr oedd Pedr o'r ochr arall yn hynod am gyflymdra meddwl, tanbeidrwydd zel, a llithrigrwydd ymadrodd. Ioan o ran cyfansoddiad meddwl a thymher ydoedd y tebycaf i'r Athraw mawr; efe a yfodd fwyaf o'i ysbryd, ac a'i deallodd ef oreu; ac efe ydoedd ei<noinclude><references/></noinclude> rl6e41tmefsuujtaeh4jo1nycqimktv Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/92 104 88456 170835 2026-08-20T22:40:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170835 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gyfaill penaf. Ond Pedr a gafodd fwyaf o ofal Crist; gyda Phedr y cymerodd Efe fwyaf o drafferth. O herwydd ei wastadrwydd a'i sefydlogrwydd, nid oedd cymaint o anghen ar Ioan am y gofal a'r drafferth a ddangoswyd tuag at Pedr. Yr oedd Ioan yn debyg i'r llyn tawel heb yr un dòn ar ei wyneb, ac yn adlewyrchu bob amser wyneb siriol yr haul; a Phedr yr un fath a'r rhaiadr gwyllt sydd yn disgyn dros y clogwyni—weithiau yn fawr a gemog, bryd arall yn fychan a disylw, yn ol fel y bydd y gwlawogydd a'r llifogydd wedi bod. Pe buasai Pedr ac Ioan yn cael eu galw yn ddirybudd i gyfarfod pregethu, ni buasai Ioan yn dal i'w gymharu â Phedr; ond pe buasai y ddau yn myned i ysgrifenu pregeth, buasai Ioan yn tra rhagori. Ni fedrasai Ioan bregethu pregeth dydd y Pentecost, ac ni fedrasai Pedr ysgrifenu Efengyl y Gair a wnaethpwyd yn Gnawd. Yr oedd y ddau yn llestri etholedig gan Dduw i gyflawni gwaith mawr yn y byd, a phob un ei waith ei hun. Ond, fel yr awgrymwyd yn barod, gosododd Iesu Grist fwy o arbenigrwydd ar Pedr nag ar un o'r apostolion eraill. Heblaw ei fod yn meddu lle blaenllaw, os nad y mwyaf blaenllaw,<noinclude><references/></noinclude> 8jc0p72z8ph8cbei0byv96cstwqktuz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/93 104 88457 170836 2026-08-20T22:40:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170836 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymhlith y tri a gafodd eu breintio fwyaf gan Grist, yr oedd Pedr yn llygad-dyst o gyflawniad yr oll, ymron, o wyrthiau Crist. Ac, yn wir, yr oedd cysylltiad neillduol rhwng llawer iawn o'r gwyrthiau â Phedr yn bersonol, yr hyn nad ellir ei ddyweyd am gymaint ag un o'r apostolion eraill. Pan wnaed Pedr yn bregethwr, gwyrth ydoedd ei Gyfarfod Ordeinio ef! Yn llong Simon Pedr yr oedd Crist; wrth Simon Pedr y dywedodd, "Gwthia ychydig i'r dwfn;" a'i rwyd ef oedd ar dori gan y ddalfa ryfeddol o bysgod. Yr oedd a fyno y wyrth hon, ni a welwn, â Phedr yn fwy na neb arall. Nid oedd Andreas, ac Iago, ac Ioan, ond yn llenwi lle ailraddol yn yr amgylchiad. Pedr oedd y gwrthddrych yr oedd y wyrth a'i gwyneb yn benodol arno. Ac yr oedd Pedr yn teimlo hyny, pan y dywedodd, "Dos ymaith oddiwrthyf, canys dyn pechadurus ydwyf fi." Wrtho ef hefyd y dywedodd Crist, "O hyn allan y deli ddynion." Fel hyn y dechreuodd Crist gyda Phedr mewn gwyrth. Heblaw hyn, y tro cyntaf yr aeth Crist i dŷ Pedr cyflawni gwyrth ydoedd ei neges, sef iachau ei fam yn nghyfraith. Felly yr oedd cysylltiad arbenig rhwng y wyrth hon drachefn â Phedr. Pan oedd y dysgyblion yn flin arnynt yn rhwyfo,<noinclude><references/></noinclude> k8tj70y4gqool9aztjqtxbn3svtrguq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/94 104 88458 170837 2026-08-20T22:41:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170837 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a Christ yn rhodio yn wyrthiol ar y môr tuag atynt, Pedr a gafodd ganiatâd i gerdded i'w gyfarfod, ac a achubwyd pan ydoedd ar suddo i'r gwaelod. Yr oedd Pedr, mewn ystyr, wedi dyfod yn rhan o'r wyrth hon; a sicr yw iddi adael mwy o argraff ar ei feddwl ef nag ar feddwl neb arall oeddynt yn llygad-dystion o honi. Pan ddaeth y casglwyr trethi i ymofyn am y dreth, Pedr a anfonwyd i fwrw bach i'r môr i ddal y pysgodyn â'r darn arian yn ei enau. Drachefn, iachau clwyf a achoswyd gan Pedr yr oedd Crist wrth adferu clust gwas yr archoffeiriad; ac yr oedd yn naturiol i Pedr deimlo fod mwy o gysylltiad rhwng y wyrth hon ag ef na neb arall o'r apostolion. Gwelwn oddiwrth yr engreifftiau hyn fod cysylltiad neillduol rhwng amryw o'r gwyrthiau a Phedr yn bersonol, yr hyn nas gellir ei ddyweyd am neb arall o'r apostolion. Heblaw hyn eto, mae yn ymddangos fod Pedr yn cael edrych arno fel cynnrychiolydd yr apostolion eraill—fel un oedd i ofyn ac ateb cwestiynau drostynt. Anfynych y cawn fod neb o'r apostolion eraill yn gofyn eglurhad, neu yn ateb cwestiynau i Grist; ond y mae yr ymadrodd, "Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd," yn britho yr Efengylau. Ac ymhlith geiriau Simon<noinclude><references/></noinclude> iky3suwh9jusey6lqyvmg2klme1e9gg Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/95 104 88459 170838 2026-08-20T22:42:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170838 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pedr y mae rhai o'r ymadroddion mwyaf tarawiadol a chynnwysfawr, a hyny ar adegau pan y mae lle i gredu fod yr apostolion eraill mewn penbleth pa beth i'w ddyweyd. Er engraifft:—Pan yr oedd Crist wedi llefaru wrth y rhai a'i dilynasent tu hwnt i'r môr mewn modd llym, miniog, a chaled, fel y tybient hwy, ac wedi iddynt hwythau droi yn eu hol, byth i rodio mwyach gydag Ef, fe droes yr Iesu at y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, "A fynwch chwithau hefyd fyned ymaith?" Yr appeliad hwn o'i eiddo ydyw, ni a gredwn, y peth tebycaf i ymddygiad angharedig tuag at y deuddeg a gawn yn ei holl hanes; a diau iddo eu clwyfo yn fwy na dim a ddywododd wrthynt erioed. Braidd na ddychymygem eu gweled i gyd â'u pennau i lawr, heb wybod yn iawn beth i'w ateb. Ond dacw Simon Pedr, fel arfer, yn dyfod i'r rescue, a'i lygaid yn tanio gan zel," O Arglwydd, at bwy yr awn ni? genynt ti y mae geiriau bywyd tragywyddol." Diau iddynt oll, oddigerth Judas, ysgwyd llaw yn garedig âg ef am iddo eu tynu allan o'r benbleth. Dro arall, wedi iddynt ddyfod i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd Crist iddynt ar y ffordd, "Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?"<noinclude><references/></noinclude> js39rkjwvnviah7ldkhbr8yh966yz33 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/96 104 88460 170839 2026-08-20T22:43:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170839 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Wel, meddai un o honynt,—Mae rhai yn dyweyd mai Ioan Fedyddiwr wyt. Dywed eraill, medd un arall, mai Elias wyt. Clywais innau rai yn henwi Jeremias, neu un o'r prophwydi, meddai un arall drachefn. Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? meddai Crist. A dyna ddystawrwydd, dybygid, yn eu plith am foment, ac o bosibl eu bod yn edrych i wyneb Simon Pedr. "A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw." Cafodd Crist ei hun ei synu gan yr atebiad hwn o eiddo Pedr ar y pryd, a llongyfarchodd ef, "Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona; canys nid cig a gwaed a ddadguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac yr wyf finnau yn dywedyd i ti mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear a fydd rhwymedig yn y nefoedd, a pha beth bynag a ryddhäech ar y ddaear a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd." Yr oedd y fath gyfarchiad gan Iesu Grist ei hun yn ddigon i droi yn mhen un cryfach na Simon Pedr, a pheri iddo ymchwyddo. Ni a gawn drachefn, tua diwedd oes y Gwaredwr,<noinclude><references/></noinclude> 5lhs6o9o6iftl81aktr6dj4bbdewem0 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/97 104 88461 170840 2026-08-20T22:47:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170840 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei fod yn gosod rhyw arbenigrwydd neillduol ar Pedr, ac yn ei gyfarch, "Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi i'th nithio fel gwenith; eithr mi a weddïais drosot na ddiffygiai dy ffydd di." Mae rhywbeth neillduol a hynod iawn yn ngeiriad yr adnod:—"Satan a'ch ceisiodd chwi i'ch nithio—eithr mi a weddïais drosot." Nid oes amheuaeth na ddarfu i'r Gwaredwr weddïo drostynt oll; ond cafodd Pedr le amlwg yn ei weddi—gwnaed ef yn wrthddrych gweddi neillduol. Mae yn rhaid fod y syniad fod y Duw-ddyn yn gosod arbenigrwydd arno ef yn ei weddïau yn drydanol yn ei effeithiau ar Pedr. Ac nid rhyfedd ei glywed yn tori allan ac yn dyweyd, "Arglwydd, yr wyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar ac i angeu." Ac oni ragfynegasai ei Athraw na chanai y ceiliog ddwywaith y diwrnod hwnw cyn iddo ei wadu deirgwaith, buasai pawb oedd yn ei adnabod yn dysgwyl i Pedr fyned i garchar ac i angeu gydag ef. Yr oedd y lle amlwg yr oedd wedi ei gael ymhlith yr apostolion, y breintiau uchel yr oedd wedi eu mwynhau, y zel a'r tanbeidrwydd yr oedd eisoes wedi eu harddangos, yn creu dysgwyliadau yn mhawb a'i hadwaenai y buasai efe yn sefyll yn ddigwymp<noinclude><references/></noinclude> e4x89nfk85nxglbw58ckxgnxx1a2k0y Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/98 104 88462 170841 2026-08-20T22:49:08Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170841 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyd y diwedd, pa galedi bynag a ddaethai i'w gyfarfod. Ond buan y dangosodd mor wan ydyw y natur ddynol, ac nad ydyw cnawd ond gwellt ar y goreu. Ymhen ychydig oriau y mae Crist wedi rhoddi ei hunan i fyny i'r milwyr. Mae ei ddysgyblion wedi ffoi, un yma ac un acw; ond y mae Pedr yn dilyn o hirbell. Mae yn anhawdd penderfynu pa beth oedd yn ei gymhell i ddilyn Crist a'r fyntai. Hwyrach fod y fôst hyderus yr oedd newydd ei gwneyd, ac ofn syrthio yn ei olwg ei hun o herwydd ei lwfrdra, yn ei gymhell. Meddylia rhai nad oedd dim uwch na hyn yn ei gynhyrfu i ddilyn o hirbell ; a thebygol mai oddiar y grediniaeth yma y mae yr ymadrodd, "dilyn o hirbell," yn cael ei ddefnyddio yn ein dyddiau ni, i ddynodi dyn â chrefydd adfeiliedig ganddo, neu ynte un heb wir grefydd o gwbl. Ond ymddengys i ni fod Pedr yn yr amgylchiad profedigaethus hwn, wrth ddilyn Crist, hyd yn nod o hirbell, yn rhagori ar ei gyd-ddysgyblion. Yr oeddynt hwy oll wedi ffoi na wyddai neb i ba le, ond nid oedd efe yn foddlawn i golli golwg ar ei anwylaf Gyfaill. Ennillasai ei Feistr le cysegredig yn ei galon, ac nid allai oddef y drychfeddwl o<noinclude><references/></noinclude> dx47u389xifoj2iobtm2t84sxbu6aun Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/99 104 88463 170842 2026-08-20T22:51:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170842 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffarwelio âg ef. Yn ei flaen yr aeth, beth bynag oedd yn ei symbylu, nes cyrhaedd tŷ yr archoffeiriad, lle y cafodd y drws wedi ei gau, ac nad allai fyned i mewn. A oedd yn dda ganddo gael y drws wedi ei gau, fel y tybia Krummacher? A ddarfu i'w wyneb sirioli a'i gydwybod deimlo gollyngdod pan welodd na fedrai fyned i mewn? A fuasai yn troi ar ei sawdl ac yn myned ymaith, pe na buasai i'r dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus i'r swyddogion, ddyfod fel ar ddamwain, a'i gymeryd i mewn gydag ef? Na, gadewch i ni obeithio mai nid hyn ydoedd ystâd ei feddwl. Ond gresyn na fuasai wedi cadw draw, neu ynte wedi gwisgo yr holl arfogaeth. Yr oedd y bore yn oer ac yn finiog; ac yr oedd y swyddogion wedi cynneu tân i ymdwymno wrtho. Llithrodd Pedr i'w canol. Cafodd ei adnabod, a'i gyhuddo o fod yn un o ddysgyblion Crist. Gwadodd. Cafodd ei gyhuddo yr ail waith, a gwadodd yn fwy penderfynol. Cyhuddwyd ef y drydedd waith, a'r tro hwn tyngodd a rhegodd nad oedd yn ei adwaen. Dyma yr un oedd yn tystio ychydig oriau yn ol ei fod yn barod i fyned i garchar ac i angeu gyda Christ! O gwymp sydyn a dirmygedig! Gellid yn hawdd ofyn yn y fan yma lawer o<noinclude><references/></noinclude> 3gmfzm45jdn416d0jf3wlcj2hrjbqhw Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/100 104 88464 170843 2026-08-20T22:54:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170843 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwestiynau, megys, Pa fodd y mae Duw yn goddef i'w blant fyned i'r fath eithafion mewn gwrthgiliad? Ond nid mor hawdd a fyddai eu hateb. Nid allwn lai na sylwi ar ddau beth a ddarfu arwain Pedr yn naturiol i'r gwrthgiliad hwn. Un peth yw anghyfartaledd meddwl. Yr oedd Pedr yn perthyn i'r dosbarth hwnw o bobl ag y mae gwresogrwydd eu calon yn gorbwyso y goleuni sydd yn y deall a'r ddirnadaeth. Nid ydyw y dosbarth hwn byth yn ddiogel yn ngwyneb ymosodiad. Nid oes amheuaeth nad oedd gan Pedr gariad angerddol at, ac ymlyniad mawr wrth Grist, yr hyn, yn sicr, ydynt rai o elfenau pwysicaf crefydd bersonol. Ond nid oedd ei ddeall wedi ei oleuo yn gyfatebol i hyny. Yr oedd ei deimladau yn gryfach na'i ddirnadaeth. Nid oedd eto wedi deall gwendid ei natur ei hun, na thwyll pechod, na dichellion y diafol. Yr oedd ganddo syniad uchel am Grist, ac, yn ddiammheu, yr oedd yn cysylltu ei ddedwyddwch a'i fywyd tragywyddol âg Ef mewn rhyw ddull; ond nid oedd erioed wedi deall fod hyny i'w dwyn oddiamgylch trwy ei farwolaeth. Ac heblaw hyn, yr oedd wedi ei feddiannu gan ryw hunan-hyder a hunan-ymddibyniad difesur bron.<noinclude><references/></noinclude> llh96njr6332ywy0c4vkgug04avm6ff Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/101 104 88465 170844 2026-08-20T22:55:32Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170844 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>A phan ddaeth y prawf mawr arno, ag yntau heb ymddibynu ar Grist, nid oedd nemawr gwell na'r hen bysgotwr yn y diwedd. Yr oedd y rhegfeydd, nas arferasai er ys tair blynedd neu fwy, yn llifo dros ei wefusau mor rhugl yn awr a'r adeg y byddai wedi colli ei dymher wrth fethu dal pysgod, neu pan y byddai ei rwyd wedi tori. Y peth arall ydyw, ymgymysgu â chwmni drwg. Mae tair ffordd yn agored i ddyn ymhob cymdeithas: cydfyned â'r cwmni, neu fyned yn groes, neu ynte peidio gwneyd y naill na'r llall, ond bod yn ''neutral''. Nid peth hyfryd i ddyn ydyw myned yn groes i'r cwmni y bydd yn dygwydd bod ynddo; a pheth digon anhawdd ydyw iddo fod yn ddystaw ac anmhleidiol; ac felly y rheol gyffredin ydyw fod dyn yn cydfyned â'r cwmni. Gwyddai Pedr yn ddigon da nad gyda'r cwmni oedd yn ymdwymno o flaen y tân yr oedd ei le ef. Nid allai gymeryd rhan yn yr ymddiddan oedd yn myned ymlaen rhyngddynt. Yr oedd yn eu clywed yn diraddio ac yn gwawdio ei Athraw, ac yr oedd ei gydwybod a'i holl ysbryd yn ymgynhyrfu wrth glywed eu cabledd. Ond nid oedd efe yno yn meddu ar ddigon o wroldeb i'w gwrthwynebu a<noinclude><references/></noinclude> li6ofj8d879zuvwz9od7158feri95r0 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/102 104 88466 170845 2026-08-20T23:06:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170845 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chymeryd y canlyniadau. Ac felly penderfynodd fod yn ddystaw. Nid yn hir y goddefir i neb fod yn neutral; mae amgylchiadau yn cyfarfod pob dyn ag sydd yn ei orfodi i ddangos ei ochr. Tywynodd rhyw fflam annysgwyliadwy o'r tân ar wyneb Pedr pan oedd y llances yn myned heibio, ac y mae hithau yn ei lygadu, ac yn gofyn yn wawdus, "Onid oeddit tithau hefyd gydag Iesu o Nazareth?" Nid cynt y daeth y gwadiad dros ei wefusau nag y taranodd ei gydwybod wrtho ei fod yn dyweyd celwydd, a'i fod yn euog o'r brâd a'r llwfrdra mwyaf pechadurus. Ac er mwyn ceisio cymedroli ychydig ar y gwadiad, y mae y truan yn ychwanegu, "Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd." Achosodd y gwadiad hwn o'i eiddo bangfa ofnadwy yn ei enaid; ond pan y cyhuddwyd ef yr ail waith, y mae yn gallu gwadu yn fwy hwylus o lawer: y mae'r ffordd i'r ail drosedd bob amser yn hawddach ei thrafaelio. Yr un fath â'r gareg a hyrddir i lawr y bryn, ar ol y drofa gyntaf y mae yn treigio yn gyflym a didrafferth yn ei nerth ei hun. Pan ddarfu i lawer un feddwi neu dwyllo y tro cyntaf, methodd a chysgu y noswaith ganlynol gan argyhoeddiadau cydwybod; ond pan gyflawnodd yr un trosedd yr ail waith,<noinclude><references/></noinclude> cy76bvdfkm7hfqsdo4p3n746732g8qz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/103 104 88467 170846 2026-08-20T23:07:42Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170846 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gallodd gysgu yn dawel drwy y nos. Heblaw fod Pedr yn gallu gwadu yr ail waith yn fwy hwylus, y mae y gwadiad yn fwy cröew a diystyrllyd: "Nid adwaen i y dyn." Mae hyn yn swnio yn oer ac yn grâs o'i gymharu â'r geiriau, "Ti yw Crist, Mab y Duw byw." A'r ceiliog a ganodd. Ni chlywodd efe mohono. Tybiai Krummacher fod y diafol wedi gwneyd rhyw drwst fel nad allai Pedr glywed llais y ceiliog. Ac wedi hyn daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, "Yn wir yr ydwyt tithau yn un o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo." Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, "Nid adwaen i y dyn." Dyma ef yn awr wedi syrthio i ddyfnderau isaf gwrthgiliad. "A'r ceiliog a ganodd yr ail waith." A'r tro hwn disgynodd ei lais clir fel tân i gydwybod Pedr, gan adgofio iddo yn rymus eiriau ei Feistr, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith y'm gwedi deirgwaith." Yr oedd yno Un arall a glywodd y ceiliog yn canu. Ac O y fath ras a hunan-anghof digyffelyb! Pan oedd yr archoffeiriad wedi cael ei ddymuniad, a'r swyddogion yn barod i neidio ar eu hysglyfaeth, pan oedd Efe ei hun yn nghanol y pryder meddwl mwyaf, " yr Arglwydd a drodd ac a edrychodd ar Pedr." Yn<noinclude><references/></noinclude> 5r3fj06rx1rj9cu8mfgisux3i1t39ph Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/104 104 88468 170847 2026-08-20T23:08:47Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170847 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei holl helynt, yr oedd yn meddwl mwy am Pedr nag am dano ei hun. Gan y gwyddai yr Arglwydd ymlaen llaw y gwadai Pedr ef, sicr yw y gwyddai ei fod erbyn hyn wedi ei wadu. Ond er hyn i gyd yr oedd ei lygaid yn cynniwair am Pedr trwy y gynnulleidfa. Pan oedd gliniau Pedr yn gwegian ac yn crynu gan euogrwydd, fe ddaliodd Crist ei lygad, ac a edrychodd arno. A'r fath edrychiad oedd hwnw! Y fath gerydd, a'r fath dosturi Dwyfol oedd ynddo! Yr oedd fel cleddyf yn ei agor, ac fel balm yn ei wella. Yr oedd fel y fellten yn ei rwygo yn agored, ac ar yr un pryd fel cawod o wlaw tyner yn rhoddi bywyd ynddo. Cafodd yr edrychiad yr effaith ddymunol ar Pedr. Fe'i llanwodd o edifeirwch a hunan-ffieiddiad. Taflodd ei fantell dros ei ben, ac a aeth allan ac a wylodd yn chwerw dost. Ac oni buasai am weddi ei Arglwydd drosto, na ddiffygiai ei ffydd, yr un a fuasai ei ddiwedd ef a Judas. Yn ein holl grwydriadau, y mae llais rhyw rybuddiwr yn ein galw o hyd i edifeirwch. Y mae i'w glywed yn llais y ceiliog, yn rhuad y daran, yn sibrwd yr awel deneu lefn; ond yr hyn sydd debycaf o'n cadw yn ein lle, ac o'n dwyn i'n lle wedi i ni wrthgilio, ydyw sylweddoli y<noinclude><references/></noinclude> 756y9tj5im2ir9qmtud51u2sv21hr7k Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/105 104 88469 170848 2026-08-20T23:09:54Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170848 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl fod llygad Duw yn edrych arnom, ac yn cymeryd sylw o'n holl ysgogiadau, ac fod bywyd neu farwolaeth yn ei edrychiad ef.<ref>Gwel Dr. Krummacher's Suffering Saviour, tudal. 159.</ref> Mae hanes cwymp dynion mawr y Bibl fel mynegfys ar ffordd y bywyd i'n cadw rhag colli y llwybr. Diffyg mawr Pedr oedd fod ganddo ormod o ffydd o lawer ynddo ei hun, a rhy fychan o ffydd yn Iesu Grist. Mae i ddyn wneyd penderfyniadau da yn beth canmoladwy; ond os na byddant wedi eu selio mewn ymddiried yn Nuw, ant i gyd gyda'r gwynt pan ddelo profedigaeth. "Trwy ffydd yr wyt yn sefyll; na fydded i ti uchel syniad, eithr ofna. Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hz0h1csjq3t28pely8o7mb0npmg0dhk Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/106 104 88470 170849 2026-08-20T23:11:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170849 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|VI.<br>{{mawr|FFYDD Y CANWRIAD.}}}} ''"A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir, meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob, yn nheyrnas nefoedd; ond plant y deyrnas a deflir i'rtywyllwch eithaf."''—MATTHEW viii. 10-12.</ref> A OEDD y rhyfeddodd hwn o eiddo Crist, a amlygodd Efe at ffydd y canwriad, yn un hollol neu wirioneddol, ai ynte cymeryd arno ryfeddu a wnaeth, er mwyn tynu sylw a gwneyd argraff ar ei ganlynwyr? Nid oes genym ei hanes yn rhyfeddu ond mewn dau amgylchiad yn unig, sef at ffydd y canwriad, ac at anghrediniaeth y Nazareniaid. Ac y mae yn fwy o ryfeddod fod Crist wedi rhyfeddu na phe buasai heb ryfeddu. At yr hwn sydd uwchlaw ein deall, neu ynte yn dygwydd yn sydyn ac<noinclude><references/></noinclude> kgdcso0o73ylrvktet6nqqibnh3k44l Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/107 104 88471 170850 2026-08-20T23:12:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170850 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>annysgwyliadwy, y byddwn ni yn rhyfeddu. Mor gynted ag y bydd dyn yn dyfod i ddeall unrhyw beth yn drwyadl, y mae ei ryfeddod yn darfod. Pan gymerir y bachgen o ganol mynyddoedd Cymru i un o drefydd mawrion Lloegr, y mae y tai anferth, a'r bywyd a'r berw, yn ei synu ac yn ei ddyrysu yn lân; ond wedi iddo fod yno am yspaid, a dyfod i ddeall natur bywyd trefol, y mae ei syndod yn peidio. Yn gyffelyb y mae gyda golwg ar ryw gywreinwaith celfyddydol ; y mae ein rhyfeddod yn lleihau fel y mae ein dirnadaeth o hono yn mwyhau. Anwybodaeth, neu, yn hytrach, cyfyngdra gwybodaeth, ydyw yr achos fod dyn yn rhyfeddu. Acer y gall ymddangos yn groes-ddywediad, y gwir yw mai y dynion sydd yn gwybod fwyaf sydd hefyd yn rhyfeddu fwyaf; oblegid po fwyaf y byddo dyn yn dyfod i'w wybod, mwyfaf yn y byd y bydd yn gweled o bethau nad ydyw yn eu gwybod. Ac y mae testynau i ryfeddu atynt yn anhebgorol i ddedwyddwch dyn. Pe gallai amgyffred pob peth, byddai pob peth yn fuan wedi colli eu newydd-deb a'u swyn iddo, a byddai yntau yn rhwym o fod yn druenus. Buasai rhagolwg creadur anfarwol fel dyn yn ofnadwy oni buasai fod Duw yn anfeidrol ac anhysbyddadwy; canys<noinclude><references/></noinclude> j9y9y0w6p81zcap3j0dz1irxnu03jnq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/108 104 88472 170851 2026-08-20T23:13:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170851 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y mae yn dra thebygol, ymhen miloedd o oesoedd, y bydd dyn, gan ei fod yn greadur cynyddol, wedi cyrhaedd safle ag y bydd yn meddu dirnadaeth am bob peth; ond hyd yn nod yr adeg hono, bydd Duw yn anamgyffredadwy, ac yn ffynnonell dedwyddwch tragywyddol iddo. Yna bydd dyn a Duw wedi dyfod i gael eu holl ddedwyddwch yn yr un man, sef yn Nuw ei hun; canys nid ydyw Duw yn rhyfeddu at ddim, os nad ydyw yn rhyfeddu ato Ef ei hun. Gan nad oes dim uwchlaw ei amgyffred Ef, nac yn dygwydd yn annysgwyliadwy iddo, mae yn anmhosibl iddo ryfeddu at ddim y tu allan iddo Ef ei hunan. Ond ni a gawn hanes Crist, fel y nodasom, yn rhyfeddu ddwywaith, yr hyn sydd brawf ychwanegol, at lawer o brofion eraill, i'w ddynoliaeth, a'i fod yn ddarostyngedig i'r un gwendidau dibechod a ninnau. Megys yr oedd mewn amgylchiadau eraill, er ei fod yn hollalluog a hollddigonol, yn dyoddef oddiwrth flinder a chwant bwyd, felly y mae yn yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt, er ei fod yn gwybod pob peth, yn rhyfeddu. Yr oedd Crist yn rhyfeddu at y<noinclude><references/></noinclude> t30iiucj9kq8bzszsosdvzrig334thu Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/109 104 88473 170852 2026-08-20T23:14:10Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170852 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Nazareniaid am nad oedd yn cael yr hyn yr oedd yn ei ddysgwyl, ac yn rhyfeddu at y canwriad am ei fod yn cael yr hyn nad oedd yn ei ddysgwyl. Ac ni a goeliwn y gwna ychydig ystyriaeth i amgylchiadau y canwriad hwn beri i ninnau ryfeddu fod ganddo ffydd mor fawr yn yr Arglwydd Iesu Grist. Yr oedd ffydd mor fawr gan un oedd ar unwaith yn genedlddyn, yn Rhufeinwr, yn foneddwr, ac yn filwr, yn beth i ryfeddu ato; ac y mae yn rhaid fod ysbryd y dyn hwn wedi myned trwy lawer gorchwyliaeth cyn yr oedd yn bosibl iddo gyrhaedd y tir uchel hwn mewn crefydd ag oedd yn ei osod yn uwch yn meddwl Crist na neb yr oedd efe wedi ei gyfarfod ymhlith cenedl Israel, gyda'u holl freintiau. Wedi ei eni yn genedlddyn, dygwyd ef i fyny y rhan flaenaf o'i oes, yn ddiammheuol, yn nghanol paganiaeth a choelgrefydd; a'r unig deml y gwyddai am dani ydoedd teml yr eilundduw. Heblaw hyn yr oedd yn Rhufeinwr; ac fel y cyfryw yr oedd wedi ei addysgu o'i febyd i edrych i lawr ar bob cenedl arall fel barbariaid, ac i edrych ar bob crefydd arall ond ei grefydd ei hun gyda dirmyg. Drachefn, yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn filwr, ac yn swyddog yn y fyddin. Yr anrhydedd mwyaf y gwyddai y Rhufeinwr am dano oedd bod yn filwr, ac yn filwr enwog. Byddai<noinclude><references/></noinclude> tuul87dik1da2vvtxtrmag8l370dowl Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/110 104 88474 170853 2026-08-20T23:14:58Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170853 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr hwn a allai lywyddu byddin ac ennill brwydrau yn cael ei hanner addcli yn Rhufain; ac nid oedd uchelgais mwy gan y Rhufeinwr na pheri i genedloedd eraill deimlo ei rym, ac ymostwng trwy deg neu drais dan ei awdurdod, a chydnabod mai Rhufain oedd y ddinas fwyaf yn y byd, ac mai y Rhufeiniaid oedd pobpeth. Ychwanegir at hyn eto, fod y dyn hwn yn ŵr cyfoethog, ac yna bydd genym syniad lled gywir gyda pha dyb am dano ei hun yr ydoedd yn cychwyn o Rufain gyda chatrawd o filwyr, i blith yr Iuddewon oeddynt wedi eu darostwng, fel pob cenedl adnabyddus arall, o dan awdurdod y ddinas dragywyddol. Nid oedd cysylltiadau yr Iuddewon â'r Rhufeiniaid yn hapus iawn. Yn wir, yr oedd y teimladau mwyaf chwerw yn bodoli rhyngddynt; ac ar yr olwg gyntaf, yr oedd y syniad i Rufeinwr gael ei ennill drosodd i gofleidio y grefydd Iuddewig yn beth annhebygol iawn. Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd y Rhufeinwr yn falch o'i genedl, ac yn ystyried pob cenedl arall ymhell islaw iddi. Ac, mewn gwirionedd, felly yr oedd pob cenedl, oddigerth y genedl Iuddewig; ac yn y peth mwyaf, sef crefydd, yn unig yr oedd hi yn rhagori. Yr oedd y genedl Rufeinig yn meddu llawer o ragoriaethau.<noinclude><references/></noinclude> gs953k6daonylkz8y0vj40k5f2f3ouu Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/111 104 88475 170854 2026-08-20T23:15:35Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170854 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd wedi cyrhaeddyd safle uchel mewn gwareiddiad, ac yr oedd y parch mwyaf yn cael ei dalu ganddi i gysylltiadau teuluaidd a chymdeithasol. Ond yr oedd un peth yn arbenig yn nodweddu y Rhufeiniaid, sef y parch neillduol yr oeddynt yn ei dalu i gyfreithiau a deddfau. Yr oeddynt yn edrych ar bob cyfraith yn gysegredig, a phob deddf yn ddwyfol. Nid rhyfedd, gan hyny, fod Paul yn yr Epistol at y Rhufeiniaid yn ymdrin cymaint â'r ddeddf, y gyfraith, a chyfiawnhad. Yr oedd Paul wrth son am ddeddf, a chyfraith, a chyfiawnhad, yn cyffwrdd â man tyneraf calon y Rhufeiniaid. Pan fethai pobpeth ag effeithio arnynt, yr oedd son am ddeddf yn galw eu sylw yn union. A thebygol mai hyn ydoedd dirgelwch eu mawredd; ac nid cyn i genedloedd eraill ymgymysgu a hwynt, ac i'r rhai hyny ddwyn gyda hwy ryw fath o ysgafnder a llygredigaeth a ddarfu leihau eu parch i'r deddfau a'r awdurdodau,— nid cyn hyny, meddwn, y darfu iddynt golli eu mawredd cenedlaethol. Ac hyd yn nod yn amser ein Hiachawdwr, pan oedd y genedl wedi ymlygru llawer, nid oedd y teimlad o barch i'r deddfau wedi ei ddiwreiddio o galon y Rhufeinwr. Pan symudodd y canwriad o Rufain i Galilea,<noinclude><references/></noinclude> l71ji6eui4skdbli6c244kasxoioq2b Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/112 104 88476 170855 2026-08-20T23:16:12Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170855 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mae yn rhaid ei fod wedi teimlo y cyfnewidiad yn fawr. Yr oedd bywyd yno yn rhywbeth hollol wahanol i'r hyn yr oedd efe wedi arfer ei weled. Collodd y chwareudai, y gwleddoedd, a'r dawnsiau, a chafodd ei hun wedi ei daflu i ganol pobl oeddynt wedi ymroddi bron yn hollol i grefydd—o ran ffurf, beth bynag. Crefydd y fath ag ydoedd, oedd y peth amlycaf ymhlith y genedl. Anrhydedd crefyddol oedd yr anrhydedd mwyaf—yr offeiriad oedd yn cael y parch mwyaf. Fel milwr, nid oedd ganddo ef lawer o waith. Mae yn debygol fod y rhan fwyaf o'i amser yn eiddo iddo ef ei hun. Wedi colli prif agweddion ei fywyd blaenorol, yr oedd yn rhaid i'w feddwl weithredu ar ryw wrthddrychau newyddion; a naturiol oedd iddo ymroi i astudio y bobl, i blith y rhai yr oedd amgylchiadau wedi ei daflu. Yr oedd yn anmhosibl iddo wneyd hyn heb roddi sylw arbenig i'w crefydd, ac yn enwedig i'w llyfrau, sef llyfrau Moses, y Salmau, a'r Prophwydi. Yr oedd y llyfrau hyn eisoes wedi eu cyfieithu i'r iaith Roeg; ac yr oedd yr iaith hono yn ddealledig i'r dosbarth uchaf ymhlith y Rhufeiniaid: yr oedd yntau yn ŵr cyfoethog, ac nid oedd dim ar y ffordd i gael y llyfrau hyn i'w feddiant. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> tnlggmybx5715m4rw0tkyz50trs0brw Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/113 104 88477 170856 2026-08-20T23:16:50Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170856 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yn awr, yr oedd dau beth yn Ysgrythyrau yr Hen Destament ag a fuasent yn galw sylw, ac yn cynhyrfu cywreingarwch pob Rhufeinwr, sef yr arbenigrwydd mawr sydd yn cael ei roi ar ddeddfau a chyfreithiau, a'r hanesion cynhyrfus am ryfeloedd a thywallt gwaed. Fel y sylwyd, yr oedd y Rhufeiniaid yn ymffrostio yn eu cyfreithiau: ac fel cenedl ryfelgar yr oeddynt wedi gorchfygu ymron bob cenedl adnabyddus. Ni a allwn ddychymygu, gan hyny, gyda pha fath gywreingarwch yr oedd y canwriad yn darllen llyfrau Moses, y fath sylw a roddai i'r ddeddf a gyflwynodd Duw ar Sinai-fel yr oedd yn cymharu y ddeddf farnol â deddfau y Rhufeiniaid. Ar y llaw arall gyda pha fath fwynhad yr oedd yn darllen llyfr Josua, y Barnwyr, y Brenhinoedd, &c. Gwyddai ef, o bosibl, oddiar brofiad, beth oedd bod mewn rhyfel; a gallai fyned yn fwy i ysbryd yr hen wroniaid, Josua a Dafydd, nag y gallai darllenwyr cyffredin yr Hen Destament. Hwyrach ei fod yn gweled cryn lawer o debygolrwydd rhwng Josua â Julius Cesar. Nid allai lai na sylwi, hefyd, ar y nodwedd neillduol oedd ynglŷn â rhyfeloedd pobl Israel, sef nad oedd eu llwyddiant ddydd y frwydr yn dibynu cymaint ar eu medrusrwydd<noinclude><references/></noinclude> 2tft9bt5qbpdp8zjb3ike6hpplu22uf Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/114 104 88478 170857 2026-08-20T23:17:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170857 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel rhyfelwyr, nac ar eu nifer, ond ar agosrwydd y genedl at Dduw. Os byddent yn ffafr Duw, byddent yn sicr o gario y dydd ar eu gelynion, serch i'r rhai hyny fod yn lliosocach ac yn fwy medrus na hwy; ac felly hefyd i'r gwrthwyneb. Wrth sylwi ar hyn, yr oedd yn naturiol i'r canwriad ofyn llawer o gwestiynau iddo ef ei hun, megys, Pwy ydyw Arglwydd Dduw Israel ? Pwy yw Duw Abraham, Isaac a Jacob? A ydyw efe yn fwy na duwiau y Rhufeiniaid? Os ydyw, pa fodd y mae yr Iuddewon dan deyrnged i'r Rhufeiniaid? Bu hyn yn rhagbarotoad ar ei feddwl i ddarllen llyfrau y prophwydi, ymha le, yn ddiammheu, y cafodd atebion i'w ofyniadau. Mae yn debyg mai trwy ryw lwybr tebyg i hyn y darfu i Ysbryd Duw ei arwain bob yn gam a cham i adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Yn ngoleuni yr Hen Destament daeth i ganfod yn eglur mai nid y Rhufeiniaid oedd cenedl etholedig y Nefoedd. Gwelodd fod mwy o arbenigrwydd a mawredd wedi ei osod ar genedl Israel nag ar un genedl arall dan y nef. Ac yn ngoleuni y prophwyd Esaiah, cafodd allan fod prif anrhydedd y genedl heb wneyd ei ymddangosiad eto-fod yna un mwy na Julius<noinclude><references/></noinclude> 29jl99qp9skn85ox3etxxi6jdikmvbq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/115 104 88479 170858 2026-08-20T23:18:29Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170858 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Cesar wrth y drws, yr Hwn y byddai ei lywodraeth yn fwy, ei fuddugoliaethau yn fwy, ac i'r Hwn y byddai pob cenedl yn plygu. Ac y mae yn rhaid fod y canwriad wedi cyrhaedd golygiadau uwch am y Messiah, ac am natur ei deyrnas, nag odid i neb yn Israel y pryd hwnw. "Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel." Y ffurf gyntaf a gymerodd ei grefydd oedd caru y genedl. "Mae efe," ebe henuriaid o'r Iuddewon, "yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo; canys y mae efe yn caru ein cenedl ni" (Luc vii. 4, 5). Y genedl yr addysgwyd ef o'i febyd i edrych i lawr arni a'i diystyru, cafodd hon, yn ngoleuni yr Ysgrythyrau, ei dyrchafu yn ei olwg mor fawr, nes yr oedd yn methu peidio ei charu. Mae crefydd y Bibl yn dyrchafu dyn i gydnabod perthynas uwch na pherthynas genedlaethol. Felly yr effeithiodd ar y canwriad. Collodd ei hen ymffrost yn y genedl Rufeinig, a theimlodd, yn ngoleuni ei ffydd newydd, berthynas agosach rhyngddo a chenedl Israel nag a'i genedl ei hun. Yr oedd yn caru y genedl er mwyn ei Duw, yr hwn hefyd oedd yn Dduw iddo yntau erbyn hyn; ac yr oedd yn rhaid i'r cariad hwn gael dangos ei hun. Mae cariad yn<noinclude><references/></noinclude> 4ah1bo68r0v53kou47v92a7oevhvlwi Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/116 104 88480 170859 2026-08-20T23:19:01Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170859 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cuddio lliaws o bechodau, ond ni fyn ei guddio ei hun gan neb na dim. Yr oedd y canwriad wedi deall mor fore a hyn am ffydd heb weithredoedd mai marw yw. Yr oedd yn ŵr cyfoethog, ac anrhegodd y genedl yr oedd yn ei charu â synagog-gwnaeth gapel newydd iddi ar ei gôst ei hun. Mae llawer yn eu ffolineb yn diystyru cyfoeth; ond y mae yn dygwydd yn ddieithriad mai y rhai sydd wedi ac yn methu ei gael ydynt ei ddiystyrwyr. Y mae yn hyn yn debyg fel y gwelsom ddau fachgen yn rhedeg ar ol cerbyd er mwyn cael eu cario am ychydig ar y step. Yr oedd y naill yn well rhedwr na'r llall, ac yn fuan yn dal y cerbyd ac yn cael ei gario yn wych; ond nid cynt y mae y llall yn canfod nad ydyw o fewn terfynau ei allu rhedegol ef ei hun i ddal y cerbyd, nad yw efe yn dechre gwaeddi, "Whip behind!" Da, yn ddiau, gan bawb a fyddai cael bod yn gyfoethog, ond ychydig a feddant y gallu i ennill y sefyllfa hono; a llai fyth sydd yn gwneyd y defnydd goreu o honi ar ol ei hennill. Nid oes dim mor fanteisiol i achos crefydd mewn cymydogaeth na gŵr arianog, os bydd ganddo galon i gyfranu; ond os amgen, gwell ydyw bod hebddo. Y nodwedd arall tra dymunol yn hanes y<noinclude><references/></noinclude> loc7rqs8jsroi8yzyib1ehpu4t56iw4 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/117 104 88481 170860 2026-08-20T23:34:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170860 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>canwriad ydyw, y serch y mae yn ei ddangos tuag at ei was, a'r pryder a'r gofal am ei iechyd. Gallasai fod y gwas, fel y gwelsom y sylw gan rywun, wedi ennill serch ei feistr trwy ei ufudddod a'i ffyddlondeb iddo; ond pan gofiwn mai ''slaves'' oeddynt weision cyffredin y Rhufeiniaid, ac nad oeddynt yn derbyn y parch dyledus ond anfynych, ac nad yw yn debyg y buasai afiechyd caethwas yn effeithio llawer ar ganwriad, yr hwn, ysgatfydd, oedd wedi gweled llawer o dywallt gwaed, a chynnefino â dyoddefiadau, y mae hyn, gallwn feddwl, yn ein gwarantu i briodoli y teimladau da oedd ynddo at ei was i'w gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau. I ba beth bynag y rhaid i ni ei briodoli, yr oedd yn nodwedd hynod o brydferth yn ei gymeriad. Yr oedd y caritor uchel a roddwyd iddo gan yr henuriaid i Grist, yn ddigon o gymhelliad iddo i gydymffurfio â'u cais. Ond nid ei fod yn caru y genedl, nac wedi adeiladu synagog, nac am fod ei was yn anwyl ganddo, a barodd i Grist ryfeddu, ond ei ffydd. Ac y mae dwy ochr i'w gweled yn amlwg yn ei ffydd: y meddwl gostyngedig oedd ganddo am dano ei hun, a'r meddwl mawr oedd ganddo am Grist. Onid ydyw ffydd y canwriad yn gynllun<noinclude><references/></noinclude> emil0tmrvqsjxb6nti12wqv0or7ttgr Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/118 104 88482 170861 2026-08-20T23:35:14Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170861 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o wir ffydd yn mhawb? Mor wahanol yr oedd ef yn meddwl am dano ei hun i'r hyn yr oedd y cenadon drosto yn ei feddwl am dano! "Mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo," meddynt hwy. Nid oedd efe yn gweled ei hun yn deilwng o'r fath beth, ond yn erfyn am y gymwynas fel trugaredd. "Nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd, o herwydd paham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat." Yn ol yr hanes a gawn gan yr efengylwr Luc, ymddengys fod y canwriad yn rhy wylaidd i fyned at y Gwaredwr ei hun, fel pe y tybiasai hyny yn ormod o hyfdra ar Berson mor fawr. Ond yr oedd cymeriad y canwriad mor uchel fel yr oedd yn dda gan y gwŷr mwyaf urddasol, sef yr henuriaid, gael myned i gyfryngu drosto. Rhedodd rhywun o'r blaen i'w hysbysu fod yr Athraw yn dyfod i'w dŷ. Er mai hyn oedd ei ddymuniad, llanwyd ef a braw ac arswyd gan y meddwl fod un mor fawr ac anrhydeddus yn gosod y fath urddas arno. Gan fod ganddo foddion i anrhegu y genedl â synagog, diammheu ei fod yn meddu palas gorwych iddo ei hun; ond yr oedd yn gweled ei dŷ yn rhy wael, ac yntau ei hun yn rhy annheilwng, i un mor anrhydeddus â Christ roddi ei bresennoldeb ynddo.<noinclude><references/></noinclude> 2bv7hug1vv0x48w7j68mxreqxf22yxj Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/119 104 88483 170862 2026-08-20T23:37:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170862 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Anfonodd genadwri yn ol ar unwaith—"Arglwydd, na phoena, canys nid wyf fi deilwng—eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. Canys dyn ydwyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf, ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a ä, ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna." Yr oedd Crist wedi cyfarfod âg aml un ymhlith cenedl Israel oedd yn meddwl llawer o hono; ond hwn oedd y syniad prydferthaf a mwyaf aruchel a gafodd yn neb: "Yn wir, meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel." Nid allwn lai na sylwi ar y ''ffurf'' a gymerodd ffydd y canwriad. Yr oedd efe yn edrych ar Grist trwy lygad milwr. Y mae pob dyn yn arfer edrych ar bethau trwyddo ef ei hun. Dysgawdwr ydoedd Nicodemus, a thrwy lygad dysgawdwr yr oedd efe yn edrych ar Grist. "Rabbi, ni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddiwrth Dduw." Pan gyfarfyddodd y Zacheus hwnw âg ef, trwy lygad casglwr trethi, neu fe allai ''exciseman'', fel y dywedwn ni, yr oedd efe yn edrych arno. "Os dygais ddim trwy gam achwyn, wele yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd." Pan gyfarfyddodd mam âg ef<noinclude><references/></noinclude> p99nndehqlbrba4234xwnit7z39rkp3 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/120 104 88484 170863 2026-08-20T23:38:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170863 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un tro, trwy lygad mam yr oedd hi yn edrych ar Grist. "Gwyn fyd y bronau a signaist." Ond milwr oedd y canwriad, a thrwy lygad milwr yr oedd efe yn edrych arno. Awdurdod fawr, ac ufudd-dod llwyr, ydyw dau ddrychfeddwl mawr y ''soldier''. Felly yr oedd y canwriad yn edrych ar Grist: nid yn gymaint fel dysgawdwr, nac fel un wedi dyfod i roddi iawn dros bechodau y byd, ond fel maeslywydd anfeidrol, yn trysori ynddo ei hun bob awdurdod a gallu; a'r parlys, y dropsi, y cryd, byddardod, dallineb, a phob anhwyldeb a chlefyd, fel privates bychain yn ei fyddin, a dim ond eisieu iddo Ef roddi y gorchymyn allan na byddent i gyd yn rhedeg, un yma ac un acw, yn ol ei ddymuniad, yr un modd yn gwbl ag yr oedd ei filwyr ef yn ufuddhau i'w orchymynion yntau! "Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sv39nzsb28c1wn2keu7ai1za2a83dik 170864 170863 2026-08-20T23:39:30Z AlwynapHuw 1710 170864 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>un tro, trwy lygad mam yr oedd hi yn edrych ar Grist. "Gwyn fyd y bronau a signaist." Ond milwr oedd y canwriad, a thrwy lygad milwr yr oedd efe yn edrych arno. Awdurdod fawr, ac ufudd-dod llwyr, ydyw dau ddrychfeddwl mawr y ''soldier''. Felly yr oedd y canwriad yn edrych ar Grist: nid yn gymaint fel dysgawdwr, nac fel un wedi dyfod i roddi iawn dros bechodau y byd, ond fel maeslywydd anfeidrol, yn trysori ynddo ei hun bob awdurdod a gallu; a'r parlys, y dropsi, y cryd, byddardod, dallineb, a phob anhwyldeb a chlefyd, fel privates bychain yn ei fyddin, a dim ond eisieu iddo Ef roddi y gorchymyn allan na byddent i gyd yn rhedeg, un yma ac un acw, yn ol ei ddymuniad, yr un modd yn gwbl ag yr oedd ei filwyr ef yn ufuddhau i'w orchymynion yntau! "Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel." Darfu i ddau beth arwain y canwriad i'r syniad hwn am Grist. Un peth oedd yr anghen mawr yr oedd yn ei deimlo ar y pryd. Gan fod ei was yn anwyl ganddo, ac yntau yn ŵr cyfoethog, diau iddo sicrhau pob gallu meddygol oedd yn gyrhaeddadwy er adferiad iechyd ei was, ac i'r cwbl fod yn ofer. Nid oedd dim yn aros bellach ond cael rhywun â digon o awdurdod<noinclude><references/></noinclude> czvubev9fgtcvycsfa7b9cwu9x4o2my Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/121 104 88485 170865 2026-08-20T23:39:56Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170865 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>i orchymyn y clefyd ymaith. A'r anghen hwn a agorodd ei lygaid i weled ac i werthfawrogi yr awdurdod hwnw yn Nghrist. Mae yn hen ddywediad na wêl dyn ddim yn iawn nes iddo yn gyntaf weled yr anghen o hono. Yn y claddedigaeth gerllaw dinas Nain, nid oedd neb yn gallu gweled mawredd Crist fel Adgyfodydd y meirw yn debyg i'r wraig weddw; oblegid ei hanghen hi ar y pryd oedd cael rhywun digon mawr i allu adferu ei mab o farw i fyw. Yn nhŷ Simon, yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng syniad Simon â syniad y bechadures fawr am Grist fel maddeuwr pechodau. Nid oedd Simon yn teimlo yr anghen; ond hyny oedd yn dryllio enaid y bechadures, ac yn y mwynhad o'r hyn yr oedd hi yn ei geisio yr oedd yn ei theimlo yn fraint gael golchi ei draed â'i dagrau. Gwelodd y dyn dall, pan agorwyd ei lygaid, fwy o fawredd Crist na phawb oedd yn llygaid-dystion o'r wyrth. Teimlodd y canwriad gymaint o'r anghen nes gweled a gwerthfawrogi y gallu oedd yn Nghrist i'w gyflawni. Ni wêl neb fawredd a gogoniant Crist nes dyfod i weled na wna neb arall y tro yn ei le. Peth arall a arweiniodd y canwriad i'r syniad hwn am Grist ydoedd mai fel iachäwr clefydau<noinclude><references/></noinclude> r1kmojoy7soumrpn5kmoaapn7uszdz0 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/122 104 88486 170866 2026-08-20T23:42:36Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170866 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a gwneuthurwr gwyrthiau yr oedd Crist yn fwyaf adnabyddus ar y pryd. Ond yn y golygiad hwn yr oedd y canwriad yn meddu syniad uwch am dano na neb arall o'i ddilynwyr. Yr oedd hyd yn nod y rhai a gredent yn fwyaf diysgog yn ei allu gwyrthiol yn credu hefyd fod yn angenrheidiol dyfod a'r claf at Grist, neu ynte ddyfod ag ef at y claf. Ond nid oedd y canwriad yn credu fod y naill na'r llall yn angenrheidiol, na dim yn eisieu ond iddo Ef ddyweyd y gair o'r man lle yr oedd. "Yn unig dywed y gair, ac iach fydd fy ngwas." "Yn wir, meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel! Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain ac o'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham, Isaac, a Jacob yn nheyrnas nefoedd, ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf." Mae cael ein dwyn i fyny yn nghlywedigaeth yr efengyl yn fraint oruchel; ond y mae yn bosibl i'r mynych freintiau, wrth eu camddefnyddio, droi i ni yn felldith yn lle yn fendith. Mae gwrthwynebu dylanwadau crefyddol sydd yn dyfod arnom, yn raddol yn cadarnhau y galon mewn caledwch, ac yn peri i ddyn golli newydddeb a phrydferthwch yr efengyl, a byw mewn<noinclude><references/></noinclude> 7n250r2zufi6x3j5xsghe2q22gr2oyl Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/123 104 88487 170867 2026-08-20T23:43:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170867 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>anufudd-dod yn ngwyneb ei holl rybuddion. Wele genedl wedi ei dewis gan Dduw o holl genedloedd y byd y gyfraith a'r prophwydi ganddynt yn etifeddion yr addewidion yn blant y deyrnas; ac eto pan ddaeth Tywysog y deyrnas atynt, nid oeddynt yn gweled na phryd na thegwch ynddo. Ond wele bagan, wedi ei ddwyn i fyny yn nghanol eilunaddoliaeth, ac yn dyfod ar ddamwain megys i gysylltiad â'r Tywysog, yn ei adnabod, yn ei dderbyn, a'i werthfawrogi. Mae yr ymwelwyr a ddeuant bob haf o eithafion Lloegr i ddringo i ben y Wyddfa, er mwyn y golygfeydd rhamantus a geir oddiar ei chrib, yn cael eu synu yn aml, wrth ymorol am arweinwyr, oddiar ddeall fod llawer wedi treulio eu hoes wrth ei godrau heb erioed fod ar ei phen. Mae cynnefindra â'r Wyddfa yn y rhai sydd wedi eu geni a'u magu wrth ei throed, wedi gwisgo ymaith y dymunoldeb o ddringo i'w phen i weled y golygfeydd. Mae perygl i ninnau, wedi ein magu wrth droed mynydd Duw, fod yn amddifad o'r awydd i ddringo i'w ben i weled y Brenin yn ei degwch. Ac y mae yn ystyriaeth ddifrifol fod yn bosibl i ni, wedi gwrandaw yr efengyl trwy ein hoes, ac hwyrach ddadleu llawer uwchben y Bibl yn<noinclude><references/></noinclude> s9sby6e2cfkjln7ugxlo7irrf265l8o Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/124 104 88488 170868 2026-08-20T23:43:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170868 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr Ysgol Sabbothol, yn y diwedd gael ein taflu i'r tywyllwch eithaf, a gweled, o'r ochr arall, lawer na chawsant nemawr o freintiau crefyddol -ond megys ar ddamwain wedi dyfod i gysylltiad â'r efengyl, yn eistedd gydag Abraham, Isaac, a Jacob yn nheyrnas nefoedd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> njled53nwvugun9sfrg8ca52umamz6a Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/125 104 88489 170869 2026-08-20T23:54:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170869 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|VII.{{mawr|Y DDAU DDYSGYBL.}}}} ''"Ac wele dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnw i dref a'i henw Emmaus."''—Luc xxiv. 13. ANHAWDD ydyw i ni ddeall ystâd teimlad y ddau ddysgybl oeddynt yn myned tuag Emmaus, heb i ni yn gyntaf sylweddoli yn ein meddyliau amgylchiadau cynhyrfus y dyddiau hyny: y dyddiau mwyaf cynhyrfus a welodd Jerusalem erioed, dybygid, oddigerth adeg ei dinystr. Y mae mwy nag un hanes yn dangos i ni y fath deimlad a chynhwrf y medr un dyn poblogaidd ei achosi mewn gwlad, yn enwedig os gellir cysylltu crefydd âg ef mewn rhyw ffurf neu gilydd. Mae gwaedd megys "No Popery" yn treiddio fel trydan i gonglau pellaf y deyrnas. Nid oes zel tebyg i zel grefyddol, na gorthrwm tebyg i orthrwm crefyddol. Yr oedd y zel a'r gorthrwm hwn, mewn undeb<noinclude><references/></noinclude> hofcy7g653dv7oxv2svj1brly08c27q 170870 170869 2026-08-20T23:54:30Z AlwynapHuw 1710 170870 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|VII.<br>{{mawr|Y DDAU DDYSGYBL.}}}} ''"Ac wele dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnw i dref a'i henw Emmaus."''—Luc xxiv. 13. ANHAWDD ydyw i ni ddeall ystâd teimlad y ddau ddysgybl oeddynt yn myned tuag Emmaus, heb i ni yn gyntaf sylweddoli yn ein meddyliau amgylchiadau cynhyrfus y dyddiau hyny: y dyddiau mwyaf cynhyrfus a welodd Jerusalem erioed, dybygid, oddigerth adeg ei dinystr. Y mae mwy nag un hanes yn dangos i ni y fath deimlad a chynhwrf y medr un dyn poblogaidd ei achosi mewn gwlad, yn enwedig os gellir cysylltu crefydd âg ef mewn rhyw ffurf neu gilydd. Mae gwaedd megys "No Popery" yn treiddio fel trydan i gonglau pellaf y deyrnas. Nid oes zel tebyg i zel grefyddol, na gorthrwm tebyg i orthrwm crefyddol. Yr oedd y zel a'r gorthrwm hwn, mewn undeb<noinclude><references/></noinclude> 00jcp3xxqsv5gdd8j4efmi90l15ruxs Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/126 104 88490 170871 2026-08-20T23:56:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170871 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â theimlad gwleidyddol cryf, ar lawn waith y dydd hwnw," ac yn fwy felly y dyddiau blaenorol i hyny. Ac anhawdd ydyw i ni ddychymygu eangder y teimlad oedd yn gwefreiddio yr hanner miliwn pobl oedd yn aros yn Jerusalem yr adeg hon, a hyn i gyd yn cael ei achosi gan un dyn; "y dyn Crist Iesu." Yr oedd Efe yn cyfuno yn ei Berson ei hun grefydd a gwleidyddiaeth, y prophwyd a'r brenin, y pethau y mae dynion yn cymeryd mwyaf o ddyddordeb ynddynt, ac yn teimlo mwyaf o zel drostynt. Ac y mae yn debyg na bu erioed gymeriad cyhoeddus a chymaint o wahaniaeth barn am dano ag ydoedd Iesu Grist. Gan un blaid, a'r blaid hono yr un fwyaf dylanwadol, edrychid arno fel gwagymhonwr, twyllwr y bobl, penboethyn, a chablwr. Gan blaid liosog arall, edrychid arno fel y Prophwyd mwyaf a fu erioed yn Israel, yr hwn na lefarodd dyn erioed yn debyg iddo, ac fel eu Brenin a'u Gwaredwr. Yr oedd y rhai hyn wedi profi dylanwad ac awdurdod ei eiriau grasusol, ac wedi yfed yn helaeth o'i ysbryd, ac wedi bod yn llygaid-dystion o'i weithredoedd nerthol, ac yn teimlo y fath barch a chariad tuag ato, a'r fath ymlyniad wrtho, nad ellir yn hawdd ei ddesgrifio. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9wa2wss2bktww9kv4rhkjsdh0rp5k1u Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/127 104 88491 170872 2026-08-20T23:57:00Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170872 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd yr hwn yr oedd y fath wahaniaeth barn am dano yn cael ei brofi am ei fywyd—yn cael ei arwain o'r naill lys i'r llall, ac yn y diwedd yn cael ei gondemnio i farw. Nid oes genym syniad priodol am y teimlad a'r cyffro oedd yn meddiannu y torfeydd oedd yn llenwi ystrydoedd Jerusalem ar y pryd. Ychydig a roddasant hûn i'w hamrantau y noswaith hono. A. phwy a fedr ddirnad y cyffro y bore canlynol, pan y rhedodd y newydd fel tân trwy y ddinas fod y Prophwyd mawr i gael ei groeshoelio? Gadawodd miloedd eu gorchwyl y bore hwnw. Yr oedd mamau gyda'u plant, a hen bobl wedi penwynu ac wrth eu ffyn, yn troi allan i ymuno â'r orymdaith ddirifedi oedd yn cyfeirio tua lle y benglog. Ni fu gorymdaith erioed o'r fath gymysg deimladau. Yno yr oedd cenfigen a malais yn gloddesta ar eu hysglyfaeth. Ac fel y bydd ymhob torf gyffrous, yr oedd yno laweroedd, yn ddiammheu, na wyddent beth oeddynt yn ei geisio, nac i ba beth y daethent yno. Dilys hefyd, fod yno nifer lliosog o rai yr oedd eu calonau yn gwaedu o gydymdeimlad â'r Hwn oedd dan y gwaradwydd. Yr oedd yno rai nas gallasent fod yno o gwbl oni buasai am allu a charedigrwydd y Prophwyd mawr ei hun; rhai a fuasent yn gloffion, ond y<noinclude><references/></noinclude> 0jp4av9qrken5hvqbdz64goorud3bcq Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/128 104 88492 170873 2026-08-20T23:57:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170873 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gawsant eu gwneyd yn ddisgloff a heinyf ganddo; eraill a fuasent yn ddeillion, ond a gawsent lygaid ganddo i fod yn dystion o'i gernodiau; rhai a fuasent yn fyddariaid, ond a gawsent glustiau ganddo; a lliaws mawr o rai a iachesid o glefydau a phläau; ac o bosibl nad oedd yno ryw ychydig a godasai Efe o feirw. Ac oni fuom yn rhyfeddu lawer gwaith, pa fodd y darfu iddynt hwy allu dyoddef edrych arno yn cael ei arwain i'r groes heb wneyd rhyw gais at ei waredu? A oeddynt yn gymaint yn y lleiafrif fel na feiddient wneyd hyny? neu, ynte, ai rhyw lwfrdra anesgusodol ydoedd hyn ynddynt? A gadael heibio yr amcanion uchel a Dwyfol oeddynt yn cael eu dwyn oddiamgylch trwy waradwydd Crist, mae yn rhaid i ni gofio fod yr Iuddewon yn genedl ddarostyngedig, ac yr oedd holl awdurdod Rhufain tu ol i'r ddedfryd a gyhoeddasid ar Grist. Heblaw hyn, yr oedd yr agwedd dawel, hunanfeddiannol a phenderfynol i ddyoddef, ynghyd â phob amddifadrwydd o bob peth tebyg i appeliad, yn Nghrist ei hun, yn peri iddynt hwythau deimlo yr un modd i raddau mawr. Pe buasai Efe ond yn sefyll ar y ffordd, ac yn appelio at eu cynnorthwy â'u cydymdeimlad, yn y dull a chyda'r dylanwad<noinclude><references/></noinclude> l54yo1nth6pp0uma2wtx578dmbqzo23 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/129 104 88493 170874 2026-08-20T23:58:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170874 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y gallasai Efe wneyd, buasai yno gynhwrf y foment hono. Ond ni bu dim tebyg i hyn. "Fel oen yr arweiniwyd ef i'r lladdfa." Nid peth annaturiol nac annysgwyliadwy ydoedd yr ysbryd gwrthwynebol a ddangosodd Pedr yn yr ardd; ac yr ydym yn credu fod miloedd o Gristionogion glöew a heddychlawn wedi cael mwynhad mawr wrth ddarllen ei hanes yn amddifadu gwas yr archoffeiriad o'i glust ddehau. Ond ni chafodd yr ysbryd hwn gefnogaeth gan Grist; yn hytrach cafodd Pedr gerydd ganddo; ac wedi iachau clust y gwas, dangosodd pa fath ysbryd oedd ynddo Ef trwy roddi ei hunan i fyny i'w elynion ar unwaith. Ond y mae yn debygol mai yr hyn oedd yn galluogi cyfeillion Crist i fod mor dawel a llonydd yn yr amgylchiad hwn, ydoedd yr ymddiried diderfyn oedd ganddynt yn ei allu, a'u gobaith cryf y byddai iddo waredu ei hun o afael ei elynion. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn gwybod yn dda pa beth a allasai Efe wneyd os ewyllysiai. Yr oedd yno rai a fuasai yn llygaid-dystion iddo allu dianc o fysg y dyrfa fawr oedd ar fedr ei daflu dros y dibyn a'i ddinystro. Yr oedd yno eraill a fuasai yn y dyrfa oedd ar fedr ei gipio a'i wneuthur yn frenin, pan<noinclude><references/></noinclude> mxygqpyrkak74yz6l0ltugirfl4i5wf Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/130 104 88494 170875 2026-08-21T00:00:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170875 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y llithrodd o'u canol na wyddai nebi ba le. Ac yr oedd yno ryw ychydig a welsant y rhai a ddaethant i'w ddal yn yr ardd yn syrthio yn wysg eu cefnau. Yr oedd yr holl ddygwyddiadau rhyfeddol hyn wedi suddo yn ddwfn i'w meddyliau, ac yn cynnal eu hysbryd, ac yn creu dysgwyliad ynddynt y byddai iddo y tro hwn drachefn waredu ei hun mewn rhyw ddull gwyrthiol cyffelyb. Mae hyn yn rhoddi cyfrif, gellid meddwl, am bresennoldeb cynifer o'i garedigion ar adeg ei groeshoeliad. Fel rheol, nid oes ond y ''rabble'', pobl anniwylliedig ac isel eu moesau, yn myned i weled dyn yn cael ei ddienyddio. Mae dynion o deimladau uchel a thyner yn cadw draw ar amgylchiad felly, ac yn enwedig perthynasau a cheraint. Ond ar adeg croeshoeliad Crist, ni a gawn fod ei gyfeillion goreu, a'i berthynasau agosaf, hyd yn nod ei fam ei hun, a gwragedd eraill tyner eu teimladau, yn bresennol. Pa fodd yr oeddynt yn gallu rhoddi eu presennoldeb ar y fath amgylchiad? Wel, credu yr ydym mai ymddiried diderfyn oedd ganddynt yn ei allu anfeidrol, a dysgwyliad hyderus y byddai iddo waredu ei hun, a chredu y byddent yn dychwelyd adref yn orfoleddus. A diammheu eu bod yn cael eu<noinclude><references/></noinclude> aqnn27127bgp4qa5mambi3o7dqrxmfg Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/131 104 88495 170876 2026-08-21T00:01:59Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170876 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>cynnal gan y gobaith hwn hyd y diwedd. Hyd yn nod pan oedd y ddaear yn crynu dan eu traed, a'r meirw yn cyfodi, a'r nefoedd yn gwisgo ei galarwisg ar farwolaeth ei pherthynas agosaf, ond odid fod gobaith cryf ynddynt nad oedd yr holl amgylchiadau ofnadwy hyn ond rhyw ragbarotoad goruchel i hunan-waredigaeth gogoneddus! Ond pan y llefodd yr Iesu a llef uchel, "Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist!" y llef hono a dreiddiodd fel picell trwy eu calonau; nid oedd ammheuaeth nad llef un mewn cyfyngder ydoedd. A phan giliodd y tywyllwch ar y nawfed awr, a phan edrychent hwythau trwy eu dagrau tua'r groes, nid oedd yno ond y tŷ o glai wedi ei adael. Yr oedd yr anadl wedi myned, yr ysbryd wedi dianc, y galon lawn o gariad wedi darfod curo, y tafod aur wedi tewi am byth yn eu golwg, y wyneb hawddgar mor welw a'r galchen, heb yr un nerve yn symud, a phob tawelwch yn teyrnasu. Yr oedd Efe wedi marw! Ac ar yr un foment fe drengodd eu gobaith hwythau. Tarawodd eu gobaith ei droed yn ngwaelod glŷn cysgod angeu! Chwi a'u gwelwch yn llithro yn ddystaw o'r dyrfa, yma ac acw, yn siomedig, gan guro eu dwyfronau,— {{c|''"A'r fron yn rhy drom i'r tafod lefaru."''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> pmfxeqssc8mbnhn4dnwkxb5qgwrd6r6 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/132 104 88496 170877 2026-08-21T00:12:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170877 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Arosodd rhyw ychydig o'i gyfeillion mwyaf ymroddedig i gynnorthwyo y boneddwr Joseph o Arimathea, a Nicodemus, i'w gladdu. A chladdedigaeth ryfedd ydoedd, ni a goeliwn. {{c|''"Not a drum was heard, not a funeral note."''}} Claddwyd Ef mewn dystawrwydd dwfn; mewn prudd-der a siomedigaeth, eto yn barchus ac yn anwyl. Mae yr eglwys dan ddirfawr rwymedigaeth i'r boneddwyr hyny a weiniasant iddo y gymwynas olaf mor anrhydeddus. Nid rhyfedd fod y diweddar Rowland Hughes, y Methodist Wesleyaidd, yn arfer siarad am danynt fel Syr Joseph o Arimathea, a Syr Nicodemus. Diau iddynt gael eu ''knightio'' gan y nef am y weithred hon. Nid yw yn anhawdd dyfalu pa fodd y treuliodd y dysgyblion y dydd canlynol, sef y Sabboth. Y Sabboth mwyaf prudd fu ar eglwys Dduw erioed ydoedd hwn. Ni chawsant nemawr o orphwysdra ysbryd. Treuliasant y rhan fwyaf o hono, os nad yr oll o hono, mewn synfyfyrdod ar fywyd Crist, yn enwedig y tair blynedd olaf o'i oes. Aethant dros ei holl weithredoedd nerthol: troi y dwfr yn win, gyru y prynwyr a'r gwerthwyr o'r deml; y dyn wrth làn y llyn; y dyn dall o'i enedigaeth; mab y<noinclude><references/></noinclude> tp2u32hj9ou4jn5r53pikwxrf4horw1 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/133 104 88497 170878 2026-08-21T00:28:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170878 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wraig weddw o Nain; Lazarus, &c. Ceisient roddi cyfrif am danynt y ffordd hon, ac yna ffordd arall; edrychent arnynt o'r naill gyfeiriad, ac o'r llall; ond yn y diwedd yr oeddynt yn gorfod dyfod i'r penderfyniad ei fod yn ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair ger bron Duw a'r holl bobl. Eithr y ''croeshoelio''—y marw, oedd yn eu dyrysu yn lân. Yr oedd Efe yn ŵr o brophwyd, ond nid oedd yn brophwyd mor fawr ag yr oeddynt hwy wedi tybied ei fod. Tybiasent hwy mai Efe ydoedd yr hwn a waredai yr Israel,—yn lle i Pilat ei ddedfrydu ef, y buasai efe yn dedfrydu Pilat, ac yn ei anfon gartref i Rufain. Ond fel arall y trodd hi allan, a chawsant eu siomi. A diammheu i'r Arglwydd Iesu syrthio yn eu golwg y Sabboth hwnw. Ac ni fu byth yn dda ganddynt am yr hen Sabboth ar ol hyny. Aeth rhyw ddiflasdod ar y seithfed dydd byth wedi hyn; ac yn fuan iawn newidiwyd y Sabboth o'r seithfed dydd i'r dydd cyntaf. Y dydd canlynol ydoedd y "dydd hwnw" yr oedd y ddau ddysgybl yn myned tuag Emmaus—tref oddeutu wyth milldir o Jerusalem. Yr oedd y dydd wedi cerdded ymhell i'r prydnawn cyn iddynt gychwyn o Jerusalem. Yr oedd<noinclude><references/></noinclude> dl2xn6ues6gx5h01pmn48vfpxn78dwh Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/134 104 88498 170879 2026-08-21T00:29:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170879 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rhyw newyddion cyffrous wedi eu cadw yn y ddinas y rhan fwyaf o'r diwrnod. Mae yn debyg fod y ddau ddysgybl hyn yn gyfeillion mynwesol o'r blaen; ond ni buont gymaint cyfeillion ag oeddynt y "dydd hwnw." Mae profedigaeth a thrallod yn agoshau dynion at eu gilydd. Mae marwolaeth cyfaill neu berthynas yn peri i ddynion anghofio y mân wahaniaethau fydd rhyngddynt. Mae llai o ffug, llai o'r ymddangosiadol, o'n cwmpas pan y byddwn mewn helbul. Ni fedr dyn ddynwared neu actio pan yn ngafael gwir drallod; ac ni fedr oddef edrych ar hyny yn neb arall ychwaith. Ac mewn profedigaeth, hynod mor graff ydyw dyn i ganfod y gwahaniaeth rhwng gwir gydymdeimlad a'r dynwarediad o hono. Os oedd rhyw fân wahaniaethau rhwng y ddau ddysgybl hyn yn flaenorol, yr oeddynt i gyd wedi eu claddu yn medd newydd Joseph. A phan yn nyfnder profedigaeth, bydd yn dda gan ddyn gyfarfod âg un o gyffelyb feddwl, er mwyn cael arllwys ei deimlad iddo. "Ac wele dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnw i dref a'i henw Emmaus." Dechreuasant ar unwaith ymddyddan am yr holl bethau hyn a ddygwyddasent. Ni bu yno fawr<noinclude><references/></noinclude> gp9vhqrtox55zstmce69ywjfheaqph1 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/135 104 88499 170880 2026-08-21T00:30:43Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170880 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>o son am yr hîn, ac am amgylchiadau pobl eraill. Ac yr oeddynt wedi eu llyncu i fyny yn gymaint gan yr ymddyddan, fel na ddarfu iddynt sylwi ar unwaith fod yno ŵr dyeithr yn cerdded wrth eu hochr. Ac wedi iddynt sylwi, nid adnabuasant Ef. O bosibl ei bod yn dechre tywyllu fel nad allent sylwi arno yn graff; neu hwyrach fod y person oedd yn cyd-deithio â hwynt wedi myned dan ryw gymaint o gyfnewidiad, ac nad oedd yn hawdd ei adnabod. Neu fe allai fod yno ryw lèn wedi ei thaflu dros eu cyd-deithiwr, neu ynte dros eu llygaid hwy, fel nad allent ei adnabod Ef: "eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd fel nas adwaenent ef." Pe buasent wedi ei adnabod ar unwaith, buasai hyny yn andwyo yr esboniad gogoneddus a gawsant ganddo arno Ef ei hun. "Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at eu gilydd, dan rodio, ac yn wynebdrist? Ac un o honynt, a'i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?" Hwyrach mai y demtasiwn y mae dyn yn fwyaf parod i syrthio iddi mewn amgylchiadau cynhyrfus, ydyw bod yn hunan-dybus<noinclude><references/></noinclude> ie05i7tstgo182anrk4f6cpb8jt2w7r Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/136 104 88500 170881 2026-08-21T00:32:53Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170881 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''(conceited).'' Mae swn rhywbeth felly yn ngeiriau Cleopas. Yr oedd yn synu at anwybodaeth y gŵr dyeithr. Yr oedd yn caniatau iddo holl anfanteision "ymdeithydd" i ddyfod i wybod amgylchiadau a dygwyddiadau y wlad yr oedd yn ymdeithio drwyddi; ond er hyn i gyd yr oeddynt yn gorfod dyfod i'r penderfyniad mai Efe ydoedd yr unig un anwybodus o'r "pethau" a ddygwyddasent. "Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau?" Pwy a wyddai cystal ag Ef am y "pethau?" Er mai Efe ydoedd arwr a chanolbwynt mawr yr holl bethau hyn a ddygwyddasent, hoffai glywed dau o'i ddysgyblion distadl yn adrodd yr hanes. Teimlodd y ddau ddysgybl ar ol hyn, ni a goeliwn, lawer o gywilydd ddarfod iddynt erioed anturio adrodd yr hanes wrtho, ac iddynt wneyd y gwaith mor drwstan. "Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair ger bron Duw a'r holl bobl; a'r modd y traddododd yr archoffeiriaid a'n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe ydoedd yr hwn a waredai yr Israel." Fe ddarfu i ni, ei gyfeillion penaf, synied yn rhy uchel am dano, a<noinclude><references/></noinclude> 7yvgb03eulncslvg7bigne6ab8mtudw Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/137 104 88501 170882 2026-08-21T00:33:34Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170882 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chawsom ein siomi ynddo. Gwnaeth lawer o ddaioni a chymwynasau dirifedi tra y bu yn myned a dyfod yn ein plith, ac y mae genym adgofion melus am dano. Ond yr oedd ei ddiwedd yn ddyeithr iawn i ni, ac yn hollol groes i'n dysgwyliadau. "Ac heblaw hyn oll, heddyw yw y trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn." Mae mwy o gynhwrf yn Jerusalem heddyw nag oedd yno echdoe. Bu rhai gwragedd o honom ni wrth y bedd cyn iddi oleuo bron, ac y maent hwy yn dywedyd, "weled o honynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedasant ei fod ef yn fyw." Ond ni ddarfu i ni gredu un gair o'r hyn a ddywedent. Yr oedd eu hystori fel gwegi yn ein golwg. Fe grêd y gwragedd yma agos unrhyw beth. Mae yn wir i rai o honom ni, y gwŷr, fyned at y bedd a'i gael yn wag fel y dywedasai y gwragedd; "ond ef nis gwelsant," ac ni welant mo hono mwy, goeliwn ni. Pan ddeallasom oddiwrth y rhai y gallem roddi rhyw ymddiried yn eu gair fod y bedd yn wag, bu raid i ni gredu fod rhywun wedi bod wrth y gwaith, ac mai goreu po gyntaf i ni fyned tua chartref, rhag i'r amryfusedd diweddaf fod yn waeth na'r cyntaf. Ymddengys mai dyna ydoedd ysbryd yr<noinclude><references/></noinclude> t3xthr6u2novduczfigge4pbts8ycpa Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/138 104 88502 170883 2026-08-21T00:34:25Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170883 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>adroddiad a roisant i Grist o'r pethau a ddygwyddasent. A pha ryfedd oedd iddo Ef eu hateb mewn geiriau cryfion? "O ynfydion a hwyrfrydig o galon i gredu yr holl bethau a ddywedodd y prophwydi! Onid oedd raid i Grist ddyoddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant?" O'r braidd na buasem yn dysgwyl iddynt gyffroi wrth glywed gŵr dyeithr o ymdeithydd yn eu galw yn "ffyliaid," ac yn diraddio eu cydnabyddiaeth â'r prophwydi. Ond ni ddywedasant yr un gair. Yr oedd rhywbeth yn ei lais a'i ddull oedd yn rhoddi iddo awdurdod i siarad felly. "A chan ddechre ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun." Pa fodd y bu, tybed, na welodd ysbrydoliaeth yn dda roddi i ni yr esboniad gogoneddus hwn? Pa fodd y bu na chafodd ond "dau" y gyfran fwyaf dyddorol, o bosibl, o holl eiriau ein Harglwydd tra y bu ar y ddaear? Mae miloedd ar filoedd o galonau wedi bod yn "llosgi" gan raslonrwydd ei eiriau Ef ar y mynydd; ac ai "dwy" galon yn unig a fwriadwyd i "losgi gan nerth a dysgleirdeb effeithiol yr esboniad o Jerusalem i Emmaus? Na, ni a gredwn fod yr esboniad hwn, ynghyd â'i holl eiriau anargraffedig<noinclude><references/></noinclude> s8qzlsjfixrfpn8lytjf5gf7f8ltp79 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/139 104 88503 170884 2026-08-21T00:35:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170884 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn cael gofalu am danynt yn llyfrgell Duw! Diau fod rhyw amcan uchel mewn golwg wrth gadw yr esboniad hwn oddiwrthym; ond ein crêd yw, y buasai ei gael yn annrhaethol werthfawr. Er mor ragorol a gwerthfawr ydyw y lliaws esboniadau hen a diweddar, ni ddigia neb wrthym am ddyweyd y buasem yn eu haberthu i gyd er mwyn etifeddu hwn. Yr oedd ei effaith yn llesmeiriol ar y ddau ddysgybl. Cyrhaeddasant ben eu taith heb yn wybod iddynt bron. Ond nid oeddynt am ollwng eu gafael o esboniwr mor rhagorol, mwy nag yr oedd Jacob am ollwng ei afael o'r angel, heb y fendith. "Ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach." {{c|''"One touch of nature makes the whole world akin."''}} Pan oedd y dysgyblion yn flin arnynt yn rhwyfo, cerddodd yr Iesu atynt ar y môr i'w gwaredu, ac a fynasai fyned heibio iddynt," er mwyn rhoddi cyfleusdra iddynt i waeddi ar ei ol. Ar ol ei adgyfodiad nid oedd wedi ymwadu yn llwyr â neillduolion y natur ddynol. Nid oedd eisieu myned gam ymhellach na chartref y ddau ddysgybl; ond efe a gymerth arno fyned ymhellach, er mwyn rhoddi cyfleusdra iddynt i'w annog i aros gyda hwy. Onid ydyw yr<noinclude><references/></noinclude> f3z2ez23gnqbax20cwh2inbhv95sfir Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/140 104 88504 170885 2026-08-21T00:36:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170885 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ymddygiad hwn o eiddo Crist yn un o'r cyffyrddiadau mwyaf prydferth yn ei holl hanes ar ol ei adgyfodiad? "A hwy a'i cymhellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni, canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod." Nid oeddynt wedi digio wrtho am eu galw yn ynfydion. "Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. A darfu ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddes iddynt; a'u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef; ac efe a ddiflanodd allan o'u golwg hwynt." Adroddir am Siôr y Trydydd yn clywed rhywun yn chware ar y berdoneg, ac wedi gwrando yn astud am enynd, yn tori allan mewn teimlad cyffrous, ''"It must be Handel or his ghost."'' Nid hwnw oedd y tro cyntaf i'r hen frenin glywed Handel yn chware ar y berdoneg. Ac nid hwnw ydoedd y tro cyntaf i'r ddau ddysgybl weled yr Arglwydd Iesu yn bendithio ac yn tori bara. Dylifodd mil o adgofion melus i'w meddyliau. Nid oedd ganddynt ammheuaeth, erbyn hyn, nad hen Fendithiwr y pum' torth a'r ddau bysgodyn oedd ger eu bron. "A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra yr ydoedd efe<noinclude><references/></noinclude> hhs9o6g7dh90kf7h2x38olzw6vhrg3c Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/141 104 88505 170886 2026-08-21T00:36:40Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170886 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ymddyddan â ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr Ysgrythyrau? A hwy a godasant yr awr hono ac a ddychwelasant i Jerusalem." Adnabuasant Ef pan yr oedd yn yr act o dori y bara, a diau iddynt ddychwelyd i Jerusalem cyn swpera. Wedi ymborthi yn helaeth ar y Bara a ddaeth i waered o'r nef, nid oedd ganddynt nemawr flas ar y bara naturiol. Y mae y sefyllfa hono, pan y mae cymaint o oleuni ysbrydol yn dylifo i enaid dyn nes peri iddo anghofio a diystyru angenrheidiau naturiol, yn sefyllfa ag y gallwn yn hawdd genfigenu wrthi. Gorchwyl hawdd i'r ddau ddysgybl ydoedd dychwelyd i Jerusalem cyn swpera, pan oedd ganddynt newyddion mor gysurus i'w hadrodd. Yr oedd eu calonau mor ysgeifn fel na theimlent eu traed danynt. Yr oedd un arall yn dychwelyd i Jerusalem yr un adeg. Hwyrach ei fod yn cydgerdded â hwynt, ac yn ymddifyru wrth ganfod y cyfnewidiad mawr yn eu hymddyddan. Ac os llonwyd eu hysbryd pan adnabuasant Ef ar doriad y bara, yr oedd eu llawenydd yn gyflawn pan gyfarfuasant âg Ef drachefn yn Jerusalem yn cyhoeddi tangnefedd iddynt. Diau ei fod yn gwestiwn pwysig ar feddyliau<noinclude><references/></noinclude> 0fgjesm02806iv0yt23bwixxb2927fz Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/142 104 88506 170887 2026-08-21T00:44:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170887 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dysgyblion Crist wedi iddynt ddeall i sicrwydd ei fod wedi adgyfodi—A oedd Efe yn dal yr un un o ran ei deimladau tuag atynt? A allent hwy neshau ato gyda'r un hyder? A oedd ei adgyfodiad wedi peidio effeithio cyfnewidiad hollol ynddo, fel ag i beri iddo edrych gyda dirmyg arnynt o herwydd eu hanffyddlondeb yn ei oriau olaf. Yr oedd yna gyfnewidiad; ond nid y cyfnewidiad y gallasent hwy yn hawdd ei ofni. Cyn ei farwolaeth, y "dull dyn" oedd fwyaf amlwg; ond ar ol ei adgyfodiad, y "ffurf Duw" a ddeuai fwyaf i'r golwg. Yr oedd yr hyn oedd yn naturiol iddo cyn ei farwolaeth yn awr yn wyrthiol iddo, a'r hyn oedd wyrthiol iddo yn awr yn naturiol. Cyn ei farwolaeth yr oedd ganddo gartref yn Capernaum; ond ar ol ei adgyfodiad hawdd y gallasent ofyn iddo, "Athraw, pa le yr wyt yn trigo?" Y cwbl a allasent ddyweyd wrth Thomas ydoedd, "Ni a welsom yr Arglwydd." Nid allent ddyweyd fel Nathanael wrth Philip, "Tyred a gwel." Ni wyddent ei ddyfodiad i mewn na'i fynediad allan. Yr oedd yn aml yn eu plith heb iddynt ei weled yn dyfod i fewn, ac wedi eu gadael heb iddynt ei weled yn myned allan. Ond er yr holl gyfnewidiad<noinclude><references/></noinclude> 3rk2xcyxv220my1hcoq6rw835cq1m48 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/143 104 88507 170889 2026-08-21T02:31:12Z AlwynapHuw 1710 /* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "yn null ac ymddygiad Crist, yr oedd yn foddhad annrhaethol i'w ddysgyblion ganfod nad oedd dim cyfnewidiad wedi cymeryd lle yn ei garedigrwydd a'i ras tuag atynt. A sicr yw pe buasai yr adnod hono mewn bod ar y pryd, mai hi a fuasai profiad y rhan fwyaf o honynt yn y society ganlynol: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Yn wir, yr oedd Efe yn ymddangos yn fwy tirion a graslawn, os oedd hyny yn bosibl, ar ol ei adgyfodi... 170889 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn null ac ymddygiad Crist, yr oedd yn foddhad annrhaethol i'w ddysgyblion ganfod nad oedd dim cyfnewidiad wedi cymeryd lle yn ei garedigrwydd a'i ras tuag atynt. A sicr yw pe buasai yr adnod hono mewn bod ar y pryd, mai hi a fuasai profiad y rhan fwyaf o honynt yn y society ganlynol: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Yn wir, yr oedd Efe yn ymddangos yn fwy tirion a graslawn, os oedd hyny yn bosibl, ar ol ei adgyfodiad, nag ydoedd cyn ei farwolaeth. Os nad oedd cymaint o'r cydraddoldeb esmwyth hwnw oedd yn ei nodweddu yn ei fywyd blaenorol i'w ganfod ynddo, yr oedd hyny yn codi oddiar natur pethau, ac nid oddiar ddim cyfnewidiad a gymerasai le yn ei deimladau tuag atynt. Yr oedd cariad a llawenydd Mair Magdalen yn rhedeg drosodd pan adnabyddodd hi Ef ar ol ei adgyfodiad; ac nid digon oedd ganddi waeddi "Rabboni," ond mynasai gymeryd gafael ynddo rhag iddo ddianc eilwaith oddiwrthi. "Na chyffwrdd â mi," medd Crist. A wyt ti, yr hon oeddit ychydig amser yn ol yn gartrefle saith o gythreuliaid, yn meiddio cymeryd gafael ynof fi? O na! nid yn yr ysbryd yna yr oedd Crist yn llefaru: yn hytrach, Na chyffwrdd â mi yn y dull yna; paid a bod mor gyffrous. "Ni ddyrchefais i eto at fy Nhad." Nid hwn yw y tro olaf i mi ymweled â chwi. Mi fyddaf gyda chwi eto, yn awr ac eilwaith, am chwech wythnos. "Eithr dos at fy mrodyr a dywed wrthynt, Yr wyf fi yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau." Dywed wrthynt am wneyd yn fawr o'm cymdeithas. O y fath dynerwch sydd yn yr enw yna: "fy mrodyr." Yn nechreuad ei weinidogaeth, "gweision" y galwai Efe hwynt; ychydig wedi hyny, "dysgyblion;" a chyn ei farwolaeth, "cyfeillion;" ond ar ol ei adgyfodiad, "fy mrodyr." Fel ffrwyth adgyfodiad Crist, cymerodd cyfnewidiad pwysig arall le, sef yn syniadau ei ddysgyblion am dano. Os parodd ei farwolaeth iddynt feddwl llai o hono, dyrchafwyd Ef yn annhraethol yn eu meddwl yn ngoleuni ei adgyfodiad. Yr adgyfodiad oedd yr allwedd a agorodd iddynt holl ddirgelwch ei fywyd. Yr hyn oedd iddynt o'r blaen yn ddammeg anesboniadwy, a ddehonglwyd yn awr mewn goleuni tanbaid. Ac nid rhyfedd fod yr apostolion yn gosod y fath bwys ar ddilysrwydd ei adgyfodiad. Oblegid "os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau."<noinclude><references/></noinclude> k2ssdc9wahhc86tpgl5khb3viwmb4ly 170890 170889 2026-08-21T02:32:05Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170890 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn null ac ymddygiad Crist, yr oedd yn foddhad annrhaethol i'w ddysgyblion ganfod nad oedd dim cyfnewidiad wedi cymeryd lle yn ei garedigrwydd a'i ras tuag atynt. A sicr yw pe buasai yr adnod hono mewn bod ar y pryd, mai hi a fuasai profiad y rhan fwyaf o honynt yn y society ganlynol: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Yn wir, yr oedd Efe yn ymddangos yn fwy tirion a graslawn, os oedd hyny yn bosibl, ar ol ei adgyfodiad, nag ydoedd cyn ei farwolaeth. Os nad oedd cymaint o'r cydraddoldeb esmwyth hwnw oedd yn ei nodweddu yn ei fywyd blaenorol i'w ganfod ynddo, yr oedd hyny yn codi oddiar natur pethau, ac nid oddiar ddim cyfnewidiad a gymerasai le yn ei deimladau tuag atynt. Yr oedd cariad a llawenydd Mair Magdalen yn rhedeg drosodd pan adnabyddodd hi Ef ar ol ei adgyfodiad; ac nid digon oedd ganddi waeddi "Rabboni," ond mynasai gymeryd gafael ynddo rhag iddo ddianc eilwaith oddiwrthi. "Na chyffwrdd â mi," medd Crist. A wyt ti, yr hon oeddit ychydig amser yn ol yn gartrefle saith o gythreuliaid, yn meiddio cymeryd gafael ynof fi? O na! nid yn yr ysbryd yna yr oedd Crist yn llefaru: yn hytrach, Na chyffwrdd â mi yn y dull yna; paid<noinclude><references/></noinclude> k7lj7u05owqtbl0ciqh7r7exqzkpmj3 Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/144 104 88508 170891 2026-08-21T02:32:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 170891 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a bod mor gyffrous. "Ni ddyrchefais i eto at fy Nhad." Nid hwn yw y tro olaf i mi ymweled â chwi. Mi fyddaf gyda chwi eto, yn awr ac eilwaith, am chwech wythnos. "Eithr dos at fy mrodyr a dywed wrthynt, Yr wyf fi yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau." Dywed wrthynt am wneyd yn fawr o'm cymdeithas. O y fath dynerwch sydd yn yr enw yna: "fy mrodyr." Yn nechreuad ei weinidogaeth, "gweision" y galwai Efe hwynt; ychydig wedi hyny, "dysgyblion;" a chyn ei farwolaeth, "cyfeillion;" ond ar ol ei adgyfodiad, "fy mrodyr." Fel ffrwyth adgyfodiad Crist, cymerodd cyfnewidiad pwysig arall le, sef yn syniadau ei ddysgyblion am dano. Os parodd ei farwolaeth iddynt feddwl llai o hono, dyrchafwyd Ef yn annhraethol yn eu meddwl yn ngoleuni ei adgyfodiad. Yr adgyfodiad oedd yr allwedd a agorodd iddynt holl ddirgelwch ei fywyd. Yr hyn oedd iddynt o'r blaen yn ddammeg anesboniadwy, a ddehonglwyd yn awr mewn goleuni tanbaid. Ac nid rhyfedd fod yr apostolion yn gosod y fath bwys ar ddilysrwydd ei adgyfodiad. Oblegid "os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> h2xlpbsoux0p54u5ywm52egqjao2jip