Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.19
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/30
104
2667
170983
170960
2026-09-12T18:51:38Z
Tylopous
3717
gyfanneddodd
170983
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.
{{angor|19:17|17}} Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dïangc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd: dïangc i’r mynydd, rhag dy ddifetha.
{{angor|19:18|18}} A dywedodd Let wrthynt, O nid ''felly'', fy Arglwydd.
{{angor|19:19|19}} Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddïangc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw o honof.
{{angor|19:20|20}} Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gâd i mi ddïangc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.
{{angor|19:21|21}} Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiatteais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinystriwyf y ddinas ''am'' yr hon y dywedaist.
{{angor|19:22|22}} Brysia, dïangc yno; o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.
{{angor|19:23|23}} ¶ Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.
{{angor|19:24|24}} Yna yr {{sc|Arglwydd}} a wlawiodd ar Sodom a Gomorrah frwmstan a thân oddi wrth yr {{sc|Arglwydd}}, allan o’r nefoedd.
{{angor|19:25|25}} Felly y dinystriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
{{angor|19:26|26}} ¶ Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ol ef, a hi a aeth yn golofn halen.
{{angor|19:27|27}} ¶ Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|19:28|28}} Ac efe a edrychodd tu a Sodom a Gomorrah, a thu a holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
{{angor|19:29|29}} ¶ A phan ddifethodd {{sc|Duw}} ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd {{sc|Duw}} am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinystr, pan ddinystriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
{{angor|19:30|30}} ¶ A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gyd âg ef: o herwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferched.
{{angor|19:31|31}} ¶ A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni ''sydd'' hen, a gwr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.
{{angor|19:32|32}} Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.
{{angor|19:33|33}} A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd â’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
{{angor|19:34|34}} A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyd â’m tad; rhoddwn win iddo i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.
{{angor|19:35|35}} A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd âg ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
{{angor|19:36|36}} Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd o’u tad.
{{angor|19:37|37}} A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddyw.
{{angor|19:38|38}} A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben-ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddyw.
{{angor|Pennod_20}}{{canoli|{{uc|Pennod XX.}}}}
{{bach|1 ''Abraham yn ymdaith yn Gerar,'' 2 ''yn gwadu ei wraig, ac yn ei cholli hi.'' 3 ''Ceryddu Abimelech mewn breuddwyd o’i hachos hi.'' 9 ''Yntau yn ceryddu Abraham,'' 14 ''yn rhoddi Sarah yn ei hol,'' 16 ''ac yn ei cheryddu hi,'' 17 ''ac yn cael ei iachâu trwy weddi Abraham.''}}
{{angor|20:1}} {{uc|Ac}} Abraham a aeth oddi yno i dir y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.
{{angor|20:2|2}} A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymmerth Sara.
{{angor|20:3|3}} Yna y daeth {{sc|Duw}} at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.
{{angor|20:4|4}} Ond Abimelech ni nesasai atti hi: ac efe a ddywedodd, {{sc|Arglwydd}}, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
{{angor|20:5|5}} Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac y’nglendid fy nwylaw, y gwneuthum hyn.
{{angor|20:6|6}} Yna y dywedodd {{sc|Duw}} wrtho<noinclude><references/></noinclude>
0qqouxc2rx3nqbqgpo8h77ezfu1a9jp
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/191
104
3442
170981
6583
2026-09-12T18:29:12Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170981
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|1:21|21}} Wele, yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a roddes y wlad o’th flaen: dos i fynu ''a'' pherchennoga ''hi'', fel y llefarodd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrhâ.
{{angor|1:22|22}} ¶ A chwi oll a ddaethoch attaf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fynu ar hyd-ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.
{{angor|1:23|23}} A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymmerais ddeuddengwr o honoch, un gwr o ''bob'' llwyth.
{{angor|1:24|24}} A hwy a droisant, ac a aethant i fynu i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef.
{{angor|1:25|25}} Ac a gymmerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’''i'' dygasant i waered attom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da ''yw'' y wlad y mae yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} yn ei rhoddi i ni.
{{angor|1:26|26}} Er hynny ni fynnech fyned i fynu, ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}.
{{angor|1:27|27}} Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasâu o’r {{sc|Arglwydd}} nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aipht i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha.
{{angor|1:28|28}} I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hŵy na nyni ''ydynt;'' dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
{{angor|1:29|29}} Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.
{{angor|1:30|30}} Yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ol ''yr hyn'' oll a wnaeth ''efe'' eroch chwi yn yr Aipht o flaen eich llygaid;
{{angor|1:31|31}} Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist ''fel'' y’th ddug yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, fel y dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.
{{angor|1:32|32}} Etto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}},
{{angor|1:33|33}} Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi ''am'' le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmmwl.
{{angor|1:34|34}} A chlybu yr {{sc|Arglwydd}} lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
{{angor|1:35|35}} Dïau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi;
{{angor|1:36|36}} Oddi eithr Caleb mab Jephunneh: efe a’i gwel hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni o hono ''wneuthur'' ar ol yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|1:37|37}} Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr {{sc|Arglwydd}} o’ch plegid chwi, gan ddywedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.
{{angor|1:38|38}} Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnhâ di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.
{{angor|1:39|39}} Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddyw na da na drwg, hwynt-hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchennogant hi.
{{angor|1:40|40}} Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.
{{angor|1:41|41}} Yna yr attebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}: nyni a awn i fynu ac a ymladdwn, yn ol yr hyn oll a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroisoch i fyned i fynu i’r mynydd.
{{angor|1:42|42}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fynu, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion.
{{angor|1:43|43}} Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr {{sc|Arglwydd}}; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fynu i’r mynydd.
{{angor|1:44|44}} A daeth allan yr Amoriaid, ''oedd'' yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Hormah.
{{angor|1:45|45}} A dychwelasoch, ac wylasoch ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: ond ni wrandawodd yr {{sc|Arglwydd}} ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.
{{angor|1:46|46}} Ac arhosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arhosasoch o’r ''blaen''.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rjtgwxyku3kuw1ptbboqw1yypnw8roj
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/192
104
3443
170982
6584
2026-09-12T18:49:29Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170982
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Moses yn myned rhagddo yn yr ystori; ac yn dangos, nad oedd iddynt hwy a wnaent â’r Edomiaid,'' 9 ''na’r Moabiaid,'' 17 ''na’r Ammoniaid;'' 24 ''ond gorchfygu a wnaethant Sehon yr Amoriad.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Yna}} y troisom, ac yr aethom i’r anialwch, ''ar hyd'' ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.
{{angor|2:2|2}} Llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrthyf, gan ddywedyd,
{{angor|2:3|3}} Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn ''hyd yn hyn;'' ymchwelwch rhagoch tu a’r gogledd.
{{angor|2:4|4}} A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, ''Yr ydych'' i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch: ond ymgedwch yn ddyfal.
{{angor|2:5|5}} Nac ymyrrwch arnynt: o herwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymmaint a lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;
{{angor|2:6|6}} Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwyttaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
{{angor|2:7|7}} Canys yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn ''y bu'' yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} gyd â thi; ni bu arnat eisieu dim.
{{angor|2:8|8}} Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion-Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
{{angor|2:9|9}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrthyf, Na orthrymma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; o herwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth.
{{angor|2:10|10}} (Yr Emiaid o’r blaen a gyfanneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
{{angor|2:11|11}} Yn gawri y cymmerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid.
{{angor|2:12|12}} Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hol hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt, fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr {{sc|Arglwydd}} iddynt.)
{{angor|2:13|13}} ''Yna y dywedais'', Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Zared. A ni a aethom dros afon Zared.
{{angor|2:14|14}} A’r dyddiau y cerddasom o Cades-Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Zared, ''oedd'' onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr {{sc|Arglwydd}} wrthynt.
{{angor|2:15|15}} Canys llaw yr {{sc|Arglwydd}} ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
{{angor|2:16|16}} ¶ A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd,
{{angor|2:17|17}} Lefaru o’r {{sc|Arglwydd}} wrthyf, gan ddywedyd,
{{angor|2:18|18}} Tydi heddyw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, ''sef trwy'' Ar:
{{angor|2:19|19}} A ''phan'' ddelech di gyferbyn â meibion Ammon, na orthrymma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti;
canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
{{angor|2:20|20}} (Yn wlad cawri hefyd y cyfrifwyd hi: cawri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Zamzummiaid:
{{angor|2:21|21}} Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r {{sc|Arglwydd}} a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hol hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
{{angor|2:22|22}} Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hol hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;
{{angor|2:23|23}} Felly ''am'' yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Azzah, y Caphtoriaid, y rhai a ddaethant allan o Caphtor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
{{angor|2:24|24}} ¶ Cyfodwch, cychwynwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenhin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechreu ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
{{angor|2:25|25}} Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
{{angor|2:26|26}} ¶ A mi a anfonais genhadau o<noinclude><references/></noinclude>
hittfbcybu2khl80pcwn6nkgju0wtfy
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/193
104
3444
170984
6585
2026-09-13T05:30:17Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170984
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>anialwch Cedemoth, at Sehon brenhin Hesbon, ''â'' geiriau heddwch, gan ddywedyd,
{{angor|2:27|27}} Gâd i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y brif-ffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
{{angor|2:28|28}} Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwyttâwyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;
{{angor|2:29|29}} (Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} yn ei rhoddi i ni.
{{angor|2:30|30}} Ond ni fynnai Sehon brenhin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a galedasai ei yspryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddyw ''y gwelir''.
{{angor|2:31|31}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechreu feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.
{{angor|2:32|32}} Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel ''yn'' Jahas.
{{angor|2:33|33}} Ond yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} a’i rhoddes ef o’n blaen; ac ni a’i tarawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl:
{{angor|2:34|34}} Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un y’ngweddill.
{{angor|2:35|35}} Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac yspail y dinasoedd y rhai a ennillasom.
{{angor|2:36|36}} O Aroer, yr hon ''sydd'' ar fin afon Arnon, ac ''o''’r ddinas ''sydd'' ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddïangodd rhagom: yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} a roddes y cwbl o’n blaen ni.
{{angor|2:37|37}} Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, ''sef'' holl làn afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl ''leoedd'' a waharddasai yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} i ni.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Gorchfygu Og brenhin Basan:'' 11 ''maint ei wely ef.'' 12 ''Rhannu y tiroedd hynny rhwng y ddau lwyth a hanner.'' 23 ''Gweddi Moses am gael myned i’r wlad;'' 26 ''a rhoddi iddo gennad i’w gweled hi.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|Yna}} y troisom, ac yr esgynasom ''ar hyd'' ffordd Basan; ac Og brenhin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei.
{{angor|3:2|2}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
{{angor|3:3|3}} Felly yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenhin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i tarawsom ef, hyd na adawyd iddo un y’ngweddill:
{{angor|3:4|4}} Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ''fel'' nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; tri ugain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
{{angor|3:5|5}} Yr holl ddinasoedd hyn ''oedd'' gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heb law dinasoedd heb furiau lawer iawn.
{{angor|3:6|6}} A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenhin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant.
{{angor|3:7|7}} Ond yr holl anifeiliaid ac yspail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.
{{angor|3:8|8}} A ni a gymmerasom yr amser hwnnw o law dau frenhin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
{{angor|3:9|9}} (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;)
{{angor|3:10|10}} Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selchah, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
{{angor|3:11|11}} Oblegid Og brenhin Basan yn unig a adawsid o weddill y cawri: wele, ei wely ef ''oedd'' wely haiarn: onid ''yw'' hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd ''oedd'' ei hŷd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gwr.
{{angor|3:12|12}} A’r wlad hon a berchennogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon ''sydd'' wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid.
{{angor|3:13|13}} A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, ''sef'' brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasseh; ''sef'' holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cawri.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8j391ouwr57k90q9arlvlfvmq8ff55f
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/194
104
3445
170985
6586
2026-09-13T05:47:42Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170985
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|3:14|14}} Jair mab Manasseh a gymmerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth-Jair, hyd y dydd hwn.
{{angor|3:15|15}} Ac i Machir y rhoddais i Gilead.
{{angor|3:16|16}} Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:
{{angor|3:17|17}} Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, ''sef'' y môr heli, dan Asdoth-Pisgah, tu a’r dwyrain.
{{angor|3:18|18}} ¶ Gorchymynais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ''o honoch''.
{{angor|3:19|19}} Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi.
{{angor|3:20|20}} Hyd pan wnelo yr {{sc|Arglwydd}} i’ch brodyr orphwyso fel chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlad y mae yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: ''yna'' dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.
{{angor|3:21|21}} ¶ Gorchymynais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} i’r ddau frenhin hyn: felly y gwna yr {{sc|Arglwydd}} i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd attynt.
{{angor|3:22|22}} Nac ofnwch hwynt: oblegid yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, efe a ymladd drosoch chwi.
{{angor|3:23|23}} Ac erfyniais ar yr {{sc|Arglwydd}} yr amser hwnnw, gan ddywedyd,
{{angor|3:24|24}} O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa {{sc|Dduw}} ''sydd'' yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ol dy weithredoedd a’th nerthoedd di?
{{angor|3:25|25}} Gâd i mi fyned drosodd, attolwg, a gweled y wlad dda ''sydd'' dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.
{{angor|3:26|26}} Ond yr {{sc|Arglwydd}} a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Digon ''yw hynny'' i ti, na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.
{{angor|3:27|27}} Dos i fynu i ben Pisgah, a dyrchafa dy lygaid tu a’r gorllewin, a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, ac edrych ''arni'' â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.
{{angor|3:28|28}} Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnhâ ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.
{{angor|3:29|29}} Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Annog y bobl i ufudd-dod.'' 41 ''Moses yn appwyntio y tair dinas noddfa, o’r tu hwnnw i’r Iorddonen.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Bellach}} gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau ''yr ydwyf'' yn eu dysgu i chwi i’''w'' gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} eich tadau yn ei rhoddi i chwi.
{{angor|4:2|2}} Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihêwch ''ddim'' o hono ef, gan gadw gorchymynion yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, y rhai ''yr wyf fi'' yn eu gorchymyn i chwi.
{{angor|4:3|3}} Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} am Baal-peor; oblegid pob gwr a’r a aeth ar ol Baal-peor, yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’i difethodd ef o’th blith di.
{{angor|4:4|4}} Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, byw ''ydych'' heddyw oll.
{{angor|4:5|5}} Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}} i mi; i wneuthur ''o honoch'' felly, yn y wlad ''yr ydych'' ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.
{{angor|4:6|6}} Cedwch gan hynny, a gwnewch ''hwynt:'' oblegid hyn ''yw'' eich doethineb, a’ch deall chwi, y’ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddïau pobl ddoeth a deallus ''yw'' y genedl fawr hon.
{{angor|4:7|7}} Oblegid pa genedl ''mor'' fawr, yr hon ''y mae'' {{sc|Duw}} iddi yn nesâu atti, fel yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} ni, ym mhob ''dim'' a’r y galwom arno?
{{angor|4:8|8}} A pha genedl ''mor'' fawr, yr hon ''y mae'' iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
g3bjkpws4nr0enkataen0zzibd4p1fi
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/195
104
3446
170986
6587
2026-09-13T06:03:03Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170986
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|4:9|9}} Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio o honot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:
{{angor|4:10|10}} ''Sef'' y dydd y sefaist ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn Horeb, pan ddywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont ''hwynt'' i’w meibion.
{{angor|4:11|11}} A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmmwl, a thywyllwch dudew.
{{angor|4:12|12}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrthych o ganol y tân, ''a'' chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddych yn gweled llun ''dim'', ond llais.
{{angor|4:13|13}} Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynodd efe i chwi i’w wneuthur, ''sef'' y Dengair; ac a’u hysgrifenodd hwynt ar ddwy lech faen.
{{angor|4:14|14}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a orchymynodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau, a barnedigaethau, i wneuthur o honoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.
{{angor|4:15|15}} Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)
{{angor|4:16|16}} Rhag ymlygru o honoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwrryw neu fenyw,
{{angor|4:17|17}} Llun un anifail a’r ''sydd'' ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,
{{angor|4:18|18}} Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r ''y sydd'' yn y dyfroedd dan y ddaear;
{{angor|4:19|19}} Hefyd rhag dyrchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, ''sef'' holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
{{angor|4:20|20}} Ond yr {{sc|Arglwydd}} a’ch cymmerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haiarn, o’r Aipht, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel ''y gwelir'' y dydd hwn.
{{angor|4:21|21}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.
{{angor|4:22|22}} Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.
{{angor|4:23|23}} Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfammod yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn a ammododd efe â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti.
{{angor|4:24|24}} Oblegid yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} sydd dân ysol, ''a'' {{sc|Duw}} eiddigus.
{{angor|4:25|25}} ¶ Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir-drigo o honoch yn y wlad, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i’w ddigio ef;
{{angor|4:26|26}} Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
{{angor|4:27|27}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’ch gwasgara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym mysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr {{sc|Arglwydd}} chwi attynt:
{{angor|4:28|28}} Ac yno y gwasanaethwch dduwiau ''o'' waith dwylaw dyn, ''sef'' pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwyttânt, ac ni aroglant.
{{angor|4:29|29}} Os oddi yno y ceisi yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
{{angor|4:30|30}} Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a gwrandaw ar ei lais ef:
{{angor|4:31|31}} (O herwydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} sydd {{sc|Dduw}} trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid<noinclude><references/></noinclude>
6zoedydblal49c3ek65ttk08xoophev
Tudalen:Y Cychwyn.djvu/55
104
31373
170987
62117
2026-09-13T09:51:27Z
Figaro-ahp
1983
170987
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>gwragedd a phlant anghenus. Ac unwaith y câi mab Dafydd Ellis y cyfoeth hwnnw i'w ddwylo, fe'i gwariai, fo a'i dad a'i frodyr a'i gyfeillion ysgymun, ar y ddiod felltigedig 'na. Na, meddai Emily, yr oedd Tyddyn Cerrig yn mynd yn wag, a threfnodd Bob a hithau i brynu gweddill y lês. Ofnai hyd yn oed Owen Gruffydd y penderfyniad a'r sicrwydd tawel yn ei llais.
Wedi'r briodas, ffromodd yn aruthr ac nid âi ar gyfyl Tyddyn Cerrig, a surodd yn fwy pan alwyd y baban cyntaf yn 'Ddafydd' ar ôl ei daid arall. Dôi Emily i Dŷ Pella' weithiau a galwai Elin Gruffydd yn aml yng nghartref ei merch, gan wirioni uwch y plentyn, ond caledodd Owen Gruffydd ei galon, er y gwyddai'r rhai a'i hadwaenai orau ei bod hi ar dorri o'i fewn. Hyd yn oed pan anwyd merch a'i bedyddio'n 'Elin', ni liniarodd ei ysbryd i bob golwg, beth bynnag. A suddodd yn ddyfnach i'w elyniaeth tuag ato pan gyfarfu â Robert Ellis, a hwnnw'n bur feddw, ar y ffordd un nos Sadwrn: yn ffodus, digwyddai twr o bobl fod gerllaw ar y pryd a gwahanwyd y ddau cyn i eiriau fynd yn ergydion. Ganwyd Enid ryw flwyddyn yn ddiweddarach, ond er i'w ferch fod yn beryglus o wael wedi'r enedigaeth, cadwai Owen Gruffydd draw o Dyddyn Cerrig er gwaethaf erfyniadau dwys ei wraig. Felly y parhaodd am dair blynedd arall, nes geni'r baban a enwyd yn 'Owen'. "Yr un ffunud â'i daid," oedd barn pawb a welai'r bychan, a chan roi ei falchder heibio brysiodd Owen Gruffydd i Dyddyn Cerrig un noson i'w weld. Gwyrodd uwch ei ben, â dagrau hapus yn ei lygaid, ac yna cododd ef o'i grud i'w anwylo. Daeth Robert Ellis i mewn, ac yr oedd aroglau diod yn gryf arno. Rhoes y taid y baban yn ôl yn ei grud a cherddodd allan heb ddywedyd gair.
"Mae o mor styfnig â mul," meddai Robert Ellis drannoeth wrth Robin Ifans, 'wag' y bonc.
"Nac ydi, wir, Bob, mul sy mor styfnig â fo," oedd yr ateb, a gofalodd Robin fod y ffraethineb yn cael cylchrediad da yn y<noinclude><references/></noinclude>
g69cj7uu3fakse9mg27emnaepftfsj6