Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.20 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/66 104 2979 171019 142956 2026-09-16T19:00:50Z Tylopous 3717 Joseph 171019 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|47:30|30}} Eithr mi a orweddaf gyd â’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ol dy air. {{angor|47:31|31}} Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymmodd ar ben y gwely. {{angor|Pennod_48}}{{canoli|{{uc|Pennod XLVIII.}}}} {{bach|1 ''Joseph a’i ddau fab yn ymweled â’i dad yn ei glefyd.'' 2 ''Jacob yn ymgryfhâu i’w bendithio hwy.'' 3 ''Yn adrodd yr addewid.'' 5 ''Yn cymmeryd Ephraim a Manasseh yn eiddo ei hun.'' 7 ''Yn crybwyll wrtho am fedd ei fam.'' 9 ''Yn bendithio Ephraim a Manasseh.'' 17 ''Yn gosod yr ieuangaf o flaen yr hynaf.'' 21 ''Yn prophwydo am eu dychweliad hwy i Canaan.''}} {{angor|48:1}} A {{uc|bu,}} wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseph, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymmerth ei ddau fab gyd âg ef, Manasseh ac Ephraim. {{angor|48:2|2}} A mynegodd ''un'' i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseph yn dyfod attat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely. {{angor|48:3|3}} A dywedodd Jacob wrth Joseph, {{sc|Duw}} Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Luz, y’ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd: {{angor|48:4|4}} Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlawn, ac a’th amlhâf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragywyddol. {{angor|48:5|5}} ¶ Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aipht, cyn fy nyfod attat i’r Aipht, eiddof fi ''fyddant'' hwy: Ephraim a Manasseh fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon. {{angor|48:6|6}} A’th eppil, y rhai a genhedlych ar eu hol hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth. {{angor|48:7|7}} ¶ A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyd â mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd etto filltir o dir hyd Ephrath: a chleddais hi yno ar ffordd Ephrath: honno ''yw'' Bethlehem. {{angor|48:8|8}} A gwelodd Israel feibion Joseph, ac a ddywedodd, Pwy ''yw'' y rhai hyn? {{angor|48:9|9}} A Joseph a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd {{sc|Duw}} i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, attolwg, attaf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt. {{angor|48:10|10}} Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, ''fel'' na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt atto ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd. {{angor|48:11|11}} Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Ni feddyliais weled dy wyneb; etto, wele parodd {{sc|Duw}} i mi weled dy had hefyd. {{angor|48:12|12}} A Joseph a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb. {{angor|48:13|13}} Cymmerodd Joseph hefyd hwynt ill dau, Ephraim yn ei law ddehau tu a llaw aswy Israel, a Manasseh yn ei law aswy tu a llaw ddehau Israel; ac a’u nesaodd hwynt atto ef. {{angor|48:14|14}} Ac Israel a estynodd ei law ddehau, ac a’i gosododd ar ben Ephraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasseh: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasseh ''oedd'' y cynfab. {{angor|48:15|15}} ¶ Ac efe a fendithiodd Joseph, ac a ddywedodd, {{sc|Duw}}, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, {{sc|Duw}}, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn, {{angor|48:16|16}} Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y’nghanol y wlad. {{angor|48:17|17}} Pan welodd Joseph osod o’i dad ei law ddehau ar ben Ephraim, bu anfoddlawn ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symmud hi oddi ar ben Ephraim, ar ben Manasseh. {{angor|48:18|18}} Dywedodd Joseph hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddehau ar ei ben ef. {{angor|48:19|19}} A’i dad a ommeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn llïaws o genhedloedd. {{angor|48:20|20}} Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed {{sc|Duw}} di fel Ephraim, ac fel Manasseh. Ac efe a osododd Ephraim o flaen Manasseh. {{angor|48:21|21}} Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Wele fi yn marw, a bydd Duw gyd â chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau. {{angor|48:22|22}} A mi a roddais i ti un rhan<noinclude><references/></noinclude> l7vd1v2cvsrscqochspjhc2jwk08ukz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/117 104 3367 171015 63984 2026-09-16T16:16:45Z Tylopous 3717 ef, ger llaw 171015 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|5:8|8}} A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymmed efe yr hwn ''sydd'' dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith. {{angor|5:9|9}} A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod. {{angor|5:10|10}} A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo. {{angor|5:11|11}} ¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod ''yw''. {{angor|5:12|12}} A dyged hynny at yr offeiriad: a chymmered yr offeiriad o hono lonaid ei law yn goffad&shy;wriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}. Dyma aberth dros bechod. {{angor|5:13|13}} A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis ''o’r'' bwyd-offrwm. {{angor|5:14|14}} ¶ A llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|5:15|15}} Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amry&shy;fusedd, yn y pethau a gysseg&shy;rwyd i’r {{sc|Arglwydd}}; yna dyged i’r {{sc|Arglwydd}} dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd. {{angor|5:16|16}} A thaled am y niwed a wnaeth ''yn'' y peth cysseg&shy;redig, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo. {{angor|5:17|17}} ¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur ''yn erbyn'' gorchy&shy;mynion yr {{sc|Arglwydd}}, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg. {{angor|5:18|18}} A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amry&shy;fusedd a gam&shy;gymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo. {{angor|5:19|19}} Aberth dros gamwedd ''yw'' hyn: camwedd a wnaeth yn ddïau yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI.}}}} {{bach|1 ''Yr offrwm dros gamwedd mewn pechodau a wneler trwy wybod.'' 8 ''Cyfraith y poeth-offrwm,'' 14 ''a’r bwyd-offrwm.'' 19 ''Yr offrwm wrth gyssegru offeiriad.'' 24 ''Cyfraith y pech-offrwm.''}} {{angor|6:1}} A {{uc|llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|6:2|2}} Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, a dywedyd celwydd wrth ei gymmydog am yr hyn a rodded atto i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawsder a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymmydog; {{angor|6:3|3}} Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd am dano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt: {{angor|6:4|4}} Yna, am iddo bechu, a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gyd âg ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe, {{angor|6:5|5}} Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon am dano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto: ar y dydd yr offrymmo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i pïau. {{angor|6:6|6}} A dyged i’r {{sc|Arglwydd}} ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad. {{angor|6:7|7}} A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog o hono. {{angor|6:8|8}} ¶ Llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|6:9|9}} Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poeth-offrwm: (poeth-offrwm ''yw'', o herwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gynneuir arni.) {{angor|6:10|10}} Gwisged yr offeiriad hefyd ei lïein-wisg am dano, a gwisged lodrau llïan am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poeth-aberth ar yr allor, a gosoded ef ger llaw yr allor. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> sqk7fzn98tfgcw6i59hwa3reyf2sv8k Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/152 104 3402 171014 170918 2026-09-16T16:04:39Z Tylopous 3717 melldith 171014 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd ''yw'' efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith. {{angor|5:19|19}} A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid ''gyd âg arall'' yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith. {{angor|5:20|20}} Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun: {{angor|5:21|21}} (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melldith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr {{sc|Arglwydd}} dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr {{sc|Arglwydd}} dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig; {{angor|5:22|22}} Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen. {{angor|5:23|23}} Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched ''hwynt'' ymaith â’r dwfr chwerw. {{angor|5:24|24}} A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw. {{angor|5:25|25}} A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ac offrymmed ef ar yr allor. {{angor|5:26|26}} A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi ''hynny'' pared i’r wraig yfed y dwfr. {{angor|5:27|27}} Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl. {{angor|5:28|28}} Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta. {{angor|5:29|29}} Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig ''at arall'' yn lle ei gwr, ac ymhalogi: {{angor|5:30|30}} Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr {{sc|Arglwydd}}, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon. {{angor|5:31|31}} A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Cyfraith y Nazaread.'' 24 ''Y dull y bendithir y bobl.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|6:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r {{sc|Arglwydd}}: {{angor|6:3|3}} Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion. {{angor|6:4|4}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen. {{angor|6:5|5}} Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r {{sc|Arglwydd}}, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu. {{angor|6:6|6}} Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r {{sc|Arglwydd}}, na ddeued at gorff marw. {{angor|6:7|7}} Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am ''fod'' Nazareaeth ei {{sc|Dduw}} ar ei ben ef. {{angor|6:8|8}} Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd ''fydd'' efe i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|6:9|9}} Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef. {{angor|6:10|10}} Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colommen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|6:11|11}} Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw. {{angor|6:12|12}} A neilldued i’r {{sc|Arglwydd}} ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef. {{angor|6:13|13}} ¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|6:14|14}} A dyged yn offrwm drosto i’r {{sc|Arglwydd}}, un hespwrn blwydd,<noinclude><references/></noinclude> ohjg57rq0el4g3oowhf5kq2vwvchhfa Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/206 104 3457 171016 6600 2026-09-16T17:39:38Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171016 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>gan ddywedyd, Awn ar ol duwiau dïeithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; {{angor|13:3|3}} Na wrando ac eiriau y prophwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} sydd yn eich profi chwi, i wybo a ydych yn caru yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. {{angor|13:4|4}} Ar ol yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} y ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandêwch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. {{angor|13:5|5}} A’r prophwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi ''chwi'' oddi wrth yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aipht, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg. {{angor|13:6|6}} ¶ Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn ''sydd'' fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; {{angor|13:7|7}} ''Sef rhai'' o dduwiau y bobl ''sydd'' o’ch amgylch chwi, yn agos attat, ''neu'' ym mhell oddi wrthyt, o ''un'' cwrr i’r tir hyd gwrr ''arall'' y tir: {{angor|13:8|8}} Na chydsynia âg ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ''ef'', ac na chela arno: {{angor|13:9|9}} Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. {{angor|13:10|10}} A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aipht, o dŷ y caethiwed. {{angor|13:11|11}} A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus a hyn yn dy blith. {{angor|13:12|12}} ¶ Pan glywech am un o’th ddinasoedd, y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, {{angor|13:13|13}} Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuoch; {{angor|13:14|14}} Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda; ac wele, ''os'' gwirionedd ''yw'', ''a'' bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn dy fysg; {{angor|13:15|15}} Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll ''a fyddant'' ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. {{angor|13:16|16}} A’i holl yspail hi a gesgli i ganol at heol hi, ac a losgi y ddinas a’i holl yspail hi yn gwbl, i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. {{angor|13:17|17}} Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r dïofryd-beth: fel y dychwelo yr {{sc|Arglwydd}} oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: {{angor|13:18|18}} Pan wrandawech ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, gan gadw ei holl orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn ''eu'' gorchymyn i ti heddyw, gan wneuthur ''yr hyn sydd'' uniawn yng ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Na ddylai plant Duw mo’u hanffurfio eu hunain wrth alaru.'' 3 ''Pa beth a ellir, a pha beth nis gellir ei fwytta,'' 4 ''o anifeiliaid,'' 9 ''o bysgod,'' 11 ''o adar.'' 21 ''Ni ellir bwytta yr hyn a fo farw ei hun.'' 22 ''Degymmau gwasanaeth Duw.'' 23 ''Y degymmau a’r cyntaf-anedig i ymlawenychu ger bron yr Arglwydd.'' 28 ''Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Plant}} ''ydych'' chwi i’r {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}: na thorrwch mo honoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. {{angor|14:2|2}} Canys pobl sanctaidd ''wyt'' ti i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a’r {{sc|Arglwydd}} a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd ''sydd'' ar wyneb y ddaear. {{angor|14:3|3}} ¶ Na fwytta ddim ffiaidd. {{angor|14:4|4}} Dyma yr anifeiliaid a fwyttêwch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, {{angor|14:5|5}} Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwŷllt, a’r unicorn, a’r ŷch gwŷllt, a’r afr wŷllt. {{angor|14:6|6}} A phob anifail yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ''ac'' yn cnoi cil, ym mysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwyttêwch. {{angor|14:7|7}} Ond hyn ni fwyttêwch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarn-<noinclude><references/></noinclude> jbpiso53zta1ye2sh2xnng07acggzgr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/207 104 3458 171017 6601 2026-09-16T18:38:14Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171017 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>og, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi yr ewin, aflan ''ydynt'' i chwi, {{angor|14:8|8}} Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi yr ewin, ac heb ''gnoi'' cil, aflan ''yw'' i chwi: na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt. {{angor|14:9|9}} ¶ Hyn a fwyttêwch o’r hyn oll ''sydd'' yn y dyfroedd: yr hyn oll ''sydd'' iddo esgyll a chèn a fwyttêwch. {{angor|14:10|10}} A’r hyn oll nid ''oes'' iddo esgyll a chèn, ni fwyttêwch: aflan ''yw'' i chwi. {{angor|14:11|11}} ¶ Pob aderyn glân a fwyttêwch. {{angor|14:12|12}} A dyma y rhai ni fwyttêwch o honynt: yr eryr, a’r wŷdd-walch, a’r fôr-wennol, {{angor|14:13|13}} A’r bod, a’r barcut, a’r fwltur yn ei rhyw, {{angor|14:14|14}} A phob cigfran yn ei rhyw, {{angor|14:15|15}} A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, {{angor|14:16|16}} Aderyn y cyrph, a’r dylluan, a’r gogfran, {{angor|14:17|17}} A’r pelican, a’r bïogen, a’r fulfran, {{angor|14:18|18}} A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. {{angor|14:19|19}} A phob ymlusgiad asgellog ''sydd'' aflan i chwi: na fwyttâer hwynt. {{angor|14:20|20}} Pob ehediad glân a fwyttêwch. {{angor|14:21|21}} ¶ Na fwyttêwch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dïeithr ''fyddo'' yn dy byrth, a bwyttâed ef; neu gwerth ''ef'' i’r dïeithr: canys pobl sanctaidd ''ydwyt'' i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam. {{angor|14:22|22}} Gan ddegymmu degymma holl gynnyrch dy had, ''sef'' ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. {{angor|14:23|23}} A bwytta ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf-anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} bob amser. {{angor|14:24|24}} A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, ''neu'' os y lle fydd ym mhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: {{angor|14:25|25}} Yna dod ''ei werth'' yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: {{angor|14:26|26}} A dod yr arian am yr hyn oll a chwennycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddïod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwytta yno ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a llawenycha di, a’th deulu. {{angor|14:27|27}} A’r Lefiad yr hwn ''fyddo'' yn dy byrth, na wrthod ef: am nad ''oes'' iddo ''na'' rhan nac etifeddiaeth gyd â thi. {{angor|14:28|28}} ¶ Ym mhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ''ef'' i gadw o fewn dy byrth. {{angor|14:29|29}} A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â thi,) a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai ''fydd'' yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwyttânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ym mhob gwaith a wnelych â’th law. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Y seithfed flwyddyn yn flwyddyn gollyngdod i’r tlodion:'' 7 ''etto nas dylai rwystro benthyccio neu roddi.'' 12 ''Gwas o Hebread,'' 16 ''oddi eithr iddo fod yn anfoddlawn i ymadael, sydd raid ei ollwng ymaith yn rhydd y seithfed flwyddyn; ond nid yn waglaw.'' 19 ''Rhaid yw cyssegru pob gwrryw cyntaf-anedig o’r anifeiliaid i’r Arglwydd.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ym}} mhen ''pob'' saith mlynedd gwna ollyngdod. {{angor|15:2|2}} A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynwr i’w gymmydog yn rhydd ei echwyn a echwynodd efe: na fynned ''hynny'' drachefn gan ei gymmydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:3|3}} Ti a elli fynnu drachefn gan y dïeithr; ond gollynged dy law yn rhydd ''yr hyn'' sydd i ti gyd â’th frawd: {{angor|15:4|4}} Megis na byddo o honot ti gardottyn: canys yr {{sc|Arglwydd}} gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu; {{angor|15:5|5}} Yn unig os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, gan gadw ''a'' gwneuthur yr holl orchymynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw. {{angor|15:6|6}} Canys yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthycciech i genhedloedd lawer, ac na fenthycciech di ''ganddynt;'' ti hefyd a arglwydd-<noinclude><references/></noinclude> afzaej47e4k4c6kxum6t1ywcpta02jd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/208 104 3459 171018 6603 2026-09-16T18:57:10Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171018 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>iaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti. {{angor|15:7|7}} ¶ Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddi wrth dy frawd tlawd: {{angor|15:8|8}} Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthyccio benthyccia ddigon i’w angen ef, ''yr hyn'' fyddo arno ei eisieu. {{angor|15:9|9}} Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw y seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain o hono ef ar yr {{sc|Arglwydd}} rhagot, a’i fod yn bechod i ti. {{angor|15:10|10}} Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno. {{angor|15:11|11}} Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir. {{angor|15:12|12}} ¶ Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrëes, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt. {{angor|15:13|13}} A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag: {{angor|15:14|14}} Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwrŷf: ''o’r hyn'' y’th fendithiodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, dod iddo. {{angor|15:15|15}} A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aipht, a’th waredu o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddyw. {{angor|15:16|16}} Ond os dywed wrthyt, Nid âf allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; o herwydd bod yn dda arno ef gyd â thi: {{angor|15:17|17}} Yna cymmer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddor; a bydded ''yn'' was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn. {{angor|15:18|18}} Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych. {{angor|15:19|19}} ¶ Pob cyntaf-anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wrryw, a gyssegri di i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: na weithia â chyntaf-anedig dy ychain, ac na chneifia gyntaf-anedig dy ddefaid. {{angor|15:20|20}} Ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} y bwyttêi ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}}, ti a’th deulu. {{angor|15:21|21}} Ond os bydd anaf arno, ''os'' cloff neu ddall fydd, ''neu arno'' ryw ddrwg anaf ''arall;'' nac abertha ef i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|15:22|22}} O fewn dy byrth y bwyttêi ef: yr aflan a’r glân ynghyd ''a’i bwytty'', megis yr iwrch, ac megis y carw. {{angor|15:23|23}} Etto na fwytta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Gwyl y Pasc,'' 9 ''yr wythnosau,'' 13 ''y pebyll.'' 16 ''Rhaid i bob gwrryw offrwm, yn ol ei allu, ar y tair gwyl hyn.'' 18 ''Am farnwyr a barn gyfiawn.'' 21 ''Gwahardd llwynau a delwau.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Cadw}} y mis Abib, a chadw Basc i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: canys o fewn y mis Abib y dug yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} di allan o’r Aipht, o hyd nos. {{angor|16:2|2}} Abertha dithau yn Basc i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i drigo o’i enw ef yno. {{angor|16:3|3}} Na fwytta fara lefeinllyd gyd âg ef: saith niwrnod y bwyttêi gyd âg ef fara croyw, ''sef'' bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aipht:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aipht holl ddyddiau dy einioes. {{angor|16:4|4}} Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhôed dros nos hyd y bore ''ddim'' o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf. {{angor|16:5|5}} Ni elli aberthu y Pasc o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti: {{angor|16:6|6}} Ond yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasc yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aipht. {{angor|16:7|7}} Yna y rhosti, ac y bwyttêi ef, yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: a’r bore y dychweli, ac yr âi i’th babellau. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> j4my7jy8bw6no8di2y03rw1qggm0dfx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/209 104 3460 171020 6604 2026-09-17T05:27:02Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171020 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|16:8|8}} Chwe diwrnod y bwyttêi fara croyw: ac ar y seithfed dydd ''y mae'' uchel-wyl i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}; ni chei wneuthur gwaith ''ynddo''. {{angor|16:9|9}} ¶ Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo y crymman ar yr ŷd, y dechreui rifo y saith wythnos. {{angor|16:10|10}} A chadw wyl yr wythnosau i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, âg offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|16:11|11}} A llawenycha ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad ''a fyddo'' o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, ''sydd'' yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i drigo o’i enw ef ynddo. {{angor|16:12|12}} Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aipht: a chadw a gwna y deddfau hyn. {{angor|16:13|13}} ¶ Cadw i ti wyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win. {{angor|16:14|14}} A llawenycha yn dy wyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai ''fyddant'' o fewn dy byrth. {{angor|16:15|15}} Saith niwrnod y cedwi wyl i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yn y lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}}: canys yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylaw; am hynny bydd dithau lawen. {{angor|16:16|16}} ¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwrryw ''o'' honot o flaen yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yn y lle a ddewiso efe; ar wyl y bara croyw, ac ar wyl yr wythnosau, ac ar wyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr {{sc|Arglwydd}} yn waglaw. {{angor|16:17|17}} Pob un yn ol rhodd ei law, yn ol bendith yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yr hon a roddes efe i ti. {{angor|16:18|18}} ¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl ''â'' barn gyfiawn. {{angor|16:19|19}} Na ŵyra farn, ''ac'' na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn. {{angor|16:20|20}} Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti. {{angor|16:21|21}} ¶ Na phlanna i ti lwyn ''o'' neb rhyw goed ger llaw allor yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yr hon a wnei i ti. {{angor|16:22|22}} Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Rhaid yw bod y pethau a offrymmir yn ddïanaf.'' 2 ''Rhaid yw lladd delw-addolwyr.'' 8 ''Ymrafaelion caled a fernir gan yr offeiriaid a’r barnwyr.'' 12 ''Yr hwn a ddïystyro y cyfryw farn, a roddir i farwolaeth.'' 14 ''Dewisiad,'' 16 ''a dyledswydd brenhin.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Nac}} abertha i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ŷch neu ddafad y byddo arno anaf, ''neu'' ddim gwrthuni: canys casbeth yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''yw'' hynny. {{angor|17:2|2}} ¶ Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti, wr neu wraig a wnaeth ddrygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, gan droseddu ei gyfammod ef, {{angor|17:3|3}} Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dïeithr, ac a ymgrymmodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchymynais; {{angor|17:4|4}} Pan ddangoser i ti, a chlywed o honot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd ''yw'', a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn Israel; {{angor|17:5|5}} Yna dwg allan y gwr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, ''sef'' y gwr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw. {{angor|17:6|6}} Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst. {{angor|17:7|7}} Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith. {{angor|17:8|8}} ¶ Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, ''mewn'' pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: {{angor|17:9|9}} A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 530dywxs1s8jxteurrfm5g0wy1yhzk2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/210 104 3461 171021 6605 2026-09-17T05:44:46Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171021 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|17:10|10}} A gwna yn ol rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}}; ac edrych am wneuthur yn ol yr hyn oll a ddysgant i ti. {{angor|17:11|11}} Yn ol rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ol y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu dehau nac i’r tu aswy. {{angor|17:12|12}} A’r gwr a wnel mewn rhyfyg, heb wrandaw ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gwr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel. {{angor|17:13|13}} A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant, ac ni ryfygant mwy. {{angor|17:14|14}} ¶ Pan ddelych i’r tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenhin, megis yr holl genhedloedd ''sydd'' o’m hamgylch: {{angor|17:15|15}} Gan osod arnat yn frenhin yr hwn a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenhin; ni elli roddi arnat wr dïeithr yr hwn nid ''yw'' frawd i ti. {{angor|17:16|16}} Ond nac amlhâed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aipht i amlhâu meirch; gan i’r {{sc|Arglwydd}} ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy. {{angor|17:17|17}} Ac nac amlhâed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhâed arian ac aur lawer iddo. {{angor|17:18|18}} A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r ''hwn sydd'' ger bron yr offeiriaid y Lefiaid. {{angor|17:19|19}} A bydded gyd âg ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr {{sc|Arglwydd}} ei {{sc|Dduw}}, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt: {{angor|17:20|20}} Fel na ddyrchafo ei galon uwch law ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu dehau nac i’r tu aswy: fel yr estyno ddyddiau yn ei frenhiniaeth, efe a’i feibion yng nghanol Israel. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Yr Arglwydd yw etifeddiaeth yr offeiriaid a’r Lefiaid.'' 3 ''Defod yr offeiriaid.'' 8 ''Rhan y Lefiaid.'' 9 ''Rhaid yw gochelyd ffieidd-dra y cenhedloedd.'' 15 ''Rhaid yw gwrandaw ar Grist y Prophwyd.'' 20 ''Rhoddi y prophwyd rhyfygus i farwolaeth.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ni}} bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd âg Israel: ebyrth tanllyd yr {{sc|Arglwydd}}, a’i etifeddiaeth ef, a fwyttânt hwy. {{angor|18:2|2}} Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ym mhlith eu brodyr: yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt. {{angor|18:3|3}} ¶ A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, ''pa un bynnag'' ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog, a’r ddwy ên, a’r botten. {{angor|18:4|4}} Blaen-ffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaen-ffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. {{angor|18:5|5}} Canys dewisodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr {{sc|Arglwydd}}, efe a’i feibion yn dragywydd. {{angor|18:6|6}} ¶ A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}}; {{angor|18:7|7}} Yna gwasanaethed efe yn enw yr {{sc|Arglwydd}} ei {{sc|Dduw}}, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|18:8|8}} Rhan am ran a fwyttânt, heb law gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ''ei'' dadau. {{angor|18:9|9}} ¶ Pan elych di i’r tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ol ffieidd-dra y cenhedloedd hynny. {{angor|18:10|10}} Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; ''neu'' a arfero ddewiniaeth, ''na'' phlanedydd, na daroganwr, na hudol, {{angor|18:11|11}} Na swynwr swynion, nac a geisio ''wybodaeth gan'' gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofyno â’r meirw: {{angor|18:12|12}} O herwydd ffieidd-dra ''gan'' yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. {{angor|18:13|13}} Bydd berffaith gyd â’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|18:14|14}} Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond am danat ti, nid felly y caniattaodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti. {{angor|18:15|15}} ¶ Yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th<noinclude><references/></noinclude> 8dbcdsbz2cp4phlu6tpkmxyu15c4snt