Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.16
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/101
104
33419
170893
170892
2026-08-23T15:07:00Z
~2026-45826-65
4231
170893
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Cefais brofiad heddiw na ddymunwn gael ei gyffelyb byth mwy," meddai'r siryf, gan ysgwyd ei ben mewn difrifwch dybryd.
"Mae'n ddrwg gennyf am hynny," meddai Morys. "Pa beth a ddigwyddodd?"
Ochneidiodd y gŵr mawr. Yr oedd ei brofiadau chwerw y tu hwnt i allu geiriau i gyfleu syniad priodol amdanynt, yn ôl yr arwydd. Edrychodd i'r gornel lle'r eisteddai'r hen ŵr, ac edrychodd eilwaith ar yr yswain, fel pe gofynnai ai doeth iddo ddywedyd ychwaneg ar hynny o bryd.
"Y mae'r hen ŵr druan yn drwm iawn ei glyw," meddai Morys, gan ateb y gofyniad mud. "Ewch ymlaen. Ddigiwn ni mono wrth gael ymgom, er na chlyw ef air o'r hyn a ddywedir."
Ond nid oedd y siryf yn barod i ddechrau. Ni allai gasglu ei feddyliau at ei gilydd. Ni allai gael trefn ar yr atgofion cynhyrfus oedd ynddo. Yr oedd yn amlwg bod yr amgylchiad wedi gwneud argraff ddofn arno. Ond cyn hir dechreuodd siarad, yn gynhyrfus, fel un wedi bod mewn cyffyrddiad â bodau anelwig o fyd anweledig, ac wedi ei gamdrin ganddynt. Yn awr ac eilwaith tawai yn sydyn, a byddai distawrwydd hir. Ac yn y distawrwydd hwnnw gwelai Morys ef yn ysgwyd ei ben yn ddifrifol, a'i wefusau mud yn symud fel pe'n offrwm gweddi ddistaw am amddiffyniad y nefoedd rhag rhengau echrys yr un drwg.
Methai'r yswain ddirnad pa beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd. Wrth wrando'r adroddiad, drwg— dybiai, wrth reswm, mai rhyw ystryw oedd, wedi ei llunio a'i threfnu gan Madam Wen ei hun, ac mai'r amcan oedd camarwain yr awdurdodau gwladol drwy gyfrwng y siryf. Ac ni allai lai na gwenu wrth ganfod mor drylwyr yr oedd hi wedi llwyddo yn yr amcan hwnnw. Y siryf druan! Beth a dalai llu arfog na gwarantau diwerth brenin yn y byd yn wyneb galluoedd tywyll tywysog y gwyll? Yr oedd y siryf wedi torri'i<noinclude><references/></noinclude>
d6f28tedue4xtasib0mhu2tqbcmh8zu
170894
170893
2026-08-23T15:16:27Z
~2026-45826-65
4231
170894
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Cefais brofiad heddiw na ddymunwn gael ei gyffelyb byth mwy," meddai'r siryf, gan ysgwyd ei ben mewn difrifwch dybryd.
"Mae'n ddrwg gennyf am hynny," meddai Morys. "Pa beth a ddigwyddodd?"
Ochneidiodd y gŵr mawr. Yr oedd ei brofiadau chwerw y tu hwnt i allu geiriau i gyfleu syniad priodol amdanynt, yn ôl yr arwydd. Edrychodd i'r gornel lle'r eisteddai'r hen ŵr, ac edrychodd eilwaith ar yr yswain, fel pe gofynnai ai doeth iddo ddywedyd ychwaneg ar hynny o bryd.
"Y mae'r hen ŵr druan yn drwm iawn ei glyw," meddai Morys, gan ateb y gofyniad mud. "Ewch ymlaen. Ddigiwn ni mono wrth gael ymgom, er na chlyw ef air o'r hyn a ddywedir."
Ond nid oedd y siryf yn barod i ddechrau. Ni allai gasglu ei feddyliau at ei gilydd. Ni allai gael trefn ar yr atgofion cynhyrfus oedd ynddo. Yr oedd yn amlwg bod yr amgylchiad wedi gwneud argraff ddofn arno. Ond cyn hir dechreuodd siarad, yn gynhyrfus, fel un wedi bod mewn cyffyrddiad â bodau anelwig o fyd anweledig, ac wedi ei gamdrin ganddynt. Yn awr ac eilwaith tawai yn sydyn, a byddai distawrwydd hir. Ac yn y distawrwydd hwnnw gwelai Morys ef yn ysgwyd ei ben yn ddifrifol, a'i wefusau mud yn symud fel pe'n offrwm gweddi ddistaw am amddiffyniad y nefoedd rhag rhengau echrys yr un drwg.
Methai'r yswain ddirnad pa beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd. Wrth wrando'r adroddiad, drwgdybiai, wrth reswm, mai rhyw ystryw oedd, wedi ei llunio a'i threfnu gan Madam Wen ei hun, ac mai'r amcan oedd camarwain yr awdurdodau gwladol drwy gyfrwng y siryf. Ac ni allai lai na gwenu wrth ganfod mor drylwyr yr oedd hi wedi llwyddo yn yr amcan hwnnw. Y siryf druan! Beth a dalai llu arfog na gwarantau diwerth brenin yn y byd yn wyneb galluoedd tywyll tywysog y gwyll? Yr oedd y siryf wedi torri'i<noinclude><references/></noinclude>
gpgiohwamg6316g8yesdxgu95grg4rg
Tudalen:Madam Wen.djvu/102
104
33420
170895
76027
2026-08-24T09:23:23Z
~2026-46302-33
4232
170895
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>galon pan ddaeth i gredu mai nid â chig a gwaed yr oedd yn ymwneud.
Naturiol oedd i'r hanes ddatblygu a thyfu o'i ail-adrodd gan yr arwr ei hun. Y mae ar gofnodiad mai ar ei orau glas yr ymataliodd hen ŵr byddar y Parciau heb chwerthin dros y tŷ pan oedd y siryf yn mynd drwy'r stori am y drydedd waith. Da oedd i'r hen ŵr fod yr yswain a'r siryf erbyn hynny bron wedi anghofio'r cwbl amdano.
"Yr oeddwn i'n sefyll fel hyn, welwch chwi," — meddai'r adroddwr, gan sefyll ar ganol y llawr mewn dull dramatig, — "yn disgwyl y llanc yn ôl, pan glywais sŵn fel rhuad rhyw anghenfil rheibus. Yr oedd y lle'n dywyll fel y fagddu, ac ni wyddwn o ble y deuai'r sŵn. Ymbaratois i'm hamddiffyn fy hun—ond ni wyddwn ar ba law i droi. Cryfhaodd y sŵn, a daeth yn nes. Ni allaf ei ddisgrifio'n addas. Yr oedd fel rhuad cant o fwystfilod arswydus yn rhuthro ar ôl eu hysglyfaeth. Llanwyd y lle â rhyw arogl annisgrifiadwy. Teimlais ar fy nhalcen anadl anghynnes yr ellyll, pa beth bynnag ydoedd. Yr oedd yn rhy dywyll imi weld mewn dull naturiol, ond mi gredaf byth bod yno ryw olau brwmstanaidd a barodd imi weled am eiliad enau anferth yn agor i'm llyncu. Ac yna. . . ." Yn y fan hon llefarai'r distawrwydd — "Wel, fel y dywedais o'r blaen, yn y llyn y'm cefais fy hun."
Rhyfedd iawn!" meddai Morys, am y degfed tro. Credu yr oedd y siryf y byddai rhyw aflwydd yn rhwym o'i orddiwes oherwydd y rhan a gymerasai ef yn yr ymgyrch yn erbyn ysbrydion" yr ogof, pwy bynnag oedd y rhai hynny. Dyna a bwysai ar ei feddwl. Dyna a'i gwnâi mor ddigalon fel nad oedd modd ei gysuro. "Ni welais i erioed ddaioni o ymyrryd â phethau fel hyn," meddai yn brudd ac ofnus. "Mae rhywbeth yn rhwym o ddigwydd; cewch chwi weld!" ychwanegodd yn alarus.
"Na choelia i fawr!" Gwnaeth Morys ei orau i geisio codi ei galon. "Bûm innau mewn ysgarmes<noinclude><references/></noinclude>
p5glylj76jkfn7tuach287iriwl02dw
170896
170895
2026-08-24T09:28:51Z
~2026-46302-33
4232
170896
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>galon pan ddaeth i gredu mai nid â chig a gwaed yr oedd yn ymwneud.
Naturiol oedd i'r hanes ddatblygu a thyfu o'i ail-adrodd gan yr arwr ei hun. Y mae ar gofnodiad mai ar ei orau glas yr ymataliodd hen ŵr byddar y Parciau heb chwerthin dros y tŷ pan oedd y siryf yn mynd drwy'r stori am y drydedd waith. Da oedd i'r hen ŵr fod yr yswain a'r siryf erbyn hynny bron wedi anghofio'r cwbl amdano.
"Yr oeddwn i'n sefyll fel hyn, welwch chwi," — meddai'r adroddwr, gan sefyll ar ganol y llawr mewn dull dramatig, — "yn disgwyl y llanc yn ôl, pan glywais sŵn fel rhuad rhyw anghenfil rheibus. Yr oedd y lle'n dywyll fel y fagddu, ac ni wyddwn o ble y deuai'r sŵn. Ymbaratois i'm hamddiffyn fy hun — ond ni wyddwn ar ba law i droi. Cryfhaodd y sŵn, a daeth yn nes. Ni allaf ei ddisgrifio'n addas. Yr oedd fel rhuad cant o fwystfilod arswydus yn rhuthro ar ôl eu hysglyfaeth. Llanwyd y lle â rhyw arogl annisgrifiadwy. Teimlais ar fy nhalcen anadl anghynnes yr ellyll, pa beth bynnag ydoedd. Yr oedd yn rhy dywyll imi weld mewn dull naturiol, ond mi gredaf byth bod yno ryw olau brwmstanaidd a barodd imi weled am eiliad enau anferth yn agor i'm llyncu. Ac yna. . . ." Yn y fan hon llefarai'r distawrwydd — "Wel, fel y dywedais o'r blaen, yn y llyn y'm cefais fy hun."

0mg9opf51qx2dqjmbtvse2hy3kp18s1
170897
170896
2026-08-24T09:49:05Z

"Rhyfedd iawn!" meddai Morys, am y degfed tro. Credu yr oedd y siryf y byddai rhyw aflwydd yn rhwym o'i orddiwes oherwydd y rhan a gymerasai ef yn yr ymgyrch yn erbyn ysbrydion" yr ogof, pwy bynnag oedd y rhai hynny. Dyna a bwysai ar ei feddwl. Dyna a'i gwnâi mor ddigalon fel nad oedd modd ei gysuro. "Ni welais i erioed ddaioni o ymyrryd â phethau fel hyn," meddai yn brudd ac ofnus. "Mae rhywbeth yn rhwym o ddigwydd; cewch chwi weld!" ychwanegodd yn alarus.
"Na choelia i fawr!" Gwnaeth Morys ei orau i geisio codi ei galon. "Bûm innau mewn ysgarmes<noinclude><references/></noinclude>
hoa469gntvugisr0nn0nf47asyycxnk
170898
170897
2026-08-24T09:51:30Z
~2026-46302-33
4232
170898
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>galon pan ddaeth i gredu mai nid â chig a gwaed yr oedd yn ymwneud.
Naturiol oedd i'r hanes ddatblygu a thyfu o'i ail-adrodd gan yr arwr ei hun. Y mae ar gofnodiad mai ar ei orau glas yr ymataliodd hen ŵr byddar y Parciau heb chwerthin dros y tŷ pan oedd y siryf yn mynd drwy'r stori am y drydedd waith. Da oedd i'r hen ŵr fod yr yswain a'r siryf erbyn hynny bron wedi anghofio'r cwbl amdano.
"Yr oeddwn i'n sefyll fel hyn, welwch chwi," — meddai'r adroddwr, gan sefyll ar ganol y llawr mewn dull dramatig, — "yn disgwyl y llanc yn ôl, pan glywais sŵn fel rhuad rhyw anghenfil rheibus. Yr oedd y lle'n dywyll fel y fagddu, ac ni wyddwn o ble y deuai'r sŵn. Ymbaratois i'm hamddiffyn fy hun — ond ni wyddwn ar ba law i droi. Cryfhaodd y sŵn, a daeth yn nes. Ni allaf ei ddisgrifio'n addas. Yr oedd fel rhuad cant o fwystfilod arswydus yn rhuthro ar ôl eu hysglyfaeth. Llanwyd y lle â rhyw arogl annisgrifiadwy. Teimlais ar fy nhalcen anadl anghynnes yr ellyll, pa beth bynnag ydoedd. Yr oedd yn rhy dywyll imi weld mewn dull naturiol, ond mi gredaf byth bod yno ryw olau brwmstanaidd a barodd imi weled am eiliad enau anferth yn agor i'm llyncu. Ac yna. . . ." Yn y fan hon llefarai'r distawrwydd — "Wel, fel y dywedais o'r blaen, yn y llyn y'm cefais fy hun."
"Rhyfedd iawn!" meddai Morys, am y degfed tro.
Credu yr oedd y siryf y byddai rhyw aflwydd yn rhwym o'i orddiwes oherwydd y rhan a gymerasai ef yn yr ymgyrch yn erbyn ysbrydion" yr ogof, pwy bynnag oedd y rhai hynny. Dyna a bwysai ar ei feddwl. Dyna a'i gwnâi mor ddigalon fel nad oedd modd ei gysuro. "Ni welais i erioed ddaioni o ymyrryd â phethau fel hyn," meddai yn brudd ac ofnus. "Mae rhywbeth yn rhwym o ddigwydd; cewch chwi weld!" ychwanegodd yn alarus.
"Na choelia i fawr!" Gwnaeth Morys ei orau i geisio codi ei galon. "Bûm innau mewn ysgarmes<noinclude><references/></noinclude>
1r5hcnis4pwyrm0omqt8hkgycspoh25
170899
170898
2026-08-24T10:50:54Z
~2026-46302-33
4232
170899
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>galon pan ddaeth i gredu mai nid â chig a gwaed yr oedd yn ymwneud.
Naturiol oedd i'r hanes ddatblygu a thyfu o'i ail-adrodd gan yr arwr ei hun. Y mae ar gofnodiad mai ar ei orau glas yr ymataliodd hen ŵr byddar y Parciau heb chwerthin dros y tŷ pan oedd y siryf yn mynd drwy'r stori am y drydedd waith. Da oedd i'r hen ŵr fod yr yswain a'r siryf erbyn hynny bron wedi anghofio'r cwbl amdano.
"Yr oeddwn i'n sefyll fel hyn, welwch chwi," — meddai'r adroddwr, gan sefyll ar ganol y llawr mewn dull dramatig, — "yn disgwyl y llanc yn ôl, pan glywais sŵn fel rhuad rhyw anghenfil rheibus. Yr oedd y lle'n dywyll fel y fagddu, ac ni wyddwn o ble y deuai'r sŵn. Ymbaratois i'm hamddiffyn fy hun — ond ni wyddwn ar ba law i droi. Cryfhaodd y sŵn, a daeth yn nes. Ni allaf ei ddisgrifio'n addas. Yr oedd fel rhuad cant o fwystfilod arswydus yn rhuthro ar ôl eu hysglyfaeth. Llanwyd y lle â rhyw arogl annisgrifiadwy. Teimlais ar fy nhalcen anadl anghynnes yr ellyll, pa beth bynnag ydoedd. Yr oedd yn rhy dywyll imi weld mewn dull naturiol, ond mi gredaf byth bod yno ryw olau brwmstanaidd a barodd imi weled am eiliad enau anferth yn agor i'm llyncu. Ac yna. . . ." Yn y fan hon llefarai'r distawrwydd — "Wel, fel y dywedais o'r blaen, yn y llyn y'm cefais fy hun."
"Rhyfedd iawn!" meddai Morys, am y degfed tro.
Credu yr oedd y siryf y byddai rhyw aflwydd yn rhwym o'i orddiwes oherwydd y rhan a gymerasai ef yn yr ymgyrch yn erbyn "ysbrydion" yr ogof, pwy bynnag oedd y rhai hynny. Dyna a bwysai ar ei feddwl. Dyna a'i gwnâi mor ddigalon fel nad oedd modd ei gysuro. "Ni welais i erioed ddaioni o ymyrryd â phethau fel hyn," meddai yn brudd ac ofnus. "Mae rhywbeth yn rhwym o ddigwydd; cewch chwi weld!" ychwanegodd yn alarus.
"Na choelia i fawr!" Gwnaeth Morys ei orau i geisio codi ei galon. "Bûm innau mewn ysgarmes<noinclude><references/></noinclude>
3rmwapmh4lj49gjr8y1h3lva53p0b50
Tudalen:Madam Wen.djvu/103
104
33421
170900
76028
2026-08-24T11:02:02Z
~2026-46302-33
4232
170900
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>neu ddwy yn yr un cyfeiriad, ac nid oes dim annymunol wedi digwydd i mi."
"Ie! Ond! Ond fu hi ddim fel hyn arnoch yn siwr!"
Rhyfedd na soniwyd gair am y lladron drwy gydol yr ymddiddan. Y rheswm, mae'n debyg, oedd bod y siryf wedi ei daflu oddi ar echel ymresymiad. Ni soniodd air y noson honno am y fintai na pha fodd i'w herlid a'i dal. Yr oedd yn amlwg mai un drychfeddwl yn unig a adawsid iddo, ac mai dyna oedd hwnnw, ei fod ef, Siryf Môn am y flwyddyn, wedi dyfod i wrthdrawiad â rhyw bwerau ellyllaidd wrth amcanu gwneud ei ran fel ceidwad hedd y sir, ac mai'r peth doethaf y medrai ei wneud yn awr fyddai encilio mor ddidwrw ac mor fuan ag y byddai modd rhag digwydd a fyddai lawer gwaeth iddo.
Yr oedd gwell trefn ar ei nerfau drannoeth, a mwy o dawelwch yn ei fynwes ar ôl cael noson o gwsg. Ond nid oedd wedi newid ei farn am natur yr anturiaeth yr aethai trwyddi y noson cynt, ac nid oedd wedi newid ei feddwl o berthynas i'r hyn y bwriadai ei wneud. Daethai i'r casgliad pendant nad oedd wiw meddwl ymyrryd ymhellach â'r dylanwadau rhyfedd oedd yn llywyddu'r ogof, a phenderfynodd yrru adroddiad i ddywedyd bod pethau'n dawel yn ardal y llynnoedd, ac nad oedd yno bellach unrhyw ladron i'w dal.
Am yr hen ŵr o'r Parciau, ystyriai ef na byddai yn ddiogel iddo yntau ymadael nes gweled cefn gŵr y llywodraeth a'i lu arfog. Am hynny aros yng Nghymunod a wnaeth, a chadw yn ei gornel glyd.
Triniwyd llawer o faterion rhwng y ddau yswain yn ystod yr oriau y buont gyda'i gilydd. Ac ymhlith pethau eraill soniwyd llawer am Madam Wen a'i chymeriad a'i champau. Methai'r gŵr dieithr deall pa fodd y medrai'r yswain ieuanc ysmalio wrth sôn am berson mor beryglus. Ond felly y mynnai hwnnw. A dyna oedd ryfeddaf—nid oedd ganddo<noinclude><references/></noinclude>
gjja32bkw2xnz3s3b6jn2qm7q4gzdxq