Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.17
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/105
104
33423
170903
76030
2026-08-25T12:12:13Z
~2026-46244-64
4233
170903
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>wrthych annwyl iawn ei serch. Ac am hynny yr oedd mwy o lawer o reswm dros wrando amdani.
"Pa le y mae hi'n awr?" meddai.
"Ni wn i ddim, fel mae gwaethaf!" addefodd Morys. "Yn Nyffryn Clwyd, yng nghartref cyfaill i mi, y clywais amdani ddiwethaf." Gwenodd wrth feddwl mor syn yr oedd yn rhaid bod yr addefiad yn swnio yng nghlustiau'i ymwelydd. Ac aeth ymlaen: Yr wyf wedi mynd i gredu nad wyf yn ymddwyn yn briodol wrth adael iddi wneud fel y gwna, a'r tro nesaf y daw i'm cyrraedd yr wyf am ddal fy ngafael ynddi'n dynn, doed a ddelo." Chwarddodd yn iach wrth adrodd ei feddyliau, a gwenodd y siryf mewn cydymdeimlad llawn.
Pan ddaeth arhosiad y siryf i ben, aeth ei letywr i'w hebrwng beth o'r ffordd, ond ni fynnai hen ŵr y Parciau ymadael cyn i'r yswain ddyfod yn ôl, ac iddo yntau gael diolch iddo am y caredigrwydd a dderbyniasai. Dywedodd hefyd mai gwell oedd ganddo gysgodion nos i deithio'n ôl i'r bwthyn ger y Parciau. Yn hynny cydymdeimlai'r yswain ag ef. Ac felly y trefnwyd.
"Dywedwch wrth Madam Wen," meddai Morys, pan oedd yr hen ŵr ar gychwyn i'w daith, dywedwch wrthi fy mod wedi clywed yr hanes i gyd—
"Dweud beth?" gofynnodd yntau, a llaw wen eiddi wrth ei glust.
"Dweud fy mod yn credu na ddaw neb na dim i'w phoeni eto."
"Y daw beth?"
Cododd Morys ei lais yn uwch fyth. "Na ddaw neb na dim ar gyfyl yr ogof rhawg."
"Na ddowch chwi ddim i ymyl yr ogof rhawg?" ebe'r hen ŵr mewn llais main crynedig.
"Nage. Ond na ddaw y siryf ddim. Y caiff hi lonydd bellach. A dywedwch wrthi . . . ."
"Dweud beth?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
svmyaocttagpsghb5ih29kncrl88iwi
170904
170903
2026-08-26T06:45:02Z
~2026-46419-80
4235
170904
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>wrthych annwyl iawn ei serch. Ac am hynny yr oedd mwy o lawer o reswm dros wrando amdani.
"Pa le y mae hi'n awr?" meddai.
"Ni wn i ddim, fel mae gwaethaf!" addefodd Morys. "Yn Nyffryn Clwyd, yng nghartref cyfaill i mi, y clywais amdani ddiwethaf." Gwenodd wrth feddwl mor syn yr oedd yn rhaid bod yr addefiad yn swnio yng nghlustiau'i ymwelydd. Ac aeth ymlaen: "Yr wyf wedi mynd i gredu nad wyf yn ymddwyn yn briodol wrth adael iddi wneud fel y gwna, a'r tro nesaf y daw i'm cyrraedd yr wyf am ddal fy ngafael ynddi'n dynn, doed a ddelo." Chwarddodd yn iach wrth adrodd ei feddyliau, a gwenodd y siryf mewn cydymdeimlad llawn.

8ml9jwndd8cyqzo1vho49c7vp33eorm
170905
170904
2026-08-26T07:03:26Z

"Dywedwch wrth Madam Wen," meddai Morys, pan oedd yr hen ŵr ar gychwyn i'w daith, "dywedwch wrthi fy mod wedi clywed yr hanes i gyd—."
"Dweud beth?" gofynnodd yntau, a llaw wen eiddi wrth ei glust.
"Dweud fy mod yn credu na ddaw neb na dim i'w phoeni eto."
"Y daw beth?"
Cododd Morys ei lais yn uwch fyth. "Na ddaw neb na dim ar gyfyl yr ogof rhawg."
"Na ddowch chwi ddim i ymyl yr ogof rhawg?" ebe'r hen ŵr mewn llais main crynedig.
"Nage. Ond na ddaw y siryf ddim. Y caiff hi lonydd bellach. A dywedwch wrthi . . . ."
"Dweud beth?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mv5iwjk20pph57v7gfhslrcou4zy1i7
170906
170905
2026-08-26T07:04:44Z

"Dweud beth?" gofynnodd yntau, a llaw wen eiddil wrth ei glust.
"Dweud fy mod yn credu na ddaw neb na dim i'w phoeni eto."
"Y daw beth?"
Cododd Morys ei lais yn uwch fyth. "Na ddaw neb na dim ar gyfyl yr ogof rhawg."
"Na ddowch chwi ddim i ymyl yr ogof rhawg?" ebe'r hen ŵr mewn llais main crynedig.
"Nage. Ond na ddaw y siryf ddim. Y caiff hi lonydd bellach. A dywedwch wrthi . . . ."
"Dweud beth?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2r2b6ch0x1ou8f54xwzk7y4m8ttm0o9
Tudalen:Madam Wen.djvu/106
104
33424
170907
76031
2026-08-26T07:45:07Z
~2026-46419-80
4235
170907
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Braidd nad oedd clyw yr hen greadur yn gwaethygu, os oedd modd, yn nhyb Morys. Ond yr oedd am iddo glywed hyn pe holltid y trawstiau. "Dweud— fy mod yn ddiolchgar iddi—am ei charedigrwydd tuag ataf—ac yn gobeithio—cael ei gweld yn fuan!"
Meddyliodd mai rhag peri mwy o drafferth iddo y tawodd yr hen ŵr, ac nid oherwydd ei fod wedi clywed a deall y geiriau diwethaf. Ond yn lle ail-adrodd, ychwanegodd mewn cywair llawer is, a heb amcanu na disgwyl cael ei glywed. "Ac ni fyddai gwaeth dweud wrthi, hen ŵr, yr hoffwn yn fawr ei gweld yn newid ei dull o fyw, os nad ydyw hynny yn hyfdra ynof. Dweud y buaswn yn hoffi ei gweld yn ymwrthod â'r dyhirod sydd o'i chylch ar hyn o bryd. Dweud wrthi y buaswn yn ei chroesawu fel cymdoges, a'm bod yn disgwyl y bydd yng Nghymunod cyn bo hir rywun arall fuasai'n rhoddi croeso calon iddi."
Gwrthododd yr hen ŵr yn bendant gwmni neb i'w hebrwng ef ran o'r ffordd, ac aeth i'w daith yn unig. Buasai Morys Williams yn synnu mwy nag erioed pe gwelsai fel yr adfywiodd yr hen greadur cyn bod ddau canllath oddi wrth y tŷ; fel yr unionodd ei gefn, ac fel y deffrôdd ei glyw a'i olwg nes cyrraedd perffeithrwydd synhwyrau craff Madam Wen.
Yr oedd hi wedi bod ar ei gorau glas ers oriau yn treio byw y cymeriad a gymerasai arni ei hun. Bu'r gwaith yn filwaith caletach nag y meddyliasai hi erioed. Er mai ei bwriad cyntaf oedd amlygu i'r yswain wedi ymadael, pwy fu ei ymwelydd, teimlai'n awr na buasai yn cymryd y ddaear â gwneud hynny.
Treuliodd oriau trist yn yr ogof y noson honno. Y dyddlyfr sydd yn dywedyd hynny. Dywed na chafodd hi hûn i'w hamrantau nes i'r dydd wawrio, nes i'r haul ddyfod i dywynnu ar flodau'r eithin gan droi'r goedwig yn ardd euraid.
Cariad, a Chywilydd ac Eiddigedd oedd y Cewri gormesol oedd wedi ymarfogi yn ei herbyn hi druan<noinclude><references/></noinclude>
dieaxals0mthkze0mvj8hiz9ybs4w73
Tudalen:Cerddi Edern a Cherddi Eraill.djvu/57
104
72274
170908
145330
2026-08-26T10:29:50Z
~2026-46521-02
4236
llithriad ocr
170908
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|YN HARBWR SAN FRANCISCO}}}}
{{center block|
<poem>
Hen leuad wen, uwch ben y byd,
:a ddoist ti o hyd i Gymro
a aeth yn bell o'i wlad ei hun,
:o Leyn i San Francisco.
Mor dda dy gwmni hyd y môr,
:ac wrth ein hangor heno,
fel hen Gymraes uwch ben y dŵr,
:yn harbwr San Francisco.
Y mae fel goleu dydd ar lan
:a phob man yn disgleirio,
a thaflu gwreichion hyd y dŵr
:yn harbwr San Francisco.
Ond medraf weld dy oleu gwyn,
:wrth imi syn fyfyrio,
ar Bortinllaen, a'i bau a'i glan,
:o bellder San Francisco.
Mae sŵn y strydoedd ar y clyw,
:a'r dref yn fyw ac effro,
a sŵn rhialtwch mawr y lan
:dros harbwr San Francisco.
Ond tawel iawn yw glenydd Lleyn;
:ar ben fy hun 'rwy'n gwrando
am stwyrian pell 'r hen olwyn ddŵr,
:o harbwr San Francisco.
Yfory byddi uwch ben Lleyn
:yn gweld pob un a'm caro,
a gweld y tai mewn gwlad sydd well,
:yn bell o San Francisco.
Cei fynd yn dawel ar dy hynt;
:ni all dim gwynt dy rwystro;
ond stormydd geirwon sydd o mlaen
:i Bortinllaen o Frisco.
</poem>
}}
<br><noinclude><references/></noinclude>
ekeb2h34y8s2lnf2hhwc0a9ghbq7s44