Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.19
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/18
104
2561
170993
63895
2026-09-14T17:29:46Z
Tylopous
3717
genhedlaethau
170993
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|5:32|32}} A Noah ydoedd fab pùm càn mlwydd; a Noah a genhedlodd Sem, Cham, a Japheth.
{{canoli|{{angor|Pennod_6|{{uc|Pennod VI.}}}}}}
{{bach|1 ''Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddigllonedd Duw, ac a barodd y diluw.'' 8 ''Noah yn cael ffafr.'' 14 ''Trefn a phortreiad, a’r achos y gwnaed yr arch.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Yna}} y bu, pan ddechreuodd dynion amlhâu ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
{{angor|6:2|2}} Weled o feibion {{sc|Duw}} ferched dynion mai teg ''oeddynt'' hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
{{angor|6:3|3}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
{{angor|6:4|4}} Cawri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion {{sc|Duw}} at ferched dynion, a phlanta ''o’r rhai hynny'' iddynt: dyma y cedyrn ''a fu'' wŷr enwog gynt.
{{angor|6:5|5}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a ''bod'' holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
{{angor|6:6|6}} Ac edifarhaodd ar yr {{sc|Arglwydd}} wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
{{angor|6:7|7}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
{{angor|6:8|8}} ¶ Ond Noah a gafodd ffafr y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:9|9}} ¶ Dyma genhedlaethau Noah: Noah ''oedd'' wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â {{sc|Duw}} y rhodiodd Noah.
{{angor|6:10|10}} A Noah a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham, a Japheth.
{{angor|6:11|11}} A’r ddaear a lygrasid ger bron {{sc|Duw}}; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
{{angor|6:12|12}} A {{sc|Duw}} a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
{{angor|6:13|13}} A {{sc|Duw}} a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyd â’r ddaear.
{{angor|6:14|14}} ¶ Gwna i ti arch o goed Gopher; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi fewn ac oddi allan â phyg.
{{angor|6:15|15}} Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chàn cufydd ''fydd'' hŷd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
{{angor|6:16|16}} Gwna ffenestr i’r arch, a gorphen ''hi'' yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri ''uchder'' y gwnei di hi.
{{angor|6:17|17}} Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn ''y mae'' anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll ''sydd'' ar y ddaear a drenga.
{{angor|6:18|18}} Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i’r arch yr âi di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.
{{angor|6:19|19}} Ac o bob ''peth'' byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob ''rhyw'' i’r arch i’w cadw yn fyw gyd â thi; gwrryw a benyw fyddant.
{{angor|6:20|20}} O’r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob ''rhywogaeth'' a ddaw attat i’w cadw yn fyw.
{{angor|6:21|21}} A chymmer i ti o bob bwyd a fwyttêir, a chasgl attat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
{{angor|6:22|22}} Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynasai {{sc|Duw}} iddo, felly y gwnaeth efe.
{{canoli|{{angor|Pennod_7|{{uc|Pennod VII.}}}}}}
{{bach|1 ''Noah a’i deulu a’r creaduriaid byw yn myned i’r arch.'' 11 ''Dechreuad, cynnydd, a pharhâd y diluw.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Yna}} y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Noah, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.
{{angor|7:2|2}} O bob anifail glân y cymmeri gyd â thi bob yn saith, y gwrryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwrryw a’i fenyw:
{{angor|7:3|3}} O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wrryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
{{angor|7:4|4}} Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.
{{angor|7:5|5}} A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} iddo.
{{angor|7:6|6}} Noah hefyd ''oedd'' fab chwe chàn<noinclude>
<references/></noinclude>
f9ijug3dim96kz23xaz23v7xct0ziy4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/26
104
2621
171003
63903
2026-09-14T18:43:32Z
Tylopous
3717
gyfammod
171003
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.
{{angor|15:12|12}} A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trwmgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, ''a'' thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
{{angor|15:13|13}} Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid ''yw'' eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
{{angor|15:14|14}} A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
{{angor|15:15|15}} A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
{{angor|15:16|16}} Ac ''yn'' y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.
{{angor|15:17|17}} A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
{{angor|15:18|18}} Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr {{sc|Arglwydd}} gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
{{angor|15:19|19}} Y Ceneaid, a’r Ceneziaid, a’r Cadmoniaid.
{{angor|15:20|20}} Yr Hethiaid hefyd, a’r Phereziaid, a’r Rephaimiaid,
{{angor|15:21|21}} Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
{{angor|Pennod_16}}{{canoli|{{uc|Pennod XVI.}}}}
{{bach|1 ''Sarai, yn ammhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram.'' 6 ''Agar, wedi ei chystuddio am ddïystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd.'' 9 ''Angel yn ei danfon hi yn ei hol i’w darostwng ei hun,'' 11 ''ac yn dywedyd iddi am ei mab.'' 15 ''Genedigaeth Ismael.''}}
{{angor|16:1}} {{uc|Sarai}} hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a’i henw Agar.
{{angor|16:2|2}} A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr {{sc|Arglwydd}} a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
{{angor|16:3|3}} A Sarai, gwraig Abram, a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.
{{angor|16:4|4}} ¶ Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi o honi, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.
{{angor|16:5|5}} Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, ''Bydded'' fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr {{sc|Arglwydd}} rhyngof fi a thi.
{{angor|16:6|6}} Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
{{angor|16:7|7}} ¶ Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:
{{angor|16:8|8}} Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
{{angor|16:9|9}} Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylaw hi.
{{angor|16:10|10}} Angel yr {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhâu yr amlhâf dy had di, fel na rifir ef o lïosowgrwydd.
{{angor|16:11|11}} Dywedodd angel yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr {{sc|Arglwydd}} a glybu dy gystudd di.
{{angor|16:12|12}} Ac efe a fydd ddyn gwŷllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.
{{angor|16:13|13}} A hi a alwodd enw yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O {{sc|Dduw}}, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?
{{angor|16:14|14}} Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered ''y mae hi''.
{{angor|16:15|15}} ¶ Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.
{{angor|16:16|16}} Ac Abram ''oedd'' fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.
{{angor|Pennod_17}}{{canoli|{{uc|Pennod XVII.}}}}
{{bach|1 ''Duw yn adnewyddu y cyfammod.'' 5 ''Newidio enw Abram, yn arwydd o fendith fwy.'' 10 ''Ordeinio enwaedaid.'' 15 ''Newidio enw Sarai, a’i bendithio.'' 16 ''Addewid o Isaac.'' 23 ''Enwaedu ar Abraham ac Ismael.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i0jklkf5jofex9bykjwdv53u9bi1lgl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/27
104
2655
171004
63904
2026-09-14T18:44:10Z
Tylopous
3717
nghyfammod
171004
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|17:1}} A {{uc|phan}} oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr {{sc|Arglwydd}} i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi ''yw'' {{sc|Duw}} Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
{{angor|17:2|2}} A mi a wnaf fy nghyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.
{{angor|17:3|3}} Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd {{sc|Duw}} wrtho ef, gan ddywedyd,
{{angor|17:4|4}} Myfi, wele, mi ''a wnaf'' fy nghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.
{{angor|17:5|5}} A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum.
{{angor|17:6|6}} A mi a’th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.
{{angor|17:7|7}} Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn {{sc|Dduw}} i ti, ac i’th had ar dy ol di.
{{angor|17:8|8}} A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, ''sef'' holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn {{sc|Dduw}} iddynt.
{{angor|17:9|9}} ¶ A {{sc|Duw}} a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfammod i, ti a’th had ar dy ol, trwy eu hoesoedd.
{{angor|17:10|10}} Dyma fy nghyfammod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.
{{angor|17:11|11}} A chwi a enwaedwch gnawd eich dïenwaediad: a bydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau.
{{angor|17:12|12}} Pob gwrryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenhedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dïeithr, yr hwn nid yw o’th had di.
{{angor|17:13|13}} Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.
{{angor|17:14|14}} A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: ''oblegid'' efe a dorrodd fy nghyfammod i.
{{angor|17:15|15}} ¶ {{sc|Duw}} hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara ''fydd'' ei henw hi.
{{angor|17:16|16}} Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab o honi: ïe bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.
{{angor|17:17|17}} Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab càn mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?
{{angor|17:18|18}} Ac Abraham a ddywedodd wrth {{sc|Dduw}}, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!
{{angor|17:19|19}} A {{sc|Duw}} a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ''ac'' â’i had ar ei ol ef.
{{angor|17:20|20}} Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i llïosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
{{angor|17:21|21}} Eithr fy nghyfammod a gadarnhâf âg Isaac, yr hwn a ymddŵg Sarah i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
{{angor|17:22|22}} Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a {{sc|Duw}} a aeth i fynu oddi wrth Abraham.
{{angor|17:23|23}} ¶ Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwrryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dïenwaediad hwynt o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarasai {{sc|Duw}} wrtho ef.
{{angor|17:24|24}} Ac Abraham ''oedd'' fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
{{angor|17:25|25}} Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
{{angor|17:26|26}} O fewn corph y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.
{{angor|17:27|27}} A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dïeithr, a enwaedwyd gyd âg ef.
{{angor|Pennod_18}}{{canoli|{{uc|Pennod XVIII.}}}}
{{bach|1 ''Abraham yn derbyn tri angel i’w dŷ.'' 9 ''Sarah a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid ddïeithr.'' 17 ''Duw yn rhybuddio Abraham am ddinystr Sodom.'' 23 ''Ac Abraham yn eiriol trostynt.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
p8i1k6athgkorq3bdg9atqx9u04rxi6
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/34
104
2742
171006
143068
2026-09-14T18:47:25Z
Tylopous
3717
baraf
171006
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|23:12|12}} Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir.
{{angor|23:13|13}} Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi ''a’i rhoddi'', attolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
{{angor|23:14|14}} Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
{{angor|23:15|15}} Gwrando fi, fy arglwydd; y tir ''a dâl'' bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.
{{angor|23:16|16}} Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o ''arian'' cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr.
{{angor|23:17|17}} ¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn ''oedd'' ym Machpelah, yr hon ''oedd'' o flaen Mamre, y maes a’r ogof ''oedd'' ynddo, a phob pren a’r ''a oedd'' yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,
{{angor|23:18|18}} Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
{{angor|23:19|19}} Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno ''yw'' Hebron, yn nhir Canaan.
{{angor|23:20|20}} A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.
{{angor|Pennod_24}}{{canoli|{{uc|Pennod XXIV.}}}}
{{bach|1 ''Abraham yn peri i’w was dyngu.'' 10 ''Taith y gwas:'' 12 ''Ei weddi:'' 14 ''Ei arwydd.'' 15 ''Rebeccah yn ei gyfarfod ei,'' 18 ''yn cwblhâu ei arwydd ef,'' 22 ''yn derbyn tlysau,'' 23 ''yn dangos ei chenedl,'' 25 ''ac yn ei wahodd ef adref.'' 26 ''Y gwas yn benditio Duw.'' 29 ''Laban yn ei groesawu ef.'' 34 ''Y gwas yn traethu ei neges.'' 50 ''Laban a Bethuel yn foddlawn.'' 58 ''Rebeccah yn cydsynio i fyned.'' 62 ''Isaac yn cyfarfod â hi.''}}
{{angor|24:1}} {{uc|Ac}} Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r {{sc|Arglwydd}} a fendithiasai Abraham ym mhob dim.
{{angor|24:2|2}} A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf ''yn'' ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r ''a oedd'' ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
{{angor|24:3|3}} A mi a baraf i ti dyngu i {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, a {{sc|Duw}} y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.
{{angor|24:4|4}} Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac.
{{angor|24:5|5}} A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono?
{{angor|24:6|6}} A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
{{angor|24:7|7}} ¶ {{sc|Arglwydd Dduw}} y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno.
{{angor|24:8|8}} Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
{{angor|24:9|9}} A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
{{angor|24:10|10}} ¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr ''oedd'' dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
{{angor|24:11|11}} Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai ''merched'' yn dyfod allan i dynnu dwfr.
{{angor|24:12|12}} Ac efe a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd Dduw}} fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
{{angor|24:13|13}} Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
{{angor|24:14|14}} A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr.
{{angor|24:15|15}} ¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd.
{{angor|24:16|16}} A’r llangces ''oedd'' dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r<noinclude><references/></noinclude>
3d8tz1r2n6nbjlzrer3v33fgaqngsdi
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/52
104
2965
170999
143041
2026-09-14T18:37:47Z
Tylopous
3717
perchennogaeth
170999
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|36:39|39}} A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef ''oedd'' Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.
{{angor|36:40|40}} A dyma enwau y duciaid o Esau, yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, duc Timna, duc Alfah, dug Jetheth,
{{angor|36:41|41}} Duc Aholibama, duc Ela, duc Pinon,
{{angor|36:42|42}} Duc Cenaz, duc Teman, duc Mibsar,
{{angor|36:43|43}} Duc Magdiel, duc Iram. Dyma y duciaid o Edom, yn ol eu preswylfeydd, y’ngwlad eu perchennogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.
{{angor|Pennod_37}}{{canoli|{{uc|Pennod XXXVII.}}}}
{{bach|2 ''Joseph yn cael ei gasâu gan ei frodyr.'' 5 ''Ei ddau freuddwyd ef.'' 13 ''Jacob yn ei anfon ef i ymweled â’i frodyr.'' 18 ''Hwythau yn cydfwriadu ei ladd ef.'' 21 ''Reuben yn ei achub ef.'' 26 ''Hwynt yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid.'' 31 ''Ei dad, wedi ei siommi trwy y siacced waedlyd, yn galaru am dano ef.'' 36 ''Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht.''}}
{{angor|37:1}} A {{uc|thrigodd}} Jacob y’ngwlad ymdaith ei dad, y’ngwlad Canaan.
{{angor|37:2|2}} Dyma genhedlaethau Jacob. Joseph, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyd â’i frodyr ar y praidd: a’r llangc oedd gyd â meibion Bilha, a chyd â meibion Zilpah, gwragedd ei dad; a Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.
{{angor|37:3|3}} Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph na’i holl feibion: oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.
{{angor|37:4|4}} A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ''âg'' ef yn heddychol.
{{angor|37:5|5}} ¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.
{{angor|37:6|6}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
{{angor|37:7|7}} Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i.
{{angor|37:8|8}} A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
{{angor|37:9|9}} ¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.
{{angor|37:10|10}} Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
{{angor|37:11|11}} A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.
{{angor|37:12|12}} ¶ A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.
{{angor|37:13|13}} Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid ''yw'' dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf attynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.
{{angor|37:14|14}} A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych ''pa'' lwyddiant ''sydd'' i’th frodyr, a ''pha'' lwyddiant ''sydd'' i’r praidd: a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.
{{angor|37:15|15}} ¶ A chyfarfu gwr âg ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gwr a ymofynnodd ''âg'' ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?
{{angor|37:16|16}} Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, attolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?
{{angor|37:17|17}} A’r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan.
{{angor|37:18|18}} Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef attynt, hwy a gyd-fwriadasant ''yn'' ei ''erbyn'' ef, i’w ladd ef.
{{angor|37:19|19}} A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.
{{angor|37:20|20}} Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef.
{{angor|37:21|21}} A Reuben a glybu, ac a’i<noinclude><references/></noinclude>
ca3slpmd9uucwk50addy2zr6vfjat6m
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/79
104
3328
170998
143043
2026-09-14T18:35:29Z
Tylopous
3717
oeddych
170998
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddïangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.
{{angor|10:6|6}} Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh.
{{angor|10:7|7}} A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr {{sc|Arglwydd}} eu {{sc|Duw}}: Oni wyddost ti etto ddifetha yr Aipht?
{{angor|10:8|8}} A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharaoh: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}: ''ond'' pa rai sydd yn myned?
{{angor|10:9|9}} A Moses a ddywedodd, A’n llangciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; a’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid ''rhaid'' i ni ''gadw'' gwyl i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|10:10|10}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo yr {{sc|Arglwydd}} gyd â chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.
{{angor|10:11|11}} Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}}: canys hyn yr oeddych yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharaoh.
{{angor|10:12|12}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dir yr Aipht; ac y bwyttaont holl lysiau y ddaear, ''sef'' y cwbl a’r a adawodd y cenllysg.
{{angor|10:13|13}} A Moses a estynodd ei wïalen ar dir yr Aipht: a’r {{sc|Arglwydd}} a ddug ddwyrein-wynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a ''phan'' ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
{{angor|10:14|14}} A’r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.
{{angor|10:15|15}} Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.
{{angor|10:16|16}} ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ac yn eich erbyn chwithau.
{{angor|10:17|17}} Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
{{angor|10:18|18}} A ''Moses'' a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|10:19|19}} A’r {{sc|Arglwydd}} a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymmerodd ymaith y locustiaid, ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aipht.
{{angor|10:20|20}} Er hynny caledodd yr {{sc|Arglwydd}} galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
{{angor|10:21|21}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.
{{angor|10:22|22}} A Moses a estynodd ei law tu a’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.
{{angor|10:23|23}} Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
{{angor|10:24|24}} ¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr {{sc|Arglwydd}}; arhôed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyd â chwi.
{{angor|10:25|25}} A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylaw ebyrth a phoeth-offrymmau, fel yr aberthom i’r {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}.
{{angor|10:26|26}} Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ol: oblegid o honynt y cymmerwn i wasanaethu yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr {{sc|Arglwydd}}, hyd oni ddelom yno.
{{angor|10:27|27}} ¶ Ond yr {{sc|Arglwydd}} a galedodd galon Pharaoh, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.
{{angor|10:28|28}} A dywedodd Pharaoh wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.
{{angor|10:29|29}} A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
neutff09hp01ya1jzsk3vv7vjk6ylb1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/94
104
3343
171002
63970
2026-09-14T18:41:56Z
Tylopous
3717
ysgrifenodd
171002
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
{{angor|24:2|2}} Ac aed Moses ei hun at yr {{sc|Arglwydd}}; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.
{{angor|24:3|3}} ¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr {{sc|Arglwydd}}, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:4|4}} A Moses a ysgrifenodd holl eiriau yr {{sc|Arglwydd}}; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.
{{angor|24:5|5}} Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:6|6}} A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
{{angor|24:7|7}} Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a’i darllenodd lle y clywai y bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandâwn yr hyn oll a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:8|8}} A chymmerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} â chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.
{{angor|24:9|9}} ¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.
{{angor|24:10|10}} A gwelsant {{sc|Dduw}} Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.
{{angor|24:11|11}} Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant {{sc|Dduw}}, a bwyttasant ac yfasant.
{{angor|24:12|12}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.
{{angor|24:13|13}} A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd {{sc|Duw}}.
{{angor|24:14|14}} Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni attoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyd â chwi; pwy bynnag ''a fyddo'' ag achos iddo, deued attynt hwy.
{{angor|24:15|15}} A Moses a aeth i fynu i’r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.
{{angor|24:16|16}} A gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.
{{angor|24:17|17}} A’r golwg ar ogoniant yr {{sc|Arglwydd}} ''oedd'' fel tân yn difa ar ben y mynydd, y’ngolwg meibion Israel.
{{angor|24:18|18}} A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
{{angor|Pennod_25}}{{c|PENNOD XXV.}}
{{bach|1 ''Pa beth sydd raid i’r Israeliaid ei offrwm tu ag at wneuthur y babell.'' 10 ''Dull yr arch.'' 17 ''Y drugareddfa a’r cerubiaid.'' 23 ''Y bwrdd a’i arlwy.'' 31 ''Y canhwyllbren a’i offer.''}}
{{angor|25:1}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|25:2|2}} Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.
{{angor|25:3|3}} A dyma yr offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,
{{angor|25:4|4}} A ''sidan'' glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a ''blew'' geifr,
{{angor|25:5|5}} A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
{{angor|25:6|6}} Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r pêr-arogl-darth,
{{angor|25:7|7}} Meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.
{{angor|25:8|8}} A gwnant i mi gyssegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.
{{angor|25:9|9}} Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
{{angor|25:10|10}} ¶ A gwnant arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
{{angor|25:11|11}} A gwisg hi âg aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.
{{angor|25:12|12}} Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.
{{angor|25:13|13}} A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur.
{{angor|25:14|14}} A gosod y trosolion trwy y modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.
{{angor|25:15|15}} Ym modrwyau yr arch y bydd<noinclude><references/></noinclude>
h8fio8getn6sp6bk63e05fivquswxxm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/105
104
3354
171001
170959
2026-09-14T18:41:15Z
Tylopous
3717
ysgrifenaf
171001
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|Pennod_34}}{{c|{{uc|Pennod XXXIV.}}}}
{{bach|1 ''Adnewyddu y llechau.'' 5 ''Cyhoeddi Enw yr Arglwydd.'' 8 ''Moses yn ymbil â Duw ar iddo fyned gyd â hwy.'' 10 ''Duw yn gwneuthur cyfammod â hwynt, ac yn ail-adrodd rhai o orchymynion y llech gyntaf.'' 28 ''Moses, wedi bod ddeugain niwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr â’r llechau.'' 29 ''Ei wyneb yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llèn gudd arno.''}}
{{angor|34:1}} A {{uc|dywedodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Nâdd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifenaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.
{{angor|34:2|2}} A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fynu yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.
{{angor|34:3|3}} Ond na ddeued neb i fynu gyd â thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
{{angor|34:4|4}} ¶ Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} iddo; ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
{{angor|34:5|5}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddisgynnodd mewn cwmmwl, ac a safodd gyd âg ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|34:6|6}} A’r {{sc|Arglwydd}} a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd {{uc|Jehofah}}, {{uc|Jehofah}}, y {{sc|Duw}} trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
{{angor|34:7|7}} Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif ''yr anwir'' yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
{{angor|34:8|8}} A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tu a’r llawr, ac a addolodd;
{{angor|34:9|9}} Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed ''yw'',) a maddeu ein hanwiredd, a’n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.
{{angor|34:10|10}} ¶ Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfammod y’ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr {{sc|Arglwydd}}: canys ofnadwy ''yw'' yr hyn a wnaf â thi.
{{angor|34:11|11}} Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.
{{angor|34:12|12}} A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfammod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.
{{angor|34:13|13}} Eithr dinystriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.
{{angor|34:14|14}} Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr {{sc|Arglwydd}}, Eiddigus ''yw'' ei enw; {{sc|Duw}} eiddigus ''yw'' efe;
{{angor|34:15|15}} Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;
{{angor|34:16|16}} A chymmeryd o honot o’u merched i’th feibion; a phutteinio o’u merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.
{{angor|34:17|17}} Na wna i ti dduwiau tawdd.
{{angor|34:18|18}} ¶ Cadw wyl y bara croyw: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aipht.
{{angor|34:19|19}} Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob ''gwrryw'' cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.
{{angor|34:20|20}} Ond y cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed ''neb'' ger fy mron yn waglaw.
{{angor|34:21|21}} ¶ Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhauaf, y gorphwysi.
{{angor|34:22|22}} ¶ Cadw i ti hefyd wyl yr wythnosau, o flaen-ffrwyth y cynhauaf gwenith, a gŵyl y cynnull, ''ar'' ddiwedd y flwyddyn.
{{angor|34:23|23}} ¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr {{sc|Arglwydd Dduw, Duw}} Israel.
{{angor|34:24|24}} Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, dair gwaith yn y flwyddyn.
{{angor|34:25|25}} Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5le0oq8w69v7ctw4xnb05ckbtyhp3bh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/143
104
3393
170997
101761
2026-09-14T18:34:44Z
Tylopous
3717
oeddych
170997
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|26:26|26}} A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.
{{angor|26:27|27}} Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, ond rhodio y’ngwrthwyneb i mi;
{{angor|26:28|28}} Minnau a rodiaf y’ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ïe myfi, a’ch cospaf chwi etto saith mwy am eich pechodau.
{{angor|26:29|29}} A chwi a fwyttêwch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwyttêwch.
{{angor|26:30|30}} Eich uchelfeydd hefyd a ddinystriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.
{{angor|26:31|31}} A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
{{angor|26:32|32}} A mi a ddinystriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.
{{angor|26:33|33}} Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.
{{angor|26:34|34}} Yna y mwynhâ y tir ei Sabbathau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch, a chwithau ''a fyddwch'' yn nhir eich gelynion; yna y gorphwys y tir, ac y mwynhâ ei Sabbathau.
{{angor|26:35|35}} Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch y gorphwys; o herwydd na orphwysodd ar eich Sabbathau chwi, pan oeddych yn trigo ynddo.
{{angor|26:36|36}} A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn ''eu'' herlid.
{{angor|26:37|37}} A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
{{angor|26:38|38}} Difethir chwi hefyd ym mysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwytty.
{{angor|26:39|39}} A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
{{angor|26:40|40}} Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
{{angor|26:41|41}} A rhodio o honof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion, os yno yr ymostwng eu calon ddïenwaededig, a’u bod yn foddlawn am eu cospedigaeth:
{{angor|26:42|42}} Minnau a gofiaf fy nghyfammod â Jacob, a’m cyfammod hefyd âg Isaac, a’m cyfammod hefyd âg Abraham a gofiaf, ac a gofiaf y tir hefyd.
{{angor|26:43|43}} A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynhâ ei Sabbathau, tra fyddo yn ddiffaethwch hebddynt: a hwythau a foddlonir am eu cospedigaeth; o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.
{{angor|26:44|44}} Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfammod â hwynt: o herwydd myfi ''ydyw'' yr {{sc|Arglwydd}} eu {{sc|Duw}} hwynt.
{{angor|26:45|45}} Ond cofiaf er eu mwyn gyfammod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aipht y’ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn {{sc|Dduw}}: myfi ''ydwyf'' yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|26:46|46}} Dyma y deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.
{{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod}} XXVII.}}
{{bach|1 ''Yr hwn a wnelo adduned hysbysol, eiddo yr Arglwydd fydd.'' 3 ''Pris y cyfryw adduned.'' 9 ''Am anifail a rodder trwy adduned.'' 14 ''Am dŷ.'' 16 ''Am faes, a’i ollyngiad.'' 28 ''Ni rhyddihêir un dïofryd-beth.'' 32 ''Nid rhydd newid y degwm.''}}
{{angor|27:1}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|27:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neillduol, y dynion ''fydd'' eiddo yr {{sc|Arglwydd}}, yn dy bris di.
{{angor|27:3|3}} A bydd dy bris, am wrryw o fab ugain mlwydd hyd fab tri ugain mlwydd, ïe, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ol sicl y cyssegr.
{{angor|27:4|4}} Ac os benyw ''fydd'', bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.
{{angor|27:5|5}} Ac o fab pùm mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wrryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.
{{angor|27:6|6}} A bydded hefyd dy bris am wrryw o fab misyriad hyd fab pùm<noinclude><references/></noinclude>
p9o1g1pwybi4fevy8r28j2q5z4f0bnq
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/164
104
3414
170994
142935
2026-09-14T17:31:36Z
Tylopous
3717
cenhedlaethau
170994
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ran hin o win am bob oen, yn ddïod-offrwm.
{{angor|15:6|6}} A thi a offrymmi ''yn'' fwyd-offrwm gyd â hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymmysgu trwy drydedd ''ran'' hin o olew.
{{angor|15:7|7}} A thrydedd ''ran'' hin o win yn ddïod-offrwm, a offrymmi yn arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|15:8|8}} A phan ddarperych lo buwch ''yn'' offrwm poeth, neu ''yn'' aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i’r {{sc|Arglwydd}};
{{angor|15:9|9}} Yna offrymmed yn fwyd-offrwm gyd â llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymmysgu trwy hanner hin o olew.
{{angor|15:10|10}} Ac offrwm hanner hin o win yn ddïod-offrwm, ''yn'' aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|15:11|11}} Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fỳn.
{{angor|15:12|12}} Yn ol y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i ''bob'' un, yn ol eu rhifedi.
{{angor|15:13|13}} Pob prïodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|15:14|14}} A phan ymdeithio dïeithrddyn, neu yr hwn ''sydd'' yn eich plith trwy eich cenhedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.
{{angor|15:15|15}} Yr un ddeddf ''fydd'' i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dïeithr; deddf dragywyddol ''yw'' trwy eich cenhedlaethau: megis yr ''ydych'' chwi, felly y bydd y dïeithr ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|15:16|16}} Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyd â chwi.
{{angor|15:17|17}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|15:18|18}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;
{{angor|15:19|19}} Yna pan fwyttaoch o fara y tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|15:20|20}} O flaenion eich toes yr offrymmwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr-dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.
{{angor|15:21|21}} O ddechreu eich toes y rhoddwch i’r {{sc|Arglwydd}} offrwm dyrchafael trwy eich cenhedlaethau.
{{angor|15:22|22}} ¶ A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses,
{{angor|15:23|23}} ''Sef'' yr hyn oll a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}, ac o hynny allan, trwy eich cenhedlaethau;
{{angor|15:24|24}} Yna bydded, os allan o olwg y gynnulleidfa y gwnaed ''dim'' trwy anwybod, i’r holl gynnulleidfa ddarparu un bustach ieuangc yn offrwm poeth, i ''fod'' yn arogl peraidd i’r {{sc|Arglwydd}}, â’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech-aberth.
{{angor|15:25|25}} A gwnaed yr offeiriad gymmod dros holl gynnulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth ''yw:'' a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}, a’u pechaberth, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, am eu hanwybodaeth.
{{angor|15:26|26}} A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg; canys ''digwyddodd'' i’r holl bobl trwy anwybod.
{{angor|15:27|27}} ¶ Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymmed afr flwydd yn offrwm dros bechod.
{{angor|15:28|28}} A gwnaed yr offeiriad gymmod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, gan wneuthur cymmod drosto; a maddeuir iddo.
{{angor|15:29|29}} Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur ''pechod'' trwy amryfusedd.
{{angor|15:30|30}} ¶ Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o brïodor, neu o ddïeithr; cablu yr {{sc|Arglwydd}} y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
{{angor|15:31|31}} O herwydd iddo ddïystyru gair yr {{sc|Arglwydd}}, a thorri ei orchymyn ef; llwyr-dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd ''fydd'' arno.
{{angor|15:32|32}} ¶ Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant wr yn cynnutta ar y dydd Sabbath.
{{angor|15:33|33}} A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, ''sef'' y cynnuttwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.
{{angor|15:34|34}} Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
{{angor|15:35|35}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Lladder y gwr yn farw: llabyddied yr holl gynnulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
iq2e2z10pvbq5r784j86zmbc2611dv2
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/172
104
3422
171000
143065
2026-09-14T18:39:29Z
Tylopous
3717
berchennogasant
171000
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.
{{angor|21:26|26}} Canys dinas Sehon, brenhin yr Amoriaid, ''ydoedd'' Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenhin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.
{{angor|21:27|27}} Am hynny y dywed y dïarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhâer dinas Sehon.
{{angor|21:28|28}} Canys tân a aeth allan o Hesbon, ''a'' fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ''ym'' Moab, a pherchennogion Bamoth Arnon.
{{angor|21:29|29}} Gwae di, Moab; darfu am danat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dïangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenhin yr Amoriaid.
{{angor|21:30|30}} Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon ''sydd'' hyd Medeba.
{{angor|21:31|31}} ¶ A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.
{{angor|21:32|32}} A Moses a anfonodd i chwilio Jazer: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid y rhai ''oedd'' yno.
{{angor|21:33|33}} ¶ Troisant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenhin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.
{{angor|21:34|34}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn ''oedd'' yn trigo yn Hesbon.
{{angor|21:35|35}} Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchennogasant ei dir ef.
{{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}}
{{bach|1 ''Cenhadon cyntaf Balac yn cael nâg gan Balaam.'' 15 ''Ei ail-genhadon ef yn cael ganddo ddyfod.'' 22 ''Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef.'' 36 ''Balac yn ei groesawu ef.''}}
{{angor|22:1}} {{uc|A meibion}} Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho.
{{angor|22:2|2}} ¶ A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid.
{{angor|22:3|3}} ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer ''oedd:'' a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.
{{angor|22:4|4}} ¶ A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes. A Balac mab Sippor ''oedd'' frenhin ar Moab yn yr amser hwnnw.
{{angor|22:5|5}} Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon ''sydd'' wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
{{angor|22:6|6}} Yr awr hon, gan hynny, tyred, attolwg, melldithia i mi y bobl yma; canys cryfach ''ydynt'' na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig ''fydd'' yr hwn a fendithiech di, a melldigedig ''fydd'' yr hwn a felldithiech.
{{angor|22:7|7}} A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, ''a gwobr'' dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
{{angor|22:8|8}} A dywedodd yntau wrthynt, Llettŷwch yma heno; a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf. A thywysogion Moab a arhosasant gyd â Balaam.
{{angor|22:9|9}} A daeth {{sc|Duw}} at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy ''yw'' y dynion hyn ''sydd'' gyd â thi?
{{angor|22:10|10}} A dywedodd Balaam wrth {{sc|Dduw}}, Balac mab Sippor, brenhin Moab, a ddanfonodd attaf, ''gan ddywedyd'',
{{angor|22:11|11}} Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; ''felly'' ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.
{{angor|22:12|12}} A dywedodd {{sc|Duw}} wrth Balaam, Na ddos gyd â hwynt; na felldithia y bobl: canys bendigedig ''ydynt''.
{{angor|22:13|13}} A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr {{sc|Arglwydd}} a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi.
{{angor|22:14|14}} A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Naccaodd Balaam ddyfod gyd â ni.
{{angor|22:15|15}} ¶ A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.
{{angor|22:16|16}} A hwy a ddaethant at Balaam;<noinclude><references/></noinclude>
3m35li5lfw2fv41525yz2bbsn5o1ttp
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/197
104
3448
171005
170990
2026-09-14T18:46:24Z
Tylopous
3717
attaf
171005
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ddaear oddi isod, nac a’r ''y sydd'' yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:
{{angor|5:9|9}} Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''ydwyf'' {{sc|Dduw}} eiddigus, yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd ''genhedlaeth'' o’r rhai a’m casânt;
{{angor|5:10|10}} Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
{{angor|5:11|11}} Na chymmer enw yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ofer: canys nid dïeuog gan yr {{sc|Arglwydd}} yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
{{angor|5:12|12}} Cadw y dydd Sabbath i’w sancteiddio ef, fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti.
{{angor|5:13|13}} Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
{{angor|5:14|14}} Ond y seithfed dydd ''yw'' Sabbath yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: na wna ''ynddo'' ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ŷch, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddïeithrddyn yr hwn ''fyddo'' o fewn dy byrth; fel y gorphwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.
{{angor|5:15|15}} A chofia mai gwas a fuost ti y’ngwlad yr Aipht, a’th ddwyn o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti gadw dydd y Sabbath.
{{angor|5:16|16}} ¶ Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti; fel yr estyner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei rhoddi i ti.
{{angor|5:17|17}} Na ladd.
{{angor|5:18|18}} Ac na wna odineb.
{{angor|5:19|19}} Ac na ladratta.
{{angor|5:20|20}} Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
{{angor|5:21|21}} Ac na chwennych wraig dy gymmydog, ac na chwennych dŷ dy gymmydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r ''y sydd'' eiddo dy gymmydog.
{{angor|5:22|22}} ¶ Y geiriau hyn a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a’r tywyllwch, ''â'' llais uchel; ac ni chwanegodd ''ddim;'' ond ysgrifenodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes attaf fi.
{{angor|5:23|23}} A darfu, wedi clywed o honoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch attaf, sef holl bennaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi;
{{angor|5:24|24}} Ac a ddywedasoch, Wele, yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddyw y gwelsom lefaru o {{sc|Dduw}} wrth ddyn, a byw o hono.
{{angor|5:25|25}} Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} mwyach, marw a wnawn.
{{angor|5:26|26}} Oblegid pa gnawd oll ''sydd'', yr hwn a glybu lais y {{sc|Duw}} byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?
{{angor|5:27|27}} Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} wrthyt ti: a nyni a wrandâwn, ac a wnawn ''hynny''.
{{angor|5:28|28}} A’r {{sc|Arglwydd}} a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.
{{angor|5:29|29}} O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragywyddol!
{{angor|5:30|30}} Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll.
{{angor|5:31|31}} Ond saf di yma gyd â myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchymynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnant hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchennogi.
{{angor|5:32|32}} Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} i chwi: na chiliwch i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
{{angor|5:33|33}} Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Diwedd y gyfraith yw ufudd-dod.'' 3 ''Annog i ufuddhâu.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5t3nw5ono3wagbj8m6srw3914lv9bcv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/199
104
3450
170992
6592
2026-09-14T17:28:13Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170992
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd llïosocach a chryfach na thydi;
{{angor|7:2|2}} A rhoddi o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
{{angor|7:3|3}} Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt; na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymmer ei ferch ef i’th fab dithau.
{{angor|7:4|4}} Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ol i, fel y gwasanaethont dduwiau dïeithr; felly yr ennyn llid yr {{sc|Arglwydd}} i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd.
{{angor|7:5|5}} Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinystriwch eu hallorau, a thorrwch en colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
{{angor|7:6|6}} Canys pobl sanctaidd ''ydwyt'' ti i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd ''sydd'' ar wyneb y ddaear.
{{angor|7:7|7}} Nid am eich bod yn llïosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr {{sc|Arglwydd}} chwi, ac y’ch dewisodd; o herwydd ''yr oeddych'' chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd:
{{angor|7:8|8}} Ond o herwydd caru o’r {{sc|Arglwydd}} chwi, ac er mwyn cadw o hono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr {{sc|Arglwydd}} chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharaoh brenhin yr Aipht.
{{angor|7:9|9}} Gwybydd gan hynny mai yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''sydd'' {{sc|Dduw}}, ''sef'' y {{sc|Duw}} ffyddlawn, yn cadw cyfammod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau;
{{angor|7:10|10}} Ac yn talu y pwyth i’w gas, yn ei wyneb, gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.
{{angor|7:11|11}} Cadw gan hynny y gorchymynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw, i’w gwneuthur.
{{angor|7:12|12}} ¶ A bydd, o achos gwrandaw o honoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Duw}} â thi y cyfammod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di:
{{angor|7:13|13}} Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlhâ di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, ''a'' chynnydd ''dy'' wartheg, a dïadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.
{{angor|7:14|14}} Bendigedig fyddi uwch law yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwrryw nac un fenyw yn anffrwythlawn, nac ym mhlith dy anifeiliaid di.
{{angor|7:15|15}} Hefyd yr {{sc|Arglwydd}} a dỳn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aipht, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.
{{angor|7:16|16}} Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti ''a fyddai'' hynny.
{{angor|7:17|17}} Os dywedi yn dy galon, Llïosocach ''yw'' y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?
{{angor|7:18|18}} Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i Pharaoh, ac i’r holl Aipht:
{{angor|7:19|19}} Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} allan: felly y gwna yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
{{angor|7:20|20}} A’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hefyd a ddenfyn gaccwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti.
{{angor|7:21|21}} Nac ofna rhagddynt: oblegid yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''sydd'' yn dy ganol di, yn {{sc|Dduw}} mawr, ac ofnadwy.
{{angor|7:22|22}} A’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, ''bob'' ychydig ''ac'' ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
{{angor|7:23|23}} Ond yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;
{{angor|7:24|24}} Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y<noinclude><references/></noinclude>
6n8eyqs9dde1as8gxb4wkw71d49ejlt
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/200
104
3451
170995
6594
2026-09-14T18:16:54Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170995
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>nefoedd: ni saif gwr yn dy wyneb di, nes difetha o honot ti hwynt.
{{angor|7:25|25}} Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur ''a fyddo'' arnynt, i’w cymmeryd i ti; rhag dy faglu âg ef: oblegid ffieidd-dra i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''ydyw''.
{{angor|7:26|26}} Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymmunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef; oblegid ysgymmunbeth ''yw'' efe.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Annog i ufudd-dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|Edrychwch}} am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddyw; fel y byddoch fyw, ac y cynnyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth eich tadau trwy lw.
{{angor|8:2|2}} A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn ''oedd'' yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nas ''cedwit''.
{{angor|8:3|3}} Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnai efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob ''gair'' a’r sydd yn dyfod allan o enau yr {{sc|Arglwydd}} y bydd byw dyn.
{{angor|8:4|4}} Dy ddillad ni heneiddiodd am danat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
{{angor|8:5|5}} Cydnebydd dithau yn dy galon, ''fod'' yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn dy ddysgu di, fel y dysg gwr ei fab ei hun.
{{angor|8:6|6}} A chadw orchymynion yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.
{{angor|8:7|7}} Oblegid y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
{{angor|8:8|8}} Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olew-wydden, a mêl;
{{angor|8:9|9}} Gwlad yr hon y bwyttêi fara ynddi heb brinder, ''ac'' ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon ''y mae'' ei cherrig yn haiarn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.
{{angor|8:10|10}} Pan fwyttêych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} am y wlad dda a roddes efe i ti.
{{angor|8:11|11}} Cadw arnat rhag anghofio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, heb gadw ei orchymynion, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw:
{{angor|8:12|12}} Rhag wedi i ti fwytta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ''ynddynt;''
{{angor|8:13|13}} A llïosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhâu o arian ac aur gennyt, ac amlhâu o’r hyn oll ''y sydd'' gennyt:
{{angor|8:14|14}} Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio o honot yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed;
{{angor|8:15|15}} Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, ''lle yr ydoedd'' seirph tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid ''oedd'' dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;
{{angor|8:16|16}} Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)
{{angor|8:17|17}} ''A'' dywedyd o honot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.
{{angor|8:18|18}} Ond cofia yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: oblegid efe ''yw'' yr hwn ''sydd'' yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfammod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel ''y mae'' y dydd hwn.
{{angor|8:19|19}} Ac os gan anghofio yr anghofi yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a dilyn duwiau dïeithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddyw, gan ddifetha y’ch difethir.
{{angor|8:20|20}} Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Gwrando}}, Israel: ''Yr wyt'' ti yn myned heddyw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i<noinclude><references/></noinclude>
j84jwvz74f2nhe0fd4nipxjsqbu4bv7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/201
104
3452
170996
6595
2026-09-14T18:33:33Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
170996
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>berchennogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;
{{angor|9:2|2}} Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ''ddywedyd am danynt'', Pwy a saif o flaen meibion Anac!
{{angor|9:3|3}} Gwybydd gan hynny heddyw, ''fod'' yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyt.
{{angor|9:4|4}} Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr {{sc|Arglwydd}} fi i feddiannu y tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr {{sc|Arglwydd}} hwynt allan o’th flaen di.
{{angor|9:5|5}} Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni y gair a dyngodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
{{angor|9:6|6}} Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun, y rhoddes yr {{sc|Arglwydd}} i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wàrgaled ''ydych''.
{{angor|9:7|7}} ¶ Meddwl, ''ac'' nac anghofia, pa fodd y digiaist yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aipht, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:8|8}} Yn Horeb hefyd y digiasoch yr {{sc|Arglwydd}}; a digiodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthych, i’ch difetha.
{{angor|9:9|9}} Pan euthum i fynu i’r mynydd i gymmeryd y llechau meini, ''sef'' llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwytteais, a dwfr nid yfais.
{{angor|9:10|10}} A rhoddes yr {{sc|Arglwydd}} attaf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifenu â bys {{sc|Duw}}; ac arnynt ''yr oedd'' yn ol yr holl eiriau a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymmanfa.
{{angor|9:11|11}} A bu, ym mhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r {{sc|Arglwydd}} attaf y ddwy lech faen; ''sef'' llechau y cyfammod.
{{angor|9:12|12}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aipht: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchymynais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
{{angor|9:13|13}} A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ''ydynt''.
{{angor|9:14|14}} Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt-hwy.
{{angor|9:15|15}} A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfammod ''oedd'' yn fy nwylaw.
{{angor|9:16|16}} Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchymynasai yr ARGLWYDD i chwi.
{{angor|9:17|17}} A mi a ymaflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylaw, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid.
{{angor|9:18|18}} A syrthiais ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytteais fara, ac nid yfais ddwfr: o herwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} i’w ddigio ef.
{{angor|9:19|19}} (Canys ofnais rhag y sorriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthych, i’ch dinystrio chwi.) Etto gwrandawodd yr {{sc|Arglwydd}} arnaf y waith honno hefyd.
{{angor|9:20|20}} Wrth Aaron hefyd y digiodd yr {{sc|Arglwydd}} yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.
{{angor|9:21|21}} Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, ''sef'' y llo, a gymmerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ''ei'' falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd.
{{angor|9:22|22}} O fewn Taberah hefyd, ac o fewn Massah, ac o fewn Beddau y blys, yr oeddych yn digio yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:23|23}} A phan anfonodd yr {{sc|Arglwydd}}<noinclude><references/></noinclude>
ewdemm436tvicgf61eg9mru2yaxvs4u
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/202
104
3453
171007
6596
2026-09-15T05:18:39Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171007
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>chwi o Cades-Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fynu, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.
{{angor|9:24|24}} Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} er y dydd yr adnabûm chwi.
{{angor|9:25|25}} A mi a syrthiais ger bron yr {{sc|Arglwydd}} ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn ''o’r blaen;'' am ddywedyd o’r {{sc|Arglwydd}} y difethai chwi.
{{angor|9:26|26}} Gweddïais hefyd ar yr {{sc|Arglwydd}}, a dywedais, {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aipht â llaw gref.
{{angor|9:27|27}} Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:
{{angor|9:28|28}} Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan o honi, O eisieu gallu o’r {{sc|Arglwydd}} eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.
{{angor|9:29|29}} Etto dy bobl di a’th etifeddiaeth ''ydynt'' hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Trugaredd Duw, yn ail-roddi y ddwy lech:'' 6 ''yn sicrhâu yr offeiriadaeth;'' 8 ''yn neillduo llwyth Lefi:'' 10 ''yn gwrandaw ar weddi Moses dros y bobl.'' 12 ''Annog i ufudd-dod.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Yr}} amser hwnnw y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel ''y rhai'' cyntaf; a thyred i fynu attaf fi i’r mynydd, a gwna i ti arch bren.
{{angor|10:2|2}} A mi a ysgrifenaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod tithau hwynt yn yr arch.
{{angor|10:3|3}} Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fynu i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw.
{{angor|10:4|4}} Ac efe a ysgrifenodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y Dengair, a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymmanfa: a rhoddes yr {{sc|Arglwydd}} hwynt attaf fi.
{{angor|10:5|5}} Yna y dychwelais, ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} i mi.
{{angor|10:6|6}} ¶ A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Moserah: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleazar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.
{{angor|10:7|7}} Oddi yno yr aethant i Gudgodah; ac o Gudgodah i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.
{{angor|10:8|8}} ¶ Yr amser hwnnw y neillduodd yr {{sc|Arglwydd}} lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfammod yr {{sc|Arglwydd}}, i sefyll ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.
{{angor|10:9|9}} Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyd â’i frodyr: yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} wrtho ef.
{{angor|10:10|10}} A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr {{sc|Arglwydd}} arnaf y waith hon hefyd: ni ewyllysiodd yr {{sc|Arglwydd}} dy ddifetha di.
{{angor|10:11|11}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Cyfod, dos ''i’th'' daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.
{{angor|10:12|12}} ¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
{{angor|10:13|13}} Cadw gorchymynion yr {{sc|Arglwydd}}, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?
{{angor|10:14|14}} Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ''ydynt'' eiddo yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, y ddaear ''hefyd'' a’r hyn oll ''sydd'' ynddi.
{{angor|10:15|15}} Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr {{sc|Arglwydd}} ei serch, gan eu hoffi hwynt: ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hol hwynt, ''sef'' o honoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddyw ''y gwelir''.
{{angor|10:16|16}} Enwaedwch chwithau ddïenwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwarr mwyach.
{{angor|10:17|17}} Canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi ''yw'' {{sc|Duw}} y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, {{sc|Duw}} mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn ni<noinclude><references/></noinclude>
9a1gjv25g26cccf2oso7y2wtjb5k1yc
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/203
104
3454
171008
6597
2026-09-15T05:37:10Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171008
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>dderbyn wyneb, ac ni chymmer wobr.
{{angor|10:18|18}} Yr hwn a farna yr amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi y dïeithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.
{{angor|10:19|19}} Hoffwch chwithau y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch yn nhir yr Aipht.
{{angor|10:20|20}} Yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi.
{{angor|10:21|21}} Efe ''yw'' dy fawl, ac efe ''yw'' dy {sc|Dduw}}, yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy ''bethau'' hyn, y rhai a welodd dy lygaid.
{{angor|10:22|22}} Dy dadau a aethant i waered i’r Aipht yn ddeg enaid a thri ugain; ac yr awr hon yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Moses yn annog y bobl i ufudd-dod:'' 2 ''trwy eu gwybodaeth eu hunain o fawr weithredoedd Duw;'' 8 ''trwy addewid o fawr fendithion Duw,'' 16 ''a thrwy fygythion.'' 18 ''Bod yn rhaid myfyrio yn ofalus ar eiriau Duw.'' 26 ''Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|Car}} dithau yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.
{{angor|11:2|2}} A chydnabyddwch heddyw: canys nid ''wyf yn ymddiddan'' â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig;
{{angor|11:3|3}} Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aipht, i Pharaoh brenhin yr Aipht, ac i’w holl dir;
{{angor|11:4|4}} A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aipht, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ol, ac y difethodd yr {{sc|Arglwydd}} hwynt hyd y dydd hwn:
{{angor|11:5|5}} A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn;
{{angor|11:6|6}} A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyngcodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ym mysg holl Israel.
{{angor|11:7|7}} Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr {{sc|Arglwydd}}, y rhai a wnaeth efe.
{{angor|11:8|8}} Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddyw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu:
{{angor|11:9|9}} Ac fel yr estynoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr {{sc|Arglwydd}} i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; ''sef'' tir yn llifeirio o laeth a mêl.
{{angor|11:10|10}} ¶ O herwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aipht ''y mae'', yr hwn y daethoch allan o hono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau:
{{angor|11:11|11}} Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, ''sydd'' fynydd-dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o wlaw y nefoedd;
{{angor|11:12|12}} Tir ''yw'', yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei ymgeleddu: llygaid yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''sydd'' bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
{{angor|11:13|13}} ¶ A bydd, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy ngorchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i garu yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid;
{{angor|11:14|14}} Yna y rhoddaf wlaw i’ch tir yn ei amser, ''sef'' y cynnar-wlaw, a’r diweddar-wlaw; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew;
{{angor|11:15|15}} A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwyttâech, ac y’th ddigoner.
{{angor|11:16|16}} Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt;
{{angor|11:17|17}} Ac ennynu digllonedd yr {{sc|Arglwydd}} i’ch erbyn, a chau o hono ef y nefoedd, fel na byddo gwlaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} yn ei roddi i chwi.
{{angor|11:18|18}} ¶ Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylaw, a byddant yn rhagdalau rhwng eich llygaid:
{{angor|11:19|19}} A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych ''hefyd'', a phan godych.
{{angor|11:20|20}} Ac ysgrifena hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
rbv99mmycvi67zw1ui85pj9qnn4fusv
Tudalen:Gardd Eifion.djvu/27
104
63906
171009
129612
2026-09-15T08:42:11Z
Figaro-ahp
1983
171009
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{larger|Y CYMOD.}}}}
{{center block|
<poem>
Yr Iawn a dalwyd ar y groes,
:Drwy ddyoddef loes hyd angau,
Sydd yn cymodi euog ddyn
:A Duw ei hun, yn ddiau.
Mae bywyd i bechadur trist,
:Yn angau Crist yr unig,
Gwag yw'r ddyledswydd oreu ei llun
:At gadw dyn colledig.
Efe yw'r Iawn gerbron y Tad,
:A'r aberth rhad dros bechod :
Hwn ydyw'r gwerth, a dyma'r gwaed!
:Trwy'r hwn y caed y cymod.
Fe safodd dan ein beiau i gyd
:Wrth ddyoddef ergyd angau;
Er iddo'n brudd ar waedlyd bren
:Ogwyddo ei ben dan boenau.
</poem>
}}
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{larger|EIRIOLAETH CRIST}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
Ein hyder rho'wn yn Had y Wraig,
Anwylaf Grist ein nefol graig,
Yr hwn dros weinion Sion sy
Dynerol frawd, yn eiriol fry,
Hoff red yr hedd yn ffrydiau rhad,
I ni o'i loes mewn anial wlad.
Hwn sydd yn awr ar orsedd nef,
O draw a glyw ein dirgel lef;
Mae'n dadleu gwerth ei aberth rhad
Gwir Brynwr dyn gerbron ei Dad,
Pob cysur pur i laesu'r poen
A gaed o rinwedd gwaed yr Oen.
Cyfrana'n hael, cu Frenin hedd,
I afradloniaid, hyfryd wledd,
</poem><section end="bbb"/><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
cvbzoija99d1j05xj9ifao5ji34196x